OPIN-2020-0162 Mae'r Senedd hon yn gryf o blaid gorsafoedd radio lleol yng Nghymru.
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2020
Mae'r Senedd hon
a) yn cefnogi gorsafoedd radio lleol yng Nghymru yn frwd.
b) yn credu:
(i) bod gorsafoedd radio lleol yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau lleol, gan hyrwyddo elusennau lleol, gweithgareddau chwaraeon ac ymatebion lleol i ddigwyddiadau cenedlaethol;
(ii) y dylai mwyafrif eu rhaglenni gael eu cynhyrchu'n lleol ar gyfer gorsafoedd radio lleol;
(iii) bod pryderon difrifol am y cynigion ar gyfer Sain Abertawe ac yn galw ar y perchenogion i ailystyried eu cynigion presennol er mwyn newid ffocws lleol yr orsaf a'i ddisodli â chynnwys syndicetiedig â gorsafoedd eraill yn Lloegr, gan leihau cynnwys lleol a ffocws yr orsaf hon yn sylweddol.