Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/11/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yw'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.

Cysylltedd Ffyrdd yn Nyffryn Clwyd

1. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella cysylltedd ffyrdd yn Nyffryn Clwyd? OQ63492

Rydym yn buddsoddi yn ffyrdd sir Ddinbych drwy'r gronfa ffyrdd gwydn a rhaglenni cynnal a chadw. Mae cyllid y fenter benthyca llywodraeth leol wedi darparu £2.8 miliwn hyd yn hyn. Mae hynny wedi arwain at atgyweirio neu atal oddeutu 2,500 o dyllau yn y ffordd, ac erbyn diwedd y flwyddyn, bydd cymaint ag oddeutu 6,000. Rydym hefyd wedi lansio gwasanaeth bws newydd TrawsCymru T51 yn ddiweddar, i wella cysylltedd ar draws Dyffryn Clwyd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y prosiect seilwaith ffyrdd mawr diwethaf yn Nyffryn Clwyd oedd ffordd osgoi Rhuddlan, yn ôl ym 1997—prosiect Llywodraeth y DU, cyn datganoli. Ers datganoli, nid ydym wedi cael unrhyw welliannau ffyrdd mawr o ran seilwaith a chysylltedd, er bod poblogaeth sir Ddinbych wedi cynyddu oddeutu 6,000 ers adeiladu ffordd osgoi Rhuddlan. Er ei bod yn braf gweld mwy o bobl yn symud i'n hardal, nid ydym byth yn gweld y buddsoddiad mewn seilwaith i wasanaethu'r boblogaeth sy'n tyfu. Mae'n un o'r cwynion mwyaf cyffredin y mae swyddogion etholedig yn eu clywed gan etholwyr, yn enwedig o ran datblygiadau tai newydd. Os mai'r awydd yw gweld llai o geir ar y ffyrdd, mae angen inni weld buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus hefyd, ond nid ydym yn gweld hynny yn y gogledd chwaith. Mae cysylltedd yn fy etholaeth i'n dirywio, gyda methiant yr awdurdod lleol i adeiladu pont Llannerch i gysylltu Trefnant a Thremeirchion, a'r tagfeydd ychwanegol a achosir gan y terfyn 20 mya. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pam nad yw fy etholaeth i wedi gweld unrhyw fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith ffyrdd yn y 27 mlynedd diwethaf, a sut y mae'n monitro digonolrwydd y seilwaith ffyrdd mewn ymateb i ddemograffeg sy'n newid?

Mae'r Aelod wedi gofyn nifer o gwestiynau. Yn gyntaf oll, mae yna astudiaeth gwydnwch sy'n edrych ar goridor yr A55. Bydd yr astudiaeth honno'n edrych ar sut y mae'r gefnffordd yn rhyngweithio â'r rhwydwaith ffyrdd lleol hefyd. Darparwyd cyllid o bron i £1 filiwn drwy'r gronfa ffyrdd gwydn i Gyngor Sir Ddinbych yn y flwyddyn ariannol hon, i edrych ar wneud gwelliannau i'r llwybrau a ddefnyddir yn lle pont Llannerch. Credaf mai'r peth pwysicaf i'w nodi, serch hynny, yw bod sir Ddinbych yn rhan o ogledd Cymru, ac mae gogledd Cymru wedi cyhoeddi eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol—cynllun uchelgeisiol iawn, ac rwy'n canmol y rhanbarth am ei gynhyrchu. Bydd hwnnw nawr yn denu cyllid o £29 miliwn gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Dros gyfnod o bum mlynedd, golyga hynny, ar gyllid y flwyddyn nesaf, y bydd bron i £150 miliwn ar gael i'w wario yn erbyn blaenoriaethau trafnidiaeth. Mae hwnnw'n fuddsoddiad enfawr yn y rhanbarth, ac yn hollbwysig, y rhanbarth ei hun fydd yn penderfynu ble i wario'r arian a beth i wario'r arian arno, gan gynnwys yn sir Ddinbych.

Ers newid o fod yn aelod cabinet yn gyfrifol am briffyrdd i fod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi bod yn ymgyrchu am gyllid i atgyweirio ein rhwydwaith ffyrdd lleol. Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y cronfeydd tyllau yn y ffordd a seilwaith priffyrdd, ac rwy’n eu croesawu. Mae'n £120 miliwn dros ddwy flynedd, ac mae'n gwneud gwahaniaeth, gyda 21,000 o dyllau yn y ffordd yn cael eu hatgyweirio yng ngogledd Cymru yn y chwe mis diwethaf. Felly, roeddwn yn mynd i ofyn i chi am ddatganoli grantiau trafnidiaeth lleol—y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i'r ardal. Gwn eich bod eisoes wedi crybwyll hyn, felly rwy’n mynd i ofyn cwestiwn arall. Rydym yn atgyweirio'r holl ffyrdd hyn. Mae ein rhwydwaith gwledig yn cael ei effeithio'n fawr gan ddŵr ffo, oddi ar gaeau, o gwlis a ffosydd nad ydynt yn cael eu cynnal a'u cadw. Felly, cyn gynted ag y cânt eu hatgyweirio, gall y dŵr ffo hwnnw greu gwlis a golchi'r wyneb i ffwrdd eto. Felly, pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ynglŷn â sicrhau bod tirfeddianwyr yn sicrhau eu bod yn gofalu am eu gwlis a'u ffosydd?

Yn sicr. Mae cyfrifoldeb yn allweddol yma. Boed yn dirfeddianwyr unigol, neu'n awdurdodau lleol neu'r asiantaeth cefnffyrdd, mae'n gwbl hanfodol fod cwlfertau'n cael eu clirio a'n bod yn cynnal nid yn unig wyneb y ffordd, ond y systemau draenio hefyd. Rwy'n gwybod drwy un o fy mrodyr, sy'n beiriannydd ffyrdd, pa mor bwysig yw glanhau cwlfertau'n rheolaidd a sicrhau y gall dŵr lifo oddi ar y ffyrdd yn iawn. Rydych chi'n llygad eich lle, mae'r fenter benthyca llywodraeth leol yn gwneud gwahaniaeth enfawr ledled Cymru o ran ffyrdd lleol yn unig. Mae'r ffigur bellach bron yn 150,000 o ran nifer y tyllau yn y ffyrdd sydd wedi'u hatgyweirio neu sy'n cael eu hatal o ganlyniad i'r buddsoddiad, a bydd y cyllid yn cael ei ddatganoli i ranbarthau Cymru. Fel y dywedais wrth Gareth Davies, bydd yn cyfateb, dros gyfnod o bum mlynedd, i bron i £150 miliwn ar gyfer gogledd Cymru ar ffigurau eleni. Bydd hynny'n galluogi'r rhanbarth i wario yn erbyn y blaenoriaethau y mae wedi'u nodi yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, a thrwy wneud hynny, bydd yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio refeniw i lanhau systemau a sicrhau y gellir draenio dŵr wyneb mor effeithlon â phosib.

13:35
Y Llinell Lliniaru yn Ne Caerdydd a Phenarth

3. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth y DU ar newidiadau a gwelliannau i'r llinell lliniaru yn Ne Caerdydd a Phenarth? OQ63473

Rwyf wedi cael trafodaethau rheolaidd a chyffrous gyda Gweinidogion y DU ynghylch gwelliannau i'r rheilffyrdd, gan gynnwys uwchraddio llinellau lliniaru de Cymru a gorsafoedd Burns, a ariannwyd yn yr adolygiad o wariant. Bydd bwrdd rheilffyrdd Cymru Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn goruchwylio'r gwaith, a bydd yn trawsnewid teithio ar draws de-ddwyrain Cymru i mewn i dde-orllewin Lloegr.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn waith seilwaith sylweddol ac yn alluogydd allweddol ar gyfer y cynnig parcffordd Caerdydd newydd yn Llaneirwg yn nwyrain fy etholaeth. Fe'i cymeradwyir yn adroddiad Burns. Dylai cyflawni'r gwaith yn iawn helpu i gyflawni'r weledigaeth o arhosfan ar brif linell reilffordd sydd hefyd yn rhedeg gwasanaethau lleol rheolaidd. Mae angen mynd ati'n gyflym i sicrhau'r drafnidiaeth a'r swyddi y dylai'r barcffordd eu darparu. Nododd y Prif Weinidog ei chefnogaeth lwyr i'r barcffordd yn glir ddoe. Rwy'n gobeithio y bydd y Canghellor yn cadarnhau mwy o gefnogaeth Llywodraeth y DU i'r barcffordd heddiw. Rhaid cael gwared ar y rhwystrau i gynnydd yn gyflym ac yn effeithiol nawr. A ydych chi'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen yw cynllun unedig ac uchelgeisiol gan dîm Cymru, un set o ffigurau, yn seiliedig ar yr un weledigaeth, gyda chefnogaeth ddiamwys timau economi a thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r datblygwyr sector preifat? Ac os ydych chi'n cytuno â mi, a wnewch chi a'ch cyd-Aelod Rebecca Evans gytuno i gyfarfod â mi ac arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, i sicrhau bod y weledigaeth honno'n cael ei chyflawni?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Rhaid i'r holl bartneriaid ddod ynghyd i wireddu'r prosiect hwn. Mae'n brosiect hynod bwysig, a fydd, fel y nododd y Prif Weinidog ddoe, yn creu swyddi lu. A dyna yw hanfod hyn. Mae a wnelo â budd economaidd. Nid prosiect trafnidiaeth yn unig mohono. Mae a wnelo â ffyniant. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod ac arweinydd Cyngor Caerdydd, ynghyd â Rebecca Evans. Efallai y gallem gyfarfod ar safle'r barcffordd. Byddaf hefyd yn codi'r mater hwn ym mis Rhagfyr pan fyddaf yn cyfarfod â'r Arglwydd Hendy yn rhan o fwrdd rheilffyrdd Cymru. Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ei gwneud hi'n bosib cyflawni gorsafoedd Burns ac y bydd parcffordd Caerdydd yn cael ei chynnwys yn rhan o'r rhaglen uwchraddio llinellau lliniaru i alluogi i hynny ddigwydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod, ddwy flynedd a hanner yn ôl, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r mwyafrif helaeth o brosiectau adeiladu ffyrdd yma yng Nghymru. Beth yw eich asesiad o effaith economaidd y penderfyniad hwnnw?

Fe'i gwnaed ar sail yr angen i ystyried yr amgylchedd, yr argyfwng hinsawdd a'r angen i ddiogelu bioamrywiaeth. Roedd ffactorau economaidd yn rhan o'r ystyriaethau. Er nad oeddwn yn y Llywodraeth ar y pryd, gwn fod Gweinidog yr economi ar y pryd yn awyddus iawn i sicrhau bod ffactorau economaidd yn cael eu hystyried yn rhan o'r gwaith hwnnw. O ran symud ymlaen, gallaf gadarnhau nad yw'r profion yn bodoli mwyach fel y'u lluniwyd. Maent bellach yn gynigion, sy'n sicrhau bod ffyrdd wedi'u cynllunio'n well ac wedi'u hadeiladu'n well. Rydym hefyd wedi ychwanegu adran fwy ar gapasiti yn y cynlluniau, a phryd y dylid cynyddu capasiti ar ein ffyrdd.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Er imi sylwi ar rywfaint o newid cywair, nid wyf wedi clywed unrhyw asesiad eto gan Lywodraeth Cymru o effaith economaidd y penderfyniad arwyddocaol i beidio â bwrw ymlaen â'r mwyafrif helaeth o'r prosiectau adeiladu ffyrdd tra hysbys hynny. Mae angen buddsoddiad yn y seilwaith ffyrdd i fynd i'r afael â thagfeydd, gwella diogelwch a chefnogi twf economaidd. Mae yna brosiectau allweddol fel ffordd liniaru'r M4, y gwelliannau i ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465, uwchraddio'r A483, gwelliannau'r A55, ac wrth gwrs, trydedd bont y Fenai, sydd oll yn hanfodol o ran moderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth. Fel y gwyddoch, nodwyd ffordd liniaru'r M4 yn benodol fel blaenoriaeth oherwydd y tagfeydd difrifol o amgylch Casnewydd. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £150 miliwn ar gynllunio'r ffordd liniaru honno cyn rhoi'r gorau i'r prosiect yn 2019, fel y nodoch chi, gan nodi pryderon a chostau amgylcheddol. Mae hwn, fodd bynnag, yn benderfyniad sydd wedi gadael bwlch difrifol yn ein seilwaith. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd fyddwch chi'n gwneud yr asesiad hwnnw o effaith economaidd y penderfyniadau hyn, a phryd y bwriadwch sicrhau bod prosiectau allweddol fel y rhain yn cael eu cyflawni yma yng Nghymru?

13:40

Wel, fe wyddom fod cost rhai o'r prosiectau y mae'r Aelod newydd eu hamlinellu wedi mynd yn rhy fawr i Lywodraeth Cymru eu fforddio, yn rhannol am fod effaith economaidd mini-gyllideb Truss a chyni parhaus, a gadael yr UE hefyd, wedi cael effaith ar argaeledd cyllid. Rydym wedi cynhyrchu cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth sy'n realistig ac yn uchelgeisiol, ac rydym hefyd yn datganoli cyllid i'r rhanbarthau fel y gallant fuddsoddi yn erbyn eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol eu hunain.

Gallaf gadarnhau heddiw y bydd astudiaeth gwydnwch yr M4 yn dechrau cyn bo hir. Bydd yn edrych ar sut y gallwn ddiogelu'r coridor ar gyfer y dyfodol a sut y mae'r M4 yn rhyngweithio â gweithrediad ffyrdd lleol, yn enwedig yng Nghasnewydd a'r cyffiniau. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n falch iawn ein bod wedi sicrhau'r arian yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ar gyfer y gorsafoedd yr argymhellodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru y dylid eu darparu. Ac wrth gwrs, yng nghyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf, rydym hefyd wedi cynnwys arian er mwyn bwrw ymlaen â phrosiectau o argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru nad ydynt yn gysylltiedig â rheilffyrdd. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wneud trafnidiaeth yn fwy llyfn, yn fwy dibynadwy ac yn fwy cyfleus yn ne-ddwyrain Cymru, fel y mae ar draws Cymru gyfan.

Diolch eto am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe gyfeirioch chi at y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth ac rydych chi wedi cyfeirio at bwysigrwydd rheilffyrdd yn y cynllun hwnnw. Nawr, rydym wedi gweld datgeliadau answyddogol yn y dyddiau diwethaf, cyn y cyhoeddiad gan y Canghellor heddiw, y bydd prisiau tocynnau trên yn Lloegr yn cael eu rhewi. A allwch chi gadarnhau y bydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru hefyd?

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw'n fawr—mae'n galonogol iawn. Bydd yn helpu nifer fawr o bobl gyda her costau byw. Bydd yn berthnasol, wrth gwrs, i filoedd o docynnau sy'n cael eu prynu ar gyfer gwasanaethau ar Avanti West Coast, Great Western Railway, CrossCountry, sy'n gweithredu i mewn ac allan o Gymru. A phan fyddwn wedi cael y manylion yn y gyllideb heddiw—. Nid wyf wedi cael y cyfle, er gwaethaf camgymeriad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, i allu nodi'r rhan sy'n ymwneud â rhewi prisiau tocynnau trên, ond pan gawn y manylion, byddwn yn gwybod beth yn union sydd ar gael o ran cyllid canlyniadol, gan y bydd hwn yn gam eithaf costus gan Lywodraeth y DU. Ac yna byddwn yn gallu gwneud penderfyniad ar brisiau tocynnau trên ar gyfer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Ond wrth gwrs, rydym eisiau defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni i helpu pobl gyda'r heriau costau byw y maent yn eu hwynebu.

Diolch, Lywydd. Ddoe, siaradodd y Prif Weinidog am ei rhestr siopa hir ar gyfer cyllideb San Steffan. Hoffwn gredu bod cyllid rheilffyrdd teg i Gymru’n agos at y brig, ond heddiw, gwelwn unwaith eto nad yw eich cymheiriaid Llafur ar ben arall yr M4 wedi bod yn gwrando. Gadewch inni gofio, pan oeddent yn wrthblaid, fod Llafur wedi dweud bod dros £4 biliwn yn ddyledus i Gymru yn sgil HS2. A hwythau mewn grym bellach, mae'r addewid hwnnw wedi diflannu'n dawel—tro pedol arall. Y gwir annifyr amdani yw nad oes gan y Llywodraeth hon unrhyw ddylanwad dros ei chymheiriaid yn San Steffan. Fe ddywedoch chi wrthym na fyddech chi'n aros yn dawel pe bai Llywodraeth Starmer yn niweidio cymunedau Cymru, ond o'r fan hon, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n swnio fel pe bai eich microffon wedi'i ddiffodd. Felly, a gaf i ofyn, yn gwrtais ac yn blaen: a ydych chi'n siomedig nad oedd elfen o ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yn y gyllideb heddiw?

Wel, cyhoeddwyd y cyllid seilwaith rheilffyrdd yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, a ddyrannodd £445 miliwn—nid yn unig cyflawni o fewn y cyfnod gwariant hwn, ond hefyd datblygu o fewn y cyfnod gwariant hwn ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd. Os edrychwch ar rai o'r prif raglenni gwaith a fydd yn cael eu hariannu o ganlyniad i'r £445 miliwn hwnnw yn yr un adolygiad gwariant hwn, fe fyddwch yn deall, mewn gwirionedd, ei fod yn datgloi nid yn unig cannoedd o filiynau, ond o bosib, biliynau o bunnoedd yn yr adolygiad o wariant nesaf a'r adolygiad wedyn. Ac fe roddaf enghraifft: Rhwydwaith Gogledd Cymru. Amcangyfrifwyd y bydd Rhwydwaith Gogledd Cymru yn costio oddeutu £2.2 biliwn. Nawr, yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant oedd datgloi cydrannau allweddol cyntaf Rhwydwaith Gogledd Cymru—h.y. gwaith seilwaith ar linell Wrecsam-Lerpwl a gwaith seilwaith ar brif linell gogledd Cymru, a fydd wedyn yn hwyluso buddsoddiad pellach mewn cylchoedd gwario yn y dyfodol. Felly, credaf ei bod yn bwysig nad yw'r Aelodau'n ystyried y £445 miliwn yn gyllid untro; dechrau'r broses yw hyn.

Ac mewn sawl ffordd, gan fod y tap wedi bod ar gau ers cyhyd, mae wedi'i agor yn sydyn ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwario'r arian o fewn y cyfnod gwario hwnnw. Un o'r pryderon sydd gennyf yw bod yn rhaid i gyflymder y ddarpariaeth fod yn anhygoel o gyflym er mwyn sicrhau nad ydym yn rhoi unrhyw arian yn ôl sy'n gysylltiedig â buddsoddiad rheilffyrdd o'r cyfnod gwario hwn. Rwy'n hyderus y gallwn wneud hynny, ond rydych chi'n edrych ar rai o'r prosiectau sydd wedi cael eu cadw'n ôl a faint o waith all fynd rhagddo nawr—ac rydym yn sôn am ymdrech enfawr gan Network Rail a Trafnidiaeth Cymru—i ddarparu'r gorsafoedd, darparu'r llinellau lliniaru, uwchraddio prif linell reilffordd gogledd Cymru, uwchraddio llinell Wrecsam i Lerpwl, cyflawni'r gwaith yn Padeswood. Mae'r rhain yn brosiectau enfawr y mae'n rhaid eu gwneud o fewn y cyfnod gwario hwn, ac a fydd wedyn, yn eu tro, yn datgloi symiau enfawr o fuddsoddiad mewn cylchoedd gwario yn y dyfodol. Dyna fydd diben bwrdd rheilffyrdd Cymru—sicrhau bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i nodi'r prosiectau strategol bwysig hynny y gellir eu cefnogi nid fel prosiectau untro, ond fel proses ariannu barhaus, fel y gallwn gael sicrwydd yr eir i'r afael o'r diwedd â'r tanfuddsoddi hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.

13:45

Diolch am eich ateb. Ond rydych chi'n gweld y rhwystredigaeth fod cyllideb heddiw yn parhau, neu i'w gweld yn parhau, â thraddodiad San Steffan o danariannu—blwyddyn arall lle mae ein trethdalwyr yn ariannu llwybrau rheilffordd nad ydynt prin yn eu defnyddio, a thra bo buddsoddiad yn llifo allan dros Glawdd Offa. Dosbarthwyd llinellau HS2 Rhydychen i Gaergrawnt, yn anghywir, yn brosiectau Cymru a Lloegr, gan gostio biliynau i ni. Ac rwy'n deall yr hyn a ddywedwch yno, ond yn y bôn, felly, dim ond un ochr i'r broblem yw fformiwla Barnett. Mae maniffesto Llafur Cymru ei hun hyd yn oed yn cyfaddef fod y fframwaith cyllidol wedi dyddio. Felly, a allwch chi gadarnhau—? A ydych chi'n derbyn ei bod hi'n hen bryd cael adolygiad llawn o fframwaith cyllidol—un sy'n ymdrin nid yn unig â Barnett, ond â'r biliynau y mae Cymru wedi'u colli drwy'r camddosbarthu, gan gynnwys HS2, a ddigwyddodd y tu allan i fformiwla Barnett? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno bod unioni'r anghyfiawnder a buddsoddi'n briodol yn seilwaith Cymru nid yn unig yn deg, ond hefyd yn ariannol gyfrifol er mwyn sicrhau cydraddoldeb economaidd?

Nid wyf am sathru ar draed y Gweinidog cyllid; mae'n llawer mwy gwybodus na minnau ar y materion hyn. Fodd bynnag, yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod gennym Ganghellor nawr, y Canghellor cyntaf a gofiaf, sydd wedi dweud nad yw Llyfr Gwyrdd y Trysorlys—y rheolau sy'n berthnasol i fuddsoddi ledled y DU—yn addas i’r diben o ran buddsoddiad teg.

Nawr, galwodd Llywodraeth flaenorol y DU eu prosiect i fuddsoddi mewn rhannau penodol o'r DU yn 'ffyniant bro'. Yr hyn y mae'r Canghellor yn ei wneud mewn gwirionedd yw dweud, 'Mae angen inni ymbellhau oddi wrth rai o'r rheolau yn Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, i sicrhau bod gennym fuddsoddiad tecach ledled y DU.' Ac mae hynny wedi'i ddangos gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Rwy'n dweud eto nad y gyllideb ond yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a ddylai ddyrannu buddsoddiad mawr mewn prosiectau seilwaith, a dyna'n union a gawsom.

Yn ogystal, os edrychwn ar rai o'r buddsoddiadau eraill diweddar iawn rydym wedi gallu eu sicrhau yng Nghymru o ganlyniad i ddwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth: Wylfa—yr adweithyddion modiwlar bach a fydd yn dod i Wylfa—enfawr; ochr yn ochr â hynny, y parth twf deallusrwydd artiffisial. Rhyngddynt, byddant yn creu mwy o swyddi nag y gallaf eu cofio'n cael eu creu mewn dau brosiect sy'n cyd-redeg yn y gogledd—wel, yn fy oes i, yn sicr. Ni allaf gofio cyhoeddiad fel yr un a wnaed yn ddiweddar gan y Prif Weinidog. Ac yna mae gennym y parthau buddsoddi. Mae gennym yr ymrwymiad i fargeinion twf, yr ymrwymiad i fargeinion dinesig ac ymrwymiad i'r prosiectau rheilffyrdd. Mae gennym Lywodraeth yn San Steffan sydd eisiau buddsoddi ac sydd yn buddsoddi yng Nghymru.

Ond mae anghysondeb gwybyddol rhwng yr hyn rydych chi'n ei ddweud yma heddiw a pheth o'r hyn y buom yn ei glywed gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud wrth Blaid Cymru yn San Steffan na allem, yn ffisegol, wario mwy na £350 miliwn o fuddsoddiad mewn gwelliannau rheilffyrdd hyd at 2030. Ac eto, mae gennym, yn amlwg, fel rydych chi wedi nodi, dros £3 biliwn o gynlluniau rheilffyrdd Cymru ar gamau achosion busnes. Dywedir wrthym fod yr arian yn llifo i wasanaethau cyhoeddus, ond yn achos rheilffyrdd, safbwynt San Steffan yn syml oedd na allai Cymru ei wario, ac ymddengys nad yw'r Llywodraeth hon wedi herio hynny. Mae diffyg uchelgais yn yr hyn rydym am ei gyflawni.

Felly, rwy'n derbyn yn llwyr na fydd datganoli rheilffyrdd yn digwydd dros nos—mae pob un ohonom yn gwybod hynny—ond mae cyllideb heddiw yn gwneud un peth yn boenus o glir: nad oes gan Lywodraeth Cymru y dylanwad yr ymddengys eich bod yn ei honni dros Lywodraeth y DU. Felly, a gaf i ofyn, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis derbyn terfyn San Steffan fel pe bai'n ffaith? Ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet o ddifrif yn credu nad oes gan Gymru gapasiti i fuddsoddi mwy na £350 miliwn yn ei rhwydwaith rheilffyrdd ei hun? Ysgrifennydd y Cabinet, ble mae'r uchelgais? Ble mae wedi mynd?

13:50

[Anghlywadwy.]—uchelgais. Mae gennym uchelgais enfawr, sydd wedi'i ddangos yn yr hyn a wnaethom ar fetro de-ddwyrain Cymru a'r hyn rydym yn ei wneud nawr ar rwydwaith gogledd Cymru. Yr her sy'n ein hwynebu gyda'r holl seilwaith sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd yw cyflymder—cyflymder y ddarpariaeth, cyflymder y datblygu—ac mae'r cyfnod gwario hwn yn gymharol fyr mewn gwirionedd. Dim ond pedair blynedd sydd gennym tan ddiwedd y degawd, ac mae'n cymryd llawer mwy o amser i gyflawni rhai cynlluniau rheilffyrdd. Os edrychwch ar linell reilffordd Elizabeth, er enghraifft, neu os edrychwch ar linell reilffordd HS1, roedd y rhain yn gynlluniau a fu'n cael eu datblygu am flynyddoedd maith, ac a gymerodd oes i'w cyflawni i bob golwg.

Yr her sy'n ein hwynebu yma ym Mhrydain yw cyflawni prosiectau seilwaith mawr. Mae cynllunio'n fater pwysig hefyd, a chydsyniad. Os edrychwn ar barcffordd Caerdydd, er enghraifft, rwy'n credu ei bod wedi cymryd blynyddoedd, yn hytrach na misoedd, i sicrhau'r caniatâd cynllunio. Os na chewch ganiatâd cynllunio, ni allwch adeiladu. Ac felly nid uchelgais yw'r her i ni mewn gwirionedd, nid nifer y prosiectau, ond pa mor gyflym y gallwn ddatblygu a chyflawni'r prosiectau seilwaith mawr hyn. Ac fel y dywedaf, mae hon yn broblem i'r DU gyfan ac mae'n ymwneud â mwy na thrafnidiaeth yn unig, mae'n ymwneud â seilwaith arall.

O ran yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, roedd yn llygad ei lle fod hyn yn ymwneud â'n gallu i wario arian gwella. Felly, byddwn yn gwario'r holl arian gwella y gallwn ei wario. Fel y dywedais, fy ofn yw y bydd y cyflymder yn arafu. Ni all fforddio arafu. Mae angen inni sicrhau bod yr holl raglenni gwaith hynny'n cael eu datblygu.

Ac ar ddatblygiadau yn y dyfodol, yr uchelgais mwy, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan brosbectws a arweinir gan y diwydiant ym mis Rhagfyr, o ran yr uchelgais mawr mwy hirdymor, fe wnaethom sicrhau arian datblygu yn yr adolygiad o wariant. Ac mae'n arian datblygu enfawr, mae'n £95 miliwn. Bydd hynny'n ein galluogi i fwrw ymlaen â phrosiectau i'r pwynt o allu rhoi rhawiau yn y ddaear. Ond un o'r rhwystrau y byddwn yn eu hwynebu—mae'n rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau at hyn—yw'r angen i symud yn gyflym, yn enwedig o ran cynllunio a chydsynio. A dyna pam fy mod wedi croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau mai Cymru yw'r lle cyflymaf i gael caniatâd cynllunio.

Cynnal a Chadw Ffyrdd Lleol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar ffyrdd lleol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63486

Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi darparu dros £29 miliwn ar gyfer gwelliannau i ffyrdd lleol ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru eleni, yn ogystal ag atgyweirio 36 milltir o gefnffordd ac atgyweirio 17,000 o dyllau yn y ffyrdd. Mae'r cyllid yn cefnogi rhoi wyneb newydd ar ffyrdd, draenio a theithio llesol, gan sicrhau bod cymunedau gwledig yn elwa o seilwaith trafnidiaeth mwy diogel a gwydn.

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru, a'r rhaglen adnewyddu ffyrdd honno. A bydd yn ariannu 22 o brosiectau ar wahân ar draws ein rhwydwaith ffyrdd. Ac yn ogystal â'r cyllid newydd hwn, mae ein cynghorau lleol eisoes wedi atgyweirio miloedd o dyllau yn y ffyrdd ar dros 216 milltir o ffyrdd drwy'r cynllun benthyca llywodraeth leol. Ac un ffordd leol o'r fath i elwa o hyn yw Arnold's Hill ar yr A40 yn fy etholaeth i yn sir Benfro, buddsoddiad a fydd yn sicr o wella diogelwch ffyrdd drwy atgyweirio tyllau presennol yn y ffyrdd ac atal rhai newydd rhag datblygu, yn enwedig wrth inni agosáu at fisoedd y gaeaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cyllid hwn yn dangos bod atgyweirio ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon yng Nghymru?

Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn atodol, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae atgyweirio ffyrdd yn flaenoriaeth a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth am weddill tymor y Senedd hon. Hyd yn hyn, mae oddeutu 420 km o ffyrdd lleol wedi cael sylw drwy'r cynllun penodol hwn. Mae llawer iawn o ffyrdd wedi'u gwella o ganlyniad i'r buddsoddiad. Ac fel y buom yn ei drafod y bore yma yn y pwyllgor, mae'n ymwneud â mwy na'r ffyrdd yn unig, mae'n ymwneud hefyd â llwybrau troed, mae'n ymwneud â phontydd. Felly, rhaid inni sicrhau bod pontydd yn cael eu cynnal a'u cadw'n iawn, a nodwyd hyn yn adolygiad Lugg, a edrychodd ar gyflwr y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru a dod i'r casgliad fod angen gwario mwy o arian ar gynnal a chadw. Rydym yn gwneud yn union yr hyn a argymhellwyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb i Joyce Watson ac am dynnu sylw at yr arian ychwanegol sy'n mynd i lywodraeth leol. Fodd bynnag, yr hyn a welwn yng Nghyngor Sir Powys, sy'n cael ei reoli gan y Democratiaid Rhyddfrydol—maent wedi torri dros 200 milltir allan o'u trefn raeanu ar gyfer y gaeaf hwn, ac mae hynny'n rhaff achub i lawer o bobl allu mynd i'r gwaith, mynd i apwyntiadau ysbyty a byw eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae'n drueni nad yw'r Democrat Rhyddfrydol yma ar ddydd Mercher eto fyth i glywed hyn. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod gennych beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn rhoi arian i'r drefn raeanu i sicrhau bod ein ffyrdd ledled Powys yn ddigon diogel i bobl deithio arnynt y gaeaf hwn?

13:55

Wel, gallaf weld yn glir fod yr Aelod eisoes yn ymgyrchu i gael ei ailethol yn lleol. [Chwerthin.] Ond mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, mewn gwirionedd. Mae'n gwneud pwynt hanfodol bwysig fod cysylltedd yn gysylltiedig â gallu awdurdodau lleol i allu graeanu a gwario arian ar gynnal a chadw. A dyna pam ei bod yn hanfodol bwysig fod y Llywodraeth hon yng Nghymru, sydd wedi cefnogi cynghorau dros nifer o flynyddoedd, er gwaethaf cyni, yn parhau i wneud hynny. Mae Powys wedi sicrhau dros £5.7 miliwn o ganlyniad i'r fenter benthyca llywodraeth leol. Mae'n un o'r perfformwyr gorau o ran tynnu arian i lawr i atgyweirio ffyrdd a thyllau yn y ffyrdd. Felly, nid wyf am ddod rhyngoch chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol; yr unig beth a ddywedaf yw bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi Powys.

Mynediad at Drafnidiaeth i Bobl Anabl

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau mynediad at drafnidiaeth i bobl anabl? OQ63460

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod llawer o bobl anabl yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn buddsoddi mewn sawl menter ar draws bysiau a rheilffyrdd i wella hygyrchedd. Mae ein dull trafnidiaeth i bawb a'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) sydd ar y gweill ymhlith y cyfleoedd i wella hygyrchedd ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Wel, wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yma fis diwethaf am yr angen am fathodynnau glas gydol oes i unigolion â chyflyrau gydol oes, dywedais mai dehongli anghyson o'r brig i lawr gan awdurdodau lleol o ganllawiau Llywodraeth Cymru sy'n arwain dro ar ôl tro at wrthod neu wrthod adnewyddu bathodyn glas i ymgeiswyr anabl. Yn ei hymateb, dywedodd:

'Yn sicr, fe fyddaf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn rhoi sylw i hyn.'

Mewn ymateb i gwestiwn Carolyn Thomas i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ar y ddeiseb i wneud bathodynnau glas yn rhai gydol oes i bobl â chyflyrau gydol oes, dywedodd y Prif Weinidog:

'I bobl â chyflyrau gydol oes sy'n effeithio'n sylweddol ar eu symudedd corfforol neu wybyddol...rydym ni wedi atgyfnerthu'r llwybr "heb orfod cael eu hailasesu"...ac wedi darparu canllawiau gwell a hyfforddiant ychwanegol i awdurdodau lleol ynghylch ei ddefnyddio.'

Mae'r deisebydd, STAND Gogledd Cymru, wedi croesawu hyn, ond pwysleisiodd fod angen arferion cyson ar draws awdurdodau lleol, gan sicrhau triniaeth deg ac atal gwrthodiadau oherwydd camddealltwriaeth o amodau neu bryderon ynghylch twyll. Fel y dywedasant, er bod hyfforddiant newydd yn gadarnhaol, rhaid iddo fod yn orfodol, yn unffurf ledled Cymru ac wedi ei adolygu'n flynyddol, gan ychwanegu bod canllawiau clir ar hawl i esemptiadau rhag ailasesu a phroses apelio dryloyw yn hanfodol lle nad yw cyflyrau gydol oes yn aml yn berthnasol i'r meini prawf cyfredol, gan adael pobl wedi'u heithrio. Felly, pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod canllawiau a hyfforddiant yn orfodol, yn gyson ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am y cwestiynau y mae wedi'u gofyn i Weinidogion eraill ar y pwnc pwysig hwn, yn ogystal â Carolyn Thomas, sydd â diddordeb brwd yn y pwnc hwn? Ein nod yw gwneud y broses o gael bathodyn yn effeithlon, yn effeithiol ac mor ddi-straen â phosib, a chyfyngu cymaint â phosib ar unrhyw bryder sy'n gysylltiedig â gwneud cais am fathodyn glas neu ei gadw. Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le—rhaid cael cysondeb ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Yn gynyddol, rydym yn cael cyngor gan banel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru—panel rhagorol.

Gyda'i ganiatâd, hoffwn rannu'r wybodaeth y mae wedi'i darparu heddiw gyda'r panel mynediad a chynhwysiant, ac efallai hefyd hwyluso cyfarfod gyda'r panel penodol hwnnw, gan eu bod yn rhagorol am gynghori nid yn unig Trafnidiaeth Cymru a Gweinidogion Cymru, ond hefyd am ddwyn llywodraeth leol i gyfrif. Felly, rwy'n credu y gallai'r cyfarfod hwnnw fod yn fuddiol iawn

Ychydig wythnosau yn ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, codais bryderon ynghylch y rhwystrau sy'n atal teithwyr dall neu sy'n gweld yn rhannol rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond rwyf am godi rhywbeth ychydig yn wahanol. Dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod ar gyfer pawb. Mae'n fater a godais droeon gan nad yw'r lleoedd, yr arosfannau, y gwasanaethau, y gorsafoedd—nid ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer pawb. Gall fod yn anodd iawn i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Er bod y trenau metro newydd yn welliant mawr mewn gwirionedd, mae pobl wedi nodi nad yw'n dda i ddim os na allwch gyrraedd y platfform am fod y lifft wedi torri. Dim ond lle i un gadair olwyn sydd ar y rhan fwyaf o fysiau, felly os yw'r lle hwnnw wedi'i gymryd, weithiau gan bram babi, mae'n rhaid ichi aros am y bws nesaf, a allai gymryd oriau, ac os ydych chi'n teithio gyda rhywun arall sydd mewn cadair olwyn, ni allwch deithio gyda'ch gilydd. A ydych chi'n cytuno â mi, hyd nes y cawn wared ar y rhwystrau hyn, na ellir galw trafnidiaeth gyhoeddus yn 'gyhoeddus' mewn gwirionedd am nad yw'n gweithio i bawb? A beth y byddech chi'n ei ddweud, os gwelwch yn dda, wrth y bobl ifanc sydd wedi tynnu fy sylw at y pryderon hynny?

Mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Credaf fod yn rhaid inni weld trafnidiaeth drwy lygaid y rhai sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf a'r heriau mwyaf difrifol yn ddyddiol. Dyna pam y gwnaethom greu'r agenda trafnidiaeth i bawb. Nawr, mae llawer y gallwn ei wneud o ran hygyrchedd bysiau, ac mae llawer y byddwn yn ei wneud, o ganlyniad i fasnachfreinio, gan gynnwys adnewyddu'r fflyd. Fel y dywedais wrth y pwyllgor y bore yma, gennym ni y mae'r fflyd hynaf o fysiau yn y Deyrnas Unedig, ac rydym am wneud gyda bysiau yr hyn a wnaethom gyda threnau: ei gwneud yn un o'r fflydoedd mwyaf newydd yn unrhyw le. Ond wrth wneud hynny, byddwn yn gosod canllawiau, byddwn yn gosod meini prawf hygyrchedd ar gyfer y bysiau newydd. Nid ydym am i unrhyw un gael eu hatal rhag mynd ar y bws am ba reswm bynnag, ac felly byddwn yn ystyried cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r Bil bysiau a masnachfreinio. Ond rydym hefyd yn cynnal adolygiad strategol ar hyn o bryd o'r gwasanaethau y mae gennym reolaeth lawn drostynt—y rhai sydd o fewn rhwydwaith bysiau TrawsCymru—i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol wedi'u halinio'n llawn ag anghenion pob teithiwr, fel eu bod yn wirioneddol gyhoeddus.

14:00

Mae mynediad pobl anabl at drafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol, ac rwyf wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r materion a godais, ac yn enwedig, gwella'r seilwaith i ganiatáu i bobl anabl gael mynediad di-dor at drafnidiaeth gyhoeddus.

Ond er mwyn i hyn weithio'n iawn, rhaid cynnal y seilwaith, a soniodd Delyth Jewell yn ei chwestiwn am lifftiau, ac roeddwn eisiau codi'r mater a'r pryder gan etholwyr fod y lifft yng ngorsaf Llandaf, yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, yn aml heb fod yn gweithio, ac mae hyn yn golygu bod yr orsaf honno'n gwbl anhygyrch i lawer o bobl anabl. Mae'r lifft heb fod yn gweithio am gryn dipyn o amser bob blwyddyn dros y chwe blynedd diwethaf, ac yn fwy diweddar, nid yw'r lifft wedi bod yn gweithio ers dechrau mis Medi. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet awgrymu ffyrdd y gallwn weithio i sicrhau bod y seilwaith sydd yno'n cael ei gynnal, fel nad yw pobl anabl yn dod i'r orsaf ac yna'n methu cael mynediad at y trenau am fod y lifft yn aml wedi torri, yn yr orsaf benodol honno?

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn. Wrth gwrs, mae'r rhaglen Mynediad i Bawb wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn llawer iawn o orsafoedd ledled Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am welliannau ar linellau craidd y Cymoedd yn ardal y metro. Ond nid dim ond y buddsoddiad i wella gorsafoedd sy'n bwysig; mae'r buddsoddiad i gynnal cyfleusterau'r orsaf hefyd yn bwysig. Nawr, mae'n siomedig nad yw'r lifftiau yn Llandaf wedi bod yn gweithio yn ddiweddar. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â Trafnidiaeth Cymru, gan mai nhw sy'n gyfrifol amdano, i wneud yn siŵr fod y cyfleusterau'n cael eu cynnal a'u cadw'n iawn a bod y lifftiau'n weithredol eto cyn gynted â phosib.

Dylwn sicrhau'r Aelod fod holl staff platfform a threnau Trafnidiaeth Cymru wedi'u hyfforddi i gynorthwyo teithwyr ag anghenion hygyrchedd, a bod Trafnidiaeth Cymru hefyd yn sicrhau bod cymorth ychwanegol pwrpasol yn cael ei ddarparu os yw'r lifft yn methu diwallu anghenion teithwyr—pob teithiwr—ac i leihau aflonyddwch. Ond fel y dywedaf, rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â Trafnidiaeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem yn Llandaf cyn gynted â phosib.

Llinell y Gororau

6. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwytnwch llinell y Gororau rhwng Caerdydd a Henffordd? OQ63457

Mae Trafnidiaeth Cymru—. Mae'n wir. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Network Rail i gryfhau gwydnwch rheilffordd Cymru a'r Gororau. Mae buddsoddiad diweddar wedi gwella gwydnwch ar lwybr hanfodol bwysig y Gororau, ond mae angen gwneud mwy i ddiogelu ein rheilffordd rhag digwyddiadau tywydd eithafol, fel storm Claudia.

Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ydy, mae rheilffordd Gororau Cymru yn hanfodol i sir Fynwy, fel y gwyddoch, a Thorfaen, gyda gorsafoedd y Fenni, New Inn a Chwmbrân yn gwasanaethu dros 900,000 o deithwyr yn 2023-24. Eto fe glywn dro ar ôl tro am broblemau gyda'r trac, diffygion ar y llinell a diffyg gwydnwch cyffredinol ar hyd y llwybr. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at storm Claudia ac effeithiau honno y tro hwn, a adawodd dwll o 2m, gan gau'r llinell am dridiau, a effeithiodd ar tua 7,500 o bobl yn fy etholaeth i. Ond hefyd mae'n ymddangos bod y perfformiad cyffredinol yn wael. Dros gyfnod o 12 wythnos hyd at fis Medi 2025, dim ond 37.8 y cant o drenau oedd ar amser, tra bod 76.3 y cant wedi cyrraedd o fewn pum munud, 85.7 y cant o fewn 10 munud, a 90.4 y cant o fewn 15 munud. Mae llawer sy'n ei defnyddio'n teimlo nad yw hynny'n ddigon da. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ar gyfer llinell mor brysur a hanfodol, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod angen gwneud mwy—rydych chi eisoes wedi cydnabod hynny. A all Llywodraeth Cymru ymrwymo i flaenoriaethu unrhyw fuddsoddiad pellach yn llinell y Gororau yn y dyfodol agos i fynd i'r afael â rhai o'r problemau parhaus hynny?

A gaf i ddiolch i'r Aelod, nid yn unig am ei gwestiwn atodol, ond hefyd am ymweld â Chanolfan Weithredu Rheilffyrdd Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar? Gobeithio ei fod yn ymweliad defnyddiol. Rwy'n siŵr y bydd wedi dangos cymhlethdodau rhedeg y rheilffordd a hefyd, mae'n debyg, wedi tanlinellu'r hyn y credaf eu bod yn ymdrechion trawiadol i adfer gwasanaethau yn dilyn digwyddiadau tywydd eithafol yn ddiweddar.

Yn ôl yn 2021 ymgymerodd Network Rail â phrosiect gwerth £4 miliwn ar y llinell, ac roedd yn cynnwys gosod 8,000 tunnell o amddiffynfeydd meini ar y llinell rhwng Henffordd a'r Fenni. Ac mae'r hyn a welsom yn ddiweddar yn dangos bod y gwaith hwnnw'n bendant wedi talu ar ei ganfed. Nawr, roedd yna aflonyddu ar deithwyr wrth gwrs, ond roedd yr amddiffynfeydd meini hynny'n chwarae rôl ganolog yn diogelu'r rheilffordd. A heb y gwaith hwnnw, heb y buddsoddiad hwnnw, byddai difrod storm Claudia wedi bod yn llawer iawn gwaeth, a byddai'r canlyniadau i deithwyr hefyd wedi bod yn fwy difrifol—i wasanaethau cludo nwyddau hefyd; mae'r llinell hon yn bwysig iawn ar gyfer cludo nwyddau.

Felly, er bod y buddsoddiad yn 2021 yn cyflawni diben enfawr o ran lleihau aflonyddwch, rydym yn cydnabod y bydd angen buddsoddiad parhaus ar y llinell yn y dyfodol, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda Network Rail i sicrhau bod cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer gwaith cynnal a chadw parhaus. Ac mae gwaith rhagweithiol i reoli llystyfiant ar hyd y llinell hefyd yn hanfodol bwysig. Os na chawn wared ar lystyfiant, mae'n arwain at ganslo trenau oherwydd coed yn cwympo ac yn y blaen. Hefyd, clirio cwlfertau. Mae'n swnio'n amlwg, ond mae'r rhaglen barhaus hon o waith cynnal a chadw yn hanfodol bwysig i berfformiad trenau. Os nad yw'r llinellau trên yn addas i'r diben, bydd trenau Trafnidiaeth Cymru yn amlwg yn cael eu canslo neu'n hwyr, felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Network Rail i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd. Ond byddaf yn ategu'r neges fod angen gwneud mwy i wneud yn siŵr fod y llinell hanfodol bwysig hon yn cael ei chynnal a'i chadw'n llawn.

14:05
Cysylltedd Trafnidiaeth

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gysylltedd trafnidiaeth yn Nhaf Elái? OQ63454

Gwnaf, wrth gwrs. Mae 'Llwybr Newydd' yn nodi ein gweledigaeth i wella trafnidiaeth ledled Cymru. Byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon yn Nhaf Elái drwy'r prosiectau a nodir yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Rydym hefyd yn grymuso arweinwyr lleol i lunio blaenoriaethau trafnidiaeth sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau trwy gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.

Diolch am yr ateb hwnnw. Ac mae ardal Taf Elái, wrth gwrs, yn un o'r ardaloedd sydd â fwyaf o botensial ar gyfer datblygiadau tai dros y degawd nesaf. Rwyf wedi codi mater coridor y gogledd-orllewin gyda chi a Trafnidiaeth Cymru ar sawl achlysur, a chadw'r hen gyswllt rheilffordd, sy'n dal yno, mewn perthynas â datblygiadau posib coridor y gogledd-orllewin i ardal Taf Elái. Roeddwn i'n meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi ymrwymiad i edrych ar y cynlluniau a'r datblygiadau a'r potensial i hynny gael ei ymgorffori yn y cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer cysylltedd rheilffyrdd a thrafnidiaeth?

Ie, rwy'n credu bod y pwynt y mae Mick Antoniw yn ei godi am ddatblygiadau tai yn wirioneddol bwysig yng nghyd-destun y prosiect y mae'n ei hyrwyddo. Mae'r cynllun ym Mhapur Gwyn trafnidiaeth diweddar Cyngor Caerdydd fel rhan o'u gweledigaeth i greu Crossrail Caerdydd llawn—ac wrth gwrs, mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer y cam cyntaf.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn datganoli arian i brifddinas-ranbarth Caerdydd ar gyfer buddsoddiad mewn trafnidiaeth, a dros y pum mlynedd nesaf, yn ôl ffigurau heddiw, bydd gan dde-ddwyrain Cymru oddeutu £250 miliwn i'w fuddsoddi mewn trafnidiaeth. Nawr, rwy'n deall y byddai'r cynllun yn costio oddeutu £1 biliwn, felly byddai angen ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r cynnig a'i gyllido. Ond fel y dywedais, mae Crossrail Caerdydd wedi sicrhau cam cyntaf y cyllid ac mae'r cynllun hwn ym Mhapur Gwyn trafnidiaeth diweddar y cyngor fel rhan o'u gweledigaeth i greu Crossrail Caerdydd llawn.

Dinas Diwylliant 2029

8. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i gefnogi cais Wrecsam ar gyfer dinas diwylliant 2029? OQ63465

Rwy'n credu bod Wrecsam yn y sefyllfa orau i adeiladu ar ei ail safle yng nghystadleuaeth ddiwethaf Dinas Diwylliant y DU. Rydym yn cefnogi ac yn annog Wrecsam a llefydd eraill yng Nghymru i ystyried cymryd rhan yng nghystadlaethau 2029 ar gyfer dinas a thref ddiwylliant y DU.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rwy'n cytuno â chi, mae Wrecsam yn y sefyllfa orau ar gyfer y cais hwn am Ddinas Diwylliant y DU 2029. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â mwy na chynnal digwyddiadau am flwyddyn; i mi, mae'n ymwneud â chreu gwaddol parhaol i'r ddinas a'r cymunedau cyfagos. Gwyddom y gallai busnesau lleol, ysgolion a sefydliadau diwylliannol i gyd elwa os yw'r cais yn llwyddiannus, ond rhaid bod cefnogaeth go iawn a pharhaus gan y Llywodraeth i helpu i wneud i hyn ddigwydd. Rydym yn gwybod y gall buddsoddi mewn diwylliant ysgogi twristiaeth, creu swyddi, ysbrydoli pobl ifanc i ymgysylltu â'r celfyddydau—pob un ohonynt yn hanfodol ar gyfer economi leol ffyniannus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y rhagwelwch chi y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod y ddinas a'r cymunedau cyfagos yn gweld manteision hirdymor a fyddai'n ymestyn y tu hwnt i 2029 pe bai Wrecsam yn llwyddiannus, fel y mae pawb ohonom yn gobeithio y bydd?

14:10

Gwaddol yw popeth yn y gystadleuaeth hon. Yr hyn y mae'r beirniaid yn dymuno ei weld yw arddangosiad clir nid yn unig i flwyddyn o ddigwyddiadau, ond i waith hirhoedlog a fydd yn hyrwyddo balchder mewn lle ac adeiladu lle. Fel y gwyddom, gwelwyd datblygiadau rhyfeddol yn Wrecsam yn ddiweddar, a byddwn yn gweld amgueddfa bêl-droed Cymru yn agor yno cyn bo hir. Mae Wrecsam yn gartref i dîm pêl-droed mwyaf llwyddiannus Cymru ar hyn o bryd. Mae digwyddiadau fel Focus Cymru yn creu mwy o falchder ac angerdd yn Wrecsam; mae gennym Dŷ Pawb; mae gwaith yn mynd rhagddo ar Borth Wrecsam; mae yna hefyd brosiect bragdy Wrexham Lager sy'n digwydd; gwaith ehangu Coleg Cambria, y brifysgol; cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Gallwn barhau. Yr hyn a wyddom yw bod Wrecsam yn y sefyllfa orau y gallai fod ynddi. Ond mae Sam Rowlands yn iawn: mae'n ymwneud â llwyddiant hirdymor yn y dyfodol, ac rwy'n credu y byddai sicrhau statws Dinas Diwylliant y DU yn ei gwneud hi'n bosib meithrin mwy o falchder ac adeiladu lle a rhagoriaeth yn Wrecsam. Mae'r llinell amser yn eithaf tynn. Mae'r cyfnod datgan diddordeb ar agor erbyn hyn. Hyd yma, hyd y gwn i, dim ond Wrecsam sydd wedi gwneud cais, ac os mai Wrecsam yn unig fydd yn gwneud cais, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chefnogi i'r carn.

Terfynau Cyflymder Lleol

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion yr adolygiad o'r canllaw ar bennu terfynau cyflymder lleol yng Nghymru? OQ63482

Rydym yn diweddaru'r canllawiau 'Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' i adlewyrchu'r polisi cyfredol. Ni fydd y canllawiau'n cael eu cyhoeddi yn ystod tymor y Senedd hon, felly mae canllawiau 2009 yn parhau i fod mewn grym tan hynny.

Rydych chi wedi bod yn eu diweddaru ers oesoedd, Ysgrifennydd y Cabinet. Hynny yw, rydych chi wedi bod yn addo diweddariad o'r canllawiau i ni ers dros flwyddyn. Ac yn y cyfamser, mae cymunedau'n dal i orfod byw gyda therfynau cyflymder cwbl amhriodol mewn sawl rhan o fy rhanbarth. Yng Nglasfryn, yng Nghonwy, mae teuluoedd wedi dioddef y traffig 60 mya sy'n taranu heibio i'w cartrefi, gyda rhieni'n wirioneddol ofnus bob tro y mae eu plant yn camu allan o'r tŷ. Yn Lôn Fawr, yn Rhuthun, yr ydych chi'n ei adnabod yn dda, mae gennych y cae rygbi a'r cae pêl-droed ar ddwy ochr y ffordd, cannoedd o blant a theuluoedd yn croesi'r ffordd yno bob wythnos, ac rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i'r terfyn 60 mya hwnnw gael ei adolygu, ac rydym yn dal i aros. Felly, am faint eto fydd yn rhaid i'r plant a'r teuluoedd a'r cymunedau hyn aros cyn gweld gweithredu'n digwydd? Ac a fydd hi'n cymryd damwain, neu waeth, i'r Llywodraeth hon weithredu o'r diwedd ar rywbeth y buoch chi'n ei addo i ni ers blynyddoedd?

Yn gyntaf oll, mae canllawiau ar waith y gellir eu defnyddio i asesu ceisiadau am newid terfynau cyflymder. Ond mae'r diweddariad yn cymryd mwy o amser nag a fwriadwyd. Rwy'n cytuno ei fod yn cymryd mwy o amser na'r hyn a fwriadwyd, a rhan fawr o'r rheswm yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi mynd trwy un o'r newidiadau mwyaf erioed o ran diogelwch ar y ffyrdd, y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Nawr, rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, ac maent wrthi'n gweithio ar y broses ddiweddaru. Ond fel y dywedaf, hyd nes y cânt eu cyhoeddi, mae canllawiau 2009 yn parhau i fod mewn grym a gellir eu defnyddio i asesu ceisiadau ar gyfer newid terfynau cyflymder.

Llifogydd ac Amodau Tywydd Garw

10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn gallu delio â llifogydd ac amodau tywydd garw eraill? OQ63491

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i wella gwydnwch rhag llifogydd y rhwydwaith priffyrdd. Mae'r bartneriaeth hon yn cynnwys cynlluniau strategol, dyraniadau cyllid a gweithredu prosiectau penodol gyda'r nod o liniaru perygl llifogydd.

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn i eisiau tynnu sylw yn arbennig at ffordd yn Abertawe, ac i gywiro ateb cynharach a roddoch chi i Sam Rowlands, Abertawe yw cartref tîm pêl-droed gorau Cymru; roeddwn i eisiau nodi hynny i chi.

Ond efallai eich bod yn ymwybodol o gylchfan Cwmbwrla, oddi ar Heol Caerfyrddin yn Abertawe, sy'n cael llifogydd yn aml ac sy'n llwybr prifwythiennol allweddol trwy'r ddinas. Mae wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gau rhannau o'r ffordd—fel y dywedaf, llwybr prifwythiennol allweddol o un pen i'r ddinas i'r llall. Rwy'n deall mai'r rheswm am hynny yw bod cwlfert wedi chwalu yno, a fydd yn cymryd amser i'w atgyweirio, meddai Cyngor Abertawe. Felly, pa waith rydych chi'n ei wneud gyda Chyngor Abertawe i sicrhau bod llwybrau prifwythiennol allweddol, fel cylchfan Cwmbwrla ar Heol Caerfyrddin, yn parhau i fod ar agor fel y gall teithwyr a gyrwyr deithio ar draws y ddinas, a'u bod yn gallu gwneud hynny'n rheolaidd?

14:15

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Gan ei fod wedi codi'r mater, fe ofynnaf i fy swyddogion ymgysylltu â dinas Abertawe dros y cyfnod o amser ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem benodol hon gyda'r rhwydwaith ffyrdd lleol.

O ran yr hyn a wnawn i gefnogi'r ddinas gyda'u rhaglen gynnal a chadw a gwella ffyrdd, mae'r fenter benthyca llywodraeth leol yn arwain at atgyweirio ac atal nifer enfawr o dyllau yn y ffyrdd a diffygion ffyrdd. Ac fel y nodais eisoes heddiw, ar sawl achlysur, rydym yn datganoli'r broses o wneud penderfyniadau a'r cyllid—sy'n sylweddol iawn—i'r rhanbarthau i allu gwario ar eu blaenoriaethau eu hunain, a bydd Cyngor Abertawe yn gallu gwneud hynny ar y cyd â'r awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o'r cyd-bwyllgor corfforedig rhanbarthol. 

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Eitem 2 fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Buffy Williams.

Costau Byw yn y Rhondda

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd ac unigolion ledled Rhondda gyda chostau byw y gaeaf hwn? OQ63469

Member (w)
Jane Hutt 14:16:29
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Buffy Williams. Rydym yn parhau i gefnogi teuluoedd a phlant ledled Cymru gyda chostau byw y gaeaf hwn. Mae hyn yn cynnwys ein cynllun bwndeli babanod newydd, a fydd yn helpu i leihau'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'n bleser gennyf glywed y Canghellor yn cadarnhau y bydd y terfyn dau blentyn yn cael ei ddiddymu ac y bydd yn dod â rhyddhad i dros 20,000 o deuluoedd yng Nghymru, gan gynnwys yn Rhondda Cynon Taf. Ac wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y galwodd Llywodraeth Cymru amdano.

Diolch. Wrth i'r tywydd oeri, fe wyddom y bydd llawer o deuluoedd a phobl hŷn yn osgoi rhoi'r gwres ymlaen cyhyd ag y gallant. Fe wyddom fod unigrwydd yn eu taro, ac i rai, efallai mai sgwrs gyflym gyda'r postmon yw'r unig sgwrs a gânt drwy'r dydd. Gwyddom y bydd gormod o blant yn mynd adref, ar ôl eu pryd ysgol am ddim, i dŷ heb swper poeth.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae elusennau a grwpiau cymunedol yn agor canolfannau clyd ledled y Rhondda, gan gynnig lle cynnes, diod boeth, a phryd poeth weithiau. Hoffwn ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr sy'n cefnogi trigolion, o ben uchaf y Maerdy i lawr i Porth, ac o Flaenrhondda i Drehafod. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod mor bwysig fod trigolion yn defnyddio'r canolfannau hyn i arbed arian ar eu biliau ynni ac i weld wyneb cyfeillgar am ychydig oriau? 

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol oherwydd mae wedi cael ei wneud yn eithaf clir i ni, ac ar fy ymweliadau, ac yn wir gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, fod ein cyllid ar gyfer canolfannau clyd a diogel wedi darparu mannau cynnes a diogel yn y gymuned a all ddarparu cwmni a chefnogaeth i bobl. Mae'n rhan o becyn parhaus o gymorth, gan gynnwys mynediad at wybodaeth am ein cronfa cymorth dewisol a'r cynllun talebau tanwydd, a gyda'i gilydd, rydym wedi buddsoddi dros £4 miliwn yn y fenter canolfannau clyd. Gwyddom fod dros 600 o ganolfannau clyd yn cael eu cefnogi gan gyllid ledled Cymru. Rwy'n credu, hefyd, fod y canolfannau clyd yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd i gael mynediad at fwyd ffres a phrydau gyda'i gilydd, yn ogystal â mynediad at wybodaeth ynglŷn â sut y gallant, gyda'i gilydd, gadw'n gynnes y gaeaf hwn a hawlio popeth sy'n ddyledus iddynt.

Carchar y Parc

2. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag ehangu CEF y Parc? OQ63485

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Rwyf wedi trafod ehangu Carchar Ei Fawrhydi y Parc gyda Gweinidogion cyfiawnder Llywodraeth y DU, ac mae ymgysylltiad parhaus rhwng ein swyddogion i archwilio'r goblygiadau ar draws y meysydd datganoledig.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae CEF y Parc, yn fy rhanbarth i, wedi dioddef problemau. Mewn gwirionedd mae 'problemau' yn derm rhy ysgafn i'w ddefnyddio. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 17 o garcharorion wedi marw—mwy na mewn unrhyw garchar arall yn y DU—ac mae mwyafrif y marwolaethau wedi bod yn gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon. Canfu arolwg dirybudd o'r carchar ym mis Ionawr fod cyffuriau ar gael yn eang, gyda dronau'n cludo cyflenwadau i ffenestri celloedd. Nawr, bwriedir ehangu'r safle i gartrefu 345 o garcharorion ychwanegol.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu cymryd i atal y defnydd o ddronau, sydd nid yn unig yn cyflenwi cyffuriau i'r carchar, ond hefyd yn rhoi trigolion lleol mewn perygl? Ac a yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi nodi bod camau'n cael eu cymryd i wrthsefyll dibyniaeth ymysg poblogaeth y carchar?

14:20

Diolch am y cwestiwn atodol. Wrth gwrs, nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru eto, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw rheoli carcharorion a throseddwyr. Ond rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Arglwydd Timpson, y Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Prawf a Lleihau Aildroseddu, ac Ian Barrow, prif weithredwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fe wnaethom ymweld â charchar y Parc gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sy'n amlwg ynghlwm wrth hyn oherwydd ei chyfrifoldeb am gamddefnyddio sylweddau. Ym mis Ebrill, nododd adroddiad Arolygiaeth Carchardai EF ar y Parc fod arweinyddiaeth newydd wedi arwain at newidiadau sylweddol a nododd fod ganddo gynllun gwella cynhwysfawr, yn cynnwys holl argymhellion yr arolygydd. Rydym yn parhau i ymgysylltu â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i fonitro cynnydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rhaid i mi ddweud, rwyf wedi fy syfrdanu gan lawer o'r adroddiadau ar ehangu'r Parc. Rydym wedi gweld nifer yn siarad ynglŷn â'r ffordd y mae gwrthwynebiad yn seiliedig ar fwy o draffig yn lleol oherwydd ymweliadau a phethau felly. Rwy'n credu bod yna bryderon llawer mwy difrifol ynghlwm wrth ehangu'r Parc sy'n mynd y tu hwnt i fwy o draffig yn yr ardal leol. Nid oes angen i mi ddweud wrth yr Aelodau yn y Siambr hon am hanes eithriadol o wael y Parc. Mae Altaf eisoes wedi tynnu sylw ato yn ei gwestiwn.

Nawr, dychmygwch am eiliad eich bod chi'n aelod o deulu y mae rhywun sy'n annwyl iddynt wedi mynd i'r Parc, ac rydych chi'n meddwl tybed a yw eich anwylyd yn mynd i ddod allan o'r cyfleuster hwnnw. Nawr, nid wyf yn ceisio codi bwganod, mae'n rhaid ei ddweud. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried popeth a wyddom bellach am y methiannau difrifol a pharhaus o ran diogelwch a llesiant yng ngharchar y Parc, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau pendant fydd yn cael eu cymryd a pha sicrwydd, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael na fydd ehangu'n chwyddo'r risgiau hyn? Rwyf i o'r farn fod angen atal hyn nawr, nid ar sail mwy o draffig, ond ar sail hanes gwael y Parc, a'r ffaith bod gennym system garchardai ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi creu diwylliant lle mae carcharorion wedi cyflawni hunanladdiad, hunan-niweidio a chamddefnyddio cyffuriau. Dyna'r sail dros atal hyn. Dylid ei gymryd o ddwylo G4S yn gyfan gwbl ac yn ôl i ddwylo'r wladwriaeth.

Diolch yn fawr, Luke, am ychwanegu'r dimensiwn ehangach pwysig hwnnw, oherwydd mae'n garchar yn y gymuned. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ar y meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb. Yn amlwg, rydym wedi sôn am y cyfrifoldeb pwysig o ran iechyd, camddefnyddio sylweddau, a thai a gofal cymdeithasol hefyd. Rydym yn gweithio i helpu i liniaru'r risg o niwed i staff a charcharorion yn y dyfodol. Hefyd, mae'r cwestiynau hyn yn bwysig iawn i mi fynd yn ôl i'w trafod, wrth inni edrych ar oblygiadau'r cyhoeddiad diweddaraf hwn i gymunedau yng Nghymru, gan gydnabod, wrth gwrs, fod hwn yn fater sy'n ymwneud â chapasiti carchardai—problem hirsefydlog capasiti carchardai—a etifeddwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, a adawodd y system gyfiawnder a charchardai mewn lle anodd iawn.

Ond yr hyn sydd wedi bod o gymorth, o ran yr adroddiad gan Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi ym mis Ebrill eleni, yw bod rhai arferion cadarnhaol i'w gweld: cydweithrediad â Phrifysgol Caerfaddon i ddarparu technoleg canfod cyffuriau arloesol; a Parc Tank, menter ar gyfer carcharorion sydd i fod i gael eu rhyddhau gyda syniadau busnes ar gyfer buddsoddi. Ac mae arwydd o welliant o dan yr arweinyddiaeth newydd. Mae'r cyfarwyddwr newydd wedi gweithredu cynllun i fynd i'r afael â methiannau sylfaenol ac atal marwolaethau pellach. Ond rwy'n credu y bydd eich pwyntiau'n helpu i ffurfio'r agenda ar gyfer fy nghyfarfod nesaf o ran carchar y Parc. Felly, diolch am godi hyn.

Neithiwr, fe noddais ddigwyddiad yma yn y Senedd am gamweinyddiadau cyfiawnder, a oedd yn cynnwys John Actie a Michael O'Brien, dau ddioddefwr, gyda Mike wedi treulio dros 11 mlynedd yn y carchar am drosedd nas cyflawnodd. Drefnydd, fe wyddom ers 2019 mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o garchariadau y pen yng ngorllewin Ewrop. Nawr, mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ffeil ffeithiau carchar Dr Rob Jones y mis hwn yn dangos bod hynny'n dal i fod yn wir. Wrth gwrs, rwy'n deall bod cyfiawnder wedi'i gadw'n ôl, ond mae llawer o'r dulliau i atal pobl rhag cyflawni troseddau wedi'u datganoli i'r lle hwn. Gyda Berwyn, mae gennym y carchar mwyaf yn y DU eisoes. Gyda'r ehangu hwn, bydd yn gwneud y Parc yn un o'r carchardai mwyaf yn y DU. Ac fel y dywedodd Altaf a Luke yn huawdl, rydym yn ymwybodol iawn o hanes ofnadwy carchar y Parc. Pam y mae Cymru'n dal i fod ar frig y gynghrair ofnadwy honno, Drefnydd? Ac a ydych chi'n cytuno â mi yn bendant nad ehangu carchar y Parc yw'r ateb? Diolch yn fawr.

14:25

Diolch, Rhys ab Owen. Byddaf yn cyfarfod â Dr Robert Jones cyn bo hir i drafod ei ffeil ffeithiau. A hefyd, rwyf wedi anfon y ffeil ffeithiau at yr Arglwydd Timpson, fel y gwneuthum y llynedd gyda ffeil ffeithiau Robert Jones. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod angen y data cyfiawnder hwn arnom, ac mae angen ei ddadgyfuno'n glir, a dyna oedd un o'r galwadau pwysicaf gan gomisiwn Thomas. Mae angen gwybodaeth hygyrch arnom er mwyn inni allu gweld sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru, ac fel y gall pobl weld sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithio lle maent yn byw. Yna, rhaid inni symud ymlaen i ddatblygu polisi ar ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru, wrth inni fynd i'r afael â'r materion gweithredol a'r pryderon uniongyrchol sydd wedi'u codi ynglŷn â charchar y Parc.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, heddiw yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action. Daw wrth i chwech o bob 10 o oedolion yng Nghymru nodi eu bod yn poeni am gostau ynni y gaeaf hwn, gan gynyddu i 73 y cant ymhlith rhieni â phlant dan 16 oed. Yn briodol, mae'r diwrnod ymwybyddiaeth eleni yn canolbwyntio ar blant sy'n byw mewn tlodi, yn byw mewn cartrefi oer, llaith ac mewn tlodi tanwydd. Dengys tystiolaeth y gall byw mewn cartref oer effeithio ar gyrhaeddiad academaidd ac mae pobl yn fwy tebygol o ddatblygu problemau anadlol gydol oes. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo heddiw i weithredu mesurau i ddiogelu plant Cymru rhag effaith tlodi tanwydd?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Altaf Hussain. Rwy'n ymwybodol—ac wrth gwrs fe godwyd hyn ddoe—o ddigwyddiad National Energy Action heddiw. O ran y ffyrdd y gallwn gefnogi plant a theuluoedd mewn tlodi, fe fyddwch yn gwybod bod gennym ymrwymiad clir i hyn yn ein strategaeth tlodi tanwydd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n croesawu'r ffaith bod y Canghellor wedi cadarnhau yn natganiad y gyllideb y bydd y terfyn dau blentyn yn cael ei ddileu. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i ystyried ei ddileu, ac rydym yn falch eu bod yn gwrando ar hynny nawr. Bydd yn dod â rhyddhad i dros 20,000 o deuluoedd yng Nghymru. Ac mae hynny'n hanfodol o ystyried yr holl faich a chostau, o ran costau byw, ar deuluoedd, ac yn enwedig cefnogi plant. Mewn gwirionedd, bydd dileu'r terfyn dau blentyn yn arwain at leihad o 3 i 4 y cant mewn tlodi plant yng Nghymru, ac mae hyn yn rhywbeth y galwyd amdano, yn sicr gan Llywodraeth Cymru a'r holl sefydliadau sy'n cefnogi plant. Ond mae'n amlwg hefyd y gallwn gefnogi teuluoedd drwy'r cymorth a roddwn drwy Nyth, y cynllun Cartrefi Clyd, oherwydd fel y dywedwch, mae'n ymwneud â sut y gallwn sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n golygu y gallwn wella effeithlonrwydd ynni cartrefi, a'r rhaglen ôl-osod hefyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae'r gefnogaeth rydych chi wedi'i hymrwymo hyd yma i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn annigonol iawn. Mae cynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, y mae rhanddeiliaid yn ei ystyried yn gwbl annigonol, wedi gweld toriad mewn termau real yn y gyllideb ddrafft. Yr help mwyaf y gallwch ei roi i blant Cymru yw datgan y byddwch yn defnyddio'r holl symiau canlyniadol o gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU tuag at helpu i dorri biliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwneud cartrefi'n wyrddach yng Nghymru. A wnewch chi nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd trwy wneud yr ymrwymiadau hyn?

14:30

Unwaith eto, nid wyf wedi clywed gennych, Altaf Hussain, eich bod yn croesawu'r cyhoeddiad mwyaf pwysig heddiw ar ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, a fydd yn dod â 20,000 o deuluoedd yng Nghymru allan o dlodi. Wrth gwrs, bydd hynny'n golygu y bydd yn eu cefnogi gyda'r costau sydd ganddynt o ran ynni. Byddwn yn edrych yn ofalus—dim ond nawr y mae'n dod, wrth gwrs—ar ddatganiad y Canghellor ar gyfleoedd inni gefnogi teuluoedd ac aelwydydd. Ond hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych ar hyn rhwng y cenedlaethau hefyd a'r ffaith bod gennym bellach y gostyngiad cartrefi cynnes a thaliad tanwydd y gaeaf hefyd, yn cael ei dalu gan Lywodraeth y DU. Ond mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hyn y buom yn ei wneud yng Nghymru ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae llawer o deuluoedd wedi elwa o gymorth grant y Sefydliad Banc Tanwydd, sydd wrth gwrs yn helpu pobl ar fesuryddion rhagdalu a hefyd yn helpu pobl nad ydynt ar y grid. Mae hwn yn fynediad uniongyrchol at gymorth i deuluoedd, a fydd, wrth gwrs, yn cefnogi plant hefyd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er bod National Energy Action wedi penderfynu canolbwyntio ar effaith tlodi tanwydd ar blant ar gyfer y diwrnod ymwybyddiaeth eleni, y grŵp arall yr effeithir arnynt yn fawr yw pobl dros 65 oed. Ddoe, cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei hadroddiad diweddaraf ar bobl hŷn a thlodi yng Nghymru. Mae'r comisiynydd yn amlygu graddfa ac effaith tlodi ymhlith pobl hŷn, gan nodi bod un o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru wedi gorfod mynd heb wresogi, tra bod chwarter wedi mynd heb brydau bwyd neu wedi bwyta llai. Yn ôl y comisiynydd, mae hyn yn cyfrannu at gyfradd farwolaethau sylweddol uwch ymhlith pobl hŷn, yn ogystal â chostau enfawr y gellir eu hosgoi i'r GIG, yr amcangyfrifir eu bod dros £40 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn llawer mwy nag y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar draws pob grŵp oedran. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â'r comisiynydd pobl hŷn, ac a fyddwch chi'n mabwysiadu ei hargymhellion? Diolch.

Rwyf innau hefyd yn croesawu adroddiad y comisiynydd pobl hŷn yn fawr. Cyfarfûm â'r comisiynydd pobl hŷn yn ddiweddar iawn, ac yn wir, â phobl hŷn hefyd, gan edrych ar faterion hollbwysig cynhwysiant digidol i bobl hŷn. Mae hwn yn gyfnod heriol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i gefnogi pobl hŷn. Rwyf eisoes wedi sôn am y buddsoddiad yr ydym yn parhau i'w wneud yn ein canolfannau clyd a diogel y gaeaf hwn, sy'n arbennig o bwysig i bobl hŷn, gan eu galluogi i fynd i gyfarfod â phobl eraill a lleihau ynysu. Hefyd, rydym wedi rhoi, fel y dywedais, dros £7 miliwn o gyllid tuag at y Sefydliad Banc Tanwydd, gyda'r cynllun talebau tanwydd a chronfa wres yng Nghymru.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael y buddsoddiad o £30 miliwn y flwyddyn yng nghynllun Cartrefi Clyd Nyth unwaith eto. Mae'n mynd i helpu aelwydydd incwm isel, a gall pobl gael mynediad at gyngor ynni arbenigol am ddim trwy ffonio llinell gymorth Nyth. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio'n agos hefyd gyda Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr fod pawb yn hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt, ac mae hynny'n cynnwys credyd pensiwn. Mae hynny'n rhywbeth y bûm yn gweithio arno gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Mae hyn yn rhywbeth lle byddem yn tywys pobl at ein tudalennau gwe 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', fel y gallant weld cymhwysedd ar gyfer credyd pensiwn. Ond hefyd, bydd Llywodraeth y DU yn gwario dros £30 biliwn yn fwy dros y cyfnod seneddol hwn hefyd. Dyna ein hymdrechion i gefnogi pobl, yn enwedig pobl hŷn, o ran adroddiad y comisiynydd.

14:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser maith dros ddiddymu'r terfyn dau blentyn, ac rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth y DU yn ei ddileu o'r diwedd—er, yn ein barn ni, mae'r penderfyniad hwn yn gywilyddus o hwyr. Roedd Llafur Cymru unwaith yn cefnogi'r safbwynt hwnnw, ond ar ôl yr etholiad cyffredinol, roedd distawrwydd byddarol i ddechrau. Yma yn y Senedd, pleidleisiodd Aelodau Llafur yn erbyn gwelliannau Plaid Cymru yn galw am ei ddileu. Cafodd yr ASau meinciau cefn Llafur hynny, sy'n cael eu harwain yn fwy gan egwyddor na pholau ac a wrthryfelodd yn erbyn parhad polisïau lles y Torïaid, eu cosbi gan Keir Starmer. Pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu targedau tlodi plant yn 2016, un rheswm a roddwyd oedd effaith y terfyn dau blentyn. Nid yw'r esgus hwnnw'n berthnasol mwyach. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'r terfyn wedi mynd, a wnewch chi ymrwymo nawr i adfer targedau tlodi plant clir er mwyn sicrhau bod Cymru'n mynd i'r afael â thlodi plant yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n bosib?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Sioned Williams. Ni allaf ond ddweud eto ei bod yn ddiwrnod pan fo'n rhaid inni ddathlu dylanwad nid yn unig Llywodraeth Lafur Cymru ond hefyd yr ochr hon i'r Senedd, rwy'n credu, am alw am ddileu'r terfyn dau blentyn. Rydym wedi galw amdano fel Llywodraeth, ac wedi annog Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU yn gyson i gael gwared ar y terfyn dau blentyn. Mae'n bwysig cofnodi y gall dros 20,000 o deuluoedd yng Nghymru sydd wedi cael eu hamddifadu o gymorth ariannol gan system fudd-daliadau'r DU gael mynediad at y cyllid hwnnw bellach a fydd yn helpu eu costau byw o ddydd i ddydd. Un o brif amcanion ein strategaeth tlodi plant yw gwneud y mwyaf o incwm. Dyna'r amcan cyntaf sydd gennym. Bydd hyn yn cynorthwyo gyda hynny hefyd, gan leihau tlodi plant rhwng 3 y cant a 4 y cant.

Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar hyn nid yn unig yn nhermau'r dylanwad a gawsom ar hyn, ond o ran datblygiad a chynnydd ein strategaeth tlodi plant, sydd ag amcanion a blaenoriaethau uchelgeisiol iawn a fframwaith monitro clir iawn o ran y ffordd yr awn ati i fonitro sut y mae effaith ein strategaeth yn gwneud gwahaniaeth. Rwy'n edrych ymlaen at ddod i'r Senedd yn fuan iawn gyda fy niweddariad ar gyfer ei graffu ac ar gyfer ystyried a thrafod effeithiau ein pwerau, ein cyfrifoldebau a'n hysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, ond gan gydnabod hefyd y ffordd y mae nawdd cymdeithasol yn cael cymaint o effaith ar dlodi ac wedi gwneud gwahaniaeth.

Byddwn yn aros i weld a yw'r diweddariad hwnnw'n cynnwys cyflwyno targedau. Fel y dywedwch, bydd hyn yn cael effaith i'w chroesawu, gostyngiad o 3 y cant i 4 y cant ar lefelau tlodi plant yng Nghymru, ond fe wyddom fod ffordd bell i fynd a ninnau'n gwybod ein bod yn edrych ar bron i 30 y cant o blant yng Nghymru mewn tlodi. Byddai cael y targedau hynny'n ysgogi cynnydd. Mae cymaint o'r rhai a ymgyrchodd dros ddileu'r terfyn dau blentyn yma yng Nghymru, ymgyrchwyr gwrth-dlodi, hefyd wedi dweud eu bod yn credu bod angen targedau ar strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru.

Er bod dileu'r terfyn dau blentyn wedi cael ei groesawu, mae pryder o hyd ymhlith ymgyrchwyr gwrth-dlodi am y diffyg newid ymddangosiadol i'r cap ar fudd-daliadau, polisi Torïaidd arall sy'n parhau ar waith. Mae'r cap yn creu risg go iawn y gallai rhai teuluoedd, a fyddai'n elwa'n ddamcaniaethol o ddiddymu'r terfyn dau blentyn, golli arian ychwanegol oherwydd y cap a fudd-daliadau. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaethau tlodi plant ledled y DU—rwy'n gwybod eich bod yn rhan o'r trafodaethau hynny—a fyddwch chi'n datgan bod angen iddynt hefyd adolygu'r cap cyffredinol ar fudd-daliadau? Pa asesiad a wnaethoch o sut y bydd hyn yn parhau i effeithio ar lefelau tlodi plant yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r grŵp cyfeirio Dileu Tlodi Plant yng Nghymru, yr wyf yn siŵr y byddwch yn gwybod amdano, ac rwyf wedi ymgysylltu â'r holl sefydliadau ar reng flaen dileu tlodi plant, y mae'n rhaid iddo fod yn flaenoriaeth lwyr i bob Llywodraeth ar bob lefel—Llywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â threth a budd-daliadau, ac rydym wedi gweld y newyddion heddiw sydd i'w groesawu, ond hefyd defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym cymaint ag y gallwn, a gweithio gyda llywodraeth leol ar ein siarter fudd-daliadau ar gyfer Cymru hefyd.

Ar eich cwestiwn am dargedau, mae ein targedau presennol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi a gwella canlyniadau wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu ac yn rhan o'n cerrig milltir cenedlaethol, ac rydym yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd. Byddaf yn adrodd ar hyn yn fy adroddiad cynnydd ar dlodi plant. Rwy'n credu mai un o'r rhannau pwysig o hynny, pan fyddaf yn ei gyhoeddi, fydd adroddiad a wnaethom ar brofiad bywyd i weld beth sy'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd—beth sy'n gweithio o ran ein cyfrifoldebau, pa effeithiau yr ydym yn eu cael sy'n gadarnhaol, a lle mae angen inni wneud mwy.

Ond rwyf am ddweud bod un cyhoeddiad pwysig iawn arall heddiw, yr wyf yn siŵr y byddwch yn ei groesawu, sef bod y Canghellor yn dileu'r cymal treisio annynol a chreulon o drefniadau'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau.

14:40

Rwy'n sicr yn croesawu hynny. O ran yr angen am dargedau tlodi plant penodol, wrth gwrs, mae'r dadleuon hynny wedi'u gwneud droeon, ond fe arhoswn i weld beth fydd yn eich datganiad yn fuan.

Fel y clywsom, mae'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ac mae 25 y cant o aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi dod i'r casgliad mewn mwy nag un adroddiad nad yw lefel buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y rhaglen Cartrefi Clyd yn agos at y lefel angenrheidiol. Pan wnaethom ofyn i chi am ymrwymiadau yn y gyllideb ddrafft, fe ddywedoch chi:

'Gadewch inni hefyd feddwl am y rhaglen Cartrefi Clyd o ran y ffaith nad dyma'r unig gyllid grant sydd ar gael i aelwydydd...mae'r cynlluniau ledled Prydain, er enghraifft ECO Flex, ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru.'

Er eich bod yn buddsoddi £30 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd, mae awdurdodau lleol Cymru wedi codi rhwng £70 miliwn a £100 miliwn drwy'r cynllun ECO. Pa effaith fydd y ffaith bod y Canghellor bellach wedi dileu'r cynllun ECO yn ei chael ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tai pobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn gynhesach ac yn fwy effeithlon?

Rwy'n croesawu'r cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, mae'r newyddion am y newid hwnnw'n torri nawr. Byddwn yn edrych ar hyn yn ofalus iawn ac yn gallu ymateb, ac yn ymgysylltu â'n hawdurdodau lleol hefyd rwy'n siŵr. Mae'n bwysig ein bod yn cofnodi heddiw hefyd, hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024, ein bod wedi buddsoddi mwy na £479 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae dros 82,000 o aelwydydd wedi elwa o fesurau yn eu cartrefi.

Rwyf hefyd wedi sôn am y rhaglenni eraill sydd gennym, fel y bartneriaeth gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd—y cyllid o £7.1 miliwn. Mae hwn yn gynllun yng Nghymru sydd gennym mewn partneriaeth, ac mae wedi helpu llawer o aelwydydd cymwys sy'n rhagdalu am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Ond byddwn yn edrych ar effaith y newid sydd newydd gael ei gyhoeddi yn y gyllideb heddiw.

Cefnogi Pobl Anabl

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl gyda chostau byw? OQ63484

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Gwyddom fod rhai pobl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi, gan gynnwys pobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt. Ers 2022, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn mewn rhaglenni sy'n lleddfu pwysau ariannol, yn gwneud y mwyaf o incwm ac yn helpu i gadw mwy o arian ym mhocedi pobl.

Diolch. Mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan 'A snapshot of poverty' yn tynnu sylw at y ffaith bod lefelau uchel o galedi yn parhau i fod yn bresennol ymhlith cyfran sylweddol o boblogaeth Cymru. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir fod rhai grwpiau'n profi caledi ar gyfraddau llawer uwch nag eraill, gan gynnwys pobl anabl a'r rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor. Mae hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn aelwyd lle mae rhywun ag anabledd. Mae bron i chwarter y bobl anabl, neu'r rhai sydd â chyflwr iechyd sy'n eu cyfyngu'n fawr, yn adrodd eu bod weithiau, yn aml neu bob amser yn ei chael hi'n anodd fforddio pethau sylfaenol.

Gwyddom mai fforddio gwresogi yw un o'r prif feysydd sy'n achosi pwysau, ac mae'r cynnydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cap ar brisiau ynni o fis Ionawr yn golygu y bydd bil ynni debyd uniongyrchol tanwydd dwbl yn codi i £1,758 y flwyddyn—mae'r cyfraddau, wrth gwrs, yn uwch fyth yng Nghymru, a gogledd Cymru yw'r rhanbarth drutaf ledled Prydain. O ystyried ein bod yn gwybod bod pobl anabl yn llawer mwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi, byddant hefyd yn gwario mwy ar eu biliau ynni. Mae hyn yn newyddion siomedig i lawer. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl anabl sy'n byw yng Nghymru, yn enwedig gyda chostau ynni? A pha fesurau a gyhoeddwyd yn y gyllideb heddiw fydd yn cefnogi pobl anabl?

14:45

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, mae tystiolaeth ac adroddiadau Sefydliad Bevan bob amser mor werthfawr yn rhoi'r arweiniad a'r profiad bywyd uniongyrchol i ni o beth sy'n gweithio, beth sydd bwysicaf, beth all helpu pobl anabl yn fwyaf arbennig o ran eich cwestiwn. Gwelais yn ddiweddar hefyd un o'u hadroddiadau'n dangos, o ran yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud gyda'i phwerau, y gefnogaeth gref i'r gronfa cymorth dewisol a'r gronfa gynghori sengl, a hefyd ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae ein siarter fudd-daliadau yng Nghymru yn allweddol, ac mae'n bwysig cofio bod 260,000 o aelwydydd incwm isel yn derbyn cymorth gan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ac nid yw bron i 214,000 o aelwydydd yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Ond mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar y strategaeth tlodi plant ac anabledd hefyd—mae hyn wedi'i grybwyll eisoes o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd—a dysgu ganddynt sut y gallwn gefnogi pobl anabl a theuluoedd o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

Ond rwy'n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth, unwaith eto, lle nad yw lles wedi'i ddatganoli i Gymru, ond gallwn wneud gwahaniaeth drwy sicrhau bod pobl yn gwneud y mwyaf o'u hincwm drwy'r ymgyrch fanteisio ar fudd-daliadau 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'. Edrychaf ymlaen at wneud datganiad yr wythnos nesaf ar ddiwrnod rhyngwladol hawliau pobl anabl, lle gallwn edrych ar y ffyrdd ymlaen o ran ein cynllun hawliau pobl anabl.

Cau Toiledau Cyhoeddus

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch effaith cau toiledau cyhoeddus yng ngogledd Cymru ar bobl anabl a phobl hŷn? OQ63496

Diolch yn fawr, Gareth Davies. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol gael strategaeth toiledau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau statudol cynhwysfawr i gefnogi'r gofyniad hwn. Awdurdodau lleol sy'n llwyr gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn ag a ydynt yn darparu cyfleusterau cyhoeddus a sut y cânt eu rheoli.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cau toiledau cyhoeddus yn Ninbych a Dyserth yn fy etholaeth i, yn dilyn penderfyniad gan gabinet Cyngor Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf, yn codi pryderon difrifol am yr effaith ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Cyngor Sir Ddinbych ei hun yn cydnabod bod pobl hŷn a phobl ag anableddau yn dibynnu'n anghymesur ar y cyfleusterau hyn, ac roedd llawer o ymatebwyr i'w hymgynghoriad cyhoeddus diweddar dros 65 oed neu â chyflwr hirdymor. Efallai y bydd pobl hŷn yn llai parod i adael eu cartrefi'n hyderus os na allant ddibynnu ar doiled cyhoeddus diogel, glân a hygyrch. Fel y mae Age Cymru yn rhybuddio, gall darpariaeth wael leihau eu gallu i aros yn egnïol, gan gyfyngu ar ba mor aml ac am ba mor hir y maent yn gallu gadael eu cartrefi.

Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn bygwth cau llawer mwy o doiledau cyhoeddus yn y sir gyfagos, yn bennaf yn Nhalacre, yr Wyddgrug a Threffynnon. Mae cyllidebau'n dynn, ond mae'r toriadau'n effeithio ar y gwasanaethau mwyaf sylfaenol, gan effeithio ar y bobl hynaf a mwyaf agored i niwed. Gall Llywodraeth Cymru newid hyn drwy newid Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi strategaeth toiledau lleol, a chreu cymal sy'n gorfodi isafswm o doiledau'n seiliedig ar boblogaeth neu ddemograffeg. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryderon fod colli toiledau cyhoeddus yn bygwth cynhwysiant a llesiant ein pobl fwyaf agored i niwed, ac a wnaiff ymrwymo i adolygu Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gyda'r bwriad o gynnwys cymal sy'n gwneud eu darparu'n ofyniad cyfreithiol?

Diolch am gydnabod ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol gael strategaeth toiledau lleol, ac rydym wedi cynhyrchu canllawiau cryf i awdurdodau lleol ar gyflawni hynny. O ran Cyngor Sir Ddinbych, deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £44,000 o dan gynllun y Pethau Pwysig i'r cyngor i adnewyddu toiledau yng Nghorwen, gan gynnwys pod toiledau cwbl hygyrch sy'n addas i bobl â dementia. Hefyd, rwy'n deall, o dan y rownd bresennol o gyllid, nad oedd cais Cyngor Sir Ddinbych i osod system dalu heb arian parod yn eu toiledau yn llwyddiannus, ond mae'r prosiect hwnnw wedi'i roi ar restr wrth gefn, os bydd rhagor o gyllid ar gael.

A hefyd, rwy'n credu bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud cynnydd ac wedi manteisio ar gyfleoedd newydd drwy gael £300,000 i sefydlu nifer o ardaloedd aros dros nos ar gyfer cartrefi modur, yr wyf yn siŵr y byddwch yn gyfarwydd â nhw yn eich sir, gan gynnwys cyfleusterau i wagio dŵr gwastraff a gwastraff cemegol.

Diolch. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi. Mae pwysigrwydd toiledau cyhoeddus a'r angen amdanynt yn hawl ddynol sylfaenol mewn gwirionedd. Ond mae'r costau wedi codi i fwy na gwario ceiniog y dyddiau hyn, ac rwy'n gwybod bod cynghorau'n wynebu penderfyniadau anodd iawn ar ôl 14 mlynedd o gyni Torïaidd/Ceidwadol. Rwy'n credu bod y Ceidwadwyr yn dal i fod eisiau torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol yn eu cynlluniau cyllidebol. Maent hefyd yn gwrthwynebu pob dull o godi arian ar eu cyfer, oherwydd mae angen cyllid refeniw arnom. Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am gronfeydd cyfalaf, ond mae angen cyllid refeniw arnom. Roeddent yn gwrthwynebu'r ardoll dwristiaeth hefyd, a fyddai'n codi arian ar gyfer gweithredu toiledau cyhoeddus. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd credadwy o wella mynediad at y cyfleusterau hanfodol hyn trwy gyllid cynghorau yw parhau i wrthdroi 14 mlynedd o gyni ac ariannu ein hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau cyhoeddus yn briodol? Diolch.

14:50

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod cyfrifoldebau eraill, yn ogystal â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a gyflwynodd ddyletswydd strategaeth toiledau cyhoeddus awdurdodau lleol, gan fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod toiledau cyhoeddus pwrpasol yng Nghymru bellach yn cael rhyddhad 100 y cant o ardrethi busnes. Ond rwy'n cytuno'n llwyr—rydym yn ceisio, ac rydym yn gweld yn natganiad y Canghellor heddiw ein bod bellach yn gwrthdroi 14 mlynedd o gyni i ariannu ein hawdurdodau lleol yn briodol. Gadewch inni gydnabod am eiliad fod y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf yn darparu mwy na £27 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau—[Torri ar draws.]

—a dechrau proses y gyllideb yw hynny wrth gwrs, nid ei diwedd, a bydd llawer yn newid rhwng nawr a mis Ionawr, pan fydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi.

Hoffwn pe bai'r Aelodau'n caniatáu i'r ymatebion gael eu gwneud mewn tawelwch, ac yn yr un modd, pan fydd Aelodau eraill yn gofyn cwestiynau, eu bod yn caniatáu i'r Aelodau ofyn eu cwestiynau hefyd. Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae goblygiadau sylweddol i iechyd pobl yn deillio o brinder toiledau cyhoeddus ac felly, i'r GIG. Yn absenoldeb toiledau cyhoeddus, mae pobl yn gorfod oedi neu ddal yn hirach nag sy'n dda iddynt. Mae hyn yn arbennig o beryglus i bobl hŷn, pobl ag anableddau, menywod, gofalwyr a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol penodol, gyda risg uwch o heintiau'r llwybr wrinol, camweithrediad llawr y pelfis, ac mewn achosion difrifol neu gronig, effeithiau ôl-bwysedd ar yr arennau. Ac mae goblygiad i gydraddoldeb, gan fod menywod yn fwy tebygol o ddioddef na dynion. Yn Fairbourne, mae'r Fairbourne Amenities Trust sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned wedi sicrhau y gall y toiledau cyhoeddus yno aros ar agor. Mae cymuned Llandrillo wedi gwneud yr un peth, yn ogystal â phrosiect Cyngor Tref Corwen a grybwyllwyd eisoes. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr enghreifftiau hyn o arfer gorau er mwyn galluogi cymunedau eraill i gael y cymorth angenrheidiol i gymryd meddiant ar doiledau cyhoeddus a'u rhedeg fel mentrau cymunedol? Pe bai'n dymuno, mae gwahoddiad iddi ymuno â mi i weld y Fairbourne Amenities Trust hefyd.

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Hoffwn yn fawr ymuno â chi ar ymweliad â'r ymddiriedolaeth. Yn amlwg, mae awdurdodau lleol yn cymryd y cam cyntaf. Rwyf eisoes wedi rhoi rhai enghreifftiau o Gyngor Sir Ddinbych a sir y Fflint hefyd. Mae yna ffynonellau eraill o gyllid hefyd wrth gwrs. Mae darpariaeth doiledau'r rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi yn gymorth pwrpasol i ganol trefi, ac wedi'i nodi'n glir o fewn cynlluniau creu lleoedd.

Diolch am ganolbwyntio ar yr elfen cydraddoldeb, oherwydd mae hyn hefyd yn tynnu sylw at leoedd newid i bobl anabl, ac mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cynnwys lleoedd newid o fewn y diffiniad o 'toiled' mewn perthynas â strategaethau toiledau lleol. Mae hynny'n rhywbeth lle mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud yr addasiad hwnnw, i gefnogi pobl anabl yn enwedig.

Gweithgareddau'r Sector Gwirfoddol

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i feithrin gweithgareddau'r sector gwirfoddol yn y rhannau o Gymru sydd â'r mwyaf o amddifadedd? OQ63472

Diolch, Jenny Rathbone. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn mudiadau gwirfoddol ar lawr gwlad drwy ein cyllid seilwaith gwerth £8.6 miliwn i gefnogi'r trydydd sector yng Nghymru. Mae hwn yn cefnogi sefydliadau a mentrau yn cynnwys gwirfoddoli, cyllid a llywodraethu da, sydd yn ei dro yn helpu i gryfhau gwydnwch cymunedol ac yn cefnogi ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.

14:55

Diolch. Yn ddiweddar, roeddwn ar banel i ddewis gwobr gwirfoddolwr y flwyddyn Cyngor Trydydd Sector Caerdydd. Rwy'n siŵr fod yr holl enwebeion yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'w cymunedau, ond roeddwn yn synnu gweld cyn lleied o ymgeiswyr o arc deheuol amddifadedd Caerdydd, yn enwedig, dim un enwebiad gan unrhyw sefydliad yn Newtown, lle roeddem yn ymgynnull. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn darparu symiau sylweddol o arian i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac i sefydliadau eraill, yn fawr a bach. Fodd bynnag, wrth fyfyrio ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal, yn seiliedig ar waith arloesol Julian Tudor Hart, pa sylw y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i feithrin gallu'r sector gwirfoddol lle mae ei angen fwyaf yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, lle gwyddom fod dinasyddion yn ei chael hi'n anodd mewn tlodi dwfn ac angen y cymorth hwnnw arnynt i'w galluogi i ffynnu?

Diolch am yr ystyriaeth bwysig honno o ble a sut yr ydym yn cefnogi gwirfoddolwyr, yn enwedig efallai yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Fe wyddoch ein bod wedi cyhoeddi dull newydd ar gyfer gwirfoddoli ochr yn ochr â'n cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector, sy'n bwysig i'r sefydliadau llawr gwlad a chymunedol hynny sy'n ymgysylltu â gwirfoddolwyr ledled Cymru. Ac mae'r dull newydd ar gyfer gwirfoddoli yn sicrhau'n arbennig ein bod yn ymgysylltu â phob dinesydd ledled Cymru.

Hoffwn ddweud fy mod wedi gweld gwirfoddoli gwych iawn yn dod trwy lawer o'n polisïau cymunedol, sy'n cynnwys ein grant cyfleusterau cymunedol. Yng Nghaerdydd, roeddwn yn falch iawn o ariannu pum prosiect: y Wiwer Werdd, sy'n brosiect ardderchog iawn yn fy marn i; Oasis Caerdydd, yn enwedig wrth estyn allan gyda gwirfoddolwyr at ein dinasyddion du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol; Canolfan y Drindod, unwaith eto, unigolion agored i niwed; Media Academy Cymru gydag ysgolion cynradd Caerdydd. Mae'r rhain i gyd yn estyn allan at rai o'r dinasyddion mwy difreintiedig yn ein cymuned, hefyd yng Nglan yr Afon, a Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot—mae yna lawer o enghreifftiau.

Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hyn nid yn unig mewn dinasoedd neu yn ein trefi, maent yn ein hardaloedd gwledig hefyd. Fel cyn-ffermwr ifanc fy hun ac aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac yn wir, cyn-gadeirydd CFfI Sir Benfro, rwyf wedi gweld rôl gwirfoddolwyr o fewn y mudiad CFfI a'r gefnogaeth y maent yn ei rhoi i sefydliadau sy'n cael eu harwain gan aelodau. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n gallu cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi CFfI Cymru yn ariannol, o ystyried y rôl y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau gwledig, gan sicrhau bod gwirfoddolwyr yno, ar gael i gefnogi pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed i gael addysg y tu allan i'r ysgol a chymdeithasu yn yr ardaloedd difreintiedig hynny yn ein cymunedau gwledig?

Diolch am hynny. Mae'r clybiau ffermwyr ifanc yn chwarae rôl hanfodol ac, yn bwysicach fyth, mae angen eu cefnogi, ac maent wedi bod yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru yn gyson. Mewn gwirionedd, mae'r dull newydd ar gyfer gwirfoddoli yn gofyn am y math hwnnw o hyrwyddo gweithredol i sicrhau bod Cymru yn gymdeithas wirfoddoli fel rydym am iddi fod, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys ein hardaloedd gwledig, ond mae'n cynnwys y genhedlaeth iau, amrywiaeth a chynhwysiant, ac arweinyddiaeth gref. Rydym wedi ariannu'r sector gwirfoddol yn sylweddol drwy brif grantiau Gwirfoddoli Cymru.

Cymdeithas heb Arian

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cymdeithas heb arian parod ar gynhwysiant ariannol? OQ63490

Diolch yn fawr, Peter Fox. Mae gwasanaethau ariannol yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a sefydliadau allweddol i hyrwyddo pwysigrwydd mynediad at arian parod a gwasanaethau bancio cynhwysol yng nghymunedau Cymru.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn gwybod bod bancio digidol yn ddefnyddiol iawn, mae llawer o bobl, yn enwedig aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, yn dal i ddibynnu ar arian parod i reoli eu cyllid. Yn anffodus, mae'r cyfuniad o fusnesau'n newid fwyfwy i beidio â defnyddio arian parod a llawer o gymunedau gwledig yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ganghennau banc, gyda nifer cynyddol o fanciau'n cau, yn arwain at ormod o bobl yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n ariannol. Er efallai nad yw hyn wedi'i ddatganoli, mae gennym gyfrifoldeb am y bobl hynny. Yn fy etholaeth fy hun, mae wyth banc wedi cau, ac yn syfrdanol, cefais wybod bod 1,649 o ganghennau wedi cau ledled Cymru ers 2022. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyrwyddo mwy o fancio cymunedol, fel yr hybiau er enghraifft, i sicrhau bod arian parod yn parhau i fod yn ddull talu dilys yng Nghymru?

15:00

Diolch am eich cwestiwn pwysig. Mae'n dilyn dadl ac adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar gymdeithas heb arian parod, y gwnaethom ymateb iddo. Gwneuthum y pwynt fod arian parod yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n heconomi, ac nad yw Llywodraeth Cymru’n derbyn bod cymdeithas heb arian parod yn anochel. Cawsom y dystiolaeth bwerus honno gan Mencap Cymru, a chyfarfûm â nhw. Mae'n fater a gedwir yn ôl. Nid yw wedi'i ddatganoli o ran cyfrifoldebau, ond gwn y byddwch yn cydnabod, ym mis Ionawr 2025, fod Emma Reynolds, Ysgrifennydd economaidd y Trysorlys ar y pryd, wedi cadarnhau na fyddai siopau a chwmnïau gwasanaeth o dan orfodaeth i dderbyn arian parod. Felly, unwaith eto, gallwn ailedrych ar ein hymatebion i'r argymhellion gan y Pwyllgor Deisebau hwnnw a dangos ein bod yn gweithio, hyd y gallwn, gyda Llywodraeth y DU a'r banciau. Mae gennym ddigwyddiad Bancio yng Nghymunedau Cymru ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a byddwn yn rhoi mynediad at arian parod ar yr agenda.

Trais Domestig

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau achosion o drais domestig? OQ63466

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi partneriaid i fynd i'r afael â'r epidemig o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Drwy ein strategaeth genedlaethol, rydym yn ariannu gwasanaethau sy'n cefnogi ac yn diogelu dioddefwyr, a rhaglenni ymyrraeth gynnar a rhaglenni cyflawnwyr i atal cam-drin domestig.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Deuthum o hyd i ystadegyn brawychus yn ddiweddar, sef bod dwy fenyw yr wythnos, ar gyfartaledd, yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner yng Nghymru ac yn Lloegr. Dylai rhoi diwedd ar gam-drin domestig fod yn flaenoriaeth uchel i unrhyw Lywodraeth. Mae camau pwysig wedi'u cymryd ar draws y ffin, gan gynnwys cyfraith Clare, sy'n caniatáu i unigolion ofyn i'r heddlu a oes gan eu partner neu gyn-bartner hanes o gam-drin domestig, ond yn sicr, mae mwy y gall pob un ohonom ei wneud.

Nawr, rwyf wedi bod yn dilyn gwaith pwysig a wnaed gan fy nghyd-Geidwadwr yn Senedd yr Alban, Pam Gosal ASA. Mae hi wrthi'n cyflwyno ei Bil Atal Cam-drin Domestig (yr Alban). Os caiff ei basio, bydd y Bil hwn yn cyflwyno cofrestr ar gyfer camdrinwyr domestig, sy'n golygu y byddai'n rhaid i droseddwyr roi gwybod i'r heddlu am eu cyfeiriad a'u manylion pasbort. Byddai hefyd yn cynnwys asesiadau gorfodol ar gyfer adsefydlu, dyletswyddau casglu data ac addysg cam-drin domestig mewn ysgolion. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, a wnewch chi edrych ar Fil Pam Gosal a gweld a oes unrhyw fesurau y gellir eu cyflwyno yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Natasha Asghar. Yn sicr, byddaf yn edrych ar y Bil hwnnw i weld sut y mae'n cyd-fynd â'n Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sydd wrth gwrs yn ddeng mlwydd oed, ac yn edrych i weld a oes ffyrdd y gallwn ddysgu unrhyw beth ohono. Rwy'n gobeithio hefyd y byddwch yn rhannu'r gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'ch cydweithiwr yn yr Alban, ac efallai'n rhannu ein hadroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed yn erbyn chwe amcan ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Tlodi Tanwydd

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cynlluniau presennol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi aelwydydd sy'n cael trafferth gyda thlodi tanwydd? OQ63470

Diolch yn fawr, Llyr. Rydym yn adolygu ein hymyriadau'n barhaus i gefnogi aelwydydd mewn angen yn well. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd i adolygu eu cynnig o gymorth yn rheolaidd. Ar Nyth, fe wnaethom gyflwyno llwybr argyfwng, yn dilyn adborth gan randdeiliaid, ac rydym wedi comisiynu gwerthusiad allanol i lywio unrhyw fireinio pellach i'r cynllun.

Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch y ffaith nad yw'r cynlluniau tlodi tanwydd presennol yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r heriau unigryw sy'n wynebu aelwydydd gwledig ac aelwydydd nad ydynt ar y grid. Mae eich datganiad polisi eich hun ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cydnabod yn benodol fod yn rhaid targedu cartrefi nad ydynt ar y grid a chartrefi mewn ardaloedd gwledig yn well gyda'r cynllun, ond gwyddom fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi nodi'n flaenorol yn y Senedd y diffyg contractwyr lleol a gweithlu medrus mewn ardaloedd gwledig, gan ddweud bod hynny'n cyfyngu ar hygyrchedd a chyrhaeddiad mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer eiddo nad ydynt ar y grid.

Nawr, fel y clywsom eisoes heddiw, mae 25 y cant o holl aelwydydd Cymru bellach mewn tlodi tanwydd, a gwyddom mai llawer o'r rhai yr effeithir arnynt waethaf yw'r rhai sy'n byw mewn cartrefi anghysbell a chartrefi nad ydynt ar y grid. Mae adroddiad diweddar yn rhybuddio, ar y gyfradd bresennol, y gallai gymryd tan y flwyddyn 2160 i ôl-osod pob cartref sy'n dlawd o ran tanwydd, sy'n gwbl annerbyniol wrth gwrs. Felly, o ystyried y rhybuddion llwm hyn, pa gamau mesuradwy penodol y byddwch yn eu cymryd i flaenoriaethu tai nad ydynt ar y grid yn rhaglen Cartrefi Clyd, gan sicrhau bod contractwyr a darparwyr grantiau yn ymestyn eu cyrhaeddiad i gefn gwlad Cymru? A wnewch chi amlinellu'r hyn y byddwch yn ei wneud i gyflymu'r ddarpariaeth fel nad yw'r cymunedau hyn yn gorfod aros degawdau am yr hyn y maent yn ei haeddu?

15:05

Diolch yn fawr. Mae Nyth Cartrefi Clyd yn ymwybodol iawn o anghenion perchnogion tai mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt ar y grid, gan fod aelwydydd gwledig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd. Mae hynny'n aml yn wir. Mae rhaglen Nyth Cartrefi Clyd wedi'i chynllunio i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yng nghefn gwlad a hefyd i wneud gwaith uwchraddio i wella effeithlonrwydd. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y Sefydliad Banc Tanwydd ac am fynediad at grantiau ar gyfer cartrefi gwledig nad ydynt ar y grid, ond rwyf am ddweud hefyd fod y gronfa cymorth dewisol, ym misoedd y gaeaf o fis Tachwedd 2024 i fis Chwefror 2025, wedi darparu £92,355 ar gyfer ceisiadau gan aelwydydd nad ydynt ar y grid olew a nwy. Mae hyn eto'n rhywbeth lle buaswn yn gobeithio y gall fy nghyd-Aelodau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, godi ymwybyddiaeth o'r Sefydliad Banc Tanwydd a'r gronfa cymorth dewisol, oherwydd yn aml, dyma'r taliad sydd ei angen arnynt i allu talu eu biliau, a bod modd cael mynediad at gymorth drwy'r gronfa cymorth dewisol a'r Sefydliad Banc Tanwydd.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 heddiw yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd cwestiwn 1 yn cael ei ateb gan y Llywydd. Joel James.

Newyddiadurwyr

1. Sut mae'r Comisiwn yn gweithio gyda newyddiadurwyr i sicrhau bod adroddiadau ar fusnes y Senedd yn gywir? OQ63487

Mae tîm newyddion Comisiwn y Senedd yn gweithio gyda newyddiadurwyr yng Nghymru a thu hwnt yn ddyddiol i sicrhau bod adroddiadau busnes y Senedd yn gywir. Caiff hyn ei gyflawni mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys datganiadau i'r wasg i hyrwyddo ac esbonio adroddiadau pwyllgorau, nodiadau briffio wythnosol ar fusnes y Senedd a sesiynau briffio technegol ar achlysuron penodol. Mae'r tîm hefyd yn monitro unrhyw sylw ar y newyddion o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r Senedd, gan ddefnyddio meddalwedd monitro'r cyfryngau, a bydd yn ceisio egluro anghywirdebau gyda newyddiadurwyr pan fyddant yn codi.

Diolch, Lywydd. Dangosodd yr holiadur diweddar 'Ein BBC, Ein Dyfodol' mai dim ond 43 y cant o bobl sy'n credu bod y BBC yn annibynnol ar y Llywodraeth gyfredol, gan ostwng i 40 y cant ymhlith yr ymatebwyr yng Nghymru. Pryderon ynghylch didueddrwydd a rhagfarn oedd y prif faterion i bobl 18 i 54 oed, ond nid yw hyn yn newydd. Canfu arolwg barn YouGov yn 2023 mai dim ond 44 y cant a oedd o'r farn fod y BBC naill ai'n 'ddibynadwy' neu'n 'ddibynadwy iawn'. Rwy'n siŵr eich bod wedi bod yn dilyn yr adroddiadau y mae pob un ohonom wedi'u gweld gan raglenni Panorama a Newsnight y BBC ynglŷn â sut y gwnaeth y gorfforaeth fynd ati'n fwriadol i ddoctora araith gan Arlywydd yr Unol Daleithiau i gamarwain y cyhoedd ym Mhrydain yn fwriadol ynglŷn â'i rôl yn nherfysgoedd y Capitol.

Credaf y dylai hyn beri cryn bryder i bob un ohonom. Rydym yn byw mewn oes lle mae llawer yn ei chael hi'n anodd gwahaniaethu rhwng gwirionedd a barn, a hyd yn oed rhwng gwirionedd a chelwydd. Dylai ein darlledwr cenedlaethol fod yn esiampl o ddidueddrwydd a dibynadwyedd. A yw'r Comisiwn yn barod i gynnal adolygiad annibynnol, yn yr un modd ag y gwnaeth gyda GB News, i asesu allbwn y BBC mewn perthynas â'i adroddiadau ar fusnes seneddol Cymru, a pha gamau y bydd yn eu cymryd os yw'n canfod bod unrhyw adroddiadau wedi bod yn gamarweiniol? Diolch.

Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod angen imi dynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant ar fy nghofrestr o fuddiannau. Mae'r BBC yn destun llawer o sylw yn y newyddion a thrafodaeth gyhoeddus ar hyn o bryd. Er mwyn ymgymryd â chwmpas helaeth y gwaith y mae'r Aelod newydd ei amlinellu, rwy'n awgrymu y byddai angen cynnydd cyllidebol mawr iawn ar y Comisiwn. Rwy'n cofio na phleidleisiodd yr Aelod dros y gyllideb sydd gennym yn barod, heb sôn am gynnydd cyllidebol o'r maint y byddai ei angen ar Gomisiwn, boed yr un presennol neu'r un nesaf, i ymgymryd â'r gwaith y mae'r Aelod wedi'i amlinellu. Hoffwn awgrymu hefyd, pan fo cwestiynau'n codi ynghylch polisi a pholisi darlledu, mai'r lle mwyaf priodol i gyfeirio'r cwestiynau hynny yw at Weinidogion y Llywodraeth, ac nid ataf fi.

15:10
Dehonglwyr BSL

2. Pa ddarpariaeth y mae'r Comisiwn yn ei gwneud ar gyfer dehonglwyr BSL ar gyfer trafodion y Senedd yn y seithfed Senedd? OQ63461

Diolch am eich cwestiwn, Jenny. Mae gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y cwestiynau i'r Prif Weinidog bob dydd Mawrth. Ers yr haf, mae nifer o sesiynau craffu pwyllgorau ar y Bil Aelod ar BSL hefyd wedi cynnig gwasanaeth dehongli byw. Mae hyn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar oblygiadau ymestyn y gwasanaeth yn y seithfed Senedd.

Darperir y gwasanaeth i'r Senedd drwy'r contract gwasanaethau darlledu am gost flynyddol sefydlog. Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael ar gais ar gyfer eitemau busnes eraill mewn Cyfarfodydd Llawn neu bwyllgorau, gyda phob cais yn ddarostyngedig i dâl ychwanegol. Cost flynyddol gyfredol darparu dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer y cwestiynau i'r Prif Weinidog yw oddeutu £19,000.

Diolch, Joyce Watson. Nid wyf eisiau swnio fel tôn gron yma, ond gwyddom mai dim ond 54 o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain sydd yna yng Nghymru. Cynhaliwyd menter wych o 2006 i 2008, a gychwynnwyd, rwy'n credu, gan yr Ysgrifennydd Cabinet presennol dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Cynhyrchodd hynny 30 o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ychwanegol. Y rheswm pam fy mod yn pwysleisio'r pwynt hwn yw am nad yw hyn yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei sicrhau dros nos. Felly, os ydym, ar y cyd fel Senedd, yn mynd i basio'r Bil Iaith Arwyddion Prydain hwn—bydd yn rhaid inni aros i weld ynglŷn â hynny—ond os ydym, rydym yn codi disgwyliadau y byddwn yn gallu darparu mwy o wasanaethau dehongli, fel y gall mwy o bobl rannu'r hyn sy'n digwydd yn eu Senedd. Y broblem yw, os na fyddwn yn creu mwy o ddehonglwyr, byddwn yn cystadlu â gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau dehongli brys hanfodol eraill y mae eu hangen ar bobl i gael beth bynnag y mae ganddynt hawl iddo. Rwy'n ceisio annog y Comisiwn i feddwl ymlaen llaw, yn hytrach nag, 'Wps, mae gennym broblem.'

Diolch, ac ni chredaf ein bod yn meddwl, 'Wps, mae gennym broblem.' Rydym yn cydnabod y maint. Rydych chi wedi fy holi ynglŷn â hyn o'r blaen ac fe atebais o'r blaen hefyd. Rydych chi'n iawn i ddweud mai nifer cyfyngedig o ddehonglwyr sydd ar gael. Mae'r niferoedd hynny'n lleihau hyd yn oed ymhellach os ydych chi'n sôn am y dehongli dwyieithog a fydd yn ofynnol hefyd. Y gost flynyddol gyfredol, fel y dywedais, yw £19,000. Bydd hyfforddi dehonglwyr yn cymryd amser hir. Rydym wedi ymrwymo i geisio gwneud peth o hynny yma, ond yn y pen draw, mae'n gwestiwn cyllidebol yn ogystal â chwestiwn ynghylch hyfforddiant. Mae'r Llywydd eisoes wedi dweud bod gennym bwysau cyllidebol sylweddol. Gwyddom na chafodd y pwysau cyllidebol hwnnw ei gefnogi gan y Ceidwadwyr yma, ond mae'r Bil hwn wedi cael ei gyflwyno gan un o'u plaid nhw, sydd braidd yn siomedig.

Gallwch fod yn sicr, Jenny, ein bod yn effro i hyn. Mae’r amserlen yn hollbwysig, fel rydych chi wedi’i gydnabod, fel rwy’n siŵr fod yr Aelod sy’n cyflwyno’r Bil hwn hefyd yn ymwybodol. Ond mae llawer o bethau eraill, ar wahân i hyfforddi pobl yn unig. Mae a wnelo â’r lle sydd gennym hefyd i’r unigolion hynny weithio ynddo ar hyn o bryd. Mae gennym brosiect cyfan ar y gweill sy’n edrych ar fanylion y gwaith uwchraddio i’r stiwdio lle bydd y dehonglwyr yn cael eu ffilmio. Bydd angen offer ychwanegol arnynt, a rhai newidiadau strwythurol hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud â mwy na hyfforddi’r unigolion yn unig, mae a wnelo â rhoi’r gallu iddynt gyflawni eu gwaith. Hefyd, mae angen ichi sicrhau parhad di-dor rhwng dehonglwyr i ganiatáu hynny mewn cyfarfodydd ar y pryd. Felly, rydym yn y broses o gyfrifo'r costau hynny, a bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i’w werthuso a’i flaenoriaethu yn y flwyddyn ariannol newydd.

Felly, fel y dywedais y tro diwethaf imi ateb cwestiwn fel hwn, mae'n waith heriol. Dim ond am hyn a hyn y gall dehonglydd weithio, ac wrth gwrs, golyga hynny y bydd angen mwy nag un dehonglydd ar gyfer pob sesiwn unigol. Ond bydd y costau hynny'n dod yn y flwyddyn ariannol newydd, a hefyd, wedi'u hymgorffori yn hynny, bydd y newidiadau strwythurol y bydd angen i'r bobl hynny weithio o'u mewn hefyd. Ond diolch am eich cwestiwn, ac rydych chi'n hollol iawn i gadw hyn yn fyw.

15:15
Hygyrchedd Dogfennau

3. Pa ystyriaeth mae'r Comisiwn yn ei rhoi i hygyrchedd dogfennau wrth gefnogi busnes y Senedd? OQ63464

Unwaith eto, diolch am eich cwestiwn. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dogfen sy'n cefnogi busnes y Senedd ar gael i Aelodau, staff a'r cyhoedd. Mae safonau hygyrchedd wedi'u hymgorffori yn allbynnau'r pwyllgorau, gydag adroddiadau'n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio templedi a chanllawiau hygyrch. Darperir canllawiau i staff ar gynhyrchu dogfennau hygyrch, ac anogir trydydd partïon i gyflwyno cynnwys hygyrch. Mae'r Comisiwn yn darparu canllawiau ar-lein i egluro sut y gall tystion a chyfranwyr ofyn am fformatau neu addasiadau hygyrch, gan sicrhau cyfranogiad llawn yn nhrafodion y Senedd. Y cam nesaf yw gwella hygyrchedd, gan gynnwys adolygu a diweddaru canllawiau, adnewyddu hyfforddiant staff, a gweithredu mecanweithiau adborth a fydd yn sicrhau bod pob dogfen yn bodloni'r safon hygyrchedd yn gyson.

Diolch. Rwyf wedi derbyn pryderon gan y gymuned anableddau dysgu fod angen i'r Comisiwn wneud mwy i ddarparu ar gyfer dogfennau hawdd eu darllen a hyrwyddo'r angen amdanynt. Yn ogystal â'r amserlenni ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno adroddiadau a chofnodion, ac ystyried yr amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny, gan y Swyddfa Gyflwyno, er enghraifft, mae hefyd yn bwysig fod gan bobl ag anableddau dysgu fynediad at fersiynau hawdd eu darllen o ansawdd da o ddogfennau gan y Comisiwn. Cafodd rhai problemau ansawdd gyda'r fersiynau hawdd eu darllen a gynhyrchwyd ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, er enghraifft, eu dwyn i fy sylw, yn enwedig y fersiwn Gymraeg hawdd ei darllen. Nid yw'r ffotosymbolau sy'n cynnwys testun wedi'u cyfieithu, felly maent yn ymddangos gyda thestun Saesneg yn y fersiynau Cymraeg. Y rheswm am hyn, yn ôl pob tebyg, yw nad yw'r offeryn ffotosymbolau yn cynnig fersiynau Cymraeg. Fodd bynnag, gellir golygu ffotosymbolau i gynhyrchu fersiynau Cymraeg. Felly, a wnaiff y Comisiwn ymgynghori â grwpiau anableddau dysgu ar y mater hwn, fel y gall pobl ag anableddau dysgu gael mynediad cyson at wybodaeth hygyrch o ansawdd da?

Yn sicr, ac rwy'n siomedig iawn o glywed yr hyn rydych chi newydd ei ddweud. Fel rydych chi'n dweud, gellir fformatio pethau, gellir eu newid. Rwy'n siŵr, rywsut—neu hoffwn feddwl, rywsut—mai camgymeriad oedd hynny. Mae wedi'i godi yma heddiw, yn gwbl briodol, mae wedi'i gofnodi, i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y ffordd rydych chi newydd ofyn, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr.

Yn ddiweddar, mae'r Comisiwn wedi diweddaru datganiadau hygyrchedd ar gyfer y wefan, ac mae'n diweddaru'r rhai sy'n ymwneud â systemau a ddefnyddir mewn gwefannau eraill ar gyfer y cyhoedd. Rydym yn ymdrechu i sicrhau cydymffurfiaeth â safon AA y canllawiau ar hygyrchedd y we—dyna yw'r meincnod hygyrchedd ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus. Rwy'n gobeithio bod yr hyn rydych chi wedi'i godi heddiw yn dod o fewn y canllawiau hynny, a'n bod yn sicrhau, yn bendant, nad oes gennym yr hyn sy'n swnio fel system ddeuol a bod annhegwch wedi treiddio i'r hyn a seiliwyd ar fwriadau da iawn, ond nid yw'r canlyniadau'n ddigon da. Felly, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Diolch am ddwyn hyn i'n sylw, ac rwy'n siŵr y bydd pawb arall yn falch ei fod wedi'i ddwyn i'n sylw, gan na fyddai wedi bod yn ganlyniad bwriadol. Diolch.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Dim ond un cwestiwn sydd wedi ei dderbyn y prynhawn yma, a bydd hwnnw gan Mabon ap Gwynfor.

Data Perfformiad a Gweithgaredd y GIG

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r bylchau yn y datganiad data diweddaraf a ryddhawyd ar Berfformiad a Gweithgaredd y GIG? TQ1409

15:20

Gohiriwyd ystadegau swyddogol perfformiad diweddaraf y GIG oherwydd problemau ansawdd data a effeithiodd ar ddata ar amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyhoeddwyd datganiad ystadegol rhannol y diwrnod wedyn, ar y meysydd a gyhoeddir fel arfer ar wahân i amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r problemau a diweddaru'r ystadegau ar frys.

Yn hytrach na bod yn agored o'r cychwyn cyntaf ynglŷn ag union achos y broblem hon, mae'n siomedig ein bod wedi gorfod cyflwyno'r cwestiwn amserol hwn i geisio cael tryloywder a deall beth sy'n digwydd. Gwyddom hefyd mai dim ond crib y rhewfryn yw hyn o ran diffygion yn ansawdd, cysondeb a thryloywder data iechyd yng Nghymru. Fel y dywedodd Iona Collins, pennaeth BMA Cymru yn ddiweddar, mae gwir raddfa'r rhestrau aros hir yn cael ei chuddio gan y ffaith, yn wahanol i Loegr, nad yw'r ffigurau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng Nghymru ond yn adlewyrchu'r cyfnod ar ôl i'r ysbyty dderbyn atgyfeiriad, yn hytrach na'u bod yn dechrau o'r eiliad y mae meddygon teulu'n gwneud yr atgyfeiriad hwnnw. Ac rwyf hefyd yn clywed y gallai gwahaniaethau mewn trothwyon mynegai màs y corff ar draws byrddau iechyd Cymru fod yn lleihau maint y pwysau ar arbenigeddau fel orthopedeg.

Felly, rydym yn haeddu tryloywder ac atebion clir a diamwys i'r cwestiynau canlynol: a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth a achosodd y bwlch data hwn a beth yn union y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i'w ddatrys? A gyfrannodd y penderfyniad dadleuol diweddar i gyhoeddi data dros dro'r GIG cyn rhyddhau data'n swyddogol at y broblem hon? A all Ysgrifennydd y Cabinet warantu y byddwn yn cael y data perthnasol mewn pryd i bennu a yw'r addewid a roddwyd gan fwrdd Betsi Cadwaladr y byddai arosiadau dwy flynedd yn y bwrdd iechyd—sydd dros 5,000 ar hyn o bryd—yn cael eu dileu'n llwyr erbyn diwedd 2025 wedi cael ei gyflawni? Ac yn olaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod y methiant sylfaenol hwn ym mhroses ddata'r GIG yn golygu bod angen archwiliad cynhwysfawr o ansawdd a dibynadwyedd data iechyd yng Nghymru?

Wel, mae'r sefyllfa y cyfeiria'r Aelod ati yn anamddiffynadwy, ac nid wyf yn ceisio ei hamddiffyn. Mae gan bob un ohonom hawl i ddisgwyl bod data cywir yn cael ei adrodd yn amserol: byrddau iechyd, er mwyn gwella eu perfformiad; fi, fel Gweinidog iechyd, er mwyn dwyn byrddau iechyd i gyfrif; ac Aelodau'r Senedd ac eraill er mwyn craffu ar y gwasanaeth iechyd a gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Felly, nid wyf yn ceisio amddiffyn methiant y bwrdd iechyd i adrodd data'n gywir ac amserol.

Hoffwn ddweud wrth yr Aelod, pe bai wedi gwylio'r cyfarfod atebolrwydd cyhoeddus, a ddarlledwyd brynhawn Iau, byddai wedi nodi bod y cwestiwn cyntaf un a ofynnais i'r bwrdd iechyd yn ymwneud yn benodol â hyn. Felly, ni fu unrhyw ymgais o gwbl i beidio ag ateb y cwestiwn. Dyna oedd y pwynt cyntaf un a wneuthum i'r bwrdd iechyd, o ystyried ei arwyddocâd posib.

Mae fy swyddogion, prif weithredwr GIG Cymru ac eraill, wedi bod mewn cysylltiad cyson â'r bwrdd i geisio deall beth yw achos y broblem ac i gael y data perthnasol gan y bwrdd. Yn amlwg, fel y gŵyr yr Aelod, cynhyrchir ystadegau swyddogol yn annibynnol, yn rhydd rhag dylanwad gwleidyddol neu benderfyniadau gweinidogol, ac fel y gŵyr, yn amlwg, maent yn ymlynu wrth ystod o godau ymarfer sy'n llywodraethu'r annibyniaeth honno.

Yr hyn a ddywedaf yw bod llai o gynnydd wedi'i wneud nag a ddisgwyliwn ac y cefais fy sicrhau y byddai wedi digwydd erbyn diwedd y dydd ddoe. Nid wyf yn hapus o gwbl ynghylch lefel o frys y tîm gweithredol i ddatrys y mater hwn. Mae gennyf gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd ddiwedd heddiw, lle byddaf yn disgwyl adroddiad o ble maent arni fel y gallaf benderfynu ar ein camau nesaf fel Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n disgwyl i hyn gael ei ddatrys o fewn y 24 awr nesaf, ac os na chaiff ei ddatrys, byddaf eisiau ymchwiliad ffurfiol i safonau data a llywodraethu yn y bwrdd.

Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a hefyd i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn. Rydych chi eisoes wedi ateb rhai o fy nghwestiynau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ni chredaf ein bod yn gwybod 'beth' o hyd, neu pam fod hyn wedi digwydd. Rydych chi wedi dweud bod swyddogion mewn cysylltiad â bwrdd Betsi Cadwaladr i ddeall pam ein bod yn y sefyllfa hon, ond does bosib nad yw'r bwrdd iechyd wedi dweud wrth swyddogion erbyn hyn beth yn union yw achos hyn, a pha ran o'r data na allant ei darparu i chi. Oherwydd does bosib nad yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr hon i wybod beth yn union sydd wedi mynd o'i le a sut y bwriadwch ei unioni. Fe ddywedoch chi y byddech chi'n rhoi tan ddiwedd y dydd heddiw iddynt ddatrys hyn. Os na fydd hyn wedi'i ddatrys erbyn diwedd y dydd heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi fod camau y byddech yn eu cymryd. Hoffwn wybod pa gamau yw'r rheini, gan fy mod i wedi clywed hefyd, ddoe, rwy'n credu, gan y rheolwr busnes, y bydd datganiad yn cael ei wneud ym mis Ionawr, sydd ychydig fisoedd i ffwrdd cyn y gallwn gael cyfle priodol i graffu ar y ffigurau hyn yn iawn yn y Siambr. Felly, os gellir datrys y problemau data hyn, hoffwn wybod a fyddwn yn cael y datganiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, yn hytrach na gorfod aros tan fis Ionawr am ddatganiad?

15:25

Wel, nid yw'r ateb i gwestiwn yr Aelod, 'Beth sydd wedi mynd o'i le?' yn un y gallaf roi ateb pendant iddo ar hyn o bryd. Mae'n rhan o natur yr her yr ydym yn ceisio ei datrys i ddeall beth yw hynny. Rwyf hefyd yn ofalus rhag dyfalu, oherwydd yn amlwg, mae'r rhain yn faterion o gywirdeb ystadegol, ac mae prosesau penodol i'w cael mewn perthynas â hynny. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw mai'r digwyddiad a sbardunodd y pryder yn wreiddiol oedd ynghylch nifer y bobl a oedd yn ymddangos ar restrau pan oeddent wedi cael eu trin. Felly, dyna'r her sylfaenol a arweiniodd at ymchwilio pellach i'r mater.

Ar amseru, credaf fy mod wedi dweud yn glir iawn fy mod yn disgwyl i'r mater gael ei ddatrys ar frys, am resymau y bydd pob un ohonom yn cytuno â nhw. Os nad ydym mewn sefyllfa o fewn y 24 awr nesaf lle byddaf yn cael y lefel o sicrwydd yr wyf ei heisiau fel y Gweinidog iechyd, ac y bydd ystadegwyr eu hunain ei heisiau hefyd, byddaf eisiau ymchwiliad ffurfiol i safonau data a llywodraethu yn y bwrdd, fel y gall pob un ohonom gael y lefel o hyder sydd ei hangen arnom o ran darparu data cywir yn amserol.

Mewn perthynas â'r pwyntiau eraill y mae'r Aelod wedi'u gwneud—. Nid wyf yn siŵr fy mod yn gwybod beth oedd y cyfeiriad at amseriad datganiad. Fy mwriad beth bynnag yw gwneud datganiad pellach yn nes ymlaen yr wythnos hon, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ba ddatblygiadau bynnag a fydd wedi digwydd yn y cyfamser ac am y trefniadau diweddaraf mewn perthynas â'r datganiad rwyf eisoes wedi'i wneud ynglŷn â sicrhau bod rhagor o gymorth ar gael i'r bwrdd iechyd drwy gyngor gan uwch-swyddogion, ac rwy’n bwriadu gwneud y datganiad hwnnw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn y dyddiau nesaf.

5. Datganiadau 90 eiliad

Diolch, Lywydd. Ddoe, nododd y Senedd hon Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod. Roeddwn eisiau achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw eto at ymgyrch y Rhuban Gwyn a pham y mae'n rhaid inni ymroi yn y Senedd ac ym mhob rhan o'n cymdeithas i beidio byth â chyflawni, esgusodi na chadw'n dawel am drais yn erbyn menywod a merched.

Hyd yma yn y DU eleni, mae o leiaf 64 o fenywod wedi cael eu lladd mewn amgylchiadau lle'r amheuid mai dyn neu ddynion oedd wedi cyflawni'r drosedd. Maent yn cynnwys Leanne Williams o Abertawe; Tracey Davies o Gefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr; Nirodha Kalapni o Gaerdydd; Shelley Davies o Gaerdydd; ac Angela Shellis o Brestatyn. Menywod o Gymru a chanddynt deuluoedd a ffrindiau, a bywydau wedi'u dileu gan drais dynion. Yn gynharach y mis hwn, cafwyd hyd i Lainie Williams, 17 oed, yn farw ger Coed-duon. Ddeuddydd yn ddiweddarach, cafwyd hyd i Corinna Baker, 21 oed, yn farw yn Aberteifi. Yn y ddau achos, mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Dyna gost a phen draw trais ar sail rhywedd, ond mae'n niweidio ac yn difetha llawer mwy o fywydau. Bydd un o bob pedair menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod ei hoes.

Hoffwn dalu teyrnged i'r sefydliadau sy'n gweithio ddydd ar ôl dydd i gefnogi'r menywod hyn a'u teuluoedd. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn nodi dechrau 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd, a gefnogir gan ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnig cyfle pwerus i ddynion a bechgyn fod yn gynghreiriaid i fenywod a merched, i herio trais a misogynedd ym mhob man. Rwy'n annog pawb i'w gefnogi a bod yn rhan o'r newid. Diolch.

Mae heddiw'n foment nodedig i Gymru ac i ddatblygu sgiliau, wrth inni gynnal rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK am y tro cyntaf erioed. O'r 417 ymgeisydd yn y rowndiau terfynol o bob cwr o'r DU, mae 102 o Gymru, yn cynrychioli 10 coleg mewn 33 o gystadlaethau, gan gwmpasu meysydd fel diwydiant 4.0, seiberddiogelwch ac ynni adnewyddadwy. Rwy'n arbennig o falch fod Coleg Pen-y-bont ar Ogwr nid yn unig yn un o'r tri choleg sy'n cynnal y digwyddiad mawreddog hwn, ond fod ganddynt hefyd 15 o ddysgwyr talentog yn cystadlu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, o roboteg ddiwydiannol, tirlunio, i sgiliau sylfaenol, gan gynnwys menter a gwasanaethau bwytai. Mae eu hymroddiad a'u cyflawniad yn adlewyrchu cryfder ein sector addysg lleol ac uchelgais ein pobl ifanc.

Mae cystadlaethau WorldSkills yn fwy na chystadlaethau'n unig. Maent yn llwyfan i arddangos talent, arloesedd a gwydnwch Cymru ar lwyfan byd-eang. Maent yn helpu i godi uchelgeisiau dysgwyr, gan gynnwys datblygu sgiliau technegol a chyflogadwyedd, sy'n sail i economi gref a llewyrchus. Dyma sut rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen i'n gweithlu. Felly, hoffwn longyfarch pob dysgwr sy'n cymryd rhan a diolch i'n colegau am eu hymrwymiad i ragoriaeth. Mae'r digwyddiad hwn yn anfon neges glir fod Cymru yn un o'r lleoedd gorau yn y byd i ddatblygu talent a sgiliau.

15:30
6. Dadl ar ddeiseb P-06-1456, 'Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru'

Eitem 6 yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1456, 'Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.

Cynnig NDM9057 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1456, 'Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru', a gasglodd 10,437 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae aros hir wedi bod am y ddadl hon. Mae ymdrechion penderfynol parhaus gan ymgyrchwyr i fynd ar drywydd pob dull cyfreithiol o ddiogelu'r ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth Cymru wedi gohirio'r drafodaeth am fisoedd. Roedd yn hanfodol sicrhau nad oeddem yn siarad am fater a oedd yn cael ei ystyried yn briodol yn y llysoedd, ond mae'r ffaith bod yr apêl ddiwethaf wedi'i gwrthod, ym mis Hydref, wedi cael gwared ar y rhwystr hwnnw.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Karl Ciz, ar ôl casglu cyfanswm o 10,437 o lofnodion, ac yn eironig, cafodd ei chau'n gynnar i ganiatáu i ddadl gael ei chynnal yn gynt. Mae testun y ddeiseb fel a ganlyn:

'Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Ambiwlans Awyr Cymru ynghylch cau dwy ganolfan a chanoli ei weithrediadau yn golygu bod ardaloedd cyfan o ganolbarth a gogledd orllewin Cymru â gwasanaeth israddol. Rwy’n credu na wrandawyd ar angen y cyhoedd, na barn y cyhoedd ar y mater, ac rwy’n apelio ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

'Dylid lansio ymchwiliad cyhoeddus llawn.

'Mae llawer ohonom yn teimlo y bydd ein hawliau i wasanaeth Ambiwlans Awyr yn cael eu herydu, yn enwedig y rhai ohonom yng nghanolbarth a gogledd orllewin Cymru ble mae'r pellteroedd i'r cyfleusterau Damweiniau ac Achosion Brys agosaf yn aml yn bell iawn. Mae’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr yn achubiaeth i lawer ohonom ac ni ddylid ei ddileu heb gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn.'

Mewn ymateb i'r ddeiseb, ym mis Gorffennaf 2024, ysgrifennodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, Eluned Morgan:

'Cyfrifoldeb y Cyd-bwyllgor oedd y penderfyniad hwn, a rhaid i'r cyfrifoldeb hwnnw aros yn nwylo'r Cyd-bwyllgor. Sefydlwyd y Cyd-bwyllgor er mwyn cynllunio, sicrhau a chomisiynu ystod o wasanaethau arbenigol ar y cyd, gan gynnwys gwasanaethau EMRTS'—

—gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys.

'Nid penderfyniad ar gyfer Llywodraeth Cymru yw hwn, ac ni ddylai penderfyniad gweithredol o'r math hwn fod yn benderfyniad i Weinidogion ei wneud.'

Argymhellodd adolygiad o'r gwasanaeth gan EMRTS y dylid cau'r canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon, a symud yr hofrenyddion i safle newydd yng ngogledd Cymru, ger yr A55. Mae cefnogwyr y newid yn dweud y byddai hyn yn golygu y gellid ateb mwy o alwadau brys bob blwyddyn, ond mae ymgyrchwyr yn ofni y bydd yn golygu amseroedd ymateb arafach i rai cymunedau. Roedd argymhellion EMRTS yn cynnwys darparu gwasanaeth ar y ffordd pwrpasol ychwanegol ar gyfer ardaloedd anghysbell a gwledig. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau lleol fwy i'w ddweud am fanylion y penderfyniad a'r teimladau cryf yn eu cymunedau.

Mae ymgyrchwyr wedi mynd â'u her i'r llysoedd uchaf yn y wlad yn ystod y misoedd diwethaf, a hynny heb lwyddiant. Er bod yr ambiwlans awyr yn unigryw yng Nghymru, wrth wraidd y ddeiseb hon mae cwestiwn a fydd yn gyfarwydd i wylwyr deisebau'r Senedd: sut y mae dwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu penderfyniadau a sut y mae barn cymunedau yn cael eu clywed yn y broses benderfynu honno?

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi gweld deisebau'n ymwneud â bron bob bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n ceisio herio penderfyniadau sydd, fel arfer, yn canoli gwasanaethau i ffwrdd o gymuned benodol. Rwy'n amau bod hon yn thema a fydd yn parhau yma yn y seithfed Senedd, wrth i dechnoleg a phatrymau galw sy'n newid yrru newidiadau pellach yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu darparu. Fel gwleidyddion, mae angen i ni ddod o hyd i ateb gwell. Edrychaf ymlaen at y ddadl a chlywed barn yr Aelodau ar draws y Siambr. 

15:35

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor, i'r deisebwyr, yr holl ymgyrchwyr ar draws canolbarth Cymru, a'r bobl hynny yr effeithir arnynt gan y newidiadau hyn. Heb amheuaeth, mae bwlch mawr yn y ddarpariaeth iechyd ym Mhowys. Mae gennym sir heb ysbyty cyffredinol dosbarth, heb adran damweiniau ac achosion brys, mae unedau mân anafiadau yn gweithredu o fewn oriau cyfyngedig, ac mae ambiwlansys yn cael eu llusgo o'n cymunedau yn gyson i wneud iawn am brinder mewn mannau eraill yng Nghymru. O ganlyniad uniongyrchol i hyn, mae pobl rwy'n eu hadnabod yn fy etholaeth, ac ar draws canolbarth Cymru, wedi colli eu bywydau. Mae hyn wedi achosi trawma dwfn i'w teuluoedd.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae'r penderfyniad i gau canolfan ambiwlans awyr y Trallwng nid yn unig yn anghyfrifol, mae'n beryglus. Mae'r amseroedd ymateb eisoes yn annerbyniol, a byddant yn gwaethygu. Bydd cymunedau ar draws canolbarth a gogledd-orllewin Cymru yn profi ymyriadau brys arafach, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i gynnig geiriau o sicrwydd nad ydynt yn adlewyrchu profiadau bywyd y bobl a gynrychiolwn. Er bod yr adolygiad barnwrol yn cadarnhau cyfreithlondeb proses y cyd-bwyllgor comisiynu, nid yw cyfreithlondeb yn cyfateb i foesoldeb na synnwyr clinigol. Nid y llysoedd sy'n penderfynu a oedd y penderfyniad hwn yn ddiogel, yn deg neu'n gyfiawn i'r Gymru wledig—mater i ni yma yn y Senedd yw'r cyfrifoldeb hwnnw.

Mae'r cynnig i gael mesurau lliniaru fel y'u gelwir yn lle'r asedau awyr a gollir—cerbydau ymateb cyflym wedi'u lleoli o amgylch canolbarth Cymru—yn gwbl annigonol. Yn waeth na hynny, nid yw'r cerbydau hyn yn bodoli eto hyd yn oed. Ni chafwyd unrhyw gynlluniau terfynol, gwaith costio, caffael, nac amserlenni ar gyfer eu rhoi ar waith. Roedd yn ofynnol i'r cyd-bwyllgor comisiynu gyflwyno'r cynlluniau manwl erbyn mis Medi y llynedd. Ni wnaethant hynny. Nid oes unrhyw beth wedi'i ddarparu.

Yn y cyfamser, mae'r Llywodraeth yn mynnu mai mater gweithredol yw hwn, gan gydnabod bod y penderfyniad yn adlewyrchu disgwyliadau polisi Llywodraeth Cymru. Mae'r cyhoedd yn haeddu eglurder. Os yw Gweinidogion yma yn golchi eu dwylo o'r mater hwn ac os na fyddant yn ymyrryd i atal cau'r canolfannau hyn ledled Cymru, rhaid iddynt o leiaf sicrhau bod y cerbydau ffordd brys a addawyd yn gwbl weithredol, wedi'u staffio'n llawn, wedi'u cyfarparu'n llawn, ac yn gallu cymryd lle'r hyn sy'n cael ei ddiddymu er mwyn gwasanaethu poblogaethau trefol. Heb sicrwydd o'r fath, mae'r Gymru wledig yn wynebu diffyg annerbyniol o ran diogelwch cleifion.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at wella amseroedd ymateb categori oren ym Mhowys, ond nid ydynt yn gwneud dim i newid y ffaith bod dyn yn fy etholaeth wedi aros am oriau am ambiwlans, ac wedi marw o drawiad ar y galon. Nid yw hynny'n dderbyniol. Ni allwn drafod gwelliannau damcaniaethol yn y dyfodol yma tra bod trigolion gwledig yn wynebu perygl gwirioneddol ac uniongyrchol. Er ein bod yn clywed sôn am gynigion datblygedig, gan gynnwys galluoedd nos yng ngogledd Cymru, nid yw hynny'n diogelu ffermwyr yn fy etholaeth i, cerddwyr yng Nghwm Elan, na gyrwyr ar yr A470 a allai gael damwain.

Mae pobl canolbarth Cymru a gogledd-orllewin Cymru yn cael eu trin fel ôl-ystyriaeth. Maent yn haeddu'r un mynediad at ofal brys â'r rhai sy'n byw ar hyd yr A55 neu islaw coridor yr M4. Nid mater gweithredol yw cadw canolfan ambiwlans awyr y Trallwng a'r un yng Nghaernarfon, mae'n fesur diogelwch hanfodol i'r bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru. Byddai ei cholli nid yn unig yn ailddosbarthu adnoddau, byddai'n golygu bod y Llywodraeth hon yn esgeuluso'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau gwledig.

Felly, rwy'n galw am gadw'r canolfannau ambiwlans awyr ar draws ein cymunedau, wedi'i gefnogi gan sicrwydd na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd i wanhau neu gael gwared ar y gwasanaeth hwn. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n cytuno â'r deisebwyr fod angen ymchwiliad cyhoeddus llawn ac annibynnol i'r data, y methiannau llywodraethu, y diffyg tryloywder a'r anghydraddoldebau rhanbarthol dwfn yn y broses hon.

Ni all yr awr aur—yr un y mae pawb ohonom yn siarad amdani—fod yn fraint i bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn unig. Rhaid iddi fod yn hawl i bawb, ar draws Cymru, ble bynnag y maent yn byw. Mae pobl yn talu eu trethi, maent yn rhoi i'r elusennau hyn; maent yn rhoi eu harian am eu bod eisiau gwasanaeth, ac rydym yn haeddu cael y gwasanaeth hwnnw yng nghefn gwlad Cymru. Ni ddylem gael ein gwthio o'r neilltu unwaith eto er budd y canolfannau trefol. Ac rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn erfyn arno: gwnewch bopeth yn eich gallu i gadw'r canolfannau ambiwlans yn ein cymunedau, oherwydd bydd eu colli'n niweidiol i ddyfodol ein gwlad ac yn niweidiol i iechyd y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.

15:40

Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ddeiseb yma ac wedi sicrhau bod y ddeiseb yma wedi cyrraedd dros 10,000 o lofnodion. Gaf i hefyd ddiolch i Russell George am y cydweithio efo Russ ar hyn? Dwi'n gwybod bod Russ wedi gwneud lot o waith yn sir Drefaldwyn ac yng nghanolbarth Cymru efo'r criw yna.

Gaf i ddechrau drwy bwyntio allan pa mor bwysig ydy'r gwasanaeth yma i fy etholaeth i'n benodol? Ddaru'r ambiwlans awyr ddechrau yn sgil damwain angheuol a gafwyd yn ardal Harlech flynyddoedd yn ôl, ar arfordir gorllewinol Cymru. Mae'r etholwr ddaru ddechrau'r ddeiseb yma yn byw hefyd yn fy etholaeth i ar arfordir gorllewin Cymru, ac mae'r fam ifanc ddaru fynd â'r achos yma i adolygiad barnwrol hefyd yn byw yn fy etholaeth i ar yr arfordir gorllewinol. Dyna pa mor bwysig ydy'r gwasanaeth yma i fy etholwyr, i Ddwyfor Meirionnydd, a dyna pam fy mod i wedi bod mor llafar am hyn, oherwydd bod y newidiadau arfaethedig yma yn poeni'r etholwyr yna.

Yr un peth y mae pobl angen sicrwydd amdano yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru ydy bod ganddyn nhw wasanaethau iechyd. Hyd yma, maen nhw wedi gweld eu gwasanaethau iechyd yn cael eu dirywio ac yn colli tir. Rydyn ni wedi gweld cau canolfannau meddygol, rydyn ni wedi gweld cau gwahanol wasanaethau iechyd, a rŵan maen nhw'n gweld bod yr un lifeline yma, os hoffwch chi, hefyd yn cael ei fygwth.

Mae bygwth canoli'r gwasanaeth rhywle yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ar draul Dinas Dinlle, gogledd-orllewin Cymru, a'r Trallwng yng nghanolbarth Cymru, ydy, mae'n mynd i fod o fudd i nifer fawr o bobl yn y gogledd-ddwyrain—a dwi yn croesawu'r symudiad tuag at ddarparu fwy o wasanaethau efo'r hwyr—ond i unrhyw un sydd wedi darllen y data a'r ystadegau a oedd yn rhan o'r ymchwiliad yna, mi ydyn ni'n gweld yn glir fod yna fygythiad i wasanaethu pobl yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cymru, a dydy hynna ddim yn dderbyniol. Mae'r bobl dwi'n eu cynrychioli, pobl yng nghanolbarth Cymru, pobl yn Ynys Môn a Cheredigion, yn haeddu’r un fath o wasanaeth ag unrhyw ran arall o Gymru.

Dydy hynny ddim i ddweud nad ydyn ni'n cefnogi'r ambiwlans awyr. Mae gwasanaeth yr ambiwlans awyr, yr elusen, yn un rhagorol. Ac mae hynny'n cael ei ddangos a'i brofi drwy'r ffaith bod pobl yng ngogledd a chanolbarth Cymru ymhlith y rhai mwyaf hael pan fydd hi'n dod i roi arian i'r elusen yma, oherwydd eu bod nhw'n gwerthfawrogi'r ddarpariaeth sydd yna. Ond does yna ddim dadlau bod canoli'r gwasanaeth, fel sydd yn cael ei gynnig, yn mynd i fod yn niweidiol i bobl yr ardal, oherwydd nid yn unig y bydd hi'n cymryd mwy o amser i hofrennydd hedfan i bellteroedd Pen Llŷn, lawr i ddeheudir Meirionnydd, ond bydd y rapid-response vehicles yma hefyd yn ei chael hi'n annos, a'r rheini, mewn gwirionedd, ydy'r rhai dwi'n poeni fwyaf yn eu cylch. Mae'n amlwg i mi nad ydy'r bobl sydd wedi rhoi'r cynlluniau yma at ei gilydd wedi ystyried natur tirwedd yr ardal. Mae'n rhaid teithio ar hyd dyffrynoedd hir a throellog mewn amgylchiadau anodd iawn, pan fydd y niwl yn dod i mewn, pan fydd y rhew yn gosod, sydd yn mynd i'w wneud o'n anodd iawn i gerbydau i gyrraedd ardaloedd fel Anelog ym mhendraw Llŷn neu fel Bryncrug yn ne Meirionnydd.

EMRTS wnaeth yr addewid gwreiddiol, yn ystod yr ymgynghoriad, eu bod nhw'n mynd i ddarparu gwasanaeth RRVs—rapid-response vehicles—newydd ar gyfer y canolbarth a'r gogledd-orllewin. Felly, yn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, dwi eisiau clywed, os yw'n bosib, pa waith mae'r Llywodraeth yma wedi ei wneud efo EMRTS—EMRTS sydd yn cael ei ariannu gan y Llywodraeth yma—i sicrhau bod y cerbydau yna yn mynd i gael eu darparu ac yn mynd i gael eu canoli a'u lleoli yng ngorllewin Cymru ac yng nghanolbarth Cymru ar gyfer dibenion y bobl yn yr ardaloedd hynny; bod y cerbydau yna yn mynd i gael eu staffio yn llawn gan yr arbenigwyr sydd eu hangen, y math o arbenigwyr rydym ni'n eu gweld yn yr hofrenyddion yma; a'i fod o'n mynd i gael ei ariannu. Oherwydd dyna'r addewid a gafodd ei roi, ond, fel rydym ni wedi clywed gan James Evans yn barod, does yna ddim cynllun wedi'i roi ynghyd, does yna ddim cyllideb wedi cael ei roi.

Felly beth sydd yn digwydd yn fan hyn? Ydyn ni'n gallu cael ymrwymiad clir gan y Llywodraeth yma eich bod chi'n cydweithio efo EMRTS er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth yma? Dyna'r addewid sydd ei angen rŵan. Beth ydy'r amserlen ar gyfer hynny? Mae pobl yr ardal dwi'n ei chynrychioli, mae Russ yn ei chynrychioli, eisiau atebion ar gyfer hyn, oherwydd maen nhw wedi cael eu siomi'n barod. Rydym ni’n ofni bod gwasanaeth hanfodol yn mynd i gael ei golli, a does yna ddim byd yn dod yn ei le.

Mae'n rhaid i ni gael y sicrwydd yna fod yna wasanaeth yn mynd i fod yn lle'r ambiwlans sydd yn mynd i gael ei ganoli yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fel bod pobl Dwyfor Meirionnydd yn cael y gwasanaeth angenrheidiol os ydy rhywbeth yn mynd o'i le arnyn nhw. Mae gan bobl yr ardaloedd yma yr un hawl i wasanaethau ag unrhyw ran arall o Gymru. Diolch.

15:45

Mae degau o filoedd o bobl wedi llofnodi deisebau'n gwrthwynebu'r cynlluniau i gau canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon. Rwy'n falch ein bod yn cael cyfle eto i drafod a dadlau'r mater hwn a'r effaith ofnadwy y bydd yn ei chael ar bobl sy'n byw yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Pan fydd rhywun yng Nghymru yn wynebu argyfwng meddygol, mae'n naturiol meddwl tybed pwy fydd yn dod i'w helpu a pha wasanaethau a fydd ar gael iddynt ar ôl iddynt gyrraedd. Mae'r pryder hwn hyd yn oed yn fwy amlwg mewn rhannau gwledig o Gymru oherwydd yr amser y mae'n ei gymryd i wasanaethau brys gyrraedd llawer o lefydd, a dyma'n union pam y mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei werthfawrogi cymaint. Y llynedd, penderfynodd un o bwyllgorau GIG Cymru, y cyd-bwyllgor comisiynu, gau canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon. Fe wnaethant y penderfyniad anghywir. Bydd bywydau yng nghanolbarth a gogledd Cymru mewn perygl oni bai bod y Llywodraeth yn ymyrryd.

Nid yw pobl canolbarth Cymru yn derbyn y sbin y mae rhai yn ei bedlera fod hwn yn mynd i fod yn well gwasanaeth iddynt hwy. Nid yw hynny'n wir. Pleidleisiodd bwrdd iechyd Powys a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn erbyn ac nid ydynt yn cefnogi'r penderfyniad i gau'r canolfannau strategol allweddol hyn. Nid yw'n cael ei gefnogi gan y ddau fwrdd iechyd, na degau o filoedd o bobl na chlinigwyr yn y canolfannau. Mae cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Diolch i Mabon ap Gwynfor, James Evans ac eraill ar draws y pleidiau am eu hymrwymiad i achub a chadw'r ddwy ganolfan.

Nid oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, a dyna'n union pam fy mod i a thrigolion Powys yn teimlo mor angerddol am gadw'r gwasanaeth ambiwlans awyr. Os yw pobl yn cael y gwasanaeth nawr, dylent barhau i gael y gwasanaeth yn y dyfodol. Dyna oedd egwyddor allweddol yr ymgynghoriad fel y'i gelwir. Mae'n amlwg nad yw hynny'n mynd i ddigwydd os yw'r ddwy ganolfan yn symud ymhellach i ffwrdd o gymunedau gwledig. Bydd yn cymryd mwy o amser i'r ambiwlans awyr gyrraedd digwyddiad, darparu sylw meddygol brys a throsglwyddo pobl i leoliad gofal cyn gynted â phosib. Mae'n fater lle mae bywyd yn y fantol.

Cafodd y penderfyniad hwn ei herio yn ddiweddarach trwy adolygiad barnwrol, ond mae'n bwysig nodi nad oedd yr adolygiad barnwrol yn archwilio pa un a oedd y polisi i gau'r canolfannau hyn yn gywir ai peidio. Roedd yn canolbwyntio'n llwyr ar y broses benderfynu'n unig. Felly ni ddylai unrhyw benderfynwr na Gweinidog Llywodraeth Cymru awgrymu bod yr her gyfreithiol wedi cymeradwyo'r penderfyniad mewn unrhyw ffordd.

Yn rhan o'r newidiadau arfaethedig, cyhoeddwyd ystod o fesurau lliniaru fel y'u gelwir, gan gynnwys defnyddio cerbydau ymateb cyflym ychwanegol ar gyfer ardaloedd canolbarth a gogledd Cymru. Mae'r camau hynny'n llawer llai na'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd. Ond gwnaed addewid na fyddai unrhyw ganolfan yn cau hyd nes y byddai'r adnoddau pellach hyn yn weithredol ac yn eu lle. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd a'r hyder yn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn is nag erioed. Dyma pam y mae'r grŵp ymgyrchu, yr wyf yn un aelod ohono, a'r cyhoedd yn gyffredinol yn parhau i fod yn amheus o'r ymrwymiadau a wnaed. Hyd yma, nid oes unrhyw fanylion clir wedi'u darparu ynglŷn â'r mesurau a addawyd, ac nid yw ceisiadau am gadarnhad gan yr Ysgrifennydd iechyd ac eraill wedi rhoi unrhyw sicrwydd. Yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd iechyd ei wneud yw ymyrryd a sicrhau nad yw'r canolfannau hyn yn cau.

Pan holais yr Ysgrifennydd iechyd ychydig wythnosau'n ôl, fe ddywedodd na fyddai'r Aelodau'n dymuno iddo reoli ambiwlansys o'i swyddfa. Roedd hwnnw'n sylw siomedig ac anystyriol. Nid mater o ficroreoli ambiwlansys yw hyn; mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth ac atebolrwydd. Yr Ysgrifennydd iechyd yn y pen draw sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru a dylai weithredu fel penderfynwr terfynol ar benderfyniad mor arwyddocaol a strategol sy'n effeithio ar dros 1 filiwn o drigolion Cymru ar draws tua hanner ardal ddaearyddol Cymru. Mae'n arbennig o bryderus pan nad yw'r penderfyniad a wnaed yn sicrhau mynediad cyfartal a'r canlyniadau gorau posib i bawb ledled Cymru, a dyna beth yw mesur yr Ysgrifennydd iechyd.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i'r nifer o unigolion sydd wedi brwydro'n ddiflino i wrthwynebu cau canolfannau canolbarth a gogledd Cymru. Mae eu hymdrechion wedi dangos cryfder rhyfeddol y teimlad ynglŷn â hyn. Os yw Llywodraeth Cymru am barhau i gefnogi'r penderfyniad peryglus hwn, rhaid iddi esbonio pam ei bod yn ystyried ei bod yn dderbyniol i ddwsinau o gymunedau ledled Cymru ddioddef amseroedd ymateb brys arafach, a pham y goddefir angen cynyddol heb ei ddiwallu yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ymyrryd a sicrhau bod y canolfannau allweddol hyn yn parhau i fod ar agor ac yn parhau i sicrhau bod bywydau'n cael eu hachub ledled canolbarth a gogledd Cymru.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl drwy gydnabod cryfder y teimlad yn ein cymunedau pan ddaw i wasanaethau iechyd lleol? Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig a phan fydd pobl yn teimlo bod gwasanaeth yn cael ei golli neu yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle yn y ddadl hon i roi'r diweddaraf i'r Senedd am gynlluniau Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i wella gwasanaethau yn dilyn dyfarniad y Llys Apêl yn yr achos hwn.

Mae pwrpas y cynlluniau hyn yn glir, sef gwella gofal a chanlyniadau i bobl yng Nghymru, gan gynnwys y gogledd a'r canolbarth, sy'n dioddef argyfwng sy'n peryglu bywyd ac sydd angen cymorth meddygol a throsgwlyddo brys, yn enwedig yn y nos. Rwy'n deall pryderon pobl sy'n byw ger y canolfannau presennol fod hyn yn mynd i olygu lleihad yn y gwasanaeth. Ond nod y cynlluniau yw gwella mynediad pawb at ofal sy'n achub bywydau.

Yn syml iawn, dyw'r gwasanaeth presennol ddim yn gallu cyrraedd digon o bobl sydd angen cymorth, a'r ffordd mae'r gwasanaeth wedi ei drefnu sydd yn gyfrifol am hyn. Rhwng 2023 a 2024, doedd hi ddim yn bosib i'r gwasanaeth ddod at 551 o bobl oedd angen ei gymorth yn y canolbarth a'r gogledd rhwng 8 o'r gloch yr hwyr a 2 o'r gloch y bore. Yn ogystal â hynny, fe fu'r criw yng Nghaernarfon am 199 o ddiwrnodau heb weld yr un claf. Ac felly hefyd yn y Trallwng: 163 o ddiwrnodau dros y ddwy flynedd heb ddod i gysylltiad gyda'r un claf. I bob pwrpas—

Mae gennyf ddiddordeb yn y ffigurau a nodwyd gennych. A yw hynny'n cynnwys yr amser yn ystod y pandemig COVID hefyd?

Fel y soniais wrth yr Aelod, roedd hynny rhwng 2023 a 2024, felly nac ydy.

I bob pwrpas, mae hynny yn flwyddyn gyfan heb i'r un claf gael ei drin ar draws y ddwy ganolfan.

Rwy'n gwybod bod ymgyrchwyr wedi ymladd drwy'r llysoedd o blaid cadw'r trefniadau presennol. Mae'r broses gyfreithiol, fel sydd wedi cael ei gydnabod eisoes yn y ddadl, mewn perthynas â hwn wedi ei chwblhau'n llawn erbyn hyn, ac mae hyn yn caniatáu nawr i'r elusen weithio gyda'r cydbwyllgor i fynd ati i wella canlyniadau i bobl Cymru.

Mae'n bwysig nodi mai'r cydbwyllgor, fel sydd wedi cael ei gydnabod, sydd yn comisiynu'r gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys, a'r rheini sy'n gyfrifol am y penderfyniad hwn, ar y cyd gyda'r elusen.

Yr hyn sydd mewn perygl o gael ei golli yn y broses hon, Ddirprwy Lywydd, ac mewn dadl sy'n ddealladwy yn un hynod o emosiynol ynglŷn â ble y lleolir canolfannau, yw'r ddealltwriaeth o'r gwaith rhagorol a wneir gan yr elusen ac EMRTS. Mae'r elusen yn bartner gwerthfawr iawn i GIG Cymru, ac rwy'n gwybod ei bod yn gwbl angerddol ynglŷn â galluogi mwy o drigolion Cymru i dderbyn ei gwasanaethau, er mwyn achub mwy o fywydau. Nid yw EMRTS a'r elusen ambiwlans awyr—

15:55

A wnewch chi gymryd ymyrraeth? Diolch am gymryd yr ymyrraeth. Rydych chi'n dweud eu bod nhw eisiau gweld arbed mwy o fywydau. Does yna ddim amheuaeth am hynny ac mae yna waith da yn cael ei wneud. Ond fe roddwyd addewid y buasem ni'n cael cerbydau ymateb brys, a'u bod nhw'n cael eu lleoli rhywle yng ngogledd-orllewin Cymru neu yng nghanolbarth Cymru. Hyd yma, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw gynlluniau diweddar am hynny, ac mae hynny'n achos pryder. Ydych chi'n cydnabod y pryder, ac a ydych chi'n gwneud gwaith efo nhw er mwyn sicrhau bod hynny'n cael ei ddatblygu ar fyrder?

Dirprwy Lywydd, rwy'n bwriadu sôn yn benodol am hynny, gan ei fod wedi cael ei godi mwy nag unwaith yn y drafodaeth. Felly, byddaf yn dod ymlaen i sôn am hynny'n benodol, os caf i. 

Fel y bydd cyd-Aelodau'n gwybod, nid EMRTS a'r elusen ambiwlans awyr yw'r rhai cyntaf i gyrraedd damwain neu anaf. Nhw yw'r arbenigwyr sy'n cael eu galw i leoliad trawma a digwyddiadau sy'n peryglu bywyd i ddarparu'r gofal achub bywyd hwnnw ac i fynd â chleifion i'r ysbyty cywir ar gyfer cam nesaf eu triniaeth. Pwrpas y newid yw sicrhau bod pawb sy'n gallu cael gofal EMRTS ar hyn o bryd yn parhau i'w gael, a gwella mynediad i'r rhai sydd ar hyn o bryd heb fawr o fynediad os o gwbl wedi nos. Fel y cydnabuwyd, mae cyfreithlondeb penderfyniad y cyd-bwyllgor comisiynu wedi bod yn destun archwiliad barnwrol cynhwysfawr, lle craffwyd ar yr holl ffeithiau, tystiolaeth a dadleuon perthnasol. Felly, er fy mod yn nodi'r ddeiseb, nid wyf yn credu y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn gwneud mwy na dyblygu'r gwaith craffu. Yn bwysig, ni fyddai'n arwain at ganlyniadau clinigol gwell. 

Diolch. Rwy'n credu y byddech chi'n cydnabod, fodd bynnag, fod yr adolygiad barnwrol yn ymwneud â'r broses ac y byddai ymchwiliad yn broses wahanol iawn. Ni fyddai'n edrych ar y broses o wneud penderfyniadau, byddai'n edrych ar y penderfyniadau gwleidyddol a wnaethpwyd. Felly, maent yn ddau beth gwahanol, onid ydynt?

Maent yn ddau beth gwahanol. Euthum ymlaen i ddweud hefyd nad wyf yn credu y byddai ymchwiliad yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell, ac fe nodais yn gynharach yn fy nghyfraniad i'r ddadl y lefel o gapasiti nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd a'r lefel o angen nad yw'n cael ei ddiwallu ar hyn o bryd gan y trefniadau presennol, a gobeithio y bydd hynny wedi bod yn ddefnyddiol i'r Aelodau.

Os caf barhau, Ddirprwy Lywydd—[Torri ar draws.] Rwyf am fynd i'r afael â phwynt y mae'r Aelodau wedi'i godi'n gyson yn y ddadl, os caf, ar argymhelliad 4 yn yr adolygiad, mewn perthynas â ffactorau lliniarol. Safbwynt y cyd-bwyllgor comisiynu a'r byrddau iechyd, safbwynt a dderbyniwyd gan y llys, oedd bod y rhain yn ymateb i ddarpariaeth ambiwlans graidd, nid lliniaru yn sgil newidiadau i ganolfannau. Ond ar ôl i'r broses gyfreithiol ddod i ben ychydig wythnosau yn ôl, gall gwaith ailddechrau ar y cynigion hynny nawr. Bydd cynllun ac amserlen yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2026 yn rhan o broses y cynllun tymor canolig integredig ar gyfer y cyd-bwyllgor comisiynu. Bydd hynny'n cael ei gefnogi gan lywodraethu tryloyw, ac ymgysylltu priodol â rhanddeiliaid, a fydd yn darparu sicrwydd i'r Aelodau, rwy'n siŵr. O ystyried hynny, nid wyf yn credu ar y pwynt hwn ei bod yn briodol i mi wneud sylwadau pellach, ond rwy'n gobeithio bod yr amserlen honno'n rhoi sicrwydd i'r Aelodau. Yn sgil cwblhau'r achos, gall y cyd-bwyllgor comisiynu a'r elusen fwrw ymlaen â'r newidiadau nawr. Fy rôl i a rôl y Llywodraeth fydd monitro hynny'n agos a chael y sicrwydd y mae pawb ohonom eisiau ei gael y bydd y gwelliannau hyn yn cyflawni'n well i bobl Cymru.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Tynnodd James Evans sylw at y diffyg mynediad at gyfleusterau yn ei gymuned wledig a nododd nad yw penderfyniad y llys yn cynnwys yr hyn y teimlai ei fod yn ddiogel neu'n deg. Soniodd hefyd am yr awr aur, a ddylai fod yn hawl i bawb, nid pobl mewn canolfannau trefol yn unig.

Dywedodd Mabon wrthym sut y dechreuwyd yr ambiwlans awyr oherwydd marwolaeth yn ei ardal. Mae'n achubiaeth i lawer. Tynnodd sylw hefyd at ba mor hael y mae pobl wedi bod yn codi arian dros y blynyddoedd, a hefyd y gall y dirwedd a'r tir yng ngorllewin Cymru, gogledd-orllewin Cymru, fod yn anodd i gerbydau ar y tir, a ddylai fod yn ystyriaeth yn y dyfodol. Pwysleisiodd Russell George hefyd nad oes gan Bowys ysbyty dosbarth a'i fod yn fater o fywyd a marwolaeth. Nid oedd yr adolygiad barnwrol yn archwilio a oedd yn benderfyniad cywir, dim ond y broses. Tynnodd sylw at bethau eraill hefyd. [Chwerthin.] Rwy'n nodi'r prif bwyntiau'n unig. Nid yw cerbydau ymateb cyflym a mesurau eraill ar waith eto; mae angen sicrwydd y byddant yn eu lle cyn i unrhyw ganolfan gael ei chau. Mae hynny'n hanfodol.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, a hefyd am ddiweddariad ynglŷn â chynllun Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Felly, y nod yw gwella mynediad i bawb; nid yw'r gwasanaeth presennol yn gallu cyrraedd pawb sydd ei angen. Tynnodd sylw hefyd at y ffordd y mae'r elusen yn bartner gwerthfawr i GIG Cymru, ac mae'n credu na fyddai ymchwiliad cyhoeddus yn gwella canlyniadau clinigol a bod yna lefel o gapasiti nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Ond yn dilyn penderfyniad y llys nawr, mae gwaith bellach yn ailddechrau ar gynigion i fwrw ymlaen â'r cynllun. Felly, gobeithio bod rhywfaint o sicrwydd yno.

Hoffwn ddiolch i'r ymgyrchwyr am—[Torri ar draws.]

16:00

Diolch, Carolyn. Tybed a allwch chi gadarnhau: a fydd y ddeiseb hon yn aros ar agor? Oherwydd rwy'n credu y dylai, gan fod angen mwy o waith a chraffu ar hyn, fel rydych chi wedi'i gydnabod, oherwydd wrth gwrs, gwnaed ymrwymiad na fyddai unrhyw ganolfan yn cau hyd nes bod y cerbydau ymateb cyflym hynny ar waith. Felly, rwy'n gobeithiaf y byddwch yn cadw'r ddeiseb ar agor fel y gellir craffu ar y Llywodraeth ar hyn.

Fe edrychaf i weld beth oedd penderfyniad y pwyllgor a—. Wel, fe wnaf gyfleu hynny i'r pwyllgor—nid fy mhenderfyniad yw ef i'w wneud—a gweld a oedd wedi'i chau cyn inni gael y ddadl hon, ond ni ddylai fod. Iawn. Diolch.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r ymgyrchwyr am eu hymdrechion—mae cael dros 10,000 o lofnodion yn ymdrech enfawr. Mae wedi tynnu sylw at angerdd ymgyrchwyr dros waith yr ambiwlans awyr, a'r holl wirfoddolwyr hefyd sy'n codi arian drwy'r amser. Mae'n wasanaeth brys na fyddai'r un ohonom byth eisiau ei ddefnyddio, ond y mae pob un ohonom yn hynod ddiolchgar amdano. Diolch am y ddadl.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Llwybrau prentisiaeth'

Eitem 7, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Llwybrau prentisiaeth'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM9058 Andrew Davies

Cynnig bod y Senedd yn nodi:

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Llwybrau prentisiaeth’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Gorffennaf 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 19 Tachwedd 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ar y papur trefn.

Cyn imi agor y ddadl hon, hoffwn gydnabod yn gryno y bydd un llais pwysig ar goll heddiw. Roedd Hefin David yn angerddol iawn am brentisiaethau a'r cyfleoedd y maent yn eu cynnig i ddysgwyr a sicrhau bod y system yn gweithio'n iawn. Credaf y byddai Aelodau eraill y pwyllgor yn cytuno mai ef oedd y grym ysgogol y tu ôl i'r ymchwiliad hwn, ac mae'n drist iawn na fyddwn yn gallu clywed ei gyfraniadau y prynhawn yma.

Mae prentisiaethau'n opsiwn gwych i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a hefyd i gynorthwyo busnesau i uwchsgilio eu gweithlu, a ddylai, yn ei dro, gynyddu eu helw net. Fodd bynnag, gwelsom fod pobl sy'n dymuno dilyn llwybr galwedigaethol yn wynebu nifer o heriau. I lawer o bobl sy'n awyddus i gynyddu eu sgiliau, prentisiaethau yw'r dewis gorau o bell ffordd. Maent yn cyfuno dysgu ac ennill cyflog, gwaith a hyfforddiant, ond clywsom nad yw'n hawdd gallu gwneud y dewis hwnnw, a hyd yn oed pan fyddwch yn y system, nid yw'r llwybr yn arbennig o glir. Os ydych am grynhoi'r adroddiad hwn mewn un frawddeg, dyma hi: mae angen chwalu dirgelwch prentisiaethau. Nid fy ngeiriau i yw'r rheini.

Clywsom gan nifer o brentisiaid fel rhan o'r gwaith ymgysylltu a gomisiynwyd gennym ar gyfer yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd amser o'r cwrs i gyfrannu at y gwaith. Yr holl brentisiaid hynny sydd wedi bod yn eiriolwyr brwd dros y llwybr galwedigaethol—. Dywedodd un o'r cyfranogwyr wrthym fod ymgymryd â phrentisiaeth yn drobwynt enfawr yn eu bywyd. Fe wellodd eu morâl, a'r unig beth yr oeddent yn ei ddifaru oedd na wnaethant ddechrau'n gynt.

Fodd bynnag, tynnodd y cyfranogwyr sylw hefyd at lawer o'r heriau a welsom gyda mynediad at brentisiaethau a'r llwybr prentisiaethau. Roedd her allweddol i brentisiaid a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys parch cydradd, ymwybyddiaeth o'r hyn sydd ar gael, a deall y llwybr drwy'r brentisiaeth. Er ein bod wedi gweld rhywfaint o welliant, mae parch cydradd yn dal i fod yn broblem wirioneddol. Clywsom gan brentisiaid fod argyhoeddi eu rhieni mai'r llwybr galwedigaethol yw'r llwybr cywir iddynt hwy weithiau'n rhwystr i astudio. Fodd bynnag, nid rhieni yw'r unig rai sy'n rhoi cyngor gwael. Roedd un cyfranogwr yn gwybod drwy gydol ei hoes ei bod am redeg salon trin gwallt fel ei mam, ond ei chyngor gyrfaoedd dro ar ôl tro oedd y dylai sefyll arholiadau Safon Uwch a graddio cyn camu ymlaen i hyfforddiant galwedigaethol.

Fe wnaethom ganfod bod cymhelliant gwrthnysig yn ein system addysg sydd bron yn sicr o gyfrannu at gynnal y farn gamsyniol hon fod y llwybr academaidd yn well na'r llwybr galwedigaethol. Mae gan ysgolion Cymru gymhelliant ariannol cryf iawn i annog disgyblion i barhau i astudio at Safon Uwch yn y chweched dosbarth, yn hytrach na dilyn addysg alwedigaethol yn y coleg lleol. Mae hyn yn arwain at y sefyllfa syfrdanol lle mae ysgolion yn mynd ati'n weithredol i roi cyngor i ddisgyblion sydd er budd yr ysgol yn hytrach nag er budd y myfyriwr. Mae hyn yn warthus wrth gwrs. Dylai ysgolion weithredu er budd eu disgyblion yn unig, ond clywsom am achosion lle na roddwyd gwybodaeth i ddisgyblion na'u galluogi i archwilio cyrsiau, hyd yn oed pan oedd y coleg drws nesaf.

Rwy'n dychmygu y bydd unrhyw riant sy'n darllen ein hadroddiad yn arswydo wrth glywed bod ysgolion, fel sefydliadau y byddem yn disgwyl iddynt roi buddiannau disgyblion yn gyntaf, yn cael eu cymell ac yn mynd ati'n weithredol i roi cyngor gwael i'w myfyrwyr. I fynd i'r afael â hyn, mae argymhelliad 1 yn yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion, colegau a chyflogwyr yn cydweithio i gyflwyno prentisiaethau fel opsiwn o ansawdd uchel.

Rydym wedi clywed cryn dipyn am gymal Baker yn Lloegr, deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ganiatáu i ddarparwyr galwedigaethol gael mynediad at eu disgyblion. Nid yw'n berffaith, ond ymddengys ei fod yn opsiwn da i'w archwilio, a chredaf y gallai ddarparu gwersi defnyddiol y gallem eu hefelychu a'u gwella yma yng Nghymru. Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru’n derbyn yr argymhelliad hwn ac yn rhoi ymateb cynhwysfawr iawn. Nodaf yn yr ymateb fod y Gweinidog wedi ymrwymo i edrych ar gymal Baker ac ysgrifennu at y pwyllgor. Tybed a allai roi cipolwg i ni ar ei ganfyddiadau, ac os yw'n dal i fod yn fater y mae'n ffurfio ei farn arno, a allai roi syniad i ni o'r amserlen y mae'n gweithio iddi?

Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch gwella recriwtio a chadw hyfforddwyr galwedigaethol, talu prentisiaid, y cynigion gradd-brentisiaethau, gwella canllawiau i gyflogwyr, sicrhau cynnydd ar y strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a gwella gwybodaeth am y farchnad lafur.

Rwy'n falch o weld bod saith o'n wyth argymhelliad wedi'u derbyn ac mai dim ond un a gafodd y 'derbyn mewn egwyddor' ofnadwy. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu hymateb adeiladol i'r adroddiad. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr allbynnau; yn benodol, rwy'n edrych ymlaen at ddarllen y strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn y gwanwyn.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad hwn am helpu'r pwyllgor i ddatblygu ein dealltwriaeth a gwneud ein hargymhellion. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill ar y pwnc pwysig hwn.

16:05

Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, rwy'n falch, yn gyntaf, o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar yr adroddiad ar lwybrau prentisiaeth, a hoffwn gytuno â sylwadau'r Cadeirydd ynghylch Hefin David a'i gyfraniad. Ef oedd y grym ysgogol y tu ôl i hyn mewn gwirionedd, a'i angerdd dros brentisiaethau a'n harweiniodd ni fel pwyllgor at yr ymchwiliad hwn. Rwy'n siŵr, yn gyntaf, y byddai'r Gweinidog wedi mwynhau ei gyfraniad heddiw yn fawr, o ystyried cyfranogiad Hefin ym maes prentisiaethau, ac rwy'n siŵr y byddem ni fel Siambr wedi'i fwynhau hefyd.

Ond yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro yw bod prentisiaethau'n bwysig, nid yn unig fel llwybr i mewn i waith, ond fel sylfaen ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol. Mae colegau ar eu pennau eu hunain yn darparu bron i hanner yr holl brentisiaethau yng Nghymru, gan berfformio'n gyson uwchlaw cyfartaledd y sector, a helpu i arfogi dysgwyr â'r sgiliau y mae eu hangen yn daer ar ein diwydiannau. Ac eto, er gwaethaf y pwysigrwydd hwnnw, mae'r system sy'n eu cefnogi o dan bwysau, yn anghyson, ac fel y mae'r gostyngiad parhaus yn yr ystadegau prentisiaethau yn ei ddangos, mae hi hefyd yn fregus.

Rydym wedi gweld nifer y bobl sy'n cychwyn prentisiaethau yn gostwng o 22,880 i 21,626 mewn blwyddyn yn unig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio ei tharged i lawr o 125,000 i 100,000, ac mae hyd yn oed hynny'n edrych yn gynyddol heriol, er gwaethaf ymrwymiad y Gweinidog i'r ffigur hwnnw, a roddodd i'r pwyllgor economi y bore yma. Mae darparwyr wedi gorfod dibynnu ar £4.1 miliwn brys gan Medr er mwyn cynnal nifer y prentisiaethau newydd ac ychwanegol yn unig, ac fel y mae ColegauCymru yn ei nodi, bydd angen mwy y flwyddyn nesaf i sicrhau y gall prentisiaid gwblhau eu rhaglenni.

Mae'r effaith ar bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy'n gadael ysgol, yn glir. Mae ymateb y Llywodraeth ei hun yn cydnabod bod costau darparu cynyddol wedi arwain at lai o gyfleoedd lefel mynediad mewn sectorau fel adeiladu a lletygarwch, sef yr union lwybrau sy'n cynnig dewis arall ymarferol ac uchel ei barch i bobl 16 oed yn lle astudio academaidd. Os ydym o ddifrif yn credu mewn cyfle, uchelgais a dyhead, ni allwn barhau i gulhau'r llwybrau sy'n gwneud addysg alwedigaethol yn hyfyw.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn llawer o'n hargymhellion—nid pob un—gan gynnwys yr angen am gyngor ac arweiniad cliriach a mwy cyson. Mae mynediad at gyngor gyrfaoedd diduedd wyneb yn wyneb i rai rhwng 14 a 19 oed yn parhau i fod yn anghyson, fel y nododd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, ac yn rhy aml, mae prentisiaethau'n dal i gael eu fframio fel dewis ail orau. Rhaid i hynny newid. Mewn cymunedau gwledig fel yr un rwy'n ei chynrychioli, lle mae costau ac argaeledd trafnidiaeth eisoes yn cyfyngu ar gyfleoedd, mae eglurder a gwybodaeth gynnar yn hanfodol.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad ar gyfer cynnydd cyflymach ar strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Mae'r adolygiad o gymwysterau galwedigaethol, yr adroddiad pontio a bellach, adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, oll yn pwyntio i'r un cyfeiriad: mae angen cynllun cydlynol, hirdymor arnom. Mae'r cynnydd wedi bod yn araf ac ni ellir parhau i ohirio'r strategaeth, a addawyd ers blynyddoedd, gan nad yw geiriau cefnogol yn unig yn helpu dysgwyr na chyflogwyr. Mae mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yr un mor bwysig. Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, maent yn brin o amser; mae llawer o'r busnesau bach a chanolig hyn yn gwmnïau o un, dau neu dri o bobl nad oes ganddynt amser i'w fuddsoddi mewn hyfforddi prentis. Ond y busnesau bach a chanolig hynny sy'n gallu rhoi'r hyfforddiant a'r sgiliau gorau sydd ar gael i rai o'r prentisiaid hyn. Felly, mae angen proses symlach, canllawiau cliriach a chymelliadau go iawn i gymryd prentisiaid a darparu llwybrau cynnydd. Ac er nad yw cyflogau prentisiaid wedi'u datganoli, rhaid inni barhau i wneud popeth i sicrhau nad yw cyflogau isel, costau cynyddol a thrafnidiaeth ddrud neu annibynadwy yn prisio pobl ifanc allan o gyfleoedd prentisiaeth.

Ddirprwy Lywydd, mae gan Gymru draddodiad balch o ran prentisiaethau. Yn wir, mae'r Gweinidog ei hun yn enghraifft o hynny. Dylem adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, nid llywyddu dros ddirywiad wedi'i reoli. Felly, rwy'n cefnogi'r alwad i adfer y gyllideb prentisiaethau a dychwelyd at yr uchelgais o ddarparu 125,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel, i bob oed, nid er mwyn cyrraedd nifer mympwyol, ond am fod eu hangen ar ein heconomi. Felly, o ofal iechyd, peirianneg, amaethyddiaeth, lletygarwch, i adeiladu yn wir, mae twf Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar weithlu medrus, oherwydd os ydym eisiau arloesedd, twf a ffyniant, mae angen system sgiliau arnom sy'n cyd-fynd â'r dyhead hwnnw.

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cynllun clir a set o argymhellion y dylent eu derbyn i'r Llywodraeth hon yng Nghymru, a'r un nesaf o fis Mai y flwyddyn nesaf. Diolch, Ddirprwy Llywydd.

16:10

Hoffwn ddiolch i'r clercod, y Cadeirydd a chyd-Aelodau o'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn innau adleisio'r teyrngedau i Hefin David. Ar adegau fel hyn, pan fyddwn yn trafod yr agenda brentisiaethau a sgiliau, pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb, fel y gwnaethom y bore yma, ac wrth ofyn cwestiynau ynghylch prentisiaethau, dyna pryd rwy'n gweld ei golli fwyaf. Rwy'n gweld colli'r sgyrsiau y byddem yn arfer eu cael ynglŷn â sut y gallech fynd i'r afael â rhai o'r problemau o fewn y system sgiliau a sut y gallech wella'r cynnig prentisiaethau. Un o'r pethau rwy'n eu difaru fwyaf yw na chawsom erioed gyfle—roeddem yn siarad am wneud hyn drwy'r amser—i eistedd gyda'n gilydd a mynd i'r afael â'r cwestiwn enfawr hwnnw ym maes prentisiaethau, sef sut i ddiwygio'r ardoll brentisiaethau. Gwn fod y Gweinidog hefyd yn rhannu'r diddordeb hwnnw ynglŷn â sut yr awn i'r afael â'r ardoll brentisiaethau ac edrychaf ymlaen at gael y sgyrsiau hynny gydag ef, gobeithio, wrth inni symud yr agenda ar brentisiaethau yn ei blaen yn y cyfnod cyn y Senedd nesaf. Ond ar adegau fel hyn rwy'n gweld colli Hefin yn fawr.

Hoffwn gytuno â Sam Kurtz. Credaf fod angen inni ymbellhau oddi wrth—ac fe soniodd am hyn—y stigma sy'n gysylltiedig â phrentisiaethau fel addysg ail orau. Credaf fod yr adroddiad hwn yn cadarnhau popeth a wyddom eisoes am brentisiaethau, sef eu bod yn gonglfaen i agenda sgiliau Cymru ac yn un o'r buddsoddiadau mwyaf effeithiol, mewn gwirionedd, y gall Llywodraeth ei wneud yn ein gweithlu ac yn ein cymdeithas. A chredaf mai dyna sy'n gwneud y cyfnod sy'n wynebu'r sector yn un mor dyngedfennol, wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyflwyno ei chyllideb ddrafft i'r Senedd ei thrafod y mis nesaf.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ansicr i'r sector ac mae prentisiaethau wedi bod yn rhan ganolog o'r sgwrs genedlaethol mewn ffordd nad ydynt wedi bod ers amser maith mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, mae'r byd yn newid yn anhygoel o gyflym. Mae sut olwg sydd ar system addysg a hyfforddiant sydd o ddifrif yn canolbwyntio ar dwf mewn oes o ddeallusrwydd artiffisial, gyda phwysau ecolegol a demograffig yn siapio popeth o'n cwmpas, yn sgwrs a allai ein cadw yn y Siambr hon am yr wythnos nesaf ynddi ei hun, ond yr un peth y gallwn ei ddweud yn hyderus yw nad yw'n edrych fel y status quo.

Nawr, yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yw herio'r Llywodraeth i anelu'n uwch, ac mae'n bryfociad yn hynny o beth. Mae'r math o economi a system sgiliau rydym am eu gweld ar yr ochr arall i lawer o waith caled, ac nid diwedd yw adroddiadau, ond dechrau rhywbeth. Felly, er bod yr adroddiad hwn wedi'i gwblhau, rhaid rhoi hwb o'r newydd i'r blaenoriaethau y mae'n eu nodi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Rydym wedi bod yn siarad am y pethau hyn ers oesoedd bellach. Daw pwynt lle mae angen inni symud pethau yn eu blaenau. Felly, er enghraifft, hoffwn dynnu sylw at argymhelliad 7 yn enwedig. Mae ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr oll yn cytuno nad oes gennym ddealltwriaeth glir a chynhwysfawr ar hyn o bryd o ofynion sgiliau Cymru a pha fathau o gyrsiau neu hyfforddiant y dylid eu blaenoriaethu, gan ba ddarparwyr ac ymhle, er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i gael mynediad at gyfleoedd sy'n codi ym marchnad lafur Cymru. Dyna'r sgwrs rwyf wedi'i chael yn gyson ers cael fy ethol i'r lle hwn yn 2021. Gwn y bydd y Gweinidog yn debyg o gyfeirio at y cynllun sgiliau gwyrdd, ond mae rhywbeth nad yw'n gwneud synnwyr yma. Rydym yn dal i gael y sgyrsiau hyn gyda'r sector. Felly, mae angen inni ddeall ble mae'r pwyntiau tensiwn a pham, efallai, nad ydynt yn gweld hynny wedi'i fapio yn y cynllun sgiliau gwyrdd, fel y mae'r Llywodraeth yn ei honni ei fod.

Mae hefyd yn werth nodi bod datblygiad strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru, yn rhywbeth y mae adolygiad Lusher wedi'i danlinellu mewn gwirionedd, ac yn rhywbeth y mae ColegauCymru wedi'i hyrwyddo. Mae hyn yn hanfodol. Fel sail i hyn, mae angen inni hefyd gynnal archwiliad cenedlaethol cynhwysfawr o sgiliau. Roedd y bwlch sgiliau yng Nghymru yn amlwg yn yr ymchwiliad yn ogystal, a gwyddom am y swyddi gwag a'r prinder mewn rhai o'n proffesiynau mwyaf hanfodol a chymdeithasol allweddol, gan gynnwys addysgu ac iechyd a gofal cymdeithasol. Unwaith eto, mae rhywbeth nad yw'n gwneud synnwyr yma. Rydym yn dal i gael sgyrsiau ynghylch bylchau sgiliau, er bod y Llywodraeth yn glir ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu.

Nawr, fel y nodwyd drwy gydol yr adroddiad hwn, mae angen rhaglen brentisiaethau arnom sy'n hyblyg, sy'n ymatebol er mwyn diwallu anghenion economaidd, gwasanaethu economïau newydd a llenwi bylchau sgiliau. Nid arsylwadau ynysig yw'r themâu hyn, maent yn cyd-fynd yn eithaf agos â'r hyn y mae rhanddeiliaid ar draws y sector yn parhau i'w godi gyda ni bob dydd. Awgrymir yn eang fod angen systemau prentisiaeth mwy addasadwy sydd wedi'u cysylltu'n well, a phwysleisir bod yr heriau hyn yn ymestyn y tu hwnt i ddarparwyr unigol ac yn adlewyrchu materion systemig ehangach. Nawr, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau, dyma un o'r pethau a godwyd yn gyson yn y grŵp ac un o'r pethau a amlygwyd yn ymateb y grŵp i ymgynghoriad diweddar Medr ar y rhaglen brentisiaethau yn y dyfodol, a dylid ei ystyried wrth inni drafod yr adroddiad hwn.

Mae'r dystiolaeth yn glir, rydym yn deall yr heriau'n dda, ac mae'r cyfleoedd, pe byddem yn dewis manteisio arnynt, yn aruthrol. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw eglurder, arweinyddiaeth, meddwl cydgysylltiedig ac ymrwymiad i fynd ati o ddifrif i wneud gwaith ar yr agenda hon. Diolch.

16:15

Rwy'n falch o gyfrannu at ddadl Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lwybrau prentisiaeth heddiw. Mae'n cyd-fynd yn agos â gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau i addysg ôl-16. A hoffwn innau dynnu sylw at waith ein cyd-Aelod a'n ffrind Hefin David. Er nad yw yma gyda ni mwyach, hoffwn ddweud bod effeithiau ei waddol yn parhau drwy'r amser, ac rydym yn bwrw ymlaen â nhw ar ei ran.

I bobl ifanc a'u rhieni, a fydd yn aml â dylanwad mawr, mae gwybodaeth gliriach a hygyrch yn hanfodol. Mae angen iddynt wybod pa swyddi sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae angen eglurder arnynt ynghylch y llwybrau a fydd yn eu harwain yno. Yn rhy aml, rydym yn clywed cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am fuddsoddiadau mawr sy'n addo miloedd o swyddi newydd, ond mae llawer o'r swyddi hynny ym maes adeiladu, a'r gwir amdani yw nad oes gennym ddigon o bobl fedrus yn dod i mewn i'r sector hwnnw ar hyn o bryd. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflawni'r prosiectau hyn, mae angen cynllun priodol arnom ar gyfer y gweithlu sy'n dechrau gyda'n pobl ifanc.

Rhan allweddol o hynny yw profiad gwaith. Mae llawer o bobl ifanc yn dysgu orau drwy fod yn ymarferol ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r byd gwaith. Os ydym am iddynt barhau i ymgysylltu a'u hatal rhag rhoi'r gorau iddi, mae angen mwy o gyfleoedd profiad gwaith ystyrlon. Mae'r llwybr prentisiaeth iau yn enghraifft gref o ble mae hyn yn gweithio'n dda eisoes. Gwyddom hefyd fod dysgwyr sy'n hyfforddi fel plymwyr a thrydanwyr yn aml yn ei chael hi'n anodd sicrhau'r flwyddyn olaf o brofiad byd go iawn sy'n ofynnol i gwblhau eu cwrs. Mae angen model syml, cyson arnom y gall cyflogwyr ei ddefnyddio'n hawdd. Ar hyn o bryd, mae materion fel yswiriant a beichiau gweinyddol yn rhy aml yn sefyll yn eu ffordd.

Ledled Cymru, ceir enghreifftiau addawol y gallwn adeiladu arnynt, fel Addewid Caerdydd a gwaith cyngor Ynys Môn, sy'n dangos sut y gall llywodraeth leol greu llwybrau clir i gyflogaeth, boed mewn busnesau lleol neu yn yr economi sylfaenol. Mae cyfle gwirioneddol i ranbarthau bargeinion dinesig eraill a chyd-bwyllgorau corfforedig gefnogi'r gwaith hwn mewn cydweithrediad â Medr a Gyrfa Cymru. Rhaid i ni gydnabod hefyd fod dosbarthiadau chwech a cholegau addysg bellach yn cystadlu am yr un myfyrwyr.

Byddai dull sy'n canolbwyntio o ddifrif ar y dysgwr, gan gynnwys colegau a chyflogwyr yn mynychu nosweithiau rhieni, yn helpu teuluoedd i ddeall yn well yr ystod lawn o gyfleoedd galwedigaethol a phrentisiaethau. Nid prifysgol yw'r opsiwn iawn i bawb, ac mae'n dod yn ddrytach ac yn ddrytach. Un o argymhellion yr adroddiad yw hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr gyrfa. Am y tro cyntaf, mae ein Gweinidog dros brentisiaethau yn rhywun sydd wedi gwneud prentisiaeth, a gwn fod Jack yn defnyddio'r profiad hwnnw yn y byd go iawn i hyrwyddo manteision ennill cyflog wrth ddysgu.

Er ein bod wedi colli cyllid yr UE, mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mwy nag erioed mewn prentisiaethau. Mae gennym ystod o ffrydiau cyllido newydd bellach, o'r gronfa twf lleol i barthau buddsoddi, porthladdoedd rhydd a chyhoeddiadau diweddar ynghylch deallusrwydd artiffisial ac ynni adnewyddadwy. Mae'r rhain yn cynnig cyfleoedd mawr, ond mae'n rhaid eu halinio â datblygu'r gweithlu, nid prosiectau cyfalaf yn unig. Mae angen inni sicrhau hefyd fod cymorthdaliadau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hystyried, gyda llwybrau i gyflogaeth a mynediad at brentisiaethau addysg bellach.

Ddoe yn y Senedd, cyfarfûm â Bute Energy, sy'n gweithio gyda Big Issue Recruit i gefnogi pobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Mae eu strategaeth sgiliau'r dyfodol yn cwmpasu ysgolion, colegau, profiad gwaith ac interniaethau â thâl, ac yn mapio'r ffrwd sgiliau sydd ei hangen ar gyfer trawsnewid ynni Cymru. Maent yn argymell compact sgiliau'r dyfodol a chronfa sgiliau'r dyfodol i Gymru, yn ogystal â rhwydwaith o ganolfannau rhagoriaeth ger prosiectau ynni mawr. Mae'r rhain yn syniadau ymarferol a allai gryfhau ein system sgiliau. Yn ddiweddar, fe wnaeth y bwrdd cynghori ieuenctid dalu pobl ifanc sy'n cynnig mewnwelediad uniongyrchol i ymgysylltu â phobl 16 i 25 oed yng Nghaerffili, i gasglu barn ar sgiliau, symudedd cymdeithasol a blaenoriaethau lleol. Yr hyn sy'n drawiadol am eu dull o weithredu yw eu bod yn edrych ar yr holl swyddi a grëwyd gan eu datblygiadau, o rolau peirianneg i swyddi yn y gadwyn gyflenwi, diogelwch, glanhau, llogi peiriannau a chyfleoedd yn y trydydd sector. Denodd eu digwyddiad 'cyfarfod â'r prynwr' 70 o fusnesau, gan ddangos potensial gwirioneddol ar gyfer twf lleol. Mae hwn yn fodel y gellid ei efelychu ledled Cymru.

Os ydym am ddatgloi potensial ein pobl ifanc a bodloni gofynion economi sy'n newid, rhaid i'n llwybrau prentisiaeth fod yn glir, yn hygyrch ac wedi'u cefnogi'n briodol. I sicrhau hynny, mae angen uchelgais, partneriaeth ac ymrwymiad i roi llwybr at swydd dda a dyfodol sicr i bob unigolyn ifanc. Diolch.

16:20

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu holl waith ar hyn, a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn siarad am brentisiaethau a'r cyfleoedd y gallant eu darparu i bobl ifanc. Ond fel rhywun sy'n cynrychioli etholaeth ar y ffin, nid oes cyfleoedd prentisiaeth ar gael bob amser i bobl yn fy ardal i, gan nad yw'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer prentisiaethau yn Lloegr ar gael iddynt, am mai dim ond i ddarparwyr yng Nghymru y bydd cyllid Cymru’n cael ei ddarparu, sy'n gamgymeriad yn fy marn i. Credaf ei fod yn rhwystro cyfleoedd i bobl ifanc. Roedd gennyf etholwr a oedd eisiau astudio menter wledig a rheoli tir fel prentis ym mhrifysgol Harper Adams, ond gwrthodwyd y cyfle iddynt, gan iddynt ddweud, 'Nid yw'r cwrs hwnnw yng Nghymru, ni ellir ei ariannu, am nad ydym yn ariannu prifysgolion Lloegr.'

Os ydym yn mynd i ddechrau rhoi cyfle i bobl ifanc yn fy etholaeth i a'r bobl sy'n byw ar y ffin wneud prentisiaethau, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar ei pholisi o ran sut y mae'n ariannu'r lleoedd hynny gyda darparwyr yn Lloegr, gan fod arnaf ofn fod y plwyfoldeb sydd gennym yma, mai dim ond yng Nghymru y byddwn yn ariannu, yn gamgymeriad yn fy marn i. Mae'n dal rhai o'n pobl ifanc yn ôl, ac roedd yr unigolyn ifanc roeddwn yn siarad â nhw eisiau dod yn ôl i weithio yng Nghymru, ac roedd y busnes roeddent eisiau cwblhau'r brentisiaeth drwyddo yn ddarparwr o Gymru, felly roeddent ond eisiau mynd yno i astudio a dod yn ôl. Felly, rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru edrych ar fanylion y model cyllido.

Fel y mae Luke Fletcher ac eraill wedi'i ddweud, os ydym am wneud hwn yn opsiwn i bobl astudio, a'i wneud yn ddewis cyntaf, nid yn ail ddewis nac yn ddewis wrth gefn i bobl, mae angen inni roi cyfle iddynt astudio'r gradd-brentisiaethau neu'r prentisiaethau hynny ledled y Deyrnas Unedig, nid yma yng Nghymru yn unig, gan y credaf fod dal pobl yma yn atal pobl rhag eu gwneud, ac yn eu gorfodi wedyn i ddilyn llwybr nad yw'n gweddu iddynt.

Fe ddywedais wrthych, Ddirprwy Lywydd, y buaswn yn gryno iawn, ac fe wnaf eistedd.

16:25

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, ac a gaf i adleisio sylwadau'r Cadeirydd a'r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl heddiw drwy gefnogi eu sylwadau ynghylch ein ffrind da Hefin? Credaf y byddai Hefin wedi mwynhau heddiw yn arbennig, yn bennaf am y byddai wedi cael cyfle i fy holi nid unwaith, ond ddwywaith. Roedd Hefin, o bob un ohonoch, yn hoffi rhoi amser anodd i mi, ac fe wnaethom fwynhau'r cyfraniadau ganddo. Roedd bob amser yn gyfraniad gwerthfawr.

Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, gan gynnwys y prentisiaid eu hunain—rhywbeth sy'n wych i'w weld yn fy marn i, a dylem weld mwy ohono—darparwyr, cyflogwyr a phartneriaid ledled Cymru. Ac wy'n gobeithio bod ysbryd cadarnhaol y ddadl hon y prynhawn yma yn adlewyrchiad o (a) gwaith y pwyllgor a'u canfyddiadau, yr ydym yn eu croesawu, ond hefyd yr ymateb y mae'r Llywodraeth wedi'i ddarparu, gan gynnwys derbyn saith o'r wyth argymhelliad. Fe geisiaf fynd i'r afael â'r pwynt 'derbyn mewn egwyddor' a wnaeth y Cadeirydd a chyd-Aelodau eraill yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad.

Mae prentisiaethau’n parhau i fod yn llwybr hygyrch o ansawdd uchel i bobl o bob oed, ac maent yn ffactor hanfodol sy’n ysgogi twf economaidd. Rydym yn falch o’n cyflawniad yn darparu ein rhaglen brentisiaethau flaenllaw yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid blynyddol ar gyfer prentisiaethau i £144 miliwn eleni, ac o dan y gyllideb ddrafft, bydd yn cynyddu ymhellach i £146 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu prentisiaethau o ansawdd uchel sy’n cefnogi dysgwyr ac economi Cymru.

Lywydd, mae cefnogi pobl ifanc ac adeiladu gweithlu medrus yn ganolog i'n blaenoriaethau cenedlaethol. Ers dechrau tymor y Senedd hon, mae dros 85,000 o gyfleoedd prentisiaeth wedi'u creu, ac er mwynhad i Sam yn benodol, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y pwyllgor y bore yma: rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed o 100,000 o brentisiaethau pob oed ar gyfer tymor y Senedd hon. Er mwyn hybu'r ddarpariaeth ymhellach, mae Medr yn ailddyrannu £4 miliwn yn ychwanegol eleni, gan greu mwy o gyfleoedd yn y sectorau pwysicaf i economi Cymru.

A Lywydd, mae ein byd yn newid yn gyflym. Clywsom gan yr Aelodau am hyn, a dyna pam y mae datganiad polisi prentisiaethau Llywodraeth Cymru'n tanlinellu ein hymrwymiad i brentisiaethau hygyrch o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr. Ein dull o weithredu yw sicrhau bod prentisiaethau'n parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion economaidd a sectoraidd, gan gefnogi cynnydd a chyfleoedd i bawb.

Ochr yn ochr â hyn, mae cynllun strategol Medr yn nodi gweledigaeth ar gyfer system addysg drydyddol fwy integredig ac ymatebol, gan sicrhau bod darpariaeth prentisiaethau yn hyblyg ac yn cyd-fynd ag anghenion dysgwyr a chyflogwyr. Mae ein hystyriaeth gyfredol o brentisiaethau adeiladu lefel 2, sector pwysig y cyfeiriodd Carolyn ato, yn dangos hyn yn ymarferol. Mae Llywodraeth Cymru a Medr wedi cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod y system yn addasu i anghenion newydd ac yn cefnogi uchelgeisiau unigolion, cyflogwyr a'r economi ehangach.

Lywydd, cyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yw asgwrn cefn ein system brentisiaethau. Rydym yn adolygu canllawiau a chymorth i gyflogwyr, gan ganolbwyntio ar adborth ac anghenion cyflogwyr. Mae gwasanaeth cynghori Busnes Cymru yn parhau i weithredu fel pwynt canolog ar gyfer cymorth i gyflogwyr. Rydym hefyd yn gobeithio lleihau rhwystrau i gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, drwy symleiddio prosesau a sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ar gael.

Lywydd, mae prentisiaethau yng Nghymru yn parhau—[Torri ar draws.] Iawn.

Rwy'n derbyn, yn amlwg, mai dim ond heddiw y cyhoeddwyd y gyllideb yn San Steffan, ond roedd rhai rhannau cyffrous iawn o'r gyllideb honno'n sôn yn benodol am brentisiaethau a darparu cymorth i fusnesau sydd eisiau cynnig prentisiaethau. A yw'r Gweinidog wedi cael cyfle i feddwl sut y gallai hynny fod yn ffactor yng nghyllideb Cymru mewn perthynas â phrentisiaethau, gan dderbyn unwaith eto efallai nad ydych chi wedi cael cyfle i fynd drwy'r manylion?

Nid wyf wedi cael cyfle i fynd drwy'r manylion, ond roedd yn ymgais dda gan yr Aelod. Gwn nad oes gan James unrhyw beth i'w wneud heddiw a gall wylio'r BBC, ond rwyf i wedi bod yn eithaf prysur, Lywydd, ond fe roddaf amser i wylio'r manylion.

Fel roeddwn i'n mynd i'w ddweud, Lywydd, mae prentisiaethau yng Nghymru yn parhau i gael eu hariannu'n llawn ar gyfer costau hyfforddi i bob oed a busnes. Mae'r rhaglen rhannu prentisiaethau yn galluogi prentisiaid i weithio gyda sawl cyflogwr ac mae'n cael ei hehangu i gynnwys sectorau sgiliau gwyrdd. Rydym yn ymwybodol iawn o'n hanghenion sgiliau presennol a sgiliau'r dyfodol ledled Cymru mewn llawer o'n sectorau allweddol, a'r angen i flaenoriaethu hyn. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae gwybodaeth am y farchnad lafur yn cael ei chryfhau drwy archwiliad cenedlaethol o sgiliau a gynlluniwyd a chydweithio gwell â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Bydd yr Aelodau'n falch o glywed y bydd yr archwiliad o sgiliau a gynlluniwyd yn cael ei gefnogi gyda £75,000 mewn cyllid pwrpasol, a bydd yn darparu tystiolaeth gadarn i lywio cynlluniau yn y dyfodol ac adeiladu ar waith yr adolygiad llwyddiannus o sgiliau gwyrdd.

Lywydd, dim ond dechrau taith ddysgu pobl yw prentisiaethau. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r cyllid ar gyfer y rhaglen sgiliau hyblyg sydd nid yn unig wedi'i chroesawu yn y Siambr hon, ond gan ddiwydiant yn ogystal. Mae parch cydradd, fel yr amlinellodd y Cadeirydd wrth agor, rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu i bobl ifanc Cymru, gan weithredu fel man cychwyn allweddol ar gyfer y ffrwd dalent yn ein heconomi. Mae ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu'n ymrwymo i sicrhau parch cydradd, ac rydym yn gweithio gyda Gyrfa Cymru, Medr, a phartneriaid eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael cyngor diduedd ac yn ymwybodol o'r holl opsiynau a amlinellodd yr Aelod. Mae Gyrfa Cymru bellach yn cynnig canllawiau i bob dysgwr blwyddyn 11, ac rydym yn cefnogi mentrau i ehangu cyfranogiad.

Lywydd, mae strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn cael ei datblygu gydag ymgysylltiad rhanddeiliaid. Bydd y strategaeth yn cael ei llywio gan bum edefyn cyflawni, yn cynnwys arloesi, cydweithio ac ehangu cyfranogiad. Mae grŵp cyfeirio rhanddeiliaid yn helpu i siapio'r gwaith hwnnw, a bydd cyfeiriad strategol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn. [Torri ar draws.] Iawn.

16:30

Fe wnaethoch chi sôn ychydig yn ôl am Gyrfa Cymru a'r cyngor y maent yn ei roi i bobl. Hoffwn wybod: a yw'r cyngor hwnnw wedi'i deilwra, fel y dywedais yn gynharach, i bobl sy'n byw yn fy etholaeth i ac ardaloedd eraill, i ddweud, 'Os ydych chi am fynd i astudio prentisiaeth yn Lloegr, mae'n annhebygol y cewch chi arian ar gyfer hynny', fel nad yw'n codi gobeithion pobl ifanc i'w chwalu pan fyddant yn mynd drwy'r broses?

Wel, bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cyngor diduedd a chywir i bob Aelod, a byddant yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n addas i bob rhan o Gymru a phob etholwr hefyd.

Lywydd, mae rhagor o waith yn cael ei wneud i egluro llwybrau cynnydd ac ehangu cyfleoedd lefel uwch, gan gynnwys gradd-brentisiaethau. Un o'r pwyntiau a gydnabu'r Cadeirydd hefyd oedd bod recriwtio a chadw hyfforddwyr ac aseswyr sgiliau yn hanfodol i gyflawni ein holl nodau, ac rydym yn gweithio gyda darparwyr i nodi rhwystrau a chefnogi datblygiad proffesiynol, gan sicrhau bod y gweithlu'n gynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi darparwyr, wrth iddynt addasu i heriau newydd, a hyrwyddo dull mwy cyson o gyflawni datblygiad proffesiynol. Mae pob dysgwr, beth bynnag y bo'u cefndir, yn haeddu cyfle i lwyddo, ac rydym yn benderfynol o sicrhau y gallant wneud hynny. A'r rheswm, Lywydd, dros yr un argymhelliad a dderbyniwyd mewn egwyddor, sef argymhelliad 3, yw bod hynny'n disgyn yn llwyr o fewn cylch gorchwyl Medr, sydd hefyd wedi ymateb i'r pwyllgor.

Lywydd, rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i ni ein hunain ar fabwysiadu'r system brentisiaethau yng Nghymru, a hynny oherwydd ein bod yn gwybod y gwahaniaeth y mae prentisiaethau yn ei wneud i fywydau'r rhai sy'n eu cwblhau ac i ddyfodol cyflogwyr Cymru. Ni fyddaf byth yn blino ar ddweud pa mor falch wyf i fy mod yn gyn-brentis peirianneg. Prentisiaethau yw'r porth i lwyddiant mewn bywyd, a hoffwn argymell y llwybr hwnnw i unrhyw un y byddaf yn eu cyfarfod yn y dyfodol. Gallaf weld bod amser gennym, Gadeirydd, felly hoffwn—

Rwyf bron â gorffen beth bynnag, Gadeirydd, ac rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n ddiolchgar am hynny. Felly, rwyf am ddiolch eto i'r pwyllgor am ei waith. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl bartneriaid i sicrhau bod prentisiaethau'n parhau i fod yn llwybr cadarn, deniadol a hygyrch i bawb, i gefnogi dyheadau unigolion ac anghenion ein heconomi yn y dyfodol. Ac i'r Cadeirydd, nad wyf wedi ei gyrraedd yn iawn, nid oes gennyf amserlen ar gyfer ymateb, ond rwy'n ymrwymedig i hynny. Fe fydd yn deall fy mod i'n dal i ymateb i adroddiad y pwyllgor, ond byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ynghylch y cwestiwn a ofynnodd. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac os caf grynhoi'r ychydig bwyntiau a godwyd. Mae hi bob amser yn braf clywed Aelodau nad oeddent yn aelodau o'r pwyllgor yn cyfrannu at y ddadl—Carolyn Thomas a James Evans. Tynnodd James Evans sylw at broblem gydag etholwr ym Mhowys, ond mae honno'n broblem ar draws Cymru, ac yn enwedig yn y gymuned amaethyddol. Gyda pheirianneg amaethyddol, gallaf feddwl am enghraifft yn fy rhanbarth fy hun lle roedd rhywun eisiau gwneud cwrs peirianneg ar frand penodol o gynnyrch, ac nid oedd y cynnyrch hwnnw ar gael yn unman heblaw mewn coleg addysg bellach yn Lloegr, y rhan honno o'r cwrs, ac ni allent gael cyllid i fynd i wneud y cwrs ac felly ni allent fynd fwrw ymlaen ymhellach â'u prentisiaeth. Felly, mae yna fater yn codi ynglŷn â'r llen lechi sy'n atal pobl rhag mynd draw i golegau yn Lloegr lle caiff cyrsiau eu darparu. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd y Gweinidog, gobeithio, yn ei ystyried, oherwydd, yn amlwg, mae wedi cael ei godi yma heddiw gan James Evans, ac rwy'n siŵr y byddai gan eraill enghreifftiau eraill y gallent eu defnyddio hefyd.

Tynnodd Carolyn Thomas sylw at bwysigrwydd gwybodaeth o safon a'r gallu i weithio gyda'r dysgwr a gwneud yn siŵr eu bod yn cael y profiad gwaith cywir—profiad gwaith o safon—y credaf y gallwn i gyd ei gofio yn ein dyddiau ysgol fel rhywbeth a oedd ar gael yn rhwydd, a bod yn deg, ond nad yw'n cael blaenoriaeth mewn ysgolion erbyn hyn, yn anffodus. Ac mae angen inni gael profiad gwaith—. Nid rhoi oferôl i rywun sefyll yng nghornel ystafell, ond i gael eu dwylo ar olew a darnau eraill yn y sector peirianneg, a chyrsiau galwedigaethol eraill, fel eu bod yn cael blas go iawn ar yr hyn y gallai prentisiaeth fod. A byddai hynny, gobeithio, yn ysgogi eu dychymyg a'u hawydd i gyflawni'r cwrs a chael y radd o hyfforddiant y maent ei hangen. Ac mae'n rhan bwysig a grybwyllwyd yn ein hadroddiad pan oeddem yn cymryd tystiolaeth.

Cyfeiriodd hefyd at lwybr diddorol i ddarparu mwy o brentisiaethau: bargeinion dinesig. Ac mae'n rhywbeth nad oeddwn wedi rhoi llawer o feddwl iddo, i fod yn onest gyda chi, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sy'n werth ei ystyried a'i ddatblygu. Ac fel pwyllgor, gallem feddwl am hyn ac ysgrifennu at y bargeinion dinesig, gan fod hwnnw'n ymchwiliad rydym wedi'i gynnal, a rhoi'r awgrym hwn iddynt i weld sut y gallant hwyluso'r llwybr dysgu hwnnw ar gyfer prentisiaethau.

Nododd y ddau aelod o'r pwyllgor a siaradodd, Luke a Sam, bwysigrwydd y prentisiaethau y mae'r ddau wedi ymrwymo iddynt, oherwydd mae'r ddau'n efengylaidd iawn ynglŷn â siarad am y prentisiaethau a ddylai fod ar gael i ddysgwyr. Ond yn bwysig, tynnodd y ddau sylw at y dystiolaeth a gymerwyd gennym eu bod, mewn llawer o achosion, yn cael eu hystyried fel ail orau, oherwydd yn amlwg mae yna gred gyffredinol yn y byd addysg fod yn rhaid i chi ddilyn llwybr academaidd, ac nid yw hynny'n wir. Ac yn onest, mae rhywun sydd wedi gwneud prentisiaeth a gwneud cwrs galwedigaethol, yn aml iawn, pan ddaw'n fater o arian, yn ennill mwy ar y diwedd na rhywun sydd wedi dilyn llwybr academaidd a chael gradd.

Rwyf bob amser yn cofio profiad pan oeddwn yn Nulyn a dywedodd rhywun wrthyf, 'Os ydych chi eisiau rhywun i raglennu cyfrifiadur, gallwch ddod o hyd i unrhyw un o 101 o bobl mewn unrhyw far neu glwb ar draws y ddinas hon. Os ydych chi eisiau i rywun newid bwlb golau neu drwsio'r plastr yn eich fflat, ni ddowch o hyd i unrhyw un fel y cyfryw, a byddant yn gallu gofyn am bremiwm am hynny wedyn.' A dyna'r gwir. Rydym yn hyfforddi pobl, boed yn y byd academaidd neu alwedigaethol, i fynd i'r man gwaith a gwneud i'n heconomi weithio'n well, a dyna ddylai yrru'r hyn y ceisiwn ei gyflawni.

Mae cynllunio'r system yn hirdymor yn genedlaethol, ac yn anad dim, y cyfleoedd sydd ar gael, yn waith enfawr, ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod y cyngor yn cyrraedd y dysgwr ac nad yw'r dysgwr yn cael ei drin fel nwydd yn y system addysg. Fe wnaethom gymryd tystiolaeth glir fod hynny'n digwydd a bod ysgolion, yn arbennig, yn dal eu gafael ar y dysgwyr hynny yn groes i'w buddiannau gorau, a siaradodd ysgolion a dysgwyr am y sefyllfa roeddem ynddi o ran hynny.

Tynnodd y Gweinidog sylw at darged y Llywodraeth o 100,000. Mae hwnnw'n darged is, Weinidog, fel y buom yn ei drafod yn y pwyllgor heddiw. Yn amlwg, targed y maniffesto oedd 125,000, i lawr i 100,000. Efallai ei fod yn dweud rhywbeth am ragflaenwyr eu bod wedi tynnu 25,000 allan o'r hafaliad ac fe wnaethant ei dynnu o'r hafaliad prentisiaeth. Ac roedd hynny'n rhywbeth i resynnu ato oherwydd mae'n 25,000 yn llai o gyfleoedd i bobl i gael yr addysg sydd ei hangen arnynt i gael swydd yn y gweithle.

Fe wnaethoch chi dynnu sylw hefyd at y llwybr cyngor pwysig yr ydych chi bellach yn ei hyrwyddo, fod holl fyfyrwyr blwyddyn 11 yn cael cyngor diduedd. Ac mae hynny'n bwysig, ei fod yn ddiduedd, ac yn canolbwyntio ar allu'r dysgwr i wneud y penderfyniadau hyn. Ond fel y mae ein hadroddiad yn nodi, nid y dysgwr sydd angen ei argyhoeddi bob amser, ond y rhieni hefyd yn aml iawn, ac mae angen mynd â nhw ar y daith i weld pwysigrwydd hyfforddiant galwedigaethol. Ac os gallwn chwalu'r rhwystr hwnnw a dweud bod yna barch cydradd, fe gawn lwyddiant.

Ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhellion ac rwy'n gobeithio nawr y byddant yn mynd ar drywydd yr ymrwymiadau a wnaethant i ni yn yr ymateb. Fodd bynnag, gyda'r etholiad ar y ffordd, rwy'n gobeithio hefyd y bydd y Gweinidog sgiliau nesaf, ac yn bwysig, y Gweinidog addysg, pwy bynnag y byddant, yn darllen yr adroddiad hwn ac yn ymrwymo i'r canfyddiadau.

Nid yw'r newidiadau rydym yn edrych arnynt ar gyfer y system addysg ac agweddau cymdeithasol i gyd yn bethau y gellir eu cyflawni dros nos. Mae chwalu dirgelwch y llwybr galwedigaethol a sicrhau ei fod yn cael y parch y mae'n ei haeddu yn heriau y bydd yn cymryd amser i'w goresgyn. Mae mynediad at brentisiaethau'n bwysig. Gallant wella cyfleoedd bywyd dysgwyr yn helaeth a gallant gynorthwyo busnesau Cymru i lwyddo. Fodd bynnag, ni fydd yr un o'r pethau hyn yn digwydd os yw'r llwybr galwedigaethol yn parhau i fod yn ddirgelwch a'n hysgolion yn parhau i hyrwyddo'r llwybr academaidd traddodiadol sydd ar adegau, o leiaf, yn unig opsiwn.

I gloi, hoffwn ddiolch i dîm Comisiwn y Senedd a gefnogodd y pwyllgor drwy'r gwaith hwn, a diolch yn fyr unwaith eto i bawb a roddodd dystiolaeth, gan gynnwys y bobl a neilltuodd amser i gymryd rhan yn ein gwaith ymgysylltu. Bydd y pwyllgor yn dilyn cyflawniad ein hargymhellion gyda diddordeb, a diolch i chi, Ddirprwy Lywydd.

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU

Eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9056 Paul Davies

Cefnogwyd gan Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddiad cyllideb yr hydref gan Lywodraeth y DU ar 26 Tachwedd 2025.

2. Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig sydd gerbron heddiw. Am lanast o gyllideb a gawsom y prynhawn yma. Mae cyllideb yr hydref i fod i fod yn un o ddigwyddiadau economaidd pwysicaf y flwyddyn. Mae'n gosod y cywair ar gyfer y misoedd i ddod, yn tynnu sylw at flaenoriaethau'r Llywodraeth, ac yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu teuluoedd, gweithwyr a busnesau. Ar adeg o bwysau economaidd gwirioneddol, roedd pobl ledled Cymru yn chwilio am sicrwydd, sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth. Yn lle hynny, mae'r hyn a gawsant yn benllanw wythnosau o ddryswch, oedi, ansicrwydd ac ansefydlogrwydd economaidd. A beth y mae hyn i gyd yn ei wneud? Mae'n erydu ymddiriedaeth a hyder yng ngallu Llywodraeth i gyflawni ar gyfer pobl y DU ac yma yng Nghymru.

Fe wyddom yn y lle hwn fod ymddiriedaeth mor bwysig, yn gonglfaen ein democratiaeth. Hebddi, mae ein system gyfan yn dechrau chwalu, a nawr, mae'r ymddiriedaeth honno'n torri, am fod gennym Lywodraeth Lafur sydd wedi torri addewid ar ôl addewid. Pan ddaeth Llafur i rym, fe wnaethant addo peidio â threthu gweithwyr. Fe wnaethant ddod â threth ar swyddi i mewn, sy'n taro busnesau ac elusennau gyda chyfraniadau yswiriant gwladol uwch. Mae eu treth ar ffermydd teuluol a busnesau teuluol wedi achosi trallod gwirioneddol i bobl sydd eisoes yn gweithio'n galed ddim ond i gadw pethau i fynd. Addewidion wedi'u gwneud, addewidion wedi'u torri.

Dywedwyd wrthym hefyd fod y gyllideb ddiwethaf, y llynedd, yn gyllideb unwaith mewn Senedd. Dywedodd Rachel Reeves, 'Ni fyddwn yn dod yn ôl gyda mwy o godiadau treth na benthyca.' Eto, heddiw, cyflwynodd y Canghellor gyllideb arall i godi trethi: £26 biliwn mewn codiadau treth a fydd yn cosbi pobl weithgar ledled Cymru. Canlyniad dewisiadau Llafur. Addewidion wedi'u gwneud, addewidion wedi'u torri.

Dywedais fod y gyllideb hon yn llanast yn fy sylwadau agoriadol. Cafodd ei gohirio, ei hailysgrifennu a bu'n destun cyfres o droeon pedol cyhoeddus iawn. Ymhell o roi sicrwydd, mae'r ansicrwydd a grëwyd gan y Llywodraeth wedi arwain at betruster yn y marchnadoedd, oedi gan fuddsoddwyr a phryder ymhlith cyflogwyr. Nid oedd busnesau ledled Cymru, yn enwedig cwmnïau bach sydd eisoes yn gweithio ar elw bach iawn, yn gallu cynllunio, roeddent yn ansicr pa drethi ac amgylchedd  rheoleiddiol y byddent yn ei wynebu. Ac yna, i goroni'r cyfan, cafodd adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei ryddhau'n answyddogol cyn i'r gyllideb gael ei chyhoeddi. Hollol ryfeddol, ac mae'n dangos nad oes gan Lafur reolaeth ar bethau.

Ers i Lafur ddod i rym, mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn teimlo'n waeth eu byd, ac mae rheswm da am hynny. Hyd yma, rydym wedi gweld diweithdra'n codi; mae costau benthyca wedi codi; mae chwyddiant wedi codi; y llog ar ddyled wedi codi; codiadau treth i fyny. Yn syml, nid yw'r Llywodraeth Lafur hon yn gweithio. Nid dyma sut y mae Llywodraeth gyfrifol yn ymddwyn. Sefydlogrwydd a rhagweladwyedd yw sylfeini hyder economaidd, ac nid yw'r gyllideb heddiw wedi darparu'r naill na'r llall.

Ond hyd yn oed heb yr ansefydlogrwydd diweddar hwn, fe wyddom fod y cefndir economaidd a grëwyd gan y Llywodraeth hon eisoes yn hynod heriol. Mae dadansoddwyr, gan gynnwys ym Manc Lloegr, wedi dweud yn glir fod codiadau treth Llafur y llynedd wedi rhwystro twf, lleihau diweithdra, ychwanegu at bwysau chwyddiant, ac yn y pen draw wedi lleihau derbyniadau treth. A dyma graidd y broblem: fe wnaeth penderfyniadau economaidd Llafur y llynedd y sefyllfa'n waeth, nid yn well.

Rydym wedi clywed bod meinciau cefn Llafur yn San Steffan wedi disgrifio'r gyllideb hon fel cyllideb i'r blaid, nid i'r wlad. Maent yn parhau i roi plaid o flaen y wlad trwy wrthod cael gwariant lles dan reolaeth. Yn hytrach na gweithredu dull teg a gwirioneddol dosturiol o helpu pobl i mewn i waith, maent yn cynyddu gwariant lles, gan olygu bod 5,000 o bobl y dydd yn symud allan o waith ac ar fudd-daliadau.

Mewn cyferbyniad, pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym, roedd 800 o bobl newydd bob dydd yn mynd i mewn i'r gweithle. Rydym yn glir mai dim ond y Ceidwadwyr sy'n cynnig llwybr credadwy i atgyweirio cyllid cyhoeddus, gyda £47 biliwn o doriadau i wariant, yn cynnwys torri cymorth tramor, lleihau'r gwasanaeth sifil yn ôl i lefelau cyn y pandemig, a chael gwariant lles yn ôl dan reolaeth fel bod gwaith yn talu a bod y system yn deg ac yn gynaliadwy, gan ddilyn rheol aur economaidd y Ceidwadwyr i gael benthyca yn ôl dan reolaeth.

Mae'r hyn a welwn gan Lafur yn San Steffan yn gyfarwydd iawn, am mai dyma'r un stori a welsom gan Lafur yma yng Nghymru, wedi ei chefnogi gan Blaid Cymru. Nid ydynt yn gwybod sut i reoli'r economi. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi tynnu sylw at fannau yn Llywodraeth Cymru lle maent yn parhau i wastraffu arian y gellid ei ddefnyddio'n llawer gwell i helpu ein heconomi i ffynnu.

Mae'r penderfyniadau cenedlaethol hyn yn bwysig iawn i Gymru, oherwydd yma rydym yn wynebu heriau difrifol a chynyddol. Mae'r pwysau economaidd a demograffig a chymdeithasol yn cynyddu, mae ein gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau eithafol, mae ein sector preifat yn parhau i fod yn amharod i fuddsoddi yma oherwydd yr amgylchedd busnes gelyniaethus a grëwyd gan Lywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4, mae aelwydydd yn parhau i'w chael hi'n anodd gyda phwysau costau go iawn oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant, mae busnesau yn dal i adfer o siociau economaidd lluosog, ac awdurdodau lleol o Wrecsam i sir Benfro yn rhybuddio am ddiffygion cyllidebol digynsail.

Yn y cyd-destun hwnnw, dylai cyllideb yr hydref fod wedi cynnig eglurder, uchelgais, a chynllun ar gyfer twf. Yn hytrach, cyflwynodd ansicrwydd, ansefydlogrwydd ac esgeulustod, oll wedi'u gwreiddio ym mhenderfyniad Llafur i barhau i godi trethi a gwrthod cael gwariant lles dan reolaeth. Mae'n amlwg fod Llafur wedi dod i rym heb gynllun clir. Fe wnaethant etifeddu economi a oedd yn ymadfer, yr un a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, gyda chwyddiant yn ôl dan reolaeth ar 2 y cant. Ond mae eu dewisiadau trychinebus yn y gyllideb y llynedd wedi cloi Prydain mewn cylch dinistriol o wariant uwch, benthyca costus, a threthi uwch.

Ar y meinciau hyn, rydym ni eisiau i Gymru ffynnu, rydym ni eisiau i deuluoedd ffynnu, busnesau i deimlo'n hyderus, a chymunedau i wybod eu bod yn cael eu cefnogi. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen Llywodraeth yn y DU sy'n trin Cymru fel partner difrifol. Mae angen buddsoddiad strategol hirdymor, nid potiau o gyllid untro neu weithredoedd gwag ysbeidiol i dynnu sylw. Roedd y gyllideb hon yn gyfle i ailosod y berthynas â Chymru ac i ddangos dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau y mae ein cenedl yn eu hwynebu. Yn lle hynny, mae wedi dangos y gwrthwyneb. Mae'n amlwg fod gan y Ceidwadwyr gynllun credadwy i drwsio Cymru a chael ein heconomi i symud.

Heddiw, rwy'n annog yr Aelodau i gydnabod y realiti fod cyllideb yr hydref wedi methu cyflawni i Gymru, nad yw blaenoriaethau Llywodraeth y DU wedi'u halinio ag anghenion ein cymunedau, a bod pobl Cymru yn haeddu gwell. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig.

16:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Er ei bod yn demtasiwn i ganolbwyntio ar ragrith y Torïaid yn fy ymateb i'r gyllideb, nid wyf yn mynd i wneud hynny, oherwydd mae hyn yn bwysig, yn foment fawr, nid yn unig i sylwebwyr gwleidyddol, gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraethau, fel ein hun ni yma yng Nghymru, ond yn bwysicach fyth, i'r bobl a gynrychiolwn. Nhw yw'r rhai sy'n edrych ar beth y mae'r gyllideb yn ei olygu iddynt hwy. Nhw sydd wedi teimlo'r pwysau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid argyfwng costau byw yn unig—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. Nid wyf wedi gwneud unrhyw bwyntiau sy'n berthnasol i'r gyllideb eto, felly nid wyf am dderbyn ymyriad.

Pobl Cymru sydd wedi gorfod dioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n argyfwng costau byw—mae wedi dod yn ffordd o fyw i'r mwyafrif o bobl, o wynebu'r dewis amhosib a welsom rhwng gwresogi neu fwyta, neu'r un ohonynt mewn rhai achosion, o fethu fforddio cartref. Dylai'r cynnydd a welsom mewn gwasanaethau fel y ddibyniaeth ar fanciau bwyd, am bethau sy'n hollol hanfodol, beri cywilydd i ni i gyd. Felly, rwy'n mesur y gyllideb heddiw yn ôl yr hyn y bydd y bobl a gynrychiolwn yn ei feddwl ohoni.

Mae angen inni edrych hefyd ar beth fydd ein holl waith craffu, ac edrych ar y gyllideb sydd gennym ni fel Senedd, yn ei olygu iddynt. Oherwydd, gadewch inni fod yn glir, er bod cyllid ychwanegol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Cymru heddiw, cyllid canlyniadol Barnett ydyw, cyllid y mae'n arferol i Gymru ei gael. Mae'n werth nodi hefyd mai wythfed ran o'r hyn sy'n ddyledus i Gymru o wariant HS2 yn unig ydyw. Y gwir amdani yw y bydd twf mewn termau real yng nghyllideb Cymru yn ystod cyfnod yr adolygiad o wariant yn is nag ar unrhyw adeg ers dechrau datganoli—yn is hyd yn oed na chyfnod adolygiad o wariant diwethaf y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol. Disgwylir i gyllideb gyfalaf Cymru hefyd grebachu mewn termau real dros yr un cyfnod—yr unig un o'r holl genhedloedd datganoledig lle bydd hynny'n digwydd.

Mae'r gyllideb yn gwbl ddistaw ar ddiwygio ein trefniadau ariannu annheg sydd wedi dyddio, yn dawel ar ddatganoli Ystad y Goron ac unioni tanfuddsoddiad hanesyddol yn ein seilwaith rheilffyrdd, gyda HS2 yn un symptom yn unig o broblem fwy. Ar ben hynny, nid yw anghyfiawnder sylfaenol—geiriau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid—y ffaith bod Cymru ar ei cholled o ganlyniad i osod fformiwla Barnett ar ad-daliadau Trysorlys y DU ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus wedi'i unioni. Mae hwn yn ddiffyg a fydd yn parhau i gael ei drosglwyddo i'n gwasanaethau cyhoeddus am y dyfodol rhagweladwy, sy'n golygu toriadau pellach anochel i wasanaethau a chymorth, fel y rhai a welsom dros y flwyddyn ddiwethaf.

Er y dylem fod yn glir fel Senedd fod croeso i gyllid ychwanegol, nid ydym yn mynd i fod yn ddiolchgar ac yn hapus iawn pan fo'n llai na'r hyn sy'n ddyledus i ni, a phan nad oes ymgais ystyrlon i gywiro'r gwahaniaeth amlwg o ran cyfoeth a phŵer sy'n bodoli ar draws yr ynysoedd hyn. Yn gynharach y prynhawn yma, croesawodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams y ffaith bod y cap dau blentyn creulon ar fudd-daliadau wedi'i ddileu, ac mae'n amlwg fod hyn i'w groesawu'n fawr. Ond fel y clywsom y Canghellor yn dweud y prynhawn yma yn ei geiriau ei hun, bydd 'pobl gyffredin' yn talu 'ychydig yn fwy'. Ei geiriau—'pobl gyffredin'. Fe wyddom pa mor anodd yw hi i'r mwyafrif o bobl nawr. Roedd yn gyfle i wneud yn siŵr fod y rhai sydd â mwy na phawb arall yn talu mwy na phawb arall. Mae pobl gyffredin yn talu mwy.

Fel y trafodwyd yr wythnos diwethaf, gallem fod wedi gweld cyflwyno treth gyfoeth, codi trethi ar elw banciau masnachol a chronfeydd wrth gefn sy'n gysylltiedig ag esmwytho meintiol. Rydym yn gweld yr annhegwch hwn yn parhau. Ac yn wahanol i Senedd yr Alban, gwrthodwyd hawl i ni osod ein bandiau treth ein hunain i adlewyrchu natur ein sylfaen dreth yn well. Mae newidiadau cadarnhaol i hepgoriad cronfeydd wrth gefn Cymru, ond dros dro yn unig, yn hytrach na'i fod wedi'i ddileu'n llwyr. Felly, bydd llaw San Steffan yn parhau i bwyso'n drwm ar dil arian Cymru ei hun. Rhaid i hyn ddod yn newid parhaol.

Mae yna lacio ar afael San Steffan ar bensaernïaeth ariannol y Senedd, sydd i'w groesawu, ond bydd ein gallu i fenthyca i fuddsoddi yn ein gwlad yn dal i gael ei danseilio'n sylweddol gan safonau rhyngwladol. O ran y buddsoddiad a gyhoeddwyd, rydym yn croesawu unrhyw fuddsoddiad ychwanegol sy'n dod i Gymru wrth gwrs, ond mae distawrwydd amlwg ar harneisio ein potensial enfawr ar gyfer ynni gwyrdd, wedi'i danlinellu gan y gwrthodiad parhaus i roi'r gallu i ni elwa ar ein hadnoddau naturiol ein hunain.

Ychydig iawn o fanylion a geir ynglŷn â pha ran neu ddylanwad, os o gwbl, a fydd gan Lywodraeth Cymru dros rai o'r penderfyniadau gwariant a gyhoeddwyd, er gwaethaf addewidion ym maniffesto Llafur cyn yr etholiad cyffredinol i ddychwelyd pwerau gwneud penderfyniadau dros gronfeydd yr UE ar ôl Brexit i Gymru. Bydd cyfle i ni dreulio a deall yn iawn beth y mae hyn yn ei olygu i Gymru, ond yn sicr ceir rhai hepgoriadau amlwg, ac yn anffodus, pobl Cymru a gynrychiolir gennym ni fydd yn dioddef.

16:50

Mae'n ymddangos bod gan y Torïaid gynllun credadwy i gael economi Cymru i symud. [Torri ar draws.] Y broblem yw—[Torri ar draws.] Mae'n drueni go iawn eich bod wedi methu rhoi unrhyw syniad i ni sut y byddech chi'n gwneud hynny. Felly, nid wyf yn meddwl eich bod chi'n rhan o'r drafodaeth ar hyn o bryd.

Oedd, wrth gwrs ei fod yn ôl y disgwyl. Gwelsom ddiddymu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, a ddylai fod wedi mynd yn llawer cynt, fel y mae eraill wedi dweud heddiw, ond mae wedi mynd nawr ac mae hynny'n wych. Mae hynny'n newyddion da iawn i bobl sydd â sawl plentyn yn eu teuluoedd. Yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno heddiw yw sut nad oedd y gyllideb hon yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wedi gobeithio y byddai'n ei wneud i unioni'r system gwbl gamweithredol sydd gennym yn ein system ynni, sy'n amlwg, ynghyd â bwyd, yn brif achos trallod i bobl gyda'r argyfwng costau byw. Felly, do, cafwyd camau bach i gael gwared ar ardollau cymdeithasol ac amgylcheddol oddi ar bris trydan a symud hynny i drethiant cyffredinol, sy'n amlwg yn llawer mwy blaengar, ac a fydd yn debygol o leihau cost biliau trydan, er nad yw'n glir faint ar hyn o bryd, ond fe ddarllenwn am hynny yn y papurau yfory mae'n siŵr.

Ond roedd yn siomedig iawn, i mi beth bynnag, na wnaeth y Canghellor ddatgysylltu pris trydan oddi wrth bris nwy yn fyd-eang, oherwydd, er ein bod wedi ein cysylltu ym mhopeth a wnawn gydag ynni â phris nwy yn fyd-eang, nid yw'n rhoi gwir fudd yr holl waith a wnaethom yn newid i ynni adnewyddadwy. Dylai ynni gwyrdd ddiogelu ein cyflenwad ynni rhag anhrefn pris anwadal tanwydd ffosil ar y farchnad fyd-eang, oherwydd mae ynni adnewyddadwy bellach yn llawer rhatach na thanwydd ffosil. Rhwng 2010 a 2023, yn ôl dadansoddiad a wnaed gan undeb Unite, sef fy undeb i, mae costau ynni solar wedi gostwng 90 y cant, mae costau gwynt ar y tir wedi gostwng 70 y cant, ac mae gwynt ar y môr wedi gostwng 63 y cant, a hynny mewn cwta 13 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd. Mae solar bellach 56 y cant yn rhatach nag ynni tanwydd ffosil, ond rydym yn dal i fod yn gaeth i dalu'r un prisiau chwyddedig oherwydd bod prisiau ynni wedi'u cysylltu yn ein biliau domestig â phris nwy ar y farchnad fyd-eang, sy'n rhywbeth na all ein holl etholwyr wneud dim amdano.

Yn amlwg, mae'n cadw'r barwniaid tanwydd ffosil yn y dwyrain canol, Rwsia, Tsieina a'r Unol Daleithiau yn hapus iawn, ond nid yw'n gwneud y gwaith yr ydym am ei weld yn cael ei wneud i symud ymlaen i wyrddu ein heconomi, sy'n hollol hanfodol i bopeth a wnawn o ran parhau i allu cyflawni'r datblygiadau a'r swyddi y mae ein holl etholwyr eu heisiau. Yn hytrach, rydym yn parhau i wobrwyo cwmnïau ynni a wnaeth £30 biliwn o elw cyn treth o'r system ynni yn 2024. Dyma'r dadansoddiad olaf sydd ar gael y mae gennym ffigurau gwirioneddol ar ei gyfer. Mae hynny'n golygu bod cartref cyffredin yn y DU yn cyfrannu £500 y flwyddyn at elw'r cwmnïau ynni. Mae Llywodraeth Norwy yn gwneud £5.9 biliwn o bunnoedd o aelwydydd y DU, ac mae'r ail gynhyrchydd nwy mwyaf, Uniper, sy'n eiddo i Lywodraeth yr Almaen, hefyd yn gwneud swm taclus.

16:55

Rwy'n mwynhau eich cyfraniad yn fawr iawn ar filiau ynni. Yn amlwg, fe fyddwch chi'n cofio, cyn yr etholiad, fod Ed Miliband wedi addo y byddai'n torri biliau ynni. A yw hynny wedi digwydd eto?

Na, nid yw wedi digwydd—yn hollol, nid yw wedi digwydd, oherwydd nid ydym wedi datgysylltu pris trydan oddi wrth brisiau nwy yn fyd-eang. Peidiwch â phoeni, rwy'n siŵr mai dyna'n union beth y mae eisiau ei wneud, ond nid oes gennym y Llywodraeth i'w wneud eto. Mae'n bwysig deall mai dyna'r cam sydd angen ei gymryd. 

Ar hyn o bryd, mae'r elw'n mynd yn bennaf i wladwriaethau tramor, yn enwedig Ffrainc, Qatar a Denmarc. Yr elw cyfartalog yn y sector ynni yw 23 y cant, dair gwaith yn uwch na chyfartaledd yr economi o ran proffidioldeb. Felly, nid yw hwn yn ateb cynaliadwy, ac mae angen inni barhau i ofyn am y newid sydd ei angen i annog mwy o bobl eto i newid o danwydd ffosil ac i sicrhau y gallwn roi buddsoddiad hirdymor i'n diwydiant gweithgynhyrchu a'n holl gwmnïau eraill yn ein systemau ynni cynaliadwy, sy'n allweddol i'n ffyniant yn y dyfodol.

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cyfnod cyn y gyllideb hon wedi bod y mwyaf anhrefnus i mi ei weld erioed yn fy mywyd fel oedolyn. Rydym wedi gweld polisïau'n cael eu gwyntyllu, eu rhyddhau'n answyddogol, eu gwadu ac yna'n cael eu hatgyfodi. Yna gwelsom y gyllideb gyfan yn cael eu rhyddhau'n answyddogol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol cyn i'r Canghellor ei chyflwyno i ddau Dŷ'r Senedd. Roedd y llanast yn y ffordd y cafodd ei thrin yn golygu bod cyllideb a luniwyd i dawelu'r farchnad wedi cyflawni'r gwrthwyneb yn llwyr, gyda'r FTSE 100 yn plymio. Mae'n ymddangos bod Llafur yn San Steffan a Chaerdydd yn benderfynol o chwalu'r economi wrth siarad am dwf. Mae'n debyg i ddawns law, lle maent yn meddwl y bydd twf yn ymddangos yn syml trwy siarad amdano, tra bônt yn creu'r holl amodau ar gyfer dirwasgiad, sef gwariant uwch a threthiant uwch. Mae hyd yn oed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi camu o'i barc diddanwch am awr y prynhawn yma—[Chwerthin.]—i ddweud wrth y Canghellor na allwch drethu eich ffordd i dwf. Ac os oes angen i Ed Davey ddweud hynny wrthych, efallai eich bod wedi mynd yn rhy bell.

Bellach, mae ein baich treth ar fin saethu i fyny i 38 y cant o'r cynnyrch domestig gros, y lefel uchaf ers yr ail ryfel byd, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y cynnyrch domestig gros i lawr ym mhob blwyddyn o'r rhagolwg, rhwng 2022 a 2029. Bydd yr hwb i fudd-daliadau yng nghyllideb y Canghellor yn cael eu talu gan drethdalwyr gweithgar drwy eu hincwm, eu pensiynau a'u heiddo, gyda miliwn o weithwyr i dalu cyfradd uwch o dreth incwm drwy rewi trothwyon treth incwm, treth lechwraidd sy'n effeithio ar bobl sy'n gweithio tra bo'n ariannu cynnydd anghynaliadwy yn y gyllideb fudd-daliadau a phensiwn y wladwriaeth.

Bydd y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn cael ei ddileu nawr, ac mae gennym eisoes un o bob 10 oedolyn o oedran gweithio yn hawlio taliadau annibyniaeth bersonol, a miliwn o hawlwyr ychwanegol y credyd cynhwysol ers y gyllideb ddiwethaf. Mae hon yn gyllideb ar gyfer segurwyr nid gweithwyr, a ni yw'r unig blaid sy'n cynnig cynllun economaidd ceidwadol o dwf uchel a threth isel. Mae angen i Lywodraeth y DU gael trefn ar y symiau enfawr o arian sy'n cael eu gwastraffu ar bethau na wnaeth neb bleidleisio drostynt, o gost llety i ymfudwyr anghyfreithlon, sydd wedi treblu i £15.3 biliwn, i'r gyllideb les sy'n cynyddu i'r entrychion, i'r cymorth tramor sy'n mynd tuag at drwsio gwasanaeth casglu trethi Ethiopia. Mae codi trethi gan wastraffu arian yn gyfystyr ag amddifadu pobl o degwch, ac unwaith eto mae'n dangos Llywodraeth sy'n gwrthod gwario arian ar yr elfennau cynhyrchiol, gan ymroi i'r elfennau anghynhyrchiol yn lle hynny.

Cyn codi'r dreth geiniog yn ychwanegol, mae angen i Lywodraeth y DU gael trefn ar bethau, ac eto ni welwn unrhyw dystiolaeth o hyn, ac ar yr ochr hon i Glawdd Offa, gwelwn wastraffu arian trethdalwyr gweithgar yn barhaus. Tra bod teuluoedd yn gweld eu trethi'n codi, gwelant filiynau'n cael ei wario ar blannu coed yn Uganda. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cyfrannu mwy na digon eisoes, ac fel arfer bydd y gyllideb hon yn taro Cymru'n waeth na neb. Eisoes, mae gennym y lefel uchaf o ddiweithdra mewn 10 mlynedd ar 5.7 y cant ac anweithgarwch economaidd ar bron 25 y cant, sef y lefel waethaf yn y DU. Mae perygl hefyd o leihau symiau canlyniadol Barnett a gwariant y pen Llywodraeth Cymru ar ddiwylliant a chwaraeon—[Torri ar draws.] Rwyf am orffen y pwynt hwn. Mae'r gwariant hwnnw eisoes ymhlith yr isaf yn Ewrop, a gallwn ddisgwyl i hynny waethygu. Mabon.

17:00

Roeddwn yn ddigon anffodus i wrando ar Nigel Farage yn siarad ar y teledu y noson o'r blaen ac roedd yn swnio'n union fel rydych chi'n swnio nawr, felly a ydych chi'n bwriadu ymuno â Reform?

Nid wyf yn gwybod o ble y cawsoch chi'r honiad hwnnw. Rwy'n siŵr pe baech chi'n gweld ymateb Kemi Badenoch i'r gyllideb, y byddech chi wedi clywed negeseuon tebyg i'r hyn rwy'n ei gyflwyno yn yr araith hon. Felly, ymdrech dda, ond anghywir.

Rydym hefyd yn mynd i mewn i gyllideb yr hydref hon gyda chostau benthyca ar eu huchaf ers cenhedlaeth, gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhybuddio bod y DU wedi colli hyder y farchnad am nad oes gan Lafur gynllun credadwy ar gyfer twf. Mae llog dyled yn unig yn agos at £110 biliwn y flwyddyn nesaf—arian a allai ac a ddylai fod yn mynd tuag at wasanaethau rheng flaen, nid ar gau tyllau yn sgil camreoli economaidd Llafur. Ac mae'r rhain yn dyllau a adawyd gan Lafur. Ar ôl y cyrch treth £40 biliwn y llynedd i gau'r twll du a adawyd gan y Llywodraeth flaenorol yn ôl y sôn, arian y dywedodd Reeves y byddai'n ddigwyddiad untro, mae hi bellach yn ymlafnio i lenwi twll ariannol hyd yn oed yn fwy o £30 biliwn. Nawr maent yn codi trethi ac yn gosod baich dyled ar ein plant a'n hwyrion sy'n mynd i orfod talu amdani.

Yn dilyn y llu o godiadau treth yn y gyllideb ddiwethaf, mae Rachel Reeves yn gorfod codi trethi eto gyda threth a elwir yn gamarweiniol yn dreth ar blastai, ar drothwy o £2 filiwn, a fyddai'n berthnasol i rai fflatiau, hyd yn oed, yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn dreth ar gartrefi hanesyddol ac adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol, gan ddangos unwaith eto y ffordd y mae Llafur yn mynd i ryfel yn erbyn ein treftadaeth, rhywbeth y mae ffermwyr yn gyfarwydd iawn ag ef. Ac mae bychandra Llywodraeth y DU a'i syched di-dor am arian hyd yn oed yn ymestyn i gynnwys ysgytlaeth—ymgais hurt i fachu mwy o dreth, dan gochl gwladwriaeth faldodus a phryder am iechyd y cyhoedd. Mae Rachel Reeves—

17:05

Gwych. Cam bach sydd angen ei gymryd yw'r dreth ar ysgytlaeth, oherwydd mae'r holl fwyd wedi'i brosesu'n helaeth sydd yn y rhan fwyaf o fwydydd y mae pobl yn eu bwyta yn dod o fwyd tecawê a phrydau parod. Heb hynny, mae'r GIG yn—[Anghlywadwy.]

Fy unig ymateb i hynny, Jenny, yw bod eich plaid yn cefnogi treth ar y fferm deuluol, a fydd, yn y tymor hir, yn ein gwneud yn fwy dibynnol ar fwydydd wedi'u prosesu, oherwydd bydd ffermydd yn cau. Mae'n mynd yn ôl i'r hen ddywediad, dim ffermwyr, dim bwyd, a byddwn yn dod yn fwy dibynnol ar farchnadoedd tramor, ac nid ydym am fod yn y sefyllfa honno. 

Lywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi nodi'r dewis arall a fydd yn rhoi hwb i dwf ac yn diogelu teuluoedd sy'n gweithio, cynllun i ddileu ardrethi busnes andwyol, torri treth incwm a diystyru unrhyw godiadau treth newydd. Mae pob plaid wleidyddol arall a gynrychiolir yn y Senedd hon yn galw am fwy o dreth a mwy o wariant, o fandaliaeth barhaus Llafur ar ein cyllid i gefnogaeth Reform i ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, i gynllun Plaid Cymru ar gyfer fersiwn o'r gyllideb dreth a gwariant hon ar steroidau, gwthiad hunanladdol tuag at annibyniaeth a threth gyfoeth y mae bron bob gwlad arall ar y ddaear wedi rhoi cynnig arni ac wedi ei dileu.

Lywydd, rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon i bleidleisio o blaid ein cynnig a chydnabod y niwed parhaus a wneir i'n cyllid cyhoeddus, ac adfer tegwch trwy dorri'r symiau enfawr o wastraff cyn gofyn i drethdalwyr dalu'r un geiniog yn fwy.

Unwaith eto, yn y gyllideb hon, mae'n teimlo fel pe bai Cymru yn ôl-ystyriaeth. Nid oes unrhyw enillion o'r biliynau sy'n ddyledus o gamddosbarthu cyllid HS2, dim symud ar ddatganoli Ystad y Goron, dim gweithredu ar drethu elw dros ben banciau mawr, dim ymrwymiad i fuddsoddi yn sector ynni'r llanw neu wynt ar y môr, lle dylai Cymru fod yn arwain, nid yn aros. Mae'r newyddion y bydd Northern Powerhouse Rail yn digwydd yn llawn yn creu risg o adael Cymru heb geiniog o arian canlyniadol, oni bai ei fod yn cael ei ddynodi'n bendant fel prosiect i Loegr yn unig. Unwaith eto, mae San Steffan yn codi'r gwastad yn Lloegr gan ddefnyddio arian pobl Cymru.

Fel llawer yma, rwy'n croesawu'r penderfyniad hirddisgwyliedig i ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Ond gadewch inni fod yn onest, mae wedi cymryd blwyddyn o oedi, ar ôl blynyddoedd o wadu'r dystiolaeth, a dim ond ar ôl pwysau parhaus gan lawer ohonom yn y Siambr. Os caiff ei ddileu o'r diwedd ym mis Ebrill, bydd yn fuddugoliaeth y gweithiwyd yn galed i'w sicrhau a hwyr yn y dydd i deuluoedd sydd wedi aros ac wedi dioddef am lawer gormod o amser. Ond nid yw dileu'r cap ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael â'r realiti ehangach. Mae Cymru'n parhau i wynebu rhai o'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y byd gorllewinol, ac mae llawer o aelwydydd yn parhau i fod o dan straen ariannol enfawr heb fawr o sicrwydd ar gyfer y misoedd i ddod.

Er bod cynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd, rhaid i mi godi'r pryder mwyaf dybryd i lawer o fy etholwyr, sef dyfodol ein ffermydd teuluol, a'r problemau parhaus a grëwyd gan yr hyn a elwir yn dreth ar ffermydd teuluol. Ddoe, yn Sioe Aeaf Frenhinol Cymru, siaradais â llawer o ffermwyr sy'n teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl yn llwyr. Maent yn poeni am eu dyfodol, eu teuluoedd a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt. Mae'r neges gan undebau, cyfrifwyr a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi yr un fath: ni all pobl gynllunio, ac ni allant fuddsoddi—maent yn sownd mewn limbo. Nid ystadau cefnog yw'r rhain ond ffermydd bach, incwm isel, aml-genhedlaeth yn fynych, lle mae tair neu bedair cenhedlaeth yn gweithio ochr yn ochr. Mae gwerthoedd tir wedi codi ar bapur, ond nid yw incwm wedi codi, a'r union anghysondeb hwnnw yw'r hyn sy'n creu risg i gymaint ohonynt.

Gwyddom fod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiamwys. Mae'n galw'n unfrydol am oedi nes bod asesiad penodol i Gymru wedi'i gwblhau. Mae hefyd yn cwestiynu model y Trysorlys ei hun. Heb wybodaeth fanwl am strwythurau perchnogaeth, cynlluniau olyniaeth a threfniadau rhoddion, mae'r pwyllgor yn rhybuddio bod yr amcangyfrifon yn brin o fanylion ac mewn perygl o fod yn gamarweiniol.

Rwyf wedi siarad â theuluoedd sydd wedi trefnu eu materion yn union fel y cawsant eu cynghori dros nifer o flynyddoedd. Mae ffermwyr oedrannus bellach yn wynebu datgymalu gwaith oes. Ni allant ailstrwythuro'r cynlluniau hynny nawr. Nhw yw'r rhai a fydd yn cael eu taro galetaf ac yn gyntaf, ac nid yw'r effeithiau'n dod i ben wrth giât y fferm. Pan fydd ffermwyr yn gohirio buddsoddi, mae'r economi wledig gyfan yn ei deimlo. Mae hyn yn digwydd tra bod y diwydiant eisoes yn ymrafael â gostyngiad yn niferoedd da byw, costau cynyddol a chytundebau masnach sy'n agor y drws ar fwy o fewnforion o Awstralia a Seland Newydd. Mae yna ddewisiadau amgen ymarferol, teg a fyddai'n cau bylchau a gaiff eu hecsbloetio gan gorfforaethau mawr, rhyngwladol heb achosi'r niwed hwn i'r Gymru wledig. Eto, mae Rhif 10 yn gwrthod oedi hyd yn oed ac edrych ar y dystiolaeth: dim asesiad newydd, dim parodrwydd i ystyried.

Yn olaf, yn ein cyllideb heddiw, nid oedd unrhyw sôn am y berthynas â'n partner agosaf yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd. Mae Brexit yn costio hyd at £90 biliwn y flwyddyn i'r DU mewn refeniw treth a gollir. Gallwn adennill dyfodol mwy disglair trwy fod o ddifrif am berthynas agosach ag Ewrop, a fyddai o fudd sylweddol i ni yma yng Nghymru. Mae'r gyllideb yn gofyn i bobl ledled Cymru gario beichiau na wnaethant eu creu: teuluoedd sy'n cael trafferth i wresogi eu cartrefi, gweithwyr sy'n wynebu costau cynyddol a ffermwyr sy'n ansicr a allant gadw'r busnesau sydd wedi cynnal eu cymunedau ers cenedlaethau. Rydym yn haeddu gwell na Llywodraeth Lafur sy'n troi cefn pan fo pobl yn gofyn am help. Rydym yn haeddu polisïau sydd wedi'u gwreiddio mewn tystiolaeth, tegwch a pharch sylfaenol. Mae pobl Cymru yn gwneud eu gorau glas i ddal i fynd. Mae ganddynt hawl i Lywodraeth sy'n barod i wneud yr un peth. Diolch.

17:10

Fel y mae llawer wedi dweud eisoes, ni allaf gofio cyfnod yn arwain at gyllideb a fu mor anhrefnus a phryderus i gymaint o deuluoedd a busnesau. Ond nid yw hyn yn syndod mewn gwirionedd, o ystyried nad oedd y Llywodraeth hon yn barod o gwbl. Mae'n amlwg i bawb mai Llywodraeth mewn argyfwng yw hon, Llywodraeth y mae dyddiau ei harweinydd yn amlwg wedi'u rhifo, gyda chydweithwyr uchelgeisiol yn ciwio i'w ddisodli a chyllideb wedi'i llunio'n unswydd i brynu mwy o amser iddo.

Y llynedd addawodd y Canghellor na fyddai'n dod yn ôl am fwy o drethi. Cafodd ei ailadrodd dro ar ôl tro. Ond dim ond un arall o'i haddewidion toredig yw hwnnw. Mae'n anhygoel o ddadlennol fod y Canghellor wedi cyhoeddi briff bore i geisio sefydlu'r sylfaen ar gyfer codiadau treth incwm ddim ond i wneud tro pedol ar ôl wynebu beirniadaeth gan ei phlaid ei hun; mae hynny'n dangos y gwendid yn y Llywodraeth hon. Er fy mod yn falch nad yw'r dreth incwm yn codi, mae'n amlwg fod yr ansicrwydd y mae Llywodraeth y DU wedi'i achosi wedi dychryn y farchnad i'r fath raddau fel bod cost benthyca'r Llywodraeth wedi cyrraedd y lefel uchaf ers 1998. Nawr, yn amlwg, nid yw Llywodraeth y DU yn ddigon cryf i wireddu'r newidiadau angenrheidiol sydd angen iddi eu gwneud i dyfu'r economi a thorri gwariant cyhoeddus. Yn hytrach, caiff ei gorfodi i barhau i drethu a gwario, i gadw ei meinciau cefn ei hun mewn trefn. Gwelsom hynny'n gynharach eleni gydag ymgais Llafur i edrych ar wariant lles a'u tro pedol ar daliadau tanwydd y gaeaf, a gafodd ei anelu'n greulon at ein pensiynwyr. Mae hyn yn dangos y lefel eithriadol o analluogrwydd o fewn y Llywodraeth Lafur.

Heb eu diwallu gan £40 biliwn mewn codiadau treth yng nghyllideb y flwyddyn honno, mae polisïau trethu a gwario Llafur wedi golygu bod yn rhaid i'r Canghellor ddod o hyd i £30 biliwn ychwanegol bellach. Nawr, bydd y Canghellor yn parhau i geisio beio pawb ond polisïau ei phlaid, ond y gwir syml yw nad oes neb ar ôl i'w feio. Ac ni chaiff pobl eu twyllo gan y cyfeiriadau cyson at y Llywodraeth ddiwethaf. Rwyf am fod yn glir na fydd y gyllideb hon yn gwneud fawr ddim i wella bywydau'r mwyafrif o bobl yng Nghymru. Mae teuluoedd Cymru'n wynebu llu o drethi llechwraidd, tra bod ein ffermwyr yn dal i wynebu'r dreth ofnadwy ar y fferm deuluol a'n busnesau wedi eu taro gan y cynnydd i yswiriant gwladol nad yw wedi gwneud dim byd ond niwed i'n heconomi. Mae Llywodraeth y DU wedi dangos yn glir iawn nad oes ganddynt unrhyw empathi â'n cymunedau gwledig na'n cymunedau ffermio. Mae'n rhyfeddol fod Llafur bellach yn dod am bensiynau a chynilion pobl trwy drethu aberthu cyflog a thorri trothwyon ISA arian parod. Mae'r Llywodraeth hon yn amlwg yn gwneud ei gorau glas i wasgu pob ceiniog y gall ei chael gan deuluoedd gweithgar.

Gadewch inni edrych ar gyflwr presennol yr economi: mae diweithdra yng Nghymru yn 5.7 y cant—y gyfradd ddiweithdra uchaf yn y DU, gyda'r anweithgarwch economaidd uchaf. Yr hyn y dylai'r gyllideb hon fod wedi'i wneud yw cyhoeddi toriadau i bobl Cymru, nid codiadau trethi—er enghraifft, dilyn ein harweiniad ni a galw am ddiddymu'r dreth stamp a chael ein marchnad dai i symud, neu wrthdroi'r polisïau sy'n mygu'r economi a gyhoeddwyd y llynedd. Y ffaith syml amdani yw nad yw pobl Cymru'n gallu fforddio mwy o drethi, ac mae ein busnesau angen hyder a buddsoddiadau a fydd yn talu iddynt, ac maent angen gwybod bod y Llywodraeth yn eu cefnogi.

Felly, Lywydd, mae pobl Cymru—. Mae'n amlwg iawn nad yw Llywodraeth y DU yn gallu gosod y sylfaen ar gyfer twf economaidd y mae'r wlad hon ei hangen mor daer ar hyn o bryd, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig.

17:15

Wel, Gordon Brown oedd pensaer cyni. Torrodd y rheol economaidd sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau leihau gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros pan fydd economi'n tyfu er mwyn cynyddu gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros pan fydd economi'n arafu. Fe wnaeth anwybyddu'r Gronfa Ariannol Ryngwladol  pan wnaethant rybuddio y dylai roi'r gorau i gynyddu gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros yn gyflymach na chyfradd dwf yr economi, a bod system fancio'r DU yn fwy agored i ddyled eilaidd nag unrhyw le arall yn y byd, gan adael y DU yn arbennig o agored i gwymp ariannol byd-eang 2008. Erbyn 2010, diffyg cyllidol y DU oedd y gwaethaf yn y G20 fel cyfran o gynnyrch domestig gros, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Os oes gennych ddiffyg mawr, mae'r benthycwyr yn berchen arnoch chi ac yn gosod y telerau, a byddent wedi gosod mwy o doriadau pe bai'r DU wedi parhau i gynyddu diffyg, a dyled felly, fel a ddigwyddodd yn Iwerddon a Gwlad Groeg, ac fel a ddigwyddodd yn 1976, pan orfodwyd Canghellor Llafur i fynd â'i gap yn ei law at y Gronfa Ariannol Ryngwladol i ofyn iddynt achub ei groen, gan arwain at doriadau sylweddol mewn gwariant. Rwy'n ei gofio'n dda.

Cyn ei ddatganiad cyllideb olaf ym mis Mawrth 2010, dywedodd y Canghellor Llafur ar y pryd, Alistair Darling, fod cyni eisoes wedi cyrraedd. Roedd ei ddatganiad cyllideb y DU ym mis Mawrth 2010 a ddilynodd yn cydnabod bod graddau'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, gyda Mr Darling yn cyfaddef y byddai toriadau arfaethedig Llafur i wariant cyhoeddus yn 'ddyfnach ac yn anoddach' nag yn yr 1980au. Y canlyniad oedd y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth newydd y DU yn 2010. Er i'r diffyg gael ei glirio bron iawn mewn degawd, fe wnaeth y siociau ariannol dilynol a achoswyd gan y pandemig byd-eang a'r argyfwng costau byw byd-eang gynhyrchu benthyciadau amcangyfrifedig o dros £400 biliwn. Er hynny, yn 2024, gadawodd Llywodraeth ymadawol y DU lefelau diffyg o ddim ond 40 y cant fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros o'r hyn a etifeddwyd yn 2010 gan Lywodraeth Geidwadol y DU, a chwyddiant ar gyfradd darged Banc Lloegr o 2 y cant.

Ac yna daeth 'Rachel from accounts', y 'grim Reever', y mae ei phenderfyniadau cyllidebol yn parhau i fod yn brif rwystr i dwf economaidd a'r prif gyfrannwr domestig i gynnydd mewn costau byw, gan waethygu chwyddiant, gyda chostau benthyca'n cyrraedd y lefel uchaf ers 27 mlynedd. Yr haf hwn, nododd economegwyr blaenllaw, gan gynnwys un cyn-bennaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a chyn-aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr, y risg o ailadrodd argyfwng 1976. Er bod Rachel Reeves wedi addo mynd ymhellach ac yn gyflymach heddiw i roi hwb i'r economi, mae'r ffigurau swyddogol terfynol cyn y gyllideb yn dangos twf economaidd arafach na'r disgwyl, ar ddim ond 0.1 y cant rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Yn y cyfamser, cyrhaeddodd lefel fenthyca'r Llywodraeth £17.4 biliwn ym mis Hydref, yn uwch na'r disgwyl, gyda'r ddyled bellach bron yn 100 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae benthyca ar gyfer y flwyddyn ariannol hyd yma wedi cyrraedd £116.8 biliwn erbyn hyn, bron i £10 biliwn yn fwy na rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth. Ac mae prisiau'n dal i godi'n gyflymach na'r disgwyl, gyda chwyddiant ar 3.6 y cant, ymhell uwchlaw targed Banc Lloegr o 2 y cant. Mae dadansoddwyr, gan gynnwys Banc Lloegr, wedi dweud bod codiadau treth Llafur y llynedd wedi llesteirio twf a chyflogaeth, gan ychwanegu at bwysau chwyddiant a tharo derbyniadau treth. Dyna pam ein bod yn wynebu diffyg o £20 biliwn. Bydd ei chyhoeddiadau treth a gwariant heddiw yn gwaethygu hyn, gyda thwf cynnyrch domestig gros a ragwelir yn is na'r disgwyl a'r baich treth i gyrraedd lefel uwch nag erioed, ar 38 y cant o gynnyrch domestig gros.

Fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni heddiw, bydd ei thoriad i'r rhwymedigaeth cwmnïau ynni yn lleihau cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, gan daro aelwydydd incwm isel, busnesau lleol, swyddi a chadwyni cyflenwi. Mae diweithdra yn y DU wedi codi bob mis ers i Lafur ysgwyddo cyfrifoldeb am yr economi, gan godi dros 40 y cant yng Nghymru, sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf o holl wledydd y DU a'r cyflogau isaf ym Mhrydain, dros £4,000 y flwyddyn yn is na chyfartaledd y DU.

Mae Llafur wedi etifeddu economi sy'n ymadfer, ond mae eu dewisiadau trychinebus wedi cloi'r DU mewn cylch dinistriol o wariant uwch, mwy o fenthyca a threthi uwch, gan adael ein heconomi'n wannach, busnesau a chrewyr cyfoeth yn gadael y DU, a'r marchnadoedd ar fin y gyllell. Mae Canghellor y DU, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru, yn dilyn ei rhagflaenwyr Llafur drwy osod y sylfaen ar gyfer cyni yn y dyfodol pan fydd Llywodraeth gyfrifol yn y DU yn gwneud y penderfyniadau anodd a bennir gan realiti economaidd, neu pan fydd Llywodraeth anghyfrifol yn y DU yn cael ei gorfodi i wneud hynny pan gaiff toriadau eu gosod arnynt.

17:20

Cyn i mi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet, gan fy mod yn eich adnabod fel rwyf i, Mark Isherwood, rwy'n siŵr nad oeddech chi'n golygu i'r cyfeiriad at Ganghellor y Trysorlys gael ei ddehongli mewn unrhyw ffordd fel sylw rhywiaethol, ond byddai rhai ohonom wedi ei gymryd felly, o bosib. Felly, a gaf i ofyn i chi gyfeirio at y Canghellor—unrhyw Ganghellor y Trysorlys—wrth ei henw llawn, fel y'i hetholwyd i Dŷ'r Cyffredin?

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr dros gyllid i gyfrannu.

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn yr amser sydd gennyf, fe geisiaf ymateb i rai o'r prif bwyntiau a wnaed yn y ddadl, a nodi ymateb y Llywodraeth wedyn i'r gyllideb heddiw.

Wel, agorodd Sam Rowlands y ddadl gan ailadrodd ei gwynion mwyaf ers cyllideb y llynedd. Mewn gwirionedd, ymddengys bod nifer o Aelodau wedi penderfynu y byddai'n well ganddynt siarad am gyllideb y llynedd na chyllideb eleni—cyllideb, meddai Sam Rowlands, a wnaeth y sefyllfa'n waeth, nid yn well. Ond yn y gyllideb heddiw, diwygiodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolwg twf ar gyfer economi y flwyddyn nesaf tuag i fyny. Cadarnhaodd Banc Lloegr ei ragolwg y bydd chwyddiant yn parhau i ostwng. Ac mae'r gyllideb yn gostwng costau benthyca i'r genedl gyfan.

Dywedodd Sam fod gan y Ceidwadwyr gynllun credadwy. Ond fel erioed, roedd yn anodd credu bod ei galon ynddi mewn gwirionedd, oherwydd mae'n gwybod, pan fo'n dweud y byddai'r Blaid Geidwadol yn gostwng trethi, yr hyn y mae pobl yn ei gofio, o dan Lywodraeth Geidwadol, yw bod trethi wedi codi i lefel uwch nag ers 70 mlynedd. Pan fo'n dweud bod chwyddiant yn 2 y cant yn y chwarter olaf—y chwarter olaf wedi 14 mlynedd—yr hyn y mae pobl yn ei gofio yw bod chwyddiant yn 11 y cant am flwyddyn. A phan fo'n dweud y byddai Llywodraeth Geidwadol yn dod â sefydlogrwydd i'r economi, yr hyn y mae pobl yn ei gofio yw chwe wythnos o Lywodraeth Liz Truss. Mae'r syniad fod pobl y tu allan i'r Siambr hon yn credu bod gan y Blaid Geidwadol gynllun credadwy yn mynd yn groes i bopeth a arweiniodd at ganlyniad yr etholiad ym mis Gorffennaf y llynedd.

Ac ar y cynllun credadwy hwnnw, beth a ddysgasom y prynhawn yma, Lywydd? Wel, fe wnaethom ddysgu nad oes rhaid i chi dyrchu'n bell iawn i ddarganfod bod y blaid gas yn fyw ac yn iach yma yng Nghymru. Dim ond gwrando ar gyfraniad 'chwiban y ci' Gareth Davies oedd yn rhaid i chi ei wneud i wybod hynny. Beth oedd syniad Sam Rowlands ar gyfer creu sefydlogrwydd economaidd? Dod â gwariant lles dan reolaeth. Wel, rwy'n gwybod beth y mae hynny'n ei olygu, ac mae pobl Cymru'n gwybod hefyd. Mae'n golygu mynd ag arian oddi wrth y bobl sydd â leiaf er mwyn chwyddo incwm y rhai sydd â fwyaf eisoes. Dyna beth sydd wrth wraidd ymosodiad y blaid Dorïaidd heddiw ar y cynllun, sydd i'w groesawu'n fawr iawn, yn araith cyllideb y Canghellor i gael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau.

17:25

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi wedi bod yn siarad ers tri munud a hanner, a'r cyfan rydych chi wedi'i wneud yw beio'r Ceidwadwyr am gyllideb eich plaid heddiw. Oni fyddai'n ddoeth defnyddio'r amser sydd gennych i ymateb i'r ddadl gan ddweud beth yw eich asesiad o'r gyllideb hon, a'ch asesiad o'r hyn y mae hynny'n ei olygu i bobl Cymru? Oni fyddai hynny'n well defnydd o amser y Senedd, yn hytrach na beio Llywodraeth nad yw mewn grym mwyach?

Lywydd, mae'n debyg fy mod wedi penderfynu peidio â dweud hyn, ond pan wrandewais ar fwydro hanesyddol Mark Isherwood a'i ymosodiad ar Gordon Brown, cefais fy atgoffa o'r hyn a ddywedodd Denis Healey am ymosodiad arno gan Geoffrey Howe—ei fod fel cael ei daro gan ddafad farw. Rwy'n cael fy atgoffa o hynny eto yn ymyriad Gareth Davies. Rwy'n ymateb i ddadl y Blaid Geidwadol, Lywydd. Rwy'n credu bod gennyf hawl i dynnu sylw at rai o'r gwendidau yng nghyfraniadau'r Aelodau Ceidwadol yma y prynhawn yma.

Dechreuodd Heledd Fychan drwy ailadrodd chwedl sydd wedi dod yn rhan o ganon Plaid Cymru, sef bod Cymru, rywsut yn waeth ei byd o dan Lafur nag a oeddem o dan y Torïaid. Y gwir amdani yw bod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi £5 biliwn yn fwy i Gymru nag y byddem wedi'i gael o dan y cynlluniau a adawyd gan Jeremy Hunt. Yna aeth ymlaen i ganolbwyntio ar yr hyn nad yw'r gyllideb yn ei ddweud, yn hytrach na'r hyn y mae'n ei ddweud. Nid wyf yn synnu. I Blaid Cymru, bydd y gwydr bob amser yn hanner gwag, yn rhannol oherwydd eu hanian ac yn sicr o fwriad gwleidyddol.

Mewn cyferbyniad, gadewch imi ddangos beth sydd yn y gyllideb heddiw: £0.5 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer y Senedd hon dros gyfnod yr adolygiad o wariant; buddsoddiad yn y clwstwr lled-ddargludyddion yn ne Cymru; mwy o arian ar gyfer Port Talbot; parth twf deallusrwydd artiffisial, nid yn unig yng ngogledd Cymru nawr, ond yn ne Cymru hefyd.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod ganddi restr o ofynion ar gyfer y Prif Weinidog. Nid oedd am ddweud beth oedd ar y rhestr. A allwch chi gadarnhau pa un a yw'r rhestr honno wedi'i gwireddu, a beth oedd ar y rhestr?

Wel, gallaf yn sicr gadarnhau i chi fod parthau deallusrwydd artiffisial yng ngogledd Cymru a de Cymru yn bendant ar restr y Prif Weinidog. Mae hi wedi ei gwneud yn genhadaeth dros y misoedd diwethaf i bwysleisio'r cyfleoedd sy'n dod i Gymru drwy ddeallusrwydd artiffisial, ac erbyn hyn mae gennym barthau ar gyfer y gogledd a'r de er mwyn sicrhau bod y datblygiad diffiniol hwnnw—. Mae'n ddatblygiad sy'n diffinio dyfodol ein heconomi. Rwy'n synnu'n fawr nad yw Plaid Cymru eisiau croesawu'r ffaith y bydd miloedd o swyddi yng Nghymru yn ein paratoi ar gyfer y dyfodol hwnnw, gan wneud yn siŵr ein bod yn y lle gorau posib i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a all ddod i Gymru nawr.

Fe ddywedaf rywbeth arall a oedd ar restr y Prif Weinidog, sef y dylem weld newidiadau yn hyblygrwydd cyllidol Cymru. Ers bron i ddegawd, rydym wedi bod yn gyfyngedig i'r ffigurau a negodwyd yn 2016. Am y tro cyntaf yn y degawd hwnnw, mae gennym bellach gynnydd i'n terfynau benthyca cyfalaf blynyddol, blwyddyn arall o fynediad dirwystr i gronfa wrth gefn Cymru, ac yn bwysicaf oll efallai, ymrwymiad i uwchraddio bob blwyddyn, yn unol â chwyddiant, y ffigurau sy'n rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i reoli ein materion ein hunain.

Gadewch imi ddweud rhywbeth, Lywydd, am y penderfyniadau pwysig iawn a gyhoeddodd y Canghellor heddiw a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau cymaint o deuluoedd yma yng Nghymru: y 160,000 o weithwyr a fydd yn elwa o'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog cenedlaethol; y ffaith y bydd gostyngiad o £150 i aelwydydd ledled y wlad yn eu costau ynni yn y flwyddyn i ddod; y ffaith y bydd pensiynwyr yma yng Nghymru yn gweld eu hincwm yn cynyddu £575 y flwyddyn o ganlyniad i'r gyllideb heddiw; ac yn bennaf oll, i'r rhai ohonom a ddaeth i fyd gwleidyddiaeth er mwyn sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd, y ffaith y bydd 70,000 o blant yng Nghymru yn elwa o ddiddymu terfyn dau blentyn. Rydym wedi cael degawd o dan gyni pan oedd tlodi plant—[Torri ar draws.]

17:30

Diolch yn fawr am dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rydych chi'n tynnu sylw at rai o'r pethau a ddaeth yn y gyllideb heddiw, ond roeddwn yn siomedig iawn na welsom dro pedol ar y dreth ar y fferm deuluol, er bod eich Llywodraeth eich hun a rhai o Aelodau eich meinciau cefn eich hun wedi beirniadu'r dreth ar y fferm deuluol. Gwn fod Mabon ap Gwynfor wedi gofyn i chi am y rhestr. Felly, hoffwn wybod hyn: a oedd tro pedol ar y dreth ar y fferm deuluol ar y rhestr honno, ac a yw'r Llywodraeth yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gwrthdroi'r polisi hwn?

Wel, nodwyd safbwynt Llywodraeth Cymru ar ffermydd teuluol mewn llythyrau gan fy nghyd-Aelod y Dirprwy Brif Weinidog ym mis Mehefin a mis Medi eleni. Nid yw'r ffaith nad oedd y gyllideb yn dweud unrhyw beth am dreth etifeddiant ffermydd teuluol yn golygu nad yw'r sgyrsiau hynny wedi'u cynnal ac nad ydynt yn parhau.

Yr hyn y bydd y gyllideb yn ei olygu yw y bydd y plant a welodd eu dyfodol yn mynd yn fwy llwm o flwyddyn i flwyddyn o dan Lywodraeth Geidwadol bellach yn gweld eu dyfodol yn gwella o dan Lywodraeth Lafur. Bydd lefelau tlodi plant, ar ôl cynyddu'n ddiwrthdro, bellach yn gostwng yma yng Nghymru. Dywedodd Sam Rowlands fod y penderfyniadau cenedlaethol yn y gyllideb yn bwysig iawn i Gymru. Wel, rwy'n cytuno ag ef ynglŷn â hynny, a bydd y pensiynwyr yn cytuno hefyd, a'r cartrefi gyda'u biliau'n lleihau, ac felly hefyd y plant sy'n gweld eu dyfodol yn gwella. Dyna mae'r gyllideb hon yn ei gyflawni, a dyna pam y mae'r gyllideb hon yn gyllideb dda i Gymru.

Diolch, Lywydd. Byddai'n ddoniol iawn pe na bai wedi bod mor drasig. Y sesiynau briffio ar y gyllideb ymlaen llaw, un tro pedol ar ôl y llall, ac amcanestyniad gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cael i ryddhau 45 munud cyn i Ganghellor y Trysorlys gael cyfle i sefyll wrth y blwch dogfennau hyd yn oed. Fel y dywedais, byddai'n ddoniol iawn pe na bai mor drasig. Mae'n drychineb.

'Rydym ar yr ochr anghywir i bob ystadegyn, dadl, polisi a barn y cyhoedd'.

Nid fy ngeiriau i, ond geiriau un o uwch-ffigurau'r blaid Lafur. Mae 43 o godiadau treth gwahanol yn y gyllideb hon, sy'n cyfateb i £26 biliwn. Dyma'r baich treth mwyaf mewn cenhedlaeth. A chlywsom am brisiau trydan gan Jenny Rathbone, a'r addewid gan Ed Miliband cyn yr etholiad o arbediad o £300. Biliau sydd £200 yn ddrytach, a'r newidiadau o gyllideb heddiw yn arbed oddeutu £70. Felly, o'r hyn rwy'n ei gyfrif, mae biliau ynni'n dal i fod £130 yn ddrytach o dan Lywodraeth Lafur.

Ac o ran y dreth ar ffermydd teuluol, nid wyf am wrando ar unrhyw bregethau na chael fy nhrin yn nawddoglyd oherwydd y pryder, y galar a'r braw a deimlir gan gymunedau gwledig ynghylch effaith y dreth ar ffermydd teuluol. Ac er y gallai'r sgyrsiau hynny fod wedi digwydd ac y gallent fod yn dal i ddigwydd, syrthiodd y sgyrsiau hynny ar glustiau byddar heddiw, gan na welodd ffermwyr unrhyw ohirio i'r polisi creulon a didrugaredd hwn.

Roedd methiant i gyflawni ar gyfer pobl Cymru ar y papur trefn heddiw, ac rwy'n falch fod Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi hynny, oherwydd yn sicr, mae hyn yn fethiant i gyflawni ar ran pobl Cymru. Pam? Am fod y baich treth hwnnw wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Pam? Am fod gofyn i'r busnesau bach a chanolig sydd o dan bwysau wneud mwy a mwy. Rydym yn gweld y trothwyon treth incwm yn cael eu rhewi, sy'n golygu y bydd mwy o weithwyr yn gorfod talu cyfraddau treth uwch. Rhagolygon twf yn cael eu hisraddio. Rydym wedi gweld y bil lles yn cynyddu i £11 biliwn. Gwelsom gynnydd i gyfraddau milltiredd cerbydau trydan, a ganmolwyd fel achubiaeth, yn codi. Rydym wedi gweld y difidend eiddo a threth ar gynilion yn codi 2 y cant. Rydym wedi gweld trethi hapchwarae yn codi. Rydym wedi gweld gordal treth gyngor ar 2 filiwn o gartrefi.

A'r hyn sy'n ddiddorol am y polisi hwnnw—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad ar gyfer y pwynt hwn. Fe wnaf mewn eiliad. Ond yr hyn sy'n ddiddorol am y polisi hwnnw yw nad yw'n ddim mwy na gwleidyddiaeth cenfigen, gan y bydd y polisi hwnnw'n codi llai o arian mewn trethiant nag y bydd ei angen i'w weinyddu. Nid yw hynny'n ddim mwy na gwleidyddiaeth cenfigen, cyflwyno polisi a fydd yn codi llai o arian nag y bydd yn ei gostio i'w weithredu. Pa mor economaidd anllythrennog yw'r Llywodraeth hon?

17:35

Rwy'n synnu eich bod yn ymosod ar y dreth hapchwarae. Buaswn wedi meddwl y byddai pob un ohonom yn croesawu hynny. Yng nghyd-destun y ffaith bod y GIG wedi gweld cynnydd o 130 y cant mewn atgyfeiriadau ers mis Ionawr ar gyfer pobl sy'n gaeth i gamblo, problem sydd bellach yn effeithio ar un o bob pedwar o Brydeinwyr, pam y byddem yn sefyll o'r neilltu ac yn caniatáu i'r cwmnïau hyn wneud eu helw o drallod pobl eraill?

Trethiant, trethiant, trethiant yw'r ateb i bob cwestiwn pan ofynnwch i Aelod Llafur. Mwy o dreth, gwasgu pob ceiniog sydd ganddynt allan o bobl, gan mai'r wladwriaeth sy'n gwybod orau sut i wario. Fel Ceidwadwyr, rydym o'r farn mai'r unigolyn sy'n gwybod orau sut i wario eu harian. Fod punt yn y boced yn werth mwy na phunt yn y Trysorlys. Yr unigolion a ddylai benderfynu.

Lywydd, rwyf am gloi gyda hyn. Dechreuais gyda dyfyniad, ac rwyf am gloi gyda dyfyniad: 'Nid ydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar yr economi.' Nid oeddwn yn sylweddoli bod Lee Waters yn siarad ar ran pob Llywodraeth Lafur. Diolch, Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rydyn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais, felly. Ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6: dadl ar ddeiseb ar 'Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru'. A dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig yn enw Carolyn Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, pump yn ymatal, 20 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl ar ddeiseb P-06-1456: Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru.: O blaid: 24, Yn erbyn: 20, Ymatal: 5

Derbyniwyd y cynnig

Y cynnig olaf ar gyfer pleidlais yw'r cynnig o dan eitem 8: dadl y Ceidwadwyr ar gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, yn erbyn 24. Mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllideb Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Hau hadau: Taith Cymru tuag at system fwyd gynaliadwy

Felly, yr eitem nesaf o fusnes yw'r ddadl fer. Peter Fox sydd â'r ddadl fer heddiw. Croeso i chi gyflwyno eich dadl. Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Fy thema ar gyfer y ddadl fer heddiw yw 'Hau hadau: Taith Cymru tuag at system fwyd gynaliadwy.' Ac rwy'n hapus i roi munud o fy amser i Sam Kurtz, James Evans, Jenny Rathbone a Sam Rowlands, os bydd amser yn caniatáu.

Ledled Cymru, mae bwyd yn llawer mwy na'r hyn a roddwn ar ein platiau. Dyma sylfaen ein hiechyd, ein heconomi, ein diwylliant a'n ffordd wledig o fyw. Ac eto, mae'r ffordd rydym yn cynllunio, yn cynhyrchu, yn gwerthfawrogi ac yn cael mynediad at fwyd yn dameidiog iawn ar hyn o bryd. Rydym yn wynebu afiechyd cynyddol sy'n gysylltiedig â deietau, pwysau ar deuluoedd ffermio a galw cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae gennym asedau naturiol rhyfeddol, cynhyrchwyr angerddol, a balchder cymunedol dwfn yn y tir sy'n ein bwydo. Mae fy nadl yn ymwneud â sut rydym yn dod â'r cryfderau hynny ynghyd, sut rydym yn creu system fwyd wirioneddol gyfannol a chydlynol yng Nghymru sy'n gweithio i'n ffermwyr, ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol. Yr her wedyn yw mynd i'r afael â'r cysylltiad sy'n gwanhau rhwng cynhyrchiant, iechyd a chadernid economaidd.

17:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r darlun sy'n gwaethygu o ran iechyd: mae lefelau gordewdra yn parhau i gynyddu ac rydym yn gweld bod diabetes math 2 yn cynyddu ymhlith oedolion, ac yn syfrdanol, ymhlith pobl ifanc hefyd. Mae salwch sy'n gysylltiedig â deietau bellach yn un o'r pethau sy'n cyfrannu fwyaf at bwysau ar ein GIG. Ni allwn barhau i drin y canlyniadau heb ail-siapio'r system sy'n eu hachosi.

Ar yr un pryd, mae asgwrn cefn y system honno, sef ein ffermydd teuluol, o dan straen aruthrol. Mae busnesau fferm yn wynebu ansicrwydd ynghylch fframweithiau cymorth yn y dyfodol, costau mewnbynnau cynyddol, newidiadau mawr o ran disgwyliadau rheoli tir, a bellach, pryder dwfn ynghylch newidiadau posib i dreth etifeddiant amaethyddol.

I lawer o ffermwyr Cymru, yn enwedig ffermydd teuluol llai, nid ffawdelw yw rhyddhad treth etifeddiant; dyma'r unig fecanwaith sy'n caniatáu i asedau tir, stoc a busnes basio o un genhedlaeth i'r llall heb sbarduno argyfwng sy'n gorfodi gwerthiannau neu ddarnio. Os ydym yn caniatáu i deuluoedd ffermio golli hyder yn eu dyfodol, rydym mewn perygl o ddiberfeddu'r economi wledig, colli capasiti cynhyrchu bwyd domestig a gwanhau'r union gymunedau sy'n diogelu ein tirweddau. Felly, yn fy marn i, rhaid i system fwyd Gymreig gynaliadwy ddechrau gydag amaethyddiaeth Gymreig gynaliadwy, sy'n dibynnu ar ffermwyr cynaliadwy.

Gŵyr pob un ohonom nad gweithgaredd economaidd yn unig yw ffermio. Mae'n sail i'n diwylliant, ein treftadaeth, ein stiwardiaeth amgylcheddol a'n hunaniaeth gymunedol. Felly, rhaid i system fwyd gynaliadwy gynnal strwythur fferm deuluol cryf a hyfyw ledled Cymru, ond rhaid iddi gydnabod pwysigrwydd strategol cynhyrchiant bwyd domestig. Dylai wobrwyo arferion cynaliadwy o safon uchel heb greu beichiau na ellir eu rheoli a sicrhau bod olyniaeth rhwng y cenedlaethau yn bosib ac yn cael ei hannog.

Mae angen eglurder a sefydlogrwydd ar y diwydiant ffermio. Ni ellir disgwyl i gefn gwlad Cymru ddarparu diogeledd bwyd, adferiad amgylcheddol a gwerth cymdeithasol ehangach os yw hyfywedd y busnesau sy'n gyfrifol am gyflawni'r pethau hyn bob amser yn ansicr. Rhaid i'r gwaith o ddiwygio system fwyd Cymru roi amaethyddiaeth yn y canol, ac nid fel ôl-ystyriaeth i flaenoriaethau iechyd y cyhoedd neu flaenoriaethau cymunedol, ond fel y sylfaen hanfodol sy'n eu galluogi.

Mae strategaeth bwyd cymunedol y Llywodraeth yn cynnwys elfennau cadarnhaol: ei chymorth i dyfu cymunedol, caffael lleol gwell, partneriaethau bwyd a mynediad gwell at fwyd maethlon. Mae'r mentrau hyn yn bwysig. Gallant helpu i gryfhau gwydnwch a sicrhau bod dinasyddion yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r system fwyd. Ond ni all gweithredu cymunedol gymryd lle arweinyddiaeth genedlaethol strategol. Heb ddull system gyfan, un sy'n cysylltu amaethyddiaeth, iechyd, yr amgylchedd, diogelu'r cyhoedd, cynllunio, addysg a pholisi economaidd, byddwn yn parhau i fynd i'r afael â'r symptomau yn hytrach na mynd i'r afael â gwraidd y broblem.

Rwy'n credu'n wirioneddol fod angen fframwaith bwyd integredig cenedlaethol ar Gymru. Mae Cymru'n barod am gyfeiriad hirdymor cliriach. Mae arnom angen fframwaith integredig, pwrpasol ar gyfer bwyd sy'n gosod amcanion cenedlaethol ar gyfer cynhyrchiant, maeth, gwerth economaidd a chyfrifoldeb amgylcheddol, rhywbeth sy'n alinio polisi ar draws adrannau'r Llywodraeth, yn osgoi targedau sy'n gwrthdaro i ffermwyr ac sy'n cysylltu nodau iechyd deietegol â strategaeth ffermio, fel bod ysbytai, ysgolion a lleoliadau gofal yn cefnogi cynhyrchwyr Cymru. Mae angen iddo gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, gan gadw gwerth yng Nghymru; ysgogi camau gweithredu cydlynol ar ordewdra a diabetes, nid drwy raglenni ynysig, ond drwy ail-siapio'r amgylchedd sy'n gwneud dewisiadau afiach yn ddewisiadau diofyn; a bod yn fframwaith sy'n diogelu dyfodol ffermio Cymru, gan gynnwys sicrhau y ceir cynllunio olyniaeth a diogelwch ffermydd teuluol.

I mi, mae hyn yn ymwneud â mwy na chanoli neu fiwrocratiaeth yn unig. Mae'n ymwneud â chydlyniaeth, atebolrwydd a meddwl yn hirdymor. Mae gwledydd eraill—yr Alban, Seland Newydd, rhannau o Sgandinafia—eisoes wedi cydnabod bod polisi bwyd yn effeithio ar bob cornel o gymdeithas a bod yn rhaid iddo fod yn gydgysylltiedig. Felly, mae angen system fwyd arnom sy'n gweithio i gymunedau ac sy'n gweithio i gynhyrchwyr hefyd. Mae angen inni weld Cymru lle mae awdurdodau lleol yn caffael mwy o fwyd gan ffermydd a phroseswyr lleol; lle mae ysgolion yn addysgu llythrennedd bwyd, gydag ymgysylltiad gweithredol â thyfwyr lleol; lle mae tyfu cymunedol yn ategu, nid yn cymryd lle, amaethyddiaeth fasnachol; lle mae busnesau gwledig yn derbyn cymorth sefydlog a rhagweladwy ar gyfer cynhyrchu cynaliadwy; a lle mae ffermwyr yn gweld dyfodol hyfyw i'w plant gymryd awenau'r busnes teuluol. Mae angen system arnom lle mae bwyd iach, fforddiadwy yn dod ar gael i bob cymuned, a lle mae iechyd y cyhoedd yn gwella am fod y system yn cefnogi dewisiadau iachach. Hyn oll tra bo'r amgylchedd naturiol yn cael ei adfer drwy arferion rheoli tir cydnaws, ymarferol a realistig.

Bydd rhai, fel y gwelsom gyda fy Mil bwyd, yn dweud, 'Delfrydiaeth yw hyn, Peter', ond nid wyf yn cytuno. Yr hyn rwyf wedi'i ddisgrifio yw sut y dylai system gydlynol edrych. Gallem gyflawni hyn yng Nghymru. Mae gennym rwydweithiau cryf o ffermwyr, busnesau bwyd, academyddion, sefydliadau amgylcheddol ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus, yn ogystal â grwpiau cymunedol. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym yn gyson, fodd bynnag, yw bod arnynt angen aliniad, gweledigaeth hirdymor, ac ymrwymiad cenedlaethol clir i fwyd fel blaenoriaeth strategol. Byddai system fwyd wirioneddol gynaliadwy yn cryfhau ein heconomi wledig, yn gwella ein hiechyd cenedlaethol, yn cynyddu ein diogeledd bwyd, yn diogelu ein tirweddau, yn lleihau'r pwysau ar y GIG, yn meithrin gwydnwch cymunedol, ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Ddirprwy Lywydd, nid yw Cymru’n haeddu dim llai.

I gloi, credaf ei bod yn bryd inni godi ein huchelgais fel Senedd. Gallwn gefnogi gweithredu cymunedol, gan gryfhau amaethyddiaeth hefyd. Gallwn hyrwyddo iechyd y cyhoedd wrth ddiogelu bywoliaeth pobl mewn ardaloedd gwledig, a gallwn anrhydeddu ein treftadaeth a chroesawu arloesedd ar yr un pryd. Ond i wneud hynny, mae angen dull cydlynol, cenedlaethol ac integredig arnom, un sy'n cydnabod bwyd fel sylfaen ein heconomi, ein lles, a'n ffyniant yn y dyfodol. Diolch.

17:45

Diolch i Peter Fox am roi munud o'i amser i mi. Gwnaeth y teitl, 'Hau hadau: Taith Cymru tuag at system fwyd gynaliadwy', imi feddwl am y diffiniad o 'gynaliadwyedd', gan fod 'cynaliadwyedd' yn golygu cynaliadwyedd ein cymunedau gwledig, mae'n golygu y gallant oroesi, mae'n golygu cynaliadwyedd ein diwylliant, mae'n golygu cynaliadwyedd ein hiaith, a chynaliadwyedd y ffabrig sy'n sail i gefn gwlad Cymru, sef amaethyddiaeth.

Ar ôl cyllideb heddiw, a chyda chymaint o gythrwfl yn y sector ar hyn o bryd, rwy'n poeni am ddyfodol y sector. Rydym wedi gweld straeon trasig am ffermwyr yn gwrthod triniaeth ar gyfer canser yn y gobaith na fyddant yn rhoi baich y dreth ar ffermydd teuluol ar eu teuluoedd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n greulon. Mae hynny'n annioddefol i mi, y byddai plaid yn cyflwyno polisi a fyddai'n achosi cymaint o boen i'r boblogaeth y mae i fod i'w chynrychioli. Mae hynny'n cael ei rannu ymhlith y sector cyfan, a rhai ar y tu allan i'r sector hefyd sy'n ymwybodol o effaith hyn.

Hoffwn orffen drwy ganmol Peter am ei waith diflino ers cael ei ethol i'r lle hwn ar ofalu am gynhyrchiant bwyd. Ar ei Fil bwyd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, 'Mae hwn yn Fil Llywodraeth'. Nawr ei fod yn y Llywodraeth, efallai y byddai'n dda ganddo pe byddai wedi'i gyflwyno, ond ni wnaeth, Peter. Byddwch yn ei ddal at hynny, rwy'n siŵr. Ond dylai'r Bil a gyflwynodd Peter fod yn sail i bolisi yn y dyfodol ar sut rydym yn sicrhau bod system fwyd Cymru yn gynaliadwy.

Diolch yn fawr, Peter, am gyflwyno'r ddadl hon heno. Un peth sy'n bwysig i mi yw cynaliadwyedd ein system fwyd yma yng Nghymru, a sicrhau bod gennym niferoedd cynaliadwy o dda byw yn mynd drwy ein lladd-dai. Yr hyn a welwn—rwy'n siŵr ei fod yn ffres ym meddwl y Dirprwy Brif Weinidog, gan y gwn fod Hybu Cig Cymru wedi codi hyn gydag ef pan oedd yn y ffair aeaf—yw bod niferoedd y da byw sy'n mynd drwy ein marchnadoedd yn gostwng. Mae màs critigol cig oen a chig eidion yn lleihau.

Mae rhai o'r lladd-dai, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y wlad, yn cwtogi eu gweithgarwch o bum niwrnod i bedwar diwrnod am na allant gael y màs critigol o niferoedd da byw drwy'r lladd-dai. Os ydym am gael system fwyd wirioneddol gynaliadwy yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, lle nad ydym yn dibynnu'n helaeth ar fewnforion, mae angen inni sicrhau bod gennym y niferoedd hynny o dda byw yn dod drwy ein lladd-dai i sicrhau bod swyddi'n cael eu darparu nid yn unig yn y sector hwnnw, ond yn y sector amaethyddol hefyd.

Hoffwn glywed gan y Dirprwy Brif Weinidog, gan ei fod wedi cael amser i ddod at ei hun ar ôl y ffair aeaf a meddwl mwy am fàs critigol, sut y mae'n mynd i fynd i'r afael â hyn a sut y mae Llywodraeth Cymru’n mynd i fynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.

17:50

Diolch yn fawr, Peter, am eich ffocws diflino ar y pwnc pwysig hwn. Yn absenoldeb unrhyw gamau o ddifrif gan Lywodraeth y DU i ddefnyddio mesurau cyllidol i reoli diwydiant bwyd mawr, un o'r pethau y gallwn eu gwneud yn y wlad hon yw gwella cyfraddau bwydo ar y fron. Byddai hynny'n mynd i'r afael ar unwaith â chyfraddau gordewdra ymhlith plant, sy'n wirioneddol warthus. Byddai hefyd yn arwain at fanteision hirdymor i lesiant pobl ac yn atal mamau sydd o dan bwysau rhag gorfod talu hyd at £16 y tun am fformiwla babanod, pan oeddent eisiau bwydo ar y fron mewn gwirionedd. Mae'n dreth wirioneddol syfrdanol ar famolaeth.

Rydym yn buddsoddi £93 miliwn y flwyddyn ar brydau ysgol am ddim i ysgolion cynradd, ac mae angen inni gyflymu cynhyrchiant llysiau a ffrwythau Cymreig i gyfrannu at yr economi sylfaenol a chyfoethogi maeth ein disgyblion, yn hytrach na bod bwyd yn cael ei baratoi gan ddefnyddio bagiau o fwyd wedi'i brosesu, wedi'i wneud dyn a ŵyr ymhle.

Diolch am y ddadl fer hon heddiw, Peter. Roeddwn eisiau cyfrannu o le ychydig yn wahanol. Caf y fraint o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn y lle hwn ac rydym—. Esgusodwch fi, rwy'n credu fy mod wedi llyncu rhywbeth rhyfedd. Esgusodwch fi. Yn ein cyfarfod diwethaf—. Mae'n swnio fel pe bawn yn emosiynol, ond nid hynny ydyw. Mae angen dŵr arnaf, ond mae fy ngwydr yn gwbl wag. Yn ein cyfarfod diwethaf, cawsom gyfraniad gan Trussell, sef yr elusen banciau bwyd—[Torri ar draws.] O mawredd. A gaf i ddechrau eto, Ddirprwy Lywydd?

Caredig iawn—diolch yn fawr. Caf y fraint o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn y lle hwn, ac yn ein cyfarfod diwethaf, cawsom gyflwyniad gan Trussell. Maent yn amlwg yn gweld ar y pen gwaethaf lle nad yw'r strategaeth fwyd yn gweithio'n iawn, gan fod gormod o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar fanciau bwyd i gael y bwyd sydd ei angen arnynt o ddydd i ddydd. Cefais fy nharo gan y ffaith bod 99 y cant o'r banciau bwyd y mae Trussell yn eu darparu yng Nghymru yn digwydd drwy eglwysi, ac maent yn gwneud gwaith rhagorol, wythnos ar ôl wythnos, yn cefnogi pobl yn ein cymunedau, ond nid yw hynny'n gynaliadwy. A phob clod i Trussell, eu prif uchelgais yw rhoi diwedd ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru. Maent eisiau gwneud eu hunain yn ddiangen am eu bod yn cydnabod nad yw banciau bwyd yn gynaliadwy. Tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet a'r Dirprwy Brif Weinidog gydnabod, yn gyntaf oll, y gwaith da sy'n mynd rhagddo mewn grwpiau ffydd fel eglwysi ar leddfu newyn yn ein cymunedau, a chydnabod uchelgais pobl fel Trussell i roi diwedd ar yr angen am fanciau bwyd a gweld bod cysylltiad rhwng ein strategaeth fwyd a'r hyn sydd wedi dod yn bla yn ein cymuned, sef yr angen am y banciau bwyd hynny.

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:53:17
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i ddadl Peter. Mae wedi siarad yn aml yn y Siambr ar y mater hwn o blaid system fwyd gynaliadwy, ac mae'n rhaid imi ddweud bod llawer i gytuno ag ef yn ei gyfraniad—fel bob amser, mae'n rhaid imi ddweud. Nodaf fod ei gyfraniad yn ymwneud â ffermio, ond roedd yn llawer ehangach na ffermio, rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr hefyd. Rydym newydd glywed cyfraniadau ar ddeiet a maeth ac ar fanciau bwyd a rhoi diwedd ar dlodi bwyd a sicrhau nad yw dosbarthiad y bwyd sydd gennym yn cael ei wastraffu ond ei fod yn bwydo pobl hefyd. Rwy'n croesawu hyn yn fawr. Mae llawer rwy'n cytuno ag ef. Gallaf roi sicrwydd iddo fy mod i a fy nghyd-Aelodau a fy swyddogion ar yr un dudalen. Yn wir, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at gynaliadwyedd mewn perthynas â thyfu a phrosesu a bwyta bwyd yng Nghymru. Bydd fy ymateb o'r un anian, gan gwmpasu ystod eang o feysydd, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol iddo.

Mae 'hau hadau' system fwyd gynaliadwy—teitl y ddadl hon heno—yn fwy na throsiad; mae'n alwad i weithredu, yn wir. Mae pob penderfyniad a wnawn heddiw ynglŷn â sut rydym yn ffermio, ond hefyd sut rydym yn bwyta, sut rydym yn prosesu, sut rydym yn cludo bwyd a sut rydym yn paratoi ar gyfer heriau yfory, yn effeithio ar ein presennol a'n dyfodol. Mae system fwyd gynaliadwy'n cydbwyso llawer o elfennau, fel y clywsom heddiw: diogelu'r amgylchedd â hyfywedd economaidd, diogeledd bwyd â gweithredu ar yr hinsawdd, cydnerthedd lleol â masnach fyd-eang, bywoliaeth deg â maeth fforddiadwy, gwybodaeth draddodiadol ag arloesedd, a chydnabod bod cysylltiad dwfn rhwng bob elfen. O'r fferm i'r fforc, rydym eisoes yn adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy a mwy gwydn, ac rydym yn dechrau gweld canlyniadau cyntaf y camau gweithredu hynny. Mae ein gweledigaeth strategol o 2021 ar gyfer y diwydiant bwyd a diod a fforwm bwyd Llywodraeth Cymru, sy'n sail i 'Bwyd o Bwys: Cymru', yn dwyn y polisïau hynny ynghyd, maent yn llywio ein polisïau, ac yn sicrhau bod popeth yn teithio i'r un cyfeiriad. Rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi ein bod wedi dechrau'n gryf iawn.

Gadewch imi dynnu sylw at rai o'r prif gamau gweithredu sydd wedi deillio o hynny a'r mentrau a sut y maent yn cyfrannu ar y cyd at gyfeiriad y daith hon. Ar lefel y fferm, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn trawsnewid y ffordd rydym yn cefnogi amaethyddiaeth, gan y bydd yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd o ansawdd da iawn, fel y gwnânt, gan adfer natur a mynd i'r afael â newid hinsawdd ar yr un pryd. Mae'n cydnabod, wrth ei wraidd, mai priddoedd iach, dŵr glân a bioamrywiaeth yw sylfeini ein cynhyrchiant bwyd rhagorol. Cymerwch, er enghraifft, yr ychwanegiad diweddaraf at ein cymorth cryf i'r sector ffermio, pan gyhoeddais £3 miliwn o gyllid dangosol ar gyfer ffermio organig yn y ffair aeaf ar faes Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon. Mae'n cefnogi systemau sy'n gweithio gyda natur, yn cryfhau ecosystemau ac yn sicrhau gwydnwch y cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau i ddod.

O ran garddwriaeth, rhywbeth y mae'r Aelodau yma'n siarad amdano'n rheolaidd, rydym wedi buddsoddi i gryfhau'r sector allweddol hwn. Rydym wedi darparu grantiau cyfalaf i gynhyrchwyr masnachol presennol fuddsoddi mewn offer a thechnoleg newydd sy'n gwella effeithlonrwydd cynhyrchu ac ansawdd cynnyrch. Mae'r cynllun grantiau bach ar gyfer dechrau busnesau garddwriaeth yn annog newydd-ddyfodiaid i'r sector, gan helpu i sefydlu mentrau newydd ac i arallgyfeirio incwm ffermydd. Rwyf wedi gweld hyn fy hun. Gan fanteisio ar arbenigedd Prifysgol Aberystwyth, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer garddwriaeth sy'n gwrthsefyll newidiadau hinsawdd drwy amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir a ffermio fertigol, ac rydym yn datblygu cynnig buddsoddi cryf o amgylch tir, ynni ac arloesedd. Dyma ble mae angen inni fod.

Ar gyfer cymunedau a gwydnwch lleol, mae potensial gwirioneddol gan y strategaeth bwyd cymunedol, a grybwyllwyd gennych chi, Peter. Mae'n cysylltu ein system fwyd drwy gysylltu cynhyrchwyr, busnesau a mentrau cymunedol. Mae £2 filiwn wedi'i ymrwymo ar gyfer 2025-26 ac mae adnoddau wedi'u sicrhau hyd at 2028. Mae partneriaethau bwyd lleol bellach yn cwmpasu pob awdurdod lleol yng Nghymru, gan fynd i'r afael â thlodi bwyd a hybu twf gwyrdd ar yr un pryd. Ein huchelgais yw rhoi hwb i wariant y sector cyhoeddus ar fwyd Cymru 50 y cant erbyn 2030. Dyma'r uchelgais sydd gennym, ac mae'n cael ei lywio, rhaid imi ddweud, gan gefnogaeth Aelodau'r Senedd fel chi, sy'n dweud bod angen inni wneud mwy yn y maes hwn.

Er mwyn cefnogi bwyta'n iach, mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn ceisio gwella deietau, lleihau gordewdra a gwneud bwyd maethlon yn fwy hygyrch, yn enwedig yn y cymunedau sy'n profi'r anghydraddoldebau iechyd hynny. Rydym yn ariannu rhaglenni sy'n hyrwyddo pethau fel sgiliau coginio, llythrennedd bwyd ac opsiynau iach fforddiadwy, a hynny oll er mwyn cael mynediad at fwyd iach o ffynonellau lleol. Mae'r cyfan yn cydblethu.

Gadewch imi droi at rywbeth yr ydym yn aml yn ei anwybyddu, sef y sector bwyd dyfrol. Rydym yn helpu cymunedau arfordirol i foderneiddio eu gweithrediadau, i fabwysiadu eu harferion eu hunain sy'n gwrthsefyll newidiadau hinsawdd ac i wella cynaliadwyedd a'r gallu i olrhain bwyd môr Cymru. Mae bwyd môr Cymru yn fwyd môr da. Mae'r cymorth yn cynnwys cyllid ar gyfer dyframaeth arloesol, ar gyfer uwchraddio harbyrau, sy'n aml yn bwysig iawn hefyd, ond hefyd ar gyfer rhaglenni i wneud pysgod cregyn a physgod asgellog yn fwy gwydn hefyd. Fel y gwyddoch, rydym hefyd yn tyfu marchnadoedd domestig a rhyngwladol i gadw'r sector hwn yn economaidd hyfyw ac yn amgylcheddol gyfrifol. Sam, fe ildiaf.

17:55

Diolch am ildio, Ddirprwy Brif Weinidog. Dyna un o'r pwyntiau allweddol, ac rydych chi newydd sôn amdano, y farchnad ddomestig ar gyfer pysgod cregyn. Fel gwlad ar ynys, nid ydym yn bwyta digon o fwyd môr mewn gwirionedd. Felly, pa waith rydych chi'n ei wneud ar gyflwyno bwyd môr i gaffael cyhoeddus? A rhywbeth arall rydym yn ei wneud yn dda iawn ac sy'n iach iawn yw cig hela.

Mae'n bwynt pwysig iawn, gan fod gennym farchnad allforio fawr ar gyfer peth o'r bwyd môr a gynhyrchwn. Rwy'n dod o ogledd Gŵyr. Rwy'n dod o ardaloedd cocos, yn wreiddiol. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch hwnnw, neu lawer o'r cynnyrch, yn cael ei allforio, a thelir pris uchel amdano. Felly, sut rydym yn datblygu'r archwaeth leol yma yng Nghymru, a'r balchder yn ein bwyd lleol Cymreig, fel ein bod yn bwyta mwy yma hefyd ac yn fodlon talu pris teg amdano? Rwy'n bwyta cocos a bara lawr, gydag ychydig o gig moch. Mae'n frecwast penigamp, rhaid dweud. Ond mae angen inni ddatblygu hynny o fewn y farchnad ddomestig hefyd, ond yn sicr, mae llawer y gallwn ei wneud o ran hynny.

Ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, rydym wedi darparu cefnogaeth sylweddol, gan ganolbwyntio ar leihau carbon, gwydnwch hinsawdd, datblygu sgiliau a chydweithio, trwy fentrau anhygoel—mentrau blaenllaw, rhaid dweud—ledled y DU ac Ewrop, megis rhaglen HELIX a'r clwstwr cynaliadwyedd, ac mae'r rhain yn gwneud gwahaniaeth diriaethol i ysgogi llwyddiant ein sector bwyd, ac mae pob buddsoddiad a wnawn mewn ffermio cynaliadwy, mewn garddwriaeth, mewn prosesu bwyd ac mewn systemau bwyd cymunedol yn fuddsoddiad, i fod yn glir, mewn swyddi yng Nghymru, yng nghymunedau Cymru ac yn nyfodol Cymru. Ac rydym hyd yn oed yn edrych, Ddirprwy Lywydd, ar sut rydym yn cludo ein bwyd. Rydym yn gyrru'r newid sydd angen i ni ei wneud i drafnidiaeth gynaliadwy a lleihau dibyniaeth ar nwyddau allyriadau uchel. Felly, mae hyn yn cynnwys y cynllun masnachu allyriadau cerbydau, sy'n gwneud targedau di-allyriadau yn orfodol ar gyfer ceir a faniau, wedi'i ategu gan y rhaglen o'r enw Symud i Sero, sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio faniau a cherbydau nwyddau trwm. Rydym ar daith, ond rydym yn wirioneddol barod amdani, ac rydym wedi dechrau'n gryf, fel y soniais, ond mae angen inni wneud llawer mwy.

Rhaid inni gydnabod bod y byd o'n cwmpas yn fregus iawn ac mae'r system fwyd yng Nghymru yn rhan o ddarlun mawr. Mae cadwyni cyflenwi byd-eang dan straen gynyddol yn sgil gwrthdaro, ansefydlogrwydd economaidd, a chysylltiadau masnach sy'n newid. Rydym yn gweld hyn o ddydd i ddydd pan fyddwn yn gwylio'r newyddion. Mae digwyddiadau filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn cael effaith uniongyrchol ar brisiau bwyd ar silffoedd Cymru, cost bwyd anifeiliaid a mewnbynnau i ffermwyr Cymru, a chost cynhwysion ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd. Ac wrth gwrs, mae newid hinsawdd yn ychwanegu pwysau hefyd. Fel rydym yn ei ddweud yn aml, rydym yn gweld patrymau tywydd poethach, gwlypach a mwy anrhagweladwy. Mae llifogydd yn bygwth tir fferm a'n seilwaith. Mae sychder yn herio argaeledd dŵr. Mae plâu a chlefydau newydd yn dod i'r amlwg yn ddyddiol, mae'n ymddangos. Nid risgiau pell yw'r rhain; mae'r rhain yn bresennol nawr, yn risgiau a pheryglon real a chlir. Maent yn peri straen ychwanegol ar system fwyd sydd eisoes yn wynebu her anwadalrwydd byd-eang, ac mae ein system fwyd yma wedi'i chysylltu'n llwyr â'r system ledled y DU a'r systemau byd-eang rhyng-gysylltiedig iawn, lle bydd siociau mewn un rhanbarth yn crychdonni ledled y byd.

Felly, fel y dywedais, mae angen i ni wneud mwy—mwy i baratoi, mwy i gynyddu gwydnwch, mwy i addasu i effeithiau newid hinsawdd a newidiadau byd-eang sy'n cyflymu. Felly, gan adeiladu ar y gweithgareddau presennol a ddisgrifiais, yr hyn a wnawn yw cymryd y camau ychwanegol canlynol ar y daith hon, gan gofio bod hon yn daith hir a bod rhaid iddi fod yn daith barhaus yr awn arni, a bydd y cynnydd yn digwydd gam wrth gam, gyda phob blwyddyn yn adeiladu ar lwyddiant gweithredoedd blaenorol i'n symud yn ein blaenau. Felly, er mwyn cefnogi cynhyrchiant bwyd lleol ar bob lefel ac i leihau milltiroedd bwyd ac i annog y cyhoedd i ddewis bwyd a gynhyrchir yma yng Nghymru, byddwn yn lansio ymgyrch gyhoeddus o'r enw Gwreiddiwyd yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch hon, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth partneriaethau bwyd cymunedol a hefyd gyda Gweithredu ar Newid Hinsawdd, yn gyfle perffaith i fwrw ymlaen â'r ffordd y dathlwn ac y bwytwn ac yr ymfalchïwn mewn bwyd o Gymru yn y cymunedau lle rydym yn byw.

Er mwyn helpu'r gadwyn gyflenwi bwyd i addasu i heriau hinsawdd a geowleidyddiaeth, byddwn yn creu gwasanaeth gwybodaeth sy'n darparu adroddiadau chwarterol ar brisiau nwyddau, rhagolygon cynnyrch, tueddiadau ynni a rhybuddion cynnar o aflonyddwch byd-eang. Bydd hefyd yn mapio'r pwyntiau posib a allai greu tagfeydd, megis perygl llifogydd i borthladdoedd, llwybrau trafnidiaeth agored i niwed a safleoedd prosesu dan straen hinsawdd, fel y gall busnesau arallgyfeirio'r cadwyni cyflenwi ac adeiladu gwydnwch cyn i'r aflonyddwch ddigwydd.

Er mwyn mynd i'r afael â'r angen brys am ddefnydd dŵr mwy darbodus, mwy cynaliadwy ar draws y gadwyn gyflenwi, byddwn yn adeiladu ar gytundeb bwyd a diod y DU a gwaith ymchwil presennol ar stiwardiaeth dŵr i nodi atebion ymarferol y gellid eu cyflwyno ar raddfa fawr. Bydd hyn yn cynnwys archwilio technolegau newydd, effeithlonrwydd prosesau ac ymyriadau eraill i wella ein gwaith rheoli dŵr, lleihau defnydd a gwella gwydnwch, ac i gydnabod pwysigrwydd ffrwythau a llysiau a gynhyrchir yn lleol.

Rydym wedi gosod meini prawf cymhwysedd y cynllun ffermio cynaliadwy i naill ai gael 3 hectar o dir cymwys neu gwblhau dros 550 awr o lafur ar y fferm. Bydd hyn yn caniatáu i arddwriaethwyr masnachol llai gael mynediad i'r cynllun ac i dderbyn cyllid rheoli tir a chynhyrchu bwyd am y tro cyntaf, a byddwn yn gwneud hynny yn 2026.

Er mwyn lleihau gwastraff bwyd, rydym yn cymhwyso egwyddorion yr economi gylchol yn ymarferol. Felly, ein ffocws yw lleihau gwastraff ar draws y gadwyn gyflenwi—mae gennym ormod o wastraff yn digwydd—a sicrhau bod bwyd dros ben o ansawdd da yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Felly, byddwn yn ehangu gwaith FareShare ledled Cymru—gwaith FareShare, Sam, gydag Ymddiriedolaeth Trussell a llawer o rai eraill. Byddwn yn ehangu eu gwaith gan gynyddu ailddosbarthu bwyd, cefnogi cymunedau a lleihau effaith ar yr amgylchedd.

Er mwyn cefnogi datgarboneiddio ein system drafnidiaeth cyn diwedd tymor y Llywodraeth hon, byddwn yn cyhoeddi'r set o flaenoriaethau ar gyfer cludo nwyddau a logisteg, gan gynnwys porthladdoedd a morol, i baratoi ar gyfer y weinyddiaeth nesaf. Bydd y blaenoriaethau hyn yn canolbwyntio ar leihau allyriadau trwy wella cynlluniau logisteg, datrysiadau cyflenwi y filltir olaf a newid dulliau teithio i gynnwys rheilffyrdd a dulliau carbon isel. Bydd trawsnewid i system fwyd gynaliadwy yn ei gwneud yn ofynnol i ni barhau'n ystwyth ac yn ymatebol i ddigwyddiadau byd-eang, boed yn siociau geowleidyddol neu'n aflonyddwch wedi ei achosi gan yr hinsawdd.

Yn anad dim, mae hyn i gyd yn mynd i ddibynnu ar gydweithredu, ymdrech ar y cyd a chefnogaeth gydfuddiannol ar draws y Llywodraeth, ond hefyd ar draws y diwydiant ac ar draws cymunedau. Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn cryfhau gwydnwch, yn sbarduno arloesedd ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i arwain wrth adeiladu system fwyd gynaliadwy a ffyniannus—

18:05

Altaf Hussain a gododd—

Ni sonioch chi am fwydo ar y fron, sydd mor bwysig. Ysgrifennais hyn: mae'n helpu i atal clefydau mewn babanod a mamau, trwy ddarparu gwrthgyrff, ffactorau imiwnedd a maethynnau buddiol. Ar gyfer babanod, mae hyn yn cynnwys risg is o haint, clefydau anadlol, dolur rhydd a syndrom marwolaeth sydyn babanod. I famau, mae'n lleihau'r risg o ganser y fron a chanser yr ofarïau ac o bosib, clefydau'r galon a diabetes math 2. Rwy'n credu y dylid ei gynnwys, oherwydd mae'n feddyginiaeth ataliol. Mae'n atal y clefydau, mewn plant ac mewn mamau. Rwy'n credu y bydd hynny'n bwysig iawn. Nid oes angen unrhyw dechnoleg, nid oes angen unrhyw arian; dim ond addysgu'r cyhoedd fod bwydo ar y fron yn bwysig iawn sydd ei angen. Diolch.

Rwy'n falch iawn fy mod wedi derbyn yr ymyriad hwnnw, a diolch am hynny. Rydych chi'n siarad nid yn unig â phrofiad fel Aelod o'r Senedd, ond hefyd gyda'ch blynyddoedd hir o brofiad a'ch cefndir meddygol hefyd. Mae hynny'n dangos mai'r hyn sydd ei angen arnom yn y system fwyd yw'r cydgysylltiad ar draws hyn i gyd—nid un darn yma, un darn acw; mae angen iddo fod wedi ei gyfuno a'i ffocysu. Rwy'n gobeithio fy mod wedi pwysleisio—nid wyf wedi gallu cwmpasu popeth heddiw—sut y mae bwyd, ynghyd â'r agweddau ehangach ar fwyd, yn bwysig i ni yn ein bywydau bob dydd, yn ein heconomi, yn ein diwylliant hefyd, a'n teimlad o falchder mewn lle. Unwaith eto, diolch i Peter am arwain y ddadl, ac mae'n wych gweld Siambr y Senedd hon unwaith eto'n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a dull cydgysylltiedig o weithredu ar fwyd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:08.