OPIN-2021-0191 Tensiynau yn Nagorno-Karabakh (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan bobl yng Nghymru ynglŷn â'r tensiynau parhaus a'r trais ysbeidiol rhwng Azerbaijan ac Armenia.

2. Yn mynegi pryder ynghylch Adroddiad Amnest Rhyngwladol, ‘In the Line of Fire: Civilian casualties from unlawful strikes in the Armenian-Azerbaijani conflict over Nagorno-Karabakh’.

3. Yn mynegi cydymdeimlad â theuluoedd y 146 o sifiliaid a laddwyd yn anghyfreithlon gan luoedd o Armenia ac Azerbaijan yn y gwrthdaro 44 diwrnod yn 2020.

4. Yn adleisio galwadau Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i bawb dan sylw barhau i weithredu eu rhwymedigaethau.

5. Yn annog y ddwy ochr i barchu'r cadoediad a gweithio gyda Grŵp OSCE Minsk i sicrhau bargen heddwch barhaol.