Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/02/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn cychwyn ar ein gwaith y prynhawn yma, dwi eisiau gwneud ambell sylw a datganiad. Yn gyntaf, fel Senedd, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn awyddus i gyfleu ein dymuniadau gorau am wellhad llwyr i'r Brenin Charles wrth iddo gychwyn ar ei driniaeth canser.

Ac yn ail, mi ydyn ni i gyd fel Senedd wedi ein tristáu gan y newyddion am farwolaeth Barry John dros y penwythnos. Seren yn ffurfafen rygbi Cymru a'r byd yn y 1970au—25 cap i Gymru a phump dros y Llewod. Ond nid yr ystadegau sy'n cyfleu mawredd Barry John, ond y stori a'r delweddau ohono yn llifo fel llysywen ar y cae rygbi, heb sôn am y bartneriaeth anhygoel o lwyddiannus hynny gyda Gareth Edwards. Does dim mwy o gydnabyddiaeth o fawredd dawn rygbi rhywun nag i gael eich galw yn 'frenin' gan Seland Newydd. Diolch i'r brenin Barry John, felly, a phob cydymdeimlad â'i deulu a'i gyfeillion, a'i gyd-chwaraewyr, wrthon ni fel Senedd. 

Yn olaf, dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem nesaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Banciau Bwyd

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60673

Llywydd, ers 2019, rydyn ni wedi darparu £18.85 miliwn, gan gynnwys £2 filiwn yn y flwyddyn ariannol hon, i gynorthwyo sefydliadau bwyd cymunedol. Mae'r cyllid hwnnw yn eu cynorthwyo i gael gafael ar gyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol eraill sy'n cefnogi llesiant, deiet iach ac urddas personol, a'u storio a'u dosbarthu.

Diolch, Prif Weinidog. Fis diwethaf, ymwelais â banc bwyd Rhydaman ac roeddwn i'n rhyfeddu at y gwaith caled a'r ymroddiad gan y staff a'r gwirfoddolwyr. A hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddyn nhw am eu holl ymrwymiad i helpu eraill—mae'n wir yn ysbrydoliaeth. Mae'r galw am gymorth gan fanciau bwyd wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Cyn i'r Torïaid ddod i rym, roedd banciau bwyd yn wasanaeth ymylol, a dosbarthwyd 41,000 o becynnau tridiau gan elusen banc bwyd mwyaf y wlad, Ymddiriedolaeth Trussell, yn 2009-10. Ymlaen at 2020-21 ac mae wedi cyrraedd 2.6 miliwn o becynnau. Nodwyd mai'r argyfwng costau byw presennol, oediadau i daliadau lles fel credyd cynhwysol, ag arhosiad o bum wythnos am unrhyw arian o gwbl, a'r gostyngiad fudd-daliadau lwfans tai lleol yw'r rhesymau mwyaf am ddefnyddio banciau bwyd yn ystod fy ymweliad. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch oediadau i daliadau lles a'u heffaith ar aelwydydd yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd? Ac a gaf i ofyn i chi ymuno â mi i ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr mewn banciau bwyd ledled y wlad am eu gwaith caled a'u hymroddiad?

Wel, Llywydd, diolch i Joyce Watson. Ei phrofiad hi yw fy un i yn union ac, rwy'n siŵr, profiad yr holl Aelodau o amgylch y Siambr, sef pan fyddwch yn ymweld â banc bwyd, eich bod chi'n rhyfeddu ar unwaith at yr ymrwymiad y mae pobl sy'n eu rhedeg yn ei ddangos bob wythnos. Ond rwyf bob amser yn cael fy nharo gan y ffaith mai un o'r pethau cyntaf y mae pobl yn ei ddweud wrthych chi pan fyddwch chi'n cyrraedd yno yw faint yr hoffen nhw pe nad oedd angen iddyn nhw fod yn gwneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Joyce Watson, Llywydd, mai'r pethau y bydd pobl yn eu cofio fwyaf, ymhen blynyddoedd i ddod, o'r 14 mlynedd diwethaf fydd banciau bwyd a digartrefedd ar y stryd. Dyna fydd y ddau arwydd gweladwy o effaith 14 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol ar fywydau'r bobl hynny sydd â'r lleiaf. Ac mae'r ffigurau yn union fel y nododd Joyce Watson, Llywydd, yn y twf mewn banciau bwyd, gyda nifer y parseli ar gyfer plant yng Nghymru wedi cynyddu 83 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. 

A, Llywydd, pan fydd y Llywodraeth Geidwadol eisiau gwneud rhywbeth yn gyflym, maen nhw'n canfod eu bod nhw'n gallu. Yn ein holl ohebiaeth dros flynyddoedd lawer gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu hannog i gefnu ar yr arhosiad o bum wythnos, dywedir wrthym ni ei bod hi'n ymarferol amhosibl gwneud hynny. Pan oedd y Canghellor eisiau cyflwyno ei ostyngiad i gyfraniadau yswiriant gwladol, canfu y gallai wneud hynny dim ond â thrawiad ysgrifbin. Dyna'r gwahaniaeth, ynte? Bu'r alwad unigol fwyaf ar y gronfa cymorth dewisol yn y blynyddoedd diwethaf gan bobl sy'n aros am y pum wythnos hynny heb un taliad. Ac nid yw'r rhain yn bobl sydd wedi dewis bod yn y sefyllfa honno yn aml iawn. Maen nhw'n bobl sy'n cael eu symud gan y Llywodraeth o un budd-dal i'r llall. A phan fyddan nhw'n symud, maen nhw'n cael eu gorfodi i aros pum wythnos heb yr un geiniog. Nawr, rydym ni wedi addasu'r ffordd y mae'r gronfa cymorth dewisol yn gweithio i helpu pobl yn y sefyllfa honno. Byddai'n llawer, llawer gwell pe bai'r system yn gweithio'n iawn iddyn nhw yn y lle cyntaf.

13:35

Prif Weinidog, mae'r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin a chostau chwyddiant dilynol wedi effeithio'n ddifrifol ar ein ffermwyr yng Nghymru, yn enwedig trwy gostau cynyddol porthiant, tanwydd a gwrtaith. Nid oes amheuaeth bod hyn wedi arwain at gostau bwyd uwch, gan effeithio ar deuluoedd ledled Cymru. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod mynd i'r afael â thlodi bwyd yng Nghymru yn dibynnu ar sector amaethyddol cadarn ac wedi'i gefnogi yng Nghymru? Os felly, a all ef gadarnhau y bydd y £337 miliwn cyfan a ddyrannwyd i gynorthwyo ffermwyr Cymru o dan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ar gyfer y flwyddyn gyllidol hon yn cael ei wario'n llawn yn cynorthwyo ffermwyr a rheolwyr tir i gynhyrchu bwyd amgylcheddol gynaliadwy, diogel ac y gellir ei olrhain? Byddai hon yn ffordd sicr o barhau i gyflenwi bwyd a chynnyrch i silffoedd ein harchfarchnadoedd a'r cymorth hanfodol i fanciau bwyd sy'n gwasanaethu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Llywydd, mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth wraidd y cynllun ffermio cynaliadwy. Dyma'r peth cyntaf y mae'r cynllun wedi'i gynllunio i'w gyflawni. Rydym ni wedi cadw'r lefel bresennol o daliadau cynllun taliadau sylfaenol i ffermwyr yng Nghymru, yn dra gwahanol i'r hyn sydd wedi digwydd dros ein ffin. Brwydrwyd yn galed iawn dros hynny, mewn rownd gyllideb anodd iawn, ac mae'n arwydd cryf iawn o benderfyniad y Llywodraeth hon i barhau i fuddsoddi mewn cymunedau gwledig.

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Fe es i yn ddiweddar i'r un banc bwyd yn Rhydaman hefyd, ac fe glywais i storïau gan nifer fawr o bobl a oedd yn dibynnu ar y gwasanaeth, a phobl mewn gwaith oedd y rheini, sy'n ddatblygiad pryderus iawn, iawn. Ond mae'r banc bwyd arbennig yma'n rhedeg gwasanaeth cefnogi, sy'n rhoi cyngor i bobl sydd ar fudd-daliadau sy'n gallu elwa o gael cymaint mwy o fudd-daliadau sy'n haeddiannol iddyn nhw—cannoedd ar filoedd o bunnoedd, sy'n dangos bod angen i ni wneud llawer mwy i helpu'r bobl yma i gael y budd-daliadau y mae gyda nhw hawl iddyn nhw. Ond un peth penodol a achosodd bryder i fi am Rydaman oedd gweld y twf yn nifer y bobl dros 65 oed a oedd yn dod i ddibynnu ar fanciau bwyd. Felly, gaf i ofyn beth ydyn ni'n gwneud i gefnogi pobl yn gyffredinol sy'n gweld yr angen am fanciau bwyd, ond yn arbennig y rheini sy'n 65 ac yn hŷn sy'n gynyddol yn dod i ddibynnu arnyn nhw?

Diolch yn fawr i Cefin Campbell, Llywydd, am y cwestiwn ychwanegol yna. Dwi wedi clywed oddi wrth Joyce Watson am y ffaith, pan fydd pobl yn mynd at y banc bwyd yn Rhydaman, nad dim ond bwyd maen nhw'n cael—maen nhw'n cael cyngor ac maen nhw'n cael pethau eraill i'w helpu nhw i wella'r sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu. Rydyn ni wedi cydweithio'n agos â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i helpu pobl i gael credyd pensiwn. Mae nifer fawr o bobl yn Nghymru yn colli mas ar bethau. Mae hawl gyda nhw i'r budd-daliadau yna, ond mae pobl hŷn, rydyn ni'n gwybod, yn pryderu, yn becso, a dydyn nhw ddim yn siŵr am sut mae'r system yn gweithio. Mae lot fwy rydyn ni'n gallu gwneud, ac yn mynd i wneud, gyda'r comisiynydd i helpu pobl i dynnu lawr y pethau sydd yna iddyn nhw. Ac nid jest yr arian y maen nhw'n cael drwy'r credyd pensiwn, ond mae hwnna'n agor y drws i bethau eraill y mae pobl yn gallu eu cael hefyd. Dyna pam mae'r ymdrech y mae'r comisiynydd yn gwneud yn bwysig i bobl hŷn yng Nghymru, ac rydyn ni'n awyddus i wneud mwy gyda hi i roi'r help sydd ar gael i bobl yn y sefyllfa y mae Cefin Campbell wedi ei hesbonio i ni y prynhawn yma.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Dim ond i fynd o un grŵp oedran—pobl hŷn—i'n plant yma yng Nghymru, gadewch i ni fod yn onest, mae ein system fudd-daliadau gan y Llywodraeth Geidwadol yn anfad, yn atgas ac yn gosbol. Mae'r sancsiynau sy'n cael eu rhoi i deuluoedd yn arwain yn y pen draw at blant tlawd yma yng Nghymru. Ond mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau ar gael iddi ac rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno siarter budd-daliadau Cymru. Ond un peth sydd wir yn poeni ambell un ohonom ni yma yn y Siambr yw ein strategaeth dlodi a sut y gellir cryfhau honno. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, sut, yn eich barn chi, y gallwn ni gryfhau ein strategaeth dlodi? Diolch yn fawr iawn.

13:40

Wel, Llywydd, ceir nifer o ffyrdd y mae'r strategaeth dlodi yn ceisio gwneud mwy i helpu pobl ifanc a theuluoedd sydd yn y sefyllfa honno. Rhan ohono, fel y dywedodd Cefin Campbell, yw drwy wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio yng Nghymru ar y cymorth sydd ar gael i bobl ac nad yw bob amser yn cael ei hawlio yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddo ei gael. Nawr, rwy'n cofio trafodaeth yma ar lawr y Senedd am y nifer fawr o deuluoedd yng Nghymru nad oedden nhw'n hawlio talebau Cychwyn Iach, ac, o ganlyniad i'r drafodaeth a gawsom ni yma a'r gwaith a wnaed gan fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, rydym ni wedi llwyddo i gynyddu canran y teuluoedd sy'n cael y cymorth hwnnw. Erbyn hyn, mae 78 y cant o deuluoedd yng Nghymru yn cael y cymorth hwnnw. Mae hynny'n uwch nag yn Lloegr ac mae'n uwch nag yng Ngogledd Iwerddon. Ac mae hynny yn dangos, lle'r ydym ni'n gwneud ymdrech unedig gyda'n gilydd, ein bod ni'n gallu gwneud mwy i wneud yn siŵr bod teuluoedd wir yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Dim ond un enghraifft yw hynny.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at siarter budd-daliadau Cymru. Bydd honno'n cael effaith fawr ym mywydau teuluoedd â phlant, oherwydd un o'r manteision a fydd bellach yn cael ei gysylltu'n awtomatig yw'r cymorth y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Addysg, yn ei wneud ar gael i bobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol sydd angen help gyda chost y diwrnod ysgol. Felly, mae yna gyfres o ffyrdd ymarferol iawn y bydd y strategaeth yn gwneud mwy ac yn helpu pobl ifanc a'u teuluoedd yn y ffordd y mae Jane Dodds wedi ei awgrymu.

Gwasanaethau Bysiau

2. Pa fesurau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i roi mwy o ddylanwad i bobl Cymru dros wasanaethau bysiau? OQ60642

Wel, Llywydd, byddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau i ddiwygio'r system ddadreoleiddio sydd wedi methu. Bydd hynny'n galluogi pob lefel o lywodraeth i weithio gyda'n cymunedau i ddylunio a darparu gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnyn nhw.

Diolch, Prif Weinidog, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gael y Bil bysiau hwnnw o'n blaenau, oherwydd un o'r rhwystredigaethau mwyaf i ni fel cynrychiolwyr, ond hefyd i bobl leol, yw nad oes ganddyn nhw unrhyw lais gwirioneddol o ran ble mae'r llwybrau'n rhedeg ac ar ba adegau o'r dydd i'w cael i'w swyddi, i'w cael nhw i ysbytai, i'w cael nhw i ymweld â ffrindiau, yn enwedig yn rhannau gogleddol y cymoedd yn fy etholaeth i, ond byddwn ni i gyd yn ei deimlo ledled Cymru gyfan. Ond un o'r rhwystredigaethau mawr eraill yw bod un rhan o'r DU sydd wedi cadw'r pwerau i wneud hynny. Pan gawsom y dadreoleiddio trychinebus—hollol drychinebus—hwnnw yn ôl yn y 1980au, lle cafodd y pwerau eu tynnu i ffwrdd o unrhyw fewnbwn democrataidd i reolaeth dros fysiau a llwybrau a gwasanaethau ac yn y blaen, fe wnaeth un lle ei chadw, sef Llundain. Ac, yn Llundain, mae nifer y teithwyr wedi cynyddu, mae'r llwybrau wedi cael eu cynnal, mae'r buddsoddiad wedi bod yn enfawr. Ym mhob man arall, mae wedi diflannu. Felly, a allwn ni gael y sicrwydd y bydd y Bil hwnnw yn cael ei gyflwyno? Ac a all ef egluro i ni beth fydd hynny'n ei olygu i bobl gael mewnbwn i le mae'r llwybrau sy'n gwasanaethu eu cymunedau yn mynd ac sy'n cadw eu bywydau a'u bywoliaeth—rhoi rhywfaint o gyfle i'w cynnal?

Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i'r Aelod bod y Bil hwnnw ar gamau olaf ei baratoad. Mae'n Fil cymhleth, ond bydd yn dod gerbron y Senedd. Un o'r ffyrdd sylfaenol y bydd yn newid y dirwedd fysiau yng Nghymru yw hon: mae'r system yr ydym ni wedi ei hetifeddu a'r system yr ydym ni wedi ei rhedeg hyd yma yn un sy'n talu cymhorthdal fesul taith, fesul teithiwr. Mae honno'n system anodd iawn i Lywodraeth gan ei bod yn ansicr yn ei hanfod ac ni fyddwch byth yn gwybod faint y bydd y system yn ei gostio, ac mae'n anodd i gwmnïau hefyd, gan nad oes ganddyn nhw'r gallu i'w ragweld. Bydd y dyfodol yn golygu sybsideiddio llwybrau, nid unigolion, fel y bydd gennym ni system trafnidiaeth fysiau wedi'i chynllunio, wedi'i chytuno, sefydlog ac wedi'i sybsideiddio yma yng Nghymru, fel bod y llwybrau hynny sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol—a dyna sut y byddwn ni'n ymgynghori â'r cyhoedd, wrth gwrs, yn yr ystyr y byddwn ni'n edrych i weld eu safbwyntiau ar y llwybrau hynny sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol—ond nid yn fasnachol hyfyw, byddwn yn parhau i fuddsoddi'r degau o filiynau o bunnoedd sy'n cael eu rhoi yn y system heddiw ond mewn ffordd nad yw'n rhoi enillion digonol i'r cyhoedd o'r buddsoddiad hwnnw. Dyna'r hyn y bydd y Bil yn caniatáu i ni ei wneud.

13:45

Wrth gwrs, cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Bysiau y DU 2017 ddiwygiadau yn Lloegr saith mlynedd yn ôl. Er ei bod bellach dros ddau ddegawd ers i mi godi'r angen i ymwreiddio profiad byw pobl anabl mewn cynlluniau a dyluniadau ar gyfer amgylcheddau a gwasanaethau lleol, yn hytrach na chreu rhwystrau iddyn nhw wedyn, rwy'n dal i glywed yn rheolaidd gan bobl anabl nad yw hyn yn digwydd o hyd. Wrth eich holi yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Wrecsam fis Gorffennaf diwethaf, cyfeiriais at fy nghyfarfod gydag RNIB Cymru, Vision Support a grŵp ymgyrchu VI Voices Wrecsam, pobl sy'n byw gyda nam ar eu golwg sydd eisiau codi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu, lle'r oedd y materion a godwyd yn cynnwys symud o gwmpas gorsaf fysiau Wrecsam, sgriniau cyffwrdd trafnidiaeth anhygyrch a phryderon y gallai prosiect Porth Wrecsam, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac, mewn egwyddor, gennyf innau hefyd, greu rhwystrau pellach gan nad oedd ganddyn nhw unrhyw fewnbwn i hyn. Mae cwmni Arriva Bus hefyd wedi mynegi pryderon nad ydyn nhw wedi cael eu hymgynghori ynglŷn â'r prosiect hwn, er bod deunyddiau hyrwyddo yn dangos un o'u bysiau. Pam, felly, ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, y mae pobl anabl yn cael eu hatal rhag cael mwy o ddylanwad dros gynlluniau a dyluniad bysiau a gwasanaethau eraill?

Wel, Llywydd, mae gen i ofn na allaf ateb yn fanwl am sut mae cyngor Wrecsam yn cyflawni ei gyfrifoldebau yn y maes hwn, ond rwy'n cofio'r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod i mi pan oeddwn i yn Wrecsam ac rwy'n cofio cytuno ag ef, ac rwy'n cytuno ag ef eto y prynhawn yma, pan fydd gwasanaethau'n cael eu hail-ddylunio, pan fydd cyfleusterau newydd fel gorsaf fysiau newydd, wrth gwrs y dylai llais y defnyddiwr, ac yn enwedig y defnyddwyr hynny sydd ag anghenion penodol, y dylai'r lleisiau hynny gael eu clywed ac y dylid eu cymryd i ystyriaeth yn y ffordd y mae'r gwasanaethau hynny yn cael eu dylunio a'u datblygu.

Pan fydd gennym ni fwy o reolaeth dros wasanaethau bysiau drwy'r model masnachfreinio, bydd yn haws i ni wneud yn siŵr bod y pwyntiau hynny yn cael eu teimlo'n rymus yn y system. Yn y cyfamser, y rhai sy'n gyfrifol ar lawr gwlad am newidiadau i wasanaethau a datblygiadau newydd, wrth gwrs, dylen nhw wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymgynghori â'r grwpiau lleol hynny sydd ag arbenigedd i gyfrannu, sydd â theithwyr sydd eisiau defnyddio'r gwasanaeth hwnnw ac a fyddai'n fwy tebygol o wneud hynny os cymerir yr anghenion hynny i ystyriaeth yn briodol. 

Mae toriadau i wasanaethau bysiau yn y Cymoedd yn cael effaith aruthrol o niweidiol ar fywydau pobl. Rwy'n arbennig o bryderus am anhygyrchedd parhaus Ysbyty Athrofaol y Faenor ar fws o ormod o gymunedau. Nid yw llawer o bobl yn y Cymoedd yn gyrru ac, i fynd o gwm i gwm, maen nhw'n ddibynnol ar fysiau. Mae etholwr wedi ysgrifennu ataf i gwyno nad oes bws uniongyrchol o dref Caerffili i'r ysbyty. Bu'n rhaid i'w cymydog, nad yw'n gyrru, ymweld â'i wraig yn y Faenor ers tair wythnos trwy fynd ar fysiau, ac maen nhw'n gorfod dal dau fws. Gall y daith, mae'n debyg, gymryd mwy nag awr a hanner, sef y peth olaf y byddai unrhyw un ei eisiau pan fyddan nhw'n ymweld â rhywun agos sy'n sâl. Ni all fod yn iawn nad oes gan dref fwyaf y sir fynediad uniongyrchol ar fws i'r prif ysbyty. Ceir trefi ar draws y de-ddwyrain nad oes ganddyn nhw lwybr bws i'r Faenor yn yr un modd. Felly, pa waith brys ellir ei wneud, os gwelwch yn dda, i agor mwy o lwybrau bysiau ar draws y rhanbarth i'r ysbyty canolog hwn?

Wel, Llywydd, mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud eisoes i greu gwasanaethau bysiau newydd i ysbyty'r Faenor. Ni wnaiff unrhyw ddarparwr masnachol ddarparu gwasanaeth o'r fath. Felly, er fy mod i'n cydnabod yn llwyr y pwynt y mae Delyth Jewell wedi ei wneud ynglŷn â bod pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth bysiau, mae'n amlwg nad oes digon ohonyn nhw i berswadio darparwr masnachol i gyflwyno gwasanaeth yn uniongyrchol o Gaerffili, nac yn yr achosion eraill y mae hi wedi eu nodi. Felly, mae'n rhaid i unrhyw wasanaeth newydd gael ei ariannu gan bwrs y wlad. 

Nawr, rydym ni eisoes wedi mynd trwy gynllun bysiau brys, cronfa bontio bysiau, ac rydym ni bellach yn buddsoddi mewn grant cymorth rhwydwaith bysiau, y mae pob un ohonyn nhw wedi'i gynllunio i geisio diwallu'r anghenion niferus y gwyddom sy'n bodoli ym mhob rhan o Gymru. Bydd y Gweinidog wedi clywed y pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud y prynhawn yma, ac rwy'n siŵr y bydd ystyriaeth bellach ohonyn nhw, ond rwyf i wedi gweithio'n agos gyda'r Aelod dros Gaerffili ar y mater hwn. Mae hynny wedi arwain at rai gwelliannau eisoes, ac rwy'n siŵr y bydd y sgyrsiau hynny'n parhau i weld a oes modd gwneud mwy. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

13:50

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau yn gyntaf oll drwy uniaethu â'r sylwadau a wnaethoch chi'n gynharach ac anfon ein dymuniadau gorau at Ei Fawrhydi y Brenin o'r meinciau Ceidwadol am ei wellhad buan a'i ganmol am sôn am y cyflwr y mae'n ei frwydro, yn y gobaith y bydd yn dod â phobl eraill ymlaen i gael diagnosis buan, gan ein bod yn gwybod bod amser yn hanfodol?

O ran Barry John, mae'n dipyn o gamp i gael eich galw'n 'y Brenin' yn Seland Newydd, a dyna statws y dyn, ei fod yn gymaint o athrylith ar y cae rygbi. Yn yr oes amatur, pan oedd cyn lleied o gemau yn cael eu chwarae gan chwaraewyr mewn gwirionedd—llai na 30 cap a 150 o bwyntiau rwy'n credu—mae cael eich galw'n 'y Brenin' yn wobr wirioneddol am y ffordd y chwaraeodd rygbi ar y cae, yn Seland Newydd ac yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, heddiw, rydym ni'n clywed hanes Theresa Jones, y bu'n rhaid iddi aros 24 awr i ambiwlans ymateb i'r alwad o'r cartref gofal yr oedd yn byw ynddo ym Mhort Talbot. Rydym ni hefyd yn gweld mam Jeremy Bowen yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty'r Mynydd Bychan, sydd wedi bod yn eistedd ar gadair blastig ers 4 o'r gloch brynhawn ddoe. Yn y ddau achos, pa mor hir ddylai'r ddwy hyn orfod aros i gael eu gweld?

Wel, Llywydd, fel y bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod, nid wyf i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar achosion unigol, waeth faint o sylw a dynnwyd atyn nhw. Mae ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru wedi mynegi ei siom at y gwasanaeth y llwyddwyd i'r ddarparu, a bydd, heb os, cwestiynau y bydd angen eu gofyn am y gwasanaeth a'r cyngor a roddwyd ac yn y blaen, a byddan nhw'n gwneud hynny. Ein nod, fel y mae'n gwybod, yw gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu cyflwyno mewn adran damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld, eu trin a'u symud, naill ai y tu hwnt i'r gwasanaeth ei hun neu i mewn i ysbyty, o fewn pedair awr. Yng Nghymru, ychydig dros ddwy awr a hanner yw'r amser aros safonol—yr amser aros safonol—o'r eiliad y mae rhywun yn cyrraedd i'r amser y mae eu triniaeth mewn adran damweiniau ac achosion brys yn dod i ben. Mae rhai pobl yn aros yn hwy na hynny, ac mae'r system yn gweithio'n galed i geisio delio â hynny, ond dyna gyflwr presennol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys lle mae'n rhaid i bobl aros.

Prif Weinidog, mae'r rhain yn ddau achos sydd yn y parth cyhoeddus, a rannwyd gan y teuluoedd yn y ddau achos i amlygu'r pwysau ar y system. Nid ydyn nhw'n beirniadu'r staff o gwbl, ac mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw ganmol y profiad a gawson nhw pan fydd y system yn cychwyn ac yn cynorthwyo'r teuluoedd i weld eu hanwyliaid yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ond ni all fod yn dderbyniol pan fyddwn ni'n dod yma wythnos ar ôl wythnos ac yn clywed gan y Gweinidog iechyd bod arian wedi cael ei roi i mewn i wella'r profiad yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru a bod y gwasanaeth ambiwlans yn cael mwy o adnoddau i fodloni'r galw—y cwbl i'w groesawu'n fawr, ond, fel yr amlygodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn eu hadroddiad blynyddol, ni allan nhw ddod o hyd i dystiolaeth o welliannau yn y gwasanaeth. Eu geiriau nhw yw'r rheini, nid fy rhai i. Rwyf i wedi rhestru dau brofiad dau unigolyn oedrannus yma. Nid wyf i'n gofyn i chi wneud sylwadau am y profiad unigol, rwy'n gofyn i chi fyfyrio ar ddarpariaeth y gwasanaeth a sut mae'r Llywodraeth, yr ydych chi'n bennaeth arni, yn gwneud yn siŵr bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwireddu, oherwydd, ym mhrofiad Jennifer Bowen, mae hi'n eistedd o dan hysbysfwrdd sy'n dweud, 'Sut ydym ni'n gwneud?' Y tro diwethaf i'r hysbysfwrdd hwnnw gael ei ddiweddaru yn yr adran damweiniau ac achosion brys honno oedd mis Mai 2023, ac, ar bob un o'r chwe chategori, mae'n wag. Dyna'r profiad y mae pobl yn ei gael. Felly, sut allwn ni weld ymateb rhesymol gan y Llywodraeth i gynorthwyo'r gwasanaeth iechyd, yng ngeiriau'r claf ym Mhort Talbot, i'w siapio hi a mynd i'r afael â hyn?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am hysbysfwrdd unigol mewn adran unigol rhywle yng Nghymru. Os yw eisiau ateb priodol i'w gwestiwn, yna rwy'n credu y byddai'n cydnabod nad yw'r broblem sylfaenol gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys yn y gwasanaeth hwnnw nac yn yr adran honno, mae yn y ffaith bod cynifer o bobl yn ein hysbytai yng Nghymru nad oes angen iddyn nhw fod mewn ysbyty, ond y gellid gofalu amdanyn nhw'n llwyddiannus yn rhywle arall, ond lle mae'r gwasanaethau hynny yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw i symud ymlaen. Felly, mae gennym ni gannoedd lawer iawn o bobl, sy'n ffit yn glinigol i dderbyn gofal yn rhywle arall, sydd mewn gwely ysbyty. Mae hynny'n golygu, pan fydd ambiwlans yn cyrraedd adran damweiniau ac achosion brys, mae'n canfod nad yw'r llif hwnnw drwy'r ysbyty, fel y'i gelwir, yn gweithio, ac mae ambiwlansys yn cael eu hoedi ac nid ydyn nhw ar gael i fynd i ateb galwad arall. Felly, nid yw'n broblem y gallwch chi fynd i'r afael â hi trwy ganolbwyntio ar ben brys ac ambiwlans y system, trwy feddwl pe gallech chi gywiro hynny y byddai'r broblem yn cael ei datrys. Mae'n broblem fwy cymhleth na hynny ac mae ei her sylfaenol yng ngallu'r system—y system gofal cymdeithasol a'r system iechyd—i symud pobl drwy ysbytai acíwt, gan ryddhau gwelyau, gan ei gwneud hi'n haws felly ar ben brys hwnnw'r system i roi'r driniaeth brydlon i bobl sydd ei hangen arnynt.

13:55

A dro ar ôl tro, rydym ni'n cael yr un sgwrs hon yn y Siambr hon, Prif Weinidog. Ceir dealltwriaeth o'r broblem. Nid yw'r atebion yr ydych chi'n eu rhoi ar waith, fel y nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—nid meinciau y Ceidwadwyr, y nododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—yn dangos unrhyw dystiolaeth, yn eu hadroddiad blynyddol, o'r mesurau hynny yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi ymddiheuro i Mrs Jones. A wnewch chi, fel pennaeth Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ac yn rhoi ei gyfarwyddyd gweithredol iddo drwy'r cyfarwyddiadau gweinidogol a gyflwynir, ymddiheuro i deuluoedd y ddwy hyn am y profiad y maen nhw wedi ei gael a rhoi ymrwymiad y byddwn ni'n gweld y gwelliannau hynny fel nad oes yn rhaid i mi ddod yma eto a thynnu sylw at y mathau hyn o ddigwyddiadau trasig sy'n anffodus yn difetha profiad cynifer o bobl yn GIG Cymru?

Wel, Llywydd, rwy'n ymddiheuro i unrhyw un nad yw ei brofiad o GIG Cymru y profiad y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei gael, wrth gwrs fy mod i. Nid yw'n wir nad yw'r gwasanaethau newydd y mae'r Gweinidog wedi eu hariannu a'u datblygu yn cael effaith yn y system. Mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, ac nid wyf i'n credu mai dyna mae adroddiad AGIC yn ei ddweud. Y ffaith amdani yw bod y galw sydd ar y gwasanaeth yn golygu, hyd yn oed pan fo gennym ni wasanaethau brys ar yr un diwrnod, bod gennym ni wasanaethau gofal sylfaenol argyfwng a brys—mae'r rhain yn gweld cannoedd a miloedd o bobl bob wythnos yng Nghymru—pan fydd gennym ni wasanaethau 111 newydd, lle mae pobl yn cael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw heb fyth angen mynd i ysbyty, pan fydd gennym ni wasanaethau newydd mewn fferylliaeth sy'n caniatáu i'r system gael effaith ychwanegol yno, gyda'r holl bethau hynny yno, mae'r galw sy'n dod i mewn i'r system yn golygu bod y pwysau a'r straen mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac mewn gwasanaethau ambiwlans yn parhau i fod yn real iawn. Felly, nid yw'n—. Dychmygwch pe na bai'r pethau hynny yno, pe na baen nhw'n disodli galw i'r gwasanaethau newydd hynny, y pwysau a'r straen ychwanegol a fyddai'n cael eu teimlo. Wrth gwrs, rydym ni'n edrych i weld a oes unrhyw enghreifftiau yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig y gallem ni fanteisio arnyn nhw a fyddai'n ein cynorthwyo i ymateb i heriau GIG Cymru. Y gwir amdani yw bod y rhain yn bwysau ym mhob man. Nid oes gan neb ateb oddi ar y silff syml y gallan nhw ei weithredu yn y ffordd yr wyf i'n credu weithiau y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei awgrymu.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A minnau wedi bod i ddigwyddiad i nodi Diwrnod Canser y Byd yma yn y Senedd heddiw, a gaf i ddymuno'n dda i'r Brenin ar ôl ei ddiagnosis o, a dymuno'n dda, wrth gwrs, i bob un sydd yn wynebu ac yn cael eu cyffwrdd gan ganser?

Mi wnaf innau ddweud gair o deyrnged i Barry John. Mi oedd gen i a'r teulu bêl rygbi go arbennig pan oeddwn i'n tyfu i fyny. Pêl rygbi oedd hi wedi’i arwyddo gan 15 Carwyn James a 15 Barry John o'r gêm honno i'r Urdd digwyddodd rhyw bedwar mis cyn i fi gael fy ngeni. Mae'r ffaith ein bod ni'n dal yma rŵan yn talu teyrnged i'r fath athrylith rygbi ac yn meddwl amdano fe fel un na fu erioed mo’i debyg, mewn gwirionedd, yn dweud cymaint o feddwl sydd gennym ni ohono fo fel dyn ac fel chwaraewr. Mae ein cydymdeimlad ni efo'r teulu.

Mi fyddwn ni'n troi ein sylw at y diwydiant dur eto'r prynhawn yma. Mi fydd Plaid Cymru, fel rydyn ni wastad wedi gwneud, yn dadlau'r achos dros ddiogelu Port Talbot a'r swyddi yno a dros sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen i ddelifro pontio teg tuag at ddyfodol mwy gwyrdd. Mae'r diwydiant dur yn teimlo, yn hollol iawn, eu bod nhw wedi cael eu gadael lawr, ond dydyn nhw ddim yr unig rai sydd yn teimlo diffyg cefnogaeth ar hyn o bryd.

Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n sefyll yn gadarn ar ochr gweithwyr dur y prynhawn yma. Mae ein penderfyniad i godi'r bygythiad o ddinistr i swyddi a'r gymuned ym Mhort Talbot wedi dangos yn eglur yr hyn yr ydym ni wir yn ei olygu pan fyddwn ni'n dweud ein bod ni eisiau 'trosglwyddiad cyfiawn i ddyfodol gwyrddach'. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod cefnogi trosglwyddiad cyfiawn yn egwyddor a ddylai fod yr un mor bwysig i'r sector amaeth hefyd?

14:00

Wel, Llywydd, nid oeddwn i wedi bwriadu cael fy nhynnu i mewn i'r sylwadau agoriadol a wnaethoch chi ar ddechrau'r sesiwn heddiw, ond o ystyried bod eraill wedi, fe wnaf i ddweud yr un peth hwn wrthych chi. Fe wnaeth fy mrawd ganfod yn ddiweddar, ymhlith eiddo yr oedd wedi eu cymryd o gartref fy mam, hen lyfr llofnodion yr oedd gen i pan oeddwn i'n blentyn. Dyma'r pedwar cofnod cyntaf yn y llyfr llofnodion. Y cyntaf oedd fy Aelod Seneddol ar y pryd, Gwynfor Evans. Yr ail oedd Barry John. Y trydydd oedd Gerald Davies. A'r pedwerydd oedd Leslie Crowther a Peter Glaze. [Chwerthin.] Nawr, pe baech chi eisiau crynhoi plentyndod yn sir Gaerfyrddin yn y 1960au, rwy'n credu bod y pedair tudalen gyntaf hynny yn ôl pob tebyg yn gwneud hynny, a dyna lle'r oedd Barry John, i fyny yno ochr yn ochr ag arwyr eraill hynny fy mhlentyndod.

I droi at y pwynt a wnaeth yr Aelod am ddur, wel, wrth gwrs, bydd y Llywodraeth hon, gyda'n cynghreiriaid yn y mudiad undebau llafur, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn a dyfodol llwyddiannus i'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Dyna pam yr oedd Gweinidog yr economi a minnau ym Mhort Talbot yr wythnos diwethaf, yn cyfarfod â chadeirydd bwrdd byd-eang Tata, gan wneud yr union bwyntiau hyn iddo, bod cynllun amgen credadwy i'r un y mae'r cwmni ei hun wedi ei roi ar y bwrdd hyd yma. Rydym ni'n disgwyl, dros yr wythnosau nesaf, y bydd y cynllun credadwy hwnnw yn cael y sylw y mae ei angen ac yn ei haeddu, ac y dylid cytuno ar ddyfodol amgen, llwybr amgen i'r dyfodol hwnnw sydd gan Bort Talbot o gynhyrchu dur gwyrdd, rhwng yr undebau llafur, y gymuned, a'r cwmni ei hun, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ein rhan yn hynny, yn union fel yr ydym ni'n chwarae ein rhan mewn trosglwyddiad cyfiawn i ddyfodol ffermio. Ond wrth i'r diwydiant dur wynebu cyfnod pontio, felly hefyd y mae ffermio, a dyna'r daith yr ydym ni arni. Rydym ni yno i gefnogi cymunedau ffermio ynddo. Ond bydd y dyfodol yn wahanol i'r gorffennol.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Nid wyf i'n synhwyro gwrthodiad i bontio gan y sector amaeth. Ceir teimlad nad yw'n gyfiawn, yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei wneud ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw bod teimlad nad yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn gwerthfawrogi pa effaith sy'n cael ei theimlo o osod her ar ben her ar ben her i'r sector. Dyma rydym ni, a'n llefarydd Llyr Gruffydd, wedi ei ddadlau ers tro. Nid yw'n un peth o reidrwydd. Maen nhw i gyd yn cael mân effeithiau, ydyn, ond yn gyfunol maen nhw'n teimlo fel ergyd drom i'r diwydiant.

Mae'r rhwystredigaethau wedi dod yn amlwg mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y dyddiau diwethaf. 'Nid yw Llywodraeth Cymru yn deall', medden nhw, 'dydyn nhw ddim yn gweld effaith ddofn y methiant parhaus i ddelio â TB, ddim wir yn deall sut mae'r newid i gynllun Cynefin Cymru mewn perygl o ddadwneud cynifer o flynyddoedd o waith, ddim yn gweld nad yw gorchudd coed gorfodol o 10 y cant yn ymarferol i gynifer.' Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn hyrwyddwr dros ffermio. Mae'n rhaid i amaethyddiaeth fod yn bartner o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a darparu dyfodol bwyd diogel a chynaliadwy. Felly, gadewch i mi apelio i'r Prif Weinidog: ystyriwch hyd a lled y sefyllfa, gweithiwch gyda'r sector mewn ysbryd sy'n teimlo i'r sector fel cydweithredu.

Cwestiwn penodol ar hyn: fe wnaf i droi at fater y coed, y gorchudd coed o 10 y cant. Edrychwch eto ar yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ddibrisio tir, ar golli tir fferm cynhyrchiol, yr effeithiau ar lefelau da byw a chyflogaeth yn y diwydiant. Gallwn gyrraedd y nodau amgylcheddol. Gallwn gyrraedd y nodau amgylcheddol, ond yn fwy hyblyg—trosglwyddiad cyfiawn. Nawr, os nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon ceisio cyfaddawd yma, oni fydd y sector yn dod i'r casgliad nad oes gan ei Lywodraeth lawer o ddiddordeb mewn cydweithredu?

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, hoffwn gydnabod y pwysau a ddaw yn sgil newid. Pryd bynnag y bydd pobl yn wynebu newid, mae yna ansicrwydd ac mae yna deimlad bod y dyfodol yn mynd i fod yn her. Rwy'n llwyr gydnabod y teimlad hwnnw mewn cymunedau gwledig yma yng Nghymru. Ond os gwnewch chi droi at y pwynt penodol y mae'r Aelod wedi ei godi, byddai'n ddisynnwyr awgrymu nad yw'r Llywodraeth eisoes wedi gwrando ac eisoes wedi newid y polisi sydd gennym ni o ran gorchudd coed. Cafodd y cynigion a ddatblygodd y Gweinidog dros yr haf eu hysbysu gan y trafodaethau iddi eu cael. Roeddwn i gyda hi mewn tair gwahanol sioe sir, pan glywsom ni gan ffermwyr sut y byddem ni'n delio â'r darnau hynny o dir lle na ellir creu gorchudd coed, sut y byddem ni'n delio â'r darnau hynny o dir lle'r oedd pethau eraill yr oedd ffermwyr eisoes wedi bwriadu eu gwneud â nhw, ac mae'r cynigion yr ydym ni wedi eu cyflwyno yn ateb yr holl gwestiynau hynny.

Nawr, yn yr etholiad diwethaf, aeth y Llywodraeth hon o flaen pobl Cymru gyda tharged ar gyfer plannu coed yma yng Nghymru. Aeth Plaid Cymru i'r un etholiad gyda tharged ddwywaith mor uchel â tharged y Llywodraeth. Ble mae arweinydd Plaid Cymru yn credu y bydd y coed y gwnaeth eu haddo yn cael eu plannu os nad oedden nhw'n mynd i gael eu plannu ar dir amaethyddol? Felly, mae cyfaddawd i'w wneud, rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth; mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ein bod ni wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae ffermwyr wedi ei ddweud, ond ni fyddwn yn cyfaddawdu o ran y camau y byddwn ni'n eu cymryd i wneud yn siŵr bod y wlad hon yn gwneud ein cyfraniad at y newid yn yr hinsawdd, a bydd ffermio a rhannau gwledig o Gymru yn gwneud cyfraniad at hynny.

14:05

Nid yw hyn yn ymwneud â gwrthod tyfu coed, ac rydym ni yn yr un lle'n sylfaenol ag yr oeddem o ran hynny. Yr hyn rydym ni'n ei ddweud, a'r hyn y mae ffermwyr yn ei ddweud, yw'r goeden iawn yn y lle iawn. Mae ffermwyr eisiau plannu coed, ond cyfrwch y carbon, nid y coed; cofiwch yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni yma. Nod amgylcheddol rydym ni'n ceisio ei gyrraedd, nid nifer y coed, ac mae angen i ni allu addasu, a dyna mae ffermwyr eisiau ei wneud.

Nawr, wythnos yn ôl, roeddwn i'n pwysleisio pa mor bwysig oedd hi i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob cornel o Gymru yn cael ei gwasanaethu'n gyfartal o ran gofal iechyd, fel y digwyddodd, bryd hynny: gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Mae'r un peth yn wir am Gymru drefol a gwledig: mae plentyn mewn tlodi yn blentyn mewn tlodi boed mewn pentref gwledig neu yng nghanol dinas, ac mae'r angen i sefyll dros ddiwydiant sydd o dan fygythiad yr un fath pa un a yw hynny mewn lleoliad gwledig neu drefol. Ac rydym ni'n dychwelyd at ddur eto: gadewch i ni frwydro dros Bort Talbot, ond gadewch i ni frwydro dros ein sector ffermio hefyd. Nawr, fe wnes i fwynhau blynyddoedd hapus yn byw yng Nghaerdydd, ond rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i ddod i'r gymuned wledig yr wyf i'n byw ynddi nawr, a lle cefais fy magu. Siaradwch â'r ffermwyr ifanc, y rhai yn y gadwyn gyflenwi. Menywod ifanc a dynion fel fy mab fy hun, sy'n astudio ar gyfer gradd mewn amaethyddiaeth—

Bydd yn rhaid i chi ddod i gwestiwn. Rwyf i wedi bod yn hael iawn gyda chi y prynhawn yma. Dewch at eich cwestiwn os gwelwch yn dda.

Mae pobl eisiau dyfodol. Nawr, rydym ni'n gwybod beth yw'r ofnau: 5,000 o swyddi neu fwy wedi mynd; £200 miliwn yn cael ei gymryd allan o'r sector amaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog materion gwledig yn dweud bod y modelu wedi dyddio. Wel, dewch â'r modelu diweddaraf i ni fel y gallwn ni gynllunio ar gyfer dyfodol go iawn i'n sector ffermio.

Wel, Llywydd, y goeden iawn yn y lle iawn yw'r union beth y mae ein cynllun ffermio cynaliadwy yn ceisio ei gyflawni. Dyna pam rydym ni'n parhau i ymgynghori â'r sector; dyna pam y bydd gennym ni gyfnod pontio hir i gynllun ffermio cynaliadwy'r dyfodol. Pan fyddwn ni'n gwybod faint o arian sydd gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i'r cyfnod adolygiad cynhwysfawr o wariant hwn, byddwn yn gallu nid yn unig modelu'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig, ond defnyddio ffigurau gwirioneddol, oherwydd byddwn ni'n gwybod bryd hynny y ffigurau sydd gennym ni, ac ar yr adeg honno dyna'r ydym ni wedi ei addo a dyna'n union y byddwn ni'n ei wneud.

Cyflenwad Digonol o Dai

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cyflenwad digonol o dai i ddiwallu anghenion poblogaeth y dyfodol? OQ60671

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae polisi cynllunio lleol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddyrannu digon o dir ar gyfer tai yn eu cynlluniau datblygu lleol i ddiwallu anghenion eu cymunedau. Caiff CDLl eu hysbysu gan amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau o'r farchnad dai leol a rhagamcanion aelwyd Llywodraeth Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Gyda disgwyl i boblogaeth y DU gynyddu i bron i 75 miliwn erbyn diwedd y ddegawd, yn bennaf oherwydd cynnydd i fudo o'r tu allan, mae disgwyl i'r pwysau am dai fforddiadwy godi'n sylweddol. Yn anffodus, mae awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn methu â bodloni'r galw presennol, heb sôn am anghenion y dyfodol. Ar hyn o bryd mae gennym ni 90,000 o bobl ledled Cymru ar restr aros am dai cymdeithasol, ac mae digartrefedd, y gwnaethoch chi sôn amdano yn gynharach, yn cynyddu'n gyflym yn ein trefi a'n dinasoedd. Ar draws fy rhanbarth i, does dim un uned tai cymdeithasol newydd wedi cael ei hadeiladu yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf—[Torri ar draws.]—ac eto mae awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i gartrefu teuluoedd digartref mewn gwestai mor bell i ffwrdd â Bryste.

Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn croesawu'r ffaith bod tai fforddiadwy wedi bod ar gynnydd o 26 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'r cynnydd hwnnw'n dod o'r lefel isaf erioed, ac yn dal i fod yn llai na chwarter yr hyn sydd ei angen i fodloni'r gofynion presennol. Prif Weinidog, a wnewch chi dderbyn nawr bod eich Llywodraeth yn methu â chyflawni ei rhwymedigaethau o ran tai, a mabwysiadu cynllun tai'r Ceidwadwyr Cymreig, fel y gallwn ni sicrhau digon o dai i ymdopi â phoblogaeth sy'n cynyddu?

14:10

Wel, Llywydd, ni allaf dderbyn cyfres gyfan o'r honiadau anghywir a wnaeth yr Aelod yn y cwestiwn dilynol yna. Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod y system dai o dan bwysau enfawr. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi'r symiau mwyaf erioed o arian i greu 20,000 o gartrefi newydd i'w rhentu'n gymdeithasol yma yng Nghymru. Dyna pam rydym ni wedi cadw'r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, pan fo Lloegr wedi cefnu arno. Dyna pam rydym ni wedi rhoi'r symiau mwyaf erioed o arian yng nghronfa datblygu eiddo Cymru a chronfa safleoedd segur Cymru, i wneud yn siŵr y gall adeiladu tai ddigwydd yma yng Nghymru.

Fis diwethaf, dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi na fyddai'r Llywodraeth, yn Lloegr, yn cyrraedd hyd yn oed hanner ei thargedau tai. Yma yng Nghymru, rydym ni'n parhau i fuddsoddi gyda'r diwydiant, gyda'n partneriaid yn y mudiad tai cymdeithasol ac mewn awdurdodau lleol, i wneud popeth o fewn ein gallu i greu'r cartrefi gwerth chweil hynny, cartrefi marchnad a chartrefi rhent cymdeithasol y bydd eu hangen yng Nghymru yn y dyfodol.

Yn ôl UK Finance, ym mis Mehefin 2023, roedd ychydig yn llai na 380,000 o forgeisi heb eu talu yng Nghymru, â chyfanswm gwerth o £40 biliwn. O'r £40 biliwn hwnnw, mae llai nag 1 y cant gyda chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae hyn yn dweud wrthym ni, yn fras, bod tua £39 biliwn a mwy o'n cyfoeth yn llifo allan o Gymru i gwmnïau aml-wladol mawr a'u cyfranddalwyr. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau i ddatblygu darparwr morgeisi a gefnogir yn lleol yma yng Nghymru?

Mae gennym ni ddarparwr morgeisi wedi'i leoli'n lleol yma yng Nghymru: mae gennym ni Gymdeithas Adeiladu Principality, mae gennym ni Monmouthshire Building Society, mae gennym ni Swansea Building Society. Mae'n nonsens awgrymu nad oes gennym ni sefydliadau yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, nid wyf i'n rhannu ei ragfarn yn erbyn pobl sy'n dewis trefnu eu morgeisi gyda chwmnïau sy'n gweithredu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae gan bobl yng Nghymru ddewis ynghylch ble maen nhw'n mynd; nid wyf i'n ei ystyried rywsut yn anwlatgarol bod â'ch morgais gyda chwmni lle mae arian yn mynd y tu allan i Gymru.

Diolch i Altaf Hussain am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Wrth gwrs, er mwyn darparu mwy o dai cymdeithasol, mae angen i ni fod â systemau cynllunio effeithiol ar waith ar draws awdurdodau lleol. Byddai Aelodau Torïaidd yn gwneud yn dda i ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, lle penderfynodd llawer o'u gwleidyddion, eu cynghorwyr, bleidleisio yn erbyn CDLl yr oedden nhw'n gyfrifol amdano. Nawr, Prif Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd rhoi'r saga druenus hon y tu ôl i ni, i symud ymlaen er mwyn y fwrdeistref sirol, ac er mwyn darparu mwy o gartrefi cymdeithasol i bobl sydd eu hangen yn daer?

Wel, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna, Llywydd. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn i mi am CDLl Wrecsam dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ac rwy'n cofio dweud, bryd hynny, fy mod i'n gobeithio, nawr, bod pen y mwdwl yn cael ei gau ar y stori druenus hon, ac, o'r diwedd, bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfarwyddyd yr Uchel Lys. Mae'n drueni mawr i mi ddarganfod bod ansicrwydd pellach yn cael ei gyflwyno i'r darlun hwnnw bellach. Mae hynny'n arbennig o anffodus yn erbyn cefndir adroddiad Archwilio Cymru ar wasanaethau cynllunio yn y cyngor a gyhoeddwyd ddim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Mae ganddo stori drist iawn i'w hadrodd am y berthynas doredig rhwng aelodau a swyddogion yn yr awdurdod lleol hwnnw, a'r risgiau sylweddol a grëwyd i'r cyngor ac, felly, i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol honno, o ganlyniad i chwalfa yn y cysylltiadau hynny. Byddai'n ddoeth i aelodau'r cyngor hwnnw roi sylw i argymhellion yr adroddiad hwn a'r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw nid i geisio annog ffyrdd anghyfreithlon o ymddwyn, ond i drwsio'r difrod a wnaed gan eu methiant i wneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf.

14:15
Lefelau Cynyddol o Ddigartrefedd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o ddigartrefedd ledled Cymru? OQ60664

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i'n huchelgais i ddod â digartrefedd i ben. Rydyn ni'n buddsoddi dros £210 miliwn eleni yn unig mewn gwasanaethau atal a chymorth digartrefedd. Mae hynny wedi'i ddiogelu, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol hynod heriol. Ac rydyn ni hefyd yn buddsoddi dros £300 miliwn eleni, y swm uchaf erioed, mewn tai cymdeithasol.

Diolch. Mae digartrefedd yn fesur allweddol, wrth gwrs, o ffyniant cymdeithas, felly gadewch i ni edrych ar y ffigurau yn ystod eich deiliadaeth chi, o bum mlynedd, Prif Weinidog. Y llynedd, cafodd 5,481 o aelwydydd, sef dros 10,000 o unigolion a 3,000 o blant eu rhoi mewn llety dros dro, i fyny o 2,052 o aelwydydd yn 2018, cynnydd o 167 y cant. Y llynedd, cafodd 5,094 o aelwydydd eu nodi'n anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, i fyny o 2,229 o aelwydydd pan ddaethoch chi i mewn yn gyntaf, cynnydd o 129 y cant. Ar yr un pryd, mae mwy na 100,000 o gartrefi yng Nghymru yn eistedd yn gwbl wag, cynnydd o 303 y cant ers 2018. Mae nifer y bobl sy'n cysgu yn y stryd yn cynyddu'n wythnosol ac mae cylchgrawn Inside Housing wedi nodi bod llety dros dro, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cynyddu mwy na 7,000 y cant. Onid yw'n arwydd trist o'ch amser chi fel ein Prif Weinidog bod digartrefedd wedi cynyddu'n aruthrol, ac a ydych chi'n falch o'r record honno? Diolch.  

Diolch i'r Aelod am nodi mor fyw effaith y polisïau y mae ei Llywodraeth hi wedi'u gweithredu ar Gymru. Dyma ganlyniad dros ddegawd o gyni ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Dyma effaith drychinebus prifweinidogaeth Liz Truss a'r effaith ar gost morgeisi pobl. Sut mae hi'n credu bod pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf? Y rheswm am hyn yw bod pobl wedi cael eu gadael yn y sefyllfa ofnadwy honno, o ganlyniad i'r polisïau hynny. 

A gaf i achub ar y cyfle hefyd, Llywydd, i gywiro'r Aelod ac Aelodau Ceidwadol eraill pan fyddan nhw'n honni bod 100,000 o dai gwag yma yng Nghymru? Maen nhw'n dibynnu ar giplun a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dyna unrhyw fath o dŷ sy'n wag ar y diwrnod hwnnw. Mae'r ffigyrau gwirioneddol i'w gweld yn y ffigyrau blynyddol sy'n cael eu cynhyrchu o dai sy'n wag ers dros chwe mis. Mae hynny'n dangos chwarter y ffigwr y mae'r Aelod wedi'i nodi. Ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon wedi caniatáu i awdurdodau lleol godi 300 y cant o dreth gyngor ar dai sy'n wag dros y cyfnod hwnnw.

Rwy'n falch, Llywydd—rwy'n falch o'r ffaith bod y Senedd hon wedi pasio newid mewn rheoliadau sy'n golygu, erbyn hyn, bod pobl sy'n ddigartref yn cael ei hystyried mewn angen blaenoriaethol, yma yng Nghymru. Oes, mae llawer gormod o bobl mewn llety dros dro o ganlyniad, ond o ran ei phlaid hi, nid yw'r bobl hynny mewn llety dros dro—maen nhw allan ar y stryd. 

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gall pob un ohonom yn y Siambr hon gofio'r sylwadau gwarthus gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, fod cysgu ar y stryd yn 'ddewis ffordd o fyw' honedig, wrth amddiffyn ei phenderfyniad i gyfyngu ar ddefnyddio pebyll ar strydoedd Prydain gan bobl ddigartref. Mae ei phenderfyniadau cywilyddus wedi cael eu trosi'n gynigion i droseddoli cysgu ar y stryd niwsans ym Mil Cyfiawnder Troseddol Llywodraeth y DU, sydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r dull blaengar sy'n canolbwyntio ar bobl y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei ddefnyddio ar gyfer bobl sy'n byw ar y strydoedd yma. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod troseddoli'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yn cyfyngu gyfleoedd i'r rhai mwyaf agored i niwed ymgysylltu â gwasanaethau hanfodol, yn aml eu hunig lwybr diogel allan o amgylchiadau a orfododd iddyn nhw gysgu ar y stryd yn y lle cyntaf? 

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Vikki Howells newydd ei ddweud. Roedd ei dyfyniad gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref yn datgelu barn y Llywodraeth honno. Dyma'r person a oedd yn gyfrifol am y Bil hwnnw, ac roedd yn warthus, yn hollol warthus, i ddisgrifio pobl sydd yn y sefyllfa anffodus y nododd Janet Finch-Saunders, fel eu bod wedi 'dewis ffordd o fyw'. A nawr, mae'r bobl hynny sy'n cael eu gorfodi i'r sefyllfa honno i gael eu troseddoli am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Roedd Suella Braverman am droseddoli sefydliadau trydydd sector ac elusennol a oedd yn rhoi cymorth i bobl o dan yr amgylchiadau hynny. Ond y gwir bwynt yw'r pwynt y mae Vikki Howells yn ei wneud, Llywydd—lle mae pobl i gael eu helpu, os ydych chi'n eu trin nhw fel troseddwyr, rydych chi ond yn eu gyrru nhw i ffwrdd o'r help sydd ar gael iddyn nhw. Ni allai fod ffordd fwy gwrthgynhyrchiol o ddarparu gwasanaethau i bobl y mae arnyn nhw eu hangen fwyaf na throi'r bobl hynny yn droseddwyr. Rwy'n gobeithio, pan ddaw cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd hon, y byddwn ni'n gwneud ein barn ni ar y pwynt hwnnw'n glir.

14:20
Yr Economi yn Nwyrain De Cymru

5. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i gryfhau'r economi yn Nwyrain De Cymru? OQ60674

Rydyn ni'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd. Mae gan dde-ddwyrain Cymru gryfderau economaidd sylweddol, er enghraifft mewn lled-ddargludyddion, seiber a thechnoleg ariannol. Mae ein cynlluniau'n cefnogi'r cryfderau hyn fel sylfaen dyfodol economaidd y rhanbarth.

Diolch am yr ateb yna, a dwi'n falch eich bod chi wedi sôn am semiconductors yn fanna.

Hoffwn i ganolbwyntio ar Newport Wafer Fab a'r broses gaffael barhaus gan y cwmni o America, Vishay. Ni wnaf fanylu ar hanes cythryblus y safle hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae'n deg dweud bod y cannoedd o staff sy'n gweithio yno yn haeddu newyddion da am y trosglwyddiad hwn. Er bod pencadlys y cwmni sydd â diddordeb yng ngwlad ein cynghreiriad agosaf, yn ôl y sôn, mae'n ymddangos bod San Steffan wedi bod yn llusgo ei thraed o ran cymeradwyo'r broses gaffael. Mae'r oedi hwn yn gohirio buddsoddi, mae'n gohirio diogelwch swyddi ac mae'n gohirio ehangu. A ydych chi'n rhannu fy mhryderon a fy rhwystredigaethau i, yn ogystal â'r cannoedd sy'n gweithio ar y safle yn Newport Wafer Fab, am yr aros i San Steffan gymeradwyo safle mor allweddol i economi Cymru? Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod y broses hon yn cael ei chwblhau erbyn y dyddiad cau ar 22 Chwefror er mwyn diogelu'r diwydiant lled-ddargludyddion?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig hyn. Maen nhw'n adleisio pwyntiau a gafodd eu gwneud i mi yn ddiweddar gan yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ar ran ei hetholwyr hi. Dyma enghraifft o ffatri bwysig iawn, sy'n bwysig i dde Cymru ond sy'n bwysig ymhell y tu hwnt i hynny, lle penderfynodd Llywodraeth y DU nad oedd Nexperia, y cwmni a oedd wedi prynu'r cyfleuster, yn cael parhau â'r berchnogaeth honno. Yna, gwnaethon nhw droi eu cefnau arno. Yn blwmp ac yn blaen, fe wnaethon nhw droi eu cefnau arno. Ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw ni wnaethon nhw gynnig unrhyw gymorth, ni wnaethon nhw gynnig unrhyw arweiniad, ni wnaethon nhw gynnig unrhyw ffordd o wneud gwahaniaeth i'r penderfyniad hwnnw.

Yn ffodus, mae yna gwmni sy'n dymuno buddsoddi ar y safle hwnnw. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod yn rhaid iddi gyflawni proses glirio uned diogelwch buddsoddi o'r cais hwnnw, ac fe addawodd y bydd wedi cwblhau honno erbyn 5 Ionawr. Wel, dyma ni, ymhell i mewn i fis Chwefror, ac nid oes unrhyw gliriad o gwbl wedi dod. Ysgrifennodd y Gweinidog at y Gweinidog yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ar 30 Ionawr, yr wythnos diwethaf, yn gofyn iddo hwyluso'r penderfyniad, a thynnu sylw at ganlyniadau peidio â gwneud hynny—y bydd unrhyw oedi pellach i gwblhau'r broses caffael nawr yn golygu na all y broses gaffael ddigwydd tan fis Mawrth ar y cynharaf. Mae hynny'n golygu ansicrwydd newydd: ansicrwydd newydd i weithwyr, ansicrwydd newydd i gyflenwyr, ansicrwydd newydd i'r cwmni sy'n ceisio buddsoddi yma yng Nghymru.

Felly, rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Gallwch chi fod yn dawel eich meddwl bod Gweinidog yr economi yn y fan yma'n gwneud popeth o fewn ein gallu i berswadio Llywodraeth y DU i gyflawni'r amserlenni y maen nhw eu hunain wedi'u pennu ac i ddod â'r ansicrwydd sydd wedi'i wreiddio yn y penderfyniad y gwnaethon nhw eu hunain yn y lle cyntaf.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OQ60649

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghonwy a sir Ddinbych yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy'r bwrdd iechyd lleol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Cafodd adroddiad blynyddol monitro iechyd meddwl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Mae'n asesu'r cynnydd sydd wedi ei wneud ac yn nodi meysydd i'w gwella ymhellach ledled Cymru. 

14:25

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd mewn mesurau arbennig oherwydd methiannau, ac rydyn ni'n gwybod eu bod nhw wedi bod mewn mesurau arbennig ac yn destun ymyrraeth ers 2015. Ond mae'n ddrwg gennyf i roi gwybod i chi fy mod i'n cael adroddiadau o hyd am broblemau parhaus yn y gwasanaethau hyn, yn enwedig o ran gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, mae arnaf i ofn, ar hyn o bryd.

Mae etholwyr a sefydliadau eraill sy'n gweithio i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cysylltu â mi yn aml gan ddweud wrthyf eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd i gael cymorth gan y gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol yng nghanolfan iechyd meddwl Nant y Glyn Bae Colwyn. Mae cleifion sy'n cysylltu â'r ganolfan yn cael eu diystyru, maen nhw'n addo eu ffonio yn ôl, ond dydyn nhw ddim yn eu derbyn, ac mae hyd yn oed gorchmynion llys i roi cymorth i gleifion yn cael eu hanwybyddu.

Rwy'n gwybod bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi codi pryderon am fynediad at gymorth iechyd meddwl cymunedol yn y ganolfan honno; rwyf i hefyd wedi codi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ond mae arnaf i ofn nad oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw welliant. Os rhywbeth, mae'n ymddangos bod pethau'n gwaethygu, ac ymddengys nad oes llawer yn cael ei wneud ar hyn o bryd o ran taflu goleuni ar y pethau hyn gan y bwrdd iechyd ei hun, nac, yn wir, Llywodraeth Cymru. 

Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn fy etholaeth i'n gallu cael y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol hanfodol hynny y mae eu hangen arnyn nhw, fel nad yw eu hiechyd yn gwaethygu, ac nad ydyn nhw'n dod i niwed?

Diolch i Darren Millar am y pwyntiau pwysig hynny, yr wyf i'n eu cymryd o ddifrif. Rwy'n ymwybodol o'r cwynion sydd wedi'u gwneud am wasanaeth tîm iechyd meddwl cymunedol Nant y Glyn yn ei etholaeth ef. Rwy'n ymwybodol mai un o'r rhesymau pam y cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru archwiliad o'r gwasanaeth yn ddiweddar, oedd oherwydd nifer y pryderon a gafodd eu codi gyda nhw. Byddai'r bwrdd iechyd ei hun yn dweud bod camau wedi'u cymryd a bod nifer y cwynion y llynedd yn is na nifer y cwynion a ddaeth i law yn 2022. Siaradais i fy hun ag is-gadeirydd y bwrdd dros y penwythnos—yr is-gadeirydd sydd newydd ei benodi, Gareth Williams, a fydd yn arwain ar ran y bwrdd ar wasanaethau iechyd meddwl. Roedd e'n ymwybodol ar unwaith o natur y pryderon a gafodd eu codi, ac adleisiodd lawer o'r pethau y mae'r Aelod lleol wedi'u codi y prynhawn yma, Llywydd.

Byddwn ni'n aros am adroddiad yr arolygiad hwnnw gan AGIC. Ni chodwyd unrhyw bryderon ar unwaith. Bydd e'n ymwybodol mai'r peth cyntaf y mae AGIC yn ei wneud yw nodi unrhyw bethau y mae angen eu cywiro yn y fan a'r lle. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n rhywfaint o gysur o leiaf nad oedd unrhyw faterion o'r math hwnnw. Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill, ac yna bydd gennym asesiad annibynnol o gyflwr presennol y gwasanaethau. Rwy'n siŵr y bydd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr argymhellion hynny'n cael eu cymryd o ddifrif a bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gweithredu. 

Ambiwlans Awyr Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y Llywodraeth yng ngwaith Ambiwlans Awyr Cymru? OQ60634

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn annibynnol. Mae'n cael ei ariannu gan bobl Cymru ac nid yw'n atebol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, sy'n gweithio gyda'r elusen i ddarparu gwasanaethau gofal critigol arbenigol, yn cael ei gomisiynu gan y byrddau iechyd.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth ynghylch y cynlluniau i aildrefnu'r ambiwlans awyr, y gallai

'dau neu dri o bobl bob diwrnod nad ydyn nhw'n derbyn y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd dderbyn y gwasanaeth o dan y trefniadau newydd'.

Dyna'r dyfyniad. Mae'r modelu yn dangos bod yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn wir am fwy nag un o'r opsiynau sydd yn cael eu hystyried. Mae'n wir cyn belled ag y mae canoli gwasanaeth yn rhywle fel Rhuddlan yn y cwestiwn, ond mae e hefyd yn wir y byddai mwy o bobl yn cael eu gweld o gadw'r canolfannau presennol yn Ninas Dinlle a'r Trallwng, a thrwy gyflwyno cerbyd ymateb brys yn y gogledd-ddwyrain. Ond y gwahaniaeth rhwng y ddau opsiwn ydy bod y modelu'n dangos, drwy ganoli'r gwasanaeth, y byddai cymunedau gogledd Môn, Pen Llŷn, Meirionnydd, Maldwyn a gogledd Ceredigion oll yn colli allan yn sylweddol. Ydy'r Prif Weinidog, felly, yn cytuno â mi fod hyn yn bryderus ac, ymhellach, yn cytuno na ddylid cyflwyno unrhyw gynllun ad-drefnu sydd yn peryglu pobl yn y cymunedau yma?

14:30

Wel, allaf i ddim cytuno gyda'r Aelod, achos beth dwi wedi'i weld yw bod dau egwyddor gyda'r bobl a'r arbenigwyr yn y maes sydd wedi gwneud y gwaith i weld a allwn ni dynnu mwy o wasanaeth mas o bopeth sydd gyda ni ar hyn o bryd. A'r egwyddor gyntaf oedd: os yw pobl yn cael y gwasanaeth nawr, dylid parhau i'w gael—parhau i'w gael. Dyna'r egwyddor gyntaf—nid cael llai o wasanaeth, ond cario ymlaen gyda'r gwasanaeth sydd gyda nhw ar hyn o bryd. A'r ail egwyddor oedd i weld a yw'n bosibl, trwy newidiadau, i gael mwy o bobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth. Dyna oedd pwrpas y gwaith i gyd.

Nawr, mae'r gwaith yna'n parhau i fynd ymlaen. Mae mwy o drafodaethau gyda phobl leol. Ond ar ddiwedd y dydd, os yw'r gwaith yn dangos y gallwn ni gario ymlaen gyda'r gwasanaeth sy'n bodoli nawr i bobl yng ngogledd Cymru, ac yn y gorllewin hefyd, a hefyd i gael mwy o bobl i gael y gwasanaeth yn y dyfodol, gallaf i ddim dweud fy mod yn mynd i fod yn erbyn y casgliad yna. 

Cymry sy'n Byw Dramor

8. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gynnal perthnasoedd â Chymry sy'n byw dramor? OQ60655

Llywydd, mae’r Cymry ar wasgar, y rhai sydd wedi astudio yng Nghymru, a chyfeillion Cymru sy’n byw ac yn gweithio dramor yn chwarae rôl bwysig i hyrwyddo ein gwlad. Maen nhw’n cynrychioli y gorau o ddiwylliant Cymru, ac maen nhw’n annog cysylltiadau busnes ac eraill. Rydym yn parhau i feithrin cysylltiadau â’r Cymry ar wasgar fel rhan o'n strategaeth rhyngwladol. 

Diolch, Brif Weinidog. Gyda'r cyfyngiad yn cael ei godi ar bleidleiswyr Cymreig sy'n byw dramor yn yr etholiad cyffredinol nesaf, mae'n bwysicach fyth ein bod ni yn creu cyswllt gyda'r Cymry alltud. A'r wythnos diwethaf, roedd yn fraint cwrdd â nifer o Gymru alltud yn Philadelphia a Washington. Er bod nifer heb eu geni yng Nghymru, a rhai heb dras Gymreig o gwbl, maent yn angerddol, fel y dywedoch chi, dros ein gwlad ni. Maent yn cadw ac yn hyrwyddo nifer o lefydd hanesyddol, yn siarad, canu ac yn gweddïo yn Gymraeg, ac yn pobi'r piciau ar y maen gorau dwi wedi'u blasu ers blynyddoedd. 

Dwi ddim yn mynd i ailadrodd consérn Cadeirydd y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf ar impact y gyllideb ar gysylltiadau rhyngwladol, ond, yn sicr, mae yna botensial enfawr fan hyn ymysg y Cymry dramor i gyfrannu tuag at ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant. Yn yr amserau heriol ac ansefydlog yma, Brif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i hyrwyddo Cymru yn effeithiol yn fyd-eang? Diolch yn fawr. 

Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda'r Aelod am bwysigrwydd gwneud gwaith ledled y byd. Ble bynnag rŷch chi'n cwrdd â phobl o Gymru ar draws y byd, maen nhw mor frwdfrydig i gynrychioli Cymru ac i gyfrannu at lwyddiant Cymru yn y dyfodol. 

Clywais fod yr Aelod wedi bod draw yn America, ac, wrth gwrs, mae tîm o bobl gyda ni yn America yn barod sy'n gweithio'n galed i wneud popeth roedd yr Aelod yn siarad amdano, i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth am Gymru, i wneud mwy i gydweithio â phobl sy'n fodlon ein helpu ni yn yr ymdrech yna. Rŷn ni wedi cefnogi, dros y blynyddoedd, yr ŵyl sydd ar gael yng Ngogledd America, sy'n tynnu pobl o Gymru at ei gilydd, ac mae nifer o Weinidogion wedi bod draw yn America i wneud yr un peth. 

Llywydd, rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol dros y chwe mis diwethaf oedd ymweliad Gweinidog yr Economi â Birmingham, Alabama, i helpu i nodi chwe deg mlynedd ers y digwyddiadau ofnadwy pan fomiwyd Eglwys y Bedyddwyr ar Sixteenth Street, a lle gwnaeth pobl o Gymru y cyfraniadau hynny i'r ffenestr honno sydd wedi bod yn gymaint o symbol o'n cyfeillgarwch â phobl Birmingham yn Alabama. Ac rwy'n credu bod hynny'n symbol go iawn o'r union bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud y prynhawn yma, a phenderfyniad y Llywodraeth hon i barhau i gefnogi'r ymdrechion hynny.

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a Lesley Griffiths, y Trefnydd, i wneud y datganiad yma.

Diolch, Llywydd. Mae yna dri newid i agenda heddiw. Yn gyntaf, bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud datganiad ar adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd—y camau nesaf. Yn ail, rwyf i wedi gohirio'r ddadl ar y Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024, a gaiff ei haildrefnu maes o law. Yn olaf, bydd Gweinidog yr Economi yn ceisio ataliad o'r Rheolau Sefydlog wedi ystyriaeth o'r gyllideb ddrafft, er mwyn rhoi cyfle inni drafod y diwydiant dur yng Nghymru. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, neithiwr fe wnes i ymuno â ffermwyr yn Arberth, yn fy etholaeth i, ar gyfer sioe deithiol NFU Cymru, ar gyfer ymdrin â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydych chi'n ymwybodol fod dros 1,000 o ffermwyr wedi cyfarfod yn y Trallwng yr wythnos diwethaf, gyda phryderon ynghylch dull y Llywodraeth hon o ymdrin ag amaethyddiaeth a'r economi wledig yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn y digwyddiad ddoe, roedd hi'n amlwg oddi wrth NFU Cymru—. Ac rwyf i'n eu canmol nhw am gyflwyniad effeithiol eu sioe deithiol nhw, a'u dadansoddiad manwl o'r cynllun ffermio cynaliadwy, gan fynd drwy 17 pwynt y camau gweithredu cyffredinol. Mae hynny'n wahanol iawn i ddigwyddiadau teithiol gan Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud dim ond dethol rhai o'r camau gweithredu cyffredinol—fe gafodd hynny ei gyfleu yn ei ôl i mi. Nawr, nid aeth eironi'r sefyllfa heibio i mi pan dynnwyd sylw at y ffaith mai'r darlun mwyaf amlwg a welir yn yr ymgynghoriad yw darlun o goeden. Mae ffermwyr yng Nghymru yn teimlo yn ddigalon, yn rhwystredig ac yn ddig. Fe ysgrifennais i atoch chi yr wythnos diwethaf i ofyn a fyddech chi'n gohirio'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy am y tro, er mwyn i'r tymheredd ostwng, ac er mwyn i Lywodraeth Cymru, ffermwyr, a'r undebau ffermio edrych unwaith eto ar y cynllun ffermio cynaliadwy, gan sicrhau nad yw'n parhau fel y mae, sef polisi o hunan-niweidio economaidd, a fyddai'n achosi colli 5,500 o swyddi. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch a ydych chi wedi ystyried gohirio'r cynllun am y tro, ar gyfer sicrhau bod y tymheredd yn gostwng, ac nad yw ffermwyr yn cael eu gorfodi i blygu i gynllun nad yw'n addas i'r sector yma yng Nghymru. Oherwydd, cofiwch: heb ffermwyr, nid oes bwyd—heb amaeth, heb faeth.

Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi ysgrifennu ataf i, ac wrth gwrs fe fyddaf i'n ymateb i chi'r wythnos hon. Gydag NFU Cymru y bydd fy nghyfarfod nesaf i, yn union ar ôl i mi ymadael â'r Siambr wedi'r datganiad busnes hwn. Rydym ni wedi mynd allan i ymgynghori. Rwy'n credu bod angen i bawb gofio ein bod ni allan i ymgynghori. Mae mis arall eto. Fel clywsoch chi'r Prif Weinidog yn dweud, mae'r ymgynghoriad wedi newid ac esblygu dros y blynyddoedd. Rydym ni wedi gwrando ar y ffermwyr ers saith mlynedd—ymhell cyn i chi fod yma. Rydym ni wedi bod yn gwrando ar ffermwyr ers saith mlynedd, ers pleidlais y refferendwm i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn gyfnod o newid, ac rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ein bod ni'n llwyr gydnabod hynny ac yn deall hynny. Rwyf innau hefyd am roi teyrnged i'r NFU am gynnal y sioeau teithiol hyn. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i gymaint o ffermwyr â phosibl ymgysylltu â'r rhain, nid sioeau teithiol Llywodraeth Cymru yn unig—. Ac fe gefais i gyfarfod gyda'm swyddogion ychydig cyn i mi ddod i mewn i'r Siambr, i gael y data diweddaraf yn ôl a'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal. Ac mae hi'n ddiddorol iawn gweld nifer y ffermwyr sy'n awyddus i fynychu'r sioeau teithiol, i gael atebion i'r cwestiynau sydd ganddyn nhw ynghylch yr ymgynghoriad. Ond ymgynghoriad ydyw. Mae angen i ni aros i'r ymgynghoriad hwnnw ddod i ben, ymhen mis. Fe fydd yna drafodaethau pellach, ac wedyn fe fydd yna ddadansoddiad economaidd pellach. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael wneud ar frys. Rwyf i wedi dweud na fydd y newid hwnnw i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn digwydd hyd nes y bydd y cynllun hwnnw'n barod. Ac fe wnaf i ymateb i chi'r wythnos hon.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sut mae sefydliadau o fewn ei phortffolio yn ymateb i'r toriadau yn y gyllideb ddrafft. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n trafod y gyllideb ddrafft yn nes ymlaen, ond fe geir un pwynt penodol. Mae llawer o sefydliadau wedi agor cynlluniau diswyddo gwirfoddol eisoes, gan ragweld y toriadau, ac maen nhw'n rhybuddio y bydd diswyddiadau gorfodol yn debygol. Mae'r ffaith fod rhai o'r sefydliadau, fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, rwy'n credu, wedi agor y cynlluniau mewn gwirionedd ar ôl newid yn ddiweddar, heb fawr ddim ymgynghori, y telerau a'r amodau sy'n ymwneud â diswyddiadau gwirfoddol a diswyddiadau gorfodol yn peri pryder. Fe fydd yr amodau llai ffafriol yn effeithio yn anghymesur ar bobl ifanc, ond ar rai hefyd sydd wedi cymryd cyfnodau i ffwrdd o'u gyrfaoedd—menywod sydd wedi bod yn magu eu teuluoedd yw'r rhan fwyaf. Felly, y datganiad yr hoffwn ei gael byddai un ynglŷn ag unrhyw asesiad a wnaeth y Dirprwy Weinidog o ran sut mae sefydliadau yn paratoi i weithredu'r toriadau, a sut ydym ni am sicrhau y bydd cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'i gilydd, i sicrhau nad oes anghysondebau fel hyn, pe byddai hi'n mynd i'r pen a bod rhaid diswyddo pobl yn orfodol. 

14:40

Diolch i chi. Wel, yn amlwg, mae pob cyllideb wedi gorfod wynebu toriadau ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae Gweinidog yr Economi, ac mae hwnnw, wrth gwrs yn bortffolio'r Dirprwy Weinidog hefyd, wedi gweld toriadau sylweddol y bu'n rhaid, wedyn, yn anffodus, eu trosglwyddo i'r math o sefydliadau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Rwy'n credu ei fod yn ddarn pwysig iawn o waith, cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, ein bod ni i gyd, fel Gweinidogion, yn cael trafodaethau gyda'n rhanddeiliaid ynglŷn â'r mathau o ostyngiadau y bu'n rhaid i ni eu trosglwyddo, yn anffodus. Ac rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Weinidog yn parhau i gael y trafodaethau hyn, wrth symud ymlaen. 

Fe hoffwn i sôn ychydig mwy am y sylwadau a wnaeth Sam Kurtz, oherwydd mae'n rhaid eu gweld nhw o ran effaith Brexit ar ein gallu ni i sicrhau bod gennym ddiogelwch bwyd, yn ogystal â newid hinsawdd, wrth inni weld Barcelona yn cyhoeddi sychder y mis hwn, a'r materion difrifol iawn sy'n ein hwynebu ni i gyd. Felly, tybed a yw hi'n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth ar ein diogelwch bwyd a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â hynny, gan gynnwys sut y byddwn ni'n rheoli ein rhaglen rheoli tir. 

Fe glywsoch chi'r Prif Weinidog, yn gynharach, yn dweud ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio sicrhau nad yw pobl yn cael eu derbyn i ysbytai heb angen gwirioneddol iddyn nhw fod yno. Felly, o edrych ar yr Academi Gwyddorau Meddygol, a alwodd am gamau ddoe i ymdrin â chyfraddau marwolaethau babanod, lle mae'r DU yn safle rhif deg ar hugain o blith 49 o wledydd cyfoethog, o ran gordewdra, lle mae un o bob pump o blant dan bump oed yn ordew neu dros bwysau, a phydredd dannedd, sy'n cael ei godi yn aml gan fy nghyd-Aelod, Jane Dodds. Ac yng ngoleuni adroddiad y Sefydliad Bwyd ar fwydo ar y fron heddiw, sy'n nodi, mewn arolwg o famau â phlant dan 18 mis, bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n dweud y bydden nhw wedi hoffi parhau i fwydo o'r fron am ragor o amser, ac fe wyddom ni mai hwnnw yw un o'r ymyriadau pwysicaf—. Rwy'n gwybod bod Gweinidogion iechyd wedi gwneud llawer iawn i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron, ond mae mwy eto i'w wneud bob amser, a dyma un o'r ffyrdd o atal plant rhag cael eu derbyn i'r ysbyty naill ai â heintiau anadlol neu gastrig, oherwydd pan fydd y rhain yn cychwyn, fe allan nhw fynd yn ddifrifol iawn yn gyflym iawn. 

Diolch i chi. Rwy'n credu eich bod chi'n codi dau bwynt pwysig iawn, ond mae'r un olaf, yn fy marn i, yn un pwysig tu hwnt. Yn sicr, yn rhinwedd fy swydd o ran y gogledd, roeddwn i yn yr Eisteddfod yr haf y llynedd, pan gwrddais i ag ymwelwyr iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwneud gwaith gwych i barhau i hyrwyddo'r union bwnc yr oeddech chi'n cyfeirio ato o ran sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision bwydo ar y fron cyn belled ag y bo modd. 

O ran diogelwch bwyd, sydd, wrth gwrs, yn hynod bwysig, ac yn un o'r pethau yn y cynllun ffermio cynaliadwy—. Fe wyddom ni mai'r bygythiad mwyaf i'n cynhyrchiad bwyd cynaliadwy yw'r argyfwng newid hinsawdd. Ac rwy'n cytuno yn llwyr â'ch sylwadau ynghylch gadael yr UE. Roeddwn i ar fferm ddydd Iau, lle'r oedd saith o bobl o gwmpas y bwrdd yn trafod sut roedden nhw'n teimlo—wel, nid wyf i'n credu bod yr ymadrodd 'fe'n twyllwyd ni' yn rhy gryf—pan wnaethon nhw bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, am eu bod nhw'n credu yn gryf yn yr hyn a ddywedwyd wrthyn nhw. Yn anffodus, ni ddaeth yr wybodaeth briodol na'r wybodaeth gywir i'r amlwg, ac mae effaith hynny yn cael ei deimlo ledled y wlad ar hyn o bryd. 

Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol a chyllid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, ac yn enwedig ar effaith y Gorchymyn hwnnw, y mae rhan sylweddol ohono yn diffinio busnes hunanarlwyo fel un y mae'n rhaid ei osod am 182 noson y flwyddyn, sy'n gynnydd, fel gwyddoch chi, o'r diffiniad blaenorol o 70 noson. Ac fe fyddwch chi'n cofio fy mod i wedi codi pryderon sylweddol am y Gorchymyn hwn, wrth iddo wneud ei ffordd drwy'r Senedd. Ac rwy'n poeni nawr o glywed am faterion penodol, sy'n dangos cyfyngiadau ar fusnesau—y busnesau hunanarlwyo hynny—yn ystod cyfnodau cyfyngiadau symud COVID, ac sy'n cael eu hystyried i bob pwrpas yn 'ddiddymiadau' erbyn hyn o ran y busnesau hynny, er nad oedd gan y busnesau hynny unrhyw ddewis ar y pryd. Felly, mae hyn yn gwthio nifer o fusnesau dilys allan i'w dosbarthu yn ail gartrefi ac yn agored i gostau ychwanegol sylweddol, er nad oedd ganddyn nhw ddewis o ran y cyfyngiadau hynny a orfodwyd arnyn nhw yn ystod cyfyngiadau symud COVID. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar o gael datganiad gan y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf y mae cymaint o'i hangen ynghylch effaith y Gorchymyn hwn ers iddo ddod i rym bron i ddwy flynedd yn ôl. Diolch i chi.

14:45

Wel, mae'r Gweinidog yn ei lle ac fe glywodd eich cwestiwn. Rwy'n credu y byddai hi'n well pe byddech chi'n ysgrifennu yn uniongyrchol ati hi.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os caf i, ynglŷn â defnyddio meddalwedd cofnodion cleifion electronig mewn offthalmoleg ar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Caniatawyd rhoi meddalwedd cofnodion cleifion electronig OpenEyes ar draws Betsi Cadwaladr cyn COVID. Cafodd sefydlu'r meddalwedd ei ohirio i ddechrau oherwydd caeadau yn sgil COVID, ac fe'i gohiriwyd ymhellach bryd hynny oherwydd newidiadau ymysg rheolaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Nawr, mae'r meddalwedd wedi profi ei fod yn ddibynadwy, mae'n barod i'w ddefnyddio ar draws Betsi, ac fe fyddai o gymorth mawr i ymarferwyr oherwydd ei ddefnyddioldeb o ran atgyfeiriadau electronig a'i weithrediad rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Fe fyddai'n caniatáu i gofnodion fod ar gael ledled Cymru gyfan hefyd, sy'n hanfodol wrth gwrs ar gyfer gwneud mesurau gofal llygaid Cymru yn effeithiol. Nawr, yn anffodus, nid yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ystyried defnyddio OpenEyes ar draws Betsi erbyn hyn. Mewn gwirionedd, mae Betsi yn gweithio erbyn hyn i ddatblygu meddalwedd arall a allai achosi oedi am flynyddoedd lawer cyn y gellir defnyddio meddalwedd cofnodion cleifion electronig ar draws y gogledd, ac fe fyddai hynny'n rhoi cleifion dan anfantais fawr. Felly, mae angen i ni ddeall, mewn gwirionedd, a yw'r Gweinidog o'r farn y dylid defnyddio meddalwedd OpenEyes, sydd â'r gost leiaf posibl i'w rhedeg ac y profwyd ei bod yn gweithio, ledled y gogledd i sicrhau nad yw cleifion offthalmoleg yn cael eu rhoi dan ragor o anfantais.

Diolch i chi. Wel, rwy'n ymwybodol o hynny; nid oeddwn i'n ymwybodol fod y penderfyniad hwnnw wedi cael ei wneud. Nid wyf i'n siŵr mai mater i'r Gweinidog yw gwneud y penderfyniad hwnnw, ond yn sicr fe wnaf i ofyn iddi hi ynglŷn â'r pwynt y gwnaethoch chi ei godi a gofyn iddi hi ysgrifennu atoch chi.

Prynhawn da, Gweinidog. Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf, un gan y Gweinidog iechyd unwaith eto, ynghylch estyn rhagor o gefnogaeth i feddygon teulu yng nghefn gwlad. Rwyf wedi bod yn ymweld â nifer o feddygon teulu yng nghefn gwlad Powys dros yr wythnos ddiwethaf i siarad â nhw ynglŷn â'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu, a thema gyffredin sy'n deillio o'r trafodaethau hynny yw nad yw'r modelau presennol o ran sefydlu a chyllido cytundebol yn rhoi digon o ystyriaeth i'r gwasanaethau ychwanegol y maen nhw'n eu darparu, fel fflebotomi, apwyntiadau'r un diwrnod, ac ati, y mae'n rhaid i feddygfeydd cefn gwlad eu darparu oherwydd, mewn ardaloedd trefol, fe allen nhw fod gennych chi wrth law. Felly, rwyf i'n cefnogi taliad i feddygon teulu yng nghefn gwlad i sicrhau ein bod ni'n gallu cefnogi ein meddygon teulu yng nghefn gwlad. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r gefnogaeth i'n meddygon teulu yng nghefn gwlad.

Hefyd, yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r cynnydd o ran adfer adeiladau preswyl anniogel yng Nghymru? Fe fyddwn yn ddiolchgar iawn am ddatganiad ar ba asesiad a wnaeth hi o'r achos tribiwnlys diweddar ac, yn benodol, a yw deddfwriaeth Cymru wedi syrthio tu ôl i'r un yn Lloegr erbyn hyn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Wel, mae hi'n amlwg bod meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig yn gorfod darparu gwasanaethau gwahanol i'w cleifion na'r rhai mewn ardaloedd trefol efallai, yn ôl pob tebyg. Fe ymwelais i fy hun â meddygfa yn Wrecsam, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener, lle'r oedd hi'n anhygoel gweld yr ystod o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Felly, rwy'n credu mai'r peth tebygol yw bod hynny'n cael ei wneud ar sail meddygfeydd unigol. Ond, rwy'n derbyn yn llwyr y pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â meddygon teulu yng nghefn gwlad. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn ynglŷn â'r ymgyrch farchnata i sicrhau bod meddygfeydd gwledig yn gallu bod yn ddeniadol i'r meddygon teulu newydd sy'n dod yno wrth symud ymlaen, oherwydd fe welsom ni gynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n manteisio ar leoedd i hyfforddi meddygon teulu, ond efallai yn yr ardaloedd trefol yn fwy na'r ardaloedd gwledig. Nid wyf i'n siŵr a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i daliad llawfeddygaeth wledig, ond rydych chi'n ymwybodol, yn amlwg, bod cymhellion ariannol yn cael eu cynnig ar gyfer meddygon teulu ers tua 2017, rwy'n credu.

O ran diogelwch adeiladau, fe wn i fod y Gweinidog wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd yn ôl ym mis Tachwedd, rwy'n credu mai dyna pryd oedd hi, tua thri mis yn ôl, am faterion diogelwch tân. Mae ganddi hi ragor o wybodaeth ynglŷn â'r tribiwnlys yr oeddech chi'n sôn amdano, ac rwyf i am ofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Diolch, Llywydd. Gan ein bod bellach wedi dechrau ar gyfnod rygbi'r chwe gwlad, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar benderfyniad Undeb Rygbi Cymru i symud dwy o gemau dan 20 Cymru o'r gogledd ac yn ôl i Gaerdydd. Nawr, ar gyfer rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae gemau dan 20 y chwe gwlad yng Nghymru wedi cael eu chwarae yn y gogledd ers sawl blwyddyn ac wedi eu mwynhau gan lawer o bobl yn yr ardal honno ers ymhell dros ddegawd. Ac, i rai pobl, dyma'r unig gyfle ar gael iddyn nhw weld rygbi rhyngwladol byw yn eu hardal leol, gyda'r rhan fwyaf o gemau rygbi Cymru a chwaraeon yn gyffredinol yn cael eu chwarae naill ai yng Nghaerdydd neu yn y de. I bobl leol, dyma enghraifft arall o ddigwyddiadau mawr Cymru yn cael eu cynnal yn y de, heb fawr o ystyriaeth i bobl yn y gogledd. Felly, a all y Dirprwy Weinidog roi datganiad ar ba drafodaethau a gafodd hi gydag URC ynghylch y mater hwn, a beth yw'r rhesymau dros symud gemau rygbi rhyngwladol byw o'r gogledd, a pha gynlluniau, os o gwbl, sydd gan Undeb Rygbi Cymru i arallgyfeirio ei gynnig chwaraeon i bobl ledled Cymru, ac nid yn unig i'r de, oherwydd, unwaith eto, y gogledd sydd ar ei golled o ran digwyddiadau arwyddocaol wrth iddyn nhw gael eu cynnal yng Nghaerdydd? Diolch i chi.

14:50

Diolch i chi. Rwyf i'n cytuno yn llwyr â'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Penderfyniad gan URC oedd hwn. Rwyf i o'r farn mai'r penderfyniad anghywir oedd hwnnw. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn—i lawer o bobl ifanc, na fydden nhw fyth yn cael cyfle i ddod i lawr i Gaerdydd i weld rygbi rhyngwladol. Felly, mae'r ffaith ein bod ni wedi gweld y gemau dan 20 oed yn cael eu chwarae ym Mharc Eirias wedi bod yn bwysig iawn. Yn sicr fe fyddaf i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog a gafodd hi neu ei swyddogion unrhyw drafodaethau cyn i URC wneud y penderfyniad hwnnw. Os nad felly, fel Gweinidog gogledd Cymru, fe fyddaf i'n ysgrifennu at URC i gael deall sut y bu iddyn nhw wneud y penderfyniad hwnnw.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd—Y camau nesaf

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd, a'r camau nesaf. Y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn. 

Ar 3 Ionawr, cyhoeddodd Fenella Morris CB adroddiad damniol ar ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd yn tynnu sylw at gamdrin a gwahaniaethu ar bob lefel, a methiant difrifol gan yr arweinwyr a’r rheolwyr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn fy natganiad llafar yr wythnos ganlynol, roeddwn i'n egluro pa mor ddifrifol oedd y canfyddiadau hyn. Nid dim ond bod rhai aelodau o staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymddwyn yn ofnadwy, ond bod y sefydliad wedi methu ag atal, canfod nac ymdrin â hynny. Roedd safonau sylfaenol llywodraethu a rheoli da wedi methu, gan feithrin diwylliant gwenwynllyd yn y gweithle lle nad oedd gwahaniaethu, camdriniaeth na chamymddwyn yn cael eu hatal. Felly, fe ddywedais i nad y cwestiwn oedd a fyddai Llywodraeth Cymru yn ymyrryd, ond ym mha fodd y byddai'n gwneud hynny. Rwyf i wedi myfyrio ar y dewisiadau sydd ar gael yn llawn ond â brys mawr. Rwyf i wedi ystyried ymateb ffurfiol yr awdurdod tân ac achub i'r adroddiad hefyd, y cytunodd yn unfrydol arno ar 15 Ionawr, ac rwyf i wedi cael rhagor o sgyrsiau gyda'r cadeirydd. Rwy'n falch fod ymateb yr awdurdod tân ac achub wedi derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn. Prin y gallai fod wedi gwneud fel arall o ystyried grym y dystiolaeth yn yr adroddiad, ond ychydig iawn a welais i sy'n mynd i'r afael â'r pryderon ehangach a amlinellais i'n flaenorol mewn ffordd ddigonol.

Yn anffodus, nid wyf i'n hyderus o allu'r gwasanaeth ynddo'i hun i oruchwylio ei adferiad. Mae rheolaeth ar bob lefel, hyd at ac yn cynnwys yr uchaf, yn ymhlyg yn y methiannau a nodwyd. Ni all yr un rhai fod yn gyfrifol am achosi'r broblem a'i datrys hi hefyd. Ac mae hi'n amlwg nad yw bwriad y prif swyddog tân i ymddeol yn ddigonol i ysgogi'r newidiadau mawr a fydd eu hangen o ran prosesau, gwerthoedd a diwylliant.

Mae cynllun yr awdurdod yn galw am gymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill. Mae hynny'n rhesymol. Ond mae angen sylfeini cadarn ar gefnogaeth o'r fath ac arweinyddiaeth amlwg ac ymroddedig i sbarduno'r newid, ac nid wyf i'n gweld unrhyw dystiolaeth o hynny. Pan drafodais i hyn gyda'r cadeirydd mewn cyfarfod diweddar yr unig beth a ddywedodd ef oedd bod rhaid iddo ymddiried yn y personél a'r prosesau a oedd ar waith. Nid yw hynny'n rhoi unrhyw sicrwydd o gwbl i mi.

Rwy'n pryderu yn ddifrifol hefyd oherwydd bod y methiannau hyn yn peryglu gallu'r gwasanaeth i weithredu gyda diogelwch ac effeithiolrwydd. Wrth gwrs, mae llawer iawn o ddiffoddwyr tân yn y de sy'n gwbl ymroddedig i'w gwaith. Ond fe fydd staff sy'n ddiawydd, sy'n cael eu camreoli, a'u harwain yn wael ac yn agored i wahaniaethu a cham-drin bob amser yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae gan ddiffyg rheolaeth briodol sy'n caniatáu i arferion gwael barhau fel mae'r adroddiad yn eu nodi oblygiadau mwy eang sy'n mynd y tu draw i faterion o gamymddwyn a gwahaniaethu. Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw wasanaeth cyhoeddus, yn enwedig un sydd â chyfrifoldeb i amddiffyn pobl rhag niwed difrifol. Nid yw cynllun yr awdurdod yn sôn o gwbl am y perygl hwn. Mae'r cadeirydd wedi rhoi sicrwydd i mi'n gyffredinol nad oes ac na fydd unrhyw effaith ar wasanaethau craidd, ond dim mwy na hynny. Nid yw hynny'n ddigonol. Mae'r peryglon hyn yn wirioneddol ac o'n blaenau ni nawr, ac mae gennyf i ddwy enghraifft ddiweddar o sut mae'r methiannau o nodwyd o ran rheolaeth yn effeithio yn uniongyrchol ac yn ddifrifol ar wasanaethau craidd.

Yn gyntaf, mae ein prif gynghorydd tân ac achub yn gyn-brif swyddog tân uchel ei barch a phrofiadol. Ef yw arolygydd statudol yr awdurdodau tân ac achub yng Nghymru hefyd, sy'n gyfrifol am wneud argymhellion iddyn nhw ac i minnau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe gynhyrchodd ef adroddiadau ar y gwersi o dân Tŵr Grenfell, ar wella gallu'r gwasanaethau ac ar hyfforddiant i ddiffoddwyr tân. Mae pob un ohonyn nhw'n cynnwys argymhellion sy'n llawn tystiolaeth ar gyfer gwella safonau'r gwasanaeth a diogelwch y diffoddwyr tân. Mae hi'n siomedig iawn felly fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwrthod llawer o'r argymhellion hyn yn syth. Mae ymateb fel hwn yn awgrymu nad oes gan y sefydliad ddiddordeb mewn ffyrdd amgen o ddiffodd tanau tai, na lleihau'r perygl o flinder, na sicrhau bod gan ddiffoddwyr tân y sgiliau angenrheidiol.

Yn ail, mae galwadau tân diangen wedi bod yn fwy niferus na thanau gwirioneddol ers cryn amser. Mae gorfod mynychu galwadau tân diangen yn ymrwymo diffoddwyr tân i weithgaredd sy'n gwastraffu amser ac adnoddau am gyfnodau maith. Mae ffyrdd profedig, syml a diogel o liniaru effeithiau galwadau tân diangen, ac mae ein fframwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub o 2016 yn galw am weithredu yn hynny o beth. Cydymffurfiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar unwaith gan leihau yn sylweddol yr amser a ddefnyddiwyd i ymdrin â galwadau tân diangen. Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'r un fath. Ni wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru unrhyw beth ystyrlon. Mae nifer y galwadau tân diangen a wastraffodd eu hamser a'u hadnoddau nhw wedi cynyddu yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi'n amlwg mai yno y mae'r sefyllfa neilltuol honno ar ei gwaethaf drwy Gymru i gyd ac ymhlith grŵp o wasanaethau tân ac achub y gellir eu cymharu yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn darlunio'r un culni o ran rheolaeth a'r parodrwydd i oddef arfer gwael ag a nodwyd yn yr adolygiad. Nid yn unig y mae hynny wedi arwain at gamymddwyn a gwahaniaethu ymhlith y staff, mae'n effeithio ar ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau hefyd, ac ar ddiogelwch y diffoddwyr tân, ac mae'n rhaid i ni weithredu i fynd i'r afael â hynny.

Yn olaf, ceir yr awdurdod tân ac achub ei hun. Mae'n rhaid iddo arddangos arweinyddiaeth strategol a dal yr uwch reolwyr i gyfrif. Yn amlwg, ni wnaeth y naill beth na'r llall. Mae'r methiannau yn dyddio yn ôl i 2015, ac eto ni chymerodd yr awdurdod unrhyw gamau o gwbl yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn hytrach na hynny, fe wrthododd rai o argymhellion y prif gynghorydd yn unfrydol ym mis Mawrth y llynedd, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach fe roddodd godiad cyflog sylweddol i'w uwch-swyddogion. Mae gwneud hynny'n ymddangos yn beth annoeth iawn erbyn hyn.

Mae ymateb yr awdurdod yn cynnwys sefydlu pwyllgor i oruchwylio gweithrediad yr adroddiad. Mae'n cynnig y dylid cyfethol arbenigedd allanol ar y pwyllgor hwnnw hefyd, sy'n rhywbeth cadarnhaol. Ond, ni welaf i unrhyw arwydd o geisio newid y gwendidau sylfaenol o ran llywodraethu. Fel gyda'r rheolwyr, ni all aelodau'r awdurdod fod yr un rhai sy'n achosi problem ac yn ei datrys hefyd.

Nid yw hyn i gyd yn rhoi llawer o hyder i mi y bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu yn llawn ac mewn ffordd y gellir eu cynnal, ac y bydd y methiannau ehangach o ran rheolaeth yn cael eu hunioni, neu y bydd y risgiau i ddarpariaeth y gwasanaethau a diogelwch diffoddwyr tân yn cael eu hosgoi. Mewn gwirionedd, mae yna arwyddion eisoes o bryder pellach. Yn ddiamau, bydd Aelodau eraill o'r Senedd, fel minnau, wedi derbyn gohebiaeth gan lawer o aelodau presennol a chyn-aelodau o staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn codi cwynion difrifol na chynhaliwyd ymchwiliad priodol iddyn nhw erioed. Fel dywedais i o'r blaen, mae gwneud hynny'n arddangos dewrder mawr. Felly, fe ofynnais i'r cadeirydd sicrhau y byddai'r achosion hyn yn cael eu hailagor a'u hailystyried yn rhan o'r diwygio, ac fe gytunodd ef, ac eto nid oes sôn am hyn yn yr ymateb y cytunodd yr awdurdod arno. Yn ogystal â hynny, yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr, roedd sawl aelod o'r awdurdod tân ac achub yn dadlau yn gryf yn erbyn penodi unrhyw un yn brif swyddog nad oedd â chefndir yn y gwasanaeth tân, er bod Fenella Morris CB yn argymell y dylai'r sefydliad fynd ati i annog penodiadau o'r fath.

Dirprwy Lywydd, un o'r themâu mwyaf trist a gasglwyd yn y dystiolaeth oddi wrth staff yn yr adroddiad yw'r gred gyffredin na fyddai unrhyw beth yn newid byth. Os na wnawn ni weithredu, mae'n debyg y bydd y rhai a ddywedodd fel hyn ac sy'n teimlo fel hyn yn cael eu profi yn gywir. Ni allaf i ac nid wyf i am ganiatáu i hynny ddigwydd. Felly, rwy'n cyhoeddi cyfarwyddyd i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru heddiw, gan ei gwneud yn ofynnol i bedwar comisiynydd ymarfer ei swyddogaethau i gyd. Bydd y comisiynwyr hynny'n gyfrifol am sicrhau bod argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu yn llawn ac mewn modd cynaliadwy, yn ogystal â gweithredu ar argymhellion ein prif gynghorydd. Bydd pwerau llawn ganddyn nhw i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth gwasanaethau a meithrin diwylliant cadarnhaol, anwahaniaethol, ac fe fyddan nhw'n aros nes bod y gwaith wedi ei orffen a hyd nes y bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn amlwg yn weithle sy'n gynhwysol ac yn groesawgar i bawb.

Y comisiynwyr yr wyf yn eu penodi yw Barwnes Wilcox, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Kirsty Williams, a fu'n Aelod o'r Senedd dros Aberhonddu a Sir Faesyfed; Vijith Randeniya, cyn-brif swyddog tân gorllewin canolbarth Lloegr; a Carl Foulkes, cyn-brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Mae gan y comisiynwyr dasg anodd o'u blaenau ond fe fyddan nhw'n cael ein cefnogaeth lawn ni ac, rwy'n siŵr, cefnogaeth partneriaid eraill a gweithlu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn rheolaidd am eu gwaith nhw.

Wrth gloi, fe hoffwn i roi cydnabyddiaeth unwaith eto i bawb a ddaeth ymlaen i gyflwyno eu profiadau. Ni ddylai'r hyn a ddigwyddodd fod wedi digwydd ac rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i unioni'r drwg hwnnw a sicrhau newid ystyrlon. Diolch.

14:55

Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n cytuno ei bod hi'n gwbl amlwg mai'r tîm rheoli yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw'r rhai sydd wedi bod yn allweddol o ran caniatáu i'r diwylliant annymunol a niweidiol hwn fagu o fewn y gwasanaeth tân. Rwy'n cytuno ymhellach fod angen gweithredu ac rwy'n rhannu eich pryderon chi nad yw'r gwasanaeth yn debygol o allu ei ddiwygio ei hun. O ran penodi comisiynwyr, rwyf i o'r farn fod angen dangos tryloywder a darparu tystiolaeth ynglŷn â sut mae'r unigolion y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw'n gymwys ar gyfer y swyddogaeth hon. Nid yw hi'n ddigonol inni ddweud eu bod wedi dal swyddi uwch yn flaenorol; os ydych chi, fel pob un ohonom ni, yn awyddus i weld Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael ei drawsnewid, mae angen i ni gael cefnogaeth y staff yn y broses, ac mae perygl y bydd gwthio comisiynwyr heb unrhyw gymwysterau adnabyddadwy yn creu gwrthwynebiad sylweddol yn y sefydliad. Gyda hyn mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pryd fyddwch chi'n cyhoeddi'r meini prawf y gwnaethoch chi eu defnyddio i ddewis y comisiynwyr hyn a'r dystiolaeth eu bod nhw'n gymwys ar gyfer y swyddi mewn gwirionedd?

Fe wnaethom ni ddarllen yr adolygiad annibynnol o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a sut roedd aelodau'r gwasanaeth yn gyfyngedig i un o ddau lwybr wrth iddyn nhw fod yn destun tynnu coes amhriodol a sylwadau ac ymddygiad difrïol neu sarhaus. Fe allai'r staff naill ai wneud cwyn ffurfiol a fyddai, yn eu geiriau nhw, yn cael ei thrin yn llawdrwm iawn, heb fawr ddim gweithredu hirdymor, neu ddweud dim a cheisio anwybyddu'r sylwadau a'r ymddygiadau hyn a fyddai'n digwydd yn gyson a cheisio byw gyda chanlyniadau hynny wedyn. Yn fy marn i, Dirprwy Weinidog, roedd yna fethiant llwyr o ran prosesau disgyblu a oedd, ac mae'n debyg eu bod nhw'n parhau i fod ar waith, ac rwy'n credu ei bod hi'n amlwg i bawb mai dyna un o sawl rheswm sylfaenol pam y datblygodd y diwylliant dinistriol sydd wedi cael llonydd i lygru Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae angen aildrefnu yn llwyr yr uwch dîm a fethodd â chydnabod a chymryd camau priodol mewn llawer o'r achosion a ddaeth i'r amlwg. Yn y pen draw, eu cyfrifoldeb nhw oedd sicrhau nad oedd y diwylliant hwn yn cael cyfle i ddatblygu ac rwy'n credu y byddai gadael iddyn nhw aros yn eu swyddi yn y pen draw yn rhoi esiampl wael iawn, o ystyried bod eu methiant nhw wedi dod i'r goleuni. Pa gamau yr ydych chi am eu cymryd nawr i fynd i'r afael â hyn?

Rwy'n dymuno mynd i'r afael hefyd, Dirprwy Weinidog, ag un o'r canfyddiadau yn yr adroddiad sydd, yn fy marn i, yn elfen bwysig o'r hyn sydd angen ei wneud nesaf. Roedd yr adroddiad yn dangos nad oes unrhyw hawl na gweithdrefn ar gyfer cymodi rhwng staff ar gyfer datrys materion wrth iddyn nhw godi gyntaf heb gymryd camau disgyblu. Fe ddylai'r staff fod yn gallu tynnu sylw at ymddygiad amhriodol a datrys y materion hynny heb berygl o niweidio perthnasoedd yn y gwaith, heb beryglu rhagolygon eu gyrfaoedd na theimlo y byddai unrhyw godi llais yn cael ei anwybyddu. Y gwir yw y bydd y gwasanaeth tân yn debygol o gael ei orfodi i ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant ymddygiadol eang iawn a gaiff eu cynllunio ar gyfer newid y diwylliant annymunol. Ond oni bai eich bod chi, Dirprwy Weinidog, yn cymryd camau penodol i ailgynllunio'r gweithdrefnau disgyblu a chyflwyno dulliau newydd i liniaru ymddygiad annymunol ar gam cynnar, fe fyddwch chi'n peryglu unrhyw newid o gwbl yn y diwylliant annymunol iawn a nodir, oherwydd fe fydd yr unigolion hynny sy'n gyfrifol yn canfod dull o fynd o gwmpas pobl y maen nhw'n eu hystyried yn rhai tebygol o gael eu tramgwyddo.

Mae perygl mawr iawn yn hyn, heb unrhyw ddull ystyrlon gan Lywodraeth Cymru sy'n cymryd agweddau da a chadarnhaol y gwaith a wneir yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ystyriaeth—ac mae yna lawer ohonyn nhw—fe fyddwn ni'n gweld mwy o ddynion a menywod yn ymadael â'r gwasanaeth tân. Yn y pen draw, rwyf i o'r farn fod cyfle gan y Llywodraeth yn y fan hon i ailgynllunio'r broses ddisgyblu yn llwyr a fydd nid yn unig yn dal yr uwch reolwyr yn atebol os nad yw camau disgyblu yn newid yr ymddygiadau dinistriol, ond yn caniatáu i bob aelod o staff deimlo hefyd y gall ddatrys problemau heb deimlo pryder na phoendod oherwydd sgil-effeithiau posibl. Gyda hynny mewn golwg, Dirprwy Weinidog, pa gamau a gymerwch chi nawr i werthuso gweithdrefnau disgyblu o'r newydd? Roeddech chi'n sôn yn flaenorol nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi eu diystyru yn llwyr, ac rwyf i o'r farn y gallai sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus cyfan elwa ar adnewyddu gweithdrefnau disgyblu.

Yn olaf, fe hoffwn i fynd i'r afael â mater arall yr wyf wedi ei grybwyll o'r blaen a hwnnw yw adolygiad o achosion hŷn i sicrhau bod staff wedi cael eu trin gyda thegwch. O safbwynt personol, rwy'n credu y byddai honno'n ffordd weddaidd o helpu'r broses o wellhad a chaniatáu ystyriaeth wrthrychol o faint y dylanwad a gafodd y diwylliant erchyll hwn ar y gweithwyr. Fe wyddom ni fod llawer o'r staff sydd wedi gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn anhapus gyda'r ffordd y cafodd eu cwynion nhw eu trin. Mae sawl un wedi cysylltu gyda mi, fel gyda chwithau, gan dynnu sylw at eu hachosion unigol nhw. Maen nhw'n ddig iawn oherwydd y ffordd yr ymdriniwyd â'u cwynion, nid yn unig gan unigolion ond gan y sefydliad cyfan, a'r peth cyfiawn fyddai, yng ngoleuni'r adolygiad annibynnol, i'w hachosion gael eu hadolygu. Gyda hynny mewn golwg, Dirprwy Weinidog, beth yw'r amserlenni y gall pobl eu disgwyl o ran ailagor ac adolygu eu hachosion nhw? A ydych chi'n barod i gomisiynu corff annibynnol i ymgymryd â'r adolygiadau hyn? Ac, mewn achosion lle bu methiannau o du Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ydych chi'n disgwyl i iawndal gael ei dalu? Diolch i chi.

15:00

Joel James, roeddech chi'n dweud tuag at ddiwedd eich cyfraniad nawr fy mod i wedi dweud, yn fy natganiad blaenorol ym mis Ionawr, nad oedd dim yn cael ei ddiystyru o ran y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, ac er eglurder, rwy'n cymryd camau pendant heddiw hyd eithaf y pwerau sydd gennyf i wneud felly, ac mae holl swyddogaethau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cael eu rhoddi i'r comisiynwyr. Mae'r comisiynwyr hynny wedi cael eu dewis ar sail ystod a chydbwysedd eu profiad, sgiliau, cefndir a'u hannibyniaeth. Mae Vijith Randeniya gennym ni, sy'n gyn-brif swyddog tân profiadol iawn ac uchel ei barch o orllewin canolbarth Lloegr, ond rydym ni'n awyddus hefyd i sicrhau bod cymysgedd o wybodaeth am waith tân ac achub, ond dealltwriaeth hefyd o elfennau allweddol a gofynion o ran ymyrraeth ac arweinyddiaeth gadarn y bydd eu hangen i gyflawni'r newid cynaliadwy hwnnw i'r diwylliant a'r ddarpariaeth o wasanaethau yr oedd yr Aelod yn eu crybwyll yn ei gyfraniad. Nid yw hyn yn ymwneud ag achosion unigol o gamymddwyn ac ymddygiad annerbyniol yn unig, mae'n ymwneud â'r diwylliant, y gyfundrefn a'r prosesau a oedd yn caniatáu i'r pethau hyn barhau heb eu herio, ac, mewn gwirionedd, i fod â phrosesau cyfiawn a theg ar waith.

Felly, o ran cylch gwaith y comisiynwyr, eu cylch gorchwyl nhw, fe fyddan nhw'n rhoi ystyriaeth i bob un o argymhellion adroddiad ac adolygiad Fenella Morris CB ynglŷn â'r diwylliant a'r gwerthoedd. Rydym yn disgwyl i'r argymhellion hynny gael eu gweithredu yn eu llawnder ac mewn modd cynaliadwy a hynny heb fod ddim hwyrach na'r dyddiadau cau a nodir ynddo. Fel roeddech chi'n dweud hefyd—. Fe wnaethoch chi grybwyll llawer o bethau y gwnes i eu codi yn y datganiad ei hun, yn enwedig o ran y bobl hynny sy'n teimlo na chafodd eu cwynion na'r materion a godwyd ganddyn nhw eu trin yn y ffordd ddyledus, neu nad oedd y canlyniad yn foddhaol, ac mae'r adolygiad, mae'n debyg, a'r sylwadau yn y gorffennol wedi amlygu'r neges ac wedi gorfodi pobl i ddwyn profiadau annymunol iawn i gof unwaith eto hefyd. Dyna pam mae hi'n bwysig iawn, yn rhan o waith y comisiynwyr sy'n ymgymryd â swyddogaethau llawn yr awdurdod tân ac achub, fod y broses honno'n cael ei sefydlu i nodi'r achosion hynny o gwynion a gododd yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad a allai fod wedi cael ymdriniaeth amhriodol ac annheg am resymau a nodir yn yr adroddiad, a sicrhau eu bod yn cael eu hailagor a'u hymchwilio o'r newydd, gan arwain at ganlyniad teg a chyfiawn.

O ran yr amserlen ar gyfer y gwaith hwn, yn amlwg, nodir amserlen yn adolygiad Fenella Morris CB, sy'n ystyried cyfnod o 18 mis. Fe fyddwn ni'n adolygu hynny'n barhaus. Mae'r cyfarwyddyd ynglŷn â swyddi'r comisiynwyr yn dod i rym o 5 p.m. heddiw, ac fe fyddan nhw yn eu swyddi yn syth er mwyn dechrau ar y gwaith pwysig hwn. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn ein cefnogi yn y gwaith hwn. Hefyd, fel dywedais yn fy natganiad, rwyf i wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Siambr hon yn rheolaidd ar gynnydd yng ngwaith y comisiynwyr, oherwydd, fel dywedwn ni, rydym ni wedi llwyr ymrwymo i gyflawni newid ystyrlon. Fe ddywedais i o'r blaen yn y Siambr hon wrth Sioned ac wrth eraill fy mod i wedi hen flino ar siarad am ddiwylliant ac ymddygiad fel hyn, a dyna pam rydym ni'n cymryd camau pendant i unioni'r camweddau hynny.

15:05

Diolch am y diweddariad, Ddirprwy Weinidog, ac am weithredu mewn modd mor gadarn yn sgil y sefyllfa gwbl annerbyniol sydd wedi cael ei chaniatáu i godi o fewn Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru o ran y diwylliant ac, fel rŷn ni wedi'i glywed, o ran y gwasanaeth hefyd. Mae yna yn sicr gwestiynau mawr i'w gofyn a'u datrys o ran atebolrwydd, craffu a natur effeithiolrwydd y llywodraethiant ac rwy'n croesawu'n fawr y camau ŷch chi wedi eu gosod mas y prynhawn yma.

Roedd yr angen i weithredu i sicrhau llywodraethiant well a mwy effeithiol drwy wahanu rôl weithredol a rôl craffu’r awdurdodau yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg ers degawdau bellach, a'r cynnydd, rhaid dweud, wedi bod yn annigonol ac yn araf. Fe ddywedodd y Llywodraeth yr union beth hynny wrth gyflwyno'r adroddiad cynnydd diwethaf i'r fframwaith cenedlaethol union bedair mlynedd yn ôl ym mis Ionawr 2020. Er bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn y patrwm hwn o weithio ers tro, doedd y ddau awdurdod arall ddim yn gwneud hynny. Roeddech chi yn Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd ac fe ddywedoch chi wrth y Senedd eich bod chi'n 

'fodlon bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn gwneud cymaint â phosibl i werthfawrogi a datblygu'r gweithlu' 

er fe wnaethoch chi gydnabod bod yna heriau mwy i'w datrys. Fe ddywedoch chi hefyd nad oedd y trefniadau statudol a oedd yn berthnasol i’r awdurdodau tân ac achub yn creu’r math o sicrwydd yr hoffech chi ei weld i wella effeithlonrwydd ac atebolrwydd yr awdurdodau a hefyd y byddech chi'n ymweld â’r awdurdodau i ystyried diwygiadau eraill. Fodd bynnag, penderfynwyd, er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i fesurau diwygio mewn egwyddor, na fyddai'r ddau gynnig yr oedd gan yr awdurdodau'r amheuon mwyaf yn eu cylch yn mynd ymhellach. Ac roedd hyn yn golygu wedyn na dynnwyd aelodau awdurdodau tân ac achub o gabinet cynghorau, ac ni ofynnwyd ar i awdurdodau gytuno ar eu cyllidebau gydag awdurdodau lleol.

Ydych chi, felly, yn meddwl bod diffyg cynnydd yn y maes hwn dros y blynyddoedd wedi arwain yn rhannol at ddiffyg gweithredu o ran y sefyllfa annerbyniol a welwyd yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? Ydych chi'n fodlon gyda sut yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r pryderon a nodwyd yn ei hymgynghoriad ei hun yn 2018 ynghylch diwygio’r awdurdodau tân ac achub a’r adroddiad cynnydd wedyn?

Ac yn olaf, ydych chi'n cytuno y byddai adolygiad annibynnol o'r holl wasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn fodd o sicrhau na fydd modd i'r fath ymddygiad a diwylliant annerbyniol godi heb eu taclo eto? Byddai hyn hefyd yn gwirio nad yw'r diffygion hyn a amlygwyd gan yr adolygiad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar led drwy'r gwasanaethau eraill yng Nghymru. Diolch.

15:10

Diolch, Sioned, am eich cyfraniad a'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud yn y maes hwn hefyd. Rwy'n credu, i gyffwrdd â'r heriau a'r materion o ran llywodraethu ac atebolrwydd, rwy'n credu bod yr adolygiad hwn a chanlyniad y camau gweithredu a gymerwyd wedi taflu goleuni arnyn nhw, ac yn amlwg, ni fu ac nid yw'r strwythurau hynny wedi bod yn addas i'r diben yn y de. Ac fel roeddech chi'n dweud, rydym ni wedi bod â phryderon yn fwy eang ynglŷn â'r diffygion o ran atebolrwydd a llywodraethu yn yr awdurdodau tân ac achub, ac fel gwnaethoch chi grybwyll, pan wnaethom ni gynnig diwygiadau'r tro diwethaf yn 2018, fe welodd hynny wrthwynebiad mawr iawn—nid yn unig oddi wrth yr awdurdodau tân ac achub, ond oddi wrth yr awdurdodau lleol eu hunain hefyd. Er hynny, mae'r materion hyn wedi dod i'r amlwg nawr, yn sicr, yn yr amgylchiadau mwyaf gofidus, ac rwy'n glir y byddwn ni'n mynd ati i ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio, yn enwedig pe bai tystiolaeth yn dod i'r amlwg a fyddai'n tynnu sylw at heriau mewn meysydd eraill.

O ran y ddau awdurdod tân ac achub arall, rwy'n credu, pan roddais i ddatganiad ddiwethaf yn Siambr y Senedd, fe'i gwnes hi'n eglur y byddem ni'n disgwyl, er bod yr adolygiad yn berthnasol i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, nid yn unig i'r ddau awdurdod tân ac achub arall roi ystyriaeth i'r adolygiad, ond gweithredu eu hunain yn unol â hwnnw. Felly, fe wyddom ni fod problemau penodol a difrifol iawn o gamreoli a chamymddwyn wedi bod yn y de, a dyna pam rydym ni'n ymyrryd, ond rwyf i wedi ysgrifennu, ers y datganiad hwnnw ym mis Ionawr, at gadeiryddion Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ofyn am sicrwydd manwl ar fyrder ynglŷn â'r chwe thema sy'n codi o'r adolygiad. Yr her nawr yw edrych ar y rhain, a myfyrio ar yr ymatebion wrth i ni eu cael nhw, a phenderfynu pa gamau pellach y gellid bod eu hangen o ganlyniad i hynny.

Wel, rwy'n eich cymeradwyo chi, Dirprwy Weinidog, am fynd i'r afael yn wirioneddol â'r materion ynglŷn â hyn, oherwydd yr oeddem yn gwybod am fodolaeth y broblem hon ers 2014, pan adroddodd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus nad yw awdurdodau tân ac achub yn ac na allant oruchwylio’r gwasanaethau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw a hynny'n rhannol am nad ydyn nhw eu hunain yn gallu craffu ar yr agweddau gweithredol. Ond mae'n amlwg nad ydyn nhw, yn anffodus, yn yr achos hwn, wedi bod yn gwneud y gwaith o oruchwylio rheolaeth ac atebolrwydd uwch reolwyr yn y gwasanaeth hwn. Rwy'n credu bod hyn yn holi llawer o gwestiynau ynghylch llywodraethu awdurdodau tân ac achub yn y dyfodol, oherwydd beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am hanfodion hyn i gyd? Rwy'n nodi mai un o argymhellion adroddiad 2014 oedd cyfuno gwasanaethau ambiwlans ag awdurdodau tân ac achub, o gofio bod eu swyddogaethau nhw'n aml yn ategu ei gilydd yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynghylch llywodraethu tân ac achub yn y dyfodol yn sgil methiant llwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Diolch i chi, Jenny Rathbone, am y pwyntiau yr oeddech chi'n tynnu sylw atyn nhw nawr, ac rwy'n credu bod hyn yn cysylltu â'r pwynt blaenorol gan Sioned Williams am ein sefyllfa bresennol gyda sylwedd posibl y gwersi i ni o ran llywodraethu awdurdodau tân ac achub yn fwy eang yn y dyfodol. Felly, nid wyf i am ailadrodd y pwyntiau a wnes i gynnau unwaith eto, ac eithrio er mwyn tynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n ymwybodol hefyd fod gwaith Archwilio Cymru ar lywodraethu awdurdodau tân ac achub yn parhau ar hyn o bryd, ac fe allai hwnnw ei gynnig ei hun ar gyfer meithrin sgwrs yn fwy eang ynglŷn â'n cyfeiriad i'r dyfodol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig nodi hefyd y bydd datblygu cynigion ar gyfer llywodraethu Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn y dyfodol fydd â’r tebygolrwydd mwyaf o leihau'r risg yn sgil methiannau eraill o'r fath ymhlith cylch gorchwyl gwaith comisiynwyr Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Rydym ni wedi ymyrryd yma, nawr, ac mae honno'n ymyrraeth ddigynsail mewn unrhyw awdurdod tân ac achub, oherwydd fe wyddom ni nid yn unig am gamymddwyn, ond am gamreoli ehangach, ac fel dywedais i, fe geir gwersi i'w dysgu yn fwy eang wrth i ni symud ymlaen.

15:15

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yn y fan hon heddiw. Rwy'n nodi'r camau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyder yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a bod trawsnewidiad yn digwydd, fel y bydd arferion annerbyniol yn cael eu taro allan yn y gweithle. Dau gwestiwn sydd gennyf i chi heddiw. Yn gyntaf, mae gwasanaeth tân ac achub de Cymru yn recriwtio prif swyddog gweithredol neu brif swyddog tân ar hyn o bryd. Ar y cyd â'ch comisiynwyr chi, pa ran yr ydych chi'n disgwyl ei chael yn y broses hon i sicrhau y bydd arweinydd yn cael ei benodi a all fynd i'r afael â'r materion diwylliannol hyn?

Yn ail, mae eich datganiad yn datgan y bydd comisiynwyr yn aros hyd nes y bydd y gwaith wedi ei orffen. Beth fydd yr amserlen ar gyfer cyfnod eu gwaith nhw, a sut ydych chi am fonitro ac asesu eu gwaith nhw i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni'r newid sy'n angenrheidiol i'r gwasanaeth? Beth yw'r nodau byrdymor, tymor canolig a hirdymor yr ydych yn eu gosod i asesu i ba raddau y bydd y diwylliant wedi newid?

Rwy'n diolch i Vikki Howells am y cwestiynau pwysig yna. Rwyf i am grybwyll un yn gyntaf, sef o ran yr amserlen. Rydym ni wedi dweud y bydd y comisiynwyr yn parhau wrth eu gwaith tan y byddwn ni'n gallu gweld a mesur y newid hwnnw sy'n gynaliadwy, ac mae'r adolygiad a'r adroddiad ei hun yn nodi amserlen ar gyfer hynny, sy'n cwmpasu cyfnod o 18 mis, ond gyda nodau i'w cyrraedd hefyd ar gyfer newid yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd. Felly, rydym ni'n rhagweld, dros amser efallai, y bydd gwaith y comisiynwyr yn newid, yn ddibynnol ar gynnydd, ond mae hwnnw'n rhywbeth, fel dywedwch chi, y bydd angen ei fonitro a'i werthuso yn ofalus iawn.

Ar gyfer ymdrin â'r pwynt o ran recriwtio prif swyddog tân nesaf Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, mae gan y comisiynwyr a benodir gylch gwaith llawn o ran recriwtio ac ailstrwythuro swyddi'r uwch reolwyr yn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Dyna un o'r pethau a nodwyd gennym ni yn y cylch gwaith a chylch gorchwyl, o ran sefydlu a goruchwylio uwch dîm rheoli a phrosesau cysylltiedig heb eu difwyno gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad, ac yn gam cyntaf, penodi prif swyddog tân ac, yn ôl yr angen, uwch staff eraill sy'n ymddangos yn fwyaf tebygol o gyfrannu yn llawn ac yn effeithiol at adfer yr awdurdod tân ac achub.

Mae hyn yn ddigalon iawn, onid ydy? Fe allaf i ddychmygu bod morâl ymhlith y gweithlu yn isel, yn enwedig i'r cannoedd o weithwyr nad oedd unrhyw ran ganddyn nhw yn unrhyw un o'r achosion hyn o ymddygiad ofnadwy y soniwyd amdano. Fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i wybod sut ydych chi am sicrhau yr ymdrinnir â'r rhai a fu'n gyfrifol am ymddygiadau o ran casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia, ac a fydd rhai adroddiadau i'r perwyl hwnnw'n cael eu cyflwyno.

Ond fe geir cwestiwn llawer mwy eang yn hyn o beth, ac mae hwnnw'n ymwneud â'r newid strwythurol, yn fy marn i, sy'n angenrheidiol ar draws byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—nid y rhai tân ac achub yn unig, ond yr heddlu a rhai eraill hefyd. Felly, er ein bod ni'n canolbwyntio ar un awdurdod—yn yr achos hwn, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru—rwy'n credu bod angen ymarfer cwmpasu llawer mwy arnom ni er mwyn edrych ar gyfansoddiad y rhai sy'n gyfrifol am ddal pobl i gyfrif, sut y cânt eu dewis, ac ym mha ffordd y byddan nhw'n atebol, oherwydd rwyf i o'r farn fod mater arall ynghylch eu hatebolrwydd nhw. I ba le y bydd eu hatebolrwydd nhw'n mynd? I bwy y maen nhw'n atebol? Rwy'n credu, os yw hyn wedi amlygu unrhyw beth o gwbl, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael o ddifrif â chyfansoddiad y byrddau hynny a sut y maen nhw'n cael eu dewis ac i bwy y byddan nhw eu hunain yn atebol.

15:20

Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n cyffwrdd ar—. Rwy'n credu mai myfyrio yr oeddech chi, fel gwnaeth eraill yn y Siambr nid yn unig heddiw, ond ym mis Ionawr a chyn hynny, fod yr hyn a welsom ni—. Mae nifer o achosion wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn unig pryd clywsom ni am ymddygiadau annerbyniol mewn nifer o weithleoedd, ac rwy'n credu bod cyfrifoldeb yma ac rwy'n gobeithio, trwy weithredu mor bendant heddiw, mai dyma'r cam cyntaf i gywiro hynny yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ond rwy'n meddwl bod cyfrifoldeb arnom ni i gyd mewn bywyd cyhoeddus, ym mhob gweithle, gan gynnwys y gweithle hwn hefyd, i wneud yn siŵr bod y gweithdrefnau cywir gennym ni ar waith a bod ein staff ein hunain yn cael cefnogaeth o ran bod ag ymdeimlad y gallan nhw godi pryderon mewn ffordd sydd—bod y broses honno yn eu cefnogi nhw hefyd. Ond o ran y pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi yn fwy eang ynghylch arweinyddiaeth, materion sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth, diwylliant, atebolrwydd, y prosesau sydd ar waith, amrywiaeth y bobl yn y swyddi arweiniol hynny ac mewn gweithle, mae'r rhain yn wirioneddol bwysig, oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â mynd i'r afael ag achosion unigol o'r hyn y byddem ni'n ei alw yn 'ymddygiad annerbyniol' yn unig.

Rwy'n credu mai un o'r pethau yr hoffwn ei ddweud yw ein bod ni'n clywed y term 'woke' yn cael ei ddefnyddio, ac nid yw hwn yn ymwneud â rhywun yn methu â derbyn jôc yn y gweithle, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â bod yn bobl dda sy'n trin ein gilydd gydag urddas a pharch. Roeddwn i'n arfer dweud, yn ôl mewn bywyd blaenorol pan oeddwn i'n gweithio yn y mudiad undebau llafur, rwy'n cofio ysgrifennu rhywbeth, eich bod chi'n treulio cyfran sylweddol iawn o'ch oes yn eich gweithle. Oni bai i chi naill ai gael eich geni i olud neu ennill y loteri, fe fyddwch chi'n treulio cyfran uchel o'ch bywyd yn y gwaith ac fe ddylech fod â disgwyliad y byddwch chi'n cael eich cefnogi a'ch bod chi'n ddiogel yn eich gweithle. Felly, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at yr angen i edrych ar draws gweithleoedd, ac yn enwedig ar draws y sector cyhoeddus, lle mae'r ysgogiadau hyn gennym ni yng Nghymru i wneud felly, ac mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau yn Llywodraeth Cymru.

Ond dim ond i orffen, mewn gwirionedd, ynglŷn â—. Rwy'n ymwybodol iawn, wrth glywed y cyhoeddiad hwn heddiw, y gallai'r gweithlu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru deimlo gofid ac ansicrwydd a bod yn awyddus i wybod beth sy'n digwydd nesaf. Felly, wrth gwrs, rwy'n ymgysylltu ac yn anfon llythyrau at yr undebau llafur i gyd sy'n cynrychioli ac yn gweithio gyda staff, a'r cyrff cynrychioli staff sy'n weithredol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac fe fyddwn ni'n cyfarfod gyda'n gilydd yng nghyfarfod nesaf fforwm partneriaeth gymdeithasol y gwasanaeth tân ac achub, ac rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu a chwrdd â nhw'n unigol yn y cyfamser. Mae yna rywfaint o ohebiaeth yn cael ei hanfon yn uniongyrchol oddi wrthyf i weithlu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd, dim ond ar gyfer nodi'r hyn sy'n digwydd, gan geisio eu sicrhau nhw ein bod ar gael i'w cefnogi nhw, mewn gwirionedd, ac fe fyddwn ni'n gweithredu i'w cefnogi drwy'r cyfnod hwn o newid.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad brynhawn heddiw. Fe glywais i'r gair 'pendant' yn cael ei ddefnyddio gennych chi sawl gwaith heddiw. Mae'r pwerau i reoleiddio a rheoli'r gwasanaeth tân yng Nghymru wedi bod ym meddiant Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer, ac fe dynnodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd sylw at adroddiad o 2014. Mae'r camau a gymerodd Llywodraeth Cymru yn briodol ac yn angenrheidiol, ac fe ddylai'r aelodau staff sydd wedi dioddef oherwydd rhai o'r ymddygiadau yr oedd yr adroddiad yn tynnu sylw atyn nhw allu cael y gefnogaeth angenrheidiol i gyd er mwyn bod â hyder naill ai i aros yn y gwasanaeth neu i gael y sicrwydd yr ymdrinnir â'u pryderon.

Ond rwyf i wedi gweld y gwasanaeth tân yn gweithio ar ei orau. Pan gafwyd tân yn ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ar yr ystad ddiwydiannol, roedd y gwasanaeth tân pwrpasol hwnnw yn gweithio hyd at y safon uchaf o broffesiynoldeb. Fe ymwelais i â gorsaf dân yn y Barri, ac fe welais i'r criw ymroddedig yno a'r ymrwymiad sydd ganddyn nhw i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd. Ond, beth a ddysgodd Llywodraeth Cymru o'r ymarfer hwn? Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am anfon comisiynwyr i mewn, ond o gofio eich bod wedi bod â'r awdurdod i ymyrryd ar unrhyw adeg yr oeddech chi'n gweld yn dda i wneud hynny a phan ddygwyd y dystiolaeth hon i'ch sylw, pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, y mesurau y gallai fod wedi eu defnyddio ynghynt, i gamu i mewn a chyflawni hynny cyn gynted â phosibl, fel nad yw'r staff yn teimlo eu bod wedi ymddieithrio a'u gwthio i'r cyrion, ac na welwn ni hyn yn cael ei ailadrodd eto mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill?

Felly, fel arfer, yn amlwg, fe fyddem ni'n disgwyl i reolwyr y gwasanaeth tân reoli eu staff mewn ffordd deg a chyfiawn, ac felly y dylai hi fod, ac fe fyddem ni'n disgwyl i aelodau'r awdurdod tân ddangos arweiniad a dal rheolwyr i gyfrif, a phan nad yw hynny'n digwydd, mae yna achos dros ymyrraeth gan Lywodraeth, fel gwelsom ni'r tro hwn, oherwydd methiannau difrifol a phenodol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Rydych chi'n tynnu sylw at nifer y pwerau o ran cymorth, a amlinellais i yn fy natganiad blaenorol, sef o ran cefnogaeth, cyfarwyddyd, ac ymyrraeth. Felly, rydym ni'n gweithredu'r ymyrraeth hon yn unol ag adran 29 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ac mae hwn ar gael i ni dim ond pan fo'r awdurdod wedi methu â gwneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus o ran ymarfer ei swyddogaethau. Ac rydym wedi cyrraedd y pwynt hwn nawr oherwydd yr ydym ni'n credu bod y methiannau hyn yn cynnwys, yn gyntaf—fel y gwnaethom siarad amdano heddiw, a chanolbwynt yr adolygiad—y methiant i sicrhau rheolaeth deg a phriodol ar staff, gan gynnwys methiant i ymdrin yn effeithiol â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, a hefyd, y methiant i ymateb i gyfleoedd pendant ac amlwg i wella safonau'r gwasanaethau. Rydym ni wedi cymryd camau pendant heddiw ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n myfyrio ar y camau hynny ac fe fyddwn ni'n myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd wrth i ni symud ymlaen, a sut y gallwn ni ddysgu nid yn unig yn y gwasanaethau tân ac achub, ond ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru. Oherwydd, fel dywedais i, Andrew R.T. Davies, rwyf i wedi hen alaru ar siarad am gamymddygiadau a chamymddwyn fel hyn ym mhob agwedd ar fywyd, ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, ac rydym ni'n cymryd camau heddiw, ac fe fyddwn ni'n parhau i gymryd camau wrth i ni symud ymlaen.

15:25
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau galwedigaethol

Eitem 4 yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gymwysterau galwedigaethol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynyddu cydraddoldeb parch rhwng llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd. Credwn yng ngwerth priodol addysg alwedigaethol, gyda'i chysylltiadau hanfodol â sgiliau, yr economi ac â chymdeithas Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo, drwy ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i ddiwygio cymwysterau galwedigaethol ac i ystyried ehangu cymwysterau gwneud-i-Gymru.

Roedd yr ymrwymiadau hyn yn sail i fy ngwaith o gomisiynu'r adolygiad cymwysterau galwedigaethol annibynnol, dan gadeiryddiaeth Sharron Lusher. Hoffwn gofnodi fy niolch i Sharron ac aelodau'r grŵp llywio am y gwaith a aeth i mewn i'w hadroddiad, a gyhoeddais ym mis Medi. Rwy'n croesawu'r adroddiad a'i asesiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Mae'n nodi 33 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, a Cymwysterau Cymru. Mae'n amlwg bod cydweithio yn allweddol i lawer, os nad pob un, o'r argymhellion hyn. Felly, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r ddau sefydliad, a gyda rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, i ddatblygu uchelgeisiau'r adolygiad.

Fel y gwnaeth yr adolygiad yn glir, Dirprwy Lywydd, mae cryfderau y gallwn adeiladu arnynt o ran sut mae cymwysterau galwedigaethol yn gweithredu yng Nghymru, megis y niferoedd cynyddol sydd ar gael yn ddwyieithog neu yn Gymraeg, a bodlonrwydd cyffredinol dysgwyr â'u cyrsiau. Mae'r adroddiad yn archwilio manteision ac anfanteision sefydlu corff dyfarnu cenedlaethol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Er fy mod yn gallu gweld apêl corff o'r fath, ar hyn o bryd pan fo cyllidebau yn gyffredinol o dan bwysau mor aruthrol, rwy'n derbyn na all fod yn flaenoriaeth.

Mae'r adolygiad yn cydnabod yr angen am bragmatiaeth wrth archwilio cyfleoedd i ddatblygu cymwysterau galwedigaethol gwneud-i-Gymru ymhellach. Rwy'n croesawu'r dull gwneud-i-Gymru a gynigiwyd gan yr adolygiad. Bydd yn golygu adolygu cymwysterau newydd a phresennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben, yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr, a'u bod ar gael yn ddwyieithog. Bydd hefyd yn golygu cynnal dewis dysgwyr, cyn belled ag y bo modd, wrth gydnabod yr angen i sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i gefnogi ein blaenoriaethau economaidd. Bydd hynny'n golygu gweithio'n strategol gyda'n partneriaid, gan gynnwys partneriaethau sgiliau rhanbarthol a darparwyr dysgu, i wneud y defnydd gorau o ddeallusrwydd y farchnad lafur. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod gan ddysgwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus am gymwysterau a fydd yn rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddaf yn dychwelyd at hynny mewn munud.

Mae'r adroddiad yn galw am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ac yn nodi'r pwrpas a'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i hynny. Mae'r rhain yn cynnwys ymateb i anghenion economaidd a chymdeithasol, a pharatoi dysgwyr i ymuno â gweithlu dwyieithog. Rwy'n derbyn yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad strategol clir. Felly, byddwn yn datblygu datganiad polisi byr sy'n canolbwyntio ar weithredu sy'n canolbwyntio'n strategol ar addysg a hyfforddiant ôl-16 ac sydd hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau strategol cysylltiedig, gan gynnwys sero net ac, wrth gwrs, ein cenhadaeth economaidd sydd wedi'i hadnewyddu.

Ni allwn siarad am gymwysterau galwedigaethol heb ystyried yr ecosystem y maent yn gweithredu ynddi. Rydym wedi bod yn trafod gyda Cymwysterau Cymru sut y gallwn gydlynu adolygiadau sector yn well a datblygu fframweithiau prentisiaethau, fel y cynghorir gan yr adolygiad. Bydd hyn yn sicrhau bod rhaglenni dysgu galwedigaethol yn cyd-fynd yn well ag anghenion sgiliau cyflogwyr.

Rwy'n cefnogi argymhelliad yr adroddiad nad yw Cymru'n mabwysiadu'r un dull â Lloegr wrth weithredu safonau T. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Cymwysterau Cymru i fonitro datblygiadau, a gweithio i sicrhau sefydlogrwydd a pharhad i gael mynediad at gymwysterau galwedigaethol perthnasol i ddysgwyr yng Nghymru. Byddwn hefyd yn sicrhau, wrth i Loegr ddatblygu ei chynigion ar gyfer fframwaith cymwysterau safon Brydeinig uwch, y bydd ein dull o ddysgu 16-19 yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion dysgwyr yng Nghymru.

Rwyf am annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion a darparwyr ôl-16, er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr y wybodaeth a'r cymorth y mae eu hangen arnynt i symud ymlaen ar hyd llwybrau galwedigaethol lle bo hynny'n briodol ar eu cyfer. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen mewn perthynas ag adroddiad Hefin David ar bontio i gyflogaeth, mae gan bawb ran i'w chwarae wrth sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gadael addysg wedi'u paratoi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae fy swyddogion wedi bod yn edrych ar ffyrdd o dynnu sylw at bocedi presennol o arfer da yn well ac ehangu hyn ledled y sector.

Roedd yr adolygiad yn argymell ymestyn cyfleoedd lleoliad gwaith i bob dysgwr lefel 3 nad oedd ganddyn nhw leoliad gwaith fel rhan orfodol o'u cymhwyster. Byddaf yn derbyn yr argymhelliad hwn, gan fod pob dysgwr lefel 3 bellach yn cael cyfleoedd i gael profiad gwaith fel rhan o'u hastudiaeth, naill ai drwy'r elfen gymunedol, elfen y dysgwr, neu'r elfen sy'n canolbwyntio ar y diwydiant o'u cyrsiau amser llawn, neu drwy'r rhaglen lleoliad estynedig, sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr lefel 3 gael mynediad at hyd at 100 awr o brofiad gwaith perthnasol i ddiwydiant. Mae'r rhaglen lleoliad estynedig yn un o bedair rhaglen beilot sy'n cael eu hariannu drwy'r gronfa arloesi gwerth £5.8 miliwn ac sy'n cael eu prif-ffrydio yn y flwyddyn academaidd hon. 

Rwy'n bwriadu cyhoeddi canllawiau statudol i ysgolion ar ddysgu 14-16 yn y Cwricwlwm i Gymru fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ein polisi ar lwybrau 14-19. Bydd cymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol bob amser yn rhan bwysig o hyn. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod pobl ifanc mewn addysg orfodol hefyd yn cael cynnig cydlynol yn seiliedig ar sgiliau, cynllunio ar gyfer y camau nesaf—gan gynnwys trwy addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel—yn ogystal â chyfleoedd dysgu personol. Mae hyn yr un mor bwysig i'n pobl ifanc sy'n dechrau addysg a hyfforddiant ôl-16, er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi cyfranogiad ar draws ystod o gyfleoedd a phrofiadau dysgu o safon i gefnogi datblygiad gyrfa a lles dysgwyr. Mae'r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, ac yn cadarnhau fy ymrwymiad bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi yn y llwybr o'u dewis, boed hynny'n addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.  

Roedd yr adolygiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru a darparwyr dysgu yn cydweithio i gynnig cwricwlwm ehangach i ddysgwyr pan fo'r dewis yn fwy cyfyngedig neu pan fo nifer y dysgwyr yn isel. Rydyn ni'n datblygu canllawiau statudol sydd wedi'u diweddaru i gefnogi'r cwricwlwm 16-19. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil mewn sefyllfa dda i weithio'n gyson ac yn effeithiol ar draws y system addysg drydyddol, a chyda'n partneriaid addysg, pan fydd yn gwbl weithredol. Bydd hynny'n cynnwys cefnogi dull cydgysylltiedig o ran sut y mae darpariaeth ôl-16 yn cael ei ddarparu ar bob lefel ledled Cymru, i ategu'r canllawiau statudol. Byddwn ni'n disgwyl gweld elfen allweddol o’r rôl gynllunio honno yn cynnwys ystyriaeth o’r ffordd orau i’r system drydyddol sicrhau bod anghenion sgiliau Cymru, heddiw ac ar gyfer y dyfodol, yn cael eu bodloni. Rwy'n benderfynol o weld y comisiwn yn hwyluso mwy o gydweithio a chydlyniant, ac yn darparu cyfleoedd pellach i adeiladu llwybrau clir i ddysgwyr i feysydd gwahanol o ddarpariaeth neu gyflogaeth. Mae gan bawb gyfrifoldeb am addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

O ran yr amserlen ar gyfer y gwaith, mae rhywfaint yn mynd rhagddo eisoes, fel y soniais i. Mae hynny’n cynnwys y canllawiau 16-19 statudol, cyfleoedd gwaith ar gyfer dysgwyr lefel 3, ac edrych ar y ffordd orau o ddatblygu strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan weithio ar draws pob maes polisi cysylltiedig. Mae fy swyddogion wedi bod yn datblygu cynllun gwaith, mewn trafodaeth ar draws gwahanol rannau o’r Llywodraeth, gan ystyried y ffordd orau o flaenoriaethu ffrydiau gwaith eraill. Rydyn ni’n siarad â Cymwysterau Cymru am y camau y byddan nhw’n eu cymryd mewn ymateb i’r adolygiad yn y flwyddyn weithredol nesaf a thu hwnt. Rwy’n disgwyl y bydd ystyriaethau tebyg ar gyfer y comisiwn wrth iddo ddatblygu ei gynllun strategol, pan fydd yn gwbl weithredol.

15:35

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Wrth gwrs, mae cymwysterau galwedigaethol yn hynod bwysig i ddyfodol ein plant, ond ar ôl blynyddoedd o aros am hyn, pam mai dim ond yn dawel a bron yn gyfrinachol y datgelwyd y cyhoeddiad hwn yr wythnos diwethaf? Mae tair gwlad arall y DU eisoes wedi amlinellu cynlluniau strategol ar gyfer addysg alwedigaethol, ac eto mae Llywodraeth Cymru, a chi fel y Gweinidog, ond nawr yn nodi'r cynlluniau hyn. Rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw dro ar ôl tro ar i'r Llywodraeth Lafur wneud mwy i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru, er lles ein pobl ifanc ac ar gyfer iechyd economi Cymru wrth symud ymlaen. Mae addysg alwedigaethol yn aml yn arwain at yrfaoedd hir a llwyddiannus sy'n talu'n dda. Yn y pen draw, mae diffyg cynllun strategol y Llywodraeth Lafur ar gyfer addysg alwedigaethol wedi arwain at fethu â darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer dyfodol Cymru.

Felly, Gweinidog, pam mae hi wedi cymryd cymaint o amser i gyhoeddi'r cymwysterau hyn? A fydd pob ysgol yn eu cynnig? Fel y gwyddom ni o'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, fel y mae ar hyn o bryd, bydd ysgolion yn cael cynnig y cyfle i'w cyflwyno, ond nid oes unrhyw ganllawiau yn eu cymell nhw i wneud hynny. Mae'n amlwg i bawb y gallai hyn arwain at nifer llai na'r disgwyl, oherwydd blynyddoedd o danariannu cronig a thoriadau gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gweld, flwyddyn ar ôl blwyddyn, doriadau arian mewn termau real i'r gyllideb addysg ac athrawon yn gadael y sector mewn heidiau, gyda'r Llywodraeth hon yn methu â'u disodli na hyfforddi cynorthwywyr addysgu. Felly, mae gen i amheuon difrifol ynghylch y llwyth gwaith i athrawon, a fydd nawr yn gorfod ymgyfarwyddo â chymwysterau newydd, ac unrhyw gostau ychwanegol ar gyllidebau ysgolion sydd eisoes dan bwysau. Felly, Gweinidog, a fydd cyllid ychwanegol yn dilyn yn uniongyrchol i ysgolion i annog pobl i'w gweithredu? Sut ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno heb roi hyd yn oed mwy o straen ar ein hathrawon?

Ac yn olaf, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, nid oes gan Gymru asesiad clir o'n hanghenion galwedigaethol a sgiliau cenedlaethol ar gyfer y dyfodol. Roeddwn i'n meddwl y byddai hyn wedi dod law yn llaw â'r cyhoeddiad hwn, fel y gallwn ddeall yn well y prinder sy'n ein hwynebu a sicrhau ein bod yn blaenoriaethu'r sgiliau hynny trwy gydol y cymwysterau hyn. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod gweithlu Cymru yn ddiogel at y dyfodol a rhoi diwedd ar unrhyw ddibyniaeth ar lafur tramor. Mae hefyd yn bwysig nodi cofrestriadau ar gymwysterau a chyrchfannau dysgwyr, oherwydd, heb gydberthynas o'r fath, mae'n anodd penderfynu a oes ystod berthnasol ac effeithiol o gymwysterau galwedigaethol i ddiwallu anghenion y dyfodol. Felly, Gweinidog, a fydd asesiad o'n hanghenion galwedigaethol a sgiliau cenedlaethol ar gael, ac a fyddwch yn nodi cofrestriadau a chyrchfannau dysgwyr? Diolch.

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau, er fy mod yn credu bod y cwestiynau'n ymwneud â'r datganiad a wnaeth Cymwysterau Cymru yr wythnos diwethaf ynghylch cyflwyno TAAU, yn hytrach na'r datganiad rwy'n ei wneud heddiw mewn perthynas â'r ymateb i adolygiad Lusher. Does dim cyfrinach ynghylch hyn—cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Medi y llynedd, ac rwyf yma yn y Siambr yn gwneud y datganiad ac yn ateb cwestiynau. Felly, nid wyf yn siŵr pa ran o gyfrinach y byddai'r diffiniad hwnnw'n ei fodloni.

O ran y pwyntiau oedd yn berthnasol i'r datganiad heddiw, mae dwy agwedd a amlygodd Janet Finch-Saunders yn fy marn i sy'n bwysig. Y cyntaf yw bod angen alinio polisi economaidd, polisi sgiliau a chymwysterau galwedigaethol, fel y mae adolygiad Lusher yn ei nodi. Mae'r Llywodraeth yn derbyn hynny, a bydd hi wedi clywed o fy natganiad bod gwaith ar y gweill mewn perthynas â hynny. A'r ail bwynt a wnaeth hi oedd mewn perthynas â'n dealltwriaeth o anghenion sgiliau'r economi yn y dyfodol. Bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, am y gwaith y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol eisoes yn ei wneud, mewn ôl troed rhanbarthol, i ddeall anghenion y rhanbarth hwnnw. Bydd hefyd yn gwybod bod gennym raglen ar gyfer ymrwymiad llywodraeth i gryfhau'r gwaith y maent yn ei wneud mewn perthynas â hynny. Ond fel mae'r adolygiad ei hun yn ei wneud yn glir, mae angen cael darlun cenedlaethol o'r gwaith hwnnw hefyd, a bydd hynny'n rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn. 

O ran y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud mewn perthynas â chyhoeddiad y TAAU yr wythnos diwethaf gan Cymwysterau Cymru, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw yn yr ystyr ganlynol: rwy'n credu ei bod yn gwbl bwysig ein bod yn helpu i symleiddio'r cynnig i'n dysgwyr, fel ei fod, yn y maes cyn 16, yn gynnig mwy cydlynol â mwy o ffocws, y bydd y rhaglen TAAU yn ei sicrhau. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn datblygu partneriaethau rhwng ysgolion a cholegau mewn perthynas â sut y caiff y TAAU hynny eu darparu, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu darparu'n effeithiol. Rwyf am weld—ac mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi ymrwymo i hyn—gweithio'n agos rhwng Cymwysterau Cymru a cholegau yng Nghymru i sicrhau bod y cymwysterau hynny, pan fyddant yn dod ymlaen, wedi'u cynllunio'n dda ac wedi'u cyflawni'n dda.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw? Hoffwn ategu eich diolch i Sharron Lusher am ei gwaith yn arwain yr adolygiad ac i aelodau'r pwyllgor llywio am eu cyfraniad. Fel y gwnaethoch chi sôn, wrth gwrs, mae hwn yn deillio o'r cytundeb cydweithio. Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd addysg alwedigaethol, a hefyd yn cytuno gyda'r pwysigrwydd bod cymwysterau'n cael eu creu yng Nghymru ar gyfer Cymru, a bod hyn yn angenrheidiol. Fel rydych chi newydd sôn, wrth ymateb i Janet Finch-Saunders, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd efo'r sgiliau allweddol hynny sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ein pobl, ein cymunedau, ein hiaith, ein heconomi a hefyd, wrth gwrs, wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. 

Mi wnaethoch chi sôn yn y datganiad eich bod yn derbyn yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad strategol clir ar gyfer addysg alwedigaethol a hyfforddiant, a, heb os, mae hyn yn bwysig. Ond mae angen strategaeth neu gynllun gweithredu a pholisïau cynhwysfawr i gwmpasu holl agweddau addysg ôl-16, yn hytrach nag ystyried y maes addysg alwedigaethol a hyfforddiant mewn seilo neu ar ei ben ei hun. Mae yna dal elfen gref sy'n hybu, yn anffodus, addysg alwedigaethol a hyfforddiant fel llwybr i rai sydd ddim yn disgleirio yn academaidd, yn ôl mesurau confensiynol a henffasiwn. Dwi'n credu bod yn rhaid inni chwalu'r myth yma a sicrhau bod yr ystod o gymwysterau sydd ar gael, ac sydd am fod ar gael yma yng Nghymru, yn cael eu hybu i bawb fel llwybr posib. Allwch chi, felly, amlinellu, os gwelwch yn dda, pryd rydych chi'n disgwyl y gwelwn ni strategaeth o’r fath nid yn unig yn cael ei chyhoeddi, ond hefyd yn dechrau cael ei gweithredu? 

O ran y trywydd sydd yn cael ei argymell yn yr adroddiad, mae’r syniad o farchnad agored yn groes i’r graen o ran ein gwerthoedd ni yn gyffredinol, sydd, wrth gwrs, yn credu’n gryf mewn cydweithio yma yng Nghymru. Ond, o dderbyn yr opsiwn yma, mae hyn hefyd yn groes i’r sefyllfa yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sydd â byrddau arholi dan arweiniad y wladwriaeth yn y maes hwn, a hefyd yn rhyngwladol, lle mae naill ai cyflogwyr neu'r wladwriaeth yn arwain. Mae sefyllfa ryfedd gennym ni, lle mai dewis yr unigolyn a’r farchnad rydd sy’n arwain. Ond rydyn ni’n derbyn y bragmatiaeth sy’n sail i’r ffordd ymlaen, ac yn deall nad oes dim awydd yn y sector ar hyn o bryd, a bod heriau ariannol efo symud i greu corff dyfarnu newydd penodol i Gymru, fel y gwnaethoch chi amlinellu.    

Heb os, mae angen mecanwaith cadarn i adnabod y galw am sgiliau yng Nghymru, a bod hynny’n siapio ac yn dylanwadu ar addysg ôl-16, wedyn, gan gynnwys cymwysterau. Mae angen ffordd i fonitro i ba raddau mae hynny’n digwydd yn llwyddiannus, ynghyd â llinellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd clir o ran cyfrifoldebau  a rôl arweiniol Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a’r comisiwn CTER newydd. Ac mae angen i CTER fod yn sylfaenol wahanol a mwy uchelgeisiol na jest rheoli’r status quo, rhywbeth dwi'n gwybod rydych chi'n cytuno ag ef.    

Un peth, wrth gwrs, yng nghyd-destun hyn oll, sydd wedi peri pryder ydy'r toriadau o bron i 25 y cant yn y gyllideb brentisiaethau, a sut y bydd hyn yn effeithio ar allu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau yn bellach yn y meysydd hyn, unwaith maent wedi cwblhau'r cymwysterau. Ydych chi'n rhannu’r pryderon hyn, ac a oes unrhyw sicrwydd y gallwch ei roi heddiw y bydd y newidiadau hefyd yn cael eu hystyried yn y cyd-destun ehangach hwn, fel bod llwybrau i ddatblygu eu sgiliau yn bellach yn parhau yn agored i ddysgwyr yn sgil cwblhau eu cymhwyster TAAU? Diolch. 

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae gwaith eisoes yn digwydd ynglŷn â'r cwricwlwm ôl-16, fel gwnes i sôn yn fras yn fy natganiad, a rhan o hwnnw yw sefydlu canllawiau statudol i ddarparwyr fel bod y cwricwlwm hwnnw yn dilyn egwyddorion, os hoffwch chi, y cwricwlwm tan 16 ond mewn ffordd sy'n gymwys ar gyfer yr opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr ar ôl 16. Ac mae'n gwbl iawn i ddweud ei bod hi'n bwysig bod yr hyn rŷn ni'n darparu, a'r canllawiau rŷn ni'n eu darparu i ddarparwyr, yn sicrhau mai'r peth sy'n gyrru pob penderfyniad yw'r llwybr sy'n addas i'r unigolyn, y dysgwr, sy'n cymryd y cymhwyster. Ac mae angen inni ddylunio ac ailddylunio'r ffordd rŷn ni'n darparu fel mai hwnnw yw'r egwyddor sy'n gyrru'r dewisiadau, nid y strwythurau sy'n digwydd bod gyda ni, os hoffwch chi, ar hyn o bryd. Felly, mae hynny'n egwyddor heriol, ond mae hefyd yn un creadigol iawn, dwi'n credu. Dyna, yn sicr, sy'n rhaid inni ei ddilyn fel rhan o'r gwaith hwnnw.

O ran y pwynt roedd yr Aelod yn ei wneud, y pwynt ehangach ar sut rŷn ni'n mynd ati i ddarparu cymwysterau yn gyffredinol, fy marn i yw bod yr adroddiad yn taro'r cydbwysedd pragmataidd rhwng y galw i sicrhau, ar yr un llaw, fod y cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru yn diwallu anghenion ein heconomi ni, blaenoriaethau ein pobl ifanc ni eu hunain, ar yr un llaw, ond hefyd yn rhywbeth sy'n gymwys ac yn darparu ystod o opsiynau. Felly, rwy'n credu bod y ffordd y mae'r adolygiad yn argymell ein bod ni'n edrych ar a ydy'r cymhwyster yn fit for purpose ac wedyn, os nad yw e, beth allwn ni ei wneud i sicrhau ei ddarparu mewn ffordd amgen yn dilyn yr egwyddorion hynny mewn ffordd addas iawn. Ac mae'r syniad yma o gymwysterau sy'n made for Wales, er enghraifft, rwy'n credu yn ein caniatáu ni i daro'r cydbwysedd addas hwnnw. 

O ran y cwestiwn am gyllidebau, wel, mae toriadau wedi bod i'r gyllideb prentisiaethau. Mae Gweinidog yr Economi wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, fel mae pob un ohonon ni wedi gorfod gwneud, a byddai dim un ohonon ni'n dweud mai dyma'r pethau y byddem ni'n dymuno eu gwneud, ac yn sicr nid dyma'r pethau rŷn ni'n credu yn y tymor hir yw'r pethau addas i ni eu gwneud. Felly, byddwn ni i gyd yn chwilio am ffyrdd i allu adfer y gyllideb honno cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny, ond mae cyfyngiadau ymarferol ar y Llywodraeth yn hyn o beth ac mae'n rhaid, rwy'n credu, ymateb i'r adroddiad mewn ffordd sy'n adlewyrchu a chydnabod y pwysau cyllidebol sydd ar bob un o'n darparwyr ni ynghyd â ni fel Llywodraeth.

15:45

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwyf mor falch o weld ymrwymiad cadarn i symud ymlaen i sicrhau cydraddoldeb rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Dyma y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu, yr hyn sydd ei angen ar ein gwlad ar frys os gallwn lenwi'r bwlch sgiliau heddiw ac yfory. 

Rwy'n deall yr ystyriaethau ariannol ymarferol sydd wedi eich arwain i ddod i'r casgliad nad yw'n bosibl sefydlu corff dyfarnu cenedlaethol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ar hyn o bryd. Gyda hyn mewn golwg, sut allwch chi sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu hasesu mewn modd priodol, gan ystyried sgiliau ymarferol myfyrwyr yn llawn ac nad ydynt yn dibynnu'n ormodol ar asesiadau ysgrifenedig?

Ac, yn ail, symud i'r maes hanfodol o gyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer dysgwyr lefel 3, rwy'n falch o nodi bod y rhain bellach yn orfodol. Fodd bynnag, o sgyrsiau rwy'n eu cael gyda fy ngholeg addysg bellach leol, eu dysgwyr, rhieni a chyflogwyr lleol, rwy'n gwybod y gall sicrhau'r lleoliadau gwaith hyn fod yn heriol dros ben, gyda lleoliadau mewn cyflenwad byr iawn a rhai myfyrwyr mewn perygl o orfod gadael eu cyrsiau os na ellir sicrhau lleoliadau. Gweinidog, y biwrocratiaeth ydyw, mae'r llenwi ffurflen y dywedir wrthyf yn gyson yn gweithredu fel rhwystr i fwy o gyflogwyr gymryd rhan yn y system hon, felly beth allwch chi ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn?

Diolch i Vikki Howells am y ddau bwynt pwysig iawn. Rwy'n credu, wrth wraidd y ffordd y mae angen i ni gyflwyno'r cymwysterau gwneud-i-Gymru rhaid sicrhau bod y cydbwysedd rhwng cynnwys a asesir a chynnwys ymarferol yn taro'r cydbwysedd cywir. Ac mae heriau wedi bod yn y gorffennol, fel rwy'n siŵr y mae hi'n cyfeirio ato yn ei chwestiwn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dysgu'r gwersi hynny. Ac rwy'n credu bod rhan o hynny, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut yr ydym yn sicrhau bod darparwyr, rheoleiddwyr, dysgwyr a chyflogwyr yn bedair rhan o system gydlynol sydd wedyn yn bodloni gofynion y pedair elfen, os dymuna. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sicrhau, ochr yn ochr â'r argaeledd ffurfiol, os gwnaf ei roi fel yna, o brofiad gwaith fel rhan o gymwysterau, ein bod yn cyflawni hynny yn ymarferol ar lawr gwlad. Rwy'n cydnabod yr her y mae hi'n ei hamlinellu yno. Felly, gwyddom y dylai cymysgedd y rhaglen sy'n cael ei wella ar leoliad a'r elfennau cymunedol, dysgwr a ffocws y diwydiant rhyngddynt gwmpasu'r hyn sydd ei angen mewn perthynas â dysgwyr lefel 3 yn gyffredinol, ond mae rhai ardaloedd yng Nghymru lle gall argaeledd lleoliadau gwaith perthnasol, yn benodol, fod yn gyfyngedig. Felly, rhan o'r ffordd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â hynny yw drwy'r cyllid arloesi a ddarparwyd gennym, dros £6 miliwn o gyllid, a ddefnyddiwyd i roi cynnig ar ffyrdd newydd o ddarparu lleoliad gwaith. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni gadw llygad arno a sicrhau ein bod yn gwireddu hynny, a soniais am adroddiad a baratowyd gan Hefin David ar gyfer y Llywodraeth ychydig fisoedd yn ôl. Mae gan yr adroddiad nifer o ffyrdd ymarferol iawn y gellir bwrw ymlaen â hynny. 

15:50

Fe af ymlaen o ble wnaethoch chi orffen. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] O ran y mater o gydweithio gwell rhwng sefydliadau ôl-16 ac ysgolion uwchradd, yn yr adroddiad hwnnw soniais yn arbennig am Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot ac Ysgol Uwchradd Llanidloes, sydd â chweched dosbarth. Amlygais hynny fel enghraifft o ymarfer cydweithredol da iawn. A fyddai, efallai, yn awgrym adeiladol y gallai'r Llywodraeth geisio deall yn union beth sy'n mynd yn iawn yno, ac efallai ehangu prosiect treialu mewn mannau eraill yng Nghymru i weld a oes modd efelychu hynny a bod y llwyddiannau a welsom yno yn digwydd mewn mannau eraill wedyn, ac yna gweld a allech chi ehangu hynny ymhellach drwy Gymru?

Dim ond i gydnabod y pwynt mae Hefin David yn ei wneud, ac mae'n gyson iawn â thema ei adroddiad, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â nodi arfer da, onid ydyw? Soniodd am goleg Castell-nedd Port Talbot; mae gennyf i fy nghysylltiad fy hun â'r coleg hwnnw o safbwynt etholaeth. Soniodd am y gwaith yn Llanidloes, ond gallai hefyd, rwy'n gwybod, fod wedi cyfeirio at y gwaith gydag ysgol gyfun Maesteg, lle mae gweithio agos da rhwng y coleg a'r ysgol i roi'r hyfforddiant ymarferol hwnnw i ddysgwyr mewn meysydd galwedigaethol fel adeiladu. Mae enghreifftiau da hefyd ym Mlaenau Gwent drwy brosiect hwyluso STEM Y Cymoedd Technoleg, ac mae'r gwaith y mae fy adran yn ei wneud nawr, ynghyd ag adran yr economi, wir yn ceisio nodi ble mae'r perthnasoedd da hynny'n bodoli. 

Rwy'n credu un o'r heriau i ni, yn ogystal â darparu'r canllawiau, astudiaethau achos a'r ffyrdd o weithio y gall ysgolion a cholegau fanteisio arnynt—. Yr her arall i ni yw sicrhau nad oes unrhyw rwystrau yn nyluniad y system sy'n ei gwneud hi'n anoddach i ysgolion a cholegau gydweithio, ac rwy'n ymwybodol iawn o hynny hefyd.  

5. Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024
6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-25

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Felly, symud ymlaen i eitem 6: dadl ar y gyllideb ddrafft 2024-25. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM8473 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor dadl y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Ers i ni gael y cyfle cyntaf i drafod y gyllideb ddrafft yn y Senedd ar 9 Ionawr, mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn brysur yn craffu ar ein cynlluniau gwariant. Rwy'n croesawu'r sesiynau adeiladol a gefais gyda'r Pwyllgor Cyllid yn fy swyddogaeth yn Weinidog cyllid, a'r rhai y mae fy nghyd-Weinidogion a minnau wedi'u cael gyda'n pwyllgorau pwnc priodol. 

Cyn i mi roi rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu sy'n codi o'r gwaith craffu, mae'n bwysig cofnodi'r hinsawdd heriol iawn yr ydym yn gosod cyllideb Cymru ynddi unwaith eto. Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi ceisio gweithio yn ein herbyn ni yn hytrach na gyda ni. Rydym yn parhau i weld effeithiau parhaus chwyddiant uchel, y mae ei effeithiau ar aelwydydd, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a'r Llywodraeth ddatganoledig wedi cael eu hisraddio gan Lywodraeth y DU. Ac er ein bod wedi gweld cyfraddau yn gostwng dros fisoedd y gaeaf diolch byth, mae bwlch sylweddol o hyd rhwng lle rydym ni nawr a tharged Banc Lloegr o 2 y cant. Mae hyn yn parhau i gael effaith sylweddol ar yr hyn y gallwn ni ei gyflawni.

Roedd datganiad hwyr iawn y Canghellor yn yr hydref yn llawer llai na'r setliad oedd ei angen i ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid oedd cydnabyddiaeth benodol o'r materion sy'n wynebu Cymru. Mae'r setliad cyllido cyfyngedig sydd gennym yn golygu na allwn fynd mor bell ac mor gyflym ag yr hoffem, ond mae'r gyllideb ddrafft hon yn ceisio blaenoriaethu'r materion y mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn eu hystyried y rhai pwysicaf. Byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol ac i gydnabod ein galwadau penodol am fwy o fuddsoddiad mewn diogelwch tomenni glo a rheilffyrdd yng nghyllideb y gwanwyn sydd ar ddod, y disgwylir iddi ddod ychydig ddyddiau yn unig ar ôl i ni gyhoeddi ein cyllideb derfynol ni.

Wrth i'r Cabinet ddatblygu'r gyllideb ddrafft hon, roedd yn rhaid i ni wneud rhai dewisiadau llwm a phoenus, ond gwnaethom hynny yn ysbryd cydweithredu a thryloywder, gan roi pobl a chymunedau yn gyntaf i gefnogi'r gwasanaethau sydd bwysicaf oll. Rydym wedi ail-lunio ein cyllidebau yn sylweddol yn unol â set o egwyddorion arweiniol: amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd, er mwyn sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf, blaenoriaethu swyddi lle bynnag y bo modd, a gweithio mewn partneriaeth â chyrff y sector cyhoeddus eraill i wynebu'r storm ariannol hon gyda'n gilydd.

Drwy fabwysiadu'r dull hwn, rydym wedi canolbwyntio cyllid i fuddsoddi mwy yn y GIG—£450 miliwn yn 2024-25, yn ychwanegol at y £425 miliwn a oedd ar gael ym mis Hydref ar gyfer 2023-24. Rydym yn diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd. Ochr yn ochr â'r cynnydd o 3.1 y cant a addawyd gennym y llynedd, rydym hefyd yn darparu £1.3 miliwn ychwanegol drwy'r grant cynnal refeniw i ddarparu cyllid gwaelodol, gan sicrhau nad oes gan yr un awdurdod gynnydd mewn setliad o lai na 2 y cant.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU, a arweiniodd at gyllid canlyniadol, rwyf hefyd yn dyrannu £25 miliwn arall i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol a phwysau eraill yn y gyllideb derfynol. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig gyda mwy o fanylion am hyn cyn bo hir, ond mae angen i mi bwysleisio bod hyn mewn perygl, ac mae'n ddigon posibl y bydd y cyllid yn cael ei wrthbwyso gan symudiadau negyddol yn natganiad y gwanwyn. Felly, rwyf eisiau amlygu hynny i fy nghyd-Aelodau.

Er ein bod yn diogelu'r cyllid sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion, gan gynnwys y grant datblygu disgyblion ac yn parhau â'n rhaglen adferiad COVID lwyddiannus i recriwtio, adfer a chodi safonau, wrth wneud hynny, ac wrth ddiogelu'r meysydd hyn, fodd bynnag, mae wedi golygu gwneud penderfyniadau anodd iawn, megis ailgyfeirio gwariant i ffwrdd o feysydd eraill, gan gynnwys o feysydd nad ydynt wedi'u datganoli lle rydym wedi camu i'r adwy yn draddodiadol i wneud iawn am ddiffygion Llywodraeth y DU.

Felly, fe drof yn awr at rai o'r pwyntiau allweddol sydd wedi'u codi yn sgil gwaith craffu'r pwyllgorau. Roedd pwyslais arbennig a derbyniol unwaith eto ar wariant ataliol, a sut mae'r gyllideb ddrafft hon yn mynd i'r afael â hyn. O fewn y setliad hynod heriol sydd gennym ar hyn o bryd, bu'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd. Mae hon yn gyllideb lle mae angen anelu ein gwariant at y meysydd hynny sy'n feysydd mwy acíwt o atal. Os ydym am symud tuag at fwy o atal sylfaenol yn y dyfodol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus craidd yn gynaliadwy nawr, ac yn gallu dygymod â'r storm newydd hon o gyni a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.

Nid wyf yn cydnabod bod y gyllideb hon yn un sy'n tynnu cyllid o feysydd atal sylfaenol. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Er enghraifft, drwy fuddsoddi £450 miliwn ychwanegol yn y GIG, ein nod yw diogelu pawb, gan gynnwys plant, pobl anabl a phobl hŷn ac agored i niwed. Mae hwn, yn ei hanfod, yn wariant ataliol, mewn sawl ffordd. Mae hefyd yn werth cydnabod bod llywodraeth leol a'r GIG yn cynrychioli 90 y cant o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus, a dyna'r meysydd lle rydym wedi canolbwyntio cyllid sydd ar gael ar eu cyfer, gan gefnogi llawer o weithwyr a chymunedau ledled Cymru. Nid yw atal ychwaith yn ymwneud â faint o gyllid yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae cyllid yn cael ei wario. Mae diffinio canlyniadau gwariant o safbwynt atal yn gymhleth, yn enwedig pan fo sawl buddiolwr a sawl math o atal yn digwydd o fewn un buddsoddiad. O'r herwydd, rydym yn parhau i archwilio'r maes hwn fel rhan o waith ein cynllun gwella cyllideb, ochr yn ochr â'r camau y byddwn yn eu cymryd ar gyllidebu rhywedd a diwygio ein dull o asesu effaith y gyllideb.

O ran terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn, rwy'n adleisio galwadau'r Pwyllgor Cyllid am hyblygrwydd. Y flwyddyn nesaf bydd ein terfynau werth bron i chwarter yn llai mewn termau real na phan gawsant eu cyflwyno yn 2018-19. Dylai Llywodraeth y DU gymhwyso'r newidiadau y mae wedi'u gwneud i fframwaith cyllidol yr Alban mewn cysylltiad â therfynau cronfeydd wrth gefn a benthyca i Gymru, gan roi'r un hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i ni. Byddai hyn yn mynegeio ein terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn i chwyddiant, ac yn dileu terfynau tynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn. Unwaith eto fe wnes i'r achos hwn yn ystod cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys fis diwethaf, gan bwysleisio bod y newidiadau a wnaed i fframwaith yr Alban yr un mor berthnasol i ni. Maen nhw'n newidiadau pragmatig y gellid eu gwneud ar unwaith.

Mae'r pecyn cymorth ariannol i Ogledd Iwerddon gan Lywodraeth y DU wedi cydnabod costau gwasanaethau'r sector cyhoeddus a phwysau cyflog. Nid yw'r costau hyn yn unigryw i Ogledd Iwerddon, a dylid eu cydnabod ar gyfer pob rhan o'r DU. Fel Gogledd Iwerddon, rydym yn chwilio am gyfle cyfartal i fynd i'r afael â'r pwysau hynny.

Amlygais hefyd adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sy'n dadlau bod yr hyblygrwydd ariannol yr ydym yn parhau i'w geisio yn rhesymol ac y dylai'r Trysorlys naill ai ei dderbyn neu egluro pam nad yw'n ei dderbyn.

Eleni, unwaith eto, rydym wedi derbyn cais gan y Pwyllgor Cyllid am fwy o wybodaeth i gynorthwyo gwaith craffu. Hoffwn ailadrodd y negeseuon o'r llynedd ar y cysyniad amlflwyddyn a sut y dylid ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd eleni fel diweddariad i'r amgylchiadau ac yn ychwanegol at yr hyn a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Rydym wedi darparu llawer iawn o wybodaeth, wedi bod yn dryloyw yn y dull yr ydym yn ei fabwysiadu ac yn ymgysylltu â'r pwyllgor yn gynnar. Mae maint ac ystod y deunydd a gynhyrchwn yn fwy na llawer o Lywodraethau eraill, felly o ganlyniad rwy'n ystyried a yw hwn yn fater o fwy o wybodaeth, neu a yw'r pwyllgor eisiau gwybodaeth wahanol. Yn hyn o beth, rwy'n teimlo y gellid defnyddio protocol y gyllideb i gael gwell effaith, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn y mae'r Senedd yn disgwyl ei wneud i gynorthwyo gwaith craffu. Rwy'n gwerthfawrogi'r trafodaethau rwyf wedi'u cael hyd yma gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y protocol, a byddwn yn croesawu trafodaethau pellach gyda'r bwriad o negodi fersiwn ddiwygiedig wrth i ni ddod â'r cyfnod amlflwyddyn hwn i ben.

Ni fu unrhyw newid ystyrlon yn ein cyllid cyfalaf cyffredinol oddi wrth Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref. Mewn gwirionedd, mae ein cyllideb gyfalaf yn 2024-25 bellach werth hyd at 10 y cant yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr adolygiad gwariant yn 2021. Yn syml, nid ydym mewn sefyllfa i wneud unrhyw ddyraniadau cyfalaf cyffredinol pellach o fewn y gyllideb hon.

Rwyf wedi amlinellu rhai dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol fel rhan o'r gyllideb ddrafft, a byddaf yn amlinellu dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol pellach o fewn ein cyllideb derfynol, yn unol â'n blaenoriaethau. Rwy'n cydnabod y byddai'r Senedd yn hoffi gweld yr holl ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol yn cael eu darparu yn y gyllideb ddrafft, ac, yn wir, dyna fyddai ein dewis. Mae'r ffaith bod datganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref wedi bod mor hwyr, ynghyd â chymhlethdod y mecanweithiau hyn, yn aml yn gofyn am ddiwydrwydd dyladwy ychwanegol cyn y gallwn gyhoeddi cyllid. Ein bwriad o hyd yw dyrannu cyfalaf trafodiadau ariannol yn y gyllideb ddrafft wrth symud ymlaen.

Wrth gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb a fu'n rhan o'r paratoadau a'r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft hon. Rwy'n gwerthfawrogi'r sgyrsiau adeiladol rwyf wedi'u cael gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, ac Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses, ac er fy mod yn cytuno â llawer o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, mae rhai y byddai angen i mi eu hystyried ymhellach yng ngoleuni'r cyfyngiadau a nodwyd gennyf heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion holl adroddiadau pwyllgorau'r Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 6 Mawrth.

Felly, i gloi, ni ellir tanamcangyfrif wrth bennu ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 y ffaith ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anhygoel o anodd—y mwyaf llwm a'r mwyaf poenus ers datganoli. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio'n galed gyda'n cyd-Aelodau, gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i nodi lle fyddai cyllid yn cyflawni orau er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen fwyaf ar bobl yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.

16:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i wneud cyfraniad yn y ddadl allweddol yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.

Cyn imi droi at feysydd penodol yn ein hadroddiad, hoffwn ddiolch o'r cychwyn cyntaf i'r rhai sydd wedi ymgysylltu â'r pwyllgor ers inni gynnal ein sesiynau cyntaf ar y gyllideb hon yn ôl ym mis Mehefin y llynedd. Roedd nifer yr ymatebion i'n hymgynghoriad ysgrifenedig y mwyaf rydym wedi eu cael yn y chweched Senedd hyd yma, sy'n arwydd o gryfder y teimlad a'r pryder sy'n bodoli yng Nghymru ynglŷn â goblygiadau'r penderfyniadau ariannu yr ydym yn eu gwneud heddiw a dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn croesawu ymgysylltu ar y lefel hon am ei fod yn hanfodol fel canllaw i ystyriaethau'r pwyllgor ac o ran cyfoethogi ein casgliadau a'n hargymhellion. Ein gobaith, o ganlyniad, yw bod ein hadroddiad yn gwneud cyfiawnder â'r safbwyntiau gafodd eu mynegi ac ymdrechion pobl a sefydliadau ledled Cymru i ymgysylltu â ni.

Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau dechrau drwy gydnabod nad yw hon yn gyllideb hawdd i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gwelsom wendidau mewn sawl maes allweddol o'r gyllideb ddrafft, sy'n bwrw amheuaeth ynghylch a yw'n cyflawni prif amcanion y Gweinidog.

Yn gyntaf, mae marciau cwestiwn ynghylch a yw lefelau cyllido o fewn y gyllideb ddrafft yn ddigonol i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, sy'n un o egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru. Mae'r pwyllgor yn arbennig o bryderus am y diffygion ariannol sy'n wynebu gwasanaethau rheng flaen a ariennir gan awdurdodau lleol, yn enwedig addysg, tai a gofal cymdeithasol. Pan siaradais yn y Siambr hon fis Gorffennaf diwethaf yn ystod dadl y pwyllgor ar flaenoriaethau'r gyllideb, dywedais yn glir bod angen cyllid digonol ar lywodraeth leol i gyd-fynd â'r pwysau polisi a gwasanaethau y maent yn eu hwynebu. Yn anffodus, ymddengys nad yw pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Dyna pam rydym wedi gofyn i'r Gweinidog egluro sut mae'r gyllideb ddrafft hon yn diogelu'r gwasanaethau rheng flaen craidd hynny.

Mae gan y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid y GIG heb gynnydd cyfrannol mewn dyraniadau ar gyfer gofal cymdeithasol, yn enwedig gan fod cysylltiad annatod rhwng y ddau ac y gallai mwy o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol greu pwysau ychwanegol ar y GIG.

Roedd gennym bryderon hefyd ynghylch materion gweithlu o fewn gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig o ran recriwtio a chadw o fewn y sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd. Roeddem felly yn siomedig bod toriadau wedi eu gwneud i grant datblygu gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, cynllun a gynlluniwyd i fynd i'r afael â phwysau'r gweithlu, a gofynwn i'r Gweinidog esbonio pam y gwnaed y penderfyniad hwn, o ystyried y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r sector hwnnw.

Rwy'n deall bod pryderon tebyg wedi'u mynegi gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac rwy'n falch bod tir cyffredin rhwng y pwyllgorau ar y pwynt hwnnw. Ond rwy'n croesawu'r sylwadau y prynhawn yma ynglŷn â'r £25 miliwn o gyllid canlyniadol a allai ddod. Felly, byddaf yn edrych ymlaen at ddarllen y datganiad hwnnw yn nes ymlaen, yn ystod y dyddiau nesaf.

Gwnaethom hefyd edrych ar effaith penderfyniad y Gweinidog i ddyrannu cyllid ychwanegol i rai meysydd gwasanaeth craidd. Er bod gan y dull gweithredu ei rinweddau, teimlai'r pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi methu â nodi sut y bydd yn sicrhau monitro canlyniadau yn effeithiol yn ystod y flwyddyn o'u cymharu â gwariant. O ganlyniad, rydym wedi gofyn i'r Gweinidog ddarparu'r wybodaeth hon mewn cysylltiad â'r dyraniadau a wnaed o fewn y gyllideb ddrafft i GIG Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

Yn ail, rydym yn bryderus yn sgil tystiolaeth sy'n awgrymu bod penderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru yn debygol o gael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ar adeg pan fo ei angen fwyaf. Mae'r Gweinidog yn honni y bydd y gyllideb ddrafft yn sicrhau'r budd mwyaf i'r aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf. Ond clywsom dystiolaeth a oedd yn cwestiynu hyn. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod penderfyniadau i ariannu gwasanaethau rheng flaen wedi dod ar draul mesurau tymor hwy i liniaru achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb, ac y bydd hyn yn effeithio'n anghymesur ar fenywod. Felly, rydym eisiau i'r Gweinidog asesu effaith ei phenderfyniadau cyllidebol ar fentrau sy'n amddiffyn pobl rhag caledi. Mae hyn yn cynnwys edrych eto ar effaith y gyllideb ar y gronfa cymorth dewisol, grant dysgu Llywodraeth Cymru, y trothwyon ar gyfer prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, i weld a ellir ei ymestyn i blant y mae eu rhieni'n derbyn credyd cynhwysol, y rhaglen Cartrefi Clyd a chartrefi fforddiadwy.

Rydym hefyd yn synnu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu symud £11 miliwn o gyllid i ffwrdd o'i chynnig gofal plant. Er ein bod yn deall bod hyn oherwydd diffyg galw, rydym yn pryderu y gallai'r ffordd y mae'r cynllun yn cael ei ddylunio a'i weithredu fod yn atal rhieni rhag cael gafael ar gymorth. Gofynnom hefyd i'r Gweinidog ddarparu rhagor o wybodaeth i esbonio'r effaith ar feysydd eraill o'r gyllideb os bydd nifer y rhai sy'n manteisio ar y cynnig yn cynyddu.

Hefyd, er bod y pwyllgor yn falch o weld lansiad siarter budd-daliadau Cymru y mis diwethaf, a fydd yn helpu i ddarparu system gydlynol o gefnogaeth i'r rhai mwyaf anghenus, mae angen mwy o wybodaeth cyn y gallwn asesu a yw'n llwyddiannus ai peidio. Ar fater cysylltiedig, er ein bod yn cydnabod yn anffodus y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu taliadau am rai gwasanaethau cyhoeddus i lenwi diffygion ariannol, nid ydym yn credu y dylai hyn effeithio ar y rhai mwyaf anghenus, ac yn galw ar y Gweinidog i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu diogelu pe bai'r polisi hwn yn cael ei ddilyn.

Y trydydd maes sy'n peri pryder i'r pwyllgor yw absenoldeb meddwl strategol o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch cyllido ei mesurau ataliol hirdymor. Ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am rywfaint o'r cyd-destun ynghylch hyn y prynhawn yma. Ond ni chawsom sicrwydd o sylwadau'r Gweinidog fod blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd ynddo'i hun yn weithred atal, ac yn teimlo mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd yn y ddogfennaeth a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft sy'n dangos sut mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu cydbwyso gan amcanion hirdymor strategol sy'n canolbwyntio ar atal. Dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effaith y penderfyniad i ailflaenoriaethu cyllid o fesurau ataliol, yn enwedig ar gynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau.

O ran mesur effaith, rwy'n falch o ddweud bod arwyddion o gynnydd, ac rydym yn croesawu penderfyniad y Gweinidog i adolygu'r cynllun gwella cyllideb a'i asesiad effaith integredig strategol. Fodd bynnag, mae meysydd o'r gyllideb o hyd lle gellid gwneud mwy i egluro effaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi manylion yr holl feysydd nad ydynt wedi'u datganoli lle bydd cyllid yn cael ei ailflaenoriaethu, gan egluro pam mae'r galw yn llai mewn rhai meysydd a'i effaith gyllidebol, gan egluro sut y caiff Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ei hystyried wrth wneud penderfyniadau cyllidebol, cyhoeddi canlyniadau'r ddau gynllun treialu cyllidebu rhywedd sydd ar ôl gyda'r bwriad o brif ffrydio cyllidebu rhywedd ar draws Llywodraeth Cymru, ac egluro effaith yr erydiad yng ngwerth cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru ar y prosiectau y bydd angen eu lleihau neu eu canslo'n gyfan gwbl.

Dirprwy Lywydd, hoffwn symud i feysydd eraill o'n hadroddiad. Byddai'r pwyllgor yn hoffi i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o wybodaeth o fewn y flwyddyn a fyddai'n galluogi'r Senedd i ddeall ei safbwynt cyllido a sut mae'n dylanwadu ar benderfyniadau gwariant. Mae hyn yn cynnwys archwilio rhannu data yn rheolaidd i roi trosolwg o sut mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen o gymharu â'i phroffiliau gwariant o fewn y flwyddyn, a darparu mwy o eglurder ar effaith chwyddiant ar gyllidebau datganoledig.

Yn olaf, mae'r pwyllgor hwn wedi beirniadu'n rheolaidd yr amser sydd ar gael i bwyllgorau'r Senedd graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod y ffaith mai amseriad y digwyddiadau cyllidol yn San Steffan, sy’n cael ei bennu gan y Trysorlys, sy’n dylanwadu’n bennaf ar yr amseriad ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft, ond rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o weithio gyda phwyllgorau’r Senedd cyn rowndiau’r gyllideb yn y dyfodol i gynyddu’r cyfleon sydd gan bobl i ddweud eu dweud am y newidiadau sy’n effeithio arnyn nhw. Rwyf hefyd yn falch ein bod ni wedi bod yn gallu parhau â'r drafodaeth ar y budget protocol.

Rwyf hefyd yn ymwybodol, o siarad â chydweithwyr ar bwyllgorau eraill, fod problemau gydag ansawdd a chywirdeb y dystiolaeth ategol y mae Gweinidogion unigol wedi ei darparu yn ymwneud â’u meysydd portffolio. Mae hyn yn amlwg yn siomedig ac yn dangos bod gwaith i’w wneud i wella’r broses o rannu tystiolaeth sy’n ymwneud â’r gyllideb, a’n nod yw parhau â’n deialog â phwyllgorau ar y mater hwn.

I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn adleisio teimladau a fynegwyd ar ddechrau fy nghyfraniad. Rwyf bob amser yn dweud, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, y byddaf yn cael fy arwain gan farn y rhai sydd wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â ni. Mae gwneud hynny'n cymryd cryn dipyn o amser, arbenigedd ac ymdrech. Nid yw adroddiad eleni yn wahanol, ac mae’r dystiolaeth bwerus a gawsom gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau wedi bod yn allweddol i’n casgliadau a’n hargymhellion.

Nid oes dim amheuaeth bod hwn yn gyfnod anodd a bod yn rhaid i ddewisiadau anodd gael eu gwneud. Rydym o’r farn bod gan y Gweinidog dipyn o ffordd i fynd cyn y bydd y gyllideb ddrafft hon yn gwneud beth mae’n dweud ar y tun ac yn diogelu’r gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru. Rydym yn galw ar y Gweinidog i roi sylw i’r adroddiad hwn er mwyn sicrhau bod y gyllideb ddrafft yn gweithio i’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch yn fawr.

16:10

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft hon, gan gynnwys yr holl bwyllgorau ac, mae'n rhaid dweud, y clercod o'r radd flaenaf am eu gwaith amhrisiadwy. Mae mor bwysig bod rhanddeiliaid a'r bobl yn dweud wrthym beth maen nhw'n ei deimlo a sut y bydd penderfyniadau'r Llywodraeth yn effeithio arnyn nhw. Gallwn weld o adroddiad y Pwyllgor Cyllid fod llawer o bryderon.

Bob wythnos, rydym yn clywed am bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael meddyg teulu i'w gweld neu'n aros am driniaeth, neu am ddiffyg pecynnau gofal cymdeithasol neu fynediad at ofal plant fforddiadwy, neu fynediad i gartref. Rydym yn clywed sut mae busnesau'n cau eu drysau oherwydd diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, neu sut mae cymunedau'n dod yn fwy ynysig o ganlyniad i drafnidiaeth gyhoeddus wael. Rydym yn clywed ofnau gan ein cymunedau ffermio a gwledig bod eu busnesau, eu ffordd o fyw a'n diogeledd bwyd yn cael eu bygwth gan bolisïau’r Llywodraeth.

Ateb parod Llywodraeth Cymru i lawer o'r pethau hyn yw nad oes ganddyn nhw'r arian—bai Llywodraeth y DU yw hynny. Y ffaith yw, y bu codiadau mewn arian—cannoedd o filiynau o bunnau, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac fel y mae pob teulu yn gwybod, pan fydd hi'n gyfnod anodd, mae'n rhaid i chi dorri'r got yn ôl y brethyn, ond sut rydych chi'n dewis ei dorri yw eich penderfyniad chi. Mae'r llywodraeth ar bob lefel yn gwneud dewisiadau ac mae'n rhaid iddynt fod yn atebol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei dewisiadau yn y gyllideb hon ac ni all barhau i feio San Steffan am ei methiannau. Mae bwrw'r bai fel hyn yn llen i guddio degawdau o gynllunio strategol gwael a dewisiadau a phenderfyniadau'r Llywodraeth. Mae'n dda iawn bod Cymru'n derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario y pen ar iechyd ac addysg yn Lloegr, ond mae'r Llywodraeth wedi gwario'r arian ychwanegol ar bethau eraill—rydyn ni'n gwybod hynny. Pe bai arian wedi'i wario lle y dylid fod wedi'i wario, ni fyddai ein rhestrau aros wedi bod mor hir, ni fyddai ein byrddau iechyd o dan yr un pwysau ariannol, byddai ein canlyniadau addysg yn well ac ni fyddai ein seilwaith yn y fath gyflwr.

Mae naratif y gyllideb yn dweud bod y Llywodraeth eisiau canolbwyntio ar gyllido'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru, ond nid yw wedi gwneud hynny. Edrychwch ar setliad llywodraeth leol ar 3 y cant—toriad enfawr, mewn termau real a fydd yn golygu y bydd cynghorau'n ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau hanfodol. Fel y dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid, mae'r 3 y cant 

'dim ond tua thraean o'r pwysau sy'n wynebu gwasanaethau lleol, felly bydd yn anochel yn golygu dewisiadau anodd, colli swyddi a thoriadau i wasanaethau,'

ac rydym yn gwybod, codiadau enfawr yn y dreth gyngor. Gadewch i ni fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r baich i'n cynghorau, gan wybod yn iawn y bydd cynnydd yn y dreth gyngor yn dilyn a phobl Cymru fydd yn talu'r pris. Nid yw hon yn ddim byd ond treth lechwraidd.

Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn cyllid ar gyfer gofal iechyd eleni. Mae angen hyn yn fawr ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd. Ond y gwir syml yw y dylai'r cyllid hwn fod wedi cael ei fuddsoddi flynyddoedd yn ôl, er mwyn trwsio'r methiannau systemig a welwn bellach sydd wedi lleihau'r cydnerthedd yn ein gwasanaeth iechyd. Yn 2022-23, gwelodd y diffyg canolbwyntio ar yr hirdymor £325 miliwn yn cael ei wario ar staff asiantaeth ar draws y GIG.

Gwyddom hefyd, ar hyn o bryd, fod tua 1,500 o bobl yn aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty oherwydd heriau capasiti yn y sector gofal cymdeithasol. Nid yw'r gyllideb yn cydnabod hyn. Yn wir, mae'r Pwyllgor Cyllid a'r rhanddeiliaid, fel y clywsom, yn pryderu bod y Llywodraeth wedi cynnig cynnydd i gyllid y GIG heb unrhyw gynnydd cymesur ar gyfer gofal cymdeithasol. Maen nhw'n credu bod prinder meddwl strategol yma, gan fod mwy o bwysau mewn gofal cymdeithasol yn arwain at fwy o bwysau yn y GIG. Croesewir cyhoeddiad y Gweinidog heddiw ynghylch y £25 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, ond dim ond piso dryw yn y môr yw hwn pan wyddom fod y pwysau gofal cymdeithasol yn unig, y mae llywodraeth leol yn ei wynebu ar hyn o bryd, oddeutu £260 miliwn.

Yn amlwg, os ydym am fynd i'r afael â'r materion iechyd a gofal cymdeithasol hyn, mae angen diwygiadau sefydliadol arnom, gan gynnwys polisïau ystyrlon, megis ein cynllun gweithlu sylweddol—rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano dro ar ôl tro i fynd i'r afael â diffyg staffio cronig yn y sector. Mae angen strategaeth adfer gadarn, un y gall y cyhoedd ei deall ac sy'n rhoi rhywfaint o obaith iddynt y bydd pethau'n gwella. Mae angen i ni sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn cael ei gyllido'n ddigonol, ac, yn hollbwysig, bod y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n dda. Mae'n rhaid codi safonau er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gofal iechyd y maen nhw'n ei haeddu.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru hefyd yn cael ei dal yn ôl gan bolisïau gwael sy'n lleddfu twf economaidd, yn enwedig o ran seilwaith trafnidiaeth. Dywedodd Sefydliad y Peirianwyr Sifil wrth y pwyllgor newid hinsawdd fod diffyg trosolwg o wendidau rhwydweithiau seilwaith Cymru wedi creu bylchau yn ein dull o amddiffyn seilwaith hanfodol. Maen nhw'n mynd ymlaen i dynnu sylw at y broblem gynyddol ar goridor yr M4 a'r A55. Ond yn hytrach na buddsoddiad hanfodol sy'n canolbwyntio ar rymuso ein gwlad a'i heconomi, yr hyn a welwn yw canslo sawl prosiect ffordd, terfyn cyflymder 20 mya diofyn niweidiol, adnoddau gwefru cerbydau trydan annigonol a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n lleihau. Lle mae'r strategaeth gydlynol ar gyfer polisi trafnidiaeth o fewn y gyllideb hon?

Wrth edrych yn ehangach ar yr economi, bydd yn rhaid i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden dalu dwbl yr ardrethi busnes y byddent yn eu talu yn Lloegr, oherwydd mae'r Llywodraeth hon yn gwrthod trosglwyddo'r un rhyddhad, er bod y cyllid ar gael. Dyma'r un sefyllfa yn y sector gofal plant: £180 miliwn o gyllid canlyniadol ar gael i gefnogi rhieni i fynd yn ôl i'r gwaith drwy ddarparu'r 30 awr hynny o ofal plant am ddim i blant dros naw mis oed o fis Medi 2025, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad gweithredol i beidio â gweithredu'r un pecyn cymorth yma yng Nghymru.

Byddant yn gofyn i mi sut y byddwn yn talu am hyn—rwyf eisoes wedi gofyn hyn—i ni ei ystyried, yn hytrach. Mae'n gwestiwn roeddwn i'n arfer ei ofyn i'r gwrthbleidiau pan oeddwn yn arweinydd cyngor, gan wybod yn iawn na fyddai ganddyn nhw fynediad at yr adnoddau a'r llinellau cyllideb manwl yr oedd eu hangen arnyn nhw. Gadewch i ni gael mynediad at eich gwaith a'ch adnoddau a byddwn yn herio meysydd gwario yn gadarn, ailalinio, ail-flaenoriaethu a symud arian i'r blaenoriaethau a'r pwysau allweddol, uniongyrchol, ac yn mynd i'r afael â'r pethau sydd bwysicaf i'r bobl. Mae angen cynllunio cadarn a strategol ar Gymru sy'n cwmpasu dull gweithredu Llywodraeth gyfan o ran strategaeth ariannol, yn hytrach na phwyslais cyllidebu adrannol difeddwl, digyswllt ar hoff brosiectau. Rhaid i'r wlad weld cynllun i roi gobaith yn ôl i bobl Cymru, un sy'n ailadeiladu ac yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi busnesau, yn creu ac yn hyfforddi gweithlu'r dyfodol ac yn tyfu ein heconomi; un sy'n ailadeiladu ein GIG, yn cynyddu darpariaeth gofal cymdeithasol ac yn cyllido ysgolion yn iawn.

Yn anffodus, nid oes gan Lywodraeth Cymru y weledigaeth sydd ei hangen, fel y gwelir gan gyhoeddiadau fel toriadau o 10,000 i brentisiaethau, torri cyllid i addysg bellach, neu ddargyfeirio arian i ffwrdd o'r cynnig gofal plant tra bod rhieni'n gweiddi am fwy o ddarpariaeth, ac mae lleoliadau meithrin yn cael trafferth goroesi. Ni allwn ddadwneud methiannau Llafur dros nos, ond gallwn adeiladu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy cydnerth drwy gynllunio strategol hirdymor gyda blaenoriaethau priodol. Dirprwy Lywydd, credwn fod y gyllideb hon yn methu â chyflawni o ran blaenoriaeth pobl Cymru, ac rwy'n cynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig.

16:20

Dwi'n croesawu'r cyfle i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth, ac mae yna lawer iawn wedi digwydd ers cytuno'r gyllideb ddiwethaf, ond mi allwn ni ddadlau bod y cyd-destun yn debyg iawn mewn llawer ffordd. Heb os, mae hon yn gyllideb a wnaed mewn cyfnod anodd ar gyfer cyfnod anodd. Mae'n adlewyrchu cyfyngiadau ein setliad cyllido ac rydym wedi gweld

'camreoli cyllid cyhoeddus ysgytwol gan Lywodraeth y DU.'

Nid fy ngeiriau i, ond dadansoddiad y Gweinidog ar 7 Mawrth y llynedd pan gytunwyd y gyllideb ddiwethaf. Ac eto, heddiw, dyma ni yn yr un sefyllfa, yn ailadrodd yr un ansoddeiriau er mwyn adlewyrchu annhegwch y setliad ariannol i Gymru.

Cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru ydy hon, ac yn hynny o beth, mae'n rhaid iddyn nhw berchnogi a chyfiawnhau'r hyn sydd o'n blaenau ni, ond dwi'n llawn gydnabod yr heriau sydd yn wynebu Gweinidogion Cymru. Mae agenda llymder y Lywodraeth Geidwadol a'u camreolaeth affwysol nhw o'r economi wedi golygu bod yn sylweddol llai o arian ar gael i'w wario, er bod y pwysau ar gynnal gwasanaethau yn dwysáu.

Pan fydd hi'n wleidyddol gyfleus i Lywodraeth Prydain agor y pwrs cyhoeddus, mae'r arian fel pe bai o ar gael—rydyn ni'n gweld hynny mor aml. Dwi ddim yn gwarafun ceiniog, gyda llaw, o'r £3 biliwn ychwanegol sydd wedi mynd i Ogledd Iwerddon sydd wedi helpu datgloi datganoli yng Ngogledd Iwerddon, ond mae hi'n gwbl annerbyniol nad ydy anghenion Cymru hefyd yn cael eu hystyried yn y setliad gan San Steffan.

Nawr, ni ellir gorbwysleisio canlyniadau'r byd go iawn o danariannu Cymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi amcangyfrif y bydd incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru £10,300 yn is erbyn 2027 na phe bai tueddiadau cyn yr argyfwng wedi'u cynnal, ac, fel y mae adroddiad y prif economegydd yn nodi, rhagwelir y bydd incwm cyfartalog yng Nghymru yn ystod 2024 fwy na 2 y cant yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Mae angen model ariannu tecach arnom ar gyfer Cymru.

Fel y nodwyd gan gomisiwn Holtham, nid yw Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, fformiwla Barnett ar gyfer y Senedd, a osodir heb unrhyw fewnbwn gan Weinidogion Cymru, yn addas i'r diben o fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol Cymru. Er gwaethaf yr ystod o feysydd polisi y mae gan y Senedd gyfrifoldeb drostynt nawr, mae ei phŵer gwariant yn seiliedig ran amlaf o lawer ar grant sefydlog na all ei newid yn sylweddol oherwydd cyfyngiadau cynhenid ei ysgogiadau dros drethu a benthyca. 

Pan feddyliwch chi am anghyfiawnderau penodol, gadewch iddo dreiddio i'r cof, y byddai'r symiau canlyniadol o HS2, y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno sy'n ddyledus i Gymru, nid yn unig yn gwneud iawn am y toriadau i'r gyllideb, ond byddai hefyd yn darparu mwy na £2.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol. Prin y gall Rishi Sunak guddio ei ddirmyg tuag at Gymru drwy beidio â throsglwyddo'r arian ymlaen, ond Keir Starmer, os yw'n dymuno bod yn Brif Weinidog y DU cyn diwedd eleni, mae angen i ni ei weld yn dod o hyd i'w gwmpawd moesol gan addo unioni camwedd y Toriaid—a gwn fod llawer ar y meinciau Llafur yma yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw.

Er ei bod yn iawn ein bod yn amlygu methiannau trychinebus Llywodraeth y DU wrth erydu pŵer gwariant y Senedd, nid yw hynny'n golygu y bydd penderfyniadau yma yng Nghymru, a wneir yng Nghymru, o reidrwydd yn arwain at y canlyniad gorau posibl, dyweder. Bydd cyllidebau awdurdodau lleol yn dal i gael eu gwasgu hyd yn oed ymhellach, gyda phreswylwyr yn gorfod talu'r dreth gyngor uwch gan barhau i ddioddef gwasanaethau o safon is—rhywbeth nad yw unrhyw arweinydd y cyngor eisiau ei weld. Dim ond yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd adroddiad gan ASau yn San Steffan fod yr argyfwng ariannol sy'n wynebu cynghorau yn Lloegr allan o reolaeth, wrth iddyn nhw alw ar y Llywodraeth i lenwi bwlch o £4 biliwn. Nawr, gyda Chymru ar drugaredd cymaint o benderfyniadau ariannol mawr a wnaed yn San Steffan, pa obaith sydd gan gynghorau Cymru o oroesi'r storm hon?

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r bwlch cyllido sy'n wynebu awdurdodau lleol gyrraedd £740 miliwn erbyn 2027-28, yn seiliedig ar drywyddau presennol. Nawr, er bod bron pob cyllideb wedi'i gwasgu ac mae gan bob maes portffolio hawliad dilys ar unrhyw arian ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, rwy'n pwyso arnoch chi yr angen brys i flaenoriaethu awdurdodau lleol i ddiogelu cymaint o wasanaethau rheng flaen â phosibl.

Ein dewis ni yw y byddai cynnydd cyffredinol mewn cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn cynnwys codi'r cyllid gwaelodol o 2 y cant i o leiaf 3 y cant, a fyddai o fudd sylweddol i lawer o awdurdodau lleol—y rhai a gafodd eu taro galetaf, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig. Ond beth bynnag mae'r Gweinidog yn penderfynu ei wneud, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn anffodus nad ydym yn gwybod o hyd, nad oes gennym yr eglurder, nid oes gennym y sicrwydd y byddem ei eisiau ar hyn o bryd, y gellir rhoi cymorth ychwanegol i lywodraeth leol neu ar ba lefel y bydd y cymorth ychwanegol, oherwydd rydym yn mynd yn agos iawn, iawn at y pwynt o bennu cyllidebau a gosod y dreth gyngor mewn rhai awdurdodau lleol, a bod angen eglurder ar frys go iawn.

Mae'n amlwg bod y Llywodraeth wedi gwneud dewis ymwybodol i flaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth, sydd o reidrwydd wedi arwain at ddargyfeirio arian o bortffolios eraill. Rwy'n gwybod na fydd y penderfyniadau hyn wedi'u gwneud ar chwarae bach. Rwyf hefyd yn cydnabod yn llawn y realiti, o ran dosbarthu bloc mor gyfyngedig a sefydlog o arian, yn enwedig ar adegau fel y rhain, y bydd rhywfaint o flaenoriaethu yn anochel, ond yr hyn rwy'n llai argyhoeddedig yn ei gylch yw bod y broses flaenoriaethu wedi bod cystal ag y gall fod, ac mae angen i ni fod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif am y blaenoriaethau a'r penderfyniadau y mae eisoes wedi'u gwneud ac annog newidiadau.

O ran iechyd a thrafnidiaeth, rydym yn gweld ailadrodd ailddyrannu a wnaed o'r blaen: £425 miliwn a £125 miliwn yn y drefn honno i iechyd a thrafnidiaeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref ar draul portffolios eraill, a nawr rydym yn edrych ar ddyraniad pellach o £450 miliwn ar gyfer iechyd, £111 miliwn ar gyfer trafnidiaeth, sydd wedi'u hariannu'n bennaf gan doriadau dyfnach fyth i feysydd polisi eraill sydd wedi'u tangyllido'n barhaol.

Bydd fy nghyd-Aelodau Mabon ap Gwynfor a Delyth Jewell yn trafod dimensiynau iechyd a thrafnidiaeth y gyllideb yn fanylach, ond digon yw dweud nad yw hyn yn adlewyrchu'n dda ar allu'r Llywodraeth i gynllunio cyllideb ar gyfer y tymor hir. Byddai ail-flaenoriaethu mor ddifrifol, wrth gwrs, yn fwy goddefgar pe baent yn cyflawni gwelliannau sylweddol yn ein gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus, ond fel y dysgom ni yn sgil yr ymarfer ail-gyllidebu ym mis Hydref, mae'r arian ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd a thrafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio dim ond i lenwi bylchau cyllidebol presennol sydd wedi tyfu'n sylweddol dros gyfnod o flynyddoedd lawer o dan y Llywodraeth hon. Dyma'r anghynaliadwyedd yr ydym yn siarad amdano mor aml.

Yn achos iechyd, datgelodd adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru fod chwech o'r saith prif fwrdd iechyd wedi torri eu dyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb yn ystod 2022-23, gan arwain at ddiffyg cyfunol o dros £150 miliwn. Cyrhaeddodd gwariant ar staff asiantaethau, y cyfeirir ato mor aml, y lefel uchaf erioed sef £325 miliwn yn 2022-23, sydd wedi'i achosi'n bennaf gan fylchau swyddi gwag sy'n ehangu'n barhaus o fewn gweithlu'r GIG.

Yn y cyfamser, mae'r £236 miliwn cyfunol sydd wedi'i roi yn gyfan gwbl i wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, heb ddim dros ben ar gyfer gwasanaethau bysiau y mae'r rhan fwyaf o Gymru yn dibynnu arnynt, ar gyfer mynd i'r afael â'r diffyg enfawr sydd wedi dod i'r amlwg rhwng nifer y teithwyr a ragwelir a gwerthiant tocynnau gwirioneddol. Dylid cyd-destunoli hyn yn erbyn hanes diysgogiad Trafnidiaeth Cymru o ran bodlonrwydd cwsmeriaid, eu hanes o ran prydlondeb a chanslo yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae yna elfennau o'r gyllideb i'w croesawu. Er gwaethaf toriad cyffredinol i faterion gwledig, sy'n anffodus ac yn rhywbeth y mae fy mhlaid wedi gwneud sylwadau arno'n eang, mae diogelu'r cynllun taliadau sylfaenol yn rhywbeth yr oedd fy mhlaid yn falch iawn o allu dylanwadu arno. Mae hynny'n werth £238 miliwn, a Duw a ŵyr, mae'n arian y mae sector dan bwysau ei angen.

Rwy'n cydnabod, Dirprwy Lywydd, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru basio ei chyllideb, ond ein dyletswydd ni, ein rôl ar y meinciau hyn, yw craffu mor ofalus ag y gallwn ni lle mae arian yn cael ei wario, i amlygu ble rydyn ni'n credu y gellir ac y dylid gwneud newidiadau, anfon Gweinidogion yn ôl i feddwl eto—ac rydyn ni'n gwneud hynny'n gyson, ond rhaid i Weinidogion edrych eto ar eu cynlluniau gwariant—a gofyn y cwestiynau treiddiol sy'n rhoi'r sicrwydd na fydd y rhai mwyaf difreintiedig ar eu colled ymhellach, na fydd y busnes hwnnw yn disgyn oddi ar glogwyn wrth i ardrethi busnes gynyddu, ac nad effeithir yn andwyol ar ddyfodol ein pobl ifanc oherwydd toriadau i brentisiaethau.

Mae hon, Ddirprwy Lywydd, yn gyllideb unwaith eto ar gyfer amseroedd caled, wedi'i gwneud yn galetach gan benderfyniadau Llywodraeth Geidwadol sy'n poeni dim am Gymru. Ond y cwestiwn i Lywodraeth Cymru ydy a ydy hi wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru y setliad ariannol annheg hwnnw—cydbwyso anghenion pob portffolio a rhoi tegwch ac uchelgais wrth galon yr hyn mae hi'n ceisio ei gyflawni. Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi, a dwi'n gofyn i'r Llywodraeth ddefnyddio'r amser rhwng heddiw a'r bleidlais ar y gyllideb derfynol i ailystyried y materion hynny yr ydw i, ac y bydd fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru, yn eu hamlygu y prynhawn yma.

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi wneud fy sylwadau sylweddol, rwyf am gydnabod mai hon yw'r gyllideb anoddaf ers dechrau datganoli. Fel pwyllgor, yn y cyd-destun hwn aethom ati i graffu ar ein cyllideb. Rydym yn cydnabod y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhai penderfyniadau na fyddai'n eu gwneud mewn hinsawdd ariannol wahanol. Mae ein sesiynau craffu a'n hargymhellion yn cael eu llunio o fewn y cyd-destun hwnnw.

Hoffwn gofnodi fy niolch i a diolch ein pwyllgor i'r Gweinidogion a'r swyddogion perthnasol am ymgysylltu â sesiynau craffu'r pwyllgor mewn modd adeiladol. Rydym hefyd yn croesawu'r briff technegol gan y swyddogion ar y dull o ymdrin â'r asesiad effaith integredig sengl, a hoffwn hefyd ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu hymgysylltiad cadarnhaol. Nid oes gennym amser heddiw i siarad am yr holl faterion a drafodwyd yn ein hadroddiad, er enghraifft lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion, sy'n bryder enfawr eto eleni. Felly, byddaf yn canolbwyntio drwy dynnu sylw at bwysigrwydd sut rydym yn defnyddio'r cyllid sydd ar gael i ni yng Nghymru er mwyn sicrhau'r gefnogaeth orau posibl i'n plant a'n pobl ifanc.

Eleni, mae gwariant ar blant wedi cael ei effeithio mewn nifer o feysydd polisi. Rydym wedi dadlau'n gyson dros wariant mwy tryloyw ar blant, o gofio, er enghraifft, bod mwy na £10 biliwn o gyllid cyhoeddus nad yw'n cael ei neilltuo i fyrddau iechyd. Felly, heddiw rwy'n tynnu sylw at ein siom barhaus nad oes asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn sail i'r gyllideb. Mae asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn hanfodol i'r Llywodraeth, y Senedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach, i'n helpu i ddeall effaith penderfyniadau cyllidebol ar blant a phobl ifanc.

Y llynedd, yn yr un ddadl, amlygais, pe na bai asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn cael ei gyhoeddi eleni, mai hon fyddai'r degfed flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru beidio â gwneud hynny, ac mae hyn er gwaethaf nodi mai cynhyrchu a chyhoeddi asesiad effaith o'r fath yw sut mae'n cydymffurfio â'i dyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn yr holl benderfyniadau a wna. Mae'n ddrwg iawn gennyf eto fy mod yn gorfod tynnu sylw at y garreg filltir hon mewn perthynas â'r hyn rydym yn ei wario ar blant—gellid dadlau mai dyma'r penderfyniad pwysicaf y bydd unrhyw lywodraeth yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod realiti amlwg yr amgylchiadau ariannol eithriadol hyn yn golygu bod angen dull mwy sylfaenol arni. Fodd bynnag, ein barn ni yw, pan fydd pwrs y wlad yn dynn, yn fwy nag erioed, fod yn rhaid i ni fod yn drylwyr wrth sicrhau nad yw hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu bwrw i'r cysgod gan y sefyllfa i oedolion.

Nid ydym yn cytuno â rhesymeg Llywodraeth Cymru nad oes angen asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar wahân. Fel y dywedais ar y dechrau, rydym yn ymwybodol iawn o heriau'r hinsawdd ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi'r gyllideb ddrafft hon ynddi. Fel yr ydym wedi trafod yn y Siambr hon nifer o weithiau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae mwy o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall, ac mae effeithiau tlodi yn torri ar draws pob agwedd ar eu bywydau ac yn parhau i gael effaith ymhell ar ôl iddynt dyfu i fyny. Yn y cyd-destun hwn mae'n rhaid inni fod yn drylwyr wrth sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cynnal, a dyna pam, yn unol ag erthygl 4 o'r confensiwn, fod angen clir am asesiad seiliedig ar ffeithiau o'r uchafswm adnoddau sydd ar gael sy'n cael eu gwario ar blant. Nid ydym yn credu bod hyn yn bosibl heb asesiad o'r effaith ar hawliau plant, a dyma farn amrywiaeth o elusennau plant dan arweiniad Plant yng Nghymru hefyd.

Yn olaf, hoffwn adleisio barn y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill ar bwysigrwydd monitro canlyniadau yn effeithiol yn erbyn gwariant ariannol. Mae nifer cynyddol o grantiau ar gyfer plant yn cael eu cyfuno ar draws addysg a gofal cymdeithasol plant, gan gynnwys y grant plant a chymunedau, sydd werth £175 miliwn erbyn hyn. O'r flwyddyn nesaf ymlaen, gallwn weld bod ffrydiau ariannu gwerth £379 miliwn o fewn y prif grŵp gwariant addysg a'r Gymraeg wedi cael eu cyfuno'n un grant addysg cyn-16 awdurdod lleol. Rhaid i fecanweithiau cadarn i fonitro canlyniadau i blant gael eu rhoi ar waith ar gyfer y grantiau mawr hyn, ac ar gyfer holl wariant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mwy o wariant ar y GIG. Mae hyn yn bwysig iawn, yn enwedig mewn cyfnod economaidd bywiog, ond mae'n dod hyd yn oed yn fwy hanfodol yn y stormydd ariannol presennol. Fel y nodwyd gennym yn argymhelliad 1 o'n hadroddiad, rhaid i hyn fynd y tu hwnt i fonitro yn unig, ac yna dylai arwain at ailflaenoriaethu gwariant ariannol os nad yw'r canlyniadau yr ydym eu heisiau ar gyfer ein plant yn cael eu cyflawni gan yr hyn yr ydym yn ei wario arnynt. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud ar y gyllideb ddrafft hon.

Mae'r gyllideb ddrafft hon yn cynnwys gostyngiadau sylweddol mewn termau real i gyllid amaethyddiaeth a'r economi. Dywedodd y Gweinidog dros faterion gwledig wrth y pwyllgor mai dyma'r cylch cyllideb mwyaf heriol yr oedd hi erioed wedi cymryd rhan ynddo, a mynegodd Gweinidog yr economi farn debyg. Er bod y pwyllgor yn cydnabod yr heriau hyn a'r angen i flaenoriaethu gwariant, mae gennym hefyd lawer o bryderon ynghylch y gostyngiadau a gynigir ar gyfer y cyllidebau materion gwledig a'r economi.

Hoffwn dynnu sylw at rai materion allweddol a godwyd yn ein hadroddiad. Yn gyntaf oll, rwyf am siarad am effaith gronnol y gostyngiadau hyn yn y gyllideb. Yna byddaf yn mynd ymlaen i siarad am bryderon penodol sydd gennym ynghylch dyfodol cymorth amaethyddol, cymorth posibl i bobl sy'n cael eu diswyddo, a chyllid ar gyfer prentisiaethau. Yna byddaf yn gorffen gyda throsolwg o neges allweddol yr adroddiad.

Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn am effeithiau cronnol gostyngiadau i gymorth ffermio a busnes. Er enghraifft, efallai y bydd ffermwr sy'n allforio cig ac yn gwerthu i fusnesau lletygarwch lleol yn cael ei effeithio gan y gostyngiad mewn cymorth amaethyddol, y gostyngiad mewn cymorth busnes, y gostyngiad mewn cymorth allforio ar gyfer eu gwerthiannau rhyngwladol, a'r gostyngiad yn y cymorth i letygarwch ar gyfer eu gwerthiannau domestig. Bydd pawb yn y Siambr hon yn gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i fusnesau a ffermydd yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn deall effaith gronnol y gostyngiadau y mae'n eu gwneud er mwyn sicrhau nad nhw yw'r hoelen olaf yn yr arch i'n busnesau a'n ffermydd, a allai fod eisoes ar fin cau.

Ers cyhoeddiad Tata fis diwethaf, mae'r gweithwyr y mae eu swyddi mewn perygl a'u cymunedau wedi bod ar flaen meddyliau nid yn unig pawb yn y Siambr hon, ond pobl ledled Cymru. Rydym wedi archwilio goblygiadau cyhoeddiad Tata yn y Siambr hon, a bydd y pwyllgor yn clywed gan Tata a Gweinidog yr Economi ar y mater hwn yfory, felly ni fyddaf yn trafod y manylion nawr. Fodd bynnag, nid y gweithwyr dur yw'r unig rai sy'n wynebu'r risg hon o golli gwaith; mae nifer o fusnesau proffil uchel mewn sectorau eraill wedi cau yn ystod y misoedd diwethaf. Er bod pob un ohonom yn gobeithio y gellir osgoi diswyddiadau yn Tata ac nad ydym yn gweld unrhyw achosion eraill o fusnesau proffil uchel yn cau, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y gwaethaf. Rhaid i Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gydweithio i ymgymryd â chynllunio wrth gefn—cynllunio sy'n sicrhau y gall Llywodraeth Cymru ddarparu ymateb cryf a chyflym i gefnogi pobl sy'n wynebu colli eu swyddi, os bydd angen, drwy gynyddu'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer rhaglenni fel ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy.

Gan symud ymlaen at ffermio, bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai hon yw'r rownd gyntaf o gymorth amaethyddol ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben. Dyma'r tro cyntaf erioed i lefel y cymorth amaethyddol gael ei osod yma yng Nghymru, a dyma'r tro cyntaf ers nifer o ddegawdau lle mae amaethyddiaeth wedi gorfod cystadlu'n uniongyrchol â blaenoriaethau ariannu eraill y Llywodraeth. Rydym wedi gweld canlyniad y gystadleuaeth honno yn y gyllideb ddrafft hon, gyda chyllid yn cael ei symud o amaethyddiaeth i gefnogi gwasanaethau rheng flaen fel y GIG. Y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy. Os yw'r cynllun ffermio cynaliadwy am fod yn llwyddiant, mae'n rhaid iddo gael ei ariannu'n briodol, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau trafod maint y cyllid ar gyfer y cynllun gyda Llywodraeth y DU ar unwaith.

Mae'r gyllideb ar gyfer prentisiaethau wedi gostwng 3.65 y cant, sy'n ostyngiad o 24 y cant i werth y contract. Mae aelodau'n bryderus iawn am effaith y gostyngiad hwn ar bobl ifanc ac ar yr economi. Gan y bydd angen i ddarparwyr prentisiaethau flaenoriaethu cefnogi pobl sydd eisoes wedi cofrestru ar gyrsiau, bydd y cyfuniad o'r gyllideb lai a chostau uwch yn disgyn ar ddechreuwyr newydd. Er bod y pwyllgor yn falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gefnogi'r ystod o lefelau prentisiaeth, mae'r Aelodau'n bryderus iawn am effaith y gostyngiad hwn, nid yn unig ar gyfleoedd i bobl ifanc ond hefyd ar economi Cymru, gan y bydd yn cyfyngu ar allu dinasyddion yng Nghymru i wella eu sgiliau.

Ac yn olaf, rydym wedi clywed gan siaradwyr eraill heddiw am ba mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn monitro gwariant ac yn sicrhau'r gwerth gorau. Yng ngoleuni'r gostyngiadau ar draws y cyllidebau materion gwledig a'r economi, gwnaeth ein pwyllgor argymhelliad tebyg, felly hoffwn adleisio teimladau'r siaradwyr eraill ar y pwynt hwnnw.

Hoffwn orffen, Dirprwy Lywydd, drwy grynhoi neges gyffredinol adroddiad y pwyllgor. Mae'r Aelodau'n cydnabod bod hwn yn gylch gyllideb anodd iawn i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn pryderu am y gostyngiadau, felly mae'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn monitro effaith yr holl ostyngiadau gwahanol hyn yn y gyllideb a'i bod yn barod i ymateb ac ailflaenoriaethu cyllid os ystyrir bod y gostyngiadau yn cael mwy o effaith na'r disgwyl, a bod yn barod i ymateb i heriau sy'n datblygu. Gyda hynny, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at barhau i glywed barn Aelodau eraill ar y gyllideb ddrafft hon. Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu fel Cadeirydd y pwyllgor. Dwi jest eisiau dechrau drwy ddweud ychydig o eiriau am brofiad y pwyllgor o'r broses o graffu ar y gyllideb ddrafft yma eleni, ac mi fyddaf i’n gryno iawn gyda'r sylwadau hynny.

Mae ein gallu ni i wneud gwaith craffu effeithiol, wrth gwrs, ddim ond cystal â'r wybodaeth sy’n cael ei darparu ar ein cyfer ni, a doedd tystiolaeth ysgrifenedig y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i gefnogi ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft yma ddim yn cyrraedd y safon y mae’r pwyllgor yn ei disgwyl. Roedd gwybodaeth allweddol y gwnaethom ni ofyn amdani ymlaen llaw ar goll, roedd gwybodaeth roedd y Llywodraeth yn dweud oedd wedi'i chynnwys hefyd ar goll, ac roedd ffigurau yn anghywir. Yn ogystal â rhwystro'r pwyllgor rhag gallu asesu cynlluniau gwariant y Llywodraeth, mae’r diffyg eglurder yma hefyd yn adlewyrchu pryderon ehangach, dwi'n meddwl, am dryloywder o ran llywodraethiant. Er ein bod ni wedi cael ymddiheuriadau gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn barod, mae'r pwyllgor yn awyddus i wersi gael eu dysgu o’r profiad yma er mwyn inni osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Fel sydd wedi’i nodi gan nifer yn barod, mae ond yn deg cydnabod, wrth gwrs, yr heriau ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu wrth osod y gyllideb ddrafft yma. Dyw gorfod penderfynu ble i wneud toriadau ddim yn dasg ddymunol iawn, ond roedd hynny yn anochel, wrth gwrs, o ystyried y setliad cyffredinol. I’r portffolio newid hinsawdd, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Gweinidog ddwyn o un lle i roi i'r lle arall, gan dorri cyllid ar gyfer meysydd polisi allweddol, yn cynnwys ynni glân, gwastraff, bioamrywiaeth a llifogydd, a hynny, wrth gwrs, i gryfhau’r cyllid wedyn i gynnal gwasanaethau rheilffyrdd.

Beth fydd y toriadau cyllid yma yn eu golygu? Wel, mi fydd rhaid torri'n ôl ar brosiectau a rhaglenni sy’n ceisio cyflawni targedau newid hinsawdd ac ymrwymiadau bioamrywiaeth byd-eang Cymru. Ar adeg hollbwysig, wrth gwrs, yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad byd natur, mae effaith ehangach hyn yn amlwg yn peri pryder i'r pwyllgor.

Mae’r penderfyniad i gryfhau’r cyllid i gynnal gwasanaethau rheilffyrdd yn ddealladwy; mae rheilffyrdd, wrth gwrs, wrth wraidd y system drafnidiaeth aml-foddol gynaliadwy y mae mawr addewid amdani. Ond dyw Trafnidiaeth Cymru ddim yn gallu cael arian di-ben-draw, ac mae angen inni weld cynnydd cyflym tuag at wasanaeth rheilffyrdd sy’n ariannol gynaliadwy. Rŷn ni fel pwyllgor angen cynllun clir a manwl ar gyfer lleihau’r bwlch yna sy'n bodoli rhwng costau rheilffyrdd a refeniw tocynnau. Mae angen inni weld diwedd ar y symiau enfawr yma yn cael eu talu allan i Trafnidiaeth Cymru o un flwyddyn i'r llall.

Wrth gwrs, mae gwasanaeth bysiau effeithiol hefyd yn hanfodol i system drafnidiaeth gynaliadwy. Y sôn yw bod 10 y cant o lwybrau bysiau wedi’u colli yn ystod 2023, sydd wrth gwrs yn destun braw i ni gyd. Gyda chyllideb refeniw sy'n weddol wastad ar gyfer 2024-25, mae'n anodd gweld sut y bydd y sefyllfa yna yn cael ei gwyrdroi yn fuan iawn.

Gan symud ymlaen at effeithlonrwydd ynni cartrefi, mae cwestiynau sylfaenol dal i’w hateb am lefel y buddsoddiad sydd ei angen i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a datgarboneiddio stoc dai bresennol Cymru. Mae'r lefelau buddsoddi presennol yn llawer is, wrth gwrs, na'r amcangyfrifon diweddar. Mae’r rhaglen Cartrefi Clyd sydd ar ei newydd wedd, wrth gwrs, yn gwbl briodol, yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatgarboneiddio na’i ragflaenydd. Ond mae cost technolegau carbon isel yn golygu na fydd buddsoddiad yn ymestyn mor bell. Gyda’r cyllid, wedyn, yn aros yn yr un man, mae’n debygol y bydd llai o gartrefi’n elwa o’r rhaglen yn 2024-25 nag yn y flwyddyn ariannol hon. O ystyried y ffaith bod yr argyfwng tlodi tanwydd yn gwaethygu a’r angen i gynyddu’r gwaith o ddatgarboneiddio cartrefi presennol, mae hyn eto yn peri pryder.

Rwyf wedi sôn yn barod am ein pryder ni am effaith toriadau cyllid ar fioamrywiaeth. Y ffaith yw, hyd yn oed gyda chynnydd mewn cyllid yn y dyfodol, fydd arian cyhoeddus yn unig ddim yn ddigon i sicrhau adferiad byd natur. Ac mae buddsoddiad preifat yn hanfodol, felly, i fynd i'r afael â bwlch cyllid byd natur. Rŷn ni wedi clywed dros y blynyddoedd diwethaf fod gwaith yn mynd rhagddo ar fodel cyllid arloesol a chynaliadwy ar gyfer bioamrywiaeth sy’n ymgorffori'r defnydd o fuddsoddiad preifat. Mae’n ymddangos, o dystiolaeth y Gweinidog, fod cynnydd yn cael ei wneud o’r diwedd. Ond mae angen bwrw ymlaen â hyn, a hynny'n gyflym. Rŷn ni’n disgwyl i'r model cyllid yma gael ei gwblhau cyn y rownd cynllunio cyllideb nesaf gobeithio, fel bod modd wedyn ei ddefnyddio fe i lywio penderfyniadau gwariant yn y dyfodol.

Yn olaf, ond nid y lleiaf o bell ffordd, y mae polisi morol. Mae’r gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer 2024-25 yn ergyd arall i faes polisi sydd heb gael digon o adnoddau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r diffyg blaenoriaeth hwn wedi arwain at oedi wrth gyflawni, er enghraifft y prosiect asesu sut y mae gweithgareddau pysgota yn effeithio ar ardaloedd morol gwarchodedig, a gafodd ei ddechrau yn 2016 ond sydd dal heb ei gwblhau. Mae’r Gweinidog wedi rhoi sicrwydd i ni yn y gorffennol fod dynodiad parthau cadwraeth morol yn ‘flaenoriaeth fawr’—ei geiriau hi—ac yn cael adnoddau digonol. Rŷn ni wedi gofyn am sicrwydd na fydd dyraniadau’r gyllideb ddiweddaraf yn effeithio ar y gwaith yma.

Dirprwy Lywydd, mae ein hadroddiad ni ar y gyllideb ddrafft yn deg ac yn ystyriol. Rŷn ni’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau ariannol. Rŷn ni’n cydnabod bod y Gweinidog wedi mynd ati’n bragmatig i reoli cyllideb sy’n crebachu. Ond rŷn ni hefyd yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru barhau i fod yn benderfynol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Dyw’r argyfyngau hyn ddim yn diflannu achos bod y sefyllfa ariannol yn anodd. Rŷn ni’n edrych ymlaen, felly, at ymateb y Gweinidog i’n hadroddiad ni cyn y ddadl ar y gyllideb derfynol. Diolch. 

16:45