OPIN-2021-0200 Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2021 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi bod Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, dan arweiniad Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, yn dathlu gofalwyr ifanc ledled y DU.

2. Yn dathlu'r cyfraniadau a wnaed gan fwy na 30,000 o ofalwyr ifanc di-dâl ledled Cymru mewn amgylchiadau anodd yn ystod y pandemig.

3. Yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd y sgiliau y mae gofalwyr ifanc yn eu datblygu fel gwydnwch, y gallu i reoli amser ac empathi.

4. Yn cefnogi'r angen i sicrhau bod pob gofalwr ifanc yn gallu cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir i'w alluogi i gyflawni ei botensial.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol trawsbynciol i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.

Cyflwynwyd gan