OPIN-2022-0289 Wythnos Ymwybyddiaeth Myeloma (20-26 Mehefin) (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Myeloma (20-26 Mehefin).
2. Yn cydnabod bod myeloma yn ganser gwaed llai cyffredin y gellir ei osgoi.
3. Yn mynegi pryder bod 1 o bob 4 claf myeloma yn aros dros 10 mis am y diagnosis cywir, a bod tystiolaeth gan Myeloma UK yn dangos bod 49 y cant o gleifion a wynebodd oedi cyn cael diagnosis wedi profi effaith fawr ar ansawdd eu bywydau.
4. Yn annog pobl sy'n profi symptomau mwyaf cyffredin myeloma - sef blinder, poen cefn, heintiau cylchol, neu dorri esgyrn - i fynd i weld eu meddyg teulu.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i weithio gydag elusennau fel Myeloma UK i helpu i godi ymwybyddiaeth o myeloma.