Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai 21 Mehefin 2022 yw Diwrnod Ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor.
2. Yn croesawu penodi arweinydd ymchwil ar gyfer cyflyrau niwrolegol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i wella gwasanaethau cymorth i'r rhai sydd â Chlefyd Niwronau Motor, gan gynnwys:
a) cyflwyno proses addasiadau tai llwybr carlam nad yw'n seiliedig ar brawf modd ar gyfer y rhai sydd â Chlefyd Niwronau Motor;
b) rhoi hwb i gyllid ymchwil i ddatblygu triniaethau newydd;
c) gwella hygyrchedd gwasanaethau gofal i ddarparu cymorth cofleidiol i'r rhai sydd â Chlefyd Niwronau Motor a'u teuluoedd;
d) buddsoddi mewn niwrolegydd ymgynghorol arweiniol penodol ar gyfer Clefyd Niwronau Motor gyda chylch gwaith gofal ac ymchwil.