Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/02/2024 i'w hateb ar 27/02/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed fel rhan o drawsnewid llinell Treherbert?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi wledig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu i leihau effaith anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion sy'n wynebu achosion cynyddol o ddifrïo a thrais yn erbyn staff?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i greu gorsafoedd nwy yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sector cerddoriaeth?
Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yn Nwyrain De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw unrhyw gynlluniau ynni adnewyddol mewn ardaloedd gyda tomenni glo yn peri risg o'u dad-sefydlogi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau i'r flwyddyn ysgol?