Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/01/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 12:45 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Teyrngedau i Steffan Lewis AC

Prynhawn da. Ddwy flynedd a hanner yn unig wedi ei ethol yn Aelod Cynulliad dros y de-ddwyrain, ac ond yn 34 oed, mae'n orchwyl trist iawn imi orfod datgan yn y Senedd inni golli ein cyd-Aelod a'n ffrind, Steffan Lewis, dros y penwythnos. Mae ei deulu annwyl a'i ffrindiau yn ymuno â ni heddiw yn yr oriel, wrth inni dalu teyrnged iddo. A gawn ni godi gyda'n gilydd yma yn y Siambr a thrwy ein hystâd yn gyfan i gofio Steffan Lewis?

Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.

Diolch, Llywydd. Cenedl fach ydy Cymru, ond bob rhyw hyn, rŷm ni'n magu cawr. Des i nabod Steffan Lewis gyntaf, mae'n rhaid, dros 20 mlynedd yn ôl, yn sgil isetholiad Islwyn. Clywon ni sôn am y bachgen anhygoel yma o gymoedd Gwent a oedd nid yn unig yn aelod o Blaid Cymru, ond o'r SNP a Mebyon Kernow, ac wedi llwyddo i gael Undeb Rygbi Cymru i nodi hyn yn y rhaglen ar gyfer gêm Cymru-Lloegr pan oedd Steffan yn fascot i dîm Cymru. Doedd Steffan byth yn gwneud unrhyw beth ar ei hanner.

O fewn cwpl o flynyddoedd, roedd Steffan yn annerch cynhadledd y Blaid am y tro cyntaf, yn 14 oed—ddwy flynedd yn iau na William Hague ac, fel roedd e'n hoff o bwyntio mas, yn llawer mwy effeithiol. Hyd yn oed bryd hynny, nid Steffan bach mohono; yr oedd hwn am fod yn fawr. Mi oedd yna ddyfnder rhyfeddol yno o'r cychwyn. Ei fam, Gail, wrth y bwrdd smwddio, ac yntau'n naw a'r cwestiynau'n tasgu fel dŵr o ffynnon. Pryd a ble a pham—ac yn amlach na dim, y 'pam', fel rhyw fath o Vincent Kane o dan brentisiaeth. Gwelwyd y potensial a dyfrwyd y gwreiddiau, â Gail yn uwcholeuo erthyglau'r Western Mail ac yn prynu llyfrau hanes Cymru. Ond nid ysgrifennu straeon na llyfrau hanes oedd tynged hwn, ond ei greu.    

Roedd Steffan o'i gorun i'w sawdl yn Gymro tanbaid o'r iawn ryw. Ond roedd hefyd yn ŵr o Went, a gwelodd yr allwedd ar gyfer deall problemau a phosibiliadau'r genedl gyfan yn llwyddiannau a thrasiedïau'r sir arbennig honno. Yng Ngwent y gwelwyd datblygiad cyntaf cenedlaetholdeb Cymreig ar ffurf Cymru Fydd yn cael ei ddarostwng mewn cyfarfod stormus yng Nghasnewydd ym 1896. Ond fe fagodd y sir, yn Steffan ac yn Phil Williams o'i flaen ef, ddau o'r meddyliau mwyaf doeth a chreadigol yn ystod 100 mlynedd y mudiad cenedlaethol cyfoes. Os mai ein tasg ni oedd llunio Cymru newydd, yna yng Ngwent y dechreuodd hynny—y labordy cymdeithasol a roddodd feddygaeth sosialaidd i'r byd. Roedd ei sir ef nid yn unig yn borth i Gymru ond yn allwedd i'w dyfodol hi.

Roedd gan Steffan obsesiwn gyda hanes, fel y sylweddolodd Nia ei chwaer yn fuan iawn—roedd gwyliau'r haf iddyn nhw wrth dyfu i fyny yn daith drwy Gymru benbaladr yn canfod cestyll, brwydrau a mannau geni arwyr ac enwogion. Ond er bod Steffan yn awyddus i ni ddysgu, nid oedd yn dymuno inni gael ein caethiwo gan y gorffennol. Ceisiodd yn ofer berswadio plaid a oedd, hyd nes yn ddiweddar, wedi cadw geiriau Lewis Valentine ar dôn Finlandia gan Sibelius yn anthem swyddogol iddi ei hun, i fabwysiadu cân Fleetwood Mac 'Don't stop thinking about tomorrow', yn ei lle, a ddefnyddiwyd yn gofiadwy iawn, wrth gwrs, gan Bill Clinton yn ei ymgyrch arlywyddol ym 1992. I Steffan, drych ein gorffennol yn aml fyddai'n cynnig gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol. Yr araith a draddododd i'n cynhadledd ar ôl cael ei ethol yn ymgeisydd ar gyfer etholiad 2016 sy'n crynhoi hyn orau, ac fe hoffwn i ddarllen ei diweddglo nawr. Dyma Steffan yn ei eiriau ef ei hun:

Rydych chi'n gwybod fy mod i fy hunan wedi fy hyfforddi'n hanesydd, a'm bod yn cael llawer iawn o bleser wrth ystyried a dysgu am ein gorffennol ond, mewn ychydig fisoedd, byddaf yn dad am y tro cyntaf. Mae hynny wedi gwneud imi feddwl llawer iawn mwy am ein dyfodol ni, yn hytrach na'r gorffennol. Beth fydd yn etifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf? Pa lwyddiannau y bydd y genhedlaeth honno'n edrych 'nôl arnyn nhw ac yn eu nodi nhw'n bwyntiau pendant yn hynt ein gwlad? Gyfeillion, mae hyn i gyd nawr yn ein dwylo ni.

Aeth ymlaen i sôn am yr ysbrydoliaeth fawr a gafodd yn sgil y refferendwm yn yr Alban, ond y pwynt i Steffan yw'r dewisiadau a wnaethom ni yma yng Nghymru. Dyma Steffan unwaith eto:

Ac er ein bod ni wedi cael ein hysbrydoli gan eraill i ryw raddau, byddwn yn ffynnu fel mudiad ac fel cenedl dim ond pan gerddwn ein llwybr ni ein hunain, pan fyddwn yn ysbrydoli ein gilydd, pan fyddwn yn dod at ein gilydd i benderfynu ar yn y gogledd a'r de, yn bobl leol a newydd-ddyfodiaid, gyda'n gilydd yn un Gymru tuag at y Gymru rydd.

Ni fydd Steffan, yn anffodus, yn gweld y Gymru honno y bu ef yn breuddwydio amdani. Ond i'w fab, Celyn, a'i genhedlaeth ef, fe osododd y sylfaen, ac yn awr bydd yn rhaid i ni adeiladu'r ffordd. Roedd ef yn deall, fel y cawr arall hwnnw o Gymro, Brân, mai hanfod arweinyddiaeth yw mynd â'r bobl gyda chi, er mwyn codi pontydd. Yng ngeiriau un o'i hoff feirdd, Harri Webb, pe byddem ni'r Cymry ond yn gallu cydsefyll, ni fyddai modd ein gorchfygu ni.

Daeth Steffan â'r araith honno i ben drwy ddweud nad oedd ef am fod yn wleidydd nodweddiadol a rhaffu rhestr hir o addewidion i'r etholwyr. Yn hytrach, roedd ef yn addo un peth yn unig: roedd yn mynd i'n gwneud ni'n falch ohono. Wel, fe wnaethost bawb ohonom ni'n falch, Steffan—yn falch ohonot ti, yn falch o'th adnabod di, a'th alw'n gyfaill a chydweithiwr. Fe wnaethost ti ni'n falch o fod yn Gymry drwy dy esiampl di, a bydd hynny'n parhau. Efallai na fyddi di dy hun yn cyrraedd y fan honno gyda ni, Steffan, ond fe fyddwn ni'n cyrraedd o'th herwydd di. Roedd gan Steffan yr holl gyneddfau i fod, un diwrnod, yn dad i'r genedl. Yn anffodus, ni ddaw hynny i fod, ond bu'n fab perffaith i'r genedl.  

Mae'n diolch ni i gyd yn ddiderfyn i ti, Steffan, i'th fam am dy roi di i ni, ac i Shona am dy rannu di gyda ni oll. 

12:50

Diolch, Llywydd.

Mae'r ymdeimlad o dristwch a cholled yn ddwys yn y Cynulliad y prynhawn yma, wrth inni feddwl yn bennaf am deulu a chyfeillion Steffan, ond rydym hefyd yn meddwl am y golled i'r Cynulliad hwn a dyfodol ein cenedl. Rwy'n ymwybodol iawn nad oeddwn i, yn wahanol i Aelodau eraill—yn wahanol i Adam, sydd newydd siarad—yn adnabod Steffan o gwbl nes i mi gyfarfod ag ef yma ar ôl iddo gael ei ethol. Ac fel mae'n digwydd, Llywydd, roeddwn i'n rhannu'r un cyfrifoldebau yn Llywodraeth Cymru ar y pryd ag yr oedd ef ar ran Plaid Cymru yn y Siambr, sef siarad ar Brexit a siarad ar gyllid. O ganlyniad, ac yn llawer mwy nag a fyddai wedi digwydd yn gyffredin, cefais fy hun yn ei gwmni. Ac roedd ef, heb rithyn o amheuaeth, yn un o wleidyddion mwyaf graslon a galluog ei genhedlaeth; yn rhywun, fel y mae Adam Price newydd ei ddweud, pan fyddai'n dod i mewn trwy'r drws i drafod rhywbeth a oedd o bwys angerddol iddo ef, ei uchelgais bob amser fyddai ceisio'r fan lle gellid cael tir yn gyffredin a lle gellid cytuno â'n gilydd ar yr hyn sy'n gyfrifoldebau pwysig i ni i gyd. Dyna sut y cefais fy hun yn y diwedd yn gweithio gydag ef ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru', dogfen sydd wedi ein gwasanaethu'n dda iawn yn y ddwy flynedd diwethaf ac a fydd yn parhau, fe wn, yn faen prawf i'r math o wlad yr ydym yn dymuno ei gweld yn y cyd-destun y cawn ni ein hunain ynddo heddiw, a thu hwnt i hynny hefyd, a chawsom sgyrsiau ynghylch cyllid, a threth, a Gwent a'r pethau oedd o bwys iddo yno.

Mae'n anochel, wrth i rywbeth ofnadwy fel hyn ddigwydd, eich bod yn eich cael eich hunan yn cofio ac yn meddwl am y sgyrsiau a gawsoch chi. Roeddwn yn meddwl dros y penwythnos am achlysur pan fuom ni'n siarad gyda'n gilydd am bwysigrwydd gallu cyflwyno ar y cyd gopi o 'Ddiogelu dyfodol Cymru' i Lywodraeth y DU. Roedd yn gynnyrch ein dwy blaid, roedd y ddau ohonom wedi cymryd rhan fawr yn ei gynhyrchu ac roeddem yn dymuno mynd gyda'n gilydd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei chyflwyno i Lywodraeth y DU. Ac wele, roedd uwch Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU yn ymweld â Chaerdydd ac roeddem yn gallu mynd a chyflwyno'r ddogfen iddo. Cyflwynodd Steffan y ddogfen yn yr union ffordd y byddech chi'n ei disgwyl—yn eglur ac yn gryno. Fe gawsom ni ateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac, wrth inni adael yr ystafell, dywedodd Steffan wrthyf, 'Wel, os nad oeddwn yn genedlaetholwr cyn i mi ddod i mewn i'r ystafell hon, yn sicr rwyf yn genedlaetholwr wrth imi adael.' [Chwerthin.]

Fel y gwyddoch, roedd Steffan yn unigolyn meddylgar, sensitif ac ymroddedig. Ond roedd yn ddoniol hefyd, yn rhywun y byddech yn mwynhau bod yn ei gwmni, yn rhywun y byddech chi'n dysgu llawer ganddo, hyd yn oed yn yr eiliadau llai ffurfiol hynny. Mae'n anodd iawn meddwl, onid yw, mai chwe wythnos yn unig sydd ers iddo siarad am y tro diwethaf yn y Siambr hon. Ac mae'n galed cofio mai dim ond chwe mis yn ôl sydd ers i nifer ohonom yma yn y de ac yn y gogledd, ar draws y pleidiau yn y Siambr, ymgynnull i gerdded gyda'n gilydd ar hyd y ffrynt yn Llandudno. Roedd hi'n ddiwrnod braf iawn; yn un o'r dyddiau hirfelyn o haf hynny pan ddisgleiria'r haul ac ni allech chi ond bod yn obeithiol ynglŷn â'r dyfodol. A dyma ni, brin chwe mis wedi hynny, yn nyddiau tywyll y gaeaf. Ar ddiwrnod pan

Wyneb yr haul, ar draul galar, na welwn.

Ac, am amser go hir, Llywydd, ni wnawn ninnau godi ein pennau ychwaith.

12:55

Diolch, Llywydd.

Rwyf innau hefyd yn codi gyda chalon drom i roi teyrnged i Steffan y prynhawn yma ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant â Shona ei wraig a Celyn ei fab ac â'i deulu a'i gyfeillion agos. Ni all dim eich paratoi chi ar gyfer colli rhywun mor ifanc.

Er mai dim ond yn 2016 y cafodd ei ethol i'r Cynulliad, roeddwn i'n ymwybodol iawn ei fod yn disgleirio'n gynyddol fel un o sêr ei blaid, ymhell cyn ei ethol, o'r sgyrsiau a gefais gyda rhai o'm cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru. Dywedodd Steffan fod cael ei ethol i'r lle hwn yn swydd ddelfrydol yn ei olwg, ac fe lenwodd ei swydd gydag anrhydedd hyd y diwedd un; gan sicrhau bob amser fod lleisiau ei etholwyr yn cael eu clywed. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, roedd yn amlwg i bawb ei fod yn wleidydd galluog, dawnus ac ymrwymedig iawn, gyda llawer iawn i'w gyfrannu eto.

Ni chofir iddo godi ei lais erioed pan gyflwynai ei gyfraniad, gan fod y Siambr bob amser yn ymdawelu pan siaradai ef, oherwydd roedd pobl yn wirioneddol awyddus i glywed beth oedd ganddo i'w ddweud. Weithiau, efallai, nid oeddwn yn rhy eiddgar i glywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud, gan ei fod bob amser â rhywbeth grymus a deallus i'w ddweud, a oedd weithiau'n  gwrthbrofi'n gryf y dadleuon yr oeddem yn eu cyflwyno o'r ochr hon i'r Siambr. Nid yn unig ei fod yn cyflwyno dadleuon grymus a deallus, roedd hefyd bob amser â rhywbeth newydd i'w ychwanegu at y ddadl, rhywbeth nad oedd yr un ohonom ni wedi meddwl amdano. Byddai bob amser yn ymdrin â'r ddadl o wahanol gyfeiriad. Dyna un o'i gryfderau mwyaf yn fy marn i. Er ein bod ni ar wahanol ochrau i'r sbectrwm gwleidyddol, roedd gennyf barch mawr i'w safiad egwyddorol ar faterion a oedd o bwys gwirioneddol. Cofir amdano fel gwleidydd a oedd bob amser yn cadw at ei egwyddorion. Roedd hi'n gwbl eglur i mi pa mor ymroddedig ac ymrwymedig oedd ef i'w etholwyr ac ni fyddai byth yn caniatáu i'w salwch ei rwystro rhag dod yma i gynrychioli ei etholwyr. Bydd y dewrder a ddangosodd drwy gydol ei salwch yn esiampl i ni i gyd.

Rwy'n siŵr y bydd etifeddiaeth Steffan yn parhau drwy ei deulu ac, yn wir, drwy'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy fel Steffan yn ymuno â'r byd gwleidyddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael adnabod Steffan, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda Shona, Celyn a'i deulu ar yr adeg anodd iawn, iawn hon. Llywydd, dylai pob Senedd gael rhywun fel Steffan. Ond rydym ni'n drist iawn nawr ein bod wedi colli ein Steffan ni. Bydd colled enfawr ar ei ôl ym mhob cwr o'r Siambr hon.

13:00

Diolch, Llywydd. Ar lwyfan etholiad ym Mlaenau Gwent y cwrddais i â Steffan am y tro cyntaf yn ystod etholiadau diwethaf y Cynulliad, ond roedd hi'n amlwg i mi ar y pryd ei fod yn unigolyn eithriadol o ddawnus. Yn ystod ei ddwy flynedd a hanner yn y Cynulliad, rwy'n credu i bawb ohonom weld ei alluoedd arbennig, a gwn y bydd pob un yn y Siambr hon yn cytuno â mi ein bod wedi colli un o'n haelodau mwyaf galluog.

Ar lefel bersonol, er ein bod wrth gwrs yn anghytuno'n wleidyddol, roedd bob amser yn gwrtais a chyfeillgar pryd bynnag y byddem ni'n croesi llwybrau yn adeiladau'r Cynulliad. Rwyf innau'n un sydd yn drist iawn oherwydd ymadawiad Steffan â'r bywyd hwn, ac mae ei deulu yn fy meddyliau ar hyn o bryd yn eu profedigaeth fawr. Ond gobeithio y byddan nhw'n cael rhywfaint o gysur yn ei gyflawniadau sylweddol iawn.

Hwn, o bosib, yw'r cyfraniad anoddaf y bu'n rhaid i mi ei wneud yn y Senedd hon erioed yn y 15 mlynedd yr wyf wedi bod yn Aelod Cynulliad. Mae pob un ohonom ni yn nheulu Plaid Cymru mewn galar eithafol o golli ein cyfaill a'n cydweithiwr, ac mae ein cydymdeimlad o waelod ein calonnau â'i deulu, y gwn eu bod ym mhoen eu hiraeth ar ôl ei golli ef. Ond mae Steffan yn golled i'n cenedl ni hefyd, i'n democratiaeth ni—mae'n golled i'n dyfodol ni.

Roedd gan Steffan un o'r ymenyddiau gwleidyddol gorau yng ngwleidyddiaeth Cymru. Roedd wedi darllen yn anhygoel o eang, ac roedd ganddo ddealltwriaeth ryngwladol, a oedd yn golygu ei fod yn gallu tynnu ar enghreifftiau bob amser—enghreifftiau eithaf astrus weithiau—i dynnu sylw at neu brofi ei bwynt. Fel y soniodd eraill, roedd ei gyfraniadau, yn enwedig ar Brexit ond ar faterion eraill hefyd, bob amser yn ystyrlon, yn bwyllog, yn wybodus, ac yn amlach na pheidio—nid bob amser, ond yn amlach na pheidio—byddai Steffan yn cael ei brofi'n iawn yn y pen draw.

Mae digonedd o bobl wedi rhoi teyrnged i gyfraniad gwleidyddol cyhoeddus Steff, a bydd llawer ohonoch chi yma yn ymwybodol iawn o hynny, ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau i'n fyr ar Steffan fel person. Buom ni'n gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd am tua thair blynedd cyn iddo gael ei ethol yn Aelod Cynulliad. Roedd yn drylwyr, gallai feddwl yn greadigol, a gallai feddwl yn strategol. Roedd yn hynod o deyrngar a gonest, ac roedd yn barod iawn i ddweud pan fyddai'n anghytuno â rhywbeth neu pan na fyddai'n hoffi rhywbeth. Ond roedd hefyd yn chwarae i'w dîm, yn barod i weithio'n galed iawn i sicrhau llwyddiant pob un o'n hamcanion cyffredin. Gyda Steff, ni waeth pa mor anodd neu anorchfygol y gallai'r broblem ymddangos, ni fyddai byth yn derbyn nad oedd unrhyw ateb i'w gael. Fe aethom ni i''r afael â llawer o broblemau anodd gyda'n gilydd, fe wnaethom ni rai ymyriadau gwleidyddol gwych gyda'n gilydd ac mae gennyf i atgofion rhyfeddol o'm gwaith a'm cyfeillgarwch gyda Steffan, y byddaf i nawr yn gallu eu trysori am byth.

Mae pob un ohonom wedi ein breintio o gael atgofion, a bod yn rhan o'i fywyd, ac rydym ni i gyd yn awyddus i dynnu gyda'n gilydd nawr i gefnogi ei deulu a chefnogi ein gilydd drwy'r wythnosau a'r misoedd anodd nesaf.

Nos da, Steffan. Cwsg yn dawel, fy ffrind.

13:05

Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon, dim ond ers iddo gael ei ethol yn 2016 i ymuno â ni yma yr oeddwn i'n adnabod Steffan, ac yn y cyfnod byr hwnnw, mae ei gwrteisi a'i ddeallusrwydd wedi gadael eu hôl arnaf i a llawer un arall, fel y clywn ni o bob rhan o'r Siambr heddiw. Daeth fy nghyd-Aelod Jack Sargeant i'r Siambr hon gyda'r syniad o wleidyddiaeth fwy caredig. Roedd Steffan yn ymgorfforiad o'r wleidyddiaeth fwy caredig honno yr oedd yn dymuno ei weld. Roedd yn gwrtais, roedd gan bobl feddwl uchel ohono, byddai'n ystyried ei ddadleuon a chyflwynai achos cryf, fel y nodwyd eisoes.

Llywydd, mae cyfraniad Steffan i'r Cynulliad wedi cael ei gydnabod gan yr holl Aelodau, ond roedd ei gyfraniad i'r pwyllgor materion allanol yr oedd yn eistedd arno yn enfawr.  Deuai ag ystyriaeth feddylgar i'r dadleuon ac fe ddefnyddiai'r ystyriaeth feddylgar honno gydag agenda am yr hyn a fyddai orau i bobl Cymru. Dyna oedd ei gyfraniad ef.

Nawr, fe wyddom i gyd beth oedd ei safbwynt gwleidyddol a'r hyn a oedd o'r pwys mwyaf iddo ef, sef bodolaeth gwladwriaeth genedlaethol annibynnol i Gymru. Ond yn bwysicach yn ei olwg oedd gwelliant gwirioneddol ym mywydau pobl yng Nghymru, a dyna'r hyn a dewisodd ei gyflawni a gweithio ar ei gyfer, ac roedd popeth a wnâi i'r perwyl hwnnw. Daeth â syniadau trawsbynciol ger ein bron, a chraffu ar Weinidogion, nad oedden nhw'n ei fwynhau bob amser chwaith, oherwydd roedden nhw ddrwgdybus iawn o Steffan weithiau pan oedd ef yn y pwyllgor oherwydd roedden nhw'n gwybod beth oedd ar ddod. Fe aeth i bobman i geisio'r wybodaeth honno. Rwy'n cofio iddo ddweud wrthyf i ei fod wedi mynd i Lundain er mwyn mynd o amgylch yr holl lysgenadaethau a swyddfeydd yr is-genhadon i gael gwybod sut beth fyddai Ewrop y dyfodol. Rwy'n cofio iddo ddweud wrthyf hyd yn oed ei fod eisiau trefnu taith i Norwy gyda'i deulu gyda'r bwriad gwirioneddol o fynd at y ffin rhwng Sweden a Norwy i weld beth oedd yn digwydd ar y ffin honno.

Er y byddwn ni'n gweld eisiau ei ddeallusrwydd a'i ffraethineb yma yn y Cynulliad hwn, nid yw hynny'n ddim o'i gymharu â cholled ei deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i deulu nawr ac i'r dyfodol, ond un peth a wn yw y bydd ei fab yn tyfu i fyny i weld ei uchelgais yn cael ei gwireddu ryw bryd; rwy'n credu hynny. Efallai mai amser byr a gafodd Steffan, ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau.

Rwy'n codi i siarad gyda chalon drom ar ran y grŵp Llafur. Yn gyntaf, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad ni i gyd â gwraig Steffan, Shona, ei fab, Celyn, a'i holl deulu a'i ffrindiau. Roedd Steffan mor fawr ei barch yng ngolwg Aelodau o bob plaid ar draws y Siambr hon ac roedd llawer o edmygedd ohono. Roedd ei ddeallusrwydd craff yn glir, fel yr oedd ei afael ar y materion allweddol a'i angerdd gwirioneddol i wella cyflwr Cymru. Ac yn y gwaith a wnaeth, yn gyntaf ar gynnig Bil parhad UE, a'i waith ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru' wedi hynny, bydd yn sicr o adael etifeddiaeth rymus yma yng Nghymru.

Hoffwn sôn hefyd am ychydig o bwyntiau personol, gan i mi gyrraedd yn y Siambr hon ym mis Mai 2016, yr un pryd yn union â Steffan, ac fe'm trawyd i'n gyflym iawn pa mor amhleidiol mewn gwirionedd yw natur y Siambr hon hefyd. Steffan wnaeth chwarae'r rhan allweddol wrth dangos hyn i mi yn y lle cyntaf, gan fod y ddau ohonom ni'n gwasanaethu ar BIPA gyda'n gilydd—y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Rwy'n cofio cyfarfod gydag ef a chynrychiolwyr eraill cyn ein taith gyntaf a theimlo braidd yn anniddig o ran sut y byddwn yn gallu dod ymlaen gydag Aelodau o bleidiau eraill yn ystod y daith honno. Ond neidiodd Steffan dros ben y rhwystrau diogelwch yn Nhŷ Hywel, cymaint oedd ei frwdfrydedd am y gwaith yr oeddem ni ar fin ei wneud, ac yn sicr fe chwalwyd unrhyw rwystrau a oedd yn bodoli.

O hynny ymlaen, fe ddysgais nad oedd dim na allai ef ei drafod a dangos gwybodaeth eang iawn amdano, fel y soniodd yr Aelodau eraill, yn enghreifftiau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Roedd dyfnder yr wybodaeth a feddai arno ym mhob maes o wleidyddiaeth a'i angerdd yn gwbl ryfeddol. Ond byddai bron pob sgwrs a gefais gydag ef yn troi'n ôl bob amser at ei deulu, ac roedd hynny'n rhywbeth a wnaeth argraff wirioneddol arnaf i. Roedd yn amlwg yn ddyn teulu i raddau helaeth iawn, yn dad balch iawn, a siaradai'n annwyl iawn am ei wraig a'i rieni hefyd, a sut yr oedden nhw wedi dylanwadu ar ei wleidyddiaeth.

Bydd ei dalent, yn ddi-os, yn golled enfawr i'w blaid, Plaid Cymru, ac yn golled enfawr i genedl y Cymry hefyd, ond wrth gwrs, yn bwysicach, yn golled i'w deulu a'i gyfeillion. Fel Steffan, rwyf innau hefyd yn hanesydd yn y bôn, ac rwy'n hyderus, pan gaiff hanes y pumed Cynulliad hwn ei ysgrifennu a'r bennod hon yn hanes Plaid Cymru, bydd gwaith Steffan yn llusern olau.

13:10

Mae yna gadair wag y tu cefn i mi. Mae'n gadair sydd wedi bod yn cael ei chadw yn gynnes i Steff fyth ers iddo ddechrau ar ei frwydr yn erbyn canser ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mae'n teimlo fel ddoe. Roeddwn i'n edrych ar ei decst o y diwrnod o'r blaen: 'Fedri di ddod allan o'r pwyllgor i siarad efo fi?', meddai fo. Ac mi oedd hwnnw'n ddiwrnod tywyll.

Ond mi oedd Steff yn benderfynol o barhau i fwrw ei oleuni arnon ni. Mi fyddai'n dal i ddod yma, fel rydyn ni wedi clywed, yn enwedig ar gyfer trafodaethau ar faterion Ewropeaidd, neu i fynnu chwarae teg dros ryw achos neu'i gilydd yng Ngwent a'r de-ddwyrain, bro ei febyd oedd mor annwyl iddo fo.

Yn ei ugeiniau cynnar oedd o pan greodd o argraff arnaf i'n gyntaf. Roeddwn i'n cyflwyno rhaglen hystings deledu o Lynebwy yn ystod isetholiad ym Mlaenau Gwent, a Steff oedd ymgeisydd Plaid Cymru—ymgeisydd ifanc iawn, rhyw 21 oed, dwi'n meddwl oedd o. Dwi'n cofio meddwl ar y pryd, 'Waw, mae hwn yn dda', ac mi oedd o'n dda iawn. Roedd o'n arbennig iawn.

Pleser pur wedyn oedd cael dod yn gydweithiwr iddo fo maes o law, ac i'w alw fo'n ffrind—fi yn etholedig yn gyntaf, er ei fod o ym Mhlaid Cymru ymhell o'm blaen i, yntau yn aelod cwbl allweddol o'r tîm, ac yna mi gafodd o ei ethol. Ac mi oedd cael dod yn Aelod o'n Senedd genedlaethol ni yn golygu popeth iddo fo. I Steff, braint oedd bod yma, yn gwasanaethu ei gymuned, yn gwasanaethu Cymru, ond braint y gymuned honno, braint Cymru a'n braint ninnau i gyd oedd bod Steff wedi penderfynu ymroi i wasanaethu'r genedl yn ei Senedd.

Dyn addfwyn, dyn teg, gwleidydd teg. Dyn anhunanol. Mi welon ni hynny yn y ffordd yr oedd o mor eiddgar i helpu cleifion eraill drwy siarad yn agored am ei ganser. Dyn meddylgar, yn dewis ei eiriau'n ofalus. Roedd o'n atgoffa fi am fy niweddar fam yn hynny o beth, a hithau wedi rhoi cymaint dros Gymru mewn llawer ffordd. A minnau'n clywed mewn teyrngedau iddi hi, 'Byddai dy fam yn dal yn ôl, wedyn pan fyddai hi'n siarad, mi oedden ni'n gwybod bod ganddi hi rywbeth i'w ddweud, ac mi fyddai pawb yn gwrando'. Ac felly oedd Steff. Steff, allaf i ddim rhoi llawer mwy o deyrnged i ti na drwy ddweud dy fod ti'n atgoffa fi o mam. Mi oedd cyfraniad Steff bob amser yn werthfawr.

Daeth gwaith Steff ym mywyd cyhoeddus Cymru i ben yn llawer, llawer rhy gynnar. Mewn ychydig flynyddoedd, gwnaeth gyfraniad a oedd yn gwneud iddo sefyll allan fel gwleidydd â gallu prin ganddo, gydag eglurder gwirioneddol a gweledigaeth ar gyfer ei gymuned a'i wlad, ac fel dyn gonest, cyfiawn, didwyll, penderfynol a chwbl anhunanol. Daeth â phobl at ei gilydd, ac yn hynny o beth, mae'n esiampl i bob un ohonom ni.

Heddiw, rydyn ni'n dweud, 'Diolch, Steff'. Rydyn ni'n dy golli di ac yn colli'r hyn y byddet ti wedi ei wneud droson ni, ond yn diolch am bopeth a wnest ti, am osod y sylfaeni ar gyfer Cymru annibynnol. Rydyn ni'n diolch am dy weledigaeth a dy arweiniad mewn bywyd mor fyr. Do, mi gadwon ni dy gadair yn gynnes, ond nid felly yr oedd hi am fod. Rŵan, mi wnawn ni bopeth i gadw dy fflam ynghyn. Heddwch iti, Steff.

13:15

Roeddwn wedi clywed ers amser am Steffan Lewis gan fy nghyn gyd-Aelod a chyd-Weinidog yn y Cynulliad, Jocelyn Davies, a oedd mor falch o'r ymgyrchydd gwleidyddol ifanc hwn a oedd wedi gwirfoddoli yn ei swyddfa hi. A phan ddywedodd hi wrthyf ei bod yn bwriadu ymddiswyddo cyn etholiad 2016, dywedodd ei bod yn falch y byddai hwnnw'n gyfle i Steffan gymryd ei le yn y Cynulliad fel olynydd iddi hi yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ranbarth y de ddwyrain.

Wrth gwrs, roedd llawer ohonom ni'n adnabod Steffan yn sgil ei waith y tu ôl i'r llenni cyn 2016, yn gweithio fel awdur areithiau i Leanne, ac roeddem yn gwybod—roeddem yn gwybod—y byddai ef yn unigolyn aruthrol pan ddeuai'r amser iddo ef ymuno â byd gwleidyddiaeth cyhoeddus fel Aelod Cynulliad. Ac, wrth gwrs, fe adawodd ei farc o'r diwrnod cyntaf y daeth yn Aelod, yr ieuengaf a etholwyd yn 2016. Rwy'n cofio, fel y bydd llawer hefyd, i Steffan gymryd ei sedd yma yn y Siambr gyda hyder ac eglurder, ond hefyd yn wylaidd o ran ei swydd a'r cyfle yr oedd wedi ei gael—yn glir o ran ei wleidyddiaeth, wrth gwrs. Cofiaf iddo ddweud—a gallwch chi gofio hynny, a'i gydweithwyr hefyd—na fyddai ef yn defnyddio ei gyfrifiadur, oherwydd ei fod yn awyddus i gymryd rhan lawn yn y dadleuon. Nid oedd ef am gael ei gyhuddo fel y cawn ni'n aml: 'Beth ydych chi'n ei wneud yn rhythu ar eich cyfrifiadur o fore gwyn tan nos?' A chredaf iddo gadw at yr addewid honno. Felly, os oedd angen cael gafael arno, roedd yn rhaid ei gael allan o'r Siambr neu anfon neges destun ato.

O'r cychwyn roedd yn barod i weithio y tu hwnt i ffiniau'r pleidiau i gyflawni nodau ac amcanion cyffredin, ac fe gymerodd ef yr awenau yn llefarydd ei blaid wrth inni symud yn fuan tuag at fyd y refferendwm a orfodwyd arnom, gan weithio gyda Llafur ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru'. Ac wrth gwrs mae hynny wedi sefyll prawf amser heddiw, fel y dywedodd y Prif Weinidog heddiw, ac yn wir yr wythnos diwethaf. Ond roedd hefyd yn llefarydd cyllid cadarn ac yn arbenigwr yn y maes. Eisteddai ar y pwyllgorau cyllid a'r pwyllgorau materion allanol, fel y gwnawn innau, a phan ymunais â'r pwyllgorau hynny fis Tachwedd diwethaf, roeddwn i'n eu mwynhau nhw gymaint yn fwy pan oedd ef yn gallu ymuno â ni, fel y soniodd Dai Rees, er gwaethaf ei salwch cynyddol a'i driniaethau blin, yr oedd yn eu hwynebu gyda'r fath ddewrder, a bydd pob un ohonom wedi dysgu oddi wrtho. Ond ni fyddai byth, fel y dywedais, yn gadael unrhyw Weinidog Llafur neu gydweithiwr oddi ar y bachyn o ran ei waith craffu, ond roedd bob amser yn gefnogol pan welai achos cyffredin.

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i waith Steffan yn hyrwyddo pwysigrwydd Cymru yn y byd, a phwysigrwydd materion allanol. Felly, fe drosglwyddodd yr awenau i mi o ran swyddogaeth y rapporteur yr oedd ef wedi ei wneud gyda Jeremy Miles, pan oedd ef ar y pwyllgor, yn edrych ar gyfleoedd i Gymru yn y byd fel rhan o'n cyfrifoldebau tuag at ddatblygiad rhyngwladol—a gwn y bydd Eluned Morgan yn dwyn hyn yn ei flaen—ond hefyd ar ôl Brexit, yn benderfynol o sicrhau nad oedd Cymru yn cael ei hanwybyddu ac yn cael ei chydnabod o ran diplomyddiaeth, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Soniwyd eisoes am y daith gerdded gyda Steff, a drefnwyd gan Nia fis Gorffennaf diwethaf. Rwy'n cofio cerdded gyda Dai Lloyd a Jeff Cuthbert ar hyd y gamlas i'r Coed Duon. Bydd yn atgof parhaol i bob un ohonom, a chofiaf y cwtsh gyda Steffan ar y daith honno. I Steffan, roedd mor bwysig ei fod yn codi'r arian hwnnw at Felindre. Ac wrth gwrs, gyda hynny, rwy'n meddwl am ei deulu ac yn cydymdeimlo o'r galon â nhw heddiw, a hefyd yn yr wythnosau a'r misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Steffan, rydych chi wedi gadael etifeddiaeth fawr ar eich ôl yn Gymro Ewropeaidd angerddol, ac yn ddinesydd byd rhyngwladol. Byddwn yn parhau i helpu i fynd ar drywydd yr amcanion hynny er cof amdanoch, oherwydd roeddech chi'n graff iawn yn eich gweledigaeth wleidyddol ac fel unigolyn a gwleidydd balch a neilltuol o Gymru.

Gaf i ddechrau wrth dalu teyrnged, wrth gwrs, i Steffan a'r teulu, ac i gydymdeimlo â'r teulu yn eu profedigaeth? Er, wrth gwrs, efallai fod pobl yn erfyn rhywbeth i ddigwydd, mae'r golled yn dal i fod yn un trwm.

Mae'n anodd i ni amgyffred mai dim ond am amser byr iawn y bu Steffan yn aelod o'r Cynulliad, cymaint oedd ei gyfraniad. Roeddem ni'n eistedd yma yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau, a gwelsom pa mor helaeth oedd ei wybodaeth ac, wrth gwrs, ei awydd i wasanaethu ei wlad. Fe ddaeth yn gyflym iawn yn uchel ei barch yng ngolwg cynifer o amgylch y Siambr hon o bob plaid, a phan siaradai, roedd yr hyn a ddywedai yn dreiddgar ac yn ysgogi'r meddwl bob amser. Roedd hi'n werth gwrando ar Steffan bob amser.

Roedd ganddo gymaint i'w gynnig i'r ddadl ar Brexit drwy ei waith ar ddatblygu gweledigaeth o'r ffordd y dylai Brexit weithio hyd at awgrymu Bil parhad. Ac rwy'n credu mai ef yr oedd yr Aelod cyntaf yn y Siambr hon i awgrymu Bil parhad ac mae'n deilwng o'r clod am hynny.

Ar lefel bersonol, credaf ei bod yn gwbl gywir i ddweud bod pawb yn hoffi Steffan. Roedd yn aelod balch o Blaid Cymru. Rydym i gyd wedi gweld y llun ohono, wrth gwrs, yn annerch cynhadledd Plaid Cymru ym 1987 pan oedd yn 14 oed, rwy'n credu. Byddai hynny wedi gofyn am gryn hyder i allu gwneud hynny. Ond er gwaethaf yr egwyddorion a ddaliai mor gryf, roedd bob amser, wrth gwrs, yn barod i weithio gyda phleidiau eraill pan deimlai fod hynny er lles y genedl. Rydym ni'r gwleidyddion yn aml ag uchelgais o weithio gydag eraill, onid ydym? Ond nid uchelgais yn unig oedd hynny gan Steffan; byddai'n gweithredu hynny hefyd.

Roeddwn i, yn un, a oedd yn cael ei gyfraniad i'r ddadl ar Brexit yn amhrisiadwy, a bydd rhai ohonoch yn gwybod y gofynnwyd i mi mewn cyfweliad teledu cyn y Nadolig i enwi rhai unigolion o bleidiau eraill yr oeddwn i â pharch tuag atynt. Heb amharchu eraill yn y Siambr, Steffan oedd un o'r rheini a enwais.

Roedd y newyddion am y diagnosis o ganser a gafodd Steffan, wrth gwrs, yn achos siom enfawr iddo ef a'i deulu. Nid oes amheuaeth o hynny. Fe soniodd am ei ddiagnosis gyda mi. Gwyddai fod fy ngwraig, Lisa, yn gweithio i Macmillan. Gwyddai mai prognosis anodd iawn oedd hwn, ond, er hynny, fe barhaodd â'i waith a gweithiodd yn galed i godi arian i'r rhai sy'n byw gyda chanser, ac wrth gwrs, bydd yr atgofion hynny yn aros gyda chynifer o'r Aelodau sy'n cofio'r gwaith a wnaeth i godi arian i Felindre. Byddai adegau o deimlo'n isel, wrth gwrs, yn ei frwydr yn erbyn canser, ond gwyddom yn sicr ei fod wedi cael y penderfyniad a'r nerth i ysbrydoli eraill. Ychydig iawn o bobl sydd â'r cyneddfau hynny. Roedd Steffan yn un ohonyn nhw.

Rydym ni wedi colli un o sêr y dyfodol yng ngwleidyddiaeth Cymru, ond mae ei deulu wedi colli mab, brawd, gŵr a thad, a heddiw rydym yn cydsefyll â nhw ac yn cofio Steffan.

13:20

Fel pawb yn y Siambr heddiw, dwi hefyd, wrth gwrs, yn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at Shona, Celyn, Gail, Nia a'r teulu i gyd, a dwi am ddiolch i chi am rannu Steffan efo ni. Cafodd ei gipio i ffwrdd yn llawer rhy gynnar, ac mae ei golled yn un drom i'w deulu, yn anad neb, ond hefyd i Blaid Cymru, i bobl y de-ddwyrain, i'r Cynulliad ac i Gymru. Fe gyfrannodd cymaint, ac fe fydd ei ddisgleirdeb yn goleuo'r ffordd i ni. Fe fydd yn ysbrydoliaeth ac fe fydd yn cerdded efo ni ar y daith tuag at y Gymru rydd.

Gwnes i ddod ar draws Steff am y tro cyntaf mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhen-y-groes yn etholaeth Arfon. Roedd Alun Ffred wedi mynnu bod yr hogyn ifanc, disglair yma o Went yn dod atom ni i rannu ei weledigaeth, a dyna a wnaeth, mewn ffordd feddylgar, fanwl, dawel, ond mewn ffordd hollol argyhoeddedig a chredadwy. Roedd ganddo freuddwyd, ac roedd yn credu y byddai'r freuddwyd yn cael ei gwireddu. Dros y blynyddoedd wedyn, byddwn yn cwrdd â Steff mewn cynadleddau a digwyddiadau'r blaid, ac yn 2016, fe ddaeth y ddau ohonnon ni'n Aelodau Cynulliad am y tro cyntaf, a chefais y fraint o eistedd drws nesa iddo fo tan yn weddol ddiweddar. 

Fel y clywsom ni yn barod, doedd o ddim yn licio'r sgrin gyfrifiadurol, ac felly, os oedd o eisiau anfon neges at y Llywydd, yn aml byddai'n rhaid mynd drwy fy sgrin i, a finnau wedyn yn tynnu ei goes, 'Nid fi yw dy ysgrifennydd personol di, Steff', ac mi fyddai yntau yn tynnu fy nghoes innau hefyd. Er enghraifft, pan oeddwn i'n defnyddio pob cyfle posibl i wthio am ysgol feddygol i Fangor, mi fyddwn i'n cael, 'Chi gogs yn rhy swnllyd o lawer.' Dyna un ymadrodd y byddai o'n hoff o ddefnyddio. Mi oeddwn i wrth fy modd efo'i ymadroddion bachog. Roeddwn i wrth fy modd yn clywed ei areithiau gofalus, grymus, ond byddai'r asides bach bachog pan fyddai Aelod arall yn siarad yn rhoi gwen ar fy wyneb i. 'Mae hyn yn ofnadwy', pan oedd Gweinidog yn gwrthod ateb cwestiwn neu'n traethu'n ddiflas, a bydda o'n casáu clywed Aelodau'n cyfeirio at y Deyrnas Unedig fel 'our nation', 'our country'. Fe fyddai o bob tro yn cywiro hynny o dan ei wynt—'Cymru ydy'n cenedl ni. Cymru ydy'n gwlad ni.' A pheth arall oedd yn ei gorddi fo oedd cyfeirio at Gymru fel 'cenedl fechan'. 'Ni ddim yn fach', byddai o'n mynnu, 'Ni'n genedl fwy na nifer o wledydd annibynnol eraill.'

Wrth gerdded i'r Siambr neu wrth aros cyn areithio tu ôl i lwyfan, fe fyddai Steff yn dweud hyn wrthyf i, 'Dyma ni, Siân Gwenllian'—'Siân Gwenllian', byth 'Siân'; wastad fy enw llawn—'Dyma ni, Siân Gwenllian, y fenyw o Wynedd, a'r bachan o Went. Awn amdani. Let's go, let's show 'em how it's done.' Gwnaf i fyth anghofio'r geiriau hynny. Roedden ni'n cynrychioli ardaloedd gwahanol iawn i'w gilydd, ond fe wnaeth y bachan o Went gryn argraff arnaf i. A bydd y bachan hynaws, disglair, egwyddorol wastad efo ni yn y Senedd, yn ein cynadleddau ni, yn fy mywyd pob dydd, achos bydd y bachan o Went wastad yn fy nghalon, yn ein calonnau. Steff, mae dy freuddwyd yn fyw, ac fe fydd y freuddwyd yn dod yn wir. Cwsg mewn hedd, gyfaill annwyl.

13:25

Fel pawb arall yn y Siambr, bydd hiraeth arnaf am Steffan. Roeddwn yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid gydag ef ac fe gawsom ni sbort—nid wyf yn siŵr y byddai neb arall yn credu hynny—pan oeddem ni'n trafod y dreth trafodiadau tir a materion traws-ffiniol. Rwy'n siŵr i Steffan a minnau ymdrin â hynny drwy ddeialog rhyngom ni'n dau, er mawr siom i eraill a oedd yn eistedd yn y Siambr. Ei wybodaeth ddi-ben-draw am ffiniau eraill—pan grybwyllais y 'traws-ffiniol', fe orffennom ni yn y diwedd gyda 1,000 o ddarnau o dir yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, a dywedodd ef, 'Dyw hynny'n ddim—sut ydych chi'n meddwl y mae Portiwgal a Sbaen yn ymdopi, neu'r Walwniaid a'r Fflemiaid? Sut ydych chi'n credu y mae'n gweithio yn y gweddill—? Dywedais i, 'Nid wyf i'n gwybod', a dywedodd ef, 'Wel, rwyf i wedi bod yno. Es yno ar fy ngwyliau i ymweld â'r ffin a'i gweld.' Dywedais i, 'Wel, nid wyf i'n credu y gallwn i ddarbwyllo fy ngwraig i fynd ar wyliau i weld ffiniau ond—.'

Y peth arall a'i gwnâi yn hynod oedd ei fod yn gwrthod defnyddio ei gyfrifiadur yn y Siambr, rhywbeth a oedd yn fy ngwylltio i'n gacwn—ond nid fel yr oedd yn gwylltio Siân Gwenllian, oherwydd yr unig ffordd y gallech chi gysylltu ag ef oedd drwy anfon neges at Siân: 'Siân, a wnewch chi ofyn i Steffan a gaf i siarad ag ef am y dreth trafodiad tir y tu allan?' A byddai hithau'n dweud, 'Nid fi yw ei ysgrifenyddes.' Yn wir, mae'n rhaid mai dyna un o'r pethau a ddywedodd hi wrtho'n fwy aml na dim arall yn ystod ei hamser yma—'Steffan, nid fi yw dy ysgrifenyddes di.' Ond fe wnaethoch chi waith da fel ysgrifenyddes iddo. Credai na ddylid defnyddio cyfrifiadur yn y Siambr. Roedd yn credu hynny a glynodd ato. Ni waeth pa mor drafferthus oedd hynny i'r gweddill ohonom, roedd yn glynu ato.

Roeddwn i'n adnabod Steffan pan oedd yn gweithio yn swyddfa Plaid Cymru. Roeddwn i'n defnyddio'r un gegin ag ef. Mae'n syndod sut y dewch chi i adnabod pobl oherwydd y pethau rhyfeddaf o fewn y Cynulliad. Rwy'n defnyddio'r un gegin â Phlaid Cymru a'r hyn a gofiaf am Steffan yw ei fod bob amser yn serchog, bob amser yn gwrtais a phob amser â gwên ar ei wyneb. Bydd gennyf i hiraeth amdano, ond nid hanner cymaint â'i deulu.

Nid oeddwn i'n adnabod Steffan yn dda iawn, ond roeddwn yn awyddus i godi i ddweud yn fyr iawn ei fod yn ddigon o ryfeddod o ddyn. Yr atgof parhaol sydd gennyf i o Steffan yw digwydd dod ar ei draws yn mynd am dro gyda'i deulu dros forglawdd Caerdydd ryw brynhawn braf ym mis Hydref yn ystod y tywydd twym hwnnw a gawsom. Ac roedd yn deulu hapus, allan gyda Shona a'u mab, yn mwynhau'r heulwen. Ond, i mi, roedd yn foment ingol oherwydd meddyliais tybed faint mwy o atgofion hapus fel hyn y cânt i'w rhannu. Dim ond—. Mae'n golled ddirdynnol i rieni gladdu eu mab cyn ei amser; nid honno yw'r drefn arferol, ac mae hynny, yn amlwg, yn ddychrynllyd o boenus. Ond, yn amlwg, i Shona a Celyn, mae'n agor bwlch enfawr yn eu bywydau nhw. Ac roeddwn i eisiau dweud wrth Celyn fod ei dad yn wleidydd wirioneddol anhygoel, fel y bydd yn sylweddoli pan fydd ychydig yn hŷn, gobeithio, a'i fod yn ddyn dewr, a oedd yn ymarfer y fath o wleidyddiaeth y mae Jack Sargeant yn ei hyrwyddo mor aml.

Rwy'n awyddus i ddweud ei bod wedi bod yn fraint o'r mwyaf cael ei adnabod ef. Ac rwy'n gobeithio y bydd yn ein hysbrydoli ni i wella ein perfformiad a gwella safon y dadlau y dangosodd ef ei bod yn gwbl bosibl ei wneud heb fod yn gwerylgar nac yn or-bleidiol. Felly, diolch yn fawr iawn, Steffan, ac mae ein cydymdeimlad ni—bawb ohonom ni, rwy'n siŵr—â'i deulu.

13:30

Roeddwn i ar fin mynd i mewn i Neuadd Goffa Trecelyn nos Wener pan ddaeth y newyddion bod fy ngwrthwynebydd gwleidyddol yn Islwyn, a'm cyd-Aelod annwyl, Steffan Lewis AC, wedi ein gadael ni. Felly, fel mae nifer wedi'i ddweud, rwyf yn cydymdeimlo'n ddwys â gwraig Steffan, Shona, a'i fab, Celyn. Yn ein cyfarfod o aelodau Plaid Lafur Islwyn, roedd tristwch gwirioneddol o glywed y newyddion trasig hyn, a hynny oherwydd personoliaeth Steffan. Cynhaliodd Plaid Lafur Islwyn funud o dawelwch i gofio am Steffan a thalwyd teyrnged i'n cydwladwr. Roedd e'n hynod falch ei fod yn hanu o Islwyn, fel rydym ni eisoes wedi clywed, ac yntau wedi'i fagu yn Cross Keys, ceir atgofion annwyl am ei gyfnod fel plentyn yn Ysgol Gynradd Cwm Gwyddon yn Abercarn, lle'r oedd fy merch innau hefyd yn ddisgybl. A heddiw, rydym ni'n mynegi ein parch at y gwir fab Cymru a gwir fab Islwyn hwn, yr oeddwn i hefyd yn ei barchu'n fawr fel cyd-Aelod o Senedd Cymru, er, fel y dywedais i, yn y pen draw, roedden ni'n wrthwynebwyr gwleidyddol. Er hynny, roedd llawer yr oeddem ni'n cytuno arno, a chredaf inni glywed y teimladau hynny'n glir ac yn groyw yn areithiau heddiw.

Ond, yn y pen draw, roedd Steffan yn unigolyn caredig a sensitif, a oedd yn meddu ar deallusrwydd miniog. Fel mae sawl un wedi'i ddweud, cafodd y ddau ohonom ni ein hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2016, ac, fel aelod o'r dosbarth, rwyf innau hefyd yn tystio'n frwd bod Steffan yn wleidydd egnïol ac egwyddorol a oedd â chymaint mwy i'w gyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru. Ac rydym ni eisoes wedi sôn am wleidyddiaeth fwy caredig, y mae Jack Sargeant eisoes wedi sôn yn hirfaith amdano, ac roedd Steffan yn ymgorffori'r wleidyddiaeth fwy caredig honno. Yn yr amser rhy fyr o lawer yr oedd wedi gallu gwasanaethu fel Aelod o'r Cynulliad, dangosodd hyn drwy bopeth a ddywedodd a phopeth a wnaeth—ei allu a'i natur pwyllog. Defnyddiodd ei bwerau deallusol helaeth i ddadlau'r achos o blaid, fel rydym ni wedi clywed yn gynharach yn y Siambr hon, hawl Cynulliad Cymru i gael ei barchu ar ôl trafodaethau Brexit. Ac mae'n debyg mai gwaith Steffan ar Brexit, yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd ei blaid ar y pwnc, a gafodd yr effaith fwyaf. Ond, yn bersonol, byddaf bob amser yn ei gofio fel gwleidydd egwyddorol a dyn da—gwas didwyll ac ymroddedig dros bobl Islwyn, a chredaf y bydd pob un ohonom ni yn gweld ei eisiau. Bydded i ti orffwys mewn heddwch, Steffan.

Cofiaf glywed Steffan ar y radio ar gyfer is-etholiad 2006 ym Mlaenau Gwent—ei araith am y datganiad. Roeddwn i yn fy ngwely ac eisteddais i fyny yn y gwely oherwydd bod ei eiriau'n wefreiddiol—yn hynod, hynod ysbrydoledig. Gweithiais gyda Steffan yn 2008, yn etholiadau cyngor Caerffili, a daethon ni i adnabod ein gilydd yn well pan gawson ni ein hethol am y tro cyntaf yn 2016. Ac, ambell brynhawn, byddem ni'n mynd dros y ffordd am ddiod gyflym a sgwrs fach ac yn trafod pob math o bethau, yn enwedig gwleidyddiaeth a sut y byddai modd gwneud pethau yn well, a phêl-droed—Celtic, Dinas Caerdydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Steffan am y sgyrsiau hynny. Roedd e'n ddyn da iawn, a ddangosodd gymaint o ddewrder ac urddas yn y ffordd y daeth ef yma, ac yn y ffordd yr oedd yn torri ei gŵys ei hun. Mae ei farwolaeth gynamserol yn golled wirioneddol i'n gwlad, a gwir obeithiaf y gall ei deulu gymryd rhywfaint o gysur o'r ffaith fod gan gynifer o bobl—pawb ohonom ni a oedd yn adnabod Steffan—feddwl mor uchel ohono.

13:35

Llywydd, roedd llais Steffan yn llais cryf ar y cyfansoddiad. Roedd ganddo ddealltwriaeth ddofn a oedd yn caniatáu iddo droedio uchelfannau syniadaeth wleidyddol. Llywydd, cafodd y ddau ohonon ni ein hethol yn 1999, ac nid wyf yn meddwl i mi erioed glywed rhywun yn traethu mor hael ar faterion sylfaenol. Roedd ei wybodaeth am y broses seneddol a'i ddefnydd ohoni yn caniatáu iddo hyrwyddo cysyniad y Ddeddf parhad, fel rydym ni wedi'i glywed, rhywbeth a roddodd bwysau ar Lywodraethau Cymru a'r DU ar adeg allweddol yn ein hanes fel sefydliad.

Fodd bynnag, nid oedd awdurdod Steffan ar faterion cyfansoddiadol, yn rhywbeth sych na haniaethol; roedd yn siarad gydag egni ac angerdd. Ond, roedd hefyd yn parchu barn pobl eraill, fel fi, a oedd yn aml yn dod i gasgliadau gwahanol. Yr hyn a welais yn fwyaf urddasol ac argyhoeddiadol yn syniadau cyfansoddiadol Steffan oedd yr angen am ddemocratiaeth seneddol ystyriol. Dyna'r hyn sydd wedi cael ei ffurfio gan wledydd cartref y Deyrnas Unedig. Dyma yw ein prif wreiddyn— rhywbeth y dylen ni i gyd ei drysori, pa un ai Cymru annibynnol neu DU ddatganoledig ar ei newydd wedd yw ein nod yn y pen draw. Ac mae angen doethineb o'r fath arnom ni heddiw o bob dydd, wrth i Brexit gyrraedd adeg penderfyniad yn y Senedd.

Un o'r sgyrsiau diwethaf a gefais â Steffan oedd ynghylch hanes doniol ac amharchus Alan Watkins am gwymp  Mrs Thatcher, A Conservative Coup. Ac roedd Steffan yn berchen ar yr hiwmor direidus hwnnw hefyd, gan weld ffolineb gwleidyddiaeth sy'n ymbellhau o'i sylfeini cadarn, fel y mae'r llyfr hwnnw yn ei ddisgrifio'n grefftus.

Estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Steffan. Gobeithio y byddwch yn cael eich cysuro o wybod na fydd llais diffuant Steffan byth yn mynd yn anghof i ni. 

Wrth reswm, mae colli Steffan mor ifanc yn ergyd drychinebus i'w deulu a'i ffrindiau, i'w blaid, Plaid Cymru, i'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, ac i Gymru, o gofio pwysigrwydd Steffan Lewis fel ffigur gwleidyddol a'r gallu oedd ganddo, yr ymrwymiad oedd ganddo, yr ydym wedi clywed sôn amdano ar draws y Siambr heddiw.

O'm rhan i, Llywydd, y tro cyntaf yr wyf i'n cofio siarad â Steffan ar ôl iddo ddod yn Aelod o'r Cynulliad, oedd pan ddaeth ef â'r rhinweddau hynny i'r amlwg, a'r teimlad dwys a oedd ganddo dros Went, fel y clywsom gan Adam ac eraill, pan ddaeth Steffan ataf yn gynnar iawn a dweud cymaint oedd ei ymrwymiad i weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol a chymaint oedd ei ymrwymiad i ddeall Gwent, cynrychioli buddiannau Gwent, ac i fod yn hyrwyddwr ar gyfer y rhan honno o Gymru. Maes o law, daeth yn amlwg iawn ei fod yn hollol ddiffuant am hynny, fel yr oedd am bopeth arall hefyd. Felly, rwy'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran pob un o fy nghyd-Aelodau AC Llafur Gwent— mae Rhianon Passmore wedi siarad drosti hi ei hun, fel petai—ond mae pob un ohonom ni yn cydnabod bod Steffan mor ymroddedig a diffuant yn yr ymdeimlad hwnnw dros Went ac mor benderfynol o wneud popeth a allai ar ran Gwent, ond i weithio ar draws y pleidiau, ac yn wir gydag amrywiaeth o sefydliadau, i'r perwyl hwnnw.

Fel y mae eraill, rwyf innau'n cofio'r daith gerdded i godi arian dros Felindre, pryd yr oedd hi mor amlwg beth oedd hyd a lled a phwysigrwydd y gefnogaeth a oedd i Steffan gan deulu a ffrindiau, y pleidiau gwleidyddol—unwaith eto, ar draws y Siambr—gwahanol sefydliadau y bu ef yn gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, a sawl un arall. Roedd hefyd yn amlwg gymaint o gysur oedd hynny i Steffan, pa mor bwysig oedd tynnu nerth o'r gefnogaeth honno iddo, a oedd i'w gweld ar y daith gerdded, ond a oedd i'w gweld yn eangach o lawer ac yn fwy cyffredinol hefyd.

Hefyd, Llywydd, hoffwn innau adleisio yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud ynghylch pa mor ddewr oedd Steffan wrth ddefnyddio'r profiad ofnadwy hwnnw o ddioddef o ganser er lles cyffredinol—i fod mor barod i siarad am y profiad, i wneud cyfweliadau, i wneud datganiadau cyhoeddus, i gymryd rhan mewn trafodaethau, gan wybod pa mor bwysig oedd hynny i bobl eraill sy'n dioddef o ganser a'u teuluoedd a'u ffrindiau. Aeth i gryn fanylder, sydd yn amlwg bwysig, arwyddocaol a llesol i bobl eraill sy'n dioddef o ganser, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Wrth reswm, yr oedd yn hynod emosiynol hefyd ddarllen am yr hunangofiant yr oedd yn ei baratoi ar gyfer ei fab, ei fab ifanc, a fyddai'n gallu ei ddarllen pan fydd yn hŷn ac yn gallu deall ei dad yn well a deall daliadau a gwerthoedd ac egwyddorion ei dad a'u defnyddio i gyfrannu at ei fywyd ei hun a gwneud ei gyfraniad ei hun.

Felly, Llywydd, dymunaf adleisio, ar ran fy nghyd-Aelodau Llafur lleol yr hyn a ddywedodd cynifer o bobl eraill: dyn pa mor hoffus, diffuant, ymrwymedig, dawnus, talentog oedd Steffan Lewis a pha mor bwysig oedd i'w wlad. Rwyf innau, fel y mae eraill wedi ei ddweud, yn gobeithio bod hynny'n rhywfaint o gysur i'w deulu a'i ffrindiau ar adeg mor anhygoel o anodd.

13:40

Siaradais ddiwethaf â Steffan yn ystod ei ymweliad olaf â'r Cynulliad cyn y Nadolig, pryd yr wyf yn cofio sgwrsio ag ef y tu allan i'r Siambr hon mewn toriad yn y ddadl. Roedd yn amlwg y pryd hwnnw pa mor sâl yr ydoedd. Dywedais i wrtho ein bod ni i gyd—pob un ohonon ni yn y Siambr—yn ei gefnogi. Diolchodd i mi am hynny a dweud mai ei waith fel Aelod Cynulliad a oedd yn ei gynnal, a oedd yn ei ysbrydoli, ac roedd yr anwyldeb, y cariad, yr oedd e'n ei deimlo gan bob un ohonom ni Aelodau'r Cynulliad yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw iddo.

Fel y mae ei blaid ei hun, yr oedd ef yn meddwl y byd ohoni, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon wedi ei ddweud, bachgen Gwent oedd ef. Roedd e'n arfer fy ngalw i yn 'bachgen Mynwy'. Fe wnes i dynnu sylw at y ffaith mai o Gwmbrân oeddwn i'n dod yn wreiddiol a gwelais ei lygaid bach yn goleuo wrth feddwl am bob math o bethau sarhaus neu ymadroddion newydd y byddai'n gallu eu defnyddio mewn dadleuon ar draws y Siambr. [Chwerthin.] Yn anffodus, ni fydd y dadleuon hynny'n digwydd. Ond bydd ei etifeddiaeth, a'r teimladau y gwnaeth ef annog pob un ohonom ni i'w teimlo, o ba ran bynnag o Gymru fyddai hynny, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda fi am byth.

Soniodd Mike Hedges am y Pwyllgor Cyllid. Ces i'r fraint o eistedd wrth ochr Steffan—sydd i'w weld yn amser hir iawn, ond, wrth gwrs, dim ond cwpl o flynyddoedd, ers 2016, yr oeddem ni ar y pwyllgor hwnnw gyda'n gilydd. Ac rydych chi'n iawn, Mike, roedd ef wrth ei fodd yn sôn am y ffin, neu, mewn gwirionedd, ymosod ar bobl a oedd yn dymuno siarad am y ffin, a byddai'n tynnu sylw at y ffaith fod yna ffiniau ledled y byd nad ydyn nhw'n achosi unrhyw broblemau o gwbl o ran masnachu ac o ran gwledydd yn bodoli ar wahân. Roedd e'n iawn yn hynny o beth. Hefyd, pryd bynnag y byddai trafodaethau ynghylch Brexit neu gyni, byddwn i'n clywed y llais bach hwn yn fy nghlust, ei lais ef ydoedd, a byddai ef yn fy mhrocio i, a byddai'n dweud, 'Dy griw di yw hyn eto, yntê? Dyna dy griw di yn San Steffan. Sut galli di fyw 'da dy hunan?' Yn y pen draw, byddwn i'n symud y gadair ychydig i'r dde fel nad oedd yn bosibl iddo gyrraedd mwyach.

Ond roedd yn fraint adnabod Steffan ers iddo gael ei ethol yn 2016. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn dweud bod pobl yn gadael etifeddiaeth, ond, yn fy marn i, fel y dywedodd y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones gynnau, mae ei etifeddiaeth ef yn un enfawr. Rwy'n credu, yn ei ffordd ei hun, ei fod wedi effeithio ar bawb yng Nghymru, a pha un a ydych chi'n cytuno â'r polisi cenedlaetholaidd ai peidio, neu o ba blaid wleidyddol bynnag yr ydych chi wedi dod, rwy'n credu iddo fe werthu neges ei blaid mor dda fel ei fod wedi denu pawb arall yng Nghymru ychydig yn nes at ei freuddwyd, ac rwy'n credu, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol i'n gwlad odidog yr oedd ef mor falch ohoni, daeth ef â'i freuddwyd ychydig yn nes at realiti pawb.

Dyma ddiwrnod du iawn. Mae'n anrhydedd i fi allu sefyll yn fan hyn i dalu teyrnged i ti, Steffan. Dŷn ni, yn naturiol, yn cydymdeimlo'n ddwys iawn gyda dy deulu, gyda dy ffrindiau, ac mae yna fwlch yn y sedd nesaf ataf i. Dydy'r sgrin dal ddim ymlaen. Ond mae yna fwlch enfawr yn ein grŵp ni, yn ein calonnau, yn ein bywydau—bwlch lle bu Steffan. Steffan oedd Aelod ieuengaf grŵp Plaid Cymru; babi ein grŵp ni, gyda theulu ifanc, ac mae'n calonnau ni yn torri.

Roeddet ti'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, gweithiwr dygn ac ymroddedig, yn byw bob munud dros Gymru, dros ddyfodol cenedlaethol ein gwlad. Byddaf yn cofio'r trafodaethau di-rif dros y blynyddoedd lawer dwi wedi dy nabod di, ers yr isetholiad nôl yn y 1990au—roeddwn i yna yn Islwyn hefyd—y trafodaethau droeon am hanes Cymru, hanes anrhydeddus ein gwlad, fel ffordd i ysbrydoli cenedl nad yw'n gwybod ei hanes.

Ac roedd yn ddyn manylder, hefyd, manylion cywrain deddfwriaethol, ac ef oedd crëwr Bil parhad Cymru. Roedd Steffan yn ymwybodol iawn o fygythiad Brexit i fodolaeth gwirioneddol Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i adeiladu tarian ddeddfwriaethol amddiffynnol ar gyfer ein pobl. Roedd Steffan yn ysbrydoliaeth lwyr i mi yn bersonol, i'r  blaid hon sydd gennym, i'r Senedd hon ac i Gymru; seren ddisglair, fel y dywedodd llawer, gyda thalent  a dewrder enfawr, yn enwedig yn ystod y misoedd diwethaf, yn ogystal ag ysbryd cydnerth, cydnerthedd y mae ei angen arnom ni i gyd nawr. Rydym ni'n gweddïo dros deulu Steffan, ydym. Nid yw ein colled ni yn ddim o'i gymharu â'u colled nhw.

Rydym ni'n dweud yn aml ar y meinciau, cadeiriau, hyn y Blaid, ein bod yn sefyll ar ysgwyddau arwyr hanes Cymru a oedd yn dyheu am ryddid cenedlaethol, y mwyaf urddasol o achosion. Mae Steffan yw un o'r arwyr hynny erbyn hyn.

Cwsg mewn hedd, Steffan bach.

13:45

Diolch i bob Aelod am eich teyrngedau. Mae'n amlwg bod Steffan, yn ei amser rhy fyr o lawer yma, wedi gwneud argraff ar draws y Siambr. Wrth eistedd yn y fan yma, fel yr wyf, rwy'n sylwi ar lawer ohonoch chi'n teipio tra bod dadleuon yn digwydd o'ch cwmpas. Nid oedd Steffan, fel yr ydym wedi clywed, yn teipio. Trefnodd i'w gyfrifiadur gael ei analluogi pan ddaeth i'w sedd fel ei fod yn gallu gwrando ar ddadleuon a chymryd rhan mewn dadleuon. Wrth gwrs, dysgodd fod anfantais i hynny, gan nad oedd modd iddo anfon neges ataf i ofyn am gael ei alw mewn dadl. Er hynny, dysgodd yn gyflym fod gwên fach ddireidus neu neges destun, neu Siân Gwenllian, yn un mor berswadiol ar gyfer cael ei alw i siarad.

A phwy na fyddai'n galw Steffan Lewis? Roedd yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud yn werth ei glywed. Byddwn i yn eich gwylio chi i gyd, Prif Weinidogion ddoe a heddiw, Gweinidogion, Aelodau'r meinciau cefn—roedd pob un ohonoch chi'n gwrando ar yr hyn oedd gan Steffan i'w ddweud. Roedd yn siarad ag awdurdod tawel, syniadaeth glir, rhywbeth gwreiddiol i'w ddweud bob amser. Steffan oedd yr un i herio uniongrededd y dydd, a digwyddodd hynny mor aml o fewn Plaid Cymru ag o fewn y Siambr hon.

Mi gwrddais i â Steffan yn gyntaf yn ystod y Cynulliad cyntaf, pan oedd e'n gwneud profiad gwaith gyda Jocelyn Davies yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd Steffan ei fywyd gwleidyddol yn ifanc iawn. Mi oedd e'n angerddol yn ei wleidyddiaeth bryd hynny, ac mi wireddodd ei freuddwyd yn 2016 i gael ei ethol i'w Senedd genedlaethol ac i olynu Jocelyn Davies. Er i'w fywyd fod yn fyr, fe baciodd Steffan lot fawr mewn i'w fywyd, ac ein hatgoffa taw nid wrth hyd fywyd mae gwir fesur gwerth y bywyd hwnnw.

Yn wahanol i nifer ohonon ni, mi oedd Steffan yn gwybod pob manylyn o hanes ei wlad, a sawl gwlad arall, nid er mwyn rhamantu'r hanes hwnnw, ond yn hytrach i ddeall yr hanes er mwyn cynllunio'r dyfodol, lle'r oedd popeth yn bosib i'w wlad. Ac, er yn llefarydd cryf dros Gymoedd y de-ddwyrain, dros Went, bro ei febyd, lle'r oedd treftadaeth ei ddwy iaith—y Saesneg a'r Gymraeg—yn bwysig iddo fe, uno Cymru oedd un o'r negeseuon parhaol gan Steffan. Mi oedd e'n gwylltio os oedd e'n clywed gormod o sôn am y gogledd neu'r gorllewin. Iddo fe, roedd Cymru'n un.

Dyn oedd Steffan â'r cyffredin a'r anghyffredin yn perthyn iddo—yn garedig ac yn ddidwyll a chwbl o ddifri am ei uchelgais i'w wlad. Mi fydd ei esiampl ef yn gyrru nifer ohonom ni i weithio'n galetach i wireddu ei freuddwydion i'w wlad a'i gymuned, ac yn ei enw e.

Wrth inni gloi'r cyfarfod teyrnged yma, dwi'n cymryd y cyfle eto i gydymdeimlo ar ein rhan ni oll gyda theulu Steffan: ei wraig, Shona, a'i fab bach, Celyn; ei fam, Gail; ei chwaer, Nia; a Neil, sydd yma hefyd heddiw. Mi fyddwn ni'n meddwl amdanoch chi yn y dyddiau a'r misoedd anodd i ddod. Mi fyddwn ni'n cofio'n annwyl iawn am ein ffrind Steffan Lewis, ac yn diolch i chi'r teulu am ei rannu gyda ni. Yng ngeiriau'r bardd Annest Glyn yn ystod y dyddiau diwethaf yma:

'Enaid yw sy'n dal ar dân,

Nid diffodd a wna Steffan.'

Diolch, Steffan. Diolch, bawb.

13:50

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:51.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 14:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

14:00
Cwestiwn Brys: Y Ffatri Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Galw'r Aelodau i drefn. Cwestiwn brys fydd yr eitem gyntaf. Rwyf i wedi derbyn y cwestiwn yna o dan Reol Sefydlog 12.67, a dwi'n galw ar Carwyn Jones i ofyn y cwestiwn, plis. 

Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o’r sefyllfa bresennol yn Ford Europe a’i heffaith bosibl ar y Ffatri Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr? (EAQ0003)

Diolch. Rwyf i wedi siarad gyda Ford UK a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU hefyd, gan ddadlau'r achos dros waith Pen-y-bont ar Ogwr. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Ford i warchod y swyddi medrus iawn a'r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd uwch-dechnoleg eraill ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Bydd yn deall, wrth gwrs, bod y cyhoeddiad wedi achosi ansicrwydd mawr ymhlith gweithwyr yng ngwaith Ford a'u teuluoedd. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo i fonitro'r sefyllfa yn ofalus, ac i weithio gyda Ford Ewrop, gyda'r rheolwyr a'r undebau yng ngwaith Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd gyda'r rhai sy'n cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau dyfodol y gwaith ac, wrth gwrs, ei weithlu ymroddedig?

Gwnaf, yn wir. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am ei ddiddordeb brwd yn y mater hwn, ac am yr ymroddiad y mae wedi ei ddangos i waith Ford Pen-y-bont ar Ogwr? Ymrwymaf i fonitro'r sefyllfa ledled Ewrop, ond yn y DU ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arbennig. Bydd y Prif Weinidog yn ymuno ag undebau bore yfory yng ngwaith Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar ôl fy nhrafodaeth heddiw gyda Ford UK, rwy'n trefnu i gyfarfod gyda Graham Hoare, cyfarwyddwr gwerthuso a dilysu cerbydau byd-eang Ford, i drafod y sefyllfa yng ngwaith Pen-y-bont ar Ogwr.

Credaf mai'r hyn sy'n eglur yw bod y sector modurol yn mynd trwy newid sylweddol a sydyn, ac, yn yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi gweld effaith hynny ar benderfyniadau Ford o ran adolygiad Ewrop gyfan, gyda gwahanol benderfyniadau i'w gwneud ynghylch pa un a ddylid lleihau llinellau yn yr Almaen, pa un a ddylid cau gwaith yn Bordeaux, pa un a ddylid dod â'r cytundeb menter ar y cyd yn Rwsia i ben. Yr hyn sy'n gwneud gwaith Pen-y-bont ar Ogwr yn gryf o ran ystyriaethau yn y dyfodol yw bod lefelau cynhyrchiant wedi bod yn gwella. Ceir cysylltiadau diwydiannol da dros ben ar y safle nawr ac, wrth gwrs, dechreuwyd gweithgynhyrchu injan Dragon newydd.

Wrth i ni edrych tuag at y dyfodol a'r newid sylweddol yn y sector modurol, rwy'n ffyddiog wrth i Ford ystyried cynhyrchu trenau pŵer ar sail hybrid, y bydd yr injan Dragon sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r safle penodol hwnnw a'r gweithwyr teyrngar, ymroddedig a brwdfrydig yn flaenllaw yn ystyriaethau Ford Ewrop, wrth iddo benderfynu lle sydd fwyaf addas ar gyfer cynhyrchu trenau pŵer ar sail hybrid yn y dyfodol.

Diolch am yr ymateb i'r cwestiwn ar hyn. Dim ond un neu ddau o gwestiynau gennyf fi, yn seiliedig ar addewidion a wnaethoch yn ôl yn 2016. Bryd hynny, pan roedd Ford o bosibl mewn helynt ar y pryd, dywedasoch y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i fuddsoddi yn y gwaith, ac rwy'n falch o'ch clywed yn ei ganmol unwaith eto am lefel uchel ymroddiad y gweithlu yno, ond y byddwch chi'n disgwyl o leiaf bum mlynedd o gyflogaeth cynaliadwy a diogel ar gyfer nifer penodol o weithwyr yno. Felly, efallai y gallwch chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am ba gymorth, yn ariannol yn arbennig, yr ydych chi wedi ei roi iddyn nhw yn y cyfamser, a pha un a ydych chi'n ffyddiog bod yr addewidion y byddan nhw wedi eu gwneud i chi—yn amlwg, byddai'r cyllid hwnnw wedi bod yn amodol—pa un a yw'r addewidion hynny wedi eu cadw.

Rydych chi wedi sôn eich bod chi wedi bod yn siarad am dechnoleg newydd ers hynny, ac rydych chi wedi sôn am yr injan Dragon; yn amlwg, mae marc cwestiwn ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y gwaith hwnnw oherwydd cyhoeddiad Jaguar Land Rover—ond pa dechnoleg arall, ac eithrio ceir trydan, ydych chi wedi bod yn eu trafod? Oherwydd un o'r ystyriaethau yr wyf i'n siŵr eich bod chi wedi meddwl amdano, wrth gwrs, yw bod Ford yn fyd-eang yn gweithio mewn partneriaeth â Volkswagen erbyn hyn, ac mae gan Volkswagen ei hun eisoes y seilwaith ar gael i gynhyrchu ceir trydan, sydd, i mi, yn codi marc cwestiwn ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer hynny. Ond ceir dewisiadau eraill; mae'n debyg eich bod chi'n gyfarwydd â'r Projekt Grenadier a'r potensial ar gyfer datblygu cerbydau oddi ar y ffordd. Yn amlwg, mae Jaguar Land Rover wedi dioddef problemau, ond roedd gwerthiannau ymlaen llaw enfawr o'r Suzuki Jimny a gyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar. Felly, tybed pa fathau o sgyrsiau ydych chi wedi eu cael am hynny, ynghyd ag unrhyw beth i'w wneud â cheir trydan.

Ac yna, yn olaf, gennyf i, pan oedd Tata mewn trafferthion, roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i siarad am y cyfleoedd newydd y byddai'n eu cynnig i unrhyw un a fyddai'n cael ei ddiswyddo yn sgil newidiadau Tata, yn enwedig o ran ailhyfforddi. Rydym ni eisoes wedi cael beirniadaeth, ers rhai misoedd bellach, o Lywodraeth Cymru gan nad oes ganddi strategaeth sgiliau, ond rwy'n gobeithio efallai fod hyn wedi canolbwyntio'r meddwl a bod gennych chi ryw syniad o'r hyn y gallwch chi ei ddweud wrth weithwyr gwaith Ford, pe bydden nhw'n cael eu diswyddo, am y cyfleoedd hyfforddi y gellir eu cynnig iddyn nhw ar hyn o bryd. Diolch.

14:05

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Ceir nifer o bwyntiau pwysig a chynhyrchion posibl, yn enwedig trenau pŵer, y gellid eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr. Yn gyntaf oll, o ran amodau sydd ynghlwm wrth gymorth gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, daethpwyd ag injan Dragon i Ben-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i'r cymorth a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, a bydd yr amodau sydd ynghlwm wrth y cymorth hwnnw o ran diogelwch gwaith am o leiaf pum mlynedd yn sefyll. Mae injan Dragon yn injan ddiogel mewn gwirionedd gan fod modd ei chynhyrchu ar sail hybrid. O fewn y cylch cynhyrchion newydd y mae Ford yn eu hystyried, cynhyrchu ar sail hybrid yn hytrach na symud yn llwyr at drydaneiddio trenau pŵer yn llawn ar unwaith fyddai eu blaenoriaeth. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n debyg mai injan Dragon yw un o'r cynhyrchion mwyaf deniadol y maen nhw'n eu cynhyrchu ar hyn o bryd mewn gwirionedd, i'w chynhyrchu ar sail hybrid ar gyfer marchnad fyd-eang.

Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau bod cynhyrchu'r injan Dragon ar sail hybrid yn dod gyntaf, cyn trenau pŵer eraill, a bod y gwaith hwnnw yn cael ei wneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae potensial, wrth gwrs, i gynyddu capasiti o ran yr injan Dragon. Mae oddeutu 125,000 yn cael eu gweithgynhyrchu ar hyn o bryd. Gallai hyn gynyddu i 250,000 o unedau. Ceir marc cwestiwn ynghylch gweithrediadau Ford yn Rwsia. Pe byddai Rwsia yn cael ei chymryd allan o'r drafodaeth, yna byddai hynny'n amlwg yn rhoi cyfle enfawr i gynyddu cynhyrchiant injan Dragon yng ngwaith Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yr ydym ni'n eu monitro, ac yr ydym ni'n amlwg yn ceisio dylanwadu arnyn nhw gyda'r bwriad o wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y canlyniad gorau i Ben-y-bont ar Ogwr.

Cododd yr Aelod, a hynny'n gwbl briodol, y cwestiwn o ba gymorth y gellir ei roi i weithwyr sy'n cael eu heffeithio gan unrhyw benderfyniad gan gwmni i leihau nifer y gweithwyr. O ran y cymorth y gallwn ni ei gynnig, yn amlwg byddem ni'n ceisio defnyddio'r un math o gymorth a gynigiwyd i weithwyr Tata, yn bennaf drwy ein cynllun cyflogadwyedd a chyda sylw arbennig i gyfres newydd Cymru'n Gweithio o ymyraethau i wneud yn siŵr y gellir hyfforddi pobl mewn sgiliau newydd os oes angen i'w cael yn syth yn ôl i mewn i waith neu eu cyfeirio at gyfleoedd uniongyrchol sydd eisoes yn y sector y maen nhw'n arbenigwyr ynddo.

Cododd yr Aelod hefyd y prosiect posibl pwysicaf efallai ar gyfer y safle—prosiect Seagull yw hwn mewn gwirionedd. 'Grenadier' yw enw'r cynnyrch a roddwyd i'r cerbyd oddi ar y ffordd 4x4 gerwin. Buddsoddiad posibl gan Ineos yw hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino ar y cyd â Ford ac Ineos i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i sicrhau'r buddsoddiad hwnnw. Os byddwn ni'n dod â chynhyrchiant y cerbyd hwnnw i Ben-y-bont ar Ogwr, bydd yn cynnig gwaith i gannoedd ar gannoedd o bobl a miloedd yn y gadwyn gyflenwi o bosibl. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud y mis nesaf. Y cwestiwn mawr yw a all Cymru ennill y contract hwnnw o flaen un safle arall yn Ewrop wrth i ni adael yr UE. Efallai mai hwn fydd y prawf mwyaf o ba un a all economi Cymru wrthsefyll yr her Brexit y byddwn yn ei wynebu yn ystod y misoedd sydd i ddod.

A gaf innau hefyd fynegi fy mhryder dwys ynghylch y cyhoeddiad hwn a'r hyn y mae'n ei olygu i'r gweithlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd i economi ehangach Cymru? A gaf i hefyd ofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddwch chi'n troi pob carreg bosibl wrth geisio sicrhau dyfodol newydd i'r gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr? A gaf i hefyd ofyn am sicrwydd ynghylch y defnydd o arian cyhoeddus—arian a fuddsoddwyd eisoes yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal ag arian cyhoeddus y gallai fod angen ei fuddsoddi yn y dyfodol, o ystyried yr ansicrwydd sydd wedi bod yn gysylltiedig â gwaith Ford Pen-y-bont ar Ogwr ar wahanol adegau dros y blynyddoedd diwethaf? A hefyd, a gaf i awgrymu ei bod hi efallai'n amser, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mewn mannau eraill, i drefnu uwchgynhadledd fawr i ystyried rhai o'r bygythiadau yr ydym ni'n eu hwynebu yn economi Cymru, nid yn unig y cyhoeddiad yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr ond hefyd yr ansicrwydd mawr ynghylch Wylfa, mater yr wyf i'n gobeithio gallu ei godi gyda'r Gweinidog yn ddiweddarach heddiw neu yr wythnos hon, yn ogystal â'r bygythiadau yn y tymor hwy, efallai, i Airbus ym Mrychdyn, oherwydd Brexit, ac yn wir y materion ehangach sy'n gysylltiedig â'n hymadawiad arfaethedig o'r Undeb Ewropeaidd?

14:10

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud mai o ganlyniad i raddau helaeth i'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei ddarparu dros flynyddoedd lawer a'r cydweithrediad cyhoeddus-preifat yr ydym ni wedi ei weld rhwng Ford a Llywodraeth Cymru y mae'r safle yn dal i fodoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fyw ac yn iach, yn cynhyrchu rhai o injans mwyaf arloesol y byd? Ac rydym ni'n sefyll yn barod i gefnogi mwy o gynhyrchu yng ngwaith Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym ni'n sicr yn awyddus i sicrhau bod buddsoddiad pellach yn cael ei sicrhau ar gyfer yr ardal. Mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiad y gallem ni fod yn edrych arno gan Ineos yn swm o gannoedd o filiynau o bunnoedd, a byddai honno'n fuddugoliaeth enfawr i economi Cymru os gallwn ni ei sicrhau fis nesaf.

Mae Fforwm Modurol Cymru yn gweithredu fel fforwm pwysig iawn ar gyfer sganio'r gorwel ar gyfer tueddiadau a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac i gynghori'r Llywodraeth ar y sefyllfa y mae'r sector ynddi ar hyn o bryd a hefyd yr heriau a'r cyfleoedd posibl sy'n dod yn ddiweddarach. Mae'r fforwm yn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran cynghori Gweinidogion, yma yn Llywodraeth Cymru ac yn Llywodraeth y DU. Ac o ran cydweithio—os hoffech chi, uwchgynhadledd i asesu tueddiadau yn y dyfodol a chyfleoedd a heriau—wel, gallaf ddweud wrth yr Aelodau bod gweithgor eisoes wedi ei sefydlu cyn newyddion yr wythnos hon i ystyried beth yw'r cyfleoedd posibl, yn enwedig ar gyfer Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yng nghyd-destun sector modurol sy'n newid yn gyflym.

Gallaf hefyd sicrhau'r Aelod, o ran prosiectau mawr bod cryn ddyfalu yn eu cylch ar hyn o bryd, fy mod i wedi gofyn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ymgynnull ar frys, ac rwy'n awyddus i gyfarfod â'r bwrdd uchelgais i drafod y penderfyniad y disgwylir i Hitachi ei wneud ddydd Iau. Rwy'n bwriadu bod yn y gogledd ddydd Iau, yn barod i gyfarfod â'r bwrdd uchelgais economaidd, os yw'r holl randdeiliaid ac arweinwyr awdurdodau lleol ar gael. Os na all hynny ddigwydd yn syth ar ôl y penderfyniad a wneir gan Hitachi, yna byddaf yn gofyn i'r bwrdd hwnnw gael ei ymgynnull ar y cyfle cyntaf.

Cefais sgwrs gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU heddiw am y sefyllfa yn Wylfa. Siaradais â Horizon hefyd. Credaf mai'r hyn sy'n weddol eglur yw bod Prif Weinidog y DU wedi gwneud tro gwael â Chymru, mae gen i ofn, yr wythnos diwethaf trwy fethu â chodi'r mater hollbwysig hwn gyda Phrif Weinidog Japan a chyda rhanddeiliaid allweddol yn Japan. Dywedodd y Prif Weinidog mai mater masnachol i Hitachi yn unig oedd hwn. Nid yw hynny'n wir—nid yw hynny'n wir. Mae'r prosiect hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn barod i gymryd cyfran gwerth £5 biliwn ynddo. Gallai ddarparu hyd at 10 y cant o ynni y DU. Gallai ddarparu cannoedd ar gannoedd o swyddi hynod werthfawr am genedlaethau i ddod. Nid mater cwbl fasnachol i Hitachi yw hyn. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein sicrwydd o ran ynni, ac mae'n ymwneud â sicrhau economi gogledd Cymru, Cymru a thu hwnt.

Mae'r Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o galondid i ni, yn sicr o'r safbwynt bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yw gwneud yn siŵr ei bod y sefyll yn gadarn y tu ôl i Ford Pen-y-bont ar Ogwr, fel y mae wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer iawn. O ran pam mae Ford wedi bod yn llwyddiant, ei ddau gryfder mwyaf yw (1) Llywodraeth Cymru yn sefyll ochr yn ochr ag ef, ond yn bennaf y gweithlu medrus, ymroddedig, hynod frwdfrydig, sydd wedi addasu o'r blaen i amgylchiadau anodd ac i newid, ac maen nhw wedi dod drwy gyfnodau anodd ac wedi rhoi'r cwmni hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ôl ar ei draed a gwneud yn dda iawn. Ac mae'n gwneud yn dda ar hyn o bryd, er bod ganddo ddirywiad mewn rhai llinellau cynhyrchu.

Mae llawer o hyn yn dibynnu ar Ford Ewrop a'u penderfyniadau nhw, ond rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol bod Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yno i helpu mewn unrhyw ffordd bosibl. A gaf i ofyn pa swyddogaeth, os o gwbl, sydd i Lywodraeth y DU hefyd? Oherwydd y pryder bob amser fyddai y byddem ni eisiau i Lywodraeth y DU fod yma, yn sefyll yr un mor gadarn ag y mae Llywodraeth Cymru, gan wybod pwysigrwydd rhanbarthol hyn nid yn unig yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, ond yn y gadwyn gyflenwi ehangach ar draws de Cymru ac, yn wir, i fyny i ganolbarth Lloegr hefyd, ac i ogledd Cymru. Felly, rydym ni eisiau gwybod y gall Llywodraeth y DU chwarae rhan hefyd ac nad yw'n gweld hyn mewn unrhyw ffordd fel bygythiad i rannau eraill o'r DU. Mae'n hollbwysig i'r economi ranbarthol yn ne Cymru.

14:15

Wel, a gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae nifer o feysydd, wrth gwrs, y gallai Llywodraeth y DU fod o gymorth mawr ynddyn nhw ar hyn o bryd. Yn gyntaf oll, mae Brexit yn ffactor y mae angen ei ystyried. Oherwydd gwendid sterling, bu effaith o £600 miliwn ar drosiant Ford UK. Mae hynny, yn ei dro, wrth gwrs, wedi effeithio ar broffidioldeb. Yn ail, mae rhan y gall Llywodraeth y DU ei chwarae o ran sicrhau bod Ineos yn penderfynu buddsoddi yn y DU yn hytrach nag yn Ewrop gyfandirol, gan ddarparu drwy hynny nifer enfawr o swyddi â chyflogau da i bobl fedrus. Ac yn drydydd, mae rhan i Lywodraeth y DU, a strategaeth ddiwydiannol y DU yn benodol, ei chwarae o ran hybu cyfleoedd i sefydliadau ymchwil Cymru ac, yn hollbwysig, i fusnesau Cymru fanteisio i'r eithaf ar rai o'r heriau mawr. Rwy'n meddwl, yn arbennig, am her Faraday. Gwn fod yr Aelod wedi dangos diddordeb mawr ym mhotensial cynhyrchu batris ar gyfer cerbydau ar safle Ford Pen-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd, yr hyn sy'n gwbl eglur gan ddiwydiant yw na allai cynhyrchu batris yn y DU ar gyfer y sector modurol ddigwydd oni bai bod cydweithrediad rhwng gweithgynhyrchwyr a chyda chryn dipyn o gymorth gan Lywodraeth y DU. Gwn fod hwn yn un maes gwaith y mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, ddiddordeb mawr ynddo ac y mae'n ymroddedig iawn iddo, ac rwyf yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu cymaint â phosibl dros gwmnïau Cymru a sefydliadau ymchwil Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y budd mwyaf posibl o her Faraday a'r strategaeth ddiwydiannol yn ei chyfanrwydd.

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Lynne Neagle.

Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc

1. Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc drwy gydol tymor y Cynulliad hwn? OAQ53224

Llywydd, cyhoeddodd y Llywodraeth ddoe y byddai £7.1 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi o fis Ebrill eleni i gynorthwyo iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r ymrwymiad hwn yn sail i'n hymateb i'r argymhellion a geir yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'.

Diolch, Prif Weinidog, ac roeddwn i'n falch iawn o glywed am y £7.1 miliwn ychwanegol hwnnw a gyhoeddwyd ddoe. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae cefnogaeth drawsbleidiol gref i 'Cadernid Meddwl', ac rwy'n credu ei fod yn cyflwyno map ffordd eglur ar gyfer gweddnewid iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc. Wedi dweud hynny, nid wyf i o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her a wynebwn, ac un pryder arbennig yw'r cynnydd i nifer y bobl ifanc sy'n marw drwy hunanladdiad yng Nghymru a chynnydd cyffredinol i'r gyfradd hunanladdiad o 12 y cant sy'n mynd yn groes i'r tueddiad o ostyngiad i nifer yr achosion o hunanladdiad yng ngweddill y DU.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod buddsoddi yn iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc yn hollbwysig os ydym ni'n mynd i atal y duedd honno? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn—cyfran sylweddol o'r arian ychwanegol hwn—yn cael ei chyfeirio at y camau ymyrraeth gynnar ac atal a argymhellir gan 'Cadernid Meddwl'?

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn atodol yna a diolchaf iddi am y gwaith y mae hi wedi ei arwain, drwy'r pwyllgor, a gefnogwyd mor eang ar draws Siambr y Cynulliad. Bydd yn gwybod bod cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu yn cael eu cymryd, y mae hi ei hun yn chwarae rhan uniongyrchol ynddynt, er enghraifft, drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar yr adroddiad, a chamau gweithredu pellach a fydd yn digwydd drwy eraill, gan gynnwys pobl ifanc eu hunain, yr ydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu datblygu yn y dyfodol, oherwydd mae'r bobl ifanc hyn yn gwneud yr union bwynt a wnaeth Lynne Neagle wrth gloi yn y fan yna—sef mae'r hyn y maen nhw ei eisiau pan fyddan nhw'n mynd drwy'r cyfnodau anodd sy'n aml yn codi wrth dyfu i fyny, yw ymateb sy'n cydnabod hynny. Nid ydyn nhw eisiau ymateb iechyd meddwl; maen nhw eisiau ymateb y byddai unrhyw berson ifanc yn gallu ei ddefnyddio. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu, fel y byddwn yn clywed yn ddiweddarach y prynhawn yma, £2.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid, fel y gall chwarae ei ran fel gwasanaeth cyffredinol, gan wneud yn siŵr bod oedolion ar gael y gall pobl ifanc sy'n wynebu cyfnodau anodd yn eu bywydau gyfarfod â nhw ac archwilio a chael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Cyn belled ag y mae hunanladdiad yn y cwestiwn, rydym ni'n iawn i fod yn bryderus, wrth gwrs, pan fydd unrhyw newid andwyol i nifer yr achosion o hunanladdiad, yn enwedig ymhlith pobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Roedd amrywiad eleni yn fach o ran niferoedd ac nid yw'n arwyddocaol yn ystadegol, ond mae 'Siarad â fi 2' a'r camau eraill yr ydym ni'n eu cymryd yn y maes hwn yn parhau i fod yn ganolog i wneud yn siŵr bod gennym ni ymateb sy'n cyfateb i'r her y mae  pobl ifanc yn ei hwynebu yn eu bywydau.

14:20

Prif Weinidog, ymunaf â chi i ganmol gwaith Lynne Neagle a'i phwyllgor, sydd wedi bod yn allweddol yn y maes hwn. A gaf i dynnu sylw at y pwysau cynyddol a achosir gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol? Mae plant yn y DU yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd erbyn hyn nag unrhyw wlad arall ar wahân i Chile yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rydym ni ymhell uwchlaw cyfartaledd y Sefydliad. Rwy'n credu bod y rhain yn achosi pwysau nad oes llawer o bobl eraill, fel rhieni ac athrawon, yn ymwybodol ohonynt o bosibl. Ac mae gen i ofn ein bod ni'n gweld rhai digwyddiadau eithafol hefyd erbyn hyn, o ganlyniad i hyn, weithiau. Felly, mae wir angen i ni sicrhau bod gennym ni bolisi da ar gyfer rhoi'r math o gymorth i'n pobl ifanc sydd ei angen arnynt i ddefnyddio'r teclynnau newydd ardderchog hyn mewn modd cyfrifol.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, oherwydd mae e'n iawn bod angen i ni feddwl am sut yr ydym ni'n esbonio'r ymchwydd o bryderon iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yr adroddir amdanynt yng Nghymru, ond hefyd ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac i geisio nodi'r ffactorau hynny mewn amgylchiadau cyfoes a allai ein helpu ni i esbonio'r ffenomen honno. Mae bob oed yn wynebu heriau newydd o'r fath y mae'n rhaid i bobl ifanc ymdrin â nhw. Gallwch fynd yn ôl 150 o flynyddoedd a dod o hyd i adroddiadau papur newydd ar sut yr oedd penny dreadfuls a oedd ar gael i blant trwy lyfrgelloedd symudol yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc, ac rydych chi'n gweld hynny ar hyd yr oesoedd, pa un a yw'n ddyfodiad sinema neu radio neu deledu neu, yn ein hamser ein hunain, fel y dywedodd yr Aelod, y rhyngrwyd. Ond mae'r rhyngrwyd yn ffenomen wahanol mewn sawl ffordd. Pan fydd yn cael ei defnyddio'n wael, mae ganddi allu llechwraidd i ddod i mewn i fywydau pobl ifanc ac i beri gorbryder a gofid iddyn nhw. Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y ffordd yr ydym ni'n llunio ein polisïau yn cymryd i ystyriaeth ffactorau newydd a ffenomena newydd o'r math y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw .

Trefniadau Diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd? OAQ53165

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r tîm rheoli ym Maes Awyr Caerdydd yn monitro trefniadau diogelwch yn weithredol ac yn rheolaidd. Maen nhw'n gweithio gyda thrigolion lleol a Heddlu De Cymru, yn ogystal â hyrwyddo ymgyrchoedd diogelwch ymhlith teithwyr yn y maes awyr. Mae gwyliadwriaeth ac ymwybyddiaeth yn y maes awyr a'r cyffiniau yn gyfrifoldeb a rennir ymhlith pawb sy'n gysylltiedig ag ef.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Yn dilyn y tarfu diweddar yn gysylltiedig â dronau ym meysydd awyr Gatwick a Heathrow, ac, wrth gwrs, y digwyddiad ar bont croesfan Hafren, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa fesurau y mae wedi eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru strategaeth ar waith i sicrhau bod y tarfu a achosir i seilwaith hanfodol Cymru cyn lleied â phosibl mewn achos o ddefnydd amhriodol o ddrôn yn y dyfodol?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Yn benodol ym Maes Awyr Caerdydd, ceir grŵp gwylio maes awyr. Mae'n cynnwys trigolion lleol, ond hefyd y bobl hynny sydd â diddordeb arbennig mewn awyrennau sy'n ymwelwyr rheolaidd â'r maes awyr. Maen nhw'n rhan o grŵp y mae'r heddlu'n gweithio ag ef i wneud yn siŵr bod gwybodaeth dda ar gael ac yn hawdd ei chasglu am weithgarwch yn y maes awyr. A cheir ymgyrch cod dronau—unwaith eto, yn benodol ym Maes Awyr Caerdydd. Mae'n darparu rhif ffôn cymorth 24-awr penodedig ar gyfer aelodau'r cyhoedd, sy'n gallu hysbysu am unrhyw weithgarwch dronau amheus. Felly, mae Maes Awyr Caerdydd yn ymwybodol iawn o'r problemau ac mae ganddo fesurau ar waith eisoes. Wrth gwrs, rydym ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU hefyd. Darparwyd ymateb gennym i'w hymgynghoriad 'Taking flight', ac rydym ni'n gobeithio y bydd y Bil a addawyd, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror ac a fydd yn rhoi mesurau newydd ar waith ar sail y DU gyfan—rydym ni'n gobeithio y bydd y Bil hwnnw'n cael ei lunio ac y bydd yn cymryd y mesurau angenrheidiol i gynorthwyo i fynd i'r afael â'r ffenomen hon.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnewch chi nawr achub ar y cyfle heddiw i ymddiheuro'n gyhoeddus i'r ffermwyr hynny y cyhoeddwyd eu manylion cyfrinachol y llynedd gan Lywodraeth Cymru i grwpiau actifyddion hawliau anifeiliaid?

Rhoddwyd sylw i hyn droeon fel problem. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth arall y mae angen i mi ei ychwanegu at yr hyn a roddwyd ar y cofnod lawer gwaith eisoes ynglŷn ag ef.

Wel, rwy'n hynod siomedig na all y Prif Weinidog ddweud 'mae'n ddrwg gen i', er mai camgymeriad gweinyddol gan eich Llywodraeth oed hwn. Eich Llywodraeth chi sydd â'r cyfrifoldeb terfynol, ac nid yw'n anodd dweud 'mae'n ddrwg gen i', Prif Weinidog, felly byddwn yn disgwyl i chi ddweud 'mae'n ddrwg gen i' ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni gofio; roedd y ffermwyr y datgelwyd eu manylion gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu yn unol â'r gyfraith yma yng Nghymru yn llwyr, mewn ymgais i ddiogelu eu bywoliaeth rhag ymlediad TB.

Nawr, yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2018—dyma'r ffigurau diweddaraf—bu cynnydd yng Nghymru i nifer y gwartheg a laddwyd oherwydd TB tybiedig, a chollwyd 9,700 o wartheg. Mae hyn wedi cael effaith drychinebus ar ffermwyr, eu bywoliaeth a'r economi leol, ac mae'n costio symiau enfawr o arian i'r trethdalwr. Mae'n amlwg nad ydych chi'n gwneud digon i fynd i'r afael â'r broblem hon, o gofio bod nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yn cynyddu. Felly, o dan yr amgylchiadau, a ydych chi'n derbyn nad oes unrhyw obaith o gwbl y bydd TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu yng Nghymru erbyn eich dyddiad targed, sef 2041? Does bosib na ddylem ni fod yn mynd i'r afael â'r clefyd erchyll hwn ymhell cyn hynny.

Wel, Llywydd, gadewch i mi ymateb eto i ran agoriadol ail gwestiwn Paul Davies trwy ddweud, wrth gwrs, pan fydd pethau'n mynd o chwith, ein bod ni'n eu cydnabod, fel y gwnaethom ar y pryd, gan ddweud y pethau angenrheidiol bryd hynny. O ran ei bwynt cyffredinol, wrth gwrs, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud; mae TB mewn gwartheg yn brofiad ofnadwy i ffermwyr y mae'n rhaid iddyn nhw ei wynebu, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud popeth y gallwn ni eu rhoi ar waith yr ydym ni'n credu sy'n effeithiol i fynd i'r afael â'r clefyd. Ceir llawer o bethau da sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r holl ymdrechion hynny, gan gynnwys gwell bioddiogelwch ar ffermydd, gan gynnwys gallu olrhain gwell a phrofi gwell hefyd, sy'n esbonio'n rhannol rhai o'r ffyrdd y mae'r niferoedd y cyfeiriodd atyn nhw yn cynyddu. Oherwydd os oes gennych chi well dealltwriaeth o'r clefyd, eich bod chi'n ymwybodol o ba mor gyffredin ydyw, yn gwybod lle gellir dod o hyd iddo, yna—ac mor aruthrol o anodd yr wyf i'n ei ddeall yw hynny i'r ffermwyr dan sylw—mae'n rhaid i ymdrin â gwartheg sydd wedi'u heintio fod yn rhan o'r ffordd y bydd dileu'r clefyd yn y tymor hir yn cael ei wireddu.

Wel, yn amlwg, nid yw polisi eich Llywodraeth yn gweithio'n effeithiol; fel arall ni fyddem ni'n lladd y nifer o wartheg yr ydym ni'n eu lladd mewn gwirionedd. Gadewch i mi dynnu eich sylw at y sefyllfa yn ne-orllewin Lloegr. Yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf, bu gostyngiad o 50 y cant i nifer yr achosion o TB yn y pedair blynedd diwethaf, sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â de-orllewin Cymru, lle, er gwaethaf y ffaith bod mesurau bioddiogelwch llym ar waith, nad yw nifer yr achosion o TB mewn buchesi wedi newid. Yn wir, rydym ni wedi gweld nifer y gwartheg a laddwyd oherwydd TB buchol yn cynyddu. Nawr, yng ngoleuni'r corff cynyddol o dystiolaeth, a wnewch chi ailystyried safbwynt eich Llywodraeth nawr ar strategaeth dileu TB a chefnogi strategaeth sy'n diogelu ein poblogaethau bywyd gwyllt a gwartheg rhag y clefyd ofnadwy hwn ar frys?

14:30

Wel, rwy'n cytuno ag ef eto, Llywydd, am natur ofnadwy y clefyd a'r effaith y mae'n ei chael yn y gymuned ffermio. Rwy'n credu ei fod yn awgrymu yn ei gwestiwn bod rhyw fath o ateb syml a hawdd yn aros ar silff dim ond i gael ei ddefnyddio yn y fan yma. Mae'n gwybod, onid yw, nad yw hynny'n wir. Lle ceir gwersi o fannau eraill, yna wrth gwrs rydym ni eisiau eu dysgu nhw, yn union fel y mae eraill yn dysgu o rywfaint o'r profiad yr ydym ni wedi ei gael o weithio'n llwyddiannus gyda'r diwydiant yma yng Nghymru. Bydd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn adrodd ar y drefn bresennol sydd gennym ni ar gyfer profi a dileu'r clefyd yng Nghymru, a lle gallwn ni wneud yn well, yna wrth gwrs, mae gennym ni i gyd uchelgais cyffredin i wneud hynny.

Diolch, Llywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi ymhellach gyfraniad aruthrol ein cyfaill a'n cydweithiwr Steffan Lewis i fywyd cenedlaethol drwy holi ynghylch tri o'r achosion oedd yn agos at ei galon. 

Cyfraniad cyntaf Steffan Lewis yn y Senedd hon oedd cefnogi cymunedau mwyngloddio ledled Cymru ac, yn arbennig, anghyfiawnder Cynllun Pensiwn y Glowyr. Fel y bydd y Prif Weinidog yn sicr yn ymwybodol, arweiniodd cytundeb yn y 1990au i Lywodraeth y DU gytuno i warantu pensiynau glowyr, ond yn gyfnewid gall gael 50 y cant o'r gwarged bob blwyddyn. Dros y degawdau, mae Llywodraeth y DU wedi elwa o £8 biliwn o'r gwarged hwn, ar gyfradd o £1 filiwn y dydd. Roedd Steffan yn hyrwyddwr achos y glowyr, gan gefnogi eu deiseb a gwneud sylwadau dirifedi i Lywodraeth y DU. Dywedodd y Gweinidog Gwladol dros Fusnes, Ynni, a Strategaeth Ddiwydiannol ym mis Gorffennaf y llynedd y byddai'n archwilio dewisiadau ar gyfer dyfodol y cynllun, gan wneud ychydig iawn o gynnydd hyd yma, mae'n ymddangos. Felly, a all y Prif Weinidog ymrwymo heddiw i gefnogi ymdrechion y cyn-lowyr, ac a wnaiff ef gyfarfod â dirprwyaeth o'r ymgyrch i fapio sut y gallwn ni sicrhau cytundeb tecach, gan roi cyfran fwy o'r gwarged y mae'r cynllun yn ei gynhyrchu i'r glowyr?

Diolch i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Wrth gwrs, dwi'n cydnabod ei bod hi'n addas i ganolbwyntio y prynhawn yma ar bethau roedd Steffan Lewis wedi'u cefnogi yma yn y Siambr. 

Rwyf yn cofio, Llywydd, nid yn hir ar ôl i Steffan gyrraedd yn y Cynulliad, roeddwn i'n ymateb i ddadl fer yma yn y Cynulliad, ac am resymau nad wyf i'n gallu eu cofio erbyn hyn, cyfeiriais at Ddydd Llun Mabon. A meddyliais pan y'i dywedais, 'Wel, pwy ar y ddaear arall fydd yn gwybod yma?' Ac edrychais i fyny, a dyna lle'r oedd Steffan a Dai Lloyd yn eistedd yn y rhes gefn, y ddau'n amneidio, a meddyliais, 'Wel, pa fforwm democrataidd eraill ydych chi'n debygol o'i ganfod lle gallwch chi wneud cyfeiriad at rywbeth sy'n ddwfn yn ein hanes a gwybod y bydd pobl mewn rhannau eraill o'r Siambr sydd mor gyfarwydd ag ef ag y byddech chi'n gobeithio y byddai pobl?'

Felly, yn benodol o ran ei gwestiwn, yna, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon eisiau cefnogi ymdrechion cyn-lowyr, ac rwy'n hapus iawn i wneud ymrwymiad i gyfarfod â dirprwyaeth yr ymgyrch honno i fapio ffyrdd y gallwn ni gydweithio yn y dyfodol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog. Yn rhan o gyllideb 2018-19, trafododd a sicrhaodd Plaid Cymru, ar gais Steffan, ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ailgyflwyno ward iechyd meddwl amenedigol cleifion mewnol yng Nghymru. Roedd Steffan mor angerddol ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol fel bod y Prif Weinidog, yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog cyllid, wedi cynnwys cyllid ar gyfer ailsefydlu'r gwasanaeth. A all y Prif Weinidog gadarnhau heddiw, mewn ymateb i ymdrechion Steffan, y bydd ei Lywodraeth yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol i sicrhau y bydd yr holl famau beichiog neu newydd yng Nghymru yn cael y driniaeth iechyd meddwl amenedigol sydd ei hangen arnyn nhw yng Nghymru, ac na fydd neb yn cael ei roi yn y sefyllfa drist o orfod cael eu gwahanu o bosibl oddi wrth eu baban a'u teulu i gael triniaeth?

A wnaiff ef hefyd ystyried ymchwilio i syniad Steffan ar gyfer creu canolfan ragoriaeth ar gyfer arloesedd gofal iechyd yn Nhredegar, gan ddathlu ei orffennol, wrth gwrs, fel man geni'r GIG, a'i wneud yn sail hefyd i lunio ei ddyfodol?

Wel, Llywydd, mae'n debyg fy mod i'n fwy cyfarwydd â'r cyntaf o'r ddau osodiad hynny na'r ail. Gwnaed llawer yng Nghymru i wella iechyd meddwl amenedigol, gan ganolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar wella gwasanaethau cymunedol. Oherwydd yn anad dim, ni fyddem ni eisiau i fenywod a'u babanod orfod cael gofal i ffwrdd o'u cartrefi eu hunain pan eu bod yn mynd drwy'r mathau hynny o brofiadau. Ond y trafodaethau a gawsom—ac rwy'n cofio eu cael gyda Steffan Lewis hefyd—oedd, pan fo angen triniaeth fel cleifion mewnol, yna wrth gwrs rydym ni eisiau i honno fod mor agos at gartrefi pobl ag y gall fod. Gwn fod Siân Gwenllian yr wythnos hon wedi mynegi pryderon am y gwasanaethau hynny yn y gogledd, ac y bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gerbron y pwyllgor ar y gwasanaethau hyn hefyd. Felly, mae gennym ni ymrwymiad parhaus a rennir i wella triniaeth iechyd meddwl amenedigol, yn y gymuned, ac yn yr achosion mwy prin hynny pan fydd menywod a'u babanod angen gofal mwy dwys ac fel cleifion mewnol, ac i geisio gwneud yn siŵr bod honno ar gael yn briodol iddyn nhw mor agos â phosib at eu cartrefi, lle bynnag y gallai hynny fod yng Nghymru.

14:35

Wel, yn sicr, ar ein hochr ni, bydden ni'n falch o gael y cyfle, efallai, i eistedd lawr gyda'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd iechyd i barhau â'r drafodaeth yna.

Dŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, yn gynharach gymaint o ddylanwad roedd Steffan wedi ei gael o ran siapio a llunio ymateb y lle hwn, y Llywodraeth, a Chymru, a dweud y gwir, i Brexit. Ac mi oedd yn llais awdurdodol, wrth gwrs, a oedd yn ennyn parch a hygrededd y tu hwnt i ffiniau pleidiol. Roedd yn amlwg ar fy ymweliad i a Rhun ap Iorwerth ag Iwerddon yr wythnos diwethaf fod Steffan wedi gwneud cryn argraff, ac ennyn parch, ar lwyfan rhyngwladol hefyd. Ac roedd Iwerddon, wrth gwrs, yn wlad mor arbennig iddo fe.

Ac yn ei ddatganiad i'r wasg olaf, fe alwodd Steffan am gynnull uwch-gynhadledd y cenhedloedd yn yr ynysoedd hyn i ganfod ffordd ymlaen o ran Brexit. A fyddai'r Prif Weinidog yn fodlon ystyried estyn gwahoddiad i'r Prif Weinidogion eraill, ar lun galwad Steffan, pe bai angen, dros y dyddiau nesaf?

Diolch, wrth gwrs, i Adam Price. Rŷm ni wedi clywed fwy nag unwaith yn y Siambr y prynhawn yma am y gwaith roedd Steffan wedi ei wneud dramor, a dwi yn cofio sgwrsio ag e pan oedd e'n dod nôl o'r Iwerddon am y bobl roedd e wedi siarad â nhw yna, am y syniadau roedd e wedi eu codi gyda nhw, ac am y gwaith roedd e'n gwneud i drio cryfhau'r berthynas rhyngom ni a'r Llywodraeth yn Iwerddon hefyd. A dwi wedi cael, yn bersonol, lythyr cynnes oddi wrth y Taoiseach, ac, wrth gwrs, dwi wedi ymateb yn yr un modd.

Mae fy swyddfa i wedi bod yn gweithio yn agos â swyddfa Prif Weinidog yr Alban dros y dyddiau diwethaf, yn siarad am beth y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd ar ôl y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw. Ac, wrth gwrs, dwi'n fodlon ystyried beth y mae Adam Price wedi ei awgrymu y prynhawn yma, ac i'w wneud e yn y cyd-destun y gwaith rŷm ni'n ei wneud yn barod gyda'r bobl eraill yn y Deyrnas Unedig a thramor hefyd.

Diolch, Llywydd. Ac a gaf innau hefyd achub ar y cyfle i ychwanegu fy nghydymdeimlad â theulu Steffan Lewis?

Prif Weinidog, hon yw'r adeg o'r flwyddyn pan fo'n rhaid i lawer o bobl lenwi eu ffurflenni treth, ac, felly, mae'r mater o drethiant yn eu meddyliau. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod na fyddai llywodraethau yn gweithredu pe na byddai gennym ni drethiant, ond byddwn yn ychwanegu, o'm harsylwadau fy hun, mai anaml y mae'r rhan fwyaf o bobl gyffredin yn frwdfrydig ynghylch y posibilrwydd o drethi, ac yn enwedig trethi newydd neu ychwanegol. Fe wnes i sylwi, yn eich swydd flaenorol fel y Gweinidog Cyllid, ei bod hi'n ymddangos eich bod wedi gyffroi cryn dipyn am bwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru. Dyfynnaf yr hyn a ddywedasoch ar un adeg:

Dyna oedd datganoli i fod bob amser: labordy byw lle y gall gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig roi cynnig ar syniadau newydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, gweld beth sy'n effeithiol.

A ydych chi'n dal i gredu bod ein bod ni i gyd yma yng Nghymru yn rhan o labordy byw? Ac a ydych chi'n credu, Prif Weinidog, y dylai holl drigolion Cymru dderbyn yn fodlon trethi newydd a chynnydd i drethi gan eich Llywodraeth Cymru oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o ryw arbrawf cyffrous?

14:40

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn credu mai un o fanteision mawr datganoli yw ei fod yn darparu labordy byw y tu mewn i'r Deyrnas Unedig a chyfle i roi cynnig ar wahanol syniadau mewn gwahanol leoedd a dysgu oddi wrth ein gilydd wrth wneud hynny. Ac rwyf i hefyd yn glynu'n llwyr at yr hyn a ddywedais yn y gorffennol, bod y broses o aeddfedu datganoli yn cael ei chynorthwyo gan y newidiadau lle nad yw'r Cynulliad hwn yn dod yn gorff gwario yn unig, ond yn gorff y mae'n rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb am godi rhywfaint o'r cyllid y mae'n ei ddosbarthu.

Diolch i chi am egluro eich safbwynt ar hynny. Nawr, ar y mater o amrywio treth incwm, mae hynny'n rhywbeth sydd i ddod yn ddiweddarach heddiw—mae'n swnio efallai mai eich safbwynt hirdymor yw y gallai amrywio'r gyfradd treth incwm yng Nghymru fod yn ysgogiad y gallwch chi ei ddefnyddio'n gyfreithlon, ac y gallech chi fod yn frwdfrydig ynghylch ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Wel, nid wyf i erioed wedi dweud hynny, Llywydd, hyd y cofiaf. Rwyf i wedi dweud mai fy mwriad yw cadw at yr ymrwymiad maniffesto a wnaed gan ein plaid yn yr etholiad diwethaf—na fyddem ni'n defnyddio'r grym i amrywio treth incwm yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwy'n siŵr fy mod i'n cofio dadlau yn y Siambr hon gyda chydweithiwr yr Aelod yn UKIP bod tyfu'r economi yn well strategaeth ar gyfer casglu mwy o arian i ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus na datblygu obsesiwn ynghylch pa un a allwn ni ddefnyddio'r pwerau cynyddol sydd gennym ni o ran amrywio treth incwm. Pe byddai gennym ni economi gryfach, gyda mwy o arian yn dod i mewn, byddai'r ddadl yn wahanol.

Rwy'n credu bod hwnna'n bwynt ardderchog, Prif Weinidog. Fodd bynnag, mae gennym ni dystiolaeth o 20 mlynedd o Gymru ddatganoledig lle mae perfformiad economaidd y rhanbarth wedi methu'n lân â gwella. [Torri ar draws.] Y rhanbarth, y wlad—beth bynnag yr hoffech chi ei galw. Beth bynnag yr hoffech chi ei galw. Mae perfformiad economaidd Cymru wedi methu'n lân â gwella dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yn dangos bod Cymru, unwaith eto, yr isaf o bedair gwlad y DU, trwy wneud hyd yn oed yn waeth nag yr oeddem ni cyn i ni gael eich Plaid Lafur chi yn rhedeg Cymru drwy'r Cynulliad. Felly, o ystyried hynny, a ydych chi'n dychmygu o dan eich arweiniad chi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ein bod ni'n mynd i gael ymateb cyflym a bod y ffigurau hyn yn mynd i newid, ac ar ryw adeg ein bod ni'n mynd i gael ystadegau sy'n gwella o ran y perfformiad economaidd?

Wel, mae gen i ofn, Llywydd, mai'r bygythiad mwyaf i economi Cymru yw'r polisi a hyrwyddwyd gymaint gan ei blaid ei hun. Os ydym ni am gael effaith gyflym ar economi Cymru, bydd yn digwydd pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn ei adael ar y telerau y mae ei blaid wedi ei hyrwyddo ers cyhyd. Mewn gwirionedd, mae economi Cymru yn gadarn, mae wedi gwrthsefyll anawsterau'r cyfnod o gyni cyllidol, mae'n mynd i'r ychydig flynyddoedd nesaf â lefelau cyflogaeth yn uwch nag ers llawer o flynyddoedd a fu, a chyda lefelau diweithdra sy'n is na llawer o flynyddoedd a fu. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn, ond byddwn yn ei wneud yn nannedd y polisïau y mae ei blaid ef yn eu hargymell, yn hytrach na chael ein cynorthwyo ganddynt.

Cefnogaeth ar gyfer Addysg Uwch

3. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru? OAQ53202

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Addysg, gan gynnwys trafodaethau ar faterion allweddol yn ymwneud ag addysg uwch. Rydym ni'n parhau i ddarparu cymorth i'r sector trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fydd, ynghyd â'n diwygiadau cymorth myfyrwyr, yn creu sector addysg uwch cryfach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi codi pryderon ar nifer o achlysuron ynghylch y sefyllfa bresennol o ran llywodraethu ym Mhrifysgol Abertawe. Nawr, yn amlwg, fel y mae'r Gweinidog Addysg wedi ei ddweud yn briodol, mae ein prifysgolion yn gyrff annibynnol, ond mae hefyd yn wir eu bod yn cael arian cyhoeddus sylweddol iawn yng Nghymru, a'u bod yn sefydliadau cenedlaethol pwysig iawn. A gaf i ofyn i chi heddiw, Prif Weinidog, gynnal trafodaethau preifat gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch y mater hwn, i sicrhau eich hun bod y cyngor cyllido addysg uwch, CCAUC, yn defnyddio'r lefel briodol o her a chymorth i'r brifysgol yn ystod y cyfnod anodd hwn? Mae o bwysigrwydd strategol, wrth gwrs, ac a wnewch chi ymrwymo yn y tymor hwy i ystyried gyda'r Gweinidog Addysg, pan fydd y sefyllfa bresennol hon yn cael ei datrys, pa un a oes gwersi y mae angen eu dysgu am gadernid y trefniadau llywodraethu yn ein sefydliadau addysg uwch?

14:45

Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Rwy'n cydnabod yn llwyr ei hymrwymiad ei hun i'r sefydliad hwnnw a'r rhan y mae wedi ei chwarae ynddo yn y gorffennol diweddar a'r pryder sy'n ei harwain at y cwestiynau y mae hi wedi eu codi gyda mi a chyda'r Gweinidog addysg. Gwn ei bod wedi cyfarfod â Kirsty Williams cyn toriad y Nadolig. Gallaf roi sicrwydd iddi bod CCAUC, fel y rheoleiddiwr yn y maes hwn, yn cymryd diddordeb agos ac uniongyrchol iawn yn y stori sy'n datblygu yn y brifysgol yn Abertawe. Er bod y materion hyn yn datblygu ac yn cael eu hymchwilio, mae'n anochel nad oes dim y gallaf i ei ddweud nac y gall y Gweinidog ei ddweud yn uniongyrchol ar lawr y Cynulliad, a gwn fod Helen Mary Jones yn deall hynny yn iawn. Ond rhoddaf y sicrwydd iddi ein bod ni'n parhau i chwarae rhan agos drwy'r rheoleiddiwr yn y stori sy'n datblygu, a phan ddaw'r adeg pan fo gwersi ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yno i'w dysgu, byddwn yn gweithio gyda'r rheoleiddiwr i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

A dweud y gwir, rwy'n rhannu pryderon Helen Mary am hyn, am natur anweledig pethau a allai fod yn cael eu hymchwilio yno. Felly, mae amser yn symud yn gyflym, felly diolch am eich ateb ar hynna.

Ers cael gwared ar y cap ar nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion yng Nghymru, a ydych chi'n gwybod pa un a ydym ni wedi gweld mwy o fyfyrwyr o Gymru â'r graddau uchaf yn mynd i brifysgolion Cymru erbyn hyn, neu'n gwneud cais am le ynddyn nhw ac yn cael y lleoedd hynny, yn enwedig mewn pynciau STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg—ac mewn meddygaeth? Ac a ydych chi'n meddwl y byddai ymrwymo nawr i argymhellion adolygiad Reid yn helpu'r myfyrwyr gorau hynny o Gymru i aros yn y wlad hon yn hytrach na mynd dros y ffin? Diolch.

Wel, Llywydd, mae nifer y bobl ifanc 18 oed ym mhoblogaeth Cymru yn mynd i fod ar ei isaf erioed yn yr oes fodern yn y flwyddyn 2020. Mae wedi mynd o 40,000 i lawr at ffigur sy'n agos at 30,000, ond mae canran y bobl ifanc 18 oed sy'n mynd i'r brifysgol o Gymru yn parhau i fod ar ben uchaf lefelau hanesyddol, ac rydym ni'n falch iawn o weld hynny. Cyn belled ag y mae adolygiad Reid yn y cwestiwn, rydym ni wedi ymrwymo eisoes i un o'i argymhellion allweddol, trwy wneud yn siŵr ein bod ni'n atgyfnerthu ein sefyllfa yn Llundain drwy ein swyddfa sydd gennym ni yno, ac mae hynny'n rhywbeth angenrheidiol i'w wneud oherwydd mae'r dyfodol ar gyfer incwm ymchwil i brifysgolion Cymru ar ôl Brexit yn dibynnu ar ein gallu i'w helpu nhw ac iddyn nhw helpu eu hunain i gystadlu am ffrydiau eraill o incwm ymchwil, gan gynnwys ffrydiau newydd, er enghraifft, drwy'r strategaeth ddiwydiannol.

Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny mewn ymateb i adroddiad yr Athro Graeme Reid, a oedd ychydig amser yn ôl—nid yn rhy bell yn ôl. Dywedodd yn yr adroddiad hwnnw iddo ganfod

gwendidau strwythurol hirsefydlog yn yr ecosystem ymchwil ac arloesi a oedd yn rhoi Cymru o dan anfantais o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU mewn cystadlaethau ariannu.

A chyfeiriodd at y ffaith bod hynny wedi cael ei guddio braidd

gan y ffaith bod cronfeydd strwythurol yr UE ar gael,

fel y dywedodd,

y mae eu dyfodol yn dal i fod yn aneglur.

Felly, tybed a allai'r Prif Weinidog roi rhagor o'i fyfyrdodau, nawr bod rhywfaint o amser wedi mynd heibio ers argymhellion yr Athro Reid. Gwnaeth dri argymhelliad. A oes mwy, naill ai mewn ymateb i'r argymhellion hynny neu rywbeth ar wahân, y gallwn ni ei wneud i wella ein gallu i gael gafael ar gyllid Ymchwil ac Arloesi y DU neu ffynonellau eraill o gyllid i sefydlu ein sylfaen ymchwil, sydd, a dweud y gwir, yn gwneud yn eithaf da yn yr hyn y mae wedi ei wneud, ond, fel y dywedodd y pwynt hwnnw, caiff ei guddio braidd drwy gael gafael ar gyllid Ewropeaidd?

Llywydd, hoffwn longyfarch prifysgolion Cymru ar y ffordd y maen nhw wedi gallu defnyddio'r ffynonellau cyllid hynny gan yr Undeb Ewropeaidd, y rhai sy'n dod yn uniongyrchol i Gymru, ond, er enghraifft, drwy'r rhaglen cydweithredu rhyng-diriogaethol sydd gennym ni gyda Gweriniaeth Iwerddon, lle mae ein prifysgolion wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil sy'n arwain y byd, er enghraifft, ym meysydd yr amgylchedd morol ac ynni morol. Tra bod y ffynonellau cyllid hynny wedi bod ar gael i ni, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl ddealladwy bod ein sector addysg uwch wedi gwneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd agosaf i law. A gwyddom, trwy waith y prif gynghorydd gwyddonol i Lywodraeth Cymru, bod yr effaith y mae prifysgolion Cymru yn ei chael gyda'r cyllid sydd ganddyn nhw o ran ymchwil yn eu rhoi ar frig y gynghrair o ran defnydd gorau o'r cyllid hwnnw. Nawr, ar ôl Brexit, rydym ni wedi dweud mewn ymateb i adolygiad Reid y bydd unrhyw symiau canlyniadol pellach a ddaw yn cael eu rhoi yn uniongyrchol i'r Cabinet i drafod pa un a allwn ni gryfhau sefyllfa ymchwil ac arloesi yma yng Nghymru drwy ein prifysgolion. Mae'n her iddyn nhw, fel y mae'n her i bob un ohonom ni, symud i'r byd newydd hwnnw, ond drwy adolygiad Reid mae gennym ni argymhellion y gallwn ni eu defnyddio i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi ein hunain yn y sefyllfa gryfaf y gallwn ni fod ynddi.

14:50
Bodloni'r Angen am Dai Fforddiadwy

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fodloni'r angen am dai fforddiadwy? OAQ53163

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ystod fwyfwy eang o gamau er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am dai ledled Cymru. Yn y tymor hwn, rydym ni'n gwneud gwerth £1.7 biliwn o fuddsoddiad mewn tai, a dyna'r mwyaf erioed.

Diolch. Fel y gwyddoch, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol bennu trothwyon capasiti ar gyfer datblygiadau preswyl, y dylid gofyn am gyfran o dai fforddiadwy gan ddatblygwyr uwchben hynny. Yn achos sir y Fflint, mae'r polisi yn ceisio darparu o leiaf 30 y cant o dai fforddiadwy ar safleoedd â lleiafrif o 25 o anheddau. Wel, er gwaethaf tystiolaeth o angen lleol am dai fforddiadwy, mae amgylchiadau a'r dystiolaeth sy'n ymddangos yn anghyson sy'n berthnasol i gais ym Mwcle wedi arwain at safle o 28 o unedau yn mynd rhagddo heb gynnwys tai fforddiadwy. Pa ystyriaeth wnewch chi ei rhoi felly i'r alwad gan Gyngor Tref Bwcle am ymchwiliad i'r amgylchiadau a ganiataodd i hyn ddigwydd a'r cynsail y mae hyn yn ei greu os na chaiff ei atal yn gyflym?

Diolchaf i'r Aelod am y pwynt cyffredinol a wnaeth ar y cychwyn ynglŷn â phwysigrwydd y drefn gynllunio o ran gwneud yn siŵr ein bod yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Bydd yn gwybod bod fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, a oedd yn gyfrifol am y mater hwnnw ar y pryd, wedi cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' ychydig cyn y Nadolig, sy'n ceisio tynnu rhai llinynnau allweddol mewn polisi cynllunio ynghyd a'u cyfochri â'r diben a amlinellwyd gan Mark Isherwood. Nid wyf i'n gyfarwydd yn uniongyrchol â'r alwad y mae Cyngor Tref Bwcle wedi ei gwneud o ran y cynllun penodol a amlinellwyd gan yr Aelod, ond mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai a chynllunio yn ei lle a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud gwaith dilynol ar y mater penodol y mae'r Aelod wedi ei godi y prynhawn yma.

Onid yw hi'n amser am arloesi gwirioneddol erbyn hyn—cartrefi modiwlaidd, cartrefi cynhwysydd, cartrefi parod sydd dros dro ac ar gael i symud os, dyweder, y bydd tir yn cael ei werthu gan gynghorau neu berchnogion tir preifat? Yn ddiweddar, aeth Cyngor Dinas Bryste yn erbyn ei bolisi cynllunio ei hun ar gyfer datblygiad bach o gartrefi un person. Fe'i hanogwyd i osod cynseiliau newydd gan yr ymgeiswyr er mwyn ymdrin â'r argyfwng tai; dyna'n union yr hyn a wnaeth. Yn yr un modd, gallai podiau ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd wneud cryn dipyn i ddechrau rhoi lloches i bobl sy'n cysgu ar y stryd a'r cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen. Caiff rhai o'r atebion tai hyn eu gwneud yng Nghymru eisoes a gellir datblygu pob un ohonynt yn fusnesau yma. Pam nad yw eich Llywodraeth yn eu cefnogi nhw?

Wel, Llywydd, rwy'n meddwl ein bod ni'n cefnogi arloesedd ym maes tai. Mae gennym ni ffrwd gyllid benodol i gefnogi ffyrdd arloesol y gellir diwallu anghenion a bodloni gofynion tai yma yng Nghymru. Yn y ddadl a gynhaliwyd yn y Siambr yma yr wythnos diwethaf, gwnaeth nifer o Aelodau gyfraniadau a oedd yn sôn am y cyfleoedd a geir ar gyfer gweithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu newydd y gallwn eu defnyddio yn y ffordd honno. Nid wyf mewn sefyllfa i ymrwymo i'r pethau penodol y mae'r Aelod wedi eu hamlinellu y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod y pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud yn un sy'n gyson iawn eisoes â pholisi'r Llywodraeth.

Mynd i'r Afael â Thlodi

5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi? OAQ53173

Diolch. Llywydd, mae ein blaenoriaethau cyntaf yn canolbwyntio ar y mesurau lliniaru hynny sydd ar gael yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru sy'n cael effaith ymarferol ar fywydau plant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae credyd cynhwysol yn rhy aml yn system greulon ac annynol yn ymarferol sy'n achosi trallod i deuluoedd a chymunedau, boed hynny oherwydd yr amseroedd aros am daliad cychwynnol a'r system fenthyciadau sy'n cyd-fynd â hynny, neu'r diffyg gallu i wneud taliad uniongyrchol i landlordiaid o ran budd-dal tai, neu amodoldeb a chosbau, sy'n aml yn llym. Mae'n aml yn arwain at ddyled, digartrefedd, ciwiau mewn banciau bwyd, ac wythnosau os nad misoedd yn cael eu treulio heb unrhyw incwm o gwbl. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried datganoli gweinyddiad credyd cynhwysol ar gyfer system fwy trugarog yng Nghymru?

14:55

Diolchaf i John Griffiths am hynna, ac wrth gwrs mae'n cyfeirio'n eglur iawn at hanes gweithrediad credyd cynhwysol hyd yn hyn. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r gwaith y mae ei bwyllgor wedi ei wneud a'r adroddiadau a luniwyd sy'n awgrymu y dylem ni ystyried datganoli gweinyddiad budd-daliadau yma yng Nghymru. Rwyf i wedi clywed hefyd, yn y Siambr hon, Aelodau eraill yn cyfeirio'n gwbl briodol at yr anawsterau a allai ei rwystro, ac mae hanes, onid oes, yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ef—er enghraifft, o ran gorfodi datganoli budd-dal y dreth gyngor, pan wnaethom ni gymryd cyfrifoldeb dros y gweinyddiad, ond gwnaeth Llywodraeth y DU dro gwael iawn â ni o ran y swm o arian sydd ei angen ar gyfer y budd-dal ei hun, a dim byd o gwbl i dalu am ei weinyddu. Ond, ar ôl tynnu sylw at y rhybuddion hynny, yna fy marn i yw y dylem ni ystyried datganoli gweinyddiad. Rydym ni eisiau ei wneud yn ofalus, ond rwy'n credu bod yr achos wedi ei wneud dros ei archwilio, ac rwy'n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw iddo fe y prynhawn yma.

Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi ei rhoi i benodi Gweinidog tlodi a fyddai'n pennu targedau eglur a mesuradwy i fynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd yng Nghymru ac a fyddai'n atebol am strategaeth gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda?

Wel, mae atebolrwydd am fesurau gwrth-dlodi yn Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo i'r Gweinidog tai, cynllunio a llywodraeth leol, a bydd hi'n gallu ateb cwestiynau a chael ei dwyn i gyfrif yn y modd y mae'r Aelod yn ei awgrymu.

Prif Weinidog, roedd gen i ddiddordeb mewn clywed popeth a restrwyd gennych chi sy'n digwydd yng Nglynebwy a'r cyffiniau yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Soniasoch am yr unedau dechreuol yn Lime Avenue yng Nglynebwy, ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu uwch 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd-y-blew yn y dref, a'r adeilad adfeiliedig 174,000 troedfedd sgwâr a ailwampiwyd yn Rassau yng Nglynebwy ar gyfer y sector preifat. Mae eich Gweinidog yr economi wedi dweud yn y gorffennol y bydd £100 miliwn yn cael ei ddyrannu i'r Tech Valleys yn yr ardal dros y 10 mlynedd nesaf, gyda'r nod o greu 1,500 o swyddi.

Nawr, yr hyn yr hoffwn i, a llawer o Aelodau Cynulliad eraill sy'n cynrychioli cymunedau yn ardal yr hen feysydd glo, ei wybod yw: beth am fy etholaeth i? Mae'r Rhondda mewn sefyllfa debyg i Flaenau Gwent o ran ystadegau diweithdra a lefelau amddifadedd, ac eto rydym ni wedi cael ein hanwybyddu i raddau helaeth gan Lywodraethau olynol, ac mae hynny'n ffaith a gadarnheir gan gynllun cyflawni'r Cymoedd. Felly, beth yw eich cynlluniau i wneud yn siŵr bod cyfleoedd cyflogaeth a chamau cynhyrchu incwm yn cael eu rhannu'n gyfartal, a phryd allwn ni ddisgwyl clywed cyhoeddiad am y buddsoddiad mewn creu swyddi ar gyfer y Rhondda?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, sy'n sicr yn berthnasol i fynd i'r afael â thlodi yn y ffordd y gwnaeth hi ei fynegi. Diolch am—[Torri ar draws.] Diolchaf iddi am y sylw gofalus a roddodd i'r hyn a ddywedwyd yn ystod cwestiynau yr wythnos diwethaf, a bydd wedi sylwi bod cyhoeddiadau pellach wedi eu gwneud yr wythnos hon am fuddsoddiadau yng Nglynebwy. Nid cystadleuaeth yw hon, Llywydd, a gwn na wnaeth yr Aelod awgrymu ei bod yn hynny. Wrth gwrs, mae pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud mewn rhannau eraill o Gymru. Dyna pam y sefydlwyd tasglu'r Cymoedd, i gymryd yr olwg Cymoedd gyfan honno ar y gwahanol bethau y gallwn ni eu gwneud mewn gwahanol rannau o Gymru, ac yn sicr nid yw'r Rhondda ac anghenion y gymuned honno wedi eu hanghofio yn yr ystyriaethau hynny.

15:00
Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Canol De Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru? OAQ53167

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae ein blaenoriaethau economaidd wedi eu nodi yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau trwy gymorth sgiliau, seilwaith a busnes.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yn amlwg, mae pobl, lleoedd, angen cysylltiadau trafnidiaeth da. Rydym ni'n gwybod llawer am y system fetro sy'n cael ei haddo yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ond mae angen taer am benderfyniad a oedd ym mewnflwch eich rhagflaenydd ac sydd yn eich mewnflwch chi erbyn hyn, sef ffordd liniaru'r M4. Bydd yn gwella ffyniant yr ardal yr wyf i'n ei chynrychioli, Canol De Cymru, yn sylweddol iawn. Oherwydd, dro ar ôl tro, pan fyddaf i'n siarad â busnesau, mae'n ymddangos bod y dagfa o amgylch Casnewydd yn atal nwyddau a phobl rhag symud o amgylch economi'r de. A allwch chi roi unrhyw arwydd o'r amserlen pan fydd eich Llywodraeth yn gwneud penderfyniad ar y seilwaith pwysig hwn—ac, os yw'n mynd i fod yn benderfyniad negyddol, caniatáu i'r Llywodraeth gyflwyno cynigion eraill fel y gall pobl fod yn ffyddiog y bydd y maes parcio sy'n cynrychioli'r M4 heddiw yn gallu cael ei leddfu ac y gall busnesau fwrw ymlaen â buddsoddi yn eu busnesau a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi yng Nghanol De Cymru?

Wel, Llywydd, rwy'n llwyr gydnabod yr her a wynebir yn y rhan honno o seilwaith y de-ddwyrain. Rwy'n dal i fod o'r un safbwynt ag yr esboniais y tro diwethaf y gofynnwyd i mi yma yn y Cynulliad. Ceir cyngor y mae angen iddo ddod i mi fel Prif Weinidog, ar ôl cael adroddiad arolygydd yr ymchwiliad lleol annibynnol. Nid yw'r cyngor hwnnw wedi ei gwblhau eto. Pan ddaw i law, byddaf yn rhoi sylw iddo gyda meddwl cwbl agored, gan ddibynnu ar yr adroddiad ei hun a'r holl ystyriaethau eraill y bydd cyngor yn dod i mi ar eu sail.

Tai Cymdeithasol Newydd

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn Islwyn? OAQ53225

Llywydd, diolch. Ymhlith y mesurau polisi y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio yn Islwyn y mae'r ddarpariaeth o grant tai cymdeithasol i landlordiaid cymdeithasol. Cynhyrchodd y mesur hwn ar ei ben ei hun dros 50 o gartrefi fforddiadwy newydd yn yr ardal yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda mwy na 50 arall i'w cwblhau yn 2018-19.

Diolch. Prif Weinidog, bydd yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn cael eu diddymu o'r diwedd ledled Cymru ar 26 Ionawr 2019, diolch i Lywodraeth Llafur Cymru. Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan yr hawl i brynu, heb ddim gallu na chapasiti i ailgyflenwi'r stoc tai cymdeithasol i'r un lefelau. Mae hyn wedi disbyddu stoc tai cyngor a chymdeithasol yn ddifrifol. Prif Weinidog, rwy'n dweud wrth fy etholwyr yn Islwyn bod eu Llywodraeth Llafur Cymru wedi ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy arall erbyn 2021. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn Islwyn i gefnogi landlordiaid cymdeithasol ymhellach, a'r awdurdod lleol, i'n helpu i gyflawni'r nod uchelgeisiol iawn hwn?

Diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at y gostyngiad i nifer y tai sydd ar gael ar gyfer rhentu cymdeithasol o ganlyniad i'r cynllun hawl i brynu, ac rwy'n falch ei bod hi'n dweud wrth ei hetholwyr am ein 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, oherwydd rydym ni'n hyderus ein bod ni ar y trywydd iawn i ddarparu'r nifer hwnnw. Yn ei hetholaeth hi, bydd yn gwybod—a bydd yn gallu cyfleu i'w hetholwyr—y buddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud drwy'r grant tai cymdeithasol, drwy'r grant tai fforddiadwy, a thrwy ein cynllun tir ar gyfer tai, yr ydym ni'n hyderus fydd yn helpu yn ei hetholaeth hi i ddod â mwy o dir—cawsom drafodaethau yma yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd tir ym maes tai—i'r farchnad er mwyn cefnogi ein huchelgeisiau yn yr ardal hon.

Hyrwyddo Gwleidyddiaeth Fwy Caredig

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig? OAQ53166

Diolch i Jack Sargeant. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau yn ein Bil llywodraeth ac etholiadau lleol sydd ar ddod i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy amrywiol, cynhwysol a pharchus yng Nghymru. Ar yr un pryd, byddwn yn sefyll ochr yn ochr ag eraill i wrthsefyll y llif o fygythiadau a rhagfarn sy'n bygwth difetha rhannau o fywyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb a dweud fy mod i'n falch iawn o'i weld yn cyfeirio at agwedd fwy garedig at wleidyddiaeth yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog? Bydd yn gwybod fy mod i wedi bod yn gweithio'n galed i weld newid cadarnhaol yn ein gwleidyddiaeth, ac rwy'n cytuno'n llwyr bod y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac anniddig. Nawr, Llywydd, mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig, ac rwy'n teimlo ei bod hi'n gwbl briodol fy mod i'n sôn, fel y mae cynifer wedi ei wneud heddiw, yr effaith a gafodd ein diweddar gyfaill a chyd-Aelod Steffan Lewis ar y pwnc hwn. A Llywydd, unwaith eto, byddem ni'n mynd ymhell iawn pe byddem ni ychydig bach yn debycach i Steffan. Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae mewn newid o'r fath, gan gynnwys y diwylliant a'r ffordd yr ydym ni'n dod â charedigrwydd i'r gwaith o lunio polisi cyhoeddus. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn, bod yn rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd, gan gynnwys Aelodau o bob rhan o'r Siambr, Gweinidogion, y gwasanaeth sifil ac eraill?

15:05

Llywydd, rwyf yn cytuno'n llwyr fod gwneud ein gorau glas i hyrwyddo gwleidyddiaeth sy'n fwy caredig ac yn fwy parchus o'r math yr oedd Jack Sargeant yn sôn amdano y prynhawn yma ac sydd, wrth gwrs, wedi cael ei hyrwyddo ganddo yn ystod ei holl amser yn Aelod Cynulliad, yn waith i bob un ohonom. Roeddwn i'n gallu bod yn y Siambr yn ystod y ddadl fer gyntaf a gynhaliodd Jack ar wleidyddiaeth fwy caredig yma yng Nghymru ac, yn wir, yng nghyd-destun trist iawn heddiw, ailymwelais â'r ddadl honno yn ystod y penwythnos ac ailddarllen y cyfraniadau a wnaed gan Jack, yn bennaf, ond cafwyd cyfraniadau ar draws y Siambr. Siaradodd Julie Morgan am bwysigrwydd gwleidyddiaeth ag angerdd ond heb wenwyn. Tynnodd Adam Price sylw at y gwaith a wnaed gan y nofelydd Americanaidd mawr du a hoyw, James Baldwin, a'r hyn y gallwn ei ddysgu o'i brofiad ef. A dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad ef, er mor heriol y mae'r awyrgylch cystadleuol a bywiog yn ystod dadleuon yma yn y Cynulliad yn gallu bod, dylai fod yn uchelgais i ni fel Aelodau Cynulliad fod yn bobl sy'n anghytuno'n dda. Ac yng nghyd-destun heddiw, credaf fod yr uchelgais hwnnw, sef y dylem fod yn bobl sy'n anghytuno, ond yn ei wneud yn yr ysbryd hwnnw, yn rhywbeth inni feddwl amdano a'i ystyried yn sgil y prynhawn yma.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans. 

Diolch. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad cyn hir ar gynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â'r UE. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Yn ystod y toriad, ar 27 Rhagfyr, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad a oedd yn cynnig y dylid dyblu’r ardoll ar fagiau siopa o 5c i 10c gan ei hymestyn i gynnwys pob siop. O gofio bod Cymru wedi arwain ar hyn yn wreiddiol, a’r dymuniad torfol yn yr ymgyrch yn erbyn gwastraff plastig, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i hyn, a sut y gallai, yn annibynnol neu ochr yn ochr â'r ymgynghoriad yn Lloegr, gynnig bwrw ymlaen ar y mater hwn ei hun? 

Yn yr un modd, yn ystod y toriad, cafwyd newyddion gan Lywodraeth y DU bod hyfforddiant cymorth cyntaf ac adfywio cardio-pwlmonaidd yn mynd i gael eu cynnwys yn rhan o'r cwricwlwm ysgol yn Lloegr. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwnnw, felly, lle cynhaliodd ein cyd-Aelod, Suzy Davies, ddadl ym mis Chwefror 2017 i gynnig y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael sgiliau achub bywyd sy’n briodol i’w hoedran yn rhan o gwricwlwm yr ysgol yng Nghymru, a gefnogwyd gan Aelodau o bob plaid? Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r cynnig hwnnw. Eto, rydym yn gobeithio na chawn wahaniaethu ar draws y ffin, yn enwedig o gofio rhai o'r sylwadau a wnaed am ffiniau mewn cyd-destun gwahanol yn gynharach. 

Yn olaf, rydym wedi clywed cyfeiriad at Wylfa Newydd. A gawn ni ddatganiad llafar, sy'n cynnwys y Prif Weinidog yn y datganiad os oes modd, ynghylch y pryderon dros Wylfa Newydd os cadarnheir y ddamcaniaeth yn ddiweddarach yr wythnos hon, mewn penderfyniad gan Hitachi naill ai i beidio â bwrw ymlaen, neu i ohirio’r cynigion? Rydym wedi cael datganiad ysgrifenedig y dywed Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynddo fod Wylfa Newydd yn brosiect mawr gyda manteision sylweddol posib i Ynys Môn, gogledd Cymru a’r DU. Ond rydym yn gwybod, yn y gorffennol, fod y Prif Weinidog newydd ei hun, wedi gwrthwynebu ynni niwclear yn bersonol. Gwyddom, yn fuan ar ôl iddo dderbyn ei swydd newydd, fod Llywodraeth Cymru wedi tynnu'n ôl gynlluniau i baratoi ardal 740 erw yn Ynys Môn i adeiladu Wylfa Newydd, ac roedd is-gwmni Hitachi, Horizon, yn dweud eu bod yn anghytuno â rhesymeg Llywodraeth Cymru. Dywedwyd wrthyf fod hynny'n un o'r ffactorau sydd wedi arwain at Hitachi yn ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd. Mae hwn yn fater rhy bwysig i ogledd Cymru, Cymru a'r DU i ymdrin ag ef drwy ddatganiad ysgrifenedig, a galwaf am ddatganiad llafar priodol yma yn amser y Cynulliad, fel y gall y Cynulliad llawn gyfrannu iddo. Diolch.

15:10

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny ac, yn rhan gyntaf eich cyfraniad, am gydnabod y rhan arweiniol y mae Cymru wedi ei chwarae o ran lleihau’r plastig yr ydym yn ei ddefnyddio drwy ardoll ar fagiau siopa, a gyflwynwyd gennym ni. Gwn fod y Dirprwy Weinidog bellach yn ystyried i ble yr ydym yn mynd â hyn nesaf, oherwydd, yn amlwg, ar ôl arwain y ffordd, rydym yn sicr yn dymuno cynnal y momentwm a ddechreuwyd gennym yn y maes penodol hwn. Nid gyda bagiau siopa plastig yn unig, wrth gwrs, ond byddwn yn edrych ar leihau plastig mewn llawer o feysydd ac agweddau eraill ar fywyd hefyd.

O ran adfywio cardio-pwlmonaidd, gwn fod llawer o gyfleoedd ar hyn o bryd o fewn y cwricwlwm presennol ar gyfer addysgu adfywio cardio-pwlmonaidd i ddisgyblion ac mae’n gwneud cynnydd da o ran y gwaith a wneir ar gyfer diwygio'r cwricwlwm. Gwn fod y Gweinidog yn awyddus i sicrhau bod gan ysgolion yr hyblygrwydd sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu rhaglen addysg i'r disgyblion sy'n briodol ac yn rhoi’r cymorth gorau posibl iddyn nhw, a heb geisio gorlenwi’r cwricwlwm chwaith. Felly, yn sicr, mae angen cydbwysedd arnom yn y fan honno, ond mae’r pwynt a wnaethoch am bwysigrwydd adfywio cardio-pwlmonaidd yn un da.

O ran y mater ynghylch Wylfa Newydd, gwn fod datganiad ysgrifenedig newydd fynd allan gan y Gweinidog dros yr economi. Mae penderfyniadau pwysig i’w gwneud yn ddiweddarach yr wythnos hon, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ymateb i'r cwestiwn ar Ford, ond fe wnaeth gyfeirio at Hitachi bryd hynny. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn edrych ar sut i ymateb i'r penderfyniadau hynny a gaiff eu gwneud yn ddiweddarach yr wythnos hon yn y modd gorau a mwyaf priodol.

Trefnydd, yn gyntaf oll, a gaf i gefnogi’r pryderon a godwyd ynghylch Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf i hefyd yn edrych ymlaen at ddatganiadau gweinidogol pellach ar y gwaith a'r cynnydd a wnaed, gan ei fod yn broblem enfawr yn lleol?

Fy ail bwynt, fel y byddwch yn ddiau yn ymwybodol ohono, Trefnydd, yw hyn. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n galw am weithredu brys yn dilyn pryderon ariannol a llywodraethu yn sector y cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dangos bod nifer y barnau archwilio amodol wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i 340 o gynghorau, bron hanner yr holl gynghorau. Gwyddom hefyd fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd neu wneud argymhellion ffurfiol i wyth cyngor yn 2018. Nawr, mewn ffordd, ni ddylai hyn beri syndod mawr. Rydym wedi clywed pryderon am nifer o flynyddoedd ynghylch diffyg llywodraethu, bwlio a chynghorau cymuned yn cael eu chwalu oherwydd ymladd lleol ymysg ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r materion hyn ers cryn amser. Bellach, mae’r adroddiad gan y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref a adroddwyd ym mis Hydref 2018, yn dangos bod dewisiadau ar gael i Lywodraeth Cymru o ran ceisio gwella'r sector. Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda'r dasg honno yn awr ac yn mynd i'r afael â'r sector pwysig hwn. Gyda'r cefndir hwnnw, a wnaiff y Gweinidog llywodraeth leol gytuno i gyflwyno datganiad ar ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a defnyddio'r datganiad hwnnw i nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod yr haen bwysig hon o ddemocratiaeth yn cael ei rhoi ar sylfaen gynaliadwy, wrth symud ymlaen?

Diolch yn fawr iawn am y materion hynny ac am gofnodi eich pryder ynghylch y cyhoeddiad sy'n ymwneud â Ford. Gwn fod Gweinidog yr economi yn ymwneud â'r mater hwn i raddau helaeth ac yn sicr bydd yn cyflwyno'r diweddariadau priodol i Aelodau'r Cynulliad pan fyddai'n ddefnyddiol.

O ran yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ynghylch cynghorau tref a chymuned, gwn y bydd y Gweinidog, yn amlwg, yn ystyried yr adroddiad hwnnw. Caiff yr Aelodau gyfle i'w holi hi ar hynny yn ystod ei sesiwn gwestiynau yr wythnos nesaf.

A gaf i ofyn am amser ar gyfer un ddadl ac un datganiad? Tybed a fydd amser am ddadl ar bwysigrwydd grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i adfywio. Roeddwn i yng nghyfarfod fforwm cymunedol Ogwr neithiwr, sy'n dwyn ynghyd glybiau a sefydliadau a thrigolion o bob rhan o'r cwm, rhwng Evanstown a Lewistown, a rhwng Melin Ifan Ddu a Nant-y-moel a’r holl bwyntiau sydd rhyngddyn nhw i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y cwm, yn seiliedig ar y blaenoriaethau y maen nhw eu hunain yn eu datblygu. Yn y cyfarfod nesaf, maen nhw'n mynd i ddatblygu eu syniadau, ac maen nhw’n mynd i ddod â mwy o bobl ifanc i mewn i helpu i lunio'r syniadau hyn hefyd, a drefnwyd gan y Cynghorwyr galluog iawn Dhanisha Patel a Lee-Anne Hill, cadeirydd cyngor y gymuned. Bydd dadl yn caniatáu inni ddathlu swyddogaeth y grwpiau cymunedol hyn a fforymau ar draws y wlad wrth adfywio ein cymunedau.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad neu ddadl ar bwysigrwydd diwylliant a thraddodiadau i Gymru? Ddydd Sul, ar Nos Galan, fe wnaeth y Fari Lwyd ymddangosiad yn nhafarn a bwyty'r Corner House yn Llangynwyd. Dychrynodd y plant a'u plesio'n fawr ac roeddent allan ymhell y tu hwnt i’w hamseroedd gwely, yn ogystal â’r oedolion, gyda llaw, a lenwodd y gwesty hwn ar ben bryn, a minnau yn eu plith nhw. Nawr, mae gweld penglog ceffyl wedi ei orchuddio â chynfas wen ac addurniadau anweddus yn dawnsio, dan arweiniad Gwyn Evans sy’n canu mewn het silc a chynffonnau yn rhan o'r hyn sy'n ein gwneud ni’n Gymreig iawn—y pethau unigryw hyn sy'n denu ymwelwyr a thwristiaid i aros gyda ni a gwario eu harian, a hynny sy’n ein hatgoffa ni o'n gwreiddiau Celtaidd, sy'n mynd yn ddwfn i’n diwylliant cyn-Gristnogol. Felly, hoffwn dalu teyrnged i'r rhai sy’n cynnal y traddodiadau rhyfeddol hyn, sydd weithiau, fel yn yr achos hwn, wedi eu pasio i lawr drwy'r cenedlaethau. Byddai datganiad neu ddadl yn caniatáu inni ddathlu hyn ac yn annog y traddodiadau hyn i gael eu cynnal am nifer o genedlaethau i ddod.

15:15

Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r ddau fater pwysig hyn ac am roi ymdeimlad inni o’r bywiogrwydd sy'n digwydd bob dydd yn ein cymunedau ein hunain. Rwyf yn wirioneddol falch o glywed am y sgyrsiau adfywio ar lawr gwlad sy'n cael eu cynnal ar lefel leol, oherwydd y lefel hon o ymgysylltiad oedd yr union beth yr oeddem yn ei ragweld pan sefydlwyd tasglu’r Cymoedd. Mae'n ddarn o waith sy’n cael ei adeiladu o'r gwaelod i fyny yn wir, ac felly mae'r hyn a glywsom yn disgrifio'r math hwnnw o ethos yn dda iawn.

Rwyf yn ymwybodol bod y Cynghorydd Patel wedi cael trafodaethau da iawn ynghylch gwaith y tasglu, ac fe siaradodd yn hir â'r cyn-Weinidog yr oedd cyfrifoldeb am y tasglu ganddo. Mae’r dull hyb cymunedol yr ydych yn ei ddisgrifio, yn flaenoriaeth fawr o dan thema 2 y cynllun cyflenwi tasglu, a gwyddom fod yr hybiau cymunedol hynny yn asedau mawr inni pan rydym yn ceisio gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Felly, yn dilyn digwyddiad rhwydweithio y llynedd, cafodd gweithgor hyb cymunedol ei sefydlu i fapio’r hybiau sydd eisoes yn bodoli ledled y Cymoedd, gan dynnu sylw at arferion da lle bo hynny'n bodoli, a chredaf ein bod ni wedi clywed rhywfaint o hynny yn y fan yna, a hefyd i edrych ar yr hyn y mae angen i gymunedau a sefydliadau ei wneud i ddatblygu model o hyb sy’n gynaliadwy. Felly, rydym yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cynghorau gwirfoddol sirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Interlink RhCT, byrddau iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac eraill er mwyn mynd â’r darn hwnnw o waith yn ei flaen, ond gyda thrigolion lleol a thenantiaid wrth wraidd hynny bob amser.

O ran ail ran y datganiad, cytunaf yn llwyr mai pwysigrwydd ein diwylliant a'n traddodiadau yw’r hyn sy'n ein gwneud ni’n Gymreig iawn, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn ei gyfraniad ef. Mae gennym gyfoeth o farddoniaeth a rhyddiaith, ac mae’n Hamgueddfa Werin yn Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi casglu'r rhain dros y blynyddoedd i sicrhau nad yw’r cyfoeth hwn yn cael ei golli.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar fater sydd o bryder mawr i drigolion lleol sy'n byw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili? Mae'r cyngor yn bwriadu cynyddu'r dreth gyngor yn y fwrdeistref bron 7 y cant ac mae wedi torri £50 miliwn ar ei wariant. Fodd bynnag, y mis diwethaf, pleidleisiodd y weinyddiaeth Lafur i wario £242,000 ar gynnal ymchwiliad i godiadau cyflog ar gyfer uwch-swyddogion yn y fwrdeistref. Dechreuodd yr ymchwiliad hwn yn 2013 a bydd wedi costio dros £4 miliwn i'r trethdalwr eleni. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar  y camau y mae hi'n bwriadu eu cymryd i amddiffyn y trethdalwyr rhag canlyniadau camreoli'r Blaid Lafur yng Nghyngor Caerffili?

Diolch am y cwestiwn. Bydd dau gyfle i chi godi hyn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog dros lywodraeth leol. Bydd datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y setliad llywodraeth leol ac, yn amlwg, ceir cyfleoedd i gyflwyno cwestiynau i'r Gweinidog i'w hateb yn sesiwn yr wythnos nesaf.

Hoffwn ddechrau fy sylwadau byr drwy ddweud pa mor falch y credaf y byddai Steffan o'n gweld ni'n bwrw ymlaen â phethau ar ôl dechrau emosiynol iawn y prynhawn yma.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Hoffwn ofyn am ystyriaeth i ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd. Mae un yn ymwneud â phroblemau parhaus gyda gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys. Nawr, rwy'n ddiolchgar iawn am y datganiad ysgrifenedig yr ydym i gyd wedi ei dderbyn gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithas. Ac er nad yw hi yma, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau iddi yn ei swydd newydd a chroesawu rhywun â'r lefel o arbenigedd sydd ganddi hi i'r swyddogaeth hon, ac rwyf yn siŵr y bydd yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy. Ond rwy'n siŵr bod llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon sy'n cynrychioli Powys, fel minnau, a fydd yn bryderus iawn ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed ar ôl 12 mis cyfan o ymyrraeth. Tybed, Trefnydd, a allech chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff hi ystyried gwneud datganiad, ymhen tuag wyth wythnos efallai, pan fydd y weinyddiaeth yng Nghyngor Sir Powys wedi cael cyfle i ymateb i'r arolygiaeth, i ymateb i’r pryderon a godir ganddi hi a'i swyddogion, ac rwyf yn siŵr yr ohebiaeth y bydd hi wedi ei chael gennyf i ac, rwyf yn siŵr, Aelodau etholedig eraill. Oherwydd, mae'n debyg mai fy mhryder i yw hyn. Ar ôl yr holl amser hwn, nid ydym wedi gweld cynnydd ac, yn y cyfamser, mae plentyndod y plant hyn ym Mhowys yn mynd heibio heb y cymorth y credwn i gyd sydd ganddynt yr hawl iddo, er gwaethaf, a bod yn deg, y cymorth y gwn iddynt ei gael gan Lywodraeth Cymru i'w galluogi nhw i fynd i'r afael â’r materion hyn.

Y mater arall yr hoffwn ofyn i chi ei godi gydag un o'ch cyd-Aelodau yw hyn. Byddwn yn hoffi ichi ofyn i’r Gweinidog iechyd ei hun a yw'n mynd i wneud datganiad yn dilyn y sylw yn y wasg heddiw i ganlyniadau'r materion yn Nhawel Fan. Bydd yr Aelodau wedi gweld yr ohebiaeth a ryddhawyd o dan y ddeddf ryddid gwybodaeth rhwng y Gweinidog a Donna Ockenden, wrth gwrs, a gynhaliodd yr adroddiad gwreiddiol beirniadol iawn. Nawr, wrth gyfnewid gohebiaeth â'r Gweinidog, mae Ms Ockenden yn dweud, er enghraifft,

Fy mhryder i yw nad oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr na'r uwch dîm rheoli ym maes iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gallu na'r capasiti ar hyn o bryd i gyflawni’r hyn sydd angen ei wneud yn unol â’r adolygiad systemig gwraidd a brig

i wneud y newidiadau i wasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn. Mae hi wedyn yn adrodd ymhellach bod nyrs wedi dweud wrthi am ymweliad diweddar â ward iechyd meddwl pobl hŷn pan na siaradodd yr uwch aelod o staff o gwbl. Ni siaradodd yr uwch aelod rheoli chwaith ag unrhyw aelod o’r staff na chlaf, er y bydd hynny'n cael ei nodi fel chwarae rhan weithredol yn y gwasanaeth.

Mae ymateb y bwrdd iechyd i'r pryderon hyn yn yr erthygl honno—ac, wrth gwrs, erthygl yn y wasg yn unig ydyw—y tu hwnt i fod yn bryderus ynghylch eu hunanfoddhad. Credaf fod angen inni glywed gan y Gweinidog sut y mae ef yn ymateb i'r beirniadaethau hynny. Yn y bôn, mae Ms Ockenden yn dweud wrtho nad oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud yn y chwe mis diwethaf. Sut y mae'n ymateb i'r pryderon hynny a pha gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod gan y bwrdd iechyd y gallu i fynd i'r afael â materion difrifol iawn hyn?

15:20

Diolch am godi'r ddau fater hynny, a gallaf roi fy ymrwymiad y byddaf yn siarad â'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog o ran beth fyddai'r ffordd fwyaf priodol a'r adeg fwyaf priodol o roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion adolygiad Ockenden a'r materion y mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn eu hwynebu yn eu gwasanaethau plant.

Trefnydd, gwrandewais â diddordeb ddoe ar y datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn y DU ar fesurau i wella ansawdd yr aer ar draws y DU. Ac er bod y mesurau i lanhau coed a glo mewn tanau agored a stofiau, yn ogystal â sylweddau sy'n llygru mewn canhwyllau persawrus, carpedi a phaent, yn ganmoladwy, yr her fawr yn fy etholaeth i yw llygryddion o gerbydau. Felly, roeddwn yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud unrhyw beth pellach y tu hwnt i'r gwaharddiad ar gerbydau diesel erbyn 2040. Tybed a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y mae polisi Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'r datganiad newydd hwn gan Lywodraeth y DU, sydd hefyd yn cynnwys mesurau i leihau allyriadau amonia mewn amaethyddiaeth, a allai fod o ddiddordeb. Ond rwy'n bryderus ynghylch amser araf iawn y diwygio, o ystyried yr hyn a wyddom bellach am effaith llygryddion aer ar faterion pwysig megis camesgor, clefyd y galon a dementia. Felly, ymddengys fod diffyg brys ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Byddwn yn awyddus iawn i ddeall ymateb Llywodraeth Cymru fel y gallwn graffu ar hynny wedyn. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ar hynny.

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn, oherwydd mae'n amlwg fod gan aer glân swyddogaeth ganolog i'w chwarae er mwyn creu'r amodau cywir ar gyfer gwell iechyd a llesiant ac ar gyfer mwy o weithgarwch corfforol ar draws Cymru hefyd. Ac rwyf yn credu bod hyn yn cael ei gydnabod yn ein hymrwymiad i leihau allyriadau a darparu gwelliannau hanfodol i ansawdd yr aer, ond caiff hynny ei wneud drwy gynllunio, drwy seilwaith, drwy reoleiddio a hefyd drwy fesurau cyfathrebu iechyd.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn ystod yr haf yn 2018, fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhaglen aer glân fel y gall Cymru leihau'r baich o ansawdd aer gwael ar iechyd dynol a'r amgylchedd naturiol. Mae'r rhaglen honno'n ystyried y dystiolaeth yn fawr iawn ac yn datblygu ac yn gweithredu camau ar draws y Llywodraeth, ac ar draws sectorau gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, addysg, datgarboneiddio, trafnidiaeth, cynllunio llywodraeth leol, amaethyddiaeth a diwydiant, i geisio sicrhau aer glân yng Nghymru. Bydd y gwaith sy'n cael ei ddatblygu drwy'r rhaglen yn llywio datblygiad cynllun aer glân ar gyfer Cymru y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori yn ei gylch a'i gyhoeddi yn ystod 2019. Rwy'n annog yr Aelodau i fod â diddordeb yn hynny er mwyn ymwneud â'r ymgynghoriad hwnnw.

15:25

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar achos fy etholwr, Mr Barry Topping-Morris. Mr Topping-Morris oedd y pennaeth nyrsio yng Nghlinig Caswell yn Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, fel yr oedd hi bryd hynny, pan gafodd ei ddiswyddo yn 2005. Soniodd wrth uwch-reolwyr am yr hyn a ystyriai yn afreoleidd-dra mewn asesu a thrin claf. Daeth y pryderon hyn i'r amlwg pan oedd Mr Topping-Morris yn cynnal adolygiad mewnol i achos difrifol ac yn paratoi ar gyfer ymweliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rwy'n pryderu bod y ffordd y ceisiodd arfer ei farn broffesiynol wrth herio'n adeiladol yn yr achos anodd hwn efallai wedi cael effaith andwyol ar y ffordd y cafodd Mr Topping-Morris ei drin ar ôl hynny fel cyflogai. 

Cynhaliwyd nifer o adolygiadau, ond dim un ynglŷn â'r arferion cyflogaeth. Dywedodd yr adolygiad mwyaf diweddar a gynhaliwyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ym mis Mawrth 2015, nad oedd pryderon ynglŷn â chyflogaeth, ac rwy'n dyfynnu:

'o fewn cwmpas yr adolygiad'.

Mae'n ymddangos nad yw pryderon cyflogaeth Mr Topping-Morris erioed wedi bod yn destun ymchwil priodol, ac o gofio y gallai'r rhain fod yn berthnasol i faterion ehangach o ddiddordeb i'r cyhoedd, rwy'n annog y Gweinidog i gomisiynu adolygiad pellach fel y gellir cau pen y mwdwl ar yr achos hwn o'r diwedd.

Diolch ichi am grybwyll yr hyn sydd yn fater sensitif iawn, ac rwy'n sylweddoli'r trallod a achoswyd i'ch etholwr, os yw'n teimlo na fu ymchwiliad llawn i'w bryderon ac nad ymdriniwyd â nhw'n llawn. Byddwch yn deall na all y Gweinidog iechyd ymdrin â materion cyflogaeth unigol, ond mae wedi dweud wrthyf y byddai'n barod i ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd iechyd ynglŷn â'r mater hwn, yn benodol ynghylch pa un a yw'r holl faterion cyflogaeth a soniodd eich etholwr amdanyn nhw ynglŷn ag arferion cyflogaeth ac ati, fel yr ydych chi wedi eu disgrifio, wedi eu hystyried yn briodol ac a ymdriniwyd â nhw'n effeithiol. Fe wnaf i sicrhau ei fod yn rhannu'r ymateb gyda chi pan gaiff ef hwnnw.

4. Datganiad gan y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Cynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â’r UE

Eitem 4 ar yr agenda'r prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynglŷn â chynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â’r UE, ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth inni eistedd yma, mae ein cydweithwyr yn Senedd y Deyrnas Unedig yn cyrraedd diwedd eu trafodaeth hirfaith am gynnig y Llywodraeth ar gyfer cytundeb i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mi fyddan nhw’n pleidleisio yn nes ymlaen ac mae'n debygol iawn y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn cael ei drechu, yn drwm iawn, o bosib. Mae disgwyl inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn 73 o ddiwrnodau, a does dim cytundeb yn ei le.

Rydyn ni wedi cael ein harwain at y dibyn gan Lywodraeth hollol ddi-glem sydd â mwy o ddiddordeb mewn ymdrechion byrbwyll i uno'i phlaid ei hun na budd y wlad. Mae'r sefyllfa'n un gwbl warthus. Does gan fewnforwyr ac allforwyr ddim sicrwydd o gwbl o ran sut bydd eu busnesau'n gweithredu mewn ychydig wythnosau. Mae cynnyrch amaethyddol yn wynebu tariffau andwyol, ac fe allai'r peryg o ddryswch yn ein porthladdoedd effeithio ar gyflenwadau o bob math, o rannau ceir i feddyginiaethau neu ffrwythau a llysiau ffres. Gallai hyn effeithio ar bob rhan o'n cymunedau ac mae'n bygwth y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Fe fydd yn gosod pwysau ychwanegol diangen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

Mae dinasyddion Ewropeaidd sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma yn ein cymuned yn teimlo'n ansicr ac yn fregus. Nid oes gan y rhai sydd wedi cael cynigion i lenwi swyddi gwag hanfodol bwysig, er enghraifft yn ein gwasanaeth iechyd neu ein prifysgolion, ar ôl 30 Mawrth, unrhyw syniad ar ba sail y byddant yn cael hawl i weithio yma. Mae buddsoddwyr sydd wedi bod yn edrych ar y Deyrnas Unedig fel y ganolfan orau ar gyfer cyflenwi’r farchnad Ewropeaidd nawr yn ein hosgoi. Mae peryg i swyddi. Yn wir, mae rhai eisoes yn cael eu colli. Mae twf economaidd yn dod i stop a does neb yn gwybod beth a ddigwyddiff nesaf. Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth y Derynas Unedig yn chwarae gyda dyfodol y wlad.

Cymerodd hi ddwy flynedd i lunio cynigion Chequers, sef cynnig cyntaf y Llywodraeth i bob pwrpas ar gynllun ar gyfer perthynas hirdymor, er y dylai hynny fod wedi bod yn ei le pan gafodd erthygl 50 ei danio. Collwyd amser hanfodol yn dadlau dros linellau coch a chwarae i'r gynulleidfa yn nghynadleddau'r blaid. Ac hyd yn oed, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, wrth gamu yn ôl, collwyd amser yn pledio am sicrwydd. Digwyddodd hyn i gyd yn hytrach na datblygu strategaeth ymarferol ac adeiladu cynghreiriau o gefnogaeth, gan gynnwys gyda'r rhai a oedd, fel Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, yn annog perthynas ar ôl Brexit yn seiliedig ar barch i'r Undeb Ewropeaidd a buddiannau hanfodol y wlad hon.

Y canlyniad yw cytundeb sy'n cynrychioli cyfaddawdu amlwg ar safbwynt trahaus Prif Weinidog y DU a'i hesgus y gallwn ni gael yr un mynediad i'r farchnad sengl heb ymostwng i'w rheolau, ond sy'n ddiffygiol yn y datganiad gwleidyddol a daflwyd at ei gilydd ar frys i roi sicrwydd cadarn ynghylch dyfodol economaidd y wlad hon. Nid yw'r cytundeb yn cael gwared ar y bygythiad o'r ymyl dibyn peryglus; dim ond yn ei ohirio. Mae cytundeb y Prif Weinidog yn creu amwyster yn y berthynas fasnachu, ac yn eithrio gwasanaethau lle mae'r DU mewn gwirionedd yn mwynhau gwarged masnach ag Ewrop. Mae'n methu â sicrhau cydymffurfiaeth ag amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac yn ymwneud â'r gweithle y bydd yr UE yn eu cyflwyno yn y dyfodol. Mae'n meithrin ansicrwydd ar gyfer dinasyddion, Ewropeaid sy'n byw yma a dinasyddion y DU sy'n byw yn Ewrop. Ac o'i ystyried gyda'r cynigion cwbl gyfeiliornus yn y Papur Gwyn ar fewnfudo, mae'n bendant yn llesteirio gallu cyflogwyr i recriwtio gweithwyr yn y meysydd hynny lle mae prinder, a hynny yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. O ganlyniad i'r diffyg cydlyniad hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gorfod derbyn yr ôl-stop astrus ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun, a rhai sefydliadau annibynnol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac Ysgol Economeg Llundain, yn dangos y bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn niweidio'r economi. Ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm dros fod yn dlotach.

Nawr, os ydym ni'n beirniadu safbwynt Llywodraeth y DU, mae'n gwbl resymol i ofyn beth ydym ni'n ei gynnig yn lle hynny. Yn hynny o beth, fe allwn ni fod yn glir iawn. Bron yn union ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni, ar y cyd â Phlaid Cymru, gyhoeddi ein cynigion yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ac fe wnaf i, os caf i, ategu'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn y teyrngedau yn gynharach i Steffan Lewis, yn arbennig ei swyddogaeth annatod wrth ddatblygu'r cynigion ar y cyd hynny. Ond os oedd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi safbwynt cynhwysfawr, strategol ar gyfer gadael yr UE ddwy flynedd yn ôl, pam na allai Llywodraeth y DU wneud yr un peth? Bu'n rhaid inni aros tan haf 2018 cyn inni gael unrhyw awgrym difrifol o safbwynt y DU mewn gwirionedd. Roedd 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn ymdrechu hefyd i ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau un blaid i geisio consensws ehangach, rhywbeth y mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod ei wneud wrth lunio ei safbwynt ei hun.

Rydym ni'n credu y caiff buddiannau hanfodol Cymru eu diogelu orau drwy sicrhau bod yr holl economi yn elwa ar y farchnad sengl, gan gynnwys gwasanaethau. Dyna ddymuniad byd busnes a dyna beth sydd ei angen ar fuddsoddwyr. Fe ddylem ni aros mewn undeb tollau, sy'n hanfodol er mwyn osgoi mwy o rwystrau ar y ffin ac sy'n fodd o fasnachu'n rhydd gyda chynifer o wledydd. Dylem gadw amddiffyniadau cymdeithasol a hawliau cydfuddiannol i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw yng ngwledydd ei gilydd, a pharhau i gydymffurfio â safonau amgylcheddol a hawliau cymdeithasol a llafur wrth iddyn nhw ddatblygu ar draws ein cyfandir. Dylai tegwch o ran symudiad fod â chysylltiad clir rhwng ymfudo o'r UE a chyfleoedd gwaith a dylid ychwanegu mesurau llym i atal camfanteisio ar weithwyr. Os dilynwn y mesurau hyn, fel yr amlinellwyd yn ein Papur Gwyn, fe fydd yr angen am drefniant ôl-stop ar gyfer Gogledd Iwerddon yn diflanu, ac mae uniondeb y DU, sydd wedi'i gymryd yn ganiataol yn sefyllfa negodi Llywodraeth y DU, yn cael ei amddiffyn.

Llywydd, nid oes gennyf y syniad lleiaf pa un a oes gan Brif Weinidog y DU gynllun wrth gefn. Er budd cenedlaethol, rwy'n gobeithio bod ganddi un—mae'n hanfodol. Rydym ni'n ei hannog yn awr i ymrwymo i fynd ati mewn ffordd newydd, yn seiliedig ar weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac ar sail drawsbleidiol, ac, ar yr un pryd, i ofyn i'r Undeb Ewropeaidd am estyniad i ddyddiad terfynol erthygl 50, sef 29 Mawrth. Mae'r wlad hon mewn cythrwfl dwfn, ac nid yw hi'n iawn fod penderfyniadau pwysig sylfaenol am ein dyfodol ni i gyd yn cael eu gwneud o dan yr amgylchiadau hyn. Mae angen oedi'r cloc wrth i'r Senedd ailymgynull, wrth inni i gyd ailymgynull, a meddwl yn ofalus ynghylch y ffordd orau ymlaen ar gyfer ein gwlad.

Ac rwy'n dweud hyn gyda phob parch i bob arlliw o farn. Beth bynnag yw barn pobl ynglŷn â Brexit, ni all fod yn iawn i'r wlad os wnawn ni adael yr UE heb unrhyw fath o gytundeb, yn seiliedig ar ddyddiad ar hap ar ddiwedd mis Mawrth. Ni fyddai hynny'n ddewis cyntaf i neb bron, a byddai'n warth. Ond y gwir plaen amdani yw hyn: rydym ni'n wynebu gadael heb gytundeb ar 29 Mawrth, ac mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny. Fel yr amlinellodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, mae'r rhan fwyaf o'r elfennau allweddol o ran paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn nwylo Llywodraeth y DU. Er gwaethaf ein hanghytuno ynglŷn â pholisi, rydym ni wedi ymrwymo i weithio'n agos â nhw, a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, a phartneriaid eraill, i baratoi.

Rydym ni wedi dweud yn gyson y byddai hi'n eithriadol o anodd lliniaru effeithiau 'dim cytundeb', ond mae gennym ni gyfrifoldeb i baratoi ar gyfer sefyllfa dywyll o'r fath. Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill ledled Cymru i wneud popeth yn ein gallu i baratoi. Er mwyn hysbysu dinasyddion a sefydliadau, rydym ni wedi creu gwefan Paratoi Cymru, gan ddwyn ynghyd y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf. Rydym ni'n rhagweld lansio'r wefan honno yn y dyddiau nesaf, gan ystyried sut bydd y sefyllfa gyfnewidiol iawn yma yn datblygu

Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni'n gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod ein llyfr statud yn gyfredol. Mae gwaith mawr yn cael ei wneud, yma ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n angenrheidiol i weithredu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar waith cyn Mawrth 29. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud mewn amgylchiadau eithriadol ac unigryw, ac rydym ni'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio ochr yn ochr â ni fel Llywodraeth. Rydym ni wedi gweithredu'r rhwydweithiau sefydledig ar gyfer rheoli argyfyngau sifil posibl yng Nghymru, ac rydym ni'n gysylltiedig â rhwydwaith argyfyngau ehangach y DU. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda fforymau cydnerthedd lleol ledled Cymru. Mae GIG Cymru yn gweithio gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i hwyluso eu paratoadau angenrheidiol. Caiff gwybodaeth ddefnyddiol i fusnesau ei chynnwys ar borth Brexit Busnes Cymru, ac fe gaiff rhagor o wybodaeth ei chynnwys pan fydd ar gael.

Llywydd, does dim osgoi realiti difrifol y sefyllfa anodd yr ydym ni'n ei hwynebu yn awr. Mae 'dim cytundeb' yn ganlyniad posib iawn, ac, yn Llywodraeth gyfrifol, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i weithio gydag eraill i baratoi a lliniaru lle bo'n bosib. Ond nid dyma'r canlyniad yr ydym ni'n dymuno ei weld. Hyd yn oed nawr, rydym ni'n dal yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac eraill, i sicrhau cytundeb synhwyrol gyda'r UE. Cawn wybod cyn bo hir sut y mae Llywodraeth y DU a'r Senedd yn bwriadu datrys y sefyllfa. Rydym ni eisoes wedi galw am ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50.

Mae Llywodraeth y DU wedi peri dryswch i'w ffrindiau, tanseilio buddiannau ein gwlad, wedi achosi pryder i bobl Ewrop yn ein cymunedau ni, a gwaethygu rhaniadau dwfn ymhlith ei dinasyddion ei hun. Os na all Llywodraeth y DU gyflwyno cytundeb y mae cefnogaeth gref iddo, yna dylai sefyll o'r neilltu. Ni all yr anhrefn presennol barhau.

15:35

A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, neu'r Gweinidog Brexit—yn rhinwedd pa bynnag swyddogaeth y mae'n gwneud y datganiad heddiw—am sicrhau bod copi o'r datganiad ar gael i mi? Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf ychydig yn siomedig ynglŷn â naws y datganiad sydd newydd ei draddodi, oherwydd wrth gwrs rydym ni i gyd yn gwybod bod Theresa May wedi bod yn gweithio'n anhygoel o galed i allu meithrin consensws o gefnogaeth yn Senedd y DU—[Torri ar draws.]—yn Senedd y DU, er mwyn sicrhau Brexit sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016. Ac eto ymddengys fod gennym ni Blaid Lafur, yn San Steffan ac yma yng Nghymru, sydd fel petai ei bod yn ceisio rhwystro Brexit a rhwystro ewyllys y bobl. Ac ni ddylem ni anghofio; pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr UE. Rwy'n gwybod mai dyna'r gwir anghyfleus i rai pobl yn y Siambr yma, ond datganiad o ffaith ydyw. Ac, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi, Cwnsler Cyffredinol, roedd hi'n glir iawn bod mwyafrif o bron 14 y cant o'r bobl wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Nawr, allwn ni ddim anwybyddu'r ffeithiau hynny. Mae'n rhaid inni anrhydeddu canlyniad y refferendwm pa un a bleidleisiodd pobl i adael neu i aros. Beth mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud yw ei bod hi wedi mynd i Frwsel, mae hi wedi trafod â rhanddeiliaid, mae hi wedi gwrando ar bryderon pobl ac wedi dychwelyd gyda chytundeb sy'n gytundeb cyfaddawd, nad yw pawb yn hapus ag ef. Ond mae'n gytundeb serch hynny a fydd yn osgoi'r math o anhrefn a ddisgrifiwyd gennych chi a allai ddigwydd os ydym ni'n gadael yr UE heb gytundeb ar 29 Mawrth. [Torri ar draws.]

Mae'n hi'n ddigon hawdd i chi fod yn clochdar a beirniadu'r ffaith bod erthygl 50 wedi ei sbarduno, ond gadewch inni beidio ag anghofio y sbardunwyd erthygl 50 gyda chefnogaeth y Blaid Lafur ac, yn wir, byddai wedi cael ei sbarduno hyd yn oed ynghynt pe byddai Jeremy Corbyn wedi cael ei ffordd, oherwydd ar ddiwrnod y refferendwm roedd yntau eisiau cyflwyno'n hysbysiad. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw Prif Weinidog sy'n ceisio llywio a sefydlogi'r llong ar adeg anodd yng ngwleidyddiaeth Prydain ac fe ddylem ni fod yn gweithio ar y cyd ar sail traws-bleidiol—dyma lle rwyf yn cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol—er mwyn cyflawni Brexit a fydd er lles pawb yma yng Nghymru.

Mae angen inni barchu ein gilydd, ac nid wyf i'n teimlo bod naws y datganiad a wnaethoch chi yn rhoi'r parch yna i Lywodraeth y DU, oherwydd fe wyddom ni, wrth gwrs, bod Llywodraeth y DU yn ceisio cynnwys Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r sefyllfa. Rwy'n gwybod, er enghraifft—ac fe allech fod wedi ein diweddaru ynghylch hyn, ond wnaethoch chi ddim, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech chi ddweud wrthym ni beth oedd canlyniad y cyfarfod a gawsoch chi ar 19 Rhagfyr, pan aethoch chi i gyfarfod y cyngor diogelwch cenedlaethol.

Efallai y gallech chi fod wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r cyfarfodydd wythnosol y gwahoddwyd Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru i gymryd rhan ynddyn nhw o ran y trefniadau newydd ynghylch pa mor barod yw'r DU i ymadael â'r UE. Fe allech chi fod wedi dweud wrthym ni am y nifer o offerynnau statudol a basiwyd gyda chytundeb y DU a Llywodraeth Cymru—75 ohonyn nhw i gyd, sydd wedi eu cyflwyno gerbron Senedd y DU. Fe allech chi fod wedi penderfynu ein hysbysu ni am y trefniadau sydd gennych chi ar waith, o dan y cynlluniau wrth gefn, ar gyfer porthladdoedd Caergybi a sir Benfro. Fe allech chi fod wedi dweud wrthym ni am y cyfathrebu beunyddiol sy'n digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran eich timau cyfathrebu, y deallaf sy'n gweithio'n dda iawn. Ond yn hytrach yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud yw ailadrodd yr un hen rwtsh tragwyddol, a dweud y gwir, yr ydym ni wedi ei glywed dro ar ôl tro gan Lywodraeth Cymru, heb ychwanegu unrhyw beth newydd at hynny heddiw.

Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw: sut ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU? Ar ba agweddau ydych chi'n cydweithio? Pa sicrwydd allwch chi ei roi y byddwch chi'n parhau i drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau Brexit llwyddiannus? Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i anrhydeddu canlyniad y refferendwm mewn ffordd wahanol i'r un sydd wedi ei disgrifio gan gytundeb Prif Weinidog y DU? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn ein galluogi i adfer rheolaeth dros ein ffiniau ein hunain ac yn rhoi terfyn ar ryddid i symud.  Ni fydd eich trefniadau, fel y nodir nhw yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn gallu gwneud hynny.

Rydym ni'n gwybod y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn diogelu swyddi. Rydym ni'n gwybod na fydd unrhyw lastwreiddio ar amddiffyniadau amgylcheddol neu amddiffyniadau cyflogaeth. Rydych chi wedi awgrymu y dylem ni barhau i fod yn gaeth i'r UE o ran eu hamddiffyniadau amgylcheddol a chyflogaeth, hyd yn oed os cawn nhw eu gwanhau yn y dyfodol. Wel, mae'r Prif Weinidog wedi rhoi gwarant hyd yn oed yn well: dywedodd na fydd unrhyw wanhau, ac rwy'n credu y byddai'n dda cael gwybod yr hoffech chi wneud y datganiad hwnnw hefyd. At hyn, wrth gwrs, bydd cytundeb y Prif Weinidog yn ein galluogi i lunio cytundebau masnach rydd o amgylch y byd. Ni fyddai eich cynigion yn ein galluogi ni i wneud hynny drwy ein clymu i gytundeb tollau yn y dyfodol yn y ffordd y mae wedi'i nodi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ac, wrth gwrs, mae cytundeb Prif Weinidog y DU yn diogelu didwylledd y Deyrnas Unedig. Dyna pam fy mod i'n cefnogi Prif Weinidog y DU, ac rwy'n credu y dylai'r DU fod yn gweithio ar sail drawsbleidiol i sicrhau'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru a gweddill y DU drosto.

15:45

Mae'r Aelod yn sôn am y gwir anghyfleus. Mae arnaf ofn mai'r gwir anghyfleus yw hyn: cafodd pobl yng Nghymru addewid na fyddai unrhyw effaith niweidiol ar eu rhagolygon swyddi o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd; cawsant addewid na fyddai ceiniog yn llai yn dod i Gymru o ffynonellau arian Ewropeaidd; cawsant addewid o ucheldiroedd heulog gan y rhai sy'n ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd—ac nid yw cytundeb y Prif Weinidog yn cynnig dim o hynny. Nid yw'n cynnig dim o hynny. Mae'n cynnig dwy flynedd o geisio cadw at safbwyntiau digyfaddawd, na ellid byth mo'u hamddiffyn, a threulio'r amser y gellid ei ddefnyddio yn y math o fentrau trawsbleidiol y mae'r Aelod wedi eu disgrifio, i estyn at rannau eraill o Dŷ'r Cyffredin i geisio meithrin, mewn amgylchiadau anodd mae'n rhaid cyfaddef, consensws ynghylch y math o Brexit y mae pobl yn y DU wedi pleidleisio drosto—nid dyna'r hyn a wnaeth y Prif Weinidog. Canolbwyntiodd ei hymdrechion ar reoli ei phlaid ei hun a rheoli'r tensiynau yn ei phlaid, yn hytrach na cheisio meithrin y consensws eang hwnnw mewn cyfnod anodd rhaid cyfaddef. Nid yw'n dda i ddim, ar yr unfed awr ar ddeg, i alw ar arweinwyr yr undebau i roi'r argraff ei bod yn ceisio estyn allan; nid yw'n gredadwy ar hyn o bryd. Dylai'r gwaith hwn fod wedi cael ei wneud dros y ddwy flynedd diwethaf. Nid yr unfed awr ar ddeg yw'r adeg i wneud hynny.

Mae'r Aelod yn sôn am gydweithio. Fel partner adeiladol, rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU o ran y gwaith paratoi ac o ran llawer o bethau eraill. Soniodd am y rhaglen ddeddfwriaethol; bu llawer iawn o gydweithredu ar agweddau o honno. Bu'n rhaid inni bwyso am lawer iawn o'r cydweithredu hwnnw, ac mae'n rhaid imi ddweud, pan wnaed hynny, arweiniodd at gynnydd i ni. Byddwch yn gwybod am y cytundeb rhynglywodraethol, y buom ni'n cydweithio arno. Y pwynt yr wyf yn ei wneud yw hyn: wrth lunio'r weledigaeth—nid dim ond y ffordd y mae'n digwydd, ond y weledigaeth—ar gyfer dyfodol perthynas y DU yn yr Undeb Ewropeaidd, roedd cyfle gan y Prif Weinidog i ffurfio consensws eang, a dewisodd beidio â dilyn y llwybr hwnnw. Rydym ni wedi bod yn glir. Mae'n gofyn beth fyddem ni yn ei wneud pe byddem ni yn ei sefyllfa hi. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hyn. Daeth yn bryd bellach i ymestyn erthygl 50 a chreu'r amgylchiadau i alluogi'r math ar drafodaeth sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a gefnogwyd gan y Cynulliad hwn, i adlewyrchu'r egwyddorion yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Hefyd, rydym ni'n gwybod y bydd uwch arweinwyr yn yr UE yn fodlon negodi ar sail o'r fath. Mae hi wedi colli'r cyfle hwnnw hyd yma. Nid yw hi'n rhy hwyr i achub ar y cyfle hwnnw, ac rydym ni'n ei hannog hi i wneud hynny.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad, a hefyd yn croesawu'r Llywodraeth yn fy ategu i, wrth gwrs, gyda'i apêl i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ymestyn erthygl 50 ar sail y cynnig a basiwyd cyn y Nadolig.

Jest ar hwnna, wrth gwrs, un peth ydy apelio i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, er bod yna ddim gwrandawiad ar hynny ar hyn o bryd, ond mae'n bwysig hefyd, wrth gwrs, ein bod ni'n ymestyn mas i weddill yr aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd a fyddai'n gorfod ymateb i unrhyw gais. A ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu gydag aelod-wladwriaethau—megis, wrth gwrs, Gweriniaeth Iwerddon—i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol bod yna rai yn y Deyrnas Gyfunol yn pwyso'n galed nawr i ymestyn yr amserlen?

Un peth sydd ar goll ychydig yn y datganiad, er bod y Cwnsler Cyffredinol yn dechrau cyffwrdd ag e nawr, yw: ymestyn i ba bwrpas? Mi oedd y Cwnsler Cyffredinol newydd, wrth gwrs, efallai wedi adlewyrchu peth o'r ieithwedd rydym ni wedi'i chlywed, wrth gwrs, gan ei gyd-aelodau o'r Blaid Lafur yn San Steffan—hynny yw, ymestyn er mwyn canfod cyfle i gael ailnegodi a chael dêl well. Y gwir amdani—ac roedd hwnna yn sicr yn cael ei ategu yn y trafodaethau gaethon ni gyda Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon—yw dyw hwnna ddim yn opsiwn. Hynny yw, mae'r amser wedi mynd ar gyfer hwnna. Felly dim ond, a dweud y gwir, ymestyn er mwyn rhywbeth sylfaenol wahanol fel aelodaeth o'r farchnad sengl, neu, wrth gwrs, bleidlais y bobl.

Ac ar hyn, wrth gwrs, rydyn ni rhyw bedair awr i ffwrdd nawr o'r bleidlais heno. Bydd pethau'n cyflymu. Dwi'n deall pam mae'r Blaid Lafur wedi ceisio cadw'r opsiynau i gyd ar y ford, ond yn ystod y dyddiau nesaf rydyn ni'n debyg o gael pleidlais diffyg hyder. Y tebygrwydd yw y bydd hwnna'n cael ei golli. Yn y sefyllfa yna, fyddai Llywodraeth Cymru'n symud yn gyflym i wneud penderfyniad a gwneud datganiad ynghylch beth ddylai ddigwydd wedyn? Gallen ni fod yn sôn am ddatblygiadau erbyn diwedd yr wythnos, hynny yw nid rhywbeth yn ystod yr wythnosau nesaf—does dim llawer o wythnosau ar ôl. Felly, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn gallu ein cerdded ni trwy'r camau yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn debyg o ddigwydd yn sgil colli'r bleidlais heno?

Ac, yn olaf, hefyd, un o'r pethau trafodon ni yn Nulyn oedd yr angen—beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit, a dweud y gwir—i ddwysáu a chryfhau'r cysylltiadau sydd gyda ni ar draws y môr Celtaidd yn y gwledydd Celtaidd, wrth gwrs, lle mae yna gymaint gyda ni yn gyffredin, cymaint o fuddiannau ar y cyd, ac efallai i ddefnyddio'r capasiti sydd yna o dan y Good Friday Agreement, o dan edefyn 3, i greu perthynas multilateral rhwng Iwerddon, yr Alban a Chymru, fel ein bod ni, beth bynnag yw'r llanast sydd yn digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd—ein bod ni, o leiaf, gyda'n gilydd, yn gallu cydweithio i'r dyfodol, er budd, wrth gwrs, y cenhedloedd i gyd. 

15:50

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Ar y pwnc o ymestyn erthygl 50, rŷn ni wedi bod yn galw am hyn oherwydd ei fod e'n amlwg bod angen mwy o ofod ar gyfer cyrraedd y man iawn o ran dêl sydd yn gweithio i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Buasai cyfle i gael y trafodaethau hynny'n wobr i bawb yn y sefyllfa yma, a bod gyda ni gynllun sydd yn caniatáu i fuddiannau Cymru a'r Deyrnas Unedig gael eu parchu a'u cefnogi, a hefyd berthynas sydd yn cydnabod rôl elfennol bwysig yr Undeb Ewropeaidd fel partner masnachol ac ati i ni fel gwlad. A buasai ymestyn erthygl 50 yn caniatáu inni ddatblygu'r math yna o ymateb, a fuasai lot fwy tebygol o ennill cefnogaeth ehangach na'r ddêl sydd gan y Prif Weinidog yn San Steffan ar y bwrdd ar hyn o bryd.

Yn nhermau'r camau nesaf, rŷn ni'n darogan, wrth gwrs, y bydd y Prif Weinidog yn colli'r bleidlais heno a bydd motion of no confidence yn dod ymlaen o fewn cyfnod i hynny. Cwestiwn o ba bryd ddaw e, nid os daw e, yw hynny, ac rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, yn sgil gwelliant Dominic Grieve i'r motion diweddar fod yn rhaid i'r Prif Weinidog ddod yn ôl i San Steffan o fewn tridiau â datganiad pellach. Felly, bydd hwnna'n rhoi moment o eglurder pellach i ni.

O ran cydweithio ag Iwerddon, er enghraifft, fel y gwnaeth e sôn yn gynharach, mae'r Prif Weinidog wedi cael cysylltiad eisoes gyda'r Taoiseach. Rwyf wedi ysgrifennu at y person sydd yn fy swydd i yn Llywodraeth Iwerddon hefyd. Mae'r cysylltiadau yma yn gysylltiadau pwysig o fewn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt i aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid inni edrych ar bob cyfle gallwn ni i gryfhau'r rheini. Bues i gyda'r cyn-Brif Weinidog yn y British-Irish Council yn trafod yr union fath yma o beth ar ddiwedd llynedd, ac mae'n beth calonogol iawn, rydw i'n credu, yng nghyd-destun y cwestiwn mae'r Aelod wedi codi, fod nawr bortffolio wedi'i glustnodi ar gyfer y math yma o waith o fewn y Cabinet, o dan y Prif Weinidog. 

Mae'r rhain yn amseroedd llawn pryder i'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, i fusnesau, ar gyfer y wlad gyfan, ac maen nhw'n disgwyl i'r Llywodraeth hon a llywodraethau eraill gynllunio ein ffordd drwy hynny. Nawr, yn natganiad prynhawn yma rwy'n ei groesawu, rydych chi wedi—mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit wedi—ei gwneud hi'n glir iawn os caiff pleidlais heno ei threchu, fel y mae'r rhan fwyaf o sylwebwyr, y rhan fwyaf o wleidyddion, y rhan fwyaf o'r cyhoedd, a phawb a phopeth bron iawn yn ei ddisgwyl, wedyn gan ddibynnu ar raddfa'r methiant hwnnw, gan ddibynnu ar beth fydd canlyniad y methiant hwnnw—ac mae nifer o wahanol bosibiliadau—byddai Llywodraeth Cymru yn estyn ei llaw ar gyfer trafodaethau pellach ymhlith y gweinyddiaethau datganoledig eraill, ar sail drawsbleidiol, gyda'r gobaith o gael trafodaethau yn seiliedig ar y syniad o undeb tollau, tegwch o ran symudiad gweithlu, ar fewnfudo teg ac ati. Ond mae sefyllfaoedd posib eraill hefyd, ac yn dibynnu ar raddfa methiant heno—pe bai methiant heno, oherwydd ni allwn ni ei ragweld, ond mae'r rhan fwyaf yn credu mai dyma fydd yn digwydd—fe allem ni fod yn negodi eto, fe allem ni fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni Lywodraeth yn cwympo, fe allem ni fod mewn sefyllfa lle mae gennym ni Brif Weinidog yn cael ei diswyddo neu Lywodraeth yn camu o'r neilltu, gallai fod yn etholiad cyffredinol, ac fe allem ni fod yn edrych ar bosibiliadau gan gynnwys pleidlais gyhoeddus.

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon—nid pob un, rwy'n sylweddoli hynny—ond byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon eisiau osgoi'r sefyllfa o gamu allan o'r UE, beth bynnag yr ydych chi'n ei alw, Brexit caled, 'dim cytundeb', disgyn yn bendramwnwgl o'r UE—cyfnod pontio heb ei reoli. Ond rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut bellach y gallwn ni osgoi hynny mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hynny heb ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50 mewn gwirionedd. Mae hi'n ymddangos bod pob un o'r trafodaethau hynny, y negodiadau hynny, etholiad cyffredinol, pleidlais gyhoeddus ac ati, ac ati, ac ati i gyd angen estyniad i erthygl 50. Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol: a oes rhywbeth nad wyf i wedi sylwi arno, neu onid yw hynny'n hollol angenrheidiol, oni bai ein bod yn derbyn ein bod ni'n mynd i gamu'n syth dros ymyl y dibyn hwnnw?

Ond mae hi yn briodol, yn y cyfamser, ein bod ni'n parhau i gynllunio yn fanwl yma yng Nghymru ac ar lefel y DU am y 'dim cytundeb' hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ymhelaethu ar y gwaith y mae'n ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, ac y mae cyd-Weinidogion yn ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, ynglŷn â'r paratoadau 'dim cytundeb' hynny ym mhob agwedd ar waith y Llywodraeth, ond hefyd â busnesau a rhanddeiliaid eraill, ar gynllunio wrth gefn sifil a hefyd ar gyfathrebu? Oherwydd y pryder sydd gan fyd busnes, trigolion a phobl Cymru ar hyn o bryd—mae angen sicrwydd arnyn nhw fod cynllunio priodol yn mynd rhagddo ar gyfer 'dim cytundeb'.

Yn olaf, a gaf i ofyn a oes ganddo newyddion mwy diweddar a manwl inni ynghylch y defnydd o'r gronfa bontio Ewropeaidd i fynd i'r afael â blaenoriaethau pwysig pe byddai achos o 'dim cytundeb'? Rwy'n gwybod y bu'r Llywodraeth yn ystyried hyn. Mae yntau a Gweinidogion eraill wedi bod yn awyddus i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau pwysicaf yn achos sefyllfa o 'dim cytundeb'. Sut mae'r Gronfa Bontio Ewropeaidd honno'n cael ei defnyddio? Mae hi yn briodol ein bod ni'n cynllunio ar gyfer 'dim cytundeb', ond rwy'n ei chael hi'n anodd gweld ffordd yn awr, a dweud y gwir, mewn unrhyw broses bontio wedi ei rheoli neu unrhyw bosibilrwydd nad yw'n golygu camu dros y dibyn, nad oes angen ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50.

15:55

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yn gyntaf, o ran yr estyniad i erthygl 50, rwy'n credu ei fod yn gywir i ddweud hynny. Er mwyn dod o hyd i ddatrysiad i hyn rwy'n credu y bydd angen estyniad i erthygl 50. Dyna'n sicr yr hyn yr ydym ni wedi bod yn galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i'w geisio gan aelodau eraill o'r Undeb Ewropeaidd.

O ran y gwaith paratoi, mae yn llygad ei le yn dweud bod hyn yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth i gyd. Nid oes, mewn gwirionedd, ran o'r Llywodraeth nad yw hyn yn effeithio arni, ac mae pob Aelod o'r Llywodraeth yn gyfrifol am sicrhau ein bod ni'n edrych ar oblygiadau amrywiol sefyllfaoedd gwahanol ac yn paratoi'r gorau gallwn ni ar gyfer y rheini. Mae pedair elfen i'r gwaith paratoi, os gallaf ei grynhoi fel hyn. Yn gyntaf, y math o waith lle, fel y soniais yn fy natganiad, mae Llywodraeth y DU yn arwain ar agweddau arno oherwydd mai hi sydd â'r grymoedd perthnasol, er enghraifft, ond mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn rhai o'r agweddau hynny ac felly rydym ni'n cydweithio â nhw—mae cyflenwadau meddyginiaethau ac ati yn un enghraifft o hynny. Dyna'r gwaith y buom ni'n ei wneud ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym ni wedi cydsynio yn y fan yma i oddeutu hanner y swmp y bydd angen ei basio drwy San Steffan, ac rydym ni wedi dechrau, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, i gyflwyno rheoliadau penodol i Gymru yma yn y Cynulliad hefyd, fel y mae'n gwybod. Mae'r gwaith ar hynny yn mynd rhagddo yn ôl y disgwyl. Yn amlwg, ceir rhywfaint o waith yma sy'n dibynnu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn San Steffan, ond cyn belled ag y bo hynny'n parhau i ddigwydd yn ôl yr amserlen bresennol, yna rydym ni mewn sefyllfa weddol dda i wneud yn siŵr y gwneir hynny mewn pryd. Ceir gwaith argyfyngau sifil posibl y mae'n cyfeirio ato. Mae'r rheini'n strwythurau sydd wedi hen ymsefydlu, fel y bydd yn gwybod, ac maen hynny'n ymwneud â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i gyd a llywodraeth leol a phartneriaid eraill hefyd. Mae'n amlwg ei bod hi'n ddyletswydd ar bob Llywodraeth yn y DU i edrych ar y gwahanol bosibiliadau ac i sicrhau bod modd gweithredu'r trefniadau argyfyngau sifil posibl hynny, mewn ffyrdd a allai fod yn gyfarwydd, pe byddai angen gwneud hynny. Yn amlwg, yr amcan yw na ddylid byth fod angen gwneud hynny, ac mae'r gwaith paratoi mewn meysydd eraill yn golygu bod y posibilrwydd o orfod gweithredu'r gweithdrefnau hynny yn cael ei leihau.

Mae hyn yn fy arwain at y pedwerydd maes lle mae gwaith paratoi yn digwydd: prosiectau sy'n benodol i Gymru sydd efallai'n adlewyrchu nodweddion sy'n benodol i Gymru—natur ein heconomi, y ffaith bod gennym ni nifer fawr o fentrau bach a chanolig, er enghraifft. Felly, y prosiectau hynny yw'r math o bethau a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, ac y mae wedi cael effaith ar bob sector yr economi, preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector hefyd. Efallai ei fod wedi gweld y cyhoeddiad heddiw o gymorth pellach ar gyfer cyswllt yr heddlu i wasanaethau cymdeithasol ac ar gyfer cynllunio buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol, y bydd ganddo ddiddordeb ynddyn nhw o ystyried ei gyfrifoldebau newydd. Rydym ni hefyd yn trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru pa gymorth ychwanegol y gallwn ni ei roi i lywodraeth leol, a bydd cyhoeddiadau ynghylch hynny maes o law.

16:00

Diolch i'r Gweinidog Brexit am ei ddatganiad heddiw. Dyfynnaf o dudalen 3 eich datganiad:

rydym ni'n wynebu gadael heb gytundeb ar 29 Mawrth ac mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny.

Rwy'n credu bod hynny'n ymagwedd synhwyrol iawn. Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, bod sawl agwedd, o ran paratoi ar gyfer Brexit, yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu bod llawer o gynlluniau wrth gefn y gallwch eu gweithredu nawr, ac rwyf i yn croesawu'r ffaith eich bod chi mewn gwirionedd yn gwneud cynlluniau er mwyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf i'n credu ei fod yn beth drwg o gwbl os gwneir cynlluniau wrth gefn ar gyfer y dyddiad yr ydym ni'n gweithio ag ef, Mawrth 29, sef ymhen dim ond naw wythnos, a gobeithio mai dyna fydd y dyddiad pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gwelaf ar Sky News eu bod nhw bellach yn cyfri'r dyddiau ar y sgrin, sydd heddiw yn dangos nad oes dim ond 73 diwrnod tan Brexit. O ystyried yr amserlen, ac o ystyried yr holl gynlluniau y gallech eu gwneud o bosib, ai eich bwriad yw rhoi'r newyddion diweddaraf inni am Brexit bob dydd Mawrth? Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol, gan gadw mewn cof y sylwadau a wnaeth Darren Millar am yr holl gyfarfodydd sy'n digwydd rhwng gwahanol haenau o lywodraeth nad ydym ni bob amser yn clywed amdanyn nhw yn y lle hwn. Felly, rwy'n credu y byddai hi'n syniad da pe byddem ni'n cael y newyddion diweddaraf yn wythnosol ynghylch beth yn union yw eich cynlluniau wrth gefn, gan ein bod ni'n gwybod erbyn hyn ein bod ni yn wynebu'r posibilrwydd hwn o adael ar y dyddiad cywir, 29 Mawrth, ac o ystyried y ffaith eich bod chi bellach yn derbyn hynny fel posibilrwydd tebygol iawn.

Fel rwy'n dweud, rwy'n credu bod pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i gynllunio. Er enghraifft, rydych chi wedi sefydlu'r wefan. Rwy'n credu bod hynny'n syniad da. Mae gweithio gydag awdurdodau'r porthladdoedd yn bwysig iawn, felly byddai'n dda pe baech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch hynny wrth i amser fynd yn ei flaen, os na allwch chi ychwanegu unrhyw beth at yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud y prynhawn yma ar y mater hwnnw.

Fel rwy'n dweud, ar yr ochr yma i'r Siambr rydym ni'n ymroddedig iawn i adael ar 29 Mawrth. Rwy'n falch eich bod wedi dweud yn eich datganiad bellach bod hynny'n bosibilrwydd yr ydych chi yn ei ystyried. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n canolbwyntio eich ymdrechion ar wneud y cynlluniau wrth gefn hyn a rhoi cyngor i bobl a busnesau, yn hytrach nag ar lobïo Llywodraeth y DU i beidio â gadael yr UE neu i ohirio'r dyddiad ymadael, sef yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf. Y peth gorau yw canolbwyntio eich ymdrechion ar wneud eich cynlluniau wrth gefn, derbyn yn gadarn mai 29 Mawrth yw'r dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE, oherwydd, fel yr ydych chi wedi dweud eich hun heddiw, mae hynny'n awr yn bosibilrwydd real iawn. Diolch yn fawr iawn.

Yn amlwg, oni bai y ceir estyniad i erthygl 50, 29 Mawrth yw'r dyddiad y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd a dyna oedd y dyddiad erioed. Y cwestiwn yw ar ba sail y bydd hynny'n digwydd? Rwy'n ofni bod y syniad o adael heb gytundeb dim ond yn un posibilrwydd o nifer y gallem ni gynllunio ar ei gyfer yn lol botes. Y gwir amdani yw bod gadael heb gytundeb yn newyddion drwg iawn i Gymru ac yn newyddion drwg iawn i'r Deyrnas Unedig. Mae hyd yn oed rhagamcanion economaidd y Llywodraeth ei hun yn dweud hynny wrthych chi, ac rydym ni'n wynebu economi sydd 10 y cant yn llai na'r hyn y byddai wedi bod mewn sefyllfa o 'dim cytundeb'. Nid  ystadegyn yn unig mo hynny. Swyddi pobl, bywoliaeth pobl, busnesau pobl ac ati yw hynny. [Torri ar draws.] Nid codi bwganod mo hynny. Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym ni y bydd niwed economaidd yn sgil y canlyniad hwnnw. Felly, nid yw hyn ynglŷn ag un sefyllfa fodelu pryd y bydd cynlluniau yn gallu ymdrin â hi yn ei chyfanrwydd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y cynlluniau yr ydym ni'n gallu eu gwneud—naill ai yma yng Nghymru ar ein pen ein hunain, neu drwy gydweithio â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill—yn cael eu rhoi ar waith. Ac, wrth i'r tebygolrwydd o Brexit 'dim cytundeb' ddod yn fwy amlwg, mae ein paratoadau wedi dwysáu i ymdrin â hynny. Ond rwyf eisiau bod yn gwbl glir: nid yw unrhyw faint o gynllunio a pharatoi yn mynd i allu lliniaru'r niwed y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn ei achosi i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Dyna'r gwir amdani mae arna i ofn.

Ynglŷn â'r cwestiwn o gyfathrebu, bydd yn bwysig i ni yn ystod yr wythnosau nesaf i wneud yn siŵr bod y Cynulliad yn cael gwybod am ddatblygiadau ac yn cael y cyfle, yn amlwg, i ddwyn Gweinidogion i gyfrif yn hynny o beth. Mae arnaf i ofn na wnes i ymateb i'r sylw a wnaeth Huw Irranca-Davies ar ddiwedd ei gwestiwn. Felly, oherwydd ei fod yn ymwneud â chyfathrebu, fe hoffwn i gyfeirio at hynny nawr hefyd. Soniais yn fy natganiad am y porth Paratoi Cymru a fydd yn cael ei lansio dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Amcan hynny yw darparu un ffynhonnell awdurdodol a chynhwysfawr o wybodaeth fel y gall pobl yng Nghymru ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran paratoi, a bydd yn cynnwys deunydd gan Lywodraeth y DU pan fydd hynny'n rhoi darlun llawnach. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y caiff hynny ei ddarparu mewn ffordd amserol, ond sydd hefyd yn ystyried y cyd-destun, ac sydd mewn ffordd yn ystyried gohebiaeth gan Lywodraeth y DU ac eraill hefyd.

16:05

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit. Does dim amheuaeth fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud smonach lwyr o negodi ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Pe na bai mor beryglus, byddai bron yn ddoniol, fel Boris. Ond, beth bynnag, beth bynnag am y diffyg sefydlogrwydd peryglus a achosir gan arweinwyr y Torïaid, mae'n hanfodol i fusnesau ac i'r economi ac i gymunedau ledled fy etholaeth i yn Islwyn, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth posib o fewn ei gallu i ddiogelu ein ffyniant.

Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, fel y nodwyd, ar y cyd â Phlaid Cymru ei chynigion yn y Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac mae hi hefyd yn briodol i sôn am gyfraniad Steffan Lewis at y ddogfen bwysig hon, a luniwyd dwy flynedd a hanner yn ôl. Drwy gydol y ddwy flynedd a hanner trofaus diwethaf, parhaodd Llywodraeth Cymru, gan barchu canlyniad refferendwm 2016, i sefyll yn gadarn dros Gymru a buddiannau gorau ein pobl. Fel y dywedwyd, a hynny’n briodol, ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm o blaid bod yn dlotach. Yn yr un modd, pan roeddem ni'n trafod Ford yn gynharach heddiw, ni phleidleisiodd unrhyw un o blaid colli eu swyddi, colli eu cartrefi, talu mwy am fwyd, peidio â gallu cael gafael ar feddyginiaethau hanfodol, neu fod yn llai diogel rhag y bygythiad o derfysgaeth.

O ragdybio, fel y disgwylir yn eang, y bydd y Prif Weinidog yn colli pleidlais heno, mae ganddi'r dewis i wneud y peth iawn. Gallai hi ailymrwymo i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, yng ngwir ystyr y gair ac ar sail draws-bleidiol, a gofyn i'r Undeb Ewropeaidd, fel y nodwyd, am estyniad i ddyddiad terfyn erthygl 50, fel yr ydym ni wedi gofyn amdano. Ond yn foesol, yn foesegol ac yn ddemocrataidd, â dim rheolaeth dros y Senedd, a yw'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi mai'r peth nesaf y dylai Prif Weinidog y DU ei wneud, a fyddai'n helpu pobl Cymru, fyddai cyfarfod Ei Mawrhydi a gofyn am ddiddymu'r Senedd ar fyrder er mwyn cynnal etholiad cyffredinol? Nid yw ein pobl yn haeddu dim llai, ac rwyf innau'n credu ein bod ni'n haeddu llawer mwy.   

Diolch i Rhianon am ei chwestiwn. Byddai'r syniad na ddylai Llywodraeth sy'n methu â llywio ei pholisi ar fater diffiniol y dydd drwy Dŷ'r Cyffredin geisio diddymu'r Senedd yn un newydd iawn yn ein cyfansoddiad ni. Dyna'n union fyddai'n dilyn, fel mae nos yn dilyn dydd, o dan unrhyw amgylchiadau. Felly, mae'n briodol y bydd y Llywodraeth yn wynebu cynnig o ddiffyg hyder. Fel yr ydym ni wedi dweud, ac fel y dywedodd ein cyd-Aelodau yn San Steffan, mae'n gwestiwn o bryd, nid os, y dylai hynny ddigwydd. Ac rydym ni wedi dweud, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, ei bod hi'n bosib i'r Prif Weinidog, os yw hi'n dewis, geisio gwahanol fath o gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Brexit, un sy'n adlewyrchu perthynas agosach o lawer â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ymrwymiadau parhaus o ariannu, polisi ymfudo teg sy'n gweithio ar gyfer y DU gyfan—nid yr egwyddorion a nodir yn y Papur Gwyn ar fewnfudo, nad ydyn nhw, yn y bôn, yn gweithio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat, yma yng Nghymru na ledled y DU—ac ymrwymiad i sicrhau hawliau pobl mewn modd blaengar, fydd yn cyfateb â datblygiadau ledled Ewrop, nid yn parhau'n ddigyfnewid fel y maen nhw heddiw. Mae hi'n dal yn bosib iddi geisio'r math hwnnw o gytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd.

16:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar y berthynas yn y dyfodol a'r datblygiadau o ran ein hymadawiad â'r UE? Rwyf wedi clywed lleisiau o ben arall y Siambr y prynhawn yma yn ceisio dangos fod Prif Weinidog y DU wedi dod i gytundeb gwych. Wel, y gwir amdani yw nad yw hi wedi llwyddo, ac mae'r oedi y mae hi wedi ei greu—yn groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn eich ateb i Rhianon Passmore, yr oedi yn fy marn i—. Mae hi wedi creu pum wythnos o oedi o ganlyniad. Mae'n amser dychwelyd ac ail-negodi, ond peidiwch ag anghofio, pan rydych chi'n ailnegodi, rhaid ichi ailnegodi gyda'r 27 aelod hefyd a bydd yn rhaid iddyn nhw gymeradwyo unrhyw gytundeb newydd. Felly, mae'r amserlenni i gyflawni rhywbeth mewn gwirionedd erbyn 29 Mawrth, yn dynn iawn, iawn, felly mae estyniad yn fwy tebygol os mai dyna'r hyn y mae hi eisiau ei wneud. Mae hynny'n hollbwysig.

Gweinidog, gallaf eich sicrhau hefyd y bydd y pwyllgor yr oeddech chi'n arfer bod yn aelod ohono yn parhau i chwarae ei ran yn y broses, yn arbennig o ran deddfwriaeth, ond nid ar draul unrhyw allu i graffu ar y ddeddfwriaeth. Byddwn yn sicrhau bod y craffu hwnnw'n digwydd.

A gaf i ofyn ambell gwestiwn i'r Gweinidog? Efallai, o'ch rhan eich hun, rydym ni wedi cyflwyno adroddiadau fel pwyllgor ar y gwaith paratoi, rwy'n gwybod yr anfonwyd nhw at Brif Weinidog Cymru, ond, efallai y gallwch chi sicrhau y cawn ni'r ymatebion hynny i'r adroddiadau hynny ar fyrder oherwydd, yn amlwg, os yw pleidlais heno yn trechu cytundeb Prif Weinidog y DU yna, fel y crybwyllodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, rydym ni'n debygol o gael y newyddion diweddaraf yr wythnos nesaf ynglŷn â'r gwaith paratoi, ac fe hoffem ni weld beth yw ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiadau ni yn hynny o beth.

A yw'r Gweinidog wedi trafod gyda gwledydd eraill y DU sut y gallwn ni gydweithio mewn gwirionedd i ymdrin â sefyllfa 'dim cytundeb' a methiant yn y Senedd heno ac efallai, er hynny, fel y crybwyllodd Adam Price, gyda'n cymdogion agosaf, yn enwedig Iwerddon, i sicrhau ein bod ni'n cytuno ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i liniaru unrhyw niwed y bydd 'dim cytundeb' yn ei achosi?

Ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r Trysorlys, oherwydd, os oes gennym ni sefyllfa 'dim cytundeb', maen nhw wedi gwarantu—? Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd hi'n ariannu'r prosiectau hynny sy'n cael cyllid gan yr UE. Felly, a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r Trysorlys ynghylch sut y byddai hynny'n digwydd? Beth yw'r broses? A yw trefniadau ar waith i sicrhau y bydd sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hariannu gan Ewrop a rhaglenni sydd ar hyn o bryd yn cael eu hariannu gan Ewrop yn gallu cael yr arian hwnnw, neu fod â hyder, er na fydd yr arian hwnnw ar gael ymhen dwy flynedd, ond y byddan nhw mewn sefyllfa lle mewn gwirionedd y gallan nhw dalu eu biliau i sicrhau y gallan nhw gyflawni'r rhaglenni hynny?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at feddyginiaethau a'r adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. A gaf i dynnu sylw hefyd nid dim ond at feddyginiaethau ond at offer? Ac fe roddaf i enghraifft ichi. Fe wnaeth y digwyddiad diweddar yn Gatwick greu oedi yn Gatwick nid oherwydd yr UE, ond oherwydd drôn, ond o ganlyniad i hynny, rwy'n gwybod am arholiadau ffiseg niwclear a gafodd eu canslo am nad oedd ganddyn nhw'r isotopau, gan fod yr hanner oes yn rhy fyr iddyn nhw baratoi popeth. Felly, unwaith eto, mae materion y mae'n rhaid inni eu hystyried o ran agweddau eraill.

Ac efallai y caf i ofyn un cwestiwn—

—ynglŷn â'i swyddogaeth arall, sy'n cysylltu â hyn, oherwydd rydych chi'n Gwnsler Cyffredinol. Roedd llythyr Tusk a Juncker ddoe, a gafodd ei arddangos ac a ddangoswyd gan Theresa May yn ei datganiad, ac yr oedd hi'n ei gwestiynu neu fe gyfeiriodd at agweddau ar gyfreithlondeb hynny, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad o agweddau cyfreithiol hynny, a beth yw ei sefyllfa gyfreithiol o ran y sicrwydd a roddwyd yn y llythyr hwnnw? Ac a fydden nhw'n effeithio ar Gymru?

O ran y sylw olaf, rwyf wrthi'n ystyried cyd-destun cyfreithiol y drafodaeth honno.

A gaf i ddweud yn gyntaf, o ran yr adroddiadau y mae'r pwyllgor y mae'n ei gadeirio wedi eu cynhyrchu ar amrywiaeth o faterion ynglŷn â'r gwaith paratoi, yn enwedig yn ystod rhan olaf y flwyddyn ddiwethaf, y cefais i nhw'n fuddiol iawn? Ac rwy'n gwybod fod cyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn eu hystyried gyda'r bwriad o gyhoeddi, yn amlwg, ymatebion ar ran y Llywodraeth.

Holodd ynglŷn â thrafodaethau gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ynghylch paratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Ydy, mae'r sgyrsiau hynny'n digwydd. Fel rwy'n dweud, mewn rhai meysydd, mae'r wybodaeth yn llifo, efallai'n fwy rhydd nag mewn meysydd eraill. Efallai bod yr adrannau hynny sy'n fwy cyfarwydd ag ymdrin â gweinyddiaethau datganoledig yn ei chael hi'n haws i fod yn fwy agored yn rhannu gwybodaeth, ond buom yn pwyso ar y Llywodraeth i hynny ddigwydd yn fwy cyson ledled Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, lle bo hynny'n digwydd, mae'n amlwg yn arwain at ganlyniadau gwell a gwell prosesau.

O ran cyllid, wel, wyddoch chi, rydym ni'n achub ar bob cyfle i bwyso ar Lywodraeth y DU ynglŷn â'i hymrwymiad ynghylch ariannu. Ond, mewn sefyllfa 'dim cytundeb', rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn y byddai angen i Lywodraeth y DU sicrhau bod cyllid ychwanegol sylweddol ar gael, nid yn ystyr confensiynol Barnett, ond yn gyfan gwbl ar wahân i hynny, er mwyn gallu ymdrin â goblygiadau'r canlyniad hwnnw.

16:15
5. Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar osod cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2019-20. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.

Cynnig NDM6915 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;

b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac

c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch am y cyfle i agor y ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru, a fydd yn cael eu cyflwyno o 6 Ebrill 2019 ac a fydd yn berthnasol i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n talu treth incwm. Diffinnir talwyr treth incwm Cymru fel pobl sy'n byw yng Nghymru am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ni waeth ble y maen nhw'n gweithio. Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi esboniad manwl am yr amrywiaeth o sefyllfaoedd posibl, gan gynnwys ACau, ASau ac ASEau sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru, a fydd hefyd yn talu cyfraddau treth incwm Cymru, ni waeth ble y maen nhw'n byw.

Er y bydd treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol i Gymru o fis Ebrill ymlaen, bydd yn parhau i fod yn dreth y DU. Bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn parhau i weinyddu treth incwm yng Nghymru a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gadw cyfrifoldeb llawn am incwm o gynilion a difidendau. Bydd  cyfraddau treth incwm Cymru yn berthnasol i incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, buddiannau trethadwy a phensiynau. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda CThEM ar y trefniadau manwl ar gyfer gweinyddu cyfraddau  treth incwm Cymru i wneud yn siŵr y ceir pontio llyfn a threfnus i'r trefniadau newydd.

Cyhoeddwyd y cyfraddau am y tro cyntaf yn y gyllideb ddrafft amlinellol ar 2 Hydref. Nid wyf yn bwriadu codi lefelau treth incwm yn 2019-20. Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu yr un treth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd i drethdalwyr mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd a chyni parhaus. Ar y cyd â'r grant bloc, bydd trethi Cymru yn ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer yn y gymdeithas yn dibynnu arnynt. O Ebrill 2019, bydd oddeutu £2 biliwn o gyllideb Cymru yn dod o  dderbyniadau treth incwm Cymru. Dylai hyn newid natur ein dadleuon am refeniw a chyllidebau yn y dyfodol, a bydd yn gwneud hynny, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau hyn.

Gofynnir i'r Cynulliad heddiw gytuno ar benderfyniad cyfradd Cymru a fydd yn gosod cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2019-20, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, mae heddiw, wrth gwrs, yn ddiwrnod hanesyddol, achos mi fyddwn ni yn pleidleisio i benderfynu ar y cyfraddau Cymreig ar gyfer treth incwm yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf, wrth gwrs, mewn canrifoedd lawer. Nawr, mae'r pwerau dan sylw yn ymestyn ar y pwerau trethiannol a gafodd eu datganoli yn Ebrill y flwyddyn diwethaf, ac mi ddylai'r pwerau hyn, fel rŷn ni wedi ei glywed, roi'r gallu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau pwysig eithriadol a chael tipyn mwy o ddylanwad ar anghenion Cymru a'i phobl. Felly, mae gofyn i ni graffu ar y penderfyniadau yma yn effeithiol. Mi fydd y cyfraddau Cymreig, fel dywedodd y Gweinidog, yn codi tua £2 biliwn, felly dyw craffu effeithiol erioed wedi bod yn bwysicach o safbwynt y sefydliad yma.

Felly, wrth i ni graffu ar y gyllideb ddrafft fel pwyllgor, fe wnaethon ni glywed am y problemau o ran rhagolygon yr Alban ar gyfer ei chyfradd treth incwm. Er ein bod ni yn cydnabod y mesurau diogelu sy'n cael eu rhoi i Gymru yn ei blwyddyn gyntaf o godi cyfraddau Cymreig mewn treth incwm, mae'r pwyllgor yn credu bod rhaid inni ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban. Fe gawson ni sicrwydd gan y cyn-Ysgrifennydd Cabinet ei fod e'n gweithio i ddysgu o'r profiadau rheini. Ond, fel pwyllgor, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni yn ei fonitro yn y dyfodol hefyd.

Mae'r gyllideb derfynol yn dangos gostyngiad o £40 miliwn yn rhagolygon y dreth incwm o ganlyniad i newidiadau i'r lwfans personol yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Mae’r mesurau diogelu a roddir i’r grant bloc eleni yn golygu, wrth gwrs, nad yw Llywodraeth Cymru yn wynebu’r gostyngiad hwn, ond mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol o newidiadau o’r fath mewn blynyddoedd i ddod. Nawr, un o’r gwahaniaethau rhwng Cymru a’r Alban o ran y dreth incwm, wrth gwrs, yw natur ddeinamig y symud sy’n digwydd dros ffin Cymru a Lloegr, gyda thua 100,000 o bobl yn mudo un ffordd neu’r llall bob blwyddyn. Nawr, mi glywon ni gyfeiriadau at rai sylwadau a oedd gan Steffan Lewis i’w gwneud ar y mater yma yn y teyrngedau blaenorol, ac mae’n berffaith iawn, wrth gwrs, ond mae’r pwyllgor yn credu ei bod hi yn hanfodol ein bod ni’n monitro’n effeithiol faint o bobl Cymru sy’n talu’r dreth incwm yn ystod y flwyddyn. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y contractiwyd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod trethdalwyr yn cael eu hadnabod yn gywir, ond rŷn ni yn annog Llywodraeth Cymru i oruchwylio'n barhaus ac yn gadarn i sicrhau bod y system fflagio yn addas at ei diben nawr ac, wrth gwrs, dros y tymor hir, oherwydd nid rhywbeth dros dro yw hwn; bydd hon yn broses barhaol. Yn ôl y ffordd y bydd y system yn gweithredu, wrth gwrs, bydd unrhyw un nad yw'n cael ei adnabod i fod yn drethdalwr yng Nghymru neu'n drethdalwr yn yr Alban yn cael ei adnabod yn ddiofyn fel trethdalwr o Loegr neu Ogledd Iwerddon. Canlyniad hynny, wrth gwrs, fydd y bydd treth incwm y bobl hynny yn cael ei ddyrannu i San Steffan.

Dwi'n croesawu'r penderfyniad ynghylch y gyfradd yng Nghymru sydd ger ein bron heddiw, ac, fel Pwyllgor Cyllid, rŷn ni’n falch bod y cynnig hwn yn cael ei gysylltu â chynnig y gyllideb flynyddol, er mwyn, wrth gwrs, sicrhau atebolrwydd llawn wrth godi refeniw, ond gwneud hynny ochr yn ochr â gwneud cynlluniau gwario.

16:20

Mi ddechreuaf i sylwadau byr drwy gyfeirio at gomisiwn Holtham a chomisiwn Silk, ac un o’r egwyddorion pwysicaf sy’n cael eu hamlinellu ganddyn nhw, neu a oedd yn cael eu hamlinellu, oedd gwerth a phwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb ariannol a phwysigrwydd atebolrwydd. Does yna ddim amheuaeth heddiw ein bod ni gam arall yn nes at yr atebolrwydd a’r cyfrifoldeb hwnnw drwy allu gosod ein cyfraddau treth incwm ein hunain. Dŷn ni ar y meinciau yma, ar y seddi yma, yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth bresennol yn defnyddio’r pwerau yma mewn blynyddoedd i ddod. Mi ydyn ni yn sicr yn edrych ymlaen at gyflwyno ein syniadau ein hunain a chyfrannu at y ddadl honno, a gweithredu mewn llywodraeth mewn blynyddoedd i ddod.

Mae hyn, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, yn foment hanesyddol i’n Senedd ni. Mi fydd pobl Cymru rŵan yn gallu gweld mewn termau real ar eu slip cyflog nhw bwysigrwydd y Senedd a Llywodraeth Cymru, a sut mae ein sefydliadau ni yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pob dydd. Dŷn ni fel Senedd yn cryfhau a, thrwy hynny, rydyn ni fel cenedl yn cryfhau ac yn aeddfedu.

O ran y cyfraddau sy’n cael eu cynnig ger ein bron ni heddiw, dŷn ni’n tueddu i gefnogi’r cyfraddau sy’n cael eu nodi yn y cynnig yma gan mai nhw ydy’r rhai cyntaf i’r Llywodraeth eu gosod. Gosod sylfaen ydyn ni at y dyfodol, a dwi’n siŵr y gwelwn ni lawer o newidiadau yn y dyfodol wrth inni aeddfedu mwy a thyfu mewn hyder ynglŷn â sut i ddefnyddio’r pwerau trethiant er budd pobl Cymru. Achos, efo’r pwerau newydd yma, mae cyfrifoldeb mawr arnon ni i gyd, fel Aelodau ein Senedd genedlaethol ni, fel aelodau o’n pleidiau gwleidyddol ein hunain, nid yn unig i barchu’r cyfrifoldebau yma ond i ymateb i’r ffaith ein bod ni’n cael y cyfrifoldebau yma a’u defnyddio nhw mewn ffordd gyfrifol, ond hefyd i’w defnyddio nhw mewn ffordd a fydd yn greadigol, mewn ffordd a fydd yn datblygu dull Cymreig o osod trethi—ffordd Gymreig a fydd nid yn unig yn ymateb i broblemau sylfaenol yng nghymdeithas Cymru, ond hefyd, dwi’n gobeithio, yn ein galluogi i fod yn flaengar yn ein syniadau ac yn uchelgeisiol wrth inni greu system dreth a fydd yn decach i bobl Cymru na’r un sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru gyda'r cynnig hwn, am y tro cyntaf erioed, ger ein bron, i osod cyfraddau treth incwm. Os caf i ofyn dau gwestiwn cyflym i'r Gweinidog—bu bron i mi eich galw'n Ysgrifennydd y Cabinet am eiliad. Yn gyntaf oll, dywedasoch yn eich sylwadau agoriadol nad ydych chi'n credu y dylid bod unrhyw newidiadau i'r cyfraddau treth incwm o'i gymharu â Lloegr—credaf ichi ddweud hyd at 2020. A allwch chi gadarnhau bod hynny tan etholiad nesaf y Cynulliad, sef yr hyn rwy'n credu a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol?  A, hefyd, a yw hynny'n parhau i fod yn berthnasol os y ceir amrywiadau dros y flwyddyn neu ddwy nesaf yng nghyfraddau treth incwm y DU—mewn geiriau eraill, y gyfradd sylfaenol, boed hynny at i fyny neu i lawr?

Yn ail ac yn olaf, ynglŷn a'r ffordd y cyflwynwyd hyn heddiw o ran y ddadl treth incwm yr ydym yn ei chael yn awr a'r ddadl ar y gyllideb yr ydym ar fin ei chael—ai felly y byddwch chi'n parhau i weithredu yn y dyfodol? Yn y gorffennol, gwn fod y Pwyllgor Cyllid wedi edrych yn ofalus ar y mater o Fil cyllid a sut y byddech chi'n cyflwyno unrhyw newidiadau posibl mewn cyfraddau treth o ran y gyllideb i bobl Cymru.

16:25

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna a'r cyfraniadau i'r ddadl. Dechreuodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid drwy gydnabod pa mor bwysig yw craffu, ac rwyf yn sicr yn cydnabod ac yn croesawu hynny. Aeth ymlaen wedyn i sôn am brofiad yr Alban. Felly, rwyf am achub ar y cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cyfarfod â phenaethiaid trethi datganoledig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac maen nhw wedi fy sicrhau eu bod wedi dysgu gwersi o'r profiad o ran datganoli treth incwm i'r Alban, ac mae hi'n mae'n gwbl hanfodol bod CThEM yn cydnabod fod yr amgylchiadau gwahanol sydd gennym yma yng Nghymru, fel y materion trawsffiniol hynny a gweithgarwch cydymffurfio yn arbennig.

Gellir deall bod nodi trethdalwyr Cymru mewn modd llawn a chywir yn gwbl allweddol, ac felly rydym ni wedi gofyn, ac wedi cael y sicrwydd hwnnw gan CThEM eu bod wedi dysgu'r gwersi hynny o'u profiad o ddatganoli treth incwm i'r Alban. Hefyd, yn fwy penodol, ar baramedrau sganio data awtomatig cychwynnol o systemau CThEM a oedd wrth wraidd y broblem o hepgor  420,000 o drethdalwyr yr Alban. Felly, rydym ni wedi cael y sgyrsiau hynny ac wedi cael sicrwydd na fydd y materion hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn bennaf oherwydd bod ein system ni yn coladu'r wybodaeth honno am gyfeiriadau mewn modd gwahanol. Felly, yng Nghymru, byddwn yn gwneud hyn yn ôl cod post, tra eu bod wedi gweithredu ychydig yn wahanol yn yr Alban.

Yn amlwg, mae hyn yn bwysig ar gyfer rhagamcanu, yn yr un modd ag y mae cael gwybodaeth gywir a da, yn ehangach. Felly, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau i gynhyrchu fersiwn cyhoeddus o'i chyfres data dadansoddol allweddol: yr arolwg o incwm personol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CThEM i sicrhau bod hyn yn cael ei gynhyrchu mewn modd amserol a defnyddiol, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Bydd CThEM hefyd yn darparu adroddiadau misol ar rwymedigaethau treth incwm talu wrth ennill, drwy ei system gwybodaeth amser real. Ni fydd hyn yn darparu golwg gyflawn o gyfraddau Cymru ond fe fydd yn ddangosydd defnyddiol ac amserol o gasglu refeniw. Bydd hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth alldro archwiliedig ar CTIC yn rhan o'i gyfrifon blynyddol ym mis Gorffennaf. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn trafod â CThEM am lefel y manylion y bydd yn gallu eu darparu ochr yn ochr â'r ddogfen honno. Bydd yr holl drefniadau a'r cytundebau hyn ynglyn â data yn cael eu hamlinellu mewn cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM.

Cafwyd rhai cwestiynau ynglŷn â nodi trethdalwyr. Bydd nodi a chynnal gwybodaeth am y boblogaeth CTIC sy'n drethdalwyr yn cael ei ffurfioli, unwaith eto yn rhan o fesur perfformiad, o fewn y cytundeb lefel gwasanaeth ar y cyd sy'n cael ei ddatblygu gan ein gwahanol sefydliadau, a fydd yn sicr wedi ei sefydlu mewn da bryd ar gyfer yr adeg pan fydd y trethi yn dechrau cael eu casglu. Yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf, llwyddais i nodi rhai o'r ffyrdd y mae CThEM yn gweithio i wneud yn siŵr bod gwybodaeth am unigolion yn gywir ac yn cael ei chasglu mewn modd amserol drwy gydol y flwyddyn hefyd.

O ran nodi'r cyfraddau treth hynny ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad, hoffwn gyfeirio Nick Ramsay at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, pryd yr ailadroddodd unwaith eto ein hymrwymiad, a wnaed ym maniffesto Llafur Cymru, ynglŷn â pheidio â chodi lefelau treth incwm. Mae hefyd wedi bod yn glir iawn, pan oedd yn y swydd hon—drwy ei dystiolaeth, a roddwyd i'r pwyllgor—y byddai unrhyw benderfyniad i newid cyfraddau treth yn amlwg yn benderfyniad pwysig y dylid ei gymryd ar sail tystiolaeth a llawer iawn o feddwl.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:30
6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2019-20

Symudwn ymlaen at eitem 6, sydd yn ddadl ar y gyllideb derfynol, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6902 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 18 Rhagfyr 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n fraint i arwain y ddadl ar y gyllideb derfynol heddiw, ac rwy'n talu teyrnged ac yn diolch i fy rhagflaenydd, Mark Drakeford, am ei waith ar y gyllideb dros y flwyddyn ddiwethaf.

Diolch hefyd i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar y gyllideb, ac rwyf wedi ymateb yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid a gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, wrth i ni ddatblygu'r gyllideb ar gyfer 2020-21 a symud ymlaen at adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Bydd cyd-destun y gyllideb hon yn gyfarwydd. Cafodd y gyllideb ei llunio yng nghysgod hir naw mlynedd o gyni; dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU sydd wedi achosi difrod a niwed i wead ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan Gymru £850 miliwn yn llai i'w wario, mewn termau real, ar wasanaethau cyhoeddus yn 2019-20 nag yn 2010-11, o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU. Petai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu ar yr un raddfa â thwf cynnyrch domestig ers 2010-11, fe fyddai gennym ni £4 biliwn yn fwy yn 2019-20—mae hynny 20 y cant yn uwch nag ein cyllideb bresennol.

Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ym mis Hydref, roedd y Prif Weinidog yn addo bod cyni wedi dod i ben a bod cytundeb Brexit o fewn cyrraedd. Ac eto, heddiw, mae Senedd y DU yn cynnal ei phleidlais ystyrlon ac mae'r posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb yn un real. Yng nghyllideb Hydref y DU, prin oedd y dystiolaeth bod cyni wedi dod i ben. O'r arian ychwanegol a ddaeth i law, roedd y rhan fwyaf o'r cyllid canlyniadol a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer y GIG. Bydd ein cyllideb gyfalaf yng Nghymru yn cynyddu £2.6 miliwn yn unig yn 2019-20. O ganlyniad i gyni, bydd arian y pen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus beunyddiol datganoledig yn 2019-20, 7 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11.

Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym ni'n parhau i gyflawni mewn cyfnod anodd. Rydym ni'n parhau i roi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y GIG yng Nghymru, addysg a gofal cymdeithasol. Rydym ni'n buddsoddi yn ein hysgolion a'n colegau, yn creu gwasanaeth iechyd y dyfodol, adeiladu economi gyda phwrpas cymdeithasol gwirioneddol.

Pan wnaethom ni gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, roeddwn ni'n cydnabod ei bod hi'n cynrychioli setliad heriol ar gyfer llywodraeth leol. Fe weithiom ni'n galed a chyflym i gyhoeddi, ym mis Tachwedd, becyn ychwanegol o arian ar gyfer awdurdodau lleol werth £141.5 miliwn dros dair blynedd, gan gynnwys arian ychwanegol ar gyfer addysg, gwasanaethau cymdeithasol i blant a chynnydd o £100 miliwn mewn cyllid cyfalaf. A byddwn yn trafod y setliad llywodraeth leol terfynol yn ddiweddarach heddiw.

Mae'r gyllideb derfynol yn cyflawni ein hymrwymiadau. Mae'n cynnwys £26 miliwn ychwanegol i roi mwy o gefnogaeth i fanwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill i'w helpu nhw i dalu eu biliau ardrethi. Bydd awdurdodau lleol yn cael £7 miliwn yn ychwanegol i gwrdd â'n hymrwymiad blaenllaw i godi'r terfyn cyfalaf i £50,000 ddwy flynedd yn gynnar. O fis Ebrill, bydd pobl yn gallu cadw mwy o'u cynilion y maen nhw wedi gweithio'n galed i'w hennill cyn gorfod talu am ofal preswyl.

Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau swm o £6.8 miliwn ychwanegol i gefnogi ein hymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys rhai dyraniadau penodol i helpu i drechu tlodi plant, tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft. Bydd £1.6 miliwn ychwanegol ar gael yn 2019-20 ar gyfer y cynllun mynediad grant datblygu disgyblion er mwyn sicrhau y gall rhieni dalu'r costau beunyddiol sy'n gysylltiedig ag anfon eu plant i'r ysgol a gweithgareddau ehangach. A defnyddir £0.4 miliwn yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl, sy'n rhoi pryd o fwyd i'r plant a chyfleoedd dysgu yn ystod gwyliau'r haf.

Ceir rhai dyraniadau llai yn y gyllideb derfynol hon yr hoffwn i eu cofnodi'r prynhawn yma: £0.5 miliwn ychwanegol i wella'r cymorth ar gyfer gweithgareddau cerddoriaeth i bobl ifanc; £0.9 miliwn yn ychwanegol i leihau gwastraff bwyd, gan adeiladu ar y £15 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft; a £0.8 miliwn o refeniw ychwanegol a £3 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r gyllideb hon hefyd yn nodi ail flwyddyn y cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb â Phlaid Cymru. Rwy'n diolch i lefarydd cyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, am yr ymgysylltiad cynnar a gawsom ni ynghylch materion cyllid. Yn unol â'n cytundeb, rydym ni wedi darparu cyllid cyfalaf ychwanegol i adnewyddu gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn. Rydym ni hefyd yn darparu £10 miliwn yn 2019-20 i ddatblygu canlyniadau astudiaethau dichonoldeb ynghylch amgueddfa genedlaethol ac oriel gelf.

Rydym ni'n parhau i ddatblygu cynlluniau i ddefnyddio cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys mesurau i ysgogi ein marchnad tai ac eiddo. Byddwn yn darparu cyllid trafodiadau ariannol yn y flwyddyn ariannol hon i sefydlu cronfa hunan-adeiladu Cymru gwerth £40 miliwn. Bydd y cynllun yn dechrau o ddifrif yn 2019-20. Darperir rhagor o fanylion am ein cynlluniau yn yr ail gyllideb atodol.

Mae hon yn gyllideb a ddatblygwyd dan gysgod ansicrwydd Brexit. Mae'r llanastr a'r anhrefn yn sgil cytundeb Prif Weinidog y DU yn ein gwthio ni tuag at y posibilrwydd o ddim cytundeb ac yn sgil hynny y perygl o aflonyddwch sylweddol yn peryglu swyddi a bywoliaeth. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu'r adnoddau y byddwn ni eu hangen i ymateb i'r sefyllfa drychinebus honno.

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer Brexit ac i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru, sefydliadau, busnesau a phartneriaid yn barod ar gyfer pob canlyniad. I wneud hyn, rydym ni'n buddsoddi hyd at £50 miliwn mewn cronfa bontio UE benodedig. Heddiw, gallaf gyhoeddi'r gyfres nesaf o brosiectau o'r gronfa hon i ddarparu cymorth i'n sectorau allweddol, partneriaid a chymunedau. Mae'r prosiectau'n cynnwys cyllid ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gefnogi ein sector gofal cymdeithasol rhag effaith Brexit. Byddwn ni hefyd yn darparu cyllid ar gyfer cydnerthedd partneriaeth yr heddlu, er mwyn galluogi gwasanaethau heddlu Cymru i gefnogi paratoadau ar gyfer Brexit. Byddwn yn ehangu paratoadau ar gyfer trefniadau olynol i gronfeydd strwythurol yr UE, gan adeiladu ar waith i gefnogi gweithredu model buddsoddi rhanbarthol ar ôl gadael yr UE i Gymru. Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gyda CLlLC ynghylch cymorth Brexit ar gyfer llywodraeth leol, gyda manylion pellach i ddilyn.

Nid oes gennym ni gyllideb y tu hwnt i 2021, ac rydym ni'n wynebu adolygiad cynhwysfawr o wariant eleni. Mae'r Canghellor hefyd wedi dweud yn glir os bydd y rhagolygon economaidd neu ariannol yn newid yn sylweddol o ganlyniad i Brexit, gallai datganiad y gwanwyn gael ei ddiweddaru i greu digwyddiad cyllidol llawn. Rwy'n realistig wrth ddweud efallai y bydd yn rhaid inni newid ein cynlluniau cyllideb, ac os digwydd hyn yna y byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau. Mae'r flwyddyn hon yn garreg filltir arall ar ein taith ers datganoli. Am y tro cyntaf, mae'r gyllideb hon yn cynnwys refeniw o gyfraddau treth incwm yng Nghymru. O fis Ebrill, bydd mwy na £2 biliwn o gyllideb Cymru yn dod o drethi a godir yng Nghymru, gan gryfhau ein hatebolrwydd i bobl Cymru. Heddiw, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad ynghylch cyfraddau treth incwm yng Nghymru. Yn unol â'n hymrwymiad yn ein maniffesto, rydym ni wedi cytuno i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm eleni.

Dirprwy Lywydd, mae'r gyllideb hon yn ceisio darparu a gwarchod y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n gwneud hyn drwy reoli ein hadnoddau yn ofalus a dilyn polisïau a blaenoriaethau blaengar sy'n diffinio Llywodraeth Cymru. Cymeradwyaf y gyllideb derfynol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

16:35

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar y gyllideb derfynol heddiw, sydd wedi newid, wrth gwrs, ers y gyllideb ddrafft wnaethon ni graffu arni fel pwyllgor yn yr hydref. Mae'r gyllideb derfynol yn dangos yr arian canlyniadol a ddaeth o gyllideb y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn nhymor yr hydref y llynedd. Mae hefyd yn dangos gostyngiad o £40 miliwn yn rhagolygon y dreth incwm, gostyngiad o £2 filiwn yn y dreth trafodiadau tir, a diwygio targed refeniw o'r dreth tirlenwi i fod £3 miliwn yn fwy.

Fe wnaethon ni groesawu'r sylwadau cynnar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol yn ystod ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft, wrth iddo fe ddweud y byddai llywodraeth leol yn flaenoriaeth pe byddai rhagor o arian canlyniadol yn dod o gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'n dda gen i weld bod dyraniadau o fewn y gyllideb derfynol o ganlyniad i'r ymrwymiad hwnnw. 

Wrth gwrs, mae pwerau'r lle yma yn y cyd-destun yma yn dal i esblygu, yn dal i ddatblygu, ac mi fydd y pwyllgor hefyd yn parhau i ddatblygu ein dull ni o graffu ar bwerau trethu newydd yn y dyfodol. Ac mi fyddwn ni hefyd yn adolygu pa opsiynau sydd yna o ran prosesau'r gyllideb sydd ar gael i'r Cynulliad mewn blynyddoedd i ddod. 

Mae yna nifer o ddyraniadau a wneir yn y gyllideb derfynol hon fydd heb fod yn destun gwaith craffu hefyd, wrth gwrs. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi codi'r mater yma gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol. Pan wneir penderfyniadau ariannol yn ystod y flwyddyn, mae'n rhaid sicrhau bod digon o wybodaeth ariannol ar gael. Byddwn yn annog y Gweinidog cyllid newydd i ystyried hyn yn y dyfodol, a dwi hefyd yn annog fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor ac eraill sydd yma'n bresennol heddiw i sicrhau eu bod yn ystyried unrhyw newidiadau a wneir mewn dyraniadau mewn sesiynau craffu yn y dyfodol. Nid dim ond wrth graffu'n ffurfiol ar gyllideb yr hydref y mae angen cynnal gwaith craffu ariannol, wrth gwrs.

Yn olaf, dwi hefyd yn falch o fod wedi derbyn ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft. Yn anffodus, ddaeth e ddim tan y bore yma, ac, o ganlyniad, dydw i ddim wedi cael cyfle i ystyried y cynnwys. Dwi hefyd yn deall fod y pwyllgorau polisi hefyd ond wedi derbyn eu hymatebion nhw y bore yma, a thra fy mod i'n llawn gwerthfawrogi cymaint o waith yw hi i'r Llywodraeth i symud o gyllideb ddrafft i gyllideb derfynol, dyw hi ddim yn dderbyniol bod yr ymatebion wedi dod mor hwyr yn y dydd. 

Fel pwyllgor, mi fyddwn ni yn ystyried ac yn edrych yn ôl ar y broses o graffu ar y gyllideb yn ein cyfarfod ni'r wythnos nesaf, ac mi fydda i hefyd yn gobeithio trafod gyda'r Gweinidog cyllid newydd sut y gallwn ni osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol. 

16:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad i'r ddadl heddiw—ac, yn wir, y briff a roesoch imi yn gynharach yn ôl traed eich rhagflaenydd? Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith ichi ddod i mewn bron ar ddiwedd y broses gosod cyllideb hon, felly nid wyf yn disgwyl ichi fod yn arbenigwr ar bopeth. Roedd yn dda gweld, fodd bynnag, fod y gêm o feio Llywodraeth y DU yn parhau ar garlam fel yr oedd o'r blaen. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw ddadl gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb rywun yn beio Llywodraeth y DU a'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ond dyna ni.

Ni fydd yn syndod ichi glywed na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gyllideb hon heddiw. Ar yr ochr olau, eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli'r gyllideb fwyaf ers datganoli, dros £16 biliwn erbyn 2020. Hyd yn oed cyn addasiadau ar gyfer datganoli trethi, mae gan Lywodraeth Cymru fwy o gyfle i wario arian lle mae ei angen. Am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu codi £2.1 biliwn mewn trethi, fel y clywsom ni gan y Gweinidog. Bydd diddymu tollau Pont Hafren yn golygu budd o dros £100 miliwn y flwyddyn i economi De Cymru. Nid fy ffigurau i yw'r rheini; dyna amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun. Mae'r cytundeb fframwaith cyllidol rhwng y DU a Llywodraeth Cymru yn cyflawni dros Gymru. O fewn cyllideb 2018, mae mwy na £550 miliwn o arian ychwanegol wedi'i addo i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â dros £100 miliwn ar gyfer bargen twf y gogledd, a fydd yn creu buddsoddiad, swyddi a ffyniant yn y rhanbarth. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni gefnogaeth barhaus ar gyfer bargen twf y canolbarth.

Nawr, er ein bod yn derbyn y bu llong Llywodraeth Cymru yn hwylio drwy amseroedd heriol, swyddogaeth Llywodraeth yw blaenoriaethu a bellach swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod symiau canlyniadol cyllideb Llywodraeth y DU yn cyrraedd y mannau pwysig, ac, yn bwysicaf oll, y rheng flaen. Soniodd y Gweinidog am y GIG, blaenoriaeth pobl Cymru, ac ein blaenoriaeth ni hefyd—o leiaf, dylai fod. O'r diwedd mae Llywodraeth Cymru yn talu sylw i gyngor gan Geidwadwyr Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl y dylid cynyddu'r arian ar gyfer ein gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n gwybod nad oedd y gyllideb iechyd yn cael ei gwarchod mewn termau real rhwng 2011 a 2016 ac, o ganlyniad, rydym ni ar ei hôl hi. Ond dyma ble'r ydym ni. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £550 miliwn yn ychwanegol yn ei chyllideb. Fel y dywedaf, bydd cyllid y GIG yn codi a cheir cynnydd yng nghyflogau staff y GIG ac arian ar gyfer staffio yno.

Nid yw'r gyllideb derfynol yn ateb yn llawn y pryderon sylweddol a amlinellir gan y pwyllgorau. Rydym ni wedi clywed y sylwadau gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwyf yn croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwyddom am yr anawsterau y bu'r sefydliad hwnnw yn eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, drwy gael ei gyfrifon wedi'u cymhwyso ar gyfer blwyddyn arall eto. A gawn ni sicrwydd y bydd amodau ynghlwm wrth yr arian hwn, ac y bydd argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael eu gweithredu'n llawn fel y gallwn ni osgoi rhai o'r helyntion a welsom ni yn y sefydliad hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf?

Mae'r Gweinidog wedi amlinellu rhai o'r newidiadau rhwng y drafft a'r cyllidebau terfynol, ac yr wyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwario £13 miliwn yn ychwanegol ar y setliad llywodraeth leol—fe wnaethoch chi sôn y byddai hynny'n cael ei drafod yn ddiweddarach—sy'n darparu mwy o arian i awdurdodau lleol. Er hynny, mewn llawer o achosion, mae'r rhain yn setliadau arian gwastad. Nid ydym ni'n edrych ar warchod mewn termau real. Ond, serch hynny, bydd yn gyllid a gaiff ei groesawu gan Lywodraeth Leol ledled Cymru.

Rydych chi wedi sôn am gymorth i fusnesau. Mae symiau canlyniadol Llywodraeth y DU ar gael ar gyfer rhyddhad ardrethi'r stryd fawr. Fe wn ein bod wedi cael trafodaethau yn y Siambr hon am ffurf posibl y rhyddhad hwnnw. Rydym ni wedi cael nifer o adroddiadau a rhybuddion dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch cyflwr ein strydoedd mawr a'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu, felly rydym yn gobeithio cael sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r math o ryddhad ardrethi teg y mae busnesau wedi bod yn galw amdano.

Os gaf i grybwyll gofal cymdeithasol, er y cafwyd arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, sydd i'w groesawu, mae hyn llawer is na'r hyn yr ydym ni i gyd yn credu sydd ei angen i ateb y galw dros y blynyddoedd nesaf. Mae amcanestyniadau'n awgrymu y bydd angen dyblu'r gwariant bron ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer pobl hŷn rhwng 2015 a 2030. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif y bydd gwerth £344 miliwn o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol erbyn 2021-22, testun adroddiad y Pwyllgor Cyllid a dadl yn y Siambr hon yn ddiweddar.

Yn fyr, ar dai, rwy'n croesawu'r cynigion hunan-adeiladu newydd a wnaethoch chi grybwyll i mi yn gynharach, Gweinidog; Mae hynny'n wirioneddol arloesol ac i'w groesawu. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno yng ngoleuni'r dadleuon diweddar ar dai, bod gwir angen cynyddu'r stoc tai sydd ar gael yng Nghymru a'r lefel o dai priodol hefyd. Felly, rydym ni'n croesawu cynigion arloesol. Beth bynnag a ddigwydd, mae angen cynnydd yn y stoc tai, ac yn bwysicaf oll yn y stoc tai fforddiadwy.

Nid wyf wedi sôn am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—fe wn i nad oes gennyf yr amser—ac fe wnaethoch chi sôn am y comisiynydd. Yn y gorffennol, rydym ni wedi galw am gyllidebau sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol a rhoi Cymru ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae angen i gyllidebau wneud mwy o hynny yn y dyfodol, felly fe'ch anogaf chi a Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod cyllidebau yn y fan yma yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

16:45

Ie, cyllideb derfynol, a tipyn o newidiadau ers y gyllideb ddrafft. Yn anffodus, dim digon o newidiadau o'r gyllideb ddrafft, yn enwedig pan mae'n dod at gyllid i lywodraeth leol. Wrth i fi groesawu'r Gweinidog cyllid newydd i'w swydd, mi allwn i bwyntio allan ei bod hi'n bosib gwneud pethau'n wahanol pan mae yna newid personél mewn swydd, ond o bosib mae hi'n anodd pan mai eich rhagflaenydd chi ydy'r bòs erbyn hyn. Ond, yn sicr, mae yna wendidau, dwi'n meddwl, fydd yn costio'n ddrud, yn enwedig, fel rwy'n dweud, ym maes llywodraeth leol.

Dwi'n gwerthfawrogi sylwadau y Gweinidog cyllid yn croesawu'r trafod rydym ni wedi ei gael ynglŷn â'r gyllideb yma cyn heddiw, ond fe wnaf i unwaith eto dalu teyrnged i Steffan yn y fan hyn, oherwydd fy rhagflaenydd i fel llefarydd cyllid oedd yn gyfrifol am osod y seiliau ar gyfer y cytundeb fu a sydd wedi bod rhyngom ni fel Plaid, a chytundeb sydd yn gweld ôl ei llwyddiant hi drwy'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno i ni heddiw.

Rydym ni wedi gweithio efo'r Llywodraeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyllidebau, ac rwy'n sicr yn siarad ar ran pob un ohonom ni ar yr ochr yma i'r Siambr drwy ddweud ein bod ni'n hynod o falch o'r hyn rydym ni wedi ei gyflawni drwy ein cytundeb cyllideb ni—a gafodd ei chytuno rhwng Steffan a'r Prif Weinidog presennol, y Gweinidog Cyllid blaenorol—sef £0.5 biliwn o ymrwymiadau sydd wedi'n galluogi ni i weithredu'n maniffesto o feinciau gwrthblaid.

Mae'n cynnwys nifer o bethau rydym ni'n falch iawn iawn ohonyn nhw: £40 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, cyllid pellach ar gyfer datblygu hyfforddiant meddygol sydd wedi arwain at sefydlu addysg feddygol ar gyfer y gogledd, cefnogaeth i fusnesau yn ystod Brexit ac ar ôl hynny, yr amgueddfa bel-droed a'r amgueddfa celf fodern yn cael eu datblygu ymhellach, arian ar gyfer Glan-llyn a Llangrannog—pethau fydd yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl a phlant yng Nghymru. Os gallwn ni gyflawni hyn fel gwrthblaid, dychmygwch beth allwn ni gyflawni mewn Llywodraeth. 

Ymatal fyddwn ni ar y gyllideb heddiw i adlewyrchu'r cytundeb sydd gennym ni, ond mae'r cyd-destun, wrth gwrs, wedi newid yn sylfaenol ers y cytundeb. Y newid mawr wrth gwrs ydy bod gan y Llywodraeth yma fwyafrif gweithredol erbyn hyn, felly cyllideb y Llywodraeth ydy hon, heb y gallu i gael ei threchu gan wrthbleidiau, ac mi rydym ni'n sicr yn gresynu yn fawr at sawl elfen ohoni. Mae'r Llywodraeth yn dal yn methu â sylweddoli dyfnder trafferthion ariannol llywodraeth leol. Oes, mae yna rywfaint o arian yn rhagor wedi dod, £50 miliwn ers y gyllideb gyntaf, ond dydy hyn ddim yn agos at yr hyn yr oedd ei angen. Mae'r grant craidd yng Nghymru i awdurdodau lleol wedi gostwng 22 y cant ers 2010, ac er, yn ôl y penawdau, nad oes yr un llywodraeth leol yn gweld gostyngiad o fawr ddim, yn fwy na ryw 0.53 y cant yn ei chyllidebau, celwydd golau ydy hyn. Mi fydd yr effaith wirioneddol ar wasanaethau yn ddwfn iawn.

Ac ydyn, rydyn ni'n cytuno efo chi fod angen pwyntio'r bys at Lywodraeth Geidwadol greulon yn San Steffan, a'r hyn sydd wedi cael ei wneud trwy bolisi annheg ac anghyfiawn llymder, ond dewis gwleidyddol Llywodraeth Lafur Cymru oedd peidio â gwneud y buddsoddiad yr oedd gennych chi'r gallu i'w wneud mewn llywodraeth leol yn y gyllideb y tro hwn. Allwch chi ddim osgoi rhag y ffaith eich bod chi wedi penderfynu gwneud penderfyniad gwleidyddol amgen a oedd yn methu â rhoi'r gefnogaeth yna i'n cynghorau ni.

Mae iechyd wedi gweld cynnydd o £0.5 biliwn ers y gyllideb atodol gyntaf, ond, wrth gwrs, all y gwasanaeth iechyd ddim gweithio mewn vacuum. Mae angen llywodraeth leol wedi'i chyllido yn dda, sydd yn gallu rhoi'r gefnogaeth iawn a phriodol i wasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu gweithredu yn gynaliadwy. Ac nid dyna'r sefyllfa sydd gennym ni.

Rydyn ni wedi codi'r materion yma dro ar ôl tro. Mae'r Llywodraeth yma yn gwybod bod pobl o fewn eu plaid eu hunain yn teimlo'r un fath â ni. Mae Anthony Hunt, llefarydd cyllid ar ran y WLGA, arweinydd cyngor Torfaen, hefyd yn mynegi ei bryder fod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniadau anghywir efo'r gyllideb hon. Ac yn ddiweddarach heddiw mi bleidleisiwn ni yn erbyn y setliad llywodraeth leol, achos dydyn ni ddim yn credu bod y penderfyniadau cywir, y penderfyniadau a oedd â photensial i drawsnewid llywodraeth leol, neu dynnu'r pwysau oddi arnyn nhw o leiaf, wedi cael eu gwneud y tro hwn. Ond ymatal y byddwn ni ar y gyllideb, ond hwn fydd y tro olaf.

16:50

Wrth i gyni barhau, nid yw'r swm o arian sydd ei angen i redeg gwasanaethau cyhoeddus ar y lefel y mae'r cyhoedd yn ei ddymuno a'i angen yn cael ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad yw cyni'n bolisi economaidd ond yn gyfeiriad teithio gwleidyddol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan eisiau lleihau gwariant cyhoeddus a lleihau'r ddarpariaeth o wasanaethau gan y wladwriaeth.

Wrth i ni fynd heibio'r ddegfed flwyddyn o dwf economaidd araf ar y gorau, mae angen newid cyfeiriad arnom ac y mae arnom ni angen twf economaidd. Mae'r swm o arian sydd ar gael i redeg y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn annigonol. Yn anffodus, mae'n rhaid inni gael cyllideb yn seiliedig ar yr hyn sydd ar gael yn hytrach na'r hyn y mae pobl Cymru ei angen.

Byddaf yn cefnogi'r gyllideb heddiw, ond fe fyddwn yn methu yn fy nyletswydd i'm hetholwyr pe na bawn i'n codi'r pryderon difrifol sydd gennyf. Yn gyntaf, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y gyllideb wedi'i hysgogi gan naill ai'r rhaglen ar gyfer llywodraethu na ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Yr hyn a wnaeth y gyllideb hon, yn unol â'r rhai diweddar i gyd, yw cynyddu cyfran cyllideb Llywodraeth Cymru a gafodd ei wario ar iechyd a lleihau cyfran y gwario ar lywodraeth leol a gwasanaethau eraill, gyda rhywfaint o ddiogelu'r economi a thrafnidiaeth. Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Cyllid, nododd Michael Trickey pryd y byddai'r ganran o gyllideb Cymru a ddyrannwyd i iechyd yn cyrraedd 60 y cant pe byddai'r polisi presennol yn parhau.

Mae iechyd, yn fy marn i, yn gamenw. Caiff yr arian ei ddyrannu i iechyd, yna mae'n mynd i'r byrddau iechyd, yna mae'n mynd i wasanaethau ysbyty yn bennaf. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei wario ar ofal sylfaenol yn gostwng. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi'n rheolaidd y gostyngiad cymharol a geir mewn gwariant gofal sylfaenol. Mae hyn yn effeithio ar arferion gofal sylfaenol. Rhwng Hydref 2015 a mis Hydref 2018, caeodd 21 o bractisau meddygon teulu, cyflwynodd 37 ohonyn nhw gais cynaliadwyedd i'r bwrdd iechyd, ac roedd 45 o bractisau mewn perygl. Mae gormod o bobl bellach yn defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys fel eu gwasanaeth gofal sylfaenol, sy'n achosi problemau enfawr mewn unedau damweiniau ac achosion brys. Bu trafodaethau ar iechyd darbodus: deiet, gordewdra, ymarfer corff, peidio ag ysmygu, yfed llai o alcohol—mae pob un yn lleihau afiechyd, ac rwy'n credu y dylem ni sôn llawer mwy am leihau afiechyd yn hytrach na sôn am geisio trin pobl yn ddiweddarach. Gadewch inni gael llai o bobl sâl.

Tua 2015 fe luniodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar ymyriadau meddygol sy'n gwneud dim lles i'r claf, ac amcangyfrifwyd ar y pryd eu bod yn costio sawl can miliwn o bunnoedd. Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant pryd y bu'r llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond ar ôl bod yn yr ysbyty nid oedd yr unigolyn yn gallu edrych ar ôl ei hun mwyach ac yn y pen draw bu'n rhaid iddo fynd i gartref nyrsio. Yn rhy aml mae pobl oedrannus sydd fwy neu lai dim ond yn gallu ymdopi gartref gyda chymorth gofal cymunedol, yn y pen draw yn mynd i gartref gofal ar ôl llawdriniaeth lwyddiannus. Ac roedd gen i un etholwr na fu'n rhaid iddo fynd i gartref, diolch byth, oherwydd ei fod yn yr ysbyty am wythnos yn unig—fe ddaeth yn ôl ar ôl colli 10 pwys, ac roedd yn ei chael hi'n anodd iawn symud o amgylch, ond fe wellodd. Pe byddai wedi bod yn yr ysbyty am saith diwrnod arall, rwyf bron yn sicr y byddai wedi gorfod mynd i gartref nyrsio. A dyma le ceir un o'r problemau rwy'n credu: rydym ni'n trin rhannau o'r person, nid y person cyfan. Rwy'n siŵr petaech chi'n gofyn i lawer o bobl oedrannus ddewis rhwng parhau mewn poen oherwydd eu pen-glin neu fynd i gartref nyrsio, y bydden nhw'n dewis parhau i fyw gydag ychydig o boen yn eu pen-glin.

Nododd y diweddar Dr Julian Tudor Hart, gydag eraill, wariant ar bethau fel lleihau pwysedd gwaed a oedd dim ond wedi codi ychydig, rhywbeth nad oedd yn gwneud dim lles amlwg i'r claf, ac eto rydym ni'n dal i dalu symiau sylweddol am y feddyginiaeth. Fe nododd y Prif Weinidog, pan oedd yn Ysgrifennydd iechyd, gyfraddau ymyrryd gwahanol ar gyfer tynnu tonsiliau a gafwyd mewn dwy ardal yn yr un bwrdd iechyd—roedd yn ddwywaith mwy tebygol i donsiliau gael eu tynnu yn un nag yr oedd yn y llall.

Cyflwynodd Sefydliad Nuffield ymchwil yn dangos y bu gostyngiad o dros 25 y cant yng nghyfanswm y nifer o dderbyniadau cleifion mewnol fesul meddyg gwasanaethau iechyd ysbytai cymunedol rhwng 1999 a 2000 a rhwng 2011 a 2012. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw iechyd yn bwysig, ond y mae byrddau iechyd yn tueddu i weithredu mewn gwactod, ac mae llawer iawn o bethau eraill yn digwydd y mae angen ymdrin â nhw. Nid oes amser imi ymhelaethu ar y datganiad hwn, ond rwy'n credu bod strwythur presennol y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn llai na'r optimwm.

Ynghylch gweddill y gyllideb, mae llywodraeth leol yn parhau i fod o dan bwysau, er ei bod yn darparu gwasanaethau a all wella ffordd o fyw ac felly, iechyd. Mae pwysigrwydd gofal cymunedol er mwyn galluogi pobl i adael yr ysbyty a hefyd i'w cadw allan o'r ysbyty—. Rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio'r gwaith a wneir gan nifer â chyflogau cymharol isel, menywod yn bennaf, yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol, sy'n cadw pobl yn eu cartrefi ac yn cynnig ffordd o fyw dda iddyn nhw. Rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio pa mor ddefnyddiol ydyn nhw, ac yn anffodus, oherwydd pwysau cyllideb, mae gormod o'r rheini wedi symud allan o gyflogaeth uniongyrchol yr awdurdodau lleol ac wedi symud i'r sector preifat.

Hefyd, mae llywodraeth leol yn darparu'r gwasanaethau a ddefnyddiwn yn barhaus: y ffyrdd, y palmentydd, casglu sbwriel, glanhau strydoedd, parciau, llyfrgelloedd, yn ogystal ag addysg. Dyna'r ffordd mewn gwirionedd i lawer o bobl wella eu ffyrdd o fyw a'u cyfleoedd bywyd nhw a'u teuluoedd. Rwy'n credu bod angen inni sôn mwy am ddarparu adnoddau ychwanegol i addysg, fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i wneud y gorau y gall.

16:55

Rwy'n falch iawn o ddilyn Mike Hedges oherwydd rwy'n credu iddo wneud rhai pwyntiau pwysig iawn, yn ogystal â rhai synhwyrol iawn am yr angen i wario mwy ar iechyd ataliol, er mwyn inni leihau'r baich y mae'r GIG yn mynd i'w ddioddef yn y dyfodol. Hoffwn i weld, fel y byddai ef, y flaenoriaeth a roddir i wariant yn y maes hwn yn cynyddu o fewn cyllideb bresennol Cymru.

Dylwn i hefyd groesawu'r Gweinidog Cyllid i'w swydd—nid wyf i'n credu fy mod wedi cael y cyfle i gofnodi hynny yn y Siambr hyd yn hyn—a'i llongyfarch hi ar ei cham cyntaf llawn sicrwydd a wnaeth hi, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon heddiw. Dymunaf yn dda iddi yn ei swydd, a gobeithio y byddaf yn gallu parhau â'r trefniant adeiladol a oedd gennyf gyda'i rhagflaenydd pan oedd yn Weinidog Cyllid, pryd, er gwaethaf ein safbwyntiau gwleidyddol gwahanol, y gallwn ni serch hynny ymuno gyda'n gilydd i geisio sicrhau lles cyffredin pawb yn ein gwlad.

Yn erbyn y cefndir, wrth gwrs, o gyni fel y'i gelwir, ac o ystyried natur y sefyllfa bresennol, pan fo Llywodraeth Cymru yn hynod ddibynnol ar grant bloc o San Steffan, mae'r rhyddid sydd gan Weinidog Cyllid Cymru yn anochel yn gyfyngedig, ac mae'r eitemau mawr bob amser yn mynd i lowcio cyfran fawr o'r gyllideb. Iechyd erbyn hyn yw hanner y gyllideb, fwy neu lai. Mae llywodraeth leol yn cael £4 biliwn o'r gyllideb bresennol ac mae £4 biliwn arall yn mynd i addysg. Nid oes llawer y gellir ei wneud ynglŷn â'r ffigurau hynny, felly'r hyn yr ydym ni'n dadlau yn eu cylch yn y dadleuon hyn ar gyllideb, yn gyffredinol, yw'r lleiafrif bach iawn o brosiectau gwario dewisol y mae'n rhaid i'r Gweinidog Cyllid benderfynu arnyn nhw.

Yn bersonol, nid wyf yn credu bod polisi cwtogi'r Llywodraeth—polisi Llywodraeth y DU hynny yw—yn ddewis gwleidyddol. Rwy'n credu ei fod yn gwbl hanfodol. Yn 2010, roedd y Llywodraeth yn benthyca swm bob blwyddyn yn cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Roedd hynny'n amlwg yn gwbl anghynaliadwy, a dros y blynyddoedd bu'n rhaid iddo gwtogi'n barhaus. Eleni, mae'n 2 y cant sy'n fwy cynaliadwy. Nid wyf yn ystyried benthyca ffigur o 2 y cant o gynnyrch domestig gros yn gyni. Dyna'r cyfartaledd tymor hir a gafodd Llywodraeth Prydain. Byw yn ôl eich gallu yw hynny, rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ei wneud yn y pen draw, oni bai eich bod am ddilyn y math o bolisi a welid yn Zimbabwe sef yn syml, argraffu arian, sy'n dinistrio'r economi yn y pen draw, oherwydd ymhen amser, wrth gwrs, rydych chi'n rhedeg allan o arian pobl eraill i'w wario mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod polisi o bwyll, sef yr hyn a bregethodd Gordon Brown 20 mlynedd yn ôl cyn gwyro oddi wrtho'n drychinebus ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon, yn bolisi sy'n angenrheidiol. Wedi dweud hynny, mae Cymru wedi llithro i lawr y raddfa, fel y nodwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod Gareth Bennett, adeg y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae hi'n gorwedd ar waelod y rhestr o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, ac mae Gogledd Iwerddon wedi mynd heibio iddi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. A cheir pocedi sylweddol o dlodi yng Nghymru o hyd—Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig, ond hefyd mae'n un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop—ac mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y bydd y ddegfed ran dlotaf o aelwydydd yng Nghymru £30 yr wythnos yn well eu byd o ganlyniad i'r newidiadau treth a budd-dal yn 2019-20, sydd yn gynnydd o 0.33 y cant, tra bydd y ddegfed ran fwyaf cyfoethog £410 yr wythnos yn well eu byd—cynnydd o 41 y cant.

Felly, o ran anghydraddoldeb, mae Cymru mewn gwirionedd yn mynd tuag yn ôl yn hytrach nag ymlaen, ac mae gan Lywodraeth Lafur Cymru bolisi o geisio lleihau anghydraddoldeb, ond nid yw hynny'n digwydd. Rydym ni'n gwybod, fel y nodwyd yn gynharach gan Leanne Wood yn ei chwestiynau, y ceir pocedi o ddiweithdra yng Nghymru sy'n sylweddol iawn. Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2018, roedd diweithdra yn uwch o lawer na chyfartaledd Cymru, Rhondda Cynon Taf yn 7.2 y cant, Caerffili yn 7 y cant, a Chaerdydd, er syndod, yn 6.8 y cant. Mae'n arbennig o uchel ymhlith dynion ifanc—14.7 y cant ar gyfer Cymru, yn codi i bron i un o bob pedwar o bobl 16 i 24 oed yn Rhondda Cynon Taf, a 21.6 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Felly, mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd fel Llywodraeth yng Nghymru, i drechu tlodi a thlodi cymharol hefyd. Yr unig ffordd y gallwn ni wneud hynny, fel y crybwyllodd Mark Drakeford yn ei ymateb i Gareth Bennet yn gynharach, ac fel yr wyf i wedi ei argymell sawl gwaith o'r blaen, yw tyfu economi Cymru drwy ddefnyddio pwerau trethu newydd sydd gennym mewn modd llawn dychymyg i greu cyfoeth—i annog mwy o bobl gyfoethog i ddod i Gymru, os mynnwch chi—ac i sefydlu busnesau ac ehangu busnesau sy'n bodoli eisoes. Hanner can mlynedd yn ôl, roedd Singapôr yn ynys fechan ger Malaysia ag incwm cyfartalog o $500 y flwyddyn; eleni, yr incwm cyfartalog yn Singapôr, y wlad gyfoethocaf yn y byd, yw $55,500. Ni ddigwyddodd hynny drwy ddamwain; fe ddigwyddodd oherwydd polisïau Llywodraeth Singapôr.

Felly, cymeradwyaf y Gweinidog Cyllid ar ei dechrau addawol, a gobeithio y bydd hi efallai yn ystyried rhai o'r pwyntiau a godais i, a byddwn yn gallu cytuno ar fwy yn y blynyddoedd i ddod.   

17:00

A gaf i ddechrau drwy ganmol, yn gyffredinol, y llaw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae, nid yn unig yn y gyllideb derfynol, ond yn ystod y flwyddyn hon? Mae wedi bod yn anodd iawn. Gallwch chi ond chwarae'r llaw a roddwyd i chi, ac rydym ni'n dal—nid yw hwn yn bwynt gwleidyddol; mae'n realiti llym—ar gynffon hir cyni. Mae gennym ni gyllideb sy'n dirywio na allwch chi ei defnyddio ond mewn nifer penodol o ffyrdd, fel y mae Neil Hamilton newydd ei ddweud. Mae'n rhaid ichi wneud rhai dewisiadau anodd iawn iawn. Ond yr hyn sydd wedi ychwanegu at yr anhawster eleni yw'r ffaith—ac mae'n ddiddorol gweld hyn o safbwynt rhywun sydd yn teithio i lawr yr M4 i ddod i'r sefydliad democrataidd hwn—bod y mwg a'r drychau hyd yn oed yn fwy amlwg pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad mawr am fuddsoddiad mewn llywodraeth leol neu mewn gofal iechyd ac ati, ac yna fe fyddwch yn canfod, wel, mewn gwirionedd maen nhw eisoes wedi dyrannu rhannau sylweddol o hynny i hwn a'r llall. Felly nid oes gan Lywodraeth Cymru rwydd hynt i'w ddefnyddio fel y mynna, maen nhw wedi ei dorri eisoes.

Felly, mewn gwirionedd, wrth inni gyrraedd y gyllideb derfynol, mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithaf anodd i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddelio â'r cymhlethdod hwnnw, y mwg a'r drychau, ac i wneud rhai dewisiadau anodd iawn. Nawr, rwy'n cytuno â phwynt Mike, mae hwn yn faes anodd iawn o hyd i lawer o sefydliadau'r sector cyhoeddus, yn bennaf llywodraeth leol. Ond yn y llaw a gafodd ei rhannu, rwy'n credu gwnaed rhai penderfyniadau anodd ond rhai deallus. Nid yw wedi bod yn hawdd.

Ond hoffwn i droi at ambell un o'r rhai llai, yn gyntaf oll, oherwydd o fewn hyn ceir rhai clapiau gwerthfawr hefyd. Un o'r rhai diddorol—£5 miliwn ychwanegol i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed genedlaethol—a gaf i wneud apêl yn y fan hyn? Fe wn y cafodd ei grybwyll, wn i ddim pa un ai cellwair oedd ai peidio, ond ceir hen draddodiad ym maes democrateiddio'r celfyddydau i fynd â'r celfyddydau i'r mannau annisgwyl, ac nid oes rhaid iddo fod yn y Guggenheim yn Bilbao. Gall fod yn orielau celf Whitehall a roddwyd yn fwriadol mewn ardaloedd lle y byddai pobl dosbarth gweithiol yn cael profiad o'r gelfyddyd orau. Neu Tracey Emin yn mynd â'i horiel allan o Lundain i Margate. Wel, fe ddywedaf hyn wrthych chi, ewch â hi i Bort Talbot. Mae rhyw 20 munud i lawr y ffordd o'm lle i, ond dyma'r union boblogaeth—[Torri ar draws.] Ie, ac mae'r cyhoeddusrwydd oherwydd Banksy yn helpu gyda hyn. Ond ewch â hi i le fel yna. Ewch â'r gelf at y bobl; democrateiddiwch y gelfyddyd. Peidiwch â mynd â hi i'r lleoedd arferol ac at y bobl arferol; ewch â hi i rywle arall. Defnyddiwch yr astudiaeth ddichonoldeb honno yn ddoeth. Gallwch wneud rhai pethau anhygoel gyda symiau cymharol fach o arian yma.

Mae rhywfaint o arian yma i gefnogi plannu coed yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn dweud, 'Wel, dyna braf iawn' ac ati. Ond os edrychwch ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yng nghwm Llynfi uchaf gyda Choetir Ysbryd Llynfi, gydag ychydig o blannu coed ynghyd ag ymgysylltu â chwe phractis meddyg teulu mewn clwstwr, ochr yn ochr ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, ochr yn ochr â gweuwyr a gwniadwyr, brasgamwyr ac ati, mae'n cael effaith ar y cymunedau 20:20 sydd gennym ni, lle ceir gwahaniaeth o 20 mlynedd yn y gyfradd marwolaethau rhwng pen uchaf Llynfi a Phorthcawl. Y math hwnnw o arian, yn cael ei fuddsoddi'n ddoeth—gall symiau bach wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

A gaf i siarad hefyd o blaid Cyfoeth Naturiol Cymru am unwaith, oherwydd ei fod yn dod dan y lach yn aml yma? Fe wn i am bobl sy'n gweithio yng nghrombil Cyfoeth Naturiol Cymru ac maen nhw'n amgylcheddwyr brwd ac ymroddedig. Y swm o arian—wel, mae wedi bod yn ergyd drom, ond bydd hyn yn gwneud rhywfaint o les i ysbryd y bobl hynny, oherwydd eu bod nhw'n teimlo'n angerddol ynghylch ein bioamrywiaeth, ynghylch mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, am y rhywogaethau sydd gennym ni yn ein hamgylchedd morol a daearol. Mae'n dda gweld y symiau hyn o arian—hyd yn oed rhai Llangrannog a Glan-llyn, a minnau'n rhywun a aeth yno fel bachgen ifanc a gollodd canŵ i waelod y llyn yn y Bala hefyd. [Chwerthin.] Rhyfeddol, gan iddyn nhw ddweud na fyddai'r canŵ hwn yn suddo, roedd fel y Titanic, roedd yn llawn ewyn. Wel, fe ddangosais i eu bod nhw'n anghywir—i lawr i'r gwaelod â fe.

Ond er nad yw'n mynd i fod yr ateb—ac rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaeth Rhianon yn hyrwyddo achos cerddoriaeth a cherddoriaeth mewn addysg a cherddoriaeth mewn cymunedau hefyd, a hefyd Beverley Humphreys, Beverley Humphreys o Beverley's World of Music ar nos Sul ar BBC Radio Wales. Fel y dywed hi'n aml o'i llwyfan, mae pobl yn mynd i gysgu gyda hi ar nos Sul. Nawr, Beverley sy'n dweud hynny, nid fi, iawn, o'r gorau. [Chwerthin.] Ond mae hi hefyd—pa bryd bynnag y mae hi'n sefyll yn y neuadd ym Mhorthcawl, yn Neuadd y Dref Maesteg ac ati, mae hi bob amser yn hybu'r achos hwn yn gryf. Nawr ni fydd y swm hwnnw'n newid y byd, ond mae'n gyfraniad a tybed, pan fyddwn yn ei roi ochr yn ochr â gwaith pobl fel ffrindiau, grwpiau ffrindiau sydd wedi dod ymlaen i roi arian tuag at addysg gerddorol ac ati, onid oes cymaint yn fwy y gallwn ei wneud â hynny.

Ond yr wyf am droi yn fyr iawn—. O ran awdurdodau lleol, mae croeso iddo—yr arian ychwanegol a gafodd ei wasgu allan o hyn. Rwy'n credu bod angen inni ddweud wrth awdurdodau lleol hefyd: gwnewch y gorau o'r arian sy'n mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Ond rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod eu bod mewn cyfnod anodd, ac fe fyddwn i'n annog y Llywodraeth, hyd yn oed gyda'r setliad cyllido a gawsom ni yma, i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac i ddod o hyd i ffyrdd, nid yn unig ffyrdd cyllido ond ffyrdd creadigol, llawn dychymyg i wneud adnoddau fynd ymhellach. Rwy'n credu bydd hynny'n gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru, cymorth partneriaeth ranbarthol, cymorth consortia a gwneud pethau'n wahanol yn ogystal â rhoi arian yno. Diolch Dirprwy Lywydd.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu y daeth sawl thema allweddol i'r amlwg yn ystod y ddadl. Wrth gwrs, y cyntaf fyddai cyni, oherwydd bod y pwysau a orfodwyd arnom gan bron i ddegawd o ideoleg crebachu'r wladwriaeth drwy gyni Llywodraeth y DU wedi bod yn niweidiol iawn. Mae yna hualau cadarn ar ein gallu i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Rydym ni wedi defnyddio'r ychydig arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu, ond wrth gwrs nid ydym ni wedi gweld diwedd ar gyni, fel yr addawodd y Prif Weinidog.

Mewn ymateb i Nick Ramsay, gallaf roi sicrwydd ein bod wedi defnyddio'r arian canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn benodol i agor ac ehangu ein cynlluniau rhyddhad ardrethi, yr ydym yn eu darparu i fusnesau bach, oherwydd ein bod yn cydnabod pa mor bwysig ydyn nhw, nid yn unig i'r stryd fawr ond i economïau lleol yn ehangach. Byddwn yn gwrthod unrhyw awgrym ein bod yn trosglwyddo'r bai, oherwydd y gwir amdani yw pan fyddwch yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n teimlo baich ac effeithiau cyni ar eu bywydau, rwy'n credu nad oes angen mynd ymhellach na'r banciau bwyd sy'n ymddangos, ar hyd a lled ein gwlad, i siarad â phobl sy'n sicr yn gwbl bendant yn teimlo effeithiau cyni. Nid oes diddordeb ganddyn nhw pwy sydd ar fai, mae diddordeb ganddyn nhw yn yr hyn sydd orau ar gyfer eu teuluoedd a sut y gallan nhw ddiwallu anghenion eu teuluoedd heb fynd i drafferthion.

Rydym ni'n clywed yn aml gan y Ceidwadwyr sut y mae gennym ni'r gyllideb fwyaf o ran arian parod. Wrth gwrs, mae'n wir mai cyllideb 2019-20 yw'r uchaf erioed o ran arian parod, ond mae'n ddatganiad cwbl ddiystyr oherwydd ers 1948—sef, y 70 mlynedd diwethaf—mae gwariant y sector cyhoeddus ar draws y DU wedi cynyddu o ran arian parod bob blwyddyn ac eithrio un, felly, yn hynny o beth, mae pob blwyddyn bron yn flwyddyn â gwariant cyhoeddus y DU yn uwch nag erioed o'r blaen, ar y sail honno. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae dyraniad cyllideb y DU i Gymru, mewn gwirionedd, wedi gweld gostyngiadau arian parod yn nhair o'r 10 mlynedd ddiwethaf, felly mae hynny'n rhoi'r heriau sy'n ein hwynebu mewn rhyw fath o bersbectif.

Yr ail thema, mewn gwirionedd, fyddai Brexit, ac rydym wedi sôn llawer amdano yn ystod y prynhawn. A bydd degawd o gyni ynghyd â bygythiad cynyddol ddifrifol y cawn Brexit 'dim cytundeb' yn cael effaith drychinebus ar Gymru. Rydym wedi clywed heddiw am rai o'r cynlluniau parhaus ond hefyd am rywfaint o'r ansicrwydd parhaus, sydd mewn gwirionedd yn amharu ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Ond fe wnawn bopeth yn ein gallu i ddiogelu busnesau a chymunedau rhag yr effaith bosibl ar ein gwlad. Ac, wrth gwrs, rwyf wedi cyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol y prynhawn yma.

Y drydedd thema, mewn gwirionedd, yw ansicrwydd, ac mae'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn waeth yn sgil yr ansicrwydd ehangach sy'n deillio o ddiffyg gweithredu a rhagofal Llywodraeth y DU. Nid oes gennym setliad cyllido y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, ac yn amlwg, byddwn wedyn yn wynebu adolygiad cynhwysfawr o wariant ac, o bosibl, gyllideb frys gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny yn amlwg yn cyfyngu ar ein gallu i gynllunio ymlaen llaw a darparu sefydlogrwydd i bobl a sefydliadau sy'n dibynnu ar ein cefnogaeth.

A'r bedwaredd thema, ac rwy'n credu ei bod wedi ymddangos yn gryf iawn yn y ddadl hon, yw buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn parhau i gyflawni mewn cyfnod anodd, a bydd y cynnig sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn sicrhau cyllideb sy'n darparu rhywfaint o ddiogelwch ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym yn buddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth: iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol. Ac rwyf yn cydnabod yn llwyr yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol, ac rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod Julie James yn siarad am hyn nesaf yn y Cynulliad.

Ond mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r ddadl, mewn gwirionedd, bod iechyd a llywodraeth leol yn gwbl groes i'w gilydd, o gymorth, yn fy marn i, oherwydd mae'r ddau beth yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am grybwyll byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r gwaith pwysig sy'n digwydd yn y fan honno ynghylch cyfuno cyllidebau a gwneud y mwyaf o'r adnoddau a meddwl yn greadigol a gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Ac rwy'n credu mai dyna le y dylem ni droi mwy o'n sylw ato yn y dyfodol.

Rwy'n derbyn yn llwyr y pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid o ran amseriad ymatebion y Llywodraeth i'r pwyllgor craffu, ac fe fyddwn i'n barod i gael trafodaeth bellach ar hynny. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid wedi nodi y byddai'n well ganddo barhau â'r arfer presennol sydd gennym ni o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft cyn cyllideb yr hydref. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn hapus i ystyried awgrymiadau gan y Pwyllgor Cyllid pe byddai'n well ganddo wneud hynny mewn ffordd wahanol, ond rwy'n credu, yn yr Alban, er enghraifft, eu bod yn cyhoeddi eu cyllideb ar ôl datganiad yr hydref. Ein pryder fyddai y byddai'r math hwnnw o oedi yn gwneud pethau'n anoddach i'r partneriaid sydd gennym ni, ond beth bynnag am hynny, mae angen inni sicrhau ymatebion prydlon i bwyllgorau.

Felly, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd ac, wrth wneud hynny, byddwn i'n awyddus iawn i barhau â'r ymgysylltiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o ran pennu cyllidebau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael rhai trafodaethau da eleni ac y bu nhw'n gweithio gyda'i gilydd ar sut yr ydym yn diffinio 'gwariant ataliol', er enghraifft. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae gennym ni ddiddordeb ynddo ar draws y Llywodraeth.

Felly, i gloi, mae hon yn gyllideb sy'n diwallu anghenion pobl Cymru, ac mae'n atgyfnerthu ein gweledigaeth i greu Cymru well, Cymru sy'n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithredol, yn weithredol o ran dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig, a bod ffyniant wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'n gyllideb sy'n diogelu yn wyneb y polisi cyni niweidiol ac yn gyllideb sy'n darparu sefydlogrwydd yn wyneb yr ansicrwydd parhaus a'r posibilrwydd o gael Brexit 'dim cytundeb' trychinebus. Mae'n gyllideb sy'n gwerthfawrogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac sy'n buddsoddi ynddyn nhw ac mae'n gyllideb yr wyf i'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo'r prynhawn yma. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig ichi.

17:10

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17:15
7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar setliad llywodraeth leol 2019-20, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM6903 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2019-2020 (Setliad Terfynol—Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fy nghyfrifoldeb i yw cyflwyno setliad llywodraeth leol 2019-20 ar gyfer y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru i'r Cynulliad. Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon, rwy'n dilyn cyfres hir o Weinidogion llywodraeth leol sydd wedi annerch y Cynulliad hwn. Rydym ni i gyd yn deall mai dim ond pan fo yna ddemocratiaeth leol fywiog sy'n ymgysylltu â chymunedau lleol y gall Cymru a'i holl gymunedau gyflawni eu potensial llawn.

Mae angen awdurdodau lleol deinamig arnom ni sy'n gallu denu buddsoddiad, gwella mannau lleol a sicrhau'r gofal yr ydym ni i gyd eisiau ei roi i'n gilydd. Yn y cyd-destun hwn, nid yw'n bleser gen i gynnig wrth y Cynulliad hwn y bydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i awdurdodau lleol Cymru, yn 2019-20, yn 0.2 y cant. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn her i awdurdodau lleol barhau i wneud mwy â llai, ac rwy'n cymeradwyo sut maen nhw wedi gwneud hynny'n union dros y degawd diwethaf o gyni. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod Aelodau'r Cynulliad wedi dod i'r ddadl hon yn barod i gefnogi'r achos dros roi mwy o adnoddau i awdurdodau lleol. Mae Aelodau'r Cynulliad yn dymuno dyrannu rhagor o arian i'w cymunedau, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, ond, yn anffodus, ni all Llywodraeth Cymru gynhyrchu'r adnoddau hynny.

Clywsom yn y ddadl gynharach ynglŷn â'r gyllideb derfynol, yn ystod y degawd diwethaf o gyni, y bu gostyngiad o £850 miliwn mewn arian parod yng nghyllideb Cymru, sef gostyngiad o 7 y cant mewn adnoddau real. Er ein bod ni dros y degawd wedi mynd i drafferth fawr i ddiogelu'r setliad llywodraeth leol, yn anochel, mae llywodraeth leol Cymru yn dioddef o effaith Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd ag ymrwymiad ideolegol i leihau maint y wladwriaeth. Mae gennym ni bartneriaeth gadarn â llywodraeth leol yng Nghymru lle'r ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddyrannu'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Rwy'n talu teyrnged i'r bobl hynny sydd mewn llywodraeth leol a fy swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n galed gyda'i gilydd i ganiatáu imi gynnig y setliad hwn. Ac i fy rhagflaenydd, Alun Davies, mewn gwirionedd, a weithiodd yn galed iawn hefyd i ddod â'r setliad hwn i'r fan lle y cymerais i'r cyfrifoldeb amdano.

Y flwyddyn nesaf, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael dros £4.2 biliwn o ddyraniadau refeniw cyffredinol o'r cyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 y cant o'i gymharu â 2018-19. Mae dosbarthiad y cyllid hwn yn adlewyrchu'r asesiad mwyaf diweddar o angen cymharol sy'n seiliedig ar wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru. Wrth baratoi'r setliad terfynol, mae'r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro a ddaeth i ben ar 20 Tachwedd. Rydym ni hefyd wedi gwrando ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb. Roedd y setliad dangosol gwreiddiol ar gyfer 2019-20 yn rhagweld y byddai gostyngiad o 1 y cant mewn arian parod, gostyngiad o £43 miliwn. Cyfeiriodd awdurdodau lleol yn briodol at raddfa'r her yr oedd hyn yn ei chyflwyno a'r effaith ar wasanaethau y mae pobl eu hangen ac yn eu gwerthfawrogi.

Rydym ni wedi gwneud amryw o ddyraniadau eraill i'r setliad llywodraeth leol i liniaru'r gostyngiad y mae llywodraeth leol wedi bod yn ei ddisgwyl. Yn y setliad drafft a gyhoeddwyd ar 9 Hydref, neilltuwyd £43 miliwn o gyllid ychwanegol. Roedd hwn yn cydnabod yn benodol y flaenoriaeth yr ydym ni a'r cynghorau yn ei rhoi i wasanaethau cymdeithasol ac addysg a'r pwysau a'r costau penodol y mae'r gwasanaethau hyn yn eu hwynebu yn sgil galw cynyddol a chostau cyflog. O'i gymharu â'r setliad dros dro, mae'r setliad terfynol ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £23.6 miliwn ychwanegol o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys £13 miliwn i gefnogi gwasanaethau lleol yn gyffredinol, gan gydnabod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Cynulliad; £1.2 miliwn i ddarparu terfyn isaf gwell i'r setliad; £7 miliwn bob blwyddyn i gefnogi'r cynnydd yn y terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 o fis Ebrill 2019—mae hyn yn golygu bod darpariaeth ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i godi'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 yn dod i ben ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl—a £2.4 miliwn i ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol ar gyfer busnesau lleol a threthdalwyr eraill i ymateb i faterion lleol penodol. Mae hyn yn ychwanegol at ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr.

Mae'r arian ychwanegol yn golygu bod y Llywodraeth wedi gallu diwygio ymhellach y trefniadau terfyn isaf fel nad yw'r un awdurdod bellach yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.3 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol ar sail tebyg am debyg. Mae'r terfyn isaf yma o £3.5 miliwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Pan rydym ni wedi gofyn i awdurdodau lleol weithredu â llai o adnoddau real, rydym ni wedi cydnabod y cyflawnir hyn orau drwy gydbwyso'r grant cymorth refeniw heb ei neilltuo a grantiau wedi'u neilltuo i gyflawni canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rydym ni'n parhau i wneud hyn, ac mae'r setliad yn cynnwys £20 miliwn i helpu bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r grant penodol o £30 miliwn.

Rydym ni'n falch bod Llywodraeth y DU wedi crybwyll y bydd yn rhoi mwy o amser i asesu a gwerthuso ei chynlluniau ar gyfer symud hawlwyr budd-daliadau etifeddol i gredyd cynhwysol yn raddol. Rydym ni'n aros am ragor o fanylion am y cyfnod arbrofi. Rydym ni'n deall, ar hyn o bryd, bod Llywodraeth y DU yn dal yn bwriadu cyflwyno credyd cynhwysol erbyn Rhagfyr 2023.

Yn unol â'r cynigion yn ein hymgynghoriad diweddar, rydym ni'n sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol, drwy'r setliad, ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'n trothwy arfaethedig a'r camau pontio er mwyn diogelu. Rydym ni hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol sy'n deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy'r dyfarniad cyflog athrawon. Rydym ni'n cyfeirio'r cyfan o'r £23.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 13 Medi i lywodraeth leol. Ar gyfer 2018-19, bydd £8.7 miliwn ar gael drwy grantiau penodol, mae £13.7 miliwn wedi'i gynnwys yn y setliad ar gyfer 2019-20 ar gyfer ysgolion a gynhelir o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 11, a bydd y £1.1 miliwn sy'n weddill yn parhau i gael ei ddarparu y tu allan i'r setliad fel grant penodol ar gyfer athrawon chweched dosbarth mewn ysgolion ar gyfer blynyddoedd 12 a 13. Rydym ni hefyd yn darparu £7.5 miliwn y tu allan i'r setliad i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â phwysau costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r dyfarniad cyflog athrawon.

Gan droi at arian cyfalaf cyffredinol, bydd awdurdodau lleol yn cael £100 miliwn ychwanegol mewn grant cyfalaf cyffredinol dros y tair blynedd nesaf—mae'n ddrwg gen i, Mike, wnes i ddim eich clywed chi.

17:20

Rydych chi wedi sôn llawer am gyflogau athrawon, ac rwy'n credu bod pawb yn falch iawn am hynny. Nid ydych chi wedi sôn am bensiynau athrawon, sydd—

Gan droi at arian cyfalaf cyffredinol, bydd gan awdurdodau lleol £100 miliwn ychwanegol mewn grant cyfalaf cyffredinol dros y tair blynedd nesaf: £50 miliwn yn 2018-19, £30 miliwn yn 2019-20 ac £20 miliwn yn 2020-21. Mae'r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2019-20 wedi cynyddu felly i £173 miliwn. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ariannu yn y dyfodol o ran blaenoriaethau gwario cyfalaf yr awdurdodau eu hunain ar gyfer y tymor canolig. Hefyd, rydym ni'n darparu £60 miliwn dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu priffyrdd cyhoeddus awdurdodau lleol. Mae hyn i helpu atgyweirio'r difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a'r cyfnod poeth yn ystod yr haf.

Ar 3 Hydref, fe wnaethom ni gyhoeddi ein bod yn uno nifer o grantiau a byddwn yn sefydlu grant plant a chymunedau a grant cymorth tai sengl o 1 Ebrill 2019. Mae hwn yn dod â 10 grant penodol at ei gilydd i ddim ond dau gynllun, gan roi hyblygrwydd i awdurdodau lleol a helpu i leihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig ag arian grant. Drwy gydbwyso'r cynnydd yn y grantiau wedi'u neilltuo a heb eu neilltuo i gyflawni'r canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol a symleiddio'r grantiau penodol, rydym ni'n caniatáu i awdurdodau lleol reoli eu hadnoddau cyfyngedig yn y ffordd fwyaf hyblyg.

Mae'n ddrwg gen i, Mike, rwyf newydd sylweddoli, fy mod i'n bwriadu ymdrin â'r sylw a wnaethoch chi yn fy sylwadau i gloi, ond dim ond i ddweud y byddwn yn ei drafod bryd hynny os na chaiff sylw yn y cwestiynau.

I gloi, nid wyf yn honni bod hwn yn setliad da i lywodraeth leol; rwy'n honni mai dyma'r gorau posib yn yr amgylchiadau o ran y gostyngiad parhaus yng nghyllideb Cymru. Mae'r dosbarthiad a'r blaenoriaethau yn y setliad yn brawf o'r gwaith caled sy'n digwydd yn ein partneriaeth â llywodraeth leol ac yn y gwaith craffu y mae'r Cynulliad yn ei wneud. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Boed yn darparu gwasanaethau ataliol, hybu'r economi leol, darparu addysg, gofal cymdeithasol a chanolfannau hamdden neu gasglu biniau, mae llywodraeth leol gydnerth yn hanfodol. Disgrifiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y setliad llywodraeth leol cychwynnol fel, ac rwy'n dyfynnu:

'canlyniad siomedig iawn i gynghorau ledled Cymru gyda'r goblygiadau mwyaf difrifol i...wasanaethau.'

Mewn llythyr a lofnodwyd gan gynrychiolwyr o bob grŵp gwleidyddol, dywedodd arweinydd grŵp Ceidwadol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y cynghorydd Peter Fox:

'Gyda £370 miliwn o arian newydd yn dod o San Steffan, roedd angen dull dychmygus o ariannu gwasanaethau ataliol i gadw pobl allan o ysbytai. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o 7% i'r GIG ac wedi torri cyllidebau'r cynghorau.'

A dywedodd wedyn

'Mae'r gyllideb hon yn llawn meddylfryd llipa a hen ffasiwn.'

Rhybuddiodd hefyd bod y sefyllfa'n dod yn economi ffug.

Gyda rhaniad clir rhwng y de a'r gogledd, byddai pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd wedi gweld toriad o 0.5 y cant o leiaf a thri wedi gweld toriad o 1 y cant. Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dilyn hynny, diolch i gyllid ychwanegol gan Ganghellor y DU, bod terfyn isaf y cyllid wedi ei gynyddu o -1 y cant i -0.5 y cant ac y byddai £13 miliwn ychwanegol yn mynd â chyfartaledd Cymru i setliad arian safonol, dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy'n dyfynnu:

'Er gwaethaf y cyhoeddiad hwn sydd i'w groesawu, nid oes amheuaeth bod hwn yn setliad ariannol arbennig o heriol.'

Heblaw am sir Ddinbych, sydd bellach yn cael setliad safonol, mae holl gynghorau'r gogledd yn cael toriad, ac mae'r toriadau mwyaf yn sir y Fflint, Conwy ac Ynys Môn, ochr yn ochr â sir Fynwy a Phowys ar 3 y cant. Felly, y cynghorau hynny sy'n derbyn y cyllid isaf fesul unigolyn o dan fformiwla ddiffygiol Llywodraeth Cymru fydd, unwaith eto, yn y sefyllfa waethaf, a bydd talwyr y dreth gyngor, sydd eisoes yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, yn gorfod ysgwyddo'r baich.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r bai ers amser drwy ddatgan bod cynghorau yn Lloegr yn waeth eu byd nag y mae cynghorau yng Nghymru. Yr hyn nad ydyn nhw'n ei ddweud yw ei bod hi'n amhosib gwneud y gymhariaeth hon, oherwydd bod gwahaniaeth sylweddol wedi datblygu ym mholisi ariannu llywodraeth leol rhwng y ddau ers datganoli, gyda, er enghraifft, cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion yn Lloegr yn unig. Nid ydyn nhw'n addasu eu ffigurau ar gyfer hynny nac unrhyw beth arall, oherwydd, wrth gwrs, maen nhw yma i ymateb yn erbyn Llywodraeth y DU yn unig yn hytrach na llywodraethu er budd gorau Cymru. Maen nhw hefyd yn osgoi'r ffaith y rhoddir £1.20 i Gymru ar hyn o bryd am bob £1 a gaiff ei wario gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr ar faterion sydd wedi eu datganoli yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae'r Trade Unionist and Socialist Coalition, prif gefnogwyr Jeremy Corbyn, wedi dweud yn ddiweddar

'nid oes gan unrhyw gyngor a arweinir gan y blaid lafur gronfeydd wrth gefn mor annigonol na ellid eu defnyddio i gynhyrchu'r adnoddau ar gyfer cyllideb heb unrhyw doriadau ar gyfer 2019-20.'

Wel, yng Nghymru, mae gan gynghorau Llafur sy'n cael y setliad uchaf yn y gyllideb hon dros £800 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio

Er bod Llywodraeth Cymru wedi canmol y gyllideb hon fel un â phwyslais ar atal, mae ei darpariaeth wedi methu â gwario'n well ar atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn gwella bywydau ac arbed arian. Er y dyrannwyd £30 miliwn ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i ddarparu gofal a chymorth ataliol cydgysylltiedig, mae hyn y tu allan i'r grant cynnal refeniw llywodraeth leol, sy'n golygu nad oes gan gynghorau fawr ddim gallu i fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn. Yn ogystal â hyn, cafwyd amrywiaeth o doriadau mewn termau real i iechyd y cyhoedd a rhaglenni atal, ac i sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau ataliol allweddol. Ac mae cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol wedi dweud bod y trydydd sector wedi'i ystyried yn rhan lai allweddol heb lawer o gyfraniad strategol neu ddim.

Mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol, nad yw wedi ei adolygu'n annibynnol ers 17 mlynedd, yn rhy fiwrocrataidd, yn gymhleth ac yn hen ffasiwn. Ym mis Tachwedd, lansiodd Cyngor Sir y Fflint sydd o dan arweiniad y blaid Lafur ei ymgyrch #CefnogiGalw yn y cyngor llawn, a chafodd gefnogaeth drawsbleidiol unfrydol i, rwy'n dyfynnu, fynd â'r frwydr i lawr i'r adran llywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o arian cenedlaethol.

Mewn llythyr ar y cyd i Lywodraeth Cymru, dywedodd arweinydd a phrif weithredwr y Cyngor bod

'y gwahaniaeth mewn ariannu yn seiliedig ar fformiwla...yn anochel yn creu amrywiaeth eang yn y risgiau ariannol i gynghorau yng Nghymru. Mae Sir y Fflint ar y pegwn eithaf.'

Yn dilyn hynny, dywedodd yr arweinydd bod y cyngor yn ceisio cydnabod effaith y fformiwla ar sefyllfa cyllid isel y cyngor, o'i gymharu â mwyafrif y cynghorau yng Nghymru, ac mewn llythyr ddoe, dywedodd fod sir y Fflint yn gyngor cyllid isel sef y bedwaredd ar bymthegfed o'r 22 o gynghorau, er ei fod y chweched mwyaf o ran poblogaeth, a thynnodd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael £33 miliwn ychwanegol yn dilyn cyllideb ddiweddar y Canghellor, a gofynnodd i hwnnw gael ei ddosbarthu i gynghorau. Fe wnaf i orffen, felly, drwy ddyfynnu un o gynrychiolwyr y Blaid Lafur ar y cyngor.

17:25

Does dim dwywaith nad yw hwn wedi bod yn setliad anodd, caled iawn, i lywodraeth leol yng Nghymru. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn gynt, mae'r grant creiddiol i lywodraeth leol wedi cwympo 22 y cant ers 2009-10. Bûm yn gynghorydd sir yn Abertawe am sawl blwyddyn, fel ambell i un arall yma, ac roedd y pwysau ariannol ar ein siroedd yn glir bryd hynny. Ac mae hi wedi gwaethygu yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Nid yw sôn am Oliver Twist yn ymateb teilwng i'r argyfwng ariannol chwaith.

A'r effeithiau mae hyn yn ei gael: wel, clywsom wythnos diwethaf, yn y dadleuon ar gyllid gofal cymdeithasol, am yr heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol. Mae ariannu gofal yn dod o dan adain llywodraeth leol, ac mae'r gwariant ar ofal cymdeithasol yn sylfaenol wedi aros yn fflat ers 2009-10, er y cynnydd am y galw am wasanaethau, a'r cynnydd mewn costau staffio ar y llaw arall hefyd—cynnydd mewn cyflogau, pensiynau a chytundebau allanol. A rhai elusennau gofal lleol yn rhoi eu cytundebau yn ôl i'r siroedd achos diffyg arian. Canlyniad diffyg arian am wasanaethau gofal ydy bod y trothwy i dderbyn gwasanaeth yn codi bob blwyddyn, gyda'r canlyniad bod ein pobl hŷn, unig, bregus yn aml ddim yn cyrraedd y trothwy ac felly ddim yn cael unrhyw wasanaeth o gwbl. 'Dim problem', meddwch chi, 'Talwch amdano', fel clywsom ni wythnos diwethaf, ond nid yw hynna'n ddewis i nifer fawr o'n pobl hŷn, heb arian, heb deulu, mewn unigrwydd, a phobl yn marw fel canlyniad i'r diffyg gofal. Dau ddeg dau o filoedd o bobl yn marw uwchben y disgwyl yn Lloegr bob blwyddyn achos dim gofal, a lle mae yna deulu, mae'r pwysau'n drwm iawn ar ofalwyr gwirfoddol y teulu. Dyna ganlyniadau penderfyniadau cyllid a thorri gwasanaethau a diffyg gwasanaethau gofal yn y gymuned yn peri i bobl orfod aros mewn gwlâu drudfawr mewn ysbytai hefyd. Fel dywedais yr wythnos diwethaf, mae gofal yn teilyngu'r un ateb ag iechyd, hynny yw, gwasanaeth gofal cenedlaethol wedi'i ariannu o drethiant cyffredinol, gyda staff cyflogedig a dawnus wedi'u cofrestru'n union fel nyrsys a meddygon y gwasanaeth iechyd. 

Gwnaf i droi at addysg, hefyd. Fel cadeirydd corff llywodraethol ysgol gynradd yn Abertawe ers rhai blynyddoedd rŵan, dwi'n gweld bob dydd bod ein hysgolion o dan bwysau enbyd hefyd. Codiadau cyflogau teilwng i'n hathrawon, codiadau i bensiynau athrawon hefyd—eto, teilwng iawn, ond nid yw'r arian yn llifo lawr o Lywodraeth y Deyrnas Unedig na Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud yn iawn am y codiadau teilwng yma chwaith. Mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud; dydy'r arian ddim yn llifo fel canlyniad, yn enwedig yn nhermau pensiynau, a gyda phwysau caled ar gyllidebau ein siroedd, mae arian wrth gefn ein hysgolion yn cael ei erydu'n gyflym iawn, iawn. Amser caled, yn wir, i lywodraeth leol. Ni allwn gefnogi hyn. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Diolch yn fawr.

17:30

Mae'r setliad llywodraeth leol wedi gwella o'r drafft i'r fersiwn derfynol. Yn anffodus, dim ond o drychinebus i wael fu'r newid hwn. Rwy'n bwriadu dyfynnu barn pennaeth ysgol leol ac yna gwneud pum cynnig ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i helpu'r sefyllfa mewn llywodraeth Leol. Dywed y pennaeth:

'Rwy'n ysgrifennu atoch i dynnu sylw at bryderon difrifol sydd gennyf am yr argyfwng cyllido ysgolion ac i ofyn am eich cymorth a'ch ymrwymiad tuag at sicrhau adolygiad o'r trefniadau a fyddai'n arwain at ariannu pob ysgol yng Nghymru yn ddigonol, yn deg ac mewn ffordd dryloyw. Mae'r dewisiadau anodd yr wyf yn eu hwynebu wrth edrych ymlaen at Ebrill 2019 yn mynd i fod yn her. Mae'r risg i hawliau dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, a achosir gan y gostyngiad mewn termau real flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y cyllid bellach yn argyfwng.

'Yn y blynyddoedd diwethaf, daeth yn amlwg, er gwaethaf y dulliau rheoli gorau, nad yw ein cyllidebau ysgol yn ddigonol. Yn gynyddol, nid ydym ni'n gallu darparu gwasanaethau craidd i'r safon ddelfrydol ac mewn rhai achosion, nid ydym ni hyd yn oed yn gallu diwallu gofynion statudol. Er enghraifft, nid oes gan rai ysgolion athro cymwysedig yn eu dosbarth meithrin mwyach. Nid yw'r pennaeth na'r dirprwy bennaeth yn cael eu dyraniad amser rheoli statudol, ac mae'r gwariant ar adnoddau dysgu a rhaglenni cynnal a chadw adeiladau'r ysgol yn fach iawn.'

Yn amlwg, mae'r sefyllfa hon yn anghynaliadwy, a hefyd mae gennych chi benaethiaid sy'n cymryd dosbarthiadau staff sy'n absennol er mwyn osgoi cyflogi staff cyflenwi.

'Ar ben hynny, mae lefelau staff cymorth wedi lleihau'n sylweddol, sy'n golygu nad yw'r peryglon o ran plant agored i niwed yn cael cymaint o sylw ag y mae angen iddynt ei gael, ac mae'r datblygiad hwn hefyd, yn anochel, yn effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth a llwyth gwaith yr aelodau staff sy'n weddill. Mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan ddylai cwricwlwm newydd Cymru a'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, y ddau â'r potensial i fod yn fentrau blaenllaw yn y byd, fod yn cael eu dathlu ledled y byd.'

Felly, mae hwn gan bennaeth sydd mewn gwirionedd ar ochr Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.

Mae'r datganiad cenhadaeth cenedlaethol ar gyfer proffesiwn addysg o ansawdd uchel i addysgu ein plant—. Yn Abertawe, mae nifer y dosbarthiadau a addysgir gan athrawon heb gymhwyso wedi cynyddu, mae maint dosbarthiadau yn cynyddu, nid yw anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu bodloni, ac nid yw ffactorau agored i niwed fel y rhai sy'n deillio o dlodi ac amddifadedd yn cael y sylw y dylent ei gael.

Y grant gwella addysg—nid yw hyd yn oed yn darparu digon o gyllid i fodloni'r argymhellion ar gyfer y cyfnod sylfaen. Mae nifer yr ysgolion sy'n gallu bodloni'r gymhareb oedolyn-disgyblion a argymhellir yn y cyfnod sylfaen, 1:8 yn y meithrin a derbyn ac 1:15 ym mlynyddoedd 1 a 2, wedi gostwng.

Mae briff ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol sy'n dwyn y teitl 'Ariannu Ysgolion yng Nghymru' yn tynnu sylw at y ffeithiau canlynol. Rhwng y flwyddyn academaidd 2010-11 a'r flwyddyn academaidd gyfredol, 2018-19, mae gwariant gros awdurdodau lleol ar ysgolion wedi gostwng mewn termau real a hynny gan ychydig yn llai nag 8 y cant. Mae'r swm cyfartalog y gwariodd awdurdodau lleol fesul disgybl yn 2018-19—er ei fod £266 yn uwch na'r swm a wariwyd yn 2010-11—yn ostyngiad termau real o 7.5 y cant. Dangosir hyn ymhellach mewn adolygiad diweddar o brofiadau ariannu arweinwyr ysgolion. Canfu Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon bod saith o bob 10 arweinydd ysgol yn credu y bydd eu cyllidebau yn anghynaliadwy erbyn blwyddyn academaidd 2019. Mae hon yn sefyllfa frawychus sydd erbyn hyn yn argyfwng.

Mae'r pwysau ychwanegol y mae ysgolion yn eu hwynebu yn cynnwys pwysau costau sylweddol o ganlyniad i gynyddu cynllun pensiwn athrawon yn 2019-20 o 16.48 y cant i amcangyfrif o 23 y cant. Mae hyn yn cynrychioli pwysau cost nas ariennir o £3 miliwn ar y gyllideb ysgolion ddirprwyedig yn Abertawe yn unig. Bydd yn codi i £5 miliwn yn 2020-21. Mae pwyllgor dethol y Trysorlys wedi galw ar Drysorlys y DU i ddatrys y mater hwn a rhyddhau'r cyllid sydd ei angen i Gymru o gronfa'r DU sydd wedi'i sefydlu i ymdrin â'r pwysau yn sgil pensiynau.

Mae'n rhaid ariannu cost cyflogau athrawon yn ogystal â phwysau costau eraill sy'n wynebu ysgolion, er enghraifft o'r cyfrifoldebau ychwanegol o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn llawn yn y setliad cyllid llywodraeth leol terfynol, gan sicrhau bod y cyllid craidd sydd ei angen ar gyfer darpariaeth addysg statudol gynaliadwy yn y dyfodol yn briodol fel blaenoriaeth, megis lleihau maint dosbarthiadau, a bod llywodraeth leol yn y dyfodol yn cael cyfran decach o'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid i'r gost i ysgolion o ran lefelau cyllideb ddirprwyedig llai yn nhrydedd haen llywodraethu Cymru—a'r hyder mewn consortia rhanbarthol yn is nag y bu erioed, yr effaith ar ddeilliannau dysgwyr yn sgil yr haen ychwanegol ddrud hon o lywodraethu, ddechrau bod yn destun gwaith craffu. Fel cenedl, mae angen inni fod yn sicr bod y gweithgaredd ychwanegol hwn yn sicrhau o leiaf yr un effaith, os nad gwell effaith ag y byddai'r athrawon ychwanegol wedi eu cael, pe byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu yn uniongyrchol i ysgolion.

Mae gennyf awgrymiadau: un, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi pwysau ar San Steffan i fodloni'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn cyflogwr i athrawon; dau, rwy'n credu bod consortia rhanbarthol yn gwastraffu adnoddau prin. Rwy'n derbyn y gallwn fod yn anghywir. Rhowch gynnig arno—dirprwywch yr arian ar gyfer y consortia rhanbarthol drwy'r ysgolion, ac os ydyn nhw'n gwerthfawrogi'r consortia rhanbarthol cymaint â hynny, byddan nhw'n talu tuag ato. Os nad ydyn nhw, byddan nhw'n cadw'r arian ar gyfer yr ysgolion. Bod y grant trafnidiaeth a roddir i brosiectau y cynigir amdanyn nhw yn ystod y flwyddyn yn cael ei ddosbarthu i gynghorau i gefnogi gweithgarwch presennol drwy'r grant trafnidiaeth. Bod yr arian ychwanegol a roddir i addysg sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer hyfforddiant yn cael ei roi i awdurdodau lleol i'w drosglwyddo i ysgolion i'w defnyddio yn y modd sydd orau yn eu barn nhw. Bod cyllid ychwanegol ar gyfer gweithredu anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei ddarparu o'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Nid wyf yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r rhain, os o gwbl—ar wahân i'r un ynghylch pensiynau—gael eu derbyn, ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn eu hystyried oherwydd eu bod yn ffordd o beidio â gofyn am arian ychwanegol, dim ond gofyn sut y gellid gwneud defnydd gwell o'r arian presennol.

17:35

Mi gychwynnaf eto drwy ddweud nad oes dim amheuaeth bod y setliad sydd o'n blaenau ni heddiw yn gyfle sydd wedi cael ei fethu i godi tipyn o bwysau oddi ar lywodraeth leol, a fyddai, yn ei dro, wedi cael sgil-effaith bositif ar wasanaethau cyhoeddus yn ehangach yn dilyn blynyddoedd o lymder parhaus. Mae'n gliriach nag erioed, rwy'n credu, fel rydym ni wedi clywed gan sawl siaradwr, na all ein cynghorau ni barhau i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa ariannol bresennol sydd ohoni. Mae diffyg cyllid digonol yn sicr o effeithio'n uniongyrchol o hyn ymlaen ar feysydd sydd i raddau helaeth wedi cael eu gwarchod tan rŵan—addysg a gwasanaethau cymdeithasol yw'r ddau brif rai sy'n dod i'r meddwl.

Mae methiant i wario'n ddigonol ar wasanaethau cymdeithasol yn effeithio ar gyllidebau iechyd hefyd, wrth gwrs. Drwy dorri cyllid gwasanaethau ataliol hanfodol, mae'n ychwanegu pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, ar yr wyneb, prin fyddai unrhyw un yn anghytuno efo'r hyn sydd wedi digwydd i roi rhagor o arian i'r gwasanaeth iechyd, ond dydy gwneud hynny heb ystyried y cyd-ddibyniaeth sydd yna rhwng iechyd a llywodraeth leol yn helpu neb. Mae o'n fyr dymor wrth ei hanfod.

Fe fyddwn i'n dymuno gweld y ffordd y mae cyllidebau yn cael eu cynllunio ar draws wahanol feysydd, sut maen nhw'n dod at ei gilydd efo pwrpas strategol, yn newid. Mae angen llywodraeth efo gweledigaeth glir iawn i wneud hynny, efo ffocws ar yr hirdymor a pharodrwydd i dynnu haenau o lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd. Nid ôl hynny rydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, rwy'n ofni.

Mae'n siomedig iawn gen i orfod adrodd nad ydw i hyd yma wedi derbyn ymateb i lythyr ysgrifennais i ar y cyd at y Gweinidog cyllid a'r Gweinidog Addysg cyn gosod y gyllideb derfynol yn gofyn ar yr unfed awr ar ddeg ar i'r Llywodraeth edrych eto am ffordd i leihau'r baich ar ein cynghorau ni. Dros y misoedd diwethaf, yn addysg yn benodol, dwi wedi derbyn gohebiaeth gan swyddogion o'r cyngor, penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion—dwi'n datgan budd fel llywodraethwr fy hun, yn Ysgol Gyfun Llangefni—ac mae rhieni wedi bod yn cysylltu â fi a phobl yn y sector anghenion addysg arbennig, yn bryderus am effaith y gyllideb ar ddarpariaeth i'r sector addysg.

Mae argymhelliad y Llywodraeth, i bob pwrpas, ynglŷn â lle dylai lefel treth cyngor fod yn Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn awgrymu y dylai'r dreth cyngor godi 10 y cant, mwy neu lai. Dyna argymhelliad y Llywodraeth, ond nid codi 10 y cant er mwyn buddsoddi, er mwyn cynyddu ar gyllidebau; codi 10 y cant a gweld toriadau dyfnion i gyllidebau addysg. Dwi'n gwybod bod swyddogion yn gweithio'n galed iawn i leihau'r toriadau y maen nhw'n mynd i orfod eu gwneud i addysg. Mae sôn wedi bod am dros £1.5 miliwn. Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu bod yn is. Ond does gan ysgolion ddim lle i wneud toriadau pellach. Mae un pennaeth yn dweud wrthyf fi, 'Dwi ddim yn mynd i boeni ymhellach, oherwydd os af i boeni am yr gagendor ariannol dwi'n ei wynebu, fe wnaf i wneud fy hun yn sâl. Felly, beth dwi'n mynd i orfod ei wneud ydy jest trio delio â'r sefyllfa a derbyn bod yna orwario yn digwydd'.

Wnaethon ni ddim cyrraedd y cwestiwn yma gennyf yn y sesiwn cwestiynau diwethaf i'r Gweinidog: 'A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllidebau ysgolion yn sgil setliad llywodraeth leol 2019-20?' Yr ateb ysgrifenedig a gefais yw:

'Ar draws y Llywodraeth, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo ysgolion drwy'r setliad ar gyfer llywodraeth leol. Rydym ni'n parhau i roi cyllid grant ychwanegol sylweddol uwchlaw'r cyllid craidd i ysgolion drwy awdurdodau lleol. Yn ystod tymor presennol y Cynulliad, rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion'.

Mae'r ymateb yna wedi corddi llywodraeth leol a rhai mewn addysg yn fy etholaeth i. Ymateb di-hid; cyllid craidd ydy'r broblem. Heb gyllid craidd digonol, mae awdudrod fel Ynys Môn yn cael ei gwthio i gau ysgolion ar yr un pryd ag y mae'r Llywodraeth yn dod â chod newydd er mwyn trio twyllo pobl i feddwl eu bod nhw'n trio arbed ysgolion bach, a dim arian ychwanegol i weithredu'r cod, ac yn y blaen.

Hynny ydy, dydy'r sefyllfa dŷn ni ynddi hi ddim yn gynaliadwy. Mi allwn i sôn am wasanaethau cymdeithasol hefyd. Pan fydd swyddogion cyngor yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n bryderus na allan nhw fforddio gweithredu gorchmynion llys er mwyn gwarchod plant bregus sydd dan fygythiad, mae hynny'n gwneud i fi feddwl bod yna rywbeth sylfaenol o'i le efo lefel y cyllid sy'n mynd i mewn i lywodraeth leol. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud iddo fo weithio, ond dyna'r lefel dŷn ni'n sôn amdano: costau sylweddol i amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni, a dŷn ni wedi cyrraedd at y pwynt rŵan lle dydy'n llywodraeth leol ni ddim yn gallu fforddio gwneud y pethau yna.

Oes, mae yna ddegawd annheg ac anghyfiawn o lymder wedi dod o du'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, ond mae yna benderfyniadau gwleidyddol wedi cael eu gwneud gan y Llywodraeth Llafur yma yng Nghymru sy'n golygu bod y bregus yn dioddef, ac mae llywodraeth leol yn enghraifft berffaith o hynny. 

17:40

Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, rwy'n hynod o falch o gynrychioli fy nhref enedigol ac Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'r etholwyr yn gwbl briodol yn haeddu ac yn disgwyl gwasanaethau cyhoeddus a darpariaeth o ansawdd uchel gan y cyngor lleol, ac, yn yr achos hwn, Cyngor Sir y Fflint yw hwnnw. Nawr, yn sicr nid wyf yn eiddigeddus o'r Llywodraeth yn gorfod llunio cyllidebau yn wyneb cyni Llywodraeth y DU, sy'n parhau i'w gwneud hi'n anodd i gynghorau lleol ddarparu'r gwasanaethau y maen nhw wedi arfer â nhw. Roeddwn yn synnu'n fawr pan nododd y Prif Weinidog, pan roedd yn gyfrifol am gyllid, bod £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gonest â chynghorwyr lleol o sir y Fflint o bob plaid, a bydd yr Aelodau yn gwybod, wrth gwrs, y bûm i'n uchel fy nghloch am fy mhryderon y llynedd.

Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn yn siarad â chynrychiolwyr lleol unwaith eto am rai o'u pryderon. Mae cynghorwyr a thrigolion lleol yn aml yn dweud wrthyf am eu teimladau am y rhaniad rhwng y gogledd a'r de, felly, unwaith eto, rwy'n falch bod y Prif Weinidog newydd wedi gwneud cyhoeddiad diweddar am benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y gogledd, ac rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen i drigolion ledled y gogledd i gyd.

Llywydd, os yw'r trafodaethau Brexit wedi dysgu unrhyw beth inni, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â gwrando a gweithio gyda'n gilydd. Felly, ydw, rwy'n falch bod cynnydd i'r setliad gwreiddiol a roddwyd i sir y Fflint, ac rwy'n croesawu hefyd sut yr ydym ni wedi gallu lleihau'r gostyngiad yn y grant cynnal refeniw o -1 y cant i -0.3 y cant, ac mae'r cyhoeddiadau am gyllid penodol ar gyfer gofal cymdeithasol wedi eu croesawu'n lleol hefyd.

Rwy'n croesawu, wrth gwrs, y mesurau eraill yn rhan o becyn o £141.5 miliwn ychwanegol mewn refeniw a chyfalaf i lywodraeth leol dros y tair blynedd nesaf, ond hoffwn wneud un neu ddau o bwyntiau yr wyf wedi eu gwneud o'r blaen am y dreth gyngor a sut y gallwn ni wneud pethau'n haws i bobl yr wyf i'n siarad â nhw sy'n ei chael hi'n anodd gwneud eu taliadau yn fisol. Yn ddiddorol, roedd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y cyfleoedd i sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy blaengar, ac fe hoffwn i weld y llywodraeth yn ystyried sut y gallwn ni o bosibl ddiwygio'r dreth gyngor yn y dyfodol agos.

Rwy'n credu hefyd bod angen cynnal sgwrs ddifrifol yn y dyfodol am ddau bwynt penodol: yn gyntaf, y ffordd y mae cynghorau lleol yn cael eu hariannu, yn ogystal â'r newid o arian canolog i drethiant lleol; ac yn olaf, dyfodol cyllid canlyniadol a phwysigrwydd rhoi terfyn ar gyni am byth. Cefais i hefyd lythyr gan arweinydd Cyngor Sir y Fflint neithiwr, a byddwn yn croesawu cyfarfod gyda'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog llywodraeth leol cyn gynted â phosib i drafod y materion a grybwyllwyd yn y llythyr hwnnw a hefyd ynghylch y cyllid canlyniadol, fel yr oeddwn wedi'i drefnu cyn yr ad-drefnu diweddaraf.

Rwyf eisiau gorffen fy nghyfraniad heddiw, Llywydd, drwy dalu teyrnged i holl gynghorwyr a staff y cyngor sy'n gweithio'n galed, dydd ar ôl dydd, i ddarparu gwasanaethau beunyddiol i bobl Cymru. Maen nhw'n aml yn cael eu beirniadu'n hallt, ond ni ddylem ni fyth anghofio eu bod yn y rheng flaen o ran cyflenwi. Ac rwyf hefyd eisiau ailddatgan yn y Siambr hon heddiw fy ymrwymiad i'm cyngor lleol y byddaf bob amser yn sefyll cornel fy ardal leol a'r cynghorwyr a staff y cyngor sy'n darparu'r gwasanaethau hynny y mae pobl yn dibynnu'n fawr arnynt. Diolch yn fawr iawn.

17:45

Rydym ni'n prysur agosáu at argyfwng mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi'u cwtogi i'r eithaf yn y blynyddoedd diwethaf, ac ni fydd setliad cyllid llywodraeth leol eleni yn gwneud dim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Ar ôl setliad y flwyddyn hon, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynllunio toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol ac i ddiswyddo athrawon, gweithwyr cymdeithasol, peirianwyr priffyrdd, casglwyr sbwriel a llu o weithwyr y cyngor. Yn fy rhanbarth i, mae cyngor Abertawe yn cynllunio torri 145 o swyddi addysgu a 127 o swyddi gwasanaethau cymdeithasol. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cau llyfrgelloedd a dod â thrafnidiaeth am ddim i ben i fyfyrwyr ôl-16 sydd ag anghenion addysgol arbennig ac oedolion sy'n cael gofal seibiant, yn ogystal â diswyddo staff y cyngor a rhoi'r gorau i gynlluniau ar gyfer ysgolion newydd. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi cau toiledau cyhoeddus ac yn cynnig torri cymorthdaliadau i lwybr bysiau, cau canolfannau dydd, canolfannau gofal a gwasanaethau ar gyfer yr henoed, yn ogystal â diswyddo staff y cyngor.

Mae hyn yn digwydd mewn neuaddau dinas a thref ledled Cymru—gwasanaethau'n cael eu cwtogi i'r eithaf, athrawon yn cael eu diswyddo, gofal dydd yn cael ei ddiddymu. Ac eto, gofynnir i bobl dalu mwy—talu mwy am lai, llawer llai. Bydd biliau'r dreth gyngor fydd yn disgyn trwy flychau llythyrau'r wlad yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnwys cynnydd o ryw 5 y cant neu fwy—llawer is na chyflogau pobl—ond eto ni fydd gan y cyhoedd unrhyw ddewis ond rhoi mwy o'u harian haeddiannol am wasanaethau sy'n lleihau'n dragywydd.

Felly sut ddaethom ni i'r sefyllfa yma? Mae swyddogion llywodraeth leol yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond mewn gwirionedd maen nhw i gyd ar fai. Blynyddoedd o wastraffu a bwrw'r bai sydd wedi arwain at yr argyfwng heddiw. Mae degawdau o wario afradlon, gwastraffus a system dreth annheg ar lefel y DU wedi arwain at yr angen am gyni. Mae'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi camreoli llywodraeth leol wedi arwain at ddyblygu a gwastraff; pam fod angen 22 o awdurdodau lleol ar wahân arnom ni? Nid oes eu hangen arnom ni. Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gydnabod y ffaith hon, wedi methu â gwneud unrhyw beth am hynny. O ganlyniad, mae rhy ychydig o adnoddau yn gorfod talu am lawer mwy nag y mae angen iddynt, ac mae'r modd o ddyrannu'r adnoddau hyn wedi'i gamreoli gan Lywodraethau Cymru olynol, ac mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol hwn yn seiliedig ar fformiwla ddiffygiol, sy'n arwain at wahaniaeth mawr yn y cyllid. Pam fod gwario fesul pen mor wahanol ledled Cymru? Mae pobl yn Abertawe, bob un ohonyn nhw'n cael £247 yn llai wedi'i wario ar eu gwasanaethau na'r rhai hynny yn sir Ddinbych. Pam fod Pen-y-bont ar Ogwr yn cael mwy na £130 y pen yn llai nag awdurdodau cyfagos? A pham fod ail ddinas Cymru yn cael bron i £160 y pen yn llai na thrydedd ddinas Cymru?

Ac o ran sut y caiff yr arian ei wario, mae gwahaniaeth enfawr rhwng cynghorau Cymru. Mae rhai pobl yn cael eu biniau wedi'u casglu bob wythnos neu ddwy; gall pobl eraill ddisgwyl casgliad misol. Mae biliau cyfartalog y dreth gyngor yng Nghaerffili dros £700 yn llai nag yn sir Fynwy. A pham fod awdurdodau lleol wedi'u caniatáu i gronni cymaint o gronfeydd wrth gefn? Mae gan rai cynghorau dros £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn, wrth iddyn nhw gynllunio i gwtogi gwasanaethau, diswyddo athrawon a swyddogion priffyrdd a gweithwyr cymdeithasol.

Digon yw digon. Mae angen diwygio llywodraeth leol a'i chyllid drwyddi draw. Mae bywydau pobl yn cael eu dinistrio er mwyn i ni chwarae gwleidyddiaeth plaid, er mwyn i bobl aros mewn grym. Wel, dim mwy nawr. Mae'n amser rhoi trefn ar bethau, ac mae'n amser i Lywodraeth Cymru gyflawni ei chyfrifoldebau.

17:50

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac am gyfrannu at y ddadl. Yn gyntaf rwyf eisiau ymateb i'r sylwadau ynghylch digonolrwydd y setliad. Mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau sy'n ein hwynebu ni a llywodraeth leol drwy'r setliad hwn a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Yn wir, fe wnes i bwynt o ddweud, er nad yw'r setliad hwn yn drychinebus, nid yw ychwaith yn newyddion da i lywodraeth leol o ystyried y polisïau cyni y mae Llywodraeth y DU yn eu hyrwyddo. Mae'r blaid gyferbyn a llawer o Aelodau'r gwrthbleidiau eraill—byddech chi'n meddwl mai polisi cartref a grëwyd yma yng Nghymru oedd cyni ac nid rhywbeth y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn mynd ar ei hynt am gyfnod hirach nag unrhyw lywodraeth arall mewn hanes. Mae'r setliad sydd gennym ni heddiw yn sicr yn ganlyniad i'r polisïau hynny sy'n seiliedig ar gyni.

Fodd bynnag, o ganlyniad i'r sylwadau a wnaed gan nifer o Aelodau o amgylch y Siambr—rhai ohonyn nhw'n fwy defnyddiol nag eraill—hoffwn ddweud eto fy mod i'n barod iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod neu grwpiau o Aelodau sy'n dymuno trafod y setliad yn gyffredinol neu fanylion y setliad ar gyfer eu hawdurdod lleol nhw. Rwy'n fwy na pharod i gwrdd ag Aelodau i egluro pam fod y fformiwla fel y mae, sy'n hawdd iawn. Mae oherwydd bod grwp ac is-grŵp cyllid partneriaeth y cynghorau wedi llunio'r fformiwla hon ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'n cael ei adolygu'n gyson, mae partneriaeth y cynghorau yn cytuno arno ar y cyd â llywodraeth leol. Nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei orfodi ar lywodraeth leol, ac os yw unrhyw Aelodau yn meddwl bod ganddyn nhw ffordd well o ddosbarthu'r arian, y maen nhw'n credu y byddai'n gweithio ledled Cymru, yna rwy'n fwy na pharod i drafod â nhw. Mae'r fformiwla hon yn sicr yn fformiwla y cytunwyd arni â llywodraeth leol, ac mae'n ystyried maint poblogaeth, pa mor ddwys neu wasgaredig yw'r boblogaeth, amddifadedd a nifer o bethau eraill, sy'n arwain, wrth gwrs, at wariant gwahaniaethol ledled Cymru, yn dibynnu ar yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sydd gan bob awdurdod lleol o fewn ei ffiniau.

Ac mewn ymateb i Aelodau eraill yn gofyn am benderfyniadau gwahanol, wrth gwrs, llywodraeth leol yw'r haen gyntaf—y gyntaf, neu'r ail os oes gennych chi gyngor cymuned—o ddemocratiaeth, ac, wrth gwrs, aelodau etholedig democrataidd yr awdurdodau lleol hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hynny ar ran y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli, a dyna sut y dylai fod. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni eisiau etholaethau awdurdod lleol bywiog, amrywiol a galluog yng Nghymru, ac rwy'n canmol eu hymdrechion i wneud hynny.

Hoffwn ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau yn gyflym am y sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar ddechrau'r cylch cyllideb hwn. Ym mis Ionawr 2018, fe wnaethom ni gyhoeddi'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2018-19 a ffigur dangosol ar gyfer 2019-20. Nododd llywodraeth leol yn glir y llynedd bod angen cymaint o sicrwydd ar gyfer y dyfodol ag y bo modd. Pleidleisiodd y Cynulliad yn dilyn hynny i roi sicrwydd i lywodraeth leol y byddai cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer 2019-20 yn £4.2 biliwn o leiaf. Nid oedd hynny, sef toriad o 1 y cant, yn sefyllfa yr oeddem ni'n dymuno gadael llywodraeth leol ynddi, ond roedd yn arwydd o faint o sicrwydd yr oeddem ni o'r farn y gallem ni ei roi o gofio'r sefyllfa o ran ein cyllideb ni ein hunain ac ansicrwydd o ran cyllid cyhoeddus. O ganlyniad i'r gyllideb derfynol a gadarnhawyd yn gynharach heddiw, mae'r cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn gynnydd, mewn gwirionedd, o 0.2 y cant o'i gymharu â llynedd.

Felly, y mater i Aelodau yn y fan yma yw na allwch chi gael sicrwydd a phrydlondeb. Felly, naill ai mae'n rhaid inni roi sicrwydd yn gynharach yn y flwyddyn fel sylfaen ac yna ein galluogi i addasu pethau wrth i'r gyllideb newid, neu ein bod yn aros tan yn hwyr iawn yn y flwyddyn i gael sicrwydd llwyr, ac yna nid oes gennych chi amser i gynllunio. Ni allwch chi gael y ddau beth hynny, o gofio sefyllfa Llywodraeth y DU o ran pryd y bydd hi'n cyhoeddi ei chyllideb hithau. Felly, rwy'n credu os byddai'n well gan awdurdodau lleol gael y sicrwydd llwyr yma yn nes ymlaen heb amser i gynllunio, yna mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei drafod, ond, ar hyn o bryd, maen nhw'n gofyn am fwy o amser i gynllunio gan wybod bod hynny'n golygu bod gennym ni heriau parhaus a dewisiadau anodd i'w gwneud yn ystod hynt y gyllideb. Mae'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog cyllid a minnau yn fwy na pharod i'w drafod gyda nhw wrth inni fwrw ymlaen.

Mae'r setliad yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut i drawsnewid gwasanaethau er mwyn ymateb i anghenion a disgwyliadau sy'n newid neu, pan fo angen, dewis sut i'w lleihau gan geisio cael cefnogaeth y cyhoedd i hynny, yn ogystal â phenderfynu ar y lefel y byddan nhw'n pennu'r dreth gyngor i yn unol â'r dewisiadau hynny. Ac mae'r rheini yn briodol yn faterion ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n credu mai'r rheini yw'r heriau y gall llywodraeth leol yng Nghymru eu cyflawni. Er na fyddwn yn ceisio eu hargyhoeddi nhw na chithau bod hwn yn setliad da, nid yw'n un trychinebus ychwaith, a dylen nhw fod yn gallu gweithio'n dda o fewn y setliad hwn.

Blaenoriaeth y Llywodraeth, a'r hyn fu ei blaenoriaeth erioed, yw diogelu cynghorau rhag y toriadau gwaethaf sy'n cael eu trosglwyddo i ni gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn i'w weld yn y setliad ar gyfer 2019-20 yr wyf wedi'i gyflwyno ichi heddiw. Rydym ni wedi, er gwaethaf y meinciau gyferbyn yn griddfan bob tro y byddaf yn dweud hyn, sicrhau nad yw llywodraeth leol wedi gweld yr ymosodiad ar wasanaethau y mae'r sector llywodraeth leol yn Lloegr wedi ei weld. Rydym ni wedi gweld cyllidebau yn cael eu diogelu mewn ffordd na welwyd dros y ffin. Rydym ni wedi ceisio gweithio ochr yn ochr â llywodraeth leol bob amser i sicrhau ein bod yn gallu, pan fo hynny'n bosib, diogelu gwasanaethau a diogelu'r mwyaf agored i niwed. Byddwn yn parhau i sicrhau o dan ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2019-20 y gall pobl hawlio gostyngiad llawn, a byddwn unwaith eto yn darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn.

Rydym ni'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu aelwydydd incwm isel ac agored i niwed, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Penderfynir ar y trefniadau ar gyfer 2020-21 yn rhan o'n hystyriaethau ehangach ynghylch sut i wneud y dreth gyngor yn decach, fel y dywedodd Jack Sargeant, rwy'n credu, a nifer o bobl eraill. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cyfrifoldebau newydd a, gan gymryd setliad heddiw a'r cyllid grant sydd wedi'i gadarnhau gyda'i gilydd, bydd llywodraeth leol yng Nghymru yn cael bron i £5 biliwn mewn refeniw ar gyfer 2019-20, cynnydd o tua £70 miliwn mewn arian parod o'i gymharu â 2018-19. Mae'r arian ychwanegol yma yn cyfateb i'n blaenoriaethau, sef gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, yn benodol.

Heblaw am y cyllid a gyhoeddwyd trwy ac ochr yn ochr â'r setliad, rydym ni wedi gwneud ymrwymiadau eraill i gefnogi awdurdodau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gyda llywodraeth leol i fwrw ymlaen â chronfa fuddsoddi newydd ym maes tai rhwng safleoedd datblygu ar raddfa fawr. Cyfuniad o gyfalaf a chyfalaf trafodiadau ariannol o hyd at £15 miliwn fydd yn talu am hyn. Byddwn yn cynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cyfalaf o dan fand B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Rydym ni wedi ysgrifennu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Canghellor i alw unwaith eto ar i Lywodraeth y DU ariannu'r costau uwch i gyflogwyr sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau, i ateb cwestiwn Mike Hedges. Nid ydym ni wedi cael ymateb eto, ond rydym ni'n parhau i bwyso am ateb, gan ein bod yn deall yn hollol yr anhawster yn sgil yr ansicrwydd ynghylch costau pensiwn i awdurdodau lleol a chyrff eraill wrth geisio pennu eu cyllidebau yn briodol.

O gofio'r cyfnod ansicr yr ydym ni ynddo ac sydd o'n blaenau, mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU, nid oes unrhyw arwydd o ddod â chyni i ben. Rwyf yn ymrwymedig i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu hyblygrwydd pan fo hynny'n bosib. Rydym ni'n ymrwymedig i ystyried sut y gellir grymuso a chryfhau llywodraeth leol yn well. Byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau i'w helpu i sicrhau bod pob awdurdod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o'r holl adnoddau sydd ar gael iddo.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cael ymrwymiad gan awdurdodau lleol i weithio'n rhanbarthol. Mae'n rhaid cael mwy o gydweithio â byrddau iechyd a'r consortia addysg i sicrhau canlyniadau gwell a mwy o gydnerthedd. Mae'n rhaid hefyd ailymrwymo i ysbryd a manylion cylch gorchwyl y gweithgor ar lywodraeth leol. Rwyf yn credu bod y setliad yn adlewyrchu canlyniad rhesymol ar gyfer llywodraeth leol yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae wedi ei gyflawni mewn blwyddyn heriol arall unwaith eto, ac mae'n cydnabod ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel addysg a gofal cymdeithasol.

I gloi, fe wnaf i unwaith yn rhagor bwysleisio'r gwaith cadarnhaol ar y fformiwla ddosbarthu gyda Llywodraeth Leol. Cytunir ar y newidiadau blynyddol yn y fformiwla bob blwyddyn, fel y dywedais yn gynharach, rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol drwy'r is-grŵp cyllid. Mae hyn yn golygu ein bod yn hyderus ein bod yn llwyddo i ddarparu'r cyllid sydd ar gael yn deg ac yn ddiduedd. Rwyf i'n sicr yn gresynu at unrhyw awgrym bod yna duedd neu annhegwch bwriadol yn y fformiwla, ac mae awgrymu hynny yn annheg iawn i'r rhai hynny sy'n bwrw iddi mewn modd mor gadarnhaol i'r gwaith o'i gyflawni.

Hoffwn ychwanegu, hefyd, ein bod wedi parhau i gyhoeddi'r setliad ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn gynharach na rhannau eraill o'r DU. Fel y dywedais i, mae hwnnw'n gytundeb â llywodraeth leol i roi cymaint o amser â phosib iddyn nhw gynllunio. Roedd y setliad llywodraeth leol dros dro yng Nghymru, a gyhoeddwyd mwy na dau fis yn gynharach nag yn Lloegr, yn caniatáu ar gyfer y cynllunio terfynol hwnnw. Yn Lloegr, cyhoeddwyd y setliad dros dro dim ond chwe diwrnod cyn ein setliad terfynol ni. Ar y sail yna, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad. Diolch.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

18:00

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Daw hyn â ni i'r cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais gyntaf, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y gyllideb derfynol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, naw yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6902 - Cyllideb Derfynol 2019-20: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar setliad llywodraeth leol 2019-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51—na. O blaid 28, neb yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig. 

NDM6903 - Setliad Llywodraeth Leol 2019-20: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.