Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/12/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price. 

Tanddaearu Llinellau Trydan Newydd

1. A yw Llywodraeth Cymru'n agored i sefydlu cronfa effaith weledol, yn debyg i’r cynllun a gyflwynwyd gan Ofgem yn 2014, ond wedi’i ffocysu ar gefnogi’r broses o danddaearu llinellau trydan newydd? OQ62006

Mae’n rhaid i Gymru fod yn barod i wneud newidiadau sylweddol i seilwaith ynni, i wneud yn siŵr bod ein cartrefi ni a’n busnesau ni yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r mecanweithiau ar gyfer talu am seilwaith newydd yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi'n adnoddau ni mewn cynllunio rhwydweithiau strategol, a bydd hyn yn helpu i leihau’r effaith gyffredinol.

Diolch i’r Prif Weinidog am yr ateb. Fel y dywedais i, 10 mlynedd yn ôl, mi oedd Ofgem wedi creu cronfa—tua £1 biliwn dros y cyfnod yna. Ond er mwyn tanddaearu llinellau presennol, onid oes cyfle gyda ni yng Nghymru i wneud hynny ar gyfer llinellau newydd, i roi cyfle i ni arbrofi gyda thechnolegau newydd o ran tanddaearu, hefyd, wrth gwrs, a ffordd i ni ddatgarboneiddio yn gyflymach—oherwydd mae yna wrthwynebiad, wrth gwrs, i beilonau ar hyn o bryd—wrth i ni greu cronfa all wedyn dalu am y gwaddol ar ôl er mwyn gwneud llinellau yn economaidd? Gallwn ni wedyn danddaearu 100 y cant, sef polisi Llywodraeth Cymru, rhoi Cymru ar y blaen o ran y dechnoleg tanddaearu yma, a chael cefnogaeth cymunedau i’r cynlluniau datgarboneiddio, yn hytrach na’r gwrthwynebiad sydd yn digwydd ar hyn o bryd oherwydd y gofid ynglŷn â pheilonau.  

Diolch yn fawr. Wel, dwi’n meddwl bod rhaid i ni gydnabod y bydd effeithiau mawr ar y grid yn y dyfodol. Ac, wrth gwrs, mae ein polisi ni yn un sy’n gofyn am danddaearu lle bo hynny’n bosibl. Ond dwi’n meddwl bod yn rhaid i ni gyd dderbyn bod hwnna’n gostus tu hwnt—lot yn fwy costus—ac, felly, mae’n rhaid i ni drefnu a deall bod hwn yn ardal lle mae energy networks heb eu datganoli. Pe byddem ni'n cymryd ymlaen y cyfrifoldeb ar gyfer tanddaearu, byddai hynny’n gostus tu hwnt, ac fe fyddai’n rhaid i ni dorri’r arian o rywle arall.

Ond dwi'n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni yn derbyn ac yn clywed yr hyn sydd gan bobl leol i’w ddweud, ond mae’n rhaid i ni hefyd dderbyn bod costau ar gyfer egni yn uchel yn barod, ac, felly, mae’n rhaid i ni jest fod yn sensitif o ran gweld y costau hynny yn mynd yn uwch.

Rŷch chi’n dod o orllewin Cymru. Dwi jest eisiau talu teyrnged heddiw—

Hoffwn dalu teyrnged heddiw i orllewinwr arall, Terry Griffiths, a oedd yn un o feibion balch Llanelli—Cymro gwych. Gwnaeth gymaint i ni o fod yn bencampwr snwcer y byd ar gynifer o achlysuron. A hoffwn dalu teyrnged iddo heddiw, a hefyd dymuno pob lwc i dîm pêl-droed y menywod heno yn y gemau  pêl-droed ail gyfle Ewropeaidd yn Nulyn. Rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn eu cefnogi nhw 100 y cant.

Prif Weinidog, yn gynharach eleni yn y Senedd, cawsom gynnig, wrth gwrs, yn galw am ddiweddariad ar 'Polisi Cynllunio Cymru' i orfodi yn benodol tanddaearu yn hytrach na'i gael fel opsiwn a ffefrir yn unig, sef safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd—yr opsiwn a ffefrir, ond nid yn barod i gynnwys hynny mewn canllawiau cynllunio. Wrth gwrs, clywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud wrth Adam Price yn ei gwestiwn heddiw. Ac fe wnaethoch chi ymateb i mi yn gynharach eleni—wrth gwrs, tanddaearu, os yw'n ymarferol, os yw'n bosibl, os yw'n fforddiadwy, ond, weithiau, yn syml, ni fydd hynny'n bosibl. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, Prif Weinidog, yw fy mod i'n pryderu bod canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi o ran datblygiadau technolegol, o bosibl. Os edrychwch chi ar Ewrop gyfandirol, gallwn weld camau enfawr ymlaen o ran tanddaearu, ac, a dweud y gwir, ceir cwmnïau o Gymru—contractwyr o Gymru—sy'n chwarae rhan fawr yn hynny o beth yn Ewrop gyfandirol. Felly, a gaf i ofyn i chi: os mai safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw peidio â newid canllawiau cynllunio yn hyn o beth, a allwch chi o leiaf ddechrau'r broses o ymchwilio i'r datblygiadau technolegol newydd hyn, gyda'r bwriad o lunio a newid canllawiau Llywodraeth Cymru, ac, yn y pen draw, i chi gefnogi safbwynt lle byddwch chi'n cefnogi ceblau dim ond os ydyn nhw'n danddaearol?

13:35

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd rhan mewn grwpiau cynllunio strategol ar lefel Prydain Fawr, ond, ar ben hynny, rydym ni wedi sefydlu grŵp grid annibynnol i ddatblygu'r egwyddorion o ran ein dull o ymdrin â chynigion grid newydd yng Nghymru. Nawr, byddan nhw'n adrodd tua diwedd mis Mawrth. Byddan nhw'n cynnal y math o ymchwiliadau yr ydych chi'n eu cynnig.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn ofyn cwestiynau dilynol ar y ddau bwynt hynny, os yw hynny'n iawn. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni bolisi cynllunio sy'n addas at y diben nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer y dyfodol—felly, polisi cynllunio sy'n cynnwys tybiaeth bendant bod y llinellau tanddaearol yn cael eu gosod yn bendant o dan y ddaear, a bod eithriad os na ellir eu gosod o dan y ddaear. Mae'r ail beth yn ymwneud â'r gost. Tybed a yw Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried cynnal asesiad economaidd ynghylch y costau ar gyfer tanddaearu yn erbyn y gost ar gyfer peilonau ar hyn o bryd, gan gynnwys sut mae hynny'n edrych ar gyfer dyfodol ein cymunedau o ran yr effaith weledol honno, oherwydd unwaith y bydd y peilonau hynny wedi eu codi, byddan nhw'n creithio'r dirwedd am weddill ein hoes, ond mae tanddaearu yn golygu na ellir eu gweld nhw a bod ein cefn gwlad hardd yn aros fel y mae. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cynnal asesiad o'r effaith economaidd, gan edrych ar yr opsiynau hynny ar gyfer y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Dyna'n union y mae'r grŵp grid annibynnol yn edrych arno, gan edrych ar y dadansoddiad cost a budd. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn eglur bod costau o'i roi o dan y ddaear hefyd. Felly, os oes problem, er enghraifft, yn y grid, gallai gymryd llawer mwy o amser—ac rwy'n golygu wythnosau yn hytrach na diwrnodau—i'w thrwsio. Felly, nid yw'n fater unffordd yn y fan yma; ceir pethau eraill y mae'n rhaid i ni eu hystyried. Ac, fel y dywedais i, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio bod costau ynni eisoes yn uchel. Os byddwch chi'n tanddaearu, lle mae'r costau yn debygol o fod yn uwch, yna byddan nhw'n cael eu trosglwyddo i'r defnyddiwr. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn gwbl eglur am hynny ar adeg pan fo pobl yn ofni faint y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu. Felly, mae cydbwysedd i'w sicrhau yma, a dyna pam mae'r grŵp grid annibynnol hwnnw yn bwysig iawn. Byddwn yn aros am eu hargymhellion, tua diwedd mis Mawrth.

Gwasanaethau Deintyddol yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru? OQ62007

Mae yna 88 o bractisau deintyddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn 2023-24, fe wnaeth y practisau hyn weld mwy na 170,000 o gleifion a rhoi dros 238,000 cwrs o driniaeth ar yr NHS. Mae hyn yn cynnwys cwrs llawn o driniaeth ar gyfer bron i 28,000 o gleifion newydd a gofal brys i fwy nag 14,200 o gleifion newydd.

Rydych chi wedi gwneud honiad tebyg yn ddiweddar, pan wnaethoch chi honni, ac rwy'n dyfynnu:

'Bydd Llywodraeth y DU yn cael ysbrydoliaeth gan GIG Cymru o ran deintyddiaeth, lle mae diwygiadau wedi datgloi bron i 400,000 yn fwy o apwyntiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.'

Nawr, roedd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn ddifrïol dros ben yn eu hymateb i'r honiad hwnnw gennych chi. Fe wnaethon nhw ddweud, ac eto rwy'n dyfynnu, Llywydd, bod hyn

'nid yn unig yn gamarweiniol dros ben',

yn eu geiriau nhw,

'mae'n sarhad ar ddeallusrwydd gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd hefyd. Ni all unrhyw faint o rethreg a sbin gan y llywodraeth newid y realiti bod deintyddiaeth GIG yng Nghymru yn wantan ac, mewn rhai rhannau, yn troi'n isgemig'.

Nawr, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain sy'n dweud hynny, nid fy ngeiriau i. Felly, onid yw'n hen bryd i chi wynebu realiti gwasanaethau deintyddol yng Nghymru? Pryd wnaiff eich Llywodraeth atal y llif o ddeintyddion allan o'r GIG ac yna'n gadael cynifer o gymunedau ledled Cymru ar y clwt o ran cael mynediad at wasanaethau deintyddol sylfaenol?

Wel, fe wnaf i ddweud wrthych chi am ffeithiau: y ffaith yw ein bod ni wedi cynhyrchu a darparu bron i 400,000 o driniaethau deintyddol newydd. Felly, mae angen i Gymdeithas Ddeintyddol Prydain edrych ar y ffigurau hynny, ac, os ydyn nhw eisiau eu herio, yna, iawn, rhowch gynnig arni, oherwydd, mewn gwirionedd, dyma'r contract y maen nhw wedi ei lofnodi. Nawr, rydych chi'n iawn—mae gan ddeintyddion opsiwn. Maen nhw'n dewis gweithio i'r GIG neu i'r sector preifat, a'r gwir amdani yw bod llawer ohonyn nhw'n dewis gweithio i'r sector preifat. Nawr, y ffaith yw bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod digon o arian yn y system i gyflawni'r hyn y gallwn ni ei gyflawni. Nawr, ceir prinder gwirioneddol o ran cyflenwad o ddeintyddion—nid problem Cymru yn unig yw hon, a dyna pam mai'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio cynyddu'r gefnogaeth o amgylch y deintyddion, gwneud yn siŵr ein bod ni'n hyfforddi mwy o hylenwyr deintyddol, therapyddion deintyddol, ac rydym ni'n falch iawn o fod wedi gweld bod hynny wedi cael ei wneud, yn enwedig yn y gogledd.

13:40

Prif Weinidog, nid yw eich cynllun yn gweithio. Mae dros 700,000 o bobl yn y gogledd, ac fe wnaethoch chi ddweud mai dim ond 170,000 o bobl a welodd ddeintydd yn ystod y 12 mis diwethaf. Yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Mae gen i etholwyr sy'n teithio i'r Alban er mwyn cael mynediad at ddeintydd GIG ac eraill sy'n teithio i Albania i gael trefn ar eu dannedd. Pam nad yw eich cynllun yn gweithio? Wel, eich contract chi yw ef. Nid yw eich contract chi, a bod yn gwbl blaen, yn ddigon da. Nid yw'n rhoi'r math iawn o gymorth i ddeintyddion i'w hannog i aros yn y GIG. A wnewch chi edrych eto ar eich contract newydd i wneud yn siŵr ei fod yn addas i'r diben ac ailfeddwl, gan weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, i feddwl am rywbeth sy'n fwy deniadol ac yn cadw pobl yn y proffesiwn y maen nhw eisiau gweithio ynddo?

Wel, rydym ni'n diwygio'r contract. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector i wneud yn siŵr bod gwaith GIG yn fwy deniadol ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynyddu'r gweithlu deintyddol. Fel y dywedais i, y gweithlu deintyddol ehangach yw hwnnw, nid y deintyddion yn unig. Byddwch yn ymwybodol, pan fydd contractau GIG yn cael eu dychwelyd, eu bod nhw'n cael eu hail-gaffael, eu bod nhw'n mynd allan—nid ydym ni'n colli'r ddeintyddiaeth GIG pan fydd pobl yn dewis gweithio yn y sector preifat. Ac, wrth gwrs, os yw pobl yn teithio i'r Alban yna bydd yn rhaid iddyn nhw dalu yn yr Alban; nid deintydd GIG yw hwnnw y byddan nhw'n ei weld.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Does dim byd fel bloedd fawr ar ddydd Mawrth, nac oes? [Chwerthin.]

Prif Weinidog, pasiodd y Bil marw â chymorth ei Ddarlleniad Cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener. Roedd hi'n bleidlais heb ei chwipio. Cawsom ddadl debyg yma rai wythnosau yn ôl. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n un o'r dadleuon gorau yn y 17 mlynedd yr wyf i wedi bod yma, lle mynegodd yr holl Aelodau eu barn o'r galon ar hyn. Ond, mae'n ffaith y gallai'r darn hwn o ddeddfwriaeth ddod yn gyfraith—tebygolrwydd uchel o hynny. Mae gan y Llywodraeth swyddogaeth i arwain ar hyn yma i wneud darpariaeth a pharatoi. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i symud y gwasanaeth iechyd, i symud gofal cymdeithasol, i symud cynghorau lleol a'r system addysg i sefyllfa lle gall pobl wir deimlo bod dewis yn ystod wythnosau a misoedd olaf eu bywydau, yn hytrach na gwasanaethau nad ydyn nhw efallai'n gallu darparu'r farwolaeth dda honno, ac yn y pen draw, mae pobl yn defnyddio'r gyfraith i gael marwolaeth gynnar?

Diolch yn fawr iawn, Andrew. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i chi ac am y gwasanaeth yr ydych chi wedi ei roi yn y Siambr hon dros gyfnod hir fel arweinydd. Rwy'n gwybod bod gennych chi gredoau yr ydych chi'n angerddol amdanyn nhw a'ch bod chi wedi dadlau eich achos yma yn y Senedd. Bu gennym ni wahaniaethau gwleidyddol erioed, ond rwyf i wedi gwerthfawrogi erioed y ffordd yr ydych chi wedi deall sefyllfaoedd, yn enwedig ar yr achlysuron mawr hynny. Felly, hoffwn ddiolch i chi am y ffordd yr ydych chi wedi ymddwyn, ar y cyfan, gyda mi yn y Senedd. [Chwerthin.]

O ran y cwestiwn o farw â chymorth, yn amlwg, mae gan y bleidlais yr wythnos ddiwethaf oblygiadau sylweddol i ninnau hefyd. Dyma gam cyntaf Bil; mae ffordd bell i fynd gyda hwn. Bydd llawer o waith manwl y mae'n rhaid ei wneud. Bydd angen i ni gynnal ein hasesiad ein hunain i weld a oes angen i ni fwrw ymlaen â chynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y mater hwn. Y pwyslais yr ydym ni wedi ceisio ei wneud yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw gwir ganolbwyntio ar ofal diwedd oes o ansawdd, ac rydym ni wedi cyfrannu adnoddau sylweddol at hynny. Ac rwyf i'n credu ei bod yn rhaid mai dyna fydd cam cyntaf beth bynnag a ddaw nesaf.

Diolch am eich sylwadau caredig, Prif Weinidog. Os gwnaiff y Llywydd faddau i mi ryw fymryn bach, rwyf i wedi cael y fraint o dri Prif Weinidog i ofyn i cwestiynau iddyn nhw. Y cyntaf, Carwyn Jones, roeddwn i bob amser yn gwybod pryd yr oedd yn dod tân amdani gan y byddai'n tynnu ei gyffiau. Fel yr oeddwn i'n gofyn y cwestiwn, byddai'r cyffiau yn cael eu haddasu, a byddwn i'n meddwl, 'Dyma ni.' Byddai Mark Drakeford bob amser yn troi'r papur o gwmpas ac yn chwarae gyda phen y papur, ac roeddwn i'n gwybod ei fod yn dod ar fy ôl i bryd hynny. Nid wyf i wedi cael digon o amser i weithio allan yr arwyddion ar gyfer pryd rydych chi'n dod ar fy ôl i, ond mae wedi bod yn fraint enfawr sefyll yma a holi'r fainc flaen gyfan, ond yn enwedig y Prif Weinidogion, oherwydd mae honno'n fraint y bydd y wlad yn elwa ohoni gobeithio, o bob gwleidydd yn disgleirio'r golau hwnnw ar y Llywodraeth ac yn y pen draw, bod mewn Llywodraeth os ydych chi'n llwyddiannus mewn etholiadau. Yn anffodus, nid oeddwn i'n llwyddiannus mewn etholiadau, ac ni chyrhaeddais feinciau'r Llywodraeth erioed. Ond rwyf i wedi ei chael yn fraint enfawr sefyll yma fel arweinydd yr wrthblaid ac, mewn rhyw ffordd fach, gwneud gwahaniaeth i ddemocratiaeth Cymru ac adeiladu democratiaeth gryfach yng Nghymru, sydd gennym ni heddiw, na phan gymerais yr awenau yn 2011.

Ond yn ôl at sylwedd y cwestiynau yr oeddwn i'n eu gofyn i chi, Prif Weinidog, mae'r pwynt am ofal lliniarol yn bwysig iawn. Mae llawer o arbenigwyr yn y maes hwnnw yn credu ei fod yn sector nad oes ganddo ddigon o adnoddau a bod angen adnewyddu'n llwyr y mentrau y mae'r Llywodraeth wedi eu cyflwyno i'r sector hwnnw allu diwallu anghenion pobl mewn sefyllfaoedd diwedd oes. A wnewch chi ddefnyddio grym cynnull y Llywodraeth i ddod â'r rhai sydd â diddordeb mewn darparu'r gofal diwedd oes hwnnw yma yng Nghymru at ei gilydd fel y gallwn ni baratoi ar gyfer y newid deddfwriaethol hwnnw ac, yn y pen draw, na fydd pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i roi terfyn ar eu bywydau a defnyddio'r ddeddfwriaeth os nad dyna yw eu dymuniad?

13:45

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n gwbl gywir; mae'r pwyslais hwn ar ofal lliniarol, diwedd oes yn wirioneddol hanfodol. Rwy'n falch iawn o'ch hysbysu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyfarfod â hosbisau gyda'i gilydd yr wythnos diwethaf, a'r GIG. Bu grŵp hirsefydlog sydd wedi bod yn edrych ar sut rydym ni'n ymgymryd â gofal diwedd oes. Bu llawer iawn o waith i weld sut y gallwn ni baratoi'n well. Byddwch yn ymwybodol, dros y gaeaf, er enghraifft, yn y pwyllgor sy'n gweithio gyda llywodraeth leol, y rhoddwyd mwy o arian i mewn fel y gallwch chi roi'r cymorth hwnnw, gan gynnwys dros y penwythnosau. Mae hynny i gyd yn helpu pobl i farw gydag urddas gartref. Felly, gwnaed llawer iawn o waith ar hyn eisoes yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod ni ymhellach ymlaen nag y maen nhw yn Lloegr mewn sawl ffordd, fel y clywsoch chi Ilora Finlay yn ei ddweud yn ddiweddar. Ond mae mwy o waith y gallwn ni ei wneud bob amser. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio ac mae'r gwasanaethau yn mynd i ddod yn fwy allweddol o ran y galw a fydd yn cael ei roi arnyn nhw yn y dyfodol.

Dyna fy mhryder gwirioneddol—na fydd y gwasanaethau yn gallu bodloni'r galw hwnnw ac y bydd pobl yn troi at y ddeddfwriaeth i roi terfyn ar eu bywyd cyn eu bod nhw'n dymuno gwneud hynny. Nid yw hyn yn rhoi sefyllfa gytbwys o ddewis i bobl. Mae'n rhaid i ni, fel llunwyr polisi, wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi hynny.

Mae un peth y gall y Llywodraeth ei wneud, ac amlygodd y Prif Weinidog fod y Gweinidog cyllid yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys rai wythnosau yn ôl ar y cynnydd i yswiriant gwladol y bydd yn rhaid i hosbisau ei dalu. A fu unrhyw gynnydd o ran argyhoeddi cydweithwyr yn y Trysorlys y bydd hosbisau, meddygfeydd teulu a rhannau eraill o'r ystad iechyd yma yng Nghymru, a'r ystad gofal cymdeithasol, yn cael eu heithrio o dalu'r codiad Yswiriant Gwladol a allai fod yn ofnadwy i rai darparwyr a gadael anialwch o ddarpariaeth mewn rhai rhannau o Gymru?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn bryderus iawn am yr angen i wneud yn siŵr bod mesurau diogelu cryf iawn ar waith fel nad yw'r rhai sy'n agored i niwed yn teimlo unrhyw bwysau mewn unrhyw ffordd o ran marw â chymorth. Mae ffordd bell iawn i fynd, fel y dywedais i, a bydd angen llawer o holi manwl yn hynny o beth, a bydd gennym ni ein cyfrifoldeb fel Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych yn fanwl ar oblygiadau'r Bil hwn i Gymru. 

O ran hosbisau, roeddwn i bob amser yn sensitif iawn i'r ffaith eu bod nhw'n casglu llawer o arian eu hunain. Sefydliadau elusennol ydyn nhw, yn aml iawn, ond maen nhw'n cymryd pwysau enfawr oddi ar y GIG. Ac felly mae ddyletswydd lwyr arnom ni i sefyll gyda nhw a'u cefnogi. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater a drafodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda'r hosbisau yn y cyfarfod hwnnw yr wythnos hon. Rwy'n credu bod mwy o le i fynd o hyd o ran trafodaeth ar y mater hwn, ond rwy'n credu ein bod ni'n sensitif iawn i'r pwysau sydd arnyn nhw.

13:50

Diolch, Lywydd, ac a gaf innau ddymuno'n dda i arweinydd y grŵp Ceidwadol? 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno'n dda i arweinydd y grŵp Ceidwadol ar ôl ei benderfyniad i ymddiswyddo a chydnabod ei gyfraniad at waith y Senedd dros flynyddoedd lawer. Mae'n gwybod fy mod i'n anghytuno â llawer o agweddau ar ei wleidyddiaeth a'i gyfeiriad gwleidyddol. Mae'n debyg mai dim ond un lle yr ydym ni wir wedi bod ar yr un ochr, sef yn nhîm rygbi'r Senedd. Rwyf i wedi bod yn falch iawn o fod ar yr un ochr ag ef bryd hynny, o gofio ei fod yn ddyn anodd ei dynnu i lawr. [Chwerthin.] Ond ar lefel bersonol, rwy'n dymuno'n dda iddo.

Prif Weinidog, bydd prisiau nwy a thrydan yn cynyddu yn y flwyddyn newydd, sy'n golygu biliau uwch i lawer o bobl nad ydyn nhw'n gallu ei fforddio. Pan oedd y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth, dywedodd y Prif Weinidog:

'Wrth i'r cap ar brisiau ynni godi eto, mae angen cyllideb frys arnom ni nawr, i rewi prisiau ynni, ac i drethu cewri olew a nwy.'

A yw hi'n cadw at y trydariad hwnnw ganddi o fis Awst 2020 neu a yw hi wedi newid ei meddwl er mwyn peidio â chodi cywilydd ar bennaeth ei phlaid, Syr Keir Starmer?

Rydym ni'n gwybod bod prisiau trydan a nwy wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi pwysau enfawr arnom ni, ac mae llawer o'r cynnydd hwnnw wedi'i ymgorffori bellach, sy'n achosi llawer o anawsterau i bobl o ran talu eu biliau. Mae'n rhaid i ni gyd ddeall bod cyfaddawdau i'w gwneud yma hefyd. O ran y cwestiwn blaenorol, er enghraifft, o ran gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei roi o dan y ddaear, mae'n rhaid i ni ddeall y bydd sgil-effaith yn y fan honno o ran prisiau trydan a nwy. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn eglur na allwn ni gael y cyfan, ac ar ryw adeg mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn. Rydym ni, wrth gwrs, yn Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu llawer iawn drwy ein dull Cartrefi Clyd, ac mae arian sylweddol yn mynd i mewn i hwnnw.

Roedd hi'n awgrymu yn ôl bryd hynny bod angen ymateb i brisiau cynyddol, ac rwy'n gofyn a yw hi'n dal i gredu bod angen ymateb i brisiau cynyddol. Mae'n arwain at y cwestiwn faint o wrando y mae wedi bod yn ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf mewn gwirionedd. Mae pobl yn dweud wrthyf i fod yr argyfwng costau byw yn brathu y gaeaf hwn, ac eto nid yw'r Prif Weinidog yn cefnogi rhewi prisiau ynni mwyach, fel yr oedd ar un adeg, ac, wrth gwrs, mae'n parhau i amddiffyn y toriad i lwfans tanwydd y gaeaf. Mae pobl sydd wedi bod yn ffyddlon i Lafur ers blynyddoedd maith yn gofyn beth sydd wedi digwydd i Lafur ac ar ochr pwy mae'r Prif Weinidog. 

Dywedir bod Syr Keir Starmer yn ail-lansio ei brif weinidogaeth yr wythnos hon, sy'n gyfaddefiad ynddo'i hun mai prin iawn oedd yr addewid o newid yn ei olygu. Yn y cyfnod cyn yr ail-lansiad hwnnw, pa bwysau y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn ei roi ar Brif Weinidog y DU i ail-gyflwyno lwfans tanwydd y gaeaf, neu a yw mor barod i gefnogi'r penderfyniad i'w dorri na wnaiff hyd yn oed roi cynnig arni?

Rwy'n gyfrifol am bethau penodol yng Nghymru, ac mae Prif Weinidog y DU yn gyfrifol am bethau penodol o dan ei gylch gwaith ef. Mae lwfans tanwydd y gaeaf yn rhywbeth sy'n sicr yn rhan o gylch gwaith y DU—eu penderfyniad nhw oedd hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod gen i gyfrifoldebau am bethau yma, ac roeddwn i'n falch iawn heddiw o gyhoeddi £157 miliwn ychwanegol yn mynd at gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae mwy o arian ar gyfer iechyd, mwy o arian ar gyfer addysg, mwy o arian ar gyfer y celfyddydau. Mae'r holl bethau hynny o ganlyniad i'r ffaith bod gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n deall, ydy, wrth gwrs, mae llawer o bobl hŷn yn poeni am yr oerfel, ond maen nhw hefyd yn poeni am gael arian i mewn i'r GIG—nhw yw'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth mwy na neb arall.

Rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog wneud y ddadl dros Gymru a thros bobl agored i niwed yng Nghymru, a byddwn yn ei hatgoffa y bydd y costau ar y GIG yn cynyddu wrth i bobl ddioddef yr oerfel y gaeaf hwn.

Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â chynrychiolwyr o Age Cymru a phensiynwyr sy'n ymgyrchu dros ail-gyflwyno lwfans tanwydd y gaeaf. Mae Age UK yn dweud y bydd 37 y cant o bobl hŷn yn ei chael hi'n anodd ymdopi dros y gaeaf hebddo. Cofiwch, nid newid polisi oedd hwn i gymryd taliad tanwydd y gaeaf oddi wrth filiwnyddion—mae'n taro llawer o bobl sy'n byw mewn tlodi.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi arian yn ei chyllideb y flwyddyn nesaf i ddarparu taliad cynhwysol—dyna ddewis Llywodraeth yr Alban, ac mae'r cwbl yn ymwneud â dewisiadau. Yn ei chyfweliad gyda Will Hayward a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog:

'Rwy'n credu y dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru gael eu gwneud gan bobl Cymru a chan eu cynrychiolwyr.'

Gyda hynny mewn golwg, ac o gofio setliad mwy hael yr Alban gan Lywodraeth y DU, onid yw'r Prif Weinidog eisiau ceisio dod o hyd i ffordd o ddilyn arweiniad Llafur, neu a yw'r arian sy'n dod i Gymru gan Lywodraeth Lafur y DU ddim yn ddigon i dalu amdano?

13:55

Rwyf i bob amser yn mynd i ofyn am fwy o arian gan Lywodraeth y DU—dyna'r wyf i yma i'w wneud. Rwyf i yma i sefyll dros Gymru a dyna fyddaf i yn ei wneud. Byddaf yn gweld Prif Weinidog y DU ddydd Gwener, ac, unwaith eto, byddaf yn ei gwneud yn eglur iddo fy mod i'n disgwyl mwy i'm cenedl: diolch yn fawr iawn, rydym ni wedi cael y £25 miliwn ar gyfer y tomenni glo, ond rydym ni eisiau mwy; rydym ni hefyd eisiau mwy o ran HS2. Byddaf yn codi'r holl bethau hynny gyda Phrif Weinidog y DU, a byddaf bob amser yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll dros Gymru. 

Ond fe ddywedaf wrthych chi beth rydym ni'n ei wneud yn y Llywodraeth, ac efallai fod hyn yn rhywbeth y byddai'n werth iddo wrando arno: mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau anodd. A phan fyddwch chi'n dweud, 'Pam na wnewch chi ei wario ar hynna?', mae'n hawdd i chi eistedd yno a dweud hynny, ond dydych chi byth yn dweud wrthym ni beth rydych chi'n mynd i'w dorri. Rydym ni wedi gwneud penderfyniadau o ran y £157 miliwn ychwanegol hwnnw sy'n dod mewn blwyddyn, nad yw'n ddibwys, ac mae £1 biliwn yn dod y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd. Rydym ni'n eu gwneud ar sail yr hyn a ddywedodd pobl wrthyf i dros yr haf a oedd yn bwysig iddyn nhw. Y pethau a oedd yn bwysig iddyn nhw oedd addysg, iechyd a'r economi. Dyna'r ydym ni'n canolbwyntio ein sylw arnyn nhw.

Gan fod mae eraill wedi cael dweud eu dweud ar Andrew R.T. Davies, os caf i ddweud rhywbeth hefyd. Nid wyf i'n gwybod ai dyma fydd eich sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf fel arweinydd yr wrthblaid—nid wyf i'n ddigon cyfarwydd â'ch rheolau sefydlog fel plaid i wybod ai dyna'r achos—ond chi yw dewin dod yn ôl y Siambr hon beth bynnag. Dim ond i ddweud wrthych chi, Andrew—ac efallai y bydd hyn yn eich synnu, a dweud y gwir—eich bod chi'n uchel eich parch yn y Siambr hon, ac yn enwedig gennyf i. Heddiw, rwy'n siŵr y byddai'r Siambr hon yn dymuno diolch i chi yn unfrydol am eich cyfraniad fel arweinydd yr wrthblaid, a dymuno'n dda i chi ymhell i'r dyfodol. Fel Llywydd, nid oes dim yr wyf i'n ei hoffi yn well nag aelod hyf o'r meinciau cefn, ac rwy'n rhagweld mwy o hyfdra ar y meinciau cefn o hyn ymlaen.

Felly, diolch, Andrew, am gyfraniad pwysig iawn.

Cwestiwn 3 i'ch cymydog, Janet Finch-Saunders.

Amseroedd Aros Triniaethau Canser

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros triniaethau canser yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ61965

Mae holl sefydliadau'r GIG yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw cynyddol am ymchwiliadau a thriniaeth canser. Nid yw perfformiad canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lle mae angen iddo fod. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i adfer a chynnal gwelliant yn ei berfformiad.

Prif Weinidog, fel y Gweinidog iechyd blaenorol, byddwch yn ymwybodol pa mor wael yw pethau o ran triniaeth cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ym mis Medi, dim ond 51 y cant o gleifion yn y bwrdd hwn ddechreuodd eu triniaeth ganser ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod o amheuaeth gychwynnol—ffigur sy'n peri pryder mawr pan ystyriwch chi mai 67 y cant yw'r ffigur yn Lloegr. Mae rhestrau aros ysbytai ledled Cymru bellach wedi codi am wyth mis yn olynol, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed o dros 801,300 o lwybrau cleifion ym mis Tachwedd. Mae GIG Lloegr, ar y llaw arall, wedi gwneud cynnydd sylweddol—ac rwy'n sôn am Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU—o ran mynd i'r afael ag arosiadau hir ar ôl y pandemig, â dim ond 3.3 y cant o gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth, o'i gymharu â 23 y cant yng Nghymru. Yn frawychus hefyd, dim ond 113 o gleifion yn Lloegr sydd wedi bod yn aros mwy na dwy flynedd, tra bod gan Gymru nifer syfrdanol o 23,701, gan gynnwys 10,000 o'r rhain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n ofnadwy.

Mae rhai achosion yn golygu arosiadau o dair blynedd, gyda bron i 1,500 o gleifion yn dioddef oediadau eithafol. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud nawr, Prif Weinidog? Beth ydych chi'n ei wneud i ehangu'r defnydd o'r sector preifat a chyfleusterau iechyd eraill i ddod â'r amseroedd aros hynny am driniaeth i lawr i'r bobl sydd wir ei hangen? Diolch.

14:00

Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn faes lle mae'n rhaid i ni wella, yn sicr. Fodd bynnag, bu cynnydd enfawr i'r galw am wasanaethau canser ledled y DU gyfan, ac nid yw Betsi yn eithriad. Hoffwn roi syniad i chi o sut mae'r cynnydd hwnnw i alw wedi bod. Mae atgyfeiriadau gynaecolegol wedi cynyddu 40 y cant ers 2019. Cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau gastroberfeddol isaf 46 y cant. Cynyddodd atgyfeiriadau croen 47 y cant. Felly, mae'n cymryd amser i ehangu system pan fyddwch chi'n cael y math hwnnw o gynnydd i alw.

Fodd bynnag, mae'n rhywbeth yr wyf i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn canolbwyntio'n llwyr arno. Rwy'n gwybod ei fod wedi ei drafod gyda chadeirydd bwrdd gwella'r bwrdd iechyd ac maen nhw'n cyfarfod eto ym mis Rhagfyr. Mae tanberfformio yn ymwneud â phedwar prif fath o ganser yn Betsi: canserau wrolegol, canser y fron, y llwybr gastroberfeddol isaf a chanserau'r croen. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gweithlu yno a bod digon o gapasiti, ond ceir systemau a allai wella. Maen nhw'n mynd i'r afael ag ef. Rwy'n teimlo eu bod nhw wir yn mynd i'r afael ag ef nawr. Maen nhw'n deall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, ond mae angen iddyn nhw wneud yn well. Felly, dim ond i roi enghraifft i chi, mae gweithgarwch syth i brawf yng Nghaerdydd a'r Fro tua 15 y cant yn uwch, yng Nghaerdydd, nag ydyw yn Betsi. Felly, mae gwaith gwella y gallan nhw ei wneud ar eu systemau. Nid yw'n bob amser yn ymwneud ag arian a phobl.

Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn yma. Fe wnes i godi amseroedd canser cenedlaethol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf, ac fe wnaeth o gydnabod ei fod o’n siomedig yn y perfformiad, a dweud bod y darlun yn amrywio o le i le. Mae’n amlwg, felly, fod yna broblem yn Betsi Cadwaladr yn benodol.

Mae gen i achosion yn fy etholaeth i. Mae un etholwr wedi dod mewn yn dweud ei bod hi’n aros saith wythnos am famogram; etholwraig arall yn aros am driniaeth canser y croen, ac yn aros 24 wythnos am y driniaeth. Wrth gwrs, mae diagnosis cynnar yn hanfodol, ond mae’n hanfodol er mwyn medru cael triniaeth ar gyfer yr afiechyd. Felly, ydy’r Prif Weinidog yn meddwl ei fod o’n dderbyniol bod pobl yn fy etholaeth i yn gorfod aros cyhyd am driniaeth? A pham fod yna loteri cod post rhwng ardaloedd yng Nghymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth?

Diolch yn fawr. Mae’n drueni, achos roedd Betsi yn arfer bod yn arbennig o dda o gymharu â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Felly, mae’n drueni eu bod nhw wedi mynd am yn ôl—neu efallai eu bod nhw ddim wedi mynd am yn ôl, ond jest eu bod nhw ddim wedi gallu cadw i fyny â'r gofyn yna, sydd wedi cynyddu cymaint dros y blynyddoedd diwethaf. 

Ond fel dwi’n dweud, beth sydd wedi digwydd yw eu bod nhw nawr, dwi’n meddwl, yn gwella’r sefyllfa. Jest o ran, er enghraifft, dermatology, mae dau clinical lead wedi cael eu penodi. Yn ddiweddar iawn, roedd yna broblem yn arbennig yn y gorllewin yn eich ardal chi, lle'r oedd pob un yn ddibynnol ar un consultant, ac, wrth gwrs, mae hynna’n creu system sydd ddim yn robust iawn. Felly, mae pethau’n gwella, mae yna lwybr clir, ond, yn amlwg, fe fydd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros hyn yn cadw golwg craff ar bethau.

Amseroedd Aros Ambiwlansys

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ambiwlansys yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ61992

Rŷn ni’n cymryd camau i reoli anghenion gofal brys pobl yn y gymuned a gwella’r gwaith cynllunio i’w rhyddhau nhw o ofal iechyd. Bydd hyn yn rhyddhau capasiti ambiwlansys brys. Yn yr wythnosau diwethaf rŷn ni wedi lansio’r her 50 diwrnod, wedi lansio canllawiau newydd ar gyfer trosglwyddo cleifion o ambiwlansys ac wedi recriwtio 26 o glinigwyr i roi cyngor o bell o ganolfannau cyswllt 999.

Diolch, Prif Weinidog. Dim ond yn ddiweddar, ysgrifennodd technegydd meddygol brys o sir Benfro ataf yn mynegi ei rwystredigaeth bod ambiwlansys o sir Benfro yn aml yn gadael ardal bwrdd iechyd Hywel Dda—yn cael eu galw i Waunarlwydd o Ddinbych-y-pysgod, yna i argyfwng arall 60 milltir i ffwrdd, cafodd ei oedi yn y pen draw, gan fethu â dadlwytho cleifion y tu allan i Ysbyty Treforys. Gadawodd hyn Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro heb ddigon o ddarpariaeth ambiwlans, ac yn anffodus mae'n ddigwyddiad cyffredin.

Ers 2015, mae amseroedd ymateb oren wedi mynd o 11 munud i dros 113 munud—arwydd damniol o fethiant y Llywodraeth Lafur a'i chamreolaeth o'r gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Nawr, oherwydd na allwch chi gyrraedd eich targedau, rydych chi'n bwriadu newid y rheolau a newid y targedau yn y flwyddyn newydd. Felly, a wnewch chi gyfaddef, Prif Weinidog—nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw syniad sut i wella gwasanaethau iechyd yng Nghymru?

14:05

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, unwaith eto, bod hyn hefyd yn ymwneud â chynnydd yn y galw gan y cyhoedd—cynnydd enfawr yn y galw yn rhanbarth Hywel Dda. Ym mis Hydref, cafwyd y nifer gydradd ail uchaf o alwadau coch erioed. Felly, gadewch i mi fod yn eglur hefyd mai'r hyn sydd wir yn arwyddocaol, er gwaethaf y cynnydd enfawr hwnnw, eu bod nhw wedi adrodd y perfformiad ambiwlansys gorau yng Nghymru ar gyfer ymateb i alwadau coch o fewn wyth munud ym mis Hydref. Felly, rydych chi'n gwbl gywir—mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pob rhan o'r system hon yn gweithio, ond, mewn gwirionedd, mae'r pwyslais hwnnw, y cynnydd hwnnw, a'r cynnydd hwnnw mewn perfformiad o ran y galwadau coch—sef, wrth gwrs, yr un mwyaf allweddol i ymateb iddo—wedi gwella. 

O ran diwygio'r ffordd yr ydym ni'n edrych ar hyn, argymhelliad oedd hwn, wrth gwrs, gan y pwyllgor iechyd i adolygu sut yr oedd yn cael ei wneud, rhywbeth a wnaed gryn dipyn o amser yn ôl yn Lloegr. Rydym ni wedi cadw at hyn ers amser maith. Rydym ni'n dilyn argymhellion y pwyllgor. Mae angen cydnabod y cynnydd enfawr hwnnw i'r galw, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb i'r cleifion mwyaf brys.

System Cyfiawnder Ieuenctid

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yn y system cyfiawnder ieuenctid? OQ61988

Er bod gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid wedi eu cadw yn ôl, mae ein gwasanaethau datganoledig, fel gofal iechyd, tai ac addysg, yn chwarae rhan hanfodol o ran cynorthwyo plant yn y system gyfiawnder. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gynorthwyo plant drwy'r gwasanaethau hyn a thrwy fentrau ar y cyd fel y glasbrint cyfiawnder ieuenctid.

Diolch am yr ateb. 

Wythnos neu ddwy yn ôl, ymwelais â Chanolfan John Kane yn fy etholaeth, sef y ganolfan ar gyfer gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Caerdydd, ac mae tîm Caerdydd yn un o'r timau yng Nghymru sydd â therapydd iaith a lleferydd arbenigol yn y ganolfan yn rhan o'r tîm. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw hynny, o ystyried y ffaith bod gan 60 y cant o blant a ddedfrydwyd yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Amlygwyd hyn oll, wrth gwrs, yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Beth all y Prif Weinidog a'i Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod gan bob unigolyn ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru fynediad at therapydd iaith a lleferydd a fydd yn eu helpu i ddeall yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw yn y system cyfiawnder ieuenctid, yn enwedig yn y llysoedd?

Diolch yn fawr iawn, Julie. Rwy'n cofio'r sgwrs hon—roedd yn anodd iawn—o ran argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â hyn, ac fe wnes i ymateb ar y pryd fel y Gweinidog iechyd. Tynnodd rhan o'm hymateb sylw at yr heriau yn y maes hwn gan mai dim ond tua 800 o therapyddion iaith a lleferydd cofrestredig sydd yng Nghymru, ac maen nhw'n wynebu galw enfawr. Felly, mae'n rhaid i ni weithio allan sut rydym ni'n blaenoriaethu, a'r hyn yr ydym ni'n ei flaenoriaethu yw gwasanaethau fel Dechrau'n Deg i gyrraedd plant cyn gynted â phosibl. Felly, o gael y cymorth i mewn yn gynharach, roeddem ni'n meddwl y byddai'n atal rhywfaint o'r sgil-effeithiau, efallai, i gyfiawnder ieuenctid yn ddiweddarach. 

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi trefnu uwchgynhadledd ar y mater hwn ym mis Ionawr, a hwyluswyd honno gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd. Fe wnaethon nhw awgrymu cynlluniau newydd i roi'r gallu i weithwyr proffesiynol yn y system gyfiawnder nodi problemau cyfathrebu, ymateb yn briodol a chydnabod pryd mae angen iddyn nhw gyfeirio at gymorth arbenigol. Felly, nid yw hynny o reidrwydd trwy fynediad at therapi iaith a lleferydd yn unig.

Hoffwn ddiolch i'm cyd-Aelod Julie Morgan am godi cwestiwn mor bwysig. Fel y soniwyd, yn anffodus mae gan 60 y cant o'r rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid anawsterau iaith a lleferydd. Mae hyn yn codi i ganran syfrdanol o 79 y cant yn ardal cyngor Castell-nedd Port Talbot. O'ch cyfnod fel Gweinidog iechyd, byddwch yn gwybod am y cysylltiad rhwng problemau iaith a lleferydd a cholli clyw yn gynnar mewn plentyndod, a meddwl ydw i tybed, Prif Weinidog, a oes astudiaeth erioed wedi cael ei chynnal ar alluoedd clywed y rhai sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid ac, os nad oes, a fyddech chi'n ymrwymo i'w ddadansoddi? Diolch.

14:10

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n gallu cofio darllen hynny yn adroddiad y pwyllgor, ond rwy'n hapus iawn i fynd a chymryd golwg arall, i weld a oedd hwnnw'n fater a godwyd ganddyn nhw. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y dylid ei ystyried hefyd, os yw hyn yn broblem.

Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei glywed o'r cwestiynau blaenorol, mae sicrhau bod data ar gael yn hanfodol i wella'r system gyfiawnder yma yng Nghymru, ac oherwydd diffyg data wedi'u dadgyfuno cyhoeddedig ar gyfer Cymru, rydym ni wedi bod yn gwbl ddibynnol ar waith diflino a cheisiadau rhyddid gwybodaeth Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Nawr, fodd bynnag, ddiwedd mis Tachwedd, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder na fyddan nhw'n ymateb i geisiadau Dr Jones mwyach, gan eu bod nhw o'r farn bod ei geisiadau'n flinderus. Nawr, mae angen iddo wneud y ceisiadau hyn, ac mae wedi bod yn eu gwneud ers 2013, gan fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi methu â chyhoeddi'r data hyn fel mater o drefn. Nawr, ni ddigwyddodd hyn o dan Lywodraeth Geidwadol elyniaethus, digwyddodd o dan Lywodraeth Lafur, sydd i fod i fod wedi ymrwymo i wella'r system gyfiawnder yma yng Nghymru.

Nawr, nid yw'r rhain yn geisiadau blinderus, mae wedi helpu Llywodraeth Cymru, mae wedi helpu'r Trefnydd—gall y Trefnydd dystio i hynny—mae wedi helpu pwyllgorau di-rif yma, yn San Steffan, ac yn Llywodraeth Cymru. A wnewch chi siarad â swyddogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a gwneud yn siŵr y bydd ei geisiadau yn cael eu derbyn, a thynnu eu sylw at y ffaith fod ei geisiadau yn unrhyw beth ond blinderus, ond yn hanfodol i ddatblygiad system gyfiawnder Cymru yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed y bydd Jane Hutt, yr Ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol, yn cyfarfod â Dr Jones yr wythnos nesaf i drafod rhai o'r materion hyn.

Cynllun Arbed yn Arfon

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith adfer gwaith diffygiol o dan gynllun Arbed yn Arfon ar ôl cynnal yr arolygon dros yr haf? OQ61986

Mae swyddogion wedi adolygu’r arolygon a gafodd eu cynnal yn Arfon dros yr haf ac yn edrych ar opsiynau rhesymol o fewn cyfyngiadau ein hadnoddau. Bydd cyngor yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai er mwyn ystyried y ffordd orau o fynd ati i ddatrys y mater ar gyfer perchnogion tai sydd wedi cael eu heffeithio.

Diolch am yr ateb. A dyma ni yng nghanol gaeaf gwlyb a stormus arall, ac mae rhai o fy etholwyr i yn dal i ddisgwyl, yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu ar eu haddewidion i wneud gwaith adferol ar eu cartrefi. Dyma etholwyr sydd wedi rhoi eu ffydd yng nghynllun Arbed, cynllun eich Llywodraeth chi, oedd yn addo gwella eu cartrefi, ond, mewn gwirionedd, mae dwsinau o bobl yng Ngharmel, Fron, Dinorwig a Deiniolen, cymunedau sydd efo'r stoc tai ymhlith y salaf yng Nghymru—maen nhw wedi cael eu gadael i lawr. Mae eu cartrefi nhw mewn cyflwr gwaeth rŵan na chyn iddyn nhw ymuno â chynllun Arbed flynyddoedd yn ôl bellach.

O'r diwedd, tua diwedd cyfnod Julie James fel yr Ysgrifennydd Cabinet tai, fe ddaeth gobaith, ac fe gynhaliwyd arolygon ar 42 o dai dros yr haf diwethaf, yn dilyn pwyso cyson gen i, ond does yna ddim byd wedi digwydd ers hynny, a dwi'n mawr obeithio nad oes yna dro pedol yn mynd i fod rŵan ar ôl codi gobeithion. Dwi'n cymryd ychydig bach o gysur o'ch ateb chi, ond beth ydy'r amserlen ar gyfer adfer y gwaith diffygiol, os gwelwch yn dda?

Wel, diolch yn fawr, Siân. Mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i ymateb achos natur fanwl yr adroddiadau, a bydd y swyddogion yn ysgrifennu at ddeiliaid tai i'w hysbysu bod y broses yn parhau. Nawr, unwaith y bydd penderfyniad wedi'i gytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, bydd deiliaid tai yn derbyn y camau nesaf a'r amserlen ar gyfer pryd fydd unrhyw waith posibl yn cael ei wneud. Ac, wrth gwrs, bydd hwnna'n amodol, i ryw raddau, ar amodau'r tywydd. Felly, rŷn ni'n gwybod bod tua 393 o dai wedi elwa o Arbed yn Arfon, ac mae 57 o'r rheini gyda'r potensial i gael problemau.

Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi'r cwestiwn ar ran ei hetholwyr heddiw, a diolch am eich ymateb chithau hefyd, Prif Weinidog. Rydych chi'n cydnabod bod llawer gormod o bobl wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan y cynllun diffygiol hwn yn Arfon ac ar draws y gogledd, ac rydych chi wedi sôn am nifer y bobl sydd wedi cael eu heffeithio. Fodd bynnag, mae'n dechrau teimlo bod diffyg brys ynghylch datrys hyn cyn gynted â phosibl, felly tybed a fyddech chi'n cydnabod ei bod hi'n ymddangos bod diffyg brys o weld y mater hwn yn cael ei ddatrys, a pha wersi ydych chi a'r Llywodraeth wedi eu dysgu o ganlyniad i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan y cynllun diffygiol hwn.

14:15

Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, rwy'n credu bod rhaid i ni ddysgu gwersi, a gwersi yw'r rhain o gynlluniau blaenorol fel cynllun y rhaglen arbed ynni cymunedol, ac rydym ni wedi gweld y gwaith adfer y bu'n rhaid i ni ymgymryd ag ef yn etholaeth Huw Irranca—bod y gwaith hwnnw wedi cychwyn eisoes. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Lafur Cymru i gywiro'r mater hwn, yn gytundebol nac yn gyfreithiol; rydym ni'n gwneud felly am ein bod ni'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Felly, fe fydd hyn yn estyn cymorth i'r bobl hynny sydd wedi gweld gwaith gwael yn cael ei wneud, ond, yn amlwg, rydym ni wedi tynhau'r sefyllfa o dan unrhyw gynlluniau newydd i sicrhau nad yw'r sefyllfa honno'n codi eto.

Adroddiadau y Food, Farming and Countryside Commission

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiadau 'False Economy of Big Food' a 'Changing the Conversation' gan y Food, Farming and Countryside Commission? OQ62005

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r materion yn yr adroddiadau hyn ynglŷn â nodweddion negyddol y system fwyd, a dyna pam rydym ni'n dilyn polisïau pwysig sy'n gysylltiedig â bwyd fel 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a phrydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, ac rydym ni wedi ymrwymo i'r strategaeth bwyd cymunedol.

Diolch i chi, Prif Weinidog. Fe wyddom ni fod y gost i'r gymdeithas yn sgil caniatáu i'r cwmnïau bwyd sothach hyn ddal ati i wneud y bwyd hwnnw yr un y mae pobl yn ei fwyta amlaf, a'r gost i'r gwasanaeth iechyd a'n heconomi, yn gwneud hyn, rwy'n gobeithio, yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU o ran deddfu i drethu bwyd wedi'i brosesu'n helaeth er mwyn gallu defnyddio'r elw i sicrhau bod bwyd ffres ar gael i bawb.

Nawr, mae'r Llywydd yn siŵr o fod yn gyfarwydd â'r ymgyrch lwyddiannus iawn gan ddisgyblion Ysgol y Deri yng Ngheredigion i weini ffrwythau a llysiau o Gymru yn eu hysgol, ac mae disgyblion a chleifion eraill yn mynnu cael bwyd sydd wedi'i dyfu yng Nghymru, a fydd yn amlwg yn gwella eu llesiant. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio caffael cyhoeddus i bwmpio ehangu ffrwythau a llysiau ffres a dyfir yng Nghymru, yn enwedig i gymunedau lle nad ydynt ar gael?

Diolch yn fawr. Rwy'n gwybod pa mor angerddol yr ydych chi'n teimlo ynglŷn â hyn, Jenny. Fe gefais i sioc fawr gan y ffigur a oedd yn ymddangos yn yr adroddiad hwnnw—£286 biliwn, sef cost bwyd sothach i fywyd cyhoeddus y DU. Mae'n amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni i gyd ei gymryd o ddifrif. Swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, rwy'n credu, yw sicrhau ein bod ni'n pennu'r agenda strategol, a'r hyn a wnaethom ni oedd gwneud felly drwy greu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Fe fydd honno'n ei gwneud yn ofynnol i gaffael cyhoeddus yng Nghymru gael ei wneud mewn ffordd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Felly, rydym wedi mynegi yn Rhan 3 o'r Ddeddf honno y bydd yn cael ei rhoi ar waith ar ddiwedd 2025, neu ar ddechrau 2026, a honno yw'r sefyllfa o hyd. Rwy'n gwybod bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn canolbwyntio ar hyn i raddau helaeth iawn, ac fe fyddaf i'n teimlo'n gyffrous iawn wrth ymweld â Chegin y Bobl, sef menter hefyd sy'n codi safonau mewn ysgolion, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â honno'r wythnos nesaf. Prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion Cymru, mae hwnnw'n rhywbeth arall y dylem ni fod yn falch ohono yn fy marn i, ac mae hwnnw'n brosiect sy'n cynnwys chwe awdurdod lleol, a hyfrydwch hwnnw, wrth gwrs, yw ei fod yn cysylltu'r cymunedau amaethyddol lleol a'r rhai sy'n tyfu yn lleol, ac mae'n rhaid i ni weld mwy o hynny, ac mae hynny'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Mae pethau wedi gwella, wrth gwrs. O ran prydau mewn ysbytai, er enghraifft, mae £14 miliwn yn cael ei wario ar fwyd a diod oddi wrth gyflenwyr o Gymru. Felly, mae pethau yn gwella, ond, yn amlwg, mae yna ffordd bell i fynd eto.

Targedau Ambiwlans

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod targedau ambiwlans galwadau coch yn cael eu cyrraedd? OQ61976

Rwy'n falch o adrodd bod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymateb i'r nifer fwyaf erioed o gleifion categori coch o fewn wyth munud yn ystod mis Hydref 2024. Nawr, rydym ni'n cymryd camau i wella'r gwasanaeth ymhellach trwy ganolbwyntio ar leihau oedi wrth drosglwyddo, ein her o ran gofal integredig 50 diwrnod yn ystod y gaeaf, a recriwtio mwy o glinigwyr ambiwlans.

Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiweddariad i'r Aelodau am y gwaith y mae'n ei wneud i wella amseroedd ymateb cyffredinol ambiwlansys, gan gynnwys nodau o ran galwadau coch. Er hynny, ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae hi'n gwbl hanfodol bod dull cyfannol gennym ni o sicrhau bod llif cleifion, wrth i gleifion gyrraedd yr adrannau achosion brys, yn gwella. A wnewch chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i fyrhau'r oediadau hynny wrth drosglwyddo a lleihau nifer yr ambiwlansys sy'n sefyll y tu allan i'n hadrannau brys?

14:20

Diolch yn fawr. Rydym ni wedi ychwanegu llawer at gapasiti'r gwasanaeth ambiwlans yn ddiweddar. Er enghraifft, rydym ni wedi gweld recriwtio ymarferwyr parafeddygol uwch yn ddiweddar hyd at fwy na 100 ledled Cymru. Unwaith eto, mae honno'n fenter newydd. Felly, rydym ni'n parhau i ychwanegu at y mentrau hyn sydd ar waith eisoes. Rwyf i newydd ddod yn ôl o'r ymchwiliad i COVID. Roeddwn i'n egluro iddyn nhw ein bod ni wedi cynyddu'r niferoedd yn ein gwasanaethau rheng flaen, 100 ychwanegol yn y flwyddyn arbennig a oedd ganddyn nhw dan sylw. Fe fu yna fuddsoddiad yn yr uned ymateb aciwtedd uchel Cymru, buddsoddiad o £3 miliwn yn honno. Rydym ni'n buddsoddi £12 miliwn mewn ambiwlansys newydd. Felly, mae'r pethau hyn i gyd o gymorth.

Ond, rydych chi'n iawn, mae'n ymwneud â rheoli'r llif y mae'n rhaid ymdrin ag ef trwy'r amser. Meddyliwch chi am y llif. Mae'n rhaid i ni drwsio'r tu cefn y system. Rwy'n falch iawn y bydd rhywfaint o'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn mynd tuag at gefnogi hynny, rheoli'r llif hwnnw'n iawn, a sicrhau bod capasiti ychwanegol gennym ni, ond fe geir gwaith y pwyllgor gweithredu gofal hefyd o ran sicrhau ein bod ni'n ceisio cadw pobl yn eu cartrefi ac nad ydyn nhw'n gorfod mynd i'r ysbyty, ac rydym ni'n gofalu amdanyn nhw gartref, sy'n golygu atgyfnerthu'r gefnogaeth sydd yn y gymuned. Ac mae hyn i gyd yn ymwneud â recriwtio a symud pobl o'r ysbyty ac i'r gymuned. Nid yw hi'n hawdd pan fo rhestrau aros gennych chi i ymdrin â nhw hefyd, ond rwy'n credu bod cydnabyddiaeth wirioneddol mai'r broblem honno o ran y llif yw'r broblem wirioneddol, ac mae llawer iawn o waith, fe wn, yn mynd i mewn i geisio unioni hynny.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf yw eitem, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.

Cyflawni Targedau

1. Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei thargedau dros y 18 mis nesaf? OQ61974

Diolch i chi am y cwestiwn. Yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog cyflawni, rwy'n darparu gallu ychwanegol ar gyfer rhoi cefnogaeth i'm cyd-Aelodau yn y Cabinet a dod â phobl at ei gilydd ar draws y Llywodraeth i ganfod ffyrdd arloesol o gyflawni ein blaenoriaethau ni i gyd yn ddi-oed.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, rydym ni'n cychwyn ar 18 mis olaf tymor y Senedd hon cyn i ni ddechrau ar etholiadau'r Senedd yn 2026, a rhywbeth a fydd yn newid maint y Senedd, yn amlwg, o 60 Aelod hyd at 96. Ac, yn amlwg, mewn cwestiynau ar draws aelodau'r Cabinet, rydym ni'n clywed am doriadau i gyllidebau, cynghorau mewn cyfyngder, ac mae arian i'r GIG dan bwysau hefyd. Gyda'r £120 miliwn ychwanegol y bydd diwygiad y Senedd yn ei gostio dros gyfnod o bum mlynedd, a yw'r Llywodraeth o'r farn o hyd fod hwnnw'n ddefnydd doeth o arian trethdalwyr, o ystyried y sefyllfa ariannol yr ydym ni'n ei hwynebu ar hyn o bryd, drwy ehangu'r Senedd hon gyda 36 Aelod arall eto yn 2026?

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Nid wyf i'n hollol siŵr sut mae hynna'n cysylltu â'm swyddogaeth i yn Weinidog cyflawni neu'n Gwnsler Cyffredinol, ond mae'n ffordd ddiddorol o wthio pwynt gwleidyddol i mewn i'r amser hwn ar gyfer cwestiynau. Mae agenda diwygio'r Senedd yn ymwneud i raddau helaeth iawn â chyflawni'r gallu deddfwriaethol gorau er mwyn pobl Cymru. Mae'n ymwneud i raddau helaeth iawn â sicrhau y bydd y Senedd hon yn pasio'r set orau bosibl o ddeddfau y gall hi wrth gyflawni ar ran pobl Cymru, ac mae'n ymwneud â sicrhau y bydd pob aelod ar y meinciau cefn a phob aelod o'r Llywodraeth yn y Senedd newydd yn gallu chwarae rhan dda yng nghyflwyniad rhaglen ddeddfwriaethol sy'n gymwys, gyda'r gyfran briodol o graffu a'r gyfran briodol o ystyriaeth, fel y gall pob un o'r deddfau hynny fod y gyfraith orau bosibl. Nid wyf wedi bod o'r farn erioed y gall 60 o bobl wneud hynny dros genedl gyfan, ac rwy'n falch iawn o weld y gallu deddfwriaethol ychwanegol hwnnw'n cael ei roi ar waith.

Un targed sydd yn bell iawn, iawn o'i chyflawni ydy'r targed i godi 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2026. Mae'n rhaid i mi gondemnio’r diffyg cyflawni. Dim ond 5,775 o'r cartrefi sydd wedi cael eu hadeiladu erbyn diwedd 2023-24. Mae'r diffyg tryloywder am y cynllun yn peri pryder hefyd. Does yna ddim sicrwydd y bydd pob un o'r nifer bychan yma yn parhau fel tai cymdeithasol i'r dyfodol, a does yna ddim sicrwydd eu bod nhw'n cael eu hadeiladu yn y llefydd cywir er mwyn datrys lle mae'r problemau ar eu gwaethaf. Gydag eich Llywodraeth chi mor bell i ffwrdd o'r targed, a diffyg tryloywder er mwyn rhoi hyder i ni fod y rhain y math cywir o gartrefi yn y llefydd priodol, sut byddwch chi'n symud y gwaith ymlaen? Sut byddwch chi yn cyflawni? A sut gallwch chi honni bod eich Llywodraeth chi yn delio efo'r argyfwng tai?

14:25

Diolch i chi am hynna, Siân. Yr Ysgrifenyddion Cabinet unigol sy'n dal i fod yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau yn eu portffolio nhw. Felly, fy nghyd-Aelod yn y cabinet Jayne Bryant sy'n gyfrifol am y targed o ran tai. Ond fe wyddoch chi, wrth gwrs, mai fi oedd y Gweinidog tai hyd at yn ddiweddar iawn. Rwy'n gyfarwydd iawn â'r targed hwnnw. Fel rhan o'm cyfrifoldeb i'n Weinidog Cyflawni, rwy'n cynorthwyo Jayne Bryant i oruchwylio gwaith y tasglu, sydd dan arweiniad Lee Waters AS erbyn hyn, wrth geisio ystyried sut y gallwn ni gyflymu'r gwaith o godi tai ledled Cymru—wrth gwrs, y tŷ cywir yn y man cywir.

Rydych chi'n siŵr o fod yn gyfarwydd iawn â'r ffaith hefyd, fe wn, am ein bod ni wedi cael dadleuon am y pwnc hwn yn flaenorol, ein bod ni wedi targedu'n fwriadol gartrefi i'w rhoi ar rent cymdeithasol. Rydym ni'n amlwg yn darparu cartrefi fforddiadwy hefyd, ac er enghraifft, mae'r gyfundrefn Cymorth i Brynu, ond mae'r rhain wedi eu targedu'n benodol at gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, oherwydd hwnnw oedd yr angen mwyaf ar yr adeg y rhoddwyd ymrwymiad yn y maniffesto'r tro diwethaf.

Rydym ni wedi profi cyfres o bethau sydd wedi achosi'r targed hwnnw i fod yn anodd iawn ei gyrraedd, ond rwy'n dal i fod o'r farn y gallwn ni wneud hynny. Rwyf i wedi dweud sawl gwaith ar goedd gwlad ein bod ni'n dal ato â chroen ein dannedd, ond nid yw hynny'n golygu dweud y dylem ni golli'r uchelgais o ran cyflawni.

Felly, rwy'n credu—. Nid fy lle i yw dweud yn hollol beth yw ein sefyllfa nawr—fe fydd yn rhaid i chi ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet priodol ynglŷn â hynny—ond fe allaf i eich sicrhau chi, ar draws y Llywodraeth, mai un o'r tasgau sydd gennyf i yw sicrhau y bydd pob un o'r ysgogiadau sydd ei angen arnom ni ar waith ar draws y Llywodraeth ar gyfer cyflawni'r targed hwnnw. Felly, fe gefais i drafodaethau yn ddiweddar, er enghraifft, gyda'r Gweinidog cyllid. Fe gefais i drafodaethau gyda Rebecca Evans, sy'n gyfrifol am gynllunio erbyn hyn. Rwyf i wedi cael sgyrsiau gyda Jayne Bryant yn ei swyddogaeth hi o ran tai, ond yn ei swyddogaeth o ran llywodraeth leol hefyd, i wneud yn siŵr y bydd pob un o'r ysgogiadau hynny ar waith, a dyna'r hyn yr wyf i'n ei gyflwyno yn y swydd hon i raddau helaeth—gan ddod â set amrywiol o bobl at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio pob un o'r ysgogiadau.

Nid wyf erioed wedi bod yn barod i ddweud ein bod wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran y targed hwnnw, ac nid wyf i'n barod i ddweud hynny nawr, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, pan wnewch chi ofyn iddi hi, yn cytuno â hynny.

Rwyf yn wir yn croesawu'r £157 miliwn sydd newydd gael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog, yn enwedig o ran gwasanaethau cyhoeddus. Roedd trwsio ein ffyrdd ni'n un o flaenoriaethau'r Prif Weinidog, a gyda phriffyrdd a phalmentydd a phontydd yn cael eu difrodi gan lifogydd, fe hoffwn glywed cyhoeddiad ynglŷn â hynny. Yn ddiweddar, fe ymwelais i â sir y Fflint, sy'n defnyddio peiriant Pothole Pro, sydd dair gwaith yn gynt ac yn fwy effeithiol na'r ffordd arferol o drwsio ffyrdd. Dim ond y tarmac sydd ei angen arnyn nhw. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi: a fydd yna gyhoeddiad yn dod yn fuan ynglŷn â thrwsio ein priffyrdd ni yn y gyllideb? Diolch i chi.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Carolyn Thomas. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Gweinidog cyllid wedi bod yn eglur iawn gyda phob un aelod o'r Cabinet na ddylem ni gyhoeddi'r gyllideb ymlaen llaw, felly rwy'n ofni y bydd yn rhaid i chi aros ar bigau'r drain tan ei ddatganiad ef ar y gyllideb, oherwydd nid fy lle i o gwbl fyddai mynd yn groes i'r darn hwnnw o gyngor ganddo ef.

Fodd bynnag, yr hyn yr wyf i am ei ddweud yw mai holl bwynt yr adolygiad ffyrdd a gynhaliwyd gan y Llywodraeth hon yn gynharach yn y darn hwnnw oedd sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar gynnal a chadw'r system ffyrdd a oedd gennym cyn i ni ychwanegu at hynny gyda ffyrdd eraill. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na wnaethom ni ychwanegu rhai ffyrdd, sy'n gwbl angenrheidiol i'r system—yn sicr nid oes polisi gwrth-ffyrdd o unrhyw fath. Ond mae hyn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n trwsio'r to cyn codi'r estyniad. Felly, rwy'n teimlo yn sicr y gallaf i eich sicrhau chi fod y blaenoriaethau hynny gennym ni'n gadarn yn eu lle, ond mae arnaf i ofn nad wyf i am ymateb i'ch gwahoddiad caredig iawn i dorri cyfrinachedd y gyllideb hyd nes y bydd y Gweinidog cyllid yn gwneud hynny.

Gwella Cyflawni o ran Llywodraeth Cymru

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei chynlluniau i wella cyflawni o ran Llywodraeth Cymru dros y 18 mis nesaf? OQ61966

Diolch i chi, Janet. Fel Gweinidog Cyflawni, rwyf i wedi bod yn cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg a'm cyd-Aelodau yn y Cabinet i drefnu sgyrsiau ar y gyllideb ddrafft ynghyd â chyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Mae'r cyfrifoldeb o ran arwain y gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau penodol yn aros gyda'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â'r portffolio perthnasol, serch hynny.

Diolch i chi. Wrth gwrs, fe wnaethon ni groesi cleddyfau yn aml dros y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â thai, a'r diffyg yn hynny o beth, a'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu ni erbyn hyn. Ar hyn o bryd, mae rhwng 8,900 a 9,200 o gartrefi wedi cael eu gorffen. Heb ragor o arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae Archwilio Cymru yn amcangyfrif mai dim ond 16,000 i 16,700 a all gael eu darparu erbyn mis Mawrth 2026. Credir y gallai fod angen o £580 miliwn hyd at £740 miliwn yn ychwanegol, y tu hwnt i ragdybiaethau cyllidebol cyfredol, i gyflawni'r nod hwnnw o 20,000 ar gyfer cartrefi newydd, carbon isel cymdeithasol ar rent erbyn 2026.

Mae fy awdurdod lleol i fy hun wedi gwario £4.5 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, a fydd yn codi mwy, sy'n anodd credu. Yn 2022-23, roedd y gwariant ychydig yn llai na £4 miliwn, a £3 miliwn yn y flwyddyn flaenorol, ac felly fe allwch chi weld y patrwm. Lluoswch chi hynny fesul pob awdurdod lleol unigol, ac mae gennym fom amser enfawr yn tician o ran y bobl sy'n byw mewn llety dros dro, fel gwestai a phethau o'r fath.

Felly, pa drafodaethau a gynhaliodd Llywodraeth Cymru ynglŷn â gweithredu argymhelliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i sefydlu corfforaeth datblygu cenedlaethol ar gyfer cyflymu'r gwaith o adeiladu tai drwy gaffael y tir hwnnw a chynllunio'r prosiectau tai sydd ar gael ledled Cymru? Diolch.

14:30

Wel, diolch yn fawr, Janet. Rwy'n credu bod rhai o'ch cynigion yn arbennig o glustfyddar i'r sefyllfa wleidyddol, oherwydd pan ddechreuais i gyntaf fel Gweinidog tai yn y Senedd cyn hon, fe allem ni adeiladu rhywle oddeutu saith cartref cymdeithasol am £1 miliwn, fwy neu lai—chwech hyd wyth, ond saith, fwy neu lai, am £1 miliwn. Ar ôl 14 mlynedd o drychineb Torïaidd o ran yr economi, a thrychineb Liz Truss yn arbennig felly, dim ond pedwar yr ydym ni'n gallu eu hadeiladu. Felly, mae'r syniad eich bod chi'n gallu chi sefyll yn y fan acw a dweud wrthyf i eich bod chi'n gofidio yn fawr am yr arian ychwanegol sydd ei angen arnom ni'n anodd iawn ei gredu.

Felly, wrth gwrs, rydym ni wedi gorfod buddsoddi mwy yn y rhaglen honno o ganlyniad i'r amodau economaidd sy'n ein hwynebu. Rydym ni wedi cael problemau difrifol yn y gadwyn gyflenwi hefyd, yn enwedig o ran pris pren ledled y byd, ac fe geir nifer o faterion eraill. Serch hynny, rwy'n dal i ddweud—ac fe ddywedais i hynny mewn ymateb i Siân Gwenllian—sef, wrth gefnogi Jayne Bryant—oherwydd mai ei blaenoriaeth hi erbyn hyn, fel Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb am hynny—mae gennym ni nifer o bethau ar waith a gynlluniwyd i sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r niferoedd mwyaf o gartrefi yr ydym ni'n eu cyflwyno yn unol â'r rhaglen.

Mae gennym ni nifer o ffyrdd eraill—nid yw'n ymwneud ag adeiladu cartrefi yn unig. Nid yw erioed wedi bod yn ymwneud ag adeiladu cartrefi yn unig. Mae yna nifer o bethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud hefyd. Mae'r rhaglen gaffael gennym ni, er enghraifft, a'r rhaglen dai enghreifftiol sy'n cefnogi datblygiad tai ar draws y maes—y sector preifat hefyd—i'r safon uchaf o gartrefi cymdeithasol.

Rwy'n dal i fod yn obeithiol ein bod ni'n dal at y targed hwnnw, ac nid oes unrhyw fwriad o gwbl gennyf i argymell i'r Prif Weinidog ein bod ni'n troi ein cefnau arno. Oherwydd mae taer angen y cartrefi hynny, ac ymhlith y rhesymau pam y mae cymaint o angen amdanyn nhw yw am fod Llywodraethau Torïaidd dros y blynyddoedd wedi gwerthu tai cymdeithasol ac wedi gwrthod gadael i awdurdodau lleol godi rhai eraill yn eu lle nhw. Felly, mae arnaf i ofn na chefais i fy swyno felly gan eich ffug-wylofain chi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.

Diolch, Llywydd. Mae 'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030', papur ymgynghoriad a thrafodaeth a gyhoeddodd Cymdeithas y Cyfreithwyr, yn nodi y bydd cwmnïau cyfreithiol sy'n gweithredu yng Nghymru yn wynebu cyfres o heriau allanol erbyn diwedd y degawd. Mae'r rhain yn cynnwys heriau o ran arbenigedd, recriwtio a chadw, technoleg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, a chynaliadwyedd cwmnïau bychain lleol ar y stryd fawr.

Sut, felly, ydych chi wedi ymateb, neu a wnewch chi ymateb, i'r datganiad cysylltiedig yn y papur bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi'r sector cyfreithiol trwy fwy o gefnogaeth am ei fod yn sector hanfodol? 'Rydym ni o'r farn', medden nhw,

'y gallai Llywodraeth Cymru...wneud ymdrechion o'r newydd i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn'.

Diolch i chi, Mark. Mae hwnnw'n bapur da iawn, ac rwyf i wedi cael cyfle i'w drafod gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr. Mae hyn wedi parhau â'r duedd ledled Cymru, lle mae cwmnïau wedi bod yn ei chael hi'n gynyddol anodd i ddal ati i weithio. Rwy'n ofni nad yw dadsefydlu'r system cymorth cyfreithiol wedi helpu yn hyn o beth mewn gwirionedd, pan oedd nifer fawr o gwmnïau llai yn dibynnu yn fawr iawn ar incwm o gymorth cyfreithiol ar gyfer cynnal yr arbenigeddau y maen nhw'n eu cynnal hefyd yn y cwmnïau hyn. Mae hynny wedi mynd yn fwyfwy problemus gyda'r toriadau aruthrol i gymorth cyfreithiol.

Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod swyddogion y gyfraith yn Llundain—a ddylai fod yn digwydd yr wythnos hon, ond sydd, yn anffodus, wedi cael ei ohirio tan fis Ionawr—pryd y byddaf i'n gobeithio cael trafod, ar draws y pedair gwlad, yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi gwasanaethau cyfreithiol, yn enwedig y tu allan i'n dinasoedd. Mewn Llywodraeth sy'n credu yn rheolaeth y gyfraith, mae hi'n gwbl hanfodol bod pobl yn medru cael gafael ar wasanaethau cyfreithiol da, i allu cynnal eu hawliau mewn gwlad ddemocrataidd. Felly, rwy'n eich sicrhau chi y byddaf yn codi hynny. Rwy'n parhau i gynnal trafodaethau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr yn lleol, ac rwyf i wedi gofyn iddyn nhw wneud darn bach o waith—rwy'n credu fy mod wedi sôn am hynny y tro diwethaf y gwnaethom ni drafod y pwnc hwn—ar fy rhan, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny gyda nhw. Ond rwy'n rhannu'r pryder hwnnw'n sicr: mae'n rhaid bod gwasanaethau cyfreithiol ar gael yn gyffredin ym mhobman er mwyn pobl yng Nghymru.

14:35

Diolch i chi. Yn amlwg, mae hyn yn ymwneud â'r heriau allanol yr oedden nhw'n dweud sydd o'n blaenau ni, a'r ffactorau niferus sydd wedi arwain at y sefyllfa sy'n berthnasol yn gyfredol. Ond er bod y papur yn datgan ei fod yn ddiedifar o ran ei fod yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, mae'n ychwanegu bod ystyriaethau ac argymhellion yn y papur hwn sy'n berthnasol i ardaloedd yn Lloegr sydd â nodweddion economaidd-gymdeithasol a demograffig tebyg i Gymru, fel y gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin gwledig Lloegr. Er fy mod i wedi pwysleisio'r ffaith sawl gwaith i'ch rhagflaenwyr chi bod rhaid i natur drawsffiniol gweithgarwch troseddol fod yn ganolog i weithrediad cyfiawnder a phlismona yng Nghymru, mae'r papur yn nodi trafodiadau trawsffiniol hefyd fel un o'r meysydd allweddol lle nad yw'r data cywir, cyfoes gennym ni.

Pa gamau a wnaethoch chi eu cymryd felly, ac rydych chi am eu cymryd nhw, i ymgysylltu â rhanbarthau Lloegr lle mae'r ystyriaethau a'r argymhellion ym mhapur Cymdeithas y Cyfreithwyr yn berthnasol hefyd? A sut ydych chi wedi ymateb, neu a wnewch chi ymateb, i ddatganiad y papur y dylai Llywodraethau Cymru a'r DU ddadansoddi'r setiau cyfredol o ddata sydd ar gael a defnyddio'r wybodaeth honno i gychwyn gwelliant systematig i'r data o ran y sector cyfreithiol yng Nghymru?

Diolch i chi, Mark. Felly, rwy'n cytuno â hynna'n gyfan gwbl. Rwy'n gobeithio codi hynny yng nghyfarfod swyddogion y gyfraith, fel soniais i. Rwy'n gobeithio mynd i Fanceinion hefyd i edrych ar fodel Manceinion ynglŷn â phrawf, gyda'm cyd-Aelod Jane Hutt, yn y dyfodol agos. Rydym ni'n edrych ar agweddau ac yn archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf ymhellach i'r Senedd. Yn rhan o'r drafodaeth honno, fe fyddwn ni'n siarad â'r meiri metro, ymhlith eraill, ynglŷn â sut mae hynny'n gweithio iddyn nhw.

Rwy'n credu bod hyn yn sylfaenol i'r pwynt a wnes i'n gynharach, mewn gwirionedd: mae angen i ni weld adolygiad llawn o'r gwasanaeth cymorth cyfreithiol ledled Cymru ac mae angen i ni ddeall hanfodion hwnnw, nid yn unig o ran argaeledd cyfiawnder i'r dinasyddion, ond o ran hyfywedd darparu gwasanaethau cyfreithiol yn gyffredinol, mewn gwirionedd. Oherwydd oni bai fod y gwaith hwnnw'n cael ei dalu amdano'n deg, ni all llawer o'r cwmnïau llai sydd ar y stryd fawr ym mhob cwr o'r wlad, y tu allan i'r dinasoedd, gael dau ben llinyn ynghyd, ac felly ni allan nhw barhau, ac mae honno'n broblem wirioneddol ynddi ei hun. Felly, fe fyddaf i'n cynnal y sgyrsiau hynny gyda phob un o swyddogion y gyfraith sydd yn y DU, ac rwy'n gobeithio yn fawr y byddaf i'n gwneud hynny, ar y cyd â'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, gyda'r meiri metro hefyd.

Diolch. Gan barhau â'r thema drawsffiniol, dim ond un cyfeiriad y mae adroddiad comisiwn Thomas yn ei wneud at y mater allweddol o droseddu trawsffiniol a hynny yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, a'r unig ateb a gynigiwyd ynddo oedd cydweithio ar draws y pedwar llu yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at y cydweithio sydd wedi cael ei sefydlu â phartneriaid cyfagos dros y ffin anweledig o ran trosedd a chyfiawnder sydd gennym ni â Lloegr.

Yn ystod trafodaeth ar broblem y carchardai ar y rhaglen The Briefing Room ar Radio 4 yr wythnos diwethaf, dywedodd cyn-lywodraethwr carchardai, arolygydd carchardai a phennaeth uned gwrth-lygredd, o ystyried bod llawer o'r gwasanaethau y mae eu hangen i reoli troseddwyr, cyn-droseddwyr, a hyrwyddo adsefydlu wedi cael eu datganoli eisoes i feiri yn Lloegr, y dylid datganoli cyfiawnder troseddol iddyn nhw hefyd, gyda charchardai am droseddau difrifol yn cael eu cadw ar lefel y DU. O ystyried bod llawer o'r gwasanaethau y mae eu hangen i reoli troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu wedi cael eu datganoli i Gymru eisoes, pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi, neu y byddwch chi'n ei rhoi, i batrwm fel hyn yn eich trafodaethau ag aelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU?

Diolch i chi, Mark. Felly, nid yw hynny yn fy mhortffolio i mewn gwirionedd, ond mae gennyf i ran fawr yn y trafodaethau. Darn o waith yw hwnnw'r wyf i'n ei rannu â'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a'r Dirprwy Brif Weinidog. Fe fyddwn ni'n cynnal cyfarfod teirochrog i drafod hyn mewn gwirionedd—ddydd Iau, onid e? Ie, ar ddydd Iau'r wythnos hon. Oherwydd rwy'n derbyn y rhagosodiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ag uchelgais ers amser maith i gael gweld datganoli cyfiawnder troseddol i ni, ac rydym ni'n awyddus i gyfiawnder ieuenctid fod yn gam cyntaf i hynny. Dyma'r unig ran o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y plentyn na chafodd ei ddatganoli i'r Senedd hon ar hyn o bryd, ac rydym ni o'r farn y byddai hi'n gwneud llawer o synnwyr i ddechrau yn y fan honno. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n mynd ar drywydd hynny, ac roeddwn i'n falch iawn o weld bod archwilio'r posibilrwydd hwnnw'n rhan o faniffesto Llywodraeth Lafur y DU. Fel dywedais i, fe fyddwn ni'n trafod hynny ac amrywiaeth o faterion eraill gyda'r meiri metro.

Cyd-Aelodau amrywiol yn y Llywodraeth, nid myfi fy hunan, sydd â chyfrifoldeb am gydlynu plismona, na chafodd ei ddatganoli wrth gwrs, ond mae'r cydgysylltu a'r adladd o hynny'n rhan bwysig iawn o'r peth. Mae fy nghyd-Aelod i, Jane Hutt wedi bod â rhan bwysig yn y trafodaethau hynny. Fe gefais i gyfle i gwrdd â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn ddiweddar iawn ac roedd hi'n codi'r pwynt hwnnw hefyd. Felly, fe fyddwn ni'n ystyried hyn yn ofalus. Rwyf i o'r farn mai'r llinellau cyffuriau yw un o'r materion anoddaf yr ydym ni'n eu hwynebu. Camfanteisio dychrynllyd ar bobl agored i niwed mewn amgylchiadau anodd iawn gan droseddu cyfundrefnol yw hynny, ac yn gwbl sicr mae'r canlyniadau yn sgil hynny yn dod i ran gwasanaethau Cymru. Felly, mae gennym ni ddiddordeb mawr yn hynny o beth. Fel dywedais i, mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio ar hynny ers blynyddoedd lawer.

14:40

Diolch, Llywydd. Yfory, fe glywir achos pwysig yng Ngoruchaf Lys yr Unol Daleithiau, y mae ei gwestiwn canolog yn berthnasol yn uniongyrchol i is-ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yn ystod y flwyddyn. Mae Undeb Hawliau Sifil America yn honni bod y gwaharddiad a gyflwynwyd gan dalaith Tennessee ar bresgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau i atal y glasoed i ieuenctid traws, tra bod presgripsiynau yn cael eu caniatáu ar gyfer dibenion eraill, yn wahaniaethol ar sail hunaniaeth rhyw a rhywedd ac yn groes i ddarpariaethau diogelu cyfartal cyfansoddiad yr UD. Yn amlwg, mae'r achos yn cael ei gynnal mewn awdurdodaeth arall, ond mae'r polisi a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn debyg o ran ei effeithiau, ac mae erthygl 14 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn adlewyrchu'r darpariaethau o ran amddiffyniad cyfartal. Felly, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a yw hi'n cytuno â'i swyddog cyfatebol, mae'n debyg, yn yr achos hwn, twrnai cyffredinol talaith Tennessee, nad yw gwaharddiad ar ofal cadarnhau rhywedd ar gyfer ieuenctid traws yn wahaniaethol ar sail hunaniaeth rhyw na rhywedd?

Nid wyf i'n gyfarwydd â'r achos o gwbl, Adam. Fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn pe baech yn anfon unrhyw beth amdano ataf. Doeddwn i ddim wedi clywed amdano. Byddaf yn edrych arno â diddordeb mawr. Yn amlwg, nid fy un i yw'r polisi cyffredinol, ond byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gweld beth yw'r dadleuon cyfreithiol sydd yna. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni gadw llygad arno. Rydym yn awdurdodaeth wahanol iawn, ac yn wir yn gyfansoddiad cymdeithasol gwahanol iawn, rwy'n falch iawn o ddweud. Mae arolygon barn ar draws Prydain yn dangos agwedd gymdeithasol wahanol iawn at y mathau o faterion rydych chi'n eu codi yna. Ond mae arnaf ofn nad wyf yn gyfarwydd â'r achos o gwbl ac nid wyf yn gallu gwneud sylwadau arno mewn gwirionedd gydag unrhyw sicrwydd cyfreithiol. Ond byddwn i'n fwy na hapus i edrych arno, mae'n swnio'n ddiddorol iawn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am gynnig fel yna i ystyried yr achos a'r materion y mae'n eu codi yn ein cyd-destun ni yma yng Nghymru. Yn gynharach eleni, fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliad i wahardd presgripsiynau meddyginiaethau gan feddygon teulu sy'n atal y glasoed ar gyfer cleifion newydd o dan 18 oed â dysfforia rhywedd nad oedden nhw'n rhan o dreial clinigol. Roedd y memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliad yn dweud bod rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 'wedi cael eu hystyried'. Wrth gwrs, mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i'r confensiwn yn unol â thelerau Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae Erthygl 12 yn dweud y dylid ystyried barn plant a phobl ifanc pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau am bethau sy'n gysylltiedig â nhw. Ac eto, roedd yr union femorandwm esboniadol hwnnw, Cwnsler Cyffredinol, yn dweud:

'Ni chynhelir ymgynghoriad â phersonau i gynrychioli buddiannau’r rhai a allai fod angen meddyginiaethau atal y glasoed ar gyfer dysfforia rhywedd.'

Sut mae hynny'n gyson mewn termau cyfreithiol â rhwymedigaethau Llywodraeth Cymru o dan y confensiwn? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddweud neu ddarganfod a gafodd unrhyw adroddiad ei lunio i asesu'r effaith ar hawliau plant?

Rwy'n ofni nad wyf i'n gwybod yr ateb i'r ail gwestiwn, ond yn sicr fe wnaf i chwilio i chi. Nid wyf i'n gyfarwydd iawn â'r manylion, mae arnaf i ofn. Rwyf i newydd gael gwybod gan fy nghyd-Aelod mai GIG Lloegr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, dywedwch chi unwaith eto. [Torri ar draws.] Ydym, rydym yn defnyddio'r gwasanaethau drwy GIG Lloegr. Ond, Adam, mae arnaf i ofn nad wyf i'n gwybod manylion yr hyn y gwnaethoch chi ei ddarllen nawr. Fe fydd yn rhaid i mi ymateb yn ysgrifenedig i chi. Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi sgwrs gyda chi hefyd; mae hwn yn rhywbeth y mae gennyf i ddiddordeb mawr ynddo. Felly, fe fyddaf i'n edrych i mewn i hynny i chi, ond nid yw'r ateb gennyf i chi ar flaenau fy mysedd nawr, mae arnaf i ofn.

Yn wreiddiol, yn Lloegr y cafodd y rheoliadau eu cyflwyno, ond mae darpariaethau o'r un fath yn union wedi cael eu llunio yng Nghymru. Yn wir, mae yna fesur gerbron y Senedd ar hyn o bryd sy'n eu diwygio nhw.

Mae Cyngor Ewrop wedi codi pryderon cyfreithiol a moesegol difrifol yr wythnos hon ynglŷn â goblygiadau cynnig triniaeth atal y glasoed i gleifion sydd ar dreialon clinigol yn unig. Yn benodol, mae hyn cyfeirio at y protocol a ychwanegwyd at gonfensiwn Oviedo, sy'n dweud y bydd pobl y gofynnir iddyn nhw gymryd rhan mewn prosiect ymchwil fod yn ymwybodol o'u hawl nhw i wrthod cydsyniad ac na ddylen nhw fod yn destun unrhyw fath o wahaniaethu. I lawer o bobl ifanc, yr unig ffordd i dderbyn triniaeth atal y glasoed nawr fydd cymryd rhan mewn treial, sy'n gofyn y cwestiwn a ellir rhoi cydsyniad rhydd ac ar sail gwybodaeth yn y sefyllfaoedd hynny. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol fynegi barn nawr, neu ymrwymo i fynegi barn i ni maes o law, ar ôl ystyried y mater ymhellach, ynghylch a yw hi o'r farn fod polisi Llywodraeth Cymru yn gyson â thelerau confensiwn Oviedo, fel rhoddais i awgrym ohonyn nhw? Rwy'n edrych ymlaen at gael sgwrs arall gyda hi ynglŷn â'r mater hwn.

14:45

Nid wyf i mewn sefyllfa i ateb hynna, Adam. Nid oes gwybodaeth ddigonol gennyf i ar flaenau fy mysedd ac mae angen rhoi ateb ystyriol gofalus iawn i hyn. Mae'r mater yn un y mae gennyf i ddiddordeb mawr i roi ystyriaeth iddo. Yn sicr, fe gaf i drafodaeth arall gyda chi ynglŷn â hyn ac fe fyddaf i'n ymateb yn ysgrifenedig. Rwyf i am gael sgwrs bellach gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r pwnc hefyd. Felly, fe fydd yn rhaid i mi ddod yn ôl atoch ynglŷn â hynna, mae arnaf i ofn. 

Apelau Gwahardd Ysgolion

3. Sut y bydd y Bil tribiwnlysoedd arfaethedig yn sicrhau annibyniaeth swyddogaethau paneli apêl gwahardd ysgolion? OQ61970

Diolch, Rhys. Yn ôl y cynigion sy'n cael eu nodi yn ein Papur Gwyn, fe fyddai'r swyddogaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hymarfer gan baneli apeliadau gwahardd o ysgolion yn cael eu trosglwyddo i dribiwnlys haen gyntaf newydd i Gymru. Fe fyddai hwnnw'n cael ei weinyddu gan gorff statudol, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Diolch yn fawr iawn i chi, Cwnsler Cyffredinol. Pe byddem ni'n mynd i lys ieuenctid yng Nghaerdydd neu Abertawe, fe allaf i eich sicrhau chi y byddem ni'n cwrdd â phobl ifanc a oedd wedi cael eu gwahardd o'u hysgolion. Mae'r dystiolaeth yn amlwg iawn o ran yr effaith y gall gwaharddiad hirdymor o ysgol ei chael ar bobl ifanc sy'n mynd drwy'r system cyfiawnder troseddol. Nawr, fe gefais i fy siomi, ac fe soniais am hynny gyda'r Cwnsler Cyffredinol blaenorol, nad oedd y paneli gwahardd o ysgolion yn cael eu cynnwys yn y diwygiad o dribiwnlysoedd Cymru, oherwydd mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn hynod ddylanwadol ar fywyd unigolyn ifanc. Nawr, mae hi'n bwysig, fel rydych chi'n gwybod yn iawn, bod eu gwaith nhw'n annibynnol a'i fod yn cael ei weld fel gwaith annibynnol. Eto i gyd, fe gaiff aelodau'r paneli hyn eu penodi yn aml gan yr awdurdodau lleol, mae'r clercod yn cael eu cyflogi gan yr awdurdodau lleol ac mae'r gwrandawiadau er yn cael eu cynnal fel arfer o fewn adeiladau'r awdurdod lleol—felly, mae'r cyfan yn troi tuag at un parti yn yr apêl. Ar hyn o bryd, yr unig lwybr ar gyfer apelio yw adolygiad barnwrol, sydd y tu hwnt i fodd y rhan fwyaf ohonom ni. Rwy'n gobeithio y gall yr adolygiad hwn o system y tribiwnlysoedd gynnwys yr ail dribiwnlys, yr un uchaf fel rhan o'r broses apelio yn erbyn gwaharddiadau o ysgolion. Ond, sut fyddwch chi'n sicrhau'r cyfiawnder hwnnw o ran apelau gwahardd o'r ysgol fel bydd hynny nid yn unig yn cael ei wneud, ond y gwelir ei fod yn cael ei wneud hefyd? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn am hynna. Felly, mae amddiffyn annibyniaeth farnwrol a rhoi mwy o annibyniaeth strwythurol i weinyddu cyfiawnder yn llwyr yn un o amcanion allweddol y diwygiadau strwythurol yr ydym ni'n eu cynnig ar gyfer moderneiddio'r system tribiwnlysoedd. Felly, rydych chi wedi mynd at graidd y mater yn syth, sef bod angen gwneud hynny ac mae angen gweld hynny'n cael ei wneud. Nid wyf i'n ystyried, fy hunan, bod y rhai sy'n ymdrin nawr â gwahardd plentyn o'r ysgol yn gwneud y penderfyniadau hynny ar chwarae bach—ymhell o hynny—ac, mewn gyrfa flaenorol, roeddwn i fy hunan â rhan yn y broses honno. Fe wnaethom ni gymryd yr hyfforddiant ac annibyniaeth y broses o ddifrif, fel ei gilydd. Ond, mae'r canlyniadau i'r plentyn a'r ysgol o'r pwysigrwydd mwyaf, rydych chi'n hollol gywir. Ac mae fy nghyd-Weinidog y Gweinidog addysg yn ymboeni llawer iawn ynghylch yr holl faterion sy'n ymwneud â gwaharddiadau a sicrhau y bydd pob plentyn yn cael cyfle teg i ddysgu. Felly, mae'n rhaid i'r broses o wneud penderfyniadau fod yn gyson ac mae'n rhaid iddi fod yn annibynnol yn y dyfodol, yn ddiamau. Roedd comisiwn Thomas yn mynegi y dylai penderfyniadau o'r pwysigrwydd hwn fod â chraffu barnwrol arnyn nhw. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n cytuno â hynny. Rydym ni wedi bod yn eglur mai ein bwriad ni yw disodli'r paneli a gyfansoddir yn lleol gyda phenderfyniadau yn y system dribiwnlysoedd newydd ar yr haen gyntaf, ac mae'r dull hwnnw wedi cael cefnogaeth glir oddi wrth yr ymatebwyr i ymgynghoriad y Papur Gwyn yn eang iawn hefyd. Felly, dyna ein bwriad ni. Os gallwn ni gyflwyno Bil y Tribiwnlysoedd yn nhymor y Senedd hon, yr wyf i'n gobeithio yn fawr y gallwn ni wneud felly, yna dyna yw ein bwriad ni'n ar hyn o bryd. 

Data Cyfiawnder wedi'u Dadgyfuno

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod data cyfiawnder wedi'u dadgyfuno ar gael i Gymru? OQ61971

Mae bod â data sy'n benodol i Gymru yn bwysig iawn ar gyfer deall sut mae gwasanaethau cyfiawnder yn gweithio yng Nghymru—fel rwyf i newydd fod yn ei drafod gyda Mark Isherwood, mewn gwirionedd—gan gynnwys yr effaith ar wasanaethau datganoledig. Rydym ni wedi bwrw ymlaen â nifer o'n mentrau ein hunain yn y maes hwn, yn ogystal â'n sgyrsiau parhaus gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

14:50

Rwy'n cytuno â chi, Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cytuno â ni. Nôl yn 2017, dywedodd gweithgor o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei bod hi'n bwysig i ni fod â data wedi'u dadgyfuno ar gyfer Cymru, ac mae hynny wedi cael ei adleisio gan wleidyddion yn y fan hon, gan bwyllgorau yn y fan hon ac yn San Steffan. Mewn gwirionedd, roedd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i brofiad menywod o gyfiawnder troseddol yn dweud na allen nhw fod â darlun llawn o brofiad menywod o Gymru o'r system cyfiawnder troseddol oherwydd diffyg data wedi'u dadgyfuno. Nawr, enghraifft berffaith o hyn yw gwrthod cais rhyddid gwybodaeth gan Dr Robert Jones yn ddiweddar am niferoedd y menywod beichiog o Gymru sydd mewn carchardai am fod hynny'n rhy gymhleth. Nawr, fe ddywedir wrthym ni na fyddwn yn cael unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth oddi wrth Dr Robert Jones. Felly, sut ar y ddaear y byddwn  ni'n gwybod (1) faint o Gymry sydd yn y carchar, (2) faint o fenywod o Gymru sydd yn y carchar ac ym mha le y maen nhw'n cael eu dal, a (3) dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd o garcharorion o Gymru. Mae fy nghwestiwn i'n syml: os yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried ceisiadau Robert Jones yn drafferthus, pryd fyddwn ni'n gweld cyhoeddi data wedi'u dadgyfuno ar gyfer Cymru fel mater o drefn? Diolch yn fawr.

Rydym ni'n cytuno â chi ynglŷn â phwysigrwydd y data, dim ond i fod yn eglur iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno yn gyfan gwbl â hynny. Mae fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol—a nifer fawr o deitlau eraill, y Trefnydd a'r prif chwip—yn cyfarfod â nhw yfory, neu'r wythnos hon, yn sicr. [Torri ar draws.] Yfory? [Torri ar draws.] Beth bynnag, yn fuan iawn. Fe fydd un o'r sgyrsiau'n ymwneud â hynny'n union, Rhys. Mae'n ymwneud â sut yn union y gallwn ni sicrhau bod y gwasanaethau priodol gennym ni ar waith os nad yw'r data cywir gennym ni i fod yn sail iddyn nhw. Rydym ni'n sicr ynglŷn â'r angen am ddata wedi'u dadgyfuno. Rydym ni'n pwyso am hynny. Ni allaf i roi sylw ar y mater rhyddid gwybodaeth; nid mater i mi mohono. Ond fe allaf i eich sicrhau chi ein bod ni'n gwthio am gymaint o ddata wedi'u dadgyfuno â phosibl. Fe fyddwn ni'n siarad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF am y data yng ngharchardai Cymru, ond fe allaf i ddweud wrthych chi fod fy nghyd-Weinidog y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, a minnau wedi ymboeni am swyddogaeth menywod yn y gwasanaeth carchardai a lle maen nhw'n mynd yn y pen draw, a'r hyn a wyddom ni amdanyn nhw, ers cryn amser. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â'ch cwestiwn chi. Fe allaf i eich sicrhau chi ein bod ni'n gwthio mor galed ag y gallwn i gael y data er mwyn gallu ddeall effaith hynny'n gyflawn.

Fe hoffwn i ategu'r pryderon a gododd Rhys ab Owen oherwydd, heb waith caled Robert Jones yn defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth i ddarganfod beth yw'r sefyllfa, ni fyddem ni'n gwybod bod pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli 40 y cant yn ein carchardai ni'n ogystal â'r defnydd cynyddol a pharhaus o ddedfrydau o garchar sy'n carcharu menywod gyda dedfrydau o gyfnodau cyn lleied â mis, sydd heb fod o unrhyw werth o gwbl o ran adsefydlu; maen nhw'n achosi i fenywod golli eu swyddi, eu cartrefi a'u plant nhw. Felly, fe hoffwn i ychwanegu fy mhryderon at rai pobl eraill o ran bod rhaid i ni fod â data wedi'u dadgyfuno yn ogystal â llwybr eglur at ddatganoli cyfiawnder troseddol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau erchyll hyn a'u hunioni nhw yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno â hynny'n llwyr. Nid yw'r data yn y ffeiliau ffeithiol wedi eu gwirio yn llawn oherwydd y ffordd y bu'n rhaid i Dr Jones eu rhoi nhw at ei gilydd. Ond pe byddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi data ar y system gyfiawnder yng Nghymru ar sail fwy rheolaidd a thryloyw, fe fyddai hynny'n negyddu'r angen am y swm hwnnw o waith. Felly, mae hwn yn bwynt y bydd fy nghyd-Aelod Jane Hutt yn ei wneud yn rymus iawn.

Wrth gwrs, mae gwreiddiau gorgynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig penodol yn y system cyfiawnder troseddol yn treiddio yn ddwfn iawn wir, a dyna pam mae angen y dull cynhwysfawr arnom ni sef ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', yr ydym ni newydd ei adnewyddu nawr ym mis Tachwedd, a pham mae angen i ni weithredu ar hwnnw. Dyna pam rydym ni'n croesawu bod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn dyfeisio ei chynllun gwrth-hiliaeth ei hun hefyd, sy'n cynnwys ymrwymiadau penodol mewn meysydd fel staffio ac arweinyddiaeth yn y system i geisio gwneud cynnydd bychan ar gyfer bwrw ymlaen â hynny.

Ni allwn gytuno mwy â chi am effaith rwygol a diangen dedfrydau o amser byr o garchar, yn benodol ar fenywod, ond hefyd, mewn gwirionedd, ar wŷr ifanc. Yn aml iawn, maen nhw'n rhy fyr i fod ag unrhyw fath o effaith adferol, a dim ond yn ddigon hir i ddinistrio unrhyw lun o fywyd normal yn llwyr—felly, a dyna'r sefyllfa waethaf bosibl. Ni allwn gytuno mwy â chi yn hynny o beth. Fe wyddom ni hefyd fod menywod yn cael eu carcharu am droseddau, pe byddech chi'n wryw, yn annhebygol o gael eich carcharu amdanyn nhw, ac felly fe geir gwahaniaethu gwirioneddol yn y system yn hynny o beth hefyd. Mae hi'n amlwg fod llawer mwy o waith i'w wneud eto, ond dros gyfnod glasbrint cyfiawnder menywod, yr wyf i wir yn awyddus i roi teyrnged i'm cyd-Aelod Jane Hutt amdano, rydym ni wedi llwyddo i ddargyfeirio tua 2,300 o fenywod i gefnogaeth ymyrraeth gynnar yn hytrach na'u bod yn mynd i garchar. Felly, mae gwneud hynny'n werth chweil. Mae angen i ni barhau i wneud hynny a chynyddu ein hymdrechion. Felly, rwy'n cytuno â chi—y gorau fydd y data sydd gennym ni y gorau fydd y ddarpariaeth a wnawn ni, a'r well ddealltwriaeth a gawn ni o'r effaith a gwell fydd ein darpariaeth. Felly, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gytûn.

14:55

Mae'n ddrwg gen i, dim ond i ychwanegu at y rhestr o ddata sydd eu hangen ar gyfer Cymru, nid oes data ar gyfer Cymru yn unig gennym ni ynglŷn â charcharu rhieni, na marwolaethau yn y ddalfa yng Nghymru, nac ychwaith ynglŷn â beichiogrwydd a genedigaethau. Mae'r rhain yn bobl sy'n agored i niwed y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanyn nhw ac ar eu rhan nhw. Felly, rwy'n falch o glywed eich bod chi'n cytuno ar bwysigrwydd hyn a'i fod yn cael ei wthio ymlaen gan eich cyd-Aelod chi. Mae hi wir yn teimlo yn hanfodol ein bod ni'n sicrhau hynny mewn cyfnod byr o amser i ni allu gweld yr union olwg ar y darlun a'r gwasanaethau sy'n angenrheidiol, a'r heriau y gallwn ni eu rhoi hefyd. Mae methu â gwybod faint o Gymry sydd wedi marw yn y ddalfa, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU, yn frawychus yn fy marn i, ac rwy'n siŵr eich bod chithau o'r un farn. Felly, rwy'n falch o glywed bod hynny'n cael ei wthio yn ei flaen, a diolch i chi am eich ymrwymiad i hyn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane. Rwy'n cytuno yn llwyr â hynny—mae angen i ni, wrth gwrs, fod â'r wybodaeth. Serch hynny, mae'n rhaid i ni gael rhai trafodaethau ynglŷn â pharamedrau. Mae ystyr 'Cymry' yn gysyniad diddorol. Rwyf i wedi ystyried fy hunan yn Gymraes, ond fe dreuliais i 10 mlynedd yn byw yn Llundain ac fe fyddai gennyf i gyfeiriad yn Llundain, felly mae ychydig bach o waith i ni ei wneud er mwyn deall ystyr pwy sy'n 'Gymry'—pobl sydd â chyfeiriad yng Nghymru yn ystod cyfnod eu carchariad, er enghraifft, neu Gymry alltud sy'n byw yn Llundain. Mae'n ddrwg gen i ddefnyddio'r term 'alltud', ond fe wyddoch chi beth yr wyf i'n ei feddwl. Felly, mae ychydig o waith i'w wneud eto ynglŷn â'r ystyron a ddefnyddiwn ni. Mae pobl sydd â dibynyddion yng Nghymru, er enghraifft, yn un o'r materion hynny.

Mae fy nghyd-Aelod i'n gweithio yn galed iawn ar yr agenda hon. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a minnau'n cynorthwyo o ran yr hyn y gallwn ei ddwyn ger bron gyda'n partneriaid gweinidogol arbennig yn Llywodraeth y DU, ac fel dywedais i, rwy'n cyfarfod â swyddogion y gyfraith yn fwy cyffredinol i drafod hyn. Nid mater i Gymru yn unig mohono; mae hon yn broblem i'r system gyfan. Dim ond cystal â'r data sydd gennym ni'r ydym ni o ran y ddarpariaeth a wnawn ni, felly rwy'n cytuno yn llwyr â'r cwbl o hynny.

Ac wedyn, y peth olaf i'w ddweud ynglŷn â hyn yw mai'r data hynny ynghylch teuluoedd, faint o blant sy'n byw gydag aelod o'r teulu yn y carchar yn y system a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar barhad eu llesiant nhw, eu presenoldeb nhw yn yr ysgol, eu hiechyd nhw'n gyffredinol, a'u hiechyd meddwl nhw'n arbennig felly, yw un o'r effeithiau mwyaf yr ydym ni'n ei chael. Yr anawsterau pan fo rhiant yn dod adref o garchar, cadw cysylltiad gyda'r plant a sicrhau bod y plentyn arbennig hwnnw'n cael y budd llawn o hyn yw un o'r anawsterau a gawn ni hefyd, ac ni allwch wneud unrhyw beth am y naill beth na'r llall heb y data sy'n cyd-fynd â hyn chwaith. Felly, mae angen dybryd am y data hwn, ac fe fyddwn ni'n hyrwyddo hynny gyda'n holl allu.

Pumed Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am bumed adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru? OQ61975

Diolch i chi. Rhoddwyd pumed adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, sef y cyntaf gan Syr Gary Hickinbottom yn ystod ei dymor yn llywydd, ger bron y Senedd yn gynharach eleni gan fy rhagflaenydd i. Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru a minnau gyfarfod â'r llywydd i drafod ei adroddiad, ac rwy'n disgwyl y bydd dadl yn cael ei threfnu maes o law.

Diolch yn fawr iawn i chi, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n deall bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno Bil i'r Senedd y flwyddyn nesaf i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru, ac rwy'n awyddus i wybod a all y Cwnsler Cyffredinol roi rhywfaint mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae hi'n ei obeithio a fydd yn cael ei gynnwys yn y Bil, ac a oes ganddi hi rywfaint o sicrwydd i'w roi ynghylch amserlennu'r Bil. Roedd pumed adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, fel y ddau adroddiad blaenorol, yn tynnu sylw at y ffaith bod tribiwnlysoedd Cymru wedi dioddef oherwydd prinder adnoddau ers nifer o flynyddoedd, ac mae hi'n ymddangos bod eu gofynion nhw o ran cyllido yn cynyddu'n sylweddol. Rwy'n credu mai syniad da yw gwneud y gwasanaeth tribiwnlys yn fwy atebol i'r bobl, ond mae angen i ni wybod sut olwg fydd ar hyn a sut y bydd y materion o ran cyllid yn cael eu datrys. Roedd y llywydd yn dweud hefyd nad yw tribiwnlysoedd Cymru yn gallu cael gafael ar ddeunyddiau hyfforddi o'r Coleg Barnwrol a bod honno'n mynd yn broblem wirioneddol. Felly, fe hoffwn i wybod a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio hefyd i ddwyn perswâd ar y Coleg Barnwrol i ymestyn ei gylch gwaith i gwmpasu tribiwnlysoedd datganoledig. Yn ogystal â hynny, o ran cyllido, fe achosir y costau cynyddol, wrth gwrs, gan chwyddiant yn bennaf, ond fe hoffwn i wybod sut y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio yn sicrhau y bydd gwasanaeth tribiwnlysoedd annibynnol yng Nghymru yn cael digon o adnoddau ac na fydd angen codiadau cyllid sylweddol o un flwyddyn i'r llall. Diolch i chi.

15:00

Diolch yn fawr iawn am hynna, Gareth. Mae adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn nodi asesiad o berfformiad a blaenoriaethau'r gorffennol ar gyfer gwella yn y dyfodol. Mae'n adroddiad pwysig. Rydyn ni wedi gwneud penderfyniad fel Llywodraeth y byddwn ni'n gosod yr adroddiad gerbron y Senedd bob blwyddyn a byddwn ni'n hwyluso dadl yn amser y Llywodraeth. Yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r ddadl honno wedi digwydd tua'r adeg hon o'r flwyddyn, ond oherwydd nifer y cyfarfodydd sydd wedi digwydd rhwng Gweinidogion a'r llywydd, mae wedi'i oedi ychydig. Nid oherwydd nad yw'n bwysig yw hynny, ond oherwydd bod y gronoleg yn bwysig ac mae'n bwysig ei osod ar yr adeg iawn ac mae'n rhaid eu gwneud mewn trefn. Felly, byddwn ni'n cyflwyno'r ddadl honno a byddwch chi'n cael cyfle i wneud y pwyntiau hynny eto. Rydyn ni'n eu cymryd o ddifrif, y rhai sy'n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ac mae'r holl safbwyntiau sy'n cael eu mynegi gan y llywydd yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae hynny'n rhan bwysig o pam y gwnaeth y Prif Weinidog a minnau gwrdd ag ef yn ddiweddar iawn, ac rwyf i wedi cwrdd ag ef fy hun, hefyd.

Rydyn ni'n parhau i weithio ar ddatblygu'r Bil tribiwnlysoedd ac rydyn ni'n bwriadu ymdrin ag argymhellion gan adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y Bil. Mae araf i ofn na allaf i ddweud ar ba gam y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno, oherwydd mae hynny'n ddibynnol ar ddatganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog. Ond gallaf i ddweud wrthych chi ein bod ni'n gweithio'n ddiwyd ar baratoi'r Bil ac rwy'n gobeithio y bydd yn y bumed flwyddyn yn y Senedd hon, ond mae gennym ni nifer o rwystrau, gan gynnwys fy nhrafodaeth â'r Pwyllgor Busnes am y rhaglen. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gallu cyflwyno ei datganiad deddfwriaethol yn y bumed flwyddyn ychydig yn gynt nag y bydden ni fel arfer yn gwneud hynny, er mwyn gallu ein paratoi ni ar gyfer Biliau yn y bumed flwyddyn. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny, ond nid wyf i'n gallu dweud yn bendant ar hyn o bryd ei bod yn bendant yn y rhaglen—mater i'r Prif Weinidog fydd hynny.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Mae'r datganiad yma gan y Trefnydd, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 15:02:17
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf o ran amseroedd aros, yn enwedig yn y gogledd, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Cefais i fy synnu'n fawr o weld, o'r 24,000 o bobl yng Nghymru sy'n aros am dros ddwy flynedd am driniaeth, bod dros 10,000 o'r rheini—42 y cant—yn gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dyna 42 y cant o'r rhai sy'n aros dros ddwy flynedd, er gwaethaf y ffaith mai dim ond 22 y cant o boblogaeth Cymru sy'n byw yn y rhanbarth hwnnw. Yn amlwg, mae'n annerbyniol cael anghydraddoldeb rhanbarthol o'r fath o ran mynediad at wasanaethau iechyd, ac mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau gweithredu i sicrhau bod gallu'r gogledd i ymdrin â'r rhestrau aros hynny yn cael sylw. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallen ni gael datganiad penodol gan Lywodraeth Cymru ar y mater yn y gogledd.

Yn ail, cyhoeddodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall adroddiad ar y rhwystrau i'r bobl hynny sydd â nam ar eu golwg o ran eu gallu i fwrw eu pleidleisiau mewn ffordd gyfrinachol mewn etholiadau. O'r llawer o bobl hynny a oedd yn destun arolwg—dywedodd dim ond 26 y cant, rwy'n credu—eu bod ar hyn o bryd yn teimlo'u bod yn gallu pleidleisio'n annibynnol. Yn amlwg, mae angen i ni wneud rhywbeth am hynny i sicrhau bod ein democratiaeth, a gafodd ei seilio ar bleidlais gudd, yn rhywbeth y gall pobl ei fwynhau p'un ai oes ganddyn nhw anabledd ai peidio. Byddwn i'n gwerthfawrogi gwybod gan Lywodraeth Cymru pa gamau y maen nhw'n bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â hyn, yn enwedig yn etholiadau'r Senedd nesaf, o gofio eu bod ar y gorwel.

Diolch yn fawr, Darren Millar. Diolch am y cwestiynau yna. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi nodi'ch cwestiwn o ran amseroedd aros yn y gogledd, ac wrth gwrs, yn ymdrin â'r rhain gyda Betsi Cadwaladr, ochr yn ochr â'r holl fyrddau iechyd eraill. Ac, yn wir, ymatebodd y Prif Weinidog hefyd, ond gallaf i eich sicrhau chi bod hyn wedi'i nodi ar y cofnod heddiw.

Mae eich ail bwynt yn berthnasol iawn heddiw, gan ei fod yn ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig. Rydyn ni newydd lansio rhwydwaith cymheiriaid Mynediad i Wleidyddiaeth Anabledd Cymru pwysig iawn. Mae hyn, fel y gwyddoch chi, hefyd yn rhan o'r ffordd yr ydyn ni'n cydweithio ac yn ymgynghori ar ganllawiau amrywiaeth a chynhwysiant drafft tuag at alluogi pobl i gyflwyno eu hunain—pobl amrywiol, gan adlewyrchu amrywiaeth Cymru—ar gyfer etholiad y Senedd, ac, yn wir, etholiadau llywodraeth leol. Felly, fe gymeraf hyn yn ôl, oherwydd byddwn i'n dweud mai cyfrifoldeb fy nghyd-Ysgrifennydd Jayne Bryant yw hi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, a minnau, o ran goresgyn y rhwystrau hynny, yn enwedig ymateb i adroddiad yr RNIB, y mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, fynd i'r afael ag ef.

15:05

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn dilyn y datganiad i'r wasg ddoe a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ynghylch y £157 miliwn o gyllid ychwanegol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod gennym ni eglurder o ran y dadansoddiad, oherwydd mae'n dweud yn y datganiad i'r wasg ei fod yn gymysgedd o refeniw a chyfalaf —byddai cael y dadansoddiad hwnnw'n hynod ddefnyddiol. Yn amlwg, mae datganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi ynghylch un elfen, sef cronfa diogelu swyddi a gwytnwch sefydliadau Cyngor Celfyddydau Cymru. O ystyried y diddordeb sydd wedi bod yn y Siambr hon a gan y pwyllgor dan gadeiryddiaeth Delyth Jewell ar y mater hwn, rwy'n credu bod cael eglurder a chyfle i drafod yn bwysig iawn—hefyd er mwyn rhoi eglurder i'r sefydliadau hyn. Rydyn ni'n gwybod bod cymaint o swyddi wedi'u colli, ac mae cymaint o sefydliadau wedi gorfod rhoi'r gorau i weithredu neu dorri gwasanaethau, felly mae deall effaith y cyllid hwn, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r sefydliadau hyn ledled Cymru, yn hanfodol.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwy'n siŵr y byddwch chi wedi croesawu'r £157 miliwn, ond wrth gwrs, gwnawn ni ddarparu'r eglurder o fanylion hwnnw.

A gaf i ofyn am ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol? Yn y gwanwyn eleni, dyfarnodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan y contract ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol ym Mrynmawr i Dr Ahmed a Dr Allinson. Mae'r ddau yn gyfarwyddwyr dros 70 o gwmnïau, ac E Harley Street yw'r enw arnyn nhw'n bennaf. Ers dyfarnu'r contract hwn, rydyn ni wedi gweld dirywiad difrifol a pharhaus gwasanaethau ym Mrynmawr. Rwyf i hefyd yn deall bod gan E Harley Street ddyled o hyd at £250,000 i feddygon a gweithwyr locwm, ac mae llawer o feddygon erbyn hyn, yn ddealladwy, yn gwrthod gweithio i E Harley Street ac yn gwrthod gweithio ym Mrynmawr. Rwy'n deall ymhellach, fod gan y cwmni ddyledion sylweddol i CThEF ac i gyflenwyr. Ar ben hyn, cafodd rheolwr y practis ei ddiswyddo yn ddiseremoni. Felly, ni all y cwmni hwn, gydag arferion busnes amheus, ddod o hyd i feddygon ac ni allan nhw dalu eu biliau.

Yn ein profiad ni ym Mlaenau Gwent, nid yw hyn yn adlewyrchu gwerthoedd sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol. Yn amlwg, mae llawer o'r materion hyn ar gyfer y bwrdd iechyd, ond mae gan Lywodraeth Cymru oruchwyliaeth o'r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd ledled Cymru ac mae'n rhaid bod gennym ni farn pan fo gennym ni'r busnesau hyn sy'n ymddangos yn fwy penderfynol o fynd ar drywydd elw na darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar y gofal sylfaenol a'r gwasanaethau sylfaenol sy'n cael eu cynnig i fy etholwyr. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gael datganiad, Trefnydd, i ddeall beth sy'n digwydd pan fydd darparwr gwasanaethau yn methu. 

Diolch yn fawr iawn, Alun Davies. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon lleol, ac rydych chi wedi tynnu ein sylw ato yma yn y Siambr heddiw, ynghylch practisau sydd wedi'u rheoli gan E Harley Street. Fel y dywedwch, chi, cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw cynllunio a darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol i'w boblogaeth, gan gynnwys rheoli contractau ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol. Cafodd y contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol hynny eu dyfarnu gan Aneurin Bevan yn gynharach eleni. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ysgrifennu atoch chi ar y mater hwn a bydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn yr ymateb.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar amseroedd ymateb ambiwlansys o ran cwympiadau. Y penwythnos cyn yr un diwethaf, cwympodd menyw oedrannus o fy rhanbarth gan dorri ei chlun. Galwodd y teulu am ambiwlans ac yna gofynnwyd iddyn nhw aros. Ar y dechrau, cafodd y claf gyfarwyddyd i beidio â chael unrhyw fwyd, dŵr na meddyginiaeth poen nes bod ambiwlans wedi cyrraedd. Ar ôl aros am bron i ddiwrnod, cafodd y teulu gyfarwyddyd y gallai'r claf gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed, ynghyd â rhywfaint o feddyginiaeth poen. Yn olaf, ar ôl 30 awr, heb unrhyw arwydd o ambiwlans, penderfynodd y teulu gludo'r claf eu hunain, er gwaethaf yr amheuaeth ei bod wedi torri'i chlun, gan mai'r dewis arall oedd gadael y fenyw oedrannus yn gorwedd ar y llawr mewn poen ac anghysur difrifol.

Yn anffodus, nid yw'r achos hwn yn unigryw o bell ffordd. Rwy'n gwerthfawrogi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cychwyn adolygiad i briodoldeb mesurau a thargedau ymateb brys ambiwlansys. Fodd bynnag, byddwn i'n awgrymu bod adolygiadau o'r fath yn cymryd amser a bod pobl yn marw, ac y byddan nhw yn marw, yn y cyfamser. Wrth weithio fel llawfeddyg orthopedig, ymgymerais i ag ymchwil helaeth a lluniais i sawl papur ar gyfraddau marwolaeth ymhlith pobl â thoriadau clun. Arweiniodd unrhyw oedi mewn triniaeth at fwy o farwolaethau. Gwnes i ddarganfod bod oedi cyn rhoi llawdriniaeth o fewn 48 awr i'r toriad ddigwydd wedi arwain at ddyblu'r gyfradd marwolaethau, beth bynnag oedd yr oedran. Roedd person 65 oed yr un mor debygol o farw â dyn agored i niwed 95 oed. Pa obaith sydd gan ein hetholwyr os na allan nhw hyd yn oed gyrraedd ysbyty yn y lle cyntaf? Felly, Trefnydd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r materion hyn, ac rwy'n galw am ddatganiad brys. Diolch yn fawr.

15:10

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain. Diolch i chi am rannu nid yn unig yr amgylchiadau yr ydych chi'n eu codi gyda ni heddiw, ond hefyd am eich profiad fel cyn-glinigwr, fel Aelod etholedig i'r Senedd hon, yr ydyn ni, wrth gwrs, yn ei barchu. Mae'n bwysig, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi bod yn ymateb, yn enwedig o ran gwasanaethau ambiwlans. Mae'r mater o ran oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans ledled Cymru yn rhywbeth y mae'n ymdrin ag ef, oherwydd mae'n cael effaith ar adnoddau'r gwasanaeth ambiwlans. Rydyn ni wedi bod yn glir iawn am hyn gyda'r byrddau iechyd. Cafodd ei nodi yn fframwaith cynllunio GIG Cymru a chafodd ei gynnwys fel rhan o amcanion cadeiryddion BILlau. Rydyn ni wedi buddsoddi £180 miliwn mewn cyllid ychwanegol eleni, sydd i helpu i reoli mwy o bobl yn y gymuned yn ddiogel, osgoi cludiant a mynediad diangen i'r ysbyty a darparu atebion integredig. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ganllawiau trosglwyddo cleifion ambiwlans newydd o 29 Hydref. Ond gwn i y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymdrin â hyn fel rhan o'i ddatganiad her 50 diwrnod y prynhawn yma.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Hoffwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, i ymdrin â'r heriau parhaus ar ôl storm Bert. Roedd y llifogydd a darodd ein cymunedau yr wythnos diwethaf wedi cael lle blaenllaw yn y penawdau, ac er bod lefelau'r dŵr wedi gostwng, mae'r difrod yn parhau. Rwyf i eisiau sicrhau nad yw canolbwyntio ar y lleoedd hynny yn dod i ben pan ddaw'r gwaith glanhau i ben, oherwydd bod pobl yn ofnus. Effeithiwyd eto ar gymaint o strydoedd a busnesau a gafodd eu taro gan lifogydd yn 2020 yn Ystrad Mynach, Llanbradach, y Coed Duon a Bedwas. Mae pobl yn poeni ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd eto. Dim ond ar ddechrau'r gaeaf yr ydyn ni. Gallwn ni ddisgwyl mwy o stormydd. Mae angen i ni dawelu meddwl trigolion drwy eu sicrhau bod cynllun i'w diogelu.

Rydyn ni hefyd wedi gweld tomen lo yn llithro i lawr mynydd yng Nghwmtyleri a llyncdwll yn agor mewn ystad dai ym Merthyr Tudful, sy'n ymddangos fel petai wedi'i achosi gan gwlfert yn chwalu mewn glaw trwm. Bydd pobl ar draws y Cymoedd yn poeni. Mae tirlithriadau wedi digwydd mewn pentrefi eraill hefyd. Felly, a allwn ni gael dadl y Llywodraeth i ymdrin â phryderon pobl ac i egluro pa gamau brys y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu ein cymunedau a'r holl bobl sy'n byw ynddyn nhw?

Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell. Mae'n bwysig eich bod chi'n dychwelyd i'r mater hwn heddiw, oherwydd effaith y llifogydd yn y cymunedau yr ydych chi'n eu cynrychioli, a hefyd yn y rhanbarth, ond hefyd, wrth gwrs, yr hyn y mae Alun Davies wedi'i gyflwyno o ran y sefyllfa yn ei etholaeth ef, o ran y tirlithriad a'r effaith y mae'n ei gael ar y gymuned, a'r gwaith clirio. Wrth gwrs, cafodd cyllid ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf, ond mae angen i ni sicrhau bod y cyfathrebu yn cyrraedd ei nod o ran sut y gall pobl fynd ar drywydd y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn ystod y dyddiau anodd iawn hyn ar ôl y llifogydd hynny, pan fydd y cyhoeddusrwydd yn symud oddi ar y dudalen flaen.

15:15

Hoffwn i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, am ddatganiad brys ar fater tlodi tanwydd. Rydyn ni wedi gweld y newidiadau i daliadau tanwydd gaeaf a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Lafur y DU yn cynyddu caledi i filoedd o bensiynwyr y gaeaf hwn yn sylweddol, ac yn fy sir enedigol, Powys, bydd 90 y cant o bensiynwyr ar eu colled o ran y cymorth hanfodol hwn. Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, er ei bod yn llawn bwriadau da, yn mynd rhagddi'n llawer rhy araf. Ar y cyflymder presennol, mae Sefydliad Bevan yn dweud y bydd yn cymryd 136 o flynyddoedd i ymdrin â phob aelwyd sy'n dlawd o ran tanwydd, sy'n fethiant annerbyniol i'r genhedlaeth hon. Mae hyn yn cael ei waethygu ymhellach gan ddata wedi dyddio ar dlodi tanwydd yma yng Nghymru, sy'n dibynnu ar arolygon degawdau'n ôl o stoc dai, gan amharu ar ein gallu i fod yn effeithiol.

Unwaith eto, rydyn ni hanner ffordd drwy'r gaeaf hwn, ac mae'r mater hwn wedi'i godi dro ar ôl tro. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud ar ran y Llywodraeth yma yng Nghymru i sicrhau bod ein cartrefi'n glyd a bod y rhaglen hon yn gallu parhau'n ddi-oed ac ar raddfa fawr? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Hoffwn i wneud datganiad. Byddaf i'n gwneud cais am yr amser busnes, neu'n wir yn dechrau gyda datganiad ysgrifenedig. Rwyf i eisiau ymateb i'r cwestiwn hollbwysig, yn ystod misoedd y gaeaf hwn, ynghylch sut yr ydyn ni fel Llywodraeth yn ymdrin â thlodi tanwydd ac yn buddsoddi mewn Cartrefi Clyd, oherwydd mae'n gyfrifoldeb ar y cyd i mi a Jane Bryant, o ran cynllun Cartrefi Clyd Nyth. Mae'n £30 miliwn i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith, a dyna'n prif ddull i ymdrin â thlodi tanwydd. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig i'r aelwydydd hynny sy'n elwa ar gynllun Cartrefi Clyd Nyth yw nid yn unig pecynnau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartref, ond hefyd cyngor ac arweiniad i bob un o'r aelwydydd hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi ateb cwestiynau ar y pwynt hwn.

Mae'n rhaid i ni fanteisio i'r eithaf ar incwm, datblygu cydnerthedd ariannol, rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl, ac rwy'n credu bod y gronfa cymorth dewisol a'r gronfa argyfwng i bobl yn rhoi cymorth ar gyfer costau tanwydd ac ynni mewn sefyllfaoedd argyfwng. Rydyn ni'n cefnogi ymgyrch Llywodraeth y DU i gael pensiynwyr cymwys i gofrestru ar gyfer credyd pensiwn, fel y gallan nhw gael mynediad at y cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Ond hefyd, rydyn ni'n buddsoddi yn y Sefydliad Banc Tanwydd, fel y gwyddoch chi, gyda £700,000 yn fwy o arian i alluogi pobl ar fesuryddion rhagdalu ac oddi ar y grid i gael mynediad at y cyllid hwnnw. Ond er mwyn dod â'r cyfan at ei gilydd, byddaf i'n gwneud datganiad, ac yn dod o hyd i amser i wneud datganiad ar ymdrin â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Trefnydd, yn dilyn y llifogydd dinistriol a gafodd eu hachosi gan storm Bert, roedd ymateb Llywodraeth Cymru i helpu busnesau yr effeithiwyd arnynt yn ddiffygiol iawn. A gawn ni ddatganiad felly, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau yr effeithiwyd arnynt?

A hefyd, yn ogystal, mae'n ddrwg gennyf i, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i glywed eu cynllun o ran sut y maen nhw'n bwriadu galluogi'r rhai ag anableddau i gael bywyd mor anghyfyngedig â phosibl? Roedd hi'n siomedig iawn heddiw, Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, fod datganiad y Llywodraeth wedi'i dorri o'r agenda, gan ystyried yr effaith y mae'n ei chael fel arfer.

Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi eisoes wedi ymateb ac yn bwrw ymlaen â'r materion o ran cefnogaeth ac ymateb i'r busnesau y mae'r llifogydd yn effeithio arnyn nhw. Unwaith eto, mae'n mynd yn ôl at bwynt Delyth Jewell, bod angen i ni sicrhau bod hyn yn amlwg, yn amlwg ar yr agenda. Mae'n amlwg, i Lywodraeth Cymru, ein bod ni'n bwrw ymlaen â'r cyfrifoldebau hynny.

Roeddwn i'n falch iawn o fod yn bresennol heddiw—rwy'n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi gallu bod yn bresennol yn y digwyddiadau a gafodd eu cynnal yn y Senedd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Yr hyn oedd yn dda iawn oedd ein bod ni'n gallu siarad am rwydwaith cymheiriaid Mynediad at Wleidyddiaeth Anabledd Cymru, yr ydyn ni fel Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Cyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, a byddaf i'n gwneud datganiad llafar yn y flwyddyn newydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau sydd gennym ni i gyflawni ein cynllun gweithredu hawliau anabledd.

15:20

A gaf i ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y cyhoeddiad a gafodd ei wneud wythnos diwethaf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd rhaid aros efallai 10 mlynedd arall cyn gweld adeiladu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru? Nawr, i'r rhai ohonon ni sydd yn byw yn yr ardal, rŷn ni'n gwybod bod yr ysbytai presennol, Glangwili a Llwynhelyg, yn ei gweld hi'n anodd darparu'r lefel o gefnogaeth glinigol sydd ei hangen. Fe ddechreuodd y sgyrsiau am ysbyty newydd nôl yn 2006, felly gyda'r oedi o 10 mlynedd, efallai bydd 28 mlynedd o godi gobeithion ac addewidion gwag wedi digwydd. Felly, mae hyn, fel y gwyddoch chi, yn cwbl annerbyniol.

Felly, mae angen buddsoddiad brys ar ystadau. Mae angen technoleg newydd, cyfleusterau pwrpasol a chyfarpar clinigol modern er mwyn darparu'r gofal gorau posibl i gleifion yr ardal. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet i esbonio sut mae e'n bwriadu cyflawni hyn a sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi'r bwrdd iechyd i weld adeiladu ysbyty newydd yn yr ardal?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Mae'n gwbl amlwg bod hyn yn rhan o gynllunio cyfalaf ar gyfer moderneiddio ac adnewyddu ein hystadau ledled Cymru, sy'n gyfrifoldeb y byrddau iechyd, ond yn amlwg iawn yn gweithio mewn partneriaeth o ran ein rhaglen gyfalaf ystadau'r GIG. Ond mae eich pwyntiau wedi'u cymryd a'u nodi heddiw.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r cyntaf ar gymorth i feddygon. Fel llawer o Aelodau yn y Senedd, rwyf i wedi cael gohebiaeth sylweddol ar y pwnc. Mae'r rhai sydd o blaid yn dadlau ei fod yn darparu cymorth cymwys ychwanegol i feddygon, gan wella cynhyrchiant. Mae'r rhai yn erbyn yn dweud y byddai'n well i ni wario'r arian yn cynhyrchu mwy o feddygon. Nid oes gennyf i unrhyw farn gref y naill ffordd na'r llall ar hyn, ond hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth yn dweud beth yw barn y Llywodraeth ar gymorth i feddygon.

Rwyf i hefyd yn gofyn am ddatganiad ar y system Teacher Booker y mae Llywodraeth Cymru yn ei dreialu. Rwy'n credu mewn cyflogaeth uniongyrchol athrawon cyflenwi naill ai gan ysgolion neu gan awdurdodau lleol. Nid wyf i erioed wedi cefnogi model asiantaeth gyflenwi ar gyfer darparu athrawon cyflenwi, felly rwy'n credu y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf o ran ble yr ydych chi arni gyda'r system Teacher Booker yn ddefnyddiol. 

Diolch yn fawr am eich cwestiynau. 

Ar y pwynt yna, yn amlwg, byddwn i'n codi hyn gyda'r Gweinidog addysg. Ond hefyd rydyn ni wedi gofyn o ran y—. Mae angen dull teirochrog arnon ni i ddiffinio cwmpas y gwaith, oherwydd mae gennym ni 200 o gymdeithion meddygol yng Nghymru, ac mae angen i ni ddeall drwyddi draw beth yw'r rôl. 

Hoffwn i gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, oherwydd bythefnos yn ôl fe godais i'r mater bod Ysbyty Glan Clwyd, er pryder enfawr i mi, yn cynnal 4,000 yn llai o lawdriniaethau yn 2023 nag yr oedd yn 2019, ac mae hyn er gwaethaf amseroedd aros hir yn lleol ac yn genedlaethol, y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn mynd i siarad amdano nesaf. Ond cyn y Nadolig nid oes gennym ni ddatganiad nac unrhyw gyfres o gwestiynau ar ddod gan y Llywodraeth er mwyn codi'r mater yma. Felly, a gaf i ddatganiad am y mater hwn, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru a pha waith adfer y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda Betsi Cadwaladr er mwyn datrys y broblem hon, sydd, yn ei hanfod—? Cyn COVID-19, roedden nhw'n cynnal, fel yr wyf i'n ei ddweud, 4,000 yn fwy o lawdriniaethau nag y maent ar hyn o bryd, ac mae angen i ni ganfod y rheswm y tu ôl i rai o'r ystadegau syfrdanol hynny.

Wel, rwy'n credu y byddwch chi'n gallu cael cyfle nawr i gwestiynu, yn fuan iawn, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd mae hyn, wyddoch chi, o ran y ffordd ymlaen, y gydnabyddiaeth 50 diwrnod o'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran cynhyrchiant. Rwy'n credu eich bod chi'n mynd i glywed newyddion pwysig, cadarnhaol iawn, fel y gwyddoch chi, o'r datganiad, maes o law.

15:25

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd. Hoffwn i'r Llywodraeth wneud datganiad ar ei hymateb i'r sefyllfa barhaus yn Gaza, ac yn enwedig ei hymateb i lythyr diweddar Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru at y Prif Weinidog, sy'n nodi bod y gwrthdaro yn mynnu sylw a gweithredu parhaus gan Gymru, i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw dramor ac i gymunedau yng Nghymru, yn unol â'n hymrwymiadau statudol i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r rhyfel yn effeithio'n uniongyrchol ar lawer o bobl yma yng Nghymru, gyda llawer wedi colli anwyliaid, ac mae etholwyr ym mhob rhan o Gymru yn cynnal gwylnosau a phrotestiadau wythnosol er mwyn tynnu sylw at yr erchyllterau sy'n digwydd yno yn ddyddiol. Erbyn hyn mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i'r Senedd drafod y sefyllfa yn Gaza yn ffurfiol. Ers hynny, mae'r sefyllfa wedi newid a dwysáu, felly mae angen i ni glywed ymateb y Llywodraeth i'r galwadau sy'n cael eu gwneud gan gymaint o'i dinasyddion. Hwn yw mater moesol diffiniol ein hoes, ac mae'n fater sy'n uniongyrchol berthnasol i gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

Hoffwn i hefyd adleisio siom Laura Anne Jones yn sgil y penderfyniad i gael gwared ar y datganiad llafar arfaethedig ar gyfer heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Yn ogystal, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n mynd i roi datganiad llafar yn y gwanwyn ar gynnydd y tasglu hawliau anabledd. Ond byddwn ni hefyd yn tynnu'ch sylw at y ffaith bod angen i ni glywed am y diffyg cynnydd hefyd, a'r rhesymau dros hynny, o ran ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, a hefyd ymdrin â'r bwlch cyflogaeth anabledd, sy'n sylweddol uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Diolch.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn—dau gwestiwn pwysig iawn.

Rydw i newydd weld heddiw y llythyr gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar amdano o ran —. Efallai eich bod chi'n ymwybodol ein bod ni'n ystyried y ffyrdd y gallwn ni drin a thrafod y sefyllfa yn Gaza, yn y Senedd hon, sy'n bwysig iawn, fel y dywedwch chi. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi ymateb i gwestiynau yn uniongyrchol iawn ar hyn—yn amlwg, nid yw wedi'i ddatganoli, ond mae gennym ni ein cyfrifoldebau o ran ein cymunedau, yr ydyn ni'n ymgysylltu â nhw, ac mae hynny'n bwysig i bob un ohonon ni yma yn y Siambr hon.

Do, fe gyhoeddais i ddatganiad ysgrifenedig heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Fe welwch ynddo fy mod i'n ymdrin nid yn unig â chynnydd o ran y tasglu hawliau anabledd—rwyf i eisiau rhoi llawer mwy o fanylion mewn datganiad llafar yn y flwyddyn newydd—ond hefyd rwyf i wedi ymdrin â'r mater o gynnydd a'r gwaith sy'n cael ei wneud, y byddwch chi'n ymwybodol ei fod yn rhan o'r grŵp cynghori hawliau dynol rwy'n ei gadeirio, o ran ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl i mewn i gyfraith Cymru.

Wel, fe wnes i gadeirio sesiwn digwyddiad y Senedd Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl gydag Anabledd Cymru yn gynharach, gan hyrwyddo hawliau a llesiant pobl anabl. Ac rwy'n galw am ddatganiad llafar gan Lywodraeth Cymru yma yn unol â hynny, oherwydd dyna’r hyn y maen nhw wedi galw amdano heddiw.

Eleni, y thema, fel y gwyddoch chi, yw helaethu arweinyddiaeth pobl anabl ar gyfer dyfodol cynhwysol a chynaliadwy, gan bwysleisio pwysigrwydd hyrwyddo arweinyddiaeth a galluogedd pobl anabl a sefydliadau pobl anabl. Yng Nghymru, fodd bynnag, mae angen cynnydd sylweddol o hyd i gyflawni rhwymedigaethau cenedlaethol, o dan y nodau datblygu cynaliadwy a chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.

Croesawodd Anabledd Cymru gwaith Llywodraeth Cymru yn creu'r tasglu hawliau anabledd, i lunio cynllun gweithredu gydag argymhellion ar gyfer ymdrin â rhwystrau systemig rhag cydraddoldeb a hawliau pobl anabl yng Nghymru. Fodd bynnag, pan agorais i arddangosfa deithiol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn y gogledd ddoe, clywais i unwaith eto nad oes cydymffurfiaeth â'r gofyniad, yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i roi llais, dewis a rheolaeth wirioneddol i bobl anabl o ran penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau nhw. Rwy'n galw am ddatganiad llafar i'r Senedd hon, yn y Siambr hon yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn, ac fel y dywedais i, rwy'n gwneud datganiad llafar i ymdrin â'r pwyntiau hynny yn y flwyddyn newydd. Ond rwy'n eich annog chi i edrych ar fy natganiad ysgrifenedig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ba gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd i gynorthwyo pobl sy'n ffoi rhag trais a hil-laddiad yn Darfur a de Sudan? Cefais i'r cyfle i gwrdd â phobl ifanc o dde Sudan. Pobl Zaghawa oedden nhw a oedd yn byw yn bennaf yn Chad, oherwydd eu bod yn ffoi o'r hil-laddiad, ac yna'n teithio o Chad trwy Ogledd Affrica i Tunisia, dros y cefnfor i'r Eidal, ac yna drwodd i Ffrainc, ac roedden nhw'n esbonio pam y maen nhw eisiau dod i'r DU ac i Gymru am gymorth, dim ond oherwydd eu bod nhw'n gallu siarad—. Fe wnaethon nhw ddysgu Saesneg yn yr ysgol, ac fe wnaethon nhw ddysgu am y Deyrnas Unedig.

Does dim llwybr diogel i bobl o dde Sudan i Gymru ac i'r DU, ond mae angen cymorth arnyn nhw. Maen nhw'n wynebu hil-laddiad. Roedden nhw'n esbonio faint o aelodau o'u teulu oedd wedi cael eu lladd a'u llofruddio, ac roedd bechgyn ifanc yn cael eu dwyn i mewn i ymladd rhyfel cartref yno. Felly, mae angen cymaint o help â phosibl arnyn nhw, a hoffwn i ddeall pa gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i bobl yr ardal honno.

15:30

Diolch am dynnu hynny i'n sylw heddiw, Mabon ap Gwynfor, ac rwy'n meddwl am ein rhaglen Cymru ac Affrica ac, yn wir, rwy'n meddwl hefyd am yr ymgysylltiad sydd gennym gyda'n diaspora o Sudan yma yng Nghymru a'r pwyllgor cynghori alltudion Is-Sahara. Felly, diolch i chi am dynnu ein sylw at hyn, a byddwn ni'n amlwg yn edrych arno o ran yr hyn y gallem ei wneud, neu sut y gallwn ni hefyd gyflwyno sylwadau, yn wir, i'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Her 50 diwrnod newydd i helpu cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, her 50 diwrnod newydd i helpu cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan bwysau sylweddol. Mae’r darlun yng Nghymru yn debyg i’r un mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae pobl yn byw yn hirach, sy’n gadarnhaol iawn, i raddau helaeth yn sgil safonau byw gwell a datblygiadau mewn gofal iechyd. Ond mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau iechyd cronig a hir dymor, sy’n golygu bod ganddyn nhw anghenion iechyd a gofal cymhleth. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi mwy o alw, wrth gwrs, ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Yr her i ni yw darparu’r cydbwysedd cywir o ofal a chymorth mor agos at adref â phosib i gefnogi pobl fel y gallan nhw fywydau annibynnol yn eu cymunedau lleol.

Ond, ar hyn o bryd, dŷn ni ddim wedi cael y cydbwysedd hwn yn iawn.

Rydyn ni'n gwybod hyn oherwydd mae tua 1,600 o bobl yn wynebu oedi cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty ar hyn o bryd. Maen nhw'n barod i adael yn feddygol, ond gallan nhw ddim mynd oherwydd maen nhw'n aros am asesiad neu becyn gofal i'w cefnogi gartref. I'r bobl hyn, dydy aros yn yr ysbyty am amser hir ddim yn dda i'w hiechyd a'u lles yn yr hirdymor.

Mae yna hefyd lawer o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty a allai fod wedi cael gwell cefnogaeth naill ai gartref neu yn y gymuned, pe bai'r gwasanaethau cywir ar gael. Rydym am i bobl gael gofal yn eu cartrefi eu hunain, neu yn eu cymunedau lleol, lle bynnag y bo modd, oherwydd mae'r holl dystiolaeth yn dangos mai dyna lle maen nhw'n gwneud orau.

Mae lefelau mor uchel o oedi cyn rhyddhau cleifion, neu oedi o ran llwybrau gofal, yn effeithio wedyn ar y system iechyd a gofal ehangach. Oherwydd bod y drws cefn i'r GIG wedi cau i bob pwrpas, does dim llif drwy'r system ac mae'r drws ffrynt yn cael ei jamio fwyfwy. Rydyn ni'n gweld hyn o ran yr arosiadau hir i bobl gael eu derbyn i wely ysbyty, o ran yr ambiwlansys sy'n ciwio am oriau y tu allan i adrannau brys i drosglwyddo cleifion, ac o ran diffyg capasiti ambiwlansys i ymateb i alwadau 999 newydd yn y gymuned.

Dirprwy Lywydd, mae'r GIG ac awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed iawn yn y ddwy flynedd ers y pandemig i fynd i'r afael â'r pwyntiau pwysau hyn, i sicrhau bod llai o bobl yn wynebu oedi cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty ac i gynyddu capasiti cymunedol. Ers i mi fod yn y swydd, mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi bod yn cael cyfarfodydd pwyllgor gweithredu gofal misol gydag awdurdodau lleol a chydweithwyr yn y GIG i drafod camau i fynd i'r afael ag oedi o ran llwybrau gofal ac adeiladu capasiti cymunedol. Mae'r cyfarfodydd hyn wedi rhoi ffocws gwirioneddol i ni ar y bobl hynny sy'n wynebu oedi cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heddiw a'r rhesymau pam. Fe ddywedaf  fwy am y pwyllgor gweithredu gofal yn y man.

Yr ateb go iawn yw trawsnewidiad tymor hwy, a datblygu system gofal cymunedol integredig i Gymru, gyda'r cydbwysedd cywir o gapasiti cymunedol i helpu pobl i aros yn iach gartref. Bydd hyn yn creu'r cyfle gorau posibl i gryfhau gwasanaethau ataliol i helpu pobl i fyw'n dda am gyhyd â phosibl.

Tra ein bod ni'n gweithio tuag at y trawsnewidiad hirdymor hwn, rydyn ni'n parhau i ganolbwyntio ar gamau gweithredu uniongyrchol drwy'r pwyllgor gweithredu gofal. Ers 2023, mae'r pwyllgor wedi meddu ar dair blaenoriaeth allweddol, y mae pob un wedi'i chynllunio i gefnogi gwelliannau nawr ac i arwain at brofiadau a chanlyniadau gwell i bobl. Y rhain yw, yn gyntaf, lleihau oedi o ran llwybrau gofal; yn ail, cynyddu oriau nyrsio ardal a nyrsio gofal lliniarol ar benwythnosau i gefnogi mynediad saith diwrnod; ac, yn drydydd, gwella cefnogaeth gymunedol ar gyfer gofal camu i fyny a chamu i lawr i'r ysbyty ac oddi yno.

Mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi cwrdd â'r saith rhanbarth i glywed yn fanwl am eu gwaith ar y cyd, am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn sy'n cael yr effaith fwyaf. Rwyf wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan y gwaith a'r cynlluniau sydd eisoes ar waith ledled Cymru, ac rwyf wedi gweld llawer o enghreifftiau o berthnasoedd a chamau gweithredu cryf yn cael eu gweithredu, ond mae angen i'r rhain gael eu rhannu'n ehangach. Mae enghreifftiau'n cynnwys y fyddin binc yn rhanbarth Caerdydd a'r Fro, sy'n defnyddio dulliau integredig ac arloesol o ddarparu gofal cymunedol a chefnogi rhyddhau cleifion. Mae'r ganolfan ffrydio llywio a'r model gofal brys integredig yn y gorllewin yn darparu gofal cymhleth ac integredig yn y gymuned, sy'n golygu nad oes angen i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, yn ogystal â chefnogi rhyddhad cleifion eraill yn amserol. Ac mae model optimeiddio a thechnoleg bwrdd gwyn integredig Cwm Taf Morgannwg yn cefnogi dull traws-sector o gynllunio a rheoli mynediad at ofal.

Arweiniodd gwaith y pwyllgor gweithredu gofal at ddatblygu'r her gofal gaeaf integredig 50 diwrnod a'r rhestr o'r 10 menter arfer orau. Nod yr her 50 diwrnod, sydd bron wedi cyrraedd hanner ffordd, yw cyflymu'r gwaith sy'n mynd rhagddo'n barod yn gyflym a chreu ymdrech genedlaethol gyson i wella llif iechyd a gofal cymdeithasol yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn, pan fydd pwysau'r gaeaf fel arfer ar eu hanterth. Ni fydd hyn yn datrys y broblem gyfan o ran y llif mewn ysbytai nac oedi o ran llwybrau gofal, ond bydd yn sicrhau bod yna ffocws cenedlaethol cyfunol ar y mater a'r ymyriadau arfer gorau, bydd yn helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref mewn pryd ar gyfer y Nadolig, a bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am yr hyn sy'n gweithio a lle mae'r bylchau yn dal i fodoli. Bydd hefyd yn gosod y llwyfan ar gyfer gwelliannau parhaus ac yn arwain at lefel fwy cynaliadwy, gwydn a chyson o berfformiad o ran y system, gan ein llywio tuag at ein nod hirdymor o system gofal cymunedol integredig i Gymru.

Er mwyn cefnogi'r her 50 diwrnod, mae gennym adnoddau a rhaglenni allweddol ar waith yn barod. Mae hyn yn cynnwys y gronfa integreiddio ranbarthol gwerth £146 miliwn, £5 miliwn i gynyddu capasiti gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a £11.95 miliwn drwy'r fenter Ymhellach, yn Gyflymach i feithrin capasiti cymunedol yn benodol. Gan gydnabod y pwysau eithafol ar ein system, rwyf wedi sicrhau £19 miliwn ychwanegol i gefnogi'r her 50 diwrnod. Mae hyn yn cynnwys £10 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi ailalluogi a chapasiti gofal cartref, a £9 miliwn i'r GIG yn benodol ar gyfer gofal yn y gymuned.

Dirprwy Lywydd, mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, ond, drwy weithio ar draws y GIG a llywodraeth leol, a thrwy ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni'n gwybod sy'n gweithio, gyda rhai buddsoddiadau ychwanegol, rydyn ni'n cymryd camau cadarn i feithrin capasiti yn ein cymunedau ac i helpu pobl i ddychwelyd adref pan fyddan nhw'n barod. Dim ond un rhan o'r ymdrech hon yw'r her 50 diwrnod. Mae'n ffordd benodol a chyflym o fynd i'r afael â phwysau uniongyrchol, ac mae'n gosod y sylfeini ar gyfer trawsnewidiad tymor hwy ar yr un pryd. Gydag ymrwymiad a chydweithrediad parhaus ein partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, gallwn ni greu system fwy gwydn ac effeithiol sy'n diwallu anghenion pobl heddiw ac yn y dyfodol.

15:35

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad yn y Siambr yma y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn croesawu eich cydnabyddiaeth o'r problemau o ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty a'r heriau o ran darparu gofal cymunedol hefyd, ac rwy'n ymuno â chi i gydnabod ymdrechion ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n galed iawn ledled Cymru i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon ac i weithio o fewn y systemau sy'n cael eu rhoi arnyn nhw. Ac fel rydych chi wedi cydnabod yn eich datganiad heddiw, mae mwy i'w wneud na dim ond bwrlwm 50 diwrnod i ddatrys y problemau hyn. Er bod rhywfaint o ddaioni yn debygol o gael ei weld oherwydd hyn, rydych chi'n cydnabod, yn briodol, nad dyma'r ateb i'r holl broblemau; mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau rydyn ni'n eu gweld ar hyn o bryd.

Mae'n deg dweud, ar draws y bwrdd, bod y pwysau sy'n wynebu ein GIG yn systemig ac yn hirdymor. Byddwch chi'n cydnabod y rhestrau aros uchaf erioed, sy'n parhau i gynyddu, gyda mwy nag 800,000 o gleifion ar lwybrau gofal erbyn hyn. Byddwch chi hefyd yn cydnabod bod 23.3 y cant o'r arosiadau yng Nghymru yn flwyddyn neu fwy, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cydnabod bod gormod o bobl yn gwingo mewn poen am lawer rhy hir. Mae'n iawn cydnabod, yn anffodus, mewn rhai ysbytai, bod 20 y cant o welyau yn cael eu meddiannu gan gleifion sydd naill ai'n aros i adael neu y mae angen iddyn nhw adael, ac mae'n creu'r lefelau uchaf erioed o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Yn wir, mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r cynllun hirdymor ar gyfer delio â'r arosiadau hyn wedi'u cydnabod hefyd gan Gydffederasiwn GIG Cymru. Mewn ymateb i'r her 50 diwrnod, fe ddywedon nhw nad yw'r her yn ddigonol ar ei phen ei hun ac na fydd yn sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy yn yr hirdymor.

Felly, tybed, Ysgrifennydd Cabinet, wrth edrych tua'r dyfodol, a fyddech chi'n gallu siarad am rai o'r atebion mwy hirdymor rydych chi'n eu gweld, yn enwedig yr hyn sy'n cael ei ddysgu o'r her 50 diwrnod hon sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd. Rydych chi, yn ddefnyddiol, wedi rhestru nifer o fentrau cyffrous o bob rhan o Gymru sy'n mynd i gael eu rhannu, gobeithio, ledled y wlad, ond pryd fyddwch chi'n nodi faint o'r mathau o fentrau rydych chi'n eu gweld fydd yno yn y tymor hir hefyd, nid dim ond am y cyfnod hwn o 50 diwrnod, fel y gallwn ni weld y newid cadarnhaol hwnnw yn y tymor hwy yn ein gwasanaeth iechyd?

Rydych chi hefyd wedi cydnabod rôl bwysig awdurdodau lleol—cynghorau—wrth helpu i ddatrys rhai o'r materion presennol yn y system ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gwybod bod cynghorau o dan bwysau mawr, ac rwy'n croesawu'r £10 miliwn ychwanegol rydych chi wedi'i gyhoeddi yma heddiw. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau, ydych chi'n meddwl, y bydd hynny'n bodloni'r heriau cyllido hynny sydd gan gynghorau ar hyn o bryd, fel y gallan nhw ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n cael eu rhoi arnyn nhw yn ddigonol. Oherwydd yr hyn na allwn ni ei weld yw risg y bydd y baich cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i'n cynghorau heb y lefel briodol o gyllid i'w galluogi i gyflawni'r pethau y gofynnir amdanynt.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, sicrhau nad yw pobl sy'n barod i gael eu rhyddhau yn cymryd gwelyau y mae taer eu hangen yw'r her fawr, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws systemau iechyd eraill hefyd, ac mae angen cydnabod hynny. Tybed, o ran y problemau penodol a'r heriau penodol sydd gennym yng Nghymru, a oes angen mynd i'r afael â rhywfaint o hynny drwy ein lefelau staffio a'r ffordd y mae gennym ni ein cynlluniau hyfforddi mewn lle yn briodol i sicrhau bod ein lefelau staffio yn iawn yn y dyfodol hefyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed, Ysgrifennydd Cabinet, sut rydych chi'n gweithio gyda chydweithwyr ar draws bwrdd y Cabinet i sicrhau bod llwybrau gyrfa a'r gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn ddeniadol a bod yna gynllun clir i ddenu pobl i'r rolau pwysig iawn hynny. Diolch yn fawr iawn.

15:40

Diolch i Sam Rowlands am y cwestiynau hynny. Mae'n iawn i ddweud nad yw'r her o sicrhau ein bod ni'n gallu rhyddhau pobl sy'n aros i adael ysbyty adref yn ddiogel cyn gynted â phosib yn amlwg yn her sy'n unigryw i ni yng Nghymru; mae'n her sy'n wynebu pob rhan o'r GIG ym mhob rhan o'r DU.

Yr hyn rydyn ni wedi gallu ei wneud dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn benodol, fel y gwnes i ei grybwyll yn fy natganiad cychwynnol, yw gweithio'n agos iawn gyda rhanbarthau, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, i fod yn bragmataidd yn ei gylch, mewn gwirionedd, ac i nodi beth yw'r ymyriadau mwyaf effeithiol, ac maen nhw i gyd yn bethau, neu o leiaf mae'r mwyafrif yn bethau, sydd ar y rhestr o 10 ymyriad rydyn ni'n gofyn i ranbarthau eu rhoi ar waith, sydd eisoes ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru, nodwn, a dyna lle mae'r dystiolaeth wedi dod.

Rydyn ni wedi gweld yng Nghaerdydd a'r Fro bod y defnydd o'r fyddin binc yno a'r trefniadau rhyddhau integredig wedi cael effaith fuddiol, fel rydyn ni wedi'i weld yn rhanbarth yr Aelod ei hun hefyd, mewn gwahanol ffyrdd—rwy'n credu eu bod nhw'n ei alw'n 'fyddin las' yn y gogledd, er enghraifft. Ac mae ganddyn nhw rôl asesydd dibynadwy, lle mae asesiad yn cael ei wneud yn amlwg mewn ffordd llawer symlach, cyfannol, ac mae'n osgoi'r oedi hynny wrth gael asesiadau lluosog. Felly, mae yna bethau sydd eisoes yn digwydd. Mae'n debyg fy mod wedi bod yn defnyddio pob cyfle ers i mi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i bwysleisio pa mor bwysig yw hi nid yn unig i fod yn rhoi cynnig ar ddulliau newydd, ond i nodi beth sydd eisoes yn y system sy'n gweithio'n dda a rhannu hynny'n well, a dyma'n union y mae hyn wedi'i gynllunio i'w brofi, os mynnwch chi. Felly, dyna'r dull gweithredu rydyn ni'n edrych arno yma.

Mae'n iawn i ddweud, ac rwy'n ddiolchgar iddo am gydnabod fy mod wedi dweud hyn yn y datganiad, nad prosiect 50 diwrnod a dyna fe yw hwn. Fe wnaeth un partner, un o'r byrddau iechyd, ei ddisgrifio i mi fel, 'Ffocws dwys mewn 50 diwrnod ar yr 20 mlynedd sydd i ddod', os mynnwch chi, oherwydd y newid demograffig y mae pob gwlad yn ei wynebu, ac rwy'n credu y byddwn i'n cydnabod hynny.

Felly, mae'r dulliau gweithredu, sydd ar y rhestr o 10 o bethau, yn newidiadau hirdymor. Maen nhw'n ddulliau gweithredu a fydd, os cânt eu gwreiddio'n llwyddiannus, fel y gobeithiwn, yn helpu i ad-drefnu'r berthynas waith yn benodol rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Ond, yn y pen draw, mae angen i'r newid hirdymor fod yr hyn yr oeddwn i'n sôn amdano yn y datganiad, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu trin y tu allan i'r ysbyty. Ac rydyn ni'n gwybod, os nad oes angen i chi fod yn yr ysbyty, nid yw'n lle da i chi fod. Dyna pam ei bod mor bwysig i ni helpu pobl i gael eu rhyddhau'n ddiogel, felly'r ffocws hwnnw ar wasanaethau cymunedol, ac rydyn ni'n cefnogi hynny gyda chyllid sylweddol. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai un o'r heriau wrth wneud cynnydd cyflym ar raddfa fawr yw'r pwysau ar adnoddau y mae cynghorau'n benodol yn ei deimlo, a dyna pam mae'r £10 miliwn sy'n canolbwyntio'n benodol ar ailalluogi yn ymwneud â sicrhau y gallwn ni wneud rhyddhau pobl yn gynaliadwy gartref.

Gofynnodd i mi a oeddwn i'n credu bod yna ddigon o adnoddau yn y system. Yn amlwg mae wedi bod yn gyfnod anodd i awdurdodau lleol, sy'n wynebu pwysau cystadleuol mewn ystod o gyfrifoldebau statudol ac anstatudol allweddol. Yn ogystal â'r £10 miliwn, bydd llawer o'r balans o £9 miliwn yn y pen draw yn cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau o ran gofal, felly meddygon teulu yn cefnogi cartrefi gofal, gan alluogi pobl i gael eu rhyddhau i welyau cymunedol, fel bod asesiadau gofal iechyd yn gallu digwydd y tu allan i'r ysbyty. Mae pob un o'r rheini'n rhan o ddarlun o gefnogaeth i awdurdodau lleol, yn ogystal â'r cyllid ailalluogi yn benodol.

15:45

Dwi yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei barodrwydd i ddod â'r manylion yma ger ein bron ni heddiw, a hynny'n dilyn y cwestiwn amserol ddaru ni ei gyflwyno dair wythnos yn ôl. Fel gwnes i sôn bryd hynny, mae oedi rhyddhau cleifion o ysbytai, sy'n effeithio ar tua 20 y cant o welyau mewn rhai achosion, wedi bod yn broblem aruthrol, a hynny ers tipyn, ac mae'n adlewyrchiad o'r diffyg aliniad strwythurol ac o argaeledd adnoddau rhwng yr NHS a'r sector gofal. Mae'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi adnabod y methiannau sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac wedi dangos agwedd newydd at y broblem yma hefyd i'w groesawu, ac mi ydym ni'n barod i'w ddal i gyfrif ar y targedau y mae wedi eu gosod.

Dwi'n llwyr gydnabod taw ar ddiwedd y cyfnod o 50 niwrnod bydd yr amser addas am werthusiad llawn o'r fath, ac mi fuaswn i'n gwerthfawrogi pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ymrwymo i ddod â datganiad i'r Siambr cyn gynted ag y mae'r cyfnod o 50 niwrnod wedi dod i ben. Ond mae'n werth nodi bod yna bryderon wedi'u mynegi eisoes ynglŷn â chapasiti'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol i weithredu amcanion y cynllun, a hynny'n ymarferol.

Er enghraifft, yn ystod cyfarfod bwrdd diweddaraf Aneurin Bevan, fe wnaeth y prif weithredwr, Nicola Prygodzicz, sôn am ei gofidion ynglŷn â gallu'r bwrdd iechyd i ryddhau gwelyau ychwanegol yn ddigon cyflym er mwyn ymdopi â'r pwynt o alw uchaf, sydd yn debygol o fwrw yng nghanol mis Ionawr. Fe wnaeth Phil Robson, cynghorwr arbennig y bwrdd, hefyd sôn am sut mae diffyg eglurder ynglŷn â threfniadau perthnasol gyda mudiadau gofal lleol yn rhwystr yn y cyd-destun yma hefyd. I'w ddyfynnu e yn uniongyrchol:

'Dydy peth o'r stwff partneriaeth ddim wedi creu argraff arna i, mae'n ymddangos braidd yn niwlog.'

Felly gaf i ofyn am ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i’r pryderon yma, a sut y mae o'n mynd i fynd ati i sicrhau cydweithio effeithiol a systematig rhwng y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol?

Dwi’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi taw’r elfen allweddol fan hyn ydy sicrhau nad peth tymhorol yn unig fydd unrhyw lwyddiant sy’n deillio o’r cynllun yma, a bod yna fesurau mewn lle gyda’r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol i wreiddio arfer da, a hynny ar sail barhaus. Yn eich ymateb i fy nghwestiwn amserol ar y pwnc yma, fe wnaethoch chi sôn eich bod yn cael sgyrsiau â phartneriaid yn ystod y 50 niwrnod ynglŷn â pha adnoddau y gallai fod eu hangen i wneud yr ymyrraeth yn gynaliadwy. Gaf i ofyn am ddiweddariad felly ar y trafodaethau yma, ac os oes gan y Llywodraeth ddealltwriaeth bellach am y fath o adnoddau ychwanegol posib fydd eu hangen y tu hwnt i'r cyfnod 50 niwrnod, yn enwedig wrth ystyried y pryderon sydd wedi cael eu mynegi yn barod gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan?

Ac i gloi, hoffwn droi yn ôl at y thema agoriadol yn fy nghyfraniad, sef bod yr oedi yma wrth ryddhau cleifion yn symptom o’r ffaith nad yw ein system gofal mewn cyflwr i fedru cyflawni’r nod o symud gofal yn agosach i’r gymuned a’r cartref—y pwynt ddaru'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wneud yn ei gyfraniad agoriadol. Fe wnaeth Conffederasiwn GIG Cymru fynegi neges syml iawn ar hyn pan gafodd y cynllun ei gyhoeddi fis diwethaf:

'Oni fydd heriau ehangach galw a chapasiti ar draws y system iechyd a gofal gyfan yn cael sylw, fydd her 50 diwrnod a chynllun gweithredu ddim yn ddigon i sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy yn yr hirdymor.'

Pan wnes i godi hyn yn ystod fy nghwestiwn amserol fis diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud nad oedd wedi cael cyfle i ystyried asesiad conffederasiwn yr NHS yn llawn. Felly rŵan eich bod chi wedi cael yr amser i adlewyrchu, beth yw eich ymateb? Diolch yn fawr iawn. 

15:50

Diolch am y cwestiynau. Mae'r ffigurau o ran pobl sydd wedi bod yn aros tu hwnt i'r amser maen nhw'n barod i adael yr ysbyty wedi bod yn gostwng fis ar ôl mis drwy gydol y flwyddyn hon. Felly, mae hynny'n galonogol. Mae angen, wrth gwrs, mynd llawer ymhellach. Dyna bwrpas y rhaglen. Ond mae hynny wrth wraidd y patrwm rydyn ni wedi bod yn edrych arno fe ac yn ei weld. Felly, dwi ddim yn credu—. Mae adnoddau yn amlwg yn bwysig, ac mae'r datganiad heddiw wrth gwrs yn cynyddu'r adnoddau sydd ar gael. Mae angen darparu'r adnoddau rydyn ni wedi eu gwneud, ac mae hynny yn sgil trafodaethau gyda phartneriaid i weld lle mae'r prif bwysau. Mae'n amlwg gyda rhywbeth fel reablement, gan ei fod e'n sail i bob peth arall rydych chi'n ceisio ei wneud i alluogi pobl i fynd adref, ei fod e'n thema gyffredin, os hoffwch chi. Beth mae hynny'n caniatáu gyda'r adnoddau yma yw dodi'r systemau yn eu lle fydd yn gallu wedyn cael eu hariannu gan y cynlluniau ariannol eraill sydd eisoes gyda ni—a gwnes i amlinellu rhai ohonyn nhw yn y datganiad—a'u gwneud nhw'n gynaliadwy i'r hirdymor. Ond, fel dwi'n siŵr y bydd yr Aelod yn cydnabod, pan ydych chi'n ceisio gwneud diwygiadau, un o'r pethau rydych chi'n gorfod gwneud yw rhedeg dwy system ar yr un pryd, ambell waith. Felly, mae angen arian ac adnoddau arnoch chi yn y cyfnod hwnnw fel eich bod chi'n gallu trosglwyddo i ffyrdd eraill o weithio sy'n fwy cynaliadwy, gan gynnwys yn fwy cynaliadwy o ran adnoddau yn y tymor hirach. Byddwn i'n barod, ac yn bwriadu beth bynnag, i wneud datganiad pellach yn sgil y 50 diwrnod i fod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn sydd wedi llwyddo a'r hyn sydd, efallai, wedi bod yn fwy heriol.

Roedd yr Aelod yn sôn am rai o'r pethau sydd wedi bod yn heriol. Dwi ddim wedi clywed y dystiolaeth yn uniongyrchol, ond dwi'n derbyn bod pethau ymarferol i weithio trwyddyn nhw. Mae hynny wedi bod yn rhan o'r gwaith partneriaeth. Gwnes i ddim clywed enw'r person gwnaeth sôn bod y peth yn 'woolly', ond gaf i jest fod yn gwbl glir, i unrhyw un sydd ynghlwm yn y broses hon, partneriaeth sydd wrth wraidd y peth? Felly, os oes unrhyw un yn teimlo ei fod e'n woolly, eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau ei fod e ddim yn woolly. Felly, nid jest mater o bwyntio'r bys at bobl eraill; os oes angen gwella gweithredu partneriaeth, mae cyfrifoldeb ar bob partner i wneud hynny. 

Y cwestiwn olaf y gwnaeth e ddweud oedd ynglŷn â chonffederasiwn yr NHS. Wel, mae'r datganiad yn gwbl amlwg, onid yw e? Does neb wedi dweud mai dyma'r unig beth rydyn ni'n ei wneud. Felly, ar lefel gyffredinol, mae'n—dwi ddim yn moyn dweud 'arwynebol', ond mae'n amlwg. Beth fyddwn i yn dweud yw bod yr aelodau sydd ynghlwm wrth y gwaith uniongyrchol o ddelifro hwn wedi bod yn gweithio, dwi'n credu, yn dda gyda'i gilydd, ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hyn. Cawn ni weld ar ddiwedd y 50 diwrnod beth fydd y darlun ar lawr gwlad. Fel dwi'n dweud, byddaf yn hapus iawn i roi diweddariad i'r Senedd bryd hynny.

15:55

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad pwysig, sy'n dangos yn glir eich bod chi'n gwasgu'r danadl. Mae cael eich derbyn i'r ysbyty mor beryglus â gwneud naid bynji, a dydy'r rhan fwyaf ohonon ni ddim yn dyheu am yr olaf. Ond, yn amlwg, mae angen i chi fod yn yr ysbyty os ydych chi'n cael ymyriad meddygol mawr, a'r methiant i gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y mae eu triniaeth feddygol yn golygu nad oes angen iddyn nhw fod yno sy'n atal pobl eraill rhag mynd i'r ysbyty ar gyfer y mathau hynny o lawdriniaethau.

Fe ymwelais â'r fyddin binc, ac mae'n wych gweld yr uwch-nyrsys wedi'u cydleoli â'r uwch-weithwyr cymdeithasol, ond mae llawer iawn mwy o waith i'w wneud o hyd, oherwydd eu dyhead nhw yw helpu pobl sy'n cyrraedd yr adran frys i fynd adref a rhoi'r gofal sydd ei angen arnyn nhw yn y gymuned, lle bo angen.

Hefyd, gallem fod yn cyflymu nifer y gwelyau nyrsio cymunedol sy'n cael eu darparu mewn cartrefi gofal, yn amlwg gyda'r personél cywir i fynd gyda nhw, oherwydd mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl ymweld heddiw, nid ysbyty addysgu prysur yw'r lle iawn ar gyfer gofal diwedd oes. Mae timau nyrsio cymunedol yn wych gyda'u systemau dyrannu tîm cyfrifiadurol, fel bod y person cywir yn mynd i'r claf cywir. Beth yw'r prif rwystrau i gyflymu'r timau nyrsio cymunedol i gwmpasu pob ardal gymunedol ledled Cymru? Ai prinder nyrsys ardal, ymwrthedd i weithio amlddisgyblaethol, neu adnoddau cyfyngedig?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud na fydd yr un ymyrraeth ar ei phen ei hun—a byddwn i'n cynnwys y fyddin binc yn hynny—yn ateb y broblem yn llwyr, ac rwy'n siŵr y byddai bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud hynny eu hunain. Felly, mae yna fwydlen, os mynnwch chi, o 10 o bethau rydyn ni'n gofyn i ranbarthau eu rhoi ar waith. Un ohonyn nhw yw dull integredig, y soniodd yr Aelod amdano, ond un arall yw fframweithiau llif sefydledig a thystiolaeth dda o fewn yr ysbyty, a symud tuag at weithio dros saith diwrnod, fel bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau ar y penwythnos; ffocws penodol ar y cleifion hynny sydd â'r arosiadau hiraf; helpu meddygon teulu i gefnogi cartrefi gofal lle gellir gwneud asesiadau gofal iechyd parhaus mewn gwelyau cymunedol, yn y ffordd yr oedd hi'n gofyn amdano, yn hytrach nag yn yr ysbyty, am y rhesymau a roddodd; a helpu meddygon teulu i reoli'r 0.5 y cant yn y grŵp poblogaeth risg uchaf yn rhagweithiol yn eu clystyrau, gyda thimau amlbroffesiynol. Rydyn ni'n gwybod mai'r unigolion hynny yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty. Felly, dull penodol mewn perthynas â'r carfannau risg uwch hynny, os mynnwch chi, ond hefyd ddulliau cartref yn gyntaf, dulliau ysbyty yn y cartref, y mae nifer o fyrddau iechyd yn eu datblygu, lle mae pobl yn cael mwy o ofal gartref, ac yna menter rwy'n frwdfrydig iawn drosti, o ystyried y cwestiynau a ofynnwyd yn y datganiad busnes yn gynharach, sef ffocws ar ymateb saith diwrnod i gwympiadau yn y gymuned. Felly, rydyn ni'n gwybod y gall hynny gyfrannu'n sylweddol at atal mynediad i'r ysbyty. Felly, amrywiaeth o ymyriadau.

Fe ofynnodd hi am argaeledd nyrsio cymunedol. Rwy'n credu bod mwy i'w wneud o ran recriwtio. Dydw i ddim yn credu ei fod yn fater sy'n ymwneud ag adnoddau yn benodol; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r cymysgedd o nyrsio sydd ei angen. Yr hyn rydyn ni wedi'i osod fel un o amcanion ehangach y pwyllgor gweithredu gofal yw cynyddu capasiti nyrsio ardal, er enghraifft, ac mae hynny wedi bod yn un o'r blaenoriaethau mwy heriol o ran gwneud cynnydd, ond mae'n sicr yn rhywbeth y mae'r system yn canolbwyntio arno.

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf am ofyn am eich barn ar effeithiolrwydd y cyllid rydych chi wedi'i roi i awdurdodau lleol, a sut mae hynny'n gweithio o fewn y systemau cyllido ar gyfer cartrefi gofal gan awdurdodau lleol. Oherwydd mae rhai o'r cartrefi gofal rwyf yn ymweld â nhw yn fy etholaeth i, darparwyr cartrefi gofal preifat, mae rhai ond yn gweithredu ar hanner capasiti weithiau, oherwydd materion ariannu gan fy awdurdod lleol, Cyngor Sir Ddinbych, sydd â'r ffi cartrefi gofal isaf ar draws awdurdodau'r gogledd, yn anffodus. O ran ei effeithiolrwydd a sut y caiff ei deimlo'n lleol drwy awdurdodau lleol, oes gennych chi asesiad o hynny a barn ar sut y bydd hynny'n cael ei deimlo ar lawr gwlad ac a fydd yn gwneud unrhyw newidiadau diriaethol i staffio cartrefi gofal, recriwtio, y gweithlu a'r holl bethau hynny sydd eu hangen i redeg cartref gofal effeithlon y gall cleifion gael eu rhyddhau'n ddiogel iddo? Diolch.

16:00

Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn. Rwy'n credu bod yna nifer o ffactorau y tu ôl i'r hyn rwy'n credu ei fod yn nodi yn y cwestiwn. Yn gyntaf, fel y bydd yn gwybod, mae awdurdodau lleol yn pennu'r ffioedd y maen nhw'n barod i'w talu am leoliadau cartrefi gofal, ac weithiau gall hynny fod yn heriol. Dydw i ddim yn gwneud sylw penodol am ei ardal awdurdod lleol ef, ond fe all fod heriau o ganlyniad i hynny. Un o'r pethau rydyn ni'n ei wneud i geisio deall hynny'n well yw, wrth i ni edrych, yn fisol, ar batrymau rhyddhau ym mhob un o'r rhanbarthau, edrych ar yr un pryd ar y capasiti mewn cartrefi gofal sy'n ymddangos, o leiaf, ei fod yn cael ei danddefnyddio. Gall fod rhesymau da iawn am hynny. Nid yw'n briodol ryddhau pob claf i leoliad cartref gofal. Weithiau mae angen cymorth cymhleth nad yw ar gael weithiau mewn cartrefi gofal. Mae un o'r cwestiynau'n ymwneud â natur yr asesiad pan fydd y claf yn cael ei ryddhau. Os bydd yr asesiad hwnnw'n tanamcangyfrif lefel y cymorth sydd ei angen ar glaf, yna gall hynny greu set ychwanegol eithaf sylweddol o gyfrifoldebau yn y cartref gofal nad ydynt wedi'u cynllunio ar eu cyfer. Felly, mae yna broblemau yn y system, yr ydym yn mynd i'r afael â nhw. Yn rhanbarth yr Aelod, un o'r ymyriadau sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus yw asesydd dibynadwy, lle mae partïon yn cytuno mai dim ond un set o asesiadau sy'n cael eu gwneud gan un asiantaeth neu un unigolyn. Mae hynny, rwy'n credu, wedi dechrau mynd i'r afael â rhai o'r heriau yr wyf yn credu ei fod yn cyfeirio atyn nhw.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n croesawu'n fawr yr her 50 diwrnod, a lansiwyd fis diwethaf, oherwydd, fel y soniais i yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, mae'n hanfodol bod llif cleifion yn gwella os ydym am weld y broses gyfan hon yn gweithio'n llawer mwy esmwyth. Mae'n dda gweld bod hyn yn flaenoriaeth i chi.

Mae'r rhan fwyaf o gleifion eisiau gadael yr ysbyty a dychwelyd adref cyn gynted â phosibl. Er mwyn i hynny ddigwydd mewn modd amserol, mae angen integreiddio ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawer gwell. Mae angen cymorth arnyn nhw i wneud hynny, ac yn bwysicach fyth, mae angen iddyn nhw wella. Felly, sut y byddwch chi'n sicrhau bod arferion da yn teithio, oherwydd anaml mae hynny'n digwydd, heb unrhyw loteri cod post ar draws ein gwlad fach iawn? Pa waith sy'n cael ei wneud gyda sefydliadau trydydd sector, fel Gofal a Thrwsio Cymru, er enghraifft, i helpu byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gyflawni'r her 50 diwrnod?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud. Yr hyn rydyn ni'n ei brofi, ac rydyn ni'n gobeithio llwyddo, yn amlwg, gyda'r dull hwn, yw'r union bwynt hwnnw ynglŷn ag arfer da yn teithio. Mae gwaith eithaf dwys wedi mynd rhagddo a chryn dipyn o arweiniad wedi'i ddarparu ar y ffordd orau o roi'r 10 ymyriad ar waith. Yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol, yn fy marn i, yw ein bod ni wedi clywed llawer o enghreifftiau yn y trafodaethau hynny o fyrddau iechyd yn ymweld â'i gilydd i weld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad, a chynghorau'n gweithio, hyd yn oed o fewn yr un rhanbarth, mewn gwahanol ffyrdd. Oherwydd, yn amlwg, pan fo gennych chi ôl troed rhanbarthol, os ydych chi'n fwrdd iechyd, mae yna wahanol gynghorau y mae eu preswylwyr yn eich ysbyty, yn naturiol. Felly, mae lefel o amrywiaeth yn y perthnasoedd hynny. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hynny fel rhan o hyn.

Mae'r agenda integreiddio yn amlwg yn hanfodol. Bydd y cyllid rydyn ni'n ei ddosbarthu heddiw yn cael ei ddosbarthu drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n darparu fforwm i sefydliadau trydydd sector fod yn rhan o gynllunio'r ymateb yn y ffordd hon. Y nod hwnnw o system gofal cymunedol integredig, sydd wedi'i hintegreiddio'n wirioneddol ar lefel gymunedol, gan ddarparu'r set gyfannol honno o wasanaethau iechyd a gofal, yw'r nod rydyn ni'n gweithio tuag ato. Yn amlwg, mae'n amcan uchelgeisiol a fydd yn cymryd peth amser i'w wireddu'n llawn, ond mae yna nifer o'n polisïau a'n rhaglenni cenedlaethol allweddol y mae hynny'n sail iddyn nhw, yn y pen draw. Mae popeth o'r rhaglen chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal argyfwng ar y naill law i bolisi gofal cartref a pholisi cartrefi gofal ar y llaw arall i gyd wedi'i gynllunio i wireddu hynny yn y tymor hir. Mae'n waith caled integreiddio system sy'n cael ei gweithredu'n wahanol iawn ac sy'n cael ei chyllido'n wahanol iawn, ond rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r ffyrdd rydyn ni'n gweithio dros y cyfnod hwn yn dangos ffyrdd y gellir rhedeg hynny'n well yn y dyfodol.

16:05
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwella presenoldeb

Symudwn ymlaen at eitem 5 ar ein hagenda ni, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar wella presenoldeb. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i siarad am un o fy mlaenoriaethau allweddol yma heddiw—gwella presenoldeb. Fel y dywedais i o'r blaen, rwyf eisiau i bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i ffynnu, gyda chefnogaeth system addysg sydd â'u buddiannau gorau yn ganolog. Mae presenoldeb ac ymgysylltiad rheolaidd mewn addysg yn flaenoriaeth wrth gyflawni'r dyhead hwn.

Fodd bynnag, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, nid yw'r cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru cystal ag y byddem yn dymuno, ac mae cyfraddau absenoldeb cyson yn llawer uwch nag y dylen nhw fod. Mae ein cyfraddau presenoldeb cyfartalog mewn ysgolion yn gwella. Ar hyn o bryd maen nhw tua 92 y cant ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ac mae'n galonogol gweld gwelliant parhaus. Ond mae'r rhain yn dal i fod ymhell o dan y lefelau cyn y pandemig, yn enwedig i deuluoedd incwm is sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ar gyfer plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae presenoldeb yn 87 y cant hyd yn hyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Ym mlwyddyn academaidd 2023-24, roedd 52.9 y cant o'r disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn absennol yn gyson, i fyny o 30.4 y cant yn 2018-19. Eleni, rydym eisoes yn edrych ar gyfraddau absenoldeb cyson i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 7 y cant, a dim ond 2 y cant ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae angen i ni wneud mwy i fynd i'r afael â hyn.

Mae'r rhesymau pam nad yw plant a phobl ifanc yn mynychu'r ysgol, neu ddim yn gallu mynychu'r ysgol, yn aml yn gymhleth ac yn amrywiol. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r tasglu presenoldeb cenedlaethol a'n partneriaid ar draws y sector addysg i ddeall yn well rai o'r heriau sy'n eu hwynebu, er mwyn helpu i fynd at wraidd y broblem. Trwy'r tasglu, cynullwyd tair ffrwd waith, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu ag ieuenctid, data ac ymchwil, a chymheiriaid yn dysgu o'i gilydd. Yn ogystal â rhoi mewnwelediadau defnyddiol i'r heriau a wynebir, cytunodd y ffrydiau gwaith ar gamau penodol i'w cymryd i gefnogi gwelliannau i bresenoldeb. O ddiddordeb arbennig i mi oedd gwaith y llif gwaith data, dan gadeiryddiaeth yr Athro Ann John. Mae un elfen o'r gwaith a wnaed wedi cynnwys cysylltu data gan Lywodraeth Cymru ar absenoldebau dyddiol â data iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hyn yn rhoi gwell mewnwelediad i'r effaith y mae afiechyd meddwl, niwrowahaniaeth ac amddifadedd yn ei chael ar bresenoldeb.

Rwyf hefyd wedi cael fy nghalonogi gan waith y ffrwd waith cymheiriaid yn dysgu o'i gilydd, o dan gadeiryddiaeth Tegwen Ellis o'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a'r cynadleddau a gynhaliwyd i ddeall yn well rai o'r heriau y mae ymarferwyr yn eu hwynebu gydag absenoldebau mewn ysgolion, a'r cymorth maen nhw wedi'i ddarparu wrth rannu arfer da ar draws ysgolion. Byddaf hefyd yn amlinellu rhai o'r camau sy'n cael eu cymryd, yn dilyn trafodaethau, drwy'r ffrwd waith ymgysylltu â phobl ifanc yn nes ymlaen yn fy natganiad. Tra bo'r prif dasglu yn cynnal ei gyfarfod terfynol y mis hwn, bydd adroddiad cynnydd terfynol yn coladu'r camau i'w cymryd mewn partneriaeth trwy grwpiau llai gydag amcanion clir a chanlyniadau disgwyliedig, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed drwy'r tasglu.

Rwy'n gwybod i rai plant a phobl ifanc, mae tlodi yn broblem wirioneddol. Rydym yn clywed am drafferthion wrth brynu neu olchi gwisg ysgol, bod yn berchen ar esgidiau addas, neu gael côt gynnes drwy'r gaeaf, ac mae hynny'n eu hatal rhag mynychu'r ysgol. Gwn hefyd y gall cludiant fod yn rhwystr enfawr i rai, yn enwedig i'r rhai o gymunedau gwledig, y Cymoedd, neu lle mae cludiant yn rhy ddrud. Nid yw pawb yn berchen ar gar, ac nid yw systemau trafnidiaeth gyhoeddus bob amser yn cefnogi teithiau syml neu fyr i'r ysgol.

Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sydd â heriau iechyd meddwl, problemau ymddygiadol, heriau iechyd, a'r rhai sy'n brwydro yn erbyn yr awydd i osgoi ysgol am resymau emosiynol. Mae'r materion hyn yn cael effaith sylweddol ar bresenoldeb, gyda phlant a phobl ifanc bellach yn amlygu problemau sy'n fwy cymhleth ac sy'n gofyn am ddull gweithredu mewn partneriaeth.

Gwyddom hefyd fod agweddau tuag at ddysgu wedi newid ers y pandemig. Mae rhai teuluoedd yn ystyried presenoldeb rheolaidd yn wahanol ers y pandemig, ac mae eraill eisiau dulliau mwy hyblyg sy'n caniatáu presenoldeb o bell neu'r gallu i ddysgu gartref. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae ymddygiad gwael yn ei gael. Yn ddiweddar, trafodais ymddygiad mewn ysgolion gyda phenaethiaid ac undebau llafur er mwyn deall maint y mater yn well a pha gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael. Nid oes ateb cyflym, ac mae amrywiadau clir ledled Cymru ynghylch yr hyn sy'n gweithio a ddim yn gweithio yn y maes hwn.

Rwyf eisiau bod yn glir nad wyf o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y mater dan sylw. Nid yw mynd i'r afael â phresenoldeb yn dasg hawdd; nid oes un ateb sy'n addas i bawb, a bydd yn cymryd amser. Rydym yn siarad am faterion cymhleth, anghenion cymhleth a newid diwylliannol tymor hwy. Ond rwyf wedi cael fy nghalonogi'n fawr o weld sut mae darparwyr addysg a'r rhwydweithiau ehangach sy'n cefnogi addysg ein dysgwyr sydd wedi ymddieithrio yn mynd i'r afael â phryderon presenoldeb ac yn gweithio gyda dysgwyr i ddeall y problemau. Rwyf eisiau i'n cyfraddau presenoldeb wella. Fel man cychwyn, rwyf eisiau cael cyfraddau yn ôl i'r man lle roedden nhw cyn y pandemig. Ond dydw i ddim eisiau stopio yn y fan honno, ac rydw i eisiau iddyn nhw barhau i wella. Yn allweddol i hyn mae creu amgylchedd cefnogol, croesawgar, sef uchelgais ein dull ysgolion bro. O fewn ysgol fro, mae teuluoedd yn teimlo bod croeso iddyn nhw, eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae eu hanghenion, a rhai eu plant, yn cael eu deall ac fe ddarperir ar eu cyfer.

Ni fyddai'r model hwn yn llwyddiant heb waith y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Maen nhw'n chwarae rhan hanfodol mewn ysgolion. Maen nhw'n sefydlu ac yn meithrin perthynas dda â theuluoedd plant a phobl ifanc yn yr ysgol; annog a chefnogi cyfranogiad rhieni yn yr ysgol ac ymgysylltu â dysgu plant; a chyfeirio at y gefnogaeth a'r gwasanaethau perthnasol. Mae hyn yn gynyddol bwysig wrth gefnogi presenoldeb a chefnogi dysgwyr sy'n cael trafferth gyda lefelau uchel o absenoldeb. Dyna pam heddiw rwy'n cyhoeddi cyfanswm o £8.8 miliwn ar draws eleni a'r flwyddyn nesaf tuag at wella ymgysylltiad a phresenoldeb. Byddaf yn darparu £1.5 miliwn ychwanegol i swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn ystod y flwyddyn ariannol hon i ddarparu mwy o gapasiti i barhau â'r gwaith i fynd i'r afael yn benodol â phresenoldeb gwael yn yr ysgol. Byddaf yn adeiladu ar y cymorth gwerthfawr hwn ymhellach gyda chyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau y gallwn gadw'r swyddogion hyn. Byddaf hefyd yn darparu cyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf i wella ysgolion bro ac i gefnogi cydweithredu a dysgu proffesiynol ledled Cymru.

Rydym yn gwybod bod ymgysylltu cadarnhaol â'r ysgol yn hanfodol er mwyn meithrin ymdeimlad o berthyn a phresenoldeb. Mae'r ymgysylltiad hwn yn aml yn cael ei feithrin trwy brofiadau cadarnhaol a chyfoethog y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Felly, byddaf yn darparu £300,000 am weddill eleni, wedi'i gynyddu gyda chyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gefnogi'r ddarpariaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a chreadigol ychwanegol yn ein hysgolion. Byddaf hefyd yn darparu rhywfaint o gyllid ychwanegol ar gyfer ein rhaglen gwella gwyliau'r haf, a elwir hefyd yn fwyd a hwyl. Bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael eu darparu pan fydd cyllideb 2025-26 yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth nesaf. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n awyddus i archwilio'r rôl y mae gweithwyr ieuenctid yn ei chwarae wrth feithrin perthnasoedd hirhoedlog â dysgwyr i'w helpu i oresgyn y rhwystrau niferus y gallent fod yn eu hwynebu. Rwyf eisiau profi effaith gweithwyr ieuenctid sy'n ymgysylltu â dysgwyr yn ystod oriau ysgol, i ganfod yr effaith gadarnhaol y gall hynny ei chael ar ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr.

Gofynnir i mi weithiau am ymgyrch gyfathrebu i dynnu sylw at bwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol. Rydym yn datblygu cyfathrebu wedi'i dargedu gyda'r negeseuon cywir ar gyfer y gynulleidfa gywir er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf. Rwyf eisiau cyfathrebu â'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynychu mewn ffordd y maen nhw'n ei deall ac mae hynny'n dangos ein bod yn gwrando. Mae darn o ymchwil wedi'i gomisiynu i ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant mewn ysgolion i benderfynu ar ba negeseuon y dylid eu cyflwyno i'w hannog i ailymgysylltu â'u haddysg.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r staff ymroddedig sy'n gweithio i gefnogi ein holl ddysgwyr, ac yn enwedig y rhai sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ymgysylltu ag addysg. Mae llawer ohonyn nhw'n mynd yr ail filltir i sicrhau nad yw'r dysgwyr hyn ar eu colled, a dylid eu dathlu am eu hymroddiad. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi parhad y gwaith gwerthfawr hwn ac rwy'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn addysg a chyflawni'r canlyniadau y maent yn wir yn eu haeddu. Diolch.

16:15

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad heddiw? Rwy'n falch o weld datganiad yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar wella presenoldeb, oherwydd rwy'n credu ei fod yn gwbl hanfodol. Rydych chi a minnau wedi cael llawer iawn o ddadleuon, ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau i gael llawer mwy o ffeirio geiriau ynghylch y ffyrdd y gallwn ni wella ein hysgolion a'r system addysg sy'n bodoli yn yr ysgolion hynny, ond, yn amlwg, os nad yw pobl ifanc yn dod i'r ysgol yn y lle cyntaf, byddai'r cwbl yn werth dim. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Fe sonioch chi, unwaith eto, ac rwy'n yn ei groesawu, fod presenoldeb yn cynyddu yng Nghymru, hyd at 92 y cant. Yn amlwg, y ffigur cyfatebol, fodd bynnag, ar gyfer Lloegr yw 94 y cant, felly mae angen i ni ofyn i ni'n hunain—rwy'n credu ei fod yn uwch na 94 y cant, mewn gwirionedd. Felly, mae angen i ni ofyn i ni'n hunain pam y mae'r anghyfartaledd hwnnw'n bodoli a beth ydym ni'n mynd i'w wneud i gau'r bwlch hwnnw. Er bod camau penodol yn y datganiad hwn y byddaf yn eu croesawu, ac eraill y byddaf yn eu cwestiynu maes o law, roedd diffyg targedau drwyddo draw, nid oedd dim byd mesuradwy ynddo. Rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn ddiffygiol iawn yn eich datganiad.

Edrychwch, mae targedau yn bethau da; rwy'n credu eu bod yn helpu i ysgogi'r system gyfan o ran eisiau cyflawni'r targedau hynny. Os edrychwch chi ar darged 'Cymraeg 2050', un enghraifft a ddaw i'r meddwl, rydych chi'n gweld yno nawr system gyfan yn cael ei hysgogi i geisio cyrraedd y targed hwnnw. Oni bai bod gennym darged yr ydym eisiau ei gyrraedd o ran presenoldeb, p'un a yw'n cyrraedd lefelau cyn y pandemig, ar yr un lefel â Lloegr neu unrhyw darged arall rydych chi'n meddwl sy'n briodol—rwy'n credu mewn gwirionedd y dylid fod wedi cynnwys y targed hwnnw yn y datganiad.

Nawr, mae cymhlethdodau hefyd, fel y gwnaethoch chi gydnabod a byddaf innau'n eu cydnabod hefyd, pam y bydd pob stori o absenoldeb cyson yn wahanol iawn. Rydym yn amlwg yn ymdrin ag effaith hirdymor y pandemig, ac, yn amlwg, y ffigurau yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr—eto, i ddefnyddio'r gymhariaeth, roeddem yn uwch yma cyn y pandemig hefyd. Felly, mae'n amlwg bod materion strwythurol tymor hwy nad ydynt yn ymwneud ag effaith y pandemig yn unig, er, yn amlwg, maen nhw wedi gwaethygu'r hyn oedd yn broblem yn flaenorol hefyd.

Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflogi Parentkind—nôl ym mis Hydref, rwy'n meddwl, fe wnaethon nhw ryddhau adroddiad ynghylch deall pam mae disgyblion yn absennol. Ac fe ddaethon nhw o hyd i chwe phrif ganfyddiad: rhieni yn teimlo bod neb yn gwrando arnyn nhw; oedi mewn asesiadau a chymorth; amgylchedd yr ysgol; darpariaeth ar gyfer dysgwyr; problemau gyda'r system ehangach; a diffyg cefnogaeth i deuluoedd. Nawr, rwyf eisiau cymryd, os hoffech chi, yr un cyntaf a'r olaf gyda'i gilydd, sef rhieni sy'n teimlo bod neb yn gwrando arnyn nhw a diffyg cefnogaeth i deuluoedd, ac rwy'n credu bod pwynt eithaf diddorol yr oeddwn i eisiau ei godi gyda chi a chael eich ymateb iddo, os yw hynny'n iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Gan ddychwelyd at adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn amlwg, roeddem ni i gyd, yn gwbl briodol, yn trafod y prif ffigurau, sef canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr mewn pynciau penodol. Ond un peth a danbrisiwyd oedd y ffigurau ynghylch ymgysylltiad rhieni â llywodraethiant ysgolion. Nawr, cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer hynny yw 17 y cant, ond yng Nghymru dim ond 3 y cant ydyw. Felly, mae problem amlwg o ran y duedd—ac mae'n debyg fod hyn yn beth diwylliannol yn anad dim—i rieni fod eisiau cymryd rhan mewn llywodraethu ysgolion a chwarae rhan weithredol yn ffurfiant a gweithgareddau'r ysgol, ac, felly, yn ôl pob tebyg maen nhw'n teimlo eu bod wedi’u difreinio i raddau pan fydd ysgolion yn gwneud penderfyniadau y maen nhw'n cytuno neu'n anghytuno â nhw efallai. Tybed beth arall y gallwn ei wneud i annog mwy o bobl nid yn unig i sefyll i fod yn llywodraethwyr ysgol, er enghraifft, ond hefyd i chwarae fwy o ran yn llywodraethiant a gweithgaredd o ddydd i ddydd yr ysgolion lleol, fel mae'n ymddangos sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y byd, yn ôl adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Yr un arall y soniais amdano oedd oedi asesiadau a chymorth, ac rydych wedi cydnabod yn flaenorol yr effaith y mae'r newidiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn ei chael. Nid ydynt wedi llwyddo fel y byddech wedi disgwyl. Rwy'n credu eich bod wedi cydnabod arosiadau hir iawn, pobl ifanc ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, ac, yn amlwg, wedyn, bydd hynny'n cael effaith ar duedd person ifanc i fod eisiau dod i'r ysgol yn y lle cyntaf.

Y peth olaf roeddwn i eisiau ei gydnabod yn gyflym iawn oedd eich bod yn sôn am ddau gam, os mynnwch chi, y byddech chi'n eu cymryd. Ymgyrch gyfathrebu oedd un—neu roeddech chi'n ystyried gwneud ymgyrch gyfathrebu—a gawn ni fwy o fanylion am sut y byddai honno'n gweithio a phryd rydych chi'n disgwyl i honno gael ei lansio, oherwydd mae hynny'n ymddangos fel rhywbeth a ddylai ddigwydd yn amserol iawn, ond yn seiliedig ar y sylwadau a wnaethoch, roedd yn ymddangos na fydd hi'n hir iawn cyn ei lansio?

Yn olaf, symudiad tuag at fwy o gyllid a mwy o bwyslais ar chwaraeon, gweithgareddau diwylliannol a chreadigol—mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Ond tybed a fyddech chi'n edrych eto ar y Bil a gyflwynodd Sam Rowlands i'r Senedd hon yn weddol ddiweddar, o ran addysg awyr agored, a'r effaith y gall addysg awyr agored ei chael ar bobl ifanc a'u hymgysylltiad â'r ysgol.

Ac yn olaf go iawn, tystysgrifau galwedigaethol addysg uwchradd, TAAU, a'u cysylltiad â hyn hefyd—rwy'n credu eu bod nhw'n bwysig iawn. Rwyf wedi sôn wrthych chi o'r blaen bod croeso mawr i'r cymwysterau galwedigaethol mwy technegol hyn, ond os yw'r rhain yn mynd i fod yn gymwysterau galwedigaethol yn yr ystafell ddosbarth ac nid rhai lle mae pobl yn cymryd rhan, bydd y math o ddysgwr, sy'n tueddu i beidio â mynychu ysgol, pan fydd yn sylweddoli bod y cwrs yr oedd yn credu ar y dechrau ei fod yn gwrs galwedigaethol, mewn gwirionedd yn gwrs yn y dosbarth, yna fe fydd yn llai tebygol fyth o fynychu. Diolch yn fawr.

16:20

Diolch yn fawr iawn, Tom, a diolch am eich croeso i'r datganiad. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, yn amlwg, ar gael plant i'r ysgol—dydyn nhw ddim yn cymryd y cam cyntaf oni bai eu bod nhw yno, nac ydynt? Felly, mae'n gwbl allweddol i'n cynlluniau i wella cyrhaeddiad. Fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, bu ychydig o welliant. Rydym y tu ôl i Loegr o ran cyfraddau presenoldeb, ond mae pob rhan o'r DU yn cael trafferth gyda phresenoldeb, ac roedd hynny'n rhywbeth y cefais gyfle i'w drafod gyda chyd-Weinidogion yn y grŵp rhyng-weinidogol yn ddiweddar yn Belfast. Ac rydym yn arbennig o bryderus ynghylch y cyfraddau absenoldeb cyson ymhlith plant a phobl ifanc sy'n cael prydau ysgol am ddim. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw ymchwil wedi'i wneud ynghylch pam y mae ein ffigurau yn heriol, ond rwy'n tybio ei fod yn gysylltiedig â thlodi hefyd, a'r cymhlethdod yr ydym yn ei weld o fewn teuluoedd.

Diolch am dynnu sylw at y gwaith a wnaeth Parentkind. Rwy'n credu bod ymarferion fel hyn yn bwysig iawn i sicrhau ein bod yn gwrando, mewn gwirionedd, ar deuluoedd. Rwy'n pryderu bod teuluoedd yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt a'u bod yn teimlo bod diffyg cefnogaeth, ond dyna pam mae gennym fodel yng Nghymru sydd wedi'i leoli, nawr, o amgylch ysgolion bro. Rydym wedi gwario miliynau o bunnau yn buddsoddi mewn ysgolion bro ac mae'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn rhan allweddol o'r cynnig hwnnw. A dyna maen nhw'n ei wneud, mewn gwirionedd; maen nhw'n ymgysylltu â theuluoedd, gan gynnwys teuluoedd ag anghenion cymhleth iawn. Roeddwn yn Ysgol Gynradd Adamsdown ddoe, yn cyfarfod â'i swyddog ymgysylltu â theuluoedd, ac rwy'n cyfarfod â'r rhwydwaith newydd cyfan o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn ddiweddarach yr wythnos hon, a dyna maen nhw'n ei wneud: maen nhw'n mynd allan, maen nhw'n meithrin perthynas â rhieni ar eu telerau nhw. Yn Adamsdown, roedden nhw'n annog y teuluoedd i ddod i mewn a gwneud cyrsiau, pethau a fyddai'n helpu gyda'r plant neu bethau y byddent yn eu mwynhau wrth gymryd rhan ym mywyd yr ysgol ac i chwalu'r stigma hwnnw. Felly, rwy'n credu bod ysgolion bro yn allweddol, mewn gwirionedd, i'r materion rydych chi wedi'u codi, yn enwedig os ydyn ni'n mynd i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn pethau fel bod yn llywodraethwyr ysgol, oherwydd mae hynny'n gofyn am hyder, onid ydyw, a theimlo eich bod chi'n gallu gwneud hynny.

Fel rydych chi wedi dweud, rydw i wedi bod yn agored iawn ynghylch yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu wrth weithredu ADY, ac mae gennym ni gynllun gweithredu i ymdrin â hynny. Mae yna faterion penodol lle mae addysg yn rhyngwynebu ag iechyd. Fel y gwyddoch chi, rydym wedi sefydlu grŵp cydweithredol amlasiantaeth sy'n gweithio ar y materion hynny sy'n ymwneud â sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad cyflymach at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt oddi wrth y gwasanaeth iechyd. Rydym yn datblygu dangosyddion perfformiad newydd. Rydym yn egluro'r sefyllfa gyfreithiol o ran y Ddeddf. Yn benodol, roedd rhan o gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd ar restrau aros yn ddiweddar yn cynnwys £3 miliwn ar gyfer rhestrau aros pobl ifanc sy'n aros am asesiadau niwroddatblygiadol, a bu digwyddiad dylunio, gan weithio gyda gweithrediaeth y GIG, i edrych ar sut y gallwn wneud pethau'n wahanol mewn perthynas ag asesiadau niwroddatblygiadol. Ond mae'n bwysig iawn hefyd cydnabod nad oes angen diagnosis o awtistiaeth neu gyflwr arall ar blant er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol.

O ran yr ymgyrch gyfathrebu, un o'r pethau a ddysgais pan oeddwn i yn fy mhortffolio iechyd blaenorol yw, pan fydd gennych ymgyrch gyfathrebu, mae'n rhaid iddi fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae'n rhaid i chi wybod eich bod chi'n mynd i daro'r marc â hi. Dyna pam rydyn ni'n gwneud y darn hwn o waith ynghylch gweithio gyda phobl ifanc i ddarganfod beth yw'r materion y maen nhw'n teimlo a fyddai'n eu hannog i ddod yn ôl i'r ysgol, oherwydd nid yw'n ymwneud â dysgu yn unig, nac ydy? Rydym yn gwybod bod presenoldeb yn hanfodol i iechyd meddwl plant ac iddynt gael ymdeimlad o berthyn ac o ymgysylltiad. Felly, rydym yn gwneud y gwaith hwnnw gyda phlant a phobl ifanc yn gyntaf. Roedd awgrym y dylwn i fod yn rhan o'r broses o annog rhieni i anfon eu plant i'r ysgol yn fwy rheolaidd. Wel, wyddoch chi, mae yna ystyriaeth yn y fan honno pa un a fyddai hynny'n helpu—y Llywodraeth yn pregethu i bobl pan fo ganddyn nhw broblemau heriol iawn i ymdrin â nhw.

Mae eich pwyntiau am dystysgrifau galwedigaethol addysg uwchradd yn bwysig. Rwy'n credu bod gan ein cwricwlwm newydd, oherwydd ei fod wedi'i arwain gan bwrpas ac yn berthnasol, ond sydd hefyd wedi'i anelu at anghenion plant unigol, rôl allweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag ymddieithrio. Rwy'n hoff iawn o'r cyfleoedd galwedigaethol hynny, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hyblyg. Mae ysgolion yn defnyddio pethau fel amserlenni llai a phethau eraill. Rydym eisiau cadw'r plant hynny yn y system ysgolion.

O ran cyfleoedd galwedigaethol, un o'r pethau rydw i wedi bod yn wirioneddol falch o'i weld yw prentisiaethau iau, ac fe es i weld hyn yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Fe wnes i gyfarfod â rhai pobl ifanc yno, ac roedden nhw wedi cael amser heriol mewn addysg, ond roedden nhw'n ffynnu'n wirioneddol yn yr amgylchedd hwnnw. Dyna beth sy'n rhaid i ni ei wneud: yn hytrach na gosod plant yn y man rydyn ni'n ei greu, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y system yn eu cofleidio i ddiwallu eu hanghenion, oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n dal gafael ar bobl ifanc ac nad ydyn ni'n gadael iddyn nhw ymddieithrio o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Diolch.

16:25

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol ers tro i'r syniad o ymbweru ysgolion i allu cefnogi anghenion eu cymunedau er mwyn gwella presenoldeb a safonau. Rwy'n gobeithio y bydd y cynlluniau yma ar gyfer penodi swyddogion ymgysylltu teuluoedd newydd yn cyflawni hyn, os ydyn nhw'n gallu cael eu gweithredu yn effeithiol.

Nawr, mae'r ystadegau'n glir: dyw'r lefelau presenoldeb ddim wedi cyrraedd nôl i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig; yn wir, maen nhw wedi gostwng dros 4 y cant ers 2019. Mae anghydraddoldeb hefyd yn parhau ymysg disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, gyda'u cyfraddau presenoldeb nhw dros 5 y cant yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. 

Gan edrych nawr ar ystadegau gwaharddiadau mewn ysgolion, roedd pob math o waharddiadau wedi cynyddu ers y flwyddyn gynt, ac wedi cyrraedd y gyfradd uchaf ers dros 10 mlynedd. Nawr, yn y cyd-destun hwnnw, cyfradd y gwaharddiadau parhaol gan ddisgyblion â darpariaeth anghenion addysg arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol oedd 2.4 o bob 1,000 o ddisgyblion, o gymharu â 0.5 o bob 1,000 heb y gefnogaeth yma. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhannu fy mhryder i fod, efallai, cyfraddau presenoldeb yn gwella ychydig ar draws Cymru oherwydd bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwahardd yn barhaol o'r ysgol? 

Nawr, un o'r heriau mwyaf i wella presenoldeb yn yr ysgol, wrth gwrs, yw, fel y nodwyd yn y datganiad, darpariaeth cludiant ysgol. Ni all dysgwyr fynychu'r ysgol os na allant gyrraedd yr ysgol, ac mae Estyn a'r comisiynydd plant wedi mynegi pryderon am doriadau i ddarpariaeth cludiant ysgol. Yn anffodus, mae'n ymddangos, oherwydd canllawiau anghyson a diffyg cyllid, bod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ei gwneud hi'n anoddach i ddysgwyr Cymru gyrraedd yr ysgol, nid yn haws. Rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un ohonom yma yn barod i gerdded yr holl ffordd i'r gwaith, efallai yn y gwynt a'r glaw, cario ein gliniadur a'n ffeiliau, ac yna cerdded yr holl ffordd yn ôl adref yn y tywyllwch ar ôl diwrnod hir. Felly, gan ragdybio'r ateb: pam y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ddysgwyr Cymru orfod gwneud yr un peth yn union i fynd i'r ysgol ac yn ôl?

Dywedodd yr Ysgrifennydd addysg yn gynharach y tymor hwn y bydd yn mynychu uwchgynhadledd ar gludiant dysgwyr a gynhelir gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth, a'i fod yn bwriadu diweddaru'r canllawiau gweithredol ar y Mesur teithio gan ddysgwyr. Nawr, rwy'n gwybod ein bod ni'n prysur agosáu at y Nadolig, ond yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr Cymru ar hyn o bryd yw arweinyddiaeth gan yr Ysgrifennydd addysg ac nid Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb o un i'r llall o ran y pwnc hwn. Felly, sut gallwn ni fod yn hyderus y bydd gweithredoedd y tasglu yn gweithio'n effeithiol os nad ydyn nhw wedi ystyried unrhyw newidiadau a allai ddod o'r uwchgynhadledd arfaethedig neu'r canllawiau wedi'u diweddaru? 

Felly, i gloi, mae nifer o adroddiadau gwahanol wedi cyflwyno amrywiaeth eang o argymhellion i ysgolion, i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ar sut i wella presenoldeb, megis adroddiad thematig gan Estyn, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ynghyd ag adroddiad annibynnol i'r Llywodraeth ar wella presenoldeb yn sgil y pandemig. Felly, cwpwl o gwestiynau i gloi: a fydd yr holl argymhellion blaenorol hyn wedi cael eu gweithredu cyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol gan y tasglu? Ac yn olaf, beth yw'r amserlen ar gyfer eu gweithredu nhw ac unrhyw argymhellion a chamau newydd, oherwydd, heb amserlen fesuradwy, sut gallwn ni warantu y bydd unrhyw gynllun newydd yn creu newid positif i ddysgwyr ar draws Cymru, yn lle bod yn un o'r llu o gynlluniau eraill ym Mharc Cathays sy'n casglu llwch ar y silff? Diolch.

16:30

Diolch yn fawr iawn, Cefin, am y sylwadau yna. Rwy'n cytuno â chi bod hybu presenoldeb yn ymwneud â grymuso teuluoedd a'u helpu i chwalu'r rhwystrau sy'n atal plant a phobl ifanc rhag mynychu'r ysgol, ac, yn sicr, mae anghydraddoldeb yn rhan allweddol o hynny. Rwy'n pryderu am y ffigurau gwahardd ar gyfer plant ag ADY. Mae rhai o'r rheini, yn amlwg, yn waharddiadau tymor penodol, ond maen nhw'n destun pryder, ac rwy'n credu mai'r hyn y maen nhw'n ei ddangos yw system sydd dan bwysau. Rwyf wedi cydnabod bod gennym fwy o waith i'w wneud, ac rydym yn ei danategu â llawer o gyllid, a hefyd adolygiad cyfreithiol o'r cod a'r Ddeddf ADY, ochr yn ochr â'r gwaith cyflawni yr ydym yn ei wneud. Felly, mae gennym fwy o waith i'w wneud yno yn bendant, oherwydd rwy'n credu'n gryf mai cyfathrebu yw ymddygiad mewn plant a phobl ifanc, ac mae angen i ni fynd i'r afael â beth sydd wrth wraidd hynny.

Rwy'n gwybod eich bod yn poeni'n fawr am gludiant ysgol, oherwydd rydych chi wedi ei godi o'r blaen. Yn sicr, nid yw'n fater o drosglwyddo cyfrifoldeb o un i'r llall. Rwy'n gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ar y mater hwn. Rydych yn ymwybodol ein bod wedi cynnal yr adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Penderfynodd hwnnw beidio â newid fframweithiau milltiroedd ac ati, a gwn fod rhywfaint o bryder am hynny, ond byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd, y byddwn hefyd yn gweithio arnyn nhw gyda phlant a phobl ifanc ac awdurdodau lleol i helpu'r sefyllfa honno. Wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â deddfwriaeth yn unig; mae hefyd yn ymwneud â'r ffaith, mewn sawl ardal, bod cael y bysiau, cael y gyrwyr, ac ati, yn her go iawn, a dyna pam y mae'r gwaith y mae Ken Skates yn ei arwain ar fasnachfreinio bysiau a'r gwaith o amgylch y Bil bysiau yn bwysig iawn. Ac rwy'n gobeithio, os gallwn ni ddod â'r materion hynny at ei gilydd, y gallwn fod â system gydlynol sy'n cefnogi ysgolion yn ogystal â phobl sydd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Rydym yn bwriadu cynnal yr uwchgynhadledd o hyd. Cwrddais yn ddiweddar â'r holl arweinwyr addysg mewn llywodraeth leol ac roedden nhw'n bryderus iawn ynghylch cludiant hefyd, ac roedd ganddyn nhw lawer o syniadau arloesol, oherwydd mae hefyd yn costio llawer iawn o arian, sy'n rhoi pwysau ar gyllidebau. Felly, rwy'n awyddus iawn i lywodraeth leol fod yn rhan o'r trafodaethau hynny hefyd.

Er bod y tasglu yn ei ffurf bresennol yn dod i ben, fel rwyf wedi ei wneud yn glir, rydym yn dal am weithio gyda phartneriaid ar y camau gweithredu sy'n ymwneud â phresenoldeb yn y dyfodol, ond mewn ffordd fwy penodol, yn debygol gyda grwpiau llai o'r rheini. Felly, ychydig yn ôl, cefais sesiwn archwilio dwfn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gydag Estyn a gyda'r Athro Ann John, sy'n arbenigwr ym maes presenoldeb a'r effeithiau ar iechyd meddwl ac sydd â dealltwriaeth dda iawn o'r data, ac roedd hynny'n ddefnyddiol iawn hefyd. Rydym hefyd yn cynllunio'r gwaith gyda phobl ifanc, ond hefyd darn o waith â phwyslais ar blant Sipsiwn, Teithwyr hefyd, lle gwyddom fod materion penodol yn ymwneud â phresenoldeb. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â chasglu llawer iawn o argymhellion, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â phob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd nawr i chwalu'r rhwystrau hynny.

Mae hwn yn gyhoeddiad sylweddol iawn o gyllid yr ydym wedi'i wneud heddiw. Yr hyn sydd wedi bod yn glir i mi yn y gwaith rydw i wedi'i wneud ers dod i'r swydd yw nad oes ateb addas at bob diben yn y maes hwn, mae'n faes cymhleth a dyna pam mae'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd mor bwysig, oherwydd gallant wneud y gwaith cymhleth hwnnw gyda theuluoedd, boed hynny'n dlodi, afiechyd rhieni, materion cludiant. Gallant weithio gyda'r teuluoedd i wneud y gwaith mân hwnnw i sicrhau bod y plant yn dychwelyd i'r ysgol, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Gobeithio y gwelwn gynnydd cadarnhaol. Rwy'n cyfarfod â'r rhwydwaith. Mae rhwydwaith nawr â swyddog ymgysylltu a theuluoedd yn bresennol o bob awdurdod lleol. Rwy'n cyfarfod â nhw'r wythnos hon i glywed ganddyn nhw'n uniongyrchol, ac rwy'n credu'n gryf y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, wneud gwahaniaeth yn y maes hwn drwy ein model ysgolion bro.

16:35

Diolch am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, gan gynnwys eich pwyslais ar ysgolion bro, gweithio gyda theuluoedd, gweithgarwch allgyrsiol a gweithwyr ieuenctid. Mae pobl ifanc 14 i 19 oed yn rhan sylweddol o'r hafaliad, rwy'n credu, Ysgrifennydd Cabinet, o ran y rhai 14 oed hynny sydd eisiau dilyn llwybr galwedigaethol ac nad ydynt yn gallu cael y dewis hwnnw y maent eisiau ei ddilyn yn yr ysgol, ac yna yn aml nid ydynt yn gallu mynd i'r coleg addysg bellach a allai ddarparu ar gyfer y dewisiadau hynny. Yna weithiau maent yn ymddieithrio o'r ysgol, efallai eu bod yn absennol neu hyd yn oed os ydynt yn bresennol does dim diddordeb, ac yna weithiau yn 16 oed maent yn troi i fyny yn y coleg, maent eisiau gwneud y cwrs galwedigaethol yr oeddent eisiau ei wneud yn 14 oed, ond yna nid oes ganddynt y safonau gofynnol o ran rhifedd a llythrennedd. Felly, mae'n broblem go iawn. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch am y prentisiaethau iau, y clywodd ein cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar y cyd—y grŵp trawsbleidiol ar y cyd ar brentisiaethau ac addysg bellach a sgiliau—amdanynt yr wythnos diwethaf yn unig o ran Coleg Caerdydd a'r Fro. Un o'r pethau y gofynnodd amdano, Ysgrifennydd Cabinet, oedd ffrwd ariannu bwrpasol i alluogi hynny i ddigwydd a'i alluogi i gael ei gyflwyno ledled Cymru, felly tybed a allech chi ddweud rhywbeth heddiw o ran sut y gallwn hwyluso'r dewisiadau hynny ac ymdrin â'r agwedd honno ar absenoldeb yn ein hysgolion.

Diolch yn fawr iawn, John, ac rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn hyrwyddwr hirsefydlog o ysgolion bro, a gobeithio eich bod yn gweld rhywfaint o'r gwaith hwnnw'n dwyn ffrwyth nawr gyda'r buddsoddiad a'r pwyslais rydym yn ei roi ar y gwaith cyflwyno. Rwy'n gwybod eich bod hefyd yn gefnogwr mawr o waith ieuenctid, ac rwy'n credu bod gan weithwyr ieuenctid botensial enfawr heb ei gyffwrdd. Rwy'n ffan enfawr o weithwyr ieuenctid, ac mae 'na waith y maen nhw wedi bod yn ei wneud ym Mlaenau Gwent, gan weithio gyda gweithwyr ieuenctid yn yr ysgol i fynd i'r afael â phroblemau presenoldeb, yr wyf yn awyddus iawn i adeiladu arno.

Rydych chi'n codi pwyntiau pwysig am y llwybrau hynny ar gyfer pobl ifanc. I mi, mae'n ymwneud â dal gafael ar bobl ifanc a sicrhau ein bod yn gallu eu cadw yn y system. Gwyddom mai un o'r pethau gwaethaf i iechyd meddwl pobl ifanc yw peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, NEET. Mae risg hunanladdiad uwch hyd yn oed wrth ddod yn NEET, felly mae'n hanfodol ein bod yn dal gafael ar y bobl ifanc hynny a'n bod yn sicrhau bod y cyfleoedd y maen nhw'n eu cael yn yr ysgol yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhai y maen nhw eisiau cymryd rhan ynddynt.

Rwy'n awyddus iawn i hwyluso'r cyfleoedd hynny ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol. Rwy'n hoff iawn o'r cynllun prentisiaeth iau; cefais fy syfrdanu gan y peth pan welais ef yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, oherwydd rwy'n gwybod, rhai o'r dysgwyr hynny, eu bod wedi cael profiadau anodd iawn ym myd addysg ac yno yr oeddent, yn wirioneddol frwdfrydig, yn cymryd rhan, ac fe wnaethant y bara surdoes gorau yr oeddwn wedi'i flasu ers amser maith.

Fel y gwyddoch chi, mae'r gyllideb yr wythnos nesaf. Ni fyddech yn disgwyl i mi achub y blaen ar honno, ond rwy'n ymwybodol bod gennym rywfaint o loteri cod post o ran prentisiaethau iau ac rwyf eisiau i brentisiaethau iau fod ar gael ledled Cymru, fel y gall pob person ifanc elwa ar y cyfleoedd hynny.

16:40

Mae'r myrdd o fethiannau yn system addysg y wladwriaeth yng Nghymru wedi bod yn cynyddu ers 25 mlynedd, gyda'r cynnydd mewn absenoldeb yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ymuno â chyflawniadau eraill Llywodraeth Cymru ym maes addysg—anllythrennedd, anrhifogrwydd, canlyniadau PISA isaf erioed, ac iechyd meddwl a llesiant disgyblion yn gostwng. Ac er bod croeso i'r cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â phroblem absenoldeb, nid oes gan lawer, gan gynnwys fi fy hun, fawr o ffydd y bydd hyn yn arwain at ganlyniadau, o ystyried hanes gwael Llywodraeth Cymru o ran addysg. 

Er bod ffactorau amrywiol a chymhleth iawn yn gysylltiedig, mae llawer o rieni wedi dod yn gyfarwydd â'u plentyn yn absennol o'r ysgol yn dilyn y pandemig, a dylem anfon neges glir bod hyn yn annerbyniol. Felly, hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cosbi rhieni disgyblion sy'n absennol o'r ysgol yn rheolaidd, a pha ataliadau pellach sy'n cael eu gweithredu. Hoffwn wybod hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn olrhain llwyddiant y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. [Torri ar draws.] Ni allaf weld mewn gwirionedd pam y mae Lee Waters yn heclo, gan ei fod yn—[Torri ar draws.] Mae'n arsylwad cywir. 

Wel, diolch i chi, Gareth, rwy'n credu, am y cyfraniad yna, er ei fod yn negyddol. Byddwn wedi gobeithio y byddech wedi gweld y cyfle hwn o chwistrelliad sylweddol iawn o gyllid fel rhywbeth cadarnhaol ar gyfer y system. Ac yn yr un modd, rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau yn ddiweddar am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, gan godi safonau, ac rwy'n credu bod gennym hanes da iawn o gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn ysgolion. Mae'n sicr yn un—rydych chi'n gwybod, mae angen i ni wneud mwy o waith arno, ond mae'n hanes da o waith rydyn ni wedi'i wneud yno.

O ran agweddau rhieni, mae her o ran agweddau rhieni, yn enwedig ers y pandemig. Mae llawer o bobl wedi arfer gweithio gartref, felly rydym wedi canfod y gall fod mwy o duedd weithiau i beidio â gwthio'r materion presenoldeb. Rwy'n credu mai'r ffordd rydych chi'n mynd i'r afael â'r materion hynny yw drwy weithio gyda'r teuluoedd hynny'n adeiladol. Mae ysgolion yn cael y dewis o ddefnyddio dirwyon. Mae'n well, rwy'n credu, os cânt eu defnyddio fel y dewis olaf. Byddai'r dirwyon hynny yn rhwystr i rai teuluoedd ond nid i bawb; o ran pethau fel cost gwyliau, maen nhw'n ddibwys—mae costau'r dirwyon yn ddibwys o'u cymharu â chostau gwyliau.

Ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r hyn sy'n fater cymhleth yw peidio â meddwl bod ateb syml iawn iddo, a dyna pam mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd mor allweddol. Felly, ddoe, yn Ysgol Gynradd Adamsdown, dywedodd y swyddog ymgysylltu â theuluoedd wrthyf sut mae hi'n mynd i'r tai i gefnogi'r teuluoedd, sut maen nhw'n helpu os nad oes ganddyn nhw wisgoedd; gallant ddarparu gwisgoedd glân; maen nhw'n cynnal cyrsiau i annog y teuluoedd i fynd i'r ysgol. Ond mae rhai teuluoedd yn cael dirwy, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ymddiried yn y bobl sydd yn ein hysgolion i wneud y gwaith hwnnw, i wybod beth yw'r technegau gorau. Ac mae'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn rhan allweddol iawn o'r arfdy hwnnw. Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn cyllid ar gyfer rôl sy'n dal i fod yn gymharol newydd. Fel y dywedais i, mewn ymateb i Cefin Campbell, rwy'n cyfarfod â'r rhwydwaith o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yr wythnos hon, a bydd cyfle yno i drafod sut rydym yn monitro cynnydd.

16:45

Rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet nad oes ateb syml yma: does dim ateb addas at bob diben; bydd yn rhaid i nifer o bethau ddod at ei gilydd er mwyn i ni allu datrys y mater hwn.

Wedi dweud hynny, rydw i'n mynd i ganolbwyntio ar un peth penodol, a byddwn i'n ategu John Griffiths, yn ei gefnogaeth i brentisiaethau iau. Cynhaliodd ein dau grŵp trawsbleidiol sgwrs gynhyrchiol iawn ynghylch manteision prentisiaethau iau. Dim ond yr wythnos diwethaf, clywsom am stori Eddie, dysgwr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, sydd wedi dod ymlaen o naid i naid a nawr mae'n bosibl iddo fynd i'r brifysgol o ganlyniad i'r prentisiaethau iau hyn. Felly, rwyf am ofyn cwestiwn tebyg i'r un y mae John wedi'i ofyn eisoes, ac o gofio fy mod yn deall y sefyllfa gyda'r gyllideb, byddaf yn ei ofyn mewn ffordd ychydig yn wahanol: sut ydych chi'n gweld strwythurau'r Llywodraeth yn hwyluso amlhau prentisiaethau iau? Mae yna golegau allan yna sy'n awyddus iawn i fwrw ati, ond mae cyllid yn broblem, felly sut ydych chi'n gweld strwythurau'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r colegau hynny i sicrhau bod prentisiaethau iau ar gael ledled Cymru, fel rydych chi eisoes wedi'i nodi yw eich uchelgais?

Diolch, Luke, a diolch am eich cydnabyddiaeth nad oes ateb addas at bob diben yn y maes hwn ac mae'n gymhleth iawn, a diolch am yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am y prentisiaethau iau. Rwyf wir yn credu eu bod yn ymyrraeth sy'n newid bywyd pobl ifanc. Mae gennym y gyllideb yr wythnos nesaf, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym gynnig cyson ledled Cymru. Rwy'n gwybod eu bod ar gael yn y de, mae rhannau o Gymru lle nad ydyn nhw ar gael, ac rwy'n credu bod gan y Llywodraeth rôl i'w chwarae wrth sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle hwnnw ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru. Heblaw hynny bydd yn rhaid i ni aros am y gyllideb, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad oes loteri cod post o ran darpariaeth ar gyfer y cyfleoedd galwedigaethol hynny i ddysgwyr a allai fod yn NEET fel arall, gyda phopeth sy'n gysylltiedig â hynny.

Diolch i chi Ysgrifennydd Cabinet, am ddod â'r datganiad pwysig iawn hwn yma heddiw, ac mae'n hollol wych gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £8.8 miliwn i wella presenoldeb ac ymgysylltu, ac i glywed am lwyddiant y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd.

Roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yn gynharach eleni, i wneud darn o waith ar y rhaglen gwella gwyliau'r haf, y rhaglen fwyd a hwyl, yr ydym yn ei rhedeg yma yng Nghymru dros wyliau'r haf. Gwnaeth yr hyn a welais yn y cynllun hwnnw argraff fawr arnaf, ymroddiad a brwdfrydedd y bobl a oedd yn ei rhedeg, y sefydliad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy'n credu ei fod yn gynllun hollol wych. Yn yr holl ysgolion yr ymwelais â nhw, roedd yn amlwg faint o hwyl roedd y plant yn ei gael wrth ddysgu am fwydydd iach a ffyrdd o fyw.

Felly, ar ddechrau tymor yr hydref, cynhaliwyd astudiaeth achos, lle gofynnwyd i benaethiaid gymharu presenoldeb ym mis Medi 2024 â mis Medi 2023, ar gyfer yr un grŵp sampl o blant. Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn dangos bod mynd i fwyd a hwyl dros wyliau'r haf yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb gwell i blant, pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi. Felly, roeddwn i'n meddwl bod hwn yn arwydd cadarnhaol iawn, oherwydd mae gwyliau haf hir yr ysgol yn anodd iawn i rieni, rydyn ni'n gwybod, i ymdopi'n ariannol, ac mae plant yn colli golwg ar yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu. Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed y byddai rhywfaint o arian yn mynd i fwyd a hwyl. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno y byddai ehangu'r rhaglen fwyd a hwyl ledled Cymru yn ffordd werthfawr o wella presenoldeb yn ein hysgolion?

Diolch yn fawr iawn. Ac a gaf i gofnodi fy niolch i Julie Morgan am y gwaith y mae hi wedi'i wneud ar yr adolygiad o raglen gwella gwyliau'r haf? Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig ydych chi i gyfleoedd bywyd ein plant a'n pobl ifanc, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn i chi. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod allan yn edrych ar gynlluniau'r rhaglen gwella gwyliau'r haf, ac wedi gwneud darn pwysig iawn o waith i ni. Ac, fel y dywedwch chi, mae hefyd yn ymwneud â dal gafael ar blant a phobl ifanc, onid ydyw, yn ystod yr haf. Maen nhw wedi cael y cyfle i gael bwyd iach, ond maen nhw hefyd yn ymgysylltu ac yn cysylltu â'u cyfoedion.

Mae gennym ni'r gyllideb yr wythnos nesaf, a bydd yn fater o aros nes ein bod ni wedi clywed cyhoeddiad y gyllideb, ond fel y dywedais i yn fy natganiad, rwy'n awyddus iawn i adeiladu ar y gwaith rydych chi wedi'i wneud a'r dystiolaeth rydych chi wedi'i chasglu, a'r hyn rydyn ni'n gwybod sy'n gweithio ar lawr gwlad. Rydym hefyd, fel rhan o'r gwaith hwn, yn edrych ar weithgareddau cyfoethogi fel rhan o'r diwrnod ysgol hefyd. Yr hyn yr ydym yn dymuno yw bod plant eisiau dod i'r ysgol, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hynny. Ond diolch eto am bopeth rydych chi wedi'i wneud ar yr adolygiad—gwerthfawrogir hynny'n fawr.

16:50
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Datganiad sefyllfa canol trefi

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: datganiad sefyllfa canol trefi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad. Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae canol trefi a dinasoedd yn chwarae rhan hanfodol yng ngwead cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ein cymunedau. Mae lleoedd ac adeiladau yn bwysig. Nhw sy'n rhoi eu hunaniaeth unigryw i'n trefi a'n dinasoedd, sy'n rhoi i lawer ohonom y teimlad hwnnw o gysylltiad a pherthyn, o gartref. Dyna pam mae iechyd a bywiogrwydd canol ein trefi yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon.

Wedi'i lansio ym mis Mai y llynedd, mae 'Canol trefi: datganiad sefyllfa' yn nodi'r heriau sy'n wynebu canol trefi a'r camau yr ydym yn eu cymryd i'w hadfywio. Mae'n seiliedig ar egwyddor 'canol trefi yn gyntaf' Llywodraeth Cymru mai canol trefi ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad ar leoliad gweithleoedd a gwasanaethau. Mae'r datganiad sefyllfa yn rhychwantu nifer o feysydd polisi, gan gynnwys adfywio, tai, buddsoddiad ehangach mewn seilwaith, economi, cynllunio, yr amgylchedd a thrafnidiaeth. Felly, mae llwyddiant yn dibynnu ar gefnogaeth trawslywodraethol a chamau gweithredu gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.

I gefnogi hyn, rydym wedi sefydlu bwrdd goruchwylio, gydag aelodaeth sy'n cynnwys ystod o randdeiliaid a buddiannau mewnol ac allanol. Rôl y bwrdd fydd ysgogi'r camau gweithredu yn y cynllun a gwneud cysylltiadau â mentrau trawsbynciol ehangach sy'n darparu buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy ehangach i Gymru. Roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Bwrdd ym mis Hydref. Yno, clywais yn uniongyrchol am sut y gall aelodau ddefnyddio eu sgiliau a'u profiadau i wneud cynnydd ar rai o'r materion y mae ein trefi a'n hardaloedd cyfagos yn eu hwynebu, a sut y gallant ein cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru.

Lansiwyd y datganiad sefyllfa yng nghanol tref Castell-nedd, lleoliad sy'n ymgorffori dull 'canol y dref yn gyntaf'. Gyda chefnogaeth cyllid Trawsnewid Trefi, datblygwyd canolfan hamdden, llyfrgell ac unedau manwerthu. Dyma'r union fathau o gyfleusterau, ochr yn ochr â'r darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, sy'n denu pobl i ganol trefi, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn cryfhau ein cymunedau, ac yn dod â chanol ein trefi yn fyw.

Mae'r datganiad sefyllfa yn disgrifio'r hyn y gellir ei wneud ar lefel genedlaethol i osod y sylfeini ar gyfer newid a galluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn lleol yng nghanol trefi. Rydym yn parhau i siarad ag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill am eu cynlluniau i ad-drefnu eu hystadau a datgarboneiddio, i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer cydleoli gwasanaethau cyhoeddus yng nghanol ein trefi. Y tu hwnt i fanteision economaidd, mae effeithiau cymdeithasol dwys i adfywio trefi. Mae'n gwella ansawdd bywyd trigolion ac yn helpu i feithrin ymdeimlad o falchder cymunedol a pherthyn. Dyna pam mae'n rhaid i gymuned fod wrth wraidd popeth a wnawn. I wneud hyn, rhaid i ni wrando a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion a blaenoriaethau gwirioneddol y gymuned.

Mae'r pwyslais ar greu lleoedd yn y datganiad sefyllfa yn cydnabod hyn. Mae creu lleoedd yn golygu deall lle a'i bobl, a sicrhau bod datblygiad, buddsoddiad a newid yn cyfrannu'n gadarnhaol at wella'r dref honno, yn ogystal â phrofiad y trigolion sy'n byw yno. Dyna pam mae cynlluniau creu lleoedd yn un o ofynion ein cyllid Trawsnewid Trefi. Dan arweiniad lleol, dylent ddechrau gyda chymunedau, gan adeiladu ar eu hanghenion, eu dymuniadau a'u dyheadau.

Ar fy ymweliad diweddar â Chaerffili, gwelais ddull o greu lleoedd ar waith. Mae hyn yn cynnwys Ffos Caerffili, darpariaeth marchnad newydd a agorodd yn gynharach eleni; Stryd Pentrebane, datblygiad defnydd cymysg; a'r ardal gwestai, hamdden a phreswyl, sydd â'r potensial i ddarparu gwesty newydd a chyfleusterau preswyl, manwerthu a swyddfa. Roedd y dull o ymgysylltu â'r gymuned, gyda phwyllgor trigolion newydd ei ffurfio, yn galonogol iawn, gan gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y cynnig canolfan ddiwylliannol dan arweiniad y gymuned. Mae Gweledigaeth Caerffili 2035 yn gynllun hirdymor, ond eisoes mae'r ymyriadau yn y dref yn creu'r hyder i'r sector preifat a busnesau lleol fuddsoddi, a welwyd gyda phob cynnig newydd a chynigion sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi wedi cefnogi datblygiad 53 o gynlluniau creu lleoedd, ac mae 10 arall ar y gweill i gael cefnogaeth bosibl yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae diwylliant, y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol ehangach yn hynod bwysig i ni yma yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio pŵer asedau diwylliannol a chymunedol wrth ddatgloi adfywio canol trefi. Enghraifft o hyn yw'r ganolfan gelfyddydol, diwylliannol a chymunedol yn hen Eglwys y Santes Fair ym Mangor. Mae'r datblygiad, a gafodd £1.2 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi, wedi troi adeilad gwag yn ganolfan greadigol i bobl ifanc ac artistiaid greu, ymarfer a pherfformio.

Er bod llawer i'w ddathlu, nid wyf yn tanamcangyfrif yr heriau sy'n gysylltiedig â datgloi potensial ein trefi. Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn un her o'r fath. Mae gan Lywodraeth Cymru sawl rhaglen sy'n cefnogi awdurdodau lleol i ailddatblygu eiddo gwag a dod â nhw yn ôl i ddefnydd. Mae hyn yn cynnwys y gronfa gorfodi eiddo gwag, sydd ar gael i awdurdodau lleol sy'n dymuno cymryd camau gorfodi ar eiddo amlwg yng nghanol trefi. Y llynedd, comisiynwyd adolygiad o'r gronfa hon i ystyried a yw'n effeithiol wrth fynd i'r afael ag eiddo gwag. Bydd yr argymhellion yn allweddol wrth lunio pwyslais ein cefnogaeth i awdurdodau lleol yn y dyfodol wrth leihau nifer yr eiddo gwag yng Nghymru. Ynghyd â hyn mae'r gwerthusiad arfaethedig o'r rhaglen ehangach Trawsnewid Trefi, a fydd yn ystyried yr hyn sydd wedi bod yn gweithio'n dda, heriau i'w gweithredu, a rhwystrau y gellid eu dileu neu eu lleihau yn y dyfodol. Bydd canfyddiadau'r gwerthusiad hwn yn helpu i lunio ein cefnogaeth ar gyfer adfywio canol trefi yn y dyfodol a chyflawni parhaus yn erbyn 'Canol trefi: datganiad sefyllfa'.

Yn y cyfamser, edrychaf ymlaen at ymweld â mwy o drefi a chymunedau ledled Cymru i weld drosof fy hun y cynnydd sylweddol sydd eisoes yn cael ei wneud o ran trawsnewid ein trefi, gan eu gwneud yn lleoedd gwych i fyw, gweithio, ymweld ac aros ynddynt. Diolch yn fawr.

16:55

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad hwn? Rwyf wir yn golygu hynny, gan fod canol ein trefi mor sylfaenol bwysig. Maen ganddyn nhw, fel y dywedoch chi, rôl hanfodol iawn yn ein cymunedau, gan roi lle i'n holl fentrau bach a chanolig wneud busnes, a lle hefyd i bobl gyfarfod a chymdeithasu, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny. Ac rwyf am gymryd yr amser hwn hefyd i nodi y bydd yn Ddydd Sadwrn Busnesau Bach, fel y gwyddom ni i gyd, ddydd Sadwrn yma, a chymryd y cyfle hwn i groesawu'r rôl hanfodol sydd gan BBaChau yn ein cymunedau ledled Cymru, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yma yn cytuno ar hyn.

Mae trefi llwyddiannus a bywiog yn hanfodol i'n heconomi yng Nghymru, ond hefyd i les amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Maen nhw'n creu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth, ac maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan eu cymunedau, yn briodol. Fodd bynnag, mae llawer o ganol ein trefi yn dirywio, fel y gwyddom. Bydd rhywfaint o hyn yn sgil y newid yn y ffordd y mae pobl yn siopa erbyn hyn. Ond mae'n rhaid cydnabod pethau fel ardrethi busnes. Mae'r ffaith eu bod mor uchel ag y maen nhw hefyd yn dod â llawer o bwysau i fusnesau lleol, yn enwedig mewn etholaethau sydd â gwerthoedd uchel, fel Trefynwy, gan ei gwneud hi'n anodd i'r busnesau hynny ffynnu, ac yn wir bydd y cynnydd newydd mewn yswiriant cenedlaethol yn gwaethygu hyn. Rydym yn gwybod y bydd hynny, heb os, yn atal twf a chyfleoedd gwaith.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, yn amlwg, mae'n rhaid i bethau newid, a gwnaethoch chi dynnu sylw at rywfaint o'r newid hwnnw heddiw, os ydym wir yn gwerthfawrogi ein trefi, ac rwy'n croesawu'r bwrdd goruchwylio a'r hyn y gallai fod yn ei wneud. Er eich bod wedi esbonio'r mater yn eithaf trylwyr, mae gennyf ychydig o gwestiynau. Sut ydych chi'n gweld y bwrdd yn gallu helpu i danategu dyfodol ein strydoedd mawr a'r busnesau sydd arnyn nhw? A sut y gall y bwrdd hwnnw gymell busnesau i barhau ar y stryd fawr a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi unwaith eto? A wnaiff y bwrdd goruchwylio ystyried pecynnau cymorth newydd, megis ceisio dylanwadu ar y ddadl ynghylch rhyddhad ardrethi annomestig neu fathau eraill o gymhelliant, fel nad oes raid iddynt fasnachu dan anfantais, yn sicr ar hyd ffiniau Cymru?

Gan symud ymlaen, Ysgrifennydd Cabinet, un peth y mae angen i ni ei wella yw ein seilwaith trafnidiaeth yn mynd i mewn i'n trefi, yn enwedig yn rhannau gwledig Cymru. Rwy'n cytuno ag egwyddor y Llywodraeth o fynd i'r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, ni ellir gwneud hynny dim ond trwy gosbi defnyddwyr ceir. Felly, a fyddai'r agenda creu lleoedd yn ystyried y pethau hyn hefyd? Mae'n rhaid bod â dulliau trafnidiaeth amgen i bobl fynd i ganol ein trefi, ac mae hynny'n gofyn am seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd a dibynadwy o leiaf—rhywbeth rydyn ni'n gwybod sy'n ddiffygiol. Ysgrifennydd Cabinet, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llwybrau bysiau gwledig yn dod i ben ar ganol trefi yng Nghymru?

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, mae'r sector cyhoeddus yn cyflogi bron i 330,000 o bobl yng Nghymru—dros 10 y cant o'r boblogaeth. Yn draddodiadol, mae llawer o'r sector wedi bod â rhan hynod bwysig wrth gadw ein strydoedd mawr yn fywiog ac yn agored, gyda llawer o weithwyr yn gwario'n rheolaidd ar ein strydoedd mawr. Gyda hyn mewn golwg, a yw Llywodraeth Cymru wedi asesu effaith y duedd gynyddol o weithio gartref ar ein strydoedd mawr wrth symud ymlaen? Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n dymuno'n dda i'r bwrdd wrth symud ymlaen. Rwy'n credu bod dyfodol canol ein trefi mor bwysig, ac mae'n rhaid i ni feddwl amdanyn nhw yn wahanol wrth iddyn nhw symud i ffwrdd o fod yn ganolfannau manwerthu yn fwy i fod yn gyrchfannau. Mae'n rhaid i ni wneud cymaint ag y gallwn i gynnal cynnig canol tref bywiog ac iach ledled Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:00

Diolch yn fawr, Peter. Diolch am hynny. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir wrth siarad am ein gweledigaeth ar gyfer canol trefi. Mae'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn teimlo'n gryf iawn amdano, fel y dywedais i yn y datganiad. Mae canol ein trefi yn creu balchder, yn creu gwerth gwirioneddol am y lle yr ydym yn byw ynddo, a lle gall cymunedau ddod at ei gilydd.

Hoffwn hefyd ymuno â chi i atgoffa pawb am Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach. Mae hynny, rwy'n gwybod, yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi yma yn y Siambr hon pan fyddwn ni i gyd yn mynd allan i weld y busnesau bach sydd yn ein cymunedau lleol, sy'n bwysig iawn, ond rwy'n siŵr bod llawer ohonom sy'n defnyddio'r busnesau lleol hynny trwy gydol yr amser hwnnw. Rydym yn gwybod mai'r adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r Nadolig yn agosáu, yw pan fyddwn yn canolbwyntio ar hynny. Ond rydym yn gwybod bod y busnesau annibynnol hynny yn arbennig yr ydym wedi eu cefnogi ers blynyddoedd lawer, sydd wedi bod yn brif nodwedd canol ein trefi, a hoffwn gytuno â'r holl bwyntiau a ddywedoch am ba mor bwysig yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach.

Yn bendant, mae ochr ddiwylliannol canol ein trefi yn bwysig iawn hefyd. Fel y soniais i, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sut y gallwn ni ddefnyddio'r endidau diwylliannol hynny yn ein cymunedau yng nghanol y trefi i fod yn ganolbwynt go iawn, oherwydd maen nhw mor bwysig. Rwyf wedi gweld hynny mewn llefydd ledled Cymru. Fe wnaethoch chi ddisgrifio Castell-nedd; bûm yn ffodus i fynd i weld Castell-nedd yn gynharach eleni hefyd, ac i weld pa mor bwysig mae hynny wedi bod i'r lle hwnnw.

O ran y bwrdd goruchwylio canol trefi a'r datganiad sefyllfa, gwyddom fod cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae rhai heriau o hyd. Felly, rydym wedi sefydlu'r bwrdd goruchwylio hwnnw i ddarparu'r canllawiau a'r trefniadau llywodraethu cadarn hynny, gan ganolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y camau allweddol a nodwyd yn y datganiad sefyllfa. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw'r pwyslais agos hwnnw ar yr hyn yr ydym ni am ei gyflawni o fewn hynny. Cyfarfu'r bwrdd am y tro cyntaf ym mis Hydref, ac mae disgwyl iddo gyfarfod eto ym mis Ionawr.

Mae llawer iawn o arbenigedd ar y bwrdd hwnnw, a phobl sydd â syniadau a phrofiad da iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn eu defnyddio yn hynny o beth i sicrhau ein bod yn cadw at y pwyntiau y mae angen i ni eu cyflawni, a'u herio. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at waith y bwrdd. Bu modd i mi gwrdd â nhw yn eu cyfarfod ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni ei annog. Rwy'n credu y byddan nhw'n cyflawni gwasanaeth go iawn i ni wrth gefnogi canol ein trefi.

17:05

Diolch yn fawr i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw a’r newyddion am sefydlu’r bwrdd. Mae mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r stryd fawr yn fater o frys. Mae ein strydoedd mawr ni yn atgof gweladwy o’r caledi economaidd parhaus sy’n cael ei wynebu gan bobl ledled Cymru, ac mae twf siopa ar-lein a lleoli archfarchnadoedd ar gyrion ein trefi ni wedi creu sefyllfa dorcalonnus mewn rhai ardaloedd.

Does unman yn dangos hynny’n gliriach na stryd fawr Bangor yn fy etholaeth i. Fel stryd fawr hiraf Cymru, mae hi’n enghraifft, yn anffodus, o ddirywiad mawr, efo busnesau’n cau eu drysau ac eiddo wedi cael ei adael yn wag. Ond mae yna ddatrysiadau clir y gallai Llywodraeth Cymru eu cefnogi i roi bywyd newydd i’n strydoedd mawr ni, a hynny mewn cyd-destun newydd, cyffrous. Mi ddaru chi sôn am hwb creadigol y Frân Wen yn yr hen eglwys ym Mangor, ac mae yna gynlluniau eraill ar waith yn y ddinas hefyd, yn cynnwys troi’r hen Debenhams yn hwb iechyd a llesiant. A gyda llaw, mi fyddai'n dda cael newyddion da ar hyn gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd cyn y Nadolig.

Y tu hwnt i golli busnesau, rydym ni hefyd wedi gweld colli gwasanaethau hanfodol fel banciau a swyddfeydd post, ac mae'r colledion yma yn gwaethygu'r heriau economaidd mae’n cymunedau ni yn eu hwynebu. Yn ôl Archwilio Cymru, mi fu gostyngiad o bron i 30 y cant yn nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu.

Dwi’n mynd i ofyn ichi yn gyntaf, felly, ble mae banc cymunedol Cymru a oedd yn addewid ym maniffesto Llafur, banc cymunedol a allai fod yn darparu gwasanaethau i ddinasyddion, yn hytrach nag elw i gyfranddalwyr? Mae'r sefyllfa yr un mor enbyd efo’r swyddfeydd post. Yn y degawd diwethaf, mae nifer y swyddfeydd post yng Nghymru wedi gostwng, ac yn ddiweddar, mae cau cangen swyddfa bost fawr yng Nghricieth wedi gwthio gwasanaethau post yng Ngwynedd i argyfwng. Ac yn y cyfamser, mae cangen Caernarfon yn fy etholaeth i hefyd dan fygythiad. Felly, fy ail gwestiwn i ydy: sut ydych chi fel Llywodraeth yn gweithio efo Llywodraeth y DU i sicrhau bod Swyddfa’r Post yn blaenoriaethu anghenion cymunedau gwledig dros elw?

Dwi’n troi fy sylw rŵan at drafnidiaeth, sy’n hollol bwysig efo adfer canol ein trefi ni, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi amlygu hynny dro ar ôl tro. Mae gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn gallu hybu datblygu economaidd ac annog pobl i ymweld â’n canolfannau ni, ac mae o’n gallu arwain at leihau tagfeydd er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. Ond ar hyn o bryd, rydym ni’n yn dal i ddisgwyl y Bil bws, wrth gwrs, ac mae hwnnw’n cynnig gobaith, ond mae gwirioneddol angen mwy o gyllid.

Felly, fy nhrydydd cwestiwn i ydy: mae adroddiad Centre for Cities 'Fare outcomes' yn awgrymu pump mecanwaith codi refeniw i gefnogi bysiau; ydy Llywodraeth Cymru wedi asesu’r argymhellion hynny? Ar hyn o bryd, mae bysiau’n cyfrif am dri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac eto, mae gwariant Llywodraeth Cymru ar fysiau ymhell y tu ôl i wariant ar drenau. Mae’n rhaid inni roi sylw i’r anghydbwysedd yma. Ac yn ogystal, parcio: a oes modd i Lywodraeth Cymru weithio efo awdurdodau lleol i ailfeddwl sut mae parcio’n cael ei reoli? Mae canolfannau siopa tu allan i’r dref yn cynnig digon o le parcio am ddim, a hynny’n rhan o dynnu pobl i ffwrdd o’r stryd fawr. Felly, oes yna ffordd i fedru trethu’r datblygiadau ar gyrion trefi er mwyn helpu i roi cymhorthdal i barcio rhatach i’r rhai sydd yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi?

A jest un sylw byr: rhaid i bolisi tai gyd-fynd ag adfywio canol trefi. Mae yna gyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru, yn gweithio efo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, i gynnig tai cymdeithasol yng nghanol ein trefi ni, uwchben siopau ac eiddo gwag. Mi fedrwn ni achub ar y cyfle i ailfeddwl ac adfywio ein strydoedd mawr, nid yn unig fel canolfannau economaidd, ond eu gweld nhw i’r dyfodol fel canolfannau cymunedol, ac yn llefydd ffyniannus i fyw ynddyn nhw hefyd. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch yn fawr, Siân. Diolch am y gyfres o gwestiynau yno. Ar y dechrau, fe wnaethoch chi amlinellu rhai o'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi yr ydyn ni'n ymwybodol ohonyn nhw. Rydyn ni wedi gweld y duedd tuag at siopa ar-lein yn digwydd yn gyflym iawn, mewn gwirionedd, onid ydyn ni, yn enwedig trwy COVID. Rwy'n credu bod hynny'n golygu bod pethau wedi mynd yn llawer cyflymach nag y bydden ni wedi'i ddisgwyl efallai. Fe wnaethoch chi sôn am yr heriau yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ond nid wedi'u cyfyngu i ardaloedd gwledig yn unig, o amgylch banciau a swyddfeydd post, a gwn fod llawer o ymgyrchoedd a heriau wedi bod o ran hynny.

Fel y gwyddoch chi, fel y soniais yn y datganiad, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â gweithio ar draws y Llywodraeth. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd nid yw'n rhywbeth sy'n rhan o un portffolio yn unig. Rydych chi wedi sôn am hwb iechyd a lles Bangor fel rhywbeth sydd wedi codi, sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r prosiect hwn wrth i geisiadau am gyllid fynd drwy broses ddiwydrwydd dyladwy priodol drwy'r paneli grant perthnasol. Felly, dim ond i ddweud bod hynny'n syniad diddorol, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi codi o amgylch Cymru, hefyd, wrth i ni ddechrau meddwl o ddifrif am sut y gallwn ni symud pethau fel canolfannau iechyd i ganol trefi, cynyddu'r nifer hwnnw o ymwelwyr a'u gwneud yn hygyrch i fwy a mwy o bobl.

Yn y datganiad, soniais am Fangor a'r eglwys—byddwch chi'n gwybod hynny'n dda iawn. Cafodd prosiect hwb creadigol Nyth gwerth £4.5 miliwn ym Mangor ei ariannu gan gronfa Trawsnewid Trefi a Chyngor Celfyddydau Cymru. Agorodd hwnnw ym mis Tachwedd 2023. Gwnaeth hynny drawsnewid eglwys wag yng nghanol y ddinas yn ganolfan gelfyddydol a chymunedol wych ar gyfer pobl ifanc ac artistiaid, sy'n gyffrous iawn. Rydyn ni hefyd wedi gweld yng Ngwynedd gynlluniau creu lleoedd Porthmadog, Pwllheli a Dolgellau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu gweld. Roeddwn i'n ffodus, pan wnes i gyfarfod â Chyngor Gwynedd yr wythnos diwethaf, i glywed am rai o'r cynlluniau yn eu hardal nhw o ran adfywio.

O ran trafnidiaeth, fel y dywedais i, mae hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, yn gyfrifol amdano ond rwy'n gwybod bod llawer o bethau yn sicrhau bod canol trefi yn hygyrch i bobl. Rydyn ni eisiau i bobl allu mynd i mewn i'r cymunedau hynny, ond mae angen i ni feddwl hefyd am sut mae pobl yn byw. Fe wnaethoch chi sôn am dai yn un o'ch cwestiynau, sydd yn wir, unwaith eto, yn bwynt pwysig. Rwyf wedi gweld hyn o fewn fy nghymuned fy hun yng Nghasnewydd, lle mae gennym ni stryd fawr hir iawn, ac mae rhywfaint ohoni wedi'i thrawsnewid yn llety. Rydyn ni wedi gweld bod hynny wedi cael ei wneud yn dda iawn. Rwy'n credu, pan ydyn ni'n ystyried lle mae pobl yn byw, dydw i ddim yn gwybod pam wnaethon ni dreulio amser hir yn rhoi pobl i fyw rhywle nad oedd yn agos at wasanaethau. Mae sicrhau bod pobl yn gallu byw yn agos at y gwasanaethau yn bwysig iawn. Felly, mae cynlluniau cyffrous yno hefyd, ac rwy'n siŵr y gall awdurdodau lleol eraill weld rhai o'r enghreifftiau hynny. Gobeithio bod y rhan o hynny sy'n ymwneud â thai, yr ydyn ni'n bwriadu buddsoddi ynddi hefyd, yn rhywbeth y byddwn ni'n gweld mwy a mwy ohono yn ein trefi a chanol ein dinasoedd.

Rwy'n croesawu'r datganiad. Rydyn ni wedi gweld tafarndai, eglwysi, capeli, banciau a siopau yn cau, gan gynnwys siopau angor fel Debenhams a Wilko. Mae canol trefi wedi bod yn newid ers nifer o flynyddoedd. Roedd datblygiadau y tu allan i'r dref yn broblem, yn enwedig pan oedd yr archfarchnadoedd mwy yn darparu amrywiaeth gynyddol o eitemau; nawr, mae mwyfwy o bethau yn cael eu prynu ar-lein, ar ôl y cynnydd cyflym yn ystod COVID. Prynodd 89 y cant o bobl o leiaf un eitem a phrynodd dros hanner ddillad ar-lein y llynedd. Nid oes gennyf fanylion pwy, ond rwy'n tybio bod oedran cyfartalog y bobl hynny a oedd yn prynu ar-lein yn sylweddol is nag oedran y bobl a oedd yn prynu mewn siopau. Pam mae gan ganol trefi lawer o siopau trin gwallt a gwasanaethau personol, fel bariau ewinedd, caffis a siopau cludfwyd? Dydyn nhw ddim yn cystadlu â darpariaeth ar-lein o ganolfannau dosbarthu. Byddai dod â gwasanaethau eraill i ganol trefi, fel diwylliant, y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol ehangach, yn ogystal â swyddfeydd, yn helpu canol trefi. Dylen ni fod yn gwneud bob dydd Sadwrn yn Ddydd Sadwrn busnesau bach, ond mae angen i ni gael mwy o dai i ganol dinasoedd, ac nid tai cymdeithasol yn unig, tai i bawb. Ac mae angen datblygiad preifat arnon ni yng nghanol trefi a dinasoedd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio galluogi datblygiad preifat yn yr ardaloedd hynny?

17:15

Diolch, Mike. A diolch am y cwestiynau hynny. Rydych chi'n hollol gywir o ran yr heriau i ganol trefi ac rydyn ni wedi'i weld yn y gorffennol. Rydyn ni wedi siarad heddiw am COVID, neu rydw i wedi sôn amdano, yn gwaethygu neu'n cyflymu, o bosibl, y duedd tuag at bobl yn siopa ar-lein. Ond rwy'n gwybod bod heriau hefyd cyn COVID. Cefais brofiad o siarad â busnes yng Nghasnewydd, fy etholaeth i, unwaith, a phan oeddwn i'n ymgyrchu dros gadw'r busnes hwn ar agor, gwnaethon nhw ddweud wrthyf fod mwy o bobl yn dychwelyd pethau yno nag yr oedd yn prynu yno. Felly, rwy'n credu bod yr her wedi bod yno ers tro. Felly, mae'n rhaid i ni sylweddoli ei fod wedi mynd ychydig yn gyflymach mewn gwirionedd.

Dim ond i ddweud, yn Abertawe mae llawer o bethau da wedi bod yn digwydd yng nghanol dinas Abertawe. Mae gennym ni Theatr y Palas, sy'n adeilad rhestredig gradd II, adeilad rhestredig gradd II 134 mlwydd oed—sydd wedi'i ailddatblygu'n swyddfeydd o ansawdd uchel i fusnesau bach a chanolig, ac mae dros £6.96 miliwn o grant Trawsnewid Trefi wedi'i roi ar gyfer hynny, ac fe gostiodd y cynllun £16.6 miliwn. Felly, roedd ailddatblygu yno, mae'n adeilad amlwg, roedd amddifadedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yno, ond roedd ganddo lawer o botensial. Felly, cafodd yr adeilad ei agor ym mis Tachwedd ac mae ganddo arwynebedd llawr modern, masnachol o ansawdd uchel a man hybu ar gyfer busnesau digidol a thechnoleg, a chaffi ar y llawr gwaelod—mae'n hynod, hynod gyffrous. Felly, mae rhai pethau da iawn yn digwydd yn y ddinas honno, Mike, fel y gwyddoch chi'n dda.

O ran y tai, yn sicr, mae angen i ni weld mwy o dai, mae angen i ni annog—p'un a yw'n dai cymdeithasol, ond hefyd, fel y dywedwch chi, datblygwyr preifat, i mewn i ganol ein trefi a'n dinasoedd, oherwydd rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n bwysig bod pobl yn byw'n agos at y gwasanaethau hynny. Rydyn ni'n gwybod nad yw canol trefi a dinasoedd yr hyn yr oedden nhw arfer bod. Dydyn ni ddim eisiau gweld canol trefi neu ddinasoedd sydd yn union yr un fath chwaith, mae angen yr hunaniaeth honno arnon ni o fewn hynny, ond rwy'n credu bod tai yn rhan o'r ateb.

Mae canol trefi yn newid, wrth gwrs, oherwydd bod arferion siopa pobl yn newid, ond rwy'n credu bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi siopau presennol. Mae WHSmith yn y Drenewydd yn cau yn y flwyddyn newydd—mae disgwyl iddi gau yn y flwyddyn newydd, a chafodd hynny ei gyhoeddi yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae wedi bod yno ers canrif. Mewn gwirionedd, cyfeiriodd Mary Portas ati fel 'gem', oherwydd ei nodweddion gwreiddiol fwy na thebyg. Mae'n siomedig iawn, wrth gwrs, oherwydd mae WHSmith a siopau cadwyn yn gweithredu fel busnesau angor sydd wedyn yn denu pobl i ganol trefi i ddefnyddio busnesau bach a lleol annibynnol, wrth gwrs, hefyd.

Un o'r rhwystrau mawr, rwy'n credu, i bobl beidio â mynd i ganol trefi a'i defnyddio yw gosod rhwystrau i bobl sy'n teithio i ganol trefi. Ar hyn o bryd, mae fy ardal awdurdod lleol fy hun, Cyngor Sir Powys, yn codi £2.50 am hyd at ddwy awr. Maen nhw wedi dileu'r gyfradd awr. Felly, os yw pobl eisiau mynd i mewn i siop yn sydyn am 10 munud, dydyn nhw ddim yn mynd i dalu £2.50. Felly, rwy'n credu mai'r mater go iawn yma yw sicrhau nad yw cynghorau ond yn gweld meysydd parcio fel trefniadau cynhyrchu refeniw ar gyfer gwariant mewn meysydd eraill. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod cynghorau yn cymryd cyfrifoldeb am eu rhan nhw mewn adfywio canol trefi, yn hytrach na dim ond gweld meysydd parcio fel ffordd hawdd o gynhyrchu arian.

17:20

Diolch, Russell. Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am WHSmith yn cau. Rwy'n teimlo y dylwn i ddatgan diddordeb fel rhywun a gafodd ei swydd gyntaf yn gweithio yn WHSmith—nid yr un honno—ond dyna oedd fy ngham cyntaf ar yr ysgol, WHSmith, felly dyna ni. Yn hollol, yr adeiladau eiconig hyn yr ydyn ni'n eu gweld yn ein cymunedau—dydyn ni ddim eisiau eu gweld yn wag, nhw yw enaid ein trefi, ac rwy'n credu bod sicrhau ein bod ni'n annog ac yn cefnogi busnesau i mewn i ganol ein trefi yn bwysig iawn. Fel y dywedoch, mae yna lawer o fusnesau annibynnol sydd wedi bod yn gwneud yn dda dros nifer o flynyddoedd, ac sydd wedi bod drwy rai cyfnodau anodd iawn drwy hynny hefyd, ond, fel yr ydyn ni'n ei ddweud, rydyn ni i gyd eisiau eu cefnogi nhw drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach.

Y pwynt rydych chi'n ei wneud o ran trafnidiaeth—eto, mae'n rhywbeth yr ydyn ni'n ei glywed yn arbennig tua'r adeg hon o'r flwyddyn hefyd, ynghylch cefnogi pobl i fynd i ganol trefi o gwmpas y Nadolig. Rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau lleol yn cefnogi teithio am ddim ar fysiau i ganol dinasoedd hefyd yn ystod y cyfnod hwn. Felly, rwy'n gwybod am yr heriau, ond mae'n ymwneud ag annog awdurdodau lleol. Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, mae ein swyddogion yma yn gweithio'n dda gyda swyddogion awdurdodau lleol, gan geisio eu cefnogi yn yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud gyda'n gilydd i wella canol ein trefi a'n dinasoedd, oherwydd mae o fudd i bob un ohonom.

Mae'n ddiddorol iawn gwrando ar y ddadl hyd yn hyn, oherwydd i mi mae'n crisialu, mewn gwirionedd, anghenion gwahanol drefi. Rydyn ni wedi clywed trafnidiaeth yn cael ei chrybwyll unwaith neu ddwywaith yn barod. Nawr, fel rhywun sydd â thref Pen-y-bont ar Ogwr yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, fyddwn i ddim o reidrwydd yn dweud mai trafnidiaeth yw'r broblem yno—mae gennych chi drên prif lein sy'n mynd i Abertawe, i Gaerdydd a'r holl ffordd i Lundain; mae gennych chi'r cyngor  yn darparu parcio rhad, neu barcio am ddim mewn sawl ardal; ac mae terminws bysiau hefyd yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr. Ond rydyn ni'n dal i weld yr un problemau—rydyn ni'n dal i weld eiddo gwag ac rydyn ni'n dal i weld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr.

Yr hyn yr ydyn ni'n ei weld, ac rwy'n credu y gallwch chi briodoli dirywiad tref Pen-y-bont iddo, mewn gwirionedd, yw McArthurGlen—canolfannau siopa ar gyrion y dref—a dyna'r hyn y mae angen i ni ddechrau canolbwyntio ein sylw arno, yn fy marn i. Mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, edrych ar sut yr ydyn ni'n defnyddio'r system dreth er ein budd ni ac er budd y busnesau llai hynny sy'n gweithredu yng nghanol ein trefi, fel ein bod ni'n ceisio symud y baich hwnnw fel bod canolfannau siopa ar gyrion trefi yn talu mwy o dreth i sybsideiddio ein busnesau llai, ac yn ceisio codi mwy neu godi mwy o dreth ar yr archfarchnadoedd, unwaith eto, sy'n tynnu pobl o ganol ein trefi. Byddai wir ddiddordeb gennyf ddeall, oherwydd rwy'n credu mai'r mater yn y fan hon yw bod yn rhaid i nifer o bortffolios y Llywodraeth ddod at ei gilydd i gynnig ateb i ganol trefi sy'n dirywio, pa fath o waith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth ac ar draws portffolios i sicrhau, mewn gwirionedd, bod y meddylfryd cydgysylltiedig hwnnw'n digwydd a bod popeth yn dod at ei gilydd fel ein bod ni wedyn yn gweld canol ein trefi'n ffynnu eto.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Luke, ac rydych chi'n hollol gywir, mae canol ein trefi'n wahanol iawn. Fel y dywedais i, dydyn ni ddim eisiau gweld canol trefi unffurf—dydyn nhw ddim nawr, ond rydyn ni eisiau sicrhau eu bod nhw'n cael eu datblygu a'u cefnogi gan y cymunedau maen nhw eisiau eu hannog i fynd yno. Rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau gweld canol trefi gwahanol, ac mae ganddyn nhw i gyd rhywbeth unigryw amdanyn nhw, onid oes? Rwy'n gwybod bod neuadd y dref Maesteg wedi agor yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, ac rwyf wedi clywed pethau da iawn am hynny—dydw i ddim wedi gweld yr agoriad fy hun, ond rwy'n edrych ymlaen at ymweld â hi. Mae'r neuadd wedi cael buddsoddiad o £8.6 miliwn, gyda chefnogaeth £3.5 miliwn o'n cyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac mae'n swnio fel cyfle da iawn.

O ran McArthurGlen a chanolfannau siopa eraill ar gyrion trefi yr ydym i gyd yn gwybod amdanyn nhw, unwaith eto, mae hynny wedi bod yn duedd yr ydyn ni wedi'i gweld dros y blynyddoedd. Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n cael eu defnyddio, ond, unwaith eto, mae'n ymwneud â'r atyniad hwnnw tuag at ganol ein trefi sydd mor bwysig. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn hoffi mynd i ganol ein trefi'n fwy aml; mae'n fater o wneud yn siŵr nad ydyn ni'n gadael i ganolfannau ar gyrion trefi dynnu oddi wrth y pwyntiau hanfodol hynny.

Mae rhai o'r agweddau yr ydych chi'n eu codi, mewn gwirionedd, yn berthnasol i'r gwaith sy'n digwydd gyda'n bwrdd goruchwylio, felly bydd rhai o'r camau hynny'n dod i'r amlwg drwy hynny, oherwydd maen nhw'n amlwg yn ymwybodol iawn o'r heriau. Felly, byddwn i'n disgwyl i rai o'r datblygiadau hynny a rhai o'r canlyniadau ddod o'r bwrdd goruchwylio hwnnw, ac i ddilyn eu—. Rwy'n siŵr y byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i'r Senedd ac i chi yn rheolaidd.

17:25

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu bod dyfodol canol ein trefi yn rhywbeth y mae pob un ohonon ni ar bob ochr i'r Siambr, yn y Llywodraeth ac ar y meinciau cefn, wedi bod yn mynd i'r afael ag ef ers rhai degawdau mewn gwirionedd, oherwydd, rydyn ni wedi gweld arferion siopa yn newid, rydyn ni wedi gweld technoleg yn newid, ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi gweld rôl canol trefi yn newid. Mae'r rhan fwyaf o ganol trefi'r Cymoedd, er enghraifft, yn llawer mwy nag sydd angen iddyn nhw fod heddiw. Os edrychwch chi ar y rhan fwyaf o'r trefi roeddwn i'n eu cynrychioli, pan oeddwn i'n cael fy magu, roedden nhw'n canolfannau masnachol ffyniannus, oherwydd nid oedd gennym ni'r modd i allu mynd i unman arall. Roedd Caerdydd yn daith fawr pan o'n i'n cael fy magu; roedd hi'n daith dwy awr, a byddai fy mam-gu yn gwisgo het. Heddiw, mae pethau'n wahanol iawn, iawn. Ac rwy'n credu weithiau ein bod ni wedi ailadrodd camgymeriadau Gogledd America a heb ddysgu'r gwersi o dir mawr Ewrop. Os ydyn ni'n teithio o amgylch y trefi bach a chanolig yn y rhan fwyaf o orllewin Ewrop, fe welwn ni ganol trefi sy'n ffynnu, hyd yn oed mewn ardaloedd sy'n dioddef yr un anawsterau economaidd ag yr ydyn ni'n eu gweld mewn llawer o'n Cymoedd ni, er enghraifft, Cymoedd y De, ond heb fod yn gyfyngedig i gymunedau'r Cymoedd. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthych chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw gadewch i ni beidio ag edrych draw dros yr Iwerydd ar fethiant yn unig, ond gadewch i ni edrych draw at dir mawr Ewrop ar lwyddiant, a gadewch i ni ystyried sut y gallwn ni ddysgu gwersi o leoedd eraill sydd wedi llwyddo. Oherwydd rwy'n poeni weithiau ein bod ni wedi rhuthro i'r fersiwn Americanaidd yma o gyfalafiaeth—

—heb ddeall effaith ddynol y peth ar y bobl yr ydyn ni'n eu cynrychioli.

Diolch yn fawr iawn, Alun. Rwy'n cytuno gyda chi ar gymaint o hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod—. Heddiw, rydyn ni wedi clywed cymaint o Aelodau'n cyfrannu yn y Siambr hon, oherwydd mae pob un ohonom yn poeni'n fawr am ganol ein trefi a chanol ein dinasoedd. Fel y dywedais i, mae'n ymwneud â'r hunaniaethau hynny sydd gennym ni. Nid ydyn ni eisiau gweld unffurfiaeth—rwy'n golygu hynny o fewn Cymru, ond rwy'n golygu hynny hefyd—. Nid ydyn ni i gyd eisiau mynd i'r un lle; nid dyna'r hyn rwy'n credu y byddai pobl Cymru eisiau'i weld. Rwy'n sicr yn awyddus ein bod ni'n edrych ar enghreifftiau o leoedd eraill, ac, fel y dywedwch chi, llawer o leoedd yn Ewrop, maen nhw'n ffynnu, a dyna'r hyn yr ydyn ni eisiau'i weld yng Nghymru hefyd. Felly, mae'n bwysig, yn y cymunedau y mae'r canol trefi hynny'n eu gwasanaethu, bod lleisiau'r cymunedau wrth wraidd yr hyn yr ydyn ni eisiau'i weld, a'n bod ni'n gwrando ar y lleisiau hynny, ac rydyn ni'n ceisio datblygu ein cynlluniau yn unol â hynny. Felly, dyna pam mae gennym ni'r cynlluniau creu lleoedd hyn hefyd, oherwydd rwy'n credu bod lleisiau'r gymuned mor hanfodol.

Ond, yn sicr, rwy'n awyddus iawn ac wedi ymrwymo i edrych ar unrhyw enghreifftiau o arfer da ar draws y byd, ac rwy'n credu bod gwir angen i ni wneud cymaint ag y gallwn ni, gan fod y lleoedd yn bwysig i'n cymunedau ni. Ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sut yr ydych chi'n teimlo am ble'r ydych chi'n byw ac i ble'r ydych chi'n perthyn, oherwydd os ydych chi'n gwybod bod y rheini'n ffynnu, mae hynny'n dda iawn ar gyfer sut mae pobl yn teimlo, yn ogystal ag yn economaidd.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Gwnes i gyfarfod â fforwm busnes Prestatyn, a oedd yn cynnal ymgyrch dros ardrethi busnes yn ddiweddar, drwy orchuddio blaenau eu siopau, gan eu bod wedi nodi'n glir na allan nhw oroesi gyda'r lefel o drethiant y maen nhw'n ei chael. Mae ansolfedd busnes hefyd yn cynyddu, a hyd yn oed heb edrych ar y ffigurau, mae pobl yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw'n ei godi gyda mi yn rheolaidd. Maen nhw'n sylwi ar y stryd fawr a'u cymunedau'n newid, ac yn anffodus, nid er gwell. Mae busnesau teuluol yn cau ar raddfa frawychus, a gallwn ni weld mwy o siopau gwag ar ein stryd fawr. Fel yr wyf i wedi sôn amdano o'r blaen, yr unig fusnesau sy'n ymddangos eu bod yn ffynnu yw mathau penodol o fentrau, fel siopau barbwr arian parod yn unig, bariau ewinedd, siopau gelato, siopau losin, ac ati, y mae'r rhan fwyaf o drefi yn frith ohonyn nhw erbyn hyn.

Mae'r ystadegau hefyd yn cefnogi cynnydd anhygoel y busnesau hyn, ac ers fy sylwadau cychwynnol ar y pwnc, mae wedi cael cryn dipyn o sylw, gan fod y cyhoedd yn fwyfwy pryderus am y newidiadau sy'n digwydd ar eu strydoedd mawr. Ond yr effaith fwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei chael wrth adfer ein strydoedd mawr yw i'r Llywodraeth roi'r gorau i rwystro busnesau sy'n ei chael hi'n anodd drwy adfer rhyddhad ardrethi busnes yn ôl i 75 y cant. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ailystyried effaith newid rhyddhad ardrethi busnes ar ganol trefi ledled Cymru a darparu dadansoddiad o effaith y toriadau, gyda'r bwriad o'u gwrthdroi yn y dyfodol? Diolch.

17:30

Diolch yn fawr, Gareth. Yn amlwg, fel y dywedais i, mae llawer o'r Trawsnewid Trefi hyn a llawer o elfennau'r datganiad y gwnes i eu rhoi heddiw—. Mewn gwirionedd, mae rhan o hynny'n eistedd o fewn llawer o bortffolios eraill. Felly, nid yw rhywfaint o'r hyn yr ydych chi wedi sôn amdano heddiw o ran ardrethi busnes, o fewn fy mhortffolio i. Ond rydyn ni'n buddsoddi £125 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi dros dair blynedd i gefnogi canol ein trefi a'n dinasoedd. Rwy'n clywed rhywfaint o'r hyn rydych chi wedi'i awgrymu am yr eiddo gwag hynny, ac rwyf i wedi siarad ychydig am ba mor bwysig yw hi i ailddefnyddio'r eiddo gwag hynny, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i'w wneud. Mae gennym ni nifer o gronfeydd a chynlluniau o fewn hynny. Er enghraifft, yn sir Ddinbych—ac roeddwn i yno yr wythnos diwethaf, yn siarad ag arweinydd a phrif weithredwr sir Ddinbych—rwy'n gwybod bod Marchnad y Frenhines yn rhywbeth sydd ar radar llawer o bobl; sef hen westy'r Savoy. Mae prosiect yno sy'n bwriadu dychwelyd y safle lled-adfeiliedig i ddefnydd cynhyrchiol bywiog a chynnig mwy modern yng nghanol y dref: neuadd farchnad dan do, cynnig bwyd a diod amrywiol, siopau marchnad manwerthu dros dro, gofod digwyddiadau hyblyg. Mae'n swnio'n gyffrous iawn. Mae £6.45 miliwn o grant Trawsnewid Trefi wedi mynd i mewn i hynny. Felly, mae llawer o bethau, ac rydyn ni wedi gweld hynny'n cael ei wneud yn dda mewn ardaloedd eraill hefyd, felly rwy'n siŵr bod hynny'n swnio'n eithaf cyffrous yn y Rhyl.

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw? Mae croeso mawr iddo. Nid ydw i eisiau cythruddo pob tref yn fy rhanbarth i, ond byddaf i'n canolbwyntio ar un yn benodol, Pontypridd, sydd wedi gweld yr amseroedd gorau a'r amseroedd gwaethaf eleni. Felly, mae hi wir yn taro tant gyda mi, yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am bwysigrwydd y celfyddydau a diwylliant. Y model newydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol a oedd mor llwyddiannus eleni, y cysylltiadau trafnidiaeth a weithiodd yn wych, mae hynny'n rhywbeth y gallen ni ei efelychu mewn rhannau eraill o Gymru. Ond yr amseroedd gwaethaf o ran y llifogydd, ac, wrth gwrs, o ran 'Canol trefi: datganiad sefyllfa' mae cyfeiriad at yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae cyfeiriad o ran adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond beth am gydnerthedd llifogydd? Oherwydd mae angen i ni allu cefnogi busnesau bach i aros yng nghanol ein trefi. Rydyn ni wedi clywed nifer o rybuddion gan fusnesau y gwnaeth y llifogydd effeithio arnyn nhw o ran methu â chael yswiriant, yr hyn y mae'n ei olygu o ran gallu ailadeiladu. Felly, pa gymorth fyddwch chi'n ei ddarparu i drefi fel Pontypridd sydd, yn anffodus, yn mynd i ddioddef llifogydd eto a lle nad amddiffynfeydd rhag llifogydd yw'r unig ateb? Ac a gaf i eich gwahodd chi i ymweld â Phontypridd a siarad yn uniongyrchol eich hun â'r busnesau y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw'n, ond sydd hefyd wedi elwa o'r Eisteddfod?

Yn sicr. Diolch, Heledd, a diolch am hynny. Rwy'n sylweddoli na fyddech chi eisiau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, ganolbwyntio ar un dref yn benodol, oherwydd mae gennych chi nifer yn eich rhanbarth, ond mae'n dda iawn eich clywed chi'n siarad am Bontypridd. Rydw i wedi bod yno. Es i i'r Eisteddfod ac fe wnes i ymweld â'r siopau oedd yno, a oedd yn wirioneddol wych. Ond rydyn ni'n gwybod am rywfaint o'r difrod sydd wedi'i wneud i'r siopau hynny. Rydw i wedi gweld rhai o'r lluniau o hynny ac wedi clywed gan fusnesau lleol yno, ac yn gwybod pa mor anodd a thrawmatig y mae hi wedi bod iddyn nhw gyda'r llifogydd yn ddiweddar. A dweud y gwir, rwy'n credu fy mod i'n mynd i Bontypridd yr wythnos nesaf, felly mor fuan â hynny, rwy'n credu. Felly, byddaf i'n gwireddu eich dymuniad chi, neu y byddwch chi'n gwireddu fy nymuniad i, neu ba ffordd bynnag yw hynny. Ond byddaf i'n ymweld â Phontypridd, ac rydyn ni'n gwybod bod rhai o'r siopau hynny a oedd wedi dioddef drwy storm Dennis o'r blaen, a pha mor anodd yr oedd hynny, bod rhai wir wedi—. Oherwydd y lliniaru a'r atgyweirio sydd wedi'u gwneud ar ôl hynny, a'r buddsoddi a aeth i mewn, mae rhai ohonyn nhw wedi gallu bod yn ôl ar agor yn gyflym y tro hwn. Felly, mae rhywfaint o obaith o ran hynny, ond rwy'n gwybod ei bod wedi bod yn anodd iawn i'r busnesau a'r bobl hynny y mae wedi effeithio arnyn nhw. Ond rwy'n credu bod wgni gwirioneddol gan Bontypridd. Rydw i wedi'i weld drosof i fy hun pan wnes i ymweld, ac rwy'n gwybod bod llawer o bethau cadarnhaol iawn yn digwydd ym Mhontypridd—[Torri ar draws.]—yng nghanol y dref. 

17:35

Iawn. Mae'n wir ddrwg gennyf i. Diolch. Mae Siân Gwenllian eisoes wedi sôn am effaith, effaith wael iawn, datblygiadau ar gyrion trefi, ac rydyn ni wedi gweld mewn llawer o ganol trefi sut mae archfarchnadoedd yn parcio eu tanciau ar lawntiau'r gymuned lleol ac yna'n dileu llawer o fusnesau canol y dref. Felly, mae dau fater yma. Un yw, os nad oes gennych chi gar, mae'n mynd yn anodd iawn gallu cael bwyd ffres, oherwydd ar ôl i'r siopau hyn gau, mae ond ar gael o'r archfarchnad hon. Felly, rwy'n cefnogi yn llwyr syniad Siân Gwenllian o drethu'r datblygiadau hyn ar gyrion trefi.

Fy nghwestiwn i chi, ar wahân i sut rydyn ni'n sicrhau bod pobl yn gallu cael bwyd ffres o fewn pellter cerdded i gymunedau—egwyddor Peckham—yw: a oes gennym ni system gynllunio ddigon trylwyr i atal y mathau hyn o straeon arswyd rhag digwydd eto? Mae'n anodd iawn mynd yn ôl ar benderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud—mae'r sefydliadau hyn yno—ond nid oes angen unrhyw ddatblygiadau eraill y tu allan i'r dref oherwydd, yn anochel, maen nhw'n arwain at ddileu busnesau lleol yng nghanol trefi.  

Diolch, Jenny, a diolch am y pwyntiau yr ydych chi wedi'u codi. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld dros y blynyddoedd y duedd yna tuag at ganolfannau siopa ar gyrion trefi, a dyna lle fyddai pobl yn mynd wedyn i wneud eu siopa. Ac rydyn ni'n dal i wybod bod pobl yn defnyddio'r rhain yn rheolaidd nawr. Weithiau, mae'n eithaf diddorol gweld canolfannau siopa ar gyrion tref nad yw'n bell i gerdded i'r stryd fawr, ac rwy'n gwybod bod pobl yn gwneud hynny ychydig yn fwy hefyd. 

O ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud am hynny, rwy'n credu, unwaith eto, ei bod yn ymwneud â bod â'r rhaglen hon yr ydyn ni'n ei hystyried, o ran Trawsnewid Trefi, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i annog a chefnogi busnesau yng nghanol ein trefi a threftadaeth a'r celfyddydau. Oherwydd, mae angen i ni ddod o hyd i ble mae pobl yn mynd. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael eu denu i fynd yno, fel y gallan nhw brynu eu ffrwythau a'u llysiau ffres yno—ffrwythau a llysiau ffres, yr ydyn ni i gyd eisiau eu gweld. Mae'n ymwneud â lle mae pobl eisiau mynd ar ddiwedd y dydd, onid ydyw, ac os oes pethau yng nghanol ein trefi a chanol dinasoedd sy'n denu pobl yna bydd pobl yn mynd yno.   

Mae fy swyddfa i yng nghanol tref Castell-nedd, tref y gwnaethoch chi dynnu sylw ati yn eich datganiad, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf i wedi gweithio gyda pherchnogion busnes yn y dref nid yn unig i glywed mwy am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu—oherwydd bod llawer ohonyn nhw'n poeni'n fawr oherwydd ein bod ni wedi colli siop fawr Marks and Spencer ar ôl 90 mlynedd o fasnachu—ond roedd yn amlwg i mi fod yna ffyrdd o oresgyn yr heriau hynny pan fydd y siopau angori mawr hynny yn cau, gyda'r gefnogaeth gywir. Nid yw'n ymwneud â datblygiadau mawr—mae'n ymwneud â chefnogaeth lawr gwlad, o'r gwaelod i fyny hefyd. 

Mewn cyfnod byr o amser, rydyn ni wedi mynd o bobl yn lledaenu sïon bod marchnad Castell-nedd yn mynd i gau, ati unwaith eto'n cael ei dathlu nawr fel rhan hanfodol o gymeriad ac economi canol y dref, ac mae'r masnachwyr eu hunain wedi cyflwyno a chefnogi llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous a gafodd eu cynllunio i ddenu pobl i mewn. Felly, sut mae'r strategaeth yn cefnogi'r math hwn o weithgaredd ar lawr gwlad, a sut mae'r strategaeth hefyd yn helpu i ddiweddaru a gwneud adeiladau hŷn ac eiconig sy'n effeithlon o ran ynni sy'n hanfodol i ffyniant a hunaniaeth canol trefi, fel marchnad gyffredinol Castell-nedd? A all y strategaeth helpu awdurdodau lleol sy'n brin o arian gyda'r gwaith hanfodol hwnnw, yn unol â'n nodau sero net? A byddwn i'n eich gwahodd chi i ddod i weld y potensial enfawr a'r eicon gwych sef marchnad hanesyddol Castell-nedd.

Hyfryd. Yn bendant, fe wnaf i dderbyn eich gwahoddiad i ymweld â Chastell-nedd hefyd. Rwyf i wedi gweld rhywfaint o'r cynnydd dros y blynyddoedd y mae Castell-nedd wedi'i wneud wrth ddod yn fyw eto. Rwy'n gwybod bod cynlluniau cyffrous ar waith hefyd. Mae gennym ni hen adeilad y tîm troseddau ieuenctid, sy'n brosiect sydd yn ei gamau cynnar, rwy'n credu, sy'n mynd i ddarparu safle swyddfa fasnachol o ansawdd uchel, a safle sy'n cysylltu â chanol y dref—mae'n gysylltiedig â chanol y dref—sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn o ran rhai o'r pethau yr ydyn ni wedi siarad amdanyn nhw heddiw, ynglŷn â hynny'n dod â'r ymwelwyr yn ôl i mewn yn bwysig iawn. 

Rwy'n credu ers cymaint o amser rydyn ni wedi sôn am adeiladau angori, onid ydyn ni, safleoedd angori, ar gyfer siopau. Rwy'n gwybod, yn fy awdurdod i fy hun, bod hynny'n aml yn cael ei drafod. Debenhams—rwy'n credu mai wyth oed oeddwn i pan soniodd Debenhams am ddod i Gasnewydd yn gyntaf, ac roeddwn i'n llawer hŷn na hynny pan wnaeth ddod, ac, yn anffodus, nid oedd yno am hir. Rydyn ni'n gwybod am y safleoedd angori hyn, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod pobl eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol, onid ydyn nhw? Maen nhw eisiau siopau annibynnol, maen nhw eisiau naws wahanol o ble maen nhw eisiau siopa, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dathlu'r busnesau lleol, hybiau cymunedol hynny yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Rwy'n credu mai dim ond ceisio creu'r bywiogrwydd hwnnw eto mewn gwirionedd, oherwydd dyna beth mae pobl wir eisiau'i weld.

Yn ein cynllun ni, unwaith eto, mae'n edrych ar sut y gallwn ni—. P'un ai yw'n lleoli gweithlu'r sector cyhoeddus yng nghanol trefi, sut y gallwn ni gael mwy o ganolfannau iechyd i ganol ein trefi a'n dinasoedd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, mewn gwirionedd. Nid yw'n ymwneud ag un agwedd yn unig; mae'n ymwneud â'r hyn sy'n mynd i ddenu pobl i ganol ein trefi a'n dinasoedd, beth yw ein gweledigaeth, ac rwy'n credu, cyn belled â'n bod ni'n cyfathrebu â'n cymunedau, yn eu rhoi nhw wrth wraidd popeth a wnawn, yna rwy'n credu y byddwn ni'n gweld canol tref sydd wir yn ffynnu eto.

17:40

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.

Ac os ydych chi'n ymrwymo i ymweld â threfi ymhob man, gallwch chi wastad ddod i Port Talbot. [Chwerthin.]

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Arloesi ym maes gofal iechyd

Eitem 7 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, arloesi ym maes gofal iechyd. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae hanes gofal iechyd modern yn un o arloesi. Mae ffyrdd newydd o weithio, ymyriadau, technolegau a meddyginiaethau wedi helpu ein gwasanaeth iechyd i esblygu ac, yn eu tro, wedi ein helpu i wella iechyd, llesiant a chyfoeth pobl yng Nghymru. Ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, mae wedi gofalu am bobl gan ddefnyddio ystod enfawr o fodelau gofal yn bersonol, yn ddigidol ac yn rhithwir, sydd, yn ei dro, yn seiliedig ar nifer enfawr o ddarganfyddiadau a datblygiadau gwyddonol, technolegol a chymdeithasol. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at ein system gofal iechyd sy'n newid yn barhaus.

Dyluniwyd ein strategaeth arloesi ar gyfer Cymru, 'Cymru'n Arloesi', a gyhoeddwyd y llynedd, i greu'r amgylchedd cywir ar gyfer arloesi, fel y gallwn barhau i fodloni heriau heddiw. Yr heriau yw poblogaeth sy'n heneiddio gyda phryderon iechyd cyhoeddus mawr fel gordewdra ac ysmygu, a'r heriau galw sef 2 filiwn o gysylltiadau â'r GIG pob mis, a chanlyniadau gwirioneddol iawn anghydraddoldebau iechyd. Mae 'Cymru'n Arloesi' yn fwriadol yn draws-lywodraethol, gyda phedwar maes cenhadaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, yr economi, a hinsawdd a natur, ac mae hyn yn arwain at amrywiaeth o fuddsoddiad ar y cyd ar gyfer arloesi ym maes gofal iechyd. Er enghraifft, mae ein rhaglen cymorth arloesi hyblyg dan arweiniad adran yr economi yn cefnogi cwmnïau o Gymru ar ymchwil, datblygu ac arloesi ar draws sawl sector. Mae hyn wedi arwain at brosiectau blaengar, gan gynnwys prawf gwaed cyntaf y byd ar gyfer sglerosis ymledol a thechnoleg bioargraffu ar gyfer amnewid organau. Ac ym maes gofal iechyd, mae ein rhaglen technoleg a phartneriaethau arloesi yn cefnogi rhwydweithiau o dimau arloesi ac arweinwyr ar draws GIG Cymru. Mae hefyd yn creu capasiti arloesi yn y gweithlu drwy ein pedair academi dysgu dwys yng Nghymru a rhaglen Enghreifftiol Bevan. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys Technoleg Iechyd Cymru, sy'n cynnal arfarniadau o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn feddyginiaethau a modelau gofal; mae'r ganolfan ragoriaeth menter ymchwil busnesau bach, sydd wedi'i lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac sy'n ariannu atebion newydd ac arloesol i fynd i'r afael ag anghenion heb eu diwallu trwy bartneriaethau cyhoeddus-preifat-academaidd o'r cam dichonoldeb i brototeipio a chyn-caffael. Mae ein menter taclo canser yn arwain gwaith ar ganser yr ysgyfaint. Mae'r sbwng capsiwl endosgopi drwy'r trwyn yn offeryn diagnostig newydd ar gyfer casglu meinwe o'r oesoffagws ar gyfer dadansoddi gyda chymorth deallusrwydd artiffisial.

Llywydd, pan fyddwn ni'n siarad am arloesi, wrth gwrs mae'n rhaid i ni droi at deallusrwydd artiffisial. O ran deallusrwydd artiffisial, mae arweinyddiaeth yn hanfodol wrth i ni integreiddio ei ddefnydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Lansiwyd y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol flwyddyn yn ôl ac mae'n arwain ar ddatblygu ac adolygu'r amgylchedd diogel, cyfrifol a moesegol. Mae'n arwain y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ddysgu gan arbenigwyr a'r teulu gofal iechyd byd-eang. Un o'i gamau cyntaf oedd cymeradwyo'r defnydd o safonau cofnodi tryloywder algorithmig i'w defnyddio mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn cael eu gweithredu'r flwyddyn nesaf, a chymryd o ddifrif yr angen am ymddiriedaeth a bod yn agored wrth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd.

Mae'r GIG yng Nghymru eisoes yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial mewn llwybrau diagnostig a chlinigol: mae deallusrwydd artiffisial yn cynyddu'r gyfradd canfod, er enghraifft, mewn canser y prostad hyd at 13 y cant. Mae buddsoddi mewn technoleg deallusrwydd artiffisial yn dangos bod gwell data yn golygu gwell gofal. Er enghraifft, gan ddefnyddio data delweddu ar gyfer ymgyflwyniadau strôc mewn gofal brys, byddwn yn gallu archwilio mynediad uniongyrchol i sgan ar gyfer ymgyflwyniadau strôc cadarnhaol, gan wneud y gorau o fudd y buddsoddiad diweddar mewn deallusrwydd artiffisial i gyflymu amser sy'n achub bywydau ac sy'n gwella ansawdd bywyd.

Mae ein 'Strategaeth ddigidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, yn cydnabod pwysigrwydd bod â sylfaen ddigidol dda i wasanaethau. Mae Dewis Fferyllfa yn enghraifft gadarnhaol o ble rydym wedi gwneud cynnydd da. Gwnaeth mynediad at ddata system cofnodion digidol GIG Cymru alluogi'r gwasanaeth hwn i fynd yn fyw. Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu triniaethau ar gyfer 27 o afiechydon cyffredin heb fod angen apwyntiad meddyg teulu, a bu 368,725 o ymgynghoriadau hyd yma yn 2024, cynnydd o fwy na pum gwaith o'i gymharu a phum mlynedd yn ôl.

Yn yr un modd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi mabwysiadu dull cysylltu digidol, data a gwerth arloesol i weithio gyda darparwyr tai cymdeithasol i nodi tenantiaid sy'n gymwys ar gyfer gosod insiwleiddio yn ôl-weithredol o dan ECO4, cynllun rhwymedigaeth y cwmnïau ynni. Felly, mae hyn yn lleihau achosion o broblemau anadlu, yn gwella effeithlonrwydd ynni, gan dargedu arloesedd i'r rhai sy'n agored i niwed lle gallai anghydraddoldebau iechyd fod yn ffactor.

Dirprwy Lywydd, does dim prinder arloesedd yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o arloesi i wella iechyd a gofal cymdeithasol a gwella canlyniadau i bobl. Yn syml, mae angen i gleifion deimlo'r gwelliant hwn. I wneud hynny, rydym yn gweithio gyda chymheiriaid cenedlaethol a rhyngwladol drwy ein grŵp gweinidogol yn y DU i ddatblygu dull cyffredin o fabwysiadu arloesedd, sy'n cydnabod cyfleoedd ar y cyd ar draws ein systemau gofal iechyd.

Yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio'r gwaith hwn ar raglen arloesol newydd sy'n gweithio ar raddfa fawr, a fydd yn cael ei lansio'r flwyddyn nesaf. Maes o flaenoriaeth yw ymgorffori gofal rhithwir ac o bell fel rhan o'n gwasanaethau cartref a chymunedol. Bydd hyn yn cynyddu'r cyflymder y gallwn fabwysiadu a gweithredu arloesedd ar lefel genedlaethol. Efallai fydd hyn yn golygu, mewn rhai achosion, gwneud llai neu roi'r gorau i wneud rhai pethau i alluogi'r datblygiadau arloesol a'r darganfyddiadau newydd hyn i gael eu cyflwyno. Er enghraifft, bydd yn rhaid i dimau roi'r gorau i wneud apwyntiadau cleifion allanol yn awtomatig fel y dull diofyn pan mai apwyntiad dilynol a weithredir gan gleifion yw'r opsiwn mwyaf arloesol. Bydd Gweithrediaeth y GIG, gyda'i swyddogaeth ddigidol, data, arloesi technoleg a gwerth yn arwain y gwaith hwn ac yn galluogi cysylltiadau i gael eu gwneud ar draws rhwydweithiau ac yn lleol.

Mae'r system dan bwysau, ac mae angen capasiti ychwanegol ar gyfer arloesi i ganiatáu newid sylweddol lle mae arloesedd yn gyfrifoldeb ar bob rhan o'r GIG fel rhan o arddel dull 'addasu, mabwysiadu neu gyfiawnhau'. I wneud hyn, rydym yn creu amrywiaeth o seilwaith arloesi cenedlaethol, wedi'i seilio ar fframwaith arloesi GIG Cymru, a fydd yn cefnogi ein staff i ddatblygu syniadau newydd, eu troi'n realiti, gan rannu a mabwysiadu ffyrdd newydd profedig o weithio. Bydd yr holl gamau hyn yn ein cefnogi i greu ac ymgorffori diwylliant o arloesi cyson ar draws ein system gofal iechyd hanfodol. Dylai etifeddiaeth Bevan ymwneud ag arloesi, o gofio mai sefydlu'r GIG oedd y brif weithred arloesi ym maes gofal iechyd ei hun. Y nod yn y pen draw, wrth gwrs, yw canlyniadau a phrofiadau gwell i bawb. Diolch yn fawr.

17:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad yma yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi o ran y rôl sydd gan arloesi iechyd digidol o ran bod yn hanfodol i greu gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer 2024 a thu hwnt, felly rwy'n ddiolchgar am y sylw a roddwyd i'r pwnc hwn yma yn y Siambr heddiw.

Cyn i mi wneud sylwadau a gofyn cwestiynau efallai am rannau mwy cyffrous eich cyfraniad heddiw, roeddwn i eisiau gwneud y pwynt bod yr uchelgais yma yn dda i'w weld, ond rwy'n gwybod bod rhwystredigaeth go iawn ymhlith cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn enwedig nad yw rhai o'r pethau sylfaenol yn digwydd yn y gofod digidol. Felly, er enghraifft, dim ond defnyddio negeseuon e-bost. Cafodd negeseuon e-bost eu dyfeisio, beth, ddegawdau yn ôl bellach, ac nid ydym yn eu defnyddio mewn sawl rhan o'r gwasanaeth iechyd o hyd. Mae enghraifft o hynny mewn optometreg, lle ar hyn o bryd mae'n rhaid i optometrydd lofnodi llythyr yn ffisegol, llythyr sy'n cael ei bostio'n ffisegol at feddyg teulu'r claf i'w atgyfeirio, i'r llythyr hwnnw wedyn gael ei gyfleu i ysbyty lleol. Mae'r broses honno'n cymryd amser hir, mae yna lawer o le i wallau ddigwydd, ac mae'n ddefnydd gwael o amser pobl sydd â llawer iawn o gymwysterau, pan fydd pethau syml fel e-bost yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Felly, er bod rhai sylwadau cyffrous yma am y potensial ynghylch deallusrwydd artiffisial, y byddaf yn dod ato mewn eiliad, mae cyfle go iawn i gael rhai pethau sylfaenol yn gywir yma hefyd, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu eu hystyried a gweld ble mae'r cyfleoedd hynny i wneud y pethau syml yn dda iawn.

Ond, fel y gwnaethoch chi ddweud, nid yn unig y gall arloesi digidol helpu mewn lleoliadau iechyd eu hunain, ond mae cyfle enfawr i greu swyddi a datblygu sgiliau, yr hoffwn eich cefnogi chi arno. A dylem fod yn ymdrechu i wneud Cymru'n gartref i'r math hwn o arloesi er mwyn denu buddsoddiad a thalent o'r radd flaenaf o bob cwr o'r byd. Cefais fy nharo gan fy nghyfnod yn Tel Aviv yn gynharach eleni, yn un o'r ysbytai lle maent yn fwriadol yn ceisio denu pobl mewn diwydiannau technoleg seiber i ddatblygu technolegau pwysig iawn yno y gellir eu hallforio ledled y byd, ond hefyd i'w defnyddio ar gyfer eu poblogaeth eu hunain hefyd. Felly, tybed, Gweinidog, pa gynlluniau pellach sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio law yn llaw â phrifysgolion Cymru yn benodol.

Rwy'n credu y gallant fod â rhan allweddol go iawn wrth gyflymu arloesedd. Ac un enghraifft, yn ddiweddar, yw lle ymwelais â Phrifysgol Abertawe, sy'n gartref i'r labordy CanSense, ac maen nhw wedi creu diagnosis canser y coluddyn cyflym a chost-effeithlon sy'n defnyddio deallusrwydd artffisial i wella canlyniadau. Maen nhw'n cael eu hariannu gan Ymchwil Canser Cymru, ond byddai'n gadarnhaol gweld Llywodraeth Cymru yn ariannu mwy o arloesiadau o'r math hwn, gan helpu i hwyluso mewn ffyrdd eraill hefyd, lle rydych yn eu hystyried yn addas. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych chi beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwn yn benodol. Rwy'n credu bod yna broblem sydd gennym ni yng Nghymru, sef o ran bwrw ymlaen â chwmnïau neu ymchwil o'r cysyniad. Pan fydd y cysyniad hwnnw'n cael ei brofi, ar hyn o bryd mae'n anodd symud ymlaen i'r cam nesaf i weithredu'r cysyniadau hynny ar draws ein system iechyd yma yng Nghymru. Rydym yn wlad fach; dylai hyn fod yn hawdd iawn. Mae gennym ychydig o brifysgolion yma yn gwneud gwaith gwych, a dylai fod yn hawdd iawn i bobl gael yr arloesedd hwnnw mewn i'n system iechyd yma yng Nghymru.

Nodais hefyd, Gweinidog, fod Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi sawl miliwn o bunnoedd mewn cyllid ar gyfer prosiectau gyda thechnolegau arloesol a synwyryddion gwisgadwy ym mis Hydref i gefnogi pobl â dibyniaeth ar gyffuriau a lleihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae'n bwysig bod y cyllid hwn yn dod i Gymru mor ddidrafferth a mor hawdd â phosibl. Felly, nid wyf yn siŵr a fyddwch chi'n gallu gwneud sylwadau ar unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi bod yn eu cael gyda chymheiriaid yn San Steffan i sicrhau bod yr arloesedd meddygol hwnnw a'r cyllid hwnnw ar gyfer hynny yn dod yma i Gymru.

Ac yna yn olaf, Gweinidog, yn ôl Busnes Cymru, mae'r diwydiant gwyddorau bywyd ar hyn o bryd yn cyflogi tua 12,000 o bobl mewn tua 260 o gwmnïau ledled Cymru, ac mae'r arloesi hwnnw yn hanfodol ar gyfer cynnydd meddygol, a hefyd ar gyfer ysgogi twf economaidd a chreu swyddi, sydd, fel y dywedoch chi, yn arwain at fywydau gwell i bawb. Felly, tybed sut rydych chi a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector preifat i helpu i gyflawni nodau arloesi mewn gofal iechyd. Gyda 75 y cant o'r farchnad gwyddorau bywyd yng Nghymru yn canolbwyntio ar allforio, mae'r manteision ariannol cael hyn yn iawn yn enfawr, a bydd yn hynod werthfawr ar gyfer cyflawni'r arloesedd hwnnw mewn gofal iechyd, ac yn wir gwella brand Cymru ledled y byd. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands, am eich cydnabyddiaeth o'r uchelgais a hefyd pa mor gyffrous yw hyn. Rwy'n meddwl ei fod yn gyffrous iawn. Mae hwn yn faes y bûm yn gweithio ynddo cyn cael fy ethol, a dyma fy angerdd yn sicr, ac rwy'n credu bod cymaint o arloesi yn digwydd yng Nghymru. Mae gennym y disgleiriaf a'r gorau, ac rwy'n credu ei fod yn dod yn ôl i'r ffaith nad ydym bob amser y gorau am arddangos rhywfaint o hyn. Felly, dyma pam mae'n hyfryd iawn gallu gwneud y datganiad hwn heddiw.

Byddwn i'n dweud, o ran —. Yn gyntaf oll, sonioch chi am y cyllid a'r arloesedd sy'n digwydd yma gan sôn am CanSense. Wrth gwrs, roedd CanSense yn rhan o gronfa her menter ymchwil busnesau bach Cymru ar gyfer canser, a welodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru a rhoi cyllid o tua £600,000, a rhoddwyd £400,000 yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yn beth ar y cyd a oedd yn digwydd. Mae CanSense yn un o'r enghreifftiau anhygoel hynny, lle y daeth allan o Brifysgol Abertawe, mae'n mynd i helpu i allu rhoi diagnosis o ganser y coluddyn, sef yr ail ganser mwyaf cyffredin y mae pobl yn marw ohono yng Nghymru. Mae'n hynod arloesol, ac unwaith eto roedd hynny'n rhywbeth a ddaeth o gyllid yng Nghymru, ac mae wedi dod gan glinigwyr yng Nghymru.

Dim ond i ddweud y diweddariad yw, ac rwy'n gwybod beth rydych chi'n ei olygu am y math o amseru: os yw'n gweithio ac mae'n arloesol iawn, yna pam nad yw'n cael ei gyflwyno ar unwaith? Mae hyn oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw fynd trwy gymaint o dreialon. Rwy'n dymuno y gallai fod yn gyflymach fy hun, a dyna'r unig beth o ran arloesi iechyd, yr arloesedd a'r bobl sydd wedi dod at ei gilydd yn y tîm hwnnw, ac rwy'n diolch yn fawr iddyn nhw amdano—gall gymryd amser, wedyn. Mae'n rhaid iddo fynd trwy'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Felly, dim ond i'ch sicrhau chi, dyna lle mae CanSense ar hyn o bryd, ond mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu ein bod ni'n gyffrous iawn i allu ei weld yn cael ei gyflwyno. Ac mae yna lawer o ddatblygiadau arloesol eraill sydd wedi dod trwyddo fan hyn. Mae gennym Ibex, sydd i ddangos a ellir defnyddio offeryn deallusrwydd artiffisial newydd, sy'n ymwneud â gastrig, i brysbennu biopsïau gastrig yn gywir i'w hadolygu ar frys gan batholegwyr. Mae cymaint yn digwydd yn y maes hwn.

Rydych chi'n iawn hefyd, am y pethau sylfaenol. Yr ateb syml i'ch cwestiwn ynghylch, 'Mae angen i ni gael hyn yn iawn—ydyn ni'n cael hyn yn iawn?' yw, 'Yn sicr, rydw i 100 y cant yn cytuno â chi.' Mae gen i lawer o ffrindiau a theulu sy'n gweithio yn y GIG ac mae'n eu digalonni nhw. Mae wir yn eu digalonni nad oes ganddyn nhw'r pethau sylfaenol a bod y pethau hyn yn cymryd mwy o amser, ac mae hynny yn sicr, wedyn, yn y maes digidol, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio arno, ac mae'n rhywbeth yn Llywodraeth Cymru y mae'n rhaid i ni arwain arno, ac mae hyn yn dod a ni yn ôl at y datganiad roeddwn i'n ei wneud a beth sydd gan fy nghydweithwyr yn yr adran iechyd i'w ddweud hefyd, sef ein bod ni'n gosod y safon o, 'Mae'n rhaid i chi fod yn hyblyg ac mae'n rhaid i chi addasu, neu mae'n rhaid i chi ddweud wrthym pam ddim.' Ac rwy'n credu, yn y maes digidol, yr hyn yr ydym yn ceisio'i ddweud yw mai dyma'r blaenoriaethau allweddol, a'r blaenoriaethau allweddol yw'r pethau sy'n wirioneddol bwysig i bawb o ddydd i ddydd. Felly, gyda gofal llygaid, ie, mae hynny wedi cymryd yn hirach nag y dylai fod wedi i'w gyflwyno, ond bydd yn cael ei gyflwyno. Mae gennym ni y system presgripsiwn electronig hefyd. Mae honno'n cael ei chyflwyno nawr, nid yn unig o fewn ein holl fyrddau iechyd, ond hefyd gyda'n holl feddygon teulu. Mae'r rhain yn bethau a fydd wir yn trawsnewid y GIG, a phrofiad cleifion.

Roeddech chi hefyd yn sôn wedyn am y math o deledracio. Rwy'n ffan mawr o hyn. Rwyf wedi ei weld hyn yn gweithio mewn ysbytai yn Lloegr hefyd. Mae'n ddefnyddiol iawn, iawn. Gall ymddangos mor syml, ond rydych chi'n rhoi band ar rywun ac yna gallwch gadw golwg arnyn nhw ble bynnag maen nhw ar y llwybr diagnostig ar ôl iddyn nhw fynd i mewn i'r ysbyty. Yna, mae gennych hefyd y tracio y gallwch ei wneud gyda phobl gartref, fel bod gennych chi y dilyniant hwnnw. Rydyn ni'n gwneud rhywfaint o hynny yng Nghymru, a hoffwn weld hynny'n cael ei gyflwyno. Mae'r cyfan yn dod yn ôl i atal. Mae'r cyfan yn dod yn ôl i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty. Mae'r cyfan yn dod yn ôl i allu rhoi diagnosis i bobl cyn gynted â phosibl.

Ac yna fe wnaethoch chi sôn am yr hwb gwyddorau bywyd. Rydym yn falch iawn o'r hwb gwyddorau bywyd yng Nghymru. Unwaith eto, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi siarad am y peth yn ddiweddar, am y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes genomeg. Unwaith eto, rydym wedi creu'r hyn sydd ei angen ar arloesi yng Nghymru, sef yr ecosystem honno lle gallwch chi feddwl am y syniadau hyn ac yna fe wrandawir arnoch chi a byddant yn cael eu codi i fyny. Ac yn fy natganiad hefyd, roeddwn i'n sôn am weithrediaeth y GIG. Mae'n ymwneud â chymryd rhain—. A gallwn ddarllen miliwn o enghreifftiau i chi, ond gwnaethoch chi sôn am CanSense ac ni fyddaf i. Ond dim ond i ddweud ei fod bellach yn ymwneud â gweithrediaeth y GIG hefyd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn mynd allan a chyflwyno'r arloesedd hwn ar raddfa fwy mewn gwirionedd. Ond rwy'n mynd i orffen drwy ddweud bod cymaint o bethau da yn digwydd. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn cyflawni ar y pethau sylfaenol hynny. Diolch.

17:55

Rwy'n cytuno â'r Gweinidog. Mae hwn yn faes cyffrous iawn. Dyma lle mae'r cyfan yn digwydd. Os ydym ni'n mynd i wella effeithlonrwydd, os ydym ni'n mynd i wella canlyniadau, yna bydd yn rhaid i ni fynd i'r afael â sicrhau bod gennym amgylchedd arloesol lle mae pobl yn teimlo y gallant ddatblygu syniadau newydd a'u cyflwyno. Mae Cymru'n wych am arloesi. Ond rydym yn wael iawn, iawn am ei gyflwyno, am weithredu'r arloesedd hwnnw ar raddfa fwy. Roeddwn i'n ffodus ac roedd yn anrhydedd cael mynd i uwchgynhadledd canser Ewropeaidd Sefydliad Canser Ewrop ym Mrwsel bythefnos yn ôl, a thra'r oeddwn yno, fe wnaethom helpu i lansio eu ap canser newydd, a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n mynd i ganiatáu i gleifion canser mewn 16 gwlad ledled yr UE allu tracio eu cynnydd o ddiagnosis trwy'r llwybr, a bydd eu meddyg teulu yn gallu cael gafael ar y wybodaeth honno, bydd aelodau'r teulu yn gallu cael mynediad ati. Mae'n cwmpasu pawb. Yn anffodus, oherwydd Brexit, nid yw Cymru'n rhan o hynny, ond maen nhw'n barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i'w gyflwyno ac i weld a allwn ei gyflwyno i Gymru.

Ond gan fod teitl y datganiad hwn yn ymwneud ag iechyd meddwl, hoffwn i sôn yn gyflym am iechyd meddwl hefyd. Mae iechyd meddwl, fel rwy'n gwybod fod y Gweinidog yn ei wybod, yn gangen gymharol newydd o ofal iechyd a heb ei harchwilio'n ddigonol. Mae'n faes lle gall arloesi wneud gwahaniaeth enfawr mewn gwirionedd. Gan fod gormod o lawer o bobl ledled Cymru yn parhau i gael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn ddyddiol, fel yr amlinellwyd yn glir yn yr adroddiad diweddar 'Llesiant Cymru', mae gwir angen gweithredu pendant ar hyn. Fel plaid, roedd Plaid Cymru yn falch o fod wedi bod yn rhan annatod o sefydlu canolfan argyfwng iechyd meddwl 24/7 yng Nghaerfyrddin—y cyntaf o'i fath yng Nghymru—fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith bod hyn wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu hybiau tebyg mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad gan y Gweinidog yn ei hymateb ynghylch cynnydd y rhaglen waith hon ac a yw'n cytuno mai hybiau o'r fath yw'r union fath o weithredu arloesol sy'n ofynnol ym maes iechyd meddwl, yn enwedig i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau gwledig.

Gwyddom fod iechyd meddwl yn gwbl allweddol ar gyfer yr agenda ataliol, ac mae hyn, yn ei dro, yn dibynnu ar gasglu data effeithiol a dibynadwy i ysgogi ymyrraeth gynnar. Ond, fel yr wyf wedi sôn sawl gwaith o'r blaen, mae'r GIG yng Nghymru yn parhau i fod yn sefydliad analog mewn oes ddigidol. Mae Mind Cymru wedi tynnu sylw at ddiffyg set ddata craidd iechyd meddwl fel rhwystr penodol sydd wedi rhwystro gallu gwasanaethau perthnasol i nodi grwpiau allweddol o bobl sydd mewn perygl o anghydraddoldeb o ran darpariaeth. Ar ben hynny, mewn stori sy'n anffodus yn gyfarwydd ar draws cymaint o feysydd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, nid oes data dibynadwy yn cael ei gasglu ar brinder staff mewn wardiau seiciatrig, er enghraifft. Felly, sut y gall darparwyr gwasanaethau, sydd i fod i nodi lle orau i ddefnyddio eu hadnoddau, wneud hyn os ydyn nhw'n dal yn y tywyllwch ynghylch bylchau mewn capasiti? Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gyflwyno set ddata graidd gynhwysfawr ar iechyd meddwl, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddir fel mater o drefn ar faterion fel swyddi gwag staff ac amseroedd aros sy'n cael eu hasesu yn erbyn metrigau perfformiad?

Er tegwch i'r Llywodraeth, mae ganddyn nhw hanes blaenorol o hyrwyddo mentrau sy'n gwthio'r ffiniau ar ofal iechyd meddwl. Yn ddiweddar, amlygodd Cydffederasiwn y GIG y cydweithio rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Nesta i ddarparu cyrsiau creadigol ar-lein i oedolion bregus yn ystod y pandemig fel enghraifft o arfer gorau ym maes arloesi. Ac rydym wedi pwysleisio'n gyson y rôl bwysig y gall, ac y mae'n rhaid i sector y celfyddydau ei chwarae wrth gefnogi iechyd meddwl. Mae'n destun gofid mawr, felly, bod sector y celfyddydau wedi cael ei daro gan doriadau mor llym yng nghyllideb diweddar y Llywodraeth. Felly, pan fyddwn yn clywed am golli llawer iawn o swyddi yn y llyfrgell genedlaethol, er enghraifft, neu'r ffaith bod ein hamgueddfeydd sy'n brin o arian yn gorfod ystyried codi tâl am fynediad, nid yw'n ergyd i fywiogrwydd ein sefydliadau diwylliannol yn unig, mae'n cyfaddawdu dull cyfannol a chymdeithasol gyfan o wella llesiant ein poblogaeth. Felly, hoffwn glywed ymateb y Gweinidog i hynny a deall pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd yn y Llywodraeth i sicrhau bod y sector hwnnw'n cael y cyllid y mae'n ei haeddu. 

Ac yn olaf, o ran arloesi ac, mewn ystyr ehangach, treialon clinigol, gwyddom fod treialon clinigol yn hanfodol bwysig i sicrhau bod syniadau arloesol yn cael eu cyflwyno a bod pobl yn cael y feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn denu mwy o dreialon clinigol i Gymru a bod Cymru'n arwain y ffordd o ran treialon clinigol? Diolch.

18:00

Diolch yn fawr iawn, Mabon ap Gwynfor. Rydych chi'n iawn, ac fe wnaethoch chi ddweud eto, fel y dywedodd Sam Rowlands hefyd ac y dywedais i yn fy natganiad, bod hyn yn ymwneud ag effeithlonrwydd, canlyniadau a diogelwch cleifion hefyd. Rydych chi hefyd wedi sôn am apiau. Byddaf yn edrych yn fwy ar yr hyn maen nhw wedi'i wneud gyda'r ap canser. Rwy'n gresynu hefyd na allwn fod yn rhan ohono. Fodd bynnag, rydym yn gwneud pethau, rwy'n credu, mewn ffordd gyfrifol iawn yng Nghymru, ac mae gennym sylfaen gwych ap y GIG, a gafodd ei gyflwyno, yn amlwg, yn ystod COVID ac mae miloedd o bobl wedi ymuno â'r ap hyd yma yng Nghymru. Mae'r potensial ynddo yn enfawr. Mae ap y GIG yn rhywbeth y caf fy holi llawer amdano. Mae'n un o fy mhrif flaenoriaethau allweddol. Rwyf wedi casglu grŵp o brif swyddogion at ei gilydd fel y gallwn ni weithio ar ei gyflwyno. Rwy'n gwybod ein bod ni'n cael cymariaethau efo Lloegr, rydyn ni'n cael cymariaethau â gwledydd eraill, ond rwy'n credu ein bod ni wedi gallu defnyddio'r amser i ddysgu rhai o'r gwersi, edrych ar wledydd eraill a beth maen nhw'n ei wneud. A fy nod i yn awr yw ei gyflwyno a hefyd gallu neidio ymlaen, er mwyn gallu mynd hyd yn oed ymhellach. Felly, mae'r hyn a ddywedoch chi am yr ap canser yn ddiddorol iawn. I fod yn onest, bydd yn adlewyrchu'n fawr yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud drwy ap y GIG, sy'n gallu dangos i bobl y cysylltiad rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Ac mae bod â'r tryloywder hwnnw, y gallu i rymuso pobl a gallu egluro i bobl beth yw'r llwybrau, mae'r holl lythrennedd iechyd hwn yn gwbl hanfodol, rwy'n credu. 

Roeddech chi hefyd yn sôn am iechyd meddwl. Mae'n hyfryd clywed beth sy'n digwydd yn yr hwb iechyd meddwl. Byddwn i'n dweud bod gen i bocedi o hyn yn fy nghymuned i hefyd. Maen nhw'n cael eu cychwyn gan rai o'r bobl orau rydw i erioed wedi cwrdd â nhw, sydd wir eisiau rhoi yn ôl. Rwy'n credu, ar ôl COVID, nad yw llawer o bobl nawr, hyd yn oed yn fwy felly, yn ei gymryd yn ganiataol pan allwch chi fod gyda'ch gilydd, y cysylltiad hwnnw, y berthynas honno, yn enwedig, fel y gwnaethoch chi ddweud, mewn ardaloedd gwledig. Ac roeddwn i yno pan lansiodd y Samariaid eu gwaith yn y maes hwn, ar iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Fe wnes i'r pwynt, hefyd, serch hynny, fy mod i wedi mynd a lansio a gwneud y neges WhatsApp gyntaf un gan linell gymorth Meic yn ProMo Cymru ychydig wythnosau yn ôl, a oedd yn cŵl iawn. Unwaith eto, dydw i ddim yn gwybod os oes digon o bobl yn gwybod amdano—llinell gymorth Meic, gall unrhyw berson ifanc anfon neges, maen nhw'n gallu anfon WhatsApp nawr ac mae bod dynol go iawn ar ben arall y neges i'w siarad nhw trwy eu problemau. Rwy'n credu bod y pethau hynny a chael yr ystod honno o fynediad mor bwysig.

Ac roeddwn i hefyd eisiau dweud ein bod ni hefyd weithiau'n anghofio bod gennym ni'r '111 Pwyso 2', sy'n beth Cymru gyfan, ac, unwaith eto, rwy'n ei ystyried yn rhywbeth sydd â chymaint o botensial. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion bob amser yn dweud wrtha'i—Ollie John—bod cymaint o botensial gyda hwn, oherwydd yr hyn mae pobl ei eisiau yw, efallai y byddan nhw'n cael y foment honno o argyfwng, yna maen nhw eisiau'r gwasanaeth dilynol. Yr hyn rydyn ni hefyd yn ei feddwl, yn y foment honno o argyfwng, wrth gwrs, yw nad ydych chi'n mynd i allu cael neu na allwch chi eistedd yno a chasglu'r data ar rywun, ond, wedyn, os ydych chi'n mynd i roi galwad ddilynol i rywun, gwirio eu bod nhw'n iawn, gwirio eu bod nhw wedi cael y gwasanaeth yr oedd ei angen arnyn nhw, mae hefyd yn gyfle wedyn i ofyn ychydig mwy o gwestiynau iddyn nhw, a bydd hynny'n rhoi'r data gwell hwnnw, gofal gwell, felly rwy'n cytuno â chi ar hynny.

Wrth ddod at y data rydym yn ei gasglu a'r pwyntiau data y mae gennym fynediad atynt yng Nghymru, roeddech chi'n hollol gywir—cefais dipyn o syndod fy hun i ddarganfod bod gennym cyn lleied o'i gymharu â Lloegr a'r Alban. Felly, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'n llwyr, pan fydd sefydliadau trydydd sector fel Mind Cymru, fel Beat, a fydd wedyn yn gwneud eu dadansoddiad eu hunain, fel arfer yn gorfod ei seilio ar adroddiadau arolygu neu orfod ei seilio ar geisiadau rhyddid gwybodaeth, oherwydd nad oes gennym ni y set ddata honno ar gael yn rhwydd, bod yn rhaid i ni weithredu ar hyn. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn siarad â swyddogion amdano ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Rwy'n cytuno 100 y cant â chi.

Pan fyddwch chi'n dweud, hefyd, o ran y celfyddydau, wyddoch chi, wrth gwrs, rhan fawr o fy mhortffolio i yw'r presgripsiynu cymdeithasol hefyd. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, trwy'r digidol, trwy'r arloesi, y bydd presgripsiynu cymdeithasol yn faes lle gallwn ledaenu hyd yn oed ymhellach. Yn amlwg, yn y maes, mae yna ychydig o drawslywodraeth yno, ond bydd y gyllideb yn sicr yn eistedd gyda fy nghyd-Aelod, ac mae'r gyllideb, yn amlwg, yn dod. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi ar y gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i iechyd meddwl a llesiant rhywun, ac unwaith eto, ein cenedl, mewn gwirionedd, ac mae iechyd meddwl a llesiant, a'r balchder sydd gennym yn ein cenedl, rwy'n credu, yn allweddol iawn.

Ac wedyn, rwy'n credu fy mod i wedi ateb eich holl—[Torri ar draws.] Treialon clinigol—ie, wrth gwrs. Felly, dim ond i ddweud, mae gennym ni hefyd, yn ogystal â'r holl bethau anhygoel yr wyf wedi sôn amdanyn nhw heddiw a'r arloesedd a phopeth fel hyn, mae gennym hefyd strategaeth ryngwladol gref iawn. Mae fy swyddogion yn mynd i ffwrdd ac maen nhw'n siarad â llawer o wledydd a sefydliadau eraill am gael treialon clinigol.

Byddwn i'n dweud, serch hynny, ac mae hyn yn anecdotaidd iawn ar fy ochr i, mae gennym ni hefyd y Banc Data SAIL hwn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n arwain y byd. Mae ymchwilwyr ar draws y byd yn genfigennus ohono. Mae cymaint o bobl yn cyflwyno ceisiadau i wneud treialon clinigol gan ddefnyddio cronfa ddata SAIL. Rwy'n meddwl bod angen i ni ystyried—dyma fy syniad personol fy hun yn y fan yma—y data a sicrhau bod yna groestoriadedd, er hynny, o fewn y data, oherwydd rwy'n gwybod nad yw hi wastad yn bosib gwneud rhai o'r treialon rwy'n meddwl y dylen ni allu eu gwneud, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld yn gwella. Ond, fel y dywedais i, mae SAIL yn ennyn cenfigen ac yn cael ei ddefnyddio ac mae'n adnodd gwych. Rwy'n credu y dylai data am bobl Cymru fod ar gyfer pobl Cymru, ac rwy'n gweld SAIL yn enghraifft wych o hynny. Felly, diolch yn fawr.

18:05

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi wedi cynnwys llawer o wybodaeth yn yr un datganiad hwn ac, yn amlwg, mae llawer o bethau gwych yn digwydd. Rydw i eisiau tynnu sylw at ddau o'r pethau roeddech chi'n sôn amdanyn nhw. Un yw'r data delweddu ar gyfer ymgyflwyniadau strôc mewn gofal brys i gyflymu opsiynau diagnosis a thriniaeth. Tybed a allech chi ddweud pam rydych chi'n ei roi yn y dyfodol:

'byddwn yn gallu archwilio',

oherwydd rwy'n gwybod, ar ôl siarad â Dr Shakeel Ahmad am hyn—ef yw'r arweinydd cenedlaethol—bod hwn yn bendant yn achubwr bywyd. Felly, dyna un cwestiwn.

Yr ail beth yw rhywbeth hollol wahanol, sef bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi mabwysiadu dull data digidol a chysylltu gwerthoedd arloesol o weithio gyda thai cymdeithasol i drosoli ECO4 ar gyfer tenantiaid, ac mae hyn yn galonogol iawn i bobl yng Nghwm Taf Morgannwg. Yn anffodus, does dim stori gystal i'w hadrodd mewn llawer o awdurdodau lleol eraill, oherwydd, yn amlwg, arian ECO4 yw hwn—mae hwn yn arian sydd y tu allan i Gymru. Ar ôl clywed y dystiolaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am Gymru Gynnes, sy'n fenter gymdeithasol, sy'n ceisio helpu i ysgogi hyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn manteisio ar ei wasanaethau drwy Brifysgol Caerdydd, sy'n eich galluogi i sylwi ar y gwaethaf yn gyntaf—

18:10

Felly, a allech chi ddweud ychydig mwy am hynny, os oes gennych chi unrhyw beth, ac os na, efallai y gallech chi, yn amlwg, roi'r wybodaeth honno ar adeg arall?

Ie, wrth gwrs. Yr ateb byr yw, gyda'r holl ddatblygiadau arloesol hyn sydd wedi'u crybwyll heddiw, y bwriad yn llwyr yw eu cyflwyno i gyd. Byddaf yn gallu cael amserlen i chi ar ble mae hynny, ond, fel y dywedais i, maen nhw'n dod drwy'r arloesedd ac yna mae'n mynd at weithrediaeth y GIG, a'u rôl nhw wedyn yw lledaenu hyn allan a chreu partneriaethau. Mae'r enghraifft a roesoch chi yn ymwneud yn sicr â'r gwaith atal hwnnw, felly dyna'n union rydyn ni'n ceisio'i wneud. Unwaith eto, y Gweinidog, yr Ysgrifennydd Cabinet, yr hyn yr ydym bob amser yn ei ddweud yw, 'Gwasanaeth iechyd cenedlaethol yw hwn. Dyma wasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru.' Mae hynny'n wir am ein strategaeth ddigidol, mae hynny'n wir am yr arloesi, hefyd. Mae popeth ledled Cymru, a dylai pawb allu cael mynediad ato. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Sam Rowlands, o ran iechyd, mae'n cymryd amser, fel y mae unrhyw beth, i'w gyflwyno ar raddfa fwy, ond mae hefyd yn cymryd amser oherwydd bod yn rhaid goruchwylio a hyfforddi gyda chlinigwyr. Mae'n rhaid iddo fod yn ddiogel iawn, iawn. Felly, rwyf am eich sicrhau bod hynny'n digwydd yn sicr.

Ac yna, roeddwn i'n gobeithio y byddech chi'n sôn am brosiect ECO4. Rwy'n credu ei fod yn hollol wych. Dechreuodd yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae'n eithaf syml o ran eu bod wedi nodi tua 600 o gleifion a oedd yn dod i mewn, â phroblemau anadlu. Yna fe wnaethon nhw eu hatgyfeirio i'r trydydd sector, trwy drydydd parti, a gysylltodd â nhw, gwirio eu cartref ac yna gwirio eu bod yn derbyn credydau pensiwn a'r mathau hyn o bethau. Rydym wedi gweld yr arloesedd hwn yn Birmingham, er enghraifft, hefyd. Rydym wedi gweld byrddau iechyd eraill yn gwneud hyn, lle gallwch ddefnyddio data penodol i nodi pobl yr ydych yn gwybod, y gallech chi wirio eu bod yn iawn, mwy na thebyg, ac yna eu hatal rhag dod i mewn i'r GIG. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud hyn trwy'r her 50 diwrnod. Dyna fath o bwrpas y peth—y gwaith atal hwnnw, y targedu hwnnw. Mae'r data yno, felly mae'n ymwneud â rhywun yng Nghwm Taf Morgannwg yn dweud, 'Gadewch i ni edrych ar y bobl hyn,' a dyna'r ffordd mae'n gweithio. Mae'n cael ei rannu. Mae gennym rwydweithiau da iawn nawr. Mae gennym ni weithrediaeth y GIG hefyd, sy'n gallu rhannu hyn ar draws. Ond, fel y dywedais i, gallwn i roi rhestr i chi—byddwn i'n dweud bod pob bwrdd iechyd yn gwneud rhywbeth sy'n cŵl iawn ac yn arbennig iawn mewn rhyw ffordd. Ein gwaith ni, felly, yw eu nodi nhw a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw i'w gyflwyno ar raddfa fwy fel bod pawb yn cael y cyfleoedd hyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am eich datganiad heno, Gweinidog, ar y pwnc cyffrous iawn hwn. Rwy'n ffan o dechnoleg, yn enwedig ym maes gofal iechyd, gyda fy nghefndir, felly mae'n gyffrous iawn. Rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau a wnaed eisoes yn ystod y datganiad, a byddwn i'n ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes, yn amlwg, ond rwyf am ofyn, mewn gwirionedd, am ddeallusrwydd artiffisial ym maes iechyd meddwl yn benodol, a sut y gellir ymgorffori hynny mewn iechyd meddwl a darparu rhai o'r triniaethau, gan fod materion iechyd meddwl yn fwy cyffredin ac, yn amlwg, yn fwy cymhleth a gyda chymhlethdodau cynyddol, a sut y gellir ymgorffori hynny o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol.

Yn fyr, ar wahân, hefyd, sut y gallwn ni, yn eich barn chi, geisio mwy o synergedd ar draws systemau gofal iechyd o ran technoleg? O ran y datganiad a'r hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw, mae'n gyffrous iawn, ond yna, yn yr un modd, ar yr un pryd, mae gennym, yn amlwg, gofnodion papur o hyd yn y GIG. Mae rôl e-bresgripsiynau yn aros o hyd i'w deimlo yn ddiriaethol ar draws y wlad. Felly, sut gallwn ni fod â mwy o synergedd a bod â datblygiadau technolegol ar draws systemau gofal iechyd a all helpu pobl yn well? Os cymerwch chi e-bresgripsiynau, er enghraifft, mae 15 mlynedd y tu ôl i Loegr, oherwydd fe wnaethon nhw ei gyflwyno yn ôl yn 2008. Felly, mae cyfnod hir o ddal i fyny i Gymru, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y dylem ni fod yn fwy uchelgeisiol wrth geisio sicrhau datblygiadau technolegol gwell mewn gofal iechyd mewn ffordd fwy strategol a all sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ledled Cymru. Diolch.

18:15

Diolch yn fawr iawn. Mae'r rhain yn ddau gwestiwn diddorol iawn. Mae gen i lawer yma ar ddeallusrwydd artiffisial; rydyn ni'n defnyddio deallusrwydd artiffisial llawer ar draws y GIG—mae llawer ohono yn ddiagnosteg a chanfod cynnar. Byddaf yn onest iawn gyda chi, nid wyf wedi gweld unrhyw beth ar hyn o bryd yn cael ei weithredu yn benodol yn y maes iechyd meddwl. Ond wrth ddod yn ôl at beth oedd Mabon ap Gwynfor yn gofyn i mi amdano o ran y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio i allu cysylltu â phobl, byddwn i hefyd yn dweud mai'r hyn sydd ei angen arnom yn y pen draw yw—. Yn y bôn, mae'n dod yn ôl at y data. Mae angen i ni gael gwell data iechyd meddwl yn gyffredinol.

Byddwn i'n eithaf pryderus, rwy'n credu, ar hyn o bryd, pe byddem ni'n dechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial ar y data sydd gennym ar hyn o bryd o ran cofnodion iechyd meddwl. Rwy'n credu ei fod yn ddata hynod sensitif ac rwy'n credu, er bod llawer o bobl, gan gynnwys eich hun, wedi gwneud llawer i leihau'r stigma ynghylch iechyd meddwl, mae rhai pethau o hyd a fyddai'n effeithio ar fywydau pobl pe bai pobl yn cael gwybod, a bod pobl yn haeddu gallu cadw'n breifat. Felly, yn gyntaf oll, byddwn i'n dweud bod angen i ni wella o ran y data iechyd meddwl a'i ansawdd.

Un o'r prif bethau rydyn ni wedi'i wneud yw bod gennym ni'r cofnod iechyd meddwl electronig erbyn hyn, sy'n cael ei ddylunio a'i weithredu gan Betsi Cadwaladr—tîm gwych, ac rwy'n hyderus iawn. Ac yna, hefyd, mae Cwm Taf Morgannwg yn ymwneud â hynny. Rwy'n credu y byddant yn arwain arno ac y bydd hynny'n cael ei gyflwyno ledled Cymru, ac yna rwy'n credu y byddwn ni'n gwybod bod gennym ddata o ansawdd gwirioneddol yno i allu ei ddefnyddio. Ond ar hyn o bryd, byddwn i'n amharod i'w roi trwy deallusrwydd artiffisial fel ag y mae ar hyn o bryd. Mae angen i'r data fod yn well a dyna y gwnaethoch chi dynnu sylw ato; mae yna rai pethau sylfaenol yma y mae'n rhaid i ni eu cael yn iawn.

O ran y synergedd, dyma beth mae hyn yn ymwneud ag ef. Mae gennym gymaint sy'n dda ac mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ei fod ym mhobman—mae'n wasanaeth iechyd gwladol. Byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ddigidol y flwyddyn nesaf, lle byddwn yn arwain ar y neges, unwaith eto yn ailadrodd y polisi 'unwaith i Gymru'. Mae'n wasanaeth iechyd cenedlaethol, dylai pawb fod yn cael yr un peth ledled Cymru. Rwy'n credu bod pobl yn cymryd yn ganiataol bod ein holl gofnodion meddygol a phopeth eisoes wedi'u cysylltu a, phe bawn i'n mynd i mewn i'r ysbyty yn Ninbych, y bydden nhw'n gwybod pwy oeddwn i a beth oedd ei angen arnaf, ond fydden nhw ddim, ac mae gwir angen i ni wthio trwy hyn.

Fel y dywedais i, rydym y tu ôl i Loegr mewn rhai agweddau, ond mae rhai camgymeriadau mawr iawn wedi eu gwneud yn Lloegr hefyd; fe gollon nhw lawer o hyder gan gleifion a phobl drwy geisio ei gyflwyno. Fe wnaethon nhw hefyd niweidio eu perthynas â meddygon teulu, mewn sawl ffordd, trwy eu gorfodi i newid y contract a chymryd y cyfrifoldeb heb drafod â nhw. Dydyn ni ddim yn mynd i wneud y camgymeriadau hynny yng Nghymru ac rwy'n credu mai dyna pryd y byddwn yn neidio drosto. Felly, mae llawer i fod yn gadarnhaol yn ei gylch, ond nid wyf yn tanamcangyfrif yr her yn y fan yma, a dyna pam mai dyma yw fy mlaenoriaeth i a dyna pam fy mod yn pennu blaenoriaethau o'r hyn rydyn ni'n mynd i'w gyflawni mewn gwirionedd a'r hyn rydyn ni'n mynd i'w adael ar ôl, yn onest.

8. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024

Eitem 8 sydd nesaf, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8749 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Llywydd. Rydym wedi gosod y Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) (Diwygio) drafft 2024 i ddiwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) 2014, a elwir yn rheoliadau 2014. Mae'r diwygiadau'n adlewyrchu newidiadau i'r rheolau mewnfudo, sydd bellach yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer pobl sy'n dioddef cefnu ar briodas drawswladol, ac sydd bellach yn rhoi'r disgresiwn i'r Swyddfa Gartref godi amod mewnfudo sy'n gwahardd troi at arian cyhoeddus. Mae'r diwygiadau hefyd yn adlewyrchu rheoliadau cymhwysedd a addaswyd yn ddiweddar sy'n berthnasol i Loegr. Bydd y rheoliadau'n ymestyn cymhwysedd i lety a chymorth tai i berson sy'n dioddef cefnu ar briodas drawswladol ac i berson y mae ei amod mewnfudo dim hawl i arian cyhoeddus wedi'i godi yn ôl disgresiwn y Swyddfa Gartref.

Mae cefnu ar briodas drawswladol yn fath o gam-drin domestig. Mae'n cynnwys ymddygiad rheolaethol a gorfodaeth a gall adael person y cefnwyd arno neu a adawyd dramor gan ei briod y mae'n ddibynnol arno am fisa, fel arfer heb unrhyw adnoddau ariannol na dogfennau mewnfudo, gyda'r nod o'u hatal rhag dychwelyd i'r DU. Gellir codi amod mewnfudo dim hawl i arian cyhoeddus yn ôl disgresiwn y Swyddfa Gartref mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar les plentyn neu'n achosi amddifadedd. Rydym hefyd yn dileu darpariaethau diangen rheoliadau 2014 sy'n cyfeirio at Reoliadau Derbyn Croatia (Awdurdodi Mewnfudo a Gweithwyr) 2013, oherwydd bod y cyfnod derbyn wedi dod i ben. 

Cyn gwneud y rheoliadau, bydd y bloc llofnodion yn cael ei ddiweddaru a mân ddiweddariad yn cael ei wneud i droednodyn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cymeradwyo'r cynnig, gan y bydd hyn yn darparu gwasanaethau pwysig i ddioddefwyr cefnu ar briodas drawswladol a phersonau eraill sydd mewn amgylchiadau anodd iawn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau hefyd yn cydnabod y bydd eu cefnogaeth i'r rheoliadau yn helpu i gryfhau ymrwymiad Cymru i fod yn genedl noddfa, sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch.

18:20

Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma, sy'n ehangu'r meini prawf i gynnwys pobl—merched fydd llawer ohonyn nhw—sydd dan anfantais mawr ar hyn o bryd. Bychan ydy'r cohort, ond cohort bregus iawn, ac mae diwygio'r rheoliadau yn pwysleisio bod Cymru yn genedl noddfa—yn lle saff a chroesawgar ar gyfer y rhai sydd heb gartref ac sy'n byw dan amgylchiadau anodd iawn.

Diolch, Dirprwy Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y rheoliadau a diolch i'r Aelod am y cyfraniad a wnaed heddiw. O ystyried y budd clir a ddaw yn sgil y rheoliadau, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:22.