Y Cyfarfod Llawn
Plenary
15/10/2025Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Shwmae, Senedd. Prynhawn da i chi. Mae'n Ddiwrnod Shwmae heddiw, felly shwmae i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg hefyd—eich cwestiynau chi sydd gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan. Shwmae, Julie Morgan.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sydd mewn ôl-ddyledion treth gyngor? OQ63258

Diolch i Julie Morgan, a shwmae i bob un, ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg? OQ63244
Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Llywydd, rydyn ni’n ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu llawer o gymorth amrywiol, ar wahanol lefelau, i ymarferwyr ysgol ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn rhad ac am ddim. Mae dros 2,000 o aelodau'r gweithlu wedi derbyn hyfforddiant drwy'r ganolfan dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Wel, shwmae, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2022 a 2023, hyfforddwyd 396 o athrawon sy'n siarad Cymraeg, ond, yn yr un flwyddyn, gadawodd 395 o athrawon y proffesiwn, sef cynnydd net o un yn unig mewn blwyddyn. Wrth gwrs, mae prinder athrawon sy'n hyderus i ddysgu trwy'r iaith yn rhywbeth sydd wedi dal addysg Gymraeg yn ôl, ac a all ddal Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn ôl hefyd, sef mesur y mae'r ddau ohonom ni wedi cydweithio'n agos arno. Yn wir, ychydig iawn mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf—0.6 y cant mewn ysgolion cynradd, ond cwymp o 0.7 y cant mewn ysgolion uwchradd. Felly, mae'n rhaid i rywbeth newid.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau o ran cyllid, cefnogaeth a thargedau sydd gan y Llywodraeth mewn lle, a fydd yn arwain at gynnydd ystyrlon yn sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg? A gall hyn, wrth gwrs, gynnwys yr athrawon hynny sydd eisioes â sgiliau Cymraeg cryf ond sydd angen mwy o hyder, a'r rhai hefyd sydd ag ychydig o Gymraeg ond sydd angen cefnogaeth i ddefnyddio'r iaith ar lawr y dosbarth.
Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd. Dwi'n cytuno ar y pwynt olaf roedd e'n ei wneud am bwysigrwydd y bobl sydd yn y gweithlu yn barod, a sut y gallwn ni wneud mwy i'w hybu nhw i ddatblygu sgiliau, cael mwy o hyder a chyfrannu at addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nawr, mae arian yn un peth—ac fe glywais i beth ddywedodd yr Aelod dros y penwythnos diwethaf—ond mae lot o'r pethau eraill, rŷn ni'n gwybod, yn bwysig i bobl sy'n gwneud dewisiadau am ba un a ydyn nhw eisiau trio hyfforddi fel athrawon neu wneud rhyw waith arall. Ac rŷn ni'n gwybod o ran hyfforddiant, a hyfforddiant sydd o ansawdd uchel, ond sydd ar gael mewn ffordd ble mae pobl yn gallu defnyddio'r cyfleon yna, fod hwnna'n bwysig hefyd. Dyna pam mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar hyn o bryd, yn cynnal nifer o raglenni wedi eu hanelu'n benodol at ddatblygu sgiliau iaith a hyder ein hathrawon.
Un enghraifft yw'r cwrs dwys pythefnos a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni ar gyfer darpar myfyrwyr PGCE. Fe gwblhaodd dros 40 o fyfyrwyr hyd at 60 awr o wersi Cymraeg, gyda chanlyniadau cadarnhaol o ran eu hyder a'u gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. A dyna jest un enghraifft o'r pethau sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd i dynnu mwy o bobl i mewn i'r gweithlu, ond hefyd, fel dywedodd Cefin Campbell, i ddatblygu sgiliau'r bobl sydd yn y gweithlu yn barod.
Diolch yn fawr, Llywydd, a shwmae i chi. A shwmae hefyd i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
A allaf i ofyn pa waith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i dynnu disgyblion sydd mewn prifysgolion yn Lloegr yn ôl i Gymru, i sicrhau eu bod nhw'n mynd i fod yn y gweithlu yma yng Nghymru? Efallai fydd yr iaith gyda nhw dros y ffin yn Lloegr, ond efallai y byddan nhw'n meddwl dysgu yn Lloegr neu lefydd eraill. Ond achos bod yr iaith gyda nhw, mae'n hollbwysig eu tynnu nhw yn ôl i mewn i Gymru, i mewn i'r gweithlu, i gryfhau'r niferoedd roedd Cefin Campbell yn sôn amdanyn nhw'n gynharach. So, pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud i dynnu'r disgyblion hynny yn ôl i mewn i Gymru?
Wel, diolch yn fawr, a shwmae, wrth gwrs, i Sam Kurtz. Fe ges i gyfle, rai wythnosau yn ôl nawr, i gael sgwrs gyda'r coleg cenedlaethol—nid y ganolfan dysgu genedlaethol, ond y coleg cenedlaethol. Mae mwy o bosibiliadau gyda nhw nawr. Maen nhw'n gallu ffeindio mas ble mae'r bobl yn nosbarth 6 yng Nghymru yn mynd i'r brifysgol—nid jest i Lundain, ond unrhyw le yn Lloegr—ac sydd wedi cael eu haddysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ac achos rydyn ni'n gallu gwneud pethau yn fwy hyblyg nawr ar y wefan, ac yn y blaen, maen nhw'n mynd i greu rhwydwaith o bobl sy'n siarad Cymraeg ond sydd yn rhywle lle does dim llawer o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg, achos eu bod nhw'n astudio'n Newcastle neu ble bynnag y maen nhw, a'u tynnu nhw gyda'i gilydd, jest i gael fwy o bosibiliadau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw, a chadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, a chreu rhwydwaith o bobl gyda'r diddordeb i wneud hynny.
Mae'r pwynt y mae Sam Kurtz yn ei wneud yn un pwysig, onid yw e? Rydyn ni eisiau pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd i ble bynnag y maen nhw eisiau astudio, ond i gadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, ac i ddefnyddio'r Gymraeg yna ar ôl astudio a dod nôl i Gymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Su'mae i bawb yma. Yn sicr, o edrych ar yr hyn rydych chi newydd fod yn ei drafod, dwi eisiau edrych ar undeb arall, sef yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd, wrth gwrs, mi gyhoeddwyd cronfa twf newydd i Gymru, sef yr ymgais ddiweddaraf gan San Steffan i ymateb i'r diffygion buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod yn sgil Brexit. Allwch chi gadarnhau a yw'r swm sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Cymru yn fwy neu'n llai na beth ddaeth drwy raglenni cyfatebol Llywodraeth flaenorol San Steffan?

Diolch am yr ymateb hwnnw. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn cofio, dwi'n siŵr, yr addewidion hynny oedd yn dweud na fyddai Cymru un geiniog yn dlotach o adael yr Undeb Ewropeaidd, a dwi'n meddwl bod yn dal angen i ddwyn pobl i gyfrif a oedd yn dweud hynny. Yn sicr, mae wedi creu bwlch mawr. Eich rhagflaenydd chi fel Ysgrifennydd dros gyllid wnaeth gyhoeddi'r asesiad a ddangosodd bod Cymru wedi colli'r £1.1 biliwn yna. Gan fod hwnnw'n dal yn gyfrifoldeb i chi, gaf i ofyn a oes asesiad mwy diweddar wedi ei wneud, ac a oes yna amcangyfrif o ran beth fydd maint y colledion erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn y gobaith y bydd hynny, wrth gwrs, wedi'i leihau?
Yr £1.1 biliwn ydy'r swm rŷm ni wedi ei gyfrifo sy'n dangos yr arian rŷm ni wedi ei golli mas arno drwy'r structural funds ar un ochr, a'r arian sy'n dod i mewn i Gymru wledig hefyd, ac mae hynny'n dal i fod yn wir. Rŷm ni wedi cael rhywfaint o'r arian yna nôl i ni yma, a'r her nesaf yw defnyddio'r arian newydd sydd gyda ni yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Diolch. Ac o ran, felly, edrych ar y gronfa twf newydd i Gymru, dwi'n siŵr bod chithau, fel finnau, yn croesawu bod yna lais i Gymru. Doedd hi ddim yn sefyllfa dda mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn cael penderfynu sut roedd hwnna'n cael ei wario. A ydych chi wedi cael y sicrwydd yna fel Llywodraeth ac fel Cabinet y byddwch chi yn gallu cael cyfrifoldeb llwyr dros y £0.5 biliwn yna, ac na fydd yn rhaid cael rhyw fath o ganiatâd gan San Steffan o ran gwario hwnnw—bydd gennych chi'r hyblygrwydd fel Llywodraeth i'w fuddsoddi fo?
Fydd ddim yn rhaid i ni gael caniatâd gan unrhyw le arall i ddefnyddio'r arian, ond rŷm ni yn mynd i gytuno ar fframwaith, fel roedd fframwaith gyda ni pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd. Pan oedd arian yn dod atom ni yr adeg yna, roedd fframwaith gyda ni, fframwaith roeddem ni wedi cytuno arni gyda'r Undeb Ewropeaidd ar y pynciau roeddem ni'n gallu eu hariannu. Wel, mae hynny'n eithaf teg, nawr, pan ŷm ni'n gwneud yr un peth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. O dan y fframwaith, bydd y penderfyniadau i gyd, ar sut i wario'r arian, sut rŷm ni'n mynd ati, y partneriaethau rŷm ni'n mynd i'w creu i'n helpu ni i wneud hynny—bydd popeth fel yna nôl fan hyn yn ein dwylo ni yng Nghymru.
3. Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau y bydd holl gynlluniau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu'n llawn erbyn diwedd y Senedd hon? OQ63253
Su'mae, pawb.
Shwmae.
Cwestiwn 4, Joyce Watson.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fentrau Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach? OQ63242
5. Sut y mae'r Llywodraeth yn annog y sector cyhoeddus i gaffael gan fusnesau Cymru? OQ63259
6. Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i gynyddu'r gefnogaeth ariannol i hosbisau wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27? OQ63247
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gasglu'r dreth trafodiadau tir? OQ63237
Cwestiwn 8, yn olaf. Heledd Fychan.
8. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod darpariaeth iaith Gymraeg yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn y system gofal iechyd? OQ63256
Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, fel y dywedais i yn gynharach, mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Mae hynny’n golygu pawb yn y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol am 'Mwy na geiriau', sy’n cydnabod pa mor bwysig yw iaith i sicrhau gofal iechyd sy’n deg, diogel ac sy'n canolbwyntio ar y person.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n cytuno efo chi o ran 'Mwy na geiriau', mae hwnna'n adroddiad pwysig dros ben, ond mae adroddiad y Gymdeithas Strôc ar brofiadau pobl sy'n siarad yn y Gymraeg gydag affasia yn tynnu sylw at rwystrau difrifol y mae goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg yn eu hwynebu wrth geisio cael therapi lleferydd ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn torri egwyddorion 'Mwy na geiriau', sef y fframwaith strategol. O ystyried y canfyddiadau hyn, pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd, gan gydweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i sicrhau mynediad teg at therapi lleferydd ac iaith yn y Gymraeg i oroeswyr strôc a phobl ag affasia ledled Cymru?
Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig yna. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau strôc hefyd yn grŵp blaenoriaeth yn 'Mwy na geiriau'. Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn cefnogi'r agenda hwn ac mae hyfforddiant dwyieithog yn cael ei gynnig. Mae prifysgolion Caerdydd a Wrecsam yn cynnig graddau mewn therapi iaith a lleferydd, ac mae bwrsariaeth ar gael gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fyfyrwyr sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau. Mae yna fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ym mhob blwyddyn, ac mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi comisiynu rhaglen therapi iechyd a lleferydd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam er mwyn cefnogi gwasanaethau therapi iaith a lleferydd ar draws Cymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n ateb y cwestiynau dan eitem 2, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.
1. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol ac ecolegol datblygu peilonau ledled Cymru? OQ63243

Diolch yn fawr.
Croeso.
2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar weithredu argymhellion adroddiad Llifogydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd yn Hydref 2024? OQ63236
Diolch, Heledd. Cyhoeddais yr ymateb ffurfiol i’r adroddiad ar 17 Ebrill 2025. Rydym wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid ynghylch camau gweithredu ac rydym yn asesu amserlenni cyflawni yn unol â’n hymateb. Byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn y gwanwyn, gan amlinellu hynt y gwaith ac amserlenni ymarferol ar gyfer cyflawni.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y grŵp gorchwyl a gorffen fydd yn ymateb i argymhellion yr adolygiad o'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol? OQ63261
Diolch, Llyr, eto. Mae sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen technegol yn tystio i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â’r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn gwella’r rheoliadau ar gyfer ffermwyr a chanlyniadau amgylcheddol. Bydd fy swyddogion yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb o ran dod yn aelod o fewn y dyddiau nesaf.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal llygredd amaethyddol rhag gwenwyno afonydd? OQ63240
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar drwyddedu rhyddhau adar hela? OQ63251
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermydd a ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru gydag arallgyfeirio? OQ63245
7. Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i gynorthwyo preswylwyr a allai wynebu llifogydd dro ar ôl tro y gaeaf hwn, yn enwedig y rhai sydd heb yswiriant neu mewn tai cymdeithasol? OQ63257
Mae cwestiwn 8 [OQ63249] wedi'i dynnu nôl. Yn olaf, felly, cwestiwn 9, Mike Hedges.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar lefelau llygredd aer yn Abertawe? OQ63235
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Dau gwestiwn heddiw a'r cyntaf ohonyn nhw i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ac i'w ofyn gan David Rees.
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Tata ynglŷn â dyfodol ei weithfeydd ledled Cymru ac effaith unrhyw gau dros dro ar weithwyr dur? TQ1386

Ac yn olaf, Sioned Williams.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Trefnydd ac i'w ofyn gan Janet Finch-Saunders.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y diffygion pellach a ganfuwyd ar Bont Menai? TQ1388

Diolch am y datganiad, ond mae arnaf i ofn bod yna nifer fawr o gwestiynau ynglŷn â phont y Borth yn dal heb gael eu hateb yn llawn. Dwi'n deall yn iawn efallai nad ydy'r wybodaeth lawn yna gennych chi ar hyn o bryd, ond buaswn i'n hoffi cael ateb llawn i gwestiynau. Y cwestiwn cyntaf: pam fod y problemau diweddaraf ddim wedi cael eu darganfod yn gynt? Dŷn ni'n dal ddim wedi cael ateb llawn ynglŷn â hynny. Sut fydd yr hyn sydd yn digwydd efo trwsio yr hyn sydd newydd gael ei ddarganfod yn effeithio ar y rhaglen waith ehangach— amserlen y rhaglen honno?
Mae'r digwyddiadau yma yn ein hatgoffa ni o ba mor fregus ydy'r isadeiledd trafnidiaeth ar draws y Fenai, ac mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn trin y mater yma efo'r difrifoldeb y mae o'n ei haeddu, nid yn unig drwy sicrhau bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol ar bont Borth yn cael ei ariannu'n briodol a'i gyflawni ar amser, ond hefyd drwy gyflwyno mesurau lliniaru tymor byr effeithiol ar bont Britannia.
Felly, o ran pont Britannia, beth ydy'r diweddaraf o ran cyflwyno system rheoli traffig dair lôn ar y bont honno? Beth ydy'r diweddaraf am gyflwyno lonydd contraflow ar bont Britannia? Beth ydy'r diweddaraf am gyflwyno mesurau penodol o gwmpas y cyffyrdd? A hefyd, beth ydy'r diweddaraf ynglŷn â chadw pont Britannia ar agor mewn cyfnodau gwyntog? Rŵan, mae'r rheini'n gwestiynau sydd wedi eu gofyn gan bobl leol a gen i fel eu cynrychiolydd nhw ers blynyddoedd, a dŷn ni'n dal ddim yn cael atebion.
Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi cael eglurder ynglŷn â pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gryfhau gwytnwch teithio ar draws y Fenai yn y tymor byr, gan sicrhau nad ydy trigolion Arfon ac Ynys Môn ddim yn cael eu gorfodi i ddioddef lefelau traffig a thagfeydd cwbl annerbyniol ar ddwy ochr y ddwy bont.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, a diolch yn fawr am eich cwestiynau heddiw ac wythnos diwethaf—
Diolch i'r Trefnydd am yr atebion hynny.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad heddiw—Sam Rowlands.
Y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i'r cynnig i sefydlu pwyllgor gael ei drafod sydd nesaf. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9019 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM9018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Hydref 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Dwi'n cynnig yn ffurfiol, Llywydd.
Y cynnig yw, felly, i atal Rheolau Sefydlog dros dro. Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n ein caniatáu ni i dderbyn y cynnig i sefydlu pwyllgor. Aelod o'r Pwyllgor Busnes eto sy'n cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.
Cynnig NNDM9018 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn sefydlu Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau i graffu ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Lesley Griffiths AS (Llafur Cymru), Buffy Williams AS (Llafur Cymru) Paul Davies AS (Ceidwadwyr Cymreig) a Sioned Williams AS (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, a David Rees AS (Dirprwy Lywydd) yn Gadeirydd y Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.
4. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6, yn atal dros dro ran gyntaf Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, ac yn cytuno mai dim ond wrth arfer pleidlais fwrw y caiff cadeirydd y Pwyllgor bleidleisio.
5. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn cytundeb gan y Senedd ar gynnig i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan, neu ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2 (pa un bynnag sydd gyntaf).
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn a'r pwyllgor wedi ei ffurfio.
Derbyniwyd y cynnigyn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 5 wedi ei ohirio.
Eitem 6 sydd nesaf, felly, y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25'. Cadeirydd y pwyllgor sy'n gwneud y cyfraniad cyntaf—y cynnig ar hyn. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM9009 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25', a osodwyd ar 9 Ebrill 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r ddadl yma yn canolbwyntio ar drydydd adroddiad blynyddol y pwyllgor ar Trafnidiaeth Cymru yn ystod tymor y Senedd yma. Mae'r edrych yn benodol ar y cyfnod 2024-25 ac yn tynnu ar ddau ddarn pwysig o waith gan y pwyllgor, sef ein hymweliad â depo a chanolfan reoli'r metro yn Ffynnon Taf ac wedyn sesiwn dystiolaeth y cynhalion ni gyda Trafnidiaeth Cymru yn gynharach eleni.
Mi wnaeth y ddau ddarn o waith yma roi darlun clir i Aelodau o ba mor fawr yw'r heriau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, â'r cynnydd y maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wrth geisio mynd ati i drawsnewid y rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn cynnwys 20 argymhelliad ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn pob un ohonyn nhw, naill ai yn llawn neu wedi eu derbyn nhw mewn egwyddor. Dwi am ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am fod mor agored ac mor adeiladol wrth gymryd rhan yn ein gwaith ni a hefyd am yr ymateb cynhwysfawr y cawson ni ganddyn nhw.
Dwi am droi nawr, felly, at brif themâu yr adroddiad. Yn gyntaf, llywodraethu a datblygiad corfforaethol. Mae'r pwyllgor wedi edrych ar y maes yma bob blwyddyn gan ei fod mor bwysig i'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio. Rŷn ni wastad wedi dweud bod yn rhaid i gorff hyd braich sy'n delio â thua £0.5 biliwn o arian cyhoeddus weithio mewn ffordd dryloyw a bod yn rhaid iddo gael ei oruchwylio mewn modd clir ac effeithiol. Fe glywon ni dystiolaeth bod y cysylltiadau rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gwella yn ystod cylch y gyllideb yn 2024-25. Mae'r broses nawr yn fwy effeithlon ac, am y tro cyntaf, fe gafodd cyllideb Trafnidiaeth Cymru ei chyhoeddi fel atodiad i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Roedd y pwyllgor yn croesawu hyn fel cam ymarferol ymlaen a fydd yn ein helpu ni i wneud gwaith craffu mwy amserol. Ond mi oedd yr Aelodau yn credu bod y camau yma i wella tryloywder dal ddim cweit yn ddigon da. Rŷn ni'n parhau i gredu mai'r nod hirdymor ddylai fod cyllideb gynhwysfawr sengl sy'n cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft y Llywodraeth. Mi fyddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn rhoi Trafnidiaeth Cymru ar yr un sail â chyrff cyhoeddus eraill ac yn golygu bod Aelodau a'r cyhoedd yn gallu gweld y darlun llawn o ran sut y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Hefyd, fe edrychon ni ar drefniadau llywodraethu mewnol Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig rôl y bwrdd perfformiad, sy'n dod ag uwch-swyddogion Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru at ei gilydd. Fe glywon ni fod y bwrdd wedi gwella'r cyswllt rhwng blaenoriaethau corfforaethol Trafnidiaeth Cymru ac amcanion gweinidogol, fod rhagolygon ariannol nawr yn fwy cywir, a bod penderfyniadau ariannu yn fwy disgybledig. Rŷn ni’n croesawu’r datblygiadau yma, yn naturiol, ond roedd yr Aelodau’n cytuno mai'r prawf go iawn o lywodraethu da yw a yw'r gwelliannau hyn yn arwain at well gwerth am arian a gwasanaethau mwy dibynadwy i deithwyr. A dyna, wrth gwrs, yw beth fydd y pwyllgor yn parhau i'w fonitro.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Yn olaf, o ran mesur perfformiad, mi ddwedodd Trafnidiaeth Cymru wrthym ni fod ei dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol yn cael eu hadolygu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau'n addas at y diben. Mae data chwarterol nawr yn cael eu cyhoeddi, gyda chymariaethau o un flwyddyn i'r llall. Unwaith eto, dyma ni gam i'r cyfeiriad cywir, ond, unwaith eto, rŷn ni'n dal i bryderu nad yw'r ffordd y mae'r data yn cael eu cyflwyno'n ei gwneud hi’n hawdd i'r cyhoedd nac i ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn wir, i weld a yw perfformiad yn gwella dros amser. Felly, rŷn ni wedi argymell bod Trafnidiaeth Cymru yn canolbwyntio ei dangosyddion perfformiad allweddol ar y canlyniadau mwyaf pwysig i deithwyr, a bod pob adroddiad yn cynnwys naratif clir sy'n dangos a yw perfformiad yn gwella.
Nawr, fe wnaf i droi nawr at y gweithlu. Mae'r pwyllgor wedi pwysleisio'n gyson y dylai Trafnidiaeth Cymru fel cyflogwr cenedlaethol mawr arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo amrywiaeth a chyfle cyfartal. Yn 2024-25, roedd yna gamau calonogol ymlaen. Penododd Trafnidiaeth Cymru ei chyfarwyddwr gweithredol benywaidd cyntaf, gan daro cydbwysedd rhywedd hanner a hanner mewn carfan o yrwyr am y tro cyntaf hefyd. Dyma gerrig milltir pwysig mewn diwydiant sydd wedi cael ei ddominyddu'n draddodiadol, wrth gwrs, gan ddynion. Fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru bod digwyddiadau recriwtio wedi'u targedu, cyfleoedd mentora, a phartneriaethau ag ysgolion a grwpiau cymunedol i gyd yn cyfrannu at y newid graddol yma. Roedd yr Aelodau yn croesawu'r llwyddiannau yma, ond roedden ni hefyd yn cytuno y bydd angen parhau i wneud ymdrech i ymgorffori'r newid diwylliannol. Mae recriwtio mwy o fenywod i rolau gweithredol fel gyrru a pheirianneg yn hanfodol, nid yn unig i wella cynrychiolaeth, ond i helpu i gau'r bwlch cyflog hefyd rhwng y rhywiau.
O ran amrywiaeth yn fwy eang, roedd y pwyllgor yn falch o glywed am bartneriaethau Trafnidiaeth Cymru â sefydliadau fel Oasis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chyngor Mwslimiaid Cymru, sy'n helpu eto i hyrwyddo cyfleoedd ymysg grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r gwaith yma ac yn annog Trafnidiaeth Cymru i'w ehangu y tu hwnt i Gaerdydd ac i ranbarthau eraill. Mae gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn hanfodol i wella ymddiriedaeth ac i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cwrdd ag anghenion pob defnyddiwr.
Thema bwysig arall yng ngwaith y pwyllgor eleni oedd gwasanaethau bysiau. Fel pwyllgor, rŷn ni'n pryderu bod niferoedd teithwyr yng Nghymru wedi cynyddu'n arafach ers y pandemig nag y mae wedi gwneud yn Lloegr neu'r Alban. Bysiau, wrth gwrs, yw asgwrn cefn trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, ac, os nad oes digon o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau yma, yna mae hi’n anoddach i’w cynnal nhw, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd mwy gwledig. Fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wrthym ni mai proffil demograffig hŷn Cymru allai fod y tu ôl i'r adferiad arafach, yn ogystal â ffactorau strwythurol fel aneddiadau gwasgaredig ac effaith y pandemig, wrth gwrs, ar gynlluniau teithio rhatach. Ond ym marn y pwyllgor, nid yw'r rhesymau yma wedi'u deall yn llawn eto, felly fe wnaethon ni argymell y dylai Trafnidiaeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil i edrych ar y rhwystrau ac i ddylunio mesurau wedi'u targedu cyn cyflwyno masnachfraint bysiau, er enghraifft. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn hyn, ac rŷn ni'n disgwyl i'r dystiolaeth honno gael ei chyhoeddi i helpu i liwio penderfyniadau cyn i'r gwasanaethau masnachfraint cyntaf ddechrau yn y de-orllewin yn 2027.
O ran tocynnau, roedd y pwyllgor yn croesawu'r cynnydd tuag at integreiddio. Mae prisiau teithio wedi'u seilio ar bellter nawr yn eu lle ar y rhwydwaith TrawsCymru, mae'r tocyn 1bws yn parhau'n llwyddiannus yng ngogledd Cymru, ac mae'r dechnoleg tapio i mewn ac allan, neu tap on, tap off, wrthi'n cael ei threialu wrth gwrs, a dyma gamau pwysig tuag at y weledigaeth o un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn. Ond, ar adeg yr adroddiad, doedd dal ddim ffordd o gyfuno'r cynllun teithio rhatach â'r cynllun tapio i mewn ac allan. Mae'r pwyllgor yn cydnabod wrth gwrs yr heriau technegol a gweithredol, ond mae'n teimlo bod hefyd potensial i gasglu data gwell a rhoi profiad mwy di-dor i deithwyr sy'n defnyddio'r cynllun teithio rhatach. Byddai hyn yn helpu i gynnig mynediad cyfartal i bob teithiwr, ble bynnag y maen nhw'n byw a sut bynnag y maen nhw'n teithio, ac rŷn ni wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru i edrych ar y mater yma.
Dwi am droi nesaf at berfformiad rheilffyrdd. Fe glywon ni fod 2024 wedi dechrau'n gadarnhaol gyda phrydlondeb yn gwella wrth i fwy o drenau newydd gael eu cyflwyno, ond bod y cynnydd hwnnw wedi lefelu allan nes ymlaen yn y flwyddyn. Fe gafodd tywydd garw a methiannau seilwaith effaith benodol, wrth gwrs, ar rwydwaith Cymru a'r ffiniau.
Hefyd, soniodd yr Aelodau am sut mae gwybodaeth am berfformiad yn cael ei chyfleu i'r cyhoedd. Mae ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu mesurau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau, gan ddechrau gyda cledrau'r Cymoedd, yn gam cadarnhaol, o gofio y gall rhai mesurau guddio problemau ehangach o ran perfformiad. Er enghraifft, bydd perfformiad gwael ar linell wledig sydd â nifer fechan o wasanaethau bob dydd yn cael effaith fwy o lawer ar deithwyr nag oedi o gwpwl o funudau ar linell sydd â llawer o wasanaethau. Ond mae'r pwyllgor yn credu y dylai Trafnidiaeth Cymru fynd gam ymhellach drwy gyhoeddi data perfformiad fesul llwybr, a hynny mewn fformat hygyrch, fel bod teithwyr yn gallu gweld yn rhwydd sut mae'r gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw yn perfformio.
O ran lles teithwyr, fe wnaethon ni groesawu'r dystiolaeth fod Trafnidiaeth Cymru yn lleihau nifer yr achosion o ganslo gwasanaethau yn rhannol wrth i drenau redeg yn gyflym a gadael rhai gorsafoedd allan, sydd wedi, wrth gwrs, achosi llawer o rwystredigaeth. Fe glywon ni hefyd fod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi mwy o hyblygrwydd i dimau rheoli i flaenoriaethu anghenion teithwyr pan fo yna darfu ar wasanaethau. Y cam nesaf, wrth gwrs, fydd ffurfioli'r trefniadau hyn drwy gyflwyno meini prawf cyffredinol ar draws y rhwydwaith, yn ogystal â hybiau cymorth amlwg i sicrhau bod teithwyr yn cael eu trin mewn ffordd gyson pan fo tarfu ar wasanaethau. Rhaid i deithwyr deimlo'n hyderus o ran beth y gallan nhw ei ddisgwyl pan fydd pethau'n mynd o chwith.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe edrychodd ein hadroddiad ni ar addasu i'r hinsawdd. Nawr, mae'r llifogydd diweddar ar brif linell gogledd Cymru a thrwy Henffordd wedi tynnu sylw, onid ydyn nhw, at ba mor agored yw ein seilwaith trafnidiaeth ni i effeithiau tywydd eithafol. Fe gytunodd yr Aelodau fod yn rhaid i wella cydnerthedd fod yn rhan ganolog o gynlluniau a buddsoddiadau Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Mae cynllun ymaddasu i'r hinsawdd a chydnerthedd Trafnidiaeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi yn 2023, yn gosod allan fframwaith ar gyfer nodi a rheoli risgiau mewn perthynas â'r hinsawdd, ac mae'r cynllun yn gosod sylfaen gadarn, ond mae angen, wrth gwrs, iddo fe gael ei weithredu. Mae'r pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad manwl ar gynnydd erbyn yr hydref, gan gynnwys canlyniadau arolygon safle, mesurau cydnerthedd sydd wedi eu cyflwyno a gwaith gyda Network Rail, wrth gwrs, i ddatblygu strategaethau addasu ar gyfer llwybrau risg uchel.
I gloi, felly, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod 2024-25 wedi bod yn flwyddyn o gynnydd da i Trafnidiaeth Cymru. Fe gafodd mwy o drenau newydd eu cyflwyno, aeth y gwaith ar y metro yn ei flaen, wrth gwrs, ac fe gafodd camau eu cymryd i wella tryloywder, amrywiaeth a'r broses o adrodd ar berfformiad. Ond y neges o'r adroddiad yma yw bod yn rhaid i'r cynnydd hwnnw barhau, a bod yn rhaid iddo arwain at brofiadau gwell i deithwyr o ddydd i ddydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dal i wynebu heriau mawr, fel rŷn ni'n gwybod, sy'n cynnwys camau olaf y rhaglen cerbydau rheilffyrdd, gwella tryloywder ariannol a sicrhau cydnerthedd yn erbyn risgiau o'r hinsawdd, ac efallai wir fod yr her fwyaf o'u blaenau nhw o hyd, sef cyflwyno masnachfraint bysiau, a hynny yn llwyddiannus. Bydd hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru, ac mi fydd yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru wella ei berfformiad unwaith eto er mwyn cyflawni'r addewid o system drafnidiaeth ddibynadwy, fforddiadwy ac integredig. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymateb adeiladol gawson ni gan Trafnidiaeth Cymru i'n hadroddiad, ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni'n parhau i fonitro eu gwaith nhw yn agos wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor y Senedd hon. Diolch.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, ac i Drafnidiaeth Cymru am eu cydweithrediad amlwg.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James.

Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru: adfywio canol trefi. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9010 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod dadansoddiad gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU;
b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac
c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad.
2. Yn gresynu nad yw’r rhaglen ‘Balchder Bro’ yn darparu sicrwydd cyllid hirdymor ac ar y raddfa sydd ei angen ar gyfer adfywio canol trefi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer adfywio canol trefi, gan nodi gweledigaeth tymor hir ar gyfer canol trefi sy’n cynnwys mesurau i:
a) sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer manwerthwyr bach ac annibynnol ar y stryd fawr, gan gynnwys busnesau lletygarwch;
b) sefydlu sicrwydd cyllid tymor hir ar gyfer adfywio canol trefi; ac
c) cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau pwerau ‘Hawl i Brynu’ cymunedol.
Cynigiwyd y cynnig.
Wnei di gymryd ymyriad yn fanna?
Diolch yn fawr. Jest eisiau dod i mewn yn gyflym iawn ar fanciau. Bydd banc olaf Cwmtawe, ym Mhontardawe, yn cau fis nesaf, mae NatWest yng Nghastell-nedd yn cau fis yma, ac mae'r banciau, wrth gwrs, yn rhoi elw uwchben cenedlaethau o gwsmeriaid, ond does dim digon o hybiau banciau gyda ni chwaith. Mae hynny'n rhywbeth sydd o fewn grym Llywodraeth San Steffan i'w gynyddu. Ydych chi'n meddwl bod angen inni ofyn i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth San Steffan i alluogi mwy o hybiau banciau i gael eu sefydlu yn lle'r banciau yma?
Wrth gwrs y buaswn i'n cytuno gyda hynny. Mae yna gwestiwn arall hefyd ynglŷn â banciau: beth sydd wedi digwydd i'r banc cymunedol mae'r Llywodraeth wedi bod yn sôn amdano am y blynyddoedd diwethaf? Ond gwnaf i ddod yn ôl at hynny ymhellach i mewn i'r araith, ond pwynt rili pwysig fanna.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gynnig gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo canol ein trefi, megis:
a) y camau a amlinellir yn y cynllun gweithredu manwerthu;
b) cynnal y cyllid ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi;
c) cynnwys egwyddorion canol tref yn gyntaf mewn dogfennau cynllunio allweddol;
d) cyhoeddi’r datganiad sefyllfa ar ganol trefi;
e) sefydlu’r comisiwn asedau cymunedol;
f) buddsoddi drwy’r rhaglen trawsnewid trefi; a
g) lansio’r gronfa trefi taclus.
Cynigiwyd gwelliant 1.

A galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 2 yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach;
b) gwella mynediad at barcio am ddim yng nghanol trefi;
c) diwygio'r system gynllunio i hyrwyddo cynnig cymysg ar ein strydoedd mawr;
d) sefydlu cronfa trefi glan môr i helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn ein cymunedau arfordirol;
e) sefydlu cronfa trefi marchnad i helpu i fynd i'r afael â heriau yn nhrefi marchnad Cymru; ac
f) gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i hyrwyddo perchnogaeth gymunedol o asedau pwysig sydd dan fygythiad o gau.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Galwaf ar Luke Fletcher i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Byddwn ni'n pleidleisio ar eitem 7 yn unig heno—dadl Plaid Cymru ar adfywio canol trefi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, roedd 14 yn ymatal, a 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Galwaf nawr ar bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9010 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod dadansoddiad gan Gonsortiwm Manwerthwyr Cymru yn 2023 wedi dangos bod gan Gymru’r ail nifer uchaf o siopau gwag yn y DU;
b) bod bron i 100 o fanciau ar y stryd fawr wedi cau yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf; ac
c) bod rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn dyrannu £214 miliwn o gyllid i Gymru gyda’r nod o gryfhau adfywio yn seiliedig ar leoliad.
2. Yn cefnogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo canol ein trefi, megis:
a) y camau a amlinellir yn y cynllun gweithredu manwerthu;
b) cynnal y cyllid ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi;
c) cynnwys egwyddorion canol tref yn gyntaf mewn dogfennau cynllunio allweddol;
d) cyhoeddi’r datganiad sefyllfa ar ganol trefi;
e) sefydlu’r comisiwn asedau cymunedol;
f) buddsoddi drwy’r rhaglen trawsnewid trefi; a
g) lansio’r gronfa trefi taclus.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Canlyniad y bleidlais i ddilyn
Diolch yn fawr.
Nesaf, mae'r ddadl fer, a symudwn nawr i'r ddadl fer. Galwaf ar Altaf Hussain i siarad.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bob blwyddyn, mae strôc yn newid bywydau miloedd o bobl. Mae gweithredu ar symptomau strôc a chael triniaeth yn gyflym yn hanfodol. Gall colli amser arwain at golli celloedd yr ymennydd. Dyna pam mae e mor bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwybod sut i adnabod arwyddion a symptomau strôc a ffonio 999 ar unwaith. Strôc yw'r lladdwr mwyaf ond tri yng Nghymru, ond mae hefyd yn un o brif achosion anabledd.
Mae'r ymgyrch FAST, sef Cam NESA, fel clywsom ni yn y Gymraeg, wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc. Yn dilyn yr ymgyrch olaf, oedd yn 2023, fe ddangosodd gwerthusiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod mwy o bobl yn adnabod yr acronym FAST ac yn deall pwysigrwydd ffonio 999 pan fyddan nhw'n gweld arwyddion strôc.
Heddiw, rydym ni wedi clywed nad oes ymgyrch o'r fath yn bodoli leded y wlad. Fodd bynnag, mae hynny'n anwybyddu'r deunyddiau a'r negeseuon sy'n codi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ledled Cymru ar waliau meddygfeydd ac ystafelloedd aros ysbytai, mewn fferyllfeydd cymunedol, ar negeseuon ffôn llawer o feddygfeydd. Mae amryw o bartneriaid wrthi'n ystyried yr holl gyfleoedd i redeg ymgyrch genedlaethol yn gynaliadwy. Yn eu plith, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gymdeithas Strôc a pherfformiad a gwella'r NHS. Rwy'n croesawu'r ymdrechion hyn yn fawr; gweithio gyda'n gilydd yw'r ffordd orau o gyflawni hyn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.