OPIN-2021-0196 Cytuniad ar wahardd arfau niwclear
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2021
Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r ffaith bod dros 50 o wledydd wedi cadarnhau'r Cytuniad ar Wahardd Arfau Niwclear, sy'n gwahardd datblygu, pentyrru a defnyddio arfau niwclear, ac a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r un o'r gwladwriaethau arfau niwclear, gan gynnwys y DU, wedi cadarnhau'r cytundeb.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau'r cytundeb rhyngwladol ar wahardd arfau niwclear a dechrau'r broses o ddatgomisiynu ei harfau ei hun.
4. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan bobl Cymru ynghylch arfau niwclear.