Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/03/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vaughan Gething. 

Rheoleiddio Datblygu Niwclear

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut y bydd argymhellion adolygiad Fingleton o reoleiddio datblygu niwclear yn cael eu hystyried a'u bwrw ymlaen yng Nghymru? OQ64036

Rydym ni eisoes wedi sefydlu gweithgor ar draws Llywodraeth Cymru i fynd drwy'r adolygiad ar reoleiddio pŵer niwclear—adolygiad Fingleton—a phenderfynu ar yr hyn sy'n gweithio i Gymru, yn enwedig mewn meysydd lle mae gennym ni gyfrifoldebau datganoledig. Byddwn yn gweithio gyda rheoleiddwyr y DU i gyflymu pethau lle gallwn, ond yr hyn na wnawn ni yw gostwng safonau. Ac mae hyn yn bwysig oherwydd Wylfa ar Ynys Môn. Mae hwn yn gyfle enfawr i Gymru. Mae'n cael ei ysgogi gan Lywodraeth Lafur y DU—[Torri ar draws.]—yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru—nid wyf i'n gwybod pam rydych chi'n ei chael hynny mor anodd i'w ddeall—miloedd o swyddi medrus, biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad a hwb gwirioneddol i'r economi leol. Rydym ni eisoes yn gweld y biblinell honno yn cychwyn, â chontractau yn cael eu dyfarnu a chadwyni cyflenwi yn adeiladu yma yng Nghymru. Felly, nid yw hyn yn ddamcaniaethol; mae'n digwydd nawr, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod Cymru yn barod i fanteisio i'r eithaf arno.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Nid yw diogelwch a sofraniaeth ynni  erioed wedi bod yn bwysicach. Bydd angen mwy o bŵer arnom ni, nid llai, i sicrhau gwaith â thâl da i gymunedau ledled Cymru yn niwydiannau'r dyfodol sydd, wrth gwrs, wedi'u nodi yn strategaeth ddiwydiannol y DU. Bydd angen ynni adnewyddadwy a chenhedlaeth o niwclear newydd arnom ni i sicrhau pŵer ar gyfer cartrefi, busnesau a swyddi. Ac mae'n newyddion gwych i Gymru y bydd y rhaglen adweithydd modiwlaidd bach ar gyfer y DU yn cael ei harwain o Wylfa. Dylai rhaglen SMR Rolls Royce gynnig cyfleoedd gwirioneddol a gwaith ar gyfer cadwyn gyflenwi ehangach Cymru yn y gogledd a'r de. Os ydym ni eisiau'r gwaith yng Nghymru, mae'n rhaid i ni gefnogi'r sector. Mae adolygiad Fingleton yn nodi llwybr i reoleiddio'r sector, yn seiliedig ar dechnoleg heddiw, yn hytrach na datblygiadau niwclear o'r 1960au a'r 1970au. Mae'n gwneud dadl dros newid sy'n hanfodol i lwyddiant y sector hwn, a'r cyflogaeth gwerth uchel y mae'n ei chreu a'i chefnogi. Nid wyf i eisiau gweld rhwystrau ychwanegol i fuddsoddiad niwclear yng Nghymru nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi gan y dystiolaeth. A allwch chi rannu uchelgeisiau'r Llywodraeth hon ar gyfer y sector niwclear yma yng Nghymru, a chan gyfeirio at y tasglu y gwnaethoch chi ei gyhoeddi hanner awr yn ôl, a allwch chi rannu sut mae'r Llywodraeth hon yn disgwyl i Gymru alluogi ac ymateb i adolygiad Fingleton, i sicrhau mai Cymru, yn wir, yw'r lle gorau yn y DU i'r sector hwn fuddsoddi a llwyddo?

Diolch, Vaughan. Bydd angen tair gwaith yn fwy o drydan arnom ni yng Nghymru nag yr ydym ni'n ei ddefnyddio heddiw erbyn 2050. Ac os nad ydym ni wedi dysgu unrhyw beth arall yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym ni'n gwybod na allwn ni ddibynnu ar ffynhonnell ynni ansefydlog o dramor, a dyna pam mae datblygu ynni niwclear yn Wylfa mor hanfodol. Felly, hoffwn ailddatgan fy nghefnogaeth i gyflymu'r ddarpariaeth o brosiectau seilwaith niwclear, ac rwyf i wedi nodi hynny mewn datganiad ysgrifenedig. 

Mae'n bwysig bod y system gynllunio a'r prosesau rheoleiddio yn gweithredu'n ddidrafferth ac yn gyflym i alluogi busnesau i weithredu'n effeithiol. Nawr, rydym ni wedi blaenoriaethu £5 miliwn o fuddsoddiad yn Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr y gallan nhw gyflymu'r broses gydsynio. Ond, yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud yw gwanhau unrhyw beth o ran diogelwch—diogelwch y bobl sy'n gweithio yno a diogelwch pobl y genedl hon.

Prif Weinidog, mae gan ynni niwclear y gallu i drawsnewid ein grid, o ddarparu ynni llwyth sylfaen dibynadwy ac o gynyddu'r galw. Ond gadewch i ni beidio â thanamcangyfrif rôl Ceidwadwyr blaenorol y DU o ran eirioli dros Wylfa—niwclear ar raddfa lawn yn Wylfa, yn hytrach na SMRs yn unig. Yn eich ateb cychwynnol i Vaughan Gething, fe wnaethoch chi sôn am allu'r Llywodraeth hon yng Nghymru i edrych ar yr hyn sydd o fewn ei phwerau o ran ynni niwclear—sef y ddarpariaeth sgiliau ar gyfer y gweithlu lleol. Felly, sut ydych chi'n gweithio i sicrhau bod y gweithlu lleol ledled Cymru yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n dod o niwclear yma yng Nghymru?

Allaf i ddim credu bod Tori yn siarad â mi am yr hyn a wnaethoch chi dros niwclear. Fe wnaeth pobl y gogledd, pobl Ynys Môn, aros. Addawyd swyddi iddyn nhw—[Torri ar draws.] Addawyd swyddi iddyn nhw. Fe wnaethon ni eu hyfforddi nhw, yn barod i gymryd y swyddi hynny. Addawyd pethau i gannoedd o brentisiaid o dan eich goruchwyliaeth chi, ac fe wnaethoch chi fethu â chyflawni. A ydych chi'n gwybod beth oedd hynny'n ei olygu? [Torri ar draws.] A ydych chi'n gwybod beth oedd hynny'n ei olygu? Roedd yn golygu bod pobl, pobl yn Ynys Môn, wedi cael eu hyfforddi, eu bod nhw eisiau gweithio yn eu cymunedau lleol, roedden nhw eisiau aros gartref, gallu siarad yn eu hiaith frodorol, ond na—na, fe wnaethoch chi iddyn nhw adael gan na wnaethoch chi orffen y gwaith. Ond o dan Lafur Cymru, o dan Lafur Cymru, o dan Blaid Lafur y DU, yn gweithio gyda'n gilydd, rydym ni'n mynd i ddarparu £2.5 biliwn o fuddsoddiad—swyddi newydd. A wyddoch chi beth? Maen nhw'n digwydd eisoes. Roeddwn i'n ymweld ag un dim ond ddoe—Halton yng Nglynebwy, sydd eisoes yn gwneud offer ar gyfer y sector niwclear. Maen nhw'n llygadu'r cyfleoedd hynny sydd yna—maen nhw'n eu llygadu i fyny yn Wylfa. Ac felly hefyd Boccard, y gwnaethom ni ymweld ag ef yr wythnos diwethaf, yn y gogledd. Roedd yn wych bod yno ar gyfer lansiad ymgyrch Plaid Lafur gogledd Cymru. Ac roedd Boccard yno, yn deall beth mae sefydlogrwydd yn ei olygu—yr angen i edrych i'r dyfodol, i wneud yn siŵr y gallwn ni gynnig cyfleoedd i'r bobl yn yr ardaloedd hynny. Ac yn Ledwood, yn y gorllewin, maen nhw eisoes yn gweithio i'r sector ynni niwclear. Fe wnaethoch chi fethu'r bobl hyn; byddwn ni'n cyflawni ar eu cyfer nhw.

13:35

Prif Weinidog, mae angen ynni ar Gymru sy'n fforddiadwy i aelwydydd, yn ddibynadwy i ddiwydiant, ac yn ddiogel ar gyfer yr hirdymor. Am ormod o amser, mae polisi ynni Cymru wedi cael ei ysgogi gan dargedau sero net ideolegol, heb ystyried cost, dibynadwyedd, effaith ar gefn gwlad, na chydsyniad democrataidd. Eto, er gwaethaf cymorthdaliadau enfawr ar gyfer ynni gwynt ar y tir, mae aelwydydd Cymru yn dal i wynebu rhai o'r biliau uchaf yn Ewrop, tra bod y grid yn troi'n fwy ansefydlog. Bydd Reform yn newid hynny. Bydd ein dull yn syml: bydd polisi ynni yng Nghymru yn gwasanaethu pobl, bydd yn gwasanaethu swyddi, bydd yn gwasanaethu gwydnwch cenedlaethol. Bydd Llywodraeth Reform yn gweithredu fel galluogwr gweithredol o ddatblygiad niwclear, nid fel gwyliwr goddefol neu atalydd. Byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda San Steffan ac yn cyflymu'r seilwaith sydd ei angen. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi na ddylem ni ganiatáu i wrthwynebiad ideolegol gan Blaid Cymru rwystro neu atal datblygiadau niwclear sy'n bwysig yn genedlaethol ac y dylem ni roi terfyn ar y targedau sero net chwerthinllyd hyn sy'n dod â'n heconomi yng Nghymru i'w gliniau?

Fe ddywedaf i wrthych chi beth rydym ni'n ei wrthwynebu, safbwyntiau ideolegol sy'n methu â chydnabod bod newid hinsawdd yn real. Mae newid hinsawdd yn digwydd. Onid ydych chi wedi edrych ar y dystiolaeth wyddonol dim ond yr wythnos hon—dim ond yr wythnos hon? Mae newid hinsawdd wedi'i greu gan bobl yn real ac rydych chi'n parhau i wadu ei fodolaeth. A gadewch i mi ddweud wrthych chi bod gen i ddiddordeb—[Torri ar draws.]—mae gen i ddiddordeb, ac rwy'n poeni am y bobl yn y genedl hon sy'n dioddef ar hyn o bryd oherwydd prisiau ynni uwch. Mae angen i ni wneud rhywbeth i sefydlogi, i edrych i'r dyfodol, i wneud yn siŵr bod diogelwch o ran cyflenwad. Beth yw'r ffordd orau o wneud hynny? Ynni adnewyddadwy, ac, yma yng Nghymru, mae gennym ni ddigon ohono. Ni yw'r unig blaid—yr unig blaid—yn y lle hwn sydd wirioneddol o ddifrif ynglŷn â datblygu ynni adnewyddadwy, gan gydnabod bod angen y seilwaith arnom ni i gyd-fynd â hynny i greu swyddi, i wneud yn siŵr bod gennym ni ffynhonnell ddibynadwy ar gyfer y dyfodol, a fydd yn gostwng prisiau i'r bobl sy'n dioddef heddiw oherwydd mympwyon y farchnad ac oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn y dwyrain canol. Rydym ni'n talu pris. Mae angen i ni fod yn drefnus. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y Blaid Lafur—rydym ni'n trefnu Llywodraeth ar gyfer y dyfodol, a pholisi ynni annibynnol i Gymru. Dyna ein haddewid i'r bobl yn yr etholiad nesaf.

Addysg Uwch a'r Economi

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar rôl addysg uwch wrth dyfu economi Cymru? OQ64025

Mae ein prifysgolion yn ganolog i economi Cymru. Maen nhw'n hyfforddi ein gweithlu, maen ysgogi arloesedd ac yn cefnogi swyddi lleol ledled y wlad gyfan. Rydych chi'n gweld hynny mewn lleoedd fel Abertawe, lle mae'r brifysgol yn gweithio gyda diwydiant, ar bopeth o weithgynhyrchu uwch i ynni gwyrdd. Nawr, rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i'r sector ac rwy'n cydnabod y gofid gwirioneddol i staff, gan gynnwys yn Abertawe, lle mae pobl yn poeni am eu swyddi. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cefnogi ein prifysgolion gyda buddsoddiad ychwanegol o dros £40 miliwn mewn cyllid cyfalaf i'w helpu nhw i addasu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

13:40

Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd addysg uwch mewn meysydd twf fel cyfrifiadura a gwyddorau bywyd, tra hefyd yn darparu yn gyffredinol gweithlu addysgedig iawn, sef yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr. Os gwnewch chi edrych ar yr ardaloedd sy'n llwyddiannus yn economaidd yn y byd, mae gan bob un ohonyn nhw brifysgolion mawr. Boed yng ngefeillddinas Abertawe yn Mannheim, yn Silicon Valley neu yng Nghaergrawnt, mae'r prifysgolion yn ysgogi'r economi a'r twf economaidd uchel yn yr ardal. Mae prifysgolion yn cynnig y cyfle ar gyfer cyflogau uchel a thwf economaidd. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i brifysgolion Cymru fel y gallan nhw gystadlu â'r goreuon yn y byd?

Os edrychwch chi ar yr economïau mwyaf llwyddiannus yn y byd, maen nhw wedi'u hadeiladu ar sail prifysgolion cryf, a dyna'r union fodel yr ydym ni'n ei gefnogi yma, oherwydd nid yw prifysgolion yn addysgu yn unig, maen nhw'n ysgogi arloesedd, maen nhw'n cefnogi swyddi gwerth uchel, ac maen nhw'n angori twf mewn lleoedd fel Abertawe ac mewn mannau eraill. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi yn uniongyrchol yn y sector. Trwy Medr, fe wnaethom ni ddarparu dros £150 miliwn i brifysgolion y llynedd, ochr yn ochr â degau o filiynau o gyllid cyfalaf, i'w helpu i foderneiddio a lleihau costau yn y dyfodol.

Rydym ni'n gwybod bod prifysgolion yn bwysig iawn, ac mae tyfu'r economi hefyd yn bwysig iawn. Os ydym ni eisiau gweithlu sy'n gallu adlewyrchu a chyfathrebu ag economïau eraill yn y byd, mae ieithoedd tramor modern yn sicr yn ganolog i hynny, yn fy marn i. Rwy'n siŵr y byddwch chi yr un mor bryderus â minnau i weld bod nifer y myfyrwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern dros y pum mlynedd diwethaf wedi gostwng tua 20 y cant, sy'n peri pryder nid yn unig o ran y cyrsiau hynny, ond o ran yr effaith y byddai hynny'n ei chael ar ein heconomi yn hytrach. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wrthdroi, ac, na, nid yn y ffordd y mae Reform yn ei awgrymu, trwy wneud y Gymraeg yn iaith dramor. Yn hytrach, mae angen i ni wrthdroi'r duedd honno yn iawn, Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i gael gweithlu medrus heddiw ac yn y dyfodol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ieithoedd tramor yn gwbl ganolog i'r strategaeth hon a strategaeth nesaf Llywodraeth Cymru, nid yn unig mewn prifysgolion, ond yn y tymor hwy i lawr y biblinell hefyd ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch?

[Anghlywadwy.]—ieithoedd tramor modern mewn prifysgolion. Rwy'n credu bod hyn yn beth pwysig i ni ei hyrwyddo, a dyna pam rydym ni'n ei wneud yn fawr iawn yn ein hysgolion. Allwch chi ddim ei wneud yn y brifysgol oni bai eich bod chi wedi gwneud y gwaith caib a rhaw yn ein hysgolion cyn hynny, nid yn unig mewn ysgolion uwchradd ond mewn ysgolion cynradd, gan ennyn y diddordeb hwnnw ymhlith pobl ifanc o'r cychwyn cyntaf. Ond, gadewch i mi ddweud rhywbeth arall am brifysgolion, yn enwedig o ran cymell pobl i ddysgu ieithoedd modern: roedd mwy o gymhelliad pan oedd cyfle i allu mynd i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r gwir amdani, ac fe wnaeth eich plaid chi helpu i arwain yr ymgyrch a wnaeth ein tynnu ni allan o'r UE. Gadewch i ni fod yn gwbl eglur, o ran cyllid prifysgolion, ein bod ni'n cael llawer iawn o gymorth gan yr UE, nid yn unig ar gyfer ymchwil ond hefyd ar gyfer seilwaith, ac fe wnaeth hynny ein helpu i allu cystadlu â lleoedd fel de-ddwyrain Lloegr. Mae hynny'n llawer anoddach nawr. Addawodd eich plaid ddim ceiniog yn llai. Roedd yr addewid hwnnw yn wag, ac mae pobl Cymru wedi ei glywed.

Mae Mike Hedges yn llygad ei le, nid yn unig y mae'r prifysgolion yng Nghymru yn seddi dysgu pwysig ond maen nhw hefyd yn ysgogwyr twf economaidd yn eu rhanbarthau. Ond mae eich camreolaeth o'r sector addysg uwch dros 27 mlynedd wedi gadael y sector mewn trafferthion ariannol difrifol. Fel yr ydym ni wedi ei weld yn ddiweddar, bu'n rhaid iddyn nhw dorri swyddi a thorri cyrsiau. Mae eich hanes o'u cefnogi wedi bod yn gwbl druenus. Dim ond 32 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n mynd i brifysgolion, o'i gymharu â 40 y cant yng ngweddill y DU. Dim ond 21 y cant o gymunedau difreintiedig sy'n mynd i brifysgolion, o'i gymharu â 27 y cant ledled y DU. Felly, eich ymateb fu cau eich llygaid ac esgus nad oes unrhyw beth o'i le. Yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei gynnig mewn gwirionedd yw sefydlu adolygiad annibynnol o'r sector prifysgolion, sef yr hyn y mae'r sector ei eisiau. Felly, a gaf i wahodd y Prif Weinidog i gefnogi Plaid Cymru o ran sefydlu'r adolygiad hwnnw?

Edrychwch, mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser. Mae mwy y gallwn ni ei wneud i gefnogi addysg uwch bob amser. Rwy'n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw fel sefydliadau sy'n angori economïau, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny fel Bangor ac Aberystwyth, lle maen nhw'n hanfodol i'r lleoedd hynny, a dyna pam roedd yn sioc clywed Nigel Farage yn siarad am gau prifysgolion gan nad oedd yn hoffi'r hyn yr oedden nhw'n ei drafod yno ym Mangor.

Edrychwch, gadewch i ni siarad am gynlluniau Plaid Cymru ar gyfer addysg uwch, oherwydd, byddwch, fe fyddwch chi'n cael adolygiad, ond y polisïau yr ydych chi wedi eu cyhoeddi eisoes, mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch wedi dod i'r casgliad y bydden nhw'n

'anodd eu rhoi ar waith yn ymarferol, yn absenoldeb toriadau mewn rhannau eraill o wariant Llywodraeth Cymru.'

Felly, addewidion yw'r rhain eto—addewidion eto—heb unrhyw ymarferoldeb; dim synnwyr o ble mae'r cyllid hwnnw yn mynd i ddod. A gadewch i ni fod yn eglur hefyd am y peth arall y mae Plaid Cymru yn ei awgrymu. Maen nhw'n awgrymu cynnig system lle byddai pobl ifanc o gefndiroedd cyfoethocach yn cael dewis rhydd o ran ble maen nhw'n mynd i'r brifysgol, tra byddai'r rhai ag incwm is yn destun cyfyngiadau ar eu dewisiadau. Dyna'r gwir—dyna'r gwir—am bolisi Plaid Cymru, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod pobl Cymru yn clywed hynny yn yr etholiad sydd ar y gorwel.

13:45

Mae prifysgolion yn ychwanegu gwerth sylweddol i Gymru, gan fod o fudd i gymunedau lleol yn ogystal â rhoi hwb i'r economi genedlaethol. Yn fy etholaeth i, mae Prifysgol Wrecsam yn eithriadol o falch o'u graddedigion medrus iawn ac mae'r sefydliad yn mynd o nerth i nerth. Y llynedd, lansiodd CanfodAu, canolfan ymchwil ac arloesi gwerth miliynau o bunnoedd a dim ond y mis hwn, dyfarnwyd pwerau dyfarnu graddau ymchwil i'r brifysgol. Mae hefyd yn datblygu porth busnes ac yn gweithio'n agos iawn gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam ynglŷn â chyfleoedd newydd yn y rhanbarth. Mae cydweithredu yn hanfodol, ac mae llawer o'r prosiectau hyn wedi cael eu darparu trwy bartneriaeth gref iawn. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn elfen allweddol erioed yn hynny o beth. Felly, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth a'r buddsoddiad angenrheidiol fel y gall sefydliadau fel Prifysgol Wrecsam barhau i ysgogi twf economaidd, gan gryfhau'r economi ranbarthol a chenedlaethol.

Rwy'n cytuno â chi, ac rwy'n credu bod Prifysgol Wrecsam yn chwarae rhan allweddol iawn o ran trawsnewid Wrecsam fel dinas. Roedd yn wych siarad ag is-ganghellor Wrecsam a bod yn ei gwmni ddydd Gwener diwethaf, ond hefyd roedd yn gyfle i ddiolch iddo, oherwydd croesawodd y Cabinet i'w brifysgol ychydig wythnosau yn unig yn ôl. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod gan bob un ohonom ni ddealltwriaeth o sut mae Wrecsam yn ysgogi twf yn y rhan honno o'r byd. Rwy'n credu bod y porth busnes hwnnw yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr.

Y model diddorol iawn i mi, o ran Wrecsam, yw'r ddealltwriaeth hon nad yw'n golygu dod yn syth allan o'r ysgol a mynd i'r brifysgol yn unig. Mae hyn yn golygu dysgu gydol oes, a'r hyn y mae Llafur yn ei addo yn yr etholiad hwn yw y bydd gwarant ailhyfforddi gydol oes. Ac roedd hynny'n rhywbeth y cefais gyfle i'w drafod gyda'r is-ganghellor yr wythnos diwethaf, oherwydd mae hynny yn rhywbeth lle mae angen iddyn nhw ddeall y bydd pethau'n wahanol yn y dyfodol. Mae angen i ni newid ac addasu, a chydnabod efallai na fydd angen i bobl wneud cyrsiau tair blynedd, neu na fyddant yn barod i'w gwneud neu ddim yn gallu. Efallai y bydd angen iddyn nhw wneud pethau'n wahanol—cyrsiau cryno sy'n cyd-fynd â bywydau pobl. Dyna'r math o fodel y byddwn i'n awyddus iawn i'w weld yn y gwarant ailhyfforddi gydol oes hwnnw y byddwn ni'n ei ddarparu gyflawni pan fyddwn ni'n cael ein dychwelyd i'r Senedd fel y brif blaid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno bod y clip gan Nigel Farage yr wythnos diwethaf a ddisgrifiodd yr iaith Gymraeg fel 'iaith dramor' yn sarhad ar bobl Cymru—ac mae'n glir dydy Nigel Farage ddim yn poeni am Gymru o gwbl—a bod y clip hwn yn dangos bod Nigel Farage yn barod i ddweud unrhyw beth am arian? 

Jiw, jiw, Darren, rwyt ti wedi bod yn cuddio dy Gymraeg di yma ers pum mlynedd. [Chwerthin.] Mae'n hen bryd i ti ei defnyddio hi, a chwarae teg i ti am wneud hynny. Ond bydd yna bwysau arnat ti i wneud mwy o hynny yn y dyfodol, nawr ein bod ni i gyd yn gwybod dy fod ti'n medru'r Gymraeg. Ond dwi yn cytuno gyda ti. Dwi'n meddwl ei bod hi wedi bod yn sarhad ar yr iaith a hefyd ar ein gwlad o ran y ffordd roedd Nigel Farage yn siarad am ein hiaith ni. Y ffaith yw gwnaiff e unrhyw beth am arian—unrhyw beth am arian—ac mae hwn yn rhywbeth sydd gyda fe yn gyffredin â'i ffrind annwyl Trump.

Mae'n rhaid inni hefyd gofio does ganddo ddim dealltwriaeth o gwbl o'r byd a sut rydym ni'n byw yma yng Nghymru. Mae e eisiau ailagor y pits. Dyna beth mae e'n sôn amdano. Mae e eisiau ailagor dur a'r forge o ran beth sy'n digwydd yn Mhort Talbot. Mae hwnna'n dangos y ffaith does dim dealltwriaeth gyda fe o gwbl o ran sut rydyn ni'n byw ein bywydau ni yma yng Nghymru.

13:50

Wel, rwy'n falch ein bod ni'n cytuno ar rywbeth. [Chwerthin.] Mae wedi bod yn anodd dod o hyd i feysydd o dir cyffredin dros y blynyddoedd lawer diwethaf. Felly, os gallaf i symud yn ôl nawr at ein hymwan arferol, i rywbeth efallai y byddwn ni'n anghytuno amdano, Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd eich Llywodraeth ddatganiad ar gostau byw. Roedd yn beth rhyfeddol i'w ddarllen, oherwydd dywedodd y nesaf peth at ddim wrthym ni. Soniodd am werth £3.8 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU i gynorthwyo pobl yng Nghymru sy'n defnyddio olew ar gyfer gwresogi a dŵr poeth, ond ni roddodd unrhyw awgrym o gwbl o sut y bydd yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio. Ac roedd hefyd yn anwybyddu'r pwysau costau byw niferus eraill sydd wedi cael eu pentyrru ar ysgwyddau pobl Cymru—treth gyngor drwy'r to dros y pum mlynedd diwethaf, biliau dŵr wedi cynyddu cannoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd, ac wrth gwrs y cynnydd diweddar iawn i gost petrol a disel ar gyrtiau blaen ledled Cymru. Beth ar y ddaear ydych chi'n ei wneud yn cyhoeddi datganiad ar y pwysau costau byw sy'n claddu eich pen yn y tywod pan nad yw'n trafod y pwysau penodol hynny sy'n dyrnu pob un cartref yng Nghymru? A allwch chi ddweud wrthym ni: a ydych chi wedi erfyn ar Lywodraeth y DU i gefnu ar y cynnydd arfaethedig i'r dreth tanwydd yn ddiweddarach eleni? Pam ydych chi'n sefyll yn ddidaro, heb ddefnyddio eich pwerau i gapio cynnydd i'r dreth gyngor pan fo cynghorau yn codi eu treth gyngor o symiau syfrdanol? A phryd a sut mae pobl yn mynd i allu cael mynediad at yr arian ychwanegol hwnnw ar gyfer eu costau olew gwresogi?

Wel, allaf i ddim credu fy mod i'n cael gwersi gan y Torïaid ar sut i gynorthwyo pobl pan ddaw i dlodi. Fe wnaethoch chi daflu pobl ar y domen sgrap pan oedd eich Llywodraeth chi yn arwain yn San Steffan. Gadewch i ni gofio'r blynyddoedd o gyni cyllidol, y blynyddoedd o doriadau, y blynyddoedd o beidio ag amddiffyn pobl yr oedd angen amddiffyniad. A gadewch i mi ddweud wrthych chi'r hyn a wnaethom ni yng Nghymru. Tra roeddech chi'n cwtogi yn Lloegr, roedden ni'n amddiffyn yma yng Nghymru. Fe wnaethom ni'n siŵr y gallai pobl dros 60 oed ddefnyddio eu bysiau am ddim; fe wnaethom ni'n siŵr ein bod ni'n cyflwyno rheoliadau bysiau newydd i wneud yn siŵr y gallwn ni gymryd mwy o reolaeth ac y gallwn ni godi pris addas ar bobl ond nid gormod. A dyna pam mae tocynnau £1 i bobl ifanc wedi bod yn hynod lwyddiannus a pham, pan fyddwn ni yn ôl mewn llywodraeth yma ar ôl mis Mai, gadewch i mi ddweud wrthych chi, byddwn ni'n cyflwyno cap o £2 o ran tocynnau bysiau, gan wneud gwahaniaeth—gwahaniaeth gwirioneddol—i'r heriau costau byw y mae pobl yn eu dioddef.

A gadewch i mi fod yn eglur: rydym ni'n deall eu bod nhw o dan bwysau. Mae pobl yng Nghymru o dan bwysau a dyna pam rydym ni eisiau sefyll yn gadarn â nhw. Dyna pam rydym ni'n mynd i fynd hyd yn oed ymhellach o ran cymorth ar gyfer inswleiddio ynni, i'w cynorthwyo yn eu cartrefi, a pham hefyd yr ydym ni'n cynorthwyo'r bobl sydd eisoes mewn trafferthion ar y cyflogau isaf. Dyna pam, pan fyddwn ni'n dychwelyd yma ym mis Mai, y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sy'n gweithio yn ein hystafelloedd dosbarth, sy'n staff cymorth, yn cael eu talu trwy gydol y flwyddyn. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i dros 30,000 o bobl yn ein cymunedau. Dyna'r math o wahaniaeth y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud ac y mae wedi ei wneud.

Mae'n rhaid ei bod hi'n ddigalon dros ben drwy'r amser i fod yn chi, Darren, yn bychanu Cymru bob amser—yn bychanu Cymru. Gadewch i mi ddweud wrthych chi yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran cyflawni. Rhestrau aros wedi lleihau yr wythnos diwethaf—wyth mis yn olynol. A hoffwn dalu teyrnged i Jeremy Miles, sydd wedi cymryd yr arian ychwanegol hwnnw—. Mae wedi cymryd yr arian ychwanegol hwnnw nad oedd gennym ni o dan eich Llywodraeth chi, sydd gennym ni nawr, ac mae'n cyflawni. Gwelliannau enfawr i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru; 100,000 o brentisiaethau; prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd; ac ysgolion newydd wedi'u hadeiladu ledled Cymru gyfan. Ac mae hynny cyn i ni ddechrau siarad am yr 20,000 o bobl sydd bellach mewn cartrefi cymdeithasol a adeiladwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Fe ddywedaf i wrthych chi beth wnaeth y Blaid Geidwadol i helpu pobl gyda chostau byw: roedd gennym ni gynllun ffyrlo a achubodd miliynau o swyddi a bywoliaethau yn ystod y pandemig. Fe wnaethom ni roi cynnydd mwy na 75c i bobl ar eu pensiynau, gyda'r clo triphlyg. Ac wrth gwrs, ni wnaethom ni erioed gymryd i ffwrdd—neu gipio i ffwrdd—cyn y gaeaf, lwfans tanwydd y gaeaf i'n pensiynwyr.

Nawr, Prif Weinidog, gadewch i ni ddychwelyd—gadewch i ni ddychwelyd—at gostau byw. Mae pob un Ceidwadwr Cymreig yn gwybod mai'r ffordd orau o helpu pobl gyda chostau byw yw rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl a gwobrwyo gwaith caled. Dyna pam rydym ni wedi cynnig agenda torri trethi a gwastraff ar gyfer Cymru: cynllun i dorri 1c oddi ar dreth incwm i arbed £450 y flwyddyn i'r teulu sy'n gweithio'n galed; cynyddu'r dreth gyngor i roi terfyn ar y twyll o dalu mwy bob un blwyddyn, ond cael llai yn gyfnewid; estyniad i ofal plant am ddim—30 awr yr wythnos i famau a thadau sy'n gweithio—ac, wrth gwrs, ein cynlluniau i gael gwared ar dreth stamp ar brif gartrefi i symud ein marchnad dai a chefnogi'r swyddi sy'n dibynnu arni. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r unig ffordd i fynd i'r afael â chostau byw ac i ddelio â thlodi yng Nghymru, yr unig ffordd i drwsio Cymru a chael Cymru i weithio yw i bobl Cymru gefnu ar Lafur, cefnu ar Blaid Cymru a phleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig ar 7 Mai?

13:55

Rwy'n credu bod pobl Cymru—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod pobl Cymru wedi cael digon o'r Ceidwadwyr. Dyna pam y gwnaethon nhw eu gwrthod nhw'n enfawr yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf. Faint o ASau wnaethoch chi ddweud oedd gennych chi? O, na, gadewch i ni anghofio hynny.

Ond gadewch i ni gofio hefyd am y ffaith na ellir dweud y gwahaniaeth, mewn gwirionedd, rhyngoch chi a Reform y dyddiau yma. Dyna'r gwir amdani. Y ddwy hynny, pa blaid oeddech chi ynddi cynt? Rwy'n credu efallai y gwnewch chi ganfod mai'r blaid Dorïaidd oedd hi. Sut mae eich maniffesto yn edrych? O, mae'n edrych yn union fel eu un nhw. A wyddoch chi beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin? Wyddoch chi beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin? Toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Dyna beth sydd gennych chi yn gyffredin. Mae gennych chi doriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Gadewch i ni feddwl am yr hyn yr ydych chi'n ei addo. Rydych chi'n addo toriadau dwfn i wasanaethau cyhoeddus i gael gwared ar ardrethi busnes—bydd hynny'n costio £300 miliwn, £300 miliwn. O le mae hynny'n dod? Pwy sy'n talu am hynny? Y gwasanaeth iechyd fydd yn talu, a'r gwasanaeth addysg. Rydych chi eisiau rhoi £100 miliwn ychwanegol i ffermwyr ar ben y £350 miliwn y maen nhw'n ei dderbyn eisoes. O le mae'r arian hwnnw'n dod? Toriadau i wasanaethau cyhoeddus. Ac ar ben hynny—[Torri ar draws.] Ac ar ben hynny, rydych chi eisiau ailadeiladu a dechrau adeiladu'r M4—£1.6 biliwn yn y fan honno, £1.6 biliwn. Mae angen archwilio pen eich cyfrifydd. Dyna'r gwir amdani. Rydych chi wedi bod yn yfed Kool-Aid Liz Truss, ac mae angen i chi wneud yn siŵr, pan fyddwch chi'n gwneud cynnig i'r cyhoedd yng Nghymru—pan fyddwch chi'n gwneud cynnig i'r cyhoedd yng Nghymru—eich bod chi'n cyflawni.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, ar ddiwedd tymor seneddol arall, ac efo chithau'n eistedd yn y Gadair am un o'r troeon olaf, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am lywyddu mor gadarn ac am eich ymroddiad i'r Senedd a'i gwaith dros Gymru?

Dydw i ddim yn meddwl fy mod i'n Llywydd mor gryf ac effeithiol heddiw. Rwyf i wedi mabwysiadu rhyw fath o agwedd laissez-faire, gadewch i bopeth fynd, wythnos olaf y tymor at hyn, i weld a yw'n taro gwahanol dant. Mae'n ymddangos ei fod yn gweithio hyd yn hyn. [Chwerthin.]

Yn ogystal â diolch i'r Llywydd, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd hefyd am ddiolch i'n staff cymorth ni i gyd ac i staff y Comisiwn am fod mor barod i fynd y filltir ychwanegol bob amser i'n cefnogi ni yn ein gwaith bob dydd. Ac wrth i eraill eistedd yn y Siambr yma ar eu diwrnod olaf ond un, a gaf i ddymuno'n dda yn ddiffuant i bob un ohonyn nhw sydd wedi dweud na fyddan nhw'n sefyll yn yr etholiad fis Mai?

Pobl Cymru fydd yn penderfynu ai hon yw'r sesiwn olaf lle mae Prif Weinidog Llafur yn ateb cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau. Os, yn wir, y bydd hynny'n digwydd, beth mae'r Prif Weinidog yn meddwl fydd wedi ysgogi'r golled honno o ffydd yng ngallu ei phlaid i gyflawni dros Gymru ac i sefyll yn gadarn dros ein gwlad?

Rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn cymryd eu hamser i ystyried yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni iddyn nhw dros y pum mlynedd diwethaf—a mawredd rydym ni wedi cyflawni. Ac rydym wedi cyflawni yn wyneb—yn wyneb—pandemig. A ydych chi'n cofio, wrth ddod i mewn i'r etholiad hwn, nad oeddem ni hyd yn oed yn cael ymgyrchu'n iawn am y tair wythnos gyntaf? Roeddem ni yng nghysgod pandemig, roedd Brexit ar fin digwydd, ac roedd gennym ni chwyddiant hefyd, chwyddiant enfawr, o ganlyniad i ryfel Wcráin. Ac rydym ni wedi cael pedwar Prif Weinidog y DU yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid yw hynny'n ffafriol ac nid yw'n hawdd i ni wir ysgogi'r mathau o newidiadau yr oeddem ni eisiau eu gweld, ond wyddoch chi beth? Roedd gennym ni raglen lywodraethu ac rydym ni wedi cyflawni'r rhan helaeth o'r rhaglen honno, er gwaethaf—er gwaethaf—yr holl rwystrau hynny yn ein ffordd.

A'r hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw cydnabod, ac rydym ni angen i'r cyhoedd gydnabod, mai'r hyn sy'n wynebu Cymru yw dewis: dewis rhwng Llywodraeth sydd â'r cyllid bellach, yr arian i wneud y trawsnewidiad hwnnw i'n gwasanaethau cyhoeddus, fel sy'n digwydd eisoes, y gellir ei weld o'r wyth mis yn olynol hynny o restrau aros yn lleihau. Edrychwch ar y tyllau sy'n cael eu llenwi ar ein strydoedd: 200,000 a mwy. Meddyliwch am yr hybiau iechyd menywod hynny sydd wedi cael eu hagor ledled Cymru gyfan. Meddyliwch am yr 20,000 o gartrefi hynny yr ydym ni wedi eu darparu. Meddyliwch am y 100,000 o brentisiaethau sydd wedi cael eu creu yng Nghymru. Mae'r holl bethau hynny wedi cael eu cyflawni o dan ein goruchwyliaeth ni.

A gadewch i mi ddweud wrthych chi am yr opsiynau a'r hyn sydd o'u blaenau, a'r dewisiadau sydd o'u blaenau. Wyddoch chi beth? Rhan o'r broblem sydd gennym ni gan Blaid Cymru, mewn gwirionedd, yw os gwnawn ni archwilio dau o'u cynigion yn unig, ceir canlyniadau enfawr dros ben i bob rhan arall o'r Llywodraeth. Gadewch i ni edrych ar ofal plant: £400 miliwn. Dyna faint fyddai'n ei gostio i ddarparu cynnig gofal plant Plaid Cymru. Byddem ni i gyd wrth ein boddau o weld gwell gofal plant yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud dewisiadau anodd. Rydych hefyd eisiau gwario £1 ychwanegol ar weithwyr gofal—£164 miliwn yn y fan yna.

Felly, gadewch i ni gymryd y ddau hynny. Bydd hynny'n golygu toriadau enfawr dros ben mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn mannau eraill, oherwydd does dim mwy o arian. Mae'n rhaid i chi wneud dewisiadau mewn Llywodraeth. Ni fyddech chi'n gwybod na fu'n rhaid i chi wneud hyn erioed o'r blaen, ond dyna realiti llywodraethu. A wyddoch chi beth? Rydym ni wedi bod yn destun craffu yn y lle hwn wythnos ar ôl wythnos, ac mae hynny'n beth da; mae'n gwneud democratiaeth yn well, mae'n ein gwneud ni'n atebol, ond wyddoch chi beth? Rydych chi wedi dechrau bod yn destun craffu, ac rydych chi'n mynd ar chwâl ac yn cwympo wrth y rhwystr cyntaf, gan nad yw eich symiau yn gwneud synnwyr. Mae pobl Cymru yn ei sylweddoli, ac fe fyddan nhw, gobeithio, yn dod atom ni ac yn deall ein bod ni, pan fyddwn ni'n dweud ein bod ni'n mynd i gyflawni, rydym ni'n gwneud hynny mewn gwirionedd.

14:00

Does yna yr un ateb y gall y Prif Weinidog ei roi heddiw yn gallu cuddio gymaint mae pobl Cymru wedi'u dadrithio gan ddiffyg uchelgais y Blaid Lafur. Does yna ddim ateb y gall y Prif Weinidog ei roi sydd yn cuddio'r ffaith bod pobl Cymru yn barod am arweinyddiaeth newydd. Dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig: syniadau ac egni newydd, uchelgais newydd ar ôl 27 mlynedd o Brif Weinidogion Llafur. 

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod cystal â fi bod pobl Cymru yn gweld yr etholiad hwn drwy lens newydd. Mae'r ymdeimlad o anorfodrwydd, o ailadrodd yr hyn sydd wedi digwydd o'r blaen, wedi mynd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cymryd o ddifrif ein swyddogaeth o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond mae hefyd wedi ymwneud â dylanwadu ar y Llywodraeth, cael pethau wedi'u cyflawni fel gwrthblaid—prydau ysgol am ddim. Fe wnaethom ni golli cyfrif o faint o weithiau wnaeth Llafur bleidleisio yn erbyn hynny, ond ni wnaeth Plaid Cymru fyth ildio. Mae ysgol feddygol gogledd Cymru, syniad a wrthodwyd yn llwyr gan Lafur ar un adeg, bellach yn realiti ar ôl ymgyrch faith Plaid Cymru. Rwy'n falch o'r safiad y gwnaethom ni ei gymryd fel plaid ar hil-laddiadau Gaza, gan sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn groch ac yn eglur. Pan fo Cymru wedi cael ei hosgoi neu wedi cael bargen wael gan Lywodraeth y DU, Plaid Cymru oedd yn tynnu sylw ato, gydag aelodau meinciau cefn Llafur yn ymuno dim ond pan oedd hi'n wleidyddol hwylus gwneud hynny.

Dim ond blas yw hynna ar sut y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dangos arweinyddiaeth newydd. Pam ei bod hi'n wir mor aml o ran polisïau sy'n bwysig i bobl, yn ogystal â'r polau lle mae Plaid Cymru yn arwain, y gall Llafur ddim ond dilyn?

Rydych chi'n sôn am syniadau. Ble maen nhw? Ble maen nhw? Roeddwn i'n disgwyl rhywbeth mawr. Roeddwn i'n disgwyl rhywbeth arbennig. Rydych chi wedi cael pum mlynedd i ddatblygu'r syniadau hyn, ond wyddoch chi beth rydych chi'n mynd i'w wneud? Yn y 100 diwrnod cyntaf, rydych chi'n mynd i bendroni ychydig. Rydych chi'n mynd i bendroni ychydig am yr hyn a allai ddod nesaf. Ond, a bod yn onest, does dim ots beth wnewch chi feddwl amdano, oherwydd fyddwch chi ddim yn gallu gweithredu dim ohono, oherwydd ni fydd mwy o arian, gan eich bod chi eisoes wedi ei wario. Rydych chi eisoes wedi ei wario ar ddau bolisi.

Felly, gadewch i ni fod yn eglur bod pobl Cymru yn craffu arnoch chi am y tro cyntaf. Gadewch i ni feddwl am Awdurdod Datblygu Cymru, yr Awdurdod Datblygu Cymru newydd. Does dim cynllun, does dim cylch gwaith, does dim costau, does dim amserlen, ond fe wnawn ni bendroni ychydig. Fe wnawn ni bendroni ychydig yn ystod y 100 diwrnod cyntaf. Nid yw'r gymuned fusnes yn mynd i dderbyn hynny. Mae swyddi yn bwysig. Mae busnes yn bwysig. A wyddoch chi beth? Yn fwy na dim, mae Cymru a'i phobl yn bwysig.

14:05

Mae llawer o bobl yn gwylio'r sesiwn hon heddiw ac mae tôn y Prif Weinidog yn gwneud cymaint o anghymwynas â hi â'i diffyg gweithredu ar ran pobl Cymru. Byddai'n hawdd i mi sefyll yma a beirniadu hanes y Llywodraeth Lafur hon. Rhy hawdd. Rydym ni wedi trafod cyflwr y GIG, ysgolion a'r economi cynifer o weithiau, ac mae'r esgusodion fel record wedi torri.

Mae'r Prif Weinidog yn aml yn sôn am brofiad mewn Llywodraeth, ond nid yw hirhoedledd yr un peth â chyflawni. Mae sylwadau diweddar gan ffynonellau Llafur dienw wedi bradychu'r ffaith ei bod hi, iddyn nhw, yn fater o blaid cyn gwlad. Mae dweud nad ydych chi eisiau rhywbeth wedi'i ddatganoli gan nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n mynd i fod mewn grym i'w gyflawni, mae hynny'n hynod annemocrataidd. Felly hefyd y mae honni na all darpar Brif Weinidog Cymru gael perthynas effeithiol gyda Phrif Weinidog y DU os nad ydyn nhw'n perthyn i'r un blaid Lafur. Y trahauster hwn yw pam mae pobl wedi cael gymaint o lond bol o Lafur a pham mae pleidleiswyr Cymru yn crefu am arweinyddiaeth newydd a syniadau newydd. Mae ymostyngiad Llafur i Gymru wedi dal Cymru yn ôl ers amser rhy faith.

Onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod hi'n hen bryd i'n cenedl gael Llywodraeth sy'n dweud 'na' i waseidd-dra, 'na' i gyfleoedd wedi'u gwastraffu, ac 'ie' i Gymru hyderus, dosturiol a ffyniannus? Ac os yw hi'n credu hynny mewn gwirionedd, mae'n rhaid iddi gyfaddef na all Llafur fod y blaid i arwain y Llywodraeth honno ar ôl 7 Mai.

Wyddoch chi beth? Rydych chi'n cyfrif eich pleidleisiau yn barod, onid ydych chi? Ac mae pobl Cymru yn sylwi hynny—y trahauster. Y trahauster, y cymryd yn ganiataol o'r hyn a allai ddigwydd nesaf.

Rydym ni wedi ymladd ym mhob etholiad am bob pleidlais. Rydym ni wedi dweud beth rydym ni'n mynd i'w gyflawni, rydym ni wedi cyflawni'r hyn y gwnaethom ni ddweud y byddem ni, ac yna rydym ni wedi mynd yn ôl at y cyhoedd. A dyna'r un patrwm y byddwn ni'n ei wneud yma. A wyddoch chi beth? O ran gwlad a phlaid, rwyf i wedi bod yn eglur. Rwyf wedi bod yn eglur o'r blaen ac fe wnaf i fod yn eglur eto: gwlad dros blaid bob tro i mi. Ac o ran dewis, fodd bynnag, o ran dewis, fe wnaf i bob amser ochri gyda phobl Cymru. Fe wnaf i bob amser wneud yn siŵr fy mod yn sefyll yn gadarn dros y bobl sydd angen amddiffyniad.

Beth wnewch chi? Does dim rhaid i ni ofyn beth wnewch chi oherwydd fe welsom ni beth wnaethoch chi dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Pan ofynnwyd i bobl Cymru, pan ofynnwyd i'r Siambr hon, 'A ydych chi'n mynd i amddiffyn gweithwyr siop rhag trais?', beth wnaethoch chi? Fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid a Reform. Fe wnaethoch chi roi materion cyfansoddiadol uwchlaw amddiffyn pobl Cymru. Mae pobl yn sylwi hynny, ac rydym ni'n gwybod ac maen nhw'n gwybod mai dim ond y stop cyntaf ar y ffordd i ymwahaniaeth yw hwnnw. Yr hyn yr ydych chi ei eisiau yw brwydr gyfansoddiadol. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw Llywodraeth sydd o ddifrif. Mae cyfnodau ddifrifol yn haeddu ac angen gwleidyddion sydd o ddifrif. Maen nhw angen gwleidyddion â hygrededd a phrofiad.

Wyddoch chi beth? Mae rhedeg Llywodraeth yn anodd. Mae llawer i'w wneud ac rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud bob amser. Ond yr hyn y byddwn ni'n ei wneud pan fyddwn ni'n mynd i mewn i'r etholiad hwn yw cynnig polisïau eglur, fforddiadwy, sydd wedi'u costio ac y gellir eu cyflawni. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yng Nghymru yn gwybod at bwy i ddod pan fydd angen cymorth arnyn nhw i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw: tocynnau bws rhatach, biliau ynni is, ehangu gofal plant. Pan fyddan nhw'n poeni am swyddi'r dyfodol, pwy fydd yno i ofalu amdanyn nhw, i'w cefnogi, i wneud yn siŵr ein bod ni'n creu'r amgylchedd cywir? Bydd Llafur Cymru, Llywodraeth Lafur Cymru, yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n barod, gan greu Cymru sy'n annibynnol o ran ynni a gwarantau ailhyfforddi gydol oes newydd.

Beth ydym ni'n mynd i'w wneud am y GIG? Wel, nawr bod y tapiau wedi cael eu troi ymlaen, mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Ond wyddoch chi beth fyddwn ni'n ei wneud? Byddwn yn buddsoddi £4 biliwn yn ysbytai'r dyfodol, gyda chymorth iechyd meddwl yr un diwrnod a phwyslais parhaus ar iechyd menywod. Ac o ran amddiffyn ein planed—rydym ni wedi clywed yr wythnos hon pa mor bwysig yw amddiffyn ein planed—byddwn yn glanhau ein hafonydd a'n moroedd, byddwn yn tyfu ein coedwig genedlaethol a byddwn yn cymryd camau cryf ar dipio anghyfreithlon.

Ond yn fwy na dim—yn fwy na dim—yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw creu dyfodol tecach i Gymru, gan roi terfyn ar ddigartrefedd, codiad cyflog i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf a chodi safonau ysgolion. Mae pennod newydd ar fin dechrau yn hanes Cymru â chenhedlaeth newydd yn dod drwodd. Mae hwn yn degwch y gallwch chi ei deimlo. Pan fyddwn ni'n dweud ein bod ni'n mynd i gyflawni, rydym ni'n cyflawni. 

14:10
Y Setliad Datganoli

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ba mor dda mae'r setliad datganoli presennol yn gweithio i Gymru? OQ64064

Mae datganoli yn gweithio, ac mae'n gweithio oherwydd y dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. A gadewch i ni fod yn eglur: ni yw plaid datganoli. Ni wnaeth ei sefydlu a ni sydd wedi gwneud iddo gyflawni dros bobl Cymru: prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, presgripsiynau am ddim, rhestrau aros GIG sy'n lleihau, buddsoddiad mewn swyddi, sgiliau a chymunedau ledled Cymru. Dyna sy'n digwydd pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru, gan Lywodraeth Lafur Cymru, dros bobl Cymru.

Ond, ydym, wrth gwrs, rydym ni eisiau mynd ymhellach. Dyna pam y gwnaethom ni gefnogi'r comisiwn cyfansoddiadol, oherwydd dylai Cymru fod â llais cryfach a mwy o reolaeth dros y dyfodol. Ond wyddoch chi beth? Nid datganoli yw'r broblem. Mae'r pwysau wedi dod o flynyddoedd o danariannu gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU yn dal Cymru yn ôl. Nawr, gyda dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiad newydd hwnnw yn dod drwodd ac rydym ni'n ei roi ar waith lle mae'n cyfrif.

Prif Weinidog, mae heddiw yn ymddangos fel amser i bwyso a mesur a gweld ar ba drywydd ydym ni. Y Senedd hon yw llais Cymru. Brwydrwyd yn galed i'w sicrhau a'i hennill. Ceir lleisiau yn ein gwleidyddiaeth sy'n ceisio ein diystyru a'n bychanu. Pa mor niweidiol a siomedig yw hi ei bod yn ymddangos bod Prif Weinidog presennol y DU yn un ohonyn nhw. Mae Keir Starmer, fel Boris Johnson o'i flaen, yn ymddangos yn hapus i osgoi'r Senedd hon, i wrthod galwadau am bwerau dros blismona, dros drafnidiaeth, i wrthod y biliynau sy'n ddyledus i ni o HS2, i ddweud wrth ei Gabinet yn San Steffan y gallan nhw wario mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd Llywodraeth Cymru. Pan fydd gwleidyddion San Steffan yn dibrisio ein lleisiau fel hyn, nid sefydliad maen nhw'n ei sarhau, ond cenedl; cenedl o bobl sy'n haeddu cymaint gwell na'r setliad presennol y maen nhw'n ei gael; cenedl Cymru, sy'n haeddu mwy na chael ei gadael ar ymylon parhaol. Felly, Prif Weinidog, beth yw eich gweledigaeth a'ch gobaith ar gyfer dyfodol y lle hwn a pham ydych chi'n meddwl ei fod yn cymryd cyhyd i ni gyrraedd yno?

Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru yw un lle'r ydym ni'n gweld ein heconomi yn tyfu, fel y gall pobl fyw bywyd da, sydd hefyd yn rhywbeth lle gall pawb gael eu gwerthfawrogi, y gallan nhw fanteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni hefyd yn gofalu am ein gwlad ac yn ei hamddiffyn. A gadewch i mi ddweud wrthych chi mai dyna'n union yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rydym ni wedi bod yn gwneud yn siŵr ein bod ni bellach yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur y DU, a dyna sut rydym ni wedi cael y buddsoddiad mwyaf yr ydym ni wedi ei weld ers degawdau, y gyllideb fwyaf yr ydym ni erioed wedi ei chael, ac rydym ni'n ei rhoi ar waith.

A gadewch i ni fod yn eglur hefyd y bu ymrwymiad, ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi, o ran rheilffyrdd. Oeddem, roeddem ni'n flin amdano. Roeddem ni'n flin amdano o dan y Torïaid, ac, wyddoch chi beth? Rydym ni'n dal i fod yn flin amdano pan fo Llafur mewn grym. Roedd hynny'n wir hefyd am y cap budd-dal dau blentyn. Wyddoch chi beth? Ni wnawn ni newid ein barn oherwydd pwy sydd mewn grym yn San Steffan. Roeddem ni'n eglur nad oedd y cap budd-dal dau blentyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n cytuno ag ef, ac nid oeddem ni'n mynd i newid ein tôn oherwydd bod San Steffan yn gwneud rhywbeth gwahanol. Pa mor wych oedd hi felly pan wnaethon nhw nid yn unig newid eu meddyliau, ond fe ddaethon nhw i Gymru i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Roedd honno yn enghraifft ohonyn nhw yn gwrando, yn deall ac yn cydnabod ein bod ni'n blaid â gwerthoedd, a byddwn ni'n cadw at y gwerthoedd hynny waeth beth sy'n digwydd yn San Steffan.

14:15

Ddoe, gwnaeth pwyllgor COBRA gyfarfod i drafod costau byw a pha fesurau y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd. Yn yr ymchwiliad i'r pandemig a'i ganlyniad, roedd bysedd yn cael eu pwyntio at gyfranogiad Llywodraeth Cymru ym mhwyllgorau COBRA. Pa welliannau a welsoch chi, fel y Prif Weinidog newydd, neu Brif Weinidog gweddol newydd, i gyfundrefn COBRA? Rwy'n deall mai dewis Prif Weinidog y DU yw gwahodd pobl i mewn i hwnnw, ond mae penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn ystod eiliadau o argyfwng. Mae hynny, yn sicr, yn bwysicach nag unrhyw fath o agenda ymwahanol y mae'r cenedlaetholwyr yn awyddus i'w gwthio o ran chwalu'r Deyrnas Unedig.

Diolch yn fawr. Rydych chi'n gwbl gywir, a dyna pam mae'n wych, am fod perthynas eglur iawn gennyf i gyda'r Prif Weinidog, fy mod i wedi gallu codi'r ffôn iddo yr wythnos diwethaf a sôn wrtho am y materion y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu eisoes, fel prisiau olew gwresogi sydd wedi codi eisoes. Dyna pam y gwelsom ni'r sefyllfa lle roeddem ni'n cael mwy na'n cyfran yn ôl fformwla Barnett, am ein bod ni wedi gallu cael y sgwrs honno gyda'r Prif Weinidog yn uniongyrchol. Mae perthynas fel hyn yn bwysig, mae'n gwneud gwahaniaeth ac o fudd i bobl Cymru. Rwyf i wedi cael cyfarwyddiadau ynglŷn â'r sefyllfa. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi tynnu eu sylw nhw ato—ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi'r pandemig a'n bod ni'n cyfranogi o'r dechrau mewn unrhyw sefyllfa a allai effeithio arnom ni yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, rwy'n tybio y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cytuno â chi a'ch agwedd tuag at ddatganoli ac at ddyfodol y Deyrnas Unedig. Nid wyf i'n credu bod gan y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ddiddordeb yn newisiadau amgen Plaid Cymru neu'r Torïaid, ac yn sicr nid ydyn nhw'n dymuno cael eu galw yn 'estroniaid' gan Reform, gadewch i mi ddweud hynny wrthych chi. Yr hyn y mae pobl yng Nghymru eisiau ei weld yw'r tegwch y gallwch chi ei synhwyro, fel rydych chi wedi'i fynegi eisoes y prynhawn yma, a chydraddoldeb i Gymru yn y Deyrnas Unedig. Mae pobl Cymru yn awyddus i'r genedl hon gael ei thrin yn gyfartal, maen nhw'n awyddus i'r genedl hon gael ei thrin â thegwch, ac maen nhw'n awyddus i'r genedl hon fod â'r adnoddau a'r pwerau sydd eu hangen arnom ni i gyflawni er mwyn pobl Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai Llywodraeth Lafur newydd i Gymru yn unig a fyddai'n cyflawni tegwch fel hyn i Gymru?

Yn hollol. Mae tegwch yn hanfodol. Mae'n ganolog i'r hyn yr ydym ni, a dyna'r neges y byddwn ni'n ei rhoi i bobl Cymru. Ni yw plaid datganoli. Nid ydym ni'n dymuno mynd ar lwybr i ymwahanu ac nid ydym ni'n dymuno gweld sefyllfa lle mae datganoli yn cael ei lastwreiddio mewn unrhyw ffordd. Gadewch i mi fod yn eglur iawn: o ran cydraddoldeb, fe gawsom ni lawer mwy o adnoddau ers i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym. Edrychwch chi ar y buddsoddiad yn Wylfa. Edrychwch chi ar y ffaith eu bod nhw wedi cynorthwyo gyda chefnogaeth i ni gyda thomenni glo. Edrychwch chi ar y ffaith fod gennym ni nid un parth twf AI, ond dau ohonyn nhw. Ac mae yna doreth o fesurau eraill. Wythnos diwethaf, roeddem ni ym Mhort Talbot yn siarad â nhw am y strategaeth ddur newydd—diffyndollaeth ar waith er mwyn pobl ein cenedl ni. Fe ddaeth hynny am fod gennym ni Lywodraeth sy'n deall bod angen cefnogaeth arnom ni yma yng Nghymru, ac maen nhw'n rhoi'r gefnogaeth honno i ni.

Rhaglen Cerbydau Arfog Ajax

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd rhaglen cerbydau arfog Ajax i sicrhau dyfodol swyddi hyfedr yn Islwyn? OQ64065

Rydym ni'n gweithio yn glòs gyda Llywodraeth Lafur y DU ar raglen Ajax, oherwydd mae hyn yn ymwneud â diogelu swyddi medrus iawn yng Nghymoedd y de. Mae cannoedd o bobl yn cael eu cyflogi yn General Dynamics yn Oakdale a Merthyr Tudful—swyddi da, â chyflog da y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Rwy'n deall y bydd ansicrwydd yn peri pryder. Rydym ni wedi bod yn eglur iawn fod angen datrysiad cyflym arnom ni i roi hyder i weithwyr, yn enwedig mewn cymunedau fel Islwyn. Ond rydym ni'n cefnogi'r dyfodol hefyd gyda chytundeb twf amddiffyn Cymru gwerth £50 miliwn a chlwstwr amddiffyn newydd i dyfu swyddi a chadwyni cyflenwi yma yng Nghymru, oherwydd nid dim ond siarad am amddiffyn swyddi y mae Llywodraeth Lafur Cymru, rydym ni'n eu cyflenwi nhw.

14:20

Diolch yn fawr iawn i chi, Prif Weinidog. Mae General Dynamics UK, fel roeddech chi'n dweud, yn safle pwysig yn Oakdale yn Islwyn. Mae'n gartref i ganolfan peirianneg ymchwil a datblygu sy'n canolbwyntio ar systemau a meddalwedd cyfathrebu uwch. Mae safle Oakdale ar ei ben ei hun, yn ystod cyfnodau brig ei weithgarwch, yn cyflogi dros 300 o weithwyr medrus iawn, sydd â chyflog da, gyda rhaglen cerbydau ymladd arfog Ajax a ddatganwyd yn barod ar gyfer bod ar waith yn hydref y llynedd, dim ond i adolygiadau pellach gael eu cynnal. Ond fe adroddwyd yr wythnos diwethaf bod Ajax wedi pasio'r profion diogelwch i gyd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'r rhaglen £6.3 biliwn wedi gweld y fyddin Brydeinig yn archebu 589 o gerbydau rhagchwilio tyredog arfog Ajax.

Llywydd, mae'n amlwg bod galluoedd y cerbyd Ajax, sy'n cynnwys amrywiaeth o synwyryddion soffistigedig sy'n ei alluogi i ganfod cyfeiriad y taflegrau sy'n dod i mewn, i raddau helaeth, oherwydd gwaith y dynion a'r menywod dawnus sy'n cael eu cyflogi ar safle Oakdale. Prif Weinidog, beth yw asesiad y Llywodraeth Lafur hon i Gymru o bwysigrwydd rhaglen Ajax i economi'r de-ddwyrain, a pha achosion pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i sicrhau y bydd Islwyn yn parhau i fod wrth galon galluoedd strategol byddin Prydain yn y degawdau i ddod?

Diolch, Rhianon. Rydych chi'n hollol iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd Ajax i economi'r de-ddwyrain. Mae hyn yn ymwneud â channoedd o swyddi medrus iawn, â chyflog da mewn cymunedau fel Islwyn—swyddi y mae teuluoedd yn dibynnu arnyn nhw, a swyddi sy'n angori'r cadwyni cyflenwi ehangach hynny ar draws y Cymoedd, felly nid yw hyn yn ymwneud â General Dynamics yn unig. Roedd hi'n anhygoel mynd i ymweld â'r ffatri. Mae sgiliau'r bobl yno'n hollol anhygoel. Mae'r rhain yn danciau a wnaethpwyd â llaw—dyna beth rydym ni'n sôn amdano.

Fe ddaeth hi'n amlwg fod y sgyrsiau gyda Llywodraeth Lafur y DU yn mynd rhagddyn nhw. Fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r Gweinidog dros gaffael amddiffyn i bwyso am yr union achos yr ydych chi'n ei wneud, gan sicrhau eu bod nhw'n deall maint yr hyn sydd yn y fantol yma. Ond nid dim ond aros am benderfyniadau a wnawn ni; fel rwy'n dweud, rydym ni'n cefnogi dyfodol y sector hefyd.

Prif Weinidog, General Dynamics, fel cafodd ei grybwyll nawr, yw'r cwmni'r tu ôl i'r Ajax, ac mae'n darparu swyddi di-ri ar draws rhanbarth y de-ddwyrain, ac nid nhw yw'r unig rai sy'n darparu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru. Mae BAE Systems gennym ni yn sir Fynwy, Raytheon yn y gogledd, GE Aerospace yng Nghaerffili, a llawer mwy eto. Nid yw'n aml iawn yr wyf i'n cytuno â Syr Keir Starmer, ond rwy'n ei ganmol yn hyn o beth, rwy'n falch o'i weld ef yn ymrwymo i dorri cymorth tramor i roi hwb i'n gwariant amddiffyn hyd 2.5 y cant o'r incwm cenedlaethol erbyn 2027. Ar amseroedd o fwy o dyndra byd-eang, mae hi'n iawn ein bod ni'n gwario rhagor ar amddiffyn. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r Prif Weinidog yn hyn o beth? Oherwydd fe wyddom ni pa mor hapus yw eich Llywodraeth chi wrth wario yn hael ar wledydd pell ac ar brosiectau balch di-bwrpas ar draul blaenoriaethau pobl. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi cwmnïau amddiffyn ledled Cymru?

Rwy'n anghyfforddus—dyna'r gwir amdani. Rwy'n anghyfforddus gyda thorri cymorth i'r bobl dlotaf yn ein byd ni. Ni allaf i gerdded i ffwrdd oddi wrth hynny, dyna pwy ydw i. Ond rwy'n deall hefyd fod angen i bobl wneud dewisiadau anodd. O ran y sefyllfa gyda diogelwch drwy'r byd, rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn i fel roedd hi yn y gorffennol. Rwyf i o'r farn bod yn rhaid i ni fod yn ddifrifol iawn am ein diogelwch, a dyna pam maen nhw'n cynyddu'r arian sy'n cael ei wario ar amddiffyn. Gadewch i ni fod yn eglur, mae eich plaid chi wedi torri'r arian hwnnw ar gyfer amddiffyn dro ar ôl tro ar ôl tro a dyna sydd wedi ein gadael ni'n eithaf agored i niwed heddiw, pe byddem ni'n onest. Ond os ydym ni am wario arian ar amddiffyn, rwy'n dymuno sicrhau ein bod ni'n glanio ein cyfran deg yma yng Nghymru. Dyna pam mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwnnw ar fargen twf amddiffyn Cymru mor arwyddocaol: £50 miliwn a fydd yn rhoi hwb i swyddi yng Nghymru. Mae angen i ni sicrhau mai dim ond dechrau yw hwnnw.

Gwasanaethau Ysbyty yn y Gorllewin

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael gwared ar wasanaethau o ysbytai yng ngorllewin Cymru? OQ64038

Rwy'n deall pa mor gryf mae pobl yn teimlo ynglŷn â gwasanaethau yn Llwynhelyg, ac maen nhw'n iawn i deimlo felly. Mae'r gwasanaethau hyn yn bwysig. Ond gadewch i mi fod yn hollol eglur y bydd gofal brys ac argyfwng yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg. Fe glywsom ni hyn o'r blaen. Ers blynyddoedd, mae'r Torïaid wedi bod yn dweud y bydd Llwynhelyg yn cau. Ni fydd yn cau. Nid oedd am gau bryd hynny, ac nid yw am gau nawr.

Yr hyn sy'n digwydd yn y cyswllt hwn yw penderfyniad gan y bwrdd iechyd, yn seiliedig ar gyngor clinigol, ynghylch sut i gadw gwasanaethau yn ddiogel ac yn gynaliadwy, oherwydd nid oes neb yn gallu manteisio ar wasanaeth nad yw'n cael ei staffio mewn modd priodol nac yn ddiogel. Mae'r pwysau wedi bod yn cynyddu ar y gweithlu ar draws y GIG ers blynyddoedd, er gwaethaf y ffaith fod 2 y cant yn fwy o bobl yn gweithio yn y GIG gennym ni erbyn hyn nag a oedd gennym ni ar ddechrau'r tymor Seneddol hwn. Nid yw hynny'n rhywbeth sy'n unigryw i'r gorllewin, her gweithlu'r GIG; mae honno'n her ryngwladol.

Ond dyma wirionedd arall i chi: ar ôl 14 mlynedd o gyni a bennwyd gan eich plaid chi yn San Steffan, nid oedd y cyllid ar gael i ni sicrhau'r gyfradd o fuddsoddiad a oedd ei angen ar y GIG. Nawr, mae hynny'n newid. Gyda Llywodraeth Lafur i'r DU, mae'r buddsoddiad a nacawyd i Gymru yn llifo yma o'r diwedd, ac rydym ni'n rhoi hwnnw i'r GIG. Felly, gadewch i mi fod yn eglur: mae ein cynlluniau ni'n gredadwy ac fe ellir eu cyflawni. Mae hynny'n cynnwys cronfa 'ysbytai'r dyfodol' gwerth £4 biliwn, ac ysbyty gofal brys newydd ar gyfer y gorllewin. Nid yw codi bwganod yn cynorthwyo cleifion; cyflawni a chynaliadwyedd hirdymor sy'n gwneud hynny.

14:25

Sori, Paul. Caria ymlaen.

Nid fy lle i yw atal cwestiwn ar Ysbyty Llwynhelyg, am resymau amlwg.

Gadewch i mi fod yn gwbl eglur, Prif Weinidog. Fe allwch chi geisio rhoi'r wedd orau ar hyn gymaint ag y dymunwch chi, ond mae trigolion ar draws y gorllewin yn flin ac yn grac ynglŷn â'r penderfyniadau hyn i ddileu gwasanaethau o'u hysbytai lleol, a hynny'n ddealladwy. Maen nhw'n dymuno i Lywodraeth Cymru sefyll o'u plaid nhw a rhwystro'r bwrdd iechyd rhag dileu'r gwasanaethau hanfodol hynny. Mae fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd i ofyn iddo ef ymyrryd, ac yn wir at y Cwnsler Cyffredinol i ystyried unrhyw ddewisiadau cyfreithiol i rwystro'r bwrdd iechyd. Ni fyddwn ni'n gadael unrhyw garreg heb ei throi wrth sefyll dros y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Prif Weinidog, rwyf i wedi gofyn i chi dro ar ôl tro i weithio gyda mi a sefyll dros bobl y gorllewin yn erbyn eu bwrdd iechyd lleol, a hyd yn hyn, rydych chi wedi gwrthod yn llwyr i wneud hynny. Felly, rwy'n gofyn i chi unwaith eto: a wnewch chi ymyrryd nawr ac atal y bwrdd iechyd rhag tynnu gwasanaethau yn ôl o'r gorllewin? Gwnewch neu na wnewch?

Rwy'n cydnabod bod cymunedau yn ofidus iawn ynglŷn â'r sefyllfa. Rwy'n deall bod pobl wedi ymrwymo i'w gwasanaethau lleol. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr. Ond mae'n rhaid iddyn nhw barhau i fod yn ddiogel, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gynaliadwy, mae'n rhaid gallu eu cyflawni. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni gydnabod hefyd bod yn rhaid i hwn fod yn benderfyniad sy'n cael ei arwain yn glinigol gan roi ystyriaeth wirioneddol i'r amcanion y mae'n ceisio eu cyflawni, er mwyn gwella iechyd pobl. Wrth gwrs, mae pobl yn bryderus pan welan nhw eu gwasanaethau yn cael eu newid.

Rydych chi'n sôn am geisio rhoi eich gwedd eich hun ar bethau; beth am eich ymgais chi i ddweud ar-lein y bydd adrannau brys yn Llwynhelyg yn cau mewn gwirionedd? Mae gen i gopi o'r dudalen honno. Gadewch i mi fod yn eglur hefyd, wrth gwrs, pan fydd pobl yn clywed am newidiadau yn eu gwasanaethau, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd y bydd gwelliannau yn y newidiadau a'r awgrymiadau diwygiedig: rhagor o ddarpariaeth ar gyfer orthopaedeg yn Llwynhelyg, mwy o ofal canser yn Llwynhelyg, diagnosteg yn cael ei ehangu hyd saith diwrnod yr wythnos yn Llwynhelyg, ehangu gofal brys yr un diwrnod yn Llwynhelyg. Rydych chi'n ffaelu â sôn am hyn bob tro y byddwch chi'n siarad, Paul. Mae angen i bobl glywed hyn. A gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi, am eich bod chi wedi gofyn un i mi: a ydych chi'n cytuno y dylem ni fod ag ysbyty newydd sbon yn y gorllewin? Ydych chi neu nac ydych chi?

Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon sylweddol ynghylch yr argymhellion gwreiddiol i israddio gofal strôc yn Ysbyty Bronglais a chyflwyno model trin a throsglwyddo, gan drosglwyddo cleifion strôc i Lanelli. Mae'n dda bod y bwrdd iechyd wedi derbyn bod angen edrych eto ar leoliad uned strôc ac ôl-ofal, yn enwedig i fy etholwyr i sydd yn byw dros dair awr i ffwrdd o Lanelli. Ydych chi'n cytuno y bydd angen proses ymgynghorol arall pan ddaw'r argymhellion newydd ger ein bron, ac yn hytrach na chael sefyllfa ble mae Bronglais o dan fygythiad o gael ei israddio bob 10 mlynedd, y dylid, yn lle, datblygu'r ysbyty fel canolfan rhagoriaeth iechyd gwledig?

14:30

Mae'r sefyllfa ym Mronglais, fe wn i, wedi achosi llawer o bryder, yn enwedig o ran gwasanaethau strôc. Fe wn i fod yna bryder yn y gymuned leol. Rwyf wedi siarad â'r cadeirydd yn rhinwedd fy swydd fel Aelod lleol, ond rwy'n credu, gan y bydd y cynigion fel y'u rhagwelwyd yn wreiddiol yn wahanol nawr i'r hyn a aeth allan i ymgynghoriad, y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd allan i ymgynghoriad unwaith eto. 

Cyn-weithwyr Allied Steel and Wire

6. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud gyda Llywodraeth y DU o ran sicrhau cyfiawnder i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire sydd dal i wynebu anghyfiawnder pensiwn? OQ64028

Rŷn ni’n gwybod bod cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi wynebu anghyfiawnder enfawr. Rŷn ni’n sylweddoli’r caledi mae hyn wedi ei achosi i weithwyr a'u teuluoedd. A dyna pam rŷn ni wedi bod yn galw'n gyson am benderfyniad cyfiawn sy'n adlewyrchu'r pensiynau y talwyd amdanyn nhw, ac a gafodd eu haddo.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r anghyfiawnder hwn wedi bodoli cyn hired â datganoli i Gymru. Yn y Senedd gyntaf, fe ymgyrchodd fy nhad dros y 1,000 o weithwyr dur a oedd wedi colli eu pensiynau. Chwarter canrif yn ddiweddarach, ar ddiwedd y seithfed Senedd, does dim wedi newid. Mae'r ymgyrch yn parhau.

Wel, nid yw hynny'n hollol gywir, oherwydd mae un peth wedi newid. Mae llawer o'r gweithwyr wedi marw erbyn hyn, heb dderbyn yr un geiniog o'r pensiynau y gwnaethon nhw dalu amdanyn nhw. Fe ddywedodd un mab wrthyf i ei fod o'r farn fod ei dad wedi marw cyn ei amser oherwydd y caledi a achoswyd gan golled ei bensiwn. Maen nhw wedi ymladd ac maen nhw wedi dal ati i ymladd, ac maen nhw'n ymladd o hyd yn eu 70au a'u 80au hwyr, ac maen nhw wedi cael eu siomi gan Lywodraethau olynol yn San Steffan o bob lliw.

Ym mis Rhagfyr diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i fod Mark Drakeford wedi ysgrifennu at Torsten Bell, Gweinidog pensiynau'r DU, ynglŷn â sgandal ASW. A ydych chi wedi cael ateb eto, ac a wnewch chi godi'r ffôn i Keir Starmer, i ddweud wrtho fod pob Aelod Senedd yn y lle hwn wedi bod o blaid gweithwyr ASW, ac yn unfrydol o'u plaid? Ac a fyddwch chi'n mynnu bod y sgandal hon yn dod i ben? Diolch yn fawr. 

Edrychwch, fe wn i fod pobl a oedd yn gweithio yn Allied Steel and Wire wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa o anghyfiawnder mawr. Fe wnaethon nhw dalu i mewn i gynllun pensiwn, gyda disgwyliadau, ac fe gawson nhw eu siomi yn fawr iawn. Roedden nhw'n cael eu twyllo heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Ac mae hynny'n rhywbeth y gwn eich bod wedi ymgyrchu arno, a bod llawer iawn o gynrychiolwyr yng Nghaerdydd wedi bod yn ymgyrchu drosto. 

Fe wn i fod Mark Drakeford wedi ysgrifennu unwaith eto at Weinidog pensiynau Llywodraeth y DU ar 5 o fis Rhagfyr i godi'r pryderon hynny. Fe gafodd ef ymateb oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae Llywodraeth Lafur y DU, mae ef yn awgrymu, wedi mynd llawer ymhellach na Llywodraeth Dorïaidd y DU i unioni'r cam. Roedd y cynllun cymorth ariannol, a sefydlwyd i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan fethiannau o ran pensiynau rhwng 1997 a 2005, yn cwmpasu 90 y cant o werthoedd pensiwn. Nawr, fe fydd Llywodraeth Lafur y DU yn deddfu nawr, trwy Fil Cynlluniau Pensiwn y DU, i ddarparu mynegeio ar groniadau pensiwn cyn 1997, pryd roedd rheolau'r cynllun gwreiddiol yn cynnwys darpariaethau o'r fath, ac fe fyddan nhw'n cael eu mynegeio. Felly, fe fydd hynny nawr yn cwmpasu gweithwyr Allied Steel and Wire. Ond nid yw hynny'n ystyried chwyddiant, yn enwedig ar gyfer hawliau pensiwn a gronnwyd cyn i'r cynllun gael ei lansio. Felly, mae yna bryderon o hyd. Mae e'n cydnabod nad ydyn nhw wedi ymdrin â phopeth yr oedd pobl yn pryderu yn ei gylch, ond fe wn i y byddan nhw'n dal ati i ymladd, ac fe fyddwn ninnau'n dal ati i ymladd ar eu rhan. 

Cydlyniant Cymunedol

7. Sut mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Nwyrain De Cymru? OQ64041

Ar fewnfudo y seiliwyd Cymru ein gwlad. Fe symudodd cannoedd o filoedd o bobl yma i'n helpu ni i'w hadeiladu trwy'r chwyldro diwydiannol. Heddiw, rydym ni'n dibynnu ar bobl o wledydd a diwylliannau eraill i gefnogi ein GIG a'n gwasanaethau gofal a chefnogi ein heconomi nos. Mae cydlyniant cymunedol yn ganolog i'n gwerthoedd ni yn y Llywodraeth Lafur ac rydym ni'n gwneud llawer iawn i'w hybu.

Fe hoffwn i roi diolch, ar yr achlysur hwn, i Jane Hutt am y gwaith anhygoel a wnaeth hi yn y maes hwn, nid yn unig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ei gwaith fel Ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd yn ei blynyddoedd lawer iawn, iawn, iawn o flynyddoedd yn gwasanaethu yn y Siambr hon, yn ymladd dros gydlyniant cymdeithasol bob amser, yn ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol bob amser. Fe hoffwn i ddiolch i Jane am ei chyfraniad aruthrol, nid yn unig yn y lle hwn, ond i bobl Cymru. [Cymeradwyaeth.]

14:35

Yng ngoleuni'r rhyfel yn Iran, fe ddaw mater cydlyniant cymunedol i'r amlwg unwaith eto. Fe wyddom ni o ryfeloedd blaenorol yn y rhanbarth y gall mwy o aflonyddwch godi yn ein cymunedau ni, yn enwedig i aelodau o'r gymuned Fwslimaidd a'r gymuned Iddewig. Cafwyd enghraifft o hyn yr wythnos diwethaf, pan welsom ni'r digwyddiadau syfrdanol yn Llundain a effeithiodd ar y gymuned Iddewig yno. Yn nes at adref, fe wn i fod pryderon wedi cael eu codi yn ystod y misoedd diwethaf ynglŷn â pha mor gadarn oedd diogelwch mewn nifer o fannau addoli. A ydych chi wedi sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ychwanegol ar gael i ddiogelu aelodau mwy agored i niwed yn ein cymunedau, i sicrhau eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn rhag iaith casineb, hiliaeth a thrais corfforol?

Yn ail, gan mai hwn yw fy nghwestiwn olaf i chi yn y Senedd hon cyn ei diddymu, a fyddech chi'n cytuno bod angen i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a'u cefnogwyr fod yn ymwybodol bob amser o'r fath o iaith y byddwn yn ei defnyddio? Fe ddylai datganiadau a safbwyntiau fod wedi eu gwreiddio yn y gwirionedd ac fe ddylen nhw ochel rhag annog tensiynau yn ein cymunedau. Mae Cymru yn genedl gyfeillgar, oddefgar a chynhwysol; mae'n rhaid iddi barhau i fod felly.

Diolch i ti, Peredur.

Rwy'n credu bod hynny'n gwbl gywir. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fynd i mewn i'r ymgyrch hon yn ymwybodol ein bod ni'n ar ddechrau cyfnod gweddol anodd. Mae hwn yn amser lle ceir rhagor o aflonyddwch, fel rydych chi'n dweud. Rwyf i wedi gofyn i'r swyddogion dan sylw sicrhau ein bod wedi rhoi'r gefnogaeth ychwanegol honno ar waith i amddiffyn y cymunedau hynny sy'n teimlo yn agored i niwed ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni wedi rhannu yn nathliadau Eid dros y penwythnos; mae hi'n wych gweld ein cymunedau Mwslimaidd yn dathlu. Ond mae hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n amddiffyn y gymuned Iddewig, sy'n teimlo dan straen ar hyn o bryd.

Edrychwch, cyn bo hir, fe fydd pobl Cymru yn mynd i bleidleisio, ac fe fyddan nhw'n wynebu dewis o ran pa fath o Gymru maen nhw'n dymuno perthyn iddi yn y dyfodol: un sy'n ceisio meithrin cymunedau a chreu cydlyniant, neu a fyddan nhw'n dewis plaid sy'n benderfynol o greu ymraniadau, i feithrin casineb a chynhyrfu'r dyfroedd? Rwy'n credu bod hen ddigon o ymraniad yn y byd hwn, digon o weithredwyr drwg sy'n chwilio bob amser am wahaniaethau yn hytrach na gofyn am yr hyn sy'n gyffredin rhyngom. Rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni, wrth i ni fynd i mewn i'r etholiadau hynny, i ymddwyn gydag anrhydedd, gydag urddas ond, yn bennaf i gyd, gyda pharch at ein gilydd.

Marwolaethau Diangen

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? OQ64034

Mae pob marwolaeth mewn adran ddamwain ac achosion brys yn drasiedi, ond mae'r rhai y gellid eu hosgoi pe byddai camau wedi'u cymryd mewn da bryd yn gwbl annerbyniol. Fe glywsom ni am lawer o enghreifftiau lle mae hyn wedi digwydd, ac mae angen i fyrddau iechyd gymryd camau. Fe ddylai pob claf gael ei brysbennu o fewn 15 munud ar ôl cyrraedd, ac fe ddylai hynny asesu difrifoldeb cyflwr y claf, ac fe ddylid ei drin yn ôl yr angen. Nawr, mae'r pwysau ar ein hadrannau brys yn aruthrol, ac fe welsom ni gynnydd o 2.4 y cant yn y niferoedd sy'n ymgyflwyno y llynedd.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Rydych chi'n siŵr o fod yn gwybod bod gan GIG Cymru nod o aros ddim mwy na 12 awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys, ond y llynedd bu 122,000 o bobl yn aros am 12 awr neu fwy. Dyna'r ail ffigwr mwyaf a gofnodwyd erioed. I roi'r peth yn syml, mae hynny'n golygu bod tua un o bob saith o bobl yn aros am o leiaf 12 awr; yn 2015, roedd hynny'n nes at un mewn 32.

Fe wyddom ni fod cysylltiad amlwg rhwng arosiadau hir, gorlenwi a niwed i gleifion mewn adrannau brys. Mae Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng wedi amcangyfrif y llynedd, yng Nghymru, fod cyfartaledd o 18 marwolaeth bob wythnos yn gysylltiedig ag aros am 12 awr neu fwy. Mae hwnnw'n ffigwr ofnadwy i'r holl deuluoedd cysylltiedig hynny. Prif Weinidog, nid yw arosiadau hir ac adrannau damweiniau ac achosion brys sy'n orlawn yn bethau anochel nac yn amhosibl eu datrys, ond os nad methiant yw hwn, beth ydyw? A fyddwch chi'n derbyn cyfrifoldeb am y canlyniadau erchyll hyn, neu a fyddwch chi'n parhau i wadu'r sefyllfa wirioneddol sy'n wynebu cleifion ledled Cymru? Diolch.

14:40

I'r mwyafrif llethol o bobl, mae gofal yn parhau i fod yn glinigol ddiogel ac effeithiol. Gadewch i mi roi syniad i chi o raddfa'r hyn yr ydym ni'n ymdrin ag ef yn hyn o beth: fe ymgyflwynodd 1.1 miliwn o bobl mewn adrannau brys yn y flwyddyn ddiwethaf, mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Cafodd y mwyafrif llethol eu trin gydag urddas a gofal, ac roedd yr arhosiad cyfartalog yn llai na thair awr. Nawr, a ydym ni'n awyddus i wneud yn well? Wrth gwrs ein bod ni. A yw hi'n dderbyniol i unrhyw un fod yn y sefyllfa honno? Nac ydyw—nac ydyw. A dyna pam rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gefnogaeth ar waith. Mae hi'n wych gweld, oherwydd y buddsoddiad ychwanegol hwnnw, fod y nod amser ymateb categori porffor wedi cael ei daro bob mis ers ei lansio. Ym mis Chwefror fe welwyd gostyngiad o 21 y cant mewn oriau ambiwlans yn cael eu colli, ac rydym ni wedi buddsoddi mwy mewn staff uwch i wneud penderfyniadau clinigol wrth y drws ffrynt. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 7 y cant mewn ymgynghorwyr. Dyna'r union beth y gofynnodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng i ni ei wneud, ac fe wnaethom ni hynny.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ofyn y cwestiwn olaf i chi, Brif Weinidog.

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y pwysau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol? OQ64063

Mae gofal cymdeithasol wrth hanfod ein hymrwymiad ni i gymunedau. Un o'r materion allweddol sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol yw'r angen i sicrhau bod digon o weithwyr gofal cymdeithasol gennym ni. Dyna pam mai un o gyflawniadau mwyaf canmoladwy'r Llywodraeth hon, yn ei blwyddyn gyntaf, oedd cynyddu'r swm yr oeddem ni'n ei dalu gam ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Ni welwyd hynny mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Mae gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu a'i drefnu trwy'r cynghorau lleol, ac rydym ni'n cydnabod y pwysau ariannol sydd arnyn nhw. Dyna pam y byddan nhw'n cael £282 miliwn ychwanegol yn 2026-27, sef cynnydd o 4.5 y cant. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n gwario dros £175 miliwn ar flaenoriaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys £30 miliwn ar gyfer llwybrau gofal, a fydd yn sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw nawr ac i'r dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Er fy mod i'n cael fy nhemtio i wneud pwynt gwleidyddol ar y cyfle olaf un hwn, nid wyf i am wneud hynny mewn gwirionedd, oherwydd fe hoffwn i bawb ohonom ni—ac fe hoffwn i glywed gennych chi, Prif Weinidog—roi clod i'r gofalwyr cymdeithasol hynny ledled Cymru, nad yw llawer ohonyn nhw'n cael eu talu cystal â hynny, ac nid yw amgylchiadau eu gwaith nhw mor wych â hynny, ac maen nhw'n gofalu am ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a'n dinasyddion mwyaf gwerthfawr. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn hoffi uno yn ein diolch iddyn nhw. Wrth fynd ymlaen, mae angen i ni weld bargen well ar gyfer y gofalwyr cymdeithasol hynny ac, yn bwysicaf i gyd, bargen well ar gyfer y cleifion hynny sy'n aros i gael gofal cymdeithasol ac nad ydyn nhw' gallu ymadael â'n hysbytai am nad yw hynny ar gael. Mae angen i ni weld—yn y Llywodraeth nesaf, rwy'n gobeithio—ymrwymiad gwirioneddol i ofal cymdeithasol. Mae hwn yn gyfle i sicrhau—heddiw, yma, nawr—ein bod ni'n diolch iddyn nhw am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Jane. A gaf i ddiolch i chi a rhoi canmoliaeth i chi am hyrwyddo'r achos hwn? Mae'n achos pwysig. Mae gweithwyr gofal yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod ein cymunedau ni'n gweithio yn dda. Rydym ni'n byw mewn cymdeithas sy'n heneiddio, ac fe fydd angen bod â mwy o weithwyr gofal arnom ni, ac nid llai. Fe hoffwn innau hefyd roi teyrnged i ofalwyr di-dâl. Nhw yw'r arwyr gwirioneddol yn ein cymunedau ni. Nhw yw'r bobl sy'n cynnal teuluoedd ledled y genedl hon. Rydym ni wedi rhoi £91 miliwn ychwanegol i'r gwaelodlin o ganlyniad i'r cyflog byw gwirioneddol hwnnw. Mae hynny'n swm enfawr o arian—swm enfawr o arian.

Rwy'n cael fy nhemtio yn fawr i fynd am ddiweddglo gwleidyddol mawr iawn nawr, ond nid wyf i am wneud hynny, am fy mod i o'r farn eich bod chi'n iawn: gadewch i ni orffen y cwestiwn hwn i'r Prif Weinidog ar nodyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni i gyd gytuno arno, a hwnnw yw mai'r bobl yn ein cymunedau ni sydd ag angen ein parch, sy'n haeddu ein parch, yw'r gweithwyr gofal hynny, ac yn enwedig y gofalwyr di-dâl hynny sy'n gwneud cymaint i gyfrannu at ein cymunedau.

14:45
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd, Jane Hutt, sy'n gwneud y datganiad yma.  

Member (w)
Jane Hutt 14:45:07
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. 

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi ynglŷn â dyfarniad y Goruchaf Lys sy'n egluro mai ystyr 'rhyw' dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw 'rhyw biolegol' ac, fel y cyfryw, mae'n rhaid i lecynnau a gwasanaethau i un rhyw fod ar gyfer y 'rhyw' hwnnw'n unig. Mae hi bron yn flwyddyn ers i'r Goruchaf Lys wneud y dyfarniad hwnnw ac nid oes siw na miw fyth wedi dod oddi wrth Lywodraeth Lafur Cymru. Ym mis Rhagfyr 2025, rhyddhaodd y Rhwydwaith Hawliau Menywod, sydd â grŵp gweithgar iawn yma yng Nghymru, ei adroddiad ar y defnydd o ystafelloedd newid rhyw cymysg mewn canolfannau hamdden. Dim ond tri o'r pedwar llu heddlu yng Nghymru a roddodd ymateb. Ni ddarparwyd data gan Heddlu Gwent. Serch hynny, roedd y data a ddarparwyd gan Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed-Powys yn dangos yr hyn y mae unrhyw un sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin yn ei wybod: yr ystafell newid fwyaf diogel i fenywod a merched, mewn gwirionedd, yw'r un ar gyfer un rhyw. Mewn dim ond blwyddyn, fe gafwyd chwe adroddiad o drais, dau adroddiad o ymosodiad rhywiol a saith adroddiad o voyeuriaeth. Mewn o leiaf 73 y cant o achosion, menyw oedd y ddioddefydd, ac mewn o leiaf 87 y cant o achosion, gwryw oedd y troseddwr honedig. Fe ddigwyddodd wyth deg wyth y cant mewn pentref newid rhyw cymysg, ac mae llawer o'r ystafelloedd newid hyn dan gytundebau a ddelir gan awdurdod lleol. Mae hwn yn fater o drais yn erbyn menywod a merched, mater y mae'r Llywodraeth hon yn honni ei bod o ddifrif am fynd i'r afael ag ef. O ystyried bod dyfarniad y Goruchaf Lys, yng ngeiriau Bridget Phillipson, ac rwy'n dyfynnu, yn 'glir fel crisial', ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi datgan nad oes angen aros am gyhoeddiad y cod ymarfer, pam nad yw'r Llywodraeth hon yn gweithredu nawr i sicrhau bod diogelwch menywod a merched mewn ystafelloedd newid mewn cyfleusterau yng nghanolfannau hamdden ledled Cymru yn cael ei gymryd yn ddifrifol? Mae angen datganiad i fynd i'r afael â'r pwyntiau hyn ar fyrder. Diolch yn fawr iawn.

Fel y gwyddoch chi, ac rwyf i wedi adrodd hynny ar sawl achlysur ac, wrth gwrs, wedi cyhoeddi datganiadau hefyd, aros yr ydym ni am ganlyniad yr ystyriaeth oddi wrth Lywodraeth y DU a San Steffan ei hunan. Mae gan y Senedd gyfle nawr i edrych ar y cod llywodraethu diwygiedig drafft gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi cwrdd â'r holl grwpiau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw neu sydd â phryderon, ac mae pryderon mawr, yn enwedig felly, yn fy marn i, gan y gymuned draws, am effaith dyfarniad y Goruchaf Lys. Fe fyddwn i'n dweud, ac fe wn i eich bod chi'n ymwybodol o hyn, Natasha, fod y barnwr, ar yr adeg y cyhoeddwyd dyfarniad Goruchaf Lys, wedi dweud bod gofyn arnom ni drin y mater hwn gyda chydymdeimlad a gofal.

Mae yna brinder o dai fforddiadwy yng Nghymru. Mae yna brinder tai cymdeithasol sy'n cael eu hadeiladu gan gynghorau a chymdeithasau tai. Cafodd peth o'r prinder hwnnw ei liniaru gan landlordiaid preifat a'r sector rhentu preifat. Mewn rhannau o Abertawe, tai i'w rhentu yn breifat yw'r prif gyflenwad o dai. Mae prinder tai yn dal i fodoli ac yn cael ei achosi, o leiaf yn rhannol, gan ail gartrefi, cartrefi gwag a thai sy'n cael eu tynnu o'r farchnad dai a'u defnyddio ar gyfer llety Airbnb. Nid problem i gyrchfannau gwyliau yn unig yw Airbnb, mae hyn yn digwydd ym mhobman. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Llywodraeth ar reoli dwyster llety Airbnb, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd ar gyfer tai mewn amlfeddiannaeth?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, tai cymdeithasol yw'r hyn yr ydym ni'n ei geisio o ran darparu'r hanfodion hollbwysig hynny i fywydau pobl o ran tai. Fe fyddwn i'n dweud, unwaith eto, fel dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, mai'r rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i gyrraedd 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector tai cymdeithasol yw'r hyn y mae'r Llywodraeth hon i Gymru yn ei gyflawni. Mae hi'n bwysig hefyd ein bod yn edrych ar swyddogaeth y sector rhentu preifat ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried, wrth gwrs, rheoleiddio llety Airbnb hefyd, yr oeddem yn mynd i'r afael â'r mater yn ddiweddar iawn o ran deddfwriaeth.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried y ffaith fod gan Gymru lawer i'w gynnig i ymwelwyr, ond mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n taro cydbwysedd rhwng anghenion ein cymunedau ni, ein busnesau ni, ein tirweddau ni yn ogystal â rhai'r ymwelwyr sy'n dod yma. Felly, rydym ni'n cymryd camau sylfaenol, sy'n defnyddio systemau cynllunio, eiddo a threthiant i gyflawni hynny, ac mae hwnnw'n becyn cydgysylltiedig iawn o ddatrysiadau i set gymhleth o faterion. Rwy'n falch eich bod chi wedi codi hyn heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae cymunedau yn wynebu her enfawr gyda niferoedd ail gartrefi, llety gwyliau byrdymor a chartrefi gwag. Rydym ni'n cyflwyno datrysiadau cytbwys i fynd i'r afael â'r problemau hyn.

14:50

Lawer tro, rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn y fan hon ac wedi gofyn am ddatganiadau ynglŷn â'r sefyllfa enbyd iawn sy'n bodoli yn Ysbyty Glan Clwyd ar hyn o bryd, yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Nawr, fe ddaeth y sylw hwn yn uniongyrchol oddi wrth un claf: 'Dyma'r tro i mi deimlo yn fwyaf cynhyrfus a bregus y gallaf i ei gofio. Ddim yn fy mharth cysur arferol. Rwyf i wedi bod yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd, yn gorwedd ar droli, ers nos Sadwrn, yn cael triniaeth am lid yr ymennydd.' Rwyf i wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd hefyd. Fe gyflwynais i gwestiynau brys ar hyn. Mae'n mynd ymlaen i ddweud, 'Nid oedd unrhyw obenyddion felly roedd gen i hwdi i'w ddefnyddio. Rwyf i wedi cael pigiad yn y lwynau ar yr un troli y bues i'n cysgu arno hefyd, yn diferu gwaed o ganwlâu arno. Gweithdrefn beryglus a bregus y mae angen rheoliad heintiau llwyr wrth ei chyflawni. Nid wyf i am ymhelaethu ar y bwyd wedi llwydo dan ateg fy mhen ar y troli a gafodd ei ddiheintio. Mae fy nghefn i'n brifo hefyd oherwydd y pigiadau yn y lwynau. Ddoe, ni allwn gael diod na mynd i'r lle chwech pan oedd angen hynny arnaf i am fod y teclyn diferu yn sownd wrth y peiriant, sydd yn sownd wrth y gwely ar y troli. Pan wnes i ganu'r gloch i alw sawl gwaith ac aros am dros awr ar y tro, ni ddaeth neb. Wedi fy nghau mewn ystafell heb unrhyw bwyntiau ar gyfer arsylwi na monitro.' A ydych chi'n ystyried y driniaeth honno'n dderbyniol i unrhyw glaf? Felly, fe hoffwn i gael datganiad, neu eich ymateb chi, a fyddai'n cynnwys—. Rwyf i wedi gofyn i'r Prif Weinidog ymweld ag adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd, ac rwyf i wedi gofyn am rywfaint o ymyrraeth i atal y cleifion druan hyn, sy'n aros am hyd at dri diwrnod i gael sylw, triniaeth, am fod cymaint o oedi. Mae hyn yn gwbl warthus. A phwy bynnag sy'n cael ei ethol—

Pwy bynnag sy'n cael ei ethol i'r Llywodraeth yma ar ôl y 7 Mai, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n ddigon gwylaidd a phenderfynol i adfer ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru unwaith ac am byth. Rwyf i o'r fan mai y ni'r Ceidwadwyr Cymreig—

Diolch i chi am y cwestiwn, Janet Finch-Saunders. Fe allwn i ddweud mai mater i Betsi Cadwaladr yw hwn, wrth gwrs, ond fe allwn i ddweud hefyd, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hyn, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld ag adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ac, wrth gwrs, mae e'n ymwybodol iawn, gan eich bod chi wedi gofyn y cwestiynau, ac yn briodol felly, yn y Senedd, ac yn amlwg roedd cwestiynau i'r Prif Weinidog gennym ni'n gynharach. Ac rwy'n credu bod hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach: mae gofal brys ac argyfwng yng Nghymru dan bwysau sylweddol a pharhaus, yn enwedig yn ystod cyfnodau galw brig fel nosau, penwythnosau a'r gaeafau. I'r mwyafrif helaeth o bobl, mae gofal yn parhau i fod yn ddiogel ac effeithiol yn glinigol. Ac rwy'n credu, dim ond ar gyfer nodi, ym mis Chwefror, wrth i ni gael dadansoddiad annibynnol o'r sefyllfa, yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau brys cyn brysbennu oedd 16 munud, ac roedd pobl fel arfer yn aros awr a 15 munud cyn asesiad gan feddyg uwch. Ac roedd yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty neu fynd adref yn ddwy awr a 51 munud yn y mis diwethaf. Yn hanesyddol, yn yr amser hwnnw, mis Chwefror, yn ystod y gaeaf, gyda phwysau'r gaeaf, fu un o fisoedd mwyaf heriol pob blwyddyn. Ond mae hi'n wir fod y system yn gweithio dan bwysau mawr, ac fe wn i y byddech chi, fel ninnau, yn dymuno—gan ein bod ni newydd gydnabod gwaith a chyfraniad anhygoel ein gweithwyr gofal cymdeithasol—hefyd yn cofio gwaith a chyfraniadau anhygoel y rhai sy'n gweithio ar flaen y gad gyda gofal brys ac argyfwng. Ac mae hwnnw'n bwynt pwysig i'w wneud wrth ymateb i'ch cwestiwn chi.

Fe wn i fod y Trefnydd yn ymwybodol bod y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, CEDAW, eu pwyllgor nhw, yma yng Nghaerdydd am y tro cyntaf yr wythnos hon. Ac fel gŵyr hi hefyd, mae hi'n ddeugain mlynedd ers cadarnhau CEDAW yn y DU, ac rwy'n falch iawn o ddweud mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf ar gyfer cyfarfod CEDAW yn Ewrop, gyda'r weinyddiaeth Lafur yng Nghyngor Caerdydd yn pasio cynnig o blaid hynny ym mis Mawrth 2023. Felly, rwy'n credu bod hwn yn achlysur cyffrous iawn wrth inni groesawu a lletya'r pwyllgor hwn yma'r wythnos hon. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â'r canlyniadau, ym marn y Trefnydd, oherwydd y cyfarfod hwn a sut bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau CEDAW?

14:55

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan. Ddoe, fe roddais i'r anerchiad agoriadol yn y gynhadledd. Enw'r gynhadledd oedd 'O Gonfensiwn Byd-eang i "Ddinas Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod"', ac fe'i cynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd—y ddinas CEDAW gyntaf yn Ewrop. Mewn gwirionedd, mae'r gynhadledd yn parhau, felly o ran y canlyniadau, fe fyddwn ni'n clywed oddi wrthyn nhw, rwy'n gwybod. Ond roedd hi'n gynhadledd bwysig. Fe ddaeth academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr, eiriolwyr o Gymru at ei gilydd, ac roedd hi'n ymwneud â chyfnewid mewnwelediadau, rhannu arfer gorau, archwilio cymwysiadau ymarferol ac ysgogi syniadau newydd ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn narpariaeth gwasanaethau. Rwy'n credu mai'r hyn a oedd mor drawiadol oedd bod y cynrychiolwyr rhyngwladol hynny gennym ni yno. Ond roeddwn i'n gallu siarad am y ffyrdd y mae Cymru yn symud ymlaen gyda'n hymrwymiad ni yng Nghymru i'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, a dweud ein bod ni'n chwilio am ddulliau ymarferol i wneud y mwyaf o'r effaith yn y byd gwirioneddol er mwyn pobl, gyda'n cymhwysedd datganoledig ni, gan weithio yn agos iawn gyda'n cydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU—gan weithio yn agos gyda'r Alban, a oedd â chynrychiolaeth yno hefyd. Rwy'n falch iawn ein bod ni am gyhoeddi gwaith annibynnol y gweithgor dewisiadau deddfwriaethol o'n grŵp cynghori hawliau dynol, i gryfhau gweithrediad CEDAW ac UNCRPD—confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Roeddem ni'n gallu rhannu cynnydd da yng Nghymru o ran cyfranogiad gwleidyddol, addysgol, a hefyd o ran gwrthsefyll trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.

Fe hoffwn i alw am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r cynnydd parhaus, neu'r diffyg cynnydd, o ran cyflwyno cofnodion iechyd digidol. Fe ddywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, inni fod ar ei hôl hi o ran cofnodion digidol, a oedd yn ei gwneud hi'n anodd nodi pobl agored i niwed yn ystod pandemig COVID-19, ac mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi dysgu dim ers hynny. Y llynedd, mynegodd Llywodraeth Cymru bryder difrifol ynglyn â gallu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu rhaglenni digidol cenedlaethol o bwys. Mae adroddiadau archwilio wedi nodi heriau hefyd o ran llywodraethu a chyflawni ers sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn 2021, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei fod yn cynyddu Iechyd a Gofal Digidol Cymru oherwydd y pryderon difrifol ynglŷn â gallu'r sefydliad i gyflawni nifer o raglenni mawr yn effeithiol. Ond mae angen diweddariad arnom ni ynghylch a yw'r materion hyn yn cael eu datrys, oherwydd mae Cymru yn dal i fod yn yr oesoedd tywyll o ran mynediad at gofnodion iechyd digidol, ac mae'r cyflwyniad yn araf deg ddifrifol. Rwy'n ymwybodol y dylai'r ap cofnodion mamolaeth digidol, Badger Notes, fod yn cael ei gyflwyno'r mis hwn, ond mae angen i gofnodion digidol fod ar gael drwyddi draw. Felly, a gawn ni glywed gan Lywodraeth Cymru pa gynnydd a fu o ran datrys y materion hyn o ran llywodraethu a chyflenwi yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, er mwyn i bobl Cymru elwa ar wasanaeth iechyd o'r unfed ganrif ar hugain gyda chofnodion llwyr ddigidol i'r GIG? Diolch i chi.

Wel, rwy'n gallu sicrhau'r Aelod bod cynnydd yn digwydd o ran symud tuag at gofnod iechyd digidol. Mae'r cynnydd yn parhau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd hyn, ac mae cynnydd yn digwydd. Ac efallai y byddech chi'n hoffi gofyn y cwestiynau hynny iddo ef, o ran y cyfle olaf a fydd gennych chi'r wythnos hon.

Rydym ni i gyd wedi bod â rhywfaint o gysylltiad dros y misoedd, a blynyddoedd diwethaf, hyd yn oed, â British Council Cymru, ac yn arbennig gydag arweinyddiaeth egnïol Ruth Cocks, sy'n cwmpasu cymaint o feysydd lle mae swyddogaethau datganoledig yn gysylltiedig â hynny, o ddiwylliant, y celfyddydau, ac yn y blaen, i lawer o waith hefyd gyda'r gymuned Wcreinaidd yng Nghymru, wrth gwrs, a phwysigrwydd y cymell tawel hwn. Wrth gwrs, rydym ni'n sylweddoli bod cyllid yn anodd, ac mae llawer o bwysau wedi bod, yn enwedig oherwydd mai cyllid gan Lywodraeth y DU yw hwn yn ei hanfod. Ddwywaith, mae'r pwyllgor diwylliant wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i godi mater ariannu British Council Cymru. O gofio ei bwysigrwydd i Gymru yn benodol, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf hyn sydd gennym ni ar ôl, a fydd cyfle i chi i ysgrifennu efallai at Lywodraeth y DU, gan bwysleisio pa mor bwysig yw ei waith i Gymru yn benodol a rhai o'n swyddogaethau datganoledig ni? Ac rydym ni'n gobeithio y bydd y gefnogaeth i gyd ganddo i'w alluogi i fod ag adnoddau priodol i gyflawni'r gwaith y mae'n ei wneud.

15:00

Wel, rwy'n ddiolchgar i Mick Antoniw am y cwestiwn yna, gan gydnabod rôl hynod bwysig y Cyngor Prydeinig a'r effaith y mae'n ei chael ar Gymru, effaith yr ymgysylltu â'n hysgolion. Pan oeddwn i'n Weinidog addysg, rwyf bob amser yn cofio'r cysylltiadau gwych sydd gan ysgolion, plant sy'n dysgu am ddinasyddiaeth fyd-eang a chysylltu ag ysgolion ledled y byd. Rwy'n ddiolchgar bod y pwyllgor diwylliant wedi mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n hapus iawn i mi neu gyd-Aelod, fel y bo'n briodol, ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r sylfaen ariannu. Mae hyn yn hanfodol o ran y pŵer meddal hwnnw, ond mae'n ymwneud â dylanwad diwylliannol, mae'n ymwneud â hawliau dynol, ac yn enwedig y gwaith maen nhw wedi'i wneud i gefnogi dinasyddion Wcráin sydd bellach gyda ni yng Nghymru ac, yn wir, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y byd, o ran y cysylltiadau hynny.

Galwaf am ddatganiad Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i bobl â pharlys yr ymennydd yng Nghymru. Mae'n Fis Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd, ac yfory yw Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd. Parlys yr ymennydd yw'r anabledd corfforol mwyaf cyffredin ymhlith plant ledled y byd, gyda dros 6,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr yng Nghymru, a baban yn cael diagnosis bob pum diwrnod. Drwy gydol y mis hwn, mae Parlys yr Ymennydd Cymru yn codi ymwybyddiaeth o'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud. Fodd bynnag, am y tro cyntaf yn eu hanes ers 32 mlynedd, maen nhw'n gwrthod babanod a fyddai'n elwa ar eu harbenigedd a'u cefnogaeth sy'n newid bywydau ar ôl cael eu gorfodi i leihau eu rhaglen ymyrraeth gynnar sy'n arwain y byd, Dechrau Gwell, Dyfodol Gwell, oherwydd cyllid annigonol, ac i flaenoriaethu'r babanod risg uchaf yn unig, gan adael eraill heb gymorth, a chynyddu costau hirdymor i'r GIG a gofal cymdeithasol. Heb gyllid cynaliadwy o £300,000 bob blwyddyn, maen nhw'n rhedeg ar hyn o bryd ar ddim ond 30 y cant o gapasiti. Galwaf am ddatganiad brys yn unol â hynny, lle dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod babanod sydd mewn perygl o barlys yr ymennydd yn derbyn ymyrraeth gynnar sydd wedi'i phrofi'n glinigol, gan ddylunio a darparu gwasanaethau gyda sefydliadau'r trydydd sector.

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am dynnu sylw, ar yr adeg hon o ganolbwyntio, at gefnogaeth i bobl â pharlys yr ymennydd, yn enwedig gan edrych ar hyn o ran y system ymyrraeth gynnar a chymorth. Mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi hyn ar gofnod, ac rwy'n siŵr y bydd hyn wedyn yn adlewyrchu o ran ymrwymiadau a maniffestos y pleidiau ac, yn wir, cydnabyddiaeth y seithfed Senedd a'r seithfed Lywodraeth o'r anghenion hyn.

Trefnydd, a gaf ofyn i chi am ddatganiad wedi'i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru ar gydlyniant cymunedol, gan adeiladu ar gwestiynau i'r Prif Weinidog? Rwy'n ffodus iawn i gynrychioli etholaeth amrywiol o gymunedau sydd i gyd yn falch iawn o fod yn Gymry. Mae'r Senedd hon wedi bod yn llwyfan i ystod o gymunedau yr wyf wedi cael y fraint o'u cynrychioli. Rydw i wedi dathlu gwyliau Cristnogol, Diwali, y flwyddyn newydd leuadol, gwyliau Iddewig, gan gynnwys dawnsio amheus gan rai Aelodau'r Senedd gyda Rabbi Rose, ac, wrth gwrs, mis Ramadan yn y Senedd hon. Roeddwn i'n falch o noddi digwyddiad Iftar yma yn y Senedd yn ddiweddar. Mae hefyd wedi bod yn lle o undod pan fo cymunedau wedi teimlo dan fygythiad oherwydd digwyddiadau yn y wlad hon a ledled y byd. Rwy'n falch o fod wedi sefyll dros ac wrth ochr fy etholwyr pan fo pethau wedi bod yn anodd, yn union fel yr wyf wedi ei wneud mewn cyfnodau o ddathlu.

Mae'r ymosodiad gwrthsemitig diweddar ar ambiwlansys yn Llundain yn enghraifft boenus arall o eithafiaeth sy'n targedu cymunedau Iddewig Prydain, sy'n perthyn yma gyda'r holl hawliau i oddefgarwch a rhyddid crefyddol y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn eu disgwyl ar gyfer nhw eu hunain. A all Llywodraeth Cymru hefyd gadarnhau nad yw hi'n rhannu barn Nick Timothy bod digwyddiadau cyhoeddus Iftar yn ymgais i ddominyddu, ond eu bod yn syml yn cynrychioli rhan arferol o fywyd yng Nghymru a Phrydain, yn union fel y mae digwyddiadau Cristnogol, Hindŵaidd, Bwdhaidd, Iddewig, Sikhaidd a digwyddiadau ffydd eraill yn ei wneud yn ein mannau cyhoeddus a phreifat? Bydd anoddefgarwch yn erbyn un ffydd neu gymuned yn gwneud pob un ohonom yn llai diogel, fel y darganfu Pastor Niemöller. Rwy'n credu mai ein cyfrifoldeb ni yw sefyll i fyny dros y gwahanol gymunedau sy'n ffurfio Cymru heddiw. Gobeithio y bydd eich datganiad yn cadarnhau bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithredu i wneud hynny'n realiti ymarferol.

15:05

Wel, diolch yn fawr iawn yn wir, Vaughan Gething, a diolch i chi am—. Rydych chi wedi gwneud datganiad pwerus iawn heddiw, ac mae'n bwysig ei fod ar y cofnod, pwysigrwydd cydlyniant cymunedol, ac, wrth gwrs, hefyd rhoi enghreifftiau o ble mae casineb a rhaniad mor niweidiol i'n cymunedau ac i'r holl amrywiaeth fawr o ran ffydd a'n cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli, yn enwedig y rhai yr ydych chi'n eu cynrychioli ac rydych chi wedi'u nodi heddiw.

Byddaf yn cyhoeddi, yr wythnos hon—ac rydw i'n mynd i ddiweddaru'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—ddatganiad yn dilyn y gwaith a wnaed gan ein grŵp arbenigol ar gydlyniant cymdeithasol. Dyma oedd argymhelliad cyntaf ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gydlyniant cymdeithasol, a gofynnais i Gaynor Legalle, yr ydych yn ei hadnabod yn dda iawn, Vaughan, Gaynor Legalle—i gadeirio'r grŵp arbenigol hwnnw. Roedd ystod eang o arbenigwyr ar y grŵp, gan gynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru ac, yn wir, hefyd Cyngor Mwslimiaid Cymru. Roedd ganddo lawer o'r bobl sy'n eistedd ar ein fforwm cymunedau ffydd, sydd wedi bod mor bwerus dros y blynyddoedd. Mae wedi llunio rhai argymhellion cryf iawn ynglŷn ag egwyddorion cydlyniant cymunedol ac, wrth gwrs, mae hefyd yn cyd-fynd â'n hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, a llawer o'r pwyntiau y gwnaethom eu cyfnewid—y'u cyfnewidiwyd gan y Prif Weinidog—yn gynharach gyda Peredur. Felly, rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at hyn fel y gallaf wedyn ragweld a rhagrybuddio pob Aelod ar draws y Siambr hon o'r datganiad ysgrifenedig hwn yr wyf yn ei wneud, ac i gofio'r pwyntiau hynny a wnaethom yn gynharach heddiw ynglŷn â sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r mater hwn sy'n arwain at y seithfed Senedd ac etholiadau 7 Mai.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar safonau a thryloywder mewn llywodraeth leol? Daeth arweinydd cyngor y Democratiaid Rhyddfrydol i gytundeb gyda Phlaid Cymru cyn cyfarfod y gyllideb a oedd yn cynnwys £100,000 o gyllid cyhoeddus a ddarparwyd drwy Fenter Iaith Maldwyn. Yn y cyfarfod ei hun, nid oedd y cyllid yn ymddangos ym mhapurau'r gyllideb, ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan gynghorydd Plaid Cymru sy'n gysylltiedig â'r sefydliad hwnnw, yna cefnogodd Plaid Cymru y gyllideb ac fe'i pasiwyd. Mae'r ombwdsmon wedi cadarnhau bod cytundeb yn bodoli a bod aelodau'n debygol o fod yn ymwybodol ohono ac y byddai buddiannau personol a rhagfarnllyd yn debygol o fod wedi codi, ond ni chanfuwyd unrhyw dor rheol oherwydd nad oedd y cyllid wedi'i gynnwys yn ffurfiol yn y papurau ar adeg y bleidlais.

I mi, mae'n ymddangos bod ychydig o amwysedd yna, Trefnydd, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni, pan fydd y pethau hyn yn cael eu trafod, ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd dryloyw. Felly, hoffwn ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ynglŷn â sut y gallwn gryfhau'r broses ombwdsmon i wneud yn siŵr, os yw arian cyhoeddus yn symud o gwmpas rhwng pobl, ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd dryloyw a bod cynghorwyr yn datgan eu buddiannau yn ffurfiol os ydynt yn derbyn budd ariannol i gwmni y maen nhw'n ymwneud ag ef.

Diolch am y cwestiwn yna, James Evans—wrth gwrs, wedi'i reoleiddio'n llym o ran rôl a phwrpas yr ombwdsmon, mynediad at yr ombwdsmon, ac, yn wir, i'r materion rydych chi wedi'u codi o ran llywodraeth leol hefyd.

Mae'r Groes Goch Brydeinig yn gwneud gwaith gwych ledled y byd yn gofalu am bobl sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro y mae gormod o enghreifftiau ohono ar draws ein byd. Mae hefyd yn gofalu am bobl mewn amgylchiadau brys yng Nghymru hefyd, a galwad y mudiad i'r Senedd nesaf yw i ni barhau i fod yn Gymru gyfnerth a chroesawgar. A allech chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w cefnogi yn y genhadaeth honno, yr wyf yn gobeithio ein bod ni i gyd yn ei chefnogi?

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn bartner dibynadwy, onid yw e? Rydym yn cydnabod hynny—partner dibynadwy yma yn lleol yng Nghymru, y DU, ledled y byd. Mae'n darparu cymorth integreiddio a diogelu hanfodol i deuluoedd sydd wedi cyrraedd Cymru yn gyfreithlon, gan sicrhau bod profiad bywyd yn cryfhau'n uniongyrchol sut mae ein gwasanaethau'n gweithio. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod hyn yn rhywbeth lle, er bod llwybrau a phenderfyniadau mewnfudo yn parhau i fod yn gyfan gwbl neilltuedig i Lywodraeth y DU, mai ein rôl ni, ac fel rhan o'n hymrwymiad i'r genedl noddfa, yw sicrhau bod pobl sydd eisoes yma yn gallu integreiddio'n ddiogel ac osgoi niwed. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi rhaglen Arbenigwyr ar Sail eu Profiad y Groes Goch Brydeinig, sy'n darparu mewnwelediad amhrisiadwy, gwella gwasanaethau cyhoeddus, cryfhau cydlyniant—rydym newydd fod yn siarad am hynny—gan ddarparu gwell gwerth am arian.

A dim ond i ddweud hefyd, mae'n ymwneud â'r—. Cwrddais â rhai llysgenhadon yn agoriad swyddogol eu swyddfeydd yng Nghaerdydd, swyddfeydd y Groes Goch Brydeinig, ac roedd cwrdd â llysgenhadon, y gweithwyr achos, staff ymroddedig a thimau'r Groes Goch Brydeinig yn anrhydedd fawr heddiw.

15:10

Trefnydd, mae wedi bod bron i flwyddyn ers i'r Goruchaf Lys ddyfarnu bod rhyw yn golygu rhyw fiolegol. Mae'r gyfraith yn glir—mae dyn yn ddyn a menyw yn fenyw—ond rydych chi wedi oedi, osgoi a gwneud dim byd i wthio am eglurder neu i gyflymu'r broses i addasu polisi i amddiffyn menywod a merched ledled Cymru. Dyma'r wythnos olaf yn Siambr y Senedd, ac rydych wedi methu â dod ymlaen i egluro eich safbwynt. Mae'r Llywodraeth hon a'r Llywodraeth Lafur yn y DU wedi dangos yn union beth y maen nhw'n sefyll drosto: dryswch, llwfrdra gan ddiystyru diogelwch a thegwch i fenywod yn llwyr. Mae Reform yn gwybod beth yw menyw, a byddwn yn amddiffyn merched a menywod yng Nghymru. Nid yw eich Llywodraeth, ac felly cynghorau, wedi cymryd unrhyw gamau i gywiro'r camgymeriadau hyn. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi ddefnyddio'r sesiwn olaf hon yn y Siambr i ymddiheuro yma, nawr, i'r menywod a'r merched yng Nghymru am esgeuluso'ch dyletswydd yn gyfan gwbl?

Tybed, tybed—. Hynny yw, rydw i wedi ateb y cwestiwn. Nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach yn y prynhawn. Tybed pa mor ymrwymedig ydych chi a Reform i'n strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd mewn gwirionedd yn rhoi dull iechyd cyhoeddus wrth wraidd y gwaith o fynd i'r afael â'r trais endemig yn erbyn menywod. Tybed pa mor ymroddedig ydych chi i'r ffaith ein bod yn dyrannu tua £53 miliwn o'm cyllideb cyfiawnder cymdeithasol i gyflawni amcanion y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A'r dioddefwyr a'r goroeswyr hynny rydw i'n poeni amdanynt fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwrando ar oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a—[Torri ar draws.] Gobeithio y byddwch chi'n gwrando. Yn amlwg, nid ydych chi eisiau gwrando ar eu profiad, clywed eu lleisiau a'u profiad go iawn o sut beth yw bod yn oroeswr y trais endemig yn erbyn menywod, sydd, wrth gwrs, bob amser ar draws y Siambr hon wedi cael rhywfaint o gefnogaeth yn fy marn i, ac rwy'n credu yn arbennig, byddwn i'n dweud, gan ddynion ar draws y Siambr hon pan fyddwn yn dod at ein gilydd ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn.

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Fel rŷch chi'n gwybod, Trefnydd—diolch yn fawr—mae teuluoedd dwyrain Bro Morgannwg yn ffodus iawn i gael ysgol arbennig, Ysgol Gymraeg Pen y Garth, sydd mewn adeilad gweddol newydd. Yno, mae 320 o blant yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae'r ysgol bron â bod hanner awr i ffwrdd o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, a hyd yn oed mwy os yw'r traffig yn wael yn Ninas Powys; dwi'n siŵr eich bod chi wedi bod yn styc ar brydiau yn y traffig trwy Dinas Powys.

Nawr, dwi'n credu bod yna ddatrysiad amlwg sydd hefyd yn gallu ein helpu ni gyda'r ymgyrch am bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd, sef bod cynghorau Bro Morgannwg a Chaerdydd yn cydweithio gyda'u gilydd, oherwydd mae ysgol Pen y Garth o fewn llai na dwy filltir o Butetown a Grangetown. A allwch chi, Trefnydd, drefnu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cyflwyno datganiad ar y posibilrwydd o awdurdodau addysg yn cydweithio gyda'u gilydd, ac yn arbennig fan hyn, Caerdydd a Bro Morgannwg? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Credaf fod cydweithrediad gwych rhwng awdurdodau lleol—yn enwedig, byddwn i'n dweud, rhwng Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg—ar nifer o faterion polisi, sy'n ymwneud nid yn unig ag addysg, ond iechyd a gofal cymdeithasol. Ac rwy'n siŵr bod y materion hyn yn cael eu codi ar y lefel honno gan y cyrff democrataidd hynny yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

O ystyried hynny, rwy'n meddwl—ai dyma'r cwestiwn olaf, Llywydd dros dro? A gaf i ddweud, un o'r pethau yr oeddwn yn falch iawn ohono pan oeddwn i'n Weinidog addysg oedd y ffaith ei fod yn ystod cyfnod pan oeddem yn gweithio'n agos iawn i sicrhau ein bod yn cyflwyno strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg gryfach a dewr i Gymru? Rwy'n teimlo bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn falch ohono o ran ein chwarter canrif cyntaf o'r Senedd hon.

15:15
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Bellach ac Uwch

Fe symudwn ni ymlaen nawr i'r eitem nesaf, sef eitem 3, datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar gymorth i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch. Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells. 

Diolch, a hoffwn ddatgan buddiant personol. Mae gen i aelod agos o'r teulu sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Llywydd, rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gefnogaeth a ddarparwn i ddysgwyr mewn addysg bellach ac uwch. Trwy gydol tymor y chweched Senedd hon, ein blaenoriaeth oedd sicrhau bod pawb, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu cael mynediad at addysg a ffynnu. Mae cynnydd y pum mlynedd diwethaf yn dangos yr ymrwymiad hwnnw. Dechreuom dymor y Senedd hon yn ystod cyfnod o ansicrwydd dwfn. Roedd pobl ifanc yn wynebu ansefydlogrwydd economaidd, pwysau costau byw a straen sylweddol ar gyllidebau cartrefi. Trwy gydol hyn, rydym wedi amddiffyn a gwella system cymorth i fyfyrwyr sy'n parhau i fod y fwyaf blaengar yn y DU. Rydym wedi gwneud hyn oherwydd ein bod yn gwybod bod addysg yn trawsnewid bywydau, yn cryfhau cymunedau ac yn ysgogi cyfleoedd i'n cenedl.

Mewn addysg bellach, lle mae cyfranogiad yn cynyddu, mae ein hymrwymiad i gefnogi dysgwyr yn parhau i fod yn glir. Rydym yn parhau i ddarparu'r lwfans cynhaliaeth addysg fwyaf hael yn y DU, gan gynnig £40 yr wythnos i helpu miloedd o bobl ifanc i barhau â'u hastudiaethau. Nid yw LCA bellach yn bodoli yn Lloegr, ac mae'n parhau i fod ar £30 yr wythnos yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae codi trothwyon incwm aelwydydd wedi galluogi mwy na 1,000 o ddysgwyr ychwanegol i dderbyn LCA am y tro cyntaf, gan ddod â'r cyfanswm i 17,875 o ddysgwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26. Bydd cynnydd pellach yn y trothwy yn 2026-27 yn ymestyn cefnogaeth i 1,585 o ddysgwyr eraill. Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu aros mewn addysg a goresgyn y rhwystrau ariannol a allai fel arall gyfyngu ar eu llwyddiant.

Ar ôl gwrando ar brofiadau dysgwyr, rydym yn cryfhau canllawiau ar bresenoldeb a thaliadau, fel bod pobl ifanc yn deall y system ac yn gallu cael mynediad at y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Ochr yn ochr ag LCA, gwnaethom gryfhau grant dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach drwy gynyddu'r uchafswm grant amser llawn o £1,500 i £1,919, cynnydd o £419 i bob myfyriwr. Mae hyn yn sicrhau nad yw oedolion sy'n dychwelyd i addysg yn cael eu heithrio gan gost astudio. Mae'r penderfyniad hwnnw'n adlewyrchu ein cred mewn dysgu gydol oes, ac mae Cymru'n elwa ar nifer cynyddol o ddysgwyr rhan-amser mewn addysg bellach.

Mewn addysg uwch, rydym wedi cynnal system cyllid myfyrwyr mor deg a blaengar â phosibl. Mae darparu grantiau nad oes angen eu had-dalu yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r dull hwn, gyda'r lefelau uchaf o grant wedi'u targedu at fyfyrwyr o aelwydydd â'r incwm isaf. Rwy'n falch y bydd cymorth cynhaliaeth yn cynyddu 2 y cant ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27, gan gynnwys y cynnydd cyntaf i grantiau cynhaliaeth ers 2018. Bydd grantiau i fyfyrwyr â dibynyddion a myfyrwyr ag anabledd hefyd yn cynyddu 2 y cant.

Mae'r gefnogaeth hon yn bwysig. Mae'n sicrhau nad yw costau byw yn dod yn rhwystr rhag astudio. Mae astudio rhan-amser yn parhau i fod yn un o gryfderau Cymru. Mae astudio rhan-amser yn hanfodol ar gyfer uwchsgilio, ailhyfforddi ac ehangu mynediad, ac yma mae Cymru yn arwain y ffordd. Yn 2023-24, astudiodd 37 y cant o fyfyrwyr Cymru yn rhan-amser, cyfran sylweddol uwch nag mewn mannau eraill yn y DU. Mae hyn yn adlewyrchu hyblygrwydd ein system a'n hymrwymiad i ehangu cyfranogiad.

Mae astudiaethau ôl-raddedig hefyd yn parhau i fod yn gonglfaen hanfodol sylfaen sgiliau ac ecosystem ymchwil Cymru. Mae diddordeb cynyddol mewn llwybrau ôl-raddedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn tanlinellu apêl gref astudiaethau uwch yng Nghymru. Mae ein pecyn cymorth ôl-raddedig ymhlith y rhai mwyaf hael yn y DU, a bydd cyfraniadau at fenthyciadau costau ar gyfer astudiaethau Meistr a doethurol yn cynyddu 2 y cant yn 2026-27.

Rydym hefyd wedi cymryd camau i ddiogelu benthycwyr Cymru. Rydym wedi cadw telerau ad-dalu cynllun 2 i fyfyrwyr Cymru, ac wedi diogelu graddedigion Cymru rhag effeithiau atchweliadol rhewi'r trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu proses dileu'n rhannol hyd at £1,500 o ddyled myfyrwyr ar gyfer benthycwyr cymwys—cynllun unigryw yn y DU. Gyda'i gilydd, mae'r camau hyn yn cynnal system ad-dalu flaengar i fenthycwyr Cymru.

Rydym yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu'r sector addysg uwch, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae costau cynyddol, newid demograffig a chystadleuaeth ryngwladol yn creu heriau gwirioneddol. Er mwyn cefnogi cynaliadwyedd sefydliadol, byddwn yn cynyddu capiau ffioedd dysgu israddedig amser llawn yng Nghymru i £9,790 o 2026-27, yn unol â Lloegr. Bydd y benthyciad ffioedd dysgu cyfatebol hefyd yn cynyddu, gan gynnal ein hymrwymiad hirsefydlog nad oes unrhyw fyfyriwr yn talu ffioedd ymlaen llaw. Disgwylir i hyn ddarparu tua £19 miliwn o incwm ychwanegol i sefydliadau Cymru yn 2026-27.

Dyma'r trydydd cynnydd blynyddol yn olynol i'r capiau ffioedd, gan gryfhau cydnerthedd ariannol sefydliadau ymhellach. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom ddarparu £38.5 miliwn ychwanegol mewn grantiau yn 2024-25 drwy Medr, ac roeddwn yn falch yn ddiweddar o gyhoeddi £25.5 miliwn arall mewn cyllid cyfalaf, i'w rannu'n gyfartal rhwng colegau a phrifysgolion. Bydd y camau hyn yn helpu sefydliadau ledled Cymru i reoli pwysau cyfranogiad a pharhau i ddarparu cyfleoedd o ansawdd uchel i ddysgwyr.

Mae lansio ein galwad am gyflwyniadau ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru yn adlewyrchu'r cynnydd a wnaed yn nhymor y Senedd a'r heriau mawr sydd o'n blaenau. Y pum prif her a amlinellwyd yw: cyfranogiad a chyfle cyfartal; newid demograffig a dysgu gydol oes; cystadleuaeth a chydweithio; cynaliadwyedd ariannol; a chyflawni ar gyfer cymunedau a dyfodol yr economi.

Bydd yr alwad am gyflwyniadau yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio polisi a helpu i lunio sector addysg drydyddol ffyniannus sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae adborth cynnar gan randdeiliaid wedi bod yn gryf, ac mae fy ngrŵp cynghori'r gweinidog, sy'n dwyn ynghyd arweinwyr ac arbenigwyr o bob rhan o addysg bellach ac uwch, ymchwil, partneriaid dinesig a chyrff myfyrwyr, yn darparu mewnwelediad amhrisiadwy. Rwyf hefyd wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â dysgwyr a staff ledled Cymru drwy gyfres o drafodaethau bord gron. Ochr yn ochr â'r alwad am gyflwyniadau, bydd ein gwerthusiad o ddiwygiadau Diamond yn rhoi mewnwelediad pellach ar ehangu mynediad a chryfhau'r ddarpariaeth ran-amser ac ôl-raddedig, gan helpu i seilio penderfyniadau yn y dyfodol ar dystiolaeth gadarn.

Llywydd, rwy'n falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni. Rydym wedi diogelu cefnogaeth i ddysgwyr yn ystod un o'r cyfnodau economaidd mwyaf heriol yn ddiweddar. Rydym wedi ehangu mynediad at addysg bellach, diogelu grantiau cynhaliaeth, cryfhau cymorth israddedig ac ôl-raddedig, a chymryd camau i gefnogi cynaliadwyedd sefydliadol. Mae ein system cyllid myfyrwyr yn parhau i fod y fwyaf blaengar yn y DU, ac mae ein hymrwymiad i ehangu cyfranogiad yn glir.

Rhaid i ni, fodd bynnag, gydnabod y pwysau sy'n wynebu'r system cyllid myfyrwyr. Bydd sicrhau fforddiadwyedd hirdymor cymorth i fyfyrwyr a chyllid sefydliadol yn dasg ganolog ar gyfer y Senedd nesaf. Bydd y dystiolaeth sy'n cael ei chasglu yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae Cymru'n wynebu'r heriau hyn o sefyllfa o gryfder. Mae ein gwerthoedd, ein hymrwymiad i degwch a'n dull cydweithredol ar draws y Llywodraeth, darparwyr a chymunedau yn ein gadael mewn sefyllfa dda i lywio drwy'r heriau sydd o'n blaenau.

Cefnogi dysgwyr yw un o gyfrifoldebau pwysicaf y Llywodraeth. Mae cynnydd y blynyddoedd diwethaf yn sylweddol ac mae'n rhaid iddo barhau. Trwy gynnal ymrwymiad i gydraddoldeb, cynaliadwyedd a chyfleoedd, gallwn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial.

15:25

Gwrandawais yn astud, Gweinidog, ar eich datganiad, ond roedd yn teimlo fel dim ond llawer o eiriau cynnes i mi, oherwydd pan ddaw i gefnogi addysg bellach ac uwch, i fyfyrwyr, nid yw'n ymddangos ei fod yn torri trwodd. Gweinidog, yn ôl ffigurau UCAS, Cymru oedd â'r gyfradd ymgeisio isaf ar gyfer addysg uwch yn y DU, sef llai na thraean o fyfyrwyr. Mae ein cyfraddau ymgeisio hefyd wedi gostwng 2 y cant yn y tair blynedd diwethaf, ac rydym tua 10 y cant y tu ôl i gyfraddau ymgeisio Lloegr. Mae cyfraddau cyfranogiad Safon Uwch wedi gostwng 12 y cant syfrdanol ers 2022 a dim ond y llynedd y nododd Prifysgolion Cymru, a dyfynnaf,

'Mae hon yn sefyllfa sy’n peri cryn bryder, a fydd â goblygiadau hirdymor i Gymru. Mae’r diwydiannau a fydd yn sbarduno ein twf economaidd yn y degawdau i ddod yn dibynnu’n helaeth ar raddedigion. Os nad yw pobl Cymru’n ennill y sgiliau hyn, bydd economi Cymru yn cael ei hun dan anfantais economaidd o gymharu â gweddill y DU, lle bydd cyfran y graddedigion yn y gweithlu yn uwch.'

Hoffwn wybod, Gweinidog, pa ymdrechion a fyddwch yn eu gwneud i gynyddu'r cyfraddau cyfranogiad hynny trwy gymorth i fyfyrwyr. Gweinidog, mae'n amlwg bod Cymru'n wynebu bwlch cynyddol o ran cyfranogiad, a rhai o'r prif resymau dros lawer o fyfyrwyr o Gymru yn aros i ffwrdd yw'r costau byw a bod â dyled yn y dyfodol. Ac eto, bydd ffioedd dysgu yn codi eto i £9,790 y flwyddyn ar gyfer hyfforddiant israddedig. Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfaddef bod codiadau y llynedd i wrthbwyso cynnydd yswiriant gwladol, felly a allwch gadarnhau mai dyma beth mae pobl ifanc bellach yn talu amdano, yn hytrach na buddsoddiad yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol?

Gweinidog, fel y gwyddoch chi, y llog ar fenthyciadau myfyrwyr sy'n taro galetaf, gyda graddedigion yn talu 9 y cant o bopeth maen nhw'n ei ennill dros y trothwy ad-dalu ar fenthyciadau cynllun 2. Er nad yw benthyciadau cynllun 2 bellach ar gael yn Lloegr, maen nhw'n dal i fod yn berthnasol yma yng Nghymru. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi a'ch cydweithwyr yn San Steffan i leihau'r llog ar fenthyciadau cynllun 2, y byddwn ni, fel y Ceidwadwyr Cymreig, yn sicr yn eu cefnogi? Nodaf hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi honni na fydd yn dilyn esiampl Llywodraeth y DU wrth rewi'r trothwy incwm ar fenthyciadau cynllun 2 o fis Ebrill 2027 ymlaen, felly beth mae'r Gweinidog yn rhagweld bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw?

Gweinidog, rwy'n parhau i bwyso'r pwynt hwn, ond mae rhwystrau yn cael eu gosod yn rheolaidd ar bobl ifanc ar eu llwybr tuag at addysg uwch, yn benodol gan eich Llywodraeth chi. Gadewch i ni gymryd prentisiaethau gradd, er enghraifft. Maent wedi'u cyfyngu i ychydig o bynciau yma yng Nghymru. Dros y ffin, gallwch ennill cymhwyster o'r gyfraith i gyfrifeg, o nyrsio i radioleg, i gyd wrth ennill cyflog. Gweinidog, gofynnaf yr un cwestiwn i chi ag y gwnes i'r Prif Weinidog: a ydych felly yn cymryd cyfrifoldeb am golli myfyrwyr drwy fethu â chyflwyno mwy o ddewisiadau cyrsiau mewn prifysgolion, megis prentisiaethau gradd, ac a wnewch gyfaddef bod Cymru ar ei hôl hi?

Gweinidog, rydym hefyd yn clywed am 2027 fel rhyw fath o ddyddiad lledrithiol i Medr adolygu meysydd allweddol mewn addysg drydyddol, fel prentisiaethau gradd, felly pam ydych yn oedi ac yn osgoi ymdrin â'r broblem tan 2027, Gweinidog? Hoffwn gael eich adborth ar hynny. Ac a yw'ch Llywodraeth yn cyfaddef bod yr ysgrifen ar y wal ar gyfer Mai 2026?

Wrth droi at addysg bellach, mae gennym y broblem arall yn y ffaith bod sefydliadau addysg bellach Cymru yn dod yn fwy poblogaidd. Fodd bynnag, mae anghysondeb yma rhwng atyniad addysg alwedigaethol a nifer y prentisiaethau a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Er y byddwn yn estyn fy llongyfarchiadau i'ch plaid am honni eu bod wedi cyrraedd eu targed prentisiaethau, nodaf fod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynglŷn â'r defnydd dethol o'r ffigur hwn, a bod y ffigur gwirioneddol, ac eithrio gadael yr ysgol ar ôl wyth wythnos, mewn gwirionedd yn 92,800. Nid yn unig y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chyrraedd y targed prentisiaethau llai yn seiliedig ar y mesur trwyadl y mae wedi'i ddefnyddio o'r blaen, ond mae hyn yn dynodi anhawster ehangach wrth gefnogi pobl ifanc dros 16 oed.

Er fy mod yn nodi bod £40 yr wythnos ar gael i'r rhai sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg, mae llawer o bobl ifanc yn cael eu prisio allan o'r budd-dal hwn oherwydd trothwy incwm isel yr aelwydydd. Felly, Gweinidog, pa gefnogaeth ychwanegol ydych chi'n mynd i'w rhoi i bobl ifanc sydd angen defnyddio, er enghraifft, trafnidiaeth gyhoeddus, i gyrraedd y coleg ar amser? Oherwydd, pe baech chi'n ymestyn teithio ar fws a rheilffyrdd am ddim i bobl ifanc 16 i 24 oed, fel yr ydym wedi'i amlinellu yn ein maniffesto, ni fyddwn yn cael unrhyw wrthwynebiad yn sicr. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am y gyfres o gwestiynau yna, ac rwyf am ddechrau gyda'ch pwynt ar gyfranogiad. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol, i ddechrau, yw bod ein mesur cyfranogiad cychwynnol addysg uwch yn dangos mai'r tebygolrwydd amcangyfrifedig y bydd person sy'n hanu o Gymru yn cymryd rhan mewn addysg uwch erbyn 30 oed yw 54.6 y cant, ac mae hynny'n uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU. Gallwch ddefnyddio data UCAS, wrth gwrs, a gallwch ddewis hwnnw fel y marciwr rydych chi eisiau ei ddilyn, ond rwy'n edrych ar y dystiolaeth sy'n dangos y tebygolrwydd y bydd pobl Cymry o bob oed yn mynd i'r brifysgol ac yn llwyddo. Ar y mesur hwnnw, ni sydd â'r sefyllfa orau yn y DU. Wrth fynd at ffigurau data UCAS hynny, rwy'n falch o weld bod nifer yr ymgeiswyr sydd wedi'u lleoli o Gymru wedi cynyddu, ac mae nifer yr ymgeiswyr 18 oed o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru hefyd wedi cynyddu yn y rownd ddiweddaraf honno o ddata. 

Rydych chi'n siarad am gymorth i fyfyrwyr. Rwy'n hapus iawn i siarad am gymorth i fyfyrwyr, oherwydd wrth gwrs, mae gennym yma yng Nghymru y cynnig cymorth myfyrwyr mwyaf hael yn y DU. Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi dod allan yn gryf iawn trwy ein gwerthusiad adolygiad Diamond. Rydym yn canolbwyntio'r gefnogaeth honno ar y myfyrwyr hynny sy'n dod o'r aelwydydd lleiaf cyfoethog. O'r aelwydydd hynny, gallwch gael hyd at 66 y cant o'ch cyfanswm cyllid mewn grantiau nad oes rhaid eu had-dalu. Mae hynny'n system unigryw yn y DU, mewn cyferbyniad llwyr â Lloegr, lle mae myfyrwyr o'r aelwydydd gyda'r incwm isaf yn gadael y brifysgol gyda'r ddyled fwyaf.

Yn y flwyddyn academaidd nesaf, byddwn yn cynyddu'r cymorth costau byw eto, 2 y cant—y cynnydd cyntaf i grantiau cynhaliaeth sydd wedi'u cynnwys o fewn hynny ers 2018. Ac rydym hefyd yn darparu grantiau i fyfyrwyr ag amgylchiadau eraill, megis os ydyn nhw'n anabl, neu os ydyn nhw'n ddibynnol hefyd. Rwy'n falch iawn o hanes Llywodraeth Lafur Cymru o ran cymorth i fyfyrwyr. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pawb, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu cael mynediad at addysg uwch, ac na ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol. 

Gan droi at eich pwynt nesaf ynglŷn â llog ar fenthyciadau myfyrwyr, unwaith eto, mae hwn yn faes lle rwy'n falch o weithredoedd Llywodraeth Lafur Cymru. Dim ond Gweinidogion Cymru sy'n gallu pennu'r trothwy ad-dalu ar gyfer benthycwyr Cymru, ac yn ddiweddar cadarnhaodd y Prif Weinidog i'r Senedd hon nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i rewi trothwy ad-dalu cynllun 2 ar gyfer benthycwyr Cymru. Mae telerau talu cynllun 2 yn llawer mwy blaengar na chynllun 5, a fabwysiadwyd yn Lloegr. Mae ein cynllun yn well i'r mwyafrif o fenthycwyr oherwydd bod ganddo gyfnod ad-dalu 30 mlynedd, yn wahanol i'r cyfnod ad-dalu 40 mlynedd ar gynllun 5 yn Lloegr. Ar ôl y cyfnod 30 mlynedd hwnnw, mae unrhyw ddyled sy'n weddill yn cael ei ganslo neu ei ddileu. Mae hynny'n ychwanegol at ein polisi unigryw lle rydym yn canslo hyd at £1,500 o ddyled benthyciad pob benthyciwr pan fydd yn dechrau ad-dalu—cynllun sy'n unigryw yn y DU. Ac, wrth gwrs, mae'n ychwanegol at y grant o £1,000 sydd ar gael i bob dysgwr o bob cefndir.

O ran cyfranogiad addysg bellach, rydych chi'n hollol iawn: mae addysg bellach wedi dangos cynnydd mewn cyfranogiad— cynnydd sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hynny'n adlewyrchu cryfder ac ansawdd ein system addysg bellach a buddsoddiad enfawr Llywodraeth Lafur Cymru yn yr ystad drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, sydd wedi arwain at gyfleusterau newydd sbon, o'r radd flaenaf i fyny ac i lawr y wlad hon.

Mae ein cynnig prentisiaethau hefyd yn gryf. Mae'n un yr ydym yn falch ohono, gan ddarparu 100,000 o brentisiaethau pob oedran, heb unrhyw gost i'r busnesau sy'n cymryd rhan ynddynt, ar y cyd â cholegau addysg bellach. Mae diddordeb mewn prentisiaethau yn cynyddu'n gryf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog sgiliau a minnau yn unedig yn ein cred mai'r ffordd ymlaen yw darparu'r llwybr addysgol cywir i bob dysgwr. Mae hynny'n rhywbeth a ddaw allan trwy ein galwad am dystiolaeth ar ddyfodol y system addysg drydyddol, ac edrychwn ymlaen at allu cyflawni hynny.

Fe wnaethoch chi siarad am LCA. Rwy'n falch iawn eich bod wedi penderfynu nodi hynny yn eich sylwadau, oherwydd, wrth gwrs, fe wnaethom gadw LCA yma yng Nghymru pan benderfynodd Llywodraeth Dorïaidd y DU ei ddileu dros 10 mlynedd yn ôl. Dros y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig rydym wedi cynyddu'r swm sydd ar gael i £40 yr wythnos, sef yr uchaf yn y DU, ond hefyd, trwy ddiwygio'r trothwy incwm cartrefi, rydym wedi cymryd miloedd yn fwy o fyfyrwyr i'r system honno, gan ddarparu cyllid iddynt fel y gallant gefnogi eu hastudiaethau, eu teithio ac unrhyw offer sydd ei angen arnynt.

Ar y pwynt hwnnw o ran teithio ar fws, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn falch iawn o'i theithio bws gwerth £1 sydd wedi'i ymestyn i'r rhai hyd at 21 oed. Mae'n gwneud gwahaniaeth i'r dysgwyr hynny sy'n dymuno cael mynediad at deithio i addysg bellach. Rydym yn falch mai dyna yw un o'n haddewidion maniffesto—i barhau i ddarparu'r cynnig hwnnw os cawn ein hail-ethol ym mis Mai.

15:35

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Addysg yw un o'r ychydig offerynnau prin sydd gan Lywodraeth i helpu'n heconomi ni i dyfu ac i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell ar gyfer adeiladu y genedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol rŷn ni'n gwybod y gallai Cymru fod. Rŷn ni'n sylweddoli'n iawn mai rhan o bileri ein cymunedau ni yw'n prifysgolion ni; maen nhw'n cyfrannu cymaint i'r economi leol lle maen nhw wedi cael eu lleoli. Ac eto, rŷn ni'n trafod heddiw sector sydd o dan straen difrifol. Nid yn unig y mae'r sector yn wynebu pwysau ariannol aruthrol, ond rŷn ni hefyd yn gweld graddfeydd cyfranogi yn cwympo, yn arbennig ymhlith pobl ifanc wrth iddyn nhw fynd i mewn i addysg uwch. Mae llai o bobl ifanc 18 oed yn dewis mynd i'r brifysgol heddiw, ac mae'r bwlch yna yn tyfu rhwng y rhai sydd yn dod o gymunedau difreintiedig a'r rhai sydd yn dod o gymunedau mwy goludog. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn peri pryder.

Ni ddylai cyfleoedd yng Nghymru fod yn seiliedig ar god post, ar gefndir teuluol neu ar lwc. Os ŷn ni'n ddifrifol am adeiladu cenedl fwy teg, fwy cyfoethog, yna mae'n rhaid i ni wella lefelau cyfranogi, yn hytrach na dibynnu ar beth mae'r teulu yn gallu ei fforddio. Mae'n rhaid i gefnogaeth i fyfyrwyr mewn addysg uwch gael ei thargedu lle mae ei angen hi fwyaf. Cau y bwlch yna mewn cyfranogaeth yw un o'r blaenoriaethau. Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni godi uchelgais a chefnogi a meithrin ein talent. Dyna pam y mae Plaid Cymru yn credu nad yn unig y mae'n rhaid i ni gefnogi'n pobl ifanc i lwyddo, ond mae angen iddyn nhw lwyddo yma yng Nghymru. Dyna pam y mae angen cryfhau llwybrau i mewn i'n prifysgolion ni a defnyddio cynllun fel Seren i annog ein pobol ifanc ni i astudio yma yng Nghymru, i adeiladu economi'r dyfodol yma yng Nghymru hefyd, a denu, wrth gwrs, fyfyrwyr o wledydd eraill i mewn i Gymru. Rŷn ni'n dweud hyn achos rŷn ni fel plaid yn credu yn ein prifysgolion ni yma yng Nghymru ac eisiau iddyn nhw lwyddo.

Nid yw cyfranogiad yn bodoli mewn gwactod. I lawer o fyfyrwyr, nid uchelgais neu ddyhead yw'r rhwystr mwyaf, ond y gost. I fyfyrwyr yng Nghymru, mae ffioedd yn codi'n gyflymach na'r cymorth sydd ar gael iddynt. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio mesur is o chwyddiant—y mynegai prisiau defnyddwyr—ar gyfer ei chymorth i fyfyrwyr eleni na'r mesur a ddefnyddiwyd ar gyfer codiadau ffioedd, sef y mynegai prisiau manwerthu ac eithrio taliadau llog morgais. Mae hynny'n golygu bod ffioedd wedi codi'n gyflymach na chymorth cynhaliaeth eleni, gan adael myfyrwyr dros £1,000 yn brin o gymharu â ble y dylent fod. Mae hyn, yn syml, yn digwydd oherwydd bod polisi Cymru yn cael ei ddylanwadu gan bolisi San Steffan. Ydych chi'n credu mai dyma'r dull cywir? Oherwydd cyfyngiadau a osodwyd gan Drysorlys y DU, mae Cymru'n cael ei gorfodi i fod yn llai cefnogol i'n myfyrwyr o ganlyniad.

Mae ymchwil gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, er enghraifft, yn dangos bod ein myfyrwyr yn cael trafferthion. Mae dros 85 y cant ohonynt yn dweud bod costau byw yn effeithio arnyn nhw. Mae bron i 90 y cant yn cael trafferth talu am hanfodion sylfaenol—rhent, bwyd, trafnidiaeth. Dyma'r pethau sylfaenol, nid moethusrwydd neu bethau dymunol. Mae mwy na thraean o'n myfyrwyr yn gorfod gweithio dros 10 awr yr wythnos yn ystod y tymor, nid i ennill profiad neu i ddatblygu eu CVs, ond i oroesi. Mae hyn yn effeithio ar eu hastudiaethau a'u llesiant. Mae hyn yn fethiant o ran synnwyr cyffredin sylfaenol. Ydych chi'n cytuno na all ein system addysg fynd ymlaen fel hyn, gyda'n sefydliadau ar eu gliniau, ein myfyrwyr yn cael trafferthion, a diffyg strategaeth ddifrifol i fynd i'r afael â'r materion hyn?

Yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei gynnig yw adolygiad cynhwysfawr ac annibynnol o fodiwl cyllido'r sector addysg uwch. Mae hwn yn rhywbeth y mae'r sector yn galw amdano. Dyma'r hyn rydym ni wedi galw amdano yn gyson fel plaid. Mae'n rhywbeth rydych chi fel Llywodraeth yn gwybod bod ei angen, ond wedi gwrthod ei gefnogi. Felly, pam nad ydych chi'n cefnogi galwad y sector am adolygiad annibynnol, eang?

Fy mhwynt olaf yw hwn: byddwn bob amser eisiau annog ein pobl ifanc i astudio ac ehangu eu gorwelion, ond rydym yn credu'n gryf mewn cefnogi ein system addysg uwch yma yng Nghymru, a dyna pam mae angen yr adolygiad annibynnol hwn arnom yn ddirfawr. A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol cael yr adolygiad hwnnw fel y gallwn gefnogi, fel y dywedwch yn eich datganiad, cyfle pob person ifanc i gyflawni ei botensial?

15:40

Hoffwn ddiolch i Cefin Campbell am y cwestiynau yna. Yn gyntaf, rwy'n cytuno â'ch sylwadau agoriadol am werth cynhenid addysg wrth gefnogi economi Cymru. Dyna pam rwyf wedi bod mor falch o weithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a fy nghyd-Weinidog Jack Sargeant, y Gweinidog sgiliau, ar ystod eang o faterion, yn enwedig ar ymchwil, datblygu ac arloesi a'r rôl y gall ein sector addysg bellach ac uwch ei chyflawni er mwyn i'r economi symud ymlaen.

Mae honna'n thema gref iawn yn ein grŵp cynghori'r gweinidog a'r alwad am dystiolaeth yr ydym wedi'i chyhoeddi. Does gen i ddim amheuaeth, pan ddaw'r cyflwyniadau hynny i mewn yn yr wythnosau nesaf, y bydd yn rhoi cyfeiriad pendant iawn i unrhyw Lywodraeth Cymru sy'n dod i mewn. Rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi hynny wrth wraidd y strategaeth wrth symud ymlaen.

Gan droi at gyfranogiad mewn addysg uwch, dim ond i ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnes i Natasha Asghar, rwy'n falch iawn bod gennym y gyfradd uchaf o gyfranogiad mewn addysg uwch pan edrychwch ar yr ystadegau sy'n mynd â hynny i fyny at ddysgwyr sy'n oedolion. Dyna'n union lle dylem fod yn edrych, oherwydd rydym yn gwybod y bydd angen i bobl ailsgilio ac uwch-hyfforddi trwy gydol eu bywydau. Dylid ystyried addysg brifysgol ac addysg bellach fel rhan bwysig iawn o'r broses honno a'r daith fywyd honno i holl ddinasyddion Cymru.

Wrth gwrs, rydym yn parhau i weithio'n galed i gynyddu'r cyfraddau cyfranogiad mewn addysg uwch drwy nifer o fentrau, nid yn unig ein pecyn cymorth myfyrwyr hael iawn—sef y mwyaf blaengar yn y DU ac sy'n helpu'r rhai o'r cefndiroedd lleiaf manteisiol fwyaf o ran cyllid grant nad oes rhaid ei ad-dalu—ond hefyd drwy gynlluniau eraill fel rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach Medr, sy'n ymgysylltu â'r myfyrwyr hynny sydd â'r potensial i fynd i'r brifysgol ond efallai nad ydynt wedi ystyried eto ei fod ar eu cyfer nhw. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fy ymweliad â Phrifysgol Abertawe yn ddiweddarach yr wythnos hon i weld y rhaglen honno ar waith.

Mae yna hefyd raglen Seren, sydd wedi'i hehangu i sicrhau ei bod yn cyrraedd y dysgwyr hynny nad ydynt efallai wedi ystyried prifysgol eto ond sydd wedi'u nodi fel y cyflawnwyr uchaf. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae rhaglen Seren wedi datblygu ei chysylltiadau â'n prifysgolion yng Nghymru yn arbennig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae pob prifysgol yng Nghymru bellach wedi ymgysylltu â rhaglen Seren, ac rydym wedi gweld rhai llwyddiannau da iawn yn deillio o hynny. Er enghraifft, gwnaeth dros 80 y cant o fyfyrwyr a fynychodd ysgol haf Seren ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer meddygaeth gais i Brifysgol Caerdydd wedyn. Rwyf eisiau gweld mwy o raglenni fel yna ar draws ehangder Cymru. Rwy'n galonogol iawn gan y cysylltiadau gwell rhwng pob un o'n prifysgolion a'r rhaglen Seren.

Rwyf hefyd yn falch o'n rhaglen Astudio yng Nghymru a'i brandio a'r ffordd y mae wedi estyn allan i gasglu myfyrwyr rhyngwladol, yn enwedig nawr ein bod wedi ei gwneud yn glir iawn yma yng Nghymru na fyddwn yn gweithredu'r ardoll myfyrwyr rhyngwladol. Mae honno'n rhaglen yr ydym eisoes yn gweithio arni yn y Llywodraeth i gryfhau o ran y ffordd y mae'n estyn allan i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru hefyd. Rwy'n credu bod rhan allweddol o'r pwysau costau byw yn dangos i fyfyrwyr Cymru y gallant ddewis astudio'n agosach at adref, i gymudo i'r brifysgol, ac i arbed costau byw yn y ffordd honno.

Fe wnaethoch chi sôn am y pwysau costau byw sy'n wynebu myfyrwyr. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol iawn ohono. Dyna pam rydym wedi codi'r grantiau cynhaliaeth a'r benthyciadau sydd ar gael i bob myfyriwr. Er ein bod yn sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr yn talu ffioedd ymlaen llaw, tra bod gennym y grant cyffredinol hwnnw o £1,000, sydd ar gael i bob myfyriwr ni waeth beth fo'i incwm aelwyd a ble mae'n astudio, ar gyfer pob blwyddyn o'i radd, tra bod gennym hefyd ein polisi unigryw o ganslo hyd at £1,500 o fenthyciad myfyriwr cyn gynted ag y bydd y myfyriwr hwnnw'n dechrau ad-dalu ac, wrth gwrs, aros ar bolisi ad-dalu cynllun 2, sy'n llawer mwy blaengar ac yn cychwyn unwaith y bydd y trothwy incwm hwnnw wedi'i gyrraedd—. Ac mae'r taliadau hynny, wrth gwrs, yn dod i ben unwaith y bydd unigolyn yn disgyn o dan y trothwy ad-dalu ac mae'r costau hynny'n cael eu dileu ar ôl 30 mlynedd, cynllun llawer gwell nag yn Lloegr, lle mae'n 40 mlynedd.

Fe wnaethoch chi sôn, Cefin, am y ffaith na ddylai cyfleoedd fod yn seiliedig ar gefndir teuluol na chod post, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn cytuno â chi arno 100 y cant, a dyna pam rydw i a fy nghyd-Aelodau yn Llafur Cymru yn cael trafferth gweld ble mae polisi Plaid ar gynhaliaeth myfyrwyr yn mynd. Dylai'r ffaith eich bod wedi siarad yn agored am eich awydd i dynnu cymorth cynhaliaeth yn ôl oddi ar fyfyrwyr sy'n astudio y tu allan i Gymru fod yn bryder gwirioneddol a phryder gwirioneddol i bobl ifanc sy'n mynd i'r blychau pleidleisio ym mis Mai. Byddai hynny'n creu system ddwy haen, pryd mai dim ond y rhai o'r cartrefi mwyaf cyfoethog sy'n gallu dewis ble maen nhw'n dymuno astudio, ac nid yw hynny'n rhywbeth y dylai Llywodraeth Lafur Cymru fyth ei gefnogi. Mae gennym wyth prifysgol wych yng Nghymru, ac rwy'n dymuno gwneud popeth yn fy ngallu i'w cefnogi, ond rhaid gwneud hynny trwy ddangos y manteision sydd gan bob un o'r sefydliadau hynny, nid trwy gosbi myfyrwyr o ran ble maen nhw'n dymuno astudio.

Y pwynt olaf i orffen yw galwad Plaid am adolygiad o'r sector addysg uwch. Rwy'n credu eich bod ychydig allan o gyswllt ac ar ei hôl hi, oherwydd ers i mi sefydlu fy ngrŵp gweinidogol a'm galwad am dystiolaeth, mae pob rhanddeiliad unigol yn awyddus i symud ymlaen gyda newid, gyda chynnydd. A'r hyn nad yw'r sector hwn eisiau ei weld yn sicr, gan ei fod yn wynebu llu o heriau ariannol byd-eang a heriau mewnfudo, yw Llywodraeth sy'n dod i mewn a fydd yn eistedd ar ei dwylo ac yn cymryd mwy o amser i adolygu sefyllfaoedd pan fydd y dystiolaeth yno ynghylch sut y dylai Llywodraeth flaengar fod yn symud ymlaen.

15:45

Diolch, Gweinidog, am y diweddariad cynhwysfawr yna. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi'n angerddol amdano'n bersonol ac yn wleidyddol. Cytunaf yn fawr â'ch teimladau mewn erthygl ddiweddar, os yw myfyriwr 17 oed yng Ngholeg y Cymoedd neu Goleg Cambria yn breuddwydio am astudio mewn sefydliad sy'n arwain y byd y tu allan i Gymru, nid oes ganddynt lai o hawl i ddilyn y freuddwyd honno nag sydd gan eu cymheiriaid yn Eton neu Harrow, ac ni ddylai unrhyw Lywodraeth eu hatal rhag dilyn yr uchelgais honno. Ond, Gweinidog, nid fi yw'r unig un sy'n cytuno â hynny. Yr wythnos diwethaf cymerais ran yn sesiwn Senedd Explains ar Instagram ac fel rhan o hyn fe wnes i arolwg yn gofyn a ddylai myfyrwyr Cymru gael yr un lefel o gymorth ariannol os ydyn nhw'n astudio y tu allan i Gymru? Roedd saith deg chwech y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai hyn fod yn wir ac na ddylid cosbi pobl ifanc yn ariannol am ddilyn eu breuddwydion. Felly, a ydych chi'n cytuno, Gweinidog, y byddai Plaid Cymru yn anghywir i gyfyngu ar gefnogaeth i rai dysgwyr o Gymru, ac nad yw Llafur Cymru dim ond yn siarad am gyfle cyfartal, rydym ni'n cerdded ar y daith ac yn dangos tegwch o ran cefnogaeth hefyd? Diolch.

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn yna ac am yr ymrwymiad rydych chi'n ei ddangos, Hannah, i gefnogi dysgwyr yn eich etholaeth ac i estyn allan atynt i gasglu eu barn. Nid wyf yn synnu at y ganran uchel honno o ymatebwyr sy'n credu y dylid rhoi cymorth i fyfyrwyr ble bynnag y maent yn dewis astudio. Mae'n bryder gwirioneddol i mi, ar adegau pan fydd angen i ni gynyddu nifer ein pobl ifanc sy'n mynd i'r brifysgol, pan fydd gennym brinder graddedigion yma yng Nghymru, y byddai Plaid Cymru yn ystyried polisi sy'n cosbi'n ariannol y rhai sy'n dymuno astudio y tu allan i Gymru. Mae gennym brifysgolion gwych yma yng Nghymru. Fi fyddai'r cyntaf i eirioli drostyn nhw, ond mae angen i ni brofi achos cadarnhaol dros astudio yn y rheini. Ac i ddysgwyr nad yw eu cyrsiau efallai ar gael mewn prifysgol o'u dewis yng Nghymru, dylent gael y rhyddid ariannol i gael mynediad i'r cyrsiau hynny mewn unrhyw le arall yn y DU. Dyna yw egwyddor Llywodraeth Lafur Cymru a bydd yn parhau i fod yn egwyddor Llywodraeth Cymru os cawn ein hailethol ym mis Mai.

15:50
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Cyflawni ein Blaenoriaethau: Cynnydd o ran Gwell Iechyd, Gwell Trafnidiaeth, Mwy o Swyddi, Mwy o Gartrefi

Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni: cyflawni ein blaenoriaethau—cynnydd o ran gwell iechyd, gwell trafnidiaeth, mwy o swyddi, mwy o gartrefi. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James, i wneud y datganiad. 

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Gosododd y Prif Weinidog weledigaeth glir ar gyfer y Llywodraeth hon. O dan ei harweinyddiaeth, byddai'r Llywodraeth yn blaenoriaethu cyflawni, gan wneud cynnydd diriaethol ar y pethau sy'n bwysicaf i bobl Cymru: gwell iechyd, mwy o swyddi, trafnidiaeth well a mwy o gartrefi. Fy swydd i fel y Gweinidog Cyflawni yw hyrwyddo blaenoriaethau'r Prif Weinidog, gan weithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelodau o bob rhan o'r Cabinet.

Rydym yn gosod targedau hynod uchelgeisiol i ni'n hunain. Yn wir, mae ein maniffestos Llafur Cymru bob amser wedi bod yn uchelgeisiol i'n cenedl ac o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni. Ond roedd ein targedau hefyd yn sicrhau ein bod ni, y gwasanaeth sifil a'n partneriaid wrth gyflawni i gyd yn defnyddio nerth bôn braich i gyflawni tan ddiwrnod olaf y weinyddiaeth hon. A dyna beth rydym ni'n ei wneud. Rydym wedi canolbwyntio'n gryfach. Rydym wedi dod ag arbenigedd allanol i wella ein galluoedd yng nghanol y Llywodraeth hon, i ddysgu o'r arfer gorau ledled y byd, i gael ein harwain yn fwy gan ddata, canolbwyntio fwy a gwella ein cyflymder. Mae arweinyddiaeth, wedi'r cyfan, yn ymwneud â ffocws. Mae'n ymwneud â gosod disgwyliadau clir a blaenoriaethu. Mae'n ymwneud â dweud, 'Dyma beth sydd fwyaf pwysig', ac yna ei ysgogi gyda chyflymder ac uchelgais. Dyna beth mae ein Prif Weinidog wedi'i wneud, ac mae'r canlyniadau'n glir.

O ran iechyd gwell, bu'r gostyngiad mwyaf a mwyaf parhaus yn y rhestrau aros cyffredinol ar gofnod a'r gostyngiad cyflymaf mewn arosiadau dwy flynedd. O ran mwy o swyddi, rydym wedi cefnogi mwy na 50,000 o swyddi yn y sector preifat yn uniongyrchol y tymor hwn ac wedi creu dros 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth. O ran trafnidiaeth well, rydym wedi gwella ffyrdd ac wedi trawsnewid ein fflyd rheilffyrdd, gyda mwy o wasanaethau yn rhedeg yn amlach ac yn mynd ymhellach. Ac yn olaf, ac yn sicr nid y lleiaf, mwy o gartrefi—y cyflawniad parhaus uchaf o dai cymdeithasol mewn dau ddegawd.

Byddai cyflawni ar y raddfa hon wedi bod yn her mewn cyfnodau arferol, ond, wrth gwrs, mae hon yn Llywodraeth sydd wedi cyflawni trwy gyfnodau eithriadol: diwedd y pandemig, rhyfel Wcráin a'i effaith ar yr argyfwng costau byw, cyllideb fach drychinebus Liz Truss a'i heffeithiau trychinebus ar chwyddiant, yn ogystal â'r ansicrwydd parhaus ar y llwyfan byd-eang. Rydym wedi cyflawni er gwaethaf yr holl wyntoedd blaen yn ein herbyn. Ac i fod yn onest, gallwn siarad â chi am fanylion ein cyflawniadau am oriau. Gallwn ddweud wrthych am y £2 biliwn a mwy a fuddsoddwyd gennym mewn tai i sbarduno'r lefelau cyflawni uchaf erioed, neu'r £800 miliwn yr ydym wedi'i fuddsoddi mewn fflyd rheilffyrdd newydd. Ond rwyf i wedi canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Prif Weinidog am reswm na ddylem fyth golli golwg arno: sef nhw yw'r pethau sy'n newid bywydau pobl. Felly, gadewch i mi fyfyrio ar hynny.

Nid trenau newydd yn unig yw'r £800 miliwn a fuddsoddwyd mewn rheilffyrdd, ond mwy o wasanaethau ar hyd llinellau craidd y Cymoedd. Mae'n dyblu amlder gwasanaethau rhwng Caer a Wrecsam. Mae trenau ychwanegol ar linell Calon Cymru ac mae trenau hwyr gyda'r nos rhwng, er enghraifft, Caerdydd a Threherbert neu Aberdâr a Merthyr Tudful. Mae'n cryfhau cysylltiadau rhwng ein cymunedau ac yn rhoi hwb i'n heconomïau.

Mae'r £2 biliwn a mwy a fuddsoddwyd mewn tai nid yn unig y lefel uchaf erioed o ran darparu tai, gan gyrraedd y targed tai cymdeithasol mwyaf uchelgeisiol yn hanes ein cenedl, mae'n ymwneud â phlant sydd â rhywle i wneud eu gwaith cartref yn ddiogel a chynhesrwydd a theuluoedd sy'n byw mewn llety diogel am renti fforddiadwy. Mae yna safleoedd tai ledled Cymru y gallwn gyfeirio atynt, ond gadewch i mi ganolbwyntio ar rai sydd wedi'u cwblhau yn ystod y misoedd diwethaf: safle Tŷ Darran yng Nghaerffili, sy'n darparu 45 o fflatiau dwy ystafell wely a thair ystafell wely newydd; safle Ysbyty Lansdowne yng Nghaerdydd, sy'n creu 107 o gartrefi newydd; neu gynllun Ffordd Samlet yn Abertawe sy'n creu 35 o gartrefi newydd. Mae pob un yn gartref sy'n newid bywydau pobl, ac rydym wedi eu cyflawni ar y lefelau uchaf erioed.

Ac mae ein ffigurau iechyd yn dangos y gostyngiad hiraf a mwyaf parhaus o ran y rhestr aros a'r gostyngiad cyflymaf mewn arosiadau dwy flynedd. Mae'r dull rydym ni wedi'i fabwysiadu a gwaith staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol wedi arwain at newidiadau y gall pobl eu teimlo mewn gwirionedd. Mae pobl yn cael eu gweld yn gyflymach, gyda'r amser aros cyfartalog bellach yn gostwng i 18 wythnos. Maen nhw wedi cael mwy o ddewis pan fyddant yn cael eu gweld, gyda 187,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol wedi'u cyflawni eleni gyda'r nos ac ar benwythnosau. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni 40,000 o lawdriniaethau cataract eleni, sy'n golygu bod hyd at 40,000 o bobl yn cael gwell golwg, gan wella eu bywydau bob dydd.

Dirprwy Lywydd dros dro, yn dilyn y pandemig, roedd gormod o bobl yn aros am gyfnod rhy hir. Rydym wedi cyflawni gostyngiad o 19,000 mewn arosiadau dwy flynedd, gostyngiad o 78 y cant. Ar yr un pryd, rydym wedi ei gwneud hi'n llawer llai tebygol y bydd angen i bobl aros mor hir yn y dyfodol, trwy ddarparu apwyntiadau neu driniaethau i 138,000 o bobl a oedd mewn perygl o aros am ddwy flynedd. Os dylech fod gartref, ond rydych dal yn yr ysbyty, yna, ar gyfartaledd, rydych bellach yn cael eich rhyddhau wythnos yn gyflymach gyda llawer mwy o bobl yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i wella ac adennill eu hannibyniaeth.

Rydym wedi dilyn ein cynllun iechyd menywod gyda gweithredu ymarferol trwy gyflwyno canolfan iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd, gan ddarparu un man cyswllt i wella profiad menywod o ofal iechyd.

Ac yn olaf ond yn sicr nid y lleiaf, mae yna 50,000 o swyddi rydym ni wedi'u cefnogi'n uniongyrchol yn y sector preifat yn nhymor y Senedd hon. Maent yn dangos sut rydym yn cefnogi'r busnesau sy'n rhoi cyfleoedd gwaith da i bobl ledled Cymru ac sy'n chwarae rhan hanfodol yn eu heconomïau lleol. A dylem a byddwn yn dathlu'r garreg filltir arwyddocaol o ddarparu 100,000 o brentisiaethau. Ond byddwn yn cofio hefyd fod pob un o'r cyfleoedd hynny wedi mynd i berson yng Nghymru, a oedd yn rhoi ei hun ymlaen ac yn barod i ddatblygu ei hun i gael sgiliau newydd, i gael galwedigaeth sy'n rhoi diogelwch a phwrpas iddo.

Dirprwy Lywydd dros dro, fe wnaethom ddechrau'r Llywodraeth hon yn 2021 gyda'r adferiad o'r pandemig mewn golwg. Roedd ein maniffesto Llafur Cymru, wedi troi'n rhaglen ar gyfer llywodraethu, yn canolbwyntio ar y pethau pwysicaf i bobl. Ac rydym wedi cyflawni hynny ac wedi cyflawni'r addewid hwnnw. Diolch.

15:55

Annwyl-garedigion, rydym wedi ymgynnull yma heddiw yn angladd Plaid Lafur Cymru ar ôl 27 mlynedd hir, ac achos marwolaeth Llywodraeth Lafur Cymru fydd Llywodraeth sy'n barhaus, wedi methu targedau ac wedi methu â chyflawni ac wedi gwneud addewid ar ôl addewid na chawsant eu cyflawni. Nawr, bu bron i fy ngên ddisgyn i'r llawr pan welais deitl y datganiad hwn—'gwell iechyd', pan fo gennym y rhestrau aros GIG hiraf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig; 'gwell trafnidiaeth' gan Lywodraeth a flaenoriaethodd derfynau cyflymder 20 mya, canslo prosiectau adeiladu ffyrdd ledled y wlad. Roedd y teitl yn dweud 'mwy o swyddi', pan o dan y Llywodraeth Lafur hon a'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan—ers iddynt gael eu hethol, rydym wedi gweld diweithdra yn cynyddu bob mis oherwydd y ffordd maent yn ymdrin â'r economi, a 'mwy o gartrefi', pan wyddant eu bod wedi methu eu targed tai ac wedi gorfod oedi ei weithredu. Mae'n ddatganiad mor fyddar gan Lywodraeth sydd wedi methu â chyflawni blaenoriaethau'r bobl yn gyson.

Mae hon yn Llywodraeth a wariodd arian, £120 miliwn, ar fwy o wleidyddion yn nhymor y Senedd hon, ac roedd yn blaenoriaethu prosiectau gwagedd ledled y byd, llysgenadaethau bychain ledled y byd, gan gynnwys tair yn Tsieina. Ac rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, am gysylltiadau'r Blaid Lafur â Tsieina. Maen nhw hefyd wedi gweld plannu coed niwtral o ran rhywedd yn digwydd yn Uganda a chanŵs sy'n cael eu pweru gan yr haul ar gyfer llwyth y Wampís ym Mheriw.

Trwy'r amser, roedd gwasanaethau gartref yn dioddef, gyda'r arosiadau hiraf yn y GIG nag yn unrhyw le yn y DU. Nid yw'n syndod bod staff a chleifion y GIG wedi troi eu cefnau ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Y canlyniadau addysgol gwaethaf yn unrhyw le yn y DU. Un o bob pump o blant sy'n gadael yr ysgol heb allu ymarferol o ran llythrennedd. Does dim syndod bod staff addysgu a rhieni wedi troi eu cefnau ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru. A'r economi wannaf yn unrhyw le yn y DU, gyda'r pecynnau cyflog isaf yn unrhyw le yn y DU, yn atal busnesau bach rhag tyfu. Ac mae'r rhai sy'n cael eu gwasgu gan yr argyfwng costau byw a achoswyd gan Lywodraeth Lafur San Steffan yn teimlo hynny hyd yn oed yn fwy yng Nghymru oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymdrin â'r economi. Nid yw'n syndod i mi fod perchnogion busnesau bach a'r rhai sy'n cael trafferth gyda phwysau costau byw hefyd yn troi eu cefnau ar Lywodraeth Lafur Cymru.

Ond y cwestiwn yw, wrth i ni gau'r bennod, diolch byth, ar ôl 27 mlynedd hir, anodd o Lywodraeth Lafur: beth sy'n ei disodli? Mae Cymru wedi torri, ac maen nhw wedi ei thorri—[Torri ar draws.]

16:00

A bydd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd arnynt yn yr etholiad hwn y gallant gynnig y newid sydd ei angen ar Gymru. Ond, Llywydd, mae'r adeilad wedi cael ei losgi, felly pam ar wyneb y ddaear fyddech chi'n rhoi'r llosgwyr a helpodd y Blaid Lafur i fod yn ôl wrth y llyw, yn sedd grym, i geisio ei ailadeiladu? Mae'n hollol wirion, oherwydd, bob cam o'r ffordd, pob un o'r penderfyniadau hynny, mae'r hanes blaenorol hwnnw gymaint â hanes blaenorol Plaid Cymru, ac mae'n gymaint â hanes blaenorol y Democratiaid Rhyddfrydol, ac felly hefyd hanes blaenorol y Blaid Lafur yng Nghymru. Pam ar wyneb y ddaear fyddech chi'n ymddiried ynddynt i ddatrys y problemau a grëwyd ganddynt eu hunain gyda'r Blaid Lafur?

Ac os ydych chi'n bwriadu ailadeiladu adeilad ar ôl 27 mlynedd, pam fyddech chi'n dewis pensaer nad oes ganddo gynllun ac nad oes ganddo unrhyw brofiad o gwbl o'r ffordd y mae'n gweithio a'r ffordd y mae'r adeilad hwnnw'n cael ei ailadeiladu? Mae'n hollol wirion i roi criw o amaturiaid fel Reform yn gyfrifol pan nad oes ganddynt unrhyw ragolygon, syniadau na chynllun ynghylch sut i ailadeiladu hanes blaenorol Llafur sydd wedi methu yng Nghymru.

Llywydd dros dro, yr hyn sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Geidwadol Gymreig yma yng Nghymru, tîm sydd â'r dalent a'r profiad i allu cyflawni, gyda'r cynlluniau i dyfu ein heconomi yng Nghymru, i ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach i helpu ein heconomi i dyfu, i dorri'r dreth stamp i helpu pobl ifanc i fynd i'r farchnad dai, lleihau treth incwm i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw a achoswyd gan Lywodraeth Lafur y DU.

Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, mai'r unig ddewis yn yr etholiad hwn i adfer y gwaddol aflwyddiannus o 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur yw pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig i gael Cymru i weithio?

Wel, rwy'n credu bod yna gwestiwn yn y fan yna yn rhywle, Dirprwy Lywydd dros dro; rwy'n credu bod yna. Byddwn i'n dweud, Tom, y dylech chi fod ar y llwyfan, ond mewn gwirionedd, roedd y trosiad neu'r gymhariaeth honno—dwi ddim yn siŵr pa un—mor ddryslyd fel nad wyf yn credu y gallech chi hyd yn oed wneud jôc ohoni. Ac am gywair ofnadwy a ddefnyddioch i gychwyn. Ond mae'n rhoi cyfle i mi eich atgoffa bod hon yn sgwrs nad yw yn un sy'n llawn rhethreg fel yr un rydych chi newydd ddangos i ni, ond un â ffeithiau gwirioneddol.

Felly, mae'r ystadegau cyhoeddedig yn dangos bod arosiadau dwy flynedd yn gostwng 78 y cant ers mis Awst 2024, y cwymp cyflymaf ar gofnod. Mae'r amcangyfrif ar gyfer mis Chwefror yn dangos gostyngiad pellach i 4,500, sy'n ostyngiad o 81 y cant ers Awst 2024. Ffeithiau yw'r rhain. Rydym bellach yn gweld gostyngiadau misol mewn maes sydd fel arfer yn destun amrywiadau misol, sy'n gyflawniad eithriadol. Ac ar ddechrau'r flwyddyn, gan ddefnyddio gwybodaeth rheolwyr, amcangyfrifwyd y byddai 146,000 o lwybrau wedi torri'r terfyn dwy flynedd pe na baem wedi gweithredu. A bobl bach fe wnaethon ni weithredu.

Ac mae dechrau tôn-fyddar eich cyflwyniad heddiw, gan blaid heb un AS San Steffan yng Nghymru, nad yw'n rheoli un cyngor, nad yw mewn sefyllfa o gwbl i siarad ar ran pobl Cymru, yn eithaf rhyfeddol, a dylech feddwl go iawn am gywair eich cyfraniadau.

Ond gadewch i mi fynd i'r afael â rhai o'r pethau a godwyd gennych. Mae'r siboleth 20 mya, polisi sydd wedi glanhau ein haer, wedi achub bywydau plant, wedi atal teuluoedd di-ri rhag dioddef diflastod anafiadau dirfawr a marwolaeth, wedi gostwng costau yswiriant y rhan fwyaf o bobl ledled Cymru, ac wedi arbed llawer o arian i'r GIG heb amheuaeth, yn un y dylech fod yn ei gofleidio. A gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi hefyd, oherwydd nid yw'r Torïaid yn sicr yn gwybod unrhyw beth am gyfiawnder cymdeithasol: mae 20 mya yn fater cyfiawnder cymdeithasol go iawn. Mae'n gwneud strydoedd yn fwy diogel i fenywod a phlant. Mae'n eu gwneud yn ddiogel i gerdded arnynt heb i chi ddioddef aer gwael. Mae'n gwneud pobl yn fwy diogel yn ein dinasoedd a'n trefi. Dylai'r syniad eich bod chi eisiau gyrru'n gyflymach a pheryglu bywyd plentyn fod yn rhywbeth y dylech fod â chywilydd ohono.

A gadewch i mi droi at gwpl o'r pethau diwylliannol bach eraill y gwnaethoch chi eu crybwyll: llysgenadaethau ledled y byd—llysgenadaethau sydd ar hyn o bryd yn helpu pobl o Gymru i ddianc rhag rhyfel, rhywbeth na fyddai'n digwydd pe baech chi'n gyfrifol, a diolch byth na fyddwch chi byth. Fe wnaethoch chi siarad am goed—coed sy'n cadw'r byd rhag mynd ar dân, sy'n helpu cymunedau heblaw ein cymuned ni, sy'n helpu ein cymunedau ni, ac y mae pobl ar eich meinciau eich hun wedi cael lluniau hyfryd gyda nhw, mewn cyfnod pan nad oeddech chi'n dilyn y llif. [Torri ar draws.] Ble mae Joel, i sefyll wrth eich ochr pan fyddwch chi'n beirniadu'r coed yn Uganda, roedd ef yn hapus iawn i'w lun gael ei dynnu gyda nhw?

Nid oes gennych un polisi o unrhyw hygrededd. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi adleisio rhywbeth yr wyf yn ei ddweud wrth Darren Millar yn rheolaidd iawn: rydych chi'n anllythrennog yn economaidd, nid ydych chi'n deall gwerth gwasanaeth cyhoeddus, ac ni ddylech fyth fod yn gyfrifol am unrhyw fath o Lywodraeth.

16:05

Mae'r datganiadau diwedd tymor hyn a gyflwynir yn y dyddiau olaf cyn etholiad yn rhy aml yn troi'n bantomeim. Rwy'n credu ein bod ni newydd weld enghraifft o hynny. Mae'r llywodraeth yn dweud bod popeth—[Torri ar draws.] Mae'r Llywodraeth yn dweud bod popeth wedi'i gyflawni; mae'r wrthblaid yn dweud nad oes dim wedi'i gyflawni. Nid yw'r naill berfformiad na'r llall yn ddigon difrifol ar gyfer y cyfnod rydym ni ynddo, oherwydd nid yw'n gredadwy dweud nad yw'r Llywodraeth hon wedi gwneud dim. Ar ôl dau ddegawd o ddadl, mae diwygio'r Senedd o'r diwedd wedi'i gyflawni yn y gyfraith. Mae prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd wedi'u cyflwyno ledled Cymru. Mae diwygio bysiau ar y llyfr statud. Mae'r rhain yn gyflawniadau go iawn. Maen nhw'n bwysig a dylem fod yn ddigon onest i ddweud hynny. Ond mae gonestrwydd yn mynd y ddwy ffordd.

Unwaith y byddwn yn symud o linellau tuag at y canlyniadau y mae pobl yn byw gyda nhw mewn gwirionedd, mae'r darlun yn dod yn llawer anoddach i Weinidogion. O ran iechyd, mae mwy na 700,000 o lwybrau triniaeth yn dal i aros i ddechrau. Mae dros 5,000 o bobl wedi bod yn aros dros ddwy flynedd, er gwaethaf ymrwymiad Llafur i ddileu arosiadau mor hir yn gyfan gwbl. Mae perfformiad canser yn parhau i fod yn llawer is na'r targed 62 diwrnod. Mae arosiadau diagnostig wedi cynyddu eto. Mae toriadau targed therapi wedi codi eto. Mae pwysau ar ambiwlansys yn parhau i fod yn acíwt, gyda'r targed ymateb galwad coch wedi'i fethu eto. Ac mae Gweinidogion yn parhau i fod ymhell o gyrraedd y targed a nodwyd yn eu cynllun adfer gofal eu hunain, a ddatblygwyd gan y Prif Weinidog ei hun. Nid yw'r rhain yn ddangosyddion system sydd wedi troi'r gornel. Maen nhw'n ddangosyddion system sy'n dal i siomi gormod o bobl.

Mae addysg ychydig yn well. Addawodd gweinidogion y byddai safonau'n codi a byddai anghydraddoldebau yn culhau, ond y targed canolog—sgôr 9 ar gyfartaledd yn 2024-25—oedd 354.3, bron heb newid o 354.4 yn 2018-19. Nid yw'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion tlotach wedi newid llawer: 78.6 pwynt bellach o'i gymharu â 77.3 cyn y pandemig. Ac o dan hynny mae gwirionedd mwy pryderus eto: mae absenoldeb parhaus yn parhau i fod yn llawer rhy uchel—27 y cant o'r holl ddisgyblion, gan godi i dros 50 y cant i'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ni all unrhyw berson difrifol alw hyn yn dymor o welliant addysgol clir.

Mae tai yn adrodd yr un stori. Siaradodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw am roi terfyn ar ddigartrefedd, ond, ym mis Rhagfyr 2025, roedd dros 10,000 o bobl yn dal i fyw mewn llety dros dro. Mae ymchwil Shelter Cymru yn awgrymu bod un o bob 14 aelwyd yn aros am gartref cymdeithasol, ac, hyd yn oed yn y sector rhentu preifat, cynyddodd rhenti dros 8 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw hon yn system dai sy'n cael ei dwyn o dan reolaeth; mae'n system dai dan straen enfawr, mewn argyfwng, ar ôl chwarter canrif o Lywodraeth Lafur.

Camwch yn ôl a gofynnwch y cwestiwn economaidd ehangach: ar ôl pum mlynedd, a yw Cymru'n fwy ffyniannus, yn fwy cynhyrchiol, yn fwy diogel yn economaidd? Roedd adroddiad llesiant y Llywodraeth ei hun yn gampwaith o ddanddweud yn hyn o beth. Roedd cynnydd, meddai, wedi bod yn llai amlwg ar dlodi, ar gynhyrchiant, ar gyflog ac incwm. Dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wrth eich Llywodraeth yn 2020 bod angen cydlynu strategol cryfach ar gyfer datblygu economaidd, strategaeth unedig ac asiantaeth ganolog. Yn 2024, daeth yn ôl a dweud, mewn gwirionedd, yr un peth. Dau adroddiad bedair blynedd ar wahân, yr un feirniadaeth. Nid yw'n syndod bod economi Cymru yn teimlo'n sownd yn yr un man.

Felly, a wnaiff y Llywodraeth heddiw gydnabod bod yna feysydd lle mae'n amlwg wedi methu? Beth yw eich dadansoddiad eich hun o'r rheswm pam? Ac os yw hanes y Llywodraeth mor gryf ag yr ydych yn honni nawr, pam nad yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr arolygon barn neu yn sgôr boddhad arolwg cenedlaethol y Llywodraeth ei hun, o ddim ond 4.8 allan o 10? Dywedir wrthym heddiw bod Gweinidogion wedi defnyddio bôn braich. Felly, ai bai Keir Starmer yw eich problemau presennol i gyd mewn gwirionedd, neu a yw rhywfaint—a yw rhywfaint—yn gyfrifoldeb Llywodraeth sydd wedi bod yn y swydd ers mwy na chenhedlaeth ac sydd wedi colli ei llewyrch a cholli ei ffordd?

16:10

Wel, dydw i ddim yn hollol siŵr beth oedd y cwestiwn go iawn. Roedd yn araith ddiddorol. Roeddwn i'n meddwl ei bod wedi dechrau'n dda, ond yna aeth yn ôl i'ch agwedd ddigalon arferol o ddibrisio popeth. [Torri ar draws.] Nid wyf yn ceisio eich nawddogi yn fwy nag yr oeddech chi'n ceisio fy nawddogi i; rwyf wedi cael fy nawddogi gan bobl llawer gwell na chi, Adam, dros y blynyddoedd.

Gadewch i mi ddarllen cwpl o ffeithiau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Felly, o ran tai, er enghraifft, fe wnaethoch chi ddyfynnu rhai o'r ystadegau yna, ac rydych chi a minnau wedi cael y ddadl hon, ac rydym wedi cael y ddadl hon sawl gwaith yn y Siambr hon. Mae gennym lawer iawn o alw yn y system. Mae gennym ni hynny mewn iechyd hefyd. Mae galw mawr. A'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi gallu ei wneud yw, er gwaethaf y galw mawr ac er gwaethaf y blaen wyntoedd yn ein herbyn, rydym wedi cyflawni'r addewidion a wnaethom, a dyna rydw i'n ei ddweud yma heddiw.

Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Wrth gwrs bod mwy i'w wneud. Mae mwy i'w wneud bob amser. Nid oes unrhyw Lywodraeth byth yn mynd i gyrraedd pwynt lle mae'n dweud, 'Hei, rydym ni wedi gwneud popeth sydd i'w wneud a does dim byd mwy.' Wrth gwrs, nid yw'r pwynt hwnnw byth yn mynd i fodoli, oherwydd mae pethau'n newid. Mae'r galw yn ein systemau yn anhygoel. Mae'r ffigurau manwl ym maes tai yn dangos hynny. Mae'r ffigurau mewn llety dros dro a'r ffigurau mewn gwely a brecwast tua'r un fath trwy'r amser, ond maen nhw'n cuddio'r newid yn y ffigurau hynny bob mis, wrth i'r system gyfan weithio'n galed i gael pobl i mewn ac allan o'r llety hynny. Felly, dydyn nhw ddim yn aros yn y lleoedd gwely a brecwast yn hir iawn. Dydyn nhw ddim yn aros mewn llety dros dro yn hir iawn. Bob mis, mae 400 i 600 o bobl yn symud i dai parhaol, ond mae mwy yn dod. Ac felly yr hyn sydd angen i ni ei wneud yn y Senedd nesaf yw mynd o flaen y gromlin galw, ac mae llawer mwy i'w wneud ar y gromlin galw. Mae mewn maes tai. Mae mewn maes iechyd hefyd. Ym maes iechyd, mae'r galw drwy'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel. Mae'r system yn gweithio ar garlam, ac rydym wedi cyflawni yn erbyn hynny hyd yn oed. Ond pan fyddwch chi'n gweld y ffigurau galw o fewn y system ac rydych chi'n sylweddoli pa mor galed mae'r system yn gweithio er mwyn cadw ar ei thraed, mae'n eithaf rhyfeddol wir yr hyn rydym ni wedi llwyddo i'w gyflawni. Ac mae'r arosiadau hynny sy'n lleihau yn erbyn y galw uchel hwnnw, ac maen nhw'n lleihau er gwaethaf y galw uchel, a dyna sy'n bwysig.

Y peth arall, wrth gwrs, yw ein bod yn deall ei bod yn system lawn, mewn gwirionedd, mae cael pobl mewn tai boddhaol yn helpu'r system iechyd. Mae'n helpu'r system gofal cymdeithasol. Rydym ni wedi ariannu'r peth ar draws y maes fel bod gennym bobl sy'n gallu cael bywyd llawer gwell oherwydd eu bod yn gallu cael cymorth ym mhob un o'r meysydd hynny o'u bywyd. A dyna pam mae pethau fel trafnidiaeth well yn bwysig. Mae'r trenau yn bwysig. Fe wnaethon ni etifeddu system, y gwn nad ydych chi'n cytuno â hi, Adam, sef y preifateiddio mwyaf chwerthinllyd o gludiant torfol a welsom erioed, a oedd yn aflwyddiannus ar draws y DU. Fe wnaethon ni etifeddu hen system heb fuddsoddiad, gyda threnau ofnadwy. Rydym wedi dal ein tir trwy rai o'r cyfnodau gwaethaf rydw i erioed wedi cael yr anlwc i fod mewn cyllidebau gyda nhw, ac rydym wedi llwyddo i fuddsoddi yn y system honno fel bod gennym nawr, ac eithrio'r Caledonian Sleeper, y mesur cymeradwyaeth uchaf o unrhyw wasanaeth trên ym Mhrydain. Nid rhywbeth di-nod yw hynny, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl bobl sydd wedi gweithio ar hynny. Ond fe wnaethon ni ddal ein tir pan oedd hi'n anodd iawn dod o hyd i'r buddsoddiad hwnnw. Ac rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni wedi gwneud hynny.

A oes mwy i'w wneud? Wrth gwrs bod mwy i'w wneud. Mae yna system metro gyfan yn y de-orllewin yr hoffwn ei gweld yn cael ei datblygu. Mae yna un yn y gogledd y byddem wrth ein bodd yn ei gweld yn cael ei datblygu. Mae mwy i'w wneud bob amser. Ond mae heddiw yn gyfle i ni edrych ar yr hyn rydym ni wedi'i gyflawni ac i ddangos i bobl y gellir cyflawni'r pethau hyn—gellir eu haddo a gellir eu cyflawni.

Dirprwy Lywydd dros dro, rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio amddiffyn Cymru a buddsoddi yng Nghymru. Gwelsom drychineb Brexit. Gwelsom drasiedi COVID. A'r hyn a welais ar ôl hynny oedd buddsoddi yn ein pobl ac yn ein cymunedau: darparu cysylltedd ym Mlaenau'r Cymoedd trwy gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465; darparu cysylltedd ledled ein Cymoedd gyda metro de Cymru; buddsoddi mewn busnesau newydd—rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi hyn o gwbl—buddsoddi mewn busnesau newydd, 50,000 o swyddi sector preifat newydd mewn pum mlynedd; a 100,000 o brentisiaethau. Cyflawnwyd y cyfan trwy waith teg a chyflawni mewnfuddsoddiad.

Cymerodd y Torïaid wersi yn yr economi gan Liz Truss, ac mae i'w weld, tra bod y Llywodraeth hon wedi bod yn buddsoddi mewn sgiliau, seilwaith, pobl a lleoedd. Yr hyn sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru newydd yw parhad o'r buddsoddiad hwn, parhad o'r buddsoddiad mewn pobl a lleoedd, a pharhad o fuddsoddi yn y dyfodol.

16:15

Diolch, Alun. Felly, dim ond o ran y buddsoddiad parhaus, mae hynny'n bwynt pwysig iawn mewn gwirionedd. Os edrychwn ni ar y cyflenwad tai cymdeithasol yn unig, er enghraifft, roeddwn i'n falch iawn o weld y gyllideb yn mynd drwodd eleni, oherwydd rhoddodd lawer o hyder i'r sector, y ffaith y byddai'r buddsoddiad yno iddyn nhw barhau. Yr hyn rydym ni'n ei weld yn aml o gwmpas etholiad yw gostyngiad mawr mewn cyflawni ac yna mae'n cymryd ychydig o amser i godi yn ôl eto, ond rydym ni wedi gallu rhoi sicrwydd i'r sector bod yr arian yno iddyn nhw barhau i gyflawni ar y cyflymder anhygoel yr ydym wedi'i weld ledled Cymru yn y sector tai cymdeithasol.

A dim ond i bwysleisio'r pwynt mai dyma'r sector tai cymdeithasol: nid yw'r rhain yn gartrefi fforddiadwy ar 80 y cant o rent y farchnad; mae'r rhain yn gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol yn y sector rhentu cymdeithasol, gyda rhenti gwarchodedig a thenantiaethau gwarchodedig, ac maent wedi'u hadeiladu i'r safon uchaf o ran bod yn garbon niwtral. Maen nhw'n gartrefi effeithlon iawn—cartrefi effeithlon iawn. Rwyf wedi cwrdd â phobl sydd wedi bod mor falch o'r swm o arian y maent wedi'i arbed trwy symud i un ohonynt. Roedd un o'r rhai gorau mewn gwirionedd yn eich etholaeth chi, lle aethom draw i gwrdd â rhai o'r tenantiaid a oedd newydd symud i mewn, a gofynnodd y gŵr  yr oeddem ar fin mynd i mewn i'w dŷ, i mi aros. Roeddwn i wedi synnu braidd, ond es i ffwrdd a siarad ag ychydig o bobl eraill, ac yna daeth allan a dweud, 'Dewch nawr, dewch nawr', ac aethom i mewn, ac roedd eisiau i mi eistedd wrth fwrdd ei gegin, oherwydd roedd eisiau dangos i mi yr adeg pan aeth ei grid ynni o goch i wyrdd gan ddechrau bwydo ynni yn ôl i'r grid ac ennill arian iddo, ac roedd eisiau i mi weld y cyfnewid, roedd mor falch o'r arian yr oeddent yn ei arbed. Roedd yn garedig iawn, rhoddodd lyfr i mi a oedd wedi tynnu fy sylw ar ei silff lyfrau, a dywedodd wrthyf fod iechyd ei wraig wedi gwella'n sylweddol dros y tri mis yr oeddent wedi byw yn y cartref hwnnw. Felly, mae'r rhain yn bobl go iawn, ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau bob dydd ein bod yn adeiladu tai sy'n rhoi cartref diogel a dibynadwy iddynt.

A gaf i longyfarch y Gweinidog Cyflawni am ei chyflawniadau wrth sbarduno'r cyflawniadau hyn gan y Llywodraeth Lafur hon?

Roeddwn i eisiau tynnu sylw at ddau faes lle mae fy etholaeth wedi elwa yn arbennig ar weithredoedd y Llywodraeth Lafur. Yn gyntaf, rhywbeth a grybwyllwyd, mae'r gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd sy'n dod i lawr drwy Ogledd Caerdydd wedi digwydd, gan gynnwys llawer iawn o waith gan Trafnidiaeth Cymru, ond mae bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Cyflwyno trenau newydd, sydd wedi darparu mwy o gapasiti, gwasanaethau cyflymach, mwy ar amser, yn ogystal â llawer mwy o gysur a hygyrchedd, gan gynnwys, yn bwysig iawn, mynediad gwastad, sy'n ei gwneud hi'n llawer haws i gymaint o bobl deithio ar y trên.

Ar linell Coryton, cyflwynwyd gwasanaethau ar ddydd Sul erbyn hyn ac ymrwymiad i bedwar trên yr awr, a gwn y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio'r rheilffyrdd. Felly, mae yna gam enfawr ymlaen mewn trafnidiaeth yng Ngogledd Caerdydd, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau yn y dyfodol sydd yna i barhau â'r buddsoddiad hwnnw yn y dyfodol.

Y pwynt arall yr oeddwn am ei godi oedd yr ymrwymiad enfawr i'r gwasanaeth iechyd wrth adeiladu'r ysbyty newydd, ysbyty newydd Felindre yng Ngogledd Caerdydd, a fydd yn darparu'r driniaeth radiotherapi mwyaf diweddar yn Ewrop gyfan ar gyfer cleifion canser. Mae hwn yn gyflawniad enfawr, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru i'w llongyfarch ar ei hymrwymiad i hynny. A fyddai'n cytuno mai'r cam ymlaen hwn i gleifion canser, gydag adeilad ategol yn y Fenni, yw'r ffordd y mae angen i ni fynd?

Byddwn. Diolch, Julie. Yn hollol ar yr ysbyty newydd. Mae wedi cymryd amser hir i ddod, ond mae wedi bod yn werth buddsoddi'r holl arian hwnnw. Rwy'n credu y bydd yn trawsnewid bywydau pobl sy'n cael diagnosis o ganser. Mae diagnosis o ganser yn sioc ofnadwy, felly mae gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael y driniaeth orau bosibl yn yr amgylchedd gorau posibl, gyda'r triniaethau mwyaf diweddar posibl, yn gwbl hanfodol, a dyna beth fydd yr ysbyty newydd a'i adeiladau ategol yn ei ddarparu. Byddant hefyd yn darparu lle braf iawn i fod ynddo, sy'n wirioneddol bwysig, mewn gwirionedd, os ydych chi yng nghanol triniaeth canser, oherwydd, yn eithaf aml, rydych chi'n treulio amser yn aros, ac os gallwch chi wneud hynny yn rhywle sy'n fuddiol i'ch iechyd, mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny'n dwyn ffrwyth.

O ran y rheilffyrdd a'r trydaneiddio, un o'r pethau sy'n fy synnu fwyaf yw pa mor anaml yr ydym yn brolio rhai o'r pethau rydym ni wedi'u cyflawni mewn gwirionedd. Rydw i wedi cael y fraint fawr o deithio ar un o'r trenau trydan newydd yn ddiweddar iawn ar linellau craidd y Cymoedd, ac nid oeddwn yn sylweddoli nes i mi siarad â gyrrwr y trên hwnnw fod gennym ni y trên cyntaf erioed yng Nghymru—ac fe wnaethon ni ei ddatblygu—y trên cyntaf erioed sy'n gallu newid modd ar gyflymder. Mae'n rhaid i bob trên arall sy'n newid modd arafu a stopio, yna newid modd ac yna cyflymu eto. Ond yma yng Nghymru, rydym ni wedi datblygu trên sy'n gallu mynd o drydan i fatri i diesel i drydan i fatri ar gyflymder, fel mae'r llinell reilffordd yn newid wrth i ni fynd ymlaen. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n profi'n union hynny wrth i ni fynd oddi ar y rhwydwaith trydan i mewn i dwnnel, ac yn ôl i'r rhwydwaith trydan, ar gyflymder. Felly, mae'n rhyfeddol a dylem fod yn falch iawn o'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi fel ein bod ni'n cael y mathau hynny o drenau.

Felly, nid yn unig y mae gennym wasanaeth llawer mwy dibynadwy—ac fel y dywedais i, yn ail yn unig i'r Caledonian Sleeper, sy'n dipyn o gyflawniad—yn fwy aml, gyda chynnydd yn nifer y teithwyr, wrth gwrs, ond mae gennym hefyd lawer mwy o amlder ac mae gennym gymunedau wedi'u cysylltu. Mae gennym bobl sy'n gallu dod i mewn i Gaerdydd yn iawn i weithio a mynd adref eto ar ôl profi economi'r nos, er enghraifft, rhywbeth rydym ni wedi bod eisiau ei wneud ers amser maith. Mae'n sylfaen dda iawn i adeiladu system drafnidiaeth dorfol ar gyfer gweddill Cymru.

Ni allaf beidio ond dweud ein bod o'r diwedd wedi llwyddo i wneud rhywbeth ynghylch y dadreoleiddio bysiau ofnadwy a ddigwyddodd yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Mae'r mantra 'Mae'n rhatach ac yn well yn y sector preifat' wedi troi'n eironi ofnadwy, dwi'n meddwl. Yr hyn rydym ni wedi llwyddo i'w ddangos yw ei fod mewn gwirionedd yn rhatach ac yn well yn y sector cyhoeddus drwy ailreoleiddio'r bysiau hynny, gallu cyfeirio ein buddsoddiad at y lleoedd lle mae ei angen fwyaf ar bobl, ac i ddatblygu tua 100 o wasanaethau newydd sydd eu hangen arnom ledled Cymru, i wneud yn siŵr bod ein holl gymunedau yn cael eu cysylltu yn y ffordd y maen nhw'n dymuno.

16:20

Rwy'n credu bod bricsen olaf wal y system llinellau trydan uwchben wedi ei gosod yn Heol y Frenhines Caerdydd y penwythnos diwethaf, ac mae'r trydaneiddio hwn o dros 100 milltir o drac a 280 milltir o waith uwchben wedi digwydd diolch i arweinyddiaeth fy nghyd-Aelod Lee Waters, a oedd â'r weledigaeth i ddatblygu hyn, ac mae wedi bod yn wych. Ac mae wedi bod yn wych i etholaeth Julie Morgan.

Yn bwysicach i'm hetholwyr yw'r cynnydd yr ydym yn gobeithio ei wneud ar linellau dwyrain-gorllewin y metro, o ganlyniad i'r trafodaethau gwych y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r ymrwymiad hwnnw o £14 biliwn gan Lywodraeth y DU. Felly, mae fy etholwyr yn awyddus i ddarganfod pryd y bydd hyn yn dechrau digwydd. Pryd mae Network Rail yn dechrau cwmpasu'r gwaith ar uwchraddio'r llinellau dwyrain-gorllewin hyn? Pryd fydd Network Rail yn cyflwyno'r cais cynllunio i Gyngor Caerdydd i ddarparu ar gyfer y gwaith adeiladu? A phryd fydd rhawiau yn y ddaear ar gyfer yr uwchraddio hirddisgwyliedig hwn, sy'n hanfodol i gael cymudwyr allan o'u ceir ac ar y trenau? Felly, tybed a yw'n bosibl dweud wrthym a all Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru neu chi eich hun roi'r amserlen fanwl honno i ni o ran pryd y gallwn ddisgwyl i'r rhain ddigwydd, fel y gallwn barhau i roi pwysau arnynt.

Diolch, Jenny. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Lee. Mae'n bleser ar y cyd, rwy'n credu, Lee, ein bod wedi byw trwy'r angen i ddod o hyd i'r buddsoddiad i drawsnewid y rheilffyrdd, ac yn fwy na dim oherwydd eich gweledigaeth a'ch gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru y llwyddon ni i wneud hynny. Rwy'n credu y byddwch chi a minnau yn debygol o gofio'r cyfarfodydd cyllideb a aeth ymlaen am oriau ac oriau ac oriau wrth i ni geisio dod o hyd i'r buddsoddiad, ei dynnu allan o'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ar y pryd, fy annwyl ffrind Rebecca Evans, y cefais sgyrsiau hir, cymhleth ac anodd gyda hi. Ac yna bydd y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, yn dweud wrthych fy mod i'n ei erlid yn ffyrnig i fyny ac i lawr coridorau, yn chwilio am fuddsoddiad ychwanegol i gynnal y rheilffordd.

Oherwydd yr hyn oedd gennym pan oeddem yn y portffolio hwnnw oedd yr hyn yr oeddem yn ei alw'n fuddsoddiad brig ar gyfer gwasanaeth is, ac felly roedd yn rhaid dal ein tir i ddeall bod angen i chi fuddsoddi ymlaen llaw yn y rheilffyrdd hynny gydag arian yr oedd yn sicr ei angen arnom ar draws y Llywodraeth mewn mannau eraill, ond roeddem yn gwybod os nad oeddem yn dal ein tir a buddsoddi yn y gwasanaeth rheilffordd hwnnw, yr hyn y byddem yn ei gael yn y pen draw oedd rhoi cymhorthdal i wasanaeth nad oedd yn ddigon da, nad oedd yn fodern nac yn drawsnewidiol. Yr hyn a wnaethom oherwydd ein bod yn dal ein tir ar draws y Llywodraeth, gyda holl gyd-Aelodau'r Cabinet yn ymwybodol o'r angen am y buddsoddiad hwn, yr hyn a wnaethom oedd trawsnewid y gwasanaeth rheilffordd hwnnw yn rhywbeth modern yr ydym yn falch ohono, sydd â nifer cynyddol o deithwyr arno, ac a fydd yn mynd o nerth i nerth a fydd yn rhoi'r model i ni, Jenny, ar gyfer y camau nesaf.

Felly, ar gyfer y cam nesaf mae gennym y cyllid rheilffyrdd a'r uchelgais llif prosiectau ar gyfer y 15 i 20 mlynedd nesaf wedi'u nodi. Mae'r ffocws cychwynnol ar y cynlluniau sydd wedi derbyn y cyllid o £445 miliwn yn cynnwys darparu'r saith gorsaf newydd rydych chi'n siarad amdanynt. Nid oes gennyf y math o fanylion rydych chi newydd ofyn amdanynt, ond gallaf ddod o hyd iddynt yn hawdd i chi. Wrth gwrs, rydym ni eisiau i hynny fynd yn ei flaen, a'r hyn rydym ni ei ddymuno yw Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r math hwnnw o seilwaith cyhoeddus, a fydd yn caniatáu i ni barhau i fuddsoddi yn ein seilwaith cyhoeddus ar draws y maes hwn. Wrth gwrs, pe baem yn ddigon anffodus i gael Llywodraeth nad oedd yn credu mewn gwasanaethau cyhoeddus, byddai hyn i gyd yn ofer, oherwydd byddai'n cael ei redeg i lawr eto, fel yr oedd o dan y Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU. 

16:25

Pan ddaw at iechyd a gwasanaeth iechyd cynaliadwy, mae'n rhaid i ni barhau â'r symudiad at ddull mwy ataliol, rwy'n credu, ar draws Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas yn gyffredinol. Dydd Iau nesaf yw Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol, un elfen ohono yw trwy parkrun, ac roeddwn i'n freintiedig iawn heddiw yn y Senedd i groesawu Parkrun UK ar gyfer dathlu parkrun yng Nghymru. Clywsom sut mae pob £1 a fuddsoddir mewn parkrun yn cynhyrchu £16.70 mewn enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad, gan gynnwys £10 o ran buddion gofal iechyd, a dywedodd 66 y cant o redwyr parkrun sydd â chyflwr iechyd hirdymor ei fod yn helpu i reoli eu symptomau.

Rydym wedi cyrraedd cyfnod yng Nghymru nawr lle mae gennym 120 o feddygfeydd yn gweithio mewn partneriaeth â parkrun, ac rwy'n credu'n gryf fod Cymru'n arwain y ffordd ar y gwaith hwn. Mae partneriaethau bellach yn cael eu ffurfio ar lefel y bwrdd iechyd, a bydd hynny'n cryfhau ac yn dyfnhau, rwy'n credu, y cysylltiadau hyn. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a fyddech chi'n llongyfarch gwaith parkrun ledled y DU ac yma yng Nghymru, sy'n gwneud cymaint o waith da i wneud y cam hanfodol hwn tuag at ddull mwy ataliol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Yn sicr, mynychodd John, a minnau y digwyddiad parkrun yn gynharach heddiw. Un o'r pethau rwy'n eu hoffi'n fawr am parkrun yw pa mor gynhwysol ydyw. Felly, rwy'n dioddef o arthritis gwael iawn, ac felly ni allaf redeg fel yna, ond mewn gwirionedd maen nhw'n hapus iawn i chi gerdded y llwybr gyda phobl a fydd yn cerdded gyda chi. Felly, nid yn unig mae'n beth iach, mae'n beth cymdeithasol hefyd, a gallwch weld pobl yn cael cymorth gan y ddau beth hynny. Ac wrth gwrs, mae'n ataliol—does dim rhaid i chi fod yn rhedwr marathon er mwyn cymryd rhan. Mae'n hyfryd iawn i'w weld, a gallwch wneud ffrindiau newydd ardderchog hefyd wrth i chi gerdded. Felly, ni allwn gytuno mwy, a gwneud yn siŵr bod gennym y mathau hynny o fodelau presgripsiynu cymdeithasol, lle mae pobl yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn rhywbeth sy'n gymdeithasol ac yn dda iddyn nhw, ac yn rhoi buddion mewn gwirionedd.

A beth mae'n ei wneud hefyd yw ei fod yn rhoi pwrpas i bobl. Roeddem ni'n siarad yn gynharach yn yr wythnos am sut rydych chi'n cael pobl sydd ychydig yn ynysig gartref i ymuno, a'r hyn rydych chi'n ei wneud yw eich bod chi'n eu gwneud nhw'n ddefnyddiol. Rydych chi'n gofyn iddyn nhw a allent roi galwad i rywun, neu a allent gerdded ochr yn ochr â rhywun, neu yn wir redeg, os gallant, ochr yn ochr â rhywun mewn parkrun. Mae'n rhoi pwrpas iddyn nhw, mae'n eu cael nhw allan, mae'n rhoi ffrindiau newydd iddyn nhw. Felly, mae'n dda ar bob lefel. Er i mi fod yno am amser byr iawn, roeddwn i'n meddwl bod y digwyddiad heddiw yn ardderchog.

5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cymru Decach i Bawb: Cyflawniadau yn ystod Tymor y Llywodraeth

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Gymru decach i bawb: cyflawniadau yn ystod tymor y Llywodraeth. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch, rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud i adeiladu Cymru decach i bawb, oherwydd nid oedd y rhaglen lywodraethu hon yn rhestr o uchelgeisiau. Roedd yn gontract gyda phobl Cymru, a heddiw rydym yn rhoi cyfrif am sut y gwnaethom ei gyflawni. Dau gant wyth deg pedwar ymrwymiad, y mwyafrif helaeth wedi'u cyflawni. Nid yn unig wedi'u cyhoeddi, nid yn unig yn destun ymgynghoriad; wedi'u cyflawni.

A chyn i mi fynd ymhellach, rwyf eisiau diolch i Mark Drakeford. Mae ei arweinyddiaeth wedi gosod y sylfeini ar gyfer popeth rydym ni wedi'i adeiladu dros y tymor hwn: Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Mae hwn yn ddyn sydd wedi gorfod llunio'r sefydliad cyfan hwn o'r cychwyn cyntaf. Roedd yno, yn gweithio gyda Rhodri Morgan, o'r cychwyn cyntaf, gan wneud yr holl sefydliad hwn yn lle a dderbyniwyd gan y cyhoedd yng Nghymru. Mark, diolch yn fawr am bopeth rydych chi wedi'i wneud nid yn unig i bobl eich etholaeth, nid yn unig i'r bobl yn ein plaid, ond yn fwy na dim am yr hyn a wnaethoch yn arbennig yn ystod eich arweinyddiaeth yn y pandemig. Roedd hynny'n rhywbeth rwy'n credu bod pobl Cymru yn ei werthfawrogi. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cytuno i ddod yn ôl i'r Llywodraeth o dan fy arweinyddiaeth.

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Dwi'n meddwl bod diolch mawr gyda ni i roi i chi am beth rydych chi wedi'i wneud dros ein gwlad a thros ein pobl. Diolch yn fawr iawn, Mark.

Rwy'n falch o gario'r fflam honno a gafodd ei goleuo gan Rhodri, gan Mark a chan eraill a ddaeth o'u blaenau. Ac rwy'n sefyll yn y fan yma, y fenyw gyntaf i ymgymryd â'r swydd hon, gan wybod hyn. 

Mae popeth rŷn ni wedi'i wneud wedi'i wneud dros bobl Cymru—nid dros y pwerus, nid dros y bobl â chysylltiadau, ond dros y bobl.

Rydyn ni eisoes wedi clywed gan y Gweinidog Cyflawni am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn y pedair blaenoriaeth hynny: mwy o gartrefi, gwell trafnidiaeth, mwy o swyddi, gwell iechyd. Yr hyn rydw i eisiau ei wneud heddiw yw camu'n ôl a rhoi cyfrif am y rhaglen lywodraethu yn ei chyfanrwydd—yr hyn a addawyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru , a'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni. Pan wnaethon ni nodi'r rhaglen lywodraethu hon, mae'n rhaid i chi gofio, roedden ni'n wynebu'r pandemig hwnnw. Fe gawson ni argyfwng Brexit, a nawr rydyn ni wedi cael argyfwng costau byw, degawd o gyni y tu ôl i ni—ansefydlogrwydd a darodd deuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus fel ei gilydd. Doedd y prawf hwnnw ddim yn ymwneud â ph'un a oedd ein huchelgeisiau'n swnio'n dda ar bapur; roedd y prawf yn ymwneud a ph'un a allen ni anrhydeddu'r contract hwnnw yn y byd go iawn er gwaethaf y rhwystrau enfawr hynny. A wyddoch chi beth? Fe wnaethon ni. Wnaethon ni ddim gostwng ein disgwyliadau. Wnaethon ni ddim dal yn ôl ar ein huchelgais. Fe wnaethon ni gyflawni.

Rŷn ni wedi gwneud hynny gyda phwrpas clir: i wneud Cymru yn wlad decach—yn decach o ran pwy sy'n cael cymorth, yn decach o ran pwy sy'n cael cyfle, yn decach o ran pwy sy'n cael siawns i lwyddo. Pan oedd teuluoedd dan straen, fe wnaethon ni gamu i mewn. Mae bron i £7 biliwn wedi mynd yn ôl i mewn i bocedi pobl, achos dyma sut mae tegwch yn dechrau, fel nad oes neb yn gorfod wynebu caledi ar ei ben ei hun.

Saith biliwn o bunnoedd o gymorth i bobl dan bwysau. Nid rhif mohono; mae'n golygu bod y gwres wedi aros ymlaen, bod bwyd ar y bwrdd, bod ychydig o le i anadlu pan oedd ei angen fwyaf. Prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, gyda 65 miliwn o brydau ychwanegol wedi'u gweini; cymorth treth gyngor i gannoedd o filoedd o aelwydydd, gyda'r mwyafrif yn talu dim byd; £71 miliwn o ddyled wedi'i ddileu; y tocyn bws £1 i bobl ifanc, a gyflwynwyd dim ond blwyddyn yn ôl—3.5 miliwn o deithiau ar hynny, gan agor mynediad i waith, i goleg, i gyfleoedd. Does dim angen talu am bresgripsiynau o hyd—does ganddyn nhw ddim hynny yn Lloegr. I bawb yng Nghymru, maen nhw'n elwa. Dyna sut mae tegwch y gallwch chi ei deimlo yn edrych yn ymarferol.

Rydyn ni'n gwybod bod amseroedd aros wedi bod yn hir—yn rhy hir—ond wnaethon ni ddim sefyll yn llonydd. Fe wnaethon ni weithredu, a nawr rydyn ni'n gweld y canlyniadau, gyda'r gostyngiad mwyaf a mwyaf parhaus mewn rhestrau aros ar gofnod. Mae'r amser aros cyfartalog i lawr o 22 wythnos i 18. Mae arosiadau dwy flynedd wedi cael eu torri dros 90 y cant. Mae dros 10,000 yn fwy o staff yn y GIG. Mae cannoedd o filoedd o bobl yn cael eu trin yn nes at y cartref trwy fferyllfeydd, optometryddion a gwasanaethau cymunedol. Mae dros 500,000 o apwyntiadau deintyddol newydd y GIG. Hybiau iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd. Mae yna gymorth iechyd meddwl 24/7 drwy'r gwasanaeth '111 pwyso 2'. Dyna'r hyn y mae cyflwyno rhaglen lywodraethu yn ei olygu. Dydy e ddim yn berffaith, ond mae'n real, mae'n gynnydd mesuradwy ym mywydau pobl.

Os ydych chi eisiau gweld sut mae tegwch yn edrych, edrychwch ar ein hysgolion: cwricwlwm newydd ar gyfer canrif newydd, canlyniadau'n cynyddu, mwy na 2,400 o staff ychwanegol mewn ystafelloedd dosbarth, 60 o ysgolion newydd ledled Cymru gyfan. Mae'n drawsnewidiol ac yn wahanol iawn i'r hyn y gwnaethoch chi ei weld yn digwydd yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod. Mae 90,000 o deuluoedd wedi cael cymorth gyda chost gwisgoedd, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi codi i £40 yr wythnos, yr uchaf unrhyw le yn y DU, unwaith eto. Dydy hynny ddim yn rhywbeth rydych chi'n ei gael yn Lloegr—peidiwch â dweud wrth Keir. Ac mae diwygiadau wedi bod o ran anghenion dysgu ychwanegol, wedi'u cefnogi gan fuddsoddiad, fel bod pob plentyn yn cael y cymorth mae'n ei haeddu.

Achos mae talent ym mhob rhan o Gymru, ond dyw'r cyfle ddim yna bob amser, a'n gwaith ni yw cau'r bwlch. A dyna'n union beth rŷn ni'n ei wneud: 64,000 o bobl ifanc wedi cael cymorth i fynd i addysg, hyfforddiant neu waith. Cofiwch, dyw hwn ddim jest yn ffigwr; mae'n 64,000 o gyfleoedd i rywun lwyddo. Achos mewn gwlad deg, dyw'r man lle rŷch chi'n dechrau ddim i fod i benderfynu lle rŷch chi'n gorffen.

Dywedwyd wrthym na allai Cymru gystadlu. Wel, fe wnaethon ni ddangos eu bod nhw'n anghywir o ran hynny: £16 biliwn o fuddsoddiad wedi'i sicrhau yn y cyfnod cyn uwchgynhadledd buddsoddi ryngwladol Cymru; 50,000 o swyddi wedi'u cefnogi yn y sector preifat; 100,000 o brentisiaethau wedi'u creu. Economi sy'n tyfu yn niwydiannau'r dyfodol, o ynni adnewyddadwy i weithgynhyrchu uwch, i ddeallusrwydd artiffisial, oherwydd dim ond os yw'n cyrraedd pobl a'n cymunedau y mae twf economaidd yn bwysig. Fe wnaeth y rhaglen lywodraethu hon yn siŵr ei fod yn gwneud hynny. Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni'n cysylltu Cymru, ac rydyn ni wedi gwneud hynny, gyda buddsoddiad mawr yng Nghymru, fel yr ydych newydd glywed gan yr Ysgrifennydd cyflawni: trydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd, trenau newydd, mwy o wasanaethau, prisiau wedi'u cadw'n deg, bysiau o dan reolaeth gyhoeddus unwaith eto. Oherwydd dydy trafnidiaeth ddim yn fater technegol, mae'n ymwneud â ph'un a all pobl fynd i'r gwaith neu'r coleg, neu i gyfle.

Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni'n darparu mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu, ac rydyn ni wedi gwneud hynny, ar y lefel gyson uchaf ers dau ddegawd. Dros £2 biliwn wedi'i fuddsoddi. Mae gan filoedd o deuluoedd y sefydlogrwydd sy'n gysylltiedig â chartref nawr, oherwydd mae Cymru deg yn un lle mae gan bawb rywle diogel i'w alw'n gartref. Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni'n gwarchod ein hamgylchedd, ac rydyn ni wedi gwneud hynny. Rydyn ni'n ail yn y byd o ran ailgylchu, mae gennym ni goedwig genedlaethol sy'n tyfu ledled Cymru, mae degau o filoedd o gartrefi wedi'u diogelu rhag llifogydd, ac mae camau blaengar wedi'u cymryd ar ddiogelwch tomenni glo, gyda chefnogaeth buddsoddiad sylweddol ac awdurdod newydd i gadw cymunedau'n ddiogel.

Roedd y rhaglen lywodraethu hon yn ymwneud â mwy na gwariant, roedd yn ymwneud â newid, gyda 27 o ddarnau o ddeddfwriaeth wedi'u gwneud yng Nghymru, i Gymru. Fe wnaethon ni gael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Fe wnaethon ni drawsnewid cymorth digartrefedd. Fe wnaethon ni ddod â bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus. Fe wnaethon ni gryfhau diogelwch tomenni glo. Fe wnaethon ni warchod ein hamgylchedd. Fe wnaethon ni ddiwygio'r Senedd hon ynddi hi ei hun. Dyna'r hyn a gyflawnodd y rhaglen lywodraethu hon—nid rheolaeth, ond newid. 

A gadewch i ni fod yn glir: presgripsiynau am ddim, diolch i ddatganoli Llafur; prydau ysgol am ddim, diolch i ddatganoli Llafur; cynnydd yn ein gwasanaethau iechyd, diolch i ddatganoli Llafur; ail yn y byd am ailgylchu, diolch i ddatganoli Llafur. Dyw'r rhain ddim yn ddamweiniau, maen nhw'n ddewisiadau.

Dewisiadau gwleidyddol a wneir yma, i bobl Cymru, oherwydd datganoli yw'r ffordd rydyn ni'n troi ein gwerthoedd yn gamau gweithredu. Y ffordd rydyn ni'n amddiffyn pobl. Y ffordd rydyn ni'n adeiladu tegwch. Ac ie, wrth gwrs, mae mwy i'w wneud bob amser, mwy o bwerau i'w sicrhau, setliad cryfach i'w gyflawni. Ond gadewch i mi ddweud hyn yn glir: dydy gormod o ddemocratiaeth Gymreig byth wedi bod yn broblem, y broblem yw'r terfynau sydd wedi'u gosod arni.

Achos rydym ni wedi dangos bod Cymru'n delifro pan fo pŵer gyda ni, ac mae Llafur Cymru wedi dangos bod datganoli'n gweithio. Llafur Cymru, plaid datganoli.

Felly, mae yna ddewis yn yr etholiad nesaf: rhaglen lywodraethu wedi'i chyflawni, neu addewidion heb brawf. Oherwydd dydy'r etholiad hwn ddim yn ymwneud â phwy sy'n llywodraethu yn unig, mae'n ymwneud â pha fath o wlad ydyn ni. Plaid Cymru: uchelgais heb rifyddeg. Reform: sloganau heb sylwedd. Dydy'r naill na'r llall wedi dangos eu bod yn deall disgyblaeth llywodraethu, pwysigrwydd gwneud dewisiadau.

Rwy'n credu bod y ffaith nad oes gennym neb o Reform yma yn arwydd o'r hyn sydd i ddod. Cofiwch chi. Rydyn ni wedi ei weld yma o'r blaen. Cafodd saith person o blaid Nigel Farage eu hethol yma o'r blaen. Roedd chwech ohonyn nhw wedi gadael y blaid erbyn diwedd tymor y Senedd. Bydd yn digwydd eto o dan Reform. Efallai eich bod chi'n teimlo'n rhwystredig, pobl Cymru, ond gadewch i mi ddweud wrthych chi, fyddan nhw ddim yn cyflawni i chi. Dydyn nhw ddim yma heddiw, a byddan nhw ddim yma fory os byddwch chi'n pleidleisio drostyn nhw.

Mae angen sefydlogrwydd ar Gymru. Mae angen profiad ar Gymru. Mae angen Llywodraeth sy'n cyflawni ar Gymru. A wyddoch chi beth? Dydyn ni ddim wedi gorffen. Rydyn ni wedi nodi'r hyn fydd yn dod nesaf: camau pellach ar gostau byw, Cymru sy'n annibynnol o ran ynni, cytundeb newydd i'r GIG, diogelu ein hamgylchedd ac adeiladu dyfodol tecach byth. Nid rhestr ddymuniadau, ond cynllun sydd wedi'i seilio ar gyflawni.

Fe ddes i'n Brif Weinidog, y fenyw gyntaf i ymgymryd â'r swydd hon, ac fe wnaf i byth anghofio'r hyn y mae hynny'n ei olygu. Roedd pob penderfyniad y gwnaethon ni ei wneud yn ymwneud â phobl—yr holl bobl, pobl a oedd angen i Lywodraeth weithio, pobl a oedd angen iddi ofalu, pobl a oedd angen iddi gyflawni. Fe wnaeth Llafur Cymru addewid yn y rhaglen lywodraethu, ac rydyn ni wedi ei gadw. Felly, mae'r cwestiwn nawr yn un syml: pwy ydych chi'n ymddiried ynddo i adeiladu Cymru decach i bawb?

Mae Cymru'n haeddu'r gorau.

Mae Cymru'n haeddu'r gorau. Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn edrych ar ein record ac yn pleidleisio dros Lywodraeth Lafur Cymru i redeg y wlad hon eto. Diolch.

16:40

Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, ar eich cyflawniadau. Allaf i ddim credu eich bod wedi bod mor hy â sefyll yma o'n blaenau ni heddiw, yn llongyfarch eich hun am y pum mlynedd diwethaf oherwydd, mewn gwirionedd, mae eich record wedi bod yn ofnadwy.

Gadewch i ni edrych ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae pobl yn marw tra'n aros am ambiwlansys yng Nghymru. Maen nhw'n marw yn ein hadrannau brys oherwydd dydyn nhw ddim yn cael eu trin yn ddigon cyflym. Dim ond heddiw, mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng wedi amcangyfrif, dros y flwyddyn ddiwethaf, yn 2025, fod 1,000 o bobl wedi marw yn ddiangen yn ein hadrannau brys oherwydd eu bod wedi aros dros 12 awr yn yr adrannau hynny i gael eu gweld.

Mae gennym ni brinder gobenyddion a blancedi yn ein hysbytai yn y gogledd. Ac rydych chi'n siarad am y ffaith eich bod chi wedi llwyddo i gael y rhestrau amser aros dwy flynedd i lawr. Ac, yn hollol, rwy'n diolch i Dduw eu bod nhw'n dod i lawr. Ond rydych chi'n dal i fod cannoedd o weithiau yn fwy tebygol yma yng Nghymru o fod yn aros dwy flynedd a mwy am lawdriniaeth nag ydych chi dros y ffin yn Lloegr.

Mae targedau canser wedi cael eu colli, ac mae pobl yn dod i niwed yn ddiangen. Dyma un o'ch cyflawniadau: mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi torri record yn y gogledd sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ac ymyrraeth am fwy o amser nag unrhyw sefydliad GIG arall yn hanes y gwasanaeth iechyd gwladol ledled y Deyrnas Unedig.

Rydych chi wedi bod yn cael gwared ar welyau ac yn torri gwasanaethau mewn ysbytai ledled y wlad—yn Nhywyn, yn Llwynhelyg, ym Mronglais. Mae cleifion ym Mhowys yn cael eu trin fel dinasyddion ail ddosbarth pan fyddan nhw'n mynd i gael eu triniaeth dros y ffin mewn ysbytai yn Lloegr. Dyna eich record ar y GIG.

A dydy eich methiannau ddim yn gorffen yn y fan yna, onid ydyn nhw? Oherwydd o ran addysg, rydych chi wedi gwneud cam â chenhedlaeth gyfan o bobl ifanc gyda'r system addysg waethaf yn y Deyrnas Unedig. Fe ddywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol eich bod chi'n gwario mwy ar addysg yng Nghymru nag sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr, ond yn cael canlyniadau gwaeth. Ac mae hynny'n dweud wrthyf mai polisïau Llywodraeth Lafur Cymru sy'n gyfrifol am hynny—dyna'r hyn sydd wedi achosi'r methiant. Mae gennym y sgoriau gwaethaf ar gyfer y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn y tablau cynghrair rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig—yr unig wlad yn y DU yn hanner isaf y tablau cynghrair rhyngwladol. Mae absenoldeb yn digwydd yn barhaus, mae trais mewn ysgolion ar y lefelau uchaf erioed, mae gennym argyfwng recriwtio athrawon a'r nifer isaf o bobl ifanc sy'n cael addysg brifysgol yn y Deyrnas Unedig.

Ac yna mae ein heconomi ni hefyd, oherwydd rydych chi'n methu ar hynny hefyd—y cyflogau isaf ym Mhrydain Fawr, ac mae pobl yma yn llai tebygol o fod mewn gwaith nag mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Ac nid yn unig hynny, ond mae ein busnesau yn wynebu'r gyfundrefn ardrethi busnes gwaethaf—yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, ac felly, o ganlyniad, mae gennym y gyfradd uchaf o leoedd gwag ar y stryd fawr yng nghanol ein trefi.

Mae pobl yn talu mwy o dreth gyngor hefyd—mwy o dreth gyngor fel cyfran o'u hincwm nag mewn rhannau eraill o'r wlad, yn enwedig dros y ffin yn Lloegr. Ac rydych chi'n hoffi cymryd y clod am yr hyn rydych chi'n ei ddweud ac yn awgrymu yw'r system drafnidiaeth wych yma yng Nghymru, ond eto rydych chi'n methu â buddsoddi yn ein ffyrdd. Dydych chi ddim wedi cyflawni'r gwelliannau ar yr M4, yr A55 a'r A40 y mae pobl eu heisiau. Fe wnaethoch chi wario degau o filiynau ar deithio llesol tra bod ffyrdd eraill yn cwympo i ddarnau ac yn llawn tyllau. Rydych chi wedi gwario £100 miliwn mewn maes awyr sy'n gwneud colledion i lawr y ffordd yng Nghaerdydd, ac rydych chi'n gweiddi am brisiau bysiau. Wel, mae'n iawn bod tocyn bws rhad ar gael os oes gennych chi fws sy'n dod i'ch drws, ac, yn anffodus, y gwir amdani yw ein bod ni wedi gweld llwybrau bysiau yn cael eu diddymu a'u canslo ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, rydych chi wedi tagu ein heconomi gyda therfyn cyflymder diofyn o 20 mya, sy'n costio biliynau o bunnoedd i'n gwlad.

Ac yna, o ran yr amgylchedd—fe wnaethoch chi gymryd y clod am goedwig genedlaethol i Gymru yn y fan yna, ond rydych chi wedi plannu mwy o goed yn Uganda nag yr ydych chi wedi'i wneud yma yng Nghymru. Ac rydych chi eisiau plastro ein cefn gwlad gyda thyrbinau gwynt, peilonau a phaneli solar.

Nawr, a gaf i ddweud wrthych chi beth sydd ar goll? [Torri ar draws.] A gaf i ddweud wrthych chi beth sydd ar goll o'ch datganiad? Fe wnaethoch chi dalu teyrnged ddisglair—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi dalu teyrnged ddisglair i Mark Drakeford fel cyn Brif Weinidog. Ond wnaethoch chi ddim sôn am eich rhagflaenydd uniongyrchol, Vaughan Gething, do fe? Fe wnaethoch chi geisio ei ddileu o hanes Cymru—dyna'r hyn rydych chi wedi ceisio ei wneud. Ac a gaf i eich gwahodd i gyfeirio ato yn eich ymateb i mi?

Wnaethoch chi ddim sôn am Gymru wledig chwaith. Wnaethoch chi ddim sôn unwaith am ein ffermwyr, wnaethoch chi ddim sôn unwaith am amaethyddiaeth, wnaethoch chi ddim sôn unwaith am yr 80 y cant hynny o bobl ledled Cymru sy'n byw mewn rhan wledig o'r wlad. A dydy e ddim yn syndod, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod gennym ni gynllun ffermio anghynaliadwy, treth ffermydd teuluol sy'n cael effaith andwyol ar ein ffermydd, rheoliadau dŵr sydd ddim yn gweithio, ffermio yn ôl y calendr pan nad yw'n angenrheidiol, ac rydych chi'n methu â mynd i'r afael â TB buchol.

Felly, yn hytrach na chymryd y clod, a gaf i ofyn y cwestiwn hwn i chi: a wnewch chi ymddiheuro i bobl Cymru a derbyn atebolrwydd am y methiannau rydw i newydd eu rhestru?

16:45

Wel, mae hynny'n drist iawn, y ffordd rydych chi'n edrych ar y byd, mae'n rhaid i mi ddweud. 

Ond gwrandewch, gadewch i mi fod yn—[Torri ar draws.] Edrychwch, rydyn ni'n cydnabod yn llwyr bod mwy i'w wneud. Rydyn ni'n cydnabod yn llwyr bod mwy i'w wneud. Rydyn ni'n cydnabod bod yna bobl yn y wlad hon sy'n ei chael hi'n anodd, a dyna pam rydyn ni'n gwneud ymrwymiadau clir i'r cyhoedd o ran yr etholiad nesaf hwn. Rydyn ni'n dweud wrthyn nhw, 'Wyddoch chi beth? Byddwn ni'n rhoi cap o £2 ar eich tocynnau bws. Byddwn ni'n eich helpu gyda gofal plant. Byddwn ni'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael mwy o gymorth i wresogi eich cartrefi.' A gadewch i ni fod yn glir: rydych chi'n sôn am y GIG. Mae'n gwella—does dim amheuaeth. Oes llawer o ffordd i fynd? Oes. Does dim amheuaeth bod mwy o waith i'w wneud. Ond, mawredd, rydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Pam na allen ni wneud hynny o'r blaen? Oherwydd wnaeth eich Llywodraeth chi ddim rhoi'r arian i ni. Wnaethon nhw ddim rhoi'r arian i ni.

Ac, oeddwn, mi oeddwn i i fyny yn y gogledd yr wythnos diwethaf. A wyddoch chi beth? Mae pethau'n gwella—hyd yn oed yn y gogledd, mae pethau'n gwella. A wyddoch chi beth? Os edrychwch chi ar yr ymrwymiad i'r Royal Alex, mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth. Os edrychwch chi ar yr addewid rydyn ni wedi'i wneud, os byddwn ni'n dod i rym y tro nesaf, byddwn ni'n adeiladu ysbyty newydd yn Wrecsam. A gadewch i ni fod yn glir am yr amseroedd aros hynny: wyth mis o ostyngiad cyson. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r bobl sy'n dioddef. Rydyn ni wedi cyflawni 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol—40,000 eleni. Rydyn ni wedi darparu hybiau iechyd menywod ledled Cymru gyfan. A wyddoch chi beth? Rydyn ni wedi cynyddu gweithlu'r GIG yn sylweddol—cynnydd o 12 y cant—ac mae cynnydd o 18 y cant wedi bod o ran staff meddygol a deintyddol. Dydy hynny ddim yn nifer bach. Felly, yn hytrach na bychanu'r GIG yn gyson, beth am i ni ganmol yr ymdrechion anhygoel sy'n cael eu gwneud? Beth am i ni siarad am y newid sydd wedi digwydd o ysbytai i gymunedau, i'n fferyllfeydd—symiau enfawr o gymorth—460,000 o bobl wedi'u cynorthwyo trwy ein fferyllfeydd yn unig? Mae hyn i gyd yn dyst i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bobl fel Jeremy Miles fel Gweinidog iechyd.

Ond gadewch i mi siarad hefyd am iechyd meddwl. Mae newid wedi bod mewn iechyd meddwl. Roedd yn broblem enfawr yn ystod y pandemig—roedd problemau enfawr. Rwy'n cofio Lynne Neagle yn rhoi amser anodd iawn i mi pan oeddwn i'n Weinidog iechyd meddwl ynglŷn â'r hyn yr oedden ni'n mynd i'w wneud am y peth. Rydyn ni wedi ei droi o gwmpas: mae 95 y cant o'r rhai o dan 18 oed yn cael eu hasesu o fewn 28 diwrnod. Roedd e'n wael. Mae wedi gwella'n aruthrol. Ac unwaith eto, os byddwn ni'n dod i rym ar ôl mis Mai, bydd pobl yn cael mynediad cyflymach byth ar yr un diwrnod. Dyna yw ein haddewid i bobl Cymru.

Ac rydyn ni'n sôn am addysg. Roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod—. Ar ôl y pandemig, roedd plant yn dioddef. Roedd angen cymorth arnyn nhw. Felly, beth rydyn ni wedi'i wneud? Cymorth iechyd meddwl ym mhob ysgol uwchradd. Ac rydyn ni'n hyderus. Rydyn ni wedi gweld gwelliannau o ran TGAU. Roedden ni eisoes yn gwneud yn iawn o ran Safon Uwch. Ac rydyn ni'n hyderus iawn y bydd canlyniadau PISA yn well pan fyddan nhw'n dod allan nesaf. Roedd hynny bum mlynedd yn ôl. Mae hynny'n amser hir yn ôl.

O ran busnes, gadewch i mi fod yn glir: rwy'n hyderus iawn ac yn glir mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw adeiladu economi gref yng Nghymru. Ac rydw i eisiau gwneud hynny oherwydd rydw i eisiau brwydro yn erbyn tlodi, a'r ffordd orau o frwydro yn erbyn tlodi yw rhoi swydd i bobl, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu paratoi ar gyfer y swydd, gwneud yn siŵr bod gwarant ailhyfforddi gydol oes. Dyna'r hyn y byddwn ni'n ei gynnig, oherwydd mae'r byd gwaith yn newid, ac mae angen i ni newid gyda'r byd gwaith hwnnw. A dyna pam rydyn ni wedi gwneud yn siŵr hefyd ein bod ni'n dangos ein bod ni o ddifrif pan ddaw i bethau fel ynni adnewyddadwy, gan wneud yn siŵr bod y system gynllunio wedi'i diwygio. Mae llawer mwy o arian yn mynd i mewn iddo. Fe gawson ni'r uwchgynhadledd buddsoddi ryngwladol; fe sicrhawyd £16 biliwn o fuddsoddiad i wneud gwahaniaeth i bobl.

Wyddoch chi, mae'r dreth gyngor yng Nghymru—. Efallai eich bod chi heb edrych, ond mae'n llawer is nag y mae yn Lloegr. Ac os edrychwch chi ar y ffyrdd—. Edrychwch ar y ffyrdd. Beth am i ni siarad am ffordd Blaenau'r Cymoedd? Beth am siarad am yr un honno? Beth am siarad am sut mae'r ffordd honno'n trawsnewid bywydau a chyfleoedd i bobl yno? Ac mae hynny cyn i ni ddechrau sôn ar drenau, ond rydyn ni'n sôn cymaint am drenau.

Ac rydyn ni'n rhoi mwy o arian nag erioed i ffermwyr: £360 miliwn y flwyddyn. Felly, peidiwch â siarad â mi am ein diffyg pryder am yr economi wledig. A gadewch i mi fod yn glir: mae'r economi wledig yn llawer mwy nag amaethyddiaeth yn unig.

16:50

Wel, mae'r Prif Weinidog wedi cynnig ei dehongliad hi o berfformiad y Llywodraeth Lafur yma yn ystod y chweched Senedd, ond mi fyddai'r sbin yn gwneud i Alastair Campbell gochi, dwi'n meddwl. O grafu'r wyneb, mae'r honiadau am beth sydd wedi ei gyflawni yn datgelu geiriau gwag, dwi'n credu, ac mae sawl enghraifft wedi bod, onid oes, o hepgor beth sydd wedi profi'n rhy heriol, yn rhy uchelgeisiol neu yn rhy debyg o droi'r drol yn San Steffan, wrth gwrs.

Mae pobl Cymru yn haeddu gonestrwydd rŵan, dwi'n credu, am yr hyn sydd wedi mynd o'i le, ac wrth gwrs am y ffordd y byddai pethau'n dra gwahanol dan Lywodraeth newydd efo egni newydd a syniadau newydd.

Am 27 mlynedd, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gofyn i bobl Cymru eu barnu ar eu gweithredoedd, ac ar y sail honno, mae'r dyfarniad yn glir. Mae Cymru wedi cael ei dal yn ôl gan ddiffyg brys, diffyg gweledigaeth a diffyg hyder yn ein potensial ein hunain.

Gadewch i ni ddechrau gyda'r GIG: ôl-groniad rhestrau aros sydd â 100,000 yn fwy o bobl arno o hyd nag ar adeg yr etholiad diwethaf, er bod £1.5 biliwn wedi'i wario i fynd i'r afael â rhestrau aros ers 2021. Targed ar ôl targed ar driniaeth canser, ar ddiagnosteg, ac ar therapïau wedi'u colli gyda'r fath reoleidd-dra fel ei fod yn ddiystyr, yn y bôn. Pob un o'r saith bwrdd iechyd yn destun rhyw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu, gyda Betsi Cadwaladr yn dal y record warthus nawr o fod yn destun mesurau arbennig am y cyfnod hiraf yn hanes y GIG. Mae Plaid Cymru wedi dadlau'n gyson dros gynllun gweithlu hirdymor, dros fuddsoddi mewn gofal cymunedol, dros atal, yn hytrach na mynd i'r afael â phroblemau wrth iddyn nhw godi yn barhaus. Ond, yn rhy aml, mae'r Llywodraeth hon wedi dewis atebion tymor byr yn hytrach na diwygio strwythurol.

O ran yr economi, mae siarad gwag am wydnwch, ond gwydnwch yw'r hyn y mae ein cymunedau wedi'i ddangos er gwaethaf polisi'r Llywodraeth, nid o'i herwydd. Mae gan Gymru rai o'r cyflogau isaf a'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU o hyd, ac mae traean o'n plant, fel y mae'n rhaid i ni atgoffa ein hunain, dro ar ôl tro, yn byw mewn tlodi. Mae pyst y gôl wedi cael eu symud, mae targedau wedi cael eu colli, mae targedau wedi cael eu gostwng, ond pobl Cymru wedi blino, a bod yn onest, o gael eu trin fel ffyliaid.

Mae Plaid Cymru yn credu y dylai Cymru fod yn genedl sy'n creu cyfoeth, nid rheoli dirywiad yn unig, a dyna pam y bydden ni, fel Llywodraeth, yn sefydlu awdurdod datblygu cenedlaethol newydd i greu swyddi, cefnogi busnesau Cymru a denu buddsoddiad newydd a diwygio'r gyfundrefn ardrethi busnes i helpu i gefnogi'r busnesau bach a chanolig hynny sy'n asgwrn cefn economi Cymru.

Ac yna mae'r cwestiwn o ymddiriedaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi siarad am dryloywder, ond eto mae'r pum mlynedd diwethaf wedi cael eu difetha gan aflonyddwch mewnol. Nodaf fod sgandal ynghylch Prif Weinidog wedi'i hanwybyddu wrth restru Prif Weinidogion blaenorol. Efallai bod y Prif Weinidog presennol yn meddwl na fydden ni'n sylwi. A 'phartneriaeth mewn pŵer', fel y'i gelwid, rhwng Llywodraethau Llafur Cymru a'r DU, sy'n swnio'n fwy gwag bob wythnos. Mae pobl Cymru yn disgwyl gwell gan y rhai sy'n llywodraethu yn eu henw.

Ond, Llywydd, all yr ymateb hwn ddim tynnu sylw at fethiant yn unig. Mae'n rhaid iddo gynnig gobaith hefyd oherwydd dydy Cymru ddim yn brin o dalent, na chreadigrwydd, nac ysbryd cymunedol. Yr hyn sydd ar goll yw Llywodraeth sy'n barod i harneisio'r cryfderau hynny.

Mae Plaid Cymru yn credu mewn llwybr sylfaenol wahanol, cenedl sydd â'i gwasanaeth iechyd wedi'i adeiladu ar egwyddorion ataliol, cenedl lle mae ein hadnoddau naturiol ni yn cael eu defnyddio'n ddyfeisgar er budd cymunedau ac aelwydydd Cymru, Cymru lle mae'r system addysg yn rhoi pob cyfle i bob plentyn, beth bynnag fo'u hamgylchiadau nhw, a chenedl lle mae'r Llywodraeth yn dechrau pob sgwrs efo'r cwestiwn: sut bydd pobl Cymru yn elwa o'r hyn dŷn ni'n ei wneud?

Mae'r chweched Senedd wedi dangos i ni derfynau Llywodraeth sy'n hapus i reoli'r sefyllfa sydd ohoni. Y blaid datganoli, fel y mae Llafur yn galw eu hunain, yw'r blaid sy'n setlo am y math o ddatganoli diffygiol sydd gennym, yn hytrach na Llywodraeth sydd wir yn fodlon gwthio ffiniau'r hyn y gallwn ni ei gyflawni. Rhaid i'r bennod nesaf ymwneud â thrawsnewid, rhaid iddi ymwneud â hyder a rhaid iddi ymwneud â rhoi buddiannau Cymru o flaen teyrngarwch i'r meistr yn Llundain.

Ni waeth pa mor dda oedd y bwriad, dydy'r pum mlynedd diwethaf ddim wedi bod yn decach i bawb, fel y byddai'r datganiad yn ein harwain i gredu. Yn wir, cafodd yr union syniad hwnnw ei brofi mewn is-etholiad, onid oedd ef? Dydy Caerffili ddim yn droednodyn o'r chweched Senedd. Yn hytrach, mae'n flaendir i'r frwydr sy'n digwydd wrth i ni edrych ymlaen at y seithfed. Rhaniad a chamdybiau gyda Reform, neu hygrededd, tosturi a hyder gyda Phlaid Cymru. Dyna'r dewis amlwg sy'n wynebu Cymru yn yr etholiad. Felly, i'r Prif Weinidog, rwy'n dweud hyn: nid record Llafur yw'r record y mae Cymru yn ei haeddu. Ac i bobl Cymru, rwy'n dweud: mae yna ddyfodol gwell o fewn ein cyrraedd os ydyn ni'n ei ddewis.

16:55

Wel, rŷch chi'n dweud bod syniadau newydd gyda chi.

Wel, yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw eich bod chi eisiau 100 diwrnod i wneud ychydig o feddwl. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen—gwneud ychydig o feddwl. Oherwydd dydych chi ddim wedi cael digon o amser i feddwl. Dyna bwynt gwrthblaid. Rydych chi'n datblygu eich syniadau, dydych chi ddim yn aros nes i chi fynd i mewn i Lywodraeth. Oherwydd diben maniffesto, diben mynd allan i'r cyhoedd cyn—. Y rheswm pam y gallwch chi ein dwyn i gyfrif heddiw yw oherwydd bod gennym faniffesto ac fe ddywedon ni beth oedden ni'n mynd i'w wneud. Wnaethon ni ddim dweud, 'Wnawn ni feddwl am y 100 diwrnod cyntaf ac yna fe rown ni wybod i chi. A gyda llaw, wnawn ni ddim ei gostio, fydd ddim amserlen gennym, wnawn ni ddim dweud wrthych sut rydyn ni'n mynd i'w gyflawni. Ac fe ddyweda i wrthoch chi beth, yn bennaf oll, fyddwn ni ddim yn dweud wrthych chi beth rydyn ni'n mynd i'w dorri i wneud iddo ddigwydd.'

Yr hyn y mae angen i bobl sylweddoli, rwy'n credu, yw ein bod ni wedi cefnogi pobl y wlad hon. Rydym wedi cefnogi'r bobl, y 100,000 o bobl sydd wedi elwa ar ddechrau'r cyrsiau prentisiaeth hynny. Gwarantau diweithdra ymhlith pobl ifanc: gwnaeth 65,000 o bobl wedi elwa ar hynny. Rydyn ni wedi cael y cynnydd mwyaf yn hanes datganoli. Efallai nad ydych chi'n ei hoffi, efallai nad ydych chi'n hoffi'r ffaith ei bod hi'n fuddiol cael Llywodraeth Lafur y DU yn San Steffan. Rydyn ni wedi gweld mwy o arian yn dod atom.

Beth am edrych ar Wylfa yn eich etholaeth eich hun? Gadewch i ni feddwl am faint o swyddi fydd yn cael eu creu yn eich etholaeth eich hun o ganlyniad i'r buddsoddiad yn Wylfa, ac nid dim ond Wylfa, ond yr ardal twf AI—3,000 o swyddi yn y fan yna yn unig, a dydych chi ddim yn gallu ei groesawu. Ac mae hynny'n broblem go iawn. Mae'n broblem go iawn. Oherwydd dydy pobl ddim eisiau eich gweld chi'n bychanu ein gwlad. Dydyn nhw ddim eisiau eich gweld chi'n methu â chroesawu'r porthladd rhydd sy'n bodoli yn eich etholaeth eich hun. Maen nhw'n cydnabod y cymorth sydd wedi'i roi i gymoedd y de i glirio'r tomenni glo hynny. Ac, oedden, roedden ni'n flin, roedden ni wedi cynhyrfu, oherwydd cawsom ni ddim yr arian y dylen ni fod wedi'i gael o ganlyniad i flynyddoedd o danfuddsoddi yn ein rhwydweithiau rheilffyrdd. A nawr, mae gennym ymrwymiad: ymrwymiad gwerth £14 biliwn, a gallwch chi ddim croesawu hwnnw chwaith. A wyddoch chi beth, rydych chi'n sôn am—[Torri ar draws.] Rydych chi'n sôn am dyfu'r economi, ydych, rydych chi'n sôn am ecsbloetio ein hadnoddau naturiol er budd Cymru, ond rydych chi'n atal y seilwaith a fyddai'n gwneud i hynny ddigwydd.

Y gwir yw mai ni yw plaid datganoli. Ydych chi'n gwybod beth mae'n ei ddweud ar fy ngherdyn aelodaeth Llafur? Mae'n dweud, 'Gwlad yn gyntaf'. Fy ngwlad i yw Cymru. Mae Keir Starmer yn gwybod hynny. Mae Keir Starmer yn deall hynny. Ac mae angen i bobl Cymru ddeall hynny hefyd.

17:00

Gan mai dyma'r diwrnod i ddweud diolch, roeddwn i eisiau dechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma trwy ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich arweinyddiaeth ac am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac y byddwch chi'n parhau i'w wneud.

Bum mlynedd yn ôl, roeddwn i'n sefyll y tu allan i Theatr Clwyd gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, wrth i ni gyhoeddi prif addewid maniffesto Llafur Cymru i ailddatblygu'r theatr. Heddiw, mae'r theatr ar y bryn ar gyrion fy nhref enedigol wedi cael ei thrawsnewid ar gyfer cenedlaethau i ddod, diolch i raddau helaeth i £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru. Fel llawer yn fy ardal, fe wnes i dyfu i fyny gyda'r theatr a gwnaeth y ffaith fy mod i wedi gallu gweld llenyddiaeth yn dod yn fyw fy arwain i astudio llenyddiaeth Saesneg yn y brifysgol. Rwy'n falch iawn o weld y buddsoddiad hwn y gwnes i chwarae rhan fach yn y broses o'i sicrhau eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael ei gydnabod gan lawer, gan gynnwys Plaid Cymru, a fydd, rwy'n credu, yn lansio eu maniffesto mewn lleoliad sy'n ardystiad ffisegol o un o addewidion maniffesto Llafur Cymru a gyflwynwyd yn nhymor y Senedd. [Torri ar draws.] Croeso. Felly[Torri ar draws.] Felly—[Torri ar draws.] Felly, Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod yn amlwg mai dim ond Llywodraeth Lafur Cymru fydd yn parhau i gyflawni ar gyfer cymunedau fel fy un i? Diolch.

Diolch, Hannah, ac mae'n hyfryd ein bod ni'n dwy yn gwisgo pinc heddiw i ddathlu'r ffaith ein bod ni yma yn paratoi i fynd allan yna ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n argyhoeddi pobl Cymru ein bod ni'n barod i lywodraethu unwaith eto ar ôl mis Mai.

Hannah, rwy'n cofio pan gynigiwyd Theatr Clwyd. Mae wedi bod yno ers blynyddoedd, ond roedd wir angen ei hadnewyddu. A dyna'r hyn sydd wedi digwydd. Buddsoddiad enfawr—enfawr: buddsoddiad gwerth £25 miliwn sydd wedi trawsnewid yr hyn a oedd yn theatr eithaf dirywiedig yn rhywbeth sy'n arwain y byd—cyfleuster gwych i bobl Cymru. Ac mae'n fwy nag adeilad. Mae'n gyfle, mae'n ddiwylliant ac mae'n ysbrydoliaeth i bobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn cymuned fel eich un chi. Ac rydych chi'n hollol iawn i ddweud hyn. Efallai y caiff hyn ei ddewis gan rai fel cefndir. Ond, i ni, roedd yn addewid, yn addewid i bobl yn y gogledd. Fe wnaethon ni ddewis ei gyflawni. Oherwydd dim ond Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Lafur, sydd wedi dangos dro ar ôl tro ein bod ni'n gwneud mwy na gwneud addewidion yn unig—rydyn ni'n eu cadw.

17:05

Prif Weinidog, ychydig fisoedd yn ôl gofynnwyd i chi mewn pwyllgor raddio perfformiad eich Llywodraeth allan o 10. Fe wnaethoch chi wrthod, gan ddweud mai eraill ddylai barnu. Wel, rydym wedi barnu, ac, yn seiliedig ar y rhestrau aros enfawr mewn offthalmoleg, canser ac iechyd meddwl, mae eich Llywodraeth yn haeddu sgôr eithaf gwael.

Felly, beth sydd wedi newid wyth mis yn ddiweddarach? Dim byd, er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru bod rhestrau aros yn gostwng—ond edrychwch ar y rhif roedden nhw'n dechrau arno. Ac nid dyna'r darlun cyfan. Dydy naratif y Llywodraeth, bod y rhestrau aros hiraf yn gostwng felly mae rhestrau aros yn gwella, ddim yn sefyll i fyny i graffu, gyda rhestrau aros ar gyfer offthalmoleg yn cynyddu a bron i hanner y cleifion canser yn wynebu oedi cyn cael triniaeth.

Mae Llafur Cymru wedi methu dro ar ôl tro i gyflawni'r targedau y gwnaethon nhw eu gosod iddyn nhw eu hunain. Dileu arosiadau dwy flynedd erbyn mis Mawrth 2023—wedi'i golli. Dileu arosiadau blwyddyn o hyd erbyn diwedd 2022—wedi'i golli. Eu targed canser 62 diwrnod—erioed wedi'i gyflawni; yn wir, mae'n gwaethygu. Edrychwch ar ganser gynaecolegol nad yw, gyda llaw, hyd yn oed yn cael ei grybwyll yn eich cynllun iechyd i fenywod. Prif Weinidog, ydych chi'n derbyn, er gwaethaf eich honiadau o lwyddiant a sbin, bod eich Llywodraeth wedi methu dro ar ôl tro a bod eich Llywodraeth wedi methu Cymru yn rhy aml?

Na, dydw i ddim yn derbyn hynny am eiliad. Rwy'n credu, yn wyneb y cyni a adawodd eich plaid ni, ein bod ni wedi gwneud yn dda iawn o dan yr amgylchiadau. Oes mwy i'w wneud? Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Ond rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod bod pwysau enfawr o ganlyniad i'r pandemig. A do, fe wnaethon ni gymryd mwy o amser nag yr oeddem wedi'i obeithio i gael y rhestrau aros hynny i lawr, ond roedd hynny oherwydd doedd ganddon ni ddim yr arian. A doedd ganddon ni ddim yr arian oherwydd bod eich Llywodraeth wedi ein hamddifadu o'r arian hwnnw. Nawr rydyn ni wedi buddsoddi a gallwch chi weld y gwahaniaeth. Gallwch chi weld y gwahaniaeth, ond, yn fwy na hynny, gall pobl deimlo'r gwahaniaeth.

Ddydd Sadwrn, roeddwn i allan yn Ninbych-y-pysgod. Fe wnes i gwrdd â rhywun oedd wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn yr is-etholiad yng Nghaerffili. Ac fe ddywedodd wrtha' i ei fod wedi pleidleisio dros Blaid Cymru, ond, nawr ei fod wedi cael ei lawdriniaeth cataract, mae'n gallu gweld y gwahaniaeth. Mae'n gwneud gwahaniaeth. Ac nawr mae ganddo—. Mae'n gallu gweld y gwahaniaeth. [Chwerthin.] Dyna ni. Roedd hwnna'n dda. [Chwerthin.] Mae wedi gweld y golau unwaith eto nawr, ac fe fydd e nawr yn newid ei bleidlais yn ôl i Lafur. Dyna'r hyn y byddwn ni'n ei weld yn yr etholiad sydd ar ddod.

Gadewch i mi fod yn glir: pan ddaw i gynnig Llafur ar gyfer y dyfodol, byddwn ni'n cynnig cytundeb newydd i'r GIG, £4 biliwn i adeiladu ysbytai newydd, cymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod a ffocws ar iechyd menywod. Dyna'r hyn rydyn ni'n ei gynnig i'r cyhoedd yn yr etholiad nesaf. A phan rydyn ni'n dweud ein bod ni'n mynd i wneud rhywbeth, rydyn ni'n ei wneud.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Roedd yn dda eich croesawu eto i Flaenau Gwent ddoe, Prif Weinidog. Byddwch chi wedi gweld effaith buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn fy etholaeth i: cyflawni prosiect deuoli'r A465, y mae'r Torïaid wastad wedi ei wrthwynebu, wrth gwrs; darparu metro de Cymru, trenau newydd, gwasanaethau newydd, cyflymach, glanach, gwell nag erioed; gwasanaethau newydd rhwng Glynebwy a Chasnewydd; a chyflawni'r terfyn cyflymder o 20 mya, sydd wedi achub bywydau, nid yn unig ym Mlaenau Gwent, ond ledled Cymru—llai o ddamweiniau, cymunedau mwy diogel ac maen nhw'n dal i'w wrthwynebu.

Ar gyfer y dyfodol, Prif Weinidog, rwyf am weld cangen Abertyleri yn cael ei hadeiladu. Rwyf am weld trenau newydd eto ar linell Glynebwy, llwybrau bysiau newydd, gwasanaethau bysiau newydd, gwasanaethau bysiau y mae'r cyhoedd yn eu rheoli ac yn eiddo arnyn nhw am y tro cyntaf yng Nghymru. Rydyn ni eisiau gweld mwy o fuddsoddiad i gysylltu Rhymni, Blaenau Gwent a Chaerffili, gan gysylltu ein cymunedau, ein teuluoedd â swyddi, â gwasanaethau, ag addysg ac â phob man arall. A dyna'r gwahaniaeth y mae fy etholwyr wedi'i weld o ganlyniad i fuddsoddiad gan y Llywodraeth Lafur hon. A'r un peth sy'n uno'r holl fuddsoddiad gwahanol yma yw ei fod wedi'i ohirio gan Blaid Cymru, wedi'i wrthwynebu gan y Torïaid, a gall Reform ddim hyd yn oed trafferthu troi i fyny i'w drafod. Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch, Alun. Diolch am eich angerdd a'ch ymrwymiad i'r gymuned rydych chi'n ei chynrychioli. Rydych chi bob amser wedi siarad dros bobl y Cymoedd, ac rydyn ni'n falch nawr ein bod ni wedi cyflawni ar eu cyfer—bod ffordd Blaenau'r Cymoedd gwerth £2 biliwn eisoes yn trawsnewid bywydau pobl, ond, yn bwysicach byth, yn trawsnewid yr economi yn yr ardal honno. Os ydych chi'n cael yr economi yn iawn, mae bywydau pobl yn newid. Roedd hi'n wych bod gyda chi ddoe yn un o'r ffatrïoedd newydd enfawr ym Mlaenau'r Cymoedd. Maen nhw yno—fe wnaethon nhw ddweud wrthym eu bod nhw yno—oherwydd mae'r ffordd honno wedi eu helpu i fod yno.

Ac mae'n fwy na hynny. Rydych chi'n sôn am y metro hefyd. Mae honno'n rhaglen 15 mlynedd. Rhaglen 15 mlynedd. Dyna'r budd rydych chi'n ei gael o gysondeb yn y Llywodraeth. Rydych chi'n gwneud yr ymrwymiad, rydych chi'n cadw ato ac rydych chi'n cyflawni. Dydy hyn ddim yn rhywbeth y gallwch chi ei droi ymlaen a'i ddiffodd, a dyna'r perygl o fynd at blaid arall yn yr etholiad hwn, y troi ymlaen a'r diffodd—gallai hynny atal y momentwm sydd gennym nawr. Ond diolch, Alun, am bopeth rydych chi wedi'i wneud i siarad dros y bobl yn eich etholaeth.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich araith am degwch, ond dydy e ddim yn deg os ydych chi'n blentyn sy'n tyfu i fyny mewn tlodi. Mae 30 y cant o blant yma yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi. Ers 2018, mae'r Alban wedi lleihau tlodi plant cymharol 12 y cant, tra yng Nghymru mae wedi codi 15 y cant. Dydy hyn ddim yn gynnydd. Annhegwch a methiant yw e': methiant i'n plant sy'n tyfu i fyny heb y cyfleoedd maen nhw'n eu haeddu; methiant o ran dyfodol ein plant—tlodi yn siapio eu hiechyd, eu haddysg a'u cyfleoedd mewn bywyd—methiant o ran rhagolygon economaidd ein plant—talent yn cael ei chyfyngu, potensial yn cael ei golli a'n heconomi yn cael ei gwanhau.

Saith mlynedd ar hugain yn ôl, roedd plant yn tyfu i fyny mewn tlodi yng Nghymru, ac maen nhw oedolion erbyn hyn, eu bywydau wedi'u difetha a'u heffeithio gan eu profiad. Prif Weinidog, beth fyddech chi'n ei wneud, wrth edrych yn ôl, i wneud yn hollol siŵr nad ydym yn caniatáu i blant dyfu i fyny mewn tlodi plant mwyach? Oherwydd un o'r pethau rydyn ni eisiau yw gofal plant am ddim, a dangoswyd mai dyna'r lifer sy'n cael plant allan o dlodi. Felly, os gwelwch yn dda, allwch chi fyfyrio ar y ffaith bod Llafur wedi rhoi mwy o blant mewn tlodi, a bod angen newid hyn? Diolch yn fawr iawn.

Ers blynyddoedd, rydyn ni wedi gorfod dioddef o dan gyni, ond rwy'n glir iawn fy mod i eisiau gweld economi Cymru yn tyfu ac yn cael ei thrawsnewid. A dyna sut rydych chi'n cael plant allan o dlodi: rydych chi'n gwneud yn siŵr bod gan bobl swyddi; rydych chi'n eu paratoi ar gyfer swyddi. Ac ydw, rydw i am weld mwy o gymorth gofal plant, a dyna pam, yn ein hymrwymiadau i'r cyhoedd yng Nghymru yn y dyfodol, y bydd mwy o gymorth gofal plant. Ond rydyn ni wedi camu i mewn. Rydyn ni wedi camu i mewn gyda £7 biliwn o gymorth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf: cymorth i blant, ar gyfer brecwast mewn ysgolion—21 mlynedd o ddarparu brecwast am ddim i blant—a nawr cinio i ysgolion cynradd. Gwisgoedd ysgol: yr arswyd, y braw y mae teuluoedd yn ei deimlo, teuluoedd tlawd, pan fydd eu plant yn tyfu, oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fforddio gwisg ysgol—rydyn ni wedi cymryd y braw hwnnw i ffwrdd oherwydd rydyn ni'n camu i mewn ac rydyn ni'n eu cefnogi.

Oes mwy i'w wneud? Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Dyna pam y daeth llawer ohonon ni i'r Siambr hon yn y lle cyntaf: i fynd i'r afael â thlodi, i sicrhau bod pawb yn cael y cyfleoedd mewn bywyd i wneud y gorau ohonyn nhw eu hunain. A dyna'r hyn rwy'n addo sef, o dan fy arweinyddiaeth, os byddwn ni nôl yma ym mis Mai, y byddwn ni'n canolbwyntio ein sylw, trwy dyfu'r economi, ar wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cyfleoedd hynny i bobl dynnu eu hunain a'u plant allan o dlodi.

Wrth geisio sicrhau Cymru sy'n decach i bawb, rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad a gwaith Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig Jane Hutt fel y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, wrth weithio gyda'n cymunedau i sicrhau cydlyniant cymdeithasol ac i frwydro yn erbyn y rheini, y mae'n ymddangos bod eu niferoedd yn cynyddu, sy'n ceisio rhaniad a gwrthdaro, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, wrth gwrs. Un enghraifft o'r cynnydd sydd wedi'i wneud—enghraifft bwysig, rwy'n credu—yw 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n ceisio sicrhau newid diwylliannol yng Nghymru fel bod pawb yn cael eu trin ag urddas, bod gwahaniaethau yn cael eu parchu a bod addysg wrth-hiliol, amrywiaeth o ran y gweithlu a newid diwylliannol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.

A phan rydyn ni'n sôn am wahaniaethau yn cael eu parchu, rwy'n myfyrio ar waith y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yr wyf yn ei gadeirio, ar y gymuned Sipsiwn-Teithwyr. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr—ac mae'r pwyllgor yn gwerthfawrogi'n fawr—ein hymgysylltiad â Jane Hutt, y Gweinidog perthnasol, wrth geisio cynnydd mawr ei angen fel nad yw'r grŵp penodol hwn yn ein cymuned yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn mwyach, fel y maen nhw wedi'i wneud, yn anffodus, ers blynyddoedd lawer. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' hwnnw'n agwedd bwysig iawn ar sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl neu'n cael ei esgeuluso yng Nghymru heddiw?

17:15

Diolch yn fawr iawn, John, a diolch am eich arweinyddiaeth ar y mater hwn hefyd. Rwyf hefyd eisiau diolch i Jane Hutt am ei harweinyddiaeth ar y mater hwn. Mae hyn wedi bod yn hollol ganolog i'w gwaith ym maes cyfiawnder cymdeithasol ac wrth wneud yn siŵr bod pob person yn y wlad hon yn gallu gwneud y gorau ohono ef ei hun ac nad yw'n dioddef gwahaniaethu.

Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i Julie Morgan, sydd wedi gwneud cymaint ers cymaint o flynyddoedd yn y lle hwn dros bobl sydd wedi dioddef, yn enwedig y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Diolch am eich holl waith. Mae wedi bod yn daith anhygoel i chi, nid dim ond yn y fan hon, ond hefyd yn San Steffan cyn hynny. Mae eich ymrwymiad a'ch ymroddiad i ymladd dros y tlawd ar bob achlysur wedi bod yn rhywbeth sydd wedi ein hysbrydoli ni i gyd. Diolch yn fawr iawn, Julie. 

Diolch hefyd i bawb sydd ar yr un dudalen â ni o ran cyflawni'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' hwnnw. 

Prif Weinidog, rwyf am ganolbwyntio ar y system gyfiawnder, oherwydd rwy'n credu bod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Sefydlwyd Canolfan Datrys Anghydfodau Cymru nôl yn 2023. Dair blynedd yn ddiweddarach, does gan y ganolfan ddim staff llawn amser na hyd yn oed staff rhan-amser o hyd. Nid yw Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, a sefydlwyd yn 2019 ar ôl derbyn £4.95 miliwn, wedi cael unrhyw gyllid dilynol a daeth i ben yn haf 2023. Mae teuluoedd yn dal i gael eu cadw ar wahân oherwydd does dim cyllid wedi bod ar gyfer y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Cafodd y cynllun peilot ei atal, tra yn Lloegr, mae'r llysoedd yn cael eu hariannu, maen nhw wedi cael eu hehangu, ac mae teuluoedd yn cael eu cadw gyda'i gilydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwaethygu anialwch cyfreithiol trwy beidio â chyllido prentisiaethau lefel 7, ac rydyn ni'n dal i aros i raw gael ei rhoi yn y ddaear ar gyfer y ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe—canolfan a oedd i fod i gael ei hagor yn 2024 a chanolfan a argymhellwyd nôl yn 2019.

Fe wnaethoch chi alw Plaid yn blaid adolygiadau, ond mae eich record ym maes cyfiawnder yn gyfres o adolygiadau, Prif Weinidog. Mae angen i benderfyniadau gael eu gwneud yn gyflymach. Pan ddaw i gyfiawnder, rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag fydd wrth y llyw ar ôl 7 Mai yn fwy beiddgar a dewr i newid bywydau pobl sy'n aml yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu a'u hanghofio. Diolch.

Diolch yn fawr. Mae llawer o'r rheiny yn amlwg yn gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ac yn amlwg byddwn ni'n parhau â'n deialog ar hynny. Bydd yna ddiweddariad ar y sefyllfa o ran cyfiawnder yn ddiweddarach yr wythnos hon. 

Prif Weinidog, 10 mlynedd yn ôl, fe wnaethoch chithau a minnau ymgyrchu gyda'n gilydd yn Llanelli, ac fe glywson ni rwystredigaethau pobl am gyflwr adeiladau ysgolion. Yn ystod y degawd hwnnw, mae gwaith uwchraddio mawr wedi cael ei wneud ar 15 o ysgolion yn etholaeth Llanelli ar adeg pan nad oedd y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud yn Lloegr. Roedd ysgolion newydd sbon ym Mhorth Tywyn, ym Mhen-bre, ym Mhum Heol, yng Nghydweli, yn ardal Seaside Llanelli, ynghyd ag Ysgol Gymraeg newydd Ffwrnes, i gyd yn bosibl oherwydd blaenoriaethau a phenderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon. Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn rhwystredig, ac rydyn ni i gyd yn rhwystredig, oherwydd dydyn ni byth yn fodlon. Rydyn ni bob amser eisiau gwneud mwy, ond dylen ni gydnabod yr hyn sydd wedi'i gyflawni.

Ddegawd yn ôl, dim ond cysyniad oedd Trafnidiaeth Cymru. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni wedi ei adeiladu'n sefydliad cyflawni galluog, gan ddarparu metro gwerth £1 biliwn, buddsoddiad o £800 miliwn, fel bod yna drenau newydd sbon ledled Cymru. Nid damwain yw hynny. Mae'n ymrwymiad parhaus gan Brif Weinidogion a Gweinidogion trafnidiaeth dros ddegawd i roi arian i mewn i hynny ac nid i mewn i rywbeth arall. A bydd y budd sydd ynghlwm wrth hynny yn cael ei deimlo am ddegawdau.

Ddegawd yn ôl pan ges i fy ethol, ym mhob cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gennyf, y pryder cyntaf a godwyd gyda mi oedd y sefyllfa o ran diogelwch ar y ffyrdd yn yr etholaeth a malltod ceir oedd yn goryrru. Rydyn ni wedi newid y terfyn cyflymder diofyn ledled Cymru ac mae gostyngiad o 25 y cant wedi bod yn nifer yr anafiadau. Teuluoedd yn cael eu achub rhag galar. Plant yn cael dyfodol. Ac mae gan bleidiau yn y Siambr hon gof byr iawn eu bod nhw wedi ei gefnogi mewn egwyddor, ond cyn gynted ag yr aeth pethau'n anodd, fe wnaethon nhw redeg i guddio. Wnaethon ni ddim mo hynny. Fe wnaethon ni ei gefnogi. Rydyn ni wedi achub bywydau. Rydyn ni wedi gwella cymunedau. Dewis gwleidyddol yw hynny. Arweinyddiaeth wleidyddol yw hynny. Ac a fyddai'r Prif Weinidog yn cymeradwyo i bob plaid yn y Siambr hon ei bod hi'n hawdd siarad, ond bod Llywodraeth yn anodd a bod angen amynedd a dyfalbarhad er mwyn cyflawni?

17:20

Diolch yn fawr i ti, Lee.

A diolch i chi, hefyd, am yr hyn a wnaethoch yn eich rôl fel Gweinidog trafnidiaeth ar adeg dyngedfennol, oherwydd roedden nhw'n adegau hanfodol pan oedd y penderfyniadau buddsoddi hynny'n hanfodol. Yr hyn a welsom yn y dyddiau hynny sydd wedi arwain at yr hyn a welwn heddiw. Felly, diolch am eich arweinyddiaeth ar hynny. A diolch, hefyd, i Ken Skates am barhau â'r weledigaeth honno a chyflawni'r weledigaeth honno, ac am barhau wedyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y buddsoddiad ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth Lafur y DU.

Rydych chi'n hollol iawn. Yr ysgolion yn Llanelli, rydw i wedi bod i lawer ohonyn nhw, ac maen nhw'n eithaf rhyfeddol. Am drawsnewidiad i'r plant hynny yn y fan yna. Ac rydyn ni yn wynebu heriau o ran presenoldeb yn yr ysgol, ac maen nhw'n llawer mwy tebygol o fynychu ysgol os yw e'n amgylchedd da a chroesawgar, ac mae e yn gwneud gwahaniaeth i gyfleoedd bywyd y plant hynny. Felly, dylen, dylen ni atgoffa pobl o'r ffaith ein bod ni wedi cyflawni'r hyn y gwnaethon ni ddweud y byddem yn ei gyflawni.

A, Lee, mi roedd e'n gyfnod anodd, cyflwyno 20 mya. Gadewch i ni fod yn onest, dydy hynny ddim wedi bod yn hawdd, ac fe wnaethoch chi ddwyn llawer o'r baich o ran hynny. Ond rydych chi'n iawn, mae'n gweithio. Rydyn ni wedi cael llai o wrthdrawiadau. Rydyn ni wedi cael llai o deuluoedd yn wynebu trasiedi. Rydyn ni wedi gweld biliau yswiriant is. A dydy'r rhain ddim yn ddewisiadau hawdd, ond maen nhw wedi bod yn ddewisiadau y mae pobl mewn llawer iawn o etholaethau yn eu gwerthfawrogi nawr. A bydd Llafur Cymru bob amser yn rhoi diogelwch a dyfodol pobl yn gyntaf.

A gaf i ddweud hefyd pa mor ddiolchgar ydw i? O ran sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni, hoffwn gofnodi fy niolch i Julie James, sydd wedi bod yn rhyfeddol yn ei hymdrech i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r rhaglen lywodraethu honno. Fe ddywedon ni y byddai cyflawni yn ganolbwynt i ni, yn sicr yn ystod y Senedd hon, a dydy e ddim wedi bod yn hawdd. Dydy e ddim wedi bod yn hawdd. Ond gyda Julie James yn y fan yna, yn arwain y ffordd, yn procio pobl, yn gofyn am ddata, yn gwneud yn siŵr bod pobl yn cyflawni, yn mynd i'r afael â pham nad oedd pethau'n symud, diolch, Julie, am bopeth rydych chi wedi'i wneud, nid yn unig fel Gweinidog cyflawni, ond hefyd am bopeth rydych chi wedi'i wneud yn yr holl rolau amrywiol rydych chi wedi ymgymryd â nhw yn y lle hwn. Dydw i erioed wedi cwrdd ag unrhyw un tebyg i chi. Rwy'n ddiolchgar iawn, iawn i chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud, nid yn unig i mi fel Prif Weinidog, nid yn unig i ni yn y grŵp Llafur, ond hefyd i'r genedl. Fydd pobl Cymru byth yn gwybod sut rydych chi wedi cyflawni ar eu cyfer, ond fe fyddwn ni.

Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, o dan y teitl 'Cymru decach i bawb'. Ydy e'n deg i gleifion ym Mhowys aros yn hirach na chleifion o Loegr, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cael eu trin yn yr un ysbyty gan yr un clinigwyr? Ydy e'n deg i'm hetholwyr eistedd o flaen meddyg ymgynghorol a chael gwybod, 'Bydd yn rhaid i chi aros yn hirach am driniaeth a mynd i gefn y ciw, oherwydd eich bod chi'n byw ym Mhowys'? Dywedodd bwrdd iechyd Powys eu bod nhw wedi gweithredu eu polisi triniaeth ohiriedig oherwydd eu bod yn gorfod byw o fewn y disgwyliadau ariannol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n cytuno â mi bod hyn yn annheg—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, allaf i ddim clywed beth mae'r Gweinidog iechyd yn ei ddweud. Siarad nonsens mae'n ei wneud, fwy na thebyg. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os ydych chi'n cytuno â mi ei fod yn annheg, allwch chi esbonio i mi ac i'm hetholwyr, ac i'ch etholwyr chi, pam nad yw eich Llywodraeth wedi gwneud unrhyw beth amdano?

17:25

Wel, mae bwrdd iechyd Powys wedi cael mwy o arian nag y maen nhw erioed wedi'i gael o'r blaen, a dyna'r gwir. Dyna'r gwir. Ac, ydy, mae'r galw am y gwasanaeth yn enfawr. Maen nhw'n cyflogi mwy o bobl nag y maen nhw erioed wedi'u cyflogi o'r blaen, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i bobl Powys. Rydyn ni wedi gweld newid i ofal cymunedol, fel bod pobl yn gallu cael y cymorth hwnnw yn nes at adref. Felly, mae pobl yn gweld gwahaniaeth ym Mhowys. Mae'r pwysau yn enfawr. Mae pobl yn gweithio'n galed iawn i ddod â'r rhestrau aros hynny i lawr. Fel y gwyddoch chi, pan ddaw i gael triniaeth, does dim ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys, ac felly mae'n rhaid iddyn nhw fynd y tu allan i'r ardal, ac, wrth gwrs, mae'n briodol gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael triniaeth deg hefyd.

Prif Weinidog, weithiau mae'n eithaf anodd esbonio 20 mya. Rwy'n gyrru adref bob nos trwy Goedelái, ac rwy'n glynu'n dynn wrth yr 20 mya. Ychydig fisoedd yn ôl, wrth i mi yrru drwodd, camodd rhywun allan o'r tu ôl i gar. Fe wnes i roi'r breciau ymlaen a digwyddodd dim byd oherwydd roeddwn i'n gwneud 20 mya. Pe bawn i wedi bod yn teithio ar 30 mya, rwy'n eithaf siŵr y byddwn i wedi taro'r person hwnnw. Dyna'r esboniad rwy'n ei roi pan mae pobl yn siarad am 20 mya o ran realiti'r peth. Gallai'r person hwnnw fod wedi bod yn aelod o deulu unrhyw un.

Ond yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud oedd dilyn cwestiwn ar y thema a ddechreuodd Lee, mewn gwirionedd, oherwydd pan ges i fy ethol yn Aelod o'r Senedd 15 mlynedd yn ôl, byddwn i'n edrych drwy ac yn crwydro trwy rai o'r ysgolion, y cabanau terapin, yr hen adeiladau, rhan o Ysgol Y Pant a fyddai'n destun llifogydd pan fyddai Afon Clun yn codi, ac rwy'n edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd nawr gydag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac yna rwy'n meddwl am yr hyn a ddigwyddodd pan oedd Boris Johnson mewn trafferth am wneud addewidion. Fe addawodd £1 biliwn ar gyfer ysgolion newydd yn Lloegr. Wel, yng Nghymru, dros y degawd diwethaf, rydym wedi gwario £2.8 biliwn sydd wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion newydd. Pe bai hwnnw'n brosiect yn Lloegr, byddai wedi bod yn gyfanswm o oddeutu £55 biliwn. Pan wy'n edrych drwy'r ysgolion newydd sydd gennym, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ysgolion o'r radd flaenaf, mae hynny'n gyflawniad eithriadol, yn fy marn i, ar draws y Deyrnas Unedig gyfan fwy na thebyg.

Fe ofynnais i gwestiwn i chi ychydig fisoedd yn ôl ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn parhau â hynny, ac fe wnaethoch chi roi'r sicrwydd hwnnw. Dydw i ddim wedi clywed bod unrhyw blaid wleidyddol arall wedi ymrwymo i'r cyllid, i'r cymorth ac i'r partneriaethau gyda llywodraeth leol a fydd yn arwain at barhad rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fy nghwestiwn i chi, mae'n debyg, yw: ydy hynny yn eich synnu chi? Ydych chi'n ymrwymedig i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac a ydych chi'n croesawu hyn fel cyflawniad eithriadol ar draws y DU gyfan?

Diolch yn fawr iawn, Mick, a diolch hefyd am eich blynyddoedd lawer o wasanaeth yn y lle hwn. Mae eich cyfraniad, yn sicr fel Gweinidog, ac mewn rolau eraill, wedi bod yn eithaf rhyfeddol. Rwy'n gwybod eich bod chi bob amser wedi ymladd dros y gwan a hoffwn ddiolch i chi a dymuno'r gorau i chi yn y dyfodol hefyd.

Mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rwy'n credu, yn un o bolisïau blaenllaw Llywodraeth Lafur Cymru. Mae wedi trawsnewid cyfleoedd bywyd pobl ar draws ein cenedl, a hoffwn roi sicrwydd i chi o safbwynt Llafur y bydd hyn yn parhau os bydd Llafur yn dychwelyd i rym. Rwy'n credu y dylech chi gymryd yn ganiataol, os na fydd pleidiau gwleidyddol eraill yn ymrwymo iddo, y byddwch chi'n gweld toriadau yn y maes hwnnw.

Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Rwy'n gwybod o'm hetholwyr fy hun pa mor bwysig yw lles anifeiliaid a natur iddyn nhw, ac rwyf am dynnu sylw at rai cyflawniadau yn y ddau faes hynny. Yn gyntaf, y ffaith bod Cymru yn ail yn y byd o ran ailgylchu. Pan ddes i'n Aelod Cynulliad yn 2007, roedden ni'n agos iawn at waelod y tabl cynghrair penodol hwnnw, felly mae bod yn ail yn anhygoel, ac mae hynny, rwy'n credu, oherwydd tri pheth: Llywodraeth Cymru am ddangos arweinyddiaeth a darparu'r cyllid hwnnw; yn ail, llywodraeth leol am ddefnyddio'r cyllid hwnnw a bwrw ymlaen â'r polisi hwnnw; ac, wrth gwrs, yn drydydd, pobl Cymru am gofleidio ailgylchu a bod yn rhan o'r cyflawniad hwnnw.

Yn ail, rydyn ni'n genedl sy'n caru anifeiliaid, ac rwy'n credu bod hynny'n glir iawn o'r ohebiaeth sy'n dod i law. Roedd y gwaharddiad ar rasio milgwn yr wythnos diwethaf yn uchafbwynt arbennig mewn rhestr hir iawn o gyflawniadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Ac yn olaf, rwy'n falch iawn o weld bod y goedwig genedlaethol yn rhedeg ar hyd a lled Cymru erbyn hyn. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i longyfarch Maes y Pant yn fy etholaeth i, a gyhoeddodd yr wythnos diwethaf, ar ôl proses drylwyr iawn, eu bod bellach yn rhan o goedwig genedlaethol Cymru.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Lesley, a diolch hefyd am eich arweinyddiaeth. Mae wedi bod yn eithaf rhyfeddol. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi gwasanaethu fel Gweinidog am flynyddoedd lawer yn y lle hwn, ac fe wnaeth e wahaniaeth—eich arweinyddiaeth a'ch angerdd a'ch ymrwymiad o ran yr amgylchedd, ond yn arbennig o ran lles anifeiliaid. Roedd hyn yn bwysig. Rwy'n gwybod bod cyfraith Lucy yn fater mawr i lawer o bobl yn ein hetholaethau. Roedd ffermio cŵn bach yn broblem, yn enwedig mewn rhannau o'r gorllewin, ac roedd yn wych ein bod ni'n gallu dod â hynny i mewn, ac i ddilyn hynny gyda phethau fel gwaharddiad ar rasio milgwn. Diolch i Jane Dodds am ei harweinyddiaeth yn y maes hwnnw hefyd. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn falch iawn o weld yr hyn a ddigwyddodd yn y llysoedd yr wythnos diwethaf.

Mae coedwig genedlaethol Cymru yn rhywbeth y dylen ni i gyd fod yn falch iawn ohono, yn fy marn i. O'm safbwynt i, dim ond y dechrau yw hyn. Mae'n rhaid iddo fod yn rhywbeth sy'n rhychwantu'r cenedlaethau. Bydd Llafur Cymru yn ymrwymo i hynny. Rwy'n gwybod mai o dan eich arweinyddiaeth chi y dechreuodd hynny. Fe ddylech chi fod yn falch iawn o hynny, Lesley. Byddwn ni i gyd wedi hen adael erbyn i'r peth hwnnw barhau a pharhau a pharhau i dyfu—nid i ni, ond i'n plant a'n hwyrion. Dyna hanfod gwaddol, ac rydych chi wedi creu gwaddol anhygoel yn y fan yna.

Diolch yn fawr iawn i chi am bopeth dŷch chi wedi'i wneud.

I fi, yr arwydd mwyaf o fethiant y Llywodraeth yma yw bod un o bob tri o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi. Ac mae'r rhagolygon hyd yn oed yn waeth: mae Sefydliad Bevan, mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, yn dangos y bydd tlodi plant yn codi i 34.5 y cant erbyn 2029, hyd yn oed ar ôl dileu'r cap dau blentyn. Mae'n nodi—a dyma'r peth mwyaf damniol i fi—bod strategaethau Llywodraeth Cymru wedi bod yn henffasiwn, yn ddiffocws a heb dargedau mesuradwy. Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod llawer o'r camau mwyaf effeithiol a gymerwyd wedi cael eu cymryd o ganlyniad i gytundebau ad hoc gyda gwrthbleidiau, er enghraifft—wrth gwrs, cyflawni darparu prydau bwyd am ddim i holl blant cynradd mewn cytundeb gyda Phlaid Cymru—a bod hynny yn lle gweld dull gweithredu strategol. Ydych chi'n derbyn y feirniadaeth yma, neu ydych chi am wadu dadansoddiad annibynnol?

Mae wastad mwy allwn ni ddysgu. Yn sicr pan mae'n dod i sicrhau ein bod ni'n taclo tlodi, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu drwy'r amser. Y ffordd rwy'n meddwl dylem ni fod yn symud yw i dyfu'r economi, ac i sicrhau bod pobl yn gallu gweithredu yn yr economi, eu bod nhw'n barod i gymryd rhan yn yr economi. Ond mae'n ddiddorol clywed beth sydd gan Plaid Cymru i ddweud. Dŷch chi ddim yn meddwl ein bod ni'n gwneud yn iawn, ond dŷch chi ddim yn dweud beth ddylem ni dorri. Dŷch chi ddim yn rhoi syniad i bobl. Rydych chi'n dweud nad yw'n gweithio. Nid dyna'r ffordd i lywodraethu, i fynd at bobl a dweud, 'Dŷn ni ddim yn mynd i'w gwneud hi fel hynny', ond heb rhoi unrhyw sylw o ran beth fyddwch chi'n torri, beth dydych chi ddim yn hoffi. Mae'n ddiddorol iawn gweld, unwaith eto, eich bod chi'n siarad ond ddim yn dweud sut ŷch chi'n mynd i dorri.

Hoffwn dalu teyrnged i chi, Prif Weinidog, am fod y fenyw gyntaf, ac i'ch rhagflaenydd, Vaughan Gething, a oedd yn Ysgrifennydd Cabinet o dan yr amodau mwyaf heriol y mae'r wlad erioed wedi'u gweld, sef COVID-19. Fe ddelion ni â hynny heb roi contractau trwy lonydd VIP i'n ffrindiau. Wnaethon ni ddim rhoi £200 miliwn o arian cyhoeddus, y mae'n rhaid i'r Farwnes Mone dalu £148 miliwn ohono'n ôl nawr. Fe wnaethon ni hynny trwy ddefnyddio'r sefydliadau a oedd yno drwy'r amser, a llywodraeth leol oedd hynny. Fe wnaethon ni hynny trwy bartneriaethau cymdeithasol. Fe wnaethon ni gadw pobl yn ddiogel, ac roedden nhw'n teimlo'n ddiogel. Fe wnaethon ni gydnabod bod anghenion y cymunedau hynny yn cael eu cyflawni gan y bobl a oedd yn byw yn y cymunedau hynny.

Rwy'n aml yn meddwl, ac rwy'n siŵr bod eraill yn gwneud hefyd, faint y byddai'r £200 miliwn hwnnw wedi ei olygu i'r gwasanaethau iechyd sydd gennym nawr. Rwy'n clywed pobl drwy'r amser yn gofyn am fuddsoddiad yn y GIG. Wel, roedd yna gyfle gwirioneddol i fuddsoddi yn y GIG, ac fe gafodd ei wastraffu—ei wastraffu'n llythrennol. Ac fe gostiodd, does dim amheuaeth gen i, rhai o'r ymarferwyr hynny sydd eu hangen arnom, ac y mae arnom ddyled enfawr o ddiolch iddyn nhw, a weithiodd, yn peryglu eu bywydau eu hunain i achub pobl fel ni a'n teuluoedd ar yr adegau mwyaf heriol. Dyna'r hyn roeddwn i eisiau ei ddweud heddiw, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig. Rydyn ni'n symud ymlaen, rydyn ni'n anghofio. Wnaeth y bobl hynny ddim symud ymlaen, wnaethon nhw ddim anghofio, ac rwyf am dalu teyrnged i'r bobl hynny sydd wedi dangos arweinyddiaeth o'r rheng flaen yma.

17:35

Diolch yn fawr, Joyce. Os ydyn ni am siarad am arweinyddiaeth, rydw i eisiau siarad am eich arweinyddiaeth chi o ran hawliau menywod yn y lle hwn. Does neb wedi hyrwyddo hawliau menywod yn fwy na chi. Hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith yn cyflwyno cawcws y menywod yma, ac yn sicr y gwaith rydych chi wedi'i wneud ar ymgyrch y Rhuban Gwyn a llawer iawn o brosiectau eraill yr wyf yn gwybod eich bod wedi'u harwain yn y lle hwn. Diolch am eich gwaith. Mae wedi bod yn llawer iawn o flynyddoedd o ymroddiad i'r sefydliad hwn hefyd.

Fel chi, hoffwn dalu teyrnged i Vaughan Gething. Cafodd gyfnod mewn rôl arwain yma, ac rwy'n cydnabod bod hwnnw'n gyfnod anodd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y blynyddoedd lawer o ymrwymiad y mae Vaughan wedi'i roi i'r lle hwn, yr anhawster yn ystod y pandemig, y pwysau anhygoel a oedd arno yn ystod y cyfnod hwnnw, lle roedd yn ein cadw'n ddiogel. Fe weithiodd yn ddi-baid yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei gofnodi yn y llyfrau hanes. Mae angen cydnabod yr arweinyddiaeth anhygoel honno a ddangosodd yn ystod y cyfnod hwnnw. Hoffwn ddiolch i chi, Vaughan, ar ran pobl Cymru am eich arweinyddiaeth ac am eich ymrwymiad i'r lle hwn.

6. Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026

Eitem 6, Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig yma. Dawn Bowden.

Cynnig NDM9231 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig. 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru'r eithriadau i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae'n disodli Gorchymyn eithriadau 2010. Mae'r Gorchymyn newydd hwn yn egluro ac yn diwygio'r amgylchiadau lle nad oes angen cofrestru. Mae'r newidiadau hyn yn gwneud y gyfraith yn gliriach ac yn fwy cyson, gan sicrhau dull cymesur. Maen nhw'n cydbwyso'r angen am oruchwyliaeth gyda chefnogi teuluoedd i barhau i gael mynediad at ystod eang o ddarpariaeth gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau sy'n diwallu eu hanghenion.

Mae newidiadau allweddol i'r eithriadau yn cynnwys alinio'r eithriadau ar gyfer gwarchodwyr plant sy'n berthnasau â'r canllawiau ar y cynnig gofal plant, diwygio'r trothwyon oedran ac amser presennol a chyflwyno terfynau oedran ac amser newydd i rai o'r eithriadau, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau hyfforddi a dysgu, cryfhau goruchwyliaeth a sicrwydd ansawdd ar gyfer plant dwy oed ac iau, diweddaru rheolau ar gyfer gwarchodwyr plant, galluogi plant 10 oed i ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid trosiannol ac atal darparwyr sydd wedi'u hatal rhag gweithredu o dan eithriadau penodol. Bydd y newidiadau hyn yn dod â buddion ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd. Llywydd, mae'r Gorchymyn hwn yn cryfhau goruchwyliaeth lle mae ei hangen tra'n cynnal cymesuredd, eglurder a hygyrchedd, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Senedd.

Does gyda fi ddim siaradwyr eraill o dan y cynnig yma. Felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

17:40

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026

Eitem 7 sydd nesaf. Y Rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026 yw'r rhain. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd sy'n gwneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9232 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:40:18
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydym yn cynnal dadl heddiw ar is-ddeddfwriaeth i weithredu cam cyntaf y system olrhain gwastraff yn ddigidol yng Nghymru.

Yn gyntaf, a gaf i gymryd eiliad i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith y mae wedi'i wneud yn craffu ar yr offeryn statudol Cymreig hwn? Rwy'n derbyn pwyntiau adrodd 1, 2, 4 a 7 ac rwy'n derbyn pwynt adrodd 5 yn rhannol, fel y nodwyd gennym yn ymateb y Llywodraeth i bwyntiau adrodd y pwyllgor. Bydd y cywiriadau drafftio technegol hyn yn cael eu gwneud cyn gwneud y rheoliadau.

Mae Cymru, wrth gwrs, eisoes yn ail yn y byd o ran ailgylchu. Diolch i bobl Cymru a gwaith caled ein hawdurdodau lleol, cyfradd ailgylchu trefol Cymru ar gyfer 2024-25 oedd 68.4 y cant. Fodd bynnag, mae troseddau'n ymwneud â gwastraff yn effeithio ar ein gweithredoedd i gasglu deunyddiau o ansawdd uchel i'w hailgylchu i'n symud i economi fwy cylchol. Mae troseddwyr yn codi prisiau is na busnesau gwastraff cyfreithlon, nad yw'n deg iddyn nhw—y busnesau cyfreithlon—nac i'n hamgylchedd, sy'n cael ei ddifrodi gan eu gweithgareddau. Ar hyn o bryd, mae troseddau'n ymwneud â gwastraff yn costio rhwng £20.6 miliwn a £46.7 miliwn bob blwyddyn i economi Cymru. Bydd system tracio gwastraff yn ddigidol yn disodli'r systemau papur tameidiog iawn a ddefnyddir ar hyn o bryd i gofnodi gwastraff gyda gwasanaeth digidol symlach, gan leihau'r cyfleoedd i gyflawni troseddau'n ymwneud â gwastraff a gwella cydymffurfiaeth.

Bydd y rheoliadau hyn sydd o'n blaenau heddiw yn darparu cam cyntaf, sef cofnodi'n ddigidol wybodaeth am wastraff sy'n mynd i mewn i safleoedd derbyn gwastraff, ac eithrio gwastraff masnachol a dderbynnir mewn canolfannau derbyn gwastraff cartref. Byddan nhw'n cael eu cynnwys yng ngham 2. Mae cam 2 wedi'i gynllunio i fod yn berthnasol i bob symudiad o ran gwastraff, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu trin gan gludwyr gwastraff a broceriaid a delwyr. Er nad y system a ddarperir gan y rheoliadau hyn yw'r pwynt terfynol rydym am ei gyrraedd, mae'n gam pwysig iawn tuag at olrhain yr holl wastraff a reolir, sydd â gwerth presennol net o £8.95 miliwn, os gallwn ni ei gasglu i gyd. Diolch, Llywydd.

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y rheoliadau drafft ar 16 Mawrth, ac ymateb Llywodraeth Cymru ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys saith pwynt adrodd technegol a dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau.

Mae tri o'r pwyntiau adrodd technegol yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol. Er enghraifft, mae pwynt adrodd 1 yn nodi bod y rheoliadau'n cyfeirio at reoliad nad yw'n bodoli, ac mae pwynt adrodd 2 yn nodi'r defnydd anghywir o'r term 'rhif tracio gwastraff yn ddigidoll' yn rheoliad 4, yn hytrach na'r term diffiniedig 'rhif cofnod digidol o wastraff'. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwyntiau adrodd hyn, a bydd yn gwneud y cywiriadau cyn gwneud y rheoliadau. Mae pwyntiau adrodd technegol y pwyllgor hefyd yn cynnwys tri sy'n tynnu sylw at anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys croesgyfeiriad anghywir, a'r defnydd anghyson o'r termau 'rhaid' neu 'gall'. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwyntiau adrodd hyn. Bydd yn gwneud cywiriadau mewn perthynas â dau bwynt cyn gwneud y rheoliadau, ond nid yw'n ystyried bod y llall yn ddigon arwyddocaol i gyfiawnhau gwneud hynny.

Mae pwynt adrodd 6 yn ceisio eglurder ynghylch sut y bydd person yn cael gwybod am ei allu i ryddhau ei hun rhag atebolrwydd drwy dalu'r swm penodedig ar ôl cael hysbysiad o fwriad, a gyflwynwyd iddo gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r dull ar gyfer gwneud taliad o’r fath. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi ei barn nad oes angen i hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am sut i dalu oherwydd ei fod yn gynnig i osod sancsiwn sifil. Mae'n nodi mai canllawiau fyddai'r lle priodol ar gyfer gwybodaeth weithredol, fel dulliau talu, ac y bydd canllawiau yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae dau bwynt adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod ffi flynyddol y system tracio gwastraff yn ddigidol yn daladwy i Weinidogion Cymru, a bod cosbau a osodir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn daladwy ganddo i gronfa gyfunol Cymru. Ni ofynnwyd am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r naill neu'r llall o'r pwyntiau adrodd hyn.

Rwyf am ddweud pa mor bwysig yw hyn. Ni allai tracio gwastraff a reolir yn ddigidol fod yn bwysicach. Rydyn ni'n gwybod bod tipio gwastraff yn anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol wedi difetha bywydau llawer o bobl ddiniwed, wrth iddyn nhw ddod o hyd i symiau enfawr o wastraff wedi'u gollwng ar ddiwedd eu stryd neu ar ddiwedd eu lôn. Rwy'n cymeradwyo'r ffaith bod hwn yn mynd i fod yn gynllun ledled y DU, oherwydd, fel arall, byddai yna dwristiaeth dympio. Ond, yn y dyfodol, mae angen i bob Senedd ddechrau meddwl am sut allwn ni atal gwastraff rhag cael ei ddympio'n rhyngwladol, oherwydd po fwyaf rydym yn atal y bobl hyn sy'n tipio'n anghyfreithlon ac sydd ddim eisiau talu cost gwaredu gwastraff, y mwyaf tebygol ydyw, yn anffodus, y bydd gwastraff yn cael ei ddympio ar wledydd tlawd gan droseddwyr, a bod yn onest, sydd eisiau osgoi eu cyfrifoldebau.

17:45
Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:45:33
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor LJC am eich mewnwelediad adeiladol i'r materion technegol hynny ac i'n hymateb i'ch pwyllgor hefyd. A, Jenny, fe wnaethoch chi ein hatgoffa'n briodol o bwysigrwydd hyn, yn enwedig o ran mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â gwastraff yn y fan yna. Rydyn ni'n amcangyfrif bod troseddau'n ymwneud â gwastraff yn costio rhwng £20.6 miliwn a £46.7 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Ac mae hyn yn arwain at dipio anghyfreithlon. Mae'n deillio o gamddosbarthu gwastraff yn fwriadol, allforion gwastraff anghyfreithlon a gweithredu safleoedd gwastraff anghyfreithlon, fel yr ydym wedi'i weld ledled y DU hefyd. Felly, un o nodau allweddol olrhain gwastraff yn ddigidol yw cynyddu tryloywder adrodd, gan ei gwneud hi'n llawer anoddach wedyn i gwmnïau gwastraff twyllodrus gystadlu yn y diwydiant gwastraff a chyflawni troseddau'n ymwneud â gwastraff. A bydd hefyd yn ein helpu ni, mae'n rhaid i mi ddweud, i olrhain yn well yr hyn sy'n digwydd i'r tua 8 miliwn tunnell o wastraff a gynhyrchir yng Nghymru bob blwyddyn.

Felly, byddwn i'n annog Aelodau'r Senedd i gefnogi'r rheoliadau hyn. Bydd hyn yn rhoi mwy o dryloywder i ni, yn mynd i'r afael â chwmnïau gwastraff twyllodrus yn y diwydiant gwastraff ac yn atal troseddau'n ymwneud â gwastraff hefyd. A bydd hefyd yn ein helpu i gyflawni, mae'n rhaid i mi ddweud, ein dyheadau ar gyfer economi gylchol, lle rydyn ni'n casglu'r deunyddiau hynny ac yn eu defnyddio. Dyna ein dyfodol—sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio am gyfnod hwy. Felly, Llywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig yna, o dan eitem 7, wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026

Eitem 8 sydd nesaf, Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd sy'n gwneud y cynnig yma eto—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9229 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:47:22
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch eto, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026.

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y fframwaith ar gyfer cynllun sydd wedi'i ddylunio a'i ddatblygu'n ofalus iawn ar ôl ymgysylltu helaeth i sicrhau gwelliant yn erbyn perfformiad Cymru, sydd eisoes yn uchel, ac i sicrhau rhyngweithrededd â'r cynlluniau yng ngwledydd eraill y DU. Hoffwn ddiolch yn fawr unwaith eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith maen nhw wedi'i wneud yn craffu ar yr offeryn statudol Cymreig hwn, ac fel y nodir yn ymateb y Llywodraeth i'r pwyntiau adrodd a godwyd gan y pwyllgor, rwy'n derbyn pwyntiau adrodd technegol 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 11, 12, 14 a 15. Bydd pwyntiau adrodd technegol 2, 3, 6, 9, 11 a 12 yn cael eu cywiro cyn gwneud y rheoliadau, tra bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwelliannau ar y cyfle nesaf sydd ar gael i fynd i'r afael â'r pwyntiau adrodd technegol eraill yr wyf wedi'u derbyn hefyd.

Nawr, er bod Cymru eisoes yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ein perfformiad o ran ailgylchu, mae cynllun dychwelyd ernes yn ffordd a brofwyd yn rhyngwladol i'n helpu i fynd ymhellach, drwy fynd i'r afael â sbwriel, cynyddu ailgylchu wrth fynd a chefnogi'r newid, yn y pen draw, i ailddefnyddio. Nawr, dewis Llywodraeth Cymru bob amser oedd cwmpas wedi'i alinio ledled y DU a oedd yn gweithio i'r DU gyfan. Ond fe wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU wyro i ffwrdd oddi wrth y cwmpas hwnnw, ac er y gall cynllun ailgylchu yn unig cul gyflawni yn Lloegr, mae'r cyd-destun yng Nghymru yn sylfaenol wahanol mewn gwirionedd. Felly, mae ein rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynllun cynhwysfawr, yn unol, mewn gwirionedd, â chanlyniadau'r ymgynghoriad blaenorol, a'r mwyafrif llethol, mae'n rhaid i mi ddweud, o gynlluniau rhyngwladol. Mae hyn yn sicrhau y bydd yn mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sbwriel gwydr ar ein strydoedd a'n traethau, ac yna'n cyflwyno ailddefnyddio fesul cam yn unol â chynlluniau gorau'r byd. A hoffwn ddweud pa mor falch ydw i y bydd y cynllun hwn yn cyflawni hyn.

Fe wnaethon ni i gyd weld, flynyddoedd yn ôl, pan geisiodd yr Alban gyflwyno cynllun gyda gwydr, Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd yn rhwystro'r ymdrechion hynny. Nawr, roedd hynny'n gwbl annerbyniol. Rwy'n falch iawn ein bod ni, trwy gydweithio da gyda Llywodraethau ledled y DU, ledled y DU, wedi llwyddo i negodi canlyniad gwell a all ein helpu i adeiladu ar ein record ddatganoledig falch yn y maes hwn.

Ond mae'r cynllun hefyd wedi'i addasu i fynd i'r afael ag effaith yr amrywiad yn y cwmpas yn y DU trwy alinio'r dyddiad cychwyn, gan gynnwys cyfnod pontio pedair blynedd ar gyfer poteli gwydr untro, ac yna cyflwyno ailddefnyddio'n raddol. Ond gadewch i mi fod yn hollol glir ynghylch yr hyn fydd yn digwydd os na fydd y rheoliadau'n cael eu pasio: byddai'n golygu na fyddai unrhyw gynllun yng Nghymru pan fydd DRS yn cael ei weithredu mewn mannau eraill yn y DU yn 2027. Beth fyddai hyn yn ei olygu? Byddai'r manteision i Gymru yn cael eu colli, gan gynnwys y buddion economi gylchol a'r buddion swyddi hynny, y buddion cyntaf i'r farchnad. Byddai'n dod â chostau sylweddol ac aflonyddwch i fusnesau ac yn creu, gyda llaw, risg sylweddol o dwyll. Dyma'r sefyllfa y mae'r diwydiant diodydd wedi nodi'n glir yw'r senario gwaethaf os na fyddwn ni'n pasio'r rheoliadau hyn. Rydyn ni eisiau osgoi'r senario hwnnw a gweld Cymru'n manteisio ar fuddion DRS, gan gynnwys, gyda llaw, swyddi a buddsoddiad mewn ailgylchu ac ailddefnyddio, a'r arbedion i gynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r ailddefnyddio hynny yn raddol hefyd.

Ac rydym hefyd, a bod yn onest, eisiau parhau ag arweinyddiaeth hirdymor Cymru yn y maes hwn, gan adeiladu ar yr enghreifftiau sydd wedi'u gweld yn ystod ein hamser ni yma yn y Senedd hon, ac yn y Cynulliad cyn hynny, fel bagiau siopa—yn arwain y ffordd ar hynny. Yn hytrach nag aros i weddill y DU ddal i fyny, gallwn ni ddangos arweinyddiaeth ac yna byddan nhw'n dod gyda ni. Felly, rydyn ni wedi cyflwyno cynllun sy'n defnyddio pwerau datganoledig a all gyflawni i Gymru, a thrwy wneud hynny, rydyn ni'n cymryd cam sylweddol arall ymlaen a all hefyd fod o fudd i'r DU gyfan.

Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau hyn i'r Senedd.

17:50

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y rheoliadau drafft ar 9 Mawrth, ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru. Derbyniodd y pwyllgor swm sylweddol o ohebiaeth gan randdeiliaid yn y diwydiant ynghylch y rheoliadau hyn, a oedd yn codi pryderon am faterion o fewn ein cylch gorchwyl a'r tu hwnt iddo. Fe wnaethon ni ystyried y cyflwyniadau hyn ochr yn ochr â gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a datganiadau gan y Dirprwy Brif Weinidog. Hoffwn estyn fy niolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am drafod y rheoliadau hyn gyda ni yn y pwyllgor ar 2 Mawrth, ac i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r pwyllgor.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys 15 o bwyntiau adrodd technegol a chwe phwynt adrodd craffu ar rinweddau, y byddaf yn eu crynhoi ar gyfer Aelodau heddiw. Mae deg o bwyntiau adrodd y pwyllgor yn gofyn am esboniad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â ffurf neu ystyr y rheoliadau. Mae'r pwyntiau adrodd hyn yn tynnu sylw at faterion megis anghysondeb yn y dyddiad cychwyn, ystyr termau penodol fel 'diwrnod busnes' a 'penodedig', ac eglurder croesgyfeiriadau. Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru y mwyafrif o'r pwyntiau adrodd hyn a bydd yn gwneud y cywiriadau naill ai cyn gwneud y rheoliadau neu ar y cyfle nesaf sydd ar gael drwy offeryn cywiro.

Roedd y grŵp hwn o bwyntiau adrodd hefyd yn ceisio eglurder ynghylch adennill costau gorfodi, y sail ar gyfer gosod cosbau ariannol amrywiol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad gorfodi, a'r broses benodi ar gyfer y sefydliad rheoli ernes. Nododd ymateb Llywodraeth Cymru ragor o fanylion ynghylch y broses adennill costau gorfodi, sef y bydd y tribiwnlys haen gyntaf yn penderfynu a aethpwyd i gostau'n ddiangen yn seiliedig ar dystiolaeth gan y ddau barti. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i ystyried diwygio'r rheoliadau o ran cosbau ariannol amrywiol ar y cyfle nesaf sydd ar gael, y mae'n nodi y dylen nhw fod ar gael fel dewis arall yn lle erlyniad. Fodd bynnag, mae'r ymateb yn nodi y byddai darpariaethau pellach am y sefydliad rheoli ernes yn rhy ragnodol.

Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd yn cynnwys pedwar pwynt adrodd sy'n tynnu sylw at anghysondebau rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae'r pwyntiau adrodd hyn yn cynnwys tair enghraifft o groesgyfeirio anghyson ac un enghraifft lle mae'r testun Saesneg yn defnyddio 'datgan', tra bod y testun Cymraeg yn defnyddio 'pennu'. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gywiro'r anghysondebau hyn cyn gwneud y rheoliadau.

Mae'r pwynt adrodd technegol terfynol yn tynnu sylw at un enghraifft o ddrafftio diffygiol, y bydd Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yn ei gywiro cyn gwneud y rheoliadau. Mae pwyntiau adrodd craffu ar rinweddau'r pwyllgor yn codi cyfres o faterion pwysig am ddatblygu'r rheoliadau a'r ddogfennaeth sy'n eu cefnogi. Maen nhw'n cynnwys pwynt adrodd 16, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariad clir a chynhwysfawr ar statws amserlenni proses eithrio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod pob Llywodraeth arall yn y DU wedi cytuno y gall eithriad gael ei gyflwyno ar gyfer y cynllun DRS yng Nghymru. Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cam nesaf yn gweld Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r offeryn statudol angenrheidiol, y maen nhw'n disgwyl ei wneud yn ystod 2026.

Mae pwynt adrodd 18 yn gofyn am ragor o wybodaeth am ganlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 2025 ac unrhyw ymgyngoriadau perthnasol eraill. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi bod cyfres o sesiynau ymgysylltu wedi'u targedu wedi cael eu cynnal rhwng Ionawr a Rhagfyr 2025, gyda thua 250 o fynychwyr yn cynrychioli rhanddeiliaid amrywiol. Mae'r ymateb yn nodi bod crynodeb o'r ymgynghoriad yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Yn olaf, Llywydd, mae pwynt adrodd 19 yn ceisio eglurhad ynghylch a yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn seiliedig ar asesiad 2021, a pham na ddefnyddiwyd asesiad sy'n benodol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod asesiad 2026 yn benodol i Gymru, er ei fod yn adeiladu ar y sylfaen ymchwil a sefydlwyd drwy weithgareddau pedair gwlad blaenorol.

17:55

Wel, dyma un o'r cynlluniau rydw i wir wedi bod eisiau iddo ddod drwy'r Senedd hon ers blynyddoedd lawer. Yn wir, yn 2020, roeddwn i'n falch iawn pan gefnogodd yr Aelod Fil Aelod a oedd yn mynd drwodd ar gyfer cynllun DRS yma yng Nghymru. Byddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, a byddai hynny'n helpu i leihau gwastraff yng Nghymru. Dim ond nawr, ar ddiwrnod Cyfarfod Llawn olaf ond un y chweched Senedd, yr ydym yn gweld unrhyw gynnydd tuag at hyn. Mae'r oedi hwn yn fethiant amlwg i Lywodraeth Cymru—mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am DRS ers 2016—gyda Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn tynnu sylw at y rhwystredigaeth gyda'r oedi parhaus mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet.

Mae cynlluniau DRS wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd eraill sydd wedi eu gweithredu, fel yr Almaen a Norwy, ac maen nhw'n cyflawni cyfraddau dychwelyd o dros 90 y cant yn rheolaidd, felly mae'r ffigurau hynny'n siarad drostyn nhw eu hunain. Oherwydd bod mwy o gymhelliant ariannol i bobl ddychwelyd cynwysyddion, mae llai o ddeunydd yn mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael ei losgi mewn gwirionedd. O ganlyniad i'r cynlluniau hyn, mae llawer llai o sbwriel ar y strydoedd hefyd, ac mae'r ernes yn gweithredu fel cymhelliant mawr i eraill godi cynwysyddion a'u dychwelyd. Rwy'n credu y gall llawer ohonon ni, o oedran penodol, gofio—. Wel, roeddwn i'n arfer dringo dros gatiau'r dafarn, os mynnwch chi, ac fe fyddai yna focs yno ac fe allech chi gerdded o amgylch a mynd â nhw i mewn a chael ad-daliad. Ond bydden ni hefyd— [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, roedd ychydig yn ddrwg, mewn gwirionedd—cyfaddefiad. Ond, na, roedd yn werthfawr i'w ddychwelyd, dim ond i gael rhywfaint o arian poced ar gyfer losin. Beth bynnag—. Roedd Mick Antoniw yn arfer gwneud hynny pan oedd yn iau. Bydd hyn yn ffordd dda o annog pobl ifanc i ailgylchu.

Rydw i wedi dysgu cymaint—Carolyn, byddwch chithau wedi hefyd—ers i ni fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol yn erbyn sbwriel. Mae'r sbwriel o gwmpas nawr yn ofnadwy. Rwy'n cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau glanhau traethau, ac mae'n —. Pan welwch chi'r caniau, y poteli— naill ai gwydr neu blastig—sydd ar y traethau hynny, mae wir angen ailosod y ffordd o feddwl am hyn. Nawr, bydd y rheoliadau hyn yn golygu, o 1 Hydref, y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cael diod mewn poteli a chaniau untro, caeedig, wedi'u gwneud o blastig, dur, alwminiwm a gwydr, dalu ernes ad-daladwy i'r person sy'n cyflenwi'r cynhwysydd diod, ac yna bydd yr ad-daliad yn cael ei roi pan fydd y cynhwysydd yn cael ei ddychwelyd i bwynt dychwelyd dynodedig.

Ond mae fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig a minnau, a daw hyn ar ôl siarad â diwydiant—. Maen nhw'n gwrthwynebu'n gryf gynnwys gwydr yn y cynllun hwn. Dylen ni barhau i fod wedi ein halinio â'r cynlluniau DRS ar draws gweddill y DU, gan fod Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd wedi cynllunio ar gyfer cynllun heb wydr. Gallai ei gynnwys gymhlethu masnach ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr, creu dryswch i gwsmeriaid a manwerthwyr, gwneud gweithrediadau'n anoddach i fusnesau sy'n gweithio ledled y DU, a chynyddu costau ariannol, unwaith eto, i fanwerthwyr, tafarndai, lletygarwch a chynhyrchwyr diodydd. Felly, gyda hyn mewn golwg, byddwn i'n gofyn i Lywodraeth Cymru anghofio am gynnwys gwydr yn y cynllun hwn, yn enwedig gan eu bod wedi gosod cyfnod pontio o bedair blynedd ar gyfer gwydr yn benodol, sy'n dangos bod cymhlethdodau enfawr yn gysylltiedig â'i gynnwys yn y cynllun hwn. Diolch yn fawr.

Fe ddechreuaf trwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gynnig y briff technegol hwnnw yr wythnos diwethaf, ac am fynediad at rai o'i swyddogion i ofyn rhai cwestiynau pellach. Rwy'n siŵr eu bod nhw wedi gwerthfawrogi'r holl gwestiynau a anfonais drosodd, ond fe ges i ymatebion yn ôl ac fe'u gwerthfawrogwyd yn fawr. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad hefyd â'r Llywodraeth, gan wybod, wrth gwrs, mai'r sefyllfa gyda Llywodraeth y DU oedd cynnwys gwydr yn wreiddiol, a bod tynnu allan o gynnwys gwydr yn y cynllun hwnnw, heb os, wedi achosi cur pen iddo ef a'i dîm.

Heno, byddwn ni'n pleidleisio o blaid y rheoliadau. Fe wnaf i fynd i'r afael â'r pwynt ynghylch diwydiant. Mae'r sgyrsiau rydw i wedi'u cael dros yr wythnos ddiwethaf gyda chyrff cynrychioliadol yn y diwydiant i gyd wedi bod yn eithaf clir. Maen nhw eisiau gweld y rheoliadau yn cael eu pasio oherwydd gallan nhw weld y goblygiadau o beidio â chael cynllun yn cael ei gyflwyno yn unol â gweddill y DU. Nawr, nid yw hynny'n golygu eu bod nhw'n gwbl hapus gyda'r rheoliadau. Rydw i wedi bod yn canolbwyntio fy nghwestiynau ar gynnwys gwydr yn y cynllun hwn. Mae'r diwydiant yn dal i fod yn amheus ynghylch cynnwys gwydr yn y cynllun, ond, gan wybod y rheoliadau fel y'u nodir, mae yna ddarpariaethau yn y rheoliadau ar gyfer eithriadau, a'r hyn y mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb i'r cyfraniadau hyn yw sut mae'r eithriadau hynny'n gweithio, sut maen nhw'n edrych ac a yw'r Llywodraeth wedi llunio, er enghraifft, rhestr o eithriadau posibl, yn enwedig pan fyddwn ni'n sôn am y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, sy'n ddiwydiant cymharol fach, ond y gallai gynnwys gwydr yn y cynllun presennol fel y'i nodir gael effaith sylweddol arno.

Wrth gwrs, efallai mai sgwrs ar gyfer y Llywodraeth nesaf yw hon, neu ar ôl yr etholiad nesaf, ond mae'r cwestiwn, rwy'n credu, yn dal i fod yna nawr bod gennym gynllun DRS yn cael ei gyflwyno—ac fe gyfeiriodd ato yn ei ymateb i'r set flaenorol o reoliadau ar wastraff digidol—ein bod ni'n casglu'r holl bethau hyn a beth ydyn ni'n mynd i'w wneud â nhw? Sgwrs ddiddorol a gefais ynghylch y cynllun hwn oedd y potensial, mewn gwirionedd, y gallai Cymru fod yn symudwr cyntaf yn y maes hwn ac y gallen ni adeiladu'r gadwyn gyflenwi honno. Felly, wrth feddwl am yr ochr economi gylchol o hyn, os oes amser, byddwn i'n gwerthfawrogi, unwaith eto, ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet am sut mae'n gweld hynny'n datblygu hefyd. Mae'n gyfle pwysig i ni ei gymryd yn y fan yma, ond mae yna bethau sydd angen eu hystyried o hyd a phethau y mae angen i ni weithio allan o hyd oherwydd, fel y dywedais i, mae diwydiant yn dal i fod yn amheus ynghylch cynnwys gwydr ac yn gweld pa mor gymhleth yw ei gynnwys.

18:00

Dirprwy Brif Weinidog, mae'r memorandwm esboniadol yn nodi mai pwrpas y cynllun dychwelyd ernes yw cefnogi'r trawsnewid i Gymru gylchol, ddiwastraff a charbon net. O ystyried y dystiolaeth o dros 40 o awdurdodaethau lle mae 'r cynllun dychwelyd ernes yn weithredol, ac fel y soniodd Janet Finch-Saunders eisoes, mae cyfraddau dychwelyd yn uwch na 85 y cant i 90 y cant. Dyna'r cyfraddau nodweddiadol. Mae'r potensial sydd gan hyn i Gymru, y genedl ailgylchu ail orau yn y byd, fel yr ydym wedi clywed o'r blaen y prynhawn yma, yn anhygoel.

Yn bwysig, mae'n gyfeiriad y mae'r etholwyr eisiau i ni ei gymryd. Mae polau piniwn yn dangos yn gyson bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr Cymru yn cefnogi'r cynllun dychwelyd ernes sy'n cynnwys gwydr. Diolch byth, mae'r cynllun sydd ger ein bron yn mynd ymhellach i gefnogi dibenion gwych y rheoliadau hyn, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eithriadau Deddf Marchnad Fewnol y DU sy'n galluogi Cymru i fwrw ymlaen â chynllun sy'n cynnwys gwydr ac, fel y soniodd y Dirprwy Brif Weinidog, yn galluogi Cymru i arwain y ffordd unwaith eto.

Mae modelu Llywodraeth y DU wedi dangos o'r blaen bod cynnwys gwydr mewn cynllun dychwelyd ernes yn darparu arbedion carbon uwch, yn lleihau sbwriel sy'n gysylltiedig â diod hyd at 85 y cant, ac yn gwella cymhareb cost a budd y cynllun. Mae yna hefyd yr effaith ar yr amgylchedd, sy'n eithaf clir. Adroddodd Cymdeithas Milfeddygon Prydain fod 47 y cant o anafiadau sy'n gysylltiedig â sbwriel i anifeiliaid oherwydd gwydr wedi torri. Mae gen i graith ar fy llaw ar ôl syrthio ar y llawr, ar wydr wedi torri yn yr ysgol. Mae'r graith yn dal yma i'w gweld. Felly, mae'n beryglus, ac felly mae cynnwys gwydr mor bwysig. Mae arolygon morol yn dangos cynwysyddion diod yn bresennol ar 99 y cant o draethau Cymru, gyda sbwriel gwydr yn ymddangos ar hanner.

Yn arbennig o bwysig i mi yma yng Nghaerdydd yw'r canfyddiad yng ngwaith lleihau trais y ddinas bod tynnu poteli gwydr o amgylcheddau penodol yn gysylltiedig â gostyngiad o 50 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty am anafiadau treisgar. Mae'n amlwg bod yr achos dros gynnwys gwydr yn gadarn. Mae hyn hefyd yn wir wrth ystyried canfyddiadau grŵp trawsbleidiol y Senedd ar daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff. Fe wnaethant ddarganfod hyn: bod systemau ymyl y ffordd wedi'u cynllunio i ddal deunyddiau a gynhyrchir yn y cartref ac nad ydynt yn mynd i'r afael yn ddigonol â sbwriel neu fwyta/yfed wrth fynd; mae pontio pedair blynedd yn rhoi amser i'r diwydiant addasu—i addasu systemau, labelu a phrosesau data—gan hefyd alluogi cynlluniau treialu ailddefnyddio a threialon gweithredol; ac mae systemau ernes yn gweithredu'n llwyddiannus ar draws sawl gwlad Ewropeaidd, gyda theithio trawsffiniol yn aml, gan gynnwys o fewn y rhanbarth Nordig ac ar draws ardal Schengen, felly ni ddylai fod dryswch.

Yn amlwg—gobeithio eich bod wedi casglu, Dirprwy Brif Weinidog, o'm sylwadau—byddaf yn pleidleisio o blaid y rheoliadau heddiw, ond hoffwn gloi drwy ddiolch unwaith eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—pwyllgor y gwn ei fod yn agos iawn at eich calon hefyd, Dirprwy Brif Weinidog—am eu craffu trylwyr ar y rheoliadau. Hoffwn fynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau technegol, ond efallai na wnaf eich rhoi mewn picil nawr, gan efallai na fyddwch yn gallu ateb y rhain y prynhawn yma. Pam, yn adran 9(10)(a), y defnyddiwyd 'diwrnod busnes' yn hytrach na 'diwrnod gwaith'—mae 'diwrnod gwaith' yn cael ei ddiffinio o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019? Hefyd, mae rheoliad 61(2) yn nodi'r gofyniad ar sefydliad rheoli ernes wrth bennu swm yr ernes. Yna mae rheoliad 62 yn darparu i'r swm hwnnw gael ei adolygu, ond nid yw'n nodi bod y gofynion a nodir yn rheoliad 61(2) hefyd yn berthnasol i unrhyw ddiwygiad. Mae eglurder ar y bwriad hwnnw yn bwysig, oherwydd, gan fod rheoliad 62 wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai yn hawdd, yn fy marn i, arwain at Gymru â phrisiau gwahanol iawn i weddill y DU. Ac yn olaf, fel y gwyddoch, mae Atodlen 5 yn ymwneud â phenodi'r sefydliadau rheoli ernes. Nawr, er ei fod yn nodi pryd y gellir gwneud neu ddirymu penodiadau o'r fath, nid oes llawer o wybodaeth am y broses ei hun. Byddai unrhyw esboniad ynglŷn â'ch bwriadau yn ddefnyddiol. Diolch yn fawr, Dirprwy Brif Weinidog.

18:05

Ysgrifennydd Cabinet, fel yr ydym wedi clywed, mae pryder gwirioneddol yn y diwydiant ynglŷn â chyflwyno gwydr i'r cynllun dychwelyd ernes, ac mae pryder gwirioneddol o gyfrif dwbl a photeli gwydr yn cael eu dwyn i Gymru trwy dwyll o rywle arall er mwyn hawlio ad-daliad ernes pan nad oedd ernes wedi'i dalu'n wreiddiol. Oherwydd hyn, bydd yn rhaid i gynhyrchwyr yng Nghymru a ledled y DU wahanu cynhyrchion a werthir yng Nghymru yn glir o'r rhai a werthir mewn mannau eraill. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu newidiadau i linellau cynhyrchu, a fyddai'n ychwanegu costau sylweddol. O ystyried bod bragwyr, yn enwedig bragwyr bach, eisoes yn gweithredu ar feintiau elw bychain iawn, gallai'r costau ychwanegol hyn ei gwneud yn ariannol anymarferol iddynt barhau. Ar ben hynny, mae angen canllawiau llawer cliriach hefyd ar sut y byddai cynllun dychwelyd ernes Cymru yn cyd-fynd â chyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig, sy'n berthnasol ar draws y DU gyfan ac sydd eisoes yn cynnwys gwydr, oherwydd, yng ngweddill y DU, bydd awdurdodau lleol yn parhau i dderbyn cyllid cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig i gefnogi casglu gwydr wrth ymyl y ffordd, tra bydd ailgylchu gwydr yng Nghymru yn dod o dan y cynllun dychwelyd ernes yn lle hynny. Felly, byddai cynghorau yn debygol o fod ar eu colled o ran y cyllid hwnnw, gan greu bwlch tebygol mewn adnoddau ar gyfer ailgylchu gwydr. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai unrhyw eglurhad ar y rhain yn cael ei groesawu. Diolch.

Yn wreiddiol, roeddwn ychydig yn amheus o gynlluniau dychwelyd ernes, oherwydd rydym ni'n gwneud mor dda o ran gwastraff a gesglir ar ymyl y ffordd ac ailgylchu. Rydym ni wedi treulio blynyddoedd lawer yn cyflwyno hynny, ac rwy'n gwybod, ar draws y gogledd, mae'n gweithio'n dda iawn. Ond rydw i wedi bod yn argyhoeddedig iawn, ar ôl dod i lawr yma i Gaerdydd, a gallwch weld canol trefi a'r sbwriel sydd wedi'i adael ar ôl. Gan siarad â chyrff anllywodraethol, dyna'r sbwriel sydd yn cael ei adael yn ein lonydd ac ar y traethau hefyd. Felly, rwy'n credu, i fod yn flaengar nawr ac i gymryd y cam hwnnw ymlaen, mae angen i ni basio'r Bil hwn a symud ymlaen ag ef.

Mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch rhoi lle mewn siopau ar gyfer peiriannau rhoi arian am ailgylchu. Mae'r cynhyrchwyr cwrw bychain, fel y dywedodd Joel, wedi codi pryderon, ac rwy'n croesawu bod darpariaeth ar gyfer eithriadau. Hoffwn ofyn hefyd am y cynnydd mewn prosesau. Bydd yn rhaid i'r cynhyrchion gael labeli, ac yna, os ydyn nhw'n parhau i gael eu rhoi yn y casgliadau stepen drws hynny, y broses ychwanegol yw i gynghorau orfod ymdrin â'u didoli i gyd. Felly, pan fyddwch chi'n ymateb, Ysgrifennydd Cabinet, pe gallech chi sôn am y rheini, mewn gwirionedd, gan fy mod yn ceisio sicrwydd ynghylch y rheini. Ond, fel arall, dyma'r ffordd ymlaen nawr. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r sbwriel a'i ailddefnyddio, mewn gwirionedd—ailddefnydio'r cynnyrch—yn hytrach na dim ond ei ailgylchu, fel ffordd flaengar ymlaen. Diolch.

18:10

Mae nifer ohonom yn pryderu am faint o wastraff, fel rydym newydd glywed, sydd ar ein strydoedd. Bydd pasio'r regs hyn heddiw yn gam pwysig ymlaen a bydd yn cynnig sicrwydd. Bydd yn sicrhau na fydd Cymru yn cael ei dal yn ôl oherwydd meddylfryd tymor byr yn San Steffan. Mae angen gwneud hyn mewn ffyrdd sy'n cynnig sicrwydd a thegwch i fusnesau bach. Mae fy nghyd-Aelod Luke wedi gosod mas rhai o'r ffyrdd rydyn ni eisiau sicrhau y bydd cefnogaeth ar gael iddynt a hyblygrwydd. Mae hynny'n hollbwysig.

Bydd cymunedau ledled Cymru yn falch o weld y cam nesaf hwn yn cael ei gymryd. Mae'r sbwriel rydym ni'n ei weld ar ymylon ffyrdd, mewn caeau ac ar ein mynyddoedd nid yn unig yn hyllbeth, mae'n niweidiol, mae'n beryglus ac mae'n bosibl ei osgoi. Gan ddysgu oddi wrth wledydd sydd eisoes wedi cyflwyno systemau dychwelyd ernes ac sy'n cyflawni cyfraddau dychwelyd o hyd at 90 y cant, gall Cymru unwaith eto fod yn un o arweinwyr y byd yma, oherwydd bydd llai o boteli a chaniau yn cael eu gadael ar ein strydoedd, yn ein hafonydd, yn llygru ein bywyd gwyllt, ac unwaith eto y perygl hwnnw. Gall sbwriel gwydr hefyd achosi niwed gwirioneddol. Mae gwydr wedi torri yn peri risg i bobl ac i anifeiliaid.

Ni ddylid dal Cymru yn ôl o ran ein huchelgeisiau oherwydd penderfyniadau gwrthredol San Steffan. Gadewch i ni atgoffa ein hunain yma mai'r hyn rydym ni yng Nghymru yn cychwyn arno nawr yw lle roedd gweddill y DU i fod i fynd yn wreiddiol. Dyma lle byddant yn anochel yn ein dilyn ni hefyd. Y Torïaid yn San Steffan oedd y rhai a benderfynodd dorri'r addewid hwnnw, torri'r penderfyniad hwnnw, gan ddisgwyl i'r gweddill beidio â dilyn eu harweiniad ond eu dilyn drwy dynnu'n ôl, dilyn eu hymostyngiad. Rhaid i Gymru wneud yn well na hynny.

Ond ni fyddwn yn ei wneud mewn ffyrdd, wrth gwrs, a fydd yn gwneud pethau'n anoddach i ddiwydiant. Fel sydd eisoes wedi'i nodi gan Luke a chan eraill, mae yna dipyn o deimlad yma mewn gwirionedd bod hyn yn rhywbeth lle mae angen iddyn nhw fod â sicrwydd. Mae yna ffyrdd o wneud hyn, wrth gael yr hyblygrwydd hwnnw, na fydd yn rhwystro busnesau. Gallai hyn eu rhoi ar flaen y gad. Gallai roi hyblygrwydd iddynt a gallai'r cyfnod paratoi hir ac arweiniad clir helpu gyda hynny. Os ydym eisiau i'r cynllun hwn lwyddo, mae'n rhaid ei wneud gyda busnes, a rhoi cefnogaeth yn enwedig i fusnesau llai. Ond mae uchelgais yn hanfodol.

Mae'n rhaid i hyn weithio mewn ffordd sydd yn torri gwastraff, sydd yn cefnogi dyfodol mwy cynaliadwy. Os ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd, bydd yn rhaid i ni lwyddo gyda hyn. Felly, er mwyn dyfodol Cymru, rydyn ni'n gobeithio y bydd y cam nesaf yn cyfrif, ac yn gobeithio'n fawr y bydd hyn yn pasio.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru dynnu'n ôl o'r broses dychwelyd ernes gyda thair gwlad arall y DU, gan nodi eu dymuniad i Gymru fod yn arloeswr wrth symud y tu hwnt i ailgylchu a thuag at ailddefnyddio. Mae hwn yn nod teilwng ac rwy'n cefnogi'r cynllun dychwelyd ernes, ac, mewn theori, nid wyf yn gwrthwynebu cynnwys gwydr, ond mae'n rhaid iddo fod yn ddull pedair cenedl oherwydd gall canlyniadau mynd ein ffordd ein hunain fod yn ddinistriol i fusnesau a'r defnyddiwr. Dyna pam mae cynnwys gwydr yn gamgymeriad mawr, oherwydd rydym ni'n mynd ar ein pen ein hunain. Maent wedi cytuno i gyfnod pontio pedair blynedd pan na fydd blaendal yn berthnasol i gynwysyddion gwydr, sy'n golygu y bydd cynhyrchwyr yn talu am sefydlu seilwaith mannau dychwelyd na fyddant yn cael eu defnyddio. Pa gymhelliant sydd yna i bobl yrru eu poteli gwydr i'r archfarchnad agosaf os na fyddant yn derbyn ernes am eu dychwelyd?

Mae yna bryderon difrifol hefyd gan y sector y bydd cydymffurfio yn gwneud ffioedd yn afresymol i gynhyrchwyr, a fyddai'n arwain at brisiau uwch a dewis cyfyngedig i gwsmeriaid wrth i frandiau dynnu allan o'r farchnad yng Nghymru. Mae hwn yn bryder difrifol, ac, hyd y gallaf weld, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad o effaith y cynllun ar gynhyrchwyr a defnyddwyr. Nid ydym ychwaith wedi clywed esboniad ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael pobl i ddychwelyd poteli gwydr yn ystod y cyfnod pontio pedair blynedd os nad oes cymhelliant ariannol i wneud hynny.

Rydym i gyd yn cefnogi'r nod yma: llai o sbwriel, gwell ailgylchu ac amgylchedd glanach. Gall cynllun dychwelyd ernes helpu hynny, ond nid yr egwyddor yw'r mater, ond a yw'r fersiwn hon o'r cynllun yn ymarferol. Fel y'i drafftiwyd, nid ydym yn credu ei bod hi, oherwydd, yn hytrach nag alinio â gweddill y DU, mae Cymru'n dewis gwyro, yn enwedig trwy gynnwys gwydr. Mae'r penderfyniad hwnnw'n creu canlyniadau go iawn. Mae'n golygu labelu ar wahân, cadwyni cyflenwi wedi'u rhannu, costau uwch, yn enwedig i'n busnesau bach a chanolig ledled Cymru. Ni fydd llawer yn gallu ysgwyddo'r costau hyn. Byddant yn tynnu cynnyrch yn ôl o'r farchnad yng Nghymru, fel y soniwyd eisoes gan eraill. Mae'r amcangyfrifon gan y diwydiant yn llym. Gallai'r amrediadau cynnyrch ostwng rhwng 80 y cant a 90 y cant. Mae hynny'n golygu llai o ddewis i ddefnyddwyr ac ergyd wirioneddol i fusnesau Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a'r gororau. A hyn i gyd i beth? Mae Cymru eisoes yn ailgylchu tua 92 y cant o wydr, un o'r cyfraddau uchaf yn unrhyw le yn y byd. Dydw i ddim yn canmol y Llywodraeth am lawer, ond ar dargedau ailgylchu maen nhw'n gwneud yn eithaf da. Ond dim ond 80 y cant erbyn 2030 yw'r targed o dan y rheoliadau hyn. Felly, rydym yn ychwanegu cost, cymhlethdod, am ddim budd amgylcheddol ystyrlon, ac yn ystod y cyfnod pontio ni fydd gwydr hyd yn oed yn cario ernes, ond bydd angen ei adnabod ar wahân, pan fo awdurdodau lleol yn colli ffynhonnell fawr o'u cyllid sy'n gysylltiedig â chasglu gwydr. Nid yw hynny'n bolisi cydlynol.

Nid yw'r broses wedi helpu, gyda phryderon wedi'u codi am yr asesiadau effaith gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r ffordd y mae'r rheoliadau hyn wedi'u cyflwyno. Llywydd, mae Reform yn cefnogi cynllun dychwelyd ernes sydd wedi'i alinio, yn enwedig ar wydr, ledled y Deyrnas Unedig, sy'n ymarferol ac yn effeithiol. Ond, yn anffodus, Ysgrifennydd Cabinet, nid yw'r cynllun hwn yn un o'r pethau hynny. Mae'n creu gwahaniaeth, costau cynyddol a pherygl o danseilio'r hyn sydd eisoes yn gweithio. Dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn pan ddaw'r bleidlais yn nes ymlaen. Diolch.

18:15
Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:16:15
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe geisiaf ymateb i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau, os oes gen i amser, oherwydd mae wedi bod yn ddadl dda iawn. Doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o siaradwyr a chyfraniadau. Ond gadewch i mi, yn gyntaf oll, ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rydym ni, yn wir, wedi derbyn y mwyafrif o'r pwyntiau sydd wedi'u codi gan geisio yn ein hymateb i chi, ddangos sut rydym ni'n mynd i fynd i'r afael â nhw. Diolch hefyd am gymryd yr amser i'm gwahodd i'r pwyllgor, er mwyn i ni allu archwilio rhai o fanylion hyn hefyd. 

Na, roeddwn i'n ei werthfawrogi, oherwydd mae yna lawer o fanylion o dan hyn, a hefyd y manylion a rannwyd gennym gydag Aelodau a oedd yn ceisio rhywfaint o friffio technolegol hefyd, oherwydd mae'n bwysig mynd o dan groen hyn, ac wrth wneud hynny—. Janet, gadewch i mi ddechrau gyda'ch cyfraniad, oherwydd cefais fy nghalonogi, roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n siarad o blaid, ac yna aethoch rownd rhai corneli ac yna roeddech chi'n siarad yn erbyn, oherwydd bod gwydr yn cael ei gynnwys. Gadewch i mi ddod at hynny'n uniongyrchol. Yn y pen draw, roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar hyn ar gyfer cynllun cynhwysfawr; roedd y pedair gwlad i fod i ddilyn y llwybr hwn. Ond yr hyn rydym ni wedi'i ddylunio nawr, ar y cyd â'r gwledydd eraill—nid Llywodraeth y DU yn unig, ond gyda Llywodraethau eraill y DU mewn gwirionedd—yw cynllun sy'n caniatáu i ni i gyd gerdded ymlaen gyda'n gilydd yn 2027, ond i ni wedyn gael cyfnod pontio, pan ydym ni'n gweithio gyda'r sector ac yna cyflwyno ailddefnyddio gwydr untro, ac yna, yn y pen draw, rydym ni'n cyrraedd y gyrchfan honno yr oedd Delyth yn siarad amdani yn briodol, lle rydym ni'n cael ailddefnyddio, yn dilyn trafodaethau Llywodraeth yn y dyfodol a dylunio'r elfennau hynny ohoni, ac yna mae'r DU a'r gwledydd datganoledig eraill wedi ei gwneud hi'n eithaf clir mai dyna'r gyrchfan i bob un ohonom yn y pen draw.

Ond rydw i eisiau bod yn glir iawn, iawn, ac fe ddywedais hynny yn fy sylwadau agoriadol, pan ddywedais, os nad yw'r rheoliadau'n cael eu pasio heddiw, dyna'r senario hunllefus y mae'r busnesau'n eich rhybuddio rhagddi. Dim ond i fod yn glir, dim ond i fod yn wirioneddol glir, oherwydd mae hyn yn bwysig, byddai mewn gwirionedd yn golygu nad oes cynllun i symud ymlaen yng Nghymru pan fydd y cynllun dychwelyd ernes yn cael ei weithredu yn 2027. Ni fydd cynllun yng Nghymru. Nid yn unig y byddai hyn yn golygu bod Cymru'n colli'r manteision, byddai hynny'n dod â'r costau—costau sylweddol—ac aflonyddwch i fusnesau, a chreu risg o dwyll. Dyna beth mae'r sector i gyd, Janet, a Joel, a James, wedi bod yn ei ddweud wrthym: 'Os gwelwch yn dda ceisiwch osgoi'r senario hunllefus honno.' Dyna pam rydym ni wedi cynllunio pontio graddol gyda nhw i reoli hyn mewn gwirionedd. Mae amcangyfrif yma, os na fyddwn yn bwrw ymlaen â hyn, y bydd gwerth rhwng £48 miliwn a £300 miliwn o dwyll, os nad ydym mewn gwirionedd yn camu ymlaen yma heddiw a phasio'r Gorchymyn hwn. Felly, rwyf eisiau dweud wrthych: byddwch yn glir ynghylch beth yw eich penderfyniad heddiw os nad ydych chi'n cefnogi hwn, oherwydd mae'n gwahodd twyll, mae'n gwahodd y gallu i ryngweithredu, ac mae'n gwahodd tarfu ar farchnad y DU. Efallai eich bod wedi camddeall sylwadau sydd wedi'u cyflwyno. Fe ddaw'r aflonyddwch mawr hwn os nad oes gennym gynllun ar sail pedair gwlad yn 2027. Gareth.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n derbyn yn llawn yr hyn rydych chi'n ei ddweud, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi cael ei adleisio hefyd gan y diwydiant, felly mae'n ddadansoddiad eithaf cyson rydych chi'n ei wneud yna, Ysgrifennydd Cabinet. Ond y mater ynghylch gwydr yw'r broblem, a'r hyn y mae'r diwydiant yn ei ddweud hefyd yw—. Maen nhw wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru am gynnwys gwydr yn fwriadol fel pecyn cyfan, yn hytrach na bod yn drefn ychydig yn wahanol. Felly, a fyddech chi'n derbyn y byddai hynny'n wir? Mae'n dipyn o—. Fyddwn i ddim yn dweud ei fod yn gamarweiniol, ond, mewn rhai ffyrdd, rydych chi wedi rhoi'r holl beth at ei gilydd fel pecyn cyfan a'n rhoi ni mewn sefyllfa o gyflawni rhywbeth beth bynnag fo'r canlyniad yn yr ystyr hwnnw, mewn gwirionedd.

18:20

Na, i'r gwrthwyneb. Gadewch i mi ailfframio'n union yr hyn rydych chi wedi'i ddweud. Y sefyllfa o gyflawni rhywbeth beth bynnag fo'r canlyniad fydd y sefyllfa os nad ydym yn pasio hwn heddiw, oherwydd ni fydd system weithredol ar draws y DU yn y pedair gwlad os byddwch chi'n gwrthod y Gorchymyn hwn heddiw. Mewn gwirionedd, yr hyn rydym ni wedi'i gynllunio yw pontio dros bedair blynedd ar gyfer cyflwyno gwydr untro ac yn y pen draw, cyrchfan, yn ddarostyngedig i Lywodraethau'r dyfodol, er mwyn cyflwyno ailddefnyddio gwydr—rhywbeth y siaradodd Janet o'i blaid mewn egwyddor, ond yna dywedodd na ddylem fod yn ei wneud nawr. Mewn gwirionedd, mae'r hyn sydd gennym yma heddiw wedi'i gynllunio i osgoi'r senario hunllefus honno yn 2027 lle mae problem sylweddol wirioneddol o dwyllo, y gallu i ryngweithredu a chostau ac aflonyddu ar y gadwyn gyflenwi. Peidiwch â gwrthod hwn heddiw, oherwydd dyna'r hunllef y mae'r gadwyn gyflenwi yn eich rhybuddio rhagddi. A dim ond i ddweud, mae'r cynllun gwydr i gyd yn union yr un cynnig, y cynllun cynhwysfawr, sydd wedi cael ei gefnogi gan Aelodau da iawn yn y Senedd hon, Llywydd, sy'n aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar sbwriel, gan gynnwys Janet, Jane ac eraill yn eu plith. Maen nhw wedi cefnogi hwn o'r blaen—dyna beth rydym ni'n ceisio ei gyflwyno.

Gadewch i mi fynd trwy rai agweddau eraill yn gyflym, oherwydd mae'r cynllun hwn mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r mwyafrif helaeth o gynlluniau yn rhyngwladol. Mae'r un cynhyrchwyr eisoes yn cyflenwi'r marchnadoedd hynny. Nid oes aflonyddwch, nid oes materion ynghylch y gallu i ryngweithredu. Ar gyfer busnesau bach a chanolig, Luke, mae eithriadau cyfaint isel i sicrhau nad effeithir arnynt yn anghymesur. Nid oes unrhyw dystiolaeth, James, o gwbl, yr ydym yn ymwybodol ohoni, o gynhyrchwyr yn y marchnadoedd hynny—53 gwlad rwy'n credu, a mwy—yn tynnu eu cynnyrch o'r farchnad. Nid yw'n bodoli.

Felly, gadewch i mi fynd ymlaen at y pwyntiau a wnaed gan Rhys a—. O, mae'n ddrwg gennyf, fe wnes i sôn am y goblygiadau twyll o beidio â phasio hwn heddiw mewn gwirionedd yn tarfu ar y farchnad yma. Rhys, rhai pwyntiau da iawn a wnaed a diolch am eich cefnogaeth ar hyn. Mae hyn yn wir yn mynd i'n hymrwymiad, 'Mwy nag Ailgylchu', ac i gael y manteision hynny o economi gylchol fel y'u disgrifir yng nghynllun Sero Net Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd yn fawr â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n safbwynt cyson y dylem gael cynllun cynhwysfawr yn y pen draw. Ond mae gennym gyfnod pontio wedi'i adeiladu yma i weithio gyda'r gadwyn gyflenwi i'w wneud yn hawdd ei drin ac i osgoi rhai o'r canlyniadau rydym ni wedi'u clywed yn cael eu disgrifio. Trwy symud i gynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, byddai'n darparu arbedion carbon, rydym yn amcangyfrif, o 76 y cant ar gyfer gwydr y gellir ei ailddefnyddio o'i gymharu â gwydr untro cyfatebol—felly, arbediad carbon o 76 y cant yn y pen draw.

Mae Cymru, fel y crybwyllwyd gennych, eisoes yn ail yn y byd o ran ailgylchu, ond bydd hyn yn mynd â ni ymlaen. Dim ond i ddweud, fel un o'r cenhedloedd ailgylchu gorau yn y byd, mae'n rhaid i ni fanteisio ar y modelau byd-eang gorau, felly mae'r diwydiant yn cefnogi ein cysyniad o dreialu ailddefnyddio yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n dod â ni, Luke, at y mater hwnnw, 'y cyntaf i'r farchnad'. Os gallwn gael y cynllun treialu mawr cyntaf o ran ailddefnyddio fel rhan o'r cynnig hwn, yna rydym yn cael manteision y cyntaf i'r farchnad lle mae gennym gynhyrchwyr yn ailddefnyddio, ail-labelu'r poteli hynny a ffynhonnell newydd o ddeunyddiau sy'n dod i'r farchnad fel dewis arall i bobl feddwl amdano: prynu pethau newydd, prynu pethau wedi'u hailgylchu, neu brynu pethau wedi'u hailddefnyddio hefyd, yn y pen draw. Dyna pam mai hon yw'r ffordd iawn.

I ddinasyddion, dim ond i'w gwneud yn glir yma, bydd y cynllun yn rhoi opsiwn dychwelyd cyfleus, hygyrch i bawb. Rwy'n cofio dyddiau pop Corona. Roeddwn i'n un o'r cythreuliaid ifanc digywilydd hynny a oedd yn mynd o gwmpas yn casglu'r poteli oddi ar gerrig drysau, mynd â nhw yn ôl i'r siopau papur newydd a chael fy ngheiniogau yn ôl ar gyfer fy arian poced. Lle rydych chi'n gweld hyn bellach yn gweithio, gallwn ei ddatblygu mewn ffordd sy'n cynnig dychwelyd ernes â llaw a thrwy beiriant, lleoliadau eang a hawdd eu cyrraedd ledled Cymru, cyfathrebu dwyieithog clir a chyson hefyd, gan esbonio sut mae hyn yn gweithio, ac rydym yn darparu cymunedau mwy diogel, strydoedd glanach, llai o sbwriel, llai o wydr, ac economi fwy cylchol. Felly, mae hyn o fudd i ddinasyddion Cymru, ac, fel y dywedais, roeddwn yn falch iawn o weld y gefnogaeth drawsbleidiol yn y grŵp trawsbleidiol ar sbwriel, ac ati, yno hefyd.

Carolyn, dim ond i ddweud ein bod ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol yn agos iawn ar hyn. Rydym ni'n ei ymblethu â'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig a'r casgliad ymyl y ffordd, felly, os byddwn yn pasio'r Gorchymyn hwn heddiw, gallwn barhau i weithio ar hynny i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei symleiddio. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n fantais a ddaw yn sgil y dull rydym ni'n ei fabwysiadau, ein bod ni'n adeiladu ar yr hyn rydym ni'n ei wneud ac rydym ni'n mynd hyd yn oed ymhellach trwy weithio gyda'r hyn sydd gennym eisoes.

A hefyd, i ddweud, o ran manwerthwyr, yn hytrach na rhoi'r baich ar fanwerthwyr yn unig i gymryd pob eitem y cynllun yn ôl, mae manylion hwn yn bwysig, fel y gwelodd yr Aelodau sydd wedi ymgysylltu â hyn. Mae ein deddfwriaeth yn cefnogi opsiynau dychwelyd hyblyg ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes; mae'n caniatáu i'r sefydliad rheoli ernes wneud y trefniadau y mae'n eu hystyried yn briodol ar gyfer eitemau sy'n cael eu dychwelyd, a gallai hyn gynnwys, gyda llaw, fel y soniais i, y defnydd o opsiynau ymyl y ffordd yn ogystal â manwerthwyr neu fannau casglu mawr ac ati.

Rwy'n sylweddoli fy mod wedi defnyddio llawer o amser i geisio mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau yma, ond roeddwn i eisiau troi'n ôl at Luke, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn sicr wedi rhoi tasg i'm swyddogion gyda llawer o gwestiynau, ac rwyf eisiau ailadrodd rhai o'r rhain. Felly, er enghraifft, ni allaf gwmpasu pob un ohonynt, ond, o ran manwerthwyr bach a siopau cornel, un o'r pryderon yw sut mae'n gweithio iddyn nhw. Mae'r cynllun hwn yng Nghymru yn fwriadol yn darparu mwy o hyblygrwydd i fanwerthwyr nag unrhyw gynllun arall yn y DU, ac mae'n caniatáu i'r maes hwnnw fireinio sut mae'r system yn gweithio yn ymarferol ar gyfer y manwerthwyr llai a'r siopau cornel hynny. Nid yw'n mynd i fod yn orfodol arnyn nhw—byddwn ni'n gweithio gyda nhw, y rhai sydd eisiau—ond yr hyn rydw i wedi'i weld pan wyf i wedi teithio i weld y rhain mewn gwledydd eraill yw bod llawer o'r siopau hynny efallai nad oeddent wedi mynd i mewn i'r cynllun i ddechrau wedi dweud, 'Rydw i eisiau bod yn rhan ohono nawr, oherwydd mae gennym ni bobl yn dod â'u poteli yn ôl, cael eu harian yn ôl ac yna'n prynu cynnyrch yn fy siop i.'

Mae'r rheoliadau yn cyflwyno'r elfen graidd, ond mae rhagor o waith i'w wneud yn y dyfodol gan Lywodraethau'r dyfodol hefyd i addasu'r cynllun hwn, a rheoliadau yn y dyfodol i'w dwyn ymlaen hefyd, ond mae'r cwmpas craidd wedi'i nodi ynddo. Felly, mae'r rheoliadau yn gosod y fframwaith craidd, ond mae cryn hyblygrwydd yn cael ei adael nawr i'r sefydliad rheoli ernes dan arweiniad y cynhyrchydd ar gyfer y gweithrediad manwl hefyd.

Ni allaf ymdrin â hyn i gyd, oherwydd rwy'n gwybod fy mod yn trethu brwdfrydedd y Llywydd, ond, dim ond i esbonio pam mae hyn wedi'i gynllunio'n ddeallus, roedd y dull o ran eithriadau a grybwyllwyd gennych yn rhan o'r ymgynghoriad diweddar i lywio'r addasiadau y gallwn eu gwneud. Mae hynny'n cynnwys eithriadau cynnyrch cyfaint isel ehangach—roeddent yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw—eithriadau ar gyfer fformatau pecynnu cymhleth neu ansafonol; eithriadau llinell cyfaint isel—felly, mynd i galon bragdai bychain a phethau fel hynny—eithriadau ar gyfer targedau ailddefnyddio ar gyfer sectorau sensitif i fasnach ryngwladol—felly, rhai o'r poteli hynny sy'n anodd eu hadnabod, fel gwirodydd rhyngwladol neu gynwysyddion od—ac ati. Felly, mae yna ddigon o allu yma i lunio hwn ar gyfer yr hyn sy'n gweithio yng Nghymru ac i ddysgu o'r enghreifftiau rhyngwladol gorau.

Dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi ymdrin â phwyntiau pawb, Llywydd, ond roeddwn i eisiau rhoi rhywfaint o fanylion ar hyn. Mae hon yn foment dyngedfennol. Mae Cymru wedi arwain yn gyson am y rhesymau cywir, nid yn unig oherwydd y gallwn ac y dylem ei wneud, ond hefyd oherwydd ei fod yn helpu'r DU yn ei chyfanrwydd. Yr hyn sydd gennym yma—. Byddwn i'n dweud wrth y rhai sy'n ystyried pleidleisio yn erbyn, cofiwch yr hyn rydw i wedi'i osod yma. Y senario hunllefus yw peidio â chael cynllun yn 2027, fel y cynlluniwyd yma, lle gall y pedair cenedl, yn 2027, gerdded ymlaen gyda'i gilydd. Bydd y diwydiant yn dweud wrthych yn glir mai dyna'r senario hunllefus, sef peidio â gwneud hynny. Mae manteision hyn, manteision yr economi gylchol, i ddinasyddion Cymru ac i sbwriel, yn enfawr. Felly, byddwn yn annog Aelodau i gefnogi hwn. Mae'n gam enfawr ymlaen unwaith eto i Gymru mewn arweinyddiaeth yn y DU, gan ymuno â dros 50 o wledydd eraill sy'n gwneud hyn yma, ar hyn o bryd. Diolch.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026

Eitem 9 sydd nesaf, Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig yma—Dawn Bowden.

Cynnig NDM9230 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Ar ôl ei chymeradwyo gan y Senedd hon ym mis Mawrth y llynedd, a gwneud y Gorchymyn cychwyn cyntaf yn ôl ym mis Tachwedd, mae disgwyl i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ddod i rym yn sylweddol ar 1 Ebrill. Mae'r Ddeddf yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfres o ddiwygiadau pwysig gyda'r nod o wella'r ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau sydd â'r bwriad o atal tynnu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, darpariaethau, fel y byddwn yn clywed mwy amdanynt yn ddiweddarach y prynhawn yma, i alluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd, yn ogystal â nifer fach o ddiwygiadau i'n fframwaith rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol i sicrhau y gall weithredu'n llawn ac yn effeithiol.

Mae'r rheoliadau diwygio canlyniadol hyn yn gwneud newidiadau technegol i Ddeddf Gofal 2014—sy'n cyfateb yn Saesneg i'n Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014—ac i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan Ddeddf 2025.

Mae rheoliad 2 yn diwygio croesgyfeiriadau o fewn y Ddeddf Gofal at ddarpariaethau penodol sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol yn ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sydd wedi newid yn dilyn diwygiadau a wnaed gan Ddeddf 2025. Yn yr un modd, mae rheoliad 3 yn diwygio adran 47(d) o'n Deddf Rheoleiddio ac arolygu ynghylch gwneud datganiadau anwir, i adlewyrchu diwygiadau a wnaed i adran 32 o'r Ddeddf honno ynghylch y pŵer i ofyn am wybodaeth at ddibenion rheoleiddio gan adran 17(2) o Ddeddf 2025.

Yn y bôn, mae'r rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau o fewn deddfwriaeth sylfaenol bresennol, felly yn darparu eglurder a sicrhau cysondeb yn y gyfraith, ac felly rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau.

18:30

Gweinidog, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed heddiw na fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Fel y gwyddoch chi, o sawl gwaith rydw i wedi siarad ar y mater hwn, nid wyf yn cefnogi'r Ddeddf mewn egwyddor oherwydd nid wyf yn credu bod capasiti yn y system i ymdrin â dileu elw o ofal ar hyn o bryd. Rwy'n credu yn ansawdd y gofal a ddarperir, nid sut neu ble mae'n cael ei ddarparu, ac nid wyf yn credu bod tynnu elw o ofal yn mynd i fod o fudd i'r system. Rwy'n credu y bydd mewn gwirionedd yn rhoi llawer mwy o bwysau ar awdurdodau lleol, ac nid oes gennym y gallu yn y system ar hyn o bryd i gefnogi'r Ddeddf wrth iddi gael ei gweithredu. Felly, yng ngoleuni hyn, byddwn yn gwrthwynebu rheoliadau heddiw. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid wyf yn cefnogi'r Ddeddf mewn egwyddor. Diolch.

Wel, dim ond i ddweud, Llywydd, bod y gwaith o graffu ar y ddeddfwriaeth hon wedi ei wneud dros nifer o fisoedd ac mae hi eisoes wedi'i chymeradwyo gan y Senedd, ac mae'r rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau o fewn y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol er mwyn sicrhau cysondeb yn y gyfraith.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais ar hyn.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Mae eitemau 10 ac 11 nesaf, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan yr eitemau yma yn cael eu trafod gyda'i gilydd, ond yn pleidleisio ar wahân. Felly, does yna ddim gwrthwynebiad.

10. & 11. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2026 a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 10) 2026

Cynnig NDM9228 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.

Cynnig NDM9227 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 10) 2026​ yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2026 yn ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru at Atodlen 6 y Mesur fel bod modd cynnwys y corff mewn rheoliadau safonau'r Gymraeg. 

Troi at y rheoliadau: mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 10) 2026 yn dod â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o dan y safonau ac yn ychwanegu Cartrefi Cymunedol Cymru at Reoliadau Safonau'r Iaith Gymraeg (Rhif 2) 2016. Mae'r rheoliadau'n cwblhau gwaith y Senedd hon i gryfhau'r gyfundrefn safonau sydd wedi bod ar waith ers dros ddegawd. Ers 2021, mae rheoliadau safonau'r Gymraeg wedi eu gwneud ar gyfer rheolyddwyr iechyd, cymunedau dŵr, ac rydyn ni wedi ychwanegu cyrff cyhoeddus at y rheoliadau safonau presennol.

Rydym hefyd wedi parhau i geisio cyfleoedd i ychwanegu cyrff cyhoeddus newydd at y rheoliadau safonau presennol drwy ddeddfwriaeth. Roedd llawer o'r gwaith hwn yn rhan o'r cytundeb cydweithio ac rydw i'n ddiolchgar i bawb a helpodd i lunio'r hyn sydd wedi bod yn estyniad uchelgeisiol yn yr hawl i gael mynediad at wasanaethau Cymraeg yng Nghymru.

Rydw i hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau. Rydym wedi derbyn y pwynt adrodd technegol a nodwyd. Bydd hyn yn cael ei gywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. Rydym hefyd yn nodi pwynt adrodd y pwyllgor ynghylch Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Gan fod y mater hwn yn mynd y tu hwnt i'r rheoliadau hyn, byddwn yn ystyried maes o law a oes angen deddfwriaeth i ddiwygio pob set o reoliadau safonau.

Bydd y rheoliadau yn galluogi'r comisiynydd i osod safonau ar y sector tai cymdeithasol a sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau. Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft, rydym wedi ychwanegu safonau ar gyfer cyfleusterau sgwrsio ar-lein a hunaniaeth gorfforaethol, gan roi mwy o hyblygrwydd i'r comisiynydd wrth osod safonau. Rydym hefyd wedi creu safon newydd ar gyfer cynnwys sain a fideo, a chadarnhau'r safonau sy'n berthnasol i byrth a ffurflenni ar-lein.

Bydd pasio'r rheoliadau hyn yn golygu bod cymdeithasau tai yn ymuno gyda dros 140 o gyrff sydd eisoes o dan y safonau. Bydd y safonau yn rhoi hawliau pwysig i bobl wrth iddynt ddelio â'r cyrff sy'n darparu cartrefi iddynt.

Cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg yw rhoi arweiniad ac i egluro gofynion y safonau mewn ffordd ymarferol. Rydw i'n gwybod bod trafodaethau adeiladol eisoes wedi digwydd ac y bydd y safonau yn cael eu gwireddu mewn ffyrdd sy'n rhesymol ac yn gymesur, fel sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Gofynnaf i bob Aelod gymeradwyo'r Gorchymyn a'r rheoliadau hyn. Diolch.

18:35

Mae Plaid Cymru yn croesawu'r safonau yma ar gyfer cymdeithasau tai. Mae hi wedi cymryd blynyddoedd i ni gyrraedd at heddiw—llawer rhy hir—ond dyna ni wedi cyrraedd o'r diwedd.

Mae llawer o'r stadau tai cymdeithasol yn fy ardal i yn gadarnleoedd i'r iaith Gymraeg ac mae creu hawliau i denantiaid sy'n ddefnyddwyr o'r Gymraeg ar draws Cymru yn hollbwysig. Mae'r safonau hefyd yn hwyluso creu peuoedd siarad Cymraeg o fewn gweithluoedd lle mae'r safonau yn bodoli, a rŵan fydd hynny'n bosib o fewn y cymdeithasau tai hefyd.

Mae cyflwyno'r set yma o safonau bron â chwblhau'r ymrwymiad rhwng ein dwy blaid ni a wnaed drwy'r cytundeb cydweithio ynglŷn â deddfwriaeth o gwmpas yr iaith Gymraeg. Bron â chwblhau, meddaf i—roedd cludiant cyhoeddus yn rhan o'r ymrwymiad, ac mi fuaswn i'n falch o gael diweddariad ynglŷn â lle mae'r gwaith hwnnw wedi cyrraedd erbyn hyn, gan obeithio bod y gwaith ar y gweill ac yn barod i fynd, yn barod i symud ymlaen yn y seithfed Senedd.

Mae'r safonau yn hollbwysig ar gyfer cynnal statws dwy iaith swyddogol Cymru: un yn iaith bwerus fyd-eang; y llall, y Gymraeg, yn iaith leiafrifol, ond yn iaith sy'n greiddiol i'n hunaniaeth ni, ac mae hi'n iaith sy'n perthyn i ni i gyd. A dwi yn gobeithio y bydd pob plaid yn cefnogi cyflwyno'r rheoliadau yma heddiw.

Mi ydyn ni wedi gweld consensws o blaid hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y Senedd yma. Dwi yn pryderu ychydig bach ynglŷn â sut bydd hi yn y seithfed Senedd, a dwi yn gobeithio na fydd y Ceidwadwyr yn cael eu tynnu i'r un cyfeiriad â Reform. Roedd sylwadau Nigel Farage yn disgrifio'r iaith Gymraeg fel iaith estron yn sarhad cwbl annerbyniol, yn warthus, a dwi yn gobeithio y bydd pob Aelod yn y Senedd yma, yn Senedd Cymru, yn condemnio'r sylwadau rheini. Diolch.

Sut allwn i anghofio Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges?

Diolch, Llywydd. Bydd fy nghyfraniad heddiw mewn perthynas â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 10) 2026, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 2 Mawrth ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt craffu technegol a thri phwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at anghysondeb yn ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg—mae cyfeiriad yn ymddangos yn y testun Cymraeg nad yw'n ymddangos yn y Saesneg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt adrodd a bydd yn gwneud cywiriadau cyn ei wneud.

O'r tri phwynt adrodd craffu ar rinweddau gan y pwyllgor, nid oedd angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ar ddau. Mae un yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y rheoliadau hyn a Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2026. Mae'r llall yn nodi y bydd y rheoliadau hyn yn destun adolygiad ehangach o safonau'r Gymraeg gan Weinidogion Cymru yn ddiweddarach, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

Mae pwynt adrodd ar rinweddau arall y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, sef pwynt adrodd 2, yn tynnu sylw at anghysondeb pwysig yn y modd y mae cyfundrefn safonau'r Gymraeg yn berthnasol i ddogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd neu a gynhyrchir at ddefnydd y cyhoedd. Er bod dogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi'u heithrio o safonau'r Gymraeg, nid yw dogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd o ganlyniad i Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, sy'n darparu mynediad at wybodaeth amgylcheddol, wedi'u heithrio ar hyn o bryd. Mae pwynt adrodd y pwyllgor yn gofyn pam mae datgymhwyso'r drefn safonau wedi'i ymestyn i ddogfennau sydd ar gael o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond nid i ddogfennau a gafwyd drwy'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwynt y pwyllgor, y mae'n dweud ei fod yn ymestyn y tu hwnt i'r gyfres hon o reoliadau. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r holl gyfresi o reoliadau safonau i benderfynu y dylai dogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol gael eu heithrio o'r drefn safonau.

18:40

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynrychioli 30 o gymdeithasau tai nid er elw, sy'n darparu 174,000 o gartrefi i bron a bod 10 y cant o boblogaeth Cymru. Felly, mae'n wych bod y safonau yma yn cael eu hymestyn i hyd yn oed mwy o bobl, canran mor sylweddol o'n poblogaeth ni. Ond beth hoffwn ei holi ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw goblygiadau Atodlen 6 ar y cyrff a enwir.

Fel rydych chi'n gwybod, mae yna gost sylweddol i gyfieithu. Rŷn ni wedi clywed adroddiadau yn y gorffennol am gynghorau cymunedol yn dewis cynnal eu trafodaethau yn Saesneg yn unig oherwydd cost cyfieithu ar y pryd. Pa gefnogaeth ymarferol fydd yn dilyn i Cartrefi Cymunedol Cymru er mwyn ehangu eu gwasanaeth Cymraeg? A fyddai modd, efallai, edrych i weld sut mae modd ehangu cyfrifoldebau'r mentrau iaith, er enghraifft, gyda chymorth ariannol, i fod yn bwyntiau mynediad at wasanaethau cyfieithu i gyrff Atodlen 6? Wrth gwrs, rwy'n cefnogi'r Gorchymyn a'r rheoliadau heddiw 100 y cant, ond rwy'n credu efallai bod modd inni ystyried sut i gefnogi'r cyrff a enwir yn Atodlen 6. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i Mike Hedges am nodi'r prif faterion a nodwyd gan ei bwyllgor, ond hefyd ymateb arfaethedig Llywodraeth Cymru. 

Diolch i Rhys hefyd. Mae'r gefnogaeth yn dod trwy swyddfa'r comisiynydd, a dweud y gwir, ac mae lot o brofiad yn ei swyddfa hi. Mae hi wedi delio â nifer fawr o'r cyrff sydd wedi dod o dan y safonau, ac mae hi'n mynd ati yn y ffordd newydd i gyd-reoleiddio mewn ffordd resymol ac yn rhoi help i'r cyrff newydd i ddelio â'r cyfrifoldebau newydd sydd arnyn nhw. A dwi'n hyderus y bydd hi a'i staff hi—. Maen nhw'n ei wneud yn barod. Maen nhw wedi bod mas yn siarad â'r cymdeithasau tai, a bydd help ar gael iddyn nhw. 

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am beth ddywedodd hi. Mae'r rheoliadau o flaen y Senedd y prynhawn yma yn cwblhau'r gwaith ar bedwar mas o'r pump o bethau oedd yn y cytundeb cydweithio. Ar yr un arall, trafnidiaeth gyhoeddus, mae'r cyd-destun wedi newid, Llywydd, a dyna pam dydyn ni ddim wedi llwyddo i ddod â rheoliadau o flaen y Senedd hon. Mae gwaith yn mynd ymlaen. Mae lot o waith wedi cael ei wneud yn barod, ond achos bydd Great British Railways yn cael ei sefydlu yn eithaf cynnar yn y tymor nesaf, ac achos bod y Senedd wedi pasio'r Bil sy'n delio â dyfodol gwasanaethau bws yma yng Nghymru, rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad i aros tan bydd y pethau yna yn eu lle cyn gosod safonau newydd arnyn nhw. Ond mae'r gwaith wedi cael ei wneud yn barod, a dwi'n hyderus y bydd y Senedd newydd yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith yna yn gynnar yn y tymor newydd.

Gyda hynny, dwi'n gofyn unwaith eto i'r Aelodau i gefnogi'r rheoliadau o flaen y Senedd y prynhawn yma. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Da iawn. Mae hynna wedi ei dderbyn.

18:45

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae hynna hefyd wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026

Eitem 12 sydd nesaf, Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, sy'n gwneud y cynnig.

Cynnig NDM9226 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau hyn, sydd i'w llunio gan ddefnyddio pwerau a fewnosodwyd yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, yn ymwneud â chyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Os cânt eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym yn bennaf ar 1 Ebrill 2026. 

Mae'r gweithrediad cychwynnol yn canolbwyntio ar oedolion sy'n gymwys i gael gofal iechyd parhaus gan y gwasanaeth iechyd gwladol, a fydd, am y tro cyntaf, yn gallu gofyn am daliadau uniongyrchol i drefnu agweddau ar eu gofal eu hunain yn lle gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r trefniadau presennol ar gyfer taliadau uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol, ac yn adlewyrchu galwadau hirsefydlog gan gynrychiolwyr a phobl sydd â phrofiad byw o ofal hirdymor. 

Mae'r diwygiad hwn yn cryfhau ymreolaeth a hyblygrwydd, gan gynnig cyfle i unigolion, llawer ohonyn nhw'n symud ymlaen o daliadau uniongyrchol gofal cymdeithasol, gadw cynorthwywyr personol dibynadwy sy'n eu hadnabod orau, a siapio'r gofal y maen nhw'n ei dderbyn mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion a'u hamgylchiadau unigol orau. 

Yn nhermau polisi, mae'r rheoliadau hyn yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad rhaglen ar gyfer y llywodraeth i wella'r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a thaliadau uniongyrchol. Ni fydd taliadau uniongyrchol am ofal iechyd yn orfodol, a byddant yn cael eu cytuno lle mai nhw yw'r dull cywir a diogel i'r unigolyn. Mae hyn yn gam ystyrlon ymlaen ar gyfer cynyddu dewis a rheolaeth o fewn gofal iechyd parhaus y gwasanaeth iechyd gwladol, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau. 

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ar 2 Chwefror, ac ymateb Llywodraeth Cymru yr wythnos ganlynol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd technegol. Mae tri o'r pwyntiau adrodd—pwyntiau 1, 4 a 5—yn ymwneud ag anghysondebau rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg. Maen nhw'n tynnu sylw at anghysondebau mewn cyfeiriadau at ddeddfwriaeth, ac mewn termau penodol yn y rheoliadau, yn benodol y rhai sy'n ymwneud â gofynion triniaeth cyffuriau ac alcohol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod defnyddio termau gwahanol yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn annymunol, a bydd yn gwneud y cywiriadau angenrheidiol cyn gwneud y rheoliadau.

Mae pwynt adrodd technegol 2 yn tynnu sylw at y ffaith y cyfeirir at y term 'Deddf 2005' ond nad yw'n cael ei ddiffinio yn y rheoliadau. Ac yn olaf, mae pwynt adrodd technegol 3 yn nodi bod y rheoliadau yn cyfeirio at is-baragraff nad yw'n bodoli. Bydd Llywodraeth Cymru yn cywiro'r ddau bwynt adrodd hyn cyn gwneud yf rheoliadau.

Nid oes gennyf unrhyw gyfraniadau eraill. 

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026

Eitem 13, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026. Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant. 

Cynnig NDM9233 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra)​ (Cymru) (Diwygio) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu cyflym ar y rheoliadau. Mae hyn wedi caniatáu i'r ddadl fynd rhagddi heddiw heb yr angen i atal Rheolau Sefydlog.

Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn am y gwrthdaro parhaus yn y dwyrain canol. Ein blaenoriaeth uniongyrchol yw diogelwch a sicrwydd pobl yng Nghymru, yn ogystal â holl ddinasyddion Prydeinig ac unigolion sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig a allai fod yn y rhanbarth. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cadw golwg ar ddatblygiadau i asesu unrhyw effeithiau posibl ar Gymru wrth i'r sefyllfa esblygu.

Rydym ni'n rhagweld y bydd y rhan fwyaf o'r rhai sy'n dychwelyd i'r Deyrnas Unedig yn dychwelyd i'w cartrefi neu'n aros gyda theulu a ffrindiau os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi cyngor 'gadael nawr', ac yn dechrau dychwelyd neu symud pobl o'r ardal. Fodd bynnag, efallai na fydd gan nifer fach le sefydlog a diogel i fyw a gallant fod mewn angen tai neu mewn perygl o ddigartrefedd.

Pan fydd pobl yn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig ar fyr rybudd oherwydd argyfwng dramor, gall fod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch cymhwysedd i gael cymorth. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, felly, yn rhoi dull cyffredinol ar waith i weithredu mewn argyfwng sy'n caniatáu i bobl sydd eisoes â hawl i fynd i'r Deyrnas Unedig, neu i aros yno, gael mynediad at gymorth yn brydlon pan fydd cyngor 'gadael nawr' yn cael ei gyhoeddi neu wacáu yn cael ei actifadu.

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) 2014 yn nodi pwy sy'n gymwys neu'n anghymwys i gael tai cymdeithasol a chymorth tai yng Nghymru. Mae'r rheoliadau drafft gerbron y Senedd heddiw yn diweddaru'r fframwaith hwnnw fel y gellir ei gymhwyso'n glir ac yn gyson mewn amgylchiadau brys, gan roi'r sicrwydd sydd ei angen ar awdurdodau lleol i ymateb ar fyr rybudd.

Rydym ni wedi cyflwyno'r rheoliadau yn gyflymach nag arfer oherwydd bod y sefyllfa'n ansicr a gallai newid yn gyflym. Rwy'n cydnabod bod hyn yn byrhau'r amserlen graffu arferol, sy'n anffodus. Am y rheswm hwnnw, mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth gyfyngedig o amser fel y gall Senedd yn y dyfodol adolygu'r sefyllfa unwaith y bydd y sefyllfa uniongyrchol yn gliriach, a chraffu'n llawnach os oes angen. Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau, fel y dywedais, mewn llai o amser nag a gymerir fel arfer oherwydd brys y sefyllfa hon, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am eu hadolygu effeithlon a thrwyadl.

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu bod y rhai nad ydyn nhw'n dod o dan reolaethau mewnfudo, fel dinasyddion Prydain a'r rhai sydd â chaniatâd i fynd i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno, lle mae'r absenoldeb hwnnw'n caniatáu mynediad at arian cyhoeddus, yn gymwys i gael dyraniad tai a chymorth tai yng Nghymru yn yr amgylchiadau a nodir yn y rheoliadau. I fod yn glir, nid yw'r rheoliadau hyn yn newid statws mewnfudo unrhyw un. Maen nhw'n sicrhau y gall fframwaith cymhwysedd Cymru weithredu'n gyson ac yn gyfreithlon os yw pobl yn cyrraedd Cymru ar fyr rybudd yn dilyn cyngor argyfwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu weithgarwch ymgilio.

Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cydnabod pwysigrwydd y gwelliannau hyn a gwerth y rheoliadau drafft i'r rhai a allai gael eu gorfodi i ddychwelyd ar fyr rybudd. Mae unrhyw un sy'n profi trallod o'r fath yn haeddu cyngor a chymorth uniongyrchol wrth gyrraedd, ac rwy'n gobeithio y cefnogir y rheoliadau a'r newidiadau maen nhw'n eu gwneud.

18:50

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft ddoe. Ni ofynnodd y pwyllgor am ymateb gan Lywodraeth Cymru. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd craffu ar rinweddau. Mae'r pwynt adrodd yn tynnu sylw y daw'r rheoliadau i rym ar 30 Mawrth 2026, ac y bydd y ddarpariaeth argyfwng gyffredinol yn anweithredol ar 30 Mawrth 2027.

Mae'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn nodi y bydd y cymal machlud hwn yn galluogi Senedd yn y dyfodol i graffu'n llawn ar unrhyw reoliadau parhaol. Mae'r memorandwm hefyd yn nodi y bydd swyddogion yn cadw golwg ar effaith y rheoliadau diwygio tra byddant mewn grym, ac y cyflwynir y gwerthusiad hwn i Lywodraeth newydd Cymru i'w ystyried.

Nid yw Reform yn argyhoeddedig bod angen datgymhwyso'r prawf preswylio arferol yn yr achosion a ddisgrifir yn y memorandwm esboniadol, nad oes angen gweithredol amdanynt. Byddai hyn yn groes i fuddiannau pobl Cymru. Byddai'r rheoliadau diwygio hyn yn cyflwyno dosbarth newydd o bersonau cymwys o ran datgymhwyso'r prawf preswylio, a fyddai'n cynnwys y rhai sy'n destun rheolaeth mewnfudo o'r Lan Orllewinol a Llain Gaza. Rydym ni'n glir y dylid blaenoriaethu cymorth tai a thai cymdeithasol ar gyfer dynion a menywod yng Nghymru, gyda gofyniad preswylio 10 mlynedd llym, wedi'i hepgor ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog, goroeswyr cam-drin domestig a rhai sy'n gadael gofal. Y gwir amdani yw na ddylem ni hyd yn oed fod yn ystyried y mathau hyn o reoliadau o ystyried methiant Llywodraeth Cymru i ddileu'r digartrefedd a welwn ni ar garreg ein drws yma yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y rheoliadau hyn. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rydym ni'n disgwyl i'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n elwa o'r rheoliadau fod yn ddinasyddion Prydeinig neu bobl sydd â hawl sefydledig i fyw yn y Deyrnas Unedig. Mae'r rheoliadau hyn yn sicrhau bod unrhyw un sy'n dychwelyd ar ôl cyngor 'gadael nawr' Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu cael mynediad at gymorth hanfodol ar adeg lle maen nhw'n fregus iawn. Rwy'n credu bod hwn yn ymateb mesuredig a thosturiol i sefyllfa ryngwladol sy'n datblygu'n gyflym.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn ni yn gohirio tan y cyfnod pledleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026

Eitem 14 nesaf, y cynnig cydsyniad offeryn statudol ar y Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026. Yr Ysgrifennydd newid hinsawdd, Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9222 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026, a fydd yn berthnasol i Gymru (byddant hefyd yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon), yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:54:40
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle hwn i esbonio'r cefndir i'r cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026. 

Mae'r memorandwm a gyflwynwyd gerbron y Senedd ar 27 Chwefror, ynghyd â datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd yr un diwrnod, yn crynhoi darpariaethau'r rheoliadau ac yn nodi'r newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y ceisir cydsyniad ar eu cyfer. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a'r adroddiad a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth.

Amcanion y rheoliadau yw egluro'r diffiniad o 'ffermwr bach' fel ei fod yn cyd-fynd â'r bwriad polisi, i atal ei gamddehongli, a sicrhau bod y taliadau arfaethedig yn cael eu gwneud i ddeiliaid hawliau bridwyr planhigion, a thrwy hynny gefnogi arloesedd a buddsoddiad mewn bridio planhigion. Mae'r diwygiadau y mae'r rheoliadau yn eu gwneud o natur dechnegol, ac nid ydyn nhw'n cyflwyno newid polisi.

Mae'r rheoliadau'n rhoi 'amrywogaeth' yn lle 'amrywogaethau' yn y diffiniad o 'ffermwr bach' yn adran 9(10)(b) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997. Mae'r diffiniad o 'ffermwr bach' yn gysylltiedig â'r eithriad yn adran 9(4) o'r Ddeddf honno, a thalu tâl teg i ddeiliaid hawliau bridwyr planhigion, math o eiddo deallusol.

Y bwriad polisi oedd ac yw i'r eithriad 'ffermwr bach' fod yn berthnasol i swm yr amrywogaethau a dyfir mewn ardal, nid i bob amrywogaeth a dyfir mewn ardal. Bydd y diwygiadau felly yn sicrhau bod bridwyr planhigion yn parhau i dderbyn y taliadau arfaethedig ar hadau a arbedir ar fferm gan dyfwyr cymwys. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi bridwyr i barhau i fuddsoddi mewn datblygu amrywogaethau newydd gyda nodweddion gwell a fydd o fantais i ffermwyr, yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac yn gwella gwytnwch yn wyneb hinsawdd. Fel arfer, polisi Llywodraeth Cymru yw deddfu dros Gymru mewn materion o gymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, fy marn i yw ei bod hi'n briodol gweithredu'r diwygiadau hyn drwy'r rheoliadau gan eu bod yn cynrychioli'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf ymarferol a chymesur i alluogi eu cymhwyso i Gymru.

Gweinyddir hawliau bridwyr planhigion gan reolwr a benodir gan Weinidogion Cymru, y Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r ddarpariaeth y mae'r rheoliadau yn ei diwygio yn ymestyn i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'r polisi sy'n sail i'r rheoliadau yn gyson ar draws y Llywodraethau priodol. Mae'r dull hwn o ddiwygio yn sicrhau cysondeb amserol y gyfundrefn hawliau bridwyr planhigion ar draws y tiriogaethau

Er na fydd y rheoliadau'n cael eu gwneud yn ddwyieithog, rwy'n nodi nad oedd Deddf Amrywogaethau Planhigion 1997 ei hun wedi'i gwneud yn ddwyieithog. Rwyf wedi cyflwyno'r memorandwm yn unol â'r gofyniad o dan Reol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried bod y rheoliadau yn offeryn statudol perthnasol oherwydd eu bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon. Mae amrywogaethau planhigion a hadau yn faes datganoledig ac maen nhw'n ymddangos fel eithriad yn Atodlen 7A—materion a gedwir yn ôl—i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y memorandwm, maen nhw'n cytuno ag asesiadau Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau o fewn y rheoliadau sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd hon. Daw'r pwyllgor i'r casgliad bod angen cydsyniad ar y rheoliadau o dan Reol Sefydlog 30A, a diolchwn iddyn nhw am eu hystyriaeth o hyn. Mae'r cynnig cydsynio offeryn statudol heddiw yn caniatáu inni ddarparu ymateb pragmatig a chymesur wrth ddefnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru mor effeithlon â phosibl. Mae'r dull yn cadw ein hadnoddau cyfreithiol a pholisi ar gyfer ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain a'r rhaglen lywodraethu. Ar y sail hon fe gyflwynir y cynnig cydsynio offeryn statudol ger eich bron i'w gymeradwyo.

18:55

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y memorandwm ar y cynnig cydsynio offeryn statudol ar 9 Mawrth yn unol â Rheol Sefydlog 30A. Cytunodd ar ei adroddiad yr wythnos ganlynol. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ac yn cytuno â barn Llywodraeth Cymru bod y darpariaethau yn y rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac felly yn gofyn am gydsyniad y Senedd.

Does gyda fi ddim siaradwyr, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd)

Eitem 15, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd). Y Dirprwy Brif Weinidog sydd yn gwneud y cynnig yma—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM9225 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:59:39
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am ystyried y memoranda ar y Bil. Diolch hefyd iddyn nhw am yr adroddiadau a'r cwestiynau.

Mae'r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yn ddarn sylweddol a phwysig o ddeddfwriaeth. Mae'n un sydd â'r nod o gryfhau ymddiriedaeth yn ein sefydliadau cyhoeddus ac i sicrhau bod gonestrwydd a thryloywder a thegwch wrth wraidd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi'r Bil hwn o eiddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae tarddiad y Bil hwn yn deillio o ymrwymiad ar y cyd i ddysgu gwersi o drasiedi'r gorffennol, fel trychineb Hillsborough.

Mae trychineb Hillsborough yn staen mawr ar hanes Prydain. Mae'r anghyfiawnder a ddioddefwyd gan deuluoedd mewn profedigaeth a methiant y wladwriaeth i amddiffyn eu hanwyliaid yn gwbl anesgusodol. Ni ddylai'r ymgyrchu degawdau o hyd gan deuluoedd dewr, mewn profedigaeth i gyflwyno'r ddeddfwriaeth nodedig hon fynd heb ei gydnabod. Gan ddysgu gwersi o drychinebau ofnadwy ac o sgandalau, gan gynnwys Hillsborough, Orgreave, Windrush, y sgandal gwaed heintiedig a Grenfell, nod y Bil hwn yw rhoi terfyn ar y diwylliant o gelu a chuddio'r gwir, ac i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd a chefnogaeth i deuluoedd mewn profedigaeth. Mae'r nod yn syml, Llywydd: gwarantu na all yr hyn a ddigwyddodd bryd hynny a'r methiannau a ddilynodd fyth ddigwydd eto. Mae'r Bil hwn yn ceisio rhoi amddiffyniadau ar waith fel bod ein dinasyddion yn gwybod y dywedir y gwir ac y cânt eu trin yn deg ac yn barchus pan fydd y wladwriaeth yn gysylltiedig.

Yn ei hanfod, mae'r Bil yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol o onestrwydd a chymorth i bob awdurdod cyhoeddus a swyddogion cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein cyrff cyhoeddus weithredu bob amser gyda gonestrwydd, tryloywder a didwylleddd wrth ymdrin ag ymchwiliadau ac ymholiadau. Mae'r Bil hefyd yn gwneud yn glir ei bod hi'n drosedd i swyddogion neu awdurdodau cyhoeddus gamarwain y cyhoedd yn fwriadol os ydyn nhw'n gwybod neu os dylen nhw wybod bod eu gweithred yn ddifrifol amhriodol. Mae hyn yn atgyfnerthu'r disgwyliad bod gwirionedd nid yn unig yn werth, ond yn ofyniad cyfreithiol. Mae'r drosedd yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig, ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu hyn yma yng Nghymru.

Mae'r Bil yn mynd ymhellach, trwy osod safonau clir o ymddygiad moesegol. Bydd yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus hyrwyddo a chymryd camau i gynnal safonau uchel o ymddygiad moesegol bob amser gan bobl sy'n gweithio i'r awdurdod, gan sicrhau bod ymddygiad moesegol wedi'i ymgorffori ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus. Wrth gyflawni'r ddyletswydd hon, rhaid i awdurdod cyhoeddus ddatblygu cod moeseg gorfodol ar gyfer pobl sy'n gweithio i'r awdurdod—cod ymddygiad moesegol. Mae hyn yn sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r cod a chanlyniadau methu â gweithredu yn unol ag ef. Rhaid i'r cod hefyd osod disgwyliadau i bobl sy'n gweithio i'r awdurdod, canlyniadau am fethu â gweithredu yn unol ag ef ac i hyrwyddo ymddygiad moesegol a didwylledd a thryloywder a gonestrwydd ym mhob rhan o'r awdurdod hwnnw.

I deuluoedd mewn profedigaeth, bydd y Bil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'n ehangu mynediad at gymorth cyfreithiol ac eiriolaeth heb brawf modd, gan sicrhau y gall teuluoedd yr effeithir arnyn nhw gan drychinebau neu farwolaethau sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth gymryd rhan lawn ac effeithiol mewn cwestau. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd grym ac yn rhoi'r gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu i deuluoedd ar yr adegau anoddaf.

Mae'r Bil hefyd yn moderneiddio'r gyfraith trwy ddileu'r drosedd cyfraith gyffredin o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Yn hytrach, mae'n cyflwyno troseddau newydd, cliriach, megis cyflawni gweithredoedd difrifol amhriodol wrth ddal swydd gyhoeddus, a methiant i atal marwolaeth neu anaf difrifol. Felly, mae atebolrwydd yn uniongyrchol ac yn ddealladwy.

Yn bwysig, mae'r Bil yn cydnabod yr angen am gysondeb ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n sicrhau y diogelir pob dinesydd gan yr un safonau, a bod yr un disgwyliadau ar ein gweision cyhoeddus. Mae'r cysondeb hwn yn hanfodol ar gyfer hyder y cyhoedd ac ar gyfer triniaeth deg pawb, ni waeth lle maen nhw'n byw.

Nawr, yng Nghymru rydym ni eisoes yn gweithredu o dan ddyletswyddau gonestrwydd a fframweithiau moesegol mewn nifer o feysydd polisi. Mae hwn yn gyfle i atgyfnerthu'r ymrwymiadau presennol hynny i onestrwydd a thryloywder a bod yn agored, gan ehangu a gwella'r disgwyliadau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.

Ond nid yw hyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth yn unig. Mae gonestrwydd yn sylfaenol i'n rhagoriaeth broffesiynol ein hunain. Nid yw gweithredu'r ddyletswydd o onestrwydd a chymorth yn gofyn i ni ddod yn rhywbeth gwahanol, ond yn gyfle i ddangos ymhellach bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dysgu o gamgymeriadau yn brydlon ac yn gwasanaethu budd y cyhoedd gyda dewrder. Mae'n ymateb uniongyrchol i alwadau gan ymgyrchwyr, galwadau gan oroeswyr, galwadau gan y teuluoedd hynny, ac mae wedi'i ddatblygu gyda'u sylwadau a'u cefnogaeth.

Drwy gydol datblygu'r Bil hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i sicrhau y clywir ein barn ac yr ystyrrir ein hanghenion. Rydym ni wedi ceisio eglurder ar effaith y Bil ar ddeddfwriaeth Cymru a gwasanaethau Cymru. Rydym ni'n cefnogi egwyddorion y Bil ac yn credu y bydd yn rhoi sicrwydd ac yn gwella perfformiad yn ein sector cyhoeddus. Nawr, rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n anarferol trafod Bil nad yw yn ei ffurf derfynol, ond o ystyried cyd-destun presennol yr etholiad ac y bydd y Bil yn pontio i gyfnod y Senedd nesaf, mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, bod y Senedd hon yn cael y cyfle i drafod y Bil hwn, o ystyried ei effaith ar draws y sector cyhoeddus.

Felly, byddwn yn gofyn i chi fod yn ymwybodol na phleidleisiwyd eto ar y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ionawr, y rhai y mae memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3 a ailgyflwynwyd yn cyfeirio atyn nhw, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu hailgyflwyno gyda'r Bil ym mis Mai. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys ehangu cymal 11, y drosedd o gamarwain y cyhoedd. Nid ydym ni'n disgwyl y gwneir gwelliannau sylweddol, Llywydd, i'r cymal pwysig hwn ar ôl i'r Bil gael ei ailgyflwyno. Felly, gall Aelodau nodi eu cydsyniad yn hyderus i egwyddorion y cymal hwnnw.

Felly, i gloi, gofynnaf i'r Aelodau ystyried gwir bwrpas y Bil hwn, i amddiffyn y cyhoedd ac i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn deilwng o'r ymddiriedaeth a roddir ynddynt. Rwy'n eich gwahodd i gefnogi'r Bil trwy gydsynio, ein cefnogi i sicrhau ein bod yn parhau i roi'r cyhoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a darparu atebolrwydd gwirioneddol i bawb. Diolch.

19:05

Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw ac yn dymuno tynnu sylw at y materion allweddol a nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, neu'r PAPAC, mewn gohebiaeth â'r Dirprwy Brif Weinidog ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, a'r memoranda atodol ar gyfer y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd).

Fe wnaethom ni gynnal sesiwn gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ar 26 Chwefror ac ysgrifennu ato yn fuan wedyn gyda chwestiynau yn codi o'r dystiolaeth a dderbyniwyd ganddo. Er ei bod hi'n siomedig na chawsom ni'r cyfle i ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol wedi'i ddiweddaru, yr LCM, a gafodd ei dynnu'n ôl a'i ddisodli yr wythnos diwethaf, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei ymgysylltiad â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn hyd yma a'i ymateb i'n llythyr cyn y ddadl heddiw.

Yn ein gohebiaeth, fe wnaethom ni ofyn am fanylion am y fforwm rhanddeiliaid a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mawrth, ac rwy'n croesawu'r wybodaeth a ddarparwyd. Rwy'n nodi bod y digwyddiad yn canolbwyntio ar helpu rhanddeiliaid i ddeall prif ddarpariaethau'r Bil. Mae hyn yn ddefnyddiol i alluogi'r Senedd i ddeall faint o ymgysylltu a fu, yn enwedig gan fod yr ymgysylltiad yn ystod datblygu'r Bil hwn yn gyfyngedig.

Mae ymgysylltu a chyfranogiad rhagweithiol yn bwysig wrth feithrin eglurder a hyder ymhlith y rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan y ddeddfwriaeth. Fe ofynnon ni hefyd i'r Dirprwy Brif Weinidog sut mae'n bwriadu sicrhau cydlyniant rhwng y Bil hwn a'r is-ddeddfwriaeth a ddisgwylir o dan Ran 3 o Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd ac Etholiadau Aelodau), a basiwyd gan y Senedd yr wythnos diwethaf. Mewn ymateb, cydnabu'r Dirprwy Brif Weinidog fod cysylltiad canfyddedig rhwng y drosedd o gamarwain y cyhoedd yn y Bil hwn a darpariaethau dichell fwriadol Bil y Senedd, ond cadarnhaodd nad yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweld gorgyffwrdd rhwng y ddau Fil yn ymarferol, oherwydd ni fydd darpariaethau Bil y Senedd yn ymdrin yn uniongyrchol â swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru. Bydd Bil y Senedd hefyd yn gwneud newidiadau i systemau safonau'r Senedd, ond nid yw'r system honno'n berthnasol i weithredu pwerau a dyletswyddau gweithredol Gweinidogion Cymru, ac yn hytrach mae ymddygiad o'r fath o fewn cwmpas cod y Gweinidogion. I'r graddau y mae Bil y Senedd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffeithiau anwir neu gamarweiniol cyn neu yn ystod etholiad, mae'n cael ei gyfeirio'n benodol at weithredoedd yn ystod cyfnod etholiadol yn hytrach nag unrhyw adeg arall. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Brif Weinidog am ymhelaethu ar y gwahaniaethau hyn rhwng y ddau fframwaith deddfwriaethol yn ei ymateb.

Rydym ni hefyd yn cydnabod, er bod y Senedd fel sefydliad wedi'i heithrio o'r darpariaethau ynghylch y ddyletswydd o onestrwydd a chamarwain y cyhoedd, y bydd Aelodau'r Senedd yn dod o dan y troseddau statudol newydd yn Rhan 3 o'r Bil, a fydd yn disodli'r drosedd gyfraith gyffredin bresennol o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Yn dilyn ein sesiwn, ymrwymodd y Dirprwy Brif Weinidog hefyd i ddarparu rhagor o wybodaeth am asesiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar y rhyngweithio rhwng y Bil hwn a'r mecanweithiau braint seneddol presennol, er mwyn sicrhau eglurder i Weinidogion ac Aelodau'r Senedd ar effaith ymarferol y ddeddfwriaeth hon. Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog yn ei ymateb i'r pwyllgor nad yw'r fraint seneddol wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae'n debygol o fod y tu allan i gwmpas y Bil.

Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n croesawu ymgysylltiad y Dirprwy Brif Weinidog â'r pwyllgor. Wrth gwrs, lle'r Senedd nesaf a'r pwyllgor cyfrifol nesaf nawr yw ystyried memoranda pellach yn ymwneud â'r Bil hwn yn fanylach, o ystyried y caiff y Bil nawr ei drosglwyddo i'r sesiwn seneddol nesaf yn San Steffan ar ôl mis Mai.

19:10

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nawr—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Cyflwynodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y memorandwm cyntaf ym mis Rhagfyr 2025, a'i ail adroddiad, a oedd yn cwmpasu'r ail a'r trydydd memorandwm, ar 12 Mawrth. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn nodi yn ei drydydd memorandwm ei fod yn dymuno rhoi cyfle i'r Senedd fynegi ei safbwyntiau ar ddarpariaethau yn y memoranda.

Cyn symud ymlaen at y Bil ei hun, fe hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer Bil ar y cam hwn yn anochel yn cyfyngu'r ddadl heddiw. Gall y Senedd gydsynio neu beidio, ond, yn y naill achos neu'r llall, nid yw'r Senedd yn rhoi barn ar y Bil terfynol. Mae trafodaethau beirniadol yn parhau ynglŷn â sut mae'r Bil yn ymwneud â'r gwasanaethau diogelwch. Mae'n debygol iawn, felly, y gwneir newidiadau sylweddol i'r Bil yn ystod y sesiwn seneddol nesaf.

Ond mae cyfyngiadau'r ddadl heddiw yn mynd ymhellach na phleidleisio ar Fil anorffenedig. Fel y mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn nodi, mae'r Senedd yn rhoi barn ar welliannau nad ydyn nhw wedi'u cynnig. Mae'n dweud wrthym ni y bydd yn rhaid ailgyflwyno'r gwelliannau hyn yn y sesiwn seneddol nesaf os ydyn nhw am gael eu gwneud yn rhan o'r Bil. Mae'n debygol y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn unol â hynny ar gyfer ystyriaeth y seithfed Senedd. Bydd safbwyntiau'r seithfed Senedd, yn gwbl briodol, yn disodli penderfyniad y Senedd hon yn y ddadl heddiw. Os na fydd y gwelliannau hynny'n cael eu hailgyflwyno, byddai'r ddadl hon yn ymwneud yn rhannol â gwelliannau nad ydyn nhw yn y Bil. Dirprwy Brif Weinidog, a allech chi nodi beth fyddai effaith y ddadl heddiw, o ystyried y bydd angen i'r seithfed Senedd ddod i'w barn ei hun yn nes ymlaen? Dyma enghraifft arall o'r heriau rydym ni'n eu hwynebu mewn perthynas â'r broses gydsynio ddeddfwriaethol. Rydym ni'n trafod yr heriau hyn yn ein hadroddiad etifeddiaeth, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Gan symud yn ôl at farn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil ei hun, gellir grwpio ein pryderon yn dri maes: ymgysylltu rhynglywodraethol, ymgynghori â chyrff cyhoeddus Cymru a phwerau dirprwyedig. Mewn perthynas â'r cyntaf, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymgysylltu'n ddigonol â Llywodraeth Cymru yn ystod datblygu'r Bil. Yn y memorandwm cyntaf, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y bu ymgysylltiad cyfyngedig â Swyddfa Cabinet y Deyrnas Unedig, ac y bu deall cwmpas, goblygiadau ac effaith y Bil cyn ei gyflwyno yn heriol. Ers hynny, mae'n ymddangos bod y Dirprwy Brif Weinidog yn fwy cadarnhaol ynglŷn â faint o ymgysylltiad rhwng a fu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru. Gofynnaf i'r Dirprwy Brif Weinidog a yw hyn yn ddehongliad teg o'i safbwyntiau.

Ail faes pryder y pwyllgor oedd nad fu ymgynghori digonol â chyrff cyhoeddus Cymru ynglŷn ag effaith y Bil arnyn nhw. Fe wnaethom ni ysgrifennu ym mis Tachwedd 2025 at y Dirprwy Brif Weinidog, y Llywydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ofyn am eu barn ar y Bil. Rwy'n ddiolchgar am yr ymatebion a gawsom ni, o fewn amserlen dynn iawn. Maen nhw'n awgrymu nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig na Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb am sicrhau yr ymgynghorid â chyrff cyhoeddus datganoledig Cymru ynglŷn â'r Bil. Yn wir, ysgrifennodd y Dirprwy Brif Weinidog ei hun fod ymgynghori ar y Bil yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y pen draw, a'i fod yn deall mai prin iawn fu'r ymgysylltiad â rhanddeiliaid Cymru. Fodd bynnag, ers hynny, mae'n ymddangos bod ymgysylltu â chyrff cyhoeddus Cymru wedi cynyddu. Rydym ni'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau yr ymgynghorir â chyrff cyhoeddus Cymru, a bod cynnig o gymorth wedi'i ymestyn i gyrff cyhoeddus mewn perthynas â phryderon a godwyd ganddyn nhw am effaith y Bil. Dirprwy Brif Weinidog, allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyrff cyhoeddus i ddeall a pharatoi i weithredu unrhyw newidiadau a fydd eu hangen o dan y Bil?

Mae trydydd maes pryder y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ymwneud â phwerau datganoledig. Roeddem ni'n holi pam nad oedd y Bil yn rhoi unrhyw bwerau cychwyn i Weinidogion Cymru, nac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn cychwyn darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â materion â ddatganolir i Gymru. Fe wnaethom ni hefyd geisio eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnwys nifer o bwerau cydamserol yn y Bil. Ystyriodd y pwyllgor ymateb y Dirprwy Brif Weinidog ddoe ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n nodi'r amcan polisi o drin y Bil mewn modd sy'n ystyried y Deyrnas Unedig gyfan, ond rydym ni'n parhau i fod o'r farn y dylai pwerau cychwyn yr Ysgrifennydd Gwladol fod yn ddarostyngedig i ddyletswydd i geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru. Dirprwy Brif Weinidog, ydych chi o'r farn bod unrhyw beryglon i weithredu'r Bil hwn yn effeithiol yng Nghymru os nad oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol rwymedigaeth i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cychwyn darpariaethau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gyrff cyhoeddus Cymru?

Yn olaf, Llywydd, mae'r pwyllgor wedi cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad y Senedd ar y darpariaethau a'r diwygiadau a nodir yn y tri memorandwm a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

A gaf i ddim ond gorffen gyda fy marn bersonol? Rwy'n cefnogi'n gryf iawn y Bil hwn.

19:15

Bydd Plaid Cymru yn ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Safbwynt cytbwys sydd wrth wraidd y penderfyniad. Rydym o blaid amcanion y Bil—mwy o ddidwylledd, mwy o atebolrwydd, gwarchodaeth gryfach rhag camddefnyddio swydd gyhoeddus, ac nid ydym am sefyll yn y ffordd rhag deddfwriaeth sy’n ceisio rhoi gwirionedd yn gryfach yn nwylo’r cyhoedd.

Ond nid yw cefnogi amcanion y Bil yn golygu cau ein llygaid ar bryderon difrifol ynghylch y modd y mae’r Bil yn ymwthio i feysydd datganoledig. Fel rŷn ni eisoes wedi clywed, roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ddigon clir y dylid bod wedi cynnal ymgysylltiad gwell a dyfnach â Chymru ar Fil mor bellgyrhaeddol â hwn. Pan fo sefydliadau a chyrff cyhoeddus datganoledig dan sylw, nid ôl-ystyriaeth ddylai Cymru fod. Roedd y pwyllgor yn llygad ei le hefyd ar fater cychwyn darpariaethau’r Bil. Sut y gellid cyfiawnhau trefn sy’n caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn unig ddwyn darpariaethau i rym mewn meysydd datganoledig yng Nghymru heb unrhyw lais o gwbl i Weinidogion Cymreig? 'Rhywbeth syn', meddai’r pwyllgor, a phwy a'i beiai? Ac yna, ar y pwerau cydredol, gyda Gweinidogion Cymru y dylai pwerau o’r fath orwedd yn y lle cyntaf. Os gwyrir oddi wrth yr egwyddor honno, rhaid wrth achos clir ac argyhoeddiadol. Does dim un wedi’i gynnig.

Nid â diben y Bil mae ein cweryl, felly, ond â’r modd y'i lluniwyd yn gyfansoddiadol, yr ymgysylltiad hwyr a thenau, pwerau cychwyn wedi’u cadw yn nwylo San Steffan, a phwerau cydredol heb eu cyfiawnhau. Dyna pam na allwn ni gefnogi’r cynnig heno, ond gan ein bod ni o blaid yr amcanion, nid ydym am ei rwystro, ychwaith. Felly, ymatal y byddwn ni. [Torri ar draws.] Ie.

Rwy'n ddiolchgar i chi am y ffordd rydych chi wedi cyflwyno'ch dadl, ac rydw i wedi ceisio dilyn hynny. Ychydig wythnosau yn ôl, fe gawsom ni ddadl yma lle buoch chi'n sôn am bwysigrwydd gonestrwydd a phwysigrwydd uniondeb mewn bywyd cyhoeddus. Mae gennym ni safbwyntiau gwahanol, ond fe wnaethoch chi siarad yn rymus ac yn argyhoeddiadol iawn. Rwy'n ei chael hi'n anhygoel bod—ac rwy'n derbyn eich beirniadaeth ro'r ddeddfwriaeth hon, gyda llaw, ond mae darlun mwy yma—rwy'n ei chael hi'n anhygoel y gallech chi siarad mor rymus ychydig wythnosau yn ôl ar fater o dichell fwriadol ac eistedd ar eich dwylo nawr pan fydd rhywbeth mor bwysig o'n blaenau. Rwy'n credu bod hynny'n gamgymeriad go iawn, os mai dyna beth rydych chi'n mynd i'w wneud.

Wel, mae’r un sefyllfa, wrth gwrs, wedi codi yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a beth mae’r Seneddau yna wedi penderfynu gwneud ydy gohirio unrhyw benderfyniad tan y Seneddau nesaf, am yr union reswm rŷn ni wedi'i glywed gan Gadeirydd y pwyllgor rŷn ni’n gwasanaethu arno fe: oherwydd mi fydd y Bil yma, beth bynnag nawr, yn cael ei gario ymlaen. Felly, bydd yn rhaid dychwelyd i’r mater yn y Senedd nesaf, ac felly does dim rhaid i ni wneud penderfyniad heno. Dyna pam mae’r cynigion yn y ddwy Senedd arall wedi cael eu gohirio, a dyna beth ddylai fod wedi digwydd fan hyn. Dyw e ddim wedi digwydd. Ar y sail hynny, felly, rŷn ni’n mynd i ymatal heno, ac mi fyddwn ni’n croesawu’r cyfle i ddychwelyd at y mater yma yn y Senedd nesaf.

Gwnaf i ond ddweud pa mor siomedig ydw i. Rwy'n deall y pwyntiau cyfansoddiadol, ond mae hyn yn fater o'r pwys mwyaf difrifol. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, bod ffordd bell i fynd ar y ddeddfwriaeth hon o hyd. Mae fy nghyd-Aelod Alex Davies-Jones, yr wyf yn rhannu etholaeth â hi, rwy'n rhoi clod iddi am y ffordd y mae hi wedi dyfalbarhau gyda hyn. Mae yna faterion i'w datrys ac rwy'n gobeithio y caiff y rheini eu datrys yn gyflym iawn. Y peth pwysig yw bod y mater hwn wedi dod o'n blaenau ni nawr, ac rwy'n credu bod y teuluoedd yn disgwyl i ni allu rhoi'r gefnogaeth honno ym mhob ffordd y gallwn ni, gan gofio bod y cyfyngiadau hynny'n bodoli ar hyn o bryd a'r ffaith y bydd trafodaethau pellach.

Rwy'n credu y dylem ni roi cydnabyddiaeth lwyr i'r teuluoedd. Cefais yr anrhydedd, yn Lerpwl, i gwrdd â nhw sawl blwyddyn yn ôl, ac mae'r ffaith bod gennym ni deuluoedd a'i bod hi wedi cymryd 25 mlynedd i gyrraedd yr adeg benodol yma yn gymaint o glod iddyn nhw, a hefyd i bobl fel Andy Burnham a phobl fel Steve Rotheram, sydd hefyd wedi bod yn agored wrth ddadlau dros gyfiawnder. Mae llawer ohonom ni'n cofio'r digwyddiadau hynny pan ddigwyddon nhw yn Hillsborough, ac, wrth gwrs, nifer y dinasyddion o Gymru—y cysylltiad agos sydd mewn pêl-droed rhwng llawer o bobl yng Nghymru a gyda'r digwyddiadau penodol hynny.

I mi, hefyd, rheswm pam fu gen i gymaint o ddiddordeb yn hyn dros y blynyddoedd yw oherwydd ei fod yn cysylltu'n ôl â digwyddiadau Orgreave. Digwyddodd brwydr Orgreave, fe wyddom ni, yn ystod streic y glowyr. Pe bai dyletswydd o onestrwydd ar yr adeg honno, yna mae'n eithaf tebygol na fydden nhw wedi gorfod aros 25 mlynedd am gyfiawnder i ddioddefwyr Hillsborough. Ac felly Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave, rwyf hefyd yn rhoi clod i hynny, a hefyd clod i'r Llywodraeth am gyflawni ei hymrwymiad maniffesto yn yr ystyr bod ymchwiliad statudol i'r digwyddiadau Orgreave hynny erbyn hyn. Felly, fe ddysgon ni wersi yr hanes hwnnw, ond mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n wirioneddol fawreddog, ac rwy'n credu y byddai'n siomedig iawn pe na bai hyn yn cael ei gyflawni heddiw, ac yn yr un modd y neges y byddai hynny'n ei anfon at y teuluoedd hynny o Hillsborough, sy'n disgwyl cyfiawnder ac sy'n disgwyl i'r ddeddfwriaeth hon symud yn gyflym a'i rhoi ar y llyfrau, a hynny cyn gynted â phosibl.

19:20

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb—y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 19:22:24
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mewn rhai sylwadau, wrth ymateb i'r holl Aelodau—ac rwy'n diolch i'r holl Aelodau am eu sylwadau—rwy'n llawn sylweddoli amgylchiadau ac amseriad anarferol hynt y Bil, o ystyried cyd-destun cyfnod etholiad y Senedd, a'r heriau y mae hyn yn eu creu o ran craffu deddfwriaethol. Ond byddwn yn dweud yn syml bod hwn yn gyfle i fynegi barn ar gam ffurfiannol o'r ddeddfwriaeth hon y byddem ni fel arall yn ei golli, a gallai hefyd fod, wrth fynegi'r farn honno, yn gymorth i graffu ymhellach yn Senedd y Deyrnas Unedig ar rywbeth sydd, fel rydym ni wedi cael ein hatgoffa a byddai pawb yn cytuno arno, o ddiddordeb mawr i'r teuluoedd hynny sydd wedi nodi ein cefnogaeth ar sail drawsbleidiol dros gymaint o amser, ac rwy'n siŵr y byddwn yn croesawu ein cefnogaeth, yn y dyfodol.

Ond gadewch i mi geisio ymateb i rai o'r materion sydd wedi'u codi, yn gryno. Yn gyntaf oll, gofynnwyd i'r Aelodau gydsynio, yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, i'r newidiadau sydd wedi'u gwneud. Nid dyma'r ffurf derfynol eto a allai ddod ger bron Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ond mae mewn ffordd ffurfiannol. Rydym yn sylweddoli nad yw yn ei ffurf derfynol, ond roeddem ni'n meddwl ei bod hi'n gwbl briodol rhoi cyfle i'r Senedd hon, cyn i ni i gyd fynd oddi yma, fynegi ein barn yn eithaf clir.

O ran ymgysylltiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Mike—a fy niolch i'r Cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgor am eu craffu ac am eu hymgysylltiad â ni ar y darn hwn o ddeddfwriaeth, hefyd—mae'n werth dweud bod y Bil y gweithir arno yn ymrwymiad maniffesto y Blaid Lafur. Mae fy swyddogion wedi ymgysylltu'n agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraethau datganoledig eraill, a byddwn yn parhau i wneud hynny trwy weddill hynt y Bil. Ysgrifennais at randdeiliaid Cymru ym mis Rhagfyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r Bil a'r effaith. Fe wnaethom ni gynnal sesiwn ymgysylltu, dan arweiniad swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ond a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Mawrth, lle cafodd rhanddeiliaid sector cyhoeddus Cymru gyfle i ymgysylltu a chlywed yn uniongyrchol am y Bil. Mae'n debyg, Mike, ei bod hi'n deg dweud, yn y camau cynnar, ar lefel swyddogol, y byddem ni wedi hoffi mwy o amser i ystyried y glo mân ynghylch perthynas darpariaethau'r Bil ag agweddau o'r gyfraith sy'n benodol i Gymru, ond mae gennym ni bellach ymgysylltiad rheolaidd a chadarnhaol. Mae ein swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd er mwyn bwrw hyn ymlaen. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb mewn modd amserol iawn i'n hymholiadau a'r rhai gan gyrff cyhoeddus hefyd.

O ran yr effeithiau yma yn Senedd Cymru ac, yn wir, ar Weinidogion hefyd, yn ddiddorol iawn, bwriedir i'r drosedd o gamarwain y cyhoedd fod yn berthnasol i Weinidogion Cymru sy'n gweithredu yn eu swyddogaeth weithredol, ac felly y dylai hi fod. Nid yw Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn ymdrin yn uniongyrchol â'r agwedd honno. Felly, yn y dyfodol, ynghylch y mater o unrhyw ryngweithio o fewn Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a'r darn hwn o ddeddfwriaeth, byddwn yn llawn ddisgwyl y bydd Gweinidogion yn y Senedd nesaf yn ystyried diffiniadau a fformwleiddiadau, er enghraifft, y drosedd o gamarwain y cyhoedd yn y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) wrth i'r darpariaethau o dan Ran 3 gael eu datblygu. Bydd cyfle i ystyried priodoldeb cysondeb wrth gydnabod eu bod yn ceisio datrys gwahanol faterion.

Os byddaf yn troi at y mater, yn fyr, o fraint seneddol, a grybwyllwyd hefyd, bydd y drosedd newydd o gamarwain y cyhoedd yn berthnasol i Weinidogion y Deyrnas Unedig a datganoledig sy'n gweithredu fel y cyfryw, ond nid Aelodau'r Senedd nac Aelodau Seneddol San Steffan yn ehangach. Fodd bynnag, pan fydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn gwneud datganiad yn y Senedd, cânt eu diogelu rhag atebolrwydd troseddol sy'n deillio o wneud y datganiad hwnnw gan erthygl 9 o'r Bil Hawliau. Nid yw Gweinidogion Cymru, i fod yn glir, yn elwa o'r amddiffyniad hwnnw, ac felly gall eu datganiadau i'r Senedd arwain at atebolrwydd o dan y drosedd newydd o gamarwain y cyhoedd, er y cânt eu hamddiffyn rhag difenwi a dirmyg llys mewn perthynas â datganiadau a wneir yma yn y Senedd. Mae'r gwahaniaeth cyfansoddiadol hwn eisoes yn bodoli mewn perthynas â throseddau eraill y gellid eu cyflawni trwy wneud datganiad yn y Senedd. Ac, i fod yn glir, gallai Gweinidogion y Deyrnas Unedig a Chymru gyflawni'r drosedd trwy ddweud rhywbeth yn eu swyddogaeth weinidogol y tu allan i'r ddeddfwrfa hon.

O ran yr amseriad, y bu llawer o ddal sylw arno, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y gŵyr pawb, wedi gwneud y penderfyniad i ohirio gweddill camau'r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin, yng Nghyfnod yr Adroddiad a'r Trydydd Darlleniad, er mwyn rhoi ychydig mwy o amser i weithio gydag ymgyrchwyr—rwyf wedi cwrdd â'r ymgyrchwyr fy hun yn uniongyrchol, a bu immi werthfawrogi'n fawr yr amser y bu iddyn nhw ei dreulio gyda mi—i sicrhau y ceir y cydbwysedd cywir yn y gwelliannau rhwng tryloywder a diogelwch cenedlaethol. Felly, y mater y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio mynd i'r afael ag ef nawr yw'r ffordd y mae diogelwch cenedlaethol yn gweithredu ochr yn ochr â'r ddyletswydd gonestrwydd. Mae hyn wedi effeithio ar yr amseru, a dyna pam mae ceisio barn yma heddiw yn bwysig yn y cam ffurfiannol hwn. Rydym yn deall y bydd y Bil yn destun gweithdrefnau pontio yn y Senedd, ond dylai'r oedi byr hwn sicrhau bod y ddyletswydd gonestrwydd i'r gwasanaethau cudd-wybodaeth ac unigolion sy'n gweithio iddyn nhw yn sicrhau'r cydbwysedd cywir. Felly, mae rhywfaint o amser ychwanegol wedi'i dreulio nawr i wneud hyn yn iawn. Bydd hynny'n talu ar ei ganfed. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llunio amserlen ddiwygiedig. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod sut y gallai'r amserlen honno gyd-fynd â phrosesau cydsynio deddfwriaethol yng Nghymru, a'r Alban, o ystyried yr etholiadau sydd i ddod. Ac rydych chi'n iawn, fel y nodwyd yma, y gallai'r Senedd newydd drafod a phleidleisio ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol pellach yn ddiweddarach yn hynt y Bil, os yw'n dymuno. Bydd hyn yn fater i Weinidogion sydd newydd eu hethol ac i'r Senedd.

Ac os caf i droi at—allaf i ddim cwmpasu pob agwedd—y pwerau cychwyn—

19:25

Ie, ymddiheuriadau. Crybwyllwyd cymaint o bethau. Ar y mater a gododd Adam ynghylch y ddyletswydd gonestrwydd, pe baem ni'n caniatáu cychwyn y ddyletswydd gonestrwydd a chymorth o fewn y ddeddfwriaeth hon ar wahanol adegau ar faterion datganoledig a rhai a gedwir yn ôl, mae'n creu'r posibilrwydd y gallai fod yn berthnasol i rai agweddau ar ymchwiliad ond nid eraill, a allai arwain at ddryswch a'r perygl o gymhwyso mewn ffordd wahanol.

Ond, Llywydd, rwy'n dweud wrth gloi mai wrth wraidd hyn yw'r hyn rydym ni'n ceisio ei ddysgu o drychinebau'r gorffennol—Hillsborough, Orgreave, Grenfell, Windrush, y sgandal gwaed heintiedig. Rhaid i'n pwyslais ni wrth fynegi barn heddiw fod ar y mater sylweddol hwnnw o ddarparu tryloywder, atebolrwydd a chefnogaeth iddyn nhw a'r teuluoedd mewn profedigaeth.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe wnawn ni ohirio'r mater tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

19:30
Pwynt o Drefn

Pwynt o drefn nawr, cyn y cyfnod pleidleisio yna, sy'n deillio allan o ddatganiadau'r prynhawn yma. Luke Fletcher.   

Diolch, Llywydd, a diolch am ganiatáu imi wneud y pwynt yma o drefn. Yn eitem 5, datganiad y Prif Weinidog ar Gymru decach, ailadroddodd y Prif Weinidog yr honiad bod y Llywodraeth wedi cyrraedd ei tharged o 100,000 o brentisiaethau. Ond, wrth gwrs, bydd y Prif Weinidog hefyd yn ymwybodol o lythyr a anfonwyd ati gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn dadlau'r honiad hwnnw. [Torri ar draws.] Fel yr ydw i, a phobl eraill, wedi crybwyll—

Rwyf wedi dweud bod hwn yn bwynt o drefn; mae'n bwynt o drefn. Parhewch, os gwelwch yn dda. 

Fel yr ydw i, a phobl eraill, wedi crybwyll, a hefyd yn y pwyllgor, mae dau fesur. [Torri ar draws.]

Joyce Watson, mae'n bwynt o drefn. A wnewch chi beidio â threthu fy amynedd i ar y cyfnod olaf yma o ddiwrnod hir? Luke Fletcher, parhewch i—

Mae dau fesur sy'n cael eu defnyddio. Un ohonynt yw'r mesur trylwyr. Byddaf yn dyfynnu o'r llythyr yn benodol:

'Mae'r mesur trylwyr wedi cael ei ddefnyddio yn hanesyddol i adrodd ar gynnydd, gan gynnwys mewn adroddiadau blynyddol yn ystod tymor presennol y Senedd. Dyma'r mesur a ddefnyddiwyd cyn i'r targed gael ei leihau o 125,000 i 100,000 ym mis Mehefin 2024.

'Nid yw'r honiad bod dros 100,000 o brentisiaethau wedi'u cyflwyno yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd yn cael ei gefnogi gan y mesur trwyadl ac mae'n ymddangos ei fod yn creu anghysondeb ag adroddiadau blaenorol a gellid ei ystyried fel un sy'n dewis a dethol y data.'

Nawr, nid dim ond y Swyddfa Ystadegau sy'n dadlau'r honiad hwn, ond hefyd y sector addysg bellach a phrentisiaethau. Felly, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth—nid yn unig y Prif Weinidog, ond i'r Llywodraeth—fyfyrio ar faint o bobl sy'n dadlau'r honiad hwnnw a chywiro'r cofnod. Byddaf yn gorffen fel mae'r llythyr yn gorffen:

'Mae tryloywder yn bwysig oherwydd ei fod yn galluogi i'r ddadl ganolbwyntio ar y materion pwysig. Mae'n hanfodol osgoi defnyddio data sy'n rhy ddetholus neu'n colli cyd-destun priodol.'

Allaf i ddim gweld unrhyw un sy'n dymuno ymateb i'r pwynt o drefn, ac mae eich sylwadau bellach ar y cofnod.   

Y cyfnod pleidleisio sydd nesaf. Ac oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais hynny.

16. Cyfnod Pleidleisio

Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 8, ar y Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal ac 17 yn erbyn. Ac felly, mae'r rheoliadau yna wedi eu cymeradwyo.

Eitem 8. Rheoliadau Cynllun Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026. : O blaid: 41, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 fydd y bleidlais nesaf, y Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 56, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae'r rheoliadau yna o dan eitem 9 wedi eu derbyn. 

Eitem 9. Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026. : O blaid: 56, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Ac felly, eitem 13 yw'r bleidlais nesaf, y Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 56, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Mae'r rheoliadau yna wedi eu derbyn o dan eitem 13.  

Eitem 13. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2026. : O blaid: 56, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

A'r bleidlais olaf ar eitem 15, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd). A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Huw Irranca-Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 15. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd). : O blaid: 46, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

19:35

Daeth y cyfarfod i ben am 19:35.