Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/11/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Effaith Parc Cenedlaethol Newydd

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r safbwyntiau a fynegwyd gan gymunedau lleol ynghylch effaith parc cenedlaethol newydd yng Nghymru? OQ61876

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am safbwyntiau'r cyhoedd ar gynigion ar gyfer parc cenedlaethol newydd. Mae hyn yn rhan o'r gwaith asesu ac ymgysylltu angenrheidiol y mae'n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud cyn gwneud unrhyw argymhellion i Lywodraeth Cymru.

A gaf i ddiolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymwybodol o gyfarfod cyhoeddus â phresenoldeb da iawn yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant dim ond ychydig wythnosau yn ôl—dros 250 o bobl yn y cyfarfod hwnnw yn mynegi eu gwrthwynebiad clir i'r parc arfaethedig yn ymestyn i ardaloedd yng ngogledd Powys. A'r rhesymau am hynny yw pryderon ynghylch arallgyfeirio ffermydd—ac mae ffermwyr, yn sicr ar unrhyw adeg, ond yn fwy felly ar hyn o bryd, angen ein cefnogaeth—a phryderon hefyd ynghylch ymwelwyr dydd yn ymweld ag ardaloedd, yn enwedig lle nad oes digon o leoedd parcio ac lle mae'r seilwaith yn wael. Mae yna wrthwynebiad cryf iawn gan gymunedau yng ngogledd Powys. Clywais eich ateb i'm cwestiwn cychwynnol, Prif Weinidog, ac, wrth gwrs, mae'n ymrwymiad maniffesto gan y Blaid Lafur, a hefyd mae'n dilyn ymlaen i'ch rhaglen lywodraethu. Felly, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori ac y bydd yn gwneud argymhellion i chi, mae yn eich rhaglen lywodraethu chi, wrth gwrs, ac mae gennych chi ymrwymiad cadarn i hynny. Fodd bynnag, yn eich maniffesto, ac yn eich rhaglen lywodraethu, mae'n nodi, wrth gwrs, bod y parc cenedlaethol newydd wedi'i leoli yng ngogledd-ddwyrain Cymru, wedi'i leoli yn nhirwedd genedlaethol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, nid wrth gwrs, i ardaloedd yng ngogledd Powys. Ond a allwch chi roi ymrwymiad i mi, Prif Weinidog, os oes gwrthwynebiad—fel y mae—yn cael ei egluro i chi gan ardaloedd yng ngogledd Powys, na fydd y parc cenedlaethol newydd yn wir yn ymestyn i ardal o Gymru lle, yn syml, nad oes croeso iddo?

Wel, diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid yw'n briodol i mi, fel Prif Weinidog, wneud sylwadau ar faterion penodol y tu allan i'r broses statudol. Ond fe wnaf i ddweud wrthych chi, oedd, rydych chi'n gwbl gywir, roedd yn rhan o ymrwymiad y maniffesto. Ymgynghoriad yw hwn. Mae'n bwysig ein bod ni'n ymgysylltu â phobl a allai gael eu heffeithio gan hyn. Mae rhan o'r ymgynghoriad hwnnw ar ffin arfaethedig y parc cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod hi'n werth cadw mewn cof hefyd fod mwyafrif yr ymatebwyr y llynedd wedi ymateb eu bod nhw o blaid parc cenedlaethol newydd. Felly, mae'n rhaid i ni bwyso a mesur yr holl bethau hyn. Mae angen i ni wrando ar y cyhoedd, ac rwy'n falch iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn yr ardal leol. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, hefyd, gydnabod y manteision sy'n dod o barc cenedlaethol, o ran gwneud yn siŵr bod gennym ni'r dull cydgysylltiedig, cyson ac eglur hwnnw o ran cynllunio, er budd yr holl bobl sy'n byw ynddo.

Rydym ni'n gwybod, onid ydym, nad yw creu parc cenedlaethol newydd yn rhyw fath o fwled arian amgylcheddol mewn unrhyw ffordd. Does ond yn rhaid i ni edrych ar y canlyniadau amgylcheddol yn y parciau cenedlaethol presennol i wybod cymaint â hynny. Rydym ni hefyd yn gwybod bod pwysau cyllidebol enfawr ar barciau cenedlaethol presennol sydd wedi dioddef toriadau sylweddol i'w cyllidebau yn y blynyddoedd diwethaf. Ac rydym ni hefyd wedi gweld, yn ogystal, ganlyniadau seilwaith annigonol, pan, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau cymaint o fudd ag y gallwn ni i'r cymunedau lleol hynny yn y parciau hynny. Rydym ni'n gweld problemau enfawr iawn oherwydd diffyg buddsoddiad yn y seilwaith priodol yn Eryri, Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, oni ddylai'r Llywodraeth hon fod yn canolbwyntio ar gael cynnig presennol parciau cenedlaethol yn iawn cyn ceisio mynd o flaen eich hunain a chreu un newydd?

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn amlwg, mae'n bwysig i ni gydnabod y bydd cost yn gysylltiedig â hyn, ond roedd hyn yn rhywbeth, fel y dywedais, a oedd yn rhan o'n hymrwymiad maniffesto. Does dim arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer ariannu'r parc cenedlaethol yn y dyfodol eto—mae'n amlwg yn rhy gynnar yn y broses honno. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad na fyddai cyllid ar gyfer unrhyw barc cenedlaethol newydd yn cael ei gymryd oddi wrth dirweddau dynodedig presennol.

Hoffwn ddweud bod y pryderon ynghylch cyfyngiadau cynllunio, prisiau tai chwyddedig, twristiaeth dorfol wedi'u gorliwio. Nid yw newid mawr yn digwydd oherwydd dynodiad yn unig. Ac rwy'n siarad o brofiad o'r adeg pan wnaeth ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd—yr oeddwn i'n gadeirydd arni am 10 mlynedd—ehangu i ddyffryn Dyfrdwy. Ni wireddwyd pryderon a bu llawer o fanteision i gymunedau a busnesau, gan gynnwys cyllid grant a rheolaeth safleoedd hefyd, ac adnoddau yn cael eu dynodi yno. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi helpu i sicrhau nad yw'r ymrwymiad maniffesto cadarnhaol hwn yn cael ei golli oherwydd lleisiau croch yn rhannu camwybodaeth? Diolch.

13:35

Diolch yn fawr iawn. Fel rhywun sy'n byw mewn parc cenedlaethol ac sy'n gorfod cadw at yr holl faterion cynllunio sy'n ymwneud â hynny, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, er fy mod i'n deall bod angen i bobl ddeall beth fydd y goblygiadau iddyn nhw o ran cynllunio a sut y bydd pethau yn gweithio a sut y bydd pethau yn wahanol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod y tebygrwydd rhwng cyfyngiadau cynllunio o fewn ardal parc cenedlaethol a'r tu allan yn llawer mwy na'r gwahaniaethau, ac efallai nad yw'r tybiaethau bob amser yn cael eu hystyried felly. Felly, y peth allweddol, rwy'n credu, i'w gofio yw'r dull cydlynol hwnnw—rydych chi'n meddwl am yr holl ardal a sut mae'n edrych a sut mae'n gweithio gyda'r gymuned. Ac mae'r gwir wahaniaeth, rwy'n credu, yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned a'r adnoddau a roddir i ymgysylltu â'r gymuned, gan wneud yn siŵr bod y bobl sy'n byw yno yn deall eu cyfrifoldebau, a hefyd y pleserau o fyw mewn parc cenedlaethol a'r manteision y gall hynny eu cynnig.

Y Diwydiant Cyhoeddi

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi drwy roi grant blynyddol i Gyngor Llyfrau Cymru.

Wel, fe fyddwch chi'n ymwybodol, felly, fod y grant hwnnw wedi disgyn yn sylweddol, gyda Chyngor Llyfrau Cymru'n datgan ei fod gyfwerth â gostyngiad o 40 y cant mewn termau real ers 10 mlynedd. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod hwn, gan gynnwys toriad o 34 y cant yn nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan brif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau. Mae nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant cyhoeddi wedi cysylltu efo fi, yn hynod o bryderus am y sefyllfa, gyda rhagor o doriadau staff yn anochel a hefyd nifer o gyhoeddwyr, megis Y Lolfa, ddim hyd yn oed yn gwybod os gallant barhau. O ystyried ffocws ein Llywodraeth ar lythrennedd, yn dilyn pryderon dybryd am lefel llythrennedd plant Cymru yn y Saesneg a'r Gymraeg—efo'r Gymraeg tua 18 mis ar ei hôl hi o'i gymharu â'r Saesneg—dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno pa mor bwysig ydy'r diwydiant hwn o ran sicrhau cynnwys cyfoes a chynrychioliadol i helpu gyda hyn. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r pryderon, ac allwch chi gynnig unrhyw eiriau o sicrwydd i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant hwn eich bod chi'n gwrando ac am weithio efo nhw i sicrhau dyfodol llewyrchus i gyhoeddi yng Nghymru?

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae yna bwysau ariannol ar y Llywodraeth, ac yn arbennig y llynedd roedd yna bwysau ariannol. Ac fel lot o ardaloedd eraill yn y gyllideb, gwelon ni doriadau er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r arian yna i ddiogelu pethau fel iechyd, sydd hefyd yn flaenoriaeth i bobl Cymru. Mae hwnna'n rhan o'r ffaith bod yna gamreoli'r economi wedi digwydd, ac effaith chwyddiant hefyd. Wrth gwrs, rŷn ni yn y broses ar hyn o bryd o wneud penderfyniadau ar y gyllideb. Mae gwahoddiad i chi drafod gyda ni. Mae yna reswm i chi, efallai, drafod gyda ni, os yw hwn yn rhywbeth sy'n bwysig i chi, efallai i'n helpu ni gyda'r cyllid. Mae hwnna'n wahoddiad i chi drafod gyda ni, os mai hwn yw'r gwir flaenoriaeth sydd gyda chi.

Prif Weinidog, ar ôl ymweld â nifer o gyhoeddwyr bach, rwy'n ymwybodol o bryderon dwfn yn y sector ac am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar fy etholwyr, gyda chyhoeddwyr blaenllaw fel Seren ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod sefydliadau'r diwydiant creadigol fel Cyngor Llyfrau Cymru yn cael cymorth digonol yn ariannol o gofio'r toriad diweddar o 10 y cant i'w cyllideb? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n iawn—rhan o'r rheswm y bu'n rhaid i ni wneud y toriad hwnnw, wrth gwrs, yw oherwydd bod eich plaid chi, mae gen i ofn, wedi camreoli'r economi a'n gadael ni â thwll gwerth £22 biliwn. Roedd yn rhaid i ni gael yr arian o rywle—mae'n rhaid i rywbeth fynd. Ac, yn amlwg, roedd hyn yn anodd iawn—penderfyniadau anodd iawn—ond rwy'n siŵr bod y cyngor llyfrau yn ymwybodol o'r cyflwr y gadawodd eich plaid yr economi ynddo. Ond yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw cefnogi cronfa cynulleidfa newydd i helpu i gefnogi amrywiaeth yn y sector cyhoeddi, a hefyd rydym ni wedi helpu cyhoeddwyr i fynychu ffeiriau llyfrau Llundain a Frankfurt, sydd, wrth gwrs, yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw ymuno â marchnadoedd newydd.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweindydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw mae miloedd lawer o ffermwyr o Gymru yn mynd i San Steffan, ynghyd â ffermwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Maen nhw'n bryderus iawn am y cynigion sydd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i gael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol, yn enwedig gan fod Prif Weinidog y DU ac Ysgrifennydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi dweud yn ystod yr ymgyrch nad oedd unrhyw gynlluniau i newid rhyddhad eiddo amaethyddol. Ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog, nad yw'r iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddydd Iau diwethaf, i bobl 'bwyllo', yn cael ei chadarnhau gan yr ofn, y rhwystredigaeth a'r dicter y mae pobl yn ei deimlo am y brad hwn gan y Blaid Lafur?

Wel, gadewch i mi ei gwneud hi'n glir fy mod i'n credu bod ffermwyr yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i'n gwlad. Maen nhw'n darparu bwyd, maen nhw'n gwneud cyfraniad at yr economi, cyfraniad cymdeithasol enfawr, cyfraniad diwylliannol. Fel rhywun sy'n cynrychioli ardal wledig, rwy'n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw fel sylfaen i'r economi honno, a dyna pam maen nhw'n un o'r sectorau sy'n derbyn y swm uchaf o gymhorthdal o ran ein heconomi. Ond cawsom ni ein gadael gyda thwll du. Dyna'r gwir amdani, ac mae ffermwyr yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus—maen nhw'n anfon eu plant i ysgolion lleol, maen nhw'n defnyddio'r ysbytai lleol, ac mae'n rhaid i rywun dalu amdano. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, yn gyntaf oll, i fy nyfynnu yn gywir. Roeddwn i'n glir iawn y

'dylem ni i gyd bwyllo'. 

Ac rwy'n meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig i ni fod yn ofalus yma, oherwydd rwy'n meddwl bod llawer o ofid yn y gymuned amaethyddol, a'r peth olaf y mae angen i ni ei wneud yw arllwys tanwydd ar y tân hwnnw. Mae yna lawer o weithwyr amaethyddol sydd o dan lawer o straen ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio drwy'r union oblygiadau i bobl yn ein cymunedau.

Rwy'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaethoch chi eirio rhan o'r ateb hwnnw, gan nodi pwysigrwydd ffermio i enaid Cymru fel gwlad, oherwydd mae'n rhan o'n DNA—mae'r diwydiant yn—ac, yn wir, dyma sylfaen y sail gyflogaeth fwyaf sydd gan yr economi—y sector prosesu bwyd ynghyd â'r sector amaethyddol. Ond fe wnaethoch chi sôn am y fflamau, a thaniwyd y fflamau gan y gyllideb a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur ddiwedd mis Hydref a gefnodd ar yr ymrwymiad a wnaeth Prif Weinidog y DU ac Ysgrifennydd DEFRA yn ystod yr ymgyrch etholiadol i beidio â chael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol. Nawr, bythefnos yn ôl, codais y pwynt hwn gyda chi, Prif Weinidog, ac fe'ch holais am y niferoedd yr oeddech chi'n credu oedd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn. Pan aeth y wasg ar drywydd y cwestiwn hwnnw, dywedodd eich adran nad oedd ganddyn nhw fynediad at y ffigurau a gwnaethant eu cyfeirio at y Trysorlys. Felly, rydych chi'n amddiffyn polisi nad oes gennych chi reolaeth lwyr drosto na gwybodaeth amdano. Mae ffigurau DEFRA ei hun yn dweud y bydd dwy ran o dair o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newid hwn. Mae ffigurau'r Trysorlys yn dweud ei fod yn llai na thraean. Ni all y ddau ffigur hynny fod yn gywir. Pa ffigur ydych chi'n cytuno ag ef, Prif Weinidog?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n ei chael hi'n ddoniol iawn gwrando ar rywun yn siarad am gefnu ar gyllideb pan na wnaethoch chi roi arian ym mhocedi gweithwyr dur, na wnaethoch chi roi'r arian o'r neilltu i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan waed heintiedig, na wnaethoch chi roi'r arian o'r neilltu i bobl a ddioddefodd o ganlyniad i sgandal Swyddfa'r Post. Ond rydym ni'n cymryd hyn o ddifrif, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod bod treth etifeddiaeth yn faes nad yw wedi'i ddatganoli, felly y Trysorlys sydd â'r ffigurau hynny. Mae'n bwysig ein bod ni'n dychwelyd at ddata cyhoeddedig y Trysorlys. Gwn fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi siarad â'r undebau fferm i ofyn iddyn nhw sicrhau y gallen nhw gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU a rhoi ystyriaeth i bryderon Cymru, ac maen nhw wedi cytuno i hynny.

13:45

Y peth pwysig yw mai chi yw Prif Weinidog Cymru. Gallwch chi ddechrau sefyll dros Gymru trwy feirniadu'r polisi hwn a'r cefnu ar yr ymrwymiad a wnaeth y Blaid Lafur yn y cyfnod cyn yr etholiad, sef cadw rhyddhad eiddo amaethyddol. Mae hwnnw yn bwynt sylfaenol yn y system drethu—[Torri ar draws.]

Does dim pwynt o drefn ar hyn o bryd. A allwn ni ganiatáu i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig barhau â'i gwestiwn, os gwelwch yn dda?

Mae hwnnw'n bwynt sylfaenol yn y system drethu sy'n caniatáu i ffermydd teuluol barhau. Rydym ni wedi gweld yn yr Alban heddiw arweinydd Llafur yn beirniadu'r polisi diffygiol o ddiddymu'r lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr. A wnewch chi ddod o hyd i'r asgwrn cefn nawr, Prif Weinidog, i feirniadu'r polisi hwn am yr hyn yr ydyw? Bydd yn dinistrio ffermydd teuluol yng Nghymru ac yn dinistrio'r diwydiant amaethyddol fel yr ydym ni'n ei adnabod. 

Mae'r nifer o bobl sy'n cael eu heffeithio gan hyn, yn ôl ein cyfrifiadau, yn mynd i fod yn fach iawn. Eto, gadewch i ni aros i wneud yn siŵr y gall yr undebau amaethyddol wneud eu sylwadau, fel y cytunwyd gan y Gweinidogion. Bydd gan undebau ffermwyr Cymru gyfle i ddangos eu cyfrifiadau a bydd y Trysorlys yn gallu dangos eu cyfrifiadau hwythau, ac yna mae angen i ni ddod i gasgliad ar y mater hwn. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid sylweddol i'r sector amaethyddol, nid yn unig o ran cymorth cyffredinol ond hefyd drwy Cyswllt Ffermio i helpu pobl gyda chynllunio olyniaeth. Ac os oes ganddyn nhw ofnau, byddwn i'n awgrymu eu bod nhw'n mynd i siarad â nhw.

Pan gyhoeddodd Prif Weinidog Llafur y DU, Keir Starmer, ar drothwy cynhadledd Llafur yng Nghymru dros y penwythnos na fyddai Cymru yn cael unrhyw gyllid canlyniadol HS2, nad oedd cyllid canlyniadol yn berthnasol gan nad yw rheilffyrdd trwm wedi'u datganoli, gan atal y £4 biliwn sy'n ddyledus i ni, ai dyna sut y gwnaeth hi ddychmygu y byddai ei phartneriaeth mewn grym honedig yn gweithio?

Gallaf eich sicrhau fy mod i wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU. Rwyf wedi bod yn glir nad ydym ni'n hapus gyda'r ffordd y mae cyllid HS2 wedi cael ei ddyrannu. Rydym ni mewn trafodaethau gyda'r adran berthnasol ynghylch sut y gallwn ni gael mwy o arian ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd yn dda. 

Dylai fod yn mynnu cael y cyllid canlyniadol. Mae'n amddiffyn Keir Starmer eto, yn hytrach na sefyll dros Gymru. Mae'n rhy brysur yn chwifio ei ffon olau ar y llawr dawnsio i daflu goleuni ar yr anghyfiawnder hwn, efallai. Nid oes milltir o HS2 yng Nghymru, ond rydym ni'n talu amdano. Dylai'r Prif Weinidog, ei Chabinet ac aelodau meinciau cefn Llafur, a dweud y gwir, fod yn gynddeiriog am agwedd Keir Starmer tuag at Gymru.

Yng nghyfarfod cyngor y cenhedloedd fis diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru yn cael cyllid annigonol a bod angen chwarae teg o ran seilwaith rheilffyrdd. Er mwyn cadw wyneb i'w phennaeth, dywedodd nad oedd yn disgwyl gweld yr arian yng nghyllideb gyntaf y Canghellor, gan ddweud, ac rwy'n dyfynnu, 

'Rydym ni angen mwy o amser ar gyfer hynny.'

Ond er ei bod hi'n meddwl ei fod yn fater o 'pryd', i Keir Starmer roedd yn amlwg yn fater o 'os'. Felly, nawr ei fod wedi cau'r drws ar gyllid canlyniadol HS2, beth yw ei cham nesaf? Mae Keir Starmer wedi cefnu ar Gymru, ond allwn ni ddim fforddio cael Prif Weinidog Cymru yn gwneud hynny.

Gallaf eich sicrhau nad wyf wedi cefnu ar wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cyllid seilwaith rheilffyrdd ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Nid wyf i'n rhoi'r gorau iddi; rwy'n bwrw ati. Bob un tro yr wyf i'n gweld Keir Starmer, rwy'n codi'r mater hwn. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iddo na fyddaf i'n rhoi'r gorau i'w godi tan ein bod ni'n cael chwarae teg ar y mater hwn. Dyna sut mae arweinyddiaeth yn edrych a dyna beth yr wyf yn ei wneud. 

Mae'n amlwg nad yw'n gwrando o gwbl ar Brif Weinidog Cymru, er ei bod hi o'i blaid ei hun. Trafodais HS2 gydag Ysgrifennydd Gwladol Llafur Cymru ddoe. Roedd hi'n arfer cytuno â ni ar fater cyllid canlyniadol HS2. Rwy'n credu mai'r ffigur yr oedd hi'n arfer ei ddefnyddio oedd £4.5 biliwn sy'n ddyledus i Gymru, ond mae hi wedi newid ei meddwl nawr. Ond cyflwynais ffordd ymlaen iddi: gadewch i ni gael darn newydd o ddeddfwriaeth yn San Steffan, yn ymdrin â chyllid teg, ie, ond llu o faterion eraill hefyd. Byddai Bil Cymru newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli Ystâd y Goron, datganoli plismona a chyfiawnder—materion yr oedd Llafur yn arfer cytuno â ni yn llwyr yn eu cylch, ac, yn hollbwysig, materion sydd eisoes wedi'u datganoli i'r Alban. A does bosib, trin Cymru yn gyfartal â'r Alban yw'r lleiaf y dylem ni allu ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU.

Bu gennym ni nifer o Filiau Cymru dros y blynyddoedd sydd wedi dod yn gyfraith, ond nid yw Llafur wedi cyflwyno un bellach ers bron i 20 mlynedd. Dyma sut y disgrifiwyd Bil Cymru diwethaf y Ceidwadwyr—Deddf Cymru erbyn hynny—yn 2017:

'Does dim dadlau bod Bil Cymru...yn ddarn o ddeddfwriaeth cymhleth, brysiog sydd wedi'i ddrafftio'n wael na fydd yn...datrys mater y berthynas rhwng San Steffan a Bae Caerdydd am genhedlaeth.'

Geiriau yn y fan yna rhywun a fyddai'n sicr yn teimlo ei bod hi'n hen bryd cael Bil Cymru arall, a geiriau'r Prif Weinidog ei hun oedd y rheini. Felly, a wnaiff hi ymuno â mi i roi ei barn ar gof a chadw y dylai Cymru gael cydraddoldeb llawn â'r Alban, ac y byddai Bil Cymru cynhwysfawr newydd yn ffordd o gyflawni hynny?

13:50

Rwy'n canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru, pethau y gwnaeth pobl ddweud wrthyf i amdanyn nhw dros yr haf. Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw datrys y gwasanaeth iechyd, gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael tai addas, a dyna pam nad wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddadleuon cyfansoddiadol y mae gennych chi obsesiwn llwyr â nhw. Wrth gwrs, fe wnaf i wneud y ddadl o ran cyllid teg, wrth gwrs, fe wnaf i barhau i wneud y ddadl o ran Ystâd y Goron, ac fe wnaf i barhau i wneud y ddadl dros HS2.

Iechyd Menywod

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r NHS yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd i fenywod. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno nyrsys pwrpasol ar gyfer endometriosis ym mhob un o’r byrddau iechyd. Bydd y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae’r cynllun yn nodi cynlluniau gweithredu tymor byr a thymor hir yr NHS i sicrhau mwy o welliannau mewn gwasanaethau i fenywod.

'Dywedwyd wrthyf i fy mod i'n cael llawdriniaeth safon aur a fyddai'n newid fy mywyd. Fe wnaeth. Ar ôl tua 13 o lawdriniaethau a thriniaethau, rwyf i bellach yn aros i gael tynnu fy ngholuddyn mawr ac rwyf i wedi cael fy ngadael â phoen ac anableddau.'

Dyma eiriau un o'm hetholwyr ar ôl iddi gael triniaeth rhwyll y wain. Er ein bod ni'n dal i aros am y cynllun iechyd menywod a addawyd ers amser maith, nid yw'r adroddiad darganfod cychwynnol gan rwydwaith clinigol strategol cenedlaethol GIG Cymru ar gyfer iechyd menywod yn sôn am rwyll y wain. Argymhellodd adroddiad Hughes, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gan Gomisiynydd Diogelwch Cleifion Lloegr

'mae gan lywodraeth gyfrifoldeb i lunio...cynllun sy'n cymryd camau unioni ariannol ac anariannol i'r rhai a niweidiwyd'.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad swyddogol eto mewn ymateb i adroddiad Hughes, ond mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi gofyn i swyddogion adolygu ei argymhellion a sicrhau bod y trywydd gorau yn cael ei ddilyn fel nad yw pobl sydd wedi cael eu heffeithio yng Nghymru yn cael eu trin yn wahanol.

Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, a chynnwys sut y bydd triniaeth cleifion rhwyll fel fy etholwr yn cael ei chynnwys yn y cynllun iechyd menywod, pa gyllid sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw, a pha sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth newydd San Steffan ynghylch ymateb y DU gyfan i adroddiad Hughes? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n glir iawn nad yw'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag iechyd menywod yn ddigon da yng Nghymru. Rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld mwy o ymchwil yn cael ei gwneud ym maes iechyd menywod. Mae tuedd bendant ar sail rhywedd o ran sut rydym ni wedi dyrannu arian, a dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dyrannu £750,000 yn benodol ar gyfer iechyd menywod.

Bydd yn rhaid i chi aros tan i ni gyhoeddi'r cynllun iechyd menywod hwnnw; mae'n gynllun gan y GIG, ac fe fydd yna, rwy'n siŵr, gyfeiriadau at y sefyllfa o ran yr hyn sydd wedi digwydd gyda chleifion rhwyll a sut rydym ni'n gweld y dyfodol yn edrych ar gyfer y mathau hynny o gyflyrau. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fod yn sensitif i anghenion menywod yn ein system iechyd, a byddwch chi wedi gweld bod gennym ni ddiddordeb mawr mewn datblygu canolfannau arbenigol menywod o ran iechyd o ganlyniad i'r ymarfer gwrando hwnnw dros yr haf.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am eich cyhoeddiad ar endometriosis yn y fan yna? Rwy'n credu bod hwnnw'n gam ymlaen sydd i'w groesawu'n fawr, ond mae cymaint mwy y gellid ei wneud o hyd. Fel y gwnaeth fy nghyn-gyd-Aelod yn y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies, ei hyrwyddo yn aml a siarad amdano yn aml, mae endometriosis yn gyflwr gwanychol a all achosi poen difrifol dros y corff i gyd ac mae'n effeithio ar hyd at 10 y cant o fenywod yn y DU gyfan. Ac eto rydym ni wedi gweld rhestrau aros ar gyfer gynaecoleg yn cynyddu 92 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Nid yw'n ddigon da, o'ch cydnabyddiaeth eich hun nawr.

Rwy'n gwybod o'm profiad erchyll fy hun o'r menopos sut y gall diffyg ymwybyddiaeth ynghylch cyflyrau iechyd menywod achosi i fenywod sy'n cael camddiagnosis fyw gyda phoen echrydus. Yn yr achosion camddiagnosis endometriosis gwaethaf, mae organau menywod wedi cael eu tynnu yn anghywir. Mae croeso mawr i'r arian a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth hon yn ddiweddar, ond pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i wella'r amseroedd aros i'r menywod hyn yn benodol a chael dealltwriaeth fwy cyffredinol o'r broblem wanychol hon?

13:55

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir, mae endometriosis yn gyflwr nad oeddwn i, os wyf i'n onest, yn gwybod llawer amdano tan i mi ei glywed yn cael ei hyrwyddo yn yr union Siambr hon. Ar ôl i chi ddechrau clywed amdano, rydych chi'n cael synnwyr o raddfa nifer y menywod sy'n cael eu heffeithio ganddo, ac mae wir yn frawychus ei glywed. Rydych chi'n clywed am y boen y mae'n rhaid iddyn nhw fyw gydag ef. Mae'n anodd iawn gwneud diagnosis ohono, mae'n anodd iawn ei drin, mewn gwirionedd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar hynny. Ond rydym ni wedi gweld gostyngiad o 77 y cant ers mis Ebrill 2022 o ran pobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd ar gyfer problemau gynaecolegol. Felly, mae hwnnw'n ostyngiad sylweddol o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi. Mae amseroedd aros ar gyfer gynaecoleg yn cael eu blaenoriaethu. Rydym ni wedi cael uwchgynadleddau penodol, yn enwedig o ran canser a gynaecoleg, ac mae gennym ni bwyslais go iawn ar hyn nawr o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithredu dulliau a methodoleg a systemau Cael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf er mwyn cyflymu'r system.

Fis diwethaf, pan godais i iechyd menywod, cyfeiriais at brofiad fy nheulu fy hun o ganser yr ofarïau. Yr hyn na soniais amdano bryd hynny yw'r amser a gymerodd i gael diagnosis, o gerrig bustl posibl i ddechrau i ffibroidau, yna canser y coluddyn posibl, pan o'r diwedd, ar ôl diagnosis, arweiniodd at ddau lawfeddyg yn gorfod bod yn rhan o lawdriniaeth atgyweirio'r coluddyn a gynaecolegol fawr. Roedd hynny 15 mlynedd yn ôl, ond, yn anffodus, mae menywod yn dal i ddioddef trafferthion yn y system. Felly, rwyf i wir yn croesawu'r cynllun iechyd menywod ac yn edrych ymlaen at ei gyhoeddi fis nesaf. Prif Weinidog, rwy'n cydnabod eich ymrwymiad llwyr ar y pwnc hwn, ond ni all menywod barhau i aros, ac ni all barhau i ddigwydd. Felly, hoffwn ofyn, ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun, beth arall y gellir ei wneud yn ymarferol ar unwaith. Oherwydd mae wir angen gwrando ar fenywod â pheidio â bychanu eu pryderon o ran adnabod ein cyrff ein hunain a bod rhywbeth ddim yn hollol iawn. Pan fydd pethau'n cael eu hystyried, beth all y cynllun ei newid o ran mynd i'r afael â phethau mewn ffordd wahanol, er enghraifft gwirio am y posibilrwydd mwyaf difrifol yn gyntaf yn hytrach na'r ffordd arall, sy'n aml yn digwydd nawr?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei fod yn dechrau gyda pharch at y menywod sy'n dod i mewn i'n GIG a gwneud yn siŵr eich bod chi'n barod i wrando pan fyddan nhw'n dod drwy'r drws. Ond rwy'n credu mai'r hyn fydd o gymorth mawr yw'r £50 miliwn ychwanegol hwnnw sy'n mynd i mewn i'r GIG yn y flwyddyn ariannol hon nawr, sy'n cynnwys triniaethau gynaecolegol. Mae hynny'n ymarferol, mae'n real, ac mae'n digwydd nawr.

Yn anffodus, mae nifer sylweddol o fenywod yn colli babanod ar wahanol gyfnodau o feichiogrwydd, ac yn Lloegr, rhoddir tystysgrifau colli babanod i deuluoedd sy'n colli babi cyn 24 wythnos. Rwy'n gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn Lloegr i weld sut mae'r tystysgrifau hyn yn gweithio yn ymarferol, a thybed, Prif Weinidog, a allech chi amlinellu a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu'r cymorth hwn y mae mawr ei angen i'n teuluoedd yng Nghymru ar adeg mor anodd yn eu bywydau?

Diolch, Lesley. Mae'n peri gofid ofnadwy i bobl pan fyddan nhw'n camesgor a phan fyddan nhw'n colli babi, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod eu colled. Rydym ni'n gweithio ar lwybr gofal profedigaeth cenedlaethol ar gyfer camesgor, marw-enedigaeth a cholli babanod, a gallaf eich sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ymestyn y broses ardystio honno i gydnabod colli babanod yn ffurfiol.

14:00
Canolfannau Achub Anifeiliaid Anwes

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leddfu'r pwysau ar ganolfannau achub anifeiliaid anwes? OQ61907

Mae gan Lywodraeth Cymru raglen barhaus i gefnogi bridio a pherchnogaeth cŵn cyfrifol. Mae hon yn cefnogi ein safonau lles anifeiliaid ac yn annog newid ymddygiad trwy waith amlasiantaeth cydweithredol. Mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn helpu i leihau nifer yr anifeiliaid sy'n mynd i ganolfannau ailgartrefu yn y pen draw.

Diolch. Hoffwn ddweud y gwerthfawrogwyd eich ymweliad diweddar â stondin yr RSPCA yn y gynhadledd.

Gwelais lun erchyll yn ddiweddar, lle achubwyd nifer fawr o gŵn a chŵn bach o amodau ofnadwy, ac roedd dod o hyd i ddigon o leoedd iddyn nhw mewn canolfannau achub yn anodd iawn, gan nad oes capasiti. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i anifeiliaid achub aros yng ngofal canolfannau achub a maethu; ni ellir eu cartrefu mewn cartref am byth tan fydd erlyniad achosion ar les a bridio yn dod i ben. Maen nhw'n aml iawn yn cymryd dros flwyddyn, neu fwy, i ddod i'r llys, sy'n rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau'r canolfannau achub. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai Llywodraeth Cymru felly'n ystyried cefnogi dull tebyg i'r Alban, sy'n caniatáu i'r anifeiliaid gael eu hailgartrefu ar ôl 21 diwrnod, yn hytrach nag aros i'r achos llys ddod i ben.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod hyn wedi dod i sylw'r Dirprwy Brif Weinidog, ac rwy'n gwybod ei fod yn ymchwilio i hynny ac y bydd ymateb yn cael ei gyhoeddi yn fuan iawn. Rwy'n credu ein bod ni'n parhau i fod yn agored i ystyried y materion a godwyd gan RSPCA Cymru a Hope Rescue o ran ailgartrefu anifeiliaid sy'n gysylltiedig ag achosion erlyniad. Felly, weithiau maen nhw yno am amser hir iawn, iawn ac nid yw hynny'n ymddangos yn deg i unrhyw un.

Prif Weinidog, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Carolyn am dynnu sylw at y mater hollbwysig hwn sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Mae'r sefydliadau elusennol hyn wedi bod o dan bwysau aruthrol, nid yn unig oherwydd y nifer fawr o anifeiliaid y mae'n rhaid iddyn nhw ofalu amdanyn nhw, ond hefyd oherwydd bod gan lawer o'r anifeiliaid hyn broblemau ymddygiad heriol o ganlyniad i gael eu cam-drin. Hefyd, mae'r ymchwydd mewn croesfridio, yn enwedig ymhlith cŵn, heb ystyriaeth briodol o gydnawsedd eu bridiau, wedi dwysáu'r broblem. Fel llawer yma, rwyf i wedi ymweld â sawl elusen achub anifeiliaid anwes dros y blynyddoedd, ac mae gen i'r parch eithaf tuag at ofal ac ymroddiad y staff. Ond mae'n ddiymwad bod yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw eisoes yn denau ac mae'r cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr a orfodwyd gan Lywodraeth Lafur newydd y DU yn mynd i gael effaith arnyn nhw, naill ai drwy fod llai o arian ar gael ar gyfer gofal neu drwy leihau staff. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w cymryd i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael i ganolfannau achub anifeiliaid anwes? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hwn yn wasanaeth go iawn y mae'r sefydliadau hyn yn ei roi i gymdeithas, ond, wrth gwrs, elusennau ydyn nhw ar y cyfan, ac maen nhw'n derbyn llawer o arian elusennol ac, yn amlwg, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau sy'n anodd, o ganlyniad i'r gyllideb, a bydd yn rhaid i ni aros i weld sut y gall effaith pethau fel cyfraniadau yswiriant gwladol effeithio arnyn nhw. Ond mae pethau eraill a allai liniaru hynny, yn enwedig os ydyn nhw'n sefydliadau bach iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae ein canolfannau achub anifeiliaid anwes yn gwneud gwaith anhygoel, fel yr ydych chi wedi clywed, ond un o'r materion allweddol yw eu bod nhw'n cael eu gorlwytho, yn anffodus, gyda milgwn nad ydyn nhw'n gallu rasio mwyach. Tair mlwydd oed yw oedran cyfartalog milgi sy'n cael ei roi allan ar ôl iddo fod yn rasio. Maen nhw'n byw tan eu bod nhw'n 10 neu 12 oed, ac felly gellid helpu canolfannau achub anifeiliaid anwes trwy beidio â chael eu gorlwytho gan y milgwn hynny sydd yno, ar ôl rasio.

Un o'r materion yw pa un a allwn ni gael amserlen, os gwelwch yn dda, ar gyfer y cynllun lles anifeiliaid, sy'n cynnwys, fel y gwyddoch, elfen allweddol o ymgynghoriad ar waharddiad graddol ar rasio milgwn. Addawyd hyn i ni cyn y Nadolig; rwy'n credu mai dim ond tair wythnos arall sydd i fynd cyn y Nadolig, ac rwy'n gwybod bod pobl ar draws pob plaid wleidyddol eisiau gweld gwaharddiad ar rasio milgwn. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael gwybod pryd y gallem ni gael cyhoeddiad ar y canfyddiadau allweddol o'r cynllun lles anifeiliaid hwnnw. Diolch yn fawr iawn.

14:05

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n hyrwyddwr go iawn yn hyn o beth, ac rwy'n gwybod bod gennych chi filgi sy'n annwyl iawn i chi. Mae'n rhywbeth yr wyf i'n gwybod eich bod chi'n teimlo'n angerddol amdano. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog yn ei gymryd o ddifrif. Cyflwynodd ddatganiad yn ddiweddar, i ddweud y byddwn ni'n cyflwyno awgrymiadau o ran yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn y maes hwn. Fy nealltwriaeth i yw y bydd hwn yn cael ei gyhoeddi tua adeg y Nadolig.

Gwasanaethau Adsefydlu Iechyd Meddwl

5. Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau adsefydlu iechyd meddwl yng Nghaerdydd? OQ61903

Mae ein strategaeth iechyd a llesiant meddwl pob oed ddrafft yn nodi dull canlyniad, adferiad ac adsefydlu ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n ymwreiddio'r rhain mewn gwasanaethau yn lleol.

Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o noddi digwyddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf, gan fy mod i wedi gallu cyfarfod â Katie Fergus, meddyg ymgynghorol ym maes seiciatreg adsefydlu. Mae ganddi bedair ward adsefydlu cleifion mewnol yn ysbyty Llandochau, ond mae rhestr aros hir. Mae hynny'n esbonio pam, mewn llawer gormod o achosion, mae pobl yn cael eu rhyddhau o wardiau iechyd meddwl acíwt heb unrhyw gymorth wrth gefn yn y gymuned nac unrhyw wasanaeth arall i ganiatáu iddyn nhw addasu i fynd adref. Yn aml, maen nhw'n mynd i'r ysbyty yn y pen draw yn anffodus.

Esboniodd i mi, mewn gwirionedd, bod llawer o fyrddau iechyd mewn gwirionedd yn lleihau eu wardiau adsefydlu, a bod hynny'n peri pryder. Felly, tybed pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd feddu arnyn nhw i wneud gofal seiciatrig acíwt i gleifion mewnol, fel digartrefedd, yn fyr, yn anaml a byth yn cael ei ailadrodd, trwy ddarparu cymorth cam i lawr priodol i helpu'r daith i wella'n llawn.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur ein bod ni'n disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau adsefydlu yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae hynny'n golygu adsefydlu yn y gymuned, â gofal clinigol wedi'i ddarparu gan dîm adsefydlu. Felly, rwy'n gwybod, yng Nghaerdydd, er enghraifft, bod gan y bwrdd iechyd dîm allgymorth ac adfer â phwyslais i gynorthwyo pobl i fyw yn annibynnol a chymorth trosiannol, yn dilyn arosiadau estynedig fel cleifion mewnol. Mae gennym ni fframwaith adsefydlu Cymru gyfan hefyd, y dylid ei ddefnyddio fel y model o ran sut beth yw da.

Cynnydd Yswiriant Gwladol Cyflogwyr

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr yn effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru? OQ61878

Llywodraeth y DU sy'n gwneud penderfyniadau am gyfraniadau yswiriant gwladol. Rydym ni'n ymwybodol o'r pryderon a godwyd gan rai darparwyr gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol ar y cynnydd i gostau gweithredu. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae cynnydd Llafur i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, byddwch yn ymwybodol, yn cyfateb i gynnydd treth ar bobl sy'n gweithio a busnesau o £25 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Yn amlwg, mae'n siomedig bod Keir Starmer wedi dewis torri ymrwymiad maniffesto a threthu pobl sy'n gweithio fel hyn. Ac fel rydych chi wedi ei nodi, mae hyn yn mynd i gael effaith negyddol ar ddarparwyr gwasanaethau iechyd ledled Cymru, yn enwedig ym maes ymarfer cyffredinol.

Cefais y fraint ddoe, gyda chydweithwyr, o gyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain a rhai o'i meddygon teulu. Fe wnaethon nhw rybuddio bod polisi Llywodraeth Prydain yn peri'r risg o danseilio sefydlogrwydd ariannol meddygfeydd teulu ac ansawdd y gofal y gallan nhw ei ddarparu i gleifion. Fe wnaethon nhw ychwanegu na fyddai llawer o feddygfeydd yn gallu fforddio'r codiadau hyn ac y byddai'n rhaid iddyn nhw leihau eu staffio a'u gwasanaethau yn unol â hynny. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cymryd y rhybuddion hyn o ddifrif. Felly, hoffwn wybod pa sylwadau rydych chi'n eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod eithriadau a chymorth ar waith, fel y gallwn ni weld meddygon teulu yn ein cymunedau yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn. Wel, os ydych chi'n sôn am dorri ymrwymiadau, does dim angen i mi roi unrhyw wersi i chi yn y blaid Dorïaidd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru a fydd yn seiliedig ar y diffiniad y mae Llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio. Ac rydych chi'n gwbl gywir, yn niffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid yw meddygon teulu—maen nhw'n ymarferwyr annibynnol. Dyna'r statws sydd ganddyn nhw. Rwy'n cydnabod y bydd hynny yn rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei reoli, ac yn amlwg byddwn ni'n parhau i drafod â nhw, ac rydym ni bob amser yn cael trafodaethau â nhw yng nghyd-destun eu contractau. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, wrth gwrs, yn ei gydnabod—bydd pwysau ychwanegol. Bydd yn cael ei fantoli ychydig gan y cynnydd i'r lwfans cyflogaeth, ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yma yw mwy o arian yn dod i mewn i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol yn ôl pob tebyg, o ganlyniad i'r cynnydd ychwanegol hwnnw sydd wedi dod o'r setliad cyllideb gorau yr ydym ni wedi ei gael yng Nghymru ers sefydlu datganoli.

14:10
Diwygio Gwasanaethau Bysiau

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio gwasanaethau bysiau? OQ61909

Mae diwygio ein gwasanaethau bysiau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon a'n bwriad yw cyflwyno Bil yn y gwanwyn. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn darparu datganiad ar ein cynnydd ar ddiwygio gwasanaethau bysiau i'r Senedd ar 26 Tachwedd.

Mae'r Bil bysiau hwnnw i'w groesawu'n fawr, yn enwedig o ran masnachfreinio. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU £1 biliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau yn Lloegr, a fydd yn golygu cyllid canlyniadol Barnett i Gymru. Mae ein hetholwyr angen gwasanaethau bysiau dibynadwy i oroesi tan y Bil masnachfreinio, ac felly mae cyllid nawr yn hanfodol. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, ymrwymo i ariannu'r gwasanaethau bysiau hynny yn ddigonol tan y masnachfreinio, er mwyn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd?

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydym ni'n amlwg yng nghanol trafodaethau manwl ynghylch sut allai'r gyllideb edrych y flwyddyn nesaf. Mae llawer o ofynion ac, yn amlwg, o ran bysiau, rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i gyflwyno'r Bil bysiau newydd hwn. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth tanlinellu ein bod ni eisoes, ers dechrau'r pandemig, yn darparu dros £250 miliwn i awdurdodau lleol i gadw gwasanaethau bysiau yn rhedeg. Yn ogystal â hynny, mae gennym ni £51 miliwn yr ydym ni'n ei wario ar docynnau rhatach i'r rhai sydd dros 60 oed. Felly, rydym ni eisoes yn dangos ein hymrwymiad. Dydyn ni ddim wedi gweld y dychweliad i'r lefelau cyn y pandemig o hyd, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y Bil masnachfreinio bysiau drwodd—bydd gennym ni fwy o reolaeth drosto, byddwn ni'n gallu adnabod y mannau gorau i ni, i weld i le ddylai'r llwybrau bysiau fynd, a byddwn ni'n cydgysylltu'r cyfan mewn ffordd nad ydym ni'n gallu ei wneud ar hyn o bryd.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich ateb blaenorol am y Bil bysiau, ac rwyf i, ochr yn ochr â llawer o fy nghyd-Aelodau, yn edrych ymlaen at graffu ar y Bil bysiau pan ddaw o'n blaenau yn y pen draw—. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl bod angen help llaw ar ein diwydiant bysiau ar hyn o bryd. Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle nad yw niferoedd teithwyr bysiau wedi cyrraedd lefelau cyn y pandemig, heb sôn am ragori arnyn nhw. Yma yng Nghymru, nid ydym wedi gweld unrhyw beth yn cael ei gyflwyno o ran teithiau bws wedi'u cymell, yn wahanol i Loegr gyda chap ar brisiau tocynnau, a theithio am ddim yr Alban i bobl dan 22 oed.

Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd y sector bysiau. Mae'n cyflogi mwy na 3,500 o bobl, gan gyfrannu £305 miliwn at ein heconomi yn uniongyrchol, ac mae'n galluogi twf ehangach, â defnyddwyr bysiau yn gallu gwario £705 miliwn mewn cymunedau ledled y wlad o ganlyniad i'w taith. Ac eto mae bysiau wedi bod o dan bwysau aruthrol oherwydd cyllid gwael, â gweithredwyr bysiau yn wynebu bil rhwng £800 a £1,000 fesul gweithiwr o ganlyniad i gynnydd Llafur i yswiriant gwladol. Mae angen cefnogaeth wirioneddol ar unwaith ar y diwydiant. Felly, Prif Weinidog, gyda £1.7 biliwn ychwanegol yn dod i Gymru o ganlyniad i gyllideb y DU, a wnewch chi ymrwymo i ni yma yn y Siambr hon y byddwch chi'n darparu £18 miliwn yn ychwanegol o gyllid i gynorthwyo'r sector pwysig iawn hwn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n amlwg yn amser cyllideb—mae'r holl geisiadau yn dod i mewn, onid ydyn nhw, un ar ôl y llall? Ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog cyllid yn gwrando'n ofalus iawn ac yn pwyso a mesur y cyfan, ond nid yw byth yn mynd i anghofio bod yn rhaid iddo fod yn unol â fy mlaenoriaethau i.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod y systemau wedi'u dadreoleiddio yn golygu y gall gweithredwyr masnachol ddewis y darnau o'r rhwydwaith bysiau sy'n cynnig yr elw mwyaf, a dyna pam mae'r Bil hwn yn gwbl hanfodol, fel y gallwn ni weithio'n effeithiol. Ac rydym ni'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gynllunio ac i weithredu'r rhwydweithiau bysiau hynny mor effeithiol â phosibl, a'r hyn sydd gennym ni yma yw cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wir newid y ffordd y mae'r system yn gweithio, ac mae'r ymgysylltiad hwnnw â rhanddeiliaid, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a'r cyhoedd, yn mynd i fod yn gwbl hanfodol i wneud yn siŵr bod hyn yn glanio yn y lle iawn.

14:15
Hyrwyddo Twristiaeth

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd y Rhondda? OQ61908

Mae Croeso Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd y Rhondda a chyrchfannau eraill ledled Cymru fel rhan o'u strategaeth. 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr' yw'r rhaglen strategol sydd gennym ni. Nawr, mae cymoedd y Rhondda wedi ymddangos yn eu podlediad eu hunain yn ddiweddar, yn ogystal â gweithgarwch digidol ac mewn digwyddiadau masnach deithio allweddol.

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, rwyf wedi siarad lawer gwaith yn y Siambr hon am fanteision posibl ailagor twnnel y Rhondda, sy'n cysylltu Blaen-y-cwm yn y Rhondda â Blaengwynfi yng nghwm Afan, ac, ar gyfer y cofnod, rwy'n aelod balch o Gymdeithas Twnnel y Rhondda ac roedd yn wych gweld fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar yn ymweld ag ef yn ddiweddar. Pe bai'r twnnel hwn yn cael ei ailagor byddai'n creu twnnel dwy filltir o hyd ar gyfer cerdded a beicio, byddai'n darparu twristiaeth y mae ei angen mawr amdani ar gyfer y Rhondda, a byddai'n rhoi ffordd unigryw o ail-bwrpasu ein treftadaeth ddiwydiannol. Prif Weinidog, byddwch chi'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n berchen ar y twnnel, sydd ond yn barod i drosglwyddo perchnogaeth i naill ai Lywodraeth Cymru neu i gorff cyhoeddus arall. Fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU gynnig gwneud hyn, gyda swm ychwanegol o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer ei gynnal yn y dyfodol, ond cafodd hyn ei wrthod, gan fod Llywodraeth Cymru yn teimlo nad oedd y swm yn ddigonol. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU i ailystyried hyn, trosglwyddo twnnel y Rhondda  i Lywodraeth Cymru, a symud y prosiect gwych hwn yn ei flaen? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rydw i wedi clywed llawer am y twnnel hwn yn y Rhondda; fe hoffwn i ymweld ag ef ryw dro. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i ni gydnabod ein bod eisoes wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol yn yr ardal honno, er enghraifft, tŵr Zip World. Fe wnaethon ni gyfrannu £430,000 at brosiect gwerth £4.8 miliwn, ac mae hynny'n creu 91 o swyddi, ac rwy'n gwybod bod pobl yn cael llawer o hwyl gyda hynny yn ardal y Rhondda.

Ond, o ran twnnel y Rhondda, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n mynd i mewn i hyn gyda'n llygaid ar agor. Nid yw'n gynnig rhad. Fy nealltwriaeth i yw bod y costau cyfalaf dangosol wedi'u hamcangyfrif i fod tua £20 miliwn ac yna mae gofyniad refeniw blynyddol o tua £0.25 miliwn ar ben hynny. Felly, byddwn i bob amser yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud, ond peidiwch ag anghofio bod hynny i gyd bob amser yn cystadlu â'r blaenoriaethau pwysig eraill y mae pobl yn y Rhondda yn poeni amdanyn nhw hefyd.

Y Rhyfel yn y Dwyrain Canol

9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dinasyddion Cymru sy'n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn y dwyrain canol? OQ61913

Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo dros bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwrthdaro yn y dwyrain canol. Dylai unrhyw ddinasyddion o Gymru sydd yn y dwyrain canol gysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael cymorth. Rŷn ni’n chwarae rhan weithredol o ran cryfhau’r berthynas gyda chymunedau Mwslimaidd a chymunedau Iddewig yng Nghymru.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Dwi'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo yn lleol a thramor hefyd i wneud hynny.

Dydd Gwener diwethaf cymerais ran mewn digwyddiad panel yn yr eglwys Norwyaidd wedi'i drefnu gan Oxfam. Yn ystod y digwyddiad fe wnaethom ni glywed gan Bushra Khalidi, arweinydd polisi Oxfam ar gyfer tiriogaethau Palesteina sydd wedi eu meddiannu, a roddodd ddisgrifiad dirdynnol o fywyd ar y Lan Orllewinol. Rydyn ni'n gwybod bod y pethau hyn yn llawer, llawer gwaeth yn Gaza, lle mae'r rhan fwyaf o'r diriogaeth wedi'i ddymchwel, a chyrff meirw difesur yn dal ar ôl yn y rwbel. Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am dros flwyddyn bellach, Prif Weinidog, ac nid oes unrhyw arwydd o wella, neu, os rhywbeth, mae'n gwaethygu. Er lles pobl Palesteina, a dinasyddion Cymru sydd â theuluoedd y mae hyn dal i effeithio arnyn nhw, a ydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i ddefnyddio pwysau i ddod â'r gwrthdaro hwn i ben a sicrhau heddwch? Er enghraifft, a ydych chi'n fodlon bod eich Llywodraeth yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol ar fusnesau a hawliau dynol? Ydych chi wedi archwilio a yw'ch Llywodraeth chi neu'ch cysylltiadau wedi rhoi cymorth neu gyllid i wneuthurwyr arfau? Ac a ydych chi'n hyderus bod cwmnïau sydd â chontractau gyda'r Llywodraeth yn cynnal diwydrwydd dyladwy hawliau dynol trylwyr?

Diolch yn fawr iawn. Wel, rydyn ni i gyd wedi gweld y dioddefaint a'r tristwch annirnadwy sydd wedi bod yn digwydd yn Gaza ac, rydych chi'n hollol gywir, nid ydyn ni'n clywed llawer am y Lan Orllewinol, ac mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod llawer o ddioddefaint yn digwydd yno, a dyna pam, fel Llywodraeth, ein bod ni wedi gwneud cyfraniad at apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau. Fe wnaethon ni gyfraniad, ac rwy'n gwybod bod pobl o Gymru wedi ychwanegu'n sylweddol at hynny, a byddwn ni'n eich annog chi i gyd i wneud cyfraniad, fel yr wyf i wedi'i wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dim ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod bod angen cefnogaeth yn y rhan honno o'r byd. Rwy'n ofni nad yw'n edrych fel bod llawer o gynnydd o ran setlo'r mater yn y dwyrain canol. Rwy'n gwybod y bydd llawer o ddiddordeb, pan fydd Llywodraeth newydd yn cymryd yr awenau yn yr Unol Daleithiau, i weld a yw hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, a sut y bydd hynny'n effeithio arno, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n sefyll gyda thristwch a dioddefaint pobl Gaza.

14:20
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:20:09
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf fi alw am ddatganiad gan y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd? Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gamblo cymhellol yn broblem sy'n gyffredin ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ond nid yw'n ymddangos bod llawer iawn o gamau gweithredu ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r broblem hon, ac eto rydyn ni'n gwybod ei fod yn difetha bywydau, mae'n difetha perthnasoedd pobl, mae'n achosi i lawer golli eu cartrefi, busnesau, a hyd yn oed rhai pobl, yn anffodus, i fynd mor bell â chymryd eu bywydau eu hunain. Mae camau y gallai Llywodraeth Cymru fod yn eu cymryd i ymdrin â'r broblem: gallen ni ymdrin â nifer y siopau betio mewn rhai cymunedau difreintiedig, trwy newid y system cynllunio; gallen ni wneud mwy i addysgu pobl ifanc am niwed gamblo cymhellol yn ein hysgolion, drwy'r cwricwlwm; ac, wrth gwrs, gallem ni ddatblygu gwasanaeth caethiwed i gamblo cenedlaethol, nad oes gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, sydd gan rannau eraill o'r DU ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n dda cael dadl neu ddatganiad yn y Siambr hon, gan y Llywodraeth, fel y gallwn ni drafod y pethau hyn fel Senedd gyfan, a bwrw ymlaen â rhai camau pendant i ymdrin â'r broblem hon unwaith ac am byth, o gofio bod gamblo yn fygythiad iechyd y cyhoedd.

Wel, diolch yn fawr, Darren Millar. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi dwyn hyn i sylw'r Senedd. Rwy'n cofio noddi rhywfaint o ymchwil peth amser yn ôl gyda Mick Antoniw a chydweithwyr, oherwydd yr hyn a gafodd ei ddwyn i'n sylw—ac roedd hyn flynyddoedd lawer yn ôl—am bla gamblo a'r effaith mae'n ei gael ar fywydau pobl, o bob oed. Hefyd, rwy'n falch iawn—ac mae'n rhaid ei fod ddwy neu dair blynedd yn ôl—bod ein prif swyddog meddygol, cyn y pandemig, mewn gwirionedd, Syr Frank Atherton, wedi neilltuo un o'i adroddiadau blynyddol cyfan i'r mater hwn. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n mynd ag ef yn ôl, ac mae'n fater iechyd y cyhoedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlwg yn clywed hyn hefyd, ond mae'n fwy na iechyd y cyhoedd; mae'n addysg, mae'n gyfiawnder cymdeithasol ac effeithiau iechyd meddwl. Felly, byddwn ni'n ystyried hyn, Darren Millar.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, neu efallai hyd yn oed dadl yn amser y Llywodraeth, ar effaith gronnol yr heriau niferus sy'n wynebu'r diwydiant amaethyddol heddiw? Nawr, yn amlwg, rhyddhad eiddo amaethyddol efallai yw'r diweddaraf o'r holl heriau niferus hyn, ond yn sicr, mae gennym ni newidiadau mawr o ran y cynllun ffermio cynaliadwy, mae heriau enfawr i'r sector wrth fodloni rheoliadau parthau perygl nitradau—

—hefyd problem TB buchol. Dydyn ni ddim yma i sgorio pwyntiau gwleidyddol heddiw; rydyn ni yma i wneud pwynt am—[Torri ar draws.]—angen am ddadl ynghylch y diwydiant amaethyddol. Os ydych chi eisiau chwarae'r gêm honno, mae hynny'n rhywbeth i chi; dydw i ddim yn chwarae honno.

Na, ddylwn i ddim gadael iddyn nhw dynnu fy sylw; rydych chi'n hollol iawn.

Nawr, gallwn i ddadlau'r holl faterion hyn yn unigol ac, yn unigol, maen nhw'n cael effaith, wrth gwrs, ond, yn gronnol, maen nhw'n curo'r sector, ac mae angen i ni ddeall sut mae'r Llywodraeth yn ystyried hyn i gyd ar y lefel gronnol honno. Rwy'n credu y byddai dadl, efallai, cyfle i ymchwilio i hynny, yn sicr yn rhywbeth a fyddai'n werthfawr ar adeg o bwysau difrifol i'r sector.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar leihau cyfyngiadau cyflymder ar gefnffyrdd yng Nghymru? Nawr, mae cymunedau yn fy rhanbarth i—. Ac mae Glasfryn yn sir Conwy yn un sydd wedi aros ers tro i'r Llywodraeth wneud rhywbeth am hyn. Maen nhw'n ysu am wneud eu cymuned yn fwy diogel yno. Mae'r Ysgrifennydd trafnidiaeth, er tegwch, yn dweud y bydd yn adolygu cyfyngiadau cyflymder ar gefnffyrdd, ond dim ond ar ôl i'r canllawiau newydd 'Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' gael eu rhyddhau. Ond, wrth gwrs, rydyn ni wedi bod yn aros am amser hir iawn am hynny, ac yn y cyfamser mae gormod o ddamweiniau a fu bron iawn â digwydd yn y cymunedau hynny, felly a gawn ni ddatganiad yn rhoi eglurder i ni ynghylch pryd fydd hynny?

Ac yn olaf, Trefnydd, rŷch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, fod yr Ysgrifennydd iechyd wedi rhoi datganiad allan—

14:25

Wel, mi ges i ddeall, fel llefarydd, y byddwn i'n cael cyfle i'w wneud, ond mi wnaf i blygu i'ch dymuniad, Llywydd.

Dwi ddim yn gwybod pwy roddodd y caniatâd yna i chi, ond fe gawn ni drafod hynny y tu allan i'r Siambr.

Diolch yn fawr. Well, diolch yn fawr, Llyr Gruffydd—[Torri ar draws.]

Allwch chi ddim bod yn llefarydd yn y cwestiynau busnes—does neb yn llefarydd. [Torri ar draws.] Atebwch y cwestiynau, a byddaf i a Llyr yn mynd ar drywydd hyn y tu allan i'r Siambr.

Llyr Gruffydd, rydych chi wedi codi dau gwestiwn pwysig iawn y prynhawn yma—

—y prynhawn yma. A diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn y prynhawn yma.

Wrth gwrs, mae gennym ni'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig gyda ni heddiw, a'r wythnos nesaf, yn wir, byddwn ni'n cael ei ddatganiad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sydd, yn fy marn i, yn hanfodol bwysig o ran—. Gan fod hwn yn ddatganiad cyfannol, rwy'n gwybod, bydd hynny'n dod atoch chi'r wythnos nesaf. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig iawn—mewn gwirionedd, y mae arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies wedi cydnabod—yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog heddiw am ein cydnabyddiaeth o gyfraniad y gymuned ffermio i'n heconomi, i'n cymunedau, hefyd y prynhawn yma, ac yn amlwg, roedd trafodaethau ynghylch chwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n cydnabod, o ran y pwyntiau yr oedd y Prif Weinidog yn eu gwneud am fod y gymuned ffermio yn rhan o'r gymuned, gan ddefnyddio ein holl gynghorau lleol, a bod yn rhan ohonyn nhw, mewn sawl ffordd, cael ein cynrychioli'n ddemocrataidd ar gynghorau lleol, ymgysylltu â'r cymunedau, bod yn rhan o ysgolion, cyrff llywodraethu, grwpiau ffermwyr ifanc, ond hefyd gan gydnabod effaith straen ac ansicrwydd, Ac, wrth gwrs, dyna lle mae ein llinellau cymorth iechyd meddwl mor bwysig. Ond rwy'n credu ei fod—. Rydych chi wedi sôn am y materion ehangach hynny, yn bwysig heddiw.

Nawr, rwy'n gwybod, y byddai'r Ysgrifennydd trafnidiaeth eisiau ymateb i'ch pwyntiau penodol o ran yr hyn sy'n digwydd a pha mor gyflym y gallwn ni symud ymlaen o ran deall a chydnabod gweithredu terfynau cyflymder, yn enwedig o ran ein cefnffyrdd. Mae gennych chi gyfle i holi'r Ysgrifennydd trafnidiaeth brynhawn yfory hefyd, felly gallai hwnnw fod yn gyfle i'w ddefnyddio.

Ddoe, ochr yn ochr â Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, cynhaliais i ail ddigwyddiad ar bymtheg y Rhuban Gwyn yn y Senedd. Eleni, fel mewn blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom ni glywed rhai hanesion hynod deimladwy gan oroeswyr cam-drin, dynion a menywod sydd wedi bod yn ddigon dewr i rannu eu straeon gyda ni er mwyn codi ymwybyddiaeth a helpu i newid y diwylliant sy'n bodoli ynghylch trais yn erbyn menywod a merched. Yn anffodus, bob blwyddyn, mae llawer gormod o fenywod nad ydyn nhw'n goroesi'r trais sy'n cael ei gyflawni yn eu herbyn gan droseddwyr gwrywaidd. Hyd yma eleni, mae o leiaf 71 o fenywod a merched wedi colli eu bywydau yn nwylo dynion, neu lle mai dyn neu ddynion yw'r prif bobl dan amheuaeth, ac mae'r oedran yn amrywio o 13 i 96 oed. Roedd y menywod hyn i gyd yn byw eu bywydau. Roedd ganddyn nhw eu teuluoedd, roedd ganddyn nhw ffrindiau, ond, yn bennaf oll, roedd ganddyn nhw ddyfodol—dyfodol a gafodd ei gymryd oddi arnyn nhw; dyfodol na fydd byth, byth yn cael ei wireddu. Yn anffodus, roedd tair o'r menywod hynny a gafodd eu lladd yn dod o Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i gofio am Sophie Evans, 30 oed, a gafodd ei darganfod yn farw yn Llanelli ar 5 Gorffennaf—mae Richard Jones wedi'i gyhuddo o'i llofruddio; Vicki Thomas, 45 oed, a gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 20 Awst—mae Alcwyn Thomas wedi'i gyhuddo o'i llofruddio; a Catherine Flynn, 69 oed, yr ymosodwyd arni mewn tŷ yn Y Rhyl ar 24 Hydref, a bu farw yn fuan wedyn yn yr ysbyty? Mae Dean Mears wedi ei gyhuddo o'i llofruddio. Ni fydd y menywod hynny'n byw i weld eu bywydau fel y dylen nhw fod wedi, a bydd eu teuluoedd yn galaru am byth.

14:30

Wel, rwy'n credu y bydden ni i gyd eisiau treulio amser yn meddwl am y menywod hynny heddiw a'u cofio, a diolch i Joyce Watson am ddarllen enwau menywod a gafodd ei lladd gan eu partneriaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—menywod a merched a laddwyd gan eu partneriaid y llynedd. Mae'n bwerus iawn clywed eu henwau, ond, ar yr un pryd, yn hollol dorcalonnus ein bod ni, unwaith eto, yn y sefyllfa hon. Ac rwy'n ddiolchgar iawn bod Joyce Watson wedi dod i'r Siambr heddiw i ddarllen yr enwau hynny ar ôl y digwyddiadau pwysig iawn yr oedd llawer ohonom ynddyn nhw ddoe. Rwy'n credu bod y digwyddiad rhanddeiliaid trawsbleidiol, yr wylnos yn nodi'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn, yn ddigwyddiadau pwysig iawn i'r Senedd hon. Rwy'n credu ei fod yn dod â ni ynghyd. Mae'n gwneud i ni sefyll gyda'n gilydd, ond hefyd yn gwneud i ni feddwl mor ddifrifol am bla trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ac, wrth gwrs, mae clywed straeon y goroeswyr yn ei gwneud hi'n hollol glir i ni beth yw'r sefyllfa, yr hyn mae cymdeithas yn dal i'w esgusodi, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud o ran mynd i'r afael â hynny. Ac mae'n arbennig o anodd i mi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i feddwl, yr holl flynyddoedd hyn yn ar ôl helpu i sefydlu'r mudiad Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ein bod ni yn y sefyllfa hon a bod pla trais domestig a thrais yn erbyn menywod, fel y galwodd Mabon ap Gwynfor ei ddadl fer yr wythnos diwethaf, yn dal i fod gyda ni.

Felly, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod ein bod ni'n tynnu at 16 diwrnod o weithredu. Felly, a allwn ni i gyd ganolbwyntio o'r newydd ar y mater hwn? Rwyf i yn arbennig yn gwneud hynny o ran fy nghyfrifoldeb i, ond mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol, ac rwy'n ddiolchgar i Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion sydd i gyd yn fy ngweld i ac yn gweithio gyda mi ar y mater trawslywodraethol hwnnw. Mae'n rhaid i ni ymgysylltu ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, a chael ymdeimlad cyfunol o ymdrech tuag at gyflawni ein hamcanion i wneud newid gwirioneddol. Oherwydd, mae trais yn erbyn menywod yn groes i hawliau dynol. Mewn gwirionedd, mae'r 16 diwrnod o weithredu yn ein harwain at Ddiwrnod Hawliau Dynol ym mis Rhagfyr. Mae'n anghyfiawnder cymdeithasol dwys, sy'n effeithio ar fenywod, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

Felly, a allwn ni, unwaith eto, ailymrwymo ein hunain i gydnabod y dylai menywod deimlo'n ddiogel yn gyhoeddus, yn ddiogel i fynd allan, yn ddiogel i gerdded ar y stryd, ac, yn bwysicaf oll, yn ddiogel yn eu cartrefi? Peidiwch â chadw'n dawel; gadewch i ni weithio gyda'n gilydd a chydnabod bod hyn yn rhywbeth lle—. Ac, i unrhyw un sy'n wynebu hyn, ffoniwch y llinell gymorth, Byw Heb Ofn, i'ch cefnogi chi.

Trefnydd, rwy'n gofyn am eich arweiniad, os gwelwch yn dda, ar gywiro'r Cofnod, oherwydd mae'n siomedig bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog cyllid, rwy'n credu, wedi camarwain y Senedd yn anfwriadol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Dywedodd y Prif Weinidog, ar 13 Tachwedd, fod

'ein swyddogion wedi ceisio siarad â Llywodraeth ddiwethaf y DU am bedair blynedd am yr angen iddynt ein cynorthwyo i gael gwared ar y tomenni glo. Dim byd, dim byd'.

Ac ar 5 Tachwedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bod 'Fe gafodd ei wrthod gan y Trysorlys'—'ef' sef Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru—

'dyna a wnaeth y Trysorlys dan arweiniad y Ceidwadwyr',

wrth drafod cyllid tipiau glo. Fodd bynnag, mewn datganiad ar y cyd gan Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Steve Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, cadarnhawyd bod £9 miliwn wedi'i roi i atgyweirio tipiau glo bregus. Ac mae'n ddiddorol y byddai'r Gweinidog cyllid, yr wyf yn ddiolchgar ei fod yn ei le, yn ceisio camarwain y Senedd ar gam, oherwydd, ym mis Chwefror 2021, pan oedd yn Brif Weinidog, fe wnaeth ef, mewn gwirionedd, gadarnhau fod y cyllid hwnnw, yr arian hwnnw wedi cyrraedd, gan ddatgan y byddai,

'Bydd y £9 miliwn a gafwyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith adfer Tylorstown a’r gwaith cynnal a chadw brys uniongyrchol sydd ei angen ar domenni risg uchel eraill.'

Hyderaf y bydd y Senedd a'r Trefnydd yn cytuno bod cywirdeb yn y Siambr hon yn hanfodol, a bod yn rhaid mynd i'r afael â chamliwio yn y gorffennol. Sut ydyn ni'n symud ymlaen?

14:35

Dydw i ddim yn teimlo, Llywydd, mai dyma'r lle priodol—y datganiad busnes—i godi'r math hwnnw o gwyn honedig gan y Ceidwadwyr Cymreig, pan fo'n gwbl amlwg mai'r unig arian sy'n cael ei ganfod erbyn hyn i fynd i'r afael â chael gwared ar y tipiau glo yw'r £25 miliwn a ddaeth yn y gyllideb gan Lywodraeth y DU, ac, yn wir, y byddwn ni'n symud ymlaen gyda deddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn bryderus iawn bod yr Aelod wedi codi hyn yn y ffordd hon, pan ydyn ni'n meddwl am bobl y Cymoedd sy'n aros ac a fydd yn gweld y £25 miliwn hwnnw, arian gwirioneddol, yn dod drwodd i'w cefnogi ac ymdrin â'r materion, gyda'r ddeddfwriaeth ar y gweill.

Trefnydd, roeddwn innau'n falch o fod yn y digwyddiad Rhuban Gwyn neithiwr, a dwi'n diolch i Joyce Watson a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched am drefnu'r digwyddiad hynod bwerus ac effeithiol hynny. Mae'n rhaid i ni ddyblu, treblu ein hymdrechion ni i ddileu trais yn erbyn menywod.

Gaf i ofyn am ddatganiad ar fater arall, gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi? Mae angen eglurder am ddyfodol y grant shared prosperity. Mae eisiau eglurder am lefel y grantiau, y meini prawf, sut y bydd o'n cael ei weinyddu yng Nghymru, a nifer o gwestiynau eraill sy'n codi i'r meddwl ynghylch hyn hefyd. Mae yna nifer o gynlluniau yn Arfon sydd yn wynebu cyfnod ansicr iawn. Mi wnaf i roi un esiampl i chi, sef Academi Adra ym Mhenygroes—cynllun arloesol sydd yn hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau newydd yn y maes adeiladwaith a'r maes tai. Mae yna 164 o bobl ifanc cyn belled wedi manteisio ar y cynllun Academi Adra, ond mae ei ddyfodol o yn y fantol oherwydd bod yna ansicrwydd ynghylch y gronfa shared prosperity, sy'n creu'r posibilrwydd o cliff edge hollol ddiangen ar gyfer y cynllun yma. Felly, gawn ni eglurder? Mae hwnnw'n angenrheidiol, nid yn unig i'r cynllun yma, ond i nifer fawr ar draws Cymru ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Diolch nid yn unig am gefnogi, ond am ddod i wylnos y Rhuban Gwyn neithiwr, a chydnabod pwysigrwydd datganiad Joyce Watson y prynhawn yma.

O ran eich cwestiynau pwysig am y gronfa ffyniant gyffredin, rydyn ni'n cydnabod, fel y dywedwch chi, bwysigrwydd awdurdodau lleol a buddiolwyr yn cael eglurder ar drefniadau'r flwyddyn bontio, ac yn cael yr eglurder hwnnw cyn gynted â phosibl, oherwydd eu bod eisiau deall sicrwydd cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, rydyn ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU gadarnhau dyraniad cronfa ffyniant gyffredin 2025-26 ar gyfer holl wledydd y DU yn fuan. Ein blaenoriaeth mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU fydd dod i gytundeb ar ddyraniadau yng Nghymru cyn gynted â phosibl, er mwyn rhoi sicrwydd i'n hawdurdodau lleol. Mae'n nodi newid sylweddol: mae Llywodraeth y DU yn gofyn am ein cytundeb ar gyfer trefniadau yng Nghymru, gan barchu datganoli, yn hytrach na gweithredu'n unochrog. Ond mae ein swyddogion mewn trafodaethau parhaus hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n allweddol i hyn o ran partneriaid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am ddatblygiadau, wrth i ni drafod y gronfa ffyniant gyffredin gyda Llywodraeth y DU.

Ac yna, bydd cyllid ar gyfer trefniadau ar ôl 2026 yn rhan o ail gam yr adolygiad gwariant, sydd i roi adroddiad yn y gwanwyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, bydd yn cynnwys holl bartneriaid Cymru, i gyd-gynhyrchu trefniadau ar gyfer Cymru ar ôl 2026, fel y gwnaethom ni wrth ddatblygu ein rhaglenni UE a'n fframwaith buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Cymru. Ac rydyn ni'n disgwyl defnyddio gwersi o'n gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, cyllid yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin, wrth ddatblygu'r dull newydd hwnnw o weithredu ar gyfer y cyfnod ar ôl 2026 gyda phartneriaid. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ar gyfer buddiolwyr presennol, ond hefyd rwy'n rhannu'r wybodaeth bwysig honno o ran sut yr ydyn ni'n ceisio ymgysylltu â'r holl bartneriaid, Llywodraeth y DU yn arbennig, o ran y ffordd ymlaen o'r cyfnod pontio i ôl 2026. 

14:40

A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyllid a chynaliadwyedd gofal hosbisau yng Nghymru yn y dyfodol? Fe wyddoch chi, Trefnydd, fod y mwyafrif helaeth o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan hosbisau, sy'n hollol wych, yn cael ei wneud ar sail elusennol, a thua 24 y cant o'r cyllid a dderbynnir ar ochr glinigol y gwaith maen nhw'n ei wneud, felly mae'r mwyafrif helaeth o'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn cael ei gyflawni drwy godi arian elusennol.

Fe wnes i gyfarfod â hosbis yr wythnos diwethaf, yn y gogledd—hosbis nodweddiadol—a wnaeth amlinellu i mi fod y newid diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn unig yn mynd i gostio £130,000 y flwyddyn iddyn nhw, ac wrth gynnwys y newid yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r gwahaniaethau, bydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu cyllideb o tua £400,000 y flwyddyn, Dim ond i sefyll yn eu hunfan i ddarparu'r gwasanaethau rhagorol hynny y maen nhw'n ceisio eu darparu. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn os gallai'r Ysgrifennydd Cabinet ddarparu'r datganiad hwnnw ar gyllid a chynaliadwyedd yr hosbisau pwysig iawn hynny yma yng Nghymru yn y dyfodol, fel y gallwn ni eu gweld yn gweithredu hyd eithaf eu gallu yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. Rydyn ni'n ystyried sut y gallwn ni gefnogi yn enwedig y trydydd sector a sefydliadau elusennol o ran cynnydd yr yr yswiriant gwladol i gyflogwyr, ond mae hyn hefyd yn amlwg ar draws y Llywodraeth, oherwydd rwy'n edrych ar hynny, o ran bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros y trydydd sector a sefydliadau elusennol, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o ran y gwaith pwysig a gwych y mae hosbisau'n ei wneud yng Nghymru. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig cofio bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud datganiad diweddar ar ofal diwedd oes, gan gydnabod rôl ein hosbisau yng Nghymru. 

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru o ran diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ynglŷn â'r A470 yn Libanus? Mae llawer o bobl yma, rwy'n siŵr, wedi teithio ar draws Bannau Brycheiniog i lawr i Aberhonddu, ar hyd yr A470 a thrwy bentref bach Libanus, lle nad oes croesfan i gerddwyr. Yn anffodus, yr wythnos diwethaf, bu damwain rhwng tri char yn Libanus, sy'n tynnu sylw at y perygl parhaus yno. Roedd angen i'r diffoddwyr tân ryddhau rhywun a oedd wedi'i anafu, ac mae cynghorwyr lleol wedi mynegi pryder difrifol am y risgiau beunyddiol sy'n wynebu trigolion Libanus oherwydd y cyfyngiad cyflymder, sef 50 mya. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig gan ei bod hi'n Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos hon, fanylu ar fesurau diogelwch dros dro ac asesiadau risg ar gyfer yr A470 yn Libanus? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diogelwch ar y ffyrdd o ddifrif, ond mae hefyd yn monitro data cyflymder yn rheolaidd, ynghyd â chofnodion o wrthdrawiadau a achosodd anafiadau personol gan yr heddlu, i roi gwybod i ni am yr angen am welliannau diogelwch ar y ffyrdd. Mae diogelwch ar y ffyrdd a gosod terfynau cyflymder lleol eisoes wedi'u codi y prynhawn yma. Felly, rydyn ni wrthi'n diweddaru'r canllawiau ar osod terfynau cyflymder lleol i adlewyrchu polisi presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yn genedlaethol, ac i gyflawni'r uchelgeisiau sydd wedi'u hamlygu yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021'. A phan bydd y canllawiau newydd hynny'n cael eu cyhoeddi, byddwn ni'n adolygu'r terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys yr A470 yn Libanus. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gyrru trwy Libanus, ac yna mae clywed am y gwrthdrawiad hwnnw, unwaith eto, yn cyfleu gwirionedd hyn o ran terfynau cyflymder, a gorfodi, wrth gwrs, sy'n hollbwysig. Ond rwy'n annog eich etholwyr i roi gwybod am unrhyw bryderon yn uniongyrchol i GanBwyll, partneriaeth lleihau anafiadau Cymru, sy'n gyfrifol am orfodi terfynau cyflymder.

14:45

Dyma'r eildro nawr i mi orfod gofyn am ddatganiad ar hyn, ac mewn gwirionedd mae'n fater eithaf sensitif, ond mae'n ymwneud â rhyddhau anwyliaid o farwdai ysbytai. Pan godais i hyn o'r blaen, roedd pobl, teuluoedd, ymgymerwyr yn aros hyd at bythefnos i gyrff gael eu rhyddhau o farwdy'r ysbyty. Mae'r amser hwnnw wedi cynyddu i fis nawr. Nawr, os gallwch chi ddychmygu,  y galar o golli rhywun, ac wedi'i ychwanegu at hynny wedyn y ffaith na allwch chi gael eich anwylyd adref nac i safle trefnwr angladdau. Felly, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â chadeirydd bwrdd iechyd Betsi. Maen nhw wedi cydnabod y broblem ac wedi egluro eu bod yn gweithio ar ddatrysiadau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yn parhau. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael ei datrys, ac yn gyflym iawn? Nid wyf i eisiau gweld mwy o fy etholwyr yn mynd trwy'r galar a'r drasiedi y maen nhw'n ei hwynebu ar hyn o bryd, o ran methu â chael eu hanwyliaid adref.

Diolch, Janet Finch-Saunders, ac, fel y dywedwch chi, mae hwn yn fater sensitif ac anodd, ac rydyn ni'n parchu hynny ac yn parchu'r ffaith eich bod chi wedi codi hyn yn y Siambr y prynhawn yma—yn sensitif ac yn anodd i deuluoedd y rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Yn amlwg, mater i'r rheolwyr ar lefel yr ysbytai ydyw, ar lefel y bwrdd iechyd. Ond, yn sicr, byddwn ni'n myfyrio ar hynny o ran tystiolaeth o sut mae hyn yn cael sylw effeithiol i sicrhau bod cysondeb ar draws Cymru.

Diolch, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un gan y Gweinidog Addysg Uwch ac un gennych chi, gobeithio? Ysgrifennais at y Gweinidog addysg uwch ym mis Medi am drafferthion pobl o Hong Kong a ddaeth yma yn 2021 fel rhan o fisa cenedlaethol Prydeinig oherwydd yr ymgyrch yn erbyn protestwyr democratiaeth yn Hong Kong. Maen nhw wedi gwneud Cymru yn gartref i'w hunain. Does ganddyn nhw ddim bwriad i adael yma, ond dydyn nhw ddim yn gymwys i gael statws ffi cartref a dydyn nhw ddim yn gymwys i gael benthyciadau myfyrwyr. Sut gallwn ni alw ein hunain yn genedl noddfa? Sut gallwn ni honni ein bod ni'n croesawu'r unigolion hyn i'n gwlad pan fyddwn ni, i bob pwrpas, yn eu rhwystro rhag parhau â'u haddysg uwch? Maen nhw'n wynebu ffioedd o hyd at £50,000. Mae'r Alban wedi newid y rheolau cymhwysedd. Cefais ymateb gan y Gweinidog Addysg Uwch ychydig wythnosau yn ôl a soniodd hi fod adolygiad ar y gweill ar hyn, ond bydd yn cymryd dwy flynedd. Ni allaf weld pam mae angen iddo gymryd dwy flynedd. Mae'n debyg nad ydyn ni'n sôn am nifer fawr o unigolion yma, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr iddyn nhw.

Ac yna, ar yr ail ddatganiad, gennych chi, gobeithio, Trefnydd, rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac i eraill hefyd o ran y didyniadau bwyd a llety o iawndal sy'n cael ei dalu i ddioddefwyr achosion camweinyddu cyfiawnder. Mae'n anhygoel bod miloedd, os nad cannoedd o filoedd o bunnoedd wedi cael eu didynnu o iawndal llawer o bobl o'r de, yn aml iawn yn aelodau o leiafrifoedd ethnig, ar gyfer bwyd a llety am aros yn y carchar, pan gawson nhw eu dyfarnu'n euog ar gam. Rwy'n gwybod ei fod yn fater a gedwir yn ôl, ond, rwy'n gwybod y byddai cyhoeddiad o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, datganiad o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei werthfawrogi gan yr ymgyrchwyr hyn. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rhys ab Owen. Eich pwynt cyntaf chi, wrth gwrs, mae'n sicr yn fater i mi hefyd, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Byddwch chi wedi gweld yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ar ei newydd wedd, bennod gyfan ar genedl noddfa a sut yr ydym wedi ceisio ymdrin, o fewn ein pwerau a'n cyfrifoldebau, ac yn llawer ehangach na'n pwerau a'n cyfrifoldebau, â sefyllfa pobl o Hong Kong. Ochr yn ochr â hyn—a byddwn ni'n trafod y prynhawn yma—mae ffoaduriaid Wcreinaidd, ffoaduriaid o Afghanistan, a llawer o geiswyr noddfa sydd eisiau parhau mewn addysg uwch. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y gallaf ei drafod gyda'r Gweinidog addysg uwch i egluro'r amgylchiadau yr ydych chi'n eu codi.

Ac ar eich ail bwynt, wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli, ond rwy'n credu nawr ein bod ni'n ailosod cysylltiadau â Llywodraeth newydd y DU mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol iawn. Rwyf i nid yn unig wedi cyfarfod â Gweinidogion o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond rwyf wedi gohebu â'r Arglwydd Ganghellor, ac mae Gweinidog y Swyddfa Gartref wedi ymweld â Chymru a dod i'n Senedd ni. Felly, mae perthynas newydd yn datblygu, ac yn sicr, fe wnaf i egluro, ac rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn fy helpu i yn hyn, y sefyllfa i'r rhai y mae wedi effeithio arnyn nhw yng Nghymru, ac ar draws Cymru a Lloegr, o ran iawndal ar gyfer y costau bwyd a llety i'r rhai a ddyfarnwyd yn euog ar gam.

14:50

A gaf i ailadrodd y galwadau a wnaeth Sam Rowlands ynghylch y cynnydd mewn yswiriant gwladol? Rwy'n gwybod eich bod chi, fel yr Aelod dros etholaeth y Fro a Morgannwg, ac Aelodau rhanbarthol wedi cael llythyr o feddygfa Western Vale, sydd wedi tynnu sylw at effaith y cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol. A gallwn ni ddadlau yn wleidyddol a yw'n dda neu'n ddrwg, ond pwysleisiodd y llythyr hwnnw yn glir y byddai'n costio £33,000 y flwyddyn yn ychwanegol i'r practis hwnnw, a byddai hynny'n golygu—. Ac maen nhw'n defnyddio'r enghraifft benodol o orfod tynnu'n ôl cyflogi nyrs frechu o'r gwasanaeth y gallan nhw ei ddarparu. Felly, a gaf i ofyn bod datganiad yn dod gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â pha help, os o gwbl, y gall Llywodraeth Cymru fforddio ei roi ar waith i gefnogi meddygfeydd, yn ogystal â mudiad yr hosbisau, oherwydd mae gennyf i Holme Tower yn fy ardal i yma yng Nghanol De Cymru, ym Mhenarth, Ac maen nhw i gyd yn wynebu'r pwysau cyllidebol hwn sydd, yn amlwg, o ganlyniad i'r gyllideb, yn mynd i effeithio arnyn nhw gyda grym gwirioneddol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno, a gallwn ni gael rhywfaint o wybodaeth  gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni fynd yn ôl at ein hetholwyr a dweud wrthyn nhw nad oes perygl i ddarpariaeth gwasanaethau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am y cwestiwn yna, Andrew R.T. Davies. Fe wnaethoch chi glywed gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma ein bod ni, yn wir, yn edrych ar effeithiau'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, sydd, wrth gwrs, yn benderfyniad Trysorlys Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, gan ddeall y dyfarniadau o ran sut y bydd yr arian yn cael ei gyflwyno i'r rhai sy'n gymwys, yn ôl disgrifiad yr SYG—gweithlu'r sector cyhoeddus. Ond mae eich sylwadau, wrth gwrs, yn cael eu cydnabod yma y prynhawn yma.

Diolch, Llywydd—Llywydd dros dro, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gen i am hynny. [Chwerthin.] Roeddwn i wedi drysu yn y fan yna. Mae yna gymaint ohonoch chi.

A gaf i ailadrodd yn gyntaf alwadau am ddatganiad yn benodol ar effaith penderfyniadau cyllideb Llywodraeth y DU ar ffermio yng Nghymru? Nid ar ffermwyr yn unig y mae hyn yn effeithio, fel y gwyddom ni; mae'n bosibl y bydd yn effeithio ar bob un ohonom ni os byddwn ni'n colli ein ffermydd teuluol ledled Cymru.

Hefyd, hoffwn i ailadrodd galwadau am ddatganiad ar gyfraniadau yswiriant gwladol, a hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog ddarparu datganiad manwl yn amlinellu faint yn ychwanegol y bydd pob corff sector cyhoeddus yn ei dalu mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr y flwyddyn nesaf, a faint o gyllid ychwanegol y bydd pob corff yn ei dderbyn i wneud yn iawn am y cynnydd hwn. Wrth edrych drwy gyfrifon bwrdd iechyd Aneurin Bevan, rwyf wedi cyfrifo eu bod yn wynebu cynnydd o tua £0.75 miliwn dim ond i dalu am y trethi ychwanegol sy'n deillio o'r gyllideb Lafur. Mae ysbytai fel y Faenor eisoes dan straen sylweddol ac yn ei chael hi'n anodd darparu'r lefel o wasanaeth sydd ei hangen ar drigolion lleol ac y maen nhw'n ei haeddu. Yn ogystal â hyn, os na fydd y gost ychwanegol hon yn cael ei had-dalu, bydd gwasanaethau'n dirywio ymhellach. Os caiff cyllid ychwanegol ei ddyrannu i dalu'r costau hyn, a gawn ni sicrwydd y bydd yn cael ei wneud yn gwbl glir nad cyllid newydd neu ychwanegol yw hwn ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond yn ad-daliad i dalu costau a oorfodwyd gan y mesurau newydd hyn?

Bydd datganiad yr wythnos nesaf gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n mynd i'r afael ag effaith y—. Rydyn ni'n asesu effaith y cynnydd mewn yswiriant gwladol ar gyflogwyr, sy'n benderfyniad gan Lywodraeth y DU yn y gyllideb, o ganlyniad i'r twll gwerth £21 biliwn a adawyd gan eich Llywodraeth chi. Ac, yn wir, twll sydd wedi arwain at—[Torri ar draws.] Rydyn ni wedi clywed droeon y prynhawn yma effaith y twll hwnnw—[Torri ar draws.]

14:55

Trefnydd, un eiliad. Fe hoffwn i glywed yr ateb, os gwelwch yn dda, felly a wnaiff pob un o'r meinciau adael llonydd i'r Trefnydd barhau â'r ateb?

Felly, rwyf i o'r farn nad oes angen dweud rhagor. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n clywed llawer o hyn o feinciau'r gwrthbleidiau, ond mae'n rhaid iddyn nhw gydnabod y cyfrifoldeb y mae angen iddyn nhw ei dderbyn hefyd ar ran eu Llywodraeth flaenorol nhw sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon. Ond, fel dywedodd y Prif Weinidog, y cyllid sy'n cael ei ryddhau sy'n mynd i fod o fudd i'r gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, y busnesau drwy'r cymorth y byddwn ni'n ei roi iddyn nhw o ganlyniad i'r penderfyniadau hyn.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd aros

Eitem 3 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles. 

Mae torri amseroedd aros hir a sicrhau mynediad amserol at ofal wedi’i gynllunio yn flaenoriaeth i’r cyhoedd ac i’r Llywodraeth hon. Ers y pandemig, mae hyd y rhestr aros a faint o amser y mae pobl yn aros am driniaeth wedi cynyddu'n sylweddol. Mae hyn yn wir ar draws y Deyrnas Unedig, nid dim ond yng Nghymru. Cafodd y pandemig effaith enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd. Gwaetha'r modd, roedd y camau a gymeron ni i flaenoriaethu gofal pobl â COVID ac argyfyngau difrifol eraill yn golygu y bu'n rhaid i bobl ag anghenion, efallai, llai brys aros yn hirach. Cyn y pandemig, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, tua 10 wythnos oedd yr amser aros ar gyfartaledd rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Cododd hyn i 29 wythnos ym mis Hydref 2020—y lefel uchaf erioed. Ond roedd wedi lleihau i 23 wythnos ym Awst 2024.

Dirprwy Lywydd, fe wnaeth atgyfeiriadau gofal wedi'i gynllunio gronni yn ystod y pandemig. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi gweithio’n galed i'w lleihau yn y ddwy flynedd diwethaf wrth i’r galw am ofal wedi’i gynllunio ddychwelyd i'r lefelau blaenorol. Mewn rhai achosion, aeth y galw y tu hwnt i'r lefelau hynny. I gefnogi’r gwasanaeth iechyd, rydym yn darparu mwy na £1 biliwn o gyllid adfer yn ystod tymor y Senedd hon. Ond dydyn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau. Yng nghanol y cyfnod ariannol anoddaf ers dechrau datganoli, a waethygwyd gan gyllideb drychinebus Liz Truss, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd rheng flaen i helpu i leihau amseroedd aros a chyflymu mynediad at ofal.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu bron i £900 miliwn yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd. Mae byrddau iechyd wedi gwneud llawer iawn i geisio lleihau amseroedd aros. Mae’r ffigurau perfformiad diweddaraf yn dangos—a bydd ffigurau newydd allan ddiwedd yr wythnos hon—fod yr amseroedd aros hiraf wedi gostwng traean ers eu lefel uchaf ym mis Mawrth 2022. Mae amseroedd aros hir ar gyfer profion diagnostig wedi gostwng 30 y cant o'u lefel uchaf yn Awst 2020. Erbyn hyn, tua 3 y cant o bobl ar y rhestr aros sy'n aros am fwy na dwy flynedd, o gymharu â bron i 10 y cant ym mis Mawrth 2022. Ond mae gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth, ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach.

Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, fe gyhoeddais i £28 miliwn i dargedu'r amseroedd aros hwyaf yng Nghymru yn benodol, i gynyddu'r gwaith ar benwythnosau a chyda'r nos a sefydlu mwy o glinigau rhanbarthol yn y de-ddwyrain. Rwy'n cynyddu'r cyllid hwnnw i £50 miliwn nawr. Bydd hwnnw ar gael i fyrddau iechyd ei wario yn syth yn unol â'u cynlluniau ar gyfer cynnig mwy o driniaethau, mwy o brofion, mwy o apwyntiadau i gleifion allanol, ar gyfer gweld mwy o bobl a, lle bod angen hynny, defnyddio capasiti mewn ysbytai preifat er mwyn cael ymwared ag arosiadau maith. Fe fydd y GIG yn defnyddio'r £50 miliwn hwn i drin 16,000 o bobl yn ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a chynnal 14,000 o brofion ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a hyd at 20,000 yn rhagor o apwyntiadau cleifion allanol erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £3 miliwn i dargedu'r arosiadau hiraf ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol hefyd. Mae'r galw am asesiadau wedi cynyddu'n esbonyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn dim ond chwe mis, mae rhestrau aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol wedi gweld cynnydd o fwy na 2,000. Fe all asesiadau fod yn gymhleth, ac mae'r gostyngiadau i'r rhestrau aros wedi cael eu llenwi yn gyflym gan atgyfeiriadau newydd. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cefnogi gostyngiad sylweddol o ran yr arosiadau maith ym mhob bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth canolbwyntio parhaus ar ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

Dirprwy Lywydd, fe wyddom ni na fydd y mesurau o ran y rhestrau aros byrdymor yn ddigonol ar eu pennau eu hunain. Fe eglurais i'r GIG am yr angen i ni drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau wrth i ni ganolbwyntio ar ymdrin â'r ôl-groniad. Bwriad ein cyllid ni yw cefnogi hyn. Mae'n rhaid gwneud gwaith o ran trawsnewid, bod â gwell effeithlonrwydd a chynhyrchiant ochr yn ochr â byrhau amseroedd aros maith. Fe fydd hyn yn cyfrannu at ein rhoi ni ar y llwybr tuag at wasanaeth iechyd sy'n gynaliadwy i'r dyfodol.

Bydd ein cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn arwain y gwaith yn y maes hwn, gyda chefnogaeth arweinwyr clinigol cenedlaethol a chan fabwysiadu llwybrau clinigol. Ar hyn o bryd, fe geir gormod o amrywio ar draws y byrddau iechyd. Rwyf i'n awyddus i weld rhagor o ddysgu a mabwysiadu arfer gorau cydnabyddedig ar gyfer gwella cynhyrchiant ar draws pob safle ac arbenigedd. Fe fyddwn ni'n cymhwyso egwyddor o 'addasu, mabwysiadu neu gyfiawnhau' ar gyfer datblygiadau newydd sy'n llwyddo. Mae'n rhaid i'r GIG wneud yn fawr o'r holl adnoddau sydd ar gael iddo yn eu llawnder.

Bydd y grŵp cynghori'r Gweinidog newydd ar berfformiad a chynhyrchiant, dan gadeiryddiaeth Syr David Sloman, yn ein cefnogi ni i wneud gwelliannau yn y maes hwn. Fe ddechreuodd ar ei waith fis diwethaf ac fe fydd yn rhoi cyngor i mi ar ddechrau'r flwyddyn nesaf. Mae yna ddigonedd o enghreifftiau da o drawsnewid ledled Cymru: Telederm, sydd wedi cefnogi gostyngiad mewn arosiadau am ddermatoleg; cyflwyno 'sylw i symptom' a llwybrau cleifion allanol ar gais y claf, sydd wedi lleihau'r galw am apwyntiadau dilynol i gleifion allanol; a chyngor ac arweiniad drwy Consultant Connect, sydd wedi atal 52,000 o ymweliadau diangen i'r ysbyty yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, fe hoffwn i weld pobl yn cael eu trin yn y gymuned. Mae ein diwygiadau ni o ran optometreg yn enghraifft dda o faes lle mae hyn yn digwydd ynddo eisoes. Rydym ni wedi buddsoddi £30 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i symud mwy o ofal llygaid allan o'r ysbytai i ofal sylfaenol. Mae hyn yn sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn nes at eu cartrefi ar gyfer gofal arferol, a dim ond y rhai sydd ag angen gofal mwy arbenigol sy'n cael eu hatgyfeirio i'r ysbyty. Mae hynny'n gweithio'n dda.

Mae trawsnewid digidol yn allweddol o ran sicrhau y gellir cynnal ac adeiladu ar y newidiadau hyn. Rydym ni'n cefnogi prosiectau deallusrwydd artiffisial i gefnogi clinigwyr i gynnig rheolaeth fwy effeithiol ac amserol ar lwybrau, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar atal hefyd, ar gyfer gwella iechyd sylfaenol ein cenedl. Dirprwy Lywydd, cafodd dros 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf y llynedd, llawer ohonyn nhw oherwydd salwch. Mae ein polisi o hyrwyddo, atal a pharatoi yn ddull cenedlaethol o helpu i gefnogi pobl sy'n aros i fod mor ffit ac yn barod ar gyfer eu triniaeth â phosibl trwy hyrwyddo dewisiadau iach, sy'n cefnogi iechyd a llesiant, sy'n atal dirywiad yn eu cyflwr, ac yn eu paratoi ar gyfer eu triniaethau.

Yn ystod y 10 wythnos y bues i'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe gefais i'r fraint o gwrdd â staff y GIG o bob cwr o Gymru. Fe gefais fy nharo gan eu hymrwymiad a'u penderfyniad i ddarparu'r gofal gorau posibl. Gyda'n gilydd, rydym ni wedi ymrwymo i fyrhau amseroedd aros a sicrhau bod ein GIG yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogel, effeithlon ac effeithiol i ateb anghenion heddiw, wrth helpu'r GIG i addasu ar gyfer y dyfodol.

15:00

Diolch i chi am ddatganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. A gaf i ymuno â chi o'r dechrau'n deg o ran eich sylwadau wrth gloi a chydnabod awydd staff ein GIG i weld y gwelliannau a'r ymrwymiad sydd ganddyn nhw bob dydd ledled Cymru i gyflawni'r gwasanaethau y mae ein trigolion a'n hetholwyr ni'n awyddus i'w gweld?

Fe wnaethoch chi agor eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, drwy gydnabod bod rhestrau aros yn flaenoriaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth, ac mae hynny'n hollol gywir. Dro ar ôl tro, mae pobl yn cysylltu â mi—fel maen nhw'n gwneud â chwithau, rwy'n siŵr, ac eraill yn y Siambr hon—trigolion ac etholwyr sy'n gofidio am yr amseroedd aros y maen nhw a'u hanwyliaid yn gorfod aros.

Mae'r ystadegau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Fe wnaethoch chi amlinellu nifer o ystadegau nawr lle mae meysydd o welliant wedi bod yng Nghymru, ond ar hyn o bryd mae yna 619,200 o gleifion unigol yn aros am driniaethau yma yng Nghymru. O ran y llwybrau i gleifion, mae tua 800,000 o lwybrau yn agored ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni gofio mai cenedl o ychydig dros 3 miliwn o bobl ydym ni. Mae'r niferoedd hynny'n syfrdanol. Mae rhai o'r arosiadau hwyaf, yr arosiadau hynny o ddwy flynedd, wedi cynyddu am bum mis yn olynol erbyn hyn, gyda 24,000 o bobl yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth yng Nghymru, o gymharu â dim ond 124 o bobl yn Lloegr.

Mae'r ystadegau hynny'n cael eu dyfynnu yn aml gennyf i a chan eraill hefyd ar gyfer dangos pa mor fawr yw methiant Llafur Cymru, ond y tu ôl i bob ystadegyn wrth gwrs, mae unigolion, bywydau sy'n cael eu newid gan boen a'u llesteirio oherwydd nad yw'r driniaeth angenrheidiol ar gael iddyn nhw. Dyna pam rydyn ni'n dyfynnu'r rhifau hynny—ac felly rydyn ni'n cofio am y bobl hynny i gyd sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar y triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw.

Fe geir ystadegau eraill. Nid yw'r targed o ran bod 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi cael ei daro yng Nghymru. Nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion yn aros llai na 26 wythnos wedi cael ei daro ers dros 10 mlynedd yng Nghymru. Nid yw'r targed o 75 y cant o gleifion canser yn dechrau ar driniaeth o fewn 62 diwrnod o amheuaeth o ganser erioed wedi cael ei daro yng Nghymru. Fe geir llawer mwy o'r ystadegau trist hyn o ran sefyllfaoedd pobl yng Nghymru bob dydd.

Rwy'n sicr yn croesawu'r canolbwyntio heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, ynghyd â rhywfaint o arian i gefnogi rhai newidiadau yma, ond mae hi'n amlwg mai methiant systemig yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, nid rhywbeth y bydd ychydig o filiynau o bunnau yma ac acw yn ei adfer. Mae hi'n ymddangos nad oes cynllun fyth ar gyfer newid systemig. Am y rheswm hwnnw, rwy'n amau na fyddwn ni'n gweld y newid cadarnhaol parhaus y byddech chi a minnau'n dymuno ei weld.

Rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, mai mesurau byrdymor yw'r rhain ac na fyddan nhw'n ddigon ar eu pennau eu hunain, ac felly rwy'n derbyn eich bod chi'n cydnabod hynny. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r her 50 diwrnod yn ddiweddar i geisio gwella'r ffordd o ryddhau cleifion o'r ysbyty a rhoi gofal cymunedol. Mesur byrdymor arall yw hwnnw, fel y gwn y byddech chi'n ei gydnabod, ond mae angen ystyriaeth hirdymor ddifrifol o ran y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn y dyfodol, oherwydd fel arall fe ddaw'r cyhoeddiadau hyn yn bethau llawer mwy rheolaidd.

Yn eich datganiad chi, rwy'n croesawu'r canolbwyntio ar drawsnewid digidol. Mae hwnnw'n fesur hirdymor a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Rwy'n croesawu'r canolbwyntio ar yr asesiadau niwroddatblygiad hefyd. Yn anffodus, mae llawer gormod o bobl yn aros am y rhain ar hyn o bryd. Felly, fe fydd arian ychwanegol yn mynd rhan o'r ffordd ar gyfer gwella'r rhain. Roedd hi'n braf clywed eich bod chi'n annog y byrddau iechyd i gomisiynu gweithgarwch o bob sector, gan gynnwys y sector preifat. Nid wyf i'n siŵr a fyddai rhai o'ch cyd-Aelodau yn cymeradwyo hynny, ond mae'n hwnnw'n rhywbeth y gwnaethom ni alw amdano ers amser, sef cydweithio traws-sector fel hyn i fynd i'r afael â rhestrau aros yma yng Nghymru.

Fodd bynnag, nid oedd unrhyw sôn heddiw am yr hyn y byddem ni'n ei alw yn gydweithio trawsffiniol. Mae'n siŵr eich bod chi'n cofio, Ysgrifennydd Cabinet, bod Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi'r cynnig ymffrostgar hwn y byddai Llywodraeth y DU yn helpu Llywodraeth Cymru i fyrhau rhestrau aros. Rwy'n dychmygu nad eich syniad chi oedd hwnnw o reidrwydd, ond fyddai hi o gymorth pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â hyn a sut y byddwn ni'n gweld cleifion o Gymru yn cael eu cynorthwyo trwy eu hanfon nhw i ysbytai yn Lloegr neu i ba le bynnag sydd ar gael i dderbyn y triniaethau hynny, y llawdriniaethau hynny, y triniaethau hynny yn cael eu rhoi yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach i gleifion ledled Cymru.

Mae'n synnwyr cyffredin yn amlwg iawn i ddefnyddio'r capasiti sydd yn ein GIG ledled y DU pan fydd hwnnw ar gael er mwyn i bobl gael eu tynnu oddi ar y rhestrau aros hynny yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Fe fyddwn i'n eich annog chi a'ch cyd-Aelodau i beidio â chaniatáu i resymau ideolegol fod yn rhwystr i hyn, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael eu gweld mor gyflym a hawdd ag sy'n bosibl. Diolch yn fawr iawn.

15:05

Rwy'n diolch i Sam Rowlands am y cwestiynau yna. Er ein bod ni'n anghytuno yn gyfan gwbl ynghylch rhywfaint o'r dadansoddiad, rwy'n ddiolchgar iddo ef am yr ymagwedd adeiladol sydd ganddo wrth iddo gyflwyno'r her fel mae'n ei wneud.

Rwy'n credu ei fod yn gywir i ddweud, pan fydd rhai trigolion yn cysylltu â ni yn ein hetholaethau neu fel arall, y bydd unrhyw un sy'n aros yn rhy hir am driniaeth yn un unigolyn yn ormod yn aros yn rhy hir, yn amlwg. Nid ydym ni'n dymuno bod yn y sefyllfa honno. Fel dywed ef, ymwneud â phobl y mae hyn; ar gyfer pob pwynt o ddata yn yr ystadegau yr ydyn ni'n eu rhannu nhw'n aml, mae stori am unigolyn, onid oes? I mi, honno yw'r agwedd bwysicaf. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o drigolion yn gofidio mwy am yr amser y mae'n rhaid iddyn nhw ac eraill y maen nhw'n eu hadnabod aros nac am niferoedd y bobl sy'n aros ar unrhyw adeg benodol mewn amser. Dyna pam rydym ni'n canolbwyntio fel gwnawn ni ar ba mor hir yw'r amseroedd aros a sicrhau y gallwn ni fyrhau'r rhain, oherwydd dyna sy'n cefnogi'r rhan fwyaf o bobl i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd amserol fel hyn, mewn gwirionedd.

Dim ond gair byr ar goedd ei fod ef yn tynnu nifer o gymariaethau, yn ei gwestiwn ef, â Lloegr. Fe ŵyr ef cystal â minnau fod y mesurau ar gyfer amseroedd aros yn Lloegr yn fwy cyfyng o lawer o ran yr hyn y maen nhw'n ei gofnodi na'r rhai sydd yng Nghymru. Fe wnaethom ni ddewis gryn amser yn ôl yng Nghymru i gynnwys llawer mwy o lwybrau yn yr adroddiadau a luniwn ni, oherwydd ein bod yn credu bod tryloywder yn werthfawr yn ogystal â'i fod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ein herio ni. Felly, nid wyf i'n ffoi oddi wrth y gymhariaeth, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio nad cymharu'r un pethau yn union yr ydym ni.

Ond nid wyf i'n hunanfodlon o gwbl; nid oedd ef yn clywed unrhyw hunanfodlonrwydd yn fy natganiad i heddiw. Roedd ef yn cydnabod—ac rwy'n ddiolchgar am hynny—i mi ddweud bod cyllid yn y system yn hollbwysig, ond ar ei ben ei hun, ni fydd hynny'n ddigonol. Roeddwn ni'n sôn hefyd am y newidiadau yr ydym ni'n eu cyflwyno i'r system ar gyfer gwelliant cyffredinol yn narpariaeth y gwasanaethau. Mae'r adolygiad o berfformiad gennym ni, sydd ar y gweill eisoes, ond mae'r rhaglen i drawsnewid gofal a gynlluniwyd gennym ni, ac nid yw honno wedi gallu cyflawni ar y cyflymder y byddem ni wedi dymuno, er gwaethaf y cyllid sydd yn y system, dim ond oherwydd maint y galw sydd. Dyna pam mae'r cyllid yr wyf i'n ei roi i mewn nawr—yn sicr, rwy'n derbyn nad yw hwnnw'n datrys popeth—yn hollbwysig, ochr yn ochr â lleihau'r niferoedd, a bod rhagor o bobl yn cael eu gweld yn gynt, a bod y ffordd y gwneir hynny'n fwy fyth yn ffordd hirdymor sy'n fwy cynaliadwy ac y gwyddom ni sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran y ddarpariaeth o wasanaethau.

Mae hyn yn ymwneud â gwneud y gorau a allwn ni gydag amser theatr, y gwyddom y gallwn ni wneud yn well yn hynny o beth, ac fe geir arfer da eisoes y mae angen i ni adeiladu arno yng Nghymru. Mae'n ymwneud â sicrhau bod clinigau o faint mawr gennym ni ar gyfer rhoi llawdriniaethau heb lawer o gymhlethdodau. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gwneud y broses o gael gafael ar ddiagnosteg yn fwy hyblyg, gan gynnig apwyntiadau gyda'r nos—pethau a wyddom ni sy'n caniatáu’r newid mwyaf. Mae hynny'n rhan a ddisgwylir oddi wrth y system, hefyd, gan sicrhau, fel roeddwn i'n sôn yn fy natganiad, bod diwylliant o welliant ac arloesedd gennym ni, sy'n edrych ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru am yr arfer gorau a mabwysiadu hynny'n gyflym, ac yn edrych y tu hwnt i'r GIG yng Nghymru hefyd. Rwy'n credu bod honno'n rhan hanfodol o sut y byddwn ni'n gosod sylfaen sy'n fwy cynaliadwy i ddarpariaeth y gwasanaethau yn y dyfodol.

Dim ond gair i orffen am ei bwynt arferol ynglŷn â gwaith trawsffiniol, sef bod byrddau iechyd yng Nghymru wedi comisiynu triniaethau gan ymddiriedolaethau yn Lloegr ac i'r gwrthwyneb hefyd ers amser maith, ac fe fydd hynny'n parhau. Mae hynny'n cynyddu ac yn prinhau, yn dibynnu ar argaeledd capasiti. Ond rwy'n credu y byddem ni'n gochel rhag peintio darlun sy'n awgrymu nad oes gan y GIG yng Nghymru gapasiti a'i fod yn dibynnu ar y GIG yn Lloegr sydd â llawer o gapasiti. Nid wyf i o'r farn mai dyna'r darlun ar lawr gwlad o gwbl. Mae'n ddarlun llawer mwy cytbwys na hynny.

15:10

Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu unrhyw gamau sydd yn cael eu cymryd, unrhyw arian ychwanegol sydd yn cael ei roi er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros. Mae'n dda clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet yma'n dweud bod torri'r rhestrau aros yn flaenoriaeth, fel, yn wir, yr oedd o i'w ragflaenydd a'i rhagflaenydd hithau ac i bob Ysgrifennydd Cabinet neu Weinidog iechyd. Mae yna gyd-destun, wrth gwrs, i hyn. Mae hyn yn cael ei gyhoeddi yn erbyn cefnlen o dargedau cael gwared â rhestrau aros dwy flynedd wedi cael eu methu'n llwyr—y rhestrau aros hiraf erioed, efo un o bob pump o bobl Cymru bellach ar restr aros. Ac mae hefyd yn ddifyr nodi, nôl ym mis Medi, mai'r datrysiad bryd hynny oedd cynnig triniaethau yn Lloegr. Erbyn mis Hydref, y datrysiad oedd talu £28 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros. Rŵan, a ninnau ym mis Tachwedd, y datrysiad ydy cynyddu'r £28 miliwn yna i £50 miliwn. Tybed beth fydd y datganiad yn y mis nesaf.

Nid yw'r arian hwn yn mynd tuag at fynd i'r afael â'r argyfwng o ran cadw staff sy'n effeithio ar sawl maes yn y GIG, ac nid yw'n cael ei ddefnyddio i hybu lleoli myfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant meddygol chwaith, sydd wedi prinhau yn frawychus iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n cael ei ddefnyddio i wyrdroi'r dirywiad yn nifer cyfartalog y gwelyau dyddiol mewn ysbytai, nac ychwaith yn cael ei ddefnyddio i atal yr ôl-groniad peryglus o ran gwaith cynnal a chadw ar ystad y GIG, sydd â goblygiadau niweidiol i staff a diogelwch cleifion fel ei gilydd. Ac rwy'n nodi nad oedd cyfeiriad yn y datganiad at yr oedi sydd gennym ni wrth drosglwyddo gofal, nac am ofal cymdeithasol. Trwy roi rhwydd hynt i fyrddau iechyd gomisiynu gwasanaethau o'r sector preifat, fe welwn ni enghraifft arall eto o'r Llywodraeth yn gorfod amsugno costau ychwanegol oherwydd eu camreolaeth o gapasiti cyfredol y GIG—sy'n rhywbeth a welsom ni o'r blaen o ran y biliau cynyddol sy'n gysylltiedig â staff o asiantaethau. O safbwynt ehangach, mae hyn yn ymwneud â'r economi ffug y seiliwyd cyllid y Llywodraeth i'r gwasanaeth iechyd arni ers peth amser, sef taflu arian at y rheng flaen ond heb ymdrin â'r materion i fyny'r afon.

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrthym ni heddiw fod llawer o bobl—. Mae ef wedi rhestru niferoedd y bobl y mae ef yn disgwyl a fydd yn cael eu trin, ond heb ddweud sut. Felly, fe hoffwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymhelaethu ar sut y mae ef yn gobeithio y gellir cyflawni hyn. A allwn ni ddisgwyl mwy o feddygon? Os felly, o ble y byddan nhw'n dod? Ym mha le y bydd y cleifion yn cael eu triniaethau? A fyddwn ni'n gweld mwy o theatrau? Pwy fydd yn rheoli'r broses gymhleth o drefnu'r apwyntiadau hyn? A fyddwn ni'n gweld mwy o reolwyr iechyd? Hynny yw, mae gennym ni dargedau newydd unwaith eto, ond sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cynnig y bydd y targedau hyn yn cael eu cyrraedd, y tu hwnt i ddatganiadau o uchelgais? Fe welsom ni gyhoeddi nifer o strategaethau a thargedau. Mae angen i ni weld canlyniadau a chyflawni nawr. Dros y penwythnos, roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at fwy o ddefnydd o'r sector preifat. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet nodi pa gyfran o'r £50 miliwn a fydd yn mynd i ddarparwyr preifat? Diolch yn fawr iawn.

15:15

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau yna. Mae'r Aelod yn fy meirniadu i am wneud mwy nag un peth i gefnogi'r GIG. Gadewch i mi roi tawelwch meddwl iddo: fe fyddaf i'n gwneud beth bynnag sydd ei angen i gefnogi'r GIG. Mae hi'n bwysig gallu ymyrryd i gefnogi'r system mewn ystod o wahanol ffyrdd.

Mae ef yn fy annog i, rwy'n credu, i fod â llai o dargedau. Yr hyn rwyf i'n ei gyhoeddi heddiw—nid oes unrhyw dargedau newydd. Nid ydym ni'n newid y mesurau atebolrwydd yr ydym ni'n gwahodd pobl i graffu arnom ni drwyddyn nhw. Rydym ni'n nodi llwybr tuag at wella ein perfformiad yn unol â'n targedau cyfredol dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Fe wnes i ateb, rwy'n credu, wrth ymateb i Sam Rowlands rai o'r cwestiynau o ran 'sut'. Felly, mae hyn yn ymwneud —. Wel, mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben. Fe wnes i hynny, mewn gwirionedd. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag optimeiddio theatrau, a gwella'r dull o ddefnyddio amser theatr i'w wneud yn fwy effeithiol. Rydym ni'n gweld hynny ar waith eisoes. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chynnwys mwy o apwyntiadau diagnostig ar wahanol adegau yn y dydd. Fe gefais i alwad gan ffrind yn y gogledd y diwrnod o'r blaen, ac roedd yn dweud ei fod newydd fod am sgan fin nos. Felly, mae'r gwasanaeth hwnnw'n digwydd ledled Cymru. Mae hyn yn ymwneud â mathau penodol o glinigau o faint mawr hefyd, ar gyfer llawdriniaethau—felly, llawdriniaethau heb lawer o gymhlethdod, fel roeddwn i'n nodi—ond clinigau o faint mawr a chleifion allanol hefyd. Felly, fe geir ystod o wahanol ffyrdd y mae'r system yn ymateb fel hyn, ac mae gennym ni gynigion oddi wrth bob bwrdd iechyd ar draws pob un o'r meysydd lle mae'r rhestrau aros hwyaf ganddyn nhw, gyda chynlluniau penodol ynghylch y modd y byddwn ni'n rhoi'r ffyrdd newydd hynny o weithio ar waith—ffyrdd y gwyddom ni a fydd ag effaith. Mae rhywfaint o hyn yn golygu amserlennu amser staff yn wahanol, i sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaethau gwell ar y penwythnos. Felly, mae yna amrywiaeth o ddewisiadau yn y storfa, os mynnwch chi, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hwyaf.

Fe wnaeth ef y pwynt mai arian i'r rheng flaen fydd yr arian hwn yn y byrdymor. Ar un ystyr, nid wyf i'n anghytuno â hynny. Rwyf i wedi nodi yn glir eisoes, rwy'n credu, fy mod i o'r farn fod hynny'n rhan o'r datrysiad. Ond yn amlwg, nid dyma'r ateb hirdymor ar gyfer gwasanaeth cynaliadwy. Mae'n ymwneud â rhoi gwasanaethau ar sylfaen well—rwy'n credu iddo ef ddefnyddio'r term 'i fyny'r afon'.

Rwy'n sylwi ei fod wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sydd, rwy'n siŵr, yn nodi ei farn ef yn eglur ynglŷn â sut y gellid mynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny. Mae hyn yn adleisio'r araith a roddais i'r conffederasiwn ychydig wythnosau yn ôl i raddau helaeth, a'r datganiadau a wnes i yn y Siambr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei gefnogaeth frwdfrydig ef i'r ffordd y byddaf i'n bwrw ymlaen â'r weledigaeth honno yn ystod y misoedd nesaf.  

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet.

Mae'r GIG yn golygu llawer i bob un ohonom ni, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth i lawer ohonom ni, ond fe wyddom ni hefyd ei fod yn wynebu llawer o heriau, yn enwedig yn y rhan o'r wlad yr wyf i'n ei gwasanaethu. Yn ddiweddar, fe gynhaliais i'r arolwg Ein Cartref, Ein Hiechyd, ac mae amseroedd aros yn cael eu cynnwys yn rhan o hwnnw. Felly, rwy'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol o £15 miliwn a gyhoeddwyd gennych chi heddiw.

A gaf i ofyn a fyddwn ni'n gallu gweld ym mha ffyrdd ac ar beth y bydd y bwrdd iechyd yn canolbwyntio? Hefyd, rwy'n cytuno â'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—eich bod chi'n eglur ynglŷn â'r angen i'r GIG drawsnewid y ffordd y mae ei wasanaethau yn cael eu darparu. Yn fy arolwg i ac mewn sgyrsiau a gohebiaeth gydag etholwyr, mae pobl yn sôn yn aml nad yw'r system yn cysylltu nac yn gydgysylltiedig; mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu pasio o un i'r llall, ac yn treulio llawer o amser yn aros am bethau wedyn. Rwy'n awyddus i bwysleisio gwerth a phwysigrwydd cynnwys y gweithlu ar gyfer trawsnewid y gwasanaethau, oherwydd y rhain yw'r bobl a fydd yn darparu'r gwasanaethau hynny a nhw sydd yn y sefyllfa orau i gynghori ar sut i'w gwella nhw.

Ydych chi'n cytuno?

15:20

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod yn ei chwestiwn. Pan oeddwn i'n sôn am arloesi yn gynharach, nid yw pobl yn gwybod weithiau beth mae hynny'n ei olygu o ran y manylion. Ac rwy'n credu bod llawer o hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffyrdd y byddwn ni'n gwella systemau a gweithrediadau ar lefel ward, neu ar lefel ysbyty efallai, ac mae hynny'n aml iawn yn seiliedig ar y mewnwelediadau y bydd staff yn gallu eu rhannu nhw gyda ni ynglŷn â sut i wella pethau, ond ar gyfer sicrhau hefyd ein bod yn darparu'r hyfforddiant, o safbwynt rheoli ac ymhlith y gweithlu yn fwy eang, ar y strategaethau a nodwyd gennym ni eisoes, lle cafwyd llwyddiant mewn mannau eraill yng Nghymru, neu'r tu hwnt, a'r rhain yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o addasu gwasanaethau, a bod yn fwy parod, yn fwy agored ac yn gynt o ran nodi'r arferion hynny a'u rhannu nhw drwy'r system yn gynt.

Fe welsom ni'r adroddiad gan Gomisiwn Bevan yn gwerthuso rhai prosiectau enghreifftiol yn y rhaglen ar gyfer gwella gofal a gynlluniwyd, a'r neges gyson yno oedd, yn aml iawn, bod cyllid yn rhwystro rhannu'r datblygiadau cadarnhaol hynny weithiau, ond yn aml iawn nid cyllid yw'r rhwystr. Fe allai cwestiynau mwy cymhleth fodoli ynghylch gallu, arweinyddiaeth, y ffordd y mae rhannau o'r system yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn cysylltu â'i gilydd. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni, ac yn sicr mae hi'n ddyletswydd ar bob rhan o'r GIG, i gymhwyso'r egwyddor honno o addasu, mabwysiadu neu gyfiawnhau pan fyddwn ni'n gwybod am arfer da sy'n gallu gwneud gwahaniaeth er lles y canlyniadau i gleifion.

Diolch i chi am y datganiad heddiw ar y mater pwysig iawn hwn, ac fe wyddom ni ei fod yn peri cymaint o bryder i bobl ac Aelodau yma ar draws y Siambr. Yn eich datganiad chi, rydych chi'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar restrau aros y GIG, ond ychydig iawn sydd ynddo ar ofal cymdeithasol, ac fe wyddom ni eu bod nhw'n gysylltiedig â'i gilydd i raddau helaeth iawn, oherwydd mae'r system ofal yn cefnogi pobl sy'n symud i mewn ac allan o'r ysbyty yn gyflym iawn. Felly, mae hi'n anodd iawn gweld sut y gallwn ni reoli amseroedd aros y GIG heb adnoddau digonol yn y system gofal cymdeithasol. Fe wyddom ni eich bod chi wedi cynyddu'r ddarpariaeth a'r cymorth trwy'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, ond rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod gofal cymdeithasol yn darparu'r cymorth, mewn gwirionedd, i helpu i leihau nifer y bobl sy'n mynd drwy'r drws ffrynt, a chefnogi pobl sy'n gadael drwy'r drws cefn cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n gobeithio y byddech yn ystyried sut y gallwch gynyddu'r cyllidebau i'r awdurdodau lleol i sicrhau bod cyllid sylweddol a sefydlog ganddyn nhw i gefnogi a chynyddu cyfradd brosesu gofal cymdeithasol ar gyfer yr ysbytai hynny lle gwyddom ni eu bod ag effaith uniongyrchol ar y rhestrau aros. Diolch yn fawr iawn.

Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod bod y datganiad hwn wedi canolbwyntio ar sut y byddwn ni'n dyrannu'r cyllid hwnnw o £50 miliwn ar gyfer trawsnewid, ac rwy'n cytuno â'r Aelod, o ran rhai agweddau ar y rhestrau aros, fod perthynas glòs iawn rhwng perfformiad y gwasanaeth iechyd ac argaeledd gofal cymdeithasol a chymorth gartref mewn modd amserol fel hynny. Rwy'n credu bod llawer o feysydd eraill, mae'n debyg, lle ceir heriau o ran y rhestrau aros nad ydyn nhw'n dibynnu ar y sector gofal, mewn diagnosteg yn benodol felly, ond fe fydd yna lawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Fe hoffwn i roi ychydig o sicrwydd i'r Aelod—am fod Aelod arall wedi holi am rywbeth tebyg ynglŷn â swyddogaeth y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol, a pha gefnogaeth y gallwn ei rhoi—fy mod i'n bwriadu gwneud datganiad pellach ar yr her 50 diwrnod, a fydd yn nodi ychydig mwy ynglŷn â hynny. Ond rwy'n llwyr dderbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod, ac yn ei sicrhau hi ein bod ni mewn trafodaethau â'r awdurdodau lleol ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud fel arall i'w cefnogi nhw yn rhan o'r her 50 diwrnod honno, yn enwedig wrth iddyn nhw wynebu'r pwysau gaeaf sydd ar ddod.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n edrych ar wefan Fy Ngofal Cynlluniedig GIG 111 y bore yma o ran ffigurau amseroedd aros ym Mhowys, ac fe geir problem arbennig gyda thrawma ac orthopedeg—fe gafodd 37 wythnos ei restru yn y tabl yma o driniaeth i arbenigedd, ac mae hynny'n cymharu â 31 wythnos, er enghraifft, yng Nghaerdydd. Rwy'n arbennig o bryderus hefyd ynglŷn â phlant ym Mhowys sy'n aros am hyd at bedair blynedd i gael diagnosis o gyflyrau fel awtistiaeth, ac roedd bwrdd iechyd Powys yn cadarnhau fod rhai plant wedi aros mwy na 200 wythnos yn wir am ddiagnosis ar gyfer cyflyrau sy'n arwain at anghenion dysgu ychwanegol. Ac roeddwn i'n falch iawn fod eich datganiad chi'n cyfeirio at £50 miliwn. Mae'r datganiad yn mynegi y bydd £50 miliwn ar gael ar unwaith i fyrddau iechyd ar gyfer cynyddu capasiti, ac felly rwy'n tybio bod hwnnw wedi cael ei roi iddyn nhw eisoes neu ei fod ar fin cael ei roi yn ystod y dyddiau nesaf. Felly, a gaf i ofyn, gan fod hynny'n arbennig o bwysig ym Mhowys, oherwydd eu bod nhw'n talu darparwyr mewn rhannau eraill o Gymru a thros y ffin yn Lloegr, faint o'r £50 miliwn hwnnw a gafodd ei ddyrannu i fwrdd iechyd addysgu Powys, ac efallai y gallech amlinellu hefyd y symiau a ddyrannwyd i'r byrddau iechyd eraill ledled Cymru, yn ogystal â hynny?

15:25

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Bydd y trigolion ym mhob bwrdd iechyd yn elwa ar y cyllid a gaiff ei ddarparu, fel dywed ef yn neilltuol, o ystyried strwythur y ddarpariaeth iechyd ym Mhowys, lle mae hwnnw'n dibynnu llawer iawn ar ysbytai mewn mannau eraill. Ond o ran y targedau ynghylch asesu niwroddatblygiadol, fe gaiff pob bwrdd iechyd ei gefnogi i fyrhau ei amseroedd aros hwyaf yn y maes hwnnw, ac mae hynny'n cynnwys Powys hefyd, yn amlwg.

Yr hyn sy'n allweddol i'w gofio yn fy marn i, serch hynny, mewn ffordd, yw'r pwynt a wnaeth Sam Rowlands yn gynharach yn ei gwestiwn i mi, rwy'n credu. Fe fydd hyn yn cyfrannu yn sylweddol iawn at fyrhau'r arosiadau hwyaf ar gyfer asesiadau. Mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu llawer iawn, mae'r gyfradd o ran galw wedi bod yn cynyddu yn sylweddol iawn, ond, mewn gwirionedd, mae mater cynaliadwyedd yn fater wahân ac mae hynny'n gofyn bod y gwasanaethau, wyddoch chi, yn cael eu had-drefnu a'u darparu mewn ffordd amgen ar gyfer gallu gwireddu'r newid cynaliadwy hwnnw yn yr hirdymor. Ond rwy'n credu bod y cyllid yr ydym ni'n ei gyhoeddi, a fydd yn sicr er lles trigolion Powys, yn cyfrannu yn sylweddol tuag at hynny.

Ddoe, fe es i seminar hanner diwrnod a gynhaliwyd gan Deep End, a chlod mawr i Dr Jonny Currie o bractis Ringland yng Nghasnewydd. Roeddwn i'n moeli fy nghlustiau wrth glywed Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru, yn dweud ei bod hi'n llawer rhatach gwneud fasdoriadau mewn gofal sylfaenol, ac yn amlwg mae hi'n llawer haws i bobl gyrraedd yno, yn sicr lle cafodd fy mab-yng-nghyfraith un. Felly, fe hoffwn i wybod faint o fasdoriadau a gafodd eu gwneud mewn gofal sylfaenol yng Nghaerdydd a'r Fro. Nid wyf i'n disgwyl i chi fod â'r ateb y foment hon, ond mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn oherwydd ei bod hi'n rhatach ac yn gynt.

Yn ail, mae etholwr gennyf i sy'n glaf arbenigol o ran cerrig arennau, oherwydd fe ddioddefodd o'u herwydd nhw am bron i 60 mlynedd, ac mae ef wedi dadansoddi'r rhestrau aros ac mae'n gofyn, o gofio ein bod ni wedi gweld gwelliannau enfawr o ran diagnosis cerrig arennau, trwy sganio'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'ch corff chi yn ogystal â defnyddio lithotripsi fel hyn, sef siocdonau o egni uchel, y gellir eu rhoi i gleifion allanol—. Mae ef yn gofyn, os yw'n hi bosibl i'r meddyg teulu drefnu pelydr-x, pam mae'n rhaid iddo ef weld niwrolegydd cyn y gellir rhoi sgan iddo, a mynd yn ôl i weld yr wrolegydd yr eilwaith? Oherwydd mae'n debyg nad oes angen i chi fod yn wrolegydd ymgynghorol i gynnal y lithotripsi hwn mewn gwirionedd.

Felly, a wnewch chi ofyn i'ch grŵp cynghori newydd, dan gadeiryddiaeth Syr David Sloman, edrych ar y llwybrau ar gyfer trin cerrig arennau i ystyried a yw Caerdydd a'r Fro yn gwneud hyn mewn ffordd hynafol iawn, ac a oes yna ffyrdd gwell o wneud hyn?

Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna. Fe fyddaf i'n dilyn oddi ar y pwynt ynglŷn â fasdoriadau ar wahân am nad yw'r wybodaeth gennyf i, fel roedd hi'n rhagdybio. Ond rwy'n credu na fyddwn i'n anghytuno â'r pwynt ehangach y mae hi'n ei wneud, yn yr ystyr fy mod i'n credu bod angen i ni ystyried yn drylwyr iawn yr hyn y gallwn ni sicrhau ei fod yn digwydd fel arall ym maes gofal sylfaenol, ac fe fyddai hynny'n gwneud dau beth: fe fydd yn cefnogi cydnerthedd gofal sylfaenol yn yr hirdymor fel—fel profiad y rhan fwyaf o bobl o'r GIG, mewn gwirionedd. Ond fe fydd yn ei gwneud hi'n haws hefyd i bobl dderbyn y lefel o driniaeth sy'n angenrheidiol iddyn nhw, ac mae hynny'n cadw at yr egwyddor eich bod yn cael y lefel o ymyrraeth glinigol y mae'r sefyllfa ei hangen. Felly, nid oes angen i chi weithiau, rwy'n credu, fynd i weld ymgynghorwyr er mwyn gallu cael rhai o'r triniaethau eraill. Felly, rwy'n credu bod angen defnyddio ymagwedd newydd o ran rhai o'r cwestiynau hynny, yn y ffordd y mae ef yn ei hawgrymu, ac yna fel rhan o hynny i edrych ar y llwybrau mwyaf syml posibl. Rwy'n credu bod achos i weithrediaeth y GIG fod yn eglur iawn ynghylch ei ddisgwyliadau o'r gwasanaeth iechyd ynglŷn â llwybrau gofal yn y maes hwn, ac mewn rhai eraill lle gwyddom ni fod llwybr sy'n effeithiol ac a gafodd ei symleiddio, i sicrhau bod hwnnw, mewn ffordd, yn brofiad cyffredinol i gleifion ym mhob cwr o Gymru. 

Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—roeddwn i am ddweud 'Gweinidog'. Pan geir datganiad o'r math hwn, fe ddaw ychydig bach o anesmwythder gydag ef, ac ymdeimlad o eironi i ryw raddau, pryd mae Gweinidog iechyd Llafur, 25 mlynedd i mewn i'r Llywodraeth, yn sydyn yn honni bod ffon hud ganddo a fydd yn datrys amseroedd aros cronig yng Nghymru, ac yn wir ymhlith fy etholwyr i yn Nyffryn Clwyd, sy'n gweld amseroedd aros cronig, maith yn Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig yr adran damweiniau ac achosion brys. Ac fe fyddwn i'n awyddus i gael gwybod ym mha le y bydd y £50 miliwn hwnnw'n cael ei wario yn lleol yn fy etholaeth i, a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i bobl yn yr ardal leol.

Fe gafodd hyn ei grybwyll, rwy'n credu mai yn ymateb Sam Rowlands i'r datganiad yr oedd hynny, o ran y strwythurau ac os na fyddai'r strwythur yn newid. Fe wyddom ni i gyd pa beth fyddai'n ddatrysiad i'r amseroedd aros cronig lleol—sef adeiladu ysbyty cymunedol ar gyfer gogledd sir Ddinbych. Felly, tybed pa gyfarfodydd a thrafodaethau a gawsoch chi gyda Betsi Cadwaladr er mwyn cyflawni hyn, ac os na chawsoch chi ddim, a fyddech chi'n ymweld â f'etholaeth i, a threulio rhywfaint o amser yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer dadansoddi'r problemau, ac ymweld â safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl, i weld yr achos dros ysbyty cymunedol ar lawr gwlad i ganfod atebion i'r broblem hon o'r diwedd, sydd wedi parhau am 11 o flynyddoedd erbyn hyn, yn anffodus?

15:30

Wel, rwyf i o'r farn fod yr Aelod yn naïf iawn os yw ef yn credu bod ffon hud i'w chael ar gyfer unrhyw agwedd ar y mater hwn. Mae hi'n sefyllfa gymhleth iawn, ac fe wnes i gydnabod yn ddiffuant yn fy natganiad mai cyllid yw un rhan o'r cwestiwn, ac rwy'n credu y bydd angen newidiadau eraill i ddarpariaeth y gwasanaethau i wneud y gwasanaethau yn fwy cynaliadwy. Felly, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cydnabod hynny.

O ran y pwynt a wnaethoch chi am strwythurau, nid wyf i'n siŵr mai'r datrysiad yw canolbwyntio ar strwythurau. Rwy'n credu y gall hynny olygu bod egni aruthrol yn cael ei dynnu oddi wrth y flaenoriaeth allweddol sef cynyddu perfformiad, ac rwy'n credu mai yn y fan honno y mae angen canolbwyntio pob rhan o'r system.

Fe fyddwn i'n falch iawn o ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd unwaith eto; roeddwn i yno tua mis yn ôl, ac fe gefais i ymweliad addysgiadol iawn, yn ogystal â chael cyfle i weld yr adran frys sydd ganddyn nhw yno ar waith. Ac rwy'n gobeithio y bydd hi o ryw gysur iddo ef wybod mai'r tro diwethaf i mi drafod Ysbyty Brenhinol Alexandra gyda'r bwrdd iechyd oedd ddoe, ac maen nhw'n ystyried yr hyn sydd yn rhaid iddyn nhw ei wneud ar gyfer llunio'r dadansoddiad diweddaraf er mwyn i ninnau ystyried hwnnw, ar y cyd â nhw, fel Llywodraeth.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, ac, yn sicr, am yr arian a fydd yn sicrhau y bydd yr amseroedd aros mwyaf maith yn cael eu byrhau. Ac mae hi'n dda clywed nad llawdriniaethau yw holl ystyr hyn; mae hyn yn ymwneud â chleifion allanol hefyd, yn ogystal â gweithdrefnau eraill. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cyllid hwn yn cael ei fonitro yn ofalus i sicrhau y bydd yn cael ei ddefnyddio at y diben cywir. Rwy'n credu hefyd y dylid monitro perfformiad yn ofalus, ac, os oes angen, y dylid dyrannu cyllid o'r newydd pe na fyddai'r targedau yn cael eu cyrraedd yn y ffordd a amlinellodd y byrddau iechyd wrth wneud cais am y cyllid hwn.

Rwy'n croesawu'r canolbwyntio hefyd ar drawsnewid ac arloesi—mae hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau i gynnwys hynny yn ein gwasanaeth iechyd, er mwyn i ni sicrhau, wrth symud ymlaen, bod y GIG yn barod ar gyfer pa beth bynnag sy'n dod i gyfarfod â ni—a phwysigrwydd magu capasiti hefyd, ac roeddech chi'n sôn bod gweithdrefnau yn digwydd gyda'r nos erbyn hyn. Nid yw'n ymwneud ag ariannu bob amser; mae hyn ymwneud â datblygu'r capasiti hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae'r cyfleusterau ar gael yno; y staff sydd eu hangen arnom ni. Mae'n rhaid canolbwyntio ar hynny.

Felly, a wnewch chi egluro sut y bydd perfformiad yn cael ei fonitro, a sut y bydd hynny'n cael ei gyhoeddi wedyn i bobl Cymru, sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar ein GIG ni, wrth gwrs?

Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir; mae hyn yn ymwneud ag ariannu, ond nid dim ond ariannu—mae hyn yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio. Ac fe wyddom ni, pe byddech chi'n edrych ar estyniadau cymharol gymedrol i'r diwrnod gwaith yn y theatr, y gallwch wella cynhyrchiant y system, os hoffech chi, ar gyfer y diwrnod hwnnw hyd at gymaint â 25 y cant mewn rhai arbenigeddau. Felly, rwyf i o'r farn ei fod yn ymwneud ag edrych ar bethau yn y ffordd hon. Mae hynny'n gofyn am gyllid ychwanegol i ryw raddau, a dyna pam y gwnaethom ni gynyddu'r cyllid hyd at £50 miliwn. Ac mae hynny'n seiliedig ar drafodaethau parhaus gyda byrddau iechyd ynglŷn â'r hyn y gallan nhw ei wneud i gyflawni'r amcanion sydd gennym ni i gyd o ran byrhau'r amseroedd aros.

Mae'r Aelod yn gwbl gywir ei bod hi'n hanfodol i ni fonitro'r perfformiad hwn yn fanwl. Nid yw'r cyllid ychwanegol hwn yn gweithredu yn unig drwy gyfrwng cynnydd cyffredinol i ddyraniad byrddau iechyd; mae hwn yn seiliedig ar gynlluniau penodol i leihau amseroedd aros penodol mewn meysydd penodol, yn ddaearyddol ac o ran arbenigeddau. Felly, fe fydd gennym ffigurau yn wythnosol i edrych ar yr hyn a gafodd ei wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac fe fydd y darlun hwnnw'n cronni dros y misoedd nesaf, yn amlwg, er mwyn i ni gadw llygad barcud ar berfformiad ar gyfer sicrhau y bydd pawb yn mynd ar y trywydd y gwnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n mynd arno gyda'r cyllid hwnnw. Ac rwyf i wedi dweud wrth y byrddau iechyd, pe byddem ni'n gweld sefyllfa yn dod i'r amlwg o lecynnau heriol sy'n ein taflu ni oddi ar y trywydd ac nad oes unrhyw gynllun credadwy yn ein barn ni i ddod â hynny'n ei ôl—yn amlwg rwy'n gobeithio yn fawr na fyddwn ni'n gweld hynny'n digwydd, ac nid wyf i'n disgwyl y bydd hynny'n digwydd, ond pe byddai hynny'n digwydd—fe fyddwn ni'n ceisio rhoi'r cyllid hwnnw mewn lle arall i sicrhau ein bod ni'n defnyddio pob un £1 o'r £50 miliwn hynny i leihau rhestrau aros.

15:35
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Gweinyddu etholiadol a diwygio etholiadol

Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: gweinyddu etholiadol a diwygio etholiadol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i nodi gwaith sydd ar y gweill i wella democratiaeth Cymru. Mae hyn yn cwmpasu gwaith Llywodraeth Cymru ar weinyddu a diwygio etholiadol, a hefyd gwaith sefydliadau eraill yr ydym yn eu cefnogi. I ganolbwyntio'n gyntaf ar waith lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflawni yn erbyn ein rhaglen lywodraethu, mae hon wedi bod yn flwyddyn bwysig o ddiwygio deddfwriaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ein hymrwymiadau rhaglen lywodraethu drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a basiwyd gan y Senedd yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd y Deddfau hyn yn helpu i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i ddileu'r rhwystrau i bobl sy'n cymryd rhan mewn etholiadau. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod, sydd mewn sefyllfa well i graffu ar bolisïau, cyfreithiau, cynlluniau gwariant ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Fy mhwyslais nawr yw sicrhau bod y Deddfau hyn yn cael eu gweithredu, drwy gefnogi deddfwriaeth eilaidd, i baratoi ar gyfer cyflawni etholiadau 2026 a 2027 yn ddiogel, gydag etholwyr gwybodus ac ymgysylltiol. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn cyflwyno darpariaeth i bleidleiswyr gael eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol heb orfod gwneud cais i wneud hynny—cyfeirir ato'n aml fel cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Cymru yw'r rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gymryd y cam hwn o gael gwared ar y rhwystr y gall cofrestru ei greu i rai pleidleiswyr posibl. Dim ond ar ôl treialu a gwerthuso'r Comisiwn Etholiadol y gellir dod â'r darpariaethau cofrestru awtomatig hyn i rym. Mae'r cynlluniau treialu yn cael eu cynllunio, eu datblygu a'u cyflawni drwy weithgor craidd, gan gynnwys sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys, y comisiwn a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid am helpu i sicrhau bod y cynlluniau treialu mor effeithiol a chraff â phosibl, yn cael eu deall yn dda gan yr etholwyr, ac yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda gweinyddiaethau eraill ar draws y DU wrth i ddyluniad a gweithrediad y cynlluniau treialu fynd rhagddynt.

Mae'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i gyflwyno cynlluniau i gefnogi pobl ag ystod o nodweddion gwarchodedig ac o amrywiaeth o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol i sefyll etholiad. Mae hwn yn waith pwysig y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd amdano, yn ogystal â chyflwyno cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl yn dilyn mynediad llwyddiannus at gynllun treialu swyddi etholedig. Mae hyn yn ategu'r canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant drafft ar gyfer partïon a gyhoeddwyd gan y Trefnydd yr wythnos diwethaf. Yn ogystal ag annog ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll, mae ein grant ymgysylltu democrataidd yn ariannu prosiectau ledled Cymru i adeiladu cyfranogiad. Mae hyn yn cynnwys cymorthfeydd digidol a drefnir gan y Prosiect Gwleidyddiaeth, a gweithdai i rymuso pobl fyddar a sicrhau eu bod yn gallu lleisio eu barn. Yn dilyn gwerthusiad cadarn o'r grant, byddaf yn ystyried dyfodol ei waith pwysig a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn fuan.

Yn olaf, yn ogystal â gwneud diweddariadau angenrheidiol i'r rheolau ar gyfer etholiadau i'r Senedd ddiwygiedig, rydym wedi eu moderneiddio, eu cydgrynhoi a'u cyfieithu'n llawn. Byddaf yn cyhoeddi Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) drafft ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach y mis hwn—y rheolau a'r gweithdrefnau ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd. Mae'r Gorchymyn drafft yn diweddaru ac yn cydgrynhoi'r rheolau a'r gweithdrefnau fel rhan o fframwaith hygyrch, dwyieithog am y tro cyntaf, gan ddefnyddio iaith fodern a chlir. Mae'r rheolau ar gyfer ein hetholiadau mor sylfaenol i'n democratiaeth, ac edrychaf ymlaen at dderbyn adborth ar y ddeddfwriaeth hon.

Ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol, mae fy swyddogion hefyd yn rhoi cymorth i waith eraill sy'n rhannu ein diddordeb yn nemocratiaeth Cymru. Gan ddechrau ar ein lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth, mae iechyd democrataidd yn bwysig iawn mewn perthynas â chynghorau tref a chymuned. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd yn nodi sawl her ac argymhellion. Cyn bo hir, byddaf yn mynychu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i roi tystiolaeth fel rhan o'u hymchwiliad i gynghorau tref a chymuned. Edrychaf ymlaen at hynny ac at ganlyniad gwaith y pwyllgor, ac yn dilyn hynny byddaf yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol yn y maes hwn.

Gan droi at brif gynghorau, rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yr opsiwn iddynt ddewis rhwng systemau pleidleisio cyntaf i'r felin a phleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau. Cytunodd tri awdurdod lleol, Ceredigion, Gwynedd a Phowys i ymgynghori ynghylch a ddylid newid i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn dilyn eu hymgynghoriadau, dewisodd pob cyngor yn ddiweddar i beidio â gweithredu'r system bleidleisio sengl drosglwyddadwy.

Yn ogystal â diolch i'r awdurdodau lleol am ymgysylltu â'u cymunedau ar y system etholiadol, hoffwn ddiolch i Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru am eu gwaith yn adeiladu dealltwriaeth am y gwahanol systemau etholiadol. Credwn ei bod yn iawn i gynghorau benderfynu ar eu system etholiadol eu hunain ac nid oes gennyf unrhyw farn, fel Gweinidog, ar y penderfyniadau a wnaed. Ond rwyf eisiau sicrhau bod y dewis o flaen cynghorau yn hyfyw, ac felly ysgrifennais at y tri awdurdod i ofyn am eu myfyrdodau ar y newid posibl, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddynt.

Gan symud at hygyrchedd etholiadau, mae'r Comisiwn Etholiadol a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall wedi cyhoeddi adroddiadau ar yr etholiadau diweddar a oedd yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Amlygodd hyn fod llawer o bobl ddall a rhannol ddall yn dal i deimlo nad ydynt yn gallu bwrw eu pleidleisiau yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae fy swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol a'r RNIB i dreialu gwahanol atebion, i adeiladu sylfaen wybodaeth i gefnogi etholiadau mwy hygyrch yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu swyddogion canlyniadau i ddeall beth sy'n gweithio orau a bydd pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gwybod beth i'w ddisgwyl, a beth i'w hawlio yn yr orsaf bleidleisio.

Gan droi at gyflawni etholiadau, mae'r ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd yn disodli Bwrdd Cydlynu Etholiadol gwirfoddol Cymru gyda bwrdd rheoli etholiadol cryfach, ond yr un mor gynhwysol ac annibynnol. A hoffwn ddiolch i Colin Everett, cyn-brif weithredwr sir y Fflint, Karen Jones, cyn-brif weithredwr Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau, am eu harweinyddiaeth wrth gryfhau gweinyddiaeth etholiadol. Er enghraifft, mae'r trefniant gwirfoddol wedi helpu i wella cyflawniad etholiadol drwy'r Gymraeg. Mae gan y bwrdd newydd y potensial i ysgogi hyn ymhellach, ar y cyd â rheolau cliriach yn y Gorchymyn cynnal etholiadau a'r safonau a osodir gan y Comisiwn Etholiadol.

Yn olaf, tynnodd adroddiad y Comisiwn Etholiadol yr wythnos diwethaf ar yr etholiadau diweddar sylw at faterion aflonyddu a cham-drin ymgeiswyr. Mae gormod o ymgeiswyr yn profi ymddygiad annerbyniol wrth sefyll etholiad. Rydym yn gweithio ar ddiweddaru deddfwriaeth eilaidd, fel y bydd costau sy'n gysylltiedig â diogelwch yn cael eu heithrio rhag terfynau gwariant ar gyfer etholiadau Cymru. Mae hyn yn bodloni argymhelliad gan adroddiad Jo Cox ac mae'n cyd-fynd â'r dull gweithredu yn y DU. Dylai pawb deimlo'n ddiogel i sefyll etholiad, i ymgyrchu, i bleidleisio ac i weithio i gyflawni etholiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda chydweithwyr yn yr etholiad a'r heddlu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gopi ymlaen llaw o'i datganiad y prynhawn yma? Mae llawer yr ydym yn cytuno arno. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn y Siambr hon, eisiau sicrhau bod gennym ddemocratiaeth gref a bywiog, a bod pob lefel o gymdeithas yn cael ei chynrychioli mewn neuaddau tref, neuaddau sir ac, yn wir, yma yn y Senedd hon hefyd.

Mae'n amlwg fy mod ychydig yn ddryslyd ynghylch rôl y grŵp gorchwyl a gorffen democrataidd, nawr bod gennym gadeirydd, o leiaf wedi'i benodi, ar gyfer y grŵp cynghori democrataidd, a gyhoeddwyd heddiw. Tybed, Gweinidog, a fyddwch chi'n gallu dweud wrthym ni, efallai, sut y bydd y ddau grŵp hynny nawr yn rhyngweithio â'i gilydd ac yn gweithio gyda'i gilydd, neu a yw'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi gorffen ei waith i bob pwrpas. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod beth yw statws y grŵp hwnnw, nawr ei fod wedi cwblhau darn o waith ac wedi adrodd arno mewn perthynas â'n cynghorau tref a chymuned.

Rwy'n rhannu rhywfaint o'r pryder gyda chi am gyflwr ein cynghorau tref a chymuned. Rwy'n credu ei fod, a dweud y gwir, yn eithaf syfrdanol nad yw tri chwarter y bobl yn wynebu etholiadau ac mae hyd yn oed 16 y cant o'r seddi ar ein cynghorau tref a chymuned heb neb yn ymladd amdanyn nhw. Maent yn bethau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, y mae angen i ni ymdrin â nhw, fel arall, a dweud y gwir, mae angen i ni ofyn y cwestiwn i ni'n hunain a yw'r haen honno o lywodraeth leol yn rhywbeth a ddylai barhau, a dweud y gwir. A dechreuais fy mywyd fel cynrychiolydd etholedig mewn cyngor tref a chymuned, sydd â dimensiwn gwleidyddol lleol bywiog iawn o hyd, yn fy nghymuned fy hun sef Towyn a Bae Cinmel, lle mae ymladd am seddi bob amser, ac nid yw'n ymddangos bod gennym brinder ymgeiswyr. Ond mae'r ffaith bod gennym y broblem hon mewn mannau eraill, rwy'n credu, yn eithaf brawychus. Mae'n awgrymu nad yw pawb yn sylweddoli pwysigrwydd eu cynghorau tref a chymuned lleol, fel man lle gallant wneud busnes er budd cymunedau lleol a sicrhau bod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed. Ac mae'n siomedig braidd, rwy'n credu, nad ydych wedi nodi rhai o'r camau gweithredu yr ydych yn bwriadu eu cymryd nawr mewn perthynas â'r adroddiad sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.

O ran cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y gorffennol, nid wyf yn erbyn hyn yn arbennig, ond nid wyf yn credu ei fod yn mynd i gyflawni'r math o gynnydd sylweddol mewn ymgysylltiad gwleidyddol y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallai gyflawni. Mewn gwirionedd, rwy'n amau beth fydd yn digwydd yw y bydd y ffigurau a bleidleisiodd yn gostwng mewn gwirionedd, oherwydd mae llawer o'r bobl nad ydynt yn trafferthu cofrestru eu hunain i bleidleisio mewn etholiadau yn gwneud hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn pleidleisio neu, weithiau, oherwydd bod ganddyn nhw wrthwynebiad, weithiau am resymau crefyddol, i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Felly, byddwn yn gweld sut mae hynny'n mynd o ran y cynlluniau treialu rydych chi'n mynd i ddechrau eu rhoi ar waith nawr, ond nid wyf yn credu mewn gwirionedd y bydd yn sicrhau newid sylweddol yn y ffigurau sy'n pleidleisio. A'r ffigurau pleidleisio hynny yw'r rhai y mae angen i ni dalu mwy o sylw iddynt.

Mae angen i ni gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r nifer sy'n pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd yn arbennig wedi bod yn wael iawn ers sefydlu'r Senedd yn ôl ym 1999, ac mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd yn y Siambr hon i annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd honno. Ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn gweithio'n galed ar hyn, bob tro y daw etholiad, i gael pobl i gofrestru, i gael pobl i'r gorsafoedd pleidleisio, i'w hannog i gymryd rhan. Ond, am ryw reswm, yr hyn y mae'n ymddangos sy'n digwydd yw nad yw pobl yn rhoi'r math o bwysigrwydd i'n hetholiadau ac etholiadau'r cynghorau sir ac etholiadau'r cynghorau tref fel y maen nhw yn ei wneud i etholiadau seneddol y DU, a dyna pam ein bod yn dioddef o lefelau llawer is o bleidleisiau. Gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag ef yn y dyfodol.

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i gyhoeddi'r Gorchymyn drafft mewn perthynas â Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) ymhen ychydig wythnosau. Mae hynny i'w groesawu fawr, iawn. Mae angen i ni sicrhau bod hwnnw ar waith ymhell cyn etholiadau'r Senedd, wrth gwrs. Ac mae angen i ni hefyd sicrhau bod unrhyw un o'r cynlluniau treialu yr ydych chi'n eu cynnal yn gynlluniau treialu sydd mewn ardaloedd priodol. Sylwais eich bod yn amlwg wedi dewis sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys ar gyfer eich cynlluniau treialu ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gyda llaw. Dwi ddim yn siŵr beth oedd y rhesymeg dros hynny; efallai y gallech chi ddweud wrthym ni, mewn ymateb, pam mai'r rheini oedd yr ardaloedd awdurdod lleol penodol. Rwy'n ei gweld hi'n ddiddorol iawn nad yw Plaid Cymru yng Ngheredigion ac yng Ngwynedd yn hoffi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, pan fydd eu haelodau eu hunain yn y Siambr hon, wrth gwrs, yn dal ati i rygnu ymlaen am bwysigrwydd y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel—ac rwy'n dod i'r diwedd—felly byddwn yn gwerthfawrogi pe bai gennych yr un farn â mi o ran eu rhagrith ynghylch hynny.

Yn olaf, mae dau beth yr wyf wir yn eu croesawu: rwy'n croesawu'r camau rydych chi'n eu cymryd i weithio gyda'r RNIB er mwyn goresgyn rhai o'r heriau hynny i bobl ddall sy'n pleidleisio mewn etholiadau. Pe gallech nodi amserlen ar gyfer hynny, byddwn yn gwerthfawrogi hynny. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r newyddion eich bod yn mynd i eithrio unrhyw beth sy'n ymwneud â diogelwch o gostau etholiad. Mae'n warth, a dweud y gwir, bod pobl sy'n cyflwyno eu hunain ar gyfer etholiad yn cael eu herlid a'u haflonyddu, yn bennaf ar gyfryngau cymdeithasol, ond yn anfynych iawn, ond yn anffodus yn dal yn rhy aml, wyneb yn wyneb hefyd, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel ac nad ydyn nhw'n ofnus wrth gyflwyno eu hunain adeg etholiad.

15:50

Diolch. Diolch am y cwestiynau yna, Darren, a dim ond i ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi ddod i ben ar neges gref iawn y byddem ni i gyd yn y Siambr hon yn cytuno arni, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod hynny'n digwydd, oherwydd mae'n rhaid i ni gael gwared ar unrhyw bryder sydd gan bobl, ac mae sicrhau bod pobl sy'n sefyll mewn etholiadau yn teimlo'n ddiogel, sy'n gweithio ym maes etholiadau, yn ymgyrchu mewn etholiadau, yn gwbl hanfodol.

Rwy'n sylwi eich bod wedi ceisio fy nhynnu ar bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau eraill efallai yn cael eu tynnu neu heb eu tynnu yn ddiweddarach yn eu cyfraniadau ar hynny. Ond fel y dywedoch chi, mae llawer yr ydym yn cytuno arno yma, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Ac mae'n hanfodol bod pob lefel o'n democratiaeth yn cael ei chynrychioli.

O ran y gwaith a grybwyllwyd gennych ynghylch y grŵp gorchwyl a gorffen, efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n ysgrifennu atoch chi ar hynny, dim ond nodi'r gwaith sydd wedi mynd ymlaen yno. Mae gennym hefyd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel y soniais i, y byddaf yn mynd o'i flaen ymhen ychydig wythnosau, sy'n gwneud rhywfaint o waith yn y maes hwn. Ac am y rheswm hwnnw, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â cheisio clymu pethau at ei gilydd, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n synhwyrol i'r sector hwn, a sicrhau eu bod yn cael cyfle i gael eu clywed yn ystod y sesiynau pwyllgor hynny, a hefyd ein bod yn cydnabod ac yn myfyrio ar yr hyn y bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ei ddweud yn eu hadroddiad.

Hefyd, dim ond i ddweud o ran gwaith cynghorau tref a chymuned, roeddech chi'n myfyrio ar eich cyfnod eich hun, a gwn fod llawer iawn o waith yn mynd i mewn i hynny, ac roeddwn i'n gallu gweld drosof fy hun drwy siarad â phobl mewn cynhadledd a gawsant yn ddiweddar. Mae'n anhygoel iawn gweld rhywfaint o'r gwaith sy'n mynd i mewn ar lefel cynghorau tref a chymuned. Cafwyd rhai enghreifftiau da iawn, ond rwy'n credu nawr ei bod yn bryd ystyried yr adroddiad yr ydym newydd ei gael, a hefyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

O ran y cynlluniau treialu ynghylch cofrestru awtomatig a sut y byddant yn gweithio, mae gennym yr ardaloedd hynny—sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys—ac mae'r awdurdodau hynny'n mynd i fod yn defnyddio data lleol i nodi a gwirio etholwyr posibl cyn eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol ar ôl cyfnod o aros. Bydd y cynlluniau treialu yn cael eu cynnal rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Medi 2025, gyda chyfnod gwerthuso dynodedig gan y Comisiwn Etholiadol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2025. A, wyddoch chi, mae'n her wirioneddol i bob un ohonom yma, onid ydyw, o ran cofrestru awtomatig, mae llawer o waith i'w wneud o ran hynny o ran pleidiau gwleidyddol i geisio sicrhau bod pobl yn teimlo cymhelliant i bleidleisio, ac mae'n ymwneud â gwaith partneriaid eraill, fel y Comisiwn Etholiadol, sicrhau bod pobl yn cael yr wybodaeth. Felly, mae tipyn o waith i'w wneud yn y maes hwn, felly mae hyn wir yn teimlo fel dim ond y dechrau. Ond rwy'n obeithiol y cawn lawer o wybodaeth gan y cynlluniau treialu hyn, a gwn fod rhannau eraill o'r DU yn edrych ar hynny hefyd.

Diolch yn fawr am y datganiad y prynhawn yma.

Mae'n dda cael diweddariad o ran ble rydych chi o ran diwygio etholiadol, ac rwyf eisiau diolch i chi, yn gyntaf, a siarad am gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yr ydych chi wedi'i grybwyll. Bydd y mesur syml hwn yn gwneud cymryd rhan mewn etholiadau yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb. Bydd yn sicrhau bod pobl yng Nghymru, yn enwedig pleidleiswyr ifanc a dinasyddion tramor cymwys, yn aros ar y gofrestr etholiadol heb y risg o ddod oddi arni yn ddiarwybod. Bydd hefyd yn helpu i etholfreinio grwpiau sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli ac nad ydynt yn aml yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth.

Nid mor bell â hynny'n ôl, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol y DU ofynion adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau San Steffan. Roedd y gofynion hyn, yn hytrach na diogelu democratiaeth, mewn perygl o'i thanseilio trwy greu rhwystrau diangen rhag i ddinasyddion gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gwelsom yr arfer hwn yn yr etholiadau lleol yn Lloegr ac, yn fwy diweddar, yn yr etholiad cyffredinol. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd eich aelodau cyfatebol yn San Steffan yn gwyrdroi'r penderfyniad hwnnw yn nes ymlaen. Canfu'r Comisiwn Etholiadol mai dim ond 89 y cant o bobl Cymru oedd yn ymwybodol bod angen iddynt ddangos cerdyn adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholiad cyffredinol, ac roedd yr ymwybyddiaeth hon yn sylweddol is ymhlith pobl iau a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Byddai cofrestru pleidleiswyr awtomatig hefyd yn rhoi rhywfaint o ryddhad i'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn lleisio pryderon difrifol am y straen o weithredu'r gwiriadau adnabod hyn. Fodd bynnag, daeth i'm sylw fod maint y newidiadau etholiadol wedi achosi pwysau ar adrannau'r gwasanaeth etholiadol mewn awdurdodau lleol. Mae hyn yn cael ei waethygu gan broblemau yn y farchnad gyflenwi ar gyfer etholiadau, ar gyfer adnoddau, ar gyfer papur a'r diffyg cyllid ar gyfer adrannau gwasanaethau etholiadol. Rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd Cabinet, y gallwch ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion cyflawni hyn cyn etholiad nesaf y Senedd, pryd y bydd mwy o newid etholiadol yn cael ei gyflwyno. Os cawn hyn yn iawn, gallwn ganolbwyntio ar feithrin amgylchedd pleidleisio mwy cynhwysol a hygyrch i bawb.

Ac, gan droi at y bleidlais sengl drosglwyddadwy, fel y soniodd Darren yn gynharach, ac i roi ar gofnod, pleidleisiodd y mwyafrif 'o blaid' yng Ngwynedd, ond mae angen uwchfwyafrif arnoch i ennill, felly roedd yn golygu bod grŵp y Blaid o blaid, ond wedi methu â chyrraedd o drwch blewyn. Efallai ei fod yn rhywbeth y gall yr Ysgrifennydd Cabinet edrych arno a hefyd efallai roi barn ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno system gyfrannol, Cymru gyfan, erbyn 2032, fel y byddai hynny'n cyd-fynd â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Diolch.

15:55

Diolch, Peredur, am y cwestiynau yna ac am y croeso i'r datganiad heddiw, sy'n cael ei werthfawrogi. Yn bendant, byddwn yn gwylio'r cynllun treialu yn agos iawn, fel y gallwch chi ddychmygu, yn y pedair ardal yr ydym wedi'u crybwyll. Y pwynt a godoch chi ynghylch Saesneg fel ail iaith a chymunedau gwahanol, rwy'n credu mai dyna pam mae'n bwysig o ran hynny ein bod â Chasnewydd fel awdurdod lleol sy'n cymryd rhan. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gwylio'n agos iawn, iawn yr agwedd honno hefyd.

Rydym wedi ymrwymo i beidio â chyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig, byddwch yn falch o nodi, ac nid yw hynny wedi newid. Rwy'n credu ein bod wedi gweld rhai o'r myfyrdodau gan y Comisiwn Etholiadol ac eraill ynghylch yr effaith ar bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.

O ran ceisio annog mwy o bobl i bleidleisio, a sonioch chi am bobl ifanc, mae nifer o gynlluniau sydd gennym yng Nghymru yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â phrosiectau i gymryd rhan, yn y grantiau ymgysylltu democrataidd hyn. Felly, mae cyllid wedi'i gyflwyno i nifer o brosiectau gwahanol. Mae gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddol Llywodraeth Cymru yn gwerthuso'r rhain dros y misoedd nesaf. Soniais i am un yn fy natganiad, ond, er enghraifft, mae gennym Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, a bydd prosiect yn cael ei redeg mewn gweithdai personol a digidol gyda'u rhanddeiliaid ar sut mae democratiaeth yn gweithio, i rymuso pobl fyddar. Felly, mae llawer o'r prosiectau gwahanol hyn yn digwydd yng Nghymru.

Ac, fel y soniais i yn gynharach hefyd, o ran y bleidlais sengl drosglwyddadwy, rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol hynny yn gofyn am eu myfyrdodau, a phan fyddaf yn eu derbyn, bydd yn dda clywed sut roedden nhw'n teimlo, wrth edrych yn ôl, am hynny, am y broses.

Un o'r diwygiadau etholiadol mawr yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru fu gostwng yr oedran pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd ac ar gyfer llywodraeth leol. Yn 2007, cyflwynais Fil Aelod preifat yn San Steffan, pan oeddwn yn AS dros Ogledd Caerdydd, a siaradais â llawer o wahanol grwpiau o bobl ifanc. Ac roedd pobl ifanc a oedd yn ymwneud ag achos neu oedd yn angerddol am fater yn ysu am gael y bleidlais. Ond pan es i o gwmpas yn siarad ag ysgolion a grwpiau gwahanol fel rhan o amserlen, ychydig iawn o ddiddordeb oedd gan y bobl ifanc, ac roeddwn i'n meddwl tybed a gafodd hynny ei adlewyrchu, mewn gwirionedd, yn y bleidlais yn y ddau etholiad diwethaf y mae pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cymryd rhan ynddynt. Oherwydd bod y nifer a gofrestrodd a'r nifer a bleidleisiodd mewn gwirionedd yn amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni wneud rhywbeth amdano. Felly, tybed pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod mwy o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn ymgysylltu â'r system wleidyddol, ac a fydd gan y ddeddfwriaeth rydych chi wedi siarad amdani heddiw rannau penodol a fydd yn helpu i gynnwys pobl ifanc. Oherwydd rwy'n credu ei fod wedi dangos ein cefnogaeth i bobl ifanc, ein hymrwymiad i bobl ifanc wrth newid y gyfraith honno, felly rwy'n credu bod angen i ni nawr wneud yr hyn a allwn i sicrhau eu bod yn defnyddio'r cyfle.

16:00

Diolch, Julie, am y cwestiwn yna. Hoffwn gofnodi fy niolch am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud ar hyn, dros nifer o flynyddoedd. Rwy'n credu ei bod hi'n foment falch iawn ei fod yn dwyn ffrwyth a bod hwn gennym ni. Rwy'n gwybod bod hwnnw'n rhywbeth y mae pobl ifanc yn dal i deimlo'n angerddol iawn amdano. A dweud y gwir, mewn digwyddiad lleol yr es i a Peredur iddo—digwyddiad Siartiaeth—buom yn siarad am ddemocratiaeth, a gwn mai pobl ifanc yw un o agweddau democratiaeth y dyfodol, ac rwy'n credu ei fod yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod. Mae'n gam cadarnhaol iawn. Rwy'n gobeithio y bydd gweddill y DU yn dilyn o ran y pleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, ond rydym yn gwybod bod angen i ni ymgysylltu â nhw. Fel yr oeddem yn siarad amdano yn gynharach, rhan ohono yw cael eich cofrestru, ond hefyd mae angen i ni annog a gwneud i bobl deimlo eu bod yn gallu bwrw eu pleidlais mewn modd gwybodus. Felly, mae llawer i'w wneud o hyd.

Yn 2021-22, cynigiwyd cyllid cynllun treialu i awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar gofrestru ac annog y rhai sydd newydd gael eu hetholfreinio rhwng 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys. Mae'n gadarnhaol iawn bod rhai awdurdodau, fel Caerdydd, wedi gweld budd y gwaith hwnnw ac yn cynnal swyddog ymgysylltu. Rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol iawn. Ac fel y soniais i'n gynharach hefyd, dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi ariannu'r grantiau ymgysylltu democrataidd, gan gefnogi prosiectau arloesol ledled Cymru, ac mae nifer o'r rheini. Mae'r Prosiect Gwleidyddiaeth, a fydd yn parhau i gynnal eu sesiynau deialog digidol mewn ysgolion yng Nghymru. Mae gennym hefyd, er enghraifft, Shout Out, sy'n cynnal sesiynau deialog mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ar lythrennedd y cyfryngau a sut i ymdrin â chamwybodaeth. Felly, rwy'n credu bod y prosiectau hyn a'r arian hwn ar gael, ac mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn defnyddio hynny ar bob cyfle. Rwy'n gwybod hefyd bod prosiectau eraill, fel y gwaith y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddefnyddio eu pleidlais.

Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu'r cofrestriad awtomatig yn llwyr, ond rwy'n cytuno â Darren Millar na fydd hynny'n golygu bod gennym gyfran uwch o bobl yn pleidleisio. Ond o leiaf byddwn yn gwybod, o leiaf bydd gennym rywfaint o onestrwydd ynghylch pa mor fach yw'r nifer sy'n pleidleisio mewn rhai ardaloedd, oherwydd rwy'n siŵr bod pob un ohonom wedi canfasio mewn rhai ardaloedd ac wedi pasio tŷ ar ôl tŷ ar ôl tŷ nad ydynt ar y gofrestr etholiadol. Felly, o leiaf byddwn yn gwybod, wedyn, gyda chofrestru awtomatig.

Rwy'n falch, hefyd, i ddarllen am yr RNIB a'ch cefnogaeth iddynt. Rwy'n credu bod Darren wedi gofyn am amserlen. Nid wyf yn siŵr a ydych wedi ateb hwnnw. Ond mae'n broblem. Rwy'n cofio yn etholiad diwethaf y Senedd, suddodd fy nghalon pan es i bleidleisio a chlywais ddyn â nam ar ei olwg yn dweud wrth y clerc pleidleisio, 'Helpwch fi os gwelwch yn dda i bleidleisio dros y dyn dymunol hwnnw, Mark Drakeford'—dyn call mae'n debyg. Ond o ddifrif, ni ddylai fod wedi gorfod gwneud hynny, dylai fod wedi gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Ni ddylwn i fod wedi clywed sut y pleidleisiodd.

Darllenais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd. Mae'n amlwg bod angen gwneud llawer o waith gyda chynghorau cymuned, ac nid yw pobl yn ymwybodol o'r gwaith y mae cynghorau cymuned yn ei wneud. Ddoe, dechreuais i a fy swyddfa ddefnyddio Google fel pe bai gennym ychydig iawn o wybodaeth wleidyddol, ac mae ceisio dod o hyd i wybodaeth sylfaenol yn anodd iawn. Er enghraifft, rydych chi'n ceisio canfod pryd mae'r etholiadau lleol nesaf yng Nghymru yn cael eu cynnal. Nid yw'n hawdd dod o hyd iddo drwy chwilotwyr. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cydweithio ag eraill i gael un lle hawdd ei gyrraedd efallai lle gallwn ddod o hyd i wybodaeth am etholiadau yng Nghymru? Diolch yn fawr.

16:05

Diolch, Rhys. Diolch am eich cwestiynau. Yn hollol, fel y dywedais i, mae llawer o waith i'w wneud o hyd yn dilyn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Mae hynny'n gam mawr ymlaen mewn gwirionedd gyda'r cynlluniau treialu hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i feddwl am sut y gallwn sicrhau bod pobl yn teimlo bod ganddyn nhw'r wybodaeth ac yn teimlo eu bod yn gallu pleidleisio. Oherwydd rydyn ni i gyd wedi teimlo'r rhwystredigaeth honno, fel y dywedoch chi, yn cerdded heibio llawer o dai nad ydyn nhw ar y gofrestr etholiadol, ond mae rhwystredigaeth hefyd o ran pan ydych chi'n curo drws ac mae rhywun yn dweud, 'Wel, rydw i wir eisiau pleidleisio, ond doeddwn i ddim yn gwybod bod yn rhaid i mi gofrestru i bleidleisio' ac mae'r amser cofrestru wedi mynd heibio. Felly, mae yna bobl a fydd yn elwa ar hyn, ond nid yw'n lleihau'r gwaith y mae'n rhaid i bob un ohonom ei wneud i sicrhau bod pobl eisiau pleidleisio ac yn dod allan i bleidleisio, oherwydd mae hynny'n bwysig iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gofynnwyd nifer o gwestiynau i mi ac rwy'n ceisio ateb cymaint ag y gallaf. Oherwydd wnes i ddim ateb Darren yn benodol ynghylch yr RNIB chwaith, dim ond i ddweud ein bod ni'n gwneud llawer o waith yn y maes hwn ynghylch yr hyn sy'n gweithio orau. Soniais i yn fy natganiad fod swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol a'r RNIB i dreialu'r gwahanol atebion i adeiladu'r wybodaeth honno, felly rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd. Bydd hyn yn amlwg yn helpu swyddogion canlyniadau i ddeall beth sy'n gweithio orau, a bod pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ac, fel y dywedais i, beth i'w hawlio. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynnydd ar hynny hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Y Diwydiannau Creadigol

Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y diwydiannau creadigol. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym yn haeddiannol falch o'n diwydiannau creadigol, sy'n cael eu cydnabod fel un o lwyddiannau gwirioneddol Cymru yn dilyn dros ddegawd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ers ei sefydlu yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio'n galed i ysgogi twf pellach yn y sectorau creadigol y mae'n eu cefnogi. Mae'r gwaith hwn nid yn unig yn hanfodol i'n heconomi, ond mae hefyd yn hanfodol i'n diwylliant, ein hiaith ac i'n llesiant.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi £26.5 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig, gan gefnogi 47 o brosiectau sydd wedi cyfrannu at £313 miliwn disgwyliedig o wariant amodol i economi Cymru. Ochr yn ochr ag ystod o gronfeydd eraill sydd wedi'u targedu ar gyfer y sectorau sgrin, digidol, chwarae gemau fideo a cherddoriaeth, yn ogystal â chefnogaeth i'r diwydiant cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru, mae Cymru Greadigol yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid i ddarparu buddsoddiad wedi'i dargedu ar gyfer prosiectau busnes yma a phrosiectau rhyngwladol sy'n bwriadu lleoli eu hunain yng Nghymru.

Ac rydym yn gwneud cynnydd: mae'r ystadegau diweddaraf ar y sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod y rhan hon o'r economi wedi cynhyrchu trosiant blynyddol o £1.5 biliwn yn 2023 yn unig. Er bod angen bod yn ofalus wrth gymharu'r ffigurau flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n galonogol iawn gweld y cynnydd hwn o dros 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer y busnesau sy'n rhan o'r sectorau creadigol yng Nghymru hefyd ar gynnydd. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 3,595 o fusnesau yn gweithredu yn y diwydiannau hyn erbyn hyn, cynnydd o 11.8 y cant o'u gymharu â ffigurau 2018, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru yn ystod yr un cyfnod. Mae sectorau blaenoriaeth Cymru Greadigol yn gyflogwyr pwysig yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos eu bod yn darparu swyddi i ryw 35,100 o bobl, gyda gweithlu llawrydd sylweddol ar y brig. Mae ein diwydiant teledu a ffilm yn parhau i berfformio'n dda, gan ddarparu trosiant o £460 miliwn i Gymru yn ystod 2023.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld rhai cynyrchiadau gwych fel Men Up, Lost Boys and Fairies a Pren ar y Bryn, a'r cyfan yn cael eu cyflwyno gan ein sector cynhenid ffyniannus. Rydym hefyd wedi cefnogi llwyddiannau rhyngwladol mawr fel Sex Education a House of the Dragon, sydd wedi darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru gan hefyd arddangos ein lleoliadau anhygoel i gynulleidfa fyd-eang.

Mae'r llwyddiannau hyn yn parhau i gryfhau enw da Cymru yn fyd-eang fel lle o'r radd flaenaf i greu teledu a ffilm ardderchog. Dim ond yr wythnos diwethaf, roeddwn i ym Mhalas Buckingham, yn dathlu llwyddiant sector sgriniau'r DU. Roedd yn wych gweld cymaint o dalent o Gymru yn cael cynrychiolaeth. Siaradais â Janis Pugh, cynhyrchydd y ffilm nodwedd Chuck Chuck Baby o sir y Fflint. Dyma bopeth rydyn ni ei eisiau ar gyfer ein diwydiant—prosiectau sy'n adrodd straeon ein cymunedau dosbarth gweithiol, a wnaed gan bobl sy'n eu caru a'u deall, ac yn eu troi'n llwyddiant masnachol.

Eleni, mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi Canolfan Ddarlledu Cymru newydd, cyfleuster cwbl hygyrch o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd, y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Roedd Prif Weinidog Cymru a minnau yn falch iawn o fod yn bresennol yn lansiad y ganolfan, a fydd yn darparu llu o gynyrchiadau chwaraeon a chynyrchiadau eraill o Gaerdydd dros y tair blynedd nesaf gyda phwyslais gwirioneddol ar ddatblygu sgiliau. Y darllediad cyntaf o'r ganolfan oedd Gemau Paralympaidd gwych 2024 nôl ym mis Awst, gyda llawer mwy i ddod.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod sectorau digidol a cherddoriaeth Cymru hefyd yn perfformio'n dda, gyda digidol yn cynhyrchu trosiant o £303 miliwn yn 2023, a cherddoriaeth yn cynhyrchu £262 miliwn. Mae'r diwydiant gemau fideo yn faes twf â blaenoriaeth i ni. Ym mis Ebrill roeddem yn falch iawn o weld y gêm arswyd Gothig Sker Ritual, a wnaed gan gwmni gemau o Benarth, Wales Interactive, yn dod yn un o'r gemau cyfrifiadur personol a chonsol sy'n gwerthu orau yn y byd. Ac fe wnaethon ni ddathlu blwyddyn ers sefydlu Rocket Science yng Nghaerdydd. Mewn 12 mis, mae tîm Cymru wedi tyfu i bron i 30 o bobl ac mae'n gobeithio cyrraedd y targed o 50 o swyddi yng Nghymru yn gynt o lawer na'r nod pum mlynedd gwreiddiol. Bydd Cymru Greadigol hefyd yn lansio cyllid yn fuan i gefnogi stiwdios lleol gyda thwf a chael ED newydd i'r farchnad.

O ran e-chwaraeon, gwelwn y potensial ar gyfer twf go iawn a byddwn yn parhau i archwilio'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn. Yn ddiweddar rydym wedi cefnogi prosiect sgiliau a fydd yn ymestyn rhaglen academi Esports Wales i gwmpasu Cymru gyfan a chynnig sesiynau blasu, rhwydweithio a digwyddiadau gyrfa. Mewn cerddoriaeth, buddsoddwyd cyfanswm o dros £10 miliwn yn y sector ers i Cymru Greadigol ddod i fodolaeth. Rydym wrthi'n buddsoddi £400,000 mewn 11 prosiect arloesol drwy ein rownd ddiweddaraf o'r gronfa refeniw cerddoriaeth, ac yn gynharach yn y flwyddyn byddwch wedi gweld £700,000 yn cael ei fuddsoddi i gefnogi 17 o leoliadau llawr gwlad ledled Cymru fel rhan o'n cronfa gyfalaf cerddoriaeth. Rydym hefyd yn gefnogwyr balch o'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sy'n dathlu artistiaid ac albymau gwych sy'n dod allan o Gymru.

Un o nodau Cymru Greadigol yw arddangos ein diwydiannau creadigol yn rhyngwladol, mynd â Chymru a'i thalent i'r byd a thynnu sylw at ein cynnig i fusnesau sydd eisiau gweithio gyda ni. Yn gynharach eleni, roedd Cymru Greadigol yn falch o fynd â 10 cwmni gemau o Gymru i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco, gan roi cyfle iddynt gysylltu â 28,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant gemau fideo o bob cwr o'r byd er mwyn rhwydweithio, rhannu syniadau a chreu cysylltiadau busnes newydd. Ym mis Mawrth, fe wnaethom gefnogi arddangosiad o gerddorion o Gymru yn South by Southwest yn Texas, a dim ond y mis diwethaf fe wnaethom ddarparu cyllid ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru i gefnogi presenoldeb Cymreig yn Ffair Lyfrau Frankfurt, y ffair lyfrau fwyaf yn y byd, lle'r oedd 18 o gyhoeddwyr o Gymru yn arddangos eu gwaith i gynulleidfa fyd-eang.

Rydym yn gwybod mai un o'r pethau allweddol sydd ei angen ar ein sector yw buddsoddi mewn sgiliau, ac rydym yn parhau i fuddsoddi drwy'r gronfa sgiliau creadigol. Rydym yn gwybod na allwn fod yn hunanfodlon â'n gwaith. Er bod y data o 2023 a'n cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn creu darlun cyfoethog a chadarnhaol, wrth weithredu yn y diwydiannau creadigol, mae cynnydd mewn costau, cyllidebau heriol ac arferion cynulleidfaoedd yn newid yn cael effaith. Llywydd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein sectorau trwy Cymru Greadigol yn ystod y cyfnod heriol ac ansicr hwn, ac i archwilio ein holl ysgogiadau i helpu i sicrhau dyfodol bywiog, cynaliadwy ac iach i'r rhan hanfodol hon o'n heconomi a'n diwylliant. Ac i bawb sy'n gweithio yn y sector bywiog hwn yng Nghymru ac i fy nhîm yn Cymru Greadigol, diolch o galon.

16:15

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Er ei bod yn galonogol clywed am dwf rhai sectorau o'r sector creadigol yng Nghymru, megis teledu, ffilm, animeiddio digidol a chyhoeddi, mae'n amlwg bod meysydd eraill wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac angen cefnogaeth sylweddol. Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan y Senedd yn gynharach eleni wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n mynychu digwyddiadau celf, theatr, dawns a lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Mae effaith COVID-19, ynghyd â chwyddiant uchel yn sgil y rhyfel yn Wcráin a'r ymchwydd dilynol mewn prisiau ynni wedi taro lleoliadau'n galed; eu hunig opsiwn oedd cynyddu prisiau tocynnau, sydd wedi arwain at lai o werthiant tocynnau. Ar ben hyn, mae lleoliadau a llawer o berfformwyr llai adnabyddus yn y sector creadigol bellach yn wynebu heriau pellach gan Lywodraeth Lafur y DU. Mae pryder gwirioneddol hefyd bod y gwasgu llym ar gontractau dim oriau yn gibddall, gan ei fod yn methu â gweld sut mae'r contractau hyn yn gweithio, yn enwedig ar gyfer lleoliadau bychain a pherfformwyr. Yn y diwydiant theatr, er enghraifft, mae cyfran sylweddol o dalent greadigol, fel perfformwyr, yn cyflawni ail swyddi blaen y tŷ, yn y swyddfa docynnau neu wrth y bar. Mae'r hyblygrwydd hwn yn ategu eu gwaith perfformio. Mae llawer o weithwyr theatr hefyd yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y mae contractau dim oriau yn ei ddarparu, yn enwedig i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Gallai lleihau'r hyblygrwydd hwn effeithio'n negyddol ar berfformwyr, oherwydd efallai na fyddant bellach yn gallu cydbwyso eu gwaith a'u hymrwymiadau personol yn effeithiol.

Er y gall gweithwyr aros ar gontractau dim oriau os yw'n well ganddynt, mae'r cam hwn gan Lywodraeth Lafur y DU yn adlewyrchu diffyg dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol. Mae polisi sydd wedi'i gynllunio i gyfyngu ar gyfleoedd contract dim oriau yn golygu y bydd newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn colli'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt. O ystyried bod mwyafrif y perfformwyr yn y sector creadigol yn weithwyr llawrydd, mae hyn yn peri pryder. Ar ben hynny, mae mwy o faich ariannol ar theatrau a chynhyrchwyr sydd eisoes yn mynd i'r afael â chostau cynyddol a'r heriau o gynnal eu busnesau. Mae'r newid hwn mewn cyfraith cyflogaeth yn debygol o gael canlyniad negyddol i weithwyr a lleoliadau perfformio. Felly, gyda hyn mewn golwg, pa asesiad a wnaed o'r effaith y bydd dileu contractau dim oriau yn ei gael ar leoliadau yng Nghymru?

Mae Cymdeithas Theatr Llundain a Theatr y DU wedi rhybuddio, heb fuddsoddiad cyfalaf sylweddol dros y pum mlynedd nesaf, y bydd bron i 40 y cant o leoliadau ledled y DU mewn perygl o gau, a bydd 40 y cant arall yn rhy anniogel i'w defnyddio. Roedd cyllideb wanwyn flaenorol y Llywodraeth Geidwadol yn darparu cyllid pwrpasol ar gyfer uwchraddio cyfleusterau fel Theatr Clwyd yng Nghymru, ac er gwaethaf nifer o apeliadau unigol am gyllid cyfalaf, nid yw Llywodraeth Lafur y DU wedi dyrannu cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Mewn gwirionedd, ni chrybwyllwyd y diwydiannau creadigol i raddau helaeth, ar wahân i ryddhad treth ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol mewn teledu a ffilm. O fewn y sector creadigol, byddwch yn deall yn iawn, Gweinidog, fod perfformwyr yn dibynnu ar gael amrywiaeth o leoliadau i berfformio ynddynt. Mae'r Music Venue Trust wedi nodi gostyngiad o 35 y cant yn y lleoliadau sydd ar gael dros yr 20 mlynedd diwethaf, a nododd, yn 2023, bod 125 o leoliadau ledled y DU wedi rhoi'r gorau i gynnal cerddoriaeth fyw, a hanner yn cau eu drysau'n barhaol. Arweiniodd hyn at golli 4,000 o swyddi yn y sector. O ystyried bod cymaint o leoliadau yn ei chael hi'n anodd, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyllid cyfalaf iddynt?

Ym mis Mehefin datgelodd ymchwil a gomisiynwyd gan yr undeb celfyddydau perfformio, Equity, fod cyllid celfyddydau cyffredinol yng Nghymru, mewn termau real, wedi gostwng 30 y cant ers 2017, o'i gymharu â gostyngiad o 11 y cant yn Lloegr, 16 y cant yng Ngogledd Iwerddon a chynnydd o 2 y cant yn yr Alban. Mae prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhybuddio na fydd sector proffesiynol mewn 10 mlynedd os na fydd cyllid yn gwella. Byddwch yn ymwybodol iawn, Gweinidog, o'r protestiadau a gynhaliwyd ar risiau'r Senedd yn gynharach eleni. Er ein bod wedi gweld twf rhyfeddol yn y diwydiant creadigol yng Nghymru, mae'n ymddangos bod y twf hwn wedi'i ganoli mewn teledu, ffilm, digidol a chyhoeddi. Pa gyfleoedd ydych chi wedi'u nodi i wella'r cyllid ar gyfer y sector celfyddydau cyfan?

Yn olaf, rwyf eisiau sôn yn fyr am broblem yn y sector teledu a ffilm yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod prinder gweithwyr medrus, fel seiri coed, i adeiladu setiau yn ddigon cyflym, gan arwain at oedi costus mewn prosiectau a ffilmio. Mae'n amlwg nad yw'r diwydiannau ategol wedi tyfu mor gyflym â'r ehangu ym maes ffilmio. Sut allech chi nawr ddefnyddio ehangu'r sector creadigol i gefnogi swyddi eraill yng Nghymru? 

Sonioch chi am brosiect y gronfa sgiliau creadigol, sy'n edrych yn addawol iawn, yn enwedig prosiect Galluogwyr Creadigol Hijinx, sy'n cefnogi'r anabl, y rhai ag anabledd dysgu a'r rhai ag ASD. Fodd bynnag, ni welais unrhyw brosiectau sy'n creu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r diwydiant creadigol, megis rheoli llwyfan, adnoddau dynol, rheoli cyfleusterau, peirianneg drydanol a gwaith coed, fel y crybwyllwyd. Ydych chi'n meddwl bod potensial i ariannu prosiectau sy'n hybu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r diwydiant? Diolch.

16:20

Diolch yn fawr iawn i Joel James am hynna. O'r holl bethau cadarnhaol yn y datganiad, Llywydd, ni chanolbwyntiodd yr Aelod lawer arnyn nhw, sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu'n wael ar y cyfraniad. Ond rwy'n cymryd ei bwyntiau ynghylch y darlun cyffredinol o'r sector celfyddydau a diwylliant. Ac i ddweud, dros yr haf, ym mis Medi, roedd fy rhagflaenydd yn eistedd o fy mlaen, wedi cyhoeddi £5 miliwn arall i'r sector celfyddydau a diwylliant. Derbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru £1.5 miliwn o hynny, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar ble y bydd yr arian hwnnw'n mynd i gefnogi rhai o'r celfyddydau a'n sector diwylliant yn uniongyrchol, y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei gyfraniad.

I sôn am rai o'r materion, ar gyllid cyfalaf ar gyfer Theatr Clwyd, Llywydd, yn ardal sir y Fflint, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dros £23.5 miliwn o gyllid cyfalaf dros nifer o flynyddoedd bellach—llwyddiant arall, stori arall lle mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector hwn. A phan ddaw i fater y lleoliadau cerddoriaeth, unwaith eto, Llywydd, cefais gyfarfod gwych, pan ddechreuais i yn y swydd gyntaf, gyda UK Music am rai o'r problemau y maent yn eu hwynebu. Ond y bore yma, Llywydd, cwrddais â'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth i drafod rhai o'r problemau pwysig sy'n eu hwynebu, fel yr ardoll wirfoddol a fydd yn mynd i gefnogi lleoliadau llai. Rwy'n gwybod bod gan Mike Hedges ddiddordeb yn y mater hwn, ac mae'n ddiddordeb y mae gen i broblem go iawn—. Rwy'n gefnogol iawn i'r cynllun ardoll gwirfoddol hwnnw. Mae'r Aelod yn siarad am yr anawsterau sy'n ymwneud â lleoliadau. Wel, trwy Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth a'r datblygiadau cadarnhaol—. Fe brynon nhw'r Byncws yn Abertawe drwy'r cynllun Own Our venues, ac rwy'n siŵr bod mwy o gyhoeddiadau i ddod ganddyn nhw. Felly, rydym yn mynd ymlaen i gefnogi'r diwydiant.

Ond fel y dywedais i, Llywydd, roedd y datganiad hwn yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol. Ymwelais â Bad Wolf ychydig wythnosau yn ôl gyda chynghorwyr lleol—y Cynghorydd Thomas a'r Cynghorydd Stubbs—ac roedd yn amlwg bod y cyfleoedd a grëwyd yn y sector yn mynd ymhell y tu hwnt i rolau creadigol yn unig, gan dynnu sylw at gwestiynau'r Aelod. Yno, cwrddais â phobl ifanc o gymunedau dosbarth gweithiol, a oedd yn ennill profiad mewn cyfrifon, rheoli prosiectau a hyd yn oed llywodraethiant, gan gynnwys rhai o'r diwydiannau eraill a grybwyllodd yr Aelod. Rwy'n credu bod hynny'n tynnu sylw at lwyddiant gwirioneddol ymrwymiad Llywodraeth Cymru, ac roeddwn yn ddiolchgar o weld gwaith Hijinx adeg ymweliad diweddar hefyd.

Er mwyn tynnu sylw i orffen at gyfraniad yr Aelod ynghylch contractau dim oriau, Llywydd—wel, ni fyddaf byth, byth yn ymddiheuro am ymrwymiad Llywodraeth Lafur y DU i gynllun i wneud i waith dalu a'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Dyma'r uwchraddiad unigol mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, a gwahardd contractau dim oriau yw'r peth iawn i'w wneud, a chredaf y dylai pob Aelod gefnogi hynny.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a diolch iddo fe am amlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae'r sector yn ei wneud? Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf y toriadau dwfn iawn y maen nhw wedi'u profi fel sector, yn y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Cyn credu'r hype, efallai fod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf yr amgylchiadau, nid oherwydd y sefyllfa y maen nhw'n ffeindio eu hunain ynddi.

Yn wir, fel rhywun a oedd yn aelod o'r pwyllgor diwylliant, a dwi'n dal fel aelod nawr yn derbyn gohebiaeth yn wythnosol, bron iawn, gan fusnesau yn y sector, gan gyrff a mudiadau sydd yn esbonio sut maen nhw ar eu gliniau yn trio cyflawni'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni, ond yn ffeindio hynny'n gynyddol anoddach.

Felly, mae eich datganiad yn disgrifio'n dda iawn, rwy'n credu, y cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud, ond, wrth gwrs, nid yw eich datganiad yn dweud dim am yr hyn rydych chi'n mynd i'w wneud yn y dyfodol. Mae gennym 15 paragraff yn egluro ac yn disgrifio'r sector, yna rydych chi'n dweud, yn briodol felly, na fyddwch chi'n hunanfodlon, ond dydych chi ddim yn dweud wrthym yn eich datganiad sut beth yw 'peidio â bod yn hunanfodlon'. Ac yna rydych chi'n dweud eich bod chi wedi ymrwymo i'w gefnogi, fel rydyn ni i gyd, wrth gwrs, ond sut mae hynny'n edrych, Gweinidog? A yw'n golygu diwedd ar y teimlad hwn mai'r celfyddydau a diwylliant yn aml iawn yw'r rhai cyntaf i wynebu toriadau yn y gyllideb pan fo pethau'n dynn? A yw'n golygu y bydd y sector yn gweld cynnydd yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu o leiaf dim toriadau pellach? Oherwydd yr ydych chi'n iawn yn cyfeirio at y trosiant o £1.5 biliwn gan y sector, a sut mae hynny wedi cynyddu yn ddiweddar—wel, sut ydyn ni'n mynd i adeiladu ar hynny, felly? Beth yw'r cynllun i ddyblu a threblu hynny dros y blynyddoedd nesaf?

Rydyn ni wedi gweld yn Iwerddon, wrth gwrs, y cyngor celfyddydau yno yn mynd o gyllideb wyth deg miliwn o bunnau y flwyddyn i £140 miliwn—ewro, sori, dylwn ddweud, nid punnau. Nawr, wrth gwrs, nid yw copïo hynny'n hawdd, mae'n ddigon posibl na fydd modd ei gyflawni i ni yma yng Nghymru, ond mae datganiad clir o fwriad yno gan Lywodraeth Iwerddon, onid oes, yn y ffordd y mae'n gweld y celfyddydau a diwylliant, nid yn unig er ei fwyn ei hun, ond o ran llesiant ehangach ei phoblogaeth, o ran eu pwysigrwydd ar gyfer hunaniaeth genedlaethol—nefoedd fawr, mae hynny yr un mor wir i Gymru ag y mae i Iwerddon—ond hefyd, wrth gwrs, o ran ei effaith economaidd uniongyrchol.

Rydym wedi gweld o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU y cyfraniadau yswiriant gwladol unwaith eto yn dod yn ôl i aflonyddu sector arall yma yng Nghymru. Os ydych chi'n ficrofusnes yn sector y diwydiant creadigol sy'n cyflogi pump o bobl ar yr isafswm cyflog, yna mae'r gyllideb yn golygu £3,850 ychwanegol y flwyddyn mewn gorbenion i chi, sef tua 4 y cant o drosiant blynyddol cyfartalog microfusnesau Cymru. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael i geisio lliniaru hynny? Ydych chi'n ystyried adfer y rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft, i geisio helpu rhai o fusnesau yn y sector creadigol i oroesi'r sefyllfa hon?

Fy nghyd-Aelod Heledd Fychan—mae'n ddigon posib eich bod wedi ei chlywed yn sôn yn gynharach heddiw am yr anawsterau i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, sy'n dweud wrthym eu bod yn wynebu dibyn ariannol ar ôl mwy na degawd o gyllid segur, a chwyddiant a chostau cynyddol wedyn yn ennill y blaen wrth gwrs. A yw hynny'n newid ar 10 Rhagfyr pan welwn ni'r gyllideb ddrafft?

Ac yn olaf, wrth gwrs, mae gan Cymru Greadigol ran fawr, fawr i'w chwarae, ond mae Cymru Greadigol wedi gweld toriad o 11 y cant i'w chyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, a yw hynny'n newid, o'ch ochr chi? Ai dyna'r hyn yr ydych yn ei weld yn cefnogi'r sector ac yn sicrhau ei fod yn addas i gyflawni? Oherwydd yn sicr, fel yr ydych wedi'i restru yn eich datganiad, ni ddylem fod yn fodlon ar yr hyn y mae'r sector yn ei gyflawni yn unig, dylem bob amser fod yn dyheu am fwy.

16:25

Diolch yn fawr, Llyr. Rydych chi'n iawn, onid ydych chi, i dynnu sylw at yr amgylchiadau anodd mae'r diwydiannau creadigol wedi cael eu hunain ynddynt, a'r sector celfyddydau a diwylliant, a'r hyn maen nhw wedi canfod eu hunain—yr heriau. Ond er gwaethaf yr heriau hynny, maen nhw yn dal wedi cyflawni'r holl bethau cadarnhaol rydych chi'n eu cydnabod, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig—pwysigrwydd datganiad heddiw, yn enwedig i'r diwydiannau creadigol. Canolbwynt y datganiad hwn yw Cymru ar lwyfan byd-eang, gan anfon y gorau o Gymru yn rhyngwladol, ac rwy'n credu bod yr holl waith y maen nhw'n ei wneud yn wych.

Mae arnaf ofn, Llywydd, efallai y bydd yr Aelod yn siomedig yn fy ymateb, ond gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn eistedd o fy mlaen, pe bawn i'n barod i wneud cyhoeddiadau cyllideb ar lawr y Siambr cyn i'r trafodaethau hynny ddod i ben, a chyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gael y cyfle i osod y gyllideb ddrafft ger bron y Senedd, rwy'n credu y byddwn i'n cael fy hun mewn pob math o drafferth, heb os. Ond yr hyn a gewch gennyf i, a'r hyn a gewch gan y Prif Weinidog, yw Prif Weinidog sydd wedi ymrwymo i'r diwydiant, sy'n deall y diwydiant, fel yr wyf i, o ran yr effaith economaidd. Felly, pan fyddwch chi'n siarad am sector y celfyddydau, fe welwch Gyngor Celfyddydau Cymru yn adrodd bod £2.51 yn ôl yn yr economi o bob £1 rydyn ni'n ei wario. A phan fyddwn yn siarad am y sector diwydiannau creadigol, fel yr wyf wedi'i ddweud ynghylch y cyllid cynhyrchu yn unig, gwariwyd £26.5 miliwn, a dros £313 miliwn o wariant disgwyliedig yn ôl yn yr economi. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'n ei chael, ond, yn ehangach, ar yr agenda llesiant a'r effaith y mae'n ei chael ar lesiant ein cenedl, wel, rwy'n credu bod y Prif Weinidog a minnau yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y sector a'r hyn y gall ei gynnig i'n llesiant fel cenedl, ond byddaf yn ymatal rhag mynd i drafodaethau cyllidebol a'r Ysgrifennydd Cabinet yn eistedd o fy mlaen.

Sut mae'n edrych? Wel, byddwn yn mynd ymlaen, oni fyddwn, i gefnogi. Mae'r rownd ddiweddaraf o gymorth y gronfa sgiliau creadigol yn cefnogi—17 o brosiectau newydd i helpu gyda sgiliau o fewn y diwydiant creadigol. Byddwn yn parhau i gefnogi'r diwydiant, ac, fel y dywedais, Esports Wales. Rydym yn bwriadu gweithio gydag Esports Cymru yn ehangach i helpu twf yno.

Roeddech chi'n siarad am Gyngor Llyfrau Cymru. Wel, mae'n werth myfyrio eto bod £150,000, Llywydd, wedi cael ei anfon at y cyngor llyfrau fel y gallai cyhoeddwyr Cymru fod yn bresennol yn ffeiriau llyfrau Llundain a Frankfurt, ac mae'r adborth o hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn, iawn gan y 18 cyhoeddwr sy'n arddangos. Felly, rwy'n credu, er fy mod i'n myfyrio, Llywydd, ar yr holl bethau da—ac mae rhai pethau gwych rydw i wedi'u rhestru heddiw—wrth gwrs mae yna heriau. Bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd rownd y gyllideb yn ei gynnig, ond rwyf wedi ymrwymo i'r diwydiant hwn. Rwy'n uchelgeisiol iawn ynglŷn â'r hyn y gall hyn ei gynnig, a thrwy gefnogaeth Cymru Greadigol yn benodol, mae gennym rai llwyddiannau gwirioneddol yma y dylem i gyd fod yn falch ohonynt a gallwn ni i gyd eu cefnogi.

16:30

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Mae gan y diwydiannau creadigol incwm canolrif uchel i'r rhai sy'n gweithio ynddo. Mae hwn yn faes lle mae Cymru wedi tanberfformio o'i gymharu â'r DU, ac yn enwedig Llundain a'r de-ddwyrain, o ran cyflogaeth. Rwy'n croesawu'r ystadegau diweddaraf o 2023 ar sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol, sy'n dangos bod trosiant blynyddol o £1.5 biliwn wedi'i gynhyrchu, cynnydd o dros 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ond rwyf eisiau codi dau is-sector. Mae gemau cyfrifiadurol yn cynhyrchu mwy o gyflogaeth a refeniw nag unrhyw ran arall o'r diwydiannau creadigol. Mae Dundee wedi creu Grand Theft Auto. Beth sy'n cyfateb iddo yng Nghymru? Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ym maes e-chwaraeon? Rwy'n gwybod bod gan y Gweinidog ddiddordeb personol yn hynny.

Yr is-sector arall yw animeiddio. Roedd S4C ar un adeg yn dangos niferoedd mawr o animeiddiadau Cymraeg. Ar ddechrau'r 1990au, profodd Cymru oes aur cynhyrchu animeiddiadau. Roedd S4C yn rhan annatod o'r gefnogaeth i gynhyrchu nifer o sioeau animeiddiedig poblogaidd: SuperTed, The Shoe People, Sam Tân a Gogs. Os ydych chi'n gwylio Cyw heddiw, fe welwch chi raglenni fel Peppa Pig yn cael eu trosleisio i'r Gymraeg.

Mae'r rhain yn ddau is-sector pwysig iawn. A all y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru a'r DU yn cydweithio i ddatblygu'r sector diwydiannau creadigol, yn enwedig gemau ac animeiddio?

Diolch yn fawr, Mike Hedges, am hynna. Rydych chi'n iawn i gyfeirio at y diwydiant gemau, rwy'n credu, Mike, fel maes o dwf go iawn. Roedd y diwydiant gemau yn y DU werth £7.6 biliwn yn 2023 a dyna pam rydym yn ei ystyried yn faes allweddol ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd yr Aelod, rwy'n credu, am yr hyn oedd yn cyfateb i Grand Theft Auto, a wnaed yn Dundee. Wel, rwy'n credu imi gyfeirio yn fy natganiad at Sker Ritual. Byddai hwnnw'n cael ei gydnabod yn llwyr fel ein gêm gyfatebol, un o'r gemau mwyaf blaenllaw, un o'r gemau a werthodd orau, yn y byd, ac rwy'n credu ei bod yn llwyddiant gwych gan y cwmni gemau o Benarth, Wales Interactive. O ran e-chwaraeon, Llywydd, credaf mai'r diddordeb personol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yw fy mod yn chwaraewr FIFA, efallai yn chwaraewr brwd, yn hytrach na diddordeb ariannol yn y mater, ond serch hynny rwy'n bendant yn mwynhau hynny, ac rwy'n gwybod ar un adeg fy mod i a Darren Millar i fod i gael twrnamaint FIFA yma yn y Senedd. Ni ddigwyddodd hynny, felly efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried. Ond roedd yn dda bod gydag Esports Wales ychydig wythnosau yn ôl yma, a gweithio ar sut y gallwn gefnogi ymhellach, ac, fel y dywedais i, byddwn yn eu cefnogi drwy'r gronfa sgiliau creadigol ac ehangu Academi Esports Cymru ledled Cymru.

Diolch i Mike Hedges am grybwyll animeiddio, Sam Tân yn arbennig, oherwydd ein bod yn falch, onid ydym, o'n diwydiant animeiddio, gan gynnwys llwyddiannau byd-eang y gorffennol? Rydym hefyd yn falch, yn yr un modd, o grewyr heddiw, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi datblygiad cyfres newydd, Mini Buds, sy'n cael ei chreu yng Nghaerdydd gan y cwmni lleol Bumpybox, a bydd y gyfres hon ar gael yn Gymraeg ar S4C, ac, yn wir, yn Saesneg ar ITV.

Cyfeiriodd yr Aelod at y ffaith fy mod i'n gweithio gyda Llywodraeth y DU. Wel, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU yn gweld y diwydiannau creadigol fel sector â blaenoriaeth yn y strategaeth ddiwydiannol. Roeddwn wrth fy modd yn cael bod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol o'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Lisa Nandy, ym Mhalas Buckingham yr wythnos diwethaf, a byddwn yn awyddus iawn i drafod hyn ymhellach gyda Lisa Nandy, efallai ar ymweliad i weld y TARDIS. Rwy'n gwybod ei bod yn awyddus iawn i weld TARDIS, Doctor Who. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth y DU hefyd.

16:35

Mae Mike Hedges yn gywir wrth ddweud bod y diwydiannau creadigol wedi chwarae rôl drawsnewidiol yng Nghymru. Rwy'n meddwl am Gaerdydd yn benodol, lle mae 11 y cant o gynnyrch domestig gros Caerdydd yn dod o'r diwydiannau creadigol a drawsnewidiodd Caerdydd, ar ôl y dirywiad mewn diwydiannau trwm yn y dociau, i'r brifddinas brysur yw hi nawr. Ac mae hyn wedi bod yn wir yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Yn yr unfed ganrif ar ddeg, soniodd Gerallt Gymro am ganu harmoni unigryw y Cymry, ac rwy'n siŵr, Gweinidog, y byddwch yn canu yn nes ymlaen, gyda llawer o rai eraill, yn Stadiwm Dinas Caerdydd, 'gwlad beirdd a chantorion', geiriau Evan James.

Ond, er gwaethaf eich datganiad cadarnhaol—ac roedd yn ddatganiad cadarnhaol iawn—, ac mae llawer i'w ddathlu, os siaradwch â phobl yn y diwydiant, maen nhw'n teimlo'n isel eu hysbryd, maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u siomi. Mewn gwirionedd, mae 71 y cant o weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol yn teimlo nad oes ganddynt gefnogaeth i raddau helaeth, yn ôl arolwg y llynedd. Nawr, nid wyf eisiau i chi risgio profi dicter Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond beth ydych chi'n mynd i'w wneud i newid hyn a chefnogi'r 71 y cant sy'n teimlo'n ddigefnogaeth i raddau helaeth ar hyn o bryd? Diolch yn fawr.

Wel, diolch. Diolch i Rhys ab Owen am ei sylwadau a'i gyfraniadau. Bydd yr Aelod yn falch iawn y bydd y Wal Goch, rwy'n siŵr, yn boddi fy nghanu i heno, ond mae'n siŵr y byddaf yn ymuno ag ef. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, onid yw, i'r gweithlu, i sicrhau bod gennych Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i uchelgais ar gyfer y diwydiant. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ymweld â nifer o randdeiliaid ar draws sector y celfyddydau a diwylliant, a'r sector diwydiannau creadigol, gan siarad yn uniongyrchol â'r gweithlu, i sicrhau eu bod yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y diwydiant yn tyfu, ond hefyd yn gadael i'r doniau creadigol hynny gael effaith mewn ffyrdd eraill, megis llesiant ein cenedl. Felly, nid wyf am fynd i mewn i'r trafodaethau hynny gyda'r Ysgrifennydd Cabinet o fy mlaen, ond rwy'n obeithiol am ddyfodol y diwydiant hwn. Mae'n ddiwydiant yr ydw i eisiau gweithio drosto yn y ffordd gydweithredol honno.

Fe wnaethoch chi dynnu sylw at hanes Caerdydd, Rhys, ac rwy'n siŵr y byddwch chi wrth eich bodd yn clywed am Rocket Science yng nghanol Caerdydd, ar Heol y Santes Fair, busnes sy'n gwneud rhai pethau anhygoel—safon aur y diwydiant gemau cyfrifiadurol—wrth galon prifddinas Cymru. Pam na ddylai'r uchelgais fod i gael mwy o hynny? Rydym yn sicr eisiau mwy o hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd, yn etholaeth ein cyd-Aelod Jayne Bryant yng Ngorllewin Casnewydd, mae gennym gartref Ballet Cymru, sydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n cydnabod potensial a thwf y cwmni. Yn ogystal â'r perfformiadau gwych y maen nhw'n eu cynnal mewn cydweithrediad â chwmnïau dawns a chelfyddydau eraill, mae ganddyn nhw raglen ysgolion sydd wedi bod yn llwyddiant mawr wrth dargedu a helpu pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig i ddatblygu, dod o hyd i bwrpas a ffynnu, gyda hyfforddiant a chymorth blynyddol am ddim, gan weithio gyda sefydliadau celfyddydau cymunedol eraill, ysgolion a theatrau. Cefnogir hyn i gyd gan ddwy stiwdio o'r radd flaenaf yn eu cartref yn Nhŷ-du, Gweinidog, a ddefnyddir bob dydd a phob nos gan dros 1,000 o bobl. Mae uchelgais ganddynt i ddatblygu hyn ymhellach a gwneud hon yn gyrchfan go iawn yng Nghasnewydd trwy ddatblygu stiwdio gelfyddydol 50 sedd newydd a throi ardal y cyntedd yn far caffi a datblygu'r ardal awyr agored. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ystyried sut y gellid cefnogi'r cynlluniau hyn, gan weithio gyda chyd-Aelodau efallai, Gweinidog, a tybed a fyddech chi efallai yn cydnabod eu llwyddiant a'u cyfraniad yn Ballet Cymru drwy eu gwneud yn gwmni cenedlaethol.

16:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Hoffwn i ddiolch i John Griffiths am sôn am waith Ballet Cymru, ac rwy'n credu fy mod wedi siarad rhywbryd dros y penwythnos, Llywydd, i ddweud mai uchelgais y sector ar gyfer y diwydiant diwylliant yw bara a rhosod. A beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Wel, rwy'n credu ei fod yn golygu, os yw Jack bach yng Nghei Connah eisiau ymuno â'r bale, yna dylai Jack bach gael y cyfle hwnnw i ymuno â'r bale. Roeddwn i wrth fy modd, John, i ddysgu am waith prosiect ysgol Ballet Cymru, sy'n helpu cannoedd o bobl, pobl ifanc, yn genedlaethol, gyda hyfforddiant blynyddol am ddim ar draws nifer o sefydliadau celfyddydau cymunedol. Rwy'n credu mai bara a rhosod ar waith yw hynny.

O ran pwynt yr Aelod ynghylch statws cenedlaethol, fel cwmni cenedlaethol—wel, rwy'n ymwybodol y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod ac yn ailedrych ar y cysyniad o gwmnïau celfyddydau cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol newydd, felly dydw i ddim yn credu y byddai'n briodol, o ystyried yr egwyddor hyd braich sydd wedi'i gosod ar Gyngor Celfyddydau Cymru, i mi achub y blaen ar y drafodaeth honno, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth yr Aelod yw fy mod yn cydnabod yn fawr y rôl y mae Ballet Cymru yn ei chwarae yn genedlaethol, a gallaf ddeall yn iawn hefyd pam mae John Griffiths mor falch eu bod wedi'u lleoli yn ei etholaeth ef yng Nghasnewydd.

I orffen, Llywydd, rwy'n credu yr hoffwn i unwaith eto fyfyrio a mynd yn ôl i'r man lle y gorffennais i yn fy sylwadau agoriadol: i'r rhai sydd yn y diwydiannau creadigol, ac, i fy nhîm o swyddogion yn Cymru Greadigol, diolch o galon.

6. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024

Eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 yw'r rheoliadau yma. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8727 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Llywydd, diolch yn fawr. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma yn rhan annatod o raglen porthladdoedd rhydd Cymru, gan ddynodi safleoedd treth arbennig ar gyfer rhyddhad. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Maen nhw'n gwneud diwygiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ac mae'r rheoliadau'n cyflwyno rhyddhad o'r dreth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir cymwys o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru am gyfnod penodol. Bydd hyn yn cynnwys trafodiadau cymwys o fewn porthladd rhydd dynodedig ac mewn parthau buddsoddi dynodedig yng Nghymru. Rhaid i bob safle treth arbennig gael ei ddynodi gan Lywodraeth y DU drwy reoliadau cyn y gall rhyddhad safleoedd treth arbennig y Dreth Trafodiadau Tir ddod ar gael ar drafodiadau cymwys.

Safle treth arbennig y porthladd rhydd Celtaidd yw'r cyntaf i gael ei ddynodi yng Nghymru gan Lywodraeth y DU. Mae'r cynnydd yn parhau ar borthladd rhydd Ynys Môn. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, bydd y rhyddhad hwn yn dod i rym ddydd Mawrth 26 Tachwedd. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r dyddiad y bydd rheoliadau dynodi safle treth arbennig Llywodraeth y DU ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd yn dod i rym, sy'n golygu bod yr holl gymhellion treth ar gael ar yr un dyddiad.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau drafft a nododd fod llawer o gefnogaeth i'r cynigion. Rwy'n ddiolchgar, fel erioed, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad. Cododd y pwyllgor bwynt craffu teilyngdod ynghylch cynllun rheoli cymhorthdal porthladdoedd rhydd Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn dilyn hynny ac wedi cadarnhau bod uned cyngor cymhorthdal yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi adrodd ar gynllun rheoli cymhorthdal porthladdoedd rhydd Cymru. Mae'r llythyr hwnnw'n cadarnhau na wnaeth yr Awdurdod godi unrhyw bryderon penodol mewn perthynas â'r rhyddhad hwn. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cofrestru'r cynllun rheoli cymhorthdal. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd i'r rheoliadau, bydd nifer o fân faterion fformatio a fydd yn cael eu cywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. O ystyried arwyddocâd y rheoliadau i'r rhaglen porthladdoedd rhydd, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma.

Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 4 Tachwedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys tri phwynt adrodd teilyngdod. Dim ond i'r trydydd pwynt y gofynnwyd am ymateb gan y Llywodraeth. Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddarparu'r ymateb hwnnw mewn pryd i ni ystyried y rheoliadau drafft.

Yn ein trydydd pwynt adrodd, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith bod y rhyddhad treth trafodiadau tir newydd yn gymhorthdal ac, o'r herwydd, mae cynllun rheoli cymhorthdal arfaethedig ar gyfer porthladdoedd rhydd Cymru wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod disgwyl adroddiad gan yr Awdurdod ar y cynllun arfaethedig erbyn 1 Tachwedd. Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru esbonio pam bod y rheoliadau drafft wedi'u gosod cyn i'r Awdurdod orffen ei ystyriaethau. Gwnaethom hefyd ofyn am gadarnhad ynghylch a yw'r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â'r rhyddhad TTT newydd.

Ar y mater cyntaf, dywedodd yr esboniad a gafodd y pwyllgor gan Lywodraeth Cymru fod Llywodraethau Cymru a'r DU yn awyddus i sicrhau bod y rhyddhad TTT arfaethedig ar gyfer safleoedd treth arbennig a dynodiad Llywodraeth y DU o safle treth arbennig y porthladd rhydd Celtaidd ac argaeledd y cymhellion treth a gadwyd yn ôl yn dod i rym ar yr un pryd. Disgwylir i'r dynodiad a'r rheoliadau rhyddhad TTT ddod i rym ar 26 Tachwedd 2024, yn amodol ar y gweithdrefnau perthnasol. Er mwyn i'r ddau beth hyn ddigwydd ar y dyddiad a ddewiswyd sef 26 Tachwedd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor bod angen i'r rheoliadau gael eu gosod gerbron y Senedd cyn i'r Awdurdod orffen eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod potensial i greu risg o honiadau o ragdybiaeth. Fodd bynnag, gan na fydd yn bosibl darparu unrhyw ryddhad TTT i safle treth arbennig y porthladd rhydd Celtaidd cyn 26 Tachwedd 2024, dywedodd y Llywodraeth fod hyn yn lliniaru unrhyw risg.

Ar yr ail fater, nododd ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor fod adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar y cynllun wedi'i gyhoeddi ar 1 Tachwedd, a bod gan Lywodraethau Cymru a'r DU bum diwrnod i roi sylw dyledus i'w gynnwys. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ysgrifennu atom i roi gwybod a yw'r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon o ran y rhyddhad TTT ac, os felly, i roi ymateb y Llywodraeth. Derbyniodd y pwyllgor lythyr gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddydd Gwener, a gwnaethom ei ystyried brynhawn ddoe. Er bod y pwyllgor yn nodi bod yr Awdurdod wedi gwneud nifer o sylwadau o ran asesu'r cynllun porthladdoedd rhydd ehangach, rydym yn cydnabod cadarnhad y Llywodraeth nad yw'r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon penodol mewn perthynas â'r rhyddhad TTT newydd.

16:45

Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau trwy groesawu'r ddeddfwriaeth hon a'i rheoliadau, yn enwedig y ffaith y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd y bydd porthladdoedd rhydd yn gweithredu a'u heffeithiolrwydd? Felly, bydd ein grŵp yn cefnogi hyn.

Rwy'n falch o'r ffaith mai Llywodraeth Geidwadol ddechreuodd weithredu porthladdoedd rhydd yma yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth Lafur yn mynd i ddilyn polisi tebyg. Diolch i'r gwaith sydd wedi'i wneud, rwy'n deall y rhagwelir y bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn denu gwerth £8 biliwn o fuddsoddiad, gan greu cymaint â 11,500 o swyddi medrus o ansawdd uchel. Ac, yn yr un modd, y porthladd rhydd yn Ynys Môn, a allai greu hyd at 13,000 o swyddi ac a allai gynyddu cynnyrch domestig gros y DU o £1 biliwn erbyn 2030.

Yr hyn sy'n bwysig nawr, fodd bynnag, yw bod y ddwy Lywodraeth Lafur, yma ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan, yn parhau i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd rhydd ac yn parhau i fynd ar drywydd ffyrdd y gall ein heconomi wneud y defnydd gorau ohonyn nhw. Diolch.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i Mike Hedges a Peter Fox am eu cyfraniadau.

Tynnodd Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Llywydd, sylw priodol at y ffaith mai mater amseru, fel y gallem gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â rhyddhad treth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw'r hyn a oedd yn ysgogi ein penderfyniad i ddod â materion cyn asesiad terfynol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Roedd yn fentro gofalus ac rwy'n credu i ddoethineb gwneud hynny gael ei gadarnhau pan na chafwyd unrhyw sylwadau niweidiol gan yr Awdurdod ar y rheoliadau arfaethedig.

Diolch i Peter Fox am nodi bod ei grŵp yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Roedd y rhaglen porthladdoedd rhydd yn enghraifft gymharol brin pan oedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gallu cytuno ar ffordd ymlaen, fel bod gan borthladdoedd rhydd yng Nghymru lefel wahanol a gwell o ddiogelwch amgylcheddol a diogelwch ar gyfer hawliau gweithwyr, o'i gymharu â phorthladdoedd rhydd yn Lloegr. Roedd hwnnw'n gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Michael Gove, oedd yn gyfrifol am y rhaglen porthladdoedd rhydd yn gyffredinol.

Unwaith eto, er mwyn atgyfnerthu'r pwynt allweddol yma, Llywydd, mae'r cymhellion treth porthladdoedd rhydd, gan gynnwys y rhyddhad TTT, wedi'u cynllunio er mwyn helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi ehangach y rhaglen porthladdoedd rhydd. Maen nhw'n rhan annatod o'r ffordd rydyn ni wedi cytuno i fynd ati i wneud hyn i gyd, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 6 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Eitem 7 sydd nesaf. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yw'r Gorchymyn yma. Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd sy'n cyflwyno'r Gorchymyn. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8726 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:50:50
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y cynnig, ac rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024, sy'n gwneud mân ddiwygiadau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.

Mae'r diwygiadau hyn yn helpu i ddiweddaru cwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU, a chryfhau ei alluoedd i gyflawni nodau datgarboneiddio yng Nghymru a'r DU. Felly, mae'r gorchymyn yn gwneud sawl peth. Mae'n ymestyn newidiadau a wnaed yn flaenorol i ddeddfwriaeth y cynllun masnachu allyriadau ar sail Prydain Fawr yn unig, megis cynnwys hediadau i'r Swistir yn y cynllun, i'r DU gyfan, ar ôl i Gynulliad Gogledd Iwerddon ddychwelyd. Mae hefyd yn cynnwys newidiadau a wnaed i gap cynllun masnachu allyriadau'r DU yng Ngorchymyn 2020, a weithredwyd dros dro drwy Reoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2023, ac eto i gynnwys Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn ehangu cwmpas y cynllun i gynnwys carbon deuocsid a ryddheir o weithrediadau archwilio a chynhyrchu'r sector olew a nwy. Mae'n cryfhau ac yn rheoleiddio'r ffordd y caiff Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU ei reoleiddio drwy gyflwyno cosbau sifil newydd a hysbysiad gorfodi, ac mae'n diwygio'r cosbau presennol er mwyn sicrhau gwell cydraddoldeb ar draws y cynllun.

Wrth gyflwyno hyn, fe wnaethon ni geisio cyngor gan ein cynghorwyr statudol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ar y cynigion a gwmpesir yn y Gorchymyn, a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Gorchymyn hwn. Llywydd, yn amodol ar gytundeb cyfochrog gan Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2024. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.

Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drafft hwn ar 11 Tachwedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol yn unig lle nodwn fod y Gorchymyn drafft wedi'i osod ar ran Llywodraeth Ei Mawrhydi gerbron pob un o'r pedair deddfwrfa yn y Deyrnas Unedig ac felly mae'n uniaith Saesneg. Caniateir hyn. Nid dyna'r cwestiwn. Efallai y bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'i ragflaenwyr, ers blynyddoedd lawer, wedi gwneud ymdrechion i geisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a Senedd y DU ynghylch pam mae deddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru ac a osodwyd yn y Senedd hon yn cael ei gwneud yn uniaith Saesneg. Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Mae'r pwyllgorau perthnasol yn Senedd y DU wedi awgrymu i ni y dylai gosod offeryn Cymraeg yn Senedd y DU fod yn bosibl yn weithdrefnol, ac mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru wedi nodi parodrwydd i fynd â'r mater hwn yn ei flaen. Roedd y pwyllgor yn dymuno tynnu sylw'r Aelodau at y mater hwn y prynhawn yma i amlygu'r ffaith y byddwn, gobeithio, yn gweld rhywfaint o ddatblygiad cadarnhaol yn y maes hwn.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:53:56
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac rwy'n nodi sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ddeddfwriaeth uniaith, ond hefyd ei sylwadau ar y sylwadau cadarnhaol posibl gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n galonogol. Byddwn yn canmol gwaith y pwyllgor wrth fynd ar drywydd y mater hwnnw.

Ond a gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y cyfraniad hwnnw? Bydd cynllun masnachu allyriadau'r DU yn parhau i fod yn bolisi pwysig iawn i Gymru, oherwydd mae'n darparu arwydd o fuddsoddi hanfodol, sy'n cymell datgarboneiddio ac yn hyrwyddo twf economaidd ar yr un pryd, a dyna pam rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr heddiw.

Diolch am hynny. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Yr Holodomor

Eitem 8 yw’r eitem nesaf. Y ddadl ar yr Holodomor yw hon, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt.

16:55

Cynnig NDM8728 Jane Hutt, Darren Millar, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cofio dioddefwyr hil-laddiad yr Holodomor a’r cysylltiad hanesyddol â Chymru drwy adroddiadau Gareth Jones.

2. Yn cydnabod cyfraniadau ac ymroddiad y grŵp ‘Senedd dros Wcráin’.

3. Yn ymrwymo i undod parhaus gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Jane Hutt 16:55:12
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Fy mraint yw cyflwyno'r ddadl hon i goffáu'r Holodomor, pennod dywyll mewn hanes a welodd filiynau o fywydau Wcreiniaid diniwed yn cael eu colli i newyn o waith dyn. Mae'n bwysig ein bod ni'r Senedd yn defnyddio'r cyfle hwn i godi ymwybyddiaeth o arswyd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holodomor. Mae coffáu'r dioddefwyr hefyd yn taflu goleuni ar gysylltiadau hanesyddol â Chymru a'r cyffelybiaethau modern yn y ffordd y mae Wcráin wedi cael ei gormesu. Mae Cymru bellach yn gartref i dros 8,000 o Wcreiniaid, a deithiodd i chwilio am noddfa yma, ac mae nodi'r achlysur hwn yn arwydd pwysig o undod rhwng ein pobloedd.

Y llynedd, cyflwynodd Alun Davies, Darren Millar a Heledd Fychan gynnig i drafod yr Holodomor a gynigiodd fod y Senedd yn ystyried yr Holodomor fel gweithred o hil-laddiad. Amlygodd y ddadl a ddilynodd yr erchyllterau a'r caledi annirnadwy a wynebodd pobl Wcráin yn ystod y cyfnod hwn. Arweiniodd polisïau creulon Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd at golli bywyd mewn modd na ellir ei ddirnad, sy'n dal i bwyso'n drwm yn yr ymwybyddiaeth genedlaethol.

Er bod anghytundeb yn parhau ynghylch i ba raddau yr oedd y newyn yn weithred fwriadol o hil-laddiad, mae'r Holodomor wedi cael ei gydnabod fel gweithred o hil-laddiad gan y Senedd hon. Adroddwyd bod y bleidlais o gydnabyddiaeth wedi cael ei gwerthffawrogi gan sawl sianel ar y cyfryngau Wcreinaidd. Caiff yr Holodomor ei goffáu bob blwyddyn ar y pedwerydd dydd Sadwrn o fis Tachwedd. Ers yr ymosodiad ar Wcráin yn 2022, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi gweithio i sicrhau bod y coffâd yn cael ei nodi yng Nghymru, gweithred bwysig i lawer o Wcreiniaid sydd bellach yn byw yn ein cymunedau.

Mae'r digwyddiad eleni yn cael ei drefnu gan gasgliad o sefydliadau cymorth Wcreinaidd Cymru a swyddfa Mick Antoniw AS, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Cynhelir y seremoni goffáu yn y Senedd ar 23 Tachwedd, yn cynnwys cynrychiolwyr Wcreinaidd ac o Gymru. Rwy'n annog pob Aelod i ymuno â'r digwyddiad os yn bosibl. Ar y diwrnod, dangosir neges o undod wedi'i recordio gan y Prif Weinidog, a bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn traddodi araith yn rhan o'r trafodion. Rydym yn deall bod cynrychiolwyr o lysgenhadaeth Wcráin, llywodraeth leol Cymru, Wcreiniaid yng Nghymru, gwahanol eglwysi, a'r Senedd hefyd wedi cael gwahoddiad i chwarae rhan amlwg.

Drwy'r ddadl hon a'r digwyddiad ar 23 Tachwedd, rydym yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod Holodomor, yn ogystal â'r rhai a oroesodd gyda'u hatgofion o'r dioddefaint a'r golled. Yng Nghymru, cafodd ein dealltwriaeth o'r golled honno ei lywio'n fawr gan adroddiadau dewr Gareth Jones. Daeth ei ymgyrch ddi-wyro am y gwirionedd ag erchyllterau'r Holodomor i sylw'r byd, a pheryglodd Gareth Jones ei fywyd i ddogfennu dioddefaint pobl Wcráin, ac i sicrhau nad oedd eu helynt yn aros yn y cysgodion. Rhoddodd lais i'r di-lais a sicrhau na fyddai'r gwirionedd yn cael ei ddileu. Nododd y Senedd rôl Gareth Jones yn ystod dadl yr Aelod y llynedd, ac mae'n galonogol gweld bod ei waddol yn parhau i gael ei gofio.

Fis diwethaf, lansiwyd cystadleuaeth ysgrifennu i nodi naw deg mlynedd ers marwolaeth Gareth. Cyhoeddodd ysgol newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant Prifysgol Caerdydd ei bod yn agor Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones, mewn cydweithrediad â'r Western Mail. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl raddedigion prifysgolion Cymru, yn enwedig y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth neu faterion rhyngwladol.

Mae ein cysylltiadau hanesyddol ag Wcráin yn parhau i gael eu cryfhau gan y croeso cynnes a pharhaus y mae pobl Cymru wedi'i ymestyn i Wcreiniaid sy'n ceisio diogelwch. Mae Cymru wedi croesawu tua 8,000 o Wcreiniaid i'r DU ers y goresgyniad ym mis Chwefror 2022. Mae hyn yn cynnwys bron i 3,350 o dan ein llwybr uwch-noddwr a thros 4,600 i gartrefi Cymru oedd yn cynnig llety. Cyflawnwyd hyn gyda chymorth llawer o bartneriaid allweddol drwy ein dull tîm Cymru ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran am eu gwaith tuag at y cyflawniad rhyfeddol hwn. Mae'r ymateb yng Nghymru wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, gyda nifer llethol o bobl yn gwirfoddoli i gynnig llety. Mae'r cynigion caredigrwydd hyn yn adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin o dosturi ac yn dangos y genedl groesawgar ydym ni.

Mae heddiw hefyd yn gyfle i gydnabod ymroddiad a phwysigrwydd grŵp Y Senedd dros Wcráin. Unwaith eto gwnaeth Mick Antoniw ac Alun Davies y daith hir gyda chyflenwadau i Wcráin ddiwedd mis Hydref, a gobeithio y gallan nhw rannu rhai o'u profiadau y prynhawn yma yn rhan o'r ddadl hon. Rwy'n deall mai hon oedd y degfed daith a wnaed gan y grŵp ers y goresgyniad, gan fynd â chymorth hanfodol gyda nhw a 30 cerbyd yn ystod y 10 taith. Mae hwn yn gyfraniad anhygoel gan y grŵp, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn Wcráin. Mae'r gwaith hwn yn derbyn cefnogaeth sylweddol gan undebau llafur, busnesau ac aelodau'r cyhoedd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y cyfraniadau hyn ac yn mynegi ein diolch i'r nifer fawr o bobl sy'n gysylltiedig â'r ymdrech hon.

Mae'n dorcalonnus bod angen y gefnogaeth hon o hyd wrth i'r gwrthdaro barhau. Nid yw'r goresgyniad yn dangos unrhyw arwyddion o ddod i ben wrth i ni nesáu at drydydd pen-blwydd y goresgyniad ac yn nodi mwy na 10 mlynedd ers goresgyniad y Donbas a'r Crimea. Rwy'n siŵr ein bod ni fel Senedd drawsbleidiol—ac rwy'n ddiolchgar i bob plaid am gyd-gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma—yn ymrwymo i ymdrechion parhaus i ddangos ein cydsafiad gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin ei hun. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i atgoffa pobl Wcráin nad ydym ni wedi anghofio am eu brwydr. Mae Wcráin yn amddiffyn nid yn unig ei thir a'i sofraniaeth ei hun; mae'n amddiffyn Ewrop gyfan a'r drefn ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau. Byddwn yn parhau i sefyll mewn undod. Mae bywydau Wcreinaidd a Chymreig wedi plethu dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac mae'r edafedd hyn wedi plethu gyda'i gilydd o fewn gwead anhygoel ein cymunedau. Edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau. Diolch.

17:00

A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth, ac, yn wir, i'r pleidiau gwleidyddol eraill, am y ffordd y buont yn cydweithio i gyd-gyflwyno'r ddadl hon rhyw 12 mis ar ôl cydnabyddiaeth y Senedd hon, un o'r Seneddau cyntaf yn y byd i gydnabod yr Holodomor yn hil-laddiad? Wrth gwrs, pennod o hanes sydd am lawer rhy hir yn y gorllewin heb ei chydnabod yw'r Holodomor, ac roedd yn stori na ddywedwyd. Dioddefodd tua 3 miliwn i 4 miliwn, o leiaf, o'r newyn hwnnw, un o golledion gwaethaf bywyd yn hanes dyn, ac, wrth gwrs, yn ddealladwy, oherwydd hynny, mae'n adeg ddiffiniol i genedl  Wcráin.

Ond nid colledion bywyd damweiniol oedden nhw, roedden nhw'n hollol fwriadol. Fe'u hachoswyd yn fwriadol i bobl Wcráin gan gyfundrefn Sofietaidd dan reolaeth Stalin a oedd yn dilyn nod o ddiwydiannu'n ddidrugaredd ni waeth beth oedd y gost ddynol ac a sbardunodd gyfunoli tir fferm ac atafaelu grawn ar raddfa dorfol. Canlyniad hynny oedd i'r tir ffrwythlon iawn a hynod gynhyrchiol hwn yn yr hyn a elwir bellach yn fasged bara Ewrop ddod yn destun un o'r newynau gwaethaf mewn hanes. Wrth gwrs, nid y newyn yn unig oedd yn dystiolaeth o ymdrechion hil-laddol y gyfundrefn Sofietaidd; erlidwyd y deallusion, yr arweinwyr ffydd, ymosodiadau ar eglwysi ac eraill yn y tir hwnnw hefyd, ac ar unrhyw wrthwynebwyr gwleidyddol a oedd yn siarad yn erbyn y gyfundrefn Sofietaidd. Dim ond penllanw yr holl bethau hyn gyda'i gilydd fel ymosodiad ar genedl Wcráin a'r cenedligrwydd a oedd yn cael ei sbarduno yno oedd y newyn.

Yn gwbl briodol, mae'r cynnig heddiw yn cyfeirio at rôl Gareth Jones, Cymro a oedd, yn y 1930au, wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ddatgelu'r Holodomor a'r hyn oedd yn digwydd yn Wcráin i weddill y byd. Des i'n ymwybodol o'i waith am y tro cyntaf ar ôl gwylio'r ffilm Mr Jones yn 2019. Doedd gen i ddim syniad mai Cymro oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatgelu'r hyn oedd wedi digwydd nes i mi weld y ffilm honno, ac mae hynny'n drasiedi. Mae hynny'n drasiedi nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu dysgu am y pethau hyn, ddim yn cael eu haddysgu am gyfraniad pwysig newyddiadurwyr Cymru. Wrth gwrs, talodd gyda'i fywyd ei hun yn y diwedd, pan ddioddefodd yr hyn a ystyrir yn ymgais i'w lofruddio ym Mongolia Fewnol oedd dan oresgyniad Japan ym 1935, gan y gyfundrefn Sofietaidd. A bydd pob un ohonom ni, heb os, yn y Siambr hon eisiau talu teyrnged i'w gof yma yn y Siambr hon heddiw. Gwn fod grŵp Y Senedd dros Wcráin, dan arweiniad Mick Antoniw, gydag Alun Davies ac eraill yn cefnogi wrth gwrs, eisoes wedi sicrhau'r caniatâd i godi plac yn Wcráin i nodi rôl Gareth Jones a'i waith wrth ddatgelu'r hyn oedd yn digwydd gyda'r Holodomor.

Nid ef yw'r unig ddolen, wrth gwrs, ag Wcráin a Chymru. Gwyddom fod Donetsk, Yuzovka—rwy'n credu bod hynny'n iawn o ran yr ynganiad—wedi ei sefydlu gan ddiwydiannwr Cymreig gan ddefnyddio technegau o Gymru er mwyn diwydiannu'r cyfan hwnnw o'r rhan a'r rhanbarth yna o Wcráin. Mae'r rhain yn gysylltiadau cryf rhwng pobl Wcráin a phobl Cymru sydd, ie, yn dathlu heddiw ac yn cofio heddiw, ond yng nghyd-destun yr hyn sy'n sefyllfa erchyll, lle mae'r Rwsiaid wedi tanseilio sofraniaeth Wcráin, sy'n ymddangos fel pe baen nhw yn parhau i gipio tir. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bryderus iawn am y rhagolygon a'r dyfodol, wrth symud ymlaen, oherwydd fe wyddom ni fod posibilrwydd o newid polisi sylweddol gan yr Unol Daleithiau, o ystyried ethol Arlywydd newydd, yr Arlywydd Trump.

Mae rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud yn yr ymgyrch wedi bod yn bryderus iawn i mi. Oherwydd, wrth gwrs, os yw unrhyw ran o diriogaeth Wcráin yn cael ei ildio mewn bargen â Putin, yna rydym yn wynebu'r posibilrwydd o fyd hyd yn oed yn fwy ansefydlog, lle gall unrhyw awtocrat neu genedl ymosod ar un arall, ac mewn sefyllfa ddiddatrys neu rai anawsterau neu ryfel yn rhygnu ymlaen, yna bydd pobl yn cael eu gorfodi i dderbyn telerau nad ydyn nhw eisiau eu derbyn ac ildio peth o'u tir. Nid dyna'r math o fyd rwy'n dymuno byw ynddo ac rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn cyrraedd y sefyllfa honno yn ystod yr oddeutu 12 mis nesaf os oes newid polisi.

Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i anfon y neges bod Cymru'n caru Wcráin, ein bod yn cefnogi ei hymgais am ryddid, y bydd pobl Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo pobl Wcráin, y byddwn yn parhau i gynnal y rhai sydd angen lloches ddiogel yn ein gwlad, ac y byddwn yn cefnogi'r elusennau a'r sefydliadau hynny sy'n parhau i weithio i sicrhau ein bod ni mor lletygar ag y gallwn ni fod.

Ac os caf ddweud, o ran grŵp Y Senedd dros Wcráin, un o'r pethau a'm trawodd pan ymwelais âg Wcráin—a gwn fy mod wedi mynd y tu hwnt i'm hamser, Llywydd, ond rwy'n gwerthfawrogi eich amynedd—

17:05

Diolch am dynnu fy sylw at hynny. Roeddwn i wedi ymgolli cymaint yn yr hyn roeddech chi'n ei ddweud fel nad oeddwn i wedi sylwi.

Un o'r pethau a'm trawodd pan ymwelais ag Wcráin ychydig fisoedd yn unig ar ôl i'r rhyfel ddechrau oedd pa mor bwysig oedd presenoldeb corfforol pobl o genhedloedd eraill yn dangos eu pryderu a'u dealltwriaeth o'r sefyllfa. Un peth yw codi'r ffôn neu anfon e-bost neu ddweud rhywbeth yn y Siambr hon am faint rydych chi'n pryderu ac yn cefnogi cenedl sydd yng nghanol rhyfel ofnadwy a dinistriol, ond mae'n beth arall pan fyddwch chi'n mynd yno ac rydych chi'n cofleidio'r bobl hynny yn eich breichiau. Fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ffaith fod Mick Antoniw, Alun Davies ac eraill wedi gwneud hynny. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud hynny, a dyna pam rwy'n cefnogi'n llawn y galwadau a wnaed yn y Siambr hon yn ystod y misoedd diwethaf i sicrhau bod dirprwyaeth ffurfiol o'r Senedd hon sy'n mynd i Wcráin i ddangos ein hundod fel Senedd gyda Senedd Wcráin a'i phobl. Diolch.

A gaf i hefyd ddiolch i grŵp Y Senedd dros Wcráin am eu hymroddiad a'u gwaith wrth sefyll mewn undod ag Wcráin? Mae'n hanfodol ein bod nid yn unig yn cofio'r Holodomor, ond hefyd yn myfyrio ar y gwersi y mae'n dal i'n haddysgu ni heddiw. Yn anffodus, nid yw'r gwersi hynny wedi'u dysgu'n llawn eto, wrth i ni barhau i weld trychinebau tebyg yn datblygu yn y byd heddiw. Mae'r ddadl hon heddiw yn ein hatgoffa o ganlyniadau difrifol anwybyddu rhybuddion o hanes a diystyru hawliau dynol.

Heddiw, byddwn yn cofio dioddefwyr yr Holodomor—hil-laddiad a achoswyd yn fwriadol yn erbyn pobl Wcráin bron i ganrif yn ôl. Roedd yn erchylltra a oedd yn ceisio torri ysbryd cenedl trwy newynu ei phobl, ac mae'n un o'r enghreifftiau tywyllaf o ble y gall pŵer gwleidyddol ac esgeulustod o ddynoliaeth arwain heb ei herio. Mae cydnabod yr Holodomor fel hil-laddiad, fel y gwnaeth y Senedd y llynedd, yn gam hanfodol wrth sicrhau nad ydym yn lleihau ei arswyd byth, nac yn anghofio ei wersi. 

Mae gan Gymru gysylltiad unigryw â hanes yr Holodomor trwy ddewrder, fel y clywsom ni heddiw, y newyddiadurwr o Gymro Gareth Jones. Fel newyddiadurwr fy hun, rwy'n falch iawn o'r hyn a wnaeth i ddatgelu'r hyn oedd yn digwydd. Peryglodd ei fywyd i ddatgelu'r gwir, gan herio grymoedd pwerus a geisiodd guddio'r newyn. Roedd ei ddewrder yn caniatáu i'r byd glywed dioddefaint Wcráin ar adeg pan ddewisodd llawer droi i ffwrdd. Wrth anrhydeddu Gareth Jones, rydym yn ymrwymo ein hunain i gynnal ei waddol, i dystio, i godi llais ac i weithredu lle gwelwn anghyfiawnder. Heddiw, gydag offer y cyfryngau modern, rydym ni i gyd yn dystion i wrthdaro, ond eto rydym ni'n dal i wynebu'r un her ag oedd gan Jones—i sicrhau bod y straeon hynny'n cael eu hadrodd, eu deall ac y gweithredir arnyn nhw.

Yn anffodus, wrth gwrs, mae Wcráin yn dal i wynebu trais a gormes heddiw. Mae'r goresgyniad a'r feddiannaeth yn parhau, gyda chanlyniadau dinistriol i sofraniaeth Wcráin, diogelwch, a bywydau dinasyddion cyffredin. Mae trais, dadleoli a chaledi cynyddol yn diffinio'r realiti, ddydd ar ôl dydd, i filiynau o Wcreiniaid. Ac yn yr hinsawdd geowleidyddol ansicr hon, gyda dynameg ryngwladol yn newid—gan gynnwys gweinyddiaeth newydd Trump yn yr Unol Daleithiau, a allai ddylanwadu ar gefnogaeth i Wcráin—mae'n bwysicach fyth bod Cymru a'r Senedd hon yn parhau i fod yn gynghreiriad cyson i bobl Wcráin.

Ond wrth i ni fyfyrio ar yr Holodomor heddiw, mae'n amhosib peidio â sylwi ar debygrwydd poenus yn ein hamser ni, onid ydyw? Mae'r ddadl hon yn digwydd yn erbyn cefndir blwyddyn o wrthdaro yn Gaza. Yno, hefyd, fe welwn ni ddioddefaint ar raddfa enfawr, gyda sifiliaid yn wynebu colled annioddefol, dadleoli a marwolaeth. Yno, hefyd, fe welwn ni y diystyrwch am gyfraith ryngwladol ac egwyddorion dyngarol. Allwn ni ddim osgoi dweud y gwirioneddau hyn. Yn union fel yr ydym ni'n condemnio eto heddiw erchyllterau'r Holodomor, mae'n rhaid i ni gondemnio unrhyw weithredoedd modern sy'n tanseilio hawliau dynol ac egwyddorion cyfiawnder.

Mae'r Holodomor yn ein hatgoffa nad yw cadw at gyfraith ryngwladol yn ddelfryd aruchel yn unig. Mae'n anghenraid sylfaenol, os ydym ni am atal erchyllterau o'r fath rhag digwydd eto. Pan fydd unrhyw genedl yn torri'r rheolau sy'n amddiffyn sifiliaid, pan fydd pŵer yn cael ei arddel heb atebolrwydd, a phan fo hawliau'r bregus yn cael eu diystyru, os na fyddwn yn sefyll yn ei erbyn, fe welwn ni ailadrodd yr un patrymau a arweiniodd at yr erchyllterau yr ydym ni'n eu cofio heddiw. Mae brwydr Wcráin, fel brwydr cymaint o genhedloedd eraill, yn tanlinellu ein dyletswydd i gynnal cyfraith ryngwladol a sefyll yn gadarn yn erbyn gormes.

Rhaid i'n hymrwymiad i Wcreiniaid yng Nghymru hefyd fod yn ddiwyro. Mae nifer wedi dod o hyd i gartrefi dros dro yma, yn ceisio diogelwch rhag y gwrthdaro. Maen nhw'n haeddu nid yn unig ein cydymdeimlad, ond ein cefnogaeth weithredol, wrth iddyn nhw fyw mewn ansicrwydd am eu mamwlad a thynged anwyliaid a adawsant ar ôl. Gadewch i ni addo eto heddiw i sefyll gyda nhw, a gydag eraill sy'n wynebu anghyfiawnderau tebyg.

Wrth i ni gofio'r Holodomor, fe ddylen ni ofyn i'n hunain a ydym ni'n fodlon rhoi ei wersi ar waith yn ein gweithredoedd heddiw—ydym ni wedi ymrwymo i godi llais, i ddarparu cefnogaeth, ac i ddefnyddio ein llwyfannau  fel llais dros heddwch ac am gyfiawnder. Mae'r byd wedi gweld gormod o drasiedïau, gormod o bethau i'n hatgoffa o'r hyn sy'n digwydd pan fethwn ni â gweithredu i amddiffyn hawliau dynol. Ein dyletswydd fel Senedd yw nid yn unig condemnio erchyllterau'r gorffennol, ond ceisio sicrhau dyfodol lle na chaiff erchyllterau o'r fath fyth eu hailadrodd. Felly, heddiw mae arnom ni'r ddyled hon i ddioddefwyr yr Holodomor, i bobl Wcráin heddiw, ac i bawb sy'n edrych i'r gymuned ryngwladol am gyfiawnder. Saif Plaid Cymru gydag Wcráin, gyda'r rhai sy'n dioddef yn Gaza hefyd, a gyda phawb sy'n cael eu hamddifadu o gyfiawnder a heddwch.

17:15

Cefais fy magu yn rhan o gymuned ffoaduriaid Wcreinaidd lle buom yn dathlu, hyrwyddo a chynnal ein hiaith, diwylliant a hunaniaeth Wcreinaidd. Ac ymhlith fy ffrindiau roedd plant Wcreinaidd o ddwyrain Wcráin, o'r Donbas, Donetsk, Kharkiv, Dnipro, Luhansk. Eu rhieni oedd goroeswyr yr Holodomor, ac roeddem yn ymwybodol iawn o'r Holodomor fel plant—newyn artiffisial Stalin. Roeddem ni'n ymwybodol bod miliynau wedi cael eu newynu i farwolaeth, ond nid oedd yn rhywbeth yr oedd ein rhieni yn siarad amdano'n aml. Roedd yn rhy boenus ymysg yr holl brofiadau poenus eraill y maen nhw wedi byw drwyddyn nhw. Ac ychydig iawn a wyddai'r byd am y drasiedi fawr hon, ond yr hyn a wydden nhw oedd canlyniad newyddiaduraeth pobl fel y Cymro Gareth Jones, Malcom Muggeridge ac ambell un arall. A dim ond i ddilyn sylwadau Darren Millar, dw i'n meddwl ei bod hi'n anrhydedd mawr fod gennym ni nawr yn llyfrgell genedlaethol Wcráin yn Kyiv, blac yn Saesneg, Wcreineg a Chymraeg, sy'n deyrnged i Gareth Jones, a hefyd y bwriad i gael dirprwyaeth ddiwylliannol i Wcráin, i gyflwyno plac tebyg efallai i fynd i'r stryd yn Kyiv sydd wedi ei henwi ar ôl Gareth Jones.

Ar ôl i'r Undeb Sofietaidd chwalu daeth y cyfrinachedd i ben, a phan agorwyd archifau'r KGB a'r Blaid Gomiwnyddol dechreuodd raddfa lawn arswyd yr Holodomor ddod yn fwy adnabyddus a chael ei ddeall yn well. Roedd y newyn yn gynnyrch cyfunoli gorfodol Stalin, a effeithiodd ar ddarnau mawr o ddwyrain a chanolbarth Wcráin, ond hefyd gwledydd eraill o'i hamgylch. Cafodd miliynau eu newynu i farwolaeth. Yn Wcráin, ni fydd yr union ffigur byth yn hysbys. Yn Rwsia, mae cofnodion y cyfnod yn parhau i gael eu dinistrio, fel y mae cofnodion yr alltudio torfol a'r dienyddiadau yn ystod y gwaredu. Yn Wcráin, yr amcangyfrif yw y cafodd rhwng 4 miliwn a 6 miliwn o bobl eu lladd. Parhaodd llawer i farw yn y blynyddoedd canlynol o salwch, afiechyd sy'n gysylltiedig â newyn, ac yna gwarediadau pellach dilynol Stalin. Atafaelwyd grawn a chafodd ei werthu dramor am arian tramor i ariannu diwydiannu.

Yn Wcráin, bu llawer o wrthryfeloedd. Roedd yn faes lle nad oedd fawr o gefnogaeth Bolsiefic, ac mae'n amlwg o ddogfennau a ddatgelwyd ers hynny bod Stalin yn ofni colli rheolaeth ar Wcráin. Am y rheswm hwn, roedd y gwastrodi yn eithriadol o lym. Caewyd pentrefi oedd yn gwrthsefyll—mesur a oedd i bob pwrpas yn gyfystyr â dedfryd o farwolaeth. Daeth yn gyfle i Stalin fygu gwrthwynebiad a hunaniaeth Wcráin, ac am y rheswm hwn y daeth y newyn, fel yr effeithiodd ar Wcráin, i'w adnabod fel yr Holodomor, sy'n cyfieithu fel 'marwolaeth trwy newyn'. Daeth yn adnabyddus fel gweithred o hil-laddiad, ac mae wedi cael ei chydnabod gan lawer o Seneddau ledled y byd fel gweithred o hil-laddiad. Dyma'r ardal, wrth gwrs, sydd bellach yn wrthwynebiad rheng flaen i ymosodiad Rwsia ar Wcráin, gan feibion a merched goroeswyr yr Holodomor, a hefyd meibion a merched y teuluoedd hynny a ddaeth i gymryd lle'r miliynau o'r meirw.

Canlyniad yr Holodomor oedd Rwsianeiddio dwys yn Wcráin, dienyddio torfol beirdd, artistiaid, ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr ffilm, cerddorion—mewn gwirionedd, unrhyw un a gynrychiolai hunaniaeth Wcreinaidd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl roedd hi'n ddiwrnod arbennig yn Wcráin oherwydd dyma'r diwrnod pan gafodd beirdd, artistiaid, arlunwyr ac awduron eu crynhoi a'u dienyddio am yr unig reswm eu bod yn cynrychioli hunaniaeth Wcráin. Ac wrth gwrs mae'n bolisi sy'n cael ei adnewyddu gan Putin yn y rhannau meddiannedig hynny o Wcráin hyd heddiw, lle mae amgueddfeydd yn cael eu hysbeilio, llyfrau Wcreinaidd wedi'u dinistrio, yr iaith Wcreineg wedi'i gwahardd mewn ysgolion, lle mae'r boblogaeth yn wynebu alltudiaeth, y plant yn cael eu hail-addysgu, eu harteithio, eu treisio a'u llofruddio. Mae Rwsia wedi dod yn wlad ffasgaidd.

Eto hyd yn oed yn y wlad hon mae yna wadwyr, y rhai sy'n gwadu'r Holodomor, sy'n gwadu'r hil-laddiad ac yn parhau i gynnal naratif Putin. Ac am y rheswm hwn mae mor bwysig cofio'r Holodomor, cofio'r meirw a chefnogi'r rhai yn Wcráin sydd hyd heddiw yn ymladd dros ryddid, ac yr wyf yn eu disgrifio fel y bobl sydd mewn gwirionedd yn amddiffyn rheng flaen democratiaeth yn Ewrop. Felly, rwy'n falch mai Cymru yw'r cyntaf o Seneddau'r DU i ddatgan bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ddilyn fel esiampl gan Seneddau eraill y DU. Heddiw hefyd yw'r milfed diwrnod ers ymosodiad Rwsia, a'r dydd Sadwrn hwn bydd coffâd yn digwydd yn y Senedd a thawelwch am 2 y pnawn i gyd-fynd â choffadwriaeth ar yr un pryd yn Wcráin, mewn undod â phobl Wcráin.

Fe hoffwn i ddiolch i bawb yn y Senedd hon a holl bobl Cymru am eu hundod nes i Wcráin gael heddwch a buddugoliaethau. Слава Україні! Героям слава!

17:20

Mae'n fraint fawr cael siarad ar y ddadl hon y prynhawn yma, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyd-gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heb os, roedd yr Holodomor yn un o'r penodau pwysicaf a thrasig yn hanes yr ugeinfed ganrif ac yn un o'r gweithredoedd drwg mwyaf atgas a gyflawnwyd erioed yn erbyn ein cyd-ddyn. Eto i gyd, yn siomedig, mae llawer o bobl yn gwbl anwybodus o'r Holodomor, gyda llawer o academyddion sy'n ymdrin â'r pwnc yn dweud nad yw'r rhan fwyaf o'u myfyrwyr erioed wedi clywed amdano. Felly, mae'n briodol ein bod ni yn y Senedd yn gwneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o'r Holodomor, yn enwedig yng ngoleuni'r tywallt gwaed parhaus yn Wcráin, unwaith eto yn waith dwylo unben drwg ym Moscow.

Pan ddaeth Wcráin yn rhan o'r Undeb Sofietaidd yn 1922 roedd yn fasged fara'r genedl diolch i'w meysydd ffrwythlon o wenith, fel mae Wcráin yn parhau i fod yn fasged fara Ewrop hyd heddiw. O 1928 ymlaen, dechreuodd Stalin y broses o gyfunoli, gan uno ffermydd dan berchnogaeth breifat i ffermydd gwladwriaethol cyfunol, gyda ffermwyr Wcráin yn cael eu tir wedi ei feddiannu gan y wladwriaeth Sofietaidd. Codwyd cwotâu ar gyfer grawn i lefelau amhosibl gan yr Undeb Sofietaidd, a chafodd bwyd a wnaethant ei gynhyrchu ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd ei atafaelu gan y wladwriaeth, gyda gwrthod cydymffurfio yn arwain at ddienyddio.

Nid yw union nifer y bobl a fu farw yn y newyn a ddeilliodd o hyn yn hysbys o hyd, ond mae haneswyr yn amcangyfrif bod rhwng 3.5 miliwn a 5 miliwn o bobl wedi eu colli, y mwyafrif helaeth o'r rheini fu farw yn Wcráin. Mae rhai ysgolheigion hefyd yn honni bod y newyn yn ymgais fwriadol i gael gwared ar annibyniaeth Wcráin, rhywbeth mae gwladwriaeth Rwsia yn ceisio ei dileu unwaith eto trwy ei goresgyniad anghyfreithlon barbaraidd.

Fe ddysgon ni am y newyn hil-laddol yn Wcráin oherwydd adroddiadau newyddiadurwr o Gymru—y bu sôn amdano droeon yn y ddadl hon nawr—o Fro Morgannwg, o'r enw Gareth Jones. Fel yr Holocost, byddai llawer o bobl wedi parhau i fod yn anymwybodol o'r trychinebau hyn wrth iddyn nhw ddatblygu oni bai am ddewrder newyddiadurwyr fel Gareth Jones, a hysbysodd y byd gorllewinol gyntaf o'r newyn oedd yn digwydd yn Wcráin oherwydd y penderfyniadau polisi bwriadol gan Stalin a'i gymdeithion, a'r newyddiadurwr Malcolm Muggeridge, fel y soniodd Mick Antoniw yn ddiweddar, a adroddodd hefyd ar droseddau yn erbyn dynoliaeth yn yr Undeb Sofietaidd. Yn y pen draw, talodd Gareth Jones gyda'i fywyd am ei ddewrder, cafodd ei lofruddio ym 1935 gan yr heddlu cudd Sofietaidd pan oedd yn gweithio ym Mongolia.

Felly, heddiw rydym ni hefyd yn anrhydeddu dewrder ac arwriaeth y newyddiadurwyr sy'n dwyn y digwyddiadau pwysig hyn i'n sylw, ac rydym ni'n anrhydeddu brwydr ddewr a pharhaus pobl Wcráin sy'n ymladd am eu gwladwriaeth a'u goroesiad wrth i ni siarad. Pan oedd Gareth Jones yn adrodd am y digwyddiadau torcalonnus a thrawmatig yn Wcráin, a oedd yn golygu ei fod yn dyst i bobl yn marw ar y strydoedd a phobl hyd yn oed yn troi at fwyta eu hanifail anwes eu hunain, gwadodd llawer o gomiwnyddion yn y gorllewin yr erchylltra a oedd yn digwydd yn y dwyrain, ac mae rhai pobl yn gwadu'r Holodomor hyd heddiw, er gwaethaf tystiolaeth ysgubol i'r gwrthwyneb, fel mae rhai pobl yn gwadu'r Holocost. Rydym ni'n gweld propaganda tebyg gan y Kremlin heddiw, gyda gwadu'r cam-drin hawliau dynol parhaus yn Wcráin, felly mae'n ddyletswydd arnom ni fel gweision cyhoeddus i herio'r camwybodaeth a'r propaganda hwn, a dod â digwyddiadau fel yr Holodomor i sylw'r cyhoedd. Ac mae'n rhaid i ni wneud yn hollol glir bod unrhyw ymgais am resymau ideolegol i esgusodi'r troseddau a gyflawnwyd yn erbyn pobl Wcráin gan y wladwriaeth Sofietaidd gomiwnyddol yn annerbyniol ac yn resynus. Ac yn yr un modd, ni ddylem ni oddef ymdrechion i esgusodi gweithredoedd Putin heddiw.

Fe hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Mick Antoniw, Alun Davies a phawb yng ngrŵp Y Senedd dros Wcráin am eu hymdrechion clodwiw yn Wcráin, gan gefnogi'r gwrthwynebiad yn erbyn lluoedd Rwsia, a hwythau wedi darparu 25 o gerbydau 4x4 i'r llinellau blaen yn yr haf, a phedwar cerbyd arall ychydig dros fis yn ôl ym mis Hydref. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i grŵp Y Senedd dros Wcráin am godi miliynau o bunnau trwy roddion, a fydd yn mynd tuag at y rhai sy'n ymladd ar reng flaen democratiaeth Ewrop. Byddwn yn dyheu am ymuno â chi un diwrnod, ond mae'r bos, sef fy ngwraig, yn fy atal rhag gwneud hynny, ond byddai'n bleser un diwrnod ymuno â chi, ond mae gennych fy nghefnogaeth foesol lawn yn eich ymgyrch. Fel yr adleisiodd grŵp Y Senedd dros Wcráin, mae'n deyrnged i Gymru bod gennym ni undod gwleidyddol llwyr i gefnogi pobl Wcráin. Mae'n anrhydedd cael y cyfle i siarad ar y pwnc hwn heddiw, i godi ymwybyddiaeth o'r Holodomor, i gydnabod y cysylltiadau rhwng Cymru a Wcráin, ac i anrhydeddu dewrder y rhai sy'n ymladd ar flaen y gad o ran democratiaeth Ewropeaidd, a choffáu bywydau'r rhai nad ydyn nhw gyda ni mwyach. Diolch yn fawr.

17:25

Mae'n drasiedi, onid yw, yn drasiedi ddwbl, nid yn unig trasiedi wreiddiol yr Holodomor, ond y ffaith nad ydym ni, fel dynoliaeth, wedi dysgu'r elfen hanfodol, fel y disgrifiodd Mick Antoniw, o ddefnyddio newyn fel arf rhyfel. Dyna sy'n digwydd heddiw, ynte? Mae yn y gwrthdaro yn Sudan, yn Yemen, yn Ethiopia. Mae'n sicr yn elfen ganolog sydd wedi arwain llawer o awdurdodau rhyngwladol ac arsylwyr i ddweud bod gweithredoedd Israel bellach wedi cyrraedd trothwy hil-laddiad yn Gaza. Felly, nid ydym ni wedi dysgu, yn anffodus. Dydym ni ddim wedi dysgu o hanes.

Ond fe hoffwn i ganolbwyntio fy sylwadau heno ar y sefyllfa beryglus iawn y mae Wcráin yn ei hwynebu heddiw a'r perygl go iawn fod pennod gywilyddus arall yn hanes Ewrop yr ugeinfed ganrif ar fin cael ei hailadrodd. A dyna ddigwyddodd yn Tsiecoslofacia ym 1938, pan oedd gennych chi gyfuniad o arunigedd Americanaidd, trwy'r Deddfau niwtraliaeth a basiwyd yn y 1930au, a dyhuddiaeth Ewropeaidd, a olygai fod gwlad yn y bôn yn cael ei datgymalu, yn ôl pob golwg trwy gytundeb heddwch, a gallwn weld mai dyna'r math o naratif sy'n dod i'r amlwg, wedi'i chynorthwyo, wrth gwrs, gan beiriannau camwybodaeth gwladwriaeth Rwsia. Ond nid heddwch fyddai hyn, wrth gwrs. Yr hyn a ddigwyddodd i Tsiecoslofacia oedd, oedd, roedd cytundeb heddwch a barodd chwe mis, cyn i fodolaeth y wlad honno gael ei thanseilio, a dyna i bob pwrpas beth fyddai'n digwydd i Wcráin. Pe bai'r Tŷ Gwyn yn ei gorfodi i lofnodi cytundeb heddwch a ildiai rywfaint o'i thiriogaeth a gorfodi niwtraliaeth arni, ei gorfodi i roi'r gorau i'w gobaith o aelodaeth NATO, sef ei hunig obaith realistig o osgoi cael ei dinistrio yn y dyfodol, yna beth fyddai'n digwydd yw y byddai Rwsia yn ail-arfogi. Byddai Rwsia yn defnyddio'r amser i ail-arfogi ac yna byddai'n ymosod eto, neu byddai'n llunio'r amgylchiadau gwleidyddol ar lawr gwlad lle gallai gael gwared ar y dosbarth arweinyddiaeth wleidyddol, ac rydych chi wedyn yn y math o amgylchiadau Sioraidd, i bob pwrpas, o oligarchiaid yn dod i rym ac rydych chi'n cael Wcráin fel math o wladwriaeth gaeth o dan Rwsia. Ac mae hynny'n amgylchiad peryglus iawn, iawn, nid yn unig i Wcráin—wyddoch chi, ni sydd nesaf. Mae'r rhyfel hybrid eisoes wedi dechrau. Yn y—beth—24 awr diwethaf, mae dau gebl wedi cael eu torri—beth—rhwng y Ffindir a'r Almaen a rhwng Sweden a Lithwania. Mae dyfeisiau llosgi wedi cael eu hanfon drwy'r awyr ac wedi ffrwydro mewn warysau DHL yn y DU ac yn yr Almaen fel paratoad ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf. Mae gwladwriaeth Rwsia yn paratoi, ac mae'n gweld ei mantais nawr gyda, wrth gwrs, gweinyddiaeth Trump newydd. Dyma adeg ein perygl mwyaf, yn Wcráin, rheng flaen y rhyfel Ewropeaidd sydd i ddod. Nid yw honno'n iaith ddramatig; mae hynny'n ddatganiad o'r hyn rydym ni'n ei wynebu mewn gwirionedd, ac ni ddylem ni wneud yr un camgymeriad ag a wnaethom ni bryd hynny.

Mae cyfle o hyd i'r rhyfel gael ei hennill, ond mae'n rhaid i ni nawr ddarparu'r gefnogaeth fwyaf sydd heb ei rhoi hyd yma. Mewn gwirionedd, mae Rwsia yn llosgi trwy ei harfau. Mae'n defnyddio 240 o diwbiau magnelau y mis, lle gall gynhyrchu dim ond 20. Mae'n colli 144 o gerbydau troedfilwyr y mis; dim ond 17 y mis y gellir ei gynhyrchu. Bydd ei chyfarpar yn darfod yn ystod 2025. Os ydym yn darparu Wcráin, os ydym yn darparu'r gefnogaeth y mae pobl Wcráin yn ei haeddu fel Ewropeaid—oherwydd ni allwn ni ddibynnu ar weinyddiaeth yr Unol Daleithiau—fe allan nhw ennill o hyd, ond nid oes ganddyn nhw lawer o amser ar ôl, ac, os nad oes ganddyn nhw lawer o amser ar ôl, ac os byddant yn colli, yna byddwn ninnau hefyd.

17:30

Mae'n iawn ein bod ni eto, fel Senedd, yn nodi cyfraniad Gareth Jones, unigolyn hynod a wnaeth gymaint cyn ei farwolaeth ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed. Roedd e, mewn gwirionedd, yn rhan o grŵp o ieithyddion deallusol, yn rhan o gylch mewnol Lloyd George. Un arall oedd Morgan Watkin, ewythr Rhodri Morgan—pobl ryfeddol sydd wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth. Ond fe dalodd Gareth Jones y pris eithaf am ei ymgyrch i ddatgelu'r gwirionedd, ac mae'n werth myfyrio heddiw fod 55 o newyddiadurwyr wedi eu lladd yn y gwaith yn 2022, gyda hynny'n cynyddu i 120 yn 2023. Mae Reporters Without Borders yn dweud bod cyflwr rhyddid y wasg yn ddifrifol iawn mewn 31 o wledydd, sy'n nifer ddigynsail. Nid yw pethau'n gwella.

Rydym ni wedi sôn am Gareth Jones. A gaf i hefyd sôn am ei nith, Dr Siriol Colley? Gyda'r Holodomor yn dal i gael ei wadu mewn rhai cylchoedd, mae'r dyddiaduron y daeth o hyd iddyn nhw a'u gwarchod a'u cyhoeddi yn Eryl, cartref y teulu yn y Barri, yn dystiolaeth hanfodol a dibynadwy bod y newyn wedi digwydd a bod y newyn wedi lladd miliynau. Mae'n werth cofio mai un o wadwyr y newyn, Walter Duranty, oedd yr un a enillodd wobr Pulitzer am ei erthyglau ar yr Undeb Sofietaidd yn y 1930au—nid Gareth Jones, ond yr un a wadai'r newyn. Cysegrodd Siriol Colley ddegawdau o'i hymddeoliad gan sicrhau na fydd ei hewythr, ond, yn bwysicach fyth, yr Holodomor, yn cael eu hanghofio eto yng Nghymru a'r gorllewin.

Fel y crybwyllodd Mick Antoniw, mae heddiw yn nodi 1,000 diwrnod ers i'r rhyfel waethygu yn Wcráin, ac eto mae bron i 4,000 o ddyddiau ers yr ymosodiad ar y Crimea. Fel Senedd, dylem dalu teyrnged, fel y mae llawer eisoes wedi'i wneud, i waith Mick ac Alun Davies, am dreulio eu hamdden yn ystod sawl egwyl o'r Senedd yn casglu ac yn mynd â chymorth dyngarol i Wcráin. Dim ond yr wythnos diwethaf, yma yn y Siambr, soniodd Alun Davies am glywed seirenau cyrch awyr yn Wcráin. Yn 2024, mae'n drasig bod sŵn seirenau cyrch awyr yn cael eu clywed unwaith eto ar dir mawr Ewrop, neu unrhyw le arall. A gadewch i ni, fel y dywedodd Adam, beidio â bod yn hunanfodlon na all hynny ddigwydd eto yma yng Nghymru.

Ni allaf beidio â—. Pan glywais Alun yn sôn am y seiren cyrch awyr, ni allaf beidio â meddwl am Alexi a'i deulu sy'n 11 oed. Mae Alexi yn bianydd talentog iawn, a gafodd wersi piano wythnosol am ddim yn y Tabernacl yma yng Nghaerdydd, gyda rhai o gerddorion gorau Cymru. Roedd e'n anhygoel. Es i i un o'i gyngherddau. Dychwelodd ef a'i deulu i Wcráin ddiwedd y llynedd. Ac yn ddiweddar, cwrddais â dwy fenyw o'r Wcráin a ymwelodd â'r cyfleusterau cinio digartref yng nghanol y ddinas yma yng Nghaerdydd. Bu'n rhaid iddyn nhw adael y cartrefi roedden nhw wedi bod yn byw ynddyn nhw ac roedden nhw'n ofnus am y dyfodol. Doedd ganddyn nhw ddim lle i fynd. Yn anffodus, rwyf wedi clywed am enghreifftiau eraill tebyg. Nawr, roedd y menywod hyn yn caru Cymru. Roedden nhw'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gawson nhw. Fe wnaethon nhw ganu Calon Lân i ni a oedd yno. Ond roedd gen i gywilydd nad oedd ganddyn nhw gartref yma yng Nghymru. Felly, pa gefnogaeth barhaus, Ysgrifennydd Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i ffoaduriaid Wcreinaidd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.

17:35
Member (w)
Jane Hutt 17:36:50
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am eich holl gyfraniadau a theyrngedau twymgalon i ddioddefwyr yr Holodomor, ac rwy'n falch bod ein cefnogaeth drawsbleidiol i Wcráin a choffáu'r Holodomor yn dal yn gyson. Mae'n hanfodol ein bod yn anfon neges glir o undod o bob rhan o'r Siambr hon. Ac fel y mae'r Aelodau wedi ein hatgoffa, daeth yr Holodomor o ganlyniad i weithredoedd bwriadol Stalin a'r gyfundrefn Sofietaidd.

Ac mae'n dda ein bod wedi rhoi teyrnged i Gareth Jones heddiw unwaith eto. Rydym ni wedi cael ein goleuo, gan ein bod ni wedi dysgu mwy am Gareth Jones dros y blynyddoedd, ond yn enwedig dros gyfnod goresgyniad Putin—rydym ni wedi cael ein goleuo am ei rôl fel newyddiadurwr dewr o Gymru a gollodd ei fywyd o ganlyniad i'w ddewrder. Roedd yn un o feibion y Barri, ac, yn ogystal â'r placiau rydym ni wedi clywed amdanyn nhw ar draws y byd ac yn Kyiv, rydym ni wedi ei goffáu yn y Barri, ar lan ei fedd, a gyda phlac yng nghapel mynwent y Barri. 

Diolch yn fawr am eich datganiad, Rhun ap Iorwerth—

—fel cyd-newyddiadurwr. A diolch hefyd, Darren Millar, am dynnu sylw at bwysigrwydd ein cefnogaeth i bobl Wcráin, yma ac yn Wcráin. Ac fel y dywedwch chi, Darren, credwn fod undod rhwng ein cenhedloedd yn gadarn ac yn gydnerth. Ac ymatebodd Cymru. Fe wnaethom ni ymateb. Dim ond edrych eto oeddwn i—10,000 o bobl, mewn gwirionedd, ydych chi'n cofio, pan wnaethon ni alw ar bobl i fynegi diddordeb, i roi llety i Wcreiniaid? Mynegodd deng mil o bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn rhoi llety i Wcreiniaid, ac mi wn i fod Aelodau yma yn y Siambr hon a roddodd lety i Wcreiniaid, a sut y gwelsoch chi'r croeso cynnes hwnnw yn eich etholaethau a'ch cymunedau. Felly, mae gennym ni gyfrifoldeb clir i gefnogi Wcreiniaid sy'n ceisio noddfa yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn. Dim ond eisiau gofyn ydw i, mewn gwirionedd. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r Senedd ddeall pa mor gadarn a pha mor ymatebol yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg, i ffactorau allanol ac anwadal, fel y soniodd Adam Price yn ei gyfraniad am y newidiadau geowleidyddol, yn amlwg, gyda'r Unol Daleithiau a chanlyniadau rhai camau gweithredu ar Wcráin ac yn wir y rhannau eraill hynny o orllewin Ewrop, y DU, yr Unol Daleithiau, er enghraifft, o ran y gefnogaeth honno gan Lywodraeth Cymru. A yw hynny'n rhywbeth rydych chi'n meddwl eich bod wedi ymrwymo i'w weld? A yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn newid gyda sefyllfa gyfnewidiol ac anwadal y gallem ni, o bosibl, fod yn ei hwynebu?

Wel, rwy'n falch iawn ein bod yn genedl noddfa, ac fe wnes i ailbwysleisio ein hymrwymiad i'n cenedl noddfa yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar. Ac rwy'n credu bod ysbryd y Cymry'n cefnogi'n cenedl noddfa yn fawr, gan ymateb i wrthdaro ac amgylchiadau byd-eang, fel y gwnaethom ni i gynifer o geiswyr lloches. Fe wnaethon ni gyfarfod â llawer ohonyn nhw, mewn gwirionedd, dim ond yr wythnos diwethaf. Daeth Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig i Gymru, a siaradodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac fe wnaethom ni gwrdd â llawer o'n ceiswyr lloches yma yn y Pierhead.

Ac roeddwn i eisiau ymateb yn gyflym hefyd i'r cwestiynau y mae Rhys ap Iowerth—. Rhys ab Owen. Rwy'n drysu gyda'r enw Rhys heddiw. Felly, dim ond i ddweud bod y rhai sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin yn parhau i gael cyfleoedd i gael eu lletya. Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r lletywr i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin lle na allan nhw fyw mwyach gyda'r teulu sy'n eu noddi a rhaid iddyn nhw gael eu paru o'r newydd â lletywr anghysylltiedig. Mae hwnnw'n ymateb cyfredol pwysig iawn. Ond hefyd, i ddiolch i'n hawdurdodau lleol am y ffordd y gwnaethon nhw ymateb, ymateb tîm Cymru oedd hwn. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer noddwyr a chanllawiau ar gyfer Wcreiniaid drwy ein gwefan Sanctuary.gov.wales, ac rydym yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Wcreiniaid am newidiadau allweddol a allai ddatblygu, a fydd yn effeithio ar eu hamser yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae hynny wedi golygu symud ymlaen o'n canolfannau croeso i lety. Rwyf wedi dweud bod pobl yng Nghymru wedi cynnig eu calonnau a'u cartrefi, caredigrwydd ac ymrwymiad eithriadol. Ond, wrth gwrs, mae ein gwesteion o Wcráin wedi dangos i ni fanteision—llawer o fanteision—mudo, drwy ymgysylltu a rhannu eu holl sgiliau mewn swyddi ym mhob sector, ac yn wir diwylliant hefyd, y mae llawer ohonom wedi elwa ohono. Felly, mae'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid trydydd sector yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth groesawu Wcreiniaid i Gymru yn ddiogel a chefnogi'r pontio maen nhw'n ei wneud i lety tymor hwy, gan gynnwys defnyddio'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol.

Felly, hoffwn ddiolch i Mick Antoniw, ein Haelod Senedd Wcreinaidd. Chi yw ein Haelod Senedd Wcreinaidd, Mick. Rydych chi'n ein hatgoffa ni, bob dydd, pob cyfle, o erchyllterau Holodomor, a phwysigrwydd yr hanes er mwyn i wersi gael eu dysgu am y weithred honno o hil-laddiad. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn werth cofio a myfyrio ar y ffaith bod Llywodraeth Wcráin wedi pasio deddf yn 2006, eto fel y dywedodd Mick, yn cydnabod Holodomor fel hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin. Mae Llywodraeth Rwsia wedi cydnabod bod newyn wedi digwydd yn Wcráin ond gwadodd ei fod yn hil-laddiad. Gwnaeth Senedd Awstralia gydnabod ei fod yn hil-laddiad yn 2003, felly hefyd sawl gwlad Ewropeaidd. Gwnaeth Senedd Ewrop gydnabod bod Holodomor yn drosedd yn erbyn dynoliaeth yn 2008. Felly, mae Holodomor yn parhau i fod yn bwnc poenus i Wcreiniaid, ac mae Wcreiniaid, fel y gwyddom ac fel yr ydym wedi'i ddweud, yn cofio'r digwyddiadau hyn ar Ddiwrnod Coffa Holodomor, ar y pedwerydd dydd Sadwrn o Dachwedd, a byddwn ni'n cofio yma yn y Senedd ar 23 Tachwedd. Ac ar y diwrnod hwn, mae pobl yn Wcráin a ledled y byd yn goleuo canhwyllau er cof am y rhai a laddwyd, a'r llynedd, roedd hi'n 90 mlynedd ers dechrau Holodomor. Ond diolch, hefyd, Mick, am ddwyn i'n sylw eto bwysigrwydd, fel y mae eraill wedi'i wneud heddiw, yr hyn y mae hyn ei olygu i Wcráin nawr, a'r hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae Adam Price ac eraill wedi gwneud sylwadau ar hynny.

Mae pobl Wcráin wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn eu rhyfel â Rwsia, ac er gwaethaf y boen annioddefol y mae'r goresgyniad hwn yn ei hachosi, rydym yn gwybod, i Wcreiniaid ym mhobman, mae Llywodraeth Wcráin wedi parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal llywodraethu democrataidd, gan wella ei systemau i baratoi ar gyfer aelodaeth bosibl o'r Undeb Ewropeaidd a NATO. Mae eu brwydr yn ymwneud â mwy na sofraniaeth diriogaethol, mae'n ymwneud â chynnal gwerthoedd democrataidd yn erbyn ymddygiad ymosodol awdurdodol. Mae cefnogaeth y gymuned ryngwladol wedi bod yn hanfodol i wytnwch parhaus Wcráin, ac rwy'n falch ein bod ni fel Senedd unwaith eto wedi dangos ein cefnogaeth trwy'r cynnig hwn. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, Llywydd, gadewch i ni barhau i adeiladu ar y berthynas sy'n bodoli eisoes rhwng ein dwy genedl. Gadewch i ni groesawu'r cyfleoedd i gydweithio hyd yn oed yn agosach, i gefnogi ein gilydd, ac i ddathlu'r gwerthoedd cyffredin sy'n diffinio ein dwy wlad. Слава Україні! Героям слава!

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unfrydol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ac fe fyddwn ni felly yn gorffen ein gwaith am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:45.