OPIN-2019-0141 Ymgyrch 'Elfennau mewn Perygl ' y Gymdeithas Gemeg Frenhinol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn croesawu ymgyrch y Gymdeithas Gemeg Frenhinol 'Elfennau mewn Perygl i godi ymwybyddiaeth o elfennau prin sydd wedi'u cynnwys mewn dyfeisiau trydanol na chaiff eu defnyddio.
2. Yn deall bod tua 40,000,000 o declynnau segur yng nghartrefi'r DU, bod y dyfeisiau electronig hyn yn cynnwys elfennau gwerthfawr a allai ddod i ben yn y ganrif nesaf, ac nad oes gan y rhan fwyaf o aelwydydd unrhyw gynlluniau i'w hailgylchu.
3. Yn cydnabod diffyg seilwaith i echdynnu'r elfennau hyn a'r angen i fuddsoddi mewn datblygu ymchwil i wella ailgylchu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth ag eraill tuag at nodau cynaliadwyedd ar gyfer elfennau prin.