Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/03/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn.
1. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, 'Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021-25'? OQ63969
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r comisiynydd am baratoi adroddiad annibynnol sy’n rhoi trosolwg manwl i ni o sefyllfa’r Gymraeg. Rydym wedi gwneud cynnydd o ran ein targedau i gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, a’r defnydd a wnaed o’r iaith, ac mae’r adroddiad yn gosod her adeiladol i’r Llywodraeth mewn sawl maes polisi.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet. Yn bersonol, fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg, dwi'n gwerthfawrogi'r cyfle i ymarfer sgwrsio yn ddyddiol yn y Gymraeg—er enghraifft, drwy ymweld â Siop y Siswrn, neu dros beint yn nhafarndai'r Wyddgrug. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i ehangu cyfleoedd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae defnydd yr iaith yn isel?
Diolch yn fawr unwaith eto i Hannah Blythyn, a llongyfarchiadau am bopeth y mae hi'n ei wneud i ddysgu a defnyddio'r iaith. Wrth gwrs, yn adroddiad y comisiynydd, defnydd yr iaith yw un o'r themâu mwyaf yn yr adroddiad. Mae hi'n tynnu sylw at ddefnydd o'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol, yn y gweithle, ac yn y cadarnleoedd, a chyfleon i bobl sy'n dysgu Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol, fel roedd Hannah Blythyn yn dweud. Rydyn ni'n ariannu prosiectau fel yna, trwy'r mentrau iaith. Rydyn ni wedi ehangu prosiect Perthyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Nawr mae mwy o arian yn Perthyn, ac mae pobl yn gallu rhoi cais i mewn am arian unrhyw le yng Nghymru. Dwi'n siŵr, yn etholaeth Hannah Blythyn, y bydd y ceisiadau yna ar gael. Yn barod, rydyn ni'n cefnogi gŵyl gymunedol Gwyddgig, yn yr Wyddgrug, sy'n rhoi cyfleon, gweithgareddau, ac yn y blaen, i deuluoedd, plant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach, i ddefnyddio'r Gymraeg. Dwi wedi clywed, trwy'r mentrau iaith, am gynllun newydd Cymraeg yn y Coed ym mharc Loggerheads, lle mae pobl yn gallu cerdded a siarad Cymraeg ar yr un pryd.
Mae cwestiwn 2 [OQ63953] wedi'i dynnu yn ôl. Mi awn ni'n syth, felly, i gwestiynau y llefarwyr yr wythnos yma. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
yDiolch, Llywydd. Un o'r pethau dwi'n falch, Ysgrifennydd Cabinet, yr ydym ni wedi gallu ei wneud yn y Senedd hon ydy adeiladu consensws o ran yr iaith Gymraeg. Fel clywsom ni yn yr ateb i gwestiwn Tom Giffard yn gynharach, mae'n glir bod yna o leiaf ddau Aelod o'r Senedd bresennol hon ac efallai mwy yn y Senedd nesaf yn mynd i fod yn erbyn y Gymraeg. Gaf i ofyn pa mor bwysig ydych chi'n credu y mae'r ffaith bod gennym ni dargedau wedi bod o ran sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa gryfach o ran yr iaith? Ydych chi'n credu y byddem ni'n gweld cam yn ôl o ran y Gymraeg pe byddai'r targedau hynny yn diflannu?
Diolch i Heledd Fychan. Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi creu consensws tu ôl i'r iaith Gymraeg yn adlewyrchu beth mae pobl sy'n byw yng Nghymru eisiau i ni wneud. Mae hwnna wedi newid dros yr amser dwi wedi bod yn rhan o'r ddadl. Pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerfyrddin, roedd ffrae bron bob dydd am yr iaith Gymraeg, a doedd hynny ddim yn helpu neb. Nawr, yn y Siambr hon, rydyn ni bron i gyd yn cefnogi'r iaith Gymraeg ac mae hwnna'n rhan o gryfder yr iaith yng Nghymru heddiw. Mae targedau'n bwysig i hynny, wrth gwrs. Maent yn ein helpu ni gyda'r uchelgais sydd gyda ni. Mae'r targedau sydd gyda ni yn rhai rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw ar draws y Siambr. Dwi eisiau gweld hwnna'n parhau at y dyfodol.
Diolch. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydyn ni'n gweld y Gymraeg yn cael ei thrin fel rhywbeth i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn y dyfodol. Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu peidio â gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon.
Os caf i droi at fater arall, sef yr £14 biliwn o fuddsoddiad a gyhoeddwyd ar gyfer rheilffyrdd, allwch chi amlinellu sut cyrhaeddwyd at y ffigur o £14 biliwn? A wnewch chi ymrwymo at gyhoeddi nodyn yn egluro hyn, gan fod yna amwysedd yn atebion Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â hyn wrth iddo ateb cwestiynau ddoe, wrth iddo gyfaddef y gallai'r ffigur hwn fod yn uwchac y gallai fod yn llai? Dwi’n siŵr eich bod chi'n cytuno ei bod hi’n bwysig, o ran craffu a thryloywder, fod y Senedd yn cael gwybodaeth fanwl o ran faint o arian fydd yn cael ei ryddhau a phryd.
Clywais i Ken Skates yn ymateb i'r cwestiynau ar lawr y Senedd ddoe. Clywais i ef yn esbonio'r ffigurau y tu ôl i'r £14 biliwn. Mae ef a Thrafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy'n dangos ble mae'r posibiliadau i fuddsoddi arian yn dod yn y dyfodol. Clywais i Ken Skates yn dweud ei fod e'n barod i roi fwy o wybodaeth am y ffigurau hefyd. So, wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad â fe a threial cael mwy o fanylion i Aelodau. Beth roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ei ddweud oedd, pan fyddwch chi'n edrych ymlaen ac rŷch chi'n treial cynllunio dros ddegawd neu fwy, wrth gwrs mae ffigurau yn gallu newid. Mae'n dibynnu ar lot o bethau a, heddiw, allwn ni ddim rhagweld popeth sy'n mynd i ddigwydd.
Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Wrth gwrs, rydyn ni gyd yn deall hynny, ond pan fydd rhywbeth yn cael ei gyflwyno fel, 'Mae yna £14 biliwn yn bendant yn dod i Gymru', dyna pam rydyn ni'n herio hynny, oherwydd os caf i eich dyfynnu chi eich hun yn 2019, wrth ymateb i gyhoeddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y pryd,
Wel, onid ydy hynny'n wir o ran y £10 biliwn o'r £14 biliwn a gyhoeddwyd hyd yma? Dyna rydyn ni'n trio deall. Mae'ch Llywodraeth chi'n dweud, 'Mae yna £14 biliwn yn bendant yn dod i Gymru.' Dydy hynny ddim yn wir o'r hyn rydyn ni'n ei weld fan hyn.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganlyniadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU i bobl Islwyn? OQ63967
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ryddhad ardrethi busnes ar gyfer tafarndai a bwytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63965
5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn Nwyrain De Cymru? OQ63961
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ba ddyraniadau cyllid canlyniadol Barnett y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cael yng ngoleuni datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU? OQ63973
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd ardoll ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn ei chael ar Ddwyrain De Cymru? OQ63962
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63974
Diolch yn fawr i Cefin Campbell. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adfer sefydlogrwydd i'r economi a chyllid cyhoeddus. Cadarnhaodd rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd cynhyrchiant, enillion ac incwm gwirioneddol aelwydydd yn cynyddu, buddion a fydd yn cael eu teimlo ledled Cymru drwy wella safonau byw a sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn well eu bywyd a phlant yn cael eu codi allan o dlodi.
Cwestiwn 9 gan Gareth Davies yn olaf.
9. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr arian a godir o'r ardoll ymwelwyr yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith twristiaeth? OQ63964
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae cynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Rhwydweithiau Natur yn cysylltu pobl â byd natur? OQ63957
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd dŵr mewn afonydd? OQ63977
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella proffidioldeb yn y sector ffermio? OQ63971
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ63947
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogeledd bwyd yng Nghymru? OQ63956
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i ddarparu atebion parhaol i lifogydd afonol yn Sir Ddinbych? OQ63963
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lygredd aer a dŵr yn Abertawe? OQ63943
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn? OQ63968
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y goblygiadau costau byw i Gymru yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol? TQ1452
Diolch, a diolch am ddod yma i ateb ar ran y Prif Weinidog, gan taw hi sy'n gyfrifol, wrth gwrs, am faterion rhyngwladol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd yr ail gwestiwn gan Hannah Blythyn.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith ffugiadau dwfn mewn perthynas ag etholiad y Senedd eleni, yn dilyn adroddiadau newyddion diweddar? TQ1453
A Sioned Williams.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. A ninnau newydd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dwi am sôn am un o ferched rhyfeddol Caernarfon.
Yn ganolog i’r stori hon, mae canolfan Noddfa, canolfan gymunedol yng nghalon Ysgubor Goch, sydd bellach yn gartref i brosiectau bwyd, ysgol feithrin, prosiect cerdd a llawer, llawer mwy.
Capel oedd Noddfa yn wreiddiol, a dyma le mae hanes Emily Roberts, neu’r Chwaer Emily, yn dod i mewn i bethau. Roedd Emily yn aelod o Forward Movement. Roedd merched y mudiad yn symud i fyw i ardaloedd difreintiedig ac yn sefydlu ysgolion Sul. A dyna sut ddaeth Emily Roberts i fyw a gweithio i stad Ysgubor Goch yn 1955. Ar y cychwyn, roedd hi'n mynd â phlant i'r capeli yn y dref, ond fe ddaeth hi i gredu yn fuan iawn y dylid cael capel ar y stad, yng nghanol Ysgubor Goch.
Yn 1956, mi wnaeth hi glywed fod yna gapel sinc, capel yn perthyn i'r Wesleaid ym Mhorthmadog, yn cau, ac mi wnaeth hi drefnu i gludo'r capel sinc i Gaernarfon a'i osod o le mae Noddfa heddiw. Agorwyd adeilad mwy parhaol yn 1966.
Oni bai am weledigaeth Emily Roberts, fyddai Noddfa ddim yn bodoli heddiw, a byddai’r gymuned leol ar ei cholled heb yr holl waith da sydd wedi digwydd yno yn ystod y 70 mlynedd diwethaf.
Diolch i Sister Emily am ei gweledigaeth, a phen-blwydd hapus iawn i ganolfan bresennol Noddfa ar ei phen-blwydd yn hanner cant eleni.
I ddilyn datganiad Siân, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dwi eisiau jest sôn am fenyw o Aberhonddu, os gwelwch yn dda.
Diolch, bawb.
Eitem 5 ar ein hagenda ni yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: cofrestru buddiannau’r Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9203 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 3, 4 a 5 mewn perthynas â Chofrestru Buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: datgan buddiannau’r Aelodau. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9204 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13, 15 a 17 mewn perthynas â datgan buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: busnes seneddol yn y seithfed Senedd. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9205 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11.10 a 12.6(i)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9206 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26: Biliau Aelod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau cyhoeddus. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9207 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 Deddfau’r Senedd, a newidiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 26A Deddfau Preifat y Senedd, 26B Deddfau Hybrid y Senedd a 26C Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: deisebau’r cyhoedd. Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM9208 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 – Deisebau’r Cyhoedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Y Llywydd i ateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 11, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru', a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM9200 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae'r gallu i gynhyrchu a phrosesu bwyd, wrth gwrs, yn asedau cenedlaethol strategol pwysig, ac rŷm ni'n gwybod am gyfraniad y sector bwyd a diod yng Nghymru, yn cynnal bron i 0.25 miliwn o swyddi, yn gyfrifol am tua 17 y cant o holl gyflogaeth Cymru. Wrth wraidd y cyfan, wrth gwrs, mae'r cynhyrchwyr cynradd craidd yna, yn bennaf amaethyddiaeth, ond dyframaeth a garddwriaeth hefyd. Ond eto i gyd, mae 95 y cant o ddosbarthiad bwyd y Deyrnas Unedig yn cael ei ddominyddu gan dim ond llond llaw fach o archfarchnadoedd mawr. Mae’r crynodiad pŵer yna yn gallu gwasgu cynhyrchwyr, yn aml iawn, ac wrth gwrs yn allforio gormod o elw mas o’n cymunedau ni. Un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym ni yng Nghymru i ail-gydbwyso hynny yw caffael cyhoeddus, wrth gwrs, ac, ar hyn o bryd, beth yw e, dim ond rhyw 50 y cant, 55 y cant o wariant caffael y sector gyhoeddus sy’n aros yng Nghymru. Wel, wrth gwrs, mae angen cynyddu hynny yn sylweddol, i fod yn agosach at 75 y cant a thu hwnt. Mae hynny’n bwysig, wrth gwrs, oherwydd am bob 1 y cant yn ychwanegol rŷn ni’n cadw o’r gwariant yna yng Nghymru, yna mae’n cynhyrchu miloedd o swyddi. Felly, os gallwch chi gadw 10 y cant yn fwy, mae un ffigur dwi wedi'i weld yn awgrymu y byddai cymaint â 20,000 yn ychwanegol o swyddi o fewn economi Cymreig. Beth sy’n wych am hynny, wrth gwrs, yw eich bod chi'n cynhyrchu'r gwerth ychwanegol yna gyda'r un gwariant. Dŷch chi ddim o reidrwydd yn gwario'ch arian mewn ffordd wahanol, dim ond yn gwario'n ddoethach ac yn dewis cynhyrchwyr Cymreig.
Pan fydd ysgolion yn gweini cyw iâr wedi’i fewnforio o bellafion y byd, fel rŷn ni wedi cael ein hatgoffa ohono fe yn ddiweddar, wrth gwrs, tra, ar yr un pryd, bod cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru weithiau'n cael hi’n anodd goroesi, wel, dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd yn anochel. Mae hynny'n ddewis, onid yw e? Mae'n ddewis sy'n cael ei yrru gan arferion caffel yma yng Nghymru, ac mae angen i hynny newid.
Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ddiwygio caffel fynd law yn llaw gyda chryfhau capasiti prosesu, ac mae hynny'n cynnwys amddiffyn lladd-dai lleol a chyfleusterau prosesu rhanbarthol fel bod y gwerth yna yn aros yng Nghymru, a bod ein cadwyni cyflenwi ni yn fyrrach, ac felly yn fwy gwydn a hefyd yn fwy sofren.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn hefyd i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am wneud y gwaith pwysig ar yr ymchwiliad i brosesu bwyd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb.
Felly, gaf i ddweud bod adroddiad y pwyllgor yn dangos cyfleoedd a heriau hefyd? Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddiwydiant prosesu bwyd sy'n ffynnu, yn gynaliadwy, ac yn wydn, gan gefnogi busnesau, cynorthwyo cymunedau, a darparu ar gyfer Cymru, heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Cadeirydd y pwyllgor nawr i ymateb. Andrew R.T. Davies.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad wedi cael ei nodi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig eto, 'Cronfa Twf Lleol'. Y Cadeirydd fydd yn cyflwyno. Andrew R.T. Davies.
Cynnig NDM9201 Andrew Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Gronfa Twf Lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9210 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Roedd aelodau o'r gymuned fyddar a'r grwpiau sy'n eu cynrychioli nhw yn gwylio o'r galeri ac ar-lein yn ystod ein trafodion Cyfnod 3 yr wythnos diwethaf. Fe hwyluswyd hyn, wrth gwrs, drwy ddarpariaeth dehonglwyr BSL. Fe ddywedodd rhai ohonyn nhw wrthyf i wedyn pa mor rymus oedd hi i weld y fath ymrwymiad ar draws y pleidiau i'r gymuned BSL fyddar, ac i weld sut mae dealltwriaeth a chydnabyddiaeth Aelodau o BSL wedi datblygu a dyfnhau yn ystod y broses graffu, a'r anghydraddoldebau a'r anfantais mae'r gymuned yn eu hwynebu.
Felly, mae pasio'r Bil hwn yn gam cyntaf yn y broses o sicrhau bod hynny yn parhau, a bod y gwaith mawr sydd angen ei wneud nawr yn dechrau. Maen nhw'n gwylio nawr, mae rhai ohonyn nhw yn y galeri, a dwi'n gwybod eu bod nhw hefyd yn gwylio drwy lif byw yng Nghanolfan yr Urdd ar draws y ffordd. Roedd hi'n fraint i ddathlu gyda nhw heddiw ac i'w llongyfarch ar y gwaith caled a'r dyfalbarhad, a'u hamynedd nhw hefyd wrth ymgyrchu'n ddiflino dros eu hawliau ieithyddol.
Wrth gwrs, byddwn ni hefyd eisiau rhoi teyrnged i Mark Isherwood am gael y maen i'r wal. Mae hi wedi bod yn brofiad fyddaf i fyth yn ei anghofio, gweithio ar y Bil hwn, ac mae wedi bod yn wers bwysig. Mae'r cydweithio gyda'r gymuned fyddar yn drawsbleidiol gyda Mark a'r Ysgrifennydd Cabinet wir wedi dangos, dwi'n meddwl, sut mae modd inni, drwy ein Senedd, fod yn flaengar ac yn uchelgeisiol, drwy ddod ynghyd er budd y bobl rŷn ni'n eu cynrychioli, yn enwedig y rhai sydd heb gael y sylw y dylen nhw fod wedi ei gael am yn rhy hir.
Mae Plaid Cymru felly yn falch o gefnogi'r Bil hwn, ac mi fyddwn ni hefyd yn falch o barhau i gefnogi'r gwaith fydd yn dilyn ohono dros y blynyddoedd nesaf, achos mae disgwyliadau wedi cael eu codi gan y Bil ac mae'r Bil hwn yn addewid y mae'n rhaid ei gadw.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
A galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohirir y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 14, dadl ar adroddiad y bwrdd adolygiad o Senedd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd, a galwaf ar Joyce Watson i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9199 Joyce Watson
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r adroddiad ar yr Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd, 'Senedd i Bawb', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Dwi am wneud tri phwynt yn y ddadl heddiw. Mae'r cyntaf o gwmpas yr angen am fecanweithiau statudol i sicrhau balans rhywedd yn Seneddau'r dyfodol. Yn ail, dwi am sôn am y cynnydd hynod bryderus mewn sylwadau sarhaus a chamdriniaeth o ferched ar-lein. Ac yn drydydd, dwi am ddadlau bod angen i'r gwaith o greu Senedd sy'n arddel cydraddoldeb mewn cynrychiolaeth a chyfranogiad ar draws y nodweddion sy'n cael eu gwarchod fod yn fater ar gyfer y sefydliad yn ei gyfanrwydd, nid yn waith sy'n cael ei yrru gan rai merched a grwpiau lleiafrifol ymroddedig yn unig.
Mae tystiolaeth yn dangos bod seneddau sydd yn gydradd o ran rhywedd yn sefydliadau mwy effeithiol o ran democratiaeth, gan fod lleisiau yn gydradd o gwmpas y bwrdd. Mae hynny, yn ei dro, yn arwain at sylw priodol i faterion sy'n effeithio ar ferched ymhob man, yn ogystal â'r materion sy'n effeithio ar ddynion neu'r boblogaeth gyfan, o faterion yn ymwneud â'r misglwyf a'r menopos i ofalwyr di-dâl—lle mae'r mwyafrif helaeth yn ferched—i ddiogelwch merched a thrais yn erbyn menywod.
Fy mhryder mawr i ydy na fydd Seneddau'r dyfodol yn agos at fod yn gydradd o ran rhywedd. Dŷn ni wedi disgyn yn ôl yn y Senedd yma. Felly, dydy dulliau gwirfoddol ddim yn gweithio. Mi oedd o'n siom mawr i mi na wireddwyd yr ymrwymiad i greu cwotâu rhywedd statudol, sef yr unig ffordd i sicrhau cynrychiolaeth gydradd ar draws y pleidiau yn y Senedd.
Dwi'n falch bod argymhelliad 4 yr adroddiad sydd gerbron heddiw ynglŷn â datganoli'r cynhwysedd i alluogi deddfu i gefnogi amrywiaeth ymgeiswyr etholiadol—fod hwn wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae hwn yn argymhelliad hollbwysig ar gyfer y Llywodraeth nesaf. Mae hyn yn greiddiol i wireddu'r nod o Senedd gyfartal.
Dwi'n falch bod fy mhlaid i wedi sicrhau bod hanner ein hymgeiswyr yn ferched, gyda merched ar frig y rhestrau mewn hanner neu fwy o etholaethau ar gyfer etholiad mis Mai. Y siom ydy nad ydy hynny'n debygol o fod yn wir ar gyfer rhai pleidiau eraill, ac y byddwn ni, fel Senedd gyfan, wedi disgyn yn ôl ymhellach o ran cydraddoldeb rhywedd ar ôl yr etholiad.
Trof at fy ail bwynt, sef y cynnydd hollol annerbyniol mewn camdriniaeth a sylwadau sarhaus yn erbyn menywod ar-lein. Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd yn tynnu sylw at hyn—at y lefel hunllefus o gamdriniaeth ar-lein yn erbyn menywod. Mae'n hollbwysig bod y peilot sydd ar waith ar hyn o bryd sy'n monitro cyfrifon cyfryngau cymdeithasol nifer ohonon ni—bod y peilot yna'n parhau ac yn dod yn un sefydlog yn y Senedd nesaf. Dwi'n meddwl, a dwi'n cyd-fynd efo beth mae Joyce Watson newydd ei ddweud, fod angen hefyd fod y system fonitro yma yn digwydd yn ystod y cyfnod nesaf sydd o'n blaenau, y cyfnod etholiadol. Ac mae'n bwysig bod yr argymhellion yn yr adroddiad o gwmpas y maes yma yn cael eu gweithredu.
Mae'r hinsawdd bresennol o ymosodiadau personol diddiwedd ar Aelodau Seneddol benywaidd ar-lein yn rhwystro merched rhag rhoi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr. Dwi wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers deng mlynedd erbyn hyn, a dwi wedi gweld cynnydd syfrdanol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mewn ymosodiadau—ymosodiadau arnaf fi, fel menyw mewn gwleidyddiaeth, fel menyw hŷn mewn gwleidyddiaeth ac fel menyw sydd yn siarad Cymraeg yn fy mywyd cyhoeddus. Mae'r ymddygiad yn gywilyddus o wael. Weithiau, mae'r sylwadau yn croesi'r trothwy troseddol, a dyna le mae'r peilot mor werthfawr, a'r gweithredu sy'n gallu digwydd wedyn er mwyn dal y troseddwyr i gyfrif a drwy hynny ddiogelu merched ymhobman.
Dwi'n troi at fy mhwynt olaf, sef yr angen i'r Senedd fel sefydliad arwain y newid sydd ei angen. Dŷn ni wedi bod yn flaengar yng Nghymru, do, ac mae angen dathlu hynny. Mae llawer o hynny wedi digwydd oherwydd ymdrechion unigol nifer o ferched dros gyfnod hir, ac yn cael eu cefnogi gan gynghreiriaid o blith y dynion, ie. Mae nifer o'r merched sydd wedi gyrru'r newid efo ni heddiw yn y Siambr. Mae nifer yn ymddeol eleni—
Siân, mae'n rhaid iti orffen, os gweli di'n dda.
—ac mae ein diolch yn fawr iawn iddyn nhw ac i'r merched fu yma o'u blaenau nhw.
Mi fues i mewn digwyddiad wedi'i drefnu gan Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar yn trafod yr hyn sydd gerbron heddiw yma, a'r neges glir gan yr Athro Sarah Childs a'r Athro Rosie Campbell oedd hyn: mae'n rhaid i'r newid ddigwydd ar lefel y sefydliad cyfan. Mae llawer o ferched wedi gorfod defnyddio eu cyfalaf gwleidyddol er mwyn symud yr agenda ymlaen yn y gorffennol. Mae’n bryd i’r gwaith godi i lefel sefydliad cyfan, a dyna ydy fy anogaeth i’r Comisiwn heddiw.
Mae hwn yn adroddiad pwysig, a dwi'n meddwl ei fod e'n gofyn cwestiwn sylfaenol i ni fel Senedd, yn enwedig wrth i ni edrych ymlaen tua'r dyfodol wedi'r broses yna dŷn ni wedi mynd drwyddi o ran diwygio seneddol: pa fath o sefydliad democrataidd ŷn ni eisiau bod? Ac i ateb y cwestiwn yna, mae'n rhaid inni ofyn cyfres arall o gwestiynau: pwy sy’n gallu gweld eu hunain yma? Pwy sy’n teimlo bod lle iddyn nhw yma? A pha rwystrau sydd yn eu ffordd? Felly, mae’r adolygiad yma, dwi'n meddwl, yr adroddiad, yn ystyried y cwestiynau yma, yn edrych ar sut y dylem ni weithio fel sefydliad o ran ein diwylliant, o ran ein ffyrdd o weithio, ac ar y cyfleusterau sydd ar gael i Aelodau a staff. A dwi'n meddwl bod y neges yn glir o'r adroddiad: os ŷn ni'n moyn bod yn Senedd sy'n wirioneddol cynrychioli Cymru, yna mae’n rhaid inni wneud newidiadau. A dwi'n croesawu llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad. Mae fe'n nodi, fel rŷn ni wedi clywed, fod gan y Senedd hanes cryf o ran cynrychiolaeth a chynhwysiant, yn enwedig o ran cynrychiolaeth menywod. Ond mae hefyd yn rhybuddio, fel y clywsom ni gan Siân Gwenllian, allwn ni ddim cymryd hynny’n ganiataol. Felly, mae’n rhaid i ni wreiddio'r arferion cynhwysol yma i strwythur y sefydliad ac nid dibynnu, fel y dywedodd Jane Dodds, ar arferion anffurfiol yn unig.
Dwi eisiau rhoi ffocws i ddau o’r argymhellion—maen nhw'n sefyll mas i fi—sef y ddarpariaeth gofal plant a’r egwyddor o rannu swyddi. Mae'n rhaid i'r Senedd ymrwymo i’r egwyddor o ddarparu gofal plant ar y safle, dwi'n meddwl, ar gyfer Aelodau, staff ac aelodau o'r cyhoedd. Fe ddechreuais i fy ngyrfa broffesiynol i yn 1994 yn BBC Cymru yma yng Nghaerdydd, ac, fel sefydliad cenedlaethol o bwys a chyflogwr da, roedd crèche yno ym 1994, pum mlynedd cyn i ni gael datganoli. Roedd yn syfrdanol deall, pan ddes i yma yn 2021 i sefydliad cenedlaethol, os nad ein prif sefydliad cenedlaethol, nad oedd crèche yma.
Rŷn ni'n sefydliad sy’n gwneud deddfau ar gyfer Cymru gyfan. Rŷn ni'n trafod polisïau cydraddoldeb ac effaith hynny ar deuluoedd, cyfrifoldebau gofalu, bron yn wythnosol yn y Senedd. Ond mae diffyg crèche yn rhoi neges glir nad ŷn ni am gefnogi teuluoedd yma yn y modd mwyaf sylfaenol.
Yr ail fater wedyn sydd angen gweithredu brys arno, dwi'n meddwl, yw rhannu swyddi. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywydd gynnig sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid llenwi rhai swyddi yn y Senedd drwy rannu swyddi. Felly, hoffwn i ofyn pa waith sydd wedi digwydd o ran paratoi at hyn.
Wedyn dwi eisiau sôn eto am fy mhrofiad personol: rhannu swydd ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth ganiatáu i fi ddychwelyd i'r byd gwaith fel mam i ddau o blant bach. Dwi'n gwybod, fe glywais i gan fy rheolwr—roedd y ddwy ohonom ni yn famau oedd yn rhannu swydd—fod y brifysgol wedi elwa o hynny, o gryfderau, personoliaethau a phrofiad gwahanol mewn un tîm, wrth inni ymgymryd â thasgau y rôl yna. Felly, pam na ddylai ein democratiaeth hefyd elwa ar y math yna o hyblygrwydd cadarnhaol fyddai'n cymell pobl, a menywod yn benodol, i fedru rhannu o'u doniau? Dyw'r syniad yma ddim yn ymwneud â lleihau’r gwaith. Mae’n ymwneud ag ehangu pwy all wneud y gwaith hwnnw.
Y pwynt olaf hoffwn i ei wneud, sy'n gysylltiedig â hynny, yw ar hyn o bryd mae gormod o bobl anabl yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth sy’n amhosib iddyn nhw, nid oherwydd diffyg gallu, ond oherwydd bod yna strwythurau sydd heb eu cynllunio gyda phawb mewn golwg. Felly, un peth hoffwn i grybwyll wrth orffen yw sôn am sicrhau gwell fynediad i bobl anabl i'r Senedd.
Mae'r adroddiad yn nodi i'r pwyllgor drafod y posibilrwydd o alw am seibiannau rheolaidd mewn trafodion. Daethon nhw i'r casgliad mwyafrifol mai’r Llywydd a Chadeiryddion pwyllgorau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pryd mae angen seibiannau mewn trafodion. Dwi'n credu bod y casgliad yma yn arddangos yn gwbl eglur pam mae angen ymgorffori mesurau yn strwythurol yn hytrach na'u gadael nhw i hap, achos a fydd gan Lywydd neu Gadeiryddion y dyfodol brofiad a dealltwriaeth o anabledd neu gyflwr iechyd sy'n gwneud seibiau rheolaidd yn hanfodol? Fydd gyda nhw y ddealltwriaeth o hynny? Fel rhywun sydd â phrofiad o gadeirio a mynychu cyfarfodydd sy'n cynnwys pobl anabl, gallaf i ddweud wrthych chi byddai barn y rhelyw yn wahanol iawn i un y pwyllgor sydd, hyd y gwn i, yn bobl heb anabledd. Felly, hoffwn glywed ymateb penodol i'r pwynt yna. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
Galwaf ar y Llywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch i gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma heddiw. Dwi'n gwneud hynny fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes a chadeirydd y Comisiwn. Mae'r ddau gorff heb gwrdd yn ffurfiol i edrych ar yr argymhellion sy'n berthnasol i'r ddau gorff yna ers cyhoeddi'r adroddiad yr wythnos diwethaf, felly ymateb ydw i drwy roi rhywfaint o ddiweddariadau i'r Senedd ar nifer o'r materion sydd wedi cael eu hargymell yn yr adroddiad ac sydd wedi codi yn y ddadl heddiw. Ond, gaf i gychwyn drwy fod yn ddiolchgar iawn i'r bwrdd o Aelodau a'r academyddion sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu at y gwaith swmpus yma o'n blaenau ni heddiw?
Gaf i gyfeirio, felly, at rai o'r argymhellion? Ar argymhelliad 14 yn gyntaf, hwn yw'r argymhelliad sy'n diogelu cyfranogiad rhithwir. Does neb ar-lein, yn digwydd bod, ar y foment dwi'n trafod hyn, ond mae'r argymhelliad hynny yn gofyn i ni gadarnhau ei fod yn gyfystyr â phresenoldeb personol—ein bod ni'n trin pawb sy'n cyfrannu o bell yn gyfartal gyda'r rhai sydd yma yn y Siambr. Wrth gwrs, mae canllawiau'r Llywydd, sydd wedi cael eu cyhoeddi o dan Reol Sefydlog 6.17, yn nodi bod gan bob Aelod hawl i gymryd rhan mewn trafodion y Cyfarfod Llawn a byddant yn cael eu trin yn deg ym mhob agwedd. Ac mae'r canllawiau ar gyfer pwyllgorau hefyd yn nodi'r disgwyliad mai hybrid yw'r ffurf arferol ar gyfer cyfarfodydd. Rydyn ni wedi arloesi fel Senedd yn ein hymrwymiad ni i weithio'n hybrid, i ganiatáu i bobl deimlo'n gyfartal yn eu cyfraniad nhw, pa un a ydyn nhw yma yn y Senedd neu'n cyfrannu o bell, a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yr hyn rydyn ni wedi ei osod ar waith yn para ac yn gwneud hynny yng nghyd-destun canllawiau'r Llywydd, a hynny o dan Reolau Sefydlog.
Mae argymhelliad 25 yn gwneud argymhelliad ynghylch y posibilrwydd y bydd pwyllgor yn y dyfodol yn edrych ar rannu swyddi. Mae’r Pwyllgor Busnes, wrth gwrs, wedi cychwyn ar y gwaith yma wrth edrych ar rannu swyddi ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau, ac yn ddiweddar, wrth gwrs, bythefnos yn ôl, fe gafodd y gwaith hwn ei ymgorffori yn ein Rheolau Sefydlog ni drwy bleidlais yn y Siambr yma. Ac os bydd hyn yn cael ei ddefnyddio yn y Senedd—Cadeiryddion y pwyllgorau yn rhannu swyddi—yna bydd hyn yn darparu tystiolaeth bwysig, heb amheuaeth, ar gyfer unrhyw waith pellach a wneir o rannu swyddi i’r dyfodol.
Mae rhai o’r argymhellion yn ymwneud â’r Comisiwn, neu wasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn. Mae argymhelliad 11 yn cyfeirio at raglen o hyfforddiant y dylai’r Comisiwn barhau i’w darparu ynghlwm â chod ymddygiad, busnes y Senedd a gwytnwch. Mae argymhelliad 37 yn ymwneud â hyfforddiant rheolaidd ar gydraddoldeb. Rwy’n falch bod nifer o’r sesiynau hyfforddi wedi eu datblygu a’u cynnig i Aelodau, ac i aelodau staff, yn y meysydd uchod yn ystod y Senedd hon. Mae’r Comisiwn wedi cytuno ar fframwaith ar gyfer darparu hyfforddiant i gefnogi Aelodau yn eu gwaith yn y seithfed Senedd. Serch hyn, nid oes gan y Comisiwn y grym i wneud hyfforddiant yn orfodol, ac felly mae’n hanfodol bod Aelodau yn addysgu eu hunain yn y meysydd hyn ac yn cydnabod yr angen iddyn nhw a’u staff gael eu hyfforddi'n briodol. Mae rôl bwysig, byddwn i'n dweud, gan bleidiau gwleidyddol yn y cyd-destun yma hefyd, yn gosod disgwyliadau uchel ar eu haelodau.
Rwy’n gobeithio y bydd darpariaeth newydd yr hwb yn cefnogi Aelodau’r dyfodol drwy gynnig man cychwyn ar gyfer derbyn gwybodaeth a chefnogaeth, nid yn unig yn y meysydd penodol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yma, ond ar agweddau eraill o wasanaethau’r Comisiwn hefyd.
Mewn perthynas â'r ddarpariaeth gofal plant—argymhelliad 22, ac mae nifer wedi cyfrannu at y pwnc yma y prynhawn yma—mae'r Comisiwn wedi cynnal astudiaeth ddichonoldeb yn ddiweddar i ddarparu cyfleusterau crèche. Amcan y Comisiwn oedd sefydlu y sylfaen dystiolaeth gychwynnol i ddeall anghenion gofal plant Aelodau, darpar Aelodau ac aelodau staff, ac archwilio opsiynau ymarferol a chymesur ar gyfer diwallu'r anghenion yma. Fe ganfyddodd yr astudiaeth fod gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn bywyd seneddol, ond hefyd roedd yr adroddiad yn dweud yn ddigon clir nad crèche ar y safle yma oedd y modd mwyaf ymarferol o ddarparu gofal plant i Aelodau ac i aelodau staff. Nawr, mae hwnna'n wahanol iawn i'r hyn rŷn ni wedi'i glywed fel dymuniad nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr yma y prynhawn yma.
Fodd bynnag, wrth i'r Comisiwn ystyried yr adroddiad yma yn ein cyfarfod ni ar 3 Tachwedd, fe benderfynodd y Comisiwn beidio â chymryd gair yr adroddiad yna fel y gair terfynol ac i fwrw ymlaen â'r camau nesaf arfaethedig ar gyfer y gwaith i archwilio opsiynau ar gyfer darparu crèche ar y safle. Bydd e'n fater i'r Senedd nesaf nawr i edrych ar hyn, a dwi'n deall y rhwystredigaeth sydd gan nifer ohonoch chi ynglŷn â'r ffaith nad yw hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Ond, i fod yn gwbl onest, yr adborth roeddem ni'n ei gael, o drafod gydag Aelodau ac aelodau staff, oedd taw nid cymorth ar y safle oedd y ffordd fwyaf ymarferol i'w helpu nhw gyda'u gofal plant ac anghenion gofal plant. Ond, o ran y neges sydd yn y Siambr yma y prynhawn yma ynglŷn â'r neges y mae crèche yn gallu'i roi, a'r cyfle hefyd i sichrau bod ymwelwyr â'r safle yma yn cael cynnig gofal crèche, dwi'n gobeithio bod hwnna'n mynd i adlewyrchu fel pwynt pwysig i'w ystyried gan y Comisiwn nesaf.
Yn olaf, pwynt pwysig y mae nifer o bobl wedi'i gyfrannu y prynhawn yma—ac fe roedd cwestiwn amserol wedi cael ei dderbyn ynghynt y prynhawn yma—yw'r camdrin, ac ar-lein yn enwedig, y mae nifer o Aelodau o'r Senedd yma yn ei wynebu yn eu byd gwleidyddol nhw. Mae'r gwaith y mae'r cawcws menywod wedi'i wneud i annog y Comisiwn i sefydlu'r prosiect peilot ar fonitro'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iawn ac yn gam cychwynnol yn ein gwaith rhagweithiol ni i edrych ar y risg sydd yna ar gyfer Aelodau o'r Senedd yma nawr ac i'r dyfodol. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd nesaf yn parhau â'r gwaith yna ac yn ei ymgorffori e fel rhan bob dydd o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud i warchod y gwleidyddion sy'n cael eu hethol i'r lle yma.
Gaf i ddiolch yn olaf nawr i Joyce Watson am yr arweiniad mae hi wedi'i rhoi i'r gwaith penodol yma? Mae hi hefyd yn arwain fel Comisiynydd ar gydraddoldeb yn y Comisiwn ac yn y Senedd yma. Mae'r adroddiad ei hun hefyd yn gwneud yr argymhelliad bod angen i Gomisiynydd gario'r cyfrifoldeb yna yn Seneddau'r dyfodol, yng Nghomisiynau'r dyfodol. Allai neb fod wedi gwneud y gwaith yn well na Joyce Watson dros y blynyddoedd diwethaf yma, a dwi'n diolch iddi am yr arweiniad a'r dygnwch mae hi wedi'i ddangos yn cario'r cyfrifoldeb yna ac yn gwneud y gwaith ar gyfer yr adroddiad yma hefyd.
Rwyf i bellach nawr, fel cadeirydd y Comisiwn, Cadeirydd y Pwyllgor Busnes, yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am ymateb i'r argymhellion perthnasol yma i'r Pwyllgor Busnes nesaf ac i'r Comisiwn nesaf, ond gyda'r disgwyliad wrthyf i ac wrthych chi, gyda'ch cyfraniadau grymus chi fan hyn heddiw—
—y bydd y ddau gorff yna yn darparu ac yn cyhoeddi ymateb ffurfiol i argymhellion yr adroddiad yma, fel nad yw'r gwaith yn cael ei adael ar silff ac yn casglu llwch. Diolch.
Joyce Watson i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r adroddiad? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 3 yn enwau Laura Anne Jones a James Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.
Eitem 15 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bolisi economaidd. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9202 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth 2026 a'r rhagolygon economaidd diweddaraf.
2. Yn gresynu, o dan lywodraethau Llafur yn San Steffan a Chaerdydd:
a) bod rhagolygon twf economaidd wedi'u hisraddio;
b) bod disgwyl i ddiweithdra godi a bod Cymru'n parhau i fod â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU;
c) bod nifer y bobl yng Nghymru ar gredyd cynhwysol ar ei lefel uchaf erioed;
d) mai'r lefel anweithgarwch economaidd yng Nghymru yw'r uchaf ym Mhrydain Fawr; ac
e) mai pecynnau cyflog yng Nghymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn credu, ar ôl bron i dri degawd o lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru, bod economi Cymru yn tanberfformio a bod angen dull cryf sy'n ffafrio twf ar bobl sy'n gweithio a busnesau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael Cymru i weithio drwy wneud y canlynol:
a) gwneud toriad o 1 geiniog yn y bunt i gyfradd sylfaenol treth incwm Cymru;
b) diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, tafarndai a swyddfeydd post;
c) dileu'r dreth dwristiaeth arfaethedig;
d) diddymu treth trafodiadau tir wrth brynu prif breswylfa; ac
e) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferendwm cyn cyflwyno cynnydd o fwy na 5 y cant i'r dreth gyngor.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r £555 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf ac adnoddau ar gyfer Cymru dros y tair blynedd nesaf yn natganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Symud, Llywydd.
Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliant 2, yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU:
a) bod treth fel cyfran o CMC wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers yr Ail Ryfel Byd;
b) bod safonau byw wedi gostwng yn ystod Senedd 2019-2024, y dirywiad cyntaf o'r fath ar gofnod;
c) bod cyllideb fach Liz Truss, gyda chefnogaeth y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, wedi chwalu economi'r DU ac anfon taliadau morgais i berchnogion tai drwy'r to;
d) bod Brexit wedi achosi ergyd economaidd i Gymru sydd hyd yma yn fwy na £4 biliwn, ac mae'n parhau i osod biwrocratiaeth beichus ar fusnesau Cymru; ac
e) na wnaeth addewidion i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac ailwampio rheilffordd Gogledd Cymru erioed gael eu gwireddu.
Yn gresynu at y canlynol o dan y llywodraethau Llafur presennol yn San Steffan a Chymru:
a) bydd cyllideb Cymru yn profi ei thwf isaf mewn gwariant o ddydd i ddydd y tu allan i'r blynyddoedd llymder presennol, a chyllideb gyfalaf sy'n crebachu;
b) bod fformiwla Barnett wedi cael ei llywio ar draul Cymru wrth gyfrifo ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus craidd, gan greu twll du yng nghyllid cyhoeddus Cymru y bu'n rhaid ei ysgwyddo gan awdurdodau lleol; ac
c) bod Cymru ymhlith yr isaf o'r 12 cenedl a rhanbarth y DU ar ystod o fetrigau perfformiad economaidd, gan gynnwys cynhyrchiant, cyflogaeth ac incwm sylfaenol y pen.
Yn credu:
a) bod pobl Cymru wedi cael eu gadael mewn gwaeth sefyllfa yn sgil agendâu polisi llywodraethau olynol yn San Steffan;
b) bod Reform yn bygwth gwaethygu'r niwed hwn drwy gynlluniau gwariant sydd heb eu costio a thoriadau dwfn i wasanaethau cyhoeddus; ac
c) mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig arweinyddiaeth newydd i ryddhau potensial economaidd Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer yr 21ain ganrif i ryddhau potensial economi Cymru;
b) gweithredu rhaglen gofal plant Plaid Cymru i arbed mwy na £30,000 i deuluoedd mewn costau fesul plentyn;
c) diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau bach a chanolig domestig yn well; a
d) gweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru i sicrhau bod cyfran uwch o gyfoeth asedau pensiwn Cymru yn cael ei chadw a'i hail-fuddsoddi yn ein cymunedau.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Galwaf ar James Evans i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones.
Gwelliant 3—Laura Anne Jones, James Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu, bod economi Cymru, ar ôl bron i dri degawd o Lywodraethau Llafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn tanberfformio a bod angen dull cryf o gefnogi twf ar fusnesau a phobl sy'n gweithio.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chostau byw, rhoi hwb i economi Cymru, a rhoi pobl Cymru yn gyntaf trwy:
a) cyflwyno cynllun credadwy i leihau treth incwm un geiniog ar draws pob band;
b) dileu'r dreth dwristiaeth;
c) cyflwyno clo ar drethi er mwyn atal trethi neu ardollau newydd rhag cael eu creu gan Lywodraeth Cymru;
d) dileu sero net i roi terfyn ar gymorthdaliadau gwastraffus, a'i gwneud yn haws adeiladu seilwaith;
e) ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gynnal refferenda ar gyfer codiadau'r dreth gyngor uwchlaw 4.99 y cant;
f) adfer y terfyn cyflymder diofyn o 30mya;
g) cyflawni ffordd liniaru'r M4;
h) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl reoliadau i asesu a ydynt yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn addas i'r diben;
i) gweithredu lluosydd cyfraddau busnes is yn barhaol ar gyfer tafarndai, gwestai a lleoliadau lletygarwch; a
j) blaenoriaethu caffael gyda chwmnïau lleol.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yr Ysgrifennydd Cabinet, nawr, dros gyllid, sy'n cyfrannu. Mark Drakeford.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud nawr i'r cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 13, ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 52, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae Cyfnod 4 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) wedi ei gymeradwyo. [Cymeradwyo.] Llongyfarchiadau i Mark Isherwood am ei arweiniad arbennig ar y ddeddfwriaeth yma. [Cymeradwyo.]
Eitem 13. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) : O blaid: 52, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 15, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bolisi economaidd. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf. Os bydd gwelliant 1 yn cael ei gymeradwyo, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2, felly, sydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 2 yn cael ei wrthod.
Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3 sydd nesaf, yn enw Laura Anne Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, 50 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Eitem 15. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Laura Anne Jones: O blaid: 2, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae pob gwelliant wedi'i wrthod, a'r cynnig wedi'i wrthod; does dim byd wedi'i dderbyn.
Dyna ni, rŷn ni'n symud ymlaen. Yr eitem nesaf fydd y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Russell George.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr i gyfrannu. Jeremy Miles.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:54.