OPIN-2021-0193 Cyfiawnder i weithwyr Allied Steel and Wire (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/03/2021

Mae'r Senedd hon:

a) yn cydnabod y gwarantau a wnaeth Llywodraeth y DU i weithwyr dur Allied Steel and Wire yng Nghymru fod eu pensiynau'n ddiogel ac wedi'u diogelu'n llawn waeth pa anawsterau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu;

b) yn nodi'r galwadau trawsbleidiol i Brif Weinidog y DU ymyrryd er mwyn rhoi terfyn ar yr anghyfiawnder pensiwn hwn a'i ddifaterwch i'r apeliadau hynny;

c) yn nodi bod yr Ombwdsmon Seneddol wedi canfod bod Llywodraeth y DU yn euog o gamweinyddu;

d) yn credu bod gan lywodraethau'r DU ddyletswydd foesol i dalu'r pensiynau y talodd y gweithwyr tuag atynt yn llawn.