Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/05/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen. 

Y Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022

1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chynghorau ynghylch effaith Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU ar drigolion Cymru? OQ58004

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Gweinidogion yn parhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU ac eraill i greu cyfundrefn gadarn o ddiogelwch adeiladau i Gymru. Mae hynny yn cynnwys defnyddio agweddau ar Ddeddf Diogelwch Adeiladu'r DU. Parhaodd y trafodaethau hynny ar lefel weinidogol yr wythnos diwethaf.

Diolch, Prif Weinidog. Gofynnodd preswylydd o fflatiau Spillers a Bakers i fyny'r ffordd i mi godi'r cwestiwn hwn heddiw. Yn y fan honno, mae llawer o lesddeiliaid wedi cael hysbysiad adran 20. Maen nhw'n wynebu colli eu cartrefi oherwydd methiannau rheoleiddio costus yn y gorffennol. Pryd byddan nhw'n cael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnyn nhw i ddod â'r hunllef hon i ben? Diolch yn fawr. 

Wel, Llywydd, cymerwyd amddiffyniadau lesddaliadol yn Neddf Diogelwch Adeiladau'r DU. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, gyda phwyll, ei fod, wrth gwrs, wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a roddodd y pwerau hynny i Gymru allu amddiffyn lesddeiliaid. Nid yw'n bwynt annheg i'w wneud, i ofyn i bwerau gael eu defnyddio pan ydych chi wedi gwrthwynebu cymryd y pwerau yn y lle cyntaf. 

Mae rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru yn parhau. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, cafodd cronfa diogelwch adeiladau Cymru, gyda'i £375 miliwn a neilltuwyd dros dair blynedd—llawer mwy fesul pen o'r boblogaeth nag sy'n wir dros ein ffin—248 o ddatganiadau o ddiddordeb. Mae arolygon digidol bellach wedi cael eu cynnal ar yr holl adeiladau y derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb ar eu cyfer. Nodir bod angen arolygon pellach, mwy ymwthiol ar 100 o'r adeiladau hynny, a byddan nhw'n cael eu cwblhau yr haf hwn, fel y gall arian hwnnw lifo wedyn i'r bobl y mae angen y gwaith adfer hwnnw ar eu hadeiladau. 

O ran y cynllun cymorth lesddeiliaid, mae manylion terfynol hwnnw yn cael eu llunio, a bydd ceisiadau gan lesddeiliaid sy'n gallu manteisio ar y gronfa benodol honno sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn gallu gwneud y ceisiadau hynny cyn diwedd y tymor hwn. 

Ar 29 Mawrth, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, a dyfynnaf:

'Unwaith y bydd y Mesur Diogelwch Adeiladau yn cael cydsyniad brenhinol, y dasg fydd cyflwyno'r rheoliadau angenrheidiol'.

Wel, fis diwethaf, cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol, felly rwy'n siŵr eich bod chi fel Prif Weinidog mor awyddus â ninnau i weld y rheoliadau hyn yn cael eu gosod cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, rydym ni hefyd eisiau cyfiawnder i breswylwyr sy'n parhau i gael eu dal yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'blychau tân'. Nawr, diolch i'r gwir anrhydeddus Michael Gove AS, mae adeiladwyr tai mawr, sy'n gyfrifol am adeiladu hanner y cartrefi newydd, wedi addo trwsio'r holl adeiladau tal anniogel y maen nhw wedi chwarae rhan yn eu datblygu. Yma yng Nghymru, mae trigolion sy'n byw mewn cartrefi a adeiladwyd gan Redrow a datblygwyr eraill mewn anobaith, er bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau ymrwymiad gan y datblygwyr yn Lloegr, nad ydych chi wedi gwneud hynny i Gymru eto. Felly, Prif Weinidog, pryd ydych chi'n dechrau gweld bod gwir angen brys i chi fod yn llawer mwy cryf a chadarn o ran amddiffyn y tenantiaid agored iawn i niwed hyn? Diolch. 

Llywydd, mae'r Aelod yn iawn bod rhaglen o is-ddeddfwriaeth y bydd angen iddi ddeillio o'r pwerau sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i Ddeddf y DU. Rydym ni'n credu y bydd angen 17 darn o ddeddfwriaeth ar wahân i weithredu'r pwerau hynny. Bydd angen canllawiau cysylltiedig ar gyfer pob un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth. Bydd y darn mawr cyntaf yn cael ei gyflwyno yr haf hwn. Bydd yn ymdrin â rheoleiddio arolygwyr rheoli adeiladau a chymeradwywyr rheoli adeiladau'r sector preifat. Mae'n ddarn o waith ar y cyd â Llywodraeth y DU, felly mae ei amseriad yn dibynnu ar gasgliad terfynol y trafodaethau gyda nhw. Ond rydym ni'n credu y byddwn ni mewn sefyllfa i ddechrau'r llif hwnnw o raglen fawr o is-ddeddfwriaeth o flaen y Senedd gyda'r agwedd honno cyn diwedd yr haf hwn.

13:35
Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael eu clywed, i'w galluogi i lywio penderfyniadau polisi, fel diwygio'r gwasanaethau presennol mewn modd radical? OQ58012

Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae gwrando ar lais plant yn rhan annatod o'n gwaith ac, yn wir, wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd hon. Yr haf hwn, byddwn yn dod â phobl ifanc â phrofiad o ofal ynghyd i drafod ein hagenda radical o leihau niferoedd gofal, dileu'r broses o wneud elw yn y system ofal, a darparu ein cynllun incwm sylfaenol arloesol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. A bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod, ar hyn o bryd, yn cadeirio sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Deisebau ar gasglu a chyhoeddi data fel mater o drefn ar faint o fabanod a phlant sy'n dychwelyd at eu rhieni sydd â phrofiad o ofal ar ddiwedd lleoliad rhiant a phlentyn. Nawr, yn rhan o fy ymrwymiad i ymgysylltu'r pwyllgor â'r cyhoedd yng Nghymru, ymwelais i â fy nghyd-Aelod Buffy Williams â Voices From Care Cymru gan gyfarfod â rhieni â phrofiad o ofal i glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw. Dywedodd un unigolyn wrthym ni am y rhyngweithio y cafodd gyda'r gweithiwr cymdeithasol, a dyfynnaf:

'Roedd gen i ychydig o win yn y gegin ers y Nadolig. Daeth y gweithiwr cymdeithasol i mewn, dod o hyd iddo, a'i dywallt i lawr y sinc. A dywedodd, "Os gwnei di barhau fel hyn, fe fyddi di yn yr un sefyllfa â dy fam yn y pen draw." Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi ei agor eto, roedden nhw'n cymryd yn ganiataol fy mod i'n yfwr, a doeddwn i ddim.'

Llywydd, ceir enghreifftiau di-rif o sut mae pobl sydd wedi dioddef trawma yn eu bywydau yn cael eu trin yn wahanol i'r ffordd y byddai rhywun yn siarad â fi neu chi neu weddill yr Aelodau yn y Senedd hon. Prif Weinidog, yn y rhaglen lywodraethu, rydych chi wedi ymrwymo i archwilio diwygio radical i'r gwasanaethau presennol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Mae'n amlwg o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael eu bod nhw eisiau cymryd rhan yn y broses hon. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal, yn cael eu cynnwys yn llawn?

Llywydd, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn ychwanegol yna. Ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y pwyllgor y mae'n ei gadeirio a'r ffordd y gall y Pwyllgor Deisebau sicrhau bod tystiolaeth uniongyrchol pobl yng Nghymru yn dylanwadu ar y trafodaethau yr ydym ni'n eu cael fel Llywodraeth ac yn y Siambr hon. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed yn y rhaglenni yr ydym ni'n eu datblygu. Lansiwyd ein cynllun plant a phobl ifanc ar 1 Mawrth. Roedd yn bleser mawr, ynghyd â'r Gweinidog Julie Morgan, cael cyfarfod â phobl ifanc yr adlewyrchwyd eu lleisiau yn y cynllun hwnnw. Ac mae gan y bwrdd goruchwylio, sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y cynllun hwnnw yn cael ei roi ar waith, ddau berson ifanc â phrofiad o ofal ar y bwrdd hwnnw—un yn cynrychioli pobl ifanc o'r gogledd a'r llall bobl ifanc yma yn y de. Mae gan ein grŵp rhianta corfforaethol, sydd, eto, yn goruchwylio'r gwaith y mae ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ei wneud, bump o bobl ifanc mewn panel, yn helpu i wneud yn siŵr bod y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni yn briodol. Mae hynny i gyd yn dyst i'n penderfyniad parhaus i wneud yn siŵr bod llais pobl ifanc, ac yn enwedig pobl ifanc â phrofiad o ofal, yn cael ei glywed yn uniongyrchol yn natblygiad y gwasanaethau y maen nhw naill ai'n dibynnu arnyn nhw ar hyn o bryd neu wedi dibynnu arnyn nhw yn y gorffennol.

O ran y pwynt penodol a gododd Jack Sargeant, Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i wneud yn siŵr bod gwasanaethau eiriolaeth rhieni ar gael i deuluoedd sy'n cael eu hunain mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i'r system ofal, fel nad yw'r mathau hynny o sylwadau yn cael eu gwneud i bobl sy'n agored i niwed yn y ffordd honno, mewn ffordd na fydden nhw'n cael eu gwneud gan rieni eraill. Ac mae'r gwasanaeth eiriolaeth rhieni hwnnw bellach wedi cael ei ariannu, o ganlyniad i'r gyllideb a basiwyd yn y Senedd hon, ac a fydd yn cael ei chyflwyno dros y 12 mis sydd o'n blaenau, ac a fydd yn enghraifft arall o'r ffordd y gallwn ni wneud yn siŵr sicrhau bod llais pobl ifanc, a llais y rhai sy'n ymwneud â systemau cyhoeddus, yn cael ei glywed a'i glywed yn rymus.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i i lawr ar gyfer cwestiwn atodol. Ond o ran eich pwynt am ddiddymu'r gwasanaethau i blant sy'n gwneud elw yng Nghymru, mae'n 80 y cant o'r sector, Prif Weinidog. Felly, gyda hynny mewn golwg, a allwch chi newid y polisi hwnnw i'w wneud yn fwy adlewyrchol o'r sector preifat, sy'n rhan mor fawr o'r sector yng Nghymru? Diolch. 

13:40

Na, Llywydd, nid wyf i'n bwriadu newid y polisi hwnnw. Mae'n bolisi sy'n cael ei ddylanwadu yn uniongyrchol gan leisiau'r bobl ifanc eu hunain. Rwy'n argymell i'r Aelod adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, lle disgrifiodd pobl ifanc yn y system ofal sut beth yw cael eu rhoi ar werth ar wefan fel y gall eu gofal gael ei ddarparu gan y cais rhataf. Nid yw hynny yn dderbyniol yma yng Nghymru. Mae angen darparu'r gwasanaethau a ddarperir i'n pobl ifanc ar sail eu hangen, yn hytrach nag elw preifat cwmnïau preifat. Tybed a yw'r Aelod wedi darllen adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd—dau adroddiad—y llynedd, a gomisiynwyd gan ei Lywodraeth yn San Steffan, y mae'r ddau ohonyn nhw yn adrodd ar y ffaith bod cwmnïau yn y maes hwn yn cymryd gormod o elw, ffaith a gydnabuwyd gan Weinidogion y DU. Byddwn yn gweithio yn ystod y tymor hwn i wneud yn siŵr bod cwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau bod unrhyw elw y maen nhw'n ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu, yn hytrach na chael ei dynnu allan o Gymru i ddwylo cyfranddalwyr preifat.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan oeddwn i'n mynd o gwmpas Cymru dros yr wythnosau diwethaf, a oedd yn llawer mwy proffidiol i chi nag i mi fel y daeth i'r amlwg ddydd Iau diwethaf—[Chwerthin.]—codwyd llawer o bethau gyda mi wrth i mi fynd o gwmpas Cymru, ond un o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg ym mhob rhan o Gymru oedd mynediad at feddygon teulu a'r gallu i gael apwyntiadau mewn meddygfeydd teulu. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynllunio'r gweithlu a'r arian a fydd ar gael yn sôn am ariannu 160 o leoedd y flwyddyn, ond, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, i fodloni'r gofyniad galw, bydd angen i ni ariannu yn agos at 200 o leoedd i wneud yn siŵr ein bod ni'n disodli pobl sy'n ymddeol neu'n gadael y gweithlu neu'n lleihau eu horiau.

Pwynt arall sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Feddygol Prydain yw mai dim ond ychydig dros ddwy ran o dair o feddygon yma yng Nghymru sy'n gweithio oriau llawn amser, felly mae bron i draean ar oriau rhan-amser, ac yn yr un modd mae gennym ni nifer uwch o feddygon teulu sydd dros 60 oed—mae 23 y cant o feddygon teulu yng Nghymru dros 60 oed ar hyn o bryd. Mae hynny'n creu, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi, pwysau gwirioneddol o ran llunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod problem o ran cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer darpariaeth meddygon teulu yma yng Nghymru, a hefyd gwneud yn siŵr ein bod ni'n creu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac y gall cleifion ei ddefnyddio lle bynnag yr ydych chi'n byw yng Nghymru? 

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni hyfforddi'r gweithlu meddygon teulu sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Cawsom gyfnod nid mor bell â hynny yn ôl pan oeddem ni'n ei chael hi'n anodd llenwi nifer y lleoedd hyfforddi a oedd ar gael gennym ni. Nawr, mae gormod o alw am leoedd hyfforddi, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei gymryd i ystyriaeth gan y corff sy'n cynllunio darpariaeth y gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod wedi gweld y nifer ddiweddaraf o feddygon teulu sydd gennym ni yng Nghymru, a gynyddodd eto yn y ffigurau a gyhoeddwyd tua adeg y Nadolig. Er bod nifer y meddygon teulu yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr wedi bod yn gostwng, yng Nghymru rydym ni'n llwyddo i gynnal y nifer sydd gennym ni, a'i chynyddu hefyd.

Mae natur y gweithlu meddygon teulu yn newid, Llywydd. Mae pobl yn dewis gweithio oriau rhan-amser, ac mae hynny yn adlewyrchu natur y bobl sy'n cael eu recriwtio iddo. Nid yw'r hen batrymau—yr hen batrymau—o bobl yn prynu cyfran mewn busnes, yn meddwl y byddan nhw yno am 30 neu 40 mlynedd, nid yw llawer o bobl ifanc sy'n dod yn feddygon teulu yn gweld eu dyfodol yn y ffordd honno, ac mae'n rhaid i ni lunio dyfodol iddyn nhw sy'n golygu bod Cymru yn parhau i ddenu'r bobl sydd eu hangen arnom ni. Gwnaf un pwynt arall, yr wyf i'n ei wneud bob tro y caiff hyn ei godi gyda mi: mae gofal sylfaenol yn fwy na meddygon teulu. Ac er bod meddygon teulu yn hanfodol, maen nhw'n goruchwylio'r system, mae ganddyn nhw lefel o arbenigedd sy'n golygu eu bod nhw'n gyfrifol am y tîm ehangach, mae'r dyfodol yn ymwneud o leiaf â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r holl elfennau eraill hynny o'r tîm—y nyrsys practis, y parafeddygon, y ffisiotherapyddion—yr holl bobl hynny a fydd yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu i wneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn cael y gwasanaeth gofal sylfaenol sydd ei angen arnyn nhw.

13:45

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod mwy o feddygon teulu yng Nghymru, ond mae'n ffaith, yn amlwg, bod llawer ohonyn nhw yn rhan-amser, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol i chi. Mae bron i draean o'r gweithlu ar sail ran-amser pan ddaw i bractisau meddygon teulu. Yn bwysig, fel y dywedais wrthych chi, rwy'n cydnabod bod mwy o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi, ond mae'r ffigurau gwirioneddol yn dangos bod y Llywodraeth yn ariannu lleoedd hyfforddi i tua 160 y flwyddyn, pan fo'r galw gwirioneddol yn 200 o leoedd. Felly, yr hyn yr wyf i'n chwilio amdano gennych chi heddiw, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr y bydd y rhai sy'n gysylltiedig â gofal meddygol sylfaenol yma yng Nghymru yn chwilio amdano hefyd, yw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fodloni'r galw sydd ei angen ar y gofyniad, sef rhoi 40 o leoedd eraill ar y bwrdd fel y gallwn ni gyrraedd 200 o leoedd hyfforddi yma yng Nghymru i fodloni'r ffordd y bydd angen i weithlu 2030 edrych yn y sector sylfaenol. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud bod y sector sylfaenol yn ehangach na phractisau meddygon teulu yn unig—mae fferyllwyr yn arbennig yn cynnig swyddogaeth bwysig dros ben o ran cefnogi meddygon teulu yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud—ond mae'n ffaith eich bod chi angen, fel sail i fynediad at y GIG, gweithlu meddygon teulu cadarn a chynaliadwy ac, fel y dywedais i, mae'r modelu yn dangos bod angen i ni hyfforddi 200 o feddygon teulu y flwyddyn yn hytrach na'r 160 yr ydym ni'n eu hyfforddi ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i hynny?

Llywydd, nid oes llawer yr wyf i'n anghytuno ag ef yn yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, ac rwy'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd fferyllwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Maen nhw'n chwarae rhan arbennig o arwyddocaol ar hyn o bryd pan fo prinder, am amryw o resymau, nifer o feddyginiaethau pwysig iawn y mae'n rhaid i fferyllwyr eu rheoli. Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi fodelu'r angen am feddygon teulu yn y dyfodol. Rydym ni'n gofyn i'r corff yr ydym ni wedi ei sefydlu, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wneud hynny ar ein rhan. Byddan nhw'n cymryd safbwyntiau’r proffesiwn i ystyriaeth, wrth gwrs, ond bydd ganddyn nhw ffynonellau eraill o dystiolaeth ar gael iddyn nhw. Nid yw'r Llywodraeth Lafur hon erioed wedi methu ag ariannu cynnydd i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu pan mai dyna'r cyngor yr ydym ni wedi ei gael gan y rhai sydd yn y sefyllfa i gynnal y dadansoddiad hwnnw. Os byddan nhw'n dod atom ni ac yn gofyn am gynnydd pellach—cofiwch, mae 160 yn gynnydd sylweddol ar y ffigurau a oeddem gennym ni gynt—os byddan nhw'n dod atom ni ac yn gwneud y ddadl honno, yna, wrth gwrs, bydd hynny yn cael ei ystyried yn briodol iawn gennym ni.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y rhai yn y maes meddygol fel Cymdeithas Feddygol Prydain yn dod ac yn gwneud y ddadl rymus honno i chi, oherwydd fe wnes i synhwyro ymrwymiad i sicrhau'r lleoedd wedi'u hariannu ychwanegol hynny os caiff y ddadl honno ei gwneud i chi. Ond yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yn y sector acíwt, h.y. yr ysbytai, yw nad yw data rheolaidd yn cael eu darparu ar gyfraddau swyddi gwag. Roedd i'w groesawu bod y mesur staff nyrsio wedi cael ei roi ar waith beth amser yn ôl a oedd yn diogelu rhai swyddi yn yr ysbytai, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o'r atebion rhyddid gwybodaeth y mae sefydliadau wedi eu cael yw mai dim ond 52 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol sy'n barhaol mewn rhai byrddau iechyd—mae 48 y cant wedi eu llenwi gan feddygon ymgynghorol dros dro. Mae'n amlwg nad yw hynny yn gynaliadwy o ran datblygu gweithlu i ymdrin â'r ôl-groniad o'r pandemig, ond hefyd gweithlu sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. A wnewch chi ymrwymo i wneud yn siŵr bod data rheolaidd ar swyddi gwag yn y sector acíwt, h.y. ein hysbytai, yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni weld faint o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran llenwi'r swyddi gwag sydd ar ein taflenni ysbytai ar hyn o bryd fel y gellir cael cymorth wrth gefn ar gyfer rowndiau ward ac y gallwn ni wneud cynnydd gwirioneddol o ran ymdrin â'r rhestrau aros sydd wedi datblygu drwy'r pandemig?

Llywydd, rwy'n hapus i edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi. Rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o ddata ar weithlu Cymru. Os oes bylchau ynddo y gellir eu llenwi yn synhwyrol, yna wrth gwrs rwy'n hapus i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi.

Prif Weinidog, efallai y byddai rhai yn meddwl ei fod yn ddewis rhyfedd i ni ddewis cyhoeddi telerau ein cytundeb ar gryfhau democratiaeth Cymru ar yr un diwrnod ag agoriad swyddogol y Senedd arall honno ar lannau afon Tafwys. Rwy'n credu ei fod yn serendipaidd, oherwydd mae'n caniatáu i ni nodi gwrthgyferbyniad, onid yw, gyda'r system sigledig honno yn San Steffan, gyda'r holl bomp a seremoni, gydag ASau etholedig—roeddwn i yn arfer bod yn eu plith—yn cael eu galw gan Black Rod i Dŷ'r Arglwyddi anetholedig sy'n llawn dop gyda ffrindiau Boris Johnson. Nawr, y tu hwnt i fanylion yr hyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi heddiw, onid yr hyn sydd wrth ei wraidd yw'r awydd i adeiladu, yma yng Nghymru, democratiaeth fodern, gan ddiddymu'r system y cyntaf i'r felin annheg, Senedd ymarferol sy'n gwbl gytbwys o ran y rhywiau ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, nid Senedd San Steffan, sy'n glwb bonheddwyr ac yn bantomeim yn un?

13:50

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn yn natblygiad y sefydliad hwn. Fe wnes i ddod â fy nghopi o gomisiwn Richard gyda mi, a phan roeddwn i'n meddwl am ddod i lawr yma y prynhawn yma, cofiais yn eglur sefyll ochr yn ochr â'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, pan wnaeth alwad ffôn i'r Arglwydd Richard yn gofyn iddo gadeirio'r comisiwn hwnnw. A dyma ni, 20 mlynedd y tu hwnt i'w gynnig i ehangu nifer yr Aelodau etholedig yma yng Nghymru, o'r diwedd yn gallu dod â chapasiti'r Senedd i bwynt lle y gall gyflawni'r cyfrifoldebau sy'n disgyn ar ysgwyddau pobl sy'n cael eu hethol i fod yma. Ac onid dyna bwrpas y diwygiad? I wneud yn siŵr bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran pobl yng Nghymru yn cael eu gweithredu gan sefydliad sydd â'r adnoddau priodol i wneud hynny.

Rwyf i wedi edrych yn ôl yn ddiweddar, Llywydd, ar y cynigion niferus i greu Senedd yma yng Nghymru. Nid oedd yr un ohonyn nhw, ac eithrio'r un a gyrhaeddodd y llyfr statud, yn cynnig nifer mor fach â 60. Cynigiodd adroddiad Kilbrandon, a sefydlwyd yn y 1960au, 100 o aelodau ar gyfer y senedd Cymru a gynigiwyd ganddo. Gallwch fynd yn ôl cyn belled â Bil Llywodraeth Cymru dydd Gŵyl Dewi Emlyn Hooson ym 1967 i weld cynnig ar gyfer 88 aelod o'r senedd a gynigiwyd bryd hynny, ac roedd hwnnw yn gorff heb lawer o'r cyfrifoldebau y mae'n rhaid eu harfer yma. Felly, diben y diwygiadau a'r ffaith ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb, ar ôl yr hyn a fydd erbyn hynny wedi bod yn 25 mlynedd o geisio sicrhau diwygio, fydd creu senedd yma yng Nghymru sy'n adlewyrchu pobl Cymru yn ei hamrywiaeth, ac sydd â'r gallu priodol i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r Senedd hon yn gyfrifol am eu cyflawni ar ran pobl Cymru.

Wrth gwrs, mae'r Blaid Geidwadol, yn ôl y disgwyl unwaith eto, yn dweud nad yw pobl Cymru eisiau mwy o wleidyddion. Maen nhw bron yn iawn, wrth gwrs, oherwydd yr hyn nad yw pobl Cymru ei eisiau yw mwy o wleidyddion Torïaidd, fel y gwelsom ni'n cael ei ddangos yn eglur ddydd Iau. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog—[Torri ar draws]. Mae gennych chi a minnau, Prif Weinidog, wahanol weledigaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Nawr, nid yw'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yma, wrth gwrs, yn—. Nid yw'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei adeiladu yma, wrth gwrs, yn garreg sarn tuag at unrhyw un dyfodol i Gymru, nid opsiwn hanner ffordd, ond sylfaen gadarn i bobl Cymru allu penderfynu ar eu dyfodol eu hunain—democratiaeth sy'n ystyriol o'r dyfodol, yn barod am fwy o bwerau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac onid dyna'r cwestiwn canolog—a ddylai'r Senedd hon fod yn symbol o'n democratiaeth yn unig, ynteu a ddylai fod yn Senedd sydd â'r pwerau, yr amser, y sgiliau, yr offer a'r personél i wneud y gwaith y mae pobl Cymru wedi gofyn i ni ei wneud, nid yn unig mewn un refferendwm, ond mewn dau, ac ym mhob etholiad y mae pob un ohonom ni wedi sefyll ynddo yn y cyfamser?

Llywydd, nid wyf innau ychwaith yn synnu at wrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig i ddatblygu democratiaeth ymhellach yma yng Nghymru. Yr holl ddadleuon a glywaf yn cael eu defnyddio yw'r union ddadleuon a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wrth wrthwynebu datganoli yn y lle cyntaf. Mae hon yn blaid sydd heb newid o gwbl o ran y materion hyn. Nid oes angen i ni arllwys halen i unrhyw friwiau agored yma, rwy'n siŵr, ond bydd pobl o amgylch y Siambr yn gwybod, ddydd Iau yr wythnos diwethaf, yn yr Alban, y collwyd 23 y cant o gynghorwyr Ceidwadol yn yr etholiad; yn Lloegr, methodd 25 y cant o gynghorwyr Ceidwadol â chael eu hailethol; ac yng Nghymru gostyngodd y nifer 44 y cant.  Mae'n rhaid bod hynny yn dweud rhywbeth wrthych chi. Mae'n dweud rhywbeth wrthych chi am y ffordd nad yw'r safbwyntiau adweithiol parhaus y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cymryd yn cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl yng Nghymru eisiau gweld eu democratiaeth yn datblygu. Mae pobl eisiau gweld Siambr yma sydd â'r adnoddau priodol i wneud y gwaith y gofynnir i ni ei wneud. Mae adroddiad ar ôl adroddiad a chomisiwn ar ôl y comisiwn wedi dangos, gyda'i haelodaeth bresennol a lefel y cyfrifoldebau a gyflawnir yma, na allwch chi wneud y gwaith yn y ffordd y mae gan bobl yng Nghymru yr hawl i ddisgwyl iddo gael ei wneud. Bydd y diwygiadau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn cywiro hynny, ac yn ei gywiro nid yn unig am y 10 mlynedd nesaf ond rwy'n meddwl am y dyfodol rhagweladwy.

13:55

Un o'r ffyrdd o gadarnhau eich bod chi'n iawn, wrth gwrs, yw gwybod bod y Blaid Geidwadol yn anghytuno â chi, oherwydd maen nhw wedi bod ar ochr anghywir hanes ar bron bob cwestiwn pwysig mewn 300 mlynedd o gynnydd dynol.

Un o'r pethau mwyaf cyffrous am y cynlluniau diwygio yw'r addewid i ddeddfu i warantu cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a merched wrth galon ein prif gorff democrataidd. Tra bod cwotâu rhywedd statudol yn ganolog i'r prif gynigion rŷn ni wedi'u cyhoeddi heddiw, ac yn gwbl hanfodol i wireddu'r nod hynny, ac yn gweithio er lles pawb yng Nghymru, ydy'r Prif Weinidog yn gytûn y dylid manteisio ar y cyfle mae diwygio yn ei gynnig i gyflwyno ystod ehangach o gamau i sicrhau bod y Senedd yn gynhwysol, gan gynnwys rhannu swyddi gan Aelodau a mesurau eraill i warantu cynrychiolaeth pobl o liw a grwpiau lleiafrifol ethnig yn y Senedd? A thu hwnt i'r materion sylfaenol rŷn ni wedi cyhoeddi yn eu cylch heddiw, onid oes angen bod yn glir mai dechrau'r drafodaeth ydyn ni i'r Senedd, i fywyd cyhoeddus, ac i bawb sydd am weld gwella Cymru gymryd rhan ynddi?

Llywydd, bydd Bil yn dod o flaen y Senedd, a bydd cyfleoen i bob Aelod fan hyn i dreial tynnu ar y cyfleoen fydd yn y Bil i wneud mwy i greu Senedd sy'n adlewyrchu'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi llwyddo i wneud rhai pethau dros y blynyddoedd, yn enwedig yn y Blaid Llafur, ond mae mwy gyda ni i'w wneud—y pethau rŷn ni wedi cytuno arnynt heddiw—a rhoi hynny ar y gweill. Ond mae lot mwy o fanylion i'w trafod i greu Senedd lle mae pobl sydd ddim wedi bod yn rhan o'r hanes fan hyn dros y ddegawd ddiwethaf yn gallu gweld Senedd lle maen nhw'n gallu gweld cyfleoen iddyn nhw sefyll i fod fan hyn lle rŷn ni wedi bod o'r blaen. Nawr, mae hwnna'n rhywbeth cyffrous, dwi'n cytuno. Pan oedden ni'n trafod y pwnc yn Llandudno yng nghynhadledd y Blaid Llafur, roedd pobl o'r llawr yn dod at y llwyfan i ddweud tro ar ôl tro eu bod nhw eisiau inni ddefnyddio'r cyfleoen nawr i greu dyfodol lle gall pobl o bob cefndir yng Nghymru edrych ar y Senedd a meddwl, 'Fe allaf i fod yna.'

Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi egluro eich penderfyniad o ran y cytundeb cydweithredu. Rwy'n credu eu bod nhw'n bwyntiau rhesymol iawn yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn eu codi yn y fan yna, ac mae gan y Prif Weinidog berffaith hawl i ymateb iddyn nhw, ond rydych chi wedi penderfynu mewn llythyr a anfonwyd gennych chi pan ddaeth y cytundeb cydweithredu i rym y dylai cwestiynau i'r Prif Weinidog gan arweinydd Plaid Cymru osgoi'r cytundeb cydweithredu. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd y datganiad i'r wasg a ddilynodd y cyhoeddiad neithiwr yn cyfeirio yn benodol at y cytundeb cydweithredu, ac roedd y llinell ymateb a nododd y Prif Weinidog yn adlewyrchu'r cytundeb cydweithredu. Siawns nad yw hynny yn mynd yn groes i'ch penderfyniad ynghylch sut y dylid ymgymryd â chwestiynau yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog.

Diolch am godi'r pwynt o drefn, a diolch am ei awgrymu yn ystod y cwestiwn i dynnu fy sylw at y cwestiynau a oedd yn cael eu gofyn gan arweinydd Plaid Cymru. Rwy'n credu o fyfyrio eich bod chi'n gywir, a'i bod yn debyg ei fod wedi mynd y tu hwnt i'r canllawiau yr wyf i wedi eu cyhoeddi yn yr achos hwnnw. Fe'i cymeraf fel eithriad i'r rheol heddiw. Ni fyddaf yn disgwyl iddo gael ei ailadrodd eto, ond mae gan arweinydd Plaid Cymru yr hawl i ofyn cwestiynau craffu ar y Prif Weinidog nad yw'n arwain ato'n ymddangos fel pe bai'n llwyfan ar gyfer polisïau'r cytundeb cydweithredu hwnnw. Byddaf yn dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd heddiw a byddwn yn myfyrio ar hynny ar gyfer y dyfodol. Rwy'n amau y byddwn ni'n dychwelyd at y mater hwn droeon dros yr wythnosau nesaf, y misoedd nesaf, os nad y blynyddoedd nesaf—nid blynyddoedd, gobeithio, ar y pwynt hwnnw. 

Cwestiwn 3, felly, Rhun ap Iorwerth.

14:00
Hepatitis C

3. A wnaiff y Prif Weinidog rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am darged Llywodraeth Cymru i ddileu hepatitis C yng Nghymru? OQ58030

Llywydd, er bod adnoddau wedi gorfod cael eu cyfeirio i fannau eraill yn ystod y pandemig, roedd y camau a gymerwyd i daclo digartrefedd ar y stryd yn golygu bod nifer fawr o gleifion newydd yn gallu cael triniaeth effeithiol. Mae cynlluniau allweddol yn ailddechrau erbyn hyn mewn gwasanaethau feirysau a gludir yn y gwaed.

Diolch am yr ymateb yna. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C, ond mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Dyna'r newyddion da mewn difrif. Ond er bod gwaredu yn bosib a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir amdani yw ein bod ni rŵan wedi llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn i daro'r targed, ac mae yna dargedau erbyn hyn sy'n llawer mwy uchelgeisiol yn yr Alban a hefyd yn Lloegr. Rŵan, yr agwedd mae Llywodraeth Cymru wedi ei gymryd ar hyn, yn anffodus, yw ei bod hi i fyny i'r byrddau iechyd i ddatblygu eu rhaglenni eu hunain, ond mae hon yn her genedlaethol ac mae yna fuddiannau cenedlaethol i'w hennill yn fan hyn. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, ymrwymo i sefydlu cronfa genedlaethol a strategaeth genedlaethol fel ein bod ni'n gallu gweithio yn unedig, efo cefnogaeth lawn ac uniongyrchol y Llywodraeth fel ein bod ni'n gallu cyflawni'r nod iechyd cyhoeddus hollbwysig yma?

Wel, Llywydd, gallaf i weld y manteision o gael strategaeth genedlaethol, ond mae strategaeth genedlaethol a grŵp o bobl sy'n gweithio ar lefel genedlaethol gyda ni yn barod. Dwi ddim eisiau gweld cronfa genedlaethol. Os ydyn ni'n dechrau cael cronfa genedlaethol am hepatitis C, gallaf i weld lle bydd hynny'n mynd: bydd pob grŵp gyda phethau sy'n bwysig iddyn nhw—ac rydyn ni'n gwybod pam maen nhw'n bwysig iddyn nhw—yn dod ymlaen ac eisiau'r un peth. Strategaeth genedlaethol, wrth gwrs, ond mae gwasanaethau yn cael eu darparu trwy'r byrddau iechyd. Dyna'r system sydd gyda ni yma yng Nghymru. Rŷn ni'n dal i ddweud ein bod ni eisiau dod at 2030 gyda neb yn dioddef o hepatitis C yma yng Nghymru. Mae hynny'n uchelgeisiol, yn fwy uchelgeisiol, achos rydyn ni wedi cael profiad dros y ddwy flynedd diwethaf sydd wedi tynnu pobl mas o'r gwasanaeth. Ond rydyn ni'n dal i weithio gyda phobl yn y maes i drio dod at 2030 yn y sefyllfa roeddem ni wedi ei rhoi mas yn y strategaeth wreiddiol. 

Prif Weinidog, clywais eich ateb blaenorol. Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol argymhelliad penodol ynghylch ymgyrch genedlaethol ac, mewn ymateb i hynny, derbyniodd y Gweinidog ar y pryd yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor. Ond un o'r rhwystrau oedd nad oedden nhw'n gweld y dystiolaeth ar gyfer ymgyrch genedlaethol, ac yna dywedodd y Gweinidog y byddai angen iddyn nhw weld y dystiolaeth honno cyn y gellid cyflwyno ymgyrch genedlaethol. Pa fath o dystiolaeth fyddech chi'n disgwyl ei gweld i dderbyn yr argymhelliad hwnnw a chytuno mai ymgyrch genedlaethol yw'r ymateb priodol?

Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2019 wrth gwrs, ac mae'r pandemig wedi torri ar draws ei argymhellion—gwn fod yr Aelod yn deall hyn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael rhywfaint o dystiolaeth genedlaethol bwysig iawn o ganlyniad i'r pandemig, oherwydd rydym ni wedi cael dros 1,000 o bobl a oedd yn ddigartref ar y stryd yn ôl yn 2019, pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwnnw, y daethpwyd â nhw i mewn i lety oherwydd y camau a gymerwyd yn ystod y pandemig. Ac mae mwy na 1,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth bellach yn elwa o'r driniaeth newydd a weithredir yn genedlaethol, sef Buvidal. Yng nghyfarfod diweddaraf Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru, ymunodd Gweinidog Gwladol y Swyddfa Gartref, Kit Malthouse, â ni a dywedodd mai Cymru oedd y rhan fwyaf blaenllaw o'r Deyrnas Unedig o ran gwneud yn siŵr bod Buvidal yn cael ei ragnodi i bobl o dan yr amgylchiadau hynny, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran hepatitis C yr ydym ni'n ei drafod y prynhawn yma. Felly, rydym ni wedi cael, yn anfwriadol ac nid yn y ffordd yr oedd y pwyllgor yn rhagweld, yr arbrawf cenedlaethol hwnnw, sy'n dangos ei bod hi'n bosibl gwneud cynnydd mewn rhai poblogaethau eithaf heriol, lle mae ymdrechion yn cael eu cydgysylltu a'u gweithredu gyda'r math o benderfyniad a welsom gan ein gwasanaethau digartrefedd o wynebu effaith pandemig.

14:05

Prif Weinidog, yn nigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i siarad â Kieren, sy'n dod o Borthcawl yn fy etholaeth i, am y gwaith cefnogaeth gan gymheiriaid y mae ef ac eraill yn ei wneud ar draws ein cymunedau. Mae pobl fel Kieren yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n agored i glefydau fel hepatitis C, a rhannodd ei brofiad o weithio ar lawr gwlad. Ac roedd yn drist iawn i mi ddarganfod, er bod cynnydd o ran profi a thrin clefydau fel HIV, bod llawer o stigma o hyd ynghylch clefydau fel hepatitis C sy'n atal pobl rhag cael eu profi. Gall y rhesymau pam y gall pobl fod yn agored i hepatitis C fod yn gymhleth iawn yn aml, ond cefais fy sicrhau gan Kieren, drwy'r gefnogaeth gan gymheiriaid, boed hynny mewn hosteli neu garchardai, ei fod yn gwneud gwahaniaeth ac yn lliniaru'r lledaeniad. Mae'n wirioneddol bosibl ei ddileu yn ystod ein hoes. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C i'w ddadstigmateiddio a sicrhau bod cymunedau sydd fwyaf agored i niwed yn cael yr adnoddau i gael eu profi, eu trin a'u cynorthwyo?   

Llywydd, rwy'n falch iawn bod yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi ymestyn ei rhaglen i Gymru ac wedi penodi dau weithiwr i weithio yn y ffordd honno dan arweiniad cymheiriaid. Mae stigma yn sicr yn rhan o'r rhwystr i bobl ddod ymlaen i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C, ac mae cyswllt person-i-berson gan rywun sydd wedi bod drwy'r broses ac sy'n gallu dangos ei llwyddiant yn ffordd y gallwn ni erydu hynny. Yma yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r cynllun 'Follow Me', sy'n gynllun arall rhwng cymheiriaid, bellach yn gweithredu, yn enwedig mewn gwasanaethau digartrefedd, ac, wrth iddo gael ei sefydlu, y bwriad yw y bydd wedyn yn hyfforddi gwirfoddolwyr cymheiriaid eraill mewn rhannau eraill o Gymru, eto yn rhan o'r ymgyrch honno i erydu'r stigma sy'n rhy aml yn gysylltiedig â'r clefyd ac yn atal pobl rhag dod ymlaen i gael cymorth.

Ac rydym ni'n gwybod, Llywydd, ei bod hi'n bosibl, fel y dywedodd Sarah Murphy, i wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn. Carchar Abertawe oedd y carchar remánd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael gwared ar hep C yn ôl yn 2019. Mae'r un technegau a ddefnyddiwyd yno bellach yn cael eu rhoi ar waith yn y gogledd yng Ngharchar y Berwyn, a sicrhawyd cyllid i ledaenu'r gwasanaeth hwnnw i garchar Caerdydd hefyd. Felly, rydym ni'n gwybod am bethau sy'n gweithio, ac mae'r enghraifft a roddodd Sarah Murphy i ni o berson yr oedd hi'n siarad ag ef yn un yn unig o'r enghreifftiau hynny o sut y gallwn ni wneud cynnydd yn y maes heriol hwn, ond un lle'r ydym ni'n gwybod y gellir llwyddo.  

Llwybr Arfordir Cymru

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 10 mlynedd ers lansio llwybr arfordir Cymru? OQ57994

Llywydd, yn 2012, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr pwrpasol ar hyd arfordir cyfan. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd bellach yn dathlu'r cyflawniad hwnnw. Diolch i'r Aelod am arwain yr adolygiad annibynnol o lwybr arfordir Cymru, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiad ei adroddiad yfory.

Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog. A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r grŵp adolygu hwnnw, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol dros y mis neu ddau diwethaf, yn edrych nid yn unig ar y llwyddiannau a'r cyflawniadau rhyfeddol pendant dros y 10 mlynedd diwethaf—defnyddiwyd geiriau fel 'eiconig', 'ysbrydoledig', 'emblematig' i ddisgrifio'r cyflawniad nodedig hwn o 10 mlynedd yn ôl—ond gan edrych ar y dyfodol a sut y gallwn ni ddefnyddio llwybr arfordir Cymru i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, i hybu iechyd a llesiant, llesiant corfforol a meddyliol poblogaeth Cymru, ac i edrych tuag allan fel gwlad, o ran sut rydym ni'n defnyddio'r awyr agored yng Nghymru, yr awyr agored glas a gwyrdd, ond hefyd yn portreadu ein hunain i'r byd? Felly, rwy'n mynd i fod yn hy, a chan fentro'r perygl, Prif Weinidog, o ailadrodd digwyddiad sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi mynd yn feirol o'r wythnos diwethaf rhwng timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd a gwleidyddiaeth hynny, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, beth yw eich hoff ran o lwybr arfordir Cymru?

14:10

O diar. O diar. Rydych chi'n adnabod pas ysbyty pan ddaw eich ffordd chi yng Nghymru, onid ydych? [Chwerthin.] Wel, yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud, Llywydd, rwyf i wedi cael y fantais o weld copi ymlaen llaw o adroddiad y grŵp, felly gwn am rai o'r pethau y bydd yn eu hargymell: sut y gallwn ni adeiladu ar y llwybr, sut y gallwn ni ymestyn ei gyrhaeddiad drwy wneud yn siŵr bod llwybrau cylchol sy'n mynd i mewn i'r tir. Roeddwn i'n gallu ateb cwestiwn gan John Griffiths yn ddiweddar ar lawr y Senedd, Llywydd—ac wrth gwrs John oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am lwybr yr arfordir—lle gwnaethom ni edrych ar y ffordd y mae cyngor Casnewydd yn cysylltu llwybr yr arfordir gyda llwybrau mewndirol, er enghraifft drwy ddyffryn Sirhywi, a gwn fod yr adroddiad yn manteisio ar y profiad hwnnw i awgrymu ffyrdd eraill, ac yn enwedig y ffordd y gall plant a phobl ifanc fod yn rhan o'r llwybr, er mwyn hybu ei botensial o ran iechyd a llesiant.

Llywydd, mae dewis rhan o lwybr sy'n mynd yr holl ffordd o amgylch Cymru yn sicr o bechu llawer mwy o bobl nag y bydd byth yn ei blesio, felly diolch i'r Aelod am y cyfle hwnnw. Fel y mae'n digwydd, gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi yn ddiweddar gan newyddiadurwyr a oedd yn ysgrifennu copi ar gyfer y degfed pen-blwydd, felly fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais i bryd hynny—y peth mwyaf diogel. Felly, roeddwn i ar lwybr yr arfordir dros y penwythnos. Roeddwn i'n cerdded rhwng Pentywyn yn sir Gâr i Amroth yn sir Benfro. Mae'n debyg nad yw'n un o'r rhannau mwyaf adnabyddus o'r llwybr, ond mae'n hardd dros ben. Gallwch ddychmygu, gyda'r tywydd dros y penwythnos, ei fod yn syfrdanol o hardd. Mae'n heriol mewn rhannau, fel y mae'r llwybr yn aml. Mae ganddo rai llethrau serth iawn, i fyny mynydd Marros er enghraifft, ac mae ganddo rannau cudd o'r arfordir, na fyddwch chi byth yn eu gweld drosoch chi eich hun oni bai eich bod chi'n dilyn llwybr yr arfordir. Pe bai'n rhaid i mi ddewis un rhan fach yn unig o'r cyflawniad gwych hwnnw ar gyfer y prynhawn yma, byddwn yn argymell y daith gerdded honno i unrhyw un.

Nid wyf i'n petruso rhag dweud mai fy hoff ran o lwybr yr arfordir yw Pwllderi, lle cefais fy magu, lle mae carreg goffa i'r bardd Dewi Emrys, gyda'r llinellau:

'A thina'r meddilie sy'n dwad ichi / Pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi.'

Fy hoff ran. Ond, fel rhywun a fagwyd gyda fferm sy'n gweld llwybr arfordir sir Benfro yn mynd drwy ei thir, rwy'n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd datblygu perthynas dda rhwng y tirfeddiannwr a'r cerddwyr. Ac er bod llwybr arfordir Cymru yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd, mae parc cenedlaethol arfordir sir Benfro yn dathlu ei ben-blwydd yn saith deg oed, ac mae mewn sefyllfa fel yr unig barc cenedlaethol cwbl arfordirol ac mae wedi arwain y ffordd o ran datblygu perthynas gydlynol a llwyddiannus rhwng defnyddwyr a'r rhai sy'n berchen ar y tir ar lwybr yr arfordir. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cysylltiadau cadarnhaol tebyg yn cael eu datblygu a'u cynnal ar hyd gweddill llwybr arfordir Cymru? Diolch.

Mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud, Llywydd, a phan roedd y llwybr yn cael ei ddatblygu, roedd rhai rhannau bach heriol o'r llwybr lle bu'n rhaid meithrin y cysylltiadau hynny, ac weithiau daethpwyd i gytundebau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, wrth gwrs, bod cynnal a chadw'r llwybr yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn gyson. Mae gwaith wardeiniaid a gwirfoddolwyr ar lwybr arfordir sir Benfro ac mewn mannau eraill yn ganolog i hynny, oherwydd, drwy gadw'r llwybr mewn cyflwr da a gwneud yn siŵr, lle bo angen, bod pethau fel ffensys ac amddiffynfeydd fel nad yw cnydau neu fywyd gwyllt yn cael eu hunain mewn perygl yn anfwriadol gan gerddwyr sy'n crwydro oddi ar y llwybr, ceir dealltwriaeth dda o hynny i gyd, rwy'n credu. Rydym ni'n dibynnu ar y bobl sydd agosaf at y llwybr ei hun i wneud i hynny ddigwydd, ac rwy'n credu mai un o gryfderau'r llwybr dros ei hanes o 10 mlynedd yw'r ffordd y mae'r cysylltiadau hynny wedi datblygu, a lle ceir anawsterau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw, mae ffyrdd adnabyddus o dynnu sylw at y materion hynny a chanfod ateb iddyn nhw.

14:15
Adolygiad Cass

5. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd yn sgil adroddiad interim adolygiad Cass? OQ58018

Llywydd, comisiynwyd adolygiad Cass gan GIG Lloegr ar gyfer GIG Lloegr. Mae'n un ffynhonnell o dystiolaeth, ymhlith eraill, y gellir ei defnyddio i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc traws yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog. Mae adroddiad interim adolygiad Cass i GIG Lloegr, fel rydych chi newydd ei ddweud, wedi tynnu sylw at nifer o faterion sy'n peri pryder. Mae'r adroddiad interim yn amlwg yn haeddu dadleuon a thrafodaethau go iawn ar yr un gwasanaethau yma yng Nghymru. Tynnodd sylw at faterion sy'n peri pryder gwirioneddol, a byddwn wedi meddwl y byddai wedi ysgogi'r Llywodraeth hon yng Nghymru i gynnal ymchwiliad tebyg yng Nghymru ar sail y canfyddiadau hynny. Nid oes amheuaeth bod problemau tebyg iawn yn cael eu hadlewyrchu yma yng Nghymru. Gwn fod y diffyg ymateb i'r adolygiad hwn gan y Llywodraeth hon yng Nghymru yn rhywbeth sy'n peri pryder i wleidyddion o bob lliw ledled Cymru—Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol. Oni allwch chi weld pwysigrwydd gwneud hyn yn iawn, Prif Weinidog? Y peth olaf rwy'n siŵr y mae unrhyw un ohonom ni ei eisiau yw peryglu bywydau plant. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i adolygiad penodol i Gymru o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu rhywedd?

Fe wnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yng Nghymru, gyfarfod â Dr Cass ym mis Mawrth. O ganlyniad, mae gennym ni ymrwymiad y bydd y tîm adolygu yn gweithio gyda'r gwasanaeth a'r darparwyr yma yng Nghymru, fel y gallwn ni ddiffinio ymhellach y model gwasanaeth clinigol ar gyfer y dyfodol y bydd ei angen yng Nghymru ac unrhyw oblygiadau a nodwyd i'r gweithlu. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn bwriadu gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan y rhai yn y maes am wasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd i Gymru, a bydd hynny yn cael ei hysbysu gan adolygiad Cass, gan y sgyrsiau y byddwn ni'n eu cael gyda Dr Cass, ond hefyd gan set ehangach o dystiolaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru o anghenion pobl ifanc o dan yr amgylchiadau hyn, a fydd yn caniatáu i ni nid yn unig gasglu cyfres o atebion a ddyfeisiwyd ar gyfer awdurdodaeth wahanol, ond i ddatblygu'r gwasanaethau hynny mewn ffordd sy'n sensitif i dirwedd y gwasanaeth ac anghenion pobl ifanc yma yng Nghymru.

Diswyddo ac Ailgyflogi

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau yng Nghymru? OQ57993

Nid yw diswyddo ac ailgyflogi yn cyd-fynd â gwerthoedd partneriaethau cymdeithasol Cymru. Mae defnyddio'r bygythiad o ddiswyddo i wanhau telerau ac amodau cyflogaeth yn achos o gam-drin grym cyflogwr. Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu i roi terfyn ar yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei alw yn arfer 'cwbl annerbyniol'.   

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? A gaf i ofyn iddo fynd gam ymhellach ac a wnaiff ef gondemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi, a chytuno nad oes unrhyw le iddo yng Nghymru ac yn sicr dim lle iddo yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru? A wnaiff Llywodraeth Cymru wrthod contractio gyda chwmnïau sy'n diswyddo ac ailgyflogi a gofyn i gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru wneud yr un peth?

Rwy'n sicr yn condemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi. Roeddem ni'n cefnogi, fel Llywodraeth Cymru, Bil Aelodau preifat Barry Gardiner a fyddai wedi gwahardd yr arfer a'i gwneud yn amhosibl iddo ddigwydd. Yn anffodus, fe wnaeth Llywodraeth y DU orchymyn ei Haelodau Seneddol Ceidwadol i wrthwynebu'r Bil a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei roi o'r neilltu. Ble mae'r Bil cyflogaeth yn Araith y Frenhines heddiw? Addawyd hwnnw yn Araith y Frenhines yn 2019 a byddwch yn chwilio yn ofer am unrhyw gyfeiriad ato yn Araith y Frenhines heddiw. Byddai wedi bod yn gyfle i Lywodraeth y DU wneud yr hyn y mae'n dweud y dylai ddigwydd yng nghyd-destun diswyddo ac ailgyflogi. Onid ydyn nhw wedi dysgu dim o'r profiad P&O, pan wnaeth Prif Weinidog y DU, unwaith eto, gyfres o sylwadau condemnio, dim ond i ganfod nad oes unrhyw gamau o unrhyw fath sydd wedi dilyn? Yma yng Nghymru, rydym ni'n gwbl unedig â'r Aelodau Seneddol hynny—ac nid Aelodau Seneddol Llafur yn unig oedden nhw chwaith—yn Nhŷ'r Cyffredin a gefnogodd Fil Barry Gardiner, ac a fyddai wedi ei weld ar y llyfr statud fel na allai'r arfer 'cwbl annerbyniol' hwn, fel y mae Prif Weinidog y DU yn ei alw, ddigwydd.

14:20
Ynni Adnewyddadwy

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OQ58022

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd y dyfodol hwnnw yn golygu cynhyrchu o leiaf ddigon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn, gan gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru ar yr un pryd. Bydd mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â chamau i leihau'r galw am ynni, yn sicrhau mwy o gydnerthedd ynni ac yn cefnogi ein targedau sero-net.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb, a dim cwestiynau am yr Elyrch yr wythnos hon gen i. Ond yr hyn y byddaf i'n eich holi amdano yw'r cynlluniau newydd cyffrous yn Abertawe ar gyfer morlyn llanw newydd yn fy rhanbarth i, ac mae'n syniad a atgyfodwyd gan y cwmni DST Innovations, sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae'n debyg, byddai Blue Eden yn cael ei ddatblygu mewn tri cham dros 12 mlynedd, a chynlluniau i ddechrau yn 2023, gyda 1,000 o swyddi yn gwneud batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni. Mae'r prosiect gwerth £1.7 biliwn a gyhoeddwyd yn cynnwys morlyn llanw wedi'i ddylunio o'r newydd a thyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf sy'n cynhyrchu 320 MW o ynni adnewyddadwy o'r strwythur 9.5 cilomedr. Ac er fy mod i'n gwybod bod siom na aeth y prosiect blaenorol yn ei flaen ar sail costau, mae gan y prosiect newydd hwn y potensial i fod yn gyffrous dros ben. Ac yn wahanol i'r prosiect blaenorol, nid oes angen buddsoddiad trethdalwyr ar hwn chwaith. Felly, a gaf i gadarnhau a yw'r Prif Weinidog wedi cyfarfod â DST Innovations ynglŷn â'r prosiect newydd, a pha gamau y mae ei Lywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei ddarparu?

Wel, Llywydd, dim ond oherwydd yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gyngor dinas Abertawe, sef y corff cyhoeddus arweiniol o ran prosiect Blue Eden, i fynd yn ei flaen y mae'r prosiect hwn yn fyw. Pan dynnodd Llywodraeth y DU y plwg ar forlyn llanw bae Abertawe, er gwaethaf adolygiad Hendry, a sefydlwyd ganddi hi, gan ddweud wrthyn nhw ei fod yn fuddsoddiad di-edifeirwch, mae'r ffaith bod cynllun o gwbl dim ond oherwydd, bryd hynny, bod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn a darparu'r cyllid i gyngor y ddinas sydd wedi caniatáu iddyn nhw ddod o hyd i'r buddsoddwr hwnnw, i weithio gyda DST ac i lunio'r gyfres newydd o gynigion. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu yn agos iawn â chyngor y ddinas i gefnogi'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am y potensial ar gyfer y cynllun hwn. Yr edifeirwch mawr yw na ddigwyddodd pan gafodd ei gynnig yn wreiddiol, ac ar adeg pan fo diogelwch ynni mor flaenllaw yn ein meddyliau, byddem ni wedi bod o fewn ychydig fisoedd byr i'r morlyn gwreiddiol hwnnw fod yn cynhyrchu ynni y gellid ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Roedd yn gynnig y dywedodd adolygiad Hendry y dylai Llywodraeth y DU fwrw ymlaen ag ef. [Torri ar draws.] Nid wyf i'n gwadu am eiliad—. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi dweud dim sy'n awgrymu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r penderfyniad i dynnu'r plwg ar y syniad hwnnw. Roeddem ni i gyd yma yn dymuno iddo ddigwydd. Byddai hynny wedi bod yn well. Mae'r ffaith bod gennym ni gynllun olynol yn deillio o fuddsoddiad a ddarparwyd o'r Siambr hon ac yn unman arall, ac rydym ni, fel y dywedais i, yn cadw mewn cysylltiad agos â chyngor y ddinas yn Abertawe, sef y sbardun y tu ôl i'r datblygiad diweddaraf hwn.

Gwasanaethau Awdioleg

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu clirio'r rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau awdioleg? OQ58011

Llywydd, mae'r cynllun adfer gofal arfaethedig, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, yn ymrwymo i leihau amseroedd aros am therapi i 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024. Mae'r rhestr aros ar gyfer gosod cymorth clyw i oedolion am y tro cyntaf wedi ei chynnwys yn yr ymrwymiad hwn, a bydd cynnydd yn erbyn yr uchelgais yn rhan o'r rhaglen adfer genedlaethol.

Diolch. Prif Weinidog, fel y byddwch chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, mae gwasanaethau'r GIG yng Nghymru yn defnyddio contractwyr optometreg, fferylliaeth a deintyddol preifat fel mater o drefn i ddarparu gofal sylfaenol, ond nid ydyn nhw'n defnyddio contractwyr awdioleg preifat i ddarparu gwasanaethau gofal awdioleg y GIG, ac rwy'n awyddus i ddeall pam mae hyn yn wir. Mae anawsterau clyw yn effeithio ar un o bob chwe oedolyn ac, yn anffodus, mae oedolion sy'n colli eu clyw mewn mwy o berygl o golli gweithrediad gwybyddol, ac yn gallu datblygu dementia neu glefyd Alzheimer wrth i'w cyflwr waethygu. Mae cywiro colled clyw gyda chymhorthion clyw nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd unigolion, ond gall hefyd atal y dirywiad gwybyddol hwn, y dangoswyd ei fod yn helpu i ymestyn iechyd a llesiant unigolion, a lleihau'r angen i bobl fynd i gartrefi gofal neu ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'n destun pryder bod rhestrau aros y GIG am wasanaethau awdioleg yng Nghymru yn tyfu. Ac yng Nghanol De Cymru, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron i 1,500 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn aros am driniaeth, a bod ychydig dros 800 wedi bod yn aros dros 14 mis. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Llywodraeth hon ymchwilio i'r rhan y gall contractwyr awdioleg ei chwarae o ran helpu i ddarparu gwasanaethau awdioleg y GIG yng Nghymru neu, o leiaf, gytuno i gyfarfod ag arbenigwyr awdioleg i drafod ffyrdd posibl ymlaen? Diolch.

14:25

Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdioleg a'r effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Mae'n ffaith drist, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl oedrannus, yn arbennig—ac mae gwasanaethau awdioleg yn cael eu defnyddio'n helaeth gan ddinasyddion hŷn Cymru—mae llawer o'r bobl hynny, oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain yn ystod y pandemig, wedi methu â chadw eu hapwyntiadau ac rydym yn awr yn eu gweld yn dod ymlaen, ac mae hynny'n anochel yn golygu pwysau ar y system. Mae'r pwysau wedi ei ddosbarthu'n anghyfartal iawn ar draws byrddau yng Nghymru. Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y twf yn y niferoedd yng Nghaerdydd a'r Fro, ond ym mae Abertawe, er enghraifft, dim ond naw o bobl oedd yn aros am apwyntiad awdioleg ym mis Chwefror eleni, ac roedd hynny i lawr o 225 o bobl, flwyddyn ynghynt. Felly, mae rhannau o Gymru lle mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud ac mae rhannau eraill o Gymru lle mae pwysau gwirioneddol ar y system.

Y ffordd orau o ddatrys hyn, Llywydd, yw drwy feithrin capasiti gofal sylfaenol, fel nad oes rhaid i bobl fynd i ysbyty i gael y gwasanaeth y mae arnyn nhw ei angen, oherwydd gall ymarferwyr cyswllt cyntaf awdioleg ddarparu'r asesiad arbenigol hwnnw yn nes at adref a sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth y mae arnyn nhw ei hangen. Mae'r gwasanaeth hwnnw eisoes ar waith mewn rhai rhannau o Gymru, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae byrddau iechyd eraill yn cynnal cynlluniau treialu i ddatblygu gwasanaeth o'r un math. Mae'n golygu recriwtio pobl yn uniongyrchol i'r gwasanaeth, ond cael awdiolegydd fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol, sy'n ymroddedig i hynny, sy'n gallu cyflawni'r apwyntiadau hynny bum niwrnod yr wythnos, dyna'r ffordd orau o sicrhau dyfodol y gwasanaeth.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw. Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar etholiadau llywodraeth leol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw, Trefnydd, am ddatganiad gan y Prif Weinidog ar ddiwygio'r Senedd? Bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol, o'r drafodaeth yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ac, yn wir, o ddatganiad i'r wasg a gyhoeddwyd y bore yma am chwarter wedi naw, fod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, i bob pwrpas, wedi rhwystro gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a sefydlwyd gan holl Aelodau'r Senedd hon er mwyn ystyried diwygio'r Senedd hon yn y dyfodol.

Nawr, mae fy mhlaid i, wrth gwrs, bob amser wedi gwrthwynebu cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd, ond rydym  ni wedi dweud yn gyson ein bod yn cydnabod bod mwyafrif o Aelodau'r Senedd yn dymuno gweld diwygio a bod mandad i gyflawni rhywfaint, ac ar y sail honno, gwnaethom ymuno â phwyllgor diwygio'r Senedd yn ddidwyll, er mwyn chwarae rhan adeiladol yn swyddogaeth a gwaith y pwyllgor hwnnw, er mwyn iddo allu gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu cyflawni. Mae hynny wedi ei danseilio heddiw. Mae gwaith y Senedd wedi ei danseilio heddiw, ac mae wedi bod yn amharchus o ran y ffordd y cyhoeddodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru y datganiad penodol hwnnw i'r wasg. Rwy'n credu bod arnom ni reidrwydd i roi datganiad yn y Siambr hon i bobl Cymru, lle y gellir croesholi'r Prif Weinidog ac, yn wir, arweinydd Plaid Cymru ynghylch eu cynigion ar gyfer diwygio er mwyn i ni allu dangos i bobl Cymru ein bod yn eu hystyried nhw yn briodol ac yn llawn. Mae'n amhriodol i'r pwyllgor hwnnw gael ei orfodi i sefyllfa ar sail trafodaethau clyd, a dweud y gwir, mewn swyddfeydd gweinidogol.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar fynediad at brofion diagnostig yng Nghymru? Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar sydd, yn anffodus, newydd gael diagnosis o ganser y brostad. Mae'n aros am sgan MRI; yn anffodus, ni all gael y sgan MRI hwnnw yn y gogledd, ac mae wedi cael ei atgyfeirio i Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl oherwydd bod ganddo reolydd calon. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gapasiti o gwbl i unrhyw un yn y gogledd sydd â rheolydd calon gael sgan MRI, ac, o ganlyniad, ni all y dyn hwn, sy'n gwybod bod ganddo ganser, sy'n gwybod bod arno angen y sgan hwn er mwyn penderfynu ar y driniaeth sydd o'i flaen, gael y sgan hwnnw tan ddiwedd mis Mehefin. Mae hynny'n annerbyniol; mae'n gyfnod pryderus iawn i'r dyn hwn a'i deulu. A gaf i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r angen am brofion diagnostig o'r math hwnnw, ac a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd er mwyn mynd i'r afael â'r mater? Diolch.

14:30

Rwy'n credu fy mod i'n anghytuno â phopeth a ddywedodd Darren Millar ynghylch diwygio'r Senedd. Nid oes dim wedi ei rwystro, nid oes dim wedi ei danseilio ac nid oes dim wedi ei amharchu.

O ran eich cwestiwn ynglŷn â diagnosteg, rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt da iawn. Yn amlwg, ni allwn gael pob darn o bob offer ar gael ym mhob ysbyty yng Nghymru, ac mae'n gwbl briodol bod eich etholwr yn mynd i'r lle gorau ar gyfer y sgan hwnnw. Byddaf yn siarad â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn ei lle, i weld a oes unrhyw beth yn yr arfaeth i gyflwyno offer o'r fath.FootnoteLink

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar bwysigrwydd ymgysylltu democrataidd. Rydym newydd ddod allan o etholiad, ac er y gallan nhw fod yn anodd, ar eu gorau mae etholiadau yn ddathliad o gymuned, cysylltiadau rhwng pobl, ac yn gyfle i newid pethau. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i bawb a safodd i gael eu hethol yr wythnos diwethaf, gan longyfarch y bobl a enillodd, ond hefyd i ddiolch i'r holl bobl hynny na chawson nhw eu hethol, oherwydd gall peidio ag ennill etholiadau fod yn boenus, ond mae sefyll dros yr hyn yr ydych yn ei gredu yn bwysig. Dylid canmol pobl am wneud hynny, ac, fel cenedl, rwy'n credu y dylem ni ddiolch iddyn nhw. Ond, Trefnydd, mae nifer isel o bobl yn pleidleisio yn dal i fod yn broblem ystyfnig. Mae gormod o bobl yn meddwl nad yw eu llais yn cyfrif, yn enwedig oherwydd y system y cyntaf i'r felin. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pwysigrwydd ymgysylltu democrataidd, a sut y gellir cyfleu hynny i blant yn yr ysgol, i oedolion hefyd, fel y bydd pawb yn teimlo cymhelliant i fynd allan a phleidleisio pan ddaw'r etholiad nesaf?

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Dylid dathlu democratiaeth yn llwyr, ac rwy'n ymuno â chi wrth ddiolch i bawb, o ba blaid wleidyddol bynnag, am gyflwyno eu hunain. Yn bersonol, roeddwn i yn y cyfrif yn fy etholaeth i ddydd Gwener, ac roedd yn bwysig iawn dweud diolch i bobl am gyflwyno eu hunain. Fel arall, yn wir, ni fyddem yn cael etholiadau. Mae'n amlwg bod y nifer isel o bobl sy'n pleidleisio yn fater yr ydym wedi gorfod ei wynebu mewn llawer o etholiadau. Rwy'n credu bod etholiad y Senedd hefyd yn faes lle yr ydym ni wedi gwneud ein gorau glas i geisio cynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon i wneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu ag ysgolion, i ymgysylltu â phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd o gynyddu hynny oedd cael pobl ifanc 16 a 17 oed, a byddai gen i ddiddordeb yn bersonol mewn gweld faint o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd yr wythnos diwethaf.

Hoffwn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn y Siambr ar gytundeb gweithredol Rhentu Doeth Cymru. Rwyf wedi bod yn ymdrin â nhw ar faterion yn ymwneud â gwaith achos etholaethol, ac mae wedi bod yn brofiad rhwystredig iawn i mi. Fel sefydliad, rydym wedi canfod bod diffyg cyfathrebu, tryloywder ac unrhyw ymdeimlad o frys ganddyn nhw wrth geisio cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad darn diweddar o waith achos ynghylch etholwr sydd dan fygythiad o gael ei droi allan yn anghyfreithlon o eiddo a rentir yn breifat. Dywedwyd wrthym na allai Rhentu Doeth Cymru ddatgelu canlyniad yr ymchwiliad i ni, ac ni allai ychwaith gymryd unrhyw gamau cyfreithiol yn erbyn landlord y canfuwyd ei fod yn torri ei gyfrifoldebau. Ers hynny, nid ydym wedi gallu cael unrhyw wybodaeth er budd yr etholwr, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wneud ein gorau glas a chynghori'r sefydliad y gallai'r etholwr fod ar fin cael ei droi allan. Nid yw'n dderbyniol, ac nid yw'n ymddangos bod llwybr ar gael y gallwn ei ddefnyddio i graffu ar weithgarwch Rhentu Doeth Cymru, a dyna pam yr wyf yn gofyn am ddatganiad yn y Siambr hon ar eu cylch gwaith.

Diolch. Rwy'n bryderus o glywed am y profiad yr ydych chi wedi ei gael gyda Rhentu Doeth Cymru. Cyngor Caerdydd sy'n eu cynnal, felly dylid mynd i'r afael â chwynion amdanyn nhw, yn y lle cyntaf, drwy eu gweithdrefn gwyno nhw, ac mae hynny ar gael yn rhwydd, fel y gwyddoch eich hun, ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Gall Aelodau Etholedig y Senedd, ac, yn amlwg, y staff sy'n gweithio i ni, anfon neges e-bost at Rhentu Doeth Cymru os ydyn nhw'n dymuno trafod unrhyw achos gyda nhw. Y llwybr nesaf wedyn, yn amlwg, fyddai'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gwerthfawrogi na fyddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu ymyrryd mewn achos unigol penodol, ond rwyf i yn credu bod eich profiad yn cyfiawnhau ysgrifennu ati, i weld pa ganllawiau y mae angen iddi edrych arnyn nhw. Os yw'n credu ei bod yn briodol cyflwyno datganiad ysgrifenedig, byddaf yn gofyn iddi wneud hynny.

14:35

Rwy'n galw am ddatganiad ar ddarpariaeth feddygol i bobl yng Nghymru sy'n dioddef o ME/CFS—enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig—a all gael effaith ddinistriol ar y gallu i weithredu ac ar ansawdd bywyd. Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth ME, 9 i 15 Mai. Gan fod canllawiau newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer ME wedi eu cyhoeddi bellach, mae'n hanfodol yn awr symud ymlaen gyda llwybr clir ar gyfer pobl sy'n byw ag ME yng Nghymru. Mae ymgyrchwyr yng Nghymru yn dweud wrthyf y gallai fod gwasanaeth ME mewn rhai byrddau iechyd, ond, os oes, nid ydyn nhw'n gwybod ble mae'r gwasanaethau hyn, pwy sy'n eu rhedeg, na pha driniaethau y maen nhw'n eu defnyddio. Mae ganddyn nhw bellach gymorth cynghorydd meddygol y Gymdeithas ME, sy'n barod i weithio gyda nhw i alluogi pobl ag ME ledled Cymru i gael y ddealltwriaeth a'r gefnogaeth feddygol gywir ar gyfer eu cyflwr, ac i fynd i gyfarfod â Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n ychwanegu ei bod yn aneglur iawn ar hyn o bryd ble neu sut y gall pobl ag ME gael triniaeth ar gyfer ME yng Nghymru. Mater o lwc yw hi os daw rhywun o hyd i feddyg teulu sydd â dealltwriaeth a hyfforddiant da o ran y cyflwr, ac nid oes ganddyn nhw unman i anfon cleifion ymlaen ato. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny, gan gynnwys, gobeithio, ymateb i'r cynnig o gyfarfod gan gynghorydd meddygol y Gymdeithas ME.

Diolch. Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth ME. Mae gennym ni sawl 'wythnos' a 'mis', ond doeddwn i wir ddim yn ymwybodol ei bod yn wythnos ymwybyddiaeth o bobl sy'n dioddef o'r cyflwr hwnnw. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y dyddiau, wythnosau, misoedd ymwybyddiaeth hyn, er mwyn sicrhau bod pobl yn adnabod y symptomau a hefyd yn gwybod i le y gallan nhw fynd am driniaeth. Yn amlwg, mater i fyrddau iechyd yw sicrhau bod ganddyn nhw'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer eu poblogaeth leol, pa gyflwr bynnag ydyw.

Dim ond dau ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdanyn nhw heddiw. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ymgyrch gan Glwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer ailddatblygu Kop y Cae Ras, a hefyd ar gyfer dychwelyd gemau rhyngwladol i'r gogledd. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi'r ymgyrch dros stadiwm i'r gogledd, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am brosiect Porth Wrecsam a'r miliynau lawer o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo?

A fyddai modd cael ail ddatganiad, o ran cais Wrecsam am statws dinas diwylliant? A wnaiff Llywodraeth Cymru, unwaith eto, ailddatgan ei chefnogaeth ddiwyro i'r cais, a fydd yn drawsnewidiol i'r fwrdeistref sirol os bydd yn llwyddiannus?

Diolch. O ran cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2025, fel y gwyddoch, mae Wrecsam ar y rhestr fer, ynghyd â thri lle arall yn Lloegr, i fod yn ddinas diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ei chefnogaeth lwyr i gais Wrecsam, sy'n dod i ben yn gyflym. Rwy'n credu y byddai'n wirioneddol drawsnewidiol i Wrecsam—rwy'n credu y byddai'n hwb gwirioneddol, wrth i ni edrych ymlaen. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn llwyr gefnogi'r cais.

O ran y ddeiseb a lansiwyd ddoe, roeddwn i'n meddwl ei bod yn ddiddorol iawn gweld y pwysau hwnnw'n cael ei ddwyn ymlaen ar Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r gronfa ffyniant bro. Rydym wedi bod yn aros yn hir i weld a fydd y cyllid hwnnw yn cael ei gynnig. Mae'n ddeiseb anwleidyddol. Mae'n dda gweld cyn bêl-droedwyr fel Mickey Thomas a John Hartson yn llwyr gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n siŵr, pan fydd y Dirprwy Weinidog wedi cael cyfle i edrych arni, y bydd yn gallu cynnig ei chefnogaeth. Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n cael pêl-droed rhyngwladol yn ôl ar y Cae Ras. Ac os caf i fodloni mympwy, roedd yn wych gweld Wrecsam yn mynd i frig y gynghrair ddydd Sul.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd nesaf—diweddariad ar COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwnnw. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ddod â'r drafodaeth yma i'r Senedd.

Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws. Mae trosglwyddiad y don omicron BA.2 o COVID-19 yn y gymuned yn parhau ar lefel uchel iawn ledled Cymru. Yn ôl arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan un o bob 25 o bobl yng Nghymru COVID. Mae tua 1,064 o gleifion yn yr ysbyty o hyd yn gysylltiedig â COVID—mae hynny 11 y cant yn is na'r wythnos diwethaf—er mai dim ond 78 o'r rhain sy'n cael eu trin yn weithredol ar gyfer COVID, gyda 15 o bobl mewn gofal critigol gyda COVID.

Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gael trafferthion oherwydd gofynion COVID-19. Mae lefelau uchel o absenoldeb staff a phwysau eraill yn parhau. Mae'n rhaid i ni barhau â'n hymdrechion i leihau trosglwyddo o fewn ysbytai. Mae cyfyngu nifer yr ymwelwyr i ysbytai, cadw pellter cymdeithasol a gweithredu gweithdrefnau rheoli heintiau yn drylwyr i gyd yn parhau i fod yn bwysig. Gan gofio hyn, ac wrth ddilyn cyngor y prif swyddog meddygol a'r gell cyngor technegol, mae'r Cabinet wedi penderfynu cadw'r cyfyngiad cyfreithiol olaf sy'n weddill, sef y gofyniad am orchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus dan do, am dair wythnos arall. Rwy'n deall pa mor heriol fu'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac i'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Bu llawer o waith caled ac aberth, ac rwy'n cymeradwyo'r ymdrechion parhaus, wrth i ni barhau i gymryd camau i gadw'r bobl fwyaf agored i niwed a'r staff sy'n gweithio yn y lleoliadau risg uchel hyn yn ddiogel.

Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, brechu yw'r mesur amddiffyn pwysicaf yn erbyn COVID o hyd, ac mae wedi gwanhau'n llwyddiannus y cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol a mynd i'r ysbyty. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu, ac rydym yn annog pawb sy'n gymwys i ddod ymlaen. Mae camau eraill y gallwn eu cymryd i amddiffyn ein hunain ac eraill. Byddwn yn parhau i argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ym mhob man dan do gorlawn neu gaeedig, fel rhan o gyfres o ganllawiau cryfach a chyngor ar iechyd y cyhoedd. Gall y mesurau hyn a mesurau eraill gydweithio i helpu i leihau trosglwyddo'r coronafeirws a chadw pob un ohonom yn ddiogel.

Rydym yn cydnabod pa mor anodd y mae hyn wedi bod i ddysgwyr, yn enwedig wrth i ni nesáu at dymor yr arholiadau. Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod ni, ynghyd â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cytuno ar eithriad i'n canllawiau hunanynysu ar gyfer y bobl hynny sy'n sefyll arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch a galwedigaethol. Y nod yw galluogi dysgwyr yn well i sefyll eu harholiadau'n ddiogel, a sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais o'u cymharu â'u cyfoedion yn Lloegr a'r Alban, pan fo'r canllawiau yn dweud y dylai plant a phobl ifanc ynysu am dri diwrnod. Os byddan nhw'n cael canlyniad negatif, yna gallan nhw sefyll yr arholiadau hynny—os byddan nhw'n cael dau brawf negatif dilynol.

Mewn cam cadarnhaol arall, cyhoeddwyd 'Cyngor Iechyd y Cyhoedd i Ysgolion: Coronafeirws' yr wythnos diwethaf, ac mae'r cyngor newydd hwn yn gosod ysgolion a lleoliadau addysg ar yr un gwastad â sectorau eraill yng Nghymru o ran cyngor iechyd y cyhoedd a COVID-19. Hefyd, fe wnaethom ni gyhoeddi, ddoe, ein bod bellach wedi dileu'r fframwaith rheoli heintiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn ffurfiol, sy'n golygu y bydd y sectorau hyn hefyd yn symud tuag at ddefnyddio'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a ddilynir gan fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau.

Ond mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod nad yw COVID-19 wedi mynd, ac y bydd yn aros gyda ni yn fyd-eang. Wrth i'r don bresennol o'r haint leddfu, fel roeddem ni'n gobeithio, rhaid inni baratoi ar gyfer tonnau newydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y bydd amrywiolion y dyfodol yr un fath ag omicron. Fe allem ni weld amrywiolyn mwy niweidiol yn dod yn y dyfodol. Rhaid inni gofio hefyd, wrth i bobl ddechrau cymysgu unwaith eto, y bydd heintiau anadlol tymhorol eraill yn dechrau lledaenu, gan gynnwys y ffliw. 

Am y tro cyntaf amlygodd y pandemig COVID-19 bod angen inni gael gwybodaeth am achosion yn y gymuned, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau mewn amser real, cyn belled â phosibl. Roedd hynny'n angenrheidiol, oherwydd defnyddiwyd y data hyn i lywio'r cyfyngiadau ar gyfer lleihau'r trosglwyddiadau yn y gymuned a'r effaith y rhagwelwyd y byddai'r haint yn ei chael ar y boblogaeth a'n system gofal iechyd.

O dan y sefyllfa COVID sefydlog bresennol, rŷm ni wedi rhoi'r gorau i adnabod pob achos trwy brofi cymunedol torfol ac olrhain cysylltiadau. Wrth gadw gwyliadwriaeth yn y dyfodol, ni fydd modd dibynnu ar lefelau mor uchel o ddata. Ac eto, bydd angen i’n trefniadau cadw gwyliadwriaeth ein helpu i benderfynu a yw Cymru wedi symud o sefyllfa COVID sefydlog i sefyllfa COVID brys. Bydd angen inni hefyd gofnodi effaith heintiau anadlol eraill, ac felly rydym ni'n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried cynigion ar gyfer strategaeth wyliadwriaeth newydd i Gymru, gyda’r bwriad o gyflwyno’r datblygiadau hyn cyn gaeaf 2022-23.

Llywydd, mae pobl Cymru wedi gweithio’n ddiflino i ddiogelu a chefnogi ei gilydd drwy’r cyfnod hynod o anodd yma. Dwi'n gwbl ffyddiog, drwy barhau i gymryd pob un o'r camau bach i'n diogelu ni ein hunain ac eraill, y byddwn ni'n symud drwy'r cyfnod pontio hwn yn llwyddiannus ac oddi wrth yr argyfwng iechyd y cyhoedd sydd wedi bod yn rhan mor amlwg o'n bywydau ni. Diolch, Llywydd.

14:45

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, a diolch i chi hefyd am eich papurau briffio i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bob tair wythnos? A gaf i groesawu llawer o'r hyn a ddywedoch chi heddiw? Fodd bynnag, ni ddylai'r rheolau ar fasgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn rhan o gyfraith frys, yn fy marn i; dylid diddymu hynny o ystyried y sefyllfa sefydlog yr ydym ynddi bellach. Felly, a gaf i ofyn, a fyddwch chi'n sicrhau bod hyn felly yn rhan o ganllawiau rheoli heintiau'r GIG ac ni fyddan nhw'n cael eu hymgorffori yn y gyfraith?

Pryd gallwn ni ddisgwyl i'r datganiadau rheolaidd, y datganiadau tair wythnos, ddod i ben o ystyried y sefyllfa yr ydym ni ynddi bellach? Ydych chi'n bwriadu i'r cynadleddau teledu rheolaidd ddod i ben, neu ydych chi'n bwriadu parhau â nhw yn rheolaidd? Byddai'n ddefnyddiol cael eich dealltwriaeth o'r cylch adolygu tair wythnos, Gweinidog.

Rwyf hefyd yn gweld o'ch cyngor gan y gell cyngor technegol, er bod heintiau COVID wedi gostwng yn sylweddol, sydd wrth gwrs yn newyddion i'w groesawu, fod ffliw a heintiau anadlol yn cynyddu. Felly, pa mor bryderus ydych chi y bydd ton o'r heintiau hyn dros gyfnod yr haf? Rwy'n sylweddoli mai dros gyfnod yr haf yw hi, sy'n ei gwneud ychydig yn haws ei thrin efallai, ond pa negeseuon cyhoeddus ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno ar gyfer y misoedd nesaf yn hynny o beth, os ydych yn wir yn credu bod hyn yn bryder?

Rwy'n sylwi ar y pwyslais ar leoliadau addysg, ac rwy'n croesawu yn fawr eich bod wedi eu dileu o'r fframwaith rheoli heintiau, ochr yn ochr â chyhoeddiadau'r Gweinidog addysg yr wythnos diwethaf y byddai'r cyfyngiadau terfynol hynny yn cael eu codi. Yr hyn yr wyf i'n pryderu yn ei gylch yw bod rhai sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn dal i gyfyngu ar addysg wyneb yn wyneb. Y llynedd, roedd nifer y cwynion yn erbyn prifysgolion Cymru a Lloegr yr uchaf ar gofnod, gyda bron i hanner—45 y cant—yn ymwneud â materion gwasanaeth fel addysgu a darpariaeth cyrsiau. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fonitro'r gwaith o ddychwelyd i fusnes fel arfer mewn lleoliadau addysg uwch ac addysg bellach fel y gall myfyrwyr fynychu addysg wyneb yn wyneb yn llawn, sydd, yn fy marn i, yn arbennig o bwysig cyn i dymor yr arholiadau ddechrau?

Yn olaf, Gweinidog, rydych chi wedi penderfynu cyhoeddi cynllun gweithlu ar wahân i'ch cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio, ond mae eich bylchau o ran gweithlu'r GIG ar-lein yn parhau i fod yn broblem ar hyn o bryd hefyd, ac rwy'n gwybod y bydd y ddau ohonom yn cytuno ar hynny. Gwelaf, er enghraifft, fod bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn cau unedau geni dan arweiniad mamolaeth yn ysbyty Brenhinol Gwent ac yn ysbyty Nevill Hall tan fis Hydref oherwydd pwysau sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i brinder staff. Felly, er bod gan y bwrdd iechyd rai dewisiadau eraill ar waith—rwyf wedi nodi hynny—ac o gofio mai dim ond tair blynedd yn ôl y cafodd sgandal uned mamolaeth Cwm Taf ei ddatgelu, pa fonitro ydych chi'n ei roi ar waith ar unwaith i sicrhau bod lefelau staffio diogel yn cael eu cadw ac nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu?

Rwyf hefyd yn gweld, yn y GIG yn Lloegr, fod miloedd o swyddi wedi eu creu ar gyfer y rhai hynny sydd wedi gwirfoddoli mewn canolfannau brechu, a tybed pa fesurau ydych chi'n eu cymryd i efelychu'r llwyddiant hwnnw a'r hyn sy'n digwydd yn awr i'r canolfannau brechu torfol. Diolch, Llywydd.

14:50

Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn nad yw canllawiau mor gryf â gorfodi yn y gyfraith, a dyna pam yr ydym wedi parhau, yn enwedig yn y lleoliadau hyn sydd dan fygythiad, i fynnu ar wisgo gorchuddion wyneb yn y lleoliadau hynny. Ac mae'n amlwg nad yw'n ofyniad ar y bobl sy'n gweithio yno yn unig, ond mae hefyd yn ofyniad ar y bobl sy'n dod i mewn i'r adeiladau hynny i ymweld. Felly, mae'n llawer haws i bobl blismona hynny os oes ganddyn nhw rym y gyfraith y tu ôl iddyn nhw. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae'r adolygiad 21 diwrnod yn parhau, oherwydd bod gennym ni ddarn o ddeddfwriaeth o hyd sy'n gysylltiedig â COVID, a bydd yr adolygiad 21 diwrnod hwnnw yn parhau tra bo'r cyfyngiad cyfreithiol hwnnw ar waith.

Rydych chi'n llygad eich lle, rydym ni yn gwylio'n ofalus iawn y cynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o'r ffliw ar hyn o bryd. Rydych chi'n llygad eich lle wrth awgrymu, mewn gwirionedd, ein bod ni, mae'n debyg, yn poeni'n fwy y bydd hynny'n dechrau yn wirioneddol yn y gaeaf, a'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes, wrth gwrs yw, rydym yn parhau â'n rhaglen gyfathrebu, 'Helpwch ni i'ch helpu chi', gan geisio cyfeirio pobl i'r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae hynny eisoes yn cael effaith.

O ran addysg, mae'n amlwg mai gwaith i'r Gweinidog addysg fydd monitro sut y byddan nhw'n dychwelyd i'r drefn arferol, i weld i ba raddau y gallan nhw fod yn cynyddu'r addysg wyneb yn wyneb y gwnaethoch ei nodi ei bod yn bwysig iawn.

O ran cynllunio'r gweithlu, hoffwn eich atgoffa ein bod ni wedi cynyddu'r gweithlu yng Nghymru 54 y cant yn yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi gweld cynnydd, er enghraifft, yn nifer y meddygon teulu o 1,800 i 2,000 yn 2021. Fe wnaethoch chi sôn am y sefyllfa yn Aneurin Bevan. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 o bobl mewn gofal sylfaenol yn unig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a chynnydd o 255 yn nifer y staff yno. Felly, rydym yn gweld niferoedd yn cynyddu'n gyson. Rhan o'r broblem, wrth gwrs, ar hyn o bryd hefyd yw bod gennym ni lawer o staff yn dioddef o COVID, felly maen nhw i ffwrdd oherwydd COVID, ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y gwasanaeth hefyd.

Diolch am y datganiad. Ryw dri chwestiwn, dwi'n meddwl, gen i. Prin ydy'r newidiadau erbyn hyn, mewn difri. Dwi'n falch bod y dystiolaeth—nid yn gymaint y profion, wrth gwrs, erbyn hyn, ond tystiolaeth yr ONS a dŵr gwastraff ac ati—yn awgrymu bod y sefyllfa yn gwella. Mae'r cwestiwn cyntaf ynglŷn ag ysgolion a cholegau, sy'n gweld y newid mwyaf yn fan hyn, am wn i, efo gorchuddion wyneb ddim yn angenrheidiol bellach. All y Gweinidog ddweud pa gryfhau mae hi am ei weld o ran mesurau fel sicrhau awyr iach a monitro carbon deuocsid er mwyn gwarchod disgyblion?

Yn ail, dwi'n dal i fod yn bryderus am COVID hir. Fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi wedi galw'n gyson am ddatblygu gofal arbenigol i gleifion COVID hir, i drio sicrhau cefnogaeth a diagnosis a thriniaeth gyflym. Rŵan, mae ffigurau newydd gan yr ONS yn awgrymu y gallai 438,000 o bobl fod â symptomau COVID hir o'r don omicron yn unig. Felly, mae'n sefyllfa sy'n dal i ddatblygu. Dwi wedi derbyn cyswllt gan rieni sy'n poeni am ddiffyg triniaeth i blant yn benodol. Yn Lloegr, mi fydd y Gweinidog yn gwybod bod yna rwydwaith o ganolfannau COVID hir pediatrig, ond beth mae rhieni yn dweud wrthyf i ydy eu bod nhw nid yn unig yn methu â chael triniaeth mewn canolfannau arbenigol yng Nghymru, ond eu bod nhw hefyd yn methu â chael referral i ganolfannau y tu allan i Gymru, hyd yn oed os mai dyna fyddai, o bosib, orau i'w plant nhw. Felly, pa gynlluniau mae'r Gweinidog yn barod i'w datblygu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn benodol yng Nghymru yn cael y gofal gorau posib am COVID hir?

Yn drydydd ac yn olaf—

—ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 27 Ebrill, yn gofyn iddo gywiro'r Cofnod, Cofnod y Senedd, ar ôl iddo ddweud bod y cyfrifoldeb am ymchwiliad cyhoeddus i COVID

'wedi symud i ddwylo'r barnwr annibynnol a benodwyd i'w arwain.' 

Roedd yn ateb cwestiwn a ofynnodd Heledd Fychan. Nawr, fel rhywun sydd wedi galw'n gyson am ymchwiliad i Gymru yn unig i sicrhau bod materion yn cael eu hystyried yn iawn o safbwynt Cymru—ac mae'r rhain yn faterion hollbwysig, wrth gwrs, ynghylch amgylchiadau miloedd o farwolaethau yma yng Nghymru—nid wyf i'n hapus ein bod yn rhan o ymchwiliad y DU yn unig nad wyf i'n credu y gall edrych yn ddigon fforensig ar y sefyllfa yma yng Nghymru, ac, fel yr wyf i wedi ei ddweud dro ar ôl tro, rwy'n rhwystredig bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn hapus i ymddiried yn Boris Johnson ar hyn, ar amseriad ymchwiliad a'r cylch gwaith. Nawr, y rheswm y galwais am gywiro'r Cofnod oedd oherwydd nad oedd cyfrifoldeb llawn wedi ei roi i'r cadeirydd annibynnol a bod Prif Weinidog y DU yn dal i fod yn gyfrifol am gymeradwyo'r cylch gorchwyl—cylch gorchwyl holl bwysig yr ymchwiliad. Felly, gan fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu ataf heddiw i ddweud nad yw'n mynd i achub ar y cyfle hwn i gywiro'r Cofnod, a wnaiff y Gweinidog iechyd o leiaf gadarnhau yr hyn sy'n ffeithiol gywir: fod y Prif Weinidog yn anghywir i ddweud nad oedd gan Boris Johnson unrhyw swyddogaeth na dylanwad pellach ar sefydlu'r ymchwiliad, oherwydd bod hyn ganddo? Mae angen ymchwiliad i Gymru arnom. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi hynny i ni, ond o leiaf byddwch yn onest gyda ni.

14:55

Diolch yn fawr. Mae'n dda i weld bod y niferoedd wedi dod i lawr, fel ŷch chi'n cyfeirio, ac rydym ni'n gwybod hyn oherwydd yr ONS a dŵr gwastraff. Mae'n glir bod canllawiau newydd wedi cael eu rhoi gerbron prifysgolion a cholegau ynglŷn â sut i ddelio â COVID nawr, ac fel rhan o hynny bydd gofyn i bobl ystyried sut maen nhw'n mynd i alluogi awyr iach i ddod i mewn i'w hystafelloedd nhw.

O ran COVID hir, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi canolbwyntio ar hwn fel Llywodraeth ac, yn sicr o'r tystiolaeth rŷn ni wedi ei chael o'n rhaglen ni, mae pobl fwy neu lai yn hapus gyda beth ŷn ni wedi cyflwyno er ein bod ni wedi dechrau'n hwyr, ond erbyn hyn dwi'n meddwl bod pethau wedi gwella. Dwi'n meddwl bod yn dal i fod rhywfaint gyda ni i'w wneud o ran plant. Beth ŷn ni'n sôn am fan hyn yw niferoedd bach iawn, felly, o'r hyn rŷn ni wedi ei weld, ychydig iawn o blant sy'n cael eu heffeithio, ond, wrth gwrs, mae gyda ni gyfrifoldeb i helpu'r rheini sydd yn blant, ac rydym ni'n cyd-fynd bod mwy o waith i'w wneud yn y maes yna.

O ran—

—yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID, byddwch yn ymwybodol o'n safbwynt ni ar hyn. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir drwy'r adeg ein bod ni'n annhebygol o gael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru gan ein bod ni'n system lle mae COVID wedi ei integreiddio fwy neu lai â'r DU. Roedd llawer o'r penderfyniadau a wnaethom yn benderfyniadau yn seiliedig ar ddadansoddiad a thystiolaeth a gawsom drwy Lywodraeth y DU. Yn sicr, roedd ein gallu i atal COVID rhag dod i mewn i'r wlad yn gyfyngedig oherwydd nad oes gennym reolaeth dros ofod awyr a phobl yn dod i mewn i'r wlad, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod £4.5 miliwn ar gael i fyrddau iechyd allu ymchwilio i'r holl bobl hynny sydd wedi colli anwyliaid y credir eu bod nhw wedi ei ddal mewn ysbyty. Felly, gallaf eich sicrhau nad ydym yn ymddiried yn Boris Johnson; rydym yn ymddiried mewn cadeirydd annibynnol. Byddwn yn troi at y cadeirydd annibynnol hwnnw a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at y cylch gorchwyl hwnnw—system, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei egluro o'r dechrau lle gall ef sicrhau y byddai'r cylch gorchwyl yn rhywbeth y byddai ef hefyd yn gallu dylanwadu arno. Diolch yn fawr.

Eitem 4 yw'r eitem nesaf, ond nid yw'r Gweinidog yma i wneud ei datganiad. Rwy'n cynnig felly, os yw'r Gweinidog iechyd yn fodlon gwneud hynny, ac rwy'n credu bod pawb sy'n dymuno cyfrannu at eitem 5 yn y Siambr, ac o gofio ein bod ni mewn sefyllfa debyg yr wythnos diwethaf gan nad oedd y Gweinidog iechyd yn bresennol, efallai y bydd y Gweinidog iechyd yn cytuno i gamu i'r adwy yn awr. Unwaith eto, rwy'n mynd i fod yn siarad yn araf yn fwriadol er mwyn i bawb gael paratoi ar gyfer y datganiad hwn. Mae'n amlwg nad yw'n ddelfrydol. Hoffwn atgoffa pob Gweinidog bod datganiadau wedi eu hamserlennu am 30 munud bellach a bod angen iddyn nhw fod yn y Siambr yn barod i wneud eu datganiad.

15:00
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

A gaf i ofyn i'r Gweinidog iechyd wneud ei datganiad ar eitem 5? 

Y datganiad hwnnw yw'r datganiad ar y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Eluned Morgan, felly. 

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am siarad yn araf iawn.

Llywydd, a gaf i ddiolch i chi am y cyfle i amlinellu cynlluniau ein fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol? Nawr, yn fy natganiad heddiw, byddaf yn amlinellu rôl a swyddogaeth y fframwaith canlyniadau, sut y mae'n cael ei ddatblygu ac yn trafod y camau nesaf arfaethedig.

Mae'r Dirprwy Weinidogion a minnau wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym yn glir bod cynlluniau a darpariaeth gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar wneud y pethau iawn yn dda ac ar yr angen i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd cenedlaethol.

Mae datblygu'r fframwaith canlyniadau yn cyflawni ein hymrwymiad yn 'Cymru Iachach' i ddatblygu fframwaith canlyniadau a rennir yn seiliedig ar y nod pedwarplyg, sef gwella iechyd a llesiant y boblogaeth; gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd gwell a haws eu defnyddio; iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch; a gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy. Mae'r fframwaith yn ategu'r fframwaith canlyniadau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw, sy'n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y fframwaith hwn, ynghyd â fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn parhau a bydd yn parhau i ddarparu pwyslais gwerthfawr er mwyn sicrhau gwell canlyniadau. Prif nod y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yw mesur effaith iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydweithio o safbwynt ein dinasyddion. Mae'n blaenoriaethu nifer bach o feysydd allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn gwella'r canlyniadau i holl boblogaeth Cymru.

Trwy fesur canlyniadau integredig, byddwn yn symud ein pwyslais o fesur yr hyn y mae'r system yn ei wneud i'r hyn y mae'n ei gyflawni i bobl. Bydd yn ein galluogi i ddangos effeithiolrwydd ein gweithredoedd ar y cyd ac yn ein helpu i ateb a ydym yn gwneud digon o'r pethau cywir yn dda. Mae'n gyfle i ddatblygu cynlluniau ac atebolrwydd ar y cyd, yn enwedig yng nghyd-destun gweithio rhanbarthol ac integredig. Gall ein ffyrdd presennol o weithio arwain at weithio tameidiog, sy'n gwneud synnwyr yng nghyd-destun sefydliadau unigol ond sy'n gwrthdaro â'i gilydd wrth edrych arnyn nhw o safbwynt y system gyfan.

Os edrychwn ar ein system gofal heb ei drefnu bresennol, mae'r atebion yn ehangach na pherfformiad ambiwlansys ac adrannau achosion brys. Fel y dangoswyd gan y chwe nod gofal brys ac argyfwng, mae angen i ni edrych ar draws y system gyfan, gan gynnwys gofal cymdeithasol, a llunio nodau a rennir a chamau gweithredu integredig. Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd, gan gefnogi unigolion i gadw'n iach, gan symud o system salwch i system iechyd da.

Mae'r fframwaith canlyniadau yn darparu'r cyd-destun strategol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Mae ei gyfres o ddangosyddion yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i unigolion yng Nghymru. Datblygwyd y fframwaith yn seiliedig ar dri gwerth craidd: atal, i gefnogi'r anghenion iechyd a ragwelir i atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael; cydraddoldeb, gwella bywydau pawb—ceir system deg sy'n sicrhau canlyniadau iechyd cyfartal i bawb drwy gau'r bylchau cydraddoldeb yng Nghymru; cyfrifoldeb unigol, cefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, gan alluogi pobl i fod yn gadarn ac yn annibynnol am fwy o amser yn eu cartrefi a'u hardaloedd eu hunain—mae hyn yn cynnwys cyflymu adferiad ar ôl triniaeth a gofal, a chefnogi camau hunanreoli cyflyrau hirdymor.

Trwy gyfres o weithdai a sesiynau grŵp, rydym wedi datblygu'r agwedd lefel poblogaeth ar y fframwaith canlyniadau. Mae'n nodi'r canlyniad a ddymunir ar gyfer y boblogaeth, wedi'i ategu gan gyfres fach o ddangosyddion i fesur cyflawniad.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i'r Gadair.

Mae'r canlyniad cyffredinol sydd wedi ei ddewis ar gyfer y fframwaith yn seiliedig ar y weledigaeth yn 'Cymru Iachach', sef pawb yng Nghymru yn mwynhau iechyd a llesiant da. Caiff hwn ei ategu gan 13 o gynigion ar gyfer dangosyddion poblogaeth a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i ddangos bod y canlyniad wedi'i gyflawni. Mae pump o'r 13 a fydd yn cael eu trafod gyda'r sector yn ddangosyddion llesiant cenedlaethol sy'n cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Ac mae gan ddau ddangosydd arall gysylltiad agos gyda'r dangosyddion llesiant cenedlaethol.

Er bod pob un o'r dangosyddion arfaethedig wedi'u dewis oherwydd eu perthnasedd i iechyd a gofal cymdeithasol a'u gallu i ddylanwadu, mae'n bwysig cydnabod bod partneriaid eraill yn hanfodol i droi cornel neu wella llwybr y dangosydd dan sylw. Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys helpu pobl sy'n unig a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.

Y cam datblygu nesaf fydd creu camau gweithredu integredig ar gyfer pob un o'r dangosyddion. Drwy wneud hyn, gallwn nodi beth mae angen i ni ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf. Unwaith y cytunir ar y camau gweithredu, byddant yn cael eu defnyddio i ddatblygu mesurau perfformiad. Bydd y mesurau perfformiad yn cael eu defnyddio i ddal sefydliadau i gyfrif am eu rolau perthnasol wrth gyflawni yn erbyn y dangosyddion poblogaeth.

Mae bellach yn bryd rhannu'r gwaith yn ehangach a chyd-gynhyrchu'r manylion y tu ôl i bob dangosydd gyda'n partneriaid. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r camau gweithredu mwyaf effeithiol i wella'r cyflawni ac i wneud gwahaniaeth i unigolion a chymunedau. Dros yr haf byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i brofi'r dangosyddion a gyflwynwyd er mwyn nodi'r camau cywir y mae angen i ni eu cymryd.

Er bod y rhain yn ddangosyddion ar gyfer y boblogaeth gyfan, rŷn ni'n gwybod o'r gwaith cychwynnol a'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 fod yr effeithiau'n wahanol i grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. Rŷn ni wedi ymrwymo'n gryf i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb, felly bydd y gwaith ymgysylltu gyda rhanddeiliaid yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau poblogaeth allweddol, megis plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl o gefndir du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, a phobl ag anableddau dysgu. Ar gyfer pob dangosydd, defnyddir set safonol o alluogwyr, a fydd yn ystyried agweddau allweddol, megis yr iaith Gymraeg, ansawdd a gwerth, y gweithlu a thrawsnewid digidol.

Bydd fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref i gefnogi fframwaith cynllunio NHS Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd y fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol terfynol yn cael ei ddefnyddio i roi adroddiad cynnydd i'r Senedd ar sut mae 'Cymru Iachach' yn gwneud gwahaniaeth. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch am y datganiad heddiw, Minister.

A nawr y datganiad cynamserol, ac rwy'n falch fy mod o gwmpas fy mhethau y prynhawn yma. Ac rwy'n croesawu'r newid pwyslais o reoli systemau tuag at sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai hynny sy'n dibynnu ar ein systemau iechyd a gofal, sef pob un ohonom ni, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y fframwaith hwn yn helpu i symud pwyslais tuag at well canlyniadau i ddinasyddion Cymru ac, ar yr un pryd, yn helpu i integreiddio iechyd a gofal a dileu'r rhwystrau artiffisial rhag gofal y caniatawyd iddyn nhw dyfu. Dylai canolbwyntio ar fywydau ein dinasyddion fod yn brif flaenoriaeth i ni bob amser ond, yn anffodus, mae Llywodraethau ar bob lefel yn rhy aml yn colli golwg ar y ffaith honno.

Gweinidog, rwy'n sylweddoli nad dyma ddiwedd y broses wrth ddatblygu'r fframwaith hwn, ond ychydig iawn o fanylion sydd ar gael am sut y bydd y fframwaith yn gweithredu. Felly, pryd byddwn ni'n gallu gweld manylion y dangosyddion canlyniadau, a pha ran, os o gwbl, y bydd gwahanol egwyddorion hawliau'r Cenhedloedd Unedig yn ei chwarae wrth ysgogi'r newid i ddull sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy'n seiliedig ar ganlyniadau?

Gweinidog, er fy mod i'n croesawu'r pwyslais sy'n cael ei roi ar sicrhau bod hyn yn trawstorri iechyd a gofal, rwyf yn cwestiynu pam yr ydych wedi dewis rhedeg y fframwaith hwn ochr yn ochr â'r fframwaith ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, ac ar gyfer gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw eu hunain. Onid ydych chi'n cytuno y byddai cael un fframwaith integredig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n trawstorri iechyd a gofal yn ddewis gwell? Ac yn yr un modd, pam y mae angen fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd arnom hefyd, neu'r llu o fframweithiau eraill sydd gennym? Fy ofn i yw, drwy ddyblygu cyfrifoldebau ar draws y fframweithiau lluosog, na welwn y newid pwyslais tuag at ganlyniadau. Onid ydym yn ychwanegu at y dulliau systemau y buom yn ceisio symud oddi wrthyn nhw i ddechrau?

Mae gen i bryderon hefyd ynghylch sut y byddwn yn mesur cynnydd o'i gymharu â'r nodau a'r dangosyddion a fydd yn ffurfio'r fframwaith terfynol. Felly, Gweinidog, sut caiff cynnydd ar hyn ei fonitro a pha offerynnau fyddwn ni'n eu defnyddio mewn gwirionedd i fonitro'r cynnydd hwn? A fyddwch chi'n dibynnu unwaith eto ar arolwg cenedlaethol i Gymru, ac ydych chi'n credu bod dibynnu ar rywbeth nad yw'n ddim mwy na phôl piniwn yn ffordd ddigonol o asesu gwelliannau i'r modd y darperir iechyd a gofal? Ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio gwelliannau technolegol i gasglu ystod ehangach o safbwyntiau a monitro canlyniadau drwy gydol y flwyddyn?

Yn olaf, Gweinidog, rwy'n sylwi y byddwch chi'n ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid dros yr haf, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n cynnwys y rhanddeiliaid pwysicaf, sef dinasyddion Cymru, yn wir. Edrychaf ymlaen at weld y fframwaith yn fanylach a gweithio gyda chi i ddarparu system gofal wirioneddol integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Diolch.

15:10

Diolch yn fawr. Rwy'n falch ein bod ni ar yr un dudalen o ran hyn. Felly, rwy'n awyddus iawn i roi'r gorau i fod mewn sefyllfa lle rydym yn edrych yn gyson ar faint o arian yr ydym yn ei roi i'r system. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ddechrau ei fesur yw'r hyn sy'n dod allan y pen arall. Pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i'r cyhoedd ac i gleifion? Ac os gallwn ni wneud hynny mewn ffordd effeithlon ac effeithiol, gan fesur yr hyn sy'n bwysig i bobl—dyna'r peth arall. Mae'n bwysig iawn nad yw'n ymwneud â cheisio sicrhau bod pobl yn—ein bod ni'n gwella pobl, ond yn colli diben eu bywydau mewn gwirionedd.

Dyna sy'n sylfaenol yn 'Cymru Iachach' mewn gwirionedd. Mae'n ceisio yn wirioneddol i greu system sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar yr hyn sy'n bwysig i bobl. Gallaf eich sicrhau chi mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yma yw osgoi dyblygu. Nawr, mae llawer o bethau yn digwydd yma, ond dyma'r math o fframwaith ymbarél y bydd rhai o'r pethau eraill yn cael eu mesur oddi tano. Felly, mae gennym ni ddeddfwriaeth eisoes, er enghraifft, yn y Ddeddf gofal cymdeithasol y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â hi, ond a fydd yn dod o dan yr ymbarél hon bellach, yn yr ystyr y bydd angen i ni wybod ble maen nhw'n cwrdd. Felly, mae cyfrifoldebau ar ofal cymdeithasol, er enghraifft, i sicrhau bod pobl yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain, ond ni ellir datgysylltu hynny oddi wrth y ffaith bod pobl, mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, yn sownd yn yr ysbyty, nid ydyn nhw'n gallu mynd allan o gartrefi—rydym yn mynd i edrych ar integreiddio'r system yn ei chyfanrwydd. Adrannau damweiniau ac achosion brys—mae problem yn y fan yna.

Felly, mae dod â hyn i gyd at ei gilydd a sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldeb yn mynd i fod yn hanfodol, a gallaf eich sicrhau chi y bydd llawer o wahanol ffyrdd o fonitro. Felly, un o'r pethau yr wyf wedi bod yn ei wneud heddiw yw mynd drwy'r cynlluniau tymor canolig integredig ym mhob un o'r byrddau iechyd yn fanwl iawn. Nid wyf i'n credu eu bod nhw wedi gweld unrhyw un yn mynd trwyddyn nhw â chrib fân yn y ffordd yr wyf i'n mynd trwyddyn nhw ar hyn o bryd. Ac mae hyn dim ond yn edrych ar: beth sydd yn eich rhaglen chi? Beth sydd ar goll o'ch rhaglen chi? Rwy'n mynd i fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn sydd ar goll o'r rhaglenni hynny, ond byddaf i hefyd yn ceisio sicrhau bod gennym ni'r pwyslais yn y lle iawn. Ar ben hynny, bydd llythyr y cadeirydd—y llythyr y byddaf yn ei anfon at y cadeirydd, a byddaf yn dwyn cadeiryddion i gyfrif ar sail hynny. Ac yn amlwg mae gennym ni dargedau hefyd, y byddwn yn eu monitro, ac rwy'n siŵr, fel pwyllgor, y byddwch chi'n dymuno eu monitro hefyd. Gallaf eich sicrhau chi na fyddwn yn cymryd ein hadroddiadau o arolwg Cymru yn unig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni fynd ychydig yn bellach o dan y boned, ac rwy'n gwbl benderfynol ein bod yn mesur cynnydd. Ond mae hyn yn ymwneud ag atal. Mae llawer ohono'n ymwneud ag atal ac, yn y gorffennol, nid wyf i'n credu—. Gan fod atal yn rhaglen tymor hwy, nid ydym wedi ei fesur yn yr un ffordd. Rwy'n gwbl benderfynol o geisio cyrraedd man lle'r ydym yn mesur gwaith atal fel ein bod yn gweld y newid yn y pwyslais yn ein holl wasanaethau tuag at hynny.

15:15

Diolch, Weinidog, am y datganiad yma. Dwi ddim yn anghytuno efo'r cynnwys—efo cynnwys y geiriau—a dydw i ddim yn anghytuno efo'r nod yn fan hyn. Pwy fyddai'n anghytuno efo'r nod o drio creu cenedl fwy iach? Beth sy'n fy mhoeni i braidd ydy y gallwn ni gael ein clymu yn fan hyn yn siarad mwy eto am beth rydyn ni'n trio ei gyflawni ond dydyn ni ddim yn gweld y camau cadarn hynny sydd yn mynd â ni gam wrth gam, yn brasgamu tuag at y nod. Mae'r Gweinidog yn hollol iawn i ddweud:

'Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd'.

Mae hynny mor, mor wir, ond dydw i ddim yn gweld yr arwyddion o'r math o chwildro y buaswn i'n licio ei weld. Dwi'n cofio, ar ôl datganiad diweddar, gwnes i gyhuddo'r Gweinidog o fod wedi colli nought oddi ar ddiwedd rhyw ffigur oedd yn cael ei wario ar fesurau ataliol, a dwi'n ei feddwl o. Hynny ydy, mae'n rhaid inni anelu yn y pen draw at allu gwario llai ar ofal iechyd, a'r ffordd o gyrraedd y nod honno ydy ein bod ni'n genedl iachach oherwydd bod yna symiau rhyfeddol o fawr wedi cael eu gwario ar yr ataliol ym mhob ffurff, ond hefyd bod yna newid meddwl am y fath o gyfundrefn iechyd a gofal a llesiant rydyn ni'n chwilio amdani hi. Felly, ie, does yna ddim anghytuno ynglŷn â phwysigrwydd yr ataliol.

Does yna ddim anghytuno gen i ynglŷn â'r ail o'r tair egwyddor: cyfartaledd rhwng pobl. Mae hynny'n hollol, hollol allweddol. A dwi'n meddwl, mewn cyfres o ymyriadau yn ddiweddar, mae Plaid Cymru wedi bod yn pwysleisio'r modd mae anghydraddoldebau wedi bod yn gwaethygu, nid yn gwella, yma yng Nghymru. A'r drydedd egwyddor yna—rhoi'r gallu i'r unigolyn i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud y penderfyniadau iawn—wrth gwrs mae honno'n bwysig, ond mae yna gymaint o bobl sy'n methu â gwneud y penderfyniadau iawn oherwydd yr amgylchiadau maen nhw wedi canfod eu hunain ynddyn nhw, oherwydd bod anghydraddoldebau yn eu cloi nhw mewn cylch dieflig, os liciwch chi. Felly, mae eisiau adnabod lle mae'r blockage. Mae angen gallu adnabod beth sy'n atal y Llywodraeth go iawn rhag gallu gweithredu mewn ffordd integredig a dod â'r holl elfennau o lywodraethiant—tai, iechyd, addysg, cymdeithas, economi, y cyfan— at ei gilydd, a dydy'r ateb i hynny ddim mewn fframwaith o'r math yma, er bod yr amcanion yna. Felly, yr un cwestiwn: ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi ei bod hi'n amhosib gwella'r allbynau heb gael gwared ar yr anghydraddoldebau sy'n ein dal ni nôl fel cenedl a chymdeithas ar hyn o bryd?

Diolch yn fawr. Wel, i ateb y cwestiwn olaf, 'Ydy hi'n amhosibl gweld gwahaniaeth yn yr allbynau?', wel, na, dyna pam mae gwneud rhywbeth ynglŷn ag anghydraddoldeb yn rhan allweddol o beth rydyn ni'n ei mesur fan hyn. Dwi'n awyddus iawn i beidio â jest siarad fan hyn; dwi'n glir iawn mai beth sydd ei angen yw pethau rydyn ni'n gallu eu mesur, a dwi'n benderfynol i sicrhau bod hynny'n bosibl yn y maes atal, yn ogystal â chlirio'r rhestrau aros. Mae hi mor hawdd i gyfrif faint o hip operations sydd angen eu gwneud. Mae'n lot mwy anodd i ddweud, 'Reit, rŷm ni'n mynd i weld llai o blant yn mynd i'r ysgol yn ordew.' Ond dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar hynny, a dwi'n meddwl bydd yna bwysau arnom ni i ganolbwyntio bron â bod yn llwyr ar glirio'r rhestrau aros yma, ond dwi'n meddwl byddai hwnna'n gamgymeriad, achos os nad ydym, fe fydd y system jest yn llenwi lan eto. Ac felly, dyna pam, i fi, mae'n hollbwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar y mesurau ataliol yma ar yr un pryd â chlirio'r rhestrau aros yna. 

A jest ynglŷn â'r cyfrifoldeb ar yr unigolyn, dwi'n meddwl bod hwn—. Mae'n swnio'n dda, ond, actually, rŷm ni wedi treulio dwy flynedd yn dweud wrth unigolion yn union beth i'w wneud, yn union ble i fynd, yn union pryd i adael eu tŷ nhw, yn union pwy i gwrdd â nhw, sut i gwrdd â nhw. Felly, mae'r sifft yna yn mynd i fod yn eithaf anodd, achos rŷm ni wedi bod yn eithaf paternalistic dros y ddwy flynedd diwethaf. Nawr, mae angen i ni gael pobl i gymryd y cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n mynd i'w gadael nhw ar ben eu hunain i wneud hynny. Rŷm ni'n cydnabod bod rhai pobl yn gallu gwneud hynny yn well nag eraill, ond dwi yn meddwl bod pethau newydd gyda ni i'n helpu ni gyda hwnna. Dwi'n meddwl bod mesurau digidol, er enghraifft, lle rŷm ni'n gallu helpu pobl i helpu eu hunain hefyd, a does dim rheswm pam na allwn ni ddefnyddio mesurau newydd modern i'n helpu ni gyda mynd i'r afael â rhai o'r problemau yma. 

15:20
4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2

Yr eitem nesaf heddiw yw eitem 4 ar yr agenda, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, safon ansawdd tai Cymru 2, a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i wneud y datganiad.  

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer safon ansawdd tai arfaethedig Cymru 2023. Cyflwynwyd y SATC wreiddiol, fel y gelwir hi, yn 2002 ar gyfer gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru. Ynghyd â'n partneriaid cyflenwi landlordiaid cymdeithasol, rydym ni wedi buddsoddi biliynau o bunnau dros ddau ddegawd i wella a chynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol mewn ffordd sylweddol ledled Cymru drwy gyfrwng y SATC, ac fe weithiodd hynny i raddau helaeth iawn. Erbyn diwedd 2020, roedd 99 y cant o dai cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd y SATC wreiddiol, safon sy'n llawer mwy heriol nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.

Mae'r SATC bob amser wedi bod yn safon wrthdlodi, gan sicrhau tai o ansawdd uchel i rai o'n cartrefi a'n cymunedau mwyaf agored i niwed. Yn rhychwantu chwe gweinyddiaeth, mae'r SATC yn enghraifft o sut y gall Llywodraethau, yn wir, edrych i'r hirdymor, gan fuddsoddi mewn polisïau a rhaglenni hirdymor, gyda modelau ariannu hirdymor. Rydym ni wedi galluogi landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi gyda hyder mewn asedau a chymunedau yn yr hirdymor, ac mae hyn wedi arwain at godi safon tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae pawb yn derbyn bod ymgartrefu mewn cartref o safon yn dod â manteision i lesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n trigo ynddyn nhw. Yn wir, mae'r pandemig wedi newid dulliau pobl o fyw, sut maen nhw'n teimlo am eu cartrefi a'u disgwyliadau yn hynny o beth. Hon yw'r adeg iawn i adolygu'r safon, gan gydnabod y newid hwn, yn ogystal â'r argyfwng costau byw digynsail sy'n wynebu pobl Cymru. Ac wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni godi'r safon eto, gan fynd ymhellach i sicrhau bod cartrefi cymdeithasol yn bodloni nid yn unig y disgwyliadau newydd, ond, wrth gwrs, eu bod nhw'n ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd gan leihau'r allyriadau carbon a achosir gan dai cymdeithasol.

Mae'r safon arfaethedig ar gyfer SATC 2023 yn adeiladu ar gyflawniadau rhagorol ei rhagflaenydd. Mae'r safon newydd yn cadw at ofynion wrthdlodi yn ei gofynion hi, gan gyflwyno'r gofyniad i ddarparu lloriau drwy'r cartref i gyd ym mhob tenantiaeth newydd, gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn, gyda'r nod o roi mwy o arian ym mhocedi'r tenantiaid a chefnogi eu cysur a'u llesiant nhw. Fe fydd hefyd yn cyflwyno safonau o ran effeithlonrwydd gyda dŵr ac yn annog landlordiaid i ystyried cyfleoedd o ran bioamrywiaeth.

Mae'r safon arfaethedig yn ceisio bod yn uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy yn y pen draw. Ein nod ni o ran yr ymgynghoriad yw sicrhau bod llais y sector yn cael ei ystyried wrth gwblhau'r safonau hyn, a'u cael nhw'n hollol iawn. Nid wyf i'n ymddiheuro am gynnig yr hyn y bydd rhai yn ei ystyried yn ddull beiddgar; rwy'n benderfynol y dylid codi'r safonau eto. Yn wyneb yr argyfwng costau byw a'r argyfwng newid hinsawdd, nid ydym ni'n gallu sefyll yn ein hunfan. Mae'n rhaid i ni barhau i wthio cynnydd a gosod safonau i fynd i'r afael â datgarboneiddio drwy amrywiaeth o fesurau gyda'r tai cymdeithasol presennol.

Cefnogwyd yr elfennau technegol yn y safon gan arbenigwyr sydd wedi edrych ar beth arall sy'n digwydd ledled y DU a thu hwnt, ac wedi helpu i ddatblygu safon arfaethedig sy'n cadw Cymru ar y rheng flaen o ran datgarboneiddio tai cymdeithasol. Fe glywyd lleisiau dros 900 o denantiaid wrth lunio'r safon newydd sy'n adlewyrchu eu hanghenion nhw, eu dymuniadau a'u dyheadau nhw ar gyfer eu cartrefi. Ac rydym ni wedi gweithio yn agos iawn gydag ystod eang o randdeiliaid, gan wrando ac ystyried eu pryderon a'u heriau nhw wrth ddrafftio'r safon arfaethedig newydd hon. Mae'r dull cydweithredol hwn wedi bod yn sail i ddatblygiad SATC 2023 hyd yn hyn, ac fe fydd honno'n parhau i fod yn sail i'n dull ni o ymgynghori ar y safonau a'u mireinio nhw wrth symud ymlaen.

Fe fydd safonau arfaethedig SATC 2023 yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad o 11 o fis Mai ac fe fyddan nhw'n agored i randdeiliaid ymateb am 12 wythnos. Mae ein tenantiaid tai cymdeithasol ni'n haeddu'r safonau gorau posibl y gallwn ni eu llunio. Mae cyrraedd ein nodau ni o ran Sero Net Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni wneud cynnydd pendant ac rwyf i o'r farn y bydd y safonau hyn yn helpu i lywio'r cynnydd hwn. Fy ngobaith pybyr i yw y bydd y safonau hyn nid yn unig yn cael eu dwyn i'r amlwg ar gyfer tai cymdeithasol, ond y gallai deiliadaethau eraill hefyd ystyried yn y dyfodol sut y gellid bodloni a rhagori ar y disgwyliadau hyn, ac rwy'n annog rhoi safbwyntiau drwy'r ymgynghoriad ynglŷn â sut y gallai'r safon hon weithio i bawb. Diolch.

15:25

Diolch i am y datganiad, a, Gweinidog, a gaf i ddweud pa mor braf yw eich gweld chi'n ôl yn y Siambr hon a'n bod ni wedi meddwl llawer amdanoch chi yn ystod yr wythnosau diweddar?

Nawr, rwyf i yn cytuno â'r egwyddor sylfaenol bod rhaid i dai sy'n perthyn i gymdeithasau ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da, deniadol a chyfanheddol, ond rwy'n credu y gallai rhai holi a yw safon ansawdd tai Cymru wedi gweithio hyd eithaf ei gallu. Mae canlyniadau arolwg y tenantiaid yn dweud llawer: dim ond 53.6 y cant o'r ymatebwyr a oedd o'r farn fod eu cartref nhw mewn cyflwr da; dim ond 60.3 y cant a oedd o'r farn fod eu cartref nhw'n bodloni gofynion penodol yr aelwyd; ac nid oedd 44 y cant wedi clywed erioed am safon ansawdd tai Cymru. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu pa fesurau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod am y safonau hyn, a sut y maen nhw'n teimlo eu bod wedi eu grymuso i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol.

Rwy'n ymwybodol hefyd, oherwydd rhai cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar, sut weithiau, pan gynigir cyfle i denantiaid gael rhai gwelliannau—efallai mai system wresogi neu ffenestri newydd sydd dan sylw, ac fe wn i fod hyn wedi codi yn ein pwyllgor ni, ynghylch datgarboneiddio tai—fod tenantiaid weithiau ychydig yn amharod i ganiatáu i gontractwyr fynd i mewn. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn rhif 1 yw gofyn sut efallai y byddech chi yn y Llywodraeth yn gallu gwneud ein tenantiaid ni yn fwy ymwybodol o'r safonau hyn o ran ansawdd tai, a sut i fagu hyder y tenantiaid wedyn i ganiatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud, oherwydd fe fydd o les mawr iddyn nhw.

Ar y llaw arall, rydych chi'n cytuno â mi, rwy'n siŵr, Gweinidog, fod rhai tenantiaid yn dweud eu bod nhw wedi bod yn aros hyd at 10 mlynedd i orffen rhai atgyweiriadau. Mae hi'n bwysig ystyried hefyd a yw SATC yn mynd ar drywydd gwaith atgyweirio ac adnewyddu sy'n rhesymol. Roeddech chi'n cyfeirio at loriau, effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn. Er hynny, mae tystiolaeth oddi wrth Linc Cymru, ClwydAlyn a Grŵp Pobl wedi tynnu sylw, er enghraifft, at y ffaith bod rhaid iddyn nhw newid y ceginau bob 15 mlynedd yng Nghymru, ond bob 20 mlynedd y mae angen newid y ceginau, sydd o'r un gwneuthuriad, yn Lloegr. Ystafelloedd ymolchi yn yr un modd, sef 25 mlynedd yng Nghymru a 30 mlynedd yn Lloegr. Nawr, mae'r cymdeithasau tai yn tynnu sylw mewn ffordd amlwg at y ffaith bod landlordiaid cymdeithasol Cymru yn gorfod talu gwerth miliynau o bunnau o gostau yn ddiangen. Felly, a wnewch chi edrych ar hynny, neu ymateb i hynny, ar gyfer ystyried a ellid rhyddhau cyllid i'w wario ar faterion eraill sy'n ymwneud â chartrefi cymdeithasol?

Mae'r arian yn achos pryder mawr. Mae landlordiaid cymdeithasol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cartrefi carbon isel er lles eu tenantiaid nhw, yr amgylchedd a'r blaned. Er hynny, maen nhw wedi egluro i'r pwyllgor newid hinsawdd y dylai materion o ran diogelwch fod â mwy o flaenoriaeth nag uchelgeisiau datgarboneiddio, os yw'r adnoddau yn brin. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi y bydd £5.5 biliwn o gost i ôl-osod pob tŷ cymdeithasol i fodloni gradd tystysgrif perfformiad ynni yng Nghymru. Felly, fe fyddai hynny'n cyfateb i gyfartaledd o £24,000 y cartref. A ydych chi'n cytuno â chostau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac, os felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyllid hwn sydd ei angen? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru hyd yn oed wedi datgan y bydd angen i fodel ariannu safon 2 ansawdd tai Cymru roi sicrwydd digonol i fyrddau pob landlord cymdeithasol y gellir bodloni'r safon heb beryglu amcanion y sefydliad arall.

Lle bwriedir gwneud gwaith, mae hi'n ffaith, fel soniais i'n barod, fod landlordiaid cymdeithasol yn wynebu gwrthsafiad gan denantiaid. Yn ôl astudiaeth y gronfa datgarboneiddio tai cymdeithasol, y prif faterion sy'n achosi gwrthwynebiad y tenantiaid yw bod ag ystafelloedd na ellir eu defnyddio yn ystod gwaith sydd ar 43 y cant; yr amser y bydd y gwaith yn ei gymryd, ar 45 y cant; y tarfu oherwydd sŵn y gwaith ar 60 y cant, ac mae eraill yn casáu unrhyw newid o gwbl ac mae'r gyfradd honno ar 62 y cant. Felly, er fy mod i'n sylweddoli bod gwrando ar leisiau dros 900 o denantiaid wedi digwydd, o gofio'r ystadegau hyn, sut ydych chi, wrth symud ymlaen, yn bwriadu cyflawni'r nod o sicrhau nad yw tenantiaid ar eu colled o ganlyniad i'r gwaith datgarboneiddio yn eu cartrefi nhw, ac y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd safonau ansawdd tai Cymru i'r graddau pryd y gall pob un o'n tenantiaid ni elwa ar hynny? Diolch i chi.

15:30

Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Janet. Rydych chi'n codi rhai pwyntiau diddorol iawn a rhai materion o egwyddor. Felly, o ran y materion o egwyddor, mae hi'n amlwg ein bod ni'n wynebu her ynglŷn â'r hinsawdd. Rydych chi, rwy'n siŵr, wedi gweld yr adroddiad diweddaraf sy'n mynegi ein bod ni'n edrych ar rai o'r blynyddoedd poethaf a gofnodwyd erioed. Ac, felly, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod cartrefi pobl yn addas ar gyfer hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â gwresogi yn ystod y gaeaf yn unig; mae hyn yn ymwneud hefyd â'u cadw nhw'n oer yn ystod yr haf, eu gwneud nhw'n addas i'w diben. Fe wyddom ni mai hyd at EPC D yr ydym ni newydd godi safon ansawdd tai Cymru, ac mae hwnnw'n welliant sylweddol iawn o'i gymharu â'r hyn a gafwyd o'r blaen, ond mae hi'n amlwg nad yw hynny'n agos at y safon yr ydym ni'n disgwyl ei chyrraedd i ymateb yn effeithiol i newid hinsawdd.

Felly, un o'r pethau cyntaf yr ydym ni'n ei wneud yw edrych ar y safon dros gyfnod ymarferol o amser. Yn amlwg, ni chaiff pawb ei dro yn ystod y flwyddyn gyntaf, felly fe fydd hi'n cymryd 10 mlynedd arall i ni gyrraedd y fan. A mater i gymdeithasau tai a chynghorau fydd cynllunio sut y byddan nhw'n cyrraedd y fan, a pha rai yw'r tai anoddaf i'w haddasu, neu'r hawsaf i'w haddasu, hyd yn oed, mewn rhai achosion, a chynllunio ar gyfer hynny dros y cyfnod hwnnw. Hefyd, rydym ni'n ymwybodol iawn bod rhaglenni gennym ni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol sy'n gyfredol ar hyn o bryd, ac maen nhw'n profi technolegau i ni. Felly, yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd, fe fydd yna dechnolegau ar gael iddyn nhw nad ydyn nhw ar gael nawr, neu fe allai'r dechnoleg gostio lawer yn llai yn y dyfodol nag ar hyn o bryd, ac ati. Felly, mae hi'n bwysig iawn bod gan y safon allbwn yn hytrach na—. Nid wyf i am ddweud y bydd rhaid i chi gael pwmp gwres o'r awyr, neu y bydd raid i chi gael y naill beth neu'r llall; yr allbwn sy'n bwysig. Fe fydd yn rhaid i'r cartref fod â chyfradd safonol o ddatgarboneiddio, fe fydd yn rhaid iddo fod ag effeithlonrwydd ynni safonol ac ati. Ac yna fe fydd ein llwybr ni'n dibynnu ar sut fath o dŷ ydyw. Ac rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi bod yn profi'r gwahanol fathau o bethau sy'n gweithio ar wahanol fathau o dai gan ddefnyddio'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, felly rydym yn disgwyl dysgu o'r pethau hyn i gyd wrth symud ymlaen.

Dyna pam hefyd yr ydym ni'n ymgynghori â'r tenantiaid wrth gwrs, oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: nid yw rhai pobl yn hoff o newid, nid yw rhai'n gallu ymdopi wrth i un ystafell beidio bod ar gael ac ati. Rydym ni'n edrych hefyd, o ran rhai pobl, fe fydd angen dod o hyd i rywle arall iddyn nhw fyw am gyfnod wrth i'w cartref nhw gael ei ôl-osod, ac roedd hynny'n wir am hen safon ansawdd tai Cymru hefyd, mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym ni bobl yn symud i rywle arall am dri neu bedwar mis tra bod eu cartref nhw'n cael ei ôl-osod. Yr hyn a wyddom ni yw, pan fo pobl yn symud yn ôl i mewn, maen nhw'n nhw'n hapus iawn â'r hyn y maen nhw'n ei ganfod.

Ac o ran pethau fel pa mor aml ydych chi'n newid eich cegin, pa mor aml ydych chi'n newid eich ystafell ymolchi, eto mae hynny'n dibynnu ar yr hyn yr ydych chi'n ei nodi. Felly, nid oes neb yn dymuno cael gwared ar bethau sy'n dal i weithio yn berffaith iawn—mae ôl troed carbon i hynny hefyd. Ond, ar yr un pryd, rydym ni'n awyddus hefyd i bobl fod â'r defnydd mwyaf effeithlon a mwyaf effeithiol o leoedd ac offer. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud ag ymgynghoriad, onid yw? Mae hyn i gyd yn ymwneud â phob cymdeithas dai unigol, pob cyngor unigol, ymgynghori mewn ffordd briodol â'i thenantiaid, rhoi rhaglen waith iddyn nhw, ac yna cytuno ar honno. Ni chawn ni gefnogaeth 100 y cant i unrhyw un o'r pethau hyn; mae rhai pobl yn casáu unrhyw newid yn eu tŷ nhw ni waeth pa fanteision sy'n dod yn eu sgil nhw, ac rydym ni wedi gweld enghreifftiau o hynny mewn cymdeithasau tai dros y cyfnod. Ond rwy'n credu y bydd modd gwneud y pethau hyn i gyd os bydd pobl yn deall beth fydd y canlyniad iddyn nhw, ac os mai'r canlyniad hwnnw yw cartref gwell sy'n fwy diogel ac effeithlon o ran ynni, ac yn fwy ffasiynol ac yn fwy modern yn y cyfnod dan sylw, yna fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn dod ar y daith honno gyda nhi. Ni wnewch chi fyth blesio pawb bob amser.

Ond rwy'n falch iawn o'r ffordd y gwnaethom ni ddod i'r fan hon. Felly, gan ddysgu o'r gwersi hynny gan y rhaglen tai arloesol a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan ddysgu oddi wrth gymdeithasau tai gwirioneddol dda fel ClwydAlyn ac yn y blaen, sydd wedi gwneud llawer o waith yn hyn o beth, fe fyddwn ni'n gallu cyflwyno hyn mewn ffordd sy'n addas i'r mwyafrif llethol o'r tenantiaid sydd gennym ni, yn fy marn i.

A gaf innau ategu geiriau Janet ynghynt, a dweud pa mor dda ydy o i weld y Gweinidog nôl, a'n bod ni wedi bod yn meddwl amdani a'i theulu yn ystod y cyfnod anodd diweddar? 

Ond diolch i'r Gweinidog am y cyhoeddiad heddiw. Wrth gwrs, mae gosod safonau ar ansawdd tai yn beth da iawn, ac mi rydyn ni wedi gweld gwella yn safon nifer o'n tai ni. Ond erys y ffaith bod canran fawr iawn o'r tai yn y sector cyhoeddus yn parhau i fod yn israddol. Mi ddaru'r Gweinidog ddweud ar ddechrau ei datganiad bod 99 y cant yn cyrraedd y safonau gwreiddiol ddaru gael eu gosod, ond mae bron i 55,000 o dai cyhoeddus yng Nghymru yn yr hyn y maen nhw'n ei alw'n 'compliant subject to acceptable fails'. Mae hyn yn bron i chwarter o'r stoc tai cyhoeddus. Rŵan, mae acceptable fails yn golygu nifer o wahanol bethau. Yn amlach na pheidio, mae'n golygu nad ydy rhywun yn medru fforddio i'w gael o i'r lefelau angenrheidiol. Felly, ydy'r Gweinidog yn meddwl bod hyn yn nifer derbyniol?

Mae ystadegau diweddar hefyd yn dangos ein bod ni'n gwybod, wrth gwrs, fod tua 15 y cant o'r stoc dai yn rhent preifat, a thua'r un nifer, neu ychydig yn fwy, 16 y cant, o'r stoc dai yn rhent cymdeithasol. Ond o'r rhai rhent cymdeithasol, mae 93 y cant ohonyn nhw yn dai sydd yn glir o beryglon—does yna ddim peryglon ynddyn nhw. Ond yn y stoc breifat, dim ond 75 y cant—tri chwarter ohonyn nhw—sy'n glir o beryglon. Hefyd, mi rydym ni'n gwybod bod perfformiad llawer iawn is o ran rhyddhau ynni a pherfformiad ynni yn y sector preifat. Felly, beth mae'r Gweinidog am ei wneud er mwyn cau'r bwlch yma rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, er mwyn gwneud yn siŵr bod pob tŷ yng Nghymru yn cyrraedd y safonau gofynnol yma?

Tra bod camau wedi cael eu cymryd i sicrhau bod tai cyhoeddus yng Nghymru yn ynni effeithiol, fel rydyn ni wedi sôn, y gwir ydy nad ydyn nhw hyd yn oed yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae ôl-ffitio yn parhau i fod yn her anferthol. Ac er fy mod yn croesawu eich bod chi wedi blaenoriaethu datgarboneiddio, y gwir ydy bod y costau i fynd i'r afael ag ôl-ffitio a datgarboneiddio yn anferthol. Fedrwch chi ddim disgwyl i'r sector tai cyhoeddus godi rhent er mwyn talu'r costau ôl-ffitio yna. Ac yn yr hinsawdd bresennol, efo costau adeiladu yn cynyddu mor aruthrol, mae hi'n mynd i fod yn anodd iawn i'r sector benderfynu a ydyn nhw'n mynd i adeiladu tai newydd ynteu ôl-ffitio. Felly, lle mae'r sector am gael y pres ychwanegol angenrheidiol yna er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y safonau gwresogi yna?

Yna, wrth edrych ar yr ymgynghoriad newydd rydych chi'n ei gyflwyno, mae'n rhaid i ni gofio bod Cymru 2023 yn wahanol iawn i Gymru 2002. Ac un o'r hanfodion newydd, wrth gwrs, yn yr oes yma ydy band eang. Gaf i ofyn wedyn a fyddwch chi, yn ystod eich ymgynghoriad, yn fodlon ystyried gofyn y cwestiwn ynghylch pa mor bwysig ydy cael mynediad i fand eang a sicrhau bod band eang ar gael ym mhob tŷ fel rhan o'r safonau hynny?

Yn ogystal, mae cymdeithas, o'r diwedd, yn dod i werthfawrogi bod gan bawb yr hawl i dŷ sydd yn addas i bwrpas, a phawb â'u hanghenion gwahanol nhw—rhai, wrth gwrs, efo clefydau, rhai efo rhywbeth fel motor neurone disease, rhai'n methu â gweld yn glir, efo nam ar eu llygaid, rhai'n methu â symud, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Pa waith ydych chi felly, fel Llywodraeth, yn ei wneud er mwyn adnabod anghenion pobl sydd efo'r gwahanol anghenion yma, a sicrhau bod hyn yn rhan o'r ystyriaeth wrth ein bod ni'n symud ymlaen i safon tai Cymru 2?

Ac yn olaf yr un pryd byddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi bod safon byw mewn tŷ nid yn unig yn ddibynnol ar frics a morter; mae'n ddibynnol ar y gwasanaethau sydd ar gael hefyd. Felly, yn yr ymgynghoriad yma ar gyfer safon tai Cymru 2, a fyddwch chi hefyd yn fodlon ystyried yr angen i edrych ar gael mynediad at wasanaethau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a pha mor hawdd ydy hi i bobl fyw yn y cymunedau hynny lle mae'r tai am gael eu hadeiladu? Diolch yn fawr iawn.

15:35

Diolch yn fawr, Mabon. A diolch yn fawr am eich sylwadau chi ar y dechrau, yn arbennig.

Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, ac un o'r rhesymau yr ydym ni'n mynd am ymgynghoriad yw ar gyfer tynnu sylw at rai o'r pethau hyn. O ran y methiannau derbyniol a welsom ni eisoes, rwy'n awyddus iawn i edrych eto ar yr hyn a ystyriwn ni'n fethiant derbyniol ar gyfer y safon ansawdd tai newydd. Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg iawn. Felly, mae gennym ni bobl sy'n byw mewn fflatiau, rhandai, nad oes ganddyn nhw fynediad i'r mannau awyr agored sef rhywbeth angenrheidiol i gyrraedd rhan o'r safon. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn gallu deall bod hwnnw'n fethiant derbyniol yn hyn o beth. Nid wyf i'n awyddus o gwbl i alw unrhyw beth o ran fforddiadwyedd yn fethiant derbyniol. Ein barn ni yw, os gellir dod â'r cartref i'r safon, yna nid yw'n ymwneud â maint y gost i wneud hynny, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydych chi'n codi'r tŷ i'r safon honno dros gyfnod o amser, ac efallai drwy nifer o ymdrechion ôl-osod, gan ystyried y pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â sicrhau bod y tenant yn hapus gyda'r rhaglen waith barhaus. Ac un o'r pethau y mae'r ymgynghoriad yn ei wneud yw gofyn i denantiaid, cymdeithasau tai a chynghorau, ystyried sut y maen nhw am gynllunio'r dull hwnnw, fel bydd—. Ni fydd pob cartref yn bodloni'r safon ar unwaith gyda'r ymdrech ôl-osod gyntaf, er enghraifft. Ac yna, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud, rydym ni'n gobeithio dysgu gwersi hefyd yn sgil y rhaglenni ôl-osod er mwyn optimeiddio a thai arloesol o ran y dechnoleg y gellir ei defnyddio mewn mathau arbennig o gartrefi ar gyfer cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni penodol, ac ati.

Rydym ni hefyd yn awyddus iawn i weld pethau fel mynediad i fannau gwyrdd. Felly, hyd yn oed os ydych chi mewn fflat, fe ddylech chi barhau i allu cael mynediad i fannau gwyrdd y tu allan. Rydym ni'n bwriadu annog pob landlord cymdeithasol—cynghorau a chymdeithasau tai—i sicrhau mynediad i fannau gwyrdd, hyd yn oed os nad yw'n ardd breifat, serch hynny, mae mynediad da yn rhan o hynny—fe wyddom ni i gyd, yn rhan o'r pandemig—yn rhan bwysig iawn o'ch llesiant chi wrth fyw yn y tŷ hwnnw.

O ran gwasanaethau eraill, yn sicr, fe fyddwn ni'n edrych ar hynny, ond nid wyf i'n siŵr a fyddem ni'n dymuno i dŷ fethu â chyrraedd SATC am nad yw'r gwasanaeth bws y tu allan iddo yn cyrraedd y safon, ond yn amlwg mewn rhan wahanol o fy mhortffolio rydym ni'n awyddus iawn i wella gwasanaethau cyhoeddus, fel gwasanaethau bysiau ac ati. Ond rwy'n sicr yn barod i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i annog landlordiaid cymdeithasol i roi pwysau ar gwmnïau gwasanaethau i ddefnyddio gwasanaethau eraill. Mae pethau fel mynediad i amwynderau lleol, yr holl ffordd hyd at siopau a chyfleusterau hamdden yn un o'r pethau sy'n gwneud tai yn fwy derbyniol. Ond mae hyn yn ymwneud llawer mwy ag adeiladwaith y cartref, mewn gwirionedd, ac fe wyddom ni, o'r dadansoddiad a wnaethom ni o arolygon boddhad cymdeithasau tai a thenantiaid cyngor a phethau eraill, fod pethau fel sŵn a lloriau a phethau o'r fath yn uchel iawn ar restrau dymuniadau tenantiaid, ac felly dyna pam y cawsant eu cynnwys yn y safon.

Mae'r hafaliad rhent y gwnaethoch chi ei godi yn ddiddorol iawn hefyd. Bob tro yr ydym ni'n pennu'r hafaliad rhent ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru rydym ni'n cael y cyfyng-gyngor ofnadwy hwn i wneud hynny'n fforddiadwy, ond gan sicrhau bod y ffrwd rentu ar gyfer y landlordiaid hynny'n ddigonol, i ôl-osod eu tai nhw ac adeiladu'r tai newydd y mae eu hangen arnom ni. A'r ffrwd rentu, wrth gwrs, yw'r hyn sy'n gyrru'r gallu i fenthyca gan y cymdeithasau tai lleol, ac felly mae hwn yn hafaliad anodd iawn, onid yw e', sy'n ymwneud â fforddiadwyedd a'r hyn na ellir ei fforddio.

Ond mae rhai pwyntiau gwleidyddol i'w gwneud yn y fan hon hefyd, mae arnaf i ofn. Mae rhewi'r lwfans tai lleol gan Lywodraeth bresennol y DU wedi bod yn rhywbeth niweidiol iawn, nid yn unig i'r tenantiaid sydd wedi eu caethiwo gan ostyngiad yn eu gallu nhw i hawlio budd-dal yn y sector rhentu preifat, ond mewn gwirionedd i allu pobl i fforddio tai ledled Cymru. Felly, mae'r dewisiadau gwleidyddol hyn yn broblem wirioneddol. Rwyf i wedi ysgrifennu sawl tro at y Gweinidog yn cwyno bod y toriad cudd o rewi'r lwfans tai lleol yn cael effaith andwyol iawn, nid yn unig ar unigolion, ond ar y gallu i gynllunio tai yn gyffredinol. Felly, dim ond i wneud y pwynt yna.

O ran costau adeiladu, o ran adeiladu o'r newydd, rydym ni eisoes wedi helpu drwy godi'r ffordd yr ydym ni'n trin ein grant tai cymdeithasol a'r ffordd y cawn ni amlen fforddiadwyedd i chwilio am adeiladu o'r newydd. Rydym ni wedi addasu hynny i roi cyfrif am gostau adeiladu. Fe fyddwn ni'n ceisio gwneud hynny ar gyfer ôl-osod hefyd, ond, unwaith eto, un o'r pwyntiau sydd i'w gwneud yn y fan hon yw eich bod chi'n talu TAW ar adnewyddu, ond nid ydych chi'n ei dalu ar adeiladu o'r newydd. Ac felly un o'r pethau yr ydym ni wir yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried yw pa mor llethol yw bod â TAW ar adnewyddu, a pha mor andwyol i'r agenda newid hinsawdd yw annog dymchwel rhywbeth ac adeiladu rhywbeth yn ei le yn hytrach nag adnewyddu'r hen adeilad, a chymaint o ysgogiad i'r economi fyddai edrych eto ar TAW ar gyfer adnewyddu. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd gennym ni hefyd—. Mae Rebecca Evans a minnau wedi ysgrifennu sawl gwaith ar ffolineb codi TAW ar waith adnewyddu. Felly, mae'r pethau hyn yn hafaliadau ariannol cymhleth bob amser ac nid yw hynny'n helpu.

Ond yn gyffredinol, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sefydlu safon briodol i ddechrau, ac edrych wedyn ar y cyfnod amser a'r model ariannu. Felly, rwy'n credu mai'r safon yw'r peth pwysicaf yn hyn o beth, ond mae yna gyllid ar gael i ni. Rydym ni'n gallu cael gafael ar yr hyn a elwid yn flaenorol yn lwfans atgyweiriadau mawr i awdurdodau lleol, a'r hyn a elwir yn waddoli, sef yr arian trosglwyddo gwirfoddol stoc leol a dalwyd pan allanolodd ein hawdurdodau lleol eu stoc tai nhw ddeng mlynedd yn ôl neu fwy erbyn hyn, ac fe gadwyd yr arian yn y cyllidebau ac mae hwnnw ar gael o hyd ar gyfer safon ansawdd tai Cymru. Dyna sut y gwnaethom ariannu'r fersiwn gyntaf hefyd. Felly, mae'r arian hwnnw yno, Mabon, ac rydym ni'n edrych ar ffyrdd ariannu arloesol ar gyfer ymestyn hwnnw cymaint ag y bo modd hefyd.

Ac yna'r peth olaf yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd ynghylch mynediad at fand eang. Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn yn hyn o beth. Nid yw hyn yn ymwneud â'r seilwaith yn unig, er, ar gyfer band eang, mae'n ymwneud â fforddiadwyedd y ddarpariaeth o fand eang. Rydym ni wedi bod yn annog cymdeithasau tai lleol ac awdurdodau lleol i edrych ar drefniadau prynu ar gyfradd fawr neu drefniadau Wi-Fi ac ati. Felly, nid yw yn ymwneud ag adeiladwaith y tŷ yn caniatáu'r band eang yn unig, mae hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd y pecyn band eang sydd ar gael ac ar gyfer beth y mae'n cael ei ddefnyddio ac ati. Felly, rydym yn cadw golwg ar hynny. Mae gennym ni nifer fawr o adeiladau gwyn o hyd ar wasgar yng nghefn gwlad, felly un o'r pethau y gallwn ni ei wneud yw defnyddio ein tai cymdeithasol ni i roi pwyslais ar sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu gwella yn yr ardal honno. Felly, rwy'n cadw golwg ar hynny hefyd, er, unwaith eto, nid yw o reidrwydd yn ymwneud ag adeiladwaith y tŷ, nag yw, mae hyn yn ymwneud â pha mor rhwydd yw hi i gael gafael ar y seilwaith allanol. Felly, rwy'n croesawu eich cyfraniad chi'n fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at y cyflwyniad y byddwch chi'n ei wneud, rwy'n siŵr, wrth ymateb i'r ymgynghoriad.

15:45

Rwy'n siarad fel un a gafodd ei fagu mewn tŷ cyngor. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Mae safon ansawdd tai wreiddiol Cymru wedi gweithio, ac mae wedi gweithio yn dda iawn. Mae wedi gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru, landlordiaid cyngor a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, neu, fel rwyf i'n eu galw nhw fel arfer, cymdeithasau tai. Mae hyn yn mynd yn ôl i 2002, sydd 20 mlynedd yn ôl. A yw'r tai hynny a oedd â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd dros 15 mlynedd yn ôl yn cael eu hadnewyddu neu eu diweddaru erbyn hyn?

Rwyf i o'r farn y dylai gwrthdlodi fod yn ysgogiad i bob un o bolisïau'r Llywodraeth, ac fe hoffwn i weld mwy o drafodaeth gan y Llywodraeth ynghylch sut y mae popeth a wnân nhw yn ymwneud â wrthdlodi. Rwy'n credu mai'r rheswm y daeth y blaid yr wyf i'n perthyn iddi i fodolaeth oedd ar gyfer ymladd yn erbyn tlodi. A yw'r Gweinidog yn derbyn ein bod ni ar hyn o bryd yn creu system ddwy haen ar gyfer tai rhent, tai cymdeithasol a thai rhent preifat? A yw'r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno safon ansawdd tai ar gyfer llety a rentir yn breifat, y mae rhai ohonyn nhw mewn cyflwr llawer gwaeth na thai cyngor a chymdeithasau tai?

Diolch, Mike. Fe wn i eich bod chi'n rhannu fy mrwdfrydedd i dros dai cymdeithasol. Fe gawsom ni ein magu nid nepell oddi wrth ein gilydd, fel mae hi'n digwydd, ac rwyf i bob amser wedi edmygu eich sêl a'ch brwdfrydedd chi dros dai cymdeithasol o ansawdd da iawn. Yn sicr, mae hon yn agenda wrthdlodi; mae hon yn agenda o ran datgarboneiddio hefyd. Mae'r pethau hynny'n mynd law yn llaw, wrth gwrs. Po fwyaf effeithlon o ran ynni y byddwch chi'n gwneud y tŷ, y lleiaf o garbon y mae'n ei allyrru, y lleiaf yw eich bil ynni chi, ac mae'r cylch gwrthdlodi yn gwella o'r herwydd. Felly, rwy'n cytuno â hynny'n llwyr.

O ran y sector rhentu preifat, rydym ni'n gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn helpu yn hynny o beth, ond mae gennym amrywiaeth o gynlluniau hefyd y bwriedir iddyn nhw gymell landlordiaid yn y sector preifat i'n galluogi ni i'w helpu i godi eu tai nhw i'r safon. Fel gwyddoch chi, i landlord sy'n rhoi tŷ drosodd i ni am o leiaf bum mlynedd, fe fyddwn ni'n ei helpu i godi'r tŷ i'r safon, fe fyddwn ni'n gwarantu'r rhent cymdeithasol am y cyfnod hwnnw, fe allwn ni roi gwell sicrwydd deiliadaeth i'r tenant am y cyfnod hwnnw, ac mae'r landlord yn cael y tŷ yn ei ôl mewn cyflwr gwell, mae gwelliant yn y stoc tai—mae honno'n sefyllfa lle mae pawb yn gyfan gwbl ar ei ennill ynddi. Gorau po fwyaf y gallwn ni gyhoeddi'r wybodaeth ynglŷn â hynny yn y sector rhentu preifat, po fwyaf o'r landlordiaid hynny y gallwn eu hannog i ymuno â'r cynllun hwnnw, y gorau fydd y stoc tai.

Yr hyn nad ydym ni'n awyddus i'w gael yw dweud bod yn rhaid i'r sector rhentu preifat godi tŷ i safon EPC E, fel gwnaeth Llywodraeth y DU yn ddiweddar, heb unrhyw grantiau na benthyciadau nac unrhyw beth arall i'w gael, oherwydd rydym ni'n ofni y bydd y landlordiaid hynny'n ymadael â'r sector rhentu preifat ac yn gwerthu'r tai. Yn arbennig, gyda'r tai mawr sy'n pontio'r cenedlaethau a gawn ni mewn etholaethau sydd yng nghanol dinasoedd, fel yn fy etholaeth i ac un Jenny Rathbone, er enghraifft, rydym ni'n gofidio llawer y byddai'r landlordiaid hynny'n gweld hynny'n anghymellol. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cynlluniau cymhelliant i sicrhau bod pobl yn aros yn y sector rhentu preifat, yn cael elw teilwng ar eu cyfalaf, ond mewn gwirionedd yn cael eu gwobrwyo am roi cartrefi gwell i'w tenantiaid.

Rhan o hynny yw agenda'r Ddeddf rhentu cartrefi—rydym ni wrthi yn gweithredu'r Ddeddf honno—a rhan o hynny yw'r cymhelliant a roddwn ni i landlordiaid y sector preifat i sicrhau bod y cartrefi hynny'n cyrraedd y safon. Ac wrth gwrs, drwy ysgogi safon tai cymdeithasol, rydym ni'n amlygu'r gwrthgyferbyniad, onid ydym ni? Rydym ni'n rhoi'r dewis hwnnw i bobl. A thrwy adeiladu mwy o dai cymdeithasol, rydym ni'n rhoi'r dewis hwnnw i bobl hefyd. Cafodd hynny i gyd ei gynllunio i roi pwysau ar landlordiaid PRS a allai fod yn ystyried peidio â chodi'r tŷ i'r safon.

Fe hoffwn i ddiolch i chi, a phob un o'r Gweinidogion blaenorol sydd wedi bod â chyfrifoldeb am dai, a'r rhanddeiliaid eraill i gyd sydd wedi ymwneud â dod â'r SATC i'n holl dai cymdeithasol ni. Nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw waith i'w wneud eto. Mae gen i denantiaid sy'n dal i fyw mewn llety nad yw'n destun dirwyon sy'n ddeifiol oer yn y gaeaf. Rwyf i eisiau achub ar y cyfle a gawsom ni gennych chi yn eich paragraff olaf o ran ystyried sut y byddwn ni'n codi deiliadaethau eraill i'r safonau sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn tai cymdeithasol, oherwydd mae byw mewn band D neu eiddo rhent preifat gwaeth yn golygu diffyg cysur, biliau ynni anfforddiadwy, ac, i lawer, gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta. Yng nghyd-destun argyfwng costau byw'r Torïaid, rydym ni ar y dibyn mewn gwirionedd. Nid wyf i'n credu y gallwn ni edrych i'r hirdymor, ac yn bendant ni allwn ni sefyll yn yr unfan. Mae angen i ni weithredu ar frys nawr. Mae'n rhaid i ni gofio mai yn 2007 y cyflwynodd Gordon Brown y safonau di-garbon ar gyfer pob tŷ newydd, ac fe gafodd y rheini eu diddymu gan George Osborne yn 2015—un o'r mesurau mwyaf trychinebus yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Mae gwir angen i ni wybod pryd y byddwn ni'n cael safonau Rhan L llawer mwy cadarn ar gyfer tai newydd, oherwydd mae ôl-osod yn llawer mwy cymhleth a drud na chywiro trachwant adeiladwyr tai preifat sy'n dymuno adeiladu cartrefi sy'n is na'r safon. Felly, mae hi'n ymddangos i mi—

15:50

—fe geir cyfleoedd yng ngradd sero TAW ar insiwleiddio y dylai landlordiaid preifat gael eu cymell i fanteisio arnyn nhw. Nid wyf i'n chwilio am grantiau; fe hoffwn i weld benthyciadau ar gael i landlordiaid preifat fel eu bod nhw'n gwneud y peth iawn. Yn y pen draw, fe hoffwn i weld gwialenni ar gyfer landlordiaid preifat nad ydyn nhw'n gwneud y peth iawn, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny, tybed?

Rwy'n cytuno, Jenny, yn llwyr â chi. O ran adeiladau newydd, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n cyflwyno newidiadau i reoliadau rhan L yn fuan iawn. Rydym ni eisoes wedi newid yr hyn a elwir y DQL ar gyfer tai cymdeithasol newydd i garbon goddefol neu garbon niwtral, felly unwaith eto, yn cymell y diwydiant i adeiladu yn unol â hynny. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol brynu oddi ar y cynllun ar gyfer adeiladu o'r newydd, gan gymell ein hadeiladwyr i adeiladu eu holl dai i hynny yn y gobaith y byddant yn gallu gwerthu mwy ohonyn nhw oddi ar y cynllun i'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mawr a'r cynghorau. Mae hynny'n digwydd ledled Cymru.

O ran y wialen, fe fydd gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi yn cael effaith fawr iawn ar sicrhau bod landlordiaid yn y sector preifat yn gorfod cynnig cartref sy'n addas i'r diben. Ond rwy'n cytuno â chi ynghylch cymell benthyciadau; rydym ni'n rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud i ganiatáu hynny. Un o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud yw ceisio gwarantu, fel dywedais i, gyda'r cynlluniau prydlesu—. Yn gyntaf i gyd, rydym ni'n ceisio sicrhau bod yr holl landlordiaid yn gwybod am hyn. Rydym ni wedi bod yn defnyddio Rhentu Doeth Cymru ar gyfer cyfathrebiadau. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n gymhelliad mawr sef bod yr incwm hwnnw'n cael ei warantu i chi heb unrhyw dai gwag neu beth bynnag dros gyfnod cyfan yr amser y byddwch chi'n cyflwyno hynny, ac wrth gwrs i'r cartref gael ei godi i'r safon. Rwy'n dymuno i bawb wneud pobl yn ymwybodol o hynny, felly pan fyddwn ni'n dod ar draws tenantiaid yn y tai hynny, rwy'n credu ei bod hi'n werth gofyn iddyn nhw bob amser a yw eu landlord nhw'n ymwybodol o'r cynllun hwn. Fe geir llawer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n ymwybodol o hynny, ac fe gefais i fy synnu, felly, bod cymaint o bobl nad oedden nhw'n ymwybodol o hynny.

O ran gwialenni, rydym ni'n ystyried yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, ynghylch gwella hyn i ryw raddau. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhai safonau ansawdd ar y sector rhentu preifat, ond yn anffodus, mae'r rhain yn tueddu gorfodi EPC E arnoch chi heb unrhyw un o'r cymhellion. Fel dywedais i, rwy'n awyddus iawn i osgoi rhai o ganlyniadau anfwriadol hynny, yn enwedig yng nghanol dinasoedd lle ceir y stoc hynaf, fwyaf o dai. Fe fyddai hi'n anodd iawn i gael rhywbeth yn ei lle nhw'n gyflym, ar gyfer teuluoedd sy'n pontio'r cenedlaethau yn arbennig felly. Mae tai o'r fath yn arbennig o gyffredin yn eich etholaeth chi ac yn fy etholaeth innau.

Ond rwy'n awyddus i gael y sgwrs honno. Fe fyddaf i'n cwrdd â Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl yn fuan; fe fyddwn ni'n parhau â'r sgwrs honno gyda nhw. Ond yn y cyfamser, gosod y safon aur, os mynnwch chi, ar gyfer tai yng Nghymru gyda'r tai cymdeithasol yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi gyda'r datganiad hwn. Fe ddywedwyd wrthym ni na allem ni wneud hynny'r tro cyntaf, ac fe wnaethom ni, felly rwy'n siŵr y byddaf i'n cael gwybod na allaf ei wneud y tro hwn chwaith, ac rwy'n eithaf sicr y byddwn ni'n gallu ei wneud unwaith eto. Rebecca Evans oedd fy rhagflaenydd i yn y swydd, mewn gwirionedd, ac fe wn iddi hi gynnal sgyrsiau hir iawn am ein hanallu ni i wneud fel hyn, ac fe wnaethom ni beth bynnag. Felly, dyna'r sefyllfa, ond rwy'n fodlon cael sgyrsiau unigol gyda chi hefyd, Jenny, ynglŷn â materion etholaethol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad. Yn ddiweddar, fe fuom ni'n trafod y sgiliau y bydd eu hangen yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Fe ddywedodd Mark Bodger o Fwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru y bydden nhw'n fwy na pharod i ddod i'r adwy yn hynny o beth. Ac wrth gwrs, mae cynllun sgiliau Sero Net Cymru ar y gweill gennym ni, ac rwy'n deall y bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi rywbryd yn ystod yr hydref eleni. Un o'r meini prawf yn y cynllun hwnnw yw atal yr anghydraddoldebau presennol yn y farchnad lafur rhag cael eu trosglwyddo i'r economïau sero net a digidol newydd. Felly, rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi, Gweinidog, fod yna gyfle enfawr yn y fan hon, a hefyd, yn fy marn i, fe geir rhwymedigaeth hefyd, i ddefnyddio safon ansawdd tai newydd Cymru i annog a chefnogi mwy o fenywod ac aelodau o leiafrifoedd ethnig i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu. Os edrychwn ni ar safleoedd, rydym ni'n sôn am gyfradd o 2 neu 3 y cant yn unig o fenywod, a dim ond ychydig dros 14 y cant os edrychwn ni ar y swyddi ar yr ochr dechnegol. Felly, dyma farchnad enfawr heb ei defnyddio gyda'r prinder sydd yn y farchnad lafur honno ar hyn o bryd. A wnewch chi, Gweinidog, gyda'ch cyd-Aelodau chi, ystyried sut i ddefnyddio safon ansawdd tai Cymru i droi'r niferoedd hynny'n rhywbeth sy'n gadarnhaol? 

15:55

Diolch yn fawr iawn i chi, Joyce. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgyrchydd ynglŷn â'r mater hwn ers i mi ddod i'ch adnabod chi, felly mae hi'n braf eich gweld chi'n dod i fatio, neu beth bynnag yw'r gyffelybiaeth o fyd chwaraeon am hynny. Ie, yn hollol; un o'r pethau yr oeddem ni'n gallu ei wneud gydag ymgyrch gyntaf safon ansawdd tai Cymru oedd gorhyfforddi nifer y prentisiaid sy'n angenrheidiol i sicrhau eu bod nhw ar gael i'r sector preifat ar gyfer ôl-osod o'r fath. Fe fyddwn ni'n gallu gwneud hynny'r tro hwn hefyd, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol, sef deall sut beth yw'r dechnoleg i ôl-osod, a sicrhau wedi bod y ddeialog â CITB ac eraill, ein colegau AB ac ati, yn hollbwysig ac yn gwbl ganolog yn y rhaglen honno, fel eu bod nhw'n newid eu rhaglenni hyfforddiant prentisiaid wrth i ni newid y dechnoleg. Nid oes diben hyfforddi fflyd o beirianwyr atgyweirio nwy os yr hyn yr ydym ni'n ei fynegi yw, 'Nid boeler nwy sydd ei eisiau arnoch chi'. Felly, yn amlwg, mae yna fater o ran ailhyfforddi gweithwyr presennol, ac fe geir newydd-ddyfodiaid i'r farchnad.

Y peth olaf i'w ddweud yw y bydd llawer o'r ôl-osod hwn, rydym ni'n gobeithio, yn cael ei wneud gydag ynni adnewyddadwy—pren o Gymru ar gyfer paneli inswleiddio ac ati. Fe wneir llawer o hynny yn ein ffatrïoedd ni sy'n cynhyrchu pethau newydd a chyfoes o ran deunyddiau adeiladu. Fe gefais i fy syfrdanu, wrth fynd o gwmpas y ffatrïoedd hyn, gan weithlu sy'n llawer mwy amrywiol, oherwydd nid yw hyn yn digwydd ar uchelderau, nac allan ym mhob tywydd, ond y tu mewn i ffatri. Felly, rydych chi'n gweld llawer mwy o bobl ag anableddau a llawer mwy o fenywod yn y lleoliadau hynny nag y byddech chi ar safle adeiladu arferol y tu allan ym mhob tywydd. Rwy'n gobeithio mai dyna fydd y sbardun, os hoffech chi, i gael y bobl hynny'n ôl i'r proffesiwn.

Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw ein bod ni, wrth gwrs, yn gwthio'r pwynt i raddau helaeth iawn, y gwnaethoch chi droeon, nad ymwneud ag adeiladwyr yn unig y mae hyn. Fe geir cyfleoedd i weithio yn y sector adeiladu ym mhob dull a modd—yr aseswyr, y syrfewyr meintiau, y penseiri, rheolwyr y prosiect ac ati. Fe hoffem ni weld llawer mwy o amrywiaeth ym mhob un o'r haenau hynny yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal ag o ran crefftau. Diolch.

Diolch i chi, Gweinidog. Ar ran yr Aelodau i gyd, rwy'n siŵr y byddem ni'n hoffi eich croesawu chi'n ôl i'r Siambr a chydymdeimlo â chi yn yr anawsterau a welsoch chi yn ystod yr wythnosau diweddar.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol

Symudwn ymlaen i eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar etholiadau llywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch. Ar ran Llywodraeth Cymru, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod â rhan yng ngweithrediad didrafferth etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru'r wythnos diwethaf, a phob unigolyn a safodd i gynrychioli ei gymuned. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr etholiadau hefyd a sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen yn ein perthynas ni â'r awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf.

Y rhain oedd yr etholiadau llywodraeth leol cyntaf ers i ni ymestyn y fasnachfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a rhai cymwys o wledydd tramor, gan roi cyfle iddyn nhw fod â rhan mewn democratiaeth a bywyd dinesig yng Nghymru. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein huchelgais ni ar gyfer etholiadau sy'n fwy hygyrch. Fe wnaethom ni gefnogi cynlluniau treialu hefyd ar gyfer pleidleisio hyblyg yn etholiadau'r wythnos diwethaf, a gynhaliwyd mewn pedwar awdurdod lleol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pedwar awdurdod a ddaeth i'r adwy a chytuno i weithio gyda ni ar y cynlluniau treialu hyn: Blaenau Gwent, Caerffili, Tor-faen a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn wedi bod yn bod yn batrwm o gynhyrchu gyda'n gilydd. Er mai'r awdurdodau oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r cynlluniau treialu, fe'u cefnogwyd nhw gan y gymuned etholiadol gyfan wrth gynllunio'r modelau treialu a chynllunio ar gyfer cyflawni. Fe geir arwyddion cynnar sy'n awgrymu bod y rhain wedi gweithio yn dda, ac rydym ni'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf. Fe fydd hwnnw'n helpu ni i nodi'r mannau lle gallwn ni leihau mwy o'r rhwystrau rhag cymryd rhan mewn etholiadau. Mae lleihau'r oedran ar gyfer pleidleisio ac ymestyn yr etholfraint i bawb sy'n byw yng Nghymru yn datgan yn eglur ein bod ni'n Llywodraeth sy'n cefnogi ac yn annog amrywiaeth yn ein democratiaeth leol. Mae amrywiaeth ymhlith ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i sicrhau bod barn ac anghenion pawb yn cael eu lleisio, ac yn cyfoethogi penderfyniadau lleol.

Roedd cynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol yn un o themâu craidd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Fe fydd darpariaethau gan gynnwys rhannu swyddi ar gyfer aelodau gweithredol a chynorthwywyr yn dod i rym ar gyfer y gweinyddiaethau llywodraeth leol newydd. Rydym ni eisoes wedi gweithredu'r ddarpariaeth barhaol yn Neddf 2021 sy'n galluogi prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned i gyfarfod o bell, sy'n cefnogi aelodau sydd mewn cyflogaeth amser llawn, sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sy'n ei chael hi'n anodd teithio. Ac mae'r darpariaethau hyn wedi cael eu defnyddio a'u croesawu yn eang.

Am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol yng Nghymru, fe wnaethom ni agor mynediad at gronfa sefyll mewn etholiad i gefnogi ymgeiswyr anabl. Rwy'n falch iawn o ddweud bod tua 20 o ymgeiswyr wedi cael cymorth drwy'r gronfa hon. Rydym ni'n archwilio erbyn hyn sut y gallwn ymestyn y gronfa i gefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Rydym ni wedi cymryd camau hefyd i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr ac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn wedi cael croeso eang ar gyfer sicrhau bod ymgeiswyr, aelodau a'u teuluoedd yn cael rhywfaint o amddiffyniad rhag y cam-drin ofnadwy sydd, yn anffodus, yn llawer rhy gyffredin.

Rydym ni wedi gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd a manteision bod yn gynghorydd lleol ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda nhw. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi a rhoi gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr. Dyma enghraifft arall o'r ffordd yr ydym ni wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac mae hyn yn tystiolaethu i'r berthynas waith gref a chadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Yn ystod pandemig COVID-19, ac yn fwy diweddar fel cenedl noddfa wrth ymateb i'r digwyddiadau ofnadwy yn Wcráin, rydym ni wedi gweld pwysigrwydd y berthynas honno ar waith, a chadernid drwy ddatblygu atebion ar y cyd.

Rwyf i wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y berthynas hon, a pharhau i weithio gyda'n gilydd i wynebu heriau'r dyfodol er mwyn pobl Cymru. Yn tystio i'r bartneriaeth hon, mae'r cynghorau sydd newydd eu hethol yma'n troi at eu dyletswyddau newydd gyda chefnogaeth oddi wrth y setliad llywodraeth leol mwyaf grymus a fu ers blynyddoedd lawer. Gan ein bod ni wedi dewis blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yng nghyllideb Cymru, fe ddarparwyd £5.1 biliwn i awdurdodau lleol eleni mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i ddarparu gwasanaethau allweddol—cynnydd o 9.4 y cant. Rydym ni hefyd yn darparu dros £1 biliwn mewn grantiau refeniw penodol a bron i £0.75 biliwn o bunnau mewn cyllid cyfalaf penodol.

Fe wn i fod risgiau ac effeithiau chwyddiant ac economi sy'n arafu yn golygu bod yr heriau yn parhau i'n cynghorau ni, ond fe allan nhw ymateb i'r heriau hynny gyda sylfaen ariannol sy'n fwy cadarn, a mwy o sicrwydd o gyllideb tair blynedd ddangosol, a chefnogaeth Llywodraeth sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yn benodol. Rwy'n edrych ymlaen at siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol CLlLC ar 24 Mehefin a chynhadledd CLlLC ym mis Medi i drafod ein blaenoriaethau ar y cyd ni ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon. Diolch.

16:00

A gaf i ymddiheuro am fod ychydig funudau yn hwyr yn cyrraedd? Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod trefn agenda'r prynhawn yma wedi cael ei newid. Ymddiheuriadau, Gweinidog.

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, hefyd, am gyflwyno datganiad adeiladol heddiw ynglŷn â'r etholiadau llywodraeth leol, a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf? Fe hoffwn innau ymuno â chi i ddiolch i bawb a fu â rhan yng ngweithrediad rhwydd etholiadau'r wythnos diwethaf, o'r swyddogion hynny a fu'n monitro hynny i'r rhai hynny a fu'n cyfrif yn y gorsafoedd cyfrif. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr heddiw wedi bod yn bresennol yn y cyfrifiadau hynny'r wythnos diwethaf ac fe gefais i argraff dda ar y broses etholiadol yn gyffredinol, gan weld gwaith ac ymroddiad eithriadol pawb a fu'n gwneud y broses yn llwyddiant mor fawr. Fe hoffwn i ymuno â'r gweinidog i ddiolch i bob un hefyd a fu'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y rhai, wrth gwrs, a fu'n ddigon ffodus i gael mandad i gynrychioli cymunedau lleol, a hefyd, y rhai a safodd ond heb fod yn llwyddiannus, yn anffodus. Mae hi'n bwysig iawn bod amrywiaeth o bobl gennym ni'n sefyll mewn etholiad er mwyn cael democratiaeth sy'n weithredol, ac, wrth gwrs, ymgeiswyr yn ddigon dewr i leisio barn, rhywbeth nad yw'n hawdd ei wneud bob amser.

Fel gwnaethoch chi amlinellu yn eich datganiad chi, Gweinidog, yn etholiad yr wythnos diwethaf, fe welsom ni gynlluniau treialu ar gyfer pleidlais hyblyg yn digwydd mewn pedair ardal awdurdod, ac, fel yr ydych chi'n dweud, fe geir argoel fod hynny wedi gweithio yn dda. Eto i gyd, ar gyfer etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy'n deall mai dim ond tua 180 o bobl a fanteisiodd ar yr etholiadau cynnar hynny mewn 68 o wardiau. Os yw hynny'n gywir, fe fyddai'n dangos mai dim ond tri o bobl fesul ward a fanteisiodd ar hyn. I ddechrau, yn fy marn i, nid yw hi'n ymddangos bod hynny'n cynnig gwerth da am arian o ran y buddsoddiad angenrheidiol i'w weithredu. Ac fel yr ydych chi'n dweud, rydych chi'n edrych ymlaen at werthusiad annibynnol y Comisiwn Etholiadol yn ystod y misoedd nesaf yn hyn o beth, ond tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o ddealltwriaeth i ni heddiw ynglŷn â sut yr aeth y cynlluniau treialu hyn ac a ydych chi'n rhagweld y gellir eu defnyddio nhw mewn etholiadau i'r cynghorau yn y dyfodol.

Yn ail, Gweinidog, yn eich datganiad chi roeddech chi'n sôn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau nad oes rhaid i gyfeiriadau ymgeiswyr nac aelodau etholedig fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu o ran diogelu'r ymgeiswyr a'r cynghorwyr, ac mae hwn yn faes y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr yn flaenorol. Yn ogystal â hynny, rwy'n croesawu eich gwaith parhaus chi gyda CLlLC i hyrwyddo urddas a manteision bod yn gynghorydd lleol. Serch hynny, fe welsom ni 74 o seddi heb ymgeiswyr yn etholiadau'r wythnos diwethaf, sy'n dangos bod pobl yn poeni o hyd am gyflwyno eu hunain i'w hethol oherwydd weithiau, a dweud y gwir, mae gwawdio a bwlio yn wynebu ymgeiswyr mewn etholiadau. Felly, tybed pa gamau penodol yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd i leihau gwawdio a bwlio fel hyn a sut ydych chi am weithio gyda'r ombwdsmon i sicrhau bod eu pwerau nhw'n ddigonol i fynd i'r afael â'r mater hwn hefyd.

Ac yn olaf, Gweinidog, rhywbeth na wnaethoch chi ei godi yn eich datganiad chi heddiw yw'r niferoedd a fu'n pleidleisio yn etholiadau'r wythnos diwethaf. Fel y gwyddom ni, mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn dal i fod yn isel iawn mewn etholiadau cyngor. Fe ellid priodoli rhywfaint o hynny i bobl nad ydyn nhw'n deall, efallai, holl swyddogaethau cynghorau a chynghorwyr yn narpariaeth ein gwasanaethau hanfodol ni. Felly, pa asesiad a wnaethoch chi o'r niferoedd a bleidleisiodd yn yr etholiadau a pha gamau yr ydych chi o'r farn y gellir eu cymryd i ganiatáu i fwy o'n dinasyddion ni yng Nghymru fod â rhan yn yr etholiadau pwysig iawn hyn yn y dyfodol? Diolch yn fawr iawn.

16:05

Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad y prynhawn yma, ac, yn amlwg, rwy'n ategu ei sylwadau am y gwaith anhygoel a welsom ni i gyd, rwy'n credu, yn y cyfrifiadau yr aethom ni iddyn nhw, ac mae'r gofal y mae'r bobl sy'n ymwneud â'r cyfrifiadau hynny'n ei roi i'r dasg dan sylw yn brawf gwirioneddol o bwysigrwydd democratiaeth leol. Ac eto dim ond i ddweud 'diolch' i bawb a safodd. Fel y mae Sam Rowlands yn dweud, mae'n beth hynod ddewr i'w wneud, yn enwedig yn yr hinsawdd ar hyn o bryd o ran y gwawd y mae llawer o bobl yn ei wynebu pan fyddan nhw'n ddigon dewr i gynnig eu hunain i gynrychioli eu cymunedau, ond mae hi'n hynod siomedig os ydych chi'n aflwyddiannus. Felly, 'diolch' enfawr i bawb a roddodd ddewis i bobl yn y cymunedau o leiaf, sy'n bwysig yn fy marn i, ac mae hynny'n ategu'r pwynt pwysig hwnnw ynglŷn â seddau lle ceir dim ond un ymgeisydd.

Gwyddom fod ymchwil Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn dweud bod 74 sedd â dim ond un ymgeisydd y tro hwn; mae hynny'n 6 y cant. Mae'n ostyngiad bach ar y 92 sedd neu 7.3 y cant yn etholiadau 2017, ond mae'n dal i fod yn rhy uchel, rwy'n credu. Mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle hwnnw i weld democratiaeth yn fyw yn eu cymunedau a chael dewis o ymgeiswyr. Felly, rwy'n credu bod gwaith i ni ei wneud i barhau i ennyn brwdfrydedd pobl ynghylch potensial swydd cynghorydd, oherwydd bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gydag Un Llais Cymru, mewn gwirionedd, o ran cynghorau tref a chymuned, yn bwysig.

O ran y nifer sy'n pleidleisio, mae'n amlwg bod y nifer sy'n pleidleisio bob amser yn llai nag y byddech chi eisiau iddo fod; byddech chi eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i bleidleisio yn yr etholiadau hyn, oherwydd rwy'n credu bod pobl, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn enwedig, wedi gweld gwir werth llywodraeth leol a'r hyn y gall llywodraeth leol ei gyflawni ar eu cyfer yn eu cymunedau. Felly, rwy'n credu y bydd y nifer sy'n pleidleisio bob amser yno fel her i ni fel gwleidyddion, ond hefyd i'n pleidiau gwleidyddol hefyd, i weld beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i ysgogi democratiaeth yn lleol ac i ennyn brwdfrydedd pobl i gymryd rhan yn hynny.

O ran y cynlluniau treialu, rwy'n credu ei bod yn rhy gynnar i roi blas gwirioneddol ar y cynlluniau treialu heddiw, oherwydd mae'n gynnar iawn, ond mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Comisiwn Etholiadol werthuso'r cynlluniau treialu hynny, a byddan nhw'n cyhoeddi eu hadroddiad o fewn tri mis i'r etholiad. Yr arwyddion cynnar yw bod y cyfan wedi bod yn llwyddiannus heb unrhyw faterion gweithredol, ond nid ydym yn gwybod eto beth yw'r ffigurau ar gyfer pobl a bleidleisiodd yn y cynlluniau treialu. Ym Mlaenau Gwent defnyddiwyd parth dysgu Glynebwy a leolir yn ganolog fel gorsaf bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir, ac roedd hynny'n cynnwys myfyrwyr y coleg, yn ystod yr wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd y gorsafoedd pleidleisio mewn rhai wardiau â nifer isel yn pleidleisio ar agor ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw yn ystod yr wythnos cyn y diwrnod pleidleisio, a chrëwyd canolfan bleidleisio ymlaen llaw newydd mewn ysgol ar gyfer myfyrwyr a oedd wedi'u cofrestru yn yr ysgol honno. Ac yna yng Nghaerffili, sef yr enghraifft y cyfeiriwyd ati, defnyddiwyd swyddfeydd y cyngor yn Ystrad Mynach fel canolfan bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir ar y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio. Ac yna yn Nhorfaen defnyddiwyd swyddfeydd y cyngor ym Mhont-y-pŵl fel canolfan bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl drigolion y sir ar y penwythnos cyn y diwrnod pleidleisio hefyd. Felly, ar draws y pedwar cynllun treialu hynny roedd rhai pethau gwahanol a brofwyd, ac rwy'n credu y bydd yn ddiddorol cymharu canlyniadau'r cynlluniau treialu hynny.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dysgu o'r cynlluniau treialu hynny—a wnaethon nhw ennyn brwdfrydedd pobl i ddod na fydden nhw fel arfer yn pleidleisio? A oedd yn gwneud pleidleisio'n haws, neu a oedd yn gwneud pleidleisio'n fwy cyfleus i bobl a oedd eisoes yn bwriadu dod i bleidleisio? Felly, bydd hynny'n brawf diddorol o'r cynlluniau treialu hynny. Cynhaliodd y Comisiwn Etholiadol arolygon o bobl wrth iddyn nhw adael y gorsafoedd treialu hynny, felly dylem ni fod â darlun eithaf manwl o bwy a ddaeth i'r gorsafoedd hynny, a pham a beth yr oedden nhw'n ei deimlo am y profiad, a fydd yn ein helpu i ddatblygu polisi ar gyfer etholiadau eraill. 

16:10

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae canlyniadau wythnos diwethaf yn fy marn i yn tanlinellu unwaith eto fod y gyfundrefn cyntaf i'r felin o safbwynt pleidleisio ddim yn gweithio. Dŷn ni wedi gweld enghraifft yng Nghaerdydd fan hyn o Blaid Cymru'n cael 17 y cant o'r bleidlais ac yn ennill dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 13 y cant o'r bleidlais ac yn ennill 10 sedd. Nawr, dwi ddim yn gwneud pwynt pleidiol wleidyddol fan hyn, achos dwi'n gwybod mi fyddai yna rannau eraill o Gymru lle byddai fy mhlaid i ar ei cholled petaem ni yn mabwysiadu system fwy cyfrannol, ond a fyddech chi, Gweinidog, yn cytuno â fi ei bod hi nawr yn amser inni symud unwaith ac am byth o'r gyfundrefn cyntaf i'r felin, fel rŷn ni, gobeithio, yn mynd i weld fan hyn fel Senedd? Dwi'n gwybod bod yna fodd i awdurdodau lleol fabwysiadau modelau mwy cyfrannol, ond pan fo un blaid yn ennill dwy ran o dair o seddi yng nghyngor y brifddinas lle rŷn ni heddiw, does yna ddim cymhelliad yn fanna i newid y gyfundrefn, oes e? Felly, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn mynd i'w wneud i fod yn fwy rhagweithiol i wneud i'r newid yma ddigwydd, yn hytrach na jest gadael i'r awdurdodau lleol ddewis a dethol ac efallai yn y diwedd bydd rhai yn, rhai ddim a bydd hynny'n waeth nag unrhyw beth. Felly, byddwn i'n licio clywed eich ymateb chi i hynny.

Dwi'n meddwl mai stori fawr yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf yw'r creisis sydd wedi amlygu ei hun o safbwynt cynghorau bro a thref yng Nghymru. Mae'r niferoedd isel eithriadol o bobl oedd wedi eu rhoi eu hunain ymlaen, yn sicr yn yr ardal dwi'n byw ynddi ac yn ei hadnabod orau, wedi fy mrawychu i, a dweud y gwir, a chyn lleied o gynghorau bro a thref oedd ag unrhyw fath o etholiadau. Wrth gwrs, beth rŷn ni'n gweld yw niferoedd llai a llai, felly, yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad a bod y rheini wedyn yn gallu cyfethol mwy a mwy o bobl sy'n dwysau y deficit democrataidd rŷn ni eisiau mynd i'r afael ag e. Dwi ddim yn gwybod a oes bwriad gyda chi fel Llywodraeth i edrych yn benodol ar hyn. Yn amlwg, mae angen edrych ar a dadansoddi rhai o'r ffigurau, ond dwi hefyd eisiau deall beth yw'r rhesymau pam fod cyn lleied o bobl nawr eisiau rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer y ffas lo agosaf sydd gennym ni i'n cymunedau, y lefel bwysicaf, gallech chi ddadlau, mewn sawl ffordd yn hynny o beth.

A hefyd, wrth gwrs, rŷch chi fel Llywodraeth wedi creu statws ar gyfer cynghorau cymuned cymwys—eligible community councils—lle mae gofyn bod dwy ran o dair o'r cyngor wedi cael ei hethol i fod yn gymwys. Felly, ble mae hwnna'n gadael y cynghorau hynny lle does dim digon o bobl wedi rhoi eu hunain ymlaen, a beth ŷch chi'n meddwl yw'r oblygiadau iddyn nhw yn hynny o beth?

Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod dim rhaid cyhoeddi cyfeiriadau ymgeisyddion, ond mae yna broblem, dwi'n meddwl, yn mynd i godi yn sgil hynny nawr, oherwydd mae rhai ymgeisyddion yn cyhoeddi a rhai ddim. I'r rhai sydd ddim, dwi'n ofni—beth roeddwn i'n ei glywed nôl gan etholwyr oedd, 'O, maen nhw'n trio cuddio'r ffaith eu bod nhw ddim yn byw yn lleol.' Dwi'n ofni bod y rhai oedd â rhesymau cwbl ddilys dros beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad yn cael eu pardduo gan y dybiaeth annheg yna. Felly dwi ddim wedi meddwl yn ddigonol am hyn, ond efallai fod angen inni sicrhau bod neb yn cyhoeddi cyfeiriadau, rhag ofn bod rhai pobl yn cael eu pardduo oherwydd, efallai, fod rhai yn cuddio yn fwriadol am resymau etholiadol yn hytrach na rhesymau personol dilys.

Yn olaf, dwi'n falch, wrth gwrs, fod y Llywodraeth yn treialu dulliau gwahanol o safbwynt pleidleisio, a byddwn i eisiau gwneud mwy o hynny yn sicr, ond mae tyrnowt yn dal i ddisgyn mewn ardaloedd yn fwy na fydden ni'n dymuno. Mae e yn profi i fi, y ffaith bod y tyrnowt yn dal i ddisgyn, fod angen mynd llawer ymhellach na'r hyn rŷn ni wedi ei weld, a dwi'n siŵr bod bwriad gan y Llywodraeth i wneud hynny gydag amser, ond onid yw'r amser nawr wedi dod inni symud yn wirioneddol tuag at bleidleisio electronig? Mi oedd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf. Roeddwn i'n siarad â nifer fawr ohonyn nhw wrth ymgyrchu, a, bron yn ddieithriad, y cwestiwn a oedd yn cael ei ofyn i fi oedd, 'Ydyn ni'n gallu gwneud hynny'n electronig?', 'Oes yna ap ar gyfer gwneud hynny?', a bob tro, roeddwn i'n gorfod dweud, 'Na. Rŷch chi'n gorfod ffeindio ffordd o fynd i'r blwch pleidleisio er mwyn taro'ch pleidlais ar bapur, gyda phensil.' Wel, chi'n gwybod, roedd yr edrychiad roeddwn i'n ei gael yn ôl cystal â dweud, 'Wel, ym mha oes ydyn ni'n byw?' Felly, beth yw bwriad y Llywodraeth nawr? Ydych chi o ddifrif ynglŷn â symud i'r cyfeiriad yma neu beidio? Gallaf i wneud fy nhrethi gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae yna gwestiynau diogelwch, wrth gwrs, ond, os gallaf i wneud pethau fel yna, dyw e ddim y tu hwnt i allu unrhyw un i symud i'r cyfeiriad yna, ac mae'r amser wedi dod i ni wneud hynny nawr.

16:15

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau hynny. O ran y dull o ethol a phleidleisio, rwy'n credu bod heddiw'n ddiwrnod pwysig o ran dyfodol y Senedd a'r ffordd y byddwn ni'n ethol Aelodau'r Senedd yn y dyfodol, o ystyried y cytundeb y mae ein dwy blaid wedi dod iddo a'r gwaith a fydd yn awr yn wynebu'r Senedd hon o ran craffu ar Fil maes o law, pan ddaw hwnnw gerbron.

Ond rwy'n gwybod mai prif bwynt Llyr Gruffydd oedd effaith y system cyntaf i'r felin ar lywodraeth leol a beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud i newid ddigwydd o ran symud i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn awdurdodau lleol, oherwydd, fel y gŵyr cyd-Aelodau, roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi'r darpariaethau hynny i ganiatáu i'r prif gynghorau hynny ddewis eu system bleidleisio rhwng y system cyntaf i'r felin a'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Mae'r darpariaethau hynny bellach mewn grym, ond rwy'n credu mai dyma'r pwynt yma, mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai mater i awdurdodau lleol yw dewis gwneud y newid hwnnw. Felly, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud i'r newid ddigwydd, ond rwy'n credu bod swyddogaeth i sicrhau bod gan y cynghorwyr hynny a fydd yn awr o bosibl yn mynd i'r afael â'r cwestiwn hwn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am hynny, a chefais drafodaeth ddiddorol gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar yr union bwynt hwnnw. Felly, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru, os oes ganddi swyddogaeth y tu hwnt i osod y ddeddfwriaeth neu gyflwyno'r ddeddfwriaeth y mae'r Senedd wedi'i phasio, ei bod yn fwy o ran darparu gwybodaeth er mwyn i gynghorwyr allu gwneud y dewis iawn ar gyfer eu hardal leol. Rwy'n gwybod nad dyna'r ymateb y byddai Llyr Gruffydd eisiau ei glywed, ond byddwn yn rhoi ateb pendant i hwnnw.

Ac yna, o ran cynghorwyr tref a chymuned, ydy, mae hwn yn faes y mae'n parhau i fod yn siomedig nad oes gennym ni restr lawn o ymgeiswyr yn cyflwyno ei hunain ym mhob ardal, ac mae hyn i gyd yn rhan o'r gwaith sy'n gysylltiedig â dangos pwysigrwydd bod yn gynghorydd, o ran prif gynghorau ond hefyd cynghorau tref a chymuned, a'r effaith anhygoel y gallwch chi ei chael, mewn gwirionedd, pan fydd gennych gyngor tref a chymuned gwirioneddol dda yn eich ardal. Felly, mae angen i ni wneud mwy o waith i ddeall yr hyn sy'n atal pobl rhag cyflwyno eu hunain. Deallwn fod pobl yn pryderu am eu hymrwymiadau eraill, yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â bod yn gynghorydd tref a chymuned. Felly, mae llawer, rwy'n credu, y mae angen i ni barhau i'w archwilio yn y fan yna a byddaf yn gwneud hynny gydag Un Llais Cymru wrth i ni barhau i geisio gwella iechyd ein cynghorau tref a chymuned ledled Cymru, gan edrych at y rhai gorau hynny, mewn gwirionedd, am ysbrydoliaeth o ran sut y gallwn sicrhau bod pob cyngor tref a chymuned yn cyrraedd y lefel honno o uchelgais y mae rhai ohonyn nhw yn bendant yn ei dangos.

Ac yna, o ran y pwynt am gyfeiriadau ymgeiswyr, rwy'n credu ei bod yn debyg bod sgyrsiau pellach i'w cael o ran a ydym ni'n rhoi'r opsiwn hwnnw o gwbl ai peidio, oherwydd mae'r pwynt hwnnw a wnaeth Llyr Gruffydd yn un pwysig o ran beirniadu rhai ymgeiswyr am beidio â byw'n lleol. Mae'n haws i ni fel Aelodau o'r Senedd, oherwydd gallwn ni ddweud bod gennym gyfeiriad yn etholaeth Gŵyr, neu beth bynnag fo'r etholaeth, ond nid wyf i'n credu bod gan ymgeiswyr y dewis o roi'r ateb bod ganddyn nhw gyfeiriad yn y ward. Rwy'n gwybod eu bod wedi gallu nodi eu bod o fewn ardal y cyngor sir. Felly, mae rhywbeth, rwy'n credu, y gallwn ni edrych arno yn y fan yna, o bosibl, i wneud gwelliannau yn y dyfodol.

Ac yna, unwaith eto, llawer i'w ddysgu ar y cynlluniau treialu. Rwy'n credu, fel y dywedais, ei bod yn ymddangos bod pethau wedi mynd yn ddidrafferth, sy'n dda, ac edrychwn ymlaen yn fawr at yr ymchwil hwnnw gan y Comisiwn Etholiadol a fydd yn cael ei gyhoeddi ac bydd cyfleoedd, rwy'n siŵr, i ni drafod hynny fel Senedd.

Ac yna, o ran pleidleisio electronig, yn sicr, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n cymryd diddordeb arbennig ynddo. Rwy'n credu bod pob Llywodraeth ledled y byd yn edrych i weld sut y gallwn ni symud at bleidleisio electronig. Cefais yr un sgyrsiau ag a wnaeth Llyr Gruffydd, rwy'n siŵr, o ran gallu ymgymryd â chymaint o rannau eraill o'n bywydau mewn ffordd rithwir, ond yna mae pleidleisio ei hun, er ein bod yn ceisio ei wneud mor hawdd â phosibl gyda'r cynlluniau treialu, gyda phleidleisio drwy'r post ac yn y blaen, yn dal i fod yn weithgaredd traddodiadol i raddau helaeth. Felly mae llawer i'w wneud yn bendant o ran diweddaru a moderneiddio yn y maes hwnnw.

16:20

Rwy'n falch o ddweud bod Llafur wedi ennill mwy na'r holl bleidiau eraill gyda'i gilydd yn Lloegr, ond mae'r gwir lwyddiant i Lafur yma yng Nghymru, lle mae'r Prif Weinidog yn rhedeg Llywodraeth boblogaidd a blaengar, ac roedd bron i hanner yr holl enillion Llafur ar draws y DU gyfan yma yng Nghymru, sy'n wych. Hoffwn longyfarch pob cynghorydd newydd a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r swyddogaeth bwysig gymaint ag y gwnes i dros y 14 mlynedd diwethaf.

Roedd yr atodiad eleni gan Lywodraeth Cymru i gynghorau yn un da. Fodd bynnag, ni fydd y ddwy flynedd nesaf mor uchel, ac rwy'n gweld y bydd cyllid cyfalaf yn lleihau gan Lywodraeth y DU dros y tair blynedd nesaf, ar ben y diffyg cyllid Ewropeaidd. Gyda chynghorau'n cael eu torri i'r asgwrn o dan 10 mlynedd o gyni y Torïaid, a phwysau cynyddol ar wasanaethau, clywais y bore yma ddadl ar BBC Radio Wales yn dilyn adroddiad gan Sustrans am fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus a chostau byw cynyddol fel pryder gwirioneddol. A ydych chi'n credu ei bod yn ddoeth i gynghorau ddefnyddio'r setliad da hwn tuag at fuddsoddi yn y ddwy flynedd nesaf, a pharhau i weithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Carolyn Thomas am y sylwadau hynny ac rwy'n ymuno â hi, unwaith eto, i longyfarch yr holl gynghorwyr sydd wedi'u hethol. Gwn fod gan Carolyn bersbectif penodol, ar ôl gwasanaethu ei hun, felly bydd yn gyfarwydd iawn â'r fraint o fod yn aelod, ond ychydig yn drist, mae'n debyg, o weld y rhan honno o'i bywyd wedi mynd, oherwydd, pan fyddaf yn siarad â chynghorwyr sydd wedi bod yn sefyll i lawr yn yr etholiad hwn, a'r rhai, yn anffodus, na chafodd eu hailethol, maen nhw'n sôn am eu profiad o fod yn gynghorydd gyda llawer o gynhesrwydd, am ei bod yn gymaint o fraint cael y cyfle hwnnw i gynrychioli'r bobl yr ydych yn byw wrth eu hymyl. Credaf fod hynny'n beth gwych i'w wneud, ac mae'n hyfryd cael y cyfle hwn i dynnu sylw at hynny yn y Siambr y prynhawn yma.

Mae'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu setliad cyllideb da i lywodraeth leol yn y cylch cyllideb diweddaraf. Roedd hynny'n cael ei gydnabod yn fawr iawn, rwy'n credu, gan lywodraeth leol eu hunain. Gwn yn awr eu bod yn canolbwyntio'n fawr ar ddefnyddio'r setliad hwnnw i wneud y newid mwyaf posibl yn eu cymunedau, gan weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru, fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y cyfnod yr ydym wedi pasio drwodd yn ddiweddar. Rwy'n awyddus iawn yn awr i ddefnyddio'r cyfnod hwn sydd o'n blaenau i feithrin perthynas ag arweinwyr newydd a hefyd i feithrin perthynas â chynghorwyr newydd, aelodau cabinet newydd ac yn y blaen wrth i ni symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu, drwy weithio gyda'n gilydd, yn amlwg, y gallwn ni gyflawni cymaint yn fwy. Cyfeiriodd Carolyn Thomas at gostau byw, ac yn amlwg rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddaf yn gweithio'n agos iawn arno gyda llywodraeth leol, ochr yn ochr â'r heriau mawr eraill sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd, fel yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, a'r mater pwysig iawn hwnnw o ran cynorthwyo pobl sy'n dod o Wcráin i Gymru i gael noddfa.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Croesawaf datganiad y Gweinidog. Rwy'n llongyfarch yr holl gynghorwyr a etholwyd yn yr etholiad, pa blaid bynnag. Gwn y bydd pob un ohonyn nhw'n gwneud eu gorau dros eu hetholwyr dros y pum mlynedd nesaf. Credaf hefyd fod nifer o Aelodau yma'n falch na fydd yn rhaid iddyn nhw barhau i ddatgan buddiant bob tro y bydd eitem yn codi ynghylch llywodraeth leol.

Rwy'n siŵr, pan welwn ni faint o bobl ifanc 16 a 17 oed a bleidleisiodd, y bydd yn is na'r nifer ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Yr hyn nad yw pobl iau yn ei ddeall—dim ond i ddilyn ymlaen o'r hyn a gododd Llyr Gruffydd—yw na allan nhw ddefnyddio dulliau pleidleisio electronig, pan allan nhw ddefnyddio dulliau electronig o dalu am nwyddau. Maen nhw'n credu y byddai gan bobl fwy o ddiddordeb mewn ceisio tynnu eu harian oddi arnyn nhw na cheisio tynnu eu pleidlais oddi arnyn nhw. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried pleidleisio electronig mewn etholiadau yn y dyfodol?

Ac er fy mod yn croesawu'r ffaith nad oes angen i gyfeiriadau ymgeiswyr fod ar y papur pleidleisio, pam na all rhan gyntaf y cod post fod yno, e.e. SA6, CF1, SA2, beth bynnag ydyw, fel y gall pobl weld nad yw'r ymgeisydd efallai'n byw gyda chyfeiriad y dywedir wrthyn nhw amdano, ond gallan nhw weld eu bod yn byw yn eu hardal? Yr un peth yr wyf i wedi'i ganfod mewn etholiadau y mae gan bobl y diddordeb mwyaf ynddo yw nid eich gwleidyddiaeth chi, ond ble'r ydych chi'n byw.

Rwy'n credu bod Mike Hedges yn gwbl iawn o ran y diddordeb sydd gan bobl, yn enwedig mewn etholiadau lleol, o ran o ble yr ydych chi'n dod, ble yr ydych chi'n byw ac yn y blaen. Felly, credaf fod hynny'n syniad da arall gan Mike Hedges y gallwn ni ei archwilio wrth i ni barhau i ddatblygu'r polisi hwn, sy'n rhoi'r lefel honno o breifatrwydd i ymgeiswyr a'u teuluoedd drwy beidio â datgelu eu cyfeiriad i'r cyhoedd, ond hefyd rwy'n credu ei fod yn rhoi'r wybodaeth honno i bobl leol y maen nhw yn ei dymuno o ran deall a yw'r ymgeiswyr lleol yn lleol i'w hardal ai peidio. Felly, syniadau da y prynhawn yma, y credaf y gallwn ni yn bendant edrych ymlaen at eu harchwilio ymhellach. 

Ac yna mae'r pwynt am bobl ifanc 16 a 17 oed sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn bwysig iawn. Nid oes gennym y data eto ar y niferoedd a ddefnyddiodd eu hawl i bleidleisio. Bydd yn ddiddorol gweld data'r Comisiwn Etholiadol o ran y prosiectau treialu ac a gawsant effaith benodol ar annog pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, gyda sefydliadau'r trydydd sector a phartneriaid eraill, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, i gynyddu nifer y bobl ifanc 16 a 17 oed ar y gofrestr. Roedd hynny, ynddo'i hun, yn broblem, os cofiwn i gyd, yn ôl yn ein hetholiad ein hunain, nad oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw i gofrestru i bleidleisio. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu capasiti mewn timau etholiadau awdurdodau lleol, fel bod ganddyn nhw y gallu yno i wneud mwy o waith o ran ymgysylltu â phobl ifanc, ac rydym hefyd wedi rhoi grantiau i sefydliadau'r trydydd sector i gefnogi'r gwaith arloesol, wyneb yn wyneb y maen nhw yn ei wneud gyda phobl ifanc a hefyd gyda'r dinasyddion tramor cymwys i gefnogi'r unigolion hynny i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio. Ac rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod mwy o adnoddau a chyfleoedd ar gael i athrawon er mwyn iddyn nhw allu ymgysylltu â dysgwyr mewn ysgolion drwy waith yr Association for Citizenship Teaching, a hefyd y Politics Project, yr oedd yn fraint fawr i mi fod yn rhan ohono a chael y cyfle i siarad â phleidleiswyr tro cyntaf mewn ysgolion ar draws fy etholaeth fy hun. Ac roedd y sgyrsiau hynny'n wirioneddol wych o ran deall pryderon penodol y bobl ifanc a'u gobeithion a'u hofnau ar gyfer y dyfodol. Felly, os caiff fy nghyd-Aelodau gyfle i gymryd rhan yn hynny, byddwn i yn ei argymell. Ac yna rydym ni'n parhau, fel y dywedais i, i weithio'n agos gyda phartneriaid i nodi'r hyn sydd wedi gweithio, sut y gallwn adeiladu ar y sylfeini hyn yr ydym wedi'u gosod, ond hefyd pa rwystrau sy'n parhau i fodoli.  

Felly, credaf fod hynny'n dod â fy nghyfraniad i ben, ond, cyn i mi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r arweinwyr yr wyf wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw, ac mae fy nghyd-Aelod Julie James wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw, sydd naill ai wedi ymddeol neu na chawson nhw eu hailethol. Felly, y Cynghorydd Nigel Daniels ym Mlaenau Gwent, y Cynghorydd Philippa Marsden yng Nghaerffili, y Cynghorydd Emlyn Dole yn sir Gaerfyrddin, a hefyd y Cynghorydd Rosemarie Harris ym Mhowys, hoffwn ddiolch yn fawr iawn am yr arweiniad y maen nhw wedi'i ddangos yn eu cymunedau. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw. Ac yna hefyd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yng Ngheredigion a'r Cynghorydd Neil Moore, y ddau ohonyn nhw'n ymddeol y tro hwn—Neil Moore ym Mro Morgannwg—y ddau ohonyn nhw wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw. 

16:25
7. Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022

Eitem 7 heddiw, Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7995 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i sicrhau bod y trefniadau ynglŷn â rhannu swyddi yn gymwys fel y bwriadwyd pan wnaed Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Yn sylfaenol i drefniadau rhannu swyddi gweithredol yw bod gan aelodau sy'n rhannu'r un swydd weithredol un bleidlais rhyngddyn nhw a gyda'i gilydd yn cyfrif fel un aelod wrth benderfynu a yw cyfarfod yn gworwm. Felly, mae'r rheoliadau hyn yn ofynnol i sicrhau cysondeb â'r egwyddor hon o ran pwyllgorau gwasanaethau democrataidd, pwyllgorau safonau a phwyllgorau llywodraethu ac archwilio. 

Mae Deddf 2021 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi aelodau i gynorthwyo'r weithrediaeth i gyflawni ei swyddogaethau. Nid yw'r cynorthwywyr hyn yn aelodau o'r weithrediaeth. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn glir, at ddibenion dyrannu'r un sedd sydd ar gael i'r weithrediaeth ar y pwyllgor llywodraethu ac archwilio neu'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd, y gellir penodi un cynorthwy-ydd i'r weithrediaeth neu un aelod o'r weithrediaeth, nid y ddau. Mae'n ofynnol i'r rheoliadau hyn sicrhau cysondeb o ran trefniadau ynglŷn â phwyllgor safonau awdurdod lleol. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. 

16:30

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:30.