OPIN-2021-0192 20 mlwyddiant Ambiwlans Awyr Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2021

Mae'r Senedd hon:

a) yn llongyfarch Ambiwlans Awyr Cymru ar achlysur ei 20 mlwyddiant ar 1 Mawrth 2021;

b) yn diolch i'w staff, gwirfoddolwyr, meddygon a pheilotiaid - yn y gorffennol a'r presennol, a phobl Cymru, am greu'r gweithrediad ambiwlans awyr fwyaf yn y DU ac un o'r rhai mwyaf datblygedig o safbwynt meddygol yn Ewrop;

c) yn cydnabod bod y gwasanaeth achub bywyd hanfodol hwn bellach yn gweithredu 24/7 ac mae angen i'r elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn hedfan; a

d) yn annog pobl Cymru i nodi 20 mlwyddiant yr elusen drwy gefnogi ei digwyddiad codi arian My20.