Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/09/2022 i'w hateb ar 28/09/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ58421 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol ar ddyfodol y dreth gyngor?

 
2
OQ58438 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EF ynglŷn â chronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU?

 
3
OQ58454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddigonolrwydd lleoedd gofal plant wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23?

 
4
OQ58431 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Beth yw blaenoriaethau gwario'r Gweinidog ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf?

 
5
OQ58435 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella perfformiad llywodraeth leol o ran darparu gwasanaethau lleol?

 
6
OQ58429 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Sut y bydd sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Ddinbych?

 
7
OQ58420 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â chymorth costau byw i awdurdodau lleol?

 
8
OQ58443 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru â phanel strategaeth ddatgarboneiddio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru?

 
9
OQ58456 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i'r argyfwng costau byw ddwysau?

 
10
OQ58452 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y caiff datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Gymru?

 
11
OQ58426 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa gyllid ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru'n ei neilltuo i Gyngor Sir Gaerfyrddin wrth iddo wynebu costau ynni cynyddol ar gyfer ei adeiladau?

 
12
OQ58448 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllido cyflogau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ58436 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa ymgysylltiad y mae'r Gweinidog wedi'i gael gyda chydweithwyr yn y cabinet ynglŷn ag iechyd a lles anifeiliaid?

 
2
OQ58441 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ffermwyr llaeth?

 
3
OQ58449 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi datblygiad y sector pysgota?

 
4
OQ58445 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo diogelwch bwyd?

 
5
OQ58450 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o fwydydd sy'n dod o ffynonellau lleol?

 
6
OQ58451 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â dyfodol hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi?

 
7
OQ58444 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella safonau lles pysgod aur?

 
8
OQ58455 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio?

 
9
OQ58440 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r gwaith o hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru fel rhan o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil tîm pêl-droed dynion Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd?

 
10
OQ58423 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith llygredd amaethyddol ar afonydd Cymru?

 
11
OQ58446 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar les anifeiliaid?

 
12
OQ58458 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut bydd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cryfhau economi cefn gwlad Cymru?