Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/01/2020 i'w hateb ar 28/01/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli trethi ymhellach, yn unol ag argymhelliad Comisiwn Silk?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ag awtistiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gyfarfod diweddaraf Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr?
Pa amodau mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar gyllid sy’n cael ei ddarparu ganddi ar gyfer busnesau er mwyn gwarchod hawliau gweithwyr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cysylltedd rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru?
Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd targedau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lleihau gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cyfleoedd i barhau i dyfu diwydiant bwyd a diod Cymru yn dilyn ei lwyddiant yn sicrhau gwerthiant o bron i £7.5 biliwn eleni?
Oes gan Llywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i sicrhau fod pob disgybl yng Nghymru yn dysgu hanes a hanesion Cymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru?
Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o fanteision byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel y'u sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth?
Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau fod hawliau dynol cyfredol yn cael eu gwarchod pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb o ran crefydd yng Nghymru?