Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ôl i Chwilio

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/03/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

[Torri ar draws.] Roedd hwnnw'n larwm amserol, felly mae'n ein galw i drefn yn y Siambr y prynhawn yma.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eitem 1 ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chwestiwn 1 y prynhawn yma—Siân Gwenllian.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol i fenywod yn Arfon? OAQ55228

Rydym wedi ailddatgan ein hymrwymiad i wella mynediad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned ac ar gyfer gofal cleifion mewnol yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl—Cynllun Cyflawni: 2019-22', a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.

Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe ddywedodd ymgynghorydd seiciatryddol a chyfarwyddydd meddygol iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mae'n debyg ein bod angen tua pedwar gwely mewn uned mamau a babanod yng ngogledd Cymru.

Aeth ymlaen i ddweud bod y bwrdd yn barod i beilota model newydd o ofal.

Beth sy'n glir, beth bynnag ydy'r ffigwr ac a oes angen uned ai peidio, ydy bod angen gweithredu ar frys i ddatblygu darpariaeth unigryw ar gyfer mamau a'u babanod yn y gogledd. Mae pethau wedi cychwyn yn y de, o'r diwedd, efo uned dros dro, ond does dim oll i'w weld yn digwydd o ran mamau'r gogledd, sy'n parhau i orfod mynd yn bell o adref neu'n cael triniaeth ar wardiau seiciatryddol heb eu babanod, neu yn dewis peidio â chael y cymorth angenrheidiol o gwbl. A wnewch chi roi cyfarwyddiadau i'r cyrff perthnasol i ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer y gogledd gyda'r nod o greu darpariaeth unigryw, fel nad ydy mamau mewn rhan helaeth o'r wlad yn cael eu gadael ar ôl?

Wel, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac fel mae hi'n dweud, rydym yn gwneud cynnydd yn awr gyda de Cymru, ond yn sicr mae angen inni symud ymlaen gyda'r sefyllfa yng ngogledd Cymru yn awr.

Rydym wedi bod yn cael trafodaethau gyda darparwyr yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer darpariaeth ar y cyd, ond mae'r cynigion hynny bellach wedi'u gohirio, am fod gwasanaeth yn Lloegr yn edrych ar ddatblygu ei ddarpariaeth ei hun. Mae'n mynd i ailafael yn y trafodaethau yn nes ymlaen eleni, ond nid ydym yn siŵr pryd y bydd hynny'n digwydd. Ond rwy'n gwybod bod Betsi Cadwaladr wedi dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn datblygu eu math unigryw eu hunain o wasanaeth. Mae hefyd wedi sôn am wasanaeth i fenywod nad ydynt am fynd i unrhyw welyau o gwbl. Felly, rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth y gallem edrych arno, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod, ar adeg mor dyngedfennol, y dylai menywod deimlo eu bod yn gallu cael triniaeth ac y dylent allu ei gael yn agos at adref. Felly, yn sicr, byddwn yn edrych eto ar y pwyntiau hynny.

Wel, cyfeiriwyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac wrth gwrs, nododd eu hadroddiad 'Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru' yn 2017 nad oes gan ogledd Cymru

y niferoedd o enedigaethau sydd eu hangen i gynnal uned mamau a babanod arbenigol, ac roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n rhagweithiol â darparwyr yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu uned mamau a babanod yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu poblogaethau o boptu’r ffin.

Derbyniodd y Gweinidog eu hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu, fel mater o frys, â GIG Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu'r poblogaethau ar y ddwy ochr i'r ffin, gan ddweud 'Rwyf wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ystyried opsiynau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr argymhelliad hwn.'

Wel, yn ôl fy nghyfrif i, roedd hynny 28-29 mis yn ôl, pan oedd yr argymhelliad yn un brys a dywedodd y Gweinidog ei fod wedi gofyn bryd hynny am i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

Mae unig gyfeiriad gwefan Betsi Cadwaladr at iechyd meddwl amenedigol yn siarad yn unig am gael eu gwasanaeth iechyd meddwl mor agos at eu cartrefi ag sy'n ymarferol i'r fam a'r baban, ond nid yw'n cyfeirio at y ddarpariaeth iechyd meddwl allweddol honno. Y mis diwethaf yn unig—ac rwyf am orffen yn y fan hon—adroddodd BBC Cymru fod mamau yng Nghymru yn dioddef oherwydd diffyg uned cymorth iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol ddwy flynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru addo datblygu un. Pam rydym yn dal i aros i glywed, ac os yw trafodaethau â Lloegr wedi'u gohirio ar hyn o bryd fel rydych yn nodi—ac rwy'n siŵr eich bod yn nodi hynny—pam na all y model sy'n datblygu yn Lloegr barhau i ddatblygu ar sail drawsffiniol, fel yr argymhellwyd, yn hytrach nag ar sail unigol, gan gydnabod ffin a allai negyddu'r argymhellion yn yr adroddiad pwyllgor hwn?

13:35

Diolch i Mark Isherwood am y cwestiynau hynny. Fel y dywedais mewn ymateb i Siân Gwenllian, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi ymgysylltu â darparwyr yn Lloegr i drafod opsiynau ar gyfer creu uned mamau a babanod yng ngogledd-ddwyrain Cymru a allai wasanaethu’r boblogaeth ar y ddwy ochr i’r ffin. Ac rwy'n credu, fel rydych chi wedi cydnabod, fod y trafodaethau hynny bellach wedi dod i ben, oherwydd mae gan y gwasanaethau yn Lloegr fenter darparwyr cydweithredol, sy’n darparu gwasanaethau lleol yn Lloegr, ac maent eisiau gweld sut beth fydd hwnnw cyn iddynt gael unrhyw drafodaethau pellach gyda ni. Felly, dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd, ond yn sicr rydym yn bwriadu i'r trafodaethau hynny ailddechrau eleni, ac yn sicr rydym yn mynd i edrych ar unrhyw beth y mae Betsi Cadwaladr ei hun yn ei gynnig. 

Cynllun Gweithredu Coronafeirws

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am roi'r Cynllun Gweithredu Coronafeirws ar waith i ddiogelu dinasyddion Islwyn? OAQ55225

Diolch. Ar hyn o bryd rydym yn nodi achosion o'r firws, yn ynysu cleifion, ac yn olrhain unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy. Os yw’r clefyd yn sefydlu yn y DU, bydd angen i ni ystyried mesurau pellach i ohirio cyflymder a maint ei ledaeniad. 

Diolch. Weinidog, a gaf fi ddechrau trwy eich canmol yn bersonol am y modd digynnwrf ac awdurdodol rydych chi wedi arwain ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion o coronafeirws? Ddoe yn y Senedd, Weinidog, fe wnaethoch ddatganiad sydd i’w groesawu yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddinasyddion Cymru ar sut y mae cynllun gweithredu coronafeirws yn datblygu. Mae fy etholwyr yn Islwyn wedi croesawu’n fawr eich ymrwymiad i flaenoriaethu camau i awdurdodi cyflenwad o gyfarpar diogelu personol i bob meddygfa ledled Cymru, ac wrth i gyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ddechrau cael eu dosbarthu, a yw eich adran yn gallu cynnig amserlenni ar gyfer pan fydd pob practis meddyg teulu yn Islwyn wedi cael y cyfarpar?

Hefyd Weinidog, a allwch ailadrodd y cyngor y byddai Llywodraeth Cymru yn ei roi i drigolion Islwyn sy'n dangos symptomau tebyg i ffliw ynglŷn â mynd i’r gwaith, eu meddygfa a/neu adran damweiniau ac achosion brys? Oherwydd, yn anochel, bydd pobl sy'n poeni bod y feirws arnynt yn gofyn am sylw meddygol, ond hefyd, fel arfer, y cyflyrau anadlol cronig fel asthma neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, neu'r rheini â feirysau ffliw tymhorol, heintiau ar y frest, niwmonia a chyflyrau anadlol cyffredin eraill. Weinidog, beth yw'r llwybr gorau i’r bobl hyn ei ddilyn er mwyn helpu eu hunain, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach? 

Diolch am y cwestiynau. O ran cyfarpar diogelu personol, gwneuthum y penderfyniad a'r cyhoeddiad dros y penwythnos ynghylch cyfarpar diogelu i fynd i ymarfer cyffredinol. Rydym yn disgwyl i hynny gael ei gwblhau o fewn yr wythnos ar draws y wlad, felly, yn Islwyn, yn amlwg, buaswn yn disgwyl y bydd pob practis yn Islwyn yn ei gael o fewn yr amser hwnnw. Os oes unrhyw Aelod yn ymwybodol fod ganddo bractis lleol lle nad yw hynny wedi digwydd, yna buaswn yn falch o glywed am hynny fel y gallwn ei ddatrys. Cyhoeddais ddoe y bydd fferyllfeydd cymunedol hefyd yn cael cyfarpar diogelu personol a bydd y cyflenwadau hynny’n mynd allan cyn diwedd yr wythnos hon. Felly, ar ôl gwneud y penderfyniad, byddwn yn gallu symud yn gyflym, ac rydym yn y sefyllfa ffodus ein bod yn disgwyl y bydd yr holl gyfarpar wedi'i ddosbarthu yng Nghymru ac yn ei le o fewn amserlen fyrrach na Lloegr—yn rhannol oherwydd maint a logisteg. Felly rydym mewn sefyllfa dda o ran hynny. 

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd y pethau y gall y cyhoedd eu gwneud eu hunain. Y cyngor arferol ynghylch 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa', golchi'ch dwylo, ond hefyd y cyngor arferol y byddem yn gofyn i chi ei ddilyn os oes gennych symptomau tebyg i ffliw, i beidio â dod i'r gwaith; peidio â mynd i leoedd lle rydych mewn perygl o’i roi i bobl eraill, a'r canlyniadau sylweddol. Mae hwnnw'n gyngor arferol; nid dim ond yn awr, gyda’r posibilrwydd fod coronafeirws yn cylchredeg, dyna'r cyngor arferol y byddem yn gofyn i bobl ei ddilyn. 

I bobl sy'n pryderu ac eisiau sylw meddygol, mae'n bwysig iawn nad yw pobl yn mynd i'w meddygfa leol nac i ysbyty. Dilynwch y cyngor i ffonio 111. Mae ar gael ledled y wlad, ac yna dylech gael cyngor ac arweiniad ar beth i'w wneud. Os oes angen i chi gael prawf, rydym eisoes wedi gallu profi dros 90 y cant o bobl yn eu cartrefi eu hunain, ond hefyd mae o leiaf 11 o ganolfannau profi gyrru drwodd ledled Cymru. Mae mwy yn cael eu creu gan wahanol fyrddau iechyd, ac mae'r rheini ar gyfer pobl sy'n cael eu cynghori i fynd iddynt. Felly rydym yn gwneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i gadw pobl gartref lle mae angen iddynt fod, rhoi'r cyngor a'r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt, ac unwaith eto, os bydd y sefyllfa'n newid bydd y Llywodraeth a'n prif swyddog meddygol, ynghyd â Llywodraethau eraill yn y DU, yn glir ynglŷn â'r rheswm dros y newid yn y cyngor a'r hyn y byddwn yn cynghori pobl i'w wneud bryd hynny. Mae'n bwysig iawn i bob un ohonom ysgwyddo ein cyfrifoldeb unigol fel Aelodau etholedig yn yr hyn a wnawn i gadw ein hetholwyr yn ddiogel, a'r hyn y mae ein hetholwyr yn eu tro yn ei wneud i gadw eu hunain, eu teuluoedd a phobl eraill yn ddiogel hefyd.  

13:40

Weinidog, gofynnir i ysbytai yn Lloegr gynnal mwy o ymgynghoriadau drwy gyfrwng fideo gyda chleifion er mwyn lleihau'r risg o ledaenu coronafeirws. Mae GIG Lloegr wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd y cam hwn yn lleihau nifer y bobl mewn ysbytai ac yn lleihau'r perygl o'i drosglwyddo. Weinidog, a wnewch chi edrych ar y syniad hwn i weld a fyddai o fudd i gleifion yng Nghymru? A pha fesurau rydych chi'n eu hystyried i ddiogelu cymunedau yn Islwyn ac mewn mannau eraill yng Nghymru?

Yn olaf, fe wyddom oll fod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi £20 biliwn o gyllid i fynd i'r afael â coronafeirws, felly faint o arian rydych chi'n gobeithio'i gael yng Nghymru i beidio â chael y clefyd gwirion hwnnw'n dod i'r rhan hon o'r byd? Diolch.

O ran eich pwynt ynglŷn ag ymgynghoriadau o bell fel nad oes angen i bobl fod yn bresennol yn bersonol, mae gennym raglen waith eisoes i wneud yn union hynny drwy'r gwasanaeth iechyd. Er enghraifft, gall llawer o bobl gael cyngor erbyn hyn am gyflyrau iechyd llygaid heb orfod mynd i weld meddyg ymgynghorol. Rydym wedi llwyddo i wella mynediad drwy ddefnyddio ein contractwyr gofal sylfaenol i wneud hynny—mae fferylliaeth ac optometreg yn enghreifftiau gwirioneddol dda o hynny.

Fodd bynnag, mae coronafeirws yn cyflymu'r angen i wneud hynny, er mwyn osgoi cyswllt rhwng pobl lle bo modd. Mae hynny'n egluro pam y cyhoeddais ddoe fy mod wedi penderfynu gweithredu ateb ar gyfer Cymru gyfan yn enwedig mewn gofal sylfaenol a chymunedol, er mwyn caniatáu i fwy o ymgynghoriadau fideo ddigwydd. Rydym hefyd wedi cynyddu ac ymestyn y gwasanaeth 111 fel y gall fod ar draws Cymru gyfan i ymdrin â chyngor a gwybodaeth am coronafeirws.

Bydd yr un peth yn wir ar gyfer y rhannau o ymarfer ysbyty y mae angen iddynt barhau. Ond mewn gwirionedd, o ran y ffordd y bydd ein hysbytai'n gweithio os ceir rhagor o achosion o coronafeirws a'i fod yn dod yn fwy arwyddocaol, ni fydd yn ymwneud cymaint â'r enghraifft a roddais mewn perthynas â gofal llygaid yn digwydd lle caiff delweddau eu cyfnewid a'u hanfon draw; bydd yn ymwneud mwy a mwy â'r ffordd rydym yn defnyddio ein hysbytai ar gyfer y bobl fwyaf sâl a'r angen i gymryd lle gweithgarwch arall, os mai dyna fydd ei angen. Os edrychwch ar yr Eidal fel enghraifft, y cam y maent arno a pha mor ddifrifol ydyw, mae'n senario hollol wahanol ar gyfer y ffordd y mae angen i'r system gofal iechyd weithio. Felly ni ddylai'r un ohonom esgus, os yw coronafeirws yn dod yn broblem fwy arwyddocaol, y gallwn barhau i ddal ati fel arfer.

O ran yr arian y mae'r Canghellor wedi'i gyhoeddi, yn amlwg bûm yn paratoi ar gyfer cwestiynau yma heddiw, ond edrychaf ymlaen gyda diddordeb at fanylion y cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud. Ond yn yr un modd, y pwynt y mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi'i wneud yw, ni waeth beth fydd y prif gyhoeddiadau heddiw, ymdrinnir â chyllid ar sail angen ar draws y DU i fynd i'r afael â realiti'r effaith y bydd coronafeirws yn ei chael mewn gwirionedd.  

Weinidog, mae etholwyr Islwyn fel llawer o etholwyr eraill—fel fy un i yn Aberafan ac eraill ar draws Cymru—yn pryderu ac yn gofidio'n ddwys ynglŷn â lledaeniad coronafeirws a'r goblygiadau y gallai eu cael i'w teuluoedd. Rwy'n croesawu'n fawr y diweddariadau rydych yn eu rhoi'n gyson i'r Siambr hon ar hynny a'r ffaith eich bod yn ein hysbysu am y cynnydd a'r camau y dylid eu cymryd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr.

Rwyf hefyd yn croesawu'r modd y lledaenir y wybodaeth honno i bobl Cymru, cymaint ag sy'n bosibl. Fodd bynnag, pan welwn achosion o coronafeirws—ac yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig, gwelwyd chwech achos, y nifer fwyaf mewn un lle yng Nghymru ar hyn o bryd—a gwelwyd un yng Nghaerdydd, lle nodwyd bod aelod o staff canolfan alwadau Sky yn dioddef o coronafeirws, ac yna gwnaed penderfyniad i wneud gwaith 'glanhau dwfn' ar y safle penodol hwnnw. Fel y cyfryw, mae pobl sy'n clywed am achosion yn eu hardal eu hunain, lle mae eu plant wedi bod yn mynychu ysgol gyda phlant teulu y nodwyd eu bod yn dioddef o coronafeirws efallai, yn gofyn cwestiynau ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod pethau'n ddiogel. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau a thawelu meddyliau teuluoedd a rhieni, pan fydd rhywbeth yn digwydd, fod popeth yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch eu teulu yn y lleoliadau hynny ac os oes angen, y bydd gwaith glanhau dwfn yn cael ei wneud os yw'n briodol? Mae'n bwysig fod y negeseuon hynny'n cael eu cyfleu, oherwydd os na chawn y negeseuon hynny a'r cyfathrebu'n iawn, bydd y sibrydion yn dechrau, a dyna un o'r pethau gwaethaf a all ddigwydd mewn sefyllfa fel hon. Mae angen ffeithiau arnom, nid ffuglen. Felly mae'n bwysig ein bod yn cael y cyfathrebu'n iawn.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Aelod ar y diwedd, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn darparu gwybodaeth o ffynonellau y gallwn ymddiried ynddynt i'n hetholwyr. Felly dyna'r wybodaeth y mae Llywodraethau'r DU yn ei darparu, gan gynnwys ar wefan Llywodraeth Cymru, lle mae gennym ganllawiau clir ar gyfer ysgolion, a'n harweiniad yw y dylai ysgolion aros ar agor. Ni cheir sylfaen dystiolaeth dros gau ysgolion yn awr, ac mae her yma ynglŷn â chanfyddiad rhai pobl y dylai'r Llywodraeth weithredu a gwneud pethau fel cau ysgolion er bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni yn awr yn dweud na fyddai’n effeithiol naill ai o ran oedi’r achosion o coronafeirws, neu yn wir o ran lleihau nifer y marwolaethau posibl. A phe bai'n briodol, gallai fod yn briodol yn nes ymlaen, ond nid yw'n briodol o gwbl yn awr. A'r enghraifft rwyf wedi'i rhoi yw: mae'n ymwneud â mwy na gwyddoniaeth yn unig, ynglŷn â'r perygl o ail ymchwydd yn nifer yr achosion, lle gallai fod gennych gyfraddau marwolaeth uwch; mae yna her go iawn, os ydych chi'n cau ysgolion, pwy sy'n gofalu amdanynt? Mae'n tynnu pobl allan o'r gweithle. Neu os oes gan bobl rywun i ofalu am y plentyn hwnnw, mae'n annhebygol o fod yn ofal plant cofrestredig; gofal am blant gan berthnasau ydyw yn aml, a neiniau a theidiau yn aml, perthnasau hŷn, a phobl sydd yn y categori risg uchaf. Felly, mae angen i ni ddilyn y wyddoniaeth; mae angen i ni ddilyn y dystiolaeth, ac ailadrodd y ffynonellau gwybodaeth dibynadwy hynny. 

Ac mae eich pwynt am lywodraeth leol wedi'i wneud yn dda. Felly, yn y cynllunio rydym eisoes yn ei wneud, rydym yn bendant yn siarad â llywodraeth leol. Cyfarwyddais aelodau cabinet sydd â chyfrifoldebau gofal cymdeithasol o bob rhan o Gymru ddydd Llun ynglŷn â rhai o'r heriau y mae angen iddynt gynllunio ar eu cyfer. Rwy'n siarad ag arweinwyr llywodraeth leol ar draws pob rhan o Gymru, a phob plaid, i gyd gyda'i gilydd ar yr un pryd, yfory hefyd. Felly, rydym yn sicrhau ein bod ni'n cael sgyrsiau uniongyrchol gyda llywodraeth leol i fod yn barod. Ac i ailadrodd o ddifrif nad ydym yn mynd i wneud dewisiadau i beryglu iechyd y cyhoedd; rydym yn mynd i wneud dewisiadau ar sail tystiolaeth, a'r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael, a byddwn yn parhau i'w wneud ac yn bod yn agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn rydym yn dewis ei wneud a'r cyngor rydym yn ei roi iddynt ar sut rydym am iddynt hwy ymddwyn hefyd. 

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhai cwestiynau i ddechrau ar baratoadau ar gyfer cynnydd yn nifer yr achosion, ac mae'n bwysig rhoi'r paratoadau hynny ar waith. Gwyddom o brofiad rhyngwladol y gallai capasiti gofal critigol ddod yn bwysig tu hwnt yma. Rwyf wedi bod yn edrych ar ffigurau heddiw sy'n dangos bod nifer y gwelyau gofal critigol fesul 100,000 o bobl yn y DU yn isel, o'u cymharu â safonau byd-eang, ac yng Nghymru, mae'n sicr yn llawer is nag yn Lloegr. Gofynnodd Adam Price a minnau ddoe beth sydd wedi'i wneud i sicrhau ein bod yn cynyddu capasiti. Nid wyf yn siŵr a gawsom yr atebion roeddem eu heisiau ddoe, felly gofynnaf eto: beth sy'n cael ei wneud yn awr i sicrhau bod y capasiti yn cael ei gynyddu cymaint â phosibl, gan nad yw'r capasiti cyfredol yn mynd i fod yn ddigon? Rwy'n derbyn y gallai fod natur wahanol i'r math o gapasiti y bydd ei angen arnom o'i gymharu ag adegau arferol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael disgrifiad gan y Llywodraeth o'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn cynyddu capasiti yn y maes tra phwysig hwn.  

Rwy'n cydnabod y pwynt ehangach sy'n cael ei wneud. Mae lefelau cymharol capasiti gofal critigol ledled y DU yn is na gwledydd Ewropeaidd eraill; mae hynny'n wir. Nid wyf yn credu mai nawr yw'r adeg i geisio mynd i mewn i’r cyllid neu’r heriau eraill a allai fod gennym mewn cyfnod arferol o wleidyddiaeth; mae a wnelo â’r hyn y gallwn ei wneud yn awr i wella'r capasiti sydd gennym, ar gyfer yr hyn y disgwyliwn iddo fod yn fewnlif o bobl sâl iawn i'n gwasanaeth iechyd ac sydd angen gofal. Ac felly, rydym eisoes yn cynllunio’r hyn sy’n bosibl, o ran y staff sydd gennym, y staff y mae angen inni eu gwarchod, o ran eu lles, oherwydd os gwelwn absenoldebau sylweddol ar draws yr economi a gwasanaethau cyhoeddus, bydd hynny’n effeithio ar y gwasanaeth iechyd hefyd. Mae angen i ni feddwl yn ogystal am beth arall sy'n bosibl, hyd yn oed os nad dyna'r hyn rydym yn ei gydnabod ar hyn o bryd fel gofal critigol yn y ffordd rydym yn ei ddarparu, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran adleoli staff. Mae hynny hefyd yn golygu diffodd gweithgaredd arall yn y gwasanaeth iechyd. Felly, nid mater syml o fflicio switsh yw hyn a’n bod yn dyblu ein capasiti yn awtomatig; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â faint y gallwn ei newid o fewn y gwasanaeth; i ba raddau y gallwn adleoli staff, ac yna, yr hyn a wnawn i ddiwallu'r anghenion gofal iechyd eraill hynny gystal ag y gallwn. Ac fel y dywedais, gallai hynny olygu trin pobl yn eu cartref eu hunain dros yr wythnosau neu'r misoedd nesaf, pan fyddem ni heddiw yn disgwyl iddynt gael eu derbyn i ysbyty. 

Nawr, nid wyf mewn sefyllfa i rannu cynlluniau uniongyrchol a manwl. Rwy'n gweithio trwy fanylion y cynlluniau hynny a'r cyfarwyddiadau y bydd angen inni eu rhoi i'r gwasanaeth iechyd ynglŷn â beth fyddai’r cynlluniau hynny. Rydym wedi gweithio drwyddynt. Cyfarfûm â chyfarwyddwyr meddygol o bob rhan o Gymru ddydd Gwener diwethaf. Cyfarfûm â cholegau brenhinol o bob rhan o Gymru yr wythnos diwethaf hefyd, ac felly, rydym yn fwriadol yn dod â'r pobl a ddylai fod yno at ei gilydd i wneud y dewisiadau hynny. Cyn gynted ag y bydd gennym benderfyniad i'w wneud, gyda'r cynllun i fynd gydag ef, byddwn yn rhannu'r wybodaeth honno wrth gwrs. Ac yn y modd rwyf eisoes wedi briffio llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn ogystal â llefarydd iechyd Plaid Cymru, rydym am barhau i egluro beth yw'r cynlluniau hynny, a'u manylion, a gallu rhannu gwybodaeth ar sail y gellir ymddiried ynddi, yn ogystal â gallu darparu gwybodaeth gyhoeddus i bawb ei gweld a'i chlywed. A bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys aelodau'r pwyllgor iechyd, yn ogystal â'r holl Aelodau ar draws y Siambr hon. Rwy'n sicr yn disgwyl gwneud datganiadau wythnosol am y sefyllfa mewn perthynas â coronafeirws yn y dyfodol agos.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

13:50

Bydd angen capasiti mewn meysydd eraill hefyd, islaw gofal critigol. Ofnaf y bydd colli ysbytai cymunedol yn rhywbeth y byddwn yn ei ddifaru, i ryw raddau, yn y misoedd i ddod. Efallai y bydd angen inni adeiladu capasiti ar gyfer ynysu, er enghraifft, a gallaf gyfleu ichi'r cynnig a wnaeth un perchennog gwesty, er enghraifft, a oedd yn cynnig gwesty i'w ddefnyddio, fel rhywle lle gellir ynysu pobl o bosibl. A oes cynlluniau i greu'r math hwnnw o gapasiti o fewn y system—gan droi efallai at westai, neu leoliadau eraill, neu hyd yn oed at y fyddin hefyd. Oherwydd ceir capasiti y gellir ei adeiladu o fewn y fyddin pan ddaw'n fater o ynysu.

Rydym yn ystyried pob opsiwn. Ac mae hynny'n rhan o'n gwaith cynllunio ar gyfer pandemig ffliw sy'n cael ei ddwysáu; mae hefyd yn rhan o'r hyn y mae fforymau lleol Cymru gydnerth yn edrych arno, i ystyried yr hyn sy'n digwydd ym mhob un o'r pedair ardal. Ac mae hynny'n cynnwys nid yn unig gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, mae'n cynnwys, wrth gwrs, y cysylltiadau rheolaidd sydd gennym gyda gwasanaethau sydd heb eu datganoli. Felly, er enghraifft, mae'r heddlu'n ymwneud â phob un o'n pedwar fforwm lleol Cymru gydnerth fel mater o drefn, o ran yr ymateb cynllunio a darparu ar gyfer argyfwng. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn ystyried y rôl bosibl y gallai fod gan y fyddin i'w chwarae. Ond mae'n dod yn ôl at ba rôl sydd ei hangen, a phwy sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni hynny. Felly nid oes dim yn cael ei ddiystyru—yn sicr—o ran y ddarpariaeth sydd gennym, ac fel y dywedais yn fy ateb i'ch cwestiwn cyntaf, y modd y mae hynny'n diwallu'r angen rydym yn disgwyl ei weld yn dod drwy'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a lle yw'r mannau cywir i geisio cynyddu capasiti, ac yn yr un modd, y gweithgareddau y byddwn yn cydnabod y bydd angen eu hoedi a'u gohirio am gyfnod o amser, ac mae hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar hyd a difrifoldeb y sefyllfa.

A chasgliad byr o gwestiynau i orffen. Gwyddom fod yr Eidal wedi cyrraedd man lle roedd angen, neu lle teimlent fod angen gosod cyfyngiadau ar symud ledled y wlad. Buaswn yn gwerthfawrogi syniad yn unig o'r mathau o gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith, i gychwyn efallai, ar gyfer cyfyngiadau lleol ar symud, a pha baratoadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer hynny.

Yn ail, ar 111, a'r brysbennu galwadau ffôn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rwyf wedi cysylltu â'ch swyddfa heddiw gyda phryder penodol ynglŷn â rhieni un o fy etholwyr sydd wedi dychwelyd oddi ar fordaith, ac sydd wedi cysylltu â'r ganolfan brysbennu galwadau ffôn—fel y cawsant eu cyfarwyddo i wneud—a chael gwybod, 'Na, nid ydych chi mewn categori risg.' Mae eraill a oedd ar yr un fordaith, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, wedi cael diagnosis ers hynny o COVID-19. Felly, gallwch ddychmygu pryder fy etholwr a'i rhieni. Nid yw'n gallu ymweld â'i rhieni, oherwydd ei bod yn dioddef o niwmonia ei hun. Felly, unwaith eto, mae'n bortread o'r problemau ehangach yma. Felly sut y gallwn fod yn siŵr nad yw'r system brysbennu galwadau ffôn yn methu nodi pobl a ddylai fod mewn categori risg uwch? Roedd y bobl hyn wedi dweud, 'Gwrandewch, rydym yn credu ein bod mewn categori risg', a dywedwyd wrthynt nad oeddent, ac maent yn credu yn awr y dylent gael profion. Fe arhosaf am ymateb gan eich swyddfa ar hynny.

Ond hefyd, rydym yn dal i glywed gan bobl sy'n dweud eu bod wedi ceisio cysylltu ag 111, ac maent, er enghraifft, wedi cael eu tywys i wefan, sy'n dweud wrthynt, 'Nid oes gwasanaeth 111 ar gael yn eich ardal chi.' A wnewch chi gasglu data ar y defnydd o 111, methiant i gysylltu ag 111, a faint o bobl sy'n ceisio defnyddio'r gwasanaethau—fel y dylent allu gwneud—sydd naill ai'n methu mynd drwodd, neu'n cael eu gyrru i wefannau eraill nad ydynt yn gallu eu helpu o gwbl?

Mae yna gwestiynau ymarferol, real yn y fan honno, ac rwy'n falch fod yr Aelod wedi llwyddo i godi rhai o'r rheini gyda fy swyddfa yn gynharach heddiw. Ac fe fuaswn i'n annog unrhyw Aelodau eraill, o unrhyw blaid, sydd â phrofiad tebyg gydag etholwyr, lle nad ydynt yn siŵr am y cyngor y maent yn ei gael, neu eu bod wedi cael eu cyfeirio at y rhan anghywir o'r system, i godi'r rheini gyda fy swyddfa. Oherwydd rwyf am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu datrys yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, oherwydd mae'n bosibl iawn y gwelwn fwy o ddefnydd o'r gwasanaethau hynny yn yr wythnosau nesaf. Mae rhywfaint o hynny wedi digwydd am fod pobl wedi cael eu cyfeirio ac wedi mynd i'r gwasanaeth 111 anghywir—felly, y gwasanaeth 111 yn Lloegr, lle mae'n dweud nad yw ar gael yn eich ardal chi. Felly, mae'r gwasanaeth cyngor dros y ffôn 111 ar gael ym mhob rhan o Gymru. Mae gwiriwr symptomau ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru. Rydym am geisio sicrhau bod pobl yn defnyddio'r gwasanaeth rydym wedi'i sefydlu a'i greu ac am leihau'r risg y bydd pobl yn mynd i wasanaeth gwahanol dros y ffin nad yw'n eu cyfeirio at y llwybr cywir o bosibl i gael eu cymorth a'u cyngor. Ond nid wyf am golli golwg ar y profiad sydd gan bobl o ddefnyddio'r gwasanaeth 111, ac fel y dywedaf, rwy'n ailadrodd wrthynt y buaswn yn gofyn i Aelodau o bob ochr gysylltu â mi os ydynt wedi clywed am y math o brofiad rydych wedi'i ddisgrifio.

Ar y pwynt ynglŷn â sut a phryd y dylid cynnal profion, mae'n dod yn ôl at bobl yn dilyn y cyngor a'r arweiniad a roddir iddynt. Ond rwyf wedi gofyn eto am i hyn gael ei egluro, oherwydd rydym wedi gweld rhai achosion amlwg o bobl sydd, er enghraifft, ar longau mordeithio yn dod yn ôl, beth sy'n digwydd iddynt hwy, os yw pobl yn cael symptomau pan fyddant yn dychwelyd, ac i fod yn glir, fod y cyngor yn gyson ac nad yw'n ddryslyd i aelodau'r cyhoedd. Felly, rwy'n manteisio ar y cyfle i wneud hynny, a byddaf yn gallu ailadrodd hynny gyda'r wybodaeth reolaidd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei darparu a byddaf hefyd yn sicrhau bod y cyngor hwnnw'n cael ei ddosbarthu'n benodol i'r Aelodau.

Ond o ran y mathau o bethau a allai ddigwydd, neu y gallai fod eu hangen, rwy'n credu bod gofyn i ni edrych ar yr amgylchiadau ym mhob gwlad. Gallwn ddysgu, wrth gwrs, o brofiad gwahanol wledydd. A'r Eidal, maent yn wlad Ewropeaidd y mae gennym gysylltiadau â hi, gyda system gofal iechyd fodern a datblygedig. Mae cyffelybiaethau yno inni edrych arnynt. O ddifrif, mae rhai gwahaniaethau, serch hynny. Mae ganddynt boblogaeth hŷn na Chymru hefyd, a allai esbonio rhai o'r heriau a'r niferoedd sydd ganddynt. Ond yn sicr mae'r profiad yno o ran eu bod yn gweld eu gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu bellach i bob pwrpas, wel, rhan o'r daith honno yw pa mor gynnar a phryd y byddwn yn gweithredu, gan fod yr amseru'n bwysig iawn, a dyna'r cyngor a gafwyd gan ein cynghorwyr gwyddonol ein hunain i bob un o bedair Llywodraeth y DU ac yn wir ein pedwar prif swyddog meddygol.

Y perygl yw, os byddwn yn gweithredu'n rhy gynnar, dyna'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe am lefel y gydymffurfiaeth os byddwn yn gofyn i bobl weithredu eto. Mae perygl hefyd y byddwn yn gostwng nifer yr achosion o'r coronafeirws pan fydd y clefyd ar ei waethaf a'n bod yn cael ail ymchwydd yn nes ymlaen, yn hytrach na'i fod yn fesur cwbl effeithiol. Hefyd, os byddwn yn ei amseru'n rhy hwyr, mae perygl o godi pais ar ôl piso i bob pwrpas, oherwydd mae'r Eidal bellach mewn sefyllfa lle mae'n edrych yn debyg fod trosglwyddo cymunedol sylweddol yn digwydd. Ac nid yw ein cyngor gwyddonol yn awgrymu bod gweithredu mesurau sy'n cyfyngu'n fawr yn gam effeithiol ar y pwynt hwnnw.

A daw yn ôl at yr anhawster y mae'n rhaid i Weinidogion ei wrthsefyll a'i gydnabod wrth wneud dewisiadau a chynghori'r cyhoedd, mewn perthynas â dilyn y dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol gorau ynghylch yr hyn y dylem ei wneud a'r dewisiadau sydd ar gael i Weinidogion, yn hytrach na cheisio cael rhywbeth a allai, o safbwynt cyfathrebu, ymddangos fel pe baem yn gwneud dewisiadau mawr ac anodd a dangos pa mor ddifrifol rydym yn ei gylch, ond efallai nad dyna'r peth cywir i'w wneud o ran lleihau nifer yr achosion o coronafeirws ar eu gwaethaf er mwyn caniatáu i wasanaethau wella ac ymdopi, ond yn yr un modd o ran sicrhau ein bod yn datrys ac yn lleihau, cyn belled ag y bo modd, y nifer bosibl o farwolaethau yn sgil yr achosion o coronafeirws.

Ac ni fuaswn am fod mewn sefyllfa lle rwyf wedi rhoi cyfres o gamau ar waith a allai ymddangos fel pe baem yn gwneud rhywbeth sy'n mynd i'r afael â'r sefyllfa o safbwynt y cyhoedd, a darganfod wedyn mai dyna oedd y dewis anghywir ac y gallai ein cyfradd farwolaethau fod yn uwch ar ei ddiwedd, ac nid yw hwnnw'n ddewis y credaf y gallwn fyw gydag ef.  

13:55

Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, bydd llefarwyr yn craffu arnoch ac yn eich herio, Weinidog, ac rwyf wedi gwneud fy nghyfran deg o hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Ond hoffwn gofnodi fy niolch i chi, fel ein Gweinidog iechyd, am y gwaith caled, yn amlwg, sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni a'r cynlluniau rydych yn eu rhoi ar waith a hefyd am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, fel Aelodau, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd. Roeddwn yn teimlo y dylid cofnodi hynny, diolch.

Nawr, mae coronafeirws yn fwyaf sylweddol ymysg pobl hŷn a phobl y mae eu systemau imiwnedd eisoes dan fygythiad. Mae niferoedd mwy o'r bobl hyn i'w cael mewn gofal preswyl, cartrefi nyrsio a lleoliadau gofal cartref. Mae difrifoldeb y bygythiad yn glir wrth ystyried y cartref gofal ger Seattle, lle bu mwy na dwsin o farwolaethau ac mae holl breswylwyr y cartref bellach wedi'u hynysu yn eu hystafelloedd.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i ddarparu cyngor i'r sector gofal cymdeithasol. Mae preswylwyr cartrefi gofal yn poeni, mae darparwyr cartrefi gofal a'r rhai sy'n darparu gofal cartref yn poeni. Mae sôn am gyhoeddi canllawiau, annog ffrindiau a pherthnasau i beidio ag ymweld â phobl mewn cartrefi gofal nes bod y risg o ddal y clefyd yn haws ei thrin. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gefnogi preswylwyr cartrefi gofal a lleihau'r perygl eu bod yn dal y feirws?

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw ac mae'n llygad ei lle fod pobl hŷn, a phobl hŷn sydd ag anghenion iechyd cymhleth, mewn mwy o berygl o lawer. Ac felly rydym am wneud popeth yn ein gallu i'w diogelu cymaint â phosibl, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Mae'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio yn arwain y blaen yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos iawn â'r awdurdodau lleol, sy'n amlwg yn agos iawn at y sector gofal, ac rydym wedi penodi cyfarwyddwr arweiniol i edrych ar y pwnc hwn. Daw'r cyfarwyddwr arweiniol o Bowys. Rydym wedi sefydlu gweithgor sy'n edrych ar yr holl fathau o faterion y mae'n eu codi. Mae canllawiau eisoes wedi'u cyhoeddi i'r sector gofal cymdeithasol. Mae'n ganllaw ar y cyd â Lloegr. Felly, yr un yw'r canllawiau, ond rydym yn bwriadu llunio set arall o ganllawiau, a gwneir hynny gan weithgor gyda'r holl bobl sy'n gysylltiedig.

14:00

Diolch. Mae un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Mae Cymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig wedi cynghori ei bod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol ddeall y gallai ymweliadau cartref gymryd llawer mwy o amser na'r hyn a ddisgwylir fel arfer wrth ymdrin â phobl sy'n sâl, ac mae'n rhybuddio y gallai'r sefyllfa fod yn eithriadol o ddifrifol, yn enwedig o ran cael digon o staff i gefnogi pobl hŷn a phobl anabl mewn lleoliadau cymunedol.

Yn yr un modd, cefais neges e-bost sy'n tynnu sylw at bryderon y gallai un gweithiwr gofal cartref heintiedig gario'r feirws yn ddiarwybod i gartrefi niferoedd lawer o drigolion hŷn agored i niwed. Felly, a wnewch chi egluro pa gamau rydych yn eu cymryd i gynorthwyo ein gweithwyr gofal i leihau'r risg o ddal y feirws? Pa fesurau brys a gaiff eu cymryd i amddiffyn unigolion sy'n agored i niwed sy'n cael ymweliadau cartref, a nodi pa gymorth a roddir i ddarparwyr gofal cymdeithasol i'w helpu i ddod o hyd i staff amgen, os bydd yn rhaid i rai gweithwyr hunanynysu? A chwestiwn sydd gennyf yw: a yw'r 15 achos o coronafeirws a nodwyd yng Nghymru wedi'u dynodi fel rhai COVID-19? [Torri ar draws.] Wel, mae coronafeirws yn cynnwys—.

Rwy'n credu eu bod, i ateb y cwestiwn olaf hwnnw.

Os edrychwch ar y sector gofal cymdeithasol, mae amrywiaeth eang o faterion yn codi: mae yna bobl sy'n byw mewn gofal preswyl neu mewn cartrefi nyrsio; mae yna bobl sy'n cael gofal yn y cartref, ac yna ceir staff sy'n mynd i mewn, fel y nododd Janet Finch-Saunders. Ac mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r holl faterion hynny, am yr hyn sydd i ddigwydd os bydd unrhyw un o'r grwpiau hynny'n cael ei heintio a sut rydym yn ymdrin â'r sefyllfa. Felly, am y rheswm hwnnw, rydym wedi sefydlu grŵp cynllunio ac ymateb gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys llywodraeth leol—oherwydd, fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol—mae'n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, oherwydd mae'n gwbl hanfodol, rwy'n credu, ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r trydydd sector i fynd i'r afael â'r holl faterion hyn, oherwydd efallai fod y trydydd sector yn agos iawn at rai o'r cymunedau rydym yn sôn amdanynt, ond hefyd mae gan y trydydd sector lawer o wirfoddolwyr sy'n gweithio yno ac a fyddai'n fodlon ein helpu yn y sefyllfa hon, rwy'n siŵr, os yw'n gwaethygu. Mae hefyd yn cynnwys Fforwm Gofal Cymru, sydd, unwaith eto, yn gorff pwysig iawn i weithio gydag ef. Felly, rydym yn gweithio gyda'r holl gyrff hynny a'r hyn rydym am ei wneud yw cyflwyno set arall o ganllawiau a fydd yn rhoi sylw i'r materion pwysig iawn y mae wedi'u codi.

Diolch. Rwy'n credu bod fy nghwestiwn nesaf wedi'i gyfeirio'n fwy at y Gweinidog iechyd. Yn anffodus, mae rheswm da dros boeni hefyd am staff iechyd rheng flaen. Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan ymarferydd cyffredinol yng Nghymru sydd wedi tynnu sylw at ddiffyg cyfarpar diogelu personol a mygydau ar gyfer staff rheng flaen, ond hefyd ar gyfer pobl fel derbynyddion, nyrsys a staff cynnal a chadw. Mae wedi esbonio'n gywir nad oes digon ohonynt i allu hunanynysu, os yw'n bosibl eu bod wedi'u heintio, a dal i ymdopi â maint y pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Pa gamau brys a gymerir i sicrhau bod pob aelod o staff rheng flaen yn derbyn ac yn defnyddio'r cyfarpar diogelu personol yn ôl y cyfarwyddyd?

Wel, rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd, yn ei ymateb yn gynharach, wedi dweud bod y rhain yn mynd i gael eu darparu. Ac yn sicr mae hwn yn fater rydym wedi'i drafod yn y Llywodraeth, ond mae'n amlwg yn bwynt pwysig iawn ac rydym yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch.

14:05

Diolch, Lywydd. Weinidog, dywedodd Dr Andrew Goodall wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun ei fod yn siomedig iawn fod gan dri o saith bwrdd iechyd lleol Cymru ddiffyg o filiynau o bunnoedd. A ydych yn rhannu ei siom fod Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Bae Abertawe yn rhagweld diffyg cyfunol o dros £92 miliwn ar gyfer 2019 i 2020? Rhagwelir y bydd bwrdd Betsi Cadwaladr £41 miliwn yn y coch; Hywel Dda heb fod ymhell ar ei ôl gyda diffyg o £35 miliwn. Bydd gan fy mwrdd iechyd i, Bae Abertawe, £16.3 miliwn o ddiffyg, ac mae hynny'n ddigon i gyflogi tua 465 o radiograffwyr. Weinidog, pam y gall rhai byrddau iechyd fantoli'r cyllidebau a bod eraill yn cael diffygion enfawr?

Wel, mae'r problemau'n wahanol mewn gwahanol fyrddau iechyd, ac wrth gwrs rwy'n siomedig, nid yn unig ynglŷn â'r methiant i gyrraedd y targed, ond am raddau'r methiant hwnnw rhwng gwahanol fyrddau iechyd eu hunain. Yn Hywel Dda, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael cyfres o ymyriadau ac adroddiadau ynghylch eu heriau a'r cyfleoedd iddynt wella. Fodd bynnag, dylid dweud, o ran perfformiad, fod Hywel Dda wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, maent mewn gwell sefyllfa o ran perfformiad, ond yn Betsi Cadwaladr nid ydynt wedi cael y gafael a'r rheolaeth angenrheidiol ar berfformiad a chyllid. Felly, er bod bwrdd iechyd Hywel Dda yn gallu rhoi eu ffigurau perfformiad mewn ffordd gadarnhaol, nid yw'r un peth yn wir yng ngogledd Cymru, ac fe sylwch nad yw'r ddau gyfarwyddwr cyllid blaenorol yn eu swyddi mwyach. Mae yna gyfarwyddwr adfer sy'n cael effaith ar y ddisgyblaeth ariannol yn y sefydliad, ac wrth gwrs, erbyn hyn ceir prif weithredwr dros dro yn dilyn y newid yn yr arweinyddiaeth. Ac o ran Bae Abertawe, caiff y siom ei leddfu gan rywfaint o optimistiaeth, yn seiliedig yn y gwirionedd am y dyfodol, ac unwaith eto, y rhestr o gyfleoedd sydd ganddynt i wella'r sefyllfa ariannol.

Credaf fod angen i mi nodi ar lefel gyffredinol, os yw coronafeirws mor sylweddol ag y credwn ei fod, bydd y ffordd arferol o weithredu'r gwasanaeth iechyd yn newid yn sylweddol. Felly, bydd yn rhaid newid y ffordd arferol o ddwyn sefydliadau i gyfrif o fewn y Llywodraeth ac yn y lle hwn. Ni allaf ddisgwyl i'r gwasanaeth iechyd ymddwyn mewn ffordd wahanol iawn a blaenoriaethu niferoedd sylweddol o bobl sy'n wirioneddol sâl a ddaw drwy'r drysau, os wyf fi wedyn yn dweud hefyd, 'Rwyf am ichi beidio â cholli unrhyw fath o gynnydd mewn perthynas ag amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac rwyf am i chi geisio gwneud yn siŵr fod arian yn cael ei wario mewn ffordd benodol.' Nawr, bydd rhai pwyntiau am ddisgyblaeth ariannol a chyfleoedd i arbed arian a fydd yn dal i fodoli mewn ffordd nad yw'n niweidio'r gwasanaeth, ond bydd angen gwirio'r hyn a fydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac os cawn nifer sylweddol o achosion, beth fydd y canlyniadau mwy hirdymor ar adnoddau, yr addewidion cyffredinol y mae'r Canghellor wedi'u gwneud am yr angen i'r GIG gael unrhyw adnoddau y mae eu hangen, a beth y mae hynny'n ei olygu o safbwynt perfformiad ehangach i'r gwasanaeth iechyd geisio ei adfer a dal i fyny ag ef wedyn.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom fyw o fewn ein modd, ond ni allwn dorri cyllid i fyrddau iechyd heb effeithio ar ofal cleifion. Cymerwch y gronfa feddyginiaethau newydd, er enghraifft: mae Llywodraeth Cymru yn ariannu triniaethau newydd am y 12 mis cyntaf, ac yna mae'n rhaid i fyrddau iechyd ddod o hyd i arian ar gyfer blynyddoedd i ddod. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gyllid byrddau iechyd lleol? Ac mae'n rhaid i ni hefyd roi cyfrif am y pethau y gwyddom nad ydym yn eu gwybod, fel rydych eisoes wedi'i ddweud—y coronafeirws. Ond hefyd, er enghraifft, yr effaith a gaiff pwysau'r gaeaf ar wasanaethau drwy weddill y flwyddyn. Ac eleni, mae gennym yr elfen ychwanegol nad ydym yn gwybod beth fydd yr effaith a gaiff COVID-19 ar wasanaethau sydd wedi'u cynllunio a gwasanaethau heb eu trefnu. Felly, Weinidog, pa mor wydn yw cyllid y GIG, a pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw pwysau ariannol yn effeithio ar ganlyniadau i gleifion? Diolch.

Wel, rwy'n credu bod pwynt ehangach yma ynglŷn â gwelliant ariannol ar draws y gwasanaeth iechyd yn y tair neu bedair blynedd diwethaf. Gwneuthum ddewis penodol, wrth ymgymryd â rôl y Cabinet, y byddwn yn sicrhau tra byddwn yn gwneud yn siŵr fod y biliau'n cael eu talu—fel nad yw gofal cleifion yn cael ei beryglu, ac nad oes yn rhaid i staff boeni a ydynt yn mynd i gael eu talu yn ystod deufis olaf y flwyddyn—y byddem yn tynnu sylw at realiti perfformiad pob sefydliad, felly yn hytrach na cheisio dod o hyd i ffordd newydd o chwistrellu arian i mewn i'r system ar gyfer y flwyddyn, fel y cawsom ein cyhuddo'n aml o'i wneud, rydym wedi bod yn agored iawn am berfformiad ariannol pob sefydliad. Rwy'n credu bod y cynnydd yn y gwaith craffu ac mewn atebolrwydd, a rhai o'r sgyrsiau uniongyrchol iawn a gefais i, ac y mae prif weithredwr GIG Cymru wedi'u cael, wedi arwain at welliant gwirioneddol. Hyd yn oed ar ddechrau tymor y Cynulliad hwn o'i gymharu â'n sefyllfa ar hyn o bryd, rydym yn bendant yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond mae mwy i'w wneud o hyd nag y buaswn yn ei ddymuno.

Ond o ran y gronfa driniaethau newydd y cyfeirioch chi ati, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Y rheswm pam ein bod wedi ei chyflwyno oedd am fod anghysondeb ar draws Cymru pan fyddai triniaethau newydd yn cael eu cyflwyno ac ar gael. Maent ar gael mewn gwahanol fannau, yn dibynnu ar ba fwrdd iechyd sy'n eich gwasanaethu, ac nid cysondeb yn unig yw'r her ond amseroldeb hynny—gallai amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Roeddent i fod i gael eu cyflwyno ac ar gael o fewn 90 diwrnod, ac nid oedd rhai byrddau iechyd yn gallu gwneud hynny'n rheolaidd.  

Gwyddem fod problem benodol yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cyflwyno triniaethau newydd, a gallu'r byrddau iechyd i gael triniaethau newydd wedi'u cyflwyno yn ystod y flwyddyn ariannol ac i gynllunio'n effeithiol ar eu cyfer, a dyna pam y cawsant eu cyflwyno yn y fath ffordd anghyson. Felly, mae'r gronfa triniaethau newydd wedi lefelu hynny fel bod gwasanaeth cyson ar gael erbyn hyn. Ac yn hytrach na'i fod yn digwydd dros dri mis, mae pobl yn disgwyl i driniaethau newydd fod ar gael o fewn oddeutu pythefnos. Felly, mae yna ymyrraeth sylweddol iawn, o ran iechyd, gyda swm cymedrol o arian, ond canlyniad gwirioneddol drawiadol a chyson. Rwy'n falch iawn o'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd i wneud hynny.

14:10

Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OAQ55201].

Prif Weithredwr Newydd

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd a wnaed o ran recriwtio prif weithredwr newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ55219

Gwnaf. Mae'r bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar gynlluniau i recriwtio'r person cywir i'r rôl hollbwysig hon. Er mai mater i'r bwrdd iechyd a'i gadeirydd fel y sefydliad cyflogi yw penderfyniadau ynglŷn â materion cyflogaeth, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen o hyd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Er ei fod mewn mesurau arbennig ers bron i bum mlynedd, mae'r problemau ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn parhau i siomi'r rhai sy'n dibynnu arno. Nid yw'r problemau ym mwrdd Betsi Cadwaladr wedi cael eu hailadrodd ym mhob bwrdd yng Nghymru, felly mae'n amlwg mai'r modd y caiff y bwrdd penodol hwnnw ei redeg sydd ar fai. Gall prif weithredwr newydd helpu, ond nid yw prif weithredwr yn gweithredu ar ei ben ei hun—mae'n rhan o fwrdd sy'n gwneud argymhellion ynglŷn â sut y dylai'r GIG yng ngogledd Cymru ddatblygu, mynd i'r afael â'i broblemau a phenderfynu ar ei flaenoriaethau.

Y llynedd, canfu pwyllgor trawsbleidiol yn y lle hwn fod y bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd annerbyniol o araf ar ddatrys ei fethiannau, ond chi sy'n gyfrifol yn y pen draw. Onid yw'n bryd adolygu sut y sefydlwyd y byrddau iechyd hyn? Er mwyn sicrhau bod triniaeth a gofal cleifion yn cael blaenoriaeth, onid yw'n bryd mynnu y dylai'r rhan fwyaf o'r aelodau ar unrhyw fwrdd iechyd ddod o gefndir o hyfforddiant clinigol?

Rwy'n credu bod dau bwynt yno: un yw'r pwynt ynglŷn â sut y mae'r bwrdd iechyd wedi cael ei sefydlu a chyfansoddiad y bwrdd a'r clinigwyr sy'n ffurfio'r mwyafrif. O ran sut y sefydlwyd y bwrdd iechyd, os oes pwynt ehangach ynglŷn â'i drefniadaeth a'i faint, er mwyn i ogledd Cymru wella, rwy'n credu mai camgymeriad fyddai ceisio cyflawni ad-drefnu strwythurol er mwyn newid i gael dau fwrdd Betsi Cadwaladr yn lle un. Pe baem yn gwneud hynny, byddem yn bendant yn colli cyfnod sylweddol o amser tra bydd pobl yn edrych tuag i mewn i weld pwy sy'n mynd i redeg y sefydliadau newydd hynny—h.y. datgysylltu—wedyn beth a wnewch am y ffaith bod yna dri ysbyty ar draws gogledd Cymru. I ble mae'r un canol yn mynd? Beth y mae hynny'n ei olygu o ran cynllunio gwasanaeth a chydweithredu, o fewn yr un bwrdd iechyd yn awr ond o bosibl, mewn mwy nag un sefydliad? Felly, nid wyf wedi fy narbwyllo mai mwy nag un sefydliad yng ngogledd Cymru yw'r ateb.

O ran eich pwynt am y strwythur, mewn perthynas â'r aelodaeth annibynnol o gwmpas y bwrdd, rydym yn fwriadol, dros amser, wedi sefydlu cymysgedd o aelodau gweithredol, pobl sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd fel gweithwyr ac aelodau annibynnol gyda'r cymysgedd o sgiliau sydd eu hangen ar bobl. Yn sicr, nid yw bob amser yn dilyn bod pobl sydd wedi bod yn glinigwyr yn y gwasanaeth iechyd yn gwneud rheolwyr da yn y gwasanaeth iechyd, ac fe welwn hynny ym mhob agwedd ar fywyd. Roeddwn yn arfer bod yn gyfreithiwr—roedd gennyf rai sgiliau fel arweinydd a rheolwr. Roedd fy ngwraig, sy'n dal i fod yn gyfreithiwr, yn well rheolwr na mi, o ran rhai rhannau o'r rôl, ond nid oedd hynny'n ymwneud llawer mewn gwirionedd â'n gallu fel cyfreithwyr. Felly, mae'n ymwneud â sut y mae eich cefndir proffesiynol yn eich arwain tuag at y dewisiadau y mae sefydliad yn eu gwneud, oherwydd nid rhywun a oedd yn feddyg gwych yw'r berson cywir o reidrwydd i gyflawni'r swyddogaeth gyllid. Nid rhywun a fu'n nyrs wych drwy gydol eu gyrfa yw'r unigolyn priodol o reidrwydd i eistedd o amgylch y bwrdd fel aelod annibynnol. Dyna pam y mae gennym broses ar gyfer penodiadau cyhoeddus annibynnol, a oruchwylir gan y comisiynydd penodiadau cyhoeddus, i geisio sicrhau ein bod yn cael y bobl iawn.

Dyna pam hefyd ein bod wedi ailosod ein disgwyliadau ynglŷn â'r ffordd y mae aelodau annibynnol nid yn unig yn cael eu penodi, ond sut y maent yn ymddwyn a'u parodrwydd nid yn unig i gefnogi'r sefydliad, sydd ond yn rhan o'u rôl, ond mae'n ymwneud â'r craffu a'r her a'r rôl arwain sydd ganddynt o amgylch bwrdd yr aelodau annibynnol. Ac mewn gwirionedd, yng ngogledd Cymru, gyda'r cadeirydd cymharol newydd—nid yw ond wedi bod yn y swydd ers blwyddyn neu ddwy—mae wedi dod ag arddull arwain wahanol a lefel wahanol o graffu sydd wedi newid diwylliant aelodau annibynnol o amgylch y bwrdd, ac mae ein hasesiad gwrthrychol annibynnol, gan gynnwys yr arolygiaeth, yn dweud bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol. Yr her yw mynd o hynny i welliant gwirioneddol y gellir ei ddiffinio, yn unol â'r fframwaith mesurau arbennig a ddisgrifiais i'r Aelodau yn ddiweddar.  

14:15

Rwy'n cytuno â chi fod yn rhaid i chi gael y person iawn yn y lle iawn yn gwneud y gwaith iawn, a chytunaf â chi hefyd fod cadeirydd newydd Betsi Cadwaladr wedi gwneud newidiadau rhyfeddol ac ymddengys eu bod yn meddu ar yr egni, yr ysfa, y fenter a'r profiad i allu arwain y sefydliad hwnnw. Ond y gwir amdani yw bod y cyn-brif weithredwr yn y swydd am ychydig flynyddoedd yn rhy hir yn y bôn, ac felly mae'r bwrdd iechyd wedi aros yn ei unfan dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n derbyn bod gennych brif weithredwr dros dro, neu fod gan y bwrdd brif weithredwr dros dro. Fodd bynnag, yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w ddeall yw pa mor hir y bydd chwilio am brif weithredwr newydd yn ei gymryd. Ac a allwch chi sicrhau'r Senedd nad oes unrhyw rwystrau rhag gallu sicrhau bod gan y bwrdd iechyd hwnnw gyllid i recriwtio'r unigolyn o'r ansawdd gorau gyda'r profiad gorau i'w arwain allan o'r sefyllfa ddigalon y mae wedi bod ynddi dros y pum mlynedd diwethaf? Oherwydd nid yn unig y bydd angen i'r prif weithredwr hwnnw gael profiad helaeth o redeg sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mawr, ond bydd yn rhaid iddo hefyd gael asgwrn cefn o ddur er mwyn torri fel cyllell drwy fenyn i gael gwared ar rai o'r lefelau rheoli eraill nad ydynt yn ddigon profiadol o bosibl, ac nad ydynt yn gallu sicrhau cynnydd y bwrdd iechyd hwnnw.

Rwy'n credu bod dau bwynt yno. Un yw'r drwydded ond mae'r disgwyliad y bydd prif weithredwr yn gwneud newidiadau sy'n anodd—yn anodd yn fewnol o fewn y sefydliad, ond hefyd, a siarad yn onest, yng ngwleidyddiaeth ehangach y gwasanaeth iechyd. Pan wneir dewisiadau anodd, bydd y rhan fwyaf ohonom yn wrthrychol yn gweld bod rheswm dros wneud dewis anodd. Ond mewn gwirionedd, os ydych chi'n wleidydd lleol o unrhyw blaid, a phob plaid—nid yw'n bwynt pleidiol—gall fod yn anodd iawn cyd-fynd â chefnogi'r newid hwnnw neu roi lle iddo ddigwydd. Nawr, o'm safbwynt i, rwyf am gael prif weithredwr yng ngogledd Cymru sy'n mynd i wneud y newidiadau y mae'r bwrdd iechyd eu hangen ac y mae pobl gogledd Cymru yn haeddu eu gweld yn digwydd. I mi, rwy'n barod i gael fy meirniadu'n wleidyddol ac wynebu anhawster er mwyn cael y pethau iawn wedi'u gwneud, oherwydd dyna'r amcan pennaf: gweld gofal iechyd gogledd Cymru yn gwella a gwneud rhai o'r dewisiadau cadarn y credaf fod y cadeirydd am eu gweld yn cael eu gwneud hefyd, ac y mae aelodau annibynnol bellach yn gefnogol i'w gwneud yn ogystal. Ac o fewn hynny, felly, o ran cael y person iawn, nid oes unrhyw rwystr o ran arian. Os oes angen inni fynd y tu allan i'r ystod arferol o gyflogau prif weithredwyr yng Nghymru, yna gallwn wneud hynny oherwydd, unwaith eto, rwy'n awyddus i gael y person iawn i wneud gwahaniaeth go iawn.

Yn wrthrychol, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn cytuno â hynny. Bydd yn rhaid inni weld beth sy'n digwydd wedyn pan fydd yr unigolyn yn ei swydd ac yn ceisio cyflawni peth o'r newid hwnnw. Ond pwy bynnag ydyw, ni fydd yn fater o eistedd wrth ddesg a'i tharo a dweud, 'Nawr mae'n rhaid inni wneud yr hyn rwy'n ei ddweud'. Mae'n rhaid iddynt ddal i ddod â'u staff gyda hwy, sefydlu cynlluniau sydd â rhesymeg iddynt, sydd â sylfaen dystiolaeth yn sail iddynt, a gallu nodi pam y byddant yn gwella gofal iechyd yng ngogledd Cymru ar gyfer y staff sy'n ei ddarparu, a'r cyhoedd sy'n ei dderbyn ac yn cymryd rhan ynddo.      

Rydym newydd glywed bod y prif weithredwr sydd wedi gadael yn ddiweddar wedi bod yn ei swydd am ychydig yn rhy hir; mae'n debyg y gallech ddweud hynny am y tri phrif weithredwr sydd wedi gwasanaethu yn ystod y cyfnod y bu'r bwrdd yn destun mesurau arbennig ac o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Nawr, rwy'n gwybod eich bod yn gyndyn i gyfarwyddo'r bwrdd i wneud unrhyw beth, ond fel Gweinidog, rwy'n siŵr y gallwch gyfleu ychydig o negeseuon allweddol i'r prif swyddog gweithredol newydd. Ac un o'r rheini, carwn awgrymu, yw bod angen i'r bwrdd fynd i'r afael â nifer yr ymgynghorwyr rheoli y mae'n ymwneud â hwy—hyd at 40, rwy'n credu, yn y cyfnod diweddar, gan gostio dros £6 miliwn i'r trethdalwr. Nid oes ryfedd eu bod yn mynd i wynebu diffyg sylweddol arall eleni. Felly, a wnewch chi gyfleu i'r prif weithredwr newydd fod yr amser wedi dod iddynt roi diwedd ar yr ymgysylltiad diddiwedd hwn ag ymgynghorwyr rheoli. Mae ganddynt reolwyr sy'n gyflogedig a phe baent hwy'n gwneud eu gwaith, ni fyddai angen y bobl ychwanegol hyn ar gost aruthrol. Felly, dywedwch wrthynt fod hyn yn annerbyniol a bod rhaid iddo newid.

Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen ei newid yw'r cyflawniad, a chyflawniad yn erbyn dealltwriaeth o beth yw eu heriau a'u cyfleoedd ar gyfer gwella, ac mewn gwirionedd, rhywfaint o'r gwaith rydym wedi'i gomisiynu mewn perthynas â'r bwrdd iechyd, am y gwir ddealltwriaeth o ble y gallent a ble y dylent wella eu swyddogaeth gyllid, beth y mae hynny'n ei olygu i'r gwasanaeth, ond hefyd o ran cael cynllun clinigol ar gyfer y dyfodol i ddeall sut y maent am siapio gwasanaethau'n fwriadol yng ngogledd Cymru i ddarparu gwell gofal. A dyna'r her sylfaenol y mae angen i'r bwrdd iechyd ei goresgyn, ac wrth gwrs bydd angen y bobl iawn yn eu swyddi i wneud hynny, ond os oes ganddynt ddiffyg ac os na allant recriwtio'r person cywir ar y pryd, efallai y bydd angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau ymgynghori yn yr un modd yn union ag y mae angen i bobl, lle bynnag y bônt mewn gwasanaethau cyhoeddus, neu'n wir, mewn rhai rhannau o'r sector preifat, ddefnyddio gwasanaethau ymgynghori o bryd i'w gilydd. Ond mae'n rhaid i'r lefel fod yn briodol. Mae'n rhaid i hynny helpu'r bwrdd iechyd ar ei ffordd i wella'r daith y mae Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod bod angen iddo ei gwneud o hyd.

14:20
Coronafeirws

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd adrannau damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru i fynd i'r afael â coronafeirws? OAQ55216

I gefnogi cynllun gweithredu'r DU, sy'n adeiladu ar y gwaith parodrwydd presennol ar y pandemig ffliw, mae grŵp cynllunio ac ymateb sy'n cynnwys uwch swyddogion a rhanddeiliaid allanol allweddol wedi cael ei gynnull. Bydd yn darparu cydlyniad a chymorth strategol o fewn y Llywodraeth ac ar draws y gwasanaeth iechyd. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys sicrhau parodrwydd gwasanaeth damweiniau ac achosion brys y GIG ledled Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw. Clywsoch gan Rhun ap Iorwerth ychydig yn gynharach heddiw am y diffyg capasiti o fewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru ar gyfer ymdrin â symptomau tebyg i niwmonia a allai godi o coronafeirws—ystyriaeth arall efallai i'r rhai sy'n pendroni ynglŷn â dyfodol Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd, sydd hefyd yn gwasanaethu fy etholwyr i.

Ar wahân i logisteg symud pobl gyda'r symptomau hyn yn ddiogel trwy ysbyty sy'n llawn o bobl sâl ac oedrannus, pobl eiddil, ceir hefyd yr effaith ar gynllunio ariannol y bydd y byrddau iechyd lleol yn edrych arni. Cafwyd addewidion gan Lywodraeth y DU o arian i liniaru'r heriau sy'n wynebu'r DU gyfan. A ydych mewn sefyllfa i ddweud wrthym eto sut y gallai hwnnw wneud ei ffordd i Gymru? A ydym yn edrych ar Farneteiddio neu gost y pen neu golledion canlyniadol? A ydych wedi cael unrhyw wybodaeth am hynny i ni ar hyn o bryd? Diolch.

Rydych chi'n iawn i ddweud—ac fel rwyf wedi'i nodi mewn datganiadau blaenorol ac mewn cwestiynau a atebais yn gynharach heddiw—y bydd angen inni ystyried sut i newid y gwasanaeth. Mae hynny'n golygu pobl sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy adran damweiniau ac achosion brys ac i ysbyty, sut y gallai hynny newid a sut y mae rhai o'r llwybrau hynny'n gweithio, ond hefyd i wneud yn siŵr fod mwy o gapasiti mewn ysbytai. Felly, bydd angen inni helpu pobl allan o ysbytai i wneud yn siŵr fod lle i bobl wirioneddol sâl fynd i mewn dros yr wythnosau nesaf. Nid ydym yn deall y rhifau i gyd eto, oherwydd nad ydym wedi cyrraedd pwynt pan allwn ragweld hynny'n gliriach, ond gwyddom y bydd yn rhaid inni wneud rhywfaint o hynny, ac felly eisoes ceir sgyrsiau o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â sut y gallai ac y dylai hynny ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Rwy'n ailadrodd y pwynt a wneuthum hefyd, sef y byddwn, i bob pwrpas, yn gorfod oedi rhai o'n disgwyliadau arferol mewn perthynas â rheoli perfformiad a monitro. Ni fyddai dweud wrth y gwasanaeth iechyd, 'Mae'n rhaid i chi ddal ati i wneud popeth yn awr fel rydych yn eu gwneud heddiw ac ymdopi â galw cynyddol sylweddol hefyd' yn brawf teg. Felly, mae'r her am y cyllid a'n gallu i gynllunio—rwy'n ofni nad ydym mewn sefyllfa i ddeall yn union beth y mae'r prif addewidion a wnaeth y Canghellor heddiw yn ei olygu mewn gwirionedd. Dywedodd ar y penwythnos y byddai'r GIG yn cael yr holl adnoddau sydd eu hangen arno. Aeth y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gyfarfod bore ddoe, cyfarfod cynnar iawn gyda Gweinidogion cyllid eraill y tair Llywodraeth ddatganoledig genedlaethol arall a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac—. Nid oes gennym ddarlun llawn o hyd o'r hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, ynglŷn ag a fydd prif fesur yn dod yn awr i'n helpu i ddarparu a chynllunio gwasanaethau neu a fydd hyn yn ymwneud, yn nes ymlaen, â chyflenwi darpariaeth yn seiliedig ar anghenion. Ond mae yna arwydd cyffredinol fod yna gydnabyddiaeth fod hon yn her i'r DU gyfan ac na fydd modd ymdrin â hi yn y ffordd arferol, os mynnwch, o ddarparu'r cyllid sydd wedi'i ddyrannu. Ond rydym am weld manylion hynny, ac wrth i ni eu cael, byddaf yn fwy na pharod i fod yn agored gyda'r Aelodau a'r cyhoedd am yr hyn y mae hynny'n ei olygu.

Y Sgandal Gwaed Halogedig

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ddioddefwyr o Gymru yn y sgandal gwaed halogedig? OAQ55232

Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia yn ogystal â chymorth cofleidiol helaeth, sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor ar fudd-daliadau a chefnogaeth a chyfeirio at wasanaethau cyhoeddus eraill y gallwn eu darparu ledled Cymru.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n credu, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, y dylwn dalu teyrnged i'r gwaith rydych wedi'i wneud fel aelod o'r meinciau cefn, cyn i chi ymuno â'r Llywodraeth, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig a'r gwaith a wnaethoch yn gorfodi Llywodraeth y DU i gynnal yr ymchwiliad. Mae hynny'n sicr yn cael ei gydnabod. Ond mae gennyf gwestiynau ynglŷn â ble rydym heddiw.

Ar 9 Ionawr, ysgrifennais at y Gweinidog iechyd ar ran fy etholwr Kirk Ellis, yr effeithiwyd arno gan y sgandal gwaed halogedig. Mae'n sâl ac yn fwyfwy pryderus nad yw ei deulu'n gallu darparu'n ariannol ar ei gyfer, pe bai unrhyw beth yn digwydd iddo. Hoffwn ddweud hefyd fod aelodau o'r cyhoedd sy'n aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig yn yr oriel gyhoeddus heddiw, ac maent wedi dod i mewn yn arbennig i glywed y cwestiwn hwn.

Mae Kirk wedi darganfod—mae Kirk Ellis wedi darganfod—ei fod yn waeth ei fyd yn ariannol nag a feddyliodd ar y dechrau, gan fod dioddefwyr yn Lloegr yn cael taliadau ar gyfer eu plant ar gyfradd o £3,000 y flwyddyn ar gyfer y plentyn cyntaf ac yna £1,200 ar gyfer unrhyw blentyn arall. Felly, gyda phlentyn tair oed, mae Kirk £9,000 yn waeth ei fyd na phe bai'n byw yn Lloegr. Mae achos clir i'w ateb yma, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU, wrth gwrs, i gymryd yr awenau a darparu'r cyllid. Ond mae gwahaniaeth hefyd rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban o ran yr hyn y mae pobl yn ei gael. Yn yr Alban, bydd gwŷr a gwragedd gweddw pobl sydd wedi marw yn cael iawndal ariannol. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru na Lloegr. Ond y broblem allweddol—y broblem allweddol—hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau, yw y ceir anghysondeb ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae dioddefwyr yng Nghymru yn gofyn y cwestiwn syml: pam na allwn ni dalu'r hyn sy'n ddyledus iddynt a hynny'n gwbl gyfiawn? Weinidog, a allwch ateb y cwestiwn hwnnw? A hefyd, a fyddech cystal â mynychu cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol i siarad â dioddefwyr am y mater hwn?

14:25

Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn pwysig hwnnw. Roeddwn yn falch o gyfarfod ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol yn gynharach heddiw ar ddechrau eu cyfarfod, a gwn pa mor gryf yw eu teimladau am y mater hwn.

Mae pedwar cynllun gwahanol ym mhedair gwlad y DU, ac mae'n anodd eu cymharu am eu bod mor wahanol. Fodd bynnag, gwn ei bod yn berffaith wir fod buddiolwyr yng Nghymru yn cael £12,000 yn llai, ar gyfartaledd, na'u cymheiriaid yn Lloegr, er bod Cymru'n darparu cefnogaeth seicolegol, a ganmolwyd gan Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad. Ond mae'r Llywodraeth yn credu y dylid cael cydraddoldeb rhwng y pedwar cynllun. Bu'n anodd gwneud cynnydd drwy holl newidiadau Gweinidogion yn San Steffan. Rydym yn cydnabod bod y mater sy'n ymwneud â gweddwon yn bwysig iawn, ac mae hynny'n rhywbeth y mae aelodau'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia wedi cael eu lobïo yn ei gylch yn gyson—y ffaith mai yn yr Alban yn unig y caiff gweddwon eu cydnabod. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig iawn y mae'n rhaid inni edrych arno.

Rydym yn cynllunio cyfarfod rhwng pedwar Gweinidog y pedwar corff datganoledig. Rydym am symud i sefyllfa o gydraddoldeb. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed Hefin David, nad yw'n iawn fod dioddefwyr yma yng Nghymru yn cael llai nag mewn gwledydd eraill. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn rhoi sylw iddo cyn gynted ag y bydd Gweinidog wedi'i ddynodi yn y Llywodraeth yn San Steffan a chyn gynted ag y gallwn gael cyfarfod.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros y 12 mis nesaf? OAQ55197

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl Cymru, gan gynnwys y rheini yng ngorllewin Cymru, yn cael gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Bydd gwireddu'r weledigaeth a nodwn yn 'Cymru Iachach' yn helpu i sicrhau'r flaenoriaeth honno.

Weinidog, er mwyn gwella gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae'n hanfodol fod gwasanaethau hanfodol mor hygyrch â phosibl i bobl leol, ac mae hynny'n cynnwys lleoli gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â darparu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, yn ogystal ag unrhyw drafodaethau a gawsoch ynghylch creu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru, gan fod y bobl rwy'n eu cynrychioli eisiau gweld gwasanaethau hanfodol fel yr adran damweiniau ac achosion brys yn cael eu cadw yn Ysbyty Llwynhelyg?

Wel, mae hwn yn gwestiwn ynglŷn â darparu'r cynllun gorllewin Cymru iachach. Fe fyddwch yn cofio'r ymgysylltu sylweddol a fu â'r staff a'r cyhoedd, ac yna'r aelodau rheng flaen o staff eu hunain yn cyflwyno dewisiadau i'r bwrdd iechyd ar gyfer y dyfodol. Ac o fewn hynny, dewisodd y cyngor iechyd cymuned beidio â chyfeirio'r opsiynau posibl i mewn. Felly, ceir strategaeth y cytunwyd arni bellach yng ngorllewin Cymru ynghylch yr hyn y bydd hynny'n ei olygu. Bydd hynny'n ymwneud â bod angen crynhoi rhai gwasanaethau—fel y gwelsom yr adolygiad Seneddol yn ei argymell yn gyffredinol—er mwyn darparu gwell gwasanaethau, gwell ansawdd gofal, a gwasanaethau eraill yn cael eu darparu ar sail ehangach ac yn fwy amrywiol, gan gynnwys o fewn y gymuned.

Fe fyddwch wedi gweld, er enghraifft, rai o'r pryderon a oedd gan bobl ynghylch cael uned o dan arweiniad bydwragedd ar safle Llwynhelyg; mewn gwirionedd ni cheir tystiolaeth, er y cannoedd ar gannoedd o enedigaethau, fod gofal menywod a'u babanod wedi'i roi dan fygythiad. Serch hynny, rydym yn dal i fuddsoddi yn safle Llwynhelyg; er enghraifft, y mwy na £3 miliwn i gwblhau gwelliannau i wardiau 9 a 10 yn ysbyty Llwynhelyg. Felly, bydd yna rôl bwysig o hyd i safle Llwynhelyg ei chwarae yn y dyfodol.

O ran yr opsiwn ysbyty newydd, rwy'n awyddus i gael achos busnes gan y bwrdd iechyd sy'n nodi ble maent arni a phan ddaw hwnnw i law, a phan fyddaf wedi cael cyngor ynglŷn ag a ddylwn gefnogi'r cam nesaf yn hynny o beth, byddaf yn gwneud hynny'n glir wrth gwrs. Felly, cynlluniau y mae'r bwrdd iechyd yn eu datblygu yw'r rheini. Mae gennyf swyddogaeth wneud penderfyniadau, ond rwy'n edrych ymlaen at gael yr achos busnes hwnnw—yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, rwy'n gobeithio—i ganiatáu i ni wneud penderfyniad. Ac fe gewch chi a phobl eraill yng ngorllewin Cymru weld rhywbeth am y weledigaeth ar gyfer y dyfodol o ran ad-drefnu gofal iechyd yn fwriadol yng ngorllewin Cymru ac yn wir, y buddsoddiad sylweddol y bydd ei angen i sicrhau bod hynny'n digwydd.

14:30
Datganiad gan y Llywydd

Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ddirprwyaeth o Gatalonia sy'n ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus, dan arweiniad Llywydd Senedd Catalonia, Roger Torrent. Rwyf hefyd yn meddwl am Lywydd blaenorol Senedd Catalonia, Carme Forcadell, sy'n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yma am ymuno â mi i groesawu'r Llywydd Torrent yn gynnes iawn i Gymru ac i'n Senedd. Croeso. [Cymeradwyaeth.]

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cwestiynau nesaf i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau treth incwm Cymru? OAQ55207

Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm o 10c y band yng Nghymru y llynedd ac maent yn berthnasol i dalwyr treth incwm sy'n preswylio yng Nghymru. Ar 3 Mawrth, pleidleisiodd y Cynulliad, o 43 i un, o blaid sicrhau bod cyfraddau Cymru yn aros yr un fath yn 2020-21.

Diolch am yr ateb hwnnw. Weinidog, mae eich Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o effaith cyfraddau uwch o dreth incwm ar economi Cymru a theuluoedd Cymru, pe bai cynnydd yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad nesaf?

Mae'r gost statig o newid posibl i'r gyfradd yn gymharol syml. At ddibenion enghreifftiol, byddai cynnydd neu ostyngiad o 1c ar draws y tri band yn 2020-21, neu mewn Cynulliad yn y dyfodol, yn cynyddu neu'n lleihau refeniw oddeutu £220 miliwn, gyda'r mwyafrif helaeth o refeniw, wrth gwrs, yn cael ei gynhyrchu drwy'r gyfradd sylfaenol. Felly, dyna fyddai effaith newid o 1c.

Rwy'n credu mai ein lle ni fel Aelodau'r Cynulliad, wrth inni geisio datblygu ein maniffestos ar gyfer yr etholiad nesaf, yw ystyried os a sut y byddem yn defnyddio ein cyfraddau treth incwm yng Nghymru, ac yna dangos i bobl Cymru beth fyddai'r effaith ar eu bywydau. Felly, er enghraifft: pe bai gostyngiad o 1c a gostyngiad o £220 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru, byddai'n ddyletswydd arnom i ddangos ym mha feysydd y byddai'r toriadau hynny'n cael eu gwneud; ac yn yr un modd, pe bai cynnydd o 1c a chynnydd o £220 miliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, byddai'n bwysig nodi lle byddai'r gwariant ychwanegol hwnnw'n digwydd.

Weinidog, rydych newydd roi dadansoddiad clinigol, sy'n ddealladwy efallai—ar ddechrau eich ateb yn y fan honno—o effaith newidiadau i'r dreth incwm ar refeniw. Mae'r hyn rydych wedi'i ddweud, wrth gwrs, yn gwbl gywir yn dechnegol, ond mae cynyddu neu leihau trethi yn cael effeithiau eraill, wrth gwrs, effeithiau y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ymdrin â hwy ers amser maith: newidiadau mewn ymddygiad, er enghraifft. Mae'n bosibl iawn y bydd cynyddu trethiant yn dod â mwy o arian i'r coffrau ac yn caniatáu mwy o arian i chi ei wario ar wasanaethau cyhoeddus; ond ar yr un pryd, gallai lleihau trethiant, yn ogystal â gostwng swm y refeniw, ysgogi wrth gwrs, a byddai bron yn sicr o ysgogi, mentergarwch ac yn annog pobl i weithio'n galetach, gan wybod y byddant yn cadw rhywfaint o'u harian. Felly, mae'n rhaid ystyried y ffactorau hynny i gyd.

Yng nghyllideb y Canghellor heddiw, nodais ei fod wedi sôn y byddai swyddfa Trysorlys newydd, neu swyddogion Trysorlys newydd, yn dod i Gymru. Tybed a allech ddweud wrthym beth rydych yn ei wybod am y cyhoeddiad hwnnw ar y cam cynnar hwn. A hefyd, o ran gwneud newidiadau i dreth incwm, a ydych yn credu y gallwch chi ac Awdurdod Cyllid Cymru gydweithio'n agos â'r swyddfa Trysorlys newydd honno, fel sylfaen o brofiad, er mwyn sicrhau, pan fyddwch yn gwneud y newidiadau hyn i dreth incwm yn y dyfodol, ei chodi neu ei gostwng, eu bod yn cael eu gwneud yn ôl y dystiolaeth orau bosibl, a'n bod yn gwybod yn iawn beth fydd yr effeithiau ar economi Cymru.

14:35

Rwy'n credu y dylai unrhyw benderfyniadau fod yn seiliedig, yn amlwg, ar y dystiolaeth orau bosibl, a dyma un o'r meysydd y gallwn ei archwilio'n fanylach yn y Pwyllgor Cyllid yfory, lle byddaf yn rhoi tystiolaeth ar beth fydd effaith bosibl y gwahanol gyfraddau cyfnewid ar draws ffiniau yn y DU. Ond wrth gwrs, nid oes gennym lawer o dystiolaeth, os o gwbl mewn gwirionedd, o fewn y DU ar hyn o bryd, oherwydd nid yw’r Albanwyr ond wedi bod yn casglu eu cyfraddau treth incwm eu hunain yn yr Alban yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd y data alldro cyntaf ar gael yn fuan. Felly, nid oes gennym y sylfaen dystiolaeth honno i'w harchwilio'n fanwl. Gallwn edrych ar rannau eraill o'r byd—felly, rhannau o Ganada, er enghraifft, sydd â chyfraddau gwahanol o dreth incwm mewn gwahanol ardaloedd—ond yn fy marn i, ni fydd modd rhagdybied y bydd yr effeithiau ymddygiadol hynny yr un fath o reidrwydd. Ond fel rwy’n dweud, mae llawer o gyfle i drafod hynny'n fwy manwl yn y pwyllgor.

O ran cyhoeddiad y Canghellor am bresenoldeb y Trysorlys yma yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw fanylion am yr hyn y gallai hynny ei olygu. Gallai olygu staff ychwanegol, efallai, yn adeilad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi. Nid ydym yn siŵr beth yw'r manylion, ond mae'n amlwg y byddwn yn archwilio. Rydym yn awyddus iawn i weithio'n agos gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi a'r Trysorlys, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn rhannu gwybodaeth a syniadau er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru. Felly, edrychwn ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny. Rwyf ychydig yn nerfus ynglŷn â'r ffaith na chlywsom unrhyw beth heddiw am gyllid yn lle cyllid Ewropeaidd, ac wrth gwrs roeddem yn gobeithio clywed ychydig am y gronfa ffyniant gyffredin. Nawr, mae p'un a yw'r Canghellor yn gweld rôl bosibl i bresenoldeb y Trysorlys yn gweinyddu'r gronfa honno yn rhywbeth sy'n achosi ychydig o nerfusrwydd inni, ond edrychwn ymlaen at ei archwilio'n fanylach.

Tai Gwag

2. Pa drafodaeth y mae'r Gweinidog wedi ei gynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sut gall Llywodraeth Cymru helpu ariannu cynlluniau i leihau y nifer o dai gwag yn y gogledd? OAQ55227

Byddaf yn cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am amrywiaeth o faterion o fewn ei phortffolio, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â thai gwag. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn ein rhaglen benthyciadau eiddo, buddsoddi mewn adfywio wedi'i dargedu drwy ein cronfa thematig ar gyfer eiddo gwag, a'n cronfa benthyciadau canol trefi.

Ond y gwir amdani yw bod gyda ni o gwmpas 3,000 o dai gwag yng ngogledd Cymru, a rhai ohonyn nhw wedi sefyll yn wag am ddegawd a mwy. Mae hwn yn wastraff adnoddau enfawr iawn, onid yw e? Oherwydd rŷn ni'n gweiddi mas am dai fforddiadwy, ond mae gennym ni filoedd o dai gwag yn y gogledd, ac wedyn dŷn ni'n gweld tai yn cael eu codi ar gaeau gleision ac ar dir sy'n gorlifo yn y gogledd. Felly, yn sicr, mae'n dal i fod yn broblem. Rŷn ni'n gwybod bod y cynllun troi tai yn gartrefi â'r uchelgais o ddod nôl a 5,000 o dai gwag i ddefnydd, ond dwi'n meddwl mai dim ond 98 a lwyddwyd i'w cael nôl i'r sector tai yn y flwyddyn 2018-19. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni pa ystyriaeth rŷch chi'n ei rhoi i gymhellion eraill, efallai mwy effeithiol, y gellid eu defnyddio i annog perchnogion tai gwag i fynd i'r afael â'r broblem?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae gan raglen benthyciadau eiddo Llywodraeth Cymru gymysgedd o gyllid grant cyfalaf a chyllid benthyciad ad-daladwy gwerth dros £42 miliwn, ar gael drwy awdurdodau lleol i berchen-feddianwyr er mwyn gwella eiddo a gwneud defnydd newydd o'r eiddo gwag hwnnw. Mae £11 miliwn ohono wedi'i ddyrannu i'r chwe awdurdod ledled gogledd Cymru i helpu'r perchen-feddianwyr a'r landlordiaid hynny i wneud defnydd o gartrefi is-safonol unwaith eto. Hyd yn hyn, mae dros 350 o fenthyciadau wedi'u cyhoeddi, ac mae bron i 300 eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto ar draws gogledd Cymru o ganlyniad i'r arian hwnnw'n unig. Ond rwy'n cytuno bod angen inni ystyried beth arall y gallwn ei wneud. Ac wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno cronfa eiddo gwag o £3.2 miliwn fel rhan o'n hagenda trawsnewid trefi, ac mae honno'n cefnogi prosiect sy'n gweithredu ar draws ardal yng Ngwynedd ac Ynys Môn; unwaith eto, ei nod yw ceisio gwneud defnydd o eiddo gwag.

Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020, byddwn wedi cynhyrchu cynllun gweithredu cenedlaethol terfynol ar gyfer mynd i'r afael ag eiddo gwag a fydd yn nodi ein hamcanion cenedlaethol a lleol, ac mae hwnnw'n waith rwy'n ei drafod gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Yn fwy cyffredinol, rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol drwy ddefnydd gwell o orchmynion prynu gorfodol, gan y gallai rhai o'r adeiladau a fyddai'n gallu bod yn gartrefi rhagorol ac eiddo rhagorol at ddibenion eraill fod yn falltod gwirioneddol ar gymunedau ar hyn o bryd. Felly, rydym yn sicrhau bod gan bob awdurdod lleol y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i fynd i'r afael ag eiddo gwag yng Nghymru. Rydym yn gwneud hynny drwy gyflwyno arbenigwr diwydiant ym maes rheoli eiddo, sy'n darparu cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi i bob awdurdod lleol unigol yng Nghymru.

14:40

Weinidog, fel Llyr, roeddwn yn edrych ar y data ar gyfer 2018-19, ac mae'n eithaf siomedig. Mae'n faes heriol—cartrefi gwag yn y sector preifat a gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwahanol fecanweithiau ariannol i sicrhau bod rhai o'r cartrefi hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto—ond mae perfformiad yn amrywio. Mae Ynys Môn wedi sicrhau bod 12 y cant o'u heiddo preifat gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto; 1.6 y cant yng Nghonwy; 8.6 y cant yn Sir Ddinbych; a 5.6 y cant yn Wrecsam. Felly mae cryn amrywiaeth yno, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arferion gorau'n cael eu gwella ymhellach ac yna'n cael eu mabwysiadu gan yr awdurdodau eraill.

Oes, mae llwyddiant yn amrywio o ran sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Y gobaith yw y bydd y gwaith ar y gorchmynion prynu gorfodol a amlinellais yn awr yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol sydd wedi cael anhawster yn y maes hwn hyd yma, oherwydd gwyddom fod rhai awdurdodau lleol wedi teimlo nad oes ganddynt gapasiti na hyder i gymryd rhan yn y maes gwaith penodol hwnnw.

Mae premiymau'r dreth gyngor hefyd yn arf defnyddiol i fynd i'r afael â chartrefi gwag ac unwaith eto, maent wedi cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol ac i raddau gwahanol ar draws Cymru. Gwyddom y bydd premiymau'n cael eu codi ar bron i 6,700 o anheddau sy'n wag yn hirdymor yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae nifer yr anheddau sydd wedi bod yn wag yn hirdymor wedi gostwng dros 1,000 ers cyflwyno'r premiymau. Felly, mae'n sicr yn cael effaith.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cwpwl o gwestiynau ynglŷn â'r coronafeirws a'r paratoi am hynny. O ran y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal yn benodol, a gawn ni ryw syniad gennych chi o'r math o drafodaethau sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chithau er mwyn sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi yn barod i'w rhannu, os nad oes eu hangen nhw ar hyn o bryd? Achos rydyn ni angen gwybod na fydd diffyg adnoddau yn rhwystr mewn unrhyw ffordd pan fydd y frwydr yn erbyn coronafeirws yn dwysau.

Rwyf wedi bod yn cael y trafodaethau hyn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, o ran sut rydym yn ymdrin â COVID-19, ac rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda chymheiriaid o'r gwledydd datganoledig eraill, a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys hefyd. Rydym yn glir yng Nghymru na fydd cyllid yn rhwystro'r GIG rhag gallu mynd i'r afael â'r coronafeirws. Roeddem hefyd yn glir yn ein cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys y dylai cyllid sy'n dod gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r amgylchiadau eithriadol hyn gael ei ddarparu ar sail angen. Roeddwn yn awyddus iawn i bwysleisio'r ffaith bod gennym ni, yng Nghymru, boblogaeth hŷn yn ôl cyfran ac yn amlwg, mae hynny'n golygu y gallai fod mwy o berygl y bydd yn rhaid inni ofalu am bobl sy'n llawer salach. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni ei gofio wrth i gyllid gael ei ddyrannu ar draws y DU. Nid ydym yn gwybod eto sut y bydd y darlun yn datblygu yn y gwahanol ranbarthau o Gymru, felly mae hon yn sicr yn drafodaeth barhaus, ond rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw na fydd cyllid yn rhwystr i gefnogi'r GIG.

Diolch yn fawr iawn, ac mi fuaswn i'n gwerthfawrogi diweddariadau ar yr adnoddau sydd yn cael eu rhyddhau, ochr yn ochr â'r diweddariadau ar y camau o ran gwarchod iechyd. Mae'r pwynt yna'n gwbl ganolog, wrth gwrs: allwn ni ddim edrych ar ryw fodel a fyddai'n rhannu arian yn ôl poblogaeth, oherwydd mi allai gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig gael eu taro'n wahanol iawn gan COVID-19.

Yn symud o'r elfen iechyd at yr elfen economaidd, sydd wrth gwrs yn elfen sylweddol o'r consyrn wrth inni symud ymlaen, mae Llywodraeth Prydain yn y gyllideb heddiw wedi cyhoeddi pecyn o gymorth ar gyfer busnesau bach sydd, wrth gwrs, yn dod o dan bwysau. Un syniad ydy rhewi cyfraddau busnes ar gyfer rhai busnesau; mae yna sôn am gynllun benthyciadau ar gyfer busnesau sydd wedi cael ei heffeithio gan coronafeirws; ac mae yna hefyd addewid y bydd y Llywodraeth yn helpu cwmnïau efo taliad statudol ar gyfer salwch ar gyfer y rheini sy'n colli gwaith o ran coronafeirws.

Mae'n bwysig iawn bod y pecynnau yna yn cael eu hamlinellu gan Lywodraeth Prydain; mae'n bwysig iawn hefyd ein bod ni yn clywed gan Lywodraeth Cymru pa mor barod ydych chi i chwilio am ffyrdd gwahanol o leddfu pryderon busnes rŵan a bod yn barod i gamu i mewn. Dydyn ni ddim wedi clywed manylion cynlluniau felly hyd yn hyn, ac mi fyddai rŵan yn gyfle da i ni allu trafod hynny.

14:45

Roeddwn yn falch o gyflwyno'r achos i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ddoe y dylid sicrhau bod pecyn cymorth i fusnesau yn y gyllideb hon, ac roeddwn yn falch o weld hwnnw'n cael ei ddarparu. Felly, fel y sonioch chi, bydd rhai pethau ynddo a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn yr argyfwng uniongyrchol. Er enghraifft, bydd y tâl salwch yn cael ei dalu o ddiwrnod 1 ymlaen yn hytrach nag o ddiwrnod 4 ymlaen; mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi hynny. Ond rwy'n credu bod pethau wedi mynd gam ymhellach heddiw, o ran tâl salwch statudol i bawb sy'n cael eu cynghori i aros gartref hyd yn oed heb symptomau. Bydd hynny'n digwydd, ac rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. Gall pobl gael y nodyn salwch drwy 111, a bydd pobl yn yr economi gig yn ei chael yn haws cael mynediad at fudd-daliadau; rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, er fy mod yn credu bod angen i ni weld mwy o'r manylion.

Deallaf y bydd y lwfans cyflogaeth a chymorth ar gael o ddiwrnod 1 ymlaen yn hytrach nag o ddiwrnod 8 ymlaen, a bod Llywodraeth y DU hefyd yn dileu'r isafswm incwm ar gyfer credyd cynhwysol dros dro ac yn llacio'r gofyniad i fynychu canolfan waith, felly mae'n bosibl cael cymaint o'r sgyrsiau hynny ar-lein neu dros y ffôn. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio, bron, y bydd y rheidrwydd hwnnw'n arwain at gamau i sicrhau bod credyd cynhwysol yn gweithio'n well i bobl, yn enwedig i bobl yng Nghymru.  

Gallai cost statudol tâl salwch i fusnesau bach a chanolig eu taro'n galed, felly rwy'n falch iawn o glywed y cyhoeddiad gan y Canghellor heddiw y gall busnesau â llai na 250 o weithwyr hawlio cost tâl salwch yn ôl am hyd at 14 diwrnod, a bydd hwnnw'n cael ei ad-dalu'n llawn. Rwy'n credu bod hwnnw'n fesur pwysig i fusnesau. Roeddwn yn cyflwyno achos ddoe dros weld Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn ehangu'r gwasanaeth Amser i Dalu, ac unwaith eto, roeddwn yn falch o weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiad heddiw.  

Mae gan Lywodraeth y DU linell gymorth benodol, a gyhoeddwyd heddiw, ond wrth gwrs, mae honno gennym eisoes drwy Busnes Cymru, sydd yno i gefnogi busnesau yn yr amgylchiadau arbennig hyn.  

Ac yn olaf, gan aros gyda'r gyllideb, a chyda'r Canghellor yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn lansio adolygiad sylfaenol o drethi busnes, rydym yn sicr o'r farn ein bod angen adolygiad sylfaenol, a hoffem pe gallem fod wedi symud yn gyflymach yng Nghymru. Rydym wedi cael adolygiad ar ôl adolygiad; rwy'n siŵr y dylai rhai camau fod wedi cael eu cymryd beth amser yn ôl. Fel rhan o'r adolygiad sylfaenol hwnnw, bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cynlluniau i ddileu ardrethi busnes a sefydlu treth gwerth tir yn eu lle. Nawr, ar hyn o bryd, mae Plaid Cymru yn edrych ar sut y gallai treth gwerth tir weithio yng Nghymru; mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar hyn ers peth amser. Onid yn awr yw'r amser i fanteisio ar y momentwm, i newid y cyd-destun, ac i Lywodraeth y DU gynhesu at y syniad efallai? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar dreth gwerth tir yn fuan?

Wel, byddwch yn sicr yn gweld y ddogfen a gomisiynwyd gennym yn cael ei chyhoeddi'n fuan iawn, ac mae honno'n edrych ar oblygiadau treth gwerth tir a beth fyddai hynny'n ei olygu i Gymru. Mae'n rhan o gyfres o waith ymchwil a gomisiynwyd gennym sy'n edrych ar wahanol agweddau ar drethiant lleol, ar gyfer ardrethi annomestig ac ar gyfer y dreth gyngor. Rydym hefyd wedi cael gwaith sy'n edrych ar beth fyddai goblygiadau ail-werthuso, er enghraifft, a phwy fyddai'r enillwyr a'r collwyr yn y sefyllfa honno; beth fyddai'r effaith ddosbarthiadol o ran daearyddiaeth ledled Cymru? Yn ystod y gwanwyn hwn, bydd sawl darn o waith ymchwil yn cael eu cyhoeddi a fydd, gyda'i gilydd, yn darparu cyfres o dystiolaeth hynod o graff i bob un ohonom er mwyn ystyried y ffordd ymlaen.

Ond wrth gwrs, ardrethi busnes—ni ddylid eu diwygio er mwyn eu diwygio yn unig. Mae angen inni fod yn siŵr fod unrhyw ddiwygiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd sy'n cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ehangach. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn ynglŷn â'r cyhoeddiad heddiw fod Llywodraeth y DU, o'r diwedd, wedi dal i fyny yn awr, ac na fydd hanner busnesau Lloegr yn talu ardrethi busnes mwyach. Ond wrth gwrs, rydym wedi bod yn y sefyllfa honno yng Nghymru ers amser hir iawn.

14:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae Canghellor y Trysorlys heddiw, yn ei gyllideb, wedi cyhoeddi nifer o ymrwymiadau ariannu allweddol i fentrau bach a chanolig eu maint, yn ogystal ag i'r diwydiant lletygarwch a manwerthu, yng ngoleuni bygythiad COVID-19, a godwyd gan lefarydd Plaid Cymru yn awr. Mae'r cyhoeddiad heddiw hefyd yn cynnwys £360 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, mwy o fuddsoddi mewn seilwaith a mwy o fuddsoddi mewn darlledu, fel S4C. Felly mae'n ymddangos bod cyni—y mae aelodau o'ch Llywodraeth wrth eu boddau'n siarad amdano—yn prysur ddod i ben. A wnewch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o addewidion y Canghellor i gyfateb i gymorth Llywodraeth y DU?

Wel, mae gennyf newyddion drwg i lefarydd yr wrthblaid, wrth gwrs, oherwydd yn sicr nid yw cyni wedi dod i ben. Os edrychwch ar y dogfennau sy'n cefnogi cyllideb Llywodraeth y DU, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhoi darlun eithaf digalon o'r rhagolygon, hyd yn oed cyn ystyried COVID-19. Ac nid yw hynny'n syndod, o gofio agwedd ddiofal Llywodraeth y DU tuag at drafodaethau masnach gyda'n partner masnachu mwyaf a phwysicaf, yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi awgrymu ar unrhyw adeg yn y Senedd hon y bydd twf yn cyrraedd 2 y cant hyd yn oed, sy'n eithaf gwael yn hanesyddol. Felly nid wyf yn credu y gallwn ddweud bod cyni wedi dod i ben. A hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol sy'n dod i Lywodraeth Cymru heddiw o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU, prin fod hynny'n mynd â ni'n ôl lle roeddem 10 mlynedd yn ôl. Felly, mae cyni yma o hyd, mae arnaf ofn.

Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn bod yn ddrygionus pan ddywedais y gair 'cyni'—roeddwn yn gwybod y byddai'n cymell ymateb tebyg i hwnnw. Ac mae sail i rywfaint o'r hyn a ddywedwch o ran twf wrth gwrs, ac rydych yn iawn i dynnu sylw at y pethau hynny. Ond rwy'n credu bod angen inni edrych ar yr ochr olau hefyd. Ac mae newyddion da yn y gyllideb hon ar gyfer y DU, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru—ac mae hyn yn allweddol i fy nghwestiwn—yn gwneud defnydd o'r symiau canlyniadol sydd ar y ffordd er mwyn gwella'r sefyllfa yma yng Nghymru. Oherwydd mae gan Gymru ddwy Lywodraeth wrth gwrs.

Weinidog, mae'r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi nifer o newidiadau i yswiriant gwladol a threth incwm, a fydd, gyda'i gilydd, yn golygu y bydd pobl sy'n ennill yr isafswm cyflog £5,200 yn well eu byd yn awr nag yn 2010. At hynny, mae'r doll ar gwrw a'r doll ar danwydd yn cael eu rhewi am flwyddyn arall, felly bydd gweithwyr yn gweld mwy o arian yn eu pocedi yn y ffordd honno.

Yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn sôn am ddatganoli treth incwm, a chreu trethi newydd. A ydych yn teimlo bod y pwyslais yma bob amser ar greu trethi newydd a chodi trethi? Ond mae angen mynd i'r afael ag agenda torri trethi hefyd, ac mae gan Lywodraeth Cymru bŵer sylweddol at ei defnydd, mewn meysydd treth allweddol penodol, i ysgafnhau'r baich ar bobl weithgar yng Nghymru, ac i gynhyrchu mwy o incwm yn y tymor hwy drwy annog entrepreneuriaeth wrth gwrs, a rhoi mwy o arian i fusnesau allu buddsoddi. Rydym wedi clywed eich barn ar drethi eleni; a allech chi ddweud wrthym sut rydych yn rhagweld y caiff y pwerau trethu hynny eu defnyddio yn y dyfodol, i leihau'r baich trethi ar bobl yng Nghymru, ac i annog twf economaidd?

Ni chlywais unrhyw beth gan Lywodraeth y DU heddiw am newidiadau i dreth incwm. Gwn fod cyhoeddiad wedi'i wneud ynglŷn â'r cyflog byw cenedlaethol a'r trothwy yswiriant cenedlaethol, ond nid wyf yn cofio unrhyw beth yn cael ei ddweud am dreth incwm yn benodol. Oherwydd byddai hynny'n rhywbeth y byddem yn awyddus i'w archwilio, yn enwedig rhag ofn y byddai unrhyw oblygiadau i gyllid Llywodraeth Cymru. A dweud y gwir, ychydig iawn a oedd gan y Canghellor i'w ddweud am drethi heddiw. Ni ddywedwyd unrhyw beth am doll teithwyr awyr nac unrhyw beth am drethi tir gwag. Felly, dyna ddau beth roeddwn yn gobeithio eu gweld yn y gyllideb heddiw, ond ni chawsant eu crybwyll. Felly, nid wyf yn credu bod y Canghellor wedi manteisio ar gyfleoedd yn ei gyllideb, yn enwedig mewn perthynas â threthi, oherwydd nid oes llawer iawn ynddi.

Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddech yn glyfar yn crybwyll y doll teithwyr awyr, gan wybod yn iawn fod yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi datganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn. Felly mae rhai pethau rydym yn cytuno arnynt, ac mae pethau eraill nad ydym yn cytuno arnynt. Roedd y newidiadau treth incwm y soniwyd amdanynt yn ymwneud â throthwyon, ond mater arall yw hynny.

A gaf fi, yn fy nghwestiwn olaf, fynd yn ôl at rywbeth a gododd Rhun ap Iorwerth yn gynharach, yn bwysig iawn, sef sefyllfa COVID-19, y coronafeirws? Ac mae'r gyllideb hon yn cynnwys oddeutu £30 biliwn ychwanegol—rwy'n credu fy mod yn iawn yn dweud—i'r GIG, i fynd i'r afael â coronafeirws yn y DU, yn benodol yn Lloegr. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau—? Rwy'n gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal sawl trafodaeth gyda swyddogion yn y DU—rwy'n gwybod hynny gan wisgo fy het cyfrifon cyhoeddus. A allech chi ddweud wrthym p'un a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'ch swyddog cyfatebol yn San Steffan ynglŷn â faint o arian a fydd yn dod i Gymru ar ben yr hyn sydd gennym yn y gyllideb i fynd i'r afael â coronafeirws? Rwy'n credu y byddem i gyd yn sylweddoli y byddwch o dan bwysau enfawr o bosibl, a bydd cyllideb y GIG o dan bwysau aruthrol os na chewch chi'r cymorth priodol i ymdopi â'r sefyllfa anarferol hon. Felly, pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr arian yn y gyllideb ac am unrhyw symiau canlyniadol a ddaw i chi ac i Gymru—. Ac a wnewch chi gadarnhau hefyd y bydd yr arian hwnnw'n cael ei glustnodi ac yn cael ei ddefnyddio o fewn cyllideb y GIG i'r diben a fwriadwyd?

14:55

Buaswn yn croesawu unrhyw gymorth y gall y Ceidwadwyr ei roi o ran gwneud yn siŵr fod eu cymheiriaid yn San Steffan yn sicrhau bod Cymru'n cael ei hariannu i'r graddau sy'n angenrheidiol mewn perthynas â'r coronafeirws. Roedd y Canghellor yn awyddus iawn yn ei sylwadau agoriadol i awgrymu nad yw coronafeirws yn fater gwleidyddol; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ohonom ymdrin ag ef, ac mae'n rhaid inni gydweithio'n agos arno ar draws Llywodraethau. A buaswn yn cytuno ag ef o ran hynny.

O ran yr arian ychwanegol, cyhoeddodd y Canghellor gronfa ymateb i argyfwng gwerth £5 biliwn ar gyfer y GIG. Felly, nid ydym yn gweld unrhyw symiau canlyniadol ar gyfer hynny ar unwaith, ond rydym yn gwybod y byddai hwnnw'n gyllid a allai fod ar gael, pe bai ei angen wrth i'r coronafeirws ddatblygu. Felly, nid oes gennym ffigur eto, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir nad oes gennym ffigur eto, ond rydym angen i bobl weithio'n hyblyg a rhannu gwybodaeth i sicrhau ein bod yn cael yr arian yn ôl yr angen.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog cyllid egluro sut y mae ei strategaeth mewn perthynas â rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn wahanol i strategaeth Llywodraeth y DU? Cyhoeddasant heddiw fod y gostyngiad manwerthu o 50 y cant sydd ganddynt y flwyddyn nesaf yn codi i 100 y cant ac yn cael ei ymestyn i gynnwys meysydd hamdden a lletygarwch. A yw'r dull hwnnw o weithredu at ei dant?

Ac o ran yr ymdrechion eraill sydd ganddynt i gefnogi busnesau bach, mae'n ymddangos bod rhai ar y ffin o ran yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi'i ddatganoli. Er enghraifft, maent yn cynyddu cronfa fenthyciad banc busnes Prydain ar gyfer dechrau busnes; o ran ei henw, rwy'n tybio bod busnesau yng Nghymru'n gymwys i gael hwnnw, ond nid wyf yn gwybod hynny'n bendant. Ac nid yw'r hyn a oedd yn swnio fel mesur rhyddhad ardrethi yn y gyllideb yn dod o dan y pennawd rhyddhad ardrethi busnes, mae'n dod o dan gyllid grant ar wahân ar gyfer busnesau bach, ond ymddengys ei fod wedi'i gyfyngu i Loegr gan fod taliad o £2.2 biliwn wedi'i wneud drwy awdurdodau lleol yn Lloegr ac yna maent yn rhoi £3,000 yn ôl i bob busnes sy'n elwa ar eu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. I ymestyn y cyllid grant i fusnesau bach, a yw'n iawn y dylai Llywodraeth y DU wneud hynny ar sail Lloegr yn unig, o ystyried yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yma?

Ac nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog gyhoeddi ei phenderfyniadau am ryddhad ardrethi busnesau bach o fewn awr neu ddwy i gyllideb y DU yma, ond tybed a allai ddweud rhywbeth am ei strategaeth a'r canlyniadau a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni drwy hynny a sut y mae hynny'n wahanol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw ardrethi annomestig mewn perthynas â'n gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Maent yn cyfrannu mwy na £1 biliwn i lywodraeth leol a gwasanaethau'r heddlu, ac mae'r rheini'n wasanaethau y bydd pob busnes yn elwa arnynt mewn rhyw ffordd. Mae gennym agwedd wahanol yma yng Nghymru, gan fod ein sylfaen drethi yn wahanol. Felly, yng Nghymru, tua £20,000 yw'r gwerth ardrethol ar gyfartaledd, ond yn Lloegr mae oddeutu £32,000. Felly, mae'n iawn, rwy'n credu, fod ein hardrethi a'n rhyddhad yn adlewyrchu'r gwahaniaethau hynny a'r amgylchiadau unigryw sydd gennym yma yng Nghymru.  

Mae mwy na 70,000 o drethdalwyr yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi, felly mae hynny'n golygu nad yw hanner yr holl fusnesau'n talu unrhyw ardrethi o gwbl, felly dyna ble y mae Lloegr yn ceisio mynd. Felly, maent yn symud i'n cyfeiriad ni. Ac rwy'n deall pan fydd busnesau'n edrych dros y ffin ar wahanol fathau o ryddhad ardrethi, nid ydynt bob amser yn gwneud hynny yng nghyd-destun eu sefyllfa eu hunain. Felly, pan fydd eu gwerth ardrethol yn sylweddol is, mae'n bwysig ystyried y gyfran o gymorth y gallwn ei chynnig. Mae gennym ystod eang o ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau ac rwy'n ystyried a oes angen inni ddechrau tynnu rhai o'r rhain at ei gilydd. Mae cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr a manwerthu wedi'i ymestyn i'r flwyddyn nesaf. Felly, roedd hwnnw'n gyhoeddiad y llwyddais i'w wneud ym mis Ionawr ynglŷn â £26.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cymorth gydag ardrethi annomestig ac mae hwnnw'n ychwanegol at y £230 miliwn rydym eisoes yn ei ddarparu drwy ein rhyddhad ardrethi presennol i helpu trethdalwyr gyda'u biliau. Ac mae hynny'n ymwneud â chefnogi'r holl fanwerthwyr sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000, a bydd y cynllun hwnnw'n cefnogi tua 15,000 o dalwyr ardrethi. Felly, mae gennym amrywiaeth o gynlluniau wedi'u targedu at wahanol ddiwydiannau, ond yn amlwg, byddaf yn edrych yn ofalus ar unrhyw symiau canlyniadol a allai ddod a sut y gallent ddod.  

15:00

Wrth gwrs, efallai fod dadl dros wneud hynny ychydig yn wahanol yng Nghymru, ond mae gennym swm canlyniadol o £360 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i gyhoeddi, ac mae'r busnesau manwerthu, yn ogystal â'r busnesau lletygarwch a hamdden, yn fusnesau sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd a byddem yn disgwyl iddynt gael eu heffeithio'n arbennig gan y coronafeirws a holl oblygiadau hynny. Ac mae'r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gyhoeddi ar lefel y DU ar gyfer Lloegr yn ymddangos i mi yn ffordd eithaf effeithiol o gael arian i'r busnesau hynny, gan gynnwys y rhai na roesoch unrhyw farn arnynt, y rhai sy'n cael y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn Lloegr, sy'n cael £3,000 i bob busnes drwy'r awdurdod lleol. Mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth sylweddol iawn o ran lliniaru rhai o'r effeithiau i lawer o'r busnesau hynny. A buaswn yn annog y Gweinidog, wrth iddi amsugno'r hyn sydd wedi digwydd yn y gyllideb ar lefel y DU, ond hefyd wrth iddi ystyried y £360 miliwn a beth a ddaw o hwnnw, o gymharu â'r hyn roedd yn disgwyl ei weld neu'r hyn nad oedd yn disgwyl ei weld yn y gyllideb hon o bosibl, rwy'n gobeithio y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn faes lle y gall ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw.

Tybed a gaf fi ofyn am Fanc Datblygu Cymru hefyd? Soniais am gronfa fenthyciad Banc Busnes Prydain ar gyfer dechrau busnes a gallaf gadarnhau y byddant yn gymwys i bob busnes yn y DU—y benthyciadau dechrau busnes a'r cynnydd. Ond sut y maent yn cysylltu â'r hyn sydd ar gael gan fanc datblygu Cymru? A oes llawer o orgyffwrdd? A all busnesau elwa o'r ddwy ffynhonnell neu a oes rhaid iddynt ddewis y naill neu'r llall? A pha rôl y mae hi'n ei gweld ar gyfer banc datblygu Cymru ar gyfer  lliniaru effaith y coronafeirws? Dylai'r busnesau y mae ganddo berthynas â hwy eisoes fod mewn sefyllfa dda i ddarparu cymorth cyfalaf gweithio pan fo hynny'n angenrheidiol. Ond beth sy'n digwydd i'w fenthyciadau datblygu eiddo sylweddol iawn, sydd wedi cael eu hailgylchu dro ar ôl tro ac sydd wedi bod yn eithaf llwyddiannus hyd yma, os yw datblygwyr yn ei chael hi'n anodd gwerthu'r eiddo hwnnw ymlaen? Onid oes perygl y bydd yr arian hwnnw'n cael effaith lai cadarnhaol ar yr economi ar yr un adeg yn union ag y mae coronafeirws yn taro, os nad yw'r datblygwyr hynny ar gael i ailgylchu a thalu'r arian yn ôl mor gyflym ag y byddent wedi'i wneud fel arall? Ac a oes unrhyw rôl i fanc datblygu Cymru yn cefnogi busnesau eraill yn benodol ar gyfer coronafeirws ac anghenion cyfalaf gweithio pan nad oes ganddo'r berthynas fusnes honno'n barod na gwybodaeth am eu hanghenion cyfalaf gweithio?

Wel, mae banc datblygu Cymru yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi, ond rwy'n gwybod ei fod wedi gwneud gwaith rhagorol yn helpu i gynorthwyo busnesau i baratoi ar gyfer Brexit. Ac mewn sawl ffordd, mae hyn yn ymwneud â helpu busnesau i baratoi ar gyfer rhywbeth anodd, felly gallwn ddysgu rhai o'r un gwersi.

Mae wedi bod yn bwysig iawn o ran y benthyciadau datblygu eiddo hynny, ond hefyd o ran cymorth i ficrofusnesau i'w cynorthwyo i dyfu, os ydynt yn dymuno tyfu. Felly, credaf fod cyfleoedd i ddefnyddio'r cysylltiadau hynny sydd gennym â'r busnesau unigol hynny i gynnig cymorth a chyngor, o bosibl, a dyma un o'r pethau da am fod yn genedl fach ar adegau anodd, sef bod gennych y cysylltiadau unigol hynny a'r cyfleoedd hynny i rannu gwybodaeth a chyngor.

Ond rwy'n gwybod y bydd Ken Skates yn edrych yn ofalus ar ba rôl y gall banc datblygu Cymru ei chwarae yn cefnogi busnesau wrth inni wynebu coronafeirws. A gwn y bydd gan gyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth fwy i'w ddweud am eu cyfraniadau unigol eu hunain i'r ymdrech maes o law.

Cymorth Ariannol Brys Llifogydd

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch mynediad at gymorth ariannol brys i drigolion y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt? OAQ55202

Bydd cartrefi yr effeithiwyd arnynt yn ystod y stormydd diweddar yn derbyn hyd at £1,000 gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gofyn i'r rheini yr effeithiwyd arnynt i gysylltu â thimau cymorth brys eu hawdurdod lleol yn y lle cyntaf, i sicrhau y gallant gael cymorth cyn gynted â phosibl.

Diolch. Fel rwyf wedi'i ddweud yma droeon, yn dra anffodus cafodd fy etholaeth ei tharo gan storm Ciara ar 9 Chwefror 2020. Cyhoeddwyd cynllun argyfwng ar gyfer rhyddhad ardrethi ar 18 Chwefror, a dywedodd y Prif Weinidog,

'Byddwn yn sicrhau bod cymorth ariannol brys ar gael i bobl sydd â chartrefi wedi eu dinistrio oherwydd y llifogydd ac, yn benodol, yn helpu teuluoedd sydd heb yswiriant.'

Nawr, bedair wythnos yn ddiweddarach, mae nifer o fy etholwyr yn dal i gysylltu â mi i ddweud eu bod wedi llenwi'r ffurflenni priodol ond heb glywed unrhyw beth, ac mewn mis, nid yw hynny'n dda. Felly nid ydynt wedi cael ceiniog. Nawr, ar Sunday Politics, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud bod pawb yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu £500 erbyn hyn. Wel, fel y soniais, mae gennyf nifer nad ydynt wedi'i gael, felly rwy'n credu mai'r hyn rwyf am ei wneud, y tu allan i'r Siambr, yw ysgrifennu atoch yn uniongyrchol gyda manylion y rheini, felly efallai—. Ond a ydych yn ymwybodol o broblem gyda phrosesu'r ffurflenni cais? Ac rwyf wedi codi'r mater gyda'r awdurdod lleol, sy'n dweud, 'Wel, rydym wedi gwneud ein rhan ni.' Maent wedi llenwi'r ffurflenni, rydym wedi eu hanfon, ond mae oedi eithaf hir wedi bod, ac mae gennyf un ddynes hefyd sydd heb gael cynnig y £500. Maent wedi cynnig £80 iddi ond mae wedi dioddef gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod, felly rwy'n poeni rhywfaint am y meini prawf. A wnewch chi edrych ar y prosesau? Oherwydd y cyfan rwy'n gofyn amdano yw rhywfaint o degwch a chydbwysedd i fy etholwyr, fel bod ganddynt rywbeth i'w helpu yn ôl ar eu traed yn dilyn y llifogydd ofnadwy hyn ar 9 Chwefror.

15:05

Rwyf finnau'n poeni bod pobl yn aros yn rhy hir i gael eu harian. Caiff y rhan fwyaf o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol eu prosesu o fewn 24 awr, felly dylai unigolion gael yr arian yn eu cyfrifon banc yn gyflym iawn yn wir.

Ar 4 Mawrth, gwn fod 278 o ddyfarniadau £500 wedi'u gwneud, a 266 o ddyfarniadau £1000, sy'n gyfanswm o £405,000. Felly, gwn fod y gronfa cymorth dewisol yn ystyried gwirio hawliadau annibynnol drwy ddefnyddio data a ddarperir gan awdurdodau lleol, felly yr hyn y mae unigolion ei angen, mewn gwirionedd, yw i'r awdurdodau lleol hynny wirio a chadarnhau bod llifogydd wedi effeithio ar y cartrefi unigol hynny, a dylai hynny fod yn ddigon i'r gronfa cymorth dewisol. Felly, yn y lle cyntaf, byddai angen i'r awdurdod lleol gadarnhau i'r gronfa cymorth dewisol fod yr aelwydydd hynny wedi cael eu heffeithio, a dylai hynny wneud i bethau symud yn gynt. Ond wrth gwrs, rwy'n awyddus i roi cymorth os gallaf.

Cefais fy nghalonogi gan ymateb y Prif Weinidog ddoe, wrth iddo ddangos parodrwydd i ystyried mabwysiadu cynllun tebyg i'r cynllun cydnerthedd eiddo sy'n weithredol yn Lloegr. Mae'n caniatáu i gartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd wneud cais am hyd at £5,000 i helpu i ddiogelu rhag llifogydd yn y dyfodol. Eto i gyd, dywedodd Gweinidog yr amgylchedd wrthyf y bore yma na fyddai'r aelwydydd hynny'n cael cynllun tebyg yng Nghymru.

Gofynnais hefyd i Weinidog yr amgylchedd ychydig wythnosau'n ôl am gymorth i gartrefi a busnesau gyda chost ynni—mae dadleithyddion a gwresogyddion diwydiannol, offer hanfodol wrth sychu eiddo sydd wedi dioddef llifogydd, yn ddrud iawn i'w gweithredu. Dywedodd y byddai'n edrych ar y mater, a dyfynnaf, 

'yn rhan o'n hymateb parhaus'.

A fyddech cystal â rhoi gwybod imi pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal o ran darparu cymorth ariannol, ar gyfer mesurau i wrthsefyll llifogydd yn y cartref, ac i gael cymorth i dalu costau ynni y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer cartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd? Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod llawer iawn o angen yn bodoli, felly a allwch ddweud wrthym pa adnoddau ychwanegol rydych yn eu darparu i ddiwallu'r angen hwnnw?

Wel, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â llifogydd, felly ni fyddwch yn gweld cyhoeddiadau sy'n ymwneud yn benodol â Chymru yn y gyllideb ar gyfer llifogydd heddiw. Yr hyn a welwch yw cyhoeddiad o £120 miliwn am atgyweiriadau a £200 miliwn yn uniongyrchol i gymunedau lleol ar gyfer gwrthsefyll llifogydd. Nawr, nid ydym yn deall eto faint o arian canlyniadol a allai ddeillio o hynny, ond rydym wedi bod yn glir iawn mai ein hystyriaeth gyntaf, a'r un bwysicaf i ni, oedd mynd i'r afael â'r argyfwng uniongyrchol, ac yna, wrth gwrs, bydd gwaith parhaus yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau cydnerthedd cymunedol yn y dyfodol.

Rwy'n gobeithio y bydd arian ychwanegol, ar ben yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y gyllideb heddiw, yn dod i Gymru. Dyna'n sicr y drafodaeth rydym wedi gallu ei chael gyda Llywodraeth y DU, ac maent wedi cydnabod bod y sefyllfa yma yng Nghymru yn anarferol, er fy mod yn siomedig na chlywais Gymru'n cael ei chrybwyll yn y rhestr o leoedd yr effeithiwyd arnynt yn natganiad y Canghellor heddiw.

Ond gallai'r rhain fod yn faterion y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn eu blaenoriaethu yn y dyfodol, ond nid ydym wedi cyrraedd man lle rydym yn trafod materion mwy hirdymor, felly bydd y rhain yn drafodaethau rwyf eto i'w cael, er y gallai'r Gweinidog fod yn cael y trafodaethau hynny gyda'i swyddogion.

15:10

Drefnydd, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y sefyllfa mewn perthynas ag ariannu problemau seilwaith mawr? Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi codi mater anfon manylion ac yn y blaen, ond wrth gwrs, mae llawer o'r difrod i'r seilwaith, mae rhywfaint ohono o dan ddŵr, mae rhywfaint ohono'n anhygyrch ac yn y blaen, ond yn sicr mae Rhondda Cynon Taf yn defnyddio llawer o'i chronfeydd wrth gefn i wneud y gwaith hwnnw, ac yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth hefyd. Ond y peth allweddol yw bod yr arian y dywedwyd wrthym ar lefel Llywodraeth y DU y byddai'n cael ei drosglwyddo i Gymru yn eithaf hanfodol yn awr, o ran yr ymrwymiad, beth bynnag yw lefel y difrod i'r seilwaith, ein bod yn gwybod y bydd yr arian ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth y DU yn mynd tuag at y problemau strwythurol mawr hynny. A fu unrhyw drafodaethau pellach? A oes unrhyw awgrym y bydd sicrwydd y bydd yr arian sydd ei angen arnom yn dod i ni pan fyddwn ei angen er mwyn gwneud y gwaith ailadeiladu ac ac atgyweirio ar y seilwaith?

Wel, ymrwymodd Prif Weinidog y DU i roi cyllid i Gymru i'n helpu i fynd i'r afael â'r llifogydd, ac yn sicr, byddwn yn ei ddal at ei air. Mae Mick Antoniw yn hollol gywir i ddweud nad ydym yn gwybod eto beth yw maint yr her sydd o'n blaenau, o ran y gwaith adfer, gan fod cymaint o'r gwaith tirfesur strwythurol angen ei wneud o hyd. Mae llawer o'r mannau y mae angen eu harolygu yn anhygyrch ar hyn o bryd. Felly, mae llawer o waith i'w wneud ar asesu a deall yr hyn y gallai'r ffigur fod yn y dyfodol.

Rydym wedi gadael i Lywodraeth y DU wybod ein bod yn sôn mae'n debyg am gannoedd o filiynau, yn hytrach na degau o filiynau. Rwy'n gwybod fy mod wedi clywed ffigurau o gwmpas £180 miliwn, ond mae awdurdodau lleol yn casglu gwybodaeth bellach drwy'r amser. Felly, nid wyf yn credu y byddwn yn deall yr effaith lawn am fisoedd o ran y gwariant ar waith adfer, ond yn sicr, byddwn yn dal y Prif Weinidog at ei air.

Cyllideb Llywodraeth y DU

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Changhellor y DU cyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU? OAQ55234

Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Trysorlys y DU ynghylch amrywiaeth o faterion ariannol. Cyn y gyllideb, ysgrifennais at y Canghellor yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru, gan gynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol ac ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi ein bod, ar ôl 10 mlynedd, wedi gweld cyni yn taro ein cynghorau lleol yn galed iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion aruthrol i leihau'r effaith y mae cyni San Steffan wedi'i chael ar awdurdodau lleol, ac eto rydym wedi gweld llywodraeth leol yn Lloegr yn dioddef yn barhaus o ganlyniad i'r toriadau yno. Yn y gyllideb hon, nid yw'n gwbl glir eto faint o arian canlyniadol a fydd gennym, os o gwbl, o ganlyniad i'r gyllideb a'r cynnydd i gynghorau lleol yn Lloegr, ond a allwch roi sicrwydd, os daw unrhyw swm canlyniadol yn sgil cynnydd yn y cyllid i awdurdodau yn Lloegr, y bydd hwnnw'n cael ei drosglwyddo'n syth i awdurdodau lleol, oherwydd maent yn wynebu cyfnod anodd? Deallwn fod coronafeirws yn un ymhlith llawer o broblemau eraill. Byddant hefyd yn wynebu heriau o ganlyniad i'r coronafeirws, oherwydd y gwasanaethau—gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol—y maent yn aml yn eu darparu. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn eu cefnogi gymaint ag y bo modd. Os daw symiau canlyniadol, hwy a  ddylai eu cael.

Fel y mae David Rees yn cydnabod, nid ydym eto wedi deall y darlun llawn o ran lle gallai'r symiau canlyniadol hynny fod. Buaswn yn cynnig un gair o rybudd yn yr ystyr fod symiau canlyniadol yn cael eu rhoi ond maent hefyd yn cael eu tynnu'n ôl, felly mae honno'n ystyriaeth bwysig o ran pryd a sut y caiff arian ei drosglwyddo. Ond wrth inni ddechrau deall y manylion a fydd gennym yn well, yn sicr, bydd cyhoeddiadau pellach i'w gwneud. Rwyf wedi addo y byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, ar ôl y cwestiynau heddiw, rwy'n bwriadu parhau i roi rhagor o wybodaeth i fy nghyd-Aelodau.

O ran y math o ffigurau rydym wedi'u cael—mae angen inni wirio rhai ohonynt, gan nad yw pob un ohonynt yn cyfateb—rydym yn edrych ar oddeutu £122 miliwn o refeniw ac o gwmpas, neu o leiaf, £218 miliwn o gyfalaf. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni gofio ein bod wedi cael £100 miliwn o gyfalaf wedi'i dynnu'n ôl oddi wrthym ychydig wythnosau yn ôl, felly bydd yn rhaid i £100 miliwn o'r arian newydd hwnnw heddiw lenwi'r bwlch hwnnw yn y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym ac y pleidleisiwyd arnynt ar gyfer y flwyddyn i ddod. Felly, mae rhywfaint o hynny i'w ddeall, ac rydym hefyd wedi cael £3 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, cyn gynted ag y bydd gennym fwy  wybodaeth, byddwn yn gallu gwneud rhagor o gyhoeddiadau ar wariant ar gyfer y flwyddyn nesaf.

15:15

Weinidog, rwy'n gwybod y bydd y coronafeirws wedi effeithio ar unrhyw sgyrsiau rhag-gyllidebol rydych wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU, ond pan oeddech yn cael y trafodaethau hynny, tybed beth oedd eich barn ar y cytundebau sector masnach amrywiol sy'n bwysig i Lywodraeth y DU, ac y gall Cymru elwa'n uniongyrchol ohonynt mewn rhai achosion, yn enwedig cytundeb y sector twristiaeth. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am y sector lletygarwch ychydig yn gynharach. Felly, a allwch ddweud ychydig wrthyf am y sgyrsiau hynny ac a ydych yn disgwyl unrhyw beth yng nghyhoeddiad y gyllideb mewn perthynas ag unrhyw gytundeb sector dur—a oes gennych unrhyw sylw ar hynny? Cwestiwn byr gennyf fi, rwy'n gwybod, ond mae'n bwysig. Diolch.

Roedd sawl peth yn amlwg drwy eu habsenoldeb, rwy'n credu, yng nghyllideb y Canghellor heddiw, ac un ohonynt oedd unrhyw gyfeiriad at y diwydiant dur. Ni chafwyd unrhyw eglurder ynglŷn â gwariant ar reilffyrdd. Cawsom gyfeiriadau at wariant ar reilffyrdd ym Manceinion, Leeds ac ardaloedd eraill—Darlington—ond dim byd i Gymru. Ac nid oedd unrhyw ymrwymiadau ymchwil a datblygu go iawn i ni yng Nghymru, ac nid oedd yn ddigon uchelgeisiol, yn fy marn i, o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Felly, roedd llawer o bethau a oedd, gobeithio, yn amlwg drwy eu habsenoldeb, ac roedd dur yn un o'r meysydd hynny, ond rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y DU. Felly, er enghraifft, ar ddyfodol y diwydiant modurol, mae hwnnw'n faes sydd o ddiddordeb arbennig i'r ddwy Lywodraeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o awyddus i ddatblygu'r sector hwnnw. Felly, mae Ken Skates yn arwain ar rywfaint o waith ar y ffordd orau o sicrhau bod buddsoddiad a ddaw i'r DU hefyd yn bwydo drwodd i Gymru.

Difrod gan Storm Ciara a Storm Dennis

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch unrhyw gyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r difrod a achoswyd gan storm Ciara a storm Dennis? OAQ55204

Rwy'n cysylltu'n rheolaidd â Gweinidogion Trysorlys y DU ynghylch sicrhau'r cyllid ychwanegol sydd ei angen arnom i ymateb i effeithiau digyffelyb y stormydd diweddar ledled Cymru.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog, a diolch ichi am y cyflwyniad a wnaethoch i Lywodraeth y DU ynglŷn â'r gyllideb. Gwnaethoch nifer o bwyntiau pwysig ynghylch anghydraddoldebau rhanbarthol a chenedlaethol ledled y DU. Fe sonioch chi am ddiwygio lles a'r angen am fwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddarparu gwell gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Ond a gaf fi ganolbwyntio fy nghwestiwn ar y pwysau gwariant yn sgil y stormydd diweddar? Yn y wybodaeth ragarweiniol a gefais gan gynghorau bwrdeistref sirol Merthyr Tudful a Chaerffili, gallaf weld bod angen gwariant sylweddol yn yr etholaeth er mwyn goresgyn effaith y stormydd, ac rwy'n gwybod o gyfraniadau gan gyd-Aelodau yn y Siambr heddiw fod hyn yn wir mewn ardaloedd eraill hefyd. O ystyried yr atebion blaenorol a roesoch i Aelodau eraill y prynhawn yma, credaf fy mod yn iawn i gymryd nad ydych wedi clywed unrhyw beth yn y gyllideb heddiw sy'n dangos y bydd Llywodraeth y DU, o'r diwedd, yn camu i'r adwy ac yn ein helpu i fuddsoddi yn y gwaith o leddfu'r pwysau gwariant presennol a'r heriau a fydd yn wynebu Cymru yn y dyfodol. A fyddech yn cytuno â mi, o ystyried y cyhoeddiadau gwariant o'r gyllideb heddiw, fod hyn yn cadarnhau'n derfynol yr hyn rydym wedi'i wybod erioed, sef bod y 10 mlynedd diwethaf o gyni Torïaidd, a'r caledi a wynebodd llawer o fy etholwyr yn ei sgil, bob amser wedi bod yn bolisi o ddewis ac nid o anghenraid?

Yn olaf, Weinidog, a ydych chi fel finnau yn meddwl tybed sut y mae plaid cyfrifoldeb ariannol wedi llwyddo i fenthyg £800 biliwn dros y naw mlynedd ddiwethaf, sydd bron yn ddwbl yr hyn a fenthycwyd erioed dros 33 mlynedd o Lywodraeth Lafur?

Diolch i Dawn Bowden am godi'r mater penodol hwnnw, a rhoi'r cyfle imi bwysleisio'r ffaith nad yw'r gyllideb hon gan Lywodraeth y DU yn golygu bod cyni wedi dod i ben, mae'n fyw ac yn iach iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau nad yw ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ond fymryn yn uwch na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Ac rwy'n credu bod hynny'n dangos ein bod yn dal i wynebu heriau fel Llywodraeth Cymru, ond mae'r heriau hynny yn sicr yn bwydo i mewn i lywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol wedi bod yn awyddus iawn i'n hargyhoeddi nad yw un flwyddyn well o gyllid, fel rydym wedi gallu ei roi iddynt, yn gwneud iawn am ddegawd o gyni.

Datganiad Cyllideb Canghellor y DU

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddatganiad cyllideb Canghellor y DU? OAQ55212

Byddaf yn adolygu'r gyllideb yn ofalus er mwyn asesu'r effaith ar Gymru. Ond fel bob amser, bydd yn bwysig darllen yr hyn sydd o dan y penawdau, gan fod y diafol yn cuddio yn y manylion bob amser, ac roeddwn yn bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddarach heddiw.

15:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb; rwy'n derbyn ei fod yn gwestiwn eang iawn. Nid wyf yn gwybod a yw'r Gweinidog wedi sylwi bod ymrwymiad i gronfa lleoedd newid gwerth £30 miliwn yn y gyllideb. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi fod y sefyllfa y mae cynifer o'n pobl anabl yn ei hwynebu, lle na allant fod allan o'r tŷ am fwy na hyd penodol o amser gan nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyfleusterau newid priodol, yn rhywbeth na fyddai'r un ohonom, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr hon, yn fodlon ei weld yn parhau.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog wneud asesiad cyn gynted ag sy'n bosibl ynglŷn ag a fyddwn yn cael swm canlyniadol ar gyfer hyn ai peidio? Rwy'n amlwg yn un o'r bobl olaf yn y Siambr hon a fyddai'n dweud wrth un o Weinidogion Cymru, 'Oherwydd eu bod yn mynd i wario'r arian hwn ar hyn yn Lloegr, dylem wario'r swm canlyniadol ar yr un peth yn union', ond rwyf wedi bod yn falch iawn o gefnogi'r ymgyrch lleoedd newid yn Llanelli yn fy rhanbarth i ers rhai misoedd, er enghraifft, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi ei bod yn gwbl annerbyniol nad oes gan dref o'r maint hwnnw unrhyw gyfleuster lleoedd newid ar gyfer trigolion anabl.

Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog ddarganfod cyn gynted ag y bo modd a fydd yna swm canlyniadol ac a wnaiff hi ystyried cael trafodaethau gyda'r Gweinidogion priodol—y Gweinidog cynllunio, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol—i weld a fyddai'n bosibl defnyddio'r swm canlyniadol penodol, os cawn un, ar yr achlysur hwn—ac rwy'n credu'n gryf y dylem ei gael? Mae un o'r elusennau anabledd wedi amcangyfrif y gallem ddarparu 19 o leoedd newid newydd yng Nghymru os cawn y swm canlyniadol priodol, a byddai hynny, yn amlwg, o fudd enfawr i'n cyd-ddinasyddion anabl.

Wel, nid oedd y gronfa lleoedd newid yn un o'r eitemau a grybwyllwyd yn araith y Canghellor ei hun, ond rwy'n siŵr y deuaf o hyd i'r manylion yn y taenlenni sy'n cyd-fynd â'r cyhoeddiad. Felly, rwy'n mynd i fanteisio ar y cyfle i edrych yn fanwl ar yr hyn sydd wedi'i gynnig yn y taenlenni hynny a gweld lle mae'r symiau canlyniadol hynny. Felly, ar hyn o bryd, nid oes gennyf ddarlun llawn oherwydd bydd yn cymryd peth amser i ddadansoddi'r manylion, ond cyn gynted ag y byddaf wedi gwneud hynny, gallaf wneud cyhoeddiadau pellach.

Mae Cwestiwn 7 [OAQ55200] wedi'i dynnu'n ôl. Felly, yn olaf, cwestiwn 8, Mike Hedges.

Blaenoriaethu Cyllideb

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu proses flaenoriaethu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ55192

Cytunir ar strategaeth y gyllideb gan y Cabinet ar ddechrau'r flwyddyn. Caiff blaenoriaethu ei lywio gan drafodaethau dwyochrog rwy'n eu cael gyda Gweinidogion ac ymgysylltiad ehangach â'r pedwar comisiynydd statudol a rhanddeiliaid allanol. Mae cynllun gwella'r gyllideb yn amlinellu ein dull o wella proses y gyllideb yn fwy hirdymor.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae'n hawdd cyfrif faint o arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau, ond yr hyn sy'n anos i'w nodi yw'r canlyniadau a ddaw yn sgil yr arian hwnnw. A yw'r Gweinidog, ar hyn o bryd, neu a yw'r Gweinidog yn bwriadu gosod targedau i'w cyflawni gydag arian ychwanegol a ddarparwyd i'r gwahanol Weinidogion fel y gallwn weld ein bod yn cael gwerth digonol am ein harian?

Bron nad yw awgrym Mike Hedges yn swnio'n ddeniadol o awdurdodol, ond nid wyf yn siŵr mai dyna yw barn—. [Chwerthin.] Nid wyf yn siŵr mai cyfrifoldeb y Gweinidog cyllid yw pennu targedau ar draws y Llywodraeth, ond lle maent yn briodol, rwy'n credu y dylent gael eu datblygu gan y Gweinidogion hynny a'u monitro'n agos gan y Gweinidogion unigol hefyd.

Felly, mae rhai enghreifftiau yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, sy'n dangos sut rydym yn gweithio yn erbyn rhai cyfresi o dargedau. Un enghraifft, wrth gwrs, fyddai'r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy rydym yn bwriadu eu hadeiladu yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac wrth gwrs, rydym yn clustnodi £175 miliwn yn 2020-1 ar gyfer ystod amrywiol o fesurau i'n helpu i ddatblygu ein huchelgeisiau mewn perthynas â thai. Felly, er nad wyf yn siŵr mai fy lle i yw gosod targedau, yn amlwg, os yw cyd-Aelodau'n gosod targedau, rwy'n awyddus i'w cefnogi er mwyn eu cyflawni.

3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol)

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Cwestiwn 1 yw Helen Mary Jones.

Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith gyfreithiol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod (CEDAW)? OAQ55206

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i archwilio opsiynau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae ymrwymiad cadarn i hyrwyddo'r hawliau hynny yn rhan o wead Llywodraeth Cymru ac mae'n dylanwadu'n uniongyrchol ar ein polisïau, ein deddfwriaeth a'n penderfyniadau.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y gallem fod yn wynebu sefyllfa, o gofio natur y Llywodraeth ar ben arall yr M4 a'r pwysau yno i ddadreoleiddio, a'r hyn y byddai llawer ohonom yn pryderu yn ei gylch o ran diffyg ymrwymiad posibl i gydraddoldeb, lle mae'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gydraddoldeb a Deddf Cydraddoldeb 2010—gallem ei gweld yn cael ei diwygio mewn ffordd na fyddai llawer ohonom yn ei hoffi? A yw'n cytuno â mi hefyd mai un llwybr y gallem ei ddewis yng Nghymru i ddarparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer materion cydraddoldeb, ac yn enwedig yn yr achos hwn, ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fyddai ymgorffori confensiynau priodol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru? Roeddwn yn falch iawn o'i glywed yn sôn am yr ymchwil, ac rwy'n meddwl tybed a all roi awgrym y prynhawn yma—gwn nad yw wedi'i gomisiynu'n uniongyrchol—pryd y bydd y gwaith ymchwil hwnnw wedi'i gwblhau a phryd y gallai fod yn briodol ei rannu â'r Cynulliad hwn a'r pwyllgorau priodol.

15:25

Yn sicr. Wel, mae'n cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, sydd i bob pwrpas, wrth gwrs, yn Fil hawliau rhyngwladol i fenywod ac yn ymgorffori'r egwyddorion cydraddoldeb y byddem yn dymuno eu gweld yn cael eu cynnal a'u hyrwyddo. A byddem yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw ymgais i wanhau'r Ddeddf Cydraddoldeb.

Rydym wedi ceisio sicrhau, wrth edrych ar gwestiynau'n ymwneud â chonfensiynau, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd gyfannol. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod ei hun, a'r ystyriaethau a ddeilliodd o'r archwiliad ar ei gydymffurfiad ym mis Chwefror y llynedd—lle roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gysylltiedig er mwyn gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru a materion Cymreig yn cael eu cynrychioli a'u codi'n uniongyrchol yn ystod y broses archwilio honno—mae'r ystyriaethau hynny wedi cyfrannu'n uniongyrchol at yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae'r casgliadau interim wedi'u hystyried gan y Cabinet. Ond mewn perthynas â'r gwaith ymchwil y mae'n cyfeirio ato, deallaf y bwriedir i hynny fod wedi dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn hon, fel bod ei gasgliadau ar gael yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.

Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol i Deuluoedd

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r posibilrwydd o sefydlu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd yng Nghymru? OAQ55203

Cytunwn ag argymhelliad y comisiwn cyfiawnder i sefydlu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i archwilio dichonoldeb gwneud hynny yn ogystal â'r dulliau o'i wneud.

Diolch. Wrth gwrs, o ran llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, yn ystod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni, dywedodd Albert Heaney, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio Llywodraeth Cymru, fod y farnwriaeth yn ystyried eu bod yn gadarnhaol iawn, ac yn ddull da o weithredu a all fod o gymorth mawr i deuluoedd. Yn yr un modd, fis Hydref diwethaf, galwodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru am sefydlu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd yng Nghymru ar unwaith. Fel y dywedais o'r blaen, credaf fod y dystiolaeth yn dangos y gallai creu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd yng Nghymru fod er budd gorau plant a rhieni, ac mae'n debygol iawn fod hynny'n wir. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yn cael ei ddatblygu?

Wel, rydym yn cytuno â'r argymhelliad i sefydlu'r llysoedd, fel y dywedais yn fy ateb cynharach. Mae swyddogion wedi dechrau gweithio yn y maes hwn drwy drafodaethau am yr argymhelliad penodol hwnnw, yn fwyaf diweddar yng nghyfarfodydd y rhwydwaith cyfiawnder teuluol ym mis Tachwedd y llynedd, ac eto ar 4 Mawrth eleni. Mae llywydd yr adran deulu, fel y nododd yn ei chwestiwn rwy'n credu, wedi datgan ei fod yn gryf o blaid llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, gan eu bod yn cyd-fynd yn dda â'r ddeddfwriaeth llesiant sydd gennym yng Nghymru, ac yn cynrychioli'r ymagwedd ataliol honno yn sylfaenol yn hytrach na dull cosbol. Yn y cyfarfod o'r rhwydwaith cyfiawnder teuluol ar 4 Mawrth, cafwyd cyflwyniad am swyddogaethau ac effeithiolrwydd y llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, a chytunwyd y byddai awdurdodau lleol yn ystyried cynllun peilot mewn perthynas â'r mater hwnnw.

Backto60

3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi'r apêl Backto60 ynghylch y camdrafod honedig o ran codi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au? OAQ55205

Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y Llys Apêl ei hun wedi rhoi caniatâd i apelio mewn perthynas â'r her pensiwn, a bydd y gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal ddiwedd mis Gorffennaf. Er nad yw Llywodraeth Cymru yn rhan o'r cam gweithredu hwnnw, rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur wrth gwrs i fynegi pryderon difrifol ynglŷn â rhagfarn yn erbyn menywod sydd wedi gweld eu hoedran pensiwn gwladol yn codi heb iddynt gael eu hysbysu'n effeithiol nac yn ddigonol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. O gofio bod gennym Lywodraeth newydd yn awr ar ben arall yr M4, a bod y Llywodraeth honno'n sôn llawer am godi lefelau a thegwch, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol, gyda'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldebau efallai, yn ystyried cyflwyno rhagor o sylwadau i'r Gweinidog priodol yn San Steffan ac edrych eto o bosibl i weld a oes unrhyw gyfraniad y gallem ei wneud, drwy gyfrwng tystiolaeth efallai, i'r apêl y mae'n sôn amdani? Gyda Gweinidog newydd ar waith, a chyda'r pwyslais newydd hwn ar degwch, ac ymagwedd ychydig yn llai llym tuag at wario, efallai y gallem gael gwrandawiad gwell. Nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom yn obeithiol, ond rwy'n siŵr y byddai'r menywod yr effeithir arnynt yma yng Nghymru yn ddiolchgar iawn pe bai Llywodraeth Cymru yn barod i roi cynnig arall arni.

Gwn ei fod yn cytuno â mi fod hwn yn anghyfiawnder difrifol iawn, fod y menywod hyn wedi cael eu trin yn wael, a gwyddom eu bod wedi'u trin yn wael, oherwydd bod Canghellor y Trysorlys ar y pryd yn credu y gallai wneud hynny heb gael ei ddwyn i gyfrif. Credai na fyddent yn ymladd yn ôl. Gallai hwn fod yn gyfle i Lywodraeth Cymru, ar ran y Cynulliad cyfan, wneud sylwadau pellach ar ran ein cyd-ddinasyddion sydd wedi cael eu trin yn y modd mwyaf ffiaidd.

15:30

Yn sicr, nid yw'r Aelod yn obeithiol, ac nid ydym ninnau ar y meinciau hyn chwaith, fel y mae'n cydnabod yn hael iawn yn ei chwestiwn. Fel y gŵyr o'n dadleuon blaenorol yn y Siambr mewn perthynas â hyn, rydym wedi ceisio achub ar bob cyfle i nodi ein safbwynt i Lywodraeth y DU ar ran menywod yng Nghymru, ac rydym wedi derbyn ymatebion yn aml, ac wedi eu cyhoeddi. Bydd hithau, rwy'n siŵr, yn cytuno â’n hasesiad o annigonolrwydd llwyr yr ymatebion hynny wrth fynd i'r afael â'r anghyfiawnder rydym yn ceisio cynrychioli menywod yng Nghymru arno mewn perthynas â’r mater hwnnw.

Rwyf eisoes wedi myfyrio ar sut y gallwn barhau i wneud sylwadau mewn perthynas â'r cam newydd hwn yn yr achosion cyfreithiol, a byddaf yn trafod hynny gyda'r Dirprwy Weinidog. Dylem fod yn gwbl glir fod y menywod sy'n wynebu'r anghyfiawnder hwn wedi wynebu nifer o anghyfiawnderau eraill yn aml iawn yn ystod eu bywyd gwaith, a dylai Llywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i sicrhau, yn hyn o beth o leiaf, ei bod ar ochr y menywod sydd wedi rhoi cymaint i gymdeithas ac wedi darganfod, yn ddiweddarach yn eu bywydau, nad yw'r Llywodraeth ar eu hochr hwy.

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 4 ar yr agenda’r prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Y prynhawn yma, bydd y Llywydd yn ateb yr holl gwestiynau. Cwestiwn 1—Neil Hamilton.

Baneri ar Ystâd y Cynulliad

1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y baneri a gaiff eu hedfan ar ystâd y Cynulliad? OAQ55226

Mae gan y Cynulliad bedwar polyn baner mewn tri lleoliad ar yr ystâd—dwy faner Cymru, baner jac yr undeb, a baner y Cynulliad Cenedlaethol sy’n cael eu cyhwfan ar y polion bob dydd. Mae trefniadau sefydledig ar gyfer amrywio'r baneri sy'n cael eu codi ac mae baneri gwadd yn cymryd lle baner y Cynulliad yn arferol.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb.

Roeddwn yn falch iawn o weld baner Catalonia yn chwifio heddiw, ond ar sail fwy rheolaidd, tybed a allem barhau i chwifio baner y Gymanwlad, a welais yn gynharach yn yr wythnos. Rydym wedi bod yn aelodau o'r Gymanwlad, yn amlwg, ers ei sefydlu. Mae ganddi 54 aelod-wladwriaeth, mae iddi 11 miliwn milltir sgwâr o dir, mae’n ymestyn dros bob un o'r chwe chyfandir cyfannedd, mae’n cynnwys 20 y cant o dir y byd ac mae ganddi boblogaeth o 2.4 biliwn o bobl. Mae’r datganiad a wnaed yn Llundain a sefydlodd aelod-wladwriaethau’r Gymanwlad fel rhai cyfartal a rhydd yn 1949 yn datgan mai democratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith yw ei gwerthoedd, gwerthoedd y dylai pob cymdeithas flaengar eu cynnal a’u hamddiffyn yn yr unfed ganrif ar hugain. Ac wrth gwrs, mae'r Frenhines wedi llywyddu drosti fel pennaeth y Gymanwlad am 68 mlynedd. Felly, tybed a allai'r Llywydd ddweud wrthym a wnaiff y Comisiwn edrych yn ffafriol ar y cais hwn naill ai i chwifio baner y Gymanwlad yn barhaol, yn amodol ar achlysuron arbennig fel heddiw, neu faneri unigol gwledydd y Gymanwlad?

Yn arferol, wrth gwrs, ar y pedwerydd polyn, baner y Cynulliad Cenedlaethol ei hun sydd yn cael ei chodi. Fel mae'r Aelod wedi ei ddweud, mae baner Catalunya yn cael ei chyhwfan heddiw mewn cydnabyddiaeth o'r ffaith bod Llywydd Senedd Catalunya yn ymweld, a baner y Gymanwlad wedi ei hedfan ddoe ac echddoe i gydnabod Dydd y Gymanwlad. Dyna mae'r polisi wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yma: hedfan baner y Gymanwlad am ddau ddiwrnod y flwyddyn yn ystod cyfnod Dydd y Gymanwlad.

Dwi'n cael yn aml ceisiadau gan Aelodau i hedfan baneri amrywiol sydd yn ymwneud ag undebau a gwladwriaethau ac ymgyrchoedd gwahanol. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig ein bod ni'n cadw un o'n polion baneri ar gyfer y baneri hynny sydd yn adlewyrchu diwrnodau neu wythnosau neu fisoedd penodol i hybu ymgyrchoedd a diwrnodau cydnabyddedig rhyngwladol. Dyna fy marn i ar y mater. Dwi ddim yn disgwyl i bob Aelod gytuno.

15:35

Rwy’n ymddiheuro; nid oeddwn yn sylweddoli bod fy enw i lawr. Ond hoffwn ofyn cwestiwn ynglŷn â–

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fy nghais fyddai, o gofio bod gennym strategaeth ryngwladol yn awr sy'n edrych ar ein cysylltiadau â rhanbarthau eraill sydd â chysylltiadau Celtaidd—Gwlad y Basg, Catalwnia, ac ati—a allwn edrych o bryd i'w gilydd ar chwifio'r baneri hynny, fel y gwnaethom heddiw, ar sail fwy rheolaidd o lawer, ac rwy'n adleisio'r hyn y mae Neil Hamilton newydd ei ddweud, gan y credaf y byddai hynny'n arwydd da o'r ffaith bod Cymru yn genedl sy'n edrych tuag allan.

Rwy'n awyddus iawn i dderbyn ceisiadau ac awgrymiadau ynglŷn â sut rydym yn cefnogi ein gwaith yma yn chwifio baneri ac yn dangos ein cefnogaeth y tu hwnt i Gymru ac i sefydliadau rhyngwladol a gwledydd mewn mannau eraill. Os oes gan bobl farn—os oes gan yr Aelodau farn—ynglŷn â sut y gellir adlewyrchu ein hymagwedd ryngwladol tuag at ein Cynulliad Cenedlaethol yn ein polisi ar faneri, rwy'n awyddus iawn i glywed hynny, gan yr Aelodau yma a chan y Llywodraeth yn ei strategaeth ryngwladol ei hun.

Etholiad y Senedd 2021

2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sydd newydd gymhwyso i bleidleisio dros eu hawl i wneud hynny yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021? OAQ55211

Mae codi ymwybyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol i Gomisiwn y Senedd cyn etholiad nesaf y Senedd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 16 a 17 oed, a fydd yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ddatblygu adnoddau priodol fydd ar gael o fis Mai ymlaen. A hefyd rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid fel y Comisiwn Etholiadol a Llywodraeth Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn pryd ar gyfer yr etholiadau flwyddyn nesaf. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd am ei hateb, ac mae'n galonogol dros ben. Tybed a all ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae pobl ifanc eu hunain yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth ynglŷn â’r ffordd orau y gallwn gyfleu'r negeseuon hyn iddynt? Ac ar fater ychydig yn wahanol ond cysylltiedig, a all ddweud wrthym pa bartneriaethau sy'n cael eu datblygu i alluogi'r dinasyddion o dramor a fydd yn gallu pleidleisio yn etholiadau ein Senedd i ddod yn ymwybodol? Roeddwn yn digwydd sgwrsio gyda ffrind i mi sy'n hanu o Rwmania yn wreiddiol, ac roedd hi'n synnu’n fawr, yn ogystal ag wrth ei bodd, wrth glywed y byddai'n gallu pleidleisio yn yr etholiad nesaf, ynghyd â’i gŵr, sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl. Felly, y ddau bwynt hynny, mewn gwirionedd—sut rydym yn cynnwys pobl ifanc yn y trafodaethau ynglŷn â'r ffordd orau o gyfleu'r negeseuon, a sut rydym yn galluogi'r dinasyddion sy'n hanu o fannau eraill i ddeall y gallant bleidleisio yn yr etholiad hwn?

Diolch am y ddwy agwedd yna o'r cwestiwn, sy'n ymwneud â'r ddwy agwedd newydd i'r etholfraint fydd yn berthnasol i'r etholiadau flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn paratoi ychydig yn hirach am yr etholfraint yn ehangu i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17, gan ragdybio y byddai hwnna yn rhan o'r ddeddfwriaeth, ac felly mae ein gwaith ni yn ymwneud yn sicr â phobl ifanc drwy'r Senedd Ieuenctid i gychwyn, drwy'r partneriaid hynny sydd wedi cydweithio â ni wrth sefydlu'r Senedd Ieuenctid, ac sy'n gweithio yn uniongyrchol gyda phobl ifanc a gyda ein gwaith ni fel Comisiwn yn darparu ein chefnogaeth ni i ysgolion wrth ymgymryd â gwaith allgyrsiol, outreach, i hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc Cymru o'r ddemocratiaeth a'r hawl newydd fydd gyda nhw, ac fe fydd y gwaith yna yn parhau ac yn dwysau yn ystod y misoedd i ddod.

O ran ail agwedd y cwestiwn, ynglŷn â'r etholfraint yn ehangu i gynnwys gwladolion tramor, wrth gwrs mae hwnna'n agwedd sy'n fwy newydd i ni fel Comisiwn, oherwydd fe ddaeth e'n rhan o'r ddeddfwriaeth yn ystod y broses sgrwtini, ac felly ein gobaith ni yw gweithio gyda'r Llywodraeth, wrth gwrs, a'r Comisiwn Etholiadol ar sicrhau bod dinasyddion Cymru sydd â'r hawl newydd yma i bleidleisio yn yr etholiadau flwyddyn nesaf yn ymwybodol o hynny. Felly, fe fyddwn ni dros y misoedd nesaf yma yn cychwyn ar y gwaith pwysig yma i sicrhau bod y Llywodraeth, llywodraeth leol, wrth gwrs, hefyd, yn mynd ati i roi'r wybodaeth gywir i bawb ynglŷn â'u hawl i bleidleisio, gan gofio, wrth gwrs, fod yn rhaid i hyn ddigwydd mewn pryd nid yn unig ar gyfer y bleidlais y flwyddyn nesaf ond, yn bwysig iawn, ar gyfer y ganfas eleni i roi pobl ar y gofrestr ar gyfer pleidleisio y flwyddyn nesaf.

15:40

Lywydd, roeddwn yn ysgol Garth Olwg yn fy etholaeth yn ddiweddar, a gallaf ddweud wrthych pa mor frwdfrydig yw cymaint o'r myfyrwyr ifanc y byddant yn cymryd rhan yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Un o'r pethau a ystyriwyd pan oedd y ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad oedd nid yn unig mater addysg wleidyddol ond hefyd y syniad o sut i wneud pleidleisio'n haws—digideiddio'r gofrestr etholwyr, efallai, neu gofrestru pobl ifanc 16 oed yn awtomatig, gan fod pob un ohonynt naill ai yn yr ysgol neu mewn colegau, a byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n eithaf ymarferol. A hefyd, pam na ddylem gael blychau pleidleisio mewn ysgolion? Felly, roedd pob un o'r rhain yn syniadau newydd a awgrymwyd o ran sut i wneud pleidleisio'n haws yn ogystal â chynyddu'r nifer sy'n pleidleisio. A oes unrhyw un o'r pethau hynny ar y gweill? A ydynt yn cael eu hystyried? A allech roi gwybod inni a wnaed unrhyw gynnydd gyda rhai o'r syniadau hyn?

Wel mae'r rhain, wrth gwrs, yn syniadau ac yn faterion a godwyd yn ystod y broses o graffu ar Fil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn y broses o graffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Credaf mai mater i Lywodraeth Cymru yw cynnig deddfwriaeth ar newid y ffordd rydym yn pleidleisio, yn hytrach na phwy sy'n pleidleisio ar gyfer y Cynulliad hwn, a gwn fod rhywfaint o drafod yn digwydd ynghylch hynny fel rhan o'r Bil llywodraeth leol ac etholiadau, a gwn fod y rhain yn faterion sydd o ddiddordeb i lawer o bobl, gan fod sicrhau ein bod yn gwneud pleidleisio'n hygyrch a diddorol i bobl yn rhywbeth a ddylai uno pob un ohonom.

Mae sut rydym yn gwneud hynny a phryd rydym yn gwneud hynny yn faterion y mae angen i ni drafod mwy arnynt yma yn y Senedd hon yn fy marn i, ac rwy’n awyddus i gael y drafodaeth honno. Nid ydym yno eto, ond rwy'n siŵr fod y rhain yn ffyrdd y bydd—bydd y bobl ifanc yn ein harwain ni bobl hŷn, sy'n meddwl yn fwy traddodiadol, ar hyd y llwybrau hynny. Yn bersonol, ni fuaswn yn gwrthwynebu’r syniad o bleidleisio ar fy ffôn. Gallwn wneud hynny o'r fan hon yn awr, pe gallwn. Ond credaf y byddwn yn symud gyda'r oes. Ar hyn o bryd, mae'n debyg ein bod yn symud ychydig yn rhy araf i ddal i fyny â sut yr hoffai pobl ifanc ymgysylltu â ni, ond mae angen inni fod yn agored i'r syniadau newydd hynny a ddaw o ysgolion fel ysgol Garth Olwg ac ysgolion eraill ledled Cymru.

Gomisiynydd, roedd y panel arbenigol sy'n cynghori ar ddiwygio etholiadol, yn benodol ar ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, yn argymell rhaglen o addysg wleidyddol briodol fel rhan o'r cwricwlwm. A yw'r addysg hon wedi bod yn digwydd am gyfnod digon hir, gan mai dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd y ddeddf newydd, a pha sylwadau a wnaed gan Gomisiwn y Cynulliad i Lywodraeth Cymru er mwyn i hyn digwydd?

Diolch am eich cwestiwn. Ydych, rydych yn llygad eich lle fod y panel arbenigol yn gryf iawn ei farn fod addysg wleidyddol ochr yn ochr â'r hawl i bleidleisio yr un mor bwysig â'i gilydd er mwyn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r Comisiwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol ac eraill, ond yn benodol, yn yr agwedd hon ar yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion, ar ddatblygu adnoddau gyda Llywodraeth Cymru a fydd ar gael o fis Medi ymlaen i alluogi pobl 16 a 17 oed yn yr ysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu hawl newydd i bleidleisio yn 16 a 17 oed, gan gofio, wrth gwrs, nad mewn lleoliad ysgol yn unig y bydd yr holl bobl ifanc sy'n cael yr hawl newydd honno i bleidleisio—byddant hefyd mewn colegau ac mewn gwaith—ac mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb yn cael eu grymuso i’r un graddau i wybod am eu hawl newydd a sut i arfer yr hawl honno.

Coronafeirws

3. A wnaiff y Comisiynd ddatganiad am ba gyngor a roddir i staff Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas ag atal coronafeirws? OAQ55196

Mae'r sefyllfa yn newid yn barhaus ac, o ganlyniad, felly hefyd ein hystyriaethau ni. Ddoe, cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r Comisiynwyr er mwyn eu diweddaru ar y sefyllfa ac i gael trafodaeth gychwynnol ar egwyddorion ein hymateb ni. Rŷm ni'n parhau i ymateb i gyngor sydd yn newid o ddydd i ddydd, ac mae'n rhaid cynllunio'n ofalus ar sail senarios gwahanol. Mae'r Comisiwn yn darparu gwybodaeth a chyngor mor gyflawn a chyfredol â phosib i'r holl staff ynglŷn â'r coronafeirws. Mae'r wybodaeth hon ar gael ar ein mewnrwyd.

Os yw Aelod yn amau eu bod wedi'u heintio, dylent roi gwybod i wasanaeth busnes yr Aelodau ar unwaith. Yn achos aelodau staff, dylent roi gwybod i'w cyflogwr ac i'r Comisiwn ar unwaith. Mae disgwyl i unigolion sy'n amau eu bod wedi'u heintio gysylltu â llinell gymorth yr NHS drwy ffonio 111 ac ynysu eu hunain mewn man priodol.

Wrth i'r sefyllfa esblygu, mae posibilrwydd y bydd goblygiadau ar gyfer busnes y Cynulliad, a byddwn yn sicrhau penderfyniadau amserol a phriodol yn sgil hynny. Yn y cyfamser, mae'r Comisiwn wedi cymryd camau rhagweithiol, megis gosod canllawiau ar olchi dwylo'n drylwyr yn nhoiledau'r ystâd, a rhoi hylif glanhau dwylo wrth bob mynedfa i'r adeilad a mynedfeydd ardaloedd cyhoeddus.

Mae disgwyl i'r sefyllfa ddwysau yn gyflym, felly mae cyfrifoldeb arnom oll i chwarae ein rhan mewn atal yr haint rhag gwasgaru. Hoffwn eich sicrhau bod y Comisiwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu staff, Aelodau ac ymwelwyr i'r ystâd.

15:45

Diolch, Lywydd. Gyda chynnydd yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o 273 ddydd Sul i 373 ddoe, sydd bellach yn gynnydd o 15 achos yng Nghymru, credaf ei bod yn rhesymol i bob un ohonom fod yn bryderus ynglŷn â lledaeniad pellach posibl y feirws hwn. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn wir, ein swyddfeydd etholaethol yn agored iawn i'r cyhoedd, felly rwy'n sicr yn croesawu'r ffaith bod cymorth busnes yr Aelodau wedi anfon e-byst ar 28 Chwefror ac eto ddoe. Un cwestiwn sydd gennyf: a fydd hysbysiadau'n cael eu darparu i'n swyddfeydd etholaethol, gan fod hynny'n sylfaen eithaf da nid yn unig i ni gynghori ein staff ein hunain eto, ond i gynghori—efallai rhywbeth ar gyfer ffenestri ein swyddfeydd etholaethol, gyda rhywfaint o gyngor hylendid cyhoeddus sylfaenol?

Rwyf wedi mynegi rhai pryderon fy hun yma, gan y gwn am un ystafell ymolchi yma ar yr ystâd hon lle nad oes dŵr poeth ar gael yn hawdd ac nid oes sebon ar gael, felly byddai’n dda pe bai fy mhryderon, pan fyddaf yn eu codi, yn cael eu cymryd o ddifrif.

Nawr, fel y gwyddoch hefyd, Lywydd, mae cynlluniau ar y gweill i gynnal wythnos o waith yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fe’ch cyfeiriaf at y sylw a wnaethoch yn gynharach, y gallai hyn gynyddu'n sylweddol yn fuan iawn. Felly, pa gynlluniau ac ystyriaethau sydd ar waith bellach i feddwl am ymarferoldeb bwrw ymlaen â'r ymweliad hwnnw â gogledd Cymru? A phe bai’n rhaid canslo’r ymweliad ar fyr rybudd, a ydym wedi ein hamddiffyn rhag unrhyw oblygiadau ariannol posibl o ganlyniad i ganslo?

Rwy'n ymwybodol iawn, fel rhywun a chanddynt swyddfa etholaethol yn Aberystwyth, fod aelodau'r cyhoedd yn mynd i swyddfeydd etholaethol ledled Cymru i ofyn am gyngor gan eu cynrychiolwyr etholedig. Credaf y byddai'n well pe bai cynrychiolwyr etholedig yn cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru am lawer o'r wybodaeth sydd ar eu gwefannau ac sy'n hawdd ei lawrlwytho o ran gwybodaeth am iechyd y cyhoedd, ac i sicrhau bod hynny ar gael mor hawdd â phosibl yn eu cymunedau lleol, ac o bosibl, ar ffenestri mewn mannau eraill er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cyrraedd pobl mewn gwahanol ffyrdd. Rydym bob amser yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, fod pobl sy'n cael gafael ar wybodaeth yn ddigidol oddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gallu gwneud hynny, ond nid yw llawer o'n hetholwyr ar-lein ac mae'n ddigon posibl eu bod yn ymweld â chanol trefi ac yn chwilio am gyngor mewn mannau eraill. Rwy’n siŵr y byddem am sicrhau bod hynny ar gael mor eang â phosibl drwy wybodaeth ddiweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae busnes parhaus y lle hwn fel ein Senedd genedlaethol yn fater y byddwn yn parhau i'w adolygu dros yr wythnosau nesaf. Rydych yn codi’r pwynt ynglŷn â Senedd Clwyd hefyd, sydd i fod i ddigwydd ym mis Mehefin. Gallwch fod yn sicr, fel Aelodau, fod fy nghyd-Gomisiynwyr a minnau’n awyddus iawn i edrych yn ofalus ac yn gymesur o ddydd i ddydd wrth inni gynllunio gwaith y lle hwn yn y dyfodol, boed yma ym Mae Caerdydd neu yn yr Wyddgrug.

15:50
5. Cwestiynau Amserol

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau amserol. Mae’r cwestiwn amserol y prynhawn yma i’w ateb gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. David Rees.

Tata Steel

1. Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe gan Tata Steel ynglŷn â nifer y swyddi a fydd yn cael eu colli yn y DU, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff y colledion hyn yng Nghymru, ac yn arbennig ar y ffatri ym Mhort Talbot? 404

Gwnaf, wrth gwrs. Yn gyntaf oll, ni wnaeth Tata Steel gyhoeddiad ddoe. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau mewn erthyglau newyddion ar gwestiynau a ofynnwyd i staff a memo mewnol gan Tata Steel. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i ymgysylltu â Tata Steel ynglŷn â sut y bydd eu rhaglen drawsnewid yn effeithio ar eu gweithrediadau yng Nghymru, ac yn wir, rydym yn parhau i bwysleisio pa mor bwysig yw cadw at eu hymrwymiad i geisio osgoi diswyddiadau gorfodol a cholli cyn lleied o swyddi â phosibl.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, a diolch iddo am gywiro fy nghwestiwn hefyd. Ond yn amlwg, mae gennym farn gymysg ynglŷn â’r newyddion a ddaeth i’r amlwg ddoe, ni waeth pa ffordd y daeth i’r amlwg. Mae'r 1,000 o swyddi y rhagwelwyd y byddent yn cael eu colli yn y DU wedi gostwng i 500, felly mae hynny’n newyddion da. Ond wrth gwrs, bydd 500 o swyddi yn cael eu colli o hyd, p'un a ydynt yn ddiswyddiadau gorfodol ai peidio, ac rydym wedi cael gwybod na fyddant yn orfodol; maent yn dal i fod yn swyddi a gollir a chyfle i bobl ifanc ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant dur.

Nid oes gennym unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â ble fydd y swyddi hynny’n cael eu colli, na pha weithgarwch. Credaf ei bod yn bwysig inni gael y manylion hynny yn awr, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei bod yn bwysig eu bod yn parchu hynny ac yn parchu'r gweithwyr dur, a'u bod yn rhoi'r manylion hynny iddynt. Yn y cyhoeddiad gwreiddiol, dywedasant y byddem yn gwybod pa weithgarwch erbyn mis Chwefror. Mae hi bellach yn fis Mawrth, a'r unig beth a wyddom yw bod nifer y swyddi wedi gostwng, ond nid oes unrhyw fanylion o hyd ynglŷn â pha weithgarwch na ble mae'r gweithgarwch wedi'i leoli, ac mae hynny'n bwysig.

Mae gweithwyr dur wedi dangos ymroddiad parhaus i Tata, gan gynnal a chryfhau'r diwydiant dur drwy gyfnodau anodd. Maent wedi wynebu heriau ers y cyhoeddiad yn 2017, ac mae heriau byd-eang i’w cael hefyd. Felly, mae'n bwysig fod Tata yn dangos yr un parch iddynt hwythau drwy roi'r manylion hynny iddynt.

Cytunaf hefyd nad yw hyn yn cael gwared ar yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU, a nododd prif swyddog gweithredol Tata Ewrop, Henrik Adam, fod heriau ariannol difrifol yn dal i wynebu’r diwydiant. Felly, a wnewch chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gallwn gefnogi buddsoddiad yn y sector dur? Ac a wnewch chi alw eto—gwn eich bod wedi galw arnynt eisoes—ar Lywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i gynnal cyfarfod o'r cyngor dur i edrych ar sut y gallwn ehangu'r diwydiant dur?

Maent newydd werthu British Steel yn Scunthorpe i gwmni o Tsieina, gydag ymrwymiad i fuddsoddi £1.2 biliwn dros y blynyddoedd. Mae Tata wedi nodi rhywfaint o fuddsoddiad, ond mae angen y lefel honno o fuddsoddiad i sicrhau bod gennym sefyllfa lle gall Tata ym Mhort Talbot a Tata yng Nghymru wynebu'r heriau byd-eang sydd ar y ffordd. Felly, a wnewch chi fynd â'r neges honno yn ôl i Lundain, er mwyn sicrhau bod hwn yn fusnes ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Mae'n fusnes modern, nid yw'n hen fusnes; mae'n fusnes modern. Mae ganddo ddyfodol cryf, ac mae angen diwydiant dur cryf ar economi'r DU. Mae angen inni sicrhau bod y neges honno'n cael ei chyfleu’n gadarn ac yn glir yn Llundain.

A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau a'r pwyntiau a wnaeth, sy'n gwbl gywir? Ar ôl i mi alw dro ar ôl tro am gynnull cyfarfod bord gron ar ddur y DU, cafodd un ei gynnull ar 5 Chwefror. Codwyd dau fater pwysig yn y cyfarfod bord gron hwnnw: roedd un yn ymwneud â chaffael a'r angen i sicrhau ein bod yn defnyddio dur a gynhyrchir yn y DU ar brosiectau seilwaith y DU, ac roedd yr ail yn ymwneud â chost anhygoel o uchel ynni a'r angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn.

Nawr, Ddirprwy Llywydd, nid wyf wedi gallu gwirio’r cyhoeddiadau diweddaraf fel rhan o'r gyllideb, ond roedd y neges yn hollol glir yn y cyfarfod bord gron hwnnw fod yn rhaid i'r Llywodraeth achub ar y cyfle yn y gyllideb hon i gyhoeddi mesurau i liniaru costau uchel ac anwadal trydan. Mae hynny'n gwbl hanfodol os yw'r sector am drosglwyddo i sefyllfa garbon isel yn y blynyddoedd i ddod, a bydd y broses honno’n cael ei chynorthwyo, wrth gwrs, gan gyllid datblygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae llawer wedi'i ddweud am gronfeydd fel y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol a'r gronfa dur glân, ond credaf fod angen inni gofio maint y cronfeydd hyn o gymharu â chronfeydd sy'n cael eu cyflwyno mewn mannau eraill. Mae'n gyfanswm o oddeutu £500 miliwn dros sawl blwyddyn ar gyfer y sector cyfan yn y DU, ac yn wir, sectorau eraill lle ceir gweithrediadau ynni-ddwys—£500 miliwn dros sawl blwyddyn. Cymharwch hynny â'r £5 biliwn y mae Llywodraeth yr Iseldiroedd yn ei fuddsoddi bob blwyddyn ar ddatgarboneiddio diwydiant, ac mae hynny'n dangos pam fod gwir angen i Lywodraeth y DU gymryd camau mwy uchelgeisiol yn hyn o beth, gwrando ar y sector dur a rhoi newid ar waith yn ôl yr angen.

Nawr, mae Dai Rees yn llygad ei le, er y byddai'n amhriodol trafod memo sydd wedi’i ddatgelu'n answyddogol, ei bod yn galonogol ein bod yn gweld symudiad i'r cyfeiriad cywir o ran Tata a’r gweithfeydd yng Nghymru. Gallaf roi gwybod i’r Aelodau fy mod i, ynghyd â’r Prif Weinidog, wedi cael cyfarfod cynhyrchiol tu hwnt gyda Henrik Adam, prif swyddog gweithredol Tata Steel Europe ychydig wythnosau yn ôl, lle buom yn trafod nifer o faterion, gan gynnwys eu cynllun trawsnewid. Dywedodd y cwmni'n glir y byddent yn rhoi diweddariad ffurfiol i mi ar yr effaith ar y safleoedd yng Nghymru yn unol â’u cynlluniau trawsnewid cyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno ar gael. Maent yn dal i ymchwilio i weld pa swyddi sy'n debygol o gael eu colli, ond rwy'n addo rhoi diweddariad i’r Aelodau cyn gynted ag y byddaf wedi cael yr hysbysiad ffurfiol hwnnw.

15:55

Rwy'n ddiolchgar iawn i David Rees am ofyn y cwestiwn hwn, ac i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n deall yn iawn nad yw'r Gweinidog yn awyddus i gael ei dynnu i mewn i drafodaethau manwl ynglŷn â memo yr ymddengys ei fod wedi’i ddatgelu'n answyddogol, ond buaswn yn cytuno â'r hyn y mae ef a David Rees wedi'i ddweud ynglŷn â bod hyn yn edrych fel symudiad i’r cyfeiriad cywir a bod hynny'n galonogol.

Buaswn hefyd yn cytuno’n gryf gyda’r Gweinidog fod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn y gwaith o gefnogi dyfodol hirdymor y diwydiant dur, a datgarboneiddio yn enwedig, yn druenus o annigonol. Onid yw'n wir mai un o’r cyfleoedd a gynigiwyd i ni gan Brexit, o ran rhai o’r diwydiannau allweddol na ellid eu cefnogi oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, oedd y gellid eu cefnogi’n fwy cadarn bellach o bosibl? Tybed a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i godi'r pwynt hwnnw gyda Gweinidogion y DU: eu bod, mewn ffordd, wedi bod yn cuddio y tu ôl i broses y cymorth gwladwriaethol gan ddweud, 'Ni allwn fuddsoddi. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn'—nid wyf yn siŵr a fyddai'r Gweinidog na minnau wedi derbyn yr esgusodion hynny’n gyfan gwbl. Ond bellach, wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa lle rydym yn ymbellhau oddi wrth hynny, ac o ran buddsoddiad tymor canolig, efallai ein bod mewn sefyllfa lle gellid buddsoddi mwy mewn ffyrdd nad oedd ar gael inni o'r blaen o bosibl.

Mae'r pwyslais yma'n amlwg ar nifer enfawr y swyddi ym Mhort Talbot a’u pwysigrwydd aruthrol i'r gymuned honno, ond hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog hefyd at y 649 o swyddi yn Nhrostre yn Llanelli, yn fy rhanbarth i. Nawr, nid yw hynny'n gymaint o swyddi, ond o ran pwysigrwydd y swyddi hynny i'r gymuned honno ac ansawdd y gwaith, sefydlogrwydd y gwaith, byddem yn amlwg yn bryderus iawn yng nghanolbarth a gorllewin Cymru pe bai rhai o'r swyddi a dargedir i'w colli ar y safle hwnnw, neu pe bai llawer iawn ohonynt yn cael eu targedu yn Nhrostre. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, am ei bod yn broses eithaf arbenigol, maent yn gymharol saff, ond a wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw—ac rwy'n ddiolchgar iddo am ddweud wrthym y bydd yn rhoi gwybod i'r Siambr hon cyn gynted ag y bydd yn clywed mwy gan Tata—i godi achos penodol y gwaith yn Nhrostre a'r gweithwyr yno?

Oherwydd yn union fel y dywedodd David Rees, mae'r rhain yn bobl sydd wedi gweithio'n aruthrol o galed; maent wedi bod yn barod i wneud newidiadau; maent wedi dangos llawer o deyrngarwch ac ymroddiad i'r cwmni, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y teyrngarwch hwnnw a'r hyblygrwydd hwnnw'n haeddu cael eu gwobrwyo.

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a'i chyfraniad y prynhawn yma? Rwy'n addo codi pryderon ynglŷn â’r swyddi y gellid eu colli yn Nhrostre a phob safle dur arall yn nheulu Tata yng Nghymru. Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod y cynlluniau trawsnewid yn ceisio clustnodi swyddi coler wen, yn bennaf, i’w torri, yn hytrach na swyddi coler las. Nid yw'r nifer, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o weithwyr coler wen yn Nhrostre yn sylweddol iawn, er bod llawer o swyddi ystafell gefn a allai gael eu heffeithio. Felly, byddaf yn brwydro dros Drostre a dros gadw cynifer o swyddi â phosibl yno.

Buaswn yn cytuno â'r Aelod hefyd fod yr amddiffyniad cymorth gwladwriaethol yn amddiffyniad gwan bellach, ac mae hefyd yn amddiffyniad gwan, fel y buom yn trafod ddoe, o ran y gefnogaeth y gellid ei chynnig i Faes Awyr Caerdydd a llawer o sectorau eraill yn yr economi. Mae dur yn strategol bwysig mewn sawl ffordd i'r DU. Ni fyddai unrhyw genedl arall, hyd y gwn i, yn barod i ganiatáu i gynhyrchu dur gael ei golli. Yma yn y DU, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU weithio mewn partneriaeth gyda ni. Rydym yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n benderfynol o weithio gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Hoffwn weld profiad ac arbenigedd yn cael eu rhannu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi'r cyfle gorau posibl i'r sector dur a llawer o feysydd eraill yn ein heconomi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. A dylai'r gwaith hwnnw ddechrau heddiw gydag ymdrech gydunol gan Lywodraeth y DU, drwy'r gyllideb, i fynd i'r afael â phrisiau uchel ynni.

16:00

Diolch, Weinidog. Credaf fod y ffaith—efallai mai memo wedi'i ddatgelu'n answyddogol yw hwn, ond yn amlwg, mae’r Prif Weinidog a chithau wedi bod yn cael sgyrsiau gyda Tata. Mae arwydd yma, onid oes, fod rhywfaint o fanylder wedi'i drafod yma, a bod yn rhaid cael rhywfaint o sicrwydd gan Tata bellach ynglŷn â pha rannau o'u gweithrediadau y maent yn eu hystyried fel y rhai mwyaf bregus a phwy sy'n debygol o gael eu heffeithio ganddynt. Felly, yn fy marn i, gorau po gyntaf y cawn y newyddion hwnnw, boed yn newyddion da neu ddrwg, gan y credaf fod angen ei rannu â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol a cholegau fel y gallant ddechrau'r gwaith lliniaru, lle byddai'r cyfle i golegau a'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol allu cynllunio, os ydym yn mynd i gael llif arall o bobl fedrus yn taro ein ffigurau diweithdra, yn ddefnyddiol dros ben. Ac wrth gwrs, nid ydym yn sôn am weithwyr ym Mhort Talbot yn unig, ond eu cadwyni cyflenwi hefyd. Felly, fy nghwestiwn yw: beth ydych chi'n debygol o’i ddweud wrthynt, a phryd?

Rwy’n cytuno â chi nad yw'r materion sylfaenol wedi diflannu mewn gwirionedd. Rydych yn sôn am gostau uchel ynni; nid wyf am anghytuno â chi ar y pwynt hwnnw, ond bob tro y byddwch yn sôn am gostau ynni, rwy'n mynd i sôn am ardrethi busnes, sy'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru fynd i’r afael ag ef. Felly, mewn perthynas â hynny, tybed a allwch ddweud wrthyf—efallai ei bod braidd yn gynnar i ateb y cwestiwn hwn, a bod yn deg—ond a fydd cyhoeddiad Banc Lloegr heddiw ynglŷn â gostwng cyfraddau llog yn helpu Tata mewn unrhyw ffordd i reoli eu llif arian, o leiaf, os nad unrhyw beth arall.

Ac yn olaf, mae'n rhaid i rywun sôn am y coronafeirws yn y cyd-destun hwn. Ac fe wnaethom ei grybwyll, neu fe sonioch chi amdano, yn eich ymateb i gwestiwn a godais yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar ddur, ynglŷn ag a oedd yna amgylchiadau annisgwyl a allai effeithio o'r newydd ar y darlun dur yn fyd-eang—yn amlwg, mae coronafeirws yn un o'r rheini—a pha gamau y gallwn eu cymryd o ran y sgyrsiau cynnar gyda Tata i beidio â defnyddio'r feirws fel esgus ychwanegol i geisio cau rhannau o'r diwydiant sydd wedi'u lleoli yn y DU yn gyffredinol, ond yn arbennig yng Nghymru? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a'r pwyntiau a wnaeth? Unwaith eto, maent yn bwyntiau pwysig iawn, ac rwy’n cytuno â phopeth a ddywedodd, bron â bod. Yn fwyaf arbennig, hoffwn sôn am y coronafeirws. Mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol mewn perthynas â'r effaith y gallai coronafeirws ei chael ar yr economi, ac yn enwedig yn y rhannau o'r economi lle rydym yn dibynnu ar allu symud pobl i raddau go helaeth neu ddibyniaeth uchel ar nwyddau o diriogaethau lle mae gweithgarwch economaidd naill ai’n arafu neu’n dod i stop o ganlyniad i'r feirws.

Mae'n gwbl amlwg i bawb y gallai'r difrod i'r economi, yn y senario waethaf, fod yn eithaf sylweddol, ac felly, bydd angen ymdrech gydunol gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl yn gallu goresgyn cyfnod dros dro o anhawster. Nid wyf wedi derbyn y manylion llawn eto ynglŷn â’r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gyhoeddi heddiw o ran cefnogaeth i fusnesau ymdopi â'r coronafeirws, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn becyn digonol i alluogi nid yn unig cwmnïau yn y sector dur ond ym mhob rhan o’r economi i fynd i'r afael â her coronafeirws dros y misoedd i ddod.

Credaf ei bod yn rhy gynnar, yn ôl pob tebyg, i nodi buddion posibl gostwng y gyfradd llog gan Fanc Lloegr o ran sut y gallai hynny gynorthwyo gyda materion llif arian. Fodd bynnag, mae Banc Datblygu Cymru, banciau’r stryd fawr y byddaf yn siarad â hwy eisoes yn dweud y byddant yn barod i gynorthwyo llawer o fusnesau, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr.

Ac rwy'n ailadrodd y pwynt y byddaf yn rhannu'r manylion hynny gyda'r Aelodau cyn gynted ag y bydd unrhyw beth ffurfiol ar gael imi gan Tata. Ac mae Suzy Davies yn llygad ei lle, mae angen i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol wybod cyn gynted â phosibl, fel y gellir gwneud cynlluniau i ddarparu ar gyfer y rheini a allai fod heb waith i sicrhau eu bod yn cael y cymorth iawn i ddychwelyd i gyflogaeth.

16:05

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch am eich ymateb i’r cwestiynau, ac yn arbennig, am nodi y byddwch yn cadw holl safleoedd Tata yng Nghymru mewn cof yn eich trafodaethau â Llywodraeth y DU a chyda Tata yn gyffredinol, oherwydd yn amlwg, i mi, mae safle Llan-wern yn Nwyrain Casnewydd yn dal i fod yn bwysig tu hwnt gan fod cannoedd o swyddi yno ac mae’n bwysig iawn i gyflenwyr a chontractwyr. Wrth gwrs, mae gennym sefyllfa benodol gyda safle Orb, sy'n segur ar hyn o bryd, ond yn amlwg, rydym yn dal i obeithio'n fawr y bydd y safle hwnnw'n ailddechrau gweithredu ac yn chwarae rhan yn y diwydiant dur yng Nghasnewydd a Chymru.

Felly, o ran y darlun cyffredinol, Weinidog, buaswn yn croesawu eich sicrwydd, gan ychwanegu at yr hyn rydych wedi'i ddweud eisoes y prynhawn yma, y ​​byddwch yn cadw diwydiant dur Casnewydd mewn cof wrth i chi gael sgyrsiau a thrafodaethau a sicrhau bod gan ddur ddyfodol cadarn iawn yng Nghymru.

Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fy mod wedi cadw dur Casnewydd mewn cof wrth siarad â Tata, wrth drafod y materion hyn gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Bydd hynny'n parhau. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod cymaint o swyddi â phosibl yn y sector dur yn ardal Casnewydd yn cael eu cadw, ac y gallwn adeiladu ar gryfder y sector yng Nghasnewydd.

Cafwyd newyddion cadarnhaol yn ddiweddar o ran sector dur Cymru, a daeth hynny gyda chyhoeddi oddeutu 100 o swyddi newydd yn y sector. Roeddwn yn credu bod hynny'n arbennig o bwysig ar hyn o bryd, o ystyried yr ansicrwydd a achosir gan nifer o ffactorau, gan gynnwys prisiau ynni, ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit, ac wrth gwrs, y coronafeirws. Rhoddodd hynny hwb calonogol iawn i'r sector yn ne Cymru yn enwedig, lle gwnaed y cyhoeddiad, ond hefyd i’r diwydiant dur ledled y DU.

6. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 6 ar yr agenda'r prynhawn yma yw’r datganiadau 90 eiliad. Daw'r cyntaf yr wythnos hon gan Jenny Rathbone.

Diolch yn fawr iawn. Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw. Mae achosion endometriosis yn aneglur, ond mae mislif ôl-redol, anghydbwysedd hormonaidd, creithiau llawfeddygol, problemau gyda'r system imiwnedd a geneteg oll yn chwarae rhan.

Mae llawer o fenywod yn dioddef am flynyddoedd cyn deall pam eu bod yn dioddef gyda mislif poenus, poen cronig yng ngwaelod y cefn, poen yn ystod rhyw, dolur rhydd, rhwymedd, stumog chwyddedig a chyfog, yn enwedig yn ystod eu mislif. Mae rhieni, athrawon, cyflogwyr a hyd yn oed y proffesiwn meddygol yn methu’r symptomau. Gall gymryd wyth mlynedd a 26 apwyntiad gyda meddyg teulu ar gyfartaledd i weld arbenigwr endometriosis.

Mae hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o endometriosis i feddygon teulu bellach yn cael ei gyflwyno yn GIG Cymru. Ac mae mwy o nyrsys endometriosis yn cael eu cyflogi yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond un ganolfan endometriosis arbenigol yn unig a geir yng Nghaerdydd ar gyfer Cymru gyfan, gydag ystod o driniaethau i liniaru'r afiechyd hwn, ond yn anffodus, ni allant ei wella. Mae endometriosis yn costio dros £8 biliwn i economi'r DU mewn triniaethau gofal iechyd a cholli gwaith, ac mae'n anodd rhoi ffigur ar yr effaith seicogymdeithasol.

Hoffwn dalu teyrnged i gydgysylltwyr Endo March Wales: Nikki Dally, Samantha Hickson a Karla Edwards a’r holl ymgyrchwyr eraill ar lawr gwlad sydd wedi codi ymwybyddiaeth o endometriosis yng Nghymru. Fe'i cynhelir bob blwyddyn ar ddydd Sadwrn olaf y mis hwn. Y llynedd, roeddent yng Nghaerdydd a Llandudno, ac ar ddydd Sadwrn 28 Mawrth, byddant yng Nghaerdydd a'r Wyddgrug. Ymunwch â hwy os gallwch.

Ar yr 8fed o Fawrth 1955, daeth Dai Dower wyneb yn wyneb â Nazzareno Gianelli mewn cylch bocsio yn arena Earls Court, Llundain. Trechodd Dower ei wrthwynebydd, gan gipio’r teitl pencampwr pwysau pryf Ewropeaidd. Disgrifiwyd yr achlysur fel 'bocsio ar ei orau gwych'. Roedd y dorf a oedd yn gwylio wedi’u syfrdanu. Hwn oedd uchafbwynt gyrfa broffesiynol

y ffenomen bocsio o Gymoedd De Cymru.

Hawliodd Dower ei drydydd teitl, ac ychwanegodd at ei bencampwriaethau ym Mhrydain a thu hwnt.

Dechreuodd bywyd David William Dower, a aned ar 20 Mehefin 1933, yn wahanol iawn. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio fel glöwr ym mhwll glo Abercynon. Arweiniodd dawn ar gyfer bocsio at yrfa amatur lwyddiannus, a dilynodd yr yrfa honno ochr yn ochr â'i waith caled yn y pwll glo. Daeth yn bencampwr pwysau pryf amatur, a chystadlodd Dower yng Ngemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol y flwyddyn ganlynol, pan gipiodd y teitl Ewropeaidd. Doedd dim curo ar Dower yn y cylch bocsio. Ef oedd y bocsiwr gorau ond un yn y byd ym 1956. Ym mis Mawrth 1957, methodd â hawlio teitl pwysau pry'r byd, ac er iddo golli'r teitl Ewropeaidd hefyd, roedd yn parhau’n bencampwr Prydain a'r Ymerodraeth.

Ym 1958, ymddeolodd Dower o chwaraeon proffesiynol ac yntau’n ddim ond 25 mlwydd oed. Daeth yn athro chwaraeon mewn ysgol yn Bournemouth, gan ddod yn Bennaeth Chwaraeon Prifysgol y dref yn ddiweddarach. Bu farw Dai Dower ym mis Awst 2016 ond mae’r atgof ohono fel un o’r pencampwyr chwaraeon mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac fel un y mae Abercynon yn falch iawn ohono.

16:10

Mae’r wythnos hon yn nodi can mlynedd ers marwolaeth Daniel James. Bardd a chyfansoddwr emynau oedd Daniel James, ond mae'n llawer mwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Gwyrosydd. Er ei fod yn gyfansoddwr emynau toreithiog, mae'n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi geiriau Calon Lân, a genir fel arfer ar dôn a gyfansoddwyd gan John Hughes o Ynysdawe yn Abertawe.

Cafodd ei eni a'i gladdu yn Abertawe. Roedd yn aelod o gapel Mynydd-bach, mam-eglwys mudiad yr Annibynwyr yn Abertawe, ac mae Canolfan Calon Lân bellach yn gysylltiedig â hi. Dechreuodd weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforys, ac yn ddiweddarach, bu’n gweithio yng ngweithfeydd tunplat Glandŵr. Pan oedd yn ganol oed, caeodd gweithfeydd Glandŵr, a bu’n gweithio wedi hynny yn Nhredegar, Dowlais, Blaengarw, ac yn y pen draw, yn Aberpennar, gan dreulio 15 mlynedd yn un o byllau glo Nixon, ac yn olaf, wrth i’w iechyd wanychu, bu’n gweithio i'r awdurdod lleol.

Roedd llawer o'i farddoniaeth yn ddiymhongar ac yn boblogaidd iawn, ac ymddangosodd gyntaf mewn cyfnodolion a phapurau newydd. Byddai hefyd yn ysgrifennu cerdd am beint yn y King's Head yn Nhreboeth—efallai mai dyna'r 'cerddi a pheintiau' gwreiddiol. Mae coflech iddo wedi bod yn Neuadd Gyhoeddus Treboeth ers 1936, ac mae un fwy diweddar wedi'i gosod yng nghapel Caersalem Newydd yn Nhreboeth. Mae Cymdeithas Calon Lân yn Abertawe wedi cynnal sawl digwyddiad, a byddant yn gosod ffenestri gwydr lliw yn yr ysgol leol i goffáu bywyd Daniel James, y gweithiwr cyffredin a chanddo ddawn eithriadol a gyfansoddodd yr emyn mwyaf poblogaidd yng Nghymru, Calon Lân.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog yw eitem 7, a galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig hwnnw, Caroline Jones.

Cynnig NDM7295 Elin Jones

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12—Pleidleisio drwy Ddirprwy' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12 a gwneud newidiadau canlyniadol i Reol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â bod yn weithredol ar 6 Ebrill 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly byddwn yn pleidleisio o dan yr eitem honno yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Archwiliad cyfle cyfartal

Eitem 8 y prynhawn yma yw’r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: archwiliad cyfle cyfartal. Galwaf ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig—Helen.

Cynnig NDM7247 Helen Mary Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ddarparu archwiliad cyfle cyfartal ar gyfer cwmnïau sy'n cael grantiau Llywodraeth Cymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwella ac annog cyfle cyfartal yn y sector preifat yng Nghymru; a

b) adeiladu ar ganfyddiadau Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Bwriad y cynnig hwn yw bod yn gyfraniad adeiladol at y ddadl ynglŷn â beth fydd yn digwydd i bolisi cydraddoldeb yma yng Nghymru ar ôl Brexit. Ar y meinciau hyn, credwn y dylid datganoli pob agwedd ar gyfraith cydraddoldeb, ond rydym yn ddigon realistig i ddeall, o ystyried natur y Llywodraeth ar ben arall yr M4 ar hyn o bryd, ein bod yn annhebygol o gael y datganoli hwnnw, fel y byddai llawer ohonom yn dymuno’i weld rwy'n siŵr, yn y tymor byr. Rydym yn llwyr gefnogi datganoli llawn a diamwys, ond os nad yw hynny'n mynd i ddigwydd, mae angen inni feddwl beth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru o fewn y pwerau sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd.

Credaf fod llawer ohonom o’r farn ein bod yn debygol o weld newidiadau mawr yn yr amgylchedd cydraddoldeb ar lefel y DU neu Brydain. Ceir elfennau o'r Llywodraeth bresennol yn San Steffan sy'n wrthwynebus iawn i reoleiddio, a golyga hynny fod rhai ohonynt, yn fy marn i, yn wrthwynebus i gydraddoldeb. Mae’n rhaid i mi ddweud yn glir, Ddirprwy Lywydd, nad wyf yn awgrymu bod hynny'n wir am feinciau'r Ceidwadwyr yma; mae gennym hyrwyddwyr cydraddoldeb gwych ar feinciau'r Ceidwadwyr, a gwelaf Suzy Davies a Mark Isherwood yma, a cheir llawer o rai eraill. Ond mae'r duedd honno’n bodoli ar lefel y DU. Oni ddefnyddiwyd hynny fel cyfiawnhad dros Brexit—y byddai modd codi beichiau honedig oddi ar fusnes yn y DU? Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi nad yw hynny'n rhywbeth y byddem yn dymuno’i weld, ond os yw'n mynd i ddigwydd, mae llawer o strwythur ein gweithgarwch yma yng Nghymru o ran hyrwyddo cydraddoldeb wedi'i seilio ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb Prydain fel y mae ar hyn o bryd, ac os bydd hynny’n cael ei golli, bydd angen i ni roi camau ar waith yma. Rydym wedi sôn am nifer o ddewisiadau amgen—er enghraifft, ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.

Rwy'n siŵr nad oes angen i mi nodi bod gennym broblem o ran cydraddoldeb a chyflogaeth yng Nghymru. Gwyddom fod menywod, yn draddodiadol, yn gwneud gwaith am gyflogau isel, gwaith ansicr, gwaith rhan-amser, a hoffwn dalu teyrnged i sefydliad Chwarae Teg, sy’n agos iawn at galon y Dirprwy Weinidog, rwy’n gwybod, am y gwaith y maent wedi'i wneud yn dangos inni beth y mae hynny'n ei gostio i'r economi—nid yn unig yr hyn y mae'n ei gostio i'r menywod unigol, ond beth y mae'n ei gostio i'r economi. Gwyddom, er enghraifft, fod mynediad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig at swyddi rheoli o ansawdd uchel yma yng Nghymru yn wael iawn, a bod y rhan honno o'r boblogaeth yn fwy tebygol nag unrhyw un arall o fod wedi gor-gymhwyso ar gyfer y swyddi a wnânt. Gwyddom fod 46 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn cyflogaeth o gymharu â 78 y cant o'r boblogaeth gyfan, ac rwy'n siŵr nad oes yr un ohonom o’r farn fod hon yn sefyllfa foddhaol.

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi contractau neu'n rhoi grantiau, mae gennym ganllawiau cryf ar hyn o bryd. Rwy’n cydnabod bod y canllawiau eu hunain yn dda. Mae gennyf rai cwestiynau ynglŷn â pha mor effeithiol y cânt eu defnyddio, a phan fydd busnes yn gwneud ymrwymiadau, fod hynny’n cael ei wirio a bod yr ymrwymiadau ar bapur yn cael eu gwirio i weld a ydynt yn cael eu cyflawni. Ond mae'r holl ganllawiau hynny, neu'r rhan helaeth o'r canllawiau hynny, er bod elfennau, er enghraifft, sy'n dod o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn dod o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os yw'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cael ei diwygio a'i glastwreiddio, bydd angen edrych eto ar y canllawiau hynny.

Credaf y byddai'n iawn rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i’r gofynion hynny fel na all fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r hyn sy'n ofynnol. Felly, gallai'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon ddarparu ar gyfer: archwiliadau cydraddoldeb cyn contract; ymrwymiadau cydraddoldeb rhwymol penodol wedi'u teilwra i ba bynnag fusnes ydoedd yn rhan o’r broses gontractio; yn hollbwysig, monitro cydraddoldeb yn ystod cyfnod y grant hwnnw neu'r trefniant busnes hwnnw; a chosbau os na chyflawnir yr ymrwymiadau cydraddoldeb hynny heb reswm da. Weithiau, wrth gwrs, bydd rhesymau da pam nad ydynt yn cael eu cyflawni, ond os nad ydynt yn cael eu cyflawni heb reswm, yna dylai fod cosb. Wrth gwrs, byddai angen i'r gofynion hyn fod yn rhesymol ac yn gymesur, gan ddibynnu ar raddfa'r buddsoddiad a maint y sefydliad, ond dylent fod yn berthnasol i bawb, yn fy marn i.

Nawr, mae'r cynnig hwn yn adeiladu, wrth gwrs, ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, sy’n galw, wrth gwrs, ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu yn rhai o'r meysydd hyn. Dylwn ddweud, Ddirprwy Lywydd, na chredaf fy mod wedi geirio'r cynnig yn berffaith, oherwydd yn fy marn i, dylai'r dull deddfwriaethol hwn fod yn berthnasol i holl grantiau, benthyciadau a chontractau caffael Llywodraeth Cymru, a gellid ymestyn y ddeddfwriaeth i gynnwys y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y sector iechyd, llywodraeth leol, ac ati. Gellid ymestyn yr un dull hefyd i gynnwys sefydliadau trydydd sector sy'n contractio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru, neu'n derbyn grantiau ganddo.

Ni fuaswn am roi'r argraff, Ddirprwy Lywydd, ein bod am osod beichiau anghymesur, ond er y gall pob un ohonom fod yn falch fod llai o'n dinasyddion allan o waith bellach, rwy'n siŵr y dylai pob un ohonom bryderu bod cymaint o ansawdd y gwaith hwnnw'n wael. Mae'n waith cyflog isel, mae'n waith ar gontractau dim oriau, mae'n waith ansicr. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno â ni ar y meinciau hyn nad yw hynny'n ddigon da, ac nid yw'r cyfyngiadau ar fynediad y rheini sy'n cael cyfleoedd rhag cael cyfleoedd gwell yn ddigon da chwaith. Ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, buom yn trafod yr anghydbwysedd sylweddol rhwng nifer y dynion a'r menywod sy'n ymgymryd â gradd-brentisiaethau, er enghraifft, a sut y gellir mynd i’r afael â hynny. Rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y gall pob un ohonom gytuno na ddylid gwario arian cyhoeddus Cymru mewn ffyrdd sy’n caniatáu i anghyfiawnder neu anghydraddoldeb barhau, a buaswn yn gofyn i’r Aelodau gefnogi’r cynnig hwn heddiw i'w gwneud hi'm bosibl archwilio ymhellach. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i'r ddadl, ac at ymateb.

16:15

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl, felly rwyf am fynd yn syth at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn, a dweud hefyd fy mod yn croesawu'r ddadl hon ar sut y gallwn wella ac annog cyfle cyfartal, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r sector preifat yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus rydym yn canolbwyntio arnynt mor aml, gan fod cysylltiad clir rhwng hyn a'n dull ehangach o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Gwyddom fod cyfleoedd gwell a thecach i bawb, ym mhob rhan o economi Cymru—. Fe gyfeirioch chi, wrth gwrs, at y Comisiwn Gwaith Teg, ac rydym yn gweithredu yn unol â’r argymhellion. Mae sicrhau gwaith teg yn rhan ganolog o'n rhaglen bolisi. Gwyddom, wrth gwrs, mai cymdeithas decach lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu a lle gall pobl gymryd rhan, ffynnu a chyflawni eu potensial, yw'r gymdeithas a'r economi rydym am eu gweld.

Felly, mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hintegreiddio a'u prif ffrydio ym mhob un o chwe nodwedd gwaith teg, ond byddai'n rhaid rhoi sylw i wahanol ddulliau—ac rydych wedi cydnabod hyn, Helen Mary—wrth ystyried cyd-destun y sector, ac er enghraifft, maint y cyflogwyr a sut y gallent ymgysylltu. Ond rwy'n deall galwad Helen Mary Jones i edrych ar, ac i ystyried deddfwriaeth ynglŷn â sut i sicrhau y gallai cwmnïau sy'n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru symud ymlaen wedyn drwy ddarparu archwiliad cyfle cyfartal a fydd yn ddefnyddiol ac yn adeiladol iddynt.

Byddwn bob amser yn ystyried deddfwriaeth lle mae gennym bwerau i wneud hynny, ond credaf ei bod yn iawn eich bod wedi canolbwyntio hefyd ar y ffaith bod gennym ddulliau eraill. Mae gennym ysgogiadau caffael a grantiau anneddfwriaethol, a all hybu newid. Rydym yn ceisio hybu’r newid hwnnw drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau, ond hefyd gydag undebau llafur a chyrff cyhoeddus, i sicrhau bod polisi'r Llywodraeth yn gweithio fel bod pawb yn cael budd ohono.

Gwyddom fod trefniadau partneriaethau cymdeithasol symlach a chryfach yn cyflawni'r uchelgais honno am ganlyniadau gwell a chyson, ac maent yn sicrhau bod gweithwyr Cymru ym mhob sector yn yr economi yn rhannu twf economaidd, ond yn bwysicaf oll, yn rhannu tegwch yn y gweithle.

Mewn gwirionedd, mae undebau llafur, wrth gwrs, drwy gydfargeinio, wedi bod yn hanfodol wrth hybu llawer o gydraddoldebau yn y gweithle. Mae rhai cyflogwyr hefyd yn cydnabod manteision gweithlu amrywiol ymroddgar sy'n cael eu gwobrwyo'n deg. Felly, mae rhan o'n gwaith yn gweithredu 'Gwaith Teg Cymru' yn cynnwys cwmpasu sut, er enghraifft, y gallem gynnwys amodau ar waith teg a chydraddoldeb mewn cytundebau cyllido.

Mae gennym eisoes allu i atodi ystod o amodau ychwanegol i grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol. Mae’n rhaid i ni daro cydbwysedd, wrth gwrs, o ran yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Mae'n ymwneud â datblygu dull lle mae cyflogwyr yn cofleidio'r newid hwnnw i gyflawni gwaith teg a gwell canlyniadau cydraddoldeb. Dyna lle mae'n rhaid i ni, fel Llywodraeth, reoli'r broses hon.

Felly, rydym wedi derbyn y chwe argymhelliad blaenoriaethol yn 'Gwaith Teg Cymru', rydym wedi derbyn rhai eraill mewn egwyddor, ac rydym wedi cychwyn ar ein taith i ddod yn genedl gwaith teg. Ond hoffwn ddweud heddiw hefyd fod hyn ochr yn ochr â chychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i gymdeithas decach, lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu.

Y bore yma, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau. Rwy'n falch o gael cyfle i ddweud wrth yr Aelodau am edrych ar y datganiad, gan ei fod yn ymwneud â dyddiad cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein holl gyrff cyhoeddus yn gwbl barod ar gyfer hyn, ac y byddant yn ymgysylltu â phartneriaid wrth ddatblygu'r canllawiau. Rydym wedi cael ymgynghoriad da. Bydd y ddyletswydd yn cael ei rhoi mewn grym ar 29 Medi eleni.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn bwysig inni edrych ar draws yr elfennau cydraddoldeb. Felly, fis Medi diwethaf, cyhoeddais 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol—Fframwaith a Chynllun Gweithredu', ac mae hwnnw'n galw am weithredu ym mhob un o adrannau'r Llywodraeth, gan gynnwys datblygu economaidd. Ddoe, cyhoeddais y 'Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yng Nghymru', a ddeilliodd o adolygiad rhywedd Chwarae Teg. Mae'n nodi meysydd blaenoriaethol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb o ran canlyniadau.

Credaf fod y contract economaidd yn allweddol i hyn oll, yn enwedig mewn perthynas â'r ysgogiadau sydd gennym, gan ei fod yn offeryn go iawn ar gyfer newid. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i'r contract economaidd sicrhau bod busnesau'n gwneud newidiadau ac yn dangos ymddygiad busnes cyfrifol. Mae gennym lawer iawn o gymell tawel, ond mae a wnelo hyn â sut rydym yn symud ymlaen, pryd y bydd angen inni ddeddfu a sut y gallwn ystyried tystiolaeth.

Felly, yn olaf, hoffwn ddweud fy mod o'r farn, yn enwedig yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd y gwaith pwysig a wnawn o ran ymchwil ar opsiynau ehangach i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yn ein helpu i gael y dystiolaeth i weld a oes angen inni symud ymlaen gyda deddfwriaeth yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cynnig deddfwriaethol hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac Aelodau eraill i fwrw ymlaen â hyn.

16:20

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n teimlo y gallai'r Senedd fod wedi blino braidd arnaf erbyn diwedd y dydd, gan nad hwn fydd fy nghyfraniad olaf—diolch i Dr Dai Lloyd am ei eiriau caredig. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gywair ei hymateb. Rwy'n cymeradwyo lawer iawn o'r hyn a ddywedodd. Mae’n llygad ei lle, wrth gwrs, wrth ddweud bod rhai cyflogwyr yn cofleidio’r agenda hon yn effeithiol iawn, ond rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi y ceir rhai eraill nad ydynt yn gwneud hynny, a’i bod yn anochel y bydd angen moronen yn ogystal â gwialen weithiau yn y Llywodraeth.

Rwy'n croesawu ei datganiad heddiw ynglŷn â deddfu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Credaf efallai y bydd rhai ohonom braidd yn siomedig ynghylch y penderfyniad i’w wthio ymlaen, ond rwy'n deall cyd-destun hynny, a'i bod yn well gwneud hynny ychydig yn hwyrach a'i wneud yn dda na rhuthro a'i wneud yn wael.

Credaf fod llawer o ddulliau i’w cael, fel y dywedodd y Gweinidog—yr ysgogiadau caffael ac ati—i hyrwyddo'r agenda hon yn y sector preifat. Ond y gwir amdani yw bod llawer o'r dulliau hynny'n dibynnu ar ddeddfwriaeth nad yw’n gadarn yn fy marn i, a chredaf ei bod yn cytuno. Mae’r diffiniad o'r chwe nodwedd warchodedig yn bodoli yn y Ddeddf Cydraddoldeb gyfredol. Os caiff y diffiniad ei lastwreiddio, os caiff ei ddiwygio mewn ffyrdd na fydd yn ddefnyddiol, rwy'n awgrymu y bydd angen ymatebion deddfwriaethol arnom, yn ogystal â'r holl bethau eraill y mae'r Gweinidog wedi sôn amdanynt heddiw mewn perthynas â phartneriaeth a rôl bwysig iawn mudiad yr undebau llafur ac ati.

Yn olaf, rwy'n ddiolchgar iawn eto, fel y dywedais, am yr ymateb cadarnhaol iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd.

16:25

Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, fe’i derbyniwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis cynnar o ganser

Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw’r ddadl aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ddiagnosis cynnar o ganser. Galwaf ar David Rees i gyflwyno'r cynnig. David.

Cynnig NDM7238 David Rees, Angela Burns, Dai Lloyd, Mike Hedges, Jayne Bryant, Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod diagnosis cynnar o ganser yn gwella cyfleoedd goroesi.

2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob cenedl gael strategaeth ar ganser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer canser yn cynnwys mwy o bwyslais ar ddiagnosis cynharach i gleifion ac iddo fod ar waith pan ddaw'r cynllun presennol i ben yn 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser.

Cynigiwyd y cynnig.