OPIN-2020-0156 Diagnosis a Thriniaeth Effeithol o Anemia Dinistriol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 11/03/2020
Mae'r Cynulliad hwn:
a) yn cydnabod bod problemau'n gysylltiedig â'r prawf presennol a gaiff ei ddefnyddio i fesur faint o B12 sydd yng ngwaed claf;
b) yn cydnabod bod y prawf a ddefnyddir i sefydlu cyswllt achosol clir rhwng diffyg B12 ac anemia dinistriol yn wallus;
c) yn cydnabod y brys i fuddsoddi mewn ymchwil i wneud diagnosis a thrin anemia dinistriol;
d) yn cydnabod nad yw meddygon yn edrych yn gyson ac yn benodol am ddiffyg B12;
e) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu safon ddibynadwy ac effeithiol o wneud diagnosis o anemia dinistriol fel y gall cleifion gael diagnosis priodol, ac yna gael eu trin, ar gyfer y clefyd.