Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/02/2024 i'w hateb ar 28/02/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch rôl caffael wrth gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i ddiogelu cyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol yn erbyn ansicrwydd cyllidol ac economaidd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu eu hymgysylltiad â chymunedau lleol a'u grymuso?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch sicrhau digon o gyllid i awdurdodau lleol er mwyn datblygu llwybrau lleol dim hawl i gyllid cyhoeddus?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar weithio gyda llywodraeth leol i ddileu biwrocratiaeth feichus neu ddiangen?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnal ynghylch y symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o ganlyniad i'r fargen a'r pecyn cyllido gwerth £3 biliwn i adfer datganoli yng Ngogledd Iwerddon?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod llywodraethau lleol yn blaenoriaethu gwasanaethau statudol yng Ngorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â sicrhau digon o gyllid i lywodraeth leol er mwyn cefnogi'r broses o bontio i sero net?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch goblygiadau ariannol y polisi terfyn cyflymder 20mya?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lefelau treth gyngor yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol Fformiwla Barnett?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa ganran o'r ffrwythau a llysiau sy'n cael eu bwyta yng Nghymru sy'n cael eu tyfu yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gymunedau ffermio a gwledig Sir Ddinbych?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau i adolygu rheoliadau microsglodynnu anifeiliaid anwes yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y disgwylir y bydd cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei chael ar ffermwyr yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd ffermio llaeth adfywiol i ddyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch rasio milgwn yng Nghymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda'r sector amaethyddol ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i gefnogi ffermydd yn y dyfodol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ffermio yn Sir Drefaldwyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yn Sir Fynwy?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cynllun lles anifeiliaid i Gymru?