Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

20/09/2022

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog

OQ58378 Wedi’i gyflwyno ar 08/09/2022

Pa gymorth Llywodraeth Cymru mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau sy'n wynebu costau ynni uwch?

We are reviewing and assessing all opportunities to redirect additional resources to those most in need, and to reduce the burdens on business. The announcement made last week to introduce an energy price guarantee is a step in the right direction, however, it is clear more needs to be done, and we shall continue to press the UK Government to support our businesses.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 21/09/2022
 
OQ58384 Wedi’i gyflwyno ar 08/09/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl yn Nwyrain Casnewydd?

Despite the Prime Minister's latest fuel aid package, people in Newport East, and across Wales, are facing the biggest fall in living standards since records began. We work closely with local authorities and other stakeholders to understand the ongoing impacts of the cost-of-living crisis at a local level.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 21/09/2022
 
OQ58415 Wedi’i gyflwyno ar 08/09/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd ar Ynys Môn?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben ar draws Cymru. I gefnogi’r ymdrech hon, rydym yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, yn ogystal â’r swm uchaf erioed o £310 miliwn mewn tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Mae hyn yn cynnwys dyrannu £8 miliwn o’r grant tai cymdeithasol i gyngor Ynys Môn.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 21/09/2022