OPIN-2019-0140 Brwydro dros Ddechrau Teg ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi bod hyd at 1 o bob 5 mam ac 1 o bob 10 tad yn y DU yn profi problemau iechyd meddwl amenedigol, sef un o brif achosion marwolaethau mamol yn y DU.
2. Yn pryderu nad yw pawb yn cael y gefnogaeth iawn yng Nghymru.
3. Yn croesawu ymgyrch NSPCC, sydd â'r nod o sicrhau mynediad cyfartal at gymorth iechyd meddwl amenedigol i rieni, lle bynnag y maent yn byw.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau arbenigol sy'n bodloni safonau cenedlaethol, a bod darpariaeth uned hygyrch i famau a babanod ar gael yng Nghymru.