OPIN-2020-0158 Diwrnod Iechyd Meddwl Mamau'r Byd (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/05/2020

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn croesawu diwrnod iechyd meddwl mamau'r byd ar 6 Mai 2020

2. Yn cydnabod bod un o bob pump o famau ac un o bob deg o dadau yn profi problemau iechyd meddwl amenedigol, ond sy'n debygol o ddwysáu yn ystod coronafeirws

3. Yn nodi bod cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn hanfodol er mwyn osgoi canlyniadau hirdymor, uniongyrchol i deuluoedd

4. Yn cefnogi ymgyrch yr NSPCC 'Fight for a Fair Start' a 'Plea to Plan', sef ymgyrch y Maternal Mental Halth Alliance' i alluogi rhiani i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl amenedigol amserol

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ffocws parhaus ar iechyd meddwl amenedigol, nawr ac wedi'r cyfyngiadau, er mwyn sicrhau y gall teuluoedd gael gafael ar gymorth arbenigol

Cyflwynwyd gan