OPIN-2021-0190 COVID-19 cases and working practices at DVLA Swansea (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2021

Mae'r Senedd hon:

1. Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 500 o achosion o COVID-19 wedi'u nodi yn swyddfeydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe ers dechrau'r pandemig.
2. Yn nodi pryderon gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur o ran mesurau diogelu COVID-19 ac arferion gwaith gwael yn y DVLA.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Abertawe a Llywodraeth y DU i sicrhau bod swyddfeydd y DVLA yn Abertawe yn cydymffurfio â deddfwriaeth a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch gweithwyr yn ystod y brigiad o achosion o COVID-19.