Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
05/11/2024Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar Gymru?
This one-year UK Budget shows the new UK Government is listening to us – including investing £25m in coal tip safety, more public sector investment and delivering the next stage of the Celtic Freeport.
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Canghellor y DU ar bobl yn Nyffryn Clwyd?
The measures announced by the Chancellor will help us to reinvest in our public services, including in the Vale of Clwyd. The increases in the National Minimum Wage and National Living Wage will provide a much-needed uplift for many low paid workers.
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i insiwleiddio tai?
Mae ein cynllun benthyg newydd – Cartrefi Gwyrdd Cymru – yn cynnig cymorth technegol am ddim a benthyciad di-log i leihau carbon. Mae’n ategu ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a’n cynllun Cartrefi Clyd Nyth. Mae’r rhain yn parhau i gefnogi cartrefi sydd ag incwm is – gan helpu i sicrhau cartrefi iachach a gwyrddach sy’n rhatach i’w rhedeg.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu tai cymdeithasol yng Nghymru?
Mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi mwy nag erioed mewn tai cymdeithasol ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon. Mae dros £1.4bn wedi’i fuddsoddi’n barod. Bydd manylion y gyllideb tai cymdeithasol ar gyfer 2025-26 yn cael eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft yn Rhagfyr.