Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/11/2019 i'w hateb ar 27/11/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Addysg

1
OAQ54767 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae adran addysg Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r adran economi a thrafnidiaeth i wella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg a hyfforddiant?

 
2
OAQ54750 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am effeithiolrwydd y fenter prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru?

 
3
OAQ54742 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sydd yn astudio mewn addysg uwch?

 
4
OAQ54739 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn astudio ar eu cyfer?

 
5
OAQ54741 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn y 12 mis nesaf?

 
6
OAQ54756 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i atal bwlio mewn ysgolion?

 
7
OAQ54747 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau oedi o ran cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru am 2020-21 i ariannu ysgolion?

 
8
OAQ54763 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU a safon uwch?

 
9
OAQ54762 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cymorth iechyd meddwl i ddysgwyr mewn addysg bellach?

 
10
OAQ54766 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol a phenaethiaid ynghylch cyllid i ysgolion?

 
11
OAQ54764 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr athrawon sydd wedi'u cofrestru i addysgu ieithoedd tramor modern?

 
12
OAQ54733 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth addysg ym Mlaenau Gwent?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ54765 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffiniau'r byrddau iechyd newydd yng Ngorllewin De Cymru?

 
2
OAQ54751 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth llawfeddygaeth ddeintyddol frys yng ngogledd Cymru?

 
3
OAQ54738 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cyfathrebu rhwng y GIG a chleifion yng Nghymru?

 
4
OAQ54748 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

 
5
OAQ54760 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghanol De Cymru?

 
6
OAQ54757 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau llywodraethu ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru?

 
7
OAQ54746 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad ysbyty newydd Ysbyty Prifysgol Grange yng Nghwmbrân?

 
8
OAQ54753 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llesiant staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?

 
9
OAQ54755 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

 
10
OAQ54752 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i deuluoedd Cymru yn sgîl yr adroddiad am wasanaethau mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford?

 
11
OAQ54745 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau gofal profedigaeth i'r rhai sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad?

 
12
OAQ54737 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio'r gronfa weddnewid yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?