Y Cyfarfod Llawn

Plenary

27/01/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Triniaethau Dermatoleg ac Endosgopi

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fewnoli triniaethau dermatoleg ac endosgopi? OQ63740

Ym mis Tachwedd, cafodd 43,800 o bobl eu rhyddhau o boen ac anghysur o ganlyniad i driniaeth yn y GIG yng Nghymru, gan gyfrannu at y gostyngiad misol mwyaf erioed i'r rhestr aros. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi miliynau eleni i leihau rhestrau aros, gan gynnwys comisiynu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys endosgopi a dermatoleg. Rydym ni'n falch bod hyn yn talu ar ei ganfed bellach, ond yn cydnabod bod gan y GIG ymhellach i fynd.

Diolch. Y rheswm yr wyf i wedi codi hyn, Prif Weinidog, yw, fel y gwyddoch, dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, rydych chi wedi datblygu tueddiad o ganslo contractau pan fyddwch chi'n mewnoli. Ac mae hyn wedi bod yn amlwg ym meysydd triniaeth hernia, endosgopi, dermatoleg a mwy. Clywsom yn ddiweddar am y sgan PET—mae'r contract ar gyfer hynny bellach wedi cael ei ganslo yn y gogledd. 

Nawr, nodir mai 15 wythnos yw'r amser aros cyfartalog i glaf allanol dermatoleg cyntaf, â 10 y cant o gleifion yn aros mwy na 50 wythnos. Mae gen i etholwyr sydd wedi bod yn aros ymhell dros 100 wythnos, a dydyn nhw ddim yn dda o gwbl. Ac mae pobl yn poeni oherwydd, mewn llawer o achosion, mae'r bobl hyn yn mynd at ddermatolegydd, ac mae rhai pobl yn meddwl bod ganddyn nhw ganser y croen, a all, fel y gwyddoch chi, fod â chanlyniadau eilaidd—. Felly, mae'n agwedd sy'n peri gofid mawr. Ym mis Gorffennaf 2025, roedd bron i 7,000 yn aros am endosgopi diagnostig. Felly, roedd hynny'n gynnydd o 4,985 yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, y tu ôl i'r ffigurau hyn mae yna bobl go iawn. 

Gallaf. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Rydych chi'n sefyll yn y fan yna wythnos ar ôl wythnos yn dweud eich bod chi'n lleihau rhestrau aros. Yn y meysydd hynny yr wyf i wedi eu crybwyll, maen nhw'n cynyddu. [Torri ar draws.] Dydw i ddim yn siarad â chi; rwy'n siarad â'r Prif Weinidog.

Gofynnwch y cwestiwn. Dydych chi ddim yn siarad mwyach; rydych chi'n gofyn cwestiwn.

Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, edrych ar y meysydd hynny yr wyf i wedi eu crybwyll a dod yn ôl ataf i gyda llythyr, dim ond i ddweud wrthyf i sut mae'r rhestrau aros hynny yn lleihau, oherwydd dydyn nhw ddim?

Wel, gallaf ddweud wrthych chi eu bod nhw. Dyna'r gwir. A, gwrandewch, rwy'n deall ei fod yn peri gofid enfawr. Roeddwn i'n arbennig o bryderus pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd am y sefyllfa o ran dermatoleg yng ngogledd Cymru. Mae nifer yr achosion o ganser y croen yn cynyddu. Mae angen i ni ei ddal yn gynnar. Mae gan fwrdd iechyd gogledd Cymru gontract dermatoleg mewnoli ar gyfer darparu gwasanaethau dermatoleg, gan gynnwys ar gyfer cleifion allanol, triniaeth canser a mân lawdriniaethau. 

Nawr, mae'r capasiti ychwanegol y mae'r Llywodraeth hon wedi'i ariannu wedi arwain at ostyngiad o 97 y cant i arosiadau dermatoleg dwy flynedd. [Torri ar draws.] Ydy, rwy'n credu bod hynny'n haeddu cymeradwyaeth. Mae hwnnw'n newid anhygoel o'r sefyllfa flaenorol—gostyngiad o 86 y cant i'r rhai sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad cleifion allanol cyntaf. Mae hynny'n gynnydd. Wrth gwrs, mae mwy y gellir ei wneud, ond rydym ni'n cydnabod, gydag endosgopi, er enghraifft, mai'r hyn sy'n digwydd nawr yw bod uned endosgopi dros dro yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Gwynedd, ac mae honno'n mynd i ddechrau gweld cleifion ym mis Mawrth. Disgwylir i honno alluogi dros 1,500 o bobl i dderbyn gofal meddygol dros y misoedd nesaf.

Y gwir amdani yw, oherwydd ein bod ni wedi cael arian ychwanegol—arian a fydd yn cael ei roi i chi eto heddiw mewn cyllideb—a all leihau'r rhestrau aros hynny, byddwn yn pleidleisio dros hynny. Bydd pleidiau eraill yma a fydd yn pleidleisio dros hynny. Ni fyddwch chi'n pleidleisio dros hynny, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli yn yr etholaethau hynny.

Poblogaeth Iachach a Mwy Egnïol

2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran sicrhau poblogaeth iachach a mwy egnïol? OQ63764

Fe wnaethom ni lansio ein cynllun cyflawni newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach' ym mis Medi, â chefnogaeth lawn y Cabinet a thraws-lywodraethol. Mae gan y cynllun bwyslais eglur nid yn unig ar fwyd, ond hefyd ar weithgarwch corfforol. Ar draws y Llywodraeth, rydym ni'n gwella llwybrau teithio llesol, yn sefydlu partneriaethau chwaraeon rhanbarthol, drwy Chwaraeon Cymru, yn datblygu'r cynnig rhagweithiol dyddiol ar gyfer ein hysgolion, ac yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer rhaglenni, fel y cynllun hamdden egnïol 60 a hŷn, a Fit Fans, i gynorthwyo oedolion i fod yn fwy egnïol.

13:35

Diolch am hynna, Prif Weinidog. O ran iechyd, mae angen i ni fod yn llawer mwy ataliol ar gyfer ein poblogaeth ac i helpu i leddfu pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ein hardaloedd mwy difreintiedig, lle ceir mwy o salwch. Byddai poblogaeth fwy egnïol yn helpu. Fe wnes i gynnal arolwg Casnewydd egnïol a dangosodd yr ymatebion yn gryf iawn nad oes digon o fynediad at gyfleusterau a seilwaith—pa un a yw hynny'n 3G, yn gyrtiau dan do, yn gaeau, yn ysgolion, yn ystafelloedd newid neu'n gyfleusterau storio. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn yw trwy flaenoriaethu ein hardaloedd mwy difreintiedig a darparu'r cyfleusterau a'r cymorth gwell hynny iddyn nhw. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru arwain a gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau hamdden, ein clybiau proffesiynol ac, wrth gwrs, sefydliadau ar lawr gwlad yn ein cymunedau, i gysoni polisi ac arferion, er mwyn cyflawni'n well ar gyfer ein cymunedau mwy difreintiedig?

Diolch yn fawr, John. Diolch am eich arweinyddiaeth ar hyn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n hoff o gymryd rhan mewn chwaraeon, ac rydych chi'n arwain y ffordd i'ch cymuned drwy esiampl. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod cadw'n heini yn lleihau siawns pobl o ddatblygu problemau iechyd. Mae'r mater a godwyd, pa un a yw'n fynediad at gyfleusterau, cystadleuaeth am fannau dan do cyfyngedig, prinder lonydd pwll nofio, caeau 3G, neu gyrtiau dan do—. Mae'r rhain i gyd yn union y mathau o rwystrau sy'n gallu cyfyngu ar gyfranogiad a dal clybiau yn ôl, yn enwedig, rwy'n meddwl, yn ystod misoedd y gaeaf. Rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n bwysig canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny efallai lle ceir mwy o amddifadedd, i roi'r cyfleusterau hynny ac i ganolbwyntio'r cyfleusterau hynny yn yr ardaloedd hynny, ond hefyd i weithio gyda sefydliadau a all efallai dreiddio'r cymunedau hynny mewn ffordd na all strwythurau'r wladwriaeth. Felly, mae gweithio gyda sefydliadau fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rwy'n credu, yn bwysig iawn, oherwydd maen nhw'n gallu cyrraedd y bobl hyn i'w hannog i gymryd rhan. Felly, mae ein pwyslais yn eglur: rydym ni wedi rhoi adnoddau ychwanegol i Chwaraeon Cymru i fuddsoddi mewn cyfleusterau modern, cynhwysol i gynorthwyo partneriaid lleol i wneud gwell defnydd o leoliadau presennol. Ac mae ein pwyslais yn eglur: gwella cyfleusterau, ehangu mynediad a chreu mwy o gyfleoedd i sefydliadau chwaraeon a chymunedau mewn lleoedd fel Casnewydd.

Wel, os ydym ni o ddifrif am weithredu cynlluniau ataliol, yna mae genomeg—genomics—am fod yn ganolog i hyn. Mae mapio ac adnabod cod genetaidd person am arwain at y gallu i deilwra gofal iechyd ymhell cyn i rywun orfod derbyn triniaeth neu ofal oherwydd y gallu yna i adnabod cyflwr ymhell o flaen llaw. Felly, sut ydych chi'n gweld genomics yn cynorthwyo i gyrraedd targedau iechyd y Llywodraeth yma?

Rydym ni eisoes yn defnyddio genomeg yn eithaf helaeth yng Nghymru. Os edrychwch chi ddim ond ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran triniaethau a sgrinio canser, mae hynny i gyd eisoes yn cael ei ddefnyddio. A dweud y gwir, rydym ni ar flaen y gad o ran biopsiau hylif a dadansoddi sut y gellir trin y rheini gan ddefnyddio meddyginiaethau penodol wedi'u targedu. Felly, rydym ni'n arwain y ffordd o ran genomeg, rwy'n credu, yng Nghymru.

Nid yw'n gyfrinach, mewn gwirionedd, bod gennym ni broblem gyda gordewdra a segurdod ymhlith oedolion a phlant, gyda'r tueddiadau presennol o ordewdra yng Nghymru yn gwaethygu, gan effeithio ar un o bob pedwar o blant a thri o bob pump oedolyn. Mae gordewdra hefyd yn effeithio ar bobl mewn ardaloedd mwy difreintiedig fwyaf, fel y mae John Griffiths wedi sôn. Mae hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn hanfodol i ddatrys hyn. Ar hyn o bryd, nid yw un o bob tri oedolyn ac 81 y cant o bobl ifanc yn gwneud digon o weithgarwch corfforol. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu cynnydd syfrdanol o 44 y cant i ordewdra dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi digwydd o dan oruchwyliaeth Llafur, gyda chynnydd aruthrol i'r gost i wasanaethau'r GIG. Mae Actif Gogledd Cymru yn cydnabod y gallai'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer gweithgareddau corfforol fod yn gwasanaethu'r rhai sydd eisoes yn ymarfer corff ond nid y rhai lleiaf egnïol mewn cymdeithas, ar ôl i gyllid gael ei sicrhau gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU i dreialu dull seiliedig ar le mewn pedwar awdurdod lleol ar draws y gogledd. Maen nhw wedi gweld llwyddiant mawr, gan weithio'n agos gyda thrigolion a sefydliadau lleol i ddod i adnabod pob ardal yn iawn, yr hyn a oedd eisoes yn gweithio'n dda, a'r hyn a oedd eisoes yn rhwystro pobl rhag bod yn egnïol. Felly, a all y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wrthdroi'r cynnydd enfawr i ordewdra dros y ddau ddegawd diwethaf, a sut mae Llywodraeth Cymru yn dysgu o ddull Actif Gogledd Cymru i dargedu'r ardaloedd mwyaf difreintiedig lle mae gordewdra yn fwy cyffredin?

13:40

Rwy'n credu bod angen i ni annog pobl i fyw mewn ffyrdd iachach, a dyna pam rydym ni wedi bod yn gynhwysfawr iawn gyda'n strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n annog pobl i fwyta'n iach ac i ofalu am eu hiechyd trwy weithgarwch corfforol. Ceir amrywiaeth eang o bethau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud eisoes. Mae'n bosibl i ni wneud rhywfaint ohono. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod pethau fel y cynnydd i faint o fwyd wedi'i brosesu'n helaeth y mae pobl yn ei fwyta yn rhywbeth sy'n anodd ac yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU weithio arno a dweud y gwir. Rydym ni wedi gwneud yr hyn a allwn yn Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i fynd ymhellach i'w gwneud hi'n haws i bobl wneud y dewisiadau cywir—felly, cyflwyno pethau fel gwneud yn siŵr nad ydych chi'n cael eich temtio, fel yr wyf i bob tro rwyf i'n mynd i fy siop CKs leol, pan fyddaf i'n gweld y siocledi yno ychydig cyn y man talu. Rwy'n cael fy nhemtio. Rwy'n cael fy nhemtio gan yr Haribos hynny sy'n eistedd yno, yn edrych arnaf i. Mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n haws i bobl trwy gael gwared ar y temtasiwn hwnnw. Rwy'n credu bod ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn mynd i fod yn ganolog i helpu pobl i osgoi'r temtasiynau hynny yn y dyfodol.

Prif Weinidog, rydym ni i gyd eisiau gweld cynnydd tuag at sicrhau poblogaeth iachach a mwy egnïol. Fodd bynnag, a ydych chi'n ymwybodol o'r pryderon cynyddol ynghylch y defnydd amhriodol o feddyginiaeth colli pwysau yng Nghymru? Tynnwyd fy sylw at y ffaith fod y cyffuriau hyn yn cael eu cyflenwi i bobl heb oruchwyliaeth glinigol briodol. Yn ystod ymweliad diweddar ag ysbyty, dywedwyd wrthyf i am nifer gynyddol o dderbyniadau o bobl â sgil-effeithiau difrifol, sy'n rhoi pwysau enfawr ar ein hadrannau ysbyty a'n hadrannau damweiniau ac achosion brys. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod yr amser wedi dod i'r meddyginiaethau hyn fod ar gael trwy atgyfeiriad meddyg teulu yn unig, ac nad oes atebion cyflym, hirdymor i fynd i'r afael â gordewdra a cholli pwysau heb i bobl wneud newidiadau cynaliadwy i'w ffyrdd o fyw, gan gynnwys diffyg calorïau a chynyddu gweithgarwch corfforol?

Rwy'n adnabod nifer o bobl sy'n defnyddio'r cyffuriau colli pwysau hyn, ac mae nifer o bobl yn colli llawer iawn o bwysau o ganlyniad, ac maen nhw'n credu'n gryf ynddyn nhw. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl yn deall, pan fyddant nhw'n rhoi'r gorau i'w cymryd, y gallai fod canlyniadau, ond hefyd bod gwneud hynny heb addasu eich deiet hefyd yn mynd i fod yn anodd pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd y cyffuriau hynny. Byddwn yn argymell, i bobl yng Nghymru sy'n cael eu temtio i ddilyn y trywydd hwn, eu bod nhw'n cael y cyngor clinigol iawn cyn iddyn nhw ymgymryd â'r cyffuriau colli pwysau hyn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Ddoe, amlinellodd yr Ysgrifennydd Cartref yr hyn a ddisgrifiodd fel y diwygiad mwyaf o blismona ers 200 mlynedd. Siawns y dylai hwnnw fod yn gyfle mawr i Gymru. Yr wythnos diwethaf, safodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr hon a dywedodd,

'wrth gwrs, ein huchelgais ni...yw i Gymru sicrhau datganoli plismona a chyfiawnder yn eu cyfanrwydd.'

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, traddododd y Prif Weinidog ei hun araith yn ail-bwysleisio ymrwymiad ymddangosiadol ei phlaid—[Anghlywadwy.]—ond ddoe, pan ofynnodd fy nghydweithiwr Liz Saville-Roberts i'r Ysgrifennydd Cartref Llafur a oedd yn cytuno mai nawr yw'r union amser ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru, cafodd ychydig eiriau diystyriol o ateb.

'Nac ydw, dydw i ddim.'

O un wythnos i'r llall, rwy'n cael trafferth yn gweithio allan pa un sy'n waeth: y difaterwch amlwg tuag at Gymru a ddangosir gan ASau Llafur, neu anallu llwyr Llywodraeth Lafur Cymru i ddylanwadu ar eu cydweithwyr yn San Steffan. Fe ddywedaf i wrthych i'n union beth rwyf i'n ei feddwl: dyma Ysgrifennydd Cartref Llafur mewn Llywodraeth Lafur y DU nad yw hyd yn oed yn ceisio cuddio ei dirmyg tuag at Gymru a'r broses ddatganoli. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'm hasesiad, ac a wnaiff hi adleisio ac ailadrodd y geiriau hynny, neu a wnaiff hi geisio osgoi unwaith eto sefyll yn gadarn dros Gymru?

Wel, fe'i gwnes hi'n gwbl eglur, mewn araith a gyflwynais yr wythnos diwethaf, ble'r ydym ni'n sefyll ar y mater hwn, ac rwy'n falch ei fod yn talu sylw i'r araith honno. Byddaf bob amser yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod ni'n canolbwyntio ar faterion. Nid yw'n fater o safbwyntiau cyfansoddiadol, yn fy marn i. Nid yw'n fater o wleidyddiaeth arwyddion; mae'n fater o ganlyniadau. Dyna'r hyn sy'n bwysig, a beth yw'r strwythurau gorau i sicrhau'r canlyniadau hynny. Gadewch i mi fod yn eglur mai hwn yw'r ailstrwythuro mwyaf o blismona ers 200 mlynedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â Llywodraeth y DU i siarad am lywodraethu yn y dyfodol yn ymwneud â hyn. Nid oes gennym ni ddiddordeb mewn datganoli plismona fel taith i annibyniaeth. Mae gennym ni ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ei fod yn ymwneud ag ymateb i anghenion pobl yn ein cymunedau. Canlyniadau i bobl yn ein cymunedau sy'n bwysig. Rwyf i'n canolbwyntio ar swyddi, ar y GIG, ar gymorth i ysgolion. Mae gen i ddiddordeb mewn cynlluniau ar gyfer cynnydd, nid gweiddi o'r ymylon.

13:45

Fe wnaethoch chi siarad am y cyfansoddiad pan oeddech chi'n traddodi'r araith honno yr wythnos diwethaf, dim ond i ddarganfod bedwar neu bum diwrnod yn ddiweddarach eto pa mor ddi-rym ydych chi i gael unrhyw ddylanwad ar Weinidogion Llywodraeth y DU. Mwy o osgoi, fel yr oeddwn i'n ei ddisgwyl. Rwy'n annog y Prif Weinidog i'w ddweud. Mae mor amlwg nad oes gan ASau Llafur a Keir Starmer unrhyw ddiddordeb yn yr hyn sy'n iawn i Gymru. Ac o ran ceisiadau ganddi hi, 'na' yw'r ateb bob amser, yn union fel y cafodd Andy Burnham: 'na' ar Ystad y Goron, 'na' ar gyllid teg, 'na' ar arian HS2 a nawr 'na' ar blismona hefyd. A wyddoch chi beth, po fwyaf y mae pobl Cymru yn edrych, y mwyaf y maen nhw'n deall bod Llafur yn blaid sy'n cael ei rhedeg o Lundain heb unrhyw ystyriaeth i Gymru. Ac maen nhw wedi rhoi'r gorau i esgus hyd yn oed. Mae un AS Llafur yn cael ei ddyfynnu yn y wasg heddiw yn dweud, 'Ni fyddwn yn datganoli plismona, yn enwedig o ystyried bod Llafur yn annhebygol o fod yn rhedeg Cymru ar ôl mis Mai'. Felly, os nad nhw sydd mewn rheolaeth, mae ganddyn nhw lai o ddiddordeb fyth yng Nghymru. Mae'n gywilyddus ac mae'n dryloyw. Onid yw'r Prif Weinidog yn credu bod ei swydd a'i chenedl yn haeddu mwy o barch na hyn?

Nid wyf i'n canolbwyntio ar Lywodraeth y DU. Rwy'n canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru. Rwy'n canolbwyntio ar wneud yn siŵr mai'r hyn yr ydym ni'n ei wneud heddiw yw ein bod ni'n cael cyllideb drwodd—[Anghlywadwy.]—gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu'r sefydlogrwydd a'r gobaith hwnnw, a £400 miliwn ychwanegol ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Yr hyn yr wyf i'n canolbwyntio arno yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. I'r—[Anghlywadwy.]—mwyaf erioed a sicrhawyd y mis diwethaf. A diolch i holl staff y GIG sydd wedi gweithio'n ddiflino, a hefyd am y buddsoddiad mwyaf erioed sydd wedi dod o ganlyniad i'r ffaith mai'r hyn sydd gennym ni yw dwy Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i wasanaethau cyhoeddus. Rydym ni wedi gweld y gostyngiad mwyaf erioed mewn mis o ran rhestrau aros—dros 23,000 o bobl yn dod oddi ar y rhestrau. Am y chweched mis yn olynol, mae rhestrau aros yn llai, a 19 wythnos yw'r amser cyfartalog ar gyfer rhestrau aros yng Nghymru.

Wyddoch chi beth, bydd pobl sy'n gwylio hyn yn cofio'r cwestiwn a ofynnais i, ac fe ddywedaf i wrthych chi beth, mae'n gampwaith o osgoi mynd i'r afael â'i hanallu o ran Llywodraeth y DU. A chofiwch nad ydym ni eisiau datganoli at ddibenion rhyw—[Anghlywadwy.] cyfansoddiadol—mater o wella plismona yw hyn. Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yn Ewrop. Mae miloedd wedi'u dal mewn cylch o aildroseddu, sy'n helpu neb. Mae'r gwasanaethau y mae'r heddlu yn gweithio ynddyn nhw wedi'u datganoli, ac eto nid yw plismona ei hun. Mae'n rhwystr i feddwl cydgysylltiedig. Ond, na, y ffordd orau o ddatblygu polisi ym marn Llafur yw drwy lens Whitehall, pan does bosibl nad y ffordd orau o'i ddatblygu yw drwy lens Cymru. 

Un cwestiwn olaf. Rwy'n nodi'r datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn galw am sicrwydd na ddylai unrhyw heddlu rhanbarthol weithredu ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae cydweithrediad trawsffiniol, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond rwy'n cytuno bod yn rhaid parchu ffin Cymru nawr, neu rydych chi'n creu mwy o broblemau fyth o ran yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn sydd ddim. Ond o ystyried cyn lleied o ddylanwad y mae'r Prif Weinidog wedi gallu ei gael ar gydweithwyr Llafur y DU hyd yma, a wnaiff hi esbonio beth sy'n mynd i fod yn wahanol y tro hwn? Beth mae hi wedi ei wneud ers y cyhoeddiad ddoe i fynd â'r achos yn uniongyrchol i'r Swyddfa Gartref bod yn rhaid iddi o leiaf ganiatáu i heddlu Cymru yn unig ddeillio o hyn? Mae'n ail gwael i ddatganoli, y bydd Plaid Cymru yn dal i bwyso amdano, ond dyma'r lleiaf sydd ei angen arnom ni.

Rwy'n falch iawn bod cydnabyddiaeth, yn y Papur Gwyn, wrth sôn am uno heddluoedd, o amgylchiadau gwahanol Cymru, ac wrth gwrs byddwn yn eglur ein bod ni'n parhau i bwyso am ein barn hirddatganedig y dylid datganoli plismona. Ond ar ryw adeg, byddai'n braf pe gallai arweinydd Plaid Cymru ofyn i mi am feysydd y mae gen i gyfrifoldeb amdanyn nhw mewn gwirionedd. Yr wythnos hon, er enghraifft, rydym ni wedi gwneud addewid i wneud yn siŵr y bydd staff cymorth ysgolion yng Nghymru, os cawn ni ein hailethol ym mis Mai, yn derbyn tâl drwy gydol y flwyddyn. Dyna'r math o beth y mae gan bobl Cymru ddiddordeb ynddo: gwneud yn siŵr bod pobl yn ein hysgolion yn cael eu cynorthwyo mewn ffordd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant yn yr ysgolion hynny.

13:50

Diolch, Llywydd. Mae'n Ddiwrnod Cofio'r Holocost heddiw, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd i goffáu bywydau'r 6 miliwn o ddynion, menywod a phlant diniwed a lofruddiwyd dim ond oherwydd eu bod nhw'n Iddewon. Ar adeg pan fo pla gwrthsemitiaeth, mae gen i ofn, yn dal i gynyddu unwaith eto, mae'n rhaid i ni i gyd fod yn gadarn, gan ddweud bod yn rhaid ei herio a mynd i'r afael ag ef pryd bynnag a ble bynnag y gallai godi.

Prif Weinidog, yn eich araith i'r Institute for Government yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gyflwyno darlun brawychus o'r bygythiad i'r Deyrnas Unedig sy'n cael ei beri gan Blaid Cymru. Ac eto yn y blynyddoedd diwethaf, mae eich Llywodraeth Cymru wedi bod yn glos iawn â'r un ymwahanwyr hynny, fel y gwnaethoch chi eu galw, trwy gytundeb cydweithio. Rydych chi wedi treulio blynyddoedd yn llythrennol yn gadael ASau Plaid Cymru i mewn i sanctwm mewnol y Llywodraeth i helpu i ddrafftio eich cyllidebau ac i ddylanwadu ar eich polisïau a'ch deddfwriaeth. Mae hynny'n cynnwys y terfynau cyflymder diofyn 20 mya diangen ac amhoblogaidd, drafft cyntaf trychinebus y cynllun ffermio cynaliadwy a'r prosiectau balchder yr ydych chi'n parhau i fuddsoddi ynddyn nhw yn Uganda.

Onid yw'r rhagrith mwyaf i chi, Prif Weinidog, rybuddio'r cyhoedd nawr am beryglon Plaid Cymru, pan ydych chi wedi bod yn gweithio law yn llaw â nhw, yn rhedeg Cymru ers blynyddoedd? Pam ddylai pobl Cymru gredu eich rhybuddion nawr, pan ydych chi wedi bod yn berffaith fodlon i Blaid Cymru fod yn gydbechadur?

Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am y ffaith y byddwn ni heddiw, rwy'n gobeithio, yn cael ein cyllideb drwodd diolch i'r gefnogaeth gan Blaid Cymru. Nid yw hynny'n rhywbeth i fod â chywilydd ohono. Mae hynny'n dangos cyfrifoldeb ymarferol—rhywbeth na fyddwch chi'n ei ddangos y prynhawn yma. Oherwydd rydym ni'n mynd i fod yn rhoi £1.2 biliwn ychwanegol ar y bwrdd i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ac nid ydych chi'n mynd i gefnogi hynny. Nid ydych chi'n mynd i fod yn cefnogi lleihau'r rhestrau aros hynny. Nid ydych chi'n mynd i fod yn cefnogi rhoi mwy o arian yn ein system addysg. Nid ydych chi'n mynd i fod yn cefnogi mwy o arian ar gyfer tai a thrafnidiaeth. Dyna'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Ond na, rydych chi eisiau bwrw ymlaen â'ch eich gwleidyddiaeth arwyddion, ac nid dyna, yn gwbl blaen, yw sut mae pobl Cymru yn meddwl.

Wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn, ond nid yw hynny'n syndod, oherwydd mae hi yr un fath bob wythnos. Rydych chi wedi honni bod mynnu mwy o bwerau gan Lywodraeth y DU yn ffordd o niwtraleiddio bygythiad o chwalfa'r DU. Ond mewn gwirionedd, y cwbl rydych chi'n ei wneud yw dilyn agenda Plaid Cymru, onid ydych chi? Oherwydd trwy fynnu mwy o bwerau a mwy o reolaeth yn gyson dros faterion fel plismona a chyfiawnder, rydych chi mewn gwirionedd yn adeiladu'r sgaffaldiau ar gyfer union chwalfa'r Deyrnas Unedig yr ydych chi'n honni eich bod chi eisiau ei hamddiffyn. Mae'n ymddangos i mi, Prif Weinidog, a phawb arall yng Nghymru, nad oes papur sigarét, a dweud y gwir, rhwng eich uchelgeisiau cyfansoddiadol chi a rhai Plaid Cymru. Felly, yn hytrach na cheisio bod yn fwy o genedlaetholwyr na'r cenedlaetholwyr trwy alw am fwy o bwerau, beth am ganolbwyntio ar y pwerau sydd gennych chi eisoes i ddatrys yr argyfwng yn ein GIG, i wella ein system addysg, ac i gael economi Cymru yn gweithio?

Llafur yw plaid datganoli, Plaid Cymru yw plaid annibyniaeth. Mae yna wahaniaeth. Mae'n wahaniaeth sylfaenol. Rydym ni eisiau gwneud i'r lle hwn weithio—Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref. Nid wyf i'n ymddiheuro am hynny. Yr hyn a nodais yn yr araith IfG yr wythnos diwethaf oedd yr hyn sydd ei angen ar Gymru nesaf. Nid oedd yn fater o ail-ddadlau’r gorffennol yn unig. Rydym ni wedi bod yn eglur iawn ynglŷn â'r ffaith ein bod ni eisiau gweld awgrymiadau Gordon Brown yn cael eu gweithredu, ein bod ni eisiau gweld y comisiwn annibynnol ar gyfansoddiad Cymru a'r argymhellion yn y fan honno yn cael eu cyflawni. Nid oedd popeth a ddywedais yn ymwneud â lleoli cyfansoddiadol. Nid oedd yn ymwneud â gwleidyddiaeth arwyddion. Roedd yn ymwneud â chanolbwyntio a gwneud yn siŵr bod gennym ni'r arfau cywir fel y gallwn ni gyflawni'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Swyddi yw o'r rheini.

Bydd gan bobl ddewis yn yr etholiad nesaf. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng a ydyn nhw eisiau anhrefn o dan Reform, yr ydym ni, mewn gwirionedd, wedi ei weld yma o'r blaen—. Bu gennym ni blaid Nigel Farage yma o'r blaen. Cynrychiolwyd saith ohonyn nhw. Erbyn diwedd y tymor, roedd chwech ohonyn nhw wedi ymuno â gwahanol bleidiau. Pwy sy'n meddwl bod hynny'n mynd i ddigwydd eto? Rwy'n credu y gall llawer ohonom ni ragweld yr hyn sy'n debygol o ddigwydd os byddan nhw'n cael eu hethol. Neu gallwch chi bleidleisio dros y trywydd hwnnw tuag at annibyniaeth. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei gynnig, ac rwy'n credu bod hwnnw'n ddewis anodd y bydd angen i bobl Cymru ei wneud. Ond rydym ni'n canolbwyntio yn ddiymddiheuriad ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Heddiw, mae hynny'n ymwneud â'r gyllideb. Mae'n ymwneud â'r gyllideb a phethau sy'n bwysig i bobl Cymru o ran eu bywydau bob dydd.

13:55

Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd swyddi, ac rwy'n cytuno â chi, mae swyddi yn bwysig, ond rydych chi'n methu yn hynny o beth, onid ydych chi? Mae gennym ni'r diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi cynyddu bron i 60 y cant ers ethol Llywodraeth Lafur y DU, ac nid yw'n syndod, gan eich bod chi'n pentyrru mwy a mwy o drethi ar ysgwyddau'r bobl sy'n gweithio'n galed sy'n cyflogi pobl ledled y wlad hon. Y gwir am y mater yw hyn: mae Llafur a Phlaid Cymru yn ddau foch o'r un wyneb truenus. Dyna beth ydych chi. Rydych chi wedi gweithio gyda'ch gilydd i basio cyllidebau a deddfwriaeth, ac rydych chi wedi gadael Cymru â'r canlyniadau addysgol gwaethaf, y rhestrau aros hiraf yn y GIG, a'r cyflogau isaf ym Mhrydain Fawr. Felly, yn hytrach nag erfyn ar Lywodraeth y DU am gytundeb newydd i achub eich croen gwleidyddol, beth am ymddiheuro i bobl Cymru am yr hen gytundebau yr ydych chi wedi eu gwneud gyda Phlaid Cymru, gan gynnwys cytundeb a wnaeth flaenoriaethu creu 36 o wleidyddion ychwanegol ym Mae Caerdydd, a gwario £120 miliwn ar y prosiect hwnnw, yn hytrach na chreu mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon ledled Cymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus?

Mae ots gennych chi am wasanaethau cyhoeddus? Pam na wnewch chi bleidleisio dros y gyllideb heddiw? Dyna eich cyfle i ddangos bod ots gennych chi. Y ffaith amdani yw ein bod ni wedi cael cynnydd o 40 y cant i nifer y meddygon a'r deintyddion ers y pandemig.FootnoteLink Mae hwn yn gynnydd enfawr mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gweithio'n ddiflino i greu mwy o swyddi ledled Cymru: cefnogwyd 12,000 ers i mi ddod yn Brif Weinidog a 46,000 o swyddi yn y tymor Senedd hwn. Rydym ni wedi canolbwyntio ar gael pobl ifanc i mewn i swyddi. Mae'r warant pobl ifanc honno wedi helpu 62,000 o bobl ifanc, gan drawsnewid eu bywydau, rhoi cyfleoedd iddyn nhw, ac rydym ni'n canolbwyntio nawr, yn llwyr, ar yr economi. Dyna pam y gwnaethom ni gynnal yr uwchgynhadledd fuddsoddi, gyda gwerth £16 biliwn o fuddsoddiad wedi'i gyhoeddi. Y peth allweddol i'w gofio yw pam rydym ni'n gwneud hyn. Y rheswm yr ydym ni'n gwneud hyn yw oherwydd ein bod ni eisiau codi Cymru allan o dlodi. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl Cymru yn meddu ar yr adnoddau a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael y swyddi hyn. Mae angen i ni roi'r pwerau iddyn nhw dalu eu biliau. Dyna pam rydym ni'n canolbwyntio ar yr economi.

Canolfannau Iechyd a Llesiant Newydd yn Arfon

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am gynlluniau ar gyfer canolfannau iechyd a llesiant newydd yn Arfon? OQ63766

Dwi'n falch o allu cadarnhau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu arian i ddatblygu achosion busnes ar gyfer Waunfawr a Chanolfan Lleu, a'n bod ni'n aros am geisiadau pellach am gyllid ar gyfer y tri chynnig yn Arfon.

Bron i 10 mlynedd yn ôl, pan ges i fy ethol i'r Senedd am y tro cyntaf dros bobl Arfon, mi wnes i godi pryder am ddiffygion mewn darpariaeth iechyd a gofal yn Waunfawr a Llanrug yn fy etholaeth i, a'r amodau hollol annerbyniol y mae gofyn i gleifion a meddygon eu dioddef. Ychydig wedyn, yn 2017, ni wnes i gynnal cyfarfod cyhoeddus mewn rhan arall o'r etholaeth, yn Nyffryn Nantlle, i drafod diffygion enbyd y cyfleusterau iechyd yn yr ardal honno. Ac wedyn, yn 2021, daeth y problemau ym Mangor i'n sylw ni, ac mi wnes i roi fy nghefnogaeth i gynllun i greu canolfan iechyd a gofal newydd sbon yng nghanol y ddinas.

Mae dau dymor seneddol wedi mynd heibio, a dydy'r cynlluniau yma ddim wedi'u gwireddu. Dim un rhaw wedi'i tharo yn y ddaear yn un o'r tri lleoliad yma. A wnewch chi felly ymrwymo i adolygu, cyn diwedd y tymor hwn, broses creu cynlluniau saith cam trwsgl y byrddau iechyd, sydd yn amlwg ddim yn ffit i bwrpas, ac a wnewch chi hefyd gytuno efo fi fod yr oedi sylweddol yma'n warthus ac yn gadael fy etholwyr i i lawr, a bod y staff proffesiynol yn cael eu gadael i lawr hefyd?

14:00

Wel, ychydig iawn o arian cyfalaf oedd gyda ni fel Llywodraeth o dan y Torïaid. Dyna'r gwirionedd. Ychydig iawn o arian oedd ar gael ar gyfer datblygu pethau fel hyn mewn ardaloedd fel Bangor, Waunfawr a Phenygroes. Ond mae'r rhain nawr yn brif flaenoriaeth i gynllun cyfalaf strategol bwrdd partneriaeth rhanbarthol gogledd Cymru, a'r ffaith yw, achos ein bod ni nawr gyda Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfalaf, fod yna arian yn yr integration and rebalancing capital fund sydd ar gael ar gyfer y datblygiadau hyn, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at dderbyn y cynigion hynny oddi wrth Betsi. Ond mae angen, dwi'n meddwl, symleiddio'r broses. Dwi'n meddwl bod pob un yn derbyn hynny. Ond y ffaith yw, does dim pwynt symleiddio os nad yw'r arian yna. Nawr mae'r arian yna ar gael am y tro cyntaf mewn dros ddegawd.

Wrth gwrs, yn ystod y degawd hwnnw, Llywodraeth Cymru oedd yr unig Lywodraeth yn hanes y DU erioed i dorri cyllideb y GIG mewn termau real. Fodd bynnag, wrth holi'r Ysgrifennydd Iechyd yma ym mis Tachwedd, tynnais sylw at y rhwystredigaeth a'r dicter a fynegwyd ynghylch y diffyg cynnydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran datblygu meddygfa bwrpasol newydd yn Waunfawr, Arfon, i ddisodli'r adeilad cyfyng ac anaddas presennol. Rwy'n credu bod hwn yn fater ar draws y rhanbarth cyfan a ailadroddwyd, er enghraifft, ym Meddygfa Hanmer, de Wrecsam, sy'n parhau i ymladd brwydr debyg fwy nag 11 mlynedd ar ôl i'r adeilad presennol gael ei ddatgan yn anaddas i'r diben. Y cwbl y mae'r oedi, yr esgusodion a'r camgymeriadau y tu ôl i hyn yn ei wneud yw ychwanegu at y prinder gofal sylfaenol yn y gogledd, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar adrannau damweiniau ac achosion brys y rhanbarth.

Er i greu meddygfa newydd trwy gamau damcaniaethol blaengar gael ei gynnig mewn cyfarfod dilynol rhwng y bwrdd iechyd a Meddygfa Hanmer, mynegwyd pryder i mi y gallai hyn unwaith eto fod yn aflwyddiannus oherwydd, ac rwy'n dyfynnu, 'meddwl anhyblyg a gweithdrefnau gweinyddol anhyblyg' y bwrdd iechyd. Pryd, os byth, yn ystod yr ychydig wythnosau sydd ganddi'n weddill, wnaiff eich Llywodraeth sicrhau ymgysylltiad gweithredol ag ymarferwyr gofal sylfaenol, grwpiau cleifion a chyrff proffesiynol i gyflawni o ran eu galwadau seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu capasiti cymunedol yng ngogledd Cymru?

Mark, eich Llywodraeth chi wnaeth amddifadu ein Llywodraeth o fuddsoddiad cyfalaf am dros ddegawd. Roedd hynny'n golygu na allem ni fuddsoddi yn y pethau hyn, ac nawr rydym ni'n gallu, am y tro cyntaf, gwneud hynny. Ond nid yw hynny'n ddim diolch i chi, a heddiw ni fyddwch chi'n pleidleisio dros gyllideb sydd mewn gwirionedd yn cyfrannu mwy o arian at wariant cyfalaf. Y gwir amdani yw ein bod ni'n gwybod bod Betsi o dan bwysau, ond mae'n bwysig nodi, rwy’n credu, bod 58 y cant yn llai o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, ceir gostyngiad o 82 y cant i'r rhai sy'n aros dros dair blynedd a gostyngiad o 41 y cant i'r rhai sy'n aros am bedair awr mewn adrannau achosion brys. Mae hyn oherwydd bod y cyllid ychwanegol hwnnw wedi mynd i mewn gan Lywodraeth Cymru—cyllid y gwnaethoch chi ei rwystro.

Gwasanaethau Canser

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau canser Cymru? OQ63760

Mae un o bob dau person yn debygol o ddatblygu canser rywbryd yn eu bywyd, felly mae gwella gofal, triniaeth a chanlyniadau canser yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'n Llywodraeth. Rŷn ni'n canolbwyntio ar weithio gyda'r NHS i ddarganfod canser yn gynharach a gwella mynediad at driniaeth.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae'n rhwystredig gweld y data diweddaraf yn dangos bod y targedau perfformio canser yn dirywio eto fyth. Ond yn achos cleifion yn y gogledd, mae'r her o gael diagnosis hyd yn oed yn waeth. Mae un o fy etholwyr i, er enghraifft, gyda risg uchel o ganser y prostad, ac angen, felly, sgan positron emission tomography ar frys, ond mae yna oedi o hyd at wyth wythnos yn y sgan hynny oherwydd bod y cytundeb rhwng ysbyty Maelor, yr NHS Wales Joint Commissioning Committee a darparwyr preifat yr offeryn yma wedi dirwyn i ben. Felly, mae'n rhaid i'r claf yna deithio ymhell lawr i Gaerdydd am y driniaeth yna, o leiaf wyth wythnos ar ôl yr amser roedd e i fod i gael y sgan.

Sut mae sefyllfa wedi codi ble mae cytundeb ar beiriant sganio PET yn dirwyn i ben? Mae cytundeb mewn lle am gyfnod penodol o amser, ac mae dyddiad terfyn y cytundeb yna yn wybyddus o ddechrau'r cytundeb. Ydych chi felly yn meddwl ei fod o'n dderbyniol bod cleifion sydd yn byw gyda chanser ymosodol fel yma yn gorfod aros wythnosau hir am sgan oherwydd methiannau gweinyddol?

14:05

Mae cyfraddau marwolaethau canser yng Nghymru wedi gwella 17 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae cyfraddau goroesi net pum mlynedd ar gyfer pob canser wedi gwella bron i 10 pwynt canran dros y 15 mlynedd diwethaf. Rhwng Rhagfyr 2024 a Thachwedd 2025, hysbyswyd mwy na 170,000 o bobl nad oedd ganddyn nhw ganser. Rydym ni'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud. Rwy'n falch y bu cynnydd mewn rhai byrddau iechyd. Mae Hywel Dda, er enghraifft, wedi gwneud cynnydd sylweddol ac wedi gweld gwelliant o dros 8 y cant i berfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf.

O ran y sefyllfa sganiau PET, mater i Betsi fel bwrdd iechyd yw comisiynu neu ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys sganiau PET, i'w gleifion. Rydym ni'n ymwybodol o broblemau cytundebol parhaus sy'n gysylltiedig â chaffael darparwr symudol allanol sy'n golygu nad yw'r bwrdd iechyd yn gallu darparu sganiau PET yn y byrdymor. Er bod Betsi yn datrys y broblem gytundebol, mae wedi symud yn gyflym i sicrhau y gall cleifion gael gafael ar driniaeth amgen.

Prif Weinidog, canser y prostad yw'r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion yng Nghymru, ac mae un o bob wyth dyn yma yn cael diagnosis o'r clefyd yn ystod eu bywydau. Nawr, fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, y peth allweddol i oroesi'r clefyd ofnadwy hwn yw ei ganfod yn gynnar. Yn hanesyddol, Cymru fu'r unig wlad yn y DU heb ymgyrch ymwybyddiaeth canser bwrpasol dan arweiniad y Llywodraeth wedi'i thargedu at ddynion, yn wahanol i Loegr a'r Alban, sydd wedi cynnal ymgyrchoedd i dynnu sylw at ffactorau risg a symptomau. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i godi ymwybyddiaeth, a phryd fyddwn ni'n gweld symudiad yn ôl at sgrinio dynion dros 50 oed, fel oedd yn digwydd tua 30 mlynedd yn ôl, fel y gallwn ni gymryd camau breision i wella canlyniadau i ddynion sy'n cael eu heffeithio? Siawns y dylem ni fod yn dilyn yr agenda ataliol, fel yr oeddem ni flynyddoedd lawer yn ôl.

Edrychwch, rwy'n cydnabod mai canser y prostad, rwy'n credu, yw'r canser mwyaf o ran dynion sy'n dioddef o ganser, felly mae'n amlwg bod yn rhaid i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Ac rydym ni'n ei gymryd o ddifrif. Nid yw'n cael ei gynghori yn glinigol, fel yr wyf i'n deall, i sgrinio ar gyfer canser y prostad. Edrychwch, rydym ni'n dilyn cyngor, rydym ni'n dilyn tystiolaeth. Dyna'r ffordd yr ydym ni'n ceisio gwneud pethau yn Llywodraeth Cymru.

Unwaith eto rwy'n sefyll yma yn codi mater iechyd diffoddwyr tân. Fis diwethaf, cyhuddais Lywodraeth Cymru o lusgo ei thraed ar y mater hwn, ond rwy'n credu ei bod hi'n dod yn amlwg nawr bod diffyg brys llwyr ar y mater o ddiffoddwyr tân yn marw yn ifanc oherwydd y canser sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth. Mae wedi cael ei godi'n gyson gan Undeb y Brigadau Tân. Mae'r dystiolaeth yn eglur, ac eto fisoedd ar ôl i ni gael ein hysbysu i ddisgwyl cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, rydym ni'n dal i aros. Felly, bydd ateb gonest heddiw yn ystod y sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan Undeb y Brigadau Tân a'r gwasanaeth tân. Pryd fydd y cyngor hwnnw'n cael ei gyhoeddi, ac a allwn ni ei ddisgwyl cyn yr etholiad? Mae'r realiti yn syml iawn, iawn: yr hiraf yr ydym ni'n oedi, y mwyaf o ddiffoddwyr tân sy'n cael diagnosis o ganser a'r mwyaf o ddiffoddwyr tân sy'n marw yn ifanc, pan ellid fod ei osgoi'n llwyr.

Diolch, Luke, a diolch am eich dyfalbarhad ar y mater hwn. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif iawn. Mae angen i ni edrych ar y dystiolaeth. Mae pobl yn edrych ar y dystiolaeth wrth i ni siarad. Rydym ni'n aros am y cyngor hwnnw, ac fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflymu'r cyngor hwnnw a'i gael cyn gynted ag y gallwn.

Twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63759

Mae'r sector twristiaeth yn gyfrannwr mawr at economi Cymru ac at swyddi, yn enwedig yn y canolbarth a'r gorllewin. Rydym ni'n buddsoddi miliynau i gryfhau'r sector twristiaeth, gan gynorthwyo busnesau i dyfu a gwella profiadau ymwelwyr. Mae Croeso Cymru yn hyrwyddo'r rhanbarth drwy gydol y flwyddyn, ac rwy'n gwybod bod cyffro gwirioneddol ym Mhowys, o wybod y bydd eu sir yn ymddangos yn flaenllaw yn grand départ Tour de France 2027, gyda chefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru, gan ddangos i gynulleidfa fyd-eang lleoedd pa mor hyfryd yw Powys a Chymru i ymweld â nhw.

14:10

Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch o weld datblygiad eco-dwristiaeth newydd yn Aberteifi yn cael ei gwblhau yn ddiweddar. Mae Fronteifi Nature Lodges yn adlewyrchu harddwch corsydd Teifi cyfagos ac wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a hefyd gwerth cymdeithasol. Hunan-ariannwyd yr holl brif adeiladau gyda benthyciad gan gronfa dwristiaeth Banc Datblygu Cymru. Mae'r prosiect yn ymgorffori technolegau gwyrdd a mesurau lleihau carbon, gyda masnachwyr, contractwyr a chyflenwyr lleol yn cyflenwi dodrefn, gwaith celf, plannu coed, ymgynghoriaeth ecolegol a gwasanaethau i westeion. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod hyn yn dangos pa mor werthfawr a hanfodol yw cymorth gan Fanc Datblygu Cymru i lawer o fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru? 

Diolch, Joyce. Fel Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n falch iawn o weld buddsoddiadau fel Fronteifi Nature Lodges yn Aberteifi. Dyma'r union fath o ddatblygiad twristiaeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gefnogi—o ansawdd uchel, wedi'i wreiddio yn ei le, yn amgylcheddol gyfrifol ac yn wirioneddol hygyrch. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'r cyfraniad hwnnw sydd wedi dod drwy gronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru, a ddarperir drwy Fanc Datblygu Cymru, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yma—benthyciad o £180,000, gan helpu syniad lleol cryf i gael ei wireddu. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n sefyll allan yw'r ymrwymiad eglur i gynaliadwyedd a chynhwysiant, o ddyluniad carbon isel a gwelliannau bioamrywiaeth i lety sy'n gweithio i bobl ag amrywiaeth o anghenion. Mae hynny'n bwysig gan y dylai pawb allu mwynhau'r hyn sydd gan y rhan hon o Gymru i'w gynnig. Mae'n enghraifft eglur o Lafur Cymru yn cefnogi busnesau gwledig, yn cryfhau economïau lleol ac yn codi safonau ar draws twristiaeth yng Nghymru.

Prif Weinidog, un ffordd o gynorthwyo busnesau twristiaeth a llawer o fusnesau eraill yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yw mynd i'r afael ag effaith gyfunol biliau ardrethi busnes cynyddol y mae llawer yn eu hwynebu bellach. Cynhaliais fforwm cyngor ar ardrethi busnes ar-lein gyda Samuel Kurtz ddoe gyda thua 100 o fusnesau yn y gorllewin, a chlywsom pa mor ddifrifol yw'r ailbrisiadau ardrethi i rai o'r busnesau hyn. Esboniodd un busnes fod eu gwerth ardrethol wedi cynyddu, yn syfrdanol, 84 y cant, ac roedd eraill â'i gwnaeth yn eglur y byddai'r newidiadau yn ofnadwy, nid yn unig i'w busnes ond i'r sector ehangach.

Prif Weinidog, mae angen sefydlogrwydd a chefnogaeth ar y sector. Felly, a allwch chi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu dilyn tro pedol diweddar Llywodraeth y DU ar ardrethi busnes? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo'r busnesau hynny yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy'n cael eu heffeithio gan newidiadau i ardrethi busnes, cyn ei bod hi'n rhy hwyr i rai o'r busnesau hyn?

Byddwn yn darparu £116 miliwn mewn rhyddhad trosiannol dros y ddwy flynedd nesaf, yn dilyn ailbrisiad 2026. Mae hynny'n ychwanegol at ein cynlluniau rhyddhad parhaol sydd wedi'u hariannu'n llawn, sy'n £250 miliwn i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill bob blwyddyn ar hyn o bryd. Os ydych chi, yn eich maniffesto, yn mynd i fod yn cynnig torri hyn, yna mae'n rhaid i chi esbonio o le'r ydych chi'n mynd i ddod o hyd i tua £300 miliwn. Ni wnaeth neb gynorthwyo busnesau bach mwy na Llywodraeth Lafur Cymru yn ystod y pandemig. Fe wnaethon ni sefyll yn gadarn â nhw yn ystod eu cyfnod o angen, ac fe wnaethon nhw oroesi o ganlyniad i Lywodraeth Lafur Cymru.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau tynnu sylw at un gyrchfan arall i dwristiaid, sydd wir yn gyrchfan ac sydd hefyd yn creu cyrchfan ynddo'i hun, sef rheilffordd Calon Cymru. Ymddangosodd yn y National Geographic ac fe'i henwyd y gorau ar y blaned, a fyddech chi'n credu, ar gyfer teithio araf yn 2025. Ceir llawer o ffyrdd y gallech chi gymryd hynny, wrth gwrs—[Chwerthin.]—ond rwy'n credu mai'r syniad yw ei fod yn rhoi'r cyfle i chi edrych wrth i chi deithio ar hyd rheilffordd Calon Cymru. 

O ddifrif iawn, mae rheilffordd Calon Cymru yn atyniad i dwristiaid yn ogystal â mynd â phobl i atyniadau i dwristiaid, ond fe'i defnyddir hefyd gan gymudwyr wrth iddyn nhw fynd i wahanol drefi ac i bobl ifanc fynd i gael addysg. Roeddwn i'n falch fy mod i wedi sicrhau £1.25 miliwn y llynedd yn y cytundeb cyllideb, ac rwy'n falch o weld bod hynny'n mynd i barhau eleni. Pum trên y dydd nawr, ond mae angen mwy na hynny: mae angen wyth trên y dydd arnom ni. Felly, a gaf i ofyn i chi: beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys rheilffordd Calon Cymru, ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei chynyddu? Diolch yn fawr iawn.

14:15

Wel, fe wyddoch chi ein bod ni wedi arllwys arian i'r rheilffyrdd yng Nghymru—cafodd £800 miliwn ei fuddsoddi, £1 biliwn ar linellau craidd y Cymoedd, trenau newydd sbon ledled Cymru. Mae'r rhain i'w gweld bob dydd, ac maen nhw'n codi calonnau cymudwyr ym mhobman. Ond rydych chi'n iawn, mae yna gynhesrwydd a hoffter gwirioneddol o ran llinell Calon Cymru yn neilltuol, ac mae eich cefnogaeth chi i'r £1.25 miliwn hwnnw wedi arwain at gynnydd yn nifer y trenau bob dydd, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn yr ardal yn gwerthfawrogi hynny.

Ysbyty Athrofaol Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghylch rhedeg Ysbyty Athrofaol Cymru? OQ63748

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd â'r bwrdd iechyd i'w ddal i gyfrif am ddarparu a rhedeg eu gwasanaethau a'u safleoedd nhw'n ddiogel. Mae hynny'n cynnwys y cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus diweddar a'r adolygiadau rheolaidd gyda'r cadeirydd.

Diolch i chi, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Unwaith eto, mae'r newyddiaduraeth safon uchel gan Wales Online wedi amlygu adroddiad y cadwodd y bwrdd iechyd ef yng nghudd yn yr uned sterileiddio a diheintio yn yr ysbyty hwnnw, pryd y cwblhawyd adroddiad ym mis Gorffennaf 2024, pan oeddech chi'n Weinidog Iechyd, ac roedd hwnnw'n tynnu sylw at gyfraddau annerbyniol o fwlio, gwenwyndra, gweithgarwch troseddol, gyda difrodi offerynnau llawfeddygol, a diffyg llwyr o hyder yn y rheolwyr ym mwrdd iechyd y brifysgol i ymdrin â'r materion hyn. Mewn gwirionedd, rydych chi'n dal i siarad am y model partneriaeth gymdeithasol y mae'r Blaid Lafur mor falch ohono yma yng Nghymru. Mae cynrychiolwyr yr undebau llafur yn disgrifio'r uned fel 'gwyllt' a 'didrugaredd', gyda rhai aelodau staff yn methu â siarad yn rhydd nac yn agored. A ydych chi'n ymfalchïo am fod bwrdd iechyd yn rhedeg uned ym mhrif ysbyty Cymru yn y fath fodd? Ac os nad ydych chi'n ymfalchïo yn hynny, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datrys? A wnewch chi ymrwymo i sicrhau y bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei gyhoeddi i'r cyhoedd, fel gall etholwyr sy'n defnyddio'r ysbyty hwnnw gael eu bodloni o ran bod camau yn cael eu cymryd?

Wel, rwyf i am ddod at eich pwynt chi, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddechrau gyda'r newyddion da o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Fe ddaeth dros 231,000 o bobl i gael eu hapwyntiadau â meddygon teulu, mewn poblogaeth o 520,000 o bobl, yn ystod y mis diwethaf. Mae hynny'n golygu dros 44 y cant o'r boblogaeth. Mae arosiadau o gant a phedair o wythnosau wedi gostwng 72 y cant, mae arosiadau cleifion allanol 52 wythnos wedi lleihau 37 y cant, ac fe welsom ni ostyngiad o 60 y cant mewn trosglwyddiadau awr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae gwelliannau wedi bod yng Nghaerdydd, ond—[Torri ar draws.]—ond mae yna faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw hefyd. Nid rhywbeth anarferol yw hi i fyrddau iechyd wneud adolygiadau mewnol a pheidio â'u rhannu nhw gyda Llywodraeth Cymru, nac mewn cyfarfodydd bwrdd cyhoeddus, yn enwedig mewn achosion lle gallai hynny fod yn niweidiol i unrhyw gamau disgyblu. Nawr, rydym ni'n deall bod camau disgyblu yn erbyn yr unigolion sy'n gysylltiedig â'r adroddiad hwn wedi dod i ben, ac rydym ni wedi gofyn i'r bwrdd iechyd roi copi i ni, ac nid yw hwnnw wedi cyrraedd eto. Ond mae yna gadeirydd newydd, ymagwedd newydd, ac rydym ni'n disgwyl gweld gwelliannau yn y bwrdd iechyd hwnnw.

Amddifadedd yng Ngorllewin De Cymru

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i leddfu amddifadedd yng Ngorllewin De Cymru? OQ63745

Y ffordd orau o leddfu amddifadedd a thaclo problemau tlodi yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael swyddi o safon da. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael eu hyfforddi ac yn barod i fynd i mewn i'r farchnad swyddi. Dyna pam rŷn ni'n benderfynol o ganolbwyntio ar yr economi a chreu swyddi, a dyna pam mae digwyddiadau fel yr uwchgynhadledd buddsoddiad mor bwysig.

Diolch am yr ateb yna.

Mae swyddi a hyfforddiant yn bwysig, wrth gwrs. Roeddech chi'n cyfeirio at eich uwchgynhadledd fuddsoddi; wrth gwrs, ni chafodd prifysgolion Gorllewin De Cymru eu gwahodd, medden nhw, i'r uwchgynhadledd fuddsoddi honno, ac felly roedd hwnnw'n dipyn o syndod. Mae amddifadedd wedi ymwreiddio yn ddwfn yn fy rhanbarth i, mae'n hirsefydlog ac wedi ymledu drwy fathau gwahanol iawn o gymunedau. Yng nghymunedau'r cymoedd, mewn trefi arfordirol neu gymdogaethau trefol, mae'r heriau yn wahanol er bod y canlyniadau yn rhai tebyg yn aml. Ac fe amlinellwyd y sefyllfa wirioneddol hon yn eglur iawn mewn llythyr diweddar oddi wrth arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Er ei fod ef yn croesawu buddsoddiad ychwanegol, wrth gwrs, fe rybuddiodd fod rhaglenni fel Balchder Bro, sy'n cyfyngu cyllid i un gymdogaeth gyffyrddol, yn gorfodi cynghorau i wneud dewisiadau amhosibl rhwng cymunedau sydd yr un mor ddifreintiedig â'i gilydd. Fe wnaeth y sylw hefyd nad yw amddifadedd yn dilyn ffiniau taclus mewn lleoedd fel Castell-nedd Port Talbot, a bod ein daearyddiaeth ni'n gwneud dull un ateb sy'n addas i bawb fel hwn yn arbennig o anaddas. Ac fe wn i fod Aelodau ar draws y Siambr wedi codi pryderon tebyg ynglŷn â'r ffordd y mae fframweithiau cyllido yn cael eu cynllunio a'u cyflwyno yn eu cyfanrwydd gyda chyfyngiadau ar eu hyblygrwydd. Felly, gyda hynny mewn golwg, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau i sicrhau bod ymdrechion i liniaru amddifadedd yn rhai cynhwysol yn hytrach na detholus?

14:20

Wel, yn gyntaf i gyd, gadewch i mi ei gwneud hi'n eglur sef y bu is-ganghellor Caerdydd yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi ac na allai ef fod wedi rhoi mwy o ganmoliaeth iddi. Gadewch i mi egluro hefyd, yn wahanol iawn i'r hyn a ddigwyddai o dan y Llywodraeth Dorïaidd, fod Llywodraeth Cymru erbyn hyn yn gallu dyrannu'r dros £500 miliwn a gyfarwyddid yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU yn flaenorol. Rydym ni'n gweithio ar gynigion gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau ein bod ni'n gweithio mewn modd cydgysylltiedig a chyson i fynd i'r afael â'r materion hynny ynglŷn â thlodi yn ein cymunedau ni.

Cyllid Addysg ym Mlaenau Gwent

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid addysg ym Mlaenau Gwent? OQ63767

Yng Nghymru rydym ni wedi cydnabod gwerth addysg bob amser. Dyna pam rydym ni'n gwario cyfran uwch o'n cyllideb ar addysg nag y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr. Dyna pam rydym ni wedi darparu clybiau brecwast am ddim ers 21 mlynedd i sicrhau bod ein disgyblion ni'n barod i ddysgu. Dyna pam rydym ni'n darparu cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion, a pham, yn y gyllideb yr ydym ni'n gobeithio ei phasio heddiw, rydym ni'n darparu mwy o arian i lywodraeth leol, fel gallan nhw ei drosglwyddo i'r ysgolion. Fe fydd Blaenau Gwent yn gweld £165 miliwn yn y gyllideb honno—cynnydd o £7.7 miliwn o gymharu â'r llynedd.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Prif Weinidog, am hynna. Fe gyflwynais i'r cwestiwn hwn am fy mod i wedi cael gohebiaeth gan blant yn Ysgol Gynradd Coed-y-Garn ym Mlaenau yn fy etholaeth i. Fe welwch chi eu bod nhw wedi ysgrifennu ataf i ar gyfer codi'r angen am fwy o fuddsoddiad yn ysgol Coed-y-Garn ei hun, ond mewn addysg hefyd. Maen nhw'n gwneud y pwynt yn eu llythyr nhw nad buddsoddi yn yr adeiladwaith yn unig yr ydym ni—er ein bod ni'n gwneud hynny—rydym ni'n buddsoddi yn eu dyfodol nhw hefyd, ac rydym ni'n buddsoddi mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y genedl. Mae ysgolion fel ysgol Coed-y-Garn yn gweithio yn galed bob dydd i roi'r dechrau gorau posibl i'r disgyblion hynny yn eu bywydau. Felly, Prif Weinidog, roeddwn i'n meddwl y byddai hi'n dda o beth pe byddech chi, efallai, yn siarad yn uniongyrchol y prynhawn yma â phlant ysgol Coed-y-Garn ac yn dweud wrthyn nhw pa mor bwysig yr ydych chi'n ystyried addysg, a pham y mae pasio'r gyllideb brynhawn heddiw mor bwysig iddyn nhw a'u hysgol.

Wel, diolch i chi, ysgol Coed-y-Garn, a diolch i chi am gysylltu ag Alun Davies ynglŷn â hyn. Fe hoffwn eich sicrhau chi fod ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i addysg yn gwbl gadarn, a'r hyn a wnaethom ni yw cynyddu'r swm o arian a ddaw i'ch ysgol chi. Ac nid yn unig i'ch ysgol chi, ond i'ch cefnogi chi hefyd, oherwydd, wrth gwrs, mae 3,569 o blant gennym ni ym Mlaenau Gwent erbyn hyn, sy'n cynnwys y rhai yng Nghoed-y-Garn, sy'n elwa erbyn hyn ar y cynnig o bryd ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd. Mae honno'n enghraifft o un o'r meysydd yr ydym ni'n gwneud gwahaniaeth ynddo. Os cawn ni ein hailethol ym mis Mai, fe hoffwn i sicrhau'r disgyblion hynny y bydd gwell siawns y bydd eu staff cymorth nhw'n gallu aros yn yr ysgolion hynny, am i ni wneud ymrwymiad y penwythnos diwethaf y bydd mwy o arian yn mynd i addysg ar gyfer cefnogi staff cymorth ysgolion ym Mlaenau Gwent a thrwy Gymru i gyd fel arall. Fe fydd y gweithwyr hanfodol hyn yn cael cyflog drwy gydol y flwyddyn, nid yn ystod y tymor yn unig, ac fe fydd hynny'n arwain at godiad cyflog i'r gweithwyr ar y cyflog isaf, sy'n cynnwys y 30,000 o gynorthwywyr addysgu, a'r merched cinio, y mae'r plant hynny yng Nghoed-y-Garn, fe wn i, mor hoff ohonyn nhw, a'r gofalwyr sy'n gwneud yn siŵr eu bod yno o fore gwyn tan nos.

14:25
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhys ab Owen.

Y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau achos Norton v Bwrdeistref Llundain Haringey ar gyfer y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)? OQ63721

Diolch, Rhys ab Owen. Mae'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn cyflwyno mesurau diogelu sy'n ddigonol i sicrhau bod cynlluniau atal, cymorth a llety yn cael eu hasesu yn briodol, eu hadolygu a'u hystyried yn briodol wrth benderfynu ar addasrwydd llety, gan gynnwys drwy gyfrwng hawliau adolygu mewnol gwell.

Diolch yn fawr. Roedd yr achos, fel rŷch chi'n gwybod, yn ystyried a ydy methiant gan awdurdod lleol i sicrhau bod asesiad o sefyllfa'r ymgeisydd yn unol â Rhan 189A Deddf Cartrefi 1996 yn golygu bod penderfyniad hwyrach ymlaen yn y broses ar addasrwydd llety i ymgeisydd yn anghyfreithiol. Nawr, rŷch chi'n gwybod gwnaeth y barnwr penderfynu bod methiant felly a gwneud penderfyniad o'r fath ddim yn anghyfreithiol a bod llys yr apêl wedi cadarnhau hynny. Nawr, ar hyn o bryd, byddai'r Bil digartrefedd yn caniatáu i'r fath sefyllfa i ddigwydd yng Nghymru. Byddai hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn mynd yn groes i nod y Bil i ddarparu system gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol cydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gartrefi i gadarnhau os mai bwriad Llywodraeth Cymru yw dilyn penderfyniad achos Norton, neu, yr opsiwn dwi'n ei ffafrio, i addasu'r Bil i sicrhau bod system gynaliadwy gennym ni, sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn?

Diolch, Rhys. Mae rhywfaint o wahaniaeth barn rhyngom ni yma, mae arna' i ofn. Mae'r dyfarniad yn Norton yn cadarnhau nad yw methiant o ran cynnal asesiad tai diweddaredig yn unol â Deddf Tai 1996 o reidrwydd yn gwneud penderfyniad ar addasrwydd llety yn anghyfreithlon. Y cwestiwn priodol yw a oedd gan y sawl a wnaeth y penderfyniad ddigon o wybodaeth ac a oedd y penderfyniad yn gyfreithlon a heb fod yn anffafriol i'r ymgeisydd.

Yng Nghymru, mae'n rhaid i'r awdurdodau tai lleol asesu a yw'r llety yn addas ar gyfer pob aelod o'r aelwyd wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran digartrefedd. Mae'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn cryfhau'r gofynion presennol ac yn ceisio ymgorffori fframwaith sy'n fwy ystyriol o drawma, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer ymateb i ddigartrefedd. Er enghraifft, mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chynnal cynllun atal, cymorth a llety, sef cynllun a ddatblygir ar y cyd â'r ymgeisydd ac sydd ar sail asesiad o anghenion yr ymgeisydd o ran y tŷ, a chadw'r cynllun hwnnw dan adolygiad. Mae'r Bil yn cyflwyno hawliau adolygu newydd o ran cynlluniau atal, cymorth a llety. Fe ellir eu hadolygu nhw ar unrhyw adeg pan fo hi'n ofynnol i'r awdurdod gynnal y cynllun. Mae'r Bil yn ymestyn yr amserlenni hefyd ar gyfer cais am adolygiad o addasrwydd llety, sy'n cryfhau tegwch a hygyrchedd.

Felly, gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn, rydym ni'n credu, yn sicrhau bod y Bil yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r materion sy'n codi o achos Norton yn erbyn bwrdeistref Haringey yn Llundain, yn enwedig o ran y pryder y gallai diffygion mewn asesiadau o dai fod â phwyslais annigonol o ran addasrwydd y penderfyniad. Mae'r Bil yn cryfhau mesurau diogelu ynghylch diweddaru asesiadau, penderfyniadau am addasrwydd ac yn caniatáu mwy o allu i gael adolygiad mewnol. Felly, rwy'n credu nad oes angen unrhyw welliannau i'r Bil ac, yn wir, mae'n cryfhau'r sefyllfa yng Nghymru yn sylweddol iawn.

Cynllun Datblygu Lleol Torfaen

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r camau y gall eu cymryd i sicrhau bod Cynllun Datblygu Lleol Torfaen yn cael ei fabwysiadu'n gyfreithlon erbyn 2028? OQ63722

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn bwrw ymlaen â'u cynllun datblygu lleol newydd yn unol ag amserlen y cytundeb cyflawni y cytunwyd arni. Os bydd y sefyllfa yn newid yn y dyfodol, fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i'r holl ddewisiadau priodol, ac fe allai hynny fod yn gofyn i mi roi cyngor cyfreithiol, ond nid wyf i wedi gwneud hynny hyd yn hyn.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae cynllun datblygu lleol newydd Torfaen wedi cael ei wthio yn ei ôl yn sylweddol, gyda'r awdurdod yn nodi nad oes disgwyl ei fabwysiadu tan 2028. Nawr, mae hyn yn dilyn diwygiadau blaenorol a oedd â'r bwriad i'w fabwysiadu yn 2026, ond fe lithrodd yr amserlen unwaith eto ar ôl i swyddogion ofyn am chwe mis ychwanegol i asesu dewisiadau defnydd tir a chasglu'r sail lawn o dystiolaeth. Nawr, mae'r oedi i gyd yn ddinistriol i'r awdurdod, yr economi a'r trigolion lleol. Fe wyddom hefyd fod cyngor Torfaen wedi bod yn gweithio trwy adborth manwl gan Lywodraeth Cymru ar safleoedd yn ne-ddwyrain y sir, ochr yn ochr ag astudiaethau o brosiectau strategol posibl yng Nghwmbrân. Fe ddisgwyliwyd y byddai strategaeth ddewisol ym mis Hydref 2025, gyda threfniant o gynllun blaendal i ddod flwyddyn yn ddiweddarach, ac wedi hynny'n unig y gellir cyflwyno'r cynllun i'w archwilio. O ystyried y gyfres estynedig hon o oediadau yn Nhorfaen, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y mae—[Anghlywadwy.]—amserlen Llywodraeth Cymru ddiwygiedig yn un y gellir ei chyflawni o hyd?

14:30

Diolch, Peter. Mae'r cynlluniau datblygu lleol, fel gwyddoch chi, yn rhan hanfodol o'r system gynllunio yng Nghymru. Ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i'w swyddogaeth yn y system gynllunio. Maen nhw'n offeryn allweddol sy'n galluogi'r awdurdodau cynllunio lleol i lywio, tywys a llunio datblygu yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion y gymuned leol, ac amlhau cyfleoedd economaidd, a chefnogi newid gyda seilwaith lleol. 

Oni bai am y weledigaeth eglur honno i'r dyfodol, fel rydych chi'n gywir i ddweud, a gefnogir gan y cynllun statudol, fe all cynlluniau datblygu lleol fod yn agored i ddatblygiad hapfasnachol, na fydd efallai yn diwallu anghenion eu cymunedau lleol. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â chi ei bod hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael mynd yn eu blaenau. 

Rwy'n ymwybodol—rwy'n gobeithio eich bod chwithau'n ymwybodol hefyd—o'r dull cynghreiriol sydd gan gynghorau Torfaen a Blaenau Gwent, sy'n rhesymoli'r gwasanaethau lle ceir tir cyffredin, sy'n cynnig arbedion o ran effeithlonrwydd, ac yn rhannu sgiliau a gwybodaeth wrth gyflawni er mwyn eu cymunedau. Rydym o'r farn, os gall Awdurdodau Cynllunio Lleol ddod at ei gilydd i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd, fe all hwnnw fod yn fecanwaith mwy effeithiol ac effeithlon, sy'n cynnig mwy o bethau am lai o arian i'r gymuned leol. Ond mae'n rhaid i'r awdurdodau cynllunio lleol benderfynu ar y dull hwnnw, a'n gwaith ni fydd gweithio gyda nhw i sicrhau y bydd hynny'n dod yn ei flaen.

Ein dealltwriaeth ni yw y bydd adroddiadau cyfochrog yn cael eu traddodi i'r ddau gyngor yn fuan iawn nawr, ym mis Mawrth, i baratoi'r ffordd ar gyfer y dull cynghreiriol hwnnw. Ac wedyn, trwy drafodaethau, rydym ni'n deall y bydd dyddiad yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwneud cynnydd yn gyflym ar ddatblygu'r CDLl ar y cyd. Fe fyddem ni'n croesawu cyflwyno CDLl ar y cyd ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw reswm gennyf i gredu na fydd hynny'n digwydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, fe wrthododd yr Uchel Lys, yn ei ddyfarniad ar achos ATB yn erbyn Gweinidogion Cymru, a roddwyd ar 25 Tachwedd y llynedd, ar ôl gwrandawiad cychwynnol ar 8 Hydref, roi caniatâd i adolygu deddfwriaeth eilaidd gan y Senedd yn farnwrol o ran rhagnodi meddyginiaeth sy'n atal y glasoed. Serch hynny, roedd y llys yn cofnodi bod Llywodraeth Cymru wedi camddeall effaith yr ail set o reoliadau, a drafodwyd gennym ni yn y Senedd ar 10 Rhagfyr 2024, a'u bod nhw wedi cael eu nodi yn benodol yn y memorandwm esboniadol, ac mewn cyfathrebiadau gweinidogol eraill, fel tynhad cyfyngiadau, er mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Fe ymddiheurodd Gweinidogion Cymru, yn ôl y dyfarniad, i'r llys ac i'r hawlydd. A all y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau fy mod i wedi rhoi cyfrif cywir o ganfyddiadau'r llys?

Mae hwn yn fater a gafodd ei drafod gyda'r Ysgrifennydd iechyd, ac nid gyda mi. Mae gen i awdurdodaeth hyd at roi'r dyfarniad, ac yna, pan fydd y dyfarniad wedi bod, fe fyddai'n cael ei drosglwyddo i'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol. Rwy'n ymwybodol o'r dyfarniad, ond nid yw manylion o'r fath gennyf i ar flaenau fy mysedd, Adam. Fe fyddai hyn wedi cael ei drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet. 

Ond, Cwnsler Cyffredinol, y chi sy'n gyfrifol, onid e, am ymgyfreithiad sy'n ymwneud â Gweinidogion Cymru? A wnewch chi ddweud wrthym ni o leiaf pa bryd, o ystyried bod yr Uchel Lys wedi cofnodi bod y Senedd a'r cyhoedd wedi derbyn disgrifiad anghywir, camarweiniol o'r rheoliadau hyn—? A ydych chi'n gallu dweud wrthym ni ar ba ddyddiad y daeth eich swyddfa chi'n ymwybodol gyntaf o'r anghysondeb, pa bryd y rhoddwyd gwybod i'r Gweinidogion cyfrifol, neu pa bryd y cyhoeddodd y Gweinidog iechyd unrhyw gywiriad ffurfiol i'r Aelodau, ers i'r dyfarniad gael ei draddodi ar 25 Tachwedd 2025?

Fel gwyddoch chi, yn unol â'r cod y Gweinidogion, sy'n llywodraethu ar Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol, mae dyletswydd i gywiro'r cofnod ar ôl gwneud camgymeriadau yn anfwriadol ar y cyfle cyntaf posibl. Mae hi wedi bod dros dri mis ers y gwrandawiad cyntaf, pan ddarfu i Lywodraeth Cymru ymddiheuro yn y llys. Felly, a gawsom ni ddatganiad ysgrifenedig? A gafodd y memorandwm esboniadol ei gywiro? Ac os nad felly, pam ynteu, a pha bryd y bydd hynny'n digwydd?

Rwy'n ofni nad yw'r manylion am yr union sgwrs honno gennyf i. Fe fydd rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion; nid ydyn nhw gennyf i yma nawr. Ni allaf eu cofio nhw'n fyrfyfyr fel yna. 

Cwnsler Cyffredinol, a fyddech chi'n derbyn—ac mae hyn yn berthnasol i'ch cyfrifoldebau chi—o ystyried popeth yr wyf i wedi ei rannu, bod y driniaeth ddeddfwriaethol o'r mater hynod sensitif, cymhleth hwn, sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, a grŵp arbennig o agored i niwed o fewn y garfan honno, wedi cael ei chamreoli yn sobr o wael? Mae hwn yn fater difrifol a ddylai bryderu Aelodau ar draws y Siambr, beth bynnag fo'u barn nhw ar y polisi sylfaenol. Roedd y Llywodraeth yn cadarnhau yn y llys nad oedd asesiad effaith ar hawliau plant. Fe nododd y memorandwm esboniadol hefyd nad oedd unrhyw ymgynghoriad â'r rhai yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol na'u rhieni neu warcheidwaid. Mae'r achos llys, fel cawsom ni wybod erbyn hyn, yn egluro yn blaen iawn nad oeddech chi'n deall eich deddfwriaeth eich hun hyd yn oed, sy'n codi cwestiynau difrifol ynglŷn â sicrwydd cyfreithiol a chymeradwyo mewnol.

Felly, a wnewch chi, yn Gwnsler Cyffredinol, gynnal adolygiad llawn nawr o sut y datblygodd hyn, sut y cafodd y ddeddfwriaeth ei hasesu, ei disgrifio a'i rhoi gerbron a'i hadrodd amdani i'r Senedd, ac a wnewch chi ddodi'r adolygiad hwnnw gerbron y Senedd cyn diwedd y sesiwn hon? Oherwydd ni ddylai unrhyw Lywodraeth, unrhyw Gwnsler Cyffredinol, nac unrhyw Weinidog fyth â'u cael eu hunain yn y sefyllfa hon eto.

14:35

Wel, rwy'n credu, Adam, eich bod chi'n gorbwysleisio sylwadau'r llys braidd a'u heffaith ar y dyfarniad cyffredinol yn hynny o beth, ond nid yw'r manylion gennyf i yma nawr, fel dywedais i, ac felly fe wnaf i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny. Wrth gwrs, rydym ni'n cymryd y pethau hyn i gyd yn ddifrifol iawn. Rydym ni'n ystyried eitemau o'r fath yn rhai difrifol iawn, ac rwy'n cael trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r mater hwn. Ond rwy'n ofni nad yw'r manylion gennyf i—yr amseroedd, ac ati—yr ydych chi'n gofyn amdanyn nhw ar y foment hon, felly fe fydd hi'n rhaid i mi ysgrifennu atoch chi.

Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, cyn yr etholiad cyffredinol, fe ddywedwyd wrthym ni y byddai dwy Lywodraeth Lafur, a fyddai'n gweithio gyda'i gilydd ar agenda gyffredin, yn cyflawni er mwyn Cymru. Cyn yr etholiad cyffredinol, roedd Plaid Lafur Cymru yn galw am ddatganoli plismona, cyfiawnder ieuenctid, Ystad y Goron, y rheilffyrdd ac ati. A allwch chi'n dweud wrthym ni pa rai sydd wedi cael ei ddatganoli ers yr etholiad cyffredinol?

Wel, gallaf, ond nid wyf i'n deall yn hollol beth sydd a wnelo hynny â fy mhortffolio i o gwbl, mae arna' i ofn. Felly, nid wyf i'n gwybod yn iawn ar ba drywydd yr ydych chi'n mynd gyda hwnna.

Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, y chi sy'n gyfrifol, yn amlwg, am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru—

Ond nid oes a wnelo hynny ddim â'r hyn yr ydych chi newydd ei ofyn i mi nawr.

—efallai fod hynny'n newyddion i chi ond, yn sicr, nid yw'n newyddion i ni. Yr wythnos diwethaf, fe welsom ni'r Prif Weinidog yn galw am fodel cyllido sy'n decach, am Ddeddf diwygio cyfansoddiadol, a rhagor o bwerau i Gymru, gan gynnwys o ran y rheilffyrdd. Ond eto, yn gynharach yn y mis hwn, roeddech chi'n dweud nad oeddech chi'n siŵr bod Cymru yn dymuno datganoli pwerau o San Steffan o gwbl ar gyfer y rheilffyrdd. Felly, a oes unrhyw syndod nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon datganoli pŵer pan fo Llywodraeth Cymru ei hun yn anghyson yn y galwadau sy'n cael eu gwneud ganddi hi?

'Ddywedais i ddim mo hynny. Fe ddywedais i mewn cyfweliad lawer yn hwy mai'r hyn y byddem ni'n falch iawn o'i gael fyddai datganoli'r cyllid ar yr un pryd, ac mai taith yw datganoli ac nid digwyddiad. Felly, os ydych chi am geisio fy nyfynnu i, o leiaf darllenwch chi'r araith ar ei hyd. Unwaith eto, rwy'n ofni nad yw'r rhyngweithio hwn rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gynwysedig yn fy mhortffolio i. Mae angen i chi gyfeirio eich cwestiynau chi at y Dirprwy Brif Weinidog neu'r Prif Weinidog.

Mae'r dyfyniad gennyf i yn y fan hon:

'"Nid wyf i'n siŵr a ydym ni'n dymuno datganoli hwnnw," meddai hi.'

A wnewch chi ganiatáu i mi orffen fy nghwestiwn? Fe ddaw hwn o erthygl gyda'r pennawd, 'Cyhuddo Llywodraeth Cymru o dro pedol o ran—

—datganoli'r rheilffyrdd'. Rwyf i wedi darllen yr araith i gyd—fe'i darllenais hi yn y fan yna. Rydych chi'n sôn—

'Wnaethoch chi ddim; rydych chi wedi darllen yr adroddiad newyddiadurol.

Nid ymgom rhwng y ddau Aelod yw hyn i fod. Gofynnwch eich cwestiwn, Tom Giffard, ac fe fydd hawl gennych chi i ymateb.

Llywydd, nid wyf i'n gweld fawr ddim diben gofyn llawer iawn o gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, oherwydd ni wna hi ddim ond methu â'u hateb—

Rwy'n gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol gyfiawnhau'r sylwadau a wnaeth hi, ond mae hi'n ymddangos nad yw hi'n fodlon gwneud felly, hyd yn oed pan gyflwynir y dystiolaeth iddi hi.

Felly, yn rheolaidd iawn, mae ymagwedd o anghysondeb, onid oes, wrth hanfod y Llywodraeth hon, lle gwelwch chi Brif Weinidog yn galw am ddatganoli pwerau, dim ond i hynny gael ei danseilio gan y Cwnsler Cyffredinol, sy'n dweud wedyn nad oes angen y pwerau hynny yn y lle cyntaf. Sut allwn ni fod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn anghyson o ran ei dymuniadau ynddi hi ei hunan? Ac nid oes unrhyw syndod, a oes yna, bod AS Llafur o Gymru yn San Steffan, AS Llafur di-enw o Gymru, wedi dweud nad oes unrhyw debygolrwydd y bydd plismona yn cael ei ddatganoli, er gwaethaf galwadau'r Prif Weinidog yr wythnos hon. Felly, sut all y Llywodraeth hon yng Nghymru, y Blaid Lafur hon yng Nghymru, ddisgwyl i'r cyhoedd ei chymryd hi o ddifrif a rhoi clust i wrando ar y pethau y mae hi'n eu dweud, pan nad yw ei phlaid ei hun yn San Steffan yn gwrando arni hi?

Ac nid ydych chi'n gwrando ar yr atebion yr wyf i'n eu rhoi i chi, chwaith. [Torri ar draws.] Mae hi'n bwysig iawn nad ydych chi'n dal ati i ddarllen pethau pan fo rhywun wedi ateb rhan o'ch cwestiwn chi eisoes—

—peidiwch â darllen ei chanlyniad newyddiadurol. Rwyf i am fod yn eglur iawn ar eich cyfer chi: wrth gwrs ein bod ni'n dymuno datganoli plismona. Rydym ni'n dymuno datganoli plismona gyda'i gyllidebau yn gwbl gyfan ac mewn dull cydlynol. Gofynnwyd y cwestiwn, 'A ydym ni'n dymuno hyn ar yr eiliad hon?' i mi. Felly, mae hwnnw'n gyd-destun pwysig iawn, Tom Giffard. Y peth arall y byddwn i'n ei ddweud a fyddai'n hyfryd iawn o beth, fel llefarydd i grŵp y Ceidwadwyr, pe gallech chi ofyn cwestiwn i mi ryw bryd sy'n ymwneud â rhywbeth yn fy mhortffolio i.

Cafodd cwestiwn 3 [OQ63734] ei dynnu'n ôl gan Laura Anne Jones, er ei bod hi yn y Siambr, ond rwyf i am ei ystyried fel un a dynnwyd yn ei ôl.

Cwestiwn 4, Delyth Jewell.

Ymgyrch y Menywod a Anwyd yn y 1950au

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i gefnogi ymgyrch y menywod a anwyd yn y 1950au a amddifadwyd o'u pensiwn? OQ63727

Wel, Delyth, cyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llywodraeth y DU yw pensiynau'r wladwriaeth, ac nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau datganoledig yn y maes hwn.

14:40

Diolch i chi. Rwy'n deall y pwynt hwnnw. Serch hynny, mae menywod a gafodd eu geni yn y 1950au yn dal i aros ac wedi mynd yn angof. Gwrthodwyd pensiynau i fenywod a anwyd yn y 1950au, a bu farw llawer o fenywod heb gael yr arian a oedd yn ddyledus iddyn nhw. Mae ymgyrchwyr wedi ymladd yn galed am amser maith er mwyn cyfiawnder. Mae hi'n ymddangos mai cof byr sydd gan Weinidogion yn San Steffan. Maen nhw wedi anghofio'r addewidion a wnaethon nhw cyn iddyn nhw ddod i rym. Mae ymgyrchwyr yn galw am gyfryngu. Mae deiseb yn galw am hyn wedi cael ei llofnodi gan fwy na 30,000, ac mae galwadau wedi cael eu gwneud hefyd am ymddiheuriad i gydnabod camweinyddu a gwahaniaethu. Rwy'n sylweddoli mai mater i San Steffan yw hwn, ond mae amser y Senedd hon yn prinhau. Rydych chi, Cwnsler Cyffredinol, wedi rhoi llais cryf ynglŷn â'r mater hwn ac er mwyn cyfiawnder, fel eich rhagflaenydd. A gaf i ofyn i chi ategu eich llais unwaith eto yn yr wythnosau olaf hyn cyn yr etholiad yng Nghymru i godi'r mater gyda'ch cydweithwyr yn San Steffan? Mae hi'n hen bryd i leisiau'r menywod hyn gael eu clywed a'u bod yn cael cyfiawnder.

Gwnaf, yn siŵr iawn, Delyth. Mae'n rhaid i mi ddweud hyn bob amser: menyw WASPI wyf innau, felly mae hi'n amlwg fod diddordeb gennyf i yn hyn. Felly, fe hoffwn i ddweud cymaint â hynny. Ar yr adeg hon, fe fydd Delyth yn dweud fel arfer fy mod i'r un oed â'i mam hi, sy'n codi fy nghalon i bob amser. Ond, gwnaf, wrth gwrs y gwnaf i hynny.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu ystyried tystiolaeth newydd sy'n ymwneud â'r dull y mynegwyd y newid yn oedran pensiwn y wladwriaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac fe gytunwyd ar y camau gyda grŵp ymgyrchu WASPI ar 2 Rhagfyr. Mae yna amserlen o 12 wythnos ar gyfer hynny, y gwn i eich bod chi'n ymwybodol ohoni, ac felly fe wyddom ni fod yr ystyriaeth honno'n digwydd. Rydym ni wedi dal ati i godi pryderon ynglŷn â'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU ers 2016, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud felly. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn gwneud hynny ar bob cyfle a gaiff hi, fel gwna pob un arall ohonom ni. Rydych chi'n hollol iawn, mae hwn yn fater hirsefydlog sy'n gofyn am ddatrysiad teg a boddhaol ar y cyfle cyntaf.

Rydym ni'n darparu ystod o gefnogaeth i gynorthwyo pobl gyda hynny. Fel pob amser, yma yng Nghymru, rydym ni'n ceisio sicrhau y bydd pobl yn cael cymorth. Rydym ni'n darparu ystod o gefnogaeth, trwy bortffolio fy nghyd-Aelod Jane Hutt ar y cyfan. Mae'r Gronfa Gynghori Sengl a'r ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau cenedlaethol sef 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi', dim ond i enwi ychydig, yn ceisio sicrhau bod pobl yn cael rhywfaint o gefnogaeth. Oherwydd roedd yna nifer fawr o fenywod nad oedden nhw'n gallu ymddeol pan oedden nhw wedi meddwl y bydden nhw'n gallu, ac yn sicr nid oedd yr amser ganddyn nhw ar gyfer rhoi digon o arian yn y potyn pensiwn mewn pryd. Felly, rydym ni'n dal ati i wneud y pwyntiau hynny, ond nid oes unrhyw bŵer gwirioneddol gennym ni am nad yw'n fater datganoledig.

Cyflawni Blaenoriaethau Iechyd y Llywodraeth

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi enghreifftiau penodol o sut mae ei rôl fel Gweinidog Cyflawni wedi arwain at ganlyniadau mesuradwy o ran cyflawni blaenoriaethau iechyd y llywodraeth? OQ63731

Diolch yn fawr iawn i chi, Lindsay. Rwy'n falch iawn o'i ateb. Fel Gweinidog Cyflawni, rwy'n gweithio ochr yn ochr â'n Gweinidogion iechyd i gyd ar gyfer helpu i ysgogi momentwm y tu cefn i'n polisïau iechyd ni. Felly, fy llwyddiannau i yw eu llwyddiannau nhw. Gyda'n gilydd, rydym ni'n byrhau amseroedd aros hir ac yn cyflawni canlyniadau iechyd gwell i Gymru y gellir eu mesur. Mae proses gennym ni sy'n rhoi sail i hynny, ac rwy'n dal ati i gwrdd yn fisol â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet.

Diolch i chi. Mae'r sefyllfa o ran targedau, rwy'n credu, yn dal i fod yn un bryderus iawn. Mae Llywodraeth Cymru, os ydym ni'n hoffi hynny neu beidio, wedi methu dro ar ôl tro o ran cyrraedd ei thargedau cyflawni allweddol ym maes iechyd. Rydym ni wedi gweld methiannau parhaus o ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a chyda llwybrau triniaeth canser. Er enghraifft, mae'r targed o 62 diwrnod, yn fy marn i, yn ofnadwy, ac nid ydym ni'n cyrraedd y targed hwnnw, hyd yn oed. A lleoliadau sgrinio canser y fron, lle gall gweithredu mewn da bryd olygu gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, unwaith eto, heb eu cyflawni. Mae llawfeddygon eu hunain wedi rhybuddio bod diffyg capasiti mewn theatrau a gorludded ymhlith staff yn tanseilio'r prosesau mewn ffordd weithredol. Fel Gweinidog Cyflawni, a oes yna fwy y gallwch chi ei wneud, os gwelwch chi'n dda, i geisio gwella hyn? A hefyd—arhoswch chi—beth allwn ni ei wneud i fod o gymorth? Nid ydych chi'n clywed hynny'n aml.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n gyfrifol am welliannau ar draws y portffolio iechyd. Fy swyddogaeth i fel Gweinidog Cyflenwi yw estyn cymorth wedi'i dargedu sy'n helpu i ysgogi cynnydd. Y ffordd y mae hyn yn gweithio yw fy mod i'n cwrdd yn fisol â'r Ysgrifennydd Cabinet a'i Weinidogion ef i drafod meysydd blaenoriaeth iechyd, ac fe gawn ni drafodaeth onest iawn ynglŷn â'n sefyllfa, sut rydym ni'n perfformio, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud trwy'r amser i nodi meysydd a fydd yn ein helpu i wella'r cyflawniad hwnnw.

Fe wnaethoch chi fy holi i ynglŷn â sawl peth nawr. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dewis pethau arbennig i ganolbwyntio arnyn nhw. Felly, roedd y Prif Weinidog yn eglur iawn fy mod i ganolbwyntio ar dri maes penodol wrth gynorthwyo fy nghyd-Aelodau iechyd: hybiau iechyd menywod, y byddwn yn eu hagor ledled Cymru erbyn mis Mawrth; y ffigurau amseroedd aros, yr ydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw'n gyson, ac rwy'n falch iawn o ddweud eu bod nhw'n tystiolaethu i waith caled staff y GIG a'r £120 miliwn a fuddsoddwyd gan y Llywodraeth Lafur hon. Mae gostyngiad o 23,400 wedi bod yn y rhestr aros gyffredinol ym mis Tachwedd, y cwymp misol mwyaf erioed, a dyma'r chweched mis yn olynol y cafodd y rhestr aros ei thorri. Mae nifer y bobl sy'n aros am dros ddwy flynedd wedi lleihau i 6,900 erbyn hyn. Mae ffigurau dros dro ar gyfer mis Rhagfyr, sy'n cael eu hystyried yn rhai dros dro oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu cyhoeddi gan StatsCymru eto, wedi lleihau i 5,300. Ac mae gan bob bwrdd iechyd, ac eithrio Betsi, naill ai neb neu lai nag 1 y cant o'r llwybrau yn aros am driniaeth am ragor na dwy flynedd, a hyd yn oed ym Mwrdd Betsi mae'r lleihad yn llawer mwy sylweddol nag y bu o'r blaen. Mae nifer y bobl sy'n aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth ar y gyfradd isaf ers mis Ebrill 2021. Mae nifer y bobl sy'n aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf ar ei gyfradd isaf ers mis Hydref 2020.

Yr hyn yr wyf i'n credu y gallwch chi ei ddweud o hynny yw fy mod i o'r canol wedi canolbwyntio ar nifer o'r metrigau hynny, ond yr hyn y gallwch chi ei weld yw gwasanaeth iechyd sy'n gweithio yn anhygoel o dda. Mae'n gas gen i'r ieithwedd 'doredig' hon. Mae'r rhain yn bobl sy'n ymroddedig ac yn gweithio yn galed iawn. Mae'r galw yn anhygoel ac yn cynyddu yn gyflym iawn. Mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu. Mae'r genhedlaeth rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a'r 1960au cynnar yn mynd i mewn i'r system iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae'r bobl hynny'n llawer iau am eu hoedran na'r genhedlaeth o'u blaen nhw. Maen nhw'n byw yn hŷn, mae ganddyn nhw ddisgwyliadau uchel o'r hyn y maen nhw ei eisiau. Mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer hynny. Felly, mae'r system yn gweithio yn anhygoel o dda ac effeithlon. Mae'n rhaid i ni barhau i fuddsoddi.

Lindsay, rwy'n gwybod eich bod chi'r un mor bryderus â minnau ynglŷn â hyn. Fe gawsom ein hamddifadu o arian yma yng Nghymru gan ideoleg wleidyddol a ysgogwyd gan gyni am 14 o flynyddoedd maith. Nawr o'r diwedd mae cyfle gennym ni i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r hyn y mae hynny'n ei arddangos yw pan fyddwch chi'n buddsoddi, ar f'enaid i, fe gewch chi ymateb gan y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, oherwydd eu bod nhw'n awyddus i gynnig y gwasanaethau y mae eu hangen nhw arnom ni. Felly, roeddech chi'n amlinellu nifer o feysydd lle mae gennym ni ffordd i fynd eto, ond mae'r sefyllfa yn gymaint gwell nag yr oedd hi'r adeg hon o'r flwyddyn y llynedd ar y cyfan. Ac yn fy mwrdd iechyd fy hun, er enghraifft—gyda lwc, oherwydd nid yw'r gaeaf ar ben eto—nid yw'r ambiwlansys yn ciwio'r tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd fe wnaethom ni weithredu'r cynllun 10 pwynt o ran damweiniau ac achosion brys ar gyfer llif drwy'r ysbyty. Felly, mae honno'n sefyllfa sy'n gwella, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw dal i fuddsoddi. A phe byddai ein cyd-Aelodau sy'n grwgnach ar y meinciau gyferbyn yn cael eu ffordd, wrth gwrs, fe fydden nhw'n dechrau torri gwasanaethau cyhoeddus unwaith eto ac yn torri swyddi gweision cyhoeddus. Fe ddywedodd Darren Millar hynny ar raglen Sharp End gyda mi'n ddiweddar iawn—mai'r hyn yr oedden nhw'n ei ddymuno oedd torri mwy o swyddi yn y sector cyhoeddus. Felly, rwy'n gobeithio yn fawr y byddwn ni'n gallu parhau i fuddsoddi a chanolbwyntio yn wirioneddol ar yr hyn sydd o'r fantais fwyaf i wella'r gwasanaethau hyn i gyd hyd at y safon y byddem ni'n ei ddymuno. 

14:45

Roedd fy nghwestiwn atodol i'n ymwneud â'r dull sydd gennych chi o weithio i fynd i'r afael â'r rhestr aros, ond yr ymdeimlad yw efallai eich bod chi wedi ateb hynny eisoes. Nid wyf i'n gwybod a oes gennych chi unrhyw beth arall i ychwanegu at hynny. Diolch i chi.

Oes. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw bod â dull sy'n cael ei ysgogi gan ddata o ran rhestrau aros ledled y byrddau iechyd. Nid myfi sy'n ysgogi hyn; Jeremy Miles fy nghyd-Aelod yn y cabinet sy'n ysgogi hyn gyda'i dîm ef. Yr hyn yr wyf i'n ei wneud er hynny yw cynorthwyo gydag ymholiadau i'r data, ac mae gen i staff a staff gwasanaethau dadansoddol sy'n gallu mynd i fanylder y data hynny gan ddangos i ni ym mha leoedd y mae angen targedu ymyrraeth a thargedu unrhyw gymorth. Felly, dyma fethodoleg er mwyn canolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn unrhyw faes arbennig, ac fe allwn ni weld bod hynny'n gweithio, oherwydd rydym ni'n gallu gweld y manteision gwirioneddol.

Rwy'n aros yn hir iawn am gwestiwn ac, fel bysiau, fe ddaw dau ar yr un pryd. [Chwerthin.]  

Fformiwla Barnett

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Llywodraeth ar statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas â chynllun £45 biliwn Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn? OQ63730

Er nad na chafodd seilwaith rheilffyrdd ei ddatganoli i Gymru, rydym ni'n parhau i ddadlau'r achos dros gyfran deg o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith rheilffyrdd ar bob cyfle a gawn.

Cwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod Cymru, unwaith eto, yn cael ei thwyllo o hyd at £1 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd. A chan fod Llywodraeth Lafur y DU yn gwrthod newid y sefyllfa gyda rheilffyrdd Northern Powerhouse, HS2, Rhydychen i Gaergrawnt, mae'r arian hwn i gyd yn cael ei wario yn Lloegr er mwyn Lloegr yn unig, ond maen nhw'n cael eu hystyried yn brosiectau i Gymru a Lloegr. A siarad yn gyfreithiol, beth yw'r rhwystrau sydd atal Llywodraeth San Steffan rhag newid y system hon? Neu a ydych chi o'r farn ei fod yn ymwneud ag arbed arian drwy dwyllo Cymru?

Wel, i ateb eich cwestiwn chi'n uniongyrchol, nid oes yna unrhyw rwystrau o gwbl, wrth gwrs. Yr hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arno yw sicrhau, pan fyddwn ni'n cael datganoli rheilffyrdd, ein bod ni'n cael y cyllid i gyd-fynd â hynny, ac mae hynny'n wir o ran pob taith ddatganoli. Fe hoffwn i weld buddsoddiad yn cynyddu yn y rheilffyrdd yng Nghymru. Fe gawsom ni hwb yn ddiweddar, sydd i'w groesawu, ond dim byd tebyg i'r hyn yr hoffem ni ei gael. Fe hoffem ni weld y buddsoddiad hwnnw'n cynyddu. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych chi, pan fyddwn ni'n cymryd rheolaeth ar y rheilffyrdd, fel gwnaethom ni gyda llinellau craidd y Cymoedd, fe welwch chi'r gwahaniaeth sy'n bosibl. Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr rheilffyrdd a welodd y gwelliant mwyaf ledled Prydain i gyd. Fe welwn ni gynnydd sylweddol iawn yn niferoedd y teithwyr, sy'n hyfryd iawn. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr wedi cael y cyfle i deithio ar rai o'r trenau newydd neu a gafodd eu hadnewyddu. Maen nhw'n gwbl gampus. Fe gefais i gyfle i deithio ar un o'r llinellau yn ddiweddar iawn. Rwy'n argymell eich bod chi'n darllen y cyfweliad a roddais ar ôl teithio ar y trên yn ei gyfanrwydd, oherwydd un o'r pethau yr oeddwn i'n gallu ei ddweud oedd bod gennym drên tri modd, yng Nghymru, a dyna'r unig drên yn Ewrop—ac, rwy'n credu, drwy'r byd, er y byddai hi'n rhaid i mi wirio hynny, ond yn Ewrop yn sicr—sy'n gallu newid modd yn gyflym. Felly, fe all newid o yriant trydan i yriant batri i yriant diesel wrth gefn, yn ôl i'r batri, yn ôl i drydan yn gyflym iawn ar y llinell. Ac yng Nghymru y gwnaethom ni ddatblygu hynny. Fe ddylem ni fod mor falch o hynny. Mae'n anhygoel. Roeddwn i ar y trên pan newidiodd rhwng moddau, ac nid oedd unrhyw arafiad yng nghyflymder y trên. Maen nhw'n drenau hyfryd ac roedd pobl yn dweud wrthyf mor wych yr oedden nhw, ac fe welwch chi o niferoedd y teithwyr—maen nhw'n cynyddu. Rydym ni'n gweld cynnydd enfawr o ran dibynadwyedd, ac ati. Felly, mae yna achos da iawn dros roi buddsoddiad gwell i ni yn y rheilffyrdd oherwydd, pan fyddwn ni'n cael hwnnw, fe wnawn ni bethau rhagorol iawn gydag ef.

14:50
Tribiwnlysoedd Cymru

7. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'w gwneud yn ofynnol i aelodau tribiwnlysoedd Cymru dyngu llw neu roi cadarnhad o'u hymrwymiad i gynnal annibyniaeth farnwrol? OQ63720

Mae dyletswyddau statudol ar gyfer grymuso annibyniaeth farnwrol yn rhan ganolog o'n cynigion ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd. Yn rhan o hyn, rydym ni wedi ymgynghori ar gyflwyno llwon a chadarnhadau barnwrol ar gyfer aelodau tribiwnlysoedd Cymru i gyd er mwyn mynegi yn bendant i'r cyhoedd eu priod ymrwymiad i gyfiawnder a thegwch a chynnal annibyniaeth farnwrol.

Yr hyn wnaeth fy atgoffa am hwn, wrth gwrs, oedd y Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) diweddar. Gwnaeth fy atgoffa nad yw mwyafrif aelodau tribiwnlysoedd Cymru angen tyngu llw. Mewn gwirionedd, dim ond un person sydd angen tyngu llw, a hynny yw llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Mae hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa yn nhribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, wrth gwrs, ble mae'r aelodau barnwrol i gyd yn tyngu llw. Ac mae tyngu llw yn bwysig. Mae'n fwy na jest rhywbeth symbolaidd; mae'n dangos bod cyfiawnder yn rhywbeth sy'n bwysig i gael ei ddangos, bod pobl yn credu bod y farnwriaeth yn annibynnol. Nawr, fel rydych chi wedi dweud, gwnaeth ymgynghoriad y Papur Gwyn ddangos bod cefnogaeth o 72 y cant ymysg aelodau tribiwnlysoedd Cymru i dyngu llw pan fyddan nhw'n dod yn aelod. Nawr, dwi'n falch y bydd hwnna'n cael ei gynnwys yn y Bil, ac fe gawn ni weld pan ddaw'r Bil, ond, yn y cyfamser, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn gallu eu cymryd i sicrhau bod annibynniaeth tribiwnlysoedd Cymru a'u haelodaeth yn amlwg i'r cyhoedd? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr, Rhys. Fe ddywedais i, ac fe wyddoch chi gymaint yr wyf i'n gresynu at hyn, nad ydym ni wedi gallu cyflwyno'r Bil Tribiwnlysoedd i'w roi yn y gyfraith yn ystod tymor y Senedd hon, ond rydym ni'n parhau i weithio ar hynny, ac rwy'n gobeithio y daw yn Fil yn gynnar ym mlwyddyn 1 pa lywodraeth bynnag a fydd gennym ni wedi'r etholiadau. Ond nid yw hynny oherwydd nad oeddem ni'n awyddus i wneud hynny; fe ddigwyddodd hynny am fod hwn yn fater cymhleth iawn i'w gyflawni mewn gwirionedd gyda llawer o ryngweithio â phethau eraill, ac mae nifer o bethau yn dal i godi eu pennau—'Digwyddiadau, 'machgen annwyl i', fel maen nhw'n dweud. Felly, y tîm tribiwnlys iechyd meddwl yw'r un tîm sy'n gweithio ar y Bil tribiwnlysoedd hefyd, ni fyddech chi'n synnu o gwbl i ganfod hynny. Felly, mae'n rhaid i ni allu bod yn hyblyg. Ac fe hoffwn i ddim ond achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddyn nhw unwaith eto, oherwydd mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi hepgor eu gwyliau Nadolig ac nid oedd ganddyn nhw fawr ddim amser iddyn nhw eu hunain dros y cyfnod hwnnw, ac fe wnaethom ni waith da iawn—27 diwrnod rhwng dealltwriaeth a selio. Felly, dyna beth gwirioneddol ardderchog.

Craidd y mater, annibyniaeth farnwrol, yn gyfan gwbl yw'r egwyddor sy'n llywio'r ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi yng Nghymru ar hyn o bryd, a honno yw'r egwyddor yr wyf i'n gobeithio y bydd hi'n parhau i lywio'r ffordd tuag at Gymru'r dyfodol. Roeddem ni'n nodi yn y Papur Gwyn ar ddiwygio tribiwnlysoedd, fel roeddech chi'n crybwyll, y dylai amddiffyniadau statudol ar gyfer annibyniaeth farnwrol ac ar gyfer gweinyddu cyfiawnder annibynnol fod yn gonglfaen i'r system tribiwnlysoedd gyfoes yng Nghymru oherwydd, yn union fel rydych chi'n dweud, mae amddiffyniadau fel hyn yn atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn y farnwriaeth, yn sicrhau gwneud penderfyniadau sy'n ddiduedd a thryloyw, ac yn diogelu uniondeb y system gyfiawnder sy'n dod i'r golwg yng Nghymru. Roedd yr ymatebion i'r Papur Gwyn yn arddangos cefnogaeth eang a chyson i'r cynigion ar gyfer grymuso annibyniaeth farnwrol. Roedd llawer o randdeiliaid yn croesawu'r cynnig ar gyfer dyletswyddau statudol er mwyn cynnal annibyniaeth farnwrol ar gyfer math o lw neu gadarnhad barnwrol ar gyfer aelodau'r tribiwnlysoedd, ac ar greu corff statudol strwythurol annibynnol i weinyddu'r system tribiwnlysoedd newydd. Felly, mae'r gwaith yn parhau i baratoi'r Bil tribiwnlysoedd a throsi'r cynigion hynny i fframwaith deddfwriaethol a fydd yn llywodraethu sut mae ein tribiwnlysoedd ni'n cael eu llunio. Rwy'n mawr obeithio y byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle y byddai hi'n rhwydd i hwn fod yn Fil ym mlwyddyn 1 y Senedd nesaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:55
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Member (w)
Jane Hutt 14:55:36
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch am sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r gweithlu yn ein prifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ac rwy'n datgan budd, Dirprwy Lywydd, fod fy ngŵr yn athro ac yn bennaeth ar yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Yr wythnos diwethaf, fe glywodd 204 o staff academaidd yn y brifysgol eu bod mewn risg o gael eu diswyddo a bod gan y brifysgol gynlluniau i leihau nifer y staff academaidd o 55 mewn meysydd sy'n cynnwys meddygaeth, iechyd a gwyddorau bywyd, gwyddoniaeth, peirianneg, sy'n cynnwys cyfrifiadureg, a'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol. Mae 400 o swyddi eisoes wedi eu torri drwy ddiswyddiadau gwirfoddol a pheidio â phenodi i dros 200 o swyddi gwag dros y ddwy flynedd diwethaf.

Mae'r sector wedi bod mewn argyfwng ar draws Prydain, ac mewn termau Prydeinig mae'n cael ei drafod, ond, fel mewn cymaint o feysydd eraill, mae effaith hyn ar Gymru yn neilltuol. Mae ein prifysgolion ymysg y sefydliadau Cymreig sydd ag adnabyddiaeth ryngwladol, maen nhw'n tynnu talent ryngwladol i mewn, ac mae'r ymdrechion i'w sefydlu yn rhan greiddiol o hanes ein cenedl a hanes y Senedd yma. Felly, hoffwn wybod pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith ei gweithredoedd hyd yma i gefnogi gweithlu ein prifysgolion. Rhaid i ni weld camau brys yn cael eu cymryd i sicrhau bod cyfraniad yr academwyr hyn a'n prifysgolion i'n cenedl yn cael ei ddiogelu.

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hwn yn gyfnod anodd i'r sector addysg uwch, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU gyfan, ac rydym ni'n llwyr werthfawrogi'r penderfyniadau anodd y mae'r prifysgolion yn gorfod eu gwneud. Rwy'n deall bod Abertawe yn dal i ymgysylltu ag undebau llafur a myfyrwyr, ond rydym ni'n disgwyl i brifysgolion a cholegau weithio yn agos gyda'u staff. Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi gwneud hyn yn eglur iawn.

Rhoddir blaenoriaeth i weithio'n glòs gyda'r undebau staff a myfyrwyr mewn partneriaeth gymdeithasol a'r pryderon ynglŷn ag iechyd meddwl a llesiant staff a dysgwyr hefyd. Mae Medr yn ymgysylltu yn agos â'r prifysgolion i gyd ar gyfer deall eu safbwyntiau unigol a'r cynlluniau y maen nhw'n eu rhoi ar waith i sicrhau eu cynaliadwyedd ariannol yn yr hirdymor. Mae 'Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru: 5 her a galwad am gyflwyniadau' yn gwahodd rhanddeiliaid i ddweud eu dweud am yr heriau sy'n wynebu'r sector, a fydd yn cyfrannu at sylfaen gadarn o dystiolaeth ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.

Yn olaf, gan gydnabod yr heriau ariannol sy'n wynebu addysg uwch, wrth gwrs, fe roddodd Llywodraeth Cymru £28.5 miliwn ychwanegol yn 2024-25, gan ddwyn cyfanswm y cymorth grant hwnnw i'r sector i dros £200 miliwn. Mae hynny'n ychwanegol at gynyddu ffioedd dysgu am ddwy flynedd yn olynol, yr ydym ni'n disgwyl y bydd yn cynhyrchu hyd at £21.9 miliwn o incwm ar gyfer 2025-26, a £5 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg bellach yn y gyllideb derfynol hon—cyllid ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, cyllid ychwanegol trwy Medr ar gyfer 2026-27. Ac yn bwysig i addysg uwch, mae hyn ar gyfer cefnogi blaenoriaethau o ran addysg bellach ac uwch.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yn y gorllewin. Ymhen ychydig wythnosau, fe fydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn cynnal cyfarfod bwrdd arbennig i ystyried y model cyflawni yn y dyfodol ar gyfer naw o'i wasanaethau clinigol. Fe fyddai unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn cael effaith enfawr ar gleifion lleol. Y naw maes o wasanaeth yr effeithir arnynt yw gofal critigol, dermatoleg, llawdriniaeth gyffredinol argyfwng, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, strôc, radioleg a wroleg. Trefnydd, cyn i'r bwrdd iechyd wneud unrhyw benderfyniadau, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i'w gwneud hi'n eglur i bobl y gorllewin na fydd hi'n cymeradwyo unrhyw gynigion a fyddai'n gorfodi cleifion i deithio ymhellach eto hyd yn oed ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y ddarpariaeth o wasanaethau yn y gorllewin er mwyn i ni gael clywed yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru am ei safbwyntiau ar ddarpariaeth gofal iechyd yn yr ardal, ac er mwyn i'r Aelodau ei holi ynglŷn â rheolaeth y bwrdd iechyd ar wasanaethau yn y gorllewin.

15:00

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Paul Davies. Mae'n bwysig iawn bod y bwrdd iechyd yn cynnal y cyfarfod arbennig hwnnw i edrych ar y gwasanaethau hyn, sydd wrth gwrs yn bwysig i'ch holl etholwyr yn eich etholaeth ac ar draws ardal y bwrdd iechyd. Wrth gwrs, mae'r bwrdd iechyd yn glir iawn ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran cyflawni, ac, yn wir, eu cyfrifoldebau cynllunio ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny o ran yr holl ganllawiau a llwybrau strategol y mae Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u nodi'n glir. Maen nhw'n ymwybodol iawn o hyn, ac felly hefyd pobl a chleifion eich ardal bwrdd iechyd. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hefyd, ar y pwynt hwn, yn ddefnyddiol iawn i sôn am rôl Llais o ran llais y claf, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n ymgysylltu. Dyma'r cam cyntaf, gyda thrafodaethau bwrdd iechyd tryloyw ac agored. 

Heddiw yw Diwrnod Cofio'r Holocost, fel y soniodd Darren Millar eisoes. Roedd difodiant diwydiannol 6 miliwn o bobl ddiniwed yn seiliedig ar eu hethnigrwydd, hil, anabledd, rhywioldeb a gwrthwynebiad gwleidyddol i'r Natsïaid. Anfonwyd babanod a phlant ifanc, ynghyd â phobl oedrannus, yn syth i'r siambrau nwy, ynghyd ag unrhyw un nad ellir ei ddefnyddio fel caethlafur.

Yng nghanol yr arswyd hwnnw, mae'n rhyfeddol bod Peter Lantos, pump oed, wedi goroesi alltudiaeth a blwyddyn yn Bergen-Belsen, gan osgoi newyn, clefydau rhemp a bomio o'r awyr. Roeddem yn gallu, o ganlyniad i'w oroesiad, glywed ei dystiolaeth bwerus ddoe yn y Deml Heddwch. Rhaid i hyn ein hysbrydoli ni i gyd i gryfhau ein hymrwymiad i wrthsefyll casineb eraill a oedd yn garreg sylfaen i'r Holocost a'r holl hil-laddiad sydd wedi digwydd cyn ac ers hynny.

Mae'r dde eithafol yn weithgar yn fy etholaeth, yn ceisio hau casineb ymhlith fy nghymuned. Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am ddatganiad ar sut y gallwn gryfhau ein hymrwymiad i wrthsefyll hyn, gan ddefnyddio'r cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i wrthsefyll y casineb sy'n cael ei hyrwyddo yn ein hysgolion, gweithleoedd, tafarndai a digwyddiadau chwaraeon, fel y gallwn, yn wirioneddol, sicrhau bod y genedl noddfa yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei pharchu.

Yn ail, tybed a allech chi gael—

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch am amlygu hyn, fel sydd eisoes wedi'i wneud heddiw, Diwrnod Cofio'r Holocost 2026. Roedd cynrychiolaeth ar draws y Siambr hon yn y digwyddiad pwerus iawn hwnnw ddoe yn y Deml Heddwch.

Y thema eleni yw 'Pontio'r Cenedlaethau'—thema mor bwysig. Clywsom nid yn unig y dystiolaeth honno gan Peter Lantos, goroeswr yr Holocost, ond byddwn hefyd yn canmol a diolch i'r bobl ifanc o ysgol uwchradd Hwlffordd a siaradodd mor bwerus am eu profiad o Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, yr ydym yn ei hariannu a'i chefnogi, a'u profiadau o ran ymweld â Gwlad Pwyl ac Auschwitz, ac yna dod yn ôl. Rwy'n credu mai'r hyn oedd yn gryf iawn oedd y ffordd y dywedodd y bobl ifanc fod hynny wedi cryfhau eu penderfyniad i frwydro yn erbyn gwahaniaethu a rhagfarn, ac yn wir y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â throseddau casineb.

Rydw i wedi cyhoeddi datganiad heddiw. Rwy'n dweud bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn atgofiad pwysig bod hil-laddiad yn bwynt terfyn eithafol ymddygiad ac agweddau sy'n dechrau fel casineb a dad-ddyneiddio. Os bydd grwpiau yn ein cymdeithas yn cael eu beio, eu trin fel rhai israddol ac yna eu targedu, byddwn yn gosod y sylfeini ar gyfer erchyllterau o'r fath. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ymosodiadau ofnadwy ar ein cymunedau crefyddol a chasineb lleisiol tuag at y rhai o leiafrifoedd ethnig neu'r rhai a anwyd y tu allan i'r DU.

Rwy'n credu bod hyn yn cryfhau cefnogaeth a chymeradwyaeth ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn llwyr. Diolchaf i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, pwyllgor trawsbleidiol, nid yn unig am gefnogi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n hanfodol o ran mynd i'r afael â chasineb, ond hefyd i gydnabod y gwaith cydlyniant cymunedol y mae'r pwyllgor yn ei wneud. Hefyd, rydym ni ar fin adrodd ar y gwaith sydd wedi'i gadeirio gan Gaynor Legall o ran mynd i'r afael â hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod hwn yn gyfrifoldeb go iawn. Mae gennym ein canolfan cymorth casineb—rydym ni'n ei hariannu—a'n bwrdd casineb a thensiwn cymunedol, sy'n dod â phawb at ei gilydd, i gyd yn cefnogi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.

15:05

Gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a gofal ynghylch argaeledd a darpariaeth gwelyau iechyd meddwl, os gwelwch yn dda, yn enwedig o edrych ar ogledd Cymru? Mae gen i achosion yn dod i mewn i'r swyddfa lle mae pobl sydd yn dioddef o gyflyron afiechyd meddwl yn gorfod mynd i gael eu gosod mewn gwelyau ar draws y ffin, ymhell i ffwrdd o'u cartrefi nhw, rywle ym mhellteroedd Lloegr. Gwnaf i roi un enghraifft i chi lle mae yna ddyn wedi dod i mewn ac mae o wedi darganfod bod ganddo fe ganser. O ganlyniad i hynny, roedd ei iechyd meddwl e wedi dirywio yn sylweddol, i'r pwynt fod y bwrdd iechyd yn gorfod ei osod o yn rhywle i gael gofal dros ambell i noson, ac roedd e wedi gorfod mynd i Birmingham. Mae'r dyn yma yn iaith gyntaf Cymraeg. Mae ei deulu o i gyd yn iaith gyntaf Cymraeg. Mae o'n fwy cyfforddus yng nghyfrwng y Gymraeg. Ond mae o'n methu â chael y gwasanaeth angenrheidiol oherwydd ei fod o wedi cael ei osod yn Birmingham, oherwydd y diffyg gwelyau sydd gennym ni yn y gogledd, ac yn wir yng Nghymru. Felly, buasai'n dda cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet er mwyn medru trafod y pwynt yna, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Mae'n bwysig ein bod yn clywed am y sefyllfaoedd hyn, sy'n ymwneud â chleifion a mynediad at y gwasanaethau penodol, yn aml rhai arbenigol, y mae angen iddynt allu cael mynediad atynt. O ran gwasanaethau iechyd meddwl, gwyddom fod amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl—. Rwy'n gwybod y byddwn ni'n mynd ymlaen yn fuan i'r datganiad llafar ar amseroedd aros y GIG. Rwy'n credu bod y gostyngiad mewn rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn gadarnhaol iawn, ac wrth gwrs, gall hynny hefyd gynnwys mynediad at welyau, yn ogystal â gofal cleifion allanol a sylfaenol hollbwysig, sydd mor hanfodol i wasanaethau iechyd meddwl.

Unwaith eto, cawsom ychydig o law trwm neithiwr, ac unwaith eto llifogydd ar Ffordd Gumfreston—y B4318—o afon Ritec. Mae deiseb yn fyw ar hyn o bryd. Mae wedi cael dros 2,500 o lofnodion. Mae'r cynghorydd sir lleol Rhys Jordan sy'n gweithio'n galed, wedi gwthio Cyngor Sir Penfro i weithredu, ond mae wedi dod at graig rwystr. Mae'n gymaint o broblem fel bod preswylydd lleol, Tom Morgan, hyd yn oed wedi dylunio ei ap gwe ei hun o'r enw 'A yw Gumfreston dan ddŵr?' Mae hynny'n dod yn broblem, oherwydd dyma un o'r prif lwybrau i mewn i Ddinbych-y-pysgod, mae'n atal pobl rhag dod i mewn. Pan fydd llifogydd, mae ceir pobl yn mynd yn sownd. Mae hynny'n tynnu'r gwasanaeth tân i ffwrdd oddi wrth eu gwaith yn achub pobl o'r ardal hon. Yr hyn y mae Rhys Jordan yn galw amdano yw dull amlasiantaeth i fynd i'r afael â hyn unwaith ac am byth. Mae'n dod yn broblem go iawn ac mae'n gwaethygu. Felly, a gaf i alw am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar sut y gall helpu i arwain y dull amlasiantaeth hwn i fynd i'r afael â llifogydd afon Ritec ar Ffordd Gumfreston unwaith ac am byth?

Diolch am y cwestiwn yna, Sam Kurtz. Rydym yn y sefyllfa lle rydym yn derbyn adroddiadau bob awr ar effaith debygol storm Chandra. Wrth gwrs, mae hynny'n gofyn am weithio amlasiantaeth. Yn arbennig, fe wnaethoch chi gyfeirio at y llwybr hollbwysig hwnnw i mewn i Ddinbych-y-pysgod a'r sefyllfa hanesyddol o ran y sefyllfa honno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod ein bod wedi gweithredu trefniadau ymateb lefel 1 ddoe. Roeddem yn rhagweld y gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm hynny. Mae'r ymateb lefel 1 hwnnw yn golygu ymateb amlasiantaeth i gydlynu mewnbwn adrannol, lle bo angen. Mae'n rhaid i mi eich sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal cyfarfod gwasanaeth cynghori ar lifogydd heddiw gydag awdurdodau cydnerthedd a llifogydd lleol de Cymru, Dyfed-Powys, a Gwent i gynllunio ar gyfer ymateb amlasiantaeth, felly rwy'n siŵr bod y ffordd honno hefyd wedi'i chynnwys yn y drafodaeth amlasiantaeth honno heddiw.

15:10

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar Undeb Rygbi Cymru. Mae problemau difrifol yn rygbi Cymru. Yn eu plith, y tîm cenedlaethol dim ond yn curo Japan yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ac nid yw URC yn gallu gwerthu tocynnau ar gyfer y chwe gwlad. Er bod URC yn gwadu hyn, mae gostyngiad difrifol yn nifer y chwaraewyr sy'n cymryd rhan rhwng 14 a 18 oed. Rydym ni'n gwybod hyn oherwydd methiant timau hŷn i gael ail a thrydydd tîm. Bellach mae yna gynigion i leihau nifer y timau hŷn lefel uchaf, gyda pherchnogion y Gweilch yn prynu Caerdydd sy'n peryglu'r Gweilch. Rydym hefyd yn gwybod, er nad yw presenoldeb yn cael ei ryddhau'n swyddogol, mae nifer y rhai sy'n gwylio gemau rhanbarthol yn fach. Yn economaidd, mae'r Gweilch yn bwysig i economi Abertawe. A allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â thrafodaethau diweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac URC ar ddyfodol rygbi Cymru, gan gynnwys y Gweilch?

Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar eithrio bagiau siopa seiliedig ar ddeunydd biolegol y gellir eu compostio ac sy'n ardystiedig o'r gwaharddiad ar fagiau siopa untro. Hoffwn gael esboniad pam nad yw bagiau bioddiraddadwy mor ecogyfeillgar â bagiau y gellir eu hailddefnyddio.

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Dau gwestiwn pwysig iawn y prynhawn yma. Rydym wedi annog URC yn gryf i wneud yn siŵr ei fod yn gwrando'n ofalus ar farn clybiau, chwaraewyr a phawb sydd â diddordeb mewn cynigion i newid y gêm broffesiynol yng Nghymru. Ac er bod dyfodol y gêm yn fater i URC, rydym ni i gyd eisiau gweld Cymru yn ffynnu eto fel cenedl rygbi lwyddiannus.

Ar eich ail gwestiwn, mewn perthynas â bagiau siopa, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, ar draws y Siambr hon, mai ein gweledigaeth yw Cymru gynaliadwy sy'n rhydd o sbwriel, llygredd plastig a gwastraff diangen. Mae ein polisïau wedi'u cynllunio i annog ailddefnyddio, i helpu i symud defnyddwyr a busnesau tuag at yr economi fwy cylchol honno lle mae cynhyrchion yn cael eu defnyddio cyhyd â phosibl.

Mewn ymateb i bryderon am ymddygiad defnyddwyr sy'n gysylltiedig â bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio, rydym yn llunio polisïau sy'n anelu at hyrwyddo ailddefnyddio cynaliadwy. Rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei ddweud, Dirprwy Lywydd, ond mae'n ffaith ein bod yn credu bod unrhyw fag sy'n cael ei gynhyrchu ar gyfer ei ddefnyddio unwaith yn unig cyn cael ei waredu yn tanseilio ein nodau mewn perthynas ag economi gylchol. Mae astudiaethau yn dangos bod bagiau siopa plastig a ddefnyddir o leiaf bum gwaith yn cael llai o effaith amgylcheddol na'r rhai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer un defnydd yn unig. Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn ddysgu o'n gwaith arloesol rydym ni wedi'i wneud ers i ni fod y genedl gyntaf, wrth gwrs, yn ei thro, i wahardd bagiau plastig. Diolch yn fawr, Mike Hedges.

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae un yn ymwneud â deintyddiaeth yn Llandrindod. Mae Llandrindod yn dref o 6,000 o bobl ac ar hyn o bryd nid oes ganddi ddeintydd GIG o gwbl. Little Owl oedd unig bractis deintyddol y dref ac fe gollodd ei ddeintydd ychydig cyn y Nadolig. Felly, mae tua 6,000 o bobl heb ddeintydd GIG mewn ardal wledig gyda thrafnidiaeth gyhoeddus wael iawn.

Mae'r ail gwestiwn mewn perthynas â newid hinsawdd a materion gwledig, yn enwedig ar safleoedd tirlenwi. Mae Bryn Posteg 2 filltir yn unig y tu allan i Lanidloes. Mae'n safle tirlenwi a rheoli gwastraff hirsefydlog y mae CNC wedi'i ddisgrifio o'r blaen fel y safle tirlenwi sy'n perfformio waethaf yng Nghymru. Am dros 15 mlynedd, mae trigolion lleol wedi codi pryderon dro ar ôl tro am arogleuon parhaus, lefelau nwy peryglus a'r gollyngiad. Felly, hoffwn wybod hefyd pa gamau y gallwn eu cymryd ar hynny. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae bob amser yn siomedig, ac mae'n rhaid ei fod yn siomedig iawn i bobl Llandrindod, pan fydd deintydd yn penderfynu lleihau neu roi terfyn ar ei ymrwymiad GIG. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig cofnodi eto bod y cyllid ar gyfer y ddarpariaeth a gollwyd yn parhau yn nwylo'r bwrdd iechyd er mwyn iddo ddodi lefel gwasanaethau deintyddol y GIG yn ei hôl, ac mae'n bwysig nodi a deall bod cyllid a ddychwelwyd ym Mhowys wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu gwasanaethau deintyddol cyffredinol cyflogedig, Felly mae yna gynllun at raid ar waith os bydd contractau'n cael eu dychwelyd. Maen nhw hefyd wedi cyflogi therapydd deintyddol i helpu i sicrhau nad oes unrhyw blant yn aros am fynediad at ofal deintyddol am gyfnod estynedig. Felly, mae'n bwysig—. Y gwir yw bod y cyllid hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth a gollwyd yn—. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd nawr symud i sicrhau ailgaffael. Rwy'n credu y byddai'r enghraifft honno ar gyfer Powys, y gwasanaeth deintyddol cyffredinol, rwy'n siŵr, yn cael ei groesawu.

Ar eich ail bwynt—mae'n ddigalon iawn clywed am effaith y safle hwn, tomen Tylwch. Mae CNC yn gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau gwastraff sy'n ymwneud â safleoedd tirlenwi ac am sicrhau bod gweithredwyr safleoedd yn cydymffurfio'n llawn â gofynion amgylcheddol a chyfreithiol llym. Ond rwy'n deall bod CNC yn ymwybodol o gynnydd mewn cwynion am aroglau a phryderon llygredd gan y cyhoedd sy'n ymwneud â safleoedd tirlenwi Bryn Posteg yn Llanidloes. Nid yw gwastraff yn cael ei dderbyn mwyach ar y safle, ond yn anffodus mae gweithgaredd ar y safle o ganlyniad i'r gweithredwr yn ymgymryd â gwaith capio, a gall hynny ryddhau pocedi o arogl. Felly, mae CNC yn cynnal ymweliadau safle ac maen nhw mewn cysylltiad rheolaidd â'r gweithredwr, ac mae CNC yn annog unrhyw un sydd â phryderon am arogl neu lygredd i roi gwybod iddynt gan ddefnyddio ein ffurflen adrodd ar-lein neu drwy ffonio—a dyma'r rhif—0300 065 3000. Felly, mae'n bwysig i'r Aelod, Jane Dodds, ond eraill hefyd glywed y pwynt hwnnw a'r manylion cyswllt gyda'r problemau hyn yn codi.

15:15

Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y prynhawn yma ar y defnydd o gyfleusterau preifat er mwyn dychwelyd cleifion iechyd meddwl a atgyfeiriwyd am driniaeth cleifion mewnol yn Lloegr. Oherwydd diffyg gwelyau iechyd meddwl cleifion mewnol yng ngogledd Cymru, mae cleifion yn aml yn cael eu cyfeirio at driniaeth cleifion mewnol y tu allan i'r ardal, sydd yn fy mhrofiad i yn gallu bod yn ofidus i'r cleifion. Ysgrifennais at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddiwedd 2023, ac fe wnaethon nhw gydnabod, ac rwy'n dyfynnu,

'y trallod ychwanegol y gall cleifion ei brofi tra byddant ymhellach i ffwrdd o'r rhwydwaith cymorth lleol neu eu ffrindiau neu deulu.'

Agorodd yr ysbyty iechyd meddwl mwyaf yng Nghymru yn y Rhyl y llynedd. Mae Seren Gobaith yn ysbyty iechyd meddwl annibynnol sydd â llwybr cyfeirio sefydledig gyda'r bwrdd iechyd, sy'n caniatáu i lawer o gleifion gael eu dychwelyd i ogledd Cymru am driniaeth, ac maent yn cyflawni canlyniadau rhagorol. Fodd bynnag, mae'r llwybr wedi cael ei oedi gan y bwrdd iechyd, gan atal atgyfeiriadau cleifion yn llwyr. Mae hyn yn golygu bod y costau'n cynyddu, arosiadau cleifion yn hirach, y galw am welyau yn cynyddu a chleifion yn cael eu hanfon ymhellach i ffwrdd o'u teuluoedd.

Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ba drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Betsi ynglŷn ag atal atgyfeiriadau i Seren Gobaith, a allai ddarparu amserlen ynghylch a fydd y llwybr atgyfeirio yn cael ei adfer a sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cleifion iechyd meddwl ar gyfer derbyn triniaeth mor agos at adref â phosibl?

Diolch am y cwestiwn yna, Gareth Davies. Rydym eisoes wedi gwyntyllu'r pwynt hwn; cafodd ei wyntyllu yn gynharach y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor o ran darpariaeth iechyd meddwl yn y gogledd. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant eisiau ymateb i'r pwyntiau hyn o ran llwybrau sy'n defnyddio Seren Gobaith. Hynny yw, efallai y bydd materion gwahanol a thebyg yma sydd wedi'u codi, felly diolch eto am godi hwnnw y prynhawn yma.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y panel cynghori amaethyddol, ac yn arbennig diweddariad ynghylch gosod y Gorchymyn cyflogau amaethyddol ar gyfer 2026? Er budd tryloywder llawn, rwy'n aelod o Unite, yn unol â'm cofrestr o fuddiannau, ac mae Unite yn un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r panel, ac roeddwn i'n rhan o rai o'r ymgyrchoedd i'w sefydlu yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n gyfarwydd â'r rôl y mae'n ei chwarae a phwysigrwydd ei waith. Rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Dirprwy Brif Weinidog i'r panel a'i bwrpas. Rwy'n credu nawr, mewn gwirionedd, yw'r amser i gael y diweddariad pellach hwnnw, nid yn unig ar waith y panel, ond ar y Gorchymyn cyflogau ar gyfer 2026, gan ei fod yn bwysig iawn i weithwyr gwledig ledled Cymru. Diolch.

15:20

Diolch, Hannah Blythyn, a diolch i chi am godi hyn eto, fel y gwnaethoch gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd y panel amaethyddol, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r panel a'i bwrpas. Rwyf am ofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ei phwrpas a hefyd ei chynnydd. Diolch am ei godi, oherwydd daeth o ganlyniad i'r ymrwymiad hwnnw i bartneriaeth gymdeithasol â gweithlu gweithwyr amaethyddol, ac mae hefyd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'n gweithlu gwledig a'n gweithlu amaethyddol. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gais i'w groesawu'n fawr am ddiweddariad a datganiad.

Trefnydd, mae Llywodraeth Cymru yn brolio'r parthau twf deallusrwydd artiffisial yn y gogledd a'r de, gan addo mwy na £10 biliwn o fuddsoddiad a miloedd o swyddi—gwych—ond nid yw deallusrwydd artiffisial, AI, yn rhedeg ar fwriadau da. Mae angen ei redeg ar feintiau enfawr o bŵer dibynadwy, parhaus, ac mae'r pŵer mwyaf dibynadwy yn dod o nwy. Felly, hoffwn ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru ar sut mae'n bwriadu ehangu cynhyrchu nwy yng Nghymru i gefnogi eu breuddwydion AI, gan y byddant yn parhau i fod yn freuddwydion yn unig oni bai eich bod yn ychwanegu dos caled o realiti atynt sef bod cwmnïau AI mawr angen pŵer nwy i lwyddo. Hynny yw, yr hyn sy'n amlwg yw bod angen i Lafur roi'r gorau i'r obsesiwn chwerthinllyd hwn ynghylch sero net os yw Cymru am lwyddo yn y dyfodol. Diolch.

Wel, mae'n rhoi boddhad mawr i mi—[Torri ar draws.]—Mae'n rhoi boddhad mawr i mi, Laura Anne Jones, pan fyddwch chi'n datgelu polisi ofnadwy Reform. Nid ydym wedi cael eich maniffesto eto, ond rydym yn gwybod eich bod yn gwadu newid hinsawdd yn llwyr ac yn erbyn yr holl symudiadau polisi pwysig yr ydym yn eu cymryd tuag at sero net. Mae'n eithaf rhyfeddol, ond rwy'n credu ein bod yn croesawu'r cwestiynau hyn, oherwydd mae'n datgelu beth yw Reform. Nid yw'n ymwneud â sicrhau llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sy'n ymwneud â chyfiawnder economaidd a chymdeithasol, ac mae ymrwymiadau amgylcheddol yn sail i hynny.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru? Mae'r A4042 yn gefnffordd fawr sy'n rhedeg drwy fy etholaeth i, yn Nhorfaen a sir Fynwy. Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd y rhannau tua'r gogledd a'r de ar gau am oddeutu chwe mis oherwydd gwaith ffordd mawr, er y bydd y gorchymyn traffig yn ei le am ryw 18 mis. Mae'r rhan yr effeithir arni yn rhedeg rhwng cylchfan Mamheilad a chyfnewidfa Hardwick yn y Fenni, rhan dros 7.5 milltir o hyd. Nawr, mae modurwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl tarfu sylweddol a chyfyngiadau traffig trwy gydol cyfnod y gwaith. Ymddengys bod y cau hwn yn cyd-fynd â gwaith ffordd mawr arall sy'n cael ei wneud gan Gyngor Sir Fynwy yn yr ardal, sy'n mynd i wneud rhai teithiau ledled y sir yn anodd ar y gorau ac ar adegau yn amhosibl. A gaf felly ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddatganiad ar y gwaith hwn, ac i ofyn pa drafodaethau blaenorol a gafodd gyda'r awdurdod lleol er mwyn osgoi tarfu diangen?

Wel, diolch, Peter Fox. Hynny yw, yn amlwg, mae'n rhaid i waith ffordd mawr ddigwydd. Pan fydd ei angen, mae'n rhaid iddo ddigwydd. Gwn fod yr awdurdodau lleol, gyda'r rhai sy'n gyfrifol am y gwaith ffordd, ac, wrth gwrs, bydd hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru ar gefnffyrdd—. Yn amlwg, mae'r rhain wedi'u cynllunio dros gyfnod o amser, oni bai ei bod yn broblem annisgwyl sy'n effeithio ar ffordd, ond mae angen i ni sicrhau bod y gwaith ffordd hwnnw'n digwydd er budd yr economi a'r gymuned leol, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n dod i'r amlwg o'r prosiect arfaethedig hwn.

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad rydych chi wedi'i wneud, Trefnydd, y bore yma ar ddatganoli plismona. Rwy'n credu bod llawer ohonom ar draws y Siambr hon wedi ein siomi'n fawr gan y datganiad a wnaed yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe gan yr Ysgrifennydd Cartref, pryd roedd hi'n diystyru ac yn anwybyddu'r geiriau rydych chi wedi'u rhoi ar y cofnod, a'r araith a wnaed gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Bob tro mae unrhyw waith difrifol wedi'i wneud ar hyn, mae pob comisiwn sydd wedi edrych ar strwythur datganoli yng Nghymru wedi argymell datganoli plismona. Nid yw adroddiad Thomas yn cael ei weithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd. Mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a thegwch i Gymru. Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad yw'n gallu rheoli ei heddlu ei hun. Mae'n bryd i Gymru gael cydraddoldeb â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan ddinasoedd Lloegr fwy o awdurdod na phobl Cymru. Onid yw'n bryd nawr i'r Llywodraeth gyflwyno penderfyniad yn y lle hwn yn amser y Llywodraeth ar gynnig i fynnu datganoli plismona i'r lle hwn ar unwaith? 

15:25

Diolch yn fawr iawn, Alun Davies, am y cwestiwn yna. Rwy'n falch eich bod wedi nodi'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn gynharach heddiw ar ein hymateb i Bapur Gwyn diwygio heddlu Llywodraeth y DU, ac mae'n bwysig ei fod hefyd wedi'i godi yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Yr hyn sy'n ddiddorol am hyn yw ein bod wedi gweld cyfle yn dod i'r amlwg o ran edrych ar lywodraethu ac atebolrwydd gwasanaethau plismona yng Nghymru o ganlyniad i'r cyhoeddiad i ddiddymu comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Wrth gwrs, rwy'n ddiolchgar iawn, fel y dywedaf yn fy natganiad, am y gwaith maen nhw wedi'i wneud, ac maen nhw'n sicr wedi cynrychioli lleisiau ein cymunedau. Rydw i nawr yn gweithio gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu i edrych ar ffordd ymlaen. Ac rydw i wedi cael sgyrsiau cadarnhaol iawn, yn wir, gyda Sarah Jones AS, mewn cyfarfod gyda hi ar y penwythnos. Daeth hefyd i'n bwrdd partneriaeth plismona diweddar, yr wyf yn ei gadeirio.

Ac felly yr hyn rydym ni wedi bod yn edrych arno yw Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar fath ar lywodraethiant gyda'r Swyddfa Gartref yn ystod tymor y Senedd hon. Felly, rwy'n ddiolchgar i chi am godi hyn gyda mi, oherwydd mae'n dangos brys hyn i gyd. Mae yna frys. Mae angen yr eglurder hwnnw arnom cyn diwedd y tymor. A byddaf yn dweud, Dirprwy Lywydd, yr hyn rydw i wedi'i ddweud, ac mae yn fy natganiad, yw bod angen i ni adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio ar hyn o bryd. Rydych chi wedi bod yn clywed gan brif gwnstabliaid, rwy'n credu, dros y 24 awr ddiwethaf, ac maen nhw'n cydnabod ei fod yn ymwneud â'r hyn sy'n gweithio a bod yr hyn sy'n cyflawni i bobl leol yng Nghymru yn bwysig. Ond rydym ni eisiau cryfhau'r setliad datganoli. Rwyf wedi gwneud hynny'n hollol glir. Ein nod tymor hwy yw datganoli plismona i Gymru, fel y dywedwch, a argymhellir gan gomisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ac, yn wir, gan gyn-gomisiwn Silk, Silk 2, a oedd yn grŵp trawsbleidiol. Mewn gwirionedd, roedd y Ceidwadwyr yn cefnogi hynny ar y pryd. Felly, diolch am hynny.

Rydym yn falch o'r partneriaethau rydym ni wedi'u creu gyda'n partneriaid plismona yng Nghymru, ac rydym eisiau gweithio yn adeiladol gyda nhw ac i gryfhau, fel y dywedais, y setliad datganoli, gan arwain at ddatganoli plismona i Gymru. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych ar hyn yn nhermau beth yw anghenion ein pobl leol, cymunedau lleol, o ran diogelwch cymunedol a'r cyfleoedd y mae hyn—. Gadewch i ni weld hwn fel cyfle, nid bygythiad, ac mae'n sicr yn amserol ein bod yn trafod hyn heddiw.

Mae dau etholwr yn ddiweddar wedi sôn wrthyf am broblemau y maen nhw'n eu cael gyda'u pensiwn gwasanaeth sifil. Yn gyntaf, mae gweithiwr y GIG gyda 22 mlynedd o wasanaeth wedi bod yn ceisio cael datganiad pensiwn ers mis Medi er mwyn ceisio cael morgais. Mae'n dal i aros. A'r bore 'ma, derbyniodd e-bost yn dweud nad oes amserlen iddo ar gyfer derbyn datganiad. Yr ail yw rhywun a fu'n ysgrifennwr areithiau Llywodraeth Cymru am nifer o flynyddoedd. Efallai ei fod wedi ysgrifennu rhai o'ch areithiau chi, Trefnydd. Yr haf diwethaf, gan y byddai'n agosáu at 60 yn yr hydref, cysylltodd â chynllun pensiwn y gwasanaeth sifil. Dywedwyd wrtho fod y pensiwn wedi'i gymeradwyo ac y byddai'n derbyn taliad yng nghanol mis Tachwedd. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw daliad wedi'i dderbyn. Nid yw negeseuon a galwadau ffôn yn cael eu hateb. Ac mae'n deall bod 86,000 o bensiynwyr y gwasanaeth sifil yn y DU yn aros am eu pensiynau. Ac rwy'n deall bod bai yn cael ei roi ar y ffaith eu bod wedi cael eu symud o MyCSP i Capita. Mae pensiwn yn un o fuddiannau gweithio yn y gwasanaeth sifil, ac rwy'n siŵr na fyddai Aelodau a fydd yn ymddeol cyn bo hir eisiau aros mor hir am eu pensiynau.

Felly, Gweinidog, a allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i weld pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pensiynwyr y gwasanaeth sifil i dderbyn yr hyn sy'n ddyledus iddynt mewn modd amserol? Diolch yn fawr. 

15:30

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen, a diolch am godi hyn. Byddaf yn ei ddwyn i sylw'r Ysgrifennydd Parhaol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am gyflwr difrifol cyllid mewn addysg uwch ac addysg bellach. Mae dau sefydliad o'm rhanbarth i wedi cysylltu â mi—un coleg addysg bellach, ac un darlithydd prifysgol, y ddau yn pryderu am yr effaith y mae cyllidebau yn ei chael ar eu myfyrwyr. 

Yn achos Coleg Penybont, mae eu pryder yn canolbwyntio ar y rhewi cofrestru. Ar hyn o bryd mae gan y coleg 285 o fyfyrwyr yn fwy na'u dyraniad ariannol, yn ogystal â gweld nifer cynyddol o fyfyrwyr sydd angen cymorth ariannol. Ond mae toriadau i gyllid ar gyfer gwasanaeth biwro cyflogaeth, yn ogystal â dileu teithio gan ddysgwyr ôl-16, yn rhoi straen ychwanegol ar y myfyrwyr a'r coleg. 

Ar wahân, ond yn gysylltiedig, cefais ohebiaeth hefyd am doriadau i'r gyfadran gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, a fydd yn gweld nifer fawr o ddiswyddiadau staff. Ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru a'r DU yn rhoi pwyslais mawr ar ddeallusrwydd artiffisial, rydym yn gweld penderfyniadau ariannol tymor byr yn effeithio ar ein gallu i ddarparu'r sgiliau angenrheidiol i genedlaethau yn y dyfodol i wneud y mwyaf o fanteision economaidd technolegau newydd. 

Felly, Trefnydd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gyflwyno datganiad llafar ar sut mae'r materion hyn yn cael eu hystyried yn y flwyddyn ariannol nesaf? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain. Rydym yn rhoi £5 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg bellach yn y gyllideb derfynol hon. Ydych chi'n mynd i'w gefnogi, Altaf Hussain—£5 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg bellach yn y gyllideb derfynol hon? Wedi'i gymryd gyda'r cyllid ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, mae'n golygu ein bod yn dyrannu £26.5 miliwn ychwanegol trwy Medr yn 2026 i gefnogi blaenoriaethau mewn addysg bellach ac uwch. Ydych chi'n mynd i gefnogi ein cyllideb derfynol y prynhawn yma? Oherwydd dyma'r buddsoddiad rydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â'r heriau real iawn sydd hefyd wedi'u codi y prynhawn yma o ran addysg bellach ac uwch. Ond, yn olaf, ac rwy'n dweud hyn wrthych chi eto, o ran ein cyllideb derfynol—mae gennych gyfle i bleidleisio drosti y prynhawn yma—mae cyllideb gyffredinol Medr yn cynyddu bron i 4 y cant yn 2026-27, ac rwy'n credu bod hynny'n rhoi'r rheswm i chi gefnogi'r gyllideb hon y prynhawn yma. 

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd Aros y GIG

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol,  amseroedd aros y GIG. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog a minnau sawl gwaith yn y Siambr, torri amseroedd aros hir yw blaenoriaeth y cyhoedd a'n prif flaenoriaeth ninnau, ac nid yw hyn wedi newid. Diolch i waith caled y GIG ledled Cymru, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at yr uchelgais hwnnw dros y saith mis diwethaf. Mae arosiadau hir yn gostwng, ac mae'r rhestr aros gyffredinol yn dod i lawr.

Mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd, yn Abertawe ac ym Mhowys, does neb yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, neu fwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol. Yn y byrddau iechyd eraill yn y de, mae llai nag 1 y cant o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, neu flwyddyn am apwyntiad cleifion allanol.

Yn y gogledd, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fwy i'w wneud o hyd i gyflawni ei gynllun i dorri amseroedd aros hir. Ond yma hefyd bu cynnydd.

Dirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd y data amseroedd atgyfeirio i driniaeth diweddaraf ar gyfer Tachwedd 2025. Mae hyn yn dangos effaith ein ffocws ar wella perfformiad, gwaith caled staff y GIG, a'r £120 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi y flwyddyn ariannol hon. Mae'n set o ffigurau sy'n torri record.

Gostyngodd y rhestrau aros cyffredinol 23,400 ym mis Tachwedd—y gostyngiad misol mwyaf a gofnodwyd erioed. Dyma'r chweched gostyngiad misol yn olynol yn y rhestr aros gyffredinol. Mae arosiadau hir o fwy na dwy flynedd wedi gostwng i 6,883—gostyngiad o 90 y cant ers mis Ebrill 2022. Mae'r ffigurau dros dro ar gyfer mis Rhagfyr yn awgrymu y bydd y rhain yn gostwng ymhellach, i tua 5,300. Mae arosiadau o fwy na 52 wythnos am apwyntiad cyntaf wedi gostwng 46 y cant ers mis Mawrth 2025, ac maent bellach ar eu lefel isaf ers mis Hydref 2020.

Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd bron i 100,000 yn fwy o apwyntiadau cleifion allanol cyntaf, yn fwy na gweithgarwch arferol y GIG, wedi'u darparu yn y pum mis ers mis Awst, ac roedd 28,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol wedi'u trefnu ar gyfer mis Ionawr, i gyd o ganlyniad i ffocws manwl y Llywodraeth hon ar berfformiad, ymroddiad y gweithlu a'r buddsoddiad ychwanegol y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud. Mae'r GIG ar y trywydd iawn i gyflawni 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni, yn fwy na'i weithgarwch arferol. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, mae gwybodaeth rheolwyr yn dangos bod y GIG eisoes wedi cyflawni mwy na 26,400 o weithdrefnau cataract. Mae hynny eisoes yn 9,400 yn fwy na'r hyn a ddarparwyd yn 2023-24.

Dirprwy Lywydd, mae hyn yn raddfa enfawr o weithgarwch: mwy o apwyntiadau, mwy o brofion, mwy o driniaethau. Rydym ni'n helpu pobl i gael eu gweld yn gyflymach, gan dorri amseroedd aros hir a lleihau maint y rhestr aros gyffredinol—yn union fel y dywedom y byddem yn ei wneud. Ac mae mwy i ddod wrth i ni symud i chwarter olaf y flwyddyn ariannol. Dirprwy Lywydd, mae wedi bod yn daith hir i adfer perfformiad ac i ddiwygio gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio ers diwedd y pandemig. Mae cynnydd y flwyddyn ddiwethaf wedi'i gyflawni yn erbyn cynnydd mawr yn y galw am ofal eilaidd. Cyfanswm nifer yr atgyfeiriadau i ofal eilaidd ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Tachwedd oedd 1.67 miliwn. Roedd y gyfradd atgyfeirio dros y flwyddyn ddiwethaf 7.1 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Pan wnes i ymrwymo i dorri amseroedd aros hir, fe wnes i hefyd ymrwymo i weithio gyda'r GIG i ailosod y system, i greu gwasanaeth mwy cynaliadwy i wella mynediad at driniaeth yn y tymor hir. Ar hyn o bryd, mae tua 30 y cant i 40 y cant o lwybrau wedi cau ar ôl yr apwyntiad cleifion allanol cyntaf. Mae hynny'n dweud wrthym nad oedd angen atgyfeirio nifer fawr o bobl i'r ysbyty ac y gellid bod wedi gofalu amdanynt mewn ffordd well. Felly, rydym yn ymestyn cyllid cenedlaethol i gryfhau'r broses atgyfeirio integredig Cymru gyfan, ac rydym yn symud hyd yn oed mwy o ofal ac adnoddau i'r gymuned, felly mae mwy o ddewisiadau eraill heblaw atgyfeirio i ysbyty. Dylai gofal eilaidd fod ar gyfer y bobl hynny sydd angen arbenigedd arbenigol yn unig. Mae hyn yn egwyddor allweddol o'n polisi cymunedol trwy ddylunio.

Rydym ni wedi gweld beth y gellir ei gyflawni gan y diwygiadau llwyddiannus rydym ni wedi'u gwneud i ofal llygaid. Mae gwasanaethau optometreg gwell bellach ar gael yn eang ac yn rhwydd yn y gymuned, ac rydym yn gwneud yr un peth ar gyfer gwasanaethau clyw. Ond rydym ni'n mynd ymhellach, ac yn darparu hyd yn oed mwy o wasanaethau mewn cymunedau lleol. Rydym hefyd yn grymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain. Yn hytrach nag amserlennu apwyntiadau ôl-driniaeth yn rheolaidd, byddwn yn helpu pobl i ddweud eu dweud ynghylch a oes angen gofal dilynol arnynt, ac yn rhoi'r opsiwn iddynt drefnu apwyntiadau os a phryd y bydd eu hangen. Mae gennym eisoes ddau fodel—sylw yn ôl symptomau ac apwyntiad dilynol ar gais y claf—i gefnogi hyn. Bydd hyn yn helpu i ryddhau clinigau cleifion allanol er mwyn i hyd yn oed mwy o gleifion newydd gael eu gweld.

Mae cynnydd yn y system. Mae angen i bob bwrdd iechyd nawr fod cystal â'r perfformiadau gorau. Yn y canllawiau cynllunio cenedlaethol eleni, am yr ail flwyddyn, gosodais gamau gweithredu gorfodol ar gyfer y GIG i sicrhau eu bod yn cyflawni gwell cynhyrchiant, gan adeiladu ar argymhellion grŵp cynghori'r gweinidog. Rwyf wedi bod yn glir gyda'r GIG bod angen i ni sicrhau, er budd cleifion a'r cyhoedd, ein bod yn gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd ein gwasanaethau a sicrhau bod pob £1 yn cyfrif. Mae hwn yn gyfrifoldeb craidd i'r GIG, nid ychwanegiad. Rydym ni'n cefnogi hyn gyda £120 miliwn ychwanegol eleni i dorri amseroedd aros, ar ben y £170 miliwn rydym ni'n dal i ddarparu bob blwyddyn i helpu'r GIG i adfer ar ôl y pandemig.

Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, ni ellir darparu gwasanaethau'r unfed ganrif ar hugain gyda modelau gofal o'r ugeinfed ganrif. Ond mae yna rai enghreifftiau gwych o drawsnewid mewn sawl rhan o'n gwlad. Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn cyflawni o leiaf saith gweithdrefn cataract ar restr lawdriniaeth. Dyma un o'n galluogwyr allweddol ac mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae Cwm Taf Morgannwg wedi ad-drefnu ei wasanaethau orthopedig ar un safle. Mae wedi diogelu gwasanaethau, gwella effeithlonrwydd, dyblu nifer y cleifion y mae'n gallu eu gweld, a lleihau hyd yr arhosiad i'r cleifion hynny. Ond, unwaith eto, mae amrywiaeth ar draws Cymru, a lle nad oes cynnydd eto lle mae ei angen arnom, mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu.

Dangosodd yr adroddiad mesurau arbennig chwarterol diwethaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod wedi gwneud cynnydd mewn rhai meysydd, ond roedd hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch faint o amser mae pobl yn aros am ofal wedi'i gynllunio. Gofynnodd y cadeirydd a'r prif weithredwr i Lywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol i helpu i wella perfformiad gofal wedi'i gynllunio, ac rydym wedi camu i'r adwy gyda thîm o arbenigwyr i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd i ysgogi gwelliannau. Rwy'n disgwyl nawr i weld y bwrdd iechyd yn cyflawni ei gynlluniau ar gyfer gwella.

I gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed yn cyflawni'r apwyntiadau a'r triniaethau ychwanegol hynny, gan gynnwys ar benwythnosau a gyda'r nos, fel y gallwn sicrhau bod mwy o bobl yn cael gofal yn gyflymach? Diolch yn fawr.

15:40

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yna. Tybed a oes yma lygedyn o obaith? Dwi'n mawr obeithio hynny, oherwydd mae yn ein diddordeb ni i gyd, pob un ohonom ni, fod y rhestrau aros yn lleihau, er mwyn gallu neilltuo adnoddau prin a ffocws cyhoeddus ar yr achosion sydd wrth wraidd yr argyfyngau iechyd, yn hytrach nag ar y symptomau.

Felly, mae'r mymryn o gynnydd sydd i'w weld i'w groesawu. Ond mae'n rhaid cadw persbectif, oherwydd mi ydym ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Ar ddiwedd 2023, fe welsom ni ostyngiadau bach tebyg yn y rhestrau aros bryd hynny. Fe roddodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, sef y Prif Weinidog erbyn hyn, sicrwydd ein bod ni wedi troi'r gornel. Ond, fel mae hanes yn dangos, fe ddilynwyd hynny gan bron i flwyddyn gyfan o'r rhestrau aros ar eu lefelau uchaf erioed. Ac er gwaethaf y cynnydd bach sydd wedi ei weld yn ddiweddar, y gwir ydy bod y rhestr aros gyffredinol yn dal i fod dros 50,000 yn uwch heddiw nag yr oedd pan lansiwyd y cynllun adfer gofal nôl ym mis Ebrill 2022.

Nid yw'r uchelgais i adeiladu nôl yn well ar ôl y pandemig wedi ei wireddu eto. I'r gwrthwyneb, mae'r rhestrau aros a'r ffaith bod gymaint o adnoddau wedi cael eu rhoi ar geisio mynd i'r afael â nhw wedi gwneud pethau'n anos i weddill y gwasanaeth iechyd. O ganlyniad, bydd y Llywodraeth nesaf yn etifeddu gwasanaeth iechyd sy'n fwy bregus, o dan fwy o straen, a chyda llai o hyder y cyhoedd nag erioed o'r blaen.

Ar yr un pryd, mae targedau ar gyfer profion, therapïau, triniaeth canser a dileu’r arosiadau hiraf wedi cael eu methu mor aml fel eu bod nhw bron yn ddiystyr. Felly, pa sicrwydd gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi i bobl Cymru fod y gwelliannau diweddar hyn yn rhai parhaol, ac nad enghraifft arall o obaith ffug ydy o?

Hefyd, mae rhan sylweddol o wariant Llywodraeth Cymru ar restrau aros, dros £1.5 biliwn yn ystod y Senedd yma, wedi mynd ar brynu capasiti gan y sector preifat. Yn achos Betsi Cadwaladr, mae hyn wedi arwain at drefniadau lle nad oes unrhyw staff clinigol y gwasanaeth iechyd yn gysylltiedig o gwbl â'r broses, sy'n codi cwestiynau difrifol am safonau gofal. Allwch chi gadarnhau faint yn union sydd wedi ei wario ar gapasiti'r sector preifat yn ystod y Senedd yma, ac a allwch chi warantu bod pob trefniant presennol yn bodloni safonau gofal y gwasanaeth iechyd?

Hefyd, mae angen cadw mewn cof mai llwyddiannau cymharol ydy'r rhain. Mae arosiadau dwy flynedd yn parhau'n llawer uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae'r gymhareb o gleifion i boblogaeth hefyd yn waeth. Fis Mehefin diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet fesurau i leihau'r rhestrau aros gan 200,000 erbyn Mawrth 2026, a fyddai'n dal i adael bron i 600,000 ar y rhestrau aros. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod llai na 20 y cant o'r gostyngiad hwnnw wedi'i gyflawni. Gyda Mawrth yn nesáu yn gyflym, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn dal yn hyderus y bydd yn cyflawni'r addewid yma? Os felly, beth yn union mae o am ei wneud er mwyn cyflymu'r broses?

Yn olaf, fel dwi wedi sôn sawl gwaith, symptom yn unig ydy'r rhestrau aros o broblem llawer ehangach: methiant y Blaid Lafur i ddiwygio ac i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol. Yn lle hynny, mae dibyniaeth ar atebion tymor byr, drud wedi arwain at lai a llai o fudd i gleifion, pwysau ar gyllidebau eraill ac esgeuluso iechyd y cyhoedd. Er tegwch i'r Ysgrifennydd Cabinet presennol, dwi'n credu ei fod yn deall y problemau yma, ond ei fod wedi cael ei siomi gan fethiannau ei ragflaenwyr i adeiladu system fwy cadarn sy'n cadw pobl yn iach, nid dim ond yn rheoli salwch. Ydy o felly'n cytuno bod angen i arweinydd nesaf ein Llywodraeth yng Nghymru dorri yn bendant ar y dull presennol, delio â'r argyfwng brys yn y rhestrau aros a chyflwyno strategaeth hirdymor er mwyn adnewyddu ein system iechyd?

15:45

Wel, mewn ymateb i gwestiynau Mabon ap Gwynfor, fy neges i staff y GIG ledled Cymru yw nad wyf yn rhannu'r gydnabyddiaeth grintachlyd a roddodd i'r cynnydd rydym ni wedi'i weld. Rwyf eisiau dweud ein bod yn croesawu'n gynnes y newid sylweddol yr ydym yn ei weld a'r gwaith y mae pobl yn ei wneud bob awr o'r dydd, gan gynnwys ar benwythnosau, i wneud y cynnydd yr ydym yn ei weld yn y system.

Rwyf am gymryd nifer o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn uniongyrchol, os caf i. Gwnaeth bwynt i ddweud nad yw'r system yn dal i weithredu ar lefel perfformiad cyn-COVID, nad ydym wedi dal i fyny, fel rwy'n credu ei fod yn ei ddweud, sef o ran lle roedden ni. Y gwir yw bod gweithgarwch cleifion allanol bellach 22 y cant yn uwch na'r lefelau cyn-COVID. Mae capasiti triniaeth 8 y cant yn uwch na'r lefelau cyn COVID. Felly, yr hyn rydym ni'n ei weld yw system sy'n gweithio'n galed iawn, yn erbyn lefelau anhygoel o alw, er mwyn rhoi ei hun yn ôl mewn sefyllfa o gydbwysedd, fel y gall cleifion gael eu trin yn rheolaidd yn llawer cyflymach.

Gwnaeth bwynt am y sefyllfa ar gyfer y Llywodraeth yn y Senedd nesaf, ac ni allwn beidio â chlywed yn ei lais ei fod yn mesur y llenni yn yr adran iechyd wrth i ni siarad, ond y gwir yw y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth yn y Senedd newydd yn—rwy'n credu iddo ddefnyddio'r gair 'etifeddu'—yn etifeddu gwasanaeth iechyd sy'n mynd yn ôl i sefyllfa o gydbwysedd oherwydd y gwaith rydym ni wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwnnw, gwneud yn siŵr bod gweithgarwch cleifion allanol ar gael mewn ystod llawer ehangach o leoliadau a chyfleoedd, a rhoi ar waith, gweithredu, y newidiadau hynny yr ydym yn gwybod y byddant yn gwneud y gwasanaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir. Dyna'r gwaith rydym ni'n gweld y gwasanaeth iechyd yn ei gyflawni ar hyn o bryd.

Gofynnodd gwestiynau pwysig am weithrediad allanoli i'r sector annibynnol. Mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn glir iawn, pan ydym yn gofyn i'r GIG wneud defnydd o gontract allanol o'r math hwnnw, mae hynny er mwyn cefnogi cynaliadwyedd y GIG cyhoeddus ac i ddarparu capasiti ychwanegol yn unol â strategaeth y GIG i'w gael yn ôl i sefyllfa o gydbwysedd. Rwy'n gwbl fodlon bod y trefniadau hynny'n darparu'r gofal y mae gan bobl yng Nghymru hawl i'w ddisgwyl. Gwnaeth bwynt penodol ynglŷn â threfniadau i reoli'r contractau hynny, ac rwy'n hapus fod y trefniadau hynny ar waith yn briodol.

Gofynnodd i mi beth rydym ni'n ei wneud i sicrhau bod ein targedau yn cael eu cyflawni. Rwy'n credu bod y datganiad a wnes heddiw yn nodi'n eithaf llawn y gwaith sydd eisoes ar y gweill. Mae'r targedau rydym ni wedi'u gosod ar gyfer byrddau iechyd yn glir iawn. Mae gennym gapasiti yn y system i'w cyflawni, ac rwy'n disgwyl iddynt gael eu cyflawni yn unol â'r amserlenni rydw i wedi bod yn eu gosod. 

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Byddai'n esgeulus i mi beidio â chanolbwyntio ar y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod yn annerbyniol ers rhy hir. Rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod bod angen gwneud mwy yno, fodd bynnag, mae'r sgandal data diweddaraf yn gamgymeriad arall mewn cyfres hir o drychinebau yn y bwrdd iechyd, ac mae pobl yn y gogledd yn haeddu gwell. Mae Betsi Cadwaladr wedi treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig nag unrhyw gorff GIG yn hanes y DU. Pa sicrwydd gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi na fydd y camgymeriad diweddaraf hwn yn digwydd eto? Ac a fydd ef a Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn gwrando ac yn lansio ymchwiliad annibynnol i'r bwrdd iechyd, gan ymrwymo i ddyddiad cyn yr etholiad? 

Nawr, er gwaethaf rhywfaint o welliant mewn rhai rhestrau aros, sy'n newid i'w groesawu, mae'n parhau i fod yn ffaith bod ein GIG yn amlwg mewn argyfwng. Ac nid bai ar y staff yw hyn. Mae hyn oherwydd methiant arweinyddiaeth, sydd wedi arwain at fethiant systemig. Edrychwch ar y data. Gosododd eich Llywodraeth darged o ddim un claf yn aros dros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ond ym mis Rhagfyr roedd 10,193 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy. Pan fydd un o bob naw claf yn aros am fwy na hanner diwrnod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ni allwch honni mai cynnydd yw hyn. Mae dyletswydd arnoch i roi atebion i gleifion.

Nid gwyriad annisgwyl y gaeaf yw hwn. Mae'n fethiant strwythurol, sy'n gweld ambiwlansys yn ciwio, adrannau damweiniau ac achosion brys yn orlawn, a gofal wedi'i gynllunio wedi'i ohirio. Perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys mis Rhagfyr oedd y gwaethaf mewn tair blynedd. Ysgrifennydd Cabinet, pa gapasiti uniongyrchol sy'n cael ei ystyried i godi'r perfformiad pedair awr uwchlaw 70 y cant a lleihau nifer y toriadau 12 awr? Mae'r hyn sy'n cyfateb i un o bob pedwar o Gymru yn dal i fod yn sownd ar restr aros y GIG, ac mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn eithaf rhyfeddol o ran yr arosiadau dwy flynedd. Rydym ni wedi clywed hyn sawl gwaith, ond yng Nghymru mae'n 6,883 o'i gymharu â dim ond 177 yn Lloegr. Mae hynny'n golygu eich bod 375 gwaith yn fwy tebygol o aros dros ddwy flynedd ar restr GIG Cymru nag ar un yn Lloegr.

Er enghraifft, mae'r arbenigedd cleifion allanol prysuraf yn GIG Cymru, offthalmoleg, yn unig yn cyfrif am un o bob wyth o gleifion ar y rhestr aros genedlaethol, ac mae un o bob 20 o bobl yng Nghymru yn dal i aros am apwyntiad offthalmoleg. Addawodd y Prif Weinidog, pan oedd hi'n Ysgrifennydd Cabinet, i ddileu arosiadau dwy flynedd erbyn mis Mawrth 2023, ac eto erbyn Mawrth 2024, ac rydych chi wedi newid y targed i oddeutu 8,000 erbyn gwanwyn 2025, ac rydym yn dal i fethu â'i gyflawni. Beth yw'r dyddiad cau caled nesaf, a beth sy'n digwydd os byddwch chi'n methu eto, Ysgrifennydd Cabinet, neu a yw hyn yn eithaf academaidd ar hyn o bryd?

Nid yw methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn anghyfleustra bach i bobl wrth iddynt aros yn unig; mae'n costio bywydau. Os ydych chi'n twrio y tu ôl i'r ystadegau pennawd hyn, mae'r darlun hyd yn oed yn fwy llwm. Nid yw targed Llywodraeth Cymru o 75 y cant o gleifion yn dechrau triniaeth canser o fewn 62 diwrnod wedi'i gyflawni unwaith. Mewn gwirionedd, mae'r data diweddaraf yn dangos mai ychydig dros hanner y cleifion sydd wedi dechrau eu triniaeth ar amser. Nid yw canser yn aros, eto, o dan Lafur, mae'r targed 62 diwrnod yn cael ei fethu fis ar ôl mis. Mae llawfeddygon yn rhybuddio mai gorludded yma yw'r uchaf yn y DU, ac mae mynediad i'r theatr wedi'i rwystro gyda methiant systemig. Ysgrifennydd Cabinet, ble mae'r cynllun ar gyfer llawdriniaeth ac oncoleg, a phryd fydd perfformiad theatr gwarchodedig ar waith? Ac Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau capasiti a chryfhau ein gweithlu yn y GIG? Oherwydd yn y pen draw, os ydym eisiau gweld canlyniadau, mae angen i ni weld llawer mwy o fuddsoddiad yn ein gweithlu a'n cydnerthedd, nid yn unig er budd y cleifion ledled Cymru, ond hefyd er budd ein staff GIG sy'n gweithio'n galed. Diolch.

15:50

Wel, o blaid sy'n bwriadu pleidleisio yn erbyn mwy o arian i'r GIG y flwyddyn nesaf, dyna gyfres sylweddol o bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u cyflwyno i mi. Pe bai'n credu bod y materion hynny'n ddilys, byddai'n pleidleisio dros y gyllideb y prynhawn yma i ddarparu arian pellach i'r GIG yng Nghymru, felly rwy'n credu bod hynny'n siarad drosto'i hun, mae gen i ofn. Ond fe gymeraf rai o'r pwyntiau y mae wedi'u gwneud i mi yn uniongyrchol.

Mae'n iawn i ddweud nad yw'r sefyllfa yn y gogledd yn dderbyniol o bell ffordd. Ni fydd wedi fy nghlywed yn amddiffyn y sefyllfa honno ar unrhyw adeg ers i mi fod yma, ond mae'n bwysig cydnabod lle ceir cynnydd dylid cydnabod hynny. Bu cynnydd, hyd yn oed yn y gogledd, lle mae heriau o hyd—byddwn i gyd yn derbyn hynny—gostyngiadau sylweddol yn yr arosiadau hiraf dros y flwyddyn ddiwethaf, ac fel y dywed ef ei hun, nid yw hynny'n ymwneud â data, mae hynny'n ymwneud â chleifion unigol yn cael eu gweld yn gyflymach. Mae llawer, llawer pellach i fynd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y cynnydd hwnnw hefyd.

Gwnaeth bwynt pwysig am ddata. Byddai wedi gweld y datganiad a wnaed ychydig wythnosau yn ôl mewn perthynas â hynny. Mae'r mater wedi'i ddatrys, mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi, maen nhw'n cael eu diweddaru, maen nhw bellach ar gael. Mae gwersi i'w dysgu, yn sicr, o hynny, a byddaf yn cyhoeddi adroddiad, gobeithio yn fuan, a fydd yn nodi casgliadau'r broses. Ond mae'r mater ei hun, a oedd bob amser yn ymwneud â data, nid am ofal cleifion, wedi'i ddatrys.

Mewn perthynas ag adrannau damweiniau ac achosion brys, nid wyf yn credu y byddwn i'n derbyn y ffordd y mae'r Aelod yn nodweddu'r rheini. Mae yna bobl yn aros yn llawer rhy hir yn rhai o'n hadrannau damweiniau ac achosion brys, mae hynny'n wir, ond mae'r amser canolrifol i bobl sy'n aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn llai na thair awr—dwy awr a 56 munud. Nawr, byddai'r rhan fwyaf ohonom eisiau i hynny fod yn fyrrach, ond dyna'r amser canolrif. Ni ddylai pobl orfod aros am 12 awr neu fwy, ond nid yw hynny'n wir am brofiad y rhan fwyaf o bobl o gwbl, ac rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, pan fyddwn yn siarad am y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, bod gennym y ffeithiau hynny fel sail i'r drafodaeth.

Soniodd am ambiwlansys yn ciwio y tu allan i ysbytai. Eleni, mae nifer yr oriau a gollwyd yng nghefn ambiwlans hanner yr hyn yr oedd yn y flwyddyn flaenorol. Roedd criwiau ambiwlans yn gallu trosglwyddo cleifion yn ddiogel i adrannau brys ddwywaith mor gyflym ag yr oeddent y flwyddyn flaenorol, oherwydd mae'r GIG wedi bod yn cynllunio mewn ffordd ragweithiol iawn i gyrraedd y targed hwnnw. Yn amlwg, mae gwaith i'w wneud eto hefyd, ond rwy'n credu nad yw'r ffordd roedd yn nodweddu hynny yn gwneud cyfiawnder â gwaith y gwasanaeth ambiwlans a staff mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru.

Y targedau a gefais fy herio yn eu cylch yw targedau'r Llywodraeth o hyd, ac ymatebais i Mabon ap Gwynfor ynglŷn â'r capasiti yn y system, y cynlluniau yn y system a'r amserlenni rwy'n disgwyl y byddant yn eu bodloni wrth eu cyflawni.

Gofynnodd i mi am fuddsoddiad mewn gwasanaethau canser i gefnogi gwelliant yn y gwasanaethau hynny. Mae gennym ganolfan ganser newydd yn Felindre yn cael ei chyflwyno yn y gwanwyn, uned radiotherapi lloeren wedi'i hagor yn Ysbyty Nevill Hall, cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer sganiwr PET sefydlog ar gyfer Ysbyty Singleton, trydydd sganiwr sefydlog yng Nglan Clwyd, a dros £5 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn cyfleusterau cynhyrchu radiofferyllol newydd o'r radd flaenaf yng Nghasnewydd. Felly, ystod o fuddsoddiadau yn y system, ynghyd â'r diwygiadau y bydd yn ymwybodol ohonynt i arweinyddiaeth yn y maes canser a'r diwygiadau i'r llwybr canser, a gwelliannau o ran data canser.

15:55

Rwy'n credu bod angen i ni rannu gobaith ar gyfer pobl sy'n aros ar restrau aros. Mae trigolion yn y gogledd wedi dweud wrthyf am lawdriniaethau pen-glin, llawdriniaethau llygaid ac apwyntiadau orthodontig sydd wedi cael eu dwyn ymlaen. Mae rhaglenni ESCAPE-pain a'r cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol wedi bod yn fuddiol iawn, yn ogystal â thargedu ffisiotherapi i helpu eu hadferiad. Dywedwyd wrthynt hefyd—. Dywedodd un claf wrthyf y dywedwyd wrtho mai'r cyllid ychwanegol sydd wedi mynd i'r system sy'n gwneud gwahaniaeth. Ond a allech chi nodi pa ymyraethau wedi'u targedu sy'n cael eu rhoi ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddod â rhestrau aros i lawr yno, fel eu bod yn unol ag ardaloedd eraill? Diolch.

Oes, yn sicr. Mae yna gyllid ychwanegol, yr ydym wedi'i ddarparu, i gefnogi gwelliannau mewn gofal wedi'i gynllunio. Rydym wedi darparu cymorth drwy swyddogaeth Perfformiad a Gwella GIG Cymru, sef gweithrediaeth y GIG sydd newydd ei diwygio, sy'n canolbwyntio ar helpu byrddau iechyd i wella perfformiad yn y modd hwn. Rydym wedi cefnogi'r bwrdd iechyd gyda gweithgarwch caffael, fel y gallant wneud yn siŵr bod y capasiti allanol sydd ei angen arnynt ar gael er mwyn cefnogi eu gwaith i leihau rhestrau aros. Dywedont wrthym, ar ddiwedd y llynedd, y byddent yn gwerthfawrogi cefnogaeth ychwanegol ar gyfer rhai o'r meysydd sy'n arbennig o heriol, felly fe wnaethom gytuno, fel Llywodraeth, i roi tîm i weithio gyda'r bwrdd, gyda'r uwch dîm gweithredol, i ganolbwyntio ar feysydd sydd wedi bod yn arbennig o heriol—gofal wedi'i gynllunio, mewn rhai rhannau, yw un o'r meysydd hynny; mae rhai agweddau ar ofal brys ac argyfwng yn un arall. Mae'r tîm hwnnw wedi mynd i mewn yn ystod yr wythnosau diwethaf a bydd yn gweithio gyda'r uwch dîm gweithredol. 

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chydnabod lle mae pobl yn cael profiad da. Mae gen i amrywiaeth o straeon cleifion, yr wyf yn hoffi tynnu arnynt o bryd i'w gilydd, oherwydd mae'n dangos beth yw profiadau pobl. Mae nifer o'r rhain yma yn ardal Betsi Cadwaladr, yn sôn am y gefnogaeth a gawsant wrth aros am lawdriniaeth i golli pwysau ac felly gallu bod yn ffit ar gyfer llawdriniaeth pan ddaeth yr amser hwnnw. Felly, mae cefnogi cleifion wrth iddynt aros am lawdriniaeth yr un mor bwysig â chyflymu'r amseroedd aros hynny.

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Hoffwn siarad ar ran pobl Powys. Byddwch yn gwybod am y problemau mewn perthynas â gofal trawsffiniol. Yn flaenorol, roeddem yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth gwasanaethau a oedd ag amseroedd aros byrrach yn ysbytai Lloegr. Rydym wedi arfer mynd draw i Henffordd, yr Amwythig a Telford, ar draws Powys, er mwyn cael ein triniaeth. Mae'n eithaf creulon bod pobl yn clywed bod yr arosiadau a addawyd iddyn nhw'n wreiddiol yn cael eu hymestyn nawr i gyd-fynd â'r rhestrau aros yng Nghymru.

Rydw i wedi clywed gan un ddynes, a aseswyd fel achos brys gan ei llawfeddyg, sy'n dal i aros ar ôl mwy na dwy flynedd bellach. Byddaf yn hapus i ysgrifennu atoch chi ar hynny, a'r bwrdd iechyd. Rydym wedi ysgrifennu atoch chi, Russell George a minnau, i ofyn i chi am yr arian sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i adfer y trefniant hwnnw. Rydw i hefyd yn ysgrifennu at y byrddau iechyd lle mae'r ysbytai, oherwydd mae rhywfaint o wybodaeth y mae cleifion yn ei rhoi i mi yn dweud bod yr ysbytai hynny'n dal i barhau â'r rhestrau aros oedd ganddynt. Tybed, Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi wneud sylwadau ar y materion hynny, os gwelwch yn dda, fel y gwnaethoch chi, rwy'n gwybod, o'r blaen, ond yn enwedig y £10 miliwn yr ydym yn gwybod bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dweud wrthym y mae ei angen er mwyn iddynt allu adfer y rhestrau aros hynny. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r Aelod yn gwneud dau bwynt ar wahân, rwy'n meddwl. Yn sicr, mae yna gleifion yn aros yn hirach na tharged Cymru o ddwy flynedd mewn ysbytai yn Lloegr. Mae gennym gleifion sydd yn y sefyllfa honno, fel yr ydym wedi trafod o'r blaen yma. Dydw i ddim eisiau gweld unrhyw un yn aros mor hir, ble bynnag maen nhw'n cael eu trin.

Mae'r ail bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud rwy'n credu yn fwy heriol i bob un ohonom. Mae'r ddadl y mae hi'n ei wneud—gwn nad dyma'r bwriad—yn cael yr effaith hon: mae gan gleifion yng Nghymru hawl i gael eu trin o fewn yr amserlenni y mae'r Llywodraeth yn eu nodi; mae hi'n gofyn, yn y bôn, am ddarparu cyllid ychwanegol i un bwrdd iechyd sy'n darparu lefel wahanol o wasanaeth o gymharu â phob claf arall yng Nghymru. Yr her rydw i'n ei wynebu fel Ysgrifennydd Iechyd yw her o gydraddoldeb. Fy rôl, rwy'n credu, yw gwneud yn siŵr bod pob claf yng Nghymru yn gallu disgwyl cael y driniaeth o fewn yr un safon. Rwy'n credu mai'r her yn y ddadl y mae hi'n ei rhoi i mi yw y byddai angen i mi gymryd yr arian o fwrdd iechyd arall i'w ddarparu i fwrdd iechyd Powys i ddarparu lefel wahanol o wasanaeth i Bowys. Rwy'n gwybod nad dyna'r bwriad yn ei dadl, ond dyna yw'r effaith. Yr hyn rydw i eisiau ei weld yw gwasanaeth sy'n darparu tegwch i bobl ym mhob rhan o Gymru, fel y gellir gweld pawb yng Nghymru o fewn yr un amser targed. Dyna beth rydym ni'n gweithio tuag ato, ac rwy'n gobeithio y gall weld o'r datganiad heddiw bod y gwasanaeth yn gwneud camau go fras i'r cyfeiriad hwnnw.

16:00

Yn eich datganiad, dywedoch chi fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fwy i'w wneud o hyd yn y gogledd i gyflawni ei gynllun i ostwng amseroedd aros hir, ond bod cynnydd wedi bod yma hefyd. Dywedodd uwch glinigwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthyf bythefnos yn ôl, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, bod y bwrdd iechyd unwaith eto yn comisiynu clinigwyr yn breifat o rannau eraill yn y DU i ddarparu clinigau gyda'r nos a phenwythnos gan ystwytho dros dro y ffigurau rhestr aros a oedd yn codi cywilydd gwleidyddol. Rydw i wedi mynychu un o'r clinigau hynny fy hun ar fore Sadwrn. Yn hytrach nag ymateb yn adweithiol i argyfwng, oni fyddai'n well gwneud hyn yn agored ac yn rhagweithiol er mwyn atal yr argyfyngau rhag digwydd yn y lle cyntaf?

Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn deall y cwestiwn. Y ffocws sydd gan y Llywodraeth, fel yn achos y bwrdd iechyd yn y gogledd, yw sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am gefnogi'r bwrdd iechyd i wneud hynny a herio'r bwrdd iechyd lle nad yw hynny'n digwydd. Rwy'n siŵr bod eich etholwyr eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl ar gyfer y triniaethau sydd eu hangen arnynt. Dyna beth rydym ni'n ei ddisgwyl fel Llywodraeth a dyna beth mae'r bwrdd iechyd yn gweithio arno er mwyn ei gyflawni.

Er ein bod wrth gwrs yn croesawu unrhyw welliant, rwy'n credu bod llawer yn dal i aros hyd at ddwy flynedd. Rwy'n credu ein bod ni ymhell o fod mewn sefyllfa i guro ein cefnau oherwydd y gwelliannau a wnaed pan fo llawer o bobl yn dal i aros ychydig o dan y ddwy flynedd. Pam ydych chi'n meddwl mae rhestrau aros yn dod i lawr yn gynt o lawer mewn rhannau eraill o'r DU? Pa wersi allwn ni eu dysgu o hynny, gan wrth gwrs, cadw popeth am ddim adeg eu defnyddio? Hefyd, gan ehangu ar bwynt Jane ar y sefyllfa drawsffiniol, sut allwn ni'n wirioneddol fynd i'r afael â honno ac ymdrin â honno a gwneud y mwyaf ohoni ar gyfer pobl Cymru? Ie, rydych chi'n dweud y byddai hynny'n gwella'r driniaeth i'r rhai ar y ffin yn unig, ond yn sicr byddai hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno a byddai'n ddefnyddiol. Hefyd, pam nad ydym yn defnyddio ysbytai cymunedol yn fwy aml? Diolch.

Mae'r Aelod yn gwneud cymariaethau â rhannau eraill o'r DU; bydd hi'n cofio bod y GIG yn Lloegr yn dathlu gostyngiad o 86,000, rwy'n credu, yn eu rhestrau aros ym mis Tachwedd y llynedd, a oedd hefyd yn record. Gyda phoblogaeth llawer llai yng Nghymru, gallwn ddweud bod dros 24,000 o bobl yn dod oddi ar y rhestr. Felly, rwy'n credu, ar sail gymesur, bod hynny'n dangos system sy'n cyflawni hyd yn oed mwy yma yng Nghymru. Yr hyn a byddaf yn ei ddweud wrth yr Aelod, er fy mod wedi clywed y cyfeiriad pro forma yn ei chwestiwn at y gwasanaeth iechyd yn wasanaeth rhad ac am ddim ar adeg ei ddefnyddio, yw nad oes neb yn credu mai dyna bolisi Reform. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod pawb sy'n aros am driniaeth yng Nghymru o leiaf yn gwybod na fydd yn rhaid iddyn nhw dalu amdano pan ddaw eu hamser.

Llongyfarchiadau i chi a phawb sydd wedi bod yn rhan o'r newid anhygoel hwn. Mae cael llai nag 1 y cant o bobl yn aros dros ddwy flynedd yng Nghaerdydd a'r Fro yn wirioneddol wych.

Rwyf eisiau edrych ar eich ffocws manwl ar berfformiad. Un o'r meysydd lle mae fy etholwyr yn dal i orfod aros mwy na dwy flynedd yw i weld wrolegydd, sy'n wael iawn o'i gymharu â Bae Abertawe, er enghraifft. Un ohonynt yn arbennig, trin cerrig ar yr arennau, sy'n dal i olygu gorfod mynd at yr wrolegydd ymgynghorol, er ein bod yn gwybod bod y driniaeth ar gyfer cerrig ar yr arennau—ac maen nhw'n gleifion arbenigol, oherwydd eu bod wedi bod yn profi hyn ers blynyddoedd lawer—yn rhywbeth o'r enw lithotripsi, sydd yn y bôn yn cael ei gyflawni gan radiolegydd. Ond nid yw'r peiriant yn bodoli yng Nghaerdydd a'r Fro, ein hysbyty trydyddol. Mae'n rhyfeddol iawn, ac rydw i ond eisiau deall hynny.

Yn ail, pan fynychais raglen enghreifftiol Bevan, sy'n wych, ddydd Iau, dysgais y bydd 30 y cant o'r holl bobl sy'n cael strôc yn profi un arall o fewn pum mlynedd, a phe bai ni'n gallu cyflawni ymyrraeth sylfaenol wedi'i dargedu, gallem arbed £46,000 i ni'n hunain, dim ond trwy atal dwy strôc y flwyddyn. Mae hynny'n llawer o amser nyrs y gellid ei arbed. Felly, meddwl oeddwn i tybed faint o sylw y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r gwaith gwych sy'n digwydd yn rhaglen enghreifftiol Bevan i sicrhau ei bod yn destun prif ffrydio.

16:05

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gobeithio na fydd ei hetholwr yn aros am ddwy flynedd am y driniaeth y cyfeiriodd ati, ond os yw hi eisiau ysgrifennu ataf ar wahân ar hynny, byddwn i'n hapus iawn i edrych ar hynny. Nid dyna fy nealltwriaeth o'r perfformiad yn y bwrdd iechyd yn gyffredinol, ond rwy'n hapus i edrych ar fanylion y pwynt y mae hi'n ei wneud i mi.

Mae hi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut mae'r GIG yn gallu darparu gwasanaethau mewn ffyrdd mwy arloesol neu ddatblygu llwybrau sy'n darparu'r mathau o fanteision y mae ei chwestiwn yn cyfeirio atyn nhw yn gynnar yng nghyd-destun strôc yn benodol. Mae gwaith Comisiwn Bevan a'r prosiectau enghreifftiol yn dystiolaeth dda iawn o'r ffaith nad heriau o ran adnoddau yw'r heriau weithiau, maen nhw'n heriau o ran dull gwahanol a dull mwy creadigol o sicrhau bod yr adnoddau presennol yn y system yn cael eu defnyddio'n fwy effeithiol ac mewn ffordd fwy ataliol. Rwy'n credu ein bod ni'n gweld, o ganlyniad i'r ffocws y mae'r Llywodraeth wedi'i roi ers nifer o flynyddoedd nawr ar bwysigrwydd arloesi—mae'r cyllid rydyn ni wedi'i ddarparu ers blynyddoedd lawer i Gomisiwn Bevan yn un enghraifft o hynny—bod gwasanaethau'n gwella. Fe wnes i restru rhai ohonyn nhw yn fy natganiad.

Rwy'n credu bod tipyn o ffordd i fynd eto i wneud yn siŵr bod yr arfer da rydyn ni'n ei weld mewn gwasanaethau ym mhob bwrdd iechyd yn cael ei nodi'n gyflymach, yn cael ei ddatblygu, yn cael ei ledaenu ac yn cael ei ddosbarthu mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn gyflymach. Rwy'n credu y gall yr her o wneud hynny fod yn her o ran y pwysau ar y system weithiau, ond y pwynt sylfaenol, fel y nodais yn fy natganiad, yw na all hyn fod yn ychwanegiad. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r gweithgaredd craidd, y busnes craidd, cyfrifoldeb craidd y GIG, ac wrth sicrhau hynny y byddwn ni'n gweld y cynaliadwyedd y mae angen i ni ei weld yn y gwasanaeth yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rydyn ni wedi cael y broblem hon o ran dilysu data o'r blaen. Rwy'n gwybod o fy ngwaith achos fy hun bod gen i gyn-filwr yn fy etholaeth i sydd wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am lawdriniaeth ar ei glun. Felly hoffwn ofyn i chi a allech chi wirio rhai o'r ffigurau y mae'r byrddau iechyd wedi'u rhoi i chi i wneud yn siŵr eu bod yn gywir. Hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi amlinellu heddiw—? Ydy, mae'n dda bod rhestrau aros wedi dod i lawr, ond a wnewch chi amlinellu faint o bobl sydd wedi gadael y rhestr aros honno o'u gwirfodd, naill ai oherwydd eu bod wedi mynd yn breifat neu am ryw reswm arall, a faint o bobl sydd wedi marw wrth aros hyd at ddwy flynedd am driniaeth?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt am arosiadau o ddwy flynedd. Wnes i ddim dweud ar unrhyw adeg nad oes neb yng Nghymru heddiw yn aros am fwy na dwy flynedd, felly does dim cwestiwn data. Rwyf wedi nodi'r niferoedd, ac maen nhw'n gywir, maen nhw'n cael eu dilysu, ac maen nhw'n cael eu profi gan ystadegwyr sy'n annibynnol ar y Llywodraeth. Mae yna broses, y bydd yn ei gwerthfawrogi, sydd yno i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gallu dibynnu ar y ffigurau hynny. Ond mae'r rheini—[Torri ar draws.] Mae'n herio ar ei eistedd. Rwy'n ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd pan oedd ar ei draed. Y pwynt yw y bydd cleifion ym Mhowys yn cael eu trin mewn nifer o wahanol ardaloedd byrddau iechyd. Rwyf wedi dweud wrth yr Aelod bod y system ar y trywydd i ddileu arosiadau o ddwy flynedd. Os oes ganddo fater y mae'n credu y gallwn i helpu ag ef yn benodol, yna rwy'n fwy na pharod, os bydd yn ysgrifennu ataf, i ymdrin â hwnnw.

O ran y cwestiwn ynghylch pobl yn gadael o'u gwirfodd, bydd pobl yn dal i fod yn aros yn rhy hir hyd yn oed os nad ydyn nhw'n aros am ddwy flynedd, wrth gwrs. Yr hyn rydw i eisiau ei weld yw nad oes neb yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r sector preifat am driniaeth. Dylen nhw allu aros ar y rhestr aros a chael gofal mewn modd amserol. Yr hyn rydyn ni'n ei weld, rwy'n credu, fel rydw i wedi ceisio ei amlinellu yn fy natganiad, yw system sy'n gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Rydyn ni'n gweld cynnydd gwirioneddol wrth gyrraedd y targedau hynny, ac rwy'n gwybod y bydd ef eisiau croesawu hynny.

5. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2026-27

Eitem 5 yw'r ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru 2026-27. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet Dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.

16:10

Cynnig NDM9117 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2026-27 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac

c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i'r elfen incwm nad yw'n gynilion nac yn ddifidendau y mae trigolion Cymru yn ei ennill. Rhagwelir y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn codi bron i £4 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly maen nhw'n elfen hanfodol o'r ffordd y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd cyfraddau arfaethedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft ym mis Hydref. Bydd y penderfyniad hwn ar y cyfraddau, os cytunir arno, yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae datganoli treth incwm wedi arwain at gynnydd sylweddol yn yr adnoddau sydd ar gael i'r Senedd hon. Y disgwyl yw y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn gwneud cyfraniad net cadarnhaol o £2.7 biliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ystod degawd cyntaf datganoli.

Yn 2026-27 yn unig, mae cyllideb Llywodraeth Cymru £484 miliwn yn uwch nag y byddai wedi bod pe na bai treth incwm wedi'i datganoli. Ar ben hynny, mae'r sylfeini gweinyddol y mae'r cyfrifoldebau hyn yn cael eu cyflawni drwyddyn nhw yn ddiogel. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar weinyddu'r cyfrifoldebau hyn ac, fel y nodwyd yn adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae'r prosesau a'r trefniadau llywodraethu cadarn gyda CThEF yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer casglu a gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon, nawr ac yn y dyfodol.

Ond nid yw datganoli cyllidol yn sefyll yn ei unfan. Yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd, mae datganoli cyllidol pellach yn cael ei gynnig, gan drosglwyddo i'r Senedd y gallu i osod cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer incwm o eiddo. Bydd yna gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar 3 Chwefror i'r Senedd drafod y cymalau perthnasol yn y Bil Cyllid (Rhif 2). 

Dirprwy Lywydd, mae cyfraddau treth incwm Cymru yn darparu cyfraniadau sy'n hanfodol i'r gyllideb a fydd yn cael ei thrafod yn ddiweddarach y prynhawn yma. Dim ond i fod yn glir, mae pleidlais yn erbyn y cynnig hwn yn bleidlais i leihau cyllideb y flwyddyn nesaf o £3.8 biliwn. Dyna pam rydyn ni'n gofyn i'r Senedd gytuno heddiw ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru, a fydd yn gosod cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.

Diolch Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n myfyrio, bron i ddegawd ers i ni gael pwerau i godi trethi am y tro cyntaf, ar pam ei bod yn bwysig bod y pwerau hyn yn cael eu datganoli a'r manteision sy'n dod i Gymru. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, Ysgrifennydd Cabinet, mae £484 miliwn yn sylweddol, ac mae'r swm a godwyd wedi gwneud gwahaniaeth. Pan fydd rhai pobl yn gwrthwynebu datganoli ac yn bychanu Cymru'n gyson, mae'n bwysig ein bod ni'n sylweddoli pam ein bod ni'n galw am y pwerau hyn a'r gwahaniaeth y gallan nhw ei wneud i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'r arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Ond mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng llwyddiant CTIC o ran codi refeniw a'r ffordd y'u defnyddir fel ysgogiad polisi cyllidol y Llywodraeth. Oherwydd o ran y pwynt olaf, mae'n amlwg bod CTIC yn parhau i fod, i bob pwrpas, yn addurniadol yn unig, yn hytrach nag yn ymarferol, gan nad ydyn nhw erioed wedi cael eu defnyddio ers eu cyflwyno. Ac mae'n debygol y bydd hyn yn parhau i fod yn wir cyn belled â bod y Senedd yn rhwymedig i fandiau treth sy'n cael eu penderfynu'n llwyr gan San Steffan, heb i ni ddweud ein dweud, ac yn gwbl anaddas i natur ein sylfaen dreth.

Weithiau, rydyn ni'n cael ein beirniadu pan fyddwn ni'n cymharu'r pwerau sydd gennym ni yma â rhai Senedd yr Alban, ond pan fyddwch chi'n cymharu, yn yr achos hwn, â'r Alban, y mae eu gallu i greu eu bandiau treth incwm eu hunain wedi caniatáu iddyn nhw gyflwyno fframwaith llawer mwy blaengar fel bod dros 50 y cant o'r boblogaeth gyfan yn talu llai o dreth incwm o gymharu â gweddill y DU, yna mae'n drafodaeth y mae'n rhaid i ni ei chael. Rydyn ni'n cael ein dal yn ôl, ac mae'n hen bryd dod â'r anghymesuredd cyfansoddiadol cwbl fympwyol hwn i ben.

Hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a oes unrhyw gynnydd wedi bod, oherwydd yn amlwg roedd Plaid Lafur y DU ym maniffesto yr etholiad cyffredinol wedi addo diwygio pensaernïaeth ariannol Cymru, ond mae angen y cydraddoldeb llawn hwnnw â Senedd yr Alban ar bwerau trethiant yn ddi-oed. Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y ddadl sydd ar ddod ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at graffu ymhellach ar y manylion perthnasol yn y fan yna. Felly, er nad yw'n mynd hanner mor bell ag y bydden ni'n ei hoffi, rydyn ni yn nodi trosglwyddo rhai o'r pwerau ychwanegol i adlewyrchu diwygiadau Llywodraeth y DU i dreth incwm eiddo. Bydd hyn o leiaf yn ehangu potensial y CTIC fel offeryn cyllidol ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru ac mae'n un cam ymlaen, ond mae angen llawer mwy.

16:15

Efallai na fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn synnu o glywed na fyddwn ni'n cefnogi cynnig y Llywodraeth ar dreth incwm, oherwydd rydyn ni'n credu ac rydyn ni o'r farn ei bod yn iawn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl drwy dorri cyfradd sylfaenol y dreth incwm 1c, gan arbed bron i £500 y flwyddyn i'r teulu cyffredin yng Nghymru, gan roi dewis iddyn nhw ynghylch ble i wario mwy o'r arian y maen nhw wedi gweithio'n galed amdano. Byddai toriad fel hyn i'r dreth incwm yn costio ychydig dros 1 y cant o gyllideb £36 biliwn Llywodraeth Cymru, a byddai modd ariannu'r buddsoddiad hwn yng nghyllidebau teuluoedd drwy arbedion effeithlonrwydd yn adrannau Llywodraeth Cymru, gan barhau hefyd i ddiogelu cyllid ar gyfer iechyd, ysgolion a ffermio ar yr un pryd.

Rwy'n clywed gan lawer o fy etholwyr bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwastraffu arian trethdalwyr ym mhobman. O gynlluniau gwyrdd gwywedig i daliadau setliad sylweddol, maen nhw wedi gwastraffu cannoedd o filiynau o bunnoedd ar brosiectau porthi balchder, yn amrywio o'r terfyn cyflymder diofyn 20 mya i ddiwygiadau chwyddedig y Senedd. Mae'n amlwg mai cyfeiriad teithio Llafur a Phlaid Cymru yw codi trethi, gan roi pwysau ar deuluoedd, gweithwyr a busnesau, ac weithiau, yn ei dro, darparu gwasanaethau gwaeth. Mae safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yn wahanol i hynny, ac rydyn ni'n annog pob Aelod i beidio â chefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw.

Byddwn i'n dweud yn hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn a ddywedodd Sam Rowlands: rwy'n annog pob Aelod i gefnogi hyn heddiw. Rwy'n cefnogi cadw'r gyfradd Gymreig at ddibenion cyfrifo'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm ar 10c yn y bunt, y gyfradd Gymreig at ddibenion cyfrifo'r gyfradd uwch o dreth incwm ar 10c yn y bunt, a'r gyfradd Gymreig at ddibenion cyfrifo'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm ar 10c yn y bunt. Mae hyn yn golygu, yng Nghymru, pan fydd y gyfradd treth incwm yn cael ei hychwanegu at gyfradd San Steffan, bod gyda ni, yn y pen draw, gyfradd sylfaenol o 20 y cant, yr un fath â Lloegr a Gogledd Iwerddon; cyfradd uwch o 40 y cant, yr un fath â Lloegr a Gogledd Iwerddon; a chyfradd ychwanegol o 45 y cant, yr un fath â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r cyfraddau Cymreig yn daladwy os ydych chi'n byw yng Nghymru am gyfnod hirach nag unrhyw le arall yn y DU yn ystod blwyddyn dreth. Pan fo'r cyfraddau yr un fath, does dim cymhelliant i gofrestru yng Nghymru nac yn Lloegr. Pan gafodd Senedd yr Alban ei sefydlu yn 1999 yn dilyn refferendwm datganoli, roedd gan Senedd yr Alban y pŵer i amrywio'r gyfradd treth incwm 3 y cant i'r naill gyfeiriad neu'r llall o'r cyfraddau a oedd yn berthnasol i weddill y DU. Cafodd y pŵer hwn ei awdurdodi yn benodol gan ail gwestiwn refferendwm 1997. Ni wnaeth unrhyw Lywodraeth yr Alban—SNP na Llafur—erioed ddewis defnyddio'r gyfradd amrywiol, gan adael cyfraddau treth yr un fath ag yr oedden nhw yng ngweddill y DU.

Mae cynyddu'r gyfradd yn codi arian ychwanegol. Yr amcangyfrif yw bod pob 1c sy'n cael ei hychwanegu at y gyfradd sylfaenol yn dod â £220 miliwn i mewn; pob 1c i'r gyfradd uwch, £33 miliwn; a phob 1c i'r gyfradd ychwanegol, £5 miliwn. Byddai hyn yn codi tua £300 miliwn y flwyddyn. Er y byddai'n anodd i drethdalwyr sylfaenol osgoi ei thalu, gallai trethdalwyr cyfradd ychwanegol symud i gael eu talu trwy incwm difidend neu drefnu eu bywydau fel eu bod yng Nghymru lai na hanner yr amser. Byddai hyn yn lleihau'r incwm disgwyliedig. Fel y gwnaeth yr Alban ei ddarganfod, os mai'r cyfan y gallwch chi ei wneud yw newid y gyfradd, nid yw'n werth ei wneud. Pe bai'r dreth incwm yn cael ei gostwng, byddai'r gwrthwyneb yn digwydd, a byddai cyllideb Cymru £300 miliwn yn llai. Yr hyn a fyddai'n gwneud gwahaniaeth yw datganoli incwm difidend, naill ai'n rhannol neu'n llwyr, neu'n well, trin incwm difidend fel treth incwm, wedi'i drethu ar gyfraddau treth incwm. Rwyf wedi dadlau dros wneud hynny'n barhaus, byddaf yn parhau i ddadlau dros wneud hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd yn digwydd yn y pen draw.

Diolch yn fawr iawn am y datganiad hwn. Byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn yn y bleidlais, ond roeddwn i eisiau codi rhai pwyntiau, a dweud y gwir. Ers chwe blynedd, mae'r Senedd hon wedi meddu ar y pŵer i amrywio treth incwm hyd at 10c yn y bunt, ond dydy'r pŵer hwnnw ddim wedi cael ei ddefnyddio yn y chwe blynedd hynny, hyd yn oed yn ystod rhai o'r setliadau cyllideb anoddaf y mae Cymru wedi'u hwynebu ers datganoli. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru, nid mewn ffordd wrthdrawiadol ond yn ddiffuant a chyda pharch: os nad yw'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnodau anoddaf, pryd fydden nhw'n cael eu defnyddio? Rydyn ni i gyd yn cydnabod—ac rydyn ni wedi clywed hyn—bod y fframwaith cyllidol presennol yn ddiffygiol iawn. Rydych chi hyd yn oed, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, wedi cydnabod bod y pwerau hyn yn destun cyfyngiadau difrifol a'u bod yn cyfyngu ar ein gallu i ddylunio system dreth sydd wir yn adlewyrchu anghenion Cymru. Ond er ein bod ni'n clywed hyn, mae gennym ni'r opsiwn i godi trethi yma yng Nghymru o hyd.

Rydyn ni, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, eisiau amrywio lefel y dreth incwm. Yn wahanol i'r Ceidwadwyr Cymreig, rydyn eisiau ei gynyddu, un geiniog yn y bunt, er mwyn ariannu gofal cymdeithasol. Rydyn ni'n credu, os yw pobl yn gwybod ble mae eu harian yn mynd, yna byddan nhw'n deall bod angen i ni i gyd gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a'r ffordd rydyn ni'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yw talu'r dreth honno. Byddai ein cynllun yn buddsoddi £234 miliwn i ehangu gofal yn y gymuned a chreu lleoedd gofal newydd neu well. Rydyn ni wedi bod yn agored ac yn onest, fel rydw i wedi'i ddweud. Mae cynnydd bach, dros dro o ddim ond ceiniog ar y dreth incwm yn gyfraniad cymharol fach gan y rhai sy'n gallu ei fforddio, ond byddai'n codi £353 miliwn—nid yw'n ddigon o hyd, ond byddai'n helpu. Er mwyn roi hynny mewn persbectif, mae hynny'n £2.86 yr wythnos y byddai nyrs yn ei roi. Buddsoddiad bach i unigolion, ond gwahaniaeth enfawr i'r rhai sy'n dibynnu ar ofal. Rwy'n credu bod pobl Cymru yn gallu deall a chefnogi datrysiadau teg pan fyddwn ni'n eu nodi'n glir.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â'r hyn y mae Heledd wedi'i ddweud hefyd. Fis diwethaf yn unig, mynegodd Llafur Cymru rwystredigaeth am y diffyg cynnydd gan San Steffan ar ddatganoli pellach. Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw gynnydd ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona, dim cynnydd ar ddatganoli Ystad y Goron, dim cynnydd ar ddiwygio fformiwla Barnett a dim cynnydd ar ddatganoli seilwaith rheilffyrdd. Mae hwn yn fater arall lle nad ydyn ni'n gweld unrhyw gynnydd—hynny yw, datganoli pellach er mwyn rhoi'r pwerau sydd eu hangen arnon ni i amrywio treth incwm ac i gael setliad cyllidol teg i Gymru. Felly, hoffwn glywed gennych, Ysgrifennydd Cabinet, gyda pharch, sut y byddwn ni'n sicrhau'r pwerau ychwanegol hynny a fydd yn sicrhau bod Cymru'n cael y cyllid teg sydd ei angen arni. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl.

Diolch i Mike Hedges am gadarnhau ei gefnogaeth i'r cynnig ar gyfraddau treth incwm Cymru ac am y pwyntiau pwerus y mae'n eu gwneud o ran incwm difidend. Roeddwn i'n ddiolchgar am gefnogaeth Jane Dodds i'r cynnig hefyd. Mae hi'n cyflwyno polisi ei phlaid ar gyfer cynnydd mewn treth incwm yng Nghymru. Aeth fy mhlaid at etholwyr Cymru yn 2021 gydag addewid i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru tra bod argyfwng COVID yn parhau a'r pwysau costau byw yn parhau i bwyso ar aelwydydd Cymru, a dyna'n union yr ydyn ni wedi'i gyflawni ym mhob blwyddyn o dymor y Senedd hon. Ac er bod gennym ni uchelgeisiau sy'n mynd y tu hwnt i ddatganoli incwm sy'n deillio o eiddo, rwy'n gobeithio y bydd hi'n cytuno ei bod yn arwydd cadarnhaol bod Llywodraeth y DU, ar ôl penderfynu ar y ffordd hon o weithredu, wedi penderfynu y byddai hefyd yn dymuno cynnig y pŵer hwnnw i'r Senedd ei hun. Dyna fydd diben y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol—a yw'r Senedd yn dymuno ymgymryd â chyfrifoldebau newydd yn y maes cyllidol—ac rwy'n gobeithio, pan fyddwn ni'n cael y drafodaeth honno, y bydd gennym ni gefnogaeth Jane Dodds i hynny hefyd.

Fe glywais i Sam Rowlands. Gadewch i mi ei gwneud yn glir i gyd-Aelodau na all ef gyflawni ei uchelgeisiau trwy bleidleisio yn erbyn y cynnig y prynhawn yma. Bydd pleidleisio yn erbyn y cynnig y prynhawn yma ddim yn symud y system un fodfedd tuag at y polisi a nodwyd ganddo. Yr unig beth y mae pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn yn ei gyflawni yw sicrhau y bydd £3.8 biliwn yn llai yn y gyllideb y bydd gofyn i Aelodau yma bleidleisio arni yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ac rwy'n eistedd yma, fel y mae eraill yn ei wneud, ac yn clywed dro ar ôl tro Aelodau Ceidwadol yn galw am fwy o wariant ar hyn a mwy o fuddsoddiad yn y llall, ac yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chyllido pethau eraill y maen nhw'n dweud bod angen eu hariannu. Ac eto, y prynhawn yma, mae'n debyg, maen nhw'n mynd i bleidleisio i gymryd £3.8 biliwn allan o'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y gwasanaethau y maen nhw'n dweud —ac rwy'n cytuno â nhw o ran hyn—y mae cynifer o ddinasyddion Cymru yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n ddewis anghyfrifol y bydd y Blaid Geidwadol yn ei wneud y prynhawn yma.

Yn olaf, a gaf i ddiolch i Heledd Fychan, Dirprwy Lywydd, am ei chyfraniad? Rwy'n cofio'n dda iawn y dadleuon ynghylch comisiwn Silk a Deddf Cymru 2017. Y cymhelliant i lawer yn y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar y pryd oedd y byddai datganoli pwerau cyllidol i'r Senedd yn fesur disgyblu. Byddai'n sicrhau y byddai'n rhaid i'r rheini a fyddai'n gwario'n anghyfrifol yng Nghymru yn y dyfodol fod yn ofalus o'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud, oherwydd pe bai ein polisïau economaidd ni yn methu â chael yr un llwyddiant eithriadol ag yr oedd eu rhai nhw yn ei gael yn Lloegr, bydden ni'n colli arian, ac felly byddai'n rhaid i ni fod yn fwy ofalus o ran ein huchelgeisiau. Yn wir, mae cyflawni'r cyfrifoldebau cyllidol hynny yn y Senedd hon yn arwain at bron i £0.5 biliwn ychwanegol yn y gyllideb eleni, nid llai. Rydyn ni wedi perfformio'n well na'n cymaryddion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a dyna pam mae datganoli yn stori llwyddiant, nid y stori achwyngar y gwnaeth Heledd Fychan ei beirniadu.

Nawr, fe amlinellais i'r pwerau ychwanegol y gallen ni eu cael o ran incwm sy'n deillio o eiddo, ond fe fydd cyd-Aelodau'n cofio, pan gyflwynwyd y cynnig ar gyfraddau treth incwm Cymru y llynedd, i mi ddweud y byddwn i'n comisiynu adolygiad allanol o'n pwerau treth incwm presennol. Mae ymchwilwyr o Sefydliad Fraser of Allander yn yr Alban, a ddewiswyd oherwydd bydden nhw'n dod â'r holl wybodaeth a'r profiad hwnnw o'r Alban, a Phrifysgol Bangor, yr arbenigwyr yn ein cyfrifoldebau cyllidol ein hunain, wrthi'n cwblhau eu hymchwil. Rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi'r adroddiad hwnnw cyn diwedd y tymor hwn, ac yna fe fydd hwnnw'n ddeunydd crai i'r Senedd nesaf benderfynu sut y bydden ni'n dymuno datblygu'r stori llwyddiant hon—oherwydd mae datganoli treth incwm yng Nghymru wedi bod yn stori llwyddiant—sut y gwnawn ni fynd â hynny ymhellach i'r dyfodol.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2026-27

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar gyllideb derfynol 2026-27, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM9118 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr unwaith eto. Mae'n bleser gen i osod cyllideb derfynol 2026-27 gerbron y Senedd heddiw. Hoffwn gychwyn drwy ddiolch i bawb yn y Senedd hon am gymryd rhan yn y broses o osod y gyllideb. Mae pob un o bwyllgorau craffu'r Senedd wedi gwneud gwaith manwl a phwysig sydd wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau. Wrth gwrs, mae nifer o'r Aelodau yma wedi bod yn rhan o drafodaethau i ddod i gytundeb ar y gyllideb. Mae hyn i gyd yn adlewyrchu diwylliant sydd wedi datblygu dros chwarter canrif o ddatganoli, diwylliant lle mae cydweithio'n golygu y gallwn ni gytuno ar flaenoriaethau a chyflwyno cyllideb derfynol ar y sail honno.

Ar gyfer cyllideb 2025-26, daethom i gytundeb gyda Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a hoffwn ddiolch iddi am barhau i drafod yn gadarnhaol gyda ni ar y gyllideb. Roedd y cytundeb hwnnw'n cynnwys cyllid hanfodol mewn meysydd allweddol fel gofal cymdeithasol, gofal plant a chyflwyno tocyn bws am £1 i bobl ifanc o 16 i 21 oed—cynllun sydd wedi bod mor llwyddiannus mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun i blant pump oed. Rydyn ni wedi gallu parhau â'r cyllid hwnnw, a llawer o'r elfennau eraill o'r cytundeb hwnnw, i 2026-27. 

Dirprwy Lywydd, mae trafodaethau gyda phleidiau eraill ar gyfer cyllideb 2026-27 wedi bod yr un mor bellgyrhaeddol. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am y ffordd adeiladol mae wedi trafod gyda ni eleni. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni wedi rhoi eglurder a sefydlogrwydd cynnar i lywodraeth leol a'r gwasanaethau iechyd drwy'r cytundeb cyllideb a wnaethom ni ei gyhoeddi fis Rhagfyr, cyn y Nadolig a chyn y ddadl ar y gyllideb ddrafft.

Dirprwy Lywydd, rwy'n troi nawr at brif fanylion y gyllideb derfynol a'r newidiadau sylweddol rhwng cyhoeddi'r gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol.

Dirprwy Lywydd, mae gennym ni fwy o arian i'w ddyrannu yn y gyllideb derfynol hon o ganlyniad i gyllid ychwanegol sy'n deillio o gyllideb y DU ym mis Tachwedd ac o gynnydd yn y refeniw treth datganoledig a ragwelir. Ynghyd â'r cyllid heb ei ddyrannu sydd wedi'i roi o'r neilltu yn y gyllideb ddrafft, mae hyn yn golygu ein bod ni wedi sicrhau cyllideb derfynol fwy uchelgeisiol sy'n ymdrin â rhai o'r materion a godwyd yn ystod y gwaith craffu a'r pwysau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.

Trwy'r cytundeb y daeth Llywodraeth Cymru iddo â Phlaid Cymru ar y gyllideb, mae £180 miliwn ychwanegol yn mynd i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG. Mae hyn yn golygu cynnydd o 3.6 y cant yn 2026-27. Mae'r cytundeb hefyd yn rhoi £112.8 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol, cynnydd o 4.5 y cant yn y setliad llywodraeth leol, gyda phob cyngor yn gweld cynnydd o fwy na 4 y cant. Roedd y cyd-destun ariannol heriol sy'n wynebu'r GIG a llywodraeth leol ymhlith y prif faterion a godwyd yn ystod y broses graffu. Roedden nhw hefyd yn ffocws allweddol yn fy nhrafodaethau â chyd-Aelodau ar draws y Siambr hon a chyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus.

Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdrin yn uniongyrchol ag argymhelliad cyntaf Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd: sicrhau cyllid ychwanegol i gynnal gwasanaethau craidd y GIG. Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer y setliad llywodraeth leol yn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod digon o adnoddau yn cael eu cyfeirio at awdurdodau lleol i sicrhau cyllid ychwanegol i ysgolion.

Nawr, y tu hwnt i'r cytundebau cyllideb hynny, y buddsoddiad newydd mwyaf yn y gyllideb derfynol yw'r £65 miliwn i gefnogi cynllun rhyddhad trosiannol ardrethi busnes yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn ni'n rhoi cyfanswm o £116 miliwn mewn cymorth ychwanegol i helpu busnesau gyda chostau ychwanegol ailbrisio ardrethi annomestig ym mis Ebrill. Mae hyn yn ychwanegol at y cynlluniau rhyddhad ardrethi parhaol presennol o £250 miliwn bob blwyddyn. O ganlyniad, bydd dwy ran o dair o fusnesau ddim yn talu unrhyw filiau ardrethi o gwbl neu'n cael rhyw fath o ryddhad. Y tu hwnt i hynny, o fis Ebrill, bydd lluosydd is hefyd yn dod i rym, gan leihau biliau ardrethi ar gyfer manwerthwyr brics a morter bach a chanolig.

Dirprwy Lywydd, rwy'n gwybod y bydd yna ddiddordeb yn y cynllun rhyddhad newydd i gefnogi tafarndai, a gyhoeddwyd yn gynharach y prynhawn yma gan y Canghellor yn San Steffan. Mae'r manylion wedi dod yn rhy hwyr i'w hystyried fel rhan o'r gyllideb derfynol, ac ni fydd lefel unrhyw gyllid canlyniadol yn cael ei chadarnhau y prynhawn yma. Yn y cyfamser, fodd bynnag, bydd bron i hanner yr holl dafarndai yng Nghymru yn elwa ar ryddhad ardrethi busnesau bach y flwyddyn nesaf, a bydd mwy na chwarter ddim yn talu unrhyw ardrethi o gwbl yma yng Nghymru yn barod.

Dirprwy Lywydd, ar ôl gwneud y dyraniadau mwy hyn, roedd swm bach o arian ar gael o hyd i gydnabod y meysydd pwysau a blaenoriaethau ar draws y Llywodraeth. Mae arian ychwanegol wedi'i ddarparu i adlewyrchu rhagolygon cyflog a chwyddiant y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol sydd wedi'u diweddaru: 2.2 y cant ar gyfer chwyddiant cyffredinol, a 3.2 y cant o dwf cyflog ar gyfer pob adran nad yw eisoes wedi'i hadlewyrchu yng nghytundeb y gyllideb. Mae hynny'n gyfystyr â £21.5 miliwn ychwanegol yn y gyllideb derfynol hon. Nododd y Pwyllgor Cyllid fod y cynnydd mewn chwyddiant sy'n cael ei ragweld yn bryder allweddol, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu ymdrin â'r pwysau hwn yn gyson ar draws pob adran.

Mae dyraniadau newydd eraill o refeniw a chyfalaf yn y gyllideb derfynol hon yn cynnwys £5 miliwn ychwanegol ar gyfer prentisiaethau, sy'n ymdrin yn uniongyrchol ag argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y dylen ni ystyried defnyddio arian heb ei ddyrannu i gefnogi'r sector prentisiaethau. Mae'r gyllideb derfynol hefyd yn golygu bod y buddsoddiad newydd mewn cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn dod i gyfanswm o £14 miliwn, gyda £5 miliwn arall y tu hwnt i hynny i gefnogi'r cynnydd yn nifer y dysgwyr mewn addysg. Mae'r prif wariant ar addysg hefyd yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf yn y gyllideb derfynol hon ar gyfer cynnal a chadw ysgolion a cholegau.

Dirprwy Lywydd, argymhellodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y dylid buddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau sy'n atal digartrefedd, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet i roi £2.6 miliwn ychwanegol at y dibenion hynny, sydd hefyd wedi'i adlewyrchu yn y gyllideb derfynol hon.

Mae hynt y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi bod yn gyflawniad mawr yn ystod blwyddyn olaf tymor y Senedd hon. Mae'r gyllideb derfynol hon hefyd yn cynnwys £6 miliwn ychwanegol mewn refeniw a £10 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer masnachfreinio.

Dirprwy Lywydd, fedraf i ddim rhestru bob esiampl o gyllid ychwanegol y prynhawn yma, ond hoffwn dynnu sylw at y £3.1 miliwn o gyfalaf ar gyfer y Gymraeg. Mae hyn yn bennaf er mwyn gwneud gwaith adnewyddu i safleoedd preswyl yr Urdd. Bydd hyn yn cynyddu'r cyfleon i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol.

Mae hefyd yn rhan o'n hymrwymiad i wneud adeiladau diwylliannol yn fwy effeithlon ac yn cefnogi gwell cynhyrchiant, ffocws arall y gwaith craffu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb derfynol.

Dirprwy Lywydd, gadewch i mi orffen drwy roi'r holl fanylion hyn yn eu cyd-destun ehangach. Mae pob cyllideb yn ddewis. Nid oes erioed wedi bod, ac ni fydd byth digon o arian i ateb yr holl bethau y gellir ei defnyddio ar eu cyfer. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i yn y Siambr hon a chlywais ddwy drafodaeth angerddol. Ar draws pob plaid, siaradodd yr Aelodau am bwysigrwydd tafarndai mewn cymunedau lleol. Gofynnodd y Ceidwadwyr Cymreig i'r Prif Weinidog roi gwarant y bydd unrhyw arian sy'n dod i Gymru—unrhyw arian—o ganlyniad i'r polisi hwnnw yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw yng Nghymru. Yna, ddydd Mercher, fe glywais i ddadl ardderchog am bwysigrwydd hosbisau, y sefydliadau rhyfeddol hynny sy'n gwneud cymaint o les ym mhob rhan o Gymru—cyfraniadau cymhellol, o bob ochr unwaith eto, weithiau gan yr un Aelodau, yn cyflwyno'r achos dros fwy o gyllid.

Dirprwy Lywydd, os mai dyna'r Senedd ar ei gorau, yna mae'n ymddangos i mi fod ein dadleuon yn llai clodwiw pan fydd yn rhaid wynebu dewisiadau. Yn rhy aml, mae'r dilemâu hynny'n diflannu i'r byd ffantasi hwnnw lle mae dewisiadau bob amser yn fater o hwn a'r llall, yn hytrach na realiti llym y naill neu'r llall. Yr her wirioneddol sydd ynghlwm wrth osod cyllideb yw bod yna ddau achos da, neu sawl achos da, bob amser ar gyfer un swm o arian sydd ar gael, a gall gwario mwy o arian mewn un maes ond golygu gwario llai mewn maes arall.

Sut felly mae modd gwneud y dewisiadau hynny? Mae fy nghyd-Aelodau a minnau'n gweithio i gyfres o egwyddorion arweiniol: penderfyniad mai budd y cyhoedd yw'r lens y dylai dewisiadau gael eu gwneud drwyddi bob amser; ymroddiad i weithredu ar y cyd i ddatrys problemau cyffredin; ac ymrwymiad diwyro y dylai mynediad i'r gwasanaethau hynny gael ei bennu gan ba mor daer yw eich angen, nid dyfnder eich poced.

Dirprwy Lywydd, gan fod y rhai ohonon ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn unedig yn y credoau craidd hyn, rydyn ni'n dod o hyd i ffordd o ddatrys hyd yn oed y dewisiadau anoddaf. Dyna'r baich a'r fraint o fod yn Llywodraeth. Y gallu i wneud dewisiadau, yn hytrach nag areithiau amdanyn nhw, yw'r union reswm pam mae hyd yn oed y diwrnod anoddaf yn y Llywodraeth bob amser yn well na hyd yn oed y diwrnod gorau yn yr wrthblaid. A'r rheswm am hynny, Dirprwy Lywydd, yw bod pob dewis, yn y diwedd, yn gyfle i gyfrannu at Gymru sy'n sefyll â'i phen yn uchel yn byd, Cymru lle mae yna gydraddoldeb go iawn, lle mae ffyniant yn ymdrech ar y cyd, lle mai prawf ein dynoliaeth yw'r ffordd rydyn ni'n trin y rhai nad ydyn ni'n eu hystyried yn ddeniadol ac yn haeddiannol, nid dim ond y rhai rydyn ni'n eu hystyried felly, a Chymru, lle rydyn ni'n estyn allan i weddill y byd gyda llaw agored cyfeillgarwch, nid dwrn caeedig amheuaeth.

Dirprwy Lywydd, dyma gredoau ysgogol y gyllideb hon, sy'n cwblhau cylch ariannol tymor y Senedd hon. Mae'n cyflawni eto ar flaenoriaethau Llywodraeth Lafur flaengar Cymru. Mae'n sicrhau llwyddiant ein rhaglen lywodraethu. Mae'n darparu diogelwch a sefydlogrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus, y rhai sy'n gweithio ynddyn nhw, a hyd yn oed yn fwy felly i'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw. Bydd fy holl gyd-Aelodau Llafur y prynhawn yma yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am basio cyllideb i Gymru. Rwy'n annog pob Aelod yma i wneud yr un peth.

16:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor Cyllid.

Roedd adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yn cynnwys 33 o argymhellion, ac rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn y mwyafrif llethol o'r argymhellion naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Er ein bod yn siomedig y cafodd un argymhelliad ei wrthod, rydym yn nodi rhesymau'r Ysgrifennydd Cabinet dros wneud hynny.

Yn gyntaf oll, rwy'n croesawu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad i ymddangos gerbron y pwyllgor i drafod materion sy'n ymwneud â'r gyllideb derfynol, a gynhaliwyd yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf. Mewn blwyddyn pan fo newidiadau sylweddol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, roedd y dull hwn yn fuddiol ac yn caniatáu i ni ddeall y newidiadau hyn a chraffu arnyn nhw'n fwy manwl. Rydyn ni hefyd yn falch o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno â'n hargymhelliad i ymestyn hyd y ddadl heddiw er mwyn caniatáu i fwy o Aelodau gymryd rhan. Mae'r ddadl hon yn gam hanfodol ym mhroses cyllideb y Senedd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan eraill i'w ddweud.

Gan droi at y newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, rydyn ni'n ddiolchgar am yr wybodaeth a rannwyd am y dyraniadau newydd a wnaed yn y gyllideb derfynol a'r rhesymau dros wneud hynny. Yn benodol, nodwn y bydd pob rhan o Lywodraeth Cymru yn gweld eu dyraniadau cyllid yn cynyddu yn unol â rhagolygon wedi'u diweddaru'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Er bod hyn i'w groesawu, byddai rhywfaint o eglurhad pellach gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn benodol ar chwyddiant cyflog, yn ddefnyddiol. Rydyn ni'n gofyn am gadarnhad y bydd y dyraniadau ychwanegol a wnaed i'r GIG a llywodraeth leol, ynghyd â'r £21.5 miliwn sydd wedi'i amlinellu yn y gyllideb derfynol ar gyfer adrannau eraill, yn cyfrif yn llawn am y costau ychwanegol a ragwelir oherwydd cynnydd yn rhagolygon cyflogau a chwyddiant y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ers i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi. Roedd pwysau chwyddiant yn faes allweddol o ddiddordeb yn ein hadroddiad, a bydden ni'n croesawu rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gwnaethoch chi gyrraedd y ffigur hwn.

Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, rydyn ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb i'n hadroddiad cyn y ddadl heddiw, ac am ei ymatebion cadarnhaol ac adeiladol cyffredinol i'n hargymhellion. Roedd yn arbennig o galonogol clywed am gynlluniau i ddiwygio fformiwla Barnett, a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, yn ogystal â manylion cyfarfod yr Ysgrifennydd Cabinet ag Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys ynglŷn â chyflwyno'r dreth incwm eiddo yng Nghymru, mater y byddwn ni'n dychwelyd ato yr wythnos nesaf yn ystod y ddadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Cyllid.

Dirprwy Lywydd, hoffwn hefyd fyfyrio ar ymagwedd gyffredinol yr Ysgrifennydd Cabinet at osod cyllideb y flwyddyn nesaf. Fel pwyllgor, rydyn ni'n gwerthfawrogi'r camau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i gyflwyno cyllideb nad yw wedi clymu dwylo'r Senedd a'r Llywodraeth nesaf, ac rydyn ni'n cytuno na fyddai wedi bod yn briodol i'r Senedd hon ragbennu blaenoriaethau cyllidebol y Senedd nesaf.

Gan mai hon yw'r ddadl olaf ar y gyllideb derfynol cyn diwedd y Senedd hon, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i’r holl sefydliadau, unigolion a phobl ifanc sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu barn gyda ni a helpu i lywio ein gwaith craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru drwy gydol y chweched Senedd. Yn ogystal â hyn, hoffwn ddiolch i staff a thîm clercio ac ymchwil y Pwyllgor Cyllid a'r Senedd gyfan. Mae eu sylwadau wedi helpu i sicrhau bod y gyllideb yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru.

Wrth edrych ymlaen at y seithfed Senedd, ein pwyllgor olynol fydd yn penderfynu ar sut i fynd ati i graffu ar y gyllideb yn y dyfodol ac i sicrhau bod ymgysylltiad â’r cyhoedd yn parhau yn greiddiol i'r broses. Rydym yn eu hannog yn frwd i adeiladu ar yr arferion a’r sylfeini arloesol a sefydlwyd yn ystod y Senedd hon.

I gloi, hoffwn hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â'r pwyllgor ac am ei ymateb adeiladol i'n hargymhellion ar y gyllideb ddrafft. Diolch yn fawr.

16:45

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y sylwadau cadarnhaol o ran y trafodaethau a gawsom ni. Dwi'n meddwl ei fod o'n arwydd o gydweithio er budd pobl Cymru ein bod ni wedi gallu rhoi'r sicrwydd cyn y Nadolig, fel gwnaethoch chi bwysleisio, oherwydd mi oedd angen ein gwasanaethau cyhoeddus ni i gael y sicrwydd hwnnw.

Felly, ni fydd yn syndod i gyd-Aelodau heddiw, rwy'n siŵr, y bydd Plaid Cymru yn ymatal ar y gyllideb heddiw, fel ei bod yn cael ei phasio. Nid cymeradwyaeth o'r gyllideb mohono, ond yn hytrach Plaid Cymru yn darparu sefydlogrwydd mawr ei angen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac yn sicrhau ein bod ni'n osgoi sefyllfa drychinebus pe na bai'r gyllideb wedi'i phasio. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonon ni yma heddiw yn cydnabod bod yn rhaid dod o hyd i ddatrysiad, ac mai cyfrifoldeb y Senedd gyfan oedd sicrhau bod cyllideb yn cael ei phasio'n llwyddiannus o ystyried nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif. 

Gadewch i mi fod yn glir—ac rwy'n hapus i ailadrodd hyn dro ar ôl tro—dydyn ni ddim yn cefnogi'r gyllideb yn ei chyfanrwydd. Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, byddai gan Lywodraeth Plaid Cymru flaenoriaethau gwahanol. Ac os cawn ni'r fraint o ffurfio ac arwain y Llywodraeth nesaf, byddwn ni'n cyflwyno ein cyllideb ein hunain o fewn 100 diwrnod cyntaf tymor nesaf y Senedd, gan lunio dyfodol uchelgeisiol i'n cenedl. Byddwn ni hefyd yn glir gyda Llywodraeth y DU am ein disgwyliadau a'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru, a'r angen am gyllid teg, gan gynnwys y biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus i Gymru. Nid yw hyn cystal ag y gallai hi fod i Gymru, ac rydyn ni'n cydnabod bod llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod o dan bwysau enfawr a bod cyfraddau tlodi plant yn parhau i godi.

Gall Llafur greu delweddau ffafriol cymaint ag y dymunan nhw am y bartneriaeth mewn grym, a gall y Ceidwadwyr geisio anghofio'r difrod a achosodd eu Haelodau cyfatebol yn y DU i Gymru pan oedden nhw yn y Llywodraeth, ond mae pobl Cymru, sy'n defnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n rhedeg busnesau yng Nghymru, i gyd yn gwybod, pwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan, nid yw Cymru byth yn cael ei blaenoriaethu. Nid yw'r Prif Weinidog hyd yn oed yn gallu perswadio ei Haelodau Seneddol Llafur Cymru ei hun, heb sôn am Lywodraeth y DU, i gefnogi'r hyn y mae hi'n dweud ei bod hi eisiau ei weld yn cael ei gyflawni i Gymru, a phobl sy'n byw yng Nghymru sy'n dioddef y canlyniadau.

Cyn i gytundeb gael ei chytuno rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, gwnaeth arbenigwyr annibynnol fel yr IFS a Chanolfan Llywodraethiant Cymru hi'n glir iawn fod portreadu'r gyllideb a osodwyd yn wreiddiol fel un niwtral a fyddai'n caniatáu ar gyfer busnes fel arfer yn gamarweiniol. Byddai cynnydd ymylol mewn termau real ar draws pob MEG yn dal i adael ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu pwysau difrifol, oherwydd bod chwyddiant yn y sector cyhoeddus yn gyson yn uwch nag yn yr economi ehangach.

Mi rybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer llywodraeth leol yn cynrychioli senario risg uchel i'r sector. Cadarnhaodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y byddai cynnydd o ddim ond 2 y cant yn gadael awdurdodau lleol â diffyg o £436 miliwn. Sut byddai ein cynghorau ni wedi pontio'r bwlch hwnnw? Wel, fe rhybuddion nhw o godiadau treth cyngor o tua 22 y cant neu golli 14,000 o swyddi. Gadewch i ni fod yn glir: byddai hyn wedi bod yn drychinebus.

Rhoddwyd iechyd, hefyd, mewn sefyllfa amhosibl. Byddai cynnydd o 0.5 y cant mewn termau real wedi bod yn hanesyddol isel. Ar adeg pan fo'r galw'n cynyddu a'r system eisoes dan straen aruthrol, roedd y gyllideb ddrafft gychwynnol yn mynd â ni am yn ôl ar yr union adeg pan fo angen buddsoddiad beiddgar mewn iechyd a gofal ar Gymru.

Dirprwy Lywydd, roedd yn rhaid i’r gyllideb wreiddiol newid neu byddai pobl Cymru a Chymru i gyd wedi gweld gwasanaethau hanfodol yn lleihau a rhai hyd yn oed mewn perygl o ddiflannu yn llwyr. 

Felly, fe ddewisodd y Ceidwadwyr amherthnasedd o ran eu hymagwedd at y gyllideb. Yn hytrach na chyflwyno cynigion credadwy, fe wnaethon nhw ymddiddori mewn economeg ffantasi—toriadau heb eu costio yn syth o lawlyfr Liz Truss. Mae Cymru yn haeddu gwell o'r hyn oedd yr wrthblaid fwyaf yn y Senedd hon bryd hynny. Fe wnaethon ni'r hyn yr oedd angen ei wneud i ddarparu sefydlogrwydd. 

Rydyn ni wedi gwneud yn glir ein beirniadaeth o ddull gweithredu Llafur a dydyn ni ddim yn cytuno â'r dull a fabwysiadwyd o ran atebion cyflym heb strategaeth hirdymor, methiant i symud gwariant tuag at atal, a dim radicaliaeth i ymdrin â'r heriau dwfn sy'n wynebu ein GIG, ein heconomi, a'n hysgolion, i ymdrin â thlodi plant. A hoffwn ddweud hyn wrth bob undeb, sefydliad a busnes sydd wedi cysylltu â ni i fynegi pryderon am y gyllideb hon: rydyn ni'n gwrando ac rydyn ni'n deall bod llawer ohonoch chi'n wynebu heriau enfawr o hyd. Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi i weld sut y gellir eu goresgyn, ac i dyfu'n heconomi yma yng Nghymru.

Fe wnaeth Plaid Cymru weithredu gyda'r difrifoldeb yr oedd y sefyllfa yn ei fynnu. Fe wnaethon ni atal argyfwng mewn llywodraeth leol—

16:50

—cryfhau ein gwasanaethau iechyd, a rhoi mwy o sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Dyna'r hyn y gallwn ni ei gyflawni fel gwrthblaid; dychmygwch beth allwn ni ei gyflawni fel Llywodraeth.

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru heddiw am gyflwyno'r ddadl ar y gyllideb heddiw a hefyd i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad drwy'r broses hon o osod cyllideb. Rwy'n siŵr na fydd yn synnu o gwbl o glywed na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi'r hyn sydd, yn ei hanfod, yn gyllideb dreigl o'n blaenau ni yma heddiw; cyllideb sy'n cydnabod bod yna risg wirioneddol na fydd Llafur yn llywodraethu ar ôl etholiad nesaf y Senedd. Yn wahanol i Blaid Cymru, dydyn ni ddim yn fodlon cefnogi cyllideb nad yw'n cynnig yr uchelgais y mae Cymru yn ei haeddu, a dyna'n union y mae Plaid Cymru yn ei wneud yma heddiw. Maen nhw'n cefnogi cyllideb fydd ddim yn datrys y problemau rydyn ni'n eu gweld ledled Cymru; dydy hi ddim yn cyflawni o ran mynd i'r afael â gwastraff nac yn rhoi arian ym mhocedi pobl, sef yr hyn sydd ei angen ar bobl sy'n gweithio'n galed yng Nghymru.

Mae'r gyllideb hon yn methu â mynd i'r afael â'r mater mwyaf dybryd ar hyn o bryd, sef ein heconomi. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud nad yw ei Hysgrifennydd cyllid ei hun erioed wedi bod â diddordeb yn yr economi. Mae'n rhywbeth rydyn ni wastad wedi'i wybod ar y meinciau hyn, efallai, ond mae clywed gonestrwydd amheuthun y Prif Weinidog yn teimlo'n eithaf llym. Mae'n ymddangos ei bod yn thema glir trwy Lywodraeth Cymru nad yw'r economi yma yng Nghymru yn flaenoriaeth. Rwy'n credu bod hynny i lawr i'r ffaith nad yw Llafur a Phlaid Cymru yn deall anghenion busnes a'u bod yn methu â sylweddoli bod ffyniant cynaliadwy, hirdymor yn dod o fusnesau—busnesau sy'n buddsoddi, yn ehangu ac yn cyflogi pobl.

Yn syml iawn, iawn—a diolch am gymryd ymyriad—a wnewch chi egluro i bobl Cymru pam roeddech chi'n hapus i gael cynnydd o hyd at 20 y cant neu hyd yn oed mwy yn y dreth gyngor, yn seiliedig ar eich trafodaethau a oedd am ffafrio'r rhai sydd â'r tai mwyaf a'r pocedi dyfnaf?

Yn amlwg, mae Rhun ap Iorwerth yn anghofio ein bod ni am weld cap o 5 y cant ar y dreth gyngor.

Ac o ran yr economi, rhaid i ni beidio ag anghofio mai'r Blaid Geidwadol—[Torri ar draws.]—y Blaid Geidwadol roddodd 4,000 o bobl y dydd mewn gwaith pan oedd yn y Llywodraeth. Nawr rydyn ni'n gweld Plaid Lafur, yr ydych yn ei chefnogi, yn rhoi 400 o bobl y dydd ar fudd-daliadau lles. Rydyn ni eisiau gweld economi sy'n gweithio ac yn ffynnu i bobl ledled Cymru.

Dydy'r gyllideb hon ddim yn cydnabod pwysigrwydd busnesau yma yng Nghymru, a dydy hi ddim yn cefnogi'r hyn rydym yn ei gredu, sef bod cymdeithas gref wedi'i hadeiladu ar economi gref. Hyd nes y bydd ffyniant o bob math yn rhywbeth y mae unrhyw Lywodraeth yma yng Nghymru yn dymuno ei weld, rwy'n poeni y bydd unrhyw ymdrechion â bwriadau da yn dod yn blastr glynu ar y problemau rydym yn eu gweld.

Soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ei anerchiad agoriadol, am ddewisiadau, ac mae'n hollol gywir, wrth gwrs, bod cyllideb yn ymwneud â dewisiadau. Ac fe wnaethon ni'r dewis, efallai yn annisgwyl, i estyn allan i'r Prif Weinidog y tro hwn i weld a fyddai modd cytuno ar gytundeb cyllidebol sy'n gweithio i bobl Cymru. Ond dewisodd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddod i gytundeb â'u ffrindiau ym Mhlaid Cymru yn lle hynny. Roedden ni am gyflawni ein nodau Ceidwadol i gefnogi ein heconomi a blaenoriaethau pobl Cymru, oherwydd pan ddechreuon ni'r sgyrsiau hynny roedd tua £600 miliwn o arian heb ei ddyrannu ar ôl ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf a dyna pam, i ddechrau, roedden ni eisiau gweld a fyddai modd defnyddio rhywfaint o hynny i ddileu'r dreth stamp yma yng Nghymru, y dreth trafodion tir ar brif breswylfeydd. Byddai dileu'r dreth hon yn sicrhau bod ein heconomi yn symud a bod newid cadarnhaol i bobl yng Nghymru, gan eu cefnogi gyda lle y gallan nhw ei alw'n lle eu hunain.

Diolch am ildio. Rydych chi wedi rhedeg awdurdod lleol ac rydych chi'n gwybod, os ydych chi'n mynd i wario mwy mewn un maes, mae'n rhaid i chi wario llai mewn un arall. Rydych chi wedi galw am doriadau mewn gwahanol bethau, ond dydych chi ddim wedi gallu nodi swm cyfatebol o arian a allai gael ei arbed mewn un arall a dydy hynny ddim yn gredadwy.

Fe ddywedais i ar ddechrau'r cyfraniad hwnnw, pan oedd y sgyrsiau hyn yn digwydd, bod £600 miliwn o arian heb ei ddyrannu. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn ymwneud â dewisiadau, ac roedd hwnnw'n ddewis y bydden ni wedi ei wneud i wario'r arian hwnnw yn y modd hwnnw i gefnogi teuluoedd ledled Cymru.

Ond mae yna feysydd eraill sy'n bwysig iawn, yn ein barn ni. Dydy'r gyllideb hon ddim yn mynd i'r afael o ddifrif â'r pwysau costau byw y mae teuluoedd yn eu hwynebu yng Nghymru, a dyna pam y soniais i ychydig funudau yn ôl ynghylch sut y byddai toriad o 1c yn y gyfradd sylfaenol o dreth incwm yn arbed bron i £500 y flwyddyn i deuluoedd ledled Cymru. Y gwir yw, ar y meinciau hyn, rydyn ni'n ymddiried mewn pobl i gael arian yn eu pocedi, ac rydyn ni'n clywed o'r meinciau gyferbyn eu bod nhw am gymryd mwy o arian oddi ar bobl i'w wario yn y ffordd y maen nhw'n meddwl sy'n well, yn hytrach nag ymddiried mewn pobl i wario'r arian yn y ffordd y maen nhw'n wybod sydd orau.

Rydyn ni eisiau gweld cyllideb sy'n cynnwys toriadau treth i gwmnïau teuluol a ffermydd teuluol i roi cyfle iddyn nhw barhau, cyllideb sy'n cefnogi ein ffermwyr, sy'n gweithio'n ddiflino i fwydo'r genedl tra'n wynebu costau cynyddol ac ansicrwydd a phwysau cynyddol. Rwy'n siomedig iawn, mewn gwirionedd, na wnaeth Plaid Cymru drafod yn benodol ar gyfer ffermwyr yng nghytundeb y gyllideb y tro hwn, gan siomi ffermwyr ledled Cymru.

16:55

Mae ffermwyr yn talu'r dreth gyngor. Byddech chi wedi codi'r swm mwyaf posibl o dreth gyngor, oherwydd, yn amlwg, allwch chi ddim dweud y byddwch chi'n rhoi cap ar y dreth gyngor ac, ar yr un pryd, dweud na fyddech chi'n rhoi cymorth ychwanegol iddyn nhw fel y sicrhaodd Plaid Cymru yn y gyllideb hon. Sut ar wyneb y ddaear y mae pobl yn mynd i dalu am wasanaethau cyhoeddus?

Yn sicr, dydy Plaid Cymru ddim yn gwrando, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisoes wedi esbonio, o dan ein cynigion ni, y bydd treth incwm yn cael ei thorri, gan arbed bron i £500 i'r union deuluoedd hynny bob blwyddyn, yn ogystal â chap ar y dreth gyngor honno.

Yr hyn nad ydyn ni'n ei weld yn y gyllideb hon yw hwb i'n stryd fawr, swyddi yn cael eu diogelu, ac mae llawer gormod o rwystrau i dwf i'n busnesau yng Nghymru. Rwyf wedi nodi'r amser—

—Dirprwy Lywydd. Felly, gadewch i mi orffen, os gallaf, Dirprwy Lywydd. Dydyn ni ddim yn mynd i weld y gwelliannau y mae taer angen i ni eu gweld yma yng Nghymru os ydyn ni'n parhau i weld Plaid Cymru a Llafur yn gweithio gyda'i gilydd fel y maen nhw wedi'u gwneud dros y 27 mlynedd diwethaf. Mae 27 mlynedd o bolisïau sosialaidd o dan Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi arwain at Gymru sydd â'r diweithdra uchaf—allwch chi ddim osgoi hyn—y rhestrau aros hiraf yn y GIG yn y DU, a'r deilliannau addysg gwaethaf yn y DU, yn ogystal â'r pecynnau cyflog isaf. Dydy e ddim wedi bod yn gweithio, dydy e ddim yn gweithio heddiw, a dydy e ddim yn mynd i weithio fory. Methiannau Llafur yw methiannau Plaid Cymru. Mae cefnogaeth i Lafur yn gefnogaeth i Blaid Cymru, mae cefnogaeth i Blaid Cymru yn gefnogaeth i Lafur. Rydyn ni'n cydnabod bod y gyllideb hon yn methu â chyflawni'r toriadau treth hynny, yn methu â chyflawni i leihau gwastraff ac yn methu â chyflawni i Gymru.

Mae'n bwysig bod y gyllideb yn cael ei phasio er mwyn osgoi gostyngiad trychinebus mewn cyllidebau ar draws y sector cyhoeddus. Rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gyllideb. Os na chaiff ei phasio, bydd gwasanaethau'n dod i ben a bydd llawer iawn o ddiswyddiadau yn y sector cyhoeddus.

Ar wahân i'r setliad llywodraeth leol, gall arian gael ei symud o gwmpas yn y gyllideb atodol gyntaf. Mae'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a Reform yn credu mai nhw, naill ai gyda'i gilydd neu'n unigol, fydd y Llywodraeth nesaf. Pam fyddech chi eisiau bod yn gyfrifol am sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n wynebu anhrefn ac argyfwng? Pam fyddech chi eisiau helpu i greu'r anhrefn hwnnw?

Fel y dywedais i yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, roedd gen i bryderon difrifol am y methiant i ariannu iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol yn llawn. Mae hyn wedi'i unioni yn y gyllideb derfynol. Roedd yn chwerthinllyd ystyried y mynegai prisiau defnyddwyr fel ffordd o gyfrifo costau cynyddol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol. Cododd y mynegai prisiau defnyddwyr fis diwethaf oherwydd prisiau cynyddol ar gyfer tybaco a chost tocynnau awyren, eitemau nad ydynt yn effeithio ar lywodraeth leol nac iechyd.

Yn gyffredinol, mae cynnydd o 4.5 y cant i'r setliad llywodraeth leol. Bydd pob un o'r 22 o gynghorau yn derbyn cynnydd o 4 y cant neu uwch, gyda chynnydd unigol yn amrywio o 4 y cant i 6.5 y cant. Mae'r cyllid yn cefnogi ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau bob dydd cynghorau.

Mae £180 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn dod â chyfanswm y gyllideb refeniw i fwy na £12.6 biliwn. Mae hyn yn gynnydd o 3.6 y cant yn 2026-27. Mae'n cefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw ac rydyn ni i gyd yn y fan yma yn honni ein bod yn eu cefnogi. Mae'r £12.6 biliwn hwnnw yn ffigur diddorol, oherwydd mae'n cyfateb yn fras i'r diffyg cyllid i Gymru o annibyniaeth.

Mae'r heriau sy'n wynebu'r GIG yn sylweddol, ond fyddan nhw ddim yn cael eu datrys trwy gyllid yn unig. Mae rhai o'r materion yn ymwneud â'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu trefnu ac â ffyrdd aneffeithlon o weithio. Mae angen cynllun i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn enwedig ar gyfer archwilio sganiau, ar frys. Cynigiwch ddewis o negeseuon testun yn lle llythyrau i gleifion ar gyfer apwyntiadau ysbyty. Gofynnwch iddyn nhw gadarnhau'r apwyntiad. Mae'n fwy effeithlon, mae'n gwasanaeth gwell, mae'n arbed arian, ac fe fyddan nhw'n ei gael cyn yr apwyntiad.

Bydd y gwaith i leihau amseroedd aros hir eleni, ynghyd â fframwaith cynllunio'r GIG sy'n galluogi camau gweithredu, yn helpu byrddau iechyd i wneud newidiadau cynaliadwy i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae pob adran y tu allan i iechyd a llywodraeth leol yn derbyn cyllid ychwanegol i gynnal lefelau gwariant yn y tymor real ac i adlewyrchu'r rhagolygon cynyddol ar gyfer chwyddiant a chostau cyflog.

Mae'r gyllideb derfynol hefyd yn cynnwys dyraniadau refeniw a chyfalaf ychwanegol i gefnogi blaenoriaethau gwariant, gan gynnwys y gwasanaeth bysiau, addysg bellach, prentisiaethau, parhau i wella cyflwr ysgolion ledled Cymru, ac ansawdd dŵr. Plaid Cymru a'r Torïaid, pa un o'r rheiny dydych chi ddim eisiau eu hariannu? O ystyried yr holl wariant yng Nghymru, mae 10 y cant yn fwy yn cael ei wario yng Nghymru nag yn Lloegr. Gallwch chi ofyn am arian, 'Dylen ni gael hyn a dylen ni gael y llall', ond rydyn ni'n cael 10 y cant yn fwy mewn gwirionedd. 

Os mai barn Plaid Cymru yw, 'Gadewch i ni gael yn union yr un peth â Lloegr a phob tro y caiff ei gynyddu, cael 5 y cant', byddai hynny'n cymryd 10 y cant oddi ar gyfanswm incwm Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi cael y rhan o gyllideb Plaid Cymru sy'n ymwneud â gwariant; nawr yw'r amser i fantoli'r gyllideb. Gosodwyd y gwariant cychwynnol ar lawr y Senedd yn ddiweddar. Beth sy'n mynd i gael ei dorri er mwyn mantoli'r gyllideb? Dydyn ni ddim wedi cael y cynigion gwariant na'r gostyngiadau i'r cyllidebau arfaethedig i fantoli'r gyllideb gan y Ceidwadwyr, ond maen nhw'n dweud yn barhaus, 'Rydyn ni eisiau torri hyn, rydyn ni eisiau torri'r llall, rydyn ni eisiau llai o arian yn dod i mewn. O, gyda llaw, rydyn ni eisiau mwy o arian ar gyfer hosbisau'—yr wythnos diwethaf oedd hynny. Fe fyddan nhw eisiau mwy o arian ar gyfer rhywbeth arall yr wythnos nesaf.

O ran Ystad y Goron, cytunodd Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU sy'n nodi trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei phwerau cyllidol datganoledig. Mae hyn yn cynnwys modelau addasu grant bloc sy'n pennu sut mae grant bloc Cymru yn cael ei addasu gan ystyried y trethi sydd wedi'u datganoli i Gymru. Mae hyn, er gwaethaf honiadau mynych Plaid Cymru i'r gwrthwyneb, yn golygu bod y budd ariannol net sydd ynghlwm wrth ddatganoli unrhyw drethiant i Gymru yn cael ei dynnu o'r grant bloc, sy'n golygu nad yw Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol. Pan ddatganolwyd treth incwm yn rhannol a phan ddatganolwyd treth stamp yn llawn, cafodd y grant bloc ei addasu yn unol â hynny. Pam na fydd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cyflwyno eu cyllidebau? Mae Plaid Cymru yn dweud ei fod yn mynd i ddigwydd ar ôl yr etholiad; mae ganddyn nhw'r gyllideb yn barod. Wel, allwn ni ei gweld nawr? All y cyhoedd ei gweld nawr? Maen nhw'n disgwyl y bydd pethau'n iawn, y gallan nhw ddweud wrth bobl eu bod nhw'n gallu cael popeth maen nhw ei eisiau, nes bod y gwirionedd yn dod i'r amlwg iddyn nhw os byddan nhw byth yn ymgymryd â rôl Llywodraeth, ar eu pennau eu hunain neu gyda'r Ceidwadwyr.

O ran tafarndai, a gaf i ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwyf wedi dweud wrtho o'r blaen, os ydyn ni'n mynd i roi arian yn ôl ar ardrethi, allwn ni ond gwneud hynny i dafarndai sydd heb gael codiad rhent? Oherwydd o'r hyn rwy'n ei wybod am y ffordd mae tafarndai yn cael eu rhedeg, mae'r cwmniau tafarndai yn arbennig yn cynyddu rhenti yn ddramatig, ac os byddwch chi'n rhoi ad-daliad ardrethi, y cyfan y byddan nhw'n ei ddweud wrth y tafarnwyr yw, 'Allwch chi drosglwyddo'r arian i ni?'

17:00

Yn ystod y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, tynnon ni sylw fel pwyllgor diwylliant at yr effaith ddinistriol mae toriadau'r gyllideb wedi ei chael ar ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru dros flynyddoedd. Mae'r pwyllgor wedi mynegi pryder ers amser hir am y sefyllfa o ran diwylliant a chwaraeon. Yn gynharach eleni yn ein hadroddiad 'Degawd o doriadau', daethom i'r casgliad fod tanariannu hanesyddol wedi arwain at sefyllfa lle mae'r sector diwylliant a chwaraeon yn fregus a heb ddigon o adnoddau. 

Mae diwylliant a chwaraeon yn ei chael hi'n anodd yn dilyn degawd o doriadau termau real yn ystod cyfnod pan maent wedi dod drwy amgylchiadau allanol heriol tu hwnt fel y pandemig, Brexit a'r argyfwng costau byw. Yn y gyllideb ddrafft, yn gyffredinol, cynyddodd cyllid refeniw ar gyfer y meysydd hyn 1.9 y cant. Amlygon ni bod mwyafrif y cynnydd hwn o ganlyniad i gynnydd o 20 y cant mewn refeniw i Cymru Greadigol, sy'n golygu bod y cynnydd ar gyfer y meysydd eraill sy'n cael eu hystyried i gyd yn is na'r cynnydd refeniw cyfartalog ar draws cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Nid yw'r cynnydd bychan hwn mewn refeniw, gyda rhai yn is na'r rhagolygon chwyddiant, yn gwneud digon i wneud yn iawn am y tanariannu hirdymor ym maes diwylliant a chwaraeon gan un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru. O ystyried y problemau tanariannu hirdymor y mae'r sector wedi'u hwynebu, byddai'n optimistaidd i feddwl y gellid mynd i'r afael â'r problemau hyn dros nos. 

Rwy'n cydnabod bod y gyllideb derfynol wedi gwneud rhai gwelliannau i'r sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb ddrafft, ac rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol y bydd y gwendidau strategol a nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar y gyllideb yn parhau. Yn benodol, yn gyntaf, bydd cyllid ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yng Nghymru yn parhau i fod ymhlith yr isaf yn Ewrop. Rydym felly yn ailadrodd yr alwad ar Lywodraeth Cymru i

'gynyddu’r cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon hyd nes ei fod yn gymaradwy...â chyllid gwledydd tebyg.'

Yn ail, rwy'n cydnabod ac yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein trydydd argymhelliad, sef y dylai gysoni cyllidebau â gwariant ataliol, fel yr argymhellwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Archwilio Cymru a'n pwyllgor ni.

Nid yw'r gyllideb hon, fodd bynnag, yn ein hysgogi mewn ffordd ystyrlon tuag at newid strategol o ran gwariant ataliol. Ydy, mae symud gwariant tuag at atal yn creu her. Mae'r her hon, fodd bynnag, yn un y mae'r Llywodraeth wedi dewis ei mabwysiadu. Rhaid i hyn gael ei adlewyrchu mewn cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer cyrff diwylliant a chwaraeon. Mae hon yn her fawr y bydd angen i'r Senedd fynd i'r afael â hi mewn cyllidebau yn y dyfodol.

O ran cysylltiadau rhyngwladol, rydym wedi mynegi pryder ers tro ynghylch y diffyg gwybodaeth fanwl yn y maes pwysig hwn. Mae hyn yn parhau i greu pryder. Roeddem yn siomedig i weld nad oedd cyllidebau cysylltiadau rhyngwladol a datblygiad rhyngwladol wedi cynyddu gyda chwyddiant. Doedden ni fel pwyllgor heb dderbyn ymateb y Llywodraeth i'n hargymhellion ar gysylltiadau rhyngwladol tan ryw 14:40 y prynhawn yma. Mae hynny yn siomedig. Dyw e ddim yn gynaliadwy. Mae'n rhaid i hyn newid yn y Senedd nesaf, ar gyfer sgrwtini o rywbeth mor bwysig. Fodd bynnag, rwyf am groesawu'r gyllideb fwy ar gyfer Taith ac estyniad y cynllun hwnnw y tu hwnt i'w ddyddiad terfyn gwreiddiol.

Yn olaf, o ran y Gymraeg, rydym yn diolch i'r Gweinidog am yr eglurder ynghylch codiad i'r Mudiad Meithrin ac i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ogystal â £3 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf a ddyrannwyd i gefnogi 'Cymraeg 2050'. Fel pwyllgor, fe wnaethom ni amlygu pryder ynghylch y penderfyniad i ddefnyddio cyllid ychwanegol i flaenoriaethu gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Goblygiadau hyn yw, er gwaethaf y cynnydd yn llinell wariant cyllideb y Gymraeg, y byddai sefydliadau partner sy'n cael eu hariannu drwy'r grant yn debygol o gael cynnydd o lai na 2 y cant. Mae gwaith yr athrofa yn amlwg yn bwysig. Rydym yn cytuno y dylai gweithredu'r Ddeddf fod yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw'r penderfyniad hwn i flaenoriaethu cyllid i un elfen o'r Ddeddf yn adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol gwaith a gweithgareddau partneriaid eraill, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth gefnogi amcanion y Ddeddf. Mae hwn yn faes y bydd angen rhoi mwy o sylw iddo mewn cyllidebau yn y dyfodol.

Felly, i orffen, Dirprwy Lywydd, rŷn ni'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am eu hymatebion, ac rwy'n ddiolchgar am yr amser ychwanegol. Diolch yn fawr iawn.

17:05

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am gyflwyno'r gyllideb derfynol i Senedd Cymru. Bydd cyllid ychwanegol, heb os, yn cael ei groesawu gan lawer o ysgolion ledled Cymru. Dyna fy nghanmoliaeth allan o'r ffordd.

I mi, mae'n eithaf doniol; mae pobl yn dweud wrthym yn y cyfnod cyn yr etholiad i gredu bod Plaid Cymru yn cynnig newid ystyrlon i Gymru yn arbennig—dewis arall i Lywodraeth Lafur Cymru ddiflas—ond dyma ni unwaith eto gyda'r cenedlaetholwyr yn rhannu gwely gyda Llafur, y tro hwn gyda chyllideb sydd wedi'i llunio drwy gytundeb ystafell gefn. Does dim byd, yn amlwg, wedi newid yn y 27 mlynedd diwethaf. Ac, ar gyfer y cofnod, dydy'r gyllideb derfynol hon ddim wedi mynd i lawr yn dda gyda llawer yn y sector addysg, a byddwn i'n dadlau mai dyma'r mathau o bobl y dylen ni fod yn gwrando arnyn nhw wrth wneud penderfyniadau pwysig fel hyn. Wedi'r cyfan, nhw yw'r rhai ar lawr gwlad.

Er bod y gyllideb derfynol yn dyrannu £4.2 miliwn ychwanegol i adnoddau ar gyfer ysgolion, lleoliadau addysgol eraill ac awdurdodau lleol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, yn ychwanegol at y £9 miliwn yn y gyllideb ddrafft, mae undebau, gan gynnwys NAHT Cymru, yn dweud nad yw mwy o arian o reidrwydd yn golygu canlyniadau cyfartal neu well. Yn hytrach, maen nhw, fel yr wyf innau, yn credu y dylai cyllid ychwanegol gael ei anfon i'r lleoedd cywir fel ei fod yn cael rhyw fath o effaith barhaol. Gydag ysgolion ac athrawon yn plygu o dan y pwysau o orfod cyflwyno cwricwlwm newydd a diwygiadau ADY ar yr un pryd, tybed a oedd hi'n ddoeth i Lywodraeth Cymru roi'r ddau ohonyn nhw ar ysgolion, ac a oedd y ddeddfwriaeth ADY, mewn gwirionedd, yn taro'r cydbwysedd cywir trwy roi llawer o'r dyletswyddau ar ysgolion ac awdurdodau lleol, yn hytrach na rhannu llawer ohonyn nhw gyda'r GIG. Hoffwn wybod a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn hyderus y bydd cyllid tameidiog trwy'r gyllideb hon yn cyflawni'r newidiadau sydd mor daer eu hangen yn ein system addysg, oherwydd rydw i, a llawer o rai eraill yn amlwg, heb gael ein hargyhoeddi eto.

Hoffwn wybod sut y bydd y gyllideb hon yn gwella bywydau athrawon, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n braf gweld eich bod chi'n cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer adeiladau ysgolion a cholegau, ond beth am y rhai sy'n gweithio ac yn dysgu ynddyn nhw? Er enghraifft, mae Cyngor Gweithlu Addysg Cymru wedi amlinellu bod nifer cyffredinol yr athrawon ysgol sydd wedi'u cofrestru wedi gostwng 5.6 y cant ers 2015. Nododd cyngor y gweithlu hefyd fod y data'n awgrymu nad oedd y mewnlifiad o athrawon i'r proffesiwn wedi bod yn ddigonol i ddisodli'r rhai sy'n gadael. Mae mynegai llesiant athrawon Education Support 2025 hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai dyma'r sgôr llesiant cyffredinol athrawon isaf ers iddyn nhw ddechrau ei gofnodi yn 2019. Gwnaethon nhw ganfod bod 75 y cant o athrawon yng Nghymru yn adrodd eu bod yn wynebu straen yn y gwaith, a bod 15 y cant o staff addysgu sy'n gweithio yng Nghymru yn teimlo lefelau isel o bwrpas ac ystyr o ran y swydd. Dyna'r uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Sut y bydd y gyllideb hon yn gwella ymddygiad sy'n dirywio mewn ysgolion, Ysgrifennydd Cabinet? Fis Mawrth diwethaf, esboniodd NASUWT fod athrawon yn adrodd bod trais a gyflawnir gan ddisgyblion yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd, gan dynnu sylw at y ffaith bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi derbyn 6,446 o adroddiadau am ddigwyddiadau treisgar gan ysgolion yn 2023-24, a oedd yn gynnydd o 37 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn yr un adroddiad, gwnaeth NASUWT ganfod hefyd fod ymddygiad gwael yn golygu llesiant athrawon gwael, roedd 35 y cant o'r gweithlu athrawon wedi profi cam-drin corfforol, ac roedd 92 y cant wedi profi cam-drin geiriol. Dywedodd llai na hanner yr athrawon y bydden nhw'n ymyrryd mewn ffeit rhwng disgyblion am eu bod yn ofni bod yn rhan o fater amddiffyn plant a allai fygwth eu cyflogaeth, a dywedodd mwy na hanner, 55 y cant, fod ymddygiad gwael yn gwneud iddyn nhw ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Rwy'n dyfynnu o ddatganiad ystadegol eich Llywodraeth ei hun ym mis Tachwedd ar gyfer 2023-24: mae pob math o waharddiadau wedi cynyddu ers 2022-23 ac wedi cyrraedd y gyfradd uchaf ers 2011-12. Ysgrifennydd Cabinet, dydy hynny ddim yn ddigon da, nagyw?

Byddai gen i ddiddordeb hefyd mewn gwybod, Ysgrifennydd Cabinet, faint mae Cymru wedi elwa ar yr 20 y cant o TAW a osodwyd ar ysgolion preifat ers mis Ionawr y llynedd, oherwydd dydw i ddim yn gweld ei fod yn arwain at gael mwy o athrawon yng Nghymru. Felly, faint wnaeth eich cydweithwyr yn San Steffan gynyddu'r grant bloc yng Nghymru? Ac a ydyn ni'n mynd i weld unrhyw ran o'r dreth yma gwerth £1.5 biliwn a godwyd yma yng Nghymru?

O ran addysg bellach, rwy'n siŵr y bydd colegau'n croesawu'r symiau bach o gyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd a chyfranogiad dysgwyr, ond mae ColegauCymru wedi dweud bod y gyllideb hon yn her ddigynsail i'n colegau addysg bellach. Rhybuddiodd ei brif weithredwr:

'Mae’n peryglu cau pobl ifanc allan o addysg, a bydd yn chwalu Gwarant Person Ifanc flaenllaw’r llywodraeth ei hun, gan danseilio’r ymrwymiad y dylai pob person ifanc gael cynnig lle mewn addysg, hyfforddiant neu waith.'

Rhybuddiodd y corff hefyd y gallai miloedd o bobl ifanc yng Nghymru gael eu hunain heb gwrs coleg yng Nghymru ym mis Medi, gan eu bod yn dweud eu bod yn wynebu argyfwng cyllido o £25 miliwn a mwy. Ac nid dim ond addysg bellach sydd mewn perygl yng Nghymru, nage Ysgrifennydd Cabinet? Mae Prifysgolion Cymru wedi rhybuddio nad yw'r gyllideb yn adlewyrchu'r pwysau ariannol parhaus sy'n wynebu prifysgolion yng Nghymru, gan nodi:

'Rydym yn siomedig nad oes yna fwy o gynhaliaeth i brifysgolion, ac yn arbennig nad yw'r cyllid hanfodol a dderbyniwyd y llynedd wedi'i gydgrynhoi.'

Y llynedd roedden ni'n wynebu sefyllfa lle roedd prifysgol, Caerdydd, yn ystyried cael gwared ar raddau nyrsio oherwydd y sefyllfa ariannol enbyd yr oedd ynddi. Mae staff y brifysgol honno yn dal i wynebu bygythiad o gael eu diswyddo tan fis Rhagfyr eleni, ac eto mae'n dal i fwrw ymlaen â champws yn Kazakhstan. Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n dymuno gweld un o'n sefydliadau addysgol mwyaf blaenllaw, neu yn wir unrhyw un, yn methu oherwydd y gyllideb hon? Oherwydd dydy ein sefydliadau addysg uwch ddim allan o'u trafferthion eto.

Er enghraifft, mae pwysau cyfunol costau ynni uwch, nad yw eich ffrindiau yn San Steffan wedi helpu gyda nhw, a chyfraniadau yswiriant gwladol uwch, a oedd eto yn gost a grëwyd yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Lafur y DU ei hun, wedi gwneud pethau hyd yn oed yn waeth i sefydliadau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Felly, hoffwn wybod beth yn union oedd y tri phrif beth y gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg amdanyn nhw wrth roi'r gyllideb hon at ei gilydd. Mae prifysgolion yng Nghymru yn wynebu pwysau cynyddol ar adeg pan mae'r sector yn wynebu heriau cyfranogi ac mae'r galw am sgiliau graddedigion yn cynyddu.

Mae llawer o'r pwysau rwyf wedi siarad amdanyn nhw wedi bod yn gysylltiedig ag addysg, ond rwyf eisiau siarad am fenywod nawr. Mae Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru hefyd wedi dweud eu bod wedi ailddatgan cyllid ar gyfer gofal plant, ac maent wedi dweud ei fod yn gwbl annigonol i fynd i'r afael â'r materion strwythurol yng Nghymru—

17:10

—system gofal plant sy'n parhau i fod yn anfforddiadwy, yn anhygyrch ac yn ddigyswllt. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd Cabinet, pryd fydd eich Llywodraeth yn darparu'r un cynnig gofal plant â'r un yn Lloegr? Ac rwy'n falch bod y Llywodraeth Geidwadol wedi ei gyflwyno pan—

Fe wnaf. Rwy'n poeni am y gyllideb yn ei chyfanrwydd. Mae diffyg cyllidebu sylfaenol trwy fethu â lleihau gwastraff tra'n gwario mwy ar hoff brosiectau, a diffyg gweddusrwydd sylfaenol trwy beidio â sôn am fenywod o gwbl bron yn eich cynllun gwariant, yn dangos diffyg gweledigaeth, a'r hyn sydd ei angen ar Gymru nawr yw Llywodraeth Geidwadol. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Mark Drakeford am y ffordd fedrus y mae wedi gofalu am gyllideb Cymru drwy gydol y cyfnod hwn, oherwydd dyma'r gyllideb olaf y mae'n mynd i fod yn ei chyflwyno yng Nghymru, gan ei fod yn ymddeol ym mis Ebrill, fel sawl un ohonon ni. Yn arbennig, rwy'n credu y dylen ni i gyd fod yn ddiolchgar am ei sgiliau negodi i ddod â'r rhai sy'n gefnogol at ei gilydd i ddefnyddio'r arian ychwanegol sy'n dod gan Lywodraeth y DU, yn hytrach na chael cyllideb dreigl gyda chynnydd ar gyfer chwyddiant. Byddai hynny wedi achosi argyfwng cyllidebol enfawr yn ein hawdurdodau lleol, gan gynnwys nifer sylweddol o ddiswyddiadau posibl. Felly, rwy'n falch iawn ei bod hi'n ymddangos bod gennym ni drefniant lle byddwn ni'n gallu pasio'r gyllideb hon, y byddaf yn amlwg yn pleidleisio drosti. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:15

Rwyf am droi at rai o'r materion sydd wedi codi yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, oherwydd fe gawson ni drafodaeth dda iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a dderbyniodd ddau o'n hargymhellion a chwpl ohonyn nhw mewn egwyddor. Un o'r materion yw faint o arian sy'n cael ei wario ar gynlluniau gweithredu sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb. Mae hynny'n eithaf anodd i'r pwyllgor ei olrhain, oherwydd nad yw llawer o'r arian a ddefnyddir i gyflawni'r cynlluniau gweithredu hyn wedi'i gynnwys yn llinellau cyllideb yr Ysgrifennydd Cabinet. Felly, er enghraifft, rydyn ni'n gwybod bod yr arian i wneud yn siŵr bod arwyddion ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bobl ag anableddau yn mynd i ddod allan o'r gyllideb trafnidiaeth; bydd yn rhaid i'r arian sy'n cael ei wario ar wneud yn siŵr bod lonydd beiciau yn pasio y tu ôl i arosfannau bysiau, yn hytrach nag o'u blaenau, lle maen nhw'n berygl mawr i unrhyw un sy'n camu oddi ar fws, yn enwedig y rhai sydd ag anabledd, ddod allan o'r gyllideb llywodraeth leol hefyd yn yr ardaloedd lle mae hynny'n broblem.

Felly, rwy'n credu bod y mathau hyn o faterion yn bryder mawr i ni. Rydyn ni'n gwybod, wrth wneud penderfyniadau ynghylch ble i wario ein cyfalaf, na fyddem byth wedi cael y penderfyniad, sydd i'w groesawu'n fawr, i leoli'r hyb iechyd menywod ar gyfer Caerdydd a'r Fro yn y Maelfa—ni allai hynny byth fod wedi digwydd oni bai am y buddsoddiad cyfalaf a nododd Mark Drakeford fel Gweinidog iechyd i ddisodli meddygfa adfeiliedig iawn lle'r oedd ffasgia yn disgyn oddi ar y waliau, fel y gwn y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gyfarwydd ag ef. Mae hynny'n ffordd bwysig iawn i ni sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael gwell mynediad i'r gwasanaethau, sy'n amlwg yn ceisio gwrthdroi'r gyfraith gofal gwrthgyfartal gwrthnysig. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac mae'n amlwg y bydd angen i ni wneud llawer mwy o hynny os ydym am sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i wasanaethau iechyd.

Roeddwn i eisiau cyfeirio at yr hyn yr oedd Natasha yn ei ddweud, oherwydd rydych chi'n dweud bod pobl mewn addysg yn anhapus am y dyraniadau cyllid, ond rwy'n gwybod bod disgyblion yn falch iawn o gael ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi bod yn drawsnewidiol i gymaint o ysgolion uwchradd. Er enghraifft, roedd disgyblion yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd yn methu credu bod yr adeilad newydd hwn ar eu cyfer nhw, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n cael ymateb tebyg unwaith y bydd adeilad Ysgol Uwchradd Willows wedi'i gwblhau.

Dydy anghenion dysgu ychwanegol ddim yn salwch, Natasha, mae'n anabledd sy'n gofyn i addysg wneud addasiadau rhesymol i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae hynny'n aml, ond nid bob amser, yn cynnwys lefelau staffio ychwanegol i ddiwallu'r anghenion ychwanegol hynny, ond dydw i ddim yn gweld sut y dylai hynny fod yn dod allan o'r gyllideb iechyd, oni bai wrth gwrs eich bod chi am ddadlau dros gamau ataliol i sicrhau bod mwy o gymorth ôl-enedigol yn cael ei roi i atal problemau ychwanegol, y byddwn i, wrth gwrs, yn dadlau drosto fy hun mewn dadl arall.

I orffen, rwyf am wneud ple am yr angen i fynd i'r afael â'r prinder dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Cwblhaodd y Bil Iaith Arwyddion Prydain ei ail Gyfnod ddoe, a bydd Cyfnod 3 yn cael ei drafod a bydd pleidleisio arno yn yr ychydig wythnosau nesaf. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran holl aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wrth ddweud mai'r rhwystr mwyaf i gyflawni yw'r prinder dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain. Nid oes unrhyw ddyraniad yng nghostau cyflwyno Bil Iaith Arwyddion Prydain, os yw'n dod yn gyfraith, i ddechrau unioni'r prinder sgiliau hwnnw, ac mae angen gwneud hynny ar unwaith, yn fy marn i. Mae'n cymryd hyd at chwe blynedd i hyfforddi rhywun i ddod yn ddehonglwr, a dim ond 54 o ddehonglwyr cofrestredig sydd gennym yng Nghymru. Os bydd y Ddeddf yn cael ei phasio, rydyn ni'n gwybod y bydd y galw yn cynyddu. Felly, gyda'r swm gweddilliol nad yw wedi'i ddyrannu eto yn y gyllideb derfynol, rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, o bosibl, yn gallu dod o hyd i'r hyn sy'n arian poced, o ran y swm o arian rydych chi'n delio ag ef, i sicrhau y gallwn ni ddechrau ar hynny'n syth, yn hytrach nag aros i'r Llywodraeth nesaf gael ei thraed o dan y bwrdd.

17:20

Gallu gwleidydd aeddfed yw bod yn glir ac yn realistig. Rwy'n dechrau'r araith ar y gyllideb eleni bron fel yr un a wnes y llynedd, sef bod pasio'r gyllideb hon yn hanfodol i bobl Cymru. Ein cyfrifoldeb ni, fel pob un o'r pleidiau yma yn y Senedd hon, yw sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr arian y maent yn ei haeddu. Mewn gwirionedd, byddai peidio â phasio'r gyllideb hon yn golygu y byddai gennym y toriadau cyllidebol i wasanaethau hanfodol. Felly, rwy'n falch ac mae'n rhyddhad bod cytundeb wedi cael ei gyflwyno i ni heddiw. Fel Plaid Cymru, byddaf yn ymatal. Mae ffordd bell i fynd, ond rwy'n falch o weld hyn yn digwydd, felly diolch yn fawr iawn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am y ffordd adeiladol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n falch o weld bod elfennau o gyllideb y llynedd yn y gyllideb eleni hefyd.

Dwi eisiau crybwyll rhai o'r rheini. Gofal cymdeithasol yn gyntaf. Rwy'n falch o weld y £30 miliwn i helpu pobl i adael yr ysbyty yn gynt a derbyn cymorth gartref, naill ai cyn iddynt fynd i'r ysbyty neu ar ôl iddynt ddychwelyd; y £30 miliwn i ymestyn y rhaglen Dechrau'n Deg i bob plentyn dwy oed; a £5 miliwn i gryfhau gorfodaeth yn erbyn llygredd dŵr. Rydym hefyd wedi gweld gwelliannau mewn gwaith atgyweirio ffyrdd, y tocyn bws £1 i bobl ifanc, cefnogaeth i linell Calon Cymru, datgarboneiddio canolfannau hamdden a gwella meysydd chwarae.

Felly, gadewch i mi ddechrau gyda gofal cymdeithasol. Mae cynnydd gwirioneddol yma, ac mae'n iawn cydnabod bod y £180 miliwn ychwanegol a drafodwyd yn y gyllideb hon ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn adlewyrchu difrifoldeb yr argyfwng hwn. Nid yw'n mynd i lenwi'r bwlch, ond mae'n gam. Ac rwy'n falch o glywed y bydd y cyllid hwnnw hefyd yn mynd i awdurdodau lleol. Mae amcanestyniadau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun yn dangos bod gofal cymdeithasol yn unig yn wynebu pwysau cyllidebol o dros £200 miliwn yn 2026-27. Hyd yn oed os bydd cyfran sylweddol o'r cyllid hwn yn cyrraedd gofal cymdeithasol—ac rydym yn gwybod y bydd iechyd yn hawlio ei gyfran hefyd sy'n gywir—ni fydd yn cau'r bwlch yn llawn. Ledled Cymru, rydym yn gwybod bod tua 1,400 o bobl mewn gwelyau ysbyty yn aros i gael eu rhyddhau. Ym Mhowys, dros y tri mis diwethaf, mae 50 y cant o'r cleifion yn ein hysbytai yn aros i adael yr ysbyty. Dylai hanner y bobl ym Mhowys adael yr ysbytai hynny ond ni allant oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael asesiad, ac os ydyn nhw'n gwneud hynny, ni allant gael pecyn gofal a fyddai'n golygu eu bod yn gallu mynd adref. Felly, mae pob awr, pob diwrnod maen nhw'n ei dreulio yn yr ysbyty sy'n hirach nag sydd ei angen yn golygu eu bod nhw'n dirywio. Mae hyn wir yn sgandal. Mae angen uchelgais arnom i gymryd y camau gweithredu hynny, ond mae hefyd yn ymwneud â bod yn onest ac yn deg gyda'r cyhoedd. Fel y clywsoch yn y ddadl flaenorol ar gyfraddau treth incwm Cymru, rydym eisiau gweld ceiniog o godiad yn y dreth incwm i ariannu gofal cymdeithasol. Mae angen i ni fod yn glir na allwch drwsio'r GIG heb drwsio gofal cymdeithasol.

Rwyf eisiau symud ymlaen at ofal plant. Rwy'n falch o weld parhad cyllid Dechrau'n Deg. Rydym yn gwybod bod yr opsiwn o gael cyllid da, hygyrch ar gyfer gofal plant yn hanfodol i fynd i'r afael ag un o'r plâu mwyaf sydd gennym yma yng Nghymru, a hynny yw tlodi plant. Mae tlodi plant yn dal i sefyll yn gywilyddus ar 31 y cant. Mae'n anodd iawn i mi ystyried ein bod ni'n byw mewn gwlad lle rydym ni'n meddwl ei bod hi'n iawn i 31 y cant o'n plant fyw mewn tlodi. Bydd gofal plant yn helpu i fynd i'r afael â hynny. Mae'n hanfodol hefyd i sicrhau ein bod yn trin menywod yn well ac yn fwy cyfartal, ac yn caniatáu iddynt ddychwelyd i'r gwaith. Ein gweledigaeth yw 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos i blant rhwng naw mis a phedair oed. Fe wnaethon ni gynhyrchu papur ymchwil ddwy flynedd yn ôl; fe wnes i ei anfon at yr Ysgrifennydd Cabinet. Fe'i gelwir yn 'Cau'r Bwlch: Gofal Plant yng Nghymru'. Mae'n cael ei gostio'n llawn, ac felly mae'n gyraeddadwy. Rwy'n galw arnoch chi, os gallaf, i ymrwymo i ddarparu gofal plant cyffredinol, fforddiadwy.

Rwyf eisiau troi yn olaf at rai materion eraill, megis cyflwr ein hafonydd. Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn termau real i Gyfoeth Naturiol Cymru a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â hynny, gyda Phapur Gwyrdd i'w ddisgwyl fis nesaf. Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi canfod bod bron i 80 y cant o gynefinoedd Cymru bellach yn cael eu dosbarthu fel rhai 'anffafriol' neu 'ddrwg', gyda rhywogaethau fel eogiaid Iwerydd yn dirywio'n ddifrifol. Yn erbyn y cefndir hwnnw, mae'n gwbl warthus bod dirwy o £1.35 miliwn a roddwyd i Dŵr Cymru am dros 800 o doriadau wedi'i gostwng i £120,000. I lawer o deuluoedd, nid yw hynny'n edrych fel atebolrwydd, mae'n edrych fel methiant llwyr. Felly, hoffwn glywed, os gallaf, beth allwn ni ei wneud ynghylch hynny.

Yn olaf, a gaf i sôn am y tocyn bws £1? Gwnaed dwy filiwn o deithiau bythefnos yn ôl, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cael hwnnw i mewn i'r gyllideb. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, unwaith eto mae'r darlun ledled Cymru wedi bod yn eithaf gresynus. Rydym wedi mynd yn ôl eto—awdurdodau lleol yn torri'n ôl ar wasanaethau, busnesau twristiaeth yn cael trafferth yn sgil costau cynyddol, siopau yn diflannu o'n strydoedd mawr. Mae'r rhain yn bwysau gwirioneddol sy'n wynebu pobl go iawn mewn cymunedau go iawn. Ac eto, tra bod teuluoedd a busnesau yn gofalu am bob ceiniog, mae Llywodraeth Lafur Cymru, wedi'i chefnogi eto gan Blaid Cymru, wedi dewis blaenoriaethu eu hoff gynhyrchion.

Maent wedi gwrthod cynllun synhwyrol y Ceidwadwyr Cymreig i ddileu'r dreth trafodiadau tir, gan ei alw'n rhywbeth nad yw'n fforddiadwy, i gyd wrth barhau â gwariant gwastraffus mewn mannau eraill: £154 miliwn rydych chi wedi'i wario o'r blaen ar ffordd liniaru'r M4—wedi'i wastraffu, erioed wedi'i hadeiladu; £120 miliwn ar ddiwygio'r Senedd; £47 miliwn ar grantiau teithio llesol—[Torri ar draws.] A £216 miliwn—arhoswch funud, rwy'n dod atoch chi—£216 miliwn ar gynllun teithio llesol sydd wedi gweld cynnydd o 0 y cant mewn pobl a beicwyr sy'n defnyddio'r cynlluniau teithio hyn; £20 miliwn bob blwyddyn yn rhoi cymhorthdal i Faes Awyr Caerdydd; terfyn cyflymder o 20 mya sy'n costio tua £32 miliwn. Byddech chi'n gobeithio, yn wyneb y pwysau—[Torri ar draws.] Arhoswch funud, pwy sydd eisiau ymyrryd? Unrhyw un? Iawn, ewch amdani.

O ran 20 mya, rwy'n cofio chi'n ei gefnogi. Rwy'n cofio chi'n pleidleisio drosto.

Yn hollol anghywir, ac ar bwynt o drefn, Llywydd, pan ddaeth i'r gwaith craffu mewn egwyddor, cynigwyd polisi gwahanol iawn.

Deg miliwn o bunnau ar gysylltiadau rhyngwladol nad ydynt wedi'u datganoli, plannu coed yn Uganda, sydd mewn gwirionedd yn gwylltio'r mwyafrif o bobl—. Mae'r gyllideb hon a nodwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac a gefnogir eto gan Blaid Cymru, yn ymarfer clasurol o guddio a chelu: codiadau adrannol sydd prin yn cadw i fyny â chwyddiant; ariannu setliadau, yn sicr ar gyfer fy awdurdod lleol i, sy'n methu â bodloni'r galw cynyddol; a phwysau gweithlu sy'n parhau i fod heb eu hateb.

Hyd yn oed lle mae cynnydd, megis o fewn y MEG newid hinsawdd a materion gwledig, mae pryderon difrifol yn parhau. Wrth graffu ar y gyllideb ddrafft, roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn glir—roedd y diffyg cyllid, ac, mewn rhai achosion, gostyngiadau pellach, yn creu amheuaeth na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu cyrraedd ei thargedau ei hun. Gwelwn hyn yn y portffolio ynni, sydd dim ond wedi derbyn ychydig yn fwy. Rydym yn ei weld eto mewn polisi gwastraff, gydag ail ostyngiad yn olynol mewn gwariant cyfalaf. Pan fydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gosod yn erbyn tueddiadau ailgylchu a defnydd diweddar, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o fethu a chyflawni o leiaf rhai o'i thargedau gwastraff ei hun. Nid cynllunio tymor hir yw hwn, meddwl tymor byr yw hwn, ac mae'n diffinio, unwaith eto, y gyllideb Llafur-Plaid hon.

Yn ystod trafodaethau cyllideb, cynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig ddull gwahanol. Rydym ni eisiau torri treth, rydym ni eisiau torri gwastraff, rydym ni eisiau cael economi Cymru i symud eto, ac rydym ni eisiau cael pobl i mewn i swyddi. Ond, unwaith eto, mae Llafur Cymru wedi dewis yr un llwybr a ddewisodd bron bob blwyddyn cyn hyn, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, gan gyflawni mwy o'r un peth. Felly mae'r neges yn glir: nid yw Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn cynnig unrhyw newid gwirioneddol yn y gyllideb hon.

Nawr, mae angen dewis arall cryfach ar Gymru. Ni allwn fforddio pedair blynedd arall o Blaid Cymru na Llafur. Mae angen dewis arall sy'n cefnogi busnesau, dewis arall sy'n cryfhau ein heconomi, dewis arall sy'n gwneud i Gymru weithio, a dewis arall sy'n cefnogi ein gwasanaethau addysg ac iechyd i adfer a ffynnu, dewis arall sy'n gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn cael eu hethol i'r Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd—barod amdanni—ar 7 Mai.

17:30

Sut ydw i'n dilyn hynna, Llywydd? Rydw i wedi gweld rhai pethau yn y lle yma yn fy amser, ond mawredd!. Mae angen gwrthbleidiau ar bob llywodraeth, ac rwy'n credu bod angen gwrthblaid, oherwydd nid yw'n ddigon da, yn blwmp ac yn blaen, i ddod yma i ddarllen araith am y tro cyntaf, rhestru'r holl bethau nad ydych chi'n eu hoffi ac yna dweud wrthym am y pethau nad ydych chi'n eu gwybod. Yr hyn rydym ni wedi'i weld y prynhawn yma gan yr holl siaradwyr Ceidwadol, ac rydym ni wedi'i weld o'r blaen, yw rhestr o ymrwymiadau gwariant, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf, ac roedd yr Ysgrifennydd Cyllid yn glir iawn, yr wythnos diwethaf, bod y Ceidwadwyr wedi sefyll i fyny a gwneud cyfres gyfan o ymrwymiadau gwario. Mae'r prif lefarydd Ceidwadol yr wythnos hon wedi gwario'r gyllideb gyfan a'r holl arian ychwanegol yn ei ddwy frawddeg gyntaf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Ceidwadwyr nad yw hyn yn wleidyddiaeth o ddifrif. Os ydych chi eisiau Llywodraethu'r wlad hon, mae'r bobl yn haeddu llawer gwell. Maent yn haeddu plaid sy'n deall ei chyllideb ac sy'n gallu dadlau nid yn unig dros ddewisiadau gwahanol a blaenoriaethau gwahanol, ond sy'n gallu deall—[Anghlywadwy.]—a'r hyn rydym ni wedi'i weld y prynhawn yma yw gwrthblaid nad yw'n gallu gwneud hynny.

Felly, yn yr ysbryd hwnnw, os mynnwch, rwy'n croesawu'r gyllideb gan yr Ysgrifennydd cyllid ac rwy'n croesawu aeddfedrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wrth gydnabod, er na fyddwn yn cytuno ar bopeth, yr un peth yr ydym yn cytuno arno yw y byddai methu â chytuno ar gyllideb yn drychineb i'n gwasanaethau yng Nghymru, a thrychineb i'r cymunedau yr ydym i gyd yn ceisio eu cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. Y penderfyniad aeddfed heddiw yw nid yn unig i wneud yr areithiau yr ydym wedi'u clywed yn anffodus, ond i bleidleisio dros gyllideb a fydd yn cyflawni, efallai nid popeth rydych chi ei eisiau, ond a fydd o leiaf yn sicrhau bod gennym y gwasanaethau a fydd yn cael eu cyflawni ar ôl y flwyddyn ariannol nesaf.

Hefyd, cawsom sgwrs ddiddorol yma yn gynharach y prynhawn yma ar restrau aros, ac fe wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd ddadansoddi ac adrodd sut mae rhestrau aros yn gostwng. Nawr, rydw i wedi cymryd rhywfaint o ysbrydoliaeth gan Mark Isherwood, mewn gwirionedd, ac edrychais ar rai o'm hareithiau blaenorol ar y mater hwn, a sylwais ar y pryd—nid yw yma y prynhawn yma, yn anffodus, ond yn ôl tua 16 mlynedd yn ôl, roedden ni'n dathlu'r ffaith bod rhestrau aros wedi cyrraedd y lefelau isaf erioed, tua 2010. Ers hynny, rydym wedi gweld effaith cyni cyllidol, ac rydym wedi gweld effaith y cyni ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yna rydym wedi gweld effaith cyni a'r methiant i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli, i'r cymunedau rydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r mater rhestrau aros yn enghraifft o bolisi economaidd sydd wedi methu, dull o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi methu ac yna methiant i gydnabod y difrod sydd wedi'i achosi i bobl. Felly, yr hyn rydym ni wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf—yr hyn rydym ni wedi'i weld yn y blynyddoedd diwethaf—yw methiant y Ceidwadwyr i ddadlau'r achos ar gyllideb, methiant y Ceidwadwyr i gyflawni polisi economaidd, ac yna methiant y Ceidwadwyr i gydnabod effaith ddynol yr holl bethau gwahanol hynny.

Nawr, rwy'n cydnabod bod yna bethau yn y gyllideb hon sy'n bwysig ac y mae angen i ni, rwy'n credu, gydnabod gyda'n gilydd. Yr Ysgrifennydd cyllid—. Ac rwy'n talu teyrnged i'r Ysgrifennydd cyllid. Weithiau nid ydym wedi cytuno ar bopeth, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y ffordd y mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi cymryd gofal o'r cyllidebau flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ganmoladwy iawn. Er y gall Aelodau unigol a phleidiau yma anghytuno â'r casgliadau y mae'n eu cyrraedd, rwy'n gobeithio y bydd y Siambr gyfan hon yn cydnabod y gwaith y mae wedi'i wneud a'r diwydrwydd wrth wneud y gwaith hwnnw, ac felly rwyf am ddweud 'diolch', Mark, am hynny. Efallai mai arwyddlun o hynny yw rheolaeth dros drethi Cymru. Mae'r ffaith bod gennym gannoedd o filiynau o bunnau yn fwy i'w gwario ar wasanaethau cyhoeddus heddiw yn dyst i reolaeth dros drethi Cymru. Mae'n perfformio'n well na Lloegr a'r Alban, ond mae hefyd yn dangos bod hon yn ddemocratiaeth aeddfed, sy'n gallu ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol. Ond hefyd mae'r buddsoddiad mewn iechyd ac addysg, yr adnoddau ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, yn golygu ein bod ni'n gallu gwneud mwy i'r bobl dlotaf iawn yn y wlad hon, ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth Jane Dodds ar dlodi plant yn gynharach. Ond hefyd, wrth gwrs, mae angen i ni wedyn fynd ymhellach, a dyma fydd pwnc yr etholiad.

Rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd yn cyflawni diwygio gwasanaethau bysiau a'r arian sy'n mynd i fynd i mewn i hynny, ond bydd angen i ni wedyn—a dyma lle byddwn yn croesi cleddyfau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf—edrych ar sut rydym yn cyflawni diwygio gwasanaethau cyhoeddus ymhellach. Sut ydym ni'n diwygio'r cyllid a buddsoddi yn nyfodol ein heconomi?

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld rhai heriau cryf iawn sy'n wynebu'r Senedd hon a'r Llywodraeth hon, a'r hyn y mae'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon wedi'i wneud yw trafod y dewisiadau sydd ar gael i ni, trafod yr heriau rydym ni'n eu hwynebu ac mae'r Llywodraeth wedyn wedi cyflawni ar sail hynny. Yr her yn yr etholiad nesaf i'r Llywodraeth hon yw ennill mandad ar gyfer newid pellach, cyflawni diwygio pellach, cryfhau ein heconomi a chyflawni'r wlad y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni.

17:35

Hoffwn hefyd gydnabod gwaith yr Ysgrifennydd Cabinet. Er efallai na fyddwn yn cytuno ar ei ddewisiadau, rwy'n cydnabod her y rôl honno, ac rwy'n diolch i Mark am y ffordd y mae wedi cyflawni hynny dros y blynyddoedd. Byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad i'r gyllideb heddiw ar y gwasanaeth iechyd, oherwydd rwy'n credu bod rhai pethau y mae angen i ni eu dweud, oherwydd bob blwyddyn rydym ni'n dod i'r Siambr hon ac rydym ni'n clywed yr un neges gan Lafur Cymru. Maen nhw'n gweiddi'n groch eu bod nhw wedi rhoi mwy o arian i'r GIG, maen nhw wedi diogelu iechyd ac wedi gwneud popeth y gallant, ond ni allai hyn fod, mewn gwirionedd, ymhellach o'r gwirionedd. Eleni, mae Llafur a'u cynghreiriaid agos, Plaid Cymru, yn falch o frolio'r £180 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd, wedi'i sicrhau trwy eu cytundeb diweddaraf. Ond gadewch i ni fod yn glir: nid yw'r £180 miliwn hwn, er ei fod yn bwysig iawn, yn foment o fuddugoliaeth. Mae'n bris 26 mlynedd o gamreoli a dyma gost methiant. Pe bai Llafur wedi ariannu iechyd yn iawn yn y lle cyntaf flynyddoedd lawer yn ôl, ni fyddai angen yr ychwanegiad brys hwn. Yn y bôn, maen nhw'n trwsio'r twll yn y bwced a grëwyd ganddyn nhw. Gwyddom fod Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar iechyd yn Lloegr, ond mae'r Llywodraeth Lafur hon yn dewis—ac mae 'dewisiadau' yn air pwysig heddiw—i wario £1.12 yn unig ar y GIG, a chyn COVID, roedd hyn tua £1.05. Dyna Blaid Lafur Cymru yn hollol ymwybodol, dro ar ôl tro ac yn fwriadol yn tanariannu ein GIG. Gadewch i ni fod yn glir: mae tanariannu ein GIG yn ddewis gwleidyddol.

Tra bod Llafur a Phlaid Cymru yn llongyfarch eu hunain ar eu rhifyddeg cyllideb, dyma beth mae cleifion yng Nghymru yn ei brofi o dan eu rheolaeth fel y'i gelwir. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, ie, gwnewch os gwelwch yn dda.

Dechreuodd eich llefarydd cyllid y ddadl trwy ddweud y byddai wedi rhoi'r holl arian a oedd heb ei ddyrannu i dorri treth stamp—[Torri ar draws.] Swm sylweddol o arian i dalu treth stamp. Ni fyddai hynny wedi gadael arian i dalu am godiad cyflogau neu'r pethau rydych chi nawr yn dweud y dylid eu gwneud. Felly, sut ydych chi'n sgwario'r cylch hwnnw?

Rwy'n tynnu sylw at sut mae eich dewisiadau wedi amddifadu gwasanaeth pwysig o arian pwysig iawn dros nifer o flynyddoedd. Nawr, bydd datod eich dewisiadau, a gymerodd 27 mlynedd i'w creu a chreu'r broblem sydd gennym, yn cymryd peth amser i'w gyflawni, a dyna sut—. Byddem yn dod o hyd i ffyrdd o wneud hynny yn y pen draw. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, ydych chi eisiau gwneud ymyriad?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn deall a ydych chi'n dadlau bod angen i ni roi hyd yn oed mwy o arian i iechyd pan ydym ni eisoes yn gwario hanner ein cyllideb arno.

Rwy'n tynnu sylw at eich methiannau. Mae'n bwysig i wrthblaid dynnu sylw at eich methiannau, fel y gallwn ddysgu o'ch camgymeriadau dros flynyddoedd lawer a gallwn ddechrau gwella pethau ar gyfer y dyfodol. 

Felly, beth mae cleifion yn ei brofi o dan yr hyn a elwir yn rheolaeth sydd wedi cael ei greu dros nifer o flynyddoedd gan Blaid Cymru a Llafur? Wel, clywsom yn gynharach: 10,000 o gleifion yn aros 12 awr neu fwy mewn uned damweiniau ac achosion brys, mwy nag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn sownd ar restr aros, 7,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd, a phrin hanner y cleifion canser yn dechrau eu triniaeth ar amser. Nawr, nid ystadegau yn unig yw'r rhain, maen nhw'n straeon pobl—cleifion sy'n ofnus, yn dioddef ac yn teimlo eu bod wedi'u siomi. Nawr, nid yw cynyddu cyllideb bob amser yn cynyddu cymhwysedd a chyflawniad. Mae methiant systemig yn ein GIG yng Nghymru, ac mae hynny'n dod o'r brig, ac mae hynny'n cynnwys y Llywodraeth. Nid yw ychwanegu £180 miliwn yn ychwanegu arweinyddiaeth, ac nid yw newid y rhif ar daenlen yn newid y gwirionedd y mae cleifion yng Nghymru yn ei weld bob dydd.

Gadewch i ni edrych ar gost cyfle'r £180 miliwn hwnnw. Pe na bai'r GIG mewn argyfwng parhaol, yn gofyn am yr arian ychwanegol hwnnw, gallai'r swm fod wedi mynd i gefnogi ysgolion, mwy i lywodraeth leol neu drafnidiaeth. Yn lle hynny, mae'n cael ei ddefnyddio fel plaster glynu. Pe bai'r £1.20 llawn wedi'i wario, yna meddyliwch am y cydnerthedd y byddem wedi'i greu ac y byddai wedi cael ei greu yn ein GIG. Yn wir, pe baech chi'n mynd yn ôl 10 mlynedd yn unig ac ychwanegu 5c at y £1.12 a'i ariannu ar £1.17 y pen ar gyfer y gwasanaeth iechyd, dros 10 mlynedd byddai hynny wedi bod yn gyfystyr â rhyw £3.5 biliwn i'r gwasanaeth iechyd, a fyddai wedi creu cydnerthedd—[Torri ar draws.] Ie, gwnewch os gwelwch yn dda.

17:40

Gallwn ni i gyd—[Anghlywadwy.]—ar yr hyn a ddylai fod wedi digwydd, ond y gwir yw mai dyma'r presennol. Felly, ydych chi'n gwrthwynebu rhoi'r arian ychwanegol i'r GIG?

Na, rwy'n tynnu sylw at y problemau rydych chi wedi'u creu a pham rydym ni—. Mae'n mynd i gymryd peth amser i wneud rhai o'r pethau hyn yn iawn.

Fel yr oeddwn i'n dweud, byddai £3.5 biliwn i'r gwasanaeth iechyd dros y 10 mlynedd diwethaf wedi creu cydnerthedd, ac ni fyddech yn gorfod ei achub yn y fath fodd. Efallai y byddech wedi gorfod dadfuddsoddi mewn rhai meysydd rydych chi wedi dewis buddsoddi ynddynt, ond gallech fod wedi creu gwasanaeth iechyd cydnerth. 

Rwy'n ymwybodol bod fy amser yn rhedeg allan. Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhan o hyn, ac rydych chi—. Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhan o hyn dros nifer o flynyddoedd, ond pam na wnaethoch chi fwy, pam na wnaethoch chi fwy i sicrhau gwasanaeth iechyd cydnerth dros y blynyddoedd o gytundebau cydweithio rydych chi wedi'u cael? Dim ond y Cymry—[Torri ar draws.] Dwi ddim yn gwybod a allaf dderbyn un arall.

Mae gennych bum eiliad ar ôl. Ydych chi eisiau i Heledd Fychan ei ddefnyddio, neu ydych chi eisiau ei ddefnyddio eich hun?

Dim ond pum eiliad sydd gen i ar ôl. Edrychwch, o safbwynt iechyd, byddem yn datgan argyfwng iechyd fel y gallwn ganolbwyntio ein holl adnoddau i wneud pethau'n iawn, fel y gwnaethom adeg COVID. Nid tan i chi gydnabod y broblem rydych chi wedi'i chreu y gallwch chi ddechrau ei chywiro. Dyna'r gwadu rydym ni wedi'i weld gan Blaid Cymru a Llafur yng Nghymru sydd wedi ein gadael ni yn y sefyllfa hon. Fe wnaf ei adael yn y fan yna. Diolch.

Mae'n rhyddhad enfawr gweld newid Llywodraeth y DU i weinyddiaeth Lafur sy'n credu mewn buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Wrth gwrs, ni ellir dadwneud 14 mlynedd o gyni Torïaidd sy'n cael ei ysgogi gan athroniaeth mewn un flwyddyn, ond rydym eisoes yn gweld cynnydd. Byddwn wedi bod biliynau o bunnau yn waeth ein byd pe baem wedi parhau ar yr un trywydd. Nawr, pe bai ein gwasanaeth iechyd wedi cael ei ariannu'n briodol ers 2010, yn hytrach na chael ei dorri a pheidio â chodi yn unol â'r angen a'r chwyddiant, byddai ein gwasanaeth iechyd yn iawn. Mae i gyd yn ymwneud â'r ffaith na wnaeth y Ceidwadwyr ei ariannu'n iawn yn unol â'r angen.

Mae rhestrau aros yn dod i lawr ac mae cyllid cyfalaf bellach ar gael ar gyfer buddsoddiad hir- ddisgwyliedig. Mae hynny'n cynnwys ein ffyrdd ac adnewyddu'n hasedau mawr, megis croesfan Afon Dyfrdwy ar yr A494 sydd wedi dirywio, a'n hysbytai, gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl, y ganolfan orthopedig yn Llandudno, a chyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer gwasanaethau bysiau. Yn ei hanfod, mae hon yn gyllideb Lafur gwerth £27.5 biliwn sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a diogelu swyddi. Mae £400 miliwn o ymrwymiadau gwariant newydd a chyllid ychwanegol i gwrdd â chwyddiant a phwysau cyflog.

Dywedir wrthyf y byddai torri treth trafodiadau tir ar eiddo dros £225,000 yn costio £140 miliwn, ond o ble fyddai hyn yn dod os ydym yn dal i ddisgwyl gwasanaethau cyhoeddus da? Torri prosiect Mbale Maint Cymru, sy'n gwneud pethau gwych iawn—beth yw hwnnw, £4 miliwn? Wel, ni fydd hynny'n mynd yn bell iawn, yn enwedig os ydych chi eisiau gwario arian yn gwrthdroi diwygio'r Senedd. Rydym ni newydd wario llawer o arian yn gwneud y Senedd neu'r Siambr yn barod. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud, newid hynny i gyd eto, neu ddiwygio 20 mya? Nid yw'n gwneud synnwyr. Rydych chi eisiau cynyddu taliadau ffermio, sy'n wych, ond o ble mae hynny'n dod? Pleidleisiodd nifer ohonoch i adael yr UE, a oedd yn rhoi cyllid grant penodol i ffermwyr. Roedd yn hael ac yn seiliedig ar anghenion Cymru, ac fe wnaethoch smonach o hynny hefyd.

Mae Reform, neu a ddylwn i ddweud 'Reform a Tory', yn addo'r byd, ond hefyd eisiau gwneud toriadau ac arbedion. Ni ellir ymddiried ynddynt. Edrychwch ar y trychineb o dan Liz Truss, pan oedd chwyddiant a morgeisi yn codi. Mae ei thîm trychinebus bellach wedi ymuno â Reform.

Rwy'n falch bod y cyllid ychwanegol wedi mynd i gynghorau ac iechyd. Yn ogystal â darparu gwasanaethau pwysig a'n cadw mewn cartrefi, addysg, cludiant ac yn iach, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn un o'n cyflogwyr mwyaf, gan gyflogi pobl yn ein cymunedau: gofalwyr, glanhawyr, casglwyr gwastraff, swyddogion diogelu'r cyhoedd, nyrsys, cogyddion, athrawon. Mae'r swyddi yn ein heconomi sylfaenol yn eang ac amrywiol. Os ydym am dyfu gofal plant, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym bobl yn cael eu cyflogi mewn gofal plant ac y gallwn dalu cyflog gweddus iddynt. Ni allwn dyfu ein heconomi hebddyn nhw. Heb gynllunwyr, ni allwn adeiladu tai. Ni ellir cyflogi pobl mewn busnesau heb iddyn nhw gael eu haddysgu yn gyntaf.

Felly, yn ogystal â buddsoddi mewn pobl a'n heconomi sylfaenol, mae ein cyllideb hefyd yn buddsoddi mewn lles anifeiliaid ac yn yr amgylchedd naturiol, sy'n bwysig iawn. Ni allwn gymryd y rhain yn ganiataol. Diolch byth, rydym wedi gallu gwneud y buddsoddiadau pwysig hyn. Nawr mae angen i ni wneud yn siŵr yn yr etholiad nesaf nad yw Reform a'r Torïaid yn cael eu dwylo arnynt, nac ar yr arian. Diolch.

17:45

Ysgrifennydd Cabinet, mae Cymru yn haeddu gwell na'r gyllideb hon. Pa faint bynnag y mae'r Ceidwadwyr sydd ar ôl yn parhau i wadu yn eu swigen fach, mae'r gwirionedd yn glir—er os ydych chi'n codi'ch llais, efallai y byddwch chi'n cael eich taflu allan—mae Prydain wedi torri, a Chymru wedi torri. Nid yw’r gyllideb ymddeoliad sombi hon gan Lywodraeth sy’n methu â gweithredu yn gwneud dim i ddatrys y problemau dwfn sy'n wynebu ein gwlad.

Nid yw'r gyllideb derfynol hon sydd wedi'i gwisgo fel cynllun £27.5 biliwn yn cyflawni i'r bobl sy'n talu eu trethi. Mae llawer o'r prif ffigur hwn yn cael ei lyncu gan chwyddiant, pwysau cyflog a chyllid wedi'i ailgylchu, sy'n golygu bod yr effaith wirioneddol ar wasanaethau a chymunedau yn llawer llai nag y mae'r Gweinidogion yn awgrymu. Yn hytrach, mae wedi cael ei bwytho at ei gilydd gan y cytundeb cydweithio blinedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru sydd wedi'i gynllunio i hercian ymlaen tan fis Mai. Mae'n siomi ffermwyr, mae'n cosbi cymunedau gwledig ac mae'n gorfodi cynghorau i wneud dewis amhosibl: codi'r dreth gyngor ar deuluoedd sy'n gweithio neu dorri'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Er bod meysydd fel y GIG wedi derbyn cynnydd mewn cyllid, sydd, wrth gwrs i'w groesawu, ni fydd taflu arian at y system yn datrys y broblem pan fydd y problemau sylfaenol mor ddwfn. Mae galw yn parhau i godi, prinder gweithlu yn parhau ac mae rhestrau aros yn dal i fod yn fwy nag unrhyw welliannau a addawyd gan y Llywodraeth hon—[Torri ar draws] Na fyddaf. Mae cleifion yn cael eu trin mewn coridorau, ac mae eraill yn aros misoedd, hyd yn oed blynyddoedd, am ofal.

Byddai Reform yn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol y mae Llafur yn gwrthod eu hwynebu, a byddem yn sicrhau bod y GIG yn parhau i fod am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Byddwn yn torri haenau o reolaeth a biwrocratiaeth wastraffus, gan ganolbwyntio ar recriwtio a chadw staff rheng flaen, a darparu'r gofal sydd ei angen ar bobl mewn gwirionedd, gan weithio gyda'r bobl sy'n gwybod am beth y maen nhw'n sôn—y clinigwyr, nid y gweision sifil—i ddatrys y problemau hynny. Byddai Reform yn cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi methu â gwneud dros y 26 mlynedd diwethaf: GIG sydd am ddim, sy'n gweithio ac yn cyflawni.

Na, ni wnaf. Ar draws Gymru wledig mae cynghorau yn cael eu gwasgu ac mae ffermwyr yn cael eu hanwybyddu unwaith eto. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi llofnodi cyllidebau sy'n erydu'n raddol y gefnogaeth i'r sector sy'n rhoi bwyd—bwyd rhagorol o ansawdd arbennig—ar ein byrddau. Mae'r gefnogaeth yn parhau i fod ymhell yn is na'r lefelau a alwyd amdanynt gan yr NFU, ac mae ffermio yn cyfrif am ddim ond 2 y cant o gyllideb Cymru. Nid yw'r gyllideb derfynol yn gwneud dim i gau'r bwlch hwnnw nac adfer hyder yn nyfodol ffermio yng Nghymru.

Ar ben hyn, mae ffermwyr bellach yn wynebu llanast polisi arall gan San Steffan, gyda thro pedol ar ôl tro pedol ynghylch y dreth ffermydd teuluol. Nid oes angen negeseuon cymysg nac ildio munud olaf ar ffermwyr, ac maent yn haeddu sicrwydd a sefydlogrwydd. Bydd Reform yn darparu cynllun sy'n gweithio i ffermwyr, yn gwrando ar ffermwyr ac yn cyflawni gyda ffermwyr.

Canlyniad arall o'r cawdel o gyllideb hon yw bod cynghorau yn cael eu gwthio i wneud penderfyniadau amhosibl: codi'r dreth gyngor ar deuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth neu dorri gwasanaethau hanfodol. Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol yn cynnig cynnydd sy'n fwy na chwyddiant wrth iddynt wynebu diffygion gwerth miliynau o bunnau. Yn sir Fynwy, sydd o dan Lafur, yn unig, mae 5.95 y cant—[Torri ar draws.]—na, mae'n ddrwg gennyf—yn cael ei gynnig, yr uchaf eto, ac yn uwch na'r terfyn o 5 y cant a ganiateir fel arfer yn Lloegr. Mae'r gyllideb hon yn trosglwyddo cyfrifoldebau i gynghorau heb ddarparu'r arian sydd ei angen arnynt i dalu costau cynyddol a dyletswyddau newydd. Y canlyniad fydd llai o fysiau, arosiadau hirach am ofal, llai o gludiant ysgol ac esgeuluso ffyrdd. Mae busnesau bach yn cael eu gwasgu o bob cyfeiriad, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dewis eistedd ar ei dwylo.

Yn sicr, nid chi yw'r blaid busnes. [Torri ar draws.] Na wnaf. Nid oes ymateb Cymru gyfan ystyrlon i'r gyllideb hon i helpu busnesau bach a chanolig i amsugno costau a threthi. Ardrethi busnes, costau ynni cynyddol, maen nhw'n gofyn am le i anadlu, ond nid yw'r gyllideb hon yn darparu dim iddyn nhw.

Mae Plaid Cymru hefyd ar fai. Maen nhw'n rhan enfawr o'r broblem. Dro ar ôl tro, mae Plaid Cymru yn siarad am wrthblaid, yn protestio ar y grisiau, yna'n cerdded yn syth yn ôl yma ac yn cefnogi'r Llywodraeth hon. Nid llanast Llafur yn unig yw hyn; mae hon yn gyllideb y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, wedi'i chytuno, wedi'i llofnodi a'i hamddiffyn gan y ddwy blaid. Nid oes angen i ni ddyfalu ble mae blaenoriaethau'r Llywodraeth hon gyda'u cymheiriaid, Plaid Cymru. Mae miliynau yn cael eu gwastraffu ar brosiectau tramor tra bod ffyrdd yn chwalu. Mae cynghorau yn torri gwasanaethau, mae ffermwyr yn cael eu hanwybyddu a theuluoedd yn cael eu waldio â biliau uwch. Nid Llywodraeth flaengar yw hon. Mae'n fethiant llwyr o ran blaenoriaethau'r bobl. Gadewch i ni fod yn hollol glir: os bydd Plaid Cymru yn ennill ym mis Mai, a fydd yn drychineb i bobl Cymru, ni fydd unrhyw beth yn newid. Mae Llafur wedi siomi Cymru; mae Plaid Cymru wedi galluogi'r methiant hwnnw. Mae'r hen bleidiau yn hesb o syniadau.

Ac mae Plaid Cymru yn waeth na Llafur: pan fydd Reform yn cymryd yr awenau ym mis Mai, byddwn yn dod â'r gwallgofrwydd hwn i ben. Byddwn yn diwygio'r system o'r brig i'r gwaelod ac yn cyflawni'r gyllideb ac yn rhoi Cymru yn gyntaf, gan weithio gyda'r bobl sy'n gwybod am beth y maen nhw'n sôn, nid nonsens athroniaeth asgell chwith. Ni fydd gwallgofrwydd athroniaeth, dim prosiectau gwagedd, dim cytundebau ystafell gefn gyda phobl sydd eisiau dinistrio'r Deyrnas Unedig. Mae Cymru'n haeddu gwell na'r gyllideb hon. Mae angen diwygio ar Gymru, ac ni fyddwn yn cefnogi'r gyllideb hon heddiw.

17:50

Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb arfaethedig hon heddiw oherwydd ei bod hi'n gyllideb wael i Bowys, ac mae hi'n gyllideb wael i'm hetholwyr. Wel, fe wnaeth y Gweinidog hoffi sylw ar fy nhudalen Facebook pan oeddwn yn beirniadu'r Prif Weinidog yr wythnos o'r blaen—yn ddamweiniol, rwy'n credu; ond fe wnes i sylwi ar hynny.

Mae yna lawer o resymau pam na fyddwn i'n cefnogi'r gyllideb hon heddiw a byddaf yn canolbwyntio ar un o'r rheini yn unig. Mae yna sefyllfa barhaus ac annheg iawn sy'n effeithio ar gleifion Powys sy'n aros am driniaeth mewn ysbytai Lloegr. Mae llawer o'm hetholwyr yn cael eu gorfodi i aros yn hirach na'u cymheiriaid yn Lloegr. Mae hynny oherwydd bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cyfarwyddo darparwyr yn Lloegr i arafu triniaeth yn fwriadol. Maen nhw'n dweud eu bod wedi cymryd y camau hynny i ymateb i'r disgwyliadau ariannol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'n syml: mae Llywodraeth Cymru, pe baen nhw'n darparu cyllid i fwrdd iechyd Powys i brynu capasiti gofal iechyd yn Lloegr yn seiliedig ar dargedau amser aros Lloegr, yna byddai hynny'n dod â'r system ddwy haen i ben sy'n wynebu fy etholwyr. [Torri ar draws.] Fe wnaf i dderbyn ymyriad.

Iawn, ni ddylai bwrdd iechyd Powys fod yn gwario arian nad yw ganddo. Ond mae arnaf i eisiau deall sut y llwyddodd Powys i gyfarwyddo awdurdodau Lloegr i beidio â derbyn eich claf.

O, mae hynny'n gwestiwn ardderchog, Jenny. Gofynnwch i'r Gweinidog iechyd egluro i chi. Rwyf wedi bod yn gofyn iddo egluro ers misoedd sut mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu i fwrdd iechyd Powys wneud hynny. Os gwelwch yn dda, ewch ar drywydd y mater, Jenny. Diolch.

Ac nid ydym ni yng nghanol pandemig. Nid oes gennym ni brinder llawfeddygon. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau ariannol yn unig. Mae capasiti yn yr ysbytai hynny yn Lloegr, ond nid yw'r ysbytai hynny yn derbyn y cleifion hynny oherwydd eu bod yn cael cyfarwyddyd i beidio â'u gweld yn gyflymach, ac mae hyn oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid hwnnw i fwrdd iechyd Powys.

Ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn siomedig iawn? Rydym ni wedi gofyn y cwestiwn hwn i'r Ysgrifennydd cyllid, rwy'n credu i'r Ysgrifennydd Cabinet, ac aelodau o Blaid Cymru sy'n cynrychioli'r ardal hon ar sail ranbarthol: ydyn nhw'n mynd i roi unrhyw arian ychwanegol yn y gyllideb i Bowys? Nid ydym ni wedi cael unrhyw ymrwymiad gan Blaid Cymru na Llafur, felly mae hi yn dangos na allwch chi ymddiried yn Llafur a Phlaid Cymru i sefyll dros eu hetholwyr yng nghanolbarth Cymru.

17:55

Diolch, James Evans, am eich ymyriad. Bydd eich etholwyr, wrth gwrs, yn wynebu'r un sefyllfa â fy rhai i. Ac rydych chi'n iawn, oherwydd wrth gwrs, fis diwethaf, fe gawsom ni gytundeb cyllideb rhwng Llafur a Phlaid Cymru gyda ffanffer mawr ar gyfer y £180 miliwn ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol. Ond dyfalwch faint o hynny gaiff ei wario ar fynd i'r afael â'r mater hwn? Dim ceiniog. Dim ceiniog. Wel, rwy'n tybio bod hynny'n wir. Rwyf wedi gofyn mewn cwestiynau ysgrifenedig, rwyf wedi gofyn mewn llythyrau, rwyf wedi gofyn yn y Siambr hon, ac rwy'n cael diffyg ateb gan wahanol Weinidogion yn barhaus. Mewn gwirionedd, dywedodd y Gweinidog nad yw hyn yn fater iddo, y dylwn i ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd. Gofynnais i'r Ysgrifennydd iechyd. Y cyfan y mae'n ei wneud yw ateb cwestiwn nad wyf wedi'i ofyn, a pharhau i wyro oddi wrth y cwestiwn rydw i'n ei ofyn iddo. A phan ofynnaf i'r Prif Weinidog, mae'r Prif Weinidog yn cytuno bod y sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol, ond nid yw'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu a datrys y sefyllfa hon yr wyf i a Jenny a James yn teimlo nad yw hi'n iawn.

Nid yw'r cytundeb cyllideb hwn rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn fargen dda i bobl Powys. Pe bawn i'n trafod gyda'r Llywodraeth, fe allaf i ddweud wrthych chi y byddai hyn wedi bod ar frig fy rhestr negodi. [Torri ar draws.] Fe allwn i. Fe allwn i, a byddai hynny wedi bod ar frig fy rhestr negodi, a byddai wedi bod yn fater allweddol imi. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, hoffech chi i mi fanylu ar sgyrsiau preifat rydw i wedi'u cael, Lee? Na, roeddwn i'n meddwl na fyddech chi. Na. [Torri ar draws.] Wel, wrth i mi ddweud hyn, byddaf yn cadarnhau fy mod i wedi cael sgwrs anffurfiol, ac yn y sgwrs anffurfiol honno, fe wnes i amlinellu'r hyn rydw i'n ei amlinellu nawr i'r Llywodraeth. Mae hwn yn fater allweddol nad oeddwn yn barod i gyfaddawdu arno o ran cefnogi unrhyw gytundeb cyllideb gyda'r Llywodraeth.

Mae gan fwrdd iechyd Powys, wrth gwrs, amgylchiadau unigryw. Nid oes ganddo ysbyty cyffredinol dosbarth ei hun, ac felly byddwn i wedi negodi, er enghraifft, dros sefydlu cronfa grant comisiynu o ryw fath er mwyn datrys y sefyllfa hon. Dyma un o'r materion mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu pobl Powys, ac mae'r Llywodraeth hon wedi siomi cleifion Powys. Byddwn yn annog y Siambr hon i bleidleisio yn erbyn y gyllideb ofnadwy, annheg ac anaddas hon. 

Llywydd, diolch yn fawr. Mae gwleidyddiaeth dda yn gofyn am gydweithredu ac anghytuno, ac rydym ni wedi gweld hynny i gyd ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Ond mae'n rhyfeddol, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, dros gyfnod cyfan y datganoli, am fwy na chwarter canrif, mae'r ffawtlin hanfodol yn y Senedd yn parhau heb newid. Ar un ochr i'r ffawtlin honno, mae gennych chi bleidiau blaengar, lle rydym ni'n anghytuno ar lawer o bethau ond rydym ni'n gwybod bod gennym ni gyfrifoldeb, cyd-gyfrifoldeb, i basio cyllideb sy'n cefnogi pobl yng Nghymru a'r gwasanaethau cyhoeddus maen nhw'n dibynnu arnyn nhw. Ac ar ochr arall y ffawtlin honno mae gennych chi'r pleidiau hynny nad ydyn nhw'n barod i chwarae eu rhan yn y prosiect gwych hwnnw, a fydd yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb y prynhawn yma er gwaethaf y nifer o areithiau rydym ni wedi'u clywed ganddyn nhw, i gyd yn mynnu bod mwy yn cael ei wario ar hyn a mwy i'w wario ar llall.

Clywais Janet Finch-Saunders eisiau mwy o arian ar ynni, mwy o arian ar wastraff. Clywais Natasha Asghar yn gofyn am fwy o arian ar athrawon, mwy o arian ar gyfer gofal plant, mwy o arian ar gyfer addysg bellach, mwy o arian ar gyfer addysg uwch. Clywais Peter Fox yn dweud y bu hi'n gamgymeriad i beidio â gwario mwy o arian ar iechyd bob blwyddyn. Roedd yn rhy onest i ddweud y byddai ei blaid yn gwario mwy ar iechyd, er gwaethaf y troeon niferus y cafodd ei wahodd i wneud hynny. Yr hyn rydym ni'n ei wybod yn sicr yw y bydd pob un ohonyn nhw'n pleidleisio y prynhawn yma i sicrhau gostyngiad o £3.8 biliwn yn yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dyna ddywedodd eu llefarydd wrthym ni'n gynharach y prynhawn yma: byddant yn pleidleisio yn erbyn penderfyniad treth incwm Cymru, ac mae hynny'n golygu y bydd y diffyg enfawr hwnnw yng nghanol y gyllideb hon. Felly, gyda gweithredoedd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, does ryfedd nad ydyn nhw erioed wedi bod mewn llywodraeth yng Nghymru.

18:00

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Ysgrifennydd Cabinet. Rydych chi, wrth gwrs, yn disgrifio eich hun, gyda Phlaid Cymru, fel pleidiau blaengar yma yn y Senedd. Mae'n rhaid eich bod yn siomedig, felly, i weld cynnydd, fel rydych chi'n ei ddisgrifio, yn arwain at y canlyniadau addysg gwaethaf a welwn ni yma yn y Deyrnas Unedig, y rhestrau aros hiraf a welwn ni yma yn y Deyrnas Unedig, a rhai o'r pecynnau cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig. Allwch chi mewn gwirionedd ddisgrifio hynny fel blaengar ac, felly, cynnydd?

Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod beth rwy'n ei weld yng Nghymru, oherwydd nid wyf erioed wedi gweld yng Nghymru y stori hollol drist y mae yntau a'i gyfeillion yn ei hadrodd bob tro. Rwy'n gweld gwlad lle mae gennym ni'r addysg fwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig gyfan, lle mae plant yn mynd i—[Torri ar draws.] Ie. Ylwch, rydych chi'n anghofio, yng Nghymru, bod gennym ni  chwarter ein plant sy'n cael eu haddysgu'n gyfan gwbl yn ddwyieithog. Ni welwch chi'r llwyddiant hwnnw yn unman yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n gweld Cymru lle mae ein plant yn cael canlyniadau Safon Uwch gwell na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gweld Cymru lle mae amseroedd aros yn dod i lawr yn gyflymach nag yn unrhyw le arall. Rwy'n gweld Cymru sydd eisiau llwyddo, lle rydych chi'n gweld dim ond Cymru y medrwch chi fwrw sen arni. Nid dyna beth fydd y gyllideb hon yn ei wneud, ac nid dyna fydd y Senedd hon yn ei wneud heddiw.

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Jane Dodds am ei sylwadau hael. Mae hi'n iawn, yn ychwanegol at y £180 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y gyllideb hon, bod yna'r £30 miliwn y gwnaethom ni ei drafod y llynedd, sydd yno yng nghyllideb y flwyddyn nesaf hefyd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod o hyd i'r £5 miliwn ychwanegol ar gyfer ansawdd dŵr yn y gyllideb derfynol hon, sy'n sicrhau y bydd y cynlluniau a sefydlwyd gennym ni'r llynedd yn parhau i roi sylw i rywbeth y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei ystyried yn un o'u prif flaenoriaethau.

Ac wrth Blaid Cymru hefyd, dywedais yn fy sylwadau agoriadol, Llywydd, yr hoffwn i gydnabod y sgyrsiau a gawsom ni. Clywais Heledd Fychan yn dweud ei bod hi'n gyd-gyfrifoldeb ar y Senedd gyfan i basio cyllideb. Roedd yna beryg gwirioneddol y byddai cyllideb aflwyddiannus yma yng Nghymru, a byddai cyllideb aflwyddiannus wedi golygu Senedd aflwyddiannus. Ac i'r nifer ohonom ni yma sydd wedi treulio ein bywydau gwleidyddol yn eiriol dros ddatganoli ac i bobl yng Nghymru gael y fforwm penderfynu a welwn ni yma, byddai hynny wedi bod yn drychineb. Rydym ni wedi gallu osgoi hynny.

A gaf i ddiolch yn arbennig i'm cyd-Aelodau yn y Blaid Lafur am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rwy'n ddiolchgar, wrth gwrs, am y sylwadau personol caredig, er bod teyrngedau, fe allaf i ddweud wrthych chi, braidd yn gynamserol. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, braidd yn ddigalon, meddyliais, wedi tynnu sylw ei gyd-Aelodau at sawl gwaith eto y mae'n rhaid iddyn nhw glywed gen i cyn diwedd tymor y Senedd hon, ac rwy'n ofni y byddwch chi'n clywed gennyf hefyd.

Yr hyn a nododd fy nghyd-Aelodau yn y blaid Lafur oedd: yma mae gennym ni gyllideb sy'n ffrwyth y buddsoddiad ychwanegol sydd gennym ni o ganlyniad i Lywodraeth Lafur yn San Steffan. Dywedodd Alun Davies mai, yn 2010, fod y rhestrau aros y byrraf erioed. Roedd hynny yr un flwyddyn pan oedd lefelau boddhad gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn uwch nag erioed. Maen nhw wedi bod ar i lawr ers hynny, Janet, oherwydd, yn 2010, fe wnaethom ni gyrraedd o'r diwedd yr un lefel o fuddsoddiad mewn iechyd yn y Deyrnas Unedig ag y mae ein cydweithwyr Ewropeaidd wedi'u mwynhau ers blynyddoedd lawer. Byth ers hynny, mewn 14 mlynedd hir o gyni, roedd llai o arian, nid mwy o arian, i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd. A'r hyn rydym ni'n ei weld nawr yw dechrau ailgynyddu'r buddsoddiad hwnnw y bydd Llywodraeth Lafur eisiau ei wneud, a dyna pam—

Diolch. Os cofiaf yn iawn, anfonwyd arian at Lywodraeth Lafur Cymru, yn nhermau fformiwla Barnett, yng nghyllideb mis Hydref, a phenderfynoch chi—. Mae gennych chi ddewisiadau, ac fe wnaethoch chi benderfynu ar y cyd i beidio â gwario'r arian hwnnw ar iechyd a'i wario ar fwy o brosiectau gwagedd. Mae hynny'n ffaith.

Na. Na, rydych chi'n hollol anghywir ynglŷn â hynny. Mae'n safbwynt y mae'r Ceidwadwyr wedi ei phedlera dros nifer o flynyddoedd. Nid yw erioed wedi perswadio'r cyhoedd, oherwydd maen nhw'n deall mai'r hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn honno, oedd bod arian wedi'i wario ar ofal iechyd a chymdeithasol. Dyna i ble aeth yr arian. Aeth i wasanaethau gofal cymdeithasol. A faint o areithiau rydw i wedi'u clywed gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma—faint o areithiau rydw i wedi'u clywed y prynhawn yma—yn cwyno am bobl na ellir eu symud allan o'r ysbyty? Oherwydd ein bod yn buddsoddi yn y system yn ei chyfanrwydd—. Ac rydych chi'n cydnabod, ac mae pobl allan yna yn cydnabod—dyna pam nad yw eich safbwynt byth yn gweithio gyda nhw—bod hon yn un system y mae pobl yn dibynnu arni.

Felly, diolch i'r ffaith bod gennym ni Lywodraeth Lafur yma, gan weithio gyda'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi gallu ei ddarparu, rydym ni'n gallu rhoi cyllideb ger bron y Senedd y prynhawn yma sy'n parhau i fuddsoddi—yn parhau i fuddsoddi—yn ein heconomi, yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn y math o ddyfodol yr hoffem ni ei weld yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawn ni mewn mannau eraill yn y Siambr, ond cyllideb y Blaid Lafur yw hon, cyllideb Llafur Cymru, a dyna pam y caiff ei chydnabod fel y cyfryw ym mhob rhan o Gymru.

18:05

Gan fod y bleidlais ar gyfraddau treth incwm wedi ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y gyllideb derfynol tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2026-27

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar y setliad llywodraeth leol 2026-27. Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol sy'n gwneud y cynnig yma—Jayne Bryant. 

Cynnig NDM9119 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2026-27 (Setliad Terfynol—Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, setliad llywodraeth leol 2026-27 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru.

Fe hoffwn i ddechrau drwy fynegi fy niolchgarwch diffuant i aelodau a staff etholedig llywodraeth leol ar draws yr holl awdurdodau am y gwaith hanfodol y maen nhw'n parhau i'w gyflawni i gymunedau, unigolion a busnesau ledled Cymru. Gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad a'u cydnerthedd yn ystod cyfnod heriol. Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydym ni wedi ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol. Ac rwy'n ddiolchgar i arweinwyr am y ffordd y mae'r trafodaethau hyn wedi'u cynnal.

Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu awdurdodau lleol, yn enwedig mewn perthynas ag addysg a gofal cymdeithasol. Mae cynghorau ledled Cymru yn parhau i ymdrin â heriau sylweddol a pharhaus, ac rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'w cefnogi yn yr ymdrech hon. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gydag arweinwyr llywodraeth leol i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o rym gwario awdurdodau lleol.

Rwy'n falch iawn bod y cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru yn darparu £112.8 miliwn ychwanegol i gefnogi llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl Cymru. Yn 2026-27, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn dros £6.5 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig—cynnydd ariannol o £282 miliwn. Canlyniad hyn yw bod y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2026-27 4.5 y cant yn uwch na'r flwyddyn ariannol gyfredol, ar sail gyfatebol. Bydd pob awdurdod yn derbyn cynnydd o dros 4 y cant. Bydd y cynnydd sylweddol hwn yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, yn diogelu swyddi ac yn galluogi cynghorau i gadw biliau'r dreth gyngor mor isel â phosibl. Bydd yn cefnogi awdurdodau lleol i barhau i fuddsoddi mewn ysgolion, addysg a darparu gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r gwasanaethau beunyddiol sy'n effeithio ar ein bywydau ni i gyd.

Ochr yn ochr â'r setliad, rwyf wedi darparu gwybodaeth amlinellol am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2026-27. Mae'r rhain yn gyfystyr â dros £1.3 biliwn ar gyfer refeniw a dros £1 biliwn ar gyfer cyfalaf, ar gyfer y blaenoriaethau rydym ni'n eu rhannu gyda llywodraeth leol. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd llywodraeth leol ar draws y Llywodraeth. Rwyf wedi ychwanegu £4 miliwn at y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2026-27 i gefnogi pwysau chwyddiant a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau ariannu prosiectau cyfalaf llai.

  Felly, gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.

Mae'r gyllideb ddrafft yn rhoi llywodraeth leol mewn sefyllfa ofnadwy, gyda chynnydd o 2 y cant yn gadael cynghorau £436 miliwn yn waeth eu byd. Gallai hyn fod wedi golygu naill ai cynnydd o 22 y cant yn y dreth gyngor, neu golli 14,000 o swyddi. Nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai'r setliad gwreiddiol wedi bod yn senario risg uchel i'r sector, ac fe glywsom ni gan yr archwilydd cyffredinol fod rhai cynghorau yn agos iawn at orfod cyhoeddi hysbysiad ffurfiol adran 114. Byddai cynnydd o 2.4 y cant wedi pentyrru'r pwysau ar gynghorau ac wedi gwneud methdaliad yn agosach fyth. Pan gyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet y gyllideb hon am y tro cyntaf, honnodd y byddai'n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'n hetholwyr. Mewn gwirionedd, roedd hon yn gyllideb a fyddai, pe bai heb ei diwygio, wedi bod yn drychinebus i Gymru. Yn wyneb canlyniadau mor enbyd i'n cenedl a'n cymunedau, ni allai Plaid Cymru fynd o'r tu arall heibio, nid pan fyddwn ni'n rhoi pwys mor fawr ar amddiffyn pobl yng Nghymru. Rydym ni'n rhoi buddiannau gwlad yn gadarn o flaen y blaid a, diolch i'n hymyrraeth, rydym ni bellach mewn sefyllfa lawer mwy diogel. Bydd cynnydd cyfartalog o 4.5 y cant ar gyfer awdurdodau lleol, gyda neb yn derbyn llai na 4.1 y cant, yn gwarchod miloedd o swyddi. O ganlyniad i'n hymyrraeth, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan na fydd codiadau i'r dreth gyngor o 10 y cant neu fwy bellach yn unrhyw le yng Nghymru. Mae ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr hefyd wedi cael hwb o £180 miliwn ychwanegol, gan roi lle i anadlu sy'n fawr ei angen cyn yr hyn sy'n debygol o fod yn flwyddyn heriol arall.

Gadewch i ni fod yn glir, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi llwyddo lle mae Llafur wedi methu, trwy gyflawni sefydlogrwydd a sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus, nid ydym ni'n cefnogi'r gyllideb hon, ond byddwn yn ymatal i ganiatáu iddi basio. Mae ein cynghorau yn haeddu llawer mwy na'r hyn y mae gwaddol Llafur wedi'i adael iddyn nhw, sef papuro dros y craciau yn hytrach na darparu atebion hirdymor cynaliadwy. Rydym ni'n gwybod nad dyna beth mae ein cynghorau na phobl Cymru yn ei haeddu.

Os cawn y fraint o arwain Llywodraeth nesaf Cymru, byddwn yn cynllunio dyfodol newydd beiddgar i'n cenedl. Byddwn yn edrych ar sut mae cynghorau ledled Cymru yn gweithio ar hyn o bryd. Bydd ein pwyslais ar wella gweithrediad a chydweithrediad ein hawdurdodau lleol. Byddwn hefyd yn ceisio adnewyddu a diwygio'r fformiwla ariannu llywodraeth leol fel ei bod yn deg ac yn adlewyrchu'r realiti o wasanaethu poblogaethau gwledig mwy. Gallwn wneud cymaint yn well. Ym mis Mai, os bydd pobl yng Nghymru yn dewis Plaid Cymru, byddwn yn profi hynny. Diolch.

18:10

Ni fydd yn syndod na fyddwn yn ymatal ar y cynnig hwn fel Plaid Cymru. Ni fyddwn yn cefnogi'r setliad hwn oherwydd er bod Llafur Cymru yn cyflwyno'r setliad llywodraeth leol hwn ar bapur fel un teg, cyfrifol a chynaliadwy, mae'r realiti i gynghorau a chymunedau ledled Cymru yn adrodd stori wahanol iawn. Unwaith y byddwch chi'n edrych y tu hwnt i'r ffigurau pennawd, mae'n dod yn amlwg yn gyflym nad yw'r setliad hwn yn cyfateb i'r honiadau sy'n cael eu gwneud amdano. Pan ystyrir chwyddiant, codiadau cyflog, costau pensiwn a'r cynnydd yn y galw am wasanaethau, mae'r setliad hwn ond y dim yn cynnal costau ar y gorau. Yn syml, mae cynghorau yn wynebu costau cynyddol sy'n llawer mwy na'r cyllid y bydd y setliad hwn yn ei roi iddyn nhw, sy'n golygu na fydd eu grym gwario yn gwella, ni waeth sut mae'r setliad hwn wedi'i gyflwyno. Beth y mae hyn yn ei olygu yw bod y cyhoedd yn cael gwybod bod cynghorau wedi derbyn cynnydd, ond, yn ymarferol, gofynnir i gynghorau ysgwyddo rhestr gynyddol o bwysau anochel. Mae'r rhain yn cynnwys costau staff uwch, biliau ynni cynyddol, galw cynyddol am ofal cymdeithasol, niferoedd uwch nag erioed o ddigartrefedd, a'r baich ariannol llawn o ddarparu'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol. Unwaith y caiff y biliau hynny eu talu, byddwn yn dadlau y bydd llawer o gynghorau yn cael eu gadael heb fawr o hyblygrwydd o gwbl, gan eu gorfodi i wneud penderfyniadau cynyddol anodd gyda llai a llai o ddewisiadau ar gael. Llywydd, mae'r broblem hon yn arbennig o ddifrifol oherwydd bod llywodraeth leol yn sector lle mae yna weithwyr niferus, gyda chostau staffio yn mynd â rhan fwyaf o gyllidebau'r cyngor.

Fel y dywedais i eisoes, nid yw'r setliad hwn yn ariannu dyfarniadau cyflog disgwyliedig y sector cyhoeddus yn llawn, gan adael cynghorau gyda dewis amhosibl—naill ai i dorri gwasanaethau i dalu'r diffyg, neu drosglwyddo'r gost i breswylwyr trwy daliadau treth gyngor uwch. O ganlyniad, mae problemau recriwtio a dal gafael ar staff yn mynd i waethygu, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, cynllunio, iechyd yr amgylchedd a chymorth addysg, lle mae cynghorau'n cael trafferth cystadlu o ran cyflog ac amodau. Yn hanfodol, nid yw'r setliad hwn chwaith yn gwneud unrhyw ymgais i wrthdroi mwy na degawd o doriadau cronnus termau real i gyllid llywodraeth leol. Yn hytrach na chryfhau cynghorau, mae'n eu gadael yn wannach nag o'r blaen.

Llywydd, mae cymunedau ledled Cymru wedi profi colli gwasanaethau hanfodol digynsail, gan gynnwys toriadau i wasanaethau ieuenctid, gostyngiadau mewn trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, cau llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, oedi gyda gwaith cynnal a chadw ffyrdd a chwtogi ar wasanaethau ataliol sy'n helpu pobl i gadw'n iach ac yn annibynnol. Rydym ni hefyd yn gweld cynghorau yn ceisio cael gwared ar unrhyw beth maen nhw'n ei weld fel rhwymedigaeth ariannol, yn enwedig adeiladau treftadaeth. Enghraifft glir o hyn yw ymgais Cyngor Caerdydd i werthu'r Plasty, ased diwylliannol a hanesyddol bwysig, dim ond oherwydd ei fod bellach yn ei weld fel baich ariannol.

Mae'r effaith ar ofal cymdeithasol yn arbennig o amlwg. Mae'r galw yn parhau i gynyddu wrth i'n poblogaeth heneiddio ac anghenion ddod yn fwy cymhleth, ond mae disgwyl i gynghorau ysgwyddo'r pwysau hyn heb gyllid sy'n adlewyrchu gwir raddfa'r her. Pan na all gofal cymdeithasol ymdopi, mae'r canlyniadau'n effeithio ar y system gyfan, gan gyfrannu at oedi wrth ryddhau o'r ysbyty a rhoi straen pellach ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Nid yw'r setliad hwn yn gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r cylch hwnnw ac yn gadael cynghorau yn sownd mewn sefyllfa o reoli argyfyngau yn hytrach na'u hatal.

Effeithir hefyd ar addysg. Mae awdurdodau lleol yn cael trafferth cefnogi ysgolion sy'n wynebu costau cynyddol, pwysau ar y gweithlu a'r gofynion cynyddol o ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol. Oherwydd ei bod hi'n ofynnol yn gyfreithiol i gynghorau ddarparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol, rhaid gwneud iawn am unrhyw ddiffyg cyllid trwy dorri gwasanaethau eraill, gyda'r effaith yn cael ei deimlo gan ddisgyblion, rhieni ac athrawon fel ei gilydd. Nid yw hyn yn buddsoddi yn nyfodol Cymru.

Ar ben hynny, mae'r setliad hwn yn peryglu dyfnhau anghydraddoldeb rhwng cymunedau. O'r 10 cyngor sy'n derbyn y cynnydd mwyaf, dim ond dau sydd yn y gogledd. Mae cynghorau'r gogledd yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r rhai sy'n derbyn y cynnydd isaf, sy'n golygu bod cymunedau gwledig a gogleddol unwaith eto yn cael eu gadael ar ôl gan fformiwla ariannu nad yw bellach yn addas i'r diben ac sy'n ffafrio cadarnleoedd diwydiannol Llafur. Gofynnir i gynghorau sydd â lefelau uwch o amddifadedd ac angen i wneud mwy gyda llai, tra bod y system ariannu yn methu â chadw i fyny â newid demograffig a'r galw cynyddol. Yn hytrach na lleihau'r bwlch rhwng cymunedau, mae'r dull hwn yn peryglu ei ehangu.

Yn ei hanfod, diffyg sylfaenol y setliad hwn yw ei fod yn gofyn i lywodraeth leol ysgwyddo canlyniadau polisi cenedlaethol. Disgwylir i gynghorau ddarparu mwy o wasanaethau, bodloni safonau uwch ac ymateb i'r galw cynyddol heb gael yr adnoddau na'r sicrwydd hirdymor sydd eu hangen i wneud hynny'n iawn. Nid partneriaeth yw hyn; trosglwyddo costau yw hyn. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers tro dros adolygiad annibynnol o'r fformiwla cyllido llywodraeth leol, ac mae hyn yn rhywbeth sydd ei angen ar frys. Yn rhy aml, mae cynghorau yn dal eu gafael ar gronfeydd wrth gefn sylweddol y gellir eu defnyddio, gan droi dro ar ôl tro at godiadau i'r dreth gyngor a thorri gwasanaethau yn hytrach na gwario i wella gwasanaethau. Mae trigolion yn haeddu llais cryfach yn y penderfyniadau hyn, a dyna pam rydym ni hefyd yn credu y dylai unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor o 5 y cant neu fwy sbarduno refferendwm lleol, gan ganiatáu i drigolion gael dweud eu dweud yn uniongyrchol.

Llywydd, llywodraeth leol yw'r system agosaf sydd gennym ni i fywydau bob dydd pobl, a phan mae cynghorau yn cael trafferth, mae cymunedau'n ei deimlo yn gyntaf ac maen nhw'n ei deimlo anoddaf. Nid yw'r setliad hwn yn cryfhau llywodraeth leol, nid yw'n amddiffyn trigolion, mae'n cynnig mwy o dorri gwasanaethau iddyn nhw a mwy o gynnydd i'r dreth gyngor, y byddwn yn sicr yn eu gweld ym mis Ebrill. Mae Cymru'n haeddu setliad sy'n onest am y pwysau y mae cynghorau yn eu hwynebu, sy'n deg i gymunedau ledled y wlad ac yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir. Mae'r setliad hwn yn ddiffygiol o ran y tri pheth yna, a dyna pam mae'n ddrwg i awdurdodau lleol, yn ddrwg i bobl Cymru, a dyna pam nad ydym ni'n ei gefnogi. Diolch.

18:15

Mae llywodraeth leol yn darparu llawer o'r gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid yn unig casglu sbwriel, cynnal a chadw ffyrdd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond safonau masnach, iechyd yr amgylchedd, sicrhau bod darparwyr bwyd yn gweithio'n ddiogel, a'n parciau. Rydym ni wedi cael 14 mlynedd o doriadau i lywodraeth leol ac ni ellir gwyrdroi hyn mewn un gyllideb yn unig. Bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu llywodraeth leol ac iechyd, fel y gofynnais mewn dadl gynharach ar y gyllideb—y gofynnais hefyd yn y Pwyllgor Cyllid. Bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd mwy nag yn 2025-26, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 4.5 y cant ar sail gyfatebol, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £6.14 biliwn drwy grant cynnal refeniw Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig i ddarparu'r gwasanaethau allweddol rydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

Mae'r cytundeb cyllideb terfynol yn cynnwys £8.24 miliwn ychwanegol i sicrhau cyllid gwaelodol yn y setliad i gynyddu'r cyllid sydd ar gael i naw awdurdod lleol. Mae'r newid yn yr angen cyllidebol yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar y newid cymharol yn y boblogaeth. Rwy'n gobeithio na fydd y cyllid gwaelodol hwn yn dod yn rhywbeth arferol, gan fod hyn yn ystumio'r setliad yn seiliedig ar asesiad gwariant safonol, sy'n cael ei gyfrifo ar faint y dylai'r awdurdod lleol ei wario ar bob gwasanaeth.

O edrych yn syml ar gyllideb Cyngor Abertawe a dod â honno ymlaen i eleni, rwy'n amcangyfrif bod angen cynnydd o tua 5 y cant ar gyfer cyllideb ddigyfnewid ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gweld cynnydd i'r dreth gyngor o dan gynigion y gyllideb, ond y dylen nhw fod o dan 5 y cant, oherwydd mae ganddyn nhw 0.5 y cant i wneud iawn amdani.

Rwy'n croesawu ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i leihau'r baich gweinyddol ar lywodraeth leol trwy gydgrynhoi neu ddadneilltuo grantiau ar draws ystod eang o feysydd. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith bod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi ym mis Rhagfyr fod Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gadw'r uchafswm tâl o £100 yr wythnos am ofal cymdeithasol. Mae'r cynnydd yn y setliad yn cynnwys £5 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol gydag effaith hyn. Mae gan lywodraeth leol yng Nghymru lawer o bwysau ariannol sydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Mae addysg yn faes mawr o wariant ac mae angen bodloni codiadau cyflog athrawon yn llawn. Addysg yw'r allwedd i symud plant allan o dlodi.

Rydw i'n mynd i drafod yn fanwl tair elfen o bwysau ariannol mawr ar lywodraeth leol. Mae darparu gofal cymdeithasol yn hanfodol i'r system iechyd a gofal weithredu'n effeithiol ac mae iddo ran allweddol wrth gyflawni canlyniadau iechyd cadarnhaol. Mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain yn uniongyrchol at leihau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, o ran cadw pobl allan o'r ysbyty a helpu pobl i ddychwelyd adref ar yr adeg briodol, gan leihau oedi wrth drosglwyddo pobl. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio ac mae pobl yn byw'n hirach, gydag anghenion cymhleth a dementia. Bydd hyn heb amheuaeth yn parhau i gynyddu'r pwysau ar wasanaethau gofal. Rhagwelir y bydd nifer yr oedolion hŷn sy'n byw gyda dementia difrifol yn dyblu erbyn 2040.

Mae cynghorau yng Nghymru yn parhau i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ond mae'r galw a'r costau cynyddol yn ei gwneud hi'n anoddach eu cynnal. Mae ffigurau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dangos bod disgwyl i'r gwariant ar anghenion dysgu ychwanegol a chymorth blynyddoedd cynnar gynyddu 6 y cant yn 2026-27, sef tua £46 miliwn ledled Cymru. Mae cynghorau unigol yn rhagweld cynnydd o hyd at 14 y cant. Mae dros 70 y cant o wariant anghenion dysgu ychwanegol yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi dysgwyr, tra bod costau trafnidiaeth yn cyfrif am oddeutu 13 y cant.

Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod mwy na 10,900 o bobl yn byw mewn llety dros dro ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae'r nifer mwyaf erioed o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro, gan fod y galw cynyddol am gymorth digartrefedd wedi gwthio gwariant cynghorau i fyny mwy na 600 y cant yn y degawd diwethaf. Mae'r swm o arian y mae cynghorau yn ei wario ar ddelio â digartrefedd wedi neidio o oddeutu £13 miliwn yn 2016-17 i £101 miliwn eleni, cynnydd sy'n llawer mwy na chyllid llywodraeth leol ac wedi gorfodi cynghorau i ddargyfeirio arian o wasanaethau hanfodol eraill. Mae'r rhain yn feysydd lle mae llywodraeth leol ag ychydig iawn o allu i leihau'r galw. Nid mater o 'rydym ni'n mynd i wneud pethau'n well yw hi', mae'r galw yno ac mae'n rhaid ei ddiwallu.

Mae'r dreth gyngor yn talu am lai na chwarter cyfanswm gwasanaethau'r cyngor, gyda'r gweddill yn cael eu hariannu'n bennaf gan y grant cymorth ardrethi a chyfran y cyngor o ardrethi busnes, sydd ill dau'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Mae cynghorau hefyd yn codi arian o ffioedd a thaliadau, ond mae gan rai cynghorau fwy o gyfle i godi'r arian hwn nag eraill. Mae'r cynnydd canrannol yng nghymorth Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yn debyg iawn, yn amrywio rhwng cyllid gwaelodol o 4 y cant a Chasnewydd ar 6.5 y cant. Mae'r swm gwirioneddol fesul person yn amrywio'n sylweddol. Pam mai Casnewydd yw'r uchaf? Oherwydd ei fod wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y boblogaeth. Os ydych chi eisiau cael mwy o arian o ran grant cymorth ardrethi, ac ati, cynyddwch eich poblogaeth.

Fe wyddom ni fod gan sir Fynwy y nifer fwyaf o eiddo ym mand D ac uwch, tra bod gan Flaenau Gwent dros hanner ei eiddo ym mand A. Mae hyn yn arwain at lai o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i sir Fynwy a mwy o gymorth ariannol i Flaenau Gwent. Mae'r gyllideb am flwyddyn yn unig. Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir. Bydd angen cymorth parhaus ar lywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod wrth i ofal cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol a chostau digartrefedd barhau i godi.

18:20

Cyfraniad byr iawn gen i, dim ond i dalu teyrnged i'r swm anhygoel o waith caled a chydnerthedd a ddangosir ar draws ein sector. Mae gweithwyr awdurdodau lleol yn hynod werthfawr i ni, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn eu cadw a'n bod yn eu gwerthfawrogi. Rwy'n croesawu'r penderfyniad i godi'r cyllid gwaelodol i 4 y cant. I gynghorau a oedd yn wynebu toriadau dinistriol o dan y setliad gwreiddiol o 2.7 y cant, mae hyn yn welliant sylweddol.

Fe hoffwn i ddim ond canolbwyntio ar y mater ym Mhowys. Er gwaethaf y cynnydd yn y setliad hwn, mae'r cyngor yn dal i wynebu diffyg o £19 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Mae addysg yn wynebu miliynau o bunnau mewn diffyg, ac mae hyn yn arbennig o ganlyniad i'r cynnydd mewn pwysau a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod yn briodol y straen sylweddol, ond mae hyn yn straen arbennig i ardal wledig fel Powys. Mae'n ddaearyddol eang gyda dwysedd poblogaeth isel. Rydym ni'n darparu gwasanaethau ar draws ardal fawr, sy'n dod â chostau ychwanegol anochel. Ond mae'r fformiwla ariannu sydd i fod i gydnabod y pwysau hyn yn dal i ddibynnu, yn rhannol, ar ddata o gyfrifiad 1991, sy'n 35 oed.

Mae canlyniadau'r methiant hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fantoli'r cyfrifon. Pan fydd cyllid yn dynn, gwasanaethau ataliol yn aml yw'r cyntaf i gael eu torri—gwasanaethau ieuenctid, ymyrraeth gynnar, cymorth cymunedol sy'n cadw pobl yn iach ac yn annibynnol, a gwasanaethau gofal plant hefyd. Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi bod yn glir iawn: mae'r angen cyson am gyllid gwaelodol flwyddyn ar ôl blwyddyn yn profi bod y fformiwla yn sylfaenol ddiffygiol. Mae'r pwyllgor wedi galw am adolygiad cynhwysfawr o'r data a'r dangosyddion sy'n sail i'r fformiwla ariannu hon.

18:25

Rwyf wedi gofyn i'r Llywodraeth gyhoeddi'r asesiad gwariant safonol ar gyfer pob awdurdod lleol, ac i gyhoeddi, ar yr un pryd, y grant cymorth ardrethi ar gyfer pob awdurdod lleol. Maen nhw wedi methu â gwneud hynny hyd yn hyn. A wnewch chi ofyn am yr un peth?

Diolch. Rwy'n siŵr y gallaf gefnogi hynny, ac roedd gennych chi berffaith hawl i ofyn am hynny yn eich araith hefyd, ond rwy'n galw am rywbeth gwahanol. Rwy'n galw am adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu i sicrhau bod pob punt yn cael ei dyrannu'n deg, a bod gan gynghorau, trefol a gwledig, yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wasanaethu eu cymunedau.

Mae'r setliad hwn yn well na'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol, ac rwy'n ddiolchgar am y cytundeb a wnaed er mwyn sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn gallu cynllunio, ac i sicrhau bod swyddi a swyddogaethau yn cael eu cadw. Ond mae diffygion o hyd. Mae cymunedau Cymru yn haeddu system o ariannu llywodraeth leol sy'n deg, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Dyna'r dull y bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a minnau yn parhau i'w hyrwyddo, ac mae'n ddull y mae Cymru yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n falch bod y cyllid a gafodd ei ddal yn ôl ar gyfer trafod wedi mynd i wella gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir trwy lywodraeth leol ac iechyd. Ni allwn i fod wedi pleidleisio dros unrhyw beth arall a gweld y gwasanaethau bob dydd sy'n bwysig i bawb yn diffygio, neu i weld diswyddiadau torfol.

Mae llywodraeth leol eisoes wedi'i hailstrwythuro, ei had-drefnu a'i thorri i'r asgwrn. Mae'n rhannu gwasanaethau ac arbenigedd yn rhanbarthol eisoes. Nid oes dyblygu mwyach mewn chwe awdurdod lleol yn y gogledd. Maen nhw, o'u hanfodd, wedi cyflwyno neu gynyddu ffioedd a thaliadau am wasanaethau, a dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod 40 y cant o'r swyddi wedi cael eu dileu dros y blynyddoedd. Mae angen cyllid gwaelodol arnyn nhw hefyd, fel y dywedwyd, fel bod cynghorau sy'n cael llai o arian yn rheolaidd, fel y rhai yn y gogledd, ac sydd wedi defnyddio eu cronfeydd wrth gefn, yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau sylfaenol nawr y mae pawb eu hangen.

Bydd y cyllid ychwanegol a ddarperir drwy'r gyllideb hon yn cefnogi'r gwaith o barhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol hanfodol i oedolion a phlant. Mae'n faes lle mae diwallu'r galw uniongyrchol wrth weithio i atal anghenion yn y dyfodol yn cyflwyno heriau sylweddol, ac mae'n bryder mawr iawn i'r arweinwyr. Bydd y cyllid cynyddol yn cefnogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol, sydd bellach yn £13.45, ond os ydym ni am recriwtio, mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gyflog gweddus a bod llwybrau gyrfa priodol.

O ystyried y pwysau ehangach ar ofal cymdeithasol a'r cyhoeddiad diweddar am y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol yn 2026, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gweithlu hanfodol hwn, a byddant yn mynd ati'n frwd i archwilio dewisiadau ar gyfer cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn, ac rwy'n falch o hynny. Rwy'n pryderu bod Reform a'r Ceidwadwyr yn credu bod mwy o doriadau i'w darganfod, ond maen nhw'n dal i ddisgwyl i wasanaethau gael eu darparu. Does dim byd ar ôl. Maen nhw'n cwyno pan na chânt eu cyflwyno, fel yr wyf wedi clywed mor aml yn y Siambr. Mae'n sioc weithiau, y rhagrith.

Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rwy'n credu mai toriadau i'r gwasanaethau hyn dros y blynyddoedd sydd wedi gweld cynnydd mewn anfodlonrwydd a chynnydd mewn pleidleisiau dros Reform, sydd eisiau gweld mwy o doriadau i les a gwasanaethau cyhoeddus, felly rydym ni'n parhau â'r cylch o amddifadedd ac anfodlonrwydd. Mewn llawer o ardaloedd, gwasanaethau cyhoeddus yw'r cyflogwr mwyaf, boed hynny trwy'r cynghorau neu drwy iechyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflogi tua 19,000, ac mae cynghorau'n cyflogi rhwng 5,500 ac 8,000 yn y gogledd, yn dibynnu ar y boblogaeth. Yn Ynys Môn, dyma'r cyflogwr mwyaf. Mae angen i ni fuddsoddi yn yr economi sylfaenol.

Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl. Mae gan bawb hawl i fywyd gweddus, cartref braf, mynediad at addysg dda, gofal iechyd pan fo angen, strydoedd, parciau a mannau gwyrdd glân, ac i gael ymdeimlad o berthyn mewn cymuned a chymdeithas braf. 

18:30

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw. Tynnodd yr holl Aelodau sylw at bwysigrwydd llywodraeth leol, y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, a'r bobl sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol—y swyddogion a'r aelodau etholedig hynny.

Rwy'n credu bod y Torïaid wedi anghofio'r 14 mlynedd o gyni y gwnaethon nhw ei achosi i'r Deyrnas Unedig ac effaith hynny. Mae'r ffaith ein bod ni wedi gallu rhoi bron i £410 miliwn o refeniw a dyraniadau cyfalaf newydd a chyllid ychwanegol ar gyfer pwysau chwyddiant a chyflogau oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig.

Rwy'n gwerthfawrogi bod Mike wedi tynnu sylw at rai o'r gofynion sydd wedi'u canfod gydag awdurdodau lleol. Rydym ni'n gwybod eu bod yn cynyddu, yn enwedig mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, trafnidiaeth ysgol ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r rhain yn dueddiadau parhaus. A dyna pam mae'n bwysig iawn ceisio gweithredu mesurau ataliol hefyd, nid o reidrwydd i leihau costau, ond i atal y galw hwnnw. Rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol mewn gwahanol lefydd yn gwneud pethau mewn gwahanol ffyrdd, a dyna pam mae'n bwysig iawn eu bod yn rhannu'r profiadau hynny a'r arferion da hynny.

Felly, er bod y setliad yn gynnydd mewn termau real, rwy'n cydnabod, fel y dywedais, bod y galw am wasanaethau, ochr yn ochr â'r pwysau cost hynny, yn golygu y bydd angen i awdurdodau wneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau, effeithlonrwydd a'r dreth gyngor wrth bennu cyllidebau. Ond serch hynny, mae hwn yn setliad sy'n adeiladu ar ddyraniadau gwell ar flynyddoedd blaenorol.

Soniodd nifer o Aelodau am y fformiwla ariannu. Felly, mae'r cyllid craidd a ddarparwn ni i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu trwy fformiwla sefydledig sy'n cael ei chreu a'i datblygu gyda llywodraeth leol ac y cytunir arni'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Nid yw'r fformiwla hon yn seiliedig ar agenda wleidyddol ond ar ddata. Mae'n cydbwyso'r angen cymharol a'r gallu cymharol i godi incwm, fel bod awdurdodau ledled Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Mae rhaglen waith barhaus i gynnal a diweddaru'r fformiwla, gan gynnwys sut mae angen i'r fformiwla ymateb i'n gwaith i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru ac i bolisïau ac amgylchiadau eraill sy'n newid. Ac mae hyn yn cynnwys gwaith i adolygu a diweddaru'r data a'r pwysoliadau, megis mesurau teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd. 

Soniodd Carolyn am y cyllid gwaelodol, ac rwy'n credu bod Jane wedi gwneud hynny hefyd. Ystyrir y cyllid gwaelodol mewn unrhyw flwyddyn pan ystyrir nad yw'r newid yn y dyraniad ar gyfer awdurdod unigol yn cael ei reoli. Ychwanegwyd cyllid ychwanegol yn setliad llywodraeth leol dros dro 2026-27, ac roedd hynny'n galluogi i ni gael cyllid gwaelodol o 2.3 y cant, a oedd o fudd i 10 awdurdod. Ac roedd hynny'n dilyn cyllid gwaelodol sylfaenol y flwyddyn flaenorol yn y cytundeb gyda Jane Dodds.

Ond mae'r cytundeb cyllideb hwn yn dangos cryfder, rwy'n credu, pleidiau'r Senedd yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r cyd-flaenoriaethau blaengar i bobl Cymru. Trwy'r cytundeb hwn, rydym ni wedi sicrhau pasio'r gyllideb ac wedi osgoi toriadau trychinebus i gyllid ar gyfer llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.

Ein bwriad ni o hyd oedd defnyddio ein holl adnoddau i sicrhau cyllideb derfynol fwy uchelgeisiol. Hynny a wnaethom ni, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n union. Yn ei hanfod, cyllideb Lafur yw hon sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac yn diogelu swyddi. Felly, rwy'n cymeradwyo'r setliad i'r Senedd. Mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wasanaethau cyhoeddus cryf ac mae'n parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Eitem 8 sydd nesaf, cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM9116 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) adrannau 1 i 40;

b) atodlen 1;

c) adrannau 41 i 44;

d) teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

18:35

Yn ffurfiol, felly. Does gyda fi ddim siaradwyr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu’r gloch, byddaf yn symud i'r bleidlais. [Torri ar draws.] Mae yna dri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch ar gyfer y pleidleisio. Fe wnawn ni ganu'r gloch, felly.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:40
9. Cyfnod Pleidleisio

Rydyn ni'n dod i gynnal pleidleisiau o dan y cyfnod pleidleisio, felly. Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 5. Y cyfraddau treth incwm Cymru 2026-27 yw'r cynnig yma, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 13 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 5. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2026-27: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Cyllideb derfynol 2026-27 yw'r bleidlais nesaf, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 14 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r gyllideb wedi'i chymeradwyo. 

Eitem 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2026-27: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 7 yw'r bleidlais nesaf, ar setliad llywodraeth leol 2026-27. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 13 yn ymatal, 13 yn erbyn. Mae'r cynnig yna hefyd wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2026-27: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.