OPIN-2021-0189 Wythnos Atal Canser Ceg y Groth (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/01/2021

Mae'r Senedd hon:

a) yn nodi mai'r wythnos sy'n dechrau ar 18 Ionawr 2021 yw wythnos atal canser ceg y groth, sy'n gyfle gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd a mesurau ataliol gan gynnwys sgrinio serfigol;

b) yn cydnabod bod cael profion sgrinio serfigol yn bwysig ond nad yw bob amser yn hawdd, a bod ansicrwydd a phryder ynghylch COVID-19 wedi gwaethygu hyn;

c) yn pwysleisio'r angen i gyflymu cynlluniau peilot ac ymchwil ynghylch hunan-samplu er mwyn gwella mynediad;

d) yn tynnu sylw at y ffaith bod Jo's Cervical Cancer Trust yn darparu gwybodaeth a chymorth parhaus;

e) yn annog Aelodau i rannu'r adnoddau hyn ledled Cymru gydag etholwyr pryderus yn ystod yr wythnos hon ac yn y dyfodol.