Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/03/2019 i'w hateb ar 26/03/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53665 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgynhyrchu dur?

 
2
OAQ53683 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cefnffyrdd yn Sir Fynwy?

 
3
OAQ53654 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?

 
4
OAQ53644 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru?

 
5
OAQ53659 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau canser yng Nghymru?

 
6
OAQ53672 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu brand Cymru?

 
7
OAQ53686 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut y caiff egwyddorion gofal iechyd darbodus eu hymgorffori mewn gofal sylfaenol?

 
8
OAQ53681 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ohebiaeth ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru?

 
9
OAQ53680 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu preifatrwydd dinasyddion Cymru?

 
10
OAQ53676 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau gwastraffu dŵr mewn cartrefi yng Nghymru?

 
11
OAQ53687 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer pleidlais y bobl ar gytundeb terfynol Brexit?

 
12
OAQ53685 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosesau gwneud penderfyniadau mewn cyrff hyd braich?

 
13
OAQ53649 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Prif Weinidog nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r Siarter Ar Gyfer Newid a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru?

 
14
OAQ53639 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i roi i adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, Re-energising Wales?

 
15
OAQ53668 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r adnoddau rheng flaen gorau ar gyfer addysg?

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

1
OAQ53660 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â cham-drin menywod mewn bywyd cyhoeddus ar-lein?

 
2
OAQ53688 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru?

 
3
OAQ53662 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael ynghylch diogelwch cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
4
OAQ53647 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol yn Sir Drefaldwyn?

 
5
OAQ53684 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau diogelwch cymunedol ym Merthyr Tudful a Rhymni?