Y Cyfarfod Llawn
Plenary
23/09/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso i sesiwn ddydd Mercher. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Cwestiwn 1, Vikki Howells.
1. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64484
Diolch am y cwestiwn, Vikki. Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws i fwy o bobl deithio ar fws ac ar drên ym Mhontypridd Cynon Merthyr. Mae hyn yn golygu bysiau a threnau sy’n gweithio’n well gyda’i gilydd, prisiau teg, a gwasanaethau sy’n dod ar amser. Mae metro de Cymru yn rhan bwysig o’r gwaith hwn. Rydyn ni hefyd yn rhoi arian i wella bysiau lleol a llefydd fel gorsaf Merthyr.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Nawr, roedd rhoi cap o £2 ar brisiau tocynnau bysiau i oedolion yn addewid allweddol ym maniffesto fy mhlaid o fis Mai, gan adeiladu ar ein gwaith yn y Llywodraeth, lle gwnaethom gyflwyno tocynnau bysiau £1 i bobl ifanc a darparu teithiau bws am ddim i bobl hŷn a phobl ag anableddau. Nawr, mae Prif Weinidog y DU Andy Burnham wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau bysiau sengl yn Lloegr i oedolion yn cael eu capio ar £2 o fis Ionawr 2027 ymlaen. Bydd hyn, wrth gwrs, yn golygu cyllid canlyniadol Barnett i Lywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi ddefnyddio hwn i gyflwyno cap tebyg o £2 ar brisiau tocynnau yng Nghymru? Ac os na, a wnewch chi egluro pam y dylai defnyddwyr bysiau yng Nghymru fod ar eu colled?
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fysiau fod yn rhan allweddol o'r seilwaith trafnidiaeth, yn enwedig i'r bobl hynny na allant fforddio ac nad oes ganddynt gar preifat at eu defnydd. Rydym wedi sicrhau bod y tocyn bws i bobl ifanc yn parhau, ac mae hwnnw'n ymrwymiad drwy gydol tymor y Llywodraeth hon. Roedd yn y rhaglen lywodraethu y buom yn siarad amdani ddoe. Edrychwn ymlaen at weld y cyllid canlyniadol, ond fel cyn-Weinidog, fe wyddoch fod y cyllid canlyniadol yn dod i'r Llywodraeth, ac mae'r Llywodraeth yn penderfynu wedyn ar y blaenoriaethau y mae'n eu pennu ar ei gyfer. Rydych chi wedi gweld y blaenoriaethau ddoe yn y rhaglen lywodraethu. Ond os caf roi un sicrwydd i chi, credaf y bydd gwasanaethau bysiau yn un o'r pethau allweddol a fydd yn diffinio'r Llywodraeth hon dros y pedair blynedd nesaf, gan ein bod yn cydnabod eu pwysigrwydd i'r bobl sydd bellaf i ffwrdd o'u hatebion trafnidiaeth eu hunain.
Weinidog, mae llawer o bobl ym Mhontypridd Cynon Merthyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael mynediad at swyddi, addysg a gofal iechyd oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gwael. O ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus sydd eisoes wedi'i wario ar brosiectau trafnidiaeth yng Nghymru, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y mae cymaint o gymunedau'n dal i gael eu gwasanaethu'n wael, a pha gamau a gaiff eu cymryd i wella dibynadwyedd a hygyrchedd cyn gofyn i drethdalwyr ariannu cynlluniau mawr pellach? Diolch.
Diolch am y cwestiwn, David. Credaf mai'r peth allweddol ar gyfer hyn yw dechrau cydnabod gwirionedd y mater. Mae gennym wasanaeth Trafnidiaeth Cymru sy'n cyflawni ei dargedau amser o flaen pawb arall yn y DU. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni dros 80 y cant o fewn tair munud o'i amser gofynnol. Felly, mae'n darparu'r gwasanaeth y mae angen iddo ei ddarparu. Yr ail ran o hyn yw sicrhau bod gennym gyllid i allu buddsoddi yn y seilwaith hwnnw. Os cofiaf, pan oeddem yn trafod datganoli rheilffyrdd pan ddeuthum i'r Siambr hon yn gymharol ddiweddar, roedd y meinciau y tu ôl i mi yn erbyn datganoli pellach mewn perthynas â rheilffyrdd, am yr un rhesymau'n union ag yr ydych chi'n gofyn y cwestiynau. Rydym am sicrhau y gall pobl gael mynediad at swyddi, gofal iechyd a gwneud i gymdeithas weithio. Rwy’n mynd i ailadrodd pwynt a wneuthum i Vikki ychydig eiliadau yn ôl. Mae hyn yn bwysig i ni nid yn unig o ran trafnidiaeth rheilffyrdd, mae'n bwysig i ni o ran bysiau hefyd, a chredaf y bydd hynny'n allweddol ar gyfer y pedair blynedd nesaf.
Mae rhieni a phlant ar draws Rhondda Cynon Taf yn pryderu am effeithiau penderfyniad y cyngor, sydd o dan arweiniad Llafur, i wneud cludiant ysgol mor gymhleth â phosib i blant sydd jest eisiau gofyn, 'A ydw i'n mynd i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel?' Mae canlyniadau'r penderfyniad yma yn sylweddol. Mae'n effeithio ar bobl leol sydd ddim yn gallu mynd ar y bws oherwydd ei fod yn llawn disgyblion ar y ffordd i'r ysgol ac mae presenoldeb disgyblion yn yr ysgol wedi'i effeithio'n ddifrifol. Yn fwy pryderus byth, mae plant yn methu mynd i'r ysgol maen nhw eisiau, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, oherwydd bod llai o fysiau ar gael neu oherwydd newidiadau i delerau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi wneud datganiad heddiw yn cefnogi rhieni Rhondda Cynon Taf sydd am wneud i'r cyngor, sydd o dan arweiniad Llafur, flaenoriaethu diogelwch plant?
Diolch am y cwestiwn, Lis.
Rwy'n credu bod cwpl o bethau yma. Yn gyntaf, mae'n gymhleth iawn. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae teithio gan ddysgwyr wedi'i ddangos i mi yw mai dyma'r broblem anoddaf sydd gennyf ar fy ngorwel, er bod yr M4 a'r Fenai ar y gorwel gennyf hefyd. Felly, mae hynny'n dangos ei gymhlethdod. A chredaf fod y Llywodraeth hon wedi dangos ein bod wedi bwrw ymlaen â hyn fel cyfle trawsbortffolio, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n effeithio ar—. Rydym yn siarad am addysg ac addysg dysgwyr Cymraeg, ond hefyd addysg ôl-16. Ac un o'r pethau a oedd yn peri'r pryder mwyaf i mi yw y dylai teithio gan ddysgwyr a chludiant dysgwyr, yn y pen draw, fod yn alluogwyr addysg pobl; ni ddylent fod yn analluogwr. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn awyddus, ac roedd yn rhan o'n hymrwymiad 100 diwrnod. Rydym wedi dechrau gweithio arno, yn enwedig mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yn gyntaf, ond wedyn byddwn yn canolbwyntio ar addysg ôl-16, ac yn dilyn hynny, byddwn yn canolbwyntio ar gludiant dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd.
2. Sut y bydd polisi ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi ei hymdrechion i gyflawni ei thargedau sero net? OQ64525
Bydd strategaeth ynni genedlaethol Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull system gyfan, gan gyflwyno targed ynni sy'n seiliedig ar allyriadau yn lle'r targed blaenorol ar gyfer cynhyrchu trydan adnewyddadwy. Bydd hyn yn helpu i nodi lle mae gweithredu'n cyflawni'r cyfraniad mwyaf at ein huchelgais o gyflawni sero net erbyn 2040.
Diolch, Weinidog. Weinidog, mae rhyddhau carbon deuocsid i'r atmosffer yn achosi i dymheredd y ddaear godi, ac nid yw hynny'n dda i neb ohonom. Ac mae angen inni gyflawni unrhyw ostyngiad mewn allyriadau sy'n angenrheidiol i sicrhau dyfodol hirdymor dynoliaeth. Dyna pam, ar ei ffurf bresennol, fod sero net yn peri cymaint o rwystredigaeth. Nid yw dad-ddiwydiannu a dibyniaeth ar Tsieina ac India yn atebion hirdymor. Nid yw ynni adnewyddadwy yn ateb hirdymor chwaith, na chuddio ein pennau yn y tywod mewn perthynas â'r problemau economaidd a geowleidyddol a grëir gan sero net. Yr unig ateb hirdymor i'r heriau a wynebwn fel cenedl ac fel rhywogaeth yw ynni niwclear. Felly, rwy'n llawn cyffro ynghylch datblygu adweithyddion modiwlar bach yn Wylfa. Ar ôl hynny, Weinidog, beth sydd nesaf ar gyfer ynni niwclear yng Nghymru?
Hoffwn nodi i'r Aelod fy mod yn credu bod y cyd-destun yn allweddol yma, onid yw? Felly, y sefyllfa yng Nghymru lle mae gennym asedau unigryw—potensial cudd mewn llawer o achosion o ran ynni gwyrdd—yw mai ynni gwyrdd, mewn gwirionedd, yw'r ffordd i'n hailddiwydiannu, nid ein dad-ddiwydiannu. Rwy'n cyfeirio'n benodol, er enghraifft, at ein potensial byd-eang arwyddocaol o ran ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a'r manteision naturiol unigryw tra hysbys sydd gennym o ran technolegau llanw, er enghraifft. Felly, nid yn unig y gallem gynhyrchu'r trydan drwy'r technolegau hynny, ond gallem hefyd fanteisio ar y gadwyn gyflenwi ac adeiladu sylfaen weithgynhyrchu ar y lefel honno.
Ar ei bwynt ynglŷn ag ynni niwclear, hoffwn nodi bod y symudiad tuag at darged sy'n seiliedig ar allyriadau yn cynnwys nid yn unig sectorau adnewyddadwy ond technolegau carbon isel eraill hefyd, gan gynnwys ynni niwclear, ochr yn ochr â dal a storio carbon.
Dwi'n falch o glywed cyfeiriad y Gweinidog at ailddiwydiannu. Dwi'n croesawu hynny. Byddwn hefyd yn eilio pwysigrwydd y diwydiant niwclear i gwblhau hynny. Yr wythnos diwethaf, bues i lawr yn Hinkley Point, pwerdy niwclear sydd wedi ei adeiladu gyda pheth helaeth o ddur Cymreig, ac mae yna gyfle i fynd ymhellach, y tu hwnt i'r prosiect newydd yn Wylfa, o ran ehangu'r diwydiant niwclear yng Nghymru.
Ond ar y targed sero net a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2040, rydym yn croesawu'r targed hwnnw. Byddwn yn eich gwthio arno. Ond mae'r targed hwnnw'n ddiystyr oni bai fod y Gweinidog yn barod i ddarparu'r seilwaith ynni adnewyddadwy sydd ei angen i'w gyflawni, ac fe gyfeirioch chi at ynni adnewyddadwy yn eich ateb cynharach. A ydych chi'n derbyn na all Cymru gyflawni sero net yn yr amserlen honno heb ehangu mawr o ran ynni gwynt ar y tir yn ogystal ag ynni gwynt ar y môr, ac na ellir cyflawni hynny ynddo'i hun heb seilwaith grid a pheilonau i'w gysylltu? Ac os ydych chi'n derbyn y rhagdybiaeth honno, a wnewch chi ymrwymo i gefnogi'r seilwaith hwnnw a'r prosiectau hynny, hyd yn oed lle mae'r penderfyniadau hynny'n anodd ac yn amhoblogaidd yn lleol?
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae yna nifer o elfennau yn fanna, ond, wrth gwrs, mae popeth yn gysylltiedig ar ddiwedd y dydd, onid ydy?
Gyda'r strategaeth ynni genedlaethol, wrth gwrs, un o'r elfennau mawr fydd gosod mas y gwahanol gyfraniadau fydd yn cael eu gwneud fesul technoleg, a wedyn, wrth gwrs, ar lefel gofodol—so, bydd hwnna’n elfen—a gosod mas beth mae’r gwahanol elfennau yn cyfrannu. Mae’r penderfyniad gyda Gwyndod, i bob pwrpas, wedi’i wneud, a dyna’r sail y mae’r holl randdeiliaid ynni ar draws Prydain nawr yn cynllunio arni.
Felly, mae’r elfen yna, wrth gwrs, yn gorfod bod yn rhan ohono fe, ond, yn sicr, rŷn ni’n derbyn bod cyfraniad gydag ynni gwyrdd ar y tir, ac mae yna oblygiadau wedyn o ran sicrhau bod y seilwaith o ran cysylltiadau grid yno i helpu hynny i ddigwydd yn y ffordd fwyaf effeithlon o ran ein systemau ni, a hefyd o ran ein economi, gan, wrth gwrs, gydnabod bod yna angen gydag unrhyw fframwaith cynllunio i gael y balans yn iawn o ran y llais a'r buddiannau cymunedol hefyd.
Prynhawn da, Weinidog.
Rwy'n falch iawn o glywed gan Reform UK nad ydynt yn gwrthod y targedau sero net, fel rydym wedi'i glywed o'r blaen. Felly, rwy'n gobeithio bod newid bach wedi bod ar y meinciau hynny. Ond hoffwn ddod yn ôl at y pwynt a wnaed gan Joe Martin mewn perthynas â mathau dethol o ynni, gan mai'r hyn y dylem fod yn ei wneud yw popeth. Mae'r byd ar dân. Rydym wedi gweld y tanau gwyllt ledled Cymru yr haf hwn, ac mewn gwirionedd, mae gennym gyfle yma i ddarparu llu o fathau o ynni adnewyddadwy, ac yma yng Nghymru, fel y dywedoch chi, mae gennym gyfle go iawn.
Yn wahanol iawn i fy nghyfaill ar fy llaw dde—nid ydych ar y dde, rwy'n gwybod hynny—. Rydym wedi siarad am hyn o'r blaen, ond hoffwn roi cyfle arall i chi, dim ond i fod yn glir ar hyn, mai eich ymrwymiad o hyd wrth ddatblygu ynni gwynt ar y tir yw tanddaearu'r ceblau trawsyrru hynny, gan mai dyna mae ein cymunedau ei eisiau. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gadarnhau hynny, a hefyd ein bod yn edrych ar sut y gall cymunedau fod yn berchen ar yr ynni gwynt ar y tir hwnnw hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chwestiwn, ac mae hi'n llygad ei lle, wrth gwrs, y bydd ein strategaeth ynni genedlaethol yn edrych yn benodol ar y technolegau hynny lle mae Cymru mewn sefyllfa dda, o ran ei hasedau naturiol, yn y ffordd a ddisgrifiais, i ddatblygu. Ond mae angen inni fod yn ymwybodol, wrth gwrs, o dechnolegau newydd, sydd ar wahanol gamau o aeddfedrwydd ar unrhyw adeg. Felly, nid yw'r maes hwn byth yn sefyll yn llonydd, ac mae angen inni feithrin y gallu i Gymru fod yn faes profi ar gyfer rhai o'r technolegau sydd ar y gorwel hefyd.
Ar seilwaith grid, a gaf i fanteisio ar y cyfle hefyd i ddweud—dylwn allu dweud hyn heb edrych ar fy nodiadau—ein bod wedi ymrwymo’n glir i gyflawni ein hymrwymiad maniffesto mewn perthynas â’r rhwydwaith dosbarthu 132 kV neu lai, sydd o blaid tanddaearu, gydag eithriadau'n unig o ran llinellau uwchben, drwy bolion pren isel, neu seilwaith tebyg arall sydd yr un mor anymwthiol?
Diolch. Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi. Llefarydd Reform UK, Jason O'Connell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yr wythnos hon mae'n dair blynedd ers cyflwyno’r terfyn diofyn o 20 mya ledled Cymru. Dyna dair blynedd y mae modurwyr wedi cael eu trin fel problem, a thair blynedd ers i’r sefydliad hwn anwybyddu’r holl alwadau i wrthdroi’r polisi trychinebus hwn. Y gost yw 1 biliwn o funudau ychwanegol i amseroedd teithio mewn ceir ledled Cymru bob blwyddyn. Dyna 1 biliwn o funudau, a pholisi yr amcangyfrifir ei fod yn costio hyd at £9 biliwn i economi Cymru. Ac ar ôl hynny oll, mae marwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru yn dal i gynyddu ar draws y gwahanol barthau cyflymder. Nawr, Weinidog, mae pob un o’r marwolaethau hynny yn drasiedi. Mae diogelwch ffyrdd yn haeddu strategaeth sy’n fwy na dim ond newid arwyddion ffyrdd. Am flynyddoedd, pan oedd Llafur mewn Llywodraeth, cefnogodd eich plaid yr ymagwedd unllygeidiog hon. Fe wnaethoch ei hamddiffyn, fe wnaethoch ei chefnogi, a nawr, mae'r data'n dweud wrthym yn amlwg nad yw'n gweithio. Felly, Weinidog Cabinet, a wnewch chi wrando o'r diwedd ar y data a'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n parhau i siarad yn erbyn y polisi a dod â'r arbrawf hwn i ben?
Rwy'n petruso cyn diolch i chi am eich cwestiwn, Jason, ond fe wnaf hynny allan o gwrteisi. Yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, cawsoch eich atgoffa i ddefnyddio data'n ofalus, ac fe ddefnyddioch chi yr un data heddiw ag y gwnaethoch bryd hynny. Nid oes a wnelo'r data hwn ag 20 mya. Gadewch inni roi'r data cywir i chi: yn 2025, roedd 1,469 o wrthdrawiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20 mya a 30 mya gyda'i gilydd, sydd 2 y cant yn uwch nag yn 2024, pan fu 1,445. Ond dyma'r nifer blynyddol isaf ond un a gofnodwyd yng Nghymru erioed. Felly, mae hyn yn profi, pan ydym wedi lleihau terfynau cyflymder, fod hynny wedi lleihau gwrthdrawiadau. Ac rwyf wedi'i glywed gan bobl ar yr ochr draw i'r Siambr, ac rwy'n ei werthfawrogi. Mae hyn yn achub bywydau plant. Mae hwn yn bolisi y mae'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi. Rydym yn cydnabod bod ffyrdd y gallem fod wedi'i wneud yn well; buom yn siarad am hynny drwy gydol tymor y Senedd ddiwethaf, ac rwy'n credu y byddem yn dweud yr un peth eto. Fodd bynnag, rhaid inni sicrhau ein bod yn dilyn y dystiolaeth, a phan fydd y dystiolaeth yn cael ei llygru gan eiriau nad ydynt yn wir mewn gwirionedd, mae'n ystumio pethau. Yr un peth rwy'n siŵr y byddaf yn sicrhau fy mod yn ei wneud yw cael fy arwain gan dystiolaeth; nid wyf am gael fy arwain gan rethreg oddi ar y meinciau y tu ôl i mi.
Rwy'n eithaf siŵr fy mod wedi clywed y data'n dweud bod damweiniau'n cynyddu, ond dyna'r data i chi.
Weinidog Cabinet, gallwch herio'r holl ffigurau a fynnwch, ond ni allwch herio hanes eich plaid eich hun. Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i'r terfyn 20 mya diofyn. Ers blynyddoedd, mae prosiectau ffyrdd mawr wedi cael eu rhewi, eu canslo neu eu diystyru tra bo tagfeydd wedi gwaethygu a modurwyr wedi cael eu gadael mewn traffig ledled Cymru. Fe wnaeth eich arweinydd eich hun ei flaenoriaethau'n berffaith glir yn yr ymgyrch etholiadol. Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn cadw'r terfyn diofyn ac na fyddai'n cael ei adolygu. Felly, gadewch inni fod yn glir: er ein bod yn derbyn bod hwn yn bolisi a etifeddwyd gan y Llywodraeth flaenorol, mae'n ddull y gwnaethoch chi ei gefnogi'n weithredol. Fe wnaethoch chi dreulio blynyddoedd yn dweud wrth bobl Cymru fod hyn oll yn ymwneud â diogelwch, er ei fod, mewn gwirionedd, fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl ledled y wlad, yn ymwneud â mynd ar drywydd dogma sero net niweidiol. Yn sicr. Heb y buddsoddiad seilwaith priodol, ni fyddai gan fodurwyr rhwystredig Cymru unrhyw ddewis ond defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—onid yw hynny'n iawn, Weinidog? Felly, yn hytrach na chosbi modurwyr fel strategaeth drafnidiaeth, a wnewch chi fuddsoddi yn y seilwaith ffyrdd priodol y mae Cymru ei angen mewn gwirionedd?
Wyddoch chi, mae'n wych pan welwch bobl ifanc yn y Siambr yn edrych i lawr, ac yn edrych i lawr ar yr hyn y siaradwn amdano heddiw? Gyda nhw mewn golwg rwy'n cefnogi'r polisi hwn, oherwydd yn y pen draw, nid oes a wnelo hyn â dogma, mae a wnelo â diogelwch ac yn enwedig diogelwch plant. Felly, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi; rwy'n credu ei bod yn swnio fel pe bai cefnogaeth iddo o rannau eraill o'r Siambr. Oherwydd o ran dogma, nid oes unrhyw blaid a chanddi fwy o ddiddordeb mewn dogma na'r blaid y tu ôl i mi pan fyddant yn siarad am bethau fel hyn. Yn y pen draw, rwy'n poeni mwy am y plant sydd i fyny yno nag am ateb cwestiynau fel hyn.
O, nid ydych yn poeni am ateb cwestiynau gan Aelod etholedig. Syfrdanol.
Osgoi'r cwestiwn unwaith eto. Ond y newyddion da yw ein bod ninnau hefyd yn poeni am bobl ifanc. Rydym eisiau sicrhau bod ganddynt swyddi ymhell i'r dyfodol a bod ein heconomi'n ffynnu. Yn sicr. Nawr, ym mis Mehefin, fe wnaethoch chi sefyll yn y Siambr hon a gwneud ymrwymiad clir iawn i adolygu'r sefyllfa ar ffordd liniaru'r M4. Fe ddywedoch chi na fyddai hwn yn adolygiad arall a fyddai'n gohirio'r broblem. Fe ddywedoch chi y byddech chi'n dychwelyd i'r Senedd yn gynnar yn yr hydref gyda ffordd ymlaen eich Llywodraeth. Wel, Weinidog Cabinet, yn eithaf digalon, mae'n hydref. Fe wnaethoch chi ddiystyru llwybr du cwbl hyfyw, ond nid yw'r bobl sy'n eistedd mewn tagfeydd o amgylch Casnewydd bob dydd yn gwybod beth y mae'r Llywodraeth hon yn mynd i'w wneud ynglŷn â'r traffig. Felly, mae'n bryd dweud y gwir. Cyn yr etholiad, addawodd eich plaid ateb ar yr M4. Ond rwy'n gwybod, ac rydych chithau'n gwybod, nad oes gennych unrhyw beth. Roeddech chi'n gwastraffu amser cyn ceisio datrys y cyfan ar y funud olaf. Mewn gwirionedd, rydych chi wedi cymryd cymaint o amser, rydym wedi gwneud y gwaith ar eich rhan. Rydym wedi diwygio'r costau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, a £2.8 biliwn yw'r gost ddiweddaraf. Rydym yn fwy na pharod i barhau â'r gwaith, sicrhau'r cyllid, cymryd y cyfrifoldeb dros eich briff a chael y gwaith wedi'i wneud ein hunain. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw eich ateb chi i'r tagfeydd ar yr M4? Diolch.
Mae'r Aelod yn gwbl ymwybodol ein bod yn mynd i ddod yn ôl i'r Siambr hon ar 6 Hydref gyda diweddariad yn seiliedig ar dystiolaeth. Y rheswm pam ein bod eisiau tystiolaeth yw er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ac nad ydym—. Nid ydym yn gohirio'r broblem, rydym yn gwneud y penderfyniadau cywir ar sail yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym. Fel y gŵyr ef, ac fel y gŵyr y llefarwyr trafnidiaeth eraill yn yr ystafell hon, rwyf wedi sicrhau y byddaf yn rhannu'r dystiolaeth honno cyn y cyfarfod hwn, felly byddwn mewn sefyllfa lle bydd y Siambr yn gallu siarad am bethau sy'n bwysig, sydd o wir bwys. Oherwydd wedyn, gobeithio, fe ddown i rywfaint o gonsensws. Nid yw'r M4 yn syml. Gadewch inni fod yn onest. Adeiladwyd yr M4, fel ffordd, fel rhan o'r seilwaith o amgylch Casnewydd. Felly, mae a wnelo â mwy na'r M4 yn unig—mae a wnelo â materion o fewn Casnewydd i'r un graddau ag y mae a wnelo â'r M4. Dyna y mae'r Llywodraeth hon yn mynd i'w wneud. Edrychaf ymlaen at drafod hynny ar 6 Hydref pan allwn siarad am dystiolaeth.
Llefarydd Llafur Cymru, Shav Taj.
Weinidog, canolfannau data, rwyf wedi ysgrifennu atoch amdanynt sawl gwaith, ac yn amlwg, nid ydynt yn newydd, ond mae eu defnydd—yn bennaf oherwydd deallusrwydd artiffisial a'i gynnydd—yn mynd i fod yn bwysig. Mae heriau hollbwysig ynghlwm wrth hynny, cyfleoedd o bosibl hefyd, o ran swyddi a thwf a phopeth arall. I'r perwyl hwnnw, roedd yn dda iawn cael ymateb gennych. Pan ysgrifennais atoch, fe wnaethoch chi ymateb am fframwaith polisi strategol newydd ar gyfer canolfannau data yng Nghymru. Credaf fod hynny'n hollbwysig, ac wrth gwrs, byddai'n wych deall gennych nawr beth yw bwriadau'r Llywodraeth ar sail y fframwaith hwnnw. A wnewch chi ymrwymo y bydd unrhyw fframwaith yn sicrhau effaith gadarnhaol ar y gymuned a'r amgylchedd fel egwyddor arweiniol? Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod angen inni sicrhau bod cymunedau sydd â'r seilwaith hwnnw yn cael buddion lleol pendant wedyn drwy swyddi da, prentisiaethau da ac adeiladu cyfoeth cymunedol gwirioneddol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod, nid yn unig am ysgrifennu ataf, fel y mae wedi'i ddisgrifio, ond hefyd am godi'r pwnc hwn yma yn y Siambr, sy'n rhoi cyfle imi fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n berthnasol i'r maes hwn. Fel y gŵyr, rydym wedi comisiynu gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwn. Mae'n bwysig cydnabod, gyda thwf enfawr canolfannau data, seilwaith digidol cysylltiedig a chyd-destun ehangach deallusrwydd artiffisial, cyfrifiadura ymylol a thechnolegau cysylltiedig, fod angen fframwaith polisi cadarn arnom sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol ac sydd hefyd yn cydnabod yr angen i'n galluogi i gael y manteision a all ddeillio o'r buddsoddiadau mewn seilwaith digidol ledled y byd, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso'r rheini â'r pryderon dilys sydd gan bobl ar lefel gymunedol ac yn fwy cyffredinol o ran defnyddio ynni, o ran dŵr, o ran defnydd tir ac ati. Felly, byddwn yn nodi hyn cyn gynted ag y gallwn er mwyn i ni gael y drafodaeth honno ar draws y Siambr ac yn ehangach ar draws cymdeithas sifil yng Nghymru.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, ni allwn gael economi ffyniannus yng Nghymru heb gysylltiadau cryfach rhwng swyddi, cyfleoedd a chymunedau. Dyna pam y buddsoddodd Llywodraeth Lafur y DU £14 biliwn yn rheilffyrdd Cymru, ac mae parcffordd Caerdydd yn rhan bwysig iawn o'r strategaeth honno. Mae fy etholwyr yn Llaneirwg yn gwybod y bydd yr adeiladu'n cymryd amser, a bydd angen rhywfaint o sicrwydd arnynt am y budd uniongyrchol i'r gymuned, wrth gwrs, ond bob dydd, mae rhywfaint o'r newyddion hwnnw—. Maent yn dal i aros. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni nawr ynglŷn â pryd y gwelwn y rhaw gyntaf yn y ddaear ar barcffordd Caerdydd yn fy etholaeth i, Caerdydd Ffynnon Taf?
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw hefyd. Roeddem yn meddwl tybed a allem wneud rhywfaint o goreograffi. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n allweddol yma, ac yn amlwg, rydym yn ymwybodol o'r cyfle penodol hwnnw, yw ein bod yn awyddus i weld buddsoddiad yn ein seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd. Yr un peth sydd ei angen arnom, ac efallai y gallwn weithio gyda'n gilydd ar hyn, yw troi'r addewid o £14 biliwn sydd, wyddoch chi—. Roedd yr addewid hwnnw i'w groesawu, ond yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw troi hynny'n gynllun gweithredu gydag ymrwymiadau cyllidebol ac amserlen. Ac yna byddwn nid yn unig yn gallu agor gorsaf parcffordd Caerdydd a sicrhau buddsoddiad ehangach ar draws Caerdydd a'r de-ddwyrain, ond ledled Cymru hefyd. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd ar hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A phen-blwydd hapus, Ysgrifennydd y Cabinet. Weinidog, mae problem ddrud iawn o bosibl gyda'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd. Nawr, cododd fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies y mater ddoe, ac nid wyf yn siŵr a aeth yr ateb a roesoch ddoe i'r afael mewn gwirionedd â'r pwynt sylfaenol iawn o faint o arian trethdalwyr sydd wedi'i wastraffu. Pan gyhoeddwyd y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru, y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd—mae'n swnio'n dda, onid yw—nododd yn benodol y byddai Celtic Energy yn rhoi'r holl dir angenrheidiol yn rhodd ar gyfer y prosiect, ond wedi hynny, nodwyd bod y safle wedi'i brynu gan y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, a chafodd ei drosglwyddo cyn i'r gwaith o adfer hen fwynglawdd brig Nant Helen gael ei gwblhau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym heddiw, yn glir, a gafodd y tir ei roi'n rhodd neu ei brynu? Os cafodd ei brynu, faint a dalodd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, a pha rwymedigaethau adfer a ysgwyddwyd gan y cwmni blaenorol a'r cwmni sydd nawr yn eiddo i Lywodraeth Cymru pan gaffaelodd y safle? Yn bwysicaf oll, os nad yw'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith adfer yn ddigon i orffen y gwaith, pwy'n union sy'n talu'r bil, Celtic Energy neu drethdalwyr Cymru?
Rwy'n ddiolchgar; diolch am eich dymuniadau pen-blwydd. O ran y manylion ynglŷn â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, roedd rhai cwestiynau penodol, ac os yw'r Aelod yn fodlon, buasai'n well gennyf gymryd rhywfaint o amser i'w hystyried fel y gallwn sicrhau, pa bynnag wybodaeth y gallwn ei darparu, y byddwn yn ei darparu'n gywir, gan nad yw'r holl wybodaeth honno yma wrth law gennyf.
Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni fel Llywodraeth wedi adolygu'r sefyllfa, fe wnaethom gomisiynu cyngor arbenigol o ran ble rydym arni nawr, fel roedd y Prif Weinidog yn ei ddweud, o ran y cyfle. Rydym wedi cael y cyngor arbenigol hwnnw, ac rydym bellach yn y broses o adolygu a thrafod beth yw'r potensial gyda buddsoddwyr posibl eraill. Mae safle cyflogaeth hynod bwysig yma, ac rydym yn edrych ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd fel opsiwn, ond yn edrych ar y sefyllfa yn ei chyfanrwydd hefyd.
Diolch. Rwy'n gobeithio y gallwch ateb yr un hwn. Weinidog, y cynllun gwreiddiol oedd y byddai £70 miliwn o arian cyhoeddus yn helpu i ddatgloi oddeutu £330 miliwn o fuddsoddiad preifat. Am flynyddoedd, dywedwyd wrthym fod diddordeb sylweddol gan y sector preifat. Siaradodd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd am gynigwyr credadwy a diddordeb rhyngwladol, hyd yn oed o'r dwyrain canol ac America. Ac mor ddiweddar â mis Mawrth y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd wrth y Senedd hon fod y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd mewn trafodaethau manwl gyda chyllidwr posibl, ond nid oes unrhyw fuddsoddiad preifat wedi'i wneud o hyd, ac nid yw'r ganolfan brofi rheilffyrdd wedi'i hadeiladu eto.
Felly, beth yn union a aeth o'i le? A fu buddsoddwr erioed a oedd yn wirioneddol barod i ddarparu'r arian sydd ei angen i adeiladu'r prosiect, ac os felly, pam y gwnaethant droi eu cefnau? Oherwydd ar hyn o bryd, mae'n edrych fel pe bai eich Llywodraeth wedi etifeddu twll mawr yn y ddaear, prosiect nad oes unrhyw un yn barod i fuddsoddi ynddo, ac o bosibl, bil mawr iawn am roi'r safle'n ôl fel yr oedd. Faint yn rhagor o arian trethdalwyr rydych chi'n barod i'w wario ar y cynllun hwn? Diolch yn fawr.
Diolch am eich cwestiwn pellach ar hyn. Nid oes llawer y gallaf ei ychwanegu'n ddefnyddiol ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r ffaith bod angen inni ymchwilio i'r manylion, edrych ar y diddordeb posibl a fynegwyd gan fuddsoddwr, ac yna, gyda'r holl wybodaeth honno, gwneud penderfyniad sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau, yn economaidd ac o ran cyflogaeth, mewn rhanbarth pwysig iawn yng Nghymru, sy'n haeddu ein cefnogaeth i'r graddau mwyaf sy'n bosibl. A phan fydd y wybodaeth honno gennym, byddwn yn gwneud penderfyniad a byddwn yn dod â'r penderfyniad hwnnw yn ôl i'r Siambr wrth gwrs.
3. Pa rôl fydd prosiectau ynni cymunedol yn ei chwarae yn nhrawsnewidiad Cymru i sero net? OQ64557
Bydd ein strategaeth ynni genedlaethol yn cydnabod rôl hanfodol ynni cymunedol wrth gyflawni sero net. Bydd cwmni ynni cyhoeddus Cymru yn helpu i gyflawni’r uchelgais honno, gan gynyddu nifer y prosiectau ynni cymunedol, gosod systemau ynni adnewyddadwy a chyfleusterau storio a'u defnyddio i ddarparu pŵer a gwres am gost is i bobl.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed eich bod chi o'r un farn â fi fod gan ynni cymunedol ran hollbwysig i'w chwarae wrth inni symud tuag at ein huchelgais o Gymru sero net. Wrth gwrs, wrth galon ein hegwyddorion wrth inni fynd ati i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol yw eu bod nhw'n cyd-fynd â'r anghenion yn lleol, ac mae'n bwysig sicrhau bod y broses cynllunio yn adlewyrchu hynny. Enghraifft berffaith o ddatblygiad diwydiannol sydd yn mynd yn gwbl groes i'n hegwyddorion ni yn fy etholaeth i yw'r cynllun canolfan ddata Menai ar hen safle Ferodo yn ardal Caernarfon. Mae'n brosiect fydd yn llyncu llwythi o ynni a dŵr, yn cael effaith ddinistriol ar fywyd natur ac yn achosi llygredd sŵn a golau yn lleol. Ond, yn fwy na dim, mae graddfa anferthol y prosiect yn golygu y bydd yn siŵr o ddifetha ein tirwedd a'n golygfeydd yn lleol, gan gynnig ychydig iawn o fanteision yn lleol. Felly, sut y gallwch sicrhau nad yw cyflenwad ynni canolfannau data yn cael effaith negyddol ar yr ardal leol?
Dwi'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Rydych chi'n mynd, dwi'n credu, at hanfod egwyddorion ein polisi economaidd, hynny yw, fod datblygiadau o ran ein heconomi ni neu o ran ein system ynni ni yn gorfod cael eu cynllunio er budd pobl Cymru. Rydyn ni wedi gweld yn ein gorffennol fel cenedl, wrth gwrs, y gwrthwyneb yn digwydd, a datblygiadau'n digwydd ar draul buddiannau pobl leol. Dydyn ni ddim yn barod i weld yr un camgymeriad yn digwydd eto. Felly, dyna pam rydyn ni'n rhoi pwyslais ar ynni cymunedol. Rydyn ni'n rhoi ymrwymiad o ran sicrhau isafswm, o leiaf, mewn prosiectau mawr o ran perchnogaeth leol, ac yn y cyd-destun penodol y gwnaethoch chi gyfeirio ato fe o ran canolfannau data, os caf i ategu'r hyn a ddywedais i'n gynharach, mi fyddwn ni fel Llywodraeth yn dod â fframwaith polisi gerbron sy'n mynd i'r afael â'r ofnau digon dealladwy ar draws Cymru lle mae yna argymhellion o ran canolfannau data sydd ddim yn rhoi'r priod ystyriaeth i fuddiannau pobl leol na'r amgylchedd lleol.
Weinidog Cabinet, mae gwahaniaeth enfawr rhwng ynni cymunedol go iawn a dim ond disgwyl i gymunedau gwledig gynnal datblygiadau ynni masnachol enfawr. Ledled Cymru, gofynnir i gymunedau dderbyn ffermydd gwynt ar raddfa ddiwydiannol, peilonau a seilwaith arall, tra bod yr elw o drydan a'r manteision economaidd yn rhy aml yn llifo i rywle arall. Felly, os yw eich Llywodraeth eisiau i o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy fod yn eiddo lleol erbyn 2035, a wnewch chi warantu bod ynni cymunedol o ddifrif yn golygu perchnogaeth gymunedol, caniatâd cymunedol a manteision diriaethol i'r bobl sy'n byw yno, gan gynnwys costau ynni is, yn hytrach na dim ond gorfodi mwyfwy o ddatblygiadau mawr ar Gymru wledig a galw cronfa budd cymunedol yn iawndal? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y dywedais funud yn ôl, rwy'n credu bod adeiladu, ariannu a hwyluso ynni cymunedol sy'n eiddo i'r gymuned 100 y cant yn elfen bwysig o'n polisi. Ar gyfer cynlluniau mwy o faint, rydym wedi dweud ein bod wedi ymrwymo i fynnu isafswm o berchnogaeth gymunedol ar y cynlluniau hynny. Buaswn yn dweud, yn fwy eang, hefyd, mai egwyddor allweddol o'n strategaeth ynni genedlaethol fydd mabwysiadu dull o weithredu y buaswn yn ei ddisgrifio fel un mwy cynlluniedig mewn perthynas â datblygiad gofodol ynni, yn hytrach na'r hyn a gawsom yn flaenorol, sef dull a arweinir gan y farchnad yn y bôn, sydd wedi arwain at bryderon mewn cymunedau, cwestiynau dilys, fel a yw effaith gronnol yn cael ei datrys yn briodol. Felly, mabwysiadu dull cynlluniedig, a chael y cydbwysedd cywir rhwng yr angen i ddatgarboneiddio ein system ynni, gan gydnabod yr ystod o dechnolegau, yn cynnwys ynni adnewyddadwy ar y tir a'u rôl yn hynny, ond rhoi hyder i gymunedau hefyd fod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gynlluniedig, gyda nhw, ac nad yw'n cael ei orfodi arnynt heb fawr o fudd i gymunedau ac i bobl Cymru.
4. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i wella canlyniadau economaidd yng Ngheredigion Penfro? OQ64513
Mae gwella canlyniadau economaidd yng Ngheredigion Penfro yn golygu cefnogi busnesau lleol, cryfhau economïau gwledig, a chreu swyddi sy'n talu'n well. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i gefnogi cwmnïau Cymreig, alinio sgiliau ag anghenion cyflogwyr, buddsoddi mewn seilwaith a chaffael, a sicrhau bod cymunedau ledled gorllewin Cymru yn rhannu twf economaidd.
Weinidog, diolch am eich ymateb. Ddoe, fe ddywedoch chi wrth y Siambr y dylai penderfyniadau buddsoddi newydd sy'n gysylltiedig ag amddiffyn aros lle bo'n bosibl am eich fframwaith ar gyfer buddsoddi moesegol mewn amddiffyn. Ond dylai Ceredigion Penfro elwa'n uniongyrchol o'r fargen twf amddiffyn gwerth £50 miliwn, gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth yn cynnig swyddi medrus, buddsoddiad a chyfleoedd i fusnesau lleol. Felly, cwestiwn syml, Weinidog: a yw'r fargen twf amddiffyn ac Aberporth ill dau wedi'u heithrio o'r saib hwnnw? Ac os na, a allwch chi warantu na fydd un swydd neu gontract, na'r un bunt o fuddsoddiad yng Ngheredigion Penfro yn cael eu colli neu eu hoedi o ganlyniad? Mae angen sicrwydd a buddsoddiad ar orllewin Cymru nawr, nid fframwaith arall sy'n sefyll yn y ffordd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n credu fy mod wedi nodi'n glir ddoe ein bod ni, yn amlwg, yn gweithio'n gyflym ar y fframwaith. Mae'r fframwaith, mewn gwirionedd, yn sylfaen gadarn i ni weithio gyda'r sector yng Nghymru, a byddwn yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector yn rhan o'r broses o'i ddatblygu. Lle mae penderfyniadau sydd—. Rydym yn ceisio—. Yn amlwg, lle mae'n bosibl gohirio, yn rhannol o barch at y Senedd hon, mewn gwirionedd—. Ond lle nad yw'n bosibl, mewn sefyllfaoedd lle mae'n rhaid gwneud penderfyniadau, am resymau ymarferol, cyn i'r fframwaith gael ei gwblhau, rydym wedi caniatáu hyblygrwydd eithriadol, yn rhannol am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu disgrifio, sef nad ydym am golli cyfleoedd mewn achosion a fyddai'n bendant o fewn y fframwaith mewn gwirionedd. Felly, mae gennym yr hyblygrwydd hwnnw, a gallaf ei sicrhau, fel Gweinidog yr economi, y byddaf yn ymwybodol o'r angen i ddefnyddio'r hyblygrwydd hwnnw lle bo angen.
Mae cwestiwn 5 [OQ64492] gan Tom Montgomery wedi'i dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 6—Anna Nicholl.
6. Sut y bydd y Gweinidog Cabinet yn sicrhau bod manteision strategaeth ynni genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cadw o fewn cymunedau lleol? OQ64542
Rydym yn benderfynol fod y cymunedau sy'n cynnal datblygiadau ynni yn fuddiolwyr go iawn. Bydd y strategaeth ynni genedlaethol yn nodi'r ynni glân sydd ei angen ar Gymru a sut y gellir perchnogi mwy ohono trwy isafswm o ofynion perchnogaeth gymunedol a buddsoddiad gan gwmni ynni cyhoeddus newydd Cymru.
Diolch. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i strategaeth ynni adnewyddadwy sy'n cadw gwerth yng nghymunedau Cymru. Mae'r economi sero net eisoes yn elfen arwyddocaol ac uchel ei gwerth yn economi Cymru. Mae cyfleoedd arbennig yng Ngheredigion Penfro, gyda 1,600 o swyddi yn y sector yn sir Benfro yn unig eisoes, a biliynau ar fin cael eu buddsoddi mewn prosiectau sydd ar y ffordd. Maent yn amrywio o brosiectau cymunedol llwyddiannus, fel Cwm Arian, i fentrau mawr, fel y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Mae sero net bellach yn rhan annatod o ddiwydiant Cymru, ac mae gennym botensial enfawr i ddatblygu hyn ymhellach. Mae'r trawsnewid i sero net yn gyfle economaidd mawr, ond rwyf hefyd yn croesawu'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yma, fod angen strategaeth briodol, wedi'i chynllunio ar gyfer sut y gwnawn hyn, yn ofodol ac i gydbwyso'r manteision i'n heconomi, ein cymunedau a'r amgylchedd. Felly, a allai'r Gweinidog Cabinet ddisgrifio, wrth i fwy o seilwaith ynni gael ei ddatblygu yn ein cymunedau gwledig, sut y bydd y Llywodraeth nawr yn sicrhau budd gwirioneddol trwy berchnogaeth leol, swyddi a sgiliau, a biliau ynni is?
Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am y cwestiwn—rhan o thema sy'n dod i'r amlwg y prynhawn yma. Mae'n gyfle mor bwysig i ni, yn genedlaethol ac yn lleol, i sicrhau ein bod yn creu system ynni lle rydym yn elwa ar yr adnoddau ynni sydd gennym. Gallwn wneud hynny ar raddfeydd gwahanol; gallwn ei wneud drwy gwmni ynni cyhoeddus Cymru ar raddfa fwy, cwmni sy’n eiddo cyhoeddus ac sy'n darparu budd i Gymru gyfan ac i bobl Cymru; gallwn ei wneud drwy gefnogi perchnogaeth gymunedol, ac mae enghreifftiau da o hynny eisoes yn etholaeth yr Aelod. Un o'r rhesymau dros wneud hynny yn benodol yw er mwyn mynd i'r afael â'r broblem costau ynni a wynebwn. Cymru sydd â rhai o'r costau ynni uchaf, o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Y DU sydd â rhai o'r costau ynni uchaf yn Ewrop. Ceir tystiolaeth dda fod perchnogaeth gymunedol yn ffordd o ddechrau sicrhau costau is i aelwydydd. Ac yn yr un modd, cwmni ynni sy'n eiddo cyhoeddus, sy'n rhydd i beidio â dilyn pris y farchnad o ran ynni, ond yn hytrach i ddweud, 'Gadewch inni ymrwymo i gontractau gyda defnyddwyr diwydiannol mawr yng Nghymru i greu mantais ynni i Gymru gan ddefnyddio ein hadnoddau ynni adnewyddadwy, ond er budd ein heconomi', dyna'n union pam ein bod yn creu cwmni ynni cyhoeddus i Gymru, ac yn cefnogi perchnogaeth gyhoeddus a pherchnogaeth leol mewn amrywiaeth o ffyrdd ac ar raddfeydd gwahanol.
Rwy’n croesawu canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin ynghylch systemau ynni y tu ôl i'r mesurydd, ac roeddwn yn falch o weld y Llywodraeth yn cydnabod y potensial i fusnesau gynhyrchu, defnyddio a gwerthu ynni a gynhyrchir yn lleol. Dyma'n union y mathau o drefniadau a all ddod â budd economaidd gwirioneddol i gymunedau yng Nghymru a sicrhau bod paneli solar yn cael eu gosod ar unedau diwydiannol yn hytrach nag ar dir amaethyddol o'r radd flaenaf.
Clywais gan berchnogion busnesau sy'n dweud wrthyf y gall yr enillion ariannol o allforio trydan dros ben i'r grid fod yn isel, ei fod mor isel fel nad yw'n darparu digon o gymhelliant i osod paneli solar ar adeiladau masnachol neu ddiwydiannol mawr. Mae cyflenwyr sy'n gosod eu tariffau allforio eu hunain yn troi hyn ar ei ben. Felly, a all y Gweinidog amlinellu beth y maent yn ei wneud i fynd ati'n weithredol i hyrwyddo trefniadau gwifrenni preifat ac a eithrir rhag trwydded, gan ganiatáu i fusnesau werthu pŵer dros ben yn uniongyrchol i fusnesau cyfagos am bris wedi’i gytuno?
Rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n hollol gywir: rwy'n credu bod cyfleoedd gwifrenni preifat, y tu ôl i'r mesurydd yn un o'r ffyrdd y gallwn gyflawni'r hyn a ddisgrifiais nawr, sef creu mantais ynni, yn enwedig yng nghyd-destun busnesau. Oherwydd fe ellir ei wneud, mae'r dulliau ar gael i'w wneud, ond mae angen inni gael pethau mewn trefn er mwyn gweld ble y gallwn ehangu hynny ar raddfa fawr er budd busnesau, oherwydd os gallant osgoi’r costau rhwydwaith—. Er bod Llywodraeth y DU wedi symud rhywfaint ar gostau rhwydwaith i ddefnyddwyr diwydiannol mawr, at ei gilydd, mae elfen enfawr o gostau rhwydwaith o hyd. Os gallwn geisio dyfeisio dulliau gwahanol, fel microgynhyrchu ar y safle mewn rhai amgylchiadau; ar raddfa fwy, gallai systemau ynni lleol sy'n gweithredu y tu ôl i'r wifren ddarparu ynni cost isel i ystod eang o fusnesau. Mae angen inni gydweithio â rhai o'r rhanddeiliaid i sicrhau y gall y trefniant a ddisgrifioch chi mewn perthynas â chysylltedd, â'r grid efallai, fod yn rhan ohono. Felly, rydym yn gweithio ar hynny. Yn sicr, mae'n un o'r meysydd lle gallwn, drwy weithio'n ddoeth, greu'r fantais ynni Gymreig honno, a fydd yn ffactor mor allweddol yn ein llwyddiant economaidd.
7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad am berfformiad Banc Datblygu Cymru? OQ64545
Mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannu a buddsoddi i fusnesau ledled Cymru. Mae'r banc wedi adrodd am berfformiad cryf yn ystod y flwyddyn ac yn parhau i fod yn bartner datblygu economaidd allweddol. Cyhoeddir ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2025-26 yn ddiweddarach y mis hwn, gan amlinellu ei berfformiad llawn a'i effaith economaidd.
Er fy mod yn cefnogi canllawiau ymddygiad moesegol ar gyfer Banc Datblygu Cymru wrth gwrs, rwy’n poeni am wleidyddoli’r banc a’r ffaith bod penderfyniadau buddsoddi yn fwy seiliedig ar fympwyon Llywodraeth Cymru nag ar feini prawf ariannol synhwyrol. Er enghraifft, mae newid hinsawdd bellach yn flaenoriaeth wleidyddol a orfodwyd ar y banc gan y Llywodraeth er mwyn cyrraedd targedau sero net gwallgof. Hefyd, yn y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd ddoe, clywsom am feini prawf economaidd newydd ac o bosibl, cyfyngiadau ar fuddsoddiadau amddiffyn ar gyfer y banc. Rydym eisoes wedi gweld cryn ddadlau ynghylch y banc yn y blynyddoedd diweddar, gyda phryderon ynghylch rhoddion gwleidyddol a honiadau fod busnesau penodol wedi'u gosod ar restr ddu. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd y fframwaith moesegol newydd ar gyfer amddiffyn a gyhoeddwyd ddoe yn berthnasol i Fanc Datblygu Cymru, ac os felly, pryd? Ac a fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi set gyfunol o feini prawf moesegol a pholisi y disgwylir i’r banc datblygu eu dilyn, fel bod busnesau a’r Senedd yn gallu deall sut y gwneir penderfyniadau buddsoddi a chraffu ar unrhyw newidiadau pellach? Diolch.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi llythyr cylch gwaith y banc yn ystod yr wythnosau nesaf, ac fe fydd yn nodi blaenoriaethau clir i'r banc, gan gefnogi uchelgeisiau'r Llywodraeth hon ar gyfer buddsoddi, cynhyrchiant a thwf. Mae hwnnw'n ddull safonol y mae pob Llywodraeth yn ei ddefnyddio. Nid oes dim yn anarferol yn hynny. Dyma sut y mae pob Llywodraeth yn ymwneud â chyrff hyd braich, gan nodi sut y gall y corff hyd braich hwnnw gyfrannu at uchelgeisiau ehangach y Llywodraeth, yn enwedig yn y maes economaidd.
Wrth gwrs, byddem yn disgwyl i'r fframwaith moesegol a nodwn ar gyfer y sector amddiffyn fod yn drawslywodraethol. Mae yno i lywodraethu'r defnydd o arian cyhoeddus, gan gynnwys gan y banc datblygu, a bydd hefyd yn llywodraethu'r awdurdod ddatblygu. Unwaith eto, mae'n eithaf arferol. Byddech yn disgwyl i bolisïau ynghylch gwaith teg, er enghraifft, gael eu hadlewyrchu ar draws yr ystod lawn o asiantaethau.
Roeddwn i'n bresennol yn lansiad adroddiad 'Arwyr Cynhyrchiant' Dirnad Economi Cymru y banc datblygu, ac mae yna newyddion gwych yma; gadewch inni atgoffa ein hunain o hynny. Mae dros 1,700 o gwmnïau twf uchel yn cyflawni cynhyrchiant uwch, lefelau uwch o gyflogaeth ac elw uwch i'r busnesau hynny, gan eu galluogi i barhau i ailfuddsoddi yn eu llwybr twf yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod bod craffu yn rhan bwysig o'n gwaith yma, ond hefyd, gadewch inni beidio â cholli cyfle i ddathlu llwyddiant economaidd Cymru. Oherwydd mae pethau gwych yn digwydd yng Nghymru, ac mae peth ohono'n deillio o waith y banc datblygu.
Y cwestiwn olaf i chi, Weinidog. Cwestiwn 8—Elfed Williams.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd lleol sy’n deillio o brosiect Gwyndod ym Mangor Conwy Môn? OQ64550
Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos gyda Great British Energy—Nuclear a Rolls-Royce SMR i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'r gymuned leol o Gwyndod. Rydym yn cefnogi busnesau Cymru i ddefnyddio cyfleoedd y gadwyn gyflenwi ac yn gweithio gyda phartneriaid addysg i alluogi pobl leol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect.
Diolch i'r Gweinidog Cabinet am yr ymateb. Ar fy ymweliad â safle Gwyndod yr wythnos diwethaf, roedd hi'n amlwg fod hwn nid yn unig yn gyfle i sicrhau ynni dibynadwy am ddegawdau, ond yn gyfle unwaith mewn cenedlaeth i economi Ynys Môn a'r gogledd-orllewin. Os ydym am i bobl leol elwa go iawn, mae angen dechrau paratoi nawr. Mae hynny'n golygu gweithio gyda'r colegau lleol i sicrhau prentisiaethau a'r sgiliau fydd eu hangen, ac, yn bwysig, sicrhau bod ganddynt y cyllid i wneud hynny. Mae hefyd yn golygu rhoi cyfle teg i fusnesau lleol ennill gwaith drwy'r gadwyn gyflenwi. A wnaiff y Gweinidog felly ymrwymo i sicrhau mai swyddi, sgiliau a busnesau lleol fydd wrth galon strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwyndod? Diolch.
Yn sicr, mae hwn yn gyfle euraid o ran economi Cymru gyfan, a hefyd yn rhanbarthol ac yn lleol. Rydym ni eisiau gwneud y mwyaf o'r cyfle hwnnw ar draws yr amrediad o ddimensiynau o ran sgiliau. Mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cael ei gomisiynu i wneud archwiliad sgiliau cenedlaethol ar gyfer Cymru. Yn y cyd-destun yma, mae GBE-N wedi cael ei wahodd i gyfrannu at y galw am dystiolaeth, fel y gall gyfynion y gweithlu penodol ar gyfer Gwyndod fod yn ganolog i'r strategaeth a ddaw yn ei sgil. Mae canolfan sgiliau niwclear Cymru a grŵp llywio wedi'u sefydlu i ddod â diwydiant, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, darparwyr a chymunedau ynghyd o amgylch dull cydlynol, i sicrhau bod gyda ni y system sydd ei hangen er mwyn sicrhau bod pobl leol yn cael y mwyaf o'r cyfle sydd yno.
O ran y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau lleol, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn chwarae rôl ganolog mewn digwyddiad cyflenwyr Gwyndod—mae'n falch gen i geisio hysbysu hynny yn fwy eang—a fydd yn digwydd dros ddau ddiwrnod yng Ngholeg Menai yn Llangefni ar 22 a 23 Hydref, ochr yn ochr â GBE-N a Rolls-Royce SMR. Felly, mae yna lot mwy yn digwydd, ond dyma ryw fraslun o'r hyn sy'n bosib. Mae'n enghraifft arall, gan fod y penderfyniad wedi cael ei wneud, o sut mae Cymru yn bwysig nid yn unig o ran ynni adnewyddol—ac mae yna lot o gyfleoedd fanna yng ngogledd Cymru—ond ein bod ni hefyd yno ar ddechrau technoleg newydd o ran SMR ym Mhrydain, ac mae Cymru mewn safle arbennig o dda i elwa yn economaidd o hynny am genedlaethau i ddod.
Diolch yn fawr iawn ichi, Weinidogion.
Symudwn ymlaen i eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. Cwestiwn 1, Becca Martin.
1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet sicrhau bod oedolion sy'n dymuno dysgu Cymraeg yn cael mynediad at fwy o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau iaith? OQ64524
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Y newyddion da yw bod mwy o bobl yn dysgu Cymraeg nag erioed o'r blaen, ac mae'n braf gweld diddordeb yn tyfu ymysg pobl o bob oedran ac o bob cefndir. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £18 miliwn yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eleni i greu cyfleoedd i oedolion a phobl ifanc i ddysgu'r iaith. Mae'r ganolfan yn cynnig darpariaeth ar-lein, wyneb yn wyneb neu hybrid ar draws pob lefel i'w dysgwyr.
Diolch. Derbynnir yn eang mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i blentyn ddysgu'r Gymraeg, neu unrhyw iaith, yw trwy drochi. Yn syml, po fwyaf o Gymraeg y mae plentyn yn ei glywed ac yn ei ddefnyddio, y mwyaf tebygol yw hi y byddant yn datblygu'r iaith yn effeithiol. Gall y dull trochi feithrin dealltwriaeth ddyfnach hefyd o ddiwylliant a hanes Cymru, ac ymdeimlad o gysylltiad â nhw. Fodd bynnag, i ormod o blant, daw trochi o'r fath i ben wrth gatiau ysgol. Daw llawer o blant o gartrefi Saesneg eu hiaith, sy'n wir yn fy nghartref i, ac efallai mai cyfleoedd cyfyngedig a gânt i glywed neu ddefnyddio Cymraeg yn eu cymunedau ehangach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle rwy'n gynrychiolydd etholedig. Dywedir wrthyf yn rheolaidd nad diffyg awydd i ddysgu Cymraeg yw'r broblem, ond diffyg cyfleoedd i oedolion ddatblygu eu sgiliau iaith i safon sgwrsio. A wnaiff y Gweinidog weithio gyda sefydliadau partner ac asiantaethau allanol i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i oedolion sy'n dysgu ddefnyddio'r iaith sydd ganddynt, gan helpu i greu cymunedau Cymraeg cryfach, a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg?
Diolch yn fawr iawn. Mae addysg drochi wedi bod gyda ni yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac mae'n ffordd brofedig o sicrhau bod plant yn caffael y Gymraeg, yr iaith darged, yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n bosibl. Seiliwyd hyn ar waith a wnaed yng Nghanada, lle mae ganddynt raglenni trochi ar waith. Gwyddom fod plant o gefndiroedd di-Gymraeg yn caffael y Gymraeg yn rhugl trwy ysgolion trochi. Ond yr hyn sydd ei angen arnom hefyd yw cefnogaeth i rieni, fel chi eich hun, sy'n dysgu gyda'u plant. Gwn fod y ganolfan iaith genedlaethol yn darparu cyllid a chefnogaeth i rieni trwy amrywiol raglenni, fel y gallant ddysgu gyda'u plant ar y cyflymder y mae eu plant yn datblygu.
Mae hyn yr un mor bwysig o ran helpu rhieni i gynorthwyo eu plant gyda gwaith cartref, sy'n un o'r rhwystrau sy'n wynebu llawer o rieni wrth ystyried anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg: 'Sut y gallaf helpu gyda gwaith cartref?' Gallaf roi llawer o atebion i hynny. Yn gyntaf, nid gwaith cartref y rhieni ydyw beth bynnag, ond gallwn ddweud llawer am hynny. Ond lle maent yn teimlo y gallant helpu, mae dysgu Cymraeg yn bwysig ac yn helpu i feithrin cwlwm rhwng rhieni a'u plant trwy'r ail iaith honno. Credaf fod hynny'n anfon neges gadarnhaol i deuluoedd ynghylch pwysigrwydd dwyieithrwydd a byw mewn Cymru ddwyieithog.
Fel dysgwr Cymraeg, rwy'n falch iawn o gael cyfle i ddysgu Cymraeg yn y Senedd.
Sarah Edwards ydw i, a dwi'n dysgu Cymraeg.
A all y Gweinidog Cabinet wneud sylwadau ar ba ddarpariaethau sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio cyfleusterau dysgu Cymraeg yn fy etholaeth fy hun yng nghefn gwlad sir Gaerfyrddin? Diolch.
Llongyfarchiadau mawr am ddysgu Cymraeg. Rŷch chi'n byw, fel fi, mewn sir lle mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o'r gymuned.
Mae sir Gaerfyrddin, etholaeth a rannwn, yn ardal lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn helaeth, ac mae'n wych fod pobl fel chi yn dysgu'r iaith. Mae'r ganolfan genedlaethol y cyfeiriais ati yn gynharach yn darparu cyllid, ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £18 miliwn iddynt i ariannu cyrsiau wedi'u teilwra i anghenion pobl, boed hynny yn y gymuned, yn y Senedd, mewn gweithleoedd, ac ar-lein hefyd. Fel cyn diwtor Cymraeg fy hun, gwn pa mor bwysig yw hi fod y cyrsiau hynny ar gael yn y gweithle yn enwedig, ond hefyd yn y gymuned.
Un o fanteision y gweithle yw bod lle fel y Senedd yn rhoi cyfleoedd i chi nid yn unig i ddysgu'r iaith ond i'w defnyddio hefyd, fel rydych chi wedi'i wneud yn effeithiol y prynhawn yma. A dyna rwy'n annog yr holl Aelodau a'r holl staff yn y Senedd, a gweithleoedd eraill ledled Cymru, i'w wneud, dysgu'r iaith a chael cefnogaeth sensitif ac effeithiol gan y rhai ohonom sy'n siaradwyr Cymraeg drwy ymgysylltu â chi ac ymarfer yr iaith gyda chi. Oherwydd mae dysgu Cymraeg yn gylch rhinweddol mewn sawl ffordd wahanol. Mae'n ymwneud â hyder, cyfleoedd a datblygu sgiliau. Mae angen parhau a datblygu'r cylch hwnnw hyd nes y dowch yn rhugl a gallu defnyddio'r iaith mewn pob math o ffyrdd gwahanol mewn bywyd. Da iawn.
2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OQ64510
Diolch yn fawr am y cwestiwn.
Ein blaenoriaeth yw codi safonau i bob plentyn, lle bynnag y maent yn mynd i'r ysgol yng Nghymru. Rydym am weld gwelliant cynaliadwy mewn llythrennedd a rhifedd, mwy o blant a phobl ifanc yn gwneud cynnydd da o'u man cychwyn, a mwy o'r rhai sy'n gadael ysgol yn ennill cymwysterau defnyddiol yn barod ar gyfer astudio pellach, hyfforddiant neu waith.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog Cabinet. Mae pryderon difrifol ynghylch dyfodol addysg ffydd yn ein hysgolion yn sir Benfro, yn dilyn nifer o benderfyniadau dadleuol a wnaed gan Gyngor Sir Penfro yn y misoedd diwethaf. Fel y gwyddoch efallai, ym mis Mai penderfynodd y cyngor ddileu statws ysgol wirfoddol a reolir Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran. Dilynwyd hyn ym mis Mehefin gan benderfyniad i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr, ysgol wirfoddol a reolir, tra bod cynigion dan ystyriaeth hefyd i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod, ysgol wirfoddol a reolir arall.
Mae'r penderfyniadau hyn wedi codi pryderon difrifol ymhlith rhieni, llywodraethwyr, cynrychiolwyr eglwysig a chymunedau lleol am ddyfodol hirdymor addysg ffydd yn sir Benfro. Felly, Weinidog Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi na ddylai unrhyw ysgol ffydd gael ei cholli neu golli ei statws yn erbyn ewyllys ei chymuned ysgol? A allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn fodlon eu cymryd i gefnogi ysgolion sy'n dymuno cadw eu statws ffydd yn sir Benfro, ac ar draws Cymru gyfan, yn wir?
Diolch yn fawr am y cwestiwn.
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r cynlluniau y mae'n eu codi gyda mi o ran cynigion trefniadaeth ysgolion Cyngor Sir Penfro. Mae wedi bod yma yn llawer hirach na mi, a bydd yr un mor ymwybodol na allaf wneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall unrhyw gynigion gan awdurdodau lleol, a allai gael eu cyfeirio at Weinidogion i wneud penderfyniadau arnynt yn nes ymlaen.
Hoffwn ddweud 'diolch' wrth fy Aelod etholaethol, gan fod hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon—ysgolion eglwysig. Felly, roeddwn eisiau nodi hynny.
Mae polisïau sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol cynhwysol i'w croesawu, ac mae llawer o ddisgyblion anabl a'u teuluoedd yn parhau i nodi rhwystrau i gyfranogiad ystyrlon mewn chwaraeon ysgol, fel plant mewn cadair olwyn yn cael eu gorfodi i amseru eu cyfoedion yn hytrach na chymryd rhan weithredol. Felly, a allwch chi amlinellu pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro cyfraddau cyfranogiad ymhlith dysgwyr anabl, sut y mae'n gwerthuso i ba raddau y mae polisïau'n trosi'n ganlyniadau ar lawr gwlad ac a wnaiff ymrwymo i gyhoeddi'r data, fel y gall Aelodau asesu i ba raddau y mae disgyblion anabl yn cymryd rhan mewn chwaraeon sy'n seiliedig ar y cwricwlwm ar yr un gyfradd â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl? Diolch.
Diolch. Ac rwyf innau hefyd eisiau gweld pob disgybl yng Nghymru yn gallu cymryd rhan ym mhob agwedd ar y cwricwlwm, gan gynnwys, yn amlwg, chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gwyddom pa mor bwysig yw hynny ar gyfer eu datblygiad, eu hiechyd, eu cynhwysiant yn yr ysgol ac yn y gymdeithas, a chredaf fy mod wedi cyfeirio mewn atebion blaenorol at ein ffocws ar y cynhwysiant hwnnw. Rydym eisiau i'n system a mynediad at y cwricwlwm fod ar gael i'n holl ddysgwyr. Nid oes gennyf y ffigurau y gofynna amdanynt wrth law, ond gallaf edrych ar hynny a rhannu hynny gyda hi. Ond gallaf roi sicrwydd iddi y bydd ein holl waith ar safonau addysg a hygyrchedd y cwricwlwm i ddysgwyr ledled Cymru yn canolbwyntio ar bob disgybl.
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Stephen Senior.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, gadewch inni edrych yn ôl ar 20 mlynedd o'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yng Nghymru. Yn ôl yn 2006, dywedodd Jane Hutt:
'gallwn ddysgu o'r arferion gorau a mwyaf effeithiol'.
Symudwn ymlaen at Leighton Andrews, a aeth i'r afael â hyn, er clod iddo, ac a oedd yn eithaf di-flewyn-ar-dafod. Siaradodd am 'fethiant systemig'. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, Huw Lewis—'dim atebion cyflym'. Kirsty Williams, a oedd yn y swydd am beth amser:
'bydd yn cymryd amser i ddiwygiadau addysg Cymru gael eu hadlewyrchu yn y canlyniadau PISA'.
Wel, fe wnaeth y Democrat Rhyddfrydol ddarogan un peth yn gywir yno. Jeremy Miles:
'adnewyddu’r ffocws cenedlaethol ar ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth'.
Ac yna, yn amlwg, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, chi eich hun:
'nid yw'r canlyniadau hyn lle'r hoffem iddynt fod'.
Dylwn ddweud, yn y cyfnod hwnnw, fy mod i mewn gwirionedd yn rhannol gyfrifol am weinyddu PISA mewn un neu ddwy o ysgolion yng Nghymru, felly rwy'n gwybod rhywfaint am hyn. Mae'n stori enbyd, Weinidog. Mae'n teimlo fel y ffilm Groundhog Day i'r Aelodau iau. Efallai fod honno'n ffilm sy'n werth ei gwylio. Rydym yn teimlo fel pe baem mewn cylch diddiwedd. Fy nghwestiwn yw: pam y dylem feddwl y bydd cyhoeddiadau'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth?
Diolch am y wibdaith drwy PISA yng Nghymru, rhywbeth y credaf fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd ag ef, ac sydd wedi ein harwain at sefyllfa nad ydym am fod ynddi. Yr hyn sy'n wahanol am y cynllun hwn yw ei ffocws ar addysg hyd at 16 oed fel yr elfen gyntaf yn hynny. Rydym yn cydnabod bod y blynyddoedd cynharaf yn cael effaith ar ddatblygiad dysgwyr mewn ysgolion. Rydym yn cysylltu hyn yn gadarn iawn â'r holl ymyriadau rydym yn eu gwneud yn y gofod hwnnw, er mwyn inni allu rhoi'r gefnogaeth briodol i'r dysgwyr hynny ac i staff. Rwyf hefyd—ac mae hyn yn newydd yn ogystal—yn edrych ar linell sylfaen ar gyfer mynediad i ysgolion, dangosydd blwyddyn 6, fel y gallaf i ac eraill gael ein dwyn i gyfrif am y trywydd rydym arno o ran llythrennedd a rhifedd, ac rydym hefyd am weld gwelliannau yng nghanlyniadau cymwysterau pobl ifanc 16 oed.
Rwy'n awyddus i gyflwyno gallu yn ein system ysgolion i ddangos yr hyn a wnawn, yr hyn y gallwch fy nwyn i gyfrif yn ei gylch, a'r eglurder rydym yn ei roi i staff ysgolion ynghylch y disgwyliadau hynny. Bydd manylion y cynllun yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir er mwyn ymgynghori ar ffurf y disgwyliadau hynny. A byddwn yn gallu gweld, gyda llythrennedd a rhifedd yn benodol, i ba gyfeiriad rydym ni'n mynd, ac mae hynny'n wahanol i'r ymatebion yn y gorffennol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch, ond nid oes unrhyw beth newydd yn yr asesiad sylfaenol. Efallai y bydd yn wahanol i'r hyn rydym wedi'i gael o'r blaen. [Torri ar draws.] Ie. Hynny yw, gallwn fynd yn ôl i 1998, ac roedd gennych y fframwaith llythrennedd a rhifedd, na chafodd ei fabwysiadu—ni welodd ei ffordd drwy ddatganoli.
Gan roi hynny ar y naill ochr, rwy’n mynd i sôn am y Cwricwlwm i Gymru, gan y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei grybwyll fel rhywbeth sydd â'r potensial i wella canlyniadau disgyblion. Ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei hadolygiad mwyaf erioed o'r cwricwlwm yno mewn dros 15 mlynedd, oherwydd eu canlyniadau PISA gwael. Ac yn anffodus, i'r rhai nad ydynt yn gwybod, roedd y Cwricwlwm i Gymru wedi'i seilio'n bennaf, nid yn gyfan gwbl, ond yn bennaf, ar Gwricwlwm Rhagoriaeth yr Alban, fel y'i gelwid. Mae ei DNA yn rhedeg drwy ein cwricwlwm ni yma. Rwy’n ei ddisgrifio fel tatws stwnsh y cwricwlwm—mae'n ddi-flas ac o fawr o werth maethol.
Weinidog, gan nad ydym wedi gweld effaith y cwricwlwm newydd ar ganlyniadau PISA eto, ac mae'r Alban wedi gweld hynny, fy ofn yw y bydd pethau'n gwaethygu, ac o bosibl yn mynd yn llawer gwaeth. A wnewch chi ddilyn esiampl yr Alban a chyhoeddi eich adolygiad eich hun o gwricwlwm ysgolion Cymru?
I fynd yn ôl at eich pwynt cyntaf, ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd, cyflwynwyd un yng Nghymru, ond ni chynhaliwyd y ffocws parhaus arno. A dywedais yr wythnos diwethaf mai un o'r ffactorau sy'n gwneud gwahaniaeth mewn awdurdodaethau ledled y byd yw'r ffocws parhaus hwnnw, sef yr hyn rydym ni'n ei gynnig.
Ar y Cwricwlwm i Gymru, rydych chi'n llygad eich lle fod tebygrwydd yn y ffordd y mae'r rhain wedi esblygu, ond er y gallem ddysgu gan yr Alban mewn rhai ffyrdd, fe welwch fod llawer o'r ymchwil sy'n dod i'r amlwg bellach yn awgrymu y gallent hwy ddysgu gennym ninnau hefyd.
Rwyf wedi cyhoeddi y byddaf yn dechrau adolygiad wedi'i dargedu o'r cwricwlwm, er mwyn inni gael mwy o eglurder o ran y disgwyliadau ynghylch cynnwys y cwricwlwm hwnnw. Nid wyf eisiau dechrau eto, gan na fyddai 15 mlynedd o ddiwygio pellach yn ddefnyddiol, ac mae'r cwricwlwm yn cael ei roi ar waith yn dda mewn llawer iawn o ysgolion—rwyf wedi gweld hynny. Felly, bydd adolygiad; fe ddof yn ôl i egluro sut y bydd yn gweithio a'r amserlen ar ei gyfer. Mae angen adolygiad, ond ni chredaf ein bod yn yr un lle â'r Alban, ac rwy'n credu bod y gwersi'n gweithio'r ddwy ffordd.
Iawn. I gloi, fe sonioch chi am gymwysterau yn 16 oed—hoffwn sôn am gymwysterau yn 18 oed. Mae rhai'n credu bod canlyniadau PISA yn sefyll ar eu pen eu hunain ac nad ydynt yn cyfrannu at unrhyw beth penodol, gan fod gennym ganlyniadau TGAU a Safon Uwch. Gadewch inni edrych ar ganlyniadau Safon Uwch, gan na allwch eu cymharu â Lloegr mwyach, gan nad oes yr un strwythur i TGAU a Safon Uwch, er bod ganddynt yr un enw, ac nid ydynt yn cael eu graddio'r un fath o reidrwydd chwaith.
Ond mae gennym ddata cymharol ar gyfer mynediad i'r brifysgol, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio ar Brifysgol Caergrawnt. Nid dyma'r darlun cyflawn, ond pan edrychwn ar rywfaint o'r data a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caergrawnt, gan fynd yn ôl dros ddegawd, daw rhai pethau'n amlwg. Yn y tair blynedd diwethaf, roedd 325 o ymgeiswyr o Gymru i Gaergrawnt, ac roedd 21 y cant o'r rheini'n llwyddiannus yn y pen draw. Os awn yn ôl ddegawd, rydym ar 260 o ymgeiswyr, felly llai o ymgeiswyr, ond roedd 30 y cant yn llwyddiannus. A dylwn nodi mai dim ond 12 y cant oedd y gyfradd lwyddiant ar gyfer yr Alban y llynedd, ac mae hynny'n bryder gwirioneddol, gan ein bod wedi mabwysiadu'r cwricwlwm hwnnw. Y duedd sy'n bwysig—mae mwy yn ymgeisio, ond mae llai yn llwyddiannus.
Fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw: a wnewch chi gomisiynu ymchwil annibynnol—gan mai dim ond ciplun rwyf wedi'i gael—i weld a oes llai o fyfyrwyr o Gymru yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i'r prifysgolion cystadleuol a'r cyrsiau cystadleuol?
Rwy'n credu bod dau bwynt i'w hateb yno. Rwy'n credu bod edrych ar lwybr a chynnydd myfyrwyr i addysg ôl-18 ac ôl-16 yn rhan o adolygiad fy nghyd-Aelod, a bydd hynny'n rhan o hwnnw.
Ar TGAU a Safon Uwch, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio nad oes unrhyw un o'r disgyblion, y dysgwyr, sydd wedi dilyn y Cwricwlwm i Gymru wedi cwblhau'r cymwysterau hyn eto. Felly, efallai na fydd dysgu gwersi am y Cwricwlwm i Gymru gyda'r carfanau penodol hyn mor ddefnyddiol ag sydd ei angen arnom ar hyn o bryd.
Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio bod cysondeb profi—. Mae PISA yn un prawf ac mae'n dweud pethau gwerthfawr wrthym, a hoffwn drafod manylion yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym, yn enwedig pa mor dda rydym ni am ymestyn ein dysgwyr mwyaf galluog. Hoffwn edrych ar hynny a bwydo'r wybodaeth honno i'n cynllun. Mae'n glir hefyd, serch hynny, nad yw'n mesur popeth. Mae TGAU yn mesur rhywbeth ychydig yn wahanol. Mae Safon Uwch, lle rydym yn perfformio'n dda iawn mewn gwirionedd, yn mesur rhywbeth arall. Felly, credaf ei bod yn bwysig ac yn gyfrifoldeb i feddwl am yr holl ganlyniadau hyn yn eu cyfanrwydd, gan fod yn glir hefyd ynglŷn â beth yw ein disgwyliadau, yn enwedig o ran sgiliau sylfaenol, sef hanfod ein cynllun.
Llefarydd Llafur Cymru, Lynne Neagle.
Diolch. Os caf ddechrau drwy ddweud yn barchus wrth y Gweinidog Cabinet fod y gwaith ar ddisgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran, ac yn wir, llawer o'r hyn sydd yn y cynllun llythrennedd a rhifedd, wedi dechrau o dan y Llywodraeth flaenorol, ac felly mae hyn yn barhad o'r gwaith hwnnw. Ond yr hyn roeddwn am ofyn amdano heddiw oedd staff cymorth ysgolion. A gwn eich bod yn deall pa mor hanfodol yw staff cymorth ysgolion, ac yn wir, rwy'n credu mai nhw yw'r glud sy'n dal yr ysgolion at ei gilydd. Ond ar ormod o achlysuron, gwyddom fod gofyn i staff cymorth ysgolion helpu gyda materion meddygol cymhleth mewn ysgolion, gan gynnwys pethau fel trin cathetrau a phibellau bwydo.
Gwn fod canllawiau'n cael eu datblygu ar gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd, ond mae diffyg eglurder ynghylch pryd y caiff y canllawiau hynny eu cyhoeddi. Unwaith eto, gwn fod hwn yn faes heriol, gan ei fod yn ymwneud â'r rhyngwyneb rhwng iechyd ac addysg. Ond mae'n hanfodol fod y canllawiau hynny ar waith gennym, fel nad yw plant ag anghenion iechyd cymhleth yn wynebu rhwystrau yn yr ysgol, ac fel na ofynnir i staff cymorth ysgolion wneud tasgau nad ydynt wedi'u hyfforddi ar eu cyfer—
A gawn ni gwestiwn, Lynne?
—neu'n sicr na chânt eu talu i'w gwneud. Pryd y gallwn ddisgwyl i'r canllawiau hynny fod ar gael?
Rwy'n cytuno â chi ar un peth: mae staff cymorth ein hysgolion yn gwneud gwaith hynod gadarnhaol a phwysig. A bydd unrhyw athro, ac yn wir, unrhyw ddysgwr y siaradwch â nhw'n tystio i hynny.
Mae hefyd yn llygad ei lle fod y rhain yn faterion y mae angen eu hystyried ar draws portffolios. Bydd iechyd yn benodol ac iechyd ataliol hefyd, gellid dadlau, yn bartneriaid allweddol wrth benderfynu sut y mae'r system addysg a ninnau'n cefnogi staff cymorth, ond yn bwysicach fyth hefyd, y dysgwyr, yn y gwaith hwn. Ni allaf roi amserlen iddi ar hyn o bryd, ond gallaf roi sicrwydd iddi, wrth geisio chwalu'r seilos y credaf fod pob Gweinidog ar y fainc hon wedi'u crybwyll dros yr ychydig wythnosau diwethaf, fod hynny'n un o'r meysydd ffocws clir iawn sydd gennym. Oherwydd unwaith eto, i fynd yn ôl at bwynt sy'n gysylltiedig â'ch un chi, mae sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn gallu gwneud y cynnydd gorau a allant, a'u bod yn cael eu cefnogi'n dda beth bynnag y bo'u hanghenion, yn flaenoriaeth i ni.
Diolch. Efallai eich bod yn ymwybodol fod llythyr diogelu wedi'i anfon gan Estyn at ysgol arbennig Heol Goffa yn Llanelli yn dilyn yr arolwg y llynedd, a'i fod yn ymwneud â materion yn gysylltiedig â chymorth gofal iechyd yn yr ysgol. Nawr, nododd llythyr a anfonodd y Gweinidog Cabinet dros iechyd at un o'r bobl a wnaeth sylwadau am yr ysgol y byddai'r canllawiau'n cael eu cyhoeddi rywbryd yn 2027, ond roedd eich ateb ysgrifenedig diwethaf chi ataf yn nodi bod
'y gwaith hwn yn ei gamau cynnar ac...nid ydym mewn sefyllfa eto i gadarnhau amserlen ar gyfer cyhoeddi canllawiau diwygiedig.'
Felly, mae gwahaniaeth yno rhwng yr hyn y mae dau Weinidog wedi'i ddweud. Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â pheryglon seilos. A tybed a fyddech chi'n cytuno â mi nad mater i awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn unig yw hwn, ac os yw'r gwaith hwn i gael ei wneud, rhaid iddo gael ei lywio ar lefel y Llywodraeth gan y Gweinidogion Cabinet sy'n gyfrifol, ym maes iechyd ac addysg. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm y Gweinidog iechyd i sicrhau bod y rhyngwyneb rhwng iechyd ac addysg, o ran addysg plant, yn gwbl ddi-dor?
Wrth gwrs, gallaf roi sicrwydd llwyr iddi ynglŷn â hynny. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, beth yw eich barn ar effaith cau ysgolion ar gymunedau, rhieni, athrawon a dysgwyr ledled Cymru?
Diolch am eich cwestiwn. Mae arnaf ofn fod yn rhaid imi eich cyfeirio at yr ateb blaenorol a roddais i'ch cyd-Aelod, sef yn amlwg, fod y rhain yn benderfyniadau i awdurdodau lleol. Mae codau clir sy'n llywodraethu'r broses y mae angen ei dilyn er mwyn edrych ar drefniadaeth ysgolion, ac yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion llai, fe welwch ymrwymiad yn ein maniffesto i sicrhau bod y codau hynny'n cael eu rhoi ar waith yn dda. Ond fel Gweinidog, ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynlluniau penodol mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, gan fy mod yn ymwybodol y gallai rhai o'r penderfyniadau hyn gael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru maes o law.
Diolch, Weinidog Cabinet. Rwy'n derbyn eich safbwynt ar hynny, ond fel y nodwch, o ran y broses, mae'n bwysig glynu at hyn drwy gydol yr amser, gan fod cymunedau'n pryderu pan fydd bygythiad o gau ysgolion ac uno ysgolion yn eu hardaloedd. Fe fyddwch yn ymwybodol, yn fy etholaeth i, fod Cyngor Sir y Fflint wedi cynnig uno pedair ysgol yn un uwchysgol, gyda chymunedau ar y cyrion, fel yn Saltney, gydag ysgol Sant Anthony, ac yn yr Wyddgrug, gydag ysgol Dewi Sant—ardal y mae fy nghyd-Aelod Darren Millar yn ei chynrychioli—yn arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith pellter y safle arfaethedig.
Y pwynt yma, Weinidog Cabinet, yw bod yr ymgynghoriad ar gyfer y cynnig wedi'i wrthod gan fwy na 96 y cant o'r ymatebwyr. Mae ysgolion yn galon ein cymunedau, ac mae eu cau'n cael effaith arbennig o wael ar ardaloedd gwledig, lle mae ysgolion yn gwasanaethu fel adeiladau cymunedol pwysig ac yn sefydlu arferion gydol oes ar gyfer teithio i'r ysgol ac yn ôl. Ni ddylai cynghorau orfodi ysgolion i gau mewn cymunedau nad ydynt eisiau hynny. Yn hytrach, dim ond lle mae tystiolaeth sylweddol, cefnogaeth gyhoeddus sylweddol a chamau gweithredu i liniaru'r effeithiau ar y cymunedau hynny y dylid ystyried cau. Felly, o fewn y pwerau sydd gennych, Weinidog Cabinet, a wnewch chi ymrwymo heddiw i gefnogi rhieni, athrawon a dysgwyr mewn anghydfodau ynghylch cau ysgolion?
Diolch. Ni allaf ymrwymo i hynny, am y rhesymau a nodais yn gynharach. Ond credaf fod eich cwestiwn yn dangos pwysigrwydd ysgolion yn ein cymunedau, ac ni fuaswn yn anghytuno â hynny am eiliad. Maent yn sefydliadau allweddol yn ein holl gymunedau. Mae buddiant personol gan bob un ohonom yn eu llwyddiant ac yn llwyddiant y dysgwyr yn yr ysgolion hynny. Felly, er y bydd hyn, yn amlwg, yn fater y bydd eich etholwyr eisiau mynd ar ei drywydd gyda chi a chyda phobl eraill, fe'i gadawaf yno.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghaerdydd Penarth fynediad cyfartal at addysg ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg? OQ64509
Diolch. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithredu ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg i sicrhau digon o addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ym mhob ardal o Gaerdydd. Rwy'n deall bod y cyngor wrthi'n datblygu opsiynau strategol, hirdymor ar gyfer darpariaeth ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, a dylem aros am ganlyniadau'r gwaith hwnnw.
Diolch. Rwy'n adnabod teulu yn Butetown y mae'n rhaid i'w merch adael y tŷ erbyn 7.30 a.m. bob bore i gyrraedd ysgol uwchradd Glantaf mewn pryd i gofrestru—dim ond un o lawer o bobl ifanc a'u teuluoedd nad oedd ac nad yw eu penderfyniad i barhau ag addysg iaith Gymraeg yn syml. Nid yw teithio drwy system drafnidiaeth sydd eisoes wedi torri o un ochr i'r ddinas i'r llall yn gynaliadwy. Mae'n ddrud ac yn anodd i rieni, ac yn peri straen i blant 11 oed agored i niwed sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd. Ni all llawer sydd eisiau aros i fynd i glybiau ar ôl ysgol wneud hynny oherwydd diffyg opsiynau trafnidiaeth diogel adref. Mae diffyg mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer Grangetown, Butetown a'r ardaloedd cyfagos yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd ar garreg drws y Siambr hon. Rwy'n cyd-sefyll gyda'r ymgyrchwyr sy'n galw hyn yn anghyfiawnder cymdeithasol. Mae'n gyfystyr â gwahaniaethu strwythurol yn erbyn y cymunedau mwyaf amlddiwylliannol yn ein dinas. Mae gan y sector cyhoeddus ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd, yn annibynnol ar unrhyw drafodaethau ynghylch hyfywedd Sgwâr Callaghan—
Mae’n ddrwg gennyf, Anthony, a gawn ni gwestiwn?
—fel safle posibl. Rwy'n ymwybodol, Weinidog, eich bod eisoes wedi mynegi cefnogaeth i bedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas. Gan gydnabod rôl barhaus Cyngor Caerdydd, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i deuluoedd lleol yn ne Caerdydd ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd?
Diolch yn fawr. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ysgolion a chyfleoedd Cymraeg i ddysgwyr ledled Cymru’n glir. Mae wedi'i fynegi, unwaith eto, yn ein maniffesto. Byddwn yn ymgynghori cyn bo hir yn nhymor yr hydref ar y strategaeth ehangach ynghylch y Gymraeg a gweithrediad Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae hynny'n ffocws ar gyfer ein gwaith ni fel Llywodraeth, a buaswn yn ei wahodd i edrych yn fanwl ar yr ymgynghoriad hwnnw pan gaiff ei gyhoeddi. Yn ogystal, rydym newydd gynnal adolygiad cyflym o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol eu datblygu er mwyn dangos sut y maent yn bwriadu datblygu'r opsiynau hyn ar gyfer pob dysgwr yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill.
Weinidog, mae'n hanfodol bwysig fod diwylliant unigryw Cymru nid yn unig yn cael ei gadw ond yn cael ei feithrin. Bydd mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i'r rhai sydd ei heisiau yn rhan bwysig o'r broses honno. Yn fwy na hynny, mae dwyieithrwydd yn dda i'r ymennydd yn llythrennol. Mae'n arwain at well gweithrediad goruchwyliol, cof gwell, gwell gallu i ddatrys problemau, a hyd yn oed yn gohirio camau cyntaf dementia am oddeutu pum mlynedd ar gyfartaledd. Wrth gwrs, nid Cymru yw'r unig wlad sy'n cydnabod pwysigrwydd iaith wrth drosglwyddo diwylliant. Mae enghreifftiau o bob cwr o'r byd y gallwn ddysgu oddi wrthynt. Hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi dysgu neu'n ceisio dysgu unrhyw beth gan Gatalwnia a rhanbarth Gwlad y Basg ynghylch hyrwyddo dwyieithrwydd yn llwyddiannus.
Diolch. Gwn fod fy rhagflaenwyr a minnau'n awyddus iawn i ddysgu oddi wrth enghreifftiau o wledydd a diwylliannau dwyieithog llwyddiannus ledled y byd. Mae bob amser yn ddiddorol i mi ein bod yn meddwl bod hyn rywsut yn anarferol. Yn y rhan fwyaf o leoedd yn y byd, mae dwyieithrwydd yn rhan dderbyniol o fywyd—dyna sut y mae pethau. Credaf fod dysgu oddi wrth y gwledydd hynny, dysgu oddi wrth yr awdurdodaethau hynny, bob amser wedi bod yn bwysig i'r Llywodraeth hon a'r un flaenorol. Yn sicr, gallaf ymrwymo i barhau â'r diddordeb hwnnw yn y ffordd y caiff pethau eu gwneud mewn mannau eraill ac i ddysgu'n briodol oddi wrth hynny.
Mae'r Aelod wedi crybwyll Gwlad y Basg. A gaf i gyfeirio'r Gweinidog tuag at ysgol Groes-wen, hefyd yng Nghaerdydd Penarth, sydd yn enghraifft arloesol yma yng Nghymru, ar fodel sydd wedi'i gymryd o gynlluniau addysg yng Ngwlad y Basg, sydd yn tyfu dwyieithrwydd drwy ddwy ffrwd, Cymraeg a Saesneg? Dwi eisiau cydnabod cefnogaeth y Gweinidog yn lleol i'r ymgyrch dros bedwaredd ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi'r conflict personol sydd nawr yn ei rôl fel Gweinidog.
Ond, wedi dweud hynny, allaf i jest godi eto y mater yma o'r safle? Fe fydd hi'n deall yn ei rôl fel Gweinidog yr heriau ymarferol sydd yna o ran sicrhau pedwaredd ysgol, o ran twf niferoedd a chynaliadwyedd ysgolion eraill yng Nghaerdydd. Ond mae'r dyhead yna yn y cyngor a, dwi'n credu, yn y Siambr yma hefyd i weld pedwaredd ysgol i ateb y consýrn sydd wedi cael ei godi ynghylch access rhwydd ledled y ddinas i addysg Gymraeg. Felly, tra bo'r cyngor yn mynd rhagddo â'r gwaith o baratoi cynllun busnes, dwi wedi ysgrifennu ac wedi cyfeirio at yr issue hyn gyda'r safle yn Callaghan Square. Mae de Caerdydd wedi datblygu yn sylweddol a does yna ddim llawer o safleoedd—
Huw, allwn ni gael cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Mae Elin Jones newydd adael y Siambr, yn anffodus. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog cyllid i dynnu'r safle yna oddi ar y farchnad—safle sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru—fel bod yr opsiwn yna i ddatgloi ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd?
Diolch yn fawr. Diolch yn fawr am gydnabod hefyd fod y sefyllfa hon yn gallu bod yn ddyrys i rywun fel fi, sydd hefyd, wrth gwrs, yn byw yn Grangetown. Ond, wedi dweud hynny, rwy'n ymwybodol, rwy’n credu, fod yr Aelod wedi ysgrifennu at y Gweinidog cyllid, ac rwy'n hyderus y bydd hi'n ateb hynny yn fuan. Fe fyddwn i yn nodi ar y pwynt hwn nad ydyn ni wedi cael gohebiaeth swyddogol gan Gyngor Caerdydd ar y mater hwn, ac efallai fod hwnna’n rhywbeth i edrych arno fe.
Ond i fynd nôl at fy ateb blaenorol, mae datblygu addysg Gymraeg ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, cynnydd yn nifer y disgyblion sydd yn gallu cael mynediad rhwydd at addysg gyfrwng Gymraeg, a bod dysgwyr yn ein system ni, pa bynnag ysgol maen nhw wedi mynd iddi hi, yn gadael yr ysgol yn 16 yn siaradwyr hyderus o'r Gymraeg yn ganolog i weledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer y Gymraeg. Bydd yna ymgynghori helaeth iawn ar yr amryw ffyrdd y byddwn ni'n symud i'r cyfeiriad hwnnw dros gyfnod y Llywodraeth hon.
Dylai pawb gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn anffodus, ni chefais hyn pan oeddwn yn tyfu i fyny, ac rwy'n gorfod dysgu fel oedolyn nawr. Ar hyn o bryd, dim ond un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd yn ein hetholaeth ni, Caerdydd Penarth. Gwyddom fod cymunedau yn ne Caerdydd yn teithio ymhellach i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, sy'n datgymell rhieni a gwarcheidwaid rhag anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n ymwybodol, serch hynny, mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio ysgolion lleol a bod yn rhaid dilyn gweithdrefnau statudol. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allai'r Gweinidog Cabinet gadarnhau pa gyfathrebiad y mae hi wedi eu cael â Chyngor Caerdydd mewn perthynas â'r mater hwn.
Yn benodol—credaf imi grybwyll hyn yn fy ateb cynharach—nid wyf wedi trafod y lleoliad. Ond wrth gwrs, ochr yn ochr â'r hyn sy'n digwydd, rydym yn edrych ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac mae'r rhain bellach wedi'u cyflwyno, mae'r adolygiad wedi'i gwblhau, a byddwn yn cyfathrebu â phob awdurdod lleol ym mis Hydref i drafod y cynnydd a wnaed a'r darlun cenedlaethol y gallwn ei gael o'r cynlluniau hynny, wedi'i alinio, felly, â'r flaenoriaeth rydym yn ei rhoi fel Llywodraeth i ddatblygu addysg Gymraeg. Diolch yn fawr.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysgol ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64522
Diolch. Mae gwella safonau addysgol i ddysgwyr ym Mhontypridd Cynon Merthyr, ac yn wir ym mhob cymuned ledled Cymru, yn genhadaeth graidd i'r Llywodraeth hon. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, sy'n gam cyntaf pwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer system addysg sy'n gweithio i bob dysgwr ac yn cefnogi partneriaid allweddol i lwyddo.
Diolch, Weinidog Cabinet. Ni allwn anwybyddu'r cysylltiad clir rhwng amddifadedd cymdeithasol, tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol, sydd, yn fy marn i, oll yn feysydd y mae Llywodraethau olynol wedi methu mynd i'r afael â nhw. Dylai'r canlyniadau PISA diweddaraf fod yn rhybudd i'r Llywodraeth hon. Cymru sydd ar y gwaelod yn y DU mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. Mae mathemateg wedi gostwng yn sylweddol, ac mae eich Llywodraeth eich hun yn cydnabod bod Cymru wedi bod ar ei hôl hi'n gyson o gymharu â gwledydd eraill y DU. Ond dylai'r methiant hwn beri'r pryder mwyaf i ni mewn cymunedau fel yr un rwy'n ei chynrychioli ym Mhontypridd Cynon Merthyr. Mae eich ffigurau amddifadedd eich hun yn dangos bod 83 y cant o ardaloedd ym Merthyr Tudful ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn addysgol yng Nghymru. Felly, Weinidog Cabinet, nid rhywbeth i'w ddarllen ar un o daenlenni'r Llywodraeth yn unig yw'r ystadegau hynny; maent yn cynrychioli plant y mae eu cyfleoedd yn y dyfodol yn dibynnu ar yr addysg a gânt heddiw.
Nawr, rwy'n sylweddoli nad chi sy'n gyfrifol am y canlyniadau PISA, gan eu bod yn seiliedig ar ganlyniadau 2025, a threuliodd Llafur flynyddoedd yn diwygio'r cwricwlwm, yn newid cymwysterau ac yn ymbellhau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw un ar yr ochr hon i'r Siambr wedi anghofio bod Plaid Cymru wedi cefnogi hynny, felly ni allwch feio'r system a etifeddwyd gennych mwyach. Felly, y cwestiwn yw: a ydych chi'n ymrwymo i weithio ar draws adrannau'r Llywodraeth i sicrhau bod ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu blaenoriaethu er mwyn sicrhau ein bod yn cau'r bwlch rhyngddynt ac unrhyw gyflawniadau addysgol ar gyfer PISA? Diolch.
Diolch yn fawr. Nid dadlau ynghylch hanes Llywodraethau blaenorol yw'r ffordd rwy'n bwriadu defnyddio fy amser, gan fy mod am symud ymlaen o fan hyn, felly nid oes gennyf unrhyw fwriad o ddechrau heddiw. Rwy'n credu y gwelwch ymrwymiad ar draws y Llywodraeth hon i fynd i'r afael yn arbennig ag effaith tlodi ar blant ledled Cymru, mewn ysgolion ac yn ehangach yn ein cymdeithas. Dyna pam y mae'r cynnig gofal plant, er enghraifft, yn ffocws mor bwysig i ni. Rwy'n credu y gwelwch ymrwymiad strategol ym mhob un o'n portffolios i fynd i'r afael ag effaith tlodi yng Nghymru ar blant ac ar gymdeithasau ac ar deuluoedd ledled ein gwlad, gan gynnwys yn eich etholaeth chi.
Fe welwch hefyd, yn y cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol a gyhoeddais yr wythnos diwethaf, fod ymrwymiad penodol ynddo i edrych ar ein llwyddiant wrth gyflawni'r cynllun hwn o ran pa mor dda yr awn i'r afael â'r bylchau hynny, gan fod rhai o'r ystadegau hyn yn frawychus ac yn ystyfnig o uchel ac wedi bod felly ers amser maith. Ac rwy'n gobeithio y byddwch wedi clywed, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, pa mor bwysig yw hynny, yn ei holl gymhlethdod, i bob un ohonom.
Mae addysg Gymraeg yn llwyddo pan fydd pob plentyn yn dysgu yn y ffordd sydd yn addas iddyn nhw fel unigolion. Mae ŵyr gyda fi sydd yn byw gydag awtistiaeth. Mae mewn ysgol Gymraeg ac mae'n cael cefnogaeth ffantastig, mae'n rhaid imi ddweud—hollol wych—a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny. Yn anffodus, dyw pob teulu ddim yn yr un sefyllfa, achos dyw hyn ddim yn wir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Ni ddylai cael anghenion dysgu ychwanegol olygu bod yn rhaid i ddysgwyr roi'r gorau i'w hawl i gael addysg drwy'r Gymraeg. Dylai pob plentyn a pherson ifanc, beth bynnag fo'u hanghenion dysgu, allu cael mynediad at y cymorth a'r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, a wnaiff Gweinidog y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau bod darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg yr un mor hygyrch, cynhwysfawr ac effeithiol â'r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Saesneg?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu ein bod ni wedi clywed yn yr wythnosau diwethaf gan rai o'n cydweithwyr hefyd amboutu'r impact personol mae rhai o'r dewisiadau anodd yma wedi'i gael pan nad oes modd cael y gefnogaeth addas ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg, ac i ddysgwyr mewn ysgolion Cymraeg hefyd. Rydyn ni wedi edrych yn fanwl ar hwn, yn benodol ar y ddarpariaeth hynny o safbwynt dysgwyr mewn ysgolion Cymraeg, ac mae e'n sicr yn flaenoriaeth i ni. Mi allaf i anfon mwy o fanylion ynglŷn ag amserlen, efallai, iddi y tu allan i'r cyfarfod y prynhawn yma, ond rwy'n moyn ei sicrhau hi ein bod ni yn sylweddoli bod hwn yn broblem benodol ac mae cefnogi teuluoedd sydd yn dymuno cael addysg Gymraeg i'w plant a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn sicr yn rhywbeth y byddwn ni yn barnu ein llwyddiant arno fe dros gyfnod y Llywodraeth.
Diolch. Dwi'n ymwybodol iawn o amser, a hoffwn i gyrraedd o leiaf hanner ffordd drwy'r cwestiynau. Felly, fyddaf i ddim yn gallu galw unrhyw gyfraniadau ychwanegol, yn anffodus. Symudwn ymlaen i gwestiwn 5—Andrew R.T. Davies.
5. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i gefnogi cyllidebau ysgolion ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg? OQ64533
Mae penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod lleol yn rhan o'r broses o osod eu cyllideb gyffredinol. Rwy'n ymrwymedig i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i ystyried sut i ddefnyddio cyllid addysg yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Weinidog, am beth y gofynnwch gan y Gweinidog cyllid i gefnogi eich portffolio? Mae llawer o ysgolion ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg mewn diffyg ac yn troi atoch chi fel Gweinidog newydd i sicrhau cyllid ychwanegol yn y setliad cyllideb presennol. Felly, a allech chi nodi, o ystyried eich profiad yn y sector addysg, yn enwedig fel cyn-gynrychiolydd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, am beth y gofynnwch i'r Gweinidog cyllid, er mwyn i benaethiaid fod yn hyderus y gwelant fwy o adnoddau yn y flwyddyn ariannol newydd?
Diolch. Gallaf ei sicrhau yn bendant fod addysg yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth gyfan, ac y byddaf i, fel eiriolwr dros gefnogaeth i bob agwedd arni, yn cyflawni gyda phenderfyniad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi'r setliadau cyllido sydd ar waith ar hyn o bryd. Efallai y cofiwch, yn y trafodaethau cyllidebol diwethaf, fod £112.8 miliwn ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer llywodraeth leol, a arweiniodd at £6.56 biliwn mewn cyllid craidd i awdurdodau lleol, sef cynnydd o 4.5 y cant.
Gwn fod problemau'n gysylltiedig â chyllid mewn addysg ac yn ein hysgolion. Rwy'n benderfynol o weithio gyda'r holl bartneriaid i geisio datrys rhai o'r materion mwyaf dwfn, a'i sicrhau y bydd Bro Morgannwg a'r 21 awdurdod arall i gyd yn fy meddwl wrth imi wneud hynny, oherwydd, fel y dywedais, rydym yn cydnabod pwysigrwydd addysg, ac mae llwyddiant ein gallu i gyflawni ar gyfer ein dysgwyr yn fesur allweddol o'n llwyddiant fel Llywodraeth.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr sy'n oedolion ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64486
Wel, diolch am y cwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi oedolion sy'n dysgu ledled Cymru drwy fuddsoddi mewn addysg bellach, dysgu cymunedol, cofnodion dysgu personol, rhaglenni cyflogadwyedd a darpariaeth sgiliau hanfodol. Gan weithio gyda darparwyr lleol, yn cynnwys Coleg y Cymoedd a choleg Merthyr yn eich etholaeth chi, rydym yn helpu oedolion i ennill sgiliau, i gamu ymlaen mewn gwaith a chael mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes.
Wel, Ddirprwy Weinidog, mae'n Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon, wrth gwrs, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r oedolion a gyfarfu â mi yng Ngholeg y Cymoedd yn Aberdâr ddydd Llun, ac a siaradodd am eu profiadau o ailymuno ag addysg.
Gwyddom fod galw sylweddol am addysg oedolion, ond mae'r ffigurau a welais gan Addysg Oedolion Cymru yn awgrymu bod y galw yn 2026-27 bron 10 y cant yn fwy na'r hyn y mae eu cyllid yn darparu ar ei gyfer, ac mae hynny'n golygu bod tua 850 o ddysgwyr posibl ar eu colled. Mae Addysg Oedolion Cymru yn dweud wrthyf y gallent ddefnyddio cyllid ychwanegol ar unwaith, gan uwchsgilio gweithwyr a chaniatáu mwy o hyblygrwydd yn y ddarpariaeth. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud bodloni'r galw hwn yn flaenoriaeth?
Wel, unwaith eto, rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Gadewch imi gytuno â chi fod y manteision sy'n deillio o addysg oedolion mor bellgyrhaeddol. Mae'n cefnogi datblygu sgiliau, yn gwella iechyd a lles, ac yn sbardun i ymgysylltu ac integreiddio cymdeithasol. Mae hefyd yn dangos mai gwaith ar gyflog da, drwy ddatblygu sgiliau, yw'r ffordd orau allan o dlodi, ac mae helpu pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu a gweithio yn flaenoriaeth glir i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Ac rwy'n edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo heno hefyd, gwobrau addysg oedolion 'Ysbrydoli!'. I mi—ac rwyf wedi mynychu llawer ohonynt yn y blynyddoedd diweddar—dyma un o uchafbwyntiau'r flwyddyn, pan welwch gyflawniadau rhagorol dysgwyr y mae eu hangerdd, eu hymrwymiad a'u hymroddiad yn dangos pŵer trawsnewidiol dysgu gydol oes.
Ond i ateb eich cwestiwn yn fyr, rydym yn cadw golwg agos iawn ar y cynnydd yng nghofrestriadau colegau addysg bellach yn enwedig. Rydym yn gwybod bod hynny'n creu pwysau ariannu i golegau addysg bellach. Ac rwy'n ymwybodol fod Medr wedi rhoi £6.25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n rhychwantu hanner y flwyddyn academaidd, i helpu colegau addysg bellach, ond rydym yn monitro'r sefyllfa gyda Medr, ac os bydd cyllid yn caniatáu, byddwn yn ceisio cefnogi'r sector addysg bellach ac addysg oedolion yn gyffredinol hefyd gystal ag y gallwn.
7. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran arolygu cyflwr ystadau ysgolion ledled Cymru? OQ64531
Rydym wedi ymrwymo i wella cyflwr yr ystad ysgolion yng Nghymru fel bod pob dysgwr yn cael ei addysgu mewn amgylchedd diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel. I wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion. Defnyddir arolygon o gyflwr ysgolion i nodi pa ysgolion sydd angen yr atgyweiriadau a'r uwchraddiadau y mae fwyaf o frys amdanynt, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chydweithwyr i sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau.
Mae nifer fawr o ysgolion ar draws fy etholaeth i yng Nghaerdydd Ffynnon Taf yn wynebu ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Mae sgaffaldiau wedi amgylchynu Ysgol Gynradd Parc y Rhath ers 2021, Ysgol Gynradd Heol Marlborough ers 2022 ac Ysgol Gynradd Albany ers 2023. Mae cyflwr nifer o ysgolion uwchradd yn is na'r safon ac yn agos iawn at gael eu hisraddio ymhellach, gan gynnwys ysgolion uwchradd cyfun Cymraeg Bro Edern a Phlasmawr.
Yn fwyaf pryderus, cynghorwyd rhieni Ysgol Gynradd Albany yr wythnos cyn dechrau'r tymor hwn y byddai eu plant yn cael eu hanfon allan i dair ysgol wahanol oherwydd pydredd sych. Daeth yr hysbysiad hwyr hwn er i Estyn rybuddio ym mis Hydref 2025 fod y trefniadau rheoli safle yn Ysgol Gynradd Albany,
'yn achos pryder ac wedi cael eu dwyn i sylw'r awdurdod lleol.'
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyflwr eu hystad ysgolion, ac ymateb y cyngor i Estyn yn enwedig, ac a allai ymyrraeth gynharach fod wedi atal Ysgol Gynradd Albany rhag gorfod cau a'r aflonyddwch difrifol a achoswyd i addysg disgyblion?
Diolch. Dim ond gwybodaeth lefel uchel iawn ar gyflwr ysgolion y mae Llywodraeth Cymru'n ei chadw, felly rwy'n credu bod hwn yn fater y bydd angen mynd ar ei drywydd gyda'r awdurdod lleol. Ond fe ddywedaf ein bod wedi ymrwymo i gynnal yr arolwg o adeiladau ysgolion, a bod y gwaith yn parhau nawr, i gydnabod y ffaith ein bod yn gwybod bod problem sylweddol ledled Cymru gydag adeiladau ysgolion. Rydym yn mynd i flaenoriaethu'r rhai yng nghategori C a D, sef yr adeiladau sydd yn y cyflwr gwaethaf yn ôl y data sydd gennym ar hyn o bryd. Yn fwy cyffredinol, ffocws ar hyn i sicrhau bod ein hadeiladau ysgol yn briodol i'n dysgwyr a'r cyfleoedd rydym am eu rhoi iddynt yw'r rheswm dros wneud y flaenoriaeth honno'n ymrwymiad maniffesto.
Diolch. A'r cwestiwn olaf i chi, Weinidog, cwestiwn 8—Francesca O'Brien.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol i sicrhau cyllid digonol ar gyfer addysg? OQ64517
Rydym yn cydnabod bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn parhau i wynebu ystod o fathau o bwysau ariannol. Rwy'n ymrwymedig i wrando ar awdurdodau lleol, i ymgysylltu a gweithio ar y cyd â nhw i sicrhau bod ein penderfyniadau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddysgwyr.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Dri mis yn unig i mewn i'r flwyddyn ariannol hon, mae Cyngor Abertawe eisoes wedi gorwario £13.7 miliwn dros ei gyllideb. Mae wedi rhewi swyddi gwag ac wedi gorfodi cyfyngiadau gwariant difrifol. Mae cyfarwyddwr cyllid y cyngor yn rhybuddio bod ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol eisoes yn is na'r isafswm absoliwt o'r hyn sy'n dderbyniol, ac mae'r cyngor bellach yn ystyried defnyddio ei gronfeydd wrth gefn. Wrth gwrs, pan gaiff y cronfeydd wrth gefn hyn eu gwario, byddant wedi mynd, ac mae eu rhaglen adeiladau ysgolion £73 miliwn yn fwy nag y gall ei fforddio, felly bydd llai o ysgolion yn cael y buddsoddiad a addawyd iddynt.
Un o'r pethau sy'n achosi'r pwysau sy'n tyfu gyflymaf ar gynghorau yw anghenion dysgu ychwanegol. Derbyniodd Cymru arian ychwanegol ar gyfer ADY yn sgil cynnydd mewn gwariant yn Lloegr, ond cadwodd eich cyllideb atodol yr arian hwnnw ym Mae Caerdydd, yn hytrach na'i anfon at y cynghorau a'r ysgolion sy'n cefnogi'r plant hyn mewn gwirionedd. Felly, pan fyddwch chi'n cyflwyno eich cynlluniau diwygiedig yr hydref hwn, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i drosglwyddo'r cyllid ADY hwnnw yn uniongyrchol i awdurdodau lleol fel nad yw cynghorau yn cael eu gorfodi i ddihysbyddu eu cronfeydd wrth gefn er mwyn llenwi'r bwlch yn y gwariant?
Diolch yn fawr iawn. Mae'r rhain yn sgyrsiau sydd ar y gweill gydag awdurdodau lleol. Fe wneuthum gyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddoe mewn gwirionedd i drafod ystod o ffactorau sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ar hyn o bryd. I ddychwelyd at wariant ADY, rwy'n cytuno â chi fod hynny'n flaenoriaeth ddybryd i awdurdodau lleol ac i'n hysgolion, a dyna pam y gwnaethom yr ymrwymiadau ynghylch cyllid yn y gyllideb atodol. Fe fydd hi'n ymwybodol nad oedd hynny'n llwyddiannus, ond mae hwnnw'n waith parhaus ac mae cyfleoedd o hyd i'r cyllid hwnnw gael ei anfon at awdurdodau lleol ac ysgolion i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidogion.
Symudwn ymlaen i eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Cwestiwn 1—Kiera Marshall.
1. Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau bod digon o gyfleusterau ar gyfer tynnu llaeth o'r fron ar ystad y Senedd? OQ64539
Diolch am y cwestiwn.
Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gynhwysol i bawb sy'n gweithio ar yr ystad neu'n ymweld â'r ystad. Mae gennym gyfleusterau ar gael i'r rhai sydd angen tynnu llaeth ar ôl genedigaeth eu plentyn. Gellir defnyddio'r ystafelloedd tawel ar gyfer tynnu llaeth, ac mae oergelloedd ar gael i storio'r llaeth. Mae'r rhain i'w gweld ar y llawr gwaelod yn Nhŷ Hywel ym mloc B, gyferbyn â'r ystafelloedd pwyllgor, ac un yn y Senedd ar lefel y Neuadd. Yn ogystal, gall pobl gael mynediad i'r ystafelloedd cymorth cyntaf, lle darperir preifatrwydd, cadeiriau neu gyfleusterau soffa. Mae modd cloi'r holl gyfleusterau hyn a nodi eu bod mewn defnydd. Ar gyfer staff y Comisiwn, mae rheolwyr a'r adran adnoddau dynol yn cefnogi cynlluniau dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys asesiad risg rhieni newydd a darpar rieni, sy'n cwmpasu trefniadau ymarferol fel ystafelloedd tawel, cyfleusterau hylendid a darpariaethau storio diogel mewn oergelloedd.
Diolch am hynny. Roeddwn i eisiau nodi peth o fy mhrofiad personol, oherwydd fel mam i fabi ifanc, cefais y profiad o geisio dod o hyd i le addas i bwmpio ar ystad y Senedd. I ddechrau, cynigiwyd yr ystafell feddygol a grybwylloch chi, ond dim ond gwely oedd ynddi, ac ni allwch bwmpio wrth orwedd, ac mae angen desg a chadair arnaf i weithio, ac ni allwn golli dwy awr o'm diwrnod gwaith. Wedyn cynigiwyd yr ystafell dawel, ond os edrychwch ar y fewnrwyd fewnol, mae'r ystafell hon wedi'i rhestru fel lle i weddïo a myfyrio, felly nid oedd honno'n briodol. Yna roedd yn rhaid imi ddefnyddio ystafell argraffu, heb glo ar y drws, nes imi gysylltu ag ystad y Senedd, ac nid oedd mynediad i'r oergell a oedd yn yr ystafell feddygol. Felly, o ystyried mai nod y Senedd yw bod yn gynhwysol ac ystyriol o deuluoedd, roeddwn i'n synnu nad yw'r cyfleusterau hyn yn cefnogi pwmpio ar yr ystad, ac mae'r GIG yn argymell bwydo ar y fron nes y bydd plentyn yn ddwyflwydd oed, pan fydd y rhan fwyaf o rieni wedi dychwelyd i'r gwaith. Dim ond 32 y cant o fabanod sy'n dal i gael eu bwydo ar y fron ar ôl chwe mis, er gwaethaf yr holl fanteision y gwyddys amdanynt. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi edrych ar greu gofod ar gyfer pwmpio sy'n galluogi pobl i weithio ar yr un pryd, a chadarnhau wrthyf na fydd unrhyw aelod o staff nac Aelod yn wynebu'r un amgylchiadau ag a wynebais i.
Rwy'n croesawu'r adborth o'ch profiad chi, a diolch ichi am rannu hynny gyda ni. Rwy'n fwy na hapus i fynd â hynny yn ôl at swyddogion ac i hwyluso trafodaeth gyda fy swyddogion, os oes angen, fel y gallant edrych ar hynny. Un o'r cyfleoedd o ran yr hyn y gallwn ei wneud nawr i wella hynny—ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau arfer gorau yn y gweithle—y peth arall yn y dyfodol yw sut i ymateb i'r adolygiad o senedd gynhwysol sy'n ystyriol o deuluoedd, a oedd yn cynnwys argymhellion penodol mewn perthynas â chefnogaeth ystyriol o deuluoedd, bwydo ar y fron ac yn y blaen. Felly, os ydych chi'n hapus, fe wnaf hwyluso'r trafodaethau hynny a gallwn edrych ar sut y gallwn ei wella nawr.
Mae cwestiynau 2 a 7 wedi eu grwpio. Felly, cwestiwn 2 yn gyntaf—Joe Martin.
2. Beth yw cynlluniau'r Comisiwn o ran ehangu Tŷ Hywel? OQ64535
7. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar brosiect Bae 32? OQ64558
Diolch, Joe. Bae 32 yw prosiect y Comisiwn i sicrhau adeilad addas i'r diben wedi i brydles Tŷ Hywel ddod i ben, sy'n digwydd yn 2032. Daeth proses caffael cystadleuol i'r casgliad mai'r opsiwn gwerth gorau yw gwaith adnewyddu ac ailwampio ar Dŷ Hywel, gyda'r potensial i'r Comisiwn ei berchnogi. Equitix yw'r cynigydd a ffafrir ac mae eu cynnig yn cynnwys mwy na £50 miliwn o fuddsoddiad landlord yn yr adeilad. Bwriedir i hyn gynnwys cynnydd o 25 y cant yn y gofod y gellir ei ddefnyddio yn Nhŷ Hywel. Mae'r prosiect bellach yn cael ei gynllunio'n fanwl yn ystod y cyfnod cyn-ddatblygu gyda chostau wedi'u capio i'r Comisiwn. Am fod yn rhaid i'r adeilad barhau i fod yn weithredol wrth i waith adeiladu gael ei wneud, bydd angen adeilad dros dro ar gyfer Aelodau, staff ac ar gyfer gwasanaethau. Felly, bydd y Comisiwn yn ystyried opsiynau ar gyfer rheoli unrhyw adleoli, cyn ystyried yr achos busnes llawn yn ddiweddarach eleni. Ar hyn o bryd disgwylir i'r gwaith ddechrau yn gynnar yn haf 2027 a pharhau am hyd at dair blynedd.
Diolch, Gomisiynydd. Ar hyn o bryd mae rhent Tŷ Hywel yn costio £2.7 miliwn y flwyddyn. A allwch chi roi unrhyw arwydd o beth y gallai hynny godi iddo pan fydd y gwaith adeiladu arfaethedig wedi'i gwblhau?
Rwy'n falch o ailadrodd yr hyn a ddywedais yn fy sylwadau agoriadol. Yn gyntaf oll, mae'r prosiect bellach mewn cyfnod cyn-ddatblygu gyda chostau wedi'u capio. Mae wedi'i sefydlu. Mae dealltwriaeth a disgwyliad clir gan yr holl Gomisiynwyr a oedd yn ymwneud â bwrw hyn yn ei flaen, a dealltwriaeth gan y partneriaid cyflawni prosiect posibl hefyd. Y peth arall, i ailadrodd ond ehangu ychydig ar yr hyn a ddywedais yn gynharach, yw ein bod wedi cynnal proses gystadleuol. Felly, roedd gan y Comisiwn ddewis go iawn o opsiynau ynghylch sut i wneud y gwaith pwysig hwn i bob un ohonom a'r etholwyr sy'n dod yma i gyfarfod â ni hefyd. Felly, fe wnaethom brofi'r marchnadoedd a sicrhau yr hyn y credwn ei fod yn gynnig cryf iawn ar gyfer dyfodol hirdymor Tŷ Hywel. Ond un peth arall yr hoffwn ei ddweud wrthych chi, Joe, ac wrth Aelodau eraill, yw ein bod yn awyddus i'r prosiect barhau i gael ei siapio gan adborth yr Aelodau, i ddarparu'r mannau sy'n caniatáu i chi ac eraill gyflawni eich rolau seneddol. Felly, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto i fwrw ymlaen gyda'r adeiladu wrth gwrs; mae'r achos busnes llawn eto i'w gyflwyno. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag Aelodau, a chyda'r grwpiau gwleidyddol yn ogystal, ar y cynigion wrth iddynt gael eu datblygu.
Diolch, rydych chi wedi ateb un neu ddau o gwestiynau yn eich datganiad, felly roeddwn i eisiau gofyn: a fydd y landlord yn talu am y costau sy'n gysylltiedig â'n symud ni ac aelodau staff, neu ai dim ond ar gyfer y gwelliannau i Dŷ Hywel? Diolch.
Mae cost yr hyn a elwir yn 'strategaeth adleoli', a'r gwahanol opsiynau ar hynny y mae Comisiynwyr yn eu hystyried ar hyn o bryd, o fewn y gost rydym eisoes wedi'i disgrifio. Felly, nid ydym yn edrych ar gost cynyddol; rydym yn edrych ar ei reoli o fewn y cyllidebau rydym eisoes wedi'u rhoi ar ei gyfer. Ac fel y dywedaf, mae gennym gostau wedi'u capio ar gyfer y cam cyn-ddatblygu. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd i'r Aelod. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae yna her gadarn iawn gan y Comisiynwyr, bob un ohonynt, i gadw hyn o fewn yr amlen gostau a ragwelwyd gennym.
Yn ddelfrydol, yn y dyfodol, bydd gennym adeilad da wedi'i adnewyddu sy'n addas ar gyfer nawr ac am flynyddoedd i ddod, gan wella'r profiad i Aelodau ac i bobl sy'n ymweld â'r lle hwn, a gallwn wneud hynny mewn ffordd gosteffeithiol iawn hefyd. Oherwydd ar hyn o bryd—ni ddylai Aelodau gamddeall yr hyn a wynebwn—os na fwriwn ymlaen â hyn, mae'r opsiwn status quo yn cynnwys talu am atgyweiriadau i'r adeilad presennol, a fydd yn filiynau o bunnoedd. Felly, yr hyn a wnawn yw ceisio osgoi hynny.
3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith yr ôl-groniad parhaus o daliadau o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar ei gyflogeion presennol a chyn-gyflogeion? OQ64546
Diolch, Lindsay. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am weinyddu cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil o MyCSP i Capita ar 1 Rhagfyr 2025. Bwriad y newid oedd moderneiddio'r gwasanaeth, ond roedd y trosglwyddiad yn cynnwys nifer sylweddol o achosion sy'n effeithio ar rai dyfynbrisiau ymddeol a thaliadau pensiwn newydd. Sefydlodd Swyddfa'r Cabinet a Capita raglen adfer i flaenoriaethu achosion brys a chaledi, clirio gwaith heb ei gyflawni, ac adfer safonau gwasanaethau dan gontract.
Ar hyn o bryd mae gan y Comisiwn lai na phum cyn-weithiwr wedi ymddeol ers i Capita ddod yn weinyddwyr, ac mae un ohonynt wedi defnyddio'r cynllun benthyciadau caledi a gyflwynwyd gan y Comisiwn, yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Cabinet, i liniaru'r effaith ariannol, ac rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa a cheisio sicrwydd fod achosion heb eu datrys yn cael eu datrys yn gyflym iawn.
Diolch, Gomisiynydd. Cysylltodd tri etholwr â mi—tri o'r pump mae'n debyg—ynghylch yr oedi a'r ôl-groniadau annerbyniol a phryderus a wynebant gan Capita, y cwmni sy'n rheoli cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil. Mae Capita wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod ganddynt bopeth yn ei le i ddechrau clirio'r ôl-groniad. Fodd bynnag, ni wnânt ddarparu amserlen ar gyfer pryd y caiff pob achos ei ddatrys, ac ni wnânt roi dyddiad i fy etholwyr ynglŷn â'u hachosion unigol chwaith, ac mae hynny'n bwysig. Rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi gweithio'n gwasanaethu'r cyhoedd ar hyd eu hoes, ac maent bellach yn wynebu caledi ariannol difrifol. Ni ddylai fod angen iddynt geisio am fenthyciadau ariannol ar y cam hwn yn eu bywydau am fod eu pensiynau cyhoeddus wedi cael eu rhoi allan i gwmni preifat nad yw'n gallu rheoli'r pensiynau hynny, gadewch inni fod yn onest. A yw'r Comisiwn wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Swyddfa'r Cabinet yn San Steffan neu gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ynghylch y cyn-weithwyr Senedd hyn sydd wedi ymddeol? Ac os na, a allwch chi ymrwymo i wneud hynny?
Diolch yn fawr am godi y mater yma.
Mae'n codi materion difrifol ac rwy'n cytuno, mae'r sefyllfa'n gwbl annerbyniol. Mae lles cyn-weithwyr yn hollbwysig i'r hyn y mae'r Comisiwn hwn yn ceisio ei wneud.
Mewn ymateb i'ch cwestiwn, mae'r prif weithredwr wedi ysgrifennu at reolwr gyfarwyddwr Capita Pensions Solutions yn gynharach eleni i godi'r pryderon a godwyd gennych chi, a chyn-aelodau o staff, am effaith yr ôl-groniad ar staff y Comisiwn. Hyd yma, nid ydym wedi cael ymateb, ac mae hynny hefyd yn annerbyniol.
Ond wrth droi at yr hyn y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i gefnogi eich etholwyr ac eraill, yn ogystal â gweinyddu'r benthyciadau caledi, mae'r gwasanaeth adnoddau dynol yn parhau i ddarparu cyfathrebiadau parhaus i staff sydd wedi ymddeol yr effeithir arnynt, ac mae lles cyn-weithwyr wedi parhau i fod o'r pwys mwyaf i ni. Felly, byddwn yn cadw hynny dan arolwg, a lle bo'n bosibl, yn mynd ag ef ymhellach hefyd.
Diolch. Mae cwestiwn 4 [OQ64493] gan Tom Montgomery wedi'i dynnu'n ôl, felly, cwestiwn 5 gan Francesca O'Brien.
Roeddwn i'n meddwl mai Tom oedd fy enw i am eiliad. Diolch, Lywydd.
5. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i ddiogelu lles Aelodau a'u staff? OQ64516
Diolch, Francesca. Mae'r Comisiwn yn ystyried bod lles Aelodau a'u staff yn bwysig iawn, ac rydym yn darparu cymorth ymarferol a hygyrch o ran llesiant, cyflogaeth, iechyd a diogelwch, urddas a pharch, diogelu, a diogelwch wrth gwrs. Mae hyn yn cynnwys cymorth cyfrinachol i weithwyr a gwasanaethau iechyd galwedigaethol, canllawiau a hyfforddiant adnoddau dynol wedi'u teilwra, a chyngor a mesurau diogelwch. Mae'r Hwb yn dod â gwybodaeth a chefnogaeth wyneb yn wyneb at ei gilydd mewn un lle, gyda darpariaeth galw heibio rhithwir wythnosol i staff cymorth, ble bynnag y bônt.
Mae fframwaith dysgu'r Comisiwn yn trin gwydnwch personol, llesiant a chynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd fel anghenion datblygu parhaus yn hytrach na phynciau sefydlu untro. Mae'r hyfforddiant yn cael ei ailadrodd, ei atgyfnerthu a'i ymestyn trwy dymor y Senedd, gyda darpariaeth wedi'i addasu i anghenion dysgu a dewisiadau cyflawni Aelodau a staff cymorth.
Ac yn olaf, mae tîm diogelwch yr Aelodau yn darparu cefnogaeth i'r Aelodau ar ystod eang o faterion diogelwch personol, gan gynnwys cyngor ac arweiniad, gweithredu mesurau diogelwch mewn cartrefi a swyddfeydd, cymorth a chyngor ymarferol sy'n ymwneud â diogelwch cyfryngau cymdeithasol, a rheoli ac adrodd am ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â diogelwch.
Diolch am y disgrifiad. Os caf roi rhywfaint o gyd-destun i fy nghwestiwn, a'r olygfa rwyf eisiau ei darlunio: mae Aelodau'r Siambr hon a'u staff cymorth yn dod i mewn i adeilad Tŷ Hywel bob dydd i wneud eu gwaith yn rhydd, yn aml mewn mannau lle mae aelodau o'r cyhoedd wedi'u gwahardd oni bai eu bod yn cael eu tywys o gwmpas yr adeilad. Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi dod yn eithaf amlwg yw bod gennym newyddiadurwyr, meiddiaf ddweud, yn llechu ar hyd y coridorau mewn mannau nas gwyddom amdanynt. Gallai rhai fod ar y radio. Nid ydym yn gwybod pwy ydynt, na sut y maent yn edrych. Gallaf roi enghraifft o hynny, os caf: ychydig cyn toriad yr haf, wrth fynd i ystafell ymolchi y menywod ar lefel 2 a chyfarfod â menyw barod iawn ei sgwrs wrth imi ddod allan o'r ciwbicl—ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn hoffi sgwrs dda, ac rwy'n un am y rheini—ond gofynnodd am fy rhif, a minnau'n meddwl efallai ei bod hi'n aelod o staff cymorth un o fy nghyd-Aelodau, ond newyddiadurwr oedd hi mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod yna linellau aneglur yma rhwng y mynediad sydd ganddynt i'n gweithle a rhyw fath o gael ein twyllo, dylwn ddweud? Nid wyf yn credu bod hynny'n briodol, ac rwy'n meddwl tybed a gawn ni ystyried eu bod yn cael eu rhoi mewn ardal gyfyngedig benodol heb fynediad rhydd i'r mannau lle rydym yn gweithio, gan gynnwys yr ystafelloedd ymolchi.
Diolch am hynny. Mae'n ddefnyddiol gyda'r cwestiwn atodol hwnnw. Mae'r Comisiynwyr, wrth gwrs, yn adolygu mynediad a mynediad breintiedig i wahanol rannau'n barhaus, nid yn unig i adeilad y Senedd, ond hefyd yma yn Nhŷ Hywel. Mae yna wahanol lefelau o ddeiliaid pasys, ac mae disgwyliad hefyd y dylai deiliaid pasys hebrwng ymwelwyr i fannau penodol—os caf atgoffa'r cyd-Aelodau. Ond rydym yn cadw hyn dan arolwg, ac rydym yn ei adnewyddu. Felly, rwy'n cymryd yr enghraifft unigol rydych chi'n ei nodi. Efallai y gallwn drafod ymhellach pa ardal oedd honno'n union.
Ond rydym hefyd eisiau i'r adeilad fod yn hygyrch i bobl sydd eisiau gofyn cwestiynau i ni fel cynrychiolwyr etholedig ac i aelodau etholaeth sy'n ymweld â ni, ac i lobïwyr dilys sy'n dod yma o sefydliadau iechyd, ac ati. Felly, mae'r pwynt wedi'i dderbyn. Rwy'n hapus i drafod y lleoliad unigol y sonioch chi amdano ac wrth gwrs, bydd y Comisiynwyr bob amser yn cadw hyn dan arolwg.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig yma. Dwi'n gobeithio bod yr Aelod a hefyd pawb arall yn y Senedd yma'n cytuno â fi bod yn rhaid i ni hefyd fel Aelodau o'r Senedd gymryd cyfrifoldeb i edrych ar ôl ein gilydd, pa bynnag blaid. Mae hyn yn enwedig o bwysig pan mae'r byd ar-lein yn dod yn fwy treisgar tuag at wleidyddion, yn enwedig menywod ifanc. Felly, wrth i fi siarad am y byd ar-lein, hoffwn wybod beth mae'r Comisiwn yn ei wneud er mwyn cefnogi Aelodau o'r Senedd a staff sydd yn gweld eu lles yn cael ei effeithio'n negyddol oherwydd y cynnydd rydyn ni i gyd wedi gweld mewn cam-drin ar-lein, yn enwedig gydag AI hefyd, a deepfakes, jest fel enghraifft i ti.
Diolch yn fawr. Rwy'n cyfeirio'r Aelodau'n gryf iawn nid yn unig at yr Hwb, ond at bresenoldeb y tîm diogelwch hefyd, am yr holl gyngor a chymorth y gallant ei roi. Wrth gwrs, mae yna ryngweithio rhyngom, nid yn unig fel Aelodau unigol, ond drwy ein pobl ddiogelwch, gan gynnwys yr arsylwi a'r monitro. Nid yw'n fonitro ar lefel NASA, ond cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd ar-lein. Mae ymgysylltiad hefyd â'r heddlu ledled Cymru. Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar bob Aelod, oherwydd gall fod yn amgylchedd eithaf gelyniaethus allan yno. Ond rwy'n dweud yn gryf wrth yr Aelodau a'u staff y dylent ddod ag unrhyw enghreifftiau unigol i sylw ein pobl ddiogelwch, gan eu bod eisiau clywed amdano ac mae angen inni wybod amdano.
Mae cwestiwn 6 [OQ64482], a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, wedi'i dynnu yn ôl. Mae cwestiwn 7 eisoes wedi'i grwpio gyda chwestiwn 2. Felly symudwn ymlaen i gwestiwn 8. Jane Dodds.
8. Pa wiriadau diogelu y mae'r Comisiwn yn gofyn i Aelodau o'r Senedd eu gwneud cyn iddynt ymgymryd â gweithgareddau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc? OQ64547
Diolch, Jane. Yr Aelodau unigol sy'n gyfrifol am drefniadau diogelu yn swyddfeydd yr Aelodau, gan fod Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol yn unigol ac nid ydynt yn weithwyr cyflogedig i'r Comisiwn. Rhaid bod gan Aelodau eu polisi diogelu eu hunain sy'n briodol i'w rôl fel deiliaid swyddi a chyflogwyr, gan mai nhw sy'n gyfrifol am eu gweithgarwch. Mae'r fframwaith datgelu a gwahardd statudol yn fater a gedwir yn ôl ar lefel y DU.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.
Yn fy nhymor cyntaf fel Aelod o'r Senedd, cefais fy synnu'n fawr fy mod yn gallu mynd i mewn i unrhyw ysgol, unrhyw glwb ieuenctid, unrhyw ddarpariaeth lle roedd plentyn, unigolyn ifanc neu unigolyn agored i niwed yn byw neu'n gweithio heb unrhyw wiriadau, heb unrhyw angen i ddangos unrhyw ddogfennaeth. Ar yr holl ymweliadau hynny, roedd rhywun gyda mi, ond ni fyddai'n cymryd athrylith ac ni fyddai'n cymryd llawer o ddychymyg i rywun eithaf pwerus, sy'n Aelod o'r Senedd, ddweud, 'Hoffwn wneud hyn ar fy mhen fy hun'. Rwy'n credu mai cyfrifoldeb y Senedd yw sicrhau bod Aelodau'r Senedd, sydd â mynediad ac sydd mewn rolau pwerus i ddylanwadu ar bobl eraill—. Dylai ysgwyddo'r cyfrifoldeb. Nid oes unrhyw gyfeiriad at hyn mewn unrhyw ddogfennaeth ddiweddar, ac fe'i codais yn nhymor y Senedd ddiwethaf. Tybed a allai Comisiwn y Senedd fwrw ymlaen â hyn, hyd yn oed ar sail wirfoddol, i edrych ar sut y gallai Aelodau gael gwiriad DBS, nad yw'n rhoi sicrwydd diogelwch llwyr i chi, ond mae'n un ffordd o helpu i sicrhau nad yw'r Senedd hon yn peryglu plant, pobl ifanc a phobl agored i niwed drwy ganiatáu i Aelodau'r Senedd gyflawni eu dyletswyddau. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mae un neu ddau o bwyntiau i'w hystyried yma. Yn gyntaf oll, mae'r fframwaith datgelu a gwahardd statudol yn fater a gedwir yn ôl ar lefel y DU, felly byddai angen camau gweithredu gan Lywodraeth y DU er mwyn ehangu cymhwysedd ar gyfer pethau fel gwiriadau manylach. Rwy'n ymwybodol fod pleidiau gwleidyddol yn gweithredu, ar sail wirfoddol, eu dull eu hunain o ymdrin ag ymgeiswyr, ac mae'n amrywio o blaid i blaid. Rydym yn gwylio gyda diddordeb y gwahanol gynigion sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd ar lefel y DU gan rai ASau unigol. Mae rhai ohonynt yn edrych ar sail statudol ar gyfer newid hyn, a rhai ar sail anstatudol. Mae gan y prawf sylfaenol, fel y sonioch chi, o ran gwiriadau DBS, yn hytrach na'r prawf manylach, rai cyfyngiadau o ran yr hyn y mae'n ei ddarparu. Fy nealltwriaeth i yw bod gwiriadau DBS wedi'u cynllunio'n gyfreithiol fel dull gweithredu i gyflogwyr neu gyrff trwyddedu i asesu addasrwydd ymgeisydd ar gyfer rôl benodol yn y gweithle. Nid yw Aelodau'r Senedd, wrth gwrs, yn yr un modd ag Aelodau Seneddol y DU, yn weithwyr cyflogedig, ond maent yn ddeiliaid swyddi cyfansoddiadol annibynnol a ddewisir yn uniongyrchol gan bleidleiswyr. Ond mae'n faes diddorol, ac rydym yn gwylio'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt yn San Steffan ar hyn o bryd. Ond statud y DU sydd â'r cyfrifoldeb am hyn.
9. Pa gamau y mae Comisiwn y Senedd yn eu cymryd i sicrhau bod amrywiaeth o blatfformau cyfryngau newyddion ar gael ar ystad y Senedd? OQ64544
Mae Aelodau a staff yn gallu cael mynediad at yr holl brif ffynonellau newyddion gan ddefnyddio rhwydwaith TG y Senedd ar liniaduron a dyfeisiau eraill a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd. O ran y rhwydwaith darlledu mewnol, mae'r mater yn destun trafodaeth sydd ar y gweill gan y Comisiynwyr, ac rwy'n siŵr y bydd y Comisiynwyr yn fwy na pharod i adrodd yn ôl i'w grwpiau priodol maes o law. Caiff pob prif bapur newydd ei ddanfon i lyfrgell y Senedd a gall Aelodau a staff gael mynediad atynt.
Diolch am eich ateb. Credaf ein bod wedi bod yma o'r blaen, onid ydym? Pan ystyriodd y Comisiwn y mater ym mis Gorffennaf, dadleuodd mai dim ond Sky News oedd yn darparu plwraliaeth digonol ar system deledu'r Senedd. Buaswn yn awgrymu'n barchus, yn yr amser ers gwahardd GB News oddi ar system y Senedd, fod tirwedd y cyfryngau wedi newid. Ers ymadawiad Laurence Fox, mae cynulleidfa a chyrhaeddiad GB News wedi parhau i dyfu. Mae bellach yn cyrraedd dros 1 filiwn o wylwyr y dydd, ac yn 2025, disodlodd Sky News fel sianel newyddion fasnachol fwyaf y DU yn ôl ffigurau gwylio cyfartalog.
Mae'n amherthnasol a yw'r Aelodau'n cytuno â GB News ai peidio. Mae'n ddarlledwr sy'n cael ei reoleiddio gan Ofcom ac sy'n cael ei wylio gan filiynau o bobl ledled y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr fod pawb ar yr ochr hon i'r Siambr yn hoff o GB News. Mae perygl y gallai ei wahardd o system deledu fewnol y Senedd greu'r argraff fod rhai safbwyntiau dilys yn fwy derbyniol nag eraill. Yn enw plwraliaeth, rhyddid mynegiant a dadl ddemocrataidd wybodus, a wnaiff y Comisiwn adolygu ei bolisi nawr ac ailystyried caniatáu GB News ar ystad y Senedd? Diolch.
Catherine, rydych chi'n llygad eich lle, rydym wedi bod yma o’r blaen. Yn ystod y sesiwn gwestiynau ddiwethaf i Gomisiwn y Senedd, cafwyd trafodaeth eithaf hir ar hyn. Ni allaf ychwanegu llawer at fy ymateb agoriadol mewn gwirionedd. Efallai ei bod yn werth tynnu sylw at y ffaith bod rhyddid y wasg yn egwyddor y mae pob un ohonom yn ei rhannu. Mae’n parhau i fod yn hollbwysig i uniondeb a didwylledd y sefydliadau democrataidd yma yng Nghymru. Mae’r egwyddor hon, gyda llaw, wedi'i hadlewyrchu, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, yn ein polisi ar basys y wasg i’r ystad hefyd. Fe'i hadlewyrchir hefyd yn y ffaith y gellir cael mynediad at yr holl brif ffynonellau newyddion ar rwydwaith TG y Senedd—ar liniaduron a dyfeisiau eraill Comisiwn y Senedd—ac yn y mynediad at yr holl brif bapurau newydd yn llyfrgell y Senedd. Ond fel y dywedais yn gynharach, mae’r mater yn destun trafodaeth barhaus gan y Comisiynwyr, ac er parch iddynt hwy a’r trafodaethau hynny, mae’n anodd imi ychwanegu at fy sylwadau cynharach.
Y cwestiwn olaf, cwestiwn 10, Gwyn Williams.
10. A wnaiff y Comisiwn ystyried llwybrau amgen sy'n cysylltu Tŷ Hywel â'r Siambr i helpu i leihau tagfeydd yn ystod y Cyfarfod Llawn? OQ64548
Diolch, Gwyn. Mae rhwyddineb mynediad i'r llwybrau presennol o Dŷ Hywel i adeilad y Senedd, a gwelliannau sylweddol i'r ffordd y mae'r adeiladau'n cysylltu â'i gilydd ar gyfer Aelodau a defnyddwyr eraill, yn cael eu hystyried yn fanwl fel rhan o brosiect Bae 32. Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn ystyried unrhyw bontydd ffisegol eraill ar hyn o bryd, er enghraifft i adeilad y Senedd o Dŷ Hywel. Mae dwy bont gyswllt yn darparu mynediad o Dŷ Hywel i adeilad y Senedd—un drwy fwyty'r staff ar y llawr cyntaf ac un ar yr ail lawr. Dim ond drwy lifftiau y ceir mynediad o bont gyswllt y llawr cyntaf. Mae pont gyswllt yr ail lawr yn cysylltu'n uniongyrchol ag adeilad y Senedd, heb fod angen lifft. Mae mynediad uniongyrchol ar gael hefyd ar lefel y llawr gwaelod drwy gowtydd adeilad y Senedd.
Diolch yn fawr. Carwn awgrymu'n garedig, fel Aelod newydd, gan fod llawer o'r bobl yma—. Fel y dywedoch chi yn eich ateb, dim ond drwy lifft y gellir cysylltu lefel y ffreutur, sydd wedi'i nodi fel lefel M, â'r llawr cyntaf a'r grisiau ar yr ochr arall. Ar adegau prysur, mae'n ymddangos bod hyn yn creu tagfa. Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y staff sydd wedi bod yma ers amser maith, yn cynnwys menyw ddymunol iawn o'r enw Sam, sy'n gweithio yn yr ystafell de yma—. Mae hi wedi dweud ei bod wedi colli cyfrif ar nifer y troeon y mae wedi awgrymu grisiau i gysylltu'r lefel honno â'r grisiau ar yr ochr arall. Ac mae rhywfaint o le ar yr ochr. Felly, a fyddai'r Comisiwn yn cytuno bod tagfa yma ac y byddai ychwanegu rhes o risiau yn lleihau tagfeydd? A wnewch chi ymchwilio i hyn ymhellach er mwyn i mi adrodd yn ôl i Sam yn yr ystafell de?
Rydym o dan y chwyddwydr nawr, oherwydd os yw Sam yn cadw llygad ar hyn, mam bach. Fel y soniais, mae'r cynigion rydym yn edrych arnynt ar gyfer datblygu a gwella'r cyfleusterau yma yn cynnwys y llwybrau o un rhan o'r adeilad i'r llall—o Dŷ Hywel i'r Senedd. Felly, bydd hyn yn cael ei ystyried gan y Comisiynwyr yn y cynlluniau wrth symud ymlaen. Ni fydd yn digwydd ar unwaith—ni allaf addo hynny. Yn y cyfamser, bydd yn rhaid i bob un ohonom weithio'n galed i osgoi'r dagfa funud olaf honno lle mae pob un ohonom yn cael ein gwasgu i mewn gyda Sam, gyda gwasanaethau a nwyddau pwysig iawn yn cael eu cludo ar yr un pryd ag y byddwn yn rhuthro i lawr ar gyfer y gloch. Diolch.
Symudwn ymlaen i eitem 4. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Kiera Marshall.
Diolch. Mae'n Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl oedolion sy'n ddysgwyr ledled Cymru. Weithiau, mae'n anodd camu'n ôl i addysg, felly mae mor bwysig fod y gefnogaeth yno iddynt. Mae effaith addysg oedolion yn newid bywydau, ac yn ymestyn ymhell y tu hwnt i addysg. Mae'n gwella iechyd a lles, ac mae'n hanfodol i dwf economaidd Cymru. Mae'n galluogi oedolion i uwchsgilio ac ailsgilio a gwella eu bywydau mewn ffyrdd na fyddwn byth yn eu deall.
Mae'r rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned yn enwedig yn cynnig llwybr pwysig i bobl i mewn i addysg, gan gefnogi pobl i gael mynediad at addysg mewn lleoliad ac ar gyflymder sy'n addas iddynt hwy. Heno, cynhelir gwobrau addysg oedolion Ysbrydoli!, a hoffwn longyfarch Hannah o fy etholaeth yng Nghaerdydd Penarth a fydd yn derbyn y wobr ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd.
Bydd Hannah yn cael ei chydnabod ochr yn ochr â 10 enillydd arall sydd oll yn cael eu dathlu am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a'u cyflawniadau—dysgwyr sydd wedi newid eu bywydau drwy addysg oedolion. Rwy'n gobeithio y gall y straeon hyn, a miloedd o rai tebyg ledled Cymru, annog mwy o bobl i gofleidio neges Wythnos Addysg Oedolion—i beidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu. Diolch.
Ddydd Gwener diwethaf, roedd hi'n Ddiwrnod Cyflog Cyfartal Rhyngwladol, diwrnod ymwybyddiaeth y Cenhedloedd Unedig o anghydraddoldeb rhywedd a'r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod. Yn anffodus, mae hwn yn fater brys i Gymru. Datgelodd yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr y genedl o ran cydraddoldeb rhywedd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru fod y bwlch cyflog rhywedd yng Nghymru wedi ehangu i 9.7 y cant. Ar gyfartaledd, mae gweithwyr benywaidd yn ennill £15.78 yr awr, tra bo gweithwyr gwrywaidd yn ennill £17.48. O gymharu â dynion, mae menywod dros deirgwaith yn fwy tebygol o fod allan o'r farchnad swyddi oherwydd cyfrifoldebau gofalu. Mae menywod deirgwaith yn fwy tebygol hefyd o fod yn gweithio'n rhan-amser, sy'n cyfyngu ar enillion a chynnydd. Ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn sectorau a rolau sydd â chyflogau is, fel iechyd a gofal cymdeithasol. Mae angen newid arnom.
Rhaid herio rhwystrau i gydraddoldeb economaidd, fel cyfrifoldebau gofalu anghyfartal a stereoteipiau rhywedd. Rhaid cefnogi menywod i gael mynediad at swyddi ar gyflogau gwell, sgiliau a rhaglenni hyfforddi drwy gydol eu gyrfaoedd, a rhaid inni gael polisïau cadarn a chynhwysol ar waith ar weithio hyblyg, aflonyddu, menopos ac absenoldeb rhiant. I nodi'r Diwrnod Cyflog Cyfartal Rhyngwladol, rwy'n annog pob un o fy nghyd-Aelodau ar draws y Senedd i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd a helpu i greu Cymru sy'n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd. Diolch yn fawr.
Y mis nesaf, bydd Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy yn Llanfair-ym-Muallt yn dathlu carreg filltir anhygoel—50 mlynedd o ddod â chelfyddydau a diwylliant i galon cefn gwlad canolbarth Cymru. Mae penwythnos yr hanner canfed pen-blwydd yn dod â’r hanes hwnnw’n fyw, gyda chyfranogiad cymunedol, cerddoriaeth, barddoniaeth a chelfyddyd Gymreig. Wrth wraidd hyn oll mae Cymuned Gwy, gwaith dwyieithog newydd a gomisiynwyd ar gyfer y pen-blwydd, wedi’i ysbrydoli gan afon Gwy a’r bobl sy’n byw ar hyd-ddi. Elusen fach, annibynnol yw'r ganolfan, ond mae ei chyfraniad ymhell o fod yn fach. Mae ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac yn darparu sinema, perfformiadau byw, cerddoriaeth, arddangosfeydd a chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd ar draws ardal wledig fawr.
Mae lleoedd fel Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy yn cynnig llawer mwy nag adloniant yn unig. Maent yn lleoedd lle mae pobl yn cyfarfod, yn cymryd rhan ac yn perthyn. Yn ogystal ag edrych ymlaen ac yn ôl, mae gan y dathliad gynlluniau anhygoel i'w cyflwyno i bobl hefyd, a fydd yn gwella hygyrchedd, a chyfleusterau newydd a fydd yn gwasanaethu canolbarth Cymru am ddegawdau i ddod. Ochr yn ochr â'r dathliad hwn, gwyddom fod yna her ddifrifol. Er ei bod yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn, yn cynhyrchu llawer o'i hincwm, ac yn cael ei chefnogi gan dîm bach o wirfoddolwyr, mae canolfan Glannau Gwy yn parhau i wynebu diffyg refeniw sylweddol. Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cynnal y ganolfan ers dros 50 mlynedd, ac yn annog fy nghyd-Aelodau i ymuno â'r dathliadau rhwng 9 a 11 Hydref, i weld ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, a helpu i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn hollbwysig i ganolbarth Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn, a hoffwn gydnabod pobl ledled Cymru sy'n byw gyda chyflwr sy'n cael ei ddiystyru'n rhy aml. Mae meigryn yn effeithio ar un o bob saith o bobl yn y DU. Mae'n gyflwr niwrolegol a all achosi poen difrifol, salwch a sensitifrwydd i olau a sain. Mae ei effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r pwl ei hun. Mae'n effeithio ar waith, bywyd teuluol a lles meddyliol.
Canfu arolwg diweddaraf yr Ymddiriedolaeth Meigryn fod naw o bob 10 o ymatebwyr wedi wynebu anghrediniaeth ynghylch difrifoldeb neu effaith eu meigryn. Roedd bron i draean wedi wynebu hyn gan eu cydweithwyr neu eu rheolwyr. Mae mwy na thri chwarter yn dweud bod yr anghrediniaeth wedi niweidio eu hiechyd meddwl. Ni ddylai unrhyw un orfod ymladd i gael eu credu a hwythau eisoes mewn poen. Mae ymgyrch 'Credwch fi' yr ymddiriedolaeth yn anfon neges syml i bob un ohonom: gwrandewch, cymerwch feigryn o ddifrif, a chynigiwch gefnogaeth ymarferol. I bobl sy'n byw gyda meigryn yng Ngŵyr Abertawe, a ledled Cymru: mae eich profiad yn bwysig. Nid oes yn rhaid i boen fod yn weladwy i haeddu dealltwriaeth, a gall rhywfaint o amynedd a thosturi wneud gwahaniaeth. Diolch.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
Symudwn nawr at eitem 6, dadl Llafur Cymru ar addysg bellach. Galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9301 Lynne Neagle [R]
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r argyfwng parhaus o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a'r effaith andwyol hirdymor y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd, eu henillion a'u cyfleoedd bywyd yn y dyfodol.
2. Yn croesawu'r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn colegau addysg bellach ledled Cymru, gan gynnwys y galw cynyddol am addysg alwedigaethol a thechnegol.
3. Yn cydnabod y pwysau ariannol ar golegau i gwrdd â'r lefelau uchaf erioed o alw y flwyddyn academaidd hon.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiad effaith ar gyfer peidio ag ariannu'r cynnydd mewn cyfranogiad yn y blynyddoedd academaidd 2026-27 a 2027-28, ac i ymrwymo i flaenoriaethu addysg bellach yn y broses o osod cyllideb 2027-28.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. A gaf i dynnu sylw'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau a'r ffaith fy mod yn ddysgwr sy'n oedolyn yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro?
Heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar un o lwyddiannau mwyaf Cymru ac un nad yw'n aml yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu: ein colegau addysg bellach. Ledled Cymru, mae colegau'n newid bywydau bob dydd. I bobl ifanc, maent yn gyfle i gymryd y cam cyntaf hwnnw ar ôl ysgol a chamu ymlaen i waith, prentisiaeth neu brifysgol. I oedolion, maent yn cynnig mynediad at ddysgu gydol oes, ac i gyflogwyr, y cymorth sydd ei angen arnynt i uwchsgilio eu gweithlu, gwella cynhyrchiant a chystadlu am fusnes newydd.
Ledled Cymru, mae colegau wedi dangos eu bod yn arloeswyr ac yn barod i wynebu heriau newydd. Yng ngogledd Cymru, maent yn helpu i gynnal y gynghrair drydyddol newydd gyda'n sector prifysgolion. Yn y de-orllewin, mae'r pedwar coleg wedi dod ynghyd i ffurfio partneriaeth newydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddarperir drwy'r Porthladd Rhydd Celtaidd. Ac yn y de-ddwyrain, mae colegau wedi arloesi ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr, gan gynnwys y rhaglen prentisiaethau iau yr oeddwn mor falch o'i chefnogi pan oeddwn yn y Llywodraeth. Mae'r dystiolaeth o'u gwerth yn glir.
Eleni, mae colegau ledled Cymru wedi gweld y lefelau uchaf erioed o alw, gyda phob coleg yn nodi cynnydd mewn cyfranogiad. Mae mwy o ddysgwyr nag erioed yn dewis addysg bellach fel eu llwybr tuag at sgiliau, cymwysterau a gyrfaoedd. Mae'r galw'n arbennig o gryf mewn pynciau galwedigaethol a thechnegol, fel adeiladu, peirianneg ac iechyd a gofal—yr union sectorau y gwyddom eu bod yn hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae colegau hefyd yn darparu cyfleoedd i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Maent yn cefnogi miloedd o ddysgwyr sy'n dychwelyd at addysg, yn gwella llythrennedd a rhifedd ac yn ailadeiladu hyder ar ôl profiadau anodd yn yr ysgol neu mewn mannau eraill.
Mae wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru, ond mae'n fregus, ac mae mwy o ddysgwyr yn golygu mwy o bwysau ar ofod ac ar gyllidebau. Ac mae'r pwysau'n fater brys, gyda ColegauCymru yn amcangyfrif y bydd y sector wedi cofrestru 50,000 o bobl ifanc yn y flwyddyn academaidd hon, sef y nifer uchaf erioed. Ar adeg pan fo gennym argyfwng o ran nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, ac wythnosau tan y bydd adolygiad Milburn yn cael ei gyhoeddi, ni fu erioed adeg bwysicach i fuddsoddi mewn addysg bellach.
Felly, mae cyfranogiad cynyddol yn newyddion da. Mae'n arwydd fod colegau'n llwyddo, mae'n arwydd fod addysg bellach yn cyflawni i Gymru ac mae'n gyfle i Gymru. Fodd bynnag, mae'r galw uchaf erioed yn creu her sylweddol. Gwyddom nad yw'r cyllid wedi dal i fyny â chyfranogiad. Y llynedd, darperais £20 miliwn yn ychwanegol i gefnogi cyfranogiad yn y sector, ond eleni, mae'r sector a Medr yn amcangyfrif bod y diffyg oddeutu £23.5 miliwn. Er mwyn atal hyd yn oed mwy o ddysgwyr rhag colli lleoedd, mae colegau wedi gorfod gwneud y dewis anodd o symud cyllid o ddarpariaeth ran-amser i oedolion i dalu am niferoedd y dysgwyr amser llawn. Mae hyn oll yn golygu bod oddeutu 5,000 o ddysgwyr yn astudio nad yw'r sector yn derbyn unrhyw gyllid ar eu cyfer. Mae cannoedd o ddysgwyr wedi methu cael lle o gwbl, ac ni chafodd cannoedd yn rhagor le ar y cwrs a oedd yn ddewis cyntaf iddynt oherwydd prinder lleoedd.
Yn ogystal â phwysau ar leoedd, mae hefyd yn rhoi pwysau ar gymorth hanfodol, fel gwasanaethau lles, cymorth iechyd meddwl, darpariaeth caledi ariannol a theithio gan ddysgwyr. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau'n gwybod am fy ymrwymiad personol fy hun i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac rwy'n pryderu am effaith tanariannu. Mae data cynnar gan ColegauCymru yn awgrymu cynnydd ychwanegol o 65 y cant yn nifer y dysgwyr sydd â chynlluniau datblygu unigol, ac mae'n hanfodol eu bod yn gallu cael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt.
Wrth edrych ymlaen, mae'r pwysau yn 2027-28 hyd yn oed yn fwy. Mae'r sector yn amcangyfrif y bydd angen o leiaf £40 miliwn ym mlwyddyn academaidd 2027-28 i gynnal lefelau cyfranogiad presennol ac ymateb i alw parhaus gan ddysgwyr. Bydd pwysau cyflog a phwysau chwyddiant arall yn gwthio hyn hyd yn oed yn uwch. Os nad yw'r cyllid hwnnw ar gael, gallai'r canlyniadau fod yn sylweddol. Rydym mewn perygl o weld mwy o bobl ifanc yn ymddieithrio rhag addysg a hyfforddiant. Rydym mewn perygl o golli swyddi yn y sector a thoriadau i wasanaethau cymorth. Rydym mewn perygl o dorri llwybrau cynnydd i'n prifysgolion ac atal pobl ifanc rhag cymryd y cam cyntaf ar eu llwybrau gyrfa. Ac rydym mewn perygl o dorri'r ddarpariaeth o sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau i gystadlu a thyfu.
Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn bwysig. Mae'n galw am asesiad clir o ganlyniadau methu ariannu mwy o gyfranogiad mewn addysg bellach. Mae angen inni ddeall yr effaith ar lwybrau dysgwyr, ar niferoedd y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ar staff, ar wasanaethau cymorth i ddysgwyr, ac ar gamu ymlaen i gyflogaeth ac addysg uwch. Mae colegau addysg bellach yn derbyn cyfran lawer mwy o ddysgwyr o gefndiroedd incwm is. Mae'n hanfodol ein bod yn deall yr effaith ar gymunedau difreintiedig ledled Cymru. I lawer o bobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd â'r nifer lleiaf o gymwysterau, coleg yw eu hail gyfle, ac ychydig iawn o opsiynau sydd ganddynt os na chânt le. Ein dyletswydd i'r bobl ifanc ac i'r oedolion sy'n dibynnu ar addysg bellach yw sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen arnynt gan ein colegau.
Lywydd, yn y pen draw, mae a wnelo'r ddadl â chyfle. Pan fydd pobl eisiau dysgu, hyfforddi a gwella eu rhagolygon, ni ddylem ymateb drwy gyfyngu ar gyfleoedd, dylem ymateb drwy ddeall canlyniadau diffyg gweithredu a sicrhau bod Cymru'n parhau i fuddsoddi mewn llwyddiant. Mae ein colegau wedi dangos eu gwerth. Maent yn helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial, yn cefnogi cyflogwyr ac yn cryfhau cymunedau ledled Cymru. Nawr, mae’n rhaid inni sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael iddynt yn adlewyrchu'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dull gweithredu strategol, trawslywodraethol er mwyn helpu pobl ifanc i gael addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, ac na all unrhyw ran unigol o'r system addysg fynd i'r afael ar ei phen ei hun â'r heriau cymhleth y maent yn eu hwynebu.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Cynnig yn ffurfiol.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Sam Rowlands i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i annog mwy o gydweithio rhwng colegau addysg bellach a'r sector preifat.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelodau Llafur am gyflwyno'r ddadl hon heddiw; mae mater pwysig iawn wedi cael sylw yn y Siambr hon. Rwy'n sicr yn cefnogi'r sylwadau agoriadol gan eu llefarydd y prynhawn yma. Gwyddom, oni wyddom, fod ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos nad oedd 17 y cant o bobl 16 i 24 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2025. Mae hynny'n gynnydd o 5.5 pwynt canran mewn un flwyddyn yn unig. Golyga hynny nad yw bron i un o bob pum oedolyn ifanc y byddem yn cyfarfod â nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ffigurau eithaf llwm. Weithiau, Lywydd, rydym yn dod i arfer â'r niferoedd hyn yn cael eu crybwyll, ond mae'n eithaf syfrdanol, mewn gwirionedd, nad yw bron i un o bob pum oedolyn ifanc mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.
Rhaid inni gofio bod unigolyn ifanc y tu ôl i bob un o'r ffigurau hynny sydd eisiau bwrw ymlaen â'u bywyd, parhau ag addysg, datblygu eu sgiliau, neu gamu ymlaen i fyd gwaith. Pan na allant wneud hynny, fel y mae'r cynnig hwn yn ei gydnabod, gall y canlyniadau fod yn hirhoedlog, gan effeithio ar eu hiechyd, eu henillion, eu cyfleoedd bywyd, ac yn y pen draw, ar ein cymdeithas gyfan. Dyna pam fod y rôl y mae colegau addysg bellach yn ei chwarae yn mynd i'r afael â hyn mor bwysig. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn deall hyn, ond mae angen inni weld gweithredu i ddilyn y geiriau o ganlyniad i'r cynnig hwn heddiw.
Gwyddom, wrth gwrs, fod y nifer uchaf erioed o ddysgwyr yn dewis colegau addysg bellach fel llwybr i gymwysterau, sgiliau a gyrfaoedd, gyda phob coleg yng Nghymru yn nodi cynnydd mewn cyfranogiad yn y flwyddyn academaidd hon. Weinidog, fe fyddwch yn falch o glywed, wrth gwrs, fy mod wedi ymweld â choleg ddydd Gwener. Ymwelais â safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam. Bûm yn chwarae pêl-bicl yn un o'u neuaddau chwaraeon, bûm yn gwylio rhywfaint o bicl yn cael ei baratoi yn y bwyty, ac rwy'n gobeithio'r nefoedd nad oes unrhyw luniau ohonof yn mynd i bicl wrth ddawnsio yn eu stiwdio ddawns.
Yr hyn y soniasant amdano hefyd oedd y galw cynyddol y maent yn ei weld ar eu safle eu hunain yno yn Wrecsam, a gwn fod hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa mewn colegau ledled Cymru sy'n wynebu'r un mathau o bwysau. Gwyddom fod galw arbennig o gryf mewn meysydd addysg galwedigaethol a thechnegol, fel adeiladu, peirianneg a gofal iechyd, sef yr union y sectorau, fel mae'n digwydd, lle mae angen gweithwyr medrus ar Gymru heddiw. Ac fel y clywsom eisoes yn y sylwadau agoriadol, Lywydd, nid yw'r cyllid angenrheidiol ar gael i ateb y galw cynyddol.
Rydym eisoes wedi clywed am y 5,000 o ddysgwyr ar draws y colegau yng Nghymru sy'n astudio heb y cyllid cysylltiedig i'w cefnogi'n briodol. Yn fy etholaeth i, mae oddeutu 1,000 o fyfyrwyr ar hyn o bryd mewn colegau heb y cyllid ar waith i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Rydym wedi methu ariannu'r galw hwnnw. Rydym mewn perygl o weld llai o leoedd, llai o gyrsiau a llai o gefnogaeth i'r bobl ifanc y soniais amdanynt ar ddechrau fy nghyfraniad heddiw, sef y bobl ifanc hynny nad ydynt mewn gwaith, y bobl ifanc hynny nad ydynt mewn hyfforddiant ar hyn o bryd ac nad ydynt yn gallu gweld y dyfodol y mae angen iddynt allu ei weld. Y perygl yw y bydd yr argyfwng NEET yn gwaethygu ac nid yn gwella.
Ond un rhan o'r ateb yn unig yw cyllid, a dyna pam y mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig mor bwysig, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog mwy o gydweithio rhwng y colegau hynny a'r sector preifat. Oherwydd mae gennym sefyllfa ryfedd yng Nghymru ar hyn o bryd, lle bydd llawer ohonom ar draws y Siambr yn ymwybodol fod cyflogwyr yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i bobl â'r sgiliau cywir tra bod pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i lwybrau clir i mewn i waith. Felly, mae rhywbeth o'i le. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn sôn am yr archwiliad sgiliau sydd ar y gweill, ac rwy'n gobeithio'n fawr fod busnes yn ystyriaeth bwysig yn hwnnw hefyd. Oherwydd gall cyflogwyr helpu'r colegau hynny i ddeall y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiannau, gall colegau ddarparu'r genhedlaeth nesaf o dalent i fusnesau, a gall dysgwyr ennill y profiad a'r ddealltwriaeth o'r gweithle sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng gorffen addysg a dod o hyd i yrfa.
Enghraifft o hyn, Lywydd, yw'r sector amddiffyn. Gwyddom fod sector amddiffyn y DU yn darparu oddeutu £1 biliwn y flwyddyn o fuddsoddiad i'n diwydiannau yng Nghymru. Felly, pam na fyddem eisiau i golegau Cymru weithio gyda'r sector amddiffyn i sicrhau bod ein pobl ifanc wedi'u paratoi i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y dyfodol? Mae'r un peth yn wir am adeiladu, peirianneg, ynni a llawer o sectorau eraill y mae economi Cymru’n dibynnu cymaint arnynt.
Felly, nid oes a wnelo hyn â dweud wrth bobl ifanc pa yrfa y dylent ei dewis, mae a wnelo â rhoi'r cyfle, y profiad a'r dewis iddynt allu camu ymlaen i fyd gwaith. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai pob dysgwr allu dewis llwybr sy'n gweithio iddynt hwy. Dyna pam ei bod yn bwysig fod y cynnig hwn a'n gwelliant yn cael eu cefnogi. Mae angen colegau sydd wedi'u hariannu'n iawn, cysylltiadau cryfach rhwng addysg a diwydiant a Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar greu cyfleoedd i'n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw. Cyn gwyliau'r haf, nodais y sefyllfa yng Ngholeg y Cymoedd, sydd â champws yn fy etholaeth i, yn Nantgarw. Ar draws ei bedwar campws, roedd cannoedd o ddarpar ddysgwyr ar restrau aros oherwydd cyfyngiadau cyllido ar y pryd. Roedd llawer wedi gwneud ceisiadau am gyrsiau adeiladu, gweithgynhyrchu a chyrsiau galwedigaethol eraill, ond hyd yn oed nawr, gyda'r tymor wedi cychwyn, mae 400 o ddysgwyr wedi gorfod cofrestru ar eu hail neu drydydd dewis o gyrsiau, tra bo 40 ohonynt ar restrau aros o hyd.
Felly, blwyddyn yn unig sydd i fynd bellach cyn inni gyflwyno’r TAAU, y dystysgrif alwedigaethol addysg uwchradd, ar gyfer pobl 14 i 16 oed. Mae’r sefyllfa yng Ngholeg y Cymoedd yn dangos yn glir fod galw cryf eisoes ymhlith pobl ifanc am addysg alwedigaethol. Felly, gyda blwyddyn yn unig i fynd cyn ei chyflwyno, tybed sut y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu sicrhau bod y cymwysterau TAAU yn cael eu cyflwyno’n gyson ar draws pob ysgol yng Nghymru, ac yn hollbwysig, eu bod yn cysylltu ag addysg bellach, prentisiaethau a’r anghenion sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau.
Rwy'n codi heddiw i gefnogi'r cynnig, nid am fy mod yn cytuno â phopeth a wnaeth Llafur fel Llywodraeth—ac i fod yn glir, nid ydwyf—ond am fod y ffeithiau yn y cynnig heddiw yn wir: mae gormod o bobl ifanc yng Nghymru heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r galw am leoedd coleg wedi cynyddu, ond nid yw'r cyllid wedi dilyn y galw, ac mae hynny'n fethiant polisi allweddol y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.
Mae'r cynnig heddiw yn trafod argyfwng ymhlith pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ochr yn ochr â'r creithiau gydol oes sy'n dilyn. Nawr, fe wyddom fod yr ystadegau'n ofnadwy. Fel y rhannodd Sam gyda ni nawr, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2025, nid oedd 17 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Dyna 56,800 o bobl ifanc na allant gymryd rhan yn yr economi. Cymru oedd yr unig genedl yn y DU lle cynyddodd yr ystadegau hynny o un flwyddyn i'r llall, gyda chynnydd o 5.5 y cant. Mae hynny'n fethiant amlwg ar ran y Llywodraeth yn y lle hwn i gyflawni ar gyfer ein pobl ifanc. Mae hefyd yn gyfle enfawr a gollwyd i'n heconomi ac i'n cyllid cyhoeddus. Pe baem yn gallu cael hanner y bobl ifanc hynny hyd yn oed i gyflogaeth amser llawn, byddai Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu dros £90 miliwn mewn derbyniadau treth incwm. A hynny cyn i chi ystyried y manteision ehangach sy'n dod gyda sylfaen ddefnyddwyr fwy a nifer uwch o bobl ifanc yn rhan o'r economi.
Nawr, colegau yw un o'n prif lwybrau i bobl ifanc ddianc rhag y trap NEET. Mae'r cynnig yn iawn i gydnabod bod y lefelau uchaf erioed o alw yn gosod pwysau ariannol ar y sefydliadau hyn. Mae colegau ledled Cymru yn cael eu gorfodi i droi myfyrwyr ymaith am nad oes ganddynt adnoddau i gynnig cyrsiau iddynt. Dywedodd ColegauCymru ym mis Ionawr fod cyllideb 2026-27 mewn perygl o gau pobl ifanc allan o addysg ac y byddai'n chwalu gwarant i bobl ifanc y Llywodraeth ar y pryd. Roeddent yn amcangyfrif diffyg cyllid o fwy na £23.5 miliwn ar draws y sefydliadau addysg bellach.
Nawr, y warant i bobl ifanc oedd addewid Llafur i bob unigolyn 16 i 24 oed yn y wlad y byddent yn cael cynnig addysg, hyfforddiant neu gymorth i mewn i waith. Eto i gyd, gyda pheth o'r gwariant cyflogadwyedd uchaf y pen o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, mae mwy a mwy o'n pobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl. Mae angen i'r Llywodraeth gamu i'r adwy a darparu'r cyllid i sefydliadau a mentrau a all helpu i ddatrys y broblem hon.
Nawr, yr wythnos diwethaf, Lywydd, ymwelais â digwyddiad arddangos Pathways, prosiect peilot a helpai i gael pobl ifanc yn y Rhondda allan o'r trap NEET ac ymlaen i lwybr cadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun peilot hwnnw'n cyhoeddi ei dystiolaeth yr hydref hwn, ac rwy'n gobeithio y gall fod yn fodel cadarnhaol i bobl ifanc allu gwella eu bywydau a pharhau i ymgysylltu â'r economi.
Nawr, mae Plaid Cymru yn treulio llawer o amser yn siarad am eu huchelgeisiau dros Gymru, ond yr uchelgeisiau sydd o ddiddordeb i mi yw uchelgeisiau ein pobl ifanc a'u gallu i gyflawni'r uchelgeisiau hynny o fewn yr economi. Felly, byddaf yn cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw, ochr yn ochr â'r gwelliant Ceidwadol sy'n galw am gysylltiadau agosach rhwng ein sefydliadau a'r sector preifat. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl heddiw. Cefais y fraint o arwain ar addysg uwch ac addysg bellach yn ystod dwy flynedd olaf y Llywodraeth Lafur Cymru flaenorol. Hoffwn adleisio'r pwynt a wnaed gan fy nghyd-Aelod Lynne Neagle ynglŷn â pha mor falch yr oeddem o allu dyrannu'r £20 miliwn ychwanegol hwnnw i addysg bellach. Ond mae'r angen am gyllid ychwanegol yn dal i gynyddu, Ddirprwy Weinidog, ac mae angen i chi ystyried neges glir y ddadl heddiw am yr angen am gyllid ychwanegol.
Un peth yr oeddwn yn hoff iawn ohono pan oeddwn i yn y rôl honno oedd y gallu i fynd allan ledled Cymru i gyfarfod â dysgwyr a'r staff sy'n eu cefnogi. Roedd yna, ac mae yna heriau, ond roedd yr angerdd, yr ymroddiad i ymdrechu a chyflawni a chyflawni'r canlyniadau dysgu gorau yn glir. Y profiad hwnnw fydd yn siapio fy sylwadau heddiw, ac rwyf am ddechrau trwy sôn am adolygiad addysg uwch newydd Llywodraeth Cymru. Nawr, mae hwn yn bwysig. Mae'r sector yn wynebu problemau, ac mae'n iawn fod y rhain yn cael eu hystyried, ond mae'r ffocws ar addysg uwch yn unig yn gwbl groes i'n dull o weithredu ni pan oeddem mewn grym. Roedd hwnnw'n seiliedig ar sicrhau cyfranogiad a chynaliadwyedd y system drydyddol gyfan, a heb y ffocws hwnnw, rwy'n pryderu bod perygl real iawn y bydd y ffocws ar addysg bellach yn cael ei golli a'i gyllid yn cael ei ddisodli hefyd. Rwy'n gobeithio bod hyn yn rhywbeth yr aiff Llywodraeth Cymru i'r afael ag ef wrth ymateb i'r ddadl.
A beth fydd yr effaith os collwn y ffocws hwn ar addysg bellach? Wel, gwyddom fod addysg bellach yn chwarae rôl allweddol yn darparu llwybrau galwedigaethol ac academaidd, yn enwedig, fel y soniodd eraill, i'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf mewn perygl o ymddieithrio rhag addysg. Yn wir, carwn awgrymu bod yna reidrwydd moesol ar y Llywodraeth i ganolbwyntio ar addysg bellach i fynd i'r afael â'r her hon.
Ddydd Llun, ymwelais â champws Aberdâr Coleg y Cymoedd yn fy etholaeth, a diolch i'r staff a'r myfyrwyr a roddodd amser i siarad â mi yno yn rhan o'r Wythnos Addysg Oedolion. Roedd yno enghreifftiau gwirioneddol ardderchog o ddysgwyr aeddfed yn ailymgysylltu ag addysg, gan ddiwallu'r angen mewn ffordd na all dim ond addysg bellach ei wneud. Mae hwn yn faes arall lle mae'r galw'n sylweddol, fel y soniais yn fy nghwestiwn addysg yn gynharach heddiw. Mae hwn yn batrwm sydd wedi'i nodi ers sawl blwyddyn. Ni ddylai'r oedolion hynny sy'n dysgu, sy'n awyddus i ailymgysylltu, orfod bod ar eu colled.
Roedd fy sgyrsiau gyda staff a dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn cynnig darlun tebyg iawn. Ar y cyfan, y coleg hwnnw, dim ond un campws—. Mae gan y coleg hwnnw dros 5,500 o ddysgwyr amser llawn o bob oed ar ei lyfrau, ac mae'r mwyafrif ohonynt rhwng 16 a 17 oed. Ond yn rhyfeddol, dim ond ychydig dros 83 y cant sy'n cael eu hariannu. A gaf i roi eiliad i egluro hynny? Ni chaiff bron i un o bob pump o fyfyrwyr amser llawn y coleg eu hariannu. Ar gampws Aberdâr, nid ystadegyn yn unig yw hwnnw, ond 600 o ddysgwyr unigol. Heb gyllid, maent mewn perygl gwirioneddol o ymddieithrio rhag addysg.
Felly, mae 400 o ddysgwyr yno ar lefel 1 a lefel 2 nad ydynt ar eu cyrsiau dewis cyntaf. Mae hynny, ynddo'i hun, yn creu risg o ymddieithrio. Ac am y flwyddyn gyntaf erioed, mae gan y campws penodol hwnnw 40 o ddysgwyr ar restr aros na fu modd eu gosod ar gyrsiau, nad ydynt yn gallu cofrestru, ac sydd mewn perygl gwirioneddol o ymddieithrio rhag addysg am byth. Roedd 80 o ddysgwyr yno na allent eu gosod ar gyrsiau am fwy na deuddydd yr wythnos. Byddent yn hoffi'n fawr eu gosod am lawer hirach na hynny, ac wrth gwrs, po leiaf o amser y treuliant yn y coleg, y mwyaf yw'r risg o ymddieithrio. Byddai angen ymgyrch gyflogi ar gyfer recriwtio staff i ddarparu ar gyfer hynny, ac wrth gwrs, mae hynny'n galw am gyllid.
Bu cynnydd o 47 y cant yn y campws hwnnw yn unig eleni mewn cynlluniau datblygu unigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac rydym i gyd yn gwybod bod angen adnoddau ar y coleg i allu darparu ar gyfer yr anghenion hynny. Nawr, rwy'n gwybod na fyddai adolygiad o addysg bellach yn ateb i bob dim, ond gallai daflu goleuni ar y problemau a'n helpu i weithio gyda'n gilydd i benderfynu ar yr atebion i unioni pethau er mwyn ein dysgwyr.
Rwyf am gloi trwy fyfyrio ar rai o'r manteision i'r unigolyn o gael addysg bellach: gwell cymwysterau addysgol, llwybr neu daith newydd, mwy o sgiliau neu well cyfleoedd cyflogaeth. Ac yn hollbwysig, fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein hatgoffa, addysg hefyd yw un o'r mecanweithiau ataliol mwyaf ar gyfer iechyd meddwl. Felly, Ddirprwy Weinidog, gall addysg bellach newid bywydau. Cofiwch hynny wrth ichi fwrw ymlaen â'ch penderfyniadau polisi dros dymor nesaf y Senedd.
Rwyf innau'n falch hefyd ein bod yn cael cyfle heddiw i drafod pobl ifanc NEET, felly diolch i Lynne Neagle am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon, ond hefyd am y cyfle i drafod pam y mae pobl ifanc yn wynebu'r sefyllfa hon. Heb fod yn rhy bell yn ôl, codais y mater hwn yma yn y Senedd, yn enwedig yr effaith hirdymor y gall peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ei chael ar gyfleoedd bywyd unigolyn ifanc. Fel un o'r Aelodau ieuengaf yn y Senedd—rwy'n credu efallai mai Ben fyddai'n ennill y wobr honno, o damaid—mae hyn yn rhywbeth sy'n bersonol iawn i mi hefyd.
Tynnodd adroddiad Milburn sylw at raddfa wirioneddol yr her hon yn ddiweddar, gyda thua 56,000 o bobl ifanc yng Nghymru. Unwaith eto, mae'r ystadegyn hwnnw wedi cael ei daflu o gwmpas, ond mae'n golygu bod 17 y cant o'r holl bobl ifanc 16 i 24 oed heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Nawr, mae yna lawer o resymau pam y gallai unigolyn ifanc fod yn y sefyllfa hon. Gallai ddeillio o anawsterau yn yr ysgol, iechyd meddwl, tlodi plant, trafnidiaeth, neu'n syml am nad ydynt yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn. Yn yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli, Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, gwelwn rai o'r heriau hyn yn glir iawn. Yn ôl ym mis Mehefin, codais hyn gyda'r Prif Weinidog, gan nodi mai Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o drigolion 16 oed a throsodd heb unrhyw gymwysterau yng Nghymru—sef 27.9 y cant—tra bod Caerffili yn bedwerydd ymhlith yr holl awdurdodau lleol.
Nawr, mae'r ffigurau hynny'n peri pryder mawr, ond yr hyn sy'n fy mhoeni i'n fwy yw beth y gallant ei olygu i unigolyn ifanc sy'n tyfu i fyny yn y cymunedau hyn. Dyna pam y mae ymyrraeth gynnar yn bwysig iawn hefyd. Mae angen inni gefnogi pobl ifanc cyn iddynt gyrraedd y pwynt pan fyddant yn ymddieithrio'n llwyr, ac fe welais enghreifftiau da iawn o hyn yn fy etholaeth fy hun. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â hyfforddiant ACT yng Nglynebwy. Maent yn cefnogi pobl ifanc sydd, am bob math o resymau, heb ddod o hyd i'r llwybr confensiynol nodweddiadol o'r ysgol i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Ac rwyf am gofnodi fy niolch hefyd i'r holl staff yno am y gwaith a wnânt, oherwydd roedd yr ymweliad hwnnw'n wirioneddol ysbrydoledig. Ac roedd un peth a ddywedodd un o'r staff yn ystod yr ymweliad hwnnw yn sefyll allan i mi. I rai o'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, meddent, gall y gefnogaeth y maent yn ei darparu olygu'r gwahaniaeth yn llythrennol rhwng bywyd a marwolaeth i'r unigolyn ifanc hwnnw, ac rwy'n credu bod hynny'n crisialu gwir ddifrifoldeb y sefyllfa hon. Oherwydd gallwn siarad am gyfraddau a chanrannau NEET fel y gwneuthum ar y dechrau, ond i'r unigolyn ifanc hwnnw, nid ystadegyn mohono, ond eu bywyd.
Mae gan addysg bellach a hyfforddiant rôl enfawr i'w chwarae, ond mae yna rwystrau ehangach hefyd a all ei gwneud mor anodd i unigolyn ifanc gymryd y cam nesaf. Os ydynt yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, efallai na fyddant mewn sefyllfa i ymgysylltu. Os ydynt yn tyfu i fyny mewn tlodi plant, fel y mae cymaint yn fy etholaeth i, efallai nad oes ganddynt arian ar gyfer teithio, offer, neu'r sefydlogrwydd sydd ei angen arnynt i fanteisio ar gyfle, os yw'r cyfle hwnnw yno. Ac yn enwedig yn y Cymoedd, fel y gwyddom, gall trafnidiaeth fod yn rhwystr go iawn. Gall cwrs coleg, prentisiaeth neu swydd fod ar gael, ond os na all unigolyn ifanc ddibynnu ar allu cyrraedd yno neu fforddio'r daith, mae'r cyfle hwnnw allan o'u cyrraedd i bob pwrpas.
A dyna pam y mae'n rhaid i hyn fod yn fater trawslywodraethol. Mae addysg a sgiliau'n rhan fawr o'r ateb, ac mae cael y mannau hynny mor bwysig. Ond felly hefyd iechyd meddwl, mynd i'r afael â thlodi plant, trafnidiaeth, yr economi, a chefnogaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd.
Nid yw pob unigolyn ifanc yn mynd i ddilyn yr un llwybr. Bydd rhai'n mynd i'r brifysgol, rhai i brentisiaethau, rhai'n syth i gyflogaeth, ac efallai y bydd rhai'n cymryd ychydig yn hirach i ddod o hyd i'w llwybr, ac mae'r holl opsiynau hynny'n iawn. Ond yr hyn sy'n bwysig yw bod ganddynt gyfle i ddarganfod y llwybr hwnnw. Dylai unigolyn ifanc sy'n tyfu i fyny ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni gael yr un cyfleoedd i lwyddo â rhywun sy'n tyfu i fyny yn unrhyw le arall yng Nghymru, oherwydd mae talent wedi'i wasgaru'n gyfartal ar draws Cymru gyfan, ond nid yw cyfle. Diolch.
Byddaf yn siarad o blaid y cynnig. Mae dau fater wrth wraidd y cynnig hwn: nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, y byddaf yn cyfeirio atynt fel pobl ifanc NEET, ac a oes gan ein colegau addysg bellach allu i ateb y galw presennol.
Gan ddechrau gyda phobl ifanc NEET, mae'r cynnig yn iawn i gyfeirio at greithiau hirdymor. Canfu astudiaeth hydredol yn yr Alban fod pobl ifanc NEET rhwng 16 a 19 oed 2.8 gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar 10 mlynedd yn ddiweddarach. Ar y lefel gymdeithasol, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae angen i'n pobl ifanc fod yn gynhyrchiol wrth i genedlaethau hŷn adael y gweithlu. Hefyd, dylem ddatblygu sgiliau a photensial pobl ifanc sydd eisoes yn byw yma, yn hytrach na dibynnu ar recriwtio gweithwyr o dramor i gefnogi poblogaeth sy'n heneiddio.
Cyn symud ymlaen o bobl ifanc NEET, rwyf am fynd i'r afael yn fyr â deallusrwydd artiffisial. Ar ddiwrnod canlyniadau TGAU eleni, anfonodd etholwr ifanc e-bost ataf am ei bod yn pryderu am effaith deallusrwydd artiffisial ar swyddi. Mae pobl ifanc yn ymwybodol iawn o ddeallusrwydd artiffisial, a buaswn yn camarwain y Siambr pe bawn i'n dweud nad oes gan bobl ifanc unrhyw beth i boeni yn ei gylch, oherwydd canfu baromedr busnes 2026 y Brifysgol Agored fod 19 y cant o'r cyflogwyr a arolygwyd wedi lleihau eu lefelau recriwtio gyrfa gynnar, ac ymhlith y cyflogwyr hynny, priodolodd 42 y cant y gostyngiad hwnnw i'r ffaith bod deallusrwydd artiffisial wedi ei fabwysiadu'n ehangach ar gyfer gwneud mwy o dasgau lefel mynediad. Mae ein pobl ifanc felly yn cystadlu â deallusrwydd dynol a heb fod yn ddynol am swyddi erbyn hyn. Mae hynny'n gwneud rôl colegau addysg bellach yn darparu sgiliau a llwybrau i waith cynhyrchiol i bobl ifanc mor bwysig ag erioed.
Wrth droi at golegau addysg bellach, hoffwn ganolbwyntio yn ail ran fy araith ar Goleg y Cymoedd, sy'n gwasanaethu cymunedau ar draws fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, a diolch i'r pennaeth Jonathan Morgan am ddarparu'r ffigurau canlynol. Mae Coleg y Cymoedd wedi cofrestru 5,534 o ddysgwyr amser llawn yn amodol eleni, o'i gymharu â 4,888 y llynedd—cynnydd o fwy na 13 y cant mewn un flwyddyn. Ond dim ond ar gyfer oddeutu 4,596 o ddysgwyr y caiff ei ariannu, gan adael bwlch o fwy na 900 o leoedd, ac mae'r coleg yn amcangyfrif bod hynny'n cyfateb i bwysau ariannol o tua £3 miliwn. Mae canlyniadau cefnogi llawer mwy o ddysgwyr nag yr ariennir ar eu cyfer yn cynnwys dosbarthiadau mwy o faint a mwy o bwysau ar staff addysgu, a allai beryglu ansawdd y profiad dysgu.
Yn ogystal â hyn, mae nifer y dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu gynlluniau datblygu unigol yng Ngholeg y Cymoedd wedi codi o 309 i 454 mewn un flwyddyn—cynnydd o 47 y cant. Mae'n sicr yn galonogol fod mwy o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn dewis addysg bellach, ond mae'r cynnydd yn y niferoedd yn galw am gyllid ychwanegol. Hebddo, rhoddir mwy o bwysau ar dimau cymorth arbenigol, darpariaeth les a staff addysgu. Ond nid yw'r cyllid yn cyfateb i hynny—ymhell o fod. Derbyniodd sector addysg bellach Cymru £21.5 miliwn yn fwy o gyllid cyfranogiad yn 2025-26. Y dyraniad cyfatebol sydd ar gael yn 2026-27 yw £6.25 miliwn. Barn Coleg y Cymoedd yw y byddai adfer y lefel flaenorol yn darparu modd uniongyrchol o fynd i'r afael â phwysau'r galw presennol. Mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at yr angen i ariannu cyfranogiad cynyddol.
Rwy'n cytuno â'r achos dros fwy o gyllid cyfranogiad a nodir yn y cynnig hwn, ond rhaid cael craffu i gyd-fynd â chyllid. Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried cyllid addysg bellach yn y dyfodol, dylai edrych nid yn unig ar faint o leoedd sydd eu hangen, ond hefyd ar yr hyn y mae'r lleoedd hynny'n ei ddarparu. A yw dysgwyr yn cwblhau eu cyrsiau? A ydynt yn ennill cymwysterau y mae cyflogwyr yn eu hystyried yn werthfawr? Ac a ydym yn hyfforddi pobl yn y sgiliau sydd eu hangen ar Gymru mewn gwirionedd? Oherwydd dylai addysg bellach fod yn bont i waith medrus a chyfle go iawn. Am y rhesymau hyn, er bod yn rhaid cael craffu trwyadl a phrawf o ganlyniadau i ddod gyda'r cyllid, rwy'n cefnogi'r cynnig. Dylai mwy o'n pobl ifanc gael cyfle i gamu ymlaen mewn bywyd, er eu lles eu hunain ac er lles y gymdeithas gyfan.
Rydym yn gwybod bod yna argyfwng ynghylch pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a'r creithiau hirdymor y mae hyn yn ei achosi i'w hiechyd, eu henillion ac i'w cyfleoedd bywyd yn y dyfodol. Os nad ydynt mewn addysg rhwng 16 a 18 oed, mae'r gobaith y byddant yn ymuno ag addysg ar ôl 18 oed neu'n cyrraedd cyflogaeth yn lleihau, ac yn lleihau'n gyflym.
Fel cyn-ddarlithydd mewn coleg addysg bellach a llywodraethwr coleg, rwy'n croesawu cyfranogiad cynyddol pobl ifanc mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae'r galw cynyddol am addysg alwedigaethol a thechnegol i'w groesawu'n fawr iawn. Mae angen plymwyr, mae angen pobl trin gwallt, mae angen trydanwyr, mae angen peintwyr ac addurnwyr arnom. Fe wyddom fod angen y rheini arnom. Ym Mhrydain, roedd 981,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ond pa newidiadau sydd wedi digwydd? Mae gennym genhedlaeth goll o bobl ifanc, ac maent yn mynd i fod ar goll am byth oni roddir camau ar waith ar frys. A lle Llywodraeth Cymru yw dechrau rhoi rhai o'r camau hynny ar waith.
Yr hyn sydd wedi digwydd dros amser yw cyfansoddiad y grŵp anweithgar hwn. Mae'r gyfran sy'n anweithgar oherwydd salwch neu anabledd wedi mwy na dyblu ers 2005. Rwy'n ei chael hi'n anodd credu bod gan bron i draean o bobl a oedd yn NEET yn 2025 broblemau iechyd i'r fath raddau fel na allent gyfranogi mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Rhesymau eraill yw bod pobl â chyfrifoldebau iechyd a gofal a'r rheini nad ydynt eisiau neu angen cyflogaeth. Cododd y rhai nad ydynt eisiau neu angen cyflogaeth yn sydyn yn ystod yr un cyfnod, i gyrraedd 23 y cant o bobl ifanc NEET yn 2025. Mae'n frawychus y bydd rhai, y rhai cyfoethog—sy'n eistedd ar y meinciau gyferbyn â ni yn ôl pob tebyg—nad oes angen iddynt weithio mewn gwirionedd. Ond mae yna lawer iawn o bobl sy'n goroesi ar fudd-daliadau os nad ydynt mewn gwaith.
Ar yr un pryd, mae cyfran y bobl ifanc sy'n anweithgar am resymau'n gysylltiedig â gofalu wedi gostwng, sy'n newyddion da, ond unwaith eto, mae'r gofalwyr di-dâl y mae pawb ohonom yn cyfarfod â nhw'n weddol rheolaidd yn parhau i ddweud wrthym am y problemau. Y rhai 16 a 17 oed sy'n debygol o fod wedi bod yn anweithgar am resymau eraill dros y blynyddoedd diwethaf, beth sy'n digwydd wedyn? Nid ydynt eisiau mynd i'r ysgol. Mae llawer o bobl nad ydynt eisiau parhau yn yr ysgol, nid yr ysgol yw eu lle, ond nid dyna ddiwedd addysg, nid dyna ddiwedd hyfforddiant ac nid yw hynny'n golygu na allant byth weithio. Mae gennym gynllun gwarant i bobl ifanc Llywodraeth Cymru ac mae'r cynllun hwnnw i'w groesawu'n fawr.
Colegau a darparwyr hyfforddiant preifat yw'r unig opsiwn pan nad oes modd symud yn uniongyrchol i gyflogaeth. Nid oes gan ddarparwyr hyfforddiant preifat, gyda llawer ohonynt yn gwneud gwaith rhagorol, allu i hyfforddi nifer fawr o bobl ifanc. Mae tystiolaeth yn dangos yn gyson fod aros mewn addysg ar ôl 16 yn hanfodol i ganlyniadau bywyd hirdymor pobl ifanc. Mae hefyd yn bwynt lle mae pobl ifanc yn wynebu penderfyniad mawr ynghylch parhau mewn addysg academaidd neu fynd ar drywydd addysg alwedigaethol—dewis a all fod yn anodd i'r rheini na chânt fawr o arweiniad neu gefnogaeth deuluol. Mae llawer o hyn yn deillio o ba fath o swyddi rydych chi'n gwybod amdanynt, a'r swyddi y mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn gwybod amdanynt? Maent yn adnabod athrawon am eu bod yn eu gweld bob dydd, maent yn gwybod beth y mae eu teuluoedd yn ei wneud, maent yn gwybod beth y mae eu cymdogion yn ei wneud, ond mae yna ystod eang o swyddi nad ydynt yn gwybod dim amdanynt. Gwnaeth cyn-Aelod o'r Senedd hon a ddaeth yn fargyfreithiwr wneud hynny am iddo fynd ar ddiwrnodau hyfforddi gyda bargyfreithiwr yn Abertawe. Nawr, mae hynny'n rhywbeth sy'n anhygoel o dda, ond ni allwn adael dyfodol pobl ifanc i ddigwyddiad ar hap o'r fath, allwn ni?
Mae llawer o bobl ifanc eisiau mynd i'r coleg, ac rwy'n cydnabod y pwysau ariannol ar golegau, pe bai ond oherwydd eu bod yn parhau i ddweud wrthyf. Ond ni ddylai unrhyw un 16 i 18 oed fethu gallu mynychu coleg am nad oes digon o leoedd wedi'u hariannu. Ar gyfer colegau sy'n darparu hyfforddiant na chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r swm wedi'i gyfyngu gan bwysau ariannol. Mae angen i Lywodraeth Cymru ariannu'r holl leoedd sydd eu hangen. Os nad ydym eisiau i bobl ifanc fod yn NEET, gadewch inni beidio â bod y bobl sy'n gwneud iddynt fod yn NEET trwy beidio â darparu lleoedd hyfforddi i bobl ifanc. Ac os yw pobl ifanc sy'n methu cael swydd neu fynd ar gwrs coleg yn dod yn NEET, nid eu bai nhw yw hynny ond ein bai ni, neu Lywodraeth Cymru, dylwn ddweud. Mae angen i'r Llywodraeth ariannu colegau addysg bellach fel y gall pawb sydd eisiau mynd i'r coleg wneud hynny. Dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Mae'n bwysig fod pob unigolyn ifanc yn cael y cyfle y maent yn ei haeddu.
Diolch i Lafur am godi'r mater pwysig yma.
Addysg bellach yw'r drws i bobl ifanc gael cyfle i gael dechrau gwych yn eu bywyd gwaith. Nid yn unig hynny, mae'n ddrws hefyd i weithlu medrus o bobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'n caniatáu iddynt aros yng Nghymru, i weithio yma, i brynu eiddo, i fagu eu teuluoedd. Gwyddom fod gormod o bobl ifanc yn gadael Cymru. Mae ariannu addysg bellach yn llythrennol yn gyfle a rhaglen buddsoddi i arbed.
Rwyf am siarad am Goleg y Mynydd Du, sy'n goleg addysg bellach yn Nhalgarth. Mae'n darparu cymwysterau mewn sgiliau gwyrdd ac ynni adnewyddadwy. Mae Coleg y Mynydd Du yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen yn ddirfawr ar Gymru, yma yng nghanolbarth Cymru—mae'n ddrwg gennyf, yno yng nghanolbarth Cymru; nid ydym yng nghanolbarth Cymru, ydym ni? Arfer yw dweud hynny —
O, na baem ni.
Diolch.
—yng nghanolbarth Cymru, lle mae dirfawr angen i'n pobl ifanc aros yno. Mae gan Goleg y Mynydd Du gynllun ar gyfer twf ac eto, gyda chyllideb sy'n crebachu, mae'n gorfod dweud 'na' wrth bobl ifanc sydd eisiau mynd ar y cyrsiau hyn, ac fel y clywsom, mae ganddo restr aros o bobl ifanc sy'n awyddus iawn i fynd ar eu hystod o gyrsiau.
Mae cwmnïau'n crefu am bobl ifanc medrus yn yr agenda werdd ac ynni adnewyddadwy. Yn achos Coleg y Mynydd Du hefyd, mae'r amgylchedd yn crefu am y bobl ifanc medrus hynny. Mae canolbarth Cymru yn crefu ar ein pobl ifanc i aros, ond yn bwysicaf oll, mae ein pobl ifanc yn crefu am y cyrsiau hyn. Mae hwn yn llythrennol yn gyfle a rhaglen buddsoddi i arbed i'r Llywodraeth hon. Ac felly, rwy'n cytuno â'r hyn sydd wedi'i ddweud: rhaid i addysg bellach gael yr arian sydd ei angen i allu cynnig cyfle i'n pobl ifanc aros yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gaf i ddiolch i Lynne Neagle am ddod â'r cynnig pwysig yma gerbron?
Diolch am gyflwyno'r cynnig hwn i'r Siambr, ac a gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau pwerus i'r ddadl hon? Rwy'n cael fy hun yn cytuno â'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud. Ni ddowch o hyd i neb sy'n hyrwyddo sgiliau, addysg drydyddol a dyfodol pobl ifanc cymaint ag y gwnaf i, ac rwy'n falch ein bod wedi cael y cyfle hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi ein pobl ifanc, wrth symud ymlaen. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau gweld mwy o gyfleoedd i bobl ifanc, system sgiliau gryfach, economi gryfach a mwy ffyniannus, a phobl ifanc yn cael eu cefnogi gan weithlu ymroddedig a galluog.
Mae'r ystadegau NEET sydd wedi'u hamlygu gan gymaint ohonoch yn gwbl annerbyniol i ni yng Nghymru. Fel cenedl, nid ydym eisiau bod mewn sefyllfa lle mae 50,000 a mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 24 yn NEET, gyda thua 17 y cant o bobl ifanc yn wynebu llai o gyfleoedd bywyd ar oedran cynnar iawn. Gallwn wneud yn well na hyn. Rhaid inni wneud yn well na hyn.
Mae hon yn sefyllfa y mae Llywodraeth Cymru wedi'i hetifeddu mewn sawl ffordd. Fel y nodais yn fy natganiad ar flaenoriaethau ar gyfer sgiliau ac addysg drydyddol yn gynharach yn nhymor y Senedd hon, mae cefnogi pobl ifanc i ddysgu a gweithio yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym eisiau system sy'n datblygu sgiliau, yn adeiladu hyder ac yn creu llwybrau dilys i gyflogaeth a dysgu pellach. Ein huchelgais yw un system addysg a system sgiliau i Gymru, system sy'n hygyrch, yn gydlynol ac o'r ansawdd gorau, ac un sy'n cefnogi pobl drwy gydol eu bywydau ac yn cyfrannu at ffyniant economaidd a chydlyniant cymdeithasol.
Nawr, yn gynharach eleni—eto, mae wedi cael ei grybwyll sawl gwaith—cyhoeddodd Alan Milburn ei adroddiad interim ar bobl ifanc a gwaith. Mae ei adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith, ledled y DU, fod un o bob wyth o bobl ifanc yn NEET. Ni allwn danamcangyfrif yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl ifanc a'u teuluoedd a'r effeithiau parhaol ar enillion, iechyd, llesiant a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol. Rhaid inni ystyried yr effaith ar gymunedau a'r economi leol hefyd, a'r ymdeimlad o berthyn a seilwaith cymdeithasol ac economaidd sy'n caniatáu cyfleoedd iddynt ffynnu.
Yr hyn y mae adroddiad Alan Milburn yn tynnu sylw ato hefyd yw bod tua 70 y cant o'r bobl ifanc NEET yn economaidd anweithgar. Hynny yw, nid ydynt yn weithredol yn chwilio am waith. Dengys hynny'n glir fod yna faterion sylfaenol yn gysylltiedig â'r 70 y cant yn ymwneud ag iechyd meddwl, yn ymwneud ag anabledd, yn ymwneud ag ADY, yn ymwneud â gofal plant. Mae cymaint o rwystrau eraill y mae angen inni eu cydnabod. Dyma'r bobl ifanc sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Felly, mewn perthynas â'r 70 y cant hwnnw, yr hyn sydd angen inni ei wneud yw cael strategaeth gyfannol integredig ar gyfer mynd i'r afael â phobl ifanc NEET.
Nid cyfrifoldeb addysg a sgiliau'n unig yw pobl ifanc NEET. Rhaid iddo gynnwys iechyd, rhaid iddo gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, rhaid iddo gynnwys trafnidiaeth, hyfforddiant a thai, a'r holl faterion y mae llawer ohonoch wedi'u codi heddiw. Felly, rwy'n ymrwymo i ddatblygu strategaeth NEET gyfannol ar gyfer Cymru—[Torri ar draws.] Ie, ewch amdani.
Yr hyn a wyddom yw bod llawer o'r bobl ifanc NEET yn NEET am na allant ddilyn cwrs addysg mewn coleg. A wnewch chi ariannu'r holl gyrsiau ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd eisiau bwrw ymlaen a'u hatal rhag dod yn NEET a'u cael i mewn i addysg?
Diolch, Mike. Rwy'n dod at hynny.
Mae angen pobl fedrus iawn arnom, mae angen inni gael pobl oddi ar y gofrestr NEET. Rwy'n cydnabod y cyfranogiad cynyddol mewn addysg bellach. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Medr a ColegauCymru, ac rwyf wedi cael gohebiaeth gan golegau unigol hefyd, fel pawb yn y Senedd rwy'n siŵr. Rwy'n cydnabod yr heriau ac rwy'n monitro'r sefyllfa. Byddwn yn gwybod yn well erbyn mis Tachwedd beth yw'r union ddata. Er ein bod mewn amgylchiadau ariannol anodd a heriol iawn ar hyn o bryd—mae hynny'n hysbys i bawb yn y Siambr—byddaf yn gwneud achos dros gefnogi'r cynnydd yn y cofrestriadau a welwn mewn colegau addysg bellach, gan y byddai methu gwneud hynny'n gam â grŵp cyfan o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Ond fy mhwynt yw hyn: nid mater i golegau'n unig yw cefnogi pobl ifanc. Fel y soniais, mae angen dull ehangach arnom, yn enwedig gyda'r 70 y cant sy'n cael anawsterau amrywiol i fynd ati i chwilio am waith. Mae angen inni leihau nifer y dysgwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ond mae angen inni gynnwys partneriaid allweddol eraill hefyd, fel darparwyr prentisiaethau ac yn y blaen. Mae angen inni weithio'n agos gyda'r sector busnes i sicrhau bod cyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad ystwythach at brofiad gwaith, a phrentisiaethau wedyn hefyd o bosibl.
Gwelwn y cynnydd mewn cofrestriadau ar gyfer cyrsiau lefel 1 a lefel 2 hefyd, sy'n gyrsiau rhifedd a llythrennedd sylfaenol, a dyna pam ei bod yn bwysig fod y Gweinidog addysg wedi lansio ei chynllun rhifedd a llythrennedd yr wythnos diwethaf, fel ein bod yn rhoi'r pethau sylfaenol ar waith yn ein hysgolion i osgoi gweld y bobl ifanc hynny'n cael anawsterau yn ddiweddarach mewn bywyd. Dyna pam rwy'n llwyr gefnogi datblygiad y TAAU a gaiff eu cyflwyno yn ein hysgolion o 2027 ymlaen. Byddant yn rhoi cyfleoedd ar oedran cynnar iawn i bobl ifanc wneud dewisiadau ynghylch astudiaethau galwedigaethol, llwybrau mwy academaidd, neu gyfuniad o'r ddau lwybr. Rwy'n credu bod honno'n ffordd ymlaen hefyd i sicrhau bod ein pobl ifanc yn datblygu'r sgiliau, y dalent a'r diddordebau sydd ganddynt mewn set mor eang â phosibl o opsiynau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud am bwysigrwydd sgiliau a chefnogi pobl ifanc i mewn i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Rwy'n monitro'r sefyllfa i weld sut y gallwn gefnogi hynny'n ariannol a byddwn yn gwneud datganiad ynglŷn â hynny maes o law. Fe wnaf orffen, Lywydd—rwy'n gwybod bod fy amser ar ben.
Dwi eisiau dweud, yn sydyn iawn, bod ein huchelgais ni fel Llywodraeth yn glir iawn: rydyn ni eisiau gweld llwybrau cryfach rhwng ysgolion, colegau, prentisiaethau a chyflogaeth, ac rydyn ni eisiau gweld pob dysgwr, beth bynnag eu cefndir, yn cael y cyfle gorau mewn bywyd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl.
Dywedwyd wrthyf fod gennyf saith munud a 45 eiliad, felly mae hynny'n fanwl iawn. A gaf i ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl? Roedd yn wych gweld cymaint o siaradwyr o bob rhan o'r Siambr, ac fe geisiaf ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaed.
Diolch, Sam, am eich cyfraniad chi. Rwy'n credu eich bod wedi dechrau'r duedd o dynnu sylw at ffigurau llwm iawn yn gysylltiedig â phobl ifanc NEET, a hefyd y nifer o fyfyrwyr heb leoedd wedi'u hariannu ar eu cyfer. Mae honno'n thema gyffredin ar draws y ddadl. Diolch am rannu eich ymweliad â Choleg Cambria gyda ni, ac mae'n wych clywed bod Aelodau'n ymweld â'u colegau lleol. Ni wnaf sylwadau ar eich dawnsio; bydd yn rhaid i hynny aros am y tro. Ond os caf ddweud hefyd fod yr Aelodau Llafur yn hapus iawn i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig ar yr angen i gydweithio â'r sector preifat. Dywedwyd wrthyf fod llawer iawn o gydweithio eisoes rhwng colegau a'r sector preifat, ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at ba mor bwysig yw paru'r sgiliau y mae dysgwyr yn eu hastudio â'r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol.
A gaf i ddiolch i Zaynub Akbar am ei chyfraniadau a'i heiriolaeth ar ran Coleg y Cymoedd? Nododd Zaynub hefyd rai o'r ffigurau llwm iawn ynghylch pobl ifanc ar restrau aros. I mi, rwy'n teimlo'n angerddol am y mater hwn nid yn unig am ein bod am i bobl ifanc gael sgiliau i gael gwaith, ond hefyd am fod bod yn NEET yn risg ddifrifol i iechyd meddwl pobl ifanc, ac mae'n hollol hanfodol ein bod ni'n dal gafael ar y bobl ifanc hynny. A fy ofn yw y bydd y bobl ifanc sydd ar restrau aros yn cael eu colli o'r system ac na allwn eu cael yn ôl.
Benjamin Hodge Mckenna, diolch am eich cyfraniad chi hefyd, ac eto am bwysleisio'r ffigurau llwm sy'n bodoli ynghylch pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Nid yw'n ddigon da o gwbl.
A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod Vikki Howells y gwn ei bod yn teimlo'n arbennig o angerddol ynghylch cefnogi'r sector addysg bellach? Tynnodd Vikki sylw at y ffaith bod y ffigurau hyn ar gynnydd. Felly maent yn fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. Oherwydd mae'r ffigurau, fel stori lwyddiant, yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond oni bai ein bod yn diwallu'r pwysau, mae hynny'n mynd i droi'n broblem yn gyflym.
Vikki, fe wnaethoch chi dynnu sylw hefyd at yr angerdd a'r ymroddiad sydd i'w weld yn ein colegau, ac mae hynny'n rhywbeth a welais innau hefyd, yr ymrwymiad amlwg i gefnogi dysgwyr, ac yn enwedig pobl ifanc. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol fy mod yn rhannu eich pryderon am yr adolygiad addysg uwch. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn credu bod angen edrych ar y sector addysg uwch, ond byddai'n well gennyf wneud hynny mewn ffordd gyfannol, mewn ffordd gyd-gysylltiedig, gan edrych ar gyfranogiad ymhlith pobl ifanc ôl-16 yn fwy cyffredinol.
Tynnodd Vikki sylw at y problemau yng Ngholeg y Cymoedd—mae yna eiriolwyr gwych dros Goleg y Cymoedd yma heddiw—ond hefyd, yn bwysig, soniodd am y problemau sy'n gysylltiedig ag ADY, ac mae hynny'n rhywbeth y mae colegau'n cael trafferth gydag ef. Mae'n debygol iawn fod rhywfaint o angen heb ei ddiwallu yn dod drwodd o ysgolion y mae colegau'n ymrafael ag ef. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol, pan edrychwn ar ariannu ADY, ein bod yn meddwl am y colegau hefyd.
Diolch, Niamh, am eich cyfraniad angerddol iawn am bwysigrwydd atal pobl ifanc rhag dod yn NEET. Mae'n ymwneud ag ystod gymhleth o broblemau, fel y nodwyd gennych. Roedd yn dda clywed eich bod wedi ymweld â hyfforddiant ACT. Mae gennyf ganolfan ACT yn fy etholaeth. Un o'r pethau a ddywedoch chi a wnaeth argraff arbennig arnaf oedd y gall hyn fod yn fater o fywyd a marwolaeth, ac rwyf innau wedi clywed hynny hefyd. Dyma rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed, a dyna pam ei bod mor hanfodol ein bod ni'n dal ein gafael arnynt. Rwyf innau hefyd yn cytuno'n fawr fod talent wedi ei wasgaru'n gyfartal, ond nad yw cyfle, a dyna'r her inni fynd i'r afael â hi.
Diolch i chi, Joshua Kim, am eich cyfraniad ac unwaith eto, am eich eiriolaeth dros Goleg y Cymoedd, ac am godi'r materion yn ymwneud â deallusrwydd artiffisial sy'n llawer rhy fawr imi fynd i'r afael â nhw mewn dadl o'r natur hon, ond heb os, maent yn berthnasol iawn i'r heriau y mae pobl ifanc a darparwyr yn ymdopi â nhw ar hyn o bryd.
Diolch, Mike, am eich cyfraniad chi, y gwn ei fod yn deillio o'ch cefndir chi fel cyn-ddarlithydd addysg bellach, ac am dynnu sylw at rai o'r gwahaniaethau yn y rhesymau pam y mae pobl ifanc yn dod yn NEET. Rwy'n credu bod rhai o'r ffigurau a nodwyd gennych am anweithgarwch economaidd yn dangos cymhlethdod y rhesymau pam nad yw pobl ifanc mewn addysg a chyflogaeth.
Diolch am eich cyfraniad chi, Jane. Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r coleg i chi, ac rydych chi wedi siarad dros y coleg o'r blaen. Fel y nodoch chi, mae'n arbennig o bwysig yng nghefn gwlad Cymru ein bod yn dal ein gafael ar y bobl ifanc yn y cymunedau a'u bod yn gallu aros yn eu cymunedau ac adeiladu dyfodol. Mae hynny'n hanfodol bwysig.
A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei gyfraniad? Rwy'n gwybod, Cefin, fod hyn yn rhywbeth rydych chi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac yn amlwg rydym wedi ei drafod sawl gwaith ar wahanol ochrau'r Siambr hon. Mae'n dda clywed eich ymrwymiad i fynd i'r afael â'r materion hyn. Carwn nodi hefyd fod gennym bethau fel y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, sy'n fframwaith cadarnhaol a chyfannol iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i hwnnw. Clywsom yn y ddadl hefyd am bwysigrwydd profiad gwaith. Rwy'n gwybod bod gyrfaoedd yn rhan o'ch portffolio chi nawr; mae hynny'n hanfodol a gall atal pobl ifanc rhag dod yn NEET. Ac wrth i'r Gweinidog iechyd cyhoeddus eistedd wrth eich ymyl, mae hynny, wrth gwrs, yn ymyrraeth iechyd cyhoeddus.
Roedd yn dda clywed ein bod ni'n mynd i gael mwy o newyddion ar hyn. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch chi am fis Tachwedd ac mai dyna pryd fydd gennych yr union ffigurau, ond yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych yw y bydd yn rhaid cael gweithredu i ategu'r holl ymrwymiad sydd wedi'i ddangos i gyfranogiad mewn addysg bellach. Pan gyrhaeddwn y pwynt hwnnw ym mis Tachwedd, rwy'n gobeithio y bydd eich eiriolaeth dros fwy o gyllid i'r sector—. Mae wedi bod yn dda fod y Gweinidog Cabinet dros Gyllid wedi bod yn y Siambr ar gyfer y ddadl hon a chlywed yr ymrwymiad i addysg bellach. Rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau gweld gweithredu a mwy o fuddsoddiad i gyd-fynd â hynny. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lynne Neagle.
Symudwn at eitem 7, dadl Reform UK, Cymru a'r Deyrnas Unedig. Galwaf ar Adrian Mason i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9300 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Art Wright, Iain McIntosh, John Clark
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai Cymru barhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r cynnig hwn o'n blaenau'n ymwneud ag un o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol y gallwn eu trafod yn y Siambr hon: dyfodol cyfansoddiadol Cymru a'i lle yn y Deyrnas Unedig. Mae gwelliant Plaid Cymru'n dweud mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Wel, wrth gwrs, rydym yn ddemocratiaid, ac mae barn pobl Cymru yn sylfaenol. Yn rhy aml nawr, mae dadleuon am yr undeb yn dechrau gyda beth yw'r diffygion honedig, ond dylem archwilio hefyd beth y mae'r undeb yn ei olygu yn ymarferol i'r bobl a gynrychiolwn.
Heddiw, mae gan Gymru ei Senedd ei hun—rydym ni yma—ei Llywodraeth ei hun, a chyfrifoldeb sylweddol am ei materion domestig ei hun. Ar yr un pryd, rydym yn parhau i fod yn rhan o Deyrnas Unedig ehangach, lle mae materion gan gynnwys amddiffyn, materion tramor, polisi ariannol a'r rhan fwyaf o nawdd cymdeithasol a phensiynau'r wladwriaeth yn cael eu rhannu ar lefel y DU. Mae'r cyfuniad hwnnw o lywodraeth ddatganoledig a sefydliadau cyffredin y DU wedi'i adeiladu i mewn i'r setliad cyfansoddiadol presennol. Mae'n golygu y gallwn fod yn Gymry heb orfod dewis rhwng bod yn Gymry a bod yn Brydeinwyr.
Nid yw ein hunaniaeth genedlaethol yn dibynnu ar wahaniad cyfansoddiadol. Ac nid cysyniad cyfansoddiadol yn unig yw'r undeb. Mae'n gweithredu bob dydd. Mae pobl yn byw yng Nghymru ac yn gweithio yn Lloegr. Mae busnesau yng Nghymru yn masnachu'n naturiol gyda busnesau yn Lloegr. Mae teuluoedd yn byw ar ddwy ochr y ffin. Myfyrwyr, cleifion, trenau, ffyrdd, cadwyni cyflenwi—maent i gyd yn croesi'r ffin.
I lawer o ogledd-ddwyrain Cymru yn arbennig, nid ymyl economi yw'r ffin, mae'n rhedeg trwy ei chanol. Mae'r integreiddio economaidd hwnnw i'w weld yn ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun. Mae ei arolwg masnach diweddaraf yn amcangyfrif bod busnesau yng Nghymru wedi gwerthu gwerth tua £48.2 biliwn o nwyddau a gwasanaethau i weddill y Deyrnas Unedig, a gwerth tua £24.2 biliwn o werthiannau rhyngwladol. Felly, fe werthodd busnesau Cymru tua dwywaith cymaint i weddill y Deyrnas Unedig ag y gwnaethant i'r farchnad ryngwladol gyfan gyda'i gilydd, a ffigurau Llywodraeth Cymru yw'r rheini.
Felly, nid dadl yw honno na allai Cymru fasnachu gyda Lloegr pe bai'n dod yn annibynnol, yn amlwg, fe allai, ond mae'n dangos graddfa'r berthynas economaidd sydd eisoes yn bodoli yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'r berthynas honno'n gweithredu gydag arian cyffredin, system ariannol gyffredin a dim cyfradd gyfnewid rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn defnyddio sterling. Mae polisi ariannol yn cael ei osod trwy Fanc Lloegr y Deyrnas Unedig gyfan. Nid oes rhaid i fusnes yn Ninbych-y-pysgod, dyweder, sy'n prynu nwyddau o Birmingham feddwl am gyfradd gyfnewid. Nid oes rhaid i weithiwr sy'n byw ym Mhowys ac sy'n ennill cyflog dros y ffin feddwl am gyfraddau cyfnewid. Nid yw pensiwn yn newid arian cyfred pan fydd rhywun yn symud o Fae Colwyn i Gaer. Mae'r pethau hyn yn hawdd eu cymryd yn ganiataol oherwydd eu bod yn digwydd bob dydd.
Mae yna gyfuno adnoddau yn ogystal. Fe glywn yn aml yn y Siambr hon am gyllid teg, ac fe geir dadleuon dilys ynglŷn â fformiwla Barnett, penderfyniadau gwariant unigol a sut y dylid dosbarthu adnoddau, ond dylai'r ddadl honno hefyd gynnwys y darlun cyfan. Mae ffigurau cyllid cyhoeddus cenedlaethol a rhanbarthol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y gwariant cyhoeddus a briodolir i Gymru yn sylweddol uwch na'r refeniw cyhoeddus a briodolir i Gymru. Ac mae'r bwlch yn anhygoel: yn 2024-25 roedd oddeutu £23 biliwn. Nawr, dylem fod yn fanwl gywir ynglŷn â'r hyn a olyga mewn gwirionedd. Mae'n fesur o Gymru o fewn system ariannol bresennol y Deyrnas Unedig, nid yw'n rhagfynegiad awtomatig o ddiffyg cyllidebol Cymru annibynnol, ond ni ddylid ei anwybyddu.
Un o nodweddion y Deyrnas Unedig yw bod refeniw a gwariant yn cael eu cyfuno ar draws gwahanol rannau o'r wlad. Ar adegau, mae ardaloedd amgen yn cyfrannu symiau gwahanol ac mae ganddynt anghenion gwariant gwahanol. Mae'r cyfuno adnoddau yn rhan o'r hyn y mae undeb cyllidol yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'r un egwyddor i'w gweld ym mhensiynau'r wladwriaeth a llawer o nawdd cymdeithasol. Mae'r rhain yn parhau i fod yn gyfrifoldebau ledled y DU o dan y setliad presennol. Mae pensiynau'r wladwriaeth, credyd pensiwn, credyd cynhwysol a budd-dal anabledd oll yn faterion sy'n dal i gael eu cadw'n ôl i'r Deyrnas Unedig. Caiff amddiffyn ei rannu. Caiff materion tramor eu rhannu. Caiff polisi ariannol ei rannu. Felly, mae sefydliadau ymarferol y tu ôl i'r gair 'undeb'. Ac nid oes dim o hyn yn atal Cymru rhag cael ei sefydliadau democrataidd ei hun. Mae'r Senedd yn deddfu mewn meysydd datganoledig, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniadau yn y meysydd hynny. Nid dewis yw'r ddadl felly rhwng cael llais Cymreig a pheidio â chael llais Cymreig. Mae'r model cyfansoddiadol presennol yn cyfuno hunanlywodraeth Gymreig mewn materion datganoledig gyda chyfranogiad yn sefydliadau ehangach y DU.
Nawr, edrychwch, nid oes dim o hyn yn golygu bod y system bresennol yn berffaith. Nid oes unrhyw setliad cyfansoddiadol byth yn berffaith. Bydd dadleuon bob amser ynglŷn â ble ddylai pŵer fod, sut y dylid dyrannu arian ac a ddylid gwneud penderfyniad penodol yng Nghaerdydd neu yn San Steffan. Fe'i gwelwn drwy'r amser. Mae'r rhain yn ddadleuon dilys. Ond mae newid setliad cyfansoddiadol yn gynnig hollol wahanol. Mae Plaid Cymru'n glir ynglŷn â'i nod yn y pen draw. Mae ei chyfansoddiad yn nodi ei bod eisiau annibyniaeth i Gymru yn Ewrop. Os yw annibyniaeth yn cael ei gynnig fel dewis arall, mae'n rhesymol gofyn beth fyddai'n cymryd lle'r trefniadau rwyf newydd eu disgrifio. Pa arian cyfred fyddai Cymru'n ei ddefnyddio? A fyddai'n parhau i ddefnyddio sterling? Os felly, pa ddylanwad fyddai Llywodraeth annibynnol yng Nghymru yn ei gael ar bolisi ariannol? A fyddai arian cyfred Cymreig newydd yn cael ei greu yn y pen draw? Beth fyddai'n digwydd i'r trefniadau cyllidol sy'n gweithredu ar hyn o bryd ledled y Deyrnas Unedig? Sut fyddai pensiynau ac atebolrwydd nawdd cymdeithasol yn cael eu rhannu? Pa gyfran o asedau, ac yn hollbwysig, rhwymedigaethau'r DU fyddai'n cael eu negodi? A pha drefniadau masnachu fyddai'n berthnasol pe bai'r Gymru annibynnol yn ceisio aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd tra bod Lloegr yn parhau ar y tu allan iddo?
Nid rhesymau dros osgoi dadl gyfansoddiadol yw'r rhain, ond sylwedd dadl gyfansoddiadol. Dyma pam y credaf fod angen inni symud y tu hwnt i sloganau ar bob ochr. Dylai'r rhai sy'n dadlau dros newid cyfansoddiadol esbonio beth y mae'r newid hwnnw'n ei olygu mewn termau ymarferol, a dylai'r rhai sy'n amddiffyn y trefniadau presennol fod yn barod i esbonio sut y gallant weithio'n well. Dylid rhoi'r ffeithiau i bobl Cymru yn hytrach na dim ond honiadau sy'n cystadlu. I mi, mae yna gwestiynau syml a ddylai fod yn berthnasol pryd bynnag y cynigir newid cyfansoddiadol mawr. Pa broblem y ceisiwn ei datrys? Pa dystiolaeth sydd yna y bydd newid y cyfansoddiad yn ei datrys? Beth yw'r canlyniadau ariannol? Beth sy'n digwydd i wasanaethau trawsffiniol? Sut y bydd y trefniadau newydd yn gweithio, a phwy fydd yn atebol am eu cyflawni? Mae'r rhain yn brofion synhwyrol pan geir cynnig yn ymwneud â datganoli pellach, annibyniaeth neu unrhyw newid cyfansoddiadol sylfaenol arall.
Ac mae yna un pwynt olaf: ni ddylai'r ddadl hon byth fod yn brawf o Gymreictod rhywun. Mae yna bobl hynod o falch o fod yn Gymry'n cefnogi annibyniaeth. Mae yna bobl yr un mor falch o fod yn Gymry'n cefnogi'r undeb. Nid dewis cyfansoddiadol sy'n pennu hunaniaeth genedlaethol.
Felly, Lywydd, wrth inni ystyried y cynnig hwn, a'r gwelliannau, rwy'n gobeithio y gallwn edrych y tu hwnt i labeli. Dylem archwilio'r materion rydym eisoes yn eu rhannu: y berthynas economaidd sydd eisoes yn bodoli, cyfuno adnoddau, yr arian cyffredin, a'r system bensiwn, nawdd cymdeithasol, amddiffyn a chynrychiolaeth ryngwladol a rennir. Ymddiheuriadau am fynd dros yr amser. Oherwydd pryd bynnag y bydd Cymru'n dewis yn y pen draw, mae penderfyniadau o'r maint hwn yn haeddu cael eu gwneud ar sail tystiolaeth, manylion ymarferol a dealltwriaeth glir o'r canlyniadau. Yn fy marn i, dyna'r sylfaen absoliwt ar gyfer cynnal y ddadl gyfansoddiadol hon. Diolch.
I dawelu eich meddwl, nid ydych wedi mynd dros yr amser; mae gennych 15 munud i gyd, felly peidiwch â phoeni.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cadarnhau mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Huw Thomas i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.
Gwelliant 2—Lynne Neagle
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod mai datganoli yw ewyllys bendant pobl Cymru, a bod datganoli i Gymru ac o fewn Cymru yn cynrychioli dyfodol gwell, mwy diogel a mwy ffyniannus i'r genedl, nag annibyniaeth.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Mewn dadl sy'n aml yn brin o gynildeb, rwy'n mynd i geisio cyflwyno rhywfaint ohono. Mae Llafur Cymru'n credu bod dyfodol Cymru'n fwy diogel ac yn fwy llewyrchus fel rhan o'r Deyrnas Unedig. Yn ail, rydym hefyd yn credu bod sofraniaeth yn y pen draw yn fater i bobl Cymru. Nid oes gan yr undeb hawl ddwyfol i fodoli. Rhaid iddo ddangos ei fod yn gweithio i bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ac yn hynny o beth, rydym yn cytuno â gwelliant Plaid Cymru ac yn ei gefnogi, sef bod cyfansoddiad Cymru yn fater i bobl Cymru ei benderfynu. Ac fel y gwelsoch yn ein gwelliant ni ein hunain, rydym hefyd yn credu mai datganoli yw ewyllys sefydledig pobl Cymru. Profwyd hyn mewn dau refferendwm. Mae mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru yn cynrychioli pleidiau sy'n cefnogi datganoli. Hyd yn oed yn etholiad hanesyddol y Senedd ym mis Mai ac arolygon barn i ddilyn, mae'n amlwg mai datganoli yw'r trefniant cyfansoddiadol a ffafrir gan fwyafrif o bobl Cymru. Ac maent eisiau i'r lle hwn weithio iddynt hwy.
Nawr, fel Cymro Cymraeg a anwyd yng ngorllewin Cymru, gofynnir i mi weithiau pam nad wyf i'n aelod o Blaid Cymru. Rwy'n gwybod, dychmygwch. [Chwerthin.] Gan roi i'r naill ochr nad yw fy hunaniaeth Gymreig yn cystadlu â fy hunaniaeth Brydeinig neu fy un Ewropeaidd yn wir, gall pobl deimlo'r ddwy neu'r dair ar yr un pryd a pheidio â bod yn llai Cymreig nac yn llai Prydeinig. Ond gan roi hynny i'r naill ochr, mae'r ateb i'w weld yn rhannol mewn brawddeg fach rwyf wedi'i chario o gwmpas yn fy waled dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae ar fy ngherdyn aelodaeth o'r Blaid Lafur. Mae'n datgan
'trwy gryfder ein cyd-ymdrech, cyflawnwn fwy nag a gyflawnir gennym ar ein pen ein hunain'.
Mewn geiriau eraill, mewn undod mae nerth; gyda'n gilydd yn gryfach. Dyna'r ethos ganiataodd i Gymro o'r Drenewydd, Robert Owen, sefydlu'r gymuned gydweithredol arloesol yn New Lanark yn yr Alban, ac yna ehangu'r symudiad cydweithredol hwnnw ledled Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pan sefydlodd Aneurin Bevan y gwasanaeth iechyd, wnaeth e ddim gwneud hynny jest yn Nhredegar neu jest yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Gyfunol. A hyd heddiw, hyd yn oed o fewn setliad datganoledig, mae pobl o bob cwr o'r wlad yn parhau i fanteisio o rannu adnoddau ac arbenigedd ar draws ffiniau gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol.
Pan aeth glowyr Cymru ar streic am eu bywoliaeth a'u diwydiant, nid oeddent yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain, gwnaethant hynny ar y cyd â gweithwyr yn Lloegr a'r Alban, a chawsant gefnogaeth gan gymunedau ledled y DU, gan gynnwys y gymuned hoyw yn Llundain, fel y gwyddys. Rydym wedi clywed heddiw am y diwydiant niwclear: prosiect yn ne-orllewin Lloegr wedi'i ategu gan gadwyn gyflenwi yn ne Cymru, a phrosiect yng ngogledd Cymru wedi'i ddatgloi gan ragoriaeth beirianegol cwmni Prydeinig sy'n tyfu allan o ogledd-orllewin Lloegr. Ac o ran y cwmnïau twf uchel hynny yng Nghymru y cyfeiriodd Gweinidog yr economi atynt yn gynharach, pan fyddant am godi cyfalaf ar gyfer twf, gallant wneud hynny'n hawdd gyda mynediad di-dor i'r lle gorau i wneud hynny ar y blaned, yn Ninas Llundain.
Nawr, nid wyf innau chwaith yn esgus bod yr undeb fel y mae yn berffaith. Mae'n rhy ganolog, mae'n rhy anghyfartal, ac mae achos clir dros ddiwygio—reform—gyda llythrennau bach. [Chwerthin.] Mae yna rai yn y Siambr hon, heb os, a fydd yn dweud y byddai lefelau tlodi yng Nghymru yn cyfiawnhau annibyniaeth, ond os anwybyddwch y ffaith y byddai annibyniaeth yn costio £7,000 i bob person yng Nghymru ac yn arwain at doriadau trychinebus i wasanaethau cyhoeddus, neu os nad ydych chi'n cydnabod bod y cenhedloedd a'r rhanbarthau datganoledig, gan gynnwys Cymru, wedi perfformio'n well na gweddill y wlad ers 1999, os anwybyddwch hynny i gyd, buaswn yn betio y byddai'r rhai sydd eisiau annibyniaeth am fod Cymru'n dlotach na rhannau eraill o'r DU yn dal i fod eisiau annibyniaeth pe bai Cymru'n gyfoethocach na rhannau eraill o'r DU. Dyna pa mor ddogmatig yw eu safbwynt.
Ar y meinciau hyn, rydym yn credu mewn ailddosbarthu cyfoeth, gan ddefnyddio adnoddau ardaloedd cyfoethocach i godi canlyniadau ledled y wlad. Ac rydym hefyd yn credu mewn gwneud penderfyniadau ar y lefel gywir o Lywodraeth. Dyna pam ein bod ni eisiau gweld mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud gan gynghorau lleol—pŵer wedi'i ddatganoli nid yn unig i Gymru, ond allan o Fae Caerdydd. Felly, wrth gwrs, mae yna benderfyniadau a wneir orau yng Nghymru. Er gwaethaf y llu o heriau a achoswyd gan gyni Torïaidd yn y cyfnod ers 2010, buaswn yn dadlau serch hynny fod y cyfnod hwnnw'n dangos datganoli'n gweithio, gyda Llywodraeth Cymru yn gallu diogelu Cymru a sefydliadau Cymru mewn ffordd nad oedd yn bosibl yn ystod y 1980au, a nawr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, nid oes gennyf amser. Mae'n ddrwg gennyf, James.
Yn enwedig gyda Phrif Weinidog sydd ei hun yn cydnabod gwerth datganoli, rydym am weld datblygiad parhaus y sefydliad hwn gyda chyfrifoldebau newydd a phwerau newydd. Ac yna ar faterion fel amddiffyn, mae'n amlwg ein bod yn fwy diogel o fewn y Deyrnas Unedig. Mae Cymru wedi chwarae rhan falch yn lluoedd arfog Prydain yn trechu gormes yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ac nid yw'n syndod fod Arlywydd Rwsia wedi hyrwyddo annibyniaeth yr Alban yn ystod ymgyrch y refferendwm, yn union fel y gwnaeth hyrwyddo Brexit, gallwn ychwanegu. A charwn awgrymu'n gynnil, ar faterion masnach, fod penderfyniadau'n well o'u gwneud ar y cyd â'r Undeb Ewropeaidd.
Nid oes llawer o synnwyr mewn cefnogi bod yn rhan o'r DU gan ddathlu Brexit ar yr un pryd. Yn yr un modd, nid yw dymuno annibyniaeth oddi ar y DU yn gwneud unrhyw synnwyr—
A allwch chi ddod i ben nawr, Huw, os gwelwch yn dda?
—ac yna ystyried ailymuno â'r UE. Mae gennym y gorau o'r ddau fyd mewn datganoli. Llafur Cymru yw plaid datganoli ac edrychwn ymlaen at ddwyn y Llywodraeth ddatganoledig i gyfrif.
Y siaradwr nesaf—Carrie Harper.
Rwy'n croesawu'r drafodaeth hon. Cefais fy magu ar ystad dai cyngor yn Wrecsam ac rwy'n dal i fyw yno, ac yn gwybod nad oes llawer o bobl o'r cefndir hwnnw yn y Siambr hon, felly rwyf bob amser yn ymwybodol o'r fraint enfawr yw hi i sefyll yma a chynrychioli'r gymuned a'm magodd. Roeddwn innau hefyd yn gynghorydd sir am bron i 20 mlynedd, felly rwyf innau hefyd yn deall rhwystredigaethau pobl. Dros y degawdau, rwyf wedi gwylio cymunedau fel fy un i yn colli diwydiannau, yn colli cyfleoedd ac yn colli gwasanaethau cyhoeddus, a'r cyfan tra bod costau byw wedi codi i'r entrychion.
Felly, gallaf ddeall, ar ôl blynyddoedd o hynny, pam y mae pobl yn dechrau meddwl tybed ai ein tynged yw dirywiad wedi'i reoli, ond nid wyf i'n credu hynny, oherwydd rwy'n dod o wlad sydd wedi goroesi. Dros y canrifoedd, trwy gyffroadau enfawr, er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd i ni, mae Cymru'n dal yma. Mae ein hiaith yn iaith fyw, mae ein diwylliant yn ffynnu ac mae ein cymunedau'n dal i gario ymdeimlad pwerus o hunaniaeth a pherthyn. Ac mae gennym y penderfyniad ystyfnig hwnnw o hyd i fod yn Gymry.
Nawr, mae gennym gryn dipyn o etifeddiaeth, ond nid ei gwarchod yn unig yw ein cyfrifoldeb, ond yn hytrach, penderfynu beth a wnawn gyda hi. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn datgelu un o'r gwahaniaethau sylfaenol rhwng gwleidyddiaeth Reform a'n gwleidyddiaeth ni. Yr wythnos diwethaf, clywsom Aelod o Reform yn dweud wrth y Siambr fod yr ymerodraeth Brydeinig, yn y pen draw, yn rym er lles yn y byd. Nawr, byddai llawer o bobl yng Nghymru a ledled y byd yn anghytuno'n gryf â'r farn honno, ond mae'n dweud rhywbeth wrthym am y dychymyg gwleidyddol sydd ar gael, onid yw? Oherwydd mae eu dychymyg gwleidyddol nhw'n edrych yn ôl at syniad o'r hyn y credant yr arferai Prydain fod ar un adeg. Mae ein dychymyg gwleidyddol ni'n edrych ymlaen at yr hyn y gall Cymru fod.
Nawr, ni ddeuthum i'r byd gwleidyddol i ail-greu rhyw fersiwn sbectol binc o'r ganrif ddiwethaf. Rwyf i am adeiladu'r ganrif nesaf, adeiladu gwlad a chanddi'r pŵer, yr hyder a'r uchelgais i wella bywydau pobl. A dyna'n union yw'r daith gyfansoddiadol hon i mi. Mae'n ymwneud â hyder: yr hyder i gredu bod mwy na 3 miliwn o bobl yn berffaith alluog i lunio ein dyfodol ein hunain, yr hyder i roi'r gorau i ofyn a ydym yn rhy fach, yn rhy dlawd neu'n rhy ddibynnol ac i ddechrau gofyn beth y gallwn ei greu—gwlad sy'n cymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol, sy'n cydweithredu'n hyderus ag eraill ar yr ynysoedd hyn ac ar draws y byd, ac sy'n gwrthod derbyn mai dirywiad yw'r gorau y gallwn obeithio amdano. Mae fy nghymuned yn haeddu gwell na hynny. Mae cymunedau ledled Cymru yn haeddu gwell na hynny. Oherwydd dylai hanes roi mwy na hiraeth i ni. Dylai roi hyder i ni—hyder na fydd y bennod nesaf yn ein stori genedlaethol yn cael ei hysgrifennu gan rywun arall, yn rhywle arall; fe gaiff ei hysgrifennu gennym ni.
Mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth Plaid Cymru gyntaf erioed, y Llywodraeth gyntaf yng Nghymru ers dros 600 mlynedd sy'n atebol i bobl Cymru'n unig. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd, ers gormod o amser, mae gormod o benderfyniadau am ein gwlad wedi cael eu gwneud mewn mannau eraill. Ond mae dyfodol Cymru yn perthyn yma, a mater i bobl Cymru yw penderfynu beth sy'n dod nesaf.
Wrth ymateb i'r cynnig sydd o'n blaenau, gadewch imi atgoffa'r Aelodau beth a addawodd y Prif Weinidog cyn yr etholiad, sef sefydlu comisiwn cenedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, nid gwthio am annibyniaeth ar ôl 100 diwrnod. Ond ar ôl cyfarfod ag arweinwyr Sinn Féin a'r SNP, mae'n ymddangos bod y weinyddiaeth hon bellach yn rhuthro nerth eu traed tuag at annibyniaeth. Mae'r cytundeb ar y cyd rhwng Plaid Cymru, Sinn Féin a'r SNP yn datgan,
'Mae momentwm y tu ôl i'n mudiadau; credwn fod newid cyfansoddiadol yn dod.'
Mae pobl Cymru'n haeddu gwybod yn union beth y mae hynny'n ei olygu, yn union beth fydd yn ei gostio, ac yn union pwy fydd yn talu. Dim ond y llynedd, datganodd y Prif Weinidog fod gwaith i'w wneud nawr. Roedd hynny'n golygu, meddai, gwelliannau mewn iechyd, addysg, teuluoedd, swyddi, yr amgylchedd a ffermio. Ac ar y pwynt hwnnw, rwy'n cytuno. Mae gwaith i'w wneud, gwaith brys, gwaith difrifol, ac eto, yn hytrach na bwrw ymlaen â hynny, mae'n ymddangos ein bod yn mynd ar drywydd ysgyfarnog gyfansoddiadol.
Mae teuluoedd Cymru'n poeni am GIG Cymru. Maent yn poeni am gostau byw. Maent yn poeni a fydd eu plant yn dod o hyd i swyddi ac yn adeiladu dyfodol. A beth yw'r ateb gan Blaid Cymru? Mwy o raniad, mwy o dynnu sylw oddi ar y pethau pwysig, mwy o theatr gyfansoddiadol.
Ar ôl 100 diwrnod, dylai'r weinyddiaeth hon ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl Cymru. Mae cleifion yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth. Mae gwasanaethau rheng flaen yn parhau o dan bwysau, ac mae diweithdra'n rhy uchel. Mae biliau ynni i aelwydydd a busnesau'n drychinebus. Ni fydd chwalu'r undeb yn datrys dim o hyn; bydd yn ei waethygu.
Ac yna mae'r gost. Ni all Cymru fforddio arbrawf annibyniaeth. Dangosodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y diffyg cyllidol net i Gymru yn 2024-25 rhwng £22 biliwn a £23 biliwn. A dywedodd eich Gweinidog eich hun, Dafydd Trystan Davies, y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad,
'mae hi'n amlwg bod Cymru yn fuddiolwr cyllidol net y Deyrnas Unedig.'
Beth fyddai ei angen i dalu am hyn? Yr ateb: trethi uwch a mwy o fenthyca. Nid cynllun yw hwn, ond trychineb ariannol wedi'i wisgo fyny fel prosiect cenedlaethol. A phwy sy'n talu? Pwy sy'n talu'r bil? Mae'r ateb yn syml: y trethdalwr Cymreig, teuluoedd Cymru.
Byddai gadael y Deyrnas Unedig yn golygu troi cefn ar fanteision undeb mwy o faint, adnoddau a rennir, trosglwyddiadau cyllidol a chryfder maint economaidd. Mae'n gamblo gyda swyddi pobl, morgeisi, pensiynau—gambl wedi'i dynghedu i fethu.
Wedyn mae'r cynllun i ddatganoli Ystad y Goron. Nid yw'n fwled hud fel y mae Plaid Cymru'n honni. Nid oes unrhyw elw mawr tebyg i'r hyn a geir yn yr Alban na phot o aur ar waelod yr enfys. Dywedodd grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru ei hun y byddai refeniw gros yn debygol o fod yn llai na £20 miliwn y flwydd—£20 miliwn—a hynny cyn y gost o greu cwango Cymreig arall. Mae'n amlwg mai'r cyfan y mae Cymru'n ei ennill o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yw cryfder, diogelwch ariannol a chyfleoedd a rennir. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf, a gaf i orffen?
Nid yw bod yn rhan o'r undeb yn gwanhau Cymru; mae'n ein gwneud ni'n gryfach. Mae gan y Senedd bwerau helaeth eisoes dros iechyd, trafnidiaeth ac addysg, felly cyn i Blaid Cymru roi eu holl egni tuag at chwalu'r undeb, dylent ateb cwestiwn syml: beth y maent wedi'i wneud hyd yma gyda'r pwerau sydd ganddynt eisoes? Beth y mae pobl Cymru eisiau mewn gwirionedd? Mae un arolwg barn ar ôl y llall yn dangos nad yw'r mwyafrif yn cefnogi annibyniaeth. Maent eisiau i'r Llywodraeth roi'r gorau i siarad â'i hun a dechrau gwrando arnynt hwy. Mae pobl Cymru eisiau gweld gweithredu a fydd yn adfywio diwydiant yng Nghymru. Mae busnesau, unwaith eto, a diwydiannau ynni-ddwys yng Nghymru yn cael eu gwasgu gan gostau ynni enfawr a biwrocratiaeth—costau sy'n atal buddsoddiad pellach, yn eu gwneud yn anghystadleuol, ac mae swyddi'n cael eu colli. Mae angen polisi ynni wedi'i adeiladu ar fforddiadwyedd, dibynadwyedd a diogelwch cenedlaethol. Mae angen inni gael gwared ar y sero net gwirion. Dylem ailasesu'r cymysgedd ynni a chefnogi cyflwyno adweithyddion niwclear modiwlar bach.
Mae angen pŵer dibynadwy ar ddiwydiant Cymru i allu tyfu. Bydd y dasg yn amhosibl os nad ydym yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae pobl Cymru eisiau gweld rhestrau aros y GIG wedi'u datrys. Mae angen inni glirio'r ôl-groniadau ar gyfer holl driniaethau'r GIG. Mae angen mwy o feddygon, nyrsys a llai o reolwyr ar y GIG. Mae angen mwy o gefnogaeth ar ffermwyr Cymru, nid rheoliadau. Yng Nghymru, mae angen ffermwyr i gynhyrchu mwy o fwyd. Dylem adael i ffermwyr gynhyrchu bwyd, diogelu cefn gwlad a chynnal cymunedau gwledig. Mae Reform yn dewis y Deyrnas Unedig. Gweithredu go iawn sydd ei angen nid breuddwyd gwrach ac mae angen inni gadw Cymru'n gryf o fewn y Deyrnas Unedig. Diolch.
Rwy'n Geidwadwr balch ac rwy'n unoliaethwr balch, oherwydd mae'r Deyrnas Unedig yn fwy na threfniant gwleidyddol; rydym yn deulu o genhedloedd a rennir, sydd ers canrifoedd wedi gweld pobl yng Nghymru yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn masnachu â nhw. Fe wnaethom adeiladu diwydiannau gyda'n gilydd, aethom drwy'r chwyldro diwydiannol gyda'n gilydd, fe wnaethom ymladd gormes gyda'n gilydd, fe wnaethom greu cyfoeth, gwella safonau byw ac adeiladu cymunedau gyda'n gilydd, ac mae ein hanes yn Gymreig ac yn Brydeinig. Ac nid yw'r hunaniaethau hynny'n gwrthdaro â'i gilydd; maent yn cryfhau pwy a beth ydym ni. Mae'r undeb yn golygu y gall rhywun sydd wedi'i eni yng Nghymru astudio, gweithio, sefydlu busnes, magu teulu ac ymddeol yn unrhyw fan a ddymunant yn y Deyrnas Unedig gyfan. Ac yn bwysicaf oll, mae'n golygu, pan fydd adfyd yn taro, boed yn rhyfel, yn argyfwng economaidd, yn drychineb naturiol, yn bandemig, neu hyd yn oed yn ymgais gan ddeallusrwydd artiffisial i oresgyn y blaned, mae cryfder ac adnoddau'r Deyrnas Unedig gyfan yn sefyll y tu ôl i bob dinesydd ar draws Prydain.
Fel rhan o'r DU, Cymru yw un o'r chwe economi fwyaf yn y byd. Cawn ein hamddiffyn gan un o'r lluoedd arfog gorau. Lywydd, pan fo pobl ledled Cymru wedi bod yn crefu am GIG sy'n gweithio, am well safonau addysg i'n plant, ac am fwy o ffyniant yn ein gwlad, dyna beth y dylai'r Llywodraeth hon ganolbwyntio arno. Cyn yr etholiad, dyna yr addawodd ein Prif Weinidog—na all drafferthu dod i'r ddadl hon, gyda llaw—i bobl Cymru. [Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod ei fod yn destun embaras i chi ei fod ar goll. Mae ganddo ei darian ddynol yma, Dafydd Trystan, i'w gynrychioli, ond mae ar goll o'r ddadl, ac rwy'n meddwl ei bod yn bwysig nodi hynny. Mae gan y Prif Weinidog flaenoriaethau gwahanol iawn, oherwydd, yn hytrach na thorchi ei lewys i fwrw ymlaen â'r gwaith dyddiol o gyflawni'r materion hynny, gweithred gyntaf y Prif Weinidog ar ôl toriad yr haf a'i wyliau oedd closio at Sinn Féin a'r SNP i gyhoeddi rhagfynegiadau beiddgar, fel Mystic Meg yn syllu i mewn i'r bêl risial, a dweud bod San Steffan yn dod i ben ac mai Andy Burnham fydd Prif Weinidog olaf Prydain. Ac yna, wrth gwrs, fe lofnododd gytundeb yn fwriadol i geisio hyrwyddo chwalu'r Deyrnas Unedig. Dyna oedd ei flaenoriaeth ac mae'n gywilyddus. Ond er gwaethaf y siarad mawr, ni all y Prif Weinidog, Plaid Cymru, a phawb sy'n cefnogi chwalu'r Deyrnas Unedig ateb y cwestiynau mwyaf sylfaenol hyd yn oed ynglŷn â beth fyddai'n digwydd pe bai Cymru'n cael ei rhwygo oddi wrth weddill y DU. Pa arian cyfred fyddai Cymru annibynnol yn ei ddefnyddio? Nid oes ateb. Ai'r bunt—ai dyna fyddai arian cyfred y DU y byddent newydd ei gadael, neu ai arian cyfred Cymreig newydd a fyddai bron yn ddiwerth, neu'r ewro? A fyddai dinasyddion Cymru—? Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Ers ffurfio'r Deyrnas Unedig, mae 65 o wledydd wedi dod yn annibynnol. Faint o'r rheini sydd wedi gofyn am ddod yn ôl? A beth sy'n unigryw am Gymru i wneud i chi feddwl na all Cymru redeg ei materion ei hun?
Gadewch inni droi'n ôl at y cwestiynau, na wnaethoch chi eu hateb, gyda llaw. Felly, pa arian fyddem ni'n ei ddefnyddio? Dim ateb. A fyddai dinasyddion Cymru yn cadw'r hawl, yr hawl awtomatig sydd ganddynt heddiw ar hyn o bryd, i fyw, gweithio ac astudio mewn mannau eraill yn y DU? Ni allant ddweud wrthym. A fyddai busnesau Cymru yn cadw mynediad dirwystr i'n marchnad bwysicaf yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon? Nid oes unrhyw syniad ganddynt. A fyddai plaid pobl Cymru fel y'i gelwir yn ceisio ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd a wrthodwyd—[Torri ar draws.]—a wrthodwyd gan bobl Cymru? Ac rwy'n gwybod—[Torri ar draws.] Ac rwy'n gwybod ei fod yn wirionedd anghyfleus i chi ei glywed, ond pleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr UE. Pwy fyddai ein pennaeth gwladwriaeth? Pwy fyddai ein pennaeth gwladwriaeth? Nid oes ganddynt ateb o gwbl. Rwy'n gwybod eu bod eisiau diddymu'r frenhiniaeth, ond pwy fydd yr arlywydd? Dim ateb. A fyddai trethi'n codi, gwariant yn gostwng, neu fenthyca'n mynd trwy'r to am na allwch fforddio talu am yr addewidion anfforddiadwy rydych chi wedi'u gwneud i bobl Cymru oherwydd y bwlch cyllidol enfawr a fyddai'n costio tua £14,000 y flwyddyn i bob trethdalwr, gyda llaw, yn ein gwlad gyfan? Dyna'r realiti. A fyddai gan Gymru ei lluoedd arfog ei hun? A fyddech chi'n ymuno â NATO? A fyddech chi'n ymuno â NATO?
Ni allwch ateb y pethau hyn. Ac nid manylion technegol ydynt; mae'r rhain yn ymwneud â swyddi pobl, cynilion, morgeisi, pensiynau, diogelwch cenedlaethol a'n dylanwad ar y llwyfan rhyngwladol. Nid wyf i'n barod i gymryd y risg honno. Rwy'n credu'n gryf fod Cymru'n well yn y Deyrnas Unedig a bod y Deyrnas Unedig yn well gyda Chymru yng nghanol popeth y mae'n ei wneud. Rwy'n falch o fod yn aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol.
Gyd-Aelodau, mae gennym restr hir o siaradwyr yma. Mae eisoes wedi bod yn ddadl fywiog, gydag ymyriadau hefyd. Efallai na allwn eu cynnwys i gyd; mae yn eich dwylo chi. Elfed Williams.
Diolch, Lywydd. Mae'n amlwg, wrth edrych ar y cynnig a'r gwelliannau sydd wedi'u gosod y prynhawn yma, fod dwy agwedd wahanol iawn i'w cael am ddyfodol Cymru yn y Siambr hon.
Gwnaf i droi'n gyntaf at gynnig gwreiddiol Reform. Dwi'n siŵr y bydd yr eironi'n glir i bawb, wrth i blaid sydd yn gwneud chwarae mawr ar bwysigrwydd rhyddid barn geisio cyfyngu ar hawl bobl Cymru i gynnal trafodaeth adeiladol dros ddyfodol ein gwlad. Trafodaeth ar eu termau nhw yn unig ydy ffordd Reform. Wrth i'r twf am gefnogaeth dros newid cyfansoddiad yng Nghymru barhau, mae ei strategaeth am amddiffyn statws cwo y Deyrnas Unedig a thaflu amheuaeth dros fanteision datganoli yn groes i beth mae mwyafrif o bobl Cymru yn dymuno ei weld.
A dyma droi at welliant Llafur. Ie, geiriau cynnes am ddatganoli a'i holl fanteision ar bapur, ond fel y gwelsom dros y ddwy flynedd o'u partneriaeth mewn grym bob ochr i'r M4, dydyn nhw'n golygu dim mewn realiti. Er bod y cyfarwyddyd wedi dod erbyn hyn i fod yn fwy cefnogol o ddatganoli gan eu pennaeth newydd yn Downing Street, maen nhw'n ei chael hi'n anodd i hyd yn oed argyhoeddi eu Haelodau eu hunain yn San Steffan am yr angen am fwy o ddatganoli.
Yn yr etholiad, fe wnaeth pobl Cymru ei gwneud hi'n glir eu bod nhw'n dymuno mwy o bwerau dros eu dyfodol eu hunain, ond fe ddaru nhw hefyd ei gwneud hi'n berffaith glir nad ydyn nhw'n credu bod Llafur o ddifrif dros weithredu'r dyheadau hynny, sydd yn dod â fi at welliant Plaid Cymru. Yn syml, rydym ni'n coelio mai pobl Cymru a phobl Cymru yn unig ddylai fod â'r hawl i benderfynu dros ddyfodol ein hunain. Nid breuddwydion cyfansoddiadol ydy'r rheini, ond hawl sydd yn cael ei roi i bron i bob gwlad ddemocrataidd arall ar draws y byd. Wrth osod ein gwelliant heddiw, rydym yn ceisio datgloi'r sgwrs am ddyfodol ein gwlad. Mae'r pleidiau eraill yn benderfynol o'i chadw dan glo. Ai dyma'r gorau all pethau fod i Gymru?
Yn ystod yr haf, es i draw i Slofenia, gwlad sydd efo miliwn yn llai o bobl na Chymru, gwlad a fynnodd ei hannibyniaeth er gwaethaf amgylchiadau economaidd a chymdeithasol heriol. Ond erbyn hyn, mae hi'n wlad sydd wedi gwneud i'w heconomi dyfu mwy na saith gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, yn wlad sydd wedi manteisio ar ei haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn wlad sydd wedi adeiladu ei heconomi ar y sectorau ynni a thwristiaeth. Mae'r gymhariaeth â Chymru yn hynny o beth yn glir.
Yn bersonol, dydw i ddim yn credu bod San Steffan yn gweithio i'n cenedl, ond pobl Cymru ddylai fod â'r grym i gael dweud eu dweud ar hynny, nid Whitehall. I gloi, Lywydd, dywedodd Matthew Rhys wythnos diwethaf,
'Rydym ni'n genedl fach ond nerthol.'
Mi oedd o'n hollol gywir, wrth gwrs, ond rydym ni hefyd yn wlad uchelgeisiol, yn wlad llawn potensial ac yn wlad sydd yn ddigon galluog i benderfynu dros ddyfodol ein hunain. Dwi'n gwrthod credu bod unrhyw un yn y Siambr hon yn anghytuno efo'r dadansoddiad yna. Dwi'n annog pob Aelod i ddefnyddio eu hawl i hunan-benderfynu y prynhawn yma a chefnogi gwelliant Plaid Cymru.
Y Deyrnas Unedig yw'r genedl wychaf yn hanes y byd. Fe wnaethom roi democratiaeth seneddol, cyfraith gyffredin a'r oes ddiwydiannol—rwy'n falch eich bod chi'n chwerthin, nid yw'n ddoniol. Fe wnaethom drechu Napoleon. Fe wnaethom ddiddymu'r fasnach gaethweision—mae'n ddrwg gennyf eich siomi. Fe wnaethom sefyll yn erbyn Hitler ym 1940 pan oedd gweddill Ewrop wedi cwympo.
Ac ym mhob un o'r rheini, roedd Cymru yno. Mae Cymru wedi bod yng nghanol hanes Prydain ers cenedlaethau. Ym 1485, fe wnaeth Harri Tudur, Cymro a anwyd yng nghastell Penfro, lanio ger Aberdaugleddau. Gorymdeithiodd trwy Gymru, gan gasglu dynion at ei faner, y Ddraig Goch, a chipiodd y goron yn Bosworth. Dechreuodd ei wyres, y Frenhines Elizabeth I, yr ymerodraeth Brydeinig, a oedd yn gymaint o rym er lles yn y byd. Mae'n ddrwg gennyf, Carrie. Yna aeth meddyliau Cymreig yn eu blaenau i siapio'r byd modern. Dyfeisiodd William Grove o Abertawe y gell danwydd ym 1842, technoleg y mae'r byd yn dal i'w defnyddio heddiw.
Yn y Mwmbwls, etholaeth yr oeddwn i'n arfer ei chynrychioli fel cynghorydd, fe wnaethom arloesi gyda rheilffordd gyntaf y byd i deithwyr. Merthyr oedd y gwaith haearn mwyaf ar y ddaear. Yn Abertawe, fe wnaethom doddi cymaint o gopr y byd nes inni gael ein galw'n Copperopolis, er gwybodaeth i chi. Glo stêm Cymreig oedd yn tanio'r Llynges Frenhinol, a llofnodwyd y siec gyntaf am £1 filiwn yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd—[Torri ar draws.] Haearn Cymru—na, nid oes gennym ddigon o amser, diolch, ac mae hyn yn bwysig—a luniodd reilffyrdd yr ymerodraeth. Glo Cymru a bwerodd y fflyd a'i hamddiffynnai.
Pan aeth Prydain i ryfel, fe atebodd Cymru. Yn Rorke's Drift, ym 1879, cadwodd Catrawd 24 Troedfilwyr Cymru filoedd draw ac ennill 11 Croes Fictoria mewn un ymgyrch. Cawsom ein harwain i fuddugoliaeth yn y rhyfel mawr gan Brif Weinidog o Gymru, David Lloyd George. Ffurfiwyd y Gwarchodlu Cymreig ym 1915 ac maent wedi gwasanaethu'r wlad hon ym mhob gwrthdaro mawr ers hynny. Ym mis Chwefror 1941, dioddefodd Abertawe dair noson o'r Blitz ac ni dorrodd ein tref ni. Ym 1982, rhoddodd y Gwarchodlu Cymreig eu bywydau yn rhyfel y Falklands, gan amddiffyn Prydeinwyr a thir Prydeinig. Dyna ein hanes.
Mae gwaed Cymreig, diwydiant Cymreig ac athrylith Gymreig wedi'u hysgrifennu ym mhob pennod o'r stori Brydeinig. Felly, pan edrychaf ar wleidyddiaeth Cymru heddiw, rwy'n gweld pobl mewn swyddi pwerus sy'n gweithio i chwalu'r stori honno. Honnodd Plaid Cymru yn ystod yr etholiad na fyddai annibyniaeth yn broblem, ond nawr mae'r mwgwd wedi llithro. Mae eu gwir liwiau bellach wedi'u dangos, diolch i'w cyfarfod â Sinn Féin, adain wleidyddol yr IRA. Mae yna Aelodau yn y Siambr hon sydd eisiau chwalu'r Deyrnas Unedig. Maent eisiau cerdded i ffwrdd oddi wrth yr adnoddau a rennir sy'n ariannu ein hysgolion, ein hysbytai, ein pensiynau a'n lluoedd arfog. Maent eisiau tynnu Cymru allan o'r undeb mwyaf llwyddiannus y mae'r byd wedi'i weld erioed, ac ni allant ddweud wrth bobl Cymru beth yw'r pethau sylfaenol hyd yn oed ynglŷn â pha arian y byddem yn ei ddefnyddio neu sut y byddem yn talu ein ffordd.
Am bron i 30 mlynedd o ddatganoli, mae Bae Caerdydd wedi bod ag obsesiwn gyda'r cyfansoddiad—mwy o wleidyddion, mwy o bwerau a mwy o fiwrocratiaeth. A thrwy hynny i gyd, mae Cymru wedi aros ar waelod y DU o ran incwm, cyflogaeth a'n canlyniadau iechyd ac addysg. Mae Llywodraethau San Steffan o bob lliw yn ysgwyddo eu cyfran o'r bai. Maent wedi treulio blynyddoedd yn ymddiheuro dros Brydain yn hytrach na'i dathlu. Maent wedi caniatáu i'n hanes gael ei ailysgrifennu fel rhestr o droseddau. Maent wedi gorfodi mewnfudo torfol a'i ganlyniadau ofnadwy ar ein pobl. Maent wedi gadael i brisiau ynni yng ngwlad glo a stêm godi i rai o'r rhai uchaf yn y byd datblygedig, ac maent wedi gwylio ffwrneisi dur Cymru yn oeri. Mae pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig yn haeddu gwell na dosbarth gwleidyddol sydd ag embaras ynghylch eu gwlad eu hunain. Maent eisiau rhoi'r gorau i'r gwerthoedd a'n gwnaeth ni'n wych yn y lle cyntaf.
Y mis hwn, mis Medi, mae deunaw mlynedd ers imi ddechrau fel swyddog gyda Chadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol, sefydliad y mae ei ethos yn cynrychioli gwir ysbryd y wlad hon. Rwy'n falch o fod yn Gymraes. Rwy'n falch o fod yn Brydeinwraig. Dau beth, fel y dywedodd Darren, na ddylai wrthdaro byth. Rwyf am i fy mhlant—fy nau fab—ddysgu am Harri Tudur, Rorke's Drift a rhyfel y Falklands. Rwyf am iddynt wybod bod Cymru wedi helpu i siapio'r byd rydym yn byw ynddo heddiw, y cysylltiadau a'r aberth rydym wedi'u rhannu, ac rwyf am i Gymru aros lle mae hi'n perthyn, wrth galon ac enaid y Deyrnas Unedig.
Wrth gwrs, pe bai Cymru'n wlad annibynnol, byddai yn safle 137 yn y byd o ran ei maint, rhwng Mongolia ac Uruguay. Gwyddom hefyd fod gan wledydd ledled y byd werth ychwanegol gros—mesur o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn yr economi—sy'n is na gwerth Cymru: Haiti. Felly, ar ôl nodi nad yw Cymru yn rhy fach nac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol, pam fy mod i'n gwrthwynebu annibyniaeth? Mae'r prif reswm yn syml, ac mae'n dibynnu ar dderbyniadau treth Cymru a'i gwerth ychwanegol gros. Yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd, byddai Cymru annibynnol yn dlotach nag ydyw nawr, gyda chyfuniad o drethi uwch a gwasanaethau cyhoeddus tlotach.
Polisi o doriadau tameidiog sydd gan Blaid Cymru o ran annibyniaeth, wedi'i grynhoi gan 'Datganoli, datganoli a datganoli nes na fydd dim byd ar ôl i'w ddatganoli.' Dywedodd Adam Price, pan oedd yn arweinydd Plaid Cymru,
'Mae gan Blaid Cymru ateb syml i'r her sy'n wynebu San Steffan, sef annibyniaeth.'
Anwybyddwch y ffaith bod Cymru'n fuddiolwr net o'r undeb yn ariannol. Gwyddom hynny oherwydd bod David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi amcangyfrif bod Cymru yn fuddiolwr net o'r undeb ar rhwng £12 biliwn a £15 biliwn y flwyddyn. Os yw Cymru'n cadw ei refeniw ac yn ariannu ei gwariant cyhoeddus ei hun ac yna'n gwneud cyfraniad ar sail poblogaeth ar gyfer sefyllfaoedd ledled y DU, o leiaf deallwch y byddai diffyg cyllidol mawr i Gymru. Hefyd, yn ôl David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, mae'r amcangyfrifon diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod Cymru, ar gyfer gwariant cyhoeddus, tua 10 y cant yn uwch nag ar draws y DU gyfan. Mae hyn er gwaethaf codi llawer llai o arian. Gwyddom fod Cymru, mewn meysydd datganoledig, yn cael 20 y cant yn fwy na Lloegr. Gwyddom fod y comisiwn dan gadeiryddiaeth Gerry Holtham wedi dweud bod angen 15 y cant yn fwy ar Gymru na Lloegr. Llawr Barnett yw hynny. Ni all cyllid syrthio o dan y lefel honno. Cadarnhaodd y Gweinidog Cabinet dros gyllid fod ffigur pwyllgor Holtham yn gywir. Felly, pan fydd Cymru'n edrych ar gyllid teg, Blaid Cymru, mae'n golygu ein bod ni eisiau £1 biliwn yn llai.
Rydym hefyd yn gwybod nad oes gan wledydd bach gryfder economaidd i wrthsefyll stormydd ariannol. Er enghraifft, yng Ngwlad yr Iâ, rhwng 2008 a 2010, digwyddodd cwymp ariannol trychinebus. Golygodd fod pob un o dri banc masnachol mawr preifat y wlad mewn diffyg ar ddiwedd 2008, yn dilyn problemau i ailariannu eu dyled tymor byr a thynnu adneuon. O'i gymharu â maint ei heconomi, cwymp bancio systematig Gwlad yr Iâ oedd y mwyaf mewn unrhyw wlad o fewn hanes economaidd. Arweiniodd yr argyfwng at ddirwasgiad difrifol ac ymfudo torfol pobl ifanc. Dyna beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n chwarae gemau. Nid y rheini ohonom sydd ar oedran ymddeol neu'n agos at oedran ymddeol neu wedi setlo sy'n dioddef ond y bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i adael am nad oes gwaith ar eu cyfer.
Rwy'n credu mewn datganoli, ond nid mewn annibyniaeth i Gymru. Rydym wedi cael saith setliad datganoli i Gymru, ac nid ydym yn agosach at setliad hirdymor nag yr oeddem cyn y cyntaf. Yn y DU, rydym wedi gweld gwahanol setliadau datganoli ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwahanol gyfrifoldebau wedi'u datganoli i Lundain a rhai o ddinas-ranbarthau mwy o faint Lloegr. Mae yna feysydd amlwg sydd angen eu cadw'n ganolog mewn strwythur datganoledig, megis amddiffyn, materion tramor, diogelwch cenedlaethol, arian cyfred, cyfraddau llog, cymorth tramor, mewnfudo, trwyddedu gyrwyr a cheir, banc canolog a rhifau yswiriant gwladol. Os na chânt eu cynnal yn ganolog, gelwir hynny'n annibyniaeth. A oes unrhyw un o'r rheini nad yw Plaid Cymru eisiau eu datganoli ar eu taith tuag at annibyniaeth? Os yw'r meysydd hynny'n cael eu datganoli, wel dyna yw annibyniaeth.
Nawr, a ddylai trethiant newid a bod trethi yn y DU i dalu am eitemau a ariennir yn ganolog gyda'r holl drethi eraill wedi'u datganoli a'u casglu'n lleol? Dyna beth sy'n digwydd yn America ar gyfer trethi gwladwriaethol a chenedlaethol. Sut y bydd cymorth ariannol gan y rhanbarthau cyfoethocach i'r rhai tlotach yn cael ei drefnu a'i gynnal? Nid ydym yn gwybod beth yw cyfeiriad datganoli.
Nid oes angen datganoli popeth i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu ddinas-ranbarthau Lloegr ar yr un pryd. Yr hyn y dylem ei gael yw rhestr o eitemau sydd ar gael i'w datganoli, gyda phob Senedd ac ardal faerol angen o leiaf dwy ran o dair o'i Haelodau i bleidleisio o blaid datganoli'r ardal honno. Dyma beth a ddigwyddodd gyda phlismona yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd ei ddatganoli am fod dwy ran o dair o Gynulliad Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio drosto. Mae'r dull hwn o weithredu yn osgoi datganoli ar amrantiad, lle mae rheolaeth ar bopeth yn cael ei basio ar un diwrnod, gan ganiatáu i'r mater gael ei ddatganoli pan fydd y Seneddau'n barod ar ei gyfer a chyllid wedi'i gytuno. Mantais hyn yw ei fod yn gosod pwynt terfyn i'r daith ddatganoli, y tu allan i greu gwledydd newydd, ac yn caniatáu i bob un symud ar gyflymder y mae'n gyfforddus ag ef, gyda phwynt terfyn cyffredin.
Nid yw datganoli anghymesur wedi gweithio ym Mhrydain. Ni weithiodd yn Sbaen. Mae gan wledydd eraill, fel yr Almaen ac UDA, yr un pwerau wedi'u datganoli. Mae gan bob talaith yn yr Unol Daleithiau yr un pwerau a chyfrifoldeb, beth bynnag yw ei maint. Mae'r un peth yn wir gyda'r Länder Almaenig. Ond nid oes rhaid i ddatganoli yng Nghymru ddod i ben yng Nghaerdydd. Mae'n bosibl datganoli yng Nghymru i bedwar rhanbarth Cymru ac i gynghorau. Mae angen trafod a phenderfynu pa bwerau fyddai'n well eu datganoli i awdurdodau lleol.
Mae'r ugeinfed ganrif bron yn daith unffordd o eitemau wedi'u tynnu o ddwylo'r awdurdodau lleol ac yna'u trin yn ganolog. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, ein bod ni eisiau gwneud yr hyn sydd orau i Gymru, nid yr hyn sydd orau i'n safbwyntiau gwleidyddol.
Diolch, Mike. Mae gennym ddau siaradwr, ac efallai y bydd hyn yn ein gwthio ychydig dros amser. Felly, rwy'n mynd i ofyn i'r ddau siaradwr gadw o fewn y terfyn ac os gallant ei gadw'n fyrrach, byddai hynny hyd yn oed yn well. Felly, os cawn fynd yn gyntaf oll at Iain McIntosh.
Diolch, Lywydd. Cyn imi siarad, roeddwn i eisiau adleisio'r hyn y mae rhywun arall wedi'i ddweud, ac rwy'n credu y dylai'r Prif Weinidog fod yn y Siambr ar gyfer yr hyn y credaf ei bod yn un o'r dadleuon pwysicaf a gawn, ynghyd ag Aelodau Cabinet eraill sydd ar goll hefyd.
Felly, pan fyddwn yn trafod lle Cymru yn y Deyrnas Unedig, dylem wneud hynny gyda'n llygaid ar agor ynglŷn â'r hyn y byddai gwahanu yn ei olygu mewn gwirionedd, oherwydd nid baneri, sloganau neu theori gyfansoddiadol yn unig yw hyn. Mae'n ymwneud hefyd â swyddi pobl, pensiynau, trethi a gwasanaethau cyhoeddus.
Felly, gadewch inni ddechrau gyda'r ffigurau. Mae rhai o'r rhain wedi'u crybwyll eisoes, ond rwyf eisiau mynd drwyddynt eto mewn ychydig mwy o fanylder. Mae dyled sector cyhoeddus y DU bron yn £3 triliwn erbyn hyn, iawn? Nid oes fformiwla gytûn sy'n penderfynu faint o'r ddyled honno y byddai Cymru yn ei hetifeddu pe bai'n dod yn annibynnol, oherwydd byddai'n rhaid trafod hynny. Ond i ddeall ei maint, pe bai'r ddyled yn cael ei rhannu yn ôl poblogaeth, byddai cyfran Cymru oddeutu £136 biliwn. Mae hynny'n golygu oddeutu £43,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yma yng Nghymru, a hynny cyn inni hyd yn oed ystyried cyllid blynyddol Cymru.
Mae'r ffigurau swyddogol diweddaraf yn dangos bod gwariant cyhoeddus a briodolir i Gymru oddeutu £20,000 y pen, tra bod y refeniw a godir yn ddim ond oddeutu £13,000. Mae'r bwlch hwnnw o fwy na £7,000 y pen yn cyfateb i ffigur arall a gafodd ei wyntyllu yn gynharach, sef bron i £23 biliwn bob blwyddyn. Nid yw'r ffigurau hynny'n dweud wrthym yn union sut olwg fyddai ar gyllid Cymru annibynnol, ac ni all neb honni'n onest y gallant wneud hynny, ond maent yn dangos maint y cwestiynau y byddai'n rhaid eu hateb. Pwy sy'n talu am y GIG? Pwy sy'n talu pensiynau? Pa drethi fyddai'n rhaid eu codi? Pa wariant fyddai'n gorfod lleihau? A hefyd, pa arian cyfred fyddai'n cael ei ddefnyddio? Ymddengys nad oes neb yn gwybod. Pwy sy'n talu'r ddyled honno? A beth sy'n digwydd i'r trosglwyddiadau cyllidol sy'n gweithredu ar hyn o bryd ledled y Deyrnas Unedig? Nid codi bwganod yw hyn; maent yn gwestiynau dilys am biliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr.
Ond mae ein Teyrnas Unedig yn llawer mwy na mantolen yn unig. Edrychwch ar yr hanes, y soniwyd am beth ohono'n gynharach, ac a gynrychiolir gan deuluoedd ledled Cymru. Gwasanaethodd ein tadau, ein teidiau a'n hen-deidiau ochr yn ochr â dynion a menywod o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy ddau ryfel byd. Ymladdodd catrodau Cymreig gyda dewrder eithriadol, dioddefodd cymunedau Cymru golled ac aberth, a ffarweliodd teuluoedd ag anwyliaid heb wybod a fyddent yn dychwelyd. Fe wnaethant wasanaethu'n rhan o luoedd arfog y Deyrnas Unedig, ac mae'r hanes cyffredin hwnnw'n bwysig.
Nid yw'n pennu pa benderfyniadau cyfansoddiadol y mae'n rhaid i genedlaethau'r dyfodol eu gwneud—ein penderfyniadau ni yw'r rheini—ond ni ddylem ddiystyru'r clymau a ffurfiwyd trwy genedlaethau o aberth cyffredin, ymdrechion cyffredin a chyflawniadau cyffredin. Mae'r clymau hynny'n parhau heddiw. Mae pobl yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr bob dydd i weithio, masnachu, astudio, derbyn gofal iechyd ac ymweld â'u teuluoedd. Mae busnesau'n gweithredu ar ei thraws, mae cadwyni cyflenwi yn ei chroesi, teuluoedd yn ei chroesi. Rydym yn rhannu lluoedd arfog, rydym yn rhannu sefydliadau economaidd, rydym yn rhannu risgiau. Pan fydd angen cefnogaeth ar un rhan o'r Deyrnas Unedig, gall adnoddau symud rhwng ei chenhedloedd a'i rhanbarthau.
Gall Cymru barhau'n falch o'i Chymreigrwydd unigryw, gan barhau i fod yn rhan o rywbeth mwy o faint yn ogystal. Nid yw ein hiaith, ein diwylliant, ein cymunedau a'n hunaniaeth genedlaethol yn dibynnu ar godi ffin ryngwladol newydd. Pan gynigir annibyniaeth, rhaid i'r ddadl fynd y tu hwnt i apêl emosiynol mwy o sofraniaeth. Mae angen atebion credadwy ar y rhai sy'n cefnogi newid cyfansoddiadol sylfaenol ynglŷn â dyled, y diffyg cyllidol, pensiynau, arian, masnach, amddiffyn a chyllido gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r ffigurau dan sylw'n rhy fawr a'r canlyniadau'n rhy bwysig i gael unrhyw beth llai na hynny. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom yn y Siambr gyfrifoldeb i ddeall hanes ac etifeddiaeth y Deyrnas Unedig y gwnaeth cenedlaethau o'n blaenau ein helpu i'w hadeiladu, ei hamddiffyn a'i throsglwyddo ymlaen.
Dylem feddwl yn ofalus iawn cyn rhoi camau ymrannol ac anadferadwy o bosibl ar waith heb wynebu'r holl ganlyniadau i'r rhai a ddaw ar ein holau. O'm rhan i, rwy'n falch o fod yn Gymro, rwy'n falch o fod yn Brydeiniwr, a byddaf yn parhau i ddadlau'r achos dros ddiogelu ein lle yn y Deyrnas Unedig, nid yn unig oherwydd yr hanes a rannwn, ond oherwydd y dyfodol y mae gennym gyfle o hyd i'w adeiladu gyda'n gilydd. Diolch.
Diolch i'r Aelod sydd wedi bod mor gwrtais â thynnu ei henw'n ôl. Fe fydd ganddi gredyd yn y lejer.
Diolch yn fawr iawn. Symudwn yn syth i'r Gweinidog Cabinet nawr. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i atgoffa pawb yn y Siambr hon bod hon yn ddadl sydd wedi'i alw gan Reform UK? Roedd Prif Weinidog Cymru ddoe yn siarad am iechyd, am ofal plant, am yr economi. Reform UK sy'n dewis canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol.
Ond mae gwelliant y Llywodraeth yn un syml—a dwi'n falch i glywed bod yna gefnogaeth iddo fe mewn mwy nag un plaid ar lawr y Siambr yma—sef y dylai pobl Cymru benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol ein gwlad. Fel rŷn ni wedi'i glywed heddiw, mae gan Aelodau o'r Senedd hon farn wahanol am ble y dylai Cymru fod yn y pen draw yn gyfansoddiadol. Mae'r gwahaniaethau hynny yn gwbl ddilys mewn deddfwrfa ddemocrataidd. Ond dwi'n gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno ar ddau beth: y dylai dyfodol Cymru gael ei benderfynu'n ddemocrataidd gan bobl Cymru, ac yn ail, y dylai Cymru gael y pwerau, yr adnoddau a'r offer sydd eu hangen i gyflawni dros bobl yma ac yn awr. Yr egwyddorion hyn sy'n sail i welliant y Llywodraeth heddiw. Dyw ein gwelliant ni ddim yn gofyn i Aelodau roi'r gorau i'w barn; mae'n gofyn i ni gydnabod egwyddor y gobeithiaf y gall ennyn cefnogaeth ar draws y Siambr, a dyw e ddim yn safbwynt pleidiol.
Mae'r egwyddor yn un sydd wedi cael ei chydnabod yn eang.
'Mae'n rhaid parchu dyheadau cenedlaethol; dim ond drwy eu cydsyniad eu hunain y dylid...llywodraethu...pobloedd.'
Woodrow Wilson a ddywedodd hynny wrth y Gyngres ym 1918. Mae hunanbenderfyniaeth pobloedd wedi'i gynnwys yn erthygl gyntaf siarter y Cenhedloedd Unedig. A sôn am ein ffrindiau Albanaidd,
'fel cenedl, mae ganddynt hawl ddiamau i hunanbenderfyniaeth cenedlaethol'.
Nid oeddwn yn disgwyl dyfynnu'r Farwnes Thatcher mewn ffordd gadarnhaol yn y Siambr hon, ond roedd hi'n llygad ei lle, wrth gwrs—ar y mater hwnnw. [Torri ar draws.] Un eiliad. Ond mae’n rhaid inni roi'r bobl wrth wraidd newid cyfansoddiadol, gan fod y DU yn 'genedl wirfoddol o genhedloedd'—Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y DU, yn y comisiwn ar ddyfodol y DU. A ddoe, cytunodd Senedd yr Alban fod
'y Senedd yn cytuno bod gan yr Alban…hawl i benderfynu ei dyfodol ei hun.'
Os oes un wers o'r chwarter canrif diwethaf o ddatganoli, dyma hi: dyw'r setliad cyfansoddiadol ddim yn sefyll yn ei hunfan. Mi ddywedodd rhywun rhywle fod datganoli yn broses, ddim yn ddigwyddiad. Nid y cwestiwn yw a fydd newid cyfansoddiadol yn digwydd; y cwestiwn yw sut y gallwn sicrhau bod Cymru yn barod ar gyfer y newid hwnnw, yn gallu dylanwadu arno ac yn elwa ohono. I'r Llywodraeth hon, mae hynny'n golygu diwygiadau ymarferol sy'n ein helpu ni i sicrhau canlyniadau gwell i bobl ar lawr gwlad ac i gymunedau. Nid mater damcaniaethol yn unig yw diwygio cyfansoddiadol; mae'n sicrhau bod gennym y pwerau, yr adnoddau a'r offer i gyflawni dros bobl Cymru.
Dyna pam y mae ein blaenoriaethau mewn perthynas â datganoli'n glir. Fe wnaethom ddadlau'r achos dros gynnydd ar ddatganoli seilwaith rheilffyrdd, ar gyfiawnder a phlismona, ac ar Ystad y Goron. Dyma feysydd lle mae tystiolaeth sylweddol, diddordeb cyhoeddus sylweddol a chefnogaeth sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i un blaid wleidyddol. Byddant yn arwain at wasanaethau trên gwell, at filiau ynni is, at gymunedau mwy diogel—newidiadau go iawn i fywydau pobl yma yng Nghymru. Cefais fy nghalonogi gan yr ymagwedd gadarnhaol gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r galwadau hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn gwblhau'r trafodaethau hynny'n adeiladol.
Nid symud pwerau rhwng sefydliadau yw ein nod, ond sicrhau bod cyfrifoldebau'n bodoli ar y lefel lle gellir eu harfer yn fwyaf effeithiol a lle gellir cyflawni'r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau. A gadewch imi ddweud yn glir wrth fy nghyd-Aelodau yma: mae'n golygu, yn wir, datganoli o fewn Cymru fel rhan o'r pecyn hwnnw. Rydym yn ddatganolwyr ym Mhlaid Cymru, ac rydym yn credu yn yr egwyddorion hynny fel maes allweddol i ni.
Gan droi at rai o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl, credaf fod rhywfaint o eironi, yn enwedig gan ein cyd-Aelodau gyferbyn, yn eu cefnogaeth i symudiad rhydd nwyddau, cyfalaf, gwasanaethau a phobl, ac i undeb mawr a fyddai'n dod â'r holl ryddid hwnnw ynghyd. Hoffwn atgoffa pobl y cafwyd pleidlais ar hynny rai blynyddoedd yn ôl, ac rydym yn parhau i fod o'r farn y byddai Cymru mewn gwell sefyllfa mewn undeb Ewropeaidd mawr o'r fath.
Gwnaed pwyntiau hefyd am hanes balch Cymru, hanes balch Cymru yn y chwyldro diwydiannol. Ac eto, rydym hefyd wedi clywed gan y meinciau gyferbyn fod y genedl wych honno a bwerodd y chwyldro diwydiannol—ac rydym wedi clywed am ei llwyddiant mawr—yn wynebu heriau ariannol heddiw. Dyna etifeddiaeth y wladwriaeth Brydeinig. Rydym wedi clywed am Slofenia, a welodd dwf o 33 y cant yn ei chynnyrch domestig gros mewn 10 mlynedd. Rydym wedi clywed am wledydd eraill sydd wedi gweld twf ymhell y tu hwnt i'r cyd-destun Cymreig—gwledydd annibynnol llwyddiannus—yn y ddadl hon yma.
Ond gadewch inni ddychwelyd at bwynt sylfaenol ein gwelliant a'r ddadl hon, ym marn y Llywodraeth. Bydd yr Aelodau yma'n anghytuno ynghylch ble y dylai Cymru anelu yn y pen draw, ond rwy'n mawr obeithio y gallwn gytuno ar rai pethau sylfaenol: y dylid penderfynu ar ddyfodol Cymru yn ddemocrataidd, ac y dylai newid gael ei lywio gan dystiolaeth, nid haeriadau. Mae'r ddadl gyhoeddus yn gryfach pan fydd yn cynnwys ystod eang o leisiau a safbwyntiau, a'n cyfrifoldeb ni ar y cyd yw sicrhau bod gan Gymru hyder, gallu a dulliau gweithredu i lunio'i dyfodol ei hun. Mae pobl Cymru, Lywydd, yn sofran. Ein lle ni yw penderfynu ein dyfodol, lle bynnag y gall hynny ein harwain. Diolch yn fawr.
Galwaf ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl mor fywiog y prynhawn yma? Nid oes unrhyw beth rwy'n fwy hoff ohono yn y Siambr hon na siarad am yr ail undeb gorau yn fy mywyd—ar ôl fy mhriodas, wrth gwrs—sef undeb gwych Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a'r manteision mawr y mae'n eu dwyn i'r bobl ar draws yr ynysoedd hyn.
Fe wnaethom agor gydag Adrian. Fel y dywedoch chi, rydym yn Gymry, ond rydym hefyd yn Brydeinwyr. Gallwn fod y ddau beth, ac yn rhy aml, mae'r ddadl hon yn pegynu rhwng y ddau beth. Ac fel y gwelsom yn yr etholiad, mae Plaid Cymru yn hoffi gwleidyddoli Cymreictod, sy'n gwbl warthus. Fe godoch chi'r pwynt hefyd ynglŷn â'r Deyrnas Unedig fel ein partner masnachu mwyaf. Rydym yn gwybod hynny. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r Deyrnas Unedig i ni. Ond beth fyddai Plaid Cymru eisiau i ni ei wneud? Byddent eisiau ein gwneud yn dlotach ac yn fwy dibynnol ar y wladwriaeth, rhywbeth y mae pob un ohonom yn anghytuno'n llwyr yn ei gylch.
Fe godoch chi bwynt pwysig hefyd ynglŷn ag amddiffyn. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ein cadw'n ddiogel yn y nos. Mae'n ein cadw'n ddiogel yn ein gwelyau, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono bob amser. Oherwydd, fel y nododd Darren Millar, mae'r rheini'n gwestiynau na all Plaid Cymru mo'u hateb pan gânt eu gofyn iddynt. Maent yn osgoi'r cwestiwn am eu bod yn gwybod nad ydynt yn gwybod yr ateb. Fe godoch chi drefniadau cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn. Iawn, nid ydynt yn berffaith, ond beth yw'r dewis arall? Pwy fyddem yn eu gweld fel Arlywydd Cymru? Efallai y byddai'r cyn-Lywydd a'r Gweinidog yn ymgeiswyr, pwy a ŵyr? Ond ni chredaf fod angen inni newid y trefniadau sydd gennym ar hyn o bryd. Oherwydd byddai Plaid Cymru yn ein dal yng nghefn y ciw, a chredaf fod y Gweinidog wedi crynhoi hyn. Maent eisiau ymuno â'r UE, ond maent eisiau gadael undeb arall. Mae'r rhagrith yn eu dadl yn gwbl syfrdanol.
Rwy'n cytuno â Huw o'r Blaid Lafur. Rwy'n cytuno â chi ynglŷn â'r pwynt fod Cymru'n gryfach o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n rhywbeth rydym ni ar y meinciau hyn yn ei rannu gyda chi—ein bod yn gryfach gyda'n gilydd. Fe ddywedoch chi nad oeddech yn aelod o Blaid Cymru, ond o ystyried digwyddiadau diweddar, mae amser o hyd. Felly, byddwch yn amyneddgar, ni wyddoch beth all ddigwydd. Maent yn derbyn unrhyw un ar hyn o bryd.
Fe sonioch chi hefyd am y £7,000, y bydd pobl yn dlotach. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn glir yn ei gylch. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi dweud hyn yn glir iawn: y byddai Cymru'n dlotach pe baem yn genedl annibynnol. Ond fe sonioch chi hefyd am fod eisiau datganoli pwerau i lywodraeth leol. Yr eironi yn hynny o beth yw eich bod wedi cael 27 mlynedd i wneud hynny, a'r cyfan roedd gan Lafur ddiddordeb ynddo oedd 27 mlynedd o ganoli yma yn yr adeilad hwn. Felly, nid wyf yn gwybod pryd y mae'r newid yn dod. Efallai fod gan yr arweinydd newydd Ken Skates safbwyntiau gwahanol. Nid dyna oedd barn rhai o'r sosialwyr eithafol a oedd yno'n flaenorol.
Ac yna cawsom Carrie Harper. Fe sonioch chi am ddirywiad wedi'i reoli. Buaswn yn dweud yn garedig wrthych mai'r rheswm pam y mae Cymru wedi cael dirywiad wedi'i reoli yw am eich bod wedi cynnal Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru am flynyddoedd maith. Os oes unrhyw un sydd wedi rheoli dirywiad—. Nid bai'r Deyrnas Unedig yw hyn, ond eich bai chi'ch hunain am gynnal Llafur Cymru dros y blynyddoedd.
Gareth, fe sonioch chi am y Prif Weinidog efallai’n camarwain y cyhoedd—ni allaf ddweud y gair a ddywedais y diwrnod o’r blaen, neu bydd y Llywydd yn fy ngheryddu eto—y rheswm syml yw eu bod wedi dweud wrthym nad oedd annibyniaeth ar y papur pleidleisio. Nid oedd yn mynd i gael ei drafod. Ond beth a welwn ar y cyfle cyntaf? Mae’r Prif Weinidog yn fwy na pharod i gyd-sefyll gyda’r cabál o sosialwyr a’r cabál o ymwahanwr sydd eisiau rhwygo ein Teyrnas Unedig yn ddarnau a siarad â phobl a ariannodd derfysgaeth wladwriaethol yn erbyn ein gwlad—hollol warthus. Ac fe sonioch chi hefyd am yr angen i’r Llywodraeth fwrw ymlaen â’r gwaith o ddydd i ddydd. Faint o amser ac arian ac egni’r Llywodraeth sy’n cael ei wastraffu ar hyn, ar edrych ar annibyniaeth Cymru, pan fo gennym fwyafrif o blaid yr undeb yn y Senedd hon? Rwy'n credu bod angen i’r Llywodraeth gofio hynny.
Darren Millar, mwynheais eich cyfraniad yn fawr iawn. Ni feddyliais y byddem yn cael cyfeiriad at Mystic Meg mewn cyfraniad. [Chwerthin.] Nid wyf yn siŵr a fyddai'n fodlon iawn ar y trefniant. Fe sonioch chi am ein hanes cyffredin, y gwaed, y chwys a'r dagrau a gollwyd er mwyn diogelu, adeiladu ac amddiffyn yr ynysoedd hyn. Ac fe sonioch chi hefyd am ein lluoedd arfog, fel y gwnaeth eraill. Ond fel y dywedoch chi, ni all Plaid Cymru ateb y cwestiynau ynglŷn â'r dyfodol. Beth a wnawn ynghylch plismona? Beth a wnawn ynghylch amddiffyn? Beth a wnawn ynghylch nawdd cymdeithasol? Nid oes gan Blaid Cymru ateb i hynny. Maent yn gwerthu breuddwyd gwrach i bobl. Ac fel y gwelsom drwy'r holl arolygon barn, nid yw'r cyhoedd yng Nghymru eisiau hynny.
Elfed, fe ddywedoch chi nad oedd pobl Cymru eisiau Llafur. Ac rwy'n cytuno, nid oeddent eisiau Llafur, ond nid oeddent eisiau annibyniaeth chwaith. Yr hyn a welwch yn y Siambr hon yw mwyafrif, a phleidleisiodd pobl yn eu lluoedd dros bleidiau sydd o blaid yr undeb. Fe wnaethant bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol hyd yn oed, sydd wedi newid eu safbwynt i fod o blaid yr undeb nawr hefyd. Oherwydd rydym eisiau sicrhau ein bod yn gryfach o fewn y Deyrnas Unedig. Mae arnaf ofn nad oeddwn yn cytuno â fawr ddim arall a ddywedoch chi.
Francesca O'Brien—araith angerddol iawn. Fe nodoch chi'r ffaith mai'r Deyrnas Unedig yw'r wlad orau yn y byd, ac rwy'n credu y dylai pawb yn y Siambr gytuno â hynny. Ni ddylem fod â chywilydd am ein hanes cyffredin. Ni ddylem fod â chywilydd am ein hanes yn fyd-eang chwaith. Prydain a adeiladodd y byd. Fe sonioch chi sut y mae pobl Cymru wedi llunio ein byd, sut rydym wedi gwella democratiaeth, sut rydym wedi dod â rhyddid i bobl ym mhob cwr o'r byd. Ac mae arnaf ofn mai'r hyn a welwn yn y Siambr hon—[Torri ar draws.] Yr hyn a welwn yn y Siambr hon, Lywydd, yw oportiwnistiaeth wleidyddol gan eraill, sy'n ailysgrifennu ein hanes i gyd-fynd â naratif gwleidyddol i rwygo ein gwlad yn ddarnau.
Mike Hedges—rwyf bob amser yn hoff o'ch cyfraniadau, Mike, gan eich bod yn siarad gyda llawer o brofiad am dderbyniadau treth Cymru, am werth ychwanegol gros, a'r ffaith na fyddai Cymru'n gallu fforddio ein gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad hon pe byddem yn dod yn genedl annibynnol. Mae hynny’n ffaith. Ond mae’n rhywbeth na all Plaid Cymru siarad amdano unwaith eto. A hefyd, adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol—mae hwnnw bob amser wedi dweud yn glir iawn na fyddai Cymru’n gallu fforddio bod yn genedl annibynnol.
Ac Iain McIntosh, fe godoch chi lawer o bwyntiau, fel y gwnaeth eraill, ond fe ddywedoch chi fod yr hanes cyffredin sydd gennym ar draws y wlad hon yn bwysig iawn.
Yna, down at darian ddynol y Prif Weinidog, Dafydd Trystan Davies, sydd fel pe bai'n cael ei ddefnyddio drwy'r amser i ddelio â phethau nad yw'r Prif Weinidog eisiau delio â nhw, am ei fod yn rhy brysur yn gwneud fideo TikTok yn rhywle, rwy'n tybio. [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf ddirwyn i ben ar ôl hyn. Ac fe sonioch chi am ddyfodol ein cenedl. Rydym ni eisiau Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref, am ein bod yn credu bod pobl Cymru yn haeddu bod yn rhan o'n Teyrnas Unedig. Rydym wedi helpu i'w hadeiladu. Rydym yn helpu i'w chynnal. Ac ar y meinciau hyn, byddwn bob amser yn ei chefnogi.
Felly, os yw Aelodau ar draws y Siambr hon eisiau cefnogi ein hundeb er mwyn sicrhau dyfodol mwy diogel a chryfach ar draws ein Teyrnas Unedig, cefnogwch ein cynnig, gwrthodwch y gwelliannau a phleidleisiwch gyda ni heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod pum Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Yn gyntaf, pleidleisiwn ar eitem 6, dadl Llafur Cymru ar addysg bellach. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Os gwrthodir y cynnig, byddwn ni'n pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Canlyniad y bleidlais: o blaid 46—. Ocê, sori. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais. O blaid 46, un person yn ymatal ac yn erbyn 43. Mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Llafur Cymru - Addysg Bellach. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 46, Yn erbyn: 43, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Awn yn syth ymlaen at y ddadl nesaf, at eitem 7, dadl Reform UK, Cymru a'r Deyrnas Unedig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn ni'n pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais—. O. [Chwerthin.] O blaid 45, neb yn ymatal, yn erbyn 45. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Dyma ganlyniad y bleidlais nawr: o blaid 45, neb yn ymatal, yn erbyn 46. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Cymru a'r Deyrnas Unedig. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig
Rŷn ni'n symud at welliant 1 nawr. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 53, neb yn ymatal, yn erbyn 37. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Cymru a'r Deyrnas Unedig. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 53, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Nesaf fe awn ni at welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid wyth, neb yn ymatal, yn erbyn 82. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Cymru a'r Deyrnas Unedig. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle: O blaid: 8, Yn erbyn: 82, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9300 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cadarnhau mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 45, wyth yn ymatal, yn erbyn 37. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. Diolch, bawb.
Eitem 7. Dadl Reform UK - Cymru a'r Deyrnas Unedig. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 37, Ymatal: 8
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A gaf i ofyn i'r Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Yn dawel, heb drafod, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn.
Symudwn at eitem 9, y ddadl fer. Anthony Slaughter.
Diolch, Lywydd. Bydd yr Aelodau canlynol yn siarad ar ôl fy sylwadau agoriadol: Sarah Rees, Natasha Asghar, Matthew Jones, Cristiana Emsley, Huw Thomas a Joe Martin.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae fy mewnflwch e-bost, fel rhai pobl eraill, wedi gorlifo â negeseuon gan bob sydd mewn trallod ac yn ddryslyd. Pobl y cafodd eu llawdriniaethau eu canslo ar yr unfed awr ar ddeg heb esboniad nac opsiwn i aildrefnu. Cleifion, ffrindiau ac aelodau teuluol sy'n daer am gael atebion ynghylch pam y mae hyn wedi digwydd, beth aeth o’i le a sut y gallent symud ymlaen.
Ddydd Gwener, 28 Awst, dair wythnos a hanner yn ôl, canslwyd llawdriniaethau ac asesiadau llawfeddygol cannoedd o gleifion yn ddirybudd tra bod adolygiad clinigol yn cael ei gynnal i atgyfeiriadau gwasanaethau rhywedd Cymru. Darganfu llawer o'r cleifion hyn na fyddai eu llawdriniaeth yn digwydd a hwythau eisoes yn yr ysbyty. Dyma bobl a oedd wedi treulio blynyddoedd yn paratoi, yn gorfforol ac yn feddyliol, ar gyfer y llawdriniaeth amhrisiadwy hon, sy'n cael ei chydnabod gan sefydliadau meddygol, gweithwyr proffesiynol a darparwyr GIG fel un sy'n effeithiol yn glinigol am wella canlyniadau iechyd ac ansawdd bywyd. Roeddent wedi bod drwy bob melin y gofynnwyd iddynt fynd drwyddynt, wedi trefnu ac aildrefnu eu bywydau o amgylch y diwrnod hwn. Gwrandewais ar bobl a eglurodd eu bod yn teimlo fel pe baent wedi'u hanghofio, ar eu pen eu hunain ac yn ddryslyd, wedi i'r tir gael ei dynnu o dan eu traed ar yr eiliad olaf gan y system sydd i fod i ofalu amdanynt.
Nawr, nid oeddwn wedi bwriadu rhannu hyn. Ond wrth wrando ar y straeon gan fy etholwyr ac eraill, yn fy ffordd fy hun, roeddwn yn gallu uniaethu â'r aros poenus yn y dyddiau cyn cael llawdriniaeth a gynlluniwyd. Yn ystod y toriad, cefais lawdriniaeth a gynlluniwyd, llawdriniaeth fawr. Efallai fod llawer ohonoch wedi sylwi fy mod wedi bod yn absennol braidd dros yr haf, a'r rheswm am hynny oedd fy mod wedi bod yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth, yn yr ysbyty ac yna'n gwella. Dros yr haf, profais realiti'r hyn roedd paratoi ar gyfer llawdriniaeth yn ei olygu, y straen corfforol a meddyliol—rhywbeth y bydd llawer ohonoch yma'n gallu uniaethu ag ef. Pan gerddais i'r ward dawel honno am 5.00 a.m., mae'n anodd disgrifio'r don o emosiwn a deimlwn—tawelwch ward yn cysgu, yr ansicrwydd, yr ofn.
Ond beth sy'n rhoi cysur yn yr eiliadau pryderus hynny? Yr wybodaeth eich bod chi mewn man lle mae pawb yn gweithio o gwmpas y cloc i'ch trin, i ofalu amdanoch chi, i wrando arnoch chi. Rydych chi'n ymddiried yn y system o'ch cwmpas. Nawr, i rai, mae'r ymddiriedaeth honno wedi torri. Mae meddwl, heddiw, yma yng Nghymru, fod gennym system y teimlir ei bod, i grŵp penodol o bobl, yn gweithio yn erbyn eu lles yn syniad brawychus, yn un a fyddai, pe bai wedi bod yn rhywbeth y bu'n rhaid imi ei ystyried ochr yn ochr â phopeth arall, wedi gwneud fy mhrofiad personol i cymaint yn fwy trawmatig. Mae meddwl bod yr hawl i gael mynediad at iechyd a gofal i rai pobl yn y wlad hon bellach yn destun dadl yn anhygoel. Nid dyna sut y cynlluniwyd y system hon i redeg.
Nawr, nid fy stori bersonol i yw'r hyn sy'n bwysig yma. Yr hyn sy'n bwysig yw bod lleisiau a phrofiadau'r gymuned draws yn cael eu chwyddo a'u deall. Un o'r egwyddorion allweddol y seiliwyd ein GIG arni yw mynediad cyfartal at ofal iechyd i bawb, beth bynnag y bo'u hoedran, eu rhywedd neu eu cefndir. Egwyddor arall yw dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y claf, gan roi unigolion yn y canol yn ei weithgarwch, gan ddarparu gwasanaeth sy'n adlewyrchu eu hanghenion a'u dewisiadau nhw.
Mae llawdriniaethau cadarnhau rhywedd wedi bod ar gael drwy'r GIG ers y 1960au, gyda miloedd o lawdriniaethau'n cael eu cyflawni bob blwyddyn. Nid triniaeth arbrofol mohoni ac ni ddylid ei hystyried yn faes meddygol dadleuol. Mae'n faes meddygol hirsefydledig a astudiwyd yn helaeth y mae gan y GIG ddyletswydd gyfreithiol a statudol i'w ddarparu. Roedd y penderfyniad i oedi'r llawdriniaethau hyn yn ddifeddwl ac yn greulon. Ond mae hefyd yn dangos methiant y trefniadau llywodraethu yng Nghyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ac yn anffodus, methiant i gyfathrebu â Llywodraeth Cymru. Mae dweud wrth gleifion, oriau cyn eu llawdriniaeth, cleifion sy'n fregus ond wedi eu paratoi, na fyddai eu llawdriniaeth yn digwydd, heb unrhyw esboniad, dim arwydd o ddyddiad wedi'i aildrefnu a heb unrhyw gyfathrebu yn y dyddiau canlynol yn dangos methiant yn y ddyletswydd o ofal y mae gan gleifion hawl iddi yn ystod un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol eu bywydau—penderfyniad yr ymddengys iddo gael ei wneud heb dystiolaeth o risg uniongyrchol i gleifion a heb unrhyw gyfiawnhad clir mewn perthynas â diogelwch. Sut y cawsom ein hunain mewn sefyllfa lle mae rhai o werthoedd craidd tybiedig y GIG yn ymddangos yn llai perthnasol i rai cleifion nag i eraill? Pam y mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn cael ei gosbi am fod yn fwy effeithlon ac effeithiol na'r cyrff sy'n cyfateb iddo yn Lloegr a'r Alban?
Mae Plaid Werdd Cymru yn codi ei llais yn gryf ynglŷn â hyn, oherwydd mae'r penderfyniad hwn yn gosod cynsail peryglus o ran hawliau dynol. Nid dadl ideolegol yw hon; mae gan bawb yng Nghymru hawl i ofal iechyd y GIG. Mae gofal iechyd sy'n cadarnhau rhywedd yn achub bywydau. Ar sail sgyrsiau gyda rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned, fe wyddom nad oedd Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn ymwybodol o unrhyw bryderon ym mis Mehefin. Ond gwta ddeufis yn ddiweddarach, gwelwyd uwchgyfeirio eithafol gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i atal pob atgyfeiriad a llawdriniaeth. Mae adran 28 o fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ei hun wedi'i lunio i nodi a mynd i'r afael â materion a ddaw i'r amlwg cyn iddynt gael effaith sylweddol. Mae hyn yn codi cwestiynau dilys ynglŷn â sut y datblygodd y sefyllfa hon yn gyflym heb unrhyw oruchwyliaeth na chyfranogiad gan Lywodraeth Cymru. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi ei synnu gan y mater hwn, ac ni ddylai'r anghysondeb yn niferoedd yr atgyfeiriadau fod wedi achosi penbleth i'r cyd-bwyllgor comisiynu.
Roedd cleifion y cafodd eu llawdriniaethau eu hoedi wedi cael eu hatgyfeirio yn 2020 sy'n golygu eu bod wedi aros chwe blynedd i gyrraedd y pwynt hwn, gyda misoedd o baratoi meddyliol a chorfforol ar gyfer cael llawdriniaeth. Nawr, mae pobl draws yn y wlad hon yn profi lefel anghymesur o iechyd meddwl gwael, ac mae effaith yr ansicrwydd hwn a'r canslo wedi achosi niwed pellach a diffyg ymddiriedaeth. Mae grwpiau rhanddeiliaid allweddol ac aelodau o'r gymuned wedi bod yn galw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'u pwerau o dan Ddeddf GIG (Cymru) 2006 i wyrdroi'r oedi ac ailddechrau llawdriniaethau. Roedd hwn yn amlwg yn benderfyniad anghymesur ac eithafol o ystyried y diffyg tystiolaeth o niwed neu gamymarfer. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd?
Mae'r gymuned draws yn cael ei gadael mewn ofn yn barhaus eu bod yn ôl-ystyriaeth, fod eu hiechyd a'u lles bob amser dan ymosodiad, nad oes ganddynt hawl diamod i ddiogelwch yng Nghymru. Yr hyn sydd ei angen ar y gymuned hon nawr yn fwy nag erioed yw gweithredu pendant—prawf y bydd eu Llywodraeth yn sefyll drostynt ac yn gafael yn yr awenau, nid tincran ar yr ymylon. Ni ddylai'r gymuned draws gael ei gadael i aros unwaith eto a gorfod cyfiawnhau eu hawl i ofal iechyd a chyfiawnhau eu bodolaeth. Unwaith eto, nid oes dadl ynglŷn â hyn.
Pan gerddais i mewn i ysbyty Mynydd Bychan yr haf hwn gydag amserlen glir ar gyfer llawdriniaeth ac adferiad, nid oedd unrhyw amheuaeth yn fy meddwl na fyddwn i'n cael fy llawdriniaeth, dim amheuaeth na fyddwn yn cael ôl-ofal ac y byddai fy nghynllun triniaeth yn cael ei gyfathrebu'n drylwyr. Mae meddwl bod yna rai cleifion yng Nghymru nad yw hynny'n realiti iddynt mwyach yn ddychrynllyd. Mae'r penderfyniad hwn wedi arwain at golli ymddiriedaeth grŵp o bobl fregus a gaiff eu targedu'n gyson. Ai dyma'r dyfodol a welwn yng Nghymru mewn gwirionedd, lle mae gofal iechyd yn ddetholedig? Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu nawr, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i ateb y cwestiynau gan randdeiliaid cymunedol na chawsant ateb iddynt. Beth yw union natur y pryderon honedig sydd gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru? Sut y mae'r rhain yn adlewyrchu risg glir ac uniongyrchol i gleifion i'r graddau fod angen canslo pob llawdriniaeth a gynlluniwyd dros nos?
Yn ail, a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r methiant yn y trefniadau llywodraethu a arweiniodd at daflu cleifion a'r Llywodraeth oddi ar eu hechel a rhoi mesurau cadarn ar waith mewn ymgynghoriad â'r rhanddeiliaid yr effeithir arnynt i ddwyn Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i gyfrif? A wnaiff Llywodraeth Cymru ymddiheuro i'r gymuned draws am y methiant cyfathrebu amlwg sydd wedi eu gadael yn y limbo annioddefol hwn? Rhaid i ofal iechyd yng Nghymru fod yn seiliedig ar dystiolaeth, tegwch ac urddas, nid ar ansicrwydd, ofn a phwysau gwleidyddol. Diolch.
Diolch yn fawr. Bydd yn rhaid i Aelodau helpu ei gilydd. Mae uchafswm o 15 munud ar gyfer y cyfraniadau yma yn y sylwadau agoriadol. Sarah Rees.
Diolch. Rwy'n siarad yma fel cynrychiolydd grŵp lleiafrifol cydnabyddedig a gwarchodedig, nid yn unig ar ran pobl drawsryweddol ac anneuaidd yn fy etholaeth fy hun, ond ar ran pobl drawsryweddol ledled Cymru. Clywais eu lleisiau, daeth bron i 100 ohonynt i gyfarfod cyhoeddus a gynhaliais gyda Matthew Jones AS yn y dyddiau yn dilyn y newyddion syfrdanol am yr oedi hwn i lawdriniaethau i gleifion o Gymru, er mwyn deall effaith wirioneddol y cam digynsail hwn. Y neges gryfaf a glywais oedd: 'Dim byd amdanom ni hebom ni.'
Paramedrau'r asesiad oedd sicrhau na ddeuai unrhyw niwed clinigol i gleifion, ond mae cleifion sy'n destun yr adolygiad hwn eisoes wedi wynebu'r hyn y mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wedi derbyn ei fod yn lefel sylweddol o niwed seiciatrig. Mae'r cyd-bwyllgor hefyd wedi cadarnhau heddiw y bydd yr oedi'n parhau hyd nes y bydd y sicrwydd clinigol angenrheidiol wedi'i dderbyn. Felly, rhaid imi ofyn eu cwestiwn nhw, nid fy un i, i'r Gweinidog: a ydych chi'n sicr fod y dystiolaeth a gasglwyd gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn cyfiawnhau'r oedi cwbl ddigynsail hwn? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'n unigol sut y gellir gwneud penderfyniad o'r maint hwn heb rybudd i'r Llywodraeth, i Wasanaeth Rhywedd Cymru, nac i gleifion?
Yn olaf, galwaf ar bob unigolyn gweddus i sefyll gyda'r gymuned draws. Pan fyddwch chi'n clywed rhywun yn cwestiynu hunaniaeth rhywun, codwch eich llais. Nid tynnu coes diniwed mohono. Mae'n arwain at bobl yn goroesi yn hytrach na ffynnu. Nid offerynnau gwleidyddol yw grwpiau lleiafrifol. Mae bywydau traws yn bwysig ac mae gofal iechyd traws yn hawl ddynol.
Cyn imi ddechrau, hoffwn ddiolch i'r Aelod am roi munud i mi a hefyd rwy'n gobeithio bod eich llawdriniaeth wedi mynd yn dda ac yn parhau i fynd yn dda.
Mae teitl y ddadl fer hon yn awgrymu bod oedi llawdriniaethau newid rhywedd yn annerbyniol, ond ni allai hynny fod ymhellach o'r gwir. Nid oes unrhyw beth annerbyniol ynglŷn ag oedi llawdriniaeth na ellir ei gwrthdroi yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru tra cynhelir ymchwiliad i bryderon difrifol. Yn amlwg, mae'r GIG yn credu bod achos i'w ateb yma dros y cyfraddau anarferol o uchel o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio am lawdriniaethau rhywedd na ellir eu gwrthdroi, a dyna pam y cymerwyd y camau hyn. Dylai diogelwch a lles cleifion bob amser fod yn brif flaenoriaeth, ac oedi triniaeth yng ngoleuni'r adolygiad hwn yw'r peth hollol iawn i'w wneud. Seiliwyd y penderfyniad ar bryderon clinigol a diogelwch, ac mae cleifion yn haeddu'r mesurau diogelu cryfaf posibl cyn i atgyfeiriad gael ei wneud, ond mae'r rhethreg a glywais ac a welais gan rai gwleidyddion mewn perthynas â sefyllfa bresennol Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn destun pryder mawr ac yn fy marn i, mae'n gosod ideoleg o flaen diogelwch cleifion. Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi bod yn atgyfeirio cleifion am lawdriniaeth ar gyfraddau tair i bedair gwaith yn uwch na chlinigau ar draws y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n frawychus ac mae'n rhaid ymchwilio i'r mater. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog Cabinet heddiw: a wnewch chi gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwn, darparu gwarant y bydd yr ymchwiliad yn wirioneddol annibynnol a rhoi lles cleifion o flaen ideoleg rhywedd? Diolch.
Diolch i Anthony am y ddadl hon. Rwyf am ddechrau trwy ddiolch i chi, Mabon, y Gweinidog. Rwy'n gwerthfawrogi pob sgwrs a gawsom ac rwy'n cydnabod eich ymrwymiad i sefyll dros bobl draws a cheisio sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael ei datrys. Hefyd, i holl Weinidogion y Llywodraeth, mae'n amlwg eich bod chi'n cefnogi pobl draws. Ond gwnaed y penderfyniad hwn gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ar sail hyd braich o'r Llywodraeth, ac mae gan y cyd-bwyllgor gwestiynau pwysig i'w hateb. Mae ei ddiffyg tryloywder yn peri pryder mawr. Dros dair wythnos yn ôl, ysgrifennais i ac aelodau o'r meinciau cefn at y cyd-bwyllgor yn gofyn cwestiynau pwysig am y penderfyniad a sut y byddai pobl yn cael eu cefnogi. Nid ydym wedi cael ateb. Roedd cyfarfod briffio rhithwir diweddar ar yr oedi yn codi mwy o gwestiynau nag a gynigiai o atebion. Nid yw'r rhain wedi'u hateb eto. A heddiw, anfonodd y cyd-bwyllgor restr o gwestiynau cyffredin i rai o'r Aelodau am ei broses adolygu, ond nid i mi—bu'n rhaid i mi ei chael gan Aelod arall. Mae'r cwestiynau cyffredin yn codi cwestiynau pellach am yr amserlen, ac rwyf am i'r cyd-bwyllgor eu hateb. Os ydynt wedi adolygu'r holl gleifion ac yn fodlon, neu heb fod yn fodlon, beth nesaf? Pryd y daw'r oedi i ben? Ai 10 claf ydyw, neu 60? Ai ar gyfer cleifion sydd wedi cofrestru ar gyfer llawdriniaeth yn 2027 y mae'r oedi'n digwydd? Mae llawer o bobl wedi rhoi eu bywydau ar stop, gan gynnwys cymryd misoedd i ffwrdd o'r gwaith i wella ar ôl llawdriniaeth. Mae eu hiechyd, eu bywoliaeth a'u harian i gyd mewn limbo nawr. Rhaid inni dawelu meddyliau cymuned sydd eisoes yn profi ofn a phryder, a waethygwyd am nad yw'r cyd-bwyllgor wedi egluro eu pryderon yn gyhoeddus nac yn ddigonol. Rhaid i unrhyw adolygiad annibynnol ddarparu atebion yn gyflym i'r rhai sy'n aros am lawdriniaeth ac adfer hyder ar draws y gymuned draws yn ehangach. Diolch.
Mae'r amser ar ben, ond rwy'n mynd i roi cyfraniadau byr iawn yma i'r ddau siaradwr olaf fel bod pawb yn cael eu galw. Cristiana Emsley.
Diolch, Lywydd. Yn unol â'ch cyfarwyddiadau, fe gadwaf hyn yn fyr iawn, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am ganiatáu i mi gael yr ymyriad hwn. Beth bynnag yw'r gwahaniaethau gwleidyddol rhyngom, rhaid i'r gwirionedd a diogelwch cleifion ein huno. Rwy'n derbyn y gallai'r oedi achosi gofid a bod rhaid cefnogi cleifion, ond byddai'n annerbyniol parhau ag atgyfeiriadau na ellir eu gwrthdroi pan fo pryderon difrifol ynghylch priodoldeb atgyfeiriadau, llywodraethu clinigol a diogelwch cleifion—pryderon rwyf eisoes wedi'u codi'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog Cabinet dros iechyd. Fel deddfwyr, ein dyletswydd ni felly yw peidio â phwyso ar glinigwyr i ddod i gasgliad a ffafrir, ond diogelu eu hannibyniaeth glinigol, dilyn y wyddoniaeth a'r dystiolaeth lle bynnag y byddant yn arwain. Mae gofid yn galw am dosturi a chefnogaeth, ond ni all tosturi ostwng trothwy'r dystiolaeth ar gyfer triniaeth na ellir ei gwrthdroi. Geilw meddygaeth am dystiolaeth. Geilw diogelwch cleifion am dosturi a thystiolaeth. Diolch.
Diolch am roi ychydig o amser imi siarad. Fe barchaf hynny, Lywydd, drwy fod mor gyflym ag y gallaf a dim ond darllen diwedd yr hyn roeddwn eisiau ei ddweud. Dylai Gwasanaeth Rhywedd Cymru gael ei gau am byth a dylai'r meddygon yn y DU a roddodd lawdriniaethau i blant gael eu carcharu am yr hyn a wnaethant. Ac os bydd Reform yn ffurfio llywodraeth yn San Steffan yn 2029, byddaf yn cyflwyno sylwadau i'n cymheiriaid yno y dylid gweinyddu cyfiawnder i'r celwyddgwn a'r bwtsieriaid sy'n gyfrifol am beth a ddigwyddodd i'r hyn sy'n weddill o'r bobl ifanc a gafodd lawdriniaeth.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i ymateb i'r ddadl—Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn am hwnna. Gaf i ymbellhau fy hun a'r Llywodraeth o sylwadau Joe Martin, sydd yn gwbl annerbyniol yng nghyd-destun y drafodaeth yma heddiw? Gaf i hefyd ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig yma a dymuno'n dda iddo ar ei daith i wellhad llwyr?
Dyma'r cyfle gwirioneddol cyntaf i'r Senedd hon drafod y mater yma ac i mi roi ein hymateb ni, felly, ar gofnod. Yn gyntaf, dwi am gydnabod y boen a'r trallod y mae llawer wedi'u teimlo ers cyhoeddi'r penderfyniad. I lawer, roedd hwn yn cael ei weld fel penderfyniad arall mewn cyfres hir o benderfyniadau er mwyn tynnu hawliau pobl draws oddi arnynt, yn erydu eu hunaniaeth, ac rwy'n deall yr ofn yma. Gadewch imi bwysleisio, felly, mai penderfyniad clinigol oedd hwn, wedi'i wneud ar sail tystiolaeth glinigol heb ymyrraeth wleidyddol. Gadewch imi hefyd fod yn glir: mi ydym ni—rydw i—yn sefyll gyda’r gymuned draws.
Fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau pob person LGBTQ+ yng Nghymru, ac, fel y gŵyr yr Aelodau, chwaraeodd Plaid Cymru ran allweddol wrth sicrhau bod y cynllun gweithredu LGBTQ+ yn cael ei gyflawni. Mae ein maniffesto yn nodi ein hymrwymiad i'r gymuned draws, a gallwch fod yn sicr bod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'r gymuned draws ac y bydd yn parhau i amddiffyn hawliau pobl draws yn unol â'n hymrwymiad i Gymru groesawgar a chynhwysol.
Rwy'n cydnabod y bydd rhai o'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau hunaniaeth rhywedd eisoes yn profi trallod emosiynol, ac rwy'n deall y trallod, y pryder a'r ansicrwydd ychwanegol yn y sefyllfa hon. Rwyf am fod yn glir ein bod yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau mynediad at wasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol o ansawdd uchel yng Nghymru. Rwyf hefyd eisiau sicrhau pobl mai oedi dros dro yw'r penderfyniad hwn, nid terfyniad, ac mae'n benderfyniad a wnaed gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru er budd diogelwch cleifion.
Gwnaed y penderfyniad i oedi llawdriniaeth cadarnhau rhywedd trwy brosesau llywodraethu clinigol sefydledig. Mae'r rhain yn berthnasol i bob gwasanaeth a gomisiynwyd gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Nid yw'n anarferol i'r cyd-bwyllgor osod camau uwchgyfeirio ar wasanaethau pan fo angen ceisio sicrwydd ynghylch materion clinigol neu ansawdd. Mae'r prosesau hyn yn bodoli er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, ac mae angen inni gael ein harwain ganddynt, yn seiliedig ar eu hasesiad clinigol annibynnol o'r dystiolaeth.
Nid oes gan Weinidogion Cymru rôl yn y prosesau llywodraethu clinigol ac uwchgyfeirio yn y cyd-bwyllgor. Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, ac maent yn atebol yn ffurfiol i fyrddau iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau cynnig cyson, gyda'r trefniadau llywodraethu a monitro angenrheidiol a goruchwyliaeth glinigol ar waith i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn effeithiol. Daw'r cyd-bwyllgor â byrddau iechyd at ei gilydd ar gyfer gwasanaethau sydd angen eu comisiynu unwaith i Gymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol. Fel Llywodraeth, rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth er mwyn sicrhau ansawdd a diogelwch ein gwasanaethau GIG. Mae hyn yn hanfodol os ydym am sicrhau gwasanaethau diogel a chanlyniadau da i'n cleifion yng Nghymru.
Er mwyn osgoi amheuaeth, gadewch i mi fod yn glir, roedd hwn yn benderfyniad clinigol a wnaed gan y cyd-bwyllgor yn sgil pryderon ynghylch ansawdd yr asesiadau a nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau rhywedd. Roedd y penderfyniad yn seiliedig yn bennaf ar ddata a ddarparwyd gan y gwasanaethau cymorth atgyfeirio cenedlaethol ar gyfer dysfforia rhywedd. Caiff llawfeddygaeth rhywedd i gleifion o Gymru ei gomisiynu gan GIG Lloegr, sy'n gyfrifol am reoli a dilysu atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth. Roedd y data a gedwir yn ganolog yn dangos cyfraddau atgyfeirio uwch o Gymru, ond cyfraddau is yn symud ymlaen at rai mathau o lawdriniaethau. Codwyd pryderon hefyd gan gydweithwyr clinigol yn GIG Lloegr ynghylch priodoldeb atgyfeiriadau ac addasrwydd clinigol. Mae gan y cyd-bwyllgor ddyletswydd gofal i bob claf sy'n derbyn gwasanaethau arbenigol y mae'n eu comisiynu i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n ddiogel ac yn effeithiol. Gyda'i gilydd, tynnai'r pryderon hyn sylw at faterion posibl yr oedd angen i'r cyd-bwyllgor eu cymryd o ddifrif.
O ystyried lefel y pryderon ar draws y pleidiau, rwy'n ddiolchgar fod y cyd-bwyllgor wedi cynnig sesiynau briffio technegol i bob plaid i ddarparu mwy o wybodaeth am y data a'r penderfyniadau a wnaed. Gobeithio eich bod wedi manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau hyn gyda'r cyd-bwyllgor i geisio sicrwydd ynghylch y cwestiynau neu'r pryderon sydd gennych.
Yn dilyn uwchgyfeirio'r gwasanaeth, ymrwymodd y cyd-bwyllgor i adolygiad clinigol brys o'r unigolion ar y rhestr aros am lawdriniaeth cadarnhau rhywedd. Mae'r cyd-bwyllgor eisoes wedi penodi'r panel adolygu clinigol annibynnol, ac yn amodol ar gymeradwyo'r trefniadau llywodraethu terfynol, disgwylir y bydd yr adolygiad yn dechrau'n fuan. Bydd yr adolygiad hwn yn blaenoriaethu'r unigolion hynny sydd ymhellach ar hyd y llwybr i ganiatáu i atgyfeiriadau priodol fynd rhagddynt cyn gynted â phosibl. Mae'r cyd-bwyllgor wedi nodi bod tua 60 o gleifion yn aros am lawdriniaeth rhwng oedi llawdriniaethau ym mis Awst a diwedd mis Rhagfyr. Ein blaenoriaeth yw dod â sicrwydd i'r bobl hyn cyn gynted â phosibl, ac mae'r cyd-bwyllgor yn hyderus y gellir adolygu pob un o'r 60 achos cyn diwedd mis Rhagfyr.
Mae yna adolygiad ehangach ar waith hefyd, yn annibynnol ar Wasanaeth Rhywedd Cymru. Roedd y cyd-bwyllgor wedi bwriadu o'r dechrau i'r adolygiad arfaethedig hwn ddilyn adolygiad annibynnol Levy, a edrychai ar wasanaethau hunaniaeth rhywedd oedolion yn Lloegr. Mae'r adolygiad annibynnol eisoes wedi dechrau ac mae'n cynnwys elfennau ansawdd a llywodraethiant clinigol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio'n bennaf ar asesu, atgyfeirio ac agweddau ar y llwybr nad ydynt yn llawfeddygol wrth ystyried y rhyngwyneb rhwng llwybrau perthnasol. Bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys byrddau iechyd, sefydliadau partner, cleifion a gofalwyr. Disgwylir y canfyddiadau cychwynnol yn ddiweddarach eleni, gydag argymhellion i'w hadrodd i'r cyd-bwyllgor wedi hynny.
Bydd y ddau adolygiad yn cynnwys adolygwyr annibynnol ac maent yn broses glinigol. Mae'n gwbl gyson â threfniadau llywodraethu presennol o'r natur hon na fydd gan Lywodraeth Cymru unrhyw rôl na chyfranogiad yn yr adolygiadau hyn na'r argymhellion a wnânt. Byddwn yn disgwyl i'r cyd-bwyllgor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro weithredu ar ganfyddiadau'r adolygiadau fel mater o flaenoriaeth wrth gwrs.
Rwyf wedi cyfarfod â'r cyd-bwyllgor ac wedi bod yn glir fod angen i'r adolygiad clinigol brys ddigwydd yn gyflym er mwyn lleihau'r aflonyddwch a'r trallod i unigolion ar y rhestr aros. Rwyf hefyd wedi bod yn glir fy mod yn disgwyl i'r holl gleifion yr effeithir arnynt gan yr oedi hwn gael mynediad at y cymorth angenrheidiol tra bod yr adolygiad ar y gweill. Mae hyn yn cynnwys cymorth emosiynol a seicolegol. Rwyf wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac wedi cael sicrwydd ynghylch y cymorth sydd ar gael i'r rhai yr effeithir arnynt gan yr oedi.
Mae'r cyd-bwyllgor bellach wedi cyhoeddi'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a'r Gymraeg a'r asesiad o'r effaith ar ansawdd a phapurau eraill sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau ar eu gwefan.
Rwy'n cydnabod y trallod a'r ansicrwydd y mae'r seibiant hwn yn ei achosi i'r rhai yr effeithir arnynt. Rwyf wedi clywed yn bersonol gan bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad yma, ac rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn y Senedd am eu gweithredoedd wrth wrando, cefnogi ac eirioli ar ran cymaint o bobl. Rwy'n gweithio gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i sicrhau bod yr effaith ar y gymuned draws yn cael ei hystyried yn llawn wrth i'r JCC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymgymryd â'r gwaith adolygu a dilynol.
Rwy'n cael fy niweddaru'n rheolaidd am gynnydd gan y JCC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a chyfarfu swyddogion â'r JCC ddoe i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd. Rwy'n disgwyl i unrhyw gamau angenrheidiol gael eu cymryd ymlaen fel blaenoriaeth i sicrhau bod Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn darparu'r ansawdd gwasanaeth y byddem yn ei ddisgwyl.
Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn darparu'r lefel uchaf o wasanaeth i bawb sy'n dibynnu arnynt. Gyda hynny mewn golwg, mae'n hanfodol ein bod yn dysgu yn barhaus o benderfyniadau fel yr un hwn, felly, rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog meddygol gynnal ymarfer myfyriol mewnol ar y broses sy'n gysylltiedig â'r penderfyniad hwn. Bydd hyn yn ystyried sut y cyfathrebwyd â chleifion ac eraill, amseriad cyfathrebu a'r prosesau sy'n eu cefnogi, gan gynnwys llais y gymuned draws. Bydd lleisiau'r gymuned draws yn ganolog i'r gwaith yma. Mae gwrando a dysgu'n hanfodol.
Felly, diolch, unwaith eto, i Anthony, am gyflwyno'r ddadl, a diolch i bawb a gyfrannodd mewn modd adeiladol i'r ddadl yma.
Diolch, Weinidog Cabinet.
A gaf i godi pwynt o drefn o dan 13.9(v) o'n Rheolau Sefydlog? Lywydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol fod pob Aelod yma'n cael ei lywodraethu gan god ymddygiad. Mae'n ofynnol i ni hefyd weithredu'n gyfreithlon a chadw gwahanol gyfreithiau mewn cof, yn cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010. Hoffwn i chi adolygu sylwadau Joe Martin AS ar y cofnod a phenderfynu a ydych chi o'r farn ei fod yn euog, yn eich barn chi, o ddefnyddio iaith sy'n groes i'r drefn, yn wahaniaethol, neu'n sarhaus ac sy'n amharu ar urddas y Senedd. Carwn awgrymu'n gryf nad oedd y sylwadau'n cydymffurfio â'n Rheolau Sefydlog.
Diolch am godi'r pwynt o drefn a rhoi rhybudd i mi eich bod chi'n mynd i wneud hynny. Rwy'n credu bod teilyngdod yn y pwynt o drefn ac rwy'n hapus i ailedrych ar Gofnod y Trafodion. Byddaf yn sicr o ddychwelyd at y mater os credaf fod angen dyfarniad. Mae canllawiau clir a Rheolau Sefydlog yn bodoli ar gyfer yr iaith a ddefnyddir yn y Siambr. Felly, rwy'n hapus i ystyried y mater ac i ailedrych ar Gofnod y Trafodion. Diolch yn fawr am ei godi.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch, bawb.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.