OPIN-2020-0155 Byddar yn Gweithio ym Mhobman
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2020
Mae'r Cynulliad hwn:
a) yn croesawu cyhoeddi adroddiad y DU gyfan gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar - 'Deaf Works Everywhere'
b) yn cydnabod na ddylai byddardod beri rhwystrau i bobl ifanc rhag cyflawni eu dyheadau o ran cyflogaeth;
c) yn annog partneriaid allweddol ledled Cymru i chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau bod pobl ifanc byddar yn teimlo'n gadarnhaol ynghylch symud o addysg i waith;
d) yn annog gweithleoedd i ddod yn fwy hygyrch i bobl ifanc fyddar;
e) yn cefnogi'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar o ran nod ei hymgyrch newydd Deaf Works Everywhere, sy'n ceisio cael mwy o bobl ifanc byddar i mewn i waith a swyddi sy'n eu hysbrydoli.