OPIN-2021-0199 Rygbi Cymru - Llwyddiant yn y Chwe Gwlad (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2021

Mae'r Senedd hon:

a) yn llongyfarch uwch dîm dynion Cymru ar sicrhau Coron Driphlyg yn Chwe Gwlad 2021;

b) yn dymuno pob lwc i'r tîm yn eu gêm derfynol yn erbyn Ffrainc wrth iddynt geisio sicrhau'r bencampwriaeth a'r Gamp Lawn;

c) yn galw ar Lywodraeth Cymru a Comisiwn y Senedd i ymchwilio i sut y gallent nodi cyflawniad y tîm mewn rhyw ffordd pan fydd cyfyngiadau coronafeirws yn caniatáu;

d) yn dymuno pob lwc i uwch dîm menywod Cymru wrth iddynt gystadlu ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod 2021 fis nesaf.