Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ôl i Chwilio

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

17/09/2019

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd Statement by the Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") 2. Questions to the Counsel General and Brexit Minister (in respect of his "law officer" responsibilities)
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 3. Business Statement and Announcement
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwella Sicrwydd Deiliadaeth 4. Statement by the Minister for Housing and Local Government: Improving Security of Tenure
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gwên—10 mlynedd o wella iechyd y geg plant yng Nghymru 5. Statement by the Minister for Health and Social Services: Designed to Smile—10 years of improving children's oral health in Wales
6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru 6. Statement by the Minister for Finance and Trefnydd: Implications for Wales of the UK Government's 2019 Spending Round
7. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit 7. Statement by the Counsel General and Brexit Minister: Brexit Update
8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd 8. Debate: Valleys Taskforce
9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 9. Debate on the General Principles of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill
10. Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 10. Motion to agree the financial resolution in respect of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill
11. Cyfnod Pleidleisio 11. Voting Time

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

Datganiad gan y Llywydd
Statement by the Llywydd

Cyn galw'r Prif Weinidog, dwi eisiau hysbysu'r Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi.

Before calling the First Minister, I wish to inform the Assembly, in accordance with Standing Order 26.75, that the Legislation (Wales) Act 2019 was given Royal Assent on 10 September.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Felly, cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees. 

We move to questions to the First Minister, and the first question is from David Rees.

Dyfodol y Diwydiant Dur yng Nghymru
The Future of the Steel Industry in Wales

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ54303

1. What discussions has the Welsh Government had with counterparts in the UK Government about the future of the steel industry in Wales? OAQ54303

Llywydd, can I thank the Member for that question, and for his consistent advocacy of the importance of the steel industry in Wales? As he will know, we are in regular discussions with the UK Government. We continue to press them to discharge their responsibilities to support strategic manufacturing in Wales and to play their part in securing a long-term future for our steel industry.

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac am ei eiriolaeth gyson o bwysigrwydd y diwydiant dur yng Nghymru? Fel y bydd e'n gwybod, rydym ni'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU. Rydym ni'n parhau i bwyso arnyn nhw i gyflawni eu cyfrifoldebau i gefnogi gweithgynhyrchu strategol yng Nghymru ac i chwarae eu rhan i sicrhau dyfodol hirdymor i'n diwydiant dur.

Thank you for that answer, First Minister. You rightly point out that the UK Government needs to play its part. It hasn't even done a steel sector deal yet. The previous Secretary of State and the current Secretary of State seem to be oblivious to the importance of addressing this issue of our steel sector. Now, as you know, Port Talbot steelworks is crucial to my constituency. Many steelworks across the areas in Wales are actually the lifeblood of many local communities, and, whilst I want to talk about Port Talbot, I think it's more important we talk about the wider steel agenda and the recent announcement by Tata on closing the Orb works. The Orb works is part of the steel family in Wales, is part of the structure of Wales. What actions are the Welsh Government taking to look at the help it can give to the workers of the Orb works, because even though Tata are saying they will relocate many, actually what that does is take away jobs from other people and the jobs of future people coming into the Orb works. Opportunities will disappear. So, what's the Welsh Government going to do to ensure that the Orb works and the workers have a future?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydych chi'n nodi'n gywir bod angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan. Nid yw hyd yn oed wedi dod i gytundeb sector dur eto. Mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol a'r Ysgrifennydd Gwladol presennol yn gwbl anymwybodol o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r mater hwn o'n sector dur. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae gwaith dur Port Talbot yn hollbwysig i'm hetholaeth i. Mae llawer o weithfeydd dur ar draws yr ardaloedd yng Nghymru yn anadl einioes i lawer o gymunedau lleol mewn gwirionedd, ac, er fy mod i eisiau siarad am Bort Talbot, rwy'n credu ei bod hi'n bwysicach ein bod ni'n siarad am yr agenda ddur ehangach a'r cyhoeddiad diweddar gan Tata ar gau gwaith yr Orb. Mae gwaith yr Orb yn rhan o'r teulu dur yng Nghymru, yn rhan o strwythur Cymru. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i edrych ar y cymorth y gall ei roi i weithwyr gwaith yr Orb, oherwydd er bod Tata yn dweud y bydd yn adleoli llawer, yr hyn y mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd yw cymryd swyddi oddi ar bobl eraill a swyddi'r bobl a fydd yn dod i waith yr Orb yn y dyfodol. Bydd cyfleoedd yn diflannu. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau bod gan waith yr Orb a'r gweithwyr ddyfodol?

Well, Llywydd, I thank David Rees for that follow-up question. Of course, he is right; it is deeply disappointing that the UK Government has failed to deliver a sector deal for the steel industry, despite the many opportunities that we have taken to put that case to them. And they won't do it because they have failed to solve some of the issues that lie directly in their own hands. Time after time, the industry and the Welsh Government have urged the UK Government to tackle the issue of industrial electricity price disparity between the United Kingdom and competitors of Tata on the continent of Europe. As recently as 27 August, my colleague Ken Skates was discussing this with the new Secretary of State at the Department of Business, Energy and Industrial strategy. It's time for the UK Government to step up and to play their part in supporting the steel industry in Port Talbot and more widely in Wales. And, of course, it is disappointing to have had the news on 2 September that no buyer has been found for the Orb site in Newport. It's disappointing for Wales and it's extremely worrying for workers at that plant. 

Now, I welcome the fact that Tata have said that they aim to avoid compulsory redundancies and to offer alternative employment at other sites. But that consultation that's being carried out with staff needs to be real, it needs to attend carefully to the case being made by the trade unions on behalf of their members, and, as a Welsh Government, we will work with the trade union movement, as well as with the company, to do everything we can to support that very loyal and very skilled workforce. 

Wel, Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn dilynol yna. Wrth gwrs, mae'n iawn; mae'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU wedi methu â darparu cytundeb sector i'r diwydiant dur, er gwaethaf y llu o gyfleoedd yr ydym ni wedi eu cymryd i ddadlau'r achos hwnnw iddyn nhw. Ac ni wnânt ei wneud gan eu bod wedi methu â datrys rhai o'r materion sy'n uniongyrchol yn eu dwylo nhw eu hunain. Dro ar ôl tro, mae'r diwydiant a Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â mater y gwahaniaeth mewn prisiau trydan diwydiannol rhwng y Deyrnas Unedig a chystadleuwyr Tata ar gyfandir Ewrop. Mor ddiweddar â 27 Awst, roedd fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, yn trafod hyn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU gamu ymlaen a chwarae ei rhan yn y gwaith o gefnogi'r diwydiant dur ym Mhort Talbot ac yn ehangach yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae'n siomedig o fod wedi cael y newyddion ar 2 Medi nad oes yr un prynwr wedi ei ganfod ar gyfer safle yr Orb yng Nghasnewydd. Mae'n siomedig i Gymru ac mae'n peri pryder mawr i weithwyr yn y gwaith hwnnw.

Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod Tata wedi dweud mai ei nod yw osgoi diswyddiadau gorfodol a chynnig swyddi eraill ar safleoedd eraill. Ond mae angen i'r ymgynghoriad hwnnw sy'n cael ei gynnal gyda staff fod yn un gwirioneddol, mae angen iddo roi sylw gofalus i'r achos sy'n cael ei gyflwyno gan yr undebau llafur ar ran eu haelodau, ac, fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio gyda mudiad yr undebau llafur, yn ogystal â chyda'r cwmni, i wneud popeth y gallwn i gefnogi'r gweithlu hynod deyrngar a hynod fedrus hwnnw.

Speaking here in 2015, in the debate that called on the Welsh Government to adopt a charter for British sustainable steel, I noted that Tata Steel Colors in Shotton were not only critically dependent upon the supply chain for sustainable British steel, but also had an emphasis on commitment to investment in improving their environmental performance and sustainability, where they were working with Welsh Government and Natural Resources Wales to meet the industrial emissions directives. What engagement has the Welsh Government had with the UK Government since its March announcement of a consultation on an industrial energy transformation fund to help businesses with high energy use cut their bills, particularly steel, backed up by £315 million of investment?

Wrth siarad yma yn 2015, yn y ddadl a alwodd ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydain, sylwais fod Tata Steel Colors yn Shotton nid yn unig yn dibynnu'n hanfodol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer dur cynaliadwy ym Mhrydain, ond bod ganddyn nhw bwyslais hefyd ar ymrwymiad i fuddsoddi mewn gwella eu perfformiad amgylcheddol a'u cynaliadwyedd, pan eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i fodloni'r cyfarwyddebau allyriadau diwydiannol. Pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael â Llywodraeth y DU ers ei chyhoeddiad ym mis Mawrth o ymgynghoriad ar gronfa trawsnewid ynni diwydiannol i helpu busnesau sy'n defnyddio llawer o ynni i dorri eu biliau, yn enwedig dur, wedi ei chefnogi gan £315 miliwn o fuddsoddiad?

Well, Llywydd, the Welsh Government was the first signatory of the steel charter earlier this year. And, of course, we work both with the industry and, where there are opportunities, with the UK Government. The industrial energy transformation fund was discussed by my colleague Ken Skates at the opportunity that I mentioned a few moments ago. And we will pursue as well the clean steel fund that was announced on 29 August, not intended to be operational before 2024, but offering opportunities across the United Kingdom. And I think it is very important indeed that we emphasise that to the UK Government—that this is to be a fund that is to be spent in Wales, as well as elsewhere, to assist the sector in its transition to low-carbon iron and steel production through new technologies and processes. And that will be very important for us here in Wales.

Wel, Llywydd, Llywodraeth Cymru oedd llofnodwr cyntaf y siarter dur yn gynharach eleni. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio gyda'r diwydiant a phan fo cyfleoedd, gyda Llywodraeth y DU. Trafodwyd y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar y cyfle y soniais amdano ychydig funudau yn ôl. A byddwn hefyd yn mynd ar drywydd y gronfa dur glân a gyhoeddwyd ar 29 Awst, na fwriedir iddi fod yn weithredol cyn 2024, ond sy'n cynnig cyfleoedd ar draws y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn wir ein bod ni'n pwysleisio hynny i Lywodraeth y DU—y bydd hon yn gronfa i'w gwario yng Nghymru, yn ogystal ag mewn mannau eraill, i gynorthwyo'r sector wrth iddo drosglwyddo i gynhyrchu haearn a dur carbon-isel trwy dechnolegau a phrosesau newydd. A bydd hynny'n bwysig iawn i ni yma yng Nghymru.

13:35

The announcement about the Orb works in Newport, obviously, was devastating for the workers involved, but it's also devastating for the potential of the steel industry in Wales. I think Tata said that converting the site to producing steels for future electric vehicle production would cost in excess of £50 million. Now, what negotiations did Welsh Government get involved in, in either finding, or making, or contributing towards that kind of investment? Because £50 million would have been an absolute bargain in terms of securing the future of the plant and the potential that it offered in terms of this key sector.

Roedd y cyhoeddiad am waith yr Orb yng Nghasnewydd, yn amlwg, yn drychinebus i'r gweithwyr dan sylw, ond mae hefyd yn drychinebus i botensial y diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod Tata wedi dweud y byddai addasu'r safle er mwyn cynhyrchu dur ar gyfer cynhyrchu cerbydau trydan yn y dyfodol yn costio dros £50 miliwn. Nawr, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ynddyn nhw, naill ai o ran dod o hyd i'r math hwnnw o fuddsoddiad neu ei wneud, neu gyfrannu ato? Oherwydd byddai £50 miliwn wedi bod yn fargen wych o ran sicrhau dyfodol y gwaith a'r potensial yr oedd yn ei gynnig o ran y sector allweddol hwn.

Well, Llywydd, the £50 million investment is only one part of the set of reasons that were identified by Tata in coming to their decision. Not only did they say that it would require an investment of that scale, but they also pointed to the fact that Orb Electrical Steels is part of the Cogent Power group, and Cogent have a plant in Sweden that already manufactures steel that is used in electric vehicles. So, the money by itself was not the issue; it's an issue of the global construction of the steel industry, and where companies choose to make their investments and where they choose to source the steel that they need. Now, of course we would like to see that investment in Wales. Of course we think there is a powerful case for making sure that there is a UK supplier of the sort of steel that will be needed for electric vehicles and the wider automotive industry, and we make that case to Tata and with our trade union colleagues. But the steel industry is in a global set of difficulties and concerns, and Tata Steel and the events at Orb cannot be isolated from those wider considerations—wider considerations for which the UK Government has to take a responsibility.

Wel, Llywydd, dim ond un rhan o'r gyfres o resymau a nodwyd gan Tata wrth wneud ei benderfyniad yw'r buddsoddiad o £50 miliwn. Nid yn unig y gwnaethon nhw ddweud y byddai'n golygu buddsoddiad o'r maint hwnnw, ond nodwyd ganddyn nhw hefyd y ffaith bod Orb Electrical Steels yn rhan o grŵp Cogent Power, ac mae gan Cogent waith yn Sweden sydd eisoes yn gweithgynhyrchu dur sy'n cael ei ddefnyddio mewn cerbydau trydan. Felly, nid yr arian yn unig oedd y broblem; mae'n fater o adeiladu'r diwydiant dur yn fyd-eang, a lle mae cwmnïau yn dewis gwneud eu buddsoddiadau a lle maen nhw'n dewis cael gafael ar y dur sydd ei angen arnyn nhw. Nawr, wrth gwrs yr hoffem ni weld y buddsoddiad hwnnw yng Nghymru. Wrth gwrs ein bod ni'n credu bod achos cryf dros wneud yn siŵr bod cyflenwr yn y DU o'r math o ddur y bydd ei angen ar gyfer cerbydau trydan a'r diwydiant modurol ehangach, ac rydym ni'n dadlau'r achos hwnnw i Tata a chyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur. Ond mae'r diwydiant dur yn destun cyfres fyd-eang o drafferthion a phryderon, ac ni ellir ynysu Tata Steel a'r digwyddiadau yn Orb oddi wrth yr ystyriaethau ehangach hynny—ystyriaethau ehangach y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo cyfrifoldeb amdanynt.

First Minister, steel has been made at the Orb site in Newport East since the end of the nineteenth century, and over that 120 years or so, the workforce and production have continually changed and adapted, and investment has been made, to meet the evolving demand for steel. And I do think that, given that track record, it's perfectly possible for further change and adaptation to occur, with necessary investment, to produce electrical steel for the mass production of electric cars in the future. And surely there's a strong case for that electrical steel to be produced here, in the UK, and at the Orb site. So, I would be very grateful if you would redouble your efforts, First Minister, to work with UK Government, the trade unions and industry to look at facilitating and encouraging that investment and that strong future for the Orb works.

Prif Weinidog, mae dur wedi cael ei wneud ar safle'r Orb yn Nwyrain Casnewydd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn ystod y 120 o flynyddoedd hynny, mae'r gweithlu a'r cynhyrchu wedi newid ac addasu'n barhaus, ac mae buddsoddiad wedi ei wneud i fodloni'r galw sy'n esblygu am ddur. Ac rwy'n credu, o gofio'r hanes hwnnw, ei bod hi'n berffaith bosibl newid ac addasu ymhellach, gyda'r buddsoddiad angenrheidiol, i gynhyrchu dur trydanol ar gyfer cynhyrchu ceir trydan ar raddfa fawr yn y dyfodol. A does bosib nad oes achos cryf dros gynhyrchu'r dur trydanol yma, yn y DU, ac ar safle'r Orb. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech chi'n dwysáu eich ymdrechion, Prif Weinidog, i weithio gyda Llywodraeth y DU, yr undebau llafur a'r diwydiant i ystyried hwyluso ac annog y buddsoddiad hwnnw a'r dyfodol cryf hwnnw i waith yr Orb.

I thank John Griffiths, who speaks, I know, on behalf of those many individuals and families in his own constituency who are affected by the announcement. The Minister for Economy and Transport spoke to Tata Steel immediately following the announcement to make these points to them—that they have this long history of an immensely loyal, committed workforce, who've gone through many changes in that past and would be with them on a journey of change if they were willing to pursue it in the future. And there is, as John Griffiths said, and as I said in my answer to Rhun ap Iorwerth, a strategic case for ensuring that, in the United Kingdom, there is a capacity to manufacture steel that will be needed for new forms of vehicles and new possibilities in the future. We make all those points to the company, where we have those opportunities, while at the same time making it clear to that workforce that, should the assistance of the Welsh Government and the approach we put in place when people need to find new skills and new job opportunities be needed, we will be there to support them when that time comes.

Diolchaf i John Griffiths, sy'n siarad, rwy'n gwybod, ar ran yr unigolion a theuluoedd lawer hynny yn ei etholaeth ei hun y mae'r cyhoeddiad yn effeithio arnyn nhw. Siaradodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth â Tata Steel yn syth ar ôl y cyhoeddiad i wneud y pwyntiau hyn iddyn nhw—bod ganddyn nhw'r hanes maith hwn o weithlu hynod deyrngar ac ymroddedig, sydd wedi bod trwy lawer o newidiadau yn y gorffennol hwnnw ac a fyddai gyda nhw ar daith o newid pe bydden nhw'n fodlon mynd ar drywydd hynny yn y dyfodol. A cheir achos strategol, fel y dywedodd John Griffiths, ac fel y dywedais innau yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth, dros sicrhau, yn y Deyrnas Unedig, bod gallu i weithgynhyrchu dur y bydd ei angen ar gyfer mathau newydd o gerbydau a phosibiliadau newydd yn y dyfodol. Rydym ni'n gwneud yr holl bwyntiau hynny i'r cwmni, pan fydd y cyfleoedd hynny gennym, gan ei gwneud yn eglur i'r gweithlu ar yr un pryd, os bydd angen cymorth Llywodraeth Cymru a'r dull gweithredu y byddwn yn ei roi ar waith pan fydd pobl angen dod o hyd i sgiliau newydd a swyddi newydd, byddwn yno i'w cynorthwyo pan ddaw'r adeg honno.

Cyllid Ychwanegol i Lywodraeth Cymru
Additional Funding to the Welsh Government

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU? OAQ54326

2. Will the First Minister make a statement on the additional funding recently provided to the Welsh Government by the UK Government? OAQ54326

13:40

Well, Llywydd, even if the additional funding to which the Member refers materialises, the Welsh Government’s budget will be 2 per cent or £300 million lower in real terms than it was in 2010-11. Unreliable one-year funding, even when additional, fails to make up for nearly a decade of austerity. 

Wel, Llywydd, hyd yn oed os yw'r cyllid ychwanegol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ymddangos, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 2 y cant neu £300 miliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Nid yw cyllid blwyddyn annibynadwy, hyd yn oed pan ei fod yn ychwanegol, yn gallu gwneud iawn am bron i ddegawd o gyni cyllidol.

Well, first, First Minister, perhaps I should have welcomed you back from your Brexit bunker today. But I thank the First Minister for that answer. We all understand that whatever funding is given is never enough, but isn't it true to say that a less profligate approach to financial control by the Welsh Government would release more funding into our public services? By this I mean the losses sustained with Government projects such as the M4 relief road, the Cardiff land deal, the Year of the Sea, the Circuit of Wales and Communities First, which together cost just under £600 million—a  figure that about matches the sum afforded Wales by the UK Government. And there are, no doubt, many more examples of poor financial management by the Labour Welsh Government that I could have cited. Surely we should be looking at the way we approach financial control, rather than looking for largesse from Westminster.

Wel, yn gyntaf, Prif Weinidog, efallai y dylwn i fod wedi eich croesawu chi yn ôl o'ch byncer Brexit heddiw. Ond diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rydym ni i gyd yn deall na fydd pa bynnag gyllid a roddir byth yn ddigon, ond onid yw'n wir i ddweud y byddai dull llai afradlon o reoli arian gan Lywodraeth Cymru yn rhyddhau mwy o gyllid i'n gwasanaethau cyhoeddus? Yr hyn a olygaf wrth hyn yw'r colledion a ddioddefwyd yn sgil prosiectau'r Llywodraeth fel ffordd liniaru'r M4, cytundeb tir Caerdydd, Blwyddyn y Môr, Cylchffordd Cymru a Cymunedau yn Gyntaf, a gostiodd gyda'i gilydd ryw fymryn yn llai na £600 miliwn—ffigur sydd fwy neu lai'n cyfateb i'r swm a roddir i Gymru gan Lywodraeth y DU. Ac, yn ddiau, mae llawer mwy o enghreifftiau o reolaeth ariannol wael gan Lywodraeth Lafur Cymru y gallwn fod wedi cyfeirio atyn nhw. Onid edrych ar y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â rheolaeth ariannol y dylem ni, yn hytrach na chwilio am haelioni gan San Steffan.

Well, I entirely disagree with the Member. He completely misses the point and the examples that  he cites don't stand up to examination either. The money that was spent in Communities First did fantastic work in many communities right across Wales. The scheme had reached the limits of its possibilities, and we have reformed and changed it. The decision in relation to the Circuit of Wales was not to spend money, not to throw money away. It was to make sure that money wasn't badly spent.

The Welsh Government has the best record of any part of the United Kingdom in spending the money that comes to us in Wales. We spend over 99 per cent of the budget that is available to us in Wales, and we do so by investing in our very hard-pressed public services—public services that have had to endure a decade of not having the money through the UK Government that was necessary to sustain them in the face of the demands that we know are there in Welsh society. It would be a lot better if the Member were prepared to speak up for people in Wales and for the investment that they need. 

Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r Aelod. Mae'n methu'r pwynt yn llwyr ac nid yw'r enghreifftiau y mae'n eu crybwyll yn gwrthsefyll archwiliad ychwaith. Gwnaeth yr arian a wariwyd yn Cymunedau yn Gyntaf waith rhagorol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Roedd y cynllun wedi cyrraedd terfynau ei bosibiliadau, ac rydym ni wedi ei ddiwygio a'i newid. Y penderfyniad o ran Cylchffordd Cymru oedd peidio â gwario arian, nid taflu arian i ffwrdd. Roedd hynny er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd arian yn cael ei wario'n wael.

Llywodraeth Cymru sydd â'r hanes gorau o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig o ran gwario'r arian sy'n dod i ni yng Nghymru. Rydym ni'n gwario dros 99 y cant o'r gyllideb sydd ar gael i ni yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud hynny trwy fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau mawr—gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gorfod dioddef degawd o beidio â chael yr arian drwy Lywodraeth y DU a oedd yn angenrheidiol i'w cynnal yn wyneb y gofynion y gwyddom sy'n bodoli yng nghymdeithas Cymru. Byddai'n llawer gwell pe byddai'r Aelod yn barod i siarad dros bobl Cymru ac am y buddsoddiad sydd ei angen arnynt.

Well, First Minister, you should be on the stage. The way that you managed to put a negative spin on those statistics without breaking into even a wry smile, you're to be commended on that. I hear what you're saying that there has been a period of cutbacks in Westminster, which saw cutbacks in the Welsh Government budget as well for a period of time, but even you must accept that the recent spending review will deliver next year, like it or not—it will deliver—a real-terms increase of 2.3 per cent over and above the money that's currently in the block grant coming to Wales. That's around £600 million a year, as Dave Rowlands referred to. If you look into the deeper figures of that, that's around £195 million that's being earmarked for education in Westminster, £385 million earmarked to health. Your advisers will know this as well as I do.

Can you give us a guarantee that it's up to the Welsh Government now to decide how you spend that money? Can you give us a guarantee that that money will be passed on to the public services in Wales that need it most, so that you can get on with the job, which you were charged to do, of defending public services in Wales, of defending the Welsh way of life, because people in Wales haven't always been convinced that that's happened in the past? You have a golden opportunity here, in a perfect position, to prove people who are negative wrong and to show that you can stand up for public services in Wales. 

Wel, Prif Weinidog, dylech chi fod ar y llwyfan. Y ffordd y gwnaethoch chi lwyddo i roi gwedd negyddol ar yr ystadegau hynny heb dorri gwên hyd yn oed, dylid eich canmol chi am hynny. Clywaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud y bu cyfnod o doriadau yn San Steffan, a arweiniodd at doriadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru hefyd am gyfnod o amser, ond mae'n rhaid i chi hyd yn oed dderbyn y bydd yr adolygiad diweddar o wariant yn darparu y flwyddyn nesaf, pa un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio—bydd yn darparu—cynnydd mewn termau real o 2.3 y cant yn ogystal â'r arian sydd yn y grant bloc sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd. Mae hynny oddeutu £600 miliwn y flwyddyn, fel y dywedodd Dave Rowlands. Os edrychwch chi ar ffigurau manylach hynny, mae hynny oddeutu £195 miliwn sy'n cael ei glustnodi ar gyfer addysg yn San Steffan, £385 miliwn yn cael ei glustnodi ar gyfer iechyd. Bydd eich cynghorwyr yn gwybod hyn cystal â minnau.

A allwch chi roi sicrwydd i ni mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr yw penderfynu sut yr ydych chi'n gwario'r arian hwnnw? A allwch chi roi sicrwydd i ni y bydd yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd ei angen fwyaf, fel y gallwch chi fwrw ymlaen â'r gwaith, y cawsoch y cyfrifoldeb i'w wneud, o amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o amddiffyn y ffordd Gymreig o fyw, oherwydd nid yw pobl yng Nghymru bob amser wedi cael eu hargyhoeddi bod hynny wedi digwydd yn y gorffennol? Mae gennych chi gyfle euraidd yn y fan yma, mewn sefyllfa berffaith, i brofi pobl sy'n negyddol yn anghywir ac i ddangos y gallwch chi sefyll yn gadarn dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Llywydd, for a decade we have been lectured by Members on that side of the Chamber: austerity was unavoidable, austerity was something over which there was no choice. There was, apparently, no magic money tree. Now that they've shredded all of that and finally taken decisions to turn their back on it, they expect us to be rejoicing on this side of the Chamber. A little more humility on the part of the party opposite would not go amiss. And let me tell Nick Ramsay why it is that we are not prepared to enter into the spirit of his question. First of all, what guarantee do we have that this money will ever arrive in Wales? Governments can only spend money that parliaments vote to them, and this Parliament has not voted on the sums of money announced last week. When will this Government put a money Bill in front of the Westminster Parliament so that we could have confidence that these sums of money will arise? They're not going to do that while Parliament is prorogued, they're not going to do that while the Prime Minister seeks a general election, and they're not going to do it when they don't have a majority on the floor of the House of Commons for anything that they announce.

So, first of all, I don't feel that we can be confident that this money will arrive at all. When it does arrive, Llywydd, of course, the Westminster Government will have spent large sums of it on our behalf. We now learn that the 85 per cent contribution to the pension costs that that Government has imposed on us is to be put into our baseline. So, not only did we lose out by £50 million this year, but we're going to lose out by £50 million every year into the future. So, that money's already been frittered away by decisions made by the UK Government. And why is it, Llywydd, that whereas public services in England are told that they have a three-year settlement and they know how much money there will be for education, not just next year, but for two years after that, we in Wales are not given a three-year settlement at all? Of course the money we get will be invested in public services. That's exactly what we do with all the money that comes our way. It would be nice if we were treated on the same basis as departments elsewhere and given the same opportunity.

Llywydd, rydym ni wedi cael pregeth gan Aelodau ar yr ochr yna i'r Siambr ers degawd: nid oedd modd osgoi cyni cyllidol, roedd cyni cyllidol yn rhywbeth nad oedd dewis yn ei gylch. Nid oedd coeden arian hud, mae'n debyg. Nawr eu bod nhw wedi chwalu hynny i gyd ac wedi gwneud penderfyniadau o'r diwedd i gefnu arno, maen nhw'n disgwyl i ni lawenhau ar yr ochr hon i'r Siambr. Byddai ychydig mwy o ostyngeiddrwydd yn briodol gan y blaid gyferbyn. A gadewch i mi ddweud wrth Nick Ramsay pam nad ydym ni'n barod i ymuno yn ysbryd ei gwestiwn. Yn gyntaf oll, pa sicrwydd sydd gennym ni y bydd yr arian hwn byth yn cyrraedd Cymru? Yr unig arian y gall llywodraethau ei wario yw arian y mae seneddau yn ei bleidleisio iddyn nhw, ac nid yw'r Senedd hon wedi pleidleisio ar y symiau o arian a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Pa bryd y bydd y Llywodraeth hon yn rhoi Bil arian gerbron Senedd San Steffan fel y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y symiau arian hyn yn ymddangos? Dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny tra bod y Senedd wedi ei gohirio, dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny tra bod y Prif Weinidog yn ceisio cael etholiad cyffredinol, a dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny pan nad oes ganddyn nhw fwyafrif ar lawr Tŷ'r Cyffredin i unrhyw beth y maen nhw'n ei gyhoeddi.

Felly, yn gyntaf oll, nid wyf i'n teimlo y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd yr arian hwn yn cyrraedd o gwbl. Pan fydd yn cyrraedd, Llywydd, wrth gwrs, bydd Llywodraeth San Steffan wedi gwario symiau mawr ohono ar ein rhan. Rydym ni'n darganfod nawr y bydd y cyfraniad o 85 y cant at y costau pensiwn y mae'r Llywodraeth honno wedi eu gorfodi arnom ni yn mynd i gael ei roi yn ein llinell sylfaen. Felly, nid yn unig yr oeddem ar ein colled o £50 miliwn eleni, ond rydym ni'n mynd i fod ar ein colled o £50 miliwn bob blwyddyn yn y dyfodol. Felly, mae'r arian hwnnw eisoes wedi cael ei wastraffu gan benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. A pham, Llywydd, tra bod gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr yn cael eu hysbysu bod ganddynt setliad tair blynedd ac yn gwybod faint o arian a fydd ar gael ar gyfer addysg, nid yn unig y flwyddyn nesaf, ond am ddwy flynedd ar ôl hynny, nad ydym ni yng Nghymru yn cael setliad tair blynedd o gwbl? Wrth gwrs, bydd yr arian y byddwn ni'n ei gael yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud gyda'r holl arian sy'n dod atom. Byddai'n braf pe byddem ni'n cael ein trin ar yr un sail ag adrannau mewn mannau eraill ac yn cael yr un cyfle.

13:45

Croeso nôl ichi i gyd yma heddiw.

Welcome back to all here today.

The First Minister, of course, is right in that we haven't seen a penny piece of this money yet. We wait to see it. We hope that it will be seen, but it goes no way towards making up the widening austerity gap that has emerged over a decade. But this adds too, of course, the lack of certainty over the future of the shared prosperity fund, the lack of sign-off, because of prorogation, on the previous Chancellor's commitments on sustaining existing EU funding commitments, which are vital for supply chain as well as higher education, training and so on, and also, of course, the fact that he's alluded to that we have no long-term multi-annual comprehensive spending review settlement because Parliament is not there to sit and do it. Nothing has been ratified. There is one thing, however, that we do have increasing clarity on, and that is the implications of a 'no deal' Brexit. I wonder if he's had time to read the report by the UK in a Changing Europe group, 'No Deal Brexit: Issues, Impacts, Implications', because that makes crystal clear what the effects in Wales and every part of the UK will be if we crash out in a 'no deal' scenario.

Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, yn iawn o ran nad ydym ni wedi gweld ceiniog o'r arian hwn eto. Rydym ni'n aros i'w weld. Rydym ni'n gobeithio y caiff ei weld, ond nid yw'n gwneud dim i gau'r bwlch cyni cyllidol cynyddol sydd wedi dod i'r amlwg dros ddegawd. Ond mae hyn hefyd yn ychwanegu, wrth gwrs, at y diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin, y diffyg cadarnhad, oherwydd gohirio'r Senedd, o ymrwymiadau'r Canghellor blaenorol ar gynnal ymrwymiadau ariannu presennol yr UE, sy'n hanfodol ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn ogystal ag addysg uwch, hyfforddiant ac yn y blaen, a hefyd, wrth gwrs, y ffaith y mae wedi cyfeirio ati nad oes gennym ni setliad adolygiad gwariant cynhwysfawr amlflwydd hirdymor gan nad yw'r Senedd yno i eistedd a'i wneud. Nid oes dim wedi ei gadarnhau. Mae un peth, fodd bynnag, y mae gennym ni fwy o eglurder yn ei gylch, sef goblygiadau Brexit 'heb gytundeb'. Tybed a yw ef wedi cael amser i ddarllen yr adroddiad gan y grŵp UK in a Changing Europe, 'No Deal Brexit: Issues, Impacts, Implications', oherwydd mae hwnnw'n gwneud yn gwbl eglur beth fydd yr effeithiau yng Nghymru a phob rhan o'r DU os byddwn yn syrthio allan mewn sefyllfa 'dim cytundeb'.

I thank Huw Irranca-Davies for that question. There were two shocking things about the CSR announced earlier this month: first, that it only lasted for one year, whereas we were being promised by the Conservative Government at Westminster right up until July that it would be a three-year settlement that we would have, and that evaporated in a matter of weeks. And surely it was shocking to everybody in this Chamber that the Chancellor made not a single mention of the shared prosperity fund.

Month after month after month, we are told by UK Ministers that they will honour their promise to Wales that we would not be a penny worse off as a result of leaving the European Union because they have a shared prosperity fund. Month after month, we are told that it's only round the corner that they will have a consultation on that fund, and we will be able to see the colour of their money. Now we know that we're not going to hear anything until the next calendar year, and the Chancellor failed to mention it even once. The amount of money we expect to get through the shared prosperity fund would be in excess of the £600 million that Nick Ramsay mentioned as coming through the CSR. Huw Irranca-Davies is absolutely right to point to the fact that without that certainty, our partners here in Wales are unable to plan ahead in the way we would want them to do.

I have had an opportunity to see the UK in a Changing Europe report. A 'no deal' means a prolonged period of uncertainty; half of UK goods exports will face disruption. It will reduce the safety of UK citizens; the UK's international reputation may suffer. Is there any wonder why time after time after time on the floor of this Chamber we have warned about the catastrophic effect that leaving the European Union without a deal will have here in Wales?

Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Roedd dau beth syfrdanol am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn: yn gyntaf, ei fod yn para am flwyddyn yn unig, er yr addawyd i ni gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan hyd at fis Gorffennaf mai setliad tair blynedd y byddem ni'n ei gael, a diflannodd hynny mewn mater o wythnosau. Ac mae'n sicr ei bod yn syndod i bawb yn y Siambr hon na wnaeth y Canghellor unrhyw gyfeiriad at y gronfa ffyniant gyffredin.

Fis ar ôl mis ar ôl mis, dywedir wrthym gan Weinidogion y DU y byddan nhw'n anrhydeddu eu haddewid i Gymru na fyddem ni yr un geiniog yn waeth ein byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd gan fod ganddyn nhw gronfa ffyniant gyffredin. Fis ar ôl mis, dywedir wrthym y byddan nhw'n cael ymgynghoriad ar y gronfa honno yn fuan iawn, ac y byddwn yn gallu gweld lliw eu harian. Nawr rydym ni'n gwybod nad ydym ni'n mynd i glywed dim tan y flwyddyn galendr nesaf, ac ni chyfeiriodd y Canghellor ati hyd yn oed unwaith. Byddai'r swm o arian yr ydym ni'n disgwyl ei gael drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn fwy na'r £600 miliwn y dywedodd Nick Ramsay a fyddai'n dod drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith nad yw ein partneriaid yma yng Nghymru, heb y sicrwydd hwnnw, yn gallu cynllunio ymlaen llaw fel y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud.

Rwyf i wedi cael cyfle i weld adroddiad UK in a Changing Europe. Mae 'dim cytundeb' yn golygu cyfnod hirfaith o ansicrwydd; bydd tarfu ar hanner allforion nwyddau'r DU. Bydd yn lleihau diogelwch dinasyddion y DU; gallai enw da rhyngwladol y DU ddioddef. A oes unrhyw ryfedd pam, dro ar ôl tro ar ôl tro ar lawr y Siambr hon, ein bod ni wedi rhybuddio am yr effaith drychinebus y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ei chael yma yng Nghymru?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

Questions now from the party leaders. Leader of the opposition, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. First Minister, do you believe that your Government responds appropriately and immediately to the needs of the people of Wales?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth yn ymateb yn briodol ac ar unwaith i anghenion pobl Cymru?

13:50

This Government responds every day to the needs of people in Wales—in the health service, in providing housing for people, in the education services that we provide. It's at the core of what we do as a Government.

Mae'r Llywodraeth hon yn ymateb bob dydd i anghenion pobl Cymru—yn y gwasanaeth iechyd, trwy ddarparu tai i bobl, yn y gwasanaethau addysg yr ydym ni'n eu darparu. Mae wrth graidd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth.

Well, First Minister, let's discuss some of your immediate proposals, shall we? Back at the start of June, you made the decision to cancel the M4 relief road and waste £144 million of taxpayers' money in the process. Now, as part of that statement you made it clear that a commission would be created and would come forward with a first set of immediate proposals that can be put to work to begin to alleviate the problems experienced on the M4. You even said that you recognised that the action is required more than ever given the significance of these problems, and you concluded by saying

'we will begin on that work immediately.'

However, since 25 June there has been no further update about the work of this commission, the membership or what immediate proposals are taking place. In fact, as I understand it, the commission's initial report has now been pushed back to spring 2020 instead of December this year, and your Government has been squabbling over its budget. Your Government delayed making the initial decision, and even hid behind the Newport West by-election. So, First Minister, what is the excuse now for this further delay?

Wel, Prif Weinidog, beth am i ni drafod rhai o'ch cynigion uniongyrchol, aie? Yn ôl ar ddechrau mis Mehefin, gwnaethoch y penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4 a gwastraffu £144 miliwn o arian trethdalwyr yn y broses. Nawr, yn rhan o'r datganiad hwnnw, fe'i gwnaed yn eglur gennych y byddai comisiwn yn cael ei greu ac yn cyflwyno cyfres gyntaf o gynigion uniongyrchol y gellir eu rhoi ar waith i ddechrau lleddfu'r problemau a geir ar yr M4. Dywedasoch hyd yn oed eich bod yn cydnabod bod y cam yn ofynnol yn fwy nag erioed o ystyried arwyddocâd y problemau hyn, cyn cloi trwy ddweud

'byddwn yn dechrau ar y gwaith hwnnw ar ein hunion.'

Fodd bynnag, ers 25 Mehefin ni chafwyd unrhyw ddiweddariad pellach ar waith y comisiwn hwn, yr aelodaeth na pha gynigion uniongyrchol sy'n cael eu gwneud. Yn wir, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae adroddiad cychwynnol y comisiwn wedi cael ei wthio yn ôl i wanwyn 2020 erbyn hyn, yn hytrach na mis Rhagfyr eleni, ac mae eich Llywodraeth wedi bod yn ffraeo am ei gyllideb. Fe wnaeth eich Llywodraeth oedi cyn gwneud y penderfyniad cychwynnol, a hyd yn oed cuddio y tu ôl i is-etholiad Gorllewin Casnewydd. Felly, Prif Weinidog, beth yw'r esgus nawr am yr oedi pellach hwn?

It's disappointing to hear that the leader of the Conservative Party here in Wales is as careless with the necessary conventions of our political life as his leader is in Westminster. The reason we delayed the announcement because of the Newport by-election is because that is what the rules of by-elections require. Now, I know that his party isn't keen on rules. I know that they don't care about whether or not they observe the way that things ought to be conducted. But it's disappointing to hear the leader of the opposition here align himself with that way of conducting public life here in Wales. While he talks about the waste of public money on major public infrastructure projects, presumably he wasn't reading when his Government made an announcement on HS2 and the billions of pounds that have been squandered by his Government on that. The Burns review has been working hard over the summer. It is working actively, it is recruiting the other members of the commission it will need. We will announce those names very shortly. It will hold its first public engagement event next month, and I expect that the next set of proposals from the review will be with us by the end of this calendar year, as we have said all along.

Mae'n siomedig clywed bod arweinydd y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru mor ddiofal â chonfensiynau angenrheidiol ein bywyd gwleidyddol ag y mae ei arweinydd yn San Steffan. Y rheswm pam y gohiriwyd y cyhoeddiad gennym oherwydd is-etholiad Casnewydd oedd oherwydd mai dyna y mae rheolau is-etholiadau yn gofyn amdano. Nawr, rwy'n gwybod nad yw ei blaid yn hoff o reolau. Rwy'n gwybod nad ydyn nhw'n poeni pa a ydyn nhw'n cadw at y ffordd y dylid gwneud pethau. Ond mae'n siomedig clywed arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma yn cyd-fynd â'r ffordd honno o ymgymryd â bywyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Tra ei fod yn siarad am wastraffu arian cyhoeddus ar brosiectau seilwaith cyhoeddus mawr, rwy'n cymryd nad oedd yn darllen pan wnaeth ei Lywodraeth gyhoeddiad ar HS2 a'r biliynau o bunnoedd a wastraffwyd gan ei Lywodraeth ar hynny. Mae adolygiad Burns wedi bod yn gweithio'n galed dros yr haf. Mae'n gweithio'n ddiwyd, mae'n recriwtio aelodau eraill y comisiwn y bydd eu hangen. Byddwn yn cyhoeddi'r enwau hynny yn fuan iawn. Bydd yn cynnal ei ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd cyntaf y mis nesaf, ac rwy'n disgwyl y bydd y gyfres nesaf o gynigion o'r adolygiad gyda ni erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r cychwyn.

Well, you have been squabbling over the money that is actually available to this commission, because on 12 July you said that Lord Burns has the first call on all of that £1 billion, but five days later, your economy Minister said

'we're not going to be inviting the commission to spend £1 billion.'

So, as a Government, First Minister, you're all over the place on this. Who is right? You or your economy Minister?

Now, another area where your Government wanted immediate action is on the climate change emergency. So far, you have failed to bring forward substantial immediate proposals to tackle the climate emergency. What has been announced has been more of the same when we know that what we need now is not more of the same, but innovative ideas to reduce our damage to the planet.

Now, the £30 million for active travel will do nothing to help if the trains and buses across Wales are constantly delayed, full to bursting, and put people off rather than encourage them on board. The latest bus journey figures show that 20 million fewer bus journeys are being taken in Wales. What radical ideas did your Government have in mind when it declared the climate emergency, and when will you be bringing them forward? Because other nations have, for example, banned single-use plastics, and yet all your Government can say is that it is committed to a ban. When will your Government, First Minister, be introducing a ban and stop just thinking about it?

Wel, rydych chi wedi bod yn ffraeo ynghylch yr arian sydd ar gael i'r comisiwn hwn mewn gwirionedd, oherwydd ar 12 Gorffennaf dywedasoch mai'r Arglwydd Burns sydd â'r hawliad cyntaf ar y £1 biliwn hwnnw i gyd, ond bum niwrnod yn ddiweddarach, dywedodd eich Gweinidog yr economi

dydyn ni ddim yn mynd i fod yn gwahodd y Comisiwn i wario £1 biliwn.

Felly, fel Llywodraeth, Prif Weinidog, rydych chi mewn anhrefn llwyr o ran y mater hwn. Pwy sy'n iawn? Chi ynteu eich Gweinidog yr economi?

Nawr, maes arall lle'r oedd eich Llywodraeth eisiau gweld gweithredu ar unwaith yw ar argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Hyd yma, rydych chi wedi methu â chyflwyno cynigion uniongyrchol sylweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mwy o'r un fath yw'r hyn a gyhoeddwyd er ein bod ni'n gwybod mai nad mwy o'r un fath sydd ei angen arnom ni nawr, ond syniadau arloesol i leihau ein niwed i'r blaned.

Nawr, ni fydd y £30 miliwn ar gyfer teithio llesol yn gwneud unrhyw beth i helpu os bydd y trenau a'r bysiau ledled Cymru wedi eu hoedi'n gyson, yn llawn i'r ymylon, ac yn golygu na fydd gan bobl ddiddordeb mewn teithio, yn hytrach na'u hannog i deithio. Mae'r ffigurau diweddaraf ar deithiau bws yn dangos bod 20 miliwn yn llai o deithiau bws yn cael eu gwneud yng Nghymru. Pa syniadau radical oedd gan eich Llywodraeth mewn golwg pan ddatganodd yr argyfwng hinsawdd, a phryd y byddwch chi'n eu cyflwyno? Oherwydd mae gwledydd eraill wedi gwahardd plastigau untro, er enghraifft, ac eto'r cwbl y gall eich Llywodraeth chi ei ddweud yw ei bod wedi ymrwymo i waharddiad. Pryd y gwnaiff eich Llywodraeth, Prif Weinidog, gyflwyno gwaharddiad a rhoi'r gorau i'w ystyried yn unig?

It's difficult to pick out much sense in what I've just been asked, Llywydd. On the issue of the money for the Burns commission, the Burns commission has first call on the £1 billion that was originally set aside for the M4 relief road. Lord Burns, when he met me, as a former permanent secretary at the Treasury, made it clear that that did not mean that he expected to spend £1 billion. He wasn't aiming to spend £1 billion. What he knows is that if he needs £1 billion it will be there at his disposal. It doesn't mean it's an ambition for him to do so.

The climate emergency question linked to the M4 relief road suggests that irony has long been lost on the benches opposite. How does he on the one hand want to complain about not building an M4 relief road, and then complain that we’re not taking a climate emergency seriously? The two things simply cannot be held in the mind at the same time. We have published a whole series of other practical proposals that we will take as a Government to respond to the climate emergency. We will introduce 20 mph zones as standard in our urban areas and we will introduce regulations to tackle agricultural pollution in January next year. We are focused on those practical things that the Welsh Government can do, and we will deliver against them here in Wales.

Mae'n anodd canfod llawer o synnwyr yn yr hyn sydd newydd gael ei ofyn i mi, Llywydd. Ar fater yr arian ar gyfer comisiwn Burns, comisiwn Burns sydd â'r hawliad cyntaf ar yr £1 biliwn a neilltuwyd yn wreiddiol ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Fe'i gwnaed yn glir gan yr Arglwydd Burns, pan gefais gyfarfod ag ef, fel cyn ysgrifennydd parhaol yn y Trysorlys, nad oedd hynny'n golygu ei fod yn disgwyl gwario £1 biliwn. Nid oedd yn bwriadu gwario £1 biliwn. Yr hyn y mae'n ei wybod yw os oes arno angen £1 biliwn y bydd yno ar gael iddo. Nid yw'n golygu ei fod yn uchelgais iddo wneud hynny.

Mae cysylltu'r cwestiwn argyfwng hinsawdd â ffordd liniaru'r M4 yn awgrymu bod eironi wedi ei golli ers amser ar y meinciau gyferbyn. Sut y mae ef ar y naill law eisiau cwyno am beidio â datblygu ffordd liniaru'r M4, ac yna cwyno nad ydym yn cymryd argyfwng hinsawdd o ddifrif? Does dim modd cadw'r ddau beth yn y meddwl ar yr un pryd. Rydym ni wedi cyhoeddi ystod lawn o gynigion ymarferol eraill y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth i ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Byddwn yn cyflwyno parthau 20 mya fel rhai safonol yn ein hardaloedd trefol a byddwn yn cyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Rydym ni'n canolbwyntio ar y pethau ymarferol hynny y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, a byddwn yn eu cyflawni yma yng Nghymru.

13:55

Diolch, Llywydd. First Minister, which do you think represents a brighter future for Wales: Brexit or independence?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pa un ydych chi'n ei gredu sy'n cynrychioli dyfodol mwy disglair i Gymru: Brexit neu annibyniaeth?

Well, it’s clearly not a choice that any sensible person would seek to make, Llywydd. The bright future for Wales lies in a strong Wales with an entrenched devolution settlement, taking domestic decisions here in our hands, in a strong United Kingdom and in a successful Europe. That’s what I believe the best future for Wales will be: Wales in the United Kingdom, the United Kingdom in the European Union.

Wel, mae'n amlwg nad yw'n ddewis y byddai unrhyw un call yn ceisio ei wneud, Llywydd. Mae dyfodol disglair i Gymru yn deillio o Gymru gref â setliad datganoli wedi'i ymwreiddio, gan gymryd penderfyniadau domestig yma yn ein dwylo ni, mewn Teyrnas Unedig gref ac mewn Ewrop lwyddiannus. Dyna'r wyf i'n ei gredu fydd y dyfodol gorau i Gymru: Cymru yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd.

As we saw over the summer, from Caernarfon to Merthyr, thousands are on the march in Wales, and on independence the tide is turning. And, you know, you risk, First Minister, being overtaken by events as history is accelerating. It’s happened, of course, on more than one occasion against the backdrop of Brexit. Over the summer you still said in one of your first ministerial videos that you wanted to leave the European Union on the best of terms. The shadow chancellor, who wanted to back remain, has been rebuked by Len McCluskey, Labour’s largest donor. Even your own health Minister says your party’s policy of being both 'leave' and 'remain' deserves ridicule. Do you?

Fel y gwelsom dros yr haf, o Gaernarfon i Ferthyr, mae miloedd yn gorymdeithio yng Nghymru, ac mae'r llanw'n troi o ran annibyniaeth. A wyddoch chi, rydych chi mewn perygl, Brif Weinidog, o gael eich goddiweddyd gan ddigwyddiadau gan fod hanes yn cyflymu. Mae wedi digwydd, wrth gwrs, ar fwy nag un achlysur yn erbyn cefndir Brexit. Dros yr haf, roeddech yn dal i ddweud yn un o'ch fideos gweinidogol cyntaf eich bod chi eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau gorau posibl. Mae canghellor yr wrthblaid, a oedd eisiau cefnogi aros yn yr UE, wedi cael ei geryddu gan Len McCluskey, rhoddwr mwyaf y blaid Lafur. Mae hyd yn oed eich Gweinidog iechyd eich hun yn dweud bod polisi eich plaid chi o fod o blaid 'gadael' ac 'aros' yn haeddu gwawd. A ydych chi?

Well, Llywydd, let me begin by saying that I understand the frustration and the anger that many people here in Wales feel at the current UK Government and at the way in which events since the referendum have unfolded. It’s no wonder, I think, that people feel let down. But I am clear in my mind that the answer to those feelings of frustration and anger is not independence. Surely, Llywydd, the answer that people ought to draw from the Brexit experience is that borders create divisions, they create divisions inside societies and between societies, that they damage economies and that they reduce protections. The power of the union, as people on this side of the Chamber understand, is a power that exists inside the union of the United Kingdom and inside the union of the European Union. That’s the message of the Labour movement, and that’s why we believe that the answer to the frustrations and the anger that people feel is to create a successful future for Wales as part of both of those wider set of arrangements. And that’s the position of the Welsh Labour Party. The Labour Party will offer people in the United Kingdom a chance to vote again—a call that he has made in this Chamber many, many times. A Labour Government will deliver that, and in a second referendum, the Welsh Labour Party will campaign to persuade people in Wales that our future is better off in the European Union.

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddweud fy mod i'n deall y rhwystredigaeth a'r dicter y mae llawer o bobl yma yng Nghymru yn ei deimlo tuag at Lywodraeth bresennol y DU ac at y ffordd y mae digwyddiadau wedi datblygu ers y refferendwm. Nid yw'n syndod, yn fy marn i, bod pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi. Ond rwy'n glir yn fy meddwl nad annibyniaeth yw'r ateb i'r teimladau hynny o rwystredigaeth a dicter. Onid yr ateb, Llywydd, yw y dylai pobl ei gymryd o brofiad Brexit yw bod ffiniau yn creu rhaniadau, maen nhw'n creu rhaniadau y tu mewn i gymdeithasau a rhwng cymdeithasau, maen nhw'n niweidio economïau ac maen nhw'n lleihau amddiffyniadau. Mae grym yr undeb, fel y mae pobl ar yr ochr hon i'r Siambr yn ei ddeall, yn rym sy'n bodoli y tu mewn i undeb y Deyrnas Unedig a'r tu mewn i undeb yr Undeb Ewropeaidd. Dyna neges y mudiad Llafur, a dyna pam yr ydym ni'n credu mai'r ateb i'r rhwystredigaethau a'r dicter y mae pobl yn ei deimlo yw creu dyfodol llwyddiannus i Gymru yn rhan o'r ddwy gyfres ehangach hynny o drefniadau. A dyna safbwynt Plaid Lafur Cymru. Bydd y Blaid Lafur yn cynnig cyfle i bobl yn y Deyrnas Unedig bleidleisio eto—galwad y mae ef wedi ei gwneud yn y Siambr hon lawer, lawer gwaith. Bydd Llywodraeth Lafur yn cyflawni hynny, ac mewn ail refferendwm, bydd Plaid Lafur Cymru yn ymgyrchu i berswadio pobl yng Nghymru y bydd ein dyfodol yn well yn yr Undeb Ewropeaidd.

There are 44 days now, of course, until Boris Johnson tries to force through a ‘no deal’ Brexit. Now, our clear preference, to prevent this from happening, would be to hold a people’s vote before an election, but if we have a general election instead, it will become the people’s vote by proxy, with a Tory 'no deal' on the ballot paper. Now, if this does happen, then it seems vitally important to me that there is a clear 'remain' option on the ballot paper too. Now, your Brexit Minister, the Counsel General, said in July that the Labour Party

'should be advocating remain in that manifesto rather than a referendum'

and seeking a mandate to revoke on that basis. 

You didn't answer whether you disagreed with Vaughan Gething, but do you disagree with Jeremy Miles?

Mae 44 diwrnod erbyn hyn, wrth gwrs, tan y bydd Boris Johnson yn ceisio gorfodi Brexit 'heb gytundeb'. Nawr, ein dewis eglur ni, i atal hyn rhag digwydd, fyddai cynnal pleidlais y bobl cyn etholiad, ond os cawn etholiad cyffredinol yn hytrach, bydd yn dod yn bleidlais y bobl drwy ddirprwy, gyda 'dim cytundeb' Torïaidd ar y papur pleidleisio. Nawr, os bydd hyn yn digwydd, yna mae'n ymddangos yn hanfodol bwysig i mi bod dewis eglur i 'aros' ar y papur pleidleisio hefyd. Nawr, dywedodd eich Gweinidog Brexit, y Cwnsler Cyffredinol, ym mis Gorffennaf y dylai'r Blaid Lafur

fod yn dadlau dros aros yn y maniffesto hwnnw yn hytrach na refferendwm

a cheisio mandad i ddirymu ar y sail honno.

Ni wnaethoch chi ateb pa un a oeddech chi'n anghytuno â Vaughan Gething, ond a ydych chi'n anghytuno â Jeremy Miles?

14:00

I've put the position of the Welsh Labour Party, Llywydd, and I put it again. I've put it in the Welsh Assembly, because I am responsible for the position of the Welsh Labour Party. In a general election, the position here in Wales will be clear: the Welsh Labour Party believes that our future is better secured inside the United Kingdom and we will say that loud and clear. You will argue to take Wales out of the United Kingdom and we will argue that Wales should remain in a United Kingdom that remains in the European Union. Both of those things are right for Wales. Only the Labour Party will argue for them both and I look forward to the chance to do exactly that.

Rwyf i wedi cyflwyno safbwynt Plaid Lafur Cymru, Llywydd, ac fe'i cyflwynaf eto. Rwyf i wedi ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan fy mod i'n gyfrifol am safbwynt Plaid Lafur Cymru. Mewn etholiad cyffredinol, bydd y safbwynt yma yng Nghymru yn eglur: mae Plaid Lafur Cymru yn credu y bydd ein dyfodol yn cael ei sicrhau'n well y tu mewn i'r Deyrnas Unedig a byddwn yn dweud hynny'n eglur ac yn groyw. Byddwch chi'n dadlau dros dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig a byddwn ni'n dadlau y dylai Cymru aros mewn Teyrnas Unedig sy'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ddau beth hynny'n iawn i Gymru. Dim ond y Blaid Lafur fydd yn dadlau drostynt ill dau ac edrychaf ymlaen at y cyfle i wneud yn union hynny.

Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.

Leader of the Brexit Party, Mark Reckless.

First Minister, 12 days ago, you made a calculated decision to allege that the Prime Minister of the United Kingdom had lied. How would you describe the statement

'We will deliver a relief road for the M4'?

Prif Weinidog, 12 diwrnod yn ôl, fe wnaethoch benderfyniad bwriadol i honni bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud celwydd. Sut byddech chi'n disgrifio'r datganiad:

Byddwn yn darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4?

Llywydd, I've dealt with the relief road question. I have it from a man who has stood on a number of manifestos for different parties and is so attached to the promises that he made that he was willing to betray them on the floor of the Assembly and to zig-zag across the floor here. So, I don't need to hear questions from him on that sort of issue because his own history simply illustrates how hollow those questions are.

I didn't accuse the Prime Minister of lying. I put him right on that the last time he said that. I pointed out that the official spokesperson of the Prime Minister had been put up to say something that documents which were then revealed in front of a Scottish court turned out to be untrue. I don't think it is wrong to point that out.

On the M4 relief road, we have rehearsed the arguments here. I came to my decision, I stand by that decision, it was the right decision to make. 

Llywydd, rwyf i wedi ymdrin â chwestiwn y ffordd liniaru. Rwy'n ei gael gan ddyn sydd wedi sefyll ar sail nifer o faniffestos dros wahanol bleidiau ac sydd mor ymrwymedig i'r addewidion a wnaeth fel ei fod yn barod i'w bradychu ar lawr y Cynulliad a chamu'n igam-ogam ar draws y llawr yma. Felly, nid wyf i angen clywed cwestiynau ganddo ef am y math hwnnw o fater gan fod ei hanes ei hun yn dangos yn syml pa mor wag yw'r cwestiynau hynny.

Ni wnes i gyhuddo'r Prif Weinidog o ddweud celwydd. Fe'i cywirais ynghylch hynny y tro diwethaf iddo ddweud hynny. Nodais fod llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wedi cael ei ofyn i ddweud rhywbeth y dangosodd dogfennau a ddatgelwyd wedyn gerbron llys yn yr Alban nad oedd yn wir. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n anghywir i dynnu sylw at hynny.

O ran ffordd liniaru'r M4, rydym ni wedi ailadrodd y dadleuon yn y fan yma. Deuthum i'm penderfyniad, glynaf wrth y penderfyniad hwnnw, dyna oedd y penderfyniad cywir i'w wneud.

So, you stand by your decision. You said just now it's to do with the climate change emergency but you didn't say anything about that in your decision notice, did you? [Interruption.] The decision notice talked about the environment and the Gwent levels; it did not mention climate change. [Interruption.]

Felly, rydych chi'n glynu wrth eich penderfyniad. Rydych chi newydd ddweud nawr ei fod yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ond ni ddywedasoch chi ddim am hynny yn eich hysbysiad am y penderfyniad, wnaethoch chi? [Torri ar draws.] Roedd yr hysbysiad am y penderfyniad yn sôn am yr amgylchedd a gwastatir Gwent; nid oedd yn sôn am y newid yn yr hinsawdd. [Torri ar draws.]

We need to hear the question. Can the question be heard in some silence, please? Mark Reckless.

Mae angen i ni glywed y cwestiwn. A ellir clywed y cwestiwn mewn rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda? Mark Reckless.

I have always backed Brexit. I've never lied about it. Now, you used that word—at least that's what I recall you using, or the meaning of what you were saying—yet your party, you and almost everyone behind you, said that you would respect the referendum. Yet, now, your policy is to go to the European Union, if I understand it correctly, and negotiate a deal so you can come back here and campaign against it. And that deal you are looking to negotiate is even more of a Brexit in name only than what the Conservatives have been offering us.

It will be, frankly, an in/in referendum. It's very difficult to judge whether it's the Lib Dems or Plaid saying, 'Revoke, just ignore the referendum, we know best', or it's you forcing people through the charade of an in/in referendum that would be more of a betrayal of the people of Wales.

Could I just read the First Minister two statements? The first is from his predecessor, Carwyn Jones, from the foreword of 'Securing Wales' Future':

'A majority in Wales voted to leave the European Union...and the Welsh Government has been clear from the outset that this democratic decision must be respected.'

Then, the Counsel General, shortly before that, for the Government, said:

'The people of the UK voted to leave the European Union. I respect that decision and we will not work against the referendum result.'

First Minister, weren't they lies?

Rwyf i wedi cefnogi Brexit erioed. Nid wyf i erioed wedi dweud celwydd am hynny. Nawr, defnyddiwyd y gair hwnnw gennych chi—o leiaf dyna'r hyn yr wyf i'n eich cofio chi'n ei ddefnyddio, neu ystyr yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ac eto dywedodd eich plaid, a bron pawb y tu ôl i chi, y byddech chi'n parchu'r refferendwm. Ac eto, nawr, eich polisi chi yw mynd at yr Undeb Ewropeaidd, os deallaf yn iawn, a dod i gytundeb fel y gallwch chi ddod yn ôl yma ac ymgyrchu yn ei erbyn. Ac mae'r cytundeb hwnnw yr ydych chi'n ceisio dod iddo yn fwy fyth o Brexit mewn enw yn unig na'r hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei gynnig i ni.

A bod yn blwmp ac yn blaen, bydd yn refferendwm mewn/mewn. Mae'n anodd iawn barnu ai'r Democratiaid Rhyddfrydol neu Plaid sy'n dweud, 'Dirymwch, anwybyddwch y refferendwm, ni sy'n gwybod orau', neu ai chi sy'n gorfodi pobl drwy siarâd refferendwm mewn/mewn a fyddai'n fwy o fradychiad o bobl Cymru.

A gaf i ddarllen dau ddatganiad i'r Prif Weinidog? Daw'r cyntaf gan ei ragflaenydd, Carwyn Jones, o ragair 'diogelu dyfodol Cymru ':

'Pleidleisiodd mwyafrif pobl Cymru dros ymadael â’r Undeb Ewropeaidd...ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir o’r cychwyn cyntaf bod rhaid parchu’r penderfyniad democrataidd hwn.'

Yna, yn fuan cyn hynny, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol dros y Llywodraeth:

Pleidleisiodd pobl y DU dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.

Prif Weinidog, onid oedd y rhain yn gelwyddau?

Llywydd, for two years and more, this Labour Government argued for a form of leaving the European Union that would have respected the result of the referendum, but would have protected jobs and economies here in Wales. He attacked those proposals time after time after time, describing them as he has again today as leaving the European Union in name only.

We put forward those proposals because, with Plaid Cymru in the aftermath of the referendum, we understood that people in Wales had voted to leave the European Union, but as Steffan Lewis, our colleague here said at the time, they never voted to take leave of their senses. And that meant that if we were to leave the European Union, it had to be done on terms and in a way that would have protected their futures, and that's what we tried to promote.

It became clear to us, particularly as a new leader of the Conservative Party was elected, that that possibility had simply evaporated—that no matter how hard we argued for it and no matter how cogent our position was, it was never going to make a difference to somebody who, as the Member here said, wasn't interested in the arguments. He's always been in favour of Brexit. Say what you like about it, demonstrate how harmful it will be, he'll be for it come what may.

So, we decided at that point that the decision should go back to the people. A Labour Government will deliver exactly that. There will be a credible 'leave' option on the ballot paper, so he will be able to go on campaigning to leave the European Union, misguided as I've always believed him to be. But, for those of us who believe that Wales's future is better off inside the European Union, there will be a second opportunity to put that to people, to make those arguments and to persuade people on the basis of everything that we have learnt in the three years since that referendum that that's where our future lies. I look forward to us being able to do just that. His argument, I think, will be exposed yet again for the ideologically driven, evidence free, careless-of-the-future set of proposals that it has always been.

Llywydd, ers dwy flynedd a mwy, dadleuodd y Llywodraeth Lafur hon o blaid ffurf ar adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi parchu canlyniad y refferendwm, ond a fyddai wedi diogelu swyddi ac economïau yma yng Nghymru. Ymosododd ef ar y cynigion hynny dro ar ôl tro, gan eu disgrifio fel y mae wedi ei wneud eto heddiw fel gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn enw yn unig.

Cyflwynwyd y cynigion hynny gennym oherwydd, gyda Phlaid Cymru yn sgil y refferendwm, roeddem ni'n deall bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond fel y dywedodd Steffan Lewis, ein cyd-Aelod yma ar y pryd, ni wnaethon nhw erioed bleidleisio dros golli arnynt eu hunain. Ac roedd hynny'n golygu pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, bod yn rhaid gwneud hynny ar delerau ac mewn ffordd a fyddai wedi diogelu eu dyfodol, a dyna'r hyn y gwnaethom ni geisio ei hyrwyddo.

Daeth yn amlwg i ni, yn enwedig wrth i arweinydd newydd y Blaid Geidwadol gael ei ethol, bod y posibilrwydd hwnnw wedi diflannu—ni waeth pa mor galed yr oeddem ni'n dadlau drosto ac ni waeth pa mor gymhellol oedd ein safbwynt, nid oedd byth yn mynd i wneud gwahaniaeth i rywun, fel y dywedodd yr Aelod yn y fan yma, nad oedd ganddo ddiddordeb yn y dadleuon. Mae wedi bod o blaid Brexit erioed. Dywedwch yr hyn a hoffwch am y peth, dangoswch pa mor niweidiol y bydd, bydd ef o'i blaid doed â ddelo.

Felly, penderfynasom bryd hynny y dylai'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl. Bydd Llywodraeth Lafur yn gwneud yn union hynny. Bydd dewis 'gadael' credadwy ar y papur pleidleisio, felly bydd yn gallu parhau i ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn gyfeiliornus fel yr wyf i wedi credu ei fod erioed. Ond, i'r rhai hynny ohonom sy'n credu y byddai dyfodol Cymru yn well y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd, bydd ail gyfle i ofyn hynny i'r bobl, i gyflwyno'r dadleuon hynny ac i ddarbwyllo pobl ar sail popeth yr ydym ni wedi ei ddysgu yn y tair blynedd ers y refferendwm hwnnw mai dyna lle mae ein dyfodol. Edrychaf ymlaen at allu gwneud yn union hynny. Credaf y bydd ei ddadl ef yn cael ei datgelu unwaith eto fel y gyfres o gynigion wedi eu llywio gan ideoleg, di-dystiolaeth, di-hid am y dyfodol y buon nhw erioed.

14:05
Diogelwch ar yr M4 yn Ardal Abertawe
Safety on the M4 in the Swansea Area

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar yr M4 yn ardal Abertawe? OAQ54294

3. Will the First Minister make a statement regarding safety on the M4 in the Swansea area? OAQ54294

Llywydd, the Welsh Government continually monitors the safety of the M4 and addresses any immediate issues as a matter of urgency. A wide range of measures to improve safety and transport opportunities along the M4 west corridor has now been identified and we will make that report publicly available by the end of September.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn monitro diogelwch yr M4 yn barhaus ac yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau uniongyrchol fel mater o frys. Mae amrywiaeth eang o fesurau i wella diogelwch a chyfleoedd trafnidiaeth ar hyd coridor gorllewin yr M4 wedi eu nodi erbyn hyn a byddwn yn sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd erbyn diwedd mis Medi.

Can I thank the First Minister for that response? As he's well aware, a large number of accidents of various degrees of seriousness have occurred between junction 45 and junction 47, which cover my constituency. I could continue it on into David Rees's constituency as well, but I won't do that—I think he'll have an opportunity later.

I think that it is a problem there. A number of regular users of the road have approached me concerned about drainage and the road surface, which they believe have contributed to accidents in this area. Will the First Minister arrange for an investigation into those concerns and, if they are proved to be correct, arrange for the problems to be rectified?

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Fel y mae'n gwybod yn iawn, bu nifer fawr o ddamweiniau o wahanol raddau o ddifrifoldeb rhwng cyffordd 45 a chyffordd 47, sy'n cwmpasu fy etholaeth i. Gallwn ei barhau i etholaeth David Rees hefyd, ond ni wnaf hynny—rwy'n credu y caiff ef gyfle yn ddiweddarach.

Credaf ei bod yn broblem yn y fan honno. Mae nifer o ddefnyddwyr rheolaidd y ffordd wedi cysylltu â mi yn pryderu am ddraeniad ac arwyneb y ffordd sydd, yn eu barn nhw, wedi cyfrannu at ddamweiniau yn yr ardal hon. A wnaiff y Prif Weinidog drefnu ymchwiliad i'r pryderon hynny ac, os profir eu bod yn gywir, trefnu i'r problemau gael eu datrys?

I thank Mike Hedges for that question. He's right to say, of course, that anybody who has followed the news over the month of August in particular will be aware of accidents that have happened between junctions 45 and 47 on the M4. That's why the Welsh transport appraisal guidance stage 1 study is important, Llywydd, because it has identified potential improvements to safety and other matters on that part of the road, and that's why we will publish those proposals this month.

Issues of drainage and the way in which road surfaces are constructed are a matter of safety. The 'Design Manual for Roads and Bridges' sets out the standards that we use in Wales, but I will certainly ask officials to investigate whether issues of drainage and the state of the road surface did contribute, or were believed to contribute, to the accidents to which Mike Hedges refers.FootnoteLink

Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, y bydd unrhyw un sydd wedi dilyn y newyddion yn ystod mis Awst yn arbennig yn ymwybodol o ddamweiniau sydd wedi digwydd rhwng cyffyrdd 45 a 47 ar yr M4. Dyna pam mae astudiaeth cam 1 arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru yn bwysig, Llywydd, oherwydd mae wedi nodi gwelliannau posibl i ddiogelwch a materion eraill ar y rhan honno o'r ffordd, a dyna pam y byddwn yn cyhoeddi'r cynigion hynny y mis hwn.

Mae problemau draenio a'r ffordd y caiff arwynebau ffyrdd eu hadeiladu yn fater o ddiogelwch. Mae'r 'Design Manual for Roads and Bridges' yn nodi'r safonau yr ydym ni'n eu defnyddio yng Nghymru, ond byddaf yn sicr yn gofyn i swyddogion ymchwilio i weld a wnaeth problemau yn ymwneud â draeniad a chyflwr arwyneb y ffordd gyfrannu, neu y credwyd eu bod wedi cyfrannu, at y damweiniau y mae Mike Hedges yn cyfeirio atynt.FootnoteLink

Thank you for that reply. I look forward to seeing that report, First Minister. The safety, of course, of the air that we breathe remains an issue around certainly the western part of the M4 running through my region. You'll recall that the extended 50 mph temporary zone west of Port Talbot is no longer temporary. However, I seem to recall that Government officials advised that the legal change doesn't necessarily mean that the reduced speed limit will be permanent, stating that once air quality has improved beyond required levels, the Government will revisit the question of the speed limit in that area.

Listening to your response to Paul Davies earlier, can you just confirm that it's still your intention to possibly increase that speed limit if there is a reduction in air pollution caused by vehicles? In the meantime, what active steps are you taking to encourage the use of less-polluting publicly procured and publicly licensed vehicles in that part of my region?

Diolch am yr ateb yna. Edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw, Prif Weinidog. Mae diogelwch yr aer yr ydym ni'n ei anadlu, wrth gwrs, yn parhau i fod yn broblem yn enwedig o amgylch rhan orllewinol yr M4 sy'n rhedeg drwy fy rhanbarth i. Byddwch yn cofio nad yw'r parth 50 mya dros dro estynedig i'r gorllewin o Bort Talbot yn un dros dro mwyach. Fodd bynnag, credaf fy mod i'n cofio bod swyddogion y Llywodraeth wedi dweud nad yw'r newid cyfreithiol o reidrwydd yn golygu y bydd y terfyn cyflymder is yn barhaol, gan ddatgan y bydd y Llywodraeth yn ailystyried cwestiwn y terfyn cyflymder yn yr ardal honno ar ôl i ansawdd yr aer wella y tu hwnt i'r lefelau gofynnol.

O wrando ar eich ymateb i Paul Davies yn gynharach, a allwch chi gadarnhau eich bod chi'n dal i fwriadu cynyddu'r terfyn cyflymder hwnnw o bosibl os ceir gostyngiad i'r llygredd aer a achosir gan gerbydau? Yn y cyfamser, pa gamau gweithredol ydych chi'n eu cymryd i annog defnydd o gerbydau sy'n llygru llai, sy'n cael eu caffael yn gyhoeddus ac yn cael eu trwyddedu'n gyhoeddus yn y rhan honno o'm rhanbarth i?

I thank Suzy Davies for that. We don't introduce a 50 mph zone just for the sake of reducing the speed of traffic. As she says, it's there for a particular reason, because of the evidence that we have seen and believe to be compelling that reducing average speeds to 50 mph will make a difference to air quality—necessary differences to air quality—and, of course, we will monitor that very carefully. We would not want to be in a position where we achieve improvements in air quality then raise speed limits to find that the air quality has gone back down again. So, I don't think we can offer an immediate assurance that if air quality standards improve that that will mean that speed limits will go back up again. But what we do provide an assurance of is that we continually monitor it, and we'll keep that question properly under review.

Of course, Suzy Davies is right, Llywydd, that beyond speed limits, we need vehicles that emit less pollution, and that's why it's been such good news that Wales has done so well in the competition to get funding for electric buses in Wales. And by changing the nature of the vehicles that we use, we will make a difference to air quality not just in Swansea and in the part of the M4 that Mike Hedges referred to, but right through to Cardiff and to Newport as well.

Diolchaf i Suzy Davies am hynna. Nid ydym ni'n cyflwyno parth 50 mya dim ond er mwyn lleihau cyflymder traffig. Fel y mae hi'n dweud, mae yno am reswm penodol, oherwydd y dystiolaeth yr ydym ni wedi ei gweld ac yn credu sy'n gymhellol y bydd gostwng cyfartaledd cyflymder i 50 mya yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd aer—gwahaniaethau angenrheidiol i ansawdd aer—ac, wrth gwrs, byddwn yn monitro hynny yn ofalus iawn. Ni fyddem ni eisiau bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n sicrhau gwelliannau o ran ansawdd aer ac yna'n codi terfynau cyflymder i ganfod bod ansawdd yr aer wedi gwaethygu unwaith eto. Felly, nid wyf i'n credu y gallwn ni gynnig sicrwydd ar unwaith os bydd safonau ansawdd aer yn gwella y bydd hynny'n golygu y bydd terfynau cyflymder yn mynd yn ôl i fyny eto. Ond yr hyn yr ydym ni'n rhoi sicrwydd amdano yw ein bod ni'n ei fonitro yn barhaus, a byddwn yn cadw'r cwestiwn hwnnw yn destun adolygiad priodol.

Wrth gwrs, mae Suzy Davies yn iawn, Llywydd, y tu hwnt i derfynau cyflymder, mae angen cerbydau arnom ni sy'n allyrru llai o lygredd, a dyna pam y bu'n newyddion mor dda bod Cymru wedi gwneud cystal yn y gystadleuaeth i gael cyllid ar gyfer bysiau trydan yng Nghymru. A thrwy newid natur y cerbydau yr ydym ni'n eu defnyddio, byddwn yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd aer nid yn unig yn Abertawe ac ar y rhan o'r M4 y cyfeiriodd Mike Hedges ati, ond yr holl ffordd i Gaerdydd a Chasnewydd hefyd.

14:10
Operation Yellowhammer
Operation Yellowhammer

4. Pa gynlluniau wrth gefn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer pobl Islwyn yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer? OAQ54347

4. What further contingency planning has the Welsh Government undertaken for the people of Islwyn following the publication of the Operation Yellowhammer document? OAQ54347

I thank Rhianon Passmore for that. Yesterday the Welsh Government published our 'no deal' Brexit action plan. It reflects our engagement in Operation Yellowhammer and, for the people of Islwyn, our close working with local partner organisations, including Gwent Police, local authorities and the Gwent local resilience forum.

Diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein cynllun gweithredu ar Brexit 'heb gytundeb' ddoe. Mae'n adlewyrchu ein hymgysylltiad ag Operation Yellowhammer ac, i bobl Islwyn, ein cydweithio agos â sefydliadau partner lleol, gan gynnwys Heddlu Gwent, awdurdodau lleol a fforwm cydnerth lleol Gwent.

First Minister, the forced release of the Operation Yellowhammer document confirms what the Welsh Labour Government has been consistently stating publicly for many months, namely that a 'no deal' cliff-edge Brexit could have enormous detrimental consequences for Welsh people, their families and our communities. Amidst the documents pages are non-worst-case-scenario warnings that some fresh supplies of food will decrease, and that critical dependencies for the food chain, such as key ingredients, may be in shorter supply. Further, that UK citizens enjoying their holidays abroad to European Union countries may be subject to increased immigration checks at EU border patrols causing serious delays and, critically, medical supply shortages. There may also be a rise—these are not my words—in public disorder and community tensions.

First Minister, these are just some of the Halloween horrors that the Tories are willing to inflict and wanting to inflict on my constituents, even though, as David Cameron has admitted this week, Boris Johnson didn't believe in Brexit and backed the 'leave' campaign only to help his political career. What hope can you give to my constituents in Islwyn that this dystopian future caused by a 'no deal' cliff-edge Tory Brexit can be in any way mitigated by a Welsh Labour Government on their side always?

Prif Weinidog, mae'r orfodaeth i gyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer yn cadarnhau'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ei ddweud yn gyhoeddus yn gyson ers misoedd lawer, sef y gallai Brexit 'heb gytundeb' ymyl dibyn gael canlyniadau niweidiol enfawr i bobl Cymru, eu teuluoedd a'n cymunedau. Ymhlith tudalennau'r ddogfen y mae rhybuddion nad ydynt y sefyllfa waethaf bosibl y bydd rhai cyflenwadau bwyd ffres yn lleihau, ac y gallai dibyniaethau hanfodol i'r gadwyn fwyd, fel cynhwysion allweddol, fod yn brinach. Hefyd, gallai dinasyddion y DU sy'n mwynhau eu gwyliau dramor i wledydd yr Undeb Ewropeaidd fod yn destun mwy o archwiliadau mewnfudo gan hebryngwyr ffiniau'r UE gan achosi oedi difrifol ac, yn hollbwysig, prinder cyflenwadau meddygol. Efallai y bydd cynnydd hefyd—nid fy ngeiriau i yw'r rhain—o ran anhrefn cyhoeddus a thensiynau cymunedol.

Prif Weinidog, dim ond rhai o'r erchyllterau Calan Gaeaf y mae'r Torïaid yn barod i'w gorfodi ac eisiau eu gorfodi ar fy etholwyr yw'r rhain, er, fel y mae David Cameron wedi cyfaddef yr wythnos hon, nad oedd Boris Johnson, yn credu mewn Brexit ac wedi cefnogi'r ymgyrch 'gadael' dim ond i helpu ei yrfa wleidyddol ei hun. Pa obaith y gallwch chi ei roi i'm hetholwyr yn Islwyn y gall y dyfodol dystopaidd hwn wedi ei achosi gan Brexit Torïaidd ymyl dibyn 'heb gytundeb' gael ei liniaru mewn unrhyw ffordd gan Lywodraeth Lafur Cymru sydd bob amser o'u plaid?

Llywydd, the document that we published yesterday sets out the many actions that the Welsh Government has been working on over months past to do everything we can to mitigate the impact of a 'no deal' Brexit. The fact that we've developed a 12 to 15-week supply chain of medical devices and clinical consumables, that we have a bank of animal vaccines set up in case there is an outbreak of disease, that we have worked closely with all the major supermarkets about food supplies here in Wales and, in particular, the things that we have done to safeguard the future of vulnerable people in Wales in the event of a 'no deal' Brexit.

The Yellowhammer document sets it out: a 'no deal' Brexit will fall more harshly on the shoulders of those least able to bear that burden than anybody else. There will be rises in food prices, there will be rises in fuel prices, there will be rises in energy prices, and these will be borne by families in Wales who have had their benefits frozen since 2015. And the things that we are doing as a Welsh Government, set out in our action plan, demonstrates our determination to focus upon the most vulnerable in our society in aiming to protect them from the self-inflicted harm that leaving the European Union without a deal would mean.

Lywydd, mae'r ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddoe yn nodi'r camau niferus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arnynt dros y misoedd diwethaf i wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith Brexit 'heb gytundeb'. Mae'r ffaith ein bod ni wedi datblygu cadwyn gyflenwi 12 i 15 wythnos o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol, bod gennym gronfa o frechlynnau anifeiliaid wedi ei sefydlu rhag ofn y bydd achosion o glefydau, ein bod ni wedi gweithio'n agos gyda'r holl brif archfarchnadoedd ynghylch cyflenwadau bwyd yma yng Nghymru ac, yn arbennig, y pethau yr ydym ni wedi eu gwneud i ddiogelu dyfodol pobl  agored i niwed yng Nghymru pe byddai Brexit 'heb gytundeb' yn digwydd.

Mae dogfen Yellowhammer yn nodi: bydd Brexit 'heb gytundeb' yn cael ei hysgwyddo'n llawer llymach gan y rhai sydd â'r lleiaf o allu i ysgwyddo'r baich hwnnw na neb arall. Bydd prisiau bwyd yn codi, bydd prisiau tanwydd yn codi, bydd prisiau ynni yn codi, a bydd y rhain yn cael eu hysgwyddo gan deuluoedd yng Nghymru y mae eu budd-daliadau wedi cael eu rhewi ers 2015. Ac mae'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud fel Llywodraeth Cymru, a nodir yn ein cynllun gweithredu, yn dangos ein penderfyniad i ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wrth geisio eu hamddiffyn rhag yr hunan-niwed y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ei olygu.

First Minister, do you accept that the Operation Yellowhammer document is not a prediction of what is likely to happen, but it describes a worst-case scenario for the purposes of Government planning? And do you also recognise that the UK Government in London has stepped up preparation to mitigate any impact of a 'no deal' Brexit for the whole of the United Kingdom, including Wales?

Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw'r ddogfen Operation Yellowhammer yn rhagfynegiad o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, ond yn disgrifio'r sefyllfa waethaf bosibl at ddibenion cynllunio'r Llywodraeth? Ac a ydych chi hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn Llundain wedi cynyddu'r paratoadau i liniaru unrhyw effaith Brexit 'heb gytundeb' i'r Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys Cymru?

14:15

You see, Llywydd, this simply doesn't stand up to examination. Yellowhammer is what the Government describes as a 'reasonable worst case'. It's not the worst-worst case; it's not an exaggerated account of the harm that will come to the United Kingdom. It is what a reasonable person would assess to be the impact of Brexit in a worst case, and we are heading into that worst case. And any idea—any idea—that this UK Government has been working hard in a way that will simply mitigate and wipe away the impact of a 'no deal' Brexit—they don't believe it, I can tell you that. They don't believe it at all and neither should anybody here.

Rydych chi'n gweld, Llywydd, nad yw hyn yn gwrthsefyll archwiliad. Yellowhammer yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgrifio fel 'achos gwaethaf rhesymol'. Nid dyma'r achos gwaethaf posibl; nid yw'n grynodeb sydd wedi ei orliwio o'r niwed a fydd yn dod i'r Deyrnas Unedig. Dyma y byddai person rhesymol yn ei asesu fel effaith Brexit mewn achos gwaethaf, ac rydym ni'n wynebu'r achos gwaethaf hwnnw. Ac mae unrhyw syniad—unrhyw syniad—bod Llywodraeth y DU hon wedi bod yn gweithio'n galed mewn ffordd a fydd yn lliniaru a dileu effaith Brexit 'heb gytundeb'—nid ydyn nhw yn ei gredu, gallaf ddweud hynny wrthych chi. Dydyn nhw ddim yn ei gredu o gwbl ac ni ddylai neb yn y fan yma ychwaith.

First Minister, I'm particularly concerned with the supply of drugs and medicine to those who need them post Brexit. [Interruption.] How did I know you'd all—?

Prif Weinidog, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch cyflenwi cyffuriau a meddyginiaeth i'r rhai hynny fydd eu hangen ar ôl Brexit. [Torri ar draws.] Sut yr oeddwn i'n gwybod y byddech chi i gyd—?

Let's hear the reason for the concern.

Gadewch i ni glywed y rheswm am y pryder.

Thank you. There appear to be claims, counter-claims and claims again about security of supplies. Can you please allay the fears, the real fears that many constituents have because of all these things that people keep saying, and confirm that your Government has secured the medicine it needs to keep the Welsh NHS working, mitigating all the stress that people are listening to?

Diolch. Mae'n ymddangos bod honiadau, gwrth-honiadau a honiadau eto ynghylch diogelwch cyflenwadau. A allwch chi dawelu'r ofnau, yr ofnau gwirioneddol sydd gan lawer o etholwyr oherwydd yr holl bethau hyn y mae pobl yn eu dweud o hyd, a chadarnhau bod eich Llywodraeth chi wedi sicrhau'r feddyginiaeth sydd ei hangen arni i gadw GIG Cymru yn gweithio, gan liniaru'r holl straen y mae pobl yn gwrando arni?

Well, Llywydd, let's be clear with Mandy Jones and other Members here that medicines that we rely on here in Wales come through the short straits and that the UK Government in its own predictions say that EU-UK traffic could fall by 40 to 60 per cent between Calais and Dover in the event of a 'no deal' Brexit. That's why we have had to take the actions that we have taken to try to mitigate the impact that that would have on the supply of medicines here in Wales. It's inevitable—it's not a matter of shaking heads and sounding as though this is some sort of ideological point, it's an intensely practical issue: if those ports cannot bring in the supplies of medicines as they do today, there will be an impact on the availability of those medicines in the United Kingdom. And there are some medicines on which we rely that can't afford to sit and wait in a queue because they have short shelf lives, and that's particularly true of radioisotopes in the treatment of cancer. That's why there is a plan with the UK Government to get around the ports issue by flying those supplies into the United Kingdom. But if those supplies arrive at an airport and then there is logistical chaos because the lorries you're relying on are caught in a queue somewhere in Kent or aren't able to move back from the continent in the way that was expected, there's no guarantee that anybody can offer that those plans will deliver everything as they are today. Who would possibly embark on this course of self-harm? This is not inevitable—this could be stopped. It ought to be stopped, and then we wouldn't be having these conversations.

Wel, Llywydd, gadewch i ni fod yn eglur gyda Mandy Jones ac Aelodau eraill yn y fan yma bod meddyginiaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yma yng Nghymru yn dod drwy'r culfor a bod Llywodraeth y DU yn ei rhagfynegiadau ei hun yn dweud y gallai traffig o'r UE i'r DU ostwng gan 40 i 60 y cant rhwng Calais a Dover os ceir Brexit 'heb gytundeb'. Dyna pam y bu'n rhaid i ni gymryd y camau yr ydym ni wedi eu cymryd i geisio lliniaru'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y cyflenwad o feddyginiaethau yma yng Nghymru. Mae'n anochel—nid yw'n fater o ysgwyd pennau a swnio fel pe byddai hwn yn rhyw fath o bwynt ideolegol, mae'n fater hynod o ymarferol: os na all y porthladdoedd hynny ddod â'r cyflenwadau o feddyginiaethau i mewn fel y maen nhw'n ei wneud heddiw, bydd effaith ar faint o'r meddyginiaethau hynny sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig. A cheir rhai meddyginiaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw nad ydynt yn gallu fforddio eistedd ac aros mewn ciw oherwydd bod ganddynt fywydau silff byr, ac mae hynny'n arbennig o wir am radioisotopau ar gyfer trin canser. Dyna pam mae cynllun gyda Llywodraeth y DU i ddatrys problem y porthladdoedd drwy hedfan y cyflenwadau hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig. Ond os bydd y cyflenwadau hynny'n cyrraedd maes awyr gan arwain at anhrefn logistaidd oherwydd bod y lorïau yr ydych chi'n dibynnu arnyn nhw wedi eu dal mewn ciw rywle yng Nghaint neu ddim yn gallu symud yn ôl o'r cyfandir yn y ffordd a ddisgwylid, nid oes unrhyw sicrwydd y gall neb ei gynnig y bydd y cynlluniau hynny'n cyflawni popeth fel ag y maen nhw heddiw. Pwy yn y byd fyddai'n cychwyn ar y trywydd hwn o hunan-niweidio? Nid yw hyn yn anochel—gellid atal hyn. Dylid ei atal, ac yna ni fyddem ni'n cael y sgyrsiau hyn.

I think, reading through the document that the UK Government was forced to release by the courts, you understand why the UK Government didn't want the public to see this. I'm reminded of Aneurin Bevan when he told us:

'How can wealth persuade poverty to use its political freedom to keep wealth in power?'

This is a document that describes the impact of Brexit on the poorest people of this country. It describes the impact of 'no deal' on the sick, on the vulnerable. It describes how the people who can barely afford to buy food today and rely on food banks will see increases in food prices and a reduction of access to fresh food. This is a document that the UK Government sought to keep secret. It is also, First Minister, of course, a document that doesn't mention Wales. Devolved administrations are mentioned in the penultimate paragraph in terms of fishery protection. There is nothing here, yet the UK Government, you would have hoped, would understand that many of the matters here are the responsibility of the Welsh Government. Many of the responsibilities in dealing with these matters are the responsibility of the Welsh Government. And, First Minister, can you reassure us that the United Kingdom Government understands in any way the impact of a 'no deal' Brexit on the poorest people in this country? And can you reassure us, First Minister, that this Welsh Labour Government will continue to stand up for people in communities up and down this country?

Rwy'n credu, wrth ddarllen drwy'r ddogfen y gorfodwyd Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi gan y llysoedd, eich bod chi'n deall pam nad oedd Llywodraeth y DU eisiau i'r cyhoedd weld hyn. Rwy'n cael fy atgoffa o Aneurin Bevan pan ddywedodd wrthym:

Sut gall cyfoeth berswadio tlodi i ddefnyddio ei ryddid gwleidyddol i gadw cyfoeth mewn grym?

Dogfen yw hon sy'n disgrifio effaith Brexit ar bobl dlotaf y wlad hon. Mae'n disgrifio effaith 'dim cytundeb' ar bobl sâl ac agored i niwed. Mae'n disgrifio sut y bydd y y bobl sydd prin yn gallu fforddio prynu bwyd heddiw ac yn dibynnu ar fanciau bwyd yn gweld cynnydd i brisiau bwyd a llai o fynediad at fwyd ffres. Dyma ddogfen y ceisiodd Llywodraeth y DU ei chadw'n gyfrinach. Mae hefyd, Prif Weinidog, wrth gwrs, yn ddogfen nad yw'n sôn am Gymru. Cyfeirir at weinyddiaethau datganoledig yn y paragraff olaf ond un o ran diogelu pysgodfeydd. Nid oes dim yma, ac eto byddai Llywodraeth y DU, byddech wedi gobeithio, yn deall mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am lawer o'r materion hyn. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am lawer o'r cyfrifoldebau o ran ymdrin â'r materion hyn. A, Prif Weinidog, a allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall mewn unrhyw ffordd effaith Brexit 'heb gytundeb' ar y bobl dlotaf yn y wlad hon? Ac a allwch chi ein sicrhau, Prif Weinidog, y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i sefyll dros bobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad hon?

14:20

Well, Llywydd, I thank Alun Davies for that question. I hear Members around the Chamber who persuaded people in Wales to leave the European Union now trying to deny the impact that that will have in their lives, and there is no denying it. If you read Yellowhammer, it is as clearly set out there as you could wish. People who live on the smallest incomes in our society spend a larger proportion of their incomes securing the basics of everyday life: food, energy, fuel. It takes a far higher proportion of their incomes than it does people in this Chamber. They will have to find money to deal with the consequences of Brexit, and they will be the least able people to do that. I can give Alun Davies an absolute assurance—I attended a meeting of the latest UK committee myself last week: I pointed to that paragraph in Yellowhammer, I asked the UK Government what plan it had to put money into the pockets of those families in Wales and in the United Kingdom whose incomes have been held down, who have seen prices rising and will now be asked to pay the cost of a 'no deal' Brexit. It's their responsibility to do that; it's the very least that they should do to protect those most vulnerable people.

Wel, Llywydd, diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn yna. Clywaf aelodau o gwmpas y Siambr a berswadiodd pobl yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio gwadu erbyn hyn yr effaith y bydd hynny'n yn ei chael yn eu bywydau, ac ni ellir ei wadu. Os darllenwch chi Yellowhammer, mae wedi ei gyflwyno mor eglur ag y gallech chi ei ddymuno yn y fan honno. Mae pobl sy'n byw ar yr incwm lleiaf yn ein cymdeithas yn gwario cyfran fwy o'u hincwm i sicrhau hanfodion bywyd bob dydd: bwyd, ynni, tanwydd. Mae'n cymryd cyfran lawer uwch o'u hincwm nag y mae i bobl yn y Siambr hon. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i arian i ymdopi â chanlyniadau Brexit, a nhw fydd y bobl â'r lleiaf o allu i wneud hynny. Gallaf roi sicrwydd pendant i Alun Davies—roeddwn i yng nghyfarfod pwyllgor diweddaraf y DU yr wythnos diwethaf: cyfeiriais at y paragraff hwnnw yn Yellowhammer, gofynnais i Lywodraeth y DU pa gynllun oedd ganddi i roi arian ym mhocedi'r teuluoedd hynny yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig y mae eu hincwm wedi cael ei gadw i lawr, sydd wedi gweld prisiau'n codi ac y bydd gofyn iddyn nhw dalu cost Brexit 'heb gytundeb' nawr. Eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud hynny; dyna'r peth lleiaf y dylen nhw ei wneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed hynny.

Coridor yr A470
The A470 Corridor

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch lefelau nitrogen deuocsid ar hyd coridor yr A470 yng Nghanol De Cymru? OAQ54316

5. What assessment has the Welsh Government made of nitrogen dioxide levels along the A470 corridor in South Wales Central? OAQ54316

Llywydd, nitrogen dioxide levels have been monitored before and after the initial implementation of that 50 mph speed limit. Findings will be monitored and reported before the end of this month, when a full 12 months’ worth of post-implementation data will have been collated and analysed.

Llywydd, mae lefelau nitrogen deuocsid wedi cael eu monitro cyn ac ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder 50 mya hwnnw. Bydd y canfyddiadau'n cael eu monitro a'u hadrodd cyn diwedd y mis hwn, pan fydd gwerth 12 mis llawn o ddata ôl-gyflwyno wedi ei gasglu a'i ddadansoddi.

Thanks. Thank you for the answer and, of course, there are major concerns over the amount of pollution emanating from the A470. I was listening to your answer earlier to Suzy Davies's question, which was a related one, although hers was about the M4. Now, you say there's compelling evidence; we can have a look at that, of course. The observation of many of my constituents who regularly use that road to commute is that they're seeing an increased occurrence of traffic jams and, of course, there is the danger that traffic jams could tend to worsen the amount of polluting toxins in the air. So, when you do monitor the evidence that arises, if it transpires that the situation has worsened, would you be of a mind to consider possibly removing the 50 mph zones?

Diolch. Diolch am yr ateb ac, wrth gwrs, ceir pryderon mawr ynghylch faint o lygredd sy'n deillio o'r A470. Roeddwn i'n gwrando ar eich ateb yn gynharach i gwestiwn Suzy Davies, a oedd yn un cysylltiedig, er bod ei chwestiwn hi am yr M4. Nawr, rydych chi'n dweud bod tystiolaeth gymhellol; gallwn edrych ar hynny, wrth gwrs. Safbwynt llawer o'm hetholwyr i sy'n defnyddio'r ffordd honno'n rheolaidd i gymudo yw eu bod nhw'n gweld mwy o dagfeydd traffig yn digwydd ac, wrth gwrs, ceir perygl y gallai tagfeydd traffig dueddu i waethygu faint o docsinau llygredig sydd yn yr aer. Felly, pan fyddwch chi'n monitro'r dystiolaeth sy'n codi, os digwydd bod y sefyllfa wedi gwaethygu, a fyddech chi efallai'n ystyried cael gwared ar y parthau 50 mya?

Well, Llywydd, we will certainly monitor the position very closely. The evidence is that 50 mph zones, when properly preserved, prevent queues rather than add to them. A section of the A470 between Upper Boat and Bridge Street interchanges is an area where we know that the figures demonstrate that there is an urgent and immediate need to bring about improvements in air quality. We will do more over this autumn to put up information that explains to people why they are being asked to observe that 50 mph speed limit and to explain to them that they are being asked to do it because the scientific evidence demonstrates that they will be making a contribution to improving air quality for those communities that they are driving through.

I think we've always been able to make an appeal to people in Wales to understand that collective effort has an impact on the lives of other people. We haven't explained that well enough and persistently enough to people so far. I am optimistic that when we do that, we will see people observe that 50 mph speed limit and that it will both improve air quality and reduce queuing and do good in the lives of people who, today, suffer the impact of the actions that other people take in travelling through those communities.

Wel, Llywydd, byddwn yn sicr yn monitro'r sefyllfa yn ofalus iawn. Y dystiolaeth yw bod parthau 50 mya, pan gânt eu cadw'n briodol, yn atal ciwiau yn hytrach nag ychwanegu atynt. Mae rhan o'r A470 rhwng cyfnewidfeydd Upper Boat a Bridge Street yn ardal lle'r ydym ni'n gwybod bod y ffigurau'n dangos bod angen taer ar unwaith i sicrhau gwelliannau i ansawdd aer. Byddwn yn gwneud mwy dros yr hydref hwn i rannu gwybodaeth sy'n egluro i bobl pam y gofynnir iddyn nhw ufuddhau i'r terfyn cyflymder hwnnw o 50 mya ac esbonio iddyn nhw y gofynnir iddyn nhw ei wneud gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dangos y byddant yn gwneud cyfraniad at wella ansawdd aer i'r cymunedau hynny y maen nhw'n gyrru drwyddynt.

Rwy'n credu ein bod ni wedi gallu gwneud apêl i bobl yng Nghymru erioed i ddeall bod cydymdrech yn cael effaith ar fywydau pobl eraill. Nid ydym ni wedi esbonio hynny'n ddigon da ac yn ddigon cyson i bobl hyd yn hyn. Rwy'n obeithiol y byddwn, pan fyddwn ni'n gwneud hynny, yn gweld pobl yn cadw at y terfyn cyflymder 50 mya hwnnw ac y bydd yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau ciwio ac yn gwneud daioni ym mywydau pobl sydd, heddiw, yn dioddef effaith y camau y mae pobl eraill yn eu cymryd wrth deithio drwy'r cymunedau hynny.

Trafnidiaeth Cymru
Transport for Wales

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaethau a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru? OAQ54313

6. Will the First Minister make a statement on the performance of services provided by Transport for Wales? OAQ54313

14:25

Llywydd, Transport for Wales will deliver the Wales and borders rail franchise through a £5 billion investment in Welsh railways over the next 15 years.

Llywydd, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau drwy £5 biliwn o fuddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf.

Thank you for your answer, First Minister. The level of service on the rail network in Wales has been wholly unacceptable over the summer. I have received dozens and dozens of complaints, either with people copying me into their own correspondence to Transport for Wales, or constituents contacting me directly—not to mention the issues aired over social media. Complaints fall into a number of categories that include cancelled trains, lack of staff, delayed trains, overcrowding and standing room only, signalling problems, a lack of appropriate carriages and a lack of quality information when issues do occur. When Transport for Wales took over the franchise last year, they raised expectations and the Welsh Government also told rail users they would see improvements. Can you tell rail users today when they can expect to see the improvements that you promised last year?

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae lefel y gwasanaeth ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi bod yn gwbl annerbyniol dros yr haf. Rwyf i wedi derbyn dwsinau ar ddwsinau o gwynion, naill ai drwy bobl yn fy nghynnwys yn eu gohebiaeth eu hunain at Trafnidiaeth Cymru, neu etholwyr yn cysylltu â mi yn uniongyrchol—heb sôn am y problemau a godwyd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r cwynion yn perthyn i nifer o gategorïau sy'n cynnwys trenau a ganslwyd, diffyg staff, trenau wedi eu gohirio, gorlenwi a lle i sefyll yn unig, problemau gyda signalau, diffyg cerbydau priodol a diffyg gwybodaeth o ansawdd pan fydd problemau'n codi. Pan gymerodd Trafnidiaeth Cymru y fasnachfraint drosodd y llynedd, codwyd disgwyliadau ganddyn nhw a dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd wrth ddefnyddwyr y rheilffyrdd y bydden nhw'n gweld gwelliannau. A allwch chi ddweud wrth ddefnyddwyr y rheilffyrdd heddiw pryd y gallan nhw ddisgwyl gweld y gwelliannau a addawyd gennych y llynedd?

Llywydd, I saw information put out by the Member over the summer in which he complained that only 97 per cent of trains on the Cambrian line had run over the summer. I think there are people in Thameslink who would think they'd arrived in rail heaven if his Government was able to deliver 97 per cent of all planned services on that line. The Member will have seen yesterday the announcement made of £194 million-worth of investment in railway stations across Wales, and that will certainly attend to the point that the Member made, which was a fair point, about—

Llywydd, gwelais wybodaeth a gyhoeddwyd gan yr Aelod dros yr haf pryd yr oedd yn cwyno mai dim ond 97 y cant o drenau ar reilffordd y Cambrian a oedd wedi rhedeg dros yr haf. Rwy'n credu bod pobl yn Thameslink a fyddai'n meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd nefoedd y rheilffyrdd pe byddai ei Lywodraeth yn gallu darparu 97 y cant o'r holl wasanaethau a gynlluniwyd ar y rheilffordd honno. Bydd yr Aelod wedi gweld y cyhoeddiad ddoe o fuddsoddiad gwerth £194 miliwn mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, a bydd hynny'n sicr yn rhoi sylw i'r pwynt a wnaeth yr Aelod, a oedd yn bwynt teg, ynghylch—

The Member will need to listen rather than speak and then he would have a chance of hearing the answer to his question, wouldn't he? The £194 million investment announced yesterday will certainly attend to the fair point the Member made—that's what I was about to say when he started interrupting me—about information being provided to passengers. The Member said when he was interrupting me that Transport for Wales has said that the performance on some lines, including the Cambrian line, has not been acceptable over this summer, and they're working hard with Network Rail to make sure that signalling difficulties that were experienced on that line are being put right. Of course we want to see further improvements. The £5 billion investment that I referred to earlier will certainly deliver that. People, I believe, are already seeing improvements in many parts of the rail service in Wales and that's what they will continue to see as the franchise unfolds.

Bydd angen i'r Aelod wrando yn hytrach na siarad ac yna byddai ganddo siawns o glywed yr ateb i'w gwestiwn, oni fyddai? Bydd y buddsoddiad £194 miliwn a gyhoeddwyd ddoe yn sicr yn rhoi sylw i'r pwynt teg a wnaeth yr Aelod—dyna'r hyn yr oeddwn i ar fin ei ddweud pan ddechreuodd ef dorri ar fy nhraws—ynghylch darparu gwybodaeth i deithwyr. Dywedodd yr Aelod pan yr oedd yn torri ar fy nhraws bod Trafnidiaeth Cymru wedi dweud nad yw'r perfformiad ar rai rheilffyrdd, gan gynnwys rheilffordd y Cambrian, wedi bod yn dderbyniol yn ystod yr haf hwn, a'u bod yn gweithio'n galed gyda Network Rail i wneud yn siŵr bod trafferthion â signalau a gafwyd ar y rheilffordd honno yn cael eu datrys. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld rhagor o welliannau. Bydd y buddsoddiad o £5 biliwn y cyfeiriais ato'n gynharach yn sicr yn cyflawni hynny. Credaf fod pobl eisoes yn gweld gwelliannau mewn sawl rhan o'r gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru a dyna fyddan nhw'n parhau i'w weld wrth i'r fasnachfraint ddatblygu.

Treth Gyngor ar Ail Gartrefi
Council Tax on Second Homes

7. Pa gamau sydd ar waith i atal treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi rhag cael ei hosgoi? OAQ54350

7. What measures are in place to prevent avoidance of extra council tax on second homes? OAQ54350

The measures to which the Member refers are set out in the revised and strengthened non-domestic rating Order, passed by this Assembly in 2016. Responsibility for the effective operation of these procedures lies with local authorities and the Valuation Office Agency.

Mae'r mesurau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw wedi eu hamlinellu yn y Gorchymyn ardrethu annomestig diwygiedig ac a gryfhawyd, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn 2016. Awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am weithredu'r gweithdrefnau hyn yn effeithiol.

First Minister, while listening to the radio last week, I was struck by an advert I heard on a commercial station that began by informing people of how they could create an extra income out of their second homes and ended by saying, 'Take action now in order to avoid the extra council tax on second homes.' Will the First Minister agree with me that it is morally repugnant for companies or businesses to be offering this kind of advice? It is something that creates a situation where tax can be avoided and it encourages people to buy second homes in order to rent them out to holidaymakers, thus, of course, creating a situation where young people particularly can't afford to live in their own rural communities. Does the First Minister share my abhorrence of the message that that advert gave and will he condemn any attempts to try to get around the law?

Prif Weinidog, wrth wrando ar y radio yr wythnos diwethaf, cefais fy nharo gan hysbyseb a glywais ar orsaf fasnachol a ddechreuodd drwy roi gwybod i bobl sut y gallen nhw greu incwm ychwanegol o'u hail gartrefi ac a ddaeth i ben trwy ddweud, 'Cymerwch gamau nawr i osgoi'r dreth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi.' A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi ei bod yn foesol wrthun i gwmnïau neu fusnesau gynnig cyngor o'r math hwn? Mae'n rhywbeth sy'n creu sefyllfa lle gellir osgoi treth ac mae'n annog pobl i brynu ail gartrefi er mwyn eu gosod i bobl ar eu gwyliau, a thrwy hynny, wrth gwrs, creu sefyllfa lle na all pobl ifanc yn arbennig fforddio byw yn eu cymunedau gwledig eu hunain. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy atgasedd at y neges a roddodd yr hysbyseb hwnnw ac a wnaiff ef gondemnio unrhyw ymdrechion i geisio osgoi'r gyfraith?

Well, I certainly do that and do it as strongly as the Member just has. Tax avoidance is morally repugnant. Tax evasion is straightforwardly criminal and against the law. I didn't hear the advert myself, but I would have to warn anybody listening to it that if they think they are going to enter into a contrived arrangement in order to evade the council tax, then they will find themselves in receipt of very large accumulated bills when that is found out. And if any firm were to offer advice to somebody with the express intention of contriving an arrangement in which the law of the land can be avoided, then they would be, I believe, vulnerable to criminal prosecution for fraud. There is a very clear and legal set of requirements. If you are to let your house as accommodation that is self-catering, you have to make that property available for 140 days in any year, and it has to be let for 70 of those 140 days as a minimum. Those are legal requirements. They are set out in that way in the Valuation Office Agency's forms that people have to fill in, and there is a dedicated team here in the VOA in Wales that validates the evidence that's produced about self-catering premises and carries out regular spot checks to make sure that the law is being observed.

Anybody who thinks that the law is a soft touch in this area and that you can evade it or avoid it easily will rapidly come unstuck. [Interruption.] Every single—. I'll just say, every single example that local authorities in Wales have provided to the VOA have been investigated by the valuation agency. And I invite local authorities—as I know my colleagues did yesterday, in a meeting with them—I absolutely invite local authorities to provide that evidence. If there is genuine evidence of the law not being properly applied, and the dedicated team that the VOA have to make sure that it is, then, of course, we will take action. But we can only take action if the evidence itself is supplied, and only local authorities are in the right position to do that. Please make sure that, if they have the evidence, they send it in.

Wel, rwy'n sicr yn gwneud hynny ac yn ei wneud yr un mor gryf ag y mae'r Aelod newydd ei wneud. Mae osgoi trethi yn foesol wrthun. Mae osgoi talu trethi yn syml yn drosedd ac yn erbyn y gyfraith. Ni chlywais yr hysbyseb fy hun, ond byddai'n rhaid i mi rybuddio unrhyw un sy'n gwrando arno os bydd yn credu ei fod yn mynd i wneud trefniant o'r fath i osgoi'r dreth gyngor, yna bydd yn cael biliau cronedig mawr iawn pan fydd hynny'n cael ei ddarganfod. A phe byddai unrhyw gwmni yn cynnig cyngor i rywun gyda'r bwriad pendant o wneud trefniant lle gellir osgoi cyfraith y wlad, yna byddai, rwy'n credu, yn agored i erlyniad troseddol am dwyll. Ceir cyfres o ofynion eglur iawn a chyfreithiol. Os ydych chi'n mynd i osod eich tŷ fel llety hunanarlwyo, mae'n rhaid i chi roi'r eiddo hwnnw ar gael am 140 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, ac mae'n rhaid iddo gael ei osod am 70 o'r 140 diwrnod hynny o leiaf. Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol. Fe'u nodir yn y modd hwnnw yn ffurflenni Asiantaeth y Swyddfa Brisio y mae'n rhaid i bobl eu llenwi, ac mae tîm penodol yma yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio yng Nghymru sy'n dilysu'r dystiolaeth sy'n cael ei chynhyrchu am eiddo hunanarlwyo ac yn cynnal hapwiriadau rheolaidd i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dilyn.

Bydd unrhyw un sy'n credu bod y gyfraith yn hawdd ei hosgoi yn y maes hwn, ac y gallwch chi ei hosgoi yn rhwydd, yn cael eu hun mewn trafferthion yn gyflym iawn. [Torri ar draws.] Mae pob un—. Dywedaf yn gyflym, mae pob un enghraifft y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu darparu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ei hymchwilio gan yr asiantaeth brisio. Ac rwy'n gwahodd awdurdodau lleol—fel y gwn y gwnaeth fy nghyd-Aelodau ddoe, mewn cyfarfod â nhw—rwy'n estyn gwahoddiad pendant i awdurdodau lleol ddarparu'r dystiolaeth honno. Os oes tystiolaeth ddilys nad yw'r gyfraith yn cael ei chymhwyso'n iawn, ac mae'n rhaid i'r tîm penodol sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio wneud yn siŵr ei bod hi, yna, wrth gwrs, byddwn yn gweithredu. Ond dim ond os yw'r dystiolaeth ei hun yn cael ei chyflenwi y gallwn ni weithredu, a dim ond awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Gwnewch yn siŵr, os yw'r dystiolaeth ganddyn nhw, eu bod nhw'n ei hanfon ymlaen.

14:30

Ac yn olaf, cwestiwn 8—Rhun ap Iorwerth. 

And finally, question 8—Rhun ap Iorwerth.

Y Cynllun Nofio am Ddim
The Free Swimming Scheme

Gymaint â dwi eisiau ymuno yn y drafodaeth yna, mi ofynnaf i fy nghwestiwn i. 

As much as I would like to have joined in that discussion, I will ask my own question.

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y penderfyniad i ddod â’r cynllun nofio am ddim presennol i ben? OAQ54351

8. Will the First Minister make a statement on the decision to end the current free swimming scheme? OAQ54351

Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, dyw’r fenter nofio am ddim heb ddod i ben. Yn dilyn adolygiad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Chwaraeon Cymru, mae wedi cael ei ddiwygio. Bydd y fersiwn newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a’r rhai dros 60 oed yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Thank you for the question. The free swimming initiative has not ended. Following an independent review commissioned by the Sports Council for Wales, it has been revised. The new version will provide more opportunities for young people and the over-60s from the more disadvantaged areas of Wales.

Mae'r cynllun presennol wedi dod i ben, wrth gwrs, ac mae yna oblygiadau i hynny. Yn gam neu yn gymwys, mae'r cynllun nofio am ddim wedi dod yn rhan allweddol o sut mae llywodraeth leol yn talu am eu gwasanaethau hamdden oherwydd y toriadau anghynaliadwy sydd wedi bod mewn cyllid. Rŵan, mae cyllid nofio am ddim Ynys Môn, er enghraifft, yn cael ei dorri yn ei hanner gan y penderfyniad i ddiwygio, a fydd y cyngor, yn syml iawn, ddim yn gallu fforddio llenwi'r gap o £30,000 o bunnau—mae ryw 20,000 o bobl y flwyddyn sy'n manteisio ar hwn. Mae'r ffigur yn mynd i fynd lawr.

Rŵan, yn gyntaf, mae'n rhaid inni gael ymrwymiad o gyllid ychwanegol go iawn i gynghorau yn y flwyddyn nesaf, ond, ar y mater penodol yma, o ystyried gwerth ataliol nofio am ddim yn gwella iechyd heddiw, yn taclo gordewdra heddiw, er mwyn atal afiechydon ac arbed arian i'r NHS yfory, a wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef bod diwygio y cynllun yma a thorri'r gyllideb gymaint yn siŵr o arwain at ostyngiad yn nifer y defnyddwyr, ac felly yn groes i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

The current scheme has come to an end, of course, and there are implications to that. Rightly or wrongly, the free swimming scheme has become a crucial part of how local government pays for its leisure services, because of the unsustainable cuts that have taken place in funding. Now, free swimming funding in Anglesey, for example, is cut in half by the decision to revise and, quite simply, the council won’t be able to afford to fill that gap of £30,000—some 20,000 people per annum take advantage of this, and that figure will go down.

First, we must have a commitment of real additional funding for councils next year, but, on the specific issue, given the preventative value of free swimming in improving health today, tackling obesity today, in order to prevent ill health and to save money for the NHS tomorrow, will the First Minister admit that revising this programme and cutting the budget so much is sure to lead to a reduction in the number of users and is contrary to the principles of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015?

Wel, dwi ddim yn meddwl bod y dystiolaeth yn dangos bod hwnna'n wir, Llywydd. 

Well, I don’t believe that the evidence demonstrates that to be true, Llywydd.

It was right to reform the scheme. When the scheme was first introduced in 2004-05, over 800,000 swims took place by young people under the scheme. Last year, it had fallen to 126,000. If you don't think that those figures deserved a review, then I don't think that would be a fair conclusion to draw. And yet the number of swims by young people has gone up in Wales over that period. So, the idea that, by removing the scheme as it currently stands, it automatically leads to the unintended, and, as I see it, not to be realised consequences, doesn't stand up to examination. More people under the age of 16 are swimming in Wales than ever before, and yet fewer and fewer and fewer of them were taking advantage of the free swimming initiative. 

The money that is not being devoted by the sports council of Wales to this scheme is being spent by them instead on a series of healthy and active fund projects. Four of those new projects will be happening on the island of Anglesey. It's not that money is being taken away from these purposes; it's just that it's going to be spent in a different way, precisely in order to deliver the sorts of outcomes that Rhun ap Iorwerth referred to in his supplementary question.

Roedd yn iawn i ddiwygio'r cynllun. Pan gyflwynwyd y cynllun gyntaf yn 2004-05, nofiodd pobl ifanc 800,000 o weithiau o dan y cynllun. Y llynedd, roedd wedi gostwng i 126,000. Os nad ydych chi'n credu bod y ffigurau hynny'n haeddu cael eu hadolygu, yna nid wyf i'n credu y byddai hwnnw'n gasgliad teg. Ac eto, mae'r nifer o weithiau y mae pobl ifanc yn nofio wedi cynyddu yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, nid yw'r syniad bod dileu'r cynllun fel y mae ar hyn o bryd yn arwain yn awtomatig at y canlyniadau anfwriadol, ac, fel y gwelaf i, rhai na fydd yn cael eu gwireddu, yn gwrthsefyll archwiliad. Mae mwy o bobl o dan 16 oed yn nofio yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac eto roedd llai a llai a llai ohonyn nhw yn manteisio ar y fenter nofio am ddim.

Mae'r arian nad yw'n cael ei neilltuo gan gyngor chwaraeon Cymru i'r cynllun hwn yn cael ei wario ganddyn nhw yn hytrach ar gyfres o brosiectau cronfa iach a gweithgar. Bydd pedwar o'r prosiectau newydd hynny yn digwydd ar Ynys Môn. Nid yw'r arian hwnnw'n cael ei gymryd oddi wrth y dibenion hyn; dim ond ei fod yn mynd i gael ei wario mewn ffordd wahanol, yn union er mwyn sicrhau'r mathau o ganlyniadau y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt yn ei gwestiwn atodol.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")
2. Questions to the Counsel General and Brexit Minister (in respect of his "law officer" responsibilities)

Diolch i'r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Thank you, First Minister. The next item is questions to the Counsel General and Brexit Minister in respect of his law officer responsibilities. And the first question is from Janet Finch-Saunders. 

Camau Cyfreithiol Yng Nghyswllt Addoediad
Legal Action With Regard to Prorogation

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gais diweddar Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys i ymyrryd mewn camau cyfreithiol yng nghyswllt addoediad? OAQ54312

1. Will the Counsel General make a statement on the Welsh Government’s recent application to the High Court to intervene in legal action with regard to prorogation? OAQ54312

14:35

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn achos addoediad yr Uchel Lys, cyn apêl y Goruchaf Lys? OAQ54308

3. Will the Counsel General provide an update on the Welsh Government's intervention in the High Court prorogation case, ahead of the Supreme Court appeal? OAQ54308

Presiding Officer, I understand that you've given permission for questions 1 and 3 to be grouped. I refer the Members to the written statements that I published yesterday and on 2 September. I intervened in the case because it is appropriate, necessary and proportionate to do so in order to safeguard the interests of Wales and this Assembly.

Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 a 3 gael eu grwpio. Cyfeiriaf yr Aelodau at y datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe ac ar 2 Medi. Ymyrrais i yn yr achos gan ei bod yn briodol, yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn diogelu buddiannau Cymru a'r Cynulliad hwn.

Twice your Welsh Government has teamed up with an individual—Gina Miller—to challenge the actions of our UK Government. Most recently, you have intervened in legal proceedings in the High Court, supporting the legal case against the Prime Minister's advice to the Queen to prorogue Parliament. You claimed that you did not make the intervention lightly and stated:

'As the law officer, I have a duty to uphold the rule of law and the constitution'.

Now, whilst I appreciate that the matter is before the Supreme Court now, the High Court concluded that the decision of the Prime Minister was not capable of challenge. Will you therefore disclose to this Chamber how much of our taxpayers' money has been spent by the Welsh Government in your attempts to subvert the very source of our democratic sovereignty?

Ddwywaith y mae eich Llywodraeth chi yng Nghymru wedi ymuno ag unigolyn—Gina Miller—i herio gweithredoedd Llywodraeth y DU. Yn fwyaf diweddar, rydych chi wedi ymyrryd mewn achosion cyfreithiol yn yr Uchel Lys, gan gefnogi'r achos cyfreithiol yn erbyn Cyngor y Prif Weinidog i'r Frenhines addoedi'r Senedd. Roeddech chi'n honni nad oeddech chi wedi gwneud yr ymyriad yn ddifeddwl ac fe wnaethoch chi ddweud:

Fel swyddog y gyfraith, mae gennyf ddyletswydd i gynnal rheolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad.

Er fy mod yn sylweddoli bod y mater gerbron y Goruchaf Lys ar hyn o bryd, daeth yr Uchel Lys i'r casgliad nad oedd modd herio penderfyniad y Prif Weinidog. Felly, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr hon faint o arian ein trethdalwyr sydd wedi'i wario gan Lywodraeth Cymru yn eich ymdrechion i danseilio ffynhonnell ein sofraniaeth ddemocrataidd?

Well, I think the Member fundamentally misunderstands the situation. The Welsh Government hasn't teamed up with anyone. As law officer, I have intervened in these proceedings, and I have had permission to do so by—

Wel, rwyf yn credu bod yr Aelod yn camddeall y sefyllfa yn sylfaenol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymuno â neb. Fel swyddog y gyfraith, rwyf wedi ymyrryd yn y trafodion hyn, ac rwyf wedi cael caniatâd i wneud hynny gan—

—the High Court and the Supreme Court. The Member may remember that the last time the Welsh Government intervened in a Miller case the Supreme Court found in favour of Miller, because the Supreme Court understood that the actions of the UK Government were designed to sideline Parliament. Those circumstances are the circumstances we face today, with a new Prime Minister seeking to sideline Parliament at exactly the time when Parliament should be sitting to scrutinise his actions and the Government's actions, and also to pass legislation to prevent the catastrophe of a 'no deal' Brexit. So, I make no apology for intervening on behalf of this Assembly. And Members here have sat and debated and considered legislation and asked Parliament to legislate on our behalf in order to ensure as smooth as possible a legislative statue book after Brexit.

—yr Uchel Lys a'r Goruchaf Lys. Efallai bod yr Aelod yn cofio y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymyrryd mewn achos Miller roedd y Goruchaf Lys o blaid Miller, oherwydd deallodd y Goruchaf Lys fod gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi'u cynllunio i wthio'r Senedd i'r cyrion. Yr amgylchiadau hynny yw'r un amgylchiadau yr ydym ni yn eu hwynebu heddiw, a Phrif Weinidog newydd sy'n ceisio gwthio'r Senedd i'r cyrion ar yr union adeg pan ddylai'r Senedd fod yn eistedd i graffu ar ei weithredoedd a gweithredoedd y Llywodraeth, a hefyd i basio deddfwriaeth i atal trychineb Brexit 'heb gytundeb'. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ymyrryd ar ran y Cynulliad hwn. Ac mae'r Aelodau yma wedi eistedd a dadlau ac ystyried deddfwriaeth a gofyn i'r Senedd ddeddfu ar ein rhan er mwyn sicrhau bod y llyfr statud deddfwriaethol mor ddidrafferth â phosibl ar ôl Brexit.

And that opportunity has been denied Parliament to sit and consider that legislation by the prorogation. So, I make no apology at all for standing up for the rights of this Assembly.

She shouts at me from a sedentary position the question of costs. The costs of intervening in the High Court stage were £8,937.91 plus VAT—with apologies to Mark Reckless for the question he'll be asking me later.

A gwrthodwyd y cyfle hwnnw i'r Senedd eistedd ac ystyried y ddeddfwriaeth honno gan yr addoediad. Felly, nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros hawliau'r Cynulliad hwn.

Mae hi'n gweiddi cwestiwn am gostau oddi ar ei heistedd. Costau ymyrryd yng nghyfnod yr Uchel Lys oedd £8,937.91 yn ogystal â TAW—gydag ymddiheuriadau i Mark Reckless am y cwestiwn y bydd yn ei ofyn i mi yn nes ymlaen.

The Scottish Court of Session found that Boris Johnson misled the Queen about his reasons for wanting to prorogue Parliament. The Prime Minister had said that it was so that a Queen's Speech could be introduced, but the judgment made it clear that there was documented evidence that the true reason was to stymie parliamentary scrutiny of the Executive. The English High Court did not contradict this, so there is no debate about whether Boris Johnson lied to the Queen and everybody else about the true nature of his reasons for proroguing Parliament—he did. The point at which the judgment of the High Court differed to the Court of Session was about whether lying about the reasons for prorogation is justiciable or not—that is, whether it's a legal or a political matter. Is the Counsel General in a position to explain his legal basis for believing that this is a justiciable matter and whether, if the Supreme Court finds in his favour, a judgment that prorogation is unlawful in this instance will be enforceable? I ask because of the briefings from No. 10 that they may seek to prorogue Parliament for a second time, regardless.

Canfu Llys Sesiwn yr Alban fod Boris Johnson wedi camarwain y Frenhines ynglŷn â'i resymau dros eisiau i'r Senedd gael ei haddoedi. Dywedodd y Prif Weinidog mai er mwyn cyflwyno Araith y Frenhines oedd hynny, ond gwnaethpwyd hi'n glir gan y dyfarniad fod tystiolaeth ddogfennol i'r perwyl mai'r gwir reswm oedd rhwystro gwaith craffu seneddol ar y Weithrediaeth. Nid oedd yr Uchel Lys yn Lloegr yn gwrth-ddweud hyn, felly nid oes dadl ynghylch a oedd Boris Johnson yn dweud celwydd wrth y Frenhines a phawb arall am wir natur ei resymau dros addoedi'r Senedd—fe wnaeth hynny. Roedd y pwynt lle'r oedd barn yr Uchel Lys yn amrywio o Lys y Sesiwn yn ymwneud â pha un a oedd dweud celwydd am y rhesymau y tu ôl i'r addoediad yn gyfiawn ai peidio—hynny yw, a yw'n fater cyfreithiol neu wleidyddol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i esbonio ei sail gyfreithiol dros gredu bod hwn yn fater y gellir ei farnu, os yw'r Goruchaf Lys yn dyfarnu o'i blaid, y bydd, yn yr achos hwn,  dyfarniad bod addoediad yn anghyfreithlon yn bosibl ei orfodi? Rwy'n gofyn oherwydd y briffiau gan Rhif 10 y gallen nhw geisio addoedi'r Senedd am yr eildro, beth bynnag.

I thank the Member for that supplementary question. She is right, of course, to point out that the Court of Session in Scotland concluded that, whatever the reasons the Prime Minister gave publicly for seeking the prorogation, the actual reason was to stymie, as they put it, Parliament's consideration, which they concluded to be constitutionally unacceptable and unlawful. She is right to say that, for both the High Court and the Court of Session in Scotland, the question of justiciability was at the heart of their considerations. The submissions made on my behalf in the Supreme Court will say that the divisional court—the High Court—was incorrect in its conclusion, and that the Court of Session was correct, in the way that both courts approach the question of justiciability, i.e. that Executive action shouldn't be undertaken other than in accordance with public law standards, and, where political subject matter is a basis for judicial restraint, it isn't a basis for Executive immunity, and those are some of the submissions that will be made on my behalf in the Supreme Court later this week.

On the question of the conclusions of the Supreme Court, I will say clearly now that this Government will abide by whatever the Supreme Court concludes, as would any Government worthy of that name, and I hope that the evasion that the Prime Minister has shown on that question, on reflection, he will realise is inappropriate, and that he will act in accordance with the outcome of the Supreme Court's judgment, as soon as it's given.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith bod Llys Sesiwn yr Alban wedi dod i'r casgliad, mai beth bynnag oedd y rhesymau a roddodd y Prif Weinidog i'r cyhoedd am geisio'r addoediad, y gwir reswm oedd rhwystro, yn eu geiriau nhw, ystyriaeth y Senedd, a daethant i'r casgliad bod hynny'n annerbyniol yn gyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon. Mae hi'n iawn i ddweud, o ran yr Uchel Lys a Llys Sesiwn yr Alban, mai'r cwestiwn o farnadwyedd oedd wrth wraidd eu hystyriaethau. Bydd y cyflwyniadau a wneir ar fy rhan yn y Goruchaf Lys yn dweud bod y llys adrannol—yr Uchel Lys—yn anghywir yn ei gasgliad, a bod Llys y Sesiwn yn gywir, yn y ffordd y mae'r ddau lys yn ymdrin â chwestiwn cyfiawnder, h.y. ni ddylid cymryd camau gweithredol ac eithrio yn unol â safonau cyfraith gyhoeddus, a phan fo pwnc gwleidyddol yn sail ataliaeth farnwrol, nid yw'n sail imiwnedd gweithredol, a dyna rai o'r cyflwyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar fy rhan yn y Goruchaf Lys yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Ynghylch y cwestiwn o gasgliadau'r Goruchaf Lys, dywedaf yn glir yn awr y bydd y Llywodraeth hon yn cadw at beth bynnag yw casgliad y Goruchaf Lys, fel y byddai unrhyw Lywodraeth sy'n deilwng o'r enw, a gobeithiaf y bydd y Prif Weinidog yn sylweddoli bod yr osgoi a ddangosodd ar y cwestiwn hwnnw, ar ôl ystyried, yn amhriodol, ac y bydd ef yn gweithredu yn unol â chanlyniad dyfarniad y Goruchaf Lys, cyn gynted ag y'i rhoddir.

14:40
Gostyngiadau mewn Allyriadau Cerbydau
Vehicle Emission Reductions

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i gyd-aelodau Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau cerbydau? OAQ54325

2. What discussions has the Counsel General had with cabinet colleagues in developing legislative proposals to deliver vehicle emission reductions? OAQ54325

Nid yw pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru na Llywodraeth Cymru yn cynnwys rheoleiddio allyriadau cerbydau. Ond mae'r Llywodraeth yn cefnogi defnyddio safonau heriol newydd ar gyfer cerbydau i ostwng allyriadau trafnidiaeth. Mae'r Llywodraeth yn gweithredu mewn meysydd lle mae ganddi gymhwysedd ac wedi ymgynghori ar fframwaith awyr lân i arwain gweithredoedd awdurdodau lleol i wella ansawdd awyr a gostwng allyriadau.

Welsh legislative powers do not extend to regulating vehicle emissions. However, the Government supports the use of challenging new vehicle standards to reduce emissions from transport and the Government is acting in areas where it has competence and has consulted on the clean air framework to lead local government actions to improve air quality and reduce emissions.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Fel dŷch wedi ei ddweud, yn amlwg mae yna ystod o opsiynau deddfwriaethol ar gael i Lywodraeth Cymru wrth ddilyn yr agenda yma. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar 15 Gorffennaf, wedi cyhoeddi eu bwriad i gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ym mhob tŷ newydd yn Lloegr, fel rhan o'r ymdrechion i leihau allyriadau erbyn 2050. Mae'r cynlluniau yn cynnwys newid rheoliadau adeiladau ar gyfer adeiladau preswyl newydd i gyflwyno gofynion ar gyfer pwyntiau gweithredu gwefrau cerbydau trydan a hefyd gofynion ar gyfer seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn adeiladau di-breswyl. Felly, pa drafodaeth—pa drafodaethau yn wir—ydych chi wedi bod yn eu cael o fewn Llywodraeth Cymru ar y llwybr cyfreithiol gorau i sicrhau canlyniadau tebyg yma yng Nghymru?

Thank you very much for that response. As you’ve said, clearly there is a range of legislative options available to the Welsh Government in pursuing this agenda. You will be aware that the UK Government, on 15 July, announced its intention to introduce legislation that makes it a requirement to put charging points for electric vehicles in all new homes in England, as part of efforts to reduce emissions by 2050. The proposals include changing building regulations for new residential buildings to provide for electric charging points and for infrastructure for charging points in non-residential buildings. So, what discussions have you been having within the Welsh Government on the best legislative route to secure similar outcomes here in Wales?

Wel, wnaf i ddim ymhelaethu ar unrhyw drafodaethau cyfreithiol am y rhesymau bydd yr Aelod yn deall yn iawn, rwy'n credu. Ond mae'r cwestiwn am y camau gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau economi a chymdeithas carbon isel wastad yn destun trafodaeth fyw iawn ymhlith Aelodau'r Llywodraeth. Gwnaf i gyfeirio'r Aelod at y ddogfen bolisi, 'Prosperity for All: A Low Carbon Wales', sy'n disgrifio mewn manylder yr ystod eang o gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar hyn o bryd, a'r camau mae'r Llywodraeth yn bwriadu edrych arnyn nhw yn y dyfodol ynglŷn â'r maes hwn a meysydd perthnasol eraill.

Well, I won’t elaborate on any legal discussions, for reasons that the Member will understand fully, I believe. But the question of the steps that Welsh Government can take to secure a low-carbon society is a very lively discussion that is held often within Welsh Government. I would refer the Member to the ‘Prosperity for All: A Low Carbon Wales’ policy document, which describes in detail the wide range of steps that the Government is taking at the moment, and the steps we intend to look at in future in this area and in other relevant areas.

Achos yr Uchel Lys mewn perthynas ag Addoediad
The High Court Case concerning Prorogation

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gost i'r trethdalwr yn sgil Llywodraeth Cymru'n ymuno â'r achos aflwyddiannus yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag addoediad? OAQ54307

4. Will the Counsel General make a statement on the cost to the taxpayer of the Welsh Government joining the failed High Court case concerning prorogation? OAQ54307

The cost of intervening in the High Court stage was £8,937.91, and VAT. I consider this proportionate to the fundamental importance of the issue, both for this place and its ability to give voice to the interests of Wales, and to the rule of law and the constitution more generally.

Cost ymyrryd yng nghyfnod yr Uchel Lys oedd £8,937.91, a TAW. Rwyf i'n ystyried bod hyn yn gymesur â phwysigrwydd sylfaenol y mater, o ran y lle hwn a'i allu i roi llais i fuddiannau Cymru, ac i reolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad yn fwy cyffredinol.

Isn't an important part of the rule of law that our First Minister should accept the decisions of courts within our jurisdiction? And, following the decision of the divisional court in London, within the jurisdiction of England and Wales, that the decision to prorogue was lawful, is it appropriate for the First Minister to describe the decision as unlawful?

Onid yw'n rhan bwysig o reolaeth y gyfraith y dylai Prif Weinidog Cymru dderbyn penderfyniadau llysoedd o fewn ein hawdurdodaeth? Ac, yn dilyn penderfyniad y llys adrannol yn Llundain, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr, bod y penderfyniad i addoedi yn gyfreithlon, a yw'n briodol i'r Prif Weinidog ddisgrifio'r penderfyniad fel un anghyfreithlon?

Well, the judgment in the Court of Session in Scotland, which, contrary—[Interruption.]—contrary to the comments of many Conservative backbench Members of Parliament, is actually a superior court to the High Court of England and Wales, found exactly the opposite proposition, which is, in accordance with the submissions we have made, that the decision was unlawful. And he mentions, from a sedentary position, that this is not our jurisdiction, as he put it. The Parliament that is prorogued is the Parliament of Scotland in Westminster, as it is the Parliament for Wales in relation to reserved matters, and the decisions of the Court of Session are not to be lightly derided as the Member is seeking to do. I hope that the Supreme Court will take full account not just of the conclusions of the High Court, but also of the arguments that prevailed in the Court of Session in Scotland and support the arguments made on behalf of Miller and Cherry, in which I was glad to intervene.

Wel, mae dyfarniad Llys y Sesiwn yn yr Alban, sydd, yn groes—[torri ar draws.]—yn groes i sylwadau llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol ar y meinciau cefn, mewn gwirionedd yn Llys sy'n uwch na Uchel Lys Cymru a Lloegr, wedi penderfynu o blaid y cynnig sydd union gyferbyn, sef, yn unol â'r cyflwyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud, bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Ac mae'n sôn, o'i eistedd, nad ein hawdurdodaeth ni yw hon, fel y dywed ef. Y Senedd sy'n cael ei haddoedi yw Senedd yr Alban yn San Steffan, a hon hefyd yw Senedd Cymru o ran materion a gedwir yn ôl, ac ni ddylid gwawdio penderfyniadau Llys y Sesiwn yn ysgafn fel y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud. Gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn ystyried yn llawn nid yn unig gasgliadau'r Uchel Lys, ond hefyd y dadleuon a gafwyd yn Llys y Sesiwn yn yr Alban a chefnogi'r dadleuon a wnaethpwyd ar ran Miller a Cherry, yr oeddwn i'n falch o ymyrryd ynddynt.

14:45
Dyfodol Pwerau Datganoledig yng Nghymru
The Future of Devolved Powers in Wales

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol pwerau datganoledig yng Nghymru? OAQ54314

5. What legal advice has the Counsel General provided to the Welsh Government on the future of devolved powers in Wales? OAQ54314

Whilst the Member will appreciate I don't disclose advice that I give to the Government, the question of the devolution settlement and how it might be improved in the future remains a live discussion within Government.

Er y bydd yr Aelod yn sylweddoli nad wyf i'n datgelu'r cyngor a roddaf i'r Llywodraeth, mae'r cwestiwn ynghylch y setliad datganoli a sut y gellid ei wella yn y dyfodol yn parhau i fod yn drafodaeth fyw o fewn y Llywodraeth.

Thank you. Last month, you had the pleasure, as did I and many here, of attending the National Eisteddfod of Wales. Now, despite the Secretary of State, the Right Honourable Alun Cairns MP, having worked hard to deliver a clear and stable devolution settlement, you really did have quite a moan. In fact, you stated, and I quote,

'it is clear that the attitude of the UK government to devolution needs to change fundamentally. Currently, it seems still to have a profound ambivalence about devolution. Or worse, an attitude that if we behave ourselves, the UK government will out of the goodness of its heart, allow us some limited powers of self-government. A "get what you’re given" type of devolution.'

Now, whilst you did note that your priority is to remain and reform within the union of the United Kingdom, my question to you is whether it is actually the case that the Welsh Government will not be satisfied with devolution until there is actually a break-up of this union.

Diolch. Fis diwethaf, cawsoch y pleser, fel y cefais innau a llawer yma, o ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Nawr, er gwaethaf y ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, wedi gweithio'n galed i gyflawni setliad datganoli clir a sefydlog, fe wnaethoch chi gwyno cryn dipyn. A dweud y gwir, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,

Mae'n amlwg bod angen i agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli newid yn sylfaenol. Ar hyn o bryd, ymddengys bod ganddi amwysedd dwys ynghylch datganoli o hyd. Neu'n waeth, yr agwedd y bydd Llywodraeth y DU, yn garedig iawn, os byddwn ni'n ymddwyn yn dda, yn caniatáu rhyw bwerau cyfyngedig o hunanlywodraeth i ni. Y math o ddatganoli "rhaid i chi dderbyn yr hyn a gewch".

Nawr, er ichi nodi mai eich blaenoriaeth chi yw aros a diwygio o fewn undeb y Deyrnas Unedig, fy nghwestiwn i chi yw a yw'n wir na fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon â datganoli hyd nes y bydd yr undeb hwn yn chwalu.

Can I first thank the Member for drawing attention to the speech that I gave in the Eisteddfod, which I feel otherwise might have had a slightly more limited audience than she will now have given it? So, I thank her for that. She mentions the efforts of the Secretary of State for Wales to deliver a stable settlement for devolution. I'm afraid I see it slightly differently from her, and I take for example the discussion that the First Minister mentioned earlier on the shared prosperity fund, which is a matter that should be entirely devolved to Wales, and he has not championed that position in my discussions with him. We have called on several occasions for there to be full engagement in the question of regional funding following the departure from the European Union, and that has not been taken up. That is one of many, many examples of where the current devolution settlement falls short and where the UK Government's commitment to a stable devolution settlement falls short.

She mentions in her closing question the break-up of the union as though that would be a thing that we would advocate. Let me be absolutely clear to the Member that the people taking the wrecking ball to the British constitution are people like the Brexit Party and people like her who are advocating the kind of hard and 'no deal' Brexit that runs a very serious risk of tearing the UK apart.

A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am dynnu sylw at fy araith yn yr Eisteddfod. Credaf y byddai wedi bod â chynulleidfa ychydig yn llai nag y mae hi bellach wedi'i rhoi iddo? Felly, rwy'n diolch iddi am hynny. Mae hi'n sôn am ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni setliad sefydlog ar gyfer datganoli. Mae arnaf ofn fy mod i'n ei weld ychydig yn wahanol iddi hi, ac rwy'n cymryd, er enghraifft, y drafodaeth a grybwyllodd y Prif Weinidog yn gynharach ar y gronfa ffyniant a rennir, sy'n fater a ddylai gael ei ddatganoli'n llwyr i Gymru, ac nid yw ef wedi cefnogi'r safbwynt hwnnw yn fy nhrafodaethau i ag ef. Rydym ni wedi galw ar sawl achlysur am ymgysylltu llawn ar y cwestiwn o gyllid rhanbarthol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw hynny wedi'i dderbyn. Mae hynny'n un o lawer iawn o enghreifftiau, lle mae'r setliad datganoli presennol yn ddiffygiol a lle mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i setliad datganoli sefydlog yn ddiffygiol.

Mae'n sôn yn ei chwestiwn i gloi am chwalu'r undeb fel pe byddai hynny'n rhywbeth y byddem ni'n ei argymell. Gadewch imi fod yn gwbl glir wrth yr Aelod mai'r bobl sydd wrthi'n dinistrio cyfansoddiad Prydain yw pobl fel plaid Brexit a phobl fel hi sy'n dadlau dros y math o Brexit caled 'heb gytundeb' sy'n creu risg ddifrifol iawn o rwygo'r DU ar wahân.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Business Statement and Announcement

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

The business statement and announcement is next, and I call on the Minister for Finance and Trefnydd to make the statement—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. There are three changes to this week's business. Later this afternoon, I will make a statement on implications for Wales of the UK Government's 2019 spending round, and the Counsel General and Brexit Minister will make a statement on Brexit. To accommodate this, the statement on Designed to Smile—10 years of improving children's oral health in Wales will be issued as a written statement. Draft business for the next three weeks is set out on the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddaf yn gwneud datganiad ar oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, a bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad ar Brexit. Er mwyn gwneud lle i hyn, bydd y datganiad am y Cynllun Gwên—10 mlynedd o wella iechyd y geg i blant yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Can I call for a statement from the Minister responsible for transport on the A55 trunk road in north Wales? The Trefnydd will be aware that there have been many complaints coming in to Assembly Members from across the north Wales region because of significant roadworks that are taking place in the Llanddulas area. Now, I appreciate that these roadworks are necessary in terms of restoring safety to the bridge in Llanddulas, but the organisation of those roadworks, without any appropriate diversions in place to encourage motorists to take alternative routes, is causing absolute mayhem in local communities and towns throughout my constituency, including Abergele, Old Colwyn and Colwyn Bay. We've had children not able to go to school on time, we've had people not able to get to work on time, we've got tourists who are having a very poor visitor experience of north Wales as a result of these roadworks, and I'm very concerned that it's damaging now the reputation of north Wales and our economy. So, can we have a statement on what the Welsh Government is going to do to make sure that it plans these things better in the future so that we don't have the sort of disruption that we've been experiencing?

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy' n gyfrifol am drafnidiaeth ar gefnffordd yr A55 yng Ngogledd Cymru? Bydd y Trefnydd yn ymwybodol bod llawer o gwynion wedi cyrraedd Aelodau'r Cynulliad o bob rhan o ranbarth Gogledd Cymru yn sgil gwaith ffordd sylweddol sy'n digwydd yn ardal Llanddulas. Nawr, sylweddolaf fod y gwaith ffordd hwn yn angenrheidiol o ran adfer diogelwch i'r bont yn Llanddulas, ond mae trefniadaeth y gwaith ffordd hwnnw, heb unrhyw wyriadau priodol yn eu lle i annog modurwyr i ddilyn llwybrau amgen, yn achosi anhrefn llwyr mewn cymunedau a threfi lleol ar draws fy etholaeth i, gan gynnwys Abergele, Hen Golwyn a Bae Colwyn. Mae plant yn methu cyrraedd yr ysgol ar amser, pobl yn methu cyrraedd y gwaith ar amser, mae yna ymwelwyr sy'n cael profiad gwael iawn o ymweld â Gogledd Cymru o ganlyniad i'r gwaith ffordd yma, ac rwy'n bryderus iawn ei fod yn niweidiol bellach i enw da'r Gogledd a'n heconomi ni. Felly, a gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau ei bod yn cynllunio'r pethau hyn yn well yn y dyfodol fel na chawn ni'r math o aflonyddwch yr ydym ni wedi bod yn ei brofi?

14:50

I thank Darren Millar for raising this issue this afternoon. As he recognises, the work that is being carried out on the A55 is very much being done in order to ensure the safety of that stretch of road, but clearly any disruption to people's lives is concerning. So, I will ask in the first instance Welsh Government officials to investigate the situation with a view to providing some advice as to how we can best avoid that kind of situation in future.

Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Fel y mae'n cydnabod, mae'r gwaith a wneir ar yr A55 yn bendant yn cael ei wneud  er mwyn sicrhau diogelwch y rhan honno o'r ffordd, ond mae'n amlwg bod unrhyw darfu ar fywydau pobl yn peri pryder. Felly, byddaf yn gofyn yn y lle cyntaf i swyddogion Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r sefyllfa gyda'r bwriad o ddarparu rhywfaint o gyngor ynghylch y ffordd orau o osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol.

I'd like to add my name to the growing number of people who are calling for a summit on adult social care services on a national basis, into the provision of care for older people. I'd also like to see a moratorium in the interim on the closure of further facilities, because many local authorities have closed or are closing their day and residential care centres, and spaces are being lost everywhere. On the other end of the age spectrum there's a shortage of care places for younger people, and private care homes that prioritise profit seek to take advantage of this situation. We need good-quality, publicly provided care for older people, disabled people and looked-after children. At present, privatisation is happening by stealth. Can we have a Government debate and a response to this request for a summit and a moratorium as soon as possible, please?

The Government is well aware of the long-running campaign to reopen the Rhondda tunnel as a walking and cycling route. Its potential to attract tourism, facilitate active travel and to encourage physical activity is massive. That's why it's such an integral part of this policy document that I produced in conjunction with Sustrans this month. The main stumbling block to opening that tunnel comes from the question of its ownership. It's currently owned by the English Department for Transport and managed by Highways England—a bizarre anomaly that really should have been corrected by now. Until the ownership question is resolved, efforts to raise money for the project and take it to the next stage are hampered, thus endangering its chances of success. The project is also hampered by not being designated as part of an active travel route.

I have to declare an interest as a member of the Rhondda Tunnel Society, and, like my party colleague Bethan Jenkins AM and your party colleague David Rees AM, I've been working closely with the Rhondda Tunnel Society to bring this project to fruition. I first raised the issue of ownership with the Welsh Government more than three years ago, and we haven't moved on a great deal since then. So, can we have a statement explaining how the Welsh Government can help this project and resolve the ownership question? Guarantees could be put in place for the Welsh Government to avoid financial liability. The question now is: is the political will there?

Hoffwn ychwanegu fy enw at y nifer cynyddol o bobl sy'n galw am uwchgynhadledd ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar sail genedlaethol, ar ddarparu gofal i bobl hŷn. Hoffwn hefyd weld moratoriwm yn y cyfamser ar gau rhagor o gyfleusterau, gan fod llawer o awdurdodau lleol wedi cau neu yn y broses o gau eu canolfannau gofal dydd a phreswyl, ac mae lleoedd gwag yn cael eu colli ym mhobman. Ar ben arall y sbectrwm oedran, mae prinder lleoedd gofal i bobl iau, ac mae cartrefi gofal preifat sy'n blaenoriaethu elw yn ceisio manteisio ar y sefyllfa hon. Mae angen gofal o ansawdd da, a ddarperir yn gyhoeddus, ar gyfer pobl hŷn, pobl anabl a phlant sy'n derbyn gofal. Ar hyn o bryd, mae preifateiddio'n digwydd yn llechwraidd. A allwn ni gael dadl gan y Llywodraeth ac ymateb i'r cais hwn am uwchgynhadledd a moratoriwm cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda?

Mae'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o'r ymgyrch hir i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a beicio. Mae ei photensial i ddenu twristiaeth, hwyluso teithio llesol ac annog gweithgarwch corfforol yn enfawr. Dyna pam mae'n rhan mor hanfodol o'r ddogfen bolisi hon a gynhyrchwyd gennyf i ar y cyd â Sustrans y mis hwn. Daw'r prif faen tramgwydd i agor y twnnel hwnnw o'r cwestiwn o'i berchnogaeth. Ar hyn o bryd, mae'n eiddo i adran drafnidiaeth Lloegr a chaiff ei reoli gan adran Priffyrdd Lloegr—anomaledd rhyfedd a ddylai fod wedi'i gywiro erbyn hyn. Hyd nes y caiff y cwestiwn perchenogaeth ei ddatrys, mae ymdrechion i godi arian ar gyfer y prosiect a'i gymryd i'r cam nesaf yn cael eu llesteirio, gan beryglu ei siawns o lwyddo. Mae'r prosiect hefyd yn cael ei lesteirio am nad yw'n cael ei ddynodi'n rhan o lwybr teithio llesol.

Rhaid imi ddatgan buddiant fel aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda ac fel fy nghyd-Aelod Plaid, Bethan Jenkins AC, a'ch cyd-aelod chi David Rees AC, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Twnnel y Rhondda i wireddu'r prosiect hwn. Codais y mater o berchnogaeth gyda Llywodraeth Cymru dros dair blynedd yn ôl, ac nid ydym wedi symud ymlaen ryw lawer ers hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad yn esbonio sut y gall Llywodraeth Cymru helpu'r prosiect hwn a datrys y cwestiwn perchenogaeth? Gellid rhoi gwarantau ar waith er mwyn i Lywodraeth Cymru osgoi atebolrwydd ariannol. Y cwestiwn yn awr yw: a yw'r ewyllys gwleidyddol yno?

Thank you for raising those two issues. I know the Minister with responsibility for social care is here in the Chamber to hear your request for a statement and a view on the proposals for a summit. I know that she'll give that due consideration.

With regard to the Rhondda tunnel, I think it's a tremendously exciting proposal. Clearly, there are issues in terms of the ownership and how any work would be funded in future—something that Welsh Government's very much alive to. I had a discussion only today with the Deputy Minister for Economy and Transport about this, and I know that he's engaging with Sustrans as well to ask them to do a piece of work to explore how we can move this forward, because I think that we all share the enthusiasm and the understanding of what could be achieved.

Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol yma yn y Siambr i glywed eich cais am ddatganiad a barn am y cynigion ar gyfer uwchgynhadledd. Rwy'n gwybod y bydd yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i hynny.

O ran twnnel y Rhondda, rwy'n credu ei fod yn gynnig hynod gyffrous. Yn amlwg, mae materion yn codi o ran perchenogaeth a sut y byddai unrhyw waith yn cael ei ariannu yn y dyfodol—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod iawn i'w wneud. Cefais drafodaeth heddiw gyda Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am hyn, a gwn ei fod yn ymgysylltu â Sustrans hefyd i ofyn iddynt wneud darn o waith i archwilio sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn, oherwydd credaf ein bod i gyd yn rhannu'r brwdfrydedd a'r ddealltwriaeth o'r hyn y gellid ei gyflawni.

Minister, can I add my voice to the last question by Leanne Wood in relation to the Rhondda Tunnel Society and the Rhondda tunnel ownership? I won't go any further because you've already answered the question, but I do put my voice to that call.

Can I ask for three statements, if possible? The first one is on the Learner Travel (Wales) Measure 2008. Now, earlier this year Neath Port Talbot council actually put proposals forward that would have increased charges upon post-16 education travel for those going to Welsh-medium education, going to faith schools, and also in the additional learning needs areas. There is an opportunity here now—and I welcome the decision of the council to actually defer any decision on this for the local people—to look at the learner travel Measure as to whether we can actually look to amend the learner travel Measure to ensure that post-16 education becomes part of the travel requirements, to ensure that these people can go to schools or places of education without the extra charges that are being considered by local authorities. Will you, therefore, ask for a statement from the Minister for Economy and Transport, who I believe has responsibility for that area, to look at whether we can review the learner travel Measure to see what updates could be put into place, what amendments could be put into place, to ensure that those children can get the free transport to school, as it happens in the future?

Can I also look at a question in education as well—the supply teacher frameworks? I understand new frameworks are now in place. Well, I have seen e-mails from one of the agencies that has benefited from those frameworks, indicating that they are slightly encouraging schools to go off-framework, to encourage them to take people out of the frameworks and therefore pay them lower rates than they would be entitled to. That’s from an agency that’s been given permission in the frameworks and actually has a position on all 22 across Wales. We need to look at the monitoring of the supply teacher frameworks to ensure that teachers are not being abused by this system and that agencies are not taking an option to try and encourage schools to avoid and circumvent the actual requirements, to ensure that teachers get a decent wage and the decent conditions that they deserve as a supply teacher. And, therefore, can we have a statement from the Minister for Education as to what is being done about that framework?

Finally, it’s been mentioned by Rhun ap Iorwerth in his question to the First Minister this afternoon on free swimming. We had a written statement, and I thank the Deputy Minister for the written statement last week, giving us some indication as to what’s happening. But we need to ask questions in relation to the free swimming concessions and the changes that are being applied, because, if you look at it, they are actually not huge figures we’re talking about, but this is actually crucial to many constituents of mine, and they have written to me in quite large numbers saying, 'Why are we doing this?' We need, therefore, to be able to ask the Deputy Minister questions about the concessions, as to how we can move forward. It’s not just a matter of free swimming for everybody; this gives them opportunities, it takes them out of their homes, it gives them social interaction, it improves their health, and every opportunity like that is crucial to ensure our people over 60 are able to be active participants in our society. And this decision actually is going to remove that from some. I would therefore like an oral statement so that we can ask the questions specifically on the free swimming concession changes.

Gweinidog, a gaf i ychwanegu fy llais at y cwestiwn olaf gan Leanne Wood mewn cysylltiad â Chymdeithas Twnnel y Rhondda a pherchnogaeth twnnel y Rhondda? Nid wyf am fynd ymhellach oherwydd eich bod eisoes wedi ateb y cwestiwn, ond rwy'n ychwanegu fy llais i'r alwad honno.

A gaf i ofyn am dri datganiad, os yw'n bosibl? Mae'r cyntaf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Nawr, yn gynharach eleni cyflwynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gynigion a fyddai wedi cynyddu'r taliadau ar gyfer addysg ôl-16 mewn cysylltiad â'r rheini sy'n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg, i ysgolion ffydd, a hefyd ym meysydd anghenion dysgu ychwanegol. Mae cyfle yma'n awr—ac rwy'n croesawu penderfyniad y Cyngor i ohirio unrhyw benderfyniad ynglŷn â hyn ar ran y bobl leol—i edrych ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr i weld a allwn mewn gwirionedd geisio diwygio'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr i sicrhau bod addysg ôl-16 yn dod yn rhan o'r gofynion teithio, er mwyn sicrhau y gall y bobl hyn fynd i ysgolion neu leoedd addysg heb y taliadau ychwanegol sy'n cael eu hystyried gan awdurdodau lleol. A wnewch chi felly, ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, sydd, mi gredaf, â chyfrifoldeb dros y maes hwnnw, i ystyried a allwn adolygu'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr i weld pa ddiweddariadau y gellid eu gwneud, pa welliannau y gellid eu gwneud, i sicrhau bod y plant hynny'n cael cludiant am ddim i'r ysgol, fel y bydd yn digwydd yn y dyfodol?

A gaf i hefyd edrych ar gwestiwn yn ymwneud ag addysg hefyd—y fframweithiau athrawon cyflenwi? Rwy'n deall bod fframweithiau newydd ar waith erbyn hyn. Wel, rwyf wedi gweld negeseuon e-bost gan un o'r asiantaethau sydd wedi elwa o'r fframweithiau hynny, sy'n awgrymu eu bod yn annog ysgolion i raddau i fynd oddi ar y fframwaith, yn eu hannog i symud pobl allan o'r fframweithiau ac felly'n talu cyfraddau is iddynt nag y mae ganddynt yr hawl iddynt. Mae hynny'n deillio o asiantaeth sydd wedi cael caniatâd yn y fframweithiau ac sydd mewn gwirionedd â'i bresenoldeb ar draws y 22 sir yng Nghymru. Mae angen inni edrych ar fonitro'r fframweithiau athrawon cyflenwi er mwyn sicrhau nad yw athrawon yn cael eu cam-drin gan y system hon ac nad yw asiantaethau'n cymryd yr opsiwn i geisio annog ysgolion i osgoi'r gofynion gwirioneddol, er mwyn sicrhau bod athrawon yn cael cyflog gweddus a'r amodau gweddus y maent yn eu haeddu fel athrawon cyflenwi. Ac felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch beth sy'n cael ei wneud am y fframwaith hwnnw?

Yn olaf, mae wedi cael ei grybwyll gan Rhun ap Iorwerth yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ynglŷn â nofio am ddim. Cawsom ddatganiad ysgrifenedig, a diolchaf i'r  Dirprwy Weinidog am y datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn rhoi rhyw syniad inni o'r hyn sy'n digwydd. Ond mae angen inni ofyn cwestiynau ynglŷn â'r consesiynau nofio am ddim a'r newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith. Oherwydd, os edrychwch arnynt, nid ydynt yn ffigurau enfawr mewn gwirionedd, ond mae hyn yn hollbwysig i lawer o'm hetholwyr i, ac mae nifer mawr wedi ysgrifennu ataf yn holi 'Pam ydym ni'n gwneud hyn?' Felly, mae angen inni allu gofyn cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog am y consesiynau, o ran sut y gallwn symud ymlaen. Nid mater o nofio am ddim i bawb yn unig yw hyn; mae hyn yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw, mae'n mynd â phobl allan o'u cartrefi, mae'n rhoi rhyngweithio cymdeithasol iddyn nhw, mae'n gwella eu hiechyd, ac mae pob cyfle fel hyn yn hanfodol i sicrhau y gall pobl dros 60 gymryd rhan weithredol yn ein cymdeithas. Ac mae'r penderfyniad hwn mewn gwirionedd yn mynd i ddod â hynny i ben i rai pobl. Hoffwn felly gael datganiad llafar fel y gallwn ofyn y cwestiynau'n benodol am y newidiadau i'r consesiynau nofio am ddim.

14:55

I thank Dai Rees for raising those issues. I know that you have also written directly to the Minister for Economy and Transport outlining your support for the Rhondda tunnel proposal and your concerns about the ownership, and so on. I can say that, as you’re probably aware, Welsh Government has funded work on a high-level business case for the project as well as providing subsequent funding to undertake an ecological assessment, a bats survey, a tapping survey to assess the condition of the tunnel, and also work to improve access to the tunnel for the survey work to be undertaken. So, I think that we can demonstrate our clear support for the proposals, although those issues of ownership and how the project could be funded are yet unresolved.

In terms of the learner travel Measure and your concerns about how that impacts on the ability of those learners over the age of 16 to get to their learning environment, and I think particularly those who are disabled are of concern to you, I will ask the transport Minister to write to you with an update on that, but also to take into consideration the case that you’ve made this afternoon.FootnoteLink

On supply teacher agencies, I can say that officials in the education directorate have worked closely with the National Procurement Service to address and incorporate a number of additional requirements in the framework contract specification to support supply teachers’ pay and working conditions and our fair work and social partnership principles. But, on the particular issue that you raised, the NPS has issued contract guidance to all of the appointed agencies, requiring them to report situations of non-compliance so that they’re able to have as much information as possible regarding the framework's uptake and effectiveness, and if a framework agency is consistently attempting to subvert the framework rules and, I think, the spirit of those rules as well, the NPS will take action.

And in terms of when the earliest opportunity would be to question the Minister on the issue of free swimming, I know that there is a question to the Deputy Minister tomorrow afternoon.

Diolch i Dai Rees am godi'r materion hynny. Gwn eich bod hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn amlinellu eich cefnogaeth i gynnig twnnel y Rhondda a'ch pryderon am y berchnogaeth, ac yn y blaen. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch mae'n siŵr, wedi ariannu gwaith ar achos busnes lefel uchel ar gyfer y prosiect yn ogystal â darparu cyllid dilynol i gynnal asesiad ecolegol, arolwg ystlumod, arolwg tapio i asesu cyflwr y twnnel, a hefyd gwaith i wella mynediad i'r twnnel ar gyfer y gwaith arolygu sydd i'w wneud. Felly, credaf y gallwn ddangos ein cefnogaeth glir i'r cynigion, er bod y materion hynny sy'n ymwneud â pherchnogaeth a sut y gellid ariannu'r prosiect heb eu datrys eto.

O ran y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a'ch pryderon ynghylch y modd y mae hynny'n effeithio ar allu'r dysgwyr hynny dros 16 oed i gyrraedd eu hamgylchedd dysgu, a chredaf yn benodol fod y rhai sy'n anabl yn peri pryder i chi, gofynnaf i'r Gweinidog Trafnidiaeth ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, ond hefyd i ystyried yr achos yr ydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma.FootnoteLink

O ran asiantaethau athrawon cyflenwi, gallaf ddweud bod swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ymdrin â nifer o ofynion ychwanegol yn y fanyleb contract fframwaith i gefnogi'r broses o gyflenwi cyflog ac amodau gwaith athrawon a'n hegwyddorion gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Ond, o ran y mater penodol a godwyd gennych, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau contract i'r holl asiantaethau penodedig, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi gwybod am sefyllfaoedd o ddiffyg cydymffurfio fel y gallant gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y defnydd a wneir o'r fframwaith a'i effeithiolrwydd. Ac os yw asiantaeth fframwaith yn ceisio gwyrdroi rheolau'r fframwaith yn gyson ac, yn fy marn i, ysbryd y rheolau hynny hefyd, bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cymryd camau.

Ac o ran pryd fyddai'r cyfle cyntaf i holi'r Gweinidog ar fater nofio am ddim, gwn fod yna gwestiwn i'r Dirprwy Weinidog brynhawn yfory.

Trefnydd, I'd like to ask you for a couple of statements, if I may. First of all, could we have a statement from the Minister for Economy and Transport relating to public transport particularly in south-east Wales? I've received correspondence from constituents about difficulties in commuting from Monmouthshire to Newport and Cardiff—the city region area—and the frequency of those services. I myself drove to the Assembly today. If I hadn't driven, then I could have got the bus and the train here, but I wouldn't have been able to get back after 5 o'clock because there's no linking bus service after 5.30 p.m. from Newport or 5.45 p.m. from Abergavenny to Raglan. Sorry to bore you with my domestic issues, but that's an issue that affects all sorts of people commuting down to Cardiff. I appreciate that the metro is looking at this. Perhaps, as I've raised with the Minister in the past, the possibility of a metro hub at the new convention centre at the Celtic Manor could alleviate that. So, if there have been any discussions in that area, that would be interesting to hear.

Secondly, Members may be aware that there's been an issue in the United States, which is currently in the process of banning most flavoured e-cigarettes. Hundreds of people are suffering from a mysterious lung illness. I know that vaping products in America are different to the vaping products here—the nicotine is much stronger, the other chemicals in them are stronger—but nonetheless, there's an issue there and some of my constituents have been asking me what my opinion is. I'm not an expert on vaping, but I wonder whether we could have an update on the guidance of the Welsh Government in the light of those concerns.

And finally, it was the Usk Show recently—a very well attended event—and farmers there raised the issue of bovine TB with me and are concerned about recent increases in that disease. If we could have an update from the Welsh Government on efforts taken to tackle the disease, both in livestock but also in the animal reservoir.

And very finally, Llywydd—you've indulged me—yesterday was United Nations world ozone day, which I Facebooked and tweeted about. It's the thirty-second anniversary of the Montreal protocol that banned ozone-destroying CFC chemicals from aerosols and fridges and other utensils and household appliances. That was an enormous success. It was a positive that showed that when the world community gets together they can tackle really big environmental issues and it can be done in a way that here we are, 30 years on, and not only is the ozone hole in Antarctica now repairing itself, but it's estimated by 2060 it will be completely healed. That's brilliant news. Hopefully, your climate change emergency and that of local authorities in Wales will be able to deal with the issue of global warming and in the future we'll look back and say that was a similar success.

Trefnydd, hoffwn ofyn i chi am ychydig o ddatganiadau, os caf. Yn gyntaf oll, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y De-ddwyrain? Rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr am yr anawsterau wrth gymudo o Sir Fynwy i Gasnewydd a Chaerdydd— ardal y dinas-ranbarth—ac amlder y gwasanaethau hynny. Rwyf i wedi gyrru i'r Cynulliad heddiw. Pe na bawn i wedi gyrru, yna gallwn i fod wedi cael y bws a'r trên yma, ond fyddwn i ddim wedi gallu mynd yn ôl ar ôl 5 o'r gloch gan nad oes gwasanaeth bws yn cysylltu ar ôl 5.30 p.m. o Gasnewydd neu 5.45 p.m. o'r Fenni i Raglan. Mae'n ddrwg gennyf eich diflasu gyda'm problemau domestig, ond mae hwnnw'n fater sy'n effeithio ar bob math o bobl sy'n cymudo i Gaerdydd. Rwy'n sylweddoli bod y Metro'n edrych ar hyn. Efallai, fel y codais gyda'r Gweinidog yn y gorffennol, y gallai'r posibilrwydd o ganolbwyntio'r metro yn y ganolfan gonfensiwn newydd yn y Celtic Manor liniaru hynny. Felly, os bu unrhyw drafodaethau ynglŷn â hwnnw, byddai'n ddiddorol clywed hynny.

Yn ail, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod problem wedi bod yn yr Unol Daleithiau, sydd ar hyn o bryd yn y broses o wahardd e-sigaréts sydd â blas ynddynt . Mae cannoedd o bobl yn dioddef o salwch dirgel ar yr ysgyfaint. Gwn fod cynhyrchion e-sigaréts yn America yn wahanol i'r cynhyrchion yma—mae'r nicotin yn llawer cryfach, mae'r cemegau eraill ynddynt yn gryfach—ond serch hynny, mae problem yno ac mae rhai o'm hetholwyr wedi bod yn gofyn imi beth yw fy marn i. Dydw i ddim yn arbenigwr ar e-sigaréts, ond tybed a oes modd inni gael diweddariad ar ganllawiau Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r pryderon hynny.

Ac yn olaf, cynhaliwyd Sioe Brynbuga yn ddiweddar—digwyddiad a gefnogwyd yn dda iawn—a chododd y ffermwyr yno fater TB mewn gwartheg gyda mi ac maent yn poeni am y cynnydd diweddar yn y clefyd hwnnw. Tybed a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr ymdrechion a wneir i fynd i'r afael â'r clefyd, mewn da byw ond hefyd yn y gronfa anifeiliaid.

Ac yn olaf oll, Llywydd—rydych wedi bod yn hael gyda mi—ddoe oedd diwrnod osôn y byd y Cenhedloedd Unedig, y bûm yn sôn amdano ar Facebook ac yn trydaru yn ei gylch. Mae'r protocol Montreal, a waharddodd gemegau CFC sy'n dinistrio'r osôn o erosolau ac oergelloedd ac offer a theclynnau cartref eraill, yn dathlu ei unfed pen-blwydd ar ddeg ar hugain. Roedd hynny'n llwyddiant ysgubol. Roedd yn gadarnhaol ac fe ddangosodd, pan fo cymuned y byd yn dod at ei gilydd, y gallant fynd i'r afael â materion amgylcheddol gwirioneddol fawr a gellir gwneud hynny mewn ffordd sydd, 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn golygu nid yn unig fod y twll osôn yn yr Antartica bellach yn atgyweirio'i hun, ond fe amcangyfrifir, erbyn 2060, y bydd yn gwbl gyflawn. Mae hynny'n newyddion gwych. Gobeithio y byddwch chi ac  awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth wynebu argyfwng newid hinsawdd, yn gallu delio â mater cynhesu byd-eang ac yn y dyfodol, y byddwn yn edrych yn ôl ac yn dweud bod hynny'n llwyddiant tebyg.

15:00

Thank you very much to Nick Ramsay for raising those issues. The first related to public transport in south-east Wales and your interest in a hub at the Celtic Manor at the new convention centre, and also ensuring that public transport is at a convenient time for people to be able to get both to and from work. I'll ask the Minister for transport to provide you with an update on the latest work regarding the south Wales metro and also thoughts in terms of public transport more widely and more imminently in the area. 

In terms of e-cigarettes, I know that reports from the United States of the cluster of serious pulmonary disease amongst people who use e-cigarettes are very concerning. However, I think that it's fair to say at the moment the exact cause of the disease is unknown. But we're very clear in Welsh Government that e-cigarettes shouldn't be used by non-smokers, they should not be used by young people. At the same time, we recognise some people have found them to be helpful in terms of helping them stop smoking, but we're very clear that evidence of the longer term health affects of e-cigarette use is currently very limited. We are working with partners across Wales to develop a shared consensus about e-cigarettes that is evidence based and I'm sure that we'll have more to say on that in due course, but in the meantime we'd certainly encourage anyone who wants to quit smoking to call our free national helpline, Help Me Quit, on 0800 085 2219. We also have our helpmequit.wales website, which you can also visit as well, should anybody be interested. 

In terms of bovine TB, I know the Minister for environment and rural affairs does provide regular updates to the Assembly on that issue and I know that she'll seek to provide a further update as and when she's able to.

And I share your enthusiasm for UN world ozone day and it certainly is an example of the power that can be drawn upon when countries work together for an important reason.

Diolch yn fawr i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Roedd y cyntaf yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus yn y De-ddwyrain a'ch diddordeb mewn canolbwynt yn y ganolfan gonfensiwn newydd yn y Celtic Manor, a sicrhau hefyd fod trafnidiaeth gyhoeddus ar adeg gyfleus i bobl allu mynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Trafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwaith diweddaraf o ran Metro De Cymru a hefyd y farn ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ehangach ac yn gynt yn yr ardal.

O ran e-sigaréts, gwn fod adroddiadau gan yr Unol Daleithiau o'r clwstwr o glefyd yr ysgyfaint difrifol ymysg pobl sy'n defnyddio e-sigaréts yn peri pryder mawr. Fodd bynnag, credaf ei bod yn deg dweud ar hyn o bryd nad ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi'r clefyd. Ond rydyn ni'n glir iawn yn Llywodraeth Cymru na ddylai e-sigaréts gael eu defnyddio gan bobl nad ydynt yn ysmygu, ac na ddylai pobl ifanc eu defnyddio. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod rhai pobl wedi'u cael yn ddefnyddiol o ran eu helpu i roi'r gorau i ysmygu, ond rydym yn glir iawn mai prin iawn yw'r dystiolaeth o effeithiau iechyd tymor hwy ar ddefnyddio e-sigaréts ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu consensws ar y cyd am e-sigaréts sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac rwy'n siŵr y bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny maes o law. Yn y cyfamser byddem yn sicr yn annog unrhyw un sydd am roi'r gorau i ysmygu i gysylltu â'n llinell gymorth genedlaethol am ddim, Helpa fi i Stopio, ar 0800 085 2219. Mae gennym hefyd ein gwefan helpafiistopio.cymru y gallwch ymweld â hi hefyd, os oes gan unrhyw un ddiddordeb.  

O ran TB mewn gwartheg, rwy'n gwybod bod y Gweinidog dros yr Amgylchedd a materion gwledig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r Cynulliad ar y mater hwnnw a gwn y bydd yn ceisio darparu diweddariad pellach pan fydd hi'n gallu gwneud hynny.

Ac rwyf yn rhannu eich brwdfrydedd am ddiwrnod oson y byd ac mae'n sicr yn enghraifft o'r pŵer y gellir ei greu pan fydd gwledydd yn gweithio gyda'i gilydd am reswm pwysig.

Cyn toriad yr haf, fe gafwyd ymrwymiad gennych chi, a dwi'n dyfynnu,

'y bydd dadl ar 'Cynllun Gwên: 10 mlynedd o wella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru' ar y diwrnod cyntaf yn ôl ym mis Medi'.

Wel, heddiw yw'r diwrnod cyntaf yn ôl, a does yna ddim dadl. Dwi'n gwybod bod y pwyllgor iechyd yn dod â dadl gerbron ddechrau mis nesaf, ond mae'r Llywodraeth eisoes wedi gwrthod eu hargymhellion nhw ar gyfer rhoi mwy o arian tuag at wasanaethau deintyddol, sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i mi.

Mae hi yn argyfwng. Ar gyfartaledd, dim ond 15 y cant o feddygfeydd yng Nghymru sydd yn derbyn cleifion sy'n oedolion drwy'r NHS, a dim ond 27 y cant sy'n derbyn plant. Does yna ddim un o'r ymarferwyr deintyddol yn Arfon yn cymryd cleifion newydd ar yr NHS, ac mae hynny'n cynnwys plant.

Mae angen i'r Llywodraeth yma wynebu'r realiti yma, ond, ar hyn o bryd, dydych chi ddim hyd yn oed yn fodlon cynnal dadl ar y mater. Felly, gaf i ofyn am ddadl ac am ddiweddariad ar fyrder, ac eglurhad o beth fydd y camau gweithredu y byddwch chi yn eu cymryd a sut rydych chi'n mynd i daclo'r argyfwng yma ar draws Cymru, gan gynnwys Arfon?

Before the summer recess, there was a commitment from you, and I quote, that

'there'll be a debate on 'Designed to Smile: 10 years of improving children's oral health in Wales' on the first day back in September'.

Well, today is that first day back and there is no debate. I know that the health committee is to bring a debate forward at the beginning of next month, but the Government has already rejected their recommendations for providing more funding for dental services, which makes no sense whatsoever to me.

It is critical. At the moment, only 15 per cent of surgeries in Wales are taking adult patients through the NHS and only 27 per cent take children. There are no dental practitioners in Arfon taking new patients on the NHS, and that includes children.

The Government here needs to face this reality, but at the moment you’re not even willing to hold a debate on the matter. So, may I ask for a debate and update as a matter of urgency, and an explanation of what the steps that you will take are and how you’re going to tackle this crisis across Wales, including in Arfon?

15:05

Unfortunately, we did have to move the item, as I illustrated at the start of the business statement today—the item on oral health amongst children—to a written statement, and that was to accommodate the statement that I'll be making this afternoon on the impacts for us of the spending round and, obviously, the statement that the Minister will be making on Brexit.

I understand, probably as much as or more than most people, the huge pressures that there are in order to accommodate all of the requests that we receive in the business statement. I often receive four requests from a single individual during a business statement. Clearly, on a normal business day, we would only have four debates or statements. So, we do our best to accommodate Members as much as possible.

On this occasion, we have, unfortunately, had to turn that proposed statement into a written statement, but the Minister has been here to hear your comments and I know that he will be keen to provide an update on dental issues in an appropriate way as soon as possible.

Yn anffodus, bu'n rhaid inni symud yr eitem, fel y dywedais ar ddechrau'r datganiad busnes heddiw—yr eitem ar iechyd y geg ymysg plant—i ddatganiad ysgrifenedig, ac roedd hynny i gynnwys y datganiad y byddaf yn ei wneud y prynhawn yma ar yr effeithiau i ni o'r cylch gwario ac yn amlwg, y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud ar BREXIT.

Rwy'n deall cymaint os nad yn fwy na'r rhan fwyaf o bobl y pwysau enfawr o allu darparu ar gyfer yr holl geisiadau a gawn yn y datganiad busnes. Rwy'n aml yn derbyn pedwar cais gan un unigolyn yn ystod datganiad busnes. Yn amlwg, ar ddiwrnod busnes arferol, dim ond pedair dadl neu ddatganiad y byddem yn eu cael. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i dderbyn ceisiadau'r Aelodau cymaint â phosibl.

Y tro hwn, yn anffodus rydym wedi gorfod troi'r datganiad arfaethedig hwnnw'n ddatganiad ysgrifenedig. Ond mae'r Gweinidog wedi bod yma i glywed eich sylwadau a gwn y bydd yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion deintyddol mewn ffordd briodol cyn gynted â phosibl.

Could the Minister make a statement on the problems encountered by my constituents with regard to the obligatory application to renew their bus pass, which has to be completed by the end of December? Apparently, there has been a complete shutdown of the site where they could complete the application online, and the telephone service has also crashed. Surely, the volumes of applications should have been anticipated and the structures put in place to cope with the high volume of demand. A fundamental question has to be asked: why was the operation necessary in the first place? All of the necessary information would already be held by the local authorities, so the information could surely have been gleaned from these sources. It would only have been necessary for those whose details have changed to reapply. Surely, this is just another example of taxpayers' money being wasted, not to mention the anxiety caused to so many people who rely on their bus pass to move around.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y problemau sy'n wynebu fy etholwyr i o ran y cais gorfodol i adnewyddu eu tocyn bws, a hynny erbyn diwedd mis Rhagfyr? Mae'n debyg bod y safle ar gyfer llenwi'r cais ar-lein wedi cau'n llwyr, ac mae'r gwasanaeth ffôn wedi chwalu hefyd. Siawns na ddylid bod wedi rhagweld maint y ceisiadau a rhoi'r strwythurau ar waith i ymdopi â'r galw mawr. Rhaid gofyn cwestiwn sylfaenol: pam oedd angen y cam hwn yn y lle cyntaf? Byddai'r holl wybodaeth angenrheidiol eisoes yn cael ei chadw gan yr awdurdodau lleol, felly mae'n sicr y gallai'r wybodaeth fod wedi'i chasglu o'r ffynonellau hynny. Dim ond y rheini y mae eu manylion wedi newid fyddai angen ailymgeisio. Siawns nad yw hyn yn ddim ond enghraifft arall o wastraffu arian trethdalwyr, heb sôn am y pryder a achosir i gynifer o bobl sy'n dibynnu ar eu pas bws i deithio.

Transport for Wales is managing the issue of the new-style concessionary travel cards across Wales on behalf of the Welsh Government and the 22 local authorities. The scheme is still owned by the local councils. The new-style cards will offer the same free travel rights and benefits as the current card, and the new-style cards are required because the current bus passes won't be recognised on electronic readers on buses after 31 December this year. The new cards, crucially, are also designed to work as part of an integrated travel network in the future. It's true to say that Transport for Wales has experienced an exceptionally high volume of hits to their new concessionary travel card site since its launch on 11 September. I've had, as many Members will, many members of the public contact me about this. Transport for Wales has taken down the new website to boost the capacity to better manage the traffic, and I understand that it will be back in operation today. But, really, the message to current cardholders is that there really is plenty of time to apply for those new cards. Their cards will be accepted right through until 31 December 2019, so we do encourage applicants to visit the website in the coming days, once demand has reduced.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli'r mater o gardiau teithio rhatach ar ffurf newydd ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a'r 22 awdurdod lleol. Y cynghorau lleol sy'n berchen ar y cynllun o hyd. Bydd y cardiau ar eu newydd wedd yn cynnig yr un hawliau a buddiannau teithio am ddim â'r cerdyn presennol, ac mae angen y cardiau ar ffurf newydd gan na fydd y tocynnau bws presennol yn cael eu cydnabod ar ddarllenwyr electronig ar fysiau ar ôl 31 Rhagfyr eleni. Yn hollbwysig, dyluniwyd y cardiau newydd hefyd i weithio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol. Mae'n wir dweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi profi nifer aruthrol o uchel o ymweliadau â'u safle cerdyn teithio rhatach newydd ers ei lansio ar 11 Medi. Rwyf i, fel y bydd llawer o'r Aelodau, wedi cael nifer o aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â mi ynglŷn â hyn. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu'r wefan newydd i lawr er mwyn cynyddu'r capasiti i reoli'r ceisiadau'n well, a deallaf y bydd yn cael ei rhoi ar waith heddiw eto. Ond, mewn gwirionedd, y neges i ddeiliaid cerdyn presennol yw bod digon o amser mewn gwirionedd i wneud cais am y cardiau newydd hynny. Bydd eu cardiau'n cael eu derbyn hyd at 31 Rhagfyr 2019, felly rydym yn annog ymgeiswyr i ymweld â'r wefan yn y dyddiau nesaf, pan fydd y galw wedi lleihau.

I would like to ask for a Government statement on the role of planning inspectors and the rules under which they work. It is well known that I do not believe that there is a role for planning inspectors overruling democratic decisions made by council planning committees, as opposed to the ombudsman and judicial review for all other decisions made by councils. I do not understand why inspectors ignore supplementary planning guidance that has been approved by the Welsh Government. Perhaps the statement could explain why both local and nationally agreed policy can be ignored by planning inspectors.  

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am swyddogaeth arolygwyr cynllunio a'r rheolau y maent yn gweithio oddi tanynt. Mae'n hysbys nad wyf yn credu bod swyddogaeth i arolygwyr cynllunio sy'n goruwchreoli penderfyniadau democrataidd a wneir gan bwyllgorau cynllunio cynghorau, yn hytrach na'r Ombwdsmon a'r adolygiad barnwrol ar gyfer pob penderfyniad arall a wneir gan gynghorau. Nid wyf yn deall pam y mae arolygwyr yn anwybyddu canllawiau cynllunio atodol sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Efallai y gallai'r datganiad egluro pam y gall arolygwyr cynllunio anwybyddu polisi lleol a pholisi y cytunwyd arno'n genedlaethol.

15:10

Thank you, Mike. I think in the first instance it might be helpful if I liaise with my colleague Julie James to offer a technical briefing from the appropriate officers within planning in order to have that opportunity to ask the detailed questions that you have. 

Diolch, Mike. Yn y lle cyntaf, credaf y byddai'n ddefnyddiol petawn i'n cysylltu â'm cydweithiwr, Julie James, i gynnig briff technegol gan y swyddogion priodol yn y maes cynllunio er mwyn cael y cyfle hwnnw i ofyn y cwestiynau manwl sydd gennych.

Minister, may I ask for a statement from the Deputy Minister and Chief Whip about the Welsh Government action plan to advance equality for transgender people published three years ago, in 2016? The Assembly will be aware that the equality impact assessments are a process designed to ensure that a policy, project and scheme does not discriminate against any disadvantaged or vulnerable person or people in our society. However, in response to a Freedom of Information Act 2000 request for a copy of the assessment relating to this action plan, the Welsh Government replied that they do not hold the required information. When pressed for further comments, the response received was—and the quote is, Minister—

'I understand that at the time of the development of the action plan an equality impact assessment was undertaken, to be updated throughout the consultation process.'

The quote continues:

'We have undertaken a thorough search, unfortunately, it appears that this document has since been deleted from our electronic record system and is not available to access.'

Minister, can we have a statement from the Deputy Minister on this unsatisfactory situation, and what action she intends to take to review the plan to ensure it meets its objective of advancing equality for transgender people in Wales, please? 

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl drawsrywiol a gyhoeddwyd tair blynedd yn ôl, yn 2016? Bydd y Cynulliad yn ymwybodol bod yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn broses a luniwyd i sicrhau nad yw polisi, prosiect na chynllun yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn neu bobl ddifreintiedig neu agored i niwed yn ein cymdeithas. Fodd bynnag, mewn ymateb i gais am gopi o'r asesiad sy'n ymwneud â'r cynllun gweithredu hwn yn ôl Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, atebodd Llywodraeth Cymru nad yw'n cadw'r wybodaeth ofynnol. Pan roddwyd pwysau i gael sylwadau pellach, yr ymateb a gafwyd oedd—ac rwy'n dyfynnu, Gweinidog—

Deallaf, ar adeg datblygu'r cynllun gweithredu, fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal, i'w ddiweddaru drwy gydol y broses ymgynghori.

Mae'r dyfyniad yn parhau:

Rydym wedi gwneud archwiliad trwyadl, ac yn anffodus mae'n ymddangos bod y ddogfen hon wedi cael ei dileu o'n system cofnodion electronig ers hynny ac nad yw ar gael i'w chyrchu.'

Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa anfoddhaol hon, a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i adolygu'r cynllun i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcan o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl drawsrywiol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Thank you, Mohammad Asghar. Of course, the Deputy Minister is here to hear your comments, but clearly it is a matter of regret that the equality impact assessment relating to the 2016 action plan to advance the equality of transgender people cannot be located. However, it is important to note that the action plan focused on training, support and awareness raising, and challenging transphobic attitudes, rather than being operational guidance. Safeguarding is paramount, and all organisations are bound by relevant and appropriate safeguarding procedures. But I know that the Deputy Minister has heard your concern on this issue. 

Diolch, Mohammad Asghar. Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yma i glywed eich sylwadau, ond mae'n amlwg yn destun gofid na ellir lleoli'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud â chynllun gweithredu 2016 i hybu cydraddoldeb pobl drawsrywiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi i'r cynllun gweithredu ganolbwyntio ar hyfforddiant, cymorth a chodi ymwybyddiaeth, a herio agweddau trawsffobig, yn hytrach na bod yn arweiniad gweithredol. Mae diogelu yn hollbwysig, ac mae pob sefydliad yn rhwym wrth weithdrefnau diogelu perthnasol a phriodol. Ond gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich pryder am y mater hwn.

On the first Saturday of this month, thousands gathered in Penderyn Square in Merthyr for a march for independence. However, many were unable to attend due to the lack of sufficient capacity on train services to Merthyr. Many trains were packed to the brim, with some trains bypassing some stations altogether due to the carriages being full from Cardiff Central. It simply isn't good enough to have a small number of carriages on days when major events are taking place, and this wasn't a one-off. When rugby internationals are held in Cardiff, there are often similar issues. What message are we sending to the world about Wales when we can't provide train services to an acceptable standard? I accept that improvements take time, but we are well over a year into the new contract, and it seems that although there have been improvements on some services, some are still Arriva trains in all but name. Will the Welsh Government provide a statement on what it will be doing in partnership with Transport for Wales to ensure there is sufficient capacity in future for major events of this sort that have been publicised well in advance?   

Ar y dydd Sadwrn cyntaf o'r mis hwn, ymgasglodd miloedd yn Sgwâr Penderyn ym Merthyr ar gyfer gorymdaith dros annibyniaeth. Fodd bynnag, nid oedd llawer o bobl yn gallu bod yno oherwydd diffyg capasiti digonol ar wasanaethau trenau i Ferthyr. Roedd llawer o drenau wedi'u llenwi i'r eithaf, gyda rhai trenau'n osgoi rhai gorsafoedd yn gyfan gwbl am fod y cerbydau'n llawn o orsaf Canol Caerdydd. Nid yw'n ddigon da cael nifer fach o gerbydau ar ddiwrnodau pan fo digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal, ac nid digwyddiad untro yw hyn. Pan fydd gemau rygbi rhyngwladol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, mae yna broblemau tebyg yn aml. Pa neges yr ydym yn ei hanfon i'r byd am Gymru pan na allwn ddarparu gwasanaethau trên i safon dderbyniol? Derbyniaf fod gwelliannau'n cymryd amser, ond rydym ymhell dros flwyddyn i mewn i'r contract newydd, ac mae'n ymddangos, er bod rhai gwasanaethau wedi gwella, fod rhai'n dal yn drenau Arriva ym mhob dim ond enw. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad ar yr hyn y bydd yn ei wneud mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau mawr o'r math hwn sydd wedi cael cyhoeddusrwydd da ymlaen llaw?

The Minister for Economy and Transport will be making a statement on a railway for Wales in Plenary next Tuesday, so this would be a good opportunity to hear from him on those concerns. 

Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar reilffordd i Gymru yn y cyfarfod llawn ddydd Mawrth nesaf, felly byddai hyn yn gyfle da i glywed ganddo am y pryderon hynny.

Trefnydd, I would like to request an update from the Welsh Government on job losses that have been announced by BSW Sawmills Ltd of Newbridge-on-Wye in Powys. I received correspondence on this matter and it does say that there'll be a total of 33 redundancies, and 11 of those are people who are employed on a temporary basis. I know that this figure doesn't seem really high for some people in this Chamber, but for an area of Powys where there are very few jobs that are well paid, this is a very high number, 33 redundancies. So, I'm keen to know what discussions Welsh Government have had with the sawmills on this particular matter, and what assistance might or is being given to those impacted by this news. Constituents are concerned that further job losses may be announced in the very near future.

Trefnydd, hoffwn ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar golli swyddi a gyhoeddwyd gan BSW Sawmills Ltd o'r Bontnewydd ar Wy ym Mhowys. Cefais ohebiaeth ar y mater hwn ac mae'n dweud y bydd cyfanswm o 33 o ddiswyddiadau, ac mae 11 o'r rheini'n bobl sy'n cael eu cyflogi dros dro. Gwn nad yw'r ffigur hwn yn ymddangos yn uchel iawn i rai pobl yn y Siambr hon, ond i ardal o Bowys lle mae ychydig iawn o swyddi sy'n talu'n dda, mae hyn yn nifer uchel iawn, 33 o ddiswyddiadau. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r melinau llifio ar y mater penodol hwn, a pha gymorth y gellid ei roi, neu sy'n cael ei roi, i'r rhai y mae'r newyddion hyn yn effeithio arnynt. Mae etholwyr yn pryderu y gall cyhoeddiad am golli rhagor o swyddi ddod yn y dyfodol agos iawn.

15:15

Thank you, Joyce Watson, for raising this issue. She's quite right that 33 job losses in a fairly small community can have a huge impact on that community and the life of that community. I'll ask the Minister for Economy and Transport to provide you with an update on the discussions that Welsh Government has had and any support that can be given to the affected workers.

Diolch ichi, Joyce Watson, am godi'r mater hwn. Mae hi'n hollol iawn y gall 33 o swyddi a gollir mewn cymuned eithaf bach gael effaith enfawr ar y gymuned honno ac ar fywyd y gymuned honno. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ac unrhyw gymorth y gellir ei roi i'r gweithwyr yr effeithir arnynt.

Can I call for two statements? Firstly, on drugs, related to drug poisoning in Wales. This follows the publication during the Assembly summer recess of Office for National Statistics figures showing deaths related to drug poisoning in England and Wales 2018. These revealed that Wales has the second-highest figures amongst 10 areas—nine English regions and Wales. Wales had both the second biggest increase in its rate over the last 10 years, an 84 per cent increase, and the second-highest age-standardised mortality rate for deaths per million related to drugs misuse by country and region registered in 2018. Given that the Welsh Government has been responsible for tackling substance misuse policy in Wales for two decades now, Llywydd, this merits a statement and I hope this might be forthcoming.

Secondly, and finally, I call for a statement on funding for a social enterprise accelerator in north Wales. For the past five years work involving Bangor University and colleagues in Wales and Ireland has been ongoing to develop a social enterprise accelerator. They've been told several times over the last two years that €3.4 million of INTERREG funding has been ring-fenced for their project. However, repeated delays from the Welsh European Funding Office, part of the Welsh Government, have now led to a situation where the ring-fenced funding could possibly be returned to Europe unspent. They say that if WEFO had decided there were better projects to fund, that would be understood, but the social enterprise accelerator has already had its initial application and its stage 1 business plan approved, but the process of approving the project has taken so long that it looks like they could now run out of time when there were times when they were waiting three months even to receive a response to correspondence. They say that if nothing can be done the unacceptable delays from WEFO will have cost the economies of north and west Wales over £1.7 million in funding when a similar project in the south-west of England has already delivered over £16 million of economic value and supported the creation of over 1,000 jobs. So, will you provide a statement noting that they've said to me that if we're not too late, they'd be grateful if you could see whether anything can still be done to ensure the project proposal is assessed in time to secure this ring-fenced funding?

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar gyffuriau, yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn ystod toriad haf y Cynulliad o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr 2018. Datgelodd y rhain fod gan Gymru y ffigurau ail uchaf ymhlith 10 ardal—naw rhanbarth yn Lloegr a Chymru. Yng Nghymru y cafwyd y cynnydd mwyaf ond un yn ei chyfradd dros y 10 mlynedd diwethaf, cynnydd o 84 y cant, a'r gyfradd marwolaethau ail uchaf yn ôl oed safonedig ar gyfer marwolaethau fesul miliwn yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau yn ôl gwlad a rhanbarth a gofrestrwyd yn 2018. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am fynd i'r afael â pholisi camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ers dau ddegawd bellach, Llywydd, mae hyn yn haeddu datganiad ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn digwydd.

Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar gyllid ar gyfer sbardunwr menter gymdeithasol yn y Gogledd. Dros y pum mlynedd diwethaf mae gwaith sy'n cynnwys Prifysgol Bangor a chydweithwyr yng Nghymru ac Iwerddon wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu sbardunwr menter gymdeithasol. Maen nhw wedi cael gwybod sawl gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf bod €3.4 miliwn o gyllid INTERREG wedi'i neilltuo ar gyfer eu prosiect. Fodd bynnag, mae'r oedi a fu dro ar ôl tro gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, rhan o Lywodraeth Cymru, bellach wedi arwain at sefyllfa lle gallai'r arian sydd wedi'i neilltuo gael ei ddychwelyd i Ewrop heb ei wario. Dywedant os oedd WEFO wedi penderfynu bod prosiectau gwell i'w hariannu, y byddai hynny'n cael ei ddeall, ond mae'r sbardunwr menter gymdeithasol eisoes wedi cael ei gais cychwynnol a chymeradwywyd ei gynllun busnes cyfnod 1. Mae'r broses o gymeradwyo'r prosiect wedi cymryd cymaint o amser fel ei bod yn edrych fel y gallent redeg allan o amser yn awr a chafwyd adegau pan oeddent yn aros tri mis hyd yn oed i gael ymateb i ohebiaeth. Dywedant y bydd yr oedi annerbyniol gan WEFO, os na ellir gwneud dim, wedi costio dros £1.7 miliwn o gyllid i economïau'r Gogledd a'r Gorllewin pan fo prosiect tebyg yn ne-orllewin Lloegr eisoes wedi cyflawni dros £16 miliwn o werth economaidd ac wedi cefnogi'r gwaith o greu dros 1,000 o swyddi. Felly, a wnewch chi ddarparu datganiad yn nodi eu bod wedi dweud wrthyf i, os nad ydym yn rhy hwyr, y byddent yn ddiolchgar pe gallech weld a ellir gwneud unrhyw beth o hyd i sicrhau y caiff y cynnig am brosiect ei asesu mewn pryd i sicrhau'r cyllid hwn sydd wedi'i glustnodi?

Thank you very much for raising those issues. The Minister for Health and Social Services is currently consulting on the next substance misuse delivery plan, so I think that would be an opportunity for Mark Isherwood to explore that plan to ensure that he's satisfied that it addresses the kind of issues that he described relating to drug poisoning. So, any contribution that he would have to that consultation, I know, would be welcomed, and then the Minister will obviously update the Assembly on the issue when the consultation has closed.

Regarding the social enterprise accelerator, I'll certainly look into that matter myself and then try to get to the bottom of what the delay is.

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y cynllun cyflawni nesaf ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Felly credaf y byddai hynny'n gyfle i Mark Isherwood archwilio'r cynllun hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn fodlon ei fod yn mynd i'r afael â'r math o faterion y mae'n eu disgrifio yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau. Felly, gwn y byddai unrhyw gyfraniad y byddai'n ei gael i'r ymgynghoriad hwnnw yn cael ei groesawu, ac yna bydd y Gweinidog yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater pan fydd yr ymgynghoriad wedi cau.

O ran y sbardunwr mentrau cymdeithasol, byddaf yn sicr yn ymchwilio i'r mater hwnnw fy hun ac yna'n ceisio mynd at wraidd yr oedi.

Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â thrafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Ineos ynglŷn â'r potensial ar gyfer creu 500 o swyddi pan fydd Ford—. Wel, mae Ford wedi dweud y byddan nhw'n gadael safle Pen-y-bont. Os ydy hynny am ddigwydd, dŷn ni ar ddeall o'r Financial Times fod gan Jim Ratcliffe ddiddordeb yn y safle hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud bod gen i beth consýrn yn hynny o beth o ran ei drac record ar hawliau gweithwyr, ond yn ôl yr erthygl honno, mae yna drafodaethau wedi digwydd a hoffwn i gael datganiad gennych chi fel Llywodraeth i adael i ni wybod fel Aelodau—wel, nid jest Aelodau sydd yn cynrychioli'r ardal honno, ond pob un ohonom i wybod beth yw safon y trafodaethau hynny.

I'd like to ask for an update on what's happened in terms of the discussions between the Welsh Government and Ineos on the potential for the creation of 500 jobs when Ford—. Well, Ford have said that they are to leave the Bridgend site. If that does happen, we're given to understand from the Financial Times that Jim Ratcliffe is interested in that site. I have to say that I do have some reservations in that regard in terms of his track record on workers' rights, but according to that article, there have been discussions and I would like a statement from you as Government to inform us as Members—not just Members representing that area, but each and every one of us—so that we know what the state of those negotiations is.

The second request for a statement is—and I'm pleased the health Minister is here to hear me because I'm getting increasingly frustrated—about the fact that we are having no progress at all on the announcement as to what is happening with the eating disorders framework. I've been pretty tolerant, I think, in trying to wait for the outcome of the framework, but I've come to the point now where I've had to write an open letter to the Minister because he hasn't answered a letter that I wrote to him in July, with campaigners, with sufferers, who took part in good faith as part of that eating disorders framework review, who want to see positive changes, who want to work with the Minister, but are deeply frustrated at feeling ignored by him and his team. Please, I do not want to stand up here week in, week out asking for a statement on this. These are people's lives, people who have suffered eating disorders all their lives. Please, please act.

Mae'r ail gais am ddatganiad—ac rwy'n falch bod y Gweinidog Iechyd yma i'm clywed gan fy mod yn mynd yn fwyfwy rhwystredig—yn ymwneud â'r ffaith nad ydym yn cael unrhyw gynnydd o gwbl ar y cyhoeddiad o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta. Rwyf wedi bod yn eithaf goddefgar, rwy'n credu, wrth geisio aros am ganlyniad y fframwaith, ond rwyf wedi dod i'r pwynt yn awr lle'r wyf wedi gorfod ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog am nad yw wedi ateb llythyr a ysgrifennais ato ym mis Gorffennaf. Mae ymgyrchwyr a dioddefwyr a gymerodd ran yn ddidwyll fel rhan o'r adolygiad hwnnw o'r fframwaith anhwylderau bwyta, sydd am weld newidiadau cadarnhaol, sydd am weithio gyda'r Gweinidog, ond sy'n teimlo'n rhwystredig iawn wrth deimlo bod ef a'i dîm yn eu hanwybyddu. Os gwelwch yn dda, nid wyf eisiau sefyll yma wythnos ar ôl wythnos yn gofyn am ddatganiad ar hyn. Rydym yn sôn am fywydau pobl, pobl sydd wedi dioddef anhwylderau bwyta ar hyd eu hoes. Gweithredwch os gwelwch yn dda.

15:20

With regard to your interest in Ineos—and I'm aware of the FT article as well—I know that when there is an announcement to be made, the economy and transport Minister will make that announcement.

With regard to the eating disorders framework, I'm advised by the health Minister that he will be making a public statement in the coming weeks.

O ran eich diddordeb yn Ineos—ac rwy'n ymwybodol o'r erthygl FT hefyd—gwn, pan fydd cyhoeddiad i'w wneud, y bydd y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw.

O ran y fframwaith anhwylderau bwyta, mae'r Gweinidog Iechyd yn fy nghynghori y bydd yn gwneud datganiad cyhoeddus yn ystod yr wythnosau nesaf.

First, I'd just like to associate myself with the concerns expressed by Nick Ramsay on e-vaping. It's interesting to note that Peter Black, who opposed the legislation on e-vaping that was presented by the then health Minister, now First Minister, to give it the same regulatory controls as smoking cigarettes—. So I'd be keen to understand clearly why the regulations in the UK protect us from the serious risks that have occurred in the United States. I think that's the specific thing that I'd like to see. Is it that regulation is better in the UK, and specifically in Wales, to ensure that we're not getting the deaths that have been associated with vaping in the United States, and people becoming seriously ill who were otherwise healthy in every respect?

Secondly, I want to highlight the fact that Cardiff University recently secured £3.6 million in European funds for its electron microscope facility to develop cutting-edge research in catalysis, which will speed up cleaner, cheaper, safer ways of manufacturing goods, and entirely relevant to John Griffiths's points made in the First Minister's questions about electrical steel. This is exactly the sort of research we need, and I want to contrast that opportunity for developing safer, more sustainable, greener manufacturing in Wales, which we are getting as a result of that EU grant, with the alarm being expressed by university vice-chancellors. Four in five university vice-chancellors are having to worry about where they're going to source their toilet paper or how they're going to feed their students who are in residential halls were there to be a 'no deal' Brexit. In Cardiff, in particular, over 700 staff are EU citizens, and how are they going to be replaced? They are engaging in really important research, so it'd be really useful to have a statement from the Government about the impact of 'no deal' on our university sector, not just Cardiff University.

And lastly a specific question about the 'no deal' preparations the Government is making in relation to our clean water because, from the Welsh Government statement, I understand that there are chemicals that are sourced from Europe that help to keep our water clean. So, I'd like to know the specifics on what are these chemicals, why it's not possible for us to produce them in the UK, and how, under these very catastrophic circumstances, we are going to maintain a clean water supply for our citizens. Because that, ultimately, is the most important thing that we have to do.

Yn gyntaf, hoffwn gysylltu fy hun â'r pryderon a fynegwyd gan Nick Ramsay ynghylch  e-sigaréts. Mae'n ddiddorol nodi bod Peter Black, a wrthwynebodd y ddeddfwriaeth ar e-sigaréts a gyflwynwyd gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, sef y Prif Weinidog bellach, i roi'r un rheolaethau rheoleiddio iddo ag ysmygu sigaréts—. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall yn glir pam mae'r rheoliadau yn y DU yn ein diogelu rhag y risgiau difrifol sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu mai dyna'r peth penodol yr hoffwn ei weld. Ai'r ffaith yw bod y rheoleiddio'n well yn y DU, ac yn benodol yng Nghymru, i sicrhau nad ydym yn cael y marwolaethau sydd wedi bod yn gysylltiedig ag e-sigaréts yn yr Unol Daleithiau, a phobl yn mynd yn ddifrifol wael a oedd fel arall yn iach ym mhob ffordd?

Yn ail, hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau £3.6 miliwn o arian Ewropeaidd yn ddiweddar ar gyfer ei chyfleuster microsgop electron i ddatblygu ymchwil flaengar mewn catalysis, a fydd yn cyflymu ffyrdd glanach, rhatach a mwy diogel o weithgynhyrchu nwyddau, ac yn gwbl berthnasol i bwyntiau John Griffiths a wnaed yng nghwestiynau'r Prif Weinidog am ddur trydanol. Dyma'r union fath o ymchwil y mae arnom ei hangen, ac rwyf eisiau cyferbynnu'r cyfle hwnnw i ddatblygu gweithgynhyrchu mwy diogel, mwy cynaliadwy a gwyrddach yng Nghymru, a gawn o ganlyniad i'r grant hwnnw gan yr UE, â'r rhybudd sy'n cael ei fynegi gan is-gangellorion prifysgol. Mae pedwar o bob pum is-ganghellor prifysgol yn gorfod poeni ynghylch lle maen nhw'n mynd i gael naill ai eu papur tŷ bach neu sut maent yn mynd i fwydo eu myfyrwyr mewn neuaddau preswyl yn achos BREXIT 'heb gytundeb'. Yng Nghaerdydd yn benodol, mae dros 700 o staff yn ddinasyddion yr UE, a phwy fydd yn cymryd eu lle hwy? Maen nhw'n gwneud ymchwil gwirioneddol bwysig, felly byddai'n ddefnyddiol iawn cael datganiad gan y Llywodraeth am effaith 'dim bargen' ar ein sector prifysgolion, nid Prifysgol Caerdydd yn unig.

Ac yn olaf, cwestiwn penodol am y paratoadau 'dim cytundeb' y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud mewn cysylltiad â'n dŵr glân, oherwydd deallaf, o ddatganiad Llywodraeth Cymru, fod cemegau sy'n dod o Ewrop sy'n helpu i gadw ein dŵr yn lân. Felly, hoffwn wybod beth yw'r manylion ar beth yw'r cemegau hyn, pam nad yw'n bosibl i ni eu cynhyrchu yn y DU, a sut, o dan yr amgylchiadau trychinebus ofnadwy hyn, yr ydym yn mynd i gynnal cyflenwad dŵr glân ar gyfer ein dinasyddion. Oherwydd, yn y pen draw, dyna'r peth pwysicaf y mae'n rhaid inni ei wneud.

I thank Jenny Rathbone for raising the issue and for associating herself with Nick Ramsay's comments on e-cigarettes and the concern about what we've seen in the United States. We are working with partners to agree a common position, based on the best and most recent evidence. And, obviously, I think the Welsh Government will be keen to share that common position when we have arrived at it.

There's a statement from the Minister for Brexit later on this afternoon—I think it's the next item of business—so that would be an opportune moment to ask some of the questions you've just raised in the most recent contribution. But I think the way you've described our membership of the European Union—the support we've had for innovation and for safe, sustainable manufacturing and the exciting potential future there—and then contrast that with the concerns that you've described about the things that university vice-chancellors are having to concern themselves with and spend their time on, that really does demonstrate the kind of impact that Brexit will have on us and what we would be losing were we to leave the European Union.

On the issue of water, you'll be aware that Welsh Government did produce the action plan identifying the strategic risks that we're aware of and setting out what we are doing in those areas, and I can confirm that Dŵr Cymru is working with the Government and the wider water industry to ensure a continuous high-quality supply of drinking water in all eventualities.

Diolch i Jenny Rathbone am godi'r mater ac am gysylltu ei hun â sylwadau Nick Ramsay am e-sigaréts a'r pryder am yr hyn yr ydym wedi'i weld yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar safbwynt cyffredin, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau a mwyaf diweddar. Ac yn amlwg, rwy'n credu y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i rannu'r safbwynt cyffredin hwnnw pan fyddwn ni wedi cyrraedd y sefyllfa honno.

Mae datganiad gan y Gweinidog dros Brexit yn ddiweddarach y prynhawn yma—rwy'n credu mai dyma'r eitem nesaf o fusnes—felly byddai hynny'n gyfle i ofyn rhai o'r cwestiynau yr ydych chi newydd eu codi yn y cyfraniad mwyaf diweddar. Ond y ffordd yr ydych wedi disgrifio ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—y gefnogaeth a gawsom ar gyfer arloesi ac ar gyfer gweithgynhyrchu diogel a chynaliadwy a'r potensial cyffrous yn y dyfodol—ac yna gyferbynnu hynny â'r pryderon a ddisgrifiwyd gennych am y pethau y mae is-gangellorion prifysgolion yn gorfod ymwneud â nhw a threulio eu hamser arnynt, mae hynny' n dangos yn wirioneddol y math o effaith y bydd Brexit yn ei chael arnom a'r hyn y byddem yn ei golli pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

O ran dŵr, byddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r cynllun gweithredu yn nodi'r risgiau strategol yr ydym yn ymwybodol ohonynt ac yn nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y meysydd hynny, a gallaf gadarnhau bod Dŵr Cymru'n gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant dŵr ehangach i sicrhau cyflenwad parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer pob posibilrwydd.

15:25

I'm looking at the Government's statement on making the fight against knife crime an absolute Government priority. I attended a very well-attended vigil in Cardiff recently with lots of parents and lots of young people, and it was an education to listen, especially to the young people talking about how they are affected by knife crime. I'm wondering whether or not Government Ministers or officials will sit down and meet with campaigners to discuss ways of taking action in the future, because this needs to be an absolute priority.

Rwy'n edrych ar ddatganiad y Llywodraeth ar wneud y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll yn un o flaenoriaethau absoliwt y Llywodraeth. Euthum i wylnos a gefnogwyd yn dda iawn yng Nghaerdydd yn ddiweddar gyda llawer o rieni a llawer o bobl ifanc, ac roedd yn addysg i wrando, yn enwedig ar y bobl ifanc a oedd yn sôn am sut y mae troseddau cyllyll yn effeithio arnynt. Tybed a fydd Gweinidogion neu swyddogion y Llywodraeth yn eistedd ac yn cyfarfod ag ymgyrchwyr i drafod ffyrdd o weithredu yn y dyfodol, oherwydd mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth absoliwt.

Thank you for raising this really important issue of the fight against knife crime. I know it's something that the police and crime commissioner has also taken a particular interest in—the south Wales police and crime commissioner who covers your area. I'll ask Ministers what might be the best and most appropriate way forward in terms of engaging with the interested parties on the fight against knife crime.

Diolch am godi'r mater pwysig iawn hwn, sef y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo hefyd—Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru sy'n gwasanaethu eich ardal chi. Byddaf yn holi'r Gweinidogion am y ffordd orau a mwyaf priodol ymlaen o ran ymgysylltu â phartïon â diddordeb ynglŷn â'r frwydr yn erbyn troseddau cyllyll.

Can I request a Government statement on the role that sport plays in dealing with mental health? Last week marked World Suicide Prevention Day and I was very proud to lead an awareness-raising campaign—a successful campaign—with Cardiff City Football Club, Swansea City Association Football Club, Wrexham AFC, Newport County AFC and the Offside Trust charity. Unfortunately, we all know that by the end of a Premier League match on a Sunday, 84 men will have committed suicide that week. Now, to me and many others in this Chamber, those statistics are shocking and clearly unacceptable.

Many of us also know, those who struggle with mental health, that quite often it's our thoughts that cause more pain than any object, so I would like to thank, and for the Trefnydd to thank as well, any of those who joined in different campaigns on that day and do so on a daily basis. I certainly know the pain I felt during that day and during the run-up to that and even now as I stand here in the Chamber.

We need to recognise that mental health and suicide are actually now a national crisis. I've heard some say, Llywydd, 'When does the support end?' Well, let me be clear in this Chamber: to me, the support doesn't end. The support that we show people never should end, because we are talking about people's lives and the lives of their families and friends. My message to people out there in Wales today and across the UK is if you are worried about a friend or a family member, reach out. If you are struggling yourself, don't be afraid, there is support out there. So, let's work together for better mental health and suicide prevention, and that's as a Government, as Assembly Members, as friends, as family, but just basically as human beings.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y swyddogaeth y mae chwaraeon yn ei chwarae wrth ddelio ag iechyd meddwl? Roedd diwrnod atal hunanladdiad y byd yn cael ei nodi'r wythnos diwethaf ac roeddwn i'n falch iawn o arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth—ymgyrch lwyddiannus—gyda chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, AFC Club Wrecsam, Clwb Newport County AFC ac elusen yr Ymddiriedolaeth Camsefyll. Yn anffodus, rydym i gyd yn gwybod y bydd 84 o ddynion, yn ystod yr wythnos honno, wedi cyflawni hunanladdiad erbyn diwedd gêm uwch gynghrair ar ddydd Sul. Nawr, i mi ac i lawer o bobl eraill yn y Siambr hon, mae'r ystadegau hynny'n frawychus ac yn amlwg yn annerbyniol.

Mae llawer ohonom hefyd yn gwybod, y rhai sy'n cael trafferth gydag iechyd meddwl, mai ein meddyliau ni, yn eithaf aml, sy'n achosi'r poen mwyaf yn hytrach nag unrhyw wrthrych. Felly hoffwn ddiolch, a gofyn i'r Trefnydd ddiolch hefyd, i unrhyw un o'r rhai a ymunodd mewn gwahanol ymgyrchoedd ar y diwrnod hwnnw a gwneud hynny'n ddyddiol. Rwyf yn sicr yn gwybod am y boen a deimlais yn ystod y diwrnod hwnnw ac yn y cyfnod cyn hynny a hyd yn oed yn awr wrth sefyll yma yn y Siambr.

Mae angen inni gydnabod bod iechyd meddwl a hunanladdiad, mewn gwirionedd, bellach yn argyfwng cenedlaethol. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud, Llywydd, 'Pryd mae'r gefnogaeth yn dod i ben?' Wel, gadewch imi fod yn glir yn y Siambr hon: i mi, nid yw'r gefnogaeth yn dod i ben. Ni ddylai'r gefnogaeth yr ydym yn ei dangos i bobl byth ddod i ben, oherwydd rydym yn sôn am fywydau pobl a bywydau eu teuluoedd a'u ffrindiau. Fy neges i bobl yng Nghymru heddiw ac ar draws y DU inni weithio gyda'n gilydd er mwyn gwella iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, a hynny fel Llywodraeth, fel Aelodau Cynulliad, fel ffrindiau, fel teulu, ond yn y bôn fel bodau dynol.

Thank you, Jack, for raising that and I think that you've said that much more eloquently than I could, but I would certainly pay tribute to everything that you've said and give our backing, as Welsh Government, to the concern that you have for this issue and share your gratitude and your thanks to everybody who does provide that listening ear to people who are in those very dark situations.

We are currently consulting on the mental health delivery plan and I was quite taken by your suggestion at the start that we need to ensure that sport and that area is made the most of in terms of supporting mental health as well. So, I think we'll be checking that the mental health delivery plan does have those synergies across to sport in the ways that we already know it has across to things like substance misuse and homelessness. So I think that's a really important point that we'll take forward.

Diolch, Jack, am godi hynny a chredaf eich bod wedi dweud hynny'n llawer mwy huawdl nag y gallwn i, ond byddwn yn sicr yn talu teyrnged i bopeth yr ydych wedi'i ddweud ac yn rhoi ein cefnogaeth, fel Llywodraeth Cymru, i'r pryder sydd gennych am y mater hwn ac yn rhannu'ch barn a'ch diolch i bawb sy'n darparu'r glust i wrando honno i bobl sydd yn y sefyllfaoedd tywyll iawn hynny.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl, ac roedd eich awgrym ar y dechrau'n dweud bod angen inni sicrhau bod chwaraeon a'r maes hwnnw'n cael y gorau o ran cefnogi iechyd meddwl hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn sicrhau bod y synergeddau hynny ar draws chwaraeon yn y ffyrdd yr ydym eisoes yn gwybod ei fod ar gael i bethau fel camddefnyddio sylweddau a digartrefedd. Felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn y byddwn yn ei ddatblygu.

I wonder if you could let me know, Trefnydd, whether Welsh Government is planning a debate or statement on the skills needs of Wales any time soon. There's a report to be launched next week by ColegauCymru called 'Building a better Wales—lessons from Europe', which is about the future skills needs of Wales, that explores the connection between higher level skills and regional economic resilience. It's based on evidence and interviews across six countries in Europe, and also here in Wales itself. And this research aims to contribute to Welsh Government policy and the conversation that takes place in Wales around skills needs. It's made possible, the report, by European Union funding, and it includes a number of key recommendations, including that a broader range of business organisations, particularly small and medium-sized enterprises, should be involved more closely and effectively in deciding what future skills should be provided, and how we could have effective mechanisms to achieve that. And it also calls for a review of post-16 skills training in Wales, to provide longer term funding arrangements that support collaboration, and that there should be longer term planning and succession planning in terms of future skills needs on a more effective basis.

This will be the subject matter of the next cross-party group on further education and future skills meeting, which takes place next week, and it would be good if as many AMs as possible could get along to engage in that. But, essentially, Trefnydd, I think that with Brexit still a real possibility and the economic shocks that could bring, we really need to concentrate our minds on the future skills needs of Wales and make sure that we provide them as effectively as possible.

Tybed a allech roi gwybod i mi, Trefnydd, a yw Llywodraeth Cymru yn cynllunio dadl neu ddatganiad ar anghenion sgiliau Cymru yn fuan? Mae adroddiad i'w lansio yr wythnos nesaf gan ColegauCymru o'r enw 'Adeiladu Cymru Well—gwersi gan Ewrop', sy'n ymwneud ag anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol ac yn archwilio'r cysylltiad rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd rhanbarthol. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth a chyfweliadau ar draws chwe gwlad yn Ewrop, a hefyd yma yng Nghymru ei hun. Ac mae'r ymchwil hon yn ceisio cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru a'r sgwrs sy'n digwydd yng Nghymru ynglŷn ag anghenion sgiliau. Mae'r adroddiad yn bosibl oherwydd arian yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n cynnwys nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys y dylai ystod ehangach o sefydliadau busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint, gael eu cynnwys yn fwy manwl ac effeithiol wrth benderfynu pa sgiliau y dylid eu darparu yn y dyfodol, a sut y gallem gael dulliau effeithiol o gyflawni hynny. Mae hefyd yn galw am adolygiad o hyfforddiant sgiliau ôl-16 yng Nghymru, i ddarparu trefniadau ariannu tymor hwy sy'n cefnogi cydweithredu, ac y dylid cael cynllunio tymor hwy a chynllunio olyniaeth o ran anghenion sgiliau yn y dyfodol ar sail fwy effeithiol.

Dyma fydd pwnc y grŵp trawsbleidiol nesaf ar addysg bellach a'r cyfarfod sgiliau yn y dyfodol, a gynhelir yr wythnos nesaf, a byddai'n dda pe bai cynifer o ACau ag y bo modd yn mynd ati i gymryd rhan yn hynny. Ond, yn y bôn, Trefnydd, rwy'n credu, gyda Brexit yn dal i fod yn bosibilrwydd gwirioneddol a'r ergydion economaidd a allai ddod yn ei sgil, fod gwir angen inni ganolbwyntio ar anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol a sicrhau ein bod yn eu darparu mor effeithiol â phosibl.

15:30

Thank you, John Griffiths, for highlighting that report. As you'll be aware, the First Minister has asked every member of the Cabinet to take responsibility for one of the cross-cutting areas of Government, to ensure that we are maximising all of the work that we do across different departments. I was given the role of taking on the employability and skills agenda as part of that cross-cutting work, so I'll certainly be really interested in receiving a copy of ColegauCymru's report to help inform our thinking as we develop that, and I'll explore as well what might be the best way to update on the work being done on skills. 

Diolch, John Griffiths, am dynnu sylw at yr adroddiad hwnnw. Fel y gwyddoch chi, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i bob aelod o'r Cabinet ysgwyddo cyfrifoldeb dros un o feysydd trawsbynciol y Llywodraeth, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r holl waith a wnawn ni ar draws gwahanol adrannau. Cefais y swyddogaeth o ymgymryd â'r agenda cyflogadwyedd a sgiliau yn rhan o'r gwaith trawsbynciol hwnnw, felly, yn sicr byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael copi o adroddiad Colegau Cymru i helpu i lywio ein syniadau wrth inni ddatblygu hynny, a byddaf yn ymchwilio hefyd i'r hyn efallai yw'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud ar sgiliau.

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwella Sicrwydd Deiliadaeth
4. Statement by the Minister for Housing and Local Government: Improving Security of Tenure

Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar wella sicrwydd deiliadaeth. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. 

The next item is a statement by the Minister for Housing and Local Government on improving security of tenure. And I call on the Minister to make her statement—Julie James. 

Diolch, Llywydd. This statement provides an update on the Government’s proposals for extending the minimum notice period for no-fault evictions under the Renting Homes (Wales) Act 2016. The consultation closed earlier this month and the responses are currently being considered, and I will, of course, update Members further in due course. Ahead of that, I want to make clear what is being proposed. Our approach is to amend the 2016 Act in order to deliver on the commitment to improve security of tenure in the private rented sector, and for the amended Act to then be implemented before the end of the current Assembly term.

The consultation proposed tripling, from two months to six months, the notice that a landlord must give when seeking to end a standard occupation contract under section 173 of the Act. This would apply in those cases where a landlord does not have to provide a reason for ending the contract. The consultation also proposed restricting the issue of a section 173 notice until six months after the occupation date of the contract. The Act currently sets this at four months. Taken together, the effect of these two key features would be that contract holders would enjoy 12, instead of six, months' initial security of tenure, subject to compliance with the terms of their contract. I appreciate that some Members may feel this falls short of a ban on so called no-fault evictions, but I want to stress that the dual impact of implementing the renting homes Act and seeking to extend the notice period for section 173 possessions will deliver substantial benefits to contract holders. Improving the security of tenure is our aim, and I firmly believe that is what these proposals deliver and that contract holders in Wales will not be short-changed compared to their counterparts in other parts of the UK.

Diolch, Llywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion y Llywodraeth i ymestyn cyfnod byrraf yr hysbysiad ar gyfer troi allan heb fai o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Daeth yr ymgynghoriad i ben yn gynharach y mis hwn ac mae'r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau maes o law. Cyn hynny, mae arnaf eisiau egluro'r hyn sy'n cael ei gynnig. Ein ffordd ni o fynd ati yw diwygio Deddf 2016 er mwyn anrhydeddu'r ymrwymiad i wella sicrwydd deiliadaeth yn y sector rhentu preifat, ac i weithredu'r Ddeddf ddiwygiedig cyn diwedd y tymor Cynulliad presennol.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig treblu, o ddau fis i chwe mis, y cyfnod hysbysu y mae'n rhaid i landlord ei roi wrth geisio terfynu contract meddiannaeth safonol o dan adran 173 o'r Ddeddf. Byddai hyn yn berthnasol yn yr achosion hynny lle nad oes rhaid i landlord roi rheswm dros ddod â'r contract i ben. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig cyfyngu'r cyfnod lle gellir cyflwyno hysbysiad adran 173 i chwe mis ar ôl y dyddiad meddiannu yn y contract. Ar hyn o bryd, pedwar mis yw hyn yn ôl y Ddeddf. Gyda'i gilydd, effaith y ddwy nodwedd allweddol hyn yw y byddai deiliaid contractau yn mwynhau 12, yn hytrach na chwe mis o sicrwydd deiliadaeth cychwynnol, yn amodol ar gydymffurfio â thelerau eu contract. Sylweddolaf fod rhai Aelodau'n teimlo nad yw hyn gystal â gwaharddiad ar droi allan heb fai, ond rwyf eisiau pwysleisio y bydd effaith ddeuol gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a cheisio ymestyn y cyfnod rhybudd ar gyfer meddiannu o dan adran 173 yn sicrhau cryn fanteision i ddeiliaid contractau. Rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth yw ein nod, ac rwy'n credu'n gryf mai dyna'r hyn y mae'r cynigion hyn yn ei gyflawni ac na fydd deiliaid contractau yng Nghymru ar eu colled o'u cymharu â phobl yn yr un sefyllfa â nhw mewn rhannau eraill o'r DU.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

In Scotland currently, and under the proposals being consulted on for England, there are grounds where tenants who are not at fault can still be evicted with only two months’ notice, such as when the landlord wishes to sell the property or move into it themselves. Under our proposals, in all circumstances, other than when the landlord is seeking possession for a specified breach of the contract, the tenant or contract holder will be entitled to a minimum notice period of six months.

Ultimately, I consider the length of time that someone has to find a new home is more critical than whether or not the landlord has a reason to seek possession. Therefore, under our proposals, even where a landlord intends to sell the property or live in it themselves, contract holders will have much more time to make the necessary arrangements for themselves or their dependants, such as their child’s school or for those they care for, and to find a property more suited to their needs. It would also give those who are able to do so more time to save, and those who are less able more time to engage the necessary support and assistance.

I have also considered how best to maximize improvements to the private rented sector at the earliest opportunity. It is my view that, to do this, we need to ensure the many benefits of the Renting Homes (Wales) Act are implemented without further delay. I'm sure I need not remind Members that, since the legislation was passed, we have been held back on implementing it due to the need for court systems to be changed. Having now reached a solution, I am keen to press ahead with full implementation by the end of the current Assembly term. I will shortly be writing to every Member, reminding them of the positive changes for every tenant in Wales as a result of this Act, but I want to set out some of the main ones now.

The Act will improve security by replacing the current complex areas of housing law with a fairer and simpler legal framework. It will also require landlords to issue a written statement of their occupation contract, which clearly sets out the rights and responsibilities of landlords and those renting from them. The Act will also provide other benefits, such as setting out the landlord’s obligation to ensure the dwelling is fit for human habitation. Here, regulations can be used to prescribe specific matters and circumstances to which regard must be had, for example including requirements for electrical safety testing, smoke alarms and carbon monoxide detectors. These are provisions that will make it easier for a contract holder’s dependants or relatives to succeed to a—there are provisions; excuse me, Deputy Presiding Officer, I've got my tongue in a twist. There are provisions also that will make it easier for a contract holder’s dependants or relatives to succeed to a contract. Those in supported accommodation will also, for the first time, have a clearly defined set of terms underpinning their occupation, helping them to understand and enforce their rights. To help ensure abandoned properties are re-let as quickly as possible, the Act also specifies a new procedure for the possession of abandoned dwellings.

There are, therefore, two strands to our plans to improve security before the end of the Assembly term: to implement the renting homes Act and to provide further protections for contract holders when subject to a section 173 notice, which is the matter upon which we have just consulted.

Returning to that consultation, I am pleased to say that over 850 people or organisations responded. Responses were weighted heavily on the side of the landlords and agents, which is understandable, given the direct link we have to them through Rent Smart Wales. But whilst we did receive some responses directly from individual tenants, we are aware that organisations such as Shelter Cymru ran their own consultations to formulate their response as well. I'm not surprised by this level of interest because how a landlord can seek possession, and the impact any resulting eviction can have on tenants, has always been an issue that generates strong feelings. I'm therefore pleased by the level of response, and officials have been meeting with key stakeholders to gather further views that can be considered alongside the analysis of consultation responses.

Ahead of that consideration of the responses, there are two important things to remember. Firstly, whilst it is not my intention to remove section 173 entirely, the changes being proposed, if implemented, would remove the incentives for landlords to use it in the same way that they use section 21 of the Housing Act 1988 now. I expect this to significantly limit the circumstances in which it can be used. This is because the changes would mean that, if tenants pay their rent on time, look after the property and are not breaching any terms of their tenancy agreement, then they will have significantly increased security of tenure—twice as much, in fact, as there would be 12 months’ security at the outset rather than six. They will also no longer have the constant worry of potentially needing to move with only two months’ notice.

The second important thing to remember is that landlords will retain their ability to seek possession where there is a breach of the contract, including in the case of rent arrears or anti-social behaviour. The Renting Homes (Wales) Act already contains the necessary provisions, and the consultation did not propose extending notice periods in these circumstances.

Deputy Presiding Officer, we've already done a lot to ensure the private rented sector is well regulated and able to offer high-quality homes to those who choose to rent. But there is more that can, and should, be done. That is why we are committed to providing greater security for tenants, and I believe that my proposals do just that. Should they be enacted, their impact will be kept under review so that we can identify the impacts of the policy on the rental market, whether it has improved security for contract holders and whether further change is needed. Diolch.

Yn yr Alban ar hyn o bryd, ac o dan y cynigion yr ymgynghorir arnyn nhw yn Lloegr, ceir sail pryd y gall tenantiaid nad ydynt ar fai gael eu troi allan o hyd gyda dim ond dau fis o rybudd, megis pan fydd y landlord yn dymuno gwerthu'r eiddo neu symud i mewn iddo ei hun. O dan ein cynigion ni, o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio pan fydd y landlord yn ceisio meddiant am dorri elfen benodol o'r contract, bydd hawl gan y tenant neu'r deiliad contract i gael cyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf.

Yn y pen draw, rwyf o'r farn bod y cyfnod o amser sydd gan rywun i ddod o hyd i gartref newydd yn fwy allweddol na pha un a oes gan y landlord reswm i geisio meddiant ai peidio. Felly, o dan ein cynigion, hyd yn oed pan fo landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo neu fyw ynddo ei hun, bydd gan ddeiliaid contractau lawer mwy o amser i wneud y trefniadau angenrheidiol ar eu cyfer nhw eu hunain neu eu dibynyddion, fel ysgol eu plentyn neu'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a dod o hyd i eiddo sy'n fwy addas i'w hanghenion. Byddai hefyd yn rhoi mwy o amser i'r rheini sy'n gallu cynilo, ac i'r rhai sy'n llai abl i gael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.

Rwyf hefyd wedi ystyried sut orau i sicrhau'r gwelliannau mwyaf posibl i'r sector rhentu preifat cyn gynted ag y bo modd. Yn fy marn i, er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau y caiff manteision niferus y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eu gweithredu heb oedi pellach. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa Aelodau, ers pasio'r ddeddfwriaeth, na allom ni ei gweithredu oherwydd bod angen newid systemau'r llysoedd. Gan y daethpwyd i ganlyniad nawr, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen i'w gweithredu'n llawn erbyn diwedd y tymor Cynulliad presennol. Cyn hir, byddaf yn ysgrifennu at bob aelod i'w hatgoffa am y newidiadau cadarnhaol a fydd yn dod i ran pob tenant yng Nghymru o ganlyniad i'r Ddeddf hon, ond rwyf eisiau nodi rhai o'r prif rai nawr.

Bydd y Ddeddf yn rhoi mwy o sicrwydd drwy ddisodli meysydd cymhleth presennol y gyfraith dai â fframwaith cyfreithiol tecach a symlach. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'u contract meddiannaeth, sy'n nodi'n glir hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'r rhai sy'n rhentu ganddynt. Daw buddion eraill yn sgil y Ddeddf hefyd, megis nodi rhwymedigaeth y landlord i sicrhau bod yr annedd yn addas i bobl fyw ynddi. Yma, gellir defnyddio rheoliadau i nodi materion ac amgylchiadau penodol y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt, er enghraifft cynnwys gofynion ar gyfer profion diogelwch trydanol, larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid. Mae'r rhain yn ddarpariaethau a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion olynu—mae darpariaethau; esgusodwch fi, Dirprwy Lywydd, mae fy nhafod i mewn cwlwm. Mae darpariaethau hefyd a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. Bydd gan y rheini sydd mewn llety â chymorth hefyd, am y tro cyntaf, gyfres o amodau wedi'u diffinio'n glir yn sail i'w preswyliaeth, a fydd yn eu helpu i ddeall ac arfer eu hawliau. Er mwyn helpu i sicrhau y caiff eiddo gadawedig ei ail-osod cyn gynted â phosibl, mae'r Ddeddf hefyd yn nodi gweithdrefn newydd ar gyfer meddiannu anheddau gadawedig.

Felly, mae dwy elfen i'n cynlluniau i roi mwy o sicrwydd cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn: gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a rhoi amddiffyniadau pellach i ddeiliaid contractau pan fyddant yn destun hysbysiad adran 173, sef y mater yr ydym ni newydd ymgynghori yn ei gylch.

Gan ddychwelyd at yr ymgynghoriad hwnnw, rwy'n falch o ddweud bod dros 850 o bobl neu sefydliadau wedi ymateb. Landlordiaid ac asiantwyr oedd y rhelyw o'r rhain, sy'n ddealladwy, o gofio'r cyswllt uniongyrchol sydd gennym ni â nhw drwy Rhentu Doeth Cymru. Ond er y cawsom ni rai ymatebion yn uniongyrchol gan denantiaid unigol, rydym ni'n ymwybodol bod sefydliadau fel Shelter Cymru yn cynnal eu hymgynghoriadau eu hunain i lunio eu hymateb hwythau hefyd. Nid wyf yn synnu bod diddordeb o'r fath oherwydd mae'r ffordd y gall landlord geisio meddiant, a'r effaith y gall troi allan yn sgil hynny ei chael ar denantiaid, wastad wedi bod yn broblem sy'n ennyn teimladau cryfion. Felly, rwy'n falch gyda'r ymateb a fu, ac mae swyddogion wedi bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol er mwyn casglu safbwyntiau pellach y gellir eu hystyried ar y cyd â'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Cyn ystyried yr ymatebion, mae dau beth pwysig i'w cofio. Yn gyntaf, er nad yw'n fwriad gennyf ddileu adran 173 yn llwyr, byddai'r newidiadau a gynigir, pe caent eu gweithredu, yn cael gwared ar y cymhellion i landlordiaid ei defnyddio yn yr un ffordd ag y maent yn defnyddio adran 21 o Ddeddf Tai 1988 ar hyn o bryd. Disgwyliaf i hyn gyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle y gellir ei defnyddio. Y rheswm am hyn yw y byddai'r newidiadau yn golygu, os yw tenantiaid yn talu eu rhent yn brydlon, yn gofalu am yr eiddo ac nad ydynt yn torri unrhyw delerau yn eu cytundeb tenantiaeth, y bydd ganddyn nhw gryn dipyn yn fwy o sicrwydd deiliadaeth—ddwywaith yn fwy, yn wir, gan y byddai 12 mis o sicrwydd ar y cychwyn yn hytrach na chwech. Hefyd, ni fydd ganddynt y pryder parhaus y gallai fod angen iddyn nhw symud gyda dim ond dau fis o rybudd.

Yr ail beth pwysig i'w gofio yw y bydd hi'n dal yn bosib i landlordiaid geisio meddiant os torrir y contract, gan gynnwys yn achos ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eisoes yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol, ac nid oedd yr ymgynghoriad yn cynnig ymestyn cyfnodau rhybudd yn yr amgylchiadau hyn.

Dirprwy Lywydd, rydym ni eisoes wedi gwneud llawer i sicrhau bod y sector rhentu preifat wedi'i reoleiddio'n dda ac yn gallu cynnig cartrefi o ansawdd uchel i'r rheini sy'n dewis rhentu. Ond mae mwy y gellir, ac y dylir, ei wneud. Dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i roi mwy o sicrwydd i denantiaid, a chredaf fod fy nghynigion yn gwneud hynny'n union. Os cânt eu gweithredu, caiff eu heffaith ei adolygu'n barhaus fel y gallwn ni weld beth yw effeithiau'r polisi ar y farchnad rentu, p'un a yw wedi rhoi mwy o sicrwydd i ddeiliaid contractau ac a oes angen newid pellach. Diolch.

15:35

Can I thank the Minister for her statement on this important area of public policy? I'd just like to ask, as the Minister said responses are now being considered, quite how firm is your policy, because I think what you've just outlined seemed to be a very clear path that you want to take. So, I would like to know how contingent it is, and how those consultations may now alter your views, if at all. I think we all agree that the system needs to be fair to both tenants and landlords. It is an area that requires reform and the UK Government is itself consulting on housing policy in this area for England, and that consultation, as you may know, closes on 12 October. I do think it may be wise to pay some regard to that consultation exercise, and indeed for them to do likewise to ours, as what is proposed in England differs a fair bit, but is, in other ways, related also in terms of the policy objective.

The Minister is not in favour of the proposal in England to allow eviction at two months' notice to permit sale or residential use by the landlord, and the Minister I think cogently argued that a reasonable period was required for a tenant to find a new home, and that, to her, is uppermost, and I don't disagree with that. However, as the Minister rather tangentially acknowledged, otherwise in England no-fault evictions will end, and that's a big difference between what you're proposing and what will happen in England. Instead, in England, during the contract period, landlords would have to rely on provisions permitting eviction where contracts have been broken, and it is the UK Government's suggestion that the court system be speeded up to ensure such redress is effective, and I think that does indicate a balance between the interests of tenants and those of landlords.

So, my question is: why does the Welsh Government not favour the approach that seems to be taken in England, which is to end no-fault evictions? And what regard will she give to the consultations in England and perhaps review her primary decision not to follow up a similar path and just say, 'This type of eviction will no longer be permitted in law'?

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn? Dim ond eisiau gofyn wyf i, oherwydd i'r Gweinidog ddweud fod yr ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, pa mor gadarn yw eich polisi, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ymddangos eich bod yn bendant iawn yr hoffech chi fynd ati yn y ffordd yr ydych chi newydd ei hamlinellu. Felly, hoffwn wybod pa mor hyblyg yw hynny, a sut gallai'r ymgynghoriadau hynny newid eich barn erbyn hyn, os o gwbl. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n cytuno bod angen i'r system fod yn deg i denantiaid ac i landlordiaid. Mae'n faes y mae angen ei ddiwygio ac mae Llywodraeth y DU ei hun yn ymgynghori ar bolisi tai yn y maes hwn ar gyfer Lloegr, ac mae'r ymgynghoriad hwnnw, fel y gwyddoch chi o bosib, yn dod i ben ar 12 Hydref. Rwyf yn credu y gallai hi fod yn ddoeth rhoi rhywfaint o sylw i'r ymarfer ymgynghori hwnnw, ac yn wir iddyn nhw wneud yr un peth i'n rhai ni, gan fod yr hyn a gynigir yn Lloegr yn wahanol iawn, ond mewn ffyrdd eraill, mae hefyd yn gysylltiedig â'r amcan polisi.

Nid yw'r Gweinidog o blaid y cynnig yn Lloegr i ganiatáu troi allan gyda dau fis o rybudd fel y gall y landlord werthu neu fyw yn yr eiddo, a dadleuodd y Gweinidog yn gryf rwy'n credu fod angen cyfnod rhesymol i denant ddod o hyd i gartref newydd, ac mae hynny, iddi hi, yn flaenllaw, ac nid wyf yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, fel y cydnabu'r Gweinidog wrth fynd heibio, fel petai, fel arall yn Lloegr bydd troi allan heb fai yn dod i ben, ac mae hynny'n wahaniaeth mawr rhwng yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig a'r hyn a fydd yn digwydd yn Lloegr. Yn hytrach, yn Lloegr, yn ystod cyfnod y contract, byddai'n rhaid i landlordiaid ddibynnu ar ddarpariaethau sy'n caniatáu troi allan pan fo contractau wedi'u torri, ac awgrym Llywodraeth y DU yw y dylid cyflymu'r system llysoedd i sicrhau bod unioni'r mater fel hyn yn effeithiol, ac rwy'n credu bod hynny'n arwydd o gydbwysedd rhwng buddiannau tenantiaid a buddiannau landlordiaid.

Felly, fy nghwestiwn yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio'r dull sydd i'w weld yn cael ei weithredu yn Lloegr, sef rhoi terfyn ar droi allan heb fai? A pha ystyriaeth y bydd hi'n ei rhoi i'r ymgynghoriadau yn Lloegr ac efallai adolygu ei phenderfyniad sylfaenol i beidio â dilyn trywydd tebyg a dweud, 'Ni chaniateir y math hwn o droi allan mewn cyfraith mwyach'?

15:40

Well, I'm delighted to hear David Melding saying that he broadly is in line with the direction of travel. Obviously, we will be looking carefully to see what the responses say. I have had a brief overview of the responses, and they are largely what we expected, because we're in pretty constant touch with the sector anyway. But, of course, we will be looking at the policy in the light of those responses. I just wanted to remind Members what the consultation was based on.

In terms of taking into account the English consultation, we will, of course, be looking at that, but, however, our renting homes Act substantially changes the landscape in Wales, very substantially away from the Housing Act as it is in England. And what they've done in England is they've taken an approach that outlines a whole series of routes to possession, but it doesn't actually end no-fault evictions. There are circumstances in England in which no-fault evictions will still be allowed. Yes, and they are are where a landlord seeks possession for their own use or for the use of their family, which is to sell. So, those routes remain open here. What they haven't done in England is that they haven't got the provisions that our renting homes Act has in place to prevent thing like retaliatory evictions and so on. So, I'm very confident that the combination of our renting homes Act and our extension of the time period actually gives us increased protection here in Wales.

And the language of the sector is around abolishing no-fault evictions, but, actually, when you speak to the sector—Shelter and Crisis and so on—they acknowledge that it's not possible to always do that, because, of course, the landlord who would otherwise find themselves homeless would have the right under human rights legislation, amongst others, to possession of their own house if they were themselves to be homeless. And I think it would not be very—well, it would not be possible to have legislation that prevented you from ever getting that property back. Rather, we talk about it in terms of increased security of tenure for renting in the private sector. There are, of course, a whole series of other things that we can do for homes that are socially rented, which I will come on to in a further statement, in due course, in the Assembly.

Wel, rwy'n falch iawn o glywed David Melding yn dweud ei fod ar y cyfan yn cytuno â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Yn amlwg, byddwn yn edrych yn ofalus i weld beth mae'r ymatebion yn eu dweud. Rwyf wedi cael trosolwg cryno o'r ymatebion, a dyna oeddem yn ei ddisgwyl i raddau helaeth, oherwydd yr ydym ni mewn cysylltiad eithaf cyson â'r sector beth bynnag. Ond, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar y polisi yng ngoleuni'r ymatebion hynny. Dim ond eisiau atgoffa'r Aelodau oeddwn i o'r hyn yr oedd yr ymgynghoriad yn seiliedig arno.

O ran ystyried yr ymgynghoriad yn Lloegr, byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar hynny, ond, fodd bynnag, mae ein Deddf rhentu cartrefi yn newid yn sylweddol y sefyllfa yng Nghymru, yn sylweddol iawn o'i chymharu â'r Ddeddf Tai fel y mae hi yn Lloegr. A'r hyn maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr yw mynd ati mewn modd sy'n amlinellu amryfal ffyrdd o feddiannu, ond nid yw mewn gwirionedd yn rhoi terfyn ar achosion o droi allan heb fai. Ceir amgylchiadau yn Lloegr pryd y caniateir troi allan heb fai o hyd. Oes, sef pan fo landlord yn ceisio cael meddiant ar gyfer ei ddefnydd ei hun neu at ddefnydd ei deulu, sef i werthu. Felly, mae'r posibiliadau hynny'n dal i fodoli yn y fan yma. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yn Lloegr yw sicrhau'r darpariaethau sydd gan ein Deddf rhentu cartrefi ni ar waith i atal pethau fel troi allan dialgar ac yn y blaen. Felly, rwy'n ffyddiog iawn bod y cyfuniad o'n Deddf rhentu cartrefi a'n hestyniad ni o'r cyfnod amser mewn gwirionedd yn rhoi mwy o warchodaeth i ni yma yng Nghymru.

Ac mae'r sector yn sôn am ddileu achosion o droi allan heb fai, ond, mewn gwirionedd, pan siaradwch chi â'r sector—Shelter a Crisis ac yn y blaen—maen nhw'n cydnabod nad yw'n bosib gwneud hynny bob amser, oherwydd, wrth gwrs, byddai hawl gan y landlord, a fyddai fel arall yn ddigartref, o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, ymhlith eraill, i feddiannu ei dŷ ei hun pe bai yntau ei hun yn ddigartref. Ac rwy'n credu na fyddai hi'n—wel, na fyddai hi'n bosib cael deddfwriaeth a fyddai'n eich rhwystro rhag gallu cael yr eiddo hwnnw yn ôl byth. Yn hytrach, soniwn amdano yn nhermau mwy o sicrwydd deiliadaeth ar gyfer rhentu yn y sector preifat. Mae llond gwlad o bethau eraill y gallwn ni eu gwneud, wrth gwrs, ar gyfer cartrefi sy'n cael eu rhentu'n gymdeithasol, a byddaf yn dod at y rheini mewn datganiad pellach, maes o law, yn y Cynulliad.

I'd like to say I'm surprised by this watered-down policy, but I'm not. It follows a well-trodden path in which a Labour Government hints at the delivery of a progressive policy, only to lose the courage of its convictions and instead roll out something that's unsatisfactory and diluted. I may not be surprised, but that's not to say that I'm not disappointed—disappointed for the many thousands of people in Wales that are living under the threat of a no-fault eviction. These are the very people that would have benefited from this Labour Government remaining steadfast in the face of strong lobbying and delivering what was needed. On that point, is it really fair and equitable that there are two professional lobbying bodies for landlords, and just one person working unpaid to represent Generation Rent? How does the Welsh Government intend to address this and create a level playing field?

What impact could a no-fault evictions policy have in this country? We know from figures provided by Shelter Cymru that at least 42 per cent of private tenants in Wales do not have a fixed-term tenancy agreement. This means that they risk eviction if they get on the wrong side of their landlord, often for something as innocuous as asking for a repair to be carried out. We also know that the status quo is more difficult for women, because, according to research from Shelter Cymru, women are more likely to be asked for sex for rent.

I spent some time with homeless people earlier this year when I joined some Plaid Cymru members who volunteer to go out on the streets of Swansea every week to give out warm food and clothing. One woman, who had been living on the streets for some time, spoke about the hardship of sleeping rough and how, in Swansea, the police and the council seem to crack down on rough-sleeping whenever they were due to hold a major event. People are regularly arrested under the Vagrancy Act 1824. That young woman asked me a simple, but profound question: how can it be legal to make someone homeless, but illegal for someone to be homeless? That is a perverse situation, and your proposals will not solve this problem.

Ending no-fault eviction is an important tool in tackling the shocking levels of homelessness we are now seeing, and I believe that this is a golden opportunity to deliver something positive and effective, and it's an opportunity that has now been missed. Will the Minister agree to monitor the situation, and, if it's found that the Government's measures do not impact sufficiently on the no-fault evictions rate, will you agree to revisit this with a view to ending no-fault evictions once and for all?

Hoffwn ddweud fy mod yn synnu at y polisi hwn sydd wedi'i lastwreiddio, ond dydw i ddim. Mae'n dilyn llwybr cyfarwydd iawn lle mae Llywodraeth Lafur yn awgrymu sut caiff polisi blaengar ei gyflwyno, dim ond iddi golli dewrder ei hegwyddorion a chyflwyno yn hytrach rywbeth sy'n anfoddhaol ac yn wannach. Efallai nad wyf yn synnu, ond nid yw hynny'n dweud nad wyf yn siomedig—yn siomedig ar ran y miloedd lawer o bobl yng Nghymru sy'n byw dan fygythiad troi allan heb fai. Dyma'r union bobl a fyddai wedi elwa petai'r Llywodraeth Lafur hon wedi aros yn gadarn yn wyneb lobïo cryf a chyflawni'r hyn yr oedd ei angen. Yn hynny o beth, a yw hi'n deg ac yn gyfiawn mewn gwirionedd bod yna ddau gorff lobïo proffesiynol ar gyfer landlordiaid, a dim ond un person sy'n gweithio'n ddi-dâl i gynrychioli Generation Rent? Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hyn a sicrhau tegwch?

Pa effaith allai polisi troi allan heb fai ei chael ar y wlad hon? Gwyddom o'r ffigurau a ddarparwyd gan Shelter Cymru nad oes gan o leiaf 42 y cant o denantiaid preifat yng Nghymru gytundeb tenantiaeth cyfnod penodol. Mae hyn yn golygu bod peryg y cânt eu troi allan os ydynt yn digio eu landlord, yn aml am rywbeth mor ddiniwed â gofyn am waith trwsio. Gwyddom hefyd fod y sefyllfa sydd ohoni yn anoddach i fenywod, oherwydd, yn ôl ymchwil gan Shelter Cymru, mae menywod yn fwy tebygol o gael cais am ryw yn lle rhent.

Treuliais beth amser gyda phobl ddigartref yn gynharach eleni pan ymunais ag Aelodau Plaid Cymru sy'n gwirfoddoli i fynd allan ar strydoedd Abertawe bob wythnos i ddosbarthu bwyd a dillad cynnes. Soniodd un fenyw, a fu'n byw ar y strydoedd am beth amser, am galedi cysgu ar y stryd a sut, yn Abertawe, mae'r heddlu a'r cyngor i bob golwg yn llawdrwm iawn ynghylch cysgu ar y stryd pryd bynnag roedd digwyddiad mawr ganddyn nhw ar y gweill. Caiff pobl eu harestio'n rheolaidd o dan Ddeddf Crwydradaeth 1824. Gofynnodd y fenyw ifanc honno imi gwestiwn syml ond dwys: sut gall hi fod yn gyfreithlon i wneud rhywun yn ddigartref, ond yn anghyfreithlon i rywun fod yn ddigartref? Mae honno'n sefyllfa wyrdroëdig, ac ni fydd eich cynigion yn datrys y broblem hon.

Mae rhoi terfyn ar droi allan heb fai yn arf pwysig wrth fynd i'r afael â'r lefelau brawychus o ddigartrefedd yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, a chredaf fod hwn yn gyfle euraidd i gyflwyno rhywbeth cadarnhaol ac effeithiol, ac mae'n gyfle sydd bellach wedi'i golli. A wnaiff y Gweinidog gytuno i fonitro'r sefyllfa, ac, os canfyddir nad yw mesurau'r Llywodraeth yn cael digon o effaith ar y gyfradd troi allan heb fai, a wnewch chi gytuno i ailedrych ar hyn gyda golwg ar roi terfyn ar droi allan heb fai unwaith ac am byth?

15:45

Well, I'm sorry that Leanne Wood has chosen to politicise it in quite the way that she has, because I think there's a fair amount of consensus across the Chamber about what we're trying to do here in Wales. She listed a number of issues, having made the political points that she chose to make, none of which are actually affected by the circumstances we're talking about here.

She talked about the scourge of homelessness, with which I entirely agree, but she hadn't spotted in my statement, Deputy Presiding Officer, that I point out that our renting homes Act makes it much easier for people in domestic abuse situations where they are not the listed tenant to stay on in their tenancy, for example. So, there are a number of things that the renting homes Act does that alleviate some of the circumstances that she talked about, none of which are related to no-fault evictions.

In fact, it's not possible to completely eliminate no-fault evictions unless you say that a landlord that's rented their house, even if they need it themselves because they're homeless, cannot get possession of it, and those are not circumstances in which any jurisdiction in the UK, who are actually subject to the Human Rights Act 1998, would be able to do.

So, what we're talking about is increased security of tenure for people. Once we've implemented these provisions, subject to the consultation—I know already from the general consultation responses that people are not objecting to the length of time that we're putting in place—you will basically have much more security of tenure here in Wales than you will have anywhere else in the UK.

So, I will be writing to all Assembly Members, Deputy Presiding Officer, just reminding ourselves quite what a radical Act we passed back in 2016. I think some time has passed since we implemented it, and so we've forgotten quite how radical we were. But the landscape for tenants in Wales will change completely when the Act is implemented, and I'm delighted that we can now implement it before the end of this Assembly term.

Wel, mae'n ddrwg gennyf fod Leanne Wood wedi dewis gwleidyddoli'r peth yn y ffordd a wnaeth hi, oherwydd rwy'n credu bod cryn dipyn o gonsensws yn y Siambr ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yng Nghymru. Rhestrodd nifer o faterion, ar ôl gwneud y pwyntiau gwleidyddol y dewisodd eu gwneud, nad yw'r amgylchiadau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yma mewn gwirionedd yn effeithio arnynt.

Soniodd am felltith digartrefedd, y cytunaf yn llwyr â hi yn ei gylch, ond ni sylwodd yn fy natganiad, Dirprwy Lywydd, fy mod yn dweud bod ein Deddf rhentu cartrefi yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig lle nad hwy yw'r tenant rhestredig i allu aros yn eu tenantiaeth, er enghraifft. Felly, mae nifer o bethau y mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn eu gwneud sy'n lliniaru rhai o'r amgylchiadau y soniodd amdanynt, nad yw'r un ohonyn nhw'n ymwneud â throi allan heb fai.

Mewn gwirionedd, nid yw'n bosib dileu achosion o droi allan heb fai yn llwyr oni bai eich bod yn dweud bod landlord sy'n rhentu ei dŷ, hyd yn oed os yw ei angen ei hun oherwydd ei fod yn ddigartref, yn methu â chael meddiant ohono, ac nid yw hynny'n rhywbeth y byddai unrhyw awdurdodaeth yn y DU, sydd mewn gwirionedd yn ddarostyngedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn gallu ei wneud.

Felly, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yw mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl. Ar ôl i ni roi'r darpariaethau hyn ar waith, yn amodol ar yr ymgynghoriad—rwy'n gwybod eisoes o'r ymatebion cyffredinol i'r ymgynghoriad nad yw pobl yn gwrthwynebu'r cyfnod yr ydym ni'n ei gyflwyno—yn y bôn bydd gennych chi lawer mwy o sicrwydd deiliadaeth yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU.

Felly, byddaf yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, i atgoffa ein hunain o Ddeddf mor radical y gwnaethom ei phasio yn ôl yn 2016. Rwy'n credu bod rhywfaint o amser wedi mynd heibio ers i ni ei gweithredu, ac felly rydym ni wedi anghofio pa mor radical yr oeddem ni. Ond bydd y sefyllfa ar gyfer tenantiaid yng Nghymru yn newid yn llwyr pan weithredir y Ddeddf, ac rwyf wrth fy modd y gallwn ni yn awr ei gweithredu cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn.

I'm not a lawyer, so I'm keen to understand why you decided to retain section 173 in its revised form when landlords still have section 21 to call on when they need to get rid of tenants who are destroying their property. That's No. 1, and then, secondly, because like others, I went an end to no-fault evictions, because, otherwise, private tenancies are simply not a viable alternative for families with children who can then have their children forcibly removed from the school where they're flourishing, and that obviously has a huge impact on their education. Secondly, I just wondered if you could elaborate on the solution that's now been reached with the courts to enable us to implement the Renting Homes (Wales) Act, because this, I agree, has been a bugbear for some time when we've been discussing further Acts, because the Act has not been in place. So, I'd be very keen to find that out.

Nid wyf yn gyfreithiwr, felly rwy'n awyddus i ddeall pam y gwnaethoch chi benderfynu cadw adran 173 ar ei ffurf ddiwygiedig pan fydd gan landlordiaid adran 21 o hyd i droi ati pan fydd angen iddyn nhw gael gwared ar denantiaid sy'n dinistrio eu heiddo. Dyna'r peth cyntaf, ac yna, yn ail, oherwydd fel eraill, mae arnaf i eisiau rhoi terfyn ar droi pobl allan heb fai, oherwydd, fel arall, nid yw tenantiaethau preifat yn ddewis ymarferol i deuluoedd â phlant a allai wedyn gael eu gorfodi i dynnu eu plant o'r ysgol lle maen nhw'n ffynnu, ac mae hynny'n amlwg yn cael effaith enfawr ar eu haddysg. Yn ail, tybed a allech chi ymhelaethu ar y canlyniad y daethpwyd iddo bellach gyda'r llysoedd i'n galluogi i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), oherwydd bu hyn, rwy'n cytuno, yn faen tramgwydd ers cryn amser pan fuom ni'n trafod Deddfau pellach, oherwydd na fu'r Ddeddf honno ar waith. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall hynny.

15:50

So, on that last one, there were severe difficulties with the court's IT system, which we've been discussing with them. The proposal across England and Wales is that the whole of the IT system will be renewed. It was due to be renewed 'within two years' about three years ago, and we were waiting on that renewal. But we've decided not to wait and to actually implement the IT changes at our own expense ourselves in advance of the whole court system being changed, as I think it seems pretty clear that it's going to take a lot longer than was originally planned, for a variety of reasons that I won't rehearse.

In terms of the section 21 and section 173 issue, it's important to remember that, once we have implemented the Renting Homes (Wales) Act, the Housing Act will no longer be in force in Wales, so section 21 will no longer be in force in Wales. So, it replaces in its entirety the Housing Act. So, we'll only have section 173, and that will limit the grounds of no-fault eviction to pretty narrow grounds. We have provisions in the Renting Homes (Wales) Act to prevent retaliatory evictions, so, if you've asked for a property to be improved and then the landlord suddenly discovers they want to sell the house, the court will be able to take that into account. Rent Smart Wales will also be able to take it into account in considering whether a landlord is a fit-and-proper person, and we intend to monitor that.

Forgive me, Deputy Presiding Officer—I didn't answer Leanne Wood's last question, which I intended to do, which is of course we will be monitoring it. We very much want this to work, and so I said in my statement that we will be carefully monitoring the changes, and, if they are not effective in the way we think they will be, then of course we will be looking to see what else we can do to strengthen it. So, I just want to make that point as well.

Bear in mind we've also passed the Renting Homes (Fees etc.) (Wales) Bill, so you can no longer charge a whole series of arbitrary fees for, first of all, getting into your home, and then for doing a whole series of other things that we've rehearsed. We also have—. The new renting homes Bill, when it's implemented, will change the—a shorthold assured tenancy, for example, will change to a minimum period of 12 months.

At this point, Deputy Presiding Officer, can I just correct the record? I said in response to a question from Michelle Brown on 17 July 2019 that the proposal, if implemented, would give a two-year security of tenure—I misspoke; it's actually a one-year security of tenure, so I just wanted to correct that—and a minimum notice period of six months; you cannot implement this within the first six months of any tenancy. So, I just wanted to correct the record there, because it has been drawn to my attention that I inadvertently said two years instead of one. But this will mean that people have the longest notice period of any jurisdiction in the UK, and, as I repeatedly say, you cannot eliminate them completely, because the vast majority of landlords in Wales only own one other property, and frequently it's when two people have got together and made a couple and they rent out the other home, and, if they split back up again, you cannot expect the person who has the house to be homeless because they've rented it out.

What we don't want is for renting properties to become prohibitive for landlords and so we just dry the market up. So, you have a human right to possess your own home if you need it for yourself. So, we would not be able to do that. So, the sector will tell you that it's a handy moniker, 'end no-fault evictions', but it's not possible to do that in its entirety, and what we're seeking to do here is to do as much as you absolutely can to provide the security of tenure that people need. So, you will not get retaliatory evictions, you'll be able to ask for repairs, you'll be able to get them done, you will not be subject to a two-month notice period if the landlord decides to sell, you will have at least six months—and, if you're a new tenant, longer than that, because you can't do it in the first six months—to find a new home, because I totally accept the point you made about children's schooling and care arrangements and all the rest of it. So, what we're trying to do is give people security, but also enough time to plan if they do find themselves in those circumstances.

Then conversely, Deputy Presiding Officer, I just want to make this point as well, just from the landlord's point of view, of course if the tenant breaches their contract then all of the usual possession routes are still open to them. So, if you have a tenant that's actually behaving very poorly, then all the usual possession routes are open.

Felly, o ran y sylw olaf yna, roedd anawsterau difrifol gyda system TG y llys, yr ydym ni wedi bod yn eu trafod gyda nhw. Y cynnig ar draws Cymru a Lloegr yw adnewyddu'r system TG gyfan. Roedd i fod i gael ei hadnewyddu 'o fewn dwy flynedd' tua thair blynedd yn ôl, ac roeddem yn aros am yr adnewyddu hwnnw. Ond rydym ni wedi penderfynu peidio ag aros ac i weithredu'r newidiadau TG ar ein cost ein hunain mewn gwirionedd cyn i'r system llysoedd gyfan gael ei newid, gan y credaf ei bod hi'n eithaf clir y bydd yn cymryd llawer mwy o amser nag a fwriadwyd yn wreiddiol, am amryw o resymau na wnaf i mo'u hailadrodd.

O ran mater adran 21 ac adran 173, mae'n bwysig cofio, ar ôl i ni weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), na fydd y Ddeddf Tai bellach mewn grym yng Nghymru, felly ni fydd adran 21 mewn grym yng Nghymru mwyach. Felly, mae'n disodli'r Ddeddf Tai yn ei chyfanrwydd. Felly, dim ond adran 173 fydd gennym ni, a bydd hynny'n cyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle gellir troi allan heb fai. Mae gennym ni ddarpariaethau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i atal achosion dialgar o droi allan, felly, os ydych chi wedi gofyn am wella eiddo ac yna mae'r landlord yn darganfod yn sydyn ei fod eisiau gwerthu'r tŷ, gall y llys ystyried hynny. Gall Rhentu Doeth Cymru ystyried hynny hefyd wrth gloriannu a yw landlord yn berson addas a phriodol, ac rydym ni'n bwriadu monitro hynny.

Maddeuwch imi, Dirprwy Lywydd—wnes i ddim ateb cwestiwn olaf Leanne Wood, yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac wrth gwrs byddwn yn ei fonitro. Rydym ni'n awyddus iawn i hyn weithio, ac felly dywedais yn fy natganiad y byddwn yn monitro'r newidiadau'n ofalus, ac, os nad ydynt yn effeithiol yn y ffordd y credwn y byddant, yna wrth gwrs byddwn yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cryfhau. Felly, rwyf eisiau gwneud y sylw yna hefyd.

Cofiwch ein bod hefyd wedi pasio Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) Cymru, felly ni allwch chi godi ystod eang o ffioedd mympwyol am, yn gyntaf oll, fynd i mewn i'ch cartref, ac wedyn am wneud amryw byd o bethau eraill yr ydym ni wedi eu trafod. Mae gennym ni hefyd—. Bydd y Bil newydd o ran rhentu cartrefi, pan gaiff ei weithredu, yn newid—bydd tenantiaeth fyrddaliol sicr, er enghraifft, yn newid i gyfnod o 12 mis o leiaf.

Yn hyn o beth, Dirprwy Lywydd, a gaf i gywiro'r cofnod? Dywedais mewn ymateb i gwestiwn gan Michelle Brown ar 17 Gorffennaf 2019 y byddai'r cynnig, pe câi ei weithredu, yn rhoi sicrwydd deiliadaeth o ddwy flynedd—nid oeddwn wedi dewis fy ngeiriau yn ddigon gofalus; sicrwydd deiliadaeth o un flwyddyn ydyw mewn gwirionedd, felly roeddwn i eisiau cywiro hynny—a chyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf; ni allwch chi weithredu hyn o fewn chwe mis cyntaf unrhyw denantiaeth. Felly, roeddwn i eisiau cywiro'r cofnod yn hynny o beth, oherwydd tynnwyd fy sylw at y ffaith fy mod yn anfwriadol wedi dweud dwy flynedd yn lle un. Ond bydd hyn yn golygu y bydd gan bobl y cyfnod rhybudd hiraf o unrhyw awdurdodaeth yn y DU, ac, fel y dywedaf dro ar ôl tro, ni allwch eu dileu'n llwyr, gan mai dim ond un eiddo arall y mae'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yng Nghymru yn berchen arno, ac yn aml pan fydd dau o bobl wedi dod ynghyd a ffurfio cwpl, dyna pryd maen nhw'n rhoi'r cartref arall ar rent, ac, os ydyn nhw'n gwahanu eto, ni allwch chi ddisgwyl i'r sawl sydd â'r tŷ fod yn ddigartref oherwydd ei fod wedi ei roi ar rent.

Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw i rentu eiddo fod yn rhwystr i landlordiaid ac felly gwneud y farchnad yn hesb. Felly, mae gennych chi hawl ddynol i feddiannu eich cartref eich hun os oes ei angen ar eich cyfer chi eich hun. Felly, ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Felly, bydd y sector yn dweud wrthych ei fod yn ddatganiad bachog, 'terfynu troi allan heb fai ', ond nid yw hi'n bosib gwneud hynny yn llwyr, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yw gwneud cymaint ag sy'n bosib i roi'r sicrwydd deiliadaeth sydd ei angen ar bobl. Felly, ni fyddwch yn cael eich troi allan oherwydd dial, gallwch ofyn am waith trwsio, gallwch ddisgwyl i hynny gael ei wneud, ni fyddwch yn cael cyfnod rhybudd o ddeufis os yw'r landlord yn penderfynu gwerthu, bydd gennych chi chwe mis o leiaf—ac, os ydych chi'n denant newydd, mwy na hynny, oherwydd ni allwch chi wneud hynny yn y chwe mis cyntaf—i ddod o hyd i gartref newydd, oherwydd rwy'n derbyn yn llwyr y sylw a wnaethoch chi am addysg plant a threfniadau gofal ac ati. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi sicrwydd i bobl, ond hefyd digon o amser i gynllunio os byddant yn canfod eu hunain yn yr amgylchiadau hynny.

Yna, i'r gwrthwyneb, Dirprwy Lywydd, hoffwn wneud y sylw yma hefyd, dim ond o safbwynt y landlord, wrth gwrs, os yw'r tenant yn torri ei gontract, yna mae pob un o'r posibiliadau arferol o ran meddiannu yn dal i fod ar gael iddynt. Felly, os oes gennych chi denant sydd mewn gwirionedd yn ymddwyn yn wael iawn, yna mae'r holl bosibiliadau arferol yn dal i fodoli o ran meddiannu.  

As we all know, there's been a substantial increase in the number of people in private rented accommodation as the number of council houses has decreased, and many of those houses that would have been available for first-time buyers have been bought up by private landlords and now privately rented. So, this is a lose-lose situation. Whilst I welcome the tripling of the two months' to six months’ notice a landlord needs to give, and that a six months' tenancy must be completed—that’s certainly moving in the right direction—the effect on children’s education and family life of having to move after a year is serious.

I still support the ending of no-fault evictions. I’m disappointed with the decision not to end it. I’ve heard what the Minister has said. I still don’t understand why you couldn’t say, 'There would be no-fault evictions, but you have to do—it's six months, and then six months if you wish to move back into it yourself', rather than having it as it is now that they can give six months’ notice after six months for any reason that they care to have.

On a positive point, I'm very pleased to see action being taken over empty, abandoned houses. None of us have been out campaigning in the streets without wandering past houses with notices in 'If you don’t come back in 14 days' because they’ve obviously been abandoned. If you could explain exactly how you’re going to bring abandoned houses back into use more quickly, because not only do abandoned houses affect the landlord, they affect all those people living in the area who get serious problems from having an abandoned house next to them, and there are occasions when abandoned houses are taken over by gangs of youths and others who break in because the abandoned house has not been properly protected.

On the six months and six months, how is the Welsh Government going to ensure that landlords actually do that, that they actually follow the rules, and what will happen to landlords who don’t follow the rules?

Fel y gŵyr pob un ohonom ni, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl mewn llety preifat ar rent gan fod nifer y tai cyngor wedi gostwng, ac mae llawer o'r tai hynny a fuasai ar gael i brynwyr am y tro cyntaf wedi cael eu prynu gan landlordiaid preifat a bellach yn cael eu rhentu'n breifat. Mae hyn yn sefyllfa lle mae pawb ar ei golled. Er fy mod yn croesawu treblu'r cyfnod rhybudd y mae angen i landlord ei roi o ddau fis i chwe mis, a bod yn rhaid cwblhau tenantiaeth chwe mis—mae hynny'n sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir—mae'r effaith ar addysg plant a bywyd teuluol o orfod symud ar ôl blwyddyn yn ddifrifol.

Rwy'n dal i gefnogi terfynu achosion o droi allan heb fai. Rwy'n siomedig â'r penderfyniad i beidio â therfynu hynny. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog. Nid wyf yn deall o hyd pam na allech chi ddweud, 'byddai modd troi allan heb fai, ond rhaid ichi wneud—chwe mis yw'r cyfnod, ac wedyn chwe mis os dymunwch symud yn ôl i mewn i'r eiddo eich hun', yn hytrach na'i gael fel y mae nawr lle gallant roi chwe mis o rybudd ar ôl chwe mis am unrhyw reswm y dymunen nhw.

Ar bwynt cadarnhaol, rwy'n falch iawn o weld gweithredu o ran tai gwag, gadawedig. Nid oes yr un ohonom ni wedi bod allan yn ymgyrchu yn y strydoedd heb grwydro heibio tai gyda hysbysiadau ynddynt 'os nad ydych yn dychwelyd mewn 14 diwrnod' oherwydd eu bod yn amlwg wedi eu gadael. A wnewch chi egluro'n union sut y byddwch yn dod â thai gadawedig yn ôl i ddefnydd yn gyflymach, oherwydd nid yn unig y mae tai gadawedig yn effeithio ar y landlord, maen nhw'n effeithio ar yr holl bobl hynny sy'n byw yn yr ardal sy'n cael problemau difrifol o gael tŷ gadawedig yn eu hymyl, ac mae adegau pan gaiff tai gadawedig eu meddiannu gan gangiau o bobl ifanc ac eraill sy'n torri i mewn gan nad yw'r tŷ gadawedig wedi ei ddiogelu'n iawn.

O ran y chwe mis a chwe mis, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod landlordiaid yn gwneud hynny mewn gwirionedd, eu bod yn dilyn y rheolau o ddifrif, a beth fydd yn digwydd i landlordiaid nad ydyn nhw'n dilyn y rheolau?

15:55

I'll start in reverse order again. We will ensure it because of course we have Rent Smart Wales. So, in Wales, you also have to be a registered landlord. So, we have a much more regulated sector than we have elsewhere in the United Kingdom. So, it's, first of all, important to remember that. If you breach these rules—. So, the rented homes Act says that you have to give a written contract to your tenant. So, if don’t do that, and the tenant complains that you haven’t done that, you will have breached the Rent Smart Wales rules. So, you’ll not be a fit-and-proper landlord. So, there are lots double-backs on this.

You will not be able to do retaliatory evictions. So, if your tenant is asking you to mend the gas, for example, and you decide that you need to sell the house instead, you’ll not be allowed to do that, because that will be considered to be retaliatory, for a period of time—obviously not for ever and ever, but for a period of time that couldn’t be considered to be retaliatory. So, there will be a number of protections that the Act itself does, not just this change, and I think that’s why Assembly Members are struggling with it a little bit—and I had to be reminded as well; I think we’ve all forgotten quite how radical our 2016 Act actually is and the changes that it makes.

In terms of abandoned properties, there are two types of abandoned properties. There are lots of owner-occupied or owner-unoccupied abandoned properties that my colleague Lee Waters has been actively seeking to put grants arrangements in place for, with my collaboration, in order to give people up to £20,000 to bring those back into beneficial use, with the proviso that you have to live in it yourself for five years following the grant. But there is the other problem where you’ve rented out your house and the tenant has abandoned it, but you have to go through quite a long process to prove that, and what the Act does is it truncates that process very severely. So, if you can prove the property is abandoned, you can get an almost immediate possession order for it, and that way we’ll get the house back into tenants’ use.

And the third thing we're doing, which this gives me the opportunity to highlight, is that we’re offering to private landlords in the private rented sector that, if they give their home over to us and allow us to rent it for social rent, then we will guarantee them the local housing rate for that house for the five-year period that we’re proposing to do that. In that way we’re hoping to get more landlords to come on board as being prepared to rent their house and give tenants in the sector all of the additional protections that a tenancy in the social rented sector also gives.

Byddaf yn dechrau am yn ôl eto. Byddwn yn sicrhau hynny oherwydd, wrth gwrs, mae gennym ni Rhentu Doeth Cymru. Felly, yng Nghymru, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn landlord cofrestredig. Felly, mae gennym ni sector sy'n llawer mwy rheoledig nag sydd gennym ni mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, yn gyntaf oll, mae'n bwysig cofio hynny. Os ydych yn torri'r rheolau hyn—. Felly, mae'r Ddeddf cartrefi rhent yn dweud bod yn rhaid i chi roi contract ysgrifenedig i'ch tenant. Felly, os nad ydych chi'n gwneud hynny, a bod y tenant yn cwyno nad ydych chi wedi gwneud hynny, byddwch wedi torri rheolau Rhentu Doeth Cymru. Felly, ni fyddwch yn landlord addas a phriodol. Felly, mae sawl agwedd i hyn.

Ni fyddwch yn gallu troi allan oherwydd dial. Felly, os yw eich tenant yn gofyn i chi drwsio'r nwy, er enghraifft, a'ch bod yn penderfynu bod angen i chi werthu'r tŷ yn lle hynny, ni chaniateir i chi wneud hynny, oherwydd ystyrir bod hynny'n beth dialgar, am gyfnod o amser—yn amlwg nid am byth, ond am gyfnod o amser na ellid ei ystyried yn ddialgar. Felly, bydd nifer o amddiffyniadau i'r Ddeddf ei hun, nid yn unig y newid hwn, ac rwy'n credu mai dyna pam mae Aelodau Cynulliad yn cael ychydig o drafferth â hi—ac roedd yn rhaid imi gael fy atgoffa hefyd; rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi anghofio mor radical yw Deddf 2016 o'n heiddo ni mewn gwirionedd a'r newidiadau y mae'n eu gwneud.

O ran eiddo gadawedig, mae dau fath o eiddo gadawedig. Mae llawer o eiddo gadawedig yn eiddo i berchen-feddianwyr neu berchnogion nad ydynt yn feddianwyr y bu fy nghydweithiwr Lee Waters wrthi'n ceisio rhoi trefniadau grantiau ar waith ar eu cyfer, gyda'm cydweithrediad i, er mwyn rhoi hyd at £20,000 i bobl fel y gallant eu hadfer i gyflwr pryd y mae modd eu defnyddio at ddibenion buddiol unwaith eto, gyda'r amod eich bod yn gorfod byw ynddo eich hun am bum mlynedd yn dilyn y grant. Ond mae yna'r broblem arall pan fyddwch chi wedi rhentu eich tŷ ac mae'r tenant wedi cefnu arno, ond mae'n rhaid i chi fynd drwy broses weddol faith i brofi hynny, a'r hyn mae'r Ddeddf yn ei wneud yw cwtogi'r broses honno'n sylweddol iawn. Felly, os gallwch brofi bod yr eiddo wedi'i adael, gallwch gael gorchymyn meddiannu ar unwaith bron ar ei gyfer, a thrwy wneud hynny gallwn gael tenantiaid yn ôl i'r tŷ drachefn. 

A'r trydydd peth yr ydym ni'n ei wneud, y mae hyn yn rhoi cyfle imi dynnu sylw ato, yw ein bod ni'n cynnig hyn i landlordiaid preifat yn y sector rhentu preifat, sef os ydynt yn rhoi eu cartref i ni ac yn caniatáu i ni ei rentu am rent cymdeithasol, yna byddwn yn sicrhau eu bod yn cael y gyfradd dai leol ar gyfer y tŷ hwnnw am y cyfnod o bum mlynedd yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny ar ei gyfer. Drwy wneud hynny rydym ni'n gobeithio sicrhau bod mwy o landlordiaid yn cael eu paratoi i rentu eu tai a rhoi i denantiaid yn y sector yr holl amddiffyniadau ychwanegol y mae tenantiaeth yn y sector rhentu cymdeithasol yn eu rhoi hefyd.

I must declare an interest at this point, as I am a landlord of a couple of rented properties in the private rented sector. Tenants have always had a secured tenancy agreement with myself, and rent charged has always been charged under what the property is valued at. If they have an issue, they ring the agent in charge, and the work is done immediately. So, I too believe that we should ensure security of tenure, but that it should go both ways—security for the tenant and security for the landlord. The one will not survive without the other. These proposals will further erode the rights of private landlords. I have already had a number of concerned owners of rental properties telling me that they are selling up and moving out of the private rental market. So, at a time when we are crying out for homes, the last thing we should be doing is deterring those who rent out their properties.

I have lost thousands of pounds due to bad tenants, and you would be hard pressed to find a landlord who has not, at some time or other, been in the same boat. But many, like me, believe recent changes make it untenable to continue renting out their properties and have decided to sell up. These proposals add insult to injury. Landlords who find it financially untenable to continue renting out their properties will be forced to wait even longer before they can ask their tenants to leave. This could place many landlords in greater debt. I believe this will put off future landlords, people considering renting out a second property until such time as they decide to sell. This is an important part of the private rented sector and we should be encouraging more people to do this if we are to address our housing crisis—and we do have a housing crisis.

So, Minister, you state that you will be making it easier for a contract holder's dependents or relatives to succeed a contract. Can you please expand upon that? Do you not believe that it should be up to the landlord whether or not to offer that contract? Many of the landlords who have contacted me are concerned that the Welsh Government would like to do away with private landlords. I would ask you if you could please answer those claims. Finally, Minister, if we are to tackle our housing crisis, we do need more private landlords, not fewer. How will your Government protect the rights of property owners who seek to rent out their properties in the short term? Thank you.

Rhaid imi ddatgan buddiant yn y fan yma, gan fy mod yn landlord ar ambell dŷ rhent yn y sector rhentu preifat. Mae tenantiaid bob amser wedi cael cytundeb tenantiaeth sicr gennyf, a bu'r rhent a ofynnwyd wastad yn unol â'r pris a roddwyd ar yr eiddo. Os oes ganddyn nhw broblem, maen nhw'n ffonio'r asiant sy'n gyfrifol, a chaiff y gwaith ei wneud ar unwaith. Felly, rwyf innau hefyd yn credu y dylem ni sicrhau diogelwch deiliadaeth, ond y dylai fod er budd y naill a'r llall—diogelwch i'r tenant a diogelwch i'r landlord. Ni fydd un yn goroesi heb y llall. Bydd y cynigion hyn yn erydu hawliau landlordiaid preifat ymhellach. Rwyf eisoes wedi cael nifer o berchnogion pryderus sydd ag eiddo ar rent yn dweud wrthyf eu bod yn gwerthu ac yn gadael y farchnad rhentu preifat. Felly, ar adeg pan fo dirfawr angen am gartrefi, y peth olaf y dylem ni fod yn ei wneud yw atal y rhai sy'n rhentu eu heiddo.

Rwyf wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd tenantiaid gwael, a byddai'n anodd iawn ichi ddod o hyd i landlord na fu, ar ryw adeg neu'i gilydd, yn yr un cwch. Ond mae llawer, fel fi, yn credu bod newidiadau diweddar yn ei gwneud hi'n anghynaladwy i barhau i rentu eu heiddo ac wedi penderfynu gwerthu. Mae'r cynigion hyn yn ychwanegu halen at y briw. Bydd landlordiaid sy'n ei chael hi'n anghynaladwy yn ariannol i barhau i rentu eu heiddo yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach cyn y gallant ofyn i'w tenantiaid adael. Gallai hyn wthio llawer o landlordiaid i fwy o ddyled. Rwy'n credu y bydd hyn yn faen tramgwydd i ddarpar-landlordiaid y dyfodol, pobl sy'n ystyried rhentu ail eiddo hyd nes y byddant yn penderfynu gwerthu. Mae hyn yn rhan bwysig o'r sector rhentu preifat a dylem ni annog mwy o bobl i wneud hyn os ydym ni eisiau mynd i'r afael â'n hargyfwng tai—ac mae gennym ni argyfwng tai.

Felly, Gweinidog, rydych chi'n dweud y byddwch yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. A wnewch chi ymhelaethu ar hynny? Onid ydych chi'n credu mai'r landlord ddylai benderfynu a ddylid cynnig y contract hwnnw ai peidio? Mae llawer o'r landlordiaid sydd wedi cysylltu â mi yn pryderu bod Llywodraeth Cymru'n dymuno cael gwared ar landlordiaid preifat. Byddwn yn gofyn i chi a wnewch chi ateb yr honiadau hynny os gwelwch yn dda. Yn olaf, Gweinidog, os ydym ni am fynd i'r afael â'n hargyfwng tai, mae arnom ni angen mwy o landlordiaid preifat, nid llai. Sut bydd eich Llywodraeth yn diogelu hawliau perchnogion eiddo sy'n ceisio gosod eu heiddo ar rent yn y tymor byr? Diolch.

16:00

Well, I think we have a fundamental political disagreement about the role of the private rented sector just to start off. I think the solution to the housing crisis—for a crisis it is—is to build a lot more homes for social rent. That is a much better way of doing it, it's a much more secure route of doing it, and it provides people with the housing option that they actually want. So, we have a pretty fundamental disagreement. 

But, turning to the very specific things, I also think that—and it's usually women who are in this position—if you've been a 'tenant' in a house where you're not the named person on the tenancy and you find that your partner decides to end that tenancy, rendering you homeless, you should have rights, depending on how long you've stayed in that house and so on, and what you can show around it being your home. That's even more important where there's a domestic violence situation. So, you would not want a situation to continue where a woman in private rented accommodation whose name is not on the tenancy agreement cannot complain about domestic violence because in doing so she renders herself homeless. So, I think we at least across the Chamber will have an agreement that that should not be allowed. 

Similarly, where a carer has spent 20-odd years in a property and is not on the tenancy, or a child of that tenant has done that, they should not necessarily be evicted from their home for no reason other than the fact that they were omitted from the original tenancy agreement. So, the renting homes Act provides for that. This is not the change that I'm consulting on. We've already done that in the renting homes Act. I'm just reminding Members, and I will be writing to all of you reminding you of what we passed, and I think you'll be pleased when you see how radical it was. 

In terms of what you said about yourself and your landlord practices, I think that's the case for 98 per cent of the landlords in Wales. Most of our landlords are good landlords. What we have to do here is prevent the rouge landlords from giving the sector a bad name. So, a landlord who behaves themselves in the manner that you've just described will have nothing to fear from this Act or any of the other Acts that we've passed. Only those landlords who seek to do things like retaliatory evictions, have properties that are not fit for human habitation, or seek to manipulate the market in a way—so, for example, they seek possession of their house solely for the purposes of putting the rents up—will have problems with this. Because you cannot do it in the first six months of a tenancy, and then you need to give six months. So, everybody will have a minimum of 12. Then after that you've got a rolling six months. If you've got somebody willing to rent the house for slightly more, they're not still going to be there six months later.

So, we expect this to make a significant difference to those kinds of evictions. We also expect the Act in itself to make a significant difference, because what it will do is it will reward the good landlords. You're absolutely right in identifying that we need the good landlords to stay in the market. It will discourage yet more of the rogue landlords that we seek to have out of the sector—that's the truth.

Wel, i ddechrau rwy'n credu bod gennym ni anghytundeb gwleidyddol sylfaenol ynghylch swyddogaeth y sector rhentu preifat. Rwy'n credu mai'r ateb i'r argyfwng tai—ac argyfwng yw hi—yw adeiladu llawer mwy o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol. Mae hynny'n ffordd well o lawer o wneud hynny, mae'n llwybr llawer mwy diogel, ac mae'n rhoi i bobl y dewis y mae arnyn nhw ei eisiau mewn gwirionedd o ran tai. Felly, mae gennym ni anghytundeb pur sylfaenol.

Ond, gan droi at y pethau penodol iawn, rwyf hefyd yn credu—a menywod fel arfer sydd yn y sefyllfa hon—os ydych chi wedi bod yn 'denant' mewn tŷ lle nad chi yw'r person a enwir ar y denantiaeth a'ch bod yn gweld bod eich partner yn penderfynu dod â'r denantiaeth honno i ben, gan eich gwneud yn ddigartref, dylai fod gennych chi hawliau, yn dibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn y tŷ hwnnw ac yn y blaen, a'r hyn y gallwch chi ei ddangos o ran ei fod yn gartref ichi. Mae hynny'n bwysicach fyth pan fydd sefyllfa o drais yn y cartref. Felly, ni fyddech chi eisiau i sefyllfa barhau pryd na all menyw mewn llety rhent preifat nad yw ei henw ar y cytundeb tenantiaeth, gwyno am drais domestig oherwydd wrth wneud hynny y bydd yn gwneud ei hun yn ddigartref. Felly, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn y Siambr o leiaf yn gytûn na ddylid caniatáu hynny.

Yn yr un modd, os yw gofalwr wedi treulio rhyw 20 mlynedd mewn eiddo ac nad yw ar y denantiaeth, neu os yw plentyn y tenant hwnnw wedi gwneud hynny, ni ddylent o anghenraid gael eu troi allan o'u cartref heb unrhyw reswm heblaw'r ffaith eu bod wedi'u hepgor o'r cytundeb tenantiaeth gwreiddiol. Felly, mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu ar gyfer hynny. Nid dyma'r newid yr wyf i'n ymgynghori yn ei gylch. Rydym ni eisoes wedi gwneud hynny yn y Ddeddf rhentu cartrefi. Rwy'n atgoffa'r Aelodau, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi i gyd yn eich atgoffa o'r hyn a basiwyd gennym ni, ac rwy'n credu y byddwch yn falch pan fyddwch yn gweld pa mor radical oedd hynny. 

O ran yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud amdanoch chi eich hun a'ch arferion fel landlord, credaf fod hynny'n wir am 98 y cant o'r landlordiaid yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'n landlordiaid ni yn landlordiaid da. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yma yw atal y landlordiaid diegwyddor rhag rhoi enw drwg i'r sector. Felly, ni fydd gan landlord sy'n ymddwyn yn y modd yr ydych chi newydd ei ddisgrifio unrhyw beth i'w ofni o'r Ddeddf hon nac unrhyw un o'r Deddfau eraill yr ydym ni wedi eu pasio. Dim ond y landlordiaid hynny sy'n ceisio gwneud pethau fel troi allan dialgar, sydd ag eiddo nad yw'n addas i bobl fyw ynddo, neu sy'n ceisio ystumio'r farchnad mewn ffordd—felly, er enghraifft, maen nhw'n ceisio meddiannu eu tŷ dim ond er mwyn cynyddu'r rhent—fydd yn cael problemau gyda hyn. Oherwydd ni allwch chi wneud hynny yn ystod chwe mis cyntaf tenantiaeth, ac yna bydd angen i chi roi chwe mis o rybudd. Felly, bydd gan bawb o leiaf 12 mis. Yna ar ôl hynny mae gennych chi chwe mis treigl. Os oes gennych chi rywun sy'n barod i rentu'r tŷ am ychydig yn fwy, ni fyddant yn dal yno chwe mis yn ddiweddarach.

Felly, rydym ni'n disgwyl i hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i'r mathau hynny o droi allan. Rydym ni hefyd yn disgwyl i'r Ddeddf ei hun wneud gwahaniaeth sylweddol, oherwydd yr hyn y bydd yn ei wneud yw gwobrwyo'r landlordiaid da. Rydych chi'n llygad eich lle wrth ddweud bod angen i'r landlordiaid da aros yn y farchnad. Bydd yn faen tramgwydd i fwy fyth o'r landlordiaid twyllodrus yr ydym ni'n ceisio'u cael allan o'r sector—dyna'r gwir.

16:05

Thank you very much. Thank you, Minister.

Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch, Gweinidog.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gwên—10 mlynedd o wella iechyd y geg plant yng Nghymru
5. Statement by the Minister for Health and Social Services: Designed to Smile—10 years of improving children's oral health in Wales

Item 5, which was a statement by the Minister for Health and Social Services on Designed to Smile: 10 years of improving children's oral health in Wales, has been issued as a written statement.

Cafodd eitem 5, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gynllun Gwên - 10 mlynedd o wella iechyd y geg plant yng Nghymru, ei chyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru
6. Statement by the Minister for Finance and Trefnydd: Implications for Wales of the UK Government's 2019 Spending Round

Therefore, we move to item 6, which is a statement by the Minister for Finance and Trefnydd on the implications for Wales of the UK Government's 2019 spending round. I call on the Minister for Finance and Trefnydd, Rebecca Evans.

Felly, rydym ni am symud at eitem 6, sef datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynglŷn â goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Member
Rebecca Evans AC 16:05:36
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd