Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/09/2022 i'w hateb ar 27/09/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer yr athrawon ffiseg?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cais i ymestyn y drwydded echdynnu ym mwynglawdd brig Glan Lash?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn ymchwiliad COVID-19 y DU?
Sut y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy o fudd i ffermwyr yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr eiddo y mae'n berchen arno yn rhoi'r gwerth gorau i'r trethdalwr?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi pobl yng Nghwm Cynon y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau staff gofal cymdeithasol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o doiledau hygyrch yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag elusennau, grwpiau cymunedol a'r sector gwirfoddol ledled Cymru ynglŷn â'r argyfwng costau byw?