OPIN-2019-0143 Living Wage Week 2019 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2019

Mae'r Cynulliad hwn:

a) yn nodi'r wythnos Cyflog Byw rhwng dydd Llun 11 Tachwedd a dydd Sadwrn 17 Tachwedd 2019;

b) yn dathlu'r 224 o gyflogwyr achrededig Cyflog Byw yng Nghymru;

c) yn gresynu mai gweithwyr yng Nghymru sydd â'r cyflogau isaf yn y DU o hyd;

d) yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel cyflogwr achrededig Cyflog Byw ac fel corff ariannu, i annog awdurdodau lleol ac eraill sydd ag arian cyhoeddus i ddod yn achrededig o ran Cyflog Byw.