OPIN-2020-0160 Effaith y cyfyngiadau symud ar bobl ddall a rhannol ddall (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2020

Mae'r Senedd hon:

Yn nodi bod arolwg a gynhaliwyd gan RNIB wedi canfod bod 74 y cant o'r ymatebwyr yn nodi pryderon ynghylch cael gafael ar fwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ac adroddodd 21 y cant eu bod wedi gorfod dogni bwyd.

Yn nodi bod 66 y cant o'r ymatebwyr yn teimlo'n llai annibynnol nawr o gymharu â chyn y cyfyngiadau symud.

Yn deall bod y canfyddiadau hyn yn dangos bod pobl ddall a rhannol ddall Cymru wedi cael eu taro'n arbennig o galed gan fesurau coronafeirws ac yn gobeithio y gellir canfod atebion i gefnogi'r grŵp hwn fel mae mesurau cyfyngiadau symud yn cael eu llacio.

Yn galw ar Aelodau i weithio gydag etholwyr sydd wedi colli eu golwg er mwyn chwyalu rhwystrau.