Y Cyfarfod Llawn
Plenary
28/01/2026Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu perfformiad a llywodraethiant cabinetau awdurdodau lleol? OQ63714
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn atebol yn ddemocrataidd i'w hetholwyr am eu perfformiad. Disgrifir y dull o ymdrin â pherfformiad a llywodraethiant y prif gynghorau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda phartneriaid i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu cymorth perthnasol dan arweiniad y sector.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae crynodeb archwilio blynyddol Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Powys, a gyhoeddwyd y llynedd, yn nodi nad yw'r cyngor wedi mabwysiadu dull hirdymor o sicrhau ei gynaliadwyedd ariannol eto, ond ei fod yn datblygu un. Roeddwn o'r farn fod hynny braidd yn frawychus; buaswn wedi meddwl y dylai pob awdurdod lleol fod yn cynllunio ar gyfer eu sefyllfaoedd ariannol hirdymor. Yn eich asesiad chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw'r cyngor bellach wedi gwneud digon o gynnydd ar ddatblygu eu cynllun hirdymor, ac i ba raddau rydych chi'n derbyn bod y fformiwla gyllido bresennol yn gwneud y dasg honno'n anos i awdurdodau gwledig fel Powys?
Diolch, Russell. Mae awdurdodau lleol yn gyrff sy'n atebol yn ddemocrataidd, ac sy'n gyfrifol am reoli eu hadnoddau eu hunain. Mae Archwilio Cymru wedi nodi gwendidau llywodraethu pwysig y mae'n rhaid i Bowys fynd i'r afael â nhw ar frys er mwyn gallu cyflawni eu rhaglen Powys Gynaliadwy. Nid yw hyn yn golygu nad yw Powys yn cyflawni eu dyletswyddau statudol yn gyffredinol, fodd bynnag. Rwy'n croesawu camau cynnar a gymerwyd gan Bowys i fynd i'r afael â'r diffygion hyn, ond mae angen camau gweithredu parhaus pellach i gyflawni gwelliant ystyrlon a mesuradwy. Yn amlwg, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i fonitro'r cynnydd yn agos iawn ac yn gweithio'n adeiladol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyngor Powys.
Mae gan lawer o drigolion yn fy etholaeth bryderon ynghylch perfformiad a llywodraethiant Cyngor Sir Ddinbych, fel enghraifft amlwg o'r rheswm pam fod asesu cadarn ac atebolrwydd gan Lywodraeth Cymru yn bwysig. Yn 2024, cafwyd dros 15,000 o gwynion gan drigolion pan gyflwynodd y cyngor ei system wastraff newydd ddadleuol, gan ddangos nid yn unig methiant y gwasanaeth ond chwalfa ddofn yn ymddiriedaeth y cyhoedd ac yn y cyfathrebu â'r gymuned. Gwneir gormod o benderfyniadau y tu ôl i ddrysau caeedig hefyd. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi nodi diffygion yn y ffordd y gwnaeth y cyngor ymdrin â gwerthiant arfaethedig Denbighshire Leisure Ltd, gan gynnwys dogfennaeth annigonol o gynlluniau ymgynghori a chyfathrebu cyhoeddus, a arweiniodd at bryderon ynghylch llywodraethiant a thryloywder. Y mis hwn, bu'n rhaid i'r cyngor agor ymchwiliad twyll hefyd. Felly, mae'r materion hyn yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag a yw arweinyddiaeth sir Ddinbych yn darparu gwasanaethau effeithiol, yn defnyddio adnoddau'n briodol ac yn gweithredu'n dryloyw, a chyda sgandalau parhaus, mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn cael ei niweidio drwy'r amser. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd mewn achosion fel sir Ddinbych, lle nodir methiannau o ran darpariaeth a thryloywder, ac a oes gwelliannau gorfodadwy'n cael eu cyflawni, yn hytrach nag argymhellion yn unig?
Diolch, Gareth. Rôl Llywodraeth Cymru yw rhoi fframwaith statudol yn ei le i gynghorau weithredu o'i fewn. Rôl Archwilio Cymru a'r rheoleiddwyr yw gweithredu pan nad ydynt yn cydymffurfio. Fel y dywedais, rhoddodd Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddull o wella perfformiad a arweinir gan y sector ar waith mewn cynghorau, a'i ddiben yw cefnogi diwylliant lle mae cynghorau'n adolygu'n barhaus sut y maent yn gwneud yn well. Gall Gweinidogion Cymru ddarparu cefnogaeth a chymorth i gynghorau lle mae problemau difrifol a sylfaenol, a lle cânt eu nodi gan y cyngor, Archwilio Cymru a rheoleiddwyr eraill. Ond mae Llywodraeth Cymru’n darparu dros £2 filiwn y flwyddyn i CLlLC yn benodol i gefnogi llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i'w trigolion. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda chynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig i gefnogi'r cydweithio rhanbarthol hwnnw, sydd hefyd yn bwysig, i weld sut y mae'r arferion gorau hynny'n cael eu rhoi ar waith.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru? OQ63742
Diolch, Peredur. Ers mis Ionawr 2020, mae rhaglen Trawsnewid Trefi wedi darparu dros £130 miliwn i gefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi yn Nwyrain De Cymru. Canol trefi yw asgwrn cefn ein cymunedau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w cefnogi.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Ychydig cyn y Nadolig, ymwelais â Tidal's Store yng Nghoed-duon yn ystod Wythnos Busnesau Teuluol. Mae'r cwmni dodrefn teuluol hwn sydd wedi sefydlu'n dda wedi parhau i fod yn rhan barhaol o ganol y dref, er bod llawer o newidiadau wedi digwydd o'u cwmpas, gan gynnwys colli busnesau teuluol eraill. Un ffordd y gellid rhoi hwb i gwmnïau cynhenid yw drwy bolisi caffael cyhoeddus mwy uchelgeisiol. Fel yr amlinellwyd ym mhapur fy nghyd-Aelod Luke Fletcher ar yr economi, byddai hyn yn cynnwys meini prawf llymach ynghylch beth sy'n cyfrif fel cwmni lleol—er enghraifft, a yw'n wirioneddol gynhenid, neu a yw'n fusnes rhyngwladol â changen yng Nghymru? Dylem edrych hefyd ar wella'r gyfradd caffael cyhoeddus, sy'n druenus o isel yng Nghymru o gymharu â gwledydd eraill o'n maint ni. Rwyf wedi galw am dargedau yn flaenorol, ond gwrthodwyd hynny gan y Llywodraeth hon ym Mil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). A yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n barod i ystyried mynd i'r afael ag ef gyda'n hawdurdodau lleol ym misoedd olaf y Llywodraeth hon, neu a yw'n cael ei gadw ar gyfer y maniffesto Llafur?
Diolch, Peredur, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu ymweld â Choed-duon a'r cwmni a nodoch chi, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt. Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym wedi cefnogi cynllun creu lleoedd yng Nghoed-duon yn ddiweddar, a fydd yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi'i fabwysiadu gan yr awdurdod lleol hefyd, ac yn amlwg, gyda'n cynlluniau creu lleoedd, mae hynny'n digwydd ar y cyd â chymunedau, sy'n bwysig iawn yn fy marn i—eu bod yn cael eu cynllunio a'u rhoi ar waith yn y ffordd honno, a'u bod yn cael eu cydgynhyrchu hefyd.
Fel y dywedais, o ran ein cyllid Trawsnewid Trefi, rydym wedi buddsoddi'r £130 miliwn hwnnw yn Nwyrain De Cymru ers 2020. Ac rydym wedi cwblhau nifer o brosiectau yno, fel marchnad Ffos Caerffili, hen neuadd y dref yn Nhredegar, a hen siop House of Fraser yng Nghwmbrân. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd o annog gwahanol fusnesau i'n cymunedau, ac edrych ar sut y gallwn gefnogi canol trefi mwy bywiog, rhywbeth y mae pob un ohonom eisiau ei weld. Nid ydym am i ganol pob tref edrych yr un fath. Rydym am iddynt gael eu bywiogrwydd eu hunain a'u naws eu hunain—eu naws annibynnol eu hunain. Ac ar ffyrdd y gallwn wneud hynny, rwyf bob amser yn awyddus i glywed syniadau newydd ac i wrando ar yr hyn y mae trigolion yn ei deimlo sy'n fwyaf priodol i ganol eu tref nhw hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cronfeydd adfywio newydd. Gallai fod yn £40 miliwn un flwyddyn ac efallai'n £31 miliwn mewn blwyddyn arall, a mwy ar ben hynny. Nawr, mae'r penawdau'n fawr, ond mae'r ddarpariaeth yn Nwyrain De Cymru, yn enwedig yn fy etholaeth i, yn eithaf bach yn ôl pob golwg. Rwy'n siarad yn rheolaidd â thrigolion a masnachwyr ledled y sir, ac mae pob un ohonynt yn dweud yr un peth: 'Rydym wedi clywed am y cyhoeddiad, ond rydym yn dal i aros i weld y newid'. Ar draws y Fenni, Trefynwy, Cas-gwent a Chwmbrân rydym yn dal i weld unedau gwag. Rydym yn gweld adeiladau treftadaeth mewn cyflwr gwael a chynnydd araf ar brosiectau sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser. Ysgrifennydd y Cabinet, pam yn eich barn chi nad yw cyllidebau adfywio cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn arwain at unrhyw newid gwirioneddol y byddem yn gobeithio ei weld i'n hetholwyr? A allwn fod yn sicr y bydd yr holl arian o'r prif ffigurau hynny, yn sicr eleni, yn cyrraedd canol ein trefi?
Diolch, Peter. Mewn gwirionedd, cefais gyfarfod bord gron rhanbarthol ar adfywio, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, ac roedd yn ddefnyddiol iawn clywed rhai o'u cynlluniau hefyd, a sut y gwnaethant ganfod, gan weithio'n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, rhywfaint o'r buddsoddiad a'r potiau o gyllid sydd gennym. A chredaf fod hynny'n ddefnyddiol iawn. Roeddent yn eithaf cadarnhaol am gyllid Trawsnewid Trefi a sut y bwriadent ei ddefnyddio. Er enghraifft, yn sir Fynwy, gwn fod £2.8 miliwn o gyllid wedi'i ddyfarnu o dan raglen Trawsnewid Trefi ers 2022. Mae wedi helpu prosiectau fel adfywio plasty a gerddi Plas Gunter yn y Fenni. Mae cyllid wedi'i ddarparu i'r Rainbow Cafe yng Nghas-gwent, Tŷ Holman yng Nghil-y-coed, Stryd Monnow, Trefynwy, a Stryd y Bont ym Mrynbuga. Felly, mae yna ffyrdd y mae'r arian yn effeithio'n fawr ar wahanol gymunedau yn sir Fynwy. Gwyddom nad un canolbwynt sydd gan sir Fynwy ond llawer o wahanol drefi, ac mae hynny'n bwysig iawn er mwyn gweld sut y gellir gwasgaru'r cyllid hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn o weld amrywiaeth dda o brosiectau a gynlluniwyd yn cael eu gwireddu yn sir Fynwy, ac rwyf bob amser yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n cael eu heffeithio ganddynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gyfarwydd iawn â chanol dinas Casnewydd a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chyngor y ddinas, gydag ardal gwella busnes Casnewydd, gyda'n busnesau lleol a llawer o rai eraill i fwrw ymlaen â gwaith arallgyfeirio yng nghanol y ddinas, lle rydym wedi gweld eiddo preswyl yn cael ei greu, mwy o elfennau hamdden, gwasanaethau cyhoeddus a digwyddiadau, yn ogystal, wrth gwrs, â lleoliadau manwerthu. Yn ddiweddar, gwyddom fod pob uned yng Nghanolfan Kingsway wedi'u gosod ac mae gennym lawer iawn o fusnesau annibynnol. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn gyfarwydd â'r heriau parhaus i fanwerthu gan fusnesau ar-lein a chystadleuwyr eraill, ond credaf ein bod yn gweld arwyddion cryf o gynnydd yng nghanol dinas Casnewydd er gwaethaf yr heriau hynny. Ac a allech chi roi sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, ardal gwella busnes Casnewydd a'n masnachwyr annibynnol i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd pellach.
Diolch am eich cwestiwn, John. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Dinas Casnewydd, a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru, rwy'n credu, ar eu cynlluniau i adfywio canol trefi a dinasoedd. Fel y dywedoch chi, mae Casnewydd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld—twf cynaliadwy drwy 2025, a chredaf fod hynny'n galonogol iawn o dan amodau heriol iawn. Hoffwn dalu teyrnged i Gyngor Dinas Casnewydd am bopeth a wnânt, yn ogystal â'r gwaith y mae'r ardal gwella busnes yn ei wneud yn y maes hwn. Mae nifer o brosiectau wedi bod yng Nghasnewydd sydd wedi cael arian Trawsnewid Trefi ac adfywio, ac rwy'n falch iawn o weld bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi eu cynllun creu lleoedd, sy'n nodi'r weledigaeth wrth symud ymlaen ar gyfer yr hyn y mae'n honni y bydd yn oes newydd i Gasnewydd.
Rydym wedi gweld enghreifftiau da iawn. Mae Canolfan Kingsway, er enghraifft, fel y gwyddoch, wedi bod yn go wag ers blynyddoedd lawer, a chan fod ganddi berchennog newydd erbyn hyn, rwy'n credu ei bod yn dod yn lle go fywiog i bobl o bob oed, sy'n gadarnhaol iawn ac yn cael effaith wirioneddol ar ganol y ddinas. Felly, gwyddom fod cynnydd wedi'i wneud, ond gwn na fydd Cyngor Dinas Casnewydd yn tynnu ei droed oddi ar y sbardun.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf yn San Steffan, fe glywsom ni gyhoeddiad hirddisgwyliedig am gynllun cartrefi cynnes Ed Miliband, gwerth £15 biliwn. Ers i'r cynllun gael ei grybwyll ym mis Mehefin, dydy hi ddim wedi bod yn glir faint o gyllid canlyniadol fydd ar gael i Gymru a sut fydd o'n cael ei fuddsoddi yma. Felly, mae'r cwestiwn yn un syml: ydy'r cyllid canlyniadol wedi dod i Gymru? Ydy o'n dod? Ac os ydy o'n dod, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei ddyrannu, neu ydy o wedi cael ei ddyrannu'n barod? Byddai unrhyw wybodaeth yn ddefnyddiol iawn ar y pwynt yma. Diolch.
Diolch Siân, ac rwy'n croesawu cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU yn fawr iawn. Mae'n mynd i leihau biliau, creu swyddi a darparu cyfleoedd i fusnesau, a gwella ein diogeledd ynni. Ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i sicrhau bod pobl ledled Cymru’n elwa o'r newid i gartrefi iach carbon isel.
Cyfarfûm â fy swyddogion cyfatebol o wledydd eraill y DU ddydd Llun a phwysleisiais ein cefnogaeth i uchelgais y cynllun, ond mae swyddogion bellach yn gweithio ar y manylion, gan gynnwys opsiynau ar gyfer mentrau cydweithredol a pholisïau ategol annibynnol yma yng Nghymru. Felly, gwyddom fod yr uchelgais yn glir. Fel y dywedais, mae angen inni weithio ar y manylion i sicrhau bod ein polisïau'n cyd-fynd â'i gilydd, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o'r buddsoddiad o £15.2 biliwn sydd yn y cynllun Cartrefi Cynnes.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n fawr callach ar ôl yr ateb yna i'r cwestiwn roeddwn i'n ei ofyn, ond dyna ni. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio nad oedd gan y Llywodraeth wybodaeth eto am oblygiadau cynllun Miliband i Gymru. Rydych chi newydd ddweud eich bod chi wedi cael trafodaethau ddydd Llun yr wythnos yma. Mae hyn yn sefyllfa hollol anfoddhaol. Dydy o ddim yn adlewyrchu dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth. Buaswn i wedi gobeithio y byddai'r trafodaethau yma wedi digwydd ers misoedd, wrth i Miliband dynnu ei gynllun at ei gilydd. Felly, pryd, cyn dydd Llun, oedd yna drafodaethau ynglŷn â'r hyn sydd yn y cynllun? Buaswn i'n licio cadarnhad clir hefyd o sut mae cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i fod yn alinio efo'r cynlluniau yma yng Nghymru. Pa elfennau o gynllun Miliband fydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru? Sut fydd pobl Cymru yn cael gwybodaeth syml ynglŷn â beth sydd ar gael, a gan bwy, mewn system sydd yn mynd yn gynyddol gymhleth ac anodd ei llywio?
Diolch, Siân. Fel y dywedais, dyrannwyd £17 miliwn i Lywodraeth Cymru yn 2026-27, £26 miliwn yn 2027-28, £26 miliwn yn 2028-29, a £17 miliwn yn 2029-30 mewn cyllid canlyniadol o'r codiad o £1.5 biliwn, a gyhoeddwyd yng nghyllideb yr hydref. Rydym yn gweithio, fel y dywedaf, gyda Llywodraeth y DU i ddeall y dyraniad manwl o'r £13.2 biliwn sy'n weddill ac unrhyw gyllid canlyniadol sy'n deillio o hynny. Yn amlwg, Gweinidogion Cymru, gyda chymeradwyaeth y Senedd, sydd i benderfynu sut i ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cyllid o'r grant bloc, trethi datganoledig a benthyca cyfalaf. Felly, lle mae achos i'w gael dros ddefnyddio'r cyllid canlyniadol at ddibenion tebyg, bydd Gweinidogion Cymru'n dyrannu gwariant yn unol â'i blaenoriaethau fel rhan o'r rhaglen briodol yn y gyllideb. Yn y cyfamser, rydym yn canolbwyntio ar gyflawni ein cynlluniau presennol. Rydym yn buddsoddi dros £130 miliwn eleni mewn mesurau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim drwy ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, cynllun Nyth Cartrefi Clyd, a £4.2 miliwn mewn benthyciadau di-log drwy ein cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru.
Diolch yn fawr iawn. O ran y rhaglenni ôl-osod, mae hanes diweddar yn dangos sawl camgymeriad. Mae problemau efo Consumer Energy Solutions wedi amlygu achosion lle mae aelwydydd wedi cael eu gadael i lawr. Yn fy etholaeth i, mae'r cynllun i adfer diffygion Arbed wedi rhedeg mewn i broblemau. Felly, mae'n bwysig, onid ydy, sicrhau bod pob cartref yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gyfforddus. Mae'n bwysig hefyd fod gan y cyhoedd ffydd yn y gwaith sydd yn cael ei gynnig. O ystyried bod tai Cymru ymhlith y rhai gwaethaf yn Ewrop o ran effeithlonrwydd ynni, mae'n hanfodol adfer yr ymddiriedaeth sydd wedi cael ei cholli gan y cyhoedd wrth gyflwyno unrhyw fath o raglenni newydd ac wrth barhau efo'r rhaglenni sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, hoffwn i wybod beth ydy'ch cynlluniau chi fel Llywodraeth i adfer ffydd y cyhoedd yn yr holl faes o wella cartrefi Cymru—gwaith sydd mawr angen ei gyflawni ar frys. Mae gan Blaid Cymru rai awgrymiadau, ond hoffwn i glywed beth ydy'ch safbwynt chi fel Llywodraeth. Diolch.
Diolch, Siân. Yn sicr, o ran sicrhau ansawdd, rwy'n credu bod yna gynlluniau, fel y sonioch chi, yr ydym wedi dysgu ohonynt. Nid cynlluniau Llywodraeth Cymru oedd rhai ohonynt, ond rydym wedi ymgymryd â'r rôl o geisio datrys rhai o'r problemau hyn, oherwydd yr effaith ar ddeiliaid tai. Un o'r pethau sydd gennym yn ein cynlluniau yw sicrwydd ansawdd. Mae arnom angen i bobl ymddiried yn y sicrwydd ansawdd hwnnw. Felly, mae gan osodwyr sicrwydd ansawdd annibynnol, gan sicrhau safonau PAS 2035, sef y fframwaith swyddogol ar gyfer ôl-osod tai cyfan, ac mae hwnnw'n amlinellu'r broses fel arfer orau ar gyfer y diwydiant. Mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi siarad â Gweinidogion Llywodraeth y DU amdano, y gallant efallai ddysgu rhywfaint gan Gymru o ran sut i ddefnyddio pwysigrwydd sicrwydd ansawdd yn eu cynlluniau, a bod rhaid inni roi blaenoriaeth iddo drwy'r amser. Ac rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn dysgu o brofiadau'r ychydig flynyddoedd diwethaf a rhai o'r enghreifftiau erchyll y daethom ar eu traws.
Hoffwn godi'r pwynt ynglŷn â'r rhwymedigaeth cwmnïau ynni a chwmni ECO yn dod i ben, gan ichi sôn am CES hefyd—rwyf wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r effaith nid yn unig ar berchnogion tai a deiliaid tai, ond hefyd ar y gweithlu. Dylwn ddweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn digwyddiad gyda'r gweithlu yr wythnos hon i geisio sicrhau bod eu sgiliau'n cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o'r sector, ac maent yn sgiliau mawr eu hangen. Ac unwaith eto, rwyf wedi siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion Llywodraeth y DU am fy mhryderon ynghylch rhai enghreifftiau. Nid wyf am i berchnogion tai gael eu gadael mewn twll. Mae wedi cynnig rhannu'r enghreifftiau hynny gennyf i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd gyda rhai o'r cwmnïau ECO yn dod i ben—na fydd rhai o'r pethau hyn yn digwydd. Felly, rwy'n awyddus i rannu'r enghreifftiau hynny. Ac fel y dywedais, gyda'r gweithlu, mae'n rhywbeth yr ydym yn cadw llygad arno, ac unwaith eto, yn ei rannu gyda Llywodraeth y DU, sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn.
Llefarydd y Ceidwadwyr nesaf—Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru mewn argyfwng tai. Mae mwy na 11,000 o bobl yn sownd mewn llety dros dro, mae'r cyflenwad o lety rhent yn cwympo oherwydd lefelau digynsail o landlordiaid yn gadael y farchnad, mae arosiadau am dai cymdeithasol ymhlith yr hiraf yn y DU ac mae adfeddiannau morgeisi ar eu lefel uchaf ers 2019. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cytuno bod cefnogi perchnogion tai i aros yn eu cartrefi yn hanfodol er mwyn atal digartrefedd, yn diogelu lles teuluoedd, ac yn y tymor hir, yn arbed arian cyhoeddus. Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i berchnogion tai sy'n wynebu digartrefedd? Diolch.
Diolch, Joel. Un o'r pethau y mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o rym drosto, mewn gwirionedd, yw tai cymdeithasol, a dyna pam ein bod yn rhoi mwy o arian nag erioed tuag at dai cymdeithasol. Bydd yn £2 biliwn yn nhymor y Senedd hon. Mae hynny'n cynnwys £466 miliwn yn 2025-26, ac roedd yn ymateb hefyd i alwadau Archwilio Cymru am fuddsoddiad ychwanegol i gyrraedd ein targed. Rhagwelir y byddwn yn cyrraedd ein targed erbyn mis Tachwedd 2026, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn hynod falch ohono, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, adeiladwyr tai a'r holl bartneriaid eraill sydd wedi gwneud hyn yn bosib.
Ar berchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu morgais, un o'r cynlluniau sydd ar gael gennym yw ein cynllun Cymorth i Aros, ac mae'r cynllun hwnnw'n rhoi cyngor i bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu eu morgais. Ac mae yna raglen lle rydym yn ceisio sicrhau bod gennym becyn ar gael i helpu cymaint o bobl â phosib a chefnogi cymaint o bobl â phosib a allai fod yn ei chael hi'n anodd, ac mae ein rhaglen Cymorth i Aros yn un o'r pethau hynny yr ydym yn eu gwneud yn Llywodraeth Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyflwynwyd cynllun Cymorth i Aros, yr ydych chi newydd ei grybwyll, gan y Llywodraeth hon yng Nghymru yn 2023 fel rhan o'ch cytundeb cydweithio trychinebus gyda Phlaid Cymru. Mae'n edrych yn dda ar bapur, ond ers i'r cynllun lansio, dim ond 81 o geisiadau sydd wedi dod i law. Cafodd llai na hanner eu cefnogi neu eu cynorthwyo i gael mynediad at gymorth drwy'r cynllun, a dim ond pump sydd wedi symud ymlaen i gael benthyciad ecwiti. Ac eto, dros y cyfnod hwn, mae dros 200 o gartrefi wedi'u hadfeddiannu yng Nghymru oherwydd ôl-ddyledion morgais. Mae'r rhain yn ffigurau cwbl warthus, ac yn dangos, a bod yn onest, y diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth sy'n eich atal rhag helpu mwy o bobl? Pa rwystrau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi sy'n atal pobl rhag cael mynediad at y cynllun hwn? A sut rydych chi'n bwriadu cynyddu'r nifer sy'n manteisio arno? Diolch.
Diolch, Joel. Rwy'n credu y byddai'n werth atgoffa'r Siambr hon fod y cynllun Cymorth i Aros wedi'i gyflwyno yng nghyd-destun argyfwng costau byw difrifol a mini-gyllideb drychinebus Llywodraeth flaenorol y DU, a wnaeth fygwth diogelwch ariannol nifer dirifedi o gartrefi ledled Cymru. Gwelwyd y cyfraddau ailforgeisio uchaf ym mis Hydref 2022, gyda'r gyfradd gyfartalog ar forgais cyfradd sefydlog dwy flynedd yn cyrraedd 6.65 y cant. Rwy'n falch iawn ein bod wedi camu i'r adwy i helpu i gefnogi'r rhai a oedd mewn perygl o fethu talu eu morgais. Ac rwyf am helpu i ddiogelu'r rhai sy'n wynebu'r her fwyaf rhag codiadau yn yr argyfwng costau byw, gan gadw'r bobl hynny'n ddiogel yn eu cartrefi. Rwyf wedi siarad â phobl fy hun sydd wedi cael cymorth—teuluoedd sydd wedi cael cymorth drwy'r cynllun hwn—ac rwy'n credu ei fod yn mynd y tu hwnt i'r cynnig a roddwyd ar waith gan siarter morgeisi'r Llywodraeth Dorïaidd flaenorol. Mewn ymateb uniongyrchol i'r pwysau costau byw, creodd y Llywodraeth hon Cymorth i Aros Cymru mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac rwy'n credu bod y bobl sydd wedi cael cymorth yn falch iawn o fod wedi cael y cymorth hwnnw.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Beth bynnag sydd wedi digwydd yn y gorffennol, fel y dywedais, mae gennym y lefelau uchaf o adfeddiannau morgeisi bellach, a buaswn yn dadlau nad yw'r cynllun Cymorth i Aros yn debygol o weithio i aelwydydd sy'n wynebu pwysau fforddiadwyedd difrifol neu newidiadau mawr yn eu hamgylchiadau, gan ei fod yn dal i olygu eu bod yn gorfod ad-dalu morgais. Rydym bellach yn gweld rhentwyr hefyd yn cael eu gwneud yn ddigartref, pan na all landlordiaid fforddio morgeisi prynu i osod mwyach, sydd ar gyfraddau llog uwch yn aml a meini prawf ailforgeisio llawer llymach, gan nad yw rhentwyr yn gallu fforddio talu eu rhent. Yn ychwanegol at hyn, mae gennych garcharorion morgais hefyd, y mae eu benthyciadau wedi'u gwerthu i gwmnïau nad ydynt yn cynnig cynhyrchion morgais newydd, ac yn hytrach, dim ond llog sy'n cael ei godi, unwaith eto, yn aml ar gyfraddau llawer uwch nag a fyddai'n daladwy o dan forgais newydd. Felly—a gwyddoch fy mod wedi crybwyll hyn yn y gorffennol—pa ystyriaeth a roddwyd i ehangu meini prawf cynllun Cymorth i Aros i gynnwys landlordiaid, a pha ystyriaeth a roddwyd hefyd i gyflwyno cynlluniau achub morgeisi ychwanegol? Diolch.
Diolch, Joel. Wel, o ran cynllun Cymorth i Aros, ei nod yw lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o adfeddiannu a digartrefedd drwy gynnig amser iddynt ddatrys eu problemau ariannol sylfaenol. Felly, nid cynnig benthyciad ecwiti yn unig mohono. Bydd perchnogion tai cymwys yn cael cyngor morgais am ddim gan gynghorwyr dyled arbenigol, gyda'r costau'n cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n rhan o becyn cymorth i berchnogion tai presennol a darpar berchnogion tai. Mae'r cynllun achub morgeisi yn dal i redeg. Fe'i gweithredir gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, yn ôl eu disgresiwn, gyda'r nod o helpu perchnogion tai i osgoi adfeddiannu morgeisi lle mae pob opsiwn arall wedi'i archwilio. Yn dilyn adolygiad o'r cymhwysedd ar gyfer Cymorth i Aros, fe wnaethom ystyried cynnwys ymgeiswyr gydag ail dâl presennol ar sail achosion unigol lle ystyrir y risg yn fach iawn, ac rydym hefyd wedi cynnal ymgyrch gyfathrebu bellach yn ddiweddar i geisio cyrraedd cymaint o bobl â phosib a allai fod angen y cymorth. Rydym yn parhau i gyflwyno rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyngor ar bopeth, gan dynnu eu sylw at y cynllun a sicrhau y gallant gyfeirio unigolion ato lle bo angen, a hefyd, mae swyddogion wedi bod yn ymgysylltu ag UK Finance er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol nad yw'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i fenthycwyr gofrestru. Felly, cafwyd tystiolaeth o ddichonoldeb gyda phum enghraifft lwyddiannus wedi'i chwblhau gan sawl benthyciwr stryd fawr. Rydym bob amser yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu pobl yn y sefyllfa hon, ond rwy'n annog pob Aelod yma i edrych ar raglen Cymorth i Aros ac i dynnu sylw ati. Mae'n becyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu.
3. Sut bydd setliad llywodraeth leol 2026-27 yn effeithio ar bobl Pen-y-bont ar Ogwr? OQ63744
Diolch, Altaf. Yn dilyn cytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru, setliad llywodraeth leol 2026-27 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw £296 miliwn. Mae hyn yn darparu cynnydd o 4.6 y cant ar sail debyg am debyg.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i rai o'r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae mynegai amddifadedd lluosog diweddaraf Cymru yn nodi mai Caerau yw'r bedwaredd ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Pam felly y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ymhlith y gwariant isaf fesul pen o'r boblogaeth o'r 22 awdurdod lleol? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael dros £300 yn llai y pen na Blaenau Gwent. Ysgrifennydd y Cabinet, oni bai fod cynghorau fel Pen-y-bont ar Ogwr a sir Ddinbych yn cael cyllid teg, bydd eu dinasyddion yn mynd yn dlotach fyth. A ydych chi'n cytuno bod angen diwygio'r fformiwla gyllido llywodraeth leol?
Diolch, Altaf. Mae cyllid ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynyddu 4.6 y cant eleni o'i gymharu â 2025-26. Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, mae Cymru gyfan wedi gweld cynnydd o 4.5 y cant. O ran y fformiwla ariannu, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth—. Fe gododd ddoe mewn trafodaethau ac mae'n codi'n rheolaidd. Mae'n aml yn cael ei ystyried. Mae yna lawer iawn o agweddau a sbardunau'n perthyn i'r fformiwla ariannu. Gwneir hyn ar y cyd â llywodraeth leol. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol ar y fformiwla ariannu ac mae'n cael ei adolygu'n gyson, gan sicrhau bod data'n cael ei ddiweddaru. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ddiweddaru dangosyddion yn seiliedig ar gyfrifiad ar hyn o bryd. Ac fel y dywedaf, rydym yn edrych yn gyson ar y fformiwla ariannu gyda llywodraeth leol. Ond fel y dywedais, mae'r cyllid wedi cynyddu eleni, diolch i'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y DU.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yng nghanol trefi ar draws gogledd Cymru? OQ63752
Diolch, Hannah. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi buddsoddi dros £80 miliwn yng nghanol trefi ledled gogledd Cymru. Mae'r buddsoddiad hwn yn adfywio strydoedd mawr, yn cefnogi busnesau lleol, yn creu swyddi ac yn cynyddu niferoedd ymwelwyr. Mae canol trefi'n chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w cefnogi.
Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rydych chi'n iawn; mae ein trefi yn bwysig. Maent yn llawer mwy na lleoedd; maent yn rhan o bwy ydym ni ac o ble rydym yn dod. Cefais fy magu mewn tref fach ac rwy'n byw mewn un heddiw, ac mae cefnogi ein canol trefi i ffynnu, nid yn unig oroesi, bob amser wedi bod yn flaenoriaeth wleidyddol i mi. A dyna pam rwy'n gweithio yn fy etholaeth i ddod â masnachwyr ac amrywiaeth o gynrychiolwyr at ei gilydd i gefnogi a siapio adfywiad parhaus stryd fawr Treffynnon. Wrth gwrs, mae Treffynnon wedi cael cefnogaeth drwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi, gan sicrhau bod y stryd fawr yn ailagor nifer o flynyddoedd yn ôl—fel y dywedaf, cyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi'i dargedu at wella trefi ledled gogledd Cymru, yn enwedig yn y Rhyl, gyda nifer o brosiectau, gan gynnwys ailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd Marchnad y Frenhines, rhywbeth yr oeddwn yn falch iawn o allu rhoi ei gamau cyntaf ar waith, yn ôl pan oedd gennyf gyfrifoldeb am adfywio. Mae'r buddsoddiad yn dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ond yn amlwg, ni allwn roi'r gorau iddi yn y fan honno ac mae angen inni barhau.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi nodi ymrwymiad parhaus i fuddsoddi yn ein trefi ac i weithio gyda mi i ddod o hyd i ffyrdd newydd i gymunedau fel Treffynnon a ledled gogledd Cymru gael mwy o lais a rhan yn eu dyfodol? Diolch.
Diolch, Hannah. Rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau'n cofio mai chi oedd y Gweinidog a gyflwynodd y rhaglen Trawsnewid Trefi yn ôl yn 2020, a hoffwn ddiolch i chi am lansio'r rhaglen hynod lwyddiannus honno, gan ddangos yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud wrth weithio'n agos gydag awdurdodau lleol. Gwelais effaith hynny fy hun. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn wrth fynd o gwmpas i wahanol gymunedau ledled Cymru a gweld sut y mae'r cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Roeddwn yn y Rhyl yn ddiweddar, ym Marchnad y Frenhines, ac roedd yn dda iawn gweld lle mor fywiog fydd hwnnw ac y gall fod, drwy gael gwerthwyr lleol—ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn rhai o'r siopau bwyd yno hefyd—ac mae gofod ar gyfer digwyddiadau yno hefyd, ac rwy'n meddwl y bydd hwnnw'n bwysig iawn. Ond rwy'n gwybod bod ein canol trefi'n golygu cymaint i gymunedau, a dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau, a pham y mae gennym botiau o gyllid fel ein harian Trawsnewid Trefi, sydd, fel y dywedais, wedi gweld cymaint o effaith mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi trosolwg o'r cyllid y mae'n ei ddarparu i Gyngor Sir Powys i gyflawni ei ddyletswyddau statudol? OQ63755
Yn 2026-27, bydd Cyngor Sir Powys yn cael £268 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Mae hynny'n gynnydd o 4.2 y cant ar sail debyg am debyg.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch yn iawn, fel llawer o gynghorau ledled y wlad, mae Powys yn cael trafferth cyflawni ei ddyletswyddau statudol oherwydd pwysau ariannol. Ddoe, ar draws y Siambr, o'r chwith i'r dde, clywsom bobl yn gofyn am fwy o arian ar gyfer gwasanaethau statudol, ond nid oedd neb yn y Siambr yn dweud yr amlwg, mai'r hyn sydd angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw diwygio llywodraeth leol ledled Cymru. Oherwydd yr hyn a welwn yw gormod o ddyblygu, gormod o'r un peth ar draws Cymru, pan allai diwygio llywodraeth leol fod yn ffordd go iawn o ysgogi effeithlonrwydd a gwneud ein gwasanaethau a'n gwasanaethau statudol yn well i bobl Cymru. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud gwaith ar ddiwygio llywodraeth leol i wneud yn siŵr fod gennym y gwasanaethau gorau ledled Cymru, a barnu yn ôl y model cyllido presennol sydd gennym ar gael i ni?
Diolch, James. [Torri ar draws.] Diolch, James. Pan fyddaf wedi siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol a chyfarwyddwyr sy'n gweithio mewn llywodraeth leol, mae wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol gweld yr arloesedd sy'n bodoli yn ein hawdurdodau lleol. Rwy'n credu mai un o'r pwyntiau allweddol yw sut y gallwn ni rannu'r arloesedd hwnnw, ac mae'n arloesedd a welwyd ar adegau heriol iawn yn ariannol. Rwy'n credu mai un o'r darnau diddorol o waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yw'r gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen ar y model ffederal. Rwy'n awyddus i edrych ar hwnnw, a gwneud yn siŵr fod pob awdurdod lleol yn ymwybodol o'r hyn y maent yn ei wneud. Rwy'n cyfeirio atynt yn aml, ac rwy'n credu y byddai'n dda i'r holl Aelodau roi sylw manwl i'r hyn sy'n digwydd yn Nhorfaen a Blaenau Gwent a'r gwaith y maent yn ei wneud. Rwy'n talu teyrnged i arweinwyr y ddau awdurdod lleol yn ogystal â'r prif weithredwr yno.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau? OQ63732
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau drwy weithio fel partneriaid dibynadwy, sicrhau ymgysylltiad cynnar a pharhaus ar faterion sy'n effeithio ar lywodraeth leol, a darparu cyllid teg i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol.
Diolch am yr ateb hwnnw. Mae tipio anghyfreithlon yn dod yn fwy a mwy o broblem. Tybed pa gefnogaeth y gellid ei rhoi i awdurdodau lleol i helpu i fynd i'r afael â hi. Ar y ffordd rhwng Gelligaer a Nelson, mae sbwriel wedi cael ei wasgaru ar draws ochr y ffordd ers wythnosau, ac nid mater o un lori'n gorlifo ydyw; mae'n gorchuddio'r ddwy ochr i'r ffordd yr holl ffordd i fyny'r bryn. Rwy'n gwybod bod cynghorwyr lleol wedi trefnu i lanhau ddigwydd—rwy'n croesawu hynny—ond rhaid rhoi mwy o gefnogaeth i'r cyngor i sicrhau nad yw'n parhau i ddigwydd. Nawr, mae problemau tebyg wedi'u gweld ar y comin rhwng Nelson a Senghennydd. Mae'n ymddangos ar adegau mai gwastraff adeiladu ac offer cartref yw'r sbwriel yno, ac o bryd i'w gilydd, mae'n cael ei losgi. Gallai hynny fod yn beryglus iawn. Wrth gwrs, mae angen inni ei gwneud hi'n haws i bobl gael gwared ar sbwriel mewn tomenni sbwriel cyhoeddus, ond lle mae'n wastraff masnachol yn enwedig, dylai fod ataliad cryfach. Mae gormod o bobl yn ystyried na chânt eu dal. Beth y gellir ei wneud, os gwelwch yn dda, oherwydd mae'n troi ein hardal hardd yn ddolur llygad?
Diolch, Delyth. Ydy, mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ac ni ellir ei gyfiawnhau mewn unrhyw amgylchiadau, ac mae'n ofnadwy pan welwn luniau o beth o'r tipio anghyfreithlon, peth ohono ar raddfa ddiwydiannol. Mae'n wirioneddol dorcalonnus i gymunedau hefyd, a phobl sy'n byw yno, a llawer o'r gwirfoddolwyr sy'n mynd i geisio rhoi gwybod amdano a'i gasglu, yn ogystal ag awdurdodau lleol. Rydym yn parhau i dargedu'r rhai sy'n dewis torri'r gyfraith a llygru ein hamgylchedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o orfodaeth i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol. Mae gan awdurdodau lleol ystod o arfau gorfodi eisoes y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â throseddau sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae'r rhain yn cynnwys hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach a gwastraff cartref, ond dylid dwyn troseddau mwy difrifol fel tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr neu droseddwyr ailadroddus, fel y nodoch chi, gerbron y llysoedd. Felly, mae'n bwysig fod awdurdodau lleol yn defnyddio'r arfau gorfodi sydd eisoes ar gael iddynt, ond rwy'n cydnabod bod nodi pwy sy'n dipwyr anghyfreithlon a dod ag erlyniad llwyddiannus yn wirioneddol gymhleth, yn gostus ac yn gyfreithiol heriol i awdurdodau lleol. Ond i helpu gyda hynny, rydym yn parhau i ariannu Taclo Tipio Cymru, a'r flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu £400,000 arall, gan adeiladu ar y £1.2 miliwn a ddarparwyd dros y tair blynedd flaenorol. Mae cyllid ychwanegol wedi'i gymeradwyo i alluogi Taclo Tipio Cymru, sydd ar hyn o bryd yn darparu cymorth uniongyrchol i awdurdodau lleol, i ddefnyddio camerâu o bell i wella'r gallu hwn. Felly, rwy'n falch o weld bod y buddsoddiad hwnnw wedi parhau.
O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol, sut ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn esbonio'r sefyllfa yn fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle mae trigolion yn gweld gwasanaethau'n amlwg yn methu er gwaethaf cynnydd enfawr mewn costau? Maent wedi cael tair blynedd o gynnydd o bron i 10 y cant yn y dreth gyngor. Ond pan edrychwch ar y gwastraff, erbyn diwedd y contract, maent wedi gwario £5.1 miliwn ar ddepo gwastraff cerbydau nwyddau trwm na ellir ei ddefnyddio am nad oedd y llawr yn ddigon cryf i ddal y cerbydau ailgylchu y cafodd ei rentu ar eu cyfer. Mae'r dreth gyngor wedi cynyddu, fel y nodais. Mae casgliadau biniau pedair wythnos yn—. Rydym wedi cael y rheini ers blynyddoedd ac rydym wedi gweld cynnydd yn niferoedd llygod mawr, rydym wedi gweld cynnydd mewn sbwriel yn gyffredinol ar y strydoedd. Nid yw biniau cyhoeddus eu hunain yn cael eu gwagio'n rheolaidd—nid yw'n edrych yn dda i drigolion nac ymwelwyr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud a darparu safon briodol o wasanaeth cyhoeddus? Diolch.
Diolch, Janet. Fel y dywedais, dros nifer o flynyddoedd bellach, mae awdurdodau lleol wedi bod drwy gyfnodau ariannol anodd, sydd wedi rhoi pwysau ar eu cyllidebau, dan Lywodraeth Geidwadol y DU a rhai o'r penderfyniadau cyni a wnaed dros flynyddoedd lawer bellach, 14 mlynedd. Felly, yr hyn a wnawn yn Llywodraeth Cymru yw gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy gyda'n hawdurdodau lleol. Rwy'n cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol yn rheolaidd, a'r wythnos diwethaf roeddwn yn sir Ddinbych. Felly, rwy'n gweld beth—. Rwy'n talu sylw manwl i sut y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'u cymunedau.
Yn amlwg, fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos gydag arweinwyr awdurdodau lleol, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol, fel y gwnaethom drwy gydol y Senedd hon. Ac rydym wedi cytuno gyda Phlaid Cymru ar £112.8 miliwn ychwanegol i gefnogi llywodraeth leol, ac mae hynny'n golygu y bydd awdurdodau lleol yn cael £6.6 biliwn ychwanegol i ddarparu gwasanaethau allweddol.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau yn Nwyrain De Cymru i sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu darparu'n effeithiol? OQ63733
Diolch, Natasha. Rwy'n gweithio gyda phartneriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau ledled Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu a gwella gwasanaethau statudol. Ein dull o weithredu, a amlinellir yn ein cytundeb partneriaeth strategol, yw gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy gan gydnabod statws sofran cynghorau, a chan ganolbwyntio ar welliant a arweinir gan y sector ar gyfer y sector cyfan.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n amlwg o drafodaethau gyda thrigolion ar draws Casnewydd fod llawer ohonynt nad ydynt yn credu eu bod yn cael gwerth am arian gan gyngor y ddinas. Dro ar ôl tro, mae pobl leol yn cael eu gorfodi i roi mwy o arian, ond maent yn teimlo eu bod yn cael llai a llai i'w ddangos amdano. Y llynedd, cynyddodd biliau treth yng Nghasnewydd 6.7 y cant, a'r flwyddyn cynt cynyddodd y biliau 8.5 y cant. Eleni, mae'n edrych yn debyg y dylai trigolion baratoi eu hunain ar gyfer cynnydd o 4.9 y cant. Gadewch inni beidio ag anghofio, mae trigolion yn mynd i gael mwy o arian wedi'i wasgu allan ohonynt ar yr un pryd. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn mynd i gael mwy o arian gan Lywodraeth Cymru nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru, ac er gwaethaf yr hwb ariannol a'r dreth gyngor uwch, gallaf fetio fy ngheiniog olaf y bydd tyllau yn y ffyrdd yn dal heb eu llenwi, bydd tipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn bla ar ein cymunedau, bydd ein ffyrdd yn parhau i ddirywio, bydd busnesau'n parhau i gael eu cosbi, bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i fod yn gyffredin, a bydd gwasanaethau'n parhau i ddirywio. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog eich cymheiriaid Llafur yng Nghasnewydd i edrych o'r newydd ar y cynnydd arfaethedig i'r dreth? A sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau y bydd cyllid ychwanegol sy'n cael ei roi i gyngor y ddinas yn cael ei wario'n ddoeth ar y pethau y mae fy etholwyr yn eu hystyried sydd bwysicaf? Diolch.
Diolch, Natasha. Mae Casnewydd, fel y dywedaf, wedi cael 6.1 y cant yn eu setliad cyllid llywodraeth leol ar gyfer eleni, ac mae Cyngor Dinas Casnewydd ar hyn o bryd yn ymgysylltu â'r gymuned ar osod eu cyllideb eleni. Fel y dywedaf, rwy'n gwybod bod Cyngor Dinas Casnewydd yn sicr wedi bod yn manteisio ar y cyllid ychwanegol yn y setliad eleni ar gyfer llenwi tyllau yn y ffyrdd. Fe'i gwelais drosof fy hun ar draws llawer o'r ddinas, ac rwy'n gwybod y bydd trigolion yn falch iawn o hynny. Ac mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dweud ei fod yn cyfathrebu â thrigolion ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio y bydd cymaint o drigolion â phosib yn chwarae eu rhan yn y cyfathrebu hwnnw.
8. Pa brosesau mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau? OQ63717
Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau drwy ddull cydweithredol ag awdurdodau lleol, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddatblygu ac adolygu canllawiau ymarferol, cymesur sy'n cryfhau gallu cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau, a chefnogi tryloywder, llywodraethu effeithiol a chysondeb ledled Cymru.
Diolch. Gan gyfeirio at siarter budd-daliadau Cymru yma fis diwethaf, nodais fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr oeddwn yn aelod ohono, wedi argymell yn 2019 y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt, wedi'i hategu gan set o egwyddorion a gydgynhyrchwyd â phobl sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn a'r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru, a chyfeiriais at ddatganiad Sefydliad Bevan ynglŷn â'r siarter ym mis Ionawr 2024, fod cyfranogiad yn wirfoddol, gyda risg nad yw rhai cyrff yn cymryd rhan o gwbl, tra bod eraill yn dilyn eu trywydd eu hunain. Er bod y siarter wedi'i chytuno gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn ei hymateb mai
'Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cyflawni amcanion y cynllun hwn',
a chyfeiriodd at y grŵp llywio polisi. Fodd bynnag, er bod llwybr symleiddio budd-daliadau Cymru Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai canllawiau ymarfer gorau yn cael eu cyhoeddi i awdurdodau lleol erbyn pedwerydd chwarter 2025, ni wnaeth yr Ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol unrhyw gyfeiriad at hyn. Felly, a yw hyn wedi digwydd, ac os nad ydyw, pam?
Diolch, Mark, ac fel y gwyddoch mae hyn yn cael ei arwain gan fy nghyd-aelod o'r Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, Jane Hutt, ac rwy'n gwybod ei bod wedi cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol ar y mater hwn, ac rwyf wedi ei godi gydag arweinwyr awdurdodau lleol fy hun. Byddaf yn sicr yn gofyn i fy nghyd-aelod o'r Cabinet ymateb i chi yn ysgrifenedig ar y pwynt hwn, oherwydd mae hi'n arwain ar hyn hefyd, felly fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael ymateb cyfredol ar hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, a Carolyn Thomas sy'n gofyn y cwestiwn. Carolyn Thomas.
1. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol yn barod ar gyfer twf y sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru? OQ63746
Mae fy nghyd-Weinidog a minnau'n gweithio'n agos i gefnogi sefydliadau yn eu rôl sy'n helpu i yrru twf ynni adnewyddadwy. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Chynghrair Trydyddol Gogledd Cymru i drafod y cyfleoedd cyffrous y mae sefydliadau eisoes yn ymwneud â nhw, gan sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i gynnig cefnogaeth, ac elwa ohonynt.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n newyddion gwych fod Llywodraeth Lafur y DU yn buddsoddi yn Awel y Môr oddi ar arfordir y Rhyl. Mae gan y datblygiad mawr hwn botensial i bweru hanner cartrefi Cymru a chreu tua 2,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu. Rhaid inni weithredu nawr i sicrhau mai pobl gogledd Cymru a fydd yn elwa gyntaf o'r swyddi medrus hynny ar gyflogau da. Rwyf wedi cyfarfod â phrentisiaid RWE yng Ngholeg Llandrillo o'r blaen, ac fe wnaeth y lefel uchel o wybodaeth a sgiliau y maent yn eu datblygu yno argraff fawr arnaf. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i weithio gyda darparwyr addysg ledled gogledd Cymru i sicrhau bod myfyrwyr a rhieni'n ymwybodol o'r cyfleoedd hyn—mae rhieni mor ddylanwadol ym mhenderfyniadau plant a phobl ifanc—a'u bod yn cael eu cefnogi i gael mynediad atynt yn y dyfodol?
Hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am y cwestiwn atodol pwysig hwn, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda darparwyr addysg bellach ac addysg uwch ledled gogledd Cymru i sicrhau bod dysgwyr a'u rhieni a hefyd ceiswyr gwaith yn ymwybodol o'r ystod enfawr o gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn gysylltiedig â gwynt ar y môr a'r economi werdd ehangach. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cryfhau llwybrau prentisiaeth, ymgysylltu â chyflogwyr i siapio anghenion cwricwlwm, a hefyd cydlynu â Gyrfa Cymru i gefnogi gwybodaeth glir a hygyrch am sgiliau a llwybrau cyflogaeth yn y dyfodol.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd sgiliau yr wythnos diwethaf yng Ngholeg Menai yn Llangefni, lle roeddwn i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn arwain trafodaethau i archwilio sut y gallwn siapio tirwedd sgiliau'r dyfodol yng ngogledd Cymru. Roedd ffocws yno ar Wylfa, datblygiadau ynni adnewyddadwy a mentrau twf rhanbarthol ehangach. Yn yr uwchgynhadledd honno, roedd ffocws cadarn iawn ar yr angen i sicrhau bod myfyrwyr a'u rhieni yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael. Rhoddwyd llawer o enghreifftiau o'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio gyda cholegau yn y rhanbarth, a sut y mae colegau yn cynnig nosweithiau agored i arddangos y cyfleoedd hynny. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol ar brosbectws sgiliau, sy'n darparu gwybodaeth am y cynnig sgiliau yn y rhanbarth.
Ac yn olaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod colegau addysg bellach ledled gogledd Cymru, gan gynnwys Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnal byrddau cyflogaeth a menter, sy'n darparu cyngor uniongyrchol, sgyrsiau gan gyflogwyr, ffeiriau gyrfaoedd a sesiynau gwybodaeth i helpu dysgwyr i ddeall cyfleoedd y sector.
Ym mis Hydref, ymwelais â champws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria a champws Llandrillo Menai yn y Rhyl gyda ColegauCymru. Yng Ngholeg Cambria, cyfarfûm â phrentisiaid adeiladu a phrentisiaid peirianneg cerbydau modur, gyda thrafodaethau'n cynnwys y gostyngiad yn y niferoedd sy'n dechrau prentisiaethau adeiladu a nodwyd gan Medr ac arallgyfeirio'r coleg i beirianneg hydrogen cerbydau modur. Roedd fy ymweliad â Grŵp Llandrillo Menai yn y Rhyl yn cynnwys cyfarfod â phrentisiaid gwynt ar y môr RWE, yn union fel y clywsom, a esboniodd y pecyn o gymorth a gawsant yn bersonol gan RWE. Cyfeiriwyd yn y ddau ymweliad, ac yn fy ymweliad â Phrifysgol Wrecsam yr wythnos diwethaf i weld eu canolfan newydd drawiadol ar gyfer peirianneg ac arloesedd ac i drafod cynlluniau cyffrous ar gyfer eu porth busnes newydd, fel y gwnaethoch chi, at Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru rhwng y ddau goleg a'r ddwy brifysgol yng ngogledd Cymru, i gryfhau datblygu sgiliau, twf economaidd a chyfleoedd bywyd yn rhanbarth gogledd Cymru. Sut ydych chi felly'n cefnogi eu nod i hyn weithredu fel pont hanfodol rhyngddynt a'r diwydiant lleol?
Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am y cwestiwn atodol a'r gydnabyddiaeth i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y sector addysg drydyddol yng ngogledd Cymru, drwy Gynghrair Trydyddol Gogledd Cymru, ar ystod o wahanol gyrsiau a chyfleoedd i ddysgwyr o bob oed sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'r cyfleoedd hyn gyda Wylfa, gyda'r ardal twf deallusrwydd artiffisial a chyda'r datblygiad gwynt ar y môr arnofiol hefyd. Rwy'n credu mai'r enghraifft gliriaf o'r gefnogaeth a rown nawr yw drwy'r ford gron a ddaeth â'r holl bartneriaid hynny at ei gilydd, gyda busnesau a chyrff fel Uchelgais Gogledd Cymru a'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol, i gael ffocws cadarn ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i'w cyflawni.
2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu argymhellion adroddiad Estyn, Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu, mewn ysgolion? OQ63747
Ar ôl derbyn yr holl argymhellion yn adroddiad Estyn, rydym yn gweithio gydag Estyn, Dysgu ac awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Rydym wedi cryfhau canllawiau cenedlaethol, wedi ehangu dysgu proffesiynol, gwella seilwaith parod ar gyfer deallusrwydd artiffisial trwy Hwb, a dechrau diweddaru'r fframwaith cymhwysedd digidol i ymgorffori defnydd diogel, moesegol a theg o ddeallusrwydd artiffisial.
Diolch am eich ateb. Rwy'n credu mai'r gwir amdani yw bod Cymru ar ei hôl hi ar ddeallusrwydd artiffisial yn y rhan fwyaf o agweddau, gan gynnwys nid yn unig y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, ond yn bwysicach fyth y gwaith o'i reoleiddio. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod cyflymder y newid mewn deallusrwydd artiffisial yn gyflym. Efallai y bydd yr adroddiad thematig a ryddhawyd ym mis Hydref y llynedd ar ei hôl hi mewn rhai agweddau erbyn yr un adeg eleni, neu hyd yn oed nawr. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i adolygiadau rheolaidd yn y dyfodol, neu o leiaf osod y disgwyliad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, fel bod ysgolion yn gallu ymdopi â'r newidiadau hynny, os gwelwch yn dda?
Diolch i chi, Lindsay. Nid wyf yn cytuno â chi ein bod ni ar ei hôl hi ar ddeallusrwydd artiffisial. Yr hyn rwy'n cytuno â chi yn ei gylch, yn amlwg, yw ei fod fel targed symudol, onid yw; mae'n newid drwy'r amser. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cadw'n gyfredol â phopeth sy'n digwydd. Rwy'n credu bod adroddiad Estyn yn werthfawr iawn ac rydym eisoes wedi bod yn gweithio ar weithredu'r argymhellion hynny. Yn unol â'r hyn a ddywedoch chi am adolygu parhaus, mae Estyn newydd arolygu pob ysgol eto, gan ofyn am arferion mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial. Felly, maent yn gweithio gyda ni i gadw'n gyfredol yn y pethau hyn.
Fel Llywodraeth, rydym yn rhagweithiol iawn ar hyn; mae gennym is-grŵp deallusrwydd artiffisial sy'n rhan o'n gwaith digidol ehangach, lle rydym yn gweithio gydag Estyn, gydag awdurdodau lleol ac eraill. Yr wythnos diwethaf, mynychais uwchgynhadledd Llywodraeth y DU ar ddeallusrwydd artiffisial yn Llundain, a ddilynwyd gan lansiad canllawiau newydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddeallusrwydd artiffisial. Felly, rydym yn edrych yn ofalus iawn hefyd ar yr hyn sy'n digwydd dros y ffin, ar draws y DU, ond yn allweddol hefyd, mewn gwledydd eraill. Ac rydym yn arbennig o frwd ynghylch y gwaith a wnawn gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn y gofod hwn, oherwydd, yn amlwg, mae ganddynt olwg ehangach ar bopeth sy'n digwydd.
Rwyf hefyd yn falch fod Estyn, ym mis Chwefror, gan weithio gyda'r British Council ac awdurdodau lleol, yn mynd i arwain ymweliad astudio ar gyfer 10 ysgol uwchradd i Estonia, i archwilio'r manteision a'r heriau a wynebir wrth integreiddio deallusrwydd artiffisial yn y byd addysg. Mae'n siŵr y byddwch chi'n gwybod bod Estonia'n cael ei hystyried yn wlad flaenllaw yn y maes digidol.
Rwy'n atgoffa'r Aelodau o fy muddiant, gan fod aelod agos o'r teulu yn gweithio i Estyn, er nad ar baratoi'r adroddiad hwn. A gaf i dynnu sylw at rannau o'r adroddiad sy'n dweud, er bod deallusrwydd artiffisial yn cael croeso mewn ysgolion ledled Cymru, ei bod hi'n amlwg fod hynny'n eithaf tameidiog mewn gwahanol ysgolion, a rhai o'r aelodau staff sydd â gwybodaeth neu ddiddordeb arbennig mewn ddeallusrwydd artiffisial yw'r rhai sy'n aml yn gyrru hyn?
Nid yw gallu deallusrwydd artiffisial i wneud y pethau y gall eu gwneud, o ran paratoi ac yn yr ystafell ddosbarth, ond cyn gryfed â'i ddefnydd gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth honno yn y lle cyntaf. Felly, sut ydych chi'n sicrhau, Ysgrifennydd y Cabinet, fod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddeall yn iawn, fel y dywedodd Lindsay Whittle, wrth iddo ddatblygu, oherwydd efallai nad y pethau y credwn ein bod yn eu gwybod heddiw yw'r pethau a fydd yn berthnasol yfory o ran deallusrwydd artiffisial, a'i fod yn cael ei ddeall a'i ddefnyddio'n iawn, mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn gwaith paratoi ledled y wlad?
Diolch, Tom. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn pan ddywedwch nad yw deallusrwydd artiffisial ond cystal â'r bobl sy'n ei ddefnyddio, ac nid yn unig ein gweithwyr proffesiynol, ond ein dysgwyr yn ogystal, ac rydym am i'n dysgwyr hefyd fod yn ddefnyddwyr deallusrwydd artiffisial craff a gwybodus.
Mae mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn hanfodol os ydym yn mynd i uwchsgilio ein gweithlu yn ei gyfanrwydd. Yn amlwg, roedd adroddiad Estyn yn canolbwyntio ar ymarfer arbennig o dda mewn rhai mannau ac rydym am weld yr ymarfer da hwnnw'n lledaenu ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, er mor fuddiol ag y gall deallusrwydd artiffisial fod, na ellir byth ei weld yn cymryd lle rôl hanfodol berthynol ein staff addysgu, gyda gwaith athrawon yn parhau i fod yn ganolog i ddysgu effeithiol. Felly, drwy Dysgu, rydym yn datblygu dysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion ac addysgwyr i archwilio sut y gall deallusrwydd artiffisial wella addysgu, dysgu a gwella ysgolion, ac mae hynny'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol ar gyfer arloesedd digidol, tegwch a rhagoriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel, yn foesegol ac yn effeithiol i wella canlyniadau dysgwyr a chryfhau ymarfer proffesiynol.
Fel rhan o addysg gychwynnol i athrawon, mae gofyniad i fyfyrwyr ymarfer dysgu ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau cymhwysedd digidol. Rydym yn paratoi'r iteriad nesaf o'r meini prawf ar gyfer achredu addysg gychwynnol i athrawon, ac rydym yn edrych ar sut i ymgorffori'r defnydd o deallusrwydd artiffisial yn y gofynion hyn. Rydym eisoes wedi gosod adnoddau dysgu ar ddeallusrwydd artiffisial ar blatfformau fel Hwb, ond fel y pwysleisiodd Lindsay, mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym, felly rydym yn edrych ar Dysgu hefyd i weithio gyda ni ar y cynnig dysgu proffesiynol hwnnw yn y dyfodol. Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfleoedd aruthrol, ond mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risgiau hefyd a'r angen i roi mesurau diogelu a chanllawiau ar waith.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ddychwelyd at fater yr wyf wedi'i godi yn y Siambr hwn sawl gwaith, sef yr argyfwng parhaus mewn recriwtio a chadw athrawon. Mae'r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos maint yr her. Yn 2023, roedd 2,040 o gofrestriadau addysg gychwynnol i athrawon ar draws y darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ond dim ond 505 oedd yn hyfforddi ar gyfer lleoliadau uwchradd. Mae hynny 56 y cant yn is na nifer y lleoedd a ddyrannwyd, a dylai fod yn destun pryder gwirioneddol.
Ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad yn edrych yn benodol ar y mater hwn. Mae ei ganfyddiadau yn gwneud yn glir fod yn rhaid i'r Llywodraeth gymryd camau ystyrlon i sicrhau bod y proffesiwn addysgu yn dod yn yrfa ddeniadol ac apelgar i bobl ifanc. Mae addysgu yn swydd hynod werthfawr a hanfodol, ac mae athrawon yn newid bywydau bob dydd. Ond mae athrawon heddiw'n wynebu pwysau cynyddol—o lwyth gwaith trymach i heriau ymddygiad a gofynion gweinyddol cynyddol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwneud addysgu yn yrfa ddeniadol unwaith eto, fel bod mwy o bobl yn teimlo anogaeth i fynd yn rhan o'r proffesiwn hanfodol hwn?
Diolch am y cwestiwn, Cefin. Rwy'n credu y dylwn fyfyrio ar y ffaith fy mod yn cyfarfod ag athrawon yn rheolaidd sy'n dweud wrthyf, 'Dyma'r swydd orau yn y byd'. Mae'n bwysig ein bod yn dathlu hynny ac yn dathlu popeth sy'n dda am addysgu. Byddwn yn cynnal ein gwobrau addysgu cenedlaethol yn y Senedd fis nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd nifer ohonoch yn dod draw i glywed am yr ymarfer gwych hwnnw.
Nid yw'r heriau sy'n ein hwynebu o ran recriwtio a chadw yn unigryw i Gymru wrth gwrs. Mae hon yn ffenomen fyd-eang. Rwyf wedi siarad o'r blaen am y ffaith bod addysgu fel swydd wedi newid yn llwyr. Rwyf wedi cyfarfod ag athrawon sydd wedi dweud wrthyf, 'Rwy'n athro, rwy'n seicolegydd, rwy'n swyddog heddlu, rwy'n weithiwr cymdeithasol'. Yr hyn y ceisiwn ei wneud fel Llywodraeth yw rhoi mwy o gefnogaeth i ysgolion fel bod y swyddi hynny'n teimlo'n llai beichus, a chydnabod bod angen mwy o gefnogaeth gymdeithasol a thrawslywodraethol i'r hyn y mae ysgolion yn ei wneud.
Fel y gwyddoch, rydym yn datblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd hwnnw'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer cefnogi'r gweithlu ysgolion mewn pedwar maes allweddol: sicrhau addysgu a dysgu o safon; mynd i'r afael â phroblemau o ran llwyth gwaith; ymateb i heriau newydd i'r gweithlu ysgolion; a sicrhau bod addysgu, arweinyddiaeth a chefnogi addysgu yn parhau i fod yn llwybr gyrfa deniadol. Bydd yr holl agweddau hynny'n cael eu hategu gan ein hymrwymiad i les staff hefyd, gan y gwyddom na all staff ysgol roi i eraill heb edrych ar ôl eu hunain.
Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Ni fyddwch yn disgwyl imi ymateb i hynny heddiw, ond byddwn yn darparu ymateb manwl. Rwy'n credu fy mod wedi nodi pan ddeuthum i'r pwyllgor yr amrywiaeth o waith a wneir gennym ar hyn. Mae'n fater cymhleth ac mae'n cynnwys dod â llawer o ddarnau gwahanol o'r pos at ei gilydd i gefnogi ein gweithlu addysgu.
Diolch am eich ymateb. Mater arall sy'n cael ei godi'n aml gyda mi yw'r gwahaniaeth sylweddol rhwng y cymhellion ariannol sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant yn Lloegr o gymharu â'r rhai yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae bwrsariaethau ar gyfer athrawon ffiseg dan hyfforddiant yn Lloegr ar hyn o bryd £14,000 y flwyddyn yn uwch na'r rhai sydd ar gael yma.
Ar adeg pan fo costau byw yn ffactor mawr i fyfyrwyr, mae'n ddealladwy y byddai gwahaniaeth o'r fath yn denu llawer o ddarpar athrawon dros y ffin i hyfforddi yn Lloegr. Mae hyn yn bryder, oherwydd fe wyddom, yn gyffredinol, fod 25 y cant o raddedigion sy'n cael eu haddysgu yn Lloegr yn aros yn Lloegr i weithio.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir fod angen cau'r bwlch ariannu hwn. Fel plaid, rydym yn cynnig cymhellion mwy cystadleuol, gan gynnwys bwrsariaethau o hyd at £30,000 ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, wedi'u clymu wrth ymrwymiad i addysgu yng Nghymru am o leiaf bum mlynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf. Bydd hyn yn cefnogi unigolion yn ariannol, gan gryfhau'r gweithlu yn y tymor hir hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i atal pobl ifanc o Gymru rhag cael eu denu i system Lloegr am ei bod yn cynnig cymorth ariannol mwy hael? A sut rydych chi'n mynd i wneud addysgu, unwaith eto, yn yrfa ddeniadol a boddhaus i'r genhedlaeth nesaf?
Diolch, Cefin. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, ar y cyfan, fod gennym y pecyn cymorth ariannol mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU, ac rwy'n falch iawn ohono. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol fod gwahaniaeth o ran y cymhellion a gynigir gennym yng Nghymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yn y cymhellion hynny. A bydd rhai athrawon dan hyfforddiant—y rhai sy'n gwneud pwnc â blaenoriaeth, yn dod o gymuned ethnig leiafrifol, a thrwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft—yn elwa o set gronedig o gymhellion.
Mae'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn edrych arno. Fe fyddwch yn cofio pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, fe esboniais i'r pwyllgor nad oes tystiolaeth glir fod cymhellion yn gwneud gwahaniaeth, ond mae'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn awyddus i edrych arno. Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol, ar y setliad cyllidebol ar gyfer addysg, fy mod wedi dweud wrth y pwyllgor nad oedd gennyf unrhyw arian i fuddsoddi ymhellach mewn cymhellion eleni. Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ei adolygu'n barhaus.
Nid wyf yn credu mai dyma'r unig ffactor. Rwyf hefyd yn clywed gan athrawon sy'n dweud, oherwydd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, oherwydd ein bod yn rhoi pwyslais ar lesiant yng Nghymru, i lawer o bobl, gall addysgu yng Nghymru fod yn fwy deniadol. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r pethau hynny hefyd.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur ar leihau llwyth gwaith. Mae pethau fel hynny'n bwysig iawn i bobl hefyd. Y dystiolaeth yw nad cyflog ac ati yw'r problemau mwyaf o ran recriwtio a chadw athrawon; mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd bywyd, llesiant, a galluogedd i athrawon hefyd. Felly, rwy'n credu ei fod yn fwy cymhleth, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ei adolygu'n barhaus.
Diolch. Un rhwystr allweddol arall o safbwynt recriwtio athrawon yw'r gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio lefel A. Mae ymchwil gan Prifysgolion Cymru yn dangos bod cyfranogiad lefel A yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, gyda dim ond 33 y cant o bobl ifanc yn astudio lefel A yma yng Nghymru, o'i gymharu â 47 y cant dros y ffin.
Mae hyn yn peri pryder mawr, gan fod lefel-A yn gam hanfodol ar y llwybr i fod yn athro neu'n athrawes. Mae hon yn broblem sy'n effeithio ar bob pwnc, ond mae'n arbennig o ddifrifol mewn meysydd lle mae prinder eisoes, gan gynnwys addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod bod recriwtio i addysg gychwynnol athrawon uwchradd yn heriol, yn enwedig ar lwybrau cyfrwng Cymraeg. Ac mae'r niferoedd isel sy'n dewis Cymraeg lefel A fel pwnc yn gwaethygu'r her hon ymhellach.
O ystyried y cyd-destun hwn, pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i astudio lefel A, er mwyn cryfhau'r llwybr i gymhwyso fel athrawon? A sut y byddwch chi'n sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg yn ymuno â'r proffesiwn, fel bod gennym y gweithlu addysg sydd ei angen er mwyn cyflawni uchelgais Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025?
Diolch, Cefin. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl ifanc yn dilyn yr opsiynau y maent am eu dilyn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld cynnydd mor fawr yn nifer y bobl sy'n mynd i addysg bellach, er enghraifft. Ni fydd rhai o'r dysgwyr hynny'n dewis opsiynau Safon Uwch; byddant yn dewis llwybrau galwedigaethol neu lwybrau eraill. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym lawer o bobl yng Nghymru sy'n dychwelyd at addysg fel oedolion hefyd, a pha mor bwysig yw eu cefnogi.
Fel yr esboniais i'r pwyllgor, mae hwn yn fater cymhleth o ran y cyflenwad o athrawon cyfrwng Cymraeg. Un o'r pethau yr ydym newydd ei wneud yw adolygu'r cymhwyster Safon Uwch ar gyfer y Gymraeg, ar gyfer siaradwyr ail iaith ac ar gyfer siaradwyr iaith gyntaf, oherwydd rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth nad oeddent mor ddeniadol â hynny i ddysgwyr o bosib. Fe wneuthum Safon Uwch Cymraeg ail iaith a dywedodd un o fy swyddogion nad yw wedi newid llawer er pan wneuthum hwnnw. Felly, yn amlwg, rhaid ichi symud gyda'r amseroedd a gwneud yn siŵr fod cymwysterau'n ddeniadol i ddysgwyr.
Rydym yn rhoi llawer o bethau ar waith i'w gwneud yn ddeniadol i bobl addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf wedi siarad â chi o'r blaen am y cynlluniau sydd gennym ar waith sy'n annog pobl i symud o addysgu cyfrwng Saesneg i addysgu cyfrwng Cymraeg: mae gennym gynlluniau mentora; rydym yn cadw mewn cysylltiad â siaradwyr Cymraeg dros y ffin a allai ddod yn ôl i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; mae gennym grant cyfrwng Cymraeg i gefnogi ysgolion gyda'r gwaith y maent yn ei wneud. Ond er mwyn cyflawni disgwyliadau'r Ddeddf, bydd yn rhaid canolbwyntio'n barhaus ar hyn, a dyna rydym yn parhau i'w wneud, a bydd hynny hefyd yn rhan o'n cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg.
Fe fyddwch chi hefyd wedi gweld bod fy nghyd-Aelod Vicky Howells wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar addysg ôl-16. Rwy'n siŵr y bydd rhai o'r gwersi o hynny'n llywio unrhyw gamau y gallem eu cymryd ar y Safon Uwch. Ond mewn gwirionedd, mae ein recriwtio i addysg ôl-16 yn fywiog iawn ar hyn o bryd.
Llefarydd y Ceidwadwyr nesaf. Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, bron i flwyddyn yn ôl, fe ddywedoch chi wrth y Siambr yma fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion fel presenoldeb yn uniongyrchol. Fe ddywedoch chi fod cynnydd wedi bod yn rhy araf a mynnu bod mwy i'w wneud, cyn datgan eich bod am weld y lefelau presenoldeb cyn y pandemig yn cael eu hadfer yn nhymor y Senedd hon. Bron i flwyddyn ers eich sylwadau, mae fy nghwestiwn yn syml iawn, Ysgrifennydd y Cabinet: beth a wnaethoch i wella presenoldeb rhwng hynny a nawr?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Natasha. Mae mynd i'r afael â lefelau presenoldeb wedi bod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac rydym wedi gwneud gwelliannau. At ei gilydd, cododd lefelau presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru i 91.1 y cant ym mlwyddyn academaidd 2024-25, i fyny o 90.5 y cant ym mlwyddyn academaidd 2023-24.
Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol ein bod wedi buddsoddi'n sylweddol iawn mewn mynd i'r afael â materion presenoldeb. Eleni, rhoddais £7 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ystod o gymorth i helpu i wella lefelau presenoldeb. Mae'r ffigurau a ryddhawyd ar 27 Ionawr yn dangos mai'r lefel gyfartalog ar gyfer y flwyddyn academaidd hon hyd yma yw 90.9 y cant, sydd fwy neu lai'n gyson â'r 91.0 y cant a gofnodwyd dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2024-25. Rwy'n ymwybodol fod yna ostyngiad bach cyn y Nadolig, ac roedd hynny'n wir dros y ffin hefyd. Rwy'n deall bod hynny oherwydd pethau fel salwch a heriau hefyd gyda'r tywydd, ac ati.
Ond rydym yn parhau i ganolbwyntio ar hyn fel Llywodraeth. Mae cyllid ychwanegol eto yn y gyllideb derfynol a gytunwyd ddoe i gefnogi presenoldeb. Rwy'n credu mai'r realiti yw nad yw hwn yn fater syml i fynd i'r afael ag ef—mae'n fater cymhleth. Dyna pam ein bod wedi buddsoddi cymaint o arian mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, sy'n gallu gweithio gyda theuluoedd ynglŷn â'r rhesymau cymhleth pam nad yw plant yn mynychu'r ysgol i'r graddau yr hoffem iddynt ei wneud.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n ofni bod eich sylwadau ym mis Mawrth y llynedd yn ddim mwy nag enghraifft arall o wleidydd Llafur yn goraddo ac yn tangyflawni. Mae'n amlwg fod eich adduned, Ysgrifennydd y Cabinet, i adfer presenoldeb i lefelau cyn y pandemig cyn gynted â phosib, ac yn nhymor y Senedd hon, yn ddiystyr. Nid yw pa bynnag gamau y mae'r Llywodraeth yn honni eu bod wedi'u cymryd wedi gweithio. Oherwydd mae lefelau presenoldeb ysgolion yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Roedd mwy na hanner y disgyblion mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn absennol yn gyson yn 2024-25, i fyny o 30.4 y cant yn 2018-19. Disgyblion Blwyddyn 11, felly disgyblion TGAU, a gofnododd y lefelau presenoldeb isaf, gyda chyfartaledd o 86.8 y cant yn 2024-25, 6.4 pwynt canran yn is na'r hyn ydoedd yn 2018-19.
Mae'r ystadegau hyn yn bryderus iawn i mi, ac i lawer o bobl eraill rwy'n siŵr, ond maent yn fwy na dim ond ystadegau, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y gallwch ddeall hynny. Oherwydd y tu ôl i'r ffigurau hyn y mae plant sy'n colli cyfleoedd i ddysgu, a fydd yn effeithio ar eu disgwyliadau yn y dyfodol yn y pen draw. I fod yn onest, nid yw Llafur yn siomi ein plant yn ddim byd newydd i mi na llawer o bobl eraill; mae wedi bod yn digwydd yma yng Nghymru ers dros chwarter canrif. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried ei bod yn edrych yn annhebygol iawn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn cyrraedd ei tharged o adfer presenoldeb i lefelau cyn y pandemig erbyn diwedd tymor y Senedd hon, pam y dylai pobl Cymru gredu unrhyw beth arall y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddweud o ran addysg?
Diolch, Natasha. Ni fuaswn byth yn gweld ffigurau fel ystadegau'n unig. Rwy'n ymwybodol iawn fod plentyn neu berson ifanc y tu ôl i bob un o'r ffigurau hynny ac rydym am iddynt gyflawni'r gorau y gallant ei gyflawni. Mae hwn yn fater heriol ac rydym yn gweld gwelliant, er y byddai'n anghywir awgrymu fy mod yn hapus gyda'r lefelau lle maent nawr. Fel y dywedais, cynyddodd y lefelau presenoldeb cyffredinol yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2024-25. Rwy'n falch iawn fod canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd gan ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gostwng i 8.9 y cant yn 2024-25 o 9.5 y cant yn y flwyddyn flaenorol, a gostyngodd nifer y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson o 30.4 y cant i 27 y cant yn 2024-25. Felly, mae ysgolion yn gwneud cynnydd, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym ar fin lansio ymgynghoriad ar godau presenoldeb ar 12 Chwefror, fel y gallwn gael llawer mwy o fanylion am y rhesymau pam nad yw plant yn mynychu'r ysgol. Mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, sy'n her ledled y byd. Mae'n rhywbeth sydd wedi gwaethygu ers y pandemig. Ond rydym yn gweithio'n galed iawn fel Llywodraeth, gan roi llawer iawn o gamau gwahanol ar waith i fynd i'r afael â chymhlethdodau'r mater, ac rydym yn ymrwymedig i fynd ymhellach eto.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y gwir amdani yw bod y Llywodraeth hon yn methu ar bethau heblaw presenoldeb, gadewch inni fod yn onest. Er gwaethaf yr hyn yr hoffech ei honni, mae cyflawniad y Llywodraeth ar addysg yn siarad drosto'i hun. Edrychwch ar gyllideb derfynol y Llywodraeth. Yn sicr, nid enynnodd ymateb dda o bob rhan o'n system addysg. Mae Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru wedi rhybuddio bod ein hysgolion ar ben eu tennyn. Rhybuddiodd ei ysgrifennydd yng Nghymru, Nicola Fitzpatrick, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae plant a phobl ifanc yn colli cyfleoedd i gael cymorth hanfodol, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae athrawon a staff cymorth yn gweld eu llwythi gwaith yn cynyddu, wrth iddynt gefnogi plant ag anghenion cynyddol gymhleth.
'Er ei bod yn galonogol fod Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol, ni fydd yn mynd yn ddigon pell i gefnogi'r gostyngiadau mewn cyllid a brofwyd ledled Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i gyllid i achub addysg yng Nghymru, a chefnogi'r gweithlu i gyflawni ar gyfer pob plentyn.'
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, Ysgrifennydd y Cabinet; rhai'r NEU ydynt. Felly, a ydych chi'n derbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y gyllideb hon yn ddrwg i'n system addysg a bod y Llywodraeth hon unwaith eto wedi gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol? Diolch.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha. Nid wyf yn gwneud dim byd heblaw dadlau dros fwy o adnoddau i'n hysgolion, oherwydd dyna rwyf wedi'i wneud yn gyson. Rydym wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer ADY fel rhan o'r arian sy'n cael ei ddal yn ganolog drwy brif grŵp gwariant addysg. Rwy'n cydnabod yn fawr y pwysau y mae ysgolion yn eu hwynebu gydag ADY. Gwyddom fod niferoedd yn cynyddu, mae cymhlethdod ar gynnydd, ac mae'r darlun cyffredinol o'r hyn y mae ysgolion yn delio ag ef yn llawer mwy heriol. Dyna pam fy mod wedi blaenoriaethu adnoddau ar gyfer ADY o'r arian ychwanegol a ddyrannwyd imi ar gyfer y prif grŵp gwariant addysg. Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae £20.3 miliwn ychwanegol ar gyfer dysgwyr ADY, yn ychwanegol at yr arian a oedd eisoes yno. Dyna gyfanswm o £74 miliwn o fuddsoddiad.
Fe gyfeirioch chi at y gyllideb a basiwyd ddoe. Fe fyddwch chi'n ymwybodol y bydd £113 miliwn o'r gyllideb honno'n mynd i lywodraeth leol, sef y cyfrwng ar gyfer y rhan fwyaf o gyllid ein hysgolion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nawr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr fod llywodraeth leol yn cydnabod bod y cyllid hwnnw wedi'i fuddsoddi i fynd i'r afael â'r pwysau y gwyddom eu bod yno mewn ysgolion. Mae llywodraeth leol wedi dweud wrthym fod £137 miliwn o bwysau mewn ysgolion. Maent yn ymwybodol iawn o hynny hefyd. Byddaf yn parhau i fynd ar drywydd hynny gyda chymheiriaid llywodraeth leol, i wneud yn siŵr fod y swm mwyaf o arian yn cyrraedd ein hysgolion.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adleoli campws Coleg Gwent i ganol dinas Casnewydd? OQ63754
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n weithredol â Choleg Gwent ynglŷn ag adleoli ei gampws a darparu ardal wybodaeth Casnewydd yng nghanol y ddinas, drwy elfen model buddsoddi cydfuddiannol y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y coleg i drafod y cynlluniau adleoli, ychydig cyn y Nadolig, rwy'n credu, ac rwy'n diolch i chi am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â'r cyfarfodydd hynny. Fel y gwyddoch, Weinidog, byddai hyn yn drawsnewidiol ar gyfer addysg bellach yng Nghasnewydd a'r cyffiniau. Byddai'n rhoi addysg bellach yn wynebau, fel petai, pobl leol a'n pobl ifanc leol. Ar yr un pryd, byddai'n arwyddocaol iawn i ganol dinas Casnewydd o ran darparu ymwelwyr ychwanegol i gefnogi'r cynnig manwerthu a'r busnesau yng nghanol y ddinas. Felly, rwy'n credu y gallai fod yn drawsnewidiol mewn nifer o wahanol ffyrdd. Nid yw'n syndod fod y bobl leol yn awyddus iawn weld yr adleoli hwn yn dwyn ffrwyth cyn gynted ag y bo modd. Felly, hoffwn sicrwydd pellach, Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r coleg a phartneriaid eraill i sicrhau bod yr adleoli'n digwydd cyn gynted â phosib.
Diolch am y cwestiwn atodol, John. Ar hyn o bryd, mae ffrwd ein model buddsoddi cydfuddiannol addysg gwerth £500 miliwn yn cynnwys y campws newydd hwnnw ar gyfer Coleg Gwent yng nghanol dinas Casnewydd, ac mae'n adeiladu ar brosiectau ysgolion llwyddiannus yn Rhondda Cynon Taf a sir y Fflint, a dros £119 miliwn o fuddsoddiad sy'n cyfateb i gyfalaf ym mhrosiect campws deuol Caerdydd a'r Fro, lle mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ers peth amser. Mae ffrwd y model buddsoddi cydfuddiannol hefyd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol sydd wedi'i gynllunio mewn colegau addysg bellach eraill hefyd, fel Coleg Sir Gâr a grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot.
Ond gan droi'n benodol at y coleg yr ydych chi'n cyfeirio ato, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod gan ardal wybodaeth Casnewydd botensial i wireddu manteision eang ar gyfer addysg bellach ac adfywio canol y ddinas hefyd, ac rwy'n gwybod bod y ddau beth yn agos iawn at eich calon. Mae'n adlewyrchu cydweithrediad agos ar draws sector cyhoeddus Cymru, gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn cael dros £1 filiwn o gyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddymchwel yr hen ganolfan hamdden yno i wneud lle ar gyfer prosiect yr ardal wybodaeth.
Felly, rydym yn cydnabod manteision posib y cynnig hwn ar gyfer datblygu sgiliau, mynediad i ddysgwyr ac adfywio canol y ddinas, ac fel y dywedwch, mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r coleg wrth i'r prosiect ddatblygu drwy broses yr achos busnes. Yn ogystal â'r cyfarfod y cyfeirioch chi ato ym mis Rhagfyr, i'ch sicrhau, mae fy swyddogion wedi cyfarfod â'r coleg ar dri achlysur ychwanegol y mis hwn, ac maent yn eu helpu i gwblhau'r esboniadau a godwyd drwy'r broses graffu ar yr achos busnes amlinellol. Felly, dylai fod newyddion cadarnhaol pellach yn fuan iawn.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion? OQ63725
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod disgwyliad cenedlaethol y bydd ysgolion yng Nghymru yn ddi-ffôn yn ddiofyn yn ystod y diwrnod ysgol, gydag eithriadau clir a chyfyngedig ar gyfer resymau meddygol, cyfrifoldebau gofalu ac anghenion dysgu ychwanegol? OQ63739
Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 4 a 6 gael eu grwpio.
Mae penderfyniadau ar y defnydd o ffonau clyfar, gan gynnwys yn ystod amseroedd egwyl, yn parhau i fod yn fater i ysgolion unigol. Yn dilyn yr uwchgynhadledd ymddygiad, sefydlais fforwm pwrpasol i ddatblygu canllawiau a chymorth cenedlaethol newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n derbyn nad yw hyn yn syml; mae'n faes cymhleth a newydd iawn. Mae yna achos sydd bellach yn mynd i'r llys yn Califfornia, y cyntaf o'r achosion hyn, lle byddant yn dadlau dros y dystiolaeth ynghylch a yw rhai platfformau cyfryngau cymdeithasol yn esgeulus yn creu cynhyrchion sy'n achosi dibyniaeth, iselder a thrawma arall. Mae'r dystiolaeth a gynhyrchwyd yn yr achos penodol hwnnw yn nodi mai'r hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda'r platfformau cyfryngau cymdeithasol hyn yw eu bod yn defnyddio eu halgorithmau mewn ffordd i greu dibyniaeth i bob pwrpas er mwyn sicrhau mynediad at hysbysebu, ac o ganlyniad at refeniw. Mae hyn, mewn sawl ffordd, yn fersiwn fodern o'r hyn yr oedd y cwmnïau tybaco yn arfer ei wneud pan oeddent yn cynyddu nicotin mewn tybaco er mwyn cynyddu a diogelu eu cyfran o'r farchnad. Yn amlwg, rwy'n deall bod canllawiau i ysgolion ar hyn, ond o ran y dystiolaeth sy'n dechrau dod i'r amlwg am y ffordd y mae'r corfforaethau mawr hyn yn ymddwyn a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, am yr angen am ryw fath o gysondeb yn ein hysgolion—ac o gofio'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ledled y byd, mewn rhai ohonynt ar hyn o bryd o ran gwahardd defnydd—tybed a yw dewis llwybr mwy diogel yn rhywbeth y rhoddoch chi ystyriaeth iddo o ran ysgolion, gan greu chwe awr heb fynediad at ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod addysg, yn enwedig wrth inni ddysgu a cheisio deall mwy am yr hyn sy'n digwydd, a'r ffordd y mae'r corfforaethau hyn yn defnyddio algorithmau a mater dibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl.
A gaf i ddiolch i Mick am ei gwestiwn atodol? Fel y dywedais, mae gennym fforwm ar ffonau symudol. Maent bron wedi cwblhau eu gwaith. Maent wedi bod yn cyfarfod bob mis. Rydym wedi dod â rhanddeiliaid, undebau llafur, ond hefyd arbenigwyr academaidd at ei gilydd ar hyn, ac rwy'n aros i gael eu hadroddiad ar hynny a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law. Rwyf am ddweud bod y gwaith yn dilyn argymhellion adroddiad Pwyllgor Deisebau'r Senedd ar ffonau symudol, a gydnabu nad yw hwn yn fater syml.
Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig am y cyfryngau cymdeithasol, oherwydd nid mynediad at ffonau'n unig ydyw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio bod llawer o ddefnydd plant o'r cyfryngau cymdeithasol yn digwydd y tu allan i ysgolion, yn eu cartrefi. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cael llythyr gan y Gweinidog Deallusrwydd Artiffisial a Diogelwch Ar-lein yn amlinellu bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno ymgynghoriad tri mis ar y defnydd o dechnoleg gan blant, a bydd hwnnw'n cael ei gefnogi gan drafodaeth genedlaethol ar effaith technoleg ar les plant.
Unwaith eto, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ofalus fod yr hyn a wnawn yn y gofod hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a hefyd yn cynnwys gwrando ar blant a phobl ifanc. Gwyddom nad yw hwn yn fater syml; gall cyfryngau cymdeithasol helpu plant i gadw mewn cysylltiad, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed, ac rwy'n ymwybodol fod rhai elusennau plant wedi codi pryderon—gan gynnwys yr NSPCC a Sefydliad Molly Rose—am ganlyniadau anfwriadol posib. Mae hwn yn fater a gadwyd yn ôl o ran gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol, ond rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr fod lleisiau rhanddeiliaid, ac yn allweddol, plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn cael eu clywed yn rhan o hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig cyn y Nadolig, disgrifiodd tîm Monitro Addysg Fyd-eang UNESCO chwyldro tawel mewn ysgolion ledled y byd. Yn 2023, dim ond tua chwarter y gwledydd oedd â gwaharddiadau ar ffonau clyfar ar draws ysgolion. Heddiw, mae gan dros eu hanner waharddiad, ac nid mater o lywodraethu canolog yw hyn; mewn systemau datganoledig, mae'r cyfeiriad teithio yr un mor glir. Mae gan bob talaith a thiriogaeth yn Awstralia waharddiadau cyffredinol ar waith mewn ysgolion. Mae Sbaen wedi gweld gwaharddiadau'n lledaenu ar draws y rhan fwyaf o'r cymunedau ymreolaethol, gan gynnwys Catalwnia, sydd bellach yn dileu eithriadau cynharach, ac yn yr Unol Daleithiau, mae gweithredu taleithiol yno hefyd yn cyflymu, gyda 36 talaith ynghyd â Rhanbarth Columbia yn cyfyngu ar ffonau mewn ysgolion. Felly, Lloegr, gyda'r cyhoeddiad yr wythnos hon, yw'r wlad ddiweddaraf i symud tuag at ddisgwyliad diofyn na chaniateir ffonau. Os na fyddwn yn symud, o ystyried y dystiolaeth gynyddol o niwed a glywsom a'r egwyddor ragofalus, onid oes perygl gwirioneddol yma y bydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl a bod pobl ifanc Cymru a'u lles yn cael eu rhoi mewn perygl diangen?
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, Adam. Nid oes gennyf fwriad i Gymru gael ei gadael ar ôl o ran hyn neu o ran unrhyw beth o'm rhan i. Dyna pam y mae gennym grŵp i edrych ar hyn yn fanwl. Mae lles ein dysgwyr yn hollol ganolog i bopeth a wnawn. Maent bron â chwblhau eu gwaith, a byddaf yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i Aelodau'r Senedd maes o law.
Wrth edrych ar y mater penodol hwn, Weinidog, yr un peth sy'n glir yw bod ysgolion sydd â gwaharddiadau ar waith ar hyn o bryd yn y DU yn dweud yn glir mai'r hyn a fydd o fudd i'w gweithrediad yw canllawiau canolog cryf a gwaharddiad cyffredinol ar ffonau mewn ysgolion, oherwydd yn amlwg, mae'n creu gwrthdaro lleol pan fydd rhieni nad ydynt yn cyd-weld â'r ysgol yn cyfeirio at ysgolion eraill yn yr ardal lle nad oes mesurau o'r fath ar waith. A ydych chi wedi eich perswadio gan y dystiolaeth mai eich adran chi a ddylai fynnu hynny, gwaharddiad cenedlaethol o'r fath, i gynorthwyo gyda'r gwaith o gyflwyno gwaharddiadau?
Ar bwynt arall, mewn ymateb i Mick Antoniw, rwy'n credu ichi sôn ei fod yn gyfrifoldeb a gedwir yn ôl, mynediad at gyfryngau cymdeithasol. A oes gennych bŵer i gyflwyno gwaharddiad, neu a oes rhyw elfen o bŵer a gedwir yn ôl y mae'n rhaid i chi ei goresgyn yn gyntaf cyn y gallwch gyflwyno gwaharddiad o'r fath yma yng Nghymru?
Diolch, Andrew. Roedd y pwynt a wneuthum i Mick yn ymwneud â'r gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol. Ein dealltwriaeth ni yw bod gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol—yn union fel y mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn fater a gedwir yn ôl, felly hefyd y byddai gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r broblem gyda ffonau symudol yn wahanol. Rwyf wedi clywed gan rai penaethiaid eu bod eisiau mwy o gyfarwyddyd cenedlaethol ar hyn, a dyna pam ein bod yn edrych arno, ond mae penaethiaid hefyd wedi dweud wrthyf eu bod yn credu y dylai hyn fod yn fater i arweinwyr ysgolion benderfynu yn ei gylch, yn seiliedig ar eu cyd-destun nhw. Felly, mae yna wahanol safbwyntiau ar hyn, a dyna pam y byddwn yn siarad â rhanddeiliaid am y gwaith y mae ein grŵp wedi'i wneud. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddai cael gwaharddiad cwbl orfodol yn galw am newid yn y ddeddfwriaeth, ond wrth gwrs, fe allwn gyhoeddi canllawiau statudol. A byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hynny cyn gynted ag y bydd y gweithgor wedi cwblhau ei waith.
5. Pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o weithrediad y system anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru? OQ63758
Rwyf wedi adolygu gweithrediad y system anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Er bod llawer o gynnydd cadarnhaol i adeiladu arno, rwyf hefyd wedi nodi meysydd y mae angen eu gwella. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddatblygu'r blaenoriaethau a nodwyd yn fy natganiad ar 14 Hydref.
Wel, un neges glir rŷn ni'n ei chlywed yn gyson yw rhybuddion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill ynglŷn â'r ffaith fod y pwysau sy'n dod o gyfeiriad darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol bellach yn cyfrif am dros chwarter holl bwysau cyllidebol ysgolion, a bod awdurdodau lleol, felly, o ganlyniad, yn cael trafferthion i gynnal gwasanaethau o safon heb y buddsoddiad sydd ei angen arnyn nhw.
Ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn derbyn bod y trefniadau ariannu presennol ddim yn adlewyrchu gwir gost darparu'r cymorth statudol sydd ei angen ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol? Rwyf wedi eich clywed chi yn gynharach y prynhawn yma'n rhestru buddsoddiadau, ac mae croeso cynnes i'r rheini, wrth gwrs, yn ogystal â'r rôl mae Plaid Cymru wedi ei chwarae i sicrhau mwy o gyllideb ar gyfer awdurdodau lleol, ond ydych chi'n teimlo bod yna ddigon o gyllid yn y system i gwrdd â'r gofyn? Ac os nad ydych chi, beth yw'r cynllun i gau y bwlch yna, oherwydd, fel arall, gwnawn ni byth cyrraedd pwynt lle mae gwasanaethau'n gynaliadwy?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn atodol, Llyr. Rwy'n ymwybodol iawn, pan fyddaf yn cyfarfod â llywodraeth leol, eu bod yn codi pwysau ADY gyda mi, yn union fel y mae ysgolion yn ei wneud. Dyna pam fy mod wedi rhoi blaenoriaeth i ADY gyda'r arian ychwanegol a roddwyd i mi o'r gyllideb ar gyfer y prif grŵp gwariant. Bydd y buddsoddiad ychwanegol o £20.3 miliwn, a fydd yn cael ei ychwanegu at yr arian presennol o £74 miliwn, yn cynnwys £41 miliwn wedi'i ddyrannu ar draws awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau. Bydd £9.8 miliwn hefyd ar gael ar gyfer ystod o weithgareddau strategol a gweithredol, gyda'r nod o ymgorffori a chynnal y system ADY. Mae cost cefnogi dysgwyr mewn darpariaeth arbenigol ôl-16 yn sylweddol. Mae £19.9 miliwn ar gael ar gyfer hynny. Ac rydym hefyd wedi ymgorffori £4 miliwn yn y llinell sylfaen er mwyn i gydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol symud i'r raddfa arweinyddiaeth o fewn y grant cynnal refeniw.
Mae'r galwadau ar ADY yn tyfu'n gyson. Fel rhan o'r gwaith a wnaethom ar adolygu'r system ADY, mae un o'n gweithgorau'n edrych ar yr arian ac i ble mae'r arian yn mynd, felly dylai fod gennym ddealltwriaeth fanylach o sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario. Credaf ei bod hefyd yn bwysig dweud, yn y tymor hwy, os yw'r system am fod yn gynaliadwy—ac mae hon yn her y mae gwledydd ledled y byd yn ei hwynebu—mae angen inni gael darpariaeth fwy cynhwysol, a dyna pam, yn ogystal â sicrhau bod ein system ADY yn cael ei gweithredu'n gyson, ein bod hefyd yn gweithio tuag at wneud ein hystafelloedd dosbarth yn fwy cynhwysol yn gyffredinol.
Ers i'r fframwaith ADY gael ei roi ar waith ledled Cymru, rydym wedi gweld amryw fanteision dros y fframwaith anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys gwell cydweithio rhwng rhieni, mwy o welededd i uwch arweinwyr cynhwysiant a darpariaethau estynedig yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae ADY yn rhoi straen gynyddol ar ein hysgolion ac awdurdodau lleol. Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n ymgyflwyno ag anghenion dysgu ychwanegol, ac mae awdurdodau lleol yn wynebu straen ariannol sylweddol, gyda chostau ADY yn 2025-26 i gyfrif am dros chwarter yr holl bwysau ar gyllidebau ysgolion. Adroddodd astudiaeth yn 2025 ar gydgysylltwyr ADY mewn ysgolion cynradd ar gynnydd yn y llwyth gwaith a'r gwaith papur.
Yng ngogledd Cymru, mae ysgolion wedi codi pryderon ynghylch oedi wrth baratoi cynlluniau datblygu unigol a phrinder staff arbenigol, sydd oll yn awgrymu bod y system o dan straen weithredol wirioneddol. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa asesiad penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y mae'r system ADY yn gweithredu yn y gogledd, a pha gamau pellach a gaiff eu cymryd i sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael yr adnoddau priodol i gyflawni eu dyletswyddau statudol?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn atodol. Yn amlwg, fe atebais Llyr ar y pwyntiau ariannu. Dylwn ddweud fy mod wedi clywed yn uniongyrchol gan bartneriaid cyflenwi a rhieni yn y gogledd. Yn 2025, cyfarfûm ag awdurdodau lleol gogledd Cymru i drafod cynnydd ar weithredu'r system ADY cyn yr adolygiad o'r fframwaith deddfwriaethol ADY, a oedd yn edrych, yn gyffredinol, ar sut y mae ADY yn gweithredu, a chyflwynodd pob awdurdod lleol yng Nghymru dystiolaeth yn rhan o'r adolygiad hwn. Mae'r system o dan bwysau oherwydd niferoedd cynyddol a chymhlethdod cynyddol. Dyna pam ein bod yn blaenoriaethu buddsoddiad ynddi, ond rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn cael ei rhoi ar waith yn gyson, wrth inni fynd ar y daith honno tuag at sicrhau bod ein hysgolion yn llawer mwy cynhwysol.
Ac yn olaf, gan fod cwestiwn 6 wedi'i ateb a 7 [OQ63743] wedi'i dynnu yn ôl, cwestiwn 8—Samuel Kurtz.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ63756
Mae gwella cyfraddau presenoldeb yn flaenoriaeth allweddol. Rydym yn gweld gwelliannau yn etholaeth yr Aelod a ledled Cymru. Ein ffocws o hyd yw cael gwared ar rwystrau fel y gall pob plentyn fynychu'r ysgol yn rheolaidd a llwyddo.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gall absenoldeb o'r ysgol gael effaith sylweddol ar ganlyniadau addysgol, fel y trafodwyd y prynhawn yma, ond er mwyn mynd i'r afael â'r mater yn effeithiol, mae angen cysondeb yn y ffordd y caiff presenoldeb ei gofnodi. Rwyf wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar ynglŷn â phlentyn a gafodd therapi lleferydd ac iaith gartref gan diwtor preifat a fu, tan yn ddiweddar, yn cael ei gyflogi gan y GIG o dan y bwrdd iechyd lleol. Gan eu bod bellach wedi'u dosbarthu fel tiwtor preifat, mae Cyngor Sir Penfro wedi cyfyngu ar allu'r tiwtor i gefnogi disgyblion ar safle'r ysgol yn ystod oriau ysgol. O ganlyniad, mae'r plentyn bellach yn cyrraedd hanner awr yn hwyr i'r ysgol unwaith yr wythnos, a chaiff hyn ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig. Mewn awdurdod lleol cyfagos, mae'r un tiwtor yn gallu darparu cymorth ar safleoedd ysgolion heb wynebu unrhyw rwystrau o'r fath. Mae'r anghysondeb hwn yn annheg i'r ysgol ac i'r disgybl. Felly, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod sefyllfaoedd o'r fath yn cael eu trin yn gyson ac yn deg, fod absenoldebau anawdurdodedig yn cael eu cofnodi'n gywir a bod rhieni sy'n ceisio cymorth ychwanegol hanfodol i'w plant yn cael eu trin yn gyfartal ledled Cymru?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn atodol, ac fel y dywedais mewn ymateb i Natasha, rydym ar fin ymgynghori ar newidiadau i'n codau presenoldeb, a fydd yn rhoi llawer mwy o fanylion i ni ar y rhesymau dros absenoldeb, gan gynnwys ar anghenion iechyd penodol. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r anghysondeb yr ydych newydd gyfeirio ato. Fy nealltwriaeth i oedd y byddai apwyntiad meddygol yn cael ei gofnodi fel absenoldeb awdurdodedig. Fe ddywedoch chi eich bod wedi ysgrifennu ataf. Nid wyf wedi gweld y llythyr eto, ond fe edrychaf ar hynny, gan y credaf ei bod yn bwysig fod yna gysondeb, ac fel rhan o'r gwaith a wnawn gydag awdurdodau lleol, mae honno'n neges rwy'n ei chyfleu iddynt yn rheolaidd.
Diolch.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiwn amserol sydd nesaf, i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac i'w ofyn gan Adam Price.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r heddlu, ar Gymru? TQ1434
Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru’n dadansoddi'r Papur Gwyn a'i oblygiadau i Gymru, fel y nodwyd yn fy natganiad ddoe. Rydym yn parhau i ymgysylltu â Gweinidog plismona Llywodraeth y DU, plismona yng Nghymru a phartneriaid i ystyried y trefniadau gorau i Gymru, gan gynnwys cyfleoedd i fwrw ymlaen â datganoli plismona i Gymru.
Rydym yn croesawu'r datganiad ysgrifenedig y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato a gyhoeddwyd ddoe, ond mae'n dal i godi nifer o gwestiynau pwysig, yn ogystal â phryderon y bydd hyn yn arwain at ganoli pellach mewn system sydd eisoes wedi'i chanoli. Yn fwyaf arbennig, a allech chi egluro faint o fewnbwn a gawsoch yn natblygiad y Papur Gwyn hwn? Pa rôl a fydd gennych chi nawr yn llunio a gweithredu unrhyw newidiadau mewn perthynas â Chymru? A fyddwch chi'n gallu rhoi feto, er enghraifft, ar unrhyw gynigion sy'n groes i'n buddiannau yn eich barn chi?
Fe sonioch chi yn eich datganiad ysgrifenedig am y sgyrsiau a gawsoch gyda'r Gweinidog plismona a'i phresenoldeb ym mwrdd partneriaeth plismona Cymru ym mis Rhagfyr 2025. A wnewch chi egluro beth oedd y pethau roeddech chi'n galw amdanynt yn y sgyrsiau hyn, ac a oes unrhyw rai ohonynt wedi'u hadlewyrchu yn y Papur Gwyn?
Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn cadarnhau ei disgwyliad na ddylai’r diwygiadau hyn arwain at greu heddluoedd rhanbarthol ar draws y ddwy ochr i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. A allwch chi gadarnhau eich bod wedi mynegi’r farn hon yn ffurfiol i Lywodraeth y DU? A sut y byddwch chi'n arfer eich dylanwad i sicrhau na cheir canlyniad o’r fath yn y pen draw?
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n gwario dros £100 miliwn o'i hadnoddau ei hun ar wasanaethau heddlu, er nad oes ganddi unrhyw bwerau cyfansoddiadol yn y maes, yn wahanol i bob un o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Rydym yn cael y gwaethaf o'r ddau fyd. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd yr adolygiad arfaethedig o fformiwla gyllido'r heddlu a dosbarthiad cyllid heddlu yn lleol yn edrych yn benodol ar yr anomaledd fod adnoddau datganoledig yn cael eu gwario mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli? A allwch chi roi sicrwydd hefyd y bydd arian a godir yng Nghymru at ddibenion plismona, drwy elfen praesept yr heddlu o'r dreth gyngor, yn cael ei ailfuddsoddi yng Nghymru yn unig, yn hytrach na'i sianelu tuag at bot a reolir yn ganolog yn San Steffan?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn fater difrifol. Mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi, yn gywir ddigon, fod y Papur Gwyn yn rhoi cyfle clir i gryfhau'r setliad datganoli drwy drosglwyddo pwerau llawn dros gyfiawnder plismona i Gymru, fel yr argymhellwyd gan gomisiwn Thomas. Fodd bynnag, mae'r ymateb dirmygus a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref pan godwyd hyn gyda hi yn tanlinellu pa mor bell yw Llywodraeth y DU o safbwynt ffurfiol Llywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi egluro pam y mae Llywodraeth y DU i bob pwrpas yn achub y blaen ar ganlyniad adolygiad o lywodraethiant yr heddlu drwy ddiystyru datganoli pellach i Gymru yn llwyr? A pham eich bod yn credu bod cyfran sylweddol o'r Blaid Lafur seneddol yn San Steffan, ac yn enwedig y rhai mewn swyddi dylanwadol, yn benderfynol o drin Cymru fel cenedl eilradd o ran datganoli?
Wel, diolch am eich cwestiynau. Rydym yn falch o'r partneriaethau yr ydym wedi'u hadeiladu gyda phartneriaid plismona yng Nghymru, ac rydym yn parhau i weithio'n gydweithredol. Wrth gwrs, y prif amcan yw sicrhau ein bod yn cadw Cymru'n ddiogel, fod ein heddluoedd yn cyflawni mewn perthynas â diogelwch cymunedol yma yng Nghymru.
Nawr, yr hyn sydd i'w groesawu yn y Papur Gwyn, ac yn amlwg, fy ymgysylltiad â'r Gweinidog plismona yn arbennig, Sarah Jones AS, ac yn wir, drwy fy nghydweithwyr—rwy'n eu galw'n gydweithwyr—y comisiynwyr heddlu a throseddu, gan eu bod nhw hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Gweinidog plismona wrth gwrs—. Rwy'n falch fod y Papur Gwyn wedi nodi pwysigrwydd adlewyrchu tirwedd unigryw Cymru yn y gwaith hwn, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i gydweithio'n agos rhwng y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â phlismona yng Nghymru a phartneriaid eraill.
Felly, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen mewn ymateb i gwestiynau ac yn fy natganiad, rydym wedi achub ar y cyfle i ystyried y trefniadau gorau i Gymru yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ynglŷn â diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Fe welsom hynny fel cyfle, fel rydych chi wedi'i gydnabod, ac rydym wedi bod yn gweithio'n gyflym gyda'n cydweithwyr. Rydym wedi bod yn edrych ar yr egwyddorion plismona a amlinellwyd, ac rwy'n credu y byddwch yn croesawu'r ffaith, rwy'n siŵr, yn fy natganiad ddoe, fy mod wedi dweud mai fy nod yw bod Llywodraeth bresennol Cymru’n cytuno ar ffurf o lywodraethu yn y dyfodol gyda'r Swyddfa Gartref yn y Senedd hon—mae amser yn hanfodol; mae pob diwrnod yn cyfrif—ac mae dull gweithredu o'r fath, fel y dywedais, yn ymwneud ag adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd a chryfhau'r setliad datganoli, ond wrth gwrs, gyda golwg bob amser ar y nod mwy hirdymor o ddatganoli plismona i Gymru, fel rydych chi wedi'i gydnabod.
Hoffwn wneud un neu ddau o bwyntiau allweddol, gan eich bod wedi gofyn llawer o gwestiynau ac wedi gwneud llawer o bwyntiau. O ran y materion ynghylch ffiniau, nid yw'r adolygiad annibynnol hwn wedi'i gyhoeddi eto, a byddwn yn edrych ar y manylion. Pan gyfarfûm â'r Gweinidog plismona dros y penwythnos, dywedais, yn glir fod angen inni ymgysylltu. Rydym eisiau dylanwadu ar hynny. Mae'n adolygiad annibynnol; rydym eisiau ymgysylltu'n llawn â'r broses adolygu honno. Nid yw'n nodi eto faint yn union o heddluoedd a fyddai'n bodoli o dan y fframwaith newydd. Ond nodais yn gwbl glir, fan lleiaf na ddylid uno heddluoedd ar draws y ddwy ochr i'r ffin, ac yn sicr, fe wnaeth hi gydnabod y pwynt hwnnw'n glir iawn. Felly, er mwyn y cofnod, rwy'n credu bod angen ichi nodi'r pwyntiau allweddol hynny o ran y materion ffiniau.
Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i'r Senedd. Hynny yw, pe bai gennym fwy o amser, rwy'n siŵr y byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol eisiau ymwneud â hyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae'n gyfle inni edrych ar y dyfodol. Rwy'n siŵr ein bod eisiau pwyllgor cyfiawnder. Rydym yn datganoli cyfiawnder, sef yr hyn yr ydym ei eisiau, rydym eisiau pwyllgor cyfiawnder; rwy'n siŵr ein bod eisiau Gweinidog cyfiawnder. Rydym bob amser wedi siarad am hynny, ar ein llwybr at ddatganoli, gan y byddai hyn yn galluogi'r Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif o ran cyfiawnder wrth inni ennill mwy o bwerau. Un o'r pwyntiau yr hoffwn i chi eu cydnabod, ac rwy'n siŵr y gwnewch hynny heddiw, i fy helpu, i fy nghryfhau yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, yw cydnabod bod y rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer plismona, fel rydych chi eisoes wedi'i ddweud, yn dod o ffynonellau Cymreig yn barod. Dylai'r arian hwnnw gael ei wario yng Nghymru, a dylai'r pwerau fod yn nwylo'r rhai sy'n darparu'r cyllid.
Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr yw gweithio tuag at fodel o lywodraethu heddluoedd lleol sy'n adlewyrchu ein dull unigryw o weithio mewn partneriaeth a'r model neilltuol o lywodraeth leol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae gweithdai eisoes yn cael eu cynnal. Rydym yn cynnwys llywodraeth leol hefyd, sy'n bwysig yn fy marn i—maent yn aelodau o fwrdd partneriaeth plismona Cymru—ac yn cynnwys yr undebau cyfiawnder yn ogystal.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cwyno cyson hwn ynglŷn â datganoli mwy o bwerau yn niweidio'r sefydliad hwn mewn gwirionedd? Mae'r cyhoedd yng Nghymru eisiau gweld gweithredu ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Maent eisiau gweld gweithredu ar weithgarwch troseddol, ac nid oes ots ganddynt pa Weinidog sy'n gyfrifol. Does bosib nad yw'n bryd cyflawni, nid datganoli. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ddiweddar ynghylch y camau y maent yn eu cymryd i wrthsefyll y cynnydd mewn achosion o ddwyn o gerbydau a throseddau cefn gwlad yng Nghymru? Diolch.
Wel, yn amlwg, mae a wnelo hyn oll â sut yr ydym yn hyrwyddo diogelwch cymunedol ac yn mynd i'r afael â throseddu yng Nghymru. Ac mae'n bwysig ein bod yn ei roi—. Dyna gyd-destun clir y drafodaeth hon. Dyma'r pwynt. Mae'n ymwneud â phwerau at ddiben, onid yw, o ran y canlyniadau i bobl, busnesau, dinasyddion a chymunedau Cymru.
Ni chredaf eich bod chi gyda ni, Altaf Hussain, pan gawsom y comisiwn Thomas hollbwysig hwnnw, yr archwiliad mwyaf erioed o'r system gyfiawnder yng Nghymru, gyda'r Arglwydd John Thomas yn cynnal yr archwiliad o'n system gyfiawnder ac yn argymell wedyn y dylid datganoli cyfiawnder i Gymru—yn amlwg, plismona, gwasanaethau prawf, cyfiawnder ieuenctid, yr holl feysydd yr ydym yn gweithio arnynt ar flaen y gad. Mae hynny mewn gwirionedd—. Ac rwy'n cofio, wrth gwrs, y cyn-Gwnsler Cyffredinol Mick Antoniw yn cadeirio is-bwyllgor Cabinet lle roeddem yn edrych ar fanylion comisiwn Thomas, onid oeddem, yn edrych ar y cynnydd yr oeddem yn ei wneud. Ac roedd yn archwiliad enfawr. Wrth gwrs, roedd llawer ohonom ni yma'n rhan o hynny, ac rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod hynny hefyd, Altaf.
Ond wedyn, wrth gwrs, fe wnaethom gomisiynu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gadeiriwyd gan yr enwog Rowan Williams a'r enwog Laura McAllister. A chawsom yr adroddiad hwnnw; rydym yn bwrw ymlaen ag ef nawr. Mae gennym grŵp democratiaeth yn edrych ar sut y gallwn roi hwnnw ar waith. Fe wnaethant hwythau hefyd argymell y dylid datganoli plismona, a datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn ogystal. Felly, rydym wedi cael yr arbenigwyr, yr academyddion—mae'r maes plismona eu hunain wedi gwneud adroddiad ar bwysigrwydd a'r rhesymau pam y mae angen inni fwrw ymlaen â datganoli plismona. Mae a wnelo hyn â chanlyniadau. Mae a wnelo â darparu'r gwasanaethau gorau. Ac fel rwyf wedi'i ddweud, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer plismona eisoes yn dod o ffynonellau Cymreig. Ac mae cyflawni plismona o ran atal, cefnogi, annog, diogelwch cymunedol a mynd i'r afael â throseddu—mae llawer o hynny'n ymwneud â gwasanaethau datganoledig yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth, sydd, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu ym mwrdd partneriaeth plismona Cymru yr wyf yn ei gadeirio.
Roedd ymateb yr Ysgrifennydd Cartref i Liz Saville-Roberts yn siomedig, ond prin ei fod yn syndod. Yn 2019, mewn bywyd blaenorol, mynychais un o gyfarfodydd y Blaid Lafur seneddol, ac fe wnaethant wrthwynebu datganoli plismona yn gryf bryd hynny, er ei fod yn rhan o'u maniffesto yn 2017, o dan y teitl 'Ehangu Democratiaeth'. Hyd nes y bydd newid personél yn San Steffan, mae'n anodd gwybod beth y gall y Llywodraeth hon ei wneud i newid meddyliau'r Aelodau Llafur yno. Gallem gomisiynu cymaint o adroddiadau ag y dymunwn, ond yn ofer.
Mae'n werth nodi nad yw'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yn rhyddfrydwr radical enwog ac nad oedd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn llawn o genedlaetholwyr—neu ymwahanwyr efallai, fel y'u gelwir bellach gan rai o'r Aelodau ar fy llaw chwith. Nid felly oedd hi. Ac nid oedd llawer o aelodau'r comisiwn yn Gymry o gwbl mewn gwirionedd. Fe wnaethant edrych ar y dystiolaeth, a daethant i'r casgliad, ar ôl edrych ar gorff enfawr o dystiolaeth, mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Ac yn ddiddorol, er bod Altaf Hussain yn amddiffyn y status quo y prynhawn yma, mae gennyf e-bost gan yr Arglwydd Hunt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y 1990au cynnar, a gadarnhaodd ei fod wedi dod i gytundeb â Kenneth Clarke, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, i drosglwyddo pwerau plismona i Swyddfa Cymru ym 1993. A dim ond biwrocratiaeth Whitehall a rwystrodd hynny. Felly, pe bai hynny wedi digwydd ym 1993, byddai plismona wedi'i ddatganoli i'r lle hwn yn ôl ym 1999—ac mae hynny'n werth ei gofio.
Er gwaethaf gwrthwynebiad clir Llywodraeth y DU i ddatganoli cyfiawnder, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n chwarae rhan yn y broses o ddiwygio plismona. Oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn cael ein hanghofio'n llwyr. Ac mae hynny i'w weld dro ar ôl tro. Ni allwch ddisgwyl i was sifil yn Llundain, Ysgrifennydd Cartref yn Birmingham a Gweinidog plismona yn Croydon ddeall bod amser ymateb o 20 munud yng nghefn gwlad Cymru yn gwbl gamarweiniol, oni bai eu bod yn gwario swm enfawr o fuddsoddiad ar blismona yng Nghymru. Ac rydym wedi gweld enghraifft ar ôl enghraifft o'r cyd-destun Cymreig yn cael ei anwybyddu gan Whitehall yn yr ychydig fisoedd diwethaf. Rydym yn gweld hynny yn y ffaith na allwch wneud cais i ddod yn swyddog heddlu gyda'r Coleg Plismona drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelsom hefyd, o'r 10 prifysgol a gafodd gyllid i wella plismona yng Nghymru a Lloegr, na roddwyd y cyllid i unrhyw brifysgol yng Nghymru. Nawr, bydd enghreifftiau fel hyn yn digwydd dro ar ôl tro oni bai fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo o ddifrif i ddiwygio. Felly, Drefnydd, pa rôl a fydd gennych chi, a fydd gan y Llywodraeth hon, mewn diwygio plismona? A pha ddiweddariadau a ddaw gennych i'r Senedd hon? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Diolch am gofio'r nodyn pwysig hwnnw mewn hanes—roedd gennych ran fawr, rwy'n gwybod, yng nghomisiwn Thomas—a'r cyfeiriad at yr Arglwydd Hunt, yr wyf yn ei gofio pan oedd yn y rôl honno, o ran buddiannau yng Nghymru. Nid wyf wedi sôn am gomisiwn Silk chwaith, a oedd, wrth gwrs, yn gomisiwn trawsbleidiol, ac yn cynnwys Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, a'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd, a oedd yn cefnogi datganoli plismona bryd hynny. Ac mae bob amser wedi bod—. Mae'r achos dros ddatganoli plismona wedi'i wneud gan yr holl bobl a chomisiynau nodedig hyn. Mae a wnelo â chyflawni plismona sy'n wirioneddol berthnasol i Gymru, yn berthnasol i anghenion, amgylchiadau Cymru, a bod angen i'r atebolrwydd fod yng Nghymru, fel y dylem gael ein dwyn i gyfrif. Dyna a ddaw o ganlyniad i blismona, a bydd gan y Senedd y cyfrifoldeb hwnnw hefyd. Rydych chi'n llawer mwy huawdl i allu mynd ar drywydd y pwynt hwnnw, ond rwy'n croesawu'r y ffaith eich bod wedi cydnabod hynny.
Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y rhai sydd o blaid datganoli plismona, cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn ein helpu yn wythnosau olaf y chweched Senedd hon—ac rwy'n falch fod y Dirprwy Brif Weinidog yma gyda ni y prynhawn yma—oherwydd fel y dywedais, rydym yn ceisio adrodd a gwneud cynnydd cyn diwedd y chweched Senedd hon, yn enwedig mewn perthynas â ffurf llywodraethu plismona yng Nghymru yn y dyfodol. Mae gennym gyfle gyda diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Rwy'n cyfarfod â nhw ddydd Gwener. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd gweithdy gan y Swyddfa Gartref gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu. Credaf ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn meddwl am y gweithlu. Rwy'n falch iawn fod Unsain—. Cyfarfûm â'r undebau cyfiawnder yr wythnos diwethaf, ac mae Unsain bellach yn rhan o'r trafodaethau hynny ar ran eu haelodau. Rhaid inni feddwl am y gweithlu. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, sef y bobl yn ein cymunedau sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl.
Yn olaf, Lywydd, gan fod llawer o gwestiynau wedi'u codi, mae bwrdd partneriaeth plismona Cymru yn enghraifft dda iawn o sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda'n gilydd yng Nghymru. Mae'n fforwm gwerthfawr iawn, ac rydym yn siarad ac yn trafod. Mae llawer o'n trafodaethau'n ymwneud â meysydd datganoledig: effaith iechyd meddwl ac ymgysylltiad â phlismona, anghenion tai, troseddu yng nghefn gwlad, camddefnyddio sylweddau, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn gyfrifoldebau datganoledig. Mae llywodraeth leol yn aelodau o'r bwrdd partneriaeth plismona, ochr yn ochr â'n comisiynwyr heddlu a throseddu a'n prif gwnstabliaid. Mae hwnnw'n fodel yr ydym yn edrych arno o ran llywodraethu yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Brif Weinidog a minnau'n gallu—. Ond mae angen ichi ymgysylltu â ni'n adeiladol i gymryd y cam hwn.
A gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, am y gwaith rydych chi'n ei wneud, a'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd, gwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Gan gyfeirio at y sylwadau a wnaed yn gynharach, nid oes a wnelo hyn â mwy o bwerau; mae a wnelo â sut i ddarparu plismona'n well, yn atebol yn ddemocrataidd, ac mewn ffordd sy'n integreiddio â'r holl swyddogaethau hynny sydd wedi'u datganoli mewn gwirionedd, i wneud y plismona hwnnw'n well ac yn fwy atebol i'n cymunedau.
Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn yn aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru. Roedd hwnnw'n ffurf ar atebolrwydd democrataidd lleol. Wrth gwrs, fe'i diddymwyd er mwyn gwneud lle i'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Roedd gan rai ohonom bryderon ynglŷn â hynny, ond fe ddarparodd fandad democrataidd arall o leiaf. Wrth gwrs, mae diddymu'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn sydyn, neu ddiddymu comisiynwyr heddlu a throseddu yn y dyfodol—a wnaed heb fawr ddim ymgynghori ag unrhyw gyrff datganoledig—yn cael gwared â'r elfen ddemocrataidd honno, ac mae bellach yn golygu bod gennym ddiffyg democrataidd mewn gwirionedd. Oherwydd lle roedd gennym fewnbwn ac ymgysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu, mae hynny bellach yn diflannu, a beth sy'n mynd i ddod yn ei le? Wrth gwrs, mae'r Papur Gwyn yn y bôn yn nodi ymgynghoriad ac amrywiol gynigion y gellir eu hystyried ynghylch hynny.
Gwyddom fod yr holl gomisiynwyr heddlu a throseddu etholedig yn cefnogi datganoli plismona. Nid yw Ffederasiwn yr Heddlu yn ei wrthwynebu, mae'r undebau cyfiawnder o'i blaid. Os siaradwch â'r rhan fwyaf o'r cyfreithwyr sy'n ymgysylltu â'r heddlu, maent hwythau hefyd yn ei gefnogi'n fawr ac yn cydnabod ei bwysigrwydd. Mae gennym lawer iawn o dystiolaeth sy'n egluro pam y mae angen y newid penodol hwnnw, ac wrth gwrs, mae wedi bod yn bolisi yng Nghymru ers amser maith.
A gaf i ddweud bod sylw'r Ysgrifennydd Cartref fel pe bai'n adlewyrchu'r sylwadau a wnaed ychydig yn gynharach am hyn, ynglŷn â mwy o bwerau? Oherwydd nid oes a wnelo hyn â rheolaeth. Ymddengys i mi mai un o'r diffygion yn sylw adweithiol yr Ysgrifennydd Cartref oedd ei fod yn ymwneud mwy â rheolaeth yn hytrach na budd plismona. Rwy'n adlewyrchu'r sylw hefyd ei bod yn gwbl amhriodol, ei bod yn gwbl amhriodol, i Ysgrifennydd Cartref roi'r math hwnnw o ymateb adweithiol, pan fo ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar yr un pryd yn union. Yn sicr, nid oedd yn ymateb sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n seiliedig ar ystyriaeth o'r dystiolaeth.
Rwy'n credu y bydd trafodaethau mwy cadarnhaol gyda'r Gweinidog plismona, ac yn y blaen, ond mae'n debyg mai fy nghwestiwn i i chi mewn gwirionedd nawr yw: beth yw'r camau nesaf a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod nid yn unig y Gweinidog plismona, ond yr Ysgrifennydd Cartref, yn ymwybodol o faint o dystiolaeth sy'n ei gyfiawnhau? Oherwydd mae gwneud sylwadau heb wybod am y dystiolaeth honno'n gwneud cam llwyr â phlismona ac atebolrwydd yn ein cymunedau.
Diolch yn fawr, Mick Antoniw. Rwy'n ymwybodol o'r amser. Wrth gwrs, rwy'n rhannu fy natganiad ddoe gyda'r Ysgrifennydd Cartref a'r Gweinidog plismona. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, oherwydd rwy'n gobeithio ei fod yn adlewyrchu llawer o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud heddiw. Felly, rwyf am sicrhau'r Aelodau o hynny.
Ond rwyf eisiau dweud, ar y pwynt democrataidd, y pwynt am atebolrwydd a llywodraethu, pan fyddwn yn edrych ar y ffordd ymlaen—. Ac mae hyn ar y gweill nawr. Gallaf ddweud mai'r ystyriaeth gyntaf y buom yn edrych arni o ran trefniadau olynol i ddiddymu comisiynwyr heddlu a throseddu yw y dylai fod—ac mae hyn yn bwysig i bob ochr i'r Siambr hon—yn fater o'r hyn sy'n gwasanaethu buddiannau diogelwch cymunedol a dioddefwyr troseddau orau, y dylai swyddogaethau comisiynwyr heddlu a throseddu sy'n cael eu harfer ar hyn o bryd yng Nghymru barhau i gael eu harfer yng Nghymru, ac y dylai trefniadau llywodraethu diwygiedig adeiladu ar y dull partneriaeth presennol yng Nghymru a chadw cryfderau'r trefniadau presennol. Mae angen i unrhyw fodel ystyried rôl atebolrwydd democrataidd lleol a chenedlaethol; dyna rydych chi'n siarad amdano, Mick. Felly, rwy'n falch fy mod wedi cael cyfle i'ch sicrhau mai dyna yw ein safbwynt ni.
Mae ein hamser ar ben ar gyfer y sesiwn hon, ond mae gennyf sawl Aelod arall sy'n dymuno gofyn cwestiwn. Felly, cyn belled â'ch bod yn cadw at un cwestiwn a bod yr atebion yn gryno, gallaf alw ar ambell un arall. Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Yn y bôn, yr hyn rydych chi wedi'i adrodd i ni heddiw, ac yn eich holl atebion, yw nad oes gan San Steffan a Llywodraeth Lafur y DU ddiddordeb mewn gweithredu er budd gorau pobl Cymru, a'i bod wedi gwrthod yn bendant, mewn modd ddirmygus, yr achos a wnaed gan arbenigwyr, a ailadroddwyd yma heddiw, a wnaed gan Lywodraeth ddatganoledig, i ddatganoli plismona. Mae yna ryw fath o siarad dwbl yn digwydd yma.
Rydych chi'n sôn am gyfle i gytuno ar fodel llywodraethu newydd gyda Llywodraeth y DU, ond rydych chi'n gwybod, rydym ni'n gwybod, mae arbenigwyr wedi dweud wrthym, beth y dylai'r model hwnnw fod: datganoli. Rydych chi'n siarad am ganlyniadau; yn hollol. Nid yw gweithio agos, fel sydd gennym nawr, yn ddigon effeithiol. Rydym yn siarad yn aml, onid ydym—? Fe sonioch chi am y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Rydym wedi gweld yn glir, mewn adroddiad ar ôl adroddiad, effaith ymyl garw cyfiawnder yng Nghymru. A chaiff hyn ei amlygu'n arbennig gan yr anghydbwysedd rhwng cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfiawnder cymdeithasol ar y naill law a chyfiawnder troseddol ar y llall.
A'r gwir amdani yw, ni waeth pa mor dda y mae wedi'i gynllunio, na pha mor dda yw bwriad agenda cyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar bapur, mae ei throsi'n ganlyniadau gorau posib creu cymdeithas decach a mwy cyfartal yn mynd i gael ei danseilio os nad oes ganddi allu i fynd i'r afael â materion fel cyfraddau carcharu anghymesur ymhlith cymunedau lleiafrifol ethnig, yr heriau sy'n wynebu carcharorion benywaidd yng Nghymru yn enwedig, misogynedd a hiliaeth sefydliadol o fewn heddluoedd, a'r—
[Anghlywadwy.]
Rwy'n dod at fy nghwestiwn. A methiannau amlwg y system o ran atal ac adsefydlu.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi cytuno â mi fod cyflawni eich agenda bolisi eich hun ond yn mynd i gael ei wneud yn anos oni bai ein bod yn gweld rhywfaint o symud hirddisgwyliedig ar drosglwyddo pwerau dros blismona i Gymru?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod wedi datgan eich safbwynt mewn ymateb i fy natganiad, sy'n gyfraniad gwerthfawr.
Rydych chi'n cyfeirio at yr argymhelliad i uno heddluoedd. Roeddwn yn aelod o is-bwyllgor Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio'r Cynulliad, a wnaeth y gwaith craffu manwl i ystyried uno heddluoedd yng Nghymru fel yr argymhellid ar y pryd ddau ddegawd yn ôl, a arweiniodd at droi cefn ar uno heddluoedd gan Ysgrifennydd Cartref Llafur ledled Cymru a Lloegr. Nododd ein hadroddiad hefyd fod yn rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol.
Wel, ychydig sydd wedi newid yng nghyd-destun strwythur neu weithrediadau'r heddlu ers hynny. A phan ymwelais ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin y Deyrnas Unedig—cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd gogledd-orllewin Lloegr—roeddent yn dweud wrthyf fod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas wedi cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn ei adroddiad, a fethodd gyfeirio at y cydweithio hirsefydledig a dwfn gyda heddluoedd cyfagos ar draws y ffin droseddu a chyfiawnder anweledig dwyrain-gorllewin â Lloegr. Mae hyn hefyd ar goll yn adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Gan nodi bod y ffeithiau hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, onid oedd methiant Ysgrifennydd Cartref y DU i gytuno â datganoli plismona i Gymru yn amlwg yn gywir felly, ac oni ddylem fod yn fwy pryderus fod niferoedd yr heddlu wedi disgyn o'r nifer uchaf erioed ar ddiwedd mis Mawrth 2024?
Wel, disgynnodd niferoedd yr heddlu yn ystod 14 mlynedd y Llywodraeth Geidwadol, gyda'r 20,000 o doriadau. Rwyf eisiau tynnu eich sylw—. Diolch, Mark Isherwood, am eich cwestiwn. [Chwerthin.] Rwyf am dynnu eich sylw at fy natganiad ysgrifenedig, yn fwyaf arbennig i ailadrodd pwysigrwydd y ffaith bod gennym ddeddfau gwahanol, er nad ydym wedi cael datganoli llawn. Mae gennym ddeddfau gwahanol a gwahanol arferion gwaith rhwng Cymru a Lloegr. Ond mae cysylltiad clir. Clywsom gan y prif gwnstabl yr wythnos hon am droseddu trawsffiniol a mynd i'r afael ag ef, ond o ran yr adolygiad annibynnol hwn, rwy'n berffaith glir na ddylai un heddlu rhanbarthol sengl weithredu ar draws y ddwy ochr i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n teimlo fel pe bai gennym anghysondeb llwyr rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud yma â'r hyn sy'n cael ei ddweud yn San Steffan, a chyda phob parch, mae yna ddiffyg ymddiriedaeth gynyddol o'r hyn rydych chi'n ei ddweud—ac mae gennyf y parch mwyaf tuag atoch chi—ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder troseddol. Mae mwyafrif yr Aelodau yma yn y Senedd eisiau gweld datganoli plismona a chyfiawnder troseddol, ac eto mae'r ymateb anghwrtais, a dirmygus a bod yn onest, gan Shabana Mahmood ddoe yn dangos nad yw Llafur yn San Steffan yn bwriadu—dyna'r pwynt olaf a gawn—datganoli plismona a chyfiawnder troseddol.
Mae fy nghwestiwn yn syml: a wnewch chi ysgrifennu ar ran y Senedd hon, ac yn eich rôl chi, at yr Ysgrifennydd Cartref, yn nodi'r rhesymau a'r dystiolaeth pam y dylid datganoli plismona a chyfiawnder troseddol i Gymru, ac a allai'r Senedd weld copi o'r llythyr hwnnw a'r ymateb? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Ac rwyf eisoes wedi dweud fy mod i'n mynd i rannu ein datganiad ysgrifenedig, a fydd yn dwyn ynghyd yr holl bwyntiau a wneuthum, yr holl gamau yr ydym yn eu cymryd i symud ymlaen ac i ymateb i'r Papur Gwyn a diddymu comisiynwyr heddlu a throseddu.
Rwy'n credu bod y cwestiwn sydd wedi'i drafod y prynhawn yma wedi galluogi Aelodau i roi eu barn, sy'n ddefnyddiol iawn fel ymatebion a fy sylwadau i Lywodraeth y DU. Ond gobeithio y byddwch chi'n gweld fy mod wedi rhoi nifer o ymrwymiadau ac enghreifftiau i chi, mewn ymateb i'r cwestiynau hyn, o'r ffordd yr ydym yn ymgysylltu. Ac edrychwch ar eich comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd, a'r rôl y maent yn ei chwarae yn adeiladol iawn gyda mi yn fy nghefnogi yn y gwaith hwn, ac yn wir, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r undebau cyfiawnder. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar y cynnig hwn o blaid atebolrwydd a llywodraethu yma yng Nghymru dros blismona.
Rwy'n credu bob amser fod y gred fod sefydliadau mwy a mwy yn well yn un ryfedd. Mae nifer yn ei chredu er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Mewn plismona, meddyliwch am yr Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu'r Alban. Pan fyddwch chi'n meddwl am heddluoedd da, dyna'r rhai olaf a ddaw i'r meddwl.
Fel y bydd cefnogwyr ffuglen droseddol y 1940au a'r 1950au yn gwybod, y syniad o alw am gefnogaeth gan Scotland Yard ar gyfer troseddau mawr oedd y norm. Mae cael gwahanol heddluoedd ar gyfer gwahanol feysydd plismona, er enghraifft, y Swyddfa Ymchwilio Ffederal, patrolau priffyrdd a siryfion sirol yn UDA, yn arferol ledled y byd. Er y bydd uno heddluoedd Cymru yn un yn cael ei ystyried gan rai yma fel cam arall tuag at annibyniaeth, a fydd o fudd i'r bobl sy'n byw yng Nghymru?
Pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael, neu y bydd yn ei chael, ynglŷn â mwy o ddatganoli plismona i benaethiaid ardal i blismona'r bobl sy'n byw yn eu hardaloedd, ac atebolrwydd i bobl leol drwy eu cynghorwyr lleol?
Diolch yn fawr, Mike Hedges. Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau pwysig iawn y byddwn yn eu gwneud yn ein hymateb i'r adolygiad annibynnol. A'r pwyntiau allweddol y credaf eich bod wedi'u clywed eisoes yw ein bod bellach yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol, gyda'n cymheiriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ac yn edrych ar ein model atebolrwydd a llywodraethu ar gyfer plismona yng Nghymru.
Dim ond ychydig fisoedd byr sydd yna ers i 11 o aelodau eich meinciau cefn Llafur eich hun yma yn y Senedd deimlo rheidrwydd i ysgrifennu at Keir Starmer yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae Cymru'n haeddu ac mae angen iddi gael ei thrin fel rhan gyfartal o'r DU ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i weithredu i gyflawni'r cydraddoldeb hwn.'
O ystyried bod plismona wedi'i ddatganoli i'r Alban, i Ogledd Iwerddon, i Lundain, i Fanceinion hyd yn oed, ond yn dal i gael ei wrthod i Gymru, a ydych chi'n credu bod Llafur yn trin Cymru yn gyfartal?
Rwy'n credu fy mod wedi ateb yr holl gwestiynau'n llawn y prynhawn yma am fy ymrwymiad, cyn diwedd y Senedd hon, i wneud cynnydd ar y daith ddatganoli. Dyna beth sydd angen inni ei wneud: gwneud cynnydd ar y daith ddatganoli. Yn amlwg, roedd cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf ym maniffesto Llywodraeth y DU, felly dyna yw ein blaenoriaeth wedi bod. Ond gan fod hyn wedi codi nawr fel cyfle gyda diddymu comisiynwyr heddlu a throseddu, rwy'n credu fy mod wedi rhoi sicrwydd i chi mai dyna beth rydym eisiau ei wneud, cael model a all fynd â ni ar y camau datganoli tuag at gael cyfrifoldeb am blismona yng Nghymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r cyntaf y prynhawn yma gan Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Y flwyddyn yw 1936, mae'r Brenin Edward VIII wedi ildio'r goron, cwblhawyd argae Hoover o'r diwedd a dim ond 5c oedd peint yn ei gostio. Ond digwyddodd eiliad bwysig arall y flwyddyn hon hefyd: ffurfio Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Heddiw, wrth i CFfI Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed, mae'n cefnogi bron i 6,000 o aelodau ledled Cymru, mewn 12 sir a 138 o glybiau. Mae pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed yn rhoi mwy na 1.4 miliwn o oriau i'w clybiau, eu siroedd a'u cymunedau drwy ddysgu, datblygu, cystadlu a gwirfoddoli. Mae'n sefydliad gwirioneddol ryfeddol, yn cael ei arwain gan ei aelodau ar gyfer ei aelodau.
Dangosodd adroddiad effaith diweddar pa mor bwerus yw'r gefnogaeth honno. Mae 88 y cant o'r aelodau'n dweud eu bod wedi cynyddu eu sgiliau a'u cyflogadwyedd drwy roi cynnig ar rywbeth newydd, ac mae 82 y cant yn graddio'r gefnogaeth a gawsant i baratoi ar gyfer addysg a chyflogaeth yn 'eithriadol' neu 'gryf'.
Mae mwy na 70 y cant o'r aelodau'n siarad Cymraeg. Mae mudiad y clybiau ffermwyr ifanc wedi caniatáu i aelodau siarad a chystadlu yn eu mamiaith, sydd wedi gweld yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn tyfu ac yn ffynnu drwy’r genhedlaeth nesaf.
Fel cyn-aelod a chadeirydd CFfI Sir Benfro—rwy'n falch o wisgo fy nhei CFfI heddiw—rwyf wedi gweld y gwaith rhyfeddol y mae mudiad CFfI yn ei wneud yn uniongyrchol. Mae'n adeiladu hyder, yn datblygu sgiliau, yn cryfhau cymunedau, ac yn newid bywydau er gwell. Pe gallech chi botelu hud CFfI a'i werthu, fe fyddech chi'n berson cyfoethog iawn, cymaint yw ei effaith gadarnhaol ar bobl ifanc ledled Cymru. Felly, rhwydd hynt i'r 90 mlynedd nesaf o'r cyfraniad anhygoel y mae'r clybiau ffermwyr ifanc yn ei wneud i'n ffordd o fyw yng nghefn gwlad Cymru.
Pen-blwydd hapus, CFfI Cymru.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Dwi’n falch i nodi pen-blwydd 70 Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy. Mae hyn yn cofnodi lle arbennig yn hanes addysg. Sefydlwyd yr ysgol yn 1956 fel yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed yng Nghymru.
Sefydlwyd Ysgol Glan Clwyd ar adeg pan oedd llawer yn credu mai dim ond drwy gyfrwng y Saesneg y gellid llwyddo. Ond diolch i benderfyniad ei chefnogwyr cynnar, mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi cael eu haddysgu yn Gymraeg ers hynny, yn hyderus yn eu hiaith a'u hunaniaeth. Heddiw, mae'r ysgol yn gwasanaethu ei chymuned gyda dros 100 aelod o staff a chyfleusterau modern yn dilyn ailddatblygu sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ochr yn ochr â'r adrannau Cymraeg a cherddoriaeth gwych, mae'r ysgol yn cynnig cynllun trochi rhagorol yn yr iaith Gymraeg, sy'n galluogi disgyblion o gefndiroedd nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl a chymryd rhan lawn yng ngweithgareddau'r ysgol. Drwy gwrs rhagarweiniol ym mlwyddyn 6 ac addysgu arbenigol ym mlynyddoedd 7 ac 8, cefnogir disgyblion i astudio'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn blwyddyn 9.
Mae’r pen-blwydd yma yn ddathliad o hanes yr ysgol ond hefyd yn ddatganiad o hyder i ddyfodol addysg yn y Gymraeg. Dwi’n llongyfarch disgyblion, staff a chymuned yr ysgol ar y garreg filltir yma, ac yn dymuno pob llwyddiant am y degawdau i ddod. Dwi’n gobeithio y gall yr ysgol barhau i wasanaethu fel model ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.
Mae Diwrnod Gweithredu gydag Urddas, sy'n cael ei gynnal ar 1 Chwefror, yn ddigwyddiad sy'n ein hatgoffa o bwysigrwydd trin unigolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal gyda'r parch mwyaf. Mae'n ymwneud â hyrwyddo urddas a pharch at unigolion. Mae dydd Sul yn atgoffa'n bwerus o'r rôl hanfodol y gall nid yn unig gweithwyr gofal proffesiynol ond pob un ohonom ei chwarae yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin â gofal, tosturi a pharch. Y diffiniad o urddas yw'r cyflwr neu'r ansawdd o fod yn deilwng o anrhydedd a pharch. Rydym yn gwybod bod angen inni gymryd camau pendant i roi gwell urddas i'r rhai sy'n derbyn gofal ac i gymryd rhan mewn deialog i sicrhau bod pobl yn cael eu clywed ac i sicrhau bod polisïau a hyfforddiant ar waith. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i sicrhau bod y rhai sy'n derbyn gwasanaethau gofal yn cael eu trin gyda'r urddas y maent yn ei haeddu. Ond mae hefyd yn golygu bod angen i bob un ohonom ni sicrhau urddas pawb yr ydym yn eu hadnabod, yn cyfarfod â nhw ac yn gweithio gyda nhw ac ar eu rhan. Diolch yn fawr iawn.
Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Paul Davies.
Cynnig NNDM9123 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol James Evans (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 heddiw, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, cyfraith Helen. Galwaf ar Cefin Campbell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9115 Cefin Campbell, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi darpariaethau Cyfraith Helen, neu Ddeddf Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw troseddwyr wedi datgelu lleoliad gweddillion dioddefwr neu wedi nodi dioddefwyr oedd yn blant wrth wneud penderfyniadau parôl.
2. Yn cydnabod bod y Ddeddf wedi'i chyflwyno yn dilyn achos Helen McCourt, nad yw ei llofrudd erioed wedi datgelu lleoliad ei chorff, a bod peidio â datgelu hynny yn parhau i achosi trallod sylweddol a pharhaus i deuluoedd dioddefwyr.
3. Yn nodi galwadau am gyflwyno Deddf Helen Rhan 2: Atal Halogi, sy'n ceisio diwygio deddfau claddu a dedfrydu, gan gynnwys creu trosedd newydd o halogi corff.
4. Yn nodi ymhellach bod darpariaethau tebyg wedi'u cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon drwy Gyfraith Charlotte, gan gynnwys gwneud cuddio olion dioddefwr yn ffactor gwaethygol statudol wrth ddedfrydu; darparu cymhellion ar gyfer cydweithredu wrth ddod o hyd i weddillion, a gosod dyletswydd ar awdurdodau parôl i ystyried achosion o beidio â datgelu.
5. Yn cydnabod bod gweithredu'r mesurau hyn yng Ngogledd Iwerddon yn dangos bod diwygiadau o'r fath yn gyraeddadwy mewn mannau eraill yn y DU.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ystyried diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, er mwyn cryfhau cyfiawnder a darparu mwy o urddas a diweddglo i ddioddefwyr a'u teuluoedd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Testun y ddadl Aelodau heddiw yw cyfraith Helen rhan 2, sy'n ymwneud â rhoi diwedd ar halogi cyrff drwy ei wneud yn drosedd. Y rheswm pam rwy'n cyflwyno'r ddadl hon yw er mwyn mynd i'r afael â bwlch clir a pharhaus yn ein system cyfiawnder troseddol, bwlch sy'n achosi niwed dwfn a pharhaol i deuluoedd yr effeithir arnynt gan y troseddau mwyaf difrifol.
Mae cyfraith Helen, Deddf Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, yn ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw llofrudd a gafwyd yn euog wedi datgelu lleoliad corff eu dioddefwr, neu a yw troseddwr rhyw wedi nodi dioddefwyr eu troseddau, wrth benderfynu ar ryddhau'n gynnar. Fe'i cyflwynwyd i gydnabod gwirionedd syml ond pwerus: nad yw peidio â datgelu gwybodaeth am ddioddefwr yn weithred niwtral, ond yn hytrach yn ffurf barhaus ar niwed.
Fodd bynnag, er bod cyfraith Helen yn gam pwysig ymlaen, nid yw'n mynd i'r afael â'r hyn sy'n digwydd pan fydd troseddwr yn mynd ati i guddio, dinistrio neu halogi corff dioddefwr yn fwriadol, gweithredoedd sy'n achosi trawma penodol a pharhaol i deuluoedd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud ag anghyfiawnder heb ei ddatrys o'r fath. Rwyf am gydnabod y teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid y mae eu bywydau wedi cael eu siapio'n barhaol gan y methiannau hyn yn y gyfraith.
Mae cyfraith Helen yn bodoli oherwydd penderfyniad mam Helen McCourt, Marie McCourt, a frwydrodd yn ddiflino i sicrhau bod peidio â datgelu gwybodaeth am ddioddefwr yn cael ei gydnabod yn y gyfraith fel niwed parhaus, nid un weithred wedi'i chyfyngu i'r gorffennol. Mae troi colled bersonol yn eiriolaeth barhaus yn galw am wydnwch eithriadol, yn enwedig wrth lywio drwy system gyfiawnder sy'n gallu teimlo'n araf, yn weithdrefnol, ac ar adegau, yn ddideimlad yn wyneb cost ddynol troseddu.
Yma, Ddirprwy Lywydd, hoffwn roi cydnabyddiaeth yn fyr i Lesley Rees, chwaer y diweddar Michael O'Leary, a gododd y mater hwn gyda mi yn gyntaf, a hefyd ei weddw, Sian. Mae'r ddwy ohonynt yn eistedd yn yr oriel y prynhawn yma.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i chi, Lesley a Sian, am ddod y prynhawn yma i gefnogi'r ddadl? Dwi'n gwybod fod hyn yn anodd iawn i chi, ond dwi am ddiolch i chi am eich dyfalbarhad hefyd gyda'r ymgyrch rŷch chi wedi bod yn ei redeg er cof am eich gŵr ac am eich brawd. Mae Lesley wedi rhoi hwn i fi, sef calon fach, sydd wedi cael ei gwneud o ddefnydd o lounger yr oedd Mike yn hoff iawn o orwedd arno fe.
Ddoe hefyd, siaradais â Coral, mam y diweddar April Jones, sydd, ynghyd â Lesley a Sian, wedi caniatáu i mi ddefnyddio eu datganiadau yn y ddadl hon heddiw, ynghyd â theuluoedd eraill ledled Cymru a'r DU yn ehangach sy'n parhau i eirioli dros newid. Wrth ystyried y mater hwn heddiw, mae'n hanfodol nad yw profiadau'r teuluoedd hyn yn eistedd ar gyrion y drafodaeth hon, ond yn hytrach, yn rhan weithredol o siapio'r ffordd y mae'r gyfraith yn datblygu.
Enwyd cyfraith Helen ar ôl Helen McCourt, merch ifanc 22 oed o Lannau Mersi a gafodd ei herwgydio, ei threisio a'i llofruddio ym 1988 wrth iddi gerdded adref o'r gwaith. Er ei gael yn euog o'i llofruddiaeth, nid yw llofrudd Helen erioed wedi datgelu ble y cafodd ei chorff ei guddio. Dros dri degawd yn ddiweddarach, nid yw gweddillion Helen erioed wedi'u hadfer. I fam Helen, Marie McCourt, mae hyn wedi golygu oes o ansicrwydd a phoen. Dim angladd, dim bedd a dim lle i allu galaru. Mae hi wedi disgrifio byw mewn cyflwr parhaol o limbo, yn methu claddu ei merch na chael yr ymdeimlad mwyaf sylfaenol hyd yn oed o ddiweddglo. Y niwed parhaus, heb ei gyfyngu i foment y llofruddiaeth, ond wedi'i ailadrodd bob dydd na chaiff y gwir ei ddatgelu, a ysgogodd Marie McCourt i ymgyrchu dros newid.
Cyflwynwyd cyfraith Helen i sicrhau bod y distawrwydd bwriadol hwn yn cael ei drin fel ffactor difrifol a pherthnasol mewn penderfyniadau parôl. Er nad yw'n gosod gwaharddiad awtomatig ar ryddhau, mae'n gwneud yn glir fod rhaid i beidio â datgelu bwyso'n drwm yn erbyn troseddwr. O ganlyniad i'r newid hwn, mae sawl cais parôl eisoes wedi'i wrthod, sy'n adlewyrchu cydnabyddiaeth gynyddol nad pen draw cyfiawnder yw euogfarn yn unig.
Fodd bynnag, mae achos Helen hefyd yn datgelu anghyfiawnder pellach. Er bod y gyfraith bellach yn cydnabod y niwed a achosir drwy beidio â datgelu gwybodaeth, nid yw'n cydnabod dinistrio, cuddio neu halogi corff yn fwriadol fel trosedd ar wahân, er bod yr effaith ar deuluoedd yn ddwfn ac yn para am oes. Mae rhan 2 o gyfraith Helen yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch hwn, gan barhau ei gwaddol drwy sicrhau bod yr hyn sy'n digwydd i gorff dioddefwr ar ôl marwolaeth yn cael ei gydnabod yn y gyfraith fel mater o urddas, atebolrwydd a dyngarwch.
Yn syfrdanol, mae'r DU yn parhau i fod ymhlith yr ychydig awdurdodaethau yn y byd heb unrhyw drosedd benodol mewn perthynas â halogi corff. Caiff erlynyddion eu gorfodi i ddibynnu ar droseddau cyfraith gyffredin sydd wedi dyddio, megis atal claddu neu rwystro crwner—deddfau sy'n cael eu cymhwyso'n anghyson ac sy'n anaddas i achosion llofruddiaeth modern.
Mae datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig wedi newid ymddygiad troseddol. Wrth i euogfarnau heb gorff ddod yn fwy cyffredin, mae troseddwyr yn troi fwyfwy at weithredoedd eithafol a bwriadus, megis llosgi, toddi neu ddiaelodi gweddillion, yn y gred y gallant osgoi cyfiawnder. Ond anaml y cydnabyddir y gweithredoedd hyn mewn cyhuddiadau neu ddedfrydau. Oherwydd nad yw'r gyfraith yn troseddoli halogi'n benodol, ar hyn o bryd nid oes ataliad clir i atal y gweithredoedd hyn. Byddai cyfraith Helen, rhan 2, yn cau'r bwlch hwn.
Os caf ddod at ddatganiadau dioddefwyr gan fam April Jones a Lesley, chwaer Mike O'Leary. Daw hwn gan Coral Jones, mam April Jones o Fachynlleth. Bydd pawb ohonom yn cofio bod April yn bum mlwydd oed pan gafodd ei herwgydio a'i llofruddio yn 2012. Mae ei llofrudd yn bwrw dedfryd oes, ond i Coral, ni roddodd y ddedfryd ddiwedd ar ei dioddefaint. Fel y dywedodd, 'Mae fy merch fach yn dal ar goll yng ngolwg y gyfraith'. Cynhaliwyd yr angladd, ond roedd yr arch bron yn wag. Y tu mewn, nid oedd ond ychydig ddarnau bach o asgwrn a rhai eitemau personol a osodwyd yno gan Coral ei hun. Nid oedd corff i'w roi i orffwys, dim ffarwel go iawn.
Mae Coral wedi siarad am osgoi bedd ei merch, am ei bod hi'n gwybod nad yw April yno mewn gwirionedd. Yn hytrach, mae hi wedi creu gardd gartref, man lle gall deimlo'n agos at ei phlentyn, oherwydd ni all y gyfraith roi'r heddwch hwnnw iddi. Mae hi'n byw bob dydd gyda'r wybodaeth am yr hyn a wnaed i gorff ei merch ar ôl marwolaeth, gwybodaeth sy'n parhau i beri trallod iddi. Mae'n siapio ei galar ac yn niweidio ei hiechyd.
Nid yw'r troseddau y cafwyd llofrudd ei merch yn euog ohonynt yn adlewyrchu gwir arswyd yr hyn a wnaeth. Mynegodd Coral wrthyf neithiwr ei bod yn cefnogi creu trosedd newydd o halogi corff, oherwydd er na fydd llofrudd ei merch byth yn cael ei ryddhau, fe fydd eraill. Ni ddylid gorfodi teuluoedd i fyw gyda'r creulondeb ychwanegol hwn, heb ei gydnabod a heb ei enwi yn y gyfraith. Mae geiriau Coral yn syml ac yn ddinistriol: 'Rwy'n dal i fod eisiau rhoi April i orffwys yn iawn'.
A nawr at eiriau Lesley sydd, fel y dywedais, yn eistedd yn yr oriel. Daeth â'r mater hwn i fy swyddfa am y tro cyntaf fisoedd lawer yn ôl ac mae wedi bod yn eiriolwr diflino dros ei theulu ac eraill. Rwy'n ddiolchgar iddi am ganiatáu i mi rannu ei stori heddiw. Cafodd Mike O'Leary, yr oeddwn yn ei adnabod fel cymeriad caredig a lliwgar, llawn bywyd, ei lofruddio mewn ymosodiad bwriadol, chwe blynedd yn ôl i ddoe fel mae'n digwydd. Fe wnaeth ei lofrudd ei ddenu i leoliad anghysbell, achosi ei farwolaeth a mynd ati i guddio'r corff. Fel y dywed Lesley, 'Y cyfan sydd gennym yn y bedd yw'r 6 cm o goluddyn Mike a ganfuwyd yn eiddo'r llofrudd. Ni chafwyd claddedigaeth briodol, dim ffordd o ddweud ffarwel a dim diweddglo.'
Rwyf wedi cyfarfod â Lesley ar sawl achlysur ac mae hi wedi siarad ynglŷn â'r ffordd y mae hyn yn parhau i effeithio ar y teulu bob dydd. Maent yn byw gyda'r trawma difrifol, y gorbryder a'r galar. Amharir ar gwsg, mae'r atgof am yr hyn a ddigwyddodd yn gysgod dros fywyd bob dydd, ac mae'r baich emosiynol yn ddi-ildio. Mae'r effaith ar iechyd meddwl yn ddwfn ac yn barhaus. Ond gan nad yw'r gyfraith yn cydnabod dinistrio a halogi corff yn fwriadol, mae'n gadael y dioddefaint y mae'n ei achosi yn anweledig i'r system. Ac mae Lesley hefyd yn cyfleu cefnogaeth i gyfraith Helen rhan 2.
Ceir tystiolaeth glir fod bwlch yn y gyfraith, felly rwy'n annog pawb sy'n mynd i gyfrannu at y ddadl hon heddiw i gofio hynny—fod angen inni gau'r bwlch yn y gyfraith i atal dioddefaint cymaint o deuluoedd. Am y tro, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Diolch am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw, Cefin. Mae gennym swydd ryfedd, onid oes, fel Aelodau'r Senedd, lle rydym yn aml yn eirioli ar ran ein hetholwyr, ac weithiau, credaf ein bod yn ei chael hi'n anodd cyfleu'r emosiwn a'r anawsterau mewn rhai o'r materion a godwn. Ond credaf fod yr araith honno'n un o uchafbwyntiau gwirioneddol tymor y Senedd hon, a chredaf y bydd unrhyw un a oedd yn y Siambr yn ei chael hi'n anodd anghofio'r araith honno, felly diolch am ddod â hi i'r Senedd heddiw, a diolch am ddod â'r cynnig hwn i'r Senedd heddiw. Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth a chefnogaeth fy mhlaid i gyfraith Helen a'ch galwadau i'w datblygu ymhellach.
Yn ei hanfod, mae'r mater hwn yn ymwneud nid yn unig â gweithdrefnau cyfiawnder troseddol, ond fel y dywedodd Cefin, â dyngarwch, urddas a'r boen barhaus a brofir gan deuluoedd dioddefwyr. Cyflwynwyd cyfraith Helen am nad oedd y system ar y pryd yn cydnabod anghyfiawnder dwfn: y gallai troseddwyr wrthod datgelu gwybodaeth hanfodol am leoliad gweddillion dioddefwr, a dal i gael eu hystyried ar gyfer parôl, fel pe na bai unrhyw oblygiadau i'r distawrwydd hwnnw. I deuluoedd fel teulu Helen McCourt, nid yw gwrthod datgelu lleoliad corff anwylyd yn un weithred o greulondeb sydd wedi'i chyfyngu i'r gorffennol, mae'n niwed parhaus. Mae'n amddifadu teuluoedd o'r angen dynol mwyaf sylfaenol: y gallu i alaru'n iawn, i roi eu hanwylyd i orffwys ac i ddod o hyd i ryw fesur o heddwch.
Nawr, roedd Deddf Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn gam pwysig ymlaen. Drwy ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried peidio â datgelu, anfonodd neges glir fod cydweithredu yn bwysig, ac nad pen draw cyfiawnder yw euogfarn yn unig. Fodd bynnag, fel y mae ymgyrchwyr a theuluoedd wedi'i ddweud wrthym yn gyson, nid yw hynny o reidrwydd yn mynd yn ddigon pell, a dyna pam fod galwadau am 'Ddeddf Helen Rhan 2: Atal Halogi' yn haeddu ystyriaeth ddifrifol. Mae diffyg trosedd benodol o halogi corff a'r diffyg canlyniadau dedfrydu clir am guddio gweddillion yn fylchau yn ein fframwaith cyfiawnder, ac mae'r bylchau hynny'n gadael teuluoedd yn teimlo nad yw'r gyfraith yn llwyr gydnabod difrifoldeb yr hyn a wnaed i'w hanwyliaid.
Nid oes ond angen inni edrych ar Ogledd Iwerddon i weld bod diwygio’n bosib. Drwy gyfraith Charlotte, mae cuddio gweddillion yn cael ei drin fel ffactor gwaethygol statudol. Mae’n ofynnol i awdurdodau parôl ystyried peidio â datgelu, a chrëir cymhellion i annog cydweithrediad. Mae’r mesurau hyn yn dangos y gall y gyfraith esblygu mewn ffordd sy’n ymarferol ac yn dosturiol. Ac er bod llawer o’r pwerau hyn ar lefel y DU, nid yw hynny’n ein rhyddhau ni fel Senedd yma yng Nghymru o'n cyfrifoldeb i Gymru i fod yn llais clir wrth eirioli dros ddiwygiadau a ddylai adlewyrchu ein gwerthoedd, sef urddas, tegwch a pharch at ddioddefwyr a’u teuluoedd.
Felly, drwy gefnogi'r cynnig hwn heddiw, rydym yn anfon neges na ddylid gwobrwyo tawelwch, na ddylid anwybyddu creulondeb, a bod teuluoedd dioddefwyr yn haeddu gwell gan y system gyfiawnder. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru a'r Senedd i gydweithio â Llywodraeth y DU i archwilio diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol ac i sicrhau bod yr ymdrech am gyfiawnder yng Nghymru yn un sydd â dyngarwch a thrugaredd yn sail iddi. Diolch yn fawr.
Diolch, Cefin, am gyflwyno'r ddadl Aelod hon ar gyfraith Helen, ac rwy'n falch o'i chefnogi. Rwy'n cytuno'n llwyr â Tom—Cefin, roedd eich araith agoriadol yn hynod bwerus. Diolch i Coral a Lesley am ganiatáu ichi ddarllen eu datganiadau, sy'n pwysleisio'r galar a'r dioddefaint y byddant yn ei brofi am byth.
Mae'n rhaid imi gyfaddef, pan ddaeth Cefin ataf gyntaf i drafod y ddadl hon, ychydig iawn a wyddwn am y ddeddfwriaeth hon, a pho fwyaf y darllenais ac y dysgais amdani, y mwyaf y credaf yn angerddol ei bod yn angenrheidiol i sicrhau bod cyfiawnder yn y maes hwn yn cael ei gryfhau. Rwy'n talu teyrnged i Marie McCourt a chynifer o rai eraill sydd wedi ymgyrchu i sicrhau bod teuluoedd yn gallu galaru a chladdu eu hanwyliaid. O alar annisgrifiadwy, maent wedi sicrhau bod newid ystyrlon wedi'i gyflwyno. Mae'n iawn fod peidio â datgelu manylion ynghylch corff dioddefwr yn ffactor gorfodol pan asesir risg troseddwr i'r cyhoedd.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar bwynt 4 o'r ddadl ar gyfraith Charlotte, a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon. Fe'i cyflwynwyd i sicrhau bod llofruddion a euogfarnwyd a oedd yn gwrthod datgelu lleoliad gweddillion eu dioddefwyr yn aros yn y carchar yn hirach, ac y byddai'n cael effaith ar ystyriaeth o unrhyw gais am barôl. Er bod cyfraith trosedd yn fater a gedwir yn ôl, fel y dywedodd Tom, mae cyfraith Charlotte yn dangos yr hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru er mwyn hyrwyddo urddas a chyfiawnder i ddioddefwyr a'u teuluoedd yn ein hetholaethau ein hunain.
Mae teulu Charlotte Murray wedi cefnogi'r cynigion yng Ngogledd Iwerddon am eu bod yn credu eu bod yn symud y ffocws tuag at hawliau teulu dioddefwr. Mae atal gwybodaeth am leoliad corff dioddefwr gan y troseddwr yn ffiaidd ac yn greulon dros ben. Dylid dwyn llofrudd i gyfrif drwy ddedfrydau carchar hirach, a dylai gael effaith ar ystyriaethau parôl. Mae llawer yn credu na ddylid rhyddhau llofrudd o'r carchar oni bai eu bod yn datgelu lleoliad corff eu dioddefwr. Maent yn atal claddedigaeth—rhywle lle gall aelodau'r teulu fynd i alaru. Nid yw hwn yn fater gwleidyddol, ac rwy'n siŵr fod y Siambr hon yn unedig yn eu hawydd i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i weld pa newidiadau deddfwriaethol pellach y gellir eu cyflwyno, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol, yn ei haraith, yn ailddatgan ei chefnogaeth i wneud hynny.
Nod 'Deddf Helen Rhan 2: Atal Halogi' yw cyflwyno troseddau, ac rwy'n credu bod hyn yn adlewyrchu'r boen a'r galar parhaus y mae'n rhaid i deulu ei ddioddef am weddill eu hoes. Felly, diolch am y cyfle i gyfrannu heddiw at y mater pwysig hwn, un nad yw llawer ohonom, diolch byth, erioed wedi gorfod ei ystyried, ond rydym yn sefyll gyda'r teuluoedd, fel teulu McCourt, teulu Murray, a theulu Michael O'Leary ac April Jones yma yng Nghymru, a llawer o rai eraill sy'n bwrw eu dedfryd oes eu hunain, gwaetha'r modd, wrth alw am gyflwyno'r ddwy drosedd newydd hyn. Diolch.
Dwi'n ddiolchgar iawn i Cefin am godi'r mater yma, a hefyd i Lesley ac i Sian. Mae'n neis gweld bod yna gefnogaeth drawsbleidiol ynglŷn â'r mater yma.
Mae 'urddas' yn air yr ydym yn ei ddefnyddio'n aml mewn bywyd cyhoeddus. Rydym yn sôn am urddas cartref diogel, gwaith teilwng, gofal iechyd tosturiol. Ond credaf fod rhywbeth hyd yn oed yn fwy sylfaenol na'r rhain oll: yr urddas sy'n ddyledus i unigolyn ar ôl iddynt farw, a'r urddas y mae pob teulu'n ei haeddu wrth roi eu hanwyliaid i orffwys. Mae'n rhaid i ddioddefwyr a theuluoedd fod wrth wraidd cyfiawnder bob amser, ond mae croesosodiad creulon yn ein system bresennol. Gall rhywun sy'n llofruddio unigolyn barhau i ddyfnhau'r niwed hwnnw drwy ddinistrio neu guddio corff, gan amddifadu teulu o'r cyfle i gladdu eu hanwylyd. Pan gaiff gweddillion eu cuddio neu eu dinistrio, caiff teuluoedd eu hamddifadu o'r angen dynol mwyaf sylfaenol: lle i alaru, i gofio ac i ddechrau'r daith hynod boenus tuag at ryw fath o heddwch. Nid un weithred o niwed mohoni; fel y clywsom, mae'n un barhaus, ac yn anffodus, fe wyddom hyn yn rhy dda yma yng Nghymru.
Roeddwn yn byw nid nepell o Fachynlleth pan gafodd April Jones, merch bum mlwydd oed, ei herwgydio a'i llofruddio. Rwy'n cofio'r rhubanau pinc a'r balŵns pinc ym Mryn y Gog ym Machynlleth, a oedd yn hynod ingol i'w gweld ac a barodd ofid i'r genedl gyfan. Fe ddioddefodd ei theulu golled annirnadwy, ond bu'n rhaid iddynt ddioddef y creulondeb ychwanegol o wybod bod ei gweddillion wedi'u cuddio a'u halogi. Nid gweithred oddefol yw peidio â datgelu lleoliad corff, mae'n weithred fwriadol o reolaeth. Mae'n diraddio'r ymadawedig ac yn achosi dioddefaint parhaus i'r rhai sydd ar ôl. Mae Comisiwn y Gyfraith yn y DU wedi datgan yn blaen nad yw cyfraith trosedd, fel y mae, yn delio'n ddigonol â'r weithred o halogi corff. Yn rhyngwladol, mae llawer o wledydd, fel y gwyddom, eisoes yn trin halogi corff fel trosedd ddifrifol ynddi ei hun. Rydym wedi clywed am Ogledd Iwerddon. Mae cod troseddol yr Almaen yn gwneud halogi cyrff yn drosedd benodol. Ac yn yr Unol Daleithiau, mae llawer o awdurdodaethau'n trin halogi beddau neu gyrff fel trosedd ddifrifol, a all arwain at ddedfrydau carchar sylweddol. Ni ddylem deimlo'n gyfforddus ein bod ni ar ei hôl hi o gymharu ag awdurdodaethau a gydnabu ddegawdau yn ôl—a ninnau ond yn ei gydnabod nawr—nid yn unig fod dinistrio corff yn gyfystyr ag ymyrryd â thystiolaeth, ond ei bod yn weithred o drais difrifol yn erbyn urddas ddynol sy'n haeddu ei chosb droseddol ei hun.
I gloi, rwy'n dychwelyd at y gair 'urddas'. Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu i gyflwyno sylwadau ffurfiol i Gomisiwn y Gyfraith, i ddysgu o brofiad Gogledd Iwerddon ac i sicrhau bod lleisiau Cymry’n cael eu clywed yn glir yn y galw am ddiwygio. Mae'n ddyletswydd arnom i Coral a Lesley, mae'n ddyletswydd arnom i deuluoedd sydd wedi dangos dewrder rhyfeddol yn wyneb poen annirnadwy. Mae'n ddyletswydd arnom i'r genedl i sicrhau bod Cymru'n sefyll yn gadarn o blaid cyfiawnder, parch a'r urddas sylfaenol y mae pob unigolyn, byw neu farw, yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, Cefin Campbell. Fel pob un ohonom yma, hoffwn dalu teyrnged i Marie McCourt am ei phenderfyniad wrth ymgyrchu dros yr hawl i gyfiawnder i bob teulu sydd angen cyfiawnder yn enw eu hanwyliaid. Fel y soniwyd, aethpwyd ar ei drywydd yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn marwolaethau Charlotte Murray a Lisa Dorrian, a gafodd eu llofruddio ac nid yw eu cyrff wedi'u darganfod eto. Yn dilyn llofruddiaeth Helen ym 1988, aeth Marie ati i newid y gyfraith i sicrhau, pan fydd carcharor wedi'i gael yn euog, fel y soniwyd eisoes heddiw, o 'lofruddiaeth heb gorff'—. Am derm; mae'r ffaith bod yn rhaid i chi hyd yn oed ei ddefnyddio yn erchyll. Cyn y gyfraith honno, gallent ddod gerbron bwrdd parôl, ac nid oedd datgelu'r wybodaeth yn rhywbeth a oedd wedi'i ystyried ymlaen llaw—. Felly, mae'r ffaith bod hynny bellach yn drosedd ynddi'i hun yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sydd ar ôl.
Gwyddom fod llofruddiaethau heb gorff ar gynnydd. Cafwyd 54 o euogfarnau llofruddiaeth yn 2020, ond mae 73 wedi bod bellach ers dechrau cadw cofnodion yn 2007-08. Dyna 73 o deuluoedd a ffrindiau i'r unigolion hynny sydd wedi'u gadael ar ôl. Maent wedi eu hamddifadu o unrhyw gyfle i ddweud ffarwel, ac roedd y tystiolaethau hynny heddiw yn amlygu hynny. Ac ni allant ddechrau cael diweddglo er mwyn dechrau cael rhywfaint o wellhad. Mae'r hawl i deuluoedd ac erlynyddion gael hyn wedi'i gydnabod wedi'i chyflwyno gan gyfraith Helen. Ond mae'n rhaid inni roi'r hawl i erlynyddion a'r teuluoedd ystyried arwyddocâd halogiad unigolyn. Ac mae Dr Imogen Jones, darlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Leeds, wedi dweud, ac mae'n llygad ei lle, fod llawer iawn o bobl yn rhannu'r teimlad fod ymddwyn â diffyg parch difrifol tuag at gyrff marw yn gamwedd difrifol, a hefyd nad yw cyfraith trosedd Cymru a Lloegr yn gallu delio â'r weithred o halogi corff ar hyn o bryd.
Felly, dyna'r alwad, a dyna'n union yw'r hyn y byddaf yn ei gefnogi. Gwyddom y bu achosion proffil uchel lle cafodd cyrff eu halogi er mwyn cuddio neu ddinistrio gweddillion ac osgoi unrhyw fath o erlyniad neu gyfaddefiad o euogrwydd. Ac mae dau ffactor ar waith yno. Mae rhan 2 o gyfraith Helen yn delio'n benodol â hyn. Mae perygl gwirioneddol, wrth i ddulliau canfod troseddau ddatblygu, y bydd nifer yr achosion o halogi dioddefwyr yn cynyddu a dioddefaint teuluoedd yn cael ei ymestyn.
Gwyddom, ar hyn o bryd, fod dwy fenyw yr wythnos yn colli eu bywydau o ganlyniad i drais yn erbyn menywod. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi ei alw'n argyfwng cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd rhoi'r ddau ffactor hyn at ei gilydd nawr a deddfu a chydnabod bod halogi corff yn galw am newid yn y gyfraith. Mae llofruddion yn defnyddio hyn fel eu gweithred olaf o reolaeth. Nid yn unig eu bod yn defnyddio rheolaeth dros yr unigolyn y maent wedi'u llofruddio ac y maent wedi halogi eu corff, dyma'r weithred eithaf o reolaeth dros y teuluoedd y maent yn eu gadael ar ôl. Drwy gefnogi'r gyfraith hon, gallwch o leiaf roi rhyw elfen o reolaeth i'r rhai sydd wedi eu gadael ar ôl i'w harfer dros droseddwyr sydd wedi eu trin nhw a'u hanwyliaid mor wael.
Mae Cefin Campbell, ar ran cynifer o deuluoedd, wedi dadlau'r achos yn bwerus a chyda chryn ofal a sensitifrwydd. Hoffwn ychwanegu ychydig o bwyntiau ynglŷn â pham fod rhan 2 o gyfraith Helen yn bwysig yn foesol ac yn ymarferol. Rwyf innau hefyd yn dechrau'n agos at adref, yn sir Gaerfyrddin. Mae pob un ohonom yn cofio achos Michael O'Leary o Nantgaredig, y mae Cefin ac eraill eisoes wedi cyfeirio ato. Rwy'n sôn am Michael eto yma gan fod ei achos yn amlygu gwirionedd y mae teuluoedd yn byw gydag ef bob dydd: nad yw'r niwed yn dod i ben gyda marwolaeth dioddefwr diniwed; fod cuddio neu ddinistrio corff yn fwriadol yn weithred bellach o drais yn erbyn urddas y dioddefwr ac yn erbyn yr anwyliaid a adawyd ar ôl.
Ac mae'n calonnau ni i gyd yn dal i waedu o gofio am Michael, a hefyd mae ein cydymdeimlad a chariad tuag at Sian a Lesley yn ddwys ac yn ddiddiwedd.
Felly, pam fod angen y gyfraith hon? Yn gyntaf, mae hwn yn gamwedd penodol ac ofnadwy, a dylai'r gyfraith ei enwi'n glir. Llofruddiaeth yw'r drosedd eithaf, ond mewn llawer o achosion, mae'r hyn sy'n dilyn yn benderfyniad ar wahân, yn ail gam, wedi'i gynllunio'n fwriadol, gyda'r nod o rwystro cyfiawnder ac i amddifadu teulu o'r weithred ddynol fwyaf sylfaenol—claddu eu hanwylyd. Pan na all cyfraith ddisgrifio'r camwedd hwnnw'n iawn, nid yw'n cydnabod rhan o'r hyn y mae'r teulu wedi'i ddioddef.
Yn ail, mae'r safbwynt cyfreithiol presennol yn anwastad yn ymarferol. Ar bapur, mae yna droseddau a allai fod yn ar gael—rhwystro crwner, atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus, gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a llond llaw o ddarpariaethau cul. Ond mewn gwirionedd, mae'n edrych fel clytwaith, gwahanol lwybrau'n cael eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd ac weithiau heb eu defnyddio o gwbl. Caiff teuluoedd eu gadael i deimlo bod y system wedi siarad am y farwolaeth, ond heb gydnabod yn llawn y niwed ychwanegol a achosir wedyn. Byddai trosedd glir a modern yn sicrhau cysondeb, a byddai'n caniatáu i lysoedd gydnabod y creulondeb ychwanegol yn glir.
Yn drydydd, mae a wnelo hyn ag ataliaeth, newid y cymhellion. Wrth i wyddoniaeth fforensig wella, mae rhai troseddwyr yn dod yn fwy ymwybodol yn fforensig ac yn cymryd camau pellach i rwystro ymchwiliad. Anaml y mae cam-drin corff ar ôl marwolaeth yn digwydd yn ddamweiniol; mae'n gam pwrpasol a gymerir i leihau'r risg o gael eu dal a'u canfod yn euog. Dylai'r gyfraith wrthdroi'r rhesymeg honno drwy ei gwneud yn ddiamwys fod y gweithredoedd hyn yn cynyddu euogrwydd ac yn dwyn canlyniadau ychwanegol ystyrlon yn eu sgil. Mae a wnelo hefyd ag uniondeb tystiolaeth. Gall corff y dioddefwr fod yn ffynhonnell o wirionedd, ac mae ymdrechion i'w ddinistrio yn ymdrechion i dawelu'r gwirionedd hwnnw. Ond wrth wraidd hyn y mae urddas a'r hyn sydd arnom i'n gilydd fel bodau dynol. Ar draws diwylliannau a chrefyddau, mae'r reddf yr un peth. Dylid trin y meirw â pharch, a dylai'r byw allu galaru gyda rhyw fesur o heddwch. Pan gaiff corff ei guddio neu ei ddinistrio, caiff teuluoedd eu hamddifadu o'r defodau sy'n eu helpu i oroesi colled. Gweld anwylyd, ffarwelio, eu rhoi i orffwys: nid yw'r absenoldeb hwnnw'n pylu gydag amser; gall ddod yn glwyf agored, gan fod y weithred olaf o ofal a ffarwelio wedi'i dwyn oddi arnynt.
Dylem fod yn onest, fel y dywedodd Joyce Watson, am ddynameg y pŵer yma, gan y gall amddifadu anwyliaid o gorff fod yn ffordd i droseddwr gadw rheolaeth, weithiau am ddegawdau, drwy benderfynu a yw teulu byth yn mynd i gael diweddglo a gallu rhoi'r gorau i ddychmygu'r gwaethaf. Felly, mae cefnogi cyfraith Helen rhan 2 yn golygu sicrhau bod y gyfraith yn cyd-fynd â'r realiti foesol y mae teuluoedd wedi byw gyda hi ers gormod o amser, fod yr hyn sy'n digwydd i gorff ar ôl marwolaeth yn bwysig, ei fod yn achosi niwed ychwanegol dwys, ac y dylid ei gydnabod a'i gosbi'n gyson. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei llais yn glir ac yn barhaus gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth sy'n cau'r bwlch hwn. Os gallwn gytuno ar unrhyw beth yn y Siambr hon, dylem allu cytuno ar hyn: mewn cymdeithas wâr, mae'r meirw a'r ymadawedig yn dal i fod yn bwysig, ac mae teuluoedd yn haeddu gwell na chwestiynau heb eu hateb.
A galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i chi, Aelodau'r Senedd, am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw, a gyflwynwyd gan Cefin Campbell. Mae Cefin wedi codi ymwybyddiaeth o'r mater difrifol hwn ac wedi cefnogi ei etholwyr sy'n ymroddedig i sicrhau newid, a hoffwn dalu teyrnged yn ddiffuant i bawb a fu'n rhan o'r broses o gyflwyno'r pwnc anodd hwn i'w ystyried heddiw, gan fy mod yn deall yn iawn pa mor anodd yw gwyntyllu'r pwnc hwn yn gyhoeddus.
A Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganmol yn arbennig y teuluoedd am eu penderfyniad yn y mater torcalonnus hwn. Cefais y fraint wirioneddol o gyfarfod â Mrs Lesley Rees fis Hydref diwethaf, pan gyflwynodd Cefin hi i mi. Esboniodd Mrs Rees yr effaith ddinistriol a gafodd llofruddiaeth ei brawd, nad yw ei gorff erioed wedi'i ddarganfod. Mae hyn, wrth gwrs, wedi creu trawma cyson a pharhaol i deulu cyfan Michael. Fel y clywsom, teithiodd Mrs Rees i Lundain i gyfarfod â'r Gweinidog dioddefwyr, Alex Davies-Jones AS, ac egluro'r angen i adolygu'r cyfreithiau sy'n ymwneud â llofruddiaeth. Fel y dywedodd Cefin, ysgogwyd cyfraith Helen rhan 1 gan achos Helen McCourt, na ddatgelodd ei llofrudd erioed ble y cuddiodd ei chorff. Mae cyfraith Helen rhan 1 eisoes ar waith o dan ddarpariaethau Deddf Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020. Mae'r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried methiant carcharorion i ddatgelu gwybodaeth am eu dioddefwr wrth wneud penderfyniadau ynghylch diogelu'r cyhoedd. Ei nod yw mynd i'r afael â'r gofid difrifol a pharhaus a brofir gan deuluoedd pan na chaiff cyrff eu hanwyliaid eu canfod, ac mae'r fframwaith dedfrydu'n cydnabod ystod o ffactorau gwaethygol a all gynyddu difrifoldeb trosedd a'r ddedfryd fyrraf sy'n rhaid ei bwrw.
Fel y mae pawb sydd wedi siarad heddiw wedi nodi, ni cheir trosedd ar wahân yn gysylltiedig â halogi neu beidio â datgelu corff dioddefwr a lofruddiwyd. Nod yr ymgyrch i gyflwyno cyfraith Helen rhan 2 yw unioni hyn, ac rwy'n deall bod y Gweinidog dioddefwyr, Alex Davies-Jones AS, yn gefnogol iawn pan gyfarfu â Mrs Rees. Mae'r Gweinidog yn cadarnhau y bydd adolygiad o'r gyfraith yn y maes yn cael ei gynnal o dan arweiniad Comisiwn y Gyfraith, ac y bydd teuluoedd dioddefwyr yn rhan o'r broses drwyddi draw, gan gynnwys cyn iddi ddod yn destun ymgynghoriad, gan fod Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn hanfodol fod lleisiau teuluoedd dioddefwyr yn parhau i fod yn rhan ganolog o unrhyw gynigion sydd ar ffordd i newid y gyfraith. Ers gormod o amser, mae'r teuluoedd hyn wedi teimlo bod y system gyfiawnder yn cydnabod y drosedd, ond nid y creulondeb parhaus a achosir drwy dawelwch a chuddio. Ond Ddirprwy Lywydd, nid yw'r gwaith hwn wedi dechrau eto.
Mae Comisiwn y Gyfraith wedi nodi llawer o fylchau y mae angen eu diwygio mewn cyfraith trosedd, ac mae'r rhain yn cynnwys rhai o'r arferion mwyaf ffiaidd y gall llofruddion eu cyflawni yn erbyn eu dioddefwyr, yn ogystal â pheidio â datgelu corff dioddefwr. Felly, rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn y materion hyn i ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith pan fyddant yn bwrw ymlaen â'u hymgynghoriad ar y cynigion hyn. Fel y dywedodd Lesley Griffiths, rydym hefyd yn nodi bod ymgynghoriad ar y mater wedi'i gwblhau yng Ngogledd Iwerddon yn 2024, ond hyd yn hyn, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth wedi'i chyflwyno i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, rydym ni fel Llywodraeth Cymru'n cefnogi amcanion yr ymgynghoriad ac rydym yn cadw llygad ar ddatblygiadau yno hefyd. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y gwaith hwn, ac yn wir, ar unrhyw gyfraith newydd, gan fod cyfraith trosedd yn swyddogaeth a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Ond Ddirprwy Lywydd, nid yw hynny mewn unrhyw ffordd yn lleihau ein cyfrifoldeb moesol i sefyll gyda theuluoedd dioddefwyr, i eirioli dros newid ac i fynegi'n glir fod y bwlch presennol yn y gyfraith yn annerbyniol. Oherwydd Aelodau, nid oes a wnelo'r ddadl hon â gwleidyddiaeth; mae a wnelo â thosturi ac mae a wnelo â thegwch. Mae a wnelo â sicrhau bod y system gyfiawnder yn cydnabod nid yn unig y drosedd ond hefyd y trawma parhaol a achosir i deuluoedd na chânt gladdu eu hanwyliaid.
Felly, heddiw, rydym yn ychwanegu ein llais at leisiau'r teuluoedd niferus sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino o blaid newid, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd eisiau ymuno â mi i ddangos eu hymrwymiad i gefnogi teuluoedd dioddefwyr y troseddau erchyll hyn. Felly, Ddirprwy Lywydd, os derbynnir y cynnig hwn, ac rwy'n hyderus y gwnaiff, byddaf yn falch iawn o ysgrifennu at Alex Davies-Jones AS i sicrhau ei bod yn gwbl ymwybodol o gefnogaeth unfrydol y Senedd. Diolch.
Galwaf nawr ar Cefin Campbell i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma mewn ffordd mor bwerus, a dweud y gwir, mewn dadl sydd wedi bod yn anodd i ni i gyd?
Diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau pwerus, bob un ohonoch, yn yr hyn sydd wedi bod yn ddadl anodd, ond un sydd wedi bod mor bwysig hefyd. Ac mae'n dangos cryfder y lle hwn pan ddown ynghyd ag un llais, pan fyddwn yn rhannu'r cyfrifoldeb moesol hwnnw gyda'n gilydd, ni waeth beth fo'n teyrngarwch pleidiol, gan fod rhai pethau hyd yn oed yn bwysicach na hynny, ac yn eu plith mae cymorth i ddioddefwyr a'r gefnogaeth i egwyddor cyfraith Helen rhan 2.
Nawr, mae llawer ohonoch wedi cyfeirio yn eich cyfraniadau at y ffaith bod gan awdurdodaethau eraill ledled y byd, gan gynnwys Canada, Awstralia, Seland Newydd, rhannau o'r Unol Daleithiau, droseddau penodol eisoes yn ymwneud â halogi cyrff. Ac rydym wedi clywed Lesley Griffiths yn sôn am gyfraith Charlotte yng Ngogledd Iwerddon. Nawr, rwy'n deall bod Comisiwn y Gyfraith wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal gwaith ymchwil ar y maes hwn, ond ymddengys i mi na fydd hynny'n digwydd tan yn hwyr eleni neu ddechrau'r flwyddyn nesaf, sy'n golygu 12 mis arall o aros i'r teuluoedd hyn. Felly, rwy'n falch iawn o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn fodlon ysgrifennu ar ran y Senedd, os derbynnir y cynnig hwn heddiw, i ddangos ein cefnogaeth unedig i'r gyfraith hon.
Oherwydd, i gloi, Ddirprwy Lywydd, nid mater o gyfraith a pholisi haniaethol yw'r hyn a drafodwyd gennym heddiw mewn gwirionedd; dyma'r realiti dyddiol i rieni, brodyr a chwiorydd ac anwyliaid, sy'n deffro bob bore gan wybod bod yr unigolyn y maent yn eu caru ar goll o hyd, nid am nad yw'r gwir yn hysbys, ond am ei fod wedi'i gadw'n ôl yn fwriadol. Mae teuluoedd yn disgrifio hyn fel poen nad yw byth yn dod i ben, ac rydym wedi clywed geiriau'n cael eu defnyddio gan y cyfranwyr heddiw am glwyfau agored, dioddefaint, urddas ar ôl marwolaeth, dyngarwch, diweddglo. Dyna'r boen nad yw byth yn dod i ben, ac nid yw eu hamddifadu o'r gwir yn weithred o dawelwch; mae'n niwed parhaus sy'n eu hatal rhag rhoi eu hanwyliaid i orffwys. Felly, mae cyfraith Helen rhan 2 yn rhoi cyfle gwirioneddol i gau bwlch hirsefydlog yn y gyfraith. Byddai'n sicrhau bod y weithred o halogi corff yn fwriadol yn cael ei chydnabod yn briodol fel trosedd. Mae Comisiwn y Gyfraith i fod i adolygu'r maes, ond ni all teuluoedd aros. Drwy gefnogi'r cynnig hwn yn y Senedd heddiw, gallwn anfon neges glir fod yna ewyllys gwleidyddol i ddiwygio a dangos y brys am y gyfraith hon a'i phwysigrwydd i San Steffan.
Ac rwyf am gloi ar y pwynt hwn. Ar ran teuluoedd April Jones, Mike O'Leary, Helen McCourt a llawer o rai eraill, rwy'n annog cyd-Aelodau ar draws pob plaid i ddefnyddio eu llais i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei blaenoriaethu a'i chyflwyno heb oedi. Dyma gyfle i weithredu ar y cyd i roi'r cyfiawnder a'r heddwch y maent yn eu haeddu i deuluoedd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gysylltedd trafnidiaeth. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9121 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya;
b) adeiladu ffordd liniaru'r M4;
c) uwchraddio'r A55;
d) gwneud yr A40 yn ffordd ddeuol;
e) darparu trydedd bont dros y Fenai; ac
f) dadrewi pob prosiect ffyrdd.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig sydd o'n blaenau heddiw yn enw Paul Davies. Nid moethusrwydd yw cysylltedd trafnidiaeth da, ond sylfaen i ffyniant economaidd. Mae'n sail i'n gallu i ddenu buddsoddiad, cefnogi busnesau, creu swyddi a chysylltu pobl â chyfleoedd. Eto, o dan Lafur ers 27 mlynedd, wedi'i chynnal gan Blaid Cymru, mae Cymru wedi cael ei harafu'n systematig ac yn llythrennol.
Ledled Cymru, mae modurwyr, busnesau a chymunedau'n talu'r pris am Lywodraeth Lafur Cymru sydd wedi mabwysiadu agenda fwyfwy gwrth-fodurwr a gwrth-seilwaith. Rydym wedi gweld y terfynau cyflymder 20 mya diofyn wedi'u gosod yn erbyn gwrthwynebiad cyhoeddus enfawr, a'r ddeiseb fwyaf y mae'r Senedd hon wedi'i gweld erioed; ffordd liniaru allweddol yr M4 wedi'i diddymu ar ôl i £150 miliwn o arian trethdalwyr gael ei wario eisoes; prosiectau ffyrdd wedi'u rhewi; seilwaith wedi'i adael i chwalu. A'r canlyniad: Cymru sydd â'r cyflogau isaf ym Mhrydain, cynhyrchiant araf, a rhwydweithiau ffyrdd nad ydynt yn addas mwyach i economi fodern. Dyna pam y mae'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw mor bwysig, Ddirprwy Lywydd.
Er mwyn deall y sefyllfa bresennol o ran cysylltedd trafnidiaeth yng Nghymru, rhaid inni edrych y tu hwnt i'r tyllau yn y ffyrdd a'r amserlenni. Rhaid inni edrych ar yr athroniaeth economaidd sylfaenol, neu ddiffyg un, yn rhengoedd Llafur a Phlaid Cymru, oherwydd nid eitem ar linell gyllideb yn unig yw seilwaith; mae'n fynegiant sylfaenol o gontract cymdeithasol Llywodraeth â'i dinasyddion. Mae'n amlygiad ffisegol o ddyletswydd y wladwriaeth i ddarparu'r amodau ar gyfer ffyniant. Ar hyn o bryd, mae'r contract hwnnw wedi'i ailysgrifennu mewn ffordd sy'n creu perygl o niwed economaidd yma yng Nghymru. Y gwir amdani yw bod cyfalaf yn symudol; mae'n mynd lle mae'r ffrithiant ar ei isaf. Drwy greu amgylchedd trafnidiaeth ffrithiant uchel, mae Cymru'n dynodi ei bod yn rhoi mwy o werth ar burdeb ideolegol nag ar integreiddio'r farchnad.
Rydym i gyd yn gwybod, ac yn siarad am y draen dawn a welwn yma yng Nghymru, ac rydym yn ei weld ymhlith ein gweithwyr mwyaf uchelgeisiol, sy'n symud i ffwrdd i fannau lle mae symud yn dal i gael ei ystyried yn rhinwedd. Mae Llywodraeth sy'n methu symud ei phobl yn Llywodraeth na all wella ei heconomi. Mae angen inni symud oddi wrth athroniaeth o gyfyngu a dychwelyd at athroniaeth o alluogi. Y gwir amdani yw bod diweithdra wedi codi bob mis ers i Lafur ddod i rym. Mae diweithdra bob amser wedi codi o dan Lafur, ac yn anffodus, os credwch fod Llafur yn wael, mae Plaid Cymru hyd yn oed yn waeth.
Fe wyddom mai'r peth cywir a thosturiol i'w wneud yw creu amgylchedd a chael seilwaith sy'n galluogi pobl i gamu ymlaen, i gael mynediad at swyddi gwych, ac i gael gwared ar y ffrithiant diangen i fuddsoddiad. Mae'n bryd rhoi'r gorau i drin twf fel gair budr a dechrau trin trafnidiaeth fel y galluogwr y mae wedi bod yn yr oes fodern. A'r peth sy'n crynhoi'r athroniaeth economaidd y ceisiodd Llafur a Phlaid Cymru ei mabwysiadu, yr athroniaeth wrth-dwf economaidd, oedd y penderfyniad i gael gwared ar ffordd liniaru'r M4. Chwe blynedd yn ôl, fe wnaeth Llafur ddileu'r prosiect hwn er gwaethaf tystiolaeth lethol y byddai ei fanteision economaidd yn fwy na'r costau o 2:1. Mae'r M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fod yn un o'r darnau o draffordd sydd â fwyaf o dagfeydd yn y DU, ac ymhlith y gwaethaf yn Ewrop. Mae cludwyr nwyddau, cymudwyr a busnesau'n sownd mewn tagfeydd traffig yn ddyddiol, tra bod Llafur a Phlaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Ceidwadol y llynedd yn galw am gyflawni'r prosiect hanfodol hwn. Nid arweinyddiaeth yw hynny ond esgeulustod economaidd.
Fe wnaethom alw hefyd am uwchraddio i'r A55, asgwrn cefn gogledd Cymru. Mae tagfeydd cronig a thanfuddsoddiad yn atal twristiaeth, masnach a thwf ar draws y rhanbarth. Ni all economi fodern ddibynnu ar rwydwaith ffyrdd y caniatawyd iddo farweiddio ers degawdau. Yn yr un modd, mae'r achos dros ddeuoli'r A40 yn sir Benfro wedi bod yn glir ers y 1950au. Mae llwybr prifwythiennol unffrwd wedi llesteirio datblygiad economaidd ac wedi cynyddu risgiau i ddefnyddwyr y ffordd. Byddai buddsoddiad yma'n datgloi twf, yn rhoi hwb i dwristiaeth, ac o'r diwedd yn rhoi'r seilwaith y mae'n ei haeddu i sir Benfro.
A fyddech chi'n fodlon derbyn ymyriad?
Yn sicr.
Nid ydych chi'n byw yn sir Benfro, nid ydych chi'n gyrru ar y ffordd, ac efallai nad ydych chi'n gwybod yn iawn am beth rydych chi'n sôn. Felly, rwyf am ddweud hyn: cyn y buddsoddiad enfawr sydd wedi digwydd yn ddiweddar ar y ffordd i sir Benfro, buaswn wedi cefnogi, ac rwyf bob amser wedi cefnogi deuoli'r rhan honno o'r ffordd; gan ein bod eisoes wedi gwario miliynau o bunnoedd ar welliannau ar y ffordd honno—ac rwy'n teithio arni ddwywaith yr wythnos, fel y mae eraill yma, rwy'n siŵr—rwy'n deall nad oes angen ailwario nawr. A hoffwn wybod o ble rydych chi'n ei gael, y miliynau o bunnoedd hyn y byddai eu hangen arnoch i barhau i wneud rhywbeth sydd eisoes wedi'i wneud.
Wel, diolch am yr araith, Joyce. Efallai y byddai'n werth siarad â'ch cyd-Aelod Alun Davies, sy'n siarad yn falch am ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i'w etholaeth yno. Rwy'n siŵr y byddai eich etholwyr chi, ac etholwyr Paul Davies a Sam Kurtz i lawr yn sir Benfro, yn falch o weld buddsoddiad ar yr A40.
Mae angen inni siarad hefyd am bont Menai. Mae cymunedau ar Ynys Môn ac ar draws y Fenai wedi dioddef blynyddoedd o aflonyddwch, oedi ac ansicrwydd oherwydd methiant Llafur i reoli seilwaith allweddol yn iawn. Mae'r hyn a ddylai fod wedi bod yn waith cynnal a chadw arferol wedi troi'n saga bum mlynedd, gan niweidio busnesau lleol, twristiaeth a bywydau bob dydd. Dyna pam ein bod ni'n galw am drydedd bont dros y Fenai i ddarparu gwydnwch, dibynadwyedd a chysylltedd hirdymor.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadrewi pob prosiect ffyrdd. O dan y Llywodraeth flinedig hon yng Nghymru, mae bron bob prosiect adeiladu ffyrdd mawr yng Nghymru wedi'i ddileu. Mae seilwaith mawr yn parhau i gael ei rwystro, ei oedi neu ei anghofio'n dawel bach. A gallwn weld o welliant Plaid Cymru i'r ddadl hon eu bod yn parhau i rygnu ymlaen am drefniadau cyfansoddiadol a chipio mwy o bwerau. Yn wahanol iddynt hwy, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir. Rydym o blaid y modurwr, o blaid busnes ac o blaid twf. Rydym yn credu mewn adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru i gystadlu ac i ffynnu. Mae'r cynnig hwn yn nodi cynllun credadwy, uchelgeisiol ac ymarferol i gael Cymru i symud eto. Rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i'w gefnogi. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi nad yw Cymru, o dan lywodraethau olynol y DU, wedi cael cyfran deg o'r buddsoddiad mewn trafnidiaeth, gan gyfyngu ar ei gallu i wella cysylltiadau a datgloi ei photensial economaidd llawn.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth Cymru'n cael ei ariannu'n deg, yn seiliedig ar anghenion, gan gynnwys:
a) cyllid canlyniadol llawn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mawr yn Lloegr, gan gynnwys HS2 a Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr;
b) rhoi terfyn ar yr hanes o danariannu seilwaith trafnidiaeth Cymru; ac
c) datganoli mwy o bwerau ar gyfer gwneud penderfyniadau dros fuddsoddi mewn trafnidiaeth i Gymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull integredig, yn seiliedig ar dystiolaeth, o fuddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n gwella cysylltiadau rhwng cymunedau, yn cefnogi datblygiad economaidd, ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Dwi'n symud y gwelliant hwnnw, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.
Dwi wastad wedi croesawu ymdrechion i wneud teithio yn fwy fforddiadwy ac yn fwy hygyrch ond, gadewch i ni fod yn onest, heb gyllid teg, mae Cymru'n cael ei dal yn ôl. Yn dilyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, cawsom addewid gan Lywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, yn dweud y bydden nhw'n agor cyfleoedd buddsoddi newydd. Hyd yma, dydyn ni ddim wedi gweld hynny'n cael ei wireddu yng Nghymru.
Dim ond yr wythnos diwethaf, gofynnodd fy nghyd-Aelod Plaid Cymru yn San Steffan pam nad ydy Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid Northern Powerhouse Rail. Yr ateb? Bod rheilffyrdd trwm yn cael eu cofnodi fel prosiectau Lloegr a Chymru, hyd yn oed pan nad oes un fodfedd o'r traciau hynny yng Nghymru. Cyfeiriodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru at brosiectau fel gorsaf Caerdydd Canolog a phrif linell de Cymru yn ei hateb. Ond yr hyn na ddwedodd oedd mai arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru sy'n galluogi'r rhain i ddigwydd. Felly, dydyn ni ddim ond yn cael yr arian sy'n ddyledus os ydyn ni'n talu ecstra i mewn. Mae arian a ddylai fynd i ysgolion, i'r NHS ac i wella tai pobl Cymru yn cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch a grëwyd gan San Steffan.
Mae hyd yn oed cyllid ar gyfer ein ffyrdd yn cael ei ailgyfeirio i dalu am annhegwch strwythurol. Annhegwch y mae hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig wedi'i alw'n 'afresymol'. Cofiwch hefyd fod y cyn-Brif Weinidog, sydd bellach yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi ystyried camau cyfreithiol dros hyn. Felly, beth ddigwyddodd i'r ymrwymiadau hynny?
Mae'n eironig clywed honiadau nad yw Cymru'n gorffen wrth y ffin, pan mai dyna'n union sydd yn digwydd pan mae'n dod at gyllid. Ni fyddai unrhyw wlad arall yn disgwyl talu am reilffyrdd mewn gwlad arall, heblaw Cymru. Heddiw, mae dros £3 biliwn o gynlluniau gwella rheilffyrdd yng Nghymru yn aros am sicrwydd cyllido. Mae hynny'n codi'r cwestiwn difrifol am degwch a thryloywder. A gadewch i ni fod yn glir, y Ceidwadwyr a osododd Cymru yn y system prosiectau Lloegr a Chymru yma yn y lle cyntaf, a'n hamddifadu o filiynau—os nad biliynau—o gyllid. Felly, does ganddyn nhw ddim yr hawl heddiw i bregethu.
Mae pobl Cymru'n haeddu system drafnidiaeth sy'n gweithio i ni. Mae'r Senedd hon eisoes wedi pleidleisio'n unfrydol dros gyfran deg i Gymru, ac mae'n bryd gwneud hynny eto. Dim ond un blaid sydd wedi sefyll yn gyson dros gyllid teg. Plaid Cymru ydy honno. Byddwn yn parhau i ymladd dros arian cyfatebol HS2 a Northern Powerhouse Rail, a datganoli seilwaith rheilffyrdd, er mwyn rhoi diwedd ar ddegawdau o danfuddsoddi. Nid yw hyn yn fethiant technegol, mae'n ddewis gwleidyddol, a thra bod San Steffan yn dewis Lloegr, mae Plaid Cymru'n dewis Cymru. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 2 yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu pob un ar ôl pwynt 1 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni wrth wella trafnidiaeth:
a) datblygu system Fetro o safon fyd-eang yn Ne Cymru ynghyd â buddsoddiad Llywodraeth Cymru o dros £1 biliwn i wella’r seilwaith ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd datganoledig llinell graidd y cymoedd;
b) buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd gan bron ddyblu’r capasiti a sicrhau twf anferthol yn y gwasanaethau i deithwyr;
c) dod â’r buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru ers cyhoeddiad Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2009 i drydaneiddio prif linell De Cymru;
d) pasio’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) arloesol i gyflwyno masnachfreintiau a rhoi pobl cyn elw wrth ddarparu gwasanaethau bysiau;
e) denu dwy filiwn o bobl ifanc i deithio ar y bysiau gyda’r tocyn £1 i bobl ifanc;
f) cynlluniau cyffrous ar gyfer tocyn £2 i oedolion a chynnydd o 10 y cant yn y llwybrau yn y Senedd nesaf;
g) cynnal prosiect mawr wedi’i flaenoriaethu ar gyfer adnewyddu asedau gan ddechrau gyda chynllun cyfnewid gwerth £180 miliwn ar Afon Dyfrdwy;
h) dechrau’r gwaith o glirio’r ôl-groniad cynnal a chadw ffyrdd sydd heb ei wneud, ar ôl 14 mlynedd o lymder o dan y Ceidwadwyr, gan wella 627km o arwynebau ffyrdd a llenwi 203,000 o dyllau yn y ffyrdd yn dilyn hwb o £25 miliwn yn y cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol a £60 miliwn (£120 miliwn dros 2 flynedd) i Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i drwsio ffyrdd lleol;
i) comisiynu adolygiad o gyflwr ffyrdd a thraffig ar y prif ffyrdd strategol, megis yr M4, A55 a’r A494 i asesu’r ymyriadau y dylid eu blaenoriaethu i wella effeithiolrwydd y priffyrdd sy’n gwasanaethu coridorau economaidd strategol;
j) cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r gallu i gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a ddatblygir gan Gydbwyllgorau Corfforedig a thros £100 miliwn ar gyfer eu cyflawni; a
k) gweithio gyda’r rhanbarthau i sbarduno momentwm tuag at ddatblygu 'metros' yn y Gogledd a’r De-orllewin.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Cynigiwyd.
Mae trafnidiaeth dda, ddiogel a chysylltiedig ar y ffordd, y rheilffordd neu ar y bws yn hanfodol. Fodd bynnag, rhaid i'r Ceidwadwyr gydnabod y niwed a achoswyd i'n seilwaith ffyrdd ac i adeiladu priffyrdd newydd gan doriadau Llywodraeth Geidwadol y DU i gyllid cyhoeddus i gynghorau a Llywodraeth Cymru. Mae gadael yr UE heb ddarparu cronfeydd strwythurol yn lle'r arian hwnnw hefyd wedi cael effaith sylweddol. Defnyddiwyd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i dalu am hanner y prosiect £30 miliwn A55 Abergwyngregyn ac i gefnogi ffordd osgoi Caernarfon A487 a gostiodd £139 miliwn.
Nid oes sôn yn y cynnig hwn am fuddsoddi yn ein seilwaith priffyrdd presennol o ffyrdd, palmentydd a phontydd sy'n dirywio oherwydd tanariannu, effeithiau newid hinsawdd, rheoli dŵr a phroblemau draenio. Yn ddiweddar mae rhaglen adnewyddu asedau mawr Llywodraeth Cymru wedi ailddechrau yn dilyn newid Llywodraeth y DU. O dan Lafur, mae Cymru £1.6 biliwn yn well ei byd. Ar lwybr y Ceidwadwyr, byddai wedi bod £6 biliwn yn waeth ei byd, gyda chynghorau a phrosiectau cyfalaf eisoes ar eu gliniau.
Mae'n rhyddhad i mi fod prosiect adnewyddu pont Dyfrdwy A494, porth allweddol i Gymru, sydd wedi bod yn dirywio'n gyflym, yn mynd rhagddo o'r diwedd. Rwyf hefyd yn falch fod y rhwydwaith ffyrdd strategol, a reolir gan Lywodraeth Cymru, a'r rhwydwaith ffyrdd lleol, a reolir gan gynghorau, wedi cael cyllid ychwanegol sylweddol eleni ac yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn cefnogi'r gwaith o gynllunio'r rhaglen rheoli asedau priffyrdd yn briodol, gan flaenoriaethu ailosod wyneb a lleihau gwaith adweithiol ar atgyweirio tyllau ffordd. Mae cynghorau bellach yn dechrau clirio ôl-groniad cynnal a chadw ar ôl 14 mlynedd o gyni, gan wella 627 km o arwyneb ffordd a llenwi dros 200,000 o dyllau ffordd, gyda chefnogaeth hwb o £25 miliwn i'r rhwydwaith ffyrdd strategol a menter benthyca awdurdod lleol gwerth £120 miliwn.
Rwy'n deall bod y terfyn 20 mya wedi'i gynnig gyntaf yn y Senedd flaenorol gan un o'r Ceidwadwyr, gyda chefnogaeth eang gan y Ceidwadwyr, a'i weithredu'n ddiweddarach yn y Senedd hon. Fel aelod o gabinet sir y Fflint dros briffyrdd, cefais lawer o geisiadau gan drigolion a chynghorwyr am derfynau cyflymder 20 mya, yn enwedig gan eu bod yn cael eu cyflwyno yn Lloegr ychydig dros y ffin yng Nghaer. Rwy'n cofio un achos yn Saltney, lle cafodd plentyn ei anafu'n ddifrifol yn sgil goryrru mewn ardal breswyl. Goryrru hefyd oedd un o'r prif faterion a gâi eu codi yn y cyfarfodydd cynghorau cymuned a fynychais. Fe wnaethom roi cynnig ar fesurau eraill, gan gynnwys arwyddion fflachiog, gatiau ymyl ffordd a chroesfannau cerddwyr i ddynodi ardaloedd preswyl yn hytrach na ffyrdd drwodd yn unig, ond ni wnaethant fawr o wahaniaeth. Fe fynegais bryderon ynghylch gwneud 20 mya yn newid diofyn, gan fod angen deddfwriaeth glir ac amddiffynadwy ar awdurdodau lleol wrth gymhwyso terfynau cyflymder, fel y gall cynghorwyr a thrigolion ddeall pam y mae rhai ffyrdd yn wahanol i eraill. Fe wnaethom weithredu adolygiad terfyn cyflymder fel cyngor, a chymerodd bum mlynedd i wneud hynny. Felly, fe all gymryd amser hir.
Cyn cael fy ethol i'r Senedd, cyflwynais ddeiseb yn dilyn colli gwasanaethau bws gwledig o'r enw 'Bysiau er mwyn pobl nid er mwyn gwneud elw', ac rwy'n falch fod y Senedd hon yn cyflwyno'r Bil Bysiau, er gwaethaf gwrthwynebiad y Ceidwadwyr. Mae tocynnau consesiynol wedi cael eu diogelu yng Nghymru o 60 oed, yn wahanol i Loegr o dan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae pris tocyn o £1 wedi'i gyflwyno i bobl ifanc. Mae'r grant cymorth bysiau wedi diogelu ac ehangu llwybrau fel y T8 yn fy rhanbarth i, ac mae cap o £2 ar bris tocynnau a chynnydd o 10 y cant yn nifer y llwybrau wedi'u cynllunio.
Yn olaf, mae £800 miliwn wedi'i fuddsoddi yn Trafnidiaeth Cymru, gyda threnau newydd, cynnydd yn nifer y teithwyr a chynnydd yn nifer y staff i gefnogi teithwyr a gwella diogelwch, sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â chynlluniau'r Ceidwadwyr i dorri swyddfeydd tocynnau a staff ar drenau. Dyna'r gwahaniaeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ganolbwyntio ar ddwy ffordd o bwysigrwydd allweddol i sir Benfro—yr A477 a'r A40. Fe ddechreuaf gyda'r A477. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn fy mod wedi codi dro ar ôl tro, yn y Siambr hon a thrwy ohebiaeth ysgrifenedig, yr angen am adolygiad llawn a chynhwysfawr o'r gefnffordd hon. Nid unrhyw ffordd yw'r A477, mae'n un o'r unig ddau lwybr prifwythiennol i mewn i sir Benfro—y llall yw'r A40. Mae'n darparu'r cyswllt hanfodol rhwng terfynfa fferïau Doc Penfro a rhwydwaith ffyrdd ehangach Cymru. Ni ellir gorbwysleisio ei phwysigrwydd strategol.
Bu rhai llwyddiannau lleol. Mae'r gwaith gwella hirddisgwyliedig yng nghyffordd Mynegbost Nash i'w groesawu, ond cymerodd fwy na degawd i'w gyflawni ac yn drasig, collwyd gormod o fywydau ar y gyffordd honno tra bod cymunedau'n aros am weithredu. Mewn mannau eraill ar hyd y llwybr, mae problemau difrifol yn parhau. Yn Milton, mae goryrru'n cael ei anwybyddu'n rheolaidd, mae cyffordd Rhos-goch wedi gweld sawl damwain oherwydd ei chynllun gwael, mae cyffordd Cosheston wedi'i goleuo'n wael ac yn arbennig o beryglus yn y nos. Nid mân faterion yw'r rhain; maent yn fethiannau diogelwch parhaus a hysbys iawn.
Dyma'r prif lwybr ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd—menter yr ydym yn ei hyrwyddo'n briodol ar gyfer buddsoddiad, swyddi, twf a ffyniant i'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Os ydym am wneud y mwyaf o'r manteision o'r porthladd rhydd, mae angen i bobl a nwyddau allu cyrraedd yn rhydd ac yn ddiogel i ac o Ddoc Penfro ar ein rhwydwaith ffyrdd. Fodd bynnag, unwaith eto, mae sir Benfro yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Fel y dywedodd un etholwr wrthyf yn ddiweddar, 'Nid wyf yn teimlo bod Caerdydd yn gwybod ein bod ni'n bodoli yma yn sir Benfro.' Yn anffodus, Lywydd, mae'r teimlad hwn yn dod yn rhy gyfarwydd.
Gan droi at yr A40, y llwybr prifwythiennol allweddol arall sy'n gwasanaethu'r sir, mae'n cysylltu harbwr Abergwaun â Chaerfyrddin, ac ymlaen i'r A48 a'r M4 ym Mhont Abraham. Unwaith eto, mae hon yn ffordd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, ac eto, o dan y Llywodraeth hon, nid yw erioed wedi cael ei thrin fel blaenoriaeth. Lle mae buddsoddiad hirddisgwyliedig wedi cyrraedd, mae wedi dod ar ffurf cynlluniau 2+1 tameidiog, yn hytrach na'r deuoli priodol sydd ei angen ar y gefnffordd hon. Yn wir, caf fy arwain i gredu bod yr A40 yn rhan o lwybr traws-Ewropeaidd yr E30 o Cork i ffin ddwyreiniol Gwlad Pwyl, ac mai'r rhan hon yw'r unig ran o'r coridor hwnnw nad yw wedi ei deuoli, sy'n fethiant arall i'w ychwanegu at hanes trychinebus Llafur dros 27 mlynedd gyda seilwaith yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Rwyf ychydig yn ddryslyd ynglŷn â'ch cais. Mae angen i mi ei gael yn glir yn fy meddwl fel nad wyf yn camgymryd. Felly, rydych chi'n dweud o ddifrif eich bod chi eisiau torri ffordd gyfan drwy'r hyn sy'n dir fferm yn bennaf, ac aflonyddu ar yr holl gynefinoedd, i ychwanegu lôn ychwanegol—oherwydd bod llawer ohono, fel rydych chi newydd ddweud, yn '2+1'—a difwyno'r holl dir yr ydych chi'n aml iawn yn dadlau yma fod ei angen yn ddirfawr at ddefnydd eich ffermwyr. Rwyf eisiau bod yn glir fel nad wyf yn camgymryd.
Fe wnaethoch chi ddweud yn gynharach, Joyce, eich bod chi'n gefnogol i ddeuoli'r A40 ar un adeg. Chi sydd wedi newid eich meddwl yma pan oedd yn wleidyddol gyfleus i chi wneud hynny. Ond rwy'n dychwelyd at y cynlluniau '2+1' a'r ffyrdd osgoi. Oherwydd y llynedd, gydag Ysgrifennydd y Cabinet, mynychais agoriad ffordd osgoi Llanddewi Felffre—prosiect a drafodwyd gyntaf yn gynnar yn y 2010au. Roeddwn ar y daith bws honno ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a'r Prif Weinidog, a wnaeth, os cofiwch, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n edrych arnoch i fyny ar y sgrin—dorri allan i ganu fel modryb mewn priodas ar y bws. Mae'r wên yn dweud y cyfan. Agorwyd y ffordd honno gyda chryn dipyn o ffanffer ym mis Mai 2025, ac eto heddiw, mae wedi'i chyfyngu i un gwrthlif unffrwd am fod angen gosod wyneb newydd yn barod ar ffordd sy'n llai na 12 mis oed. Mae'n anghredadwy.
Ond yr hyn sy'n wirioneddol rwystredig i mi a fy etholwyr, Lywydd, yw gweld meinciau cefn Llafur yn falch o hyrwyddo ffordd Blaenau'r Cymoedd fel prosiect trawsnewidiol i'r cymunedau hyn, prosiect a gymerodd 23 mlynedd i'w adeiladu. Mae'n brosiect sylweddol, er ei fod yn hwyr a thros y gyllideb, ond ar yr un pryd, rhewodd y Llywodraeth hon brosiectau adeiladu ffyrdd eraill ledled Cymru. Rwy'n cytuno bod ffordd Blaenau'r Cymoedd yn bwysig yn economaidd ac yn gymdeithasol. Mae seilwaith ffyrdd da yn bwysig. Ond os yw hynny'n wir, pam y penderfynodd y Llywodraeth hon, pan fo Cymru ar waelod y tablau cynghrair economaidd, na fyddai unrhyw ffyrdd newydd yn cael eu hadeiladu? Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd. Ni allwch ddathlu manteision economaidd gwelliannau ffyrdd mawr mewn un rhan o Gymru gan amddifadu eraill o seilwaith hirddisgwyliedig. Mae sir Benfro yn haeddu gwell, ac mae fy etholwyr yn disgwyl gwell.
Ac nid yn unig yn sir Benfro y mae'n digwydd. Dyna i chi ffordd liniaru'r M4, y cwestiwn oesol a fyddant o'r diwedd yn llwyddo i wneud rhywbeth i ddatrys y tagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas. Mae cludwyr nwyddau yr wyf yn eu hadnabod bob amser yn codi'r angen i ddatrys y mater. Yn wir, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â nhw mewn gwirionedd. Fe safodd a chael ei ethol ar addewid maniffesto i adeiladu ffordd liniaru'r M4. Ond fel y traffig sy'n sownd mewn tagfeydd o amgylch Casnewydd, nid oes unrhyw symudiad wedi bod gan y Llywodraeth hon ar ffordd liniaru. Oherwydd hyn, a'r rhesymau a amlinellais ynglŷn â'r A40 a'r A477, rwy'n annog y Senedd hon i gefnogi ein cynnig a chael Cymru i symud unwaith eto.
A gaf i ddweud bod fy etholwyr eisiau i'r ffyrdd presennol gael eu cadw mewn cyflwr da a'r tyllau wedi'u llenwi?
Pa mor gyflym y dylem yrru ar ffyrdd fel ein bod yn ddiogel? Rwyf wedi cael cefnogwyr Reform yn dweud wrthyf y dylid diddymu terfynau cyflymder. Ai dyna yw polisi Reform? Ni fyddwn yn gwybod, oherwydd nid ydynt yma. 'Dylai gyrwyr yrru ar gyflymder o'u dewis gan ddefnyddio eu profiad ac amodau'r ffordd.' Gan fod amodau'r ffordd yr un fath i bawb, dylai pawb deithio ar yr un cyflymder. Dim ond mewn tagfeydd traffig y mae hynny'n digwydd. Fel y dywedodd un bachgen 19 oed wrthyf, 'Rwy'n yrrwr profiadol, nid oes angen terfynau cyflymder arnaf'. Mae'r cofnodion damweiniau'n dangos nad yw hynny'n wir, yn anffodus.
Ddwywaith cyn y newid i 20 mya ar bob ffordd leol, buaswn wedi bod mewn damwain pe bawn i wedi gyrru ar 30 mya. Roedd y tro cyntaf ar Pleasant Street, lle mae fy swyddfa. Mae Pleasant Street, fel llawer o ffyrdd a strydoedd, yn cynnwys tai teras a pharcio oddi ar y stryd. Yn y bôn, mae'n ffordd un lôn gyda lleoedd pasio rhwng ceir wedi'u parcio. Gyrrodd car ataf ar 30 mya, a oedd ar y pryd o fewn y terfyn cyfreithiol cyfredol. Roeddwn i'n teithio ar 15 mya, ac fe wnaethom ddod i stop gydag oddeutu 1m rhyngom. Pe bai'r ddau ohonom wedi bod yn gwneud 30 mya, byddai gwrthdrawiad wedi bod yn anochel.
Yr ail ddigwyddiad oedd pan dynnodd car allan o faes parcio ger y Guildhall. Unwaith eto, roeddwn i'n teithio ar lai na 20 mya, ac fe stopiais heb gael gwrthdrawiad. Ar 30 mya, buaswn wedi cael gwrthdrawiad. Mae yna gonsensws fod 20 mya yn derfyn cyflymder addas ar ffyrdd ystadau, yn enwedig gan y bobl sy'n byw arnynt. A yw'r Ceidwadwyr o ddifrif yn credu bod 30 mya yn addas ar y cul-de-sac rwy'n byw ynddo, sydd â phedwar tŷ? Pan fyddaf yn teithio i fy swyddfa yn Nhreforys, ar y ffordd i'r Senedd, fel heddiw, mae'r pellter yn 1 filltir union, ond mae'r 'satnav' yn dweud wrthyf y bydd yn cymryd pum munud i mi, sef cyflymder cyfartalog o 12 mya.
Mae'r system ffyrdd yn cynnwys traffyrdd a ffyrdd A, sef y prif ffyrdd y bwriedir iddynt ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn neu rhwng ardaloedd. Mae ffyrdd B yn ffyrdd y bwriedir iddynt gysylltu gwahanol ardaloedd ac i fwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai. Mae ffyrdd heb eu dosbarthu neu heb eu rhifo, sy'n ffyrdd llai, ac sydd weithiau'n cysylltu ffyrdd A a B gyda'i gilydd, yn aml yn cysylltu ystadau tai neu bentref â gweddill y rhwydwaith. Mae'r rhan fwyaf yn cysylltu ffyrdd eraill yn yr ardal. Mae'r rhain yn debyg i ffyrdd bach ar fap arolwg ordnans ac weithiau fe'u gelwir yn answyddogol yn ffyrdd C. Mae ffyrdd di-ddosbarth yn ffyrdd lleol a fwriadwyd ar gyfer traffig lleol. Mae'r mwyafrif helaeth o ffyrdd, dros 60 y cant o ffyrdd yn y DU, yn perthyn i'r categori hwn.
Roeddwn i'n gyrru o gwmpas Abertawe yn rheolaidd cyn i ffyrdd gael eu gwneud yn 20 mya, a gwelais fod angen imi yrru ar ddim mwy na 20 mya ar ffyrdd ystadau, lle mae'r rhan fwyaf ohonynt yn un lôn i bob pwrpas, gyda mannau pasio rhwng ceir wedi'u parcio, oherwydd bod ceir wedi'u parcio ar ddwy ochr y ffordd. Mae ardaloedd o dai teras hŷn ac ystadau cyngor lle nad oes gan dai ddreifiau yn golygu na all pobl yrru'n ddiogel ar 30 mya. Mae yna barcio ar ddwy ochr y ffordd, wrth i bobl geisio parcio ger eu cartref. Hyd yn oed ar ystadau mwy newydd lle mae ganddynt ddreifiau, mae ceir yn dal i barcio ar y ffordd, yn enwedig lle mae dreifiau'n serth iawn a llethr sylweddol wrth fynd i lawr neu ddod i fyny. Mae symudiad traffig ar gyffyrdd wedi gwella gyda'r terfyn cyflymder 20 mya. Mae angen adolygu terfynau cyflymder ar ffyrdd A a B sydd wedi'u gostwng i 20 mya. Mae pum ffordd B sy'n rhannol neu'n gyfan gwbl yn 20 mya yn Abertawe, ac rwy'n credu bod angen eu hadolygu.
Ar ffordd liniaru'r M4, rydym wedi gweld beth a ddigwyddodd gyda ffordd liniaru Llundain, yr M25. Crëwyd yr M25 fel traffordd sy'n amgylchynu'r rhan fwyaf o Lundain fwyaf i ddatrys problemau traffig. Mae'r draffordd 117 milltir yn un o'r ffyrdd pwysicaf yn y DU ac yn un o'r rhai prysuraf, ac fe'i disgrifiwyd fel y maes parcio mwyaf yn y DU. Adeiladwyd yr M25 yn wreiddiol fel traffordd tair lôn yn bennaf. Mae llawer wedi'i ledu'n bedair lôn, peth ohoni i bum lôn, rhwng cyffordd 12 a 14, a darn chwe lôn rhwng cyffordd 14 a 15. Mae deuddeg lôn rhwng cyffordd 12 a 14, ddwywaith maint y ffordd wreiddiol a adeiladwyd. Dywedodd adroddiad yn The Economist ar ôl iddi gael ei hadeiladu ei bod wedi cymryd 70 mlynedd i gynllunio'r draffordd, 12 i'w hadeiladu a dim ond un i ddarganfod ei bod yn annigonol. Fe wnaeth lefelau traffig godi uwchlaw uchafswm y capasiti y cafodd ei llunio ar eu cyfer yn gyflym. Mae'r M25 wedi cael ei beirniadu am fod â gormod o gyffyrdd, gyda 14 ohonynt yn gwasanaethu ffyrdd lleol yn unig.
Yr hyn sydd wedi digwydd o amgylch yr M25 yw adeiladu tai ar raddfa fawr, gan gynnwys datblygiad Bowmans Cross ger cyffordd 22. Hefyd, mae datblygiad masnachol sylweddol yn cael ei adeiladu o amgylch yr M25—[Torri ar draws.]—gan gynnwys yn Purfleet, o fewn 0.5 milltir i gyffordd 31 yr M25.
A fyddech chi'n derbyn bod cymharu'r M25 â'r seilwaith ffyrdd yng Nghymru ychydig yn debyg i gymharu afalau a gellyg mewn rhyw ffordd, o ystyried bod yr M25 wedi'i hadeiladu ar gyfer prifddinas Prydain ac yn parhau i wasanaethu'r brifddinas honno? Ond yng Nghymru, dim ond un draffordd sydd gennym sef yr M4, gwibffordd yng ngogledd Cymru sef yr A55, a phroblemau gyda dal i fyny o ran yr awydd i ddeuoli ffyrdd fel yr A40 a ffyrdd eraill ledled y wlad. Ni ellid ei hystyried yn gymhariaeth deg yn hynny o beth.
Roeddwn i'n ei chymharu fel ffordd liniaru. Ni ellid credu na fyddai datblygiad o'r fath ar raddfa lai yn digwydd o amgylch unrhyw ffordd liniaru'r M4. Mae gan y 124 milltir gyntaf rhwng Llundain a Chymru 28 cyffordd, tra bod gan y 78 milltir nesaf yng Nghymru 27 cyffordd. Mae'n amlwg fod y pellter cyfartalog rhwng cyffyrdd yn hirach yn Lloegr nag yng Nghymru. Mae gan rai ardaloedd yng Nghymru lawer o gyffyrdd yn agos at ei gilydd, gan gynnwys saith o amgylch Casnewydd, dros 11 milltir, lle ceir y problemau traffig arferol. Mae ffordd ddeuol Blaenau'r Cymoedd wedi lleihau traffig i ac o ganolbarth Lloegr sy'n mynd i'r gorllewin a'r dwyrain gan ddefnyddio'r M4 o amgylch Casnewydd. Yn olaf, mae gennym yr ateb Americanaidd, fel priffordd Katy yn Texas, gyda 26 lôn a thagfeydd traffig, lle cynghorwyd gyrwyr y bore yma i osgoi'r ardal oherwydd y tagfeydd traffig.
Mae Llafur Cymru, sydd unwaith eto wedi'i chynnal gan Blaid Cymru, wedi niweidio ein system drafnidiaeth yn sylweddol. Rydych chi wedi cefnogi rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd a blaenoriaethu teithio llesol, lle nad oes fawr o neb yn defnyddio rhai o'r llwybrau, ac wrth gwrs, yr ariannu parhaus i Faes Awyr Caerdydd. O dan y Llywodraeth Lafur hon, rydym wedi gweld tua £32 miliwn yn cael ei wario ar y polisi 20 mya, tua 20 y cant yn llai o bobl yn teithio ar y bysiau yng Nghymru, a gwasanaethau trên annibynadwy.
Yr allwedd i economi gref a chymdeithas gref yw gwasanaethau trafnidiaeth cryf, ond mae'r agenda wrth-fodurwr hon wedi bodoli ers llawer gormod o amser, gyda 7.6 y cant o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru a gynlluniwyd rhwng mis Ionawr a mis Medi 2025 wedi'u canslo. Mae hynny'n golygu bod bron i 16,000 o deithiau wedi'u canslo. Mae pont Menai wedi cau eto gan achosi aflonyddwch sylweddol. Nid yw'n ddigon da. Yn fy etholaeth i, Aberconwy, mae cysylltiadau trafnidiaeth cryf yn hanfodol gan ein bod yn gyrchfan dwristiaeth allweddol, a'r un peth ym Mangor Conwy Môn. Maent yn dibynnu'n helaeth ar y sector hwnnw. Mae angen inni wella ein cysylltedd ledled Cymru, gan ei gwneud hi'n haws i dwristiaid—y twristiaid nad yw Plaid Cymru yn rhy awyddus i'w gweld yn dod i Gymru.
Nid wyf yn beio Llywodraeth Lafur Cymru—yn llwyr, dylwn ddweud. Rwyf wedi codi effeithiau llym y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur sydd wedi bod ar waith am y cyfnod arferol o dair blynedd, cyn i chi gamu o'r neilltu. Yn un o'ch ymrwymiadau, roedd cynlluniau i archwilio datblygiad cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru. Roedd yna sôn hyd yn oed am fetro gogledd Cymru. Hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrthyf beth sydd wedi digwydd i'r rheini.
Cafwyd gwariant o £216 miliwn ar deithio llesol, ond datgelodd cais rhyddid gwybodaeth fod cynnydd o 0 y cant wedi bod yn nifer y beicwyr sy'n defnyddio'r llwybrau penodedig hynny. Am wastraff arian llwyr. Yr hyn a welsom yw trenau hwyr neu wedi'u canslo, miliynau wedi'u talu mewn hawliadau iawndal, gostyngiad yn nifer y llwybrau bysiau, yn enwedig yn ein trefi a'n pentrefi gwledig anghysbell, a therfyn cyflymder gwrth-fodurwr amhoblogaidd iawn o 20 mya.
Gwnaed llawer o addewidion gan Ken Skates, rhywun rwy'n hoff iawn ohono, i godi i 30 mya, gan drosglwyddo'r baich i'r awdurdodau lleol, ac nid ydynt wedi gweithredu unrhyw beth. Mae yna dagfeydd yn aml ar yr A55 o ganlyniad i ddamweiniau wythnosol, sy'n destun rhwystredigaeth i'n gweithwyr, ein modurwyr a'n cludwyr nwyddau. Yna'r problemau enfawr gyda phont Menai—mae hynny unwaith eto yn creu risg i'n cludwyr nwyddau wrth iddynt geisio cael mynediad i borthladd Caergybi.
Nawr, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig, unwaith eto, gynllun i gyflawni hyn. Mewn gwirionedd, mae gennym gynllun i drwsio Cymru. Byddwn yn cael gwared ar y 20 mya diofyn. Byddwn yn adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30 mya. Byddwn yn adeiladu ffordd liniaru'r M4. Byddwn yn uwchraddio'r A55 ac yn deuoli'r A40. Byddwn yn darparu trydedd bont ar draws y Fenai, a byddwn yn sicr yn dadrewi pob prosiect ffordd.
Yn Ynys Môn, fe weithiodd y cyn-AS yn galed iawn ar y bont dros y Fenai, o ran cael trydedd bont, a byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn darparu trydedd bont dros y Menai. Heb seilwaith da yn ei le, rhaid i bawb ohonom dderbyn na fydd gennych chi economi dda, ac rydych chi'n cynnig esgus ffug o system drafnidiaeth i'n pleidleiswyr, ein trigolion a'n hymwelwyr. Mae wedi torri, mae'n methu. Mae'n bryd symud o'r ffordd a gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig drwsio Cymru.
Mae cysylltedd trafnidiaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd Cymru, ond os gwrandewch ar y cynnig sydd o'n blaenau heddiw, fe gaech faddeuant am feddwl nad yw rhan fawr o'r wlad yn bodoli. Rwyf am fod yn glir o'r dechrau un: rwy'n siomedig nad yw canolbarth Cymru, ac yn enwedig ei rhwydwaith ffyrdd, yn cael ei grybwyll yn benodol yn y cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig. Mewn dadl am gysylltedd trafnidiaeth genedlaethol, mae'r hepgoriad hwnnw'n siarad cyfrolau.
Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru, mae ganddi rwydwaith ffyrdd mwy nag unrhyw awdurdod lleol arall, ond caiff ei hanwybyddu'n rheolaidd mewn cynlluniau trafnidiaeth cenedlaethol. Nid yw honno'n broblem newydd, ond mae'n un sy'n parhau i gael ei hanwybyddu hyd yn oed mewn dadleuon sydd i fod i ymwneud â gwella cysylltedd i Gymru gyfan. I bobl yng nghanolbarth Cymru, nid mater o ddewis yw trafnidiaeth. Mae'n fater o raid. Nid oes gennym wasanaethau rheilffordd aml. Nid oes gennym ddewisiadau amgen realistig o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Ffyrdd yw ein trafnidiaeth gyhoeddus. Ffyrdd yw sut y mae pobl yn mynd i'r gwaith, yn mynd i'r ysgol, yn mynychu apwyntiadau ysbyty, ac yn cadw busnesau lleol yn fyw. Ac eto mae'r ffyrdd hynny mewn cyflwr brawychus. Ar draws Powys, yn ddyddiol mae pobl yn delio â thyllau ffordd, arwynebau ffyrdd gwael a chyffyrdd anniogel, ac atgyweiriadau dros dro cyson yn hytrach na buddsoddiadau hirdymor—ffyrdd yn cael eu trwsio mewn modd tameidiog a defnyddio atebion tymor byr i drwsio wyneb ffyrdd, gan gynnwys israddio drwy osod cerrig mân a selio, dull sy'n treulio'n gyflym ac yn costio llawer dros amser. Nid yw'n werth da am arian. Yn sicr nid yw'n deg i'r bobl sy'n byw yn fy etholaeth.
Mae pobl leol yn rhwystredig, ac yn briodol felly. Maent yn talu'r un trethi â phawb arall, ond mae disgwyl iddynt oddef seilwaith gwaeth. Ym Mhowys, mae penderfyniadau a wnaed gan y cyngor sy'n cael ei redeg gan y Democratiaid Rhyddfrydol wedi caniatáu i gyflwr ein ffyrdd waethygu ymhellach, tra'u bod yn dargyfeirio cyllid i brosiectau gwyrdd nad yw trigolion yn eu gweld fel blaenoriaeth. Mae'r esgeulustod hwnnw'n fwyaf amlwg ar yr A470. Yr A470 yw asgwrn cefn Cymru, gan ei bod yn cysylltu'r gogledd a'r de ac yn cysylltu cymunedau gwledig â gwasanaethau, swyddi a chyfleoedd. Yng nghanolbarth Cymru, dylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad strategol. Yn lle hynny, caiff gwelliannau eu gohirio, caiff pryderon diogelwch eu gadael heb eu datrys a dywedir wrth gymunedau am dderbyn pethau fel y maent. Neu tueddwn i gael y briwsion o'r cytundeb a wnaeth Jane Dodds gyda Llafur, i fynd ar daflen etholiad nesaf y Democratiaid Rhyddfrydol.
Os ydym o ddifrif ynglŷn â chysylltedd trafnidiaeth, ni all canolbarth Cymru fod yn ôl-ystyriaeth, ac ni ddylai'r bobl sy'n cyflwyno'r cynnig hwn fod wedi meddwl amdani fel ôl-ystyriaeth. Dyna pam ei bod hi mor siomedig fod y cynnig hwn ar brosiectau ffyrdd mawr mewn mannau eraill yng Nghymru yn methu cydnabod pwysigrwydd llwybrau fel yr A470, neu'r heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig ym Mhowys. Os yw canolbarth Cymru ar goll o'r cynnig, mae'n codi cwestiynau difrifol ynghylch pa mor bwysig yw'r canolbarth ym mholisi trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
Gan droi at y gwelliannau, gwelwn fwy o'r un peth. Mae un yn ceisio symud cyfrifoldeb yn gyfan gwbl i rywle arall, tra bod y llall yn cynnig rhestr hir o gyflawniadau nad ydynt yn adlewyrchu profiadau bywyd pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru. Nid yw cyhoeddiadau buddsoddi'n golygu fawr ddim os mai'r canlyniad ar lawr gwlad yw cyflwr ffyrdd yn dirywio a chysylltedd yn gwaethygu. Nid geiriau cynnes na strategaethau sgleiniog sydd eu hangen ar y Gymru wledig. Mae angen buddsoddiad ymarferol, penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth a thriniaeth deg. Dylai'r ddadl hon ymwneud â sicrhau nad oes unrhyw ran o Gymru'n cael ei gadael ar ôl, nid ag ardaloedd lle mae'r lleisiau mwyaf croch neu'r poblogaethau mwyaf uchel eu cloch yn cael yr hyn y maent ei eisiau. Mae canolbarth Cymru'n bwysig, mae Powys yn bwysig, a gallaf ddweud wrthych fod ein ffyrdd yn bwysig. A hyd nes y bydd polisi trafnidiaeth yn adlewyrchu hynny'n iawn, bydd y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad canolbarth Cymru yn parhau i deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Diolch, Lywydd.
Cysylltedd da yw asgwrn cefn economi lwyddiannus. Dyma sut y mae pobl yn mynd i'r gwaith, sut y mae nwyddau'n cyrraedd marchnadoedd a sut y mae cymunedau'n cadw mewn cysylltiad. Ond ers datganoli, o dan 27 mlynedd o reolaeth Llafur wedi'u cynnal gan Blaid Cymru—nid dyma'r tro cyntaf inni glywed hynny y prynhawn yma—nid yw Cymru wedi gweld unrhyw gynnydd ar y seilwaith trafnidiaeth ffyrdd ac mae gennym beth o'r seilwaith trafnidiaeth gwannaf ym Mhrydain, ynghyd â rhai o'r tagfeydd gwaethaf ar lwybrau allweddol yn unrhyw le yn Ewrop. Nid damwain yw hyn, ond canlyniad dewisiadau gwleidyddol bwriadol. O dan Lafur a Phlaid Cymru, mae Cymru wedi gweld terfynau 20 mya diofyn yn cael eu gosod, ffordd liniaru'r M4 wedi'i dileu ar ôl gwario miliynau ar y cynlluniau, a phrosiectau ffyrdd wedi'u rhewi ledled y wlad. Mae rhewi cynlluniau adeiladu ffyrdd yn ddelfrydol i Lywodraeth Cymru oherwydd gallant barhau â'u rhyfel yn erbyn y modurwr. Nid oes raid iddynt roi eu llaw yn eu poced, a gallant ddefnyddio'r amgylchedd fel esgus.
Gadewch inni ddechrau gyda'r cynllun 20 mya hynod amhoblogaidd. Mae hyn wedi cael llawer o sylw, ond fe wnaf grynhoi beth bynnag. Cafodd y mesur ei werthu fel mesur diogelwch, ond roedd nifer yr anafiadau ar y ffyrdd eisoes yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn cyn iddo gael ei gyflwyno. Yn 2015, cafwyd bron i 7,700 o anafiadau yng Nghymru, ac erbyn 2022, roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng o dan 4,500. Mae llai na 100 o bobl wedi marw ar ffyrdd Cymru bob blwyddyn ers 2019—[Torri ar draws.]—sy'n dal i fod yn ormod, rhaid i mi ychwanegu at y sylw penodol hwnnw; rwyf am wneud cynnydd, Joyce.
Ar draws Prydain, mae nifer y marwolaethau ar y ffyrdd wedi bod yn gostwng ers degawdau, er bod mwy o gerbydau a mwy o filltiroedd wedi'u gyrru. Mae gennym rai o'r priffyrdd mwyaf diogel yn y byd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen beth bynnag yn hytrach na defnyddio dull wedi'i dargedu i gyflwyno mesurau diogelwch mewn ardaloedd lle mae nifer y gwrthdrawiadau'n uwch. Costiodd y terfyn diofyn o 20 mya diangen a dieisiau £32 miliwn i'w weithredu, gydag ergyd o £4.5 biliwn amcangyfrifedig i economi Cymru dros y 30 mlynedd nesaf yn sgil colli cynhyrchiant. A beth ydym ni wedi'i ennill? Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyfaddef bod amseroedd teithio cyfartalog wedi cynyddu ar bron bob llwybr a fesurwyd. Nid yw ansawdd yr aer wedi gwella mewn unrhyw ffordd ystyrlon, ac mae'r dystiolaeth ar ddiogelwch cerddwyr yn parhau i fod yn amhendant.
Nawr at ffordd liniaru'r M4. Chwe blynedd yn ôl, daeth Llafur â'r prosiect i ben ar ôl gwario £150 miliwn o arian trethdalwyr ar y cynlluniau yn unig, er gwaethaf tystiolaeth y byddai'r budd economaidd yn gorbwyso'r gost o ddau i un, ac er bod Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn rhestru'r M4 ger Casnewydd ymhlith y mannau gwaethaf yn Ewrop o ran tagfeydd traffig. Yn anecdotaidd, rydych chi'n clywed hyn yn rheolaidd wrth siarad â phobl o Loegr sy'n gyrru i dde Cymru ac sy'n cael eu synnu gan y tagfeydd ar yr M4. Mae cwmnïau cludo nwyddau hefyd, ac i'r un graddau, yn rhybuddio bod y tagfeydd yn tagu economi de Cymru. Ond wrth gwrs, pan gyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yn galw am gyflawni ffordd liniaru'r M4, pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru yn erbyn.
Yng ngogledd Cymru, mae cymunedau yn Ynys Môn yn cael cam unwaith eto. Mae pont Menai bellach wedi ei phlagio gan oedi ers blynyddoedd. Mae'r hyn a oedd i fod yn waith atgyweirio bellach wedi troi'n saga bum mlynedd o gyfnodau pan fo'r bont ar gau, ac ar adegau, mae Ynys Môn bron â bod wedi'i thorri i ffwrdd yn llwyr oddi wrth dir mawr gogledd Cymru. Mae gallu croesi'r Fenai yn rheidrwydd economaidd. Meddyliwch am yr holl gwmnïau cludo nwyddau sy'n gorfod defnyddio gwasanaethau môr Iwerddon. Maent yn cysylltu gweithwyr â swyddi a thwristiaid â busnesau.
Ar lefel leol, yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd, rydym yn gweld y niwed a achosir gan ddegawdau o ddiffyg cynnydd ar seilwaith. Ers i ffordd osgoi Rhuddlan gael ei hadeiladu ar ddiwedd y 1990au, nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad mawr yn lleol. Datgysylltwyd pentrefi Trefnant a Thremeirchion yn 2021 pan ddinistriodd storm Christoph bont Llannerch. Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, rwyf i a thrigolion lleol yn brwydro i'w gweld yn cael ei hadfer. A'r 'dizzy bends' hefyd, sy'n cysylltu'r Rhyl a Phrestatyn: 27,000 o bobl yn y Rhyl, 18,000 neu 19,000 ym Mhrestatyn—bron i 50,000 o bobl wedi'u cysylltu gan drac un lôn bron iawn, sydd mewn defnydd ers dyddiau'r ceffyl a chert. Nid oes dim o'i le ar y 'dizzy bends', ond er gwaethaf datblygiadau tai enfawr yn y degawdau diwethaf, mae'n dangos ein bod eto i weld datblygiadau ffyrdd yn lleol i fynd gyda hynny. Rwyf wedi codi materion sylweddol dro ar ôl tro ynglŷn â hynny, a diogelwch a thagfeydd yn rhan ganol yr A55, sy'n rhedeg trwy fy etholaeth i yng ngogledd Cymru, nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â nhw o gwbl. Yn hytrach, fe welsant yn dda i rewi pob prosiect adeiladu ffyrdd. Nid ydym yn achub y blaned drwy gyfyngu ar symud pobl a nwyddau yng Nghymru, ond rydym yn niweidio'r economi.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu'r gwrthwyneb. Rydym yn falch o fod o blaid y modurwr, o blaid y gweithiwr, o blaid busnes ac o blaid twf. Rydym am gael gwared ar y terfyn diofyn o 20 mya, rydym am adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55, deuoli'r A40 a darparu trydedd bont dros y Fenai. Oherwydd mae gwell cysylltedd ffyrdd yn golygu cymunedau cryfach ac economi fwy cystadleuol yng Nghymru. Lywydd, mae angen inni roi'r gorau i arafu Cymru, yn llythrennol ac yn economaidd. Rhaid inni roi'r gorau i ddewis tagfeydd dros gysylltedd ac ideoleg dros seilwaith. Rwy'n annog pawb i bleidleisio o blaid ein cynnig, heb ei ddiwygio, i gael Cymru i symud eto. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth nawr—Ken Skates.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod wedi gweithredu gyda phwrpas drwy gydol tymor y Senedd hon i adeiladu system drafnidiaeth sy'n diwallu anghenion heddiw, ond sydd hefyd yn paratoi Cymru ar gyfer galwadau yfory. Hoffwn fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau penodol a godwyd yn y ddadl hon.
Yn gyntaf oll, 20 mya. Ugain milltir yr awr yw pobl yn cerdded i ffwrdd o wrthdrawiadau a fyddai fel arall wedi dod â bywyd i ben. Mae wedi golygu nad yw gwasanaethau brys yn gorfod wynebu canlyniadau trasiedi ac nad yw teuluoedd yn clywed y gnoc ar y drws na ddylai neb orfod ei hofni byth. Nawr, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd o yswiriant cerbyd rhatach o ganlyniad i'r polisi hwn, sy'n dda i fusnesau ac mae'n dda i aelwydydd. Ac fel y dywedais o'r blaen, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn tynnu'r mater hwn allan o'r rhyfeloedd diwylliant, i fod yn onest a gallu cael dadl ar y dystiolaeth. A dyna pam y gwnaethom gomisiynu gwerthusiad annibynnol, i adrodd mewn tri cham. Yn gyntaf, adroddiad cychwynnol eleni, yna adroddiad interim y flwyddyn nesaf ac adroddiad terfynol yn 2029. Darn gwirioneddol wrthrychol o waith.
Nawr, mae ein buddsoddiad mewn rheilffyrdd yn ddigynsail o ran uchelgais a maint. Mae metro de Cymru wedi'i sefydlu'n gadarn. Mae'n un o'r rhaglenni seilwaith mwyaf trawsnewidiol y mae Cymru wedi'i chyflawni erioed. Mae mwy na £1 biliwn wedi'i fuddsoddi yn llinellau craidd y Cymoedd, gan ail-siapio'r ffordd y mae pobl yn symud ar draws y rhanbarth a moderneiddio seilwaith sydd wedi dyddio. Ac wrth gwrs, adeiladu rhwydwaith integredig cyflym ac aml. Mae'r metro wedi bod yn llwyddiant enfawr. Ac ochr yn ochr â hyn, rydym wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd, gan ddyblu, bron iawn, y nifer sy'n gweithredu ar y rhwydwaith. Mae'r trenau hyn yn darparu mwy na chyfforddusrwydd, maent yn e gwneud hi'n bosib gwella'r amserlen, sicrhau gwasanaethau amlach a phrofiad mwy dibynadwy. Mae nodweddion hygyrchedd modern, trenau glanach a mwy effeithlon a mwy o gapasiti seddi bellach yn cael eu teimlo gan deithwyr ar draws y rhwydwaith, gan wella boddhad teithwyr i lefelau y byddai gweithredwyr rheilffyrdd eraill yn Ewrop yn eiddigeddus ohonynt.
Mae ein diwygiadau i'r system fysiau yn cyd-fynd â'r uchelgais hwn. Mae'r Senedd wedi pasio Bil bysiau nodedig, gan gyflwyno masnachfreinio a rhoi teithwyr a chymunedau yn y canol wrth gynllunio gwasanaethau. Drwy gydlynu gwell ac atebolrwydd cliriach, byddwn yn adeiladu rhwydwaith bysiau sy'n gweithio'n ddibynadwy i bobl sy'n dibynnu arno bob dydd. Ac rydym eisoes yn gweld yr effaith. Mae mwy na 2 filiwn o deithiau wedi'u gwneud bellach gan bobl ifanc gan ddefnyddio'r cap tocynnau o £1 a ddatblygwyd gennym gyda Jane Dodds, gan wneud teithio'n fwy fforddiadwy, ehangu mynediad at addysg a hamdden, a helpu i feithrin arfer hirdymor o ddewis trafnidiaeth gyhoeddus. Ar rwydwaith TrawsCymru Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol a chalonogol iawn yn nifer y teithwyr, sy'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gennym reolaeth ar y rhwydwaith llawn.
Nawr, mae rhwydwaith ffyrdd diogel a gwydn yn parhau i fod yn hanfodol i'r weledigaeth ehangach hon, a dyna pam y gwnaethom lansio rhaglen fawr ar gyfer adnewyddu ffyrdd, gan ddechrau gyda chynllun gwerth £180 miliwn i adnewyddu pont dros afon Dyfrdwy—prosiect hanfodol i ogledd Cymru gyfan. Rydym hefyd yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar ffyrdd. Mae'n ffaith anhygoel, ac yn gyflawniad gwirioneddol drawiadol yn fy marn i, ein bod eisoes wedi gwella 627 km o ffyrdd eleni ac wedi llenwi 203,000 o dyllau ffordd, y mwyafrif ohonynt yng nghefn gwlad Cymru. Rwy'n falch o sicrhau James Evans mai Powys a Cheredigion yw'r rhai sydd wedi elwa fwyaf o hyn, gyda 71 o brosiectau eisoes wedi'u cwblhau a dros 50,000 o dyllau wedi'u llenwi neu eu hatal.
Nawr, er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn gwasanaethu anghenion economaidd hirdymor Cymru, rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad cynhwysfawr ar brif lwybrau strategol, gan gynnwys yr M4, yr A55, yr A484 a'r A483. Bydd yr asesiad hwn yn nodi'r ymyriadau sydd eu hangen i wella llif traffig a dibynadwyedd ar hyd coridorau sy'n hanfodol ar gyfer busnes, masnach a chysylltedd. Mae'n ymwneud â chynllunio'n ddeallus ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod ein seilwaith yn cyd-fynd ag uchelgais economaidd Cymru.
Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â chynlluniau metro rhanbarthol newydd mewn rhannau eraill o Gymru, i adlewyrchu gweledigaeth metro de Cymru. Mae darparu rhwydwaith gogledd Cymru yn digwydd yn gyflym ac mae wedi'i gydgysylltu a'i integreiddio â Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr. Rwy'n gwybod bod rhai wedi bod yn feirniadol o fuddsoddi mewn seilwaith yn Lloegr, er ei fod o fudd i bobl sy'n cymudo o Gymru, ond gadewch imi ddyfynnu o achos 2018 dros fuddsoddi gan yr Athro Mark Barry, adroddiad ardderchog:
'Mae datblygu'r cysyniad o Bwerdy Gogledd Lloegr wedi dal dychymyg pobl ac wedi dod yn fynegiant arall o feddwl a gweithredu datganoledig. Fel cysyniad ac mewn strategaeth mae'n cynnwys gogledd Cymru.'
Nawr, aeth yr Athro Barry rhagddo i ddadlau dros fuddsoddi ar draws gogledd Cymru a Lloegr er budd dinasyddion Cymru ac economi Cymru. I ateb cwestiwn Janet Finch-Saunders, rwy'n falch iawn fod gwaith ar y gweill o'r diwedd ar brif linell gogledd Cymru ac ar y llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl a hyrwyddwyd gan yr Athro Barry yn gywir ddigon ac a fydd yn arwain at gynnydd enfawr yn nifer y gwasanaethau trên.
Mae'r holl gyflawniadau hyn yn adlewyrchu llawer mwy na buddsoddiad, fodd bynnag: maent yn adlewyrchu gweledigaeth glir a hyderus, gweledigaeth o genedl lle nad yw trafnidiaeth yn rhwystr, ond yn bont i gyfle, lle mae cymunedau'n gysylltiedig, lle gall busnesau ffynnu, a lle bydd cenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu system sy'n lanach, yn fwy diogel ac yn fwy gwydn na'r un o'i blaen, ac sydd, yn hollbwysig, wedi'i chysylltu â gweddill Prydain, nid wedi'i thorri i ffwrdd oddi wrth weddill Prydain.
Ac yn olaf, i'r Torïaid, hoffwn eu hatgoffa o'r ffordd y gwnaethant achosi degawd o gyni i gynghorau ledled Cymru, cael gwared ar brosiectau fel trydaneiddio'r llinell i Abertawe, HS2 cam 2 a thraffyrdd clyfar, i gyd ar gost enfawr i'r trethdalwr. Ac i Blaid Cymru, hoffwn ofyn sut y bydd eu haddewidion yn cael eu hariannu mewn Cymru annibynnol a fyddai'n wynebu diffyg blynyddol o fwy na £12 biliwn. Diolch yn fawr iawn.
Tom Giffard nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau, hyd yn oed os nad oeddwn yn cytuno â phopeth a gâi ei ddweud o reidrwydd.
Nawr, edrychwch, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig, a dywedodd Sam Rowlands hyn pan agorodd y ddadl heddiw, yn gwybod ac yn deall bod trafnidiaeth yn rhan gwbl annatod o'n heconomi. Mae'n rhan annatod o'n twf economaidd neu ddiffyg twf yma yng Nghymru, ac nid yw'n syndod ein bod wedi gweld bod Llywodraeth Cymru nad yw o ddifrif ynglŷn â thrafnidiaeth—ac mae'n amlwg drwy rai o'r gweithredoedd a nodwyd gan gyd-Aelodau, nad yw o ddifrif ynglŷn â thrafnidiaeth—yn arwydd o Lywodraeth nad yw ddigon o ddifrif ynghylch yr economi.
Nid yw'n syndod fod y Prif Weinidog wedi dweud am ei rhagflaenydd nad oedd ganddo ddiddordeb yn yr economi, ac nid yw'n syndod fod y cyn-Weinidog trafnidiaeth wedi dweud nad oedd Llafur yn deall beth oedd yn ei wneud ar yr economi. Ac efallai nad oes unrhyw faes yn dangos hynny'n well na thrafnidiaeth. Gwnaed rhai penderfyniadau allweddol, yn enwedig ynglŷn â rhewi prosiectau ffyrdd ar ddechrau tymor y Senedd hon.
Clywsom gan Sam Kurtz pa mor bwysig oedd yr A40 i gysylltedd yng ngorllewin Cymru. Clywsom gan Gareth Davies pa mor bwysig oedd yr A55 i gysylltedd yng ngogledd Cymru. A chlywsom gan frenhines y gogledd, Janet Finch-Saunders, am bwysigrwydd trydedd bont Menai a pha mor bwysig yw honno i gysylltu Ynys Môn â gweddill Cymru.
Nawr, yn anffodus, nid yw'r un uchelgais i'w weld gan bleidiau eraill. Pan gododd Sam Rowlands ar ei draed i agor y ddadl hon, dim ond un Aelod o Blaid Cymru oedd yn y Siambr. Dyna pa mor bwysig yw cysylltedd trafnidiaeth yma yng Nghymru i Blaid Cymru. Ac yn y cyfraniad hwnnw, y cyfan o'r cyfraniad hwnnw, tri munud a hanner, yr unig beth a oedd ganddynt i siarad amdano o ran eu cynlluniau ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth yng Nghymru oedd rheilffordd yn Lloegr. Nawr, rydym yn cytuno â'r galwadau am gyllid canlyniadol ar gyfer HS2 yn Lloegr, ac fe fyddech chi'n meddwl bod gan Blaid Cymru rywbeth i'w ddweud ar gysylltedd trafnidiaeth yng Nghymru, ond nid oedd ganddynt unrhyw beth o gwbl i'w ddweud. A nawr—[Torri ar draws.] O, mae ganddynt lawer i'w ddweud nawr; hoffwn pe baech chi yma ar ddechrau'r ddadl, Llyr. Nawr, rwy'n ddiolchgar am yr un Aelod o Blaid Cymru a oedd yma, ond nid oedd unrhyw Aelod o Reform yma o gwbl. Nid oedd Democrat Rhyddfrydol yn y Siambr. Dyna pa mor bwysig yw trafnidiaeth i'r pleidiau hyn; rhywbeth na fyddwch chi byth yn ei gael gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Nawr rwy'n ddiolchgar hefyd i'r cyfraniadau eraill—[Torri ar draws.] Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r cyfraniadau eraill a glywsom, yn enwedig gan Mike Hedges, a aeth â ni ar daith map yr arolwg ordnans o amgylch Treforys a'i holl derfynau cyflymder amrywiol. Nawr, agorodd Mike trwy ddweud bod etholwyr, ein cyd-etholwyr, eisiau gweld ffyrdd yn cael eu cynnal a'u cadw a thyllau ffordd wedi'u trwsio, ac rwy'n cytuno â chi, Mike, ond rwy'n cwestiynu faint ohonynt sy'n teimlo bod cyngor Abertawe yn gwneud hynny.
Ac rwy'n ddiolchgar hefyd i James Evans am ei gyfraniad a'r pwyslais y mae'n ei roi ar ganolbarth Cymru. Nawr rwy'n cytuno ag ef a dyna pam—ac mae'n gwybod hyn—dyna pam yr ymgyrchwyd am ffordd osgoi y Drenewydd gan y Ceidwadwyr yma, a'i sicrhau ganddynt hefyd, ac yn amlwg rydym yn deall pwysigrwydd yr A470 a grybwyllodd James, a gallai fod wedi diwygio—[Torri ar draws.] Ie, da iawn, Russell. A gallai James fod wedi diwygio'r ddadl hon i gynnwys yr A470 a byddem wedi cefnogi hynny wrth gwrs, ac mae'n ddrwg gennyf eich bod wedi dewis peidio â gwneud hynny heddiw, James.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad.
Buaswn yn hapus iawn i ddiwygio'r cynnig. Rwy'n synnu nad oedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig hynny yn y lle cyntaf. Mae'n dangos faint y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn malio am ganolbarth Cymru, a phe baent yn malio ychydig mwy am ganolbarth Cymru, efallai y buaswn i'n eistedd yno, nid yma.
Wel, yn sicr ni wnaethoch sôn am gysylltedd trafnidiaeth yn eich rhesymau dros adael y Ceidwadwyr Cymreig. Ond eto, rwy'n credu bod y diffyg difrifoldeb—. Hynny yw, mae rheswm newydd bob dydd, onid oes, James?
Ond edrychwch, yr A470, i symud ymlaen: gallech fod wedi diwygio'r cynnig heddiw er mwyn cynnwys hynny, ond fe wnaethoch chi ddewis peidio â gwneud hynny, ac mae'n drueni na ddigwyddodd hynny.
Nawr, pan edrychwn ar y ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur yn edrych ar bolisi trafnidiaeth yma yng Nghymru, efallai fod yna ddau fater y gallem dynnu sylw atynt. Y cyntaf yw 20 mya. Nawr, gwyddom fod hanner miliwn o lofnodion i'r lle hwn yn erbyn y polisi terfynau cyflymder diofyn 20 mya, sydd wedi'u hanwybyddu'n ddiseremoni ac yn parhau i gael eu hanwybyddu gan bobl fel Joyce Watson, er bod y pryderon hynny wedi'u codi. [Torri ar draws.] Na, dim diolch—
Os gwnewch chi ildio, fe roddaf reswm i chi dros—
Na, rydym wedi cael—. Fe wyddom fod hanner miliwn o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb honno yn eu herbyn, wedi'u hanwybyddu'n llwyr gan y Llywodraeth Lafur; £33 miliwn yn cael ei wario ar arwyddion ffordd ledled Cymru, ac mae llawer yn gwybod, yn y cymunedau hynny, am y terfynau cyflymder 20 mya yr awr hynny nad ydynt yn gweithio. Mae yna derfynau cyflymder 20 mya sy'n gweithio, ond gall llawer iawn o bobl roi enghreifftiau o derfynau cyflymder 20 mya yn eu cymunedau nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr, ac mae hynny'n ganlyniad i'r dull o'r brig i lawr a welsom gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n meddwl mai'r Llywodraeth sy'n gwybod orau, ac y gellir gwneud penderfyniadau yng Nghaerdydd am derfynau cyflymder ledled y wlad. Nid yw'n gwneud synnwyr.
A hefyd, ar ffordd liniaru'r M4, fe wyddom fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo y byddent yn darparu ffordd liniaru'r M4, oherwydd eu bod yn gwybod—. Roeddent yn arfer gwneud y dadleuon a wnaethom ni am bwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth, ynglŷn â sut y mae hynny'n tyfu ein heconomi, a nawr fe wyddom eu bod wedi canslo'r prosiect hwnnw heb i un fodfedd o ffordd gael ei hadeiladu yng Nghymru. Collwyd £150 miliwn o arian trethdalwyr yn llwyr o ganlyniad i ganslo'r prosiect hwnnw. Ni fyddem byth mor ddiofal â hynny gydag arian cyhoeddus, ac yn sicr byddem yn bwrw ymlaen i gyflawni ffordd liniaru'r M4.
Nawr, rwyf am orffen gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n dadl ac fel Janet Finch-Saunders, rwy'n eich hoffi chi hefyd, Ken; rwy'n credu eich bod chi'n Weinidog talentog iawn. Fodd bynnag, er gwaethaf eich doniau, fe wnaethoch chi adael un neu ddwy o ffeithiau allan o'ch ymateb. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at gyflawni'r metros, ond wrth gwrs cawsant eu cyflawni gyda chyfraniad o £500 miliwn gan Lywodraeth Geidwadol y DU o ganlyniad i'r bargeinion dinesig. Ac ar fysiau, fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol fod llawer o weithredwyr bysiau wedi cyfeirio at y polisi 20 mya fel rhywbeth sy'n arafu llwybrau bysiau, gan arwain at ganslo rhai, ac at wneud i eraill gymryd mwy o amser, a bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dod â chymorthdaliadau i gwmnïau bysiau i ben ar yr un pryd, a arweiniodd hefyd at ddod â llwybrau bysiau i ben. Felly, mae'n amlwg, onid yw, Ddirprwy Lywydd, nad oes gan Blaid Cymru, Reform a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddiddordeb mewn gwella ein cysylltedd trafnidiaeth yma yng Nghymru, ac am y Blaid Lafur, maent ar y llwybr anghywir ac wedi rhedeg allan o ffordd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru, tai. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9122 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cyflwr tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop.
2. Yn cydnabod effaith sylweddol tai gwael a'r argyfwng tai ehangach ar iechyd y cyhoedd, costau byw, tlodi tanwydd, a'r amgylchedd.
3. Yn credu bod angen ffocws clir, traws-lywodraethol ar gyfer gweddill tymor y Senedd hwn i gael gwared ar rwystrau a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol newydd, mewn ymateb i ddigartrefedd cynyddol, rhestrau aros hir, y defnydd uchel o lety dros dro, a chostau rhentu anfforddiadwy.
4. Yn cydnabod y manteision niferus o wella safonau tai, gan gynnwys costau aelwydydd is, creu swyddi, cefnogaeth i economïau lleol, arbedion i'r GIG, a chynnydd wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar gyflymder a darparu diweddariad cynhwysfawr;
b) nodi sut y bydd yn addasu ei rhaglenni ôl-osod a'r cynllun Trechu Tlodi Tanwydd wedi i ECO4 ddod i ben, colli sgiliau ôl-osod lleol, a newidiadau i gynllun Warm Homes Llywodraeth y DU; ac
c) amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer dyrannu'r cynnydd disgwyliedig i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ymrwymiadau Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod adolygiad gwariant hwn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru mewn argyfwng tai, ac mae’r argyfwng hwnnw’n dyfnhau pob dydd. Dydy hyn ddim yn fater ymylol nac yn broblem dros dro, ac mae mwyafrif o bobl Cymru yn cydnabod hynny, efo problemau tai yn drydydd ymhlith pryderon pobl Cymru mewn arolwg ar ôl arolwg, wrth i bobl feddwl am y dyfodol. Yn dilyn iechyd a swyddi, tai ydy un o bryderon mawr ein dyddiau ni. Mae’r argyfwng yn effeithio ar filoedd o aelwydydd ledled Cymru, ar deuluoedd, ar blant ac ar unigolion sy’n cael eu hamddifadu o’r peth mwyaf sylfaenol, sef cartref diogel a sefydlog. Gadewch i ni fod yn gwbl glir o’r cychwyn cyntaf: mae amodau tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop. Mae gormod o bobl yn byw mewn cartrefi o ansawdd gwael, sy’n anniogel ac yn anaddas. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwaethygu iechyd y cyhoedd, yn gwthio costau byw i fyny, yn gwaethygu tlodi tanwydd ac yn tanseilio ein hymdrechion ni i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r dystiolaeth yn glir ac yn gyson ar draws y sector tai cyfan. Ac mae’r canlyniadau i’w gweld yn ein strydoedd ni ac yn ein cymunedau ni. Mae digartrefedd yn parhau i godi. Mae rhestrau aros am dai cymdeithasol yn annerbyniol o hir—tua 170,000 o bobl ar hyn o bryd ar restrau aros. Mae dros 13,000 o bobl wedi ceisio am gymorth am ddigartrefedd gan awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Ac ym mis Hydref diwethaf, roedd mwy na 10,000 o bobl yn gaeth mewn llety dros dro, gan gynnwys bron i 3,000 o blant, llawer ohonyn nhw heb fynediad at gyfleusterau coginio neu olchi dillad, weithiau am fisoedd, hyd yn oed flynyddoedd. [Torri ar draws.] Ie, Janet.
Diolch yn fawr, Siân. A fyddech chi'n derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn, a chithau ar bob achlysur wedi cefnogi'r holl ddeddfwriaeth newydd a ddaeth i mewn sydd wedi golygu bod landlordiaid preifat yn gadael y farchnad? Mae bellach yn costio, i rywun mewn gwesty, £100 y dydd yr oedolyn, £76 y plentyn. Os adiwch hynny, i fam a dau o blant, mae hynny dros £3,000. Gallai'r bobl hynny fod wedi bod mewn llety rhent preifat am oddeutu £900 y mis. Mae gwariant ar lety dros dro newydd godi. A ydych chi'n derbyn peth cyfrifoldeb am gefnogi'r ddeddfwriaeth honno, sydd wedi golygu bod cymaint o bobl bellach yn chwilio am, ac yn byw mewn llety dros dro?
A gaf i eich atgoffa chi bod y broblem yn sylfaenol yn ymwneud efo diffyg tai cymdeithasol? Mae'r cyflenwad tai cymdeithasol wedi cael ei haneru yn ystod y cyfnod diwethaf yma, ac mae hynny oherwydd polisi hollol fwriadol y Torïaid, sef y polisi hawl i brynu. Felly, na, dwi ddim yn derbyn bod y broblem fel rydych chi'n ei hesbonio; mae'r broblem yn gorwedd efo chi.
Y tu hwnt i'r problemau dwi wedi eu hesbonio yn barod, y realiti ydy bod y sector rhentu preifat yn un gwbl anfforddiadwy i lawer. Mae rhenti yng Nghymru yn codi ar y gyfradd gyflymaf ym Mhrydain, tra bod y lwfans tai lleol yn parhau i gael ei rewi gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. Mae’r bwlch rhwng yr hyn mae pobl yn ei gael a’r hyn sydd ei angen arnyn nhw yn tyfu, ac mae hynny’n gwthio mwy a mwy o bobl i mewn i dlodi a digartrefedd. Ac fel dwi wedi sôn, wrth wraidd hyn oll mae yna un gwirionedd syml: does gennym ni ddim digon o dai cymdeithasol, canlyniad uniongyrchol i bolisïau’r gorffennol, yn enwedig right to buy, ond mae o hefyd yn adlewyrchu methiant y Llywodraeth bresennol yng Nghymru i gynyddu’r cyflenwad ar y raddfa a’r cyflymder sydd ei angen. Mae yna beth cynnydd wedi digwydd yn ddiweddar, a da hynny, ond mae angen i'r cynyddu yna fod yn un systematig ac yn un strwythurol yn hytrach nag anelu at gyrraedd targed yn unig, a dwi'n poeni nad ydy'r newidiadau mawr strwythurol yna yn digwydd ar hyn o bryd.
Mae'r argyfwng yn codi cwestiynau dyfnach am egwyddorion. Mi ddylai tai cymdeithasol fod yn rhywbeth y gall pob un ohonom ddyheu amdanyn nhw, nid rhywbeth sy'n cael ei stigmateiddio neu ei gyfyngu i'r rhai sy'n 'ddigon tlawd' ar bapur.
Mae'r comisiynydd plant wedi dweud yn glir fod y system dai bresennol yn gadael plant i lawr ac yn torri eu hawliau. Mae Sefydliad Bevan wedi rhybuddio am y perygl o niwed i'r plant sydd mewn llety dros dro anaddas. Ac mae hyn oll yn mynd ymhellach na thai, wrth gwrs. Mae'n ymwneud ag iechyd, addysg, datblygiad plentyn a bywyd teuluol.
Dirprwy Lywydd, dydy'r sefyllfa yma ddim yn ddigon da. Dim dyma ydy'r Gymru rydyn ni ei heisiau, a ddylem ni ddim derbyn mai fel hyn mae'r dyfodol i fod. Mae yna ffordd well ymlaen, ac mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth a gobaith newydd.
Rydym ni'n ymrwymo i weithredu'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), sydd ar daith drwy'r Senedd ar hyn o bryd. Rydym ni am wreiddio y dull ataliol, a'r egwyddor tai yn gyntaf, trawma-wybodus, sy'n rhoi'r unigolyn wrth wraidd y system. Ac rydym ni am weld yr hawl i dai digonol wedi'i gwreiddio yn y gyfraith yng Nghymru, gan wneud yn glir ei bod hi'n hawl sylfaenol.
Dwi'n mynd yn ôl eto at y ffaith bod cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn allweddol. Dwi ddim yn ymddiheuro am hyn. Mae hwn yn greiddiol i ateb yr argyfwng tai, a dyna pam y byddai Plaid Cymru yn sefydlu corff, Unnos, i gyflymu'r twf mewn cyflenwad y tai cymdeithasol, drwy gefnogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, a sbarduno arloesi.
Rhaid inni hefyd gryfhau hawliau rhentwyr, cyflwyno rhenti teg, dod â diwedd i droi allan heb fai, a sicrhau bod pob cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn addas i fyw ynddo fo. Mae'r dystiolaeth yn glir, ac mae'r dioddef sy'n cael ei deimlo ar lawr gwlad yn real iawn. Mi ddof i nôl at hynny. Roedd gen i enghreifftiau yn fy inbox i y bore yma o realiti y sefyllfa.
Tan hynny, dwi'n edrych ymlaen i glywed cyfraniadau yr Aelodau, ac mi fydd fy nghyd-Aelodau i ym Mhlaid Cymru yn manylu ar dlodi tanwydd a'r angen am eglurder am beth sydd i ddigwydd yn sgil diddymu ECO4. Mi fyddwn ni'n edrych ar effaith cartrefi oer a thamp ar iechyd pobol, a'r angen i wneud mwy i ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu pob un a rhoi yn eu lle:
1. Yn cydnabod bod Cymru yng nghanol argyfwng tai.
2. Yn gresynu bod llywodraethau olynol yng Nghymru wedi methu ag adeiladu digon o gartrefi newydd i ymateb i'r galw.
3. Yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar gartref.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn ddemocratiaeth perchnogion cartrefi drwy wneud y canlynol:
a) diddymu treth trafodiadau tir ar bob prif gartref;
b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, gan ail-fuddsoddi'r hyn a enillir drwy werthiannau mewn tai mwy fforddiadwy;
c) adeiladu mwy o gartrefi oes sy'n hygyrch ac y gellir eu haddasu i bobl o bob oedran a gallu drwy gydol eu bywydau;
d) dod â mwy o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd; ac
e) ymestyn ac ehangu'r cynllun cymorth i brynu i bob prynwr tro cyntaf.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant yn enw Paul Davies. Yn anffodus, oherwydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, wedi'i chynnal gan Blaid Cymru, gŵyr pob un ohonom fod Cymru mewn argyfwng tai. Ni all unrhyw un wadu hynny. Ond mae honni, fel y mae Plaid Cymru yn ei wneud, fod cyflwr tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop yn gwbl gamarweiniol. Nid oes tystiolaeth gredadwy ledled Ewrop sy'n gosod Cymru ar waelod y tabl. Mae cyflwr tai'n amrywio'n fawr ar draws gwledydd Ewrop, ac nid yw data awdurdodol ar faterion fel gorlenwi ac effeithlonrwydd ynni yn nodi bod Cymru'n unigryw o dlawd. Er bod problemau go iawn yma, nid ydynt yn eithriadol yn ôl safonau Ewropeaidd.
Wedi dweud hynny, rwy'n llwyr gydnabod bod tai gwael yn arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd y cyhoedd, costau byw, tlodi tanwydd, a'r amgylchedd. Mae cartrefi oer, llaith ac aneffeithlon yn gwneud pobl yn sâl wrth gwrs. Maent yn cynyddu biliau ynni ac yn cyfrannu at allyriadau cynyddol. Ond mae angen inni fod yn onest ynglŷn â pham fod y problemau hyn yn bodoli. Maent yn ganlyniad i ffactorau strwythurol hirdymor sydd wedi cronni dros ddegawdau.
Gan Gymru y mae un o'r stociau tai hynaf yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym gyfran uwch o lawer o gartrefi a adeiladwyd cyn 1919 o gymharu â Lloegr, ac adeiladwyd llawer cyn bod safonau adeiladu modern yn bodoli hyd yn oed. Mae hyn yn eu gwneud yn fwy anodd eu gwresogi ac yn fwy agored i leithder ac i ddadfeilio. Mae gennym broblem o ran tanfuddsoddi hanesyddol mewn gwaith cynnal a chadw ac ôl-osod, yn enwedig mewn hen ardaloedd diwydiannol a gwledig, ac mae hyn wedi caniatáu i broblemau waethygu dros amser. Adeiladwyd llawer o'n tai yn gyflym i wasanaethu mwyngloddio a diwydiant trwm, ac ni chawsant eu cynllunio ar gyfer bywyd modern nac i gael eu haddasu'n hawdd. Cafodd hyn ei waethygu gan incwm is na'r cyfartaledd, sydd wedi cyfyngu ar allu perchnogion tai a landlordiaid i fuddsoddi mewn gwelliannau. Ychwanegwch at hynny heriau gwledigrwydd, eiddo nad ydynt ar y grid nwy, prinder sgiliau ôl-osod, ffocws polisi hirsefydlog ar adeiladu tai newydd dros gartrefi sy'n bodoli'n barod, a hinsawdd wlypach Cymru, a daw'n amlwg pam fod Cymru yn y sefyllfa y mae ynddi.
Nid yw cynnig Plaid Cymru yn cynnig unrhyw atebion go iawn i'r problemau hyn. Mae ffocws trawslywodraethol yn syniad braf, ond ychydig wythnosau'n unig sy'n weddill o dymor y Senedd hon. Felly, beth y mae hynny'n mynd i'w gyflawni mewn gwirionedd? Y gwir sylfaenol amdani yw hyn: nid yw'r cyflenwad wedi dal i fyny â'r galw yng Nghymru, a lle dylai rhai cartrefi fod wedi cael eu dymchwel a'u hadeiladu o'r newydd, mae pobl wedi gorfod aros ynddynt am nad oes unman arall ganddynt i symud iddo.
Mae'r Llywodraeth Lafur hon, wedi'u cefnogi'n llawn gan Blaid Cymru dros y blynyddoedd, yn gul eu meddwl gan mai dim ond drwy adeiladu tai cymdeithasol y gallant weld ffordd allan. Ond nid yw hyn yn cefnogi mwyafrif y boblogaeth, sydd ag anghenion tai hefyd. Er gwaethaf yr hyn a ddywed unrhyw un, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi methu adeiladu digon o gartrefi. Mae targedau wedi'u methu ac mae'r ddarpariaeth yn parhau i fod ymhell islaw'r hyn sydd ei angen, ac mae'r gwir bris yn cael ei dalu bellach wrth i fwy o bobl ei chael hi'n anodd cael mynediad at dai addas a diogel.
Rwyf fi a'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod yna obaith pe bai Llywodraeth Cymru'n cydnabod y rôl gadarnhaol y gall perchentyaeth ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r problemau hyn, a phe bai ganddi bolisïau a fyddai'n lleihau'r rhwystrau i berchentyaeth, fel cael gwared ar y dreth stamp yng Nghymru, y dreth trafodiadau tir, ac adfer yr hawl i brynu. Mae perchentyaeth yn fwy na dewis deiliadaeth: mae'n fecanwaith ar gyfer gwell buddsoddiad hirdymor yn y stoc dai ac mewn sicrwydd ariannol. Mae tystiolaeth yn dangos bod perchnogion tai'n fwy tebygol o fuddsoddi mewn cynnal a chadw a gwneud gwelliannau i'w heiddo na'r rhai heb gyfran yn eu cartref. Mae arolygon o berchnogion tai yn y DU yn dangos bod y rhan fwyaf yn dewis gwella eu cartrefi'n gyson dros amser. Gyda gwariant sylweddol ar adnewyddu, fel gwaith uwchraddio'n gysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni, nododd dros hanner y perchnogion tai a holwyd eu bod wedi gwneud neu gynllunio gwelliannau yn y flwyddyn ddiwethaf, ac nid yn unig fod y buddsoddiadau hyn yn ychwanegu gwerth, maent hefyd yn mynd i'r afael â phroblemau fel oerfel, lleithder ac effeithlonrwydd ynni. Iawn.
A gaf i eich holi ynglŷn ag un pwynt, Joel, mewn perthynas â sut y byddai cael gwared ar yr hawl i brynu'n cryfhau ansawdd cartrefi, pan fo cartrefi cymdeithasol o ansawdd llawer gwell na chartrefi'r sector preifat?
Fe ddof at hynny yn nes ymlaen. Yn ei hanfod, mae perchentyaeth yn cefnogi gwydnwch ariannol. Y tu hwnt i aelwydydd unigol, gall cyfraddau uwch o berchentyaeth gynaliadwy arwain at fanteision economaidd ehangach. Pan fydd pobl yn berchen ar eu cartrefi ac yn buddsoddi ynddynt, mae cadwyni cyflenwi lleol ar gyfer masnach, adeiladu a gwasanaethau ôl-osod yn elwa, gan gefnogi swyddi a gweithgarwch economaidd. Mae sefydlogrwydd deiliadaeth hirach hefyd yn cefnogi cydlyniant a lles cymunedol, ffactorau sy'n cydberthyn i ganlyniadau iechyd a chymdeithasol gwell.
Mae hyn yn fy arwain at bwynt allweddol arall y credaf ei fod yn hanfodol bwysig. Dylai tai newydd, preifat neu gymdeithasol, fod â gofyniad adeiladu fel eu bod wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd aml-genhedlaeth. Yr hyn a olygaf wrth hynny yw bod cartrefi'n dal i gael eu hadeiladu gyda gallu cyfyngedig i gael eu haddasu ar gyfer anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cartrefi newydd y gellir eu huwchraddio a'u haddasu'n hawdd wrth i dechnoleg ac anghenion teuluoedd a chymunedau newid.
Yn olaf, gallwn siarad cymaint ag y mynnwn am adeiladu mwy o gartrefi, ond rhaid inni gydnabod nad oes gennym y gweithlu yng Nghymru i ddiwallu'r galw. Mae astudiaethau parhaus yn dangos bod gennym sector adeiladu sy'n heneiddio, gyda'r grŵp oedran mwyaf yn bobl dros 60 oed. Wrth iddynt ymddeol, rydym yn colli eu sgiliau, ac mae'r bwlch sgiliau'n chwarae rhan sylweddol, gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn amcangyfrif bod angen 12,000 o weithwyr ychwanegol yng Nghymru, ar draws y sector tai cyfan, i ddiwallu'r galw, sef cynnydd o 11 y cant.
Mae angen ichi ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda, Joel.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn dawel ar hyn ac yn parhau i wrthod galwadau i sefydlu strategaeth i ddatblygu'r gweithlu adeiladu. Hyd nes yr awn i'r afael â'r her honno, dim ond geiriau cynnes a rhethreg yr ydym yn eu trafod heddiw yn y Siambr hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu pob un a rhoi yn eu lle:
Cynnig bod y Senedd yn:
Croesawu’r diwygiadau deddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol a geir yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i gefnogi’r nod tymor hir o ddod â digartrefedd i ben.
Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £540 miliwn dros dymor presennol y Senedd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £98 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i wella cartrefi cymdeithasol yn 2026-27.
Croesawu Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU ac yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i gael y gorau o effeithiau’r ymyriadau a’r buddsoddiad a ddaw o’r cynllun, i wella canlyniadau i bobl Cymru.
Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 filiwn mewn tai cymdeithasol gan ddisgwyl darparu 20,000 o dai carbon isel ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd.
Cydnabod y niwed i’r piblinellau datblygu tai o ganlyniad i Brexit a mini-gyllideb Liz Truss, a galw ar bob plaid i ymrwymo i raglen adeiladu tai uchelgeisiol ar draws y sectorau cymdeithasol, preifat a chanolradd dros dymor nesa’r Senedd a thu hwnt.
Croesawu ymrwymiad a chyd-berchenogaeth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid sectorol wrth roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar waith.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Rwy'n cynnig y gwelliant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cysylltiad annatod rhwng cyflwr ein stoc dai a chyflwr iechyd y cyhoedd. Nid ydynt wedi'u cysylltu'n llac nac yn perthyn o bell, maent yn gwbl gysylltiedig, ynghlwm wrth ei gilydd ac yn anwahanadwy.
Nid yw hwn yn gysyniad newydd. Mae'n rhywbeth y gwyddom amdano ers canrifoedd, ond ymddengys ein bod yn ei anwybyddu neu'n troi llygad dall tuag ato. Roedd y diwygiwr cymdeithasol mawr o'r Drenewydd, Robert Owen, yn deall hyn dros 200 mlynedd yn ôl. Pan ddaeth yn gyfrifol am Lanark Newydd, gwelodd dai ofnadwy, lefelau glanweithdra ofnadwy, ac amodau a oedd yn magu salwch a chwalfa gymdeithasol. Nid beio'r bobl a oedd yn byw yno oedd ei ymateb, ond newid yr amodau yr oeddent yn byw ynddynt. Arweiniodd cartrefi gwell at iechyd gwell, a chynhyrchodd amgylcheddau glanach gymunedau cryfach.
Dysgwyd yr un wers anodd ledled Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd Ewrop wedi'i anrheithio gan golera. Yn ystod un don ofnadwy o'r clefyd yn Lerpwl, fe wnaeth meddyg, William Henry Duncan—swyddog iechyd cyntaf Prydain yn ddiweddarach—wrthod beio'r tlodion am fod yn sâl. Yn hytrach, fe bwyntiodd yn uniongyrchol at yr amgylchedd adeiledig: cartrefi gorlawn, diffyg draeniau, carthffosiaeth aflan. Rhybuddiodd fod cyflwr y tai'n cynyddu marwolaethau. Ag yntau'n weithiwr meddygol proffesiynol, yn wyneb salwch a marwolaethau ar raddfa fawr, nododd mai tai oedd un o achosion clefyd. Nid oedd yn beio methiannau moesol y bobl na dewisiadau bywyd gwael; nododd yn glir fod tai gwael yn arwain at iechyd gwael.
Ysbrydolodd y datblygiadau arloesol hyn eraill i fynd ymhellach ac i ddatblygu polisïau iechyd a thai integredig. Yn Fienna ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roeddent yn adeiladu cartrefi wedi'u cynllunio nid yn unig ar gyfer lloches, ond ar gyfer lles. Roedd blociau fel y Karl-Marx-Hof yn cynnwys meithrinfeydd, clinigau, baddondai cyhoeddus, mannau gwyrdd, siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus, y cyfan wedi'i lunio fel rhan o gymuned iach. Helpodd swyddogion iechyd y cyhoedd i arwain y gwaith cynllunio, gan sicrhau bod mynediad at ofal meddygol wedi'i gynnwys o'r cychwyn cyntaf. Roedd y gwersi'n glir: mae tai da yn atal clefydau, yn cefnogi plant a theuluoedd, ac yn cryfhau cymunedau.
A phan ddechreuodd prosiect Llywodraeth Attlee ar ôl y rhyfel, nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith mai Aneurin Bevan oedd y Gweinidog Iechyd a Thai. Roedd yn gwybod na allai gwasanaeth iechyd ar ei ben ei hun fynd i'r afael â'r niwed a wneid gan gartrefi oer, llaith a pheryglus. Mae triniaeth heb atal yn fethiant dan rith cynnydd, gan fod tai yn fwy na lloches yn unig: maent yn ymwneud ag atal, diogelu ac iechyd y cyhoedd.
Ydy ein cymdeithas fodern, gyfoes wedi dysgu gwersi anodd yr oesoedd a fu? Edrychwch ar achos truenus y bachgen bach dwyflwydd oed, Awaab Ishak, a laddwyd o ganlyniad i anadlu llwydni oedd ar furiau ei gartref, yn yr ystafell fyw, yr ystafell ymolchi, ac ar hyd ei ystafell wely. Mae tai gwael yn lleihau hyd bywydau llawer gormod o bobl, gyda chartrefi oer, llaith ac anniogel yn parhau i yrru salwch anadlol, clefyd y galon, gorbryder ac iselder, gan wthio pobl i ysbytai na ddylent fyth fod wedi gorfod bod ynddynt i gychwyn. Mae hyn yn gost uniongyrchol o dros £95 miliwn i'n gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob blwyddyn. Dyna arian sy'n cael ei wario ar drin niwed y gellid bod wedi'i atal—nid unwaith, ond drosodd a throsodd. Dyma ydy pris oedi rhag gweithredu.
A dydy'r niwed yma ddim yn dod i ben gyda salwch corfforol. Mae plant sy'n tyfu i fyny mewn cartrefi oer, gorlawn neu ansicr yn fwy tebygol o golli'r ysgol, cael trafferth canolbwyntio, a chario'r effeithiau drwy eu bywydau fel oedolion. Nid yw tai gwael yn niweidio'r ysgyfaint yn unig; maent yn niweidio cyfleoedd bywyd.
Ond mae yna ddatrysiadau hefyd. Mae gwaith rhagorol Care & Repair Cymru yn dangos pan fod tai yn cael eu gwneud yn ddiogel, yn gynnes ac yn hygyrch, fod posib lleihau mynediad brys i'r ysbyty, a chleifion yn dychwelyd adref yn gynt, gan fyw'n annibynnol. Mae gwaith Care & Repair wedi arbed miloedd o ddiwrnodau yn yr ysbyty.
Fedrwn ni ddim dweud ein bod ni'n poeni am iechyd cyhoeddus tra'n caniatáu i dai wneud pobl yn sâl. Fedrwn ni ddim siarad am les cenedlaethau'r dyfodol tra'n gadael i bobl fyw mewn tai sydd yn uniongyrchol yn effeithio ar eu lles ac iechyd, gan leihau cyfleoedd ein plant. Mae tai ac iechyd yn ddeubeth sydd yn gwbl glwm â'i gilydd. Nid lloches neu do uwch ein pen yn unig ydy tŷ; mae'n llawer iawn mwy na hynny. Mae'n gwbl ffurfiannol yn effeithio ar ddatblygiad babanod a phlant, eu twf, a'u cyfleoedd mewn bywyd. Mae'n effeithio ar allu person i fyw bywyd gydag urddas, neu ei allu i fyw ei ddyddiau olaf mewn parch. Altaf.
Diolch yn fawr iawn—
Na, nid oes gennych amser. Mae’n ddrwg gennyf, Altaf, ond mae eisoes wedi defnyddio ei amser. Roeddwn ar fin gofyn iddo ddirwyn i ben.
Mae’n ddrwg gennyf, Altaf. Gallwch gymryd amser rhywun arall. Mae’n ddrwg gennyf.
Tai ydy un o'r penderfynyddion cymdeithasol iechyd pennaf, felly, os ydyn ni'n sôn am yr agenda ataliol, wel, dyma ni; mae tai yn ganolog i hyn. Diolch.
Mae llawer yn gyffredin yn yr holl gynigion hyn. Mae'n anffodus fod gennym ddau welliant 'dileu popeth a rhoi yn eu lle', sy'n anochel, mae'n debyg, a ninnau mor agos at etholiad. Fodd bynnag, mae'r syniad y byddai adfer yr hawl i brynu yn gwneud unrhyw beth heblaw dyfnhau'r argyfwng tai yn chwerthinllyd; mae'n fymryn o wallgofrwydd mewn gwelliant sydd fel arall yn welliant Torïaidd eithaf synhwyrol. [Torri ar draws.]
Erys y ffaith, am bob tŷ rydych chi'n ei werthu, rydych chi'n adeiladu tri.
Mae hynny'n nonsens llwyr. Gadewch imi ddyfynnu'r ffigurau diweddaraf o Loegr i chi. Yn 2023-24, collwyd 20,500 o gartrefi cymdeithasol naill ai drwy'r hawl i brynu neu drwy eu dymchwel. Ac mae hynny'n golled net o 650 o gartrefi ar ôl ichi ystyried y niferoedd a adeiladwyd mewn gwirionedd. Felly, rhowch y gorau i siarad nonsens.
Yn ffodus, yng Nghymru, nid oes gennym y golled net honno, sy'n hanfodol, oherwydd ar wahân i golli tai cymdeithasol prin yng nghanol argyfwng tai, byddai adfer yr hawl i brynu yn arwain at gymdeithasau tai a chynghorau'n troi cefn ar adeiladu cartrefi newydd, gan na fyddent yn gallu bod yn sicr y byddent yn cael eu harian yn ôl ar ffurf rhenti. Felly, mae hynny'n nonsens pur.
Mae'n dda clywed ymrwymiad a chyd-berchnogaeth Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion y tasglu tai fforddiadwy, ond nid oes gennych lawer o amser. Mae angen imi hedfan drwyddynt. Sut ydych chi'n mynd i ddatrys y tensiwn polisi rhwng cynyddu'r stoc dai—? Ac rwy'n derbyn bod yr 20,000 o gartrefi y gwnaethom ymrwymo i'w hadeiladu yn nhymor y Senedd hon wedi mynd â chyfalaf oddi wrth y gwaith o uwchraddio'r stoc bresennol, gan mai ychydig iawn o gynnydd a wnaethom yn y chweched Senedd hon ar hynny, a golyga hynny fod pobl sy'n denantiaid ac nad ydynt yn gallu fforddio uwchraddio eu cartrefi eu hunain yn dal i rynnu. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i chi ei egluro.
Rwy'n falch o weld y dylem fod yn addasu atigau, ac yn wir, yn datblygu fflatiau uwchben siopau, ond rwy'n cofio trafod hyn yn y bedwaredd Senedd, ac eto, nid yw'n ymddangos ein bod wedi datrys hynny. Er mwyn popeth, beth rydym ni'n ei wneud? Beth yw ein polisi a pham—? Dyma'r ffordd fwyaf amlwg. Mae addasu atigau yn galluogi teuluoedd—. Pan fydd teuluoedd yn tyfu, rydych chi'n rhoi ystafell wely ychwanegol yn yr atig ac yna nid oes raid ichi symud tŷ. Mae hynny'n llawer rhatach ym mhob ffordd, ac yn gynaliadwy. Mae angen inni ddatrys y pethau hynny. Os ydym o ddifrif eisiau defnyddio anheddau presennol i gartrefu nifer fwy o bobl, mae gwir angen inni ddatrys sut y gwnawn hynny heb fynd yn groes i'r system gynllunio.
Mae tir a danddefnyddir ym mhob awdurdod lleol a bwrdd iechyd, ond nid oes dim ohono'n cael ei gynnig yn rhagweithiol i'w ddatblygu. Fe wnaethom ddysgu hyn yn adroddiad y tasglu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cofrestru'r tir sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus, ond mae'r broses honno, yn ôl pob golwg, wedi dod i stop ac mae angen cyllid pellach arni. A yw hynny wedi'i gynnwys yng nghyllideb 2026-27? Byddai'n dda gwybod hynny. Datblygu llif o dir addas sydd ar gael mewn awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Trafnidiaeth Cymru a cheidwaid eraill, fel y Weinyddiaeth Amddiffyn—. Ni allaf eu gweld yn ildio'r tir heb gael eu talu. Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig, ond mae'n un nad wyf yn teimlo ei fod ar fin digwydd yn fuan.
Oes, wrth gwrs, rhaid bod potensial i ddefnyddio cartrefi modiwlar dros dro o ansawdd uchel i leihau'r defnydd o lety dros dro drud iawn. Mae'r defnydd yn y cyfamser a wneir ar Stryd Bute yng Nghaerdydd, yn Grangetown ac yn Llanilltud Fawr yn dangos y gellir defnyddio capasiti tai newydd yn gyflym gan ddefnyddio pwerau hawliau datblygu a ganiateir. A yw hynny'n cael ei fabwysiadu mewn ardaloedd eraill ble mae galw am dai? Os nad yw, pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud i hynny ddigwydd mewn awdurdodau lleol eraill lle mae angen dybryd?
Y mater arall, y mater olaf, yr hoffwn ei godi yw'r bwlch sgiliau. Pam ein bod yn dal i siarad am hyn? Pam nad ydym wedi cynllunio'n iawn i sicrhau bod y sgiliau yno ar gyfer ôl-osod yn ogystal ag adeiladu cartrefi newydd ar yr un pryd? Mae'n ardderchog gweithredu'r argymhellion hyn gan y tasglu tai fforddiadwy, ond ychydig iawn o amser sydd gennym i wneud hynny yn y Senedd hon.
Mae un o bob pedair aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Mae hynny'n filoedd o deuluoedd, nifer ohonyn nhw yn cynnwys plant, pobl anabl, pobl hŷn a gofalwyr di-dâl. Mae hynny'n golygu gorfod gwneud dewisiadau na ddylai neb orfod eu gwneud. Ac yn syml, mae'n golygu peryglu nid yn unig urddas ac ansawdd bywyd, ond hefyd iechyd. Dyma realiti bywyd pobl ym mhob etholaeth sy'n cael eu cynrychioli yma. Mae gwella effeithiolrwydd ynni tai yn gwbl ganolog i daclo hyn.
Cyhoeddwyd cynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn 2021, ac fe gyhoeddwyd diweddariad ar gynnydd y cynllun ym mis Mehefin y llynedd, o dan gamau gweithredu newydd, gan restru'r angen i gyflwyno targedau dros dro yn seiliedig ar effeithlonrwydd ynni, gan ddatgan y byddai'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r targedau hyn. Hoffwn wybod, mewn ymateb i'r ddadl, a fydd y targedau hyn yn cael eu cyflwyno cyn diwedd tymor y Senedd yma, gan fod yna bryder cynyddol na fydd hyn yn digwydd, er ei fod yn hanfodol i sicrhau gweithredu cadarn ac effeithiol i fynd i'r afael â'r lefel gwbl anghynaladwy, niweidiol, brawychus a chywilyddus o dlodi tanwydd sy'n effeithio ar bobl Cymru a'r grwpiau mwyaf bregus yn benodol.
Yn ôl y tystiolaeth sydd wedi'i hamlygu gan National Energy Action Cymru, mae yna lefelau cynyddol a dyfnach hefyd o ddyled ynni, y ddyled honno wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed, a bod tri chwarter y ddyled honno yn ôl-ddyledion ac felly'n debygol o ddyfnhau. Mae adroddiad ar ôl adroddiad, gan gynnwys sawl adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol rwy'n aelod ohono, wedi nodi nad yw'r lefel o fuddsoddiad presennol yn y rhaglenni Cartrefi Clud, sef prif ddull y Llywodraeth i daclo tlodi tanwydd, yn ddigonol. Pan ofynnodd y pwyllgor ynglŷn â'r ymrwymiadau cyllid i'r cynllun yn y gyllideb ddrafft, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y dylai'r pwyllgor, a dwi'n dyfynnu,
'feddwl am y rhaglen Cartrefi Clyd o ran y ffaith nad dyma'r unig gyllid grant sydd ar gael i aelwydydd.'
Mae'r cynlluniau ar lefel Prydain, er enghraifft ECO Flex, ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, cyhoeddwyd yn nghyllideb y Canghellor y byddai cynllun ECO yn dod i ben ym mis Mawrth. Ac er bod y cynllun wedi cael ei broblemau, mae wedi darparu cyllid gwerth £150 miliwn bob blwyddyn i Gymru, drwy awdurdodau lleol, ac felly'n amlwg yn effeithio nawr ar sicrhau bod tai pobl yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon, ac, wrth gwrs, y lefelau yna o dlodi tanwydd.
Roedd gan y cynllun ei wendidau, ac rŷn ni i gyd yn ymwybodol o hynny, ond mae torri'r cynllun yma, cael gwared arno fe, yn ergyd drom am fod Cymru'n buddio cymaint o'r cynllun, yn sgil y modd yr oedd yn ategu lefel rhy isel y buddsoddiad a wnaed yma gan Lywodraeth Cymru o ran eu rhaglenni eu hunain. Mae ei dorri nid yn unig yn golygu llai o fesurau effeithlonrwydd, ond mae hefyd yn golygu colli sgiliau lleol, rhywbeth roedd Jenny Rathbone yn sôn amdano fe—colli swyddi hefyd, a thorri'r gadwyn yna o arbenigedd sydd ei hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol.
Mae etholwyr wedi cysylltu â nifer ohonom, dwi'n gwybod, yn sgil cau cwmnïau fel Consumer Energy Solutions yn Llansamlet, Abertawe, yn fy rhanbarth i, gan adael pobl gyda gwaith heb ei gwblhau, pympiau gwres wedi torri, a theuluoedd mewn cartrefi oer yn ystod canol y gaeaf. Mae hyn yn tanseilio hyder pobl mewn cynlluniau cyhoeddus, ac mae ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno yn hollbwysig. Felly, hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud i fynd i'r afael â hynny.
Mae’r ansicrwydd yma wedi’i waethygu gan y diffyg eglurder wedyn ynghylch cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rŷm ni wedi clywed addewidion mawr o ran y gwariant yna o £15 biliwn, ond mae’n aneglur beth sy’n berthnasol i Gymru, beth fydd y canlyniadau cyllidol, a sut y galluogodd Llywodraeth Cymru i gynllunio ar y sail yma, achos nid dyma sut mae partneriaeth effeithiol yn edrych. Pan holais i'r Ysgrifennydd Cabinet am hyn cyn y Nadolig, fe ddywedodd hi, a dwi'n dyfynnu, eu bod
'yn amlwg yn awyddus iawn i weld cynnwys y cynllun hwnnw, ac i ddeall ei effaith ledled Cymru, ac unrhyw gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig ag ef.'
Dywedodd y byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu ataf i yn dilyn mwy o drafodaethau cyn i gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi. Wel, ches i ddim llythyr, yn anffodus, a chawsom ni ddim eglurder am hyn chwaith yn ystod y sesiwn gwestiynau. Felly, byddwn i'n hoffi clywed mwy am fanylion y trafodaethau yma, y rhai a gafwyd cyn cyhoeddi'r cynllun.
Byddaf yn gorffen nawr, Dirprwy Lywydd. Ni allwn normaleiddio tlodi tanwydd. Mae’r ffaith bod hybiau cynnes a gwariant ar gymorth brys wedi dod yn rhan arferol o fywyd yn arwydd o fethiant systemig. Mae tlodi tanwydd yn fater o gyfiawnder tai, ac mae cartref cynnes yn hawl sylfaenol. Diolch.
Nid yw tai gwael yn broblem ymylol; mae'n ganolog i'r pwysau sy'n wynebu cynifer o'n cymunedau. Pan fydd rhywun yn byw mewn tai oer, llaith, gorlawn neu ansicr, mae'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywyd. Mae gwraidd yr argyfwng hwn yn strwythurol ac wedi bod yn datblygu ers degawdau, ers i bolisïau Thatcher arwain at werthu tai cyngor ar raddfa enfawr ac ers i'r Llywodraeth ildio cyfrifoldeb dros adeiladu tai a'i drosglwyddo i ddatblygwyr preifat, yn y gobaith y byddai'r farchnad yn darparu tai addas y gallai pobl eu fforddio.
Yn rhy aml, caiff tir ei gelcio, caiff caniatâd cynllunio ei fancio a chaiff tai eu darparu'n raddol i'r farchnad ar gyflymder sy'n diogelu elw. Mae'n system sy'n trin tai fel asedau yn bennaf, nid fel angen dynol, nid fel cartref. Mae 14 mlynedd o gyni Torïaidd a thorri gwasanaethau rheng flaen hefyd wedi effeithio ar adrannau cynllunio, arbenigwyr draenio, swyddogion tai a digartrefedd.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £2 biliwn mewn tai cymdeithasol dros dymor y Senedd hon yn gwneud gwahaniaeth, er gwaethaf cyni a chaledi'r Torïaid. Nid tai yn unig mohonynt, ond cartrefi gydol oes sydd wedi'u hinswleiddio'n dda, sy'n addas ar gyfer y dyfodol gydag ynni adnewyddadwy, fel bod biliau'n cael eu cadw'n isel.
Rwy'n cofio siarad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig pan oeddwn yn Aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynglŷn ag effaith cyllideb Liz Truss a Brexit, yn cynyddu chwyddiant, yn cynyddu cost deunyddiau adeiladu yn sylweddol, gan effeithio ar y gweithlu yr oedd ei angen i gyflawni'r rhaglen adeiladu tai cymdeithasol uchelgeisiol yma yng Nghymru.
Rwyf hefyd yn croesawu cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Na wnaf, mae gennyf ormod i'w ddweud—i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol yng Nghymru. Hoffwn weld cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddargyfeirio o ddal a storio carbon o dan y ddaear i fwy o hyn, i ostwng biliau er budd pobl a theuluoedd, yn hytrach na chwmnïau mwy a chwmnïau tanwydd ffosil.
Fel y mae'r tasglu tai fforddiadwy yn nodi'n gywir, ni fydd y farchnad yn darparu ateb. Rwy'n croesawu llawer o'r atebion a amlinellwyd gan y tasglu hwnnw, a dylid eu rhoi ar waith, fel y nodwyd, cyn gynted â phosib ac yn drawslywodraethol. Ond mae angen inni fod yn onest gyda ni ein hunain hefyd. Nid yw, ac ni fydd y mesurau hyn ar eu pen eu hunain yn ailgydbwyso'r farchnad dai yn sylfaenol. Byddant yn ein helpu i ymdopi o fewn cyfyngiadau'r system doredig bresennol, ond os ydym o ddifrif ynglŷn â dod â'r argyfwng tai i ben, rhaid inni fod yn barod i fynd ymhellach a bod yn fwy uchelgeisiol.
Mae hyn yn golygu ailddechrau adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr, o dan arweiniad y wladwriaeth ac awdurdodau lleol, a heb fod yn ddibynnol ar flaenoriaethau tirfeddianwyr a datblygwyr preifat. Mae'n golygu cydnabod nad dewis olaf yw tai cymdeithasol, ond rhan hanfodol o'n system dai gymysg sy'n darparu cartrefi sicr a gwirioneddol fforddiadwy i bobl ledled Cymru. Mae hefyd yn golygu bod yn feiddgar o ran rheoleiddio rhenti, yn y tymor byr fan lleiaf. Pan fydd rhenti'n codi'n gyflymach na chyflogau cyfartalog bob blwyddyn, rydym i bob pwrpas yn gwylio'r argyfwng tai yn dyfnhau. Rhaid i fesurau rheoli rhenti synhwyrol, ynghyd â chyflenwad cynyddol, fod yn rhan o'r sgwrs hon yn y tymor byr er mwyn ailgydbwyso'r farchnad.
Gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu gorfodi i rentu, dylem edrych o ddifrif ar sut y mae taliadau rhent hanesyddol yn cael eu trin mewn asesiadau o fforddiadwyedd morgeisi. Mae gormod o bobl wedi talu miloedd mewn rhent dros nifer o flynyddoedd, mwy nag y byddai morgais wedi'i gostio, ddim ond i gael gwybod na allant fforddio prynu, gyda gormod o bobl yn y sefyllfa hon, yn meddwl tybed a fydd ganddynt byth eu cartref eu hunain, neu a fyddant yn gorfod rhentu am byth.
Rwy'n credu hefyd fod angen inni archwilio cyflwyno hawl i rentu, i ganiatáu i berchnogion tai werthu eu heiddo i'r awdurdod lleol gyda gwarant i aros fel tenantiaid diogel. Gallai hyn helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, cynyddu perchnogaeth gyhoeddus ar dai, a thyfu'r stoc dai cymdeithasol gan gefnogi cymunedau cymysg. Yn syml, os byddwn yn parhau i ddibynnu ar farchnad sy'n elwa o brinder, byddwn yn parhau i fethu. Mae'r achos dros ymyrraeth weithredol gan y wladwriaeth yn gryfach nag erioed, a pho hiraf y byddwn yn gwrthsefyll yr alwad am gefnogaeth drawslywodraethol ac am ailgydbwyso'r farchnad dai yn sylfaenol, y mwyaf o'n hetholwyr y byddwn yn eu condemnio i drallod ansicrwydd tai.
Beth ydy gwerth cartref? Rydyn ni wedi clywed hyn yn barod heno. Rydyn ni wedi clywed y ffaith mai nid lle yn unig, ond lloches hefyd ydy e; brics, ond hefyd ddarn o fro.
Dylasai fod gan bawb hawl i gartref mewn cymdeithas waraidd—llefydd diogel, clyd, lle gall teuluoedd fyw eu bywydau heb iddyn nhw orfod pryderu os ydyn nhw’n gallu fforddio gwresogi’r ystafelloedd. Ond mae'r sefyllfa argyfyngus gyda biliau ynni ac adeiladau sydd yn wlyb ac yn ddrafftiog yn peryglu iechyd a lles mwy a mwy o bobl, fel mae Sioned Williams wedi dweud hefyd. Nid cartrefi go iawn ydy llefydd sydd yn llaith ac oer. Mannau dros dro ydy'r rhain yn unig. Mae gwahaniaeth rhwng tŷ a chartref, ac mae gennym ni ddyletswydd i fynd i’r afael â hyn nid yn unig fel gwleidyddion, ond fel pobl sydd yn rhannu cymdeithas.
Rydym yn croesawu’r newyddion am fuddsoddiad o £96 miliwn yn y rhaglen optimised retrofit, a fydd yn cynhesu cartrefi cymdeithasol, yn lleihau biliau ac yn creu swyddi a sgiliau lleol. Ond erys yr her fwyaf yn y sector rhentu preifat, lle ffeindir y tai oeraf a mwyaf anghynaliadwy. Mae angen sylw ar dai cymdeithasol, oes—rwy’n cytuno 100 y cant â hyn sydd wedi cael ei ddweud—ond nid nhw yn unig. Mae angen cynllun strategol i wneud pob cartref yn fan diogel a chynaliadwy, gyda thechnoleg drydan glân, pympiau gwres a systemau storio ynni sy’n lleihau biliau a charbon. Mae angen rhaglen sy’n blaenoriaethu’r cartref nid fel adeiladau, ond fel llefydd byw. Dylasai pob penderfyniad am dai gynnwys egwyddorion effeithlonrwydd ynni, ynni glân a mynediad teg, gan sicrhau bod cartrefi Cymru yn sylfaen gadarn i deuluoedd heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol.
Yn y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol egluro sut y bydd rhaglenni retrofit Llywodraeth Cymru yn addasu ar ôl diwedd ECO4, fel mae Siân wedi dweud yn barod, ac, yn amlwg, nid yw cynllun rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a chynllun cartrefi cynnes y Deyrnas Unedig yn cyd-fynd o bell ffordd. Mae angen eglurder ar y goblygiadau i Gymru a sicrwydd na fydd Cymru yn cael ei gadael ar ei hôl hi unwaith eto. Heb hynny, ni fydd unrhyw fuddsoddiad yn ddigonol, a bydd y cartrefi mwyaf bregus yn dal i wynebu’r un heriau a pheryglon.
Dylasai fod gan bawb yr hawl i wneud mwy na goroesi yn unig. Nid moethusrwydd mo gwres, na gorffwys, na boddhad. Hanfod sylfaenol yw'r rhain, bob un.
Fel cyn-weithiwr tai proffesiynol am 26 mlynedd, pan oedd gennyf fywyd, y rhan orau o fy swydd oedd rhoi'r allweddi i bobl a oedd yn symud i'w cartref cyntaf, neu i gartref yr oeddent bob amser wedi breuddwydio amdano. Clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg y bore yma am athrawon yn dweud bod ganddynt swydd wych. Wel, roedd gennyf i swydd wych hefyd. Ac rwy'n ei hystyried hi'n drasiedi wirioneddol nawr pan welaf dai gwag, tai wedi'u bordio, tai cyngor yn bennaf, yng Nghaerffili, a theithio o gwmpas yr etholaeth i'n cymunedau a gweld pobl yn cysgu wrth ddrysau, teuluoedd yn byw mewn tai gorlawn, anaddas, pobl yn gaeth mewn hosteli, gwestai, llety gwely a brecwast, neu'n mynd o soffa i soffa. Mae hynny'n arwydd gwirioneddol o fethiant. Rwy'n edrych ymlaen at yr adeg pan fydd Llywodraeth newydd yng Nghymru o'r diwedd yn archwilio ac yn ad-drefnu system sy'n caniatáu i gartrefi aros yn wag tra bod pobl yn parhau i fod yn ddigartref. Rhaid i hyn newid. Mae'n sgandal gyhoeddus. Yng Nghaerffili, buaswn yn dweud bod y sefyllfa dai yno yn galw am ailwampio llwyr ac ailystyried y system osod tai yn sylfaenol. Gwelwn niferoedd helaeth o gartrefi gwag, gyda llawer wedi'u gadael yn wag ers misoedd, wedi'u bordio ar gost i'r cyhoedd, yn colli incwm i'r awdurdod, tra bod pobl yn cael eu gadael heb obaith o gael cartref sicr. Mae'n anamddiffynadwy. Ni all fod yn iawn fod un landlord tai cymdeithasol yng Nghaerffili yn gallu adeiladu 200 o gartrefi y flwyddyn tra bod yr awdurdod lleol yn adeiladu llai nag 20, a dyna sy'n digwydd.
Roedd safon ansawdd tai Cymru i fod yn stori lwyddiant. Cafodd ei chanmol fel stori lwyddiant—cyfnod newydd, yn costio miliynau. Ond pan fydd eiddo cyngor yn dod yn wag nawr, mae'n aml yn cael ei ddiberfeddu'n llwyr, ac mae pobl leol yn iawn i ofyn pam. Mae'r rhai ar y rhestr aros yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio, ac mae yna rai pleidiau gwleidyddol a fydd yn manteisio ar y rhwystredigaeth honno gydag emosiwn yn hytrach na ffeithiau, ac rwy'n casáu hynny. Mae'r rhestrau aros diweddaraf yng Nghymru yn dweud wrthym fod 94,000 ar y rhestr aros, gyda 2,600 o dai'n cael eu gosod bob blwyddyn. Mae hynny'n golygu y bydd yn cymryd 35 mlynedd i chi gael eich ailgartrefu. A phwy yw'r bobl sydd fwyaf ar eu colled? Pobl sengl yw'r grŵp sydd fwyaf ar eu colled erbyn hyn. Rhaid inni ddod â'r gwasanaeth sifil yma yn y Senedd at ei gilydd gyda gweithwyr tai proffesiynol rheng flaen ledled Cymru gyfan y disgwylir iddynt gyflawni'r targedau amhosib hyn ar gyfer gosod tai—targedau sydd mor bell oddi wrth realiti fel nad ydynt yn werth y papur y maent wedi'u hysgrifennu arno. A dim ond tai cymdeithasol yw hynny. Ar dai preifat, wel, ni allaf hyd yn oed ddechrau gan na fydd gennyf ddigon o amser. Ond fel cyn-weithiwr tai proffesiynol a oedd wrth fy modd gyda fy swydd, rwy'n dweud wrthych, hyd nes y caiff pob cartref sydd ar gael ei ddefnyddio, ac y caiff pob teulu gyfle go iawn i gael cartref sicr, ni all y Senedd hon honni ei bod wedi cyflawni ei dyletswydd fwyaf sylfaenol. Ac edrychaf ymlaen at y Lywodraeth nesaf Cymru—ac fe'i gadawaf yn y fan honno. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried pwysau amser a'r amrywiaeth o faterion sydd wedi'u codi heddiw, ni fyddaf yn derbyn unrhyw ymyriadau yn fy nghyfraniad. Rwy'n croesawu'r ddadl hon a'r cyfle i atgoffa'r Aelodau cymaint y mae'r Llywodraeth hon a'i rhagflaenwyr wedi'i fuddsoddi a'i gyflawni ym maes tai yng Nghymru. Mae cael cartref sefydlog yn sylfaenol i ymdeimlad pobl o ddiogelwch a llesiant a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol, a dyna pam ein bod wedi rhoi mwy o gartrefi yn y canol ymhlith y pethau yr ydym yn benderfynol o'u cyflawni. Ond rwyf eisiau dechrau drwy amlinellu rhai agweddau eraill ar yr hyn a wnawn.
Bydd ein Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) beiddgar ac uchelgeisiol yn trawsnewid ein system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar nodi ac atal yn gynharach, gan osgoi gwthio pobl i argyfwng. Bydd y Bil yn atal mwy o achosion o ddigartrefedd drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac eraill ymyrryd yn gynharach a chynnig mwy o ffyrdd o symud pobl drwy'r system, gan gynnig arbedion cost ar draws y gwasanaeth cyhoeddus. Bydd yn dod ag asiantaethau at ei gilydd, gan dargedu'r bobl sy'n wynebu'r risg fwyaf, fel bod y gwasanaethau priodol yn ymateb i achosion a chanlyniadau penodol o ddigartrefedd i'r unigolyn neu'r teulu dan sylw. Mae'r Bil yn cynrychioli newid radical a pharhaol i'r system. Mae'n ymateb sy'n arwain y byd i her fyd-eang, gan ddangos ein hymrwymiad i gyflawni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Mae tai yn ofyniad ataliol hanfodol, fel y mae llawer o Aelodau wedi dweud, sy'n sail i well iechyd, llesiant, addysg a chanlyniadau economaidd i bobl Cymru. Dengys y dystiolaeth fod cartrefi sicr, diogel, o ansawdd da yn hanfodol i alluogi i unigolion a theuluoedd ffynnu. Rydym yn deall hyn yn llwyr, ac rydym yn ymateb gyda'n hymyriadau a'n buddsoddiad. Dyna pam, y flwyddyn ariannol hon yn unig, mae dros £130 miliwn wedi'i fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru mewn mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim drwy ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'n cynllun Nyth Cartrefi Clyd.
Rwyf wedi gweld gyda fy llygaid fy hun pa mor bwysig yw'r ymyriadau hyn. Rwyf wedi bod yng nghartrefi trigolion sydd wedi elwa o'r cynlluniau hyn gan Lywodraeth Cymru, trigolion y mae eu cartrefi'n gynhesach ac sydd â mwy o arian yn eu pocedi am fod eu biliau ynni'n is. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â'r rhai sy'n elwa o safbwynt sgiliau a chyflogaeth. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais bron i £100 miliwn o gyllid ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn ystod ymweliad ag Adra yng ngogledd Cymru, cyfarfûm â phrentisiaid sy'n dechrau yn y byd gwaith, gan elwa o hyfforddiant rhagorol a fydd yn eu sefydlu mewn gyrfa fedrus ar gyflog da mewn cyflogaeth werdd yn eu cymuned leol. Mae ein cynllun peilot Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ychwanegiad pwysig iawn i'n cyfres o ymyriadau sy'n cefnogi perchen-feddianwyr sydd am ddechrau'r daith o ddatgarboneiddio. Eleni, rydym wedi buddsoddi £4.2 miliwn yn y cynllun. Mae'r galw wedi bod yn fwy nag y gallwn ei gefnogi, felly rwyf wedi penderfynu cynyddu ein buddsoddiad ynddo i dros £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Fe wneuthum groesawu cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ei nod yw lleihau biliau, creu swyddi a chyfleoedd busnes, a gwella ein diogeledd ynni. Mae yna lawer o uchelgais yn y cynllun. Y dasg nawr yw deall y manylion a'r cyllid canlyniadol a fydd yn llifo i Gymru. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda swyddogion cyfatebol ar hyn ac roeddwn yn falch o gael sgwrs gychwynnol gyda Gweinidog Defnyddwyr Ynni y DU a Gweinidogion o genhedloedd eraill y DU brynhawn Llun. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn elwa o'r uchelgais a amlinellir yn y cynllun. Tynnais ei sylw'n uniongyrchol at effaith cau ECO, ac mae swyddogion mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ar faterion penodol. Ac fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad i ddod â staff yr effeithir arnynt i gysylltiad â darpar gyflogwyr posib yr wythnos hon.
Fe wnaethom addo darparu mwy o gartrefi ac rydym yn cyflawni. Er gwaethaf y niwed i ffrydiau datblygu tai o ganlyniad i gyllideb fach drychinebus Liz Truss, Brexit, canlyniadau'r pandemig a chostau cynyddol deunyddiau a llafur, mae cyflenwi tai yng Nghymru wedi parhau i fod yn wydn. Mae'r ystadegau tai fforddiadwy diweddaraf yn adrodd bod y Llywodraeth hon ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd eleni. Mae hwn yn gyflawniad anhygoel, ac rwy'n talu teyrnged i bawb sy'n ymwneud â darparu mwy o gartrefi i bobl Cymru. Awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, adeiladwyr tai o bob maint a phartneriaid cymunedol, diolch i chi am eich ymroddiad, eich partneriaeth a'ch arloesedd.
Ddirprwy Lywydd, mae sicrwydd hirdymor wedi'i gefnogi gan gyfalaf tai cymdeithasol mwy nag erioed o'r blaen, gyda buddsoddiad o dros £2 biliwn dros dymor y Senedd hon, yn cynnwys £466 miliwn y flwyddyn ariannol hon yn unig, wedi galluogi awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a phartneriaid cyflenwi i gynllunio, buddsoddi a chyflawni ar raddfa fawr. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi darparu'r cyflenwad parhaus mwyaf o dai fforddiadwy yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd, ac rydym wedi adeiladu ffrwd o gynlluniau i gynnal y cyflymder mwyaf erioed hwnnw yn y dyfodol. Mae'n gynnydd rhyfeddol.
Un o'r ffactorau mwyaf yn y dirwedd a etifeddwyd gennym oedd yr hawl i brynu. Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan yr hawl i brynu. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond 53,000 o unedau newydd a gwblhawyd, gan arwain at golled net enfawr o gartrefi cymdeithasol. Dyna pam y gwnaethom ddiddymu'r hawl i brynu yn nhymor blaenorol y Senedd, gan roi diwedd ar y niwed a wnaed gan y polisi hwn. Mae hyn wedi rhoi hyder i landlordiaid cymdeithasol fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, gan ddileu'r risg y bydd y cartrefi hyn yn cael eu colli o dan y polisi hwn. Yng Nghymru, rydym hefyd wedi parhau i gefnogi pobl i brynu eu cartrefi eu hunain, ac i'ch atgoffa, daeth Llywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU â Cymorth i Brynu i ben yn Lloegr ym mis Mawrth 2023. Nid yng Nghymru. Ers mis Ebrill 2022, mae 85 y cant o brynwyr Cymorth i Brynu-Cymru wedi bod yn brynwyr tro cyntaf. Dyna Lywodraeth Lafur yn cefnogi prynwyr tro cyntaf. Pe bai'r dreth trafodiadau tir ar drafodiadau prif breswylfeydd yn cael ei diddymu, fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i argymell, rhagwelir y byddai gostyngiad o £180 miliwn yng nghyllideb 2026-27. Sut y byddech chi'n dod o hyd i arian yn ei le? Nid yw ond yn daladwy ar ben uchaf y farchnad dai. Mae'r trothwy cychwynnol yn uwch na phris tŷ cyfartalog yng Nghymru, felly nid yw'r rhan fwyaf o brynwyr tai yng Nghymru yn talu treth trafodiadau tir.
Ddirprwy Lywydd, byddaf yn gwneud datganiad ar lafar ar fwy o gartrefi yr wythnos nesaf, lle byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd gydag argymhellion y tasglu cartrefi fforddiadwy, ond rydym wedi parhau i gyflawni drwy gyfnodau heriol am ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw cartref da. Diolch.
Galwaf ar Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Wel, dŷn ni wedi trafod sawl agwedd ar yr argyfwng tai prynhawn yma, o dlodi tanwydd i dai gwag, a right to buy hefyd, wrth gwrs, sydd yn greiddiol i'r drafodaeth. Er ein bod ni wedi cael ei wared o yma yng Nghymru, ac mi wnaethon ni fel plaid gefnogi hynny'n llwyr, mae o'n dal i fodoli yn Lloegr, a dim sôn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig am gael gwared arno fo. Meddwl y buaswn i jest yn eich atgoffa chi o hynny.
Mae cyd-Aelodau Plaid Cymru wedi rhoi dadansoddiad pwerus i ni o sawl cyfeiriad, ac roedd Jenny Rathbone hefyd wedi codi nifer o gwestiynau sydd angen cael eu hateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n meddwl mai dyna ble'r oedd y cwestiynau yna yn cael eu cyfeirio. A Carolyn, diolch yn fawr iawn am ddadansoddiad clir iawn o'r broblem ac o'r sefyllfa fel mae hi heddiw yma.
Mae'n hollol glir, onid ydy, ein bod ni mewn argyfwng tai—miloedd yn aros am dai cymdeithasol; teuluoedd, plant, pobl ifanc yn byw mewn llety dros dro neu yn wynebu digartrefedd. Y bore yma, pan wnes i edrych ar fy ffôn i weld beth oedd yn yr e-byst, roedd yna ddau yn disgwyl amdanaf i mi y bore yma—un gan ferch ifanc sydd yn ddigartref ac wedi bod yn byw mewn llety dros dro, sy'n amlwg, yn ôl y disgrifiadau ganddi hi, yn gwbl anaddas i'r anghenion sydd ganddi hi. Mae hi wedi bod yn byw yn y sefyllfa yna ers chwe blynedd.
Roedd yr ail e-bost gan deulu ifanc sy'n byw mewn tŷ rhent preifat, yn byw yn y tŷ yma ers dros 10 mlynedd, tŷ yn y gymuned lle maen nhw'n byw, lle maen nhw'n gweithio a lle maen nhw'n magu eu plant, ond maen nhw newydd dderbyn eviction notice gan y landlord sy'n golygu bod rhaid iddyn nhw adael a symud erbyn diwedd mis Mai. Dyna ydy'r rheolau yng Nghymru. Maen nhw wedi gwneud cais i fod ar y rhestr tai cymdeithasol, ond maen nhw'n gwybod bod cymaint o deuluoedd eraill yn chwilio am dŷ cymdeithasol hefyd.
Mae hawliau rhentwyr yn fwy pellgyrhaeddol yn Lloegr erbyn hyn, ers pasio deddfwriaeth yno, ond mae no-fault evictions yn parhau yng Nghymru. Felly, mewn sefyllfa hollol annerbyniol, mae rhentwyr Cymru efo llai o hawliau na rhentwyr yn Lloegr.
Dwi wedi sôn bod y cynnig yma, neu fe wnaf i dynnu'ch sylw i chi at y ffaith fod y cynnig yma ynglŷn â thri mater penodol. Dwi'n derbyn does yna ddim amser i wneud llawer yn y cyfnod byr sydd ar ôl tan yr etholiad, ond mae yna dri pheth y buasai'n ddefnyddiol iawn i'r Senedd yma gael gwybod, sef lle dŷn ni arni efo argymhellion y grŵp tasg a gorffen ar dai fforddiadwy. So, dwi'n galw heddiw yma am ddiweddariad cyflawn yn dangos ble mae cynnydd a ble mae'r problemau yn parhau. Dŷn ni angen y tryloywder yna er mwyn symud ymlaen yn y Senedd nesaf, er mwyn cael strategaeth iawn, er mwyn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau sydd yn dal i fodoli.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am sut fydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ynglŷn â thaclo tlodi tanwydd a chreu cartrefi ynni effeithlon yn cael eu haddasu yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae eisiau tryloywder am yr arian canlyniadol yn sgil yr ymrwymiadau newydd yng nghynllun cartrefi cynnes Ed Miliband. Mae'n siomedig ofnadwy i glywed heddiw nad oes yna, mae’n ymddangos, ddim trafod wedi bod ymlaen llaw ynglŷn â chynnwys cynllun Ed Miliband. Y bartneriaeth sydd i fod yn digwydd ar draws dwy Lywodraeth—dydy hynny ddim wedi digwydd, mae'n amlwg, achos dŷn ni newydd glywed eto yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud bod 'initial discussions' wedi dechrau dydd Llun. Wel, does bosib y dylai'r trafod yna fod wedi dechrau nôl yn yr haf, pan oedd hi'n hollol amlwg bod yna gynllun newydd ar y gweill efo oblygiadau mawr ar gyfer Cymru.
Felly, tri mater dwi wedi tynnu sylw atyn nhw yn fanna rŵan—pethau fedrwch chi roi gwybod i ni heddiw nesaf. Dŷn nhw ddim yn bethau anferth sydd yn golygu newid strategol mawr. Ond mae hi, wrth gwrs, yn hanfodol cynyddu cyflenwad tai cymdeithasol. Hynny sydd yn mynd i fynd at wraidd yr argyfwng tai. Mae'r adroddiad gan y tasglu tai fforddiadwy yn amlygu’n glir y rhwystrau strwythurol sydd yn dal y sector tai yn ôl, ac mae o yn dangos bod yna gamau pendant y gellid eu cymryd yn y tymor byr a chanolig i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a datgloi'r system. Felly, plis gawn ni wybod sut mae hynny i gyd yn mynd yn ymlaen? Ac wrth gwrs, beth sydd ar goll, yn anffodus, ydy'r arweinyddiaeth glir, y cydlyniant a'r hyder sydd ei angen ar y sector i gyflawni'r newid mawr.
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn edrych unwaith eto ar gynyddu’r cyflenwad tai cymdeithasol a beth sydd angen digwydd. Y tro diwethaf i'r pwyllgor edrych ar hyn, mi ddaeth y pwyllgor trawsbleidiol efo nifer o argymhellion pwysig—dau gafodd eu gwrthod gan y Llywodraeth. Y cyntaf—ac roedd hyn yn hynod siomedig—oedd bod dim angen sefydlu Unnos, bod dim angen corff hyd braich ar gyfer cyflymu'r broses o adeiladu a chaffael mwy o dai cymdeithasol. Erbyn hyn, mae yna gonsensws clir. Mae'r pwyllgor rŵan yn ail-ymweld â’r pwnc yma, ac mae yna gonsensws clir yn dod allan bod rhaid sefydlu Unnos.
A’r ail beth ddaru'r Llywodraeth wrthod ag ymwneud â fo yn sgil adroddiad cyntaf y pwyllgor—yr union fater mae Jenny Rathbone wedi tynnu sylw ato fo heddiw yma, sef yr angen i fod yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd o fewn y safonau ansawdd yn y maes tai cymdeithasol. Felly, mae angen trafodaeth lawn a buan yn y Senedd nesaf ynglŷn â hynny, oherwydd mae hwnna'n golygu nad ydy cymdeithasau tai ddim yn gallu symud mor gyflym ac y buasen nhw'n licio.
Felly, mae'r tymor presennol yn prysur ddod i ben, ond mi fyddai hi'n dda o leiaf cael cydnabyddiaeth gyhoeddus gan y Llywodraeth bresennol fod yna argyfwng a bod angen ffocws clir trawslywodraethol i ymateb i'r argyfwng sydd yn dyfnhau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio. Cyn inni ddechrau pleidleisio—
a gaf i atgoffa'r Aelodau, ar 8 Ionawr, eich bod i gyd wedi cael eich atgoffa o'r gofyniad ar bleidleisio rhithwir y byddai'n rhaid i chi gofrestru gyda'r tîm clercio er mwyn i chi gael caniatâd i bleidleisio o bell? Mae yna Aelod ar-lein nad yw wedi cofrestru ar yr achlysur hwn ac felly ni fyddaf yn derbyn pleidlais gan yr Aelod dan sylw. Rwyf am atgoffa'r Aelodau, felly, eich bod wedi cael gwybod am hyn. Rydych chi'n gwybod beth yw eich cyfrifoldebau eich hun, ac os ydych chi am bleidleisio, mae angen i chi wneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o ble rydych chi'n pleidleisio. O'r gorau?
Mae’r bleidlais gyntaf heno ar eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymraeg, cysylltedd trafnidiaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 1 yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cysylltedd trafnidiaeth. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 12, Yn erbyn: 35, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cysylltedd trafnidiaeth. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cysylltedd trafnidiaeth. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM9121 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru.
2. Yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni wrth wella trafnidiaeth:
a) datblygu system Fetro o safon fyd-eang yn Ne Cymru ynghyd â buddsoddiad Llywodraeth Cymru o dros £1 biliwn i wella’r seilwaith ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd datganoledig llinell graidd y cymoedd;
b) buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd gan bron ddyblu’r capasiti a sicrhau twf anferthol yn y gwasanaethau i deithwyr;
c) dod â’r buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru ers cyhoeddiad Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2009 i drydaneiddio prif linell De Cymru;
d) pasio’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) arloesol i gyflwyno masnachfreintiau a rhoi pobl cyn elw wrth ddarparu gwasanaethau bysiau;
e) denu dwy filiwn o bobl ifanc i deithio ar y bysiau gyda’r tocyn £1 i bobl ifanc;
f) cynlluniau cyffrous ar gyfer tocyn £2 i oedolion a chynnydd o 10 y cant yn y llwybrau yn y Senedd nesaf;
g) cynnal prosiect mawr wedi’i flaenoriaethu ar gyfer adnewyddu asedau gan ddechrau gyda chynllun cyfnewid gwerth £180 miliwn ar Afon Dyfrdwy;
h) dechrau’r gwaith o glirio’r ôl-groniad cynnal a chadw ffyrdd sydd heb ei wneud, ar ôl 14 mlynedd o lymder o dan y Ceidwadwyr, gan wella 627km o arwynebau ffyrdd a llenwi 203,000 o dyllau yn y ffyrdd yn dilyn hwb o £25 miliwn yn y cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol a £60 miliwn (£120 miliwn dros 2 flynedd) i Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i drwsio ffyrdd lleol;
i) comisiynu adolygiad o gyflwr ffyrdd a thraffig ar y prif ffyrdd strategol, megis yr M4, A55 a’r A494 i asesu’r ymyriadau y dylid eu blaenoriaethu i wella effeithiolrwydd y priffyrdd sy’n gwasanaethu coridorau economaidd strategol;
j) cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r gallu i gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a ddatblygir gan Gydbwyllgorau Corfforedig a thros £100 miliwn ar gyfer eu cyflawni; a
k) gweithio gyda’r rhanbarthau i sbarduno momentwm tuag at ddatblygu 'metros' yn y Gogledd a’r De-orllewin.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cysylltedd trafnidiaeth. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl Plaid Cymru: tai. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Tai. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 nawr, yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Tai. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 13, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Symudwn ymlaen a galwaf am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Tai. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM9122 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd yn:
Croesawu’r diwygiadau deddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol a geir yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i gefnogi’r nod tymor hir o ddod â digartrefedd i ben.
Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £540 miliwn dros dymor presennol y Senedd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £98 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i wella cartrefi cymdeithasol yn 2026-27.
Croesawu Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU ac yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i gael y gorau o effeithiau’r ymyriadau a’r buddsoddiad a ddaw o’r cynllun, i wella canlyniadau i bobl Cymru.
Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 filiwn mewn tai cymdeithasol gan ddisgwyl darparu 20,000 o dai carbon isel ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd.
Cydnabod y niwed i’r piblinellau datblygu tai o ganlyniad i Brexit a mini-gyllideb Liz Truss, a galw ar bob plaid i ymrwymo i raglen adeiladu tai uchelgeisiol ar draws y sectorau cymdeithasol, preifat a chanolradd dros dymor nesa’r Senedd a thu hwnt.
Croesawu ymrwymiad a chyd-berchenogaeth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid sectorol wrth roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar waith.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Tai. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna'r diwedd ar ein pleidleisio ni y prynhawn yma.
Nawr byddwn yn symud ymlaen at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges i siarad.
Ac os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n dawel fel y gallwn ni i gyd glywed Mike.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid yw Cymru, fel gweddill Prydain, wedi dangos yr un brwdfrydedd dros dai cydweithredol â gweddill y byd. Pam y mae tai cydweithredol mor boblogaidd mewn llefydd mor amrywiol ag Efrog Newydd, gwledydd ar draws gorllewin Ewrop a Sgandinafia, ond wedi methu dod yn ffurf safonol ar gartref yng Nghymru a gweddill Prydain? Mentrau cydweithredol yw grŵp o bobl sydd gyda'i gilydd yn berchen ar, yn rhentu ac yn rheoli eu llety. Mae hyn yn amrywio o dai a rennir i flociau o fflatiau ac ystadau cyfan. Gyda'i gilydd, maent yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu atgyweiriadau, gwneud penderfyniadau ynglŷn â rhent a phwy sy'n ymuno neu'n gadael menter gydweithredol.
Mae yna lawer o wahanol fathau o dai cydweithredol. Fodd bynnag, ym mhob math o dai cydweithredol, mae aelodaeth gymunedol ddemocrataidd o gymdeithasau tai, lle mae gan bob aelod gyfran nominal gyfartal, sy'n rhoi'r hawl iddynt bleidleisio ar faterion sy'n effeithio ar y fenter gydweithredol. Yn y Deyrnas Unedig, lle mae gan wledydd eraill dai cydweithredol, mae gennym ni gymdeithasau tai, sy'n sefydliadau preifat—yng Nghymru, sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw—sy'n darparu tai cymdeithasol ar gost gymharol isel i bobl sydd angen cartref. Rwy'n defnyddio'r geiriau 'cymharol isel' yn fwriadol. Er eu bod yn annibynnol, cânt eu rheoleiddio gan y Llywodraeth ac maent yn cael symiau mawr o arian cyhoeddus.
Mae tai cydweithredol yn anghyffredin yn y DU o gymharu ag Ewrop. Mae'r rhan fwyaf wedi'u lleoli mewn ardaloedd trefol ac yn cynnwys llety fforddiadwy a rennir lle mae'r aelodau'n gofalu am yr eiddo eu hunain. Gall rhestrau aros fod yn hir iawn oherwydd prinder tai cydweithredol. Mewn rhai ardaloedd, mae'r weithdrefn ymgeisio wedi'i hintegreiddio yn y system ymgeisio am dai cyngor.
Daeth un o ddatblygiadau cynharaf tai cydweithredol gyda'r mudiad cydbartneriaeth tenantiaid yn gynnar yn y 1900au. Dechreuodd ym 1901, gyda sefydlu Ealing Tenants Limited, y tai cydbartneriaeth tenantiaid cyntaf, a adeiladwyd ym Maestref Brentham Garden, Ealing. Mae'r enw'n dangos pa mor agos ydoedd i'r mudiad gardd-ddinasoedd. Ceir enghreifftiau eraill o dai cydbartneriaeth yn Hampstead Garden Suburb, sydd bellach yn un o rannau drutaf Llundain, a Letchworth Garden City. Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, rhoddodd deddfwriaeth yr un mynediad at gymorth Llywodraeth i'r mudiad cydbartneriaeth cydweithredol â thai cyngor, ond dewisodd y rhan fwyaf o gynghorau adeiladu drostynt eu hunain drwy ddatblygu tai cyngor.
Methiant fu hanes y mudiad cydbartneriaeth dros amser am ei fod wedi'i ariannu gan gymysgedd o gyllid gan denantiaid a buddsoddwyr eraill. Creodd cyfranogiad buddsoddwyr eraill bwysau wrth werthu'r cartrefi. O ddiwedd yr ail ryfel byd hyd at ganol y 1970au, dominyddwyd polisi tai cyhoeddus y DU gan anogaeth i fod yn berchen ar eich cartref eich hun drwy ryddhad treth ar log morgais, a chreu tai cyngor, a ddarparai gartrefi i bron draean o'r boblogaeth ar ei anterth yn y 1970au. Erbyn 2009, roedd tua un o bob 200 o bobl yn byw mewn cartrefi a oedd yn eiddo i neu wedi'u rheoli gan gymdeithas dai gydweithredol neu gydfuddiannol.
Dechreuodd trydedd don o ddatblygiad tai cydweithredol yn y 1960au gyda datblygiad tai cydberchnogaeth. Perchnogaeth gydweithredol wedi'i rheoli gan drigolion oedd y rhain, a byddent yn talu rhent misol i dalu costau trin y forgais a fenthycwyd gan y fenter gydweithredol i adeiladu eu cartrefi. Fe'i gwnaed yn fforddiadwy gan ryddhad treth y Llywodraeth ar y benthyciad morgais. Adeiladwyd dros 40,000 o gartrefi cydberchnogaeth, ond daeth y rhan fwyaf o gymdeithasau cydberchnogaeth i ben yn gynnar yn yr 1980au pan roddodd y Llywodraeth Geidwadol hawl i'r aelodau ddirwyn y cymdeithasau i ben a bod yn berchen ar eu cartrefi fel unigolion. Fe gynhyrchodd y polisi ffawdelw sylweddol yn aml i'r aelodau a oedd yn ddigon ffodus i fod yn breswylwyr ar y pryd.
Mae'r bedwaredd don fach o fentrau tai cydweithredol yn y DU yn gymharol ifanc o gymharu â gwledydd eraill Ewrop. Fe'u sefydlwyd yn y 1970au a'r 1980au gyda rhaglenni cymorth y Llywodraeth a luniwyd i ddarparu cartrefi i deuluoedd incwm isel a chanolig gan gymdeithasau tai nid-er-elw, a defnyddiwyd rhai ohonynt i greu tai cydweithredol. Yn ogystal, mae grŵp bach o fentrau tai cydweithredol wedi datblygu heb gymorth Llywodraeth, gan ddefnyddio benthyciadau a morgeisi aelodau i gynyddu cyllid a thwf.
Newidiodd yr agenda wleidyddol yn y 1980au a'r 1990au, gan greu cymdeithasau tai ar raddfa fawr fel mecanwaith ar gyfer darparu tai cymdeithasol yn hytrach na thai cydweithredol a thai cyngor. Am y rheswm hwn, daeth datblygu tai cydweithredol newydd i ben fwy neu lai yn y 1990au, er bod nifer fach o gartrefi'n parhau i gael eu datblygu gan asiantaethau gwasanaethau tai cydweithredol penodedig a darparwyr cofrestredig.
Yn 2014, gwelsom agor yr Edinburgh Student Housing Co-operative, sy'n darparu tai fforddiadwy i 106 o fyfyrwyr sy'n aelodau o'r fenter gydweithredol. Mae'r fenter gydweithredol yn rheoli dau eiddo cyfagos ac yn gosod tai ar rent yng Nghaeredin. Ceir dwy fenter tai cydweithredol arall i fyfyrwyr, yn Birmingham a Sheffield.
Mae'r Cooperative Development Foundation wedi lansio menter tai fforddiadwy i addysgu cymunedau a gwneuthurwyr penderfyniadau am gyfleoedd i breswylwyr a/neu dai ym mherchnogaeth neu a reolir gan y gymuned a all helpu i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a chryfhau sefydlogrwydd tai hirdymor.
Yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yn 2012 ei bod am weld cartrefi'n cael eu hadeiladu yng Nghymru ar fodel cydweithredol—diolch, Huw Lewis. Arweiniodd hyn at brosiect tai cydweithredol Cymru, a reolir gan Ganolfan Gydweithredol Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Nationwide. Mae prosiect tai cydweithredol Cymru wedi helpu i ddatblygu 137 o gartrefi cydweithredol mewn chwe ardal awdurdod lleol wahanol, ac mae dau o'r cynlluniau a gefnogwyd wedi ennill gwobrau. Mae wedi cefnogi cynlluniau cydweithredol a chynlluniau a arweinir gan y gymuned ledled y wlad, wedi uwchsgilio mwy na 250 o bobl ar sut i redeg menter gydweithredol yn llwyddiannus, wedi nodi hyrwyddwyr tai cydweithredol a arweinir gan y gymuned ar draws y sector tai ac wedi datblygu pecyn cymorth ar-lein, gan helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau ac adnoddau i dyfu a chefnogi'r galw am dai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned.
Cwmpas yw'r enw newydd ar Ganolfan Gydweithredol Cymru, ac mae wedi cefnogi prosiect a fydd yn darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth sy'n helpu grwpiau cydweithredol a grwpiau tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru drwy bob cam o ddatblygu tai. Gyda chyllid gan y Sefydliad Nationwide a Senedd Cymru, mae rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi Cwmpas yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau ledled Cymru i gefnogi twf tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned a darparu mwy o dai fforddiadwy i bobl mewn angen. Mae Cwmpas yn cynnig cymorth sefydliadol a chynhwysfawr, sy'n rhad ac am ddim ac wedi'i deilwra i anghenion pob cynllun. Disgwylir i'r prosiect arwain at sector tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned sy'n ffynnu yng Nghymru—sector sydd eisoes ag enw da am ei ddull proffesiynol a chydweithredol o weithredu.
Mae'r prosiect yn cynnig pedwar cam o gymorth, gyda'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o fodelau tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned, sef gwella gwybodaeth am argaeledd cymorth a sut i gael gafael arno; hwyluso rhwydweithio rhwng grwpiau ar gamau datblygu tebyg; cyflwyno rhaglen gymorth bwrpasol drwy gydol cylch bywyd y prosiect; addysgu a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol i gael gwared ar y rhwystrau y gwyddys amdanynt i ysgogi mwy o ddatblygiadau tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned. Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £540,000 dros dair blynedd i Cwmpas i barhau i dyfu'r sector tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru. Yn ogystal, mae cyllid wedi'i godi, gyda buddsoddiad pellach o £408,000. Bydd y cyllid yn helpu i dyfu'r rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi a gyflwynwyd gan Cwmpas, sydd wedi gosod targedau gyda'i strategaeth bum mlynedd newydd i ddyblu nifer y grwpiau sy'n bwrw ymlaen â thai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru, i gynnwys cwblhau 150 o gartrefi carbon isel newydd a ffrwd ddatblygu ar gyfer 250 arall.
Sefydlwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr yn 2009 pan bleidleisiodd y tenantiaid i drosglwyddo eu cartrefi i sefydliad newydd nad yw'n gwneud elw a newidiwyd yn gwmni cydfuddiannol ym mis Mai 2016, gan greu cymdeithas dai gydfuddiannol gyntaf Cymru i denantiaid a gweithwyr. Golyga fod aelodau sy'n denantiaid a chyflogeion yn berchen ar y gymdeithas fel menter gydweithredol. Mae aelodaeth yn agored i denantiaid ac unrhyw un sy'n byw ar aelwyd tenant ar yr amod eu bod dros 16 oed. Mae aelodaeth hefyd yn agored i weithwyr Cartrefi Cymoedd Merthyr ar ôl iddynt basio'u cyfnod prawf. Mae rhai lesddeiliaid a sefydliadau nid-er-elw hefyd yn dod yn aelodau cyswllt.
Er bod llawer ohonom yn ystyried bod datblygiad tai cydweithredol yn syniad sosialaidd neu adain chwith, mae'n anwleidyddol i bob pwrpas. Mae tai cydweithredol wedi cael eu datblygu'n llwyddiannus yng Ngogledd America—roedd John Lennon yn byw yn adeilad Dakota, cynllun tai cydweithredol yn Efrog Newydd—Sgandinafia a gorllewin Ewrop, ac i raddau llawer llai, ym Mhrydain. Lle mae wedi gweithio fe ddigwyddodd hynny drwy weithredu deddfwriaethol, fel yn Efrog Newydd a Sbaen, neu gymorth ariannol, fel yn Sweden a Norwy.
Os ydym am ddatblygu tai cydweithredol ar raddfa fawr, mae angen yr ewyllys gwleidyddol arnom i wneud hynny, a dealltwriaeth hefyd ar ran y rhai nad ydynt yn gallu cael llety drwy ddulliau traddodiadol y gall mentrau cydweithredol gynnig cyfle fforddiadwy mewn cyfnod sy'n mynd i fod yn gynyddol anodd. Gellir gwneud y ddealltwriaeth honno'n glir yn y ffordd y caiff dinasyddiaeth ei chyflwyno drwy ein cwricwlwm cenedlaethol newydd. Bydd pwysigrwydd yr opsiynau a gynrychiolir gan ffurfiau cydweithredol o ddeiliadaeth yn galw am wybodaeth am ddatblygiadau ymhell y tu hwnt i'n gwlad ni, felly mae'n bwysig cynyddu ymwybyddiaeth, a chymorth ariannol yn bwysicach fyth, ac i dai cydweithredol gael eu trin yr un mor ffafriol â chymdeithasau tai. Pe bai'n cael ei drin yr un mor ffafriol â chymdeithasau tai, rwy'n credu y byddai gennym lawer mwy o dai cydweithredol. Cymdeithasau tai yw'r dewis diofyn i Lywodraeth Cymru, ac maent wedi bod yn ddewis diofyn i Lywodraeth San Steffan hefyd. Ond y gwir amdani yw bod tai cydweithredol yn opsiwn ac mae angen inni wneud mwy o ddefnydd o'r opsiwn hwnnw.
Mae Canolfan Gydweithredol Cymru wedi datblygu strategaeth, 'Building homes, creating communities, changing lives', i wneud y mwyaf o effaith tai cydweithredol yng Nghymru. Gan weithio gyda'r Cydffederasiwn Tai Cydweithredol, swyddogion galluogi tai gwledig, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, nod y strategaeth yw cyflwyno tai cydweithredol ar raddfa fwy, gyda mwy o gynlluniau a mwy o bobl yn elwa ohonynt, cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, datblygu a gweithredu modd o asesu perfformiad ac effaith tai cydweithredol a chynyddu amrywiaeth cynlluniau tai cydweithredol, gan rychwantu deiliadaethau, lefelau incwm posib a diwallu anghenion tai amrywiol mewn cymunedau gwledig a threfol. Hefyd, mae gan y strategaeth bum nod allweddol: mwy o gynlluniau tai cydweithredol, gan weithio gyda mwy o bartneriaid; datblygu adnodd cymorth ar-lein, fel pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Elusennol y Cymdeithasau Tai, y cyfrannodd Canolfan Gydweithredol Cymru tuag ato, gan ddatblygu canllawiau ar-lein, cyhoeddi podlediadau a deunydd fideo sy'n nodi materion allweddol ynghylch datblygu tai cydweithredol, galluogi cymunedau, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddeall beth y mae'n ei olygu a pha opsiynau posib sydd ar gael; ehangu opsiynau, archwilio dulliau newydd ac arloesol i ddiwallu anghenion a dyheadau'r rhai sy'n dangos diddordeb mewn tai cydweithredol; datblygu strwythurau cymorth, croesawu partneriaid newydd i'r grŵp rhanddeiliaid a nodi'r ffordd orau o gefnogi rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol rhwng datblygiadau sefydliadau tai cydweithredol; a datblygu dulliau effeithiol, datblygu a gweithredu dull cyffredin o asesu effaith grwpiau tai cydweithredol newydd a chanlyniad y cynllun tai cydweithredol.
Nid ydym yn adeiladu digon o dai cydweithredol o hyd, ac rwy'n gobeithio y bydd yna ymdrech fawr yng Nghymru ar ôl etholiad mis Mai. Pan fo'n ffynhonnell bwysig o'r ddarpariaeth dai yng ngweddill y byd, mae angen i ni ddarparu mwy o gefnogaeth drwy'r sector tai cydweithredol. Mae'n anhygoel, mewn gwirionedd, y lleoedd sy'n ei wneud, ac mewn llawer o'r lleoedd, mae'n cael ei wneud oherwydd bod gennych chi ychydig o unigolion sy'n wirioneddol ymroddedig, a dyna beth sydd ei angen arnoch ar gyfer llawer o'r pethau hyn. Ond mae angen cefnogaeth arnynt hefyd, ac mae ceisio ei wneud ar eich pen eich hun—. Roedd yna fenyw a ysgrifennodd lyfr am sefydlu un yn Awstralia a'r anawsterau a gafodd hi. Ariannodd ddarn mawr ohono ei hun, felly roedd cael y fenter gydweithredol, cael pobl i dalu i mewn, ei gael wedi'i wneud, wedi ei yrru'n unig gan gryfder ei phersonoliaeth a'i dymuniad hi i ddatblygu tai cydweithredol. Rwy'n credu bod angen mwy o bobl felly, ond mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud hefyd, 'Ydy, mae tai cydweithredol yn syniad da; rydym yn ei gefnogi a dylid ei drin yr un mor ffafriol â chymdeithasau tai.' Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl—Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Mike Hedges am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw. Mike, rwy'n gwybod eich bod chi'n hyrwyddwr dros dai cydweithredol yn y lle hwn. Fel aelod o'r Blaid Gydweithredol ac yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gallu clywed yn uniongyrchol sut y mae tai cydweithredol a mathau eraill o dai a arweinir gan y gymuned yn gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr.
Mike, fe fyddwch chi'n gyfarwydd â Dream Home Abertawe. Mae'r aelodau, sydd i gyd yn bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ceisio creu cartref hirdymor iddynt eu hunain yn wyneb adfyd sylweddol a chyda rhai o'u rhieni'n wynebu salwch sy'n peryglu bywyd. Maent yn grŵp gwirioneddol ysbrydoledig ac yn ymgorffori'r hyn y gall tai a arweinir gan y gymuned fod, gan ateb angen tai penodol drwy ddefnyddio'u sgiliau a'u dyfeisgarwch eu hunain, a dod â'r help sydd ei angen arnynt i mewn i wneud iddo ddigwydd. Maent hyd yn oed wedi creu cân a fideo am eu prosiect o'r enw 'I Believe in Myself', ac rwy'n annog pob Aelod i'w gwylio ar YouTube. Mae'r grŵp yn dangos yn dda iawn y gorau o'r hyn y gall byw yn gydweithredol ei wneud—lleihau ynysu cymdeithasol, darparu gofal anffurfiol, codi hyder, grymuso aelodau i wneud gwahaniaeth, ac yn bwysicaf oll, darparu lle sefydlog, fforddiadwy, cymdeithasol i fyw sy'n diogelu rhag adfyd yn y tymor hir. Yn ogystal â darparu cartref iddynt eu hunain, gallent ysbrydoli eraill mewn sefyllfa debyg i wneud yr un peth. Rydym yn dal yn y camau cynnar, yn edrych ar sut y gellir dod â'r holl elfennau o gymorth at ei gilydd, gan gynnwys y lefel o gymorth y gellid ei darparu gan ein cronfa tai â gofal, ond os yw'n llwyddiannus, gallai gynnig model newydd o ofal cymdeithasol, a ddarperir drwy ddull partneriaeth gydag ymwneud landlord cymdeithasol cofrestredig, awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.
Cefais fy ysbrydoli hefyd gan stori Tai Cydweithredol Tir Cyffredin ym Machynlleth, a gododd £140,000 yn eu cymuned i gyd-fynd â morgais o £140,000 i brynu eu cartref, a chawsant gefnogaeth bob cam o'r ffordd gan y cynllun galluogi tai cymunedol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, Cwmpas. Nid oes angen cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar y fenter tai cydweithredol a bellach mae'n darparu saith ystafell ar rent fforddiadwy mewn tŷ a rennir. Nid oedd yr un o'r preswylwyr wedi sefydlu menter tai cydweithredol, na chael morgais na chreu model ariannol 40 mlynedd, ond rhoddodd ein cefnogaeth hyder a sgiliau iddynt wneud hynny. Ymwelodd fy swyddogion â'r fenter tai cydweithredol y llynedd a dysgu, mewn cyfnod pan fo ynysu cymdeithasol ar gynnydd, efallai mai tai cydweithredol yw'r ateb sydd ei angen ar rai pobl i gadw mewn cysylltiad, adeiladu hyder a rhannu profiadau sy'n newid bywydau.
Nid oes amheuaeth na fyddai'r ddau brosiect, a llawer o rai eraill yr ydym wedi'u cefnogi, wedi symud ymlaen heb ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gefnogi tai cydweithredol a mathau eraill o dai a arweinir gan y gymuned. Diolch i'n cefnogaeth ariannol, mae gan Cwmpas 45 o grwpiau tai a arweinir gan y gymuned sy'n weithredol erbyn hyn, gyda ffrwd ddatblygu o 296 o gartrefi ar draws bron pob awdurdod lleol yng Nghymru, ac ym mhob math o anheddiad: dinas, tref, gwledig, ac oddi ar y grid. O'r rhain, mae pump yn brosiectau tai cydweithredol, sy'n darparu 42 o gartrefi cydweithredol.
Mae llawer o'r prosiectau a gefnogir gennym drwy Cwmpas hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth cymunedol a mentrau cymdeithasol, yn ogystal â thai. Yn aml, maent yn agor y drws i gyfranogiad cymunedol ehangach drwy ddarparu mannau i bobl ymgynnull a bod gyda'i gilydd, weithiau i ddysgu sgìl, i rannu gofal plant efallai, neu i chwarae cerddoriaeth, neu'n aml ddim ond i fod gyda phobl eraill. Er bod cartref yn garreg sylfaen ar gyfer bywyd ffyniannus, mae'r prosiectau hyn yn cydnabod bod angen rhwydweithiau ar bobl hefyd. Dylid cymeradwyo prosiectau tai sy'n creu neu'n cryfhau rhwydweithiau, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i gydnabod pwysigrwydd rhwydweithiau.
Mike, rwy'n gwybod heddiw ac ar adegau eraill eich bod chi wedi mynegi rhwystredigaeth ynghylch cyflymder y newid a chyflymder cyflwyno prosiectau tai o'r fath. Mae peth o hyn yn ymwneud â thraddodiadau ym maes tai a pheth yn ymwneud â rhwystrau i dwf, peth ohono'n benodol i dai a arweinir gan y gymuned a pheth i'w deimlo ar draws y sector tai. Ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion archwilio ymarfer ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac rydych chi wedi sôn am rywfaint ohono heddiw.
Rydym eisiau tyfu, ond rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â sut olwg sydd ar dwf yng Nghymru ac ar gyfer y sector a arweinir gan y gymuned. Rydym bob amser yn ymwybodol o'r angen i edrych ar sut y mae ein blaenoriaethau ar dai cydweithredol yn cydblethu â'n portffolios ar draws y sector tai cyfan. Ond rydym hefyd yn cydnabod y gwerth ychwanegol penodol sydd gan dai a arweinir gan y gymuned, lle daw unigolion at ei gilydd fel grŵp i greu eu hatebion tai eu hunain a lle mae darparwyr tai o'r fath yn elfennau cymdeithasol cefnogol. Rydym yn gwybod bod dod â'r ansawdd arbennig hwnnw i mewn i gymunedau'n creu hunanddibyniaeth a gwydnwch y mae angen ei werthfawrogi a'i gefnogi.
Ni fyddwch yn synnu fy nghlywed yn dweud mai cyllid yw un o'r prif rwystrau, ac rydym yn parhau i archwilio sut y gallwn ymestyn cyllid y tu hwnt i'r hyn sydd eisoes ar gael. Mae grwpiau cymunedol sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg wedi cael cyllid refeniw drwy ein rhaglen Perthyn, ac mae ceisiadau am grant o £5,000 yn dal ar agor. Gall grwpiau cymunedol gael gafael ar gyllid cyfalaf hefyd ar gyfer adnewyddu cartrefi gwag drwy ein grant cartrefi gwag, ac ar ben hynny, mae cyllid cyfalaf drwy ein grant tai cymdeithasol ar gael lle caiff prosiectau eu cyflwyno mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Yn ogystal, fe wnaethom dderbyn argymhellion Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai'r Senedd i edrych eto ar ein cronfa benthyciadau gylchol ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned, ac rydym yn disgwyl cynnig ac achos busnes gan Cwmpas. O ystyried yr amseru, fodd bynnag, pan ddaw'r cynnig i law, bydd penderfynu arno'n fater i'r Llywodraeth nesaf.
Bydd angen i unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ar gyllid ar gyfer y sector tai a arweinir gan y gymuned, yn cynnwys tai cydweithredol, gydnabod tri pheth: bod prosiectau tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru at ei gilydd yn fusnesau newydd a arweinir gan wirfoddolwyr sydd angen cymorth ychwanegol o gymharu â darparwyr tai eraill; fe all ac fe ddylai cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru helpu prosiectau i ddatgloi cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill, a dylem annog y dull hwnnw o weithredu; a rhaid i Lywodraeth Cymru ddiogelu ei buddsoddiad gyda lefelau priodol o sicrwydd a rheoleiddio.
Rwyf am orffen drwy ddathlu amrywiaeth prosiectau tai cydweithredol a thai a arweinir y gymuned, gan fod pob un yn deillio o'r gymuned ac yn darparu ymateb penodol o'r gwaelod i fyny i angen tai. Yr hyn sy'n gyffredin ym mhob prosiect yn ffrwd Cwmpas yw bod pobl yn teimlo ysbrydoliaeth i ddod o hyd i ateb drwy weithio gyda'i gilydd ar broblem tai. O'r herwydd, dylem gymeradwyo'r ysbrydoliaeth a diolch i'r holl wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i ddatblygu'r prosiectau hyn, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol yn aml i ddatgloi a dadflocio cyfleoedd na all eraill eu gweld, hyd yn oed gyda'r ewyllys gorau yn y byd.
Gadewch inni fod yn glir: gellir teimlo gwaddol y gwaith lle caiff cartrefi newydd eu hadeiladu am genedlaethau. Dyna pam y credaf y dylem barhau i fuddsoddi ein hamser a'n hadnoddau i gyflwyno syniadau a phrosiectau, a pham fy mod yn falch imi allu parhau i wneud hynny yn fy nghyfnod yn y swydd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a Mike, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Siwrnai ddiogel adref, a gobeithio y bydd yr A4232 a'r draffordd ar agor heno.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.