OPIN-2019-0138 Diwrnod Cymorth Cyntaf y Byd (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2019

Mae'r Cynulliad hwn:
1) Yn croesawu Diwrnod Cymorth Cyntaf y Byd ar 14 Medi
2) Yn nodi astudiaeth a gomisiynwyd gan y Groes Goch Brydeinig yn tynnu sylw at y ffaith bod 89 y cant o blant a gymrodd ran mewn arolwg yng Nghymru yn dweud mai cymorth cyntaf yw un o'r gwersi pwysicaf y gallent eu dysgu yn yr ysgol
3) Yn credu y dylai pob person ifanc gael y wybodaeth i achub bywyd drwy ddysgu addysg cymorth cyntaf unwaith y flwyddyn, bob blwyddyn
4) Yn nodi nad yw addysg cymorth cyntaf yn orfodol ac yn annog Llywodraeth Cymru i gynnwys addysg o'r fath fel gofyniad yng nghwricwlwm 2022.