OPIN-2021-0194 Cystadleuwyr ar y cae – Unedig yn erbyn hiliaeth (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2021

Mae'r Senedd hon:

a) yn croesawu'r fenter 'Rivals on the Pitch - United Against Racism' gan gefnogwyr clybiau pêl-droed Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd fel rhan o ymgyrch gwrth-hiliaeth newydd.

b) yn canmol cefnogwyr y ddau dîm sy'n dangos eu gwrthwynebiad ar y cyd i hiliaeth drwy anfon fideo ohonyn nhw eu hunain yn plygu glin neu drwy gyflwyno neges gwrth-hiliaeth cyn gornest de Cymru ar 20 Mawrth 2021.

c) yn nodi y bydd chwaraewyr pêl-droed yn plygu glin i gefnogi ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, sy'n cydnabod nad yw bywydau pobl dduon, yn hanesyddol a hyd heddiw, wedi cael eu trin fel rhai sy'n gyfartal â bywydau gwyn.