OPIN-2020-0186 Gwneud i Amazon dalu
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2020
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith yr adroddir bod Amazon wedi talu dim ond £6.3 miliwn mewn treth gorfforaeth yn y DU y llynedd er gwaethaf y ffaith yr adroddir ei fod wedi gwerthu gwerth mwy na £13 biliwn.
2. Yn cydnabod bod tranc y stryd fawr wedi cyd-daro â'r cynnydd mewn manwerthwyr ar-lein enfawr fel Amazon.
3. Yn annog Trysorlys y DU i fod yn rhagweithiol o ran sicrhau bod cwmnïau fel Amazon yn talu cyfran deg o dreth i hybu arian cyhoeddus a chreu maes chwarae mwy gwastad gyda manwerthwyr y stryd fawr.
4. Yn annog Amazon i gyfarfod ag undebau sy'n cynrychioli gweithwyr yng Nghymru i wella ei amodau gwaith gwael.