OPIN-2021-0195 Diwrnod Cenedlaethol Dim Smygu - 10 Mawrth 2021
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2021
Mae'r Senedd hon:
a) yn croesawu diwrnod cenedlaethol dim smygu ar 10 Mawrth 2021;
b) yn cefnogi'r galwadau i estyn allan at ffrindiau a theulu sy'n dioddef o gaethiwed nicotin i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu am byth;
c) yn nodi pryderon nad oes targedau newydd wedi'u pennu i leihau nifer yr ysmygwyr yng Nghymru;
d) yn cefnogi galwad Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru am strategaeth ysmygu a thybaco newydd, gyda tharged i Gymru fod yn genedl ddi-fwg erbyn 2030 (gyda 5 y cant neu lai o'r boblogaeth yn ysmygu);
e) yn galw am fwy o gefnogaeth i wasanaethau 'Helpa fi i stopio' a ddarperir gan GIG Cymru.