Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

06/10/2020

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog

OQ55635 Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i ganolfannau addysg awyr agored yn Arfon?

Ar yr amod eu bod wedi eu haddasu i gyd-destun coronafirws, mae teithiau ysgol domestig dibreswyl i ganolfannau addysg awyr agored wedi gallu ailddechrau ers i ysgolion ddychwelyd ar 1 Medi. Gellir archwilio cefnogaeth i’r sector yn fwy cyffredinol trwy gam 3 o’r gronfa gwydnwch economaidd.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 07/10/2020
 
OQ55640 Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cysylltiadau rhynglywodraethol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

We continue to work with the other Governments to ensure our public services deliver for the people of Mid and West Wales, and other areas of our nation, within a successful United Kingdom.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 07/10/2020
 
OQ55646 Wedi’i gyflwyno ar 01/10/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at fannau addoli yng Nghymru?

Places of worship are able to open for communal worship, ceremonies and supervised children’s activities. We have worked closely with the Wales faith communities forum and the reopening places of worship task and finish group to support the safe reopening of places of worship.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 07/10/2020