OPIN-2020-0185 Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2020
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd 2020.
2. Yn nodi bod gwisgo rhuban gwyn yn symbol o addewid i beidio byth ag ymgymryd â thrais yn erbyn menywod, ei esgusodi na chadw'n ddistaw am drais gan ddynion yn erbyn menywod.