OPIN-2020-0187 Cefnogi siopau cyfleustra (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020

Mae'r Senedd hon:
a) Yn cydnabod rôl hanfodol siopau cyfleustra o ran darparu bwyd a gwasanaethau hanfodol i gymunedau drwy gydol yr achosion o goronafeirws.

b) Yn croesawu canfyddiadau The Local Shop Report 2021 sy'n dangos bod siopau cyfleustra yn darparu 26,000 o swyddi diogel, lleol a hyblyg ac wedi buddsoddi £30 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf.

c) Yn ymrwymo i gefnogi siopau cyfleustra i barhau i fuddsoddi ac addasu i ddiwallu anghenion y gymuned leol.