Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/09/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb. Gadewch i ni ddechrau. Rydyn ni'n dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd? OQ64526
Mae'r cwestiwn yn wir yn dod ar adeg briodol. Mae adolygiad wedi cael ei gomisiynu, sy'n edrych ar sut i gyflawni'r canlyniad gorau ar safle Nant Helen. Rydym ni'n awyddus bellach i ddatblygu cyfeiriad teithio eglur gyda GCRE Ltd.
Diolch am y diweddariad yna, Brif Weinidog. Ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y sesiwn ddiwethaf â'r safle gan ymchwilio i'r cynigion a gyflwynwyd i ni. Pan feddyliwyd am y cysyniad hwn yn gyntaf, roedd potensial i 1,000 o swyddi ddod i'r safle, a dywedwyd wrth y Llywodraeth ar y pryd bod galw mawr am y cyfleuster profi hwn. Yn anffodus, hyd yma, nid oes £1 o arian preifat wedi cael ei chyfrannu ato. Mae'n safle enfawr. Gwelais adroddiad yn y cyfryngau yn dweud ei fod yr un maint â Gibraltar. Mae llawer o waith adfer i'w wneud arno. Yr un peth a ddywedwyd wrthym ni fel pwyllgor oedd bod angen i'r Llywodraeth newydd, pwy bynnag fyddai'r Llywodraeth honno, wneud penderfyniad cyflym am fuddsoddiad yn y dyfodol. Mae'r safle wedi gwario £70 miliwn o arian cyhoeddus hyd yma. Pryd fyddwch chi yn y sefyllfa i lunio'r hyn y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud, gan gofio bod £70 miliwn o arian cyhoeddus eisoes wedi cael ei gyfrannu a bod angen £350 i £400 miliwn i adeiladu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd hon?
Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn. Mae symiau sylweddol o arian cyhoeddus wedi cael eu cyfrannu at y safle eisoes. Nid wyf i'n mynd i feirniadu'r cysyniad a ddaeth gan arweinydd presennol y Blaid Lafur, ond mae'n rhaid i ni ddeall yr hyn sydd wedi digwydd gan fod y degau o filiynau o bunnoedd hynny wedi cael eu gwario ar y safle, a'r hyn efallai nad yw wedi digwydd i ganiatáu i ni fod mewn sefyllfa lle mae cyllid preifat yn barod ac yn gallu ac yn awyddus i ddod i mewn. Fel y dywedais i, mae fy Ngweinidog wedi comisiynu'r gwaith hwnnw bellach gan fy mod i'n cytuno bod angen i ni wneud penderfyniad yn fuan er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer safle sy'n dal i fod yn un pwysig iawn.
Brif Weinidog, mae'n dda clywed eich bod chi'n comisiynu adolygiad, ond hoffai'r Siambr hon ddeall bod yn rhaid i hyder eich Llywodraeth yn y safle hwn fod yn seiliedig ar ddadl fasnachol gredadwy, y mae angen i'r cyhoedd ei deall mewn gwirionedd. Efallai fod y ganolfan ddata a'r parc ynni arfaethedig ychwanegol yn addo swyddi lleol, ond ni all y manteision hyn gyfiawnhau dibyniaeth benagored ar grantiau wedi'u hariannu gan y trethdalwr. Ar ôl mwy na phedwar mis mewn grym, dylai eich Llywodraeth allu dangos sut a phryd y bydd y datblygiad yn denu cyfalaf preifat ac yn cynhyrchu incwm digonol i gynnal ei hun. Sut fyddwch chi'n gwneud unrhyw ddatblygiad pellach yn amodol ar gynllun busnes sy'n ariannol hunangynhaliol ac yn sicrhau manteision lleol mesuradwy heb grantiau pellach wedi'u hariannu gan y trethdalwr i GCRE neu gwmnïau sy'n cymryd rhan? Diolch.
Eto, cwestiynau cwbl briodol i'w gofyn. Nid yw'n fater o'i wneud yn gynnig masnachol credadwy yn unig, mae'n fater o wneud yn siŵr bod yr arian cyhoeddus sydd cael ei gyfrannu ato wedi cael ei ddefnyddio'n dda, ac, wrth i ni ystyried y dyfodol, ein bod ni'n edrych ar y cydbwysedd hwnnw o ble mae'r Llywodraeth yn gweithio o bosibl gyda'r sector preifat ar yr hyn a allai fod yn llu o wahanol gynigion. Fel y dywedais i, y ffaith ein bod ni'n deall yr angen i symud yn gyflym ar hyn yw pam mae'r adolygiad hwnnw wedi cael ei gomisiynu. Beth bynnag yw'r prosiect, allwch chi ddim parhau i symud ymlaen mewn ffordd ddi-nod. Dechreuodd hyn o bwynt lle'r oedd ffydd gwirioneddol mewn prosiect penodol. Mae amser wedi symud ymlaen. Mae angen i ni wneud yn siŵr, yn 2026, ein bod ni'n deall beth yw'r prosiect gorau rŵan ar gyfer y safle hwnnw.
Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn cael ei hystyried yn ddatblygiad addawol i lawer ar draws fy etholaeth, gan ddangos potensial teithio gwyrdd, llwybr tuag at sero net, a chefnogi datblygiad systemau trafnidiaeth cryfach, gwyrddach a mwy fforddiadwy ledled y byd i gyd. Pa gyfleoedd eraill sy'n bodoli ochr yn ochr â'r prosiect hwn a fydd yn helpu pobl yn fy etholaeth? Diolch.
Mae'r Aelod eto yn tynnu sylw at y cysyniad gwreiddiol hwnnw yn ymwneud â rheilffyrdd. Mae llawer wedi digwydd ym maes rheilffyrdd ers y cyfnod hwnnw, ac yn enwedig y newidiadau mewn cyfeiriad o amgylch HS2 ac yn y blaen. Mae angen i ni ddeall ein sefyllfa rŵan, yn hytrach na ble roeddem ni. Mae angen i ni ddeall arwyddocâd penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud hyd yma. Bydd yr Aelod eisiau sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei gyflawni yno yn rhywbeth sydd o werth i'r ardal, i'r etholaeth y mae hi ac eraill yn ei chynrychioli, ac i economi Cymru. A dyna'r egwyddorion a fydd yn arwain fy Ngweinidog Cabinet dros fenter wrth iddo weithio bellach gyda'r adolygiad ac edrych ymlaen at weld canlyniadau'r adolygiad hwnnw yn fuan.
Fe ges i hefyd gyfle yn gynharach eleni i ymweld â'r safle yma a gweld y potensial arbennig sydd yno nid yn unig fel canolfan arloesi rheilffyrdd, ond hefyd fel lle ble y gellir cael pethau fel canolfannau data, a fydd yn helpu i ddatgloi y prosiect ehangach.
Fe wnaeth Llafur Cymru fuddsoddi £2 biliwn yn ffordd Blaenau'r Cymoedd yn union am reswm fel hwn, i gysylltu cymunedau, gan gynnwys ar hyd coridor yr M4 ond hefyd yn hen gymunedau'r Cymoedd, gyda phrosiectau fel hyn. Os ydym ni o ddifrif am ddod â swyddi â chyflogau da ac ail-ddiwydiannu'r hen feysydd glo, dyma'r union fath o fuddsoddiad y dylai Cymru ei sicrhau, gan gydnabod y bydd hyn angen arian cyhoeddus yn ogystal ag arian preifat. Felly, rwyf i wedi clywed dipyn o amwysedd gennych chi heddiw, a fydd yn codi pryderon i bobl sydd eisiau gweld ateb rheilffyrdd yn cael ei gyflwyno. Rydym ni eisiau gweld mwy o drenau yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, a byddai hyn yn helpu i ddatgloi hynny. A allwch chi roi rheswm pam na fyddai eich Llywodraeth yn cefnogi'r prosiect GCRE yn benodol? Ac os na allwch chi roi rheswm, a wnewch chi efallai ymrwymo heddiw i'w gefnogi? Diolch yn fawr.
Dwi'n meddwl fy mod i wedi bod mor agored ag y gallaf ynglŷn â'r dewis rydyn ni'n gorfod ei wneud fel Llywodraeth rŵan. A'r dewis hwnnw ydy asesu beth ydy'r defnydd gorau ar gyfer, ie, arian cyhoeddus, ond hefyd y modd gorau o ddenu arian preifat i mewn. A'r broblem efo'r cynllun rheilffordd, fel ag y mae o, ydy ei fod o wedi methu—wedi methu—â denu arian preifat i mewn. Dyna pam yr ydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Mae'r Aelod yn iawn, Lywydd, i ddweud mai beth sydd angen ydy ystyried potensial y safle. Gallaf i ddwyn cymhariaeth efo safle Alwminiwm Môn yn fy etholaeth i. Pan ddaeth y gwaith hwnnw i ben, beth oedd gennym ni oedd safle. A beth sydd angen ei wneud mewn sefyllfa fel yna ydy meddwl 'Ocê, beth ydy'r defnydd gorau ar gyfer y safle hwnnw?', a pheidio bod yn rhy briod i un elfen bosib. Ac ydy, wrth gwrs bod yr opsiwn rheilffyrdd yn dal ar y bwrdd. Beth rydyn ni'n mynd i wneud ydy edrych ar y sefyllfa lle rydym ni rŵan a gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer pobl yr ardal yna a dyfodol economi Cymru.
2. Beth yw blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion Penfro ar gyfer y deuddeg mis nesaf? OQ64479
Mae gwella canlyniadau iechyd, sicrhau mynediad prydlon at ofal, cefnogi gwasanaethau GIG cynaliadwy ar gyfer cymunedau ledled Ceredigion Penfro yn amlwg yn brif flaenoriaethau i'r Llywodraeth newydd hon. Yn rhan o'n gweledigaeth i gryfhau gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol yn arbennig, byddwn yn ymgysylltu'n agos â'r bwrdd iechyd lleol a phartneriaid i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf sydd wir yn diwallu anghenion pobl leol. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu darparu nawr ac yn y dyfodol.
Brif Weinidog, rwy'n credu ei bod yn rheidrwydd mai blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion Penfro yw diogelu gwasanaethau iechyd hanfodol yn ei ysbytai fel nad oes yn rhaid i gleifion deithio ymhellach i ffwrdd i gael triniaeth. Nawr, dros y blynyddoedd, mae fy etholwyr wedi gweld gwasanaethau iechyd yn cael eu canoli a'u symud ymhellach i ffwrdd gan y bwrdd iechyd lleol, er gwaethaf gwrthwynebiad amlwg y cyhoedd i'r newidiadau hyn. A phrin, os o gwbl, fu'r ymyrraeth neu her gan Lywodraeth Cymru dros y 27 mlynedd diwethaf. Nawr, yn dilyn y newid Llywodraeth ym mis Mai, roedd ymdeimlad o obaith i'm hetholwyr y byddai eu safbwyntiau yn cael eu clywed a'r bwrdd iechyd yn cael ei atal, a hyd yn hyn, nid yw hynny wedi digwydd. Felly, Brif Weinidog, pa drothwy y mae'n rhaid ei groesi cyn bod Llywodraeth Cymru yn barod i ymyrryd ac atal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhag israddio gwasanaethau yng ngorllewin Cymru ymhellach? A pha neges sydd gennych chi i bobl Ceredigion Penfro a bleidleisiodd dros Lywodraeth yr oedden nhw'n credu fyddai'n sefyll yn gadarn dros gymunedau lleol ac yn sicrhau nad oes unrhyw wasanaethau pellach yn cael eu cymryd o'u hysbytai?
Lywydd, mae'r Aelod yn gwbl gywir ein bod ni eisiau diogelu gwasanaethau hanfodol, ac mae'r rhan fwyaf ohonom ni ar un adeg neu'r llall wedi bod yn rhan o wahanol ymgyrchoedd yn ymwneud â gwasanaethau penodol mewn gwahanol leoedd. Rwy'n credu mai'r egwyddorion y mae angen i ni eu cadw mewn cof bob amser yw ein bod ni'n darparu gwasanaethau prydlon yn y lleoliad priodol. Bydd gwahanol straeon mewn gwahanol rannau o Gymru, ond dyna'r egwyddorion sy'n ein clymu at ein gilydd.
Mae penderfyniadau am wasanaethau clinigol yn cael eu gwneud gan y byrddau iechyd eu hunain. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn yr achos penodol hwn wedi edrych ar wyth o naw o'r gwasanaethau y mae'n eu darparu ac wedi ymgynghori arnyn nhw, ac wedi rhoi newidiadau ar waith y mae'n credu fyddai'n darparu gwasanaethau gwell i'w darparu dros y rhan helaeth o ddegawd. Nid newidiadau dros nos yw'r rhain. Ac mae'n bwysig cofio bod y rhain yn newidiadau a all gymryd amser. Ond fy apêl i bob amser yw i fyrddau iechyd, pan fyddan nhw'n gwneud y newidiadau hynny, pan fyddan nhw'n ymgynghori, ac wedi hynny, sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn briodol yn y penderfyniadau hynny. Ond, yn amlwg, bydd gwahanol ddefnyddiau o wahanol wasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n fater o gael y cydbwysedd hwnnw o wasanaethau priodol a fydd bob amser yn rhoi'r claf yn gyntaf.
Diolch i Paul Davies am y cwestiwn. Brif Weinidog, mae 35 y cant o aelwydydd Ceredigion a 23 y cant yn sir Benfro yn dibynnu ar wresogi olew, ymhlith y cyfraddau uchaf yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod cartrefi oer yn cynyddu peryglon cardiofasgwlaidd ac anadlol, yn enwedig i bobl hŷn ac agored i niwed. Wrth i'ch Llywodraeth symud tuag at sero net, sut wnewch chi sicrhau nad yw aelwydydd gwledig yn cael eu gorfodi i gyfyngu gwres oherwydd cost y newid hwnnw, ac a wnewch chi sicrhau bod cadw pobl yn gynnes ac yn iach yn cael blaenoriaeth dros fodloni terfynau amser mympwyol? Diolch.
Fe wnaf i dderbyn bod cysylltiad gofal iechyd yn y fan yna, Lywydd, ac rwy'n bod yn hael iawn, iawn. Rydym ni'n gwybod bod cartref iach, amgylchedd iach, yn bwysig i iechyd pobl, felly mae'r Aelod yn llygad ei le yn hynny o beth.
Ar wresogi olew yn benodol, wrth gwrs, mae'r rhain yn fesurau sydd wedi'u cadw yn ôl. Rydym ni wedi apelio'n gyson ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniadau cywir o ran yr opsiynau sydd ar gael iddi, ond nad ydyn nhw ar gael i ni fel Llywodraeth Cymru, i leddfu'r pwysau ar aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru yn enwedig sy'n arbennig o ddibynnol ar olew oddi ar y grid. Mae'n egwyddor sy'n glynu'r Llywodraeth hon at ei gilydd, ein bod ni'n meddwl yn drawsadrannol, ac mae'r Aelod yn iawn: mae angen i ni feddwl am dai, mae angen i ni feddwl am ynni, mae angen i ni feddwl iechyd o ran llesiant y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.
Brif Weinidog, hoffwn gytuno bod diogelu gwasanaethau yn ysbytai Bronglais a Llwynhelyg yn parhau i fod yn hanfodol i gymunedau ledled Ceredigion Penfro. Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig, rydym ni angen ffyrdd arloesol o ddod â gofal iechyd yn agosach at gartrefi pobl. Mae canolfannau gofal integredig yn Aberteifi ac Aberaeron yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n dod â gwasanaethau at ei gilydd, ac, eto, dod â nhw'n agosach at bobl, gan dynnu'r pwysau oddi ar ysbytai. Ar ôl ymweld â gwasanaethau meddygon teulu yn Abergwaun yn ddiweddar, gwn fod cefnogaeth leol gref i ddull tebyg yno. Yn wir, mae fy nghyd-Aelod Elin Jones wedi gweithio gyda chynghorwyr lleol yn flaenorol i wneud y ddadl dros ganolfan gofal integredig ar gyfer Abergwaun. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chymunedau lleol i archwilio sut allai trefi fel Abergwaun elwa o gyfleusterau gofal integredig, gan sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl wrth i wasanaethau gofal iechyd esblygu?
Mae llawer ohonom ni'n cynrychioli ardaloedd gwledig yma, ac mae iechyd rhywun mewn rhan wledig o Gymru yr un mor bwysig â rhywun mewn rhan drefol o Gymru. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ofal iechyd teg, ond mae'n golygu bod angen gwahanol ddull. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y gwaith sy'n datblygu—sydd eisoes wedi cychwyn—i greu canolfan ragoriaeth ar y ddarpariaeth o ofal iechyd gwledig yn Ysbyty Bronglais, a allai fod o fudd i bob rhan o Gymru, nid Ceredigion Penfro yn unig.
Mae ymrwymiad y rhaglen lywodraethu yn eglur. Rydym ni eisiau sicrhau bod gofal integredig yn cael ei ddarparu yn agosach at adref, ag atal yn arbennig yn ganolog iddo, i gefnogi diagnosis cynharach, i leihau derbyniadau ac oedi cyn rhyddhau. Mae gennym ni lawer o syniadau ar sut y gellir, yn gyffredinol, gwella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, ond mae swyddogion iechyd, rwy'n gwybod, yn ymgysylltu â'r bwrdd iechyd a Chyngor Sir Penfro yn benodol ar ddatblygiad y ganolfan integredig honno yn Abergwaun.
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rydych chi'n sefyll mor aml ar eich bocs sebon ac yn honni'n fawreddog mai chi a'ch plaid yw'r rhai sy'n ymladd anghyfiawnder ac yn sefyll dros Gymru. Eto, cawsoch chi a'ch plaid gyfle yr wythnos diwethaf i fynd i'r afael â gangiau treisio ac i sefyll dros Gymru trwy gefnogi ein cynnig Reform i helpu i gloi pethau i fenywod a merched trwy ddatgelu graddfa gweithgarwch gangiau treisio yng Nghymru. Ond, yn hytrach, fe wnaethoch chi bleidleisio, yn gywilyddus, yn ei erbyn. Sut ar y ddaear all menywod a merched ddisgwyl i chi fod â'u buddiannau gorau yn flaenllaw?
Gadewch i mi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch arweinydd newydd Reform yng Nghymru ar ei hethol i'r swydd. Mae'n sicr yn wleidydd beiddgar. Yn sicr, mae'n rhaid ystyried bod unrhyw un sy'n dweud ei bod wedi dod i fyd gwleidyddiaeth oherwydd bod egwyddorion Nigel Farage wedi creu argraff arni yn feiddgar.
Nid oes unrhyw beth sy'n bwysicach i unrhyw un ohonom ni, gobeithio, na diogelu pobl y mae gennym ni ddyletswydd gofal amdanyn nhw. Dyna pam mae fy Llywodraeth ar hyn o bryd yn gweithio ar gryfhau mesurau diogelu a sut mae'n amddiffyn pobl agored i niwed, gan gynnwys menywod a merched, pobl a allai gael eu masnachu, ym mhob rhan o Gymru. Mae hynny'n rhywbeth y mae fy Llywodraeth yn bwrw ymlaen ag ef yn weithredol.
Roedd gennych chi gyfle i roi pwyslais ar Gymru yn y fan yna. Yn eironig, fel rheol, rydym ni'n hoffi sefyll allan, onid ydym ni, o weddill y Deyrnas Unedig, ond, yn yr achos hwn, rydych chi'n hapus i gael eich cynnwys yn ymchwiliad y DU. Brif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai gweithgarwch gangiau treisio fod wedi cael ei guddio gan awdurdodau i osgoi tensiynau hiliol, ac os na fyddwn ni'n darganfod gwraidd yr hyn sydd ymhlith gweithgareddau troseddol cyfundrefnol mwyaf ffiaidd ein hoes, allwn ni ddim disgwyl atal y perygl o lawer mwy o droseddau o'r natur hon. Y llynedd, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw broblem eang bresennol gyda gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru, a chyhuddwyd un o'ch Gweinidogion presennol gan ddioddefwr gang meithrin perthynas amhriodol o fychanu ei phrofiad. Gadewch i ni edrych ar yr 11 wythnos ddiwethaf yn unig: mae dau ddyn wedi cael eu carcharu yng Nghaerdydd, pump o bobl wedi derbyn euogfarn yn y Rhyl, ac wyth o ddynion ar draws de Cymru yn cael eu cyhuddo yn rhan o Ymgyrch Oak, y cwbl yn gysylltiedig â gweithgarwch o fath gangiau meithrin perthynas amhriodol. Brif Weinidog, a allwch chi wir edrych i fy llygaid a dweud na wnaethoch chi siomi dioddefwyr yr wythnos diwethaf trwy bleidleisio yn erbyn bod eisiau ymchwiliad i gangiau meithrin perthyna amhriodol yng Nghymru?
Gallaf edrych i'ch llygaid bob un diwrnod o'r wythnos a dweud wrthych chi fod gennym ni Lywodraeth nad oes ganddi ddiddordeb mewn sgorio pwyntiau gwleidyddol am yr hyn sy'n fater sensitif iawn, iawn, ac sydd â diddordeb mewn bwrw ymlaen â dod o hyd i atebion. Rŵan, fe wnaethom ni ddweud bod angen i ni ddeall maint y broblem yng Nghymru. Gwnaed gwaith i ddeall maint y broblem yng Nghymru, a gellir gweld, yn amlwg, bod gennym ni broblemau yma y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw er mwyn diogelu pobl, a dyna pam mae fy Llywodraeth yn rhoi pob cefnogaeth i'r ymchwiliad sy'n edrych ar hyn o bryd ar y gwersi y gellir eu dysgu. Efallai ei bod yn dymuno gwneud hwn yn fater cyfansoddiadol; rwy'n gwneud hwn yn fater o ddiogelwch pobl yng Nghymru, a dyna'r gwahaniaeth rhyngddi hi a minnau.
Brif Weinidog, gwneud yn siŵr bod lleisiau dioddefwyr yn cael eu clywed—nid sgorio pwyntiau gwleidyddol yw hynny.
Wrth sôn am ddatgelu'r gwir, Brif Weinidog, mae gen i gwpl o ddyfyniadau i'w darllen i chi heddiw:
'Byddai Reform yn edrych ar y genedl noddfa ac yn dweud bod pobl Cymru yn dod gyntaf wrth flaenoriaethu tai cyngor, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig i mi.'
Gadewch i mi ddarllen fy ail ddyfyniad i chi:
'Mae miliynau yn cael eu gwastraffu ar y prosiect plannu coed, sy'n gwbl anhygoel, ein bod ni'n anfon arian yng Nghymru i Uganda.'
Brif Weinidog, pethau a ddywedwyd gan Aelod o'r Senedd sydd bellach yn eistedd ar eich meinciau chi yw'r rhain. A ydych chi'n cytuno â'r sylwadau hyn, 'ydw' neu 'nac ydw'?
Yr hyn yr wyf i'n ei edmygu yw y byddai gan rywun y dewrder i sefyll i fyny i'r grŵp Reform hwn yn y Senedd a dweud, 'Rwyf i bellach yn gallu eich gweld chi am yr hyn yr ydych chi.' Dyna'n union wnaeth Sarah Cooper-Lesadd yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu'n gryf, ym myd gwleidyddiaeth, ei bod hi'n gyfrifoldeb am bob un ohonom ni i ddangos ein bod ni'n gallu newid, ein bod ni'n gallu gweld y goleuni, yn wleidyddol, os mynnwch, ac mae cynifer o bobl eraill yn gwneud yr un fath. Mae gennym ni blaid Reform rŵan lle mae sgandal yn rhemp, sy'n chwalu mewn anhrefn o amgylch yr arweinydd Reform newydd yng Nghymru. Dywedodd yr Aelod ddoe ei bod hi o blaid undod a pharhad, ond nid yw ei phlaid yn gallu dangos y naill na'r llall. Efallai y gall ddweud wrthym ni faint o'r £72 miliwn sy'n deillio o'r sgandal Reform diweddaraf y mae hi'n gobeithio fydd yn dod i Gymru. Efallai ei bod hi'n gobeithio y bydd yn cael ei Farnetteiddio.
'Ydw' neu 'nac ydw'? Iawn. Diolch yn fawr.
Brif Weinidog, heddiw rydym ni'n cofio marwolaethau cannoedd o bobl yn nhrychineb mwyngloddio Gresffordd. Roedd yn drychineb ofnadwy a ddiffeithiodd y gymuned, ac rwy'n siŵr y byddwch chi, Brif Weinidog, hefyd yn cofio'r rhai a fu farw. Cafodd mwy na 260 o gyrff eu hadfer, ond roedd 253 yn dal i fod wedi eu claddu. Yn anffodus, nid dynion yn unig a fu farw; bu farw bechgyn yn y drychineb honno hefyd. Roedd yn amlwg yn un o ddyddiau tywyllaf Cymru.
Mae gwaith ymchwil gan Wrexham.com yn dangos, er bod Llywodraeth Plaid Cymru yn cwestiynu'r angen a'r rhesymeg dros £100 miliwn ychwanegol i'w wario ar anghenion dysgu ychwanegol, roedd ar yr un pryd yn union yn gofyn i gynghorau faint yn fwy y bydden nhw'n ei wario ar anghenion dysgu ychwanegol eleni. Nawr, cyhoeddwyd y data ychydig cyn y bleidlais ar y gyllideb atodol ar eich gwefan eich hun. A £96.3 miliwn yn ychwanegol oedd y ffigur hwnnw, fel cyfanswm, ar gyfer pob cyngor a phob ysgol yng Nghymru—bron yn union y £100 miliwn yr oedd Llafur Cymru yn dweud yr oedd ei angen i sefydlogi'r system ledled Cymru, ac y cawsoch chi gyllid mawr ar ei gyfer gan Lywodraeth Lafur y DU. Nawr, a yw'r datguddiad hwn, a ddatgelwyd fel y dywedais gan Wrexham.com, yn dangos bod plant difreintiedig mewn perygl o ddod yn ail i'r Llywodraeth Plaid Cymru hon, y tu ôl i ofal plant am ddim i filiwnyddion?
Gadewch i mi, yn gyntaf, gysylltu fy hun yn llwyr â'r sylwadau wrth i ni gofio trychineb Gresffordd, ac rydym ni'n anfon ein cydymdeimlad i'r gymuned, y mae poen y diwrnod hwnnw yn dal i gael ei deimlo mewn llawer o ffyrdd.
Ar anghenion dysgu ychwanegol, rwy'n atgoffa arweinydd Llafur ei fod yn bwriadu gwario £9 miliwn, pe baen nhw wedi ennill yr etholiad. Gwnaeth maniffesto fy mhlaid i addewid i roi ADY ar sylfaen gynaliadwy. Cawsom drafodaeth, yn y cyfnod cyn y gyllideb atodol, lle'r oeddem yn rhoi £100 miliwn a mwy ar y bwrdd, gan gynnwys £40 miliwn ar gyfer eleni—ar gyfer eleni—sef yr hyn y gwnaethom ni ei ystyried, gan weithio gyda swyddogion ac eraill, y gellid ei wario mewn gwirionedd i leddfu'r pwysau. Mae'r arian hwnnw'n dal ar y bwrdd, ac rwy'n apelio i'r Aelod eto: helpwch ni i'w gael allan drwy'r drws i helpu'r teuluoedd hynny a'r ysgolion a'r awdurdodau lleol sydd angen i'r arian hwnnw gael ei wario.
Brif Weinidog, roedd y £9 miliwn yr ydych chi'n cyfeirio ato cyn cyllideb Llywodraeth y DU. Ar ôl i gyllideb Llywodraeth y DU fod yn weithredol a chadarnhad bod mwy na £300 miliwn ar gael, roedd y gweinidog addysg ar y pryd, Lynne Neagle, yn bwriadu gwario £100 miliwn yn ychwanegol ar anghenion dysgu ychwanegol, pe baem ni'n cael ein hail-ethol.
Nawr, gallaf ddarparu tystiolaeth eglur ac anwadadwy o sut y bydd plant difreintiedig ac anabl yn talu'r pris am eich addewidion heb eu costio. Mae Clwb Cwtsh, sef unig ddarparwr cylch chwarae gwyliau ysgol i blant ag anghenion cymhleth yng ngogledd Cymru, newydd gael ei hysbysu gan Lywodraeth Plaid Cymru y bydd cyllid ar gyfer ei wasanaethau yn dod i ben. Fe wnaeth y Llywodraeth Lafur flaenorol yma ariannu'r ddarpariaeth honno, sydd, fel y dywedais i, ar gyfer plant ag anghenion cymhleth. Mae gen i ofn, oni bai fod eich Llywodraeth yn gwneud tro pedol ar hyn, yn newid ei meddwl ac yn darparu'r cyllid i Clwb Cwtsh, bydd yn cael ei golli. Felly, a gaf i eich annog i ailystyried y penderfyniad i roi terfyn ar gyllid ar gyfer y ddarpariaeth hon? Fel arall, rwy'n ofni y bydd plant anabl yn talu'r pris am ofal plant am ddim i filiwnyddion.
Gofynnaf i'r Aelod edrych eto ar pryd roedden nhw'n addo £9 miliwn, ac roedd yn sicr ar ôl i'r arian hwnnw gael ei wneud ar gael. A cheir egwyddorion yma ynglŷn â'r gallu i ni bennu cyfeiriadau yma yng Nghymru. Rwy'n gyfarwydd â Clwb Cwtsh. Nid wyf i'n gwybod pam na roddodd y weinyddiaeth Lafur flaenorol ei gyllid ar sail barhaol. Efallai y bydd yr Aelod yn gallu taflu rhywfaint o oleuni ar hynny. Rwy'n deall hefyd ei fod yn llenwi bwlch ADY. Mae'r Aelod yn gofyn am £30,000 ar gyfer hynny; mae gen i £40 miliwn ar y bwrdd yr wyf i wedi gofyn am, ac yn parhau i ofyn am gytundeb gyda'r Aelod arno. Mae'r arian hwnnw yn cynnwys arian a fyddai'n mynd yn uniongyrchol i Gyngor Sir y Fflint, felly rwy'n dychmygu y byddai arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i'r arweinydd Llafur yma ein helpu i gael yr arian hwnnw allan drwy'r drws.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y ffigurau chwyddiant. Roedden nhw'n dangos bod chwyddiant wedi cynyddu, â phrisiau yn codi 3.1 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Awst, ac wrth gwrs mae economegwyr yn rhagweld y bydd y cynnydd hwnnw i chwyddiant yn parhau i godi i dros 4 y cant tua diwedd eleni, yn y misoedd nesaf. Ac mae hynny'n mynd i fod o ganlyniad i'r cap ar brisiau ynni yn codi, a'r cynnydd i brisiau tanwydd cael eu cyflwyno yn y pen draw. Nawr, mae llawer o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu'r brath yn eu pocedi, ac mae angen cymorth arnyn nhw'n daer. Un peth y gallai eich Llywodraeth ei wneud i helpu pobl yma yng Nghymru yw gweithredu ar y dreth gyngor. A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, yn hytrach na gwneud mwy o alwadau am fwy o rym, pam na wnewch chi helpu pobl gyda'u gofynion treth gyngor? Pam nad wnewch chi sefydlu cap ar dreth gyngor a deddfu, gyda'r pwerau sydd gennych chi eisoes, fel bod pobl angen refferendwm er mwyn rhoi llais i drigolion lleol am unrhyw gynnydd uwchben y cap hwnnw?
Rwy'n deall bod arweinydd y Ceidwadwyr eisiau copïo polisi yn Lloegr. Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn sy'n gweithio i Gymru ac mae'n ymwneud â'r hyn sy'n gweithio i dalwyr y dreth gyngor, Lywydd, ac yn fater o'r hyn sy'n gweithio o fewn ffiniau cyllid Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n atgoffa'r Senedd y byddwn ni'n wynebu toriad termau real i'r gwariant o ddydd i ddydd sydd gennym ni ar gael yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r dreth gyngor yn cael ei phennu, wrth gwrs, gan awdurdodau lleol ac mae'n bwysig ei bod. Hoffwn atgoffa'r Aelod ein bod ni wedi gwneud yn siŵr, mewn cytundeb cyllideb diweddar cyn i ni ddod i rym, bod llinell sylfaen ar gyfer cynnydd i gyllid ar gyfer cynghorau, a rhan fawr o hynny oedd amddiffyn talwyr treth gyngor, yr wyf i'n cytuno sy'n rhywbeth sydd wir yn bwysig iawn, iawn.
Wyddoch chi, roeddwn i'n gwrando ar y radio y bore yma a chlywais un o'r sylwebwyr yn siarad am y ffaith ei bod hi'n wythnos wael i NATS; roeddwn i'n meddwl eu bod nhw'n siarad am nats Cymru, ond mewn gwirionedd, roedden nhw'n siarad am y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol, fel mae'n digwydd, a'r anhrefn yn ein meysydd awyr. [Chwerthin.]
Un o'r pethau yr wyf i eisiau ei weld yw tegwch i dalwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Rydych chi'n sôn yn aml am yr angen am gyllid teg rhwng setliad Cymru a Lloegr—rwy'n deall hynny, rwy'n deall hynny'n llwyr ac rydym ni'n eich cefnogi ar gyllid teg—ond mae angen cyllid teg arnom ni yng Nghymru ac mae angen tegwch arnom ni o ran biliau'r dreth gyngor i bobl sy'n gorfod mynd i drafferthion i'w talu bob blwyddyn. Mae'r bil treth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru wedi codi mwy na £600 dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae rhai trigolion wedi wynebu cynnydd o dros 50 y cant dros y cyfnod hwnnw. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae angen gweithredu brys i amddiffyn pobl rhag y mathau o gynnydd gormodol y mae rhai pobl wedi bod yn eu hwynebu. Felly, a gaf i eich annog chi eto: cyflwynwch gap, deddfwch fel bod yn rhaid i bobl gael refferendwm ar gyfer unrhyw beth uwchlaw'r cap hwnnw a gwnewch un peth arall hefyd—gadewch i ni gael adolygiad, adolygiad annibynnol, yn wirioneddol annibynnol ar fformiwla cyllido llywodraeth leol, i wneud yn siŵr bod cyllid teg i bob rhan o Gymru, nid lleoedd a ffafriwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol yn unig.
Gadewch i ni fod yn gadarnhaol a chanolbwyntio ar y pethau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw. Yn sicr, rydym ni eisiau adolygu, a chan edrych ar fy Ngweinidog Cabinet llywodraeth leol, mae hynny'n rhywbeth sy'n digwydd o dan y Llywodraeth hon, oherwydd mae'n bwysig bod pobl yn deall ac yn teimlo bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Gymru yn deg.
Yr elfen arall yr wyf i'n cytuno ag ef arni yw bod angen cyllid teg arnom i Gymru. Rydym ni wedi byw o dan Lywodraethau Ceidwadol olynol a Llywodraethau Llafur bellach sydd dal ddim yn ymgysylltu ar yr angen hwnnw i gael y pethau sylfaenol iawn o ran cyllid teg i Gymru. Ac allwch chi ddim gwahanu'r ddau. Mae'n wirionedd absoliwt y bydd diffyg cyllid teg ar y brig yn dod i lawr yn y pen draw i'r arian ym mhocedi pobl ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys trwy bwysau ar dreth gyngor. Rydym ni eisiau gallu helpu mewn llawer o ffyrdd y gallwn.
Ac ar y cychwyn slic braidd, os ydych chi'n mynd i ddweud ei bod hi'n wythnos wael i nats, dylech chi ddewis wythnos sy'n wythnos wael i'r Llywodraeth hon. Rydym ni ar fin cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu, sydd â'r bwriad o drawsnewid Cymru, rhoi'r gwasanaeth iechyd ar sail fwy cadarn, codi safonau addysg, haneru'r bwlch cynhyrchiant hwnnw gyda gweddill y DU, creu cyfleoedd gwaith gwych, y cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU wrth ymdrin â thlodi plant, a sefyll yn gadarn dros Gymru, bob amser, sy'n rhywbeth nad wyf i'n ei glywed gan unrhyw blaid arall yn y Siambr hon.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd garw ac eithafol y gaeaf hwn? OQ64508
Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn cytuno â mi bod y dystiolaeth yn eglur: mae newid hinsawdd yn cynyddu amlder a dwysedd tywydd eithafol. Rydym ni wedi ymrwymo i greu cymunedau cryfach, mwy gwydn ledled Cymru yn y cyd-destun newidiol hwnnw. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys drwy fforwm gwytnwch Cymru a fforymau gwytnwch lleol i baratoi ar gyfer risgiau'r gaeaf, i gryfhau trefniadau ymateb ac i ddysgu o ddigwyddiadau tywydd eithafol diweddar. Rydym ni hefyd yn gwneud cymunedau yn fwy gwydn yn erbyn llifogydd trwy fuddsoddiad parhaus mewn seilwaith ac atebion sy'n seiliedig ar natur.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad yn dweud y byddwch chi'n cynnull uwchgynhadledd wydnwch sy'n canolbwyntio ar danau gwyllt—i'w groesawu'n fawr. Eto, mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer holl risgiau cynyddol hinsawdd sy'n newid. Mae hyn yn cynnwys oerfel eithafol, llifogydd gaeaf a stormydd difrifol yn ystod gaeaf nesaf hwn. Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am risg uwch ar y gorwel oherwydd digwyddiad El Niño digynsail eleni, y tynnwyd sylw ato dim ond ddoe mewn penawdau arswydus ddoe, yn cofnodi torri recordiau 150 mlynedd o recordiau. Bydd gwendidau yn ein seilwaith a'n gwydnwch, fel y gwelwyd yn ddiweddar yng Ngwaelod-y-garth, ddim ond yn dod yn fwy amlwg yn y misoedd nesaf.
Mae Cymru'n beryglus o amharod ar gyfer yr ymosodiad a ragwelir o amodau tywydd eithafol. Mae'n rhaid integreiddio ymateb i'r hinsawdd fel ein llinell amddiffyn gyntaf. Dim ond £1 filiwn wnaeth Llywodraeth Cymru ei ddyrannu yn ei chyllideb atodol ar gyfer parodrwydd ar gyfer argyfwng. Byddai sefydlu cronfa sioc hinsawdd yn gam hanfodol ymlaen i ddangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â diogelu cymunedau y gaeaf hwn, gyda neu heb gymorth Llywodraeth y DU. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ar ariannu'r mesurau brys hyn? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n credu bod y byd yn amharod i raddau helaeth ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu. Y cwestiwn yw sut allwn ni gyflymu ein parodrwydd. Byddwch yn gweld yn y rhaglen lywodraethu heddiw nad yw newid hinsawdd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth ynddo'i hun; mae'n un o'r blaenoriaethau sy'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd fel Gweinidogion Llywodraeth, oherwydd mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn ar draws pob portffolio.
Mae gwydnwch—siaradais am hyn yr wythnos diwethaf—yn fater yr wyf i wedi ceisio canolbwyntio'n fawr iawn arno ers i mi ddechrau swydd y Prif Weinidog, gan ddeall y gwahanol elfennau sy'n cyfrannu at y gwydnwch, neu'r diffyg gwydnwch, mewn rhai ffyrdd, sydd gennym ni fel cymdeithas. Yn digwydd bod, tanau gwyllt yw'r un sydd wedi dal ein sylw, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n tynhau'r elfennau gwydnwch hynny o gwmpas hynny yn yr uwchgynhadledd ar 22 Hydref. Ond mae'r Aelod yn iawn; mae llifogydd yn rhywbeth y bydd llawer o gymunedau yn poeni amdano. Ceir pryderon eraill hefyd—effeithiau gwres, effeithiau oerfel ac yn y blaen.
Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n gweithio arno ledled y DU. Rwyf i eisiau sicrhau (a) bod Cymru yn cael ei chyfran deg o gyllid gwydnwch, cyllid argyfyngau sifil posibl, ledled y DU, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n awyddus i fynd ar ei drywydd. Ond rwy'n rhoi fy ngair i'r Aelod y byddaf i'n edrych ar sut rydym ni'n gweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gael y cymorth sydd ei angen ar Gymru i baratoi ar gyfer yr amrywiaeth eang hon o fygythiadau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol.
Brif Weinidog, rwy'n cydnabod bod £85 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd eleni, ond mae ymchwiliad Rhondda Cynon Taf i storm Dennis wedi canfod bod Blaenllechau wedi dioddef llifogydd o'r llethr serth uwch ei ben, y gallai torri coed ar goetir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi cyfrannu at ddŵr wyneb ffo, a bod modelu wedi awgrymu nad oedd gan dri o'r pedwar rhwydwaith cwlfertau gapasiti digonol. Ym mis Awst eleni, llosgodd tanau gwyllt mawr tua 150 hectar o fynydd Llanwynno, uwchben Blaenllechau a Glynrhedynog. Felly, cyn i law y gaeaf gyrraedd, a wnewch chi sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a RhCT yn cynnal archwiliad cydgysylltiedig o'r llethr hwnnw, ei ddraeniad a'i gwlfertau, gyda'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn gwirio unrhyw domenni glo categori uwch perthnasol o fewn neu islaw'r ardal honno yr effeithiwyd arni, ac adrodd ar y canfyddiadau ac unrhyw waith adfer sydd ei angen i'r Senedd erbyn diwedd mis Hydref? Diolch.
Mae, wrth gwrs, rhaglen barhaus o waith y mae angen ei wneud, rhywfaint ohono o dan nawdd Llywodraeth Cymru neu ei hasiantaethau, Cyfoeth Naturiol Cymru, rhywfaint sy'n gyfrifoldeb awdurdodau lleol. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth, wrth i ni wynebu heriau'r gaeaf, fod angen ail-wirio cadernid y mesurau hynny sy'n cael eu rhoi ar waith. Byddwn yn dweud, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod eich cwlfertau yn gallu delio â dŵr ffo, bod cwestiynau ac arloesiadau eraill y mae angen i ni fod yn edrych arnyn nhw o ran sut rydych chi'n arafu'r dŵr ffo hwnnw. Yn amlwg, mae tywydd poeth—tir caled—yn gwneud y sefyllfa'n anoddach. Mae gen i ddiddordeb mawr yn sut rydym ni'n rheoli'r tir, gan weithio gyda ffermwyr i geisio cyfyngu dŵr ffo, ac yn y blaen.
Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol nad oes un ateb, nid oes unrhyw fesurau unigol y gellir eu cymryd wrth i ni wynebu'r bygythiadau hyn. Maen nhw'n lluosog, ac mae'r angen i fod yn strategol yn y ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn yn bwysig, a dyna pam mae'r uwchgynhadledd tanau gwyllt, yn arbennig, yn edrych ar y bygythiad hwnnw, yn dod â chynifer o wahanol bartneriaid a fydd yn gallu cyfrannu at wneud ein gwydnwch gymaint cryfach. Ond rwy'n siŵr y bydd eich neges wedi cael ei chlywed gan yr awdurdodau lleol ac eraill heddiw.
Brif Weinidog, mae sir Fynwy wedi wynebu llifogydd trychinebus yn y blynyddoedd diwethaf, ac roeddwn i'n falch eich bod chi wedi gallu ymweld â Threfynwy a'r Fenni cyn etholiadau'r Senedd i siarad â rhai o'r bobl leol yr effeithiwyd arnyn nhw, yn ogystal â'r rhai sy'n dod o hyd i atebion—atebion hirhoedlog—i fyny'r afon. Bydd y golygfeydd o lifogydd y llynedd, yn enwedig y rhai o Drefynwy, wedi'u hysgythru yng nghof pawb a'u gwelodd am amser maith. Mae'r digwyddiadau unwaith mewn 100 mlynedd hyn yn dod yn fwyfwy aml, ac mae'n rhaid i ni dybio bellach y gallen nhw ddigwydd ar unrhyw adeg. Fel yr ydym ni wedi clywed, mae'r digwyddiad El Niño ar y gorwel, â digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu rhagweld eisoes, felly, gyda hyn mewn golwg, sut mae'r Llywodraeth yn gwella parodrwydd ar gyfer llifogydd ar gyfer y gaeaf hwn? Ac yn y tymor hwy, sut allwn ni ddysgu o brofiadau trigolion sir Fynwy i wella gwaith rheoli llifogydd i'w cymuned ac i Gymru gyfan? Diolch.
Roeddwn i'n falch, ynghyd â'r Aelod, o siarad â rhai o'r unigolion a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd eithaf ofnadwy y gwnaethon nhw eu dioddef yn Nhrefynwy. Mae'r Aelod yn iawn ei fod yn fater o ddysgu gwersi. Nid yw'n fater o lanhau yn unig; dyna'r cam cyntaf. Mae'n fater o geisio gwneud yn siŵr bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer yr ardaloedd hynny er mwyn osgoi ac atal llifogydd, ond gwersi i fannau eraill hefyd, ac rwy'n gwybod bod Cyngor Sir Fynwy yn paratoi ei adroddiad ymchwiliad llifogydd adran 19 yn dilyn dinistr storm Claudia, ac mae'r adroddiad ymchwilio i lifogydd bron wedi'i gwblhau, rwy'n deall, a bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref. Ond, ble bynnag y mae'r llifogydd hynny, mae'r pethau hynny i'w dysgu yn rhai y gallwn ni geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n berthnasol mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.
Brif Weinidog, fy wnaeth fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, ofyn i chi, yn ystod eich datganiad llafar yr wythnos diwethaf, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno cronfa gwydnwch hinsawdd i'n helpu i liniaru effeithiau tywydd eithafol. Wnaethoch chi ddim ei hateb yn uniongyrchol, ac wnaethoch chi ddim ateb Anthony Slaughter chwaith pan gododd bwynt tebyg iawn yn ei gwestiwn agoriadol. Nawr, mae cefnogaeth eang i hyn gan randdeiliaid yr ydym ni ar feinciau Llafur Cymru wedi ymgysylltu â nhw dros doriad yr haf. A gydag adnoddau ar gyfer asiantaethau sy'n ymwneud â mesurau lliniaru newid hinsawdd wir yn cael eu hymestyn, mae hon yn un ffordd o ddiogelu'r cyllid hwnnw a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddyrannu yn y ffordd gywir. Felly, a yw hyn yn rhywbeth y gall eich Llywodraeth ystyried ei sefydlu cyn eich uwchgynhadledd tanau gwyllt fis nesaf?
Dim ymgais i osgoi'r cwestiwn. Mae nifer, i bob pwrpas, o gronfeydd, onid oes, y gall Llywodraeth fanteisio arnyn nhw i ymdrin ag argyfyngau. Yr hyn yr ydych chi eisiau ei wneud yn siŵr yw bod y cronfeydd hynny eu hunain yn wydn. Rwy'n hollol barod i ystyried a allwn ni ddod â chyllid at ei gilydd mewn un lle, yn yr un modd ag y mae'r Llywodraeth yn edrych ar sut y gallwn ni roi cronfeydd iechyd ataliol o dan un faner, fel y gallwn ni fesur yn well beth yw gwahanol elfennau y galluoedd ariannu hynny. Felly, yn hollol barod i ystyried hynny. Yn y pen draw, mae'n fater o wneud yn siŵr bod gennym ni'r arfau i wneud y gwaith sydd ei angen arnom ni. Mae mwy nag un ffordd o wneud hynny, ond gadewch i ni roi hynny yn y gymysgedd hefyd.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu strategaeth fwyd genedlaethol newydd? OQ64561
A wnaiff y Prif Weinidog egluro'r cynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar gyfer strategaeth fwyd a sut y gall hynny ddechrau lliniaru tlodi bwyd yn Afan Ogwr Rhondda?
Dwi yn falch iawn bod cynnydd sylweddol a chynnar wedi cael ei wneud ar ddatblygu ein strategaeth fwyd genedlaethol newydd ni. Mae gweithgor arbenigol wedi cael ei ffurfio yn barod, a chylch gorchwyl wedi’i gyhoeddi. Mae yna gynlluniau ar waith hefyd i fwrw ati i gynnal trafodaethau ar unwaith ar fwyd mewn ysgolion, sydd yn bwysig, cynnyrch garddwriaethol bwytadwy, a'r gadwyn gyflenwi cig. Mi fydd yna ddau adroddiad interim yn cael eu cyhoeddi cyn yr adroddiad terfynol erbyn hydref y flwyddyn nesaf.
Diolch, Brif Weinidog. Dros gyfnod yr haf, dwi wedi cwrdd â nifer o sefydliadau sy'n ymwneud â thlodi bwyd a diffyg diogeledd bwyd. O ddarpariaeth rheng flaen i bantrïoedd cymunedol, cynlluniau a chynlluniau tyfu, mae pawb yn dweud yr un peth: mae nifer y bobl sy'n gweithio ac yn defnyddio'r adnoddau hyn yn cynyddu, mae cyfraniadau'n lleihau, ac mae grwpiau o bobl sydd erioed wedi gofyn am gymorth o'r blaen yn dechrau gwneud hynny nawr. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymgysylltu â'r sefydliadau lleol hyn, sy'n gweld yr effeithiau ar lawr gwlad, wrth ddatblygu ei strategaeth fwyd genedlaethol?
Dwi'n falch iawn o gael y cwestiwn yna. Mae’n fodd i egluro mymryn am sut mae’r grŵp yn mynd i fod yn gweithredu. Mae pedwar piler i'r gwaith: un ohonyn nhw yr amgylchedd, un ohonyn nhw yr economi a datblygu gwledig, mae yna elfen diogelwch bwyd, a'r elfen arall ydy iechyd a llesiant. Rydym ni'n gallu gweld yn fanna, onid ydyn, lle mae angen gwneud yn siŵr bod grwpiau lleol yn gallu bwydo i mewn i hyn. Mae'r grŵp gweithredu'n cynnwys partneriaeth fwyd leol er mwyn gwneud yn siŵr bod llais sefydliadau cymunedol yn cael ei glywed. Felly, mae o'n rhywbeth roedden ni'n benderfynol o adeiladu i mewn i'r gwaith yma o'r dechrau, am rai o'r rhesymau roedd yr Aelod yn cyfeirio atyn nhw.
Diolch. Alun, fe wnaethoch chi ymestyn y cwestiwn rhyw fymryn o'r hyn a oedd ar y papur trefn, dim ond i fod yn ymwybodol, oherwydd nid cwestiwn penodol i Afan Ogwr Rhondda yw hwn. Felly, a gaf i ddod â Claire Johnson-Wood i mewn nawr i esbonio pam?
Diolch. Brif Weinidog, yr hyn sydd ei angen ar ffermwyr Cymru yw Llywodraeth sy'n deall ac yn blaenoriaethu, nid 'panel arbenigol' arall sy'n cicio'r can i lawr y ffordd. O ystyried bod y cynllun ffermio cynaliadwy o dan weinyddiaeth flaenorol Llafur-Plaid Cymru wedi cynyddu cymhlethdod rheoleiddio yn sylweddol, a all Llywodraeth Cymru roi sicrwydd, os gwelwch yn dda, na fydd y strategaeth fwyd genedlaethol yn cyflwyno beichiau biwrocrataidd ychwanegol ar ffermwyr a chynhyrchwyr nad oes eu hangen arnyn nhw ar hyn o bryd?
Dydw i ddim wedi clywed unrhyw un yn cyhuddo'r Gweinidog amaethyddiaeth hwn, y Gweinidog gwydnwch gwledig hwn, o gicio unrhyw gan i lawr y ffordd o ran cefnogi'r sector amaethyddiaeth. Clywais ddim byd ond ochenaid o ryddhad gan sector sy'n credu bod ganddyn nhw Lywodraeth sy'n barod i ymgysylltu ag ef mewn ffordd gadarnhaol, sicrwydd y dros £1 biliwn hwnnw yn ystod y Senedd hon er mwyn rhoi sicrwydd a hyder i'r sector. Ac o ran ble maen nhw'n ffitio i mewn i'r strategaeth fwyd, maen nhw'n aelodau o'r gweithgor sy'n dod â'r strategaeth fwyd hon at ei gilydd, ac fel y dywedais i, datblygu gwledig a'r economi, sy'n cynnwys amaethyddiaeth, yw un o gonglfeini craidd y gwaith hwn yr ydym ni'n ymgymryd ag ef.
Nesaf—. Mae'n ddrwg gen i. Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rwy'n croesawu'r strategaeth fwyd, ac roeddwn i'n falch o ddarllen y cylch gwaith a gyhoeddwyd ar ei gyfer yr wythnos diwethaf, ac edrychaf ymlaen at y panel arbenigol yn cael ei sefydlu. Rwy'n rhwystredig mewn sawl ffordd ein bod ni wedi colli pedwar mis oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth sydd ei hangen o amgylch y maes hwnnw wedi bod ar waith, oherwydd mae tebygrwydd enfawr rhwng yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig a'r hyn yr oeddwn i'n ei ystyried flwyddyn neu ddwy yn ôl. Yn rhan o'm cynigion bryd hynny, roedd targedau eglur, mesuradwy yn erbyn nodau bwyd. A allwn ni ddisgwyl gweld targedau gwirioneddol gadarn, mesuradwy yn erbyn eich colofnau bwyd, ac a gaf i ofyn i chi: a fyddech chi'n ystyried angori eich strategaeth fwyd mewn deddfwriaeth, gan gydnabod y pwysigrwydd y bydd hyn yn ei gael i'n cenedlaethau yn y dyfodol?
A gaf i dalu teyrnged, Lywydd, i'r gwaith y mae'r Aelod wedi ei wneud yn y maes hwn i geisio cyflwyno darn o ddeddfwriaeth a fyddai'n sail i sector bwyd cadarn ac yn diogelu materion yn ymwneud â chynhyrchu bwyd a maeth ac yn y blaen yng Nghymru? Nid ydym ni wedi colli pedwar mis, wrth gwrs, oherwydd mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill. Roedd hwn yn un o gamau cynnar y Gweinidog, i benodi cadeirydd. Mae'r gwaith yn parhau.
Nid wyf i'n mynd i fod yn rhagnodol o ran dweud wrth gadeirydd sy'n llawer mwy o arbenigwr yn y maes hwn nag wyf i am y dull y dylai ei fabwysiadu. Rydych chi'n gwybod sut un wyf i: rwy'n tueddu i fabwysiadu'r dull o, 'Gadewch i ni weld beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ni.' Os oes awgrym y gallai deddfwriaeth fod yn rhan o'r dull ar un elfen benodol o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, wel, gadewch i ni eistedd i lawr a gweld sut y gallem ni lunio'r ddeddfwriaeth honno. Ond mae hefyd yn wir, rydym ni'n gwybod, y gallwch chi weithredu heb ddeddfwriaeth. Canlyniadau yw fy mhethau i, yn y pen draw: gadewch i ni symud ymlaen yn y ffordd sy'n rhoi'r canlyniad gorau i ni.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl hŷn gyda chostau byw? OQ64527
Mae cynorthwyo pobl gyda chostau byw, fel yr ydym ni'n gwybod, yn flaenoriaeth wirioneddol i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n sicrhau bod mesurau i fynd i'r afael â thlodi yn adlewyrchu anghenion pobl hŷn ac yn gwneud cymorth i bobl hŷn yn symlach, yn decach a hefyd yn fwy hygyrch. Drwy ein cronfa cymorth mynd i'r afael â thlodi gwerth £4.84 miliwn, bydd awdurdodau lleol yn darparu cymorth argyfwng, gan gynnwys cymorth bwyd brys, ochr yn ochr â chymorth ataliol sydd hefyd wedi'i deilwra i gymunedau lleol, i atal pobl, gan gynnwys pobl hŷn, rhag mynd i dlodi lle gallwn ni osgoi hynny.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Felly, er fy mod i'n cydnabod bod nifer o gynlluniau ar gael, ac roeddwn i'n gwybod y byddech chi'n cyfeirio at rai, wrth gwrs y byddech chi, ond mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dweud wrthym ni fod un o bob chwech o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac un o bob pump yn gwneud heb wresogi a chwarter yn colli prydau bwyd neu'n bwyta llai. Sut gallwn ni ddychmygu'r fath sefyllfa? Mae hyn yn digwydd yng Nghymru. Mae'r ffigurau hyn yn awgrymu, er gwaethaf y cymorth sydd ar gael, bod gormod o bobl hŷn yn dal i gael anhawster, yn enwedig y rhai sy'n byw ar incwm sefydlog a'r rhai a allai fod rhyw fymryn bach oddi wrth fod yn gymwys i gael cymorth prawf modd. Felly, pa gamau pellach y bydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i sicrhau y bydd cymorth yn cyrraedd pobl hŷn mewn gwirionedd, a sut byddwch chi'n mesur a yw'n llwyddo?
Mae'r Aelod yn llygad ei le. Mae canlyniadau arolwg blynyddol 2026 Age Cymru gennyf i yma, ac mae mwy na hanner yr ymatebwyr wedi nodi mai pwysau costau byw yw'r her fwyaf sy'n eu hwynebu—ac i rai, fe fydd honno'n her sylweddol.
Mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud. Fe all y bron i £5 miliwn a gyhoeddwyd yn ystod y dyddiau diwethaf fod o gymorth i bobl sy'n arbennig o agored i niwed. Mae yna lu o faterion ynglŷn â theithio a pharhad teithio ar fysiau ac yn y blaen y gallwn ni eu cyfuno i roi cefnogaeth i bobl hŷn. Ond mae'n rhaid i ni hefyd, o ran y prif bwysau, gydnabod yr angen i bob un ohonom ni yn y fan hon bwyso ar Lywodraeth y DU, yn enwedig o ran tanwydd. Rydym ni wedi cael cwestiwn eisoes ar bwysau cost tanwydd yn ardaloedd cefn gwlad yn arbennig felly. Mae'n rhaid i'r ysgogiadau posibl ddod at ei gilydd i gyd—rhai ohonyn nhw yn ein dwylo ni, ond nid pob un ohonyn nhw. Ac, yn y bôn, mae angen ymagwedd newydd arnom ni hefyd o ran mater cyllid i wasanaethau cyhoeddus oherwydd y bobl fwyaf agored i niwed, sy'n cynnwys pobl hŷn, sy'n ysgwyddo'r baich mwyaf oherwydd hynny.
A gaf i gefnogi'r Aelod yn ei gwestiynau ar y pwnc hwn, Brif Weinidog? Fe wyddom ni fod llawer o bobl hŷn yn cael anhawster gyda chostau byw ar hyn o bryd, ac yn enwedig gydag effaith incwm sefydlog ar lawer o bobl hŷn yn ein cymunedau ni. Fe wyddom ni hefyd, yn hanesyddol, fod pobl wedi gallu cael mynediad at wasanaethau cyngor yn eu cymunedau drwy sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth a sefydliadau rhagorol eraill fel hwnnw, sy'n gallu cefnogi ein pobl hŷn i sicrhau eu bod nhw'n gwneud y defnydd gorau o unrhyw gymorth sydd ar gael iddyn nhw o ran lles a mathau eraill o gymorth hefyd. Felly, tybed, Brif Weinidog, a wnewch chi amlinellu sut yr ydych chi'n ystyried y mathau hynny o wasanaethau yn y dyfodol a pha gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i sefydliadau fel y canolfannau cyngor ar bopeth ar gyfer sicrhau bod y cyngor hwnnw ar gael iddyn nhw mewn da bryd, ac mewn ffordd hygyrch hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Rydym ni i gyd wedi gweithio gyda Cyngor ar Bopeth, gyda CAB, onid ydym ni, ac yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar lawr gwlad ym mhob cwr o Gymru i helpu pobl agored i niwed? Rwy'n cynghori pobl i droi at eich ffrindiau yn CAB. Roedd rhan o'r cyllid a gyhoeddwyd yn ystod y dyddiau diwethaf yn ymwneud yn benodol â chyngor; rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi hynny. Mae £36 miliwn o gyllid grant ar gael ar gyfer y gronfa gynghori sengl ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill y llynedd ac am dair blynedd oddi ar hynny. Mae hynny'n darparu gwasanaethau integredig. Fe fyddwn i'n gobeithio y bydd y rhai sy'n darparu gwasanaethau gyda'r grant hwnnw yn gallu cyrraedd cymaint o bobl ag y gallan nhw. Ond mae'r Aelod yn iawn: mae estyn cyngor i bobl yn allweddol. Rydym ni wedi sicrhau bod rhywfaint o gyllid ar gael rŵan ac rydym ni mor lwcus yng Nghymru i fod â'r partneriaid hynny, ac mewn llywodraeth leol hefyd, sy'n gweithio mor galed ar hyn.
6. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i sicrhau bod costau adfer safleoedd lle mae gwastraff wedi’i waredu’n anghyfreithlon yn cael eu talu gan y rhai sy’n gyfrifol, yn hytrach na chan drethdalwyr? OQ64553
Yn unol â'r egwyddor mai'r llygrydd sy'n talu, y rhai sy'n gyfrifol am weithgarwch anghyfreithlon a ddylai fod yn talu am gostau'r gwaith glanhau. Mae hynny'n wir am ddympio anghyfreithlon heddiw, fel y dylai fod ar gyfer halogiad hanesyddol, os caf i ychwanegu hefyd. Rydym ni wedi ymrwymo, yn y Llywodraeth, i leihau baich dympio anghyfreithlon ar drethdalwyr ac ar dirfeddianwyr, ac mae treth gwarediadau tirlenwi yn sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am waredu heb awdurdod yn talu 150 y cant o'r gyfradd dreth safonol.
Diolch, Brif Weinidog. Yn Fflint Wrecsam, efallai eich bod chi'n ymwybodol bod cymunedau yn dal i ymdrin â gwaddol hanesyddol dympio gwastraff yn anghyfreithlon a'r safleoedd sy'n weithredol ar hyn o bryd sy'n achosi problemau i drigolion yn fy etholaeth i'n barhaus. Dro ar ôl tro, fe welwn ni'r cwmnïau sy'n gyfrifol am y troseddau amgylcheddol hyn yn osgoi atebolrwydd trwy fynd i ddatodiad a cherdded i ffwrdd oddi wrth gostau adferiad. Mae hyn yn golygu mai cymunedau lleol sy'n ymdrin â'r canlyniadau ac yn peryglu y bydd yr arian yn dod o bwrs y cyhoedd i dalu am y gwaith glanhau. Sut mae Llywodraeth Cymru am weithio gyda Llywodraeth y DU, yr awdurdodau lleol a'r cyrff cyhoeddus perthnasol i fynd i'r afael â'r mater parhaus hwn?
Mae hwn yn fater sy'n achosi malltod mewn llawer o gymunedau ac, fel dywedais i, ni ddylai cymunedau orfod ysgwyddo baich canlyniadau troseddau gwastraff, ac ni ddylai'r trethdalwr chwaith, ac rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi rheoleiddwyr i fynd ar drywydd y rhai sy'n gyfrifol. Mae hyn yn fater yr ydym ni'n awyddus i weithio arno gyda Llywodraeth y DU hefyd a chyda Llywodraethau ledled y DU, yn wir. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn dymuno meithrin y cysylltiadau hynny â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi ac yn y blaen, i atgyfnerthu'r gyfundrefn, i gau bylchau a sicrhau nad oes neb yn gallu elwa ar droseddau gwastraff. Wrth gwrs, o ran halogi hanesyddol, rhywbeth sydd wedi cael cyhoeddusrwydd sylweddol yn ddiweddar, mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd pob dull yn cael ei ddefnyddio i ymdrin â hyn, sy'n waddol ôl-ddiwydiannol barhaus i ni.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau lefelau llygredd afonydd yn Sir Gaerfyrddin? OQ64555
Mae fy Llywodraeth i'n benderfynol o wella iechyd ein hafonydd. Rydym ni'n ariannu byrddau rheoli maetholion gorllewin Cymru, sy'n cyflawni camau wedi'u targedu ar draws dalgylchoedd afonydd Tywi, Teifi a Chleddau. Rydym ni'n yn sefydlu grŵp effeithlonrwydd a gwydnwch maetholion newydd hefyd i rymuso arweinyddiaeth genedlaethol ar lygredd maetholion a chydlynu camau ar draws sectorau. Gyda'n gilydd, rydym ni o'r farn y bydd y mesurau hyn yn cefnogi adfer afonydd, yn gwella ansawdd dŵr ac yn meithrin gwydnwch amgylcheddol hirdymor.
Diolch, Brif Weinidog. Mae pobl y mae eu bywoliaethau yn dibynnu ar afonydd sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys aelodau o Gymdeithas Cwrwglwyr Caerfyrddin, yn dweud wrthym na chawson nhw erioed dymor mor wael, gyda dim ond chwech o sewin yn dychwelyd rhwng misoedd Mai a Mehefin eleni. Mae eu profiad yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid ymdrin â llygredd afonydd gyda llawer mwy o frys. Rwy'n eich annog chi i ddarllen adroddiad diweddar y Gymdeithas Frenhinol ar gymysgeddau cemegol yn ddyfrffyrdd Prydain. Dyfyniad: 'Mae rheoleiddwyr yn hedfan yn ddall.' Diwedd y dyfyniad.
Yn sir Gaerfyrddin, mae'n ymddangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn hedfan yn ddall hefyd. Mae ein hafonydd ni'n cael eu halogi gan gymysgeddau cemegol niweidiol, sy'n cynnwys sylweddau organig, amonia, microblastigau, cadmiwm a mercwri, ac nid oes unrhyw ddealltwriaeth o'u rhyngweithiadau na'r niwed a wneir. A wnewch chi gydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun credadwy i lanhau ein hafonydd, a nodi sut y bydd yn cyflawni ei dyletswydd wleidyddol i warchod ein dyfroedd a'n hafonydd a'n hardaloedd cadwraeth arbennig?
Mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo, ac mae'n bwysig iawn fod hynny'n digwydd. Fe wyddom fod llygredd mewn afonydd, llygredd yn y môr, yn rhywbeth sy'n peri pryder gwirioneddol i bobl ledled Cymru, ac yn sicr i minnau. Fe fydd y weledigaeth ar gyfer sector dŵr diwygiedig i Gymru yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn yr hydref, ac felly rydym ni'n nesáu at y pwynt hwnnw y bydd gennym ni fan cychwyn i symud ymlaen oddi wrtho. Fe wyddom ni fod sawl achos i lygredd mewn afonydd. Mae hyn yn gofyn am weithredu ar draws pob sector. Mae'n cynnwys diwydiant, mae'n cynnwys amaethyddiaeth, mae'n cynnwys y cwmnïau dŵr eu hunain. Mae'n cynnwys sicrhau bod rheoleiddio da, cadarn, gennym ni, a wnaed yng Nghymru—dyna yr wyf i'n ei ddymuno. Drwy fod â'r ymagwedd honno fe allwn ni symud ymlaen at gael afonydd glanach yng Nghymru.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG ym Mlaenau Gwent Caerfilli Rhymni? OQ64559
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £145 miliwn i helpu'r byrddau iechyd i fyrhau amseroedd aros a hwyluso mynediad at driniaeth. Mae hyn yn cefnogi cyflawni ein cynllun gofal a gynlluniwyd, sy'n nodi dull a arweinir yn glinigol o ran diddymu'r arosiadau hwyaf, cynyddu capasiti a gwella canlyniadau. Mae grŵp arbenigol yn cynghori hefyd ar ddatblygu hyd at 10 canolfan lawfeddygol a diagnosteg i ddarparu gofal i gleifion yn fwy cyflym ac effeithlon, gan gynnwys y rhai ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Brif Weinidog, mae etholwr wedi dod ataf i sy'n methu â gweithio erbyn hyn am fod ganddo hernia. Mae wedi bod yn aros bron i 36 wythnos am ei lawdriniaeth. Mae'n byw mewn poen. Mae'n teimlo bod hyn yn effeithio ar ei fywyd teuluol, ei berthynas â'i blant, y cyfan oherwydd ei fod yn aros i gael ei weld. Yn ystod yr etholiad, fe wnaethoch chi edrych i lens camera a dweud wrth bobl Cymru y bydd y rhestrau aros hyn yn gweld effaith o fewn misoedd. Fe wnaethom ni ddysgu yn ystod y toriad oddi wrth eich Gweinidog iechyd y gallai hynny gymryd misoedd hyd at flynyddoedd. [Torri ar draws.] Felly, a oedd y Gweinidog yn anghywir pan ddywedodd y bydd rhestrau aros yn cymryd blynyddoedd i'w datrys? Dyna a ddywedodd. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrth bobl Cymru? A ydych chi'n difaru dweud mai misoedd fydd hi, oherwydd o adroddiadau'r wythnos diwethaf, mae rhestrau aros yn cynyddu ac nid yn lleihau? Felly, a wnewch chi ymddiheuro i bobl Cymru am eich datganiad ar adeg yr etholiad?
Dyna'n union yr wyf wedi'i ddweud drwy gydol yr amser. Mae hwn yn fater difrifol sy'n golygu ein bod ni'n ei roi ar ben y rhestr o'n blaenoriaethau ni wrth ddod i mewn i'r Llywodraeth. Roedd hynny ar goll braidd yn addewidion Reform ar gyfer y Llywodraeth, pe bydden nhw yn y sefyllfa hon. Rwyf wedi dweud o ran yr arosiadau mwyaf eithafol o fwy na dwy flynedd bod yn rhaid iddyn nhw orffen. Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu dileu. Fe ddywedais i y byddan nhw'n gorffen ymhen misoedd. Hynny yw, flwyddyn wedi dod i mewn i'r Llywodraeth y bydden nhw'n mynd. Misoedd yw hynny. Wel, nid yw misoedd yn fwy na blwyddyn. Felly, flwyddyn ar ôl i ni ddod i mewn i'r Llywodraeth, rwy'n disgwyl iddyn nhw fod wedi mynd. Rwy'n cadw at yr hyn a ddywedais i drwy gydol yr amser, iawn?
Rwy'n ystyried mai dechrau ar y gwaith yr ydym ni nawr. Ym mis Mai y daethom ni i mewn i'r Llywodraeth. Rydym ni wedi cael dau fis o ffigyrau. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydym ni wedi dechrau rhoi arian i mewn a fydd, ymhen misoedd, yn dod â'r buddion i ni, nid i ni Aelodau'r Senedd, ond i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu nhw: pobl sydd ar restrau aros hir ac na ddylen nhw fod, staff ar draws y byrddau iechyd sy'n dyheu am allu rhoi gofal a pheidio â chael eu gorfodi i weld y rhai y maen nhw'n poeni amdanyn nhw yn aros am ddwy flynedd neu fwy. Rydym ni'n cadw at yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud. Rwyf i wedi dweud hynny drwy'r amser. Rwy'n dweud hynny unwaith eto heddiw.
9. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod menywod yn gallu cael mynediad at gyfleoedd mewn sectorau twf mawr, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, ynni glân, a thechnoleg gwybodaeth? OQ64494
Bwriad ein cenhadaeth cynhyrchiant, fel Llywodraeth, yw datgloi doniau'r gweithlu cyfan, a sicrhau bod cyfleoedd economaidd i'w cael ym mhobman a'u bod yn agored i bawb. Ein nod yw gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant, ac eraill, i sicrhau bod menywod yn gallu mynd i sectorau fel gweithgynhyrchu uwch, ynni glân a thechnoleg ddigidol lle, wrth gwrs, mae gan lawer o fenywod ddylanwad enfawr eisoes, a symud ymlaen ynddynt.
Brif Weinidog, diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n croesawu bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sectorau twf a'i hymrwymiad i degwch yn y gweithle. Ond i sicrhau, yn y Cymoedd yr wyf i'n eu cynrychioli, bod menywod yn elwa ar y cyfleoedd hyn yn uniongyrchol, a wnewch chi helaethu ar sut y byddwch chi'n cytuno i weithio ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol a phartneriaid mewn diwydiant i archwilio'r llwybrau prentisiaeth sy'n cael eu targedu at fenywod yn hen Gymoedd y meysydd glo yma, os gwelwch chi'n dda?
Mae'n sicr yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda chyflogwyr, yr awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant ac eraill i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i fenywod yn y sectorau hyn. Rydym ni'n awyddus i ragor o fenywod fod â mynediad at brentisiaethau, i ddatblygu sgiliau lefel uwch a symud ymlaen i yrfaoedd â chyflog da yr oedd llawer o fenywod yn credu eu bod yn gaeedig iddyn nhw ychydig amser yn ôl. Wel, dydyn nhw ddim ar gau i unrhyw fenywod, a thrwy gyfrwng prentisiaethau, Gyrfa Cymru, Cymru'n Gweithio, rydym ni'n helpu menywod mewn cymunedau fel Blaenau Gwent Caerffili Rhymni i nodi'r cyfleoedd a'r uchelgais ar gyfer cynyddu cyfranogiad menywod mewn gweithgynhyrchu uwch, ynni digidol ac ynni glân. Dyna'r math o Gymru yr ydym ni ei heisiau, lle mae'r cyfleoedd yn wirioneddol agored i bawb. Mae rhai arwyddion cadarnhaol wedi bod, ond mae gennym ni fwy eto i'w wneud.
Ac yn olaf, Brif Weinidog, cwestiwn 10, Cai Parry-Jones.
10. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026? OQ64560
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r Pwyllgor Busnes i sicrhau bod Aelodau y mae eu hymddygiad yn brin iawn o fod yr hyn a ddisgwylir gan gynrychiolwyr etholedig yn cael eu dwyn yn gadarn i gyfrif.
Diolch, Brif Weinidog. Mae rhan o'r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd ar eich Llywodraeth chi i gyflwyno rheolau sy'n gwahardd datganiadau o ffeithiau anwir neu gamarweiniol, sy'n cael eu gwneud cyn neu yn ystod etholiad, i effeithio ar bwy sy'n cael ei ethol. Mae'n caniatáu hefyd i'ch Llywodraeth chi nodi'r hyn y mae datganiad o ffaith yn ei olygu neu beidio. Os yw'n wir, mewn gwirionedd, fod ymgeisydd yn camgynrychioli ei gredoau eu hunain i ennill pleidleisiau, a bod hynny'n dod yn amlwg ar ôl y diwrnod pleidleisio, a fydd eich Llywodraeth yn trin hynny fel datganiad o ffaith anwir?
Cwestiwn grawnwin surion yw hwn, Lywydd, rwy'n credu. Rwy'n credu mai cyfeirio y mae at benderfyniad a wnaeth Aelod o'r Senedd hon a welodd ymagwedd newydd tuag at wleidyddiaeth. Plaid yw hon a gamarweiniodd bobl yn y bleidlais Brexit. Mae'n gwybod popeth am gamarwain pobl. Rwyf i a fy Llywodraeth yn sefyll wrth y penderfyniad i sicrhau bod gennym ni wleidyddiaeth onest yng Nghymru, y math sy'n ymddangos yn ddieithr iawn i lawer ar ei feinciau o.
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Rydw i'n siarad nawr yn araf iawn—
—wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am ymddangosiad y Cwnsler Cyffredinol ar y meinciau. Pe gwnaiff yr Aelodau ddal eu gafael am eiliad, cyn gynted ag y byddwn ni'n barod, fe fyddwn ni'n dechrau.
Symudwn nawr at eitem 2, cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Cwestiwn 1, Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Gwnsler Cyffredinol.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau cyfreithiol i ymyrryd mewn penderfyniadau ad-drefnu gwasanaethau a wneir gan fyrddau iechyd lleol? OQ64489
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'i phryderon hi ynglŷn ag ailgyflunio yn yr ardal y mae hi'n ei chynrychioli, ond mater i fyrddau iechyd lleol yw hwn, gan mai y nhw sy'n gyfrifol am benderfyniadau i ailgyflunio gwasanaeth ac am ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid, sy'n cynnwys Llais. Nid Gweinidogion Cymru yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion o'r fath yn ôl yr arfer. Yn gyffredinol, dim ond pan fyddai tystiolaeth o bryderon sylweddol ynghylch prosesau i wneud penderfyniadau, llywodraethu, cydymffurfiaeth statudol neu ddiogelwch cleifion, yn hollbwysig, y byddai ymyrraeth yn cael ei hystyried.
Diolch am yr ymateb.
Mae adrannau 26 i 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn eglur iawn yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ymyrryd pan fo bwrdd iechyd yn methu â chyflawni ei swyddogaethau yn ddigonol, a diarddel aelodau'r bwrdd, ac fe welsom ni hynny yn y tymor Seneddol diwethaf. Mae adran 12 o'r un Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion gyfarwyddo byrddau iechyd ar eu swyddogaethau yn fwy cyffredinol. Er bod rhywfaint o ddryswch ynglŷn â Deddf 2006, a'r Bil gofal cymdeithasol yn 2020, roedd Vaughan Gething yn gymharol eglur ar y pryd nad oedd y Bil yn effeithio ar bwerau Gweinidogion dan adrannau 26 hyn 28. Mae hynny'n dipyn o lond ceg, rwy'n ymwybodol, o lawer o adrannau. Rwy'n gofyn am ateb eglur, ac rwy'n hapus iawn i gael ymateb ysgrifenedig i hyn: a oes unrhyw beth yn y gyfraith sy'n atal Gweinidogion Cymru rhag ymyrryd dan adrannau 26 i 28 pryd bydd bwrdd wedi colli hyder y cyhoedd fel hyn, neu ai'r gwir yw y gallai Gweinidogion weithredu a'u bod yn dewis peidio â gwneud hynny? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n diolch iddi hi am y cwestiwn pellach hwnnw, ond y gwir amdani yw bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi bod yn eglur iawn y bydd yn rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer newid gwasanaeth gael eu llywio gan dystiolaeth a chan roi sylw llawn i ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion. Yn ogystal â hynny, fe ddisgwylir y bydd y byrddau iechyd yn ymgysylltu â phobl mewn ffordd agored a thryloyw ynglŷn â newidiadau yn y gwasanaethau hyn. Fel y mae hi'n debyg o fod yn gwybod, mae gan Llais swyddogaeth statudol hefyd wrth gynrychioli barn a buddiannau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd ac fe all godi pryderon ynghylch cynigion i newid gwasanaethau. Rwy'n ailadrodd bod Gweinidogion yn cadw eu pwerau statudol, y cyfeiriodd hi atyn nhw, ar gyfer cyfeirio byrddau iechyd lleol ac ymyrryd yn ffurfiol pan geir methiant o ran llywodraethu, perfformiad ac ymarfer swyddogaethau lleol gan fyrddau iechyd lleol.
Mae'r pwerau hynny, yn amlwg, er mwyn diogelu cleifion a'u bwriad yw mynd i'r afael â phryderon sylweddol ynglŷn â diogelwch cleifion, methiannau o ran ymgynghori neu wneud penderfyniadau, toriadau dyletswyddau statudol neu bryderon llywodraethu yn fwy eang. Felly, gyda pharch, ni fyddai gwrthwynebiad gwleidyddol, pryder gan y cyhoedd neu natur ddadleuol cynnig yn cyfiawnhau ymyrraeth yn arferol. Mae'r pwerau hyn yn amddiffyniadau ar gyfer mynd i'r afael â methiannau gan fyrddau iechyd lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau ac nid yn fecanwaith ar gyfer ailystyried manteision neu anfanteision unrhyw benderfyniad am wasanaeth clinigol. Yn amlwg, dyna'r sefyllfa o ran y gyfraith. Ond fe wnaf i ychwanegu, yn ystod ymgynghoriad, mae'n siŵr o fod yn well aros tan ddiwedd yr ymgynghoriad cyn dechrau pendroni am unrhyw lwybr cyfreithiol posibl.
Fe hoffwn i ddiolch i Jane Dodds am godi'r mater hwn. Mae Powys yn sir wledig fawr a gwasgarog ei phoblogaeth, lle gall diddymu darpariaeth cleifion mewnol gan ysbytai cymunedol olygu teithiau sylweddol bellach i gleifion a'u teuluoedd. Pan fydd bwrdd iechyd yn ystyried ailgyflunio gwasanaeth yn sylweddol, pa ddyletswyddau cyfreithiol sy'n rhaid eu hystyried o ran gwledigrwydd, cydraddoldeb ac argaeledd gwasanaethau? A pha fesurau lliniaru sydd ar gael os nad yw'r dyletswyddau hynny wedi cael eu cyflawni yn briodol?
Ni allaf i ond ailadrodd yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud, ac nid oes amheuaeth fod yr Aelod wedi clywed yr hyn a ddywedais i. Dyna'r hyn a ddywed y gyfraith yn amlwg. Fe fyddwn i, unwaith eto, yn awgrymu iddo y byddai'n well aros am ganlyniad yr ymgynghoriad a phenderfynu wedyn a oedd hwnnw'n ymgynghoriad teg, a oedd yn ymgynghoriad y byddai pobl yn ei ddisgwyl o dan y gyfraith a, beth bynnag fo'r casgliadau, a yw'r casgliadau yn ddiogel i gleifion ac o ran ystyriaethau eraill. Ond rwy'n credu ei bod hi braidd yn gynnar rŵan i ddweud, 'Gadewch i ni chwilio am her', nes bydd yr ymgynghoriad wedi ei gwblhau a'r casgliadau wedi dod iddyn nhw.
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid? OQ64502
Fe ddylai cyfiawnder ieuenctid gael ei ddatganoli i Gymru. Dyna ydy'r peth plaen i'w ddweud. Dylai fod yn gam cynnar pwysig tuag at ddatganoli cyfiawnder yn llawn. Fel man cychwyn, mae diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gael mwy o ddylanwad a chyfrifoldeb am oruchwylio ac ariannu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yma yng Nghymru.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae llawer wedi galw am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru, yn cynnwys comisiwn Brown, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth Blaid Cymru hon hefyd yn dymuno gweld hynny'n digwydd. Ar hyn o bryd, mae plentyn yn y system gyfiawnder yng Nghymru ag un troed yn y ddau fyd. Cafodd ei ysgol, ei ofal iechyd a'i weithwyr cymdeithasol eu datganoli, ac eto nid yw ei lysoedd na'i warchodaeth wedi eu datganoli. Mae'r ymyl garw hwnnw'n golygu bod yna wahanol gyfundrefnau, gwahanol lywodraethau, a'r plentyn yw'r un sy'n tueddu i lithro i'r bylchau. Mae Llywodraeth y DU, fel roeddech chi'n dweud, yn ceisio diwygio'r system cyfiawnder ieuenctid. O fis Ebrill 2027, mae Cymru yn disgwyl cael rhywfaint o gyllid ar gyfer remánd ac ymyrraeth gynnar. Mae hwnnw'n ddechrau. Mae'n gyllid, ond nid yn bwerau. Bydd penderfyniadau ar sut y mae'r system yn gweithio yn cael eu gwneud yn San Steffan o hyd, er mai Cymru fydd yn darparu'r rhan fwyaf o'r sylwedd. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i weithio gyda Chymru, nid o'i hamgylch, ar ddiwygiadau i system y mae Cymru yn ei chyflawni ei hun i raddau helaeth? Diolch.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Mae'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru yn amlwg ac yn blaen, yn fy marn i. Roedd hi'n cyfeirio at y comisiynau amrywiol. Maen nhw i gyd wedi dweud yr un peth. Comisiynau hyd braich oedden nhw ac fe wnaethon nhw benderfynu beth fyddai orau i Gymru, sut y gallem ni gyflawni yn well dros Gymru, a dyna oedd eu casgliad nhw. Roedd y comisiwn yn canfod y byddai datganoli cyfiawnder yn galluogi gwasanaethau mwy ymatebol, cydgysylltiedig ac effeithiol, fel gwnaeth yr Aelod gyfeirio atyn nhw, sy'n cyd-fynd yn well ag anghenion pobl a chymunedau yng Nghymru ac yn integreiddio yn nes â chyfrifoldebau datganoledig fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai. Yn benodol, canfu'r comisiwn diweddaraf y dylai cyfiawnder ieuenctid fod ymhlith y mannau cychwyn ar gyfer datganoli mwy cyflawn. Mae blaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn eglur: lle ceir cyfleoedd i wella'r broses o gyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy sicrhau pwerau pellach, yna fe fyddwn ni'n eu cymryd, i sicrhau bod y sylfeini cywir yn cael eu gosod ar gyfer system sy'n gysylltiedig—y mae'r Aelod yn cyfeirio ato—â system sy'n ataliol ac yn addas i Gymru.
Rwyf am gloi trwy ddweud fy mod i'n cytuno yn llwyr â'i chwestiwn hi. Cafodd safbwynt Llywodraeth Cymru ei gyfleu i'r Gweinidog dros gyfiawnder ieuenctid, Jake Richards. Mae'n bosibl y bydd y diwygiadau sy'n cael eu datblygu gan Lywodraeth y DU yn cynnig cyfle i roi mwy o gyfrifoldeb a dylanwad i Lywodraeth Cymru o ran goruchwyliaeth strategol a chyllid gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol. Ond mae'n bwysig mai'r canlyniad yw bod digon o bwerau a chyfrifoldebau gan Gymru i symleiddio a chreu trefniadau strategaeth, llywodraethu a goruchwylio. Mae ein blaenoriaethau ni'n eglur: lle ceir cyfleoedd i alluogi gwasanaethau mwy ymatebol, cydgysylltiedig ac effeithiol i gyd-fynd â'i gilydd, yna wrth gwrs fe fyddwn ni'n mynd amdanyn nhw. Rwy'n diolch iddi hi am y cwestiwn; mae'n un pwysig. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo.
Gwnsler Cyffredinol, mae yna wahaniaeth sylfaenol rhwng cryfhau cyfiawnder ieuenctid a dim ond ei ddatganoli. Mae dargyfeirio cadarn eisoes yn digwydd yng Nghymru cyn y llys a chyfraddau cymharol isel o ieuenctid yn y ddalfa. Ond mae gwaith cynghori'r Llywodraeth ei hun yn nodi rheolaeth anghyson gan yr heddlu, pwysau staffio, ansicrwydd cyllido a chynnydd mewn gwaharddiadau o ysgolion. Yn wir, fe ofynnodd ei banel cynghori cyfiawnder ieuenctid ef ei hun y cwestiynau y mae'n rhaid i Weinidogion eu hateb: sut y bydd datganoli yn gwella canlyniadau i blant yn hytrach na newid pwy sy'n gyfrifol? Oherwydd nid yw trosglwyddo cyfrifoldeb dros y ffin yn datrys problem. Nid yw newid yr enw ar ddrws yn ddiwygiad. Gwnsler Cyffredinol, pa brawf gwrthrychol a gafodd y Llywodraeth ei chynghori i'w gynnal cyn i bwerau cyfiawnder ieuenctid pellach gael eu datganoli? Os na all Gweinidogion ddangos canlyniadau gwell i blant, dioddefwyr a'r cyhoedd, beth yw'r cyfiawnhad cyfreithiol neu gyfansoddiadol dros drosglwyddo'r pwerau hynny o gwbl?
Mae'r Aelod yn gofyn am brofion cyfreithiol. Fe fyddwn i'n tybio mai'r profion cyfreithiol hynny oedd â'r flaenoriaeth ym meddyliau'r tri chomisiwn yna pan wnaethon nhw benderfynu awgrymu y dylid datganoli cyfiawnder. Un o'r problemau sydd gennym ni, ac fe gyfeiriwyd at honno yn fy ateb i'r cwestiwn blaenorol, yw bod angen cyfrifoldeb cyfunol yn y maes i gyd. Nid dim ond un swyddogaeth mohoni. Nid un gwasanaeth mohono. Mae'n gyfuniad o wasanaethau. Trwy ddatganoli yn y meysydd hyn o dipyn i beth, nid yw hynny'n gwneud dim i'r gwasanaethau ac, yn ôl pob tebyg, rydym ni'n siomi ein pobl ifanc a theuluoedd. Nid tringarwch cyfansoddiadol mohono. Dyna pam rydym ni'n dymuno blaenoriaethu symud ymlaen gyda'r mater. A dyna pam, mae'n debyg, mae'r tri chomisiwn gyda'i gilydd wedi penderfynu yn y ffordd honno hefyd.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Cwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Adrian Mason.
Dyma ni unwaith eto, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n rhaid i chi a minnau droedio llwybr cul yn ein dadleuon ni. Rydym ni yma yn rhinwedd gyfreithiol ein swyddi yn yr achos hwn mewn Siambr sy'n hynod wleidyddol. Felly, ni fydd unrhyw gwestiynau twyllodrus.
Fe all newid cyfansoddiadol fod â chanlyniadau hirdymor, wrth gwrs. Pan fydd y Llywodraeth yn ystyried ceisio pwerau ychwanegol i Gymru, pa brofion ydych chi'n credu y dylid eu cymhwyso cyn i gynnig gael ei ddwyn yn ei flaen? A ddylai'r profion hynny gynnwys anhawster y gellir ei nodi yn glir, tystiolaeth mai trosglwyddo pwerau yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â hynny, cynllun cyflawni ymarferol a chyllid cynaliadwy, ac atebolrwydd amlwg? Pan fydd gwasanaethau yn gweithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a ddylid mynd i'r afael â'r effaith ar y cysylltiadau trawsffiniol hynny a'i hegluro cyn i unrhyw newidiadau ddigwydd?
Rwy'n credu mai blaenoriaeth y Llywodraeth hon yn gyffredinol yw gwella tynged pobl Cymru. Os yw hynny'n golygu blaenoriaethu datganoli pellach mewn rhai meysydd, bydded felly. Nid datganoli er mwyn datganoli yw hyn. Fe fyddai hynny'n anffodus ac yn dueddol o brofi sawl problem, mae'n debyg.
Mae yna ddadl, o bryd i'w gilydd, er enghraifft, dros ddealltwriaeth drawsffiniol. Mae'r rhain yn eithriadau yr ydym ni'n cyfeirio atyn nhw yn ein hagwedd at ddeddfwriaeth y DU. Mae hynny'n synhwyrol iawn, oherwydd rydym ni'n edrych ar wasanaethau ar gyfer pobl ar ddwy ochr y ffin, mewn gwirionedd, ond ein blaenoriaeth ni yw pobl yma yng Nghymru.
Os yw'r prawf yr ydym ni'n ei ddefnyddio yn dangos y gallwn ni wella gwasanaethau i bobl Cymru trwy geisio datganoli pellach, yna dyna'r grym sy'n ein hysgogi ni, dyna'r rheswm pam rydym ni'n gwneud hynny. Nid oes unrhyw reswm arall, oherwydd, fel y dywedais i'n gynharach, newid er mwyn newid—ac fe ddywedodd yr Aelod hynny, ac mae'n iawn—nid yw newid er mwyn newid yn cyflawni unrhyw beth. Mae newid er mwyn gwella gwasanaethau yn cyflawni rhywbeth.
Diolch i chi. Fe hoffwn i droi at y system dribiwnlysoedd. Rwy'n gwybod ei bod yn flaenllaw ymysg eich blaenoriaethau chi, Gwnsler Cyffredinol. Felly, bwriad y strwythur arfaethedig newydd ar gyfer tribiwnlysoedd yw nid yn unig i ddod â'r tribiwnlysoedd datganoledig presennol i system fwy cydlynol, ond i allu ymgymryd ag awdurdodaethau ychwanegol yn y dyfodol hefyd. Cyn i unrhyw awdurdodaeth ychwanegol gael ei throsglwyddo i system dribiwnlysoedd Cymru, pa fesurau diogelu ydych chi'n credu a ddylai fod ar waith? Yn benodol, sut y byddwn ni'n diogelu annibyniaeth farnwrol, argaeledd arbenigedd arbenigol, hawliau apelio cyson, a thriniaeth achosion ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr? A fyddech chi'n disgwyl i gostau ac effaith ymarferol pob trosglwyddiad arfaethedig gael eu hasesu yn llawn cyn i hyn ddigwydd?
Wel, mae yna rai ffigurau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ond, yn amlwg, fel gydag unrhyw newid mawr newydd, ni ellir gwybod yn llawn ar y dechrau yn deg. Ond o ran gweithio trawsffiniol, nid wyf i'n ystyried honno'n broblem yn yr achos hwn. Roedd hynny'n wir, oherwydd fe wn i am sawl achos pryd yr oedd pobl yn y system dribiwnlysoedd yn dymuno apelio, ac roedd digwydd iddyn nhw gael ymdrin â'u hachosion yn Gymraeg, ac roedd yn rhaid iddyn nhw fynd dros y ffin ac nid oedden nhw'n gallu cael cyfleusterau cyfieithu i'r Gymraeg, ac yn aml iawn roedd yn rhaid iddyn nhw siarad yn eu hail iaith. Felly, dyna un peth y mae angen ei gywiro, ac fe gaiff ei gywiro yn yr achos hwn. Mae'r tribiwnlysoedd hyn i gyd, ar wahân i un neu ddau, yn bodoli eisoes. Maen nhw'n cael eu rhedeg cystal ag y gallwn ni sicrhau eu bod nhw, ond fe fydd yn llawer gwell bod â'r chwech ohonyn nhw wedi'u dynodi'n briodol, gyda gwasanaeth clercio a gweinyddiaeth sy'n gwbl broffesiynol, a choroni hynny gyda llys apêl ar ffurf gyfyngedig yng Nghymru ar gyfer apeliadau tribiwnlys. Mae hwn yn gam rhesymegol ymlaen. Mae'r uwch farnwriaeth—nad oes ag enw am newid cyfansoddiadol radicalaidd—o blaid hynny yn llwyr, ac mae eu cefnogaeth lawn gennym ni i fwrw ymlaen, sy'n gwneud i mi feddwl mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Gadewch i ni droi yn awr at rwydwaith y rheilffyrdd—un arall sy'n dod i lawr y llinell, esgusodwch y gair mwys. Gwnsler Cyffredinol, mae'r Llywodraeth wedi pennu llwybr tuag at ddatganoli gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd yn llawn, gan dderbyn hefyd bod yn rhaid i'r rhwydwaith yng Nghymru barhau i fod yn integredig o fewn y Deyrnas Unedig yn fwy eang, wrth gwrs. O safbwynt cyfreithiol a chyfansoddiadol, beth fyddai angen ei setlo cyn y gallai trosglwyddiad o'r fath ddigwydd? Yn benodol, sut y byddai'r cyfrifoldeb am rwymedigaethau seilwaith hirdymor, llwybrau trawsffiniol, er enghraifft, cyllid a datrys anghydfodau yn cael ei rannu rhwng Gweinidogion Cymru, Llywodraeth Cymru a Rheilffyrdd Prydain Fawr? Ac a ddylai cyllid ac atebolrwydd gael eu setlo yn rhan annatod o unrhyw drosglwyddiad yn hytrach na chael eu gadael ar gyfer trafodaethau dilynol?
Wel, nid yw'r trosglwyddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn berthnasol i senario'r Bil tribiwnlysoedd. Dyna'r peth cyntaf i'w ddweud. O ran datganoli pellach, mater gwleidyddol yw hwnnw'n amlwg. Nid wyf i'n rhan o'r peiriant gwleidyddol fel y cyfryw. Rwy'n cael fy nghyflogi gan Lywodraeth Cymru ar faterion cyfreithiol. Os a phryd y byddem ni'n cyrraedd sefyllfa lle gofynnir i mi am fy nghyngor ynglŷn â'r pwyntiau y mae o'n eu codi yn briodol iawn, yna fe fyddaf i'n rhoi fy nghyngor eglur ar y cam hwnnw. Ar hyn o bryd, ni allaf fod o unrhyw gymorth pellach.
Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges.
Diolch. Pa drafodaeth a gafodd y Cwnsler Cyffredinol gyda Chymdeithas y Gyfraith ynglŷn â sicrhau prentisiaethau cyfreithwyr lefel 7 a ariennir yn llawn yng Nghymru? Mae prentisiaethau cyfreithwyr lefel 7 yn cynnig llwybr sefydledig i gymwysterau yn Lloegr, sy'n caniatáu i rai sy'n awyddus i fod yn gyfreithwyr ennill arian wrth ddysgu ac osgoi mynd i ddyled sylweddol wrth hyfforddi. Yng Nghymru, serch hynny, ni all darpar gyfreithwyr fyth gymryd mantais ar lwybr cyfatebol sy'n cael ei ariannu. Mae'r defnydd o brentisiaethau cyfreithwyr lefel 7 wedi cynyddu yn Lloegr, a mwy na 5,000 o bobl yn dechrau ar brentisiaeth rhwng 2018 a 2025. Ni ddylem ni ganiatáu i Gymru gael ei gadael ar ôl, ddylem ni?
Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn, ac rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrtho, a allai ei galonogi ychydig, yw bod prentisiaethau lefel 7 wrth y bar a chyfreithwyr hefyd yn uchel iawn yn ystyriaethau'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n gwthio ymlaen ar hynny ac, yn wir, fe fyddaf i'n rhoi araith ar hynny ymhen rhyw bythefnos, yn ystod cynhadledd Cymru'r Gyfraith. Felly, gan fod diddordeb ganddo, fe wnaf i anfon copi o'r araith ato, ac fe gaiff weld ein bod ni'n gwneud yr hyn allwn ni.
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Gadewch inni weld a allaf barhau i fod yn llwyddiannus. Mae mynediad at gyfiawnder yn ddarn creiddiol o reolaeth y gyfraith ac eto mae llawer ardal yng Nghymru yn wynebu argyfwng cynyddol o ran mynediad at wasanaethau cyfreithiol. Fe'u gelwir yn ddiffeithdiroedd cyfreithiol ac mae'r rhain yn ardaloedd lle mae presenoldeb cyfreithwyr mor brin fel na all pobl gael cyngor na chynrychiolaeth gan gyfreithiwr yn rhwydd pan fydd ei angen arnynt. Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi cynhyrchu adroddiad sy'n defnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael, yn cynnwys dosbarthiad cyfreithwyr, tueddiadau demograffeg ac effaith pwysau cyllid cymorth cyfreithiol. Mae'r canfyddiadau yn cynnwys anghydraddoldeb daearyddol dybryd o ran amlder cyfreithwyr, ymddeoliadau cyfreithwyr cynyddol heb niferoedd digonol o rai newydd yn eu lle, athreuliad darparwyr cymorth cyfreithiol, a niferoedd cynyddol o ymgyfreithwyr heb gynrychiolaeth mewn achosion sifil, troseddol a lles. Beth yw barn y Cwnsel Cyffredinol ar yr adroddiad hwn?
Rwyf i wedi darllen yr adroddiad, yn amlwg. Mae hwn yn adroddiad pwysig ac mae'r broblem wedi bod yn eithaf hirsefydlog mewn llawer ardal yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fe gafodd ei disgrifio, o ran y gogledd a'r canolbarth, fel diffeithdir cyngor, ac fe wn i am lecynnau o ddiffeithdir, os hoffech chi, mewn ardaloedd trefol hefyd. Mae hyn yn rhannol am fod cyfreithwyr wedi gadael y gwaith cymorth cyfreithiol, yn rhannol am fod yna lai ohonyn nhw, ac yn rhannol oherwydd eu bod nhw'n cael eu tynnu tuag at gwmnïau mwy sy'n cael eu hariannu yn breifat. Dyna'r darlun. Dyma rywbeth sy'n creu llawer iawn o anhawster i bobl sy'n dymuno cael gafael ar gyngor cyfreithiol nad ydyn nhw'n gallu cael cymorth cyfreithiol ac sydd felly—a gyda llaw, mae'r cymhwyster ar gyfer cymorth cyfreithiol wedi cael ei dorri yn ei ôl yn sylweddol mewn llawer o feysydd—yn cael eu gadael gyda chyllid preifat na allan nhw ei fforddio. Felly, mae hwn yn fater o bwys. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw nad oes unrhyw amheuaeth gennyf i, yn ystod y gynhadledd nesaf yr oeddwn i'n cyfeirio ati hi, y bydd yn fater byw ac fe fydd yna drafodaethau pellach. Mae angen gwneud rhywbeth, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers llawer gormod o amser ac mae'r sefyllfa nawr yn mynd yn argyfyngus.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, fe hoffwn i ddychwelyd at y mater a godwyd gan yr Aelod dros Frycheiniog Tawe Nedd a gofyn rhai cwestiynau pellach ynglŷn â'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ymyrryd ac atal penderfyniadau am ailgyflunio gwasanaethau a wneir gan fyrddau iechyd lleol. Fe wrandawais i'n ofalus iawn ar eich atebion cynharach. Nawr, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod ailgyflunio gwasanaethau byrddau iechyd yn fater dadleuol yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y gorllewin sydd â hanes maith o gyfyngu ar wasanaethau, adleoliadau ac ailgyflunio gwasanaethau sydd wedi arwain llawer o drigolion i deimlo bod y ddarpariaeth gofal iechyd yn cael ei symud ymhellach i ffwrdd o'u cymunedau yn gynyddol. Yn fy marn i, pan fo gwrthwynebiad y cyhoedd mor gryf i benderfyniadau'r bwrdd iechyd, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb moesol i ymhél â'r peth a gohirio cynlluniau dadleuol nad ydyn nhw'n cyd-fynd ag ewyllys y bobl. Felly, Gwnsler Cyffredinol, fe wnaethoch chi gadarnhau yma heddiw y gall Gweinidogion ymyrryd dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ond a wnewch chi ddweud wrthym pa swyddogaeth sydd gennych chi yn rhinwedd eich rôl fel cynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru mewn unrhyw broses a fyddai'n cynnwys ymyrraeth? Ac a wnewch chi gadarnhau y gall Llywodraeth ymyrryd yn gyfreithiol ar unrhyw benderfyniad gan fwrdd iechyd yn unol â'r Ddeddf hon?
Wel, y peth cyntaf i'w ddweud—. Roedd yr Aelod yn cyfeirio at achos moesol. Nid beirniad moesoldeb mohonof i. Fy ngwaith i yw'r gyfraith—y gyfraith yn syml—ac mae'r ddeddfwriaeth yn eglur iawn. Fe wn i y bydd hyn yn siomi'r Aelod. Rwy'n deall yn llwyr bod hwn yn bwnc emosiynol iawn. Rwy'n deall hynny'n llwyr; dydw i ddim yn byw mewn swigen—rwy'n deall. Eto i gyd, mae'r gyfraith yn eglur ac mae'n berthnasol i fethiannau gan fyrddau iechyd lleol o ran llywodraethu, perfformiad ac ymarfer swyddogaethau. Pe byddai unrhyw un o'r materion hynny'n cydio, fe fyddai achos dros ymyrraeth gan Weinidogion Cymru wedyn. Ar hyn o bryd, nid wyf i'n gweld hynny. Ni chafwyd adroddiad fod unrhyw broblem gydag unrhyw un o'r tri achos hynny. Ond fe wnaf i awgrymu iddo hefyd y dylai roi cyfle i'r ymgynghoriad ddilyn ei gwrs, ac yna fe ellir cymryd cam yn ôl er mwyn ystyried sut fath o ymgynghoriad oedd hwnnw, beth yw'r casgliadau, ac a yw'r casgliadau yn darparu gwasanaeth sy'n addas i'w etholwyr. Hwnnw yw'r prawf asid. Ac wedyn, pe byddai problem yn hynny o beth, mae hi'n amlwg y gellid gwneud rhywbeth. Ond hyd at y pwynt hwnnw, nid oes unrhyw beth y gall Gweinidogion Cymru ei wneud dan unrhyw ddeddfwriaeth a welais i, ac rwy'n dweud hynny gyda pharch, nid i fod yn ddifrïol.
Welwch chi, fe fydd llawer o bobl ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd deall pam mae Gweinidogion yn ymddangos yn ddi-rym i weithredu pan fo pryder mawr ymysg y cyhoedd ynglŷn â newidiadau mawr i wasanaethau a allai effeithio yn sylweddol ar fynediad at ofal iechyd. Gan hynny, Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi amlinellu'r trothwyon cyfreithiol, felly, yr ydych chi o'r farn y mae'n rhaid eu bodloni cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd mewn penderfyniad i ailgyflunio gwasanaeth a wnaeth bwrdd iechyd? Ar ben hynny, a ydych chi'n credu bod y drefn gyfreithiol gyfredol yn rhoi digon o bwerau i Lywodraeth Cymru i amddiffyn cymunedau rhag penderfyniadau ailgyflunio pan nad oes gan y cyhoedd lawer o hyder ynddyn nhw?
Unwaith eto, nid wyf i'n ceisio bod yn wrthnysig, ond nid wyf i am ddyfalu ynglŷn â throthwyon, ac ni allaf i wneud hynny, am nad yw'r wybodaeth gennyf i o'm blaen. Ac nid wyf i am ddyfalu ynglŷn â'r gyfraith, chwaith. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrth y gŵr bonheddig yw hyn: os ydy o o'r farn bod angen diwygio'r gyfraith, ei chryfhau neu beth bynnag, pam na wnaiff o baratoi Bil a'i gyflwyno i'r Senedd wedyn i weld pa mor bell y gall fynd?
Rwy'n gofyn am eich barn chi.
Wel, dydw i ddim yn gallu rhoi fy marn i chi ar unrhyw beth oni bai am y gyfraith. Mae'r gyfraith yn blaen, ac fe ddywedais i wrthych chi ac rwyf wedi egluro ym mha le y byddai Gweinidogion yn ymgysylltu, ac ar hyn o bryd dydyn nhw ddim. Ond mae anghenraid i'r ymgynghoriad hwnnw ddilyn ei gwrs, yn fy marn i, ac wedyn gall pobl edrych yn wrthrychol unwaith eto ar ei ganfyddiadau.
3. Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i’r Llywodraeth ar amddiffyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd lle mae safbwyntiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn wahanol? OQ64507
Wel, wrth gwrs, gwaith Llywodraeth Cymru yw amddiffyn y setliad datganoli, ond hefyd i sicrhau bod pethau fel confensiwn Sewel yn cael eu dilyn, yn ogystal ag amddiffyn ac ymestyn y berthynas, mae rhywun yn gobeithio. Ym mis Gorffennaf eleni, fe gyhoeddais egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU yn y meysydd datganoledig, ac mae hyn yn cynnwys ymrwymiad y bydd deddfwriaeth y DU yn y meysydd datganoledig yn cael ei defnyddio pan fo'r ddeddfwriaeth yn diogelu neu'n atgyfnerthu'r setliad datganoli yn unig ac na fydd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar gymhwysedd datganoledig. Rwyf i'n eglur iawn, fel mae'r Llywodraeth hon, ein bod ni'n canolbwyntio ar loywi'r setliad datganoli a chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn sgil hynny, yn hytrach na dim ond ei gynnal. Er hynny, pan fo ymdrechion i ymatal neu gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fe fydd yna wrthwynebiad cadarn i'r rhain, ac mae hyn yn cynnwys gwrthwynebu gorfodaeth unrhyw ataliadau neu gyfyngiadau pellach yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ogystal â sicrhau cydsyniadau ac eithriadau perthnasol i sicrhau y gall y Senedd hon ddiddymu darpariaethau datganoledig a gyflwynir gan Ddeddfau Senedd San Steffan yn ddiweddarach. Ac rwy'n credu bod yr egwyddor o gydsyniad deddfwriaethol yn allweddol i hyn i gyd fel y nodir yn eglur yng nghonfensiwn Sewel. Mae hyn yn hanfodol i'n setliad datganoli ac yn diogelu gwaith y Senedd fel deddfwrfa genedlaethol Cymru. Fel Cwnsler Cyffredinol, rwy'n glir bod yn rhaid parchu confensiwn Sewel, yn enwedig pan fo unrhyw ymdrechion i grebachu neu gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy gyfrwng deddfwriaeth y DU.
Rŵan, barn y Llywodraeth yw y byddem ni'n dymuno i hynny fod ar sail statudol. Nid yw hynny ar y ffordd ar hyn o bryd. Mae trafodaethau yn mynd rhagddyn nhw. Yn y cyfamser, yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw bod trafodaeth fanwl am femorandwm cyd-ddealltwriaeth cadarn, priodol ar gonfensiwn Sewel. Mae'n debyg mai ail-orau fydd hynny i'w gael ar sail statudol, ond mae hynny'n cael ei ymdrin ag o a'i drafod ar y foment hon. Felly, mae rhywbeth yn digwydd. Rwy'n llwyr sylweddoli grym y cwestiwn. Mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod confensiwn Sewel yn cael ei barchu, gan ei fod wedi cael ei amharchu mor fynych yn ddiweddar.
Rwy'n siŵr, fel cyn-Aelod Seneddol, fod y Cwnsler Cyffredinol yn gyfarwydd iawn â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gydnabod bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cael ei ddiffinio gan Senedd y Deyrnas Unedig ac nad oes gan y Senedd y gallu cyfreithiol i ddeddfu ar faterion a gedwir yn ôl yn benodol i San Steffan? Mae Atodlen 7A yn cadw'r undeb. A yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y byddai Bil y Senedd ar gyfer annibyniaeth neu ar gyfer refferendwm annibyniaeth y tu allan i gymhwysedd y Senedd?
Rwyf eisoes wedi dweud nad wyf yn anifail gwleidyddol, yn eithaf gwahanol i rai o fy nghyd-Aelodau. Nid yw'n gwestiwn y gallaf ei ateb, gyda pharch.
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â digonolrwydd cyfraith etholiadol Cymru mewn perthynas â chynnwys a gynhyrchir yn artiffisial mewn etholiadau datganoledig? OQ64487
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn, sy'n daten boeth y dyddiau hyn, os gallaf ei ddisgrifio felly. Mae Ofcom yn rheoleiddio rhai gwasanaethau ar-lein o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU 2023, gan gynnwys safonau i leihau twyllwybodaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid i ddiogelu uniondeb etholiadau datganoledig a diogelwch ymgeiswyr, a chefnogi mynediad at wybodaeth ddibynadwy, drwy bwrwpleidlais.cymru. Rydym yn effro iawn i'r bygythiadau i ddemocratiaeth o dwyllwybodaeth a drwgwybodaeth ar-lein.
Saith mlynedd yn ôl, dychmygodd rhaglen y BBC The Capture ddarn o ffilm o ffigwr cyhoeddus wedi'i ffugio yn ddigon argyhoeddiadol i'w ddinistrio. Roedd yn ddystopaidd ac roedd yn ffuglen bryd hynny, ond heddiw y cyfan sydd ei angen yw ap am ddim a 90 eiliad. Dywedodd cynghorydd yng Nghaint wrth LBC yr wythnos hon ei bod yn meddwl rhoi'r gorau i wleidyddiaeth yn gyfan gwbl oherwydd delweddau rhywiol ohoni yn cael ei gosod ar byst lampau o amgylch ei chartref ac ar adeilad y cyngor y mae'n gweithio ynddo. Mae'n gwneud iddi deimlo'n anniogel yn y dref y mae'n ei chynrychioli. Mae menywod eraill wedi dweud eu bod bellach yn ystyried a ddylen nhw sefyll o gwbl. Mae hyn yn gost go iawn, nid i un cynghorydd, ond i bob menyw sy'n penderfynu bod y cam-drin yn ormod i'w ddioddef. Mae pobl Cymru yn pleidleisio ym mis Mai 2027, ac rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn cymryd hyn o ddifrif. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol o'r farn bod cyfraith etholiadol bresennol Cymru yn cwmpasu deunydd a gynhyrchir yn artiffisial o'r math hwn, a pha gamau y mae'r Llywodraeth yn eu hystyried cyn yr etholiadau hynny?
Wel, eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n gwybod, mewn gwirionedd, bod menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn arbennig yn anffodus yn cael eu targedu gan aflonyddu a chamdriniaeth. Mae'r misogynedd hwn yn ofnadwy a dylid ei gondemnio gan yr holl ymgyrchwyr gweddaidd. Rwy'n gwybod bod yr heddlu yn croesawu adroddiadau am unrhyw ddeunydd neu ymddygiad a allai fod yn anghyfreithlon mewn ymgyrchoedd gwleidyddol. Er nad yw hyn yn dileu'r broblem wirioneddol o gamdriniaeth, dylai unrhyw un sy'n ystyried sefyll etholiad wybod bod cefnogaeth allan yna. Rŵan, dyna'r pwynt hanfodol, rwy'n credu. Cyn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, rydym yn ariannu Elect Her i gefnogi ymgeiswyr benywaidd yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pecyn cymorth hunan-amddiffyn a hunan-ofal digidol, gan gynnwys adnoddau i gefnogi ymgeiswyr i greu eu cynllun hunan-ofal digidol eu hunain a strategaethau ar gyfer ymdrin â cham-drin ar-lein. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried sut y gellir cryfhau canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer pleidiau gwleidyddol. Felly, mae'n fater sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd. Byddwn yn dweud y dylai gwleidyddion ac ymgeiswyr bob amser adrodd am unrhyw ddeunydd ar-lein niweidiol i Ofcom a hefyd i'r heddlu fel y bo'n briodol. Rhaid i'r holl ddeunydd ymgyrchu digidol ddangos yn glir pwy sy'n gyfrifol am yr hyrwyddo. Mae'r argraffnodau digidol hyn yn sicrhau bod atebolrwydd am yr holl ddeunydd ymgyrchu swyddogol. Diolch.
Gwnsler Cyffredinol, o dan system bleidleisio cyfraith etholiadol Cymru, mae pleidleiswyr yn cael un bleidlais dros blaid wleidyddol a'i rhestr o ymgeiswyr, felly mae datganiad clir iawn o atebolrwydd. Beth sy'n digwydd pan fydd ymgeisydd yn gofyn i bleidleiswyr gefnogi un blaid, yna'n cael ei ethol ar faniffesto'r blaid honno ac yna'n cerdded i ffwrdd o'r ymrwymiadau hynny? Nid oes rhaid i'r pleidleisiwr newid ei bleidlais—[Torri ar draws.]
Rydyn ni'n ceisio gwrando—
Ni allant ddewis ymgeisydd arall—[Torri ar draws.]
Gyd-aelodau, rydyn ni'n ceisio gwrando ar y cwestiwn. Rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol yn ceisio gwrando.
Diolch, Lywydd. Eto, mae'r Aelod yn cadw ei sedd, ynghyd â chyflog hael iawn. Nawr, gallai rhai meddyliau cyfreithiol dysgedig, fel chi, ystyried bod hynny'n dwyll trwy gamliwio. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a yw cyfraith etholiadol Cymru yn darparu unrhyw amddiffyniad cyfreithiol i bleidleiswyr lle mae ymddygiad ymgeisydd ar ôl etholiad yn gwyro o'r gynrychiolaeth wleidyddol y cawsant eu hethol oddi tani? A yw Plaid Cymru yn dal i ystyried y dylid troseddoli gwleidyddion sy'n camarwain etholwyr? Ac ydych wedi ystyried y dylai'r Aelod wneud y peth iawn ac ymddiswyddo, er mwyn amddiffyn democratiaeth Cymru? Diolch.
Mae'n ddrwg gen i, Lywydd, nad wyf wedi dod â fy wellingtons gyda mi. [Chwerthin.] Nid wyf erioed wedi clywed y fath lwyth o faw ers amser maith. Ac ni fyddaf yn cymryd rhan yng ngwleidyddiaeth hynny, ond a yw'r Aelod o ddifrif yn dweud nad oes neb o fewn Reform erioed wedi newid ochr tra bod etholiad yn mynd rhagddo?
Rydyn ni i gyd wedi cael ein hethol.
Na, dydw i ddim—. Y swyddog cyfreithiol ydw i. Diolchaf iddo am y cwestiwn yna, ond nid yw i mi. Diolch yn fawr iawn.
Iawn. Nawr, rydyn ni'n mynd i geisio symud ymlaen a chael mwy o gwestiynau sydd yn is i lawr ar y rhestr, os gallwn, gyda chymorth pawb.
Felly, cwestiwn 5, Mair Rowlands.
5. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o allu pobl i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg? OQ64495
Maddeuwch imi, Mair, doeddwn i methu eich ffeindio chi am funud bach.
Mae gallu cael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder yn y Gymraeg yn rhan bwysig o fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Wrth imi feithrin cysylltiadau efo'r proffesiwn cyfreithiol a hefyd y sector cyfiawnder ehangach, mi fyddaf i'n dal ati i edrych ar sut y gallwn ni sicrhau gwell mynediad at gyfiawnder i gymunedau ar draws Cymru, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.
Diolch, Gwnsler. Ym mis Chwefror, fe adroddodd Cymdeithas y Cyfreithwyr ar yr anialwch cyfreithiol yng Nghymru, gan amlinellu sut mae mynediad pobl at wasanaethau cyfreithiol yn gostwng y tu allan i goridor yr M4. Tra bod gan Gaerdydd 12.3 cyfreithiwr i bob 1,000 o drigolion, yng ngogledd Cymru, mae'r ffigur yn agosach at 2.3 mewn bob 1,000. Mae'r anghydraddoldeb daearyddol yma'n cael effaith sylfaenol ar gymunedau Cymraeg ym Mangor Conwy Môn ac ar draws y gogledd i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg. A wnaiff y Cwnsler amlinellu beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r annhegwch hwn?
Wrth gwrs, mae mynediad at gyfiawnder yn fwy o lawer na mynediad at y llysoedd yn unig. Mae'n rhaid i bobl allu deall eu hawliau, cael cyngor dibynadwy ar yr adeg iawn a chymryd rhan yn effeithiol mewn prosesau cyfreithiol sy'n effeithio arnyn nhw. Mae gallu i ddefnyddio'r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol yn egwyddor bwysig o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru. Mae trefniadau yn bodoli i gefnogi achosion drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a dogfennaeth ddwyieithog pan fo angen.
Mae Cymru, wrth gwrs, yn wlad ddwyieithog, ond o ofyn beth, yn benodol, y gellid ei wneud, mae hon, rŵan, yn ddadl fyw. Mae hi'n ddadl sy'n mynd i godi mewn gwahanol gynadleddau dros y gaeaf yma. Mae diffygion darparu cyngor yn y Gymraeg wedi bod yn rhy amlwg i bawb, ond hefyd, gyda llaw, mewn sawl man drwy'r Saesneg hefyd. Ond mae'n dwysáu yn achos y Gymraeg, oherwydd, yn amlach na pheidio, dŷn ni'n sôn am gefn gwlad, ac mae cefn gwlad, ar hyn o bryd, wedi cael ei ddisgrifio fel 'anialwch cyfreithiol'.
Felly, mae yna job o waith mawr o'n blaenau ni, ac mae o'n rhan o'm swydd ddisgrifiad i i sicrhau bod mynediad at y gyfraith yn bosibl drwy'r ddwy iaith. Mae'n rhywbeth sydd yn fy meddwl i, ac mae'n rhywbeth y byddaf i'n gweithio arno fo yn y misoedd i ddod.
Mae yna elfen yn fy nghwestiwn sy'n debyg i elfen yn y cwestiwn a ofynnodd Mike Hedges yn gynharach.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith pwysau ar ddarpariaeth cymorth cyfreithiol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ64498
Mae pwysau ar y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol yng Nghymru yn bryder difrifol iawn. Mae llai o ddarpariaeth yn golygu nad yw llawer o gymunedau yn gallu cael mynediad at y cymorth cyfreithiol sydd ei angen arnynt. Er bod cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, byddwn bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddod â'r problemau hyn i sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Diolch yn fawr iawn. Rydym yn gwybod pa mor hanfodol yw cymorth cyfreithiol i helpu'r rhai mewn angen a sicrhau bod gan bawb yr hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol ddigonol. Daeth adroddiad gan bwyllgor dethol Tŷ'r Arglwyddi y llynedd i'r casgliad bod yna bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at gymorth cyfreithiol ac nad ydynt yn gallu fforddio talu am wasanaethau cyfreithiol yn breifat. Fel y nododd Cymdeithas y Gyfraith, nid yw cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi mynd i'r afael â'r materion penodol sy'n wynebu'r sector cyfreithiol yng Nghymru a bod datganoli cyfiawnder rhannol neu lawn, os caiff ei weithredu a'i ariannu'n briodol, yn cynnig cyfleoedd posibl sylweddol i bobl Cymru. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddigonolrwydd cymorth cyfreithiol yng Nghymru?
Wel, mae'n fater y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n rhannol oherwydd bod cwmpas cymorth cyfreithiol wedi culhau ochr yn ochr â meini prawf cymhwysedd llymach. Mae hynny wedi cael effaith sylweddol iawn dros nifer o flynyddoedd ar y system gyfiawnder ledled Cymru a Lloegr. Rwy'n arbennig o bryderus nad yw pobl mewn sawl rhan o Gymru yn gallu cael cyngor cyfreithiol lleol oherwydd nad yw ffioedd cymorth cyfreithiol bellach yn ddigonol i gefnogi darpariaeth gynaliadwy. Yng Nghymru, mae llai o ddarpariaeth wedi cyfrannu at anialwch cyngor cyfreithiol, gan adael rhai cymunedau heb fynediad lleol at gymorth cyfreithiol arbenigol. Er enghraifft, mae mapiau gwres Cymdeithas y Gyfraith yn dangos nad oes gan 82 y cant o bobl Cymru fynediad at ddarparwr lles lleol a ariennir gan gymorth cyfreithiol, a dim llai na 88 y cant heb ddarparwr cyfraith addysg.
Mae'r pwysau hyn yn ddwys ym mhobman, ond yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ôl-ddiwydiannol ac incwm is, yn debyg i'r ardal y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Lle gall ffynonellau cyngor amgen fod yn gyfyngedig iawn, a heb gyngor cyfreithiol cynnar, gall problemau waethygu, gan gynyddu pwysau ar wasanaethau datganoledig gan gynnwys iechyd, tai a gofal cymdeithasol. Trwy'r rhwydweithiau cynghori rhanbarthol, rydym yn cefnogi cydweithrediad agosach rhwng cwmnïau cyfreithiol preifat a darparwyr cyngor nid-er-elw fel y gall pobl ledled Cymru gael mynediad at y cyngor sydd ei angen arnynt. Er, fel y dywedais i o'r blaen, mae cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Llywodraeth y DU a phroffesiynau cyfreithiol yng Nghymru i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu deall yn glir ac yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb i'r pwysau hyn.
Mae hwn yn teimlo ychydig bach yn od, gofyn cwestiwn i'r dyn drws nesaf. [Chwerthin.]
7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder? OQ64506
Dwi'n falch nad ydych chi'n cwffio efo'r dyn drws nesaf. [Chwerthin.] Mae datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder wedi bod yn argymhelliad mewn cyfres o gomisiynau annibynnol, sy'n dyddio'n ôl i gomisiwn Silk yn 2014. Mi wnaeth y comisiynau hynny, y tri ohonyn nhw, ystyried y goblygiadau cyfreithiol, ymhlith eraill, wrth ddod i'w casgliadau clir. Mi fyddaf i'n gweithio'n agos efo cydweithwyr wrth inni barhau i weithio tuag at hyn.
Diolch, Gwnsler. Mae'r angen i ddatganoli cyfiawnder wedi ei ddangos droeon yn y Siambr yma gan y Comisiwn Annibynnol dros Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a chan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Dŷn ni'n gwybod bod y system bresennol yn gwaethygu canlyniadau i bobl Cymru. A dwi wedi cael braw, a bod yn onest, fod 40 y cant o'r cyllid yn dod wrth Lywodraeth Cymru, er nad ydy cyfiawnder wedi'i ddatganoli. Dydy hynny ddim yn gynaliadwy. Felly, ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno efo fi fod datganoli cyfiawnder yn angenrheidiol i wella'r canlyniadau i'r rheini sy'n mynd drwy'r system?
Does gen i ddim amheuaeth pan wyf yn cytuno efo'r Aelod ar y pwynt yna, ac mae datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, fel yn yr Alban a gogledd yr Iwerddon, yn glir. Dyna gasgliad clir, fel y dywedodd yr Aelod, comisiwn Silk, comisiwn Thomas, ac, yn fwy diweddar, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mi wnaeth y comisiynau hynny ganfod y byddai datganoli cyfiawnder yn galluogi gwasanaethau mwy atebol, cydgysylltiedig ac effeithiol sy'n cyd-fynd yn well ag anghenion pobl a chymunedau Cymru ac wedi'u hintegreiddio'n agos â chyfrifoldebau datganoledig, fel iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai. Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi gwybod i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fod hyn yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bydd Gweinidogion yn ceisio sicrhau cynnydd, gan gynnwys drwy'r Bil diwygio'r heddlu sydd ar ddod. Mae hwnnw, feddyliwn i, yn gyfrwng ardderchog i gychwyn ar y broses efo datganoli'r heddlu, ac mae o'n gyfle rydym ni fel Llywodraeth yn mynd i afael ynddo fo efo'r ddwy law. Diolch.
Yn olaf, cwestiwn 8—Kiera Marshall.
8. Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn hyrwyddo mynediad at gyfiawnder i oroeswyr treisio? OQ64490
Er bod cyfiawnder troseddol, fel y gŵyr yr Aelod, yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phlismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd a gwasanaethau arbenigol i wella mynediad at gyfiawnder i oroeswyr treisio. Trwy'r agenda trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, rydym yn ariannu gwasanaethau eiriolaeth, cwnsela a chymorth, gan gynnwys cynghorwyr trais rhywiol annibynnol, gan helpu goroeswyr i gael gwybodaeth, cymorth a chyfiawnder.
Byddwn hefyd yn dweud bod y Llywodraeth wedi buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth arbenigol ar draws y maes. Mae angen gwneud mwy o bethau, ac rydym yn cydnabod bod mynediad at gyfiawnder yn ymwneud â mwy na chanlyniadau llys. Rhaid i oroeswyr allu cael mynediad at gefnogaeth, gwybodaeth ac eiriolaeth amserol fel y gallant wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a gwella yn dilyn effaith camdriniaeth.
Ac o ran y sector prifysgol, dylai pob dysgwr, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol, allu astudio mewn amgylcheddau diogel heb drais, cam-drin, aflonyddu na bygylu. Er bod prifysgolion yng Nghymru yn ymreolaethol, rydym yn disgwyl iddynt gymryd camau cadarn i sicrhau amgylcheddau addysgu diogel a chefnogol. Mae amodau lles staff a dysgwyr newydd Medr wedi cyflwyno disgwyliadau cliriach ar lesiant, diogelwch ac amddiffyniad rhag aflonyddu a chamymddygiad, gan gynnwys trais rhywiol. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Medr a phrifysgolion a phartneriaid sector i gryfhau atal, adrodd a chefnogaeth, gwella cysondeb a thryloywder a chefnogi darparwyr i greu diwylliannau diogel lle mae pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif. Byddwn yn awgrymu i'r Aelod ei bod yn ysgrifennu at fy nghyd-Weinidog y Dirprwy Brif Weinidog ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n cael ymateb llawn a sylweddol ar y camau presennol sy'n cael eu cymryd.
Diolch am hynna. Roeddwn i'n falch o weld cyhoeddiad Llywodraeth y DU bod llysoedd arbenigol i ymdrin â threisio a throseddau rhywiol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru a Lloegr, a gobeithio y bydd hyn yn dechrau mynd i'r afael â'r cyfraddau erlyn cywilyddus o isel o ran trais yn y DU, sydd wedi'i ddad-droseddoli i bob pwrpas.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar atal, nid cyfiawnder yn unig. Fe wnes i gyfarfod â grŵp o ferched ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd, felly roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n siarad am y sector prifysgolion. Maen nhw'n cael eu galw'n Amser i Weithredu, ac maen nhw wedi bod yn ymgyrchu i ddileu ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu rhywiol o gampysau, ochr yn ochr â chefnogi goroeswyr. Yn Lloegr, fel y gwyddoch chi, mae canlyniadau rheoleiddiol ar hyn o bryd i sefydliadau sy'n methu ag atal aflonyddu a chamymddwyn rhywiol. Nid oes gan fyfyrwyr yng Nghymru yr amddiffyniad cyfatebol hwn, felly meddwl oeddwn i tybed a fyddech chi, o bosibl, yn edrych ar ba lwybrau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ddeddfu ac atal aflonyddu rhywiol a thrais ar gampws prifysgolion.
Wel, rwy'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae hi'n ei wneud yn yr ardal. Mae'n sicr yn bwysig iawn, a gallaf siarad o fy ngwybodaeth bersonol fy hun o'r gwaith rwy'n ei wneud yn y brifysgol yn Aberystwyth. Mae'n uchel ar yr agenda yn y brifysgol honno a, does gen i ddim amheuaeth, ym mhob prifysgol yng Nghymru, ac felly dylai fod. Felly, mae pethau'n symud, er yn arafach nag y byddai pob un ohonom yn dymuno, ond maen nhw'n symud i'r cyfeiriad cywir. A'n gwaith ni, mae'n ymddangos i mi, yw pwyso a sicrhau bod y gwelliant parhaus yn y maes hwn i'w weld gan bawb.
Os ychwanegaf un peth yn olaf, ar y mater o dreisio yn gyffredinol—ofnadwy fel yw e'—bu cyhoeddiad y bydd yna lysoedd penodedig sy'n ymdrin â threisio o 1 Hydref. Bydd hynny'n lleihau'r ôl-groniad, a bydd hynny'n cynnwys arbenigwyr sydd ar gael i helpu a chefnogi unigolion ond hefyd pethau fel mynedfeydd ac ystafelloedd aros ar wahân, amddiffyniadau sylfaenol o'r math hwnnw. Mae hyn yn rhywbeth i'w groesawu, rwy'n credu. Byddwn hefyd yn dweud, ar nodyn mwy cadarnhaol, bod yr ôl-groniadau yng Nghymru yn sylweddol well nag y maen nhw mewn mannau eraill yn y DU, ac mae angen i ni gynnal hynny, ond bydd hyn, unwaith eto, yn helpu, rwy'n credu.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gwnsler Cyffredinol.
Symudwn ymlaen i eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae dau ddatganiad llafar wedi eu hychwanegu at yr agenda heddiw, sef 'Uchelgais Newydd i Gymru', y rhaglen lywodraethu, a hefyd fframwaith moesegol amddiffyn Cymru. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael i'r holl Aelodau'n electronig.
Drefnydd, byddwn yn ddiolchgar pe bawn i'n gallu cael datganiad ar orlenwi trenau lleol. Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr i Rymni ar hyn o bryd yw'r trydydd gwasanaeth gwaethaf o ran gorlenwi rhwng oriau brig yn y DU. Mae'r gwasanaeth hwnnw nawr yn effeithio ar gymudwyr, gan effeithio ar eu cludiant i'r gwaith. Nid yw'n hawdd iawn i bobl oedrannus gael sedd, ac mae'n rhywbeth y mae fy etholwyr yn ei godi gyda mi yn eithaf aml. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Drefnydd, pe bai'r Gweinidog sy'n eistedd yma yn gallu cyflwyno rhywbeth er mwyn i ni allu mynd i'r afael â'r gorlenwi ar drenau Cymru. Diolch.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater yna. Yn lwcus iawn, mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yma, ac mi fydd o'n ysgrifennu atoch chi. Byddwn i'n eich annog chi hefyd i rannu unrhyw wybodaeth—annog unrhyw Aelod yma i wastad rhannu gwybodaeth lle mae gwasanaeth angen sylw pellach gennym ni fel Llywodraeth.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o ymuno â fy nghyd-Aelod Llafur Cymru, Ken Skates, yng ngwaith dur Llanwern yn fy etholaeth. Mae Llanwern yn strategol bwysig i Gymru a'r DU gyfan, ac ni ddylid ei golli yn y ddadl ehangach ar y diwydiant dur. Mae gwneud dur yn rhan o DNA Casnewydd, a dylai fod ganddo ddyfodol balch, ond roedd y gweithwyr y siaradais â nhw yr wythnos diwethaf yn pryderu am y dyfodol hwnnw a'i fod dan fygythiad gan fewnforion dur galfanedig rhad. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu swyddi dur yng Nghymru ac ymgysylltu â'r undebau i gefnogi'r gweithlu. Felly, Drefnydd, a allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru?
Wel, diolch i'r Aelod am godi mater sydd, wrth gwrs, o bwys. Mi fyddwch chi'n ymwybodol iawn, dwi'n siŵr, fod y Dirprwy Brif Weinidog, pan wnaeth hi gyfarfod gyda Phrif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, Andy Burnham, dros yr haf, wedi mynegi pryderon y Llywodraeth newydd hon ynglŷn â'r diffyg a wnaed gan y Llywodraeth Lafur o ran peidio â sicrhau dyfodol iawn i ddur yng Nghymru, a diystyru hefyd y diwydiant dur yma. Yn sicr, mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yma yn y Siambr ac wedi clywed yr hyn rydych chi'n dweud, ac, fel bob amser, rydyn ni'n barod iawn i drafod gydag Aelodau lleol lle mae angen hynny. Ond, yn ddiamwys, mi fedraf i ddweud ein bod ni'n gweld dyfodol i'r diwydiant dur, eisiau gweithio gyda'r rheini sy'n pryderu am hyn, ac, wrth gwrs, yn gwneud yr achos drwy'r adeg i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi sylw digonol i'r diwydiant dur yma yng Nghymru.
Drefnydd, gan barhau ar y thema trenau, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ar ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yn y gorllewin. Mae etholwyr o bob rhan o Geredigion Penfro yn cysylltu â mi yn rheolaidd yn mynegi pryderon am amlder, dibynadwyedd ac argaeledd cyffredinol gwasanaethau rheilffyrdd yn y rhanbarth. Maent eisiau gweld gwasanaethau trenau mwy rheolaidd a dibynadwy yn gweithredu ar draws pob rheilffordd yn y gorllewin drwy gydol yr wythnos, oherwydd ers gormod o amser nid yw'r gorllewin wedi derbyn y lefel o sylw y mae'n ei haeddu o ran cysylltedd rheilffyrdd a darparu gwasanaethau, ac rwy'n credu y dylid adolygu darpariaeth rheilffyrdd yn y rhanbarth i asesu a yw'r gwasanaethau presennol yn diwallu anghenion cymunedau lleol, ac yn wir i nodi lle mae angen gwelliannau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad yn amlinellu pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i wella darpariaeth, amlder a dibynadwyedd gwasanaethau rheilffyrdd yn y gorllewin fel y gallwn ddeall sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â phryderon hirsefydlog teithwyr yng Ngheredigion Penfro.
Diolch i'r Aelod am godi'r materion hyn. Ddirprwy Lywydd, wrth gwrs, mi fydd pob Aelod wedi clywed datganiadau blaenorol, gan gynnwys datganiadau blaenoriaeth, gan gynnwys gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Mi ydym ni hefyd yn rhannu'r weledigaeth honno o ran sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac mae'r weledigaeth honno yn cynnwys y gwaith sy'n mynd rhagddo er mwyn edrych ar y ddarpariaeth honno. Wrth i'r gwaith hwnnw barhau, mi fydd y Dirprwy Weinidog yn rhoi diweddariadau i'r Senedd hon, ac, wrth gwrs, yn barod iawn i ymgysylltu efo Aelodau, fydd eisiau gwneud yr achos dros eu hetholaethau nhw.
Drefnydd, rydym newydd glywed cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol am y sefyllfa gyfreithiol ynglŷn ag ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd. Yr wythnos diwethaf, penderfynodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar gynigion a allai gael gwared ar welyau cleifion mewnol o nifer o'n hysbytai cymunedol. Mae cryn bryder ar draws Powys ac mae llawer ohonom ymhell o fod yn argyhoeddedig bod lleisiau pobl leol neu eu cynrychiolwyr etholedig yn cael eu clywed. Felly, a wnewch chi drefnu datganiad brys gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn nodi safbwynt y Llywodraeth, pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd, ac, yn hollbwysig, a yw'n barod i ymyrryd?
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Yn amlwg, mae hwn yn fater a godwyd wythnos diwethaf hefyd, ac, fel gwnes i amlinellu'r adeg honno, ymgymryd gyda'r ymgysylltiad cychwynnol y mae'r bwrdd iechyd. Does dim penderfyniadau wedi'u gwneud. A'r hyn byddwn i'n gofyn i bob Aelod sydd gydag etholwyr wedi'u heffeithio gan y posibiliadau yn yr ymgynghoriad hwn wneud yw ymwneud â'r ymgynghoriad, ac annog eraill, ac i fod yn glir nad yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud unrhyw benderfyniad ar ei gynllun gwasanaethau clinigol.
Drefnydd, gwyddom fod llawer o bobl wrth baratoi ar gyfer llawdriniaeth wedi clywed, ar lafar neu ar y cyfryngau cymdeithasol, bod eu llawdriniaethau o dan Wasanaeth Rhywedd Cymru wedi cael eu gohirio yn ystod toriad haf y Senedd. Roedd un o'm hetholwyr mewn gwirionedd yn yr ysbyty ar gyfer llawdriniaeth pan gafodd wybod bod y llawdriniaeth wedi'i chanslo, heb unrhyw gymorth pellach ers hynny. Byddwch yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu, gydag Aelodau eraill, at Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru, a oedd yn gyfrifol am y penderfyniad hwn, yn gofyn am y dystiolaeth a lywiodd y penderfyniad hwn, y diffyg cyfathrebu â chleifion, a pham nad oedd lleisiau cleifion yn cael eu clywed.
Rwy'n gwybod bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud gan gorff meddygol, yn hytrach nag un gwleidyddol, ond hoffwn ofyn am ddatganiad yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd y gymuned hon yn cael gwrandawiad, sut y bydd eu pryderon yn ganolog i unrhyw benderfyniadau pellach a wneir am ofal iechyd traws, a sut y byddant yn cael eu cefnogi. Diolch.
Diolch i'r Aelod am godi mater eithriadol o bwysig. Dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi clywed gan ffrindiau, gan etholwyr, sydd wedi'u heffeithio, a chlywed am yr effaith dirdynnol mae hyn wedi'i gael.
Gallwch fod yn sicr bod y Llywodraeth hon yn sefyll gyda'r gymuned draws a bydd yn parhau i amddiffyn a hyrwyddo hawliau traws yn unol â'n hymrwymiad i Gymru groesawgar a chynhwysol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod dadl yn cael ei chyflwyno yfory gan Anthony Slaughter. Bydd cyfle wedyn i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros iechyd, a bydd hefyd yn ymateb yn llawn bryd hynny.
I fod yn deg, rydych chi, fel fi, Drefnydd, wedi bod yn eiriolwr dros sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac yn hapus, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi y dylai blaenoriaeth gyntaf llywodraethau ar bob lefel fod i amddiffyn llesiant plant a phobl ifanc a pheidio â'u gadael yn poeni ac yn bryderus. Mae'r polisi hwn o gael cymaint o ddisgyblion â phosibl ar fysiau cyhoeddus yn hytrach na bysiau ysgol yn ddiffygiol iawn. Efallai y bydd yn gweithio mewn ardaloedd trefol, ond yn sicr nid yw'n gweithio mewn ardaloedd gwledig, lle mae llwybrau fel yr un o Frynbuga i Fynwy yn hir ac yn droellog, gyda ffyrdd â therfyn cyflymder cenedlaethol. Nid yw gwasgu plant i mewn fel sardîns i sefyll am 40 munud, yn dderbyniol, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â hynny. Ond, yn anffodus, roedd hyn yn wir yn sir Fynwy ar ddiwrnod cyntaf y tymor, gyda nifer o rieni a disgyblion yn cysylltu â mi, gyda materion—materion tebyg, mewn gwirionedd—wedi'u nodi ledled sir Fynwy a Thorfaen. Sut allwn ni fod mewn sefyllfa lle mae plant yn gorfod bod a sedd eu hunain a hyd yn oed gwisgo gwregys diogelwch ar deithiau ysgol, ond bod hyn yn dderbyniol?
Ni ddylai ymarferion torri costau gan gynghorau—ac rydym i gyd yn gwybod eu bod yn brin o arian—byth ddod ar draul diogelwch a llesiant plant. Drefnydd, ar y nodyn hwnnw, hoffwn ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am benderfynu pryd y bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel, ar amser ac yn barod i ddysgu. Diolch.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mae o'n fater sydd yn fyw iawn yn ein trafodaethau ni fel Llywodraeth. Mae'n fater traws-bortffolio. Dwi'n falch bod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yma. Rydyn ni wedi cael trafodaethau hyd yn oed yr wythnos yma, fel Gweinidogion, yn edrych ar yr effaith o ran rhwystro pobl rhag cael mynediad at addysg, sydd yn effeithio ar faint o arian sydd gan deuluoedd, ac ati. Mae hwn yn fater byw. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Wrth fod yna ddiweddariadau, mi fydd y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn ymgysylltu efo Aelodau o'r Senedd sydd yn poeni am y mater hwn.
Drefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ar fynediad at wasanaethau bancio yng Nghymru? Rwy'n gwerthfawrogi nad yw bancio yn fater datganoledig, ond mae gwasanaethau bancio yn bwysig i bobl ledled y wlad, yn enwedig mewn cymunedau nad oes ganddyn nhw fynediad at fanc. Rydw i'n ffodus iawn i fod â dwy ganolfan fancio yn fy etholaeth i sy'n gwasanaethu cymunedau Abergele a Phrestatyn, ond mae yna gymunedau eraill, trefi fel Llangollen a gollodd ei banc olaf ychydig flynyddoedd yn ôl, nad oes ganddyn nhw fanc o gwbl. Ar hyn o bryd, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, y FCA, yn gwneud asesiadau o fynediad at arian parod, yn hytrach na mynediad at wasanaethau bancio.
Yn fuan ar ôl yr etholiad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad o fynediad at wasanaethau bancio. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben dros yr haf. Tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i hwnnw ynghylch yr amgylchiadau arbennig yng Nghymru, yn enwedig o ystyried ein gwledigrwydd, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau hanfodol hyn. Os nad yw wedi gwneud hynny, a oes unrhyw ffordd y gallwn weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud galwad a galw am ddeddfwriaeth yn y maes hwn, i sicrhau bod gwasanaethau bancio ar gael?
Diolch. Dwi'n siŵr nad chi yw'r unig un a dwi'n gwybod ein bod ni wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd pan oedd banciau mewn perygl, ac wedi gweld yr effaith pan maen nhw wedi diflannu, a beth oedd effaith hynny wedyn ar rai o'r trigolion mwyaf bregus neu'r rhai hynaf yn y gymdeithas. Mae hwn hefyd yn fater y mae'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi bod yn ei godi, oherwydd mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol: sicrhau'r gwasanaethau hynny. Dwi'n falch iawn bod y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi clywed yr hyn rydych chi wedi ei ddweud rŵan. Fe wnawn ni ystyried hynny, a dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â chi.
Yn sgil effeithiau difrifol storm Bert ym mis Tachwedd 2024, pan agorodd canolfan gymunedol Aberfan a chanolfan hamdden Merthyr Tudful eu drysau i gefnogi trigolion a oedd wedi gorfod gwacáu yn ystod y llifogydd dinistriol, mae llawer o etholwyr ar draws Pontypridd Cynon Merthyr yn bryderus ynghylch risg gynyddol llifogydd dros y gaeaf sydd i ddod. Mae'r Afon Taf a'r Afon Cynon yn peri bygythiad sylweddol i gartrefi, busnesau ac isadeiledd cymunedol. O ystyried y pryderon hyn, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau parodrwydd Cymru ar gyfer llifogydd dros gyfnod y gaeaf. Dylai hyn gynnwys manylion am gynllunio gwydnwch presennol, cefnogaeth ar lefel gymunedol, parodrwydd seilwaith, ac unrhyw fesurau ychwanegol sy'n cael eu cymryd i ddiogelu ardaloedd sydd mewn perygl yn ein rhanbarth. Gan ystyried maint y digwyddiadau diweddar, mae eglurder a sicrwydd i drigolion yn hanfodol.
Diolch i'r Aelod am godi mater a godwyd hefyd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw. Mi ddylwn i ddatgan fy mod i'n rhannu etholaeth â chi ac wedi bod yn eiriolwr cryf dros weithredu o ran cefnogi cymunedau sydd efo'r risg parhaus hwn. Rwyf wedi gweld yr effaith y mae hyn yn ei gael, nid yn unig pan fydd llifogydd yn digwydd, ond unrhyw dro pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm, a'r ofn parhaus sydd yna fod pobl yn mynd i ddioddef llifogydd a'r effaith y bydd hynny'n ei gael ar eu bywydau dydd i ddydd nhw.
Mi fydd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf yma ynglŷn â pharatoi at y gaeaf. Ac yn sicr, yr hyn rydyn ni wedi ei weld rŵan, gyda'r tywydd mwyaf eithafol, yw bod yn rhaid inni fod yn gwneud y gwaith hwn drwy gydol y flwyddyn, oherwydd un o'r heriau rydyn ni wedi eu gweld ydy bod rhai o'r stormydd yn dod yn gynt neu'n hwyrach yn y flwyddyn, ac wedyn bod angen y parodrwydd hwnnw. Wedyn, yn sicr, mi fydd y datganiad hwnnw yn yr wythnosau nesaf. A dwi'n credu, o'r hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, fod y gwaith medrwn ni ei wneud fel pob Aelod o'r Senedd, i fod yn cefnogi cymunedau o ran y gwydnwch hwnnw ac i fod yn eirioli drostyn nhw, yn eithriadol o bwysig.
Rwy'n codi hwn fel AS dros Sir Gaerfyrddin, ond mae angen i mi ddatgan fy mod hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Drefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar niwtraliaeth maethynnau a'i heffaith ar y ddarpariaeth o dai yn y gorllewin?
Yn dilyn asesiad morol Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor cynllunio dilynol i gynghorau y llynedd, mae cynlluniau tai cymdeithasol a fforddiadwy ar draws sir Gaerfyrddin a sir Benfro yn wynebu oedi sylweddol. Mae un contractwr wedi cysylltu â mi sy'n adeiladu bron yn gyfan gwbl ar gyfer tai cymdeithasol fforddiadwy, ac mae ganddo lyfr archebion o werth £30 miliwn o waith wedi'i sicrhau sydd bellach wedi'i oedi. Mae ei drosiant wedi haneru, mae'n cefnogi tua 80 o staff a 320 o isgontractwyr, o weithwyr tir a bricwyr i fasnachwyr, cwmnïau llogi peiriannau a gyrwyr danfon nwyddau. Mae pawb yn derbyn yn y Siambr hon bod angen amddiffyn ein hafonydd a'n aberoedd, ond mae llygredd maethynnau yn dod o ystod eang o ffynonellau ar draws dalgylchoedd cyfan. Mae'r oedi hwn yn effeithio ar deuluoedd sy'n aros am gartrefi ac ar gwmnïau sy'n barod i'w hadeiladu.
Felly, a allwn ni gael datganiad ar yr hyn sydd wedi disodli'r tasglu datblygu nitradau morol, pa fesurau lliniaru pellach sy'n cael eu hystyried, a phryd y gall y cynlluniau tai hyn symud ymlaen yn realistig? Diolch.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi clywed eich galwadau chi a'r hyn rydych chi wedi ei godi. Ac mi fyddaf i'n trafod efo hi y ffordd fwyaf priodol i fod yn rhoi'r ymateb hwnnw, boed yn ddatganiad neu drwy lythyr.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, un gan y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb ar sut maen nhw'n gweithio gyda chynghorau a Llywodraeth y DU i atal adeiladwyr twyllodrus a'u gallu i godi fel ffenics, sef dechrau eto ar ôl i chi adael pobl gydag adeiladau anghyflawn ac mewn dyled fawr, a hefyd ar dwyll hunaniaeth, QR-rwydo a sgamiau eraill sy'n digwydd yn y gogledd, lle mae wedi dod i'r amlwg bod lefel uwch o sgamiau bellach yn effeithio ar ein hetholwyr hŷn. Rwy'n gweithio gyda safonau masnach a'r BBC, gan fod y gogledd yn ymddangos fel pe bai hi yw y brif ardal lle mae hyn yn digwydd. Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i lunio cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer cwmnïau adeiladu. A fydd eich Llywodraeth yn cefnogi hynny?
A'r ail un gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ar y ddarpariaeth o feysydd parcio yn Ysbyty Gwynedd—ac mae Ysbyty Glan Clwyd yr un mor ddrwg. Mae cleifion ac ymwelwyr yn cael trafferth dod o hyd i le parcio priodol, er gwaethaf y ffaith iddynt yrru o gwmpas yn barhaus am bron i awr weithiau, ac weithiau byddant yn derbyn eu bod nhw'n mynd i gael dirwy oherwydd fel arall byddent yn colli'r apwyntiad hwnnw. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers gormod o amser, felly mae angen rhywbeth gan y Gweinidog dros iechyd i ddweud ei fod yn derbyn nad yw hyn yn ddigonol. Helpwch os gwelwch yn dda.
Diolch. Mae pwyntiau'r Aelod wedi'u nodi ar y cofnod. Dwi ddim yn siŵr os oedd yna gais am ddatganiad o ran yr ail un, ond yn sicr mi fyddaf i'n gwneud y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol o'r hyn rydych chi wedi'i godi. Fel bob amser, os oes yna unrhyw enghraifft benodol rydych chi eisiau ei chodi, byddwn i yn eich annog chi fel Aelod i fod yn codi hyn. Yn sicr, dwi'n gwybod bod yna Aelodau sydd yn cynrychioli byrddau iechyd eraill wedi bod yn codi pryderon o ran parcio o fewn ysbytai. Felly, mi fyddai'n dda gwybod am unrhyw broblemau fel ein bod ni hefyd yn gallu cael y sgyrsiau hynny efo byrddau iechyd.
Dwi eisiau cario ymlaen efo trafnidiaeth, os yw hynny'n iawn.
Rwyf eisiau gofyn am ganllawiau terfynau cyflymder, ac mae'n wych bod y Dirprwy Weinidog yma. Rwyf wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Senedd, oherwydd mae cymunedau ar draws Brycheiniog Tawe Nedd—Rhaeadr Gwy, Llanspyddid, Libanus, Cwmdu ac eraill—wedi bod yn aros ers misoedd a blynyddoedd lawer am ganllawiau diwygiedig ar y terfynau cyflymder. Ac rydym wedi cael gohebiaeth, ac rwy'n deall y bydd rywbryd yn 2027. Ond tybed a allwn ni fod yn gliriach ac yn fwy penodol, o ystyried ein bod ni'n cynrychioli cymunedau—ac nid fi yn unig—sydd wir angen y canllawiau cyflymder hyn er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am godi hynna. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud. O ran amserlen fwy penodol, dydy hynna ddim gen i y tu hwnt i'r hyn sydd hefyd wedi'i rannu efo chi, hynny ydy, ein bod ni'n rhagweld y bydd y canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi yn 2027. Mae'r swyddogion yn gweithio gyda swyddogion awdurdodau lleol i ddiweddaru'r canllawiau, ac mae eu hadborth ar y drafft diweddaraf yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Felly, mae'r gwaith hwnnw yn weithredol, a dwi'n diolch i chi am godi'r mater.
Drefnydd, hoffwn alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru gan y Gweinidog dros Gyllid ynglŷn â chyfraddau treth incwm Cymru yn ystod tymor y Senedd, yn enwedig pa un a yw hi wedi gwneud unrhyw gais i unrhyw was sifil ynghylch asesu effaith cynnydd mewn trethi a pha effaith y byddai hynny'n ei chael ar ei chyllid.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn i yn awgrymu bod y math yna o gwestiwn—. Doeddwn i ddim yn gweld dim ynglŷn â datganiad penodol yn fan yna. Roedd o'n fwy o gwestiwn craffu, neu'n gwestiwn i chi ei roi i'r Gweinidog pan fydd yna gyfle i godi hynny. Ond, yn sicr, mae'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid yma ac wedi clywed yr hyn rydych chi'n ei godi, a dwi'n siŵr y bydd cyfle i chi fod yn trafod hyn ymhellach.
Drefnydd, fel is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, dwi'n falch o ddweud y bydd cynnal Eisteddfod yr Urdd yng Nghasnewydd y flwyddyn nesaf yn foment bwysig a hanesyddol iawn i'n hardal. Mae'n gyfle nid yn unig i groesawu miloedd o ymwelwyr, ond hefyd i gyflwyno mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd i'r Gymraeg a'n diwylliant cenedlaethol.
Ddydd Sadwrn, bydd yr ŵyl groeso yn digwydd yng nghanol Casnewydd, ac mae croeso mawr i bawb fod yno i ddathlu. I mi, y peth pwysig fydd y gwaddol fydd yr Eisteddfod yn ei adael ar ei hôl. A gaf i felly ddatganiad, os gwelwch yn dda, sy'n disgrifio sut y bydd y Llywodraeth yn cydweithio â'r Urdd, awdurdodau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol i sicrhau bod yr Eisteddfod yn cael effaith barhaol ar y defnydd o'r Gymraeg, ac ar hyder defnydd cymunedol ledled Casnewydd Islwyn, a Bro'r Wenynen yn ei chyfanrwydd?
Diolch i'r Aelod, a phob hwyl i bawb sy'n ymwneud efo'r ŵyl groeso sydd i ddod. A dwi'n edrych ymlaen at fod yn mynychu Eisteddfod Bro'r Wenynen y flwyddyn nesaf. Mi fydd o, fel mae'r Aelod wedi dweud, yn gyfle aruthrol i'r ardal. Ac rydyn ni'n gwybod yr hwb sy'n dod i ardal ac i Gymreictod pan fydd Eisteddfod yr Urdd yn dod yna.
Yn sicr, mae o'n un o'r pethau roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig iawn yn eu cylch, fel llefarydd yn yr wrthblaid, nad oedd digon o gynllunio yn cael ei wneud o ran gwaddol. A'r sicrwydd yr hoffwn i ei roi i'r Aelod, a phob Aelod arall, ydy fy mod innau a'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn cael trafodaethau ar y funud o ran sut mae rhoi'r fframwaith gwaddol yna yn ei le o ran Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe fyddwch wedi fy nghlywed yn sôn am ddigwyddiadau eraill ledled Cymru.
Mae yna fuddsoddiad, wrth gwrs, gan y Llywodraeth hon yn mynd i mewn i hynny, ac mae sicrhau bod y gwaith gwaddol hwnnw nid dim ond yn disgyn ar y bobl brysur iawn sydd yn codi arian tuag at yr eisteddfodau hyn, ond ein bod ni'n gallu gweithio efo rheini fel y mentrau iaith ar lawr gwlad i sicrhau gwaddol, yn eithriadol o bwysig. Felly, wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo, byddaf yn barod iawn i fod yn rhannu hwnnw gydag Aelodau, a chael eich mewnbwn a'ch syniadau chi hefyd. Oherwydd mae'r rhain yn ddigwyddiadau o bwys. Maen nhw yn gadael gwaddol. Ond os medrwn ni gael mwy o waddol drwy gynllunio yn fwy strategol, yna dyna lle dwi innau a'r Gweinidog Cabinet dros addysg Gymraeg eisiau ei gyrraedd.
Drefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar faint o dai amlfeddiannaeth ym Mangor Aberconwy Môn sy'n cael eu defnyddio gan sefydliadau dan gontract y Llywodraeth i gartrefu pobl drwy gynlluniau'r Swyddfa Gartref? A pha asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith ar gostau tai lleol a chyflenwad i etholwyr ar restrau aros, rhai ohonynt wedi bod yn aros ers dros flwyddyn?
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Yn amlwg, rydych chi yn sôn am fater sydd ddim wedi'i ddatganoli i'r Senedd hon. Os bydd yr Aelod angen y manylion cyswllt er mwyn codi unrhyw gwestiynau sydd ganddo yn y ffordd fwyaf priodol, wrth gwrs byddwn i'n hapus i ddarparu'r rheini. Ond, o ran yr hyn sydd o fewn rheolaeth y Gweinidog Cabinet, rydych chi yn sôn am fater sydd ddim yn ddatganoledig fan yna.
Yn olaf ond un, David Mills.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn alw am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ar yr achosion cynyddol o wrthsemitiaeth yn y sector gofal iechyd. Mae'r Ymgyrch yn Erbyn Gwrthsemitiaeth heddiw yn cyhoeddi rhaglen ddogfen arloesol sy'n cynnwys cleifion ac ymarferwyr yn disgrifio profiadau, gan gynnwys saliwtiau Natsïaidd, bygythiadau marwolaeth gwrthsemitiaeth a chleifion yn gwrthod triniaeth gan feddygon Iddewig. Bu cynnydd cyflym eithriadol mewn gwrthsemitiaeth dros y tair blynedd diwethaf, ac mae Iddewon Prydain wedi bod yn cymryd camau i guddio eu hunaniaeth Iddewig. Er bod y rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn canolbwyntio ar Loegr, byddwn yn synnu pe bai Cymru yn ddiogel rhag y broblem hon. Felly, a allwn ni gael datganiad yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro gwrthsemitiaeth yn ein gwasanaethau gofal iechyd, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i'w ddileu?
Diolch. A gaf i fod yn glir iawn bod gwrthsemitiaeth yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei gondemnio? Dylem i gyd weithio'n rhagweithiol i sicrhau nad oes neb yn cael ei dargedu yn y fath fodd a theimlo'n anniogel. Mae twf gwrthsemitiaeth a chasineb yn rhywbeth a ddylai uno pob un ohonom i'w gondemnio a gweithio'n galed yn ein cymunedau i sicrhau bod yna gydlyniant cymunedol a bod neb yn cael ei dargedu yn y fath fodd. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb yn arwain ar y gwaith hwn ar ran Llywodraeth Cymru, er ei fod wrth gwrs yn eiddo i bob un ohonom. Felly, unrhyw Aelod yma sy'n poeni am faterion o'r fath, ymgysylltwch â'r gwaith hwn, oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd.
Drefnydd, hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog perthnasol ynghylch y meini prawf a ddefnyddir wrth ddyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi. Nododd cyhoeddiad i'r wasg yr wythnos diwethaf ynghylch cymorth bwyd a thlodi brys na fydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi, ond, yn hytrach, y bydd cyfran ychwanegol o'r cyllid yn cael ei ddosbarthu yn ôl pa mor wledig yw cymuned.
Mae fformiwla hirsefydlog ar gyfer dosbarthu cyllid o'r fath, a phrosesau sefydledig ar gyfer gwneud newidiadau i'r fformiwla hon. Mae eich Llywodraeth wedi rhwygo honno trwy ddatganiad i'r wasg, a dywedir wrthyf fod cynghorau yn dal i aros am fanylion bron i wythnos ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud. Rwy'n poeni'n fawr, heb ddadl na chraffu, y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dargyfeirio cyllid posibl oddi wrth gymunedau fel Trelái, Caerau, de Glanyrafon, Pentre-baen, Grangetown, Butetown a'r Sblot, er gwaethaf yr heriau sylweddol o dlodi sy'n wynebu trigolion yno. Yn sicr, mae consensws ar draws y Siambr hon mai'r ffordd fwyaf effeithiol o dargedu cyllid sydd â'r bwriad o leddfu tlodi yw ei ddyrannu yn ôl lefelau tlodi ac angen. Mae angen i'r Gweinidog esbonio ar frys pam ei bod yn credu'n wahanol. Diolch yn fawr.
Diolch. I'r Aelod fod yn ymwybodol, y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb yw'r Aelod perthnasol; roeddech chi'n gofyn ar ddechrau eich cwestiwn pa Weinidog a oedd yn gyfrifol am hynny, felly i roi'r sicrwydd hwnnw.
Gaf i ei gwneud hi'n glir? Mae hi wedi bod yn ddiamwys o ran y Llywodraeth hon bod taclo tlodi ym mhob rhan o Gymru yn flaenoriaeth. Mae ein holl raglen lywodraethu ni, os edrychwch chi, y ffocws traws-Lywodraeth hwnnw, ym mhob portffolio, yn gyfan gwbl glir bod taclo tlodi yn eithriadol o bwysig ac yn rhywbeth rydyn ni yn ei flaenoriaethu. Mi fydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol, dwi'n siŵr, bod yna broblemau o ran tlodi gwledig yn benodol sydd angen eu taclo. Yn aml, mae hwn yn rhywbeth sydd wedi ei guddio, ac mae hi'n bwysig iawn bod y gefnogaeth rydyn ni'n ei rhoi er mwyn sicrhau bod pawb, ym mhob cornel o Gymru—. Rydyn ni'n gwybod, ym mhob un etholaeth, bod yna bobl yn byw mewn tlodi na ddylai fod yn byw mewn tlodi, ac mai record y Llywodraeth Lafur ddiwethaf oedd cynyddu nifer y plant yn byw mewn tlodi. Dyna pam ei bod hi'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon weithio ar draws Gweinidogion i fynd at wraidd y broblem.
Diolch yn fawr iawn, Drefnydd—16 cwestiwn mewn 29 munud.
Symudwn ymlaen i'r eitem nesaf, datganiad gan y Prif Weinidog, 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.
Ym mis Mai, dywedodd pobl Cymru yn glir eu bod eisiau lefel newydd o uchelgais i'n cenedl. Gan weithredu ar y mandad i osod ein golygon yn uwch nag y mae Llywodraethau blaenorol wedi'u gwneud a meithrin dyfodol mwy gobeithiol i Gymru, rwy'n falch heddiw o gyhoeddi ein rhaglen lywodraethu. Mae 'Uchelgais Newydd i Gymru' yn adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth ac yn nodi sut y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yn ein maniffesto dros dymor y Senedd.
Mae'r rhaglen hon wedi'i hadeiladu o amgylch y materion sy'n bwysicaf i fywydau bob dydd pobl: cynaliadwyedd y gwasanaeth iechyd a gofal; costau byw; swyddi sgiliau uchel a chyflog da; codi safonau mewn addysg; mynd i'r afael â thlodi plant ac agor drysau i bobl ifanc; a sefyll i fyny dros Gymru bob amser.
Am gyfnod rhy hir, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei mesur yn ôl nifer y camau gweithredu, nid y canlyniadau. Mae hynny'n newid rŵan. O hyn ymlaen, mi fydd gan bob cam gweithredu bwrpas clir, sef gwella bywydau pobl. Mi fydd blaenoriaethu yn ganolog i'n dull gweithredu. Mae llywodraeth effeithiol yn golygu canolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau ar y meysydd lle gallan nhw wneud y gwahaniaeth mwyaf, bod yn glir ynghylch y canlyniadau rydyn ni am eu sicrhau, a bod yn atebol am eu cyflawni nhw. Mi ddylai hynny fod yn wir bob amser, ond mae'n bwysicach nag erioed ar adeg pan fo adnoddau'n brin.
Ddirprwy Lywydd, am gyfnod rhy hir, mae gweithio heb ymwneud ag eraill wedi rhwystro cynnydd. Bydd y Llywodraeth newydd hon yn gweithio ar draws ffiniau traddodiadol i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas. Dyna pam y mae atal, cynhyrchiant, yr argyfwng hinsawdd a natur a'r Gymraeg wedi'u hymgorffori ym mhob agwedd ar ein rhaglen. Nid blaenoriaethau ar wahân ydyn nhw, maen nhw'n sail i bob agwedd ar sut y byddwn yn cyflawni newid a gwella canlyniadau ledled Cymru. Byddant yn llunio gwaith pob Gweinidog a phob rhan o'r Llywodraeth.
Yn ei hanfod, nod y rhaglen yma ydy creu dyfodol gwell i Gymru. Gan ddilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym ni wedi dod â'n hamcanion llesiant a'n rhaglen lywodraethu ynghyd mewn un fframwaith—fframwaith sy'n nodi'r dyfodol rydyn ni am ei greu a'r camau fyddwn ni'n eu cymryd i gyflawni hynny.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu'n ymarferol? Mae'n golygu blaenoriaethu'r meysydd lle gallwn ni gael yr effaith fwyaf. Mae gwasanaeth iechyd a gofal sy'n ffit ar gyfer y dyfodol yn rhywbeth y mae pob dinesydd Cymreig ei angen ac yn ei haeddu. Mae hyn nid yn unig yn golygu cymryd camau ar unwaith i leihau'r rhestrau aros sy'n parhau'n annerbyniol o hir, ond hefyd sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf gwerthfawr yn gynaliadwy ac yn wydn ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn ailgydbwyso adnoddau tuag at atal salwch, gwell mynediad at wasanaethau a gwell gofal cymdeithasol. Rydym eisiau dyfodol lle mae atal salwch yn cael yr un flaenoriaeth â thrin salwch, lle mae gwasanaethau wedi'u cynllunio o amgylch pobl a chymunedau, a lle mae pob rhan o'r Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i wella iechyd a llesiant. Ac wrth i'r argyfwng costau byw barhau i frathu a gwyntoedd blaen byd-eang yn bygwth anwadalrwydd pellach yn y misoedd nesaf, bydd fy Llywodraeth yn helpu aelwydydd i gael dau ben llinyn ynghyd.
Ar adeg pan fo llawer o deuluoedd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, byddwn yn cymryd camau i wneud bywyd bob dydd yn fwy fforddiadwy. Yn ganolog i'r ymdrech honno mae ein cynnig gofal plant newydd trawsnewidiol, a fydd yn helpu teuluoedd gyda chostau byw, yn cefnogi rhieni i gael gwaith a hyfforddiant a gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i'r afael â thlodi plant. Byddwn hefyd yn mynd i'r afael ag un o'r pwysau mwyaf ar gyllidebau aelwydydd trwy wella mynediad at dai fforddiadwy a diogel, gan gynnwys trwy ein hymrwymiad i ddarparu o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030.
Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Gyllid gyhoeddi gostyngiad o 30 y cant yn yr ardrethi busnes ar gyfer y sectorau hamdden a lletygarwch. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei groesawu yn eang gan y diwydiant, ac mae e'n adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth hon i roi cymorth ymarferol i bobl ar adegau heriol. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan annatod o'n bwriad i ryddhau potensial economi Cymru a chreu swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda.
Mae ein huchelgais ar gyfer Cymru yn dibynnu ar economi ffyniannus sy'n hybu ein gwasanaethau cyhoeddus, yn creu swyddi gwerth chweil ac sy'n rhoi boddhad, ac yn darparu sylfaen ar gyfer dyfodol cryfach. Trwy ein cenhadaeth gynhyrchiant, byddwn yn gweithio i haneru'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y DU o fewn 10 mlynedd. Byddwn hefyd yn sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd i helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a chreu swyddi da. Mae gan bob rhan o'r Llywodraeth rôl i'w chwarae wrth dyfu economi Cymru.
Ddirprwy Lywydd, mae pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu'r cyfle i gyflawni eu potensial a llwyddo yn y dyfodol. Ond maen nhw wedi cael eu siomi gan weinyddiaethau blaenorol y mae eu diffyg uchelgais wedi gadael Cymru ar waelod tablau cynghrair.
Dyna pam mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg eisoes wedi cyhoeddi cynllun llythrennedd a rhifedd newydd ac wedi gosod disgwyliadau cenedlaethol clir i godi safonau a helpu pob dysgwr i lwyddo.
Ni allwn ac ni fyddwn yn derbyn mai dyma'r gorau a gawn o ran ein system addysg. Ein dyletswydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf yw gwireddu eu gobeithion a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol â lefel newydd o uchelgais na bennwyd erioed o'r blaen gan unrhyw Lywodraeth yng Nghymru. Mae'r ymrwymiad hwnnw i wella bywydau ein pobl ifanc yr un mor berthnasol i'w blynyddoedd ffurfiannol. Mae blynyddoedd o strategaethau diffygiol a gwariant heb ffocws gan weinyddiaethau blaenorol, wedi'u gwaethygu gan bolisïau cyni dinistriol a fabwysiadwyd gan San Steffan, wedi gadael lefelau tlodi plant yn ystyfnig o uchel. Mae mynd i'r afael â hyn yn rheidrwydd moesol ac yn genhadaeth ddiffiniol y Llywodraeth hon.
Ni ddylai incwm teulu nac amgylchiadau geni plentyn byth bennu ei ddyfodol. Mae Cymru lle y gall pob plentyn ffynnu yn Gymru lle mae cyfleodd ar gael i bawb, a lle mae pob cymuned yn gryfach. Dyna pam, drwy'r rhaglen hon, y byddwn ni'n gweithredu ar draws y Llywodraeth i dorri'r cylch tlodi a chreu cyfleoedd i bob plentyn yng Nghymru.
Yn olaf, bydd fy Llywodraeth yn ddiwyro ac yn ddiymddiheuriad wrth sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan bob amser.
Rydym ni'n credu yn ein cenedl, ac mi fyddwn ni'n cymryd pob cam posibl i ddatgloi ei photensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn. Mi fyddwn ni'n parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cyllid, y buddsoddiad a'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru i ffynnu. Yn hynny o beth, dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod â'r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol fis nesaf.
Yn sail i hyn i gyd mae ein penderfyniad i gyflawni trwy lywodraeth well. Mae Llywodraeth well yn golygu canolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf pwysig, gweithio ar draws ffiniau traddodiadol a sicrhau bod ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch ein cynnydd. Byddwn yn cryfhau ein defnydd o dystiolaeth a data, gan ddysgu bob amser o'r hyn sy'n gweithio. Ddirprwy Lywydd, ar ôl blynyddoedd o golli cyfleoedd a marweidd-dra, rydym yn cael Cymru i symud.
Drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Cymru, gweithio efo'n gilydd a chymryd agwedd hirdymor, mi allwn ni adeiladu cenedl fwy hyderus sy'n barod i wireddu ei photensial enfawr a rhoi gobaith i bobl ar gyfer y dyfodol.
Brif Weinidog, a gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi am gyflwyno eich rhaglen lywodraethu heddiw? Mae llawer yn y rhaglen hon y gall Reform gytuno â nhw. Rydym eisiau i restrau aros ddod i lawr, rydym eisiau safonau yn ein hysgolion i wella, rydym eisiau swyddi â thâl gwell, busnesau cryfach, a gwasanaeth iechyd y gall pobl gael mynediad iddo pan fydd ei angen arnynt. Lle ceir tir cyffredin, byddaf yn dweud hynny.
Aeth Reform i mewn i'r etholiad gan gefnogi mwy o gapasiti llawfeddygol a diagnostig, llythrennedd a rhifedd cryfach mewn ysgolion, diwygio'r system anghenion dysgu ychwanegol, mwy o gyfleoedd galwedigaethol i bobl ifanc a dyfodol cryfach i ffermydd teuluol ledled y wlad. Ond gwir brawf y rhaglen hon yw nid faint o addewidion sy'n cael eu gwneud heddiw, ond pa un a allwn ni ddod yn ôl i'r Siambr hon mewn blwyddyn, dwy flynedd a phedair blynedd a mesur pa un a oes unrhyw beth wedi gwella mewn gwirionedd.
Eich dwyn i gyfrif yw ein cyfrifoldeb ni fel gwrthblaid effeithiol. Cymerwch y GIG. Rydych chi'n addo hyd at 10 canolfan lawfeddygol, mwy o allu diagnostig, llwybrau clinigol cryfach a hyd at 100 yn fwy o feddygon teulu. Mae'r rhain yn ymrwymiadau uchelgeisiol a bydd pobl yn disgwyl i'r Llywodraeth hon eu cyflawni. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw hyn: erbyn diwedd tymor y Senedd hon, faint yn is ddylai'r rhestrau aros cyffredinol fod, pryd fydd y canolfannau llawfeddygol hynny yn gweithredu ar gapasiti llawn a faint o gleifion ychwanegol y byddant yn eu trin? Rhowch y llinell sylfaen i ni. Rhowch y targed i ni. Rhowch y dyddiad i ni. Yna, gall y Senedd hon eich cadw chi at eich gair.
Mae'r un peth yn wir am addysg. Mae eich rhaglen yn dweud bod codi llythrennedd a rhifedd yn un o'r heriau mwyaf brys sy'n wynebu ein hysgolion. Byddwn yn cytuno. Mae hefyd yn derbyn y problemau sy'n ymwneud ag absenoldeb parhaus, ymddygiad a'r pwysau ar y system anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn cydnabod y problemau hynny, ond cydnabyddiaeth yw'r rhan hawdd. Ni all ysgolion ddefnyddio cymorth ychwanegol gyda geiriau calonnog, ac ni all awdurdodau lleol fodloni'r galw cynyddol am gymorth gydag adolygiad arall.
Felly, fy ail gwestiwn yw hyn: pa welliant mewn presenoldeb, llythrennedd a rhifedd y dylem ddisgwyl ei weld erbyn 2030, a pha adnodd ychwanegol fydd yn cyrraedd yr ysgolion a'r cynghorau i wneud y system ADY yn gynaliadwy? Unwaith eto, rhowch y niferoedd yn ei erbyn. Mae angen i rieni ac athrawon wybod sut olwg sydd ar lwyddiant. Mae angen i ni ar y meinciau gwrthblaid hyn wybod sut olwg sydd ar eich syniad o lwyddiant.
Mae gwahaniaeth gwleidyddol llawer cliriach rhyngom ni ar yr economi. Mae'r Llywodraeth hon eisiau asiantaethau, comisiynau a rhaglenni newydd. Aeth Reform i mewn i'r etholiad gan gynnig dull gwahanol. Rydym eisiau trethi is, ffyrdd gwell, seilwaith cryfach a Llywodraeth sy'n ei gwneud hi'n haws i fusnesau fuddsoddi a thyfu yma yng Nghymru. Mae eich rhaglen yn sôn am gynhyrchiant a swyddi da. Iawn. Gellir mesur cynhyrchiant. Gellir mesur cyflog. Gellir mesur anweithgarwch economaidd. Gellir mesur creu busnes. Felly, fy nhrydydd cwestiwn yw hyn: pa fesur economaidd y mae'r Prif Weinidog eisiau i ni ei farnu yn ei erbyn yn 2030, a pha darged y mae'n ei osod iddo'i hun? Oherwydd os mai'r ateb yw y bydd Cymru yn fwy ffyniannus, nid yw hynny'n ddigon. Mae angen i ni wybod sut olwg sydd ar gynnydd mewn ffigurau go iawn.
Fe symudaf ymlaen yn awr at y meysydd y mae Reform yn anghytuno arnynt yn sylfaenol. Brif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwybr tuag at sero net erbyn 2040. Nid yw Reform yn cefnogi'r targed datganoledig hwnnw. Rydym yn rhoi mwy o bwysau ar fforddiadwyedd, diogeledd ynni ac ynni niwclear, gan gynnwys y cyfle economaidd drwy adweithyddion modiwlar bach yn Wylfa yn y gogledd, nad oeddent yn ymddangos o gwbl ym maniffesto etholiadol Plaid Cymru. Mewn gwirionedd, does dim llawer o sôn am y gogledd o gwbl yn eich rhaglen lywodraethu, sy'n hynod siomedig.
O ran ffermio, rydych chi'n bwriadu parhau a mireinio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Fe wnaethom ymgyrchu dros ddiwygio llawer mwy sylweddol, gyda chynhyrchu bwyd yn cael blaenoriaeth a biwrocratiaeth yn cymryd y sedd gefn, yn hytrach na llenwi ffurflenni a ffermio yn ôl calendr, sy'n peri risg o ostwng nifer y da byw yng Nghymru. Mae'r rhain yn wahaniaethau teg a dilys, a gall pobl farnu'r canlyniadau drostynt eu hunain.
Rwyf hefyd eisiau mynd i'r afael â'r adran gyfansoddiadol o'r rhaglen hon, oherwydd mae'n mynd ymhell y tu hwnt i ofyn i San Steffan am setliad cyllido teg. Rydych chi'n sefydlu comisiwn cenedlaethol newydd i Gymru. Rydych chi eisiau datganoli cyfiawnder a phlismona, lles wedi'i ddatganoli, pwerau pellach dros ynni, darlledu, dŵr ac Ystad y Goron. Ac mae'r Llywodraeth yn gofyn yn ffurfiol am y pŵer i benderfynu amser, cwestiwn a phroses refferendwm annibyniaeth. Mae gan Blaid Cymru hawl i ddadlau dros y pethau hynny. Mae gan Reform yr un hawl i'w gwrthwynebu. Ni fyddaf byth yn derbyn y syniad bod yn rhaid i chi gefnogi annibyniaeth ac anhrefn cyfansoddiadol i brofi eich bod yn credu yng Nghymru.
Brif Weinidog, mae gen i ddiddordeb yn yr hyn sy'n gweithio, nid beth sy'n cyd-fynd ag ideoleg. Nid oes rhaid cefnogi annibyniaeth i'ch gwneud chi'n Gymro, ac nid yw sefyll i fyny dros Gymru yn gofyn am adael y Deyrnas Unedig. Felly, fy mhedwerydd cwestiwn yw: faint o arian cyhoeddus ac adnoddau gwasanaeth sifil fydd yn cael eu hymrwymo i'r rhaglen gyfansoddiadol hon yn ystod tymor y Senedd hon, a pha ganlyniad ymarferol y byddwch chi'n ei ddefnyddio i ddangos bod y gwariant wedi gwella bywydau beunyddiol pobl?
Mae eich datganiad llesiant eich hun yn dweud y bydd y rhaglen lywodraethu yn cael ei hadolygu bob blwyddyn, ac fe adroddir am gynnydd bob blwyddyn. Da iawn. Ac mae'n rhaid i'r adroddiadau hynny gynnwys digon o wybodaeth gadarn er mwyn i'r Senedd hon a'r cyhoedd farnu a ydych chi'n cyflawni. Erbyn 2030, a fydd pobl yn aros am lai o amser am driniaeth? A fydd plant yn mynychu'r ysgol yn fwy rheolaidd ac yn cyflawni canlyniadau gwell? A fydd cyflogau a chynhyrchiant yn uwch? A fydd gan fusnesau hyder gan fuddsoddi yng Nghymru? A fydd ffermwyr Cymru yn cael eu rhyddhau rhag biwrocratiaeth feichus a'u cymell i gynyddu cynhyrchu bwyd? Rwy'n gofyn i chi ddweud wrthym sut olwg sydd ar lwyddiant mewn niferoedd ac amserlenni. Gosodwch y mesurau nawr, cyhoeddwch nhw bob blwyddyn, ac yna byddwn yn gweld a yw'r Llywodraeth hon yn cyflawni'r hyn y mae wedi'i addo. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd Reform am gytuno ein bod yn cael ein blaenoriaethau'n iawn yn y rhaglen lywodraethu hon ac am addo gweithio mewn ffordd gydweithredol i'n helpu i gyflawni. Dyna'n union sut rwy'n credu y dylem weithredu yma.
Mae'r Aelod yn hollol gywir bod angen Llywodraeth sy'n fodlon ac eisiau cael ei dal i gyfrif. Mae craffu yn bwysig. Dyna pam rydym eisoes wedi cyhoeddi iteriad cyntaf ein dangosfwrdd digidol. Bydd yn datblygu, bydd yn tyfu, gan eich galluogi chi, a'r cyhoedd yng Nghymru, i weld sut rydym yn perfformio yn erbyn ystod o dargedau. Oes, ac wrth gwrs mae gennym elfennau o dargedau trwy gydol ein rhaglen lywodraethu.
Mae yna rai pethau rydyn ni wedi'u gwneud eisoes. Nid oes angen targed arnom i ddweud y byddwn yn cyflawni'r £1 biliwn hwnnw sy'n dangos i amaethyddiaeth Cymru fod hon yn Llywodraeth sy'n credu ynddynt ac eisiau eu cefnogi. Mae'r rhain yn gamau sydd eisoes wedi'u cymryd. Nid oes angen i ni osod targed ar gyfer faint o arian rydyn ni'n meddwl sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd. Rydyn ni eisoes wedi cymryd y camau hynny.
Ond mae'r Aelod yn iawn, felly gadewch i ni edrych ar nifer o'r targedau gwirioneddol allweddol. Ni allwn fod yn gliriach ynglŷn â'r hyn y mae'r cynnig gofal plant yn ei olygu. Rydym eisoes wedi gallu cyrraedd pwynt lle mae'r canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon yn cyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu ar gyfer pob plentyn dwy oed ym mhob rhan o Gymru. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r weinyddiaeth flaenorol wedi methu â gwneud. Fe gawson nhw hyd at dri. Rydyn ni'n cyrraedd 22.
Ar addysg, yn ddiddorol, y gwaith y mae angen i ni ei wneud—mae gennych gefndir mewn addysg—yw dod o hyd i linell sylfaen y gallwn adeiladu arni. Bydd targedau o amgylch elfennau fel y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, sy'n un mesur yn unig, ond rydym yn rhoi'r llinellau sylfaen hynny ar waith yn llwyr fel y gallwn adeiladu'r union fframwaith hwnnw fel bod ysgolion a rhieni a disgyblion yn gwybod at beth y maen nhw'n anelu.
Mae cwestiwn am gynhyrchiant. Beth yw ein targedau o ran cynhyrchiant? Mae Gweinidog mentergarwch y Cabinet wedi cyhoeddi'r targed priodol cyntaf ar gyfer twf economaidd yng Nghymru ers chwarter canrif. Mae'n eithaf uchelgeisiol, ond rwy'n gwybod bod gennym y modd i gyrraedd yno. Nid yw, fel mae'n digwydd, o fewn oes y Senedd hon, oherwydd mae'n rhaid i ni feddwl yn y tymor hir am yr economi. Mae hyn yn haneru'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y DU o fewn 10 mlynedd. Nawr, mae hynny'n darged arwyddocaol, a thrwy gydol tymor y Senedd hon a thu hwnt, fel cenedl, mae angen i ni fod yn gweithio tuag at y mathau hynny o dargedau uchelgeisiol.
Felly, mae'r targedau yna. Mae'r gwahaniaethau a bwysleisiodd yr Aelod yn rhai sy'n glir i bawb eu gweld: sef nad yw Reform yn credu yng Nghymru fel cenedl, ein bod yn genedl sy'n adeiladu ein dyfodol ein hunain. Dyna fy nghred i. Roeddwn i'n credu mewn datganoli ym 1997, pan gawsom gyfle i bleidleisio. Roeddwn i'n credu mewn cryfhau datganoli pan gawsom y refferendwm yn 2011. Rwy'n credu bod angen i ni ei gryfhau ymhellach. Yr hyn sydd gennym gan arweinydd Reform yw 'na' yn gyfan gwbl: 'Nid ydym eisiau i Gymru gael yr offer. Nid ydym eisiau i Gymru allu llwyddo trwy gael y pwerau neu'r cyllid er mwyn adeiladu dyfodol gwell i Gymru.' Mae hynny'n iawn, mae hynny'n wahaniaeth sylfaenol rhyngom. Fi fydd yr un yma sy'n sefyll i fyny dros Gymru. Gall hi wneud beth bynnag y mae hi eisiau.
Brif Weinidog, a gaf i hefyd ddiolch i chi am eich datganiad heddiw a'ch llongyfarch ar gyhoeddi eich rhaglen lywodraethu? Hon, wrth gwrs, yw'r rhaglen lywodraethu gyntaf nad yw'n cael ei harwain gan Lafur Cymru y mae'r Senedd hon wedi'i gweld, ac rydym yn bwriadu ymateb iddi mewn modd urddasol, gan roi'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu a'u cynrychioli yn gyntaf, ac wrth gwrs gweithio mewn achos cyffredin lle a phryd y gallwn. Edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol ar ddeddfwriaeth yn benodol.
Nawr, mae llywodraethu, fel rwy'n credu eich bod yn cydnabod, yn anodd, ac nid ydym yn bwriadu gwneud eich tasg yn anoddach, ond rydym yn cynrychioli yn ein plaid draddodiad Cymreig mawr gyda chysylltiadau dwfn o undod ledled Prydain ar y sail ein bod yn cyflawni mwy gyda'n gilydd nag y gallwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain. A'n rôl yn y Siambr hon yw sefyll i fyny dros y rhai mwyaf agored i niwed a bod yn llais i'r rhai nad oes ganddynt gyfoeth a braint etifeddol, ond sy'n chwysu ac yn gweithio'n galed dros yfory gwell. Roeddem felly yn siomedig mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth Llywodraeth Plaid Cymru oedd gwanhau ei chynnig ar brydau ysgol am ddim. Addawodd Plaid Cymru yn ei dogfen 100 diwrnod gyntaf i ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd o aelwydydd sy'n hawlio buddion cyffredinol o fis Medi eleni. Ond erbyn mis Mehefin, wrth gwrs, ychydig wythnosau ar ôl yr etholiad, fe wnaethoch chi ddweud mai dim ond i rieni plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 y byddai ar gael eleni. Nid oes dyddiad, yn wir, wedi'i roi ar gyfer ymestyn hyn i flynyddoedd 9, 10 ac 11.
Nawr, dywedodd Bevan mai sosialaeth yw iaith blaenoriaethau, ac un o'ch penderfyniadau cyntaf oedd penderfynu nad oedd cadw addewid etholiadol i rai o'n plant tlotaf yn flaenoriaeth. Pan ddaeth dros £300 miliwn o gyllid canlyniadau ADY i Gymru, unwaith eto fe wnaethoch chi benderfynu nad oedd y plant mwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth ac na ddyrannwyd ceiniog iddynt. Roedd Llafur Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau yn y Llywodraeth ac yn ein maniffesto ar gyfer corff negodi ar gyfer staff cymorth ysgolion, ac er bod y Senedd wedi pleidleisio o'i blaid, mae eich Llywodraeth wedi gwrthod ymrwymo i gefnogi staff cymorth ysgolion ar hyn.
Nawr, Brif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrth bleidleiswyr Llafur traddodiadol yn eich ymgyrch etholiadol eich bod chi'n bâr o ddwylo diogel ar gyfer pleidleiswyr blaengar, ac eto mae eich grŵp bellach yn croesawu aelodau Reform asgell dde. Ac yn eich penderfyniadau cyntaf ar addysg a chyfleoedd i bawb, rydych chi wedi blaenoriaethu ehangu cynnig gofal plant Llafur Cymru i filiwnyddion. Brif Weinidog, a gaf i ofyn i chi heddiw ymrwymo na fydd eich polisïau yn y rhaglen lywodraethu hon yn arwain at ddileu neu leihau cymorth sydd wedi'i anelu at blant dosbarth gweithiol neu agored i niwed, fel Dechrau'n Deg?
O ran gofal iechyd, o dan Lywodraeth Plaid Cymru, mae rhestrau aros cyffredinol a rhestrau aros dwy flynedd yn codi eto, ar ôl gostwng am 10 mis yn olynol o dan Lafur Cymru. Cyn yr etholiad, fe wnaethoch chi addo y byddai nifer y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd yn sero. A allwch chi gadarnhau na fydd y blaenoriaethau a nodwyd gennych yn y rhaglen lywodraethu hon yn eich gweld yn ymwrthod ag addewid arall—addewid, nid dim ond uchelgais, y byddwn yn gweld arosiadau dwy flynedd yn cael eu lleihau i sero o fewn misoedd? A allwch chi gadarnhau faint o fisoedd fydd hynny?
Wythnosau cyn yr etholiad—mewn ymgais, yn amlwg, i gael mudiad undebau llafur Cymru ar eich hochr—ysgrifennoch hefyd at ymwelwyr iechyd Cwm Taf yn cefnogi eu galwad i uwchraddio holl ymwelwyr iechyd band 6 i fand 7. Mae gweinidogion, unwaith eto, wedi gwrthod yr addewid hwn, ac mae ymwelwyr iechyd yn iawn i deimlo eu bod wedi'u bradychu. Felly, a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, a wnewch chi nawr gyflawni eich addewid i'r gweithwyr hyn ac i Undeb Unite?
Eraill a fydd yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u bradychu gan y rhaglen lywodraethu hon yw pobl yn y gogledd, fel y mae Helen Jenner eisoes wedi'i nodi, yn benodol y rhai yn sir y Fflint a Wrecsam, oherwydd fel y Wrexham.com wedi nodi, ar gyfer y gogledd-ddwyrain, nodwedd nodedig yw absenoldeb. Mae fel petai rhannau o Gymru eisoes yn cael eu gadael ar ôl. Mae sefyll i fyny dros Gymru yn golygu uno pobl Cymru, nid chwilio am ffordd o weithredu a fydd yn rhannu Cymru, rhannu'r genedl, rhannu ein teuluoedd a rhannu ein cymunedau, fel y gwnaeth Brexit. Mae sefyll i fyny dros Gymru yn golygu cymryd camau i wella Cymru, nid cynhyrchu llu o gynlluniau.
Nid yw'n rhy hwyr, fodd bynnag. Nid yw'n rhy hwyr. Gofynnaf i chi, yn olaf, Brif Weinidog, weithio gyda ni yn yr ysbryd y gwnaethoch ymgyrchu, yn ysbryd nid yn unig gwleidyddiaeth adeiladol, ond hefyd gwleidyddiaeth flaengar, oherwydd pan fydd pobl Cymru yn cael eu blaenoriaethu, gallaf eich sicrhau y byddwch yn dod o hyd i bartner parod ac adeiladol ynom ni.
Rwy'n diolch i'r arweinydd Llafur am ddechrau ei gyfraniad mewn ffordd gadarnhaol. Mae llywodraethu yn anodd, fel y gŵyr. Ni fu erioed fwyafrif yn hanes datganoli, ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weithio ar draws y Siambr hon mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy ddatblygu deddfwriaeth, ac awgrymodd ei fod eisiau gweithio gyda ni ar hynny.
Gan droi at fwy o'r pwyntiau a godwyd—ar y GIG, roedd, ac mae'n dal yn flaenoriaeth Rhif. 1. Mae hon yn Llywodraeth sydd eisoes wedi gwneud dewisiadau, gan gynnwys cytundeb cyllideb gyda'r Llywodraeth Lafur ddiwethaf, i sicrhau bod gennym yr adnoddau i wneud yn siŵr ein bod yn adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i'r GIG. Rydym yn dechrau rŵan o'r waddol a etifeddwyd gennym o'r Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Mae data yn dod drwodd rŵan o adeg yr etholiad a'r wythnosau ar ôl hynny, ac, ydi, mae'n cadarnhau pa mor ofnadwy yw'r sefyllfa rydyn ni'n ceisio ei datrys. Ond trwy'r mesurau a amlinellir yn y rhaglen lywodraethu hon, gan adeiladu tuag at gyflwyno hyd at 10 canolfan, newid pwyslais o ran patrymau gwaith meddygon—mae hyn yn cael ei arwain yn glinigol, cofiwch, i ryddhau amser, i gael mwy o bobl drwy'r system—chwistrellu £150 miliwn, rhan o hyn yn glinigol, rhan ar gyfer yr adeiladau eu hunain, a fydd yn gartref i GIG cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, rydym yn sefyll yn gadarn wrth yr addewidion yr ydym wedi'u gwneud ac wrth wneud hyn yn flaenoriaeth.
Ar yr elfen hon nad yw'r gogledd rywsut yn cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu hon, rwy'n dod o le sydd hyd yn oed ymhellach i'r gogledd nag y mae ef, ac mae hon yn Llywodraeth—ac rwyf wedi ei gwneud yn glir—nad yw'n ymwneud â'r symboleiddiaeth o fod â Gweinidog gogledd Cymru; mae pob un Gweinidog yn y Llywodraeth hon yn Weinidog gogledd Cymru ac yn Weinidog de Cymru ac yn Weinidog gorllewin Cymru, oherwydd ein bod yn credu mewn dod â Chymru at ei gilydd ac adeiladu dyfodol mwy disglair i bobl, ble bynnag y maent. Ac nid yw ymosod ar Brif Weinidog cyntaf gogledd Cymru sydd rywsut ddim yn poeni am y gogledd yn rhywbeth y mae pobl yn mynd i gredu sy'n gwneud synnwyr o gwbl, a dweud y gwir.
Rwy'n dod yn ôl at anghenion dysgu ychwanegol ac yn atgoffa'r Aelod eto fod ganddo £9 miliwn yr oedd Llafur yn mynd i'w roi mewn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn bwysig iawn; rydym yn falch ei fod yn gwneud hynny hefyd. Roedd gennym £100 miliwn ar y bwrdd; mae gennym £40 miliwn y gallwn ei wario eleni. Dyna beth mae'r blaid hon yn ei roi ar y bwrdd, o ddifrif, mewn ffordd lle nad arian yn unig yw arian ond arian y gellir ei wario—arian y gellir ei wario i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynghorau, i ysgolion, i rieni, i blant. Mae'r cynnig yn dal i fod ar gael. Mae'n rhaid i hyn fod yn ymwneud â mwy na gwleidyddiaeth.
Ac rwyf am orffen, os caf i, ar yr ymosodiad hwn, yr wyf wedi clywed sôn amdano ac wedi darllen amdano yn y papur—ac roeddwn i'n meddwl, 'Does bosib ei fod yn mynd i wneud y cyhuddiad yma yn Siambr y Senedd'—bod y cynnig gofal plant yn rhywbeth y mae'n ei wrthwynebu yn ei gyffredinolrwydd. Felly, yn sydyn, mae'r Blaid Lafur yn gwrthwynebu'r cyffredinolrwydd sy'n darparu tocynnau bws i bensiynwyr, felly gallwn gymryd yn ganiataol bod Llafur eisiau dileu tocynnau bws i bensiynwyr, gallwn gymryd yn ganiataol eu bod yn erbyn cyffredinolrwydd presgripsiynau am ddim. A allwn ni ddechrau meddwl eu bod hefyd eisiau i gyffredinolrwydd y GIG, hyd yn oed, gael ei gymryd oddi wrth bobl? A yw'n hapus i greu system ddwy haen lle mae pobl gyfoethog yn cael eu cefnogi i fynd i ofal iechyd preifat, neu a yw, fel fi, yn credu y bydd po fwyaf y gallwn ni ei adeiladu gyda'n gilydd—ie, gan gynnwys yr egwyddor honno o gyffredinolrwydd—yn ein clymu gyda'n gilydd fel cenedl ac yn rhoi atebion i ni ar gyfer y tymor hir sy'n mynd i'r afael ag anghenion pobl ym mhob rhan o Gymru o bob cefndir?
Mae gennym yma raglen lywodraethu sy'n ymwneud â thrawsnewid Cymru, ac rwy'n credu mai'r pwynt i'w wneud ynghylch y ffaith bod llywodraethu yn anodd yw bod llywodraeth yn anodd, yn enwedig pan fyddwch chi'n etifeddu ystod eang o faterion nad ydynt yn ein rhwystro, nad ydynt yn gwneud i ni leihau ein huchelgeisiau, ond sy'n gwneud i ni weithio'n galetach i'w cyflawni i bobl Cymru.
Mae bob amser yn ddiddorol gwylio ysgariad aflêr—[Chwerthin.]—a bobl bach onid yw wedi bod yn un anhrefnus.
A gaf i ddiolch i chi, Brif Weinidog, am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch eich datganiad, er nad mor ymlaen llaw â hysbysiad y Western Mail heddiw, a oedd yn ymddangos fel pe bai'n cynnwys mwy o fanylion nag yr hyn a gafodd unrhyw Aelod o'r Senedd hon cyn ei ryddhau am 9.34am y bore 'ma? Rwy'n ofni dweud, eto, ychydig o ymdeimlad o déjà vu, llawer o aildorri ac ail-greu eich maniffesto, aildorri ac ail-greu eich cynllun 100 diwrnod, a dim ond hyn a hyn o ail-greu y gallwch chi ei wneud gyda'r un ddogfen drist i geisio rhoi sglein ar yr hyn y byddai llawer o bobl yn ei disgrifio fel rhywbeth na fyddaf yn cyfeirio ato. Oherwydd dyna, mae gen i ofn, sut fydden nhw'n ei ystyried.
Mae'n rhaid i mi ddweud yr oeddwn yn gwrando'n astud ar y radio y bore 'ma, fel y gwnaethoch ganfod yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, a chyfeiriodd Laura McAllister at eich cynllun 100 diwrnod fel 'gimic'—rwy'n cytuno â hi, ac nid bob amser rwy'n cytuno â Laura McAllister, ond rwy'n cytuno â hi ar hynny. Ac yn awr, wrth gwrs, mae angen rhoi troed ar y sbardun o ran cael rhywfaint o gyflawni ar gyfer bobl Cymru. Ac nid yw'n mynd yn dda iawn hyd yn hyn, nac ydyw? Amseroedd aros i fyny, sgoriau PISA i lawr, nid yw eich ymffrostio gwleidyddol ynghylch annibyniaeth yn gwneud llawer o wahaniaeth, ni waeth pa mor uchel rydych chi'n sgrechian. Nawr, fe ddywedaf, edrychwch, mae yna dipyn o uchelgais yn y ddogfen hon yr ydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ei rannu—rydyn ni eisiau gweld Cymru fwy ffyniannus, rydyn ni eisiau gweld Cymru fwy addysgedig, rydyn ni eisiau gweld Cymru iachach; rydyn ni eisiau gweld yr holl bethau hynny—ond rwy'n ofni ei fod yn ysgafnach o ran manylion nag yr hoffwn o ran yr argaeledd i gyflawni'r pethau hynny.
Gadewch i mi droi at y GIG am eiliad, oherwydd rwy'n bryderus iawn am y GIG, fel chi, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n agos at eich calon. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur; nid oeddech chi'n cyfeirio at argyfwng yn y GIG, ac mae'n argyfwng ac mae llawer o bobl yn ei weld felly. Un peth rydyn ni'n ei wybod yw bod yr argyfwng hwnnw'n cael ei achosi i raddau helaeth, yn ôl y clinigwyr eu hunain, ac yn ôl y colegau brenhinol, gan gynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol, a oedd yma yr wythnos diwethaf yn y Senedd, o ganlyniad i'r sefyllfa gwelyau yn ein GIG. Yn syml, nid oes digon o welyau. Roedd y Blaid Lafur yn drychinebus o ran ei rheolaeth o'r GIG; rwy'n cytuno â chi ar hynny. Fe aethon nhw rhy bell wrth dorri nifer y gwelyau a hynny'n rhy gyflym, ac mae pobl bellach yn dioddef o'r herwydd.
Ychydig dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae 21 y cant o welyau llawfeddygol acíwt wedi mynd yn y GIG yng Nghymru, un rhan o bump o'n capasiti. Mae tri ar ddeg y cant o welyau meddygol acíwt wedi mynd. Nid yw'n syndod nad yw ein hadrannau brys yn gallu dod o hyd i'r gwelyau yn yr ysbytai hynny pan fydd eu hangen ar gleifion. Ni wnaethoch chi gyfeirio at y sefyllfa honno. Rwyf eisiau gwybod beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gynyddu nifer y gwelyau hynny yn y tymor byr i ddatrys y broblem honno. Oherwydd gadewch i mi ddweud wrthych: rydych chi'n creu canolfannau llawfeddygol, mae angen gwelyau ar bobl wrth iddyn nhw wella o lawdriniaeth, yn enwedig os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Felly, rydw i eisiau gwybod beth ydych chi'n ei wneud yn y maes hwnnw.
Fe wnaethoch chi hefyd awgrymu y bydd newid yn y ffordd y mae'r GIG yn cael ei ariannu, gyda mwy yn mynd i ofal sylfaenol. Nawr, rwyf eisiau i fwy o arian fynd i'n gwasanaethau gofal sylfaenol, ond nid wyf eisiau iddo fod ar draul gofal ysbyty. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i mi heddiw, Brif Weinidog, a phobl Cymru, na fyddwch chi'n torri cyllid i'n hysbytai yng Nghymru er mwyn gwneud iawn am y buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn gofal sylfaenol? Oherwydd mae angen i ni wybod.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y costau byw. Rwy'n cytuno â chi bod angen gweithredu ar hynny. Dyna pam y codais yr angen i wneud rhywbeth ar y dreth gyngor heddiw yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Mae angen gweithredu i ymestyn gofal plant am ddim. Roedd gennym gynllun gofal plant am ddim hefyd, a byddwn yn eich cefnogi i allu ceisio darparu mwy o ofal plant am ddim. Roedd ein un ni ychydig yn wahanol; roeddem eisiau rhoi mwy o ddewis i rieni fel y gallai neiniau a theidiau ofalu am eu plant hefyd, ac roedd hynny'n well i'r trethdalwr o ran cost. Ond rydw i eisiau gwybod beth rydych chi'n ei wneud i dorri trethi. Allwch chi dorri rhai trethi i ni? Ceiniog oddi ar dreth incwm. Onid yw'n bosibl crafu rhywfaint o arian oddi ar y gyllideb lle mae gennym wastraff, lle mae gennym haelioni, fel y gallwn roi arian yn ôl ym mhocedi pobl fel y gallant benderfynu sut i'w wario yn yr economi eu hunain?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at eich dogfen—. Gyda llaw, pan ddaeth y datganiad drwodd, fe wnes i glicio ar y ddolen llesiant. Nid oedd yn gweithio. Rwy'n gobeithio nad yw hynny'n arwydd ar gyfer y dyfodol o ran a fyddwch chi'n gallu cyflawni pethau. Yn y pen draw, fe wnes i ddod o hyd i'r ddolen gywir. Fe wnaethoch chi siarad yno am yr awydd i ganiatáu i bobl brynu eu hasedau cymunedol eu hunain. Rwy'n cefnogi hynny; byddwn yn eich cefnogi gyda hynny. Rwyf eisiau i bobl allu prynu eu cartrefi eu hunain. Rydw i eisiau dileu'r dreth stamp. Rydw i eisiau'r hawl i brynu ddod yn ôl. Rwyf eisiau sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto. Nid oes digon o fanylion ar y pethau hynny yn eich cynllun.
Mae gen i bob math o bethau eraill yr hoffwn eu trafod, ond mae'r cloc yn fy erbyn. Gadewch i mi ddweud hyn: os ydych chi'n gallu cyflawni eich uchelgeisiau, llawer ohonyn nhw yr ydym yn eu cefnogi, byddwn yn ceisio gweithio ar y cyd â chi. Gallai fod yn anodd. Efallai y bydd rhywfaint o faglu ar hyd y ffordd, ond rydym yn barod i estyn allan ar sail drawsbleidiol, ac roedd yn dda clywed yr un neges gan Reform hefyd, i geisio gwneud Cymru yn lle gwell. Ond peidiwch â bod dan gamargraff: rydyn ni eisiau gweld Cymru lle mae trethi'n is, lle mae diwedd ar wariant gwastraffus, lle mae llai o bwyslais ar yr ymffrostio gwleidyddol a mwy o bwyslais ar y swyddi o ddydd i ddydd gan ddefnyddio'r pwerau a'r adnoddau hynny sydd gennych eisoes i sicrhau dyfodol gwell i'n gwlad.
Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, y tir cyffredin sydd gennym, ac mae'n gadarnhaol iawn bod gennym dri arweinydd plaid nawr sy'n dweud eu bod eisiau gweithio'n gadarnhaol ac yn adeiladol. Ni fydd ar bopeth—mae gwahaniaethau rhyngom, rydyn ni'n gwybod hynny—ond mae yna deimlad cadarnhaol yma bod yna elfennau o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn y lle hwn, o ddeddfwriaeth i gyllidebau a phob math o bethau eraill, lle mae angen i ni weithio gyda'n gilydd.
Mae'n rhaid i mi ddweud bod y cyhuddiad bod hwn rhywsut yn ail-greu ein maniffesto, bod gennych faniffesto, rydych chi'n sefyll mewn etholiad, rydych chi'n cael eich ethol, mae gennych fandad, ac yna, rhywsut, rydych chi'n rhwygo'r maniffesto ac yn dechrau eto—. Nid dyna sut mae'n gweithio. Nid dyna sut mae'n gweithio. Os yw hyn yn teimlo fel ein maniffesto, hynny yw bod hwn yn adlewyrchu'r hyn y gwnaethom addo i bobl Cymru y byddem yn ei wneud, gyda'r blaenoriaethau ar iechyd ac addysg a chreu swyddi a gofal plant a thlodi plant a sefyll i fyny dros Gymru, mae'n gwneud ei waith, felly diolch yn fawr iawn am gadarnhau hynny, Darren.
Rydych chi hefyd yn beirniadu—. Rwy'n deall; mae craffu yn cynnwys beirniadaeth. Rwy'n dweud yn onest, ar iechyd, ein bod yn wynebu brwydr anodd oherwydd ein bod yn etifeddu rhai problemau difrifol, nid pob un ohonynt oherwydd bai y Llywodraeth ddiwethaf, ond dyna beth wnaethom etifeddu.
Ar PISA, peidiwch â beirniadu ni ar sgoriau PISA. Cymerwyd y profion PISA hynny yn 2025, cyn i ni ddod i rym. Ond mae'n adlewyrchu eto raddfa'r her sy'n ein hwynebu.
Mae'r Aelod yn canolbwyntio, yn benodol, ar iechyd, ac, ydi, mae'n rhywbeth sy'n bwysig i mi, ond mae'n bwysig i bob un ohonom yma, rwy'n credu, cael y GIG yn iawn. Mae plaid yr Aelod yn aml wedi gwneud yr achos y dylem ddatgan argyfwng. Rwy'n sicr yn credu bod yna argyfwng mewn sawl rhan o'r GIG. Nid wyf yn argyhoeddedig bod datganiad o argyfwng yn y ffordd honno yn arbennig o ddefnyddiol. Mae yna awgrymiadau yno y dylem gael mwy ynghylch gwelyau yma. Rwyf wedi gwneud yr achos dros wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y mwyaf o gapasiti ein system iechyd yn y gorffennol, ond nid yw mor syml chwaith. Bydd ein canolfannau llawfeddygol—bydd y rhan fwyaf o'r bobl a fydd yn mynd trwy ganolfannau llawfeddygol yn mynd adref yr un diwrnod. Hefyd, yn fy ysbyty cyffredinol dosbarth lleol, nid diffyg gwelyau ydyw; mae'n ymwneud â diffyg trwygyrch a nifer y bobl. Mae'r un peth ble bynnag yr ydym ni. Niferoedd y bobl sy'n feddygol addas ar gyfer eu rhyddhau ac sy'n dal yn ein hysbytai, dyna'r problemau. A ddylem fod ag uchelgais i gynyddu'n llwyr ble gallwn, gan gynnwys capasiti gwelyau, gyda'r staff i fynd gyda nhw? Dylem, yn hollol. Ond rydyn ni hefyd yn gweithio o fewn cyfyngiadau. Cofiwch fod y cynlluniau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith ac sy'n cael eu hadlewyrchu yn y ddogfen hon yn cael eu harwain yn glinigol, ac nid ydynt yn dweud wrthym fod angen mwy o welyau—maen nhw'n dweud bod angen cymryd nifer o gamau. Ond nid wyf yn diystyru'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud.
Ar symud adnoddau tuag at sylfaenol—ac rwy'n cynnwys ataliol, er bod ataliol ychydig yn wahanol hefyd—mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid i chi fod yn ofalus. Nid ydym yn awgrymu ein bod yn mynd i gyflawni mewn un naid. Rydyn ni'n siarad am 0.5 pwynt canran y flwyddyn o gynnydd. Ond mae'n digwydd mewn ffordd araf a chynaliadwy oherwydd nad ydych chi eisiau effaith niweidiol ar ofal eilaidd, sydd, mewn sawl ffordd, yn ochr ddrud y gwasanaeth iechyd. Ac mae cael y rhestrau aros hynny i lawr, yr amseroedd aros uwch yn arbennig, yn cymryd y pwysau, gobeithio, oddi ar ofal eilaidd, sydd wedyn yn helpu'r trosglwyddiad hwnnw i ofal sylfaenol.
Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn dweud bod yna lawer o uchelgais yn y ddogfen hon yr ydyn ni'n ei rannu. Mae hwnna'n dda. Felly, gadewch i ni weithio ar y meysydd hynny. Mae'r un gwahoddiad yn mynd i Aelodau mewn pleidiau eraill. Mae hyn yn ymwneud ag uchelgais, fel mae'n dweud, ond, ar ddiwedd y dydd, rydyn ni'n mynd i gael ein mesur ar ba un a ydym yn gallu gwireddu, os nad 100 y cant, swm a sylwedd yr hyn rydyn ni'n ei ddweud ein bod ni'n mynd i geisio ei gyflawni ar ran pobl Cymru yma.
Diolch am y datganiad, Brif Weinidog. Mae'n wych gweld bod codi safonau yn ein hysgolion yn un o ddyheadau allweddol y Llywodraeth hon. Ac rwy'n credu bydd hynny hefyd yn amlwg o ddatganiad y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yr wythnos diwethaf. Mae'r cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn cynnig cyfle gwirioneddol i gael y seilwaith yn iawn. Heb os, bydd y broses o weithredu a chyflawni canlyniadau gwell yn y pen draw yn her enfawr. Ond, fel y dywedodd Gweinidog y Cabinet yr wythnos diwethaf, ni ddylem ymddiheuro am osod safonau a disgwyliadau uchel. Mae amserlen glir ar gyfer cyflawni'r gwaith ac mae'n rhaglen uchelgeisiol.
Mae'n dod ar adeg pan mae ysgolion eisoes yn delio ag anghenion disgyblion sy'n mynd yn fwyfwy cymhleth, pryderon ynghylch ymddygiad, llwyth gwaith athrawon, a heriau o ran recriwtio a chadw staff. O ystyried pwysigrwydd y cynllun a'n huchelgeisiau o ran addysg, pa gymorth pellach bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i athrawon ac i staff ehangach yn ystod tymor y Senedd hon er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol i gyflawni'r cynllun?
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau ac am y cwestiwn yna. Ydy, mae hwn yn un o'n prif flaenoriaethau ni. Dydy safonau ein hysgolion ni ddim lle, dwi'n meddwl, rydyn ni i gyd yn fan hyn yn cytuno y dylen nhw fod. Mae'r fframwaith llythrennedd a rhifedd, dwi'n meddwl, yn mynd i droi allan i fod yn rhywbeth gwerthfawr iawn o ran cymryd golwg o'r newydd ar sut rydyn ni'n mynd ati i gryfhau'r sgiliau sylfaenol yna. Ond mae'r Aelod, Ddirprwy Lywydd, yn cyfeirio at fwy na dim ond beth sy'n cael ei ddysgu yn y gwersi; mae o'n ymwneud â'r gefnogaeth sydd yn cael ei rhoi i staff. Rydyn ni'n gwybod bod materion fel canrannau mynychu ysgolion ac ymddygiad mewn ysgolion i gyd yn rhan o'r ffactorau sydd yn creu pwysau ar athrawon. Mae'r materion yna wedi'u clymu'n agos iawn â'i gilydd, ac yn aml iawn wedi clymu i mewn i dlodi a chefndiroedd difreintiedig ac ati. Ond beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud ydy dod â'r gwahanol asiantaethau at ei gilydd, yn ysgolion, yn iechyd a gofal, yn wasanaethau ieuenctid ac ati, mewn fframwaith sydd wedi clymu at ei gilydd yn agos er mwyn mynd i'r afael â'r problemau yma mewn ffordd gyflawn, sy'n rhywbeth, o bosib, sydd wedi bod ar goll yn y gorffennol.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yr etholiad yn ymwneud ag annibyniaeth ac na fyddai'n flaenoriaeth yn ystod tymor y Senedd. Yna, yr wythnos diwethaf, llofnododd ddatganiad ar y cyd gyda Sinn Féin a'r SNP yn dweud bod cyfnod San Steffan yn dod i ben. Ac yn awr, heddiw, yn y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd, mae'n rhestru yn yr adran ar bwerau datganoledig yr awydd i fynd ar drywydd y pŵer datganoledig i gynnal refferendwm annibyniaeth yng Nghymru. O ystyried sylwadau'r Prif Weinidog yn ystod yr etholiad ac yna ei sylwadau heddiw ynghylch bod yn benderfynol y ceir gwleidyddiaeth onest, hoffwn ofyn: beth sydd wedi newid rhwng adeg yr etholiad a nawr?
Wel, does dim byd wedi newid. Rwy'n credu mewn Cymru sy'n gallu mynd ar drywydd ei dyfodol fel gwlad normal. Rwy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru. Rwy'n credu bod pawb yn gwybod hynny. Roedd ein maniffesto yn nodi'n glir ein bod yn credu y dylai siâp ein dyfodol cyfansoddiadol fod yn nwylo pobl Cymru. Rwy'n meddwl bod hynny'n hawl sylfaenol, a dyna'n union beth rydyn ni'n ei ddweud, yn yr ystyr ni fel Senedd sy'n ei alw, fel pobl Cymru, sy'n gofyn amdano, sy'n gallu gosod yr amserlen ar gyfer hyn. Ie, dywedais i nad oedd yr etholiad diwethaf yn ymwneud ag annibyniaeth, ac rwy'n credu fy mod wedi cael llawer o gyfleoedd i esbonio beth oeddwn i'n ei olygu gyda hynny.
Nid oes unrhyw refferendwm yn cael ei wthio gan y Llywodraeth hon rŵan, ond credwn yn llwyr y dylid caniatáu i bobl Cymru benderfynu. Byddaf yn defnyddio'r dylanwad sydd gennyf, gobeithio, fel arweinydd Cymru, i geisio perswadio pobl i feddwl am yr heriau, y cyfleoedd a'r hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol nad ydym yn gallu ei wneud rŵan. Mae'r llwybrau hyn yn heriol ac yn llawn cyfleoedd ar yr un pryd. Nid comisiwn annibyniaeth yw'r Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'n ymwneud â 'Sut ydyn ni'n arfogi ein hunain i'n gwneud ni, fel cenedl, yn addas ar gyfer y dyfodol?'
Rŵan, nid yw Reform, rydyn ni'n gwybod—rydyn ni wedi clywed eto heddiw gan eich arweinydd, ac eto, rydych chi'n onest ynghylch hyn—yn credu mewn rhoi mwy o bwerau i ni. Rydych chi'n meddwl y dylem setlo fel yr ydym. Rydych chi'n meddwl y dylem roi'r hyn sydd gennym mewn aspig a gobeithio y gallwn wneud pethau'n well. Dydw i ddim yn ei weld yn y ffordd honno. Rwy'n credu, lle mae yna bethau y mae'r holl dystiolaeth yn dangos ei bod yn gwneud synnwyr i ni gael rheolaeth drosto—plismona, lle rydyn ni'n talu am y rhan fwyaf ohono yn uniongyrchol yng Nghymru rŵan, ond heb atebolrwydd amdano; cyfiawnder, fel y gallwn wasanaethu pobl yn well mewn etholaethau ledled Cymru; fel y gallwn wneud penderfyniadau am ein hadnoddau naturiol—rwy'n credu bod hynny'n synnwyr cyffredin.
Yr hyn y mae'r comisiwn yn ei wneud yw darparu platfform i ni lle gallwch ddweud nad ydych chi eisiau iddo ddigwydd, a gallaf ddweud, ac eraill, 'Ydych chi'n gwybod beth? Dylem edrych ar hyn a gweld sut y gallwn gyflawni hyn.'
Brif Weinidog, mae'n galonogol gweld yr arwyddion gweladwy cyntaf bod gan y Llywodraeth hon raglen o'r diwedd. Bydd nifer a ddarllenodd gyflwyniad y Prif Weinidog wedi gwenu wrth weld yr honiad bod y Llywodraeth wedi cychwyn arni'n ddi-oed yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf. I lawer ledled Cymru, fodd bynnag, roedd cyfres o adolygiadau a chyfres o benderfyniadau'n cael eu gohirio yn teimlo fel unrhyw beth ond hynny.
Yn fwy pryderus, fodd bynnag, yw'r methiant parhaus i flaenoriaethu cyllid i feysydd o angen gwirioneddol. Bydd llawer yng Nghaerdydd wedi clywed y Trefnydd yn diystyru fy nghwestiwn yn ddirmygus yn gynharach heddiw. Rydym wedi clywed honiadau gan ASau Plaid Cymru yn y gorffennol bod y bwlch cyllido anghenion dysgu ychwanegol yn llai difrifol yng Nghymru nag mewn mannau eraill.
A'r wythnos diwethaf, roedd hi'n ymddangos fod pethau'n mynd hyd yn oed ymhellach, gyda Gweinidogion y Llywodraeth yn ymddangos fel pe baen nhw'n bwrw amheuon ar ddyfodol Dechrau'n Deg. P'un a yw'r awgrym hwnnw'n gywir ai peidio, mae wedi achosi pryder sylweddol ymhlith y bobl hynny sy'n cyflawni ac yn elwa ar y rhaglen. A fydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle nawr i roi eglurder a gwarantu y bydd cyllid ar gyfer Dechrau'n Deg yn parhau, yn ogystal â blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf mewn angen? Ni ddylai plant yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru dalu'r pris am fethiant y Llywodraeth i gostio ei haddewidion etholiadol yn briodol.
I fod yn agored yma, roeddwn i'n gwrando ar y Trefnydd yn rhoi'r hyn a alwodd yr Aelod yn ateb 'dirmygus'. Yr hyn a ddywedodd y Trefnydd yn gynharach oedd ei bod yn credu bod yna dlodi ym mhob rhan o Gymru y mae angen mynd i'r afael ag ef. Ac rwy'n deall yn llwyr—rwy'n deall yn llwyr—y ffaith bod yr Aelod yn sefyll dros bobl ei etholaeth, fel y byddwn yn disgwyl iddo, ond mae'n rhaid i ni, fel Llywodraeth, gydnabod bod gennym dlodi trefol y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef ac mae gennym dlodi gwledig y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Mewn rhai achosion, yr un yw'r atebion; mewn rhai achosion, maen nhw'n atebion gwahanol. Felly, does dim dirmyg o gwbl yna.
Mae cwestiwn penodol ar Dechrau'n Deg, ac rwyf wedi clywed Aelodau Llafur yn codi cwestiynau am ddyfodol Dechrau'n Deg. Rydyn ni'n cael ein cyhuddo rywsut o fod eisiau cymryd arian i ffwrdd o'r frwydr yn erbyn tlodi plant pan mai dyma'r blaid sydd wedi cael ei beirniadu gan ei blaid ef yn rhy aml am fod eisiau gwario gormod ar fynd i'r afael â thlodi plant trwy'r cynnig gofal plant. Mae'r cam hwn o'r cynnig gofal plant yn cael ei ddarparu yn llythrennol trwy Dechrau'n Deg. Mae hyn yn adeiladu ar yr hyn y mae Dechrau'n Deg wedi'i wneud. Mae mwy o deuluoedd yn byw mewn tlodi, gyda llaw, nad ydyn nhw yn ardaloedd Dechrau'n Deg na'r rhai sydd yn ardaloedd Dechrau'n Deg. Mae'r ddau yn wirioneddol bwysig. Rydyn ni eisiau eu helpu nhw i gyd. Gobeithio bod hynny'n ddigon clir.
Rwy'n falch iawn o wasanaethu etholaeth amrywiol yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, gyda phobl sy'n dod o bob cefndir. Am y tro cyntaf, rhoddodd llawer o unigolion a theuluoedd eu hymddiriedaeth ym Mhlaid Cymru, ac fe wnaethon nhw hyn oherwydd eu bod yn credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, diriaethol yn eu cymunedau. Rwyf wedi siarad â llawer o etholwyr dros y misoedd diwethaf sy'n pryderu am y cynnydd mewn troseddau casineb, tlodi, materion tai a materion eraill sy'n effeithio'n negyddol ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd.
Os ydym am fod yn genedl wirioneddol uchelgeisiol, rhaid i ni roi cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein hagenda. Bydd Cymru anghyfartal yn parhau i adael pobl yn teimlo eu bod yn ddifreintiedig ac wedi cael eu gadael ar ôl. Gallai Cymru decach, lle gall pobl dderbyn gwahanol lefelau o gefnogaeth i gyflawni canlyniad tecach, gyflymu ein huchelgeisiau ar gyfer cenedl fwy cyfartal. Brif Weinidog, mae gan bobl wahanol fannau cychwyn mewn bywyd ac maen nhw'n wynebu rhwystrau gwahanol, felly sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd y gwaith o gyflawni ei rhaglen lywodraethu?
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn a'r teimlad y tu ôl iddo, ac ni allwn gytuno mwy. Roedd yn ostyngedig iawn, nôl ym mis Mai, i weld gwahanol gymunedau yn eu lleoliad daearyddol, yn eu hamrywiaeth, yn troi at Blaid Cymru ac yn rhoi eu hymddiriedaeth ynddi, ac mae'n rhaid i ni ad-dalu'r ymddiriedaeth honno. Dyna'r hyn sydd dan sylw. Ar gyfiawnder cymdeithasol, rwy'n dweud, 'Clywch Clywch.' Rwy'n gobeithio yr hyn sy'n cael ei ddweud yn uchel ac yn glir yn y rhaglen lywodraethu hon yw'r teimlad bod hyn yn ymwneud â thegwch, mae'n ymwneud â chyfle cyfartal, mae'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Nid ydym eisiau i'r asiantaeth ddatblygu genedlaethol fod yno i wneud Cymru'n gyfoethog er mwyn ei hun. Rydyn ni eisiau iddi wneud i ni ffynnu ym mhob ystyr, lle mae pawb yn teimlo'n rhan o genedl ffyniannus yr wyf yn gwybod y gallwn fod. Mae'r mesurau ar addysg wedi'u hanelu at sicrhau bod cyfleoedd addysg yno i bawb.
Mae'r ymosodiad ar gyffredinolrwydd a gawsom yn gynharach heddiw, ein cred mewn cyffredinolrwydd a gwneud yn siŵr ein bod yn dod â'r holl rieni i mewn i'r gefnogaeth y gellir ei rhoi trwy ofal plant, gan, ar yr un pryd, bwysleisio'r angen i fynd i'r afael â thlodi plant drwy'r taliad Cynnal, rwy'n credu bod hynny i gyd yn adlewyrchu rhywbeth yr wyf yn falch iawn o'i gefnogi. Byddwn yn cael ein mesur yn ôl y ffordd yr ydym yn cadw at ein gwerthoedd drwyddi draw ac, ydi, mae adeiladu Cymru unedig, heddychlon sy'n gwrthod rhaniad yn rhywbeth sy'n golygu llawer iawn i, rwy'n gwybod, y meinciau rydw i'n eistedd arnynt, ond gobeithio i bob un ohonom yma hefyd.
Brif Weinidog, rydych chi'n galw mynd i'r afael â thlodi plant yn genhadaeth ddiffiniol y Llywodraeth hon, ond mae cenhadaeth ddiffiniol yn sicr yn gofyn am rywbeth i'w ddiffinio. Ym mis Gorffennaf, pan heriais eich Dirprwy Brif Weinidog dros Cynnal, dywedais fod yr hyn a gyflwynodd yn gynllun i'w gynllunio, nid cynllun. Dywedodd wrthyf ei bod wedi drysu gan fy nghwestiwn. Wel, rwyf bellach wedi darllen eich rhaglen lywodraethu, a dylai'r dryswch fod ymhlith eich meinciau chi. Pedair blynedd o Lywodraeth, ac ar eich cenhadaeth ddiffiniol, rydych chi'n addo datblygu cynllun arall a fydd wedyn yn gosod y targedau, y meincnodau a'r cerrig milltir. Mae Cynnal ei hun yn parhau i fod yn rhywbeth rydych chi'n ceisio ei dreialu. Nid rhaglen gyflawni pedair blynedd yw hon; mae'n addewid i weithio allan yn ddiweddarach sut olwg dylai fod ar lwyddiant.
Brif Weinidog, mae eich uchelgais newydd eisoes yn debyg i gaws o'r Swistir: pecynnau trawiadol, ond yn llawn tyllau ac wedi'u gadael i eplesu, yn fwyfwy anodd eu cuddio. Felly, atebwch y cwestiwn nad yw eich rhaglen yn ei wneud: erbyn 2030, yn union pa ostyngiad mesuradwy mewn tlodi plant y bydd eich Llywodraeth chi yn ei gyflawni?
Rydw i wedi clywed llawer o'r busnes cynllun ar gyfer cynllun hwn. Mae'r llywodraeth yn gweithio allan atebion i'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu fel cenedl. Dyna beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Mae gennym faniffesto sy'n nodi pethau rydyn ni wedi'u penderfynu, ac mae'n glir beth sydd angen i ni ei wneud oherwydd bod y dystiolaeth yno. Mae yna bethau rydyn ni wedi'u gwneud eisoes. Mae cyflwyno gofal plant wedi dechrau. Nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, mae'n digwydd eisoes. Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim eisoes wedi dechrau, ac mae bob amser wedi bod yn ddull gweithredu graddol. Nid yw ein mesurau ar iechyd yn cael eu cynllunio, maen nhw'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Ond ar yr un pryd, rydych chi'n defnyddio'r offer sydd ar gael i chi: rydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth sifil, rydych chi'n defnyddio cymdeithas ddinesig yng Nghymru. Rydyn ni'n dod yma mewn pwyllgorau yn y Senedd a bydd argymhellion yn cael eu gwneud gan y pwyllgorau rydych chi'n eistedd arnynt i'r Llywodraeth wneud pethau nad ydym wedi meddwl eu gwneud eto. Dyna sut mae'n gweithio. Rydyn ni bob amser yn chwilio am atebion i'r problemau sydd gan Gymru. Os oeddech chi'n meddwl mai ymladd etholiad oedd, 'Dyna ni, rydyn ni wedi gwneud y meddwl; gadewch i ni setlo i lawr a gwneud hynny', nid dyna sut mae'n gweithio
Ar Cynnal, mae'n enghraifft dda iawn. Rydyn ni'n gwybod beth rydyn ni'n ceisio ei wneud gyda Cynnal. Mae yna anawsterau ymarferol gyda'i weithredu oherwydd nad oes gennym y pwerau. Unwaith eto, enghraifft dda o pam y mae angen yr offer sydd ar gael arnom. Ond rydyn ni'n meddwl ein bod ni wedi dod o hyd i ffordd o wneud hynny: rydyn ni'n mynd i'w dreialu. Mae'r gweithgor eisoes wedi cyfarfod bedair gwaith. Nid yw'n rhywbeth rydyn ni'n cynllunio, sef sut rydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â hyn. Mae'n digwydd, dan arweiniad fy Nirprwy Brif Weinidog. Nid wyf yn mynd i ymddiheuro am feddwl yn ofalus sut rydym yn gwneud penderfyniadau a fydd yn gwella bywydau pobl yng Nghymru.
Diolch am y datganiad.
Mae gen i ddau fater, ac rydw i wir eisiau deall hyn. Rydych chi'n parhau i ddefnyddio'r ymadrodd, 'Rwyf eisiau i bobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol' mewn perthynas â'r mater ynghylch annibyniaeth, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar hynny. Beth mae hynna'n ei olygu? Sut fyddwch chi'n ei fesur? Sut fyddwch chi'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth yw'r penderfyniad gan bobl Cymru? Ac i gofnodi, rwy'n wrth-annibyniaeth, ond, yn bendant, mae angen mwy o bwerau arnom yma yn y Senedd.
Yn ail, ar dlodi plant, mae gennych fy nghefnogaeth lwyr i'r holl fesurau ar dlodi plant rydych chi'n eu cyflwyno, a'u cyffredinolrwydd. Mae hynny'n hanfodol, i Cynnal ac, yn amlwg, cyflwyno gofal plant am ddim cyffredinol hefyd. Dim ond i gofnodi hefyd, fi fel Democrat Rhyddfrydol wnaeth y cytundeb gyda Llafur ar gyfer cyflwyno 12.5 awr ychwanegol o Dechrau'n Deg. Roedd hynny'n fargen ddwy flynedd yn ôl, ac rydyn ni eisiau gweld mwy. Ac rydw i eisiau dod yn ôl at eich Dirprwy Brif Weinidog a minnau. Pan oeddem ar y meinciau cefn o'r blaen, roedden ni fel record wedi sticio, yn dweud, 'Rhowch dargedau i ni ar dlodi plant, rhowch dargedau i ni.' Felly, mae gen i ddiddordeb mawr: beth yw eich targedau a phryd fyddwn ni'n clywed amdanyn nhw? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Rwy'n atgoffa'r Aelod ei bod wedi pleidleisio yn erbyn cyllideb atodol a oedd yn cynnig cyflwyno materion fel gofal plant a oedd yn bwysig iawn iddi.
O ran targedau tlodi plant, mae hyn wedi bod yn fater mawr gan fod gennym 27 mlynedd o Lywodraethau dan arweiniad Llafur a oedd â thargedau i ddechrau, yna fe wnaethon nhw eu tynnu'n ôl. Byddwn yn dod â thargedau. Rydym yn datblygu strategaeth. Un o'r rhesymau pam rydyn ni wedi galw am strategaeth yw bod y sector—pobl sy'n gweithio yn y maes hwn—eisiau targedau. Byddai'n well gen i weithio allan pa dargedau sy'n ystyrlon yn hytrach na thynnu un o'r awyr. Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar hynny nawr. Yn gynnar yn haf 2027, bydd gennym y strategaeth honno, y mae'n rhaid iddi gynnwys targedau. Mae angen i ni wybod at beth rydyn ni'n anelu.
O ran annibyniaeth, rwy'n cymharu'r sefyllfa yng Nghymru ag Iwerddon, lle mae cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn dweud yn benodol y bydd refferendwm yn cael ei alw—. Dydw i ddim yn ymyrryd â'r hyn sy'n digwydd yn Iwerddon; gallant wneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud. Ond mae'n dweud yn benodol pan fydd barn y cyhoedd yn glir bod cefnogaeth iddo, yna rydych chi'n gofyn y cwestiwn. Mewn gwirionedd, awgrymodd Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf y dylai'r un peth fod yn berthnasol i'r Alban hefyd. Mae'n ymwneud ag arolwg barn. Mae'n ymwneud â synhwyro barn y boblogaeth. Rwyf eisiau dylanwadu ar bobl mewn ffordd gadarnhaol, a chithau hefyd, i ymgysylltu'n gadarnhaol â'r posibiliadau sy'n dod o fynd ar drywydd math penodol o newid cyfansoddiadol.
Ond cofiwch, rydyn ni'n gweithio gyda'r hyn sydd gennym nawr. Mae gennym uchelgais go iawn i'n cenedl. Rwyf eisiau i ni gofleidio'r holl bosibiliadau o fod yn genedl normal, ond rydyn ni'n Llywodraeth sy'n gweithio ar hyn o bryd gyda'r pwerau sydd gennym nawr, gan edrych ar y pwerau y gallem eu cael nesaf, a nesaf a nesaf, oherwydd mae'n ymwneud ag adeiladu cenedl, sy'n rhywbeth y dylai pob un ohonom fod â diddordeb ynddo.
Ac yn olaf, Sara Crowley.
Brif Weinidog, rwy'n croesawu'r rhaglen lywodraethu, ac yn enwedig y gwaith i wreiddio iechyd cyhoeddus ac iechyd ataliol ar draws y Llywodraeth. Un o'r heriau parhaus yw bod manteision cael rhaglen iechyd ataliol yn aml yn cael eu gwireddu flynyddoedd ar ôl i'r buddsoddiad gael ei wneud, tra bod y pwysau ar wasanaethau acíwt yn rhai uniongyrchol ac ar unwaith. Wrth ystyried hynny, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod rhaglenni iechyd ataliol, boed hynny ym maes gweithgarwch corfforol, bwyd iach, y blynyddoedd cynnar, neu fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, yn cael eu diogelu a'u blaenoriaethu pan fydd cyllidebau o dan gymaint o bwysau? A pha fesurau y byddwch chi'n eu defnyddio i ddangos bod iechyd ataliol yn llywio penderfyniadau cyllido ar draws y Llywodraeth? Diolch.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Mae'n gwestiwn pwysig ac yn gyfle i egluro beth ydy'r meddwl tu ôl i hyn. Mae gennym ni, am y tro cyntaf erioed, Weinidog sydd yn gyfrifol am iechyd ataliol. Mae hynny ynddo'i hun yn gam pwysig ymlaen, achos beth sydd gennym ni rŵan ydy pencampwr dros weithredu yn ataliol sydd wedi cael ei gorchymyn gen i i fynd allan a dwyn pwysau ar bob un o'r Gweinidogion i weithio mewn ffordd ataliol, mewn ffordd drawslywodraethol go iawn o weithio. Dwi'n meddwl bod hynny ynddo'i hun yn ddechrau ar rywbeth cyffrous. Dwi wedi ei alw yn chwyldro ataliol.
Mae sut i gyllidebu ar gyfer hynny yn adlewyrchu'r ffaith ei fod o'n drawslywodraethol. Rydyn ni wedi sôn am sut rydyn ni'n gallu cloriannu'r holl arian ataliol at ei gilydd, ond y gwir amdani ydy bod elfennau o gyllidebau pawb yn rhan o hyn. Ac ydy, mae'r amlen yn dynn iawn yn ariannol, ond wrth wneud penderfyniadau lle mae yna ddau ddewis, rydyn ni'n dewis yr un sydd yn ataliol. Mae rhywun wedyn yn gallu symud ymlaen mewn ffordd bositif, dwi'n credu, o sicrhau bod tai yn cael eu gwneud yn fwy iach, bod dewisiadau bwyd yn fwy iach drwy'r strategaeth fwyd, camau o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun, ac yn y blaen.
Un pwynt olaf y buaswn i'n ei wneud ydy bod yna farn yn aml iawn bod mesurau ataliol, fel y dywedodd yr Aelod, yn cymryd blynyddoedd weithiau i fwydo drwy'r system. Dydy hynny ddim bob amser yn wir. Mae'n bosib gwneud newidiadau o fewn cyfnod cymharol fyr mewn deiet, sydd i rai pobl yn gallu dad-wneud diabetes math 2, ac yn y blaen. Felly, mae'r Llywodraeth yn edrych ar beth sydd yn gallu cael impact buan, achos mae o'n bosib, tra hefyd wrth gwrs yn gorfod edrych yn yr hirdymor. Ond dwi'n meddwl bod yna newid agwedd sylfaenol yn fan hyn yn cael ei adlewyrchu drwy’r rhaglen yma.
Diolch, Brif Weinidog.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Heddiw rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith buddsoddi moesegol mewn amddiffyn i Gymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i drefn y gyfraith ryngwladol, i barchu hawliau dynol ac i gydsefyll gyda gwledydd eraill. Rydyn ni yr un mor bendant bod gan gymdeithasau democrataidd hawl gyfreithlon i amddiffyn eu hunain, a bod y sectorau amddiffyn, diogelwch a gwydnwch yn chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn y rhyddid a'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni.
Mae'r byd yn mynd yn fwy ansicr. Rydyn ni'n gweld gwrthdaro parhaus, gan gynnwys yn Ewrop ei hun, ansefydlogrwydd byd-eang ehangach, a mwy o fygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol. Mae gan Gymru sector awyrofod, amddiffyn a diogelwch sylweddol. Mae'r sector yn cefnogi miloedd o swyddi medrus iawn, yn cynnal cadwyni cyflenwi pwysig ac yn cyfrannu at ymchwil, arloesi a thwf economaidd. Mae diwydiannau fel seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion, gweithgynhyrchu uwch ac awyrofod, systemau awtonomaidd a deallusrwydd artiffisial i gyd yn rhan o'r amgylchedd economaidd ehangach. Dylai busnesau a gweithwyr o Gymru allu elwa ar fuddsoddiad, arloesi a thwf, gan gynnwys o'r fargen twf amddiffyn.
Fodd bynnag, ni all cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer y sector fod yn ddiamod. Pan fo Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth drwy grantiau, cymorth buddsoddi, hyrwyddo masnach neu weithgarwch datblygu economaidd ehangach, mae'n deg bod pobl Cymru yn disgwyl bod y gefnogaeth honno'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n cyfrifoldebau. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod pryderon moesegol cyfreithlon wrth gefnogi canolbwyntio ar swyddi o ansawdd uchel y mae'r sector yn eu cynnal mewn cymunedau ar draws pob rhan o Gymru. Felly, mae'n hanfodol bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei harwain gan fframwaith moesegol clir a chyson. Er bod penderfyniadau ar allforion arfau yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru yn glir am yr egwyddorion sy'n llywio'n hymgysylltiad ein hunain â'r sector. Rydyn ni'n cydnabod yr angen am fwy o eglurder yn y ffordd y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud. Dyna pam yr ydyn ni'n datblygu fframwaith buddsoddi amddiffyn moesegol ar gyfer Cymru.
Nid diben y fframwaith yw eithrio'r sector amddiffyn rhag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, nac i ddyblygu rheolaethau allforio neu drefniadau trwyddedu'r DU. Yn hytrach, mae'n rhoi sail gyson ar gyfer gwneud penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru lle mae cefnogaeth ddatganoledig yn cael ei hystyried. Wrth ddatblygu'r fframwaith, mae swyddogion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn dysgu o ddulliau sydd ar waith mewn mannau eraill yn y DU. Bydd y fframwaith yn cydnabod rôl gyfreithlon y sector amddiffyn wrth gefnogi diogelwch cenedlaethol, cydnerthedd democrataidd a ffyniant economaidd, wrth sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn cael eu llywio gan ystyriaethau moesegol priodol, gan gynnwys parch at hawliau dynol a chyfraith ddyngarol ryngwladol.
Bydd ein dull gweithredu yn seiliedig ar ddiwydrwydd dyladwy moesegol uwch. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu cadw fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol presennol y DU wrth gyflwyno ystyriaethau moesegol ychwanegol i gefnogi proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y meysydd a grybwyllwyd yn gynharach. Bydd hwn yn ddull cymesur sydd wedi'i gynllunio i roi mwy o dryloywder a sicrwydd heb greu rhwystrau diangen i fusnesau sy'n gweithredu'n gyfrifol, yn gyfreithiol ac i gefnogi'n heconomi a'n diogelwch. Bydd y fframwaith yn canolbwyntio ar weithgarwch sydd ar waith yng Nghymru ac ar y prosiectau, cynhyrchion, gwasanaethau neu dechnolegau penodol sy'n ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llywio gan ddealltwriaeth glir o'r gweithgaredd sy'n cael ei gefnogi, ei ddiben arfaethedig a, lle bo hynny'n briodol, ei ddefnyddwyr terfynol hysbys.
Rydyn ni hefyd yn ystyried cyflwyno proses hunan-ddatgan gymesur ar gyfer busnesau sy'n chwilio am fathau penodol o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn rhoi tryloywder a sicrwydd ychwanegol wrth osgoi beichiau diangen ar fusnesau sy'n gweithredu'n gyfrifol ac o fewn y gyfraith. Bydd y fframwaith hwn hefyd yn llywio cyfranogiad Llywodraeth Cymru mewn cenadaethau masnach sy'n gysylltiedig ag amddiffyn, arddangosfeydd a digwyddiadau busnes-i-fusnes, gan helpu i sicrhau dull gweithredu cyson ledled meysydd gweithgaredd perthnasol. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn ni hefyd yn ystyried sut y gall y fframwaith gefnogi arloesedd a thechnolegau defnydd deuol, gan gydnabod bod gan lawer o'r technolegau sy'n ysgogi twf economaidd, gan gynnwys rhai seiber, deallusrwydd artiffisial, lled-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch, ddefnydd sifil ac amddiffyn.
O ystyried arwyddocâd y gwaith hwn, ac er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson, rwyf i wedi gofyn, lle bo'n gyfreithiol ac yn ymarferol bosibl, nad yw unrhyw benderfyniadau sy'n ymwneud â chymorth buddsoddi newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithgarwch y sector amddiffyn yn cael eu cadarnhau nes bod y fframwaith wedi'i gyhoeddi a bod trefniadau gweithredu wedi'u hystyried yn llawn. Os bydd angen penderfyniad ar gymorth Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r fframwaith, bydd y Prif Weinidog yn ei wneud, gan bwyso a mesur ystyriaethau perthnasol. Mae hwn yn fesur dros dro a rhagofalus i sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn erbyn y fframwaith o'r cychwyn cyntaf. Rwyf i eisiau bod yn glir nad yw hyn yn cynrychioli tynnu'n ôl o gefnogaeth i'r sector, nac yn effeithio ar ymrwymiadau cytundebol presennol na'r berthynas o ddydd i ddydd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau sy'n gysylltiedig ag amddiffyn ac sy'n gweithredu yng Nghymru. Nid yw'n atal ymgysylltu parhaus, trafodaethau, diwydrwydd dyladwy na gwaith archwiliol gyda busnesau lle nad oes penderfyniad buddsoddi wedi'i wneud.
Mae gan Gymru draddodiad balch o hyrwyddo hawliau dynol, undod rhyngwladol a rheolaeth y gyfraith. Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad y gweithwyr, busnesau, ymchwilwyr a phrentisiaid ledled Cymru y mae eu sgiliau, eu harbenigedd a'u harloesedd yn cryfhau ein diogelwch, ein gwytnwch a'n ffyniant economaidd. Rydym yn gwrthod y dewis ffug rhwng cyfrifoldeb moesegol a chyfle economaidd. Ar adeg o fygythiadau cynyddol i ddiogelwch Cymru a thu hwnt, gall Cymru gefnogi sector amddiffyn cryf, arloesol a chyfrifol tra'n aros yn driw i'r gwerthoedd sy'n ein diffinio fel cenedl. Gallwn gymryd ymagwedd foesegol gytbwys a chymesur sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd hynny, tra'n parhau i gefnogi swyddi, buddsoddiad ac arloesedd o ansawdd uchel ledled Cymru.
Bydd y fframwaith rydym ni'n ei ddatblygu yn darparu sylfaen glir a thryloyw i Lywodraeth Cymru allu gwneud penderfyniadau. Bydd yn sicrhau bod egwyddorion cyson yn arwain y gefnogaeth i'r sector a bod ystyriaethau moesegol priodol yn eu llywio. Bydd cyhoeddi'r fframwaith yn rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau, buddsoddwyr, prifysgolion a gweithwyr ar draws y sector, gan eu helpu i ddeall yn glir sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag amddiffyn ac yn ei gefnogi yn y blynyddoedd i ddod.
Dydyn ni ddim eisiau oedi nac ychwanegu ansicrwydd, a dyna pam rwyf wedi gofyn i swyddogion gyflwyno'r fframwaith terfynol i'w gyhoeddi yn ystod yr hydref hwn. O ystyried pa mor gyflym mae'r sefyllfa fyd-eang yn newid, bydd y fframwaith yn cael ei adolygu'n ffurfiol ar ôl 12 mis ac yn rheolaidd ar ôl hynny i wneud yn siŵr ei fod yn dal i fod yn berthnasol, yn gymesur ac yn effeithiol. Dyna'r cydbwysedd rydyn ni'n ceisio ei sicrhau, ac rwy'n edrych ymlaen at roi diweddariad i'r Aelodau pan fydd y fframwaith yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Ar adeg o densiynau geowleidyddol cynyddol a rhagolygon economaidd bregus, ni ddylen ni fod yn rhoi ideoleg wleidyddol o flaen diogelwch Cymru, swyddi Cymru a buddsoddi yng Nghymru. Yr hyn y dylen ni fod yn ei wneud yw popeth posibl i ddod â buddsoddi ym maes amddiffyn i Gymru a sicrhau'r swyddi medrus, â chyflog da sy'n dod gyda hynny. Mae hwn yn sector sy'n cyflogi miloedd o ddynion a menywod Cymru ac sy'n cyfrannu £1.5 biliwn i economi Cymru, a gallai fod cymaint mwy. Fy mhryder i yw bod y fframwaith hwn yn creu risg o wneud y gwrthwyneb gan wrthod y cyfleoedd hynny sy'n cael eu cyflwyno. Mae'n creu risg o atal buddsoddi, creu ansicrwydd a rhoi rheswm arall i gwmnïau amddiffyn fynd â'u buddsoddiad i rywle arall.
Ac fel arfer, pobl Cymru fydd yn talu'r pris. Byddan nhw'n colli cyfle o ran swyddi, bydd busnesau Cymru yn colli cyfle o ran buddsoddi, a bydd cymunedau yn colli cyfle o ran y manteision economaidd sy'n dod gyda'r ddau. Os edrychwn ni ar achos yn Marshall Land Systems, maen nhw'n symud i Ferthyr, gan greu cannoedd o swyddi a chan gefnogi teuluoedd Cymru. Dyna'r union fath o fuddsoddi y dylen ni fod yn ymladd drosto. Mae hefyd yn enghraifft glir o'r effaith gadarnhaol y gall buddsoddi ym maes amddiffyn ei gael ar gymuned, ac eto dyma'r union fath o gyfle y gallai'r fframwaith hwn ei beryglu, trwy ansicrwydd a rhwystrau ychwanegol.
Mae yna gwestiwn difrifol hefyd am yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrth y Senedd. Yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi ddweud y bydd penderfyniadau interim ar amddiffyn yn cael eu gwneud gan y Prif Weinidog. Eto, mewn datganiad cynharach, fe wnaethoch chi ddweud y byddai pob penderfyniad yn cael ei ohirio nes bod y fframwaith wedi'i gwblhau, felly mae angen eglurder ar y pwynt hwn. Oherwydd bod busnesau sy'n ystyried buddsoddi miliynau o bunnoedd yng Nghymru yn haeddu eglurder gan y Llywodraeth hon. A gadewch i ni fod yn hollol glir am yr hyn sy'n cael ei gynnig yma heddiw. Mae gan y Deyrnas Unedig system genedlaethol eisoes sy'n llywodraethu allforion amddiffyn. Mae cwmnïau sy'n allforio nwyddau milwrol a rhai defnydd deuol eisoes yn ddarostyngedig i gyfundrefn rheoli allforio strategol y DU, gyda cheisiadau wedi'u hasesu yn erbyn meini prawf cenedlaethol a gofynion moesegol llym. Eto, mae eich Llywodraeth erbyn hyn, eisiau cyflwyno prawf ychwanegol na fydd yn rhaid i gwmnïau amddiffyn mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ei wynebu, gan greu rhwystr cystadleuol amlwg i'r rhai sy'n ceisio sefydlu yng Nghymru.
Felly, beth yn union mae'r prawf ychwanegol hwn yn ei gyflawni a beth sy'n digwydd pan fydd cwmni yn ei fethu? Nid yw buddsoddiad amddiffyn yn gaeth o fewn ffin Cymru; gall cwmnïau ehangu'n rhwydd yn Lloegr, yr Alban neu rywle arall. Gall buddsoddiad symud, a phan fydd buddsoddiad yn symud, mae'r swyddi, y gadwyn gyflenwi a phopeth arall yn mynd gydag ef. Felly, cyn i chi gyflwyno'r fframwaith hwn, pa asesiad ydych chi wedi'i gynnal o'r canlyniadau economaidd i Gymru? Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r swyddi a allai gael eu colli o ganlyniad? A sut allwch chi ofyn o ddifrif i'r Senedd hon gefnogi fframwaith pan nad ydych chi wedi rhyddhau'r meini prawf y bydd cwmnïau'n cael eu barnu ar eu sail? Mae'n ymddangos bod hynny'n dod yn batrwm gyda'r Llywodraeth hon—llawer o gyhoeddiadau, ond yn rhyfeddol o brin ar fanylion. Felly, Gweinidog, beth yn union yw'r meini prawf? Beth fydd yn achosi i gwmni amddiffyn o Gymru basio neu fethu'r prawf hwn? Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw, ac ar ba sail y bydd yn cael ei wneud?
Mae yna fater arall nid yw'n bosibl ei anwybyddu. Mae gan eich plaid hanes hir o wrthwynebu rhannau sylweddol o'r sector amddiffyn. Nawr, dywedodd eich Dirprwy Weinidog, Mark Hooper, unwaith nad oes modd amddiffyn mynychu ffair arfau. Disgrifiodd eich Gweinidog ddiwylliant ffair arfau fel 'digwyddiad gwarthus', ond mae miloedd o ddynion a menywod o Gymru yn mynychu'r digwyddiadau hyn i gefnogi'r diwydiannau hynny bob blwyddyn. Ac mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu'n benodol adnewyddu systemau amddiffyn fel Trident yn y blynyddoedd diwethaf. Nawr, nid dyna fy ngeiriau i yw'r rheini, dyna safbwyntiau cofnodedig Aelodau o'ch plaid chi eich hun a'ch mainc flaen. A nawr mae'r un blaid yn cyflwyno fframwaith a allai benderfynu pa gwmnïau amddiffyn sy'n cael cefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae gan fusnesau Cymru yr hawl i ofyn cwestiwn difrifol iawn: sut gallan nhw fod yn hyderus y bydd hwn yn fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn hytrach na phrawf ideolegol wedi'i ffurfio gan elyniaeth hirsefydlog Plaid Cymru tuag at y diwydiant amddiffyn?
Weinidog, diogelwch cenedlaethol yw un o gyfrifoldebau cyntaf unrhyw Lywodraeth, a dylai sicrhau swyddi da, buddsoddiad a ffyniant i bobl Cymru fod yn un o gyfrifoldebau cyntaf y Llywodraeth hon. Ni ddylai’r naill na'r llall gael ei aberthu dros ideoleg. Felly, rydyn ni'n galw arnoch chi heddiw, er mwyn y diwydiant, i ddileu'r fframwaith hwn, dileu'r ansicrwydd, cefnogi gweithwyr o Gymru, croesawu buddsoddiadau amddiffyn yng Nghymru. A gallwn ni i gyd fynd ymlaen â'r swydd y cawsom ni ein hethol i'w gwneud, i dyfu'r economi, rhoi swyddi Cymru, ffyniant Cymru a'n diogelwch cenedlaethol yn gyntaf. Diolch.
Rwy'n diolch i'r llefarydd am ei gyfraniad a'i gwestiynau. Yn gyntaf oll, hoffwn i nodi ei fod yn arferol, o ystyried manylion a natur y sector hwn; mae'r rhan fwyaf o Lywodraethau democrataidd ledled y byd yn cydnabod hynny trwy gael fframwaith cyfreithiol ac, yn aml, moesegol penodol yn rheoli'r sector hwn. Mae gan yr Alban, Llywodraeth yr Alban, fframwaith moesegol sy'n llywodraethu'r sector hwn. Mae gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon fframwaith moesegol. I bob pwrpas, mae gan Lywodraeth y DU fframwaith moesegol yn ei pholisi trwyddedu arfau allforio. Felly, yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud yw dod â Llywodraeth Cymru yn unol â phob Llywodraeth ddemocrataidd gyfrifol arall ledled y byd sy'n cydnabod, pan ddaw i'r sector hwn, oherwydd ei natur sensitif, bod angen i chi gael fframwaith priodol ar waith. Yn wir, mae'n rhaid i mi ddweud, mae cynrychiolwyr y sector amddiffyn yr wyf i wedi ymgysylltu â nhw wedi dangos parodrwydd i ymgysylltu'n gadarnhaol â datblygu'r fframwaith hwn, oherwydd eu bod yn ystyried eu hunain, fel busnesau unigol ac fel sector, yn foesegol. Nid ydyn nhw'n gweld unrhyw beth i'w ofni yma, maen nhw eisiau ymgysylltu â ni yn y broses o'i ddatblygu.
Nid yw'r fframwaith wedi'i gwblhau eto, felly ni allaf i roi'r holl fanylion. Rwy'n ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau gymaint ag y gallaf i drwy ddatganiad ysgrifenedig interim y gwnes i ei roi, drwy ddatganiad llafar, ac fe wnaf i ddychwelyd i'r Senedd unwaith y bydd gennym ni'r fframwaith ar waith, oherwydd rwy'n credu, yn y maes hwn, oherwydd y buddiant dilys sydd gan yr Aelodau, ei bod yn bwysig eich bod chi'n cymryd rhan yn natblygiad y broses ar bob cam. O ran y penderfyniadau interim, yn fy natganiad ysgrifenedig interim, fe'i gwnes hi'n hollol glir y bydden ni'n gohirio lle roedd hynny'n ymarferol ac yn gyfreithiol bosibl, ac rwyf i wedi ailadrodd hynny heddiw yn y datganiad yr ydw i wedi'i wneud.
Vikki Howells—. Mae'n ddrwg gen i.
Mae'n ddrwg gennyf i. Shav Taj.
Rwy'n credu ei fod yn sioc i'r ddau ohonon ni bryd hynny. Roedden ni'n edrych ar ein gilydd gan feddwl tybed beth oedd yn digwydd. Lywydd, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod ni'n cael y ddadl a'r drafodaeth hon, oherwydd mae cyngres y TUC newydd ddigwydd ac roedd yna ddadl fawr am amddiffyn a dyfodol swyddi, yn erbyn, rwy'n tybio, heddwch, diogelwch a chydnerthedd ac ati.
Rydych chi wedi siarad am yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac yn Iwerddon. Rwy'n credu mai fy nghwestiwn i yw: ydych chi wedi siarad â Llywodraeth y DU i weld a yw'r hyn yr ydyn ni'n mynd i'w gynhyrchu yma yn mynd i fod yn llawer gwahanol i'r hyn sydd ganddyn nhw eisoes? Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw os caiff y fframwaith ei gyhoeddi yng nghyfnod yr hydref, ac yna ein bod yn cael dadl a thrafodaeth, rwy'n tybio, o ran pa olwg sydd ar y fframwaith hwnnw, byddwn ni'n trafod nôl ac ymlaen—. Yn y cyfamser, mae contractau ar y bwrdd, swyddi yn dod i Gymru. A allai'r cwmnïau amddiffyn hynny, gweithgynhyrchwyr eraill ac ati—AI yr ydych chi wedi'u crybwyll—yna ddweud, 'A dweud y gwir, wyddoch chi beth, mae hyn yn cymryd llawer rhy hir. Rydyn ni'n mynd i gael sgwrs gyda Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru'? Ac yna, wrth ichi geisio rhoi'r berthynas newydd hon ar waith gydag ef hefyd, gallwn ni wedyn, yn y pen draw, fod mewn sefyllfa lle rydyn ni'n gwastraffu amser, lle mae pawb yn edrych ar ei gilydd a rhywun yn chwilio am ateb?
I mi, mae hyn yn ymwneud â'r swyddi sydd eisoes yma, ac amddiffyn y rheini. Rwy'n cytuno'n llwyr o ran cael fframwaith moesegol, fel undebwr llafur. Rwy'n dirnad hynny i gyd, rwy'n deall hynny'n llwyr. Ond, i mi, mae hyn yn ymwneud â'r cwmnïau sydd eisoes gennym ni yma. Mae gan Gymru fwy na 200 o gwmnïau sy'n gwasanaethu meysydd awyrofod, amddiffyn, mwy na 50 o sefydliadau ym maes cynnal a chadw, heb sôn am yr holl golegau a'r holl hyfforddiant ac ati, a'r swyddi prentisiaeth da iawn sydd yma hefyd.
Rydych chi wedi siarad am y sefyllfa fyd-eang. Rydych chi wedi siarad am yr hyn sy'n digwydd o ran NATO. Llawer o drafodaethau. Mae pawb yn siarad am, 'Faint o arian ydyn ni'n mynd i'w daflu i mewn i'r pot? Pam mae hyn yn bwysicach nag adeiladu cartrefi i bobl?' Nid wyf i'n credu ei fod yn fater o'r naill neu'r llall. Rwy'n gwerthfawrogi ac yn deall yn llwyr ble yr ydych chi'n ceisio mynd gyda hyn. Fy mhryder mwyaf i yn, ac ymhlith hyn i gyd, yw ein bod ni'n arafu pethau. Oherwydd fel yr ydych chi'n ei ddweud—nid ydych chi'n dweud bod hyn yn ymwneud â dweud wrth bobl, 'Peidiwch â dod i fuddsoddi yng Nghymru.' Nid ydych chi'n dweud bod swyddi ym maes gweithgynhyrchu amddiffyn yn rhywbeth y byddai'ch Llywodraeth yn eu herbyn. Er nad oedd amddiffyn, nid wyf i'n credu, wedi'i grybwyll yn eich rhaglen lywodraethu. Nid wyf i'n credu bod y gair hwnnw yno. Felly, roeddwn i ychydig yn ddryslyd, mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn i'n ei darllen ac yn meddwl, 'Nid yw'r gair yno.' Yn seiliedig ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, mae'n ymddangos bod yna lawer o wrthgyferbyniadau.
Felly, i mi, a allwch chi warantu, beth bynnag yr ydych chi'n ei wneud, y byddwch chi'n ei wneud mewn partneriaeth gymdeithasol, y bydd yr undebau llafur yn cymryd rhan a'ch bod wedi ymgysylltu'n â nhw'n llawn, a bod hyn yn ymwneud â diogelwch swyddi yn yr ystyr ehangach hefyd? Rydyn ni'n siarad am swyddi da ar draws Cymru gyfan.
Ydw, rydw i wir—
Mae'n ddrwg gennyf i, dyna—
Rwy'n ddiolchgar iawn—. Os yw'r Aelod wedi gorffen—
Ydw.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau, y cwestiynau a'r awgrymiadau hynny, a hefyd yr ysbryd y tu ôl iddynt hefyd.
Y pwynt olaf yr oeddech chi'n ei wneud—rwy'n credu ei bod yn hollbwysig ein bod ni'n cynnwys partneriaid yr undebau llafur wrth ddatblygu’r fframwaith. Mae'r sector amddiffyn, mewn gwirionedd, yn sector sydd wir yn cydnabod yr undebau llafur, ac rwy'n credu bod sicrhau bod gennym ni lais yr undebau llafur a'r gweithwyr wrth ddatblygu'r fframwaith—. Ac mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau i'r gweithlu yn y sector hwn. Mae'r sector amddiffyn a'r sectorau cysylltiedig yn cyflogi, eisoes, dros 16,000. Mae twf sylweddol wedi bod o ran cyflogaeth, hyd yn oed yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae'r rhain, ar y cyfan, yn swyddi â chyflog uchel, uwch na'r cyfartaledd, yn y sector gweithgynhyrchu uwch, sy'n sector yr ydyn ni eisiau i Gymru ddatblygu ei chryfderau hyd yn oed ymhellach. Mae gennym ni sylfaen weithgynhyrchu uwch na rhannau eraill o'r DU. Rydyn ni wedi llwyddo i gynnal hynny yn y DU. Nid ydyn ni eisiau bod yno o hyd. Rydyn ni eisiau i Gymru ail-ddiwydiannu hyd yn oed ymhellach, ac mae'r sgiliau gweithgynhyrchu uwch hynny yn berthnasol iawn i'r cyd-destun yr ydyn ni'n ei ddisgrifio yma. Ac mae yna gyfleoedd eraill yr ydyn ni eisiau'u harchwilio.
O ran amseru—. Ac, ie, yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud gyda'r fframwaith yw cael y cydbwysedd cywir rhwng y ddau nod pwysig a chyfreithlon hyn o bolisi cyhoeddus a chymdeithas. Rydyn ni eisiau gweld yr economi yn ffynnu a chynhyrchu'r swyddi ar gyflog uchel, swyddi da, ym mhobman, i ddefnyddio ymadrodd. Rydyn ni eisiau hynny, ac rydyn ni eisiau iddo gael ei wneud mewn ffordd sy'n gyson â'n gwerthoedd. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, nid yn unig yn y cyd-destun hwn, ond ym mhob cyd-destun. Nid yw'n fater o fusnes fan yma a moeseg fan draw. Bydd llawer o fusnesau a sylfaenwyr llwyddiannus yn dweud, mewn gwirionedd, mai'r busnesau mwyaf llwyddiannus yn y byd yw'r rhai sy'n uno'r ddau hynny, felly, mewn gwirionedd, rydych chi mewn sefyllfa lle gallwch chi fod yn falch o fynd i'r gwaith. Gallwch chi fod yn falch o'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud. Os ydych chi'n gwybod bod y fframwaith moesegol yno ar gyfer yr hyn yr ydych chi'n ei wneud, yna dyna'r ffordd i ysgogi, nid yn unig eich hun, ond y gweithlu ac ati, a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y busnesau hyn. Mae hynny'n wir ym mhob sector, a dyna pam, fel y dywedais i, nid oes unrhyw un yr ydw i wedi siarad â nhw yn y sector amddiffyn wedi dweud, 'Nid ydyn ni eisiau fframwaith moesegol.' Dywedodd llawer ohonyn nhw, 'Edrychwch, rydyn ni eisiau ymddwyn yn y ffordd fwyaf cyfrifol y gallwn ni, ac rydyn ni eisiau ymgysylltu ar y sail honno.'
Y mater amseru—ydw, rwy'n credu eich bod chi'n iawn. Yn amlwg, rydyn ni eisiau, am y rhesymau a fydd yn cael eu deall yn dda wrth i ni ddatblygu'r fframwaith, lle y gallwn ni, ohirio penderfyniadau tan ar ôl i'r fframwaith gael ei gyhoeddi, ac ar ôl i chi, fel Senedd, a chymdeithas sifil a phawb arall, a'r sector allu ei weld. Fe fyddwn ni. Ond, yn amlwg, efallai y bydd rhai sefyllfaoedd critigol o ran amser lle nad yw'n ymarferol bosibl neu'n gyfreithiol bosibl i ni ohirio, a dyna pam y nodais i eto yn y datganiad heddiw, bod yna amgylchiadau eithriadol y mae'n rhaid i bob Llywodraeth ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd ar eu cyfer, ac mae'n wir yn yr achos hwn hefyd. Ond rydw i wedi nodi yn y datganiad llafar hwn sut y byddwn ni'n ymdrin â'r rheini, os byddan nhw'n codi.
Diolch am y datganiad, ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n siomedig iawn. Nid fframwaith amddiffyn moesegol yw hwn. Nid yw'n ddim mwy na chosbrestr ideolegol sy'n peryglu swyddi, buddsoddiad a diogelwch cenedlaethol Cymru. Mae meysydd amddiffyn ac awyrofod yn cyflogi 16,000 o bobl yng Nghymru, maen nhw'n cynhyrchu £3.7 biliwn mewn trosiant ac maen nhw'n cyfrannu tua £1.5 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros. Mae'r rhain yn swyddi medrus iawn sy'n cefnogi cymunedau ledled Cymru, ac rwy'n diolch i bob un o'r rhai sy'n gweithio yn ein diwydiant amddiffyn ac, yn wir, yn ein lluoedd amddiffyn.
Eto, yn union pan fydd buddsoddi ym maes amddiffyn yn cynyddu, mae Llywodraeth Plaid Cymru wedi gorchymyn bod penderfyniadau buddsoddi sy'n ymwneud â'r sector yn cael eu gohirio. Prin y bu amser mwy peryglus i anfon neges mor elyniaethus. Mae Rwsia yn ymladd rhyfel yn Ewrop, gwladwriaethau gelyniaethus yn targedu'n seilwaith, cynghreiriaid NATO yn cryfhau eu hamddiffynfeydd. Mae hi bron, wrth wneud datganiadau fel hyn, fel yr hen ddywediad hwnnw fod Nero'n chwarae'r ffidil tra bo Rhufain yn llosgi, onid ydyw?
Mae ein rhyddid a'n democratiaeth yn bodoli, mae Cymru'n bodoli, oherwydd bod dynion a menywod dewr, yn flaenorol ac ar hyn o bryd, yn lluoedd arfog Prydain, yn barod i beryglu eu bywydau i'w hamddiffyn. Ond nid yw dewrder ar ben ei hun yn ddigon. Mae angen awyrennau arnyn nhw, mae angen cerbydau, systemau cyfathrebu, cyfarpar amddiffyn a bwledi arnyn nhw. Ac mae angen y swyddi hynny arnon ni i Gymry yma yng Nghymru. Os yw Aelodau'n cefnogi'n lluoedd arfog, rhaid iddyn nhw hefyd gefnogi'r bobl sy'n dylunio a gweithgynhyrchu'r cyfarpar y mae'n rhaid iddyn nhw fynd i ryfel ag ef ac ymladd ag ef, sy'n eu cadw nhw'n ddiogel. Nid oes unrhyw beth brwnt nac anfoesegol am y gwaith hwnnw. Mae'n anrhydeddus, ac mae'n hanfodol i'n diogelwch.
Dylai Cymru fod yn cystadlu am gyfran uwch o wariant amddiffyn cynyddol y DU gan annog cwmnïau amddiffyn cyfrifol i fuddsoddi yma. Yn hytrach, mae'r Llywodraeth hon—Llywodraeth Plaid Cymru—yn creu ansicrwydd wrth i fusnesau benderfynu ble i osod contractau a swyddi newydd. Cofiwch, nid yw'r agwedd honno yn syndod gan blaid sydd wedi gwrthod ymrwymo Cymru annibynnol i aelodaeth lawn o NATO. Mae'ch rhagrith—nid chi'n bersonol, ond eich grŵp, eich Llywodraeth—yn syfrdanol. Mae gweithwyr ym maes amddiffyn yn cael eu trin fel rhai moesol amheus wrth i gynhyrchiad Opera Cymru gael ei hysbysebu fel 'dathliad' o genedl, gan anrhydeddu fel tri chawr, y dynion a oedd yn gyfrifol am ymosodiad terfysgol ar ysgol fomio'r RAF lai na thair blynedd cyn yr Ail Ryfel Byd. Un o'r rheini, wrth gwrs, oedd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Saunders Lewis. Wedi hynny, mabwysiadodd Plaid Cymru niwtraliaeth yn y rhyfel yn erbyn yr Almaen Natsïaidd. Defnyddiodd Lewis iaith wrthsemitig yn benodol, ac ysgrifennodd fod Hitler wedi 'cyflawni ei addewid' i dynnu pŵer ariannol Iddewig o fywyd economaidd yr Almaen.
Yn hytrach na rhoi prawf 'moesegol' i'r bobl sy'n arfogi ein lluoedd arfog, dylai Plaid Cymru ddefnyddio un ar gyfer sefydliadau celfyddydol sy'n cael eu cefnogi gan arian cyhoeddus, sy'n dathlu neu'n llwyfannu'r rhai sydd wedi cyflawni trais yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig, boed yn opera sy'n canmol Saunders Lewis a'i gyd-losgwyr fel arwyr cenedlaethol, neu gyllid cyhoeddus sy'n gysylltiedig â'r Dyn Gwyrdd wrth fod yr ŵyl yn rhoi llwyfan i Kneecap. Ac yn ei hwythnos gyntaf yn ôl, mae'n gwbl ffiaidd fod Llywodraeth Plaid Cymru wedi rhannu platfform gydag arweinwyr Sinn Féin, er gwaethaf cysylltiad hir y blaid honno ag ymgyrch terfysgaeth yr IRA.
Felly, Gweinidog, faint o benderfyniadau buddsoddi sydd wedi'u hatal dros dro? Faint o swyddi, ydych chi'n credu, sydd mewn perygl? Rwy'n cytuno â chi, Jason—nid yn aml, ond heddiw, ar eich sylwadau heddiw. A wnaethoch chi ymgynghori â chyflogwyr ac undebau llafur? A fydd cwmnïau cyfreithlon Cymru yn cael eu rhestru ar y gosbrestr dim ond oherwydd nad yw Plaid Cymru yn eu cymeradwyo—ac rydych chi yn anghymeradwyo—eu diwydiant?
Mae polisi amddiffyn moesegol yn gwahaniaethu rhwng ymosodwyr a'r rhai sy'n ein hamddiffyn rhagddyn nhw. Dylai Cymru sefyll yn gadarn gyda'n lluoedd arfog, gyda'r gweithwyr sy'n eu harfogi a'n cynghreiriaid NATO. Dylen ni hefyd sefyll yn gadarn gyda'r fframwaith moesegol sydd gan Lywodraeth y DU. Dylai'r fframwaith hwn gael ei dynnu nôl, a byddaf i'n fwy na hapus i bleidleisio yn erbyn hwn yn ddiweddarach heddiw.
Rydw i bob amser yn siomedig pan ydych chi'n siomedig, Janet, ac roedd cymaint o linynnau i hynny, gallwn i gael fy nhemtio i ddiflannu i lawr ychydig o dyllau cwningod. Ond, edrychwch, gadewch i mi ddweud hyn: yn sicr dylai fod rhywfaint o gytundeb rhyngon ni y dylai fod yna fframwaith moesegol ar gyfer busnes yn gyffredinol y dylai gael ei ddefnyddio.
Fe wnaf i roi enghraifft i chi: pan gafodd egwyddorion arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar fusnes byd-eang a hawliau dynol eu cytuno yn y Cenhedloedd Unedig, pwy oedd y Llywodraeth gyntaf yn y byd nid yn unig i'w cymeradwyo, ond, a dweud y gwir, i gynhyrchu cynllun gweithredu cenedlaethol a greodd fframwaith moesegol ar gyfer pob sector busnes? Wel, fe wnaf i roi'r ateb i chi: Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2013. Felly, edrychwch, gallwch chi ein barnu ni ar y fframwaith pan fydd yn cael ei gyhoeddi, iawn. Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ble rydyn ni yn y broses. Felly, mae croeso i chi ein dal ni i gyfrif o ran cynnwys hynny pan fydd hynny'n barod.
Rwy'n credu eich bod chi'n disgrifio'n anghywir ein sefyllfa mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Nid oes gennyf i amser i ymateb i bob un ohonyn nhw. Ond roeddwn i'n hollol glir yn fy natganiad ein bod ni'n creu fframwaith moesegol yr ydyn ni o'r farn ei fod yn sylfaen gadarn i'r sector oherwydd ei fod yn rhoi tryloywder. Nid oes unrhyw beth i'w ofni yma i'r sector. Nid yw'n gwahardd y sector amddiffyn. Fe wnes i gydnabod yn fy natganiad bod rôl bwysig a chyfreithlon i'r sector amddiffyn yn amddiffyn democratiaeth, yn enwedig yn yr amseroedd ansicr sydd ohoni, ond mae angen ei wneud mewn ffordd foesegol. A byddwn i wedi gobeithio y byddai hynny wedi bod yn sail i gonsensws ar draws y Siambr, oherwydd, yn y pen draw, y ffordd yr ydyn ni'n amddiffyn democratiaeth ym mhob ffordd, yw sicrhau ein bod yn gallu adnabod y gwerthoedd yr ydyn ni'n ceisio'u hamddiffyn yn y pen draw.
Er bod materion tramor a thrwyddedau allforio arfau yn faterion a gedwir yn ôl gan San Steffan, mae penderfyniadau ynglŷn â sut mae arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Dangosodd Plaid Cymru arweinyddiaeth, gan weithredu ar etifeddiaeth hir o heddwch, gan arwain cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer cadoediad yn Gaza yn 2023, y genedl gyntaf i wneud hynny. Arweiniodd y weithred fach hon at obaith enfawr i genedl a oedd, rwy'n eich sicrhau chi, yn teimlo bod pob gobaith wedi'i golli. Nawr, wrth fod yn Llywodraeth, gall Plaid Cymru fynd hyd yn oed ymhellach trwy ddangos arweinyddiaeth ar gyfraith hawliau dynol rhyngwladol.
Gwnaeth gais rhyddid gwybodaeth gan Amnest Rhyngwladol ddarganfod bod Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru wedi rhoi £500,000 i gwmni sy'n cyflenwi cydrannau milwrol i Israel, er gwaethaf sicrwydd fel arall gan y Prif Weinidog ar y pryd. Mae hyn yn dangos angen amlwg am atebolrwydd a ffordd fwy cyfrifol o fuddsoddi yn ein cymunedau, felly mae'n galonogol clywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd agwedd wahanol, gan ddatblygu'r fframwaith amddiffyn moesegol hwn, nad oes unrhyw weinyddiaeth flaenorol wedi'i wneud, sefydlu dull gweithredu clir a moesegol o amddiffyn a diogelwch yng Nghymru wedi'i seilio ar hawliau dynol, cyfraith ryngwladol a'n hymrwymiad ni i heddwch.
Roedd cydnabod yr hil-laddiad yn Gaza yn fan cychwyn, a chymryd camau pendant yw'r hyn y mae angen i ni ei ddilyn ar hyn o bryd. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa wahaniaeth y bydd y fframwaith moesegol hwn yn ei wneud wrth gynhyrchu ac allforio arfau yng Nghymru, a beth yw'r disgwyliadau ar gwmnïau unwaith y bydd y fframwaith hwnnw wedi'i lansio?
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chyfraniad ac am ein hatgoffa ni, yn y byd sydd ohoni, pam mae hyn mor bwysig, wrth gwrs. Pan fo gennym ni—. Mae gennym ni, yn achos Israel, wrth gwrs, ac yn achos Myanmar, ddwy wladwriaeth lle mae comisiynau'r Cenhedloedd Unedig wedi canfod eu bod wedi bod yn euog o dorri confensiwn hil-laddiad, y torri cyfraith ddyngarol ryngwladol fwyaf difrifol a dybryd y mae modd ei ddychmygu.
Bydd y fframwaith yn helpu i sicrhau, yn gyntaf oll, bod ein penderfyniadau fel Llywodraeth—. Oherwydd bod egwyddorion y Cenhedloedd Unedig y cyfeiriais i atyn nhw yn rhoi cyfrifoldeb arnon ni, fel actor gwladwriaethol, fel Llywodraeth, i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gyson â'r egwyddorion hynny a fframwaith ehangach cyfraith ddyngarol ryngwladol. Felly mae'n rhoi'r fframwaith i ni lle y gallwn ni ddal ein hunain yn atebol o ran y penderfyniadau yr ydyn ni'n eu gwneud, gan eu seilio, mewn ffordd atebol a thryloyw, ar egwyddorion moesegol, ac mewn ffordd gyson.
O ran cwmnïau eu hunain, fel y dywedais i, mae'r fframwaith yn dal i gael ei ddatblygu, ond yn y bôn, wrth gwrs, byddwn ni'n disgwyl i'r cwmnïau dan sylw gadarnhau bod eu gweithrediadau yng Nghymru yr ydyn ni'n eu cefnogi yn unol â'r fframwaith yr ydyn ni wedi'i gytuno. Felly, ar y ddwy lefel, mae'n rhoi'r tryloywder, y cysondeb hwnnw a'r sicrwydd hwnnw i ni, fod yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn gyson â'n gwerthoedd, a dyna'r hyn y byddech chi ei eisiau mewn unrhyw gyd-destun.
Weinidog, rydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau oedi neu ychwanegu ansicrwydd, ond mae gorfodi busnesau trwy brosesau hunan-ddatgan newydd yn creu risg o wneud hynny'n union. Mae gennym ni fusnesau fel IrvinGQ yn Llangeinwyr, sy'n gweithio ar systemau parasiwt a dyfeisiau denu llyngesol; mae gennym ni Raplas Technologies ym Mro Morgannwg, sy'n datblygu technoleg argraffu 3D arloesol ar gyfer amddiffyn. Dyma'r union fusnesau y dylen ni fod yn eu helpu i dyfu, nid eu claddu o dan waith papur. Felly, Weinidog Cabinet, pa sicrwydd fyddwch chi'n ei roi i fusnesau bach a chanolig Cymru y bydd y broses hunan-ddatgan yn syml, yn gymesur ac yn ymarferol, ac na fydd angen tîm o gyfreithwyr ar gwmnïau amddiffyn bach dim ond i gydymffurfio?
Byddwn, yn amlwg, wrth ddatblygu manylion y fframwaith, yn ymgysylltu â chwmnïau o bob maint yn y sector er mwyn sicrhau, fel y dywedais i yn fy natganiad, bod y broses rydyn ni'n ei chynllunio yn gymesur. Rydyn ni'n cydnabod y pwynt rhesymol y mae'r Aelod yn ei wneud, na allwn ni gymhwyso'r un disgwyliadau i gorfforaethau rhyngwladol mawr i fusnesau bach a chanolig, a bydd hynny'n ffactor yn nyluniad y broses yn yr achos hwn, fel y mae, wrth gwrs, mewn fframweithiau presennol. Mewn unrhyw sefyllfa ar hyn o bryd lle rydyn ni'n rhoi arian mewn perthynas â phrosiectau, mae proses i fynd drwyddi o ran gwaith teg ac ystyriaethau eraill. Ond mae'r pwynt o ran busnesau bach a chanolig wedi'i wneud yn dda ac yn sicr bydd yn fater y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth briodol iddo.
Yn olaf, Art Wright.
Diolch, Lywydd. Mae'n rhaid i mi, yn gyntaf, ddatgan buddiant fel cyn-arbenigwr cadwyni cyflenwi y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae llawer o gwmnïau amddiffyn yng Nghymru yn gweithredu sawl haen i lawr cadwyni cyflenwi cymhleth a defnydd deuol ac efallai na fydd ganddyn nhw fawr o reolaeth neu hyd yn oed wybodaeth am y defnydd terfynol o'r cydrannau maen nhw'n eu cynhyrchu. Rwy'n hapus eich bod chi wedi siarad am Iwerddon yn gynharach. Maen nhw eisoes wedi bod trwy rywbeth, ac mae Invest NI eisoes wedi cydnabod na all ef na'i gwmnïau cleientiaid olrhain cyrchfan derfynol nwyddau yn llawn unwaith y byddan nhw'n mynd i gadwyni cyflenwi byd-eang cymhleth. Er bod allforion milwrol a defnydd deuol eisoes yn ddarostyngedig i gyfundrefnau rheoli allforion y DU, bydd y fframwaith newydd hwn yn ychwanegu ansicrwydd a chostau cydymffurfio ychwanegol i gwmnïau yng Nghymru. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau nad oes disgwyl i gwmnïau yng Nghymru ymgymryd â diwydrwydd dyladwy na allant gyflawni neu ddyblygu swyddogaethau sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan awdurdodau rheoli allforion y DU?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am yr wybodaeth yr oedd yn gallu ei rhoi iddo. Fel y dywedais i, rwy'n credu, yn y datganiad, pan fo'n bosibl byddwn yn ceisio adeiladu ar fframwaith presennol y DU, lle mae haen o ddealltwriaeth a gwybodaeth sy'n berthnasol. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yn sicr, bod y cyd-destun byd-eang o ran cadwyni cyflenwi yn gymhleth yma. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o'n gallu i archwilio'n llawn, a bydd rhywfaint o hyn yn benodol i'r cyd-destun. Felly, wrth ddylunio'r fframwaith, bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio'n fawr ar weithgarwch yr endidau dan sylw yng Nghymru, gan fod yn ymwybodol o'n hadnoddau ein hunain a'r wybodaeth sydd ar gael i ni.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen i'r eitem nesaf, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, diweddariad ar y cynllun dychwelyd ernes. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd.
Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn heddiw o fedru diweddaru Aelodau am y cynllun dychwelyd ernes yma yng Nghymru. Ar 20 Awst, fe gyhoeddais i benodiad Exchange for Change fel y sefydliad rheoli ernes inni yma yng Nghymru. Gyda’r penodiad hwn, wrth gwrs, rŷn ni'n symud gam yn nes at system a fydd yn lleihau sbwriel, yn cynyddu'r gwaith o gasglu deunyddiau gwerthfawr, yn cefnogi ailddefnyddio a hefyd, wrth gwrs, yn helpu i sicrhau Cymru lanach a mwy cylchol.
Nawr, penodwyd Exchange for Change yn dilyn proses gadarn i nodi sefydliad a fyddai'n gallu cyflawni'r cynllun yma yng Nghymru. Fel y sefydliad rheoli ernes, bydd Exchange for Change yn gweithio nawr gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i sefydlu'r rhwydwaith dychwelyd, seilwaith casglu a phrosesu, trefniadau cofrestru cynhyrchwyr a threfniadau gweithredol a systemau sydd eu hangen cyn lansio. Fel cynllun a arweinir gan gynhyrchwyr, wrth gwrs, byddan nhw nawr yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni DRS sy'n gweithio i Gymru.
Gan fod Exchange for Change, wrth gwrs, wedi'i benodi'n flaenorol i gyflawni'r cynlluniau yng ngwledydd eraill y DU, mae'n golygu nawr y bydd gennym weinyddwr cyffredin ledled y DU. Mae hyn yn darparu'r sylfaen gryfaf bosibl ar gyfer rhyngweithrededd rhwng cynlluniau'r DU ac i fusnesau sy'n gweithredu ar draws ffiniau.
Wrth i Gymru barhau i arwain y DU o ran ailgylchu ac effeithlonrwydd adnoddau, mae'n parhau i fod yn hanfodol bod cyflwyno'r cynllun yn darparu manteision clir yng Nghymru gan sicrhau bod y cynllun yn gallu rhyngweithredu, fel y dywedais i, â chynlluniau eraill ledled y DU.
Nawr, mae Cymru eisoes yn cael ei chydnabod am gyflawni un o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd, ac er mwyn cyfiawnhau’r buddsoddiad a’r newidiadau sydd eu hangen gan fusnesau a defnyddwyr, mae'n rhaid iddo fe ddarparu manteision ychwanegol y tu hwnt i’r cyfraddau ailgylchu uchel y mae pobl Cymru eisoes yn eu cyflawni gartref.
Bydd y cynllun yn cynnwys cynwysyddion diodydd metel a phlastig o'r diwrnod cyntaf. Bydd cynwysyddion gwydr hefyd o'r diwrnod cyntaf, ond gan adlewyrchu ein hymrwymiad maniffesto, byddwn ni'n gweithio'n agos gydag Exchange for Change, a'r diwydiant diodydd ehangach, ar ddull pragmatig o ymdrin â gwydr. Mae hyn yn cynnwys y cyfnod pontio o bedair blynedd, pan na fydd unrhyw ernes yn berthnasol a phan na fydd angen labelu DRS-benodol, yn ogystal â chyflwyno ailddefnyddio fesul cam.
Gan weithio gydag Exchange for Change, rydyn ni'n canolbwyntio nawr ar weithredu'r cynllun erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf, ac ar gefnogi busnesau, partneriaid cyflawni a defnyddwyr i fod yn barod i'w lansio. Wrth wneud hynny, byddwn ni'n gweithio i wneud yn siŵr bod Cymru yn sicrhau manteision y cynllun, gan gynnwys llai o sbwriel, dal deunyddiau o ansawdd uchel i'w hailgylchu yn ôl i'r economi, a llwybr clir tuag at gyflwyno ailddefnyddio. Mae cwmpasu'r holl ddeunyddiau yn sicrhau y gall y cynllun fynd i'r afael â'r sbwriel a welir ar ein strydoedd ac yn ein cymunedau, o ran pob math o gynwysyddion diod, o'r cychwyn cyntaf. Mae hefyd yn golygu y gallwn nid yn unig gadw deunyddiau mwy gwerthfawr yn yr economi, ond mae hefyd yn rhoi llwybr ar waith i gyflwyno cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio, a'r manteision y mae'r cynlluniau gorau yn y byd eisoes yn eu cyflawni'n rhyngwladol.
Mae sbwriel nid yn unig yn falltod ar ein cymunedau, mae hefyd yn gosod costau ar awdurdodau lleol, ar drethdalwyr ac ar reolwyr tir hefyd. Fel y profwyd bod DRS yn ei wneud mewn gwledydd eraill, trwy atal sbwriel a dal cynwysyddion diodydd o bob math o ddeunydd, bydd nid yn unig yn cadw'r deunyddiau rhag llygru'r amgylchedd, neu beri perygl i bobl a bywyd gwyllt, ond bydd hefyd yn lleihau baich gweithgareddau rheoli sbwriel a glanhau.
Gyda'r digwyddiadau tanau gwyllt sylweddol y mae Cymru wedi'u profi yr haf hwn, wrth i newid yn yr hinsawdd gynyddu, mae'n bwysig hefyd osgoi ffynonellau tanio y gellir eu hatal. Gyda Gwasanaeth Tân ac Achub yr Alban yn nodi bod poteli gwydr wedi'u taflu yn un o achosion posibl tanau gwyllt—gan y gall golau'r haul sy'n pasio trwy wydr, wrth gwrs, ganolbwyntio gwres ar lystyfiant sych a thanio tanau—mae ein hatgoffa o'r risgiau y gall gwydr sbwriel yn arbennig eu cyflwyno.
Felly, bydd cynllun dychwelyd ernes llwyddiannus yn helpu i ddarparu cymunedau a mannau cyhoeddus glanach yng nghanol ein trefi, ein parciau, ein traethau a'n cefn gwlad. Fel Llywodraeth, mae cefnogi busnesau, yn enwedig ein busnesau bach a chanolig, i bontio'n llwyddiannus ac elwa ar y cynllun yn flaenoriaeth. Byddwn felly yn gweithio gydag Exchange for Change i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn ymgysylltu'n llawn wrth i ni symud ymlaen i'w weithredu.
Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gyfranogiad busnesau o bob maint, ac felly mae'r rheoliadau'n cynnwys eithriadau ar gyfer cynhyrchwyr cyfaint isel, eithriadau hefyd ar gyfer manwerthwyr llai lle mae hynny'n briodol, a threfniadau dychwelyd hyblyg. Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn rhoi sicrwydd ac yn lleihau costau cydymffurfio, ac mae'r cyfnod pontio o bedair blynedd, wrth gwrs, ar gyfer yr ernes ar wydr hefyd yn rhoi mwy o amser i fusnesau addasu.
Yn dilyn pasio'r ddeddfwriaeth gan y Senedd yn gynharach eleni, mae penodi'r sefydliad rheoli ernes yn gam sylweddol ymlaen tuag at gyflawni DRS yma yng Nghymru.
Nid cynnal y perfformiad ailgylchu presennol yw unig ddiben y cynllun, ond dal deunyddiau gwerthfawr a fyddai fel arall yn cael eu taflu fel sbwriel, eu colli o’r system ailgylchu, neu eu casglu ar ansawdd is, gan hefyd osod y sylfeini ar gyfer symud ymhellach i fyny’r hierarchaeth wastraff tuag at ailddefnyddio.
Dwi’n hyderus drwy weithio gydag, ac mewn partneriaeth gydag Exchange for Change, y bydd y cynllun dychwelyd ernes yn llwyddiannus yn lleihau sbwriel, fel dwi'n dweud, ond hefyd yn cefnogi’r newid tuag at ailddefnyddio ac yn atgyfnerthu safle Cymru fel arweinydd byd eang ym maes effeithlonrwydd adnoddau. Mae hwn, Ddirprwy Lywydd, yn fuddsoddiad mewn cymunedau glanach, mewn economi gylchol gryfach ac mewn Cymru fwy cydnerth i genedlaethau’r dyfodol. Diolch.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Rydyn ni'n amlwg yn bwrw ymlaen â'r cynllun dychwelyd ernes, ond dydw i ddim yn credu bod y Siambr hon na'r cyhoedd yn gyffredinol, yn sicr teuluoedd yng Nghymru a busnesau yng Nghymru, yn deall yn iawn beth sy'n dod fis Hydref nesaf, p'un a yw'r cynllun yn cynnwys cynwysyddion plastig, alwminiwm neu wydr. Mae'r ffaith ei bod hi bron yn wag yma yn y Siambr yn dangos nad yw pobl yn ei ddeall. Felly, rwy'n diolch yn fawr iawn i chi am ganiatáu i mi wneud hyn yn gryno iawn.
Gadewch i mi ddechrau. Dyma'r system ailgylchu bresennol yng Nghymru. Mae gennym y cyfraddau ailgylchu uchaf yng Nghymru. Ie, siop, cynwysyddion, gartref, Trolibocs, cyngor, maen nhw'n ei sortio, maen nhw'n gwneud yr arian. Ocê. Dyma beth sy'n mynd i ddigwydd nawr. Rydyn ni'n mynd i fynd i'r siop, rydyn ni'n mynd i brynu cynwysyddion, bydd cyfradd unffurf o 20c arnyn nhw, maen nhw'n mynd i fynd i gartrefi, ac mae'n rhaid i ni eu dychwelyd i'r safleoedd manwerthu. Mae'n rhaid i ni fynd â nhw i'r peiriannau hyn i gael ein 20 ceiniog yn ôl. Yn y cyfamser, mae'r cyngor yn dal i orfod casglu'r holl ailgylchu gwerth isel. Meddyliwch am hyn yn y fan yma, fe fyddaf i'n sôn am hyn mewn munud. Iawn, dyna'r system newydd. Fe ddangosaf i hwn i chi y tu allan os hoffech chi fwy o fanylion.
Yn amlwg, cyflwynwyd DRS gan y Ceidwadwyr yn Neddf yr Amgylchedd 2021, a dydw i ddim yn deall—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, dyna pam wnes i adael. [Chwerthin.] Rydyn ni'n mynd i gael ail system gyfochrog sy'n gofyn i bobl yrru, cludo a dychwelyd y cynwysyddion hyn ar wahân. Pam rydyn ni'n symud deunydd o gwmpas ddwywaith? Meddyliwch am yr allyriadau. Pam rydyn ni'n adeiladu system o amgylch miloedd o beiriannau rhoi arian am ailgylchu? Mae'n rhaid i'r siopau brynu'r peiriannau hyn. Rydyn ni'n cloi ein hunain i mewn i dechnoleg sy'n perthyn i'r gorffennol. Pan fyddwch chi'n cyrraedd y peiriant ac yn rhoi eich potel i mewn, rydych chi'n cael tocyn papur. Dydyn ni ddim yn yr 1980au. Mae'n chwerthinllyd.
Ac yna mae'r gost. Dyma'r pwynt mwyaf difrifol i mi. Costau byw—mae pob teulu yng Nghymru yn teimlo'r costau byw. Nawr rydyn ni'n cael gwybod y bydd tâl ychwanegol am bob cynhwysydd diod. Dywedwch eich bod chi'n prynu pecyn â 24 o boteli dŵr, mae hynny'n £4.80 i'r bil ymlaen llaw. Ydyn, rydyn ni'n cael gwybod y gallwn ni ei gael yn ôl, ond rydyn ni i gyd yn gwybod na fydd pob ernes yn cael ei hadennill. Fe fyddwch chi'n colli eich tocyn papur. Ni fydd rhai teuluoedd yn cael yr amser i wneud hynny. A beth am fwyd sy'n cael ei ddosbarthu ar ôl cael ei brynu ar-lein? I bobl nad ydynt eisiau mynd neu na allant fynd i archfarchnadoedd—yr henoed, y bregus, pobl â chyflyrau iechyd, anableddau—sut maen nhw'n cael eu 20c yn ôl? Felly, Weinidog, dyma eich cwestiwn cyntaf: sut y bydd pobl sy'n defnyddio gwasanaeth dosbarthu ar-lein ac nad ydynt yn mynd i archfarchnadoedd yn cael eu 20c yn ôl?
A ble mae'r holl arian hwn heb ei adennill yn mynd? Mae'n mynd i weinyddwr cynllun preifat, yn eistedd mewn cyfrif banc yn ennill llawer o log. Sefydliad preifat, nid-er-elw, prif weithredwyr yn cael eu talu'n dda iawn, ac ychydig iawn y mae'r cyhoedd yn ei ddeall am bwy sy'n rheoli'r arian hwnnw a sut y bydd yn cael ei wario. Felly, ail gwestiwn, Weinidog: pa mor hir y bydd yr 20 ceiniogau hynny heb eu hadennill yn cael eu cadw yn y cyfrif banc preifat hwnnw yn ennill llog, a phwy fydd yn penderfynu sut a phryd y mae'r arian hwnnw'n cael ei wario?
O, efallai mai'r mater mwyaf oll yw un nad yw wedi'i drafod o gwbl heddiw yn y datganiad: refeniw cynghorau. Mae'r cynllun hwn yn tynnu rhai o'r deunyddiau ailgylchadwy mwyaf gwerthfawr, fel alwminiwm, o ffrydiau ailgylchu awdurdodau lleol—y deunyddiau sy'n helpu cynghorau i gynhyrchu refeniw a gwrthbwyso costau casglu. Ers blynyddoedd, mae cynghorau wedi adeiladu gwasanaethau ailgylchu o amgylch y deunyddiau hynny, a nawr rydyn ni'n cynnig eu dileu a throsglwyddo rheolaeth i rywle arall.
Mae gen i lythyrau a datganiadau yma gan gwmnïau ac aelod-sefydliadau yn Lloegr—Cymdeithas Cyfarwyddwyr yr Amgylchedd, yr Economi, Cynllunio a Thrafnidiaeth a'r Gymdeithas Genedlaethol Swyddogion Gwaredu Gwastraff—llawer o wahanol gwmnïau sy'n ailgylchu ar gyfer awdurdodau lleol, sy'n dweud, yn y bôn, ac rwy'n dyfynnu o un ohonyn nhw, 'Byddai DRS yn dyblygu system sydd eisoes yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i awdurdodau lleol bob blwyddyn', ac maen nhw eisiau iddo gael ei oedi. Mae hyn yn Lloegr. Felly, fy nhrydydd cwestiwn i'r Gweinidog yw: pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar refeniw cynghorau lleol yn y system newydd hon?
Nawr, gadewch i ni edrych ar ein ffrindiau yn Iwerddon. Maen nhw tua dwy flynedd o'n blaenau ni. Sylwais i fod y datganiad yn dweud ei fod yn gweithio'n dda mewn gwledydd eraill. Wel, rydw i wedi siarad â'n cymheiriaid dros Fôr Iwerddon. Mae yna broblemau cyson gyda'r peiriannau. Maen nhw naill ai'n torri i lawr neu maen nhw'n llenwi'n gyflym. Mae pobl yn eu casáu. Mae'n creu sbwriel. Gwrandewch ar hyn: mae Cyngor Dinas Dulyn wedi gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd—rwy'n credu ei fod tua £800,000—yn glanhau ar ôl chwilota am boteli a chaniau o finiau sbwriel. Maen nhw'n tynnu'r holl sbwriel allan, maen nhw'n dod o hyd i'r cynnyrch gwerthfawr, dydyn nhw ddim yn rhoi'r sbwriel yn ôl i mewn.
Mae rheolaeth, fel y cynllun ar gyfer Cymru, yn nwylo sefydliad anllywodraethol. Mae'r sefydliad hwnnw bellach yn eistedd ar €98 miliwn o ernesau heb eu hadennill, oherwydd dyna sy'n digwydd pan fyddwch chi'n dyfeisio system nad yw ei heffaith ar fywyd bob dydd yn cael ei hystyried, yr hyn rydyn ni'n gofyn i bobl ei wneud, i fynd â'u cynwysyddion yn ôl i'r peiriannau rhoi arian am ailgylchu. Mawredd, mae digon i'w wneud mewn bywyd yn barod. A thrwy gael gwared ar y cynhyrchion ailgylchadwy gwerthfawr hynny o'r system rheoli gwastraff cartrefi yn Iwerddon, mae taliadau casglu biniau— mae'n system ychydig yn wahanol i'r un sydd gennym ni yma—wedi cynyddu 30 y cant.
Os mai sbwriel yw'r broblem, mae yna ffyrdd symlach a rhatach o fynd i'r afael ag ef. Byddwn i fy hun yn cael gwared ar y cynllun hwn a dylem fod yn gwella ac yn moderneiddio ein system casglu deunydd ailgylchadwy ar garreg y drws, sy'n arwain y byd. Gallai rhan o'r dreth cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig gael ei neilltuo gan Lywodraeth y DU gyda symiau canlyniadol Barnett i fuddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf, fel bod modd parhau i gasglu'r deunyddiau gwerth uchel hyn ar garreg y drws, ac fe allwn ni ddechrau adeiladu gweithfeydd prosesu yma yng Nghymru.
Weinidog, mae DRS yn ddiwygiad sy'n mynd yn rhy bell. Bydd yn cael effaith enfawr ar record ailgylchu Cymru, cymunedau yng Nghymru a phocedi pobl yng Nghymru. Plîs: oedwch, arhoswch.
Wel, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud i ddechrau yw, pe baem ni'n oedi, pe baem ni'n aros, yna does gen i ddim amheuaeth y byddech chi ar eich traed wedyn yn cwyno am y risg o dwyll. Oherwydd mae gweddill y DU yn symud i'r cyfeiriad hwn, iawn? A phawb a oedd yn protestio yn dweud, 'O, os na fydd Cymru yn symud i'r cyfeiriad hwn yna fe fydd twyll, fe fydd pob math o broblemau a phob math o bryderon'—[Torri ar draws.] Y rhannau eraill o'r DU fyddai'r cyntaf i gwyno. Felly, rydyn ni i gyd ar daith yma, ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gydnabod yw bod Cymru yn dechrau o fan gwahanol iawn.
Rydyn ni'n gofyn i gynhyrchwyr, awdurdodau lleol, defnyddwyr hefyd, wneud rhywbeth gwahanol. Ond os ydyn ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth gwahanol, yna mae'n rhaid i ni weld budd o hynny, ac mae cynnwys gwydr yn y cynllun yn un budd rydyn ni am ei weld, oherwydd mae angen i ni gadw'r gwydr hwnnw yn y system. Yr un elfen dydych chi ddim wedi sôn amdani, dydw i ddim yn credu, yn eich dadansoddiad, yw bod hyn yn mynd â ni yn agosach at ailddefnyddio. Dydy e ddim yn ymwneud ag ailgylchu. Mae angen i ni symud ymhellach i fyny'r hierarchaeth wastraff. Byddai ailddefnyddio yn caniatáu i'r un botel gael ei defnyddio sawl gwaith, gan leihau costau o ran busnesau sy'n gorfod dod o hyd i'r deunyddiau hynny yn rheolaidd. Felly, mae yna fanteision eraill.
Taflu sbwriel, fe soniais i amdano yn fy natganiad. Mae gennym record dda ar gyfer ailgylchu yn ddomestig. Mae gennym reoliadau ynghylch gwella ailgylchu mewn busnes ac yn y gweithle. Mae taflu sbwriel ar hyd y lle yn broblem fawr, ond gall hyn fod yn rhan fawr o'r ateb, fel rydyn ni wedi'i weld o rai o'r enghreifftiau rhyngwladol, lle gallwn ni fynd i'r afael â thaflu sbwriel ar hyd y lle go iawn. Dangosodd arolwg Cadwch Gymru'n Daclus fod sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd ar 43.6 y cant o'n strydoedd—mae sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd yn unig ar bron i hanner ein strydoedd. Gall hyn fynd â ni gam ar hyd y daith honno, gan leihau costau wedyn, wrth gwrs, i awdurdodau lleol, ar gyfer y gwaith o gasglu rhywfaint o hynny. Ac fe soniais i am y peryglon o wydr wedi torri hefyd—mae digon o sylw wedi'i roi i hyn. Rydyn ni'n gwybod bod mwy y gallwn ni ac y mae angen i ni ei wneud.
Ernes yw hi. Ernes yw hi; dydy e ddim yn gost ychwanegol. Oes, mae angen i'r pwyntiau dychwelyd hynny fod yn hygyrch, wrth gwrs y mae angen iddyn nhw fod, ond does dim ernes yn daladwy yn y pedair blynedd gyntaf. Proses o addysgu yw hon, proses o weithio nawr gydag Exchange for Change i sicrhau bod y pwyntiau hynny mor hygyrch ac mor hawdd eu cyrraedd â phosibl. Nid dim ond ym maes manwerthu y byddan nhw ar gael. Gallaf i ddychmygu y bydd mannau cyhoeddus lle bydd y pwyntiau dychwelyd hynny ar gael hefyd. Lle mae pobl yn tueddu i fynd neu ymgynnull, gallwn ni eu darparu. Ac mae hynny hefyd, rwy'n credu, yn rhywbeth y mae angen i ni gadw mewn cof.
A refeniw cynghorau, mae yna ffrydiau gwastraff newydd yn cael eu cyflwyno. Mae ffilm blastig yn un sy'n cael ei threialu a'i datblygu nawr. Bydd llif ychwanegol o refeniw yn dod ar gyfer hynny. Felly, mae'n ymwneud â tharo'r cydbwysedd cywir.
Y peth allweddol yn y datganiad hwn heddiw, yn fy marn i, yw bod gennym DMO yma yng Nghymru nawr sy'n rhoi'r bartneriaeth honno i ni. Mae'r bartneriaeth honno ledled y DU wedi'i hymwreiddio, mewn gwirionedd, oherwydd dyma'r un DMO sy'n darparu'r gwasanaethau hyn ym mhob rhan o'r DU. Ac wrth gwrs mae'n cael ei arwain gan fusnes, mae'n cael ei arwain gan ddiwydiant; mae Exchange for Change yn cael ei arwain gan ddiwydiant. Felly, gallan nhw weithio gyda busnesau, a gallwn ni ac eraill wneud yn siŵr ein bod ni'n siarad dros y cymunedau hefyd yn y broses honno, wrth i ni weithio i gyflawni'r model gweithredol.
Mae rhai pobl eisiau codi ofn. Mae yna faterion teg y bydd angen mynd i'r afael â nhw dros y 12 mis nesaf, ond dyna'r pwynt: fe fyddwn ni'n gweithio hyd at fis Hydref a'r dyddiad cychwyn. Allaf i ddim aros i ni gyrraedd pwynt lle, ymhen pum mlynedd, o bosibl, pan fydd pobl yn talu'r ernesau, byddwn ni'n gweld gwahaniaeth gwirioneddol sylweddol ar lawr gwlad.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Rwyf wir yn croesawu'r diweddariad hwn, sy'n adeiladu ar waith Llywodraethau olynol Cymru. Mae penodi sefydliad rheoli ernes i Gymru yn gam hanfodol ymlaen. Mae rôl newydd Exchange for Change fel gweinyddwr cyffredin y DU yn gwneud synnwyr o ran gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig a rhoi eglurder i fusnesau. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i bawb yng Nghymru sy'n ailgylchu. O'u hachos nhw y mae Cymru yn sgorio mor uchel o ran cyfraddau ailgylchu ledled y byd.
O ran y datganiad heddiw, yn gyntaf, mae'r dull graddol hwnnw o gyflwyno gwydr dros bedair blynedd yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y cynllun dychwelyd ernes ehangach. Mae'n bwysig bod hynny'n cael ei gyflwyno'n raddol i fusnesau a defnyddwyr. Amcangyfrifir y bydd dull graddol yn fwy cost-effeithiol, a dylem gofio hynny hefyd. Byddwn i'n disgwyl bod llawer o waith yn digwydd yn y cefndir, felly allech chi nodi beth yw'r cerrig milltir allweddol nesaf y gallwn ni eu disgwyl wrth i'r gwaith fynd rhagddo?
Yn ail, mae'r enghreifftiau ar gyfer cynhyrchwyr cyfaint isel a manwerthwyr llai yn bwysig. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ddweud ychydig mwy am feddylfryd presennol Llywodraeth Cymru o ran hyn. Rydyn ni'n gwybod bod y prif benderfynydd o ran hyfywedd y cynllun yn gysylltiedig â phethau fel sut mae'r cynllun yn gweithio, lefel y ffioedd neu'r seilwaith ehangach, nid o reidrwydd maint busnes yn unig. Felly, beth fydd yn cyfrif fel cyfaint isel a beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol?
Dyma fy nghwestiwn olaf. Mae'n bosibl bod yr aelodau wedi gweld y sesiwn friffio a gynhyrchwyd gan grŵp trawsbleidiol y Senedd ddiwethaf ar daflu sbwriel, a gadeiriwyd gan Mick Antoniw, ar gynllun dychwelyd ernes. Mae'r ddogfen honno'n gwneud achos pwerus, yn ogystal â manteision uniongyrchol y cynllun ar gyfer lleihau sbwriel, mai o fodelau ailddefnyddio wedi'u cynllunio'n dda wedi'u hadeiladu ar y seilwaith hwnnw y bydd yr arbedion carbon hirdymor mwyaf yn cael eu gweld—cyfle unwaith mewn cenhedlaeth go iawn. Weinidog, fe wnaethoch chi awgrymu hynny a phwysigrwydd ailddefnyddio yn eich datganiad, ond allech chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd hyn yn cael ei ymwreiddio ar draws y Llywodraeth fel nad ydym yn colli'r cyfle hwn?
Diolch yn fawr iawn am groesawu hyn. Yn amlwg, rydyn ni'n adeiladu ar waith a gafodd ei wneud yn flaenorol gan ein Llywodraeth ragflaenol. Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi'i etifeddu, ond mae'n rhywbeth rydyn ni'n ei gofleidio, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bawb.
Y garreg filltir fwyaf yw mis Hydref y flwyddyn nesaf, wrth gwrs. Dyna pryd fydd y cynllun yn mynd yn fyw ledled y DU. Rwy'n gwybod bod pobl wedi bod yn pryderu ein bod ni wedi bod ychydig ar ei hôl hi o ran penodi'r DMO, felly mae gwaith yn digwydd ar lefel swyddogol nawr i nodi'n union sut mae hynny'n mynd i gael ei gyflawni. Rwy'n hapus i sesiwn friffio gael ei chynnal ar gyfer Aelodau—mae'n rhywbeth y dylem wneud mwy ohono rwy'n credu—eistedd i lawr gydag Aelodau, ymateb i rai o'r pryderon hynny y mae rhai pobl yn dal i godi, ond hefyd efallai mynd trwy'r broses yn fanylach.
O ran yr eithriadau, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod rhai o'r eithriadau wedi'u hamlinellu mewn rheoliadau—o siopau allforio i ddiodydd a gyflenwir cyn dechrau'r cynllun. Mae llinellau cynnyrch bach wedi'u diffinio yn y rheoliadau, ond hefyd gwerthiannau 'yfed nawr' a lletygarwch. Bydd gennych sefyllfaoedd lle y bydd rhywbeth yn cael ei brynu ar y safle, yn cael ei yfed ar y safle, felly mae eithriadau clir yn y fan yna. Unwaith eto, rwy'n hapus i ysgrifennu atoch gyda'r rhestr honno yn ei chyfanrwydd.
O ran y pwynt olaf a wnaethoch, mae manteision ailddefnyddio yn amlwg i ni i gyd. Fe wnes i sôn yn gynharach am y ffaith ei fod yn lleihau costau o ran gorfod dod o hyd i botel ar ôl potel a deunyddiau crai i gynhyrchu'r cynwysyddion hynny. Ond mae yna fantais amgylcheddol hefyd drwy beidio â gorfod parhau i greu'r deunyddiau hynny. Ond mae ansawdd deunydd wedi'i ailgylchu hefyd, pan gaiff ei ailgylchu, yn llawer gwell, sydd, wrth gwrs, yn fwy gwerthfawr o ran ffrydiau refeniw. Ond cadw adnoddau gwerthfawr fel yna mewn cylchrediad am gyhyd â phosibl yw'r hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni yma.
Mae yna fanteision economaidd ychwanegol i'r broses gyfan hefyd, oherwydd os ydyn ni'n ailddefnyddio poteli, yna mae angen canolfannau ailddefnyddio arnom, mae angen golchfeydd arnom, ac mae'r rheini'n creu swyddi. Rwyf wedi gweld ffigur sy'n nodi y byddai cynllun DRS wedi'i weithredu'n iawn, o bosibl, yn creu hyd at 3,000 o swyddi ledled y DU. Felly, mae yna nifer o fanteision y gallen ni eu gwireddu yma, ond mae'n drawsnewid. Dydy e ddim yn mynd i ddigwydd dros nos a dylai hynny ddim digwydd chwaith, oherwydd mae'n rhaid i bethau gael eu cyflwyno mewn ffordd bragmatig ac ymarferol. Ond dyna'r daith rydyn ni arni ac mae'n un rydw i'n benderfynol o'i dilyn.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Nid ydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylid cynnwys gwydr yn y cynllun hwn. Dyma fu ein safbwynt ni ers amser maith a meddwl ydym ni ei fod yn cymhlethu'r sefyllfa ac yn ychwanegu dryswch iddi. Un peth sy'n gorfod bod yn glir am unrhyw gynllun ailgylchu yw bod yn rhaid i bobl ei ddeall a'i gefnogi, a po fwyaf y gallwch chi ei symleiddio, siawns mai'r gorau y bydd o.
Fel rhywun a oedd yn arfer dod i lawr y ffordd gyswllt i Fae Caerdydd a gweld y safle tirlenwi enfawr sydd ger Grangetown yno, gall rhywun werthfawrogi'r camau sydd wedi'u cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wneud ailgylchu yn rhan annatod o'r hyn rydym ni i gyd yn ei wneud erbyn hyn, a'r diwydiant sydd wedi'i adeiladu ym maes ailgylchu ac ailddefnyddio'r cynhyrchion rydym ni'n eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd. Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith, ac mae'n rhywbeth y dylem ni ei gofleidio. Rwy'n canmol y Llywodraeth flaenorol am yr hyn a wnaeth wrth godi'r cyfraddau ailgylchu. Ond nid wyf yn gweld pam mae ar y Llywodraeth eisiau parhau i gosbi'r sector lletygarwch a dod â gwydr o fewn cwmpas y cynllun hwn y mae'n ei gynnig. Rwy'n gwybod eich bod wedi crybwyll hyn yn eich ymateb i'r llefarydd ar ran Llafur, ond o ystyried bod oedi o 10 wythnos wrth gyhoeddi gweithredwr y cynllun, sut ydych chi'n mynd i ddal i fyny gyda'r 10 wythnos yna, bron i dri mis, rhwng nawr a mis Hydref nesaf, sef y dyddiad cychwyn i fod, i wneud yn siŵr y caiff ei weithredu ym mis Hydref y flwyddyn nesaf?
Y peth arall sy'n wirioneddol bwysig yw darparu eglurder ar sut y bydd y rhyngweithio rhwng cynllun dychwelyd ernes a'r cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig yn gweithio. Mae eithriad o'r ffioedd cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer cynwysyddion gwydr yng nghwmpas y cynllun dychwelyd ernes yn rhagflaenydd hanfodol i gynnwys gwydr. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyn, nid ydyn nhw wedi penderfynu sut y bydd yr eithriad yn gweithio yn ymarferol. Mae hyn yn arbennig o heriol o ystyried yr anhawster wrth olrhain lle bydd y cynhwysydd ar werth ar yr adeg y caiff ei roi ar y farchnad, yn ogystal â'r gwahanol ffyrdd y cyfrifir ffioedd cynhyrchydd ar gyfer ffioedd y cynllun dychwelyd ernes a'r cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, yn ôl uned neu yn ôl pwysau. Felly, allwch chi egluro mwy am hynny, os gwelwch yn dda, Weinidog?
Ac yna mae'r mater o ddatrys ansicrwydd rheoleiddiol yr ailddefnydd. Nid yw'r targedau ailddefnyddio a gynhwysir yn y rheoliadau ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes ar hyn o bryd yn gydnaws â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, o ystyried na chafodd yr eithriad o hyn ei ganiatáu. Sut ydych chi'n mynd i oresgyn yr agwedd benodol honno? Oherwydd mae angen i chi gydymffurfio â Deddf y Deyrnas Unedig, fel arall rydych chi'n mynd i fod yn yr un sefyllfa ag y cafodd yr Alban ei hun ynddi. A chynnal atebolrwydd am gyfnodau wedi'r cyfnod pontio. Mae'r cyfnod pontio ar gyfer gwydr, pe bai'n ernes o 0 y cant, yn cael ei gymhwyso ac nid oes gofynion labelu ychwanegol, a fydd yn dod i ben yn 2031. Bryd hynny, bydd nifer o faterion yn dod i'r amlwg, gan gynnwys sut mae dychwelyd cynwysyddion gwydr yn cael eu rheoli ym maes lletygarwch, y risg o dwyllo, cynwysyddion gwydr a werthir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cael eu cyfnewid yma yng Nghymru, y gost ychwanegol a wynebir gan gynhyrchwyr ar gyfer mannau dychwelyd gwydr eraill, a sut y bydd y targedau ailddefnyddio uchod yn gweithio yn ymarferol. Felly, rhywfaint o eglurder ar hynny. Er bod gennych chi'r cyfnod gras o bedair blynedd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n deall sut y bydd hyn yn cael ei weithredu ar ôl y cyfnod pedair blynedd hwnnw.
A dyna'r effaith ar letygarwch, sy'n hanfodol. Rydym ni'n clywed pobl yn y Siambr hon yn siarad am y pwysau yn y sector lletygarwch yn eu hetholaethau eu hunain. Rhaid i ni sicrhau bod tafarndai a bariau a lleoliadau lletygarwch eraill yn cael eu hystyried yn llawn o fewn y cynlluniau gweithredu, yn enwedig o ystyried ymyl y dibyn yn 2031. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag effaith weithredol sy'n benodol i fusnesau lletygarwch, nad ydyn nhw bob amser wedi'u hadlewyrchu'n ddigonol yn y datblygiad polisi hyd yma. Sut ydych chi'n mynd â'r sector lletygarwch gyda chi, Weinidog?
Diolch. Mae yna gryn dipyn yn fan yna. O ran pam cynnwys gwydr, o ystyried y costau dan sylw a'r goblygiadau i fusnesau, i awdurdodau lleol a'r newidiadau mewn arferion defnyddwyr y bydd eu hangen, rhaid i unrhyw gynllun a gynhaliwn ni mewn perthynas â chynllun dychwelyd ernes ddarparu manteision ychwanegol ystyrlon i Gymru, yn hytrach na chyflawni'r hyn rydym ni eisoes yn ei gyflawni. Mae angen y buddion ychwanegol diriaethol hynny arnom ni, a heb gynnwys gwydr, nid ydym ni'n gweld hynny, oherwydd rydym ni'n ailgylchu fel rydym ni—mae llawer o hynny eisoes yn digwydd—ond rydym ni'n mynd ymhellach oherwydd mae angen i ni symud i gyfeiriad ailddefnyddio, oherwydd dyna sy'n dod â mwy o wobrau i ni yn y pen draw.
Fe wnaethoch chi ofyn am yr oedi 10 wythnos. Roedd proses benodi gadarn yn gyntaf oll—roedd angen i ni fod yn hyderus mai dyma'r penderfyniad cywir wrth benodi Exchange for Change. Rwy'n hyderus mai dyna'r penderfyniad cywir. Un budd sy'n deillio o hynny yw, o ystyried eu bod yn cyflawni cynlluniau tebyg ar draws rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fe allen nhw gychwyn arni'n syth. Maen nhw'n rhan o'r sector hwn; maen nhw'n deall beth sydd ei angen. Bydd hynny, rwy'n credu, yn caniatáu inni wneud yn siŵr y gallwn ni gyrraedd targed Hydref 2027 o ran gweithredu'r cynllun.
O ran cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, nid yw cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes yn creu baich cost hollol newydd, oherwydd bod cynhyrchwyr diodydd sy'n defnyddio gwydr eisoes yn bodloni rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchydd o dan y cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer pecynnu, sy'n golygu y bydd llawer o gostau yn trosglwyddo o'r cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig i'r cynllun dychwelyd ernes, yn hytrach na bod yn gost ychwanegol. Mae gofynion adrodd cenedl-benodol eisoes ar waith o dan y cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, felly nid yw'n beth newydd o ran y cynllun dychwelyd ernes chwaith.
Rydych chi'n holi am Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Rwy'n ffyddiog ein bod yn cydymffurfio a'r ddeddf honno. Os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf i gyda'r hyn rydych chi'n ei awgrymu, yna fe wnaf i edrych ar hynny, ond rwy'n ffyddiog nad ydym ni'n camu y tu allan i gwmpas hynny yn yr hyn rydym ni'n bwriadu ei wneud. Ac mae yna gyfnod pontio. Ni fyddaf yn ailadrodd y pwynt a wnes i am y risg o dwyllo. Y risg fwyaf o dwyll yw os nad oes cynllun yma yng Nghymru, ac fe fydd yna un.
O ran tafarndai a bariau yn y sector lletygarwch, rwy'n credu fy mod i wedi sôn yn gynharach bod eithriadau ar gyfer gwerthiannau 'yfed' mewn lleoliadau penodol. Pan fydd eitemau gydag ernes arnyn nhw yn cael eu cyflenwi i'w hyfed ar unwaith mewn mannau manwerthu cymysg neu adeiladau lle gwerthir y fath gynnyrch fel ym maes lletygarwch, yna mae hyblygrwydd ac eithriadau yn bod. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth rydym ni'n ymwybodol ohono, ac wrth i ni ddatblygu'r cynllun, dyma'r union bwyntiau y mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn deall.
Diolch i'r Gweinidog Cabinet am y diweddariad hwn heddiw. Rwy'n falch iawn o weld Cymru'n parhau i ddangos uchelgais ac arwain y ffordd gyda chynllun dychwelyd ernes. Rydym ni'n gwybod mai'r hyn sydd wrth wraidd cynllun dychwelyd ernes yw mynd i'r afael â'r sbwriel a welwn ni ledled Cymru gyfan a'n cymunedau, gwella ailgylchu a diogelu ein hamgylchedd naturiol.
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffordd rydych chi wedi ymdrin â'r cyfnod pontio. Rydym ni'n gofyn i fusnesau, awdurdodau lleol a chymunedau wneud newid mawr iawn yn y fan yma, felly mae'n iawn ein bod ni wir yn rhoi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud hyn yn iawn. Gydag Exchange for Change bellach wedi'i benodi ar draws y pedair gwlad, mae cyfle gwirioneddol yma, fel y dywedoch chi, i wneud i'r system weithio'n llawer mwy di-dor ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Fy nghwestiwn yw hyn: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cenhedloedd eraill i sicrhau bod y cynlluniau yn gweithio'n dda gyda'i gilydd ledled y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod Cymru yn dal i gadw ei huchelgais amgylcheddol, yn enwedig o ran gwydr ac ailddefnyddio?
Diolch. Fe allaf i eich sicrhau chi y byddwn ni'n parhau i weithio ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig ar hyn. Yn sicr, rwy'n gwybod bod llawer o waith wedi'i wneud gan fy rhagflaenydd a'r Gweinidogion cyfatebol ledled y Deyrnas Unedig—mae hynny'n parhau. Mae swyddogion o'r pedair gwlad yn gweithio'n agos, fel y mae rheoleiddwyr. Gyda gweinyddwr y cynllun nawr, y sefydliad rheoli ernes, mae gennym ni'r cysondeb hwnnw, yn yr ystyr bod gennym ni'r un sefydliad rheoli ernes yn cyflawni. Rwy'n ffyddiog y gallwn ni weithio'n agos gyda'n gilydd ar weithredu ac y bydd y graddau hynny o gydweithredu yn parhau wrth i ni symud tuag at Hydref y flwyddyn nesaf a thu hwnt.
Mae'n bwysig ein bod yn symud ymlaen ar hyd yr hierarchaeth wastraff. Mae angen i ni sicrhau gwelliannau sylweddol o ran casglu deunyddiau o ansawdd uchel i'w hailgylchu a buddsoddi'n gynnar. Mae manteision enfawr i weithredu'n gynnar yn y maes yma. Iawn, yn rhyngwladol, mae yna enghreifftiau o wledydd eraill sydd eisoes wedi gwneud hyn, ond, o yn y Deyrnas Unedig, fe allwn ni yng Nghymru fod yn elwa llawer o'r manteision economaidd, yn enwedig o ran gwydr, oherwydd does gen i ddim amheuaeth y bydd rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dal i fyny â ni, ond bydd gennym ni'r seilwaith yn ei le. Bydd gennym ni'r golchfeydd yn eu lle i ymdrin â llawer o hyn, a'r seilwaith a'r arbenigedd hefyd yn y maes hwnnw. Felly, rwy'n gweld hyn nid yn unig fel polisi amgylcheddol ond hefyd fel polisi a fydd yn darparu manteision economaidd lluosog hefyd, ac mae hynny'n berthnasol i lywodraethu da, rwy'n credu, yn yr ystyr ein bod yn gwireddu nifer o fanteision o un polisi penodol.
Yn olaf, Weinidog, Stephen Senior.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae hwn yn bàs ysbyty a roddwyd gan Lywodraeth Geidwadol Boris Johnson, a basiwyd i Lafur, a'i cofleidiodd yn San Steffan, yna daeth i Lafur yng Nghaerdydd a nawr mae wedi cael ei ffordd i'ch desg chi. Rwy'n credu, yn y bôn, eich bod eisoes wedi cydnabod mai gwydr yw'r unig ddadl gadarn iawn dros hyn, ac mae'r gweddill yn ddadleuol. Nid oes ei angen arnom ni yng Nghymru mewn gwirionedd o ran ailgylchu plastig a metel. Mae'n gymhleth, mae'n mynd i achosi problemau i awdurdodau lleol ac mae'n mynd i fod yn hynod, hynod amhoblogaidd. Dim ond 11 o Aelodau Senedd y Blaid sydd yn y Siambr ar hyn o bryd, ond gallaf warantu i chi, pan fydd hyn yn cael ei weithredu, os caiff ei weithredu—. Mae'n ddwy flynedd a hanner cyn yr etholiad nesaf. Rwy'n edrych draw fan yna ac rwy'n gweld rhengoedd Llafur wedi eu disbyddu ac rwy'n meddwl am effaith y ddeddfwriaeth 20 milltir yr awr. Dyma fydd 20 milltir yr awr Plaid Cymru. Byddwn yn eich annog chi, Weinidog, i edrych yn fanwl ar hyn. Mae gennych chi bwynt am ailddefnyddio gwydr. Mae gennych chi bwynt ynghylch hynny. Efallai y bydd hynny yn bosib ar ryw adeg yn y dyfodol, gyda chostau ynni mor uchel, ond byddwn yn eich annog os gwelwch yn dda i edrych ar hynny. A fy nghwestiwn yw—rwy'n amau o'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, felly mae'n rhaid i mi ofyn: a ydych chi wir wedi'ch argyhoeddi gan y cynllun hwn?
Wel, byddaf yn cyfeirio'r Aelod at ein maniffesto. Rydym ni wedi ymrwymo i'r cynllun hwn. Rhif 1, wrth gwrs, dyna'r gyfraith. Mae'n rhaid i ni ei wneud. Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni gyflawni'r cynllun hwn. Ond rydym ni wedi dweud yn ein maniffesto y byddwn ni'n cyflawni'r cynllun ernes, ond byddwn yn bragmatig ac ymarferol yn y ffordd a wnawn ni hynny i wneud yn siŵr ei fod nid yn unig yn gweithio i fusnesau, i awdurdodau lleol, i fanwerthwyr, i ddefnyddwyr, i'r amgylchedd, ond i'r economi hefyd. Nawr, rydym ni i gyd ar daith yma o ran cyflawni ein huchelgeisiau ynghylch ailgylchu a symud i fyny'r hierarchaeth wastraff. Mae hwn yn gam sylweddol i'r cyfeiriad cywir. Ein gwaith yw sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cyflawni ac yn gwireddu'r manteision y mae'r cynllun dychwelyd ernes wedi'u cyflawni a'u gwireddu mewn gwledydd eraill yn y byd—o'r Almaen i Ddenmarc, i Lithwania, i'r Ffindir, i Latfia. Mae'n bodoli yn y mannau hynny; prawf hyn yw ei fod wedi ei gyflwyno mewn rhannau eraill o'r byd. Rydym ni eisiau rhan o hynny.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Symudwn ymlaen at yr eitem olaf yr agenda heddiw, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, diweddariad ar y rhaglen diogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ddiweddaru'r Aelodau am y rhaglen diogelwch adeiladau. Byddaf yn sôn am y camau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i amddiffyn lesddeiliaid a sicrhau bod y cartrefi sydd o dan y rhaglen yn ddiogel, a bod y bobl sy'n byw ynddyn nhw yn cael eu trin efo'r tegwch a'r urddas y maen nhw yn eu haeddu.
Rydyn ni'n gwybod bod person, ac yn aml teulu cyfan, y tu ôl i bob ystadegyn. Mae lesddeiliaid ledled Cymru wedi wynebu blynyddoedd o ansicrwydd. Mae llawer wedi methu â gwerthu eu cartrefi. Mae llawer wedi gweld cynigion am forgais yn cael eu tynnu'n ôl, premiymau yswiriant yn codi a chodi, a'u cynlluniau'n cael eu rhwystro neu eu rhoi ar stop. Dyma realiti bywyd sydd wedi achosi caledi go iawn a straen aruthrol i bobl gyffredin sydd heb wneud dim byd ond prynu cartref gyda phob bwriad da.
Dwi am fod yn glir iawn y prynhawn yma: dydy'r cynnydd o ran y gwaith cyweirio ddim wedi symud yn ddigon cyflym. A dwi'n cydnabod y rhwystredigaeth a'r anobaith y mae hynny wedi'i achosi i lawer. Nid lesddeiliaid sydd wedi creu'r sefyllfa hon ac nid nhw ddylai orfod ysgwyddo'r baich.
Ers derbyn y rôl yma yn Llywodraeth Cymru, dwi wedi cwrdd â lesddeiliaid a gwrando ar eu straeon, ac mae'r hyn dwi wedi'i glywed ganddyn nhw wedi fy nghyffwrdd i. Mae eu hanesion nhw wedi aros efo mi, ac maen nhw wedi siapio fy mhenderfyniad i weithredu ar eu rhan. A dyna pam dwi'n falch o gyhoeddi heddiw lansio grant larymau fel mesur interim Cymru. Bydd y grant yma yn rhoi cymorth ariannol i lesddeiliaid sy'n wynebu costau systemau larwm dros dro sydd eu hangen i gefnogi polisi gwagio adeiladau cydamserol. Bydd rhagor o fanylion am gymhwysedd a sut y gall pobl gael gafael ar y cymorth ar gael yn fuan, ac mi fyddaf i'n sicrhau bod y wybodaeth hon yn cyrraedd y bobl berthnasol cyn gynted â phosibl. A dwi yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad yma yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i lesddeiliaid sy'n ysgwyddo costau mesurau interim.
Gan droi at Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026, dwi'n falch o ddweud bod y gwaith yn symud yn ei flaen yn dda. Mae'r Ddeddf yn gam mawr ymlaen o ran cyflwyno diwygiadau parhaol i wneud adeiladau yng Nghymru yn fwy diogel. Mae'r Ddeddf yn cryfhau'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ac yn cyflwyno gofynion cymhwysedd newydd ar gyfer aseswyr risg tân. Mae'r Ddeddf hefyd yn creu mecanweithiau cadarnach i ddwyn perchnogion adeiladau i gyfrif, ac yn rhoi llais cryfach i drigolion mewn materion sy'n effeithio ar eu diogelwch.
Mae pawb yn gwybod beth ydy fy marn i erbyn hyn, sef na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu am gostau cyweirio na wnaethon nhw eu hachosi. A dwi yn credu, lle bynnag y bo'n bosibl, mai'r bobl sydd wedi datblygu, comisiynu neu elwa ar adeiladau anniogel ddylai fod yn gyfrifol. Dyna pam y gwnes i weithio'n galed i sicrhau bod y Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy'n caniatáu i bartïon â diddordeb wneud cais i'r tribiwnlys eiddo preswyl am orchmynion cyweirio a gorchmynion cyfraniadau cyweirio sy'n ymdrin â diffygion diogelwch tân a strwythurol.
Daeth yr ymgynghoriad ar y rheoliadau sydd eu hangen i gynnal yr elfen hon o'r drefn i ben yn gynharach y mis yma, a dwi'n gobeithio gosod y rheoliadau cyn toriad y Nadolig. Dros y flwyddyn nesaf, mi fyddwn ni'n parhau i ymgynghori ar y rheoliadau sydd eu hangen i gynnal y drefn ehangach fel rhan o'n hamserlen weithredu arfaethedig. Ac rydyn ni'n rhagweld y bydd cofrestru adeiladau categori 1 yn dechrau ym mis Rhagfyr 2027. Mi fyddaf i'n diweddaru'r Aelodau wrth i'r rhaglen weithredu fynd yn ei blaen.
Mae'r Ddeddf yn ategu'r rhaglen ddiwygio helaeth sydd wedi'i chyflwyno'n barod drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y Deyrnas Unedig, a'r is-ddeddfwriaeth ddilynol, a hynny'n sail i'r drefn reolaeth adeiladu newydd a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf. Mae'r drefn newydd yn cryfhau atebolrwydd i ddeiliaid dyletswydd, ac yn ymgorffori'r gofynion cymhwysedd uwch ar gyfer arolygwyr cofrestredig adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu. Cafodd dogfen gymeradwyo B o'r rheoliadau adeiladu ei newid y llynedd hefyd.
Mi fydd yr Aelodau'n gwybod yn iawn mai trasiedi tŵr Grenfell ydy'r cyd-destun ar gyfer ein rhaglen diogelwch adeiladau gyfan. Wrth i ni gofio am y 72 o bobl a fu farw, hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i weithredu argymhellion ymchwiliad tŵr Grenfell. Mae dros chwarter yr argymhellion bellach wedi cael eu rhoi ar waith yng Nghymru, a dwi’n disgwyl i hynny ddyblu erbyn diwedd y flwyddyn. Rydyn ni'n delio â llawer o'r argymhellion drwy'r newidiadau deddfwriaethol dwi eisoes wedi sôn amdanyn nhw. Yn ogystal, rydyn ni'n cymryd camau i wella parodrwydd ar gyfer argyfyngau ac ymgorffori gwersi Grenfell ar draws y system.
Yn olaf, fe wnaf i ddychwelyd at ein rhaglen gyweirio. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â datblygwyr sydd wedi llofnodi contract Llywodraeth Cymru. Y Llywodraeth flaenorol oedd hynny. Fe wnes i bwysleisio bod yn rhaid i'r holl rwymedigaethau o dan y contract gael eu bodloni neu mi fyddaf i'n ystyried pob cam gorfodi posib mewn perthynas ag unrhyw fethiannau. Dwi wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwaith cyweirio yn cyflymu ac i ddwyn datblygwyr i gyfrif. Mi fyddaf i'n parhau i ddiweddaru cydweithwyr wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen, a dwi'n croesawu'r gwaith craffu gan Aelodau, a fydd yn ein helpu ni i wneud hyn yn iawn er lles pobl Cymru. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Dywedodd y Gweinidog wrth y Siambr hon heddiw nad yw'r cynnydd ar y gwaith cyweirio wedi symud yn gyflym, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'i datganiad ar hynny, ond dywedodd ei rhagflaenydd yr un peth. Yr hyn nad ydym ni wedi'i glywed, ers naw mlynedd, os caf i ychwanegu, yw esboniad boddhaol pam mae cyn lleied wedi'i wneud mewn gwirionedd. Sylwaf hefyd nad oes un ffigur cyweirio yn y datganiad heddiw. Felly, gadewch i mi roi rhai rhifau ochr yn ochr â'r datganiad hwnnw. Fel yr oedd hi yn haf eleni, o 161 o adeiladau sector preifat y mae datblygwyr yn gyfrifol amdanynt, dim ond pedwar sydd wedi'u cyweirio'n llawn, sy'n syfrdanol. Nid yw gwaith wedi dechrau hyd yn oed gyda saith deg y cant ohonyn nhw, er bod gan y mwyafrif ohonyn nhw, fe ddywedir wrthym ni, gynlluniau ar waith. Disgrifiodd rhagflaenydd y Gweinidog hyn fel cynnydd sylweddol. Wel, Weinidog, os mai dyna sut maen nhw'n disgrifio cynnydd sylweddol, byddwn yn casáu gweld sut olwg sydd ar fethiant. Os yw'r niferoedd hynny wedi gwella, fodd bynnag, pam nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn y datganiad heddiw?
Beth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd? Wel, mae tai cymdeithasol wedi cael eu cyweirio gan ddefnyddio arian cyhoeddus, hyd at 100 y cant o'r costau cymwys, trwy gronfa diogelwch adeiladau Cymru. Yn Celestia ym Mae Caerdydd, ariannodd Llywodraeth Cymru y gwaith o gyfnewid cladin ar y bloc tai cymdeithasol ar gost o bron i £2 filiwn. Mae'r saith bloc arall yn Celestia, gan gynnwys lesddeiliaid preifat, yn parhau i fod heb eu cyffwrdd. Yr un datblygiad, yr un diffygion, ond blynyddoedd o aros. Gadewch i mi fod yn glir, nid wyf yn credu y dylai trethdalwyr fod yn talu mwy o'r bil—yn union yr hyn rydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad—ar gyfer y datblygwyr preifat. Rhaid i'r rhai sydd wedi adeiladu'r cartrefi anniogel hyn ac elwa ohonyn nhw dalu i'w cyweirio. Ond ni all hynny ddod yn esgus i lesddeiliaid preifat aros flynyddoedd yn hirach na'u cymdogion mewn tai cymdeithasol. Gwelodd y Llywodraeth fod angen brys i gyweirio'r ochr gymdeithasol. Mae'n rhaid iddi nawr weld yr un brys ar yr ochr breifat.
Mae Plaid Cymru yn honni eu bod yn sefyll dros degwch, felly gofynnaf i'r Gweinidog: a yw hi'n derbyn bod y dull dwy haen hwn, gweithredu cyflymach ar gyfer tai cymdeithasol a phrin unrhyw weithredu i'r lesddeiliaid preifat, wedi bod yn fethiant i drin yn deg gan Lywodraeth Cymru? Cymerwch Meridian Quay yn fy etholaeth i, er enghraifft. Aeth Phil Lake, preswylydd, â chwmni yswiriant mawr i'r Uchel Lys ar ran preswylwyr. Roedden nhw'n hawlio gwerth mwy na £25 miliwn. Dim ond nawr, saith mlynedd ar ôl i Mr Lake ymyrryd, mae disgwyl i'r gwaith cyweirio ddechrau, a bydd yn cael ei dalu trwy gynllun iawndal y gwasanaethau ariannol, nid gan y Llywodraeth hon.
Heddiw, yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyhoeddi Grant larymau fel mesur interim Cymru. Mae croeso mawr i unrhyw gymorth i lesddeiliaid. Ond, yn Lloegr, dechreuodd y cyllid ar gyfer y larymau hyn ym mis Rhagfyr 2020. Mae Cymru bron i chwe blynedd ar ei hôl hi. Ac nid ydym ni wedi cael unrhyw gyllideb, dim meini prawf cymhwysedd a dim dyddiad dechrau yn y datganiad hwn. Felly, a fydd lesddeiliaid sydd eisoes wedi talu'r pris am larymau yn cael unrhyw beth yn ôl, oherwydd yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr o lawer ohonom ni sy'n eistedd yma heddiw, mae pobl yn talu tua £500 y mis am y larymau hyn, sy'n fwy na morgeisi rhai pobl?
Diolch yn fawr, a diolch am nifer o gwestiynau pwysig, ac mi fyddaf i'n ceisio eu hateb nhw fesul un. Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi, dydy'r cynnydd ddim wedi digwydd yn ddigon cyflym, a bai'r datblygwyr ydy hynny. Nhw sydd i fod i wneud y gwaith cyweirio ar yr adeiladau yma yng Nghymru. Fe gawson nhw'r neges yna'n glir gen i yr wythnos diwethaf. Mi wnes i gyfarfod efo'r 11 datblygwr—.
Fe wnes i gwrdd â'r 11 datblygwr yr wythnos diwethaf, ac roedd fy neges iddyn nhw yn glir iawn, iawn. Y neges oedd nad yw'r cyflawni yn ddigon cyflym. A dywedais, os nad ydw i'n gweld cynnydd, fel yr amlinellwyd yn y contract a lofnodwyd ganddyn nhw gyda'r Llywodraeth flaenorol erbyn diwedd eleni, byddaf yn eu henwi nhw yma yn y Senedd. Byddaf yn cymryd camau. Ac rwy'n credu bod hynny'n un llwybr y gallaf i ddweud wrthych chi yn bendant amdano, oherwydd rydw i wedi dweud wrthyn nhw, ac y bydd hynny'n digwydd yng nghwrs eleni wrth i ni edrych ar yr adroddiadau cynnydd. Rwy'n gobeithio na fydd hynny'n digwydd. Rwy'n gobeithio y byddant yn cyflymu'r gwaith mewn gwirionedd. Oherwydd rydym ni i gyd eisiau gweld y lesddeiliaid yn teimlo'n ddiogel yn eu lleoedd, yn eu fflatiau ac ati.
O ran y data, gallaf roi'r data diweddaraf i chi, nad yw, fel y dywedwch chi, yn ddigon da, ond gallaf roi'r data i chi. Felly, mae 161 o adeiladau yn y rhaglen. Erbyn hyn, mae 11 adeilad wedi'u cwblhau neu doedd dim angen gwaith arnyn nhw yn y lle cyntaf. Rwy'n deall bod dau neu dri arall yn agos iawn, iawn at y pwynt hwnnw hefyd. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar 71 o'r adeiladau hynny, ond mae yna waith sy'n cael ei siarad amdano, ond heb ddechrau eto, ar 65 o adeiladau, ac mae 14 yn aros am yr adolygiadau. Felly, nid yw'n ddigon da, ac rwy'n cytuno â chi ar hynny.
Roeddech chi'n sôn am ddatblygiad penodol yn fanna, yn eich cyfraniad. Dwi'n awgrymu bod yr Aelodau yn cymryd cyfle i ddod i'r briffiad technegol y mae fy swyddogion yn mynd i fod yn cynnal. Bydd cyfle yr amser hynny ichi drafod adeiladau unigol. Yn amlwg, dwi ddim yn mynd i fedru mynd i mewn i bob un o'r sefyllfaoedd, y 161 adeilad, yn fan hyn heddiw, ond mae yna sesiwn friffio i Aelodau ar y gweill. Ac mae'r rheina'n mynd i gael eu cynnal—un yr wythnos yma ac un yr wythnos nesaf. So, mae yna gyfle i bobl ddod a dod â'u cwestiynau ymlaen efo hynny i gyd.
O ran y grant ei hun, dwi'n falch eich bod chi'n croesawu'r grant, achos mae hwn wedi bod yn bryder i nifer o lesddeiliaid, fod y costau o roi'r systemau larwm dros dro i mewn yn yr adeiladau tra bod y gwaith yn digwydd—. Mae rhai ohonyn nhw wedi ffeindio mai nhw sy'n gorfod talu, a dydy hynna ddim yn deg. Dydy hynna ddim yn deg. Mae yna rai datblygwyr wedi talu amdano fo, ond mae yna rai sefyllfaoedd lle dydy hynna ddim wedi digwydd. Mi fydd y grant ar gael—mi fydd y ceisiadau yn agor yn fuan iawn ar gyfer hynny, a'r asiant neu'r person, yr endid cyfrifol, fydd efo'r hawl i wneud y cais yna am y grant, nid y datblygwyr. Y bobl sy'n gweithredu ar ran y llesddeiliaid fydd yn gallu gwneud y cais penodol yna.
O ran y rheoliadau, fel dwi'n dweud, dwi wedi symud yn sydyn ar gael y rheoliadau. Dwi yr un mor rhwystredig â chi am arafwch symud pethau ymlaen, ond byddai'r rheoliadau yna ddim yna o gwbl heblaw am y gwaith y gwnaethom ni ei wneud wrth graffu'r Bil, mewn cydweithrediad efo'r cyn-Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd. Felly, mae'r hawl i fynd i dribiwnlys i hawlio arian yn ôl—. Mae'n rhaid gosod y rheoliadau, ac wedyn mae'n rhaid—. Fel dŷch chi'n dweud, mae'n rhwystredig nad ydym ni'n gallu cychwyn arno fo yn syth, ond mi ddaw i fodolaeth.
Diolchaf i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Fel y dywedodd, mae gwreiddiau'r gwaith hwn yn dilyn digwyddiadau ofnadwy 14 Mehefin 2017, pan gollodd 72 o bobl eu bywydau yn y tân yn Nhŵr Grenfell. Yn dilyn y trychineb, aeth Llywodraeth Lafur Cymru ati i gyflwyno rhaglen diogelwch adeiladu newydd er budd trigolion adeiladau cydbreswylio ledled Cymru, waeth beth fo'u huchder neu ddeiliadaeth yr adeilad. Mae newid ar y raddfa hon yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser ac arweiniodd at un o'r Biliau mwyaf erioed i gael ei ystyried gan y Senedd hon. Roeddwn yn falch iawn o allu mynd â'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) nodedig drwy'r Senedd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog presennol, ac eraill yn y Siambr hon, am eu dull cydweithredol, a sicrhaodd fod cyfres gyfan o welliannau cymhleth yn cael eu cytuno'n unfrydol yng Nghyfnod 3. Roedd hyn, Ddirprwy Lywydd, yn beth cyntaf i'r Senedd ac yn dangos awydd i wneud hyn yn iawn.
Mae'r ddeddfwriaeth a basiwyd gennym ni yma yng Nghymru yn llawer ehangach yn ei chwmpas a'i huchelgais na'r ddeddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr. Mae tair egwyddor allweddol yn sylfaenol i'r Ddeddf. Y cyntaf yw diogelwch. Er na allwn ni byth ddileu pob risg, fe allwn ni wella diogelwch yn sylweddol trwy adnabod risgiau a sicrhau bod y risgiau hyn yn cael eu rheoli'n iawn. Yr ail egwyddor yw atebolrwydd. Mae'r Ddeddf yn rhoi terfyn ar unrhyw ddryswch ynghylch pwy sy'n atebol am reoli risgiau diogelwch adeiladau. Mae'n sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am adeiladau yn cael eu dwyn i gyfrif yn y gyfraith am eu diogelwch. Y drydedd egwyddor yw llais preswylwyr. Rhaid clywed a mynd i'r afael â phrofiadau a phryderon preswylwyr.
Ond dim ond y cam cyntaf yw pasio'r ddeddfwriaeth sylfaenol. Rhaid i'n pwyslais nawr fod ar sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llawn, fel ei bod yn trawsnewid diogelwch mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru. Mae angen i ni nawr sicrhau bod y Bil yn ymarferol a bod modd ei gyflawni, ac mae hyn yn golygu sicrhau bod rheoliadau'n glir ac yn gyraeddadwy. Bydd y Ddeddf yn cael ei phenderfynu gan reoliadau eilaidd a chanllawiau statudol, a sut mae cymdeithasau tai, awdurdodau diogelwch adeiladau ac awdurdodau diogelwch tân yn cael adnoddau priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau uwch.
Felly, pa gamau rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gweithlu arbenigol cyn gweithredu? Fe wn i fod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi bod yn rhannu adborth gyda'r Llywodraeth gan eu haelodau ledled Cymru. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn gwrando ac yn rhannu gwybodaeth ychwanegol a fydd yn cael ei gyflwyno gan reoliadau, fel y gall cymdeithasau tai baratoi'n effeithiol. O ystyried effaith ariannol cydymffurfio, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mecanweithiau cyllido yn cefnogi cydymffurfiaeth ac nad ydynt yn gorfodi cymdeithasau tai i gynnal a chadw cartrefi presennol yn hytrach na darparu tai fforddiadwy newydd sydd eu hangen ar frys?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith ariannol a lles ar bobl sy'n aros am waith cyfeirio. Cefnogodd Llywodraeth Lafur Cymru drigolion yn rhagweithiol trwy roi contractau ar waith gyda datblygwyr, ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon barhau i wneud popeth posibl i gael gwared ar rwystrau i gynnydd.
Rwyf yn croesawu'r grant larymau a gyhoeddwyd heddiw, ond mae angen i bobl wybod ar frys os ydyn nhw'n gymwys, faint fydd hyn a sut y gallan nhw gael mynediad ato. Pan oeddwn yn rhan o'r Llywodraeth, sefydlais y fforwm datblygwyr, a gyfarfu'n rheolaidd, ac mae'n dda iawn clywed bod y Gweinidog yn parhau â'r gwaith hwnnw. Edrychaf ymlaen at ddiweddariadau pellach ar gyflymder y gwaith cyweirio, rhywbeth y mae pob un ohonom ni yn y Siambr hon eisiau ei weld.
Rwy'n falch iawn eich bod hefyd yn parhau gyda'r cyfarfodydd briffio Aelodau, y cyfarfodydd briffio technegol, a sefydlais. Mae'r sesiynau hynny, rwy'n credu, yn bwysig iawn i Aelodau godi gyda'ch swyddogion faterion lleol iawn. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni bob amser fynd i'r afael ag ef, ac rwy'n gobeithio y gall swyddogion ddilyn y cynnydd hwnnw hefyd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i Aelodau ddeall y rhannau o Lywodraeth Cymru a'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud.
Ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd i weithredu cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd ledled Cymru. Dywedais pan basiwyd y Bil diogelwch adeiladau fy mod i'n gobeithio y byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn cyflwyno Bil cyweirio i gefnogi lesddeiliaid ymhellach. Felly, nawr, Weinidog Cabinet, mai chi yw'r Gweinidog Cabinet, a allwch chi gadarnhau a yw eich Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Bil cyweirio? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i'r cyn-Weinidog, neu Ysgrifennydd Cabinet, a oedd yn gyfrifol am lywio, yn ddeheuig iawn, y Bil sydd bellach yn Ddeddf yn ystod y Senedd ddiwethaf, ac roeddwn i'n falch iawn o gydweithio efo chi. Ac, ie, fel dŷch chi'n ein hatgoffa ni, roedd o'r tro cyntaf i'r Senedd weithredu yn y ffordd hollol gynhwysol yna a phasio'r ddeddfwriaeth yn unfrydol. Mae hi yn fwriad gen i i geisio gweithio yn yr un ffordd efo pawb yn y Siambr yma.
Mi fyddwch chi'n gwybod ein bod ni wedi ymrwymo i ddod â deddfwriaeth newydd i mewn yn y maes tai—nifer o Filiau penodol—er mwyn rhoi gwell gwarchodaeth i rentwyr, ac i edrych yn union ar ba fath o fesurau sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru wrth inni symud ymlaen. A dwi yn gobeithio y gallwn ni weithio efo'n gilydd, bawb ohonom ni, er mwyn efelychu'r dull a ddefnyddiwyd yn ystod y Senedd ddiwethaf. Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfarfodydd cychwynnol efo'r llefaryddion er mwyn inni fod yn egluro sut dŷn ni'n bwriadu symud ymlaen efo deddfwriaeth—ddim yn y maes yma, yn amlwg, ond yn y maes tai yn fwy cyffredinol.
Dŷch chi'n hollol iawn, mae'r ddeddfwriaeth yma yng Nghymru yn eang ei sgôp, ac mae'n cyd-fynd, wrth gwrs, efo'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn Lloegr, ond mae'n adeiladu ar hynny ac yn dod ag elfennau gwahanol i mewn—diogelwch a phwy sy'n atebol, ond hefyd, ie, llais y trigolion. Dwi'n meddwl ei bod hi'n hollbwysig inni gydnabod llais y trigolion yn hyn oll, a phwysigrwydd eu cynnwys nhw wrth inni symud ymlaen. Felly, dwi yn bwriadu cyhoeddi cyn bo hir y byddwn ni'n sefydlu fforwm ar gyfer llesddeiliaid, a bydd mater diogelwch adeiladu yn rhywbeth pwysig y bydd y fforwm yna yn ei drafod. Mae hwnna yn adeiladu ar y gwaith a oedd yn digwydd yn ystod cyfnod y Llywodraeth ddiwethaf.
Dwi'n gwerthfawrogi'n fawr iawn fy mod i wedi cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan y Cladiators fel grŵp ymgyrchu, sydd wedi bod yn ddiflino yn sôn am y gwaith sydd angen ei brysuro. Y bore yma, fe ges i gyfle hefyd i gyfarfod cynrychiolwyr o lesddeiliaid y Sand Wharf yng Nghaerdydd a Swansea Point yn Abertawe, a chlywed yn uniongyrchol ganddyn nhw beth mae'r profiad presennol yn ei olygu i lesddeiliaid a'r pryder y mae o'n ei achosi. Ac yn sicr, mae siarad efo nhw a siarad efo'r pwyllgor hefyd—. Wrth inni fynd yn ein blaenau, dwi'n gobeithio y bydd y pwyllgor llywodraeth leol yn helpu i graffu'r rheoliadau i wneud yn union beth dŷch chi'n awgrymu, sef i wneud y rheoliadau sydd yn mynd i orwedd o dan y ddeddfwriaeth rŵan i wneud yn siŵr bod hynna'n glir a bod y rheini'n bwrpasol. Felly, mae'r gwaith yna. Mae yna lot o waith i'w wneud o dan y Ddeddf, ddim jyst pasio'r Ddeddf—mae yna gymaint o waith sydd angen digwydd o dan hynny, ac mae gennym ni amserlen ar ei gyfer o. Ond y peth cyntaf un gwnes i wneud oedd dod â'r ymgynghoriad ynglŷn â rheoliadau ynglŷn â chostau cyweirio, achos roeddwn i'n ymwybodol bod hwnna'n pwyso yn fawr ar nifer fawr o bobl.
O ran y gweithlu arbenigol sydd ei angen, yn sicr, mae hwnna'n rhywbeth rydym ni'n rhoi sylw iddo fo. Fel rydych chi'n gwybod, mae adrannau rheolaeth adeiladu ac adrannau cynllunio wedi colli gweithwyr, wedi colli staff, dros gyfnod hir rŵan, ac, yn sicr, rydym ni'n rhoi sylw i hynny o ran sut medrwn ni ddod â'r arbenigedd penodol yna yn ôl. Wrth gwrs, y syniad ydy bod yna dri awdurdod yn arwain ar y gwaith yma, a dwi'n meddwl drwy wneud o fel yna—ac roeddwn i'n falch o gefnogi'r gwelliant yna ar gyfer y Bil hefyd—o'i wneud o mewn ffordd sydd wedi—. Dydyn ddim yn disgwyl i'r 22 awdurdod lleol gymryd y baich yma yn unigol. Rydym ni'n mynd i wneud o mewn ffordd ranbarthol, ac felly dwi'n meddwl bydd hwnna'n creu'r gweithlu arbenigol rydym ni'n mynd i fod ei angen. Diolch.
Gaf i ddiolch i chi, Weinidog Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae yna lawer ynddo yr wyf yn cytuno ag ef, yn enwedig ynglŷn â dioddefwyr Grenfell. Rydym ni'n dal i gydymdeimlo o waelod ein calonnau gyda nhw a'u teuluoedd.
Mae pob preswylydd yng Nghymru yn haeddu gwybod bod eu cartref yn ddiogel, bod risgiau sydd wedi'u nodi yn cael eu hystyried yn gyflym, ac na adewir nhw yn wynebu blynyddoedd o ansicrwydd tra bod Llywodraethau yn trafod cyfrifoldeb. Rhaid mesur cynnydd yn ôl canlyniadau. Am amser rhy hir, mae llawer o bobl ledled Cymru wedi wynebu ansicrwydd ynghylch diogelwch eu cartrefi, y costau y gallan nhw eu hwynebu a'r amserlenni ar gyfer cyweirio.
Rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am fethiannau adeiladau yn cyfrannu tuag at eu cywiro. Ni ddylid gadael preswylwyr sy'n prynu neu rentu cartrefi yn ddidwyll yn cario baich camgymeriadau a wnaed gan eraill. Nodaf y cyhoeddiad am grant larymau mesur interim Cymru, a fydd yn darparu cymorth i lesddeiliaid sy'n wynebu costau am systemau larymau dros dro. Nawr, er y bydd croeso i unrhyw gymorth i breswylwyr yr effeithir arnyn nhw, bydd lesddeiliaid eisiau eglurder ynghylch faint o bobl y disgwylir iddyn nhw elwa, pa mor gyflym y bydd cymorth ar gael, ac a fydd y cynllun yn mynd i'r afael yn llawn â'r costau y mae llawer o breswylwyr yn parhau i'w hwynebu o ganlyniad i fethiannau nad ydyn nhw'n gyfrifol amdanynt.
Wrth edrych nawr ar orchmynion cyweirio, yn ogystal â'r angen i ddwyn datblygwyr i gyfrif, y prif brawf yw nid faint o bwerau sydd ar gael, ond pa mor gyflym y mae adeiladau anniogel yn cael eu trwsio a faint o deuluoedd sy'n gallu symud ymlaen â'u bywydau. Mae pryderon am gyflymder y cynnydd. Yn amlwg, rydym ni wedi eu clywed nhw i gyd heddiw, ac rydych chi'n cydnabod y rheini eich hun. Ond mae angen hyder i bobl fod camau ystyrlon yn cael eu cymryd nawr, ac na fydd cyweirio yn cael ei ohirio. Fel bob amser yng Nghymru, mae angen gweithredu, nid mwy o fiwrocratiaeth.
Weinidog, mae her ehangach yma hefyd. Rydych chi wedi ei gwneud hi'n glir bod cynyddu'r cyflenwad tai yn un o'ch blaenoriaethau, gydag uchelgeisiau ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030. Nawr, er bod cynyddu cyflenwad yn bwysig, ni ddylai maint byth ddod ar draul ansawdd. Ac efallai bod rhai ohonoch chi wedi clywed Radio Wales y bore yma, lle roedden nhw'n sôn am fân broblemau—cymaint o dai newydd sydd â chymaint o ddiffygion. Wel, ni allwn ni gael tai wedi'u hadeiladu'n wael yn y lle cyntaf, ac mae'n rhaid i wersi o fethiannau adeiladu'r gorffennol gael eu hymgorffori'n llawn mewn datblygiad yn y dyfodol, fel bod pob cartref newydd yn cael ei adeiladu i'r safon uchaf o ddiogelwch, ansawdd a gwytnwch.
Ar yr un pryd, mae Cymru yn wynebu argyfwng tai. Mae angen mwy o gartrefi arnom ni, ond mae angen cartrefi diogel arnom ni. Mae angen datblygiad cyflymach arnom ni, ond mae angen hyder y cyhoedd hefyd bod safonau diogelwch yn cael eu cynnal yn drylwyr. Nid yw'r amcanion hyn yn gwrthdaro. Rhaid iddyn nhw fynd law yn llaw. Rydym ni hefyd yn cydnabod bod hyder y cyhoedd yn dibynnu ar sicrhau bod yr holl risgiau diogelwch sylweddol yn cael eu datrys, p'un a ydyn nhw'n ymwneud â chladin, asbestos, concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth neu bryderon strwythurol ehangach. Mae pobl yn haeddu cartrefi diogel, gwybodaeth glir a gweithredu cyflym pan fydd problemau yn cael eu nodi. Felly, allwch chi, Weinidog, gadarnhau faint o lesddeiliaid y disgwylir iddyn nhw elwa o grant larymau mesurau interim Cymru? Pa asesiad sydd wedi'i wneud ynghylch a fydd y cynllun yn talu'r costau sy'n wynebu preswylwyr yr effeithir arnyn nhw? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd gwaith cyweirio a chydymffurfiaeth datblygwyr yn cyflymu ymhell cyn cofrestru arfaethedig yr adeiladau categori 1, fel y soniwyd gennych chi, ym mis Rhagfyr 2027?
Yn y pen draw, ni fydd llwyddiant yn cael ei farnu yn ôl nifer y strategaethau, gweithgorau na chyhoeddiadau; bydd yn cael ei farnu yn ôl a all teuluoedd gysgu'n ddiogel yn eu cartrefi ac a all y cyhoedd fod yn ffyddiog nad yw methiannau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Peter, am y cwestiynau yna. Wrth gwrs, dwi’n cytuno'n llwyr efo chi: mae’n rhaid gweld gweithredu. Dyna sydd yn bwysig yn fan hyn, a dyna pam roeddwn i wedi cynnal y cyfarfod efo datblygwyr wythnos diwethaf, er mwyn pwyso’r neges glir yna ein bod ni yn disgwyl gweld cynnydd, a chynnydd ar gyflymder, er mwyn lles y bobl sydd yn byw efo pryder parhaus oherwydd eu bod nhw'n cael eu hatgoffa drwy'r amser am beth ddigwyddodd yn Grenfell. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig—. Diolch i chi am sôn am hynny. Mae'n bwysig inni gofio pam rydym ni yn gwneud y gwaith yma. Mae o'n deillio nôl i'r drasiedi yna saith mlynedd yn ôl, bellach. Felly, dyna oedd fy neges i'r datblygwyr. Dwi yn atebol i'r lesddeiliaid. Dwi ddim yn atebol i'r datblygwyr. Y lesddeiliaid sydd ar fy meddwl i, a drwoch chi yn y Senedd dwi'n atebol iddyn nhw hefyd, a dyna pam byddaf i'n dod ag adroddiadau cynnydd i chi yn fan hyn.
Ac mae'r monitro agos yna yn digwydd. Mae fy swyddogion i yn siarad efo'r datblygwyr yn barhaus ac yn ceisio eu helpu nhw i gael gwared ar rai o'r rhwystrau sydd yna. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid iddyn nhw gymryd eu cyfrifoldeb o ddifri, a dwi yn gobeithio gweld cynnydd erbyn diwedd y flwyddyn. Dyna oedd yn y contract gan y Llywodraeth flaenorol. Roedden nhw'n disgwyl gweld y gwaith wedi’i ddechrau gan bob datblygwr erbyn diwedd y flwyddyn yma. Rydym ni'n bell o hynny, ond dyna'r disgwyliad dwi'n gosod arnyn nhw, ac, os nad ydy hynny'n digwydd, dwi wedi egluro byddaf i yn gorfod cymryd camau pellach, a byddaf i yn dechrau sôn yn benodol am broblemau yn y Siambr yma, achos dwi'n atebol i chi yn hynny o beth.
O ran y grant, dwi’n falch eich bod chi yn croesawu hwnna. Mae hwn yn medru cael ei weinyddu yn sydyn iawn, i'w gael o allan o’r drws cyn gynted â phosib. Y bore yma, roeddwn i'n siarad efo cynrychiolydd o Swansea Point yn Abertawe oedd yn sôn bod yna ryw 240 o adeiladau mae o'n eu cynrychioli ac y byddai'r datblygiadau yna yn gallu cael budd penodol allan o'r grant. Yn Sand Wharf, mae yna 100 o bobl—100 o unedau—a allai gael budd allan o hwn.
Y meini prawf, bydd y rheini ar gael yn fuan iawn i bobl gael craffu'r rheini, ond yn sicr fydd y grant ddim yn talu am gostau patrolio adeilad ar droed, sef y waking watch, achos mae hwnna wedi bod yn gost sylweddol. Rydyn ni'n symud rŵan at grantiau ar gyfer y larymau, a gobeithio bod y larymau yna yn gallu bod yn rhai parhaol. Mae modd rhoi larymau dros dro i mewn sydd efo'r gallu i gael eu haddasu ar gyfer pan fydd y gwaith wedi cael ei orffen. Felly, gobeithio bod hwnna'n esbonio ychydig bach mwy am hynny.
Mae eich pwynt chi ynglŷn â chartrefi cymdeithasol ac awydd clir y Llywodraeth yma i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithas yn hollol, hollol briodol. Wrth gwrs, mae safonau diogelwch yn gorfod eu cynnal. Rydym ni'n sôn am gartrefi cymunedol, cartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel, carbon isel ac yn saff. Felly, mae hynny'n holl, holl bwysig. Mae o'n rhan o uchelgais y Llywodraeth yma fod pobl yng Nghymru yn gallu cael cartref diogel a fforddiadwy ar gyfer y tymor hir.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw.
Rwy'n gwerthfawrogi'r diweddariad a bod y Llywodraeth hon yn cymryd y gwaith hwn o ddifrif i roi cefnogaeth well i drigolion yr effeithir arnyn nhw. Ers blynyddoedd bellach, mae trigolion wedi bod yn ofni yn eu cartrefi eu hunain ac wedi teimlo nad yw'r mater hwn wedi cael y sylw y mae'n ei haeddu. Er gwaethaf derbyn sicrwydd bod eu heiddo yn ddiogel pan symudon nhw, mae un preswylydd yng Nghaerdydd wedi rhannu eu bod yn wynebu cost o £3,000 am wyliadwriaeth effro, sy'n costio £15,000 yr wythnos rhwng 96 o fflatiau. Heb y gwelliannau angenrheidiol, mae trigolion wedi wynebu'r posibilrwydd o gael eu gwneud yn ddigartref gan nad yw eu cartrefi yn ddiogel i fyw ynddyn nhw. Rwy'n croesawu'r Gweinidog yn cyflwyno cymorth ariannol fel mesur dros dro tra bod gwaith cyweirio yn cael ei wneud. Sut bydd y Gweinidog yn sicrhau nad oes rhaid i denantiaid dalu o'u pocedi eu hunain am waith cyweirio eto? Diolch.
Diolch yn fawr. Fel chi, dwi wedi cyfarfod llesdeiliaid sydd yn bryderus iawn ac wedi wynebu costau mawr, a chyda dim bai o gwbl arnyn nhw eu hunain, wrth gwrs. Felly, mae'r rheoliadau sydd newydd gael eu hymgynghori arnyn nhw, pan ddaw'r rheini i rym, mi fydd tenantiaid a llesdeiliaid yn gallu hawlio costau yn ôl ar gyfer y gwaith cyweirio. Roedd hwnna'n un o'r pethau penodol gwnaethon ni weithio arno fo wrth i'r Bil fynd trwyddo, fod y tribiwnlysoedd yma yn gallu rhoi llwybr i denantiaid i gael eu costau cyweirio yn ôl, achos dydy o jyst ddim yn deg eu bod nhw'n wynebu, heb unrhyw fath o fai arnyn nhw o gwbl, y costau yma sydd yn achosi cymaint o bryder iddyn nhw.
Weinidog Cabinet, mae'r rhaglen diogelwch adeiladau mewn perygl o ddod yn enghraifft arall o ofyn i drethdalwyr dalu'r bil am fethiannau nad achoswyd ganddyn nhw. Mae Lloegr yn rheoleiddio adeiladau uwchlaw 18m o dan ei dyletswyddau mwyaf llym. Mae Cymru wedi dod â phob adeilad preswyl aml-feddiannaeth o unrhyw uchder i'r fframwaith newydd. Mae hynny dros 51,000 o adeiladau, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn eiddo i landlordiaid preifat bach. Galwodd pwyllgor y Senedd ei hun yr amserlen gydymffurfio yn 'afrealistig'. A yw'r Gweinidog wedi modelu'r effaith ar gyflenwad tai ac ar gapasiti awdurdodau y mae'n rhaid iddyn nhw ei gorfodi, tra bod trigolion sy'n byw yn yr adeiladau mwyaf peryglus yn dal i aros? Gyda fforddiadwyedd tai yn gwaethygu a thargedau adeiladu tai eisoes yn cael eu methu, allwch chi ddarparu tystiolaeth na fydd y mesurau hyn yn arafu'r ddarpariaeth dai ymhellach? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. I fod yn glir, dydyn ni ddim yn gofyn i drethdalwyr dalu am y gwaith cyweirio; rydyn ni'n gofyn i'r datblygwyr symud ymlaen efo'r gwaith cyweirio.
Dydyn ni ddim yn gofyn i drethdalwyr dalu; rydym ni'n gofyn i'r datblygwyr gyflymu'r gwaith cyweirio ac, yn y modd hwnnw, gwneud y cartrefi yn ddiogel i'r lesddeiliaid sy'n byw mewn pryder ar hyn o bryd, ac yn wynebu costau hefyd y byddan nhw, ar ôl cyflwyno'r rheoliadau newydd, yn gallu mynd i dribiwnlys i'w hawlio.
O ran y pwynt bod cysylltiad rhwng y gwaith yma a'r gwaith cyflenwi tai cymdeithasol, dwi ddim rili yn gweld bod yna gysylltiad. Mae'n rhaid i'r gwaith yma ddigwydd. Mae'n rhaid i'r adeiladau yma gael eu gwneud yn saff. Mae'r Ddeddf yn dweud hynny. Mae'r gwaith o gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol yn rhywbeth sydd yn mynd i ddigwydd yn raddol dros gyfnod. Mae yna pipeline da o brosiectau o fewn y system yna. Felly, dwi ddim wir yn gweld cysylltiad rhwng y ddau beth. Diolch.
Ac yn olaf, Weinidog, Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r diweddariad ar y rhaglen diogelwch adeiladau a'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i amddiffyn lesddeiliaid a sicrhau bod y cartrefi sy'n dod o dan y rhaglen yn ddiogel, a bod y rhai sy'n byw ynddyn nhw yn cael eu trin â'r tegwch a'r urddas maen nhw'n ei haeddu. Mae'n hwyr glas gwneud hyn. Mae fy etholwyr wedi aros amser hir iawn i hyn gael ei ddatrys. Mae wedi creu caledi a phryder i'm hetholwyr. Mae'r ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth ariannol i lesddeiliaid sy'n wynebu cost systemau larwm dros dro sydd eu hangen i gefnogi'r polisi gwagio cydamserol yn gam cadarnhaol, ond mae'n gydnabyddiaeth, er gwaethaf yr holl gytundebau, nad ydym ni wedi cyrraedd y cam lle bydd gwaith yn cael ei wneud ym mhobman yn y dyfodol agos. Mae fy etholwyr sy'n byw mewn ofn o fod yn Grenfell arall eisiau i'r rhwymedigaethau o dan y contract gael eu cyflawni, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael cytundebau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol gyda dyddiadau cwblhau gwarantedig fel y gall fy etholwyr gysgu'n ddiogel yn y nos.
Diolch yn fawr iawn, Mike. Rydych chi hefyd yn pwysleisio'r caledi y mae rhai o'ch etholwyr chi wedi bod ac yn wynebu oherwydd y sefyllfa yma, a'r angen i'w trin nhw efo tegwch a pharch ac urddas. Yn sicr, dwi yn gwneud hynny. Fe wnes i gyfarfod etholwr o Abertawe heddiw a oedd yn sôn am y pryder sydd ganddyn nhw oherwydd yr arafwch efo datblygiad Swansea Point yn benodol.
Dwi'n deall eich pwynt chi o ran rhoi grantiau tuag at larymau interim, a bod hynny efallai yn arwydd bod pethau mynd i arafu. Ond, beth dwi'n gwybod all ddigwydd ydy bod y larymau yma yn medru cael eu gosod fel mesur dros dro, ond mae yna ffordd o'u haddasu nhw fel eu bod nhw yna yn barhaol. Felly, mae hwnna yn arwydd bod pethau'n gallu symud ymlaen, oherwydd fe fydd y larymau yna yn gallu bod yna ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
Jest i'ch atgoffa chi, wrth i ni gloi, Ddirprwy Lywydd, gofyniad y Llywodraeth ddiwethaf yn y cytundeb efo'r datblygwyr oedd bod gwaith i ddechrau ym mhob adeilad erbyn diwedd y flwyddyn yma. Dyna'r disgwyliad. Efallai nad ydy'r disgwyliad yna wedi cael ei wneud y ddigon clir i ddatblygwyr—dwi'n credu efallai ei fod o—gan y cyn-Lywodraeth, ond mae'r Llywodraeth yma yn benderfynol bod y datblygwyr yn cymryd eu gwaith yn gwbl, gwbl o ddifrif.
Dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl yma i'r Senedd, nid i sôn am y problemau, ond i sôn am y stori dda sydd wedi digwydd yng Nghymru efo'r rhaglen diogelwch adeiladau. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog Cabinet. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Fe wnaf eich gweld chi yfory.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:49.