Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/09/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.
Prynhawn da. Allaf i gymryd y cyfle hwn i'ch croesawu chi nôl i'r tymor? Eitem 1 yw cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Cwestiwn 1, Ken Skates.
1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet i wella'r gefnogaeth i ddiwydiannau creadigol Cymru? OQ64464
Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ar gyfer Cymru. Trwy'r strategaeth newydd, byddwn yn cydnabod bod y diwydiannau creadigol yn ganolog i fywyd diwylliannol, twf economaidd a phroffil rhyngwladol Cymru. Mi fydd Cymru Greadigol yn parhau i gefnogi talent, sgiliau, twf busnes a chyfleoedd ledled sectorau creadigol Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae Cymru Greadigol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol ers sawl blwyddyn bellach, ac yn bwysig, sbarduno cynnydd yn nifer y cyfleoedd swyddi o safon, yn enwedig i bobl ifanc greadigol yng Nghymru. Wrth inni edrych tuag at 2029, sef blwyddyn Wrecsam fel dinas diwylliant, gobeithio, rydym yn tyfu'r diwydiannau creadigol yn Wrecsam ac ar draws gogledd Cymru, gan weithio gyda nifer o sefydliadau, yn cynnwys y prifysgolion sydd gennym, fel Prifysgol Wrecsam, ac rydym wedi gweld y twf o ran sefydlu stiwdios, gan gynnwys Stiwdios Minera yn Wrecsam. Weinidog, a fyddech chi'n fodlon ymweld â Wrecsam a chyfarfod ag arweinwyr y diwydiannau creadigol yn y rhanbarth, a thrafod pa fath o gymorth y gall Cymru Greadigol ei gynnig i roi hwb i'r sectorau yn y gogledd?
Wel, yn sicr, mae gennych chi etholaeth greadigol dros ben. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn Wrecsam ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer agoriad—wel, ailagor—Amgueddfa Wrecsam, ond agoriad yr amgueddfa bêl-droed, yr elfen yna. Dwi'n mynd i fod yn ymweld efo Wrecsam eto'n fuan. Dwi wedi bod yn ymgysylltu o ran UK City of Culture. Rydyn ni i gyd yn croesi'n bysedd, wrth gwrs, o ran hynny, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i ymgysylltu efo'r Aelod. Yn sicr, mae yna bethau cyffrous iawn yn digwydd yn Wrecsam. Rydyn ni eisiau i bethau cyffrous barhau i ddigwydd yn Wrecsam, a dwi'n falch iawn i weithio efo unrhyw Aelod sy'n cynrychioli Wrecsam er mwyn cyflawni'r potensial hwnnw'n bellach.
Cyn imi gychwyn, a gaf i fanteisio ar y cyfle i longyfarch fy nghyn gyd-Aelod ar newid plaid eto ddoe? Rwy'n siŵr y bydd ei chredoau gwleidyddol newydd a'i thaith i'r chwith yn ei harwain yn ôl i'r Blaid Geidwadol mewn dim o dro.
Ond yn ôl at y mater dan sylw. Weinidog, mae Julien Macdonald yn enghraifft wych o'r dalent a all ddod o Ferthyr Tudful. Wedi'i eni a'i fagu ym Merthyr Tudful, aeth yn ei flaen i weithio gyda Chanel, Givenchy, ac i ddylunio dillad ar gyfer rhai o'r enwau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Beyoncé a Jennifer Lopez. Nawr, yn anffodus, cafodd ei gwmni ei ddirwyn i ben yn 2023, ond yn y pen draw, adeiladwyd ei lwyddiant y tu allan i Gymru oherwydd diffyg cyfle yn y diwydiant creadigol yng Nghymru a diffyg cymorth gan Lywodraethau Cymru. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i sicrhau nad yw pobl dalentog o leoedd fel Merthyr Tudful yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael er mwyn adeiladu busnesau creadigol llwyddiannus? A pha gymorth y gallwch ei roi i helpu cwmnïau creadigol i ymsefydlu ym Merthyr Tudful a'r Cymoedd yn ehangach, gan greu swyddi a chyfleoedd? Diolch.
Weinidog, cyn ichi ateb y cwestiwn, a gaf i atgoffa'r Aelodau nad yw sylwadau o'r fath yn briodol yn y Siambr, a phan fyddaf yn gofyn i chi ofyn cwestiwn, dylech gadw at yr hyn sydd ar y sgript rydych chi wedi'i darparu ar gyfer eich cwestiwn?
Weinidog.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i fod yn glir? Mae yna greadigrwydd ym mhob cornel o Gymru, ond, oherwydd diffyg cefnogaeth flaenorol, diffyg strategaeth a diffyg eglurder o ran cefnogaeth gan Lywodraeth, dydy'r potensial hwnnw ddim wastad wedi'i wireddu. Yr hyn y bydd yr Aelod wedi ei glywed yn fy ateb cychwynnol ydy ymrwymiad y Llywodraeth hon i gael strategaeth ddiwylliant iawn i Gymru, un sy'n cynnwys y diwydiannau creadigol, sy'n edrych ar sgiliau, sy'n edrych ar gyfleoedd i bobl yng Nghymru i aros yma yng Nghymru a bod yn greadigol. Dyna'r gwahaniaeth y gwelwch chi gan Lywodraeth Plaid Cymru—ein bod ni'n gwerthfawrogi'r diwydiannau creadigol, ein bod ni eisiau gweithio efo nhw, ein bod ni eisiau eu datblygu nhw a hefyd sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl weithio mewn maes sydd o bwys economaidd mawr i'n cenedl ni.
Mae Sir Fynwy Torfaen wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cerddoriaeth. Stiwdios Rockfield ger Trefynwy yw'r fan lle recordiodd Queen 'Bohemian Rhapsody', lle recordiodd Oasis (What's the Story) Morning Glory?, a lle recordiodd y Manic Street Preachers beth o'u cerddoriaeth fwyaf eiconig. Hefyd, dyma lle recordiodd Coldplay a'r Super Furry Animals eu halbymau cyntaf. Mae'r rhestr yn parhau. Mae cyfleoedd i artistiaid newydd recordio eu cerddoriaeth yn gyfyngedig, ond mae angen lleoedd i berfformio arnynt hefyd. Dyna pam fod lleoliadau cerddoriaeth fel y Dragonffli ym Mhont-y-pŵl yn hanfodol. Maent yn rhoi llwyfan i gerddorion dyfu eu cynulleidfa a hogi eu doniau. Maent wedi cynnal perfformiadau gan lawer o berfformwyr eiconig yno hefyd. Bydd y toriad i ardrethi busnes a gyhoeddwyd ddoe yn gwneud gwahaniaeth enfawr i leoliadau cerddoriaeth, ond sut gall y Llywodraeth, drwy Cymru Greadigol, gefnogi cyfleoedd i feithrin doniau newydd ac i sicrhau y gall lleoliadau cerddoriaeth ar draws fy etholaeth i a Chymru gyfan barhau i gynhyrchu cerddorion a bandiau o'r radd flaenaf?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Mae'n hyfryd clywed am yr holl bethau gwych sy'n digwydd mewn gwahanol etholaethau. Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi bwrsariaethau i artistiaid a chynorthwywyr cynhyrchu o Gymru i fynychu gweithdai yn Rockfield Studios, gan agor mynediad at arbenigedd y diwydiant wrth gefnogi gweithgarwch lleol a chryfhau'r ecosystem greadigol ehangach. Dwi'n credu mai'r pwynt rydych chi'n ei wneud ydy dydy pethau fel hyn ddim yn digwydd ar hap. Mae angen strategaeth, mae angen buddsoddi, mae angen cydweithio. Yr hyn rydyn ni'n ei weld ydy bod yna fandiau mawr wedi bod yn y gorffennol ond nid yw hynny'n golygu ein bod ni'n bendant yn mynd i fod â'r bandiau hynny yn y dyfodol. Mae e'n fy mhryderu i, a dwi wedi codi'r pryder yma o'r blaen, fod yna'n lai o bobl ifanc, er enghraifft, yn cymryd TGAU mewn cerddoriaeth a drama, fod yna lai o gyfleoedd a chyrsiau o ran mynd rhagddo efo cerddoriaeth, ond hefyd y cyfleoedd i berfformio, sydd yr un mor bwysig. Rydyn ni'n lwcus iawn yng Nghymru bod yna bethau fel Brwydr y Bandiau pan fo hi'n dod i Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol ac ati. Mae'r rhain yn rhoi cyfleoedd. Ond, yn sicr, fel rhan o strategaeth hirdymor o ran cerddoriaeth, mae'n rhaid i ni fod yn meithrin talent newydd a chreu y seilwaith yna. Fel rydych chi'n sôn, mae cyhoeddiad ddoe yn mynd i fod yn help o ran lleoliadau lle mae cerddoriaeth fyw yn digwydd. Mae'n rhaid i ni barhau i weithio'n agos gyda phethau fel y Music Venue Trust er mwyn sicrhau bod dyfodol pwysig iddyn nhw.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda chyrff llywodraethu chwaraeon ynghylch diogelu plant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad? OQ64436
Mae Chwaraeon Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweithio'n agos gyda chyrff llywodraethu, clybiau a darparwyr chwaraeon cymunedol i hyrwyddo polisïau, hyfforddiant a gweithdrefnau diogelu cadarn. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r holl gyrff llywodraethu chwaraeon gymryd diogelu o ddifrif, gweithredu'n brydlon ar bryderon, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn ddiogel.
Diolch, Weinidog. Mae hyfforddwyr gwirfoddol ac aelodau pwyllgorau mewn cymunedau ledled gogledd Cymru, gan gynnwys sir y Fflint a Wrecsam, yn rhoi eu nosweithiau a'u penwythnosau i ddarparu cyfleoedd gwych i'n pobl ifanc. Rwy'n gwybod hyn am fy mod wedi bod yn ymwneud â chwaraeon llawr gwlad ers amser maith. Ac eto maent yn boddi mewn mwy a mwy o fiwrocratiaeth wrth frwydro i gael mynediad at hyfforddiant diogelu amserol a gwiriadau DBS. Pa gymorth ymarferol pendant a chyllid y mae eich adran chi yn ei ddarparu'n uniongyrchol i glybiau llawr gwlad i sicrhau nad yw mesurau diogelu cadarn yn dod yn rhwystr gweinyddol anorchfygol sy'n gorfodi clybiau lleol i gau? Diolch.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio efo Llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig. Roedd yna adroddiad prosiect ar chwaraeon diogel a gyhoeddwyd yn 2025. Comisiynwyd hwn ar ôl ymgynghoriad helaeth efo cyrff llywodraethu, cynghorau chwaraeon, athletwyr a phobl sydd â phrofiad byw. Chwaraeon Cymru sy'n cynrychioli Cymru o ran y gwaith hwn. Mi wnes i, yn fy nghyfarfod rhynglywodraethol cyntaf efo Gweinidogion chwaraeon eraill y Deyrnas Unedig, drafod hyn yn Glasgow yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae hwn yn fater o bwys. Mae o'n fater sydd ddim dim ond yn berthnasol i Gymru. Yn amlwg, fe fyddaf yn sicrhau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Wrth gwrs, os oes yna unrhyw Aelod yn ymwybodol o le mae yna bryderon, mae'n ddyletswydd arnom i gyd fod yn adrodd ar hynny ac mi fyddwn i yn annog unrhyw un i sicrhau hynny.
Fel Nigel a llawer o rieni ledled Cymru, rwy'n treulio llawer o fy mhenwythnosau ar ystlysau ar draws fy etholaeth, a hoffwn ddiolch o galon i'n holl hyfforddwyr ymroddedig ledled Cymru, gan na fyddai chwaraeon llawr gwlad yn bodoli heb y gwirfoddolwyr gweithgar hynny. Rhaid i glybiau chwaraeon fod yn amgylchedd lle mae pobl ifanc yn meithrin cyfeillgarwch ac yn gwella eu lles meddyliol a chorfforol. Mae menywod ifanc yn arbennig yn fwy tebygol o ddod yn arweinwyr pan fyddant yn cymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Ond mae gormod o bobl ifanc yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at y clybiau hyn oherwydd y costau cysylltiedig: citiau, esgidiau chwaraeon, ffioedd, cyrraedd gemau hyd yn oed. Felly, Weinidog Cabinet, hoffwn ofyn sut y byddwch chi'n sicrhau bod cyrff llywodraethu yn hyrwyddo llwybrau hygyrch i gyfranogiad fel y gall pob plentyn gael mynediad at fanteision gydol oes chwaraeon llawr gwlad.
Diolch am godi'r pwyntiau pwysig hynny. Yn ganolog i holl weledigaeth y Llywodraeth hon, o ran chwaraeon a diwylliant, mae sicrhau cyfranogiad i bawb a dim rhwystrau. Mae hwnna'n rhan o'n galwad ni am dystiolaeth ar y funud, sydd ar agor tan 19 Rhagfyr, felly plîs a wnaiff pawb annog pobl i gyflwyno tystiolaeth, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod yna rhwystrau'n bodoli ar y funud. Rydych chi wedi crybwyll rhai ohonyn nhw, ond mae yna eraill. Os ydym ni eisiau i bawb gael y cyfleodd hynny, yna, dwi yn cytuno efo'r Aelod, mae'n rhaid gweithredu. Felly, dwi'n mawr obeithio, yn dod allan o'r strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd yma, y bydd sicrhau cyfranogiad i bawb yn rhan ganolog o hynny, a chydweithio efo Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog addysg a'r Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol hefyd.
Galwaf y nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Louise Emery.
Weinidog Cabinet, diolch am ddod i'r pwyllgor diwylliant ddydd Llun, lle buom yn trafod awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru. Hoffwn eich holi ymhellach ar hyn, os caf. Fe gyfeirioch chi yn y pwyllgor at adroddiad y panel arbenigol yn 2023 fel tystiolaeth i gefnogi eich cynlluniau ar gyfer yr awdurdod cysgodol hwn. Gan nad oedd llawer ohonom yno yn 2023, roeddwn yn meddwl y buaswn yn atgoffa ein hunain o gylch gwaith y panel hwnnw. Y prif bwrpas oedd darparu opsiynau ac argymhellion ar gyflawni cytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y pryd i archwilio'r syniad o greu'r awdurdod cysgodol hwn. Bydd y panel yn rhoi sylw penodol i hynny, a disgwylir iddo adeiladu ar y syniadau cychwynnol hynny yn y cytundeb cydweithio. Felly, mae'n bur debyg ei fod yn banel arbenigol, ond nid wyf yn siŵr a oedd y cyngor a roddwyd yn annibynnol. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa asesiad annibynnol y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o'r dewis arall—y gellid mynd i'r afael â'r problemau a nodwyd gan y panel, problemau yr ydym ein dwy yn cytuno arnynt, o fewn fframwaith rheoleiddio presennol y DU heb unrhyw angen am awdurdod cysgodol.
Dwi ddim yn gwybod os ydy fy swyddogion i wedi cael cyfle i rannu gyda'r pwyllgor eto yr ystod o dystiolaeth roeddwn i'n cyfeirio ato fo yn ystod fy sesiwn ateb cwestiynau. Mi wnes i gyfeirio at adroddiad yr IWA, yr Institute of Welsh Affairs, a oedd yn annibynnol a ddim wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth. Mi wnes i gyfeirio at ymchwil academaidd sydd hefyd ddim wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth. Mae yna ystod o dystiolaeth eang yma. Mi oedd y gwaith a wnaed o ran y cytundeb cydweithio yn deillio o hynny.
Mi fyddwn i hefyd yn annog Aelodau i edrych ar waith a wnaed yn ystod y pumed Senedd gan y pwyllgor rydych chi rŵan yn aelod ohono fo a ddangosodd yn drawsbleidiol, ddim gan y Llywodraeth—. Roedd yn waith craffu gan Aelodau blaenorol o'r Senedd hon a oedd yn cadarnhau nad yw darlledu yn gweithio i Gymru fel ag y mae o ac yn annog bod angen i'r Llywodraeth weithredu. Felly, yr hyn dwi'n ei wneud fel Gweinidog ydy gweithredu ar argymhellion annibynnol—yn gweithredu a gwrando—a dyna dwi'n gobeithio buasai unrhyw Weinidog yn ei wneud yn fy sefyllfa i.
Diolch am eich ateb, ac fel y credaf ein bod yn cytuno, nid oes unrhyw un yn gwadu bod newyddiaduraeth yn wynebu pwysau ariannol, yn enwedig yng Nghymru, fod arferion gwylio yn newid, ac yn sicr, fod angen cefnogi darlledu yn yr iaith Gymraeg. Ac rwy'n cyfeirio at y Pwyllgor Materion Cymreig, a glywodd dystiolaeth gan S4C yn yr wythnos ddiwethaf, gan weithio'n llwyddiannus gyda'r BBC, Ofcom a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i wella amlygrwydd cynnwys Cymraeg a mynd i'r afael â'r problemau hyn. Ni ddywedodd yr un o'r trafodaethau hyn mai datganoli oedd y canlyniad gorau. Gan gyfeirio at drafodaeth ein pwyllgor, buom yn trafod yr angen am gyllid ar gyfer newyddiadurwyr ychwanegol yn arbennig. Felly, os bydd hyn yn digwydd, a ydych chi'n credu, fel awdurdod cysgodol, yn amlwg, y byddai datganoli pwerau darlledu i Gaerdydd yn y pen draw yn golygu y byddai cyllid ar gael i ddatrys y problemau hyn, ac o ble fyddai'r arian hwn yn dod? Diolch.
Dwi'n credu, a byddwn i'n gobeithio bod pob Aelod yma yn credu, y dylem ni gael llais yma yng Nghymru ac y dylai penderfyniadau ynglŷn â Chymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae'r ffaith nad oes gennym ni lais fel Llywodraeth o ran yr hyn sy'n digwydd o ran siarter y BBC ar y funud, ein bod ni'n cael ein hymgynghori fel y mae unrhyw unigolyn yng Nghymru, ac nad oes gennym ni lais yn anghyfiawnder—bod dyfodol S4C yn ddibynnol ar benderfyniadau mewn Senedd sydd ddim yma yng Nghymru, heb unrhyw angen i gymryd ystyriaeth eich barn chi o ran craffu na fy marn innau fel Gweinidog. Dydy o ddim yn gweithio. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn mynd ati i edrych ar y dystiolaeth o ran sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol, er mwyn edrych ar sut y byddai'n gweithio yma yng Nghymru. Gwneud y gwaith caib a rhaw i fynd i'r afael â phroblemau—dyna ydy bwriad hwn.
Un cwestiwn olaf, ac rwyf am newid y pwnc. Weinidog, mae cau'r cynllun grant mannau addoli rhestredig wedi golygu bod cynulleidfaoedd yn wynebu costau ychwanegol sylweddol. Ym mis Mehefin, rwy'n credu imi sôn am hyn, ac fe wnaethoch chi addo rhoi diweddariad ar asesiad Cadw o effeithiau'r cau a chadarnhau bod Cymru wedi derbyn cyllid canlyniadol Barnett. Dri mis yn ddiweddarach, mae gennym dros 3,000 o fannau addoli rhestredig yng Nghymru heb gymorth pwrpasol o hyd. Mae'r Alban wedi lansio cynllun. Beth yw casgliad yr asesiad hwnnw ac a wnewch chi ymrwymo i ddiogelu eglwysi a chapeli hanesyddol Cymru?
Fel y gwnes i eich ateb chi pan wnaethoch chi godi hwn y tro diwethaf, mae yna gefnogaeth wedi bod, yn ariannol, gan Cadw tuag at addoldai. Mi rydyn ni wedi bod yn gwneud y gwaith pellach. Mae yna gyngor ar ei ffordd i fi. Unwaith dwi wedi ystyried hwnnw, mi fydd y wybodaeth yna yn cael ei rannu gyda'r holl Aelodau o ran y camau nesaf. Ond i fod yn glir, mae yna gyllid wedi bod yn cael ei roi i gefnogi addoldai—ddim yr un math o gyllid, ond mi fyddaf yn ystyried y cyngor a ddaw ger fy mron i yn fuan iawn. Diolch.
Llefarydd Llafur Cymru, Mike Hedges.
Diolch. Yn gyntaf oll, a gaf i ddatgan buddiant fel aelod o gapel Seion Newydd? Yn dilyn y cwestiwn a ofynnwyd ychydig eiliadau yn ôl, mae Cymru’n gartref i rai o'r eglwysi a'r capeli hanesyddol mwyaf arwyddocaol yn Ewrop. Nid mannau addoli yn unig yw'r adeiladau hyn; maent yn ganolfannau bywyd cymunedol, yn dirnodau hanes Cymru, ac yn rhan hanfodol o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol. Mae diddymu'r cynllun grant mannau addoli rhestredig wedi dileu oddeutu £1 filiwn y flwyddyn a oedd yn cynorthwyo cynulleidfaoedd i gynnal yr adeiladau hyn sydd o bwys cenedlaethol, gan roi pwysau ychwanegol ar gymunedau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu costau atgyweirio cynyddol. Gan fod y cyllid hwn wedi'i golli bellach, a ydych chi'n cytuno y dylai Cymru sefydlu ei chynllun newydd ei hun i sicrhau bod ein treftadaeth Gymreig amhrisiadwy yn cael y cymorth sydd ei angen arni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Mae Cadw yn ymgysylltu yn weithredol ag enwadau ffydd a chynrychiolwyr y sector i ddeall yn well cyflwr mannau addoli hanesyddol a'r pwysau ehangach y mae nhw'n eu hwynebu, gan gynnwys ffabrig sy'n heneiddio, defnydd sy'n newid, cynulleidfaoedd sy'n gostwng, costau cynnal a chadw, a mynediad at sgiliau arbenigol. Mae Cadw yn parhau i ddarparu cymorth uniongyrchol drwy ei raglenni grant ei hun. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae yna fwy na £2 filiwn o gyllid grant adeiladau hanesyddol Cadw wedi cefnogi mannau addoli, sy'n cynrychioli tua 20 y cant o'r gyllideb grantiau. Mi fyddwch chi hefyd wedi clywed fy ymateb i i'r Aelod blaenorol. Dwi yn disgwyl cyngor pellach o ran hyn, ac mi fyddaf yn rhannu diweddariad unwaith dwi wedi derbyn hwnnw.
Diolch. Mae gan Gymru hanes crefyddol hir ac amrywiol. Mae gennym lawer o adeiladau crefyddol enwog, gan gynnwys eglwysi Anglicanaidd, eglwysi Catholig, capeli anghydffurfiol, mosgiau, temlau Sikhaidd, temlau Bwdhaidd, synagogau a themlau Hindŵaidd. Gofynnaf i'r Gweinidog ystyried dau gam gweithredu: yn gyntaf, fod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar gyfer creu amgueddfa ar gyfer y crefyddau yng Nghymru; ac yn ail, fod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda chyd-Aelodau eraill o'r Cabinet, yn creu cynllun twristiaeth grefyddol. Er bod cynlluniau teithiau lleol yn bodoli, ni allaf ddod o hyd i gynllun teithiau cyflawn, ac mae gennym nifer o adeiladau crefyddol pwysig iawn, ac nid yn Abertawe'n unig.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae'r ffaith ein bod ni yn ymgynghori ar y funud o ran strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd, a'n bod ni yn edrych yn strategol, yn gyfle perffaith i bob Aelod yma i fod yn annog etholwyr, i fod yn annog unrhyw gymdeithasau, ac Aelodau eu hunain, i fod yn cyfrannu syniadau tuag at y strategaeth honno. Felly, byddwn ni yn eich annog chi i gyflwyno'r syniadau hyn, a byddwn ni wedyn yn gallu edrych ar yr holl ystod o bethau yr hoffai pobl yng Nghymru ein gweld ni'n buddsoddi ynddyn nhw. Un peth y byddwn i yn ei ddweud yw eich bod chi'n berffaith iawn i fod yn cydnabod pwysigrwydd cymaint o'n haddoldai ni, a'r amrywiaeth a'r stori mae nhw'n ei ddweud ynglŷn â Chymru. Felly, diolch i chi am godi'r pwyntiau hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, rydym wedi gweld athletau rhyngwladol anhygoel dros yr haf. Am y tro cyntaf erioed, daeth Pencampwriaethau Athletau Ewrop i Brydain, a chynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow wrth gwrs, a oedd yn gyfle arall i ddathlu rhagoriaeth chwaraeon, gyda Thîm Cymru’n perfformio'n gryf ac yn dod yn nawfed. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch ein hathletwyr a'n hyfforddwyr ar eu cyflawniadau a'r balchder y maent wedi'i ddwyn yma i Gymru. O ystyried llwyddiant y digwyddiadau chwaraeon mawr hyn, a'r manteision y maent yn eu darparu o ran cyfranogiad, buddsoddiad economaidd a phroffil rhyngwladol, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru?
Diolch i'r Aelod am nodi hynny.
Dwi bendant yn cytuno efo chi. Mi oeddwn i'n falch iawn o dîm Cymru, ac nid dim ond y rhai a enillodd y medalau; mi oedd yna berfformiadau rhagorol yna, ac mi ddylem ni fod yn falch iawn o'r holl dîm. Fel roeddwn i'n sôn gerbron y pwyllgor, pan oeddwn i yn Glasgow, roedd gweld bod Cymru wedi creu cymaint o argraff, eu bod nhw'n ail hoff dîm pawb nad oeddent o Gymru, yn sicr wedi bod yn wych i'w weld. Yn amlwg, mi oedd yna newyddion trist iawn dros yr haf hefyd, ac mi fyddwn i'n hoffi cymryd y cyfle yma i sôn am Fin Tarling. Mae ein meddyliau ni i gyd efo'i deulu a'i ffrindiau. Roedd hynny'n drychinebus dros yr haf.
O ran ein strategaeth ni rŵan, dwi eisiau sicrhau, o ran digwyddiadau mawr—. Roeddwn i'n falch iawn ddoe ein bod ni wedi gweld bod Champions League y menywod yn dod i Gymru yn 2029. Dwi'n falch i ddweud mai un o fy mhenderfyniadau i fel Gweinidog oedd cefnogi hwnna, ac mae hwnna'n dangos ein bod ni'n gweithredu. Ond dwi wedi bod yn glir iawn hefyd fod yn rhaid i'r holl ddigwyddiadau mawr rydyn ni'n mynd amdanyn nhw fod i bwrpas a'n bod ni wedi ystyried, cyn ein bod ni'n ymgeisio, beth fydd y buddsoddiad, ond hefyd beth ydy'r gwerth yn economaidd, yn gymdeithasol a'r deilliannau o ran hynny.
Mi ydych chi a minnau wedi bod yma yn y gorffennol a gweld Llywodraethau efallai'n methu â dweud beth ydy'r mesurau, sut rydyn ni'n mesur llwyddiant, ac mae hwnna'n sicr yn rhywbeth dwi'n edrych arno rŵan fel Gweinidog o ran y Tour de France a hefyd Ewros 2028. Ond mi ddylai'r mesurau yna fod yn eu lle cyn inni fod yn ymgeisio, a syniad o beth rydyn ni eisiau cael allan ohonyn nhw. Felly, mi ydyn ni'n ailedrych ar y strategaeth digwyddiadau mawr hefyd, ac mi fydda i'n mynd â'r gwaith yma rhagddo. Mae gwaith wedi dechrau, ond rydyn ni'n mynd â hwnna ymhellach hefyd.
Rwy'n ddiolchgar am eich ymateb. Wrth gwrs, ar ben arall y sbectrwm, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n adeiladu llif o dalent mewn chwaraeon, ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ledled y wlad. Mae'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector chwaraeon yn dra hysbys, ac os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chreu gwaddol o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, bydd angen mwy o gyllid ar y sector. Mae maniffesto eich plaid eich hun yn ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon flwyddyn ar ôl blwyddyn drwy gydol tymor y Senedd hon. Felly, Weinidog Cabinet, a allwch chi roi gwarant i'r sector diwylliant a chwaraeon y byddant yn derbyn cynnydd mewn termau real yn y gyllideb ddrafft sydd ar y ffordd ac ym mhob blwyddyn arall o dan y Llywodraeth hon? A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni hefyd am eich archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol, fel y gallwn ddeall yn well ble mae angen targedu buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol?
Rwy'n falch fod yr Aelod wedi cyfeirio at y gwaith rydym wedi'i flaenoriaethu o ran deall yr angen, gan mai'r hyn rwy'n benderfynol o'i wneud yw cael cynllun ar waith yn hirdymor, oherwydd fel y dywedais mewn tystiolaeth i'r pwyllgor, fe wyddom faint o fuddsoddiad sydd ei angen mewn rhai sectorau, ac mae'r ffigurau'n syfrdanol. Nid yw'r math hwn o gyllid ar gael gennym ar hyn o bryd, nid yw'n agos at yr hyn sydd ei angen, a bydd angen inni edrych yn strategol pan fyddwn yn ymwybodol o'r darlun llawn hwnnw.
Rwy'n cytuno'n llwyr—ac rwy'n credu imi sôn am hyn yn fy ymateb i Mike Hedges yn y pwyllgor ddydd Llun, pan ofynnodd i mi ynglŷn ag ymgeisio am Gemau'r Gymanwlad—ni allwn fuddsoddi mewn cyfleusterau i ddenu digwyddiadau mawr os yw hynny'n golygu wedyn nad oes arian ar ôl i fuddsoddi mewn seilwaith allweddol fel ein pyllau nofio, fel caeau 3G ac yn y blaen, gan olygu bod pobl yn eich etholaeth, mewn etholaethau eraill ledled Cymru, yn methu cael mynediad. Felly, bydd y gwaith hwn wedyn yn gallu amlinellu pa fuddsoddiad sydd ei angen, ble mae angen buddsoddiad cyhoeddus, sut rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, yn gweithio gyda gwahanol gyllidebau, gan fod buddsoddiadau'n cael eu gwneud mewn ysgolion, er enghraifft, mewn cyfleusterau chwaraeon.
Y warant rwy'n ei rhoi i chi yw y bydd gennym y dull strategol hirdymor hwnnw, gan weithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol, Chwaraeon Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, gan weithio ar draws portffolios, i sicrhau ein bod yn nodi ble mae'r bylchau, lle mae seilwaith bron â methu hefyd, gan y gwyddom fod nifer o byllau nofio ledled Cymru yn hen iawn ac mewn perygl o ddod yn ariannol anhyfyw neu fethu aros ar agor. Gwyddom fod rhai eisoes wedi cau. Dyna fy ymrwymiad i. Rydym am weld y cyfleusterau iawn y bydd pobl yn gallu eu defnyddio fel y gallant aros yn egnïol, bod yn egnïol yn eu cymunedau, ac mae hynny'n golygu pob cornel o Gymru, y Gymru wledig ac ardaloedd trefol.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch ei gynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau? OQ64440
Mi wnes i gwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru ym mis Awst a thrafod eu cynlluniau ar gyfer dyfodol y gêm broffesiynol. Fe wnes i wneud yn glir bwysigrwydd ymgysylltu agored ac ystyrlon gyda rhanbarthau, cefnogwyr a chymunedau, a sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyried yr effaith ehangach ar rygbi Cymru.
Dylai clybiau llawr gwlad fod wrth wraidd penderfyniadau Undeb Rygbi Cymru. Bydd y penderfyniad i gael gwared ar naill ai'r Gweilch neu'r Scarlets yn ddinistriol i gymunedau ledled y de-orllewin. Fel rhywun o Ystradgynlais, er enghraifft, buaswn yn dweud, pe baech chi'n dweud wrthyf na fyddai gornest leol rhwng Ystradgynlais ac Ystalyfera mwyach, gallai arwain at ryw fath o derfysg sifil hyd yn oed. Mae hwn yn benderfyniad ag iddo ganlyniadau llawer mwy difrifol, gan mai'r hyn yr arferwyd ei ddweud, yng nghwm Tawe o leiaf, oedd bod dau le i bobl Cymru addoli, ac roedd yn destun dadl ai'r capel neu'r cae rygbi oedd y mwyaf arwyddocaol yn ddiwylliannol.
Mae'r Gweilch a'r Scarlets yn enwog ledled Ewrop am eu llwyddiant, gyda'r ddau dîm hefyd yn cyfrannu'n helaeth at lwyddiant rhyngwladol Cymru. Mae'r bobl, yn gywir ddigon, yn mynnu ac yn haeddu atebion tryloyw, fel y dywedwch, gan Undeb Rygbi Cymru, ac nid ydynt wedi'u cael. Fel y gwelsom yn rhy aml yn ne Cymru, pan fo diwydiant yn gadael—ac mae hwn yn fath o ddiwydiant—nid oes unrhyw beth yn cymryd ei le. A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai Undeb Rygbi Cymru ddarparu'r tryloywder, yr atebolrwydd a'r cydweithrediad ar sut y gwnaethant y penderfyniad i gael gwared ar naill ai'r Gweilch neu'r Scarlets? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod, yn gyntaf, am y cyfathrebu rydych chi wedi'i wneud efo fi dros y pwnc yma, ynghyd â'ch Aelodau chi dros Ŵyr Abertawe, a hefyd i bob Aelod sydd wedi ymgysylltu efo fi dros y mater pwysig hwn? Mae rygbi yn fwy na champ, onid ydy? Mae pobl yn ei deimlo fo i'r byw; mae o'n rhan o hunaniaeth cymunedau, fel rydych chi wedi sôn fan hyn. Mae'r tryloywder yna'n bwysig, oherwydd mae hyn am fwy na lleoliad, mae'n fwy nag effaith economaidd; mae ynglŷn â'r ymdeimlad cymunedol yna. Felly, yn sicr, fel y gwnes i ddweud yn fy ymateb cychwynnol, mi ddywedais i'n glir wrth Undeb Rygbi Cymru ein bod ni'n disgwyl y tryloywder yna, ein bod ni'n disgwyl y cydweithio efo cymunedau, a dyna fy neges i eto heddiw.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn, ac ymddiheuro am fy mod yn credu ei fod i'r un perwyl. Ond Weinidog, ysgrifennodd Undeb Rygbi Cymru ataf yn ddiweddar a dweud wrthyf pam eu bod yn lleihau'r nifer o glybiau proffesiynol o bedwar i dri. Yr hyn na ddywedodd wrthyf yn y llythyr hwnnw yw pam y mae'r metrig a ddefnyddir yn wahanol rhwng un rhan o Gymru a'r llall.
Yn y dwyrain a'r brifddinas, fe'i gwnaed, yn eithaf clir, ar sail daearyddiaeth. Rhoddwyd ardal drwydded eu hunain i Gaerdydd a Chasnewydd, a chadarnhawyd y rheini. Dim cystadleuaeth, dim sgorio, dim prawf teilyngdod. Mae llythyr Undeb Rygbi Cymru eu hunain ataf yn cadarnhau mai'r ffactorau pwysicaf yno oedd poblogaeth, hygyrchedd a seilwaith. Roedd perfformiad a llwybrau yn dod yn ail. Felly, i grynhoi, daearyddiaeth a bennodd ddwy o'r trwyddedau, a dim ond wrth bennu'r drydedd yr ystyriwyd teilyngdod. Y cyhuddiad mwyaf damniol o'r penderfyniad hwn yn yr ohebiaeth honno yw mai'r ddau glwb sydd eisoes wedi'u dewis yw ein perfformwyr gwaethaf o ran tlysau, a'r ddau sy'n gorfod ymladd am y lle sy'n weddill, y Scarlets a'r Gweilch, yw'r ddau glwb mwyaf llwyddiannus yn oes fodern rygbi Cymru.
Os mai bwriad yr ymarfer hwn, fel y mae Undeb Rygbi Cymru’n ei ddatgan, yw sicrhau bod rygbi Cymru yn gryf unwaith eto ar lefelau rhanbarthol a rhyngwladol, mae hynny'n anghydnaws â'r ffaith bod y ddau glwb sy'n gorfod ymladd am y trydydd safle wedi cynhyrchu mwy o chwaraewyr rhyngwladol na Chaerdydd neu Gasnewydd. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi wrth alw ar Undeb Rygbi Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a'r penderfyniadau sgorio sydd wedi ein harwain at y cam hwn?
Diolch am godi'r pryderon hynny. Mae'n hanfodol fod y broses hon yn cael ei chynnal mewn ffordd sy'n dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn atebol. Rhaid i gefnogwyr, chwaraewyr, gwirfoddolwyr, cymunedau lleol ac Aelodau etholedig fod yn hyderus fod penderfyniadau'n cael eu gwneud gyda dealltwriaeth lawn o'r effaith ehangach a bod eu barn wedi'i hystyried yn briodol. Mewn unrhyw sgyrsiau dilynol gydag Undeb Rygbi Cymru—rwy'n cyfarfod â nhw'n rheolaidd—byddaf yn sicr o fynegi'r safbwyntiau a fynegwyd i mi.
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygiad tîm rygbi proffesiynol yng ngogledd Cymru? OQ64432
Fel dwi wedi amlinellu eisoes heddiw, mae Undeb Rygbi Cymru yn gorff llywodraethu annibynnol ar gyfer rygbi yng Nghymru ac mae'n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch strwythur a datblygiad y gêm broffesiynol, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu timau chwaraeon proffesiynol, ond trwy Chwaraeon Cymru rydyn ni yn cefnogi'r gymuned a'r gêm ar lawr gwlad.
Diolch. Gwyliodd 121 miliwn o bobl ledled y byd bencampwriaeth y chwe gwlad yn 2023 ar draws 209 o diriogaethau rhyngwladol. Mae gemau'r chwe gwlad yn denu cynulleidfaoedd teledu o hyd at 4.5 miliwn o wylwyr yn y DU yn rheolaidd. Mae rygbi Cymru yn cynhyrchu rhwng £225 miliwn a £250 miliwn yn flynyddol, yn ôl amcangyfrifon, drwy'r gêm broffesiynol a gweithgareddau diwrnod gêm. Canfu astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Undeb Rygbi Cymru fod Stadiwm Principality yn cyfrannu £2.75 biliwn o allbwn economaidd ac yn cynnal tua 2,500 o swyddi bob blwyddyn.
Er hynny, mae anghydbwysedd clir yn parhau yn y gêm broffesiynol. Mae rygbi proffesiynol i ddynion wedi'i ganoli ers amser maith yng Nghaerdydd, Abertawe, Llanelli a Chasnewydd, gan adael gogledd Cymru heb dîm rhanbarthol proffesiynol. Wrth i Undeb Rygbi Cymru symud tuag at fodel tri rhanbarth, mae pryderon y gallai cyfleoedd i gefnogwyr a chwaraewyr ifanc dawnus yng ngogledd Cymru gael eu lleihau ymhellach. Sut yn union rydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn?
Fel gwnes i ddweud yn fy ymateb cyntaf, Undeb Rygbi Cymru ydy'r corff llywodraethu annibynnol a nhw sydd efo'r cyfrifoldeb, ond mae gen i, wrth gwrs, gyfleoedd yn fy nghyfarfodydd gyda nhw i fynegi unrhyw bryderon sy'n cael eu codi gyda ni.
O ran rygbi gogledd Cymru, dwi yn cydnabod yr uchelgais gref a'r cyfranogiad rygbi cynyddol ledled gogledd Cymru, a dwi'n cefnogi datblygiad y gêm ar bob lefel. Mi ydyn ni eisiau i chwaraewyr talentog o ogledd Cymru gael llwybrau clir i gyrraedd lefelau uchaf y gêm o fewn eu cymunedau, heb orfod symud o ogledd Cymru. A dwi wedi darllen y pryderon nad ydy hynny'n bosib ar y funud, felly diolch i'r Aelod am godi hynna gyda fi.
Diolch i'r Gweinidog am ei hatebion hyd yma ac i Janet am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Weinidog, wrth edrych ar fy etholaeth, gwelaf nifer o glybiau rygbi gwych, ym Mae Colwyn, Dinbych, yr Wyddgrug, Rhuthun neu'r Rhyl, i enwi rhai ohonynt yn unig. Mae eu carfannau, eu staff a'u cefnogwyr yn dangos bob wythnos y rôl bwysig y mae rygbi'n ei chwarae ar draws Clwyd ac ar draws Cymru. Fodd bynnag, wrth siarad â'r timau hyn ac eraill, dywedir wrthyf fod talent ifanc yn aml yn cael ei sgowtio a'i ddenu draw i lwybrau rygbi Lloegr. Mae cyn-gapten Cymru, Jon Davies, yn iawn: mae angen i ni ddarparu llwybr ar gyfer rygbi Cymru i mewn i ranbarthau rygbi Cymru ac i'r tîm cenedlaethol.
Fe wnaethoch chi addo yn y maniffesto y byddech yn blaenoriaethu mynediad cyfartal at chwaraeon. Mewn ymateb, rydych chi wedi galw am dystiolaeth ar gyfer adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, ond beth allwch chi ei wneud yn y cyfamser i weithredu ar y cyd â rhanddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol i helpu i greu llwybrau i dalent leol gael mynediad at glybiau rygbi cenedlaethol a rhanbarthol yma yng Nghymru?
Diolch. Fel oeddwn i'n dweud, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru mo hynny, ond yn sicr mi fyddwn ni eisiau cydweithio efo Undeb Rygbi Cymru a gwahanol gyrff llywodraethu eraill o ran mynediad cyfartal i chwaraeon. O ran y pwyntiau dŷch chi'n eu codi, mi fyddwn i'n argymell eich bod chi'n eu codi nhw hefyd efo Undeb Rygbi Cymru yn uniongyrchol. Mae'n bwysig ein bod ni yn gweithredu ar ran etholwyr o ran clybiau lleol. Ond yn sicr, fel dywedais i wrth Janet Finch-Saunders, dŷn ni eisiau cyfleoedd i bobl ifanc allu parhau yma yng Nghymru i chwarae ar y lefel uchaf, a dŷn ni'n cydnabod nad yw hynny yn digwydd ar y funud.
Amrywiad arall ar thema, cwestiwn rygbi arall.
5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfranogiad mewn rygbi yng Nghlwyd? OQ64473
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfranogiad rygbi yng Nghlwyd drwy ein buddsoddiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad, a ddarperir drwy Chwaraeon Cymru. Mae hyn yn helpu clybiau i wella cyfleusterau, lleihau costau rhedeg a chreu mwy o gyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir gymryd rhan.
Diolch yn fawr. Weinidog, fel y gwyddoch, mae rygbi wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn cymunedau ledled Clwyd, fel y nododd fy nghyd-Aelod, ym Mae Colwyn, y Rhyl a'r cylch, Dinbych, y Fflint, Rhuthun, yr Wyddgrug. Mae gennym nifer o glybiau ledled y rhanbarth. Mae cyfranogiad cymunedau ledled Cymru mewn rygbi llawr gwlad nid yn unig yn fuddiol i chwaraewyr, mae'n darparu mannau hanfodol ar gyfer cymdeithasu ac yn sianelu buddsoddiad i economïau lleol, sy'n arbennig o bwysig. Ni ellir diystyru ailstrwythuron yn syml fel mater mewnol i Undeb Rygbi Cymru wrth gwrs. Mae Chwaraeon Cymru yn darparu £430,000 o gyllid cyhoeddus i Undeb Rygbi Cymru, tra bod miliynau’n fwy'n cael ei fuddsoddi trwy Gogledd Cymru Actif. Felly, yn erbyn cefndir o newidiadau strwythurol sy'n cael eu gwneud o fewn Undeb Rygbi Cymru, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi na chaiff gogledd Cymru ei amddifadu o fanteision cymunedol gêm genedlaethol Cymru? Ac a wnaiff hi ymrwymo i sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn diogelu rygbi llawr gwlad a llwybrau go iawn i chwaraewyr ifanc yng Nghlwyd?
Nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar y buddsoddiad hwnnw. Mae e'n fater i gyrff chwaraeon unigol ond hefyd i Chwaraeon Cymru. Yr hyn sydd gennym ni fel ymrwymiad fel Llywodraeth ydy ein bod ni eisiau sicrhau bod yna fuddsoddiad ledled Cymru, cyfle i bawb gyfranogi lle bynnag eu bod yn byw yng Nghymru. Ac mae'r adolygiad strategol dŷn ni'n ei wneud o ran lle mae angen buddsoddiad yn cydweithio gydag Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Nofio Cymru ac eraill i sicrhau bod hwnnw'n gynllun sy'n cael ei gefnogi gan bawb, nid dim ond gan y Llywodraeth ond gan y cyrff hyn hefyd. Bydd yna waith hefyd i weithio efo awdurdodau lleol o ran hynny.
Am resymau sy’n cynnwys ofn cael eu barnu, teimlo'n anniogel, cyfleusterau annigonol a diffyg modelau rôl, mae mwy na thraean o ferched yn rhoi'r gorau i rygbi llawr gwlad yn ystod eu harddegau. Er y bu rhywfaint o welliant calonogol, mae bwlch sylweddol o hyd yn y cyfraddau sy’n dal ati o'i gymharu â thimau bechgyn, ac mae’n amlwg nad oes cynrychiolaeth ddigonol ar fyrddau. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ymwneud â mwy na chyfranogiad yn unig. Mae a wnelo hefyd â chydnabyddiaeth a chefnogaeth sy’n cymharu â’r hyn a roddir i’w cymheiriaid gwrywaidd. Pa fesurau fydd y Llywodraeth yn eu mabwysiadu i ail-ffurfio canfyddiadau, i hyrwyddo mwy o gydraddoldeb ac i wella’r niferoedd o ferched sy’n dal ati i chwarae rygbi?
Diolch am godi'r pwyntiau pwysig yna. Wrth gydweithio gydag Undeb Rygbi Cymru dŷn ni eisiau sicrhau—. Fel roeddwn i'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pawb yn cael y cyfle i gyfranogi, a phan mae yna rwystrau i hynny, yna mae hwnna'n her dwi'n barod iawn i'w rhoi i Undeb Rygbi Cymru neu ei rhoi i unrhyw gorff lle nad yw hynny'n gweithio.
Mae peth data yn dangos bod yna beth newydd da o ran merched yng Nghymru. Mae 90 y cant o chwaraewyr rŵan yn symud o'r pathway dan 14 i dan 16 o ran rygbi, sydd yn gam pwysig yn ei flaen. Ond, yn amlwg, mae angen deall wedyn beth arall sydd angen cael ei wneud, ac mae hwn yn rhywbeth byw iawn o ran trafodaethau rhwng swyddogion, Undeb Rygbi Cymru a holl gyrff chwaraeon yng Nghymru.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfleusterau llyfrgell yng Nghasnewydd Islwyn? OQ64455
Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi cyfleusterau llyfrgell yng Nghasnewydd Islwyn drwy gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer datblygu llyfrgelloedd. Mae hyn yn cynnwys £200,000 o gyllid cyfalaf i drawsnewid y llyfrgell i blant yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd. Mae llyfrgelloedd Casnewydd Islwyn hefyd wedi elwa o dros £22,000 ar gyfer cyllid prosiectau grantiau bach.
Mae pobl yn pryderu, yn briodol ddigon, pam y caniatawyd i lyfrgelloedd a chyfleusterau hamdden gwerthfawr ddiflannu. A wnaiff y Gweinidog Cabinet weithio gyda chynghorau a Chwaraeon Cymru i sicrhau, cyn i unrhyw gyfleusterau gael eu cau a'u colli am byth, fod y gymuned yn cael y dystiolaeth, y dewisiadau amgen sydd ar gael a chyfle go iawn i'w cadw drwy berchnogaeth gymunedol neu ddarpariaeth gyfatebol ddilys yn eu lle?
Dŷch chi'n codi pwynt pwysig dros ben, a does gen i ddim y pwerau i ymyrryd yn y fath fodd, ond yr hyn yr ydw i'n ei wneud ar y funud, trwy'r gwaith dŷn ni'n ei wneud, ydy deall beth yw'r sefyllfa o ran llyfrgelloedd ledled Cymru. Maen nhw'n wasanaeth statudol. Dŷn ni'n gwybod bod yna doriadau wedi bod ledled Cymru. Mae nifer o Aelodau yma wedi ymgyrchu o ran ceisio cadw llyfrgelloedd lleol ar agor, a dwi yn poeni yn fawr ynglŷn â dyfodol ein llyfrgelloedd ni—y dyfodol o ran y buddsoddiad hwnnw.
Mae angen inni ddeall beth ydy'r sefyllfa, a dyna pam, o ran cael gweledigaeth a strategaeth hirdymor a bod yn glir o ran y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, y medraf roi'r sicrwydd i'r Aelod fy mod i'n credu bod llyfrgelloedd yn bwysig, bod y gwaith hwn yn digwydd, ac mi fyddwn ni eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, yn sicr, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau iawn yn ein cymunedau ni a bod yna fynediad i'n llyfrgelloedd ni.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru? OQ64444
Mae'r gwaith o lunio strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd i Gymru yn digwydd ar y funud, ac mae treftadaeth a diwylliant cyfoethog ein cenedl yn rhan ganolog o hyn. Mae gennym ni weledigaeth glir ynghylch datblygu Cymru i fod yn bwerdy diwylliant a chwaraeon. Rydyn ni wedi ymrwymo i wireddu hynny.
Diolch. Drefnydd, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddad-drefedigaethu hanes Cymru, ond mae hyn yn ymosodiad ar hunaniaeth Gymreig. Yn y pen draw, roedd yr ymerodraeth Brydeinig yn rym er lles yn y byd, ac fe chwaraeodd y Cymry ran bwysig yn dod â thechnoleg, addysg, cyfraith gyffredin, democratiaeth, a delfrydau Cristnogol, megis uchafiaeth y gwirionedd ac urddas bywyd dynol, i bobloedd a diwylliannau heb gysyniadau blaenorol o'r fath. Yn wir, heb drefedigaethu Prydeinig, byddai caethwasiaeth wedi parhau ar draws y byd heb ei leihau. Yn hytrach na dad-drefedigaethu hanes, dylem ddweud y gwir yn onest, a byddai hynny'n golygu cyfaddef, dros gyfnod y trefedigaethu, mai cydwybod yr ymerodraeth Brydeinig oedd y mwyaf moesol soffistigedig yn y byd erioed.
Drefnydd, a wnewch chi gytuno bod defnyddio safonau moesol cyfoes i farnu'r ymerodraeth y bu'n rhaid iddi lunio'r safonau moesol hynny drosti ei hun am nad oeddent yn bodoli o'r blaen, nid yn unig yn arfer hanesyddol gwael, mae'n dangos anniolchgarwch aruthrol i'r rhai a roddodd i ni'r syniadau rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol?
A gaf i fod yn glir iawn? Rwy'n datgysylltu fy hun oddi wrth bob un o'r sylwadau a wnaed a na, nid wyf yn cytuno â'r Aelod.
Carwn awgrymu bod yr Aelod yn rhoi amser i siarad â'r bobl y mae'n eu cynrychioli, a fyddai'n arswydo ac yn dychryn wrth glywed rhai o'r sylwadau a wnaed. Hoffwn ofyn iddo fod yn ymwybodol hefyd fod ein gwahanol sefydliadau diwylliannol yn cael eu llywodraethu—ein hamgueddfeydd, er enghraifft—gan god moesegol, ac maent yn gweithio'n foesegol. A dyna rwy'n ei ofyn gan unrhyw sefydliad sy'n derbyn cyllid cyhoeddus—i weithio o fewn y foeseg y maent yn rhwym iddi, i fod yn barchus, i fod yn ystyriol, fel rydym ninnau wedi ein rhwymo gan god ymddygiad yr Aelodau i'w wneud.
8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn dilyn Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop Dan-19 UEFA 2026 a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yr haf hwn? OQ64451
Cwestiwn am bêl-droed. [Chwerthin.]
Mae digwyddiadau chwaraeon fel pencampwriaethau dan-19 UEFA yn gyfleoedd pwerus a phwysig i ysbrydoli pobl ifanc ac annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon. Mi fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Sefydliad Pêl-droed Cymru, i adeiladu ar y momentwm o'r twrnamaint trwy gefnogi pêl-droed ar lawr gwlad, gwella mynediad at gyfleusterau a chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, clybiau a chymunedau.
Diolch am eich ymateb, Weinidog Cabinet. Cyn y toriad, roeddwn yn falch o allu nodi, yn y Siambr hon, fod y pencampwriaethau'n cael eu cynnal yng ngogledd Cymru dros yr haf. Ac roedd yn llwyddiant ysgubol, wedi'i gynnal mewn pedwar lleoliad gwahanol ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys y Cae Ras yn fy etholaeth i yn Fflint Wrecsam.
Ond ychydig cyn i'r bencampwriaeth ddod i ben, daeth pedwar prif swyddog meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ei gilydd i gyhoeddi adroddiad newydd ar ganllawiau gweithgarwch corfforol sy'n annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn 60 munud y dydd o weithgarwch corfforol, fel chwaraeon. Ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod cymryd rhan yn y gweithgarwch corfforol hwnnw o fudd i'n hiechyd corfforol a meddyliol ac y gall leddfu pwysau yn ein GIG, ac yn syml, ei fod yn well i bobl yn y tymor hir. Felly, tybed sut rydych chi'n gweld eich rôl chi, wrth weithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ein gwasanaethau iechyd, i sicrhau bod plant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Tybed hefyd a ydych chi'n rhoi sylw i'r Bil Aelod a godais yn y Senedd y tymor diwethaf, a oedd yn ceisio annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, ac a oes unrhyw gyfle i adolygu rhywfaint o'r gwaith a ddigwyddodd yn nhymor diwethaf y Senedd ar weithgareddau awyr agored i blant mewn ysgolion.
Diolch i'r Aelod am godi'r rheini, ac yn amlwg, roeddem yn Wrecsam gyda'n gilydd ddydd Sadwrn hefyd. Gobeithio y bydd yr amgueddfa honno nid yn unig yn ysbrydoli pobl i ymweld, ond yn ysbrydoli pobl i fod yn fwy egnïol, i gymryd rhan mewn chwaraeon. Rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud yn y maes hwn, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i weithio'n drawslywodraethol. Rwyf i a'r Dirprwy Weinidog dros iechyd y cyhoedd ac atal eisoes wedi cyfarfod. Byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd i weld sut y gallwn ymgorffori'r gwaith hwn, oherwydd nid yw'n digwydd fel y dylai ar hyn o bryd.
Buaswn yn hapus iawn hefyd i gyfarfod â'r Aelod i drafod sut y gallwn fwrw ymlaen â rhywfaint o'r gwaith, sut y mae hefyd yn bwydo i mewn i'n strategaeth newydd, o ran iechyd, ond hefyd gyda'r strategaeth ddiwylliant newydd, ac ymgorffori'r cyfleoedd hynny i bawb fod yn egnïol, i fynd allan i'r awyr agored, i allu cymryd rhan, a hynny am hwyl yn unig. Oherwydd ni fydd pawb yn cynrychioli Cymru ar y lefel elitaidd, er y gallai rhai ohonom freuddwydio am wneud hynny. Ond mae gallu cael hwyl hefyd yn allweddol. Felly, buaswn yn hapus iawn i barhau'r sgwrs honno gyda chi.
A'r cwestiwn olaf, Weinidog, Francesca O'Brien.
9. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei pherthynas ag Undeb Rygbi Cymru? OQ64445
Fel Gweinidog newydd, dwi wedi mynd ati i geisio perthynas adeiladol gydag Undeb Rygbi Cymru, yn barod i herio pan fo angen, yn barod i gydweithio hefyd, tra'n parchu ei annibyniaeth. Mi ydym ni'n ymgysylltu'n rheolaidd ynglŷn â blaenoriaethau a rennir a datblygu'r gêm, gan gynnwys cyfranogiad, cyfleusterau, datblygu ar lawr gwlad a digwyddiadau mawr.
Diolch, Drefnydd. Eleni, darparodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth grant o fwy na £400,000 ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn unig gan Chwaraeon Cymru i Undeb Rygbi Cymru, ynghyd â benthyciad o £18 miliwn a chyllid hanesyddol o bron i £5 miliwn dros y blynyddoedd. Mae hwnnw'n swm sylweddol o fuddsoddiad gan drethdalwyr yn rygbi Cymru, sy'n wych. O ystyried y raddfa honno o gefnogaeth, a all y Trefnydd gadarnhau a oes unrhyw amodau wedi'u gosod ar y cyllid hwnnw er mwyn diogelu dyfodol y Gweilch yn benodol, yn ogystal â dyfodol clybiau llawr gwlad ar draws Abertawe a Gŵyr, sy'n dibynnu ar dîm rhanbarthol cryf ar gyfer llwybrau i chwaraewyr, fel rydym wedi'i drafod mewn cwestiynau blaenorol, hyfforddiant a chwaraeon cymunedol? A oes unrhyw arian trethdalwyr wedi mynd i Undeb Rygbi Cymru heb unrhyw amodau ynghlwm wrtho, gan adael clybiau rygbi fy etholwyr heb unrhyw amddiffyniad os mai'r Gweilch fydd y rhanbarth a gaiff ei ddileu? Dywedaf hynny fel aelod o deulu sydd wedi colli chwaraewyr a chwaraeai i'r Gweilch ac maent wedi mynd dros y ffin, ac rydym yn colli'r genhedlaeth ifanc honno. Felly, rwy’n credu fy mod yn adleisio barn pawb ar ran Abertawe a Gŵyr, ond rwyf am wybod: a oes unrhyw amodau ynghlwm wrth y benthyciadau hynny? Diolch.
Wel, fel dwi wedi pwysleisio yn ystod y sesiwn hwn, mae'r rhain yn faterion annibynnol, a drwy Chwaraeon Cymru rydyn ni'n ariannu unrhyw gorff. Yn sicr, os oes gennych chi bryderon, mi fedraf i ofyn i Chwaraeon Cymru fod yn darparu rhagor o wybodaeth i chi. Dwi'n meddwl yr hyn sydd yn glir iawn o sesiwn heddiw ydy bod yna nifer o gwestiynau gan Aelodau ynglŷn ag Undeb Rygbi Cymru. Dwi'n awyddus iawn i gydweithio efo Aelodau ynglŷn ag unrhyw bryderon sydd gennych chi, a dwi'n hapus iawn i fod yn codi'r rhain yn uniongyrchol efo Undeb Rygbi Cymru. Pan oeddwn i'n llefarydd ar ran chwaraeon, mi oeddwn i'n ddigon parod i ofyn cwestiynau a herio hefyd, ac, fel Gweinidog, dwi'n barod iawn i wneud hynny.
Dwi'n falch iawn bod cymaint ohonoch chi yn pryderu am ddyfodol y gêm yng Nghymru gydag angerdd, ac, os cawn ni weithio gyda'n gilydd, yna dwi'n meddwl bod hwnna'n le da i ddechrau.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Symudwn ymlaen i eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Cwestiwn 1—Andrew R.T. Davies.
1. Pa wersi y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u dysgu ers methu â phasio'r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2026-27, a sut y bydd hyn yn llywio dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran cyllidebau yn y dyfodol? OQ64442
Mae gwersi i’r Llywodraeth a phleidiau gwleidyddol o'r bleidlais ar y gyllideb atodol. Mewn Senedd heb fwyafrif clir, mae cydweithrediad a phenderfyniadau cyfrifol yn hanfodol wrth inni edrych ymlaen at gyllidebau’r dyfodol. Mae’r Llywodraeth eisiau ymgysylltu’n adeiladol ar draws y Senedd i sicrhau bod cyllidebau’n gyfuniad, fel y’i gwelaf, o dair rhan: cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol, cyllid ar gyfer blaenoriaethau a ddygir i mewn i’r Llywodraeth gan Blaid Cymru, a chyllid ar gyfer blaenoriaethau eraill gan bleidiau gwleidyddol eraill.
Er mwyn llunio cyllideb gyfunol sy'n gallu sicrhau mwyafrif yn y Senedd, fy unig apêl ar draws y Siambr yw ein bod hefyd yn rhannu dealltwriaeth gyffredin o'r amlen ariannol sydd ar gael i ni. Yn 2027-28, rydym yn wynebu'r setliad cyllidebol mwyaf heriol y degawd hwn, gyda gostyngiad o tua 0.7 y cant mewn termau real mewn cyllid adnoddau, a gostyngiadau hyd yn oed yn fwy mewn cyllidebau cyfalaf. Mae'r amlen ariannol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf yn arbennig o dynn, a bydd angen disgyblaeth arbennig ar y Llywodraeth hon a phob un ohonom sydd am chwarae rhan adeiladol wrth basio cyllideb flynyddol Cymru.
Chwarae teg, mae hwnnw'n ateb teg, Weinidog cyllid, a diolch am roi cymaint o wybodaeth. Mae un peth yn hollbwysig: yr hyn a ddangoswyd yn y gyllideb ddrafft oedd nad oedd llawer o ddeialog ystyrlon gyda'r pleidiau gwleidyddol eraill, ac felly ni chafodd y gyllideb ei phasio. A allwch chi gadarnhau heddiw eich bod wedi dechrau'r trafodaethau hynny gyda'r pleidiau gwleidyddol, neu ai gyda grŵp dethol yn y Senedd hon yn unig rydych chi’n trafod? Rwy'n deall bod y trafodaethau'n gyfrinachol, ond rwy’n credu ei bod hi o fudd i’r cyhoedd ddeall yn union pa bleidiau y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda nhw, a pha rai na fyddwch chi'n gweithio gyda nhw.
Nid wyf yn siŵr a fyddaf bob amser yn croesawu cwestiwn gan Andrew R.T. Davies yn fy rôl fel Gweinidog Cabinet dros Gyllid, ond heddiw yn arbennig, roedd yn ddefnyddiol iawn gweld bod eich cwestiwn, a luniwyd yn y modd hwn, wedi gadael i mi amlinellu rhai o fy syniadau ynghylch sut y gwelaf drafodaethau cyllideb yn y dyfodol. Ac rydym yn awyddus, fel y dywedodd y Prif Weinidog, i drafod gyda'r holl bleidiau gwleidyddol. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith ein bod yn Llywodraeth leiafrifol. Os oedd y bleidlais honno ar y gyllideb atodol yn ddefnyddiol o gwbl, roedd yn ddefnyddiol am iddi ein hatgoffa ni fel Llywodraeth fod angen inni sicrhau mwyafrif er mwyn pasio unrhyw gyllideb yn y siambr hon.
Felly, rwy'n gofyn i’r holl Aelodau yma ystyried ein rolau mewn ffordd sy'n wahanol efallai i'r ffordd rydym wedi ystyried ein rolau a'n cyfranogiad mewn cyllidebau yn y gorffennol. Yn wir, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig fantais dros yr holl bleidiau gwleidyddol eraill yma. Bron nad chi yw’r blaid sy'n cynrychioli parhad yn y Senedd hon, oherwydd rydych chi'n blaid wrthblaid ac rydych chi wedi chwarae—[Torri ar draws]. Rydych chi’n blaid wrthblaid yn barhaus; nid wyf yn rhagfarnu'r dyfodol. Ond mae Reform yn blaid newydd yn y Senedd hon, mae Llafur yn blaid wrthblaid am y tro cyntaf ac mae Plaid Cymru yn blaid mewn Llywodraeth, ac mae rolau newydd i bob un ohonom eu chwarae yn hynny. Ond rwy'n gobeithio, wrth inni barhau â thrafodaethau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf—. Ac mae'r trafodaethau hynny'n digwydd, ac rwyf am symud yn gyflym nawr ac ystyried sut y gallwn gynnal y trafodaethau hynny ar draws y pleidiau gwleidyddol ac unigolion yn y Siambr hon i gyflwyno syniadau i bair mawr y gyllideb flynyddol. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny mewn ffordd fwy ystyrlon nag y gwnaethom ers yr etholiad cyn yr haf. Ac rwy'n credu bod honno'n her y mae'n rhaid i bob un ohonom ymateb iddi, a minnau’n arbennig, fel y Gweinidog cyllid.
Yn ystod proses y gyllideb atodol, roeddem ni yn Reform yn glir mai un o'n prif linellau coch oedd dileu ymrwymiadau gwariant rhyngwladol Cymru. Heddiw, mae'r Gweinidog cyllid wedi sôn am yr heriau sy'n wynebu'r gyllideb, a thros y penwythnos, wrth siarad â'r cyfryngau, dywedodd y gallai fod toriadau mewn rhai meysydd o'r gyllideb. Gan ei bod hi'n amlwg fod toriadau’n cael eu hystyried, a wnaiff y Gweinidog cyllid ymrwymo heddiw i dorri gwariant y Llywodraeth mewn gwledydd tramor cyn iddi ystyried torri gwariant yng Nghymru?
O ddifrif, nid oes gennyf unrhyw linellau coch ar ddechrau'r broses gyllidebol hon, o ran y gwaith rwy'n ei wneud yn y Llywodraeth a'r angen, fel y nodais yn fy natganiad cychwynnol, i'r Llywodraeth hon fod yn ddisgybledig yn y ffordd y mae ein Gweinidogion yn ystyried eu portffolios. Mae gostyngiad o 0.7 y cant yn y gyllideb mewn termau real yn her wirioneddol i'r Gweinidogion wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau portffolio. Felly, nid oes gennyf unrhyw linellau coch ar ddechrau’r trafodaethau ar draws pob maes cyllideb. Ond wrth gwrs, mae yna ymrwymiadau maniffesto a syniadau y mae'r blaid hon, Plaid Cymru, yn eu dwyn i mewn i Lywodraeth, ac rwy'n hyderus, wrth inni drafod gydag Aelodau a phleidiau ar draws y Siambr, y gallwn gael trafodaeth onest am yr hyn sy'n bosibl a beth yw ein blaenoriaethau cyffredin. Felly, dim llinellau coch, ond drws agored i drafodaethau.
Un o'r pethau mwyaf cyffredin a glywais ers cael fy ethol yw'r anawsterau y mae'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn eu hwynebu oherwydd cyllid tymor byr a chyllid un flwyddyn yn unig. Mae'n amlwg na fydd taflu arian at broblem yn datrys yr hyn sy’n ei hachosi, ac am amser hir, roedd yna deimlad mai felly roedd hi. Ar ôl 26 mlynedd o'r weinyddiaeth Lafur flaenorol, fel y gwyddom, mae un o bob tri o blant yn dal i fyw mewn tlodi, mae ein rhestrau aros ar eu lefel uchaf ac ychydig o newid ymddygiadol a fu o ran y cyfraddau sy’n cerdded a beicio, er gwaethaf hyrwyddo teithio llesol—mae’r rhain oll yn faterion rydym wedi'u hetifeddu gan Lafur. Felly, a yw'r Gweinidog Cabinet yn cytuno ei bod yn fwy tebygol y cyflawnir newid gwirioneddol a pharhaol drwy gyllid hirdymor a chynaliadwy, gyda chyfrifoldeb clir am ganlyniadau?
Ydw, rwy'n sicr yn cytuno, wrth edrych ar gyllidebau, fod angen inni edrych ar fwy na’r llinellau gwariant fel y cânt eu drafftio ar daenlen, a bod angen inni edrych yn iawn ar ble y gellir gwella ein canlyniadau, ac rydych chi wedi rhestru rhai o'r meysydd lle mae angen i ni, fel Cymru, wneud yn well, ac yn sicr, fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. Felly, mae edrych ar ganlyniadau, effeithiolrwydd a gwerth am arian i gyd yn mynd law yn llaw wrth i ni, fel Llywodraeth newydd, cyn inni greu a llunio ein cyllideb ein hunain, ystyried arbedion effeithlonrwydd o fewn y Llywodraeth a chanlyniadau yn y meysydd lle rydym am flaenoriaethu ein cyllid. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud fel proses gyllidebol, ond yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith ein bod wedi penodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros effeithiolrwydd a chanlyniadau gweithredu'r Llywodraeth. Ac mae'r newid parhaol y sonioch chi amdano yn galw am rywbeth sy'n fwy hyblyg ac ystyrlon na chyllidebau blynyddol—felly, ymrwymiad i ystyried cyllideb amlflwyddyn, ond o fewn fframwaith yr adolygiad o wariant o'r dyraniadau a wneir i ni fel Llywodraeth wrth gwrs. Mae edrych ar gyllideb amlflwyddyn yn rhywbeth rwy'n bwriadu ei gynnig fel rhan o'n prosesau cyllidebu yma.
Mike Hedges.
Diolch yn fawr am fy ngalw. Wyddwn i ddim fy mod i ar y rhestr ar gyfer hyn, ond—[Chwerthin.]—ni wnaiff hynny fy atal rhag gwneud sylwadau. Wrth inni edrych ar gyllidebau ac ar y sefyllfa bresennol, rwy'n credu mai mater o flaenoriaethau yw'r cyfan, onid e? Mae gennych chi a minnau flaenoriaethau gwahanol. Fy mlaenoriaeth i yw anghenion dysgu ychwanegol i blant. Eich blaenoriaeth chi yw cael awdurdod darlledu Cymreig. Mae gennych bob hawl i gael y blaenoriaethau gwahanol hynny, ond a ydych chi'n deall pam y mae gennym ni un wahanol?
Nid wyf yn credu bod gennym ni flaenoriaethau gwahanol, Mike; rwy'n credu ein bod ni'n rhannu'r flaenoriaeth o fod angen gwario mwy ar anghenion dysgu ychwanegol. Roeddem ni'n barod ac fe wnaethom ni bleidleisio o blaid hynny yn y gyllideb atodol. Nid wyf yn credu bod y rhain yn safbwyntiau sy'n gwrthdaro. Mae angen inni fynd i'r cyfeiriad hwnnw a gweithio ar sut y gallwn ni gytuno ar y ffordd ymlaen. Felly, gadewch inni beidio â'i wneud yn fater sy'n rhannu barn yn y cwestiwn cyntaf i mi ar ddechrau proses y gyllideb. Gadewch inni weld a allwn ni gydweithio ar hyn.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei galluoedd ariannol i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro? OQ64430
Mae cronfa buddsoddi twristiaeth Cymru, a mentrau eraill, yn buddsoddi bron i £60 miliwn yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau'n derbyn rhyddhad ardrethi annomestig neu byddant yn elwa o'r lluosydd is estynedig o 2027 ymlaen, fel y cyhoeddais i ddoe. Rŷn ni hefyd yn ymgynghori ar newidiadau posib i'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer eiddo hunanarlwyo.
Weinidog Cabinet, mae'r cyhoeddiad ddoe am ostyngiad o 30 y cant mewn ardrethi busnes i rai o'r lleoliadau lletygarwch a hamdden lleiaf yn bendant yn gam cadarnhaol i'w groesawu. Fodd bynnag, mae llawer mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro, gan gynnwys lleihau'r trothwy defnydd dinistriol o 182 diwrnod ar gyfer busnesau hunanddarpar. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn, ond mae'r ymgynghoriad yn nodi y bydd cyfyngiad ar raddau unrhyw ostyngiad yn y trothwy, gan ddadlau y gallai gostyngiad sylweddol yn y trothwy annog gorgyflenwad o eiddo hunanddarpar. Yng ngoleuni hyn, a allwch chi egluro beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn drothwy defnydd hyfyw isaf? Ac er tryloywder, a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi'r dystiolaeth sy'n sail i'r safbwynt hwnnw, fel y gall perchnogion busnes ddeall y paramedrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn yr ymgynghoriad pwysig hwn?
Wel, mae e wastad wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwnc trafod yn y Senedd yma, a chyda Plaid Cymru hefyd, lle mae'r pwynt yna lle mae'r cydbwysedd yn y farchnad dai yn gorwedd rhwng y stoc dai sydd ar gael i ni ar gyfer pobl i fyw ynddyn nhw, a hefyd y stoc dai sydd yna ar gyfer y sector twristiaeth a hunanarlwyo, ac mae cael y balans yna, fel nad yw un yn effeithio'n negyddol ar y llall, cael y balans yna yn gywir, yn bwysig. A dyna beth ŷn ni yn gobeithio ei gyflawni drwy ymgynghori ar hyn.
Dwi eisoes wedi trafod gyda rhai sy'n cynrychioli'r sector hunanarlwyo, sydd, yn amlwg iawn, yn credu bod y balans yn gorwedd yn is na'r 152 o ddiwrnodau yna sydd yn yr ymgynghoriad, ac rŷch chi hefyd, mae'n bosib, yn teimlo yr un fath. Dwi'n agored i gael y drafodaeth yna. Dwi'n synhwyro y bydd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn dangos bod y sector ei hun, a'r bobl sydd yn y sector, yn meddwl bod eisiau mynd yn ddyfnach na'r hyn sydd yn yr ymgynghoriad, ond fe fydd y Llywodraeth eisiau taro'r balans cywir. Dydyn ni ddim eisiau creu bwgan arall i ni ein hunain drwy osod y trothwy yma'n rhy isel. Ond rwyf i'n awyddus ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle mae'r gyfundrefn yma sydd yn effeithio ar ein sector tai ni, ond hefyd ar ein sector hunanarlwyo, ein sector twristiaeth ni, yn cyrraedd pwynt lle mae'n gallu bod yn ganlyniad parhaol wedyn i'r pwnc yma. Felly, dwi'n agored iawn i drafod gyda chi hefyd ynglŷn â sut y mae cael y canlyniad i'r ymgynghoriad yma i gyrraedd rhywle sydd yn rhywbeth sydd yn cynnal mwyafrif y gefnogaeth yn y lle yma.
Weinidog, pa gymorth ariannol fyddwch chi'n ei flaenoriaethu i ddenu ymwelwyr i Geredigion a sir Benfro y tu hwnt i fisoedd yr haf, fel y gall twristiaeth gynnal swyddi drwy gydol y flwyddyn a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc weithio'n lleol?
Mae economi twristiaeth drwy gydol y flwyddyn yn rhywbeth rwy'n bendant am ei weld, ar gyfer yr etholaeth y mae'r ddau ohonom yn ei chynrychioli, ond hefyd i Gymru yn gyffredinol. Rwy'n credu ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol ar hynny dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae mwy i'w wneud ar hynny o hyd. Mae gennym ein blaenoriaethau buddsoddi, ac mae edrych ar sut y gallwn ddenu twristiaid am gyfnod estynedig o'r flwyddyn yn rhan o'r meini prawf o ran y ffordd rydym yn buddsoddi yn hynny. Hefyd, mae angen inni wneud yn siŵr bod y system ardrethi busnes sydd gennym, ac agweddau eraill ar drethiant, hefyd yn sicrhau bod y busnesau hynny sy'n cefnogi'r sector lletygarwch yn gallu gweithredu drwy gydol y flwyddyn. Nid oes pwynt cael busnesau sydd ar agor am ran benodol o'r flwyddyn. Mae angen busnesau sydd ar agor drwy gydol flwyddyn, fel y gallant roi cyfle i dwristiaid elwa, ond hefyd, mae beth sydd o fudd i dwristiaid hefyd o fudd i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Felly, rwy'n arbennig o obeithiol fod yr arwydd cadarnhaol y gallodd y Llywodraeth ei roi ddoe i amrywiaeth mor eang o fusnesau sy'n cefnogi'r sector twristiaeth, o ostyngiad o 30 y cant mewn ardrethi busnes o fis Ebrill nesaf, yn arwydd cadarnhaol i'r sector twristiaeth yn gyffredinol fod y Llywodraeth hon yn ei gefnogi.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y penwythnos diwethaf, ar Politics Wales y BBC, fe ddywedoch chi eich bod wedi cael tipyn o sioc o weld y pwysau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru a realiti cyllideb Cymru pan ddaethoch i rôl y Gweinidog cyllid. Felly, Weinidog, beth yn benodol am gyflwr cyllid Cymru oedd yn syndod i chi ar ôl i chi ddechrau yn eich swydd?
Mae dwy elfen i hyn; rwyf wedi siarad am y ddwy, ddwywaith mewn gwirionedd, ar y rhaglen wleidyddiaeth. Un oedd yr heriau yn ystod y flwyddyn a etifeddodd Llywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb a osodwyd y llynedd ac a basiwyd y llynedd. Mae'r pwysau yn enwedig o fewn y GIG yn sylweddol, ac roedd yn llawer mwy na'r hyn y disgwyliwn iddo fod. Mae'n her o fewn y flwyddyn ariannol yr wyf yn ceisio'i rheoli wrth inni siarad. Ond hefyd, mewn byd lle mae'r pwysau chwyddiant—ac rydym wedi ei glywed eto heddiw—yn ein cymdeithas a'n heconomi ehangach yn golygu bod y gyllideb y flwyddyn nesaf, ar hyn o bryd, 0.7 y cant yn llai mewn termau real, mae hynny'n heriol iawn yng nghyd-destun y chwyddiant cyflogau yn ein gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Felly, roedd y rhain yn ddwy elfen a oedd yn arbennig o heriol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Nid wyf yn deall sut roedd hynny'n sioc pan ddaethoch yn Weinidog cyllid, oherwydd roedd eisoes yn hysbys y byddai gostyngiad, oni bai eich bod heb wneud eich ymchwil cyn dod yn Weinidog cyllid.
Beth bynnag, aeth Plaid Cymru i mewn i etholiad y Senedd gan ddweud bod eu maniffesto wedi ei gostio'n llawn. O ystyried y siociau hyn sydd gennych bellach, a allwch chi gadarnhau i ni na fyddai eich maniffesto wedi cael ei labelu fel un wedi ei gostio'n llawn pe bai gennych yr wybodaeth sydd gennych heddiw?
Roedd wedi ei gostio'n llawn, ond y gwaith y mae'n rhaid inni ei wneud fel Llywodraeth, ac rwyf wedi cyfeirio ato eisoes, yw'r ddisgyblaeth y mae'n rhaid i Weinidogion ei hwynebu nawr wrth ddyrannu o fewn eu blaenoriaethau sut y maent yn cyfuno'r blaenoriaethau y mae plaid lywodraethol yn eu dwyn i'r Llywodraeth gyda rhedeg gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.
Siaradais am dair elfen y gyllideb fel y'u gwelaf: rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol a sut rydym yn ariannu'r rheini yn y setliad cyllidebol a gawn fel Senedd a Llywodraeth; ac yna'r blaenoriaethau y mae Llywodraeth Plaid Cymru, fel y pleidleisiwyd drosti gan bobl Cymru, yn eu dwyn i mewn i hynny; yn ogystal wedyn, wrth gwrs, â'r gallu i bleidiau gwleidyddol eraill ddylanwadu ar y gyllideb honno fel trydedd elfen. Felly, rhoi hynny i gyd at ei gilydd mewn un pair cyfunol yw'r hyn rydym yn ei wneud wrth inni siarad. Byddai gwneud hynny ar adeg o fwy o hyblygrwydd ariannol wedi ei wneud yn waith haws a mwy adeiladol. Mae'n mynd i fod yn waith heriol. Fel y nodais heddiw, rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn barod am yr her honno fel Senedd gyda'n gilydd.
Diolch. Rydych chi wedi siarad am doriadau, ond nid trethi. Fodd bynnag, mae gweithredoedd yn golygu mwy na geiriau. O fis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno lluosydd ardrethi busnes uwch ar gyfer safleoedd mwy o faint. Ai dyma'r cyfeiriad y credwch y bydd y Llywodraeth hon yn mynd iddo wrth ymdrin â'r materion ariannol? A ydych chi'n ystyried codiadau treth eraill, gan gynnwys treth incwm?
Rwy'n derbyn bod y gofyn yn uwch i'r busnesau ar draws y portffolio ardrethi busnes sydd â'r gwerthoedd ardrethol uwch. Y peth na sonioch chi amdano yn eich cwestiwn oedd yr hyd at 20,000 o fusnesau a fydd yn elwa o drethi is o ganlyniad i'r cyhoeddiad ddoe a'r cymorth i safleoedd manwerthu yn ogystal. Rwy'n credu mai cynsail eich cwestiwn, fodd bynnag, yw bod hyn nid yn unig yn ymwneud â sut rydym yn dyrannu'r cyllid cyhoeddus sydd ar gael inni, ond sut rydym ni hefyd yn defnyddio ein system drethi i sicrhau, ie, ein bod yn ei defnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd trethiant yw'r hyn sy'n galluogi i wasanaethau cyhoeddus gael eu rhedeg, ond hefyd sut y cawn y cydbwysedd hwnnw'n iawn er mwyn cefnogi ein heconomi. Mae pob un ohonynt gyda'i gilydd, unwaith eto, yn rhan o'r ystyriaethau pan fydd angen inni feddwl ble i daro'r cydbwysedd hwn.
Llefarydd Llafur Cymru, Huw Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae arnaf i ofn fod Cai Parry-Jones wedi bod yn copïo fy ngwaith cartref i, achos roeddwn i hefyd yn mynd i'ch holi chi am eich sylwadau chi ar Politics Wales. Roedd hi'n syndod i fi hefyd glywed am y sioc roeddech chi'n ei theimlo o ran y pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu.
Mae Cai wedi cyfeirio at rai o'r sylwadau ynghylch y pwysau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb nesaf. Rhybuddiodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn yr ymgyrch etholiadol am y rhagolygon cyllidol hynod heriol oedd yn wynebu'r Llywodraeth nesaf, ac eto mae arweinydd eich plaid eich hun wedi sicrhau pleidleiswyr fod gan Blaid Cymru raglen lywodraethu wedi'i chostio'n llawn. Mae'n dechrau teimlo bellach fel pe bai'r rhain yn addewidion a wnaed heb baratoi ar gyfer y canlyniadau. Nid wyf am ailadrodd cwestiwn Cai, felly gadewch imi ofyn, felly: os yw'r Llywodraeth yn wynebu dewis rhwng ariannu ei haddewidion maniffesto neu wneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus a phrosiectau craidd, sut y bydd yn penderfynu?
Dwi'n meddwl bod y cwestiwn yna yn un gwirioneddol ddiddorol, ac yn wirioneddol yn gwestiwn sydd yn ein hwynebu ni fel Llywodraeth, sy'n Llywodraeth am y tro cyntaf. Rydym ni wedi etifeddu cyllidebau sydd wedi cael eu cynllunio gan bleidiau eraill a Llywodraethau o'n blaenau ni, er ein bod ni fel plaid hefyd wedi cefnogi agweddau o'r cyllidebau hynny. Mae'n wir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth a Gweinidogion y Llywodraeth yma yn edrych ar draws holl gyllidebau'r Llywodraeth ar hyn o bryd i weld beth sydd yn gweithio'n effeithiol, beth sydd angen ei newid, a lle mae toriadau. Gyda llaw, byddwch chi'n dod i wybod hyn, dwi ddim yn Weinidog cyllid sy'n ofni defnyddio'r gair 'toriadau'. Mewn rhai llefydd, mae toriadau yn beth da. Mewn llefydd eraill, dydyn nhw ddim. Ond dwi ddim yn mynd i osgoi defnyddio'r term.
Nid wyf am fod yn un o'r Gweinidogion hynny sy'n osgoi'r term 'toriadau' bob amser ac sy'n ceisio dweud 'arbedion effeithlonrwydd' neu ffyrdd eraill o'i ddisgrifio.
Felly, mae'r holl ffactorau hyn yn y pair, fel y'i gwelaf, ar hyn o bryd. Mae'r trosolwg hwnnw o gyllideb gyfan y Llywodraeth ar hyn o bryd yn broses ddisgybledig y mae'r Gweinidogion yn edrych arni, fel ein bod yn ail-flaenoriaethu gwariant yn nhermau rhai o'r blaenoriaethau y mae Plaid Cymru wedi'u dwyn i mewn i Lywodraeth, ond hefyd ein bod yn edrych i weld pa feysydd cyllideb sy'n cyflawni'n briodol y canlyniadau y soniodd Aelod arall amdanynt yn gynharach. Oherwydd mae'n rhaid inni edrych ar ble mae'r canlyniadau'n cael eu cyflawni orau, yn hytrach nag edrych yn unig ar benawdau llinellau cyllideb bob amser.
Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cyfaddef mai anaml y teimlir penderfyniadau a thoriadau cyllidebol anodd yn gyfartal. Yn aml, menywod, pobl anabl, cymunedau ethnig leiafrifol, plant a'r rhai sydd eisoes yn profi tlodi sy'n wynebu'r risg fwyaf pan gyfyngir ar wariant cyhoeddus. O dan y Llywodraeth Llafur Cymru flaenorol, roedd yna grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb, gan ddod â sefydliadau sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny i mewn yn uniongyrchol i'r broses o osod y gyllideb. Mae rhanddeiliaid cydraddoldeb bellach wedi dweud wrthym nad yw'r grŵp wedi cyfarfod o dan Lywodraeth Plaid Cymru ac nad ydynt wedi cael unrhyw sicrwydd ynghylch ei ddyfodol.
A wnewch chi ymrwymo, Weinidog, i ailsefydlu'r grŵp yma a chomitio i ymgysylltu ystyrlon â mudiadau cydraddoldeb wrth gynllunio'r gyllideb, ac nid i simply ymgynghori ar ôl i'r penderfyniadau mawr gael eu gwneud?
Dwi yn fodlon ymrwymo i edrych ar y mater yma. Dyw e ddim yn fater dwi'n hollol gyfarwydd ag e. Dwi yn gweld y gwerth sydd yna a dwi'n ymwybodol iawn bod fy nghyd-Weinidogion yn ymwybodol iawn bod impact unrhyw newidiadau cyllid angen cael eu hasesu ac angen mynd drwy'r lens yna rŷch chi'n sôn amdano. Dŷn ni ddim eisiau gweld taw'r bobl fwyaf difreintiedig neu anghenus fydd yn dioddef o unrhyw newidiadau i'r gyllideb. Felly, mae hwnna'n rhywbeth rŷn ni'n mynd i eisiau iddo fod yn ffactor allweddol yn sut rŷn ni'n gwneud yr asesiadau cyllidol yma. Ac felly, mi wnaf i edrych yn benodol ar y grŵp rŷch chi newydd sôn amdano i weld sut gallwn ni fod yn dwyn y drafodaeth yn ei blaen gyda'r arbenigwyr yna.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog Cabinet, sut rydych chi'n sicrhau nad yw arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu?
Wel, trwy wneud y gwaith a amlinellais yn gynharach. Rydym yn Llywodraeth newydd, mae gennym lens newydd, ac egni newydd, gobeithio, i fod eisiau gwneud y defnydd gorau o'r bunt Gymreig ac i wneud yn siŵr ein bod yn cael ein harwain gan ganlyniadau yn y ffordd y gwnawn ein penderfyniadau ariannol. Rwy'n cydnabod bod gennym gyfle arbennig i wneud hynny yn ein cyllideb flynyddol gyntaf, ac felly mae ysgogiad sylweddol gennyf i, a chan fy nghyd-Aelod yn y Cabinet ar effeithlonrwydd cyflawniad y Llywodraeth, i edrych ar sut rydym yn sicrhau bod y cyllidebau y byddwn yn eu rhoi gerbron y Senedd hon yn canolbwyntio cymaint ag y gallant ar ganlyniadau, ac fel y nodais eisoes, nad ydynt yn llinellau ar daenlen yn unig, ond eu bod yn ystyrlon o ran yr hyn y byddant yn ei gyflawni.
Wel, diolch am eich ymateb, Weinidog Cabinet. Yr wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni ddatganiad ysgrifenedig yn hysbysu'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ddileu £684,000 o rent heb ei dalu sy'n ddyledus gan P.V. France Limited, swm sylweddol o arian trethdalwyr. Efallai fod rhesymau penodol pam yr aeth y busnes hwnnw i drafferthion, ond yr hyn sy'n fy mhoeni i yw sut y caniatawyd i'r ddyled honno o bron i £700,000 gyrraedd lefel mor eithriadol o uchel yn y lle cyntaf. Deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i sawl cynllun talu, ond parhaodd yr ôl-ddyledion i gynyddu dro ar ôl tro. Yn y pen draw, aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr, cafodd ei ddiddymu, ac erbyn hyn mae'n debyg na ellir adennill yr arian hwnnw, bron i £700,000.
Ar adeg pan ddywedwyd wrthym fod y cyllid cyhoeddus yn anhygoel o dynn, ac rwy'n siŵr ei fod, sut y gall y Llywodraeth gyfiawnhau caniatáu i bron i £700,000 o arian trethdalwyr gael ei golli yn y modd hwn? Ac fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddal llinynnau'r pwrs, sut y byddwch chi'n atal hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol?
Wel, mae'n fy mhoeni innau hefyd fod y lefel honno o ddyled wedi cael ei gadael i gronni heb i'r Llywodraeth allu ei monitro mewn ffordd effeithiol, ac rwy'n ymwybodol o achosion yn y gorffennol, nid yr un hwn yn benodol, y gall hyn ddigwydd. Mae a wnelo Llywodraeth bob amser â buddsoddi'n briodol mewn datblygiad economaidd ac mewn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus. Weithiau, mae angen i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd mewn cyd-destun lle mae risg, ac mae angen i Weinidogion gydbwyso'r risg honno. Ond mae gwneud yn siŵr bod gennym y mesurau rheoli ariannol cywir ar waith mewn sefyllfa o risg neu beidio—. Mae angen inni wneud yn siŵr bod y mesurau rheoli ariannol hynny ar waith, oherwydd mae £700,000, fel y gallech chi ei ddisgrifio, neu y gallwn i ei ddisgrifio, yn arian a fyddai wedi cael ei wario'n well mewn mannau eraill.
3. A wnaiff y Gweinidog Cabinet nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran polisi cyllid llywodraeth leol yn ystod y Senedd hon? OQ64434
Diolch. O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r cyfrifoldeb am lywodraeth leol yn dod o dan fy nghydweithiwr, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Gan weithio gyda llywodraeth leol, rŷn ni wedi cyflawni ein hymrwymiad 100-diwrnod i gomisiynu adolygiad o fformiwla gyllido llywodraeth leol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog Cabinet. Yn sgil y cyhoeddiad fod Llywodraeth Cymru yn mynd i adolygu fformiwla ariannu llywodraeth leol, gwn eich bod chi a'r Gweinidog llywodraeth leol wedi cael llythyr gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac roedd yn dadlau'n gadarn na ddylai unrhyw adolygiad gael effaith niweidiol ar y cyngor hwnnw na'r trigolion a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Felly, Weinidog Cabinet, rwy'n ceisio sicrwydd tebyg heddiw na fydd unrhyw adolygiad yn effeithio'n negyddol ar gyngor Merthyr Tudful na Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yng ngoleuni'r heriau demograffig penodol y maent yn eu hwynebu, a hefyd y bydd pob cyngor yn cymryd rhan lawn yn y broses wrth iddi ddatblygu.
Gallaf yn sicr roi hyder llwyr i chi fod llywodraeth leol yn bartner allweddol yn y gwaith a wnawn ar yr adolygiad hwn trwy ei fecanweithiau presennol, fel ein bod yn edrych yn iawn ar bob agwedd ar y gwaith y mae angen ei wneud mewn adolygiad o'r natur hon. Ac mae hynny'n ystyried, ac mae angen iddo ystyried, y patrymau angen sydd gennym ledled ein cymunedau a hefyd y costau o ddarparu gwasanaethau ar draws cymunedau. Felly, mae'n waith ar y cyd. Rwy'n ei weld fel gwaith ar y cyd â llywodraeth leol. Rydym am fod, fel roeddech chi'n flaenorol, yn Llywodraeth mewn partneriaeth—gan weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Maent yn allweddol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid ydynt yn allweddol iddo, maent yn ei wneud—maent yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hariannu mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n bosibl i'r gwaith hwnnw ddigwydd mor effeithiol â phosibl ym mhob cymuned yng Nghymru.
Weinidog, mae anallu Plaid Cymru i basio'r gyllideb wedi achosi ansicrwydd i gynghorau. Mae angen cymaint o amser â phosibl ar awdurdodau lleol i gyllidebu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Dywedodd Archwilio Cymru fod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â grantiau cyfyngedig yn ei gwneud yn anodd i gynghorau gynllunio. Canfu Archwilio Cymru hefyd fod £1.5 biliwn wedi'i ddyrannu i gynghorau ym mis Mawrth 2025—mis olaf blwyddyn ariannol 2024-25. Mae hynny'n 20 y cant o gyfanswm blynyddol y grant cyllid hwn. Felly, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi mwy o sicrwydd i gynghorau wrth iddynt osod eu cyllidebau, yn hytrach na'i adael tan y funud olaf?
Rwy'n cytuno 100 y cant â'r angen inni allu cyflwyno cyllideb ac i basio cyllideb yn y lle hwn cyn gynted â phosibl er mwyn darparu'r diogelwch hwnnw a'r amser rhagarweiniol hwnnw ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau effeithiol gan awdurdodau lleol. Mae gennym gyllideb Llywodraeth y DU sy'n digwydd ddiwedd mis Hydref, ac rydym yn gobeithio gallu pasio cyllideb y Senedd ddechrau mis Ionawr neu fis Chwefror y flwyddyn nesaf. Nid wyf yn mynd i golli'r cyfle i ddweud mai'r ffordd orau o roi sicrwydd i awdurdodau lleol, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus, cyrff cyhoeddus, busnesau yng Nghymru, yw gallu dod o hyd i ffordd o sicrhau bod gan gyllideb yn y lle hwn fwyafrif i'w gwneud hi'n bosibl ei phasio. Yn y pen draw, bydd unrhyw beth sy'n llesteirio'r broses honno dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yn golygu na fydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu pasio eu cyllidebau eu hunain mewn pryd.
Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn. Mae'r llu o grantiau bach sy'n cael eu dyrannu i awdurdodau lleol o flwyddyn i flwyddyn yn creu heriau gwirioneddol o ran cynllunio ymlaen llaw. Trwy ddiwygio'r grant cynnal refeniw i'w wneud yn decach ac yn fwy tryloyw, gellid sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen. Nawr, dwi'n siŵr nad yw'r Gweinidog eisiau rhagdybio unrhyw adolygiad, ond ydy'r Gweinidog yn meddwl, drwy symleiddio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei hariannu, y gallai hynny wella'r sefyllfa bresennol?
Ie, dwi'n meddwl bod y pwyntiau yna'n sicr o werth i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw feddwl amboutu ariannu'r cynlluniau yna a'r gwasnaethau yna y maen nhw'n eu delifro. Ac felly, y lens yna rŷn ni'n moyn ei roi ar siẁd mae'r setliad ar gyfer llywodraeth leol yn gweithio'n fwy effeithiol, ond hefyd siẁd mae'r model o ariannu yn fwy cynhwysfawr yn gweithio hefyd.
Mae rhoi'r rhyddid yna i lywodraeth leol i fedru penderfynu ar eu blaenoriaethau nhw eu hunain yn bart o ddatganoli o fewn Cymru, wrth gwrs, ac felly, os ydyn ni'n gallu cyflawni yr hyn rŷn ni eisiau trwy rymuso llywodraeth leol i fod yn arwain ar siẁd mae datblygu a chyflenwi gwasanaethau yn eu hardaloedd nhw, yna, fel Llywodraeth, byddwn ni'n falch iawn i glywed am syniadau sy'n dod wrth lywodraeth leol, ac yn dod o'r Senedd yma, fel y gallwn ni sicrhau bod y pecyn mwyaf effeithiol o ariannu yn cyrraedd llywodraeth leol, achos, fel dwi wedi dweud eisoes, nhw sy'n delifro gwasanaethau, ac maen nhw angen yr arfau hynny a'r pwerau hynny i fedru gwneud hynny'n effeithiol.
4. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr y Cabinet i ddarparu cymorth ariannol i gominwyr a phobl eraill sydd wedi'u heffeithio gan y tanau gwyllt diweddar? OQ64453
Dwi'n ymwybodol o effeithiau helaeth y tanau gwyllt ar ffermwyr a commoners hefyd. Os yn briodol, byddwn yn caniatáu eithriadau i ofynion cynllunio er mwyn helpu ffermwyr sydd wedi eu heffeithio. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei roi hefyd i sut i gefnogi gwydnwch y sector yn wyneb pwysau sylweddol yr haf hwn.
Diolch yn fawr am hynny, Weinidog Cabinet. Mae'r cominwyr yr effeithiwyd arnynt yn fy etholaeth i eisoes wedi wynebu bron i £50,000 o gostau uniongyrchol ac enillion a gollwyd, ac mae angen £20,000 arall ar gyfer porthiant amgen, gydag amcangyfrifon ar gyfer gwaith adfer yn cyrraedd tua £89,000. Mae cyfanswm y costau bellach ymhell dros £100,000, gyda rhai ffermydd teuluol yn cwestiynu eu hyfywedd hirdymor. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at eich cyd-Aelod, y Gweinidog Cabinet dros wydnwch gwledig, i ofyn am fwy o gymorth. Ac fe ddaeth yn ôl a dweud fwy neu lai na fyddai unrhyw arian ychwanegol gan mai'r awgrym oedd y gallai defaid bori yn rhywle arall, ac nid wyf yn meddwl mai ei eiriau ef oedd y rheini, ond roedd rhywun wedi eu hysgrifennu ar ei ran. Ac rwy'n siŵr y bydd yn anghytuno â hynny. Roeddwn yn pryderu'n fawr am hynny, fel llawer o'r undebau ffermio. Fodd bynnag, mae angen ateb mwy hirdymor i'r materion hyn. Ac o ystyried maint y colledion hyn—ac ar draws Cymru—a'r realiti fod y digwyddiadau eithafol hyn yn debygol o ddigwydd yn amlach yn y dyfodol, a ydych chi, Weinidog Cabinet, yn cael trafodaethau gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â sefydlu cronfa argyfwng bwrpasol wedi'i chynllunio ar gyfer cynorthwyo busnesau ffermio i reoli argyfyngau tymor byr a heriau ariannol—nid cronfa untro, ond cronfa hirdymor?
Diolch am y cwestiwn atodol, ac rwy'n siŵr iddi fod yn haf ofnadwy i'r ffermwyr a'r cominwyr hynny yn eich ardal chi ac mewn mannau eraill yng Nghymru lle gwnaethant wynebu'r tanau hyn gyda chanlyniadau real iawn i'r ffordd yr oeddent yn ffermio ac yn ffermio da byw.
Rwyf wedi cael trafodaethau, ac maent yn parhau, gyda'r Gweinidog gwydnwch gwledig am oblygiadau ariannol y tanau uniongyrchol a hefyd haf mor anodd o ran cynaeafu a thyfu yr arweiniodd y sychder ato yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn parhau â'r trafodaethau hynny. Byddaf yn trafod y llythyr penodol hwnnw gydag ef hefyd.
Ond hefyd, ar y pwynt a wnewch am oblygiadau mwy hirdymor yr hyn a wynebwn fel gwlad, fel byd, o ran y gwahanol heriau sydd wedi taro i'r byw eleni, rwy'n credu, mewn ffordd, ein bod wedi gweld darnau ohono yn y gorffennol, dros y blynyddoedd diwethaf lle cawsom gyfnodau dwys o ganlyniadau gwres a thanau gwyllt, ond nid ydym erioed wedi ei weld mewn ffordd mor barhaus dros gyfnod mor hir o amser. Ac felly, mae hyn yn gofyn cwestiynau i'n cynllun ffermio cynaliadwy. Wrth gwrs, rydym wedi gwneud yr ymrwymiad ariannol hirdymor, amlflwyddyn, o £1 biliwn ar gyfer y cynllun hwnnw, ond mae angen inni edrych ar gynnwys y cynllun hwnnw wrth symud ymlaen, er mwyn goresgyn rhai o'r heriau a drafodwyd ddoe, mewn gwirionedd, yn y Senedd hon ynghylch sut rydym yn rheoli ein hucheldiroedd a'n hardaloedd mynyddig yn arbennig.
Weinidog, bythefnos yn ôl, mynychais y gynhadledd ar ddiogelwch amddiffyn a gwydnwch yng Nghasnewydd, rhywbeth a ddisgrifiwyd yn eithaf naïf gan wrthwynebwyr fel ffair arfau. Nid ffair arfau oedd hi. Roedd gwydnwch yn rhan allweddol iawn o'r digwyddiad, ac roedd rhai o'r trafodaethau rydym wedi'u cael yn cael lle amlwg yno o ran llifogydd a thanau gwyllt. Cyfeiriodd y Prif Weinidog ddoe at wydnwch sawl gwaith yn ei ddatganiad ynglŷn â'r tanau gwyllt, ac yn wir, mae gennym aelod o'r Cabinet sydd â'r gair hwnnw yn y disgrifiad. Felly, dyma fy nghwestiwn: pan fydd y digwyddiadau hyn yn digwydd yn y dyfodol, mae angen inni ymgorffori mwy o wydnwch yn ein dulliau o reoli tir—pethau fel strimynnau atal tân a phyllau dŵr, ac ati—a yw'r Gweinidog yn barod i siarad am effeithiau ariannol y cynllun ffermio cynaliadwy, yn enwedig, o ran ymgorffori yn y cynllun hwnnw sut y gallwn adeiladu mwy o wydnwch i mewn i'n system fel y gallwn atal cyrhaeddiad y tanau hyn yn y dyfodol?
Rwy'n cytuno, ac rwy'n siŵr bod yr haf hwn wedi dangos i'r Gweinidog, lawn cymaint ag y mae wedi ei wneud i ffermwyr, sut rydym yn rheoli tir. Roedd ffermwyr yn gwybod hyn eisoes, gyda llaw. Roeddent yn dweud wrth Weinidogion dros y blynyddoedd sut y mae rhai o'r newidiadau i gynlluniau cymorth yn cael effaith ar ein hucheldiroedd. Ond mae eleni wedi amlygu sut y mae perthynas uniongyrchol iawn â'r ffordd rydym yn ffermio ein hucheldiroedd a beth sy'n digwydd yn yr ucheldiroedd hynny, o ran bywyd gwyllt ac adfywio bywyd gwyllt, ond hefyd y ffordd y rheolwn yr ucheldiroedd er mwyn atal llifogydd i lawr yr afon a hefyd i sicrhau bod gennym fesurau digonol ar gyfer cyfyngu ar danau gwyllt yn y cyfnodau o wres gormodol a gawn.
Rydym yn wynebu, ac mae'n debygol y bydd yn rhaid inni gynllunio i'r digwyddiadau hyn ddod yn ddigwyddiadau blynyddol o bosibl. Rydym yn gwybod bod ein hinsawdd yn newid, ac mae angen i ni fel Llywodraeth ac fel Senedd gyfaddef hynny a rhoi'r mesurau sydd eu hangen arnom ar waith er mwyn gwneud Cymru'n wydn i natur y newid hinsawdd a welwn yn ein cymdeithas.
Weinidog, fel gwnes i sôn wrth y Prif Weinidog ddoe, fe wnaeth y tân dinistriol yn Pantside ddangos yn glir iawn sut mae'r perygl o danau wedi newid. Cafodd cartrefi yn fanno eu dinistrio ac, a dweud y gwir, roeddem ni'n lwcus iawn bod neb wedi colli eu bywydau. Mae'r diffoddwyr tân dwi wedi siarad efo nhw trwy'r Fire Brigades Union yn glir bod y digwyddiadau hyn yn cynyddu o ran maint, cymhlethdod a'r adnoddau sydd eu hangen i ymateb iddyn nhw. Felly, ochr yn ochr â chymorth i'r commoners ac i'r ffermwyr sydd wedi dioddef colledion, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o oblygiadau ariannol ehangach tanau yr haf yma?
Diolch am y cwestiwn a diolch am ein hatgoffa ni o'r golygfeydd ofnadwy yna welon ni yn Pantside yn eich ardal chi, gyda'r tanau yna yn y gymuned yna yn dangos bod eiddo a thai hefyd mewn peryg mewn sefyllfaoedd o’r math yma. Mae’r Gweinidog llywodraeth leol eisoes wedi cytuno i agor yr emergency financial assistance scheme. Felly, mae hwnna ar gael ar gyfer yr awdurdodau lleol a’r awdurdodau tân i asesu maint y gwariant ychwanegol yr oedden nhw wedi gorfod ei wynebu yn ystod yr haf yma, a sut y gallan nhw, os oes angen, ddefnyddio’r cynllun yna. Rŷn ni’n derbyn bod y gwaith maen nhw wedi'i wneud fel diffoddwyr tân, fel awdurdodau lleol, fel cymunedau lleol, yn arbennig o bwysig yn ein cymdeithas ni, ac rŷn ni'n ddiolchgar am y gwaith yna yn ystod yr haf. Felly, rŷn ni'n barod i edrych gyda'r awdurdodau perthnasol ar sut mae'n bosib ariannu unrhyw arian sydd ei angen arnyn nhw. Byddwn ni'n cydweithio gyda nhw ar hynny.
Dwi'n ymwybodol iawn o'r amser, a hoffwn i gyrraedd o leiaf hanner ffordd lawr y rhestr. Felly, byddaf i'n methu â chymryd cwestiynau atodol. Cwestiwn 5, Anna Nicholl.
5. Pa waith y mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i ddiwygio ardrethi busnes ar gyfer busnesau lletygarwch? OQ64459
Ddoe, roeddwn i'n falch iawn i gyhoeddi cymorth ardrethi annomestig newydd i fusnesau lletygarwch a hamdden, sydd wrth galon ein huchelgais i adfywio canol trefi. O 1 Ebrill 2027 ymlaen, bydd busnesau cymwys yn elwa ar ostyngiad parhaol o 30 y cant yn eu biliau ardrethi.
Diolch. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Cabinet y bydd toriad o 30 y cant i ardrethi busnes yn cael ei gyflwyno ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden. Bydd hyn yn rhaff achub hanfodol i fusnesau lletygarwch a hamdden bach ac mae'r newyddion eisoes wedi'i groesawu gan fusnesau yng Ngheredigion Penfro. Mae'r busnesau bach hyn yn chwarae rolau hanfodol yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol, gan ddiogelu swyddi lleol, cryfhau economïau lleol ac adeiladu ffyniant parhaol. Rwy'n falch o weld bod y cyhoeddiad hwn yn ymestyn y tu hwnt i dafarndai, clybiau a lleoliadau cerddoriaeth fyw yn unig, fel sy'n digwydd yn Lloegr, i gefnogi busnesau llety ymwelwyr a hamdden fel gwestai, sinemâu, theatrau, amgueddfeydd a champfeydd. Gyda hyn mewn golwg, a all y Gweinidog egluro beth y mae'n ei ragweld nawr fydd effaith ymarferol y mesurau hyn ar drefi a strydoedd mawr ledled Cymru, yn ogystal ag yn ein hetholaeth ni yng Ngheredigion Penfro?
Diolch. Ces i gic gan y Dirprwy Lywydd, dwi'n meddwl, i gadw fy atebion i'n fyrrach. Felly, fe wnaf i ymdrechu i wneud hynny. Ni wnaf i ddim ail-ddweud dim gwnes i ei ddweud ddoe yn Senedd, pan oeddem ni'n trafod y gostyngiad treth yma o 30 y cant. Dwi'n gobeithio ei fod e'n cyflawni dau beth. Dwi'n gobeithio ei fod e'n gwneud gwahaniaeth realistig i'r busnesau yma a fydd yn elwa o hyn, ac y byddan nhw yn teimlo ei fod e'n eu galluogi nhw i gynllunio'n well ar gyfer y dyfodol oherwydd bod hyn yn barhaol. Ond hefyd gobeithio ei fod e'n cyflawni neges o gefnogaeth oddi wrth y Llywodraeth yma, a'r Senedd yma os bydd pawb yn cytuno i'r rheoliadau, ein bod ni o ddifri yn moyn gweld y sector yma yn cael ei chefnogi ac yn elwa ac yn datblygu yn y cymunedau yna ar draws Cymru sy'n mynd i elwa—nid dim ond y rhai arfordirol yn eich etholaeth chi a fi, ond hefyd y canol trefi yna, y swbwrbia yna hefyd, yn ein dinasoedd ni ac yn ein cymunedau ôl-lofaol ni.
Cwestiwn 6, Iain McIntosh.
Rwy'n sylweddoli bod y cwestiwn hwn yn debyg i gwestiwn arall ar yr olwg gyntaf, ond mae ychydig yn wahanol.
6. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol? OQ64463
O fewn Llywodraeth Cymru, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio sy'n uniongyrchol gyfrifol am lywodraeth leol, ond rŷn ni'n ymwybodol ar draws y Llywodraeth o'r pwysau ariannol ar gynghorau sir wrth iddynt ddelifro gwasanaethau cyhoeddus pwysig.
Diolch. Weinidog Cabinet, mae cynghorau ledled Cymru ar ben eu tennyn. Mae codiadau yn y dreth gyngor eleni eisoes wedi ychwanegu oddeutu £104 ar gyfartaledd at filiau band D ym Mhowys, Castell-nedd Port Talbot, ac yn wir, yn Abertawe, ond mae pobl yn dal i dalu mwy tra bo ffyrdd yn malu a gwasanaethau rheng flaen yn diflannu hefyd. A nawr, rydym yn colli ein hysgolion cynradd. Mae ysgol gynradd Cradoc, er enghraifft, mewn pentref cyfagos i mi, eisoes wedi cau. Pan fydd ysgol gynradd yn cau, mae'n rhwygo calon ein cymunedau. Ac yn amlwg, o dan y Llywodraeth Plaid Cymru hon, bydd rhagor o ysgolion yn cau hefyd. Fy mhrif gwestiwn yw hwn: a chithau bellach wedi comisiynu adolygiad o'r fformiwla gyllido, gan gynnwys gwledigrwydd a theneurwydd poblogaeth, a wnewch chi gyfaddef nawr fod y system bresennol yn methu, ac a wnewch chi warantu cyllid tecach, fel na fydd trethdalwyr yn gorfod talu mwy am lai o hyd ac o hyd, tra bo'n cymunedau'n colli eu gwasanaethau a mwy o blant yn colli eu hysgolion cynradd hefyd? Diolch.
Rwy'n cynrychioli cymuned wledig, ac rwyf wedi gwneud hynny dros y blynyddoedd, felly rwy'n ymwybodol fod llawer o ffactorau i'w hystyried wrth lunio a phenderfynu ar ddyfodol ysgolion gwledig. Nid oes a wnelo hyn ag argaeledd cyllid cyhoeddus yn unig. Mae cymunedau gwledig ac agweddau o fewn y cymunedau gwledig hynny yn her, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl am y diboblogi, yn enwedig ein poblogaeth iau, o lawer o'n cymunedau gwledig. Mae'r ffordd yr edrychwn ar draws y Llywodraeth ar sut y gallwn gefnogi hynny, nid yn unig o ran arian, ond o ran sut rydym yn llunio cymorth, tai a chyfleoedd economaidd ar gyfer ein hardaloedd gwledig, yn bwysig.
Y gwaith pwysig y mae'r Llywodraeth hon wedi'i ddechrau, fodd bynnag, yw sut rydym yn llunio fformiwla llywodraeth leol sy'n diwallu cymhlethdod anghenion ein hawdurdodau lleol. Fe wnaethoch chi nodi dau ohonynt, yn gywir ddigon, sef gwledigrwydd a theneurwydd poblogaeth ac anhawster a natur ddrud darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig a phrin eu poblogaeth. Cyfeiriwyd yn gynharach at flaenoriaethau eraill hefyd o ran amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Sicrhau ein bod yn taro gwell cydbwysedd o ran y ffordd y gallwn ddarparu gwasanaethau'n effeithiol i'n holl gymunedau yng Nghymru yw'r daith y mae'r Llywodraeth hon wedi cychwyn arni gyda'r gwaith hwn, a gobeithio y gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn hynny.
A'r cwestiwn olaf i chi, Weinidog, yw cwestiwn 7, Mike Hedges.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer Llywodraeth Cymru? OQ64438
Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru yn dal i fod yn hynod heriol. Mae disgwyl i’r cyllid adnoddau ostwng 0.7 y cant mewn termau real yn 2027-28 a bydd cyllidebau cyfalaf yn gostwng dros y tair blynedd nesaf, o’i gyferbynnu â'r twf cyfartalog o 3.5 y cant y flwyddyn mewn termau real a welwyd ddechrau'r degawd.
Mae bob tro'n ddiddorol pan fyddwch chi'n penderfynu ble rydych chi am ddechrau rhywbeth, oherwydd pe byddech chi wedi dechrau yn 2011, byddech wedi gweld ffigur hollol wahanol. Ond gadewch inni beidio â dadlau ynglŷn â hynny. Er bod pob sefydliad yn credu bod angen mwy o arian arno, mae tegwch yn bwysig. Yr hyn a wyddom, mewn meysydd datganoledig, yw bod Cymru’n cael 20 y cant yn fwy na Lloegr am yr un gwasanaeth. Cyfrifodd comisiwn dan arweiniad Gerry Holtham fod angen 15 y cant yn fwy ar Gymru na Lloegr am yr un gwasanaeth. Mae gan Gymru lawr Barnett wedi'i osod ar y lefel honno o 15 y cant. Pa dystiolaeth sydd gan y Gweinidog fod comisiwn Holtham yn anghywir?
Nid wyf yn honni bod comisiwn Holtham yn anghywir. Nid wyf yn anghytuno â'r pwynt a wnaethoch ar y dechrau, sef lle bynnag y byddwch yn dechrau eich dadansoddiad o unrhyw ddata, gallwch asesu hynny. Rwy'n ceisio meddwl sut rydym yn meddwl am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus nawr yn y cyfnod ar ôl COVID. Dyna pam fy mod yn nodi'r degawd hwn yn unig. Ond roeddech chi a minnau yn rhan o Seneddau yn y gorffennol lle roedd blynyddoedd cyni cyllid cyhoeddus yng Nghymru, o dan drefn wleidyddol wahanol ar lefel y DU, yn arbennig o anodd bryd hynny hefyd. Felly, nid wyf yn gosod un cyfnod anodd yn erbyn y llall. Rydym wedi wynebu llawer ohonynt yn y lle hwn. Rwy'n mynd yn ôl yn ddigon hir i gofio cyfnod o ddigonedd hefyd yn y lle hwn, ond roedd hynny mewn degawd arall, mewn canrif arall bron â bod.
Ar y pwynt a wnewch, fodd bynnag, ynglŷn â'r angen i asesu'n iawn nawr ble rydym arni o ran cydraddoldeb cyllidol a diwallu anghenion economaidd a chymdeithasol Cymru drwy fformiwla Barnett fel y mae ar hyn o bryd, ein barn ni fel Llywodraeth yw bod angen adolygu fformiwla Barnett. Fy marn uniongyrchol ar hynny—ac mae'n rhywbeth a rannais gyda'r Gweinidog cyllid blaenorol—yw bod angen cryfhau agweddau gweithredol fformiwla Barnett yn arbennig. Felly, mae angen mwy o dryloywder arnom ar fformiwla Barnett fel y mae'n bodoli, yn ogystal â goruchwyliaeth annibynnol ar fformiwla Barnett, fel na fydd yn rhaid i ni byth eto ddelio â'r fath ffiasgo ag a welwyd yn sgil y penderfyniad ar HS2 a sut y mae hynny wedi ein tanariannu fel gwlad. Ac ar hynny, os nad ar unrhyw fater arall, rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom fod yn gytûn.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog.
Symudwn ymlaen, felly, i'r datganiadau 90 eiliad. Kiera Marshall.
Diolch. Hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod yn edrych ymlaen at ddod yn un o ymddiriedolwyr Stafell Fyw yn y dyfodol agos.
Ar 11 Medi eleni, dathlodd Stafell Fyw yng Nghaerdydd 15 mlynedd o drawsnewid bywydau pobl. Fe'i sefydlwyd gan Wynford Ellis Owen gyda chefnogaeth Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, sydd bellach yn nodi 55 mlynedd o wasanaeth. Ers y dechrau, mae'r ganolfan wedi cynnig gobaith i bobl sy'n byw gyda dibyniaeth ac ymddygiadau niweidiol, yn ogystal â chefnogi eu teuluoedd a'u cymuned leol.
Drwy gwnsela, grwpiau therapiwtig, cefnogaeth gan gymheiriaid ac addysg, mae miloedd o bobl wedi cael cyfle i ailadeiladu eu bywydau. Mae Stafell Fyw yn dangos bod adferiad yn bosibl pan gaiff pobl eu trin ag urddas, tosturi a pharch. Mae hefyd yn tynnu sylw at werth buddsoddi yn ein gwasanaethau cymunedol, gan atal problemau rhag gwaethygu a lleihau pwysau ar ein gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol.
Wrth inni nodi'r garreg filltir hon, hoffwn ddiolch i'r staff, y gwirfoddolwyr, yr ymddiriedolwyr a phawb sydd wedi cyfrannu at waith Stafell Fyw dros y 15 mlynedd diwethaf. Yn anad dim, hoffwn dalu teyrnged i'r unigolion mewn adferiad sy'n ein hatgoffa bob dydd fod newid yn bosibl a bod gobaith yn gryfach na dibyniaeth.
Ddydd Sadwrn, roeddwn yn falch o fynychu lansiad swyddogol Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam. Fel aelod dros Fflint Wrecsam, roedd yn bleser bod yn rhan o achlysur mor bwysig i'r ardal ac ymuno â chyd-Aelodau i wylio'r Gweinidog Cabinet yn torri'r rhuban ar yr amgueddfa.
Roedd y lansiad yn gyfle gwych i ddathlu treftadaeth Wrecsam a hanes pêl-droed Cymru, ac i weld yr orielau newydd a'r straeon sydd ganddynt i'w hadrodd. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom yn cytuno bod pêl-droed yn rhan mor bwysig o gymunedau ledled Cymru. Daw â phobl ynghyd, a'u gwahanu weithiau, ond mae'n creu cyfleoedd a rennir ac mae'n rhan enfawr o'n hunaniaeth genedlaethol. Mae Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn gyfle gwych i ddiogelu'r hanes hwnnw a'i rannu â chenedlaethau'r dyfodol.
Mae Amgueddfa Wrecsam hefyd yn chwarae rhan bwysig yn dathlu'r ddinas, ei phobl a'i threftadaeth. Roeddwn yn arbennig o falch o gyfarfod â'r rhai a fu'n rhan o'r gwaith o wireddu'r amgueddfeydd hyn ac o weld y balchder a'r brwdfrydedd ynghylch y lansiad. Mae gan yr amgueddfeydd hyn botensial enfawr i ddenu ymwelwyr, cefnogi'r economi leol ac arddangos Wrecsam i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n cydnabod y potensial hwnnw ac yn parhau i weithio gyda'r ddwy amgueddfa a'u cefnogi wrth iddynt ymsefydlu a thyfu. Maent yn asedau diwylliannol pwysig i Wrecsam ac i Gymru ac yn haeddu pob cyfle i lwyddo.
Hoffwn dalu teyrnged i waith yr RSPCA yn ystod tywydd poeth yr haf a'r gwaith a wnânt i ddiogelu ein hanifeiliaid a'n hanifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn. Gall fod yn anodd iawn i gŵn mewn tywydd poeth, am eu bod yn oeri eu hunain drwy anadlu'n bennaf, nid drwy chwysu fel pobl. Golyga hynny y gall hyd yn oed diwrnod cynnes fod yn beryglus, yn enwedig i fridiau wynebau gwastad fel pygiaid a chŵn tarw, cŵn hŷn, cŵn dros bwysau a chŵn â phroblemau calon neu anadlu.
Dylai perchnogion bob amser sicrhau bod gan gŵn ddŵr ffres, cysgod a lle oer i orffwys dan do neu yn yr awyr agored. Dylid mynd â nhw am dro yn gynnar yn y bore neu gyda'r hwyr pan fydd y tir a'r awyr yn oerach. Gall palmentydd poeth ac asffalt losgi pawennau'n gyflym, felly mae'n ddoeth profi'r wyneb cyn mynd allan. Ni ddylid byth adael cŵn mewn car wedi'i barcio, ystafell haul neu le poeth caeedig arall, hyd yn oed am ychydig funudau, gan y gall tymereddau godi i lefelau angheuol yn gyflym iawn. Gall torri cotiau helpu yn yr haf hefyd, ond ni ddylid eillio cŵn fel arfer heb gyngor milfeddygol, gan y gall eu cotiau eu diogelu rhag yr haul a gorboethi.
Mae hefyd yn bwysig gwybod beth yw arwyddion trawiad gwres: anadlu'n drwm, glafoerio, gwendid, chwydu, dryswch a chwympo, sydd oll yn rhybuddion sy'n galw am sylw milfeddygol brys. Os ydych chi'n tybio bod ci'n gorboethi, symudwch ef i ardal oerach, cynigiwch ddŵr iddo, a chysylltwch â milfeddyg ar unwaith. Mae’r RSPCA yng Nghymru yn haeddu canmoliaeth am hyrwyddo cyngor ymarferol a thosturiol ar les cŵn yn ystod tywydd poeth. Mae eu canllawiau’n glir, yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar atal, gan gynorthwyo perchnogion i ddeall camau syml sy’n achub bywydau. Drwy godi ymwybyddiaeth am drawiad gwres, ceir poeth a gofal diogel yn yr haf, mae’r RSPCA yn parhau i chwarae rhan bwysig yn diogelu cŵn ledled Cymru.
Roedd Syr Billy Boston, a fu farw fis diwethaf yn 92 oed, yn un o'r chwaraewyr rygbi'r gynghrair gorau erioed, yn ysbrydoliaeth o Butetown yng Nghaerdydd, ac rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan eisiau rhannu ein cydymdeimlad â'i deulu.
Wedi'i eni ar Stryd Angelina, dafliad carreg o'r adeilad hwn, chwaraeodd rygbi gyntaf i Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd, ac mae'n wych gweld y CIACs yn dal i fynd hyd heddiw. Breuddwydiodd Billy am gynrychioli Caerdydd a Chymru drwy rygbi'r undeb, ond er gwaethaf ei dalent, cafodd ei anwybyddu gan glwb ei ddinas enedigol a'i genedl. Fel y dywedodd fy rhagflaenydd Vaughan Gething,
'Mae'n anodd credu mai methiant y system sgowtio'n unig oedd yn gyfrifol am hyn, a dim i'w wneud â lliw ei groen.'
Ar ôl cael ei weld yn chwarae yn ystod ei wasanaeth milwrol, ymunodd â chlwb rygbi'r gynghrair Wigan, lle daeth yn arwr ym myd chwaraeon. Sicrhaodd ei gyflawniadau nodedig i Wigan, Prydain a'r gêm ei hun ei le ymhlith goreuon rygbi'r gynghrair. Y llynedd, ef oedd y chwaraewr rygbi'r gynghrair cyntaf i gael ei urddo'n farchog. Yr wythnos diwethaf, ailenwyd y sgwâr canolog yn Wigan er anrhydedd iddo.
Roeddwn yn hynod falch o weithio gydag aelodau o gymuned Butetown, unigolion o'r byd chwaraeon a phobl fusnes leol i sicrhau teyrnged barhaol i Billy a’r torwyr cod eraill o Gaerdydd yn y cerflun a ddadorchuddiwyd ym Mae Caerdydd. Roeddem yn arbennig o falch ein bod wedi gallu cyflawni hynny yn ystod oes Billy a’i gael yno gyda ni wrth inni ddadorchuddio’r cerflun iddo ef, Clive Sullivan a Gus Risman, teyrnged addas i bopeth a gyflawnodd y torwyr cod a phopeth y gwnaethant ei oresgyn. Gorffwysed mewn hedd, Syr Billy Boston.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
Symudwn nawr at eitem 5 ar yr agenda, dadl Reform UK: gangiau grŵmio. Cyn inni ddechrau'r ddadl, hoffwn atgoffa'r holl Aelodau o'r darpariaethau sub judice yn Rheol Sefydlog 13.15. Ni ddylai Aelodau gyfeirio at achos gweithredol sydd eto i'w glywed neu sy'n cael ei glywed gerbron llys troseddol neu reithgor. Mae hyn yn cynnwys dyfalu ynghylch euogrwydd neu ddieuogrwydd unrhyw grŵp neu unrhyw unigolyn. Nawr, mae'n gwbl bosibl trafod y materion ehangach a godir gan y cynnig ger ein bron heddiw, ond mae'n rhaid i'r Aelodau osgoi sylwadau neu ddyfalu a allai fod yn niweidiol mewn unrhyw achosion troseddol yn y dyfodol. Yn ogystal, mae Rheol Sefydlog 13.16 yn ei gwneud yn ofynnol na ddylai Aelodau feirniadu ymddygiad barnwyr na'r llysoedd wrth gyflawni eu swydd farnwrol. Diolch am eich amynedd wrth imi eich atgoffa o'r Rheolau Sefydlog hynny. Galwaf ar Paul Marr nawr i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9293 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Cristiana Emsley, Helen Jenner, John Clark
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau am droseddau sy'n ymwneud â chamfanteisio'n rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru.
2. Yn credu bod pawb sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru yn haeddu cyfiawnder.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei hymchwilio cyn gynted â phosibl fel rhan o'r Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig heddiw a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Llŷr Powell, Reform UK. Aelodau'r Siambr, dair blynedd yn ôl i heddiw, cafodd fy merch ei dal yn erbyn ei hewyllys a'i threisio. Rwy'n dweud hyn gyda'i chaniatâd; nid wyf am roi'r manylion. Rwy'n dweud hyn oherwydd mewn dadleuon fel hyn, mae dioddefwyr yn aml yn cael eu trafod fel categori, ffigur a strategaeth. Fy mhlentyn yw hi. Gadewch imi fod yn glir, nid gang grŵmio wnaeth hyn, ond un dyn, a gadewch imi roi'r canlyniad yn gyntaf, gan ei fod yn bwysig. Mae'n bwrw dedfryd o 14 mlynedd. Cafodd fy merch ei chredu.
Ond cymerodd ormod lawer o amser, yr archwiliadau, y datganiadau, y newid personél, yr aros am newyddion a'r ansicrwydd pan nad oedd dim i'w weld yn digwydd. Fe ddaliodd hi ati. Ni ddylai unrhyw beth fychanu'r hyn y gofynnai hyn amdano. Mae euogfarn yn bwysig iawn, ond nid yw'n dileu'r hyn a ddaeth o'i blaen na'r angen am gefnogaeth. Dyna fy mhersbectif i wrth siarad yma heddiw.
Nawr, ystyriwch hynny ochr yn ochr â'r hyn y mae ymchwiliadau wedi'i ddarganfod am blant sy'n dioddef camfanteisio rhywiol trefnedig. Plant na chânt eu credu, plant a gaiff eu beio, oedolion yn disgrifio cam-drin fel pe bai'n ddewis a wnaed gan y plentyn. Nid wyf yn dweud bod profiad fy merch yr un fath â'u profiad nhw. Rwy'n gofyn i'r Aelodau ystyried beth sy'n digwydd pan fydd dioddefwr yn wynebu'r rhwystrau hynny heb rywun wrth eu hochr yn mynnu eu bod yn bwysig.
Nid oes angen inni chwilio y tu hwnt i Gymru am dystiolaeth. Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol ei ymchwiliad i gamfanteisio gan rwydweithiau trefnedig. Roedd Abertawe yn un o'r chwe ardal a archwiliwyd. Canfu nad oedd yr heddlu na'r cyngor yn deall yn iawn faint o blant oedd yn dioddef neu'n wynebu risg o ddioddef camfanteisio rhywiol. Roedd Heddlu De Cymru wedi dweud wrth yr ymchwiliad nad oedd unrhyw ddata yn awgrymu bod rhwydweithiau trefnedig yn camfanteisio. Canfu'r ymchwiliad enghreifftiau y dylid bod wedi'u nodi. Mae hefyd yn disgrifio tramgwyddwr a oedd yn wynebu honiadau blaenorol tebyg, achos a gaewyd heb esboniad wedi'i gofnodi, dim i nodi bod camfanteisio wedi digwydd a dim cais am orchymyn risg rhywiol, er bod y dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn dramgwyddwr tebygol. Dinas yng Nghymru, ymchwiliad cenedlaethol bedair blynedd yn ôl. Dylai'r Aelodau ofyn beth a newidiodd ar ôl y canfyddiadau hynny, pwy wnaeth archwilio i weld a yw plant yn fwy diogel o ganlyniad, gan mai dim ond dechrau atebolrwydd yw cyhoeddi canfyddiad.
Roedd gan fy merch deulu a fyddai wedi gwneud unrhyw beth drosti. Am amser hir, ni ofynnodd i ni; roedd hi'n teimlo cywilydd. Roedd y cywilydd yn perthyn yn gyfan gwbl i'r dyn a'i niweidiodd, ond nid yw gwybod hynny fel rhiant yn golygu y gallwch wneud i'ch plentyn deimlo hynny hefyd. Mae camdrinwyr yn defnyddio cywilydd i dawelu pobl. Mae ofn a manipiwleiddio'n gwneud gofyn am help yn amhosibl. Roedd ganddi rywle i droi, hyd yn oed pan na allai wneud i'w hun droi yno. Gofynnwch i chi'ch hunain beth sy'n digwydd i unigolyn ifanc sy'n teimlo nad oes ganddi unman i droi ato.
Ac nid cwestiwn ynglŷn â cham-drin hanesyddol yn unig yw hwn. Ar 3 Awst eleni, cafwyd pump o ddiffynyddion yn euog o fwy na 40 o droseddau yn Llys y Goron Caernarfon yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru. Roedd yr achos yn ymwneud â cham-drin a chamfanteisio ar dair merch rhwng 14 a 16 oed yn y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2024. Mae'r menywod ifanc hynny'n haeddu cydnabyddiaeth am eu dewrder. Mae'r swyddogion a sicrhaodd yr euogfarnau hynny'n haeddu clod. Ond mae'n rhaid i erlyniadau llwyddiannus ein hannog ni hefyd i ofyn a gollwyd cyfleoedd i ddiogelu plant yn gynharach. Dylem sefydlu'r ateb drwy dystiolaeth heb ragfarnu'r canfyddiadau.
Mae'r ymchwiliad annibynnol i gangiau grŵmio yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Yn yr ymchwiliadau cyntaf, Oldham, Bradford, Keighley a Llundain yw'r ardaloedd dan sylw. Bydd ardaloedd pellach yn cael eu dewis. Nid oes unrhyw ardal yng Nghymru yn y grŵp cychwynnol hwnnw, ond nid yw hynny'n golygu bod Cymru wedi'i heithrio. Ond mae teuluoedd yn haeddu eglurder ynglŷn â'r ffordd y caiff methiannau sefydliadol Cymru eu harchwilio.
Mae cwestiwn arall y dylai Gweinidogion fynd ar ei drywydd. Ym mis Mehefin, adroddodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod Ymgyrch Beaconport wedi nodi achosion a gaewyd mewn wyth ardal heddlu ag iddynt linellau ymchwilio a allai fod yn gynhyrchiol. Cyfarwyddwyd heddluoedd i ailagor yr achosion hynny i benderfynu ar y camau nesaf. Felly, beth yw'r sefyllfa yng Nghymru? Faint o achosion cymwys a atgyfeiriwyd gan ein heddluoedd? A yw achosion Cymru wedi'u hanfon yn ôl ar gyfer camau gweithredu pellach? Dylai Gweinidogion geisio'r wybodaeth honno a chyhoeddi'r hyn y gellir ei ddatgelu'n briodol gan ddiogelu goroeswyr ac ymchwiliadau ar yr un pryd.
Rhaid inni fod yn fanwl gywir hefyd ynghylch cyfrifoldebau’r Siambr hon. Fel y gwyddom, nid yw plismona a chyfiawnder troseddol wedi’u datganoli. Fodd bynnag, mae iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u datganoli. Mae’r Senedd hon yn deddfu ac yn craffu ar wariant yn y meysydd hynny. Mae Gweinidogion Cymru yn gosod polisïau diogelu ac maent yn atebol am eu heffeithiolrwydd. Ni allwn gyfarwyddo pob ymchwiliad troseddol. Gallwn fynnu bod gwasanaethau o amgylch plentyn yn nodi achosion o gam-drin, yn rhannu pryderon ac yn gweithredu. Gallwn fynnu bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n gyson fel bod rhybuddion mynych yn cael eu nodi. Gallwn graffu i weld a yw goroeswyr yn cael eu cefnogi drwy’r broses ac ar ôl y dyfarniad. Mae’r cyfrifoldebau’n sylweddol ac mae’n rhaid eu harfer.
Hefyd, rhaid i ymchwilwyr ddilyn y dystiolaeth lle mae'n arwain. Rwyf wedi clywed yr esgusodion o'r blaen, pryd na ddylid edrych, fod y niferoedd yng Nghymru yn llawer is nag mewn mannau eraill a bod y rhan fwyaf o'r cam-drin yma'n cael ei gyflawni gan droseddwyr o'r wlad hon. Gall y ddau beth hyn fod yn wir, ond nid yw'r naill na'r llall yn ateb. Nid yw cymharu ffigurau'n bolisi diogelu. Ni chafodd unrhyw blentyn erioed ei ddiogelu gan y sylw fod math gwahanol o droseddwr yn fwy cyffredin. Ac mae dioddefwr yn clywed y ddadl honno yn union fel y'i bwriedir. Mae hi'n clywed bod ei hachos yn fach, nad yw'n ddim mwy na chamgymeriad talgrynnu yn ystadegyn rhywun arall. Nid wyf yn gofyn i'r Siambr hon chwyddo graddfa unrhyw beth, rwy'n gofyn i Aelodau roi'r gorau i ddefnyddio graddfa fel rheswm dros beidio ag edrych. Nododd archwiliad y Farwnes Casey enghreifftiau o sefydliadau yn osgoi cwestiynau am ethnigrwydd rhag ymddangos yn hiliol neu gynyddu tensiynau cymunedol. Ni ddylai cefndir unrhyw droseddwr, ni waeth beth fo'u lliw, eu gosod uwchlaw craffu. Yr unigolyn yw'r prawf, nid y gymuned y daeth ohoni. Rhaid i'r safon fod yr un fath. Dilynwch y dystiolaeth, a diogelwch y plentyn.
Ddoe, wrth ateb fy nghyd-Aelod Claire Archibald, siaradodd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod ynglŷn â pha mor bwysig yw hi fod menywod yn cael eu clywed a ddim yn cael eu hanwybyddu. Rwy'n cytuno â hi ac rwy'n bwriadu ei mesur yn erbyn yr egwyddor honno, gan fod yn rhaid i'r egwyddor honno fod yn berthnasol yma hefyd. Yn aml, mae'r dioddefwyr rydym yn siarad amdanynt heddiw yn ferched sy'n ofnus, sy'n cael eu manipiwleiddio ac yn teimlo cywilydd, merched nad oes ganddynt hyder, geiriau na phŵer i fynnu bod rhywun yn gwrando. Nid yw merch 14 oed yn fenyw eto. Ni ddylai orfod dod yn un cyn y bydd ei llais yn bwysig. Ac ni all cael eich clywed olygu'n syml fod rhywun wedi gwrando. Rhaid iddo olygu bod pryderon yn cael eu cofnodi, fod y rhybuddion yn cael eu cydnabod, fod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud, fod gwybodaeth yn cael ei rhannu, a phan fydd y dystiolaeth yn mynnu hynny, fod camau gweithredu yn dilyn, gan na ddylai plentyn orfod parhau i ddweud wrth oedolion fod rhywbeth o'i le tan i rywun ei chredu o'r diwedd.
Dyna beth y mae cael eich clywed yn ei olygu mewn perthynas â diogelu, a dyna'r safon rwy'n bwriadu mesur y Llywodraeth hon yn ei herbyn. Felly, gofynnaf i Weinidogion am dri pheth. Yn gyntaf, cyhoeddwch yr ohebiaeth sylweddol â'r Swyddfa Gartref a'r ymchwiliad, gyda'r amddiffyniadau angenrheidiol ar gyfer gwybodaeth gyfrinachol. Gadewch i'r Siambr hon weld beth y gofynnwyd amdano a beth sydd heb ei ddatrys o hyd. Yn ail, casglwch dystiolaeth gan fyrddau diogelu, yr heddlu a goroeswyr, a gwnewch achos ffurfiol dros archwilio methiannau sefydliadol yng Nghymru. Yn drydydd, os na chaiff y methiannau hynny eu harchwilio'n ddigonol gan yr ymchwiliad cenedlaethol, a wnaiff y Gweinidogion sefydlu ymchwiliad statudol penodol i Gymru i wasanaethau datganoledig? Mae teuluoedd Cymru’n haeddu ateb clir.
Aelodau'r Siambr, ni allaf roi'r tair blynedd hynny yn ôl i fy merch, ni all unrhyw un yma wneud hynny, ond gall pob Aelod arfer yr un difrifoldeb tuag at blentyn o deulu arall ag y byddent yn ei arfer yn achos eu plentyn eu hunain. Y plentyn nesaf yn Abergwaun, Hwlffordd, Penfro neu unrhyw le yma yng Nghymru—cyn derbyn sicrwydd, meddyliwch am y plentyn sy'n aros i rywun weithredu. Pe bai'n blentyn rydych chi'n ei garu, pa atebion fyddai'n ddigon da? Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
O’r farn bod pawb yng Nghymru sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yn haeddu cyfiawnder a chymorth.
Yn nodi bod Cymru’n dod o fewn cwmpas yr Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.
Yn nodi ymrwymiad sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion o ran Cymru a datblygu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol.
Yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol drwy’r Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, gan gynnwys rhoi ar waith y camau gweithredu a nodir yn ei Chynllun Cyflawni.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Dwi'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf nawr ar Darren Millar i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad gangiau grŵmio Cymru gyfan i feysydd cymhwysedd datganoledig.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cynnig a gyflwynwyd heddiw gan Reform, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Hoffwn ddiolch i Paul Marr am y ffordd bwyllog yr agorodd y ddadl hon ac am siarad mor bwerus am brofiad personol ei ferch o gam-drin rhywiol.
Mae hwn yn fater a ddylai groesi ffiniau gwleidyddol yn gyfan gwbl. Ni ddylem osgoi ei drafod, ni waeth pa mor anodd y gall fod na pha mor anghyfforddus yw'r pwnc, gan na ddylai fod unrhyw raniad rhyngom ni yn y Siambr hon mewn perthynas ag amddiffyn plant rhag trais a chamfanteisio rhywiol. Ni ddylai fod unrhyw raniad mewn perthynas â chefnogi dioddefwyr a amddifadwyd o'u diniweidrwydd, ac ni ddylai fod unrhyw raniad ynghylch yr angen i ymchwilio i'r rhesymau pam y mae awdurdodau'n methu diogelu rhai o'r plant agored i niwed yn ein cymdeithas rhag cam-drin erchyll gan bedoffiliaid, ni waeth beth yw ethnigrwydd y troseddwyr.
Nawr, mae gweithgarwch gangiau grŵmio wedi bod yn broblem ddifrifol yn y DU, ac mae hynny'n cynnwys yma yng Nghymru. Fel y gŵyr llawer o bobl, codais y mater hwn gyntaf yma yn Siambr y Senedd hon yn ôl ym mis Ionawr 2025, a galwais ar y Prif Weinidog ar y pryd i gefnogi ymchwiliad yn y DU i gangiau grŵmio. Ni chefnogodd un. Felly, galwais arni, fel Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, i sefydlu ymchwiliad Cymru gyfan. Ni chefnogodd un. Mewn ymateb, dywedwyd wrthyf gan y Prif Weinidog ar y pryd nad oedd tystiolaeth eang o weithgarwch gangiau grŵmio yma yng Nghymru, ac y dylwn gadarnhau'r honiadau difrifol roeddwn wedi'u gwneud am ddioddefwyr dewr o Gymru a oedd wedi siarad am eu profiadau—merched ifanc a oedd eisoes wedi siarad yn gyhoeddus ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd iddynt a methiant yr awdurdodau i'w diogelu; unigolion fel Emily Vaughn, a recriwtiwyd gan gang grŵmio yma yng Nghymru, a fasnachwyd i rannau eraill o'r DU. Roedd wedi siarad am gael ei thagu, ei bygwth â chyllell, ac yna'r rhai a gyflawnodd y troseddau hynny'n bygwth llosgi ei chartref er mwyn niweidio aelodau o'i theulu. Cafodd ei threisio dros fil o weithiau. Collodd gyfrif ar nifer y dynion a wnaeth ei cham-drin hi a'i chorff. Ac nid Emily'n unig, yr unigolyn dewr a siaradodd yn bwerus am ei phrofiadau. Fel y dywedwyd, mae tystiolaeth fod gangiau grŵmio wedi camfanteisio ar blant yn Abertawe, a chafwyd y gyfres o euogfarnau diweddar yn y Rhyl, fy etholaeth i, achos ar garreg fy nrws fy hun. Cam-drin hollol erchyll. Pobl yn rhoi cyffuriau i blant ifanc yn eu harddegau yn ein cymunedau, dynion yn eu denu ac yn eu cam-drin.
Nawr, mae ymgyrch barhaus Operation Oak wedi arwain at arestio rhagor o bobl yng Ngwent a'u cyhuddo o 34 o droseddau, gan gynnwys sawl achos o dreisio. A gadewch imi ddweud wrthych, siarad ag Emily Vaughn a darllen hanesion dioddefwyr a wnaeth imi fod yn fwy penderfynol byth o sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw'r pethau hyn yn digwydd yn ein cymunedau. Mae gan bob un ohonom yn y Siambr rwymedigaeth foesol i wneud popeth yn ein gallu i geisio mynd i'r afael â'r troseddau erchyll hyn.
Dyma pam fy mod yn llwyr gefnogi'r cynnig gerbron y Siambr heddiw. Dyma pam hefyd ein bod wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig hwnnw, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ei hymchwiliad ei hun, i gomisiynu ymchwiliad i'r meysydd cymhwysedd datganoledig yn ogystal. Oherwydd yn union fel yr ymchwiliad COVID a welsom ar lefel y DU, mae arnaf ofn nad ydym am i Gymru fod yn droednodyn. Rydym am sicrhau y gall plant ifanc yma fod yn siŵr bod yr amddiffyniadau ar waith o ran ein hadrannau gwasanaethau cymdeithasol, yr adrannau teulu hynny, yr agweddau diogelwch cymunedol, y mae rhai ohonynt wedi'u datganoli'n llwyr i Gymru a Llywodraeth Cymru—fod pob un o'r gwasanaethau hynny'n gweithredu ar y cyd ac yn rhannu gwybodaeth yn briodol, i sicrhau ein bod yn diogelu plant ifanc agored i niwed. Dyna'r cymhelliant sy'n sail i'r gwelliant a gyflwynwyd gennym.
A hoffwn ddweud hyn wrth y Dirprwy Weinidog heddiw: gwn ei bod yn rhannu ein hangerdd dros fod eisiau diogelu plant ac yn enwedig merched ifanc rhag y cam-drin erchyll hwn. Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud yw ystyried ymateb eich plaid i ymchwiliad COVID y DU: fe wnaethoch chi barhau i alw am ymchwiliad COVID penodol i Gymru, er mwyn sicrhau bod sylw priodol yn cael ei roi i'r sefyllfa yma yng Nghymru. Buaswn yn eich annog chi fel Llywodraeth i wneud yr un peth er mwyn diogelu'r dioddefwyr diniwed hyn yn ein gwlad ac i ddwyn y troseddwyr hynny i gyfrif am eu gweithredoedd.
Ers blynyddoedd lawer bellach, rwyf wedi ceisio achub ar bob cyfle i gefnogi ac eirioli dros ddioddefwyr camfanteisio rhywiol a grŵmio. Mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Yn anffodus, mae grŵmio rhywiol yn rhywbeth y mae llawer gormod ohonom wedi'i brofi yn ystod ein blynyddoedd ffurfiannol. Boed yn cael ei gyflawni gan grwpiau neu gan unigolion, mae'n drosedd ffiaidd sy'n arwain at oes o deimlo cywilydd, euogrwydd a hunan-feio yn y rhai sy'n ei dioddef. Nid y dioddefwyr ddylai deimlo'r cywilydd hwnnw, wrth gwrs. Dylai'r cywilydd hwnnw newid ochr.
Mae camdrinwyr yn glyfar ac yn rheoli dioddefwyr. Gall fod yn anodd iawn adnabod ymddygiadau grŵmio, a gall y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn fod yn hynod fedrus wrth guddio eu cymhellion. Datgelodd ymchwiliad proffil uchel i achos o grŵmio yn fy etholaeth i fod dioddefwr, merch ysgol, wedi gofyn i Google 'Ai grŵmio yw hyn?' wrth iddi geisio deall beth oedd yn digwydd iddi. Ni ddylai plant byth orfod dibynnu ar beiriant chwilio i'w diogelu rhag ymddygiad cyfrwys camdriniwr didostur. Dyna pam fy mod i mor falch fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i helpu plant a phobl ifanc i adnabod arwyddion grŵmio trwy addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dyma un o'r nifer o resymau pam y mae addysg cydberthynas a rhywioldeb mor bwysig. Mae gan bob plentyn ac unigolyn ifanc yn yr ysgol fynediad cyfartal at addysg hanfodol a all helpu i'w cadw'n ddiogel. Gall eu helpu i ddeall a chydnabod beth sy'n gydberthynas gadarnhaol, iach, ac yn yr un modd, gall dynnu eu sylw at ymddygiad camdriniwr.
Mae Plaid Cymru'n sefyll gyda phob dioddefwr a goroeswr cam-drin rhywiol. Os cawsoch eich grŵmio gan aelod o'r teulu, rydym yn sefyll gyda chi. Os cawsoch eich grŵmio gan unigolyn y dylech fod wedi gallu ymddiried ynddynt, rydym yn sefyll gyda chi. Ac os cawsoch eich grŵmio gan grŵp o gamdrinwyr, rydym yn sefyll gyda chi. Mae cam-drin rhywiol yn amddifadu pobl o'u plentyndod, mae'n chwalu dyfodol pobl, mae'n gwthio dioddefwyr i'r pen o ran yr hyn y teimlant y gallant ei ddioddef. Ond fe ddywedaf wrthych beth nad yw'n gam-drin rhywiol. Nid pêl-droed wleidyddol mohono, nid cynnwys abwyd clicio ac nid porthiant i ryfel diwylliant. Mae'r rhain yn blant go iawn, yn oroeswyr go iawn a bywydau go iawn, nid pwyntiau i'w sgorio yng ngêm sinigaidd rhywun arall.
Edrychaf ymlaen at gefnogi'r camau y bydd y Llywodraeth hon yn eu rhoi ar waith o dan y strategaeth genedlaethol 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Edrychaf ymlaen at weld ein hymrwymiadau maniffesto ar waith, ymrwymiadau sy'n cynnwys cryfhau llais plant mewn trefniadau diogelu a chyflwyno dyletswydd i roi gwybod am gam-drin plant yn rhywiol. Edrychaf ymlaen at gefnogi'r gwaith a fydd yn cael ei wneud gan y Llywodraeth hon i gryfhau addysg cydberthynas a rhywioldeb, sy'n offeryn addysgol hanfodol i helpu i gadw plant yn ddiogel. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r ymchwiliad annibynnol statudol i gangiau grŵmio a chefnogi ymateb y Llywodraeth hon i unrhyw argymhellion sy'n ymwneud â Chymru. Rwy'n awyddus iawn i gadarnhau fy nghefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr troseddau ffiaidd gangiau grŵmio, yn ogystal â fy nghefnogaeth i holl ddioddefwyr a goroeswyr grŵmio a chamfanteisio rhywiol yng Nghymru a thu hwnt. Diolch.
Y tro diwethaf imi godi yn y Siambr hon i ddweud y gwir anghyfforddus am ddiogelwch menywod a merched, fe gerddodd Aelodau allan. Felly, rhybudd cyn imi ddechrau. Pan oeddwn yn sefyll etholiad, addawais sefyll yn ddiymddiheuriad dros ddiogelwch menywod a merched. Rwy'n bwriadu cadw'r addewid hwnnw, ac nid wyf yn gwneud unrhyw ymddiheuriad am hynny.
Cyn mynd i faes gwleidyddiaeth, roeddwn i'n gweithio ym maes plismona yn y wlad hon ac yn rhyngwladol a gwelais yn uniongyrchol realiti dynol masnachu mewn pobl. Pan fyddwch chi wedi gweld beth y gall pobl ei wneud i fodau dynol eraill, ni allwch ei ddad-weld. Pan fyddwch chi wedi gweld sefydliadau o'r tu mewn, rydych chi'n datblygu goddefgarwch isel iawn tuag at fethiant sefydliadol.
Pan gyhoeddwyd yr ymchwiliad annibynnol i gangiau grŵmio, ysgrifennais at y Farwnes Longfield, oherwydd roedd yr ymchwiliad annibynnol blaenorol i gam-drin plant yn rhywiol yn archwilio Abertawe fel ei unig astudiaeth achos yng Nghymru. Roeddwn i eisiau sicrwydd na fyddai Cymru'n droednodyn eto, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod. Cefais ei hymateb. Wel, ni chefais sicrwydd.
Ydy, mae hwn yn ymchwiliad statudol, mae Cymru yn dechnegol yn rhan o'i gwmpas, ac fe all orfodi tystiolaeth a thystion. Mae ei gylch gorchwyl yn archwilio methiant sefydliadol a chelu posibl. Ond nid oes unrhyw warant o hyd o ymchwiliad pwrpasol i Gymru. Dywedwyd wrthyf y bydd yr ymchwiliad yn ymweld â Chymru, yn cyfarfod â dioddefwyr a goroeswyr ac yn sefydlu swyddfa yma; efallai y bydd ardaloedd o Gymru'n cael eu hystyried ar gyfer ymchwiliad yn nes ymlaen. Ond Lywydd, nid yw swyddfa yng Nghymru yn gyfystyr ag ymchwiliad o Gymru. Nid yw gwrando ar ddioddefwyr Cymru yr un peth ag ymchwilio i'r rhai a wnaeth gam â nhw.
Mae hynny'n bwysig am fod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi gwneud integreiddio a chydlyniant cymunedol yn ganolog i'w pholisi cenedl noddfa. Mae'n dweud wrthym fod ei dull o weithredu yn helpu pobl i integreiddio yn y cymunedau sy'n eu derbyn ac yn cryfhau cydlyniant cymunedol. Iawn. Gadewch inni brofi'r hyder hwnnw yn erbyn y dystiolaeth felly. Pan fydd tystiolaeth yn dangos bod diwylliant, ethnigrwydd a chrefydd wedi dylanwadu ar droseddu, targedu dioddefwyr, neu barodrwydd sefydliad i ymyrryd, rhaid inni ei archwilio. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad ei hun yn ei gwneud yn ofynnol yn benodol i'r cwestiynau hynny gael eu harchwilio. Nid rhagfarn yw hyn. Diogelu ydyw. Ac ar ôl rhai o'r sylwadau a wnaed yn y 24 awr ddiwethaf, efallai fod angen datgan y gwahaniaeth hwnnw'n arbennig o glir.
Dywedwyd wrthym fod herio'r genedl noddfa'n creu rhaniad, fod Reform â diddordeb mewn gwrthwynebu ac mewn penawdau, ac na ddylid gwneud lleiafrifoedd yn fwch dihangol na'u dad-ddyneiddio. Ar un peth, rwy'n cytuno'n llwyr: ni ddylid dad-ddyneiddio neb. Ond ni ddylid diheintio tystiolaeth anghyfforddus chwaith am fod ei harchwilio'n gwneud gwleidyddion yn anghyfforddus. Nid yw gofyn a gamfanteisiwyd yn rhywiol ar blant yn gwneud bwch dihangol o neb, ac yn sicr ddigon, nid creu abwyd clicio mohono. Nid yw gofyn a gawsant gam gan sefydliadau yn greu rhaniad, ac nid dad-ddyneiddio unrhyw un yw archwilio diwylliant, ethnigrwydd na chrefydd lle mae'r dystiolaeth yn galw am wneud hynny. Os yw craffu ei hun bellach yn cael ei nodweddu fel rhywbeth sy'n creu rhaniadau, mae methiant sefydliadol wedi dod o hyd i'r guddfan fwyaf diogel yma. Os yw mynnu atebion i blant y camfanteisir arnynt yn rhywiol yn creu penawdau, efallai y dylem ofyn pam na wnaeth y methiannau gynhyrchu digon o benawdau yn y lle cyntaf. Oherwydd fe wyddom am y senario, fe wyddom am y cylch: adolygiadau, ymchwiliadau, argymhellion ar gyfer gwersi i'w dysgu ac adolygiadau eraill i ddysgu pam na ddysgwyd y gwersi. Mae dioddefwyr yn haeddu gwell na'r carwsél o edifeirwch sefydliadol. Felly, mae fy ngofyniad yn syml: sicrhewch ymchwiliad lleol penodol i Gymru o dan yr ymchwiliad statudol presennol gyda'i holl bwerau statudol llawn. Os na ellir rhoi'r sicrwydd hwnnw, rhaid i Gymru gael ymchwiliad statudol penodol ei hun. Nid dyblygu yw hyn, ond atebolrwydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod polisïau cenedl noddfa yn cryfhau integreiddio a chydlyniant cymunedol. Wel, dangoswch eich hyder ynddynt: agorwch y llyfrau, agorwch y cofnodion a chofleidiwch y craffu. Mae Plaid Cymru'n siarad yn ddi-baid am Gymru'n arfer pwerau cenedl—felly derbyniwch gyfrifoldebau cenedl hefyd. Peidiwch â mynnu pwerau cenedl gan drosglwyddo cyfrifoldeb cenedl i eraill, a pheidiwch â dweud wrth ddioddefwyr yng Nghymru fod cael eich cynnwys rywle o fewn cwmpas ymchwiliad sy'n cwmpasu Lloegr a Chymru yn ddigon da. Nid yw'n ddigon da. Rhaid cael ymchwiliad i Gymru, ac os nad yw eraill am edrych arno, fe wnawn ni.
A gaf i ddechrau trwy fynegi fy niolch i Paul Marr am rannu profiadau hynod bersonol ei deulu ac am osod y cywair ar gyfer y ddadl hon mor dda? Fe geisiaf barhau yn yr un modd. A gaf i hefyd ddiolch i'r elusen Gweithredu dros Blant am roi arweiniad hynod ddefnyddiol a rannwyd ganddynt cyn y ddadl hon?
Gadewch imi fod yn glir: mae camfanteisio'n rhywiol ar blant yn ffiaidd. Mae'n dinistrio plentyndod, yn niweidio teuluoedd ac yn gadael dioddefwyr a goroeswyr i gario baich y canlyniadau am ddegawdau. Gadewch imi fod yn glir eto: er bod dioddefwyr a goroeswyr yn haeddu cyfiawnder, maent yn haeddu ein cefnogaeth ac maent yn haeddu cyfle i gael eu profiad wedi ei glywed. Ni allwn gael hunanfodlonrwydd. Os yw menywod neu blant yn cael eu cam-drin, rhaid inni wybod amdano a rhaid inni weithredu i'w atal.
Mae Cymru eisoes o fewn cwmpas yr ymchwiliad annibynnol statudol i gangiau grŵmio. Mae'r cylch gorchwyl cyhoeddedig yn nodi'n benodol y bydd yr ymchwiliad yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Felly, nid a yw Cymru wedi'i chynnwys yw'r cwestiwn—mae Cymru wedi'i chynnwys, ac mae hynny'n iawn. Rhaid i ddioddefwyr Cymru gael eu clywed. Lle bo angen, rhaid i sefydliadau Cymru gael eu dwyn i gyfrif, a rhaid i ganfyddiadau'r ymchwiliad arwain at weithredu ystyrlon. Mae'r gwelliant rydym ni'n ei gefnogi yn rhoi dioddefwyr a goroeswyr yn gyntaf. Mae'n cydnabod bod pobl angen cefnogaeth yn ogystal â chyfiawnder. Mae'n cydnabod cwmpas presennol yr ymchwiliad statudol sy'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros eu hymrwymiad i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion sy'n ymwneud â Chymru, gan ddatblygu pa bynnag weithredu sydd ei angen, a bydd y lle hwn yn eu dwyn i gyfrif.
Mae hwn yn fater sensitif. Pryd bynnag y byddwn yn ei drafod, rhaid i'n ffocws fod ar brofiadau a phryderon dioddefwyr. Nid wyf yn credu mai dyma'r lle ar gyfer sgorio pwyntiau gwleidyddol, oherwydd, fel y dywedodd Darren, rwy'n credu bod hwn yn fater y ceir consensws eang arno. Rhybuddiodd y Farwnes Casey ei hun am amharodrwydd rhai ardaloedd lleol i wynebu'r ffaith nad oedd dioddefwyr wedi cael eu trin yn iawn. Rhaid inni beidio ag ailadrodd y methiant hwnnw. Rhaid inni wynebu methiannau sefydliadol ble bynnag y digwyddant, pwy bynnag yw'r sefydliad, y lleoliad neu'r unigolion, ni waeth pa mor anghyfforddus y gall hynny fod, a dylem hefyd gydnabod bod Cymru eisoes wedi rhoi camau sylweddol ar waith.
Deddfodd y Llywodraeth ddiwethaf yng Nghymru drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r ddeddfwriaeth honno'n gosod dyletswyddau diogelu ar asiantaethau perthnasol. Pan fo gan asiantaeth, yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaethau prawf neu awdurdod lleol arall, achos rhesymol dros amau bod plentyn neu oedolyn ag anghenion gofal a chymorth yn wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall, mae dyletswydd gyfreithiol i roi gwybod i'r awdurdod lleol perthnasol. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon. Rhaid deall dyletswyddau, eu dilyn a'u monitro'n briodol, a lle nad ydynt wedi'u dilyn, rhaid bod atebolrwydd. Dyna pam ein bod wedi croesawu archwiliad y Farwnes Casey ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgysylltu'n llawn â'i argymhellion.
Rydym hefyd yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud drwy'r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Alexis Jay. Mae sefydliadau, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru a chomisiynwyr heddlu a throseddu, wedi pwysleisio'n briodol yr angen i weithredu ei argymhellion. Rhaid i'r gwaith hwnnw barhau. Ac mae strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn adeiladu ar y sylfaen honno. Mae'n cwmpasu pob ffurf ar gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys camfanteisio'n rhywiol, ac yn nodi camau gweithredu ar atal, diogelu, ymatebion effeithiol a chefnogaeth hirdymor i oedolion sy'n oroeswyr.
Mae'r mater hwn yn torri ar draws cyfrifoldebau datganoledig a rhai a gedwir yn ôl. Mae diogelu, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg yn gyfrifoldebau sydd wedi'u canoli yng Nghymru, tra bod plismona, erlyn, y llysoedd, y gwasanaeth prawf a charchardai wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Dyna pam rwy'n cefnogi'r dull o weithredu ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i'r dull hwnnw gael ei arwain gan dystiolaeth. Mae cynnydd mewn euogfarnau'n bwysig ac mae'n rhaid ei ddeall, ond nid yw euogfarnau ar eu pen eu hunain yn dweud wrthym am raddau llawn na natur cam-drin. Rhaid inni gasglu ac archwilio'r holl ddata perthnasol, gan gynnwys data ar ethnigrwydd troseddwyr. Cam-drin yw cam-drin a rhaid ei gondemnio bob amser. Nid yw hynny'n golygu stigmateiddio cymunedau cyfan na chaniatáu i dystiolaeth gael ei disodli gan ragdybiaethau.
Mae dioddefwyr a goroeswyr wedi aros yn rhy hir am gyfiawnder. Nid ydynt angen awgrym anghywir fod Cymru wedi'i heithrio o'r ymchwiliad. Maent angen i'r ymchwiliad fwrw rhagddo ar frys, yn dryloyw, gyda sylw priodol i achosion Cymru. Diolch.
A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi rhannu eu straeon pwerus hyd yma yn y ddadl hon, yn enwedig Paul? Diolch am eich cyfraniad hynod emosiynol. Mae'r erchyllterau a gyflawnwyd gan gangiau grŵmio wedi cael eu gweld yn uniongyrchol yng Nghlwyd, fel y soniodd Darren a Paul eisoes. Cafodd tair merch yn eu harddegau yn y Rhyl a'r ardal gyfagos eu cam-drin am bron i ddwy flynedd. Mae'r llys wedi clywed tystiolaeth am gyflenwi cyffuriau, ymdrechion i rwystro cyfiawnder, treisio, ymosodiadau rhywiol, camfanteisio ar blant a chaethwasiaeth fodern. Dioddefodd unigolion rhwng 14 a 16 oed y troseddau erchyll hyn mewn ceir, cyfeiriadau preswyl ac mewn lleoliad busnes.
Rhaid imi ganmol Heddlu Gogledd Cymru am ddal y bobl ffiaidd hyn. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Siambr gyfan ymuno â mi i'w condemnio, sef Sarah, Mustafa, Mohamed, Ziaullah a Jaswinder, am y drwg a wnaethant. Nid yn unig eu bod wedi achosi trawma gydol oes i'r dioddefwyr trwy fanteisio ar eu gwendidau a cheisio eu manipiwleiddio a'u rheoli er eu budd eu hunain, ond trwy wadu'r cyhuddiadau, fe wnaethant eu gorfodi i ail-fyw eu trawma drwy achos maith.
Fel yr esboniodd yr uwch swyddog ymchwilio yn Heddlu Gogledd Cymru:
'Yn hytrach na derbyn cyfrifoldeb am y niwed ofnadwy a achoswyd ganddynt, fe wnaethant orfodi'r menywod ifanc hyn i ddioddef trawma ychwanegol achos maith, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt ail-fyw eu profiadau mewn llys barn.
'Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad heddiw yn anfon neges glir y bydd y rhai sy'n ceisio grŵmio a chamfanteisio ar blant agored i niwed yn cael eu herlid yn ddi-baid.'
Dyna beth sy'n ofynnol a dyna nad yw'n digwydd yma yng Nghymru. Mae tystiolaeth o hynny'n glir o'r achos rwyf newydd sôn amdano. Roedd un o'r unigolion a gafodd euogfarn o gynllwynio i fasnachu a chyflenwi cyffuriau yn cael ei gartrefu gan y cyngor mewn llety dros dro, gan ei roi mewn cysylltiad â phobl eraill agored i niwed a oedd wedi'u lleoli yn y lleoliad hwnnw ac mewn lleoliadau cyfagos. Ni nodwyd unrhyw rybuddion gan asesiad risg yr awdurdod lleol ei hun. Nid oedd yn nodi ymchwiliad yr heddlu na'r arestiad. Mae hynny'n frawychus, Aelodau. Faint o bobl eraill dan ymchwiliad sydd wedi cael eu rhoi mewn tai amhriodol? Mae'n ymddangos bod methiant sylweddol wedi bod i rannu gwybodaeth rhwng yr heddlu a'r awdurdod lleol yn yr achos hwn, sy'n golygu bod yr awdurdod lleol yn anfwriadol wedi rhoi pobl a phlant eraill mewn perygl.
Fel y dywedais yn glir dros yr haf, nid ymchwiliad annibynnol statudol y DU i gangiau grŵmio ar ei ffurf bresennol yw'r ateb gorau i blant a dioddefwyr yng Nghymru. Er bod yr ymchwiliad yn cynnal ymchwiliadau lleol yn Bradford a Keighley, Oldham a Llundain, nid yw'n cynnwys unrhyw leoliad yma yng Nghymru. Mae'r ffaith honno'n anhygoel pan ystyriwch na all yr heddlu ar eu pen eu hunain fynd i'r afael â'r drwg hwn yn ein cymdeithas. Yn hytrach, mae'n galw am ddull cydgysylltiedig gyda chymaint o wasanaethau cyhoeddus eraill, yn cynnwys tai, awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd a'n hysgolion, ac mae'r rhain oll wedi'u datganoli yng Nghymru. Fel y cyfryw, gallai'r profiad o sut y mae'r cyrff sector cyhoeddus hyn yn chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â gangiau grŵmio fod yn sylfaenol wahanol yn Lloegr i'r hyn ydyw yng Nghymru. Mae dioddefwyr a phlant Cymru'n haeddu gwell. Mae angen clywed llais Cymru. Mae angen clywed dioddefwyr Cymru yn uniongyrchol.
Aelodau, rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig hwn. Dim ond trwy weithredu o'r fath y gallwn fynd i'r afael yn ddi-baid â gangiau grŵmio yng Nghymru.
Rwyf innau hefyd yn diolch i Paul Marr am y ffordd y gosododd y ddadl hon. Roedd hynny'n bwysig iawn. Oherwydd mae pob dioddefwr camfanteisio rhywiol, fel y clywsom, yn haeddu cyfiawnder. Dyma rai o'r troseddau mwyaf ofnadwy y gellir eu dychmygu, ac mae fy nghalon—ein calonnau ni i gyd—yn gwaedu dros bawb sydd wedi bod yn ddioddefwr. A dyna pam y mae'r ddadl hon mor bwysig.
Dylai'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau yng Nghymru ein hatgoffa nad yw hwn yn fater y gellir ei ddiystyru neu rywbeth sy'n digwydd mewn mannau eraill. Mae achosion diweddar yng Nghymru yn dangos bod camfanteisio'n rhywiol ar blant wedi digwydd yma yn ein cymunedau, a bod rhaid parhau i ofyn cwestiynau difrifol ynglŷn ag a yw asiantaethau bob amser wedi gweithredu fel y dylent.
Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i sefydlu ymchwiliad annibynnol statudol i gangiau grŵmio. Mae'n gam pwysig ymlaen, ac yn un y mae goroeswyr wedi ymgyrchu drosto ers nifer o flynyddoedd. Ond er bod yr ymchwiliad hwnnw i'w groesawu, ni ellir ei ddefnyddio fel esgus dros ddiffyg gweithredu yma yng Nghymru.
Mae ein gwelliant ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad gangiau grŵmio ledled Cymru i faterion o fewn y cymhwysedd datganoledig. Mae hwnnw'n gais rhesymol. Yn wir, mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw un ei wrthwynebu. Mae ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, trefniadau diogelu, gwasanaethau iechyd ac awdurdodau lleol i gyd wedi'u datganoli, fel y clywsom gan siaradwyr blaenorol. Os digwyddodd methiannau yn unrhyw un o'r systemau hynny, mae'n sicr mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a'r Senedd yw deall beth a ddigwyddodd, dysgu ohono, a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael cam yn yr un ffordd eto.
Ni fyddai ymchwiliad ledled Cymru yn dyblygu gwaith ymchwiliad y DU; byddai'n ei ategu trwy ganolbwyntio'n benodol ar sefydliadau Cymru, gwasanaethau Cymru, systemau diogelu Cymru, a phenderfyniadau a wneir yng Nghymru. Byddai'n caniatáu i ddioddefwyr yng Nghymru gael hyder fod eu profiadau'n cael eu clywed a'u harchwilio'n briodol. Mae llawer o oroeswyr wedi treulio blynyddoedd yn brwydro i gael eu clywed. Maent wedi dangos dewrder rhyfeddol wrth siarad yn gyhoeddus am eu profiadau, ac wrth fynnu bod sefydliadau'n archwilio beth aeth o'i le. Mae arnom ddyletswydd iddynt i ddilyn pob llwybr a all helpu i ddatgelu'r gwir a chyflawni newid ystyrlon. Os oes methiannau yng ngwasanaethau datganoledig Cymru, rhaid nodi'r methiannau hynny.
Felly, heddiw, rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr i gefnogi ein gwelliant. Ble bynnag y bydd y troseddau hyn yn digwydd, a pha sefydliadau bynnag a allai fod ynghlwm wrthynt, rhaid inni anfon neges glir y byddwn bob amser yn rhoi mynd ar drywydd y gwirionedd, cyfiawnder a diogelu plant yn gyntaf. Diolch.
Mae yna rai geiriau a rhai pynciau sy'n anghyfforddus i'w trafod. Mae yna eiriau y byddai'n well gan ein gwleidyddion a'n sefydliadau eu hosgoi—geiriau fel 'gangiau grŵmio'—a dyna'r broblem. Pan fydd diogelwch plant yn y fantol, ni all anghysur fod yn esgus dros dawelwch. Felly, yn y ddadl hon, rwyf am siarad am drosedd drefnedig camfanteisio'n rhywiol ar blant, a elwir yn gyffredin bellach fel y 'sgandal gangiau grŵmio'.
Ni ddylai'r geiriau hyn byth fod yn haniaethol. Maent yn real, ac mae yna ddioddefwyr go iawn. Y tu ôl i bob adroddiad, pob ymchwiliad, pob ystadegyn, mae plentyn: plentyn a ddylai fod wedi cael ei ddiogelu; plentyn y dylid bod wedi gwrando arno; yn llawer rhy aml, plentyn a gafodd gam gan yr union sefydliadau a luniwyd i'w gadw'n ddiogel.
Mae'r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol yn archwilio camfanteisio rhywiol trefnedig ledled Cymru a Lloegr. Nid oedd Cymru'n absennol o'i ganfyddiadau, ac yn yr ymchwiliad statudol newydd, nid yw'n gwarantu'n awtomatig y bydd tref neu awdurdod lleol penodol yng Nghymru yn cael ymchwiliad llawn.
Yn Abertawe, dywedwyd wrth yr ymchwiliad yn wreiddiol nad oedd unrhyw ddata i awgrymu bod camfanteisio'n rhywiol gan rwydweithiau cam-drin plant yn gysylltiedig â gangiau'n digwydd. Mewn ymateb i'n cais rhyddid gwybodaeth yn 2025, cydnabu Heddlu Gwent mai dim ond ers 2017 y bu ganddynt y feddalwedd i chwilio'r 6,683 o droseddau rhywiol a gofnodwyd, ac nid oeddent yn sicr a oedd ethnigrwydd wedi'i gofnodi, ac os oedd, byddai'n costio gormod mewn adnoddau dynol ac amser i chwilio drwy'r data i chwilio am achosion o grŵmio. Ond canfu'r ymchwiliad enghreifftiau o gamfanteisio gan grwpiau a ddylai fod wedi cael eu nodi gan yr heddlu. Mae Heddlu De Cymru ei hun yn cydnabod y tebygolrwydd fod rhwydweithiau troseddol trefnedig yn bodoli nad oeddent wedi'u darganfod. Mae hyn yn gywilyddus. Sut y gallwn ddiogelu ein plant rhag rhywbeth y mae'r awdurdodau yn methu ei nodi? Ni allwn ddeall y bygythiad yn iawn os ydym yn gwrthod casglu'r data i'w ddatgelu.
Felly, fe wnaeth yr ymchwiliad annibynnol argymhelliad hynod bwysig: dylai heddluoedd ac awdurdodau lleol gasglu gwybodaeth benodol am rwydweithiau y gwyddys eu bod, ac yr amheuir eu bod yn camfanteisio'n rhywiol ar blant, gan gynnwys data ar ryw, ethnigrwydd ac anabledd y dioddefwyr a'r troseddwyr. Ac nid rhagfarn yw hynny, ond tystiolaeth. Os oes patrymau'n bodoli, mae angen inni wybod amdanynt. Os oes camfanteisio'n digwydd ar wendidau penodol, mae angen inni wybod amdanynt. O ble bynnag y daw'r troseddwyr, a beth bynnag yw eu hethnigrwydd, eu crefydd, eu cefndir a'u statws, dylai'r ymateb fod yn union yr un fath. Diogelu'r plentyn, ymchwilio i'r drosedd, dedfrydu'r troseddwr am gyfnod hir, a pheidio â'u rhyddhau'n gynnar. Dim esgusodion, dim sensitifrwydd gwleidyddol, dim ofn cywilydd, a dim sefydliad yn diogelu ei enw da yn hytrach na phlentyn bregus. Rydym ni'n rhoi gwerth uwch ar blant nag ar ddiogelu'r systemau a wnaeth gam â nhw.
A dylem gofio rhywbeth sylfaenol am grŵmio: plant sy'n cael eu manipiwleiddio, eu rheoli a'u hecsbloetio yw'r dioddefwyr. Nid nhw sy'n gyfrifol am y troseddau a gyflawnir yn eu herbyn. Nid yw unigolyn ifanc yn eu harddegau sydd wedi cael eu grŵmio gan oedolion angen sefydliad a ddaw o hyd i resymau dros beidio ag ymyrryd. Maent angen i oedolyn wrando arnynt. Maent angen i weithwyr proffesiynol adnabod yr arwyddion, ac maent angen i'r wladwriaeth weithredu. Mae hynny'n golygu bod angen i ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a'r heddlu rannu gwybodaeth yn effeithiol.
Gadewch inni gyfyngu hyn i Gymru. Felly, ble mae'r awdurdodau Cymreig a dargedwyd ar gyfer eu hymchwilio yn yr adolygiad statudol? Hyd yma, nid oes unrhyw rai wedi'u targedu. A ydym yn mynd i gael ein gwthio'n ôl eto, a neb yn gwrando yng Nghymru eto? A yw'r dioddefwyr byth yn mynd i gael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu yng Nghymru? Yn fyr, rydym eisiau data cywir; rydym eisiau tryloywder; i leisiau Cymreig gael eu clywed; ac ni ddylid eu tawelu byth eto.
Roeddwn i eisiau annerch y rhai sy'n wirioneddol bwysig yng nghanol hyn: y menywod a'r plant sydd wedi goroesi camfanteisio rhywiol gan grwpiau. Rwyf am siarad â phawb sydd wedi bod mewn sefyllfa fregus ac wedi'u siomi gan y rhai mewn grym a oedd i fod yno i'w hamddiffyn.
Roedd fy mam yn 15 oed pan aeth at ei meddyg teulu a dweud wrtho ei bod hi'n feichiog. Ei unig gyngor oedd, 'Ewch adref a dywedwch wrth eich rhieni.' Roedd hi ar ei phen ei hun, roedd hi'n ofnus, ac fe wnaeth hi ei guddio. Roedd ei hathrawon yn gwylio ac yn ysgwyd eu pennau wrth i'r clecs ledaenu o gwmpas yr ysgol wrth iddi ddefnyddio rhuban i ymestyn ei sgert ysgol o amgylch ei babi a oedd yn tyfu. A thair wythnos ar ôl ei phen-blwydd yn 16, rhoddodd fy mam enedigaeth, a dyna'r tro cyntaf iddi gael gofal priodol gan y rhai a ddylai fod wedi ei diogelu. Yn rhy aml, mae merched fel fy mam yn cael eu barnu ar eu dewisiadau gwael yn hytrach na'u gweld fel plant sydd angen help. Rwyf am i bob goroeswr wybod fy mod i'n eich clywed chi, rwy'n eich gweld chi, ac rwy'n eich credu chi. Rydych chi'n haeddu cefnogaeth, ac rydych chi'n haeddu cyfiawnder.
Yn aml, yr hyn a glywsom mewn dadleuon yw Reform yn cymell ofn mewn grwpiau lleiafrifol. Yr hyn rydym ni eisiau ei wneud yw canolbwyntio ar yr hyn y byddem yn ei wneud i wella bywydau yng Nghymru. Mae mor bwysig mai dyna yw ein ffocws. Rydym i gyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn trin menywod yn gyfartal yn ein cymdeithas ac yn gyfartal yn y Siambr hon. Rydym am glywed a gwrando ar bob llais.
Mae Reform yn gosod eu hunain fel rhai 'ar y tu allan i'r sefydliad', sy'n cuddio ei rôl eu hunain yn cynnal y diwylliant gwleidyddol lle mae trais gan ddynion yn ffynnu. Mae'r diwylliant hwn yn dechrau gyda phryfocio diniwed a siarad dros ben menywod, ond gall ddwysáu'n fygythiad, aflonyddu, cam-drin a thrais rhywiol. Yma yng Nghymru, mae gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi rhybuddio ynghylch galw cynyddol ac achosion risg uchel cynyddol gymhleth, gan ein hatgoffa nad mater haniaethol yw trais yn erbyn menywod, ond realiti dyddiol i lawer gormod o bobl.
Yn rhy aml, mae'r system yn dal i fethu sicrhau cyfiawnder ac amddiffyniad, a dylai newid hynny fod yn ymrwymiad ar y cyd. Nid slogan yw diogelwch, mae'n flaenoriaeth. Nid yw camdrinwyr sy'n gweithredu mewn grwpiau'n parchu ffiniau. Clywsom sut y mae goroeswyr wedi cael eu masnachu ledled y DU ac i mewn i Gymru ac allan o Gymru, felly mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bawb sydd wedi bod yn ein gwlad. Mae hyn yn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfrif.
Gwelliant Plaid Cymru yw'r ffordd gywir o weithredu am ei fod yn rhoi dioddefwyr a goroeswyr yn gyntaf. Yn hytrach na dyblygu ymdrechion gydag ymchwiliad ar wahân, gallwn weithio o fewn y fframwaith statudol presennol i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd—cyflawni gweithredoedd y strategaeth genedlaethol ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Dyma sut y mae sicrhau bod menywod a merched yn cael y cyfiawnder a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.
Mae dioddefwyr y troseddau erchyll hyn a'u teuluoedd yn haeddu'r gwir. Rwyf am ddechrau drwy dalu teyrnged i'm cyd-Aelod Paul Marr am y ffordd bwerus a dewr yr agorodd y ddadl hon. Dylai pob Aelod yma, a'r rhai na allant fod yma, ddychmygu bod yn ddioddefwr neu'n rhiant yn ymladd am atebion, ddim ond i gael eu hanwybyddu neu eu siomi gan yr awdurdodau sydd i fod i'w diogelu.
Mae gangiau grŵmio'n cyflawni rhai o'r troseddau trefnedig mwyaf ffiaidd y mae ein gwlad wedi'u gweld. Oni bai ein bod yn cadarnhau graddau'r hyn sydd wedi digwydd ac yn wynebu'r methiannau a ganiataodd iddo ddigwydd, ni allwn ddiogelu plant yn y dyfodol. Y llynedd, honnodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw broblemau eang ar hyn o bryd gyda gangiau grŵmio yng Nghymru. Gadewch inni edrych ar y 10 wythnos diwethaf yn unig.
Ar 10 Gorffennaf, cafodd Azad Ahmed a Wasee Shikel eu carcharu yng Nghaerdydd. Ar 15 Gorffennaf, cyhuddwyd wyth dyn ar draws de Cymru yn rhan o Operation Oak. Ar 3 Awst, cafwyd pump o bobl yn y Rhyl yn euog o droseddau gangiau grŵmio. Dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael ei hymchwilio cyn gynted â phosibl yn rhan o'r ymchwiliad annibynnol statudol i gangiau grŵmio. Mae dioddefwyr yng Nghymru yn haeddu'r un gwirionedd, yr un cyfiawnder a'r un atebolrwydd â dioddefwyr mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'r achosion hynny'n mynnu atebion. Sut y gall y Llywodraeth hon yng Nghymru honni'n hyderus nad oes problem eang pan fo bylchau difrifol yn y dystiolaeth o hyd?
Mae adroddiadau mewn mannau eraill ym Mhrydain wedi nodi achosion yn ymwneud â dynion Mwslimaidd o dras Pacistanaidd yn bennaf yn targedu merched gwyn Prydeinig. Am flynyddoedd, cafodd cwestiynau dilys am y patrymau hynny eu hosgoi gan yr awdurdodau, a oedd fel pe baent yn pryderu mwy am achosi tramgwydd na diogelu plant. Ni allwn ganiatáu i gywirdeb gwleidyddol na llwfrdra sefydliadol rwystro diogelu.
Os oes patrymau tebyg yng Nghymru, rhaid eu datgelu. Mae data tryloyw ar ethnigrwydd troseddwyr yn hanfodol i ddeall y bygythiad ac atal cam-drin pellach. Rhaid i Lywodraeth Cymru graffu hefyd ar bob polisi perthnasol, gan gynnwys ei chynllun cenedl noddfa, er mwyn sicrhau bod mesurau diogelwch priodol yn atal unigolion peryglus rhag dod i mewn i'n cymunedau neu aros ynddynt.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Ewch amdani.
A yw'r Aelod o Reform UK yn cytuno y dylai unrhyw un a geir yn euog o gam-drin menywod a merched, ni waeth beth y bo lliw eu croen, wynebu grym eithaf y gyfraith?
Camdriniwr yw camdriniwr. Cywir. Dylent.
Ni all tosturi olygu naïfrwydd. Rhaid i unrhyw un sy'n dod i'r wlad hon barchu ein cyfreithiau, ein diwylliant, a hawliau menywod a merched. Mae angen inni wybod a fethodd gwasanaethau cymdeithasol, heddluoedd ac awdurdodau lleol yn eu dyletswydd gofal, a anwybyddwyd y rhybuddion, ac yn bwysicaf oll, beth sydd wedi newid. Mae dioddefwyr wedi aros yn rhy hir o lawer. Maent yn haeddu'r gwirionedd, cyfiawnder ac atebolrwydd, ac mae’n rhaid i'r Senedd hon beidio â gorffwys hyd nes y'u cânt.
Dyna'r araith drosodd, ond mae gennyf ychydig funudau, felly mae gennyf rywfaint o ryddid, Lywydd, os nad oes ots gennych. Mae rhai o'r lleisiau yma heddiw wedi bod yn wych, ac maent wedi mynd at wraidd y broblem. Mae gennym broblem ledled y wlad, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny a gwneud beth bynnag sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol a'n plant ifanc nawr yn ddiogel ac yn cael eu cadw'n ddiogel. Mae rhai pwyntiau gwych wedi'u gwneud gan bob un o'r pleidiau. Beca, rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaethoch. Ni ddylai hyn fod yn bêl-droed wleidyddol; mae'n drueni na chawsoch chi'r memo hwnnw.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i bob Aelod sydd wedi cyfleu rhai profiadau eithriadol o bersonol y prynhawn yma.
Diolch i bob Aelod sydd wedi rhannu naill ai eu profiadau eu hunain neu brofiadau teuluol. Hoffwn ddiolch i Paul am rannu'r—. Mae Paul wedi mynd, ond hoffwn nodi profiad erchyll ei ferch, a bydd pawb yn y Siambr yn cydymdeimlo gyda hi, wrth gwrs. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am rannu hynny.
Mae'r ddadl hon yn ymdrin â rhai o'r niweidiau mwyaf difrifol, mwyaf erchyll mae plentyn yn gallu eu profi. Mae cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio rhywiol ar blant yn gallu cael effaith ddofn a gydol oes ar bob agwedd ar fywyd person. Maen nhw'n gallu effeithio ar addysg, perthnasoedd, cyflogaeth, iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant unigolyn ymhell i'w fywyd fel oedolyn. Rhaid i'r rhai sy'n cyflawni y troseddau hyn gael eu dal i gyfrif. Mae pob dioddefwr a goroeswr yn haeddu cyfiawnder a chymorth.
Cyn imi fynd ymhellach, Lywydd, hoffwn gydnabod dewrder dioddefwyr a goroeswyr y mae eu profiadau'n parhau i lunio ein dealltwriaeth o gam-drin a chamfanteisio ac yn sbarduno gwelliannau ar draws ein systemau diogelu. Rwy'n llawn parch at eich dewrder, ac rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed a bod eich profiadau'n parhau i sbarduno newid.
Mae'r cynnig ger ein bron yn nodi'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau'n gysylltiedig â chamfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru ac yn datgan bod pob dioddefwr yng Nghymru yn haeddu cyfiawnder. Ar yr egwyddor honno, ni ddylai fod unrhyw anghytundeb yn y Siambr hon. Buaswn yn ychwanegu nad yw hynny'n ddigon. Mae cyfiawnder fel arfer yn golygu adeg lle mae pobl sydd wedi gwneud pethau ofnadwy yn cael eu dwyn i gyfrif. Mae hynny'n hanfodol bwysig. Ond ynddo'i hun, nid yw hynny'n waredigaeth. Mae angen y gefnogaeth gywir ar oroeswyr ar yr adeg iawn drwy gydol eu hoes, a mwy na'r foment honno yn unig. Dyna pam y mae ein gwelliant wedi ychwanegu'r elfen hanfodol honno o gefnogaeth.
Mae gwelliant y Llywodraeth yn cydnabod ymhellach fod Cymru’n rhan o gwmpas yr ymchwiliad annibynnol statudol i gangiau grŵmio, sydd wedi'i sefydlu ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion yn ymwneud â Chymru, ac i fwrw ymlaen ag unrhyw gamau angenrheidiol gyda'r brys mwyaf. Mae'r gwelliant hefyd yn cadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol drwy'r strategaeth genedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru 2026-2036, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, gan gynnwys gweithredu'r camau a nodir yn ei chynllun cyflawni.
Mae gwaith hanfodol wedi'i wneud yn y maes hwn, gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd eisoes, ac mae'r Llywodraeth yn ymgysylltu'n rhagweithiol â'r ymchwiliad. Rwy'n clywed y pryderon a godwyd o amgylch y Siambr—rwy'n eu clywed. Rydym yn cynnal ac yn parhau i ymgysylltu'n swyddogol, ond mae gennyf gyfarfod ar y ffordd hefyd gyda'r Farwnes Longfield, a byddaf yn codi'r pwyntiau hyn. Mae'r ymchwiliad wedi dechrau cyhoeddi meysydd ar gyfer ymchwilio lleol, fel rydym wedi'i glywed, ac rydym yn disgwyl i feysydd pellach gael eu cyhoeddi wrth i'w waith fynd rhagddo. Mae Cymru eisoes yn rhan o gwmpas yr ymchwiliad statudol, a all gynnal ymchwiliadau lleol manwl lle mae'r dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny. Yn wir, fel y dywedaf, byddaf yn atgyfnerthu'r angen i Gymru gael ei hystyried yn llawn pan fyddaf yn cyfarfod â'r Farwnes.
O ran y cynnig, mae yna bethau roedd angen i ni eu hychwanegu, fel y pwynt a wneuthum am y gefnogaeth yn ogystal â chyfiawnder, a chydnabod yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud.
Mae cymryd rhan mewn ymchwiliad ehangach i Gymru a Lloegr hefyd yn gyfle i nodi'r tueddiadau a phatrymau camdriniaeth nad ydynt yn parchu ffiniau cenedlaethol.
Bydd dysgu gwersi o’r ymchwiliad hwn yn hanfodol, ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn ymateb i realiti heddiw. Dyw’r plant sy’n wynebu risg heddiw ddim yn gallu aros am gasgliadau’r ymchwiliad. Ochr yn ochr â’n gwaith ar gyfer yr ymchwiliad, dŷn ni’n gwneud llawer o waith i gryfhau trefniadau diogelu ar draws Cymru, a bydd Aelodau yn clywed rhagor am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno hynny.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno gwelliant yn galw am ymchwiliad Cymru gyfan ac ar wahân i faterion wedi’u datganoli. Dwi’n deall y bwriad tu ôl i’r cynnig—dwi yn deall hynny. Mae’n bwysig ei gwneud yn glir, fel dwi wedi dweud, bod yr ymchwiliad ar gyfer Lloegr a Chymru. Mae Cymru’n rhan ganolog o’i gylch gwaith. Mae gan yr ymchwiliad y gallu i gynnal ymchwiliadau lleol yng Nghymru, ac mae’n cydnabod y cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli ac sydd ddim wedi'u datganoli. Roeddech chi'n sôn am ymgynghoriad COVID, a dwi'n meddwl mai dyna ydy'r gwahaniaeth mawr, oherwydd roedd hynna'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yn bennaf, ac mae hwnna dan orchwyl Llywodraeth Cymru. Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Mae Darren eisiau dod i mewn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae cyfatebiaeth uniongyrchol yma, onid oes? Safodd eich plaid ochr yn ochr â'm plaid i wrth alw am ymchwiliad COVID penodol i Gymru, oherwydd er bod ymchwiliad COVID y DU yn gyfrifol am ymchwilio i faterion yng Nghymru, nid oeddem yn credu y byddai'n rhoi digon o sylw i'r prosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru a'r meysydd cymhwysedd datganoledig hynny. Mae'r un peth yn union yn wir yma.
Rydych chi eisoes wedi dweud eich bod wedi cyfathrebu â'r Farwnes Longfield ynglŷn â'r ymchwiliadau lleol. Mae hi wedi ateb yr un fath i mi ag y gwnaeth i ohebiaeth gan eraill yn y Siambr hon drwy ddweud y gallai fod ymchwiliadau lleol pellach yn y dyfodol lle mae'r dystiolaeth yn arwain. Rydym eisoes yn gwybod bod problemau wedi bod yng Nghymru, felly mae'r dystiolaeth eisoes yno, ac eto nid ydym wedi gweld unrhyw ymchwiliadau lleol ar hyn o bryd.
Rhaid eich bod yn gweld yr her yn y ddadl rydych chi'n ei chyflwyno nawr o gymharu â'r ddadl a gyflwynwyd gennych pan oedd penderfyniadau'r ymchwiliad COVID yn cael eu gwneud, gan y gwyddom fod problemau diogelu ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, tai, ym mhob math o feysydd cymhwysedd datganoledig y mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu harchwilio'n llawn. Dyna pam y carwn eich annog—eich annog o ddifrif—i ystyried eich safbwynt ar hyn, a pheidio â dweud 'Na' yn gyfan gwbl. Hyd yn oed os ydych chi'n dweud, 'Fe wnawn gadw meddwl agored ar hyn', buaswn yn ddiolchgar.
Lywydd, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cofio yn nes ymlaen fy mod wedi caniatáu'r ymyriad hir hwnnw, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth hanfodol bwysig yma. Y gwahaniaeth bach yma—ac mae gwahaniaethau bach yn hanfodol bwysig—oedd bod yr ymchwiliad COVID, o ran ei ffocws, yn mynd i fod ar faterion datganoledig. Byddai llawer iawn o'r ffocws yma y tu hwnt i'n rheolaeth, ac rydym am sicrhau bod y gwaith hwn yn canolbwyntio nid yn unig ar brofiadau dioddefwyr ar y pryd, ond ar brofiadau goroeswyr heddiw, ac nid eu haildrawmateiddio drwy ddyblygu gwaith, a dyna pam nad ydym am—. Ond unwaith eto, rwy'n gweld pa mor bwysig, pa mor hanfodol bwysig, yw hi fod Cymru’n gwbl ganolog yn hyn. Mae'n bwynt y byddaf yn ei atgyfnerthu pan fyddaf yn cyfarfod â'r Farwnes.
Os gallaf ffeindio lle'r oeddwn i nawr.
Wel, rwy'n ailadrodd, gan fod hyn yn werth ei ailadrodd, os wyf eisoes wedi gwneud y pwynt hwn: nid yw camfanteisio rhywiol ar blant yn gyfyngedig i ffiniau cenedlaethol. I ddeall y darlun llawn, mae angen archwilio tystiolaeth ar draws yr ystod o asiantaethau sy'n ymwneud â diogelu, addysg, iechyd, plismona a chyfiawnder troseddol hefyd. Nid yw pob un o'r rheini wedi'u datganoli i ni yng Nghymru wrth gwrs. Yr hyn a fydd, yr hyn sy'n rhaid iddo wneud plant yn fwy diogel, yw gweithredu ar dystiolaeth, nodi risgiau'n gynharach, cryfhau arferion diogelu a sicrhau bod goroeswyr yn cael y cymorth ystyriol o drawma sydd ei angen arnynt.
Nawr, mae'r 'Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026-2036' yn cynnwys camau gweithredu penodol i atal, nodi ac ymateb i gam-drin rhywiol gan grwpiau, gan gynnwys gangiau grŵmio. Ynghyd â'i chynllun cyflawni, mae'n nodi uchelgais glir y dylai pob plentyn yng Nghymru fyw'n rhydd rhag niwed cam-drin plant yn rhywiol, a bod pawb sy'n cael eu cam-drin yn cael eu diogelu a'u cefnogi drwy gydol eu hoes. Dyna'r uchelgais. Rhaid i ni ei gyflawni, oherwydd ar y cyd, mae angen inni wneud mwy a'i wneud yn well. Mae hynny'n ddyletswydd ar bob un ohonom.
Mi fydd angen dull gweithredu system gyfan, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus, partneriaid diogelu, cymunedau a goroeswyr at ei gilydd. Mi fyddwn ni’n rhoi fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar waith, yn cryfhau cymorth i ymarferwyr a goroeswyr, ac yn gwella gwasanaethau ledled Cymru.
Ym mis Medi yn unig, daeth mwy na 400 o weithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru a phartneriaid ac arbenigwyr diogelu at ei gilydd i gryfhau gwybodaeth, gwella ymarfer a hybu’r gwaith o weithredu’r strategaeth. Ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, mi fydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol yn cael ei lansio i helpu pobl i adnabod arwyddion o gam-drin a deall y camau y gallan nhw eu cymryd.
Oherwydd mae diogelu yn fusnes i bawb. Er bod plismona a chyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn faterion a gedwir yn ôl, rŷn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws gwasanaethau cyhoeddus i atal niwed, lleihau troseddu ac adeiladu cymunedau mwy diogel ledled Cymru. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â’n hymrwymiad ehangach i atal trais, cam-drin a chamfanteisio ac i greu cymunedau mwy diogel ledled Cymru.
Mi fyddwn ni’n cyhoeddi strategaeth newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod yr haf flwyddyn nesaf.
Yn gynharach eleni, fe wnes i rannu fy mlaenoriaethau â’r Senedd. Mae cryfhau trefniadau diogelu i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn dal i fod yn un o’m prif flaenoriaethau. Rhaid i leisiau plant fod yn ganolog i benderfyniadau diogelu, gan gynnwys pan fo pryderon yn bodoli ond dyw'r plentyn ddim wedi datgelu hynny’n ffurfiol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno dyletswyddau newydd o ran rhoi gwybod am gam-drin plant yn rhywiol, cryfhau safonau diogelu a sicrhau bod gwersi o bryderon diogelu yn arwain at welliant ledled Cymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd yr Aelodau yn cael clywed rhagor am sut rŷn ni’n bwriadu cyflawni’r ymrwymiadau hynny ar lawr y Senedd.
Lywydd, mae diogelu'n hanfodol i'r Gymru rydym am fod. Bydd yn parhau i fod yn ganolog i uchelgeisiau ehangach y Llywodraeth hon. Mae gwelliant y Llywodraeth yn cydnabod difrifoldeb, difrifoldeb ofnadwy, y troseddau hyn. Mae'n cydnabod bod dioddefwyr a goroeswyr yn haeddu cyfiawnder a chefnogaeth. Mae'n cydnabod bod Cymru o fewn cwmpas yr ymchwiliad statudol ac mae'n ein hymrwymo—yn ein hymrwymo ni—i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion sy'n gysylltiedig â Chymru, a bwrw ymlaen ag unrhyw gamau angenrheidiol.
Ond yn bwysig, mae hefyd yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wneud plant yn fwy diogel heddiw. Mae achosion diweddar a welsom yng Nghymru yn dangos bod y cyfrifoldeb i wella diogelu, i wella bywydau plant, yn dechrau nawr. Dyna pam ein bod yn cryfhau trefniadau diogelu ledled Cymru. Dyna pam y mae diogelu'n parhau i fod yn un o fy mhrif flaenoriaethau fel Dirprwy Weinidog. Oherwydd mae pob plentyn yn haeddu cael tyfu i fyny'n ddiogel. Mae pob dioddefwr a goroeswr yn haeddu cael eu clywed, eu cefnogi, eu trin ag urddas. Dyna'r Gymru rydym ei heisiau, Cymru lle mae plant yn fwy diogel, lle mae cam-drin yn cael ei nodi'n gynharach, Cymru lle mae goroeswyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy gydol eu hoes, Cymru lle mae goroeswyr yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt, lle mae trefniadau diogelu'n gryf, yn effeithiol, ac yn ennyn hyder. Dyma'r Gymru y mae'n rhaid inni ei hadeiladu gyda'n gilydd, ac am y rhesymau hynny, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Diolch. Galwaf nawr ar Llŷr Powell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i bob Aelod a geisiodd gyfrannu at yr ysbryd roeddem yn gobeithio y byddai'r ddadl heddiw yn cael ei chynnal ynddo? Paul, mae eich dewrder yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom. Mae'r hyn yr aethoch chi a'ch teulu drwyddo, yr hyn rydych chi'n dal i fynd drwyddo, a chael y dewrder i gerdded i mewn i'r Siambr hon heddiw a rhannu'r profiadau hynny, i geisio argyhoeddi'r Aelodau o bwysigrwydd pleidleisio o blaid y cynnig hwn, yn ysbrydoliaeth wirioneddol i bob un ohonom. Diolch yn fawr iawn.
Beca Brown, eich cyfraniad chi: roeddwn yn cytuno â'r rhan fwyaf ohono hyd nes y dechreuoch chi geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, ond mae addysg yn sicr yn iawn. Rwy'n cytuno â chi. Ac yno gallwn ddod o hyd i rywfaint o dir cyffredin, ond nid yw hynny'n ddigon. Mae yna ddioddefwyr nawr sydd eisoes wedi cael y profiadau hyn, a'r hyn y maent ei eisiau yw cael eu clywed, i rywun wrando arnynt, ac yna gall eu lleisiau droi'n weithredu pan fydd pobl fel ni yn y Siambr hon yn clywed y profiadau hynny. Mae yna bobl heddiw yn yr oriel ac yn gwylio'r ddadl hon gartref sy'n awyddus iawn i fynegi eu profiadau mewn amgylchedd diogel, lle na chaiff ei gwleidyddoli, lle mae rhywun yn gwrando arnynt, a lle gellir rhoi camau ar waith. Ni allwn danseilio hynny.
Nawr, Darren, eich cynnig chi heddiw—ar y meinciau hyn, rydym yn cytuno â chi fod angen ymchwiliad COVID ei hun ar Gymru, oherwydd y pwyntiau a wnaed gan sawl Aelod heddiw. Y rheswm dros beidio â chynnwys hynny yn y cynnig hwn yw ein bod yn credu y gallem ddod i gonsensws ar draws y Siambr fod ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd, a elwir yn ymchwiliad Cymru a Lloegr, nad yw'n edrych ar unman yn y genedl hon ar hyn o bryd.
Nawr, Weinidog, rwy'n deall eich bod chi wedi dweud eich bod yn mynd i ddadlau'r achos drosto, ond nid wyf yn deall eich gwelliant heddiw. A allwch chi ddychmygu pŵer y neges y gallem fod wedi'i hanfon? Gallech fod wedi cael mandad gan y Siambr hon, yn ein huno. Ni fyddech wedi bod yn cerdded i mewn yno fel Gweinidog Llywodraeth leiafrifol, byddech wedi cerdded drwy'r drws gyda mandad gan y Senedd hon sy'n dweud, 'Dylid cynnwys Cymru.' Ni ddylai fod polisi yma y byddwn yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ai dyma bolisi Plaid Cymru nawr?
Ddydd Llun, roeddech chi'n eistedd gydag ymwahanwyr. Heddiw, rydych chi'n eistedd yma'n dweud, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr.' Nid yw hynny'n iawn. Rhaid i leisiau gael eu clywed. Ac mae gan y dioddefwyr hynny eu profiadau eu hunain—unigryw. Ac rwy'n siŵr eu bod yr un mor unigryw mewn gwahanol ardaloedd. Ni allem nodi un ardal o Gymru sydd â'r un profiad. Mae cyfraniadau Darren a Tom heddiw, yn siarad am eu hetholaeth—mae'r profiadau yno'n erchyll. Ond rwy'n siŵr eu bod yn unigryw i'r ardal honno sydd â hawl i gael ei chlywed, yn union fel Casnewydd—sy'n wahanol eto. Gadewch inni annog nawr gyda'n gilydd. Gadewch inni roi diwedd ar y gwelliant hwn. Gadewch inni bleidleisio gyda'n gilydd a rhoi mandad clir i chi. Dyna mae'r dioddefwyr hyn ei eisiau, nid sgorio pwyntiau. Nid abwyd clicio mohono. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelodau ar y meinciau hyn, fel Cristiana, at Gadeirydd y pwyllgor yn annog hyn; fel y dywedodd Darren, mae yntau wedi gwneud hynny hefyd. Rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref yn eu hannog i gynnwys Cymru. Ein bwriad yw rhoi'r pŵer heddiw i chi gerdded i mewn i'r swyddfa honno gyda mandad gan y Siambr hon, y Senedd hon, yr Aelodau etholedig, yn dweud, 'Rhaid cynnwys Cymru.' Felly, rwy'n eich annog i feddwl eto. Manteisiwch ar y cyfle hwn. Manteisiwch ar y consensws trawsbleidiol. Gadewch inni sefyll o blaid y dioddefwyr. Gadewch inni beidio â bod yn blwyfol yn hyn. Dyna fy nghynnig i chi heddiw wrth bleidleisio gyda ni dros y cynnig hwn.
Mae mor syfrdanol fod—. Rwyf wedi cael llythyrau yn ôl gan gadeirydd yr ymchwiliad hwn. Sut ar y ddaear y gellir dyrannu £65 miliwn o dan enw Cymru a Lloegr heb ystyried yr un sir ar hyn o bryd? Dim ond cynnig 'efallai'—'efallai y gallai fod'. Mae hynny'n annerbyniol. Mae dioddefwyr a goroeswyr o ymchwiliadau eraill wedi dweud pa mor bwysig oedd cael eu lleisiau yn yr ymchwiliadau hynny, boed yn COVID, Hillsborough—mae'r rhestr yn parhau. Mae ymchwiliadau'n rhan bwysig o adferiad, a dyna sy'n rhaid inni ddechrau meddwl amdano. Adferiad—rwy'n falch fod yr Aelodau wedi sôn am hynny heddiw, ac rwy'n cytuno â chi, Weinidog—o iechyd meddwl a thrawma corfforol, ac i'r dioddefwyr hynny sydd wedi troi at, boed yn gamddefnyddio sylweddau, mae’n rhaid inni wneud yn well yno i'w cefnogi. A Sarah Rees, eich cyfraniad yno, roedd yn un pwerus iawn ar y dechrau. Mae’n ddrwg gennyf fod pethau wedi mynd braidd yn blwyfol wedyn, ond rwy'n falch eich bod wedi codi'r materion hynny, a diolch.
Mae mwy y mae'n rhaid inni ei wneud—fe wyddom hynny yn y Siambr. Ac mae consensws yma. Felly, pan fyddwn yn bwrw ymlaen, ac yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yma, gadewch inni edrych ar y dioddefwyr, fel y dywedodd Paul, nid fel ystadegau, ond fel bodau dynol—merch rhywun, neu mewn rhai achosion, mab, plentyn rhywun. Dyna bŵer yr hyn sydd o'n blaenau heddiw. Nawr, fe wn nad yw'n gyfreithiol rwymol, y cynnig hwn yn y Siambr, ond mae'n neges y gallwn ei hanfon, fel Senedd unedig, i ddweud y bydd dioddefwyr ledled Cymru’n cael eu clywed a bod yn rhaid gwrando arnynt, nad oes unrhyw un a all eu hanwybyddu mwyach, a bydd unrhyw dramgwyddwr allan yno'n gwybod na fydd y Senedd hon yn ei oddef. Ni fydd Cymru’n ei oddef.
Mae'r £65 miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth y DU. Mae'n senario ryfedd; dylai'r Gweinidog cyllid yma fod yn falch nad yw Reform yn gofyn iddi wario unrhyw arian o gyllideb Cymru heddiw. Rhaid ein cynnwys yno, a gobeithio, pan fyddwch yn cyfarfod â chadeirydd yr ymchwiliad ac aelodau eraill, y bydd yr achos yn cael ei ddadlau'n glir. Ac mae angen inni wneud hynny heb unrhyw beth arall heblaw ceisio'r gwirionedd. Nid wyf eisiau unrhyw beth arall—sarhad na hiliaeth nac unrhyw beth arall. Y cyfan rwyf ei eisiau yn hyn—a lle rwy'n cytuno â Chadeirydd y pwyllgor—yw dilyn y dystiolaeth. Gadewch inni rymuso'r heddlu i wneud yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud. Ond byddwn yn pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr ar eu gwelliant heddiw, gan y credaf fod achosion eraill y mae angen inni fynd at eu gwraidd yng Nghymru, ar ba lefel bynnag.
Cododd Cristiana sawl pwynt yno y credaf y dylid gwrando arnynt, ac mae wedi codi hyn yn angerddol dro ar ôl tro. Pan fyddwn yn gadael y Siambr hon heddiw, rwy'n gobeithio y gallwn ddweud na fydd dioddefwyr yn cael eu hanwybyddu. Rwyf wedi clywed hynny ar draws y Siambr, ond nid yw'n ddigon ein bod ni'n sefyll yma'n ei ddweud—nid yw i mi sefyll yma'n ei ddweud yn ddigon. Sut rydym yn pleidleisio heno yw'r hyn sy'n bwysig. Gweithredu ar hyn sy'n bwysig.
Clywais stori bwerus cyn i'r ddadl hon gael ei chyflwyno, gan rywun rwy'n mynd i'w galw'n Jane. Mae hi'n oroeswr ei hun. Cafodd ei hanwybyddu pan siaradodd am ei phrofiadau. Cafodd ei defnyddio fel yr hyn a ddisgrifiodd fel gwrthrych rhywiol, nid bod dynol. O'i phrofiad hi, o'r hyn roeddent yn ei wneud pan oeddent yn rhoi cyffuriau iddi—parhaodd y ddibyniaeth honno ar ôl hynny. Y ffordd y gwnaeth cymdeithas ei labelu hi, a'r hyn oedd hi—fel rhywun a oedd yn gaeth i gyffuriau, a gair nad wyf am ei ddweud yn y Siambr, Lywydd, ond gall yr Aelodau ddychmygu. Heddiw, mae hi wedi dod o hyd i ffordd o godi ei llais, i weithio i elusen sy'n helpu pobl eraill. Mae ei phrofiad wedi helpu mwy a mwy o fenywod ifanc, menywod sydd wedi dod i delerau â gallu codi eu llais, i delerau â'r hyn a ddigwyddodd, a dechrau ar eu hadferiad. Ac mae hi'n gwylio nawr, a hoffwn gofnodi, a dyna pam rwy'n dweud hyn, ei dewrder a'i gweithredoedd, a dylai'r ffordd y mae hi wedi troi trosedd gwbl erchyll yn ei herbyn yn rhywbeth cadarnhaol ac yn ffordd well o ymdrin â chymdeithas ysbrydoli pob un ohonom. I mi, fe wnaeth fy annog i siarad heddiw yn y Siambr hon. A dyna bŵer codi eich llais. Dyna bŵer un unigolyn yn siarad â mi, i fy ysbrydoli i godi fy llais yn y Siambr hon heddiw. Mae gadael i'r dioddefwyr neu'r goroeswyr hynny—sut bynnag y maent yn dymuno cael eu galw—gael eu clywed yn yr ymchwiliad hwnnw yn hanfodol. Gallai ysbrydoli cenhedlaeth arall, gallai agor llawer o lygaid i ffyrdd nad ydym erioed wedi'u hystyried, neu efallai ein bod wedi cerdded heibio iddynt yn ddall.
Felly, wrth gloi heddiw, rwy'n annog yr Aelodau i ystyried beth yw'r cynnig o'u blaenau. Nid ydym yn ceisio sgorio pwyntiau. Nid ydym yn ceisio gwleidyddoli rhywbeth. Rydym wedi cymryd profiadau go iawn, wedi gwrando ar leisiau go iawn ac rydym yn eich annog chi heddiw i anfon neges glir at gadeirydd yr ymchwiliad: gadewch i Gymru gael ei chynnwys. Ac os byddwch chi'n pleidleisio i'n tawelu ar hynny heddiw, byddwn yn ôl, gan fod yn rhaid i'r lleisiau hyn gael eu clywed. Diolch yn fawr, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Heledd Fychan, gwelliant 3 yn enw Paul Davies, a gwelliant 4 yn enw Lynne Neagle.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 6, dadl Reform UK, anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Galwaf yn awr ar Benjamin Hodge Mckenna i wneud y cynnig. Benjamin.
Cynnig NDM9294 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Cristiana Emsley, John Clark, Sarah Cooper-Lesadd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at yr anghydfod cyflog parhaus rhwng ymwelwyr iechyd yng Nghymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i hwyluso datrysiad boddhaol i'r anghydfod, gan gynnwys cynnig cyflog teg, ac i roi terfyn ar y streic.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n codi heddiw i gefnogi cynnig Reform. Rhwng mis Mawrth a mis Mai y llynedd, cyflawnodd Cwm Taf Morgannwg 6,410 o ymweliadau gan ymwelwyr iechyd. Yn yr un tri mis eleni, dim ond 909 a wnaed. Nid yw hynny'n addasiad bach, mae'n chwalfa lwyr. Mae babanod yn colli archwiliadau, mae atgyfeiriadau diogelu ar lefel lawer is na'r llynedd ac mae elusennau sy'n cefnogi mamau newydd yn dweud bod y galw am y gwasanaethau hyn wedi dyblu, os nad treblu. Mae plant yn rhai o'r cymunedau tlotaf yng Nghymru yn talu am anghydfod y dylid bod wedi ei ddatrys fisoedd yn ôl.
Ac mae Plaid Cymru yn gwybod hyn. Lywydd, yn fy llaw mae gennyf lythyr wedi'i lofnodi gan y Prif Weinidog presennol. Fe'i llofnododd yn ystod yr ymgyrch etholiadol ym mis Ebrill. Yn y llythyr hwn, dywedodd fod y methiant i ddod i gytundeb teg yn annerbyniol, a galwodd am weithredu ar unwaith i ymwelwyr iechyd band 6 gael eu huwchraddio i fand 7. Ym mis Mawrth, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon y dylai pob ymwelydd iechyd fod ym mand 7, nid band 6, a bod gweithlu benywaidd yn cael eu hamddifadu o'r cyflog yr oeddent yn ei haeddu.
Nawr, geiriau cynnes gan Blaid Cymru pan oedd yn wrthblaid oedd y rheini, ond roedd hynny cyn iddynt gael pŵer i ddatrys y mater. Mae ganddynt y pŵer hwnnw nawr. Felly beth y mae'r blaid wedi'i wneud i ddatrys y broblem? Dywedodd y Gweinidog iechyd wrth y Siambr hon fod y gweithredu diwydiannol yn anghydfod rhwng y bwrdd iechyd ac Unite sy'n ymwneud â phenderfyniadau dros sawl blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod hon yn sefyllfa anffodus na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf—cryn dipyn o newid cywair o'r gweithredu uniongyrchol yr oeddent yn ei annog cyn yr etholiad.
Mae ymwelwyr iechyd a bleidleisiodd dros Blaid Cymru bellach yn gofyn a oedd y sicrwydd a roddwyd iddynt cyn yr etholiad yn gamarweiniol neu'n ffug. Mae gennyf lythyr arall yn fy llaw, Lywydd, yr un hwn wedi'i ysgrifennu gan undeb Unite. Ynddo, maent yn dweud:
'Fe wnaeth llawer ohonom bleidleisio ac ymgyrchu dros Blaid Cymru, ac ymddiried yn yr addewidion a wnaethoch y byddai dull newydd o weithredu'n cael ei arfer i ddatrys yr anghydfod hwn.
'Ar y gorau, a oeddech chi'n ddi-hid gyda'ch addewidion neu ai'r cwestiwn yw "A yw Plaid Cymru wedi dweud celwydd?"'
Nawr, nid fy nghwestiwn i yw hwnnw. Dyna eiriau ymwelwyr iechyd sy'n cael eu siomi gan Lywodraeth Plaid Cymru.
Nid gweithredu yw gofyn i'r ddwy ochr ddod yn ôl at y bwrdd; mae'n droi cefn. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith ar unwaith i ddatrys yr anghydfod hwn, gan gynnwys cynnig cyflog teg i ddod â'r streic i ben. Dywedodd Rhun ap Iorwerth ym mis Ebrill fod y methiant i ddatrys yr anghydfod hwn yn annerbyniol. Roedd y geiriau hynny'n wir bryd hynny ac maent yn wir nawr. Y gwahaniaeth yw bod gan Blaid Cymru bŵer i ddatrys yr anghydfod hwn. Felly, rwy'n eu hannog i ddefnyddio'r pŵer hwnnw a gwneud hynny. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:
sy'n rhagflaenu'r llywodraeth bresennol ac sydd wedi parhau heb ei ddatrys ers nifer o flynyddoedd.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Unite dro ar ôl tro i ddod ynghyd i ddatrys yr anghydfod hwn er mwyn lleihau'r effaith ar fabanod, teuluoedd a staff, a'i fod yn parhau'n ymrwymedig i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth gadarnhaol ar bob lefel ac i ddatrys anghydfodau lleol drwy drafod cyn gynted â phosibl.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu ymwelwyr iechyd diogel a sefydlog ledled Cymru, a bod Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi comisiynu gwaith i adolygu ac ystyried y ffordd y darperir gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y model yn parhau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 3—Paul Davies
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan y Prif Weinidog fel arweinydd Plaid Cymru ar ran Plaid Cymru yn ystod etholiad diweddar y Senedd sy'n galw ar y bwrdd iechyd i anrhydeddu prosesau a gytunwyd ac uwchraddio pob ymwelydd iechyd Band 6 i Fand 7, ac adfer egwyddorion gweithio mewn partneriaeth.
Yn gresynu bod Plaid Cymru mewn llywodraeth wedi methu, hyd yn hyn, ag anrhydeddu'r ymrwymiad a gynhwysir yn y llythyr.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies ar y papur trefn heddiw. Gallaf weld y Gweinidog yn eistedd ar fainc y Llywodraeth. Pan ddaeth y pwnc hwn i'r Siambr hon gyntaf, roeddech chi ar fainc yr wrthblaid ar yr ochr hon i'r Siambr, ac roedd eich cyd-Aelodau a gynrychiolai ardal Cwm Taf yn rhefru ar y Gweinidog iechyd Llafur ar y pryd am ddiffyg gweithredu ac am beidio â gwneud unrhyw beth i ddod â'r anghydfod hwn i ben a rhoi pwysau ar y bwrdd iechyd.
Bum mis yn ddiweddarach, rydych chi ar fainc y Llywodraeth ac nid ydych chi'n gwneud y gwaith yr ymrwymodd eich arweinydd i'w wneud yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Roeddem ni allan ar y grisiau ddoe, ac roedd y gweithwyr iechyd a'u teuluoedd yno, bum mis ar ôl i'r anghydfod hwn ddechrau—nid pum wythnos, pan oeddem yn trafod yr anghydfod hwn yn ôl ym mis Mawrth yn y Siambr hon. A llofnodwyd y llythyr yn y cyfnod etholiadol, ar 17 Ebrill. Dyna'r llythyr, ac mae llofnod eich arweinydd ar y gwaelod yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd. Felly, fe lofnododd ar ran eich holl Aelodau yn y Siambr hon. Ac eto beth sydd gennym? Mae gennym weithwyr iechyd ym mwrdd iechyd Cwm Taf sy'n dal ar streic, bwrdd iechyd nad yw'n ymgysylltu a Gweinidog Plaid Cymru a ymladdodd ymgyrch yr ymrwymodd eu harweinydd y byddai'n dod â'r anghydfod i ben. Mae'n fy atgoffa o ffioedd dysgu a'r Democratiaid Rhyddfrydol, i fod yn onest gyda chi, yn 2010. Os nad ydych chi'n credu rhywbeth, ni ddylech ymrwymo iddo, Weinidog.
Mae'r ddadl yma gan y gweithwyr iechyd yn eithaf syml. Maent eisiau i'w cymwysterau proffesiynol gael eu cydnabod. Nid yw hynny'n gyfystyr â dweud, 'Rydym eisiau 10 y cant', nid yw'n gyfystyr â dweud, 'Rydym eisiau 5 y cant', na 'Rydym eisiau 3 y cant', dyma'r gweithwyr iechyd yn dweud eu bod am i'w cymwysterau proffesiynol gael eu cydnabod yn y cynllun 'Agenda ar gyfer Newid' ym mand 7 yn hytrach na band 6. Fe'i gwnaed yn yr Alban yn 2019, gellir ei wneud yng Nghymru ar gyfer y darn hanfodol hwn o jig-so y teulu iechyd yma yng Nghymru. Galwaf arnoch chi, Weinidog, i gyflawni'r addewid a wnaethoch yn yr etholiad, galwaf arnoch i gyflawni'r addewidion a wnaeth eich Aelodau yn y Siambr hon yn ôl ym mis Mawrth, a dod â'r anghydfod hwn i ben. Cydnabyddwch yr ymroddiad a'r ymrwymiad y mae'r gweithwyr iechyd a'r ymwelwyr iechyd hynny yn eu darparu i'r gymuned o weithwyr iechyd sydd mor hanfodol i'n GIG, ac yn hytrach na mwynhau'r pŵer, arferwch y cyfrifoldeb, a defnyddiwch y cyfrifoldeb sydd gennych gyda'r pŵer sydd gennych i ddod â'r bwrdd iechyd at y bwrdd a chael ein gweithwyr allweddol yn ôl i'r gwaith fel y gellir diogelu teuluoedd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, ac yn y pen draw sicrhewch fod y cymwysterau proffesiynol sydd gan y gweithwyr ymroddedig hyn yn cael eu cydnabod o dan y cynllun 'Agenda ar gyfer Newid' a'u bod yn cael y band 7 y maent yn ei haeddu. Diolch.
Galwaf ar Vikki Howells i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.
Gwelliant 4—Lynne Neagle
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl sylfaenol ymwelwyr iechyd wrth roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan gynnwys eu rôl hanfodol wrth ddiogelu babanod a phlant, ac yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatrys yr anghydfod a chael ymwelwyr iechyd yn ôl i'r gwaith.
Cynigiwyd gwelliant 4.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 4 yn ffurfiol.
Fe wnaethom gynnig ein gwelliant am fod y cynnig gwreiddiol yn methu pwynt pwysig, sef y rôl sylfaenol y mae ymwelwyr iechyd yn ei chwarae wrth roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon yn ymuno â ni i gefnogi'r gwelliant hwnnw i gydnabod rôl yr ymwelwyr iechyd hynny heddiw. Ac i ni, mae hynny'n mynd at graidd y mater hwn a pham ei bod mor bwysig ei fod yn cael ei ddatrys. Ac mae hefyd yn adleisio barn yr ymwelwyr iechyd hynny. Maent yn awyddus iawn i ddychwelyd i'w rôl bwysig, yn darparu'r gwasanaeth diogelu cyffredinol hwnnw, a hynny o ran datblygiad babanod, iechyd meddwl amenedigol a nodi arwyddion cynnar pan fydd pethau'n mynd o'u lle.
Ymwelwyr iechyd yn aml yw'r rhai cyntaf i nodi anghenion dysgu ychwanegol ac i gael sgyrsiau allweddol am imiwneiddio. Heb ymwelwyr iechyd, nid oes dosbarthiadau ôl-enedigol yn cael eu cynnal yng Nghwm Taf Morgannwg ac nid oes cymorth iechyd meddwl i rieni yno. Yn wir, ers i'r anghydfod ddechrau, dylai fod 23,000 o apwyntiadau rheolaidd wedi'u cynnal o dan raglen Plant Iach Cymru ar draws ardal y bwrdd, ond dim ond 900 sydd wedi'u darparu. Pan fydd ymwelwyr iechyd ar streic, nid yw plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rhaid i hyn newid.
Weinidog Cabinet, gwn fod fy nghyd-Aelod Sarah Murphy wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar ynglŷn â hyn, ac yn eich ymateb rydych chi'n dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i ymyrryd ac na allwch gymryd rhan yn yr anghydfod ei hun. Nid yw hynny’n gywir. Mae Llafur Cymru ac undeb Unite o’r farn fod angen i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo Cwm Taf Morgannwg i dalu ymwelwyr iechyd ar fand 7, fel y dyfarnwyd gan y broses werthuso cyflogau annibynnol. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf lawer o amser felly ni fyddaf yn gallu gwneud hynny, mae’n ddrwg gennyf. Nid yw dweud eich bod yn annog y partïon i ddychwelyd at y bwrdd negodi yn ddigon. Nid oes dim i’w drafod yma. Mae cyflog band 7 wedi’i ddyfarnu gan broses werthuso cyflogau annibynnol. Ac mae cynseiliau hefyd o ran sut y gallech chi ymyrryd. Camodd Vaughan Gething i mewn yn Betsi Cadwaladr i ddatrys mater yn ymwneud â phatrymau shifftiau nyrsys yno; fe wnaeth Eluned Morgan ddiswyddo aelodau anweithredol o'r un bwrdd iechyd pan nad oedd hi'n hapus gyda'u gwaith. Felly, rydym yn eich annog i edrych ar y cynseiliau hyn, gwrando ar Unite a'r ymwelwyr iechyd a gynrychiolant, defnyddio'r pwerau sydd gennych o dan adran 12 o Ddeddf y GIG, a pheidio â gwrando ar y lleisiau sy'n eich annog i bwyllo. Fe roddodd eich rhagflaenydd, Jeremy Miles, gyfarwyddyd clir iawn i Gwm Taf Morgannwg fod angen iddynt anrhydeddu'r broses werthuso swyddi. A chan nad ydynt wedi gwneud hynny, Weinidog Cabinet, rhaid i chi gamu i'r adwy. Drwy ddweud na allwch ymyrryd, nad yw'n fater i'r Llywodraeth, rydych chi'n gosod cynsail peryglus i holl staff y GIG sy'n dod o dan yr 'Agenda ar gyfer Newid', o nyrsys i radiograffwyr, porthorion a glanhawyr.
Rwyf wedi cael cymaint o negeseuon e-bost gan etholwyr ar y mater hwn. Fe wnaeth nifer ohonynt bleidleisio dros eich plaid, ac efallai fod rhai wedi cael eu dylanwadu gan ymyrraeth arweinydd eich plaid ar y mater, yn enwedig drwy'r llythyr y cyfeiriwyd ato yn y gwelliant Ceidwadol. Yn hwnnw, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, ysgrifennodd eich arweinydd na ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau. Galwodd am gamau ar unwaith i ddod â'r anghydfod hwn i ben. Wel, chi sydd mewn grym nawr, Weinidog Cabinet. Chi sy'n gyfrifol. Rydym oll wedi gweld y llythyr agored gan undeb Unite yn condemnio diffyg gweithredu eich Llywodraeth. Rydym ni yn Llafur Cymru wedi sefyll ar risiau'r Senedd, ochr yn ochr ag ymwelwyr iechyd sydd ar streic, bob tro y daethant yma i brotestio; rydym wedi gweld eu crysau-T gyda'r slogan 'Plaid lied' ac wedi clywed yr un siant yn atseinio o gwmpas ein Senedd. Dywedodd y Prif Weinidog fod y methiant parhaus i gyrraedd setliad teg yn annerbyniol—
Vikki, tybed a allech chi ddod i ben.
—ond nawr mae diffyg gweithredu eich Llywodraeth yn dechrau edrych yn waeth.
I lawer o deuluoedd, mae ymwelwyr iechyd yn ffynhonnell hanfodol o gefnogaeth yn ystod rhai o gyfnodau pwysicaf, ac anoddaf weithiau, eu bywydau. Mae hwn yn waith clinigol medrus hynod gyfrifol, ac rwy'n pryderu bod risgiau diogelu sylweddol yn sgil y ffaith nad yw iechyd plant a theuluoedd yn cael eu blaenoriaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhai o'r rhannau mwyaf difreintiedig a bregus o Gymru. Mae'r ffordd y mae'r ymwelwyr iechyd wedi cael eu trin gan y bwrdd iechyd yn gwbl ddirmygus, ac mae eu post diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r anghydfod yn enghraifft o'r iaith ymfflamychol a difrïol y maent wedi'i defnyddio i ddisgrifio'r anghydfod.
Ar ôl cyfarfod a siarad gyda'r ymwelwyr iechyd dro ar ôl tro trwy gydol yr anghydfod hwn, rwy'n gwybod na chaiff gweithredu diwydiannol ei gymryd yn ysgafn. Streic yw'r dewis olaf—mae hynny bob amser yn wir. Ond yn y pen draw, cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw datrys yr anghydfod hwn. Y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am yr anghydfod, ac mae'n rhaid iddo ymgysylltu'n ystyrlon â'i weithlu a dod o hyd i ateb, ac mae angen i hynny ddigwydd nawr.
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi annog y bwrdd iechyd ac Unite dro ar ôl tro i ddod at ei gilydd i ddatrys yr anghydfod a lleihau'r effaith ar fabanod, teuluoedd a staff. Mae ymrwymiad clir o hyd i annog partneriaeth gadarnhaol ar bob lefel, ac i weld yr anghydfod hwn yn cael ei ddatrys trwy negodi cyn gynted â phosibl.
Ac rwy'n ei chael hi'n rhyfeddol fod Reform wedi ceisio gosod ei hun yn sydyn fel plaid hawliau gweithwyr. Ble maent wedi bod tan nawr? Os yw Reform yn credu bod y mater hwn mor bwysig, gallent fod wedi gwrando ar y gweithwyr eu hunain a chlywed yn uniongyrchol am eu pryderon o ddechrau'r anghydfod hwn. Ac rwy'n gwybod i sicrwydd nad yw hynny wedi digwydd. Nid yw'n syndod, efallai, gan blaid y mae ei phennaeth eisiau dileu Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 ac sydd heb fawr o feddwl o bolisïau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Ond rwyf am ddod i ben, Lywydd, trwy ddweud hyn: rydym yn sefyll yn gadarn gyda'n hymwelwyr iechyd a byddwn yn parhau i'w cefnogi yn yr anghydfod hwn. Mae'r neges gennym ni yn glir: rhaid i'r bwrdd iechyd ysgwyddo cyfrifoldeb am y sefyllfa y mae wedi'i chreu, ymgysylltu'n ystyrlon â'i weithlu a datrys yr anghydfod hwn.
Yn y Rhondda ac Ogwr, ymwelydd iechyd yn aml yw'r cyntaf i sylwi ar fabi nad yw'n bwydo, mam nad yw'n ymdopi, cartref nad yw'n ddiogel. Rwy'n derbyn mai'r bwrdd yw'r cyflogwr a bod rhaid i fandio ddilyn gwerthusiad swydd y GIG—ni all y Gweinidog Cabinet lofnodi slip cyflog. Ond mae'r anghydfod hwn wedi goroesi tri Phrif Weinidog yng Nghymru, ac fe lofnododd y pedwerydd yr alwad ei hun—llythyr agored ar y cyd, ar 17 Ebrill, yn galw am fand 7. Mae ymwelwyr iechyd bellach wedi galw arno'n gyhoeddus i anrhydeddu'r gefnogaeth honno. Dywedodd Unite fod graddio'r bwrdd yn cyfateb i'r rolau i fand 7. Mae'r bwrdd yn dweud bod ei ailwerthuso'n cynnwys band 6. Cyhoeddwch y dyddiad, disgrifiadau swydd, gwerthusiad, cofnodion, sgoriau ac adolygwch yr hawliau; esboniwch y gwahaniaethau. Dyna lle mae cynnig teg yn dechrau.
Mae gwelliant 4 yn disodli galwad am weithredu ar unwaith gyda chydnabyddiaeth o negodiadau ac adolygiad Prif Swyddog Nyrsio Cymru. Ym mis Awst, gwrthododd yr undebau iechyd gymryd rhan yn y gwaith hwnnw ar ddisgrifiad swydd. Eu rheswm: mae partneriaeth gymdeithasol wedi chwalu.
Roedd fy nghais rhyddid gwybodaeth yn gofyn a gafodd staff mamolaeth eu defnyddio ar gyfer ymweliadau iechyd rhwng 23 Chwefror a 4 Awst, pan gyhoeddwyd bod gwasanaethau Tirion yn cael eu hatal dros dro. Nid oedd ymateb y bwrdd ar 8 Medi yn ateb y cwestiwn hwnnw. Roedd fy ngwaith dilynol ar 9 Medi yn gofyn am ateb erbyn 23 Medi.
Weinidog Cabinet, ar 17 Mehefin, fe ddywedoch chi wrth y Siambr hon y byddech chi'n disgwyl i'r pleidiau ddod yn ôl at y bwrdd. Dri mis yn ddiweddarach, beth a gyflawnwyd gan eich ymyrraeth bersonol? Beth sy'n dal i atal cytundeb? Pryd fydd yr adolygiad hwnnw'n cyflwyno'i adroddiad? A beth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud mewn pedwar mis i weithredu ar lofnod y Prif Weinidog ei hun?
Gofynnaf am dri ymrwymiad. Yn gyntaf, o fewn 14 diwrnod, cyhoeddwch y cofnodion bandio ac amserlen ar gyfer datrysiad yn enwi pwy sy'n atebol. Yn ail, cyhoeddwch ffigurau misol wedi'u gwirio ar gyfer cysylltiadau sydd i ddod, wedi'u cwblhau a heb eu cwblhau, ochr yn ochr ag atgyfeiriadau diogelu yn ôl ardal cyngor a chynllun adfer sy'n blaenoriaethu plant sy'n wynebu'r risg fwyaf. Yn drydydd, dangoswch fod trefniadau cyflenwi'n ddiogel, yn cael eu goruchwylio ac nad ydynt yn gwanhau gwasanaethau eraill. Mae angen i deuluoedd wybod pryd y bydd help yn eu cyrraedd. Mae angen i staff wybod pryd y bydd eu hachos yn cael ei benderfynu. Mae angen i'r Llywodraeth hon roi ateb i'r teuluoedd ac i'r staff. Diolch.
Rwyf wedi ysgrifennu ac ailysgrifennu'r cyfraniad hwn oherwydd rwyf am gefnogi ymwelwyr iechyd mor gryf ac adeiladol ag y gallaf. Rwyf hefyd eisiau gwneud datganiad fy mod wedi gweithio'n genedlaethol i'r GIG cyn dod i'r swydd hon. Mae rhai yn etholwyr i mi ac mae pob un ohonynt yn darparu gofal, cefnogaeth a sicrwydd i deuluoedd ar draws y cymunedau a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cymru Taf Morgannwg. Yn ei hanfod, mae'r anghydfod hwn yn ymwneud â phobl: yr ymwelwyr iechyd sy'n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi a heb eu clywed; y plant a'r teuluoedd sy'n dibynnu ar eu cefnogaeth; a'r cymunedau sy'n dibynnu ar wasanaeth ymwelwyr iechyd cryf, dibynadwy a chynaliadwy.
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn. Rwy'n gwybod nad yw penderfyniadau y mae ymwelwyr iechyd wedi'u hwynebu wedi eu gwneud yn ysgafn. Mae rhai wedi cysylltu â mi'n uniongyrchol, ac rwyf wedi siarad ag eraill ar risiau'r Senedd ac wedi dilyn yr hyn sydd wedi'i rannu'n gyhoeddus. Rwyf wedi clywed eu rhwystredigaeth, rwy'n gweld y dicter, ac rwy'n adnabod y pwysau a'r boen y mae'r anghydfod hwn wedi'i achosi.
Rwy'n sylweddoli unwaith eto ein bod yn trafod gwerth gwaith medrus iawn a wneir yn bennaf gan fenywod. Mae ymwelwyr iechyd yn cefnogi rhieni newydd trwy rai o gyfnodau mwyaf heriol eu bywydau. Maent yn diogelu plant agored i niwed, yn nodi pryderon cyn iddynt ddod yn argyfwng, ac yn darparu sicrwydd hanfodol pan fydd teuluoedd ei angen fwyaf. Mae'r gwaith hwnnw'n haeddu cydnabyddiaeth a pharch llawn.
Fel mam am y tro cyntaf a roddodd enedigaeth i efeilliaid yn ystod y pandemig, roedd ein hymwelydd iechyd yn un o'r ychydig bobl a gyfarfu â fy mhlant yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn y cawsant eu geni. Ar adeg unig ac ansicr, roedd hi'n ffynhonnell enfawr o gefnogaeth, sicrwydd ac arweiniad ymarferol pan na allem weld llawer o aelodau o'n teuluoedd ein hunain. Dangosodd y profiad hwnnw i mi pa mor bwysig yw gwasanaethau ymwelwyr iechyd. I lawer o deuluoedd, yn enwedig rhai sy'n profi tlodi, ynysigrwydd a bregusrwydd, gall yr ymyrraeth gynnar a'r gefnogaeth honno wneud gwahaniaeth gydol oes.
Maent yn weithwyr proffesiynol medrus iawn ac mae cyfrifoldeb sylweddol ynghlwm wrth hynny. Maent yn gwneud penderfyniadau anodd bob dydd ac yn chwarae rôl hanfodol yn adeiladu cymunedau cryf a gwydn, ond mae llawer yn gweld nad yw gwerth yr arbenigedd hwnnw'n cael ei gydnabod yn llawn. Rwy'n deall pam y mae hyn yn achosi rhwystredigaeth. Ond mae'r pryderon hyn wedi'u gwreiddio mewn amgylchiadau lleol a phenderfyniadau lleol. Fe ddaw datrysiad parhaol trwy negodi ystyrlon, nid drwy setliad a orfodir yn allanol. Rhaid i Unite barhau i ymgysylltu'n adeiladol ac mewn ewyllys da, ond mae'r prif gyfrifoldeb am ailadeiladu ymddiriedaeth a datrys yr anghydfod hwn ar ysgwyddau'r bwrdd iechyd.
Gan edrych y tu hwnt i'r anghydfod uniongyrchol, rhaid inni barhau i feddwl yn agored am ddyfodol gwasanaethau ymwelwyr iechyd, gan gynnwys yr achos dros gamu ymlaen i fand 7 a band 8 yn genedlaethol. Ond rhaid seilio unrhyw benderfyniad o'r fath ar dystiolaeth glinigol gadarn, a dyna pam rwy'n croesawu'r gwaith a gomisiynwyd gan y prif swyddog nyrsio fel cam cyntaf pwysig. Tra bod y gwaith hwn yn parhau, rhaid blaenoriaethu datrysiad teg a gwydn; un sy'n cydnabod gwerth Gweinidogion iechyd—mae'n ddrwg gennyf, 'ymwelwyr iechyd'; mae wedi bod yn ddiwrnod hir—ac un sy'n adfer hyder ymhlith teuluoedd. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl yma. Mi wnaf i ddechrau drwy ategu'r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud am y rôl hanfodol sydd gan ymwelwyr iechyd wrth gefnogi babanod, plant a theuluoedd ledled Cymru. Yn aml, mae eu gwaith yn cael ei wneud gyda rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i wella canlyniadau a lleihau anghydraddoldeb.
Dwi hefyd eisiau cydnabod yr effaith mae'r anghydfod parhaus yma wedi'i chael ar yr ymwelwyr iechyd eu hunain, ar deuluoedd sy'n dibynnu ar y gwasanaethau ac ar gydweithwyr sy'n gweithio ar draws y system iechyd a gofal ehangach. Dwi'n gwybod na fyddai'r penderfyniad i streicio wedi bod yn benderfyniad hawdd iddyn nhw. Mae'r Llywodraeth yn deall cryfder y teimladau ynglŷn â'r mater yma a'r pryder sydd wedi'i fynegi gan Aelodau ar draws y Siambr.
Er hynny, mae'n bwysig bod y ddadl yma yn cael ei seilio ar ffeithiau. Wnaeth yr anghydfod hwn ddim codi dros nos. Mae'n rhagflaeni'r Llywodraeth bresennol ac mae'n fater sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers sawl blwyddyn. Wrth wraidd yr anghydfod mae anghytundeb rhwng Unite a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â gwerthuso rolau ymwelwyr iechyd a'r trefniadau band cyflog priodol.
Mae gwelliant y Llywodraeth yn adlewyrchu'r realiti fod hwn yn parhau i fod yn anghydfod cyflogaeth lleol rhwng y bwrdd iechyd fel cyflogwr ac Unite fel yr undeb llafur cydnabyddedig, ac fel y cyfryw, rhaid datrys y materion hyn drwy brosesau sefydledig y cyflogwr, yr undebau llafur a chysylltiadau diwydiannol.
Nid yw hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn segur. Rwyf wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Unite ers i ni ddod yn Llywodraeth ac wedi galw dro ar ôl tro ar bob parti i ddod at ei gilydd, i ymgysylltu'n adeiladol ac i weithio tuag at ddatrysiad cyn gynted â phosibl. Mae fy ffocws drwy'r amser wedi bod ar leihau'r effaith ar fabanod, teuluoedd a staff, ac o'r dechrau rwyf wedi gosod disgwyliadau clir ar Gwm Taf Morgannwg i gyflwyno atebion credadwy i'r anghydfod hwn. Andrew.
Diolch am hynny, Weinidog. Un peth sydd i'w weld yn cael ei ddadlau yma, ar ochr y bwrdd iechyd, yw ei bod hi'n ymddangos eu bod yn dweud nad yw wedi bod trwy broses werthuso annibynnol, y bandio o chwech i saith. Mae'r undeb yn dweud ei fod wedi mynd trwy broses werthuso annibynnol sy'n cael ei chydnabod gan raddfa gyflogau yr 'Agenda ar gyfer Newid'. A yw'r Llywodraeth o'r farn fod y broses werthuso annibynnol honno wedi'i chynnal, a bod y canlyniad—beth bynnag am y dehongliad—yn eithaf clir y dylid bandio'r swyddi hyn ar fand 7?
Nid mater i mi yw penderfynu ar y broses y mae'r bwrdd iechyd wedi'i dilyn. Mae hwn yn fater i'r bwrdd iechyd ei ddatrys. Nhw sydd wedi creu'r sefyllfa hon, mae Unite mewn anghydfod, a nawr mae'n rhaid iddynt ddod at ei gilydd. Dyna'r sefyllfa rydym ynddi. Nid mater i mi yw ei ddatrys yn hynny o beth.
Felly, rwyf wedi ceisio ac wedi cael sicrwydd manwl gan gadeirydd y bwrdd iechyd ynghylch rheoli risgiau sy'n deillio o'r gweithredu diwydiannol, gan gynnwys trefniadau diogelu a gwydnwch gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw'r sefyllfa dan arolwg agos ac yn dwyn y bwrdd iechyd yn gadarn i gyfrif yn hyn o beth.
Er ein bod mor rhwystredig â phawb arall fod yr anghydfod hwn yn parhau, mae hefyd yn bwysig cydnabod datblygiadau diweddar sydd wedi digwydd. O fewn ychydig fisoedd wedi i ni ddod i rym, arweiniodd pwysau Llywodraeth Cymru ar Gwm Taf at y bwrdd iechyd yn cyflwyno setliad ariannol i ddod â'r anghydfod i ben. Mae hyn yn newid sylweddol o'i gymharu â'r sefyllfa annatrys a fodolai cyn yr etholiad. Er bod y cynnig wedi'i wrthod, mae'n dangos sut rydym yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y diffyg symud yn dod i ben. Rydym yn parchu penderfyniad Unite i wrthod y cynnig, ac yn wahanol i Reform, sydd eisiau cael gwared ar yr hawliau gweithwyr a enillwyd drwy ymgyrchu caled ar gais y biliwnyddion amheus sy'n dâl-feistri iddynt ac nad ydynt yn atebol i neb, rydym hefyd yn llwyr barchu hawl yr ymwelwyr iechyd i barhau â'u gweithredu diwydiannol.
Er bod y cynnig wedi'i wrthod yn y pen draw, rwy'n credu ei fod yn gam pwysig ymlaen yn y broses o ddod â'r anghydfod maith i ben yn foddhaol. Ond ni ellir cyflawni hynny heb i'r ddau barti ddod at y bwrdd i siarad. Rydym yn parhau i annog y ddwy ochr i ymgysylltu'n adeiladol er mwyn sicrhau datrysiad sy'n cefnogi plant, teuluoedd a staff. Rwyf hefyd yn annog y ddwy ochr i ymgysylltu mewn ewyllys da ar randdirymiadau a chamau y gellid eu cymryd yn ystod yr anghydfod hwn, fel y gellir darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.
Mae mesurau hefyd ar waith i liniaru effaith streic yr ymwelwyr iechyd. Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto: nid oes neb yn mynd ar streic am hwyl. Nid yw'n benderfyniad y mae unrhyw un yn ei wneud yn ysgafn. Mae gweithredu ar y cyd yn galw am eu cefnogaeth ar y cyd, a dyna beth y mae Unite yn ei wneud drwy gefnogi eu haelodau yn ystod y cyfnod hwn. Ac am hynny, diolch iddynt am sicrhau bod yr ymwelwyr iechyd yn cael eu cefnogi mewn cyfnod anodd.
Yn ogystal ag ymateb i'r sefyllfa fel y mae hi, mae'n rhaid inni hefyd ystyried dyfodol gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal gweithlu ymwelwyr iechyd sicr a chynaliadwy ar draws Cymru. Dyna pam mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi comisiynu gwaith i adolygu ac ystyried y ffordd y bydd gwasanaethau ymwelwyr iechyd a threfniadau ehangach ar gyfer y gweithlu yn cael eu trefnu yn y dyfodol, gan sicrhau eu bod nhw'n parhau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau yn y blynyddoedd i ddod.
Lywydd, mae pob un Aelod o'r Senedd hon eisiau gweld yr anghydfod yn dirwyn i ben. Rydym ni i gyd eisiau i blant a theuluoedd gael y gefnogaeth maen nhw ei hangen ac eisiau i staff deimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Am y rhesymau hynny, dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth sy'n adlewyrchu realiti'r anghydfod a'r camau mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd i annog datrysiad, tra'n parhau i ddiogelu gwasanaethau a chefnogi dyfodol y gwasanaethau ymwelwyr iechyd yng Nghymru. Diolch.
Galwaf yn awr ar James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A diolch yn fawr iawn, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n wych gweld y bobl yn yr oriel gyda ni heddiw, a diolch yn fawr am ddod i fy swyddfa y diwrnod o'r blaen. Ni all fy sgiliau gwneud te fod mor ddrwg â hynny oherwydd rydych chi'n dal gyda ni, ond diolch yn fawr i chi. Rwyf eisiau talu teyrnged i chi hefyd am y dewisiadau anodd rydych chi wedi'u gwneud i fynd ar streic. Yn aml, nid yw'n mynd i fod o fudd i chi, ond fe fydd o fudd i'r gweithlu yn y dyfodol ledled Cymru, a dyna pam y mae pobl yn mynd ar streic: nid yw'n ymwneud â'r presennol. Oherwydd rydym wedi clywed am y cynigion a wnaed gan y bwrdd iechyd, ond nid oes gan y bobl sydd ar streic ddiddordeb yn hynny; mae ganddynt ddiddordeb mewn atebion hirdymor i wneud y gwasanaeth yn gynaliadwy i'r dyfodol, a dyna ddylai'r Llywodraeth hon roi blaenoriaeth iddo.
Agorwyd ein dadl gan Ben—fe'i cyflwynodd yn dda iawn. Siaradodd ynglŷn â sut y mae'r chwalfa yn y gwasanaeth wedi digwydd yr holl ffordd ar draws yr ardal. Dangosodd i'r Siambr y llythyr a lofnodwyd gan y Prif Weinidog ei hun, yn gwneud addewidion i'r bobl ar draws y rhan honno o'r byd, yn dweud 'Rydym ni'n mynd i wneud gwahaniaeth.' Unwaith eto, mae Plaid Cymru ar waith a Phlaid Cymru'n cyflawni yn ddau beth gwahanol iawn. Dywedodd sut y mae'r Gweinidog iechyd presennol wedi symud 360 gradd o lythyr a anfonodd, gan ddweud y byddai Plaid Cymru yn eu cefnogi, y byddent yn cael Llywodraeth wahanol. Rwy'n credu fy mod wedi eistedd mewn hustyngau gyda'r Gweinidog iechyd lle dywedodd pa mor warthus oedd hyn a sut roedd angen i bethau newid. Mae'n ymddangos nad yw pethau wedi newid o gwbl mewn gwirionedd.
Cododd Mr R.T. Davies i nodi bod hyn wedi digwydd yn yr Alban. Digwyddodd yn 2007, a bod angen i'r Gweinidog iechyd gamu ymlaen a bwrw iddi i wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn llusgo eu traed drosto. Mae angen iddynt fwrw ymlaen i'w wneud, a gwnaeth Andrew hynny mewn ffordd na all neb ond Andrew ei wneud.
Ac yna cawsom Vikki yn dod i'r un—. Byddwn yn cefnogi'r gwelliant Llafur heddiw, oherwydd mae'r pwyntiau a godwyd gennych am iechyd newyddenedigol yn bwysig iawn, am y 23,000 o apwyntiadau a gollwyd a dim ond ychydig dros 900 o apwyntiadau'n cael eu gweld. Mae llawer o bobl yno nad ydynt yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn eu cartrefi, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod hynny'n cael ei ddatrys. Fe wnaf atgoffa Vikki'n ofalus, fodd bynnag, ei bod hi a Ken Skates—a gododd hyn yn y Siambr yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog—yn y Llywodraeth pan ddechreuodd yr anghydfod cyflog. Gallent fod wedi gwneud rhywbeth yn llawer cynt na dyddiau olaf y Llywodraeth ddiwethaf, pan wnaethant benderfynu anfon llythyr at y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â hyn, gan wybod yn iawn na fyddai dim byd yn digwydd. Ond dyna ni. Gobeithio y gallwch chi droi cefn ar hynny nawr a symud ymlaen a gobeithio y bydd pobl yn anghofio, ond nid wyf yn credu y gwnânt.
Sera, daeth eich angerdd chi drosodd yn gryf iawn yn ystod y ddadl, ac rwy'n cytuno â chi—mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn llanast llwyr yn y ffordd y mae wedi delio â'r bobl hyn, y ffordd y maent wedi siarad â phobl, y datganiadau i'r wasg sydd wedi mynd allan, y cynnwys cyfryngau cymdeithasol y maent wedi'i roi allan, yn lladd ar y bobl sydd ar streic am eu bod yn gwneud y peth iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n anghywir. Rwy'n gobeithio y gallwch gyfeirio'r angerdd hwnnw tuag at gefnogi ein cynnig heddiw, oherwydd bydd gwneud hynny'n sicrhau'r newid rydym am ei weld. Gobeithio y gwnewch chi ddangos yr un angerdd tuag at y Gweinidog iechyd i weld a allwch chi ei gael i newid ei feddwl ar y mater hwn.
Steve, fe wnaethoch chi ofyn am ymrwymiadau gan y Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog iechyd yn gwrando ar hynny, oherwydd mae angen inni weld yr ymrwymiadau'n cael eu cyflawni. Yn rhy aml, rydym yn gofyn cwestiynau i Weinidogion ac maent yn ein gwthio naill ochr. Nid oes ganddynt ddiddordeb yn yr hyn sydd gennym i'w ddweud. Felly gobeithio y bydd yn ateb yr hyn rydych chi wedi'i ddweud. [Torri ar draws.] Gallwch ymyrryd os dymunwch, Weinidog iechyd—rydych chi'n mwmian yno yn eich sedd. Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad.
Sara, diolch am eich cyfraniad meddylgar chi hefyd. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwerus iawn. Fel y dywedoch chi, mae'r penderfyniadau a wnaeth y bobl hyn i fynd ar streic yn rhai anodd. Nid yw'n rhywbeth y mae unrhyw un eisiau ei wneud. A chlywsom eich stori bersonol ynglŷn â sut y gwnaeth ymwelwyr iechyd eich helpu chi yn ystod pandemig COVID-19. Rwy'n credu bod hynny'n un peth—maent yn rhan o'r gwasanaeth iechyd nad yw'n hawdd ei weld mewn gwirionedd, ond maent yn gwneud gwaith enfawr yn mynd allan i gefnogi pobl ar yr adeg fwyaf bregus yn eu bywydau. A'r atgyfeiriadau diogelu hefyd, a gwneud yn siŵr, os oes unrhyw beth wedi ei nodi, eu bod yn atgyfeirio at yr asiantaethau priodol. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei golli, ac roedd hynny'n rhywbeth a roddwyd yn eu disgrifiad swydd, nad yw'n ymddangos bod y bwrdd iechyd eisiau ei anrhydeddu, yn anffodus.
Ac yna symudwn at y Gweinidog iechyd. Nid oes gennyf lawer wedi'i ysgrifennu ar eich cyfer chi, Weinidog iechyd, am nad oeddwn yn meddwl eich bod wedi dweud llawer iawn. Fe wnaethoch chi ddweud bod hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ond taflu'r baich y mae eich gwelliant heddiw yn ei wneud, onid e? Mae gennych chi bŵer i ymyrryd. Clywsom gan Vikki Howells sut y gwnaeth Llafur yn eu 27 mlynedd ymyrryd ddwywaith, ond fe wnaethant ymyrryd pan oedd rhaid iddynt wneud hynny. Gwelsom y Gweinidog yn anfon llythyr at y bwrdd iechyd, ond pam na allwch chi wneud hynny? Pam na allwch chi fwrw ymlaen a'i wneud? Rydym wedi cael pobl eraill o gwmpas y Siambr hon yn gofyn i chi ei wneud. Rydych chi wedi dweud hyn i gyd pan oeddech yn wrthblaid: roeddech chi'n mynd i ddatrys yr holl broblemau, roeddech chi'n mynd i ymyrryd. Ond nid ydych chi wedi gwneud unrhyw beth.
Rwy'n cydnabod eich bod wedi siarad am yr effaith enfawr ar fabanod a theuluoedd. Mae angen mynd i'r afael â hynny. Ond yr unig ffordd i fynd i'r afael â hynny yw bwrw ymlaen â'r swydd y cewch eich talu i'w gwneud. Ymyrryd a gwneud yn siŵr—[Torri ar draws.] Ie, Lywydd, gallaf eich clywed chi'n pesychu. Fe ddof i ben yn fuan iawn. Mae gennyf ddau bwynt yr hoffwn eu gwneud ac fe fyddaf wedi gorffen.
Fe wnaethoch chi addo i'r ymwelwyr iechyd hefyd y byddech chi'n sicrhau newid. Fe wnaethoch chi addo iddynt y byddech chi'n gwneud hyn. Fe wnaethoch chi addo, fe wnaeth y Gweinidogion Cabinet addo, ac fe wnaeth y Prif Weinidog ei hun addo. Rydych chi wedi dweud celwydd wrth y bobl hyn, ac os ydych chi am dorri eich gair ynglŷn â'r addewidion a wnaethoch, fe wnewch chi ddioddef yn sgil hynny mewn etholiadau yn y dyfodol. Ni fydd pobl yn maddau pan fyddwch chi'n dweud celwydd wrth bobl, a gobeithio y bydd y Llywodraeth hon—[Torri ar draws.] Iawn, fe ddof i ben nawr, Lywydd—
Rydych chi newydd gofnodi cyhuddiad uniongyrchol fod y Gweinidog wedi dweud celwydd. A gaf i ofyn i chi fyfyrio ar hynny o ran iaith seneddol yn y lle hwn?
Rwy'n tynnu'r sylw hwnnw yn ôl, ond nid wyf yn credu y bydd y bobl yn yr oriel yn ei weld yn wahanol. Byddwn yn cyflwyno'r cynnig hwn heddiw ac rydym yn gobeithio y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn cefnogi ein gwelliant, oherwydd mae'n rhaid inni gefnogi ein hymwelwyr iechyd. Mae angen inni ddatrys yr anghydfod hwn, a gorau po gyntaf y bydd y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen—[Torri ar draws.] Na, nid wyf angen help gennych chi, diolch, Mark. Gorau po gyntaf y gwnawn ni fwrw iddi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod pum Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae yna bum Aelod.
Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.
Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig o dan eitem 5, y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 47 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grŵmio. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 37, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Symudwn nawr i welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 47, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grŵmio. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 47, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 37, neb yn ymatal, 47 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grŵmio. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.: O blaid: 37, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9293 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau am droseddau sy'n ymwneud â chamfanteisio'n rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru.
2. O’r farn bod pawb yng Nghymru sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yn haeddu cyfiawnder a chymorth.
3. Yn nodi bod Cymru’n dod o fewn cwmpas yr Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.
4. Yn nodi ymrwymiad sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion o ran Cymru a datblygu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol.
5. Yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol drwy’r Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, gan gynnwys rhoi ar waith y camau gweithredu a nodir yn ei Chynllun Cyflawni.
Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 47, yn ymatal 29, yn erbyn wyth. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grŵmio. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 8, Ymatal: 29
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Pleidleisiwn yn awr ar eitem 6. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 38, neb yn ymatal ac yn erbyn 46. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Rŷn ni'n mynd yn awr at welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 48, neb yn ymatal ac yn erbyn 36. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 48, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 42. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Dyma'r canlyniad: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 42, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 42. Felly, unwaith eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. A nawr, dyma'r canlyniad: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.
Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 42, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4 nawr. Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 84, neb yn ymatal, neb yn erbyn hefyd. Mae gwelliant 4 wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle: O blaid: 84, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9294 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at yr anghydfod cyflog parhaus rhwng ymwelwyr iechyd yng Nghymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy'n rhagflaenu'r llywodraeth bresennol ac sydd wedi parhau heb ei ddatrys ers nifer o flynyddoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i hwyluso datrysiad boddhaol i'r anghydfod, gan gynnwys cynnig cyflog teg, ac i roi terfyn ar y streic.
3. Yn cydnabod rôl sylfaenol ymwelwyr iechyd wrth roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan gynnwys eu rôl hanfodol wrth ddiogelu babanod a phlant, ac yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatrys yr anghydfod a chael ymwelwyr iechyd yn ôl i'r gwaith.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 42. Felly, unwaith eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi'i ddiwygio. Felly, dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i wrthod. Diolch yn fawr iawn.
Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 42, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Nawr, a gaf i ofyn i'r Aelodau sy'n gadael y Siambr i wneud hynny'n gyflym ond yn dawel, os gwelwch yn dda, heb sgwrs, fel y gallwn symud ymlaen at ddadl olaf y dydd yn gyflym? Fe wnawn aros i'r Aelodau adael, y rheini sy'n gadael.
Symudwn yn awr at ddadl fer heddiw, eitem 8, a galwaf ar Cai Parry-Jones i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Cai.
Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o amser i Joe Martin, Jason O'Connell, Huw Thomas, Stephen Senior, Leticia Gonzalez ac yn olaf ond nid yn lleiaf, Iain McIntosh.
Mae gan Gaerdydd broblem dagfeydd—problem dagfeydd ddifrifol. Cefais y fraint o fyw mewn chwe dinas yn y Deyrnas Unedig yn ystod fy mywyd, ac ni welais erioed o'r blaen broblem dagfeydd ar y raddfa hon. Ond yr hyn sy'n waeth na'r broblem dagfeydd ei hun yw ymyriadau'r Llywodraeth a luniwyd i'w lliniaru. Fel y dywedodd Ronald Reagan, y naw gair mwyaf brawychus yn yr iaith Saesneg yw, 'I'm from the Government and I'm here to help.'
Gadewch imi ddechrau gyda help Llywodraeth Cymru. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Mark Drakeford y byddai prosiectau adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi, gan ddadlau y byddai hynny'n annog llai o bobl i yrru. Ni ddigwyddodd hynny. Mae'n ychwanegu at yr amser y mae pobl yn ei dreulio yn eu ceir wrth iddynt aros yn hirach mewn traffig. Ac nid fy marn i yn unig yw hyn, ond barn arweinydd Cyngor Caerdydd ar y pryd, Huw Thomas, a ddadleuodd o blaid ffordd gyswllt dwyrain y bae fel ffordd o ddargyfeirio traffig o'r ardaloedd preswyl. Nid dyna'r unig brosiect sydd angen ei ailgychwyn yng Nghaerdydd. Ar drydedd lôn ar yr A470, mae tudalen we Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn nodi ei bod wedi'i chynllunio, ond ni fu unrhyw waith arni ers mis Medi 2021. Hefyd, cafodd y gwelliannau i gyffyrdd 33 a 34 yr M4 a addawyd yn 2019 eu rhewi yn 2021 ac ni fu unrhyw waith arnynt ers hynny.
Polisi ffyrdd niweidiol arall a ddaeth gan Lywodraeth Cymru o dan arweiniad Drakeford oedd newid y terfyn cyflymder diofyn o 30 mya i 20 mya gan gredu, unwaith eto, y byddai hyn yn annog llai o bobl i yrru. Ac unwaith eto, ni ddigwyddodd hynny. Roedd ymateb negyddol y cyhoedd i'r polisi hwn yn sylweddol a dweud y lleiaf. Llofnododd bron i hanner miliwn o bobl ddeiseb i wrthdroi'r polisi. I roi syniad o raddfa hynny, denodd y ddeiseb honno fwy o lofnodion na'r nifer o bleidleisiau a gafodd blaid y Llywodraeth bresennol yng Nghymru yn etholiad y Senedd yn 2026, etholiad a welodd y nifer mwyaf o bobl yn pleidleisio yn hanes datganoli.
O ran sut y mae hyn yn effeithio ar dagfeydd, mae Llywodraeth Cymru ei hun yn cyfaddef eu bod yn amcangyfrif y byddai'r polisi unigol hwn yn arwain at 1 biliwn o funudau ychwanegol o amser teithio bob blwyddyn. Nawr, rwy'n falch o weld llawer o ffyrdd a gafodd eu newid yn wreiddiol i 20 mya yn cael eu newid yn ôl i 30 mya, yn cynnwys rhai yng Nghaerdydd yr haf hwn, ond mae angen newid llawer mwy o ffyrdd yn ôl.
Gan droi at ymyriadau difeddwl gan lywodraeth leol, mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud rhai, o osod lonydd i feiciau yn unig na chânt lawer o ddefnydd yn lle lonydd bws poblogaidd, i gael gwared ar gyfleusterau parcio a theithio, sy'n ateb cyffredin i dagfeydd mewn dinasoedd eraill yn y DU, a mynd i ddyled er mwyn adeiladu arena newydd gyda lle i 16,500 o bobl, rhywbeth a fydd yn gwaethygu'r tagfeydd yng Nghaerdydd yn sylweddol. Cynllun diweddaraf Cyngor Caerdydd yw codi treth ar gyflogwyr am ddarparu lleoedd parcio i'w staff, gan gredu y bydd hyn yn annog pobl i beidio â gyrru i'r gwaith. Mae’n sicr o annog pobl i beidio â gweithio, gan mai treth ar weithwyr yw hon. O'r ffordd y gweithredodd cyngor Nottingham yr un dreth, fe wyddom y bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i'r gweithwyr. Gadewch imi fod yn glir: bydd Reform bob amser yn gwrthwynebu mwy o drethi ar bobl sy'n gweithio, fel y dylai pob plaid barchus sy'n honni ei bod yn sefyll dros y gweithwyr, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.
Rwyf i, a chymaint o drigolion eraill Caerdydd a thu hwnt, wedi blino ar bolisïau gwael yn cael eu cyflwyno un ar ôl y llall gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae'n bryd newid meddylfryd er mwyn datrys y broblem. Agorwch fwy o gyfleusterau parcio a theithio, adeiladwch fwy o ffyrdd, dewch â lonydd bysiau yn lle lonydd beiciau na chânt eu defnyddio, newidiwch ffyrdd 20 mya yn ôl i 30 mya, rhowch y gorau i drethi newydd ar weithwyr, peidiwch â mynd i ddyled drwy wario ar brosiectau sy'n gwaethygu tagfeydd, ac yn olaf, gwnewch y gwrthwyneb i bopeth y mae Mark Drakeford yn ei ddweud. Dyna sut y mae datrys y broblem hon. Dyna sut y mae cael modurwyr Caerdydd i symud eto. Dyna sut y cawn economi Cymru i dyfu eto.
Fe wnaf orffen fy nghyfraniad gyda dyfyniad gan C.S. Lewis:
'Os ydych chi ar y ffordd anghywir, mae cynnydd yn golygu gwneud tro pedol a cherdded yn ôl at y ffordd gywir, ac yn hynny o beth, y sawl sy'n troi'n ôl gyntaf sy'n mynd i fod ar y blaen.'
Gobeithio y gallwn ni yng Nghymru fod ar y blaen. Gobeithio y gall y Llywodraeth hon gydnabod camgymeriadau ei rhagflaenwyr. A gobeithio y gall y Siambr hon bleidleisio o blaid unrhyw ddeddfwriaeth, a phob deddfwriaeth, sy'n gwrthdroi'r polisïau niweidiol y soniais amdanynt. Diolch yn fawr.
Diolch, Cai, am roi munud i mi siarad. Mae terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru yn unigryw o amhoblogaidd gyda'r bobl rydym yn eu cynrychioli, ac maent yn costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn i'r economi. Fe'u cyflwynwyd i wneud ffyrdd yn fwy diogel, ond nawr mae gennym werth pum mlynedd o ystadegau ar gyfer pobl a laddwyd a rhai a anafwyd yn ddifrifol yng Nghymru rhwng 2021 a 2025. Gadewch i mi eu darllen i chi, gan gofio bod y terfyn cyflymder 20 mya wedi'i gyflwyno ym mis Medi 2023: 2021, 1,011; 2022, 1,016; 2023, 1,126; 2024, 1,091; a 2025, 1,207. Fel cynifer o bolisïau a gyflwynwyd gan Lafur a Phlaid Cymru, fe gostiodd ffortiwn, cyflawnodd y gwrthwyneb i'r hyn a fwriadwyd, ac mae pobl Cymru’n talu'r pris. Roedd y cyhoedd yn iawn, roedd Reform yn iawn, roedd Llafur a Phlaid Cymru'n anghywir.
Mae ffordd gyswllt dwyrain y bae yn dangos beth yn union sy'n digwydd pan fo'r Llywodraeth yn buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd. Gwariwyd £57 miliwn ar gysylltu Bae Caerdydd yn uniongyrchol â Rover Way. Gwellodd gysylltiadau, lleihaodd amseroedd teithio a helpodd i leddfu tagfeydd. Ond ni chwblhawyd y gwaith. Mae Rover Way yn parhau i fod yn ffordd unffrwd, yn gwasanaethu llawer iawn o draffig a cherbydau cludo nwyddau, ac ni chwblhawyd y cyswllt ehangach â dwyrain y bae. Pan ystyriwyd gwelliannau pellach, nid annog capasiti oedd y flaenoriaeth, ond osgoi mesurau a allai annog mwy o ddefnydd o geir. A dyna'r broblem sylfaenol. Am ormod o amser, mae rhyfel Llafur a Phlaid Cymru yn erbyn modurwyr wedi diawleiddio cymudwyr bob dydd yn hytrach na helpu'r union bobl y maent yn ceisio eu helpu i gyrraedd y gwaith, rhedeg busnesau a chynnal eu teuluoedd. Nawr, rydym yn gweld yr un meddylfryd gwrth-yrwyr gyda rhoi'r gorau i ddatblygu ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. Nawr, nid yw tagfeydd yn anochel; maent yn ganlyniad i ddiffyg gweithredu gwleidyddol a'r dewisiadau anghywir. Mae angen seilwaith ffyrdd priodol ar dde Cymru ynghyd â thrafnidiaeth gyhoeddus well. Felly, gadewch inni roi'r gorau i roi ideoleg o flaen seilwaith, gadewch inni gwblhau'r hyn rydym wedi'i ddechrau, a gadewch inni gael de Cymru i symud eto. Diolch.
Diolch, Cai, am y cyfle hwn i siarad. Rwy'n falch fod rhai o'ch cyd-Aelodau wedi bod yn gryno, gan fy mod yn mynd i ddwyn eu hamser. Gadewch imi ddweud hyn yn gyntaf: rwy'n caru gyrru, rwy'n cydnabod y bydd yn rhaid i rai pobl yrru bob amser, ac rwyf am weld mwy o ffyrdd yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd fy hun—yn enwedig, fel y dywedoch chi, ffordd gyswllt dwyrain y bae. Rwyf wedi ymgyrchu dros hynny ers dros ddegawd bellach. Ond rwyf hefyd yn cydnabod y ffaith, pe bai pawb yng Nghaerdydd sy'n gallu gyrru yn gwneud hynny, ar ben y 100,000 o yrwyr—mae rhai ohonynt yn y Siambr hon—sy'n gyrru i mewn bob diwrnod o'r wythnos, ni fyddai unrhyw un yn cyrraedd unman. Mae tagfeydd eisoes yn costio dros £100 miliwn y flwyddyn i economi'r ddinas. Rhaid inni alluogi pobl i wneud dewisiadau teithio amgen. Felly, pam na fyddem yn dod o hyd i ffyrdd o wneud cerdded a beicio'n ddiogel, o ystyried yr argyfwng gordewdra y mae'r wlad yn ei wynebu, heb sôn am yr argyfwng hinsawdd? Pam na fyddem yn adeiladu seilwaith i wneud bysiau'n gyflymach ac yn fwy dibynadwy pan na all 44 y cant o gartrefi incwm isel fforddio car? A dyma apêl i Blaid Cymru: a gawn ni gyflwyno'r un pris tocyn bws o £2 a gyflwynwyd gan Andy Burnham yn Lloegr, os gwelwch yn dda? Pam na fyddem eisiau adeiladu ymhellach ar fuddsoddiad £1 biliwn Llafur Cymru ym metro de Cymru, pan fo'r dewis arall yn golygu mwy o gerbydau'n gyrru i mewn i Gaerdydd o'r tu allan ac yn llygru rhai o'n cymunedau tlotaf yng Nghymru?
Mae angen buddsoddiad er mwyn gwneud hyn oll, a dyna pam fy mod yn cefnogi'r cynigion a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd i gyflwyno ardoll parcio yn y gweithle. Fy ymweliad diwethaf fel arweinydd cyngor oedd â Nottingham, lle gwelsom, ar ôl cyflwyno ardoll ddegawd yn ôl, y seilwaith y mae'r ardoll wedi'i adeiladu, lle gwnaethom ddysgu sut y mae busnes wedi tyfu yn y ddinas honno o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw.
Ar 20 mya, fe ddywedaf ddau beth—tri pheth. Roedd rhannau helaeth o Gaerdydd eisoes yn 20 mya cyn i'r terfyn 'cyffredinol' fel y'i gelwir ddod i rym. Fe wnaethom sefyll, yn Llafur Caerdydd, dair gwaith ar blatfform i gyflwyno mwy o ardaloedd 20 mya. Fe wnaethom ennill dair gwaith. A phan wnaeth y cyngor ofyn, ymgynghori, ar ailgodi terfynau, nid oedd unrhyw stryd lle roedd mwy na 10 o drigolion yn byw arni eisiau terfyn cyflymach ar gyfer eu stryd. Felly, mae hon yn ddadl dda, ond gadewch inni dreulio mwy o amser yn archwilio sut i ddatgloi'r buddsoddiad y mae pob un ohonom yn cydnabod bod ei angen ar gyfer cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar Gaerdydd. Ac os gallwn wneud hynny, yna'n sicr, gallwn gael economi Cymru i symud. Diolch.
Economi Cymru i symud, yn bendant. Rydym angen i economi Caerdydd ac economi ehangach Caerdydd ffynnu, ac ni allwn wneud hynny. Nid yw'n digwydd. Mae gennym broblem, a'r broblem fwyaf yw Bryste. Gadewch inni edrych ar rai ffeithiau yma. Mae gennym brisiau tai ym Mryste sydd oddeutu traean yn uwch nag yng Nghaerdydd. Mae gennym gyflogau cyfartalog ym Mryste sydd oddeutu 20 y cant yn uwch nag yng Nghaerdydd. Mewn gwirionedd, roeddwn yn synnu'n fawr mai dim ond 20 y cant ydoedd.
Mae gan Gaerdydd broblem dagfeydd, ond mae cyrraedd Caerdydd yn broblem hyd yn oed yn fwy. Nid oes ond angen inni edrych dros y ffin a gweld beth sy'n digwydd o ran y gwaith adeiladu o amgylch yr M4 a'r M5 a'i gymharu ag yma, ac nid oes llawer, ar wahân i rai mannau yng Nghaerdydd, fel nid nepell o ble rydym nawr, lle mae pethau'n addawol, ond yn gyffredinol, nid ydym wedi adeiladu llawer ar yr ochr hon i'r bont ers dros 25 mlynedd.
Rhaid inni fynd i'r afael â mynediad i geir. Rhaid inni fynd i'r afael â ffordd liniaru'r M4, ac mae pobl fel ni'n mynd i barhau i siarad am hynny oherwydd, hyd nes yr awn i'r afael â'r M4, mae terfyn gwirioneddol ar yr hyn y gallwn ac y dylem fod yn ei gyflawni gyda phrifddinas y wlad hon yn sbarduno twf economaidd ledled de Cymru a Chymru gyfan.
Mae tagfeydd yng Nghaerdydd yn broblem wirioneddol, a diolch, Cai, am godi'r mater hwn a rhoi munud imi siarad amdano. Maent yn effeithio ar ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus a beicwyr yn ogystal â modurwyr. Mae gwasanaethau bysiau yn arbennig o agored i effeithiau tagfeydd traffig. Gall unrhyw oedi gynyddu costau gweithredu ac arwain at brisiau uwch.
Mae tagfeydd yn broblem o ran effeithlonrwydd lle. Mae angen inni annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, ond mae angen inni sicrhau yn gyntaf mai dyna'r dewis mwyaf cyfleus. Mae rhai pobl yn dymuno gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond nid yw ar gael iddynt. Roeddwn yn siarad ag un o'n staff glanhau yn y Senedd, yn yr adeilad hwn. Maent yn dechrau gweithio am 6 y bore. Mae argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus ledled Caerdydd ar yr adeg honno o'r bore bron yn gwbl absennol, ond disgwylir iddynt gyrraedd ar amser ac mae’n rhaid iddynt ddefnyddio car i gyflawni eu rhwymedigaethau gwaith. Car yw'r unig ffordd ddiogel iddynt deithio, yn enwedig wrth inni ddechrau cael boreau tywyllach a thywydd gwaeth dros gyfnod y gaeaf. Mae'r un senario'n wir ar gyfer gweithwyr shifft, fel yn ein hysbytai. Yn yr un modd, gwyddom y bydd mwy o bobl yn dewis cerdded a beicio pellteroedd byr o fewn y ddinas os ydynt yn teimlo'n ddiogel rhag traffig.
Dyma faterion y gwn eu bod yn peri pryder i bobl yn fy etholaeth ac ar draws Caerdydd, ond rwy'n amau'n gryf fod problemau ledled Cymru sy'n cael eu heffeithio gan amrywiaeth o broblemau gwasanaeth. Mae tagfeydd yn broblem, ond dylem edrych yn gyfannol ar draws Cymru a sicrhau ein bod yn deall y problemau i'w goresgyn, ond hefyd lle mae gennym gyfleoedd i fanteisio arnynt. Diolch.
Yn llawer rhy aml yn fy marn i, mae'r ddadl am dagfeydd yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd modurwyr yn cyrraedd Caerdydd, yn hytrach na'r seilwaith annigonol a'r dewisiadau amgen cyfyngedig y maent yn eu hwynebu wrth gyrraedd yma. Er enghraifft, mae'r A470 drwy fy etholaeth i, Brycheiniog Tawe Nedd, yn llwybr trafnidiaeth hanfodol sy'n cysylltu cymunedau gwledig a busnesau â Chaerdydd ac economi ehangach de Cymru. Ac eto, er bod Llywodraeth Cymru wedi treulio blynyddoedd yn ceisio annog pobl i beidio â gyrru, mae'r realiti ar ein ffyrdd wedi symud i'r cyfeiriad arall. Cododd traffig ffyrdd Cymru 2.3 y cant arall y llynedd, i'r hyn sy'n ffigur syfrdanol yma yn fy marn i, sef bron i 31 biliwn cilometr cerbyd yng Nghymru'n unig—mewn un flwyddyn yn unig. Nawr, mae'r galw yno'n amlwg, ond mae'n amlwg nad yw'r seilwaith wedi dal i fyny.
Felly—. Rwy'n nodi bod y Gweinidog Cabinet yn ei sedd yno; tybed a fyddai'n cytuno bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer rhy araf i ymateb i'r realiti hwn, ac yn hytrach na rheoli tagfeydd a chyfyngu ar fodurwyr, fod angen buddsoddi ar frys yng nghapasiti ein ffyrdd, gan gynnwys gwelliannau i'r A470, ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus well, i gael Cymru i symud eto. Diolch.
Diolch. Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Mark Hooper.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae tagfeydd yn fater diddorol i lawer o bobl yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.
Mae'r ddadl hon yn dechrau gyda chwestiwn syml iawn: sut y mae gwella siwrneiau? Mae'r cynnig yn canolbwyntio, yn gywir ddigon, ar fodurwyr yng Nghaerdydd a'r rhanbarth cyfagos, ac rwy'n credu y dylem fod o ddifrif ynglŷn â hynny. Rwyf i o ddifrif ynglŷn â hynny. Mae tagfeydd yn un o'r problemau hynny y mae pawb bron wedi'u profi. Maent yn effeithio ar gymudwyr sy'n teithio i'r gwaith, busnesau sy'n danfon nwyddau, rhieni sy'n mynd â'u plant i'r ysgol a phobl sy'n mynychu apwyntiadau. Gall gynyddu costau, lleihau cynhyrchiant a chreu rhwystredigaeth i'r bobl sydd eisiau cyrraedd lle mae angen iddynt fod ar amser. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn onest ynglŷn â natur yr her.
Mae Caerdydd yn ganolfan bwysig ar gyfer cyflogaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gweithgarwch economaidd yn ne-ddwyrain y wlad. Mae'n denu nifer sylweddol o bobl bob dydd o'r ardaloedd cyfagos a thu hwnt. Mae'r llwyddiant hwnnw'n dod â chyfleoedd economaidd i Gaerdydd a'r rhanbarth ehangach, ond mae hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Mae ceir a ffyrdd yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r rhwydwaith hwnnw. Rhaid i unrhyw strategaeth drafnidiaeth ddifrifol gydnabod y realiti hwnnw. Dyna pam y mae dull Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella cysylltedd ar draws y rhwydwaith cyfan.
I mi, mae tri gwirionedd y mae angen inni eu cydnabod. Y cyntaf yw bod angen inni wneud gwell defnydd o'r ffyrdd sydd gennym eisoes. Mae pethau ymarferol y gallwn eu gwneud: rheoli digwyddiadau a gwaith ffordd yn well, gwybodaeth well i yrwyr, sicrhau bod cyffyrdd a signalau traffig yn gweithredu mor effeithiol â phosibl a deall ble mae'r cyfyngiadau gwirioneddol fel ein bod yn targedu buddsoddiad lle gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Os oes problem gyda rhwydwaith, dylem fod yn barod i fynd i'r afael â hi. Mae ffyrdd yn bwysig. Maent yn cludo pobl, nwyddau, gwasanaethau brys a busnesau. Nid ychwanegiad dewisol yn ein system drafnidiaeth ydynt, ac ni ddylem esgus mai dyna ydynt, ac nid wyf i'n esgus mai dyna ydynt.
Ond yr ail realiti yw na allwn adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd. Bydd temtasiwn bob amser i ymateb i dagfeydd drwy ychwanegu mwy o gapasiti ffyrdd; rydym wedi clywed rhywfaint o hynny eisoes. Weithiau, dyna fydd y peth iawn i'w wneud, ond nid dyna'r peth iawn i'w wneud yn awtomatig, a dylem fod yn ofalus rhag cymryd yn ganiataol y bydd mwy o le ar y ffyrdd, ynddo'i hun, yn datrys y broblem. Gall mwy o le ar y ffyrdd ddenu mwy o draffig, ac os ydym yn ymateb i bob cynnydd mewn traffig drwy lansio prosiect adeiladu ffyrdd arall, gallem fod mewn sefyllfa lle rydym yn gwario mwy a mwy heb lwyddo i fynd i'r afael â'r broblem byth mewn gwirionedd.
Nid dadl yn erbyn buddsoddi yw hon. Mae'n ddadl o blaid bod yn ddisgybledig ynglŷn â ble rydym yn buddsoddi, yr hyn rydym yn ceisio'i gyflawni, ac a yw'r dystiolaeth yn dweud wrthym y bydd ymyrraeth yn gweithio mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n bwysig, yn enwedig pan fo cyllid cyhoeddus o dan bwysau. Mae gennym ddewisiadau i'w gwneud, ac mae angen inni allu esbonio pam ein bod yn eu gwneud.
Mae'n debyg mai'r trydydd realiti yw'r pwysicaf. Os ydym am wneud bywyd yn well i fodurwyr, ac rydym eisiau gwneud hynny, mae angen inni sicrhau hefyd nad yw pob taith yn cael ei gwneud mewn car. Efallai fod hynny'n swnio'n wrthgynhyrchiol, ond nid ydyw. Os gall rhywun wneud y daith ar drên, bws, beic neu ar droed, mae un cerbyd yn llai yn cystadlu am yr un lle cyfyngedig ar y ffordd. Felly, nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn wrth-fodurwyr. Mae'n un o'r ffyrdd rydym yn helpu'r bobl sydd angen gyrru.
Dyna pam fod metro de Cymru’n bwysig. Mae'n golygu gwasanaethau rheilffordd gwell, mwy dibynadwy a mwy aml rhwng y Cymoedd a Chaerdydd. Dyna pam y mae ein buddsoddiad o £70 miliwn yng ngorsaf Caerdydd Canolog, a'r dramffordd newydd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, yn bwysig. Dyna hefyd pam y mae diwygio bysiau'n bwysig, a dyna pam y mae blaenoriaeth i fysiau, gwell cyfnewidfeydd, teithio llesol a gwell cysylltiadau rhanbarthol i gyd yn bwysig. Oherwydd nid mater o ddweud wrth bobl beth i'w wneud yw rhoi dewis amgen go iawn iddynt yn lle'r car. Mae'n fater o roi dewis iddynt. A dweud y gwir, mae pobl yn llawer mwy tebygol o adael y car gartref pan fydd y dewis amgen yn ddigon da i wneud iddynt eisiau gwneud hynny.
Dyma'r safon y dylem anelu ati: bws sy'n dod ar amser, trên y gall pobl ddibynnu arno, llwybr diogel i gerdded neu feicio, a chyfnewidfeydd sy'n gweithio. System drafnidiaeth sy'n teimlo fel un system, yn hytrach na chyfres o wasanaethau digyswllt. Dyna uchelgais y cynllun un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn. Dyna pam y mae cynllunio rhanbarthol yn bwysig. Oherwydd nid problem ar gyfer Caerdydd yn unig yw tagfeydd Caerdydd. Nid yw pobl sy'n teithio i Gaerdydd bob dydd o Gaerffili, y Fro, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Bryste, ac ar draws y rhanbarth ehangach yn rhoi'r gorau i fod yn gymudwyr pan fyddant yn croesi ffin y cyngor, ac yn sicr, nid ydynt yn poeni pa sefydliad sy'n gyfrifol am y darn penodol hwnnw o ffordd y maent arno. Eisiau'r daith i'r gwaith y maent, dyna i gyd.
Felly, mae angen i'n cynllunio adlewyrchu sut y mae pobl yn byw ac yn teithio. Mae cyd-bwyllgor corfforedig de-ddwyrain Cymru yn darparu fframwaith pwysig ar gyfer gwneud hynny. Oherwydd system yw'r rhwydwaith trafnidiaeth. Os ydym ond yn edrych ar ffyrdd unigol, dulliau unigol o deithio neu ffiniau awdurdodau lleol unigol, rydym mewn perygl o golli golwg ar sut y mae'r system yn ymddwyn mewn gwirionedd a sut y gall problem mewn un lle greu problem yn rhywle arall yn gyflym iawn.
Mae hynny'n fy arwain at reoli'r galw. Mae Cyngor Caerdydd yn archwilio'r potensial ar gyfer ardoll parcio yn y gweithle. Rwy'n cydnabod bod hyn yn ddadleuol, ond ni chredaf fod lleihau'r ddadl yn fater o ofyn a yw ardoll parcio yn y gweithle yn dda neu'n ddrwg yn helpu. Y cwestiynau iawn yw: pa broblem rydym yn ceisio'i datrys? Beth fyddai'r ymyrraeth yn ei gyflawni? Pwy fyddai'n talu? Pwy fyddai'n elwa? Pa ddewisiadau eraill fyddai gan bobl? Mae'r sefyllfa bresennol yn glir. Nid oes unrhyw gynlluniau i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r is-ddeddfwriaeth y byddai ei hangen i alluogi ardoll parcio yn y gweithle yng Nghymru. Ond ni chredaf fod hynny'n golygu y dylem roi'r gorau i feddwl am y cwestiwn ehangach. Mae ein ffyrdd dan bwysau, ac mae angen inni fod yn barod i gael sgwrs onest ynglŷn â sut rydym yn rheoli'r pwysau hwnnw.
Os daw cynigion yn y dyfodol, byddai angen iddynt fod yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi'u hasesu'n briodol, yn deg, ac yn destun y prosesau ymgynghori a statudol priodol. Mae egwyddor syml y buaswn yn ei defnyddio: ni ddylai rheoli'r galw byth ymwneud â gwneud bywydau'n anos heb unrhyw ddiben pellach. Os ydym yn gofyn i bobl newid sut y maent yn teithio, mae angen inni roi rhywbeth gwell iddynt deithio arno. Mae hynny'n golygu trafnidiaeth gyhoeddus well, teithio llesol gwell, cysylltedd rhanbarthol gwell, a rhwydwaith ffyrdd a reolir yn briodol ar gyfer y bobl sy'n dal i fod angen ei ddefnyddio.
Felly, beth fyddai'n gwella bywydau modurwyr mewn gwirionedd? Rwy'n credu bod yr ateb yn un ymarferol. Mae'n golygu siwrneiau mwy dibynadwy, llai o oedi y gellir ei osgoi, rheoli gwaith ffordd a digwyddiadau'n well, a defnydd mwy craff o'r ffyrdd sydd gennym eisoes. Mae hefyd yn golygu helpu mwy o bobl i gerdded, olwyno a beicio ar siwrneiau byrrach bob dydd fel bod lle ar gael ar y ffyrdd. Mae hefyd yn golygu darparu dewisiadau amgen sy'n ddigon da i dynnu'r pwysau oddi ar y ffyrdd. Nid oes dim o hyn yn wrth-fodurwyr. Mewn gwirionedd, buaswn yn dadlau i'r gwrthwyneb yn llwyr. Os gallwn gael mwy o bobl ar fysiau a threnau dibynadwy, rydym yn creu mwy o le ar y ffyrdd i'r bobl sydd angen gyrru. Os ydym yn gwneud siwrneiau byr yn haws i'w gwneud drwy gerdded a beicio, rydym yn tynnu'r pwysau oddi ar y rhwydwaith; os ydym yn rheoli digwyddiadau, ac ati, ac ati, ac ati.
Ond dylem fod yn ofalus hefyd o'r ateb hawdd. Nid oes un ateb syml ar gyfer tagfeydd, nid oes un cynllun ffordd, un cynllun bysiau nac un polisi a fydd yn datrys popeth. Yr ateb yw deall y broblem yn iawn ac yna defnyddio'r cyfuniad cywir o ymyriadau i fynd i'r afael â hi. Weithiau, bydd hynny'n golygu gwneud gwell defnydd o'r rhwydwaith ffyrdd sydd gennym eisoes. Weithiau, bydd yn golygu buddsoddi mewn seilwaith. Weithiau, bydd yn golygu trafnidiaeth well, ac weithiau, gall olygu rheoli'r galw.
Y peth pwysig yw ein bod yn dechrau gyda'r broblem, nid yr ymyrraeth, gan nad yw gwella bywydau modurwyr yn ymwneud ag addo y bydd pob taith yn ddi-dagfa. Nid yw hynny'n realistig. Mae a wnelo â gwneud y rhwydwaith yn fwy dibynadwy, gwneud gwell defnydd o gapasiti a mynd i'r afael â phroblemau. Yn y pen draw, mae a wnelo hyn ag amser pobl. Mae amser wedi'i dreulio mewn tagfa yn amser nad yw pobl yn ei gael yn ôl. Mae'n amser y gellid ei dreulio'n gweithio, gyda theulu, yn gofalu, neu'n syml, yn byw bywyd.
Felly, y prawf i ni yw a yw'r penderfyniadau a wnawn yn gwneud y teithiau bob dydd hynny'n fwy dibynadwy, yn fwy rhagweladwy ac yn llai rhwystredig. Mae hynny'n golygu sicrhau bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd—mae'r Llywodraeth yma i helpu—yn cydweithio â'n partneriaid rhanbarthol, gan edrych ar y rhwydwaith cyfan, yn hytrach na chasgliad o gyfrifoldebau ar wahân. Mae'n golygu bod yn barod i fynd i'r afael â phroblemau anodd, a bod yn onest hefyd ynglŷn â'r hyn y gall ac na all gwahanol ymyriadau ei gyflawni.
Ac yn hollbwysig, mae'n golygu rhoi tystiolaeth o flaen atebion hawdd, oherwydd yn y pen draw, nid yw pobl yn gofyn inni ennill dadl am geir, maent yn gofyn inni wneud eu bywydau'n haws. Maent eisiau gwybod, pan fyddant yn gadael eu cartref yn y bore, fod ganddynt obaith rhesymol o gyrraedd lle mae angen iddynt fod ar amser. Maent eisiau system drafnidiaeth sy'n gweithio. Dyma'r uchelgais y dylem ei rannu, a chredaf ein bod yn ei rannu, ar gyfer modurwyr, ar gyfer teithwyr, ar gyfer busnesau ac ar gyfer cymunedau ledled Caerdydd a'r rhanbarth ehangach. Nid polisi trafnidiaeth er ei fwyn ei hun, ond system drafnidiaeth sy'n gweithio'n well ar gyfer bywydau bob dydd.
Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i wneud trafnidiaeth yn haws ac yn fwy dibynadwy. Mae hyn yn bwysig i yrwyr, teithwyr, busnesau a chymunedau. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:53.